Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/07/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau hefyd atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y cyfarfod yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag i'r rheini sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Yr eitem gyntaf felly yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Darren Millar.

Amddiffynfeydd rhag Llifogydd

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ56764

Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £3.55 miliwn mewn prosiectau amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir yng Ngorllewin Clwyd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau ar wahanol gamau yn y broses ddatblygu, o'r achos busnes hyd at y gwaith adeiladu. Mae map rhyngweithiol sy'n dangos ein holl fuddsoddiad eleni drwy'r rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd i'w gweld ar ein gwefan.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Ac a gaf fi fod y cyntaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am y rhaglen waith newydd y mae'n gobeithio ei lansio yn ardaloedd Tywyn, Bae Cinmel a Llanddulas yn fy etholaeth, sydd wedi wynebu perygl llifogydd ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys, wrth gwrs, y llifogydd mwyaf dinistriol o fewn cof yng Nghymru yn 1990? Un o'r pryderon ynghylch y cynlluniau a allai gael eu rhoi ar waith yn awr yn y llain arfordirol honno yw effaith weledol unrhyw newidiadau i'r amddiffynfeydd rhag llifogydd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod twristiaeth yn bwysig iawn i'r economi leol yn y rhan hon o fy etholaeth. Felly, tybed pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu er mwyn sicrhau bod yr amddiffynfeydd gwell rhag llifogydd hefyd yn gwella'r amwynder i drigolion lleol ar hyd y promenâd ac yn ddeniadol i drigolion yn ogystal ag ymwelwyr.

Diolch am eich pwynt pwysig iawn, Darren Millar. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â mwy nag amddiffyn rhag llifogydd; yn aml, dyma rai o rannau harddaf ein harfordiroedd a glannau ein hafonydd, ac ati. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid i hyn wella'r amgylchedd lleol hefyd. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn ein bod, o dan 'Polisi Cynllunio Cymru', yn sôn yn gyson ac yn barhaus am yr angen am gymunedau cynaliadwy. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys amwynder gweledol ardaloedd twristaidd, neu bob ardal a dweud y gwir, gan fod yn rhaid i'r trigolion sy'n byw yno allu byw, ffynnu a bod yn hapus yno, yn ogystal â chael eu hamddiffyn rhag llifogydd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod hynny'n rhan bwysig iawn o'r gwaith y mae'n rhaid inni ei wneud i sicrhau, tra bod yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn amddiffyn rhag llifogydd, eu bod hefyd yn cydweddu â'r dirwedd naturiol.

Ansawdd Aer

2. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i wella ansawdd aer yng Nghymru? OQ56760

Diolch. Mae ein cynllun aer glân yn nodi mesurau uchelgeisiol i wella ansawdd aer. Mae hyn yn cynnwys rhoi technolegau newydd a glanach ar waith ar draws ystod o sectorau. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella ein rhwydwaith monitro ansawdd aer ac rydym yn ystyried technolegau newydd a thechnolegau datblygol fel rhan o'r gwaith hwn.

Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Bws Caerdydd a Stagecoach eu bod yn ôl-osod 49 o’u bysiau sy'n creu fwyaf o lygredd gyda thechnoleg glanhau egsôst er mwyn lleihau eu hallyriadau nitrogen ocsid 97 y cant, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn Lloegr, maent bellach gam ar y blaen ac wedi dechrau cyflwyno dyfeisiau hidlo aer a all dynnu cymaint â 65g o lygryddion o'r aer dros gyfnod o 100 diwrnod, sy'n cyfateb i lanhau 3.5 miliwn litr o aer—digon i lenwi 1,288 o byllau nofio Olympaidd, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae hyn wedi'i gyflwyno mewn dinasoedd fel Manceinion, Newcastle a Southampton, ac rwy'n awyddus i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu mentrau tebyg yng Nghymru.

Diolch. Nid oes unrhyw amheuaeth fod datgarboneiddio ein stoc bysiau yn her enfawr i ni ar y cyflymder y mae angen inni wneud hynny er mwyn cyrraedd ein targedau allyriadau sero-net. Gwelais yn ddiweddar, a chael eistedd y tu ôl i lyw, mewn gwirionedd—gwireddu breuddwyd plentyn—un o fysiau trydan newydd Casnewydd. Mae'n dechnoleg anhygoel o drawiadol—ac yn ddrytach o lawer na bws petrol, mae'n rhaid dweud. Felly, bydd bwlch i'w lenwi yn y cyfamser. Felly, fel y dywed Joel James yn gwbl gywir, mae rhai ardaloedd ar y blaen i ardaloedd eraill.

O ran Llywodraeth Cymru'n ariannu cynnydd ar raddfa fawr, rydym yn edrych, fel rhan o'n strategaeth fysiau, ar sut y mae angen i'n perthynas â'r diwydiant bysiau newid, a sut y caiff hynny ei ariannu. Ond hoffwn nodi’r hyn a ddywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn gynharach heddiw ynglŷn â'r diffyg yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael oherwydd y cyllid canlyniadol ar gyfer trafnidiaeth, oherwydd y ffordd y caiff High Speed 2 ei drin fel prosiect ar gyfer Cymru a Lloegr, er mai'r gwirionedd, fel y noda'r pwyllgor sy'n cynnwys aelodau Ceidwadol yn bennaf, yw ei fod yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig—nid ydym yn cael y cyllid canlyniadol sydd ei angen arnom yng Nghymru i ariannu ein holl uchelgeisiau trafnidiaeth. Felly, mae angen inni grafu ein pennau a darganfod sut y gellir llenwi'r bwlch hwnnw, ac mae'n un rydym am ei lenwi, ond byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Llywodraeth Geidwadol yn rhoi ychydig mwy o arian i ni.

13:35

Rwy'n croesawu cwestiwn Joel am ei fod yn nodi bod pethau y gallwn fwrw ymlaen â hwy ar unwaith, naill ai gydag atebion technolegol, neu atebion eraill, nad oes angen deddfwriaeth i'w cyflawni. Gallwn fwrw ymlaen â gwelliannau i ansawdd aer ar unwaith, a hoffwn glywed syniadau'r Gweinidog ynglŷn â pha bethau eraill y gallwn eu gwneud.

Ond bydd y Gweinidog yn deall y bu rhywfaint o siom am nad oedd y Bil ansawdd aer yn rhan o raglen gyntaf Llywodraeth y chweched Senedd. Rydym yn deall bod angen gwneud gwaith cydbwyso anodd, ond mae llythyr ar ei ffordd at y Gweinidog, os nad yw wedi cyrraedd yn barod, oddi wrthyf fi, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y Bil ansawdd aer, a'r is-gadeiryddion hefyd, i ofyn am gyfarfod fel y gallwn drafod sut i fwrw ymlaen gyda mesurau eraill, ond hefyd, sut y gallwn sicrhau, cyn gynted â phosibl yn nhymor y Senedd hon, ar y cyfle nesaf, y Bil aer glân hwnnw hefyd, gan fod cefnogaeth drawsbleidiol enfawr i'w gyflawni.

Wel, rwyf bob amser yn edrych ymlaen at gael llythyrau gan Huw Irranca-Davies ac ni fydd hwn yn eithriad. [Chwerthin.] Rwy'n cytuno ag ef ei fod yn Fil pwysig iawn, ac mae'n un rydym yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef cyn gynted ag y gallwn. Cyfeiria at y tensiwn rhwng yr amser sydd ar gael wrth inni ymdrin â'r rheoliadau coronafeirws a rheoliadau Brexit, a'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, ac rydym yn gweithio drwy hynny.

Mae'n llygad ei le, serch hynny, yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud yn y cyfamser, gan y bydd deddfwriaeth o reidrwydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w chyflwyno, ac nid oes gennym nifer o flynyddoedd i fynd i'r afael â'r argyfwng ansawdd aer. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio gydag ef a'r grŵp trawsbleidiol i nodi'r hyn y gellir ei wneud yn y cyfamser. Ac mae'n rhaid imi ychwanegu, ar ôl dod yma gydag ef yn syth o'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac rwy'n ei longyfarch eto am ei gadeirio mor fedrus, mae'r buddsoddiad eleni o £75 miliwn ar gyfer teithio llesol—y buddsoddiad uchaf y pen o bob gwlad yn y DU—yn enghraifft dda iawn o'r hyn y gellir ei wneud i ddod â phobl allan o geir ac ar fathau cynaliadwy o drafnidiaeth, sydd, yn ogystal â gwella eu hiechyd a lleihau tagfeydd, hefyd yn gwella ansawdd aer. Ac mae angen inni edrych ar fwy o bethau y gallwn eu gwneud wrth aros i ddeddfu, a sicrhau bod y ddeddfwriaeth mor uchelgeisiol â phosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar. 

Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn 2019, cyhoeddodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru adroddiad o'r enw '"Are we there yet?" A Roadmap to Better Infrastructure for Wales'. Roedd yn seiliedig ar arolwg sylweddol o waith yn y sector busnesau bach a chanolig a edrychai ar rôl seilwaith. Canfu'r arolwg fod 86 y cant wedi nodi bod buddsoddi yn y seilwaith ffyrdd yn eithaf pwysig neu'n bwysig iawn, gan olygu mai hon yw'r flaenoriaeth bwysicaf iddynt mewn perthynas â thrafnidiaeth. O gofio bod y rhwydwaith ffyrdd yn fater allweddol i aelodau'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac yn niffyg unrhyw fanylion pellach, mae'r ffaith y bydd prosiectau i adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi wrth i adolygiad gael ei gynnal yn peri pryder. Felly, Ddirprwy Weinidog, a allwch nodi a fydd eich panel adolygu ffyrdd yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau yng Nghymru, yn hytrach na dim ond academyddion a chanddynt diddordeb mewn trafnidiaeth a newid hinsawdd? A sut rydych yn ymgysylltu â busnesau bach i sicrhau bod eu llais yn effeithio ar benderfyniadau a wneir yma yng Nghymru? Diolch.

Wel, credaf fod angen system drafnidiaeth integredig effeithiol ar bob busnes, ac mae hynny'n cynnwys trafnidiaeth gynaliadwy yn ogystal â thrafnidiaeth ar y ffyrdd. Rydym wedi dweud yn glir iawn nad yw'r adolygiad ffyrdd hwn yn golygu na fyddwn byth yn adeiladu unrhyw ffyrdd eto. Y neges yw bod yr her sy'n wynebu pob un ohonom, yn enwedig busnesau, o ran yr amgylchedd ansefydlog a'r economi ansefydlog yn sgil yr argyfwng hinsawdd, yn galw am ddull newydd o weithredu. Ac mae angen inni ddeall faint yn union o hyblygrwydd sydd gennym o ran carbon wrth gyflawni cynlluniau ffyrdd, sydd, fel y gwyddom, yn cynhyrchu teithiau ychwanegol a thraffig ychwanegol, a sut yr awn ati gyda'n penderfyniadau buddsoddi yn y blynyddoedd i ddod, a faint yn rhagor y gallwn ei wario ar gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym a gwella trafnidiaeth gyhoeddus fel bod gan bobl ddewis amgen gwerth chweil. Ac o gofio popeth a ddywedodd ynglŷn â phwysigrwydd bod yn feiddgar a gwneud penderfyniadau i fynd i’r afael â’r her sero-net, byddwn wedi gobeithio y byddai wedi cefnogi hynny yn hytrach na cheisio ennyn gwrthwynebiad pan na ddylai unrhyw wrthwynebiad fodoli.

Diolch, Weinidog, am beidio ag ateb y cwestiwn. Roeddwn yn gofyn mewn gwirionedd ynglŷn â chyfranogiad yn y cynllun sydd ar waith, nid yr hyn a ateboch chi.

Ond beth bynnag, y cwestiwn nesaf: a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda, am fwy o fanylion ynglŷn â mynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer a thagfeydd traffig? Sut y bydd problemau tagfeydd traffig ac ansawdd aer yn cael eu hystyried yn yr adolygiad adeiladu ffyrdd? Ac a fydd y panel yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o brofiadau ac astudiaethau o welliannau a phrosiectau o'r fath, fel y ffyrdd osgoi diweddar ar gyfer Llandeilo, Caernarfon a Porthmadog?

13:40

Yn sicr, ac i ymddiheuro am beidio ag ateb pob rhan o'i chwestiwn cyntaf yn uniongyrchol, gadewch i mi ei ateb yn awr. Byddwn yn sicr yn edrych ar ansawdd aer a beth i'w wneud mewn sefyllfaoedd lle mae problem wirioneddol gydag ansawdd aer. Nawr, ar hyn o bryd, yr ateb diofyn i hynny yn aml yw adeiladu ffordd osgoi, ac mae parhau i adeiladu ffyrdd osgoi nid yn unig yn dargyfeirio cyllid oddi wrth fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, ond hefyd yn ychwanegu yn y pen draw at broblem cymdeithas sy'n ddibynnol ar geir ac yn cylchdroi o gwmpas ceir. Felly, yn y tymor canolig i'r tymor hir, nid yw hynny'n helpu i ddod o hyd i ateb. Yn amlwg, bydd y newid i geir trydan, i geir â phibellau egsôst wedi'u datgarboneiddio o gymorth mewn ardaloedd lle ceir tagfeydd traffig mewn perthynas ag ansawdd aer, ac mae pethau eraill y gallwn edrych arnynt hefyd. Felly, gofynnwyd yn benodol i'r panel edrych ar hynny, ac yn sicr, byddant yn banel o arbenigwyr. Unwaith eto, nid ydym yn ceisio cael corff sy'n cynrychioli pob rhanddeiliad; y bwriad yw cael tîm o arbenigwyr penodol sy'n deall y dystiolaeth, ac sy'n deall yr heriau o ran cyflawni. Felly, er enghraifft, rwy'n mawr obeithio y bydd gennym gynrychiolydd awdurdod lleol yn rhan o'r grŵp hwnnw i ddeall beth sydd angen ei wneud ar lefel leol.

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Mae'r neges fod trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth yn un y dylid ei chroesawu'n ddiffuant. Fodd bynnag, mae'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r strategaeth seilwaith, gan gynnwys gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus, yn hir ac ni allant fynd i'r afael â phroblemau uniongyrchol. Sut y byddwch yn ystyried yr oedi hwn, gan gofio'r angen i sicrhau bod bylchau mewn anghenion seilwaith yn cael eu llenwi yn y cyfamser? A fydd hyn yn rhan o'r broses adolygu? Ac a wnewch chi ymrwymo i fwrw ymlaen ag astudiaethau i brosiectau, fel ffordd osgoi Cas-gwent a chyffordd traffordd ar yr M48, lle roedd tollau pont Hafren yn arfer bod, i leddfu tagfeydd ar yr M4? Diolch.

Nid ydym yn mynd i gytuno ar hyn. Er ymdrechion y naill ohonom i berswadio'r llall, ni chredaf ein bod yn mynd i wneud hynny. Ni chredaf y bydd ffyrdd osgoi diddiwedd ac astudiaethau traffyrdd o gymorth gyda phroblem tagfeydd yn y tymor canolig, ac yn wir, yn enwedig felly gyda materion ansawdd aer neu leihau carbon. Felly, rydym yn anghytuno'n llwyr, fel rydym wedi trafod o'r blaen, ar y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Nawr, gall yr Aelod barhau i godi hyn ar bob cyfle posibl, a gallwn barhau i gael yr un dadleuon, neu gallwn geisio gweithio ar rai atebion sy'n cyflawni ein nodau cyffredin o wella Cymru. Ond nid yw ailadrodd yr un llinellau ystrydebol yn mynd i fod o lawer o gymorth i ni.

Diolch, Llywydd. Weinidog, mae gan ynni cymunedol ran hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn cyflawni net sero. Mae ganddo rôl yn helpu i sicrhau caniatâd y cyhoedd, cynyddu cyfranogiad ac ymgorffori newid ymddygiad. Mae adroddiad diweddar sy'n edrych ar gyflwr y sector yn galw ar y Llywodraeth i ddangos cefnogaeth i'r mudiad trwy sicrhau bod polisïau sefydlog gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, ynghyd â sicrhau mynediad at adnoddau a chyllid, a bod hefyd mwy o gyfleoedd ar gael i helpu grwpiau i werthu eu hynni yn lleol. Gyda hyn oll mewn golwg, a allwch chi, Weinidog, amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at gefnogi'r sector ynni cymunedol yn ystod y chweched Senedd? 

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Delyth. Mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i bob un ohonom, yn fy marn i. Un o'r pethau y mae'n rhaid inni allu eu gwneud ledled Cymru yw nid yn unig cynhyrchu llawer iawn o drydan yn adnewyddadwy, ond hefyd mae arnom angen i'r gymuned gymryd rhan a phrosiectau ynni cymunedol sy'n ffynnu ledled Cymru. Byddaf yn cysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch ei chynllun, sydd wedi bod yn tangyflawni, yn anffodus. Mae gennym nifer o rwydweithiau ynni cymunedol lleol wedi'u sefydlu, pob un yn barod i fynd, ac yn anffodus, nid yw rhan y DU o'r gwaith hwnnw wedi bod mor frwdfrydig ag yr hoffem. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau ynglŷn â sut y gallwn ni, fel Llywodraeth Cymru, adeiladu ar yr egni yn y gymuned—maddeuwch y mwyseirio—i fanteisio ar y cynlluniau hyn, ac i weld a allwn gamu i'r adwy ac adeiladu ar y gwaith a wnaed ar sail gobaith gan Lywodraeth y DU, nad yw, gwaetha'r modd, wedi cael ei wireddu.

Mae nifer o bethau eraill rydym yn awyddus i'w gwneud ym maes ynni adnewyddadwy, a heb ddymuno creu llwyth gwaith rhy fawr i fy Nirprwy Weinidog, rydym yn ystyried o ddifrif cynnal ymarfer tebyg ar ynni cymunedol adnewyddadwy, fel y gwnaethom ar goed, i ddarganfod y rhwystrau, yr anawsterau a'r atebion er mwyn sicrhau bod hwn yn sector sy'n ffynnu yng Nghymru. Ac fel bob amser, Delyth, nid gennym ni y mae'r holl syniadau da; gwyddom fod syniadau da eraill i'w cael. Bydd hwn yn ymarfer i sicrhau ein bod yn tynnu'r syniadau da ynghyd ac yn adeiladu ar yr ymdrech fawr a gafwyd eisoes. Fel y dywedaf, byddaf yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo'r cynllun y gwn ei fod yn wynebu anawsterau.

13:45

Iawn, wel, rwy'n croesawu hynny a diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu eich mwyseirio hefyd.

Gan droi at faes gwahanol mewn perthynas â thargedau natur, pleidleisiodd y Senedd, bythefnos yn ôl, o blaid cynnig Plaid Cymru a datgan argyfwng natur, ac roedd y cynnig hwnnw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau adfer natur sy’n rhwymo mewn cyfraith. Roedd hwn yn gam pwysig ac fel rydym wedi'i drafod gymaint o weithiau, mae'n ymwneud â'r argyfwng hinsawdd hefyd yn ogystal â'r argyfwng natur, gan eu bod yn cydblethu.

Gyda Chynhadledd y Partïon 26 yn cael ei chynnal ym mis Hydref o fewn mis i'r adeg y bydd y Senedd yn dychwelyd ar ôl y toriad, a fframwaith byd-eang i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ar y ffordd, mae gan Gymru ran bwysig iawn i'w chwarae yn awr wrth ddatblygu'r bensaernïaeth gyfreithiol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Felly, a gaf fi ofyn a yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn bwriadu datblygu targedau adfer natur, ac os ydych, a allech amlinellu'r amserlen y gallwn ddisgwyl gweld y targedau hynny'n cael eu cyflawni neu gyhoeddi'r fframwaith, os gwelwch yn dda?

Yn sicr, Delyth. Rydym yn rhan o rwydwaith byd-eang o genhedloedd sy'n gweithio ar hyn ac rydym yn gobeithio sicrhau ein bod yn rhan o'r fframwaith byd-eang mewn ffordd uchelgeisiol, ond cyflawnadwy er hynny. Nid ydym am i hwn fod yn gyngor anobaith chwaith. Mae'n gydbwysedd anodd iawn. Felly, yr hyn rydym yn ei wneud yw gweithio gyda'r gymuned fyd-eang. Byddwn yn dysgu rhywfaint drwy Gynhadledd y Partïon 26 hefyd a bydd hynny'n ein galluogi i roi ein targedau ein hunain ar waith yn gyflym. Fel y gwyddoch, ac fel rydym wedi'i ailadrodd ar sawl achlysur, rwy'n awyddus iawn i gael y targedau, ond mae'n rhaid inni fod yn gwbl sicr nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anfwriadol lle rydym yn anghofio am bethau heb dargedau penodol yn gysylltiedig â hwy ac ati. Felly, byddwn yn awyddus i weithio'n ofalus iawn ar draws y Senedd a chyda'r sector i sicrhau bod y targedau'n uchelgeisiol, ond hefyd yn realistig ac yn arwain at gyn lleied o ganlyniadau anfwriadol â phosibl. A chredwn mai o fewn yr amgylchedd byd-eang y gellir gwneud hynny yn y ffordd orau. Rydym yn rhan o gynllun, onid ydym? Felly, mae gennym y cynllun byd-eang, mae gennym gynllun y DU a bydd gennym gynllun Cymru, ac rwy'n awyddus iawn i Gymru chwarae rhan fyd-eang yn hynny, fel ein bod yn dangos beth y gall cenhedloedd bach sy'n ymroddedig iawn i hyn ei wneud mewn gwirionedd.

Felly, o ran yr amserlen, bydd hynny'n dibynnu i raddau ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym wedi ailadrodd y problemau sydd gennym gyda chapasiti dro ar ôl tro, ond rydym yn bwriadu rhoi Deddf diogelu'r amgylchedd ar waith hefyd; rydym yn edrych i weld a oes cyfleoedd eraill i ychwanegu'r ddeddfwriaeth ar dargedau ac ati at Fil a allai fod wedi'i raglennu eisoes, ac os nad oes cyfle, i weithio gyda'r Llywydd a staff y Comisiwn i weld lle gallwn ddod o hyd i rywfaint o le yn y rhaglen ar gyfer hyn. Felly, byddwn yn sicrhau bod y drefn ar waith heb y gefnogaeth statudol ar y dechrau os na allwn ddod o hyd i'r rhaglen, ond byddwn yn ei rhoi ar sail statudol cyn gynted ag y gallwn. Rwy'n ceisio peidio ag addo gormod o ran yr elfen statudol, o gofio fy mod yn ymwybodol o'r problemau, ond bydd y drefn ei hun a'r consensws y dylai'r Llywodraeth fod yn gweithredu i sicrhau bod hynny'n digwydd yn bendant yno.

Diolch, Weinidog. A dweud y gwir, mae hynny'n cyd-fynd â'r cwestiwn olaf roeddwn am ei ofyn i chi ynglŷn â'r pryder ynghylch y bylchau sydd wedi'u creu mewn llywodraethu amgylcheddol ers i'r DU adael yr UE. Ar y bwlch llywodraethu, mae pryder gwirioneddol, y gwn eich bod yn ymwybodol ohono, y gallai arwain at barhau niwed amgylcheddol, ac ychydig o gyfle sydd i'w gael i Lywodraethau ac i gyrff cyhoeddus unioni pethau, gan nad yw'r corff gwarchod amgylcheddol, ar hyn o bryd, yn fawr mwy na mewnflwch cwynion.

Felly, fe sonioch yn eich ateb blaenorol am y cyfyngiadau, fel y dywedwch, yn y rhaglen ddeddfwriaethol, Weinidog, ond er bod y Llywodraeth wedi pleidleisio o blaid corff llywodraethu amgylcheddol cadarn ac annibynnol, roedd yna siom nad oedd hynny i'w weld yn y rhaglen lywodraethu, neu ni chafwyd llawer o fanylder yn ei gylch o leiaf, ac nid oedd yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Felly, yn ogystal â'r hyn rydych newydd ei ddweud yn eich ateb blaenorol, a allwch gadarnhau y bydd y ddeddfwriaeth honno'n sicr o gael ei blaenoriaethu cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, os gwelwch yn dda?

Delyth, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau hynny. Felly, yn amlwg, mae gennym raglen dros dro ar gyfer pum mlynedd tymor y Senedd yn ein pennau. Nid dyna sy'n cael ei gyflwyno i'r Senedd gan ei fod wedi'i gryfhau ar y pwynt hwnnw. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod wedi bod yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod y Bil diogelu'r amgylchedd yn flaenoriaeth. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod mewn sefyllfa i'w gyflwyno i'r Senedd yn y ffordd iawn, ond gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn blaenoriaethu hynny.

Rydym hefyd yn sicrhau bod pedair egwyddor amgylcheddol yr UE, sef unioni yn y tarddiad, y llygrwr sy’n talu, atal a rhagofal, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, yn egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori'n llwyr yn y broses o ffurfio a chymhwyso polisi yn awr. Penodwyd Dr Nerys Llewelyn Jones, fel y gwyddoch, i fy nghynghori ar bryderon perthnasol sy'n codi o'i rôl dros dro, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael cymaint â phosibl o'r hyn a fydd yn drefn statudol ar waith cyn y statud. Mae dwy fantais i hynny: yn gyntaf oll, nid yw'n aros am y statud, ac yn ail, mae'n caniatáu inni brofi amryw bethau y gallwn eu hadlewyrchu wedyn yn y statud pan fyddwn wedi deall sut y byddant yn gweithio'n ymarferol. Ond gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yr un mor awyddus â chithau i gael hyn ar y llyfr statud, a bod Brexit a COVID, gwaetha'r modd, yn dal i fynd drwy'r system gan dagu adnoddau. Ond gyda lwc, rydym yn dod at ddiwedd hynny yn awr a gallwn ddechrau cyflymu'n ôl tuag at weithgarwch arferol y Senedd.

13:50
Diogelwch Tân

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel yng Nghaerdydd? OQ56782

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn gynharach heddiw sy'n nodi cam cyntaf cronfa diogelwch adeiladau Cymru, sef darparu cyllid grant ar gyfer arolygon. Mae pob adeilad yn wahanol a bydd yr arolwg diogelwch tân yn nodi mesurau a chamau gweithredu sy'n ofynnol i sicrhau bod blociau o fflatiau'n ddiogel pe bai tân yn digwydd.

Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld y datganiad yn gynharach. Gwn fod hwn yn fater rwyf fi ac eraill ar draws y pleidiau wedi'i godi ar sawl achlysur y tymor hwn, a hynny am fod pobl sy'n gaeth yn eu cartrefi yn cysylltu â ni—fel y maent yn cysylltu â chithau, rwy'n siŵr—yn ddyddiol. Mae hyn wedi cael effeithiau difrifol ar eu harian a'u hiechyd. A nodaf o ymatebion blaenorol gennych chi a'r Trefnydd eich bod yn gweithio ar hyn, ond fel rydych yn deall, yr hyn sydd ei angen ar drigolion yn benodol yw'r manylion am unrhyw gymorth ariannol ac unrhyw gymorth adfer gan Lywodraeth Cymru. Bydd protest yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i dynnu sylw at eu sefyllfa; a allant gael mwy o atebion cyn dydd Sadwrn? Diolch.

Wel, fel y dywedaf, cyhoeddais y datganiad yn gynharach heddiw, ac er eglurder, yr hyn y mae'n ei ddweud yw nad oes un ateb addas i bawb—bydd yr holl Aelodau o'r Senedd wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen. Felly, bydd angen ateb pwrpasol ar gyfer pob bloc o fflatiau i ddatrys eu problemau penodol, ac maent yn wahanol iawn yn dibynnu ar sut y cafodd y fflatiau eu hadeiladu, pryd y cawsant eu hadeiladu a'r deunyddiau a phopeth arall. Felly, nid oes a wnelo hyn â chladin yn unig, mae'n ymwneud â chyfres gyfan o bethau, gan gynnwys adrannu, materion allanfeydd tân, systemau tân, y deunydd sy'n dal y cladin ar y wal; mae yna ystod eang o bethau. Ac felly, rydym yn ariannu pob adeilad i gynnal arolwg a fydd yn cynhyrchu pasbort adeiladi ddweud wrthym beth yn union yw cyflwr yr adeilad, a gallwn ei ddefnyddio wedyn i wneud y cam nesaf, sef darganfod sut rydym yn mynd i ddatrys y broblem.

Rwyf am ddweud fy mod bellach wedi ysgrifennu at Robert Jenrick nifer fawr o weithiau ac rwy'n siomedig iawn yn wir i ddweud nad ydym wedi clywed unrhyw beth o gwbl yn sgil ei gyhoeddiadau am y cyllid canlyniadol i Gymru. Felly, os oes unrhyw Aelod o'r Senedd yn awyddus i ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i ddweud wrthym yn fuan iawn—hynny yw, pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser—fel ein bod yn gwybod faint o arian a fydd ar gael, byddai hynny o gymorth mawr. Ond er nad ydym yn gwybod hynny, rydym yn bwrw ymlaen â'r hyn y gallwn ei wneud, a cheisio rhoi'r systemau ar waith fel y gallwn wneud rhywbeth â'r cyllid sydd wedi'i warantu ar ôl i ni ei gael y gan Lywodraeth y DU.

Hoffwn ddweud ar y pwynt hwn, Lywydd, nad yw'r cyllid canlyniadol a ddaw i Lywodraeth Cymru yn cael ei wario’n awtomatig ar y peth a arweiniodd at y cyllid canlyniadol yn y lle cyntaf, felly nid wyf yn dweud unrhyw beth o gwbl i dresmasu ar broses y gyllideb, ond mae angen imi gael fy rhoi mewn sefyllfa, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol, i allu gwneud cynigion yn erbyn cyllidebau ac ni allaf wneud hynny tan fy mod yn gwybod y bydd y cyllid canlyniadol ar ei ffordd. Felly, rwy’n apelio, a dweud y gwir, ar Aelodau o’r Senedd i geisio gwneud i Lywodraeth y DU ddeall bod angen iddynt ddweud wrthym o ble y daw'r cyllid, oherwydd fel arall, rydym yn gaeth i'r sefyllfa hon drwy'r amser.

Clywaf yr hyn a ddywedwch, Weinidog. Yn amlwg, ni chafodd y swp cyntaf o gyllid canlyniadol ei wario, ac mae hawl gan Lywodraeth Cymru i'w wario fel y mynnant, ond ni chafodd ei wario yn yr un ffordd ag y cafodd ei wario gan Lywodraeth y DU yn Lloegr ar waith adfer. Cyhoeddwyd y datganiad gennych am 1.30 p.m. wrth inni ddod i'r Siambr hon ar gyfer y sesiwn gwestiynau. Nid wyf wedi cael y pleser o ddarllen y datganiad hwnnw eto, felly efallai y bydd yr ateb i'r cwestiwn rwyf am ei ofyn i chi wedi'i gynnwys yn y datganiad hwnnw, ond rwy'n gobeithio y gallwch ddeall fod y datganiad wedi yn dod allan braidd yn hwyr cyn y sesiwn gwestiynau.

Gwnaethoch fy ateb mewn cwestiwn ysgrifenedig fod eich swyddogion yn gweithio ar gynllun neu raglen gymorth a allai fod ar gael a'ch bod yn gobeithio gwneud cyhoeddiad cyn bo hir. A yw'r cynllun hwnnw'n cynnwys unrhyw wariant cyfalaf a allai fod ar gael i berchnogion tai, ac a fydd pob perchennog tŷ yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynllun a roddir ar waith gan eich adran? Yn amlwg, mae tai cymdeithasol wedi'u cynnwys mewn arian sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn ar gyfer gwaith adfer, ond nid yw perchnogion tai preifat wedi derbyn unrhyw gymorth o gwbl gan Lywodraeth Cymru. Felly, a fydd unrhyw gynllun a ddaw gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys yr holl berchnogion tai y mae'r sefyllfa ofnadwy hon yn effeithio arnynt?

13:55

Yn sicr, Andrew R.T. Davies, a deallaf fod y datganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi; mae'n ddrwg gennyf, mae'r pethau hyn yn gymhleth iawn a hoffwn pe gallem fynd yn gyflymach. Nid yw'r cyflymder yn arwydd o'r flaenoriaeth; mae'n arwydd o gymhlethdod gallu gwneud y pethau hyn yn iawn, fel rwyf wedi'i bwysleisio. Rwyf wedi bod yn cyfarfod, fy hun, fel y gwyddoch, gyda nifer o gymdeithasau preswylwyr ac ati, i geisio deall beth yw'r broblem gyda phob adeilad unigol.

Felly, heddiw rydym wedi cyhoeddi y byddwn yn ariannu'r gwaith sy'n angenrheidiol i ddarganfod beth sydd o'i le ar bob adeilad, gan gynnwys y gweithdrefnau ymyrrol sy'n angenrheidiol i ddarganfod beth yn union sy'n digwydd. Byddwn yn ariannu hynny ar gyfer yr adeiladau fel y bydd ganddynt basbort adeilad sy'n dweud wrthynt beth yw'r problemau, a gallwn ddefnyddio'r rheini wedyn i lunio'r system sy'n caniatáu inni ariannu'r gwaith adfer.

Ni allaf ateb gweddill eich cwestiynau yn fanwl, mae arnaf ofn, oherwydd y broblem gyda'r cyllid canlyniadol. A dweud y gwir, nid oes unrhyw syniad gennyf sut beth fydd y gyllideb. Felly, fe ddywedaf wrthych fy mod yn gwneud cynigion cyllidebol o fewn Llywodraeth Cymru am yr arian a allai fod ar gael gennym neu beidio, ond y gwir yw, heb y cyllid canlyniadol, ni fydd gennym yr arian angenrheidiol i wneud yr holl waith yn y ffordd yr hoffem. Felly, rwy'n gwneud fy ngorau glas o dan yr amgylchiadau, ond pam ar y ddaear ei bod yn cymryd cymaint o amser i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth fydd y cyllid canlyniadol yn sgil cyhoeddiadau Robert Jenrick ynghylch sawl biliwn o bunnoedd yn gynharach yn y flwyddyn, nid wyf yn gwybod. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddefnyddio eich dylanwad i ddarganfod pam.

Fy uchelgais yw na ddylai perchnogion tai—lesddeiliaid yn bennaf—orfod talu am bethau nad ydynt ar fai amdanynt. Ond hyd nes y deallaf natur a maint y diffyg a faint o arian y bydd ei angen, mae'n amhosibl imi addo hynny.

Diolch am eich datganiad, ac rwyf wedi'i ddarllen yn gyflym. Rydych wedi ateb rhai o fy nghwestiynau eisoes. Hoffwn ofyn am berygl moesol datblygwyr yn gallu troi eu cefnau ar eu hadeiladau diffygiol, oherwydd yn amlwg, fe wnaeth trychineb Grenfell ddatgelu’r methiant rheoliadol i atal pobl rhag gosod deunydd cynnau tân ar adeiladau uchel iawn.

Os, a phryd, y cewch drafodaeth gyda Robert Jenrick, a fydd hwn yn bwnc trafod? Ymddengys i mi, yn yr un modd ag y mae gan landlordiaid gyfrifoldebau ynghylch diogelwch tân adeiladau, fod gan ddatblygwyr gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod y lleoedd hyn yn ddiogel i fyw ynddynt, yn ogystal ag awdurdodau lleol o ran sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diweddaraf. Felly, tybed a allech ddweud ychydig wrthym ynglŷn â sut y credwch y bydd y cyfarfod rydych yn bwriadu ei gael â datblygwyr yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn sicrhau bod pob datblygwr yn gweithredu'n gyfrifol, yn unol â'u rhwymedigaethau.

Wel, y gwir amdani, Jenny, yw nad oes gennym unrhyw ffordd o gwbl o sicrhau eu bod yn gweithredu yn unol â'u rhwymedigaethau moesol; nid oes unrhyw ddull cyfreithiol y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i wneud hynny. Fel y gwyddoch, rwyf wedi gofyn i'r holl ddatblygwyr sy'n ymwneud ag adeiladau uchel iawn yng Nghymru gyfarfod â mi. A bod yn deg, mae sawl un ohonynt wedi gwneud hynny, ac mae sawl un ohonynt wedi rhoi rhywfaint o arian tuag at unioni rhai o'r diffygion yn rhai o'r adeiladau.

Nid yw rhai o'r datblygwyr wedi cyfarfod â mi o gwbl. Rwyf wedi cyhoeddi galwad derfynol i bobl gyfarfod â mi, a byddwn yn cael cyfarfod bord gron gyda'r rhai sy'n barod i weithio gyda ni yn yr hydref. Ar y pwynt hwnnw, rwyf wedi gofyn am gyngor i weld a gaf fi enwi a chodi cywilydd ar y rhai nad ydynt wedi cysylltu â ni, felly rwyf yn y broses o gael y cyngor hwnnw.

Ond mae'r cymhlethdodau cyfreithiol yn hyn yn aruthrol. Codwyd pob un o'r adeiladau hyn, bron â bod, gan yr hyn a elwir yn SPVs—cyfryngau at ddibenion arbennig. Nid hwy yw'r cwmni daliannol—yr enw ar y blaen. Maent yn gyfrwng at ddiben arbennig a ffurfiwyd at y diben o adeiladu'r adeilad, cyn cael ei ddiddymu. Felly, nid oes endid corfforaethol y gallwch ei ddal yn gyfreithiol gyfrifol.

Mae Llywodraeth y DU, a bod yn deg, wedi cynnig ymestyn cyfnod y cyfyngiad—nid ydynt wedi gwneud hynny eto; mae'n rhan o'r ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd—o chwe blynedd i 15 mlynedd, a fydd yn sicr yn helpu. Yn anffodus, yma yng Nghymru, codwyd bron bob un o'r adeiladau sydd yma ym Mae Caerdydd ac yn Abertawe, sef y ddwy ddinas fawr yr effeithiwyd arnynt fwyaf, oddeutu adeg y mileniwm, a bydd y rhai ohonom sydd ychydig yn hŷn yn synnu clywed bod hynny 21 mlynedd yn ôl ac nid 15 mlynedd—mae'n teimlo fel y dydd Mawrth diwethaf i rai ohonom.

Yn anffodus, ni fydd hynny'n helpu'r adeiladau hynny, gan y byddant y tu allan i'r cyfnod beth bynnag, felly mae honno'n broblem. Rydym wedi gofyn am ymestyn y cyfnod i 25 mlynedd, ond mae Llywodraeth y DU wedi dewis 15, am amryw resymau. Ni fydd y 15 mlynedd yn cychwyn tan i'r Bil gael ei dderbyn ac nid yw wedi ei dderbyn eto, felly ni fydd rhai adeiladau sy'n gymwys ar hyn o bryd yn gymwys pan gaiff y Bil ei roi mewn grym. Yn ogystal, hyd yn oed os ydynt o fewn cyfnod y cyfyngiad, mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i'r endid corfforaethol sy'n gyfrifol, ac os cawsant eu hadeiladu gan gyfrwng at ddibenion arbennig, byddai hynny'n anodd iawn. Felly, ni cheir un ateb syml i ddatrys y broblem.

A bod yn deg â rhai o'r datblygwyr, maent wedi gwario cryn dipyn o arian ar adfer rhai o'r adeiladau, ond mae'n rhaid dweud nad yw pob un ohonynt yn y sefyllfa honno. Rydym yn parhau i weithio gyda'r datblygwyr i geisio rhoi cymaint o bwysau ag y gallwn arnynt i wneud hynny. Rydym wedi gofyn am gyngor ynghylch pa ddulliau eraill y gallwn eu defnyddio ar ffurf arian, cyllid ac ati gan Lywodraeth Cymru i geisio dod â hwy at y bwrdd.

14:00
Cyfoeth Naturiol Cymru

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gyda'r Gweinidog gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ56769

Diolch, Heledd. Rwyf wedi cyfarfod â thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar, ochr yn ochr â'r Dirprwy Weinidog, Lee Waters, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'n holl bartneriaid ledled Cymru i sicrhau y gallwn ymateb yn effeithiol i heriau sylweddol newid hinsawdd, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau llifogydd difrifol.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi ddylwn i ddatgan fan hyn fy mod i'n gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoddi arian i nifer o gynghorau lleol, gan gynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, i wario ar amddiffynfeydd dros dro rhag llifogydd ar gyfer tai, megis giatiau atal llifogydd ac ati, ac mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Er bod yna nifer o dai wedi elwa o hyn, mae yna anghysondeb o ran sut mae'r penderfyniad yn cael ei wneud o ran pa dai sy'n gymwys neu beidio. Er enghraifft, ar un stryd ym Mhontypridd, mi gafodd 30 o dai lifogydd yn Chwefror 2020, ond 13 o dai sy'n cael cynnig giatiau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad yw gweddill y tai ddim efo cymaint o risg o lifogydd. Mae'n anodd iawn i fi egluro i bobl pam eu bod nhw ddim yn gymwys i gael y giatiau yma, a hwythau wedi cael llifogydd ar union yr un pryd. Gaf i ofyn ichi felly, oherwydd dwi wedi methu â chael atebion i hyn: a fedr y Gweinidog ymyrryd yn y mater hwn, os gwelwch yn dda, a gofyn am ddiweddariad o ran sut mae arian y Llywodraeth yn cael ei wario, a sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud o ran pa dai sy'n gymwys neu beidio? Dwi'n siŵr y byddai nifer o bobl yn cytuno y dylai pob cartref a ddioddefodd lifogydd gael yr un cynnig.

Diolch am hynny, Heledd. Os ydych eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion y tai nad ydynt wedi'u cynnwys, rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i hynny ichi.

Prynhawn da, Weinidogion. A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn sir Ddinbych? Weinidog, cafodd fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, ei tharo'n galed gan storm Ciara y llynedd a storm Christoph eleni. Er na allwn wneud fawr ddim am y tywydd, gallwn roi camau ar waith i liniaru ei effaith. Yn anffodus, fel llawer o awdurdodau lleol, mae sir Ddinbych wedi canfod nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymorth mawr ar adegau a'i fod yn rhwystr ar adegau eraill. Boed yn gwlferi nad ydynt yn cael eu clirio mewn da bryd, neu'n fesuryddion afonydd nad ydynt yn cael eu trwsio, neu'n litani gyfres o faterion sy'n ymddangos yn fach, gyda'i gilydd maent yn arwain at lifogydd dinistriol i fy etholwyr. Hyd yn oed wrth geisio dysgu gwersi o lifogydd y llynedd, wynebodd cynghorwyr a swyddogion sir Ddinbych elyniaeth. Weinidog, a wnewch chi wrando ar y rhybudd yn awr nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu gwneud y gwaith a chytuno i gynigion y Ceidwadwyr Cymreig i greu asiantaeth lifogydd genedlaethol i Gymru? Diolch.

Diolch ichi am hynny, Gareth. Onid yw'n bwysig ymdrin â materion difrifol fel llifogydd yn anwleidyddol? Fel y gwyddoch, rydym wrthi'n adolygu'r trefniadau rheoli llifogydd eisoes. Rydym eisoes wedi croesawu nifer o adroddiadau adran 19 gan awdurdodau lleol mewn perthynas ag amddiffyn rhag llifogydd, ac rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, swyddogion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod gennym y lefel gywir o amddiffyniad rhag llifogydd, gan yr asiantaeth gywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir. Nid wyf eisiau dweud unrhyw beth yn erbyn ein partneriaid awdurdod lleol y gwn iddynt weithio'n galed iawn drwy gydol y gaeaf, a thrwy gydol y gaeaf cyn hynny, er mwyn amddiffyn pobl rhag llifogydd, ac wrth fynd i'r afael â chanlyniadau uniongyrchol llifogydd. Ond wrth gynnal adolygiad, mae'n rhaid dweud y gwneir adolygiad o'r holl bartneriaid, ac anaml iawn y gwelais adolygiad lle mae un partner wedi gwneud yn gwbl ragorol a bod y bai i gyd ar y partner arall. Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd, mewn modd anwleidyddol yma, i ddeall yr hyn a aeth o'i le a rhoi'r systemau ar waith i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi a bod gennym yr amddiffyniad gorau posibl rhag llifogydd y gaeaf hwn. Dyna'n union y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud.

Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi mynegi fy marn yn glir yn y Siambr hon wrth drafod Cyfoeth Naturiol Cymru a digwyddiadau llifogydd 2020. Wedi dweud hynny, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cymorth a roddwyd i bob awdurdod rheoli perygl llifogydd ers y llifogydd i wella mesurau i amddiffyn rhag llifogydd ac atal llifogydd ar draws Rhondda, trwsio cwlferi a systemau draenio ym Mhentre, Treorci, Ynys-hir a Blaenllechau, a chynlluniau ar gyfer wal lifogydd ym Mritannia. Rydym wedi dweud yn y Siambr ac mewn cyfarfodydd allanol fod angen gweithgor i ddysgu gwersi mis Chwefror 2020. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdodau rheoli perygl llifogydd ynglŷn â'r gweithgor?

14:05

Diolch yn fawr iawn, Buffy. Rydym wedi cael cyfres helaeth o drafodaethau ynglŷn â hyn. Fel y dywedais, rydym yn awr yn bwriadu cael adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd, a mynd i'r afael â chyfres o argymhellion i wella lefel yr amddiffyniad rhag llifogydd a ddarperir i'r gymuned. Rydym wedi darparu'r swm mwyaf erioed o gyllid i reoli perygl llifogydd. Yn 2020-21, cynyddodd cyllid refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru o £1.25 miliwn i £21 miliwn, a chafodd hwn ei gynnal yn 2021-22, ynghyd â £17 miliwn pellach mewn cyllid cyfalaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, fodd bynnag, i fynegi fy niolch i lawer o staff Cyfoeth Naturiol Cymru a weithiodd y tu hwnt i'r galw yn ystod y llifogydd. Rwy'n credu ei bod yn hawdd anghofio'r bobl ar lawr gwlad sydd wedi gweithio'n galed iawn mewn amgylchiadau anodd iawn, ochr yn ochr â swyddogion awdurdodau lleol, swyddogion o awdurdodau tân ac achub ac eraill, gan wynebu heriau mawr wrth wneud hynny. Rwy'n credu bod hynny ar goll yn rhai o'r sgyrsiau hyn. Rydym yn hapus iawn, wrth gwrs, i edrych eto ar weddill—fe wyddoch fy mod eisoes yn gwneud hynny. Gofynnir i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud nifer enfawr o bethau i Lywodraeth Cymru, ac mae llawer o'r staff yn eu gwneud yn eithriadol o dda. Rwy'n derbyn yn llwyr nad ydym wedi sicrhau'r gydbwysedd cywir mewn perthynas â chyfrifoldebau dros amddiffyn rhag llifogydd ar hyn o bryd, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i gywiro hynny yn y dyfodol.

Cyllideb y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r toriadau a wnaed i'r gyllideb taliad disgresiwn at gostau tai gan Lywodraeth y DU? OQ56771

Diolch, Carolyn. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein siom fawr ynglŷn â'r toriadau a wnaed i daliadau disgresiwn at gostau tai. Bydd hyn, ynghyd â rhewi cyfraddau lwfans tai lleol, a rhoi diwedd ar y swm o £20 yr wythnos o gredyd cynhwysol ychwanegol ar ôl mis Medi, yn gwthio mwy o bobl a theuluoedd i fwy fyth o galedi.

Diolch am yr ateb, Weinidog. Rwy'n cytuno na allai'r toriadau i'r gyllideb taliadau disgresiwn at gostau tai fod wedi dod ar adeg waeth i denantiaid ledled Cymru, sydd eisoes yn wynebu'r storm berffaith o doriadau posibl mewn swyddi, toriad i'r hwb credyd cynhwysol, ôl-ddyledion rhent a diwedd ar y gwaharddiad ar droi allan. Ac mae hyn ar ben y dreth ystafell wely, y terfyn dau blentyn a chrynhoad o bolisïau Torïaidd y DU sy'n cynyddu tlodi, ac ar ben toriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Drwy drafodaethau gyda chydweithwyr llywodraeth leol, deallaf fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi nifer o fesurau cadarnhaol ar waith ar ffurf cyllid i awdurdodau lleol, gan gynnwys ychwanegu at y gyllideb taliadau disgresiwn at gostau tai, yn ogystal â chymorth i bobl mewn gwaith y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt. A allai'r Gweinidog roi trosolwg i mi o'r cyllid sydd ar gael i liniaru'r effaith y gallai'r toriadau i'r taliadau disgresiwn at gostau tai ei chael ar denantiaid yng Nghymru? Diolch.

Diolch, Carolyn. Yng nghyllideb y gwanwyn, fel y gŵyr pawb, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn torri cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai 22 y cant, o £180 miliwn i £140 miliwn. A bod yn deg, roedd y Llywodraeth wedi cynyddu cyllid y taliadau disgresiwn at gostau tai o £139.5 miliwn i £180 miliwn yn 2020-21 ynghanol y pandemig. Ond rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod cyllid eleni bellach yn is na'r hyn oedd y gyllideb taliadau disgresiwn at gostau tai yn 2017-18 neu 2018-19. Felly, nid yw'r toriad wedi mynd â ni nôl i lle'r oeddem o'r blaen, mae wedi mynd â ni nôl sawl blwyddyn. Rwy'n credu o ddifrif ei bod yn bryd i Lywodraeth y DU ailystyried y strategaeth hon. Mae'n amlwg nad dyma'r amser ar gyfer toriadau pan fo ôl-ddyledion rhent a dyledion aelwydydd yn parhau i fod yn broblem fawr, ac mae'r risg y bydd aelwydydd yn cael eu troi allan ac yn wynebu digartrefedd yn parhau i fod yn sylweddol. Cafwyd adroddiad trawiadol yn ddiweddar iawn a ddangosodd fod yr aelwydydd cyfoethocaf wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu cynilion a'u cyfoeth net yn ystod y pandemig, tra bod traean isaf yr aelwydydd wedi mynd gryn dipyn yn dlotach. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU ddeall y rhaniadau y mae'n eu creu yn y gymdeithas drwy wneud rhai o'r toriadau diangen mewn gwirionedd y mae'n eu gwneud yn y meysydd hyn. 

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £4.1 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol eleni i ychwanegu at daliadau disgresiwn at gostau tai, i helpu'r rhai sydd ar fudd-daliadau ac sydd wedi cael trafferth talu eu rhent. Fel y gwyddoch, cyhoeddais y grant caledi i denantiaid yn ddiweddar, sef mesur newydd gwerth £10 miliwn, i gefnogi pobl yn y sector rhentu preifat sy'n ei chael yn anodd talu eu rhent, a llynedd, cyhoeddais £50 miliwn o gyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf brys, i ddarparu cartrefi dros dro a pharhaol o ansawdd uchel i helpu pobl i symud ymlaen o lety dros dro. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, roeddwn yn falch iawn o sicrhau cynnydd o £40 miliwn yn y grant cymorth tai eleni—cynnydd o bron i 32 y cant. Rydym wedi gosod targed adeiladu tai newydd heriol hefyd. Ond fe ddywedaf, Lywydd, nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw camu i mewn lle mae Llywodraeth y DU wedi methu, gydag arian prin o gyllideb Cymru, i gynnal ein pobl pan fo Llywodraeth y DU wedi gwneud cam difrifol â hwy. Rwy'n arswydo eu bod wedi dewis gwneud hynny.

14:10

Gan barhau gyda thema troi allan, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, roedd 77,000 o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion ym mis Mawrth 2019, ac fel y gwyddom, mae pwysau colli incwm a cholli cyflogaeth yn debygol o fod wedi gwthio llawer mwy o bobl i ôl-ddyledion rhent. Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod y gwaharddiad ar droi allan a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020 wedi dod i ben, er fy mod yn croesawu'r ffaith bod yn rhaid i landlordiaid roi chwe mis o rybudd o hyd i denantiaid cyn eu troi allan. Ond mae Shelter Cymru wedi rhybuddio y gallai niferoedd enfawr o bobl gael eu gwthio i ddigartrefedd o ganlyniad, gan ddweud bod y gwaharddiad ar droi allan wedi achub bywydau mewn gwirionedd. A gaf fi ofyn pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i atal pobl rhag cael eu troi allan o dai cymdeithasol o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent sy'n gysylltiedig â COVID? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig hwnnw. Pan wnaethom negodi cytundeb rhent pum mlynedd gyda darparwyr tai cymdeithasol ledled Cymru, yn gynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi negodi addewid 'dim troi allan i ddigartrefedd' ganddynt, o ganlyniad i'r cynnydd mewn rhenti, ac mae hynny wedi helpu. Felly, ni fydd pobl yn cael eu troi allan o dai cymdeithasol i ddigartrefedd yng Nghymru. Nid yw hynny'n golygu na ellir troi pobl allan o'r fflat benodol y maent yn byw ynddi os oes problemau'n ymwneud â cham-drin domestig neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae'n golygu bod angen mynd i'r afael ag anghenion tai'r bobl hynny cyn iddynt gael eu troi allan a chyn y cânt eu symud i fannau eraill. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny. Rwy'n hapus iawn i weithio gyda landlordiaid yn y sector rhentu preifat i drosglwyddo eu tai i'r sector rhentu cymdeithasol fel y gallwn wella ansawdd y stoc a phrofiad y tenantiaid, a rhoi incwm da, dibynadwy a sefydlog i'r landlord sector preifat dros y pump i ddeng mlynedd y byddwn yn meddiannu'r tŷ. Rwy'n argymell y cynllun hwnnw i lawer o'n landlordiaid da yn y sector rhentu preifat a fyddai'n hapus iawn i helpu.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cyfraniad y byddai morlyn llanw bae Abertawe yn ei wneud tuag at gyrraedd targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru? OQ56774

Mae cynhyrchiant adnewyddadwy yng Nghymru eisoes yn darparu hanner ein trydan ar gyfartaledd. Gallai ynni morol, gan gynnwys môr-lynnoedd llanw, chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais ynni a nodir gennym yng nghynllun morol cenedlaethol Cymru.

Diolch am yr ateb.

Mae tair blynedd wedi bod ers i Lywodraeth y DU droi ei chefn ar Gymru unwaith eto drwy wrthod buddsoddi ym morlyn llanw bae Abertawe, ac mae dwy flynedd ers i ddinas-ranbarth bae Abertawe gyflwyno gweledigaeth ddiwygiedig, prosiect Ynys Ynni'r Ddraig, i Lywodraeth Cymru. Er bod yr adroddiad hwnnw wedi awgrymu y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau ar y morlyn erbyn mis Gorffennaf 2021, mae'r amser hwnnw wedi cyrraedd ac nid yw bae Abertawe wedi'i gyffwrdd o hyd. Mae pobl yn Abertawe a Gorllewin De Cymru yn awyddus iawn i weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth a dechrau cyflawni'r manteision amgylcheddol ac economaidd y gwyddom eu bod yno. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhywfaint o brofion marchnad feddal yn ddiweddar fel rhan o her môr-lynnoedd llanw Cymru, ond a allwch chi amlinellu'r camau nesaf yn y broses honno a phryd y rhagwelwch y gallwch wneud datganiad i'r Siambr hon ar gynnydd? Diolch.

Diolch am y cwestiwn teg iawn hwnnw. Credaf fod Sioned Williams yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod cefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon i forlyn llanw yn Abertawe, a bod Llywodraeth y DU, er iddi wneud llawer o synau cadarnhaol, wedi ein siomi. Hefyd, yn adroddiad y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig y bore yma, nodais y gefnogaeth drawsbleidiol i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, rhywbeth nad ydym wedi ei anghofio, ac rwy'n falch iawn o weld y Ceidwadwyr ar y pwyllgorau hynny'n anghytuno â'u Llywodraeth eu hunain. Hoffwn annog pob plaid i barhau â'u cefnogaeth i sicrhau môr-lynnoedd i Gymru.

Cyfarfûm â'r Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru cyn yr etholiad i gael sgyrsiau ynglŷn â sut y gallem weithio ar y cyd i gefnogi cais Ynys Ynni'r Ddraig yn Abertawe, ac mae sgyrsiau'n parhau ar lefel swyddogol gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu hwnnw i'r cam nesaf lle gall Llywodraeth y DU ei ystyried, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig. Dysgodd y broses honno inni, os yw'r prosiect hwnnw i fynd rhagddo, fod angen ei wneud mewn cydweithrediad rhwng y ddwy Lywodraeth wahanol.

Yn fwy cyffredinol, unwaith eto ar y cyd â Llywodraeth y DU drwy fargen ddinesig bae Abertawe, rydym yn cefnogi pecyn ynni gwyrdd gwerth £60 miliwn sydd ar y gweill ac yn mynd i wneud gwahaniaeth yn sir Benfro. Ac rydym yn awyddus iawn—cafodd Julie James a minnau gyfarfodydd yr wythnos hon—i edrych ar gronfa her ynni morol. Roedd ymrwymiad i hynny yn y maniffesto. Rydym bellach yn gweithio ar hynny ac yn edrych ar yr ystod gyfan o dechnolegau morol, gan gynnwys ynni llanw, oherwydd mae pŵer y môr yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddefnyddio i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac rydym eisiau cynifer â phosibl o wahanol ymyriadau i gyfrannu at hynny.

14:15
Blaenoriaethau Tai

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56779

Mae tai cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi a'r Llywodraeth hon ar gyfer Cymru gyfan. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd ar gyfer rhent cymdeithasol dros dymor y Llywodraeth hon. Dyrannwyd £50.4 miliwn o'r grant tai cymdeithasol i ranbarth Gogledd Cymru ar gyfer 2021-22, i adeiladu cartrefi cymdeithasol mawr eu hangen.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae eich asesiad o'r angen am dai yng ngogledd Cymru yn datgan y dylid adeiladu tua 1,600 o gartrefi bob blwyddyn yn y rhanbarth am yr 20 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae'r nifer datblygu hwnnw oddeutu 1,200 o gartrefi y flwyddyn. Felly, mae bwlch eithaf sylweddol rhwng yr hyn sydd ei angen a'r hyn sy'n cael ei adeiladu. Fel y byddwch hefyd yn deall, mae datblygwyr preifat yn aml yn llwyddo'n dda i fodloni gofynion pobl leol a darparu tai fforddiadwy. Ac yn wir, mae llawer o'r datblygwyr preifat hynny'n fusnesau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr yn eu heconomi leol. Er hynny, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn nifer yr anheddau sy'n cael eu datblygu gan y datblygwyr preifat hynny. Felly, gyda hynny mewn golwg, pa gamau rydych yn eu cymryd i annog datblygwyr preifat i adeiladu mwy o dai yng ngogledd Cymru?

Ie, diolch am hynny. Mae'n bwynt pwysig iawn mewn gwirionedd, oherwydd mae gennym nifer o broblemau yn y farchnad adeiladu tai gan fusnesau bach a chanolig o ran llif arian, ffrwd waith ac yn y blaen. Ac eto, roedd Lee Waters a minnau'n amlwg iawn yn y fforwm adeiladu yn y Senedd ddiwethaf—credaf ichi ddod yno'n gwisgo het wahanol unwaith neu ddwy—i sicrhau ein bod yn rhoi ffrwd waith yn ei lle ar gyfer cwmnïau adeiladu yn gyffredinol, ac roedd adeiladwyr tai yn un o'r llinellau gwaith a oedd yn deillio o'r prosiect adeiladu, i geisio helpu gyda llif arian a nifer o faterion eraill.

Mae gennym nifer o bethau eraill hefyd, gan gynnwys y cynllun hunanadeiladu, cynlluniau cyn rhoi cymeradwyaeth gynllunio ac yn y blaen a luniwyd i helpu'r farchnad busnesau bach a chanolig gyda rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r angen i gadw cronfeydd mawr o arian parod wrth gefn tra'u bod yn sicrhau cymeradwyaeth gynllunio ac ati. Ac rydym hefyd yn annog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i weithio gyda'u busnesau bach a chanolig lleol fel contractwyr wedi'u contractio'n uniongyrchol i'w helpu gyda materion llif arian. Rydym yn fwy na pharod i helpu'r farchnad i chwarae'r rôl yr hoffem iddynt ei chwarae yn gyffredinol ac yn wir, hebddynt, ni allwn adeiladu'r 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod ein darparwyr yn parhau'n hyfyw ac yn gadarn ac rydym yn awyddus i weithio gyda hwy i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r ffrwd waith sydd ei hangen arnynt.

Allbwn Carbon

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allbwn carbon Llywodraeth Cymru? OQ56763

Mae gan bawb ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Yn unol â'n canllaw sector cyhoeddus ar gyfer adrodd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, byddwn yn nodi llinell sylfaen gynhwysfawr, yn mynd i'r afael â'n hallyriadau ein hunain ac yn eu monitro, gan adeiladu ar y cynlluniau rydym eisoes wedi'u gwneud mewn perthynas â'n fflyd, ein defnydd o ystadau a gweithio gartref.

Weinidog, mae'r rhaglen lywodraethu yn glir yn ei bwriad i fynd i'r afael â'r her amgylcheddol a llawer o feysydd polisi'r Llywodraeth y mae angen ymateb arnynt. Gwn y byddwch yn ymwneud yn helaeth â'r trafodaethau ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r targedau datgarboneiddio hynny, sydd, wrth gwrs, yn gymhleth iawn. Bydd llawer o sefydliadau eisoes yn asesu eu hallbwn carbon, ac mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cymryd rhan yn y gwaith hwn. Os ydych yn disgwyl i eraill weithredu, mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru arwain fel sefydliad sydd â dealltwriaeth a chyhoeddi ei hôl troed carbon ei hun. A wnewch chi ymrwymo i hyn?

Yn wir. Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, rydym eisoes yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Yn ddiweddar, cyhoeddasom y canllaw sector cyhoeddus ar gyfer adrodd, sy'n cynorthwyo pob sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a'r Comisiwn mewn gwirionedd, i gasglu gwybodaeth berthnasol a chofnodi eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Bydd hyn yn darparu llinell sylfaen glir i weithio arni, yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran prosesau adrodd ymhlith yr holl gyrff sector cyhoeddus, gan ganiatáu rhaglen ymyrraeth wedi'i thargedu'n well yn gyffredinol. Bydd y data cychwynnol ohoni yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn, a bydd adroddiadau dilynol bob haf, gan ganiatáu adolygiad blynyddol o'r cynnydd a wneir.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mabon ap Gwynfor. 

Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun tai cymunedau Cymraeg? OQ56784

Fel y mae fy nghyfaill a chydweithiwr y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu yn ei datganiad llafar ar 6 Orffennaf, bydd hi a minnau yn cyflwyno cynllun tai cymunedau Cymraeg i ymgynghori arno yn yr Hydref.

14:20

Diolch, Weinidog. Mae'r ystadegau diweddaraf gan awdurdod refeniw Cymru yn dangos bod 44 y cant o'r tai a werthwyd yn Nwyfor Meirionnydd flwyddyn diwethaf wedi'u gwerthu fel tai cyfradd uwch. Rŵan, mae yna sawl diffiniad o beth ydy cyfradd uwch, ond dwi wedi siarad efo gwerthwyr tai ac efo chyfreithwyr yr ardal, ac mae'n berffaith glir bod y rhan helaethaf o'r tai yna wedi'u gwerthu fel ail dai. Roedd yr ystadegau ar gyfer y flwyddyn gynt yn debyg iawn hefyd. Mae'n amlwg felly ei bod hi'n argyfwng ar ein cymunedau, ac mae angen gweld gweithredu yn fuan. Mae'n bryder felly na fydd y pwyllgor yma'n ymgynnull tan rywbryd yn yr hydref, a does wybod pryd yn union fydd y pwyllgor yn adrodd yn ôl efo'r argymhellion, heb sôn am weithredu'r argymhellion. Ydych chi'n derbyn ei bod hi'n argyfwng ar ein cymunedau Cymraeg ni, a bod angen cymryd rhagor o gamau brys i ymateb mor fuan â phosib, a beth ydy'r amserlen ar eich pwyllgor, os gwelwch yn dda?

Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn pellach hwnnw. Dwi'n sicr yn derbyn ei fod yn argyfwng am y rhesymau mae e'n dweud. Mae'r ffigurau mae'n eu datgan yn peri pryder i lawer iawn ohonom ni, mi fuaswn i'n dweud. Y dasg i ni fel Llywodraeth yn gweithio gyda'r pleidiau eraill yw sicrhau ein bod ni'n cael datrysiadau sy'n effeithiol, yn gyflym, ac yn gyfreithiol, ac mae gyda ni raglen o waith yn seiliedig ar yr hyn mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi datgan yn y Siambr, a chynnwys ein hymateb ni i adroddiad Dr Simon Brooks, sy'n dangos ystod o ymyraethau yr ydym yn bwriadu eu cymryd, ac mae amryw o'r rheini yn mynd i gael eu cymryd yn syth dros wythnosau'r haf, yn cynnwys cydweithio gydag ardaloedd yng Nghymru sy'n barod i weithio gyda ni ar brofi rhai o'r elfennau yma. Mae hynny'n bwysig yn hyn o beth hefyd.

O ran gwaith y pwyllgor, dwi ddim cweit yn sicr pa bwyllgor ŷch chi'n cyfeirio ato fe. Fy mwriad i yw datgan ar gyfer ymgynghori yn yr hydref y cynllun tai cymunedol, fel y gwnes i sôn yn gynharach, ond mae amryw o bethau. Rŷn ni'n sôn yn y llythyr i Dr Brooks ein bod ni'n bwriadu cymryd ei argymhelliad o sefydlu comisiwn ar hyn o beth, ond hefyd yn glir nad yw'r camau eraill rŷn ni'n eu datgan fel rhan o'r ymateb yn ddibynnol ar sefydlu'r comisiwn hynny. Hynny yw, maen nhw'n mynd yn eu blaenau beth bynnag.

Mae papur ymchwil Cymru ar berchnogaeth ail gartrefi a gyhoeddwyd ddoe yn datgan, ac rwy'n dyfynnu:

'Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth gadarn sy’n rhoi sylw i effaith ail gartrefi ar gynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol, gan gynnwys er enghraifft yr effaith ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant'.

O gofio bod ymgynghoriad ar y cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg wedi'i drefnu ar gyfer yr hydref hwn, fel y sonioch chi, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal unrhyw ymchwil pellach i gasglu mwy o dystiolaeth i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn gadarn, yn deg ac yn hirsefydlog, yn hytrach nag yn ddifeddwl ac adweithiol?

Wel, buaswn i ddim yn derbyn bod hyn yn digwydd mewn ffordd sydd jest yn ymatebol. Rwy'n credu bod yma broblem sydd yn amlwg i gymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; mae hyn yn amlwg i lawer iawn ohonom ni. Mae'n sicr bod angen data; mae'n sicr bod angen edrych yn ofalus ar y diffiniadau rŷn ni'n eu defnyddio yn y maes yma. Mae'r rheini'n bwysig er mwyn ein bod ni'n cael y datrysiadau cywir, ond mae'r gwaith hynny'n gallu digwydd wrth ein bod ni'n mynd â'r rhaglen waith sydd gennym ni rhagddi eisoes. Fel dwi'n dweud, mae Dr Brooks yn glir yn ei adroddiad bod amryw o'r elfennau yma yn cydblethu ac yn gyd-ddibynnol, ac mae’n rhaid i ni edrych ar bob un ohonyn nhw i sicrhau ein bod ni'n cael y datrysiadau cywir.

Darpariaeth Addysg yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg yng Ngogledd Cymru? OQ56780

Yn 2021-22, bydd ysgolion yng ngogledd Cymru wedi cael cyfanswm o dros £12 miliwn drwy'r grant addysg awdurdodau lleol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, lleiafrifoedd ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, addysg ddewisol yn y cartref, llesiant, recriwtio, adfer a chodi safonau a lleoliadau nas cynhelir.

Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac fel y gwyddoch mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth addysg, a gall fod yn wych i ddysgwyr o bob gallu ac oedran, ac o fudd iddynt mewn cynifer o wahanol ffyrdd, ac wrth gwrs, mae gan ogledd Cymru rai o'r canolfannau addysg awyr agored gorau yn y wlad. Fodd bynnag, drwy gydol COVID-19, nid yw wedi bod yn bosibl cael mynediad at y canolfannau hynny a'r gweithgareddau hynny yn y ffordd arferol, ac yn anffodus mae hynny wedi llesteirio addysg rhai dysgwyr. Rwy'n croesawu eich cyhoeddiad diweddar ar aros dros nos mewn canolfannau awyr agored preswyl, a bod modd caniatáu i blant ysgol gynradd wneud hynny, ac mae rhywfaint o arian wedi'i ryddhau hefyd. Ond Weinidog, hoffwn ofyn beth arall y byddwch yn ceisio ei wneud i gyflymu'r defnydd o ganolfannau addysg awyr agored a dysgu yn yr awyr agored yn gyffredinol wrth inni gefnu ar y pandemig?

14:25

Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n sicr yn cydnabod y rôl bwysig y mae dysgu yn yr awyr agored yn ei chwarae wrth ddarparu ystod eang o brofiadau i'n dysgwyr, a bydd hynny'n dod yn bwysicach fyth yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd rydym yn ei gyflwyno. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod darparwyr addysg awyr agored—ac mae nifer o Aelodau wedi ysgrifennu ataf yn benodol mewn perthynas â hyn, felly hoffwn gydnabod hynny—wedi cael eu heffeithio'n sylweddol iawn gan y cyfyngiadau, fel y mae'n dweud. Bwriedir i'r gronfa addysg awyr agored breswyl fod yn gyfraniad at rai o'r costau hynny y bydd canolfannau wedi'u hysgwyddo o ganlyniad—mae'n gronfa o £2 filiwn i geisio mynd i'r afael â hynny. Fel y dywed yn gywir, mae newidiadau wedi'u gwneud i hwyluso teithiau i blant ysgol gynradd, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw y byddwn yn dweud mwy am hyn yn y Siambr yn ddiweddarach, gyda llacio pellach a fydd yn caniatáu i hyd at 30 o blant o sefydliadau fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf. Felly, yr hyn a welwn yw llacio cynyddol, a fydd, gobeithio, yn cael croeso gan y sector.

Diolch, Weinidog. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud

'Mae darparu mynediad at addysg o safon mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol i ddiwallu anghenion pobl ifanc yng nghefn gwlad, a hefyd i ddenu teuluoedd ifanc i ymgartrefu yn yr ardaloedd hyn.'

Roeddwn yn falch fod Cymru, o dan arweiniad Kirsty Williams, wedi cyflwyno ei strategaeth a'i chynllun gweithredu cyntaf erioed ar gyfer ysgolion gwledig, i nodi sut y gallwn gefnogi ein hysgolion bach a gwledig i sicrhau rhagoriaeth i'n plant a'n pobl ifanc yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd i Gymru wrth gwrs. Weinidog, rwy'n pryderu bod Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno cynlluniau i gau 11 o ysgolion gwledig ar sail cyfyngiadau ariannol a gallu i gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru. A wnewch chi egluro dau beth i mi, os gwelwch yn dda, Weinidog? Yn gyntaf, pwy sy'n gyfrifol am argymell cau ysgolion, ac a all ysgolion bach, gwledig gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel y dywedodd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd y cynllun gweithredu cyntaf erioed ar gyfer addysg wledig yn 2018, gan ddwyn ynghyd yr holl ymyriadau a mentrau mewn perthynas ag ysgolion bach a gwledig o'r strategaeth 'Cenhadaeth ein Cenedl' a chreu un cynllun gweithredu cydlynol i ganolbwyntio'n benodol ar yr amgylchiadau y mae ysgolion gwledig yn eu hwynebu.

Mewn perthynas ag ad-drefnu sy'n gysylltiedig ag ysgolion gwledig, gwnaethom gryfhau'r cod trefniadaeth ysgolion yn yr un flwyddyn hefyd, fel bod awdurdodau lleol, sy'n llywio'r penderfyniadau yn y cyd-destun hwn, pan fyddant yn ystyried cyflwyno cynigion i gau ysgol wledig, yn gorfod gwirio yn gyntaf a yw'r ysgol honno ar restr, ac os ydyw, mae gofyn cymhwyso gweithdrefnau pellach yn y cyd-destun hwnnw. Bydd rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes modd cau'r ysgol, ond mae'n golygu y bydd yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf iawn, ac na ddylid gwneud hynny nes bod dewisiadau amgen dichonadwy wedi'u harchwilio.

Credaf yn sicr fod ysgolion gwledig yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm, ac rwyf eisiau bod mewn sefyllfa yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod ysgolion gwledig, fel pob ysgol arall yng Nghymru, yn gallu manteisio, er enghraifft, ar y rhwydwaith cenedlaethol, a fydd yn galluogi ysgolion i gydweithio i ddatblygu adnoddau er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu'n llwyddiannus ym mhob rhan o Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr—Laura Jones. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn gyntaf a gaf fi ddechrau drwy ddiolch ichi am eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos ddiwethaf? Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi gwrando ar fy mhryderon, pryderon ein plaid, ac yn bwysicaf oll, pryderon y sector addysg, a'ch bod bellach wedi penderfynu cael gwared ar fasgiau a swigod mewn ysgolion ledled Cymru o fis Medi ymlaen, gydag awdurdodau lleol yn cael addasu os oes gwir angen mewn ffordd adweithiol wrth symud ymlaen. Dyna'r ffordd iawn o wneud pethau, felly diolch am y newid hwnnw, Weinidog.

Y gwir amdani yw bod plant Cymru wedi colli mwy o ddysgu na phlant unrhyw wlad arall yn y DU—124 diwrnod rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021. Felly, Weinidog, a allwch chi roi sicrwydd i'r Senedd hon na welwn y sefyllfa hurt lle mae ysgolion cyfan yn cau, grwpiau blwyddyn cyfan yn gorfod aros adref dro ar ôl tro, os ydym mewn sefyllfa, ac rwy'n gobeithio na fyddwn, lle mae nifer y rhai sy'n mynd i'r ysbyty'n codi eto? A pha fesurau a mesurau lliniaru sydd gennych ar waith ac a ydych yn ystyried sicrhau bod dysgu yn yr ysgol, o'r tymor nesaf ymlaen, yn brif flaenoriaeth, gan na all ein plant fforddio colli mwy o addysg wyneb yn wyneb?

14:30

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn hwnnw. O ran newid, yr hyn rydym wedi'i wneud drwyddi draw, ar bob cam, yw sicrhau yn ein canllawiau i ysgolion—fel yn ein canllawiau i bob rhan arall o fywyd Cymru, os hoffech—fod ein canllawiau'n adlewyrchu ein dealltwriaeth orau ar hyn o bryd o natur gyfnewidiol y pandemig, ac mae wedi newid ar wahanol adegau drwy gydol y cyfnod. Ac er mwyn bodloni disgwyliad rhesymol ysgolion i gael cyfres o ragdybiaethau cynllunio ar gyfer mis Medi, fel y dywedodd, ysgrifennais at benaethiaid yr wythnos diwethaf, yn y ffordd a ddisgrifiodd.

Un o'r heriau y mae ysgolion wedi'i hwynebu yw'r carfannau mawr y gofynnwyd iddynt hunanynysu o ganlyniad i achosion neu glystyrau mewn ysgolion. A chredaf fod pob rhan o'r system addysg yn cydnabod nad yw hwnnw'n ganlyniad dymunol. Yn lle hynny, rydym eisiau system brofi, olrhain a diogelu ar waith yn y tymor ysgol newydd, ac fe fydd system felly ar waith i arwain ar nodi cysylltiadau a darparu cyngor ac yn y blaen, a bydd ysgolion yn cael sicrwydd y gallant ddibynnu ar gyngor penodol y mae'r system brofi, olrhain a diogelu yn ei ddarparu. Yn amlwg, clywais gan athrawon fod yna heriau pan fyddant yn arwain ar hynny o ran nodi pwy yw'r cysylltiadau unigol. Ac felly, o fis Medi ymlaen, y system brofi, olrhain a diogelu fydd yn arwain y gwaith hwnnw.

Mae'n sôn am sicrhau bod y trefniadau o fis Medi ymlaen yn blaenoriaethu cynnydd dysgwyr. Dyna fu ein blaenoriaeth drwy gydol y pandemig. Ac rwyf am dalu teyrnged, yn y cwestiynau olaf hyn cyn toriad yr haf, i'n staff addysgu a'n staff addysgol am yr ymdrechion anhygoel y maent wedi'u gwneud dros y 15, 16 mis diwethaf i sicrhau, mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, y gall cynnydd ac addysg ein dysgwyr barhau. Ac union bwrpas y cynllun adnewyddu a diwygio, y soniais amdano yn y Siambr rai wythnosau'n ôl, a'r cyllid sy'n gysylltiedig ag ef, yw parhau i gefnogi ysgolion i wneud hynny drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf.

Diolch, Weinidog. A symudaf ymlaen yn awr at bryder mwy dybryd sydd gennyf cyn toriad yr haf, sef yr wythnos diwethaf—. Fel y nodwyd gennych yn garedig yr wythnos diwethaf, rydym yn cytuno bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i athrawon a phenaethiaid a'n bod am iddynt gael gwyliau haf llawn. Ac i'r perwyl hwn rwy'n dal i bryderu am olrhain cysylltiadau, Weinidog. Oherwydd nid ydym am gael sefyllfa lle mae'n rhaid i benaethiaid ac athrawon dreulio chwe diwrnod cyntaf eu gwyliau yn olrhain cysylltiadau. Felly, pwy sy'n mynd i ymgymryd â'r gwaith hwn os oes angen ei wneud? Ni ddylai penaethiaid orfod ei wneud, Weinidog. Felly, a ydych yn rhoi mesurau ar waith, efallai, fel bod awdurdodau lleol yn ymgymryd â'r gwaith o ddydd Gwener neu ddiwedd y tymor ymlaen fel y gall penaethiaid a staff gael gwyliau haf llawn?

Fel y credaf fod fy ateb i'w chwestiwn blaenorol wedi ceisio ei nodi, y system brofi, olrhain a diogelu a ddylai ymgymryd â'r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf. Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau mewn lleoliad ysgol y bydd penaethiaid bob amser yn eu hwynebu, o ran y gwahanol bwysau sy'n cystadlu. A dyna'n union pam y rhoddais ganllawiau i benaethiaid gynllunio, o fis Medi ymlaen, ar sail peidio â chael grwpiau cyswllt yn yr ysgol ac y bydd y broses o olrhain cysylltiadau'n cael ei gyrru gan y system brofi, olrhain a diogelu.

Felly, Weinidog, i gadarnhau hynny'n gyflym, a ydych yn dweud na fydd athrawon a phenaethiaid yn parhau i wneud y gwaith olrhain cysylltiadau? Ac os caf symud ymlaen at fy nhrydydd cwestiwn, fy nghwestiwn olaf, mae'n deg dweud bod awdurdodau lleol wedi bod yn blaenoriaethu addysg yn awr ar draul gwasanaethau eraill, yn enwedig yn ystod y pandemig, oherwydd y ddealltwriaeth gyffredinol ynglŷn â'i phwysigrwydd. Ond nid yw hyn yn gynaliadwy, Weinidog. Mae angen inni sicrhau bod awdurdodau lleol ac ysgolion mewn sefyllfa dda i ymdrin â'r pandemig a'u bod yn gallu mynd i'r afael ag unrhyw ddisgwyliadau newydd a roddir arnynt. Weinidog, yn yr Alban, mae cyllid y pen i ddisgyblion yn £7,300 ar hyn o bryd; yng Nghymru a Lloegr, ychydig dros £6,000 y disgybl yw cyllid y pen i ddisgyblion. Ond yn Lloegr, maent wedi ymrwymo i gynyddu'r cyllid hwnnw 9 y cant mewn termau real erbyn 2023. Er mwyn cael y cyllid sydd ei angen mor ddybryd ar ein hysgolion, beth fydd y Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei wneud i sicrhau nad yw ein plant dan anfantais o'u cymharu â gweddill Prydain? Sut y mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ceisio cyrraedd y lefel o fuddsoddiad yn nyfodol ein plant a welwn mewn rhannau eraill o'r DU? A wnewch chi roi'r un faint o gyllid y pen i ddisgyblion i'r hyn a gânt yn yr Alban, sy'n cyfateb i £1,200 yn fwy o gyllid y pen i ddisgyblion nag yma, neu a fyddwch yn ceisio efelychu ymrwymiad Lloegr i fuddsoddiad mewn termau real erbyn 2023? Yr hyn na allwn ei gael, Weinidog, yw bod cyllid y pen i ddisgyblion yn sylweddol is yma nag mewn rhannau eraill o'n gwlad.

14:35

Fe gyfeiriaf Laura Anne Jones at y gwaith diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg, sy'n cymharu'r buddsoddiad ar draws gwledydd y DU yn yr ymateb i COVID yn benodol er mwyn cefnogi ein hysgolion a'n dysgwyr yn y gwaith y maent yn ei wneud. Ac rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod y dadansoddiad mwyaf cyfredol yn dangos bod lefel yr ymyrraeth yng Nghymru yn uwch nag unrhyw ran arall o'r DU, a bod y ffordd y mae'r arian yn cael ei ddyrannu a'i wario yng Nghymru yn fwy blaengar yn yr ystyr ei fod yn cefnogi'r dysgwyr sydd angen y lefel uchaf o gymorth.

Mae'r egwyddorion sy'n sail i hynny yr un fath â'r rhai a nodais yn y cynllun adnewyddu a diwygio. Dyna'r egwyddorion o hyd. Credwn mai dyna'r ffordd orau o gefnogi ein dysgwyr. Mae symiau sylweddol o arian ynghlwm wrth y cynllun hwnnw. Fe fydd hi'n gwybod, pan oedd y Llywodraeth yn Lloegr yn ymrwymo i'w £1.4 biliwn, fod yr hyn sy'n cyfateb pro rata yng Nghymru yn sylweddol uwch na'r buddsoddiad a ymrwymwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr, ac rwy'n sicr yn croesawu'r arian ychwanegol hwnnw yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddechrau efo materion yn codi o'ch datganiad chi ddoe—Cymraeg 2050. Mae sefyllfa lle mae'ch Llywodraeth chi yn methu â chyrraedd targedau ynglŷn â phlant saith oed sy'n dysgu drwy'r Gymraeg yn hollol annerbyniol. Felly, dwi yn edrych ymlaen at glywed mwy am eich cynlluniau chi i gyflwyno Deddf addysg Gymraeg. Mae gwir angen hyn, a gwir angen targedau statudol clir mae'n rhaid cadw atyn nhw. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae angen gweithredu ar frys i gynyddu'r gweithlu sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg. Yn ôl eich adroddiad chi fel Llywodraeth, mae prinder o dros 300 o athrawon cynradd, a thros 500 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae'r sefyllfa'n un pryderus tu hwnt. Sut, felly, ydych chi am fynd ati i gefnogi, cryfhau a chynyddu'r gweithlu dysgu cyfrwng Cymraeg?

Wel, yng nghyd-destun y cwestiwn cyntaf o ran y targed y mae Siân Gwenllian yn sôn amdano—y targed y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, dwi'n credu, yw plant blwyddyn 2 yn cael eu hasesu drwy'r Gymraeg fel iaith gyntaf, y targed o 24 y cant. Mae'r cyrhaeddiad wedi cyrraedd 22.8 y cant, sydd ychydig yn fyr o'r targed o 24 y cant. Er dŷn ni ddim wedi cyrraedd y targed hwnnw erbyn y flwyddyn hon, mae arwyddion calonogol iawn, dwi'n sicr y bydd hi'n croesawu, yn y carfannau iau, lle mae 23.8 o blant dosbarthiadau derbyn, er enghraifft, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae hynny'n galonogol ar gyfer y dyfodol, ac un o'r pethau sydd yn gwbl glir, wrth gwrs, fel rwy'n gwybod dy fod ti'n gwybod, yw bod buddsoddiad yn y Mudiad Meithrin a'r cylchoedd meithrin yn golygu ein bod ni'n gallu cynyddu'r nifer sydd yn mynd drwy'r system addysg Gymraeg. Mae'r trosglwyddiad o un i'r llall tua 90 y cant, felly mae hynny hefyd yn galonogol iawn. Bydd hi wedi gweld yr ymrwymiadau yn y rhaglen waith i ehangu nifer y cylchoedd. Gwnaethon ni wneud yn well na'r targed yn y Senedd ddiwethaf o ran agor niferoedd newydd o gylchoedd. Felly, mae hynny hefyd yn bositif.

O ran y gweithlu, mae'n sicr bod angen inni gynyddu'r niferoedd sydd yn dod i mewn i ddysgu trwy'r Gymraeg, neu addysgu yn y Gymraeg, ac mae'r sialens honno'n hysbys i ni i gyd. Mae ymyraethau wedi bod gyda ni sydd wedi llwyddo a dangos cynnydd, ond mae angen mynd ymhellach na hynny. 

Ynghyd â'r cynlluniau strategol mae llywodraethau lleol yn darparu am y ddegawd nesaf, hynny yw, dros y ddegawd nesaf, byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid fel y Cyngor Gweithlu Addysg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg, y comisiynydd ac ati, i geisio sicrhau bod gennym ni gynllun hefyd i recriwtio digon o staff dros yr un cyfnod. 

A gaf fi eich hatgoffa chi ein bod ni wedi clywed hyn o'r blaen? Roedd eich rhagflaenydd chi'n sôn am gynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, ond rydyn ni'n dal i ddisgwyl i weld y cynllun yna, ac i weld y cynllun yn cael ei roi ar waith. Felly, dwi yn gobeithio bod hwn yn mynd i fod yn flaenoriaeth gennych chi.

Mi fyddwch chi, fel fi, wedi cael eich brawychu gan yr hiliaeth hyll iawn sydd wedi wynebu tri o chwaraewyr du Lloegr ers y gêm bêl droed ddydd Sadwrn. Mae adroddiad 'Show Us You Care' gan Gynghrair Hil Cymru yn archwilio effaith gronnol hiliaeth ar bobl ifanc yn system addysg Cymru, ac mae'r canfyddiadau yn frawychus ac yn peri gofid mawr. Maen nhw'n dangos bod yna broblem wirioneddol yn ein hysgolion uwchradd ni, ond bod hiliaeth a bwlian hiliol yn digwydd yn y cynradd hefyd. Does yna ddim dwywaith bod hiliaeth yn bodoli yn ein system addysg ni yng Nghymru, a bod yn rhaid inni wynebu hynny, a thaclo hynny.

Yn eu hadroddiad nhw, mae Cynghrair Hil Cymru wedi cynnig cyfres o awgrymiadau ar sut i fynd i'r afael â'r broblem, yn cynnwys gwell mecanweithiau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau hiliol a'r angen i recriwtio a chefnogi addysgwyr o wahanol gefndiroedd ethnig. O ystyried yr adroddiad yma, a fedrwch chi amlinellu sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion? Ac a fyddwch chi yn gweithredu'r argymhellion sydd wedi cael eu cyflwyno gan Gynghrair Hil Cymru? 

14:40

Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc pwysig hwnnw. Rwy'n bwriadu, yn y tymor nesaf, cyhoeddi strategaeth ynglŷn â'r hyn rydym ni'n ei wneud i sicrhau bod bywyd ysgol yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynrychiadol—hynny yw, ein bod ni yn edrych, er enghraifft, ar recriwtio, a beth yn fwy gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu'r gwahaniaethau cymdeithasol, fel petai. Rydym ni hefyd wedi sicrhau ein bod ni'n bwriadu—. Rydym ni wedi datgan ein bod ni'n bwriadu derbyn argymhellion grŵp yr Athro Charlotte Williams ar gynefin ac ati yn y cwricwlwm, oherwydd mae'r cynllun sydd ganddyn nhw yn dangos yn glir beth mwy gallwn ni ei wneud, ac rydym ni'n bwriadu cymryd y camau penodol hynny. 

Diolch, a dwi'n siŵr y byddwch chi yn edrych ar yr adroddiad penodol yma rydw i'n cyfeirio ato fo, sef 'Show Us You Care'. 

Troi, yn olaf, at y fagloriaeth Gymreig, neu fagloriaeth Cymru. Rŵan, dwi'n deall na fydd canlyniadau bagloriaeth Cymru'n cael eu cyhoeddi tan y diwrnod ar ôl cyhoeddi Safon Uwch. Ac mae hyn yn mynd i beri llawer iawn o broblemau, oherwydd gallai dderbyn canlyniadau bagloriaeth Cymru yn hwyr oedi yn sylweddol y broses o drosglwyddo'r holl ganlyniadau i brifysgolion, neu gallai olygu fod yn rhaid i brifysgolion brosesu canlyniadau mewn dau gam, efo bagloriaeth Cymru—y canlyniadau yna—yn dilyn diwrnod ar ôl y canlyniadau eraill. Y naill ffordd neu'r llall, mae o'n mynd i fod yn broblem i brifysgolion Cymru, ac yn rhoi myfyrwyr o Gymru dan anfantais hefyd. A fedrwch chi gadarnhau beth ydy'r sefyllfa? A fydd canlyniadau bagloriaeth Cymru yn barod i'w hanfon at ddarparwyr ar yr un pryd ag y bydd yr holl gymwysterau eraill yna ar gael? Ac os nad ydy hynny'n gallu digwydd, a fedrwch chi amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i leddfu'r pwysau posib gall hyn greu ar gyfer darpar fyfyrwyr a phrifysgolion? 

Wel, a gaf i jest talu teyrnged yn gyntaf i'r gweithlu sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddiffinio system ar gyfer eleni sy'n adlewyrchu'r gwaith mae'n dysgwyr ni wedi bod yn ei fuddsoddi a gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, i sicrhau eu bod nhw'n cael cymwysterau y gallan nhw gael hyder ynddyn nhw ac sydd yn gyson ar draws y system? Mae'r gwaith wedi bod yn waith pwysig iawn, ac rwyf eisiau talu teyrnged iddyn nhw am wneud hynny, ac mae gyda ni system fydd yn deg i ddysgwyr, ac yn deg i'r system yn ehangach.

O ran darpariaeth canlyniadau ac ati, gwnaf ysgrifennu'n benodol at yr Aelod ar y pwnc o'r fagloriaeth. Mae gwaith wedi mynd yn ei flaen er mwyn sicrhau bod ein prifysgolion ni yma, a thu hwnt i Gymru hefyd, yn deall yn union beth yw'r system sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae cydweithio wedi bod yn digwydd ar sail hynny, ond mi wnaf rannu manylion gyda hi.

Y Cynllun Adnewyddu a Diwygio

3. Pa ddarpariaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghanol Caerdydd o gynllun adnewyddu a diwygio Llywodraeth Cymru dros wyliau'r haf? OQ56786

Rydym yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i gymryd rhan yn yr Haf o Hwyl. Bydd pob awdurdod lleol yn darparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol i helpu i ailadeiladu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ac mae Cyngor Caerdydd wedi trefnu Gwên o Haf, wedi'i leoli ar y lawnt y tu allan i neuadd y ddinas, digwyddiad a fydd yn hollol wych, rwy'n siŵr, ac mae llawer o bethau eraill yn digwydd, sy'n ganmoladwy, yn enwedig y cyrsiau 'dysgu beicio'n ddiogel', y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn falch o wybod eu bod wedi'u llenwi.

Ond ni fydd llawer o gymunedau o bobl yn mynd i unman yn ystod gwyliau'r haf, ac mae llawer naill ai'n amharod i adael i'w plant fynd i ganol y ddinas neu heb fod ag arian i fynd yno. Felly, mae'n bwysig iawn fod pethau ar gael yn lleol i bobl eu gwneud. Ac yng nghyd-destun peth o weithgaredd y llinellau cyffuriau gwirioneddol ddifrifol sydd wedi digwydd ym Mhentwyn yn fy etholaeth, tybed a allwch ddweud wrthym i ba raddau y credwch y dylai'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol ysgwyddo'r baich yma. Mae rhaglen wych yn mynd rhagddi yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, lle rwy'n datgan fy mod yn llywodraethwr. Am bump allan o'r chwe wythnos, ar dri diwrnod yr wythnos, bydd gweithgareddau yn yr ysgol honno, a bydd gweithgareddau chwaraeon tebyg yn digwydd yn Ysgol Bro Edern, yr ysgol uwchradd Gymraeg. Ond ar wahân i hynny, dim ond tair ysgol gynradd sydd wedi ymuno â'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, sef yr un faint ag a oedd gennym yn 2019, er ein bod ynghanol y broses o adfer yn sgil pandemig. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech roi rhyw syniad inni o'ch disgwyliadau i bob ysgol ganolbwyntio mwy ar y gymuned drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig eleni, oherwydd hwy yn aml yw'r adnodd cymunedol olaf sydd ar gael, ac o gofio bod y ganolfan hamdden ym Mhentwyn ar gau ac nad yw'n ailagor yn y dyfodol agos.

14:45

Rwy'n croesawu cefnogaeth Jenny Rathbone i'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol. Ledled Cymru, credaf fod gennym tua 140 o gynlluniau rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol yn cael eu cynnal yr haf hwn, gyda lle i oddeutu 8,000 eu mynychu, sy'n dyst i'r gwaith gwych y maent yn ei wneud yn fy marn i.

O ran disgwyliadau yn y ffordd roedd Jenny Rathbone yn gofyn, credaf ein bod am weld pob ysgol yn chwarae mwy o ran yn eu cymunedau, a chredaf y byddai agor safleoedd i amrywiaeth o wahanol fathau o ddefnydd drwy gydol y flwyddyn yn gyfraniad sylweddol at hynny. Credaf ein bod yn gweld mwy o ysgolion yn gwneud hynny. Mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol yn enghraifft dda o'r modd y defnyddir safleoedd ysgolion yn y ffordd ehangach honno, ond hefyd ar gyfer clybiau gweithgareddau gwyliau, gwasanaethau ieuenctid a rhaglenni cymorth eraill, a byddwn am adeiladu ar hynny wrth inni ddatblygu ein dull ysgolion bro, rhywbeth sydd gennym ym maniffesto ein plaid a gwn ei bod hi'n ei gefnogi'n gryf iawn hefyd.

Yn y cynllun adnewyddu a diwygio, dyrannwyd £5 miliwn i gefnogi gweithgareddau'r Haf o Hwyl, wedi'i anelu at iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, i'w cymell i wneud gweithgarwch corfforol a chymdeithasu. Mae hon yn agwedd arbennig o bwysig ar y cynllun adnewyddu a diwygio gan ei fod yn mynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â gordewdra a sut y mae'n cyfrannu at ddiffyg hunanhyder a hunan-barch mewn plant, yn enwedig yn ystod eu harddegau, sydd heb os yn effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant a'u hymwneud â dysgu.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae tua 1 filiwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru, ac fel y gŵyr y Gweinidog, cyfrifir bod ychydig o dan 27 y cant o blant yn ordew yng Nghymru, sydd dros 4 y cant yn fwy nag yn Lloegr ac yn yr Alban. O ystyried y £5 miliwn sydd wedi'i ddyrannu a'r 1 filiwn o blant yng Nghymru, mae'r cynllun adnewyddu a diwygio yn golygu yn y pen draw mai dim ond tua £5 y plentyn neu'r person ifanc a werir ar y gweithgareddau hyn. O ganlyniad, bydd y swm hwn o arian yn golygu y gallai darpariaethau'r Haf o Hwyl fod yn annigonol i gynnwys yr holl blant a fyddai'n elwa'n aruthrol o'r rhaglen hon. Fel cenedl, credaf y dylem roi mwy o arian tuag at fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant, felly, a all y Gweinidog ymrwymo i ddarparu mwy o arian i raglen Haf o Hwyl?

Wel, diolch i Joel James am y cwestiwn hwnnw. Dim ond un o'r ymyriadau a wneir gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun adnewyddu a diwygio i gyflawni'r amcan hwnnw yw Haf o Hwyl, a daw ochr yn ochr â'r cyllid ychwanegol sy'n cefnogi'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol rydym newydd fod yn sôn amdani, rhaglen sydd wedi'i hehangu'n sylweddol. Ac mae honno'n darparu, fel roeddwn yn dweud, tua 8,000 o leoedd ledled Cymru ar gyfer yr haf hwn drwy'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol yn unig. Ond mae'n un o ystod o ymyriadau. Ar y pwynt y mae'n ei wneud am ordewdra ymhlith plant, mae rhan o'n rhwydwaith o ysgolion iach yn edrych ar hyn o bryd ar ymestyn ei ddarpariaeth i gynnig addysg gweithgarwch corfforol, gan weithio gyda Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol ychwanegol ar gyfer y diwrnod ysgol, sydd, yn fy marn i, yn ymwneud â'r union bwynt y mae'n ei godi yn ei gwestiwn—cefnogi iechyd ein dysgwyr—ochr yn ochr â datblygiadau fel y cynnig gweithgarwch corfforol dyddiol, sy'n rhan o'r strategaeth honno ac sydd hefyd yn cefnogi dysgu gwell ymhlith ein dysgwyr am eu hiechyd eu hunain. Ac mae hynny'n ymwneud â'r un mathau yn union o amcanion y mae'n gofyn yn eu cylch.

14:50
Amser Ysgol a gaiff ei Golli

4. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19? OQ56772

Mae amrywiaeth o fesurau ar waith i gefnogi dysgu a lleihau'r amser a gaiff ei golli. Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn mewn buddsoddiadau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ac addysgwyr. Ac ysgrifennais hefyd at yr ysgolion ddydd Gwener diwethaf yn amlinellu mesurau i geisio lleihau nifer y disgyblion sy'n hunanynysu.

Diolch am hynny, Weinidog. Fel y clywsom yn gynharach, rwy'n credu bod pryder cyffredinol ynghylch faint o amser ysgol a gaiff ei golli oherwydd y pandemig. Yn amlwg, mae hynny i'w deimlo'n eang ledled Cymru—rhieni, athrawon a thimau ysgol gyfan, yn ogystal ag Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru, rwy'n credu. Mae'n frawychus iawn fod yr holl amser hwnnw wedi'i golli, a chredaf inni weld perfformiad anghyson yn yr ysgolion mewn perthynas â dysgu gartref, ac yn wir, collwyd mwy o amser ysgol mewn rhai ysgolion nag eraill. Mae rhan o hynny, yn amlwg, o ganlyniad i batrwm y pandemig, ond efallai fod ffactorau eraill hefyd.

Weinidog, o ystyried y profiad hwnnw, o ystyried y gallem weld tonnau pellach yn yr hydref a thu hwnt, tybed pa wersi sydd wedi'u dysgu fel y bydd cysondeb ac ansawdd dysgu gartref yn llawer gwell ledled Cymru os bydd yn rhaid inni ddychwelyd at hynny i ryw raddau. Ac wrth edrych yn fwy hirdymor—a gwn fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar wyliau'r haf ar ei hyd—beth yw barn ddiweddaraf y Llywodraeth am y gwyliau haf hir hynny, yn enwedig o gofio y bydd nifer go fawr o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael tua 7.5 wythnos o wyliau haf, os ychwanegir hyfforddiant athrawon a diwrnodau HMS at wyliau'r haf eu hunain?

Ar y pwynt olaf hwnnw, dyddiadau HMS ac yn y blaen, yn amlwg, rydym yn disgwyl i ysgolion edrych yn ofalus ar pryd y trefnir y rheini a rhoi cymaint o rybudd â phosibl i rieni ynglŷn â hynny. Ar bwynt ehangach yr Aelod mewn perthynas â phrofiad y flwyddyn ddiwethaf, yn amlwg, mae ysgolion wedi addasu'n gyflym i allu rhoi cymorth i ddysgwyr gartref, ac i roi cymorth i'w rhieni a'u gofalwyr i wneud hynny hefyd. A dros y flwyddyn ddiwethaf, credaf fod ansawdd yr adnoddau a'r cysondeb wedi gwella'n sylweddol iawn, fel y byddech yn disgwyl. Rwy'n credu bod gwersi y gellir eu dysgu'n gyffredinol ar gyfer addysgeg yn y dyfodol mewn perthynas â dysgu cyfunol, ac rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod y datblygiadau arloesol hynny'n cael eu cadw lle maent wedi gallu creu hyblygrwydd ychwanegol ac asedau ychwanegol i ysgolion.

Rwy'n awyddus i fod yn glir, serch hynny, mai'r bwriad yn y trefniadau y soniais wrth benaethiaid amdanynt yr wythnos diwethaf yw cydnabod, yn y bôn, fod swigod wedi chwarae rhan bwysig yn lleihau cysylltiadau rhwng dysgwyr, ond wrth inni symud drwy'r pandemig, rydym wedi dysgu y gallant fod yn arf di-fin i bob pwrpas. Ac felly, dyna sydd y tu ôl i'r argymhelliad na fydd grwpiau cyswllt yn rhan o fywyd yr ysgol mwyach, a diben hynny yw lleihau nifer y dysgwyr sy'n hunanynysu'n ddiangen, os caf ei roi felly, drwy ofyn i'n cydweithwyr yn y system brofi, olrhain a diogelu ddarparu cyngor penodol i ysgolion mewn perthynas â'r materion hynny.

Prynhawn da, Weinidog. Un o effeithiau mwyaf dinistriol y pandemig—ar wahân i'r bywydau a gollwyd mor drasig wrth gwrs—yw'r niwed a wnaed i ddatblygiad addysgol ac emosiynol ein plant ysgol. Yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, rydym wedi gweld ysgolion cyfan yn cau o ganlyniad i ambell achos o COVID-19, yn aml ar adegau o ganlyniad i drosglwyddiad asymptomatig a nodwyd drwy brofi grwpiau blwyddyn gyfan a anfonwyd adref i hunanynysu. Mae hyn nid yn unig yn tarfu ar addysg y plentyn, mae hefyd yn ddiangen. Rwy'n falch eich bod wedi newid y canllawiau o'r diwedd, ond Weinidog, sut y byddwch yn sicrhau bod plant yn Nyffryn Clwyd yn dal i fyny gyda'r holl addysg y maent wedi'i cholli o ganlyniad i bolisïau blaenorol Llywodraeth Cymru? Diolch yn fawr iawn.

14:55

Wel, rwy'n credu bod cwestiwn yr Aelod yn anhygoel o annheg yn y ffordd y mae'n ei orffen. Rydym wedi bod yn wynebu'r amgylchiadau mwyaf eithriadol yn ein system ysgolion, fel ym mhob rhan arall o Gymru a ledled y DU—yn rhyngwladol yn wir—ac rwyf am dalu teyrnged i'r gweithlu addysgu ac addysgol am y gwaith y maent wedi'i wneud i leihau'r aflonyddwch hwnnw, yn wyneb anawsterau mawr, a chredaf eu bod wedi datblygu ffyrdd anhygoel o arloesol a hyblyg o gefnogi ein dysgwyr mewn amgylchiadau anodd iawn.

Mae'n sôn am 'ddal i fyny' yn ei gwestiwn. Nid dyna'r iaith a ddefnyddiwn yn y ffordd y disgrifiwn y dasg sydd o'n blaenau. Nid ydym am gael model diffyg lle dywedir wrth blant eu bod ar ei hôl hi. Rydym am annog ein myfyrwyr i ailymgysylltu â'r sgiliau sy'n eu galluogi i fod yn ddysgwyr effeithiol—yn ymwneud â chymhelliant, hyder, ac ymdeimlad o allu dysgu ac ymgysylltu â'i gilydd. Dyna'r egwyddorion rydym am eu cael i arwain ein hadferiad yng Nghymru, a dyna'r egwyddorion sy'n sail i'r cynllun adnewyddu a diwygio a'r cyllid a gyhoeddais.

Gan fynd ar ôl yr union bwynt hwnnw, Weinidog, rwy'n poeni ein bod i gyd yn defnyddio'r term 'coll' pan fyddwn yn sôn am ddysgu neu brofiadau i bobl ifanc oherwydd y pandemig. Os bydd pobl ifanc yn parhau i glywed y gair 'coll' mewn perthynas â'u hunain, mae perygl y byddant yn meddwl eu bod wedi torri neu fod rhywbeth wedi mynd na ellir ei adfer, ac rwy'n credu bod y genhedlaeth hon o bobl ifanc yn wydn. Maent wedi mynd drwy lawer, ond ein gwaith ni a gwaith cymdeithas yw sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn awr ac y gallant adfer ymdeimlad o lawenydd mewn dysgu ac mewn bywyd—felly, sicrhau bod asesiadau'n cael eu cynnal mewn ffordd sy'n cymell plant i dyfu, nid i boeni am ddisgwyliadau is na faint sydd i'w wneud i ddal i fyny. Felly, gan adeiladu ar yr hyn rydych newydd ei ddweud, Weinidog, pa waith sy'n digwydd yn y Llywodraeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymadfer wedi'r flwyddyn ddiwethaf ac na fydd neb, mewn gwersi neu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, yn teimlo pwysau'r label 'coll' ar eu cefnau?

Dyna'r union egwyddor sy'n sail i'r cynllun adnewyddu a diwygio a gyhoeddwyd gennym ychydig wythnosau'n ôl, ac rwy'n ategu'n llwyr yr hyn a ddywed Delyth Jewell. Nid ydym am i ddysgwyr deimlo mai fel colled y diffiniwn y flwyddyn ddiwethaf. Rydym am gydnabod yr heriau y mae dysgwyr wedi'u hwynebu, yn ogystal â gweithio gyda hwy a'u cefnogi yn y ffordd y maent yn symud ymlaen. Dyna'r egwyddor sy'n sail i'r ffordd rydym am wneud hynny, a chredaf mai dyna sy'n digwydd ar lefel ysgolion. Un o'r pethau hyblyg, os hoffech, yn y rhaglen honno, yw ei bod yn caniatáu i arweinwyr ysgolion wneud y penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwnnw. Gwyddom fod angen cymorth arbennig ar garfannau penodol yn y blynyddoedd i ddod—dysgwyr blynyddoedd cynnar, dysgwyr ôl-16, dysgwyr difreintiedig—ac mae angen gwahanol fathau o gymorth ar bob un ohonynt, ac mae'r cynllun adnewyddu a diwygio yn galluogi ysgolion i wneud y penderfyniadau hynny, gan adlewyrchu anghenion eu carfannau penodol.

Cyrsiau Amaethyddol ac Amgylcheddol

5. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymell colegau i gadw cyrsiau amaethyddol ac amgylcheddol? OQ56767

Mae amrywiaeth o gyrsiau amaethyddol ac amgylcheddol ar gael ar draws rhwydwaith o golegau yng Nghymru. Mae angen dull cydweithredol ar draws y sector cyfan i sicrhau bod darpariaeth ar draws yr holl gyrsiau amaethyddol a chyrsiau cysylltiedig yn cefnogi'r gofynion newidiol ac economïau lleol, a bod y rhain yn mynd i'r afael â heriau arallgyfeirio'r sector.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Gofynnais y cwestiwn am fy mod yn credu, wrth inni symud ymlaen yng Nghymru gyda'n hadferiad o'r pandemig a'n hymrwymiad i ddod yn garbon sero-net erbyn 2050, fod angen i ni, yn awr yn fwy nag erioed, sicrhau bod gennym y bobl fedrus sydd eu hangen i fwydo ein cenedl, rheoli ein coedwigoedd, bioamrywiaeth a'n hamgylchedd ehangach, ac mae angen i bob un o'n colegau amaethyddol gynnig y cyrsiau sydd eu hangen a chael eu hannog a'u cymell i wneud hynny lle bo angen. Ddoe, clywsom gan y dirprwy Weinidog hinsawdd am y cynlluniau i blannu mwy o goed, felly mae'n bwysig fod gennym bobl sy'n gallu gwneud hynny. Yn fy etholaeth i, gyda thristwch mawr y mae Coleg Gwent ar ei gampws ym Mrynbuga wedi penderfynu lleihau'r ddarpariaeth o gyrsiau amaethyddol ac amgylcheddol, gan gynnwys coedwigaeth. Mae pobl ifanc yn fy etholaeth eisoes yn mynd i golegau swydd Henffordd i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ni all hynny fod yn iawn. Weinidog, a allwch chi wneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y cyrsiau hanfodol hyn yn cael eu darparu ledled Cymru, a gweithio gyda darparwyr addysg bellach, megis Coleg Gwent, i gadw, ac yn bwysig, i farchnata eu cynnig? Diolch.

15:00

Wel, credaf fod yr Aelod yn tynnu sylw at fater pwysig iawn yma gan fod yr her y mae'n ei disgrifio'n bodoli yng nghyd-destun newid cyflym mewn sawl ffordd, boed hynny'n newid technolegol neu newid gwyddonol, boed yn effaith ar yr economi wledig yn sgil prinder gweithlu, efallai, cwestiynau cyllido o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd heb i arian gael ei ddarparu yn lle'r cyllid hwnnw fel yr addawyd, neu heriau masnach ryngwladol efallai. Mae'n dirwedd sy'n newid yn sylweddol, a chredaf ei bod yn bwysig fod darpariaeth ôl-16 yn cydnabod ac yn adlewyrchu hynny.

Rwy'n ymwybodol fod pob coleg yn cwblhau neu wedi ymgysylltu ag Ymchwil Arad i sefydlu grwpiau ffocws i staff cyn toriad yr haf er mwyn cyfrannu at ddadansoddiad sector cyfan o'r ddarpariaeth yn y maes hwn, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod y set honno o drafodaethau'n adlewyrchu'r newid technolegol hwnnw yn ogystal â newidiadau eraill a'r angen i arallgyfeirio. Edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad a fydd yn deillio o'r broses honno yn nes ymlaen eleni.

Cyrhaeddiad Addysgol

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru? OQ56758

Fel y nodwyd gennym yn y rhaglen lywodraethu newydd, rydym wedi ymrwymo i ddileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas, sy'n cynnwys gweithredu polisïau mewn addysg a fydd yn rhoi'r cyfleoedd bywyd gorau i bawb. Rydym yn cydnabod bod angen camau gweithredu radical, meddwl yn arloesol a chydgysylltu a chydweithredu cryf er mwyn cyflawni hyn.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Mae cyrhaeddiad addysgol yn allweddol i ddatblygu economaidd. Mae gan rannau llwyddiannus o'r byd economïau sydd wedi'u hadeiladu ar unigolion â chymwysterau da, nid ar hybu cwmnïau i agor ffatrïoedd cangen am gyfnod byr. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i barhau i wella cyrhaeddiad addysgol yn ein hysgolion a'n prifysgolion er mwyn gwella ein heconomi?

Wel, nod y rhaglen lywodraethu ddiwygiedig gyfan yw cyflawni'r canlyniadau hynny. Felly, mewn lleoliad ysgol, mae'r diwygiadau rydym yn eu cyflwyno i'r cwricwlwm wedi'u llunio i alluogi ein pobl ifanc i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae'r byd o'u cwmpas yn eu cyflwyno, yn economaidd ac yn ehangach na hynny. Gŵyr yr Aelod y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn gyntaf i ddiwygio addysg ôl-orfodol i sicrhau bod gennym sector addysg bellach ac addysg uwch sy'n gwneud popeth yn ei allu i greu'r llwybr dysgu hwnnw sy'n gydweithredol ac yn hyblyg, sy'n adlewyrchu anghenion ein cymdeithas ac economi gynaliadwy, sy'n dibynnu ar arloesi ac sy'n llwybr a chanddo ffocws rhyngwladol. Dyna'r math o weledigaeth sydd gennym ar gyfer ein system addysg yng Nghymru, a dyna sy'n sail i'n rhaglen ddiwygio gyfan.

Chwaraeon ac Addysg Gorfforol

7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r pwyslais ar chwaraeon ac addysg gorfforol yn y cwricwlwm? OQ56790

Mae'r cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnwys iechyd a lles fel un o'r chwe maes dysgu a phrofiad. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn galluogi dysgu llwyddiannus, ac mae datblygu iechyd corfforol wedi'i nodi yng nghod statudol 'yr hyn sy'n bwysig'.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn y datganiad busnes ddoe, crybwyllais y ffaith ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cael cymorth iechyd meddwl ledled Cymru. Fel y gwyddoch chi a minnau, mae chwaraeon yn chwarae rhan allweddol iawn yn helpu iechyd corfforol a meddyliol pobl ifanc. Mae'n sefydlu disgyblaeth, yn dysgu gwaith tîm ac yn cynorthwyo pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried sicrhau bod mwy o arian ar gael yn y dyfodol ar gyfer chwaraeon mewn ysgolion a blaenoriaethu ymdrechion i ganolbwyntio ar ganiatáu i chwaraeon chwarae rhan fwy yn y cwricwlwm, a gweithio gyda sefydliadau allanol fel y gallant ddarparu mwy o chwaraeon mewn ysgolion?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae addysg gorfforol, wrth gwrs, yn un o'n pynciau sylfaen yn y cwricwlwm cyfredol, ond yn amlwg, rwy'n derbyn bod y pandemig wedi effeithio ar fynediad dysgwyr at agweddau ohono am gyfnodau amrywiol. Fel yr awgryma ei gwestiwn, bydd y cwricwlwm newydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd o lawer, mewn gwirionedd, yn y maes dysgu a phrofiad y soniais amdano yn fy ateb cyntaf. Diben hynny yw helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar eu hiechyd corfforol a'u lles, ac mae hynny'n cynnwys lles meddyliol hefyd.

Mae'r diwygiadau'n rhoi ychydig mwy o hyblygrwydd i ni edrych ar sut rydym yn darparu cyfleoedd chwaraeon mewn lleoliad ysgol, gan gynnwys diwrnod ysgol hirach ac agor cyfleusterau ysgol i'r gymuned eu defnyddio at y diben hwnnw. Soniais wrth ateb cwestiwn cynharach am y gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas â chynlluniau peilot addysg gweithgarwch corfforol, a allai fod o ddiddordeb i'r Aelod, sy'n cynnwys gweithio gyda Chwaraeon Cymru yn ogystal â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu ystod o chwaraeon a gweithgarwch diwylliannol i ategu'r diwrnod ysgol yn y ffordd y credaf y byddai'n dymuno ei gweld.

Consortia Addysg Rhanbarthol

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl consortia addysg rhanbarthol? OQ56783

15:05

Mae'r consortia rhanbarthol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi ysgolion i wella a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, gan gynnwys drwy ddysgu proffesiynol ac ymgysylltu uniongyrchol. Rwy'n cyfarfod â'r consortia yr wythnos hon i drafod y ffordd orau iddynt barhau i gefnogi ysgolion wrth inni adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn anffodus, fel y gwyddoch, mae Ein Rhanbarth ar Waith, neu gonsortiwm addysg rhanbarthol ERW, mewn tipyn o lanast. Mae uwch gynghorwyr rhai o'r awdurdodau sy'n aelodau wedi gwneud sylwadau beirniadol iawn yn y wasg am y sefydliad, gyda Chynghorydd Llafur Abertawe, Jennifer Rayner, yn dweud bod gweithio gydag Ein Rhanbarth ar Waith dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd dros ben, a Chynghorydd Llafur Castell-nedd Port Talbot Rob Jones—yn eich etholaeth eich hun, Weinidog—yn mynd mor bell â dweud,

'Credaf fod mwy a mwy o bobl yn sylweddoli nad yw'r consortia addysg, fel y maent, yn addas at y diben ar gyfer cyflawni gwelliannau addysg ar hyn o bryd.'

I waethygu'r sefyllfa ymhellach, gwyddom bellach fod Castell-nedd Port Talbot wedi tynnu'n ôl o'r consortiwm, ac mae cynghorau sir Gaerfyrddin, sir Benfro ac Abertawe oll wedi cyhoeddi hysbysiadau tynnu'n ôl i nodi eu bwriad i dynnu'n ôl o'r consortiwm hwn hefyd, sy'n golygu bod pedwar o'r chwe chyngor dan sylw naill ai wedi tynnu'n ôl neu'n dweud y byddant yn gwneud hynny.

Felly, a all y Gweinidog roi gwybod i'r Senedd sut y dirywiodd y berthynas rhwng ERW a'r cynghorau sy'n aelodau ohono i'r fath raddau? A yw'r Gweinidog yn cytuno â'i gydweithiwr yng Nghastell-nedd Port Talbot nad yw'r consortia'n addas at y diben ar hyn o bryd? A all roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag unrhyw gynlluniau yn y dyfodol ar gyfer consortia rhanbarthol yn yr ardaloedd hyn?

Wel, o ystyried maint yr heriau sy'n wynebu pawb yn y system addysg wrth inni adnewyddu a diwygio ar ôl y pandemig, credaf fod yn rhaid i waith rhanbarthol, cydweithredol a chydgysylltiedig fod yn nodwedd allweddol o'r ffordd rydym yn cefnogi ysgolion ledled Cymru. Credaf fod y math hwnnw o waith yn fwyaf effeithiol pan fydd yn wirfoddol ac yn cael ei ysgogi gan awdurdodau lleol a chanddynt weledigaeth gyffredin a chlir ynghylch ei fanteision; nid dyma'r unig ffordd o'i wneud, ond credaf mai dyma'r ffordd orau o'i wneud. Felly, rwyf am annog hynny, lle bynnag y bo modd, ac annog yr awdurdodau lleol yn rhanbarth ERW, wrth gwrs, i barhau i weithio gyda'i gilydd yn yr ysbryd hwnnw.

Rwy'n amlwg yn ymwybodol o drafodaethau parhaus a newidiadau i weithio'n rhanbarthol yn rhanbarth ERW. Credaf fod egwyddor cydweithredu'n bwysig iawn, a hoffwn weld hynny'n parhau. Bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â phob un o'r chwe awdurdod lleol yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru er mwyn deall eu cynlluniau, ac i sicrhau y byddant yn parhau i allu cyflawni ein disgwyliadau, fel Llywodraeth, drwy eu cymorth i ddiwygio addysg.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynllun Rheoli’r Coronafeirws

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar gynllun rheoli'r coronafeirws. Brif Weinidog.

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y datganiad yma, dwi am ddelio â phedwar cwestiwn pwysig sy'n deillio o argyfwng y coronafeirws, ac maen nhw'n gysylltiedig â'i gilydd. Yn y lle cyntaf, dwi am amlinellu asesiad y Llywodraeth o'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd. Fe fyddaf i wedyn yn amlinellu'r newidiadau i reoliadau iechyd y cyhoedd yng Nghymru y mae'r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno o ddydd Sadwrn nesaf, 17 Gorffennaf. Mae trydedd elfen y datganiad yn delio â newidiadau a fydd yn digwydd y tu hwnt i ddydd Sadwrn nesaf. Byddaf yn rhoi manylion lefel rybudd 0 a chaiff ei chyflwyno, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu newidiadau o'r fath, erbyn dydd Sadwrn 7 Awst. Yn olaf, dwi am gadarnhau cynlluniau'r Llywodraeth i addasu'r gofynion o ran hunanynysu yng Nghymru i deithwyr rhyngwladol ac mewn cyd-destunau domestig.

Lywydd, gwnaf y datganiad diweddaraf hwn ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru ar adeg o gryn ansicrwydd a chymhlethdod. Mae achosion o'r coronafeirws yn cynyddu ledled Cymru gyfan. Mewn ychydig wythnosau, mae tri chlwstwr bach o achosion o'r amrywiolyn delta newydd wedi lledaenu'n gyflym. Ddoe yn unig, cafodd dros 1,000 o achosion newydd o'r coronafeirws eu cofnodi yng Nghymru. Mae'r amrywiolyn newydd hwn ym mhob rhan o'n gwlad ac yn lledaenu'n gyflym. Hon yw'r ffurf amlycaf ar y feirws yng Nghymru, yn union fel y mae wedi dod yn ffurf amlycaf yn y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd eraill yn Ewrop. Nid oes amheuaeth ein bod yn gweld y drydedd don a ragwelwyd o'r pandemig hwn, gyda'r gyfradd yng Nghymru yn codi dros nos i 145 o achosion ym mhob 100,000 o bobl.

Mewn eiliad, byddaf yn nodi rhesymau dros fod yn fwy gobeithiol wrth ymdrin â'r drydedd don hon na'r rhai blaenorol, ond rwyf am i'r Aelodau fod yn gwbl sicr fod graddau'r lledaeniad yn y gymuned yn creu cyfres o beryglon gwirioneddol na ddylai unrhyw Lywodraeth na Senedd gyfrifol eu hanwybyddu. Dywed ein grŵp cyngor technegol bellach y bydd nifer yr achosion o'r haint yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn am weddill yr haf fan lleiaf. Bydd y lefel honno o ledaeniad y feirws yn cynyddu'r risg y bydd amrywiolion newydd yn dod i'r amlwg; yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn dychwelyd i ysbytai, cartrefi gofal a lleoliadau caeedig eraill; yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn symud o bobl iau i bobl hŷn, gan ailadrodd patrwm tonnau 1 a 2; yn cynyddu nifer y bobl sy'n dioddef o COVID hir; yn cynyddu lefelau absenoldeb yn y gweithlu, gan gynnwys yn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ac yn rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu a'r gwasanaeth dilyniannu genomig, gan ei gwneud yn anos nodi amrywiolion newydd.

Felly, Lywydd, beth yw'r ffactorau sy'n gwrthbwyso? Wel, yn anad dim, mae brechu, ac yn enwedig ein cyfraddau brechu uchel yng Nghymru, yn newid ein perthynas â'r feirws, ac yn gwneud hynny'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU. Heddiw, mae mwy na 73 y cant o holl oedolion Cymru wedi cael dau ddos ​​o'r brechlyn. Y ffigur yn Lloegr a'r Alban yw 66 y cant, a 65 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw'r cynnydd yn nifer yr achosion wedi trosi'n gyfraddau uwch o salwch difrifol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau yn yr un modd ag y gwelsom yn ystod y don gyntaf neu yn y gaeaf, a hynny oherwydd y brechlyn. Hoffwn gofnodi fy niolch unwaith eto i'r holl bobl sydd wedi gweithio mor galed i gynllunio a chyflawni'r rhaglen hynod lwyddiannus hon.

Yr ail ffordd y mae'r sefyllfa'n fwy addawol yn y drydedd don hon yw'r ffordd rydym wedi byw, ac mae hynny wedi gadael ôl-effaith gadarnhaol. Mae amcangyfrif wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi, o bedair gwlad y DU, mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o imiwnedd caffaeledig, a'i fod bellach yn 92 y cant o'r boblogaeth gyfan. Yn drydydd, mae gennym amddiffyniad y system profi, olrhain a diogelu. Yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 3 Gorffennaf, cysylltwyd â 95 y cant o achosion cyfeirio cymwys o fewn 24 awr, a chafodd 93 y cant o'u cysylltiadau eu holrhain.

Lywydd, yn y cyd-destun hwnnw y mae'r Cabinet wedi cwblhau ein hadolygiad tair wythnos o'r cyfyngiadau coronafeirws. O ystyried yr holl ffactorau hyn—y rhai negyddol a'r rhai cadarnhaol ynghyd—ein hasesiad yw y gallwn symud ymlaen yn awr i set lawn o reoliadau lefel 1. Golyga hyn, o 17 Gorffennaf, o ddydd Sadwrn ymlaen, y bydd hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau; gellir cynnal digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl sy'n eistedd neu 200 o bobl ar eu traed, yn dilyn asesiad risg; a gall canolfannau sglefrio ailagor. A chredwn y gallwn fynd gam ymhellach wrth inni symud i'r lefel rhybudd 0 newydd, ac y byddwn yn gallu cyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd 0 o gyfyngiadau ar gyfer digwyddiadau ac ymgynnull yn yr awyr agored, hefyd o 17 Gorffennaf. Byddwn felly'n cael gwared ar y cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael ymgynnull yn yr awyr agored. Bydd gan safleoedd a digwyddiadau awyr agored fwy o hyblygrwydd gyda mesurau cadw pellter corfforol. Fodd bynnag, bydd hyn yn parhau i fod yn un o'r mesurau lliniaru i'w hystyried wrth gynnal a gweithredu asesiadau risg. Gallwn wneud hyn am ein bod wedi dod i'r casgliad ers tro fod y risg o drosglwyddo'r feirws yn yr awyr agored yn llawer is na'r hyn ydyw dan do, a chan fod angen inni fanteisio ar gyfnod yr haf. Ar yr un pryd, o 17 Gorffennaf, bydd y rheoliadau hefyd yn newid i ganiatáu i hyd at 30 o bobl o sefydliadau fel yr Urdd, y Brownis neu'r Sgowtiaid fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf.

Lywydd, heddiw, rydym hefyd yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o gynllun rheoli'r coronafeirws, sy'n nodi'n fwy cyffredinol sut y gallwn symud o lefel rhybudd 1 fel y mae pethau ar hyn o bryd i lefel rhybudd 0 newydd. Bwriad y Cabinet yw y dylai Cymru symud i lefel rhybudd 0 ar 7 Awst, ar yr amod fod sefyllfa iechyd y cyhoedd ymhen tair wythnos yn dal i ganiatáu inni wneud hynny. Pwysleisiaf heddiw, fel y gwnaf bob amser, bwysigrwydd yr amod hwnnw. Mewn sefyllfa lle mae heriau iechyd y cyhoedd yn parhau i fod mor gyfnewidiol, byddwn yn asesu ac yn ailasesu'r sefyllfa ar 7 Awst, ond gyda'r bwriad y dylai Cymru symud i lefel rhybudd 0, ar yr amod y bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau fel y mae heddiw.

Ar lefel rhybudd 0, rydym wedi canolbwyntio ar gadw'r cyfyngiadau sy'n helpu pobl i fod yn ddiogel, ond sy'n cael yr effaith niweidiol leiaf ar eu hiechyd corfforol ac emosiynol ehangach. Ar lefel 0, felly, ni fydd unrhyw derfynau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod ag eraill, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau, ac ar lefel rhybudd 0, bydd pob busnes a safle ar agor.

Lywydd, bydd bywyd wedi newid yn ôl, i raddau helaeth iawn, i fel roedd pethau cyn y pandemig coronafeirws, ond yma yng Nghymru, ni fyddwn yn cefnu ar yr holl fesurau sydd wedi gwneud cymaint i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Ar lefel rhybudd 0, ac o 7 Awst, felly, dylai pobl barhau i weithio gartref lle bo modd. Pan fydd angen dychwelyd i'r gweithle, byddwn yn parhau i sicrhau y bydd asesiadau risg COVID yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau. Bydd llunio'r asesiadau hyn gyda chyfranogiad y gweithwyr yn ofyniad cyfreithiol, ac mae'n rhaid rhoi'r mesurau lliniaru a nodir yn yr asesiadau risg hynny ar waith. Yng Nghymru hefyd, Lywydd, ar lefel rhybudd 0, bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn lleoliadau iechyd a gofal ac ym mhob man cyhoeddus dan do, ac eithrio lleoliadau addysg a lletygarwch. Nod y Llywodraeth fydd llacio'r gofynion hyn yn raddol wrth i risg y coronafeirws leihau.

Yn olaf, Lywydd, trof at ddau newid pellach i'r gofynion hunanynysu. Gresynaf yn fawr at benderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y gofyniad i deithwyr sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn ac sy'n dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren hunanynysu. Nid yw'r risg o ailfewnforio'r coronafeirws o rannau eraill o'r byd, ac yn enwedig amrywiolion newydd, wedi diflannu. Mae'n anodd iawn deall pam eu bod wedi cael gwared ar amddiffyniad yn erbyn y risg honno, yn enwedig ar adeg pan fo'r feirws yn lledaenu mor gyflym. Ond gan fod y mwyafswm helaeth o deithio rhyngwladol i ac o Gymru yn digwydd drwy Loegr, mae'n anghynaladwy, fel y dywed ein prif swyddog meddygol, inni beidio â gwneud yr un peth. Felly, byddwn yn cael gwared ar y gofyniad i bob oedolyn sydd wedi cael dau frechlyn COVID gan y GIG, ac i bobl dan 18 oed, hunanynysu ar ôl dychwelyd o wledydd y rhestr oren, a byddwn yn cael gwared ar y gofynion hynny o 19 Gorffennaf. Fodd bynnag, yng Nghymru, rydym yn parhau i gynghori yn erbyn teithio dramor oni bai fod hynny'n hanfodol, ac rydym yn parhau i argymell yn gryf y dylai pobl fynd ar wyliau yn y wlad hon yr haf hwn.

Trof yn awr at y sefyllfa mewn perthynas â hunanynysu domestig. Yma, mae'r Cabinet wedi penderfynu, yn ystod y cylch tair wythnos nesaf, sy'n dechrau ar 7 Awst, y byddwn yn cael gwared ar y gofyniad i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunanynysu os ydynt yn gyswllt agos i rywun sydd wedi profi'n bositif. Mae gwaith i'w wneud o hyd cyn y gall y newidiadau hyn ddod i rym, er enghraifft, wrth addasu ein system profi, olrhain a diogelu a rhoi trefniadau ar waith ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal. Bydd hunanynysu'n parhau i chwarae rhan bwysig iawn yn torri'r gadwyn drosglwyddo i unrhyw un sydd â symptomau'r feirws, unrhyw un sy'n profi'n bositif ac unrhyw un nad ydynt wedi cael dau ddos ​​o'r brechlyn.

Lywydd, nid yw'r coronafeirws wedi diflannu. Ni waeth beth fydd yn digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd y mesurau syml sydd wedi helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel drwy gydol y pandemig yn parhau i ddiogelu pob un ohonom: cadw pellter, cyfarfod yn yr awyr agored, bod mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n dda, osgoi mannau gorlawn lle bo modd a gwisgo gorchudd wyneb pan nad oes modd gwneud hynny, a hylendid dwylo da.

O ddilyn y camau syml hyn, fe allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gadw'r coronafeirws dan reolaeth ac atal y drydedd don yma rhag codi'n rhy uchel. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod amrywiolion newydd, na fyddan nhw o bosib yn ymateb i'r brechlynnau, yn fwy tebygol o ddatblygu pan fydd niferoedd yr achosion o goronafeirws yn uchel. Mae hi'n dal i fod yn hollol bwysig ein bod ni'n parhau i gydweithio i gadw'n gilydd yn ddiogel ac i gadw Cymru yn ddiogel hefyd. Diolch yn fawr.

15:20

Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ac yn wir, am y sesiwn friffio a gynigiodd y Gweinidog iechyd i arweinwyr y gwrthbleidiau y bore yma hefyd, sydd, yn amlwg, wedi llywio ein barn mewn perthynas â'r datganiad hwn. Chi yw'r Prif Weinidog, a fi yw arweinydd yr wrthblaid fwyaf, fe siaradodd pobl Cymru, ac a bod yn deg, fe wnaethant gymeradwyo'r dull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddilyn. Rwyf wedi anghytuno â'r dull hwnnw ar sawl achlysur, ond mae democratiaeth yn beth ardderchog; y blaid fwyaf sy'n ffurfio'r Llywodraeth ac yn pennu'r cywair a'r cyfeiriad.

Rydych yn llygad eich lle yn nodi ein bod yn dal i fod ynghanol llawer o gyfnodau heriol y byddwn yn eu hwynebu gydag argyfwng COVID ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas ag amrywiolion newydd. Yn bersonol, byddwn wedi hoffi gweld mwy o gyflymder a mwy o frys i gyflwyno rhai o'r mesurau hyn, ond rwy'n deall y penderfyniadau anodd y mae'r Cabinet wedi gorfod eu gwneud ar sail y dystiolaeth wyddonol o'u blaenau. Dyna fydd yn llywio'r cwestiynau y byddaf yn eu gofyn i chi heddiw, os caf, Brif Weinidog.

Rydych yn nodi tri chyfyngiad yn eich datganiad a fydd yn parhau i fod ar waith ar ôl 7 Awst. Byddaf yn ymdrin ag ef fel pe bai'n gynllun fel ein bod yn cyrraedd lefel 0, gan fy mod yn deall bod rhaid ystyried rhai pethau o hyd. A fydd unrhyw gyfyngiadau eraill ar waith pan fyddwn yn cyrraedd lefel 0, neu ai'r tri chyfyngiad hynny yw'r unig rai y gallwn ddisgwyl y byddant yn parhau i fod ar waith os bydd asesiad y Cabinet yn nodi bod yr amodau ar gyfer eu llacio wedi'u bodloni ar 7 Awst?

O ran masgiau wyneb, pa brofion y byddwch yn eu defnyddio i symud oddi wrth y cyfarwyddyd gorfodol a fydd yn cael ei roi ar waith i gadw'r defnydd o fasgiau wyneb mewn sawl lleoliad yma yng Nghymru? Oherwydd rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn awyddus i symud, pe bai'n ddiogel i wneud hynny, i amgylchedd cyn COVID pan nad oedd gwisgo'r masgiau wyneb a welwn ar hyn o bryd yn normal. Felly, pa brofion y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gallwn fod yn hyderus y byddwn yn symud i'r sefyllfa honno lle na fydd masgiau wyneb yn orfodol?

O ran hunanynysu, gallwn weld effeithiau hunanynysu ar hyn o bryd, yn enwedig yr effeithiau y mae'n eu cael ar fusnesau a gwasanaethau wrth inni gael gwared ar gyfyngiadau. Rydych yn sôn yn y datganiad am ddarpariaeth brofi, olrhain a diogelu a'r gwelliannau sydd eu hangen a'r newidiadau sydd eu hangen yn y ddarpariaeth brofi, olrhain a diogelu. A allwch nodi pa newidiadau sydd eu hangen fel y gallwn symud i amgylchedd lle nad yw hunanynysu'n cael cymaint o effaith ar yr economi ac ar ein gwasanaethau?

Bydd asesiadau risg yn ofyniad cyfreithiol. A fydd y rhain yn amrywio fesul sector, neu a fydd yna ddull unffurf o weithredu? Credaf ei bod yn bwysig deall hynny, oherwydd fel Aelodau, rwy'n siŵr y byddwn yn cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau ynglŷn â sut y cyflawnir yr asesiadau risg hyn. Felly, a fyddant yn amrywio fesul sector, neu a fydd yn ddull unffurf, gyda thempled safonol y bydd yn rhaid i fusnesau a gweithredwyr gydymffurfio ag ef?

Rydym yn gweld cyfraddau heintio'n codi; beth yw'r gwaith modelu, a beth y mae hynny'n ei ddangos ynglŷn â'r effaith ar y GIG yn y dyfodol, wrth iddi ddod yn haf? Rwy'n siŵr fod gan y Prif Weinidog fynediad at y gwaith modelu hwnnw, a chredaf ei bod yn bwysig inni ddeall, gyda'r cyfyngiadau hyn yn cael eu codi, pa effaith rydym yn disgwyl ei gweld ar y GIG, oherwydd yn y pen draw, rhoddwyd y cyfyngiadau hyn ar waith i ddiogelu'r GIG rhag cael ei orlethu.

Yn olaf, Brif Weinidog, os byddwn yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion—a chredaf, yn anochel, y byddwn yn gweld ambell gynnydd sydyn gwaetha'r modd—a fyddwch yn ymdrin â hynny drwy gyfyngiadau lleol neu gyfyngiadau cenedlaethol, ac a fydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn y pen draw yn cynnwys y mesurau llym rydym wedi'u gweld o dan gyfyngiadau symud blaenorol yng Nghymru—y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud a'r ail gyfnod—neu a ydym mewn sefyllfa, gyda llwyddiant y rhaglen frechu a'r imiwneiddio ledled Cymru a'r lefelau imiwnedd a welwn, lle na fyddwn yn edrych tuag yn ôl ac yn meddwl y byddwn yn gweld y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud a'r ail gyfnod yn cael eu hailadrodd yn yr hydref? Diolch, Brif Weinidog.

15:25

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau adeiladol iawn hynny. Gwnaf fy ngorau i ateb pob un ohonynt yn fyr. Ar yr amod fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau fel y mae, y cyfyngiadau rwyf wedi'u hamlinellu'r prynhawn yma, fel y'u nodwyd yng nghynllun rheoli'r coronafeirws, yw'r cyfyngiadau a ragwelwn. Nid wyf yn rhagweld mwy na hynny, ond mae hynny'n ddibynnol ar fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i fod mor galonogol â'r hyn ydyw heddiw.

O ran gorchuddion wyneb, byddwn yn defnyddio'r un set o brofion â'r rhai rydym wedi'u nodi mewn fersiynau blaenorol o gynllun rheoli'r coronafeirws, a golyga hynny nad ydym yn dibynnu ar un mesur, rydym yn dibynnu ar set gyflawn o fesurau sy'n cynnwys nifer yr achosion yn y gymuned, cyfraddau positifrwydd, i ba raddau y mae salwch yn troi'n effaith ar yr ysbytai ac ati. Felly, bydd yn set gyflawn o fesurau, sydd gyda'i gilydd yn dweud wrthym a yw'r feirws wedi'i atal yn ddigonol i ganiatáu inni symud y tu hwnt i orchuddion wyneb gorfodol. Er y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn orfodol mewn lleoliadau dan do, dywedais yn fy natganiad ein bod yn cael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn lletygarwch, yn cael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn lleoliadau addysg, a hoffem gael gwared ar yr orfodaeth i'w gwisgo mewn rhagor o leoliadau dan do, fel y bydd sefyllfa'r coronafeirws yn caniatáu.

Mewn perthynas â hunanynysu, Lywydd, nid wyf yn credu imi ddweud bod angen i'r system brofi, olrhain a diogelu wella. Dywedais fod angen iddi ddiwygio'i hun. Bydd yn newid o system lle mae'r alwad a gewch gan weithiwr profi, olrhain a diogelu yn un sy'n dweud wrthych eich bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif ac felly fod gofyn i chi hunanynysu i'r hyn a elwir yn system 'rhybuddio a hysbysu'. Felly, bydd angen i'r sgript ar gyfer holl weithwyr ein system brofi, olrhain a diogelu newid. Byddant yn dal i ddarparu'r cyngor gorau posibl i bobl sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif. Byddant yn archwilio amgylchiadau'r unigolyn gyda hwy, oherwydd efallai y bydd pobl sydd wedi cael dau frechlyn ond sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sylweddol yn awyddus i barhau i roi rhai camau ar waith i ddiogelu eu hunain os ydynt wedi dod i gysylltiad â rhywun sy'n bendant yn dioddef o'r feirws.

Bydd newid i system 'rhybuddio a hysbysu' yn cymryd ychydig wythnosau. Mae'n rhaid newid sgriptiau, mae'n rhaid ailhyfforddi pobl i'w wneud, ac rydym am fod mewn sefyllfa lle mae gan y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu fynediad at gofnodion brechu unigolion. Ni all fod yn system hunanardystio'n unig. Ni allwn gael system brofi, olrhain a diogelu sy'n gofyn i chi, 'A ydych wedi cael eich brechu ddwywaith?' a'r cyfan sy'n digwydd yw eich bod yn dweud 'ydw', ac yna mae'n gofyn, 'Ac a oedd hynny fwy na phythefnos yn ôl?' ac rydych yn dweud 'oedd' eto a dyna'r unig wiriad yn y system. Er mwyn ennyn hyder y cyhoedd yn y system, mae'n rhaid bod mwy iddi na hynny, ac mae'n rhaid cynllunio hynny o fewn y system hefyd. Bydd hynny'n cymryd ychydig wythnosau.

Mae asesiadau risg yn orfodol nawr, Lywydd. Maent yn orfodol o dan ein rheoliadau coronafeirws, ac maent yn orfodol o dan reoliadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd, a byddwn yn parhau i'w cynnal yn y ffordd rydym wedi'i wneud hyd yn hyn, nad yw'n asesiad syml, unffurf, sydd yr un fath ym mhobman. Yn anochel, mae'r ffactorau sy'n effeithio ar ddiogelwch gweithwyr a defnyddwyr unrhyw weithle yn amrywio yn ôl natur y gweithle ei hun.

Gofynnodd arweinydd yr wrthblaid i mi beth y mae'r model yn ei ddangos. A'r hyn y mae'r model yn ei ddangos, Lywydd, yw bod yr effaith ar y gwasanaeth iechyd yn hynod sensitif i newidiadau mewn o leiaf ddau o'r ffactorau sy'n weithredol—mae'n hynod sensitif i'r graddau fod y brechlyn yn amddiffyn rhag y feirws. A newid o 2 neu 3 y cant yn unig yn effeithiolrwydd y feirws yw'r gwahaniaeth rhwng bod nifer fawr o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu beidio.

A'r ail newidyn yw'r graddau y mae pobl yn parhau i ddilyn yr holl gamau bach ond synhwyrol y gofynnwn i bobl eu cymryd yn eu bywydau eu hunain. Os bydd pobl yn parhau i wneud eu gorau i edrych ar ôl eu hunain ac eraill, fel y mae pobl wedi'i wneud yng Nghymru, bydd hynny'n lleihau nifer y bobl sydd angen mynd i'r ysbyty. Os yw pobl yn ymddwyn fel pe bai'r coronafeirws wedi diflannu, ac fel pe na bai unrhyw risg iddynt hwy eu hunain nac i eraill, bydd hynny'n arwain at fwy o niferoedd yn y sector ysbytai. Ar ben gwell y sbectrwm hwnnw felly, gellir rheoli'r effaith ar y GIG, er bod y GIG mor brysur gyda phopeth arall y mae'n ceisio ei wneud. Os byddwn yn cyrraedd pen arall y sbectrwm, byddwn yn ôl yn y sefyllfa roeddem ynddi yn y gaeaf, gyda nifer fawr iawn o bobl angen gofal mewn ysbyty, a'r holl effaith y byddai hynny'n ei chael ar allu'r GIG i barhau i wneud yr holl bethau eraill hynny.

Ar fater cynnydd sydyn mewn achosion—rydym wedi dibynnu ar fesurau cenedlaethol ers dechrau'r flwyddyn, a chredaf fod hynny wedi bod o fudd i ni o ran symlrwydd cyfathrebu, a gallu pobl i wneud yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Ac ar hyn o bryd, credaf mai dyna fydd y brif ffordd y byddwn yn mynd i'r afael â phethau. Rydym wedi cael mesurau lleol. Rydym wedi cael mesurau lleol yn Rhondda Cynon Taf ac ym Merthyr Tudful; rydym wedi cael mesurau lleol mewn rhannau o ogledd Cymru. Ond maent yn ategol i'r dull cenedlaethol o weithredu, yn hytrach na'u bod ar waith yn ei le.

A'r cwestiwn olaf y gofynnodd Andrew R.T. Davies i mi oedd a fydd y brechlyn yn newid y camau y byddai angen i ni eu cymryd. Wel, ar yr amod fod y brechlyn yn parhau i fod mor effeithiol ag y mae ar hyn o bryd, yn erbyn amrywiolyn Caint ac amrywiolyn delta, yna'r ateb, yn bendant, fyddai, 'Bydd, bydd gennym amddiffyniad llawer cryfach.' Pe byddem yn y sefyllfa anffodus iawn lle byddai amrywiolyn arall yn dod i'r amlwg, a lle na fyddai'r brechlyn yn darparu amddiffyniad effeithiol yn ei erbyn, wel, yn anochel, byddai'n rhaid inni drefnu mesurau eraill am na fyddai'r brechlyn yn darparu'r amddiffyniad y mae'n ei ddarparu ar hyn o bryd. Ond mae'n rhaid inni obeithio y bydd y brechlyn yn parhau i fod yn effeithiol, a bydd yr ymgyrch atgyfnerthu sydd wedi'i chynllunio gennym ar gyfer yr hydref yn sicr o fod o gymorth yn y cyswllt hwnnw.

15:30

Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Roeddwn i'n mynd i ddechrau drwy ddiolch am wneud y datganiad yma yn y Senedd—mi ddylai holl ddatganiadau'r flwyddyn ddiwethaf fod wedi cael eu gwneud yn y Senedd—ond dwi yn darllen fod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rydyn ni'n agosach at fod wedi cael y datganiad yma yn y Senedd, lle y dylai o gael ei wneud.

Diolch i chi am rannu eich asesiad o'r sefyllfa iechyd cyhoeddus ac am amlinellu'r camau a fydd yn digwydd yn syth o ran llacio cyfyngiadau a beth ddaw nesaf. Y cyd-destun wrth gwrs—gallwn ni ddim anwybyddu'r cyd-destun yma yng Nghymru—ydy'r camau rhyfeddol sy'n cael eu cymryd gan Boris Johnson ar gyfer Lloegr, a'r pwysau ar Gymru, y pwysau sydd arnoch chi, i osod amserlen debyg. A dwi'n falch, unwaith eto, ein bod ni yma yng Nghymru yn gwrthod cael ein gorfodi i ddilyn yr agenda honno dros y ffin. Roeddwn i'n darllen sylwadau Ravi Gupta o Brifysgol Caergrawnt: 'The world is looking at England with disbelief', meddai, wrth i'r ffigurau godi a'r cyfyngiadau gael eu dileu o'r wythnos nesaf.

Dwi yn falch, wedi dweud hynny, ein bod ni yn symud tuag at godi rhagor o gyfyngiadau—mae o'r peth iawn i'w wneud; dyna rydyn ni gyd ei eisiau, wedi'r cyfan. Mae'n beth da i barhau i symud tuag at normalrwydd. Ond dwi'n cytuno efo'r dewis y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ran pwyllo am ychydig wythnosau efo ambell beth sylfaenol, wrth i nifer yr achosion gynyddu. Ac yn benodol, dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi cytuno efo ni ym Mhlaid Cymru, ac efo'r undebau llafur, ac ati, y dylid parhau i'w gwneud hi yn ofynnol i bobl wisgo gorchuddion wyneb am y tro. Mae'n bwysig cyfyngu ar nifer y bobl sydd yn gallu cael eu heintio oherwydd y rhesymau gwnaethoch chi amlinellu o ran twf long COVID a'r posibilrwydd y gall amrywiolion eraill ddatblygu ac ati. 

Rwy'n falch, os caf wneud sylw ar yr hyn a glywsom gan arweinydd y Blaid Geidwadol—. Rwy'n falch nad oeddech eisiau cael gwared ar unwaith ar y rheol i wisgo masgiau, gan fod rhai aelodau o'r Blaid Geidwadol wedi bod yn galw am hynny ac yn gofyn i ni roi'r dewis ar hynny i'r cyhoedd, a fyddai'n iawn pe bai masgiau ond yn ein diogelu ni ein hunain. Ond eu prif bwrpas, wrth gwrs, yw diogelu'r rhai o'n cwmpas. Felly, mae dweud y dylem gael ein harwain gan ein dewisiadau unigol ein hunain yn ffordd eithaf hunanol o wneud pethau mewn pandemig sy'n effeithio ar bob un ohonom. 

Ambell gwestiwn sylfaenol. Os byddwch yn gwneud y penderfyniad anghywir ar 7 Awst, mae'n ddigon posibl y bydd pobl yn edrych arnom mewn anghrediniaeth. Felly, a allech chi ddweud wrthym sut y byddwch yn penderfynu, yn eich geiriau chi, fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ymhen tair wythnos, yn caniatáu inni symud ymlaen at y cam nesaf hwnnw? Sut rydych yn mesur effaith yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi heddiw ar gyfer 17 Gorffennaf, a pha gynlluniau sydd gennych ar waith yn awr i fesur, os na fydd pethau'n digwydd fel y bwriedir iddynt ddigwydd ar ôl 7 Awst? Bydd rhyw fath o ymchwydd yn nifer yr achosion o ganlyniad i lacio cyfyngiadau. Bydd angen i chi fesur a yw o fewn y paramedrau rydych yn gyfforddus â hwy. Dywedwch ychydig wrthym, os gallwch, ynglŷn â sut rydych yn bwriadu gwneud yr asesiad hwnnw ymhen ychydig wythnosau.

Mae gennyf ychydig o gwestiynau manylach. Nid ydych wedi cyfeirio at wledydd y rhestr werdd. A allech amlinellu eich dull o weithredu ar wledydd y rhestr werdd? Mae llawer o bobl yn chwilio am gyfle i gael gwyliau a byddant eisiau gwneud hynny yn y ffordd fwyaf cyfrifol. Felly, a allech roi sylwadau ar wledydd y rhestr werdd?

Hefyd, byddwn yn gwerthfawrogi eich barn ar y contract ar gyfer darparu profion PCR i bobl sy'n dychwelyd. Rwy'n gwybod nad ydych eisiau i bobl adael o gwbl, ond pan fyddant yn dychwelyd, mae'r contract gan gwmni preifat, Corporate Travel Management. Ai dyna'r ffordd orau o fynd ati—£170 am bob prawf PCR? Dylid edrych ar hynny, sut i ostwng y gost honno.

A hoffwn gael ychydig o fanylion am glybiau nos hefyd, rhywbeth y mae llawer o sôn wedi bod amdano. Nid wyf mewn oed lle mae o ddiddordeb personol i mi, ond gwn ei fod o ddiddordeb i lawer o bobl eraill. Nid oedd cyfeiriad at hynny, ac mae rhai'n dweud mai clybiau nos fydd y maes olaf lle byddwn yn gallu codi cyfyngiadau. Felly, rwyf am orffen yn y fan honno. Diolch.

15:35

Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth, a diolch am beth ddywedodd e, ac am y gefnogaeth am beth dwi wedi ei ddweud y prynhawn yma. A dwi'n cydnabod y ffaith, trwy'r pandemig i gyd, mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol o sut rŷn ni'n mynd i fynd ati yma yng Nghymru. So, diolch yn fawr unwaith eto y prynhawn yma am hynny. 

I droi at y cwestiynau penodol, wel rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, Lywydd, nad yw dibyniaeth syml ar gyfrifoldeb personol yn gymwys i'r ffordd yr eir i'r afael â'r argyfwng hwn yma yng Nghymru, a'r ffordd y mae angen mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol; mae hynny'n sicr yn wir. Ond mae'n fwy na hynny, onid yw? Mae gennym gyfrifoldeb, nid yn unig drosom ni ein hunain, ond at bobl eraill hefyd. Ac yn llawer o'r drafodaeth yn y Cabinet heddiw, pan oeddem yn siarad am fesurau y byddai angen iddynt fod ar waith o hyd ar lefel rhybudd 0, roeddem yn meddwl am y bobl y byddai eu bywydau'n cael eu gwneud yn fwy anodd ac a fyddai'n fwy pryderus os ydynt yn teimlo na fydd lleoedd y gallai fod angen iddynt ymweld â hwy mor ddiogel iddynt yn y dyfodol ag y maent wedi bod hyd yma. A dyna pam ein bod yn credu y dylem barhau i wisgo mygydau. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, maent yn cynnig amddiffyniad i chi hefyd, ond yr un mor bwysig, maent yn cynnig amddiffyniad i bob un ohonom rhag y gweithredoedd bach y gall pob unigolyn eu gwneud sy'n cyfrannu at rywbeth llawer mwy arwyddocaol. 

O ran sut y byddwn yn asesu effaith yr hyn rydym wedi'i wneud heddiw, byddwn yn parhau i'w wneud, Lywydd, yn y ffordd rydym wedi'i wneud o'r dechrau. Dyna pam y mae gennym fwlch o dair wythnos rhwng y mesurau a ddaw i rym ddydd Sadwrn yr wythnos hon a'r mesurau a allai ddod i rym ar 7 Awst, oherwydd bydd hynny'n rhoi cyfle i ni asesu effaith symud i lefel 1 ac agor gweithgarwch awyr agored ymhellach. A byddwn yn ei asesu yn erbyn nifer y bobl sy'n mynd yn sâl, y graddau y mae hynny'n effeithio ar y gwasanaeth iechyd, yr effaith y mae hynny'n ei chael ar ein heconomi, a bydd gennym waith modelu pellach ar bob pwynt sy'n dweud wrthym a yw lefel cylchrediad y feirws yn y gymuned yn cyrraedd uchafbwynt ac yn lleihau, neu'n hytrach yn gwthio'r uchafbwynt ymhellach i'r dyfodol. Bydd yr holl bethau hynny'n cael eu hystyried, a byddwn yn eu hasesu ar bob cam o'r ffordd. Ac mae'n berffaith bosibl, Lywydd, fel y dywedodd llefarydd Plaid Cymru, y gallwch fod yn anghywir ynglŷn â hyn. Ailagorodd yr Iseldiroedd ar yr un sail â Lloegr dair wythnos yn ôl, ac maent newydd orfod ailosod yr holl gyfyngiadau hynny. Dywedodd Prif Weinidog yr Iseldiroedd, 'Gwnaed camgymeriad ac mae'n ddrwg gennym am hynny heddiw.' Felly, mae'n bosibl bod yn anghywir ynglŷn â hyn. Fe wnaeth Israel, lle ceir lefelau uwch byth o frechu, ddiddymu'r angen i bobl wisgo masgiau, ac maent wedi gorfod ailosod y rheol bythefnos ar ôl iddynt roi'r camau hynny ar waith. Felly, nid wyf yn dweud o gwbl na allai hyd yn oed y camau gofalus rydym yn eu cymryd heddiw arwain at ganlyniadau anfwriadol, a dyna pam y byddwn yn eu hadolygu mor ofalus. 

Ar wledydd y rhestr werdd, nid yw'r drefn wedi newid. Yr un yw'r drefn ers i'r rhestr werdd o wledydd ddod i fodolaeth. Ac ar glybiau nos, disgwylir y bydd clybiau nos, a'r hyn rwyf wedi dysgu cyfeirio atynt fel lleoliadau adloniant i oedolion, yn agor ar 7 Awst, yn unol â'r camau eraill i lacio cyfyngiadau i lefel 0. 

15:40

Brif Weinidog, a gaf fi groesawu'r cyhoeddiad heddiw, ond rwyf am ofyn am rywfaint o eglurhad yn dilyn eich datganiad a'ch sylw ar eich cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r ffaith nad oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored, a hynny heb gadw pellter cymdeithasol? A yw hyn yn golygu y gellir rhoi'r golau gwyrdd i ddigwyddiadau, megis digwyddiad poblogaidd Ironman Cymru a gynhelir yn Ninbych-y-pysgod, a sioeau amaethyddol, megis sioe Martletwy? Hefyd, a fydd y rheoliadau newydd yn cael eu diwygio i ganiatáu i'r ddau riant fynychu lleoliad ysbyty gyda'u plentyn, gan fod y trefniant presennol sydd ond yn caniatáu i un rhiant fynychu yn arwain at fwy o bryder i'r plentyn a'r rhiant mewn sefyllfa sydd eisoes yn peri straen a gofid? Diolch.

Diolch yn fawr am y cwestiynau. 

O ran digwyddiadau awyr agored, mae cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n mynychu bellach wedi'u codi, ac mae cadw pellter cymdeithasol bellach yn rhywbeth y byddai'n rhaid i drefnydd digwyddiad ei ystyried wrth gynnal asesiad risg ac wrth roi mesurau lliniaru ar waith yn erbyn risgiau'r coronafeirws. Felly, nid yw'n golygu rhyddid llwyr i gynnal unrhyw ddigwyddiad yn awr fel pe na bai'r coronafeirws yn bodoli, Lywydd. Mae'n golygu y byddai angen i sioe Martletwy, sioe rwyf wedi ymweld â hi ac wedi'i mwynhau fy hun yn y gorffennol, fod yn destun asesiad risg gan ei threfnwyr. Yr hyn nad oes rhaid iddynt ei ystyried yw terfyn sefydlog wedi'i bennu gan y Llywodraeth. Bydd yn rhaid iddynt hwy eu hunain ystyried beth sy'n ddiogel yn y cyd-destun y maent ynddo. Bydd hynny'n wahanol i bawb, fel y gwyddoch, ac yn dibynnu ar faint lleoliad, y mynediad i'r lleoliad, natur y digwyddiad ei hun ac yn y blaen.

Ar leoliadau ysbyty, cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig gennym ar ymweld ychydig wythnosau'n ôl. Ei nod yw annog ysbytai i feddwl yn ofalus am ymestyn yr ystod o bobl sy'n gallu ymweld, ond mae'n parhau i fod yn benderfyniad clinigol yn y pen draw. A phan fydd ffigurau'r coronafeirws yn codi yn y gymuned mor gyflym ag y maent yn ei wneud, gwyddom y bydd lleoliadau caeëdig, fel ysbytai, yn arbennig o agored i niwed. Felly, er fy mod yn gwybod bod y rhain yn benderfyniadau eithriadol o anodd, ac yn effeithio'n fawr iawn ar y teuluoedd dan sylw, rwy'n dal i gredu ei bod yn iawn inni adael y penderfyniadau hynny yn nwylo'r bobl sy'n gorfod bod yn gyfrifol am ddiogelwch ehangach cleifion yn y lleoliad hwnnw, a dibynnu ar eu doethineb a'u crebwyll.

Ar hyn o bryd, yng Nghymru, efallai y bydd pobl yn teimlo, gyda'r cyhoeddiad hwn, fod diwedd y pandemig o fewn golwg. Yn wir, rwyf wedi cael nifer o negeseuon gan bobl sy'n arbennig o hapus bod canolfannau sglefrio'n ailagor. Ond yn y rhan fwyaf o leoedd yn y byd, mae'r pandemig yn arwain at fwy byth o farwolaethau. Er ein bod ni i gyd wedi bod yn mwynhau'r Ewros dros yr wythnosau diwethaf ac yn gweld cefnogwyr yn ôl yn y stadia, yn Uganda, mae eu stadiwm pêl-droed cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty maes i drin cleifion COVID. Gwn fod hyn yn peri pryder arbennig i fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd, oherwydd y cysylltiadau agos a sefydlwyd gydag Uganda drwy'r Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Tramor rhwng Partneriaethau.

Gwn inni drafod a chodi hyn ddoe, ond mae'r achosion yn y wlad wedi cynyddu'n sylweddol, 1,000 y cant yn y mis diwethaf, a gyda dim ond 4,000 o bobl mewn poblogaeth o 45 miliwn wedi cael dau ddos, gwyddom fod hwn yn gynnydd difrifol. Mae'r diffyg brechlynnau sy'n arwain at farwolaethau yn stori a ailadroddir ar draws y byd. Gwyddom mai brechlynnau yw ein gobaith gorau o reoli'r pandemig, ac atal mwy o farwolaethau, ond mae cwmnïau a ffatrïoedd a allai fod yn gwneud dosau o frechlynnau yn sefyll ar y cyrion oherwydd bod monopoli o gorfforaethau fferyllol mawr yn gwrthod rhannu hawliau eiddo deallusol â chwmnïau eraill. Mae'r cwmnïau fferyllol pwerus hyn yn rhoi patent ac elw o flaen achub bywydau drwy ddogni'r cyflenwad o frechlynnau yn artiffisial a gwrthod rhannu eu ryseitiau a'u technoleg gyda gweddill y byd.

Caiff y monopolïau hyn eu gwarchod gan lond llaw o wledydd cyfoethog, gan gynnwys y DU. Mae'n rhaid i'r Senedd hon uno yn awr i sicrhau—. Oherwydd bydd cost i Gymru os na welir cynnydd yng nghynhyrchiant brechlynnau'n fyd-eang. A hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog a fy nghyd-Aelodau yn y Senedd gefnogi fy natganiad barn ar frechlyn y bobl ac y dylem weithio'n drawsbleidiol i sicrhau—. Oherwydd ni allwn reoli'r feirws hwn yng Nghymru yn unig. Pandemig byd-eang yw hwn ac mae angen inni weithio'n fyd-eang.

15:45

Wel, Llywydd, diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi,

ac wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn â natur fyd-eang yr her. Credaf mai arweinydd yr wrthblaid a ddywedodd yma ddoe nad oes neb yn ddiogel rhag y feirws nes bod pawb yn ddiogel rhag y feirws, ac mae hynny'n golygu pob rhan o'r byd. Rwy'n gyfarwydd â chynllun yr Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Tramor rhwng Partneriaethau, y mae pobl ym Mhontypridd wedi gwneud cymaint i'w gefnogi, a deuthum i gysylltiad ag ef drwy Mick Antoniw, yr Aelod lleol o'r Senedd, ac mae'n gynllun sy'n gwneud gwaith gwych.

Ar ganolfannau sglefrio, un o'r pethau rwyf wedi'i ddysgu dros holl gyfnod y pandemig, rwy'n credu, yw bod rhai pethau'n bwysig iawn i bobl, hyd yn oed pan nad ydych yn sylweddoli hynny eich hun. Felly, bydd hyd yn oed pethau bach, fel ailagor canolfan sglefrio, yn bwysig iawn i o leiaf rai pobl.

Lywydd, rwy'n llai cyfarwydd â rhai o'r dadleuon a wnaeth yr Aelod am weithredoedd cwmnïau fferyllol pwerus. Bydd yr Aelodau wedi clywed yr hyn a ddywedodd a cheir datganiad barn y gall pobl edrych arno os hoffent ymwneud â'r mater.

Brif Weinidog, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad heddiw, ac yn arbennig y symud i lefel rhybudd 1, a lefel rhybudd 0 yn yr awyr agored. Felly, mae'n rhoi hyder yn awr i bethau fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn fy etholaeth allu mynd rhagddynt ac mae hynny'n rhoi hwb gwirioneddol i iechyd meddwl pobl hefyd—gallant fynd i rywle yn y cnawd a chael amser da. Ac rwyf hefyd yn croesawu eich cyhoeddiadau am hunanynysu, ac mae'n profi gwaith mor anhygoel y mae'r rhaglen frechu wedi'i wneud i gadw pobl yn ddiogel ledled Cymru.

Ond wrth ichi siarad, Brif Weinidog, cefais neges destun gan un o'ch beirniaid llym yn fy etholaeth—mae'n landlord—ac roedd eisiau imi ofyn ychydig o gwestiynau i chi. Dywedodd eich bod ar y trywydd iawn o'r diwedd, ond roedd eisiau i mi ofyn dau gwestiwn i chi: pryd y byddwch yn adolygu'r rheol sy'n dweud y dylid cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn lleoliadau lletygarwch dan do fel y gall ein tafarndai a'n bwytai ddychwelyd i normalrwydd? A'i gwestiwn olaf oedd: a yw eich cyhoeddiadau'n golygu y bydd y rheol chwech o bobl yn cael ei dileu ar gyfer safleoedd sydd â gardd gwrw? Diolch, Lywydd.

Lywydd, fe wnaf fy ngorau; nid wyf yn fodryb ofidiau ar gyfer lleoliadau lletygarwch ledled Cymru. Ond o ran y rheol 2m yn y sector lletygarwch—gallaf o leiaf helpu eich etholwr gyda hynny, oherwydd nid ydym wedi bod â rheol 2m yn y sector lletygarwch ers amser hir. Yr hyn rydym wedi'i gael yw rheol sy'n dweud, lle nad yw lleoliadau lletygarwch yn gallu cynnal rheol 2m—ac felly mae'r rheoliadau'n cydnabod nad yw hynny bob amser yn bosibl—fod yn rhaid rhoi mesurau lliniaru eraill ar waith. Felly, nid oes rheol absoliwt o 2m yn y sector lletygarwch, ac mae llawer o leoliadau wedi gweithio'n eithriadol o galed, Lywydd, i sicrhau, pan nad yw hynny'n bosibl, fod y mesurau lliniaru eraill hynny ar waith: sgriniau mewn rhai mannau, trefniadau glanhau rheolaidd, amseroedd cyfyngedig y gall pobl aros ac yn y blaen. Mae'r diwydiant lletygarwch wedi datblygu repertoire creadigol a llawn dychymyg, ac rwy'n eu cymeradwyo am hynny ac yn gobeithio y bydd etholwr yr Aelod yn gallu dal i fyny â hynny.

15:50

Brif Weinidog, mae gallu menywod beichiog i gael eu partneriaid yn bresennol yn ystod sganiau ac asesiadau beichiogrwydd, ac yn ystod yr enedigaeth, yn rhywbeth sydd wedi'i godi drwy gydol y pandemig. Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i lawer o fenywod a fyddai fel arfer wedi cael cefnogaeth eu partner neu berson penodol i'w cefnogi ar adeg heriol ac emosiynol iawn. Deallaf fod canllawiau Llywodraeth Cymru ar hyn wedi newid drwy gydol y pandemig, wrth gwrs, ac y dylid caniatáu i bartneriaid fynychu sganiau 12 ac 20 wythnos bellach. Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf cysylltodd menyw feichiog â mi i ddweud na chafodd ei phartner fynychu eu sgan 20 wythnos. Rwy'n deall hynny, ac fel rydych newydd esbonio, rhaid i fyrddau iechyd fod yn ofalus wrth gwrs er mwyn sicrhau eu bod yn lleihau'r risg o COVID mewn lleoliadau ysbyty, ond pan fo menywod beichiog ar y naill law yn gweld degau o filoedd o gefnogwyr chwaraeon yn ymgasglu ac yn cofleidio ar y teledu, gallwch ddeall eu bod yn teimlo'n siomedig pan nad yw eu partneriaid yn cael mynychu sganiau allweddol a'u cefnogi mewn amgylchedd sy'n ddiogel rhag COVID. Maent yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i'r afael â'r maes hwn gan ein bod bellach yn llacio'r cyfyngiadau COVID? Diolch.

Wel, Lywydd, gadewch imi ddweud wrth yr Aelod fy mod yn credu mai dyma un o'r materion anoddaf inni orfod eu hwynebu drwy gydol yr holl bandemig ac rwy'n llwyr ddeall y trallod y mae rhai teuluoedd wedi'i deimlo lle mae pobl wedi gorfod byw drwy brofiad ar eu pen eu hunain lle byddent, ar unrhyw adeg arall, wedi cael cefnogaeth partner wrth eu hochr. Ni allaf wneud mwy na rhoi addewid y byddwn yn parhau i adolygu'r canllawiau hynny. Fel y mae Sioned Williams wedi'i gydnabod, nid oes ond ychydig wythnosau ers iddo gael ei ddiwygio, ond yn y pen draw, mae'n rhaid i glinigydd bwyso a mesur y risgiau dan sylw, ac mae'r risgiau'n wahanol i bob unigolyn, yn dibynnu ar gyflwr iechyd cyffredinol y fam, ac maent yn amrywio o leoliad i leoliad. Ac nid wyf yn credu bod yr un clinigydd yn ceisio eithrio rhywun o brofiad y maent yn gwybod y bydd yn bwysig iawn iddynt. Maent yn gwneud hynny pan fyddant wedi pwyso a mesur y risgiau ac wedi penderfynu bod y risgiau sy'n gysylltiedig ag iechyd yr unigolyn yn golygu na all hynny ddigwydd, a phan ydych yn gwybod beth y gallai canlyniadau'r risgiau hynny fod, credaf fod yn rhaid inni gael rhywfaint o hyder yn ein clinigwyr ar y rheng flaen sy'n ymdrin â hyn bob dydd ac yn gwneud eu gorau i ddod i'r casgliad cywir mewn amgylchiadau sydd bob amser yn emosiynol ac yn heriol iawn yn glinigol.

Yn olaf, Jane Dodds. O, na, nid Jane Dodds. Dyna oedd yr olaf, felly.

Diolch, Prif Weinidog.

Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr i wneud newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:53.

16:05

Ailymgynullodd y Senedd am 16:05, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 Eiliad

Bu farw Elystan Morgan yr wythnos diwethaf yn 88 mlwydd oed. Mi oedd yn Aelod Seneddol Llafur dros Geredigion rhwng 1966 a 1974, yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 1981, ac yn fargyfreithiwr a barnwr.

Mi ydyn ni gyd yn eistedd yn y Senedd yma heddiw oherwydd cyfraniad oes Elystan a'i debyg yn brwydro'r achos dros hunan-lywodraeth i Gymru. Mi gychwynnodd y daith hynny o fewn Plaid Cymru, ac yna yn 1964 mi adawodd i hyrwyddo yr un achos o fewn y Blaid Lafur. Mi oedd yn sosialydd o egwyddor ac yn genedlaetholwr o reddf. Lles Cymru a'i phobol oedd wrth wraidd ei holl wleidyddiaeth.

Mi ddywedodd Vaughan Roderick amdano taw llwyddiant mwyaf Elystan oedd hefyd ei fethiant mwyaf, yn arwain ymgyrch 'ie' refferendwm 1979. Fe wnaeth hynny gydag urddas ac angerdd, o fewn yr amodau gwleidyddol mwyaf gwenwynig. Ac mi gynhaliodd y fflam.

Dyn ei filltir sgwâr oedd Elystan, ac mi oedd y sgwâr hynny o gwmpas ei annwyl Bow Street, Llandre a Dole. Mi ymgyrchodd dros Geredigion ymhell tu hwnt i'w gyfnod yn ei chynrychioli, ar y grisiau tu allan y Senedd yma yn 2006 i frwydro dros wasanaethau Bronglais, ac wrth ddiogelu dyfodol IBERS fel sefydliad ymchwil rhyngwladol.

Wneith datganiad byr fel hyn yn y Senedd fyth dalu'r deyrnged yn llawn i gyfraniad Elystan, ond gwir yw dweud mai bodolaeth y Senedd yma yw'r deyrnged orau oll i fywyd Elystan. Diolch amdano a phob cydymdeimlad â'i deulu a'i gyfeillion.

Bob bore, rwy'n cerdded fy nghi ar hyd rhan fer iawn o lwybr Clawdd Offa, a heddiw rwyf am nodi hanner canmlwyddiant agor llwybr Clawdd Offa. Mae'n llwybr cerdded 177 milltir o hyd, a agorwyd yn haf 1971. Mae'n cysylltu clogwyni Sedbury ger Cas-gwent â thref arfordirol Prestatyn. Yn ogystal â bod yn hynod bwysig i'n hanes a'n diwylliant, mae'n un o goridorau natur mwyaf y DU.

Caiff Clawdd Offa ei ddiogelu gan gyfraith statud. Er hynny, mae dan fygythiad. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cadw, gan weithio gyda English Heritage a Chymdeithas Clawdd Offa, wedi creu cronfa achub i geisio prynu rhannau o'r clawdd sydd dan fygythiad, ac i dalu am waith adferol fel clirio prysgwydd oddi arno.

Gyda llawer ohonom wedi closio at fyd natur dros y cyfyngiadau symud, rhaid gwneud mwy i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a thirnodau fel llwybr Clawdd Offa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r gymdeithas a dymuno'r gorau iddynt gyda'u gwaith, ac rwy'n eich annog i ddefnyddio'r llwybr—gyda neu heb gi. Diolch yn fawr iawn.

Eleni, dathlodd eglwys Sant Edward Gyffeswr yn y Rhath ganmlwyddiant ei hadeiladu yn 1921. Adeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn 1915, ond fe'i dinistriwyd gan dân yn 1919, ac roedd ei hailadeiladu yn 1921 yn ffynhonnell o obaith i'r gymuned yn dilyn erchyllterau'r rhyfel byd cyntaf a'r dinistr a achoswyd gan bandemig ffliw Sbaen.

Gan mlynedd yn ddiweddarach, fel yn 1921, mae'r byd ynghanol pandemig byd-eang, ond nid yw cyfraniad yr eglwys yn y gymuned wedi pallu, gan ei bod yn darparu cymorth, cefnogaeth ac allgymorth i'r rhai mwyaf anghenus. Mae ei Forget Me Not Cafe yn gwneud llawer, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, i helpu i fynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith yr henoed. Mae ei gardd flodau gwyllt newydd yn dwyn ynghyd ystod amrywiol o wirfoddolwyr o bob rhan o'r gymuned, ac mae gan yr eglwys draddodiad cerddorol balch. Yn wir, mae'n dal i ddarparu un o'r ychydig ddigwyddiadau hwyrol weddi corawl olaf sy'n parhau yn esgobaeth Llandaf, sy'n brofiad gwych a byddwn yn annog pawb yma i ymweld.

Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, mae gan eglwys a phlwyf y Rhath gysylltiadau cryf â ni yma yn y Senedd, gyda'i churad, y Parchedig Ruth Coombs, yn gwasanaethu fel pennaeth Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'i churad blaenorol oedd y Parchedig Ddr Rhys Jenkins. Credaf fy mod yn siarad ar ein rhan ni oll wrth gynnig fy niolch diffuant i'r caplan dinesig a'r ficer presennol, y Parchedig Ganon Stewart Lisk, am yr holl waith y mae wedi'i wneud, ac i'r holl bobl yn y gorffennol a'r presennol sydd wedi gwasanaethu cymuned eglwys Sant Edward.

Rwy'n falch o ddweud bod yr eglwys yn dal i fod yn ffynhonnell o obaith heddiw, fel yn 1921, a heb amheuaeth, fe fydd yn parhau i wasanaethu am 100 mlynedd arall.

16:10

Gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Mudiad Ysgolion Meithrin, sydd yn cael ei alw erbyn hyn yn Mudiad Meithrin, ar ddathlu ei hanner can mlwyddiant? Mae hyn yn dipyn o garreg filltir i'r mudiad pwysicaf sydd gyda ni yng Nghymru o ran darparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydlwyd Mudiad Meithrin 50 mlynedd yn ôl i wneud dau beth: i gynrychioli a rhoi llais i'r ysgolion meithrin cyfrwng Cymraeg a oedd wedi dechrau ymddangos yn y 1960au ac i ymgyrchu dros ddarparu profiad ysgol feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Cymru ym mhob cwr o'r wlad. Pennaf nod Mudiad Meithrin heddiw yw gweld y cylch meithrin fel profiad pwysig yn ei hawl ei hun, gyda phwyslais ar ddysgu drwy chwarae, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Heddiw, mae gan y mudiad dros 1,000 o leoliadau dros Gymru gyfan, yn cynnwys cylchoedd meithrin, cylchoedd ti a fi, meithrinfeydd dydd, grwpiau Cymraeg i blant ac yn y blaen. Ac mae rhyw 22,000 o blant yn manteisio ar wasanaethau'r mudiad yn wythnosol, a miloedd o oedolion yn rhieni, hyfforddeion a phrentisiaid. A pham? Oherwydd bod y mudiad yn gwybod fel ffaith bod unigolion sy'n dechrau siarad Cymraeg yn blant yn llawer mwy tebygol o fod yn oedolion sy'n hyderus yn siarad yr iaith. Mae bron i 90 y cant o blant yn mynd o'r cylch i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae cymaint ohonyn nhw'n dod o gartrefi di-Gymraeg.

Felly, gaf i ddymuno'n dda i'r mudiad dros y blynyddoedd nesaf wrth iddo wneud cyfraniad pwysig i roi sylfeini ieithyddol cadarn i'n plant a rhoi cyfleoedd chwarae ac addysg bwysig iddyn nhw yn y dyfodol? Pen-blwydd hapus iddyn nhw. Diolch yn fawr.

6. Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.1: Pwyllgor y Llywydd

Eitem 6: cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.1. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.

Cynnig NDM7765 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18B.2.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor: Pwyllgor y Llywydd

Eitem 7: cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor, Pwyllgor y Llywydd. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Siân Gwenllian.

Cynnig NDM7769 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18.B.4:

Yn ethol y canlynol fel aelodau o Bwyllgor y Llywydd:

a) Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor;

b) Peredur Owen Griffiths (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); ac

c) Joyce Watson (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhys ab Owen (Plaid Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil gofal preswyl i blant

Eitem 8: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef Bil gofal preswyl i blant. Galwaf ar Jane Dodds i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7723 Jane Dodds

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio, monitro a chomisiynu gofal preswyl i blant, gan gynnwys plant y mae angen gofal iechyd meddwl cleifion mewnol arnynt, a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu neu niwroamrywiaeth arall yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) gwella'r broses o gomisiynu a darparu lleoliadau gofal preswyl i blant yng Nghymru, gan gynnwys cydgysylltu a darparu ar draws awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau addas yn fwy digonol;

b) gwella'r broses o reoleiddio a monitro gofal preswyl a lleoliadau maethu, gan gynnwys alinio â gwasanaethau eraill fel addysg, tai a digartrefedd, ac iechyd;

c) dileu'r ddarpariaeth ar gyfer darparwyr sy'n gwneud elw yn y sector gofal preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, yn ogystal â gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a niwroamrywiaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddatgan buddiant ar yr eitem hon, gan fy mod yn dal i fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

'Roeddent yn dweud y byddwn i'n dal yno hyd nes y byddwn yn 18 oed ond am ei fod mor ddrud... bu'n rhaid iddynt fy symud yn ôl i lawr... fe wnaethant aros hyd nes y cefais fy nghanlyniadau TGAU, roeddwn yn meddwl bod hynny'n deg, ond nid oeddwn yn hoffi'r ffaith bod penderfyniad am fy nyfodol yn seiliedig ar arian o ystyried mai hwy a'm gosododd yno yn y lle cyntaf.'

Dyma ddyfyniad gan ferch ifanc, a oedd eisoes, erbyn ei bod yn 16 oed, wedi cael ei symud i 10 lle gwahanol roedd disgwyl iddi eu galw'n gartref. Mae hynny nid yn unig yn mynd at wraidd y cynnig yma heddiw, mae hefyd yn codi amheuaeth ynghylch y ffordd rydym yn darparu gofal i blant a phobl ifanc. Ac rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn oherwydd bod amser yn brin.

Mae'r rhyngweithio rhwng y cymhellion i rai darparwyr ddarparu gofal, a'r heriau cyllidebol ac o ran capasiti a wynebir gan awdurdodau lleol, yn golygu bod gormod o blant yn mynd heb y gofal y maent ei angen ac yn ei haeddu. Mae plant a phobl ifanc mewn gofal wedi dweud, yn gwbl glir, eu bod yn gallu teimlo fel nwyddau, ac yn faich ar eraill.

Cyfeiriwn at y system ofal, ond mae profiad staff, plant a phobl ifanc yn awgrymu rhywbeth heblaw gofal; yn hytrach, gall ddisgrifio system gymhleth, fiwrocrataidd sydd wedi datblygu dros flynyddoedd, ac sy'n cael ei dargyfeirio gan ei rhannau cyfansoddol yn hytrach na chan anghenion, lleisiau a gobeithion plant a phobl ifanc.

Rwyf wedi argymell deddfwriaeth yma oherwydd, fel y cydnabuwyd yn yr Alban, nid yw ychwanegu at y clytwaith cymhleth o systemau a phrosesau ond yn diddymu mwy o'r pŵer sydd gan blant a phobl ifanc dros eu bywydau eu hunain. Hefyd, câi deddfwriaeth ei hystyried yn yr Alban fel cyfle i fynd yn ôl at y pethau sylfaenol: fod yn rhaid inni gydnabod statws plant fel bodau dynol gyda set benodol o hawliau, nid dim ond derbynwyr gofal goddefol.

Yn yr Alban, roedd hynny'n cynnwys dileu'r ddarpariaeth ar gyfer gwneud elw o'r sector. Yn yr Alban, rhaid i bob darparwr fod wedi'i gofrestru gyda rheoleiddwyr, a chraffir arnynt i nodi presenoldeb unrhyw elw er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at y gofal a'r cymorth sydd eu hangen ar y bobl ifanc, nid at gyfranddalwyr preifat. Byddai fy nghynnig yma yn dileu gallu darparwyr preifat i elwa o ofal plant sy'n agored i niwed, gan sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei hailfuddsoddi mewn gofal a staff ac nid yn ôl i bocedi cyfranddalwyr.

Nid barn ar ddarparwyr preifat yw hwn; yn fy mhrofiad i rwy'n gwybod bod llawer ohonynt yno i sefydlu gofal a chymorth penodol a phwrpasol. Ond rhaid inni gydnabod y ffordd y mae cymhellion elw i rai yn cael effaith negyddol ar y gallu i ganolbwyntio ar ofal yn unig a pheidio â gwrthsefyll system gymhleth, fiwrocrataidd.

Nid wyf yn gwneud hyn am resymau moesol yn unig, ond oherwydd nad yw'r pwysau enfawr ar awdurdodau lleol i ddod o hyd i leoliadau, ynghyd â phwysau cynyddol ar gyllidebau, yn gadael llawer o le i ganolbwyntio'n fanwl ar ansawdd y gofal, ac ar leisiau ac anghenion plant a phobl ifanc. Mae diffyg dull Cymru gyfan o gomisiynu gofal wedi golygu bod awdurdodau'n cystadlu â'i gilydd, gan symud arferion comisiynu o blaid darparwyr preifat.

Un cafeat sydd gennyf mewn perthynas â'r cynnig hwn, ac felly hefyd y comisiynydd plant a sefydliadau eraill, yw'r angen i sicrhau nad yw newid yn niweidiol i blant a phobl ifanc. Rhaid i hawliau'r plentyn fod wrth wraidd unrhyw ddiwygio; dim newid mawr sydyn a dim tarfu diangen.

Wrth baratoi ar gyfer y cynnig heddiw, clywais gan sefydliad cynrychioliadol, a ddywedodd, 'Mae angen inni bwysleisio wrth drafod gwerth, y dylai ddechrau gyda gwerth y plentyn a'r person ifanc unigol, ac nid mewn perthynas â sefydlogrwydd ariannol neu gapasiti'r system yn syml. Mae'r naratif hwn yn ymwneud â'r gofal fel cynnyrch'.

Felly, mae angen i unrhyw gamau i gael gwared ar elw fel sbardun i ddarparu gofal gael eu gwneud yn ofalus dros amser a rhaid iddynt gadw anghenion a dymuniadau pob plentyn a pherson ifanc unigol yn ganolog wrth inni symud ymlaen. Ond rhaid iddo fod yn ailwampio sylfaenol.

Wrth orffen, rwy'n gobeithio y gall ein Senedd anfon neges at blant a phobl ifanc mewn gofal yng Nghymru, ble bynnag yr ydym, ein bod yn eu clywed a'n bod yn gwrando. Diolch yn fawr iawn.

16:15

Diolch i'r Aelod am godi hyn heddiw ac am godi materion mor bwysig sydd angen eu codi a siarad amdanynt yn y Senedd. Dylai sicrhau gofal o safon uchel i'n plant mwyaf agored i niwed fod yn rhywbeth y gallem i gyd ei gefnogi yn y Siambr hon.

Pan edrychwch ar yr ystadegau ar effaith byw mewn gofal ar blant ac oedolion ifanc, rydych yn deall pam y mae hyn mor bwysig. Mae 24 y cant o boblogaeth y carchardai sy'n oedolion wedi bod mewn gofal, mae 11 y cant o bobl ifanc ddigartref wedi gadael gofal, mae 70 y cant o weithwyr rhyw wedi bod mewn gofal. Rydych tua saith gwaith yn fwy tebygol o farw rhwng 18 a 21 oed os ydych wedi bod mewn gofal, o gymharu â phobl ifanc eraill o oedran tebyg.

Mae arnom ddyletswydd i'r bobl ifanc hyn i'w helpu i dorri'r cylch a sicrhau bod yr amser y maent yn ei brofi mewn gofal yn gadarnhaol, yn ddiogel, mewn amgylchedd meithringar, fel yr amlinellodd yr Aelod. Felly, mae arnom angen cydgysylltu gwasanaethau'n well er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu rhoi ynghanol y broses o wneud penderfyniadau, eu bod yn agos at eu cartrefi a'u bod yn y lleoliad cywir ar gyfer eu hanghenion unigol fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Ni ddylem adael i sefydliadau, seilos a ffyrdd mympwyol o weinyddu ffiniau niweidio cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru. Gwn fod Cyngor Sir Fynwy, er enghraifft, yn gwneud gwaith da gyda'u cymdogion yn Nhorfaen i sicrhau bod gofal preswyl yn cael ei ddarparu yn agos at eu cartrefi. Dylid annog y math hwn o weithio mewn partneriaeth fel arfer gorau.

Mae'r math hwnnw o ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn bwysig, oherwydd nid oes unrhyw brofiad o ofal yr un fath ag un arall. Er enghraifft, bydd 40 y cant o blant sy'n cael eu gosod mewn gofal yno am lai na chwe mis, ond mae tua hanner y plant mewn gofal yn treulio dau neu fwy o gyfnodau mewn gofal. Felly, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig fod gennym y math iawn o ddarpariaeth wrth law i allu rheoli'r math hwn o angen unigol.

Mae dros 7,000 o bobl ifanc yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae arnom angen mwy o ddarpariaeth, nid llai, a dyna pam rwyf mor ddryslyd ynglŷn â'r cynnig hwn yn y Bil i ddileu'r ddarpariaeth er elw. Dyma yw 80 y cant o'r ddarpariaeth gofal preswyl yng Nghymru. Os yw darparwr o'r fath yn darparu amgylchedd meithringar sy'n gofalu am bobl ifanc yn ôl y safonau rydym wedi'u gosod ar eu cyfer, a bod y rheolyddion priodol yn cadarnhau hynny, pam y dylem adael i'w trefniadau llywodraethu fod yn rhwystr i hynny? Ymddengys ein bod yn cosbi diwydiant oherwydd methiant y rheoliadau a'r rheolyddion i weithio'n effeithiol.

Pe bai darparwyr preifat yn cael eu dileu, sut y gellir cael gwasanaethau yn lle'r rhain a ninnau'n brin o leoliadau o'r fath ledled Cymru? A fydd trafodaethau gyda phartneriaethau, busnesau a phobl ifanc i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sensitif a phriodol? A fydd mesurau diogelu i sicrhau nad yw pobl ifanc sy'n agored i niwed yn syrthio drwy'r rhwyd? Sut y byddwch yn gwarantu na fydd darparwyr preifat yn tynnu allan o'u cartrefi a'u buddsoddiadau'n gynnar, gan waethygu ymhellach y prinder lleoliadau ac ymestyn argyfwng a achoswyd gennych chi eich hun? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau sy'n rhaid eu hateb cyn rhoi camau mawr ar waith.

Mae'n drueni ei bod yn ymddangos bod y Bil hwn yn gadael i ideoleg ein rhwystro rhag gwneud yr hyn sydd orau i bobl ifanc, ac mae'n amharchus iawn tuag at broffesiynoldeb y bobl weithgar yn y sector sy'n gwneud gwaith anodd a heriol. Mae dogfen friffio'r Aelod ei hun yn tynnu sylw at y diffyg fframwaith cenedlaethol i gefnogi proses gwerthuso ansawdd. Dylem ganolbwyntio ar hynny, gan sicrhau dull gweithredu cyson.

Rwyf am ddirwyn i ben yn awr. Gallaf eich gweld yn syllu arnaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw o'r blaen am fwy o ffocws ar atal yn hytrach nag ymyrraeth, Ddirprwy Lywydd. Felly, er eich bod wedi crybwyll nifer o faterion pwysig yma heddiw, ac rwy'n ddiolchgar i chi am godi'r rhain, Jane Dodds, yn anffodus ni fyddwn yn gallu derbyn a chefnogi'r cynnig oherwydd 2(c) a gynhwysir gennych yn y cynnig, rhywbeth nad ydym yn cytuno ag ef. Diolch.

16:20

I atgoffa'r Aelodau, mae'n dair munud mewn sesiwn 30 munud, nid pump. Rwy'n deall yr anawsterau, ond mae'n rhaid inni gadw mor agos â phosibl at yr amseriadau. Siân Gwenllian.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jane Dodds am ddod â hyn ymlaen. Rwy'n estyn fy nghefnogaeth iddi efo'r bwriad yma.

Mae'n bwnc sydd wedi bod yn cael ei drafod ers rhai blynyddoedd bellach, a'r Llywodraeth wedi derbyn yr angen i ymrwymo i weithredu, gyda'r nod o ddiweddu creu elw yn sgil darparu gwasanaethau gofal plant. Mae yna ddwy elfen i'w rhoi o dan y chwyddwydr: plant sy'n byw mewn lleoliadau gofal preswyl, a phlant yn derbyn gofal maeth. Mae'r elfen elw yn berthnasol i'r ddwy elfen yna. Ar hyn o bryd, mae darparwyr gofal preswyl mawr a gwasanaethau maethu annibynnol yn darparu canran uchel o'r ddarpariaeth. Mae nifer o'r darparwyr yma yn rhan o fframwaith, sydd yn rhoi rhywfaint o gysur o ran ansawdd y ddarpariaeth, ond nid pob un sydd yn rhan o'r fframwaith hyd yn oed, ac mae hynny yn destun pryder mawr.

Mae hi'n fater o gonsýrn pan fo plant yn cael eu lleoli yn bell o gartref oherwydd nad oes yna ddigon o leoliadau ar gael yn lleol. Ar y llaw arall, mae lleoliadau preifat ar gael yn lleol efo plant ynddyn nhw sydd yn bell iawn o'u cartrefi nhw. Yn ôl ystadegau'r comisiynydd plant, mae 535 o blant yn derbyn gofal preswyl yng Nghymru, gyda 340 ohonyn nhw y tu allan i ffin eu hawdurdod lleol. Yn sicr, mi ddylai fod ffocws llawer iawn cliriach ar gadw plant yn agosach at adref er mwyn cefnogi'r cysylltiadau pwysig efo teulu a chymuned. Mi fyddai tynnu'r elfen o greu elw o ofal plant yn cefnogi hynny, ac mi fyddai'n cael gwared ar yr angen i lenwi cartrefi gofal er mwyn iddyn nhw fod yn broffidiol.

Mae yna fanteision eraill hefyd, wrth gwrs, i'r ddeddfwriaeth sydd o dan sylw, yn cynnwys cynnig gwell tâl a llwybrau gyrfa i'r gweithwyr, a fyddai, yn ei dro, yn arwain at well gofal ar gyfer pobl ifanc. Mae yna un peth yn hollol glir yn fy meddwl i: mae angen gwell trefn gomisiynu, gwell cynllunio a gwasanaethau sydd ddim yn cael eu gyrru gan elw a chystadleuaeth. Ar hyn o bryd, mae rhai o'r plant mwyaf bregus yn cael eu gadael lawr gan system sydd ddim yn ffit i bwrpas.

16:25

Hoffwn longyfarch Jane y prynhawn yma am gael ei dewis i gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddwn i mewn sefyllfa debyg, felly rwy'n deall yn iawn y gwaith caled sy'n mynd i mewn iddo y tu ôl i'r llenni. Felly, da iawn yn hynny o beth. 

Rwy'n cefnogi llawer o'r hyn rydych yn ceisio'i gyflawni mewn gwirionedd, oherwydd mae unrhyw gamau i wella rheoleiddio, monitro a chomisiynu gofal plant i'w croesawu—mae hynny'n ffaith. Ond mae hefyd yn ffaith drist ein bod wedi gweld cynnydd o 26 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf. Er bod yn rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i atal plant rhag mynd i mewn i'r system ofal yn y lle cyntaf, mae'n rhaid inni sicrhau bod y rhai sydd angen mynd i ofal preswyl yn cael eu lleoli yn y sir y maent yn ei hystyried yn gartref, neu o leiaf y wlad y maent yn ei hystyried yn gartref. Mae'n drasiedi fod dros 365 o blant wedi'u gosod mewn lleoliadau y tu allan i Gymru y llynedd. Fodd bynnag, dyma'r realiti enbyd.

Caiff gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal eu tangyllido'n druenus, a bydd y prinder arian yn llawer gwaeth wrth inni gefnu ar y pandemig. Mae CLlLC wedi datgan bod awdurdodau lleol yn pryderu am y galwadau ar wasanaethau wrth inni gefnu ar y cyfyngiadau symud. Ceir ôl-groniad o achosion llys hefyd, sy'n effeithio ar wasanaethau i blant sy'n derbyn gofal. Hyd yn oed pe byddwn yn cytuno â'ch prif bwynt y dylid tynnu darparwyr sy'n gwneud elw allan o'r sector, ni allai Cymru fforddio gwneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno â Jane. Mae'r sector preifat yn darparu bron i wyth o bob 10, neu 80 y cant, o leoedd gofal preswyl i blant; heb y sector preifat, byddai gennym gannoedd o blant na fyddent yn derbyn unrhyw ofal o gwbl.

Mae ein system iechyd a gofal gyfan yn dibynnu ar bartneriaeth gyhoeddus a phreifat dda. Felly, heb endidau sy'n gwneud elw, ni fyddai gennym feddygon teulu, dim fferyllfeydd na brechlynnau na chartrefi gofal. Heb elw, nid oes gennym fuddsoddiad mewn gwasanaethau. Cyn belled â bod gennym ofal o ansawdd uchel, am ddim yn y man lle caiff ei ddarparu, nid oes ots a yw'n cael ei ddarparu gan gwmni preifat neu awdurdod lleol. Felly, ni allaf gefnogi'r cynnig deddfwriaethol fel y mae wedi'i lunio ar hyn o bryd y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.