Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/06/2021

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 12:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau: cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill ar gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw—y rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y cyfarfod yn berthnasol i'r cyfarfod yma ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag yr ydyn nhw i'r Aelodau sydd yma drwy gyswllt fideo. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Dyma ni, felly, yr eitem gyntaf, cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.

Datblygiadau Tai

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer datblygiadau tai yng Nghymru? OQ56606

Mater i awdurdodau cynllunio lleol fel rhan o'u cynllun datblygu lleol yw pennu faint o dai newydd sy’n cael eu hadeiladu ac ymhle, gan adlewyrchu'r materion y maent wedi'u nodi yn unol â gofynion y polisi cynllunio cenedlaethol a 'Cymru’r Dyfodol'.

Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'i llongyfarch ar ei phenodiad? Gan fod tai a chynllunio wedi symud i mewn i'r portffolio newid hinsawdd, rwy’n cymryd felly y bydd hyn yn arwain at ddiogelu mannau gwyrdd a'n hamgylchedd naturiol yn well mewn polisi cynllunio. Ond wrth i gynghorau weithio drwy eu cynlluniau datblygu lleol ledled Cymru, nodaf fod llawer o gynigion—. Ceir llawer o gynigion ar gyfer gwaith adeiladu sylweddol mewn mannau gwyrdd, er bod rhai ohonynt yn cael eu defnyddio a'u trysori yn ein cymunedau. Ond nodaf hefyd fod gan Lywodraeth Cymru dargedau tai newydd rydych yn gobeithio eu cyflawni. Felly, a gaf fi ofyn am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r trothwy ar gyfer ymyrryd yn y meysydd hyn? Felly, lle mae'r ddau amcan yn gwrthdaro, a fyddwch yn blaenoriaethu prosiectau adeiladu tai ar draul ein mannau gwyrdd neu’n defnyddio'r pwerau sydd gennych i atal prosiectau o'r fath a gwarchod ein hamgylchedd naturiol?

Rwy'n ymrwymedig iawn i ddull datblygu wedi'i arwain gan gynllun ledled Cymru. Mae cynnal CDLl cyfredol yn hanfodol er mwyn cael sicrwydd wrth wneud penderfyniadau a darparu cartrefi, swyddi a seilwaith ar gyfer cymunedau lleol. Mae cynllun mabwysiedig yr ymgynghorwyd arno’n drylwyr yn golygu y gall awdurdodau cynllunio a chymunedau lleol lywio a dylanwadu’n gadarnhaol ar y dyfodol, a dyna union bwynt y cynllun, i ateb y cwestiwn a ofynnodd Tom Giffard i mi. Ac a gaf fi ei groesawu i'r Senedd hefyd? Nid wyf wedi siarad â chi'n uniongyrchol eto, Tom, ond llongyfarchiadau ar gael eich ethol hefyd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, wedi penderfynu cynnal CDLl cyfredol ar gyfer eu hardal, ac aethant ati i adolygu'r CDLl mabwysiedig ym mis Mehefin 2018. Rydym yn annog cynghorau ledled Cymru i sicrhau bod eu CDLl yn gyfredol fel y gallant ystyried 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd a 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' a basiwyd gan y Senedd hon yn y Senedd ddiwethaf yn gynnar eleni. Bydd y rheini’n rhoi’r offer cywir i gynghorau allu llunio eu cynllun datblygu lleol yn y fath fodd fel eu bod yn gwarchod y lleoedd y mae eu cymunedau lleol yn dymuno eu diogelu a hefyd yn cyflwyno’r mathau cywir o dir gyda’r mathau cywir o ddatblygiadau i sicrhau bod gennym dai cynaliadwy, a phrosiectau seilwaith eraill yn wir, yn y dyfodol. Mae proses y CDLlau, wrth gwrs, yn dryloyw ac mae'n cynnwys cryn dipyn o ymgysylltiad cyhoeddus â chymunedau lleol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys ein cynghorau cymuned, i sicrhau bod yr holl ddyheadau a phryderon yn cael eu hystyried pan gaiff y cynllun ei gyflwyno.

Llongyfarchiadau i chi, Weinidog, ar eich apwyntiad, ac i'r is-Weinidog—Dirprwy Weinidog, dylwn i ddweud—ar yr apwyntiad hefyd.

Un o'r pethau roedd yn rhaid i awdurdodau lleol eu cynnwys fel ystyriaeth graidd wrth ddatblygu'r cynlluniau datblygu lleol oedd rhagamcanion twf poblogaeth y Llywodraeth. Mae pob un o'r cynlluniau datblygu, felly, yn seiliedig ar y data yma, gan adlewyrchu y rhagamcanion hynny. Ers hynny, mae wedi dod yn amlwg fod y rhagamcanion yma yn gwbl anghywir; mewn rhai achosion, mae poblogaethau wedi disgyn yn hytrach na chynyddu. Golyga hyn, felly, fod y cynlluniau datblygu yn fethedig oherwydd eu bod nhw'n seiliedig ar ddata anghywir. Er hynny, mae'r cynlluniau datblygu, er yn seiliedig ar wybodaeth anghywir, yn parhau i fod yn ddogfennau statudol ac mewn grym. Onid yw hi'n bryd derbyn bod y cynlluniau datblygu yma, felly, yn anghywir, ac ailddechrau'r broses yn llwyr? Diolch.

12:35

Diolch am eich cyfarchion, a chroeso i chithau hefyd i'r Senedd ac i'ch rôl newydd. Felly, rydym yn annog—. Fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn cyntaf, rydym yn annog awdurdodau lleol ledled Cymru i gynnal adolygiad o'u CDLl, yn dibynnu ar ei oedran a'i gwmpas. Mae llawer ohonynt eisoes wedi dechrau'r broses honno. Bellach, mae gennym broses ar waith hefyd sy'n caniatáu iddynt ddod at ei gilydd mewn cyd-bwyllgorau corfforaethol i lunio cynllun datblygu strategol ar gyfer y rhanbarth. Rydym eisoes wedi rhoi ‘Cymru’r Dyfodol' ar waith, felly bydd gennym system a arweinir yn gyfan gwbl gan gynlluniau, a fydd yn gweithio’n dda pan fydd yr elfennau hynny'n weithredol.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddeall argaeledd tai yn yr ardal drwy'r hyn a elwir yn asesiad o'r farchnad dai leol, a maddeuwch i mi os ydych yn gwybod hyn yn barod, ond dyna maent i fod i'w wneud. Maent yn rhan allweddol o'r cynllun datblygu lleol ei hun. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda chyfres o arbenigwyr awdurdod lleol ar ddatblygu a gwella'r asesiadau rheoli tai lleol, gan gynnwys cyhoeddi offeryn newydd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynhyrchu'r asesiadau. Byddwn yn rhoi canllawiau, hyfforddiant a chymorth parhaus i'r awdurdodau lleol allu gwneud hynny. Yr awdurdodau lleol, wrth gwrs, sydd yn y sefyllfa orau i ddeall eu marchnad dai leol yn dda, a sicrhau bod ganddynt asesiad cadarn o'r farchnad dai leol ar waith i lywio'r penderfyniadau. Felly, mae'n debyg fy mod yn cytuno â chi i raddau. Rydym yn annog awdurdodau lleol i sicrhau bod eu CDLl yn gyfredol. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda hwy ar offeryn newydd i asesu rheolaeth dai leol. Rydym yn disgwyl i'r awdurdodau lleol ail-wneud eu hasesiadau tai yn seiliedig ar y tir yng ngoleuni'r offeryn newydd hwnnw, ac yna, pan fydd y cynlluniau datblygu strategol yn cael eu rhoi ar waith yn rhanbarthol, rydym yn disgwyl i'r cynlluniau adlewyrchu hynny ar lawr gwlad. Felly, byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda’r awdurdodau lleol er mwyn gwneud hynny.

Mae rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghylch y targedau yn y rhagfynegiadau blaenorol: nid oeddent erioed yn dargedau; rhagfynegiadau oeddent o'r cychwyn. Dyna pam ein bod yn gweithio ar yr offeryn, ac edrychaf ymlaen at berthynas dda â’r awdurdodau lleol ledled Cymru wrth ddod at ein gilydd ar agenda y mae pob un ohonom yn cytuno arni, sef sicrhau bod gennym y tai iawn yn y lle iawn ar gyfer y cymunedau iawn.

Yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddiogelu datblygiadau tai a busnesau ym Mhorthcawl rhag effaith newid hinsawdd. Fel rhan o'r rhaglen rheoli risgiau arfordirol, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi buddsoddi £6.4 miliwn ar y cyd mewn amddiffynfeydd môr a fydd yn diogelu mwy na 500 o gartrefi a dros 170 o fusnesau ar unwaith rhag perygl llifogydd. Wrth edrych tua’r dyfodol, a all y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau tai ac adfywio ym Mhorthcawl yn y dyfodol yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn cyflawni ein nodau ar gyfer tai carbon isel?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Sarah. Mae'n hyfryd eich gweld yn y cnawd yma yn y Senedd. Ie, cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fel y dywedais, oedd un o’r rhai cyntaf i adolygu proses y CDLl, ac mae datblygu cynaliadwy yn ganolog iawn i broses y cynllun datblygu hwnnw. Mae’n rhaid i'r holl gynlluniau datblygu gydymffurfio â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae’n rhaid iddynt gyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Felly, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd. Mae'n nodi egwyddorion datblygu cynaliadwy, ansawdd aer, cynhyrchu cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy a faint o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu ac ymhle, ac yna caiff y CDLlau eu profi yn erbyn y polisïau hynny drwy broses archwilio gyhoeddus. Felly, fel y dywedais wrth ateb cwestiwn arall, mae'r asesiadau o'r farchnad dai leol yn chwarae rhan yn hynny hefyd.

Ar yr un pryd, rydym hefyd yn cyflwyno adolygiad o'n rheoliadau adeiladu. Mae’r rheoliadau adeiladu newydd—cyhoeddwyd yr ymateb i’n cynllun effeithlonrwydd ynni ym mis Mawrth y llynedd—yn nodi penderfyniad i gyflwyno gostyngiad o 37 y cant mewn allyriadau carbon ar gyfer anheddau newydd ar draws pob sector, nid tai cymdeithasol yn unig, o gymharu â’r safonau cyfredol. Bydd y safonau newydd mewn grym o 2022, felly y flwyddyn nesaf, a chredwn y byddant yn arbed oddeutu £180 y flwyddyn ar gyfartaledd ar filiau ynni i berchnogion tai. Felly, maent yn gweithio tuag at dlodi tanwydd yn ogystal â gwarchod y blaned. Bydd angen i bob cartref newydd gael ei ddiogelu at y dyfodol gyda rheiddiaduron tymheredd isel a gwell safonau ffabrig i'w gwneud yn haws i ôl-osod systemau gwresogi carbon isel yn y dyfodol wrth iddynt ddod yn fwy cyffredin ac yn haws i’w gweithredu. Mae'r gostyngiad o 37 y cant, serch hynny, yn gam tuag at y newid nesaf mewn effeithlonrwydd ynni mewn rheoliadau adeiladu yn 2025, i gyfateb i'n targedau carbon, lle bydd angen i gartrefi newydd gynhyrchu o leiaf 75 y cant yn llai o allyriadau carbon deuocsid na'r rhai a adeiladwyd yn unol â’r gofynion cyfredol.

Felly, gallwch weld ein bod yn gwneud cynnydd cynyddrannol tuag at adeiladu'r cartrefi iawn yn y lle iawn, felly mae proses y CDLlau yn adlewyrchu hynny, a'u hadeiladu hefyd yn unol â’r safonau y mae cenedlaethau'r dyfodol yn eu haeddu ac yn eu disgwyl, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi mabwysiadu'r ddwy broses honno’n gynnar.

12:40
Polisi Cynllunio

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Llongyfarchiadau ar gael eich ailethol, Weinidog, ac ar eich penodiad.

2. A wnaiff y Gweinidog nodi ymagwedd Llywodraeth Cymru at bolisi cynllunio yng Nghymru? OQ56589

Diolch yn fawr iawn am eich cyfarchion, a llongyfarchiadau i chithau hefyd. Mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at bolisi cynllunio wedi'i nodi yn 'Polisi Cynllunio Cymru' ac yn 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'. Mae'r ddwy ddogfen yn ceisio hyrwyddo datblygu lleoedd yn gynaliadwy ledled Cymru.

Diolch. Weinidog, am ormod o ddegawdau, roedd ein system gynllunio’n seiliedig ar y syniad o adeiladu cymaint o gartrefi â phosibl i bobl eu meddiannu'n unig, ond heb ystyried yr hyn y byddai ei angen ar bobl i fyw yn llawn. Nod 'Polisi Cynllunio Cymru 10' yw sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn gwella bywydau cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, tra bo’r cysyniad o greu lleoedd yn ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol at ddatblygiadau. Galwodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, yn ei 'Maniffesto y Dyfodol' a gyhoeddwyd cyn etholiadau'r Senedd, am ddatblygu gwasanaethau cymunedol i adlewyrchu'r dull o greu lleoedd wrth ddarparu gwasanaethau yn y gymuned. I ba raddau rydych yn herio gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â lleoliad gwasanaethau allweddol, megis y GIG, lle gellir gwneud mwy i wella lles pobl sy'n gallu cael mynediad at wasanaethau’n haws yn agos at eu cartref? Diolch, Weinidog.

Ie, diolch yn fawr iawn. Felly, mae'n ddatblygiad o'r hyn a ddywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol. Felly, mae'r polisi cynllunio cenedlaethol, fel rwyf wedi dweud eisoes, yn rhoi cryn dipyn o bwyslais ar greu lleoedd a'r camau sy'n rhaid inni eu cymryd i greu lleoedd sy'n diwallu anghenion lles pawb. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol hefyd yn sicrhau ein bod yn meddwl sut y mae ein lleoedd yn ein gwneud yn iachach ac yn gwella ein llesiant. Rwy'n hyderus iawn y bydd y polisi cynllunio yn ein cynorthwyo i greu'r lleoedd y mae COVID wedi dangos bod arnom eu hangen ac sy'n darparu tai o ansawdd da i bawb, yn cefnogi siopau, swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau lleol ac yn lleihau'r angen i deithio.

Ond wrth gwrs, mae gennym argyfwng hinsawdd hefyd, felly daw hyn ochr yn ochr â’r gwersi rydym wedi’u dysgu yn ystod y pandemig am bwysigrwydd lle. Mae angen inni annog pobl i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gweithio gartref neu weithio o bell mewn hybiau, i ddarparu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol yn eich bywyd bob dydd, i greu mannau gwyrdd iach, hygyrch, a’u bod yn cael eu cefnogi gan brosesau cynllunio lleol a rhanbarthol cryf sy'n rhoi'r offer a'r grym i leoedd lleol gynorthwyo gyda’r gwaith o lunio eu dyfodol eu hunain. Felly, hanfod hyn yw sicrhau bod cymunedau yn ganolog i sut yr hoffent i'w cymuned fod, ac fel y dywedais, i adeiladu'r tai iawn yn y lleoedd iawn, i adeiladu'r seilwaith iawn yn y lleoedd iawn, ac i sicrhau y gall ein cymunedau gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd ei angen arnynt o fewn pellter rhesymol i’w—i ble maent yn byw, fel bod eu cymuned yn teimlo fel y dylai cymuned ‘llesiant cenedlaethau'r dyfodol’ deimlo. Drwy'r gyfres o ddogfennau rydym wedi'u cyhoeddi, rydym yn hyderus y gallwn greu’r Gymru yr hoffai pob un ohonom ei gweld.

Roeddwn yn falch iawn o weld y Gweinidog yn parhau gyda’r cyfrifoldeb am gynllunio yn ei phortffolio newydd, a phwysig iawn bellach, ac ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog; roeddwn yn falch o weld y weinyddiaeth bwysig honno’n cael ei sefydlu.

Weinidog, am amryw o resymau, mae'n cymryd mwy o amser nag yr oeddent wedi'i obeithio i gynghorau gwblhau CDLlau. Mae hyn yn aml yn golygu nad oes gan gymunedau a thrigolion yr amddiffyniadau cynllunio y byddent yn dymuno eu cael. Mae'n gyfystyr â chynllunio drwy apêl i'r arolygiaeth, gyda llai o ddylanwad lleol na phe bai CDLl wedi ei gytuno. Nawr, golyga hyn fod cymunedau fel Pen-y-ffordd yn teimlo’n rhwystredig, ac fel y gwyddoch, rwy'n gweithio'n agos gyda Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd, a byddent yn hoffi i leisiau'r preswylwyr fod yn uwch pe bai oedi cyn cyhoeddi CDLl. A gaf fi ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i uwchraddio statws y cynllun bro fel ei fod yn cael ei gydnabod yn swyddogol yn y broses gynllunio, i roi mewnbwn swyddogol i gymunedau lleol fel Pen-y-ffordd heb ddibynnu'n uniongyrchol ar eu cynnwys drwy CDLl?

Diolch, Jack, ac rwy’n hynod falch o fod yn y portffolio hwn. Roedd yn dda gweithio'n agos gyda chi yn y Senedd ddiwethaf, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny eto. Mae'n braf iawn gweld pobl wyneb yn wyneb, mae'n rhaid imi ddweud.

Felly, ydyn, rydym yn—. Yn amlwg, y peth cyntaf i'w ddweud yw ein bod yn awyddus iawn i sicrhau bod gan bob awdurdod lleol CDLl cyfredol, eu bod yn mynd drwy'r broses yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn sicrhau bod y broses honno’n cynnwys ymgynghoriad cymunedol mor eang ag sydd angen, a bod y cymunedau'n teimlo'n gryf iawn eu bod wedi cael dweud eu barn ar sut y dylid llunio eu cymunedau ym mhroses y CDLl. Dyna holl ddiben y broses. Ac fel y gwyddoch, rydym hefyd yn rhoi'r cynlluniau rhanbarthol strategol ar waith fel y gall y CDLl ganolbwyntio ar y materion lleol hynny. A byddwn yn gwybod eisoes sut bethau fydd y cynlluniau seilwaith rhanbarthol, ac wrth gwrs, mae'r cynllun cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru', ‘Cymru’r Dyfodol', wedi gwneud rhai o'r dewisiadau yn genedlaethol i ni ar ôl proses ymgynghori helaeth a fydd yn caniatáu i’r prosesau hynny ddigwydd.

Ond rwy’n awyddus iawn i sicrhau, ar gyfer pob ardal leol, fod yr ardal leol yn cael dweud eu barn ynglŷn â sut beth allai cynllun bro fod—nid ydym yn eu galw'n hynny yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl bosibl rhoi cynllun strategol ar waith ar gyfer ardal benodol, is-set o'r CDLl os mynnwch. Ar hyn o bryd, mae angen y CDLl er mwyn i hynny fod yn weithredol, ond rwy'n fwy na pharod i archwilio'r hyn y gallwn ei wneud yn y cyfnodau interim. Mae'n sefyllfa anodd iawn lle ceir oedi cyn cyhoeddi'r CDLl, fel y digwyddodd yn eich ardal chi, ac yna rydych yn llygad eich lle, mae gennym ddatblygiadau cynllunio dyfaliadol ac nid oes CDLl gennym i'w rhoi yn eu cyd-destun. Felly, rwy'n hapus iawn i weithio gyda chi ar hynny, ond byddwn yn llawer hapusach yn gweld y cyngor lleol yn cael trefn ar ei CDLl cyn gynted â phosibl yng ngoleuni’r ddogfen polisi cynllunio newydd er mwyn inni allu rhoi’r broses ar waith.

12:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

Diolch, Lywydd. A gaf fi achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch, Weinidog? Rwyf wedi gweithio gyda chi yn y gorffennol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi mewn modd cadarnhaol wrth inni geisio mynd i’r afael â’r materion sy'n wynebu ein cymunedau.

Nawr, Lywydd, ddydd Llun roedd hi'n bedair blynedd ers marwolaeth drasig 72 o bobl yn Nhŵr Grenfell. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog, ac yn wir, y Senedd hon yn ymuno â mi i gydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y trychineb hwn. Nawr, yn fuan ar ôl Grenfell, dywedodd ein diweddar annwyl gyd-Aelod Carl Sargeant yn gwbl briodol wrth y Senedd hon y dylem ddysgu'r gwersi a gweithredu arnynt. Fodd bynnag, hyd yma nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'r penderfyniad hwnnw'n ddigon cyflym. Fe wnaeth hyd yn oed y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau trawsbleidiol ysgrifennu’r canlynol yn gynharach eleni:

‘Ar adegau, rydym wedi teimlo'n rhwystredig yn sgil yr arafwch i ymateb i rai o’r materion allweddol a phwysig hyn.’

Mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf, bygythiodd partner yng nghwmni cyfreithiol Watkins and Gunn ddwyn achos yn yr Uchel Lys a cheisio adolygiad barnwrol o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â chymorth ariannol i gynorthwyo'r rheini sy’n wynebu problemau diogelwch tân mewn fflatiau uchel iawn. Nid oes achosion cyfreithiol ar y gweill hyd yma, ond mae'r posibilrwydd yn tynnu sylw at yr anobaith y mae llawer o breswylwyr yn ei deimlo ledled Cymru.

Nawr, a bod yn deg, Weinidog, rydych wedi gwneud ymrwymiad clir yn y maniffesto, ac rwy’n dyfynnu, y byddwch yn

‘datblygu cronfa diogelwch tân ar gyfer adeiladau presennol.'

Mae angen ichi ofyn cwestiwn yn awr. Ni chredaf fod angen ichi ddyfynnu maniffesto’r Blaid Lafur i’r Gweinidog.

Iawn. Fe ddywedoch chi yr un peth ar 15 Chwefror 2021. Felly, a wnewch chi roi datganiad clir heddiw ynghylch yr union amserlen ar gyfer creu'r gronfa hon yng Nghymru a faint yn union o gyllid y byddwch yn ei ddarparu? Diolch.

Gwnaf, wrth gwrs, Janet, a chroeso i'ch briff newydd chithau hefyd. Ond wrth gwrs, Janet, rwy’n cydymdeimlo â holl ddioddefwyr tân Grenfell, ac yn wir, gyda phawb sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt. Mae'n gwbl warthus fod yr adeiladau wedi cael eu codi gyda chymaint o ddiffygion. Fodd bynnag, fel y dywedais sawl gwaith yn y Senedd flaenorol, mae hyn yn hynod gymhleth o ran y ffordd y mae cyfraith tir yn gweithio, y ffordd y mae cyfraith eiddo’n gweithio, y ffordd y mae cyfraith lesddaliadol yn gweithio, y ffordd y caiff yr adeiladau eu rheoli, y ffordd y cânt eu hadeiladu ac ati. Ac yn anffodus, nid oes un ateb sy’n addas i bawb. Mae gan bob adeilad set o broblemau sy'n unigryw iddo, ac mae'n anodd iawn rhoi rhywbeth trosfwaol ar waith sy'n gweithio.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cryn dipyn o drafferth yn y maes hwn hefyd. Maent wedi agor nifer o gronfeydd, ond mae'r cronfeydd hynny wedi bod yn llai effeithlon nag y tybiaf y byddent wedi’i hoffi, a bod yn garedig. A hefyd, dim ond ar gyfer rhai o'r problemau cladin y gellir eu defnyddio, ond gwyddom fod gan nifer fawr iawn o'r adeiladau hyn broblemau o ran y ffordd y maent yn rhannu'n adrannau, problemau gyda diangfeydd, problemau gyda larymau a phob math o bethau eraill yn bod gyda hwy. Felly, ar hyn o bryd rydym yn ystyried dull cyfannol o unioni adeiladau, sy'n cynnwys y ffordd y mae'r adeiladau'n rhannu'n adrannau, systemau rhybudd tân, systemau gwacáu a systemau llethu tân. Hyd yn hyn, dim ond un set o gyllid canlyniadol a gawsom gan Lywodraeth y DU, er gwaethaf y symiau mawr iawn o arian a gyhoeddwyd. Cefais sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy gymheiriaid sy'n Aelodau Seneddol, y byddwn yn cael cyllid canlyniadol, ond hyd yn hyn, nid ydym wedi’i gael, ac nid oes unrhyw syniad o gwbl faint o arian a gawn a phryd y byddwn yn ei gael. Felly, hoffwn eich cymorth i sicrhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud wrthym faint o arian y mae’n credu y byddwn yn ei gael fel cyllid canlyniadol, gan ei bod yn anodd iawn cynllunio heb y manylion hynny.

Serch hynny, gyda'r arian sydd gennym eisoes, rydym yn gweithio'n galed er mwyn rhoi cynllun at ei gilydd sy'n debygol o allu cynorthwyo perchnogion adeiladau—rwy'n dweud 'perchnogion adeiladau' fel term cyffredinol, felly er eglurder, nid dyna yw’r term technegol, gan fod nifer o gymhlethdodau, ond y bobl sy'n berchen ar yr adeilad—i ddeall beth sydd o'i le ar eu hadeilad, gan mai dyna'r broblem gyntaf, gan nad oes unrhyw un o'r bobl sy'n byw yno yn arbenigwyr ar hynny, ac mae hyd yn oed gofyn i bobl, 'Beth sydd o'i le ar yr adeilad hwn?' yn beth anodd iawn i'w wneud. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i roi rhywbeth at ei gilydd sy'n caniatáu i bobl gael ateb cywir i 'Beth sydd o'i le ar yr adeilad hwn?' ac yna i allu asesu'r math cywir o gyllid i unioni’r broblem wedyn. Ond mae'n hynod o gymhleth, ac nid ydym yn mynd yn araf am nad ydym yn dymuno ei wneud, rydym yn mynd yn araf am ein bod am ei wneud yn iawn.

12:50

Diolch. Credaf mai'r hyn rwy'n ei geisio, a dweud y gwir, yw'r eglurder. Fel rhywun sy'n eich cysgodi yn eich portffolio, rwy'n pryderu’n fawr wrth archwilio faint yn union rydych wedi'i gael hyd yma, faint rydych yn bwriadu ei dderbyn, neu ble mae angen fy nghymorth arnoch. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi arwain y ffordd drwy amddiffyn cannoedd ar filoedd o lesddeiliaid rhag cost tynnu cladin anniogel ar eu cartrefi. Fis Rhagfyr y llynedd, fe ysgrifennoch chi ataf yn nodi nad yw'r £58 miliwn a gafwyd mewn cyllid canlyniadol o gyllideb y DU wedi'i glustnodi i gael ei wario at yr un diben yng Nghymru, felly rwy'n cwestiynu hynny. Rwy'n cydnabod eich bod wedi buddsoddi £10.6 miliwn yn y sector cymdeithasol i ariannu gwaith unioni yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a bod y gyllideb yn cynnwys £32 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer unioni adeiladau ymhellach. Fodd bynnag, hyd y gwelaf, mae £15.4 miliwn ar goll. Felly, a wnewch chi ymrwymo i'r Siambr hon heddiw y byddwch yn gwario pob ceiniog a gewch gan Lywodraeth y DU at y diben hwnnw, er mwyn sicrhau bod camau unioni pwysig yn digwydd? Ac a wnewch chi gadarnhau heddiw, Weinidog, ble mae'r £15.4 miliwn hwnnw?

Felly, yn anffodus, Janet, nid felly y mae cyllid canlyniadol yn gweithio. Daw'r cyllid canlyniadol fel rhan o becyn ariannu i Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cyllid canlyniadol negyddol yn ogystal â chyllid canlyniadol cadarnhaol. Rwyf bob amser yn dweud wrth bobl sy'n gofyn imi roi'r symiau cadarnhaol iddynt, 'Byddwch yn ofalus beth a ddymunwch, oherwydd efallai y cewch y rhai negyddol hefyd, a bydd gennych lai o arian yn y pen draw nag oedd gennych i gychwyn.' Felly, mewn gwirionedd, y peth pwysicaf yw rhoi cronfa ar waith sy’n gwneud y gwaith rydym am iddi ei wneud.

Hoffwn wybod sut olwg fyddai ar y cyllid canlyniadol i Gymru o’r biliynau a gyhoeddwyd gan Robert Jenrick, ond yn yr iteriadau blaenorol ar hyn, mae arnaf ofn ein bod wedi darganfod, pan ddaw'r cyllid canlyniadol cadarnhaol, ei fod hefyd yn golygu toriad i wariant adrannol sy'n gwrthbwyso'r cyllid canlyniadol a chawn lai o arian. Felly, mae arnaf ofn nad yw’r sefyllfa mor syml ag yr hoffech iddi fod. Carwn pe bai pethau mor syml â hynny, ond nid ydynt.

Pan gawsom y cyllid canlyniadol hwnnw gyntaf, roeddem ar ddechrau’r pandemig, ac fe wnaethom wario’r holl gyllid canlyniadol, yn gwbl briodol, ar ymladd y pandemig, gan mai honno oedd y broblem uniongyrchol a wynebem, felly gwnaethom roi’r holl arian tuag at hynny, ond yna'n araf, wrth inni ddeall sut beth oedd y pandemig ac ati, bu modd inni ryddhau cyllid i wneud rhai o'r pethau rydych newydd eu crybwyll, felly rydym eisoes wedi gwneud y gwaith o unioni adeiladau cymdeithasol ac rydym wedi rhoi £32 miliwn yn y gyllideb ar gyfer y gronfa gychwynnol i edrych ar fater diogelwch adeiladau. Mae'n anodd iawn cynllunio ar gyfer y gweddill hyd nes y gwyddom ar beth rydym yn edrych, nid yn unig o ran cyllid canlyniadol cadarnhaol, ond o ran cyllid yn gyffredinol mewn perthynas â’r adran. Rwy'n fwy na pharod i roi sesiwn friffio i'r Aelodau ar sut y mae rhai o gymhlethdodau’r mater hwn yn gweithio, a Lywydd, rwy'n fwy na pharod i gynnig hynny i Aelodau ar draws y Senedd, gan fod hyn yn rhywbeth pwysig iawn y mae angen inni sicrhau ein bod yn ei wneud yn iawn i Gymru.

Diolch. Rwyf wedi dechrau felly rwyf am orffen, ond mae'n ddigon posibl fod arnom angen i'r sgyrsiau hynny ddigwydd, ond rwyf am barhau â hyn.

Felly, mae’n hanfodol fy mod yn canolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael gan eu bod yn allweddol i sicrhau cynnydd ar greu adeiladau mwy diogel yng Nghymru. Nododd ymateb y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i Bapur Gwyn 'Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru' mai un o'r themâu cyffredin a glywyd gan yr holl ymatebwyr oedd effaith y drefn newydd arfaethedig ar adnoddau, gan gynnwys y gwasanaethau tân ac achub, sydd wedi rhybuddio y gallai fod angen iddynt wneud llai o weithgareddau diogelwch cymunedol traddodiadol, a bod llu o'r goblygiadau i adnoddau sy'n codi o'r cynigion yn y Papur Gwyn heb gael eu trafod. Dywedodd Cofrestr Arolygwyr Cymeradwy Cyngor y Diwydiant Adeiladu y bydd angen cynnydd sylweddol yn y nifer o syrfewyr â chymwysterau priodol sy’n ymuno â'r sector hwn, ac yna wrth gwrs mae'r effaith ar lesddeiliaid gyda'r galwadau'n cael eu gwneud am eglurder llwyr ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am dalu am bob elfen o'r cynigion hynny.

Felly, a wnewch chi egluro heddiw, os gwelwch yn dda, pa gamau rydych eisoes yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng adnoddau sydd angen inni ei oresgyn i gael cyfundrefn newydd effeithiol yng Nghymru? Hoffwn dderbyn eich cynnig i ddysgu beth yw’r ffigurau hyn yn fwy manwl, ac yna gallwn sicrhau nad yw geiriau a siaradwyd bedair blynedd yn ôl yn cael eu hanwybyddu. Diolch.

12:55

Diolch yn fawr, Janet. Mae consensws enfawr ar draws y Siambr fod angen inni roi cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd ar waith yng Nghymru, a buom yn cydweithio'n agos iawn yn y Senedd ddiwethaf ar lunio'r cynigion ac ati. Roeddem yn awyddus iawn cyn yr etholiad, a bu pob un ohonom yn gweithio ar draws y Siambr, i sicrhau bod y diwydiant ar lawr gwlad yn sylweddoli bod holl bleidiau mawr y Senedd wedi ymrwymo i'r agenda hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich gwaith yn gwneud hynny gyda mi. Byddwn yn cyflwyno’r ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad gerbron y Senedd o’r Papur Gwyn maes o law, pan fyddwn yn barod i wneud hynny, ac rwy’n fwy na pharod i gael sesiwn friffio unwaith eto ar set hynod o gymhleth o argymhellion. Fe fyddwch yn cofio’r graffiau enfawr—Lywydd, rwy'n credu eich bod wedi gallu eu rhoi ar sgrin ar un adeg, i ddangos pa mor gymhleth ydoedd, a bu ein cyn gyd-Aelod David Melding yn gofyn ystod o gwestiynau i mi. Felly, unwaith eto, hoffwn gynnig sesiwn friffio ar ein sefyllfa gyda'r Papur Gwyn a sut beth fydd y gyfundrefn newydd ar gyfer adeiladau newydd—fel y dywedaf, ni fydd yn cywiro problemau'r gorffennol—fel bod yr Aelodau'n cael y wybodaeth orau i allu ffurfio barn arni cyn y daw ger eu bron ar lawr y Senedd.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, byddaf i'n gofyn fy nau gwestiwn cyntaf yn Gymraeg. Gaf i eich croesawu chi i’ch rôl newydd? Rwy’n edrych ymlaen at allu cydweithio â chi ar y pwnc hollbwysig yma.

Mae’n glir bod argyfwng hinsawdd yn wynebu Cymru, a datganwyd argyfwng hinsawdd yn ystod y pumed Senedd. Ond dydy’r argyfwng sy’n ein hwynebu ddim yn un sy’n ymwneud â hinsawdd yn unig. Mae yna argyfwng natur a bioamrywiaeth hefyd. Yn wir, roedd yn siom nad oedd targedau statudol ar golli bioamrywiaeth yn y rhaglen lywodraethu mae’r Prif Weinidog wedi ei chyhoeddi, achos mae’r sefyllfa yn argyfyngus. Yr wythnos diwethaf, dywedodd 50 o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r byd fod yn rhaid inni ddatrys y ddau argyfwng yma gyda’i gilydd—natur a hinsawdd—neu ni fyddwn yn llwyddo i ddatrys y naill argyfwng na'r llall. Does bosib nawr fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru rhoi’r un sylw i’r argyfwng natur ag sy’n cael ei roi i’r argyfwng hinsawdd.

Felly, gaf i ofyn i ddechrau a ydych chi'n cytuno bod angen datgan argyfwng natur? Ac a allwch chi wneud datganiad ar y posibilrwydd o ddatblygu a chyflwyno targedau adfer natur fydd yn gwrthdroi dirywiad natur erbyn 2030?

Diolch am hynny, Delyth, ac mae'n braf gweithio gyda chithau eto hefyd.

Rydym yn ei ystyried yn rhan arall o'r argyfwng hinsawdd. Mae'r argyfwng natur yn cael ei yrru gan newidiadau hinsawdd, cynefinoedd yn crebachu, a phopeth arall sy’n dod law yn llaw â'r argyfwng hinsawdd. Felly, ni chredaf fod unrhyw un ohonom yn anghytuno ein bod mewn argyfwng o'r fath. Rydym yn colli rhywogaethau a chynefinoedd ar raddfa warthus ar draws y blaned, ac yn wir yng Nghymru, ac mae'n amlwg nid yn unig fod angen inni ddiogelu’r hyn sydd gennym ar ôl, ond hefyd fod angen gwella'r hyn sydd gennym ar ôl, a cheisio ei gynorthwyo i wella. Bydd hynny'n rhan fawr o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud fel rhan o'r portffolio newydd, a bydd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gwneud datganiad yn nes ymlaen heddiw i nodi rhai o'r pethau cyntaf y byddwn yn eu gwneud. Lywydd, rydym yn ceisio gwneud hyn ar y cyd, gan ei fod yn waith enfawr, a bydd y ddau ohonom yn rhannu llawer ohono, felly efallai y byddwch yn gweld y ddau ohonom yn ymdrin â rhannau ohono, Delyth, oherwydd natur eithafol yr hyn rydych newydd ei ddisgrifio.

Ar hyn o bryd, rydym yn aros am ychydig o gyngor gan sefydliadau'r byd ar hyn, felly rydym yn gobeithio y byddant yn adrodd yn ôl i ni ym mis Hydref gyda thargedau byd-eang. Byddwn yn cymryd rhan yn COP26 er mwyn dysgu gwersi o hynny, ac yna rwy’n fwy na pharod i gyflwyno ystod o gynigion i'r Senedd i'w rhoi ar waith, fel y gallwch bwyso arnom, os mynnwch, i sicrhau ein bod yn ei wneud, ond yn bwysicach fyth, i ddweud y stori wrth bobl Cymru ynglŷn â'r hyn y bydd yn rhaid i bob un ohonom gyfrannu ato, yn bersonol ac yn ein cymunedau, i sicrhau ein bod yn dilyn y wyddoniaeth. Rydym wedi dod i arfer â hynny yn ystod COVID, onid ydym? Rydym wedi dod i arfer â set o wyddonwyr yn dod ynghyd ac yn gosod set o baramedrau i ni sy'n caniatáu i lunwyr polisi wneud dewisiadau. Felly, rydym yn sicr yn gweld hynny mewn perthynas â newid hinsawdd a'r argyfwng natur sy'n gysylltiedig â hynny. Byddwn yn cyflwyno set o ddewisiadau i chi sy'n caniatáu inni ddod ynghyd fel Senedd, gan y credaf yn sicr fod hon yn agenda a rennir ledled Cymru.

Ond Lywydd, rwy’n dwyn y sylw oddi ar fy nghyd-Aelod yn awr, felly rwyf am roi’r gorau iddi yn y fan honno.

13:00

Diolch, Gweinidog. Bydd cydweithio yn rhywbeth rili pwysig yn y maes yma, rwy'n siŵr, ar draws y Llywodraeth ond hefyd ar draws pleidiau. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd yna bethau lle byddwn ni yn gallu cydweithio. Yn sicr, bydd yna lefydd lle byddaf i'n gwthio ichi fynd ymhellach, rwy'n siŵr. Rwy'n falch hefyd eich bod chi newydd siarad am y straeon a sut rydyn ni'n rhoi stori newid hinsawdd a'r naratif drosodd. Fel rydych chi'n gwybod yn barod o beth rydym ni wedi'i drafod am eco-bryder neu bryder hinsawdd, mae hynna'n rhywbeth dwi'n rili awyddus inni allu gweithio arno. Diolch am hynna. 

I symud ymlaen at rywbeth arall, wrth gwrs, er mwyn inni allu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, bydd angen inni berswadio mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n dod â ni at broblem. Mae teithwyr ledled Cymru wedi cwyno am deimlo yn anniogel ar drafnidiaeth gyhoeddus ers i gyfyngiadau teithio COVID gael eu llacio'n fwy. Mae nifer wedi cwyno am bryderon diogelwch ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, gan sôn am orlenwi peryglus ac am sefyllfaoedd sydd yn gorfodi pobl i eistedd ochr yn ochr, yn methu â chydymffurfio â mesurau—

A gaf i ofyn i chi felly, Weinidog, beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i ymateb i'r pryderon hyn am orlenwi ar drafnidiaeth gyhoeddus? 

Fy nghyd-Aelod Lee Waters a fydd yn bennaf gyfrifol am drafnidiaeth, ond hoffwn nodi, yn fyr iawn, y byddwn yn cyflwyno ystod o bethau rydym am eu dweud am drafnidiaeth gyhoeddus, o ran strwythur a diben, a rhai o'r materion rydych wedi’u codi mewn perthynas â’r ffordd y mae'r gweithrediadau cyfredol yn bodoli ochr yn ochr â’r rheoliadau COVID, sy'n broblemau anodd iawn i'w datrys. Mae pob un o'r atebion honedig yn arwain at broblemau eraill. Ond byddwn yn cyflwyno ystod o gynigion cyn bo hir i'r Senedd eu hystyried, er mwyn datrys rhai o'r anomaleddau yn y drefn bresennol, ond hefyd i nodi dyfodol llawer gwell i drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn unol â'n polisi trafnidiaeth newydd i Gymru, a gyhoeddwyd gennym cyn tymor yr etholiad.

Unwaith eto, Lywydd, rwy'n poeni fy mod yn dwyn clodydd fy nghyd-Weinidog os rhoddaf ateb mwy cyflawn, ond Delyth, byddem yn fwy na pharod i weithio gyda chi ar ystod o faterion anodd iawn ynghylch nid yn unig y mater penodol iawn y sonioch amdano, ond ar ystod o faterion sy’n ymwneud â mynediad at well mathau o drafnidiaeth i bobl ar draws cymunedau Cymru.

Diolch, Weinidog. Yn olaf, hoffwn ofyn am aelodaeth Llywodraeth Cymru—neu’n hytrach, absenoldeb, mae'n debyg—o bwyllgor llywio Canolfan Ymchwil Ynni'r DU. Mae'r pwyllgor hwnnw'n cynnal adolygiad o fodelau ynni sy'n cael eu defnyddio ledled y DU gan gyrff cyhoeddus, prifysgolion a'r diwydiant ynni. Mae absenoldeb Llywodraeth Cymru o'r pwyllgor hwnnw’n nodedig, gan mai hwy fyddai'r unig un o gyrff Llywodraeth y DU nad yw’n cael ei gynrychioli. Buaswn yn falch o gael fy mhrofi'n anghywir ar hyn, ond o ystyried pwysigrwydd y mater, hoffwn ofyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi cael gwahoddiad i fod yn aelod o'r grŵp llywio? A benderfynodd Llywodraeth Cymru beidio ag ymuno, ac os felly, pam? Ac yn olaf, pa brofiad sefydliadol, ac yn wir, pa fynediad at wybodaeth sydd wedi'i golli yn eich barn chi o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw i beidio â chymryd rhan yn y broses gynghori?

Mae’n rhaid imi ymateb i hynny, Delyth, drwy ddweud, 'O, rydych wedi fy nghuro’. Nid wyf yn gwybod yr ateb i hynny. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu atoch.FootnoteLink

Cwestiwn 3, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog. Cwestiwn 3 gan Sam Rowlands. 

Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yng ngogledd Cymru? OQ56605

Mae'r cyngor a'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ar risgiau a chyfleoedd mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd yn tanlinellu pwysigrwydd ein gwaith i sicrhau bod pob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd, yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well.

Diolch, Ddirprwy Weinidog, am eich ymateb. Llongyfarchiadau, wrth gwrs, ar eich penodiad, ac i'r Gweinidog, Julie James, ar eich penodiad chithau. A diolch am yr ymgysylltu hyd yn hyn yn fy rôl fel Gweinidog llywodraeth leol yr wrthblaid. Hoffwn godi mater y cynnydd yn lefel y môr ac effeithiau hyn ar draws gogledd Cymru. Yn ôl astudiaeth o’r newid yn yr hinsawdd gan Climate Central, gallai rhannau helaeth o arfordir rhanbarth gogledd Cymru fod o dan ddŵr erbyn 2050 os na chaiff mesurau priodol eu rhoi ar waith. Mae'r rhagamcanion cyfredol yn dangos y gallai ardaloedd o sir y Fflint sy'n ffinio ag afon Dyfrdwy, ynghyd ag ardaloedd arfordirol fel Prestatyn, Rhyl a Llandudno, gael eu colli wrth i lefelau'r môr godi dros y 30 mlynedd nesaf. Felly, gyda nifer o opsiynau ar gael fel addasiadau, môr-lynnoedd llanw a seilwaith amddiffynfeydd môr, pa gamau penodol rydych yn eu cymryd a pha fuddsoddiad rydych yn ei ddarparu i leihau'r risg y mae’r cynnydd yn lefel y môr yn ei pheri i gymunedau fel y rhain yng ngogledd Cymru?

13:05

I gychwyn, a gaf fi ddweud yn glir fy mod am longyfarch pawb ar gael eu hailethol? Rwy'n falch iawn o weld pawb, a diolch iddynt am eu cwestiwn. Drwy ddweud hynny, efallai y gallaf osgoi dweud yr un peth bob tro y byddwn yn codi.

Credaf eich bod yn llygad eich lle yn tynnu sylw at y dystiolaeth newydd eto yn yr adroddiad heddiw am effaith y cynnydd yn lefel y môr a achosir yn uniongyrchol gan gynhesu byd-eang gan bobl. Mae llawer o ganlyniadau hynny yn ddiwrthdro ac mae'n rhaid inni ymdopi â hynny wrth inni geisio sicrhau ar yr un pryd nad yw'r broblem yn gwaethygu. Mae'r ffaith bod y rhan fwyaf o'n haneddiadau mawr wedi’u lleoli ar yr arfordir yng ngogledd a de ein gwlad yn amlwg yn peri heriau enfawr i ni gyda rheoli'r broses honno. Rydym wedi rhoi ystod o fesurau ar waith. Ym mis Hydref 2020 fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol gan nodi cynllun ar gyfer y degawd nesaf, yn cynnwys gwersi a ddysgwyd o'r llifogydd diweddar. Rydym wedi rhoi £65 miliwn yn y gyllideb ar gyfer rheoli llifogydd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sef y swm mwyaf erioed mewn un flwyddyn, ac yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau prosiectau mawr, gan gynnwys yn Llanelwy, Borth, a Llanberis. Mae'r rhaglen lywodraethu’n ymrwymo i ariannu mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer mwy na 45,000 o gartrefi, ac yn bwysig, mesurau rheoli llifogydd ar sail natur ym mhob un o’r prif ardaloedd dalgylch afon. Mae hon yn her enfawr i bob un ohonom, ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio ar y cyd i ddod o hyd i atebion, yn y Siambr hon ond hefyd, wrth gwrs, yn hollbwysig, gydag awdurdodau lleol, sy’n wynebu effaith uniongyrchol hyn.

Hoffwn longyfarch y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog. Mae gennych bortffolio enfawr, ac un diddorol iawn hefyd. A gaf fi ddechrau drwy ganmol Llywodraeth Cymru a'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod newid hinsawdd yn ganolog ar ei hagenda ar gyfer tymor y Senedd hon? Fel y nododd y WWF, a Delyth yn gynharach, un o effeithiau dinistriol newid hinsawdd yw colli bioamrywiaeth, gyda channoedd o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Rwy’n awyddus i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd ar bob lefel o'r Llywodraeth i ddiogelu rhywogaethau yn fy rhanbarth yng ngogledd Cymru. Gosododd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â mater colli bioamrywiaeth yng ngogledd Cymru a sicrhau bod awdurdodau lleol yn chwarae eu rôl mewn cadwraeth hefyd? Diolch.

Rwy'n cytuno bod hon yn duedd sy'n peri cryn bryder. Mae cynllun Llywodraeth Cymru wedi'i nodi yn ein cynllun gweithredu adfer natur ar gyfer rheoli colli bioamrywiaeth. Rydym wedi creu'r gronfa rhwydweithiau natur gyda'r Loteri Genedlaethol ac rydym wedi buddsoddi bron i £10 miliwn ynddi. Mae hynny eisoes yn arwain at ganlyniadau mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Yn y gogledd yn arbennig, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ariannu LIFE Afon Dyfrdwy i adfer cynefinoedd naturiol o amgylch ardaloedd cadwraeth arbennig afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Mae'r Aelod a minnau wedi cael trafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar ynglŷn â’r effaith y gall arferion torri gwair ledled Cymru ei chael ar golli bioamrywiaeth yn arbennig. Roeddwn yn falch o nodi bod y Llywydd hyd yn oed wedi ymuno gan roi awgrymiadau defnyddiol ar sut y gallem ddefnyddio'r ffordd rydym yn rheoli ein priffyrdd, ond hefyd yr awdurdodau lleol sy'n rheoli'r tir yn y gwaith. Ar ôl manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd yr Aelod, fel cyn aelod o gabinet sir y Fflint a oedd â chyfrifoldeb am briffyrdd, mae'n amlwg fod arferion da iawn i’w cael ym mhob rhan o Gymru, ac roedd hynny'n amlwg o'r ystod o gyfranwyr i'r edefyn. Ond ymddengys bod rhywfaint o anghysondeb, ac ymddengys bod pethau y gall eraill eu dysgu o'r profiad ymarferol y maent yn ei gael. Felly, Lywydd, roeddwn yn falch iawn fod Carolyn Thomas wedi cytuno i wneud rhywfaint o waith i ni, drwy geisio casglu enghreifftiau o arferion da gan awdurdodau lleol a cheisio nodi pa rwystrau a allai fod yn eu ffordd sy'n eu hatal rhag rhoi'r arferion ar waith yn fwy cyson, a thrwy wneud set o argymhellion i mi a Julie James i weld sut y gallem fynd i'r afael â hyn a'i gyflwyno'n ehangach. Mae arloesi’n beth gwych; ei ledaenu yw'r her fwyaf bob amser. Rwy'n croesawu cymorth Carolyn Thomas yn fawr wrth geisio lledaenu arferion da.

Deddf Aer Glân

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu deddf aer glân i Gymru? OQ56611

O, fi eto. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i Ddeddf aer glân i Gymru. Mae swyddogion yn datblygu cynigion ar gyfer Bil aer glân yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, a bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ein rhaglen ddeddfwriaethol cyn bo hir.

13:10

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae llygredd aer yn llofrudd cudd sy’n cyfrannu at bron i 1,400 o farwolaethau cynamserol ac yn costio miliynau i GIG Cymru bob blwyddyn. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef ar frys ac rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Ddeddf aer glân. Fodd bynnag, mae Asthma UK a British Lung Foundation Cymru yn poeni bod cynigion cyfredol yn nodi efallai na fyddem yn gweld rheoliadau newydd tan seithfed tymor y Senedd. Er mai nod y Papur Gwyn yw gwella lefelau ansawdd aer uwchlaw'r lefelau a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gynnwys rheoleiddio lefelau llygryddion aer wrth i’r Bil symud ymlaen fel y gall trigolion rhai o'r ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf fwynhau’r manteision cyn gynted â phosibl?

Diolch am yr her bwysig honno. Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth. Yn amlwg, mae'r rhaglen lywodraethu’n ymwneud â thymor cyfan y Senedd hon, ac rydym am gyflwyno llawer o ddeddfwriaeth. Felly, mae'n mynd i gymryd amser i'r holl ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno. Yn amlwg, mae ansawdd aer yn her y mae angen inni fynd i’r afael â hi ar frys, ac ni allwn aros i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno cyn dechrau mynd i’r afael â hi, ac nid ydym yn gwneud hynny. Rwyf wedi cael sicrwydd gan swyddogion Llywodraeth Cymru y bydd gennym reoliadau ar waith yn nhymor y Senedd hon i roi sylw i'r agenda a amlinellwyd gan Jayne Bryant. Ond mae pa gamau y gallwn eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â'r mater yr un mor bwysig. Rwy’n falch iawn fy mod yn dod i Gasnewydd yfory, ar Ddiwrnod Aer Glân, i edrych ar y bysiau trydan a’r llwybrau teithio llesol y mae’r awdurdod wedi buddsoddi ynddynt a’u datblygu yno. Credaf eu bod yn dangos arweinyddiaeth wych yn y gwaith a wnânt.

Mae'r ymrwymiad yn strategaeth drafnidiaeth Cymru i newid dulliau teithio yn hanfodol; mae gwaith adroddiad Burns a Chomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, unwaith eto, yn hanfodol. Mae'n ymwneud â denu pobl allan o geir sy'n llygru ac i mewn i fathau mwy cynaliadwy, ecogyfeillgar o drafnidiaeth, a all gael effaith wirioneddol yn y tymor byr ar ansawdd aer, yn hytrach na dim ond aros am ddeddfwriaeth, er bod ganddi ei rhan i'w chwarae. Yn y misoedd nesaf, rydym yn disgwyl argymhellion newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd, ac rydym am sicrhau bod yr argymhellion hynny'n cael eu hymgorffori yn y ddeddfwriaeth a gyflwynwn. Rydym am wneud hynny—gadewch imi ddweud eto—ar sail drawsbleidiol os gallwn. Gwyddom fod pleidiau eraill yn y Cynulliad wedi ymrwymo i Ddeddf aer glân. Bydd yn ddiddorol deall, y tu hwnt i'r pennawd, faint o’r sylwedd y maent yn ei gefnogi o fewn hynny, gan ei bod yn haws dweud na gwneud. Mae hyn yn fy atgoffa o ddyfyniad gan Aneurin Bevan, a gyhuddodd y Prif Weinidog Ceidwadol o roi labeli crand ar fagiau gwag. Byddai'n gas gennyf weld hynny'n digwydd eto yn ymrwymiadau'r Ceidwadwyr i Ddeddf aer glân, gan y credaf ei bod yn hawdd siarad am aer glân, ond mae'r pethau anodd sydd angen i chi eu gwneud er mwyn iddo ddigwydd yn aml yn anodd ac yn ddadleuol. Byddwn yn falch iawn pe gallem eistedd gyda'n gilydd a gweld pa dir cyffredin sydd rhyngom, gan fod yr agenda hon, yn amlwg, yn bwysig i bob un ohonom.

Hoffwn longyfarch y ddau Weinidog ar eu swyddi newydd. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r ddau ohonoch, ac yn sicr, byddaf yn derbyn eich gwahoddiad i weithio gyda'n gilydd.

Weinidog, rwy'n croesawu eich ymrwymiad i leihau llygredd aer ac i wella ansawdd aer. Mae'n ffaith bod gan Gymru beth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU gyda lefelau uwch o PM10 yng Nghaerdydd a Phort Talbot na Birmingham a Manceinion. Mae traffig sy’n stopio ac yn ailgychwyn nid yn unig yn allyrru mwy o nwyon tŷ gwydr na thraffig sy'n llifo'n rhwydd, mae hefyd yn achosi i fwy o lygredd gronynnol gael ei allyrru. Byddai cynlluniau fel ffordd liniaru’r M4 wedi cynyddu llif y traffig, ac fel y nododd yr arolygydd annibynnol, byddai'n lleihau llygredd a darparu gwelliannau helaeth a sylweddol yn ansawdd yr aer i gymunedau sy'n byw gerllaw'r M4, fel fi. A wnewch chi gadarnhau y bydd eich strategaeth aer glân yn ystyried mesurau i wella llif y traffig ac yn cynnwys adolygiad o derfynau cyflymder ar rannau o'r M4? Diolch.

Byddwn yn dweud bod y gwaith o chwilio am gonsensws yn parhau. Mae'r materion sy'n ymwneud â'r M4 wedi cael eu hailadrodd droeon ac mae gennym farn wahanol ar hynny. Y ffordd i leihau llygredd niweidiol o geir yw cael llai o geir, nid gwneud i'r ceir fynd yn gyflymach. Credaf mai'r hyd rydym am ei weld yw pwyslais ar newid dulliau teithio yn hytrach na chreu ffyrdd ychwanegol a fyddai yn eu tro, fel y gwyddom drwy egwyddor galw ysgogedig, yn arwain at fwy o draffig a mwy o gerbydau. Felly, mae hynny, ar un ystyr, yn ateb tymor byr. Mae angen ateb hirdymor cynaliadwy i hyn, ac ni chredaf mai adeiladu traffyrdd mawr drwy wlyptiroedd gwarchodedig yw'r ffordd o gyflawni hynny. Ond yn sicr, o ran terfynau cyflymder, rwy’n fwy na pharod i gynnwys hynny yn ein trafodaethau.

13:15
Llifogydd 2020

5. Sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu'r argymhellion a restrwyd yn ei adroddiad ar lifogydd 2020? OQ56603

Diolch. Mae'n amlwg fod angen dysgu gwersi yn dilyn y llifogydd dinistriol yn 2020, ac mae adolygiad CNC yn cydnabod hyn. Eleni, rydym yn buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o gyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Yn 2020-21, cynyddwyd cyllid refeniw CNC £1.25 miliwn i gyfanswm o £21 miliwn, a chaiff hyn ei gynnal yn 2021-22.

Diolch am eich ymateb. Mae'n amlwg o'r adroddiad bod lefelau staffio Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gyfan gwbl annigonol i ymdopi â llifogydd dinistriol 2020, fel sydd wedi'i gadarnhau gan y ffaith bod 41 yn fwy o staff ganddynt yn gweithio i reoli'r risg o lifogydd ers hynny, sydd dal yn dipyn llai na'r hyn y mae'r adroddiad yn datgelu sydd ei angen. Dro ar ôl tro, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnal ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, a fyddai, fel sydd yn amlwg o adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn datgelu cyllid cwbl annigonol i'r corff a sefydlwyd gan Lafur Cymru i'n hamddiffyn rhag llifogydd.

Byddai hefyd yn datgelu, fel y mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, fod gormod o gyrff a grwpiau gwahanol â chyfrifoldeb dros liniaru llifogydd. Onid ydy hi'n amser sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a fyddai'n cynnwys arbenigwyr ar draws y sector dŵr yng Nghymru i gynghori'r Senedd ar ffordd well o reoli dŵr wyneb yn benodol, fel bod llinellau cyfrifoldeb cliriach o ran lliniaru a rheoli llifogydd sydd yn gysylltiedig â hynny?

Diolch. Rwy'n deall safbwynt yr Aelod yn sicr, ond nid yw'n wir dweud ein bod wedi bod yn tanfuddsoddi. Yn 2021-22, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi dros £65 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd, sef y swm mwyaf a fuddsoddwyd mewn un flwyddyn ers dechrau datganoli.

Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi dyrannu £21 miliwn mewn refeniw a £17.211 miliwn o gyllid cyfalaf i CNC ar gyfer gweithredu eu rhaglen rheoli perygl llifogydd. Mae hyn yn 56 y cant o gyfanswm ein cyllideb rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol am y flwyddyn, felly nid ydynt yn symiau ansylweddol o arian.

Ers mis Chwefror 2020, rydym wedi cynyddu cyllideb refeniw CNC i’r lefelau refeniw uchaf erioed, gyda £21 miliwn, sy'n gynnydd o 6 y cant o'r flwyddyn cyn y llifogydd. Mae hyn bron yn 90 y cant o'r gyllideb refeniw graidd ar gyfer llifogydd am y flwyddyn.

Mae adolygiad CNC yn asesiad gonest o'u perfformiad eu hunain ac mae'n cynnwys argymhellion ar sut y gallant wella eu hymateb i lifogydd. Mae’r cyllid rheoli perygl llifogydd yn CNC wedi'i glustnodi ar gyfer y gweithgareddau hynny. Fel y dywedodd yr Aelod ei hun, ers mis Chwefror 2020, mae CNC eu hunain wedi cynyddu nifer eu staff sy'n gweithio ar reoli perygl llifogydd yn unig i 41 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd CNC werth dros £13.5 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd, a oedd yn cynnwys £3.7 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys gwaith atgyweirio yn dilyn llifogydd, mapio, gwaith modelu a gwaith pellach ar wella'r system rybuddio am lifogydd. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cyflwynodd CNC dri chais am gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn, a derbyniwyd pob un ohonynt.

Mae'r Llywodraeth wedi nodi ei blaenoriaethau’n glir ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn ei strategaeth genedlaethol newydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, gan ymgorffori rhai o'r gwersi cychwynnol a ddysgwyd o’r llifogydd ym mis Chwefror. Rydym yn edrych ymlaen at adroddiad adran 19 gan Rondda Cynon Taf, fel y gallwn ddod â'r gwersi a ddysgwyd o'r llifogydd ynghyd, Lywydd, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gymuned arall yn dioddef yr hyn y bu’n rhaid i’r cymunedau ei wynebu y llynedd yn ystod y llifogydd.

Weinidog, ar dri achlysur gwahanol dros y 14 mis diwethaf, mae tref Caerfyrddin wedi dioddef llifogydd sylweddol wrth i afon Tywi orlifo, gan effeithio ar nifer o fusnesau ar hyd y cei ac yn ardal Pensarn. Wrth edrych ar y rhaglen lywodraethu a lansiwyd ddoe gyda chryn dipyn o seremoni, nid oedd fawr o gyfeiriadau yn yr adran ar newid hinsawdd at wella amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gyda newid hinsawdd yn debygol o arwain at ddigwyddiadau o'r fath yn fwy rheolaidd, a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaed ar ddarparu diogelwch uniongyrchol i dref Caerfyrddin rhag mwy o lifogydd o'r fath?

Fel y dywedais, rwyf newydd amlinellu amryw o gronfeydd ychwanegol rydym wedi'i roi i CNC. Mae'r cyllid hwnnw, wrth gwrs, ar gyfer Cymru gyfan, ac nid ar gyfer unrhyw gymuned benodol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn gwneud yr asesiadau cywir a bod gennym y math cywir o brosiectau rheoli llifogydd yn ceisio am gyllid cyfalaf. Mae gan yr awdurdodau lleol eu hunain ystod o brosiectau yn y cyswllt hwn, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda hwy a CNC i sicrhau bod gennym raglen gyfannol ledled Cymru.

Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddwyd rhaglen gwerth £65.415 miliwn o weithgareddau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny'n cynnwys gwariant cyfalaf o £36 miliwn ar brosiectau newydd a chynnal a chadw asedau presennol. Fel y dywedais eisoes, dyma ein cyllideb gyfalaf fwyaf erioed.

Mae'r gyllideb gyfalaf ar gyfer eleni’n cynnwys £4 miliwn ar gyfer atgyweiriadau ar ôl stormydd, yn dilyn y llifogydd ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, a hyd yma, mae £1.9 miliwn ohono eisoes wedi'i ddyrannu at y diben hwnnw. Felly, mae gennym nifer o—. Felly, mae gennym—mae'n ddrwg gennyf, ni allaf wneud y cyfrif yn fy mhen—oddeutu £2 filiwn ar ôl i'w ddyrannu, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau bod gennym gynlluniau priodol ar waith. Ond gallaf roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod gennym y diogelwch gorau sydd ar gael ac i ddeall eu gofynion cyfalaf a refeniw ar gyfer cynlluniau atal llifogydd, a sicrhau hefyd fod gennym raglenni cynnal a chadw ar waith ar gyfer asedau amddiffyn rhag llifogydd presennol.

13:20

Hoffwn innau longyfarch y ddau Weinidog ar eu swyddi newydd. Weinidog, mae adroddiad CNC yn dilyn llifogydd 2020 yn bwysig iawn i drigolion Rhondda, yn enwedig trigolion Pentre, lle bu llifogydd mewn 169 o gartrefi a 12 o fusnesau. Cofnodwyd rheolwr ar ddyletswydd CNC ar y pryd yn dweud:

‘O'r ffotograffau a'r lluniau sydd ar gael mae'n amlwg fod deunydd coediog wedi mynd i mewn i'r cwrs dŵr ac wedi blocio'r grid.'

Yn ddiweddar, cyfarfûm ag arweinydd cyngor RhCT, Andrew Morgan, a gadarnhaodd i mi fod adroddiad adran 19 y cyngor ar fin cael ei gwblhau ac y caiff ei ryddhau yn nes ymlaen y mis hwn. Os yw'r adroddiad yn cadarnhau bod gweddillion coediog wedi cyfrannu'n sylweddol at y llifogydd ym Mhentre drwy flocio gridiau’r cwlfertau, a wnaiff y Gweinidog gyfarfod â CNC gyda mi i drafod yr effaith a'r gost i’r gymuned rwy'n ei chynrychioli?

Wel, diolch yn fawr iawn, Buffy, ac mae arnaf ofn, Lywydd, nad wyf yn rhannu tueddiad fy nghyd-Aelod Lee, i gael gwared ar yr holl gyfarchion ar unwaith. Credaf y dylem dderbyn cyfarchion lle bynnag y'u cawn—[Chwerthin.]—felly, rwy'n falch iawn o gael fy nghroesawu i fy swydd, ac mae'n braf iawn eich gweld chithau yma hefyd, Buffy.

Rwy'n cytuno gyda Lee ar hyn, mae’n rhaid imi ddweud. [Chwerthin.]

Boed iddo barhau yw'r cyfan y gallaf ei ddweud. Felly, yn sicr, i ddechrau gyda'r cwestiwn olaf: rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â CNC i'w drafod. Hoffwn awgrymu hefyd fy mod yn trefnu sesiwn friffio ar eich cyfer chi, gydag arweinydd RhCT, i drafod rhai o'r materion ymlaen llaw, cyn inni gael yr adroddiad adran 19, fel y gallwn ddeall y sefyllfa. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda CNC a'r cyngor i gynhyrchu’r adroddiad adran 19. Mae'n adroddiad pwysig iawn fel y dywedais wrth Heledd yn gynharach a byddwn yn awyddus i ddysgu gwersi ohono. Felly, mae'n bwysig iawn ei gael yn iawn, a’n bod yn deall y gwersi a ddysgir ohono. Fel y dywedais, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi eu hymchwiliadau adran 19 i lifogydd 2020, ac mae RhCT y funud hon yn y broses o gwblhau eu hadroddiad ar y llifogydd dinistriol ym Mhentre y llynedd. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar gynnwys yr adroddiad gan nad wyf wedi’i weld eto; byddai hynny'n amhriodol beth bynnag. Ond yn sicr, rydym yn wirioneddol awyddus i asesu canfyddiadau'r adroddiad yn llawn a dysgu'r gwersi y bydd yn siŵr o'u rhoi i ni.

Rwy’n llwyr gydnabod cryfder teimladau trigolion Pentre, ac yn wir, trigolion ledled Cymru, a wynebodd lifogydd sylweddol iawn. Yn sicr, os oes ffyrdd o leihau’r perygl y bydd llifogydd o’r fath yn digwydd eto, rydym yn disgwyl i’n hawdurdodau rheoli risg weithio gyda’i gilydd i’w rhoi ar waith. Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, fe wnaethom gynnal ymarfer—ymarfer argyfyngau sifil—i edrych ar sut y mae ein hymateb i lifogydd yn gweithio. Byddwn yn cynnal fersiwn ohono i arweinwyr ar draws Llywodraeth Cymru, CNC ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod pob arweinydd yn chwarae eu rôl os ydym yn wynebu digwyddiad o'r fath, a bod gennym yr ymateb cyflymaf posibl, a bod pob un ohonom yn gwybod beth rydym yn ei wneud os bydd rhywbeth o'r fath yn digwydd eto. Ond rwy'n mawr obeithio y bydd y gwersi rydym yn eu dysgu yn ein cynorthwyo i sicrhau nad yw'n digwydd eto, gan gynnwys adolygiad, er enghraifft, rydym yn ei gynnal o'r holl domenni glo, system well i reoli data, ac fe fyddwch yn gwybod, Lywydd, fod gan y Llywodraeth, yn ei maniffesto, ymrwymiad i wella diogelwch tomenni glo ledled Cymru, a fydd yn rhan fawr o'r gwaith hwnnw.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Kurtz.

Addysgu Wyneb yn Wyneb

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i gynorthwyo disgyblion sydd wedi colli amser addysgu wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau COVID-19? OQ56597

Mae ystod o fesurau ar waith i gefnogi dysgu. Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn mewn buddsoddiadau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn ychwanegol at oddeutu £130 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gynyddu'r capasiti i gefnogi dysgwyr.

Diolch, Weinidog. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan rieni plant ag anawsterau clyw yn fy etholaeth sydd wedi codi pryderon nad yw eu plant, oherwydd y defnydd o fasgiau, yn gallu darllen gwefusau a'u bod yn wynebu rhwystrau parhaus i'w profiad dysgu. Ynghyd â cholli amser addysg dros y 18 mis diwethaf oherwydd ymdrechion i arafu lledaeniad y pandemig, mae'r disgyblion hyn wedi profi teimlad o unigedd. Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi ar waith i fynd i'r afael yn benodol â'r heriau unigryw y mae'r 18 mis diwethaf wedi'i rhoi i blant fel hyn?

13:25

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hynny. O safbwynt gorchudd wynebau, mae gyda ni ganllawiau gweinyddol sydd yn cynghori ysgolion a lleoliadau addysg i edrych yn ofalus ar effaith gwisgo gorchudd wyneb ar bobl sydd yn drwm eu clyw, ac i sicrhau eu bod nhw'n deall yn glir bod effaith hynny'n gallu bod yn sylweddol ar bobl sydd yn dibynnu ar weld wyneb pobl yn glir er mwyn gallu cyfathrebu. Mae'r canllawiau hynny yn gyhoeddus; maen nhw ar gael ar ein gwefan ni ac yn cynnwys linciau at amryw o gyngor arall sydd yn gallu darparu'r cyd-destun i'r ysgolion allu deall beth maen nhw'n ei wneud.

Rydyn ni wedi, wrth gwrs, dros y flwyddyn a mwy diwethaf, darparu cefnogaeth ariannol i'n hysgolion ni er mwyn bod nhw'n gallu addasu y ffordd maen nhw'n gweithio er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gweithio mewn ffordd sydd mor gynhwysol ag sy'n bosibl o fewn amgylchiadau anodd iawn COVID.

Joyce Watson. Joyce Watson, a gawn ni—? Dyna ni. O—. A gawn ni agor y meicroffon? Iawn.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi bod yn darllen y cynigion 'Adnewyddu a diwygio' y bore yma, Weinidog, ac rwyf hefyd wedi siarad ag athrawon, a byddwn yn dweud y bydd eich penderfyniad i gadw'r 1,800 o staff tiwtora amser llawn a recriwtiwyd yn gwneud byd o wahaniaeth eleni i ddisgyblion ac athrawon. Cafodd Llywodraeth flaenorol Cymru gydnabyddiaeth ryngwladol, wrth gwrs, a gan y Sefydliad Polisi Addysg am ei hymateb i'r pandemig, yn enwedig y ffordd y gwnaethant arwain y ffordd drwy fynd ati'n gyflym i ddarparu gliniaduron a dyfeisiau Wi-Fi i ddysgwyr difreintiedig. Felly, sut y bydd y cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y cymorth hwnnw sydd wedi’i dargedu ar gyfer dysgwyr difreintiedig?

Wel, diolch i Joyce Watson am ei hadolygiad cadarnhaol o'r cyhoeddiad y bore yma. Fel yr awgrymai ei chwestiwn, un o'r meysydd allweddol i’r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt yn yr argymhellion 'Adnewyddu a diwygio', a gyhoeddwyd gennyf y bore yma yn dilyn fy natganiad yn y Siambr cyn y toriad hanner tymor, yw ffocws, yn wir, ar ddysgwyr agored i niwed a difreintiedig, gan fod popeth a wyddom o brofiad COVID yn awgrymu eu bod wedi dioddef effeithiau anghymesur o ganlyniad efallai i fod y tu allan i'r lleoliad addysgol arferol.

Ymhlith y pethau y byddwn yn awyddus i’w gwneud gyda'r cyllid a gyhoeddais y bore yma—a dylwn bwysleisio bod hyn oll wedi'i wneud ar y cyd, wrth gwrs, ag ysgolion ac addysgwyr proffesiynol; mae'n fater o gyd-gynllunio, os mynnwch, yr ymyriadau y bwriedir i'r cyllid hwn eu cefnogi. Ond boed hynny’n ymwneud ag adolygu'r defnydd o'r grant amddifadedd disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei dargedu yn y ffordd y gellir ei dargedu; boed hynny’n golygu darparu cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu wedi'i bersonoli; boed hynny'n gefnogi addysgwyr drwy ddysgu proffesiynol ychwanegol i gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd orau o gynorthwyo dysgwyr difreintiedig i oresgyn effaith COVID, neu’n gyllid ychwanegol ar gyfer rhaglen y cynllun trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol sydd gennym. Mae ystod o ffyrdd penodol y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio. Ac rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth: roeddwn yn falch iawn o glywed bod y Sefydliad Polisi Addysg wedi cydnabod yn benodol fod y cyllid y buom yn ei fuddsoddi yng Nghymru wedi cael effaith fuddiol. Fe’i cynlluniwyd i gael effaith o'r fath ar ein dysgwyr difreintiedig.

Mae cwestiwn 2 [OQ56589] wedi cael ei drosglwyddo gan y Llywodraeth ar gyfer ei ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd, felly cwestiwn 3, Delyth Jewell.

Addysgu Plant am Newid yn yr Hinsawdd

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu plant am newid yn yr hinsawdd mewn ysgolion? OQ56613

Bydd dysgu am heriau amgylcheddol a’r hinsawdd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau ar yr hyn sy'n bwysig ym meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys cyfeiriadau penodol at yr hinsawdd a'r amgylchedd, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn ymdrin â heriau fel newid hinsawdd.

Diolch ichi am yr ymateb yna. Rwy'n awyddus iawn i fynd i'r afael â phryder hinsawdd, neu climate anxiety, sydd yn effeithio ar fwy a mwy o blant ysgol. Mae yna berygl ein bod ni fel cymdeithas yn achosi y pryder hwn fel canlyniad i'r ffordd rydym ni'n ymdrin â newid hinsawdd yn y cyfryngau, ond hefyd yn yr ystafell ddosbarth—siarad am newid hinsawdd, hynny yw, fel rhyw grisis anochel a dinistr sydd ar y gorwel, doed a ddêl. Ac mae astudiaethau'n dangos bod pobl sy'n poeni'n ormodol, neu sy'n dioddef anxiety am bwnc, yn gallu meddwl eu bod nhw'n llai tebygol o wneud rhywbeth am y sefyllfa. Felly, rwy'n awyddus i weld mwy o le yn y cwricwlwm, Weinidog, i drafod newid hinsawdd, ond i'r trafodaethau yna ffocysu ar beth y gallwn ni ei wneud i newid y sefyllfa, i ymbweru plant. Ac mi fuaswn i'n hoffi gofyn i chi a fyddai mwy o adnoddau a chymorth i athrawon yn gallu cael eu rhoi i adnabod pryder hinsawdd ac i ddelio â fe. Ydy hynna'n rhywbeth y byddech chi'n barod i ystyried ei gyflwyno ar gyfer plant ac ysgolion, plîs?

13:30

Wel, mae darparu'r math yna o adnoddau yn rhan o'r gwaith sydd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Rwy'n derbyn yn llwyr beth mae'r Aelod yn ei ddweud ynglŷn â'r cyd-destun er mwyn dysgu a chynnal ymwybyddiaeth a chynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc yn ein hysgolion ni, nid yn unig am impact newid hinsawdd ond hefyd, fel mae hi'n dweud, yn bwysig iawn, y syniad yna o agency personol—y gallu i fod yn rhan o'r ymateb iddo fe mewn ffordd sy'n gallu agor llygad rhywun hefyd pan fyddan nhw ar y siwrnai addysgol. Mae cod 'what matters' mewn amryw o lefydd yn seiliedig ar y syniad yna o ddysgwr fel rhywun sy'n gallu cael effaith ar yr hyn sy'n digwydd yn y byd o'i amgylch. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld yn ystod cyfnod y flwyddyn ddiwethaf ba mor bwysig yw hi i'n disgyblion a'n myfyrwyr ni yn ein hysgolion ni allu cael synnwyr o sut i ymateb i'r byd, ond nid jest mewn ffordd sy'n derbyn pethau sy'n digwydd, ond mewn ffordd sy'n cynnal disgyblion hefyd i fod yn arloesol gyda hynny ac yn hyblyg gyda hynny. Felly, dyna un o'r pethau dwi'n moyn sicrhau y byddwn ni'n gallu ei gael allan o'r cwricwlwm newydd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy eich croesawu unwaith eto i'ch swydd, Weinidog, gan mai fi yw llefarydd addysg yr wrthblaid, ac mae hynny'n swyddogol bellach? A gaf fi ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi, gyferbyn â chi, ar y briff hynod bwysig hwn, yn enwedig ar adeg pan fyddwn yn cefnu ar bandemig, ac yn nesáu at y newid mwyaf yn y ddarpariaeth addysg ers degawdau?

Weinidog, dylai ein hysgolion a'n prifysgolion fod yn fannau ar gyfer dysgu a datblygu, nid mannau lle mae bygythiadau, camdriniaeth ac aflonyddu'n digwydd. Felly, roedd yn destun pryder mawr—ac rwy'n siŵr eich bod chi'n pryderu hefyd—fod 91 o sefydliadau addysg yng Nghymru wedi'u cynnwys ar wefan Everyone's Invited, gyda disgrifiadau o ymddygiad gwirioneddol frawychus. Rwy'n croesawu eich datganiad ysgrifenedig y bore yma y bydd Estyn yn cynnal adolygiad, ond mae'n rhaid inni beidio ag anghofio ein lleoliadau addysg uwch, gan fod yr honiadau wedi taflu goleuni ar broblem sy'n ymddangos yn systemig ar draws yr holl grwpiau oedran ledled Cymru. Ar ôl siarad â fy nghynghorau ers i'r pwnc daro'r penawdau yr wythnos diwethaf, mae'n amlwg i mi fod ysgolion a cholegau eisoes yn gweithredu, Weinidog, ac rwy'n falch y bydd eich swyddogion yn siarad yn awr, yn cysylltu â'r ysgolion hyn ac yn cynnig cymorth iddynt; rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn gofyn am negeseuon e-bost yn barod. Ond mae angen inni ddod o hyd i ffordd o goladu'r wybodaeth hon ar lefel genedlaethol, gan fod angen inni ymdrin â hyn ar sail genedlaethol, oherwydd mae'n amlwg yn broblem systemig ym mhobman. Ac felly mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno fel y gallwn weld a yw pethau'n gweithio a gweld a yw'r atebion a argymhellir gennych yn gweithio ai peidio. A chredaf fod hyn—

Iawn. Ac yn y tymor diwethaf, dywedais y byddai'r cwricwlwm newydd yn ffordd berffaith inni ddechrau cael y sgyrsiau hyn mewn ysgolion. Weinidog, mae eich datganiad yn amlinellu llawer iawn o gyngor, arweiniad, pecynnau cymorth sydd eisoes ar y gweill, ac eto mae'r honiadau hyn yn dal i ymddangos. Beth rydych chi'n disgwyl ei weld yn newid, Weinidog, o ganlyniad i gyhoeddi adroddiad arall, neu fwy o ganllawiau, pan fo cymaint ar gael? A sut y bwriadwch sicrhau bod y pecynnau cymorth newydd hyn yn cyrraedd lle mae angen iddynt eu cyrraedd, a bod ymddygiadau'n dechrau newid mewn gwirionedd?

Rwyf wedi bod yn amyneddgar iawn—dyna ddwy funud yn awr. Felly, credaf fod digon o gwestiynau yno i chi geisio eu hateb, Weinidog.

Diolch, Lywydd. Fe geisiaf wneud cyfiawnder â'r cwestiynau, oherwydd mae'n bwnc sensitif iawn, o ran y ffordd y gofynnir y cwestiynau. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n croesawu'r datganiad a gyhoeddwyd y bore yma. Teimlaf fod hon yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, yn yr ystyr ei bod yn ymwneud â nifer o bortffolios. Oherwydd mae rhai o achosion sylfaenol yr ymddygiadau rydym wedi'u gweld yn yr adroddiad poenus hwnnw, a rhai o'r sylwadau deifiol a'r dystiolaeth, os caf ddefnyddio'r gair hwnnw, yn adroddiad a deunydd Everyone's Invited, mae'r ymddygiadau a'r profiadau hynny'n bodoli y tu allan i leoliadau addysgol hefyd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym ddull trawslywodraethol o allu ymateb.

Wrth ofyn i Estyn gynnal adolygiad, hoffwn fod yn glir nad wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd y dylid aros am ganlyniad yr adolygiad hwnnw cyn gweithredu. Felly, hoffwn fod yn berffaith glir ynglŷn â hynny. A cheir camau ymarferol, a nodais yn y datganiad, sy'n ymwneud yn gyntaf â deall a yw'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol, yn ddigon hygyrch, ac os nad ydynt, yn amlwg fe fyddwn yn gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Mae rhai o'r adnoddau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys rhai a gyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar, wedi cael eu defnyddio'n dda, wedi cael eu cyrchu'n dda o leiaf, a'r hyn rwyf eisiau ei wybod yw a oes mwy y gallwn ei wneud i ddarparu hyfforddiant ar hynny i ysgolion. Fel y dywedwch yn y cwestiwn, mae cryn dipyn o ddeunydd ar gael eisoes. Rwyf eisiau sicrhau ei fod ar gael mor hawdd â phosibl, ac rwyf eisiau annog pobl i ddefnyddio'r gwahanol linellau cymorth y mae Llywodraeth Cymru ac eraill eisoes yn eu hariannu er mwyn gallu cynorthwyo pobl i rannu eu pryderon a'u straeon personol, os caf ddefnyddio'r term hwnnw.

Hoffwn ddweud fy mod yn credu bod neges glir iawn i ni yma yn y cwricwlwm newydd ynglŷn â pha mor sylfaenol yw gwneud yn siŵr bod gan ein dysgwyr y math o addysg cydberthynas a rhywioldeb rydym yn ei ragweld ar eu cyfer. Rydym yn ymgynghori ar y cod ar gyfer hynny ar hyn o bryd, ac roeddwn yn falch o glywed y comisiynydd plant yn cydnabod dros y penwythnos ei bod hithau hefyd yn teimlo bod y cwricwlwm yn darparu sail i'n helpu i fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn, yn sicr o fewn lleoliad ysgol. 

13:35

Diolch. Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar yr hyn a elwir yn 'upskirting', ac i'r rhai nad ydynt yn ymwybodol ohono, mae'n cyfeirio at fechgyn sy'n tynnu lluniau i fyny sgertiau merched a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n fater difrifol, Weinidog, fel y gwn eich bod yn gwybod, ac nid wyf yn credu mai'r ateb yw gorfodi merched i wisgo trowsus neu siorts. Pam ein bod yn cosbi merched? Nid merched sydd ar fai. Felly, mae eu gorfodi i wisgo trowsus neu siorts yn ymateb cwbl anghywir. Os yw ysgolion yn pryderu am hyd sgertiau merched, does bosibl na ddylent fod yn gorfodi polisïau gwisg ysgol a mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol, a goresgyn y broblem drwy addysgu bechgyn am yr angen i drin eraill â pharch. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ar bolisïau gwisg ysgol a hawl merched i wisgo sgertiau?

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r awgrym yn y cwestiwn na ddylem fod mewn sefyllfa lle rydym yn creu'r argraff, drwy'r math o bolisi y mae'n cyfeirio ato, mai merched sy'n gyfrifol am y mathau o ddigwyddiadau y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Nid wyf yn meddwl am eiliad mai dyna'r bwriad y tu ôl i unrhyw un o'r polisïau y credaf ei bod yn cyfeirio atynt. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn ein hysgolion, fod y ffordd rydym yn addysgu bechgyn a merched yn mynd i'r afael â'r cwestiwn ac yn dysgu natur parch yn y cyd-destun hwn. Nid wyf yn credu ei bod yn neges ddefnyddiol i'w lledaenu—rwy'n siŵr ei fod yn gwbl anfwriadol—ond rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud yn un dilys: rhaid inni beidio â bod mewn sefyllfa lle mae merched yn teimlo mai eu cyfrifoldeb hwy yw gwisgo mewn ffordd benodol.

Diolch i chi, Weinidog. Credaf y byddai'n gwbl esgeulus imi beidio â gofyn ichi heddiw am addysg gorfforol a chwaraeon yn ein hysgolion ar adeg pan fo'r wlad wedi gwirioni ar yr Ewros ar hyn o bryd. Ac rwy'n siŵr yr hoffech fanteisio ar y cyfle, Weinidog, i ymuno â mi i ddymuno'r gorau i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn y gêm y prynhawn yma. Ond deuthum yn ymwybodol ddoe nad yw rhai pobl ar draws y Siambr hon yn hoffi pêl-droed, ac fel rhywun sydd wedi gwirioni ar chwaraeon, mae hynny'n rhywbeth eithaf anodd i'w ddeall. Ond rwy'n gwybod y gallwn i gyd gytuno bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn arwain at lu o fanteision iechyd corfforol a meddyliol. Mae tystiolaeth yn dangos bod chwaraeon o fudd mawr i iechyd meddwl. Gwyddom ei fod yn croesi ffiniau, gan ddod â phobl o bob hil a chefndir, yn gyfoethog neu'n dlawd, at ei gilydd, ac yn ffordd allweddol o drechu gordewdra, yn enwedig mewn plant. Mae chwaraeon yn dysgu disgyblaeth i chi, sut i weithio gyda'ch gilydd fel tîm ac fel unigolion, ac mae'n dangos beth yw parch. Gallwn barhau, Lywydd, ond ni wnaf hynny. 

Ond, Weinidog, fy mhwynt yw, gyda'r holl bethau hyn mewn cof, onid ydych yn cytuno ei bod yn drist ein bod yn aml yn clywed mai chwaraeon ac addysg gorfforol yw'r pethau cyntaf i gael eu tynnu o'r diwrnod ysgol pan fydd rhywbeth arall yn codi, ond mae eu pwysigrwydd yn enfawr. Ni fu hynny erioed yn fwy amlwg nag yn ystod y cyfyngiadau symud ac yn yr effaith y mae chwaraeon ac ymarfer corff wedi'i chael ar iechyd meddwl plant. Weinidog, beth a wnewch i sicrhau bod chwaraeon ac addysg gorfforol yn cael y statws a'r pwyslais y maent yn ei haeddu yn ein hysgolion, a beth a wnewch i sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn amserlen yr ysgol o fewn y cwricwlwm newydd yn y dyfodol? Mae'n bwysig ein bod yn cynnal y diddordeb ac yn hyrwyddo arferion da yn gynnar, rhywbeth y mae ysgolion preifat, mae arnaf ofn, yn ei wneud yn well nag ysgolion cyhoeddus, oherwydd maent yn gweld y manteision academaidd a'r sgiliau bywyd allweddol y maent yn eu haddysgu. 

13:40

Ac mae gennych Lywydd sydd wedi gwirioni ar bêl-droed hefyd ac sy'n ceisio annog yr Aelodau i fod yn gryno mewn cwestiynau ac atebion yn y Siambr hon ac sy'n methu'n druenus. [Chwerthin.] A diolch, Lee Waters, am eich cymorth wrth geisio cwtogi'r holl gyfraniadau drwy beidio â llongyfarch eich gilydd a diolch i'ch gilydd drwy'r amser. Beth bynnag, Weinidog—yn gryno.

Yn gryno. Wel, yn sicr roedd fy ngyrfa chwaraeon yn fyr iawn, Lywydd [Chwerthin.] Roeddwn yn chwaraewr anhygoel o aneffeithiol pan oeddwn yn yr ysgol, ac rwy'n edifar am hynny mewn sawl ffordd. Rwy'n credu bod y rhinweddau a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei chwestiwn yn hollol gywir o ran datblygiad pobl ifanc, ac rwy'n rhannu'r gofid y mae hi'n ei deimlo nad ydym dros y flwyddyn ddiwethaf efallai, oherwydd y sefyllfa rydym ynddi, wedi gallu sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad llawn at gyfleoedd chwaraeon mewn ysgolion a cholegau fel y byddem eisiau iddynt ei gael. Ac rwy'n hyderus iawn y bydd yr amlygrwydd a roddir i iechyd a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn ein helpu i sicrhau bod chwaraeon yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n briodol yn ein system ysgolion.

Diolch yn fawr iawn. Neis eich gweld chi ar draws y Siambr ac yn y cnawd, fel petai, am y tro cyntaf ers tro.

Rydym ni'n dilyn trefn wahanol i'r arfer eto eleni o ran arholi disgyblion TGAU, lefel A ac AS. Trefn safoni asesiadau o dan arweiniad ysgolion ac athrawon unigol sydd gyda ni, i bob pwrpas. Yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gyhoeddi y byddan nhw'n rhoi taliad untro o £400 i athrawon oedd ynghlwm â dyletswyddau safoni ychwanegol fel cydnabyddiaeth o'r baich gwaith ychwanegol hynny. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod athrawon sydd efo cyfrifoldebau ychwanegol yn y cylch arholi eleni yn mynd i gael cydnabyddiaeth briodol am y gwaith yma, gan gynnwys yn ariannol—hynny yw, yr athrawon fyddai ddim yn arholwyr allanol i CBAC fel arfer? 

Wel, mae'r Aelod yn iawn i bwysleisio pa mor greiddiol yw rôl athrawon yn y system sydd gyda ni ar gyfer yr haf hwn, yn dilyn yr hyn glywsom ni haf diwethaf—pa mor bwysig mae hynny i ymddiriedaeth dysgwyr a'r system yn gyffredinol yn y canlyniadau. Felly, rwyf eisiau rhoi ar goedd fy niolch i i athrawon ledled Cymru am y gwaith maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod hynny'n bosib eleni. Yn y pedair gwlad o fewn y Deyrnas Gyfunol, mae'r pedair Llywodraeth wedi cymryd ffyrdd ychydig yn wahanol o edrych ar y system hon. Beth rydym ni wedi ei wneud yma yng Nghymru yw sicrhau bod y rhan fwyaf o'r gwaith sydd yn cael ei wneud yn digwydd yn ystod y tymor, yn hytrach na thorri mewn i gyfnod yr haf. Felly, rydym ni wedi pwysleisio mwy o'r gwaith yn gynharach er mwyn gallu gwastadu fe ychydig yn fwy efallai, ac rydym ni hefyd wedi darparu cyllideb o jest o dan £9 miliwn, sydd yn caniatáu ysgolion i allu cynyddu capasiti er mwyn gallu gwneud hyn, a hefyd cyflwyno hyblygrwydd i'r system, mewn defnydd INSET a hefyd o ran asesiadau diwedd blwyddyn, fel bod hynny'n creu rhywfaint o hyblygrwydd yn y system i'n hathrawon allu gwneud y gwaith ychwanegol hwn. 

Diolch. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod bod o'n waith ychwanegol eithaf swmpus mewn rhai achosion. Ac mae yna arian yn y system, achos dwi wedi clywed am achos lle mae yna un ysgol uwchradd yn talu arian mawr—tua £100,000—i'r cyrff arholi allanol, er nad ydy'r rheini, wrth gwrs, yn cyflawni'r un swyddogaeth yn y cylch arholi eleni. Mae'n bwysig bod yr arian sydd yn y system yn cael ei ddefnyddio, yn cael ei gyfeirio, ei ddargyfeirio, os leiciwch chi, lle mae'n briodol, i gydnabod y trefniadau unigryw sydd mewn lle eleni.

I aros efo thema cyllid ysgolion, dwi am droi at yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, a gafodd ei chyhoeddi ddoe, y bydd eich Llywodraeth chi yn ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol yn ein hysgolion. Mae'ch datganiad ysgrifenedig chi heddiw—a dwi'n croesawu hwnnw, wrth gwrs—yn cyfeirio at gadw a chefnogi dros 1,800 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn, a recriwtiwyd o dan y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Rŵan, dydy'r gair 'tiwtor' ddim yn ymddangos yn eich datganiad chi y bore yma, felly, fedrwch chi gadarnhau i ddechrau ein bod ni'n sôn am yr un peth? Ydy'r 1,800 sydd yn y rhaglen lywodraethu o dan yr enw 'tiwtor', ydy'r rheini yr un bobl â'r athrawon a'r staff ychwanegol rydych chi'n sôn amdanyn nhw? Felly, pa fath o staff ydym ni'n sôn amdanyn nhw? Ydyn nhw'n staff newydd ac ydy'r arian sydd wedi cael ei grybwyll yn arian newydd, ac a fyddan nhw hefyd yn barhaol yn y system ar ôl y cyfnod cyntaf yma o ddelio â'r pandemig?

13:45

Wel, yr ateb i'r cwestiwn olaf yw mai'r bwriad yw eu bod nhw'n parhau i wneud eu gwaith nes bod eu gwaith nhw wedi'i wneud. Dyna'r ymrwymiad sydd gyda ni. O ran beth yw eu swyddogaethau nhw, maen nhw'n darparu addysg. Hynny yw, mae'r gair 'staff' yn golygu pobl sydd yn dysgu neu'n cefnogi—TAs ac ati—i allugoi i'r disgyblion gael mwy o gefnogaeth o ran dysgu. Felly, dyna'r ymrwymiad. Ac rwy'n credu bod hyn yn adeiladu ar waith y three Rs rydym ni wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n caniatáu inni allu darparu ystod ehangach o gefnogaeth i'n dysgwyr ni. Hynny yw, yn Lloegr, er enghraifft, mae'r pwyslais yn fanna yw tiwtora unigol—dal i fyny, hynny yw, ar gynnwys. Nid dyna'r cysyniad sydd gyda ni wrth wraidd ein cynlluniau ni. Mae gyda ni ddiffiniad ehangach o beth sydd ei angen ar ein dysgwyr ni i sicrhau bod eu hyder nhw, eu motivation nhw, yn cael eu cefnogi fel eu bod nhw'n gallu ymarfer eto â dysgu. A dyna yw rhan o'r capasiti rŷn ni'n ei greu yn y system er mwyn darparu i'r rhai sydd ei angen e—cefnogaeth un wrth un, efallai, hyd yn oed—ond hefyd creu capasiti yn y system i allu cefnogi'r sgiliau dysgu hynny, y sgiliau sylfaenol hynny, sydd efallai wedi cael amser anodd yn y flwyddyn ddiwethaf.

Diolch. Dwi dal ddim yn hollol glir, ond gobeithio medrwn ni gael trafodaeth bellach ar hyn y tu allan i'r Siambr, a buaswn i'n gwerthfawrogi eglurder ynglŷn ag o ble mae'r arian yn dod. Ydy hwn yn arian newydd—

—yntau ydy o'n barhad o'r arian wnaeth Kirsty Williams sôn amdano fo yn ystod y Senedd ddiwethaf?

Rydych chi wedi sôn am gau'r bwlch cyrhaeddiant fel un o'ch blaenoriaethau cynnar chi ac rwy'n cytuno â chi ar hynny—mae'n holl, holl bwysig. Mae yna dystiolaeth glir, wrth gwrs, mai'r un peth mwyaf effeithiol y gallwn ei wneud i gyflawni'r nod yma ydy rhoi pryd o fwyd ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol fel ategiad i'r rhaglen addysg ffurfiol sy'n cael ei ddarparu. Ond siomedig iawn ydy gweld yn rhaglen lywodraethu'r Llywodraeth, a gafodd ei gyhoeddi ddoe, eich bod yn sôn am ganfod yr adnoddau a bod yn rhaid i unrhyw ehangu ar y cymhwyster ar gyfer derbyn cinio am ddim fod yn amodol ar ganfod yr adnoddau. Rŵan, byddwn i'n dweud bod yn rhaid canfod yr arian er mwyn cefnogi disgyblion tlotaf Cymru a bod yn rhaid i’ch Llywodraeth chi gymryd y cam cyntaf un ar y daith tuag at ddarparu cinio ysgol am ddim i bawb.

Wel, o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol, ni oedd y Llywodraeth a gymrodd y cam gyntaf mewn mwy o gyd-destunau yn ymwneud â rhoi prydiau bwyd am ddim yn ein hysgolion ni. Felly, rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran pa mor bwysig yw e inni allu diwallu'r angen hwn. Rŷn ni wedi dweud eisoes, a rŷn ni'n ail-ddweud, os caf i ddweud hynny, yn y rhaglen lywodraethu, ein bod ni'n bwriadu edrych eto ar y meini prawf ar gyfer cael mynediad i'r cynllun hwn, a dyna yw ein bwriad ni—dyna ein cynllun ni i'w wneud. Bydd data ychwanegol ar gael erbyn diwedd yr haf a bydd hynny'n rhoi cyfle inni allu edrych ar bwy sy'n gymwys ar gyfer hyn. Ond rŷn ni newydd gael sgwrs am fuddsoddiad mewn llesiant ein disgyblion yn ehangach a phwyslais ar rai efallai sydd angen mwy o gefnogaeth na'i gilydd. Mae pob un o'r ymyraethau yma'n galw am adnoddau, a rŷn ni eisiau sicrhau bod y pecyn o gefnogaeth rŷn ni'n ei roi i'n disgyblion ni yn un sydd yn gymwys at y galw ac felly mae'n anorfod bod yn rhaid edrych wedyn ar ble mae'r adnoddau'n mynd ac o ble y mae'r adnoddau'n dod. Ac felly dyna pam rŷn ni'n gwneud yr ymrwymiad sydd gyda ni. Rŷn ni'n uchelgeisiol ond mae'n gyfrifol hefyd inni sicrhau ein bod yn edrych ar ystod o ymyraethau a hefyd, pan allwn ni ehangu'r meini prawf—a rŷn ni'n frwdfrydig i wneud hynny—byddwn ni'n gwneud hynny yn gyson â'r adnoddau.

13:50
Iechyd Meddwl Myfyrwyr

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr yng Nghymru? OQ56601

Heddiw, cyhoeddais y cynllun 'Adnewyddu a diwygio', fframwaith ar gyfer ymateb y Llywodraeth hon i effeithiau'r pandemig ar ddysgu. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gefnogi sylfeini dysgu, gan gynnwys llesiant dysgwyr, a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd drwy ganolbwyntio ar eu gallu i fod yn wydn.

Cyfarfûm ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yr wythnos diwethaf, ac maent wedi bod yn cynnal arolygon ymysg myfyrwyr prifysgol sy'n dangos bod 60 y cant o'u haelodau'n dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth na'r hyn ydoedd cyn y pandemig a'i fod wedi gwaethygu pwysau cymdeithasol, pwysau ariannol a'r gwaith academaidd y maent yn ei wynebu. O ganlyniad, mae myfyrwyr mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Gwelais fod—. Wel, y llynedd, y tymor diwethaf, fe wnaethom groesawu'r ffaith bod Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi buddsoddi £10 miliwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, buddsoddiad a gafodd effaith fawr ar fyfyrwyr prifysgol. Gwelais eich datganiad ysgrifenedig y bore yma, fel y nodoch chi yn awr, lle roeddech chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu—ac rwy'n dyfynnu—

'dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen at gamau nesaf eu taith,'

ac yn darparu amlinelliad o sut y câi hynny ei gyflawni. Ond a gaf fi ofyn am ychydig mwy o fanylion felly ynglŷn â sut yr eir i'r afael ag iechyd meddwl ôl-16 fel rhan o'r strategaeth honno?

Yn sicr. Yng nghyd-destun addysg bellach, yn amlwg, mae sefydliadau unigol yn darparu eu cymorth iechyd meddwl a llesiant eu hunain i fyfyrwyr mewn amrywiaeth eang o wahanol ffyrdd, o gwnsela, cymorth ar-lein, hyfforddiant gwytnwch—ceir amrywiaeth eang o opsiynau y mae sefydliadau unigol yn eu darparu i'w myfyrwyr. Maent i gyd wedi datblygu rheini ac yn gweithredu strategaethau llesiant i'w cefnogi. Yr hyn a welsom yn y prosiectau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yw bod amrywiaeth o adnoddau wedi'u datblygu y gellir eu prif ffrydio a'u darparu ar draws y proffesiwn, os mynnwch, a byddant ar gael ar Hwb yr haf hwn, felly mae'r adnoddau hynny ar gael yn ehangach. Ac rydym wedi gwneud dyraniad pellach o £2 filiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a fydd yn helpu i gynnal rhai o'r partneriaethau sy'n sail i rai o'r mentrau hynny, ac rydym yn seilio rhai o'r ymyriadau rydym yn eu gwneud ar argymhellion o adroddiadau prosiect a gawsom yn ôl ym mis Mawrth, sy'n rhoi sylfaen dystiolaeth i ni ar yr hyn sy'n gweithio.

Mewn addysg uwch, fel y mae'r Aelod yn dweud yn ei gwestiwn, gwnaethom fuddsoddi £10 miliwn yn fwyaf diweddar, a chyfarfûm, hefyd, â llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ychydig wythnosau'n ôl i drafod sut y mae hon yn flaenoriaeth—blaenoriaeth a rennir, os caf ei roi felly—i ni ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Dywedodd yn glir iawn pa mor arwyddocaol yw rhai o'r heriau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu. Galluogai'r arian hwnnw y prifysgolion i gyflwyno ystod o fesurau ac ymyriadau, ac mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cynnal gwerthusiad o'r mesurau ar hyn o bryd. Bydd rhai canlyniadau interim yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, ac yna, ym mis Gorffennaf, cyhoeddir adroddiad llawnach ar ba mor effeithiol y mae rhai o'r rheini wedi bod, a byddaf yn edrych ymlaen i weld pa effaith y mae'r rheini wedi'i chael ar lawr gwlad bryd hynny.

Weinidog, rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi cael ein neges longyfarch wrth y lifftiau yn gynharach, felly rwyf am eich arbed rhag yr arswyd o'i dweud o flaen pawb heddiw. Hoffwn ofyn i chi: mae ymchwil gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn datgelu bod myfyrwyr mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl na'r boblogaeth gyffredinol. Mae llawer o bobl yn wynebu problemau iechyd meddwl am y tro cyntaf pan fyddant yn y brifysgol neu'r coleg, gyda phwysau academaidd a'r pryder o fyw oddi cartref am y tro cyntaf, ynghyd â ffactorau eraill, yn gwneud myfyrwyr yn agored i iechyd meddwl gwael. Gwaethygwyd y sefyllfa hon gan y pandemig, sydd wedi amharu ar addysg llawer o fyfyrwyr. Hoffwn wybod beth yw eich ymateb i alwad Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gydgysylltiedig sy'n cysylltu darpariaeth mewn addysg â gwasanaethau'r GIG er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maent eu hangen yn ddybryd. Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei bod yn pwysleisio pa mor sylweddol yw'r broblem. Credaf, yn y ffordd yr ymatebais i Hefin David, fod dwy agwedd ar hyn. Un ohonynt yw'r buddsoddiad o £10 miliwn, a oedd yn ymwneud yn benodol â darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer anawsterau emosiynol ac iechyd meddwl, ond roedd yna becyn cymorth pellach cyn hynny hefyd a oedd yn ymwneud â chaledi yn fwy eang. Credaf mai'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei chwestiwn yw bod ffynhonnell yr heriau iechyd meddwl i lawer o'n myfyrwyr mewn gwirionedd y tu hwnt i'r uniongyrchol, efallai, ac mae'r ymdeimlad hyglwyf y soniodd llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wrthyf amdano ymhlith y myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf yn cyfrannu yn fy marn i at rai o'r heriau iechyd meddwl hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth rydym wedi gallu ei darparu yn helpu prifysgolion i fynd i'r afael â hynny.

Gwiriadau DBS Ar-lein drwy Gyfrwng y Gymraeg

5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y trafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn â sicrhau’r hawl i lywodraethwyr ysgol gwblhau gwiriadau DBS ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol ag addewid ei ragflaenydd ar 17 Mawrth 2021? OQ56604

13:55

Rydym wedi trafod gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Rwy’n deall nad yw prosesau gwirio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael i’w cwblhau ar-lein yn Gymraeg i lywodraethwyr a deiliaid swyddi eraill o hyd. Mae hyn wrth gwrs yn gallu achosi oedi wrth lenwi swyddi. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y gwasanaeth i ofyn iddyn nhw wella’r gwasanaeth Cymraeg.

Wel, diolch ichi am ysgrifennu. Dwi'n siŵr na orffennith y broses fanna os oes angen mynd ymhellach, a byddwn i'n hyderu—efallai y gwnewch chi gadarnhau hynny mewn ymateb. Ond mae'n enghraifft fan hyn, rwy'n credu, lle mae'r Gymraeg yn colli'r frwydr ddigidol. Os ydych chi eisiau cyflawni'ch DBS drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch chi ei wneud ar-lein; os ydych chi eisiau ei wneud e drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n rhaid ichi fynd yn ôl i oes yr arth a'r blaidd a gwneud hynny ar bapur. A dwi ddim yn meddwl bod hynny'n dderbyniol. Dwi'n mynd i wrthod gwneud hynny fel llywodraethwr, ac os ydy hynny yn golygu fy mod i'n cael fy eithrio rhag bod yn llywodraethwr, byddaf i'n ystyried bod hynny'n digwydd ar sail camwahaniaethu ieithyddol. Ac nid fi yw'r unig lywodraethwr, wrth gwrs, sydd yn teimlo'r un peth. Felly, rwy'n apelio arnoch chi, Weinidog, os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb ym mhob cyd-destun, yn enwedig yn y cyd-destun digidol, mae hwn yn un peth sy'n gorfod newid.

Wel, rwy'n cytuno â'r ffaith ei fod e'n gwbl annerbyniol fod pobl yn dioddef oherwydd eu bod nhw'n dewis gwneud rhywbeth dylen nhw allu gwneud yn hawdd—hynny yw, ymateb yn Gymraeg. Ac rydych chi'n iawn i sôn am yr impact penodol ar lein. Wrth gwrs, mae cyfle i wneud hyn ar bapur, ond, fel yr oeddech chi'n cyfeirio, cyfnod yr arth a'r blaidd—dyw hynny ddim yn ddigonol bellach. Mae wythnosau o oedi yn dod yn sgil hynny. Mae yna gyfle, fel mae'n digwydd, ymarferol i'r corff, gan eu bod nhw ar fin adnewyddu cynlluniau TG, ac felly, o ran elfen ymarferol, rydym ni'n gwthio'r syniad hwnnw—eu bod nhw'n defnyddio'r cyfle hwnnw yn ymarferol i allu darparu'r gwasanaeth yn Gymraeg fel sydd, yn sicr, ei angen.

Addysg yn Ne Clwyd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn addysg yn Ne Clwyd drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ56582

Manteisiodd rhanbarth De Clwyd ar gyfanswm buddsoddiad o dros £20 miliwn yn ystod y don gyntaf o gyllid ar gyfer rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Dechreuodd ail don o gyllid yn 2019, yn cynnwys buddsoddiad sylweddol pellach i'r ystâd ysgolion a cholegau yn ardal De Clwyd.

Mae Llywodraethau Llafur blaenorol Cymru wedi buddsoddi'n helaeth iawn mewn sefydliadau addysg, gan gynnwys ysgolion, drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn y gorffennol, a hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad haeddiannol iawn a'i wahodd i Dde Clwyd i weld rhywfaint o fuddsoddiad rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw ddiweddariadau pellach ar fuddsoddiad mewn ystadau ysgolion ar draws De Clwyd yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Diolch i'r Aelod am ei eiriau caredig ac am y pwynt atodol a wnaeth. Fe fydd yn gwybod bod prosiectau arfaethedig, gan gynnwys Ysgol yr Hafod, Brymbo ac Ysgol I.D. Hooson, sy'n ddatblygiadau cyffrous yn fy marn i, yn ei ardal ef. Rwy'n credu ei fod oddeutu £12 miliwn o fuddsoddiad i gyd, gyda chyfradd ymyrraeth o tua 65 y cant gan Lywodraeth Cymru, a siarad yn gyffredinol. Felly, credaf fod cyfleoedd cyffrous iawn yn ei ardal ef, ac mae'r ddau ohonom yn rhannu ymdeimlad o gyfle a chyffro am y buddsoddiad yn yr ystâd ysgolion a cholegau yng ngogledd Cymru a ledled Cymru. Ac rwy'n credu bod cyfle yn y blynyddoedd i ddod i ehangu nifer yr ysgolion carbon sero-net. Mae cynllun peilot cyffrous ar y gweill ar hyn o bryd, a gorau po fwyaf y gallwn ei wneud yng nghyswllt hwnnw i gyfrannu at gyflawni ein nodau newid hinsawdd yn yr ystâd ysgolion.

Addysg Awyr Agored

7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu cyfleoedd ar gyfer addysg awyr agored yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56598

Mae gan addysg awyr agored rôl bwysig i'w chwarae yn cyfoethogi addysgu a dysgu, ac adlewyrchir hyn yn y cwricwlwm i Gymru. Ar hyn o bryd rydym yn darparu £2 filiwn i'r sector addysg awyr agored preswyl i'w cefnogi rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021 i ymateb i gyfyngiadau COVID.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Gall dysgu yn yr awyr agored ddod â chymaint o fanteision i ddysgwyr o bob oed a gallu. Fodd bynnag, efallai y gellir gweld y manteision mwyaf ymhlith dysgwyr sydd wedi cael trafferth i ymsefydlu mewn lleoliadau addysgol prif ffrwd. Mae hyn yn arbennig o wir am leoliad addysgol awyr agored yn fy etholaeth i, Cynon Valley Organic Adventures, sydd wedi'i leoli yn Abercynon. Weinidog, a wnewch chi dderbyn gwahoddiad i ymweld â'r lleoliad hwn gyda mi i gyfarfod â rhai o'r dysgwyr sydd wedi ffynnu yno yn groes i bob disgwyl ac i drafod yn fanylach pa mor bwysig y gall llwybrau dysgu amgen fel hyn fod wrth sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn gallu cyflawni ei botensial llawn?

Cytunaf yn llwyr â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny i'n plant a'n pobl ifanc. Ac fel y mae'n digwydd, roeddwn yn dweud wrth rywun y bore yma mai dyma'r math o ddiwrnod pan oeddwn yn blentyn ysgol y byddwn wedi treulio'r rhan fwyaf ohono y tu allan, gan ddysgu yn yr awyr agored, ac mewn gwirionedd daeth hynny ag atgofion pleserus yn ôl i mi. Ond mae hyn yn rhan bwysig o'r cwricwlwm newydd, fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, a chredaf fod cyfleoedd gwirioneddol i ni yma, ac rwy'n deall yn iawn pa mor bwysig yw ymweliadau addysgol â chanolfannau fel Cynon Valley Organic Adventure. Fel y mae'n digwydd, roeddent wedi bod mewn cysylltiad â mi o'r blaen ac ni allwn fanteisio ar y cyfle bryd hynny i ymweld â hwy, ond gan eich bod bellach wedi cynnig cyfle i drefnu hynny, byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny ac rwy'n edrych ymlaen.

14:00
Hygyrchedd Addysg Cyfrwng Cymraeg

8. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i bob plentyn a chymuned, yn arbennig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru? OQ56602

Dylai pob plentyn sydd am fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg allu gwneud, ble bynnag y maent yn byw. Mae ein fframwaith statudol newydd trwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn gosod uchelgais glir i awdurdodau lleol gynllunio eu darpariaeth addysg Gymraeg er mwyn diwallu’r disgwyliad hynny.

Diolch i chi. Gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol o ymgyrch yn fy ardal o ran addysg cyfrwng Cymraeg, yn benodol yng ngogledd Pontypridd, lle ceisiodd ymgyrchwyr berswadio'r cyngor lleol i ystyried opsiynau amgen, yn hytrach na'r opsiwn sy'n mynd rhagddo, a fydd yn symud mynediad at addysg Gymraeg ymhellach o gymunedau Ynysybwl, Coed-y-Cwm a Glyncoch, ac allan yn llwyr o Gilfynydd. Os ydym o ddifrif am gyrraedd y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, onid oes rheidrwydd arnom i sicrhau mynediad cydradd i addysg Gymraeg, yn lle mynd ag addysg yn bellach o'r cymunedau hyn, cymunedau sydd yn ddifreintiedig? Ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gyfarfod â'r ymgyrchwyr gyda mi, efallai tra rydych chi'n mynd i Abercynon, sydd ddim ymhell, er mwyn trafod eu syniadau amgen nhw, oherwydd nid ymgyrch i achub ysgol oedd hon, ond i sicrhau mynediad cydradd i addysg Gymraeg, sydd yn wahanol i nifer o ymgyrchoedd eraill, ac mae yna nifer o syniadau sydd yn gyffrous ac y dylen ni wrando arnyn nhw?

Diolch i'r Aelod am yr ail gwestiwn pwysig hwnnw. Mae diwygio'r ddeddfwriaeth, dwi'n credu, sydd yn sail i'r cynlluniau strategol, yn mynd i gael yr effaith o symud y tir yn gadarnhaol yn y maes hwn, a chynllun strategol y Gymraeg mewn addysg y cyngor rŷch chi'n ei ddisgrifio, mae amryw o bethau uchelgeisiol iawn yn hwnnw, felly rwy'n bles o weld hynny. Ond rwy'n derbyn, ynghyd ag edrych ar y rhifau—mae hyn ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol—dwi'n credu bod angen edrych hefyd ar gymunedau a daearyddiaeth y Gymraeg. Mae hynny'n ffactor pwysig yn hyn o beth hefyd. Rwy'n gwybod yn glir fod dyhead cryf iawn yng ngogledd Pontypridd i gynnal addysg Gymraeg yn yr ardal, ac rwy'n glir ein bod ni, trwy ein partneriaid grant—er enghraifft, Mudiad Meithrin—yn edrych ar sut y gallwn ni gefnogi'r llwybrau gorau i ddysgwyr i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'r cyfle i fod yn ddwyieithog, ac mi fyddwn i'n hapus i drafod hyn ymhellach â'r Aelod.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad ar newid hinsawdd, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad hwnnw. Lee Waters.

Diolch yn fawr, Lywydd. Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ei drydydd asesiad annibynnol ar risg hinsawdd y DU. Mae'n ddeunydd darllen heriol iawn. Mae'n nodi 61 o risgiau a chyfleoedd yn sgil newid hinsawdd i Gymru, gan gynnwys i seilwaith busnes, tai, yr amgylchedd naturiol ac iechyd. Roedd 26 o'r 61 o risgiau wedi cynyddu o ran eu difrifoldeb dros y pum mlynedd diwethaf. Gallwn weld hyn drosom ein hunain. Yn 2018, gwelsom yr haf poethaf ers dechrau cadw cofnodion. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cofnododd Cymru ein mis Chwefror gwlypaf a'n llifogydd gwaethaf mewn 40 mlynedd. Nid yw'r rhain yn ddigwyddiadau anarferol mwyach; mae'r tywydd anrhagweladwy ac eithafol hwn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni ddod i arfer ag ef.

O fewn oes ein plant, mae'r adroddiad yn rhybuddio am aeafau gwlypach, hafau sychach a phoethach a chynnydd yn lefel y môr o hyd at ddwy droedfedd a hanner ar hyd arfordir Cymru. Gallai'r rhain gael effeithiau dinistriol. Ym mhob categori a astudiwyd gan yr adroddiad, ceir llu o risgiau gyda'r sgôr brys uchaf posibl. Mae'r cyngor hwn yn amserol iawn. Mae sefydlu gweinidog newid hinsawdd newydd yn ei gwneud yn haws trefnu prif feysydd Llywodraeth ddatganoledig sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein hallyriadau: tai, trafnidiaeth, ynni, cynllunio, polisi amgylcheddol a ffyrdd digidol o weithio.

Mae'r newid sefydliadol hwn yn ein galluogi i adeiladu ar sylfeini gwaith polisi hanfodol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ein cynllun addasu, 'Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd', ar yr ail flwyddyn o'i gyflawniad bellach. Mae ein strategaeth llifogydd genedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, yn nodi sut y byddwn yn rheoli perygl llifogydd dros y degawd nesaf. Ac eleni rydym yn buddsoddi £65 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd, y swm mwyaf a fuddsoddwyd yng Nghymru mewn un flwyddyn. Yn fwy na hynny, mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ariannu mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer mwy na 45,000 o gartrefi ledled Cymru, a darparu system rheoli llifogydd ar sail natur ym mhob prif dalgylch afon i ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir.

Rydym yn gwneud llawer yng Nghymru. Astudir ein fframwaith cyfreithiol ar ddeddfu ar gyfer anghenion cenedlaethau'r dyfodol ledled y byd. Mae ein gweithredu ymarferol ar ailgylchu yn agos at frig y tabl yn fyd-eang. Dilynwyd ein treth ar fagiau siopa untro yn eang ac mae wedi llwyddo i leihau'r defnydd o blastig yn sylweddol.

Ers 1990, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru wedi gostwng 31 y cant. Ond Lywydd, mae maint ein her yn fawr. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, bydd angen inni fwy na dyblu'r holl doriadau y llwyddasom i'w gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf. Os na wnawn fwy na dal ati ar ein cyflymder presennol, ni lwyddwn i gyflawni sero-net tan tua 2090. Rydym wedi ymrwymo i'w gyrraedd erbyn 2050, ond o ystyried difrifoldeb y cyngor newydd heddiw gan y pwyllgor ymaddasu, ni allwn fod yn hunanfodlon, ac ni allwn dybio ychwaith y bydd y targed hwn yn aros yn sefydlog.

Dros yr 16 mis diwethaf rydym i gyd wedi dod i arfer â pholisi cyhoeddus sy'n seiliedig ar y wyddoniaeth. Rydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â'r Prif Weinidog yn dweud wrthym fod y data'n rhoi lle inni wneud dewisiadau, ac wrth i'r data a'r wyddoniaeth newid, mae'r dewisiadau sydd gennym i'w gwneud yn newid. Rydym wedi dilyn y dull hwn o fynd i'r afael â'r coronafeirws. Rhaid inni ddilyn yr un dull ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Bydd y Llywodraeth hon yn arwain, ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain—ni all yr un Lywodraeth wneud hynny. Mae'n rhaid i bob busnes a sefydliad, a phob un ohonom ni, ystyried ein cyfrifoldebau ein hunain, ystyried effaith y dewisiadau a wnawn, y ffordd rydym yn gwresogi ein cartrefi, pam a sut y teithiwn, beth rydym yn ei fwyta, ble rydym yn siopa, sut rydym yn ymlacio, y ffordd rydym yn gweithio, a ble rydym yn gweithio.

Bydd hyn yn creu tensiynau i bob un ohonom. Dylem gydnabod hynny. Nid cyfaddawdau syml yw'r rhain. Rhaid inni weithio drwyddynt gyda'n gilydd. Ond ni ddylem ychwaith dybio y bydd y dewisiadau hyn yn gwneud ein bywydau'n waeth. Bydd llawer o'r pethau y mae angen inni eu gwneud i ymateb i'r wyddoniaeth ar newid hinsawdd yn creu manteision: swyddi newydd, datblygiadau technolegol newydd, aer glanach, strydoedd tawelach a llai o ddamweiniau, llai o amser yn cymudo, ymdeimlad cryfach o gymuned, natur yn ffynnu ar garreg ein drws, yn meithrin a gwella ein lles. Mae'r rhain i gyd yn bethau rydym eisoes wedi'u gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwelwyd bod pethau a oedd yn ymddangos yn amhosibl yn bosibl, ac weithiau'n well.

Nid oes dim o hyn yn hawdd, ond fel y noda adroddiad heddiw gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd eto, mae pris peidio â'i wneud yn rhy fawr. Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad cynnydd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd fis Rhagfyr diwethaf. Rydym wedi gwneud cynnydd teilwng ac rydym ar y trywydd iawn ar gyfer targed 2020. Byddwn yn amlinellu ymateb llawn y Llywodraeth i adroddiad heddiw i'r Senedd maes o law, ynghyd â'n cynllun lleihau allyriadau nesaf, Cymru sero-net, wrth inni edrych tuag at COP26 a COP Cymru.

Mae'n bwysig fod y Senedd hon yn cyfrannu'n llawn at ddatblygu ymateb Cymru. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, a rhaid inni brofi syniadau ein gilydd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau Cymru decach, werddach a chryfach. Diolch.

14:05

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Nawr, mae cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhybudd pwysig i Gymru, ac yn enwedig i chi fel Llywodraeth Cymru. Yn wir, tuag at ddiwedd y Senedd ddiwethaf, rhybuddiodd 'Adroddiad ar Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'

Un peth yw bod eich rhaglen lywodraethu yn datgan bod gennych

'y weledigaeth a’r uchelgais i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur',

ond nid yw eich cyflawniad yn y gorffennol ac adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cefnogi hynny. O'r 61 o risgiau a chyfleoedd, mae angen rhoi mwy o gamau ar waith yng Nghymru yn awr i fynd i'r afael â 32 ohonynt. Yn wir, dim ond mewn pump ohonynt y bernir bod cynnal y gweithredu presennol yn briodol. Felly, Lywydd, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog fod yr adroddiad hwn yn ddeunydd darllen heriol.

Mae llawer ohonom yn gweld newid hinsawdd ar waith yn uniongyrchol yn ein hetholaethau ar ffurf llifogydd. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, ac eto nid yw ein cymunedau'n cael eu clywed. Ers 2019, bûm yn galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn nyffryn Conwy ac yn fwy diweddar, gwnaed cais tebyg gan y gymuned, ac Aelodau yma yn awr yn wir, yn Rhondda Cynon Taf. Wel, mae'n bryd i chi ailfeddwl, oherwydd mae adran H3 ar bobl, cymunedau ac adeiladau yn datgan bod angen mwy o weithredu, ac nad yw risgiau'n cael eu rheoli'n effeithiol. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud mwy ar lifogydd na'r ddwy frawddeg bitw yn y rhaglen lywodraethu?

Mae angen rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r risg i natur hefyd. Mae Adran N1 yn nodi maint y risgiau sy'n deillio o newid hinsawdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac ystyrir eu bod yn uchel oherwydd nifer y rhywogaethau yr effeithir arnynt mor andwyol ac sy'n fwy tebygol o gael eu heffeithio wrth symud ymlaen. Nid yw hyn yn syndod gan fod Llafur Cymru wedi llywyddu dros ddirywiad rhywogaethau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, byddaf yn falch o glywed pa dargedau y byddwch yn eu gosod mewn perthynas â chadwraeth bywyd gwyllt i fonitro ac ysbrydoli cynnydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar y camau brys sydd eu hangen i wella parodrwydd a gwyliadwriaeth rhag plâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, a chanfu'r adroddiad fod bylchau pwysig yn y wybodaeth o hyd am faterion yn ymwneud ag amaethyddiaeth a choedwigaeth. Felly, Weinidog, pa gamau brys a gymerir gennych i unioni'r bwlch hwn yn y wybodaeth? A allwch hefyd gadarnhau y bydd eich ymateb yn ceisio cynnwys manylion ynglŷn â sut y byddwch yn ariannu ac yn gweithredu'r strwythurau gwyliadwriaeth newydd angenrheidiol?

Mae mwy o risg hefyd yn sgil gwres. Gallai marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yng Nghymru gynyddu 2.4 ym mhob 100,000 o bobl y flwyddyn yn 2016 i 6.5 ym mhob 100,000 erbyn y 2050au. Felly, Weinidog neu Ddirprwy Weinidog, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnwys y galw cynyddol am aerdymheru yn eich polisïau ynni yn y dyfodol, ac yn ystyried cyflwyno cynllun i gymell pobl i ddefnyddio dulliau aerdymheru goddefol?

Yn olaf, canfu'r astudiaeth hefyd nad oes gan y polisi presennol gamau gweithredu manwl a chanlyniadau penodol i'r sector morol a'r amgylchedd. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflwyno cynlluniau gweithredu manwl i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar bysgodfeydd o fewn amcan y sector pysgodfeydd, neu ar gyfer rhywogaethau morol? Mae angen inni drafod yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn fanylach o lawer, ond rwy'n falch ein bod wedi dechrau heddiw. Diolch. 

14:10

Diolch ichi am y sylwadau hynny. Cytunaf yn llwyr fod angen gweithredu pellach a chredaf imi nodi hynny, a chytunaf fod angen inni drafod hyn yn fanylach o lawer. Nid wyf yn meddwl mai heddiw yw'r amser i wneud hynny. Credaf fod Janet Finch-Saunders wedi cyflwyno cyfres o heriau teg a rhesymol ac fel y dywedodd, rhaid cael camau beiddgar a phendant i fynd gyda'r rhethreg. A byddwn i'n dweud wrthi fod yr hyn sy'n iawn i'r ŵydd yn iawn i'r ceiliagrwydd. Mae hynny'n wir iddi hi a'i phlaid yn union fel y mae i ni, ac nid yw codi i alw am adeiladu traffyrdd chwe lôn drwy wlyptiroedd gwarchodedig yn gydnaws â'r her y mae'n ei rhoi i mi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom fyfyrio ar yr effaith y mae'r wyddoniaeth hon yn ei chael ar lawer o'r safbwyntiau polisi rydym wedi'u harddel hyd yma, a chyda'n gilydd rhaid inni geisio dod o hyd i ffordd sy'n cysylltu ein rhethreg â'r hyn y mae'r wyddoniaeth yn dweud wrthym fod angen i ni ei wneud.

Byddwn yn dweud yn fyr i gloi bod mwy na hanner yr hyn y mae angen inni ei wneud mewn meysydd nad ydynt wedi'u cadw i'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig i'w chwarae i wneud rhai o'r newidiadau macro, ac mae angen inni weithio'n agos ac yn ofalus gyda hwy. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld y byd mewn ffordd ychydig yn wahanol. Nid yw eu rhaglen adeiladu ffyrdd enfawr, er enghraifft, yn gyson â'r wyddoniaeth. Nid yw'n bolisi y byddwn yn ei ddilyn, ond mae angen i bob un ohonom ymatal rhag rhethreg ac astudio'r wyddoniaeth yn ofalus, a meddwl drwy ei goblygiadau i bolisi. Ac edrychaf ymlaen at gydweithio i geisio cyrraedd cymaint o gonsensws ag y gallwn.

Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad ac am rannu nifer o adroddiadau gyda ni heddiw. Mae'n hollol glir bod yn rhaid i ni daclo'r argyfwng natur ar y cyd â'r argyfwng hinsawdd, fel sydd wedi cael ei drafod, gan ein bod ni'n methu datrys yr un argyfwng heb inni ddatrys y llall. Ond er hyn, mae grwpiau amgylcheddol a natur yn pryderu am ariannu projectau a pholisïau natur y Llywodraeth hon. Mae'r pryderon ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a chronfeydd newydd i gymryd lle arian sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd yn niferus.

Yn gyntaf, mae'r meini prawf ar gyfer y cronfeydd naill ai yn anwybyddu neu yn lleihau pryderon amgylcheddol, felly nid yw'r arian wedi'i gynllunio mewn ffordd a fydd yn ein helpu ni yng Nghymru i ymateb ar y cyd i'r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae'n debyg na fydd deddfwriaeth ddomestig allweddol yng Nghymru yn cael ei chynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ariannu prosiectau, gan gynnwys, yn benodol, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae hyn yn golygu y gallai prosiectau fod yn groes i'r mecanweithiau deddfwriaethol yng Nghymru i sicrhau datblygu cynaliadwy ac adfer a chynnal bioamrywiaeth.

Mae yna gronfa allweddol o'r Undeb Ewropeaidd sydd ddim yn ymddangos fel ei bod hi wedi'i chynnwys: cronfa bwrpasol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer bioamrywiaeth o dan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Mae hi wedi bod yn hanfodol yng Nghymru o ran cyflawni prosiectau adfer natur. Gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn addo dim ceiniog yn llai, rwy'n gofyn ichi, Dirprwy Weinidog, ble mae'r hyn sy'n cyfateb i gronfa LIFE yr Undeb Ewropeaidd wedi ei neilltuo ar gyfer adfer ac amddiffyn natur?

Gan droi at rywbeth sydd eisoes wedi codi mewn gwirionedd, mae'r pwyslais yn uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd yn canolbwyntio'n bennaf ar atebion sy'n seiliedig ar y tir a llawer ar greu coetiroedd. Wrth gwrs, rwy'n croesawu hyn, ond fel y crybwyllwyd eisoes mewn gwirionedd, credaf fod angen rhoi mwy o bwyslais ar ein hamgylchedd morol. A fyddech cystal â gwneud datganiad, Weinidog, ynglŷn â sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng mannau gwyrdd a glas, cynefinoedd a thirweddau y môr a'r tir, yn eich dull o fynd i'r afael â newid hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth?

Yn olaf, mae'n amlwg fod gan y Llywodraeth agenda uchelgeisiol. Mae gan bawb ran i'w chwarae yn y daith tuag at sero-net. Mae'r dasg sydd o'n blaenau yn sylweddol, ac rydym am i bawb allu chwarae rhan ynddi. Er ei bod yn glir sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu rhoi'r gwaith hwn ar y gweill—mae'n dod yn llawer mwy clir—nid oes cymaint o eglurder ynghylch sut y gall dinasyddion normal o bob oed, yn ogystal â chymunedau, gyfrannu at hyn hefyd, at fynd i'r afael â'r argyfwng. Hoffwn ofyn sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi unigolion a chymunedau i weithredu er lles natur a'r amgylchedd ar lefel leol. Diolch yn fawr.

14:15

Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Cytunaf yn llwyr fod y newidiadau ar ôl yr UE—i'r hyn a oedd yn gronfeydd strwythurol—yn peri gofid mawr. Fel y dywedodd Delyth Jewell, dros nifer o flynyddoedd rydym wedi datblygu dull strategol o weithredu ar amrywiaeth o raglenni, gan ganolbwyntio'n benodol ar fioamrywiaeth a newid hinsawdd, nad ydynt yn cyd-fynd yn daclus bellach â'r strwythurau y mae Llywodraeth y DU wedi'u sefydlu. Yn wir, mae'n ymddangos eu bod yn poeni mwy am rhoi disgresiwn lleol i ASau Ceidwadol ariannu pethau a fydd yn edrych yn dda iddynt hwy yn hytrach na mabwysiadu dull system gyfan, sef yr hyn y mae'r wyddoniaeth heddiw'n mynnu bod angen inni ei wneud. Felly, credaf fod angen i bob un ohonom fel Senedd sicrhau bod y pryderon hynny wedi'u deall, a'n bod yn datblygu'r rhaglenni ariannu hynny wrth inni symud ymlaen mewn ffordd sy'n gyson â'r cyfrifoldebau sydd gan bob un ohonom i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a newid hinsawdd.

Ar y pwynt penodol am raglen LIFE yr UE, byddaf yn ysgrifennu ati ar hynny. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw arian newydd cyfatebol, ond rwy'n awyddus i godi hynny gyda Llywodraeth y DU, ac os gallwn wneud hynny ar sail drawsbleidiol, credaf y byddai hynny'n well byth.

O ran yr effaith forol, cytunaf yn llwyr. Yn fy sesiwn friffio, cyfeirir atynt fel 'cynefinoedd carbon glas'. Rhaid imi ddweud nad wyf erioed wedi clywed yr ymadrodd hwnnw o'r blaen, ond mae'n eithaf taclus, oherwydd mae'r amgylchedd morol yn storio carbon ac yn hyrwyddo bioamrywiaeth drwy forfeydd heli, gwelyau morwellt a gwelyau pysgod cregyn, ac maent o dan bwysau sylweddol yn sgil y cynnydd yn lefel y môr ac asideiddio. Ar hyn o bryd mae CNC yn mapio ardaloedd o gynefinoedd morol ac arfordirol, gan gynnwys rhai sy'n dal a storio carbon glas, er mwyn deall y potensial a'r cyfleoedd pellach ar gyfer adfer y cynefinoedd pwysig hyn. Credaf fod Delyth Jewell yn iawn i dynnu sylw at hynny fel gwaith pwysig, a'i osod ar sylfaen bwysig.

Rwy'n credu bod y pwynt olaf am weithredu fel unigolion a gwneud y berthynas honno, nid yn unig drwy ddull rheoli tir mawr ond yn nhermau pobl a theuluoedd a chymunedau, ac adfer y cysylltiad â'n hymddygiad a'i effaith ar ein hamgylchedd lleol, yn un hollbwysig. Un o'r pethau rwy'n gobeithio ei wneud yn rhan o fynd at wraidd y gwaith o blannu coed a gyhoeddwyd gan Julie James yr wythnos diwethaf yw edrych ar fater coedwigo ar raddfa fawr, ac edrych hefyd ar yr unigolyn, ar lefel y gymuned. Credaf fod ein cronfa rhwydweithiau natur wedi dangos cynnydd gwirioneddol mewn cyfnod byr iawn mewn prosiectau bioamrywiaeth lleol a dangos y berthynas y gall unigolion ei chael. Ond hoffwn wneud mwy na hynny. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn yr hyn y gallwn ei ddysgu o'n prosiect Cymru o Blaid Affrica, lle mae ein cyllid, wrth weithio gyda phrosiect Maint Cymru yn Mbale yn Uganda, yn rhoi coed am ddim i bobl yno i'w plannu. Mewn rhywbeth rydym yn dweud wrth Affricanwyr am ei wneud â'n harian, credaf y dylem fod yn cymhwyso'r egwyddorion hynny i ni'n hunain hefyd.

Rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn ceisio datgloi problem dull CNC o blannu coed ar raddfa fawr, sy'n bwysig, ond mae llawer iawn y gallwn ei wneud ar lefel gymunedol. Credaf mai un o'r heriau gwirioneddol sydd gennym yma yw bod hyn i gyd braidd yn sych a haniaethol ar lefel wyddonol, ac mae angen inni ei wneud yn real i bobl. Un o'r pethau a welsom drwy'r cyfnodau o gyfyngiadau symud yw bod perthynas pobl â'r natur ar garreg eu drws wedi bod yn eithaf dwys. Rwyf innau wedi meithrin diddordeb sydyn yn y coed lle rwy'n byw a'r coed yn fy ngardd mewn ffordd nad oedd yn wir o'r blaen. Mae angen inni fanteisio ar hynny drwy wneud i bobl sylweddoli bod ganddynt ran i'w chwarae, a thrwy lu o gamau gweithredu bach, gall hynny wneud gwahaniaeth hefyd.

14:20

A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad? Gan ddechrau gyda'r wyddoniaeth, mae carbon yn ocsideiddio i ffurfio carbon deuocsid. Nwy tŷ gwydr yw carbon deuocsid ac mae'n dal gwres. Gwyddom hyn oherwydd bod y blaned Fenws, sydd ag awyrgylch carbon deuocsid yn bennaf, er ei bod yn llawer pellach i ffwrdd oddi wrth yr haul na'r blaned Mercher, yn llawer poethach. Wrth ddweud yr ychydig eiriau hyn, rwyf wedi bod yn allyrru carbon deuocsid i'r atmosffer drwy'r weithred o anadlu. A yw'r Gweinidog yn cytuno na fydd lleihau ein hôl troed carbon drwy allforio diwydiannau sy'n cynhyrchu carbon deuocsid yn helpu i leihau cynhesu byd-eang ond yn hytrach y bydd yn debygol o'i waethygu?

A gaf fi ddweud pa mor galonogol oedd yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am blannu coed? Fe'i codais ddoe yn y datganiad busnes. Pe bai pawb yng Nghymru sydd â gardd yn plannu un goeden, byddai gennym 1 filiwn o goed wedi'u plannu mewn blwyddyn. Cawsom gynllun yn y 1970au a weithiodd. Rwy'n cynrychioli cwm Tawe isaf, sydd wedi mynd o dirwedd debyg i wyneb y lleuad i fod yn goediog iawn erbyn hyn ac mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei wneud.

Mae gennyf ddau gwestiwn allweddol. Pryd y bydd y Llywodraeth yn newid polisi cynllunio i sicrhau bod pob tŷ newydd yn sero-net? Nid ydym am adeiladu tai y mae'n rhaid eu hôl-osod yn y dyfodol agos. Yr ail gwestiwn yw: a wnaiff y Gweinidog barhau i gefnogi'r morlyn llanw yn Abertawe? Dyma gyfle i greu ynni gwyrdd a fydd yn para am byth.

Diolch am hynny, ac yn enwedig am y cyfeiriadau at Fenws a'r lleuad. Nid yn aml y maent yn rhan o'n trafodaethau ar newid hinsawdd. Rwy'n cytuno'n llwyr, fel rwyf newydd ei nodi, ynglŷn â'r rhan y gall plannu coed ei chwarae ar lefel deuluol a chymunedol. Rwy'n awyddus iawn i ddeall pa rwystrau a allai fod yn y ffordd a gwneud rhai argymhellion i'r Senedd cyn diwedd tymor yr haf ar sut y gallwn ddechrau gwneud cynnydd pellach yn hynny o beth.

Ar y morlyn llanw, bydd Mike Hedges yn gwybod bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gronfa her. Rydym yn frwd iawn ynglŷn ag effaith a photensial ynni adnewyddadwy morol yn ei ystyr ehangaf, ac mae môr-lynnoedd yn amlwg yn rhan bwysig o sbectrwm technoleg o'r fath. Rhaid inni wneud miloedd o bethau bach, ond mae angen inni wneud rhai pethau mawr sy'n newid pethau'n sylfaenol hefyd. Mae gan y morlyn, y micro-hydro, yn ogystal â phlannu coed unigol, eu rhan i'w chwarae yn ymateb i'r wyddoniaeth a ddatgelwyd i ni heddiw gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Weinidog, fe gewch chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd fy nghefnogaeth lwyr i wneud popeth sydd ei angen i ddatblygu'r agenda hon, o ran lliniaru ac addasu i newid hinsawdd yn ogystal, ac ar yr argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth a wynebwn hefyd. Fe ddaw'r adeg inni ofyn cwestiynau manwl iawn a chraffu'n fanwl iawn ar sut rydym yn cyflawni hyn a sut i'w ddatblygu. Gall cymhlethdod rhai o'r atebion weithiau fod yn llethol ac weithiau fe fyddwch yn codi eich dwylo mewn anobaith. Felly, hoffwn ofyn y cwestiwn mawr i chi. Ddoe, siaradais mewn digwyddiad bioamrywiaeth a drefnwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys cefnogaeth drawsbleidiol hefyd, ac mae bioamrywiaeth a newid hinsawdd wedi'u cydgysylltu ynddo. Un o'r siaradwyr yno oedd Poppy Stowell-Evans, llysgennad newid hinsawdd ar ran yr ieuenctid. Pa obaith y gallwn ei roi i Poppy ac i eraill ein bod wedi ymrwymo i hyn ac y byddwn yn cyflawni'r newid sydd ei angen, waeth pa mor anodd fydd hynny, ac y byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd a fydd yn creu cymunedau gwell, cymunedau tecach, cymunedau mwy cyfiawn, swyddi gwyrdd, amgylcheddau gwell ac yn y blaen? Pa obaith y gallwn ei roi i bobl ifanc y gallwn gyflawni hynny mewn gwirionedd?

14:25

Yn gyntaf oll, a gaf fi dalu teyrnged ddiffuant iawn i Huw Irranca-Davies am y rôl y mae wedi'i chwarae, cyn iddo ddod i'r Senedd, yn San Steffan fel Gweinidog ac fel Cadeirydd pwyllgor dethol, ac ers iddo ddod yma? Gweithiais yn agos iawn gydag ef yn y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol yn y Senedd ddiwethaf a gobeithiaf barhau i wneud hynny eto. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd go iawn. Mae'n defnyddio'r cyfuniad o her a chefnogaeth yn fedrus iawn, ac edrychaf ymlaen at barhau'r berthynas honno.

Rwy'n obeithiol ynglŷn â'r ffordd rydym yn ymladd yr her hon. Nid oes angen gofyn a ydym yn mynd i'r afael â hi ai peidio; rhaid i ni fynd i'r afael â hi. Mae'n hanfodol; mae hwn yn argyfwng dirfodol ac yn fygythiad i bob un ohonom. Felly, ychydig iawn o ddadl sydd i'w chael o ran 'a ydym yn ei wneud?', ac rwy'n falch iawn nad yw rhai o'r lleisiau mwy hurt a oedd yn y Siambr ar y cwestiwn hwn yma mwyach. Felly, gobeithio y gallwn i gyd o leiaf ddechrau o'r man cychwyn fod y wyddoniaeth yn ddilys a bod hon yn her y mae angen inni fynd i'r afael â hi.

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwneud hyn mewn ffordd sydd â manteision ychwanegol, oherwydd credaf y bydd pobl yn ymateb yn well—ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn wir—os oes gan y mesurau sydd eu hangen i ymateb i her wyddonol newid hinsawdd fanteision eraill a allai fod yn fwy uniongyrchol i'w bywydau bob dydd; felly, aer glân, amgylchedd lleol gwell, llai o dagfeydd traffig—ystod eang o bethau y gallem sôn amdanynt—a chartrefi cynhesach.

Rwy'n credu y dylem dynnu sylw at y manteision ymarferol o ddydd i ddydd i wneud bywydau pobl yn well, nid dim ond y gofid a'r digalondid os na wnawn hynny. Yn amlwg, mae angen i hynny fod yno i ni, fel llunwyr polisi, i ffocysu ein meddyliau ar y brys i wneud hyn, ond wrth gyfleu hyn i bobl, os byddwn yn gwneud hyn yn y ffordd gywir ac mewn ffordd deg, gyda'r difrifoldeb priodol, credaf y gallwn i gyd fod yn obeithiol y gallwn ryddhau potensial yma a fydd yn gwneud bywydau pobl yn well.  

Hoffwn ddychwelyd at yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach am y ffordd na all y Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun a'i fod yn fater i bob sefydliad a phob unigolyn. Rwyf am edrych ar rywbeth y gofynnodd Mike Hedges yn ei gylch, am dai a adeiladir o'r newydd, ond yn gyntaf oll, roeddwn am wybod pam ein bod yn oedi cyn herio landlordiaid cymdeithasol i fodloni gradd A y dystysgrif perfformiad ynni wrth iddynt ôl-osod tai cymdeithasol, nad yw'n dod i rym tan fis Ionawr y flwyddyn nesaf. Roeddwn wedi tybio bod y cyhoeddiad a wnaed ym mis Ebrill 2021 am adeiladau newydd hefyd yn berthnasol i adeiladau sy'n bodoli eisoes. Felly, byddai hwnnw'n eglurhad defnyddiol.

Ar ben hynny, rwyf hefyd braidd yn rhwystredig nad ydym eto wedi diwygio Rhan L y rheoliadau adeiladu, sy'n parhau i ganiatáu i adeiladwyr tai preifat adeiladu cartrefi nad ydynt yn addas i'r diben—tai heb baneli solar ar eu toeau sy'n wynebu'r de a heb bympiau gwres o'r ddaear wedi'u gosod mewn cartrefi newydd. Mae lefel y gwaith gosod yn echrydus, hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad oes nwy o'r prif gyflenwad ac felly, rhaid mai pympiau gwres o'r ddaear yw'r peth mwyaf darbodus y gallwn fod yn ei wneud. Nid yw'n ymddangos eich bod am orfodi unrhyw newid gan adeiladwyr tai preifat tan 2024-25, yn seiliedig ar y datganiad a wnaethoch ar yr ymateb i'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd, felly byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod pam nad ydym yn cyflymu gwaith ar hyn, o ystyried bod gennym argyfwng ar ein dwylo ac nad ydym yn mynd yn ddigon cyflym.

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi adleisio'r hyn a ddywedais am Huw Irranca-Davies am Jenny Rathbone hefyd, sydd wedi bod yn dadlau'n frwd dros yr agenda hon? Rwy'n gwerthfawrogi ei hymdrechion yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen at barhau â'i her.

Cododd gyfres o gwestiynau am dai. Fel yr eglurodd Julie James yn gynharach, mae rhannu'r portffolio anferth hwn yn her ddyddiol. Un o'r pethau rydym wedi cytuno arnynt yw y byddaf fi'n arwain ar feysydd penodol; byddaf yn arwain ar drafnidiaeth, adfywio, ynni a materion digidol, ac yn gweithio'n fras ar draws y meysydd eraill—sef y plannu coed, er enghraifft—a bydd Julie yn arwain ar y gweddill. Felly, mae tai'n aros gyda Julie, ond byddaf yn cyfrannu hwnt ac yma yn ôl cyfarwyddyd fy nghyd-Aelod.

Ond hoffwn ddweud, ar y safonau ynni, fy mod yn credu mai un o'r pethau nad yw wedi cael ei ddweud ddigon yw'r cynnydd enfawr a wnaethom drwy safonau ansawdd tai Cymru dros y 18 mlynedd diwethaf. Ac mae hon yn enghraifft o rywbeth y dywedwyd wrthym na ellid ei wneud. Dywedwyd wrthym ei bod yn rhy anodd cael 225,000 o gartrefi i gydymffurfio â safonau effeithlonrwydd ynni tystysgrif perfformiad ynni gradd D, ac rydym wedi gwneud hynny. Drwy fuddsoddiad o £1.8 biliwn, mae hwn wedi bod yn gyflawniad enfawr gan Lywodraeth Lafur Cymru dros y cyfnod hwnnw. Ac mae'r iteriad newydd—gyda'r enw clyfar, safonau ansawdd tai Cymru 2.0—yn dechrau yn 2022. Felly, i ateb yn uniongyrchol y cwestiwn pam ein bod yn aros tan ddiwedd y flwyddyn hon, y rheswm am hynny yw bod y safonau newydd yn dod i rym o'r adeg honno ymlaen, gan gyflymu taith tai cymdeithasol tuag at garbon sero-net. Felly, rwy'n credu o ddifrif y dylem fod yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y 18 mlynedd diwethaf gyda safonau ansawdd tai Cymru, a dylem ddisgwyl mwy ohono yn y cyfnod nesaf, a chredaf fod gennym reswm i fod yn obeithiol ynglŷn â hynny.

Yn yr un modd, ar ran L, deallaf fod hynny'n cael ei gyflwyno eleni. A dyma un o heriau'r agenda hon. Gwyddom fod y wyddoniaeth yn hollbwysig, mae llawer iawn o bethau yr hoffem eu gwneud ar unwaith. Mae'r broses o'u cael drwy beiriant deddfwriaethol, rheoleiddiol y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid, a sicrhau ei fod wedi'i gynllunio'n iawn fel ei fod yn gweithio yn hytrach na'i fod yn syrthio'n fyr o'r nod, yn araf ac yn gymhleth. A dywedais yn fy natganiad yn gynharach fod yna densiynau yma y bydd yn rhaid inni eu rheoli gyda'n gilydd, a dyma un o'r tensiynau. Gallaf addo i chi fod Julie James a minnau mor ddiamynedd ag unrhyw un arall i geisio gwneud hyn cyn gynted ag y gallwn, ond nid yw mor syml ag yr hoffem iddo fod.

Yn olaf, ar enghraifft y pympiau gwres o'r ddaear, credaf fod honno'n enghraifft wych iawn o'r cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil yr agenda hon. Mae swyddi i'w creu o osod pympiau gwres o'r ddaear. Nawr, ar hyn o bryd, nid oes gennym weithlu hyfforddedig sy'n gallu gwneud hyn. Felly, mae hynny'n rhywbeth rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Vaughan Gething arno i sicrhau ein bod yn creu cyfleoedd i bobl uwchsgilio er mwyn gallu manteisio ar y cyfleoedd economaidd enfawr sy'n deillio o'r newidiadau angenrheidiol y mae angen inni eu gwneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

14:30

Hoffwn ddatgan yn glir iawn, o ran yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, nad oes lle i wleidyddiaeth plaid, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau a chefnogi eich gwaith. Ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at yr angen i fynd ati i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ar sail y data a'r wyddoniaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn groes i'r modd rydych chi wedi gwrthod ymrwymo i ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, ymchwiliad a fyddai'n rhoi'r atebion i ni, oherwydd mae pobl yn dal i fod heb gael gwybod beth ddigwyddodd a pham. Mae pobl yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru oherwydd COVID, oherwydd yr agwedd agored honno mewn perthynas â data, ac eto, nid ydynt yn cael yr atebion sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu ar yr hyn a ddigwyddodd yn 2020. Felly, gallwn daflu arian yn adweithiol at reoli llifogydd, a hyd nes y byddwn yn cydnabod na fydd pethau fel adroddiad adran 19 yn rhoi'r atebion hynny, bydd gennym amrywiaeth eang o adroddiadau, ond mae arnom angen ffordd o ddod â'r holl ddata hwnnw at ei gilydd, er mwyn deall hefyd yr effaith ar iechyd meddwl a lles. A hoffwn ofyn, rydych chi wedi cyfeirio at y strategaeth lifogydd genedlaethol, ac mae cyfeiriad yn honno at yr angen am sgwrs genedlaethol, ac mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi'r un peth. Pa bryd y bydd y sgyrsiau anodd hynny'n digwydd ac y gallwn fwrw ymlaen â'r sgyrsiau hynny, a gwrando'n iawn ar gymunedau, cymunedau nad ydynt ar hyn o bryd yn ymddiried yn y Llywodraeth hon yng Nghymru i'w diogelu rhag llifogydd?

Diolch, Janet. Credaf fod honno'n her deg. Yn amlwg, fel y mae'r wyddoniaeth yn dangos, bydd y rhain yn digwydd yn amlach ac yn amlach, a bydd gallu pob asiantaeth a phob rhan o'r Llywodraeth—lleol a chanolog—i ymdrin â hwy yn wynebu her enfawr. Mae gwersi i ni eu dysgu o'r llifogydd ym Mhentre ac yn ardal Rhondda Cynon Taf ychydig flynyddoedd yn ôl a ledled Cymru. Rwy'n credu bod penderfyniad pragmatig i'w wneud ynglŷn â ble sydd orau i dargedu'r adnoddau a'r amser cyfyngedig sydd gennym. Ai drwy ymchwiliad annibynnol ffurfiol, fel y mae hi'n gofyn, ymchwiliad na fydd yn gyflym, ac na fydd yn rhad, ac a fydd yn arafu cynnydd arall, neu a oes gwersi cyflymach y gallwn eu dysgu a'u cymhwyso mewn amser real, oherwydd gallai'r pethau hyn fod ar ein gwarthaf o fewn y flwyddyn nesaf eto? Ein greddf yw gwneud hynny. Gallaf addo iddi na fydd diffyg awydd i gael sgyrsiau anodd gydag unrhyw un o asiantaethau neu bartneriaid y Llywodraeth, ac rydym yn dechrau ein deialog ar hyn o bryd. Felly, gallaf roi sicrwydd ynglŷn â hynny. 

Felly, nid oes dim i atal pwyllgorau'r Cynulliad yn y pen draw, pan gânt eu cynnull, i wneud gwaith ar hyn a fydd o gymorth i ni. Nid ydym yn erbyn cael meddyliau ymchwilgar i ddod o hyd i ffyrdd gwell o'i wneud a dysgu gwersi. Ymhell o fod. Fel set o Weinidogion, mae gennym her wirioneddol i'w goresgyn o ran yr adnoddau sydd ar gael inni a'r set o heriau a wynebwn mewn nifer fawr o feysydd, a chredaf fod angen inni fod yn bragmatig ynglŷn â ble i ganolbwyntio ein hymdrech. Ond hoffwn weithio'n agos gyda Heledd Fychan ar sut y gallwn edrych ar y cynigion yn eich maniffesto a sut y gallwn gydweithio ar rai ohonynt; credaf fod rhai syniadau diddorol iawn yno y byddem yn hapus iawn i siarad amdanynt. Ond rwy'n credu bod angen inni roi'r gorau i gweryla am yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r llifogydd, a dechrau gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion yn gyflym. 

14:35

Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â'r gwaith o adfer coedwigoedd a'r pwyslais ar blannu mwy o goed, ac rwy'n cefnogi hynny. Ceir llawer iawn mwy o atebion ar sail natur sy'n llai hysbys efallai fel adfer tir mawn a chynefinoedd morwellt. Mae'r rheini wedi'u diraddio'n ddifrifol yn y blynyddoedd diwethaf, ond maent yr un mor bwysig ar gyfer lleihau allyriadau carbon a chynyddu bioamrywiaeth. 

Rwyf wedi dewis y ddau faes hwn yn benodol am fod y cynefinoedd hynny ar un adeg yn gyffredin iawn yn fy etholaeth i yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Collwyd 90 y cant o ddolydd morwellt yn y DU, gyda llygredd ac amrywiaeth o weithgareddau cychod yn bennaf gyfrifol am hynny yn ôl yr hyn a gredir. Ar hyn o bryd mae Prifysgol Abertawe yn tynnu sylw at brosiect cyffrous lle maent yn ceisio adfer cynefinoedd morwellt ym Mae Dale yn sir Benfro. Gall dôl forwellt storio tua hanner tunnell o garbon yr hectar y flwyddyn, ac mae'n gynefin gwych ar gyfer ystod eang o rywogaethau morol. 

Weinidog, hoffwn wybod pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r prosiect hwnnw, a pha mor ymarferol fyddai ei gyflwyno ar draws ardaloedd morol addas eraill yng Nghymru.

Mae adfer mawndir yng Nghymru yn agwedd mor bwysig ar helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rwy'n croesawu rhaglen weithredu genedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod targedau ar gyfer adfer 600 i 800 hectar o fawndir mewn ardaloedd a nodwyd ledled Cymru rhwng 2020 a 2025. Ond mae'r defnydd o fawn ar gyfer garddio yn peri pryder mawr i mi, ac rwy'n awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog garddwyr a garddwriaethwyr Cymru i fynd yn ddi-fawn. Dywedodd yr awdur a'r darlledwr Monty Don yn ddiweddar fod defnyddio mawn yn eich gardd yn eco-fandaliaeth ac rwy'n cytuno'n llwyr. 

Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r prosiect y cyfeiriwch ato yn sir Benfro; mae'n swnio'n ddiddorol iawn a hoffwn gael gwybod mwy amdano, ac ateb eich cwestiwn yn iawn ynglŷn â pha wersi y gellir eu dysgu ohono. Felly, os ydych chi'n fodlon, fe wnaf ddarganfod mwy am hynny ac ysgrifennu atoch.

Fel y nodais yn gynharach, rwy'n cytuno'n llwyr fod potensial storfeydd carbon naturiol yn rhywbeth y mae angen inni fanteisio'n llawn arno. Fel y soniais, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi'n mapio ardaloedd o gynefinoedd morol ac arfordirol, gan gynnwys y rhai sy'n dal a storio carbon glas er mwyn deall eu potensial a'r cyfleoedd i adfer y cynefinoedd pwysig hyn, ac mae hynny'n cynnwys morwellt.

Ac o ran adfer mawndir, rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth ar hynny. Rydym wedi ariannu rhaglen weithredu bum mlynedd i adfer mawndir, gyda chyllideb o £1 filiwn y flwyddyn. Ariennir y prosiect rhwng 2020 a 2025, a'i nod yw adfer 600 i 800 hectar o fawndir y flwyddyn, a bydd adolygiad llawn o'r rhaglen honno i ni allu dysgu beth sydd wedi mynd yn dda a sut y gallwn ddod yn fwy uchelgeisiol gyda hi, a byddwn yn falch iawn o weithio gyda hi ar y ddau beth i weld beth arall y gallwn ei wneud.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Dyna ddiwedd yr eitem yna. Felly, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:40.

14:45

Ailymgynullodd y Senedd am 14:49, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 5 yw'r eitem nesaf a'r datganiadau 90-eiliad yw'r eitem honno, ac mae'r datganiad cyntaf gan Vikki Howells.

Diolch, Lywydd. Mae'r degfed o Fehefin 2021 yn nodi canmlwyddiant ffurfio Côr Meibion Cwm-bach. Mae'r 16 mis diwethaf wedi bod yn heriol i gorau ledled Cymru, ond mae Côr Meibion Cwm-bach wedi goroesi'r pandemig, fel y mae wedi goroesi holl galedi'r ganrif ddiwethaf—wedi goroesi ac wedi dod yn gryfach, gan wneud Cwm-bach yn un o gorau blaenllaw Cymru. Maent wedi mwynhau cryn lwyddiant dros y blynyddoedd, gan ennill gwobrau mewn eisteddfodau, yn cynnwys y wobr gyntaf yn Eisteddfod Port Talbot 1966, a ddwy flynedd yn ddiweddarach yn y Barri. Hwy oedd y côr cyntaf a wahoddwyd gan Undeb Rygbi Cymru i berfformio ym Mharc yr Arfau, ac maent wedi perfformio sawl gwaith mewn lleoliadau ledled y DU. Mae ganddynt enw da rhyngwladol i eiddigeddu ato, ac maent wedi perfformio yn Ewrop, gogledd America ac Affrica, gan roi Cwm-bach ar y map. Cafwyd buddugoliaeth mewn cystadlaethau, megis y wobr gyntaf yng ngŵyl Limerick 1966, a hwy oedd y côr cyntaf o Gymru i ganu tu ôl i'r llen haearn, yn Hwngari yn 1961. Mae'r côr yn perfformio'n rheolaidd i godi arian i elusen, mae'n cefnogi digwyddiadau coffa, ac yn rhannu'r llwyfan mewn cyngherddau gyda llawer o'r cantorion, cerddorion, cerddorfeydd a bandiau mwyaf adnabyddus yn y byd. Mae eu repertoire yn cyfuno caneuon modern â chlasuron hŷn, gan ddangos parodrwydd i addasu sydd wedi sicrhau eu bod yn goroesi. Rwy'n hynod falch o wasanaethu fel eu his-lywydd. Pen-blwydd hapus yn gant oed.

14:50

Diolch, Llywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Ffoaduriaid, sydd yn gyfle i ni i gyd ddathlu’r cyfraniadau mae ffoaduriaid yn eu gwneud i’n cymunedau ni, a hefyd hanes hir a balch Cymru o groesawu pobl sy’n dianc rhag gormes a thrais. Mae Diwrnod Ffoaduriaid y Byd yn cael ei nodi bob blwyddyn yn rhyngwladol ar 20 Mehefin, sef dydd Sul nesaf. Gobeithio y byddwn ni i gyd yn cymryd y cyfle i ddeall mwy ac i ystyried cyflwr miliynau o ffoaduriaid ledled y byd. Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, rwy’n falch iawn o gefnogi’r dyhead i wneud Cymru’n genedl noddfa ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod grwpiau fel Dinas Noddfa Abertawe, yn fy rhanbarth i, yn gweithio yn gyson ac yn ddyfal i gefnogi ffoaduriaid. A hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch Dinas Noddfa Abertawe ar ddathlu eu dengmlwyddiant eleni drwy gynnal cynhadledd yr wythnos hon.

Ond mae yna fwy y gallwn ni ei wneud. Mae’r pandemig wedi datgelu a dyfnhau llawer o’r problemau gyda’n system lloches a mewnfudo. Ar lefel lywodraethol, rwy’n credu bod angen inni bwyso ar Lywodraeth San Steffan i newid ei chynlluniau fydd yn ei gwneud hi’n anos i bobl geisio lloches yma, ac rwyf am weld Llywodraeth Cymru nawr yn mynd ymhellach o ran y cynllun cenedl noddfa, gan wireddu’r addewid i ymestyn y lwfans cynhaliaeth addysg i ddisgyblion sy’n geiswyr lloches, ynghyd â sicrhau mynediad at brydau ysgol am ddim a’r grant amddifadedd disgyblion. Mae’n ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r bobl fwyaf bregus yma, ac rwy’n diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i godi’r mater. Diolch.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae heddiw'n ddiwrnod trist iawn i'r holl drigolion ar draws de-ddwyrain Cymru, gan ei bod yn flwyddyn ers marw Mohammad Asghar, yr Aelod Cynulliad rhanbarthol, neu'r Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru. Câi ei adnabod gan lawer yma fel Oscar, a chafodd ei eni yn Amritsar, India cyn yr ymraniad, a'i fagu ym Mhacistan. Daeth i'r DU yn 1970 a gwnaeth ei gartref yng Nghasnewydd, dinas a garai'n fawr. Roedd yn ddyn a oedd bob amser yn cael yr hyn a ddymunai mewn bywyd drwy ei benderfyniad diwyro. Priododd ei wraig, Dr Firdaus Asghar, ar ôl ei gweld mewn digwyddiad yn yr uchel gomisiwn yn Llundain. Dywedodd wrth ei ffrindiau, 'Dyma'r fenyw rwyf am ei phriodi', ac yn ei eiriau ef, roedd y gweddill yn hanes.

Nid oedd Oscar yn wleidydd nodweddiadol ac yn ddi-os fe wnaeth baratoi'r ffordd i lawer o bobl eraill o leiafrifoedd ethnig allu dod i'r Senedd, a gwn y byddai wedi bod yn falch iawn o weld mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol yn dod i'r Senedd mewn rolau amrywiol, o Aelodau i staff cymorth a'r timau gwasanaeth y dibynnwn arnynt bob dydd i wneud ein gwaith. Roedd yn ddyn bydol-ddoeth ac yn gwybod ei fod mewn swydd freintiedig, ac ef oedd y cyntaf i wahodd uchel gomisiynwyr Israel a Phalesteina i'r Senedd i drafod heddwch rhwng Israel a Phalesteina. Ef hefyd oedd y cyntaf i gynnal kirtan traddodiadol yn y Senedd, ymhlith llawer o weithgareddau a oedd mor annwyl iddo. Roedd yn angerddol am ddileu anghydraddoldeb i unrhyw un a'i profai, ac yn malio'n wirioneddol am ei ranbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd Oscar wrth ei fodd gyda'i swydd ac yn gweithio'n ddiflino ar ran ei holl etholwyr. Gwn y byddai'n aml yn sefyll yn y Siambr, a byddai un ddadl ar un pwnc a byddai'n mynd i ffwrdd ar drywydd arall yn llwyr, er enghraifft, ac yn siarad am bryderon deintyddion yn ei ranbarth. Pan fyddai ei deulu'n gofyn iddo braidd yn llym am hynny wedyn, byddai'n aml yn dweud, 'Dyma'r mater pwysicaf i mi ac iddynt hwy ar hyn o bryd, a dylai pawb ei glywed.'

Ni allech ddod o hyd i neb mwy angerddol nag Oscar am Gymru a'i diwylliant yn ogystal â gweld tîm criced Cymreig yn cael ei ffurfio. Gwleidydd y bobl oedd Oscar ac mae llawer yn y Siambr hon a thu hwnt yn dal i weld ei golli. Ar fy rhan i a'i wraig gariadus Firdaus, hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ddiwyro ac am y cyfle i dalu teyrnged i wleidydd arloesol ac unigryw: fy nhad, Mohammad Asghar, yr Aelod rhanbarthol Ceidwadol dros dde-ddwyrain Cymru. Diolch.

14:55

Diolch yn fawr, Natasha. Rydym i gyd yn cofio eich tad yn annwyl iawn yn y lle hwn, a gwyddom mor falch y byddai eich bod chi yn awr yn gwasanaethu pobl de-ddwyrain Cymru. Diolch yn fawr. 

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Chwaraeon

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 6, felly, yw'r eitem nesaf, a hynny'n ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, a dwi'n galw ar Tom Giffard i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7712 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y twf a'r diddordeb mewn timau chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar gyflawniadau chwaraeon diweddar Cymru drwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr i Gymru, gan gydnabod manteision sylweddol digwyddiadau o'r fath i economi Cymru ac adfywio cymunedau lleol.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth mewn chwaraeon, a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon i wella lles meddyliol a chorfforol pobl drwy:

a) sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd;

b) creu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i helpu clybiau cymunedol i ailadeiladu yn dilyn pandemig COVID-19;

c) gwella mynediad i gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys sefydlu rhwydwaith mwy o gaeau synthetig 3G a 4G ledled Cymru;

d) cyflwyno rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill;

e) galluogi pobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad am ddim i gampfeydd awdurdodau lleol a chanolfannau hamdden.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac mae'n bleser mawr gennyf agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac am adeg i fod yn trafod y pwnc hwn, gyda'n llwyddiannau chwaraeon diweddar a Chymru'n chwarae yn yr Ewros y prynhawn yma—ac rwyf fi, fel chithau, Lywydd, yn gobeithio y byddwn yn gorffen mewn pryd heddiw i weld y gic gyntaf yn y gêm yn erbyn Twrci. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos efallai na fu erioed amser gwell i fod yn gefnogwr chwaraeon Cymru. 

Chwaraeon yw un o'r ychydig bethau yn ein gwlad, a hyd yn oed yn y Siambr hon, sydd â'r pŵer i uno pob un ohonom. Rwy'n siŵr bod Aelodau o bob rhan o'r Senedd wedi dathlu'n frwdfrydig pan sgoriodd Kieffer Moore y gôl gyfartal ddydd Sadwrn yn erbyn y Swistir, oherwydd mae gwylio Cymru yn brofiad cymunedol sy'n ein gwneud yn falch o bwy ydym ni ac yn falch o fod yn Gymry. Rydym yn gweld ein hunain yn ein harwyr chwaraeon, ein profiadau cyffredin, ein cariad at ein gwlad a'n penderfyniad i lwyddo. 

Ond dyma'r un rhesymau pam y dathlodd pobl ledled Cymru pan enillodd Andy Murray Wimbledon, neu pan fydd Rory McIlroy yn ennill un o'r prif gystadlaethau golff, neu pan fydd Mo Farah yn ennill y wobr aur Olympaidd i dîm Prydain. Oherwydd gwelwn ein hunain yn yr arwyr chwaraeon hyn hefyd. Oherwydd mae pobl yng Nghymru hefyd yn falch iawn o fod yn Brydeinwyr; gwelwn ein hunaniaeth Brydeinig yn yr athletwyr hyn, a'r profiadau a'r gwerthoedd cyffredin a grybwyllais yn gynharach. Oherwydd rydym yn deall y gallwn fod yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, ac nid yw'r ddau beth yn gwrthddweud ei gilydd.

Ond cyflwynwyd y ddadl hon heddiw nid yn unig i orfoleddu yn ein llwyddiant yn y byd chwaraeon, ond hefyd i cydnabod manteision chwaraeon yn ein cymdeithas, ein heconomi a'n bywydau bob dydd. Mae'r achos economaidd dros fuddsoddi mewn chwaraeon yn glir iawn. Canfu ymchwil ddiweddar a gyflawnwyd gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon ym Mhrifysgol Sheffield Hallam y ceir enillion o £2.88 am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru, tra amcangyfrifir bod digwyddiadau mawr a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm yn unig yn rhoi hwb o £32 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn ar ffurf allbwn economaidd Cymreig, gyda £11 miliwn ohono'n werth ychwanegol crynswth, yn ogystal â'r rhan y mae'n ei chwarae yn cefnogi swyddi yn y gadwyn gyflenwi.

Mae'n siomedig, felly, nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwireddu potensial economaidd Cymru a'i photensial yn y maes chwaraeon yn llawn. Er enghraifft, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â symud ymlaen gyda chais am Gemau'r Gymanwlad 2026, er gwaethaf astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ei hun yn amlinellu llawer o fanteision i'n heconomi, megis creu swyddi ac incwm ychwanegol i fusnesau Cymru, sy'n bethau y cafodd Glasgow fudd ohonynt pan gynhaliwyd gemau 2014.

Ond nid mewn chwaraeon elît yn unig y gwelwn fanteision buddsoddi priodol. Mae GIG Cymru yn gwario tua £35 miliwn bob blwyddyn ar drin clefydau y gellir eu hatal a achosir gan anweithgarwch corfforol. Dyna pam ein bod am weld mwy o fuddsoddi i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ein cymunedau ledled Cymru. Dyna pam ein bod yn galw yn ein cynnig heddiw am fuddsoddi mewn rhwydwaith mwy o gaeau 3G a 4G ledled Cymru, ac yn gofyn am alluogi pobl ifanc i gael mynediad am ddim i gampfeydd a chanolfannau hamdden awdurdodau lleol. Dylai hynny olygu bod gan bobl Cymru fynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd da yn eu hardaloedd a'u cymunedau, waeth beth fo'u lefel sgiliau neu god post.

Mae ein cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhagoriaeth mewn chwaraeon ar gyfer y dyfodol yng Nghymru drwy sefydlu cronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru ar lwyfan y byd, a rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon o Gymru i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Oherwydd oni bai ein bod yn buddsoddi yn ein harwyr chwaraeon heddiw, ni fyddwn byth mewn sefyllfa i ddathlu eu llwyddiannau mewn chwaraeon yn y dyfodol a sicrhau lle Cymru ar lwyfan y byd mewn chwaraeon.

Rwyf hefyd yn siŵr y bydd pob Aelod o'r Senedd hon yn ymwybodol o grwpiau a chlybiau chwaraeon yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau sydd wedi cael trafferth yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Yn wir, mae'n ddigon posibl mai chwaraeon yw un o'r sectorau sydd wedi'u taro galetaf ers dechrau'r pandemig. Yn ôl Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, er enghraifft, mae clybiau pêl-droed ar lawr gwlad wedi colli £7,000 yr un ar gyfartaledd, ac mae 97 y cant o glybiau pêl-droed yn dweud eu bod wedi cael eu heffeithio'n ariannol, a dros hanner wedi dweud y byddant yn colli gwirfoddolwyr. Yn y cyfamser, mae Undeb Rygbi Cymru wedi disgrifio'r pandemig fel trychineb i'r gamp, yn enwedig gyda'r effaith ariannol ar y gêm ar lawr gwlad. Dyna pam y mae gan y cynnig gynllun i weddnewid y sefyllfa hon, nid yn unig drwy gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan, ond hefyd drwy greu cronfa bownsio yn ôl ar gyfer chwaraeon cymunedol i gynorthwyo'r clybiau cymunedol hyn yn sgil y pandemig.

Felly, am y rhesymau hyn mae'n siomedig iawn gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu eu hymagwedd 'dileu popeth' arferol at ein cynnig, yn enwedig pan fo'n gwneud galwadau penodol a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i bobl yng Nghymru. Mae'r gwelliannau yn llythrennol yn dileu'r posibilrwydd o adferiad ar ôl y pandemig i rai o'r clybiau chwaraeon hyn, ac nid ydynt yn gwneud fawr ddim i gynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Gwyddom i gyd y gall pob un ohonom wneud mwy i gefnogi'r sector, a dyna pam na fyddwn yn pleidleisio dros eu gwelliannau heno; byddwn yn ymatal arnynt.

Fel arall, hoffwn groesawu ail welliant Plaid Cymru i gynyddu nifer y merched yn eu harddegau a phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon. Rwy'n credu ei fod yn un hanfodol ac amserol iawn, ac rwy'n llongyfarch Plaid Cymru ar wneud hynny. Nid yw cynigion Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ailstrwythuro cynghrair y menywod, er enghraifft, yn gwneud dim o gwbl i gynyddu nifer y merched yn eu harddegau sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn cefnogi ail welliant Plaid Cymru heddiw.

Felly, gofynnaf i'r Aelodau ym mhob rhan o'r Senedd gefnogi ein cynnig heddiw, gan ein bod yn gwybod mai'r ffordd orau o gael chwaraeon llwyddiannus yfory yw eu cefnogi heddiw.

15:00

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw felly ar y Dirprwy Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;

b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;

c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.

2. Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.

3. Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Dawn Bowden 15:01:17
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Yn ffurfiol.

Diolch. Dwi nawr felly yn galw ar Heledd Fychan i gynnig gwelliannau 2 a 3, yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ym mhwynt 3(d), ar ôl 'eraill' ychwanegu 'yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;'

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd: 

'sicrhau bod sefydliadau addysg ôl-16 yn darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden tra'n annog mynychwyr i gymryd rhan;

annog darlledwyr cyhoeddus i neilltuo canran uwch o amser darlledu i chwaraeon menywod;

gweithio gyda chlybiau a sefydliadau i leihau ymddygiad homoffobig a rhywiaethol a bod yn drawsgynhwysol;

ymchwilio i'r potensial i gael pwll nofio maint Olympaidd i wasanaethu gogledd Cymru.'

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Llywydd. Hoffwn gyflwyno gwelliannau 2 a 3 yn ffurfiol, a nodi fy niolch innau am y cyfle i drafod ar ddiwrnod lle rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at gêm Cymru yn erbyn Twrci, ac, ar ran Plaid Cymru, hoffwn ddymuno yn dda i'r garfan.

Bwriad ein gwelliannau yw ychwanegu at y cynnig gwreiddiol mewn ffordd adeiladol, a hoffwn weld y Senedd yn gweithio mewn ffordd drawsbleidiol ar y mater hwn i sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen fel bod pawb yng Nghymru gyda'r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon er budd eu hiechyd a'u lles a chyrraedd eu llawn botensial. Dengys ymchwil a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru yn 2018 y canlynol: sef, am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru, ceir elw o £2.88. Ond nid dim ond budd economaidd o ran creu swyddi a gwariant yng Nghymru a geir yn sgil chwaraeon; mae hefyd yn creu arbedion sylweddol o ran y gwasanaeth iechyd, gan helpu pobl i fyw bywydau mwy actif a iachus a lleihau'r risg o glefyd difrifol. Yng nghyd-destun COVID, mae hyn yn berthnasol iawn.

Fel pob sector arall, mae'r sector chwaraeon ar bob lefel wedi ei effeithio gan y pandemig. Mae heddiw, felly, yn gyfle da inni edrych tuag at y dyfodol, a thrafod camau cadarnhaol gellir eu cymryd gan y Llywodraeth i sicrhau bod sector chwaraeon Cymru yn mynd o nerth i nerth.

Mae gwelliant cyntaf Plaid Cymru yn tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio'n benodol ar wella cyfranogiad gan ferched yn eu harddegau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan felly gryfhau'r frawddeg wreiddiol. Fel mae rhaglen llysgenhadon chwaraeon ColegauCymru wedi ei dangos, mae cael llysgenhadon yn dod â manteision mewn tair ffordd wahanol: yn gyntaf, ar lefel strategol, bydd yn arwain at wydnwch cynyddol gweithlu'r dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd sy'n cynyddu sgiliau, profiadau a hunanhyder. Yn ail, i ysgolion a cholegau, bydd yn golygu y bydd llais ieuenctid yn cael ei ymgorffori ymhellach yn y coleg, ac, yn drydydd, o ran y llysgenhadon eu hunain, bydd yn arwain at ddatblygu sgiliau newydd, gan gynnwys ymchwil, y cyfryngau a chyfathrebu, a bydd hefyd yn cefnogi datblygiad cyfleoedd gwirfoddoli, arwain a mentora newydd ar gyfer nhw eu hunain a phobl ifainc eraill yn eu coleg neu awdurdod lleol.

Bwriad ein hail welliant yw ychwanegu pwyntiau eraill rydym yn credu sydd yn hanfodol o ran gwella mynediad i chwaraeon a chyfranogiad. Mae manteision cael campfa mewn sefydliadau addysg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hyfforddiant chwaraeon penodol. Mae rhaglen ffitrwydd corfforol sy'n defnyddio offer hyfforddi cryfder yn helpu myfyrwyr i ddatblygu arferion iach a fydd yn aros gyda nhw drwy gydol eu bywydau a lleihau'r risg o glefyd cronig mewn oedolion.

O ran darlledu chwaraeon menywod, er bod cynnydd wedi bod, mae dal gwaith pellach i'w wneud os ydym am normaleiddio chwaraeon menywod yn y cyfryngau. Yn ôl arolwg o 2019 o dros 10,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig, fe wnaeth 61 y cant o ferched ifanc gytuno y byddent yn teimlo yn fwy hyderus pe bai mwy o bobl 'fel fi' ar y teledu, o'i gymharu â 43 y cant o'r boblogaeth gyffredinol. Yn bwysig, dywedodd gwylwyr mai'r prif rwystr i wylio mwy o chwaraeon menywod yw'r diffyg sylw, nid ansawdd y gamp sy'n cael ei chwarae. 

Cyfrifoldeb pawb yw'r frwydr yn erbyn homoffobia, rhywiaeth a thrawsffobia mewn chwaraeon. Mae angen i amcan y frwydr hon fod yn ddeublyg: ar yr un llaw i hyrwyddo a sicrhau parch at hawliau dynol ac urddas pob unigolyn, ac, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â gwahaniaethu a thrais yn eu herbyn. 

Ac yn olaf, rydym yn credu'n gryf y dylid ymchwilio i'r potensial o gael pwll nofio maint Olympaidd yng ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i nofwyr talentog o'r gogledd sy'n cael eu dewis i gynrychioli Cymru deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i gael hyfforddiant. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r genhedlaeth nesaf o nofwyr Cymru gyrraedd y safon uchaf a chyflawni eu potensial.

Mawr obeithiaf y bydd y pleidiau eraill yn cefnogi'r gwelliannau hyn i gryfhau'r cynnig gerbron heddiw, a ddim yn derbyn gwelliant y Blaid Lafur, fyddai'n colli nifer o'r pwyntiau pwysig hyn. Dwi'n falch o ddweud fy mod i wedi gorffen o dan fy amser, Llywydd, fel ein bod ni, gobeithio, yn gallu gwylio'r gêm.

15:05

Da iawn. Rhywbeth i anelu amdano, bawb—25 eiliad oddi ar eich cyfraniad. [Chwerthin.] Huw Irranca-Davies, rhowch gynnig arni.

Diolch yn fawr iawn, ac fe wnaf yn wir, Lywydd. Fe gadwaf hyn yn fyr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl. Byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth. Er bod elfennau da, mae'n rhaid i mi ddweud, yn y ddau welliant a nodwyd, gwelliant Llywodraeth Cymru yma, hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon, buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, cyfleusterau newydd, gan gynnwys caeau artiffisial 3G ac yn y blaen—mae'n welliant da ac yn haeddu cefnogaeth.

Ond a gaf fi ddweud, ar hyn o bryd, Lywydd, nad y pêl-droed yn unig sy'n mynd â'n sylw ar hyn o bryd? Mae rhai Aelodau hefyd yn meddwl am Gemau Olympaidd Tokyo—na, na, nid y Gemau Olympaidd hynny yn Tokyo, Gemau Olympaidd Tokyo 1964, lle neidiodd Lynn Davies, a adwaenid erioed fel Lynn 'The Leap' Davies o Nant-y-moel, yn y gwynt a'r glaw i mewn i'r llyfr chwedlau, gan ennill y fedal aur yn y naid hir. Fe'i gwnaeth am fod yr amodau'n briodol i fachgen o Nant-y-moel. Ac yn hollol groes i'r disgwyl, yn erbyn yr holl broffwydoliaethau, fe gurodd bencampwr y byd. A'r rheswm rwy'n crybwyll hynny yw oherwydd gallu pobl fel Lynn Davies—yn 1964 yr enillodd y fedal aur honno, ond eisteddais gydag ef yng Nghlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr ac eisteddais gydag ef yng Nghlwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel, lle tynnodd ei fedal aur allan, yn edrych fel pe bai wedi gweld dyddiau gwell, ac fe'i rhannodd gyda'r bobl ifanc a oedd yn eistedd o'i gwmpas, a gallech weld eu llygaid yn goleuo, 'Pam na allai fod yn fi, fel rhywun sydd hefyd yn mynd i'r clwb bechgyn a merched hwnnw?' Mae'n bwysig fod gennym arwyr chwaraeon, gan gynnwys yr arwyr chwaraeon sydd gennym ar hyn o bryd yn rhedeg ar y caeau yn lliwiau Cymru heno hefyd.

Ond mae'n fwy na'r arwyr chwaraeon yn unig, mae'n ymwneud hefyd â'r digwyddiadau mawreddog a wahoddwn yma i Gymru, rhywbeth rydym wedi'i wneud o'r blaen gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ac rwyf am wneud un awgrym, ac mae'n ddrwg gennyf rygnu ymlaen am Nant-y-moel unwaith eto, ond mae mynydd Bwlch yn mynd ar draws y top—lle daw tair ffordd at ei gilydd ar ben y mynyddoedd. Mae'n fendigedig, mae'n anhygoel, mae'n addas ar gyfer cael gwylwyr yn sefyll ar ochr y ffyrdd hynny'n gwylio un o gamau'r Tour of Britain. Gadewch inni ddod ag ef yma yn y dyfodol. Beth am arddangos y gorau o Gymoedd de Cymru. Gadewch inni arddangos y gorau o chwaraeon egnïol o'r fath yma, yng ngwychder ysblennydd Cymoedd de Cymru, a dangos i'r byd y gorau o'r hyn sydd gennym hefyd.

Ond y tu hwnt i'r holl ddynion a menywod gwych hyn ym maes chwaraeon, a digwyddiadau gwych hefyd, chwaraeon ar lawr gwlad yw'r hyn sy'n tueddu i fod yn bwysig i'r rhan fwyaf ohonom. Y gemau pêl-droed yr awn i'w gwylio yn y gwynt a'r glaw a'r cesair, a sefyll ar yr ochr, gyda'n plant, gyda'r gymuned, gyda thimau rydym yn eu hadnabod, a rhai timau rydym yn chwarae yn eu herbyn hefyd. Y rygbi, pêl-rwyd—yr holl chwaraeon lleol llawr gwlad sydd mor bwysig, ac maent wedi dioddef yn ystod y pandemig, wedi cael eu taro'n galed. Ac nid yn unig fod ganddynt aelodau ifanc yn dod drwodd sydd wedi mynd flwyddyn, neu 18 mis bellach, heb allu trosglwyddo i lefelau uwch y timau ieuenctid a'r timau oedolion ac yn y blaen, er mor bwysig yw hynny, a gwyddom fod hynny'n achosi anhawster, ond y ffaith eu bod yn colli incwm yn eu bariau a'u hystafelloedd cyfarfod a'u lleoliadau. Mae wedi'u taro'n galed iawn.

Felly, Weinidog, fy apêl i chi wrth gefnogi'r gwelliant heddiw—ac rwy'n tybio y byddem i gyd yma yn apelio yn yr un modd—yw gweld beth yn fwy y gallwn ei wneud i wneud dau beth: sicrhau bod y clybiau hyn, ar gyfer pob math o chwaraeon i bawb, nid clybiau rygbi a phêl-droed yn unig ac nid chwaraeon i ddynion yn unig ond i bawb, yn gallu croesi i ochr draw y pandemig hwn yn hyfyw, gyda chymorth ychwanegol os oes angen. Ac yn ail, sut rydym yn pontio'r bwlch lle mae pobl ifanc mewn perygl yn awr o ddisgyn oddi ar yr ymyl a methu trosglwyddo i lefelau uwch mewn chwaraeon? Os na wnawn ni hynny, nid colli chwaraeon ar lawr gwlad yn unig a wnawn, ond colli'r Lynn the Leap nesaf, chwaraewyr nesaf tîm pêl-droed Cymru ac yn y blaen. Felly, byddai unrhyw beth y gallwch ei wneud i'r perwyl hwnnw'n cael croeso mawr. 

15:10

Diolch, Lywydd. Fe geisiaf fod mor gryno ag y gallaf. Mae'n wych cael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Fel Cymro balch, mae chwaraeon yn chwarae rhan enfawr yn fy mywyd, ac fel cenedl ac o'n llwyddiannau yn y gorffennol, fe obeithiwn—croesi bysedd—am lwyddiannau yn y dyfodol. Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn dwli ar chwaraeon, o'n clybiau criced cymunedol, clybiau rygbi a phêl-droed, ein timau dartiau, ein clybiau bowlio—beth bynnag a fynnwch, Weinidog, mae'r cyfan gennym. Mae gennym hefyd brosiect anhygoel wedi'i gynllunio yn Rhaeadr ar gyfer caeau 4G a chanolfan chwaraeon ar gyfer canolbarth Cymru. A byddwn wrth fy modd pe bai'r Gweinidog yn dod i ymweld â fy etholaeth i weld y gwaith a wnaed hyd yma ac i weld sut y gallwn hybu chwaraeon yng nghanolbarth Cymru.

Profwyd yn wyddonol fod gweithgarwch corfforol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd corfforol a meddyliol unigolyn a'i les cyffredinol. Drwy gydol y cyfyngiadau symud cyntaf, caewyd campfeydd a'r holl weithgareddau chwaraeon, a chefnogwyd hyn gan y cyhoedd. Roedd angen inni arafu lledaeniad COVID a sicrhau ein bod yn achub bywydau i ddiogelu'r GIG a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ond pan ddaeth yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud i rym ar ddiwedd 2020, gwyddai'r Llywodraeth yn iawn am y risgiau i iechyd y cyhoedd y byddai gorfodi cyfnod arall o gyfyngiadau symud yn ei olygu. Roedd pobl a'r cyhoedd yn cael trafferth mawr gyda'u hiechyd corfforol a meddyliol, gyda llawer yn methu gweld anwyliaid a ffrindiau am fisoedd bwy'i gilydd. Roedd eich Llywodraeth yn gwybod y byddai hyn yn digwydd, ac yn fy marn i gallech fod wedi gweithio'n rhagweithiol gyda'r sector chwaraeon i sicrhau y gallai pobl barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon, mynd i'r gampfa mewn ffordd ddiogel a bod yn gorfforol egnïol i sicrhau nad oedd eu hiechyd corfforol a meddyliol yn dirywio. Ond rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, ac ni allwn newid y gorffennol, ond rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn newid y dyfodol. Felly, Weinidog, gan fod yr economi bellach wedi ailagor, ac o gofio bod y rhaglen frechu wedi bod yn llwyddiant mawr, mae'n bryd inni ddechrau cydnabod yn iawn yr ystod eang o fanteision y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cyfrannu i iechyd y genedl, ac rwy'n gobeithio y gall pawb yn y Siambr ac yn rhithwir heddiw gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, a bod y Llywodraeth yn ystyried o ddifrif gwneud campfeydd yn wasanaeth hanfodol yn y dyfodol. Diolch, Lywydd.

Yn gyntaf, hoffwn ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru ar gyfer y gêm heno yn erbyn Twrci. Efallai fod gan Dwrci rywbeth yn agos at dorf gartref, ond mae gobeithion ein gwlad y tu ôl i chi, fechgyn. Beth bynnag sy'n digwydd, gwyddom y byddwn yn falch ohonoch. Pob lwc i chi i gyd.

Mae'n drydanol sut y gall y twrnameintiau enfawr hyn godi hwyliau pobl, rhoi rhywbeth i ni i gyd deimlo'n llawen yn ei gylch, a gall yr hyn sy'n digwydd ar gaeau ar draws y byd pan fydd cynifer o filiynau'n gwylio gael effeithiau eraill yma yng Nghymru hefyd. Roeddwn mor falch o gefnogi datganiad barn a gyflwynwyd yr wythnos hon gan Sam Kurtz a oedd yn dadlau dros sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ar gaeau chwaraeon yng Nghymru, gan ddysgu o'r golygfeydd brawychus gyda Christian Eriksen dros y penwythnos. Diolch byth fod y parafeddygon yno, fod y cyfarpar cywir yno i helpu i achub ei fywyd. Ac er gwaethaf penderfyniadau hyll ac erchyll darlledwyr i ddangos lluniau a oedd yn peri gofid, os gall un peth da ddod o'r digwyddiad, y gobaith y gall mwy o bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ddysgu am adfywio cardio-pwlmonaidd yw hwnnw, ac y gellir achub mwy o fywydau yn y dyfodol, oherwydd mae chwaraeon yn rhywbeth a all ddod â ni i gyd at ein gilydd. Grym a photensial chwaraeon oedd yr union reswm pam fod cynifer ohonom yn siomedig ynghylch y ffordd y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymdrin â'r gêm i fenywod yng Nghymru a'r ailstrwythuro diweddar a olygodd fod Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni a Cascade Ladies yn fy rhanbarth i wedi cael eu tynnu o'r gynghrair uchaf, a Chlwb Pêl-droed Menywod Coed Duon wedi disgyn i'r drydedd haen. Rwy'n dal i alw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn, oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael nid yn unig ar gefnogwyr, nid yn unig ar y chwaraewyr, ond ar chwaraewyr yn y dyfodol. Bydd yn debygol o arwain at lai o gymhelliad ymhlith menywod ifanc a allai fod wedi dewis chwarae pêl-droed. Rwyf hefyd yn pryderu am yr effaith y bydd y penderfyniad yn ei chael ar iechyd meddwl chwaraewyr a byddwn yn croesawu unrhyw newyddion gan y Gweinidog am unrhyw sgyrsiau y gallai'r Llywodraeth eu cael, unrhyw gymorth y gellid ei ddarparu i'r clybiau hyn sy'n mynd drwy gyfnod mor anodd. Fe'i gadawaf yno, Lywydd. Rwy'n ceisio cadw hyn yn fyr oherwydd y gêm, felly rwyf ond am ddweud unwaith eto:

Ymlaen, Cymru, heno. Pob lwc i'r criw yn Baku.

15:15

Fe gymerwn hynny fel un set o ddymuniadau da, ac nid oes angen i bob un ohonom ailadrodd y dymuniadau da, neu fel arall byddwn yn colli'r gic gyntaf. Rhianon Passmore.

Diolch, Lywydd. Gellir gweld y cyffro a'r angerdd y mae Cymru'n ei deimlo am ei chwaraeon heno, fel y gwyddom i gyd, am 5 p.m., wrth i dîm y dynion chwarae Twrci yn ein hail gêm ym Mhencampwriaeth Pêl-droed Ewrop. Felly, nid wyf eisiau eich croesi chi, Lywydd, ond ni allaf help ond dweud 'lwc dda' wrth Robert Page a'i dîm.

Er hynny, mae gan Lywodraeth Lafur Cymru hanes balch a rhagorol o werthfawrogi a chefnogi chwaraeon yng Nghymru. Yn ystod ymgyrch yr etholiad yn ddiweddar cafwyd enghreifftiau o bob rhan o fy etholaeth o fuddsoddiad sylweddol, yn wahanol i Loegr, gan Lywodraeth Lafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dan arweiniad Llafur mewn chwaraeon llawr gwlad. A gwyddom fod tywydd enwog Cymru yn aml yn achosi problemau enfawr gyda chynnal a chadw caeau glaswellt, yn enwedig rhai wedi'u caledu gan ddegawd o doriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU i Gymru ac i wasanaethau anstatudol mewn ymgais i geisio lleihau gwariant cyhoeddus dewisol. Yn Islwyn, diolch i Lywodraeth Cymru rydym bellach yn gweld caeau 3G yn cael eu hadeiladu, gan gynnwys yng nghanolfan hamdden Pontllanffraith, Ysgol Uwchradd Islwyn yn Oakdale, ac ysgol uwchradd y Coed Duon. Yn y Coed Duon, cyflwynodd y cyngor a arweinir gan Lafur gais cryf am y cyfleuster 3G newydd, a rhoddwyd sêl bendith i'r cynllun gan ddefnyddio gwerth £810,000 o gyllid o raglen arloesol Llywodraeth Cymru i ysgolion ac addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Felly, Ddirprwy Weinidog, ni ddylai fod unrhyw rwystrau—dim rhwystrau, fel yr adleisiwyd gan bawb—i gefnogi chwaraeon a sicrhau bod ein plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Fel Llywodraeth Cymru, gwyddom fod yn rhaid inni barhau i chwalu'r rhwystrau i gyfranogiad, er mwyn gwneud chwaraeon hefyd yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb. I gloi, Lywydd, rydym hefyd yn awyddus yn Islwyn i hyrwyddo athletau. Mae trac athletau newydd gwerth £750,000 wedi'i adeiladu yn Oakdale, diolch eto i Lywodraeth Lafur Cymru a'r cyngor Llafur. Mae'n hanfodol felly fod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i arwain y ffordd drwy gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Rwy'n gobeithio clywed newyddion da am ailddechrau parkruns pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Gwyddom pa mor bwysig ydynt i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt, ac i'n cefnogwyr Llafur llwyddiannus yn Islwyn, a'r rhedwyr.

Ond mae'n iawn dweud bod Llafur, ym mlynyddoedd datganoli, wedi arwain y ffordd ar gynnal digwyddiadau elît fel rownd derfynol Cwpan yr FA, gêm brawf y Lludw mewn criced, a'r Cwpan Ryder mewn golff. Mae'r digwyddiadau rhyngwladol hyn yn ysbrydoli plant Cymru, yn ysbrydoli'r genedl Gymreig ac yn arddangos ein gwlad wych i'r byd. Felly, ie, gadewch inni ddweud 'Ewch amdani, Cymru' heno, a gadewch inni barhau i adeiladu dyfodol chwaraeon disglair i'n holl gymunedau, oherwydd nid yw mynediad at gyfle erioed wedi bod yn bwysicach. Diolch.

Gadewch imi ymuno, yn gyntaf oll, â Mr Giffard a'r holl gyd-Aelodau ar draws y Siambr i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed dynion Cymru heno. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at wylio'r gêm honno cyn bo hir. Fel y dywedodd Mr Giffard, mae gan chwaraeon bŵer i'n huno. Dyna un o'r pethau mwyaf diddorol am chwaraeon. Gallaf innau hyd yn oed, fel un o gefnogwyr rhwystredig Nottingham Forest, ymuno â Mr Sargeant, cefnogwr Newcastle United, i gefnogi ein gwlad gyda'n gilydd. A rhaid inni gydnabod ein bod, fel gwlad o ychydig dros 3 miliwn o bobl, yn parhau i wneud yn llawer gwell na'r disgwyl mewn chwaraeon.

Fel y gwyddom yn iawn, ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ffyrdd gwych o wella lles meddyliol a chorfforol pobl. Yr hyn sydd hefyd wedi'i rannu yma y prynhawn yma yw'r manteision cymdeithasol ac economaidd y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cynnig i Gymru. Gyda'r manteision cyfannol hyn mewn golwg yr hoffwn i fy nghyfraniad byr, Lywydd, ganolbwyntio ar y rôl a'r cyfle y gall chwaraeon llawr gwlad, ond yn fwyaf arbennig, y gall chwaraeon elît eu cynnig ledled Cymru. Byddwn wrth fy modd ar y pwynt hwn pe bawn yn gallu datgan buddiant fel athletwr elît, ond yn anffodus ni allaf—oni bai wrth gwrs ein bod yn cynnwys golff traed fel camp elît, Lywydd.

Ond o fewn y cynnig heddiw gan Mr Giffard, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am gronfa ar gyfer talent o Gymru ym maes chwaraeon i gefnogi athletwyr talentog o Gymru i lwyddo ar lwyfan y byd, yn ogystal â gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon. Y rheswm am hyn yw ei bod yn amlwg fod cymaint i'w ennill o fuddsoddi mewn chwaraeon elît. Fel y gwyddom, y chwaraewyr hyn sy'n aml yn ysbrydoli cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau ac yn wir, soniodd Mr Irranca-Davies yn ei gyfraniad—a diolch ichi am fy ngoleuo ar Lynn 'The Leap'—am y modd y cafodd ei ysbrydoli wrth weld mabolgampwr elît a'r fedal a enillodd Lynn.

Yn anffodus, fodd bynnag, ceir bwlch mewn cyfleusterau a chymorth elît, yn enwedig y mynediad i bobl ifanc o ogledd Cymru o gymharu â'r hyn sydd ar gael yn ne Cymru. Wrth gwrs, mae gennym Glwb Pêl-droed Wrecsam yng ngogledd Cymru, a byddai fy niweddar daid, Hywel Hefin Rowlands, yn falch iawn o fy nghlywed yn sôn am glwb pêl-droed Wrecsam heddiw, ond dyna'r unig dîm chwaraeon proffesiynol yng ngogledd Cymru. Mae'r boblogaeth yn agos at 1 filiwn o bobl ac un tîm chwaraeon proffesiynol yn unig a geir yn y rhanbarth. Ac os edrychwn ar rygbi fel enghraifft arall, mae pedwar tîm rhanbarthol proffesiynol yn ne Cymru, ond ni cheir tîm proffesiynol yn y gogledd hyd yma. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn fod cymaint o'r cyfleusterau a'r gefnogaeth elît bedair neu bump awr i ffwrdd oddi wrth lawer o bobl yng ngogledd Cymru, yn anffodus. Ac o ran cael y timau proffesiynol hyn yng ngogledd Cymru a'r buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon elît yn y rhanbarth, bydd llawer o chwaraewyr ac athletwyr yn aml yn gweld y rhwystrau hynny a naill ai'n rhoi'r gorau i gystadlu neu'n symud dros y ffin i gystadlu yn y gweithgareddau hynny, ac mae hynny'n rhywbeth na allwn ei dderbyn fel Senedd Cymru yma y prynhawn yma.

Mae gogledd Cymru hefyd yn cael eu gadael ar ôl ar adegau pan ddaw'n fater o fynediad i wylwyr a chefnogwyr. Yn ddiweddar, cawsom y gemau pêl-droed cyfeillgar cyn y bencampwriaeth Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni chwaraewyd yr un o'r rheini yng ngogledd Cymru, ac i lawer o'r gwylwyr hynny mewn gwirionedd, ar gyfer y gemau nos hynny, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r nos iddynt allu dychwelyd adref. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall y dylid edrych arno er mwyn annog pobl i gymryd rhan a chael eu hysbrydoli gan chwaraeon elît.

Felly, i gloi, Lywydd, rydym yn genedl lwyddiannus mewn chwaraeon ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo. Fodd bynnag, mae angen llawer mwy o waith a chydweithrediad rhwng y sefydliadau cyfrifol, ac mae hyn yn cynnwys Llywodraethau, i sicrhau na chaiff chwaraeon yng Nghymru eu canoli'n ormodol yn ne Cymru a'u bod yn hygyrch ac yn gynrychioliadol o Gymru gyfan, gan gynnwys yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli yn rhanbarth Gogledd Cymru. Byddai ein cynnig heddiw, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn sicrhau bod y bwlch hwn rhwng y rhanbarthau yn cael ei gau drwy ddarparu cefnogaeth a buddsoddi mewn chwaraeon elît, yn ogystal â chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig Ceidwadol ac i wrthod gwelliant y Llywodraeth. Diolch yn fawr iawn.

15:20

Ni fyddwch yn credu hyn, Lywydd, ond roeddwn yn ofnadwy mewn chwaraeon yn yr ysgol. [Chwerthin.] Chwaraeais yn ddiweddar fel aelod o dîm y Senedd yn erbyn Tŷ'r Cyffredin/Tŷ'r Arglwyddi, a gwnaethom eu chwalu'n llwyr, ac rwy'n teimlo braidd mai fy mhàs i i Rhun ap Iorwerth a aeth wedyn at Andrew R.T. Davies, a aeth yn syth i lawr yn y ryc, cyn mynd allan i'r asgell chwith am gais, credaf imi gyfrannu at y cais hwnnw. [Chwerthin.] Ond yn yr ysgol, nid oedd gennyf ddiddordeb mewn chwaraeon oherwydd roeddwn i'n teimlo mai gêm tîm ydoedd, a bydd y Prif Chwip yn gwybod nad wyf cystal gyda phethau tîm weithiau. [Chwerthin.] A hefyd, rygbi a phêl-droed oedd y ffocws—dyna ni. Ein hathro oedd Huw Bevan a aeth ymlaen i gyflawni pethau gwych fel hyfforddwr, ac sy'n dal i gyflawni pethau gwych fel hyfforddwr, ond ni wnaeth ein hannog ni. Ac rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei gofio yw nad gemau'n unig yw chwaraeon ac nid gemau tîm yn unig.

Roeddwn i'n arfer beicio i'r ysgol dros gomin Gelligaer ac roeddwn i'n arfer mynd i feicio'n rheolaidd. Nid oedd dim o hynny'n rhan o weithgarwch yr ysgol, a chredaf yn yr ystyr honno, fod Ysgol Gyfun Heol-ddu wedi llwyddo i mi mewn cynifer o wahanol ffyrdd, ond nid mewn gweithgaredd chwaraeon. Ond mae'n werth cofio bod Lauren Price, y paffiwr a'r cyn-bêl-droediwr—mae hi'n 26 oed, felly mae ganddi fantais o 17 mlynedd arnaf—yn gyn-ddisgybl yn Heol-ddu hefyd, felly mae'n rhaid eu bod wedi gwneud rhywbeth yn iawn, ac rwy'n tybio eu bod wedi gwella'n fawr dros yr amser hwnnw.

Hoffwn sôn bod gan Lywodraeth Cymru rôl enfawr i'w chwarae yn ariannu chwaraeon, yn enwedig drwy ariannu caeau. Yn fy etholaeth i, mae gennym Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Ystrad Mynach, sydd â chaeau 3G a 4G, a dyna lle mae Clwb Pêl-droed Cascade YC Ladies yn chwarae ar hyn o bryd. Rydych hefyd yn ariannu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, yn uniongyrchol i bêl-droed i ddynion a menywod.

Nawr, un o'r pethau a wnaethom y bore yma—ac rwyf wedi bod yn gweithio'n drawsbleidiol gyda Delyth Jewell a Laura Anne Jones ar y mater hwn yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru—oedd cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chlwb pêl-droed menywod Cascade. Cawsom gyfarfod eithaf adeiladol, a'r hyn a gyfaddefodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrthyf oedd eu bod yn wael iawn am gyfleu eu penderfyniad, sydd eisoes wedi'i grybwyll gan Tom Giffard, i dynnu menywod Cascade, y Fenni a Llansawel o Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mae hyn wedi ein siomi'n fawr yn y Siambr hon. Credaf fod hanner Aelodau'r Senedd wedi llofnodi ein datganiad barn yn beirniadu'r penderfyniad hwnnw. Nid ydym yn mynd i newid ein safbwynt ar hynny—teimlwn o hyd ei fod yn benderfyniad anghywir—ond yr hyn a ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrthym heddiw yw eu bod yn annhebygol o newid eu safbwynt hwy, er ein bod yn gofyn i chi barhau i roi pwysau, Weinidog. Rwy'n gwybod eich bod wedi ysgrifennu atynt, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am hynny, ond rwy'n parhau i roi pwysau ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ailystyried y penderfyniad.

Yr hyn sydd ei angen arnom gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn y dyfodol yw cyfathrebu â'r clybiau, oherwydd mae'r clybiau hynny, yn enwedig Cascade yn y Cymoedd gogleddol, yn glwb mewn cymuned nad yw wedi ei bendithio gan lwyddiant chwaraeon enfawr. Gallwch edrych at Dref y Barri a'r—. Roeddwn i'n mynd i'w galw'n 'Total Network Solutions'. Beth yw eu henwau, Jack? Ie, y Seintiau Newydd. Gallwch edrych ar y clybiau sy'n glybiau marquee ym maes pêl-droed dynion. Nid yw'n dderbyniol felly eu bod yn dod yn glybiau menywod hefyd oherwydd bod ganddynt arbedion maint. Mae angen inni weld clybiau fel Cascade yn llwyddo. Felly, yr hyn y gofynnais i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei wneud yw agor deialog glir iawn gyda Cascade, fel y byddant, a hwythau bellach yn haen 2 y de, yn cael mynd yn ôl i fyny eto y tymor nesaf os ydynt yn ddigon da, ond yn seiliedig ar safon eu chwarae'n unig. Mae hynny'n bwysig iawn.

Ac i ddychwelyd at y cynnig, y ffordd y gellir annog hyn yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon a'r gweithgareddau o'u cwmpas yn ein cymunedau. Fel y dywedais, mae Cascade yn elwa o hynny yn y ganolfan ragoriaeth chwaraeon. Nid yw ond yn deg eu bod yn parhau i wneud hynny drwy safon eu chwarae. Felly, dyna'r pwynt allweddol rwyf am ei wneud heddiw, ac os yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwylio, rydym yn cadw ein llygad ar hyn. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n clybiau yn ein cymunedau, ac rydym yn aros am ymgynghoriad adeiladol ac ymateb hefyd i'ch llythyr, Weinidog.

15:25

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar bwnc sydd wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, ac sy'n parhau i wneud hynny. O oedran cynnar iawn, rwyf wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn chwaraeon. Er fy mod bob amser yn frwdfrydig, ni allaf honni fy mod erioed wedi bod mor dda â hynny mewn unrhyw gamp benodol. Fodd bynnag, rwy'n hyrwyddo'n frwd y manteision iechyd corfforol a meddyliol y mae chwaraeon yn eu cynnig i fywyd yr unigolyn. Ac rwy'n lwcus fod gan sir Benfro a sir Gaerfyrddin gymuned chwaraeon mor weithgar, gyda llawer o arwyr chwaraeon Cymru: pencampwr pêl-droed Arberth ei hun, Joe Allen; un o Lewod Prydain ac Iwerddon o Fancyfelin, Jonathan Davies, a Manon Lloyd, enillydd medal aur mewn beicio a aned yng Nghaerfyrddin—mae'r rhain i gyd wedi cynrychioli eu gwlad ar y lefel uchaf ac maent yn fodelau rôl i lawer. 

Rwy'n sicr wedi dysgu llawer o sgiliau cymdeithasol o'r ystafelloedd newid rygbi a chriced o oedran cynnar, ac rwy'n gwybod bod eraill wedi gwneud hynny hefyd. Ynghanol arogl parhaol Deep Heat, mae chwaraeon tîm yn ymwneud â bod ynddi gyda'ch gilydd—eich bod chi'n gefn i aelodau eraill eich tîm a'u bod hwythau'n gefn i chi. Mae'r profiadau a rennir o fod ar y maes, y cae neu'r cwrt yn helpu i greu bond a datblygu cymeriad. Mae hefyd yn dysgu gwerth gweithio'n galed i gyflawni amcanion i bobl o oedran cynnar. Os ydych chi'n ymarfer digon, yn hyfforddi'n galed, nid oes unrhyw rwystrau i'r cerrig milltir personol y gallwch eu cyrraedd. Mae chwaraeon hefyd yn wych am hybu symudoledd cymdeithasol. Pan fydd y cyfleoedd yno, ni ddylai fod unrhyw ffin ar eich potensial heblaw eich talent.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd chwaraeon yn achubiaeth ac yn ddihangfa. Wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau cael effaith ar ein hiechyd meddwl, roedd mynd yn ôl i allu cicio pêl gyda ffrindiau neu ddiwrnod yn yr haul yn chwarae criced yn ffordd fawr ei hangen o ryngweithio'n gymdeithasol ac yn helpu'r rhai, gan gynnwys fi fy hun, a oedd wedi ei chael hi'n anodd yn ystod y cyfyngiadau symud. Hefyd, fe helpodd rai ohonom i golli peth o bwysau ychwanegol y cyfyngiadau symud, er bod fy mam yn fy atgoffa'n syth fy mod wedi ennill hwnnw'n ôl yn gyflym. Nid wyf yn ddall i'r eironi y gallai ein dadl heddiw arwain at drafodion yn y Siambr a fydd yn para dros y gic gyntaf yng ngêm Cymru-Twrci yn y bencampwriaeth Ewropeaidd. Rwy'n gwybod bod yr Aelodau'n awyddus i gefnogi'r tîm, felly fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr a chanolbwyntio ar dri phrif bwynt.

Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd y galwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod Tom Giffard wrth agor y ddadl. Gall Cymru gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, o Gwpan Rygbi'r Byd 1999 i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn fwy diweddar yn 2017. Felly, gyda siom ddiffuant y penderfynodd Llywodraeth Cymru yn erbyn mynd ar drywydd cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad. Gyda Birmingham yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn nesaf yn 2022, rwy'n siŵr y bydd llawer o gefnogwyr Cymru yn gwneud y daith fer dros y ffin i weld rhai o athletwyr gorau'r byd. Mae'r gwaddol y bydd y ddinas yn ei ennill yn enfawr, ac mae'r effaith ganlyniadol i'r ardal a'r gymuned leol yn sylweddol. Weinidog, mae uchelgais yn hollbwysig, a byddai Gemau'r Gymanwlad i Gymru gyfan yn agor ein gwlad i'r byd. Mae llawer o'r seilwaith eisoes yn ei le—y pwll 50m yma yng Nghaerdydd, y felodrom yng Nghasnewydd. Pwy na fyddai'n croesawu rhai o'r digwyddiadau yn eu rhannau eu hunain o Gymru? Hwylio ar afon Menai, beicio mynydd ym Mannau Brycheiniog, y triathlon yn y môr ac ar ffyrdd yn sir Benfro, ac wrth gwrs, pêl foli'r traeth ar dywod Pentywyn. Pa hysbyseb well i'n cenedl chwaraeon wych?

Efallai y cofiwch hefyd, Weinidog, imi ddefnyddio cwestiwn i'r Prif Weinidog ychydig wythnosau'n ôl i dynnu sylw at bwysigrwydd cystadleuaeth Ironman i Ddinbych-y-pysgod a de sir Benfro. Mae'r digwyddiad hwn, y gwn ei fod wedi cael cefnogaeth gan yr awdurdod lleol rwy'n dal yn aelod ohono, a Llywodraeth Cymru, yn cael ei gydnabod fel un o drysorau chwaraeon Cymru. Fodd bynnag, bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m ar gyfer y digwyddiad yn ei daro'n galed. Cynhelir Ironman Cymru yn yr awyr agored, ac mae'n ymddangos yn rhyfedd, wrth i bobl gael eistedd o amgylch bwrdd y tu mewn i dafarn, fod digwyddiad athletaidd elitaidd yn y fantol oherwydd y rheol 2m. A gaf fi eich annog, os gwelwch yn dda, Weinidog, i ymchwilio i'r mater hwn, ac ystyried llacio'r rheol 2m, er mwyn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad eto ac y gall fod yn llwyddiannus unwaith eto ym mis Medi?

Ac yn olaf, ond yn bwysicaf oll, yn dilyn y golygfeydd gofidus dros y penwythnos o'r pêl-droediwr o Ddenmarc Christian Eriksen yn disgyn ar gae pêl-droed ac yn cael triniaeth i achub ei fywyd, roeddwn am dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ar gaeau pêl-droed. Cyflwynais ddatganiad barn yn gynharach yr wythnos hon yn galw am waith parhaus i sicrhau bod yr offer hwn sy'n achub bywydau wedi'i leoli ym mhob maes chwarae yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi'i lofnodi, ac rwy'n falch ei fod wedi casglu cefnogaeth mor drawsbleidiol. Gobeithio bod momentwm, ewyllys wleidyddol, i wireddu hyn. Diolch i Delyth Jewell am ei geiriau caredig ar hyn yn gynharach. Hefyd, hoffwn roi clod i Suzy Davies am ei gwaith yn sicrhau y bydd CPR yn cael ei addysgu yn y cwricwlwm newydd.

Ac i osgoi eich pechu, Lywydd, ond i orffen yn derfynol gennyf fi, c'mon Cymru.

15:30

Rwy'n mwynhau'r ddadl hon yn fawr. Fel y dywedodd ein cyfaill Sam Rowlands, rwy'n gefnogwr chwaraeon angerddol. Cefais fy atgoffa ganddo o'r dyddiau pan oeddwn yn cefnogi Clwb Pêl-droed Newcastle United, ac rwy'n dal i wneud hynny. Mae gennyf atgofion melys o'r diweddar Gary Speed yn gwneud pethau hudolus i fy nghlwb. Mae'r Llywydd yn gwybod fy mod i'n un i hyrwyddo rhagoriaeth mewn chwaraeon ar bob cyfle, boed y tîm pêl-droed cenedlaethol neu Glwb Pêl-droed Nomads Cei Connah yng ngogledd Cymru am ennill Uwch Gynghrair Cymru eto. Cyn bo hir byddant yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd unwaith eto. Lywydd, gwyddoch fy mod yn llysgennad clwb gwirioneddol falch, felly rwy'n hapus iawn i ddatgan buddiant ar hynny. Fy nghyfaill Huw Irranca-Davies—rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd yn ei gyfraniad yn flaenorol. Ond yr hyn a ddywedaf yw ein bod ni, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn meddwl am Gemau Olympaidd Tokyo am fod Jade Jones yn mynd am ei thrydedd fedal aur mewn taekwondo. Felly, rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn dymuno'r gorau iddi yno.

Lywydd, mae Aelodau ar draws y Siambr wedi nodi'n briodol mai'r allwedd i weld llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd ac Ewrop, wrth gwrs, yw chwaraeon llawr gwlad. Ar hyn o bryd, rwyf wrthi'n trefnu cyfarfod rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru, cyngor sir y Fflint a—gobeithio—Chwaraeon Cymru hefyd, ochr yn ochr â Chlwb Pêl-droed Tref Bwcle. Fy uchelgais i, ac uchelgais y clwb, yw cael cae artiffisial o'r radd flaenaf yn y clwb. Byddaf yn annog pawb yn y cyfarfod hwnnw i ymuno â mi i gael y cyfleuster hwn yn ei le. Oherwydd mae'n ymwneud â mwy na phêl-droed mewn gwirionedd—mae'n ymwneud â phob camp a gweithgaredd y gellir eu chwarae ar gyfleuster a rennir gan y gymuned. Rwyf am i bawb yn y cyfarfod hwnnw gefnogi'r uchelgais hwn, a byddaf yn annog cynghorwyr lleol yn arbennig i argyhoeddi'r cyngor lleol i gefnogi'r weledigaeth hefyd. Mae caeau pob tywydd yn hanfodol os yw'r genhedlaeth nesaf o dalent yn mynd i allu hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, ym mha gamp bynnag y maent am wneud hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog wneud nodyn o hynny yn ei hymateb—am bwysigrwydd caeau artiffisial i bob camp a chymuned go iawn eu defnyddio fel cyfleuster a rennir. Diolch yn fawr, Lywydd.

Member
Dawn Bowden 15:34:32
Deputy Minister for Arts and Sport, and Chief Whip

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r Aelodau am ddadl ddiddorol iawn, ar bwnc rwy'n angerddol iawn yn ei gylch? Rwyf wedi bod yn gefnogwr chwaraeon drwy gydol fy oes, pêl-droed yn bennaf. Nid wyf yn meddwl fy mod i'n mynd i ddatgan pa dimau pêl-droed rwy'n eu cefnogi yn y Siambr heddiw, ond digon yw dweud—[Torri ar draws.] Digon yw dweud—[Torri ar draws.] Clwb Pêl-droed Tref Merthyr. Digon yw dweud, nad wyf wedi cael fy adeiladu ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon, ond yn bennaf ar gyfer gwylio, ac rwyf wedi mwynhau gwneud hynny ar hyd fy oes. Felly, mae'n fraint fawr i mi fod mewn rôl weinidogol yn awr lle gallaf nodi cyflawniad Llywodraeth Cymru ar y materion a godwyd a'n hymrwymiadau yn nhymor y Senedd hon.

Yn gyntaf, fel eraill, hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau, heddiw a ddoe, wrth fyfyrio ar y golygfeydd gwirioneddol frawychus ym mhencampwriaeth Ewrop gyda Christian Eriksen dros y penwythnos. Mae'r hyn y gwnaethom dystio iddo ddydd Sadwrn diwethaf yn tynnu sylw at bwysigrwydd diffibrilwyr a'r angen am swyddogion wedi'u hyfforddi'n briodol. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad llawn iddo. Er ein bod am annog pawb i gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn egnïol, mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd mor ddiogel â phosibl. 

Lywydd, rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni, a ninnau'n genedl fach, yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl ar lwyfan y byd o ran digwyddiadau chwaraeon. Y dystiolaeth economaidd ac iechyd y cyfeiriwyd ati gan Tom Giffard a Heledd Fychan yw'r ffynonellau tystiolaeth a fu'n sail ar gyfer asesu cyllid ychwanegol ar gyfer chwaraeon, er mwyn cefnogi'r sector drwy gydol y pandemig a pharatoi ar gyfer y cyfnod ar ôl COVID. 

Mae gennym enw da o'r radd flaenaf, a hynny'n haeddiannol, am ddenu digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol a digwyddiadau busnes rhyngwladol fel Cwpan Ryder, gemau prawf y Lludw, Ras Fôr Volvo, rowndiau terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, uwchgynhadledd NATO, Womex a datblygu digwyddiadau cartref, gan gynnwys Focus Cymru, Gŵyl Gomedi Aberystwyth, a digwyddiadau canmlwyddiant Dylan Thomas a Roald Dahl dros y 10 mlynedd diwethaf. Nid dyheadau yw'r rhain; dyma sydd wedi digwydd yng Nghymru. Mae'r digwyddiadau mawr hyn yn parhau. Mae'n wych gweld Canwr y Byd Caerdydd y BBC ar y gweill ac yn ennyn darllediadau rhyngwladol, ac edrychwn ymlaen at groesawu tîm criced Lloegr i Gaerdydd cyn bo hir. 

Ond nid dyma ben draw ein huchelgais. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt i sicrhau ceisiadau llwyddiannus, er enghraifft gyda Chyngor Sir Ynys Môn i gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2027. Yn ddi-os, mae digwyddiadau wedi bod yn rhan allweddol o'r economi ymwelwyr yma yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi'i gael hyd yma. Ac os caf ymateb yn fyr i Sam Kurtz, ar ddigwyddiadau, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector i agor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny, a sicrhau bod y rheolau'n gyson ac wedi'u deall yn dda, ond rhaid inni ystyried sefyllfa iechyd y cyhoedd ar unrhyw adeg benodol pan fyddwn yn edrych ar ddigwyddiadau a llacio rheolau.  

Gan droi yn awr at y cynnig, sylwaf ei fod ond yn ailadrodd yr hyn a glywsom gan y Blaid Geidwadol yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad y mis diwethaf. Yn yr un modd, mae'r gwelliannau gan Blaid Cymru yn ailddatgan yr hyn a welsom yn eu maniffesto hwythau. Collodd y ddwy blaid yr etholiad hwnnw, felly efallai ei bod yn fwy perthnasol i ni siarad am yr hyn sydd ym maniffesto Llafur Cymru a'n rhaglen lywodraethu. Mae'n werth nodi hefyd fod y cynnig a'r gwelliannau'n sôn am amrywiaeth o syniadau a mentrau sydd eisoes yn digwydd. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU eisoes yn gweithio gyda ni fel rhan o bartneriaeth rhwng y pum gwlad i ystyried dichonoldeb cais gan y DU ac Iwerddon i gynnal Cwpan y Byd FIFA 2030.

Mae Chwaraeon Cymru eisoes yn cynnal rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon drwy'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, sy'n cynnwys datblygu syniadau a chreu cyfleoedd chwaraeon fel bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i brofi manteision ffordd o fyw egnïol, gan roi hyder a sgiliau i bobl ifanc fod yn arweinwyr chwaraeon y dyfodol. Nod partneriaethau rhanbarthol Chwaraeon Cymru fydd cael dull strategol hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sydd i'w gweld ar hyn o bryd yn y ddarpariaeth chwaraeon. Byddant hefyd yn ymdrin â'r galw cudd am weithgaredd chwaraeon tra'n mynd i'r afael ag anghysondeb yn y cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar draws y cymunedau yng Nghymru. Gallaf sicrhau Huw Irranca-Davies mai uchelgais y Llywodraeth hon ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw adeiladu ar ein cyflawniadau chwaraeon ac ymdrechu'n barhaus i gael mwy o gyfleoedd i bawb ledled Cymru gymryd rhan mewn chwaraeon, a bod yn gorfforol egnïol, waeth beth fo'u cefndir, ac nid dim ond ailddyfeisio'r olwyn a dod o hyd i'r Lynn the Leap nesaf. 

Dyna pam ein bod yn buddsoddi mewn mwy o gyfleusterau cyfalaf, gan gynnwys y caeau 3G y cyfeiriodd Jack Sargeant atynt. A gaf fi ddweud, Lywydd, nad oes y fath beth â chae 4G mewn gwirionedd? Strategaeth farchnata gan y gweithgynhyrchwyr yn unig yw cae 4G; 3G yw'r hyn sydd gennym a dyma sy'n cael ei ddefnyddio, a dyna sydd gennym yn Nhref Merthyr. Mae'n gyfleuster cymunedol gwych, a hoffwn annog unrhyw glybiau i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu caeau artiffisial at ddefnydd y gymuned. 

Fel y dywedodd Hefin David, pan fyddwn yn edrych ar chwaraeon unigol a chymunedau'n cefnogi chwaraeon ac yn cyflawni ein gweledigaeth a'n strategaeth ar gyfer chwaraeon, dylem edrych ar fwy na chwaraeon wedi'u trefnu a chwaraeon tîm yn unig. Dylem edrych ar gael pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau, boed yn gamp ddynodedig fel y dywedais neu'n gamp tîm. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud i annog ein holl gymunedau i fod yn fwy egnïol ac i gymryd rhan mewn mwy o gyfleoedd chwaraeon. Dyna pam y bydd ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'n cynllun gweithredu LGBTQ+ yn cynnwys camau wedi'u hanelu at wella cyfleoedd chwaraeon i'r grwpiau hynny.

Ar y pwyntiau a gododd Hefin David a Delyth Jewell am benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar bêl-droed menywod—a gwn fod Laura wedi bod yn awyddus iawn i fynd ar drywydd y mater hwn hefyd—ysgrifennais at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fel y dywedodd Hefin, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad yn fuan am y trafodaethau gyda hwy. Ond rwy'n glir fy mod am weld gêm y menywod yng Nghymru yn ffynnu, ac fe wnaf beth bynnag y gallaf i sicrhau bod hynny'n digwydd. 

I gloi, Lywydd, credaf y byddai pob Aelod yn cytuno bod gan chwaraeon a gweithgarwch corfforol bŵer mawr i'n huno ac i'n helpu i ymadfer yn gryf o'r pandemig. Mae'r Llywodraeth hon a Chwaraeon Cymru eisoes yn gweithio i sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd i gymryd rhan ac elwa o chwaraeon ar bob lefel. Dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod y cynnig, a gwelliannau Plaid Cymru, a chefnogi gwelliant y Llywodraeth yn lle hynny. Gyda'ch amynedd, Lywydd, gobeithio y gwnaiff bawb ymuno â mi i gefnogi tîm Cymru, nid yn unig heno, ond dros weddill gemau'r Ewros. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd un cam ymhellach nag y gwnaethom yn 2016. Diolch. 

15:40

Diolch, Lywydd. Fel rhywun sydd wedi cymryd rhan yn eiddgar mewn chwaraeon ers blynyddoedd lawer, rwy'n gwylio'r holl chwaraeon yn frwd fy hun, er ei fod bellach yn fater o redeg o gwmpas ar ôl fy mhlant tra'n ceisio gwylio chwaraeon. Ond beth bynnag, rwy'n gwneud fy ngorau. Ond rwy'n frwd fy nghefnogaeth i chwaraeon, fel y gŵyr y Siambr hon. Ac mae Seneddau blaenorol yn gwybod am y pwyslais rwyf bob amser wedi'i roi ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol—yn drawsbynciol, ar draws pob briff, fel y clywsom heddiw. A gaf fi ddweud diolch i bawb am eich cyfraniadau heddiw ar ran y Ceidwadwyr Cymreig? Oherwydd mae'r cyfraniadau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'n amlwg fod gennych oll angerdd dros chwaraeon ac yn deall bod angen inni fynd i'r afael â problemau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â chwaraeon a gwneud ein cenedl yn genedl chwaraeon go iawn.

Fel y clywsom y prynhawn yma, Lywydd, gan Sam Rowlands—ac unwaith eto, mae'r Gweinidog newydd ei ailadrodd—rydym ni, fel cenedl, fel cenedl fach, yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl o ran ein gallu yn y byd chwaraeon. Mae hynny'n wych, ac mae'n rhywbeth rwy'n mynd yn emosiynol wrth siarad amdano, oherwydd rydym mor falch o'n gwlad a pha mor dda rydym yn ei wneud. Ond yn anffodus mae hynny er gwaethaf y diffyg buddsoddiad sydd wedi bod ei angen dros y degawdau diwethaf. Pe baem yn gweithio'n drawsbleidiol fel y dywedodd Heledd yn agos at y dechrau, dychmygwch faint yn fwy llwyddiannus y byddem ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw, ac o fewn y Deyrnas Unedig. 

Fel y gwyddoch, rwyf wrth fy modd yn clywed eich bod yn cytuno bod arnom angen gaeau 3G, a chaeau 3G o bob lefel, ar gyfer ein cymunedau, ond hefyd ar gyfer ein clybiau chwaraeon elît a'n clybiau chwaraeon proffesiynol, a'r holl gynghreiriau a ddaw i lawr o hynny—nid yn unig ar gyfer pêl-droed, ond ar gyfer rygbi ac ar gyfer pêl-rwyd a phwy bynnag arall a all ddefnyddio'r caeau hynny ar ba lefel bynnag. Ond mae hefyd yn ffordd y gall cymunedau chwarae chwaraeon drwy gydol y flwyddyn, sydd, fel y gwelsom yn ystod y pandemig hwn, wedi bod yn hollbwysig—y gall gweithgarwch corfforol ailddechrau a pharhau yn ystod y pum mis y mae pob clwb chwaraeon fel arfer yn cau. Fel ysgrifennydd clwb pêl-droed iau ers blynyddoedd bellach, gwn mor anodd yw cynnal diddordeb plant os caiff eu hyfforddiant ei ganslo'n barhaus, os caiff y gemau eu canslo'n barhaus—i ddod yn ôl wedyn, bum mis yn ddiweddarach, ym mis Mawrth, a dechrau chwarae eto. Maent naill ai wedi colli diddordeb, neu maent wedi cael eu heffeithio'n gorfforol ac yn feddyliol gan y ffaith nad ydynt wedi chwarae unrhyw gamp yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, mae'n rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno.

Fel y clywsom heddiw, mae gennym ein sêr Cymreig, ac mae'n bwysig iawn nad oes gennym ddraen dawn, fel y gwelwn yn rheolaidd, oherwydd y cyfleusterau gwael a'r gwahaniaeth yn y cyfleusterau o'u cymharu â'r hyn y gallant ei gynnig yn Lloegr ar draws ein ffin agored, ac wrth gwrs, yn yr Alban. Gwelwn bobl yn mynd draw yno am ei bod yn well ganddynt chwarae chwaraeon yno, ac nid ydym am gael hynny. Rydym am eu cadw yma, rydym am feithrin ein sêr chwaraeon a'u cadw yn ein clybiau lleol. Fel y dywedodd Sam Kurtz yn gynharach, mae'n hanfodol ein bod yn ceisio dod â mwy o ddigwyddiadau mawr yma i Gymru, ac fel yr amlinellodd y Gweinidog hefyd yn ei chyfraniad, mae'n bwysig ein bod yn cael y digwyddiadau mawr oherwydd mae'n magu brwdfrydedd yn ein clybiau ac ym mhob camp ac yn ein cymunedau wrth gwrs, a daw â chymunedau at ei gilydd a gwledydd at ei gilydd fel y gwelwn yn ystod yr Ewros yn awr.

Ac wrth gwrs, rhan o hud y digwyddiadau hyn yw ein bod yn gweld cystadleuwyr a thimau a'r ffordd y maent wedi cyrraedd yno ar sail teilyngdod a chyflawniad ym maes chwaraeon ac fel y nododd Hefin yn gwbl briodol a chithau, Weinidog, mae'n bwysig—mae tegwch yn bwysig yn ein cynghreiriau pêl-droed. Ac rydym yn gweld yn awr fod rhai o'r timau menywod wedi gorfod disgyn o'r uwch gynghrair, fel rydych wedi disgrifio eisoes, nid oherwydd yr hyn sy'n digwydd ar y cae, ond am resymau gweinyddol ac nid yw hynny'n iawn. Ac rwy'n diolch yn fawr iawn i chi ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ac ar draws y pleidiau, a gwn eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y broses honno'n deg a bod y casgliad y maent yn ei gyrraedd yn deg a dyna swm a sylwedd hynny.

Nid wyf am ailadrodd, ond euthum i siarad â'r Gweinidog addysg yn gynharach am bwysigrwydd chwaraeon ysgol, felly rydym wedi cyffwrdd â hynny'n barod, ond hefyd manteision trawsbynciol iechyd meddwl, fel yr amlinellodd James yn gynharach. Mae yna gymaint o fanteision iechyd. Yn anffodus, fel yr amlinellodd y pwyllgor iechyd blaenorol, collodd Llywodraeth Cymru rywbeth drwy beidio â gosod pwyslais ar weithgarwch corfforol a chwaraeon a chydnabod eu pwysigrwydd fel mesurau ataliol i wella iechyd ein gwlad. Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wthio o ddifrif. Ond hoffwn ddiolch i chi, Ddirprwy Weinidog, am bob dim a wnewch. Ac rwy'n obeithiol iawn ar gyfer y dyfodol oherwydd eich bod yn dwli ar chwaraeon, ac rwy'n gweld hynny ynoch chi oherwydd ei fod wedi'i adlewyrchu ynof fi, ac rwy'n dwli ar hynny. Diolch yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at glywed llawer o straeon cadarnhaol am yr hyn rydych chi'n mynd i'w wneud i wneud ein gwlad yn genedl chwaraeon go iawn. Ac ar hynny, rwy'n gobeithio y gall y Senedd gyfan gefnogi ein cynnig heddiw, oherwydd mae'n bwysig. Rydym wedi gosod cynllun ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cael Cymru i'r fan lle mae angen iddi fod ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gefnogi hynny. Diolch.

15:45

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

Y cynnig heb ei ddiwygio—a oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]

Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais.

Rwy'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Sy'n dod â ni at seibiant byr eto ar gyfer newidiadau yn y Siambr, ac fe fyddwch yn falch o wybod ein bod wedi llwyddo i dorri chwe munud oddi ar ein record bersonol yn y ddadl ddiwethaf. Felly, byddwn yn canu'r gloch ddwy funud cyn i'r sesiwn nesaf ddechrau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:48.

15:55

Ailymgynullodd y Senedd am 15:56, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.

7. Dadl Plaid Cymru: Polisi Tai

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar. 

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar bolisi tai. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7711 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni'n byw mewn oes o argyfyngau, ac mae’r argyfyngau yma yn cydblethu. Mae yna argyfwng amgylcheddol a newid hinsawdd—rydyn ni wedi clywed amdano heddiw yn barod; mae yna argyfwng iechyd cyhoeddus; ac mae yna argyfwng economaidd.

Rŵan, pam fy mod i’n sôn am yr argyfyngau yma mewn dadl am argyfwng tai? Oherwydd bod tai yn ffactor cyffredin sy'n perthyn i bob un o’r argyfyngau yma yn ogystal â rhai eraill. Ystyriwch yr argyfwng newid hinsawdd. Daw tua 14 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Gyfunol o’r stoc dai, ac mae gan Gymru y stoc dai hynaf yn Ewrop, yn llai effeithiol wrth ddefnyddio ynni ac angen mwy o gynnal a chadw.

O ran yr argyfwng COVID presennol, bellach gallwn wneud cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng effaith COVID ar rai dioddefwyr ac ansawdd eu tai. Neu, os edrychwn ni ar yr argyfwng economaidd, mae mwy o gyfoeth yn cael ei gronni yn nwylo nifer fach o bobl, sydd yn prynu nifer fwy o eiddo, tra bod y tlawd yn mynd yn dlotach a digartrefedd ar gynnydd. Ydy, mae’r argyfwng tai yn drawsadrannol. Ond, o ddechrau datrys yr argyfwng yma, yna fe allwn sicrhau gwell ansawdd byw i ddegau o filoedd o bobl.

Wrth gwrs, roedd yna argyfwng tai cyn y coronafeirws, ond mae’r pandemig yma wedi ei waethygu, ac wedi amlygu’r graddau y mae'r ansicrwydd tai yn effeithio’n anghymesur ar yr ifanc, y mwyaf bregus a phobl ar incwm isel. Does dim gwadu, bellach, fod gan ein cymdeithas ni berthynas gwyrdroëdig ag eiddo erbyn hyn. Mae eiddo, a ddylai fod yn annedd fyw, bellach yn cael ei weld fel buddsoddiad ariannol er mwyn budd economaidd personol, nid fel rhan hanfodol o fywyd—yr hawl i do uwch ein pen a’r hawl i fyw adref.

Rŵan, rhan ganolog o’r ddadl am yr argyfwng tai ydy fforddiadwyedd. Mae tai bellach yn anfforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl ym mhob cornel o Gymru, a dwi’n siŵr y clywn ni fwy am hynny gan fy nghyfaill, Peredur Owen Griffiths.

Dywed rhai mai creu mwy o swyddi sydd ei angen i ddatrys hyn. Ydy, wrth gwrs, mae gwasgaru cyfoeth a swyddi ar draws Cymru yn rhan o’r ateb, ond dydy o ddim yn ateb ynddo’i hun, oherwydd fel y saif pethau, a heb ymyrraeth bellgyrhaeddol, byddai angen i gyflogau ddyblu neu i werth tai haneri er mwyn dod â balans yn ôl i’r farchnad. Yn syml, mae angen ymyrraeth, a dod â rheolaeth i’r farchnad dai, er mwyn rhoi cyfle teg i bawb gael cartref, oherwydd mae’r farchnad yn gweithio yn erbyn gormod o bobl Cymru.

Rŵan, bydd y frawddeg olaf yna yn pryderu'r Aelodau ar y meinciau Ceidwadol, oherwydd eu bod nhw’n credu yng ngrym y farchnad—mae'n rhan sylfaenol o'u hideoleg nhw fel plaid. Ond y diffyg ymyrraeth yma, y polisïau laissez faire yma, sydd wedi gadael ein pobl a'n cymunedau i lawr dro ar ôl tro. Eu hateb nhw ydy i adeiladu mwy o dai, ond dydy hynny ddim yn ateb cyflawn i’r broblem chwaith. Mae’r briodas yma rhwng y farchnad rydd a chyfalafiaeth yn golygu mai tai mawr moethus sy'n cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr, oherwydd mai dyna ble y mae’r elw, er bod yna alw anferthol am fyngalos bach neu dai cychwynnol un neu ddwy lofft.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o'n cymunedau yn dioddef diboblogi, ond eto, er hynny, yn parhau i weld tai mawr moethus yn cael eu codi yn eu plith. Yn sicr, felly, dydy'r farchnad yma ddim yn ateb galw lleol. Os ydy’r farchnad rydd yn ateb y galw, yna pam fod yna 67,000 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae’r farchnad rydd yn gweithio yn erbyn pobl Cymru—dyna'r gwir amdani.

Rŵan, tra bod y Ceidwadwyr yn hyrwyddo ideoleg laissez faire, y blaid laissez faire go iawn yng Nghymru, y blaid sydd yn gweithredu'r ideoleg, ydy’r Blaid Lafur, sydd wedi gwneud nemor ddim i ymyrryd yn y farchnad dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dyma waddol New Labour a'u 'light-touch regulation', yn parhau yn fyw ac yn iach yma yng Nghymru.

Rŵan, yr enghraifft fwyaf amlwg o’r diffyg ymyrraeth yma yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, ac mewn cymunedau ar draws Cymru, ydy'r mater o ail dai a’r cynnydd yn y nifer o letyau gwyliau tymor byr fel Airbnb. Bellach, mae’r rhan fwyaf o bobl a fagwyd yn y cymunedau yma, fel y Mwmbwls neu Ddinbych y Pysgod neu Aberhonddu neu yng Nghapel Curig, wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai leol. Yn wir, mae hanner pobl cymunedau ôl-diwydiannol fel Blaenau Ffestiniog wedi cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol.

Yn ôl ymchwil y Dr Simon Brooks, tra bod y pandemig wedi gwneud pethau yn waeth, mae yna beryg go iawn y gall gadael yr Undeb Ewropeaidd wneud pethau hyd yn oed yn waeth fyth, ac mae o'n rhybuddio y gall canran o'r 70,000 o berchnogion ail dai yn Ffrainc, neu'r 66,000 o berchnogion ail dai yn Sbaen, edrych i brynu eiddo yma. Yn ôl ystadegau trafodion tir y flwyddyn ddiwethaf, roedd ychydig o dan hanner o'r tai a werthwyd yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd yn dai cyfradd uwch. Rŵan, tra bod yna sawl diffiniad o beth ydy tŷ cyfradd uwch, yn achos Dwyfor Meirionnydd, mae'n golygu ail dai yn bennaf. Dyma lefel yr her sy'n wynebu ein cymunedau ni a'n pobl ni heddiw.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld prynwyr ariannog yn talu ymhell dros y pris gofyn gydag arian parod, gan wthio gwerth eiddo i fyny a sicrhau nad oes gan bobl leol sydd, ar y cyfan, ar gyflogau isel, unrhyw gyfle i brynu yn eu cynefin. Cymru, yn wir, welodd y cynnydd fwyaf mewn gwerth eiddo dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwerth tai yn saethu i fyny 13 y cant ar gyfartaledd, gyda rhai ardaloedd, fel sir Gâr, yn gweld cynnydd o 23 y cant, neu sir Fôn yn gweld 16 y cant o gynnydd. Mae hyn yn gwbl anghynaliadwy.

Wrth gwrs, hefyd, wrth drafod y broblem yma yng Nghymru, mae'n rhaid inni gydnabod ei fod e'n broblem ar draws y byd gorllewinol. Yn wir, mae Aotearoa wedi cymryd camau i atal pobl nad yw’n ddinasyddion yno rhag prynu eiddo yn y wlad. Felly hefyd yn Denmarc ac Awstria, sydd â rheolau llym am bwy all brynu eiddo yn y gwledydd yna. Mae deddfwrfeydd rhanbarthol yn Awstralia, yng Nghanada a'r Eidal wedi gweithredu ar ail dai, tra bod llywodraethau lleol yn Amsterdam, ym Mharis, ym Merlin, ac eraill, wedi cymryd camau i weithredu ar letyau gwyliau tymor byr fel Airbnb. Ond dydyn ni ddim wedi gweld dim yn cael ei wneud yma yng Nghymru.

Rŵan, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi sôn am gamau y dylid eu hystyried. Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd cynghorau sir Gwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin at y Prif Weinidog yn galw am newid adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel bod unrhyw dŷ annedd yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd ac felly yn talu treth gyngor lawn. Rydym hefyd wedi galw am ddiwygio'r Gorchymyn cynllunio gwlad a thref er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, fel Airbnb, a hefyd wedi galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, a fyddai'n gyfrifoldeb ar yr awdurdod leol i'w weithredu. Mae'r rhain yn fesurau y gellir eu gweithredu yn sydyn, a hynny drwy ddeddfwriaeth eilradd.

Mi ydym ni yn y Blaid hefyd wedi sôn am yr angen i dreblu'r dreth trafodiadau tir ar brynu ail dai. Mae'r cam yma wedi cael ei gymryd mewn gwledydd eraill. Rydym ni hefyd wedi sôn am yr angen i dreialu creu dosbarth newydd cynllunio ar gyfer ail dai, a fyddai'n rhoi'r grym i'r awdurdod lleol reoli'r nifer o ail dai a rhoi cap ar y niferoedd o ail dai mewn cymunedau sydd o dan bwysau. Dim ond rhai argymhellion i fynd i'r afael â rhan o'r broblem ehangach ydy'r rhain, ac mae'n rhaid i ni dderbyn ei bod yn broblem llawer iawn mwy na phroblem ail dai yn unig. 

Yn ôl prif economegydd presennol Banc Lloegr, Andy Haldane, mae'r prif declynnau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn nwylo'r Llywodraeth. Mae'n sôn am y cyfraddau treth, am reolau cynllunio, ynghyd â mesurau hyrwyddo adeiladu tai. All ein Llywodraeth ni yma yng Nghymru ddim cuddio y tu ôl i fethiannau San Steffan yn yr achos yma, oherwydd bod y tri pheth yma o fewn eu cymhwysedd nhw ac mae ganddyn nhw y gallu i weithredu. Y cwestiwn ydy: a wnawn nhw weithredu cyn ei fod o'n rhy hwyr? Diolch yn fawr iawn.

16:05

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Janet.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ar ôl 'tai' mewnosoder:

'gan gynnwys cymryd camau i:

a) sichrau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;

b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru;

c) cael gwared ar y dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf;

d) gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae landlordiaid cofrestredig cyfrifol yn ei wneud i ddarparu llety addas i denantiaid; ac

e) cyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau.'

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Rwy'n codi i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar AoS.

Nawr, prawf gwych o allu'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru i newid bywydau pobl er gwell ledled Cymru yw'r angen i fynd i'r afael â'r argyfwng tai presennol. Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y DU, cynnydd o 11 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynigion yn cael eu gwneud yn awr cyn cynnal ymweliadau, a gwyddom i gyd fod llawer o bobl leol yn methu rhentu neu brynu cartrefi yn eu cymuned eu hunain. Un ffactor allweddol yn hyn wrth gwrs—er gwaethaf yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru—yw'r angen am gyflenwad tai newydd. Amcangyfrifir bod angen cymaint â 1,400 o gartrefi ychwanegol ar ogledd Cymru bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf, ond mae'r data diweddaraf yn dangos mai dim ond 1,284 a gafodd eu darparu mewn gwirionedd. Mae angen cymaint â 2,000 ar ganolbarth a de-orllewin Cymru, ac eto dim ond tua 1,300 y flwyddyn a gyflawnir. Ac er y gallai de-ddwyrain Cymru fod angen bron i 5,000 y flwyddyn, mae'r gyfradd gyflenwi ddiweddaraf ychydig dros 3,100. Felly, mae'r dystiolaeth yn arwydd nad oes digon o dai newydd yn cael eu hadeiladu ar draws y wlad.

Mae angen inni greu amgylchedd mwy deniadol i adeiladwyr fuddsoddi yma, ond wrth wneud hynny, mae angen inni barchu cymunedau a democratiaeth drwy sicrhau bod yr holl safleoedd a ddyrennir mewn CDLlau yn cael eu hadeiladu mewn gwirionedd cyn ystyried unrhyw leoliadau wrth gefn neu leoliadau eraill ar gyfer ceisiadau cynllunio. Cam arall y gallwn ei gymryd ar unwaith yw adeiladu tai cymdeithasol mewn cymunedau lle mae'r argyfwng ar ei waethaf, ac adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, gan rymuso pobl leol i fod yn berchen ar gartref yn eu cymuned eu hunain. Byddai hyn yn gwneud rhywfaint i fynd i'r afael yn gadarnhaol â'r ffaith bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd wedi gostwng draean ers dechrau'r Senedd hon ym 1999.

Fel y dywedodd Sefydliad Tai Siartredig Cymru:

'Mae tai cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn lleddfu'r broblem i'r rhai sy'n dioddef waethaf yn yr argyfwng tai'.

Mae gan y sector rhentu preifat ran i'w chwarae hefyd. Mae'r mwyafrif helaeth o'n landlordiaid yn cydymffurfio, yn gydwybodol ac yn gyfrifol. Canfu Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl fod 90 y cant o landlordiaid y gofynnwyd iddynt yn cytuno bod angen rhyw raddau o gymorth rhent. Roedd hynny'n ychwanegol at fesurau sy'n dod i'r amlwg fel cyfnodau rhybudd estynedig a'r gwaharddiad ar feddiannu sydd wedi peri i rai landlordiaid wynebu trafferthion ariannol enbyd. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi rhoi system ar waith yn awr sy'n caniatáu i denantiaid gwael fanteisio drwy wrthod talu eu rhent hyd yn oed pan fyddant mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly, nid yw'n syndod fod traean o landlordiaid bellach wedi dweud eu bod yn fwy tebygol o adael y farchnad yn gyfan gwbl. A byddai hynny'n creu sefyllfa drychinebus, gan y bydd llai o stoc dai yn ei gwneud hyd yn oed yn anos i bobl ddod o hyd i gartrefi. Rhaid mynd i'r afael â mater ôl-ddyledion, felly rwy'n cefnogi galwadau gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl i lacio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer benthyciad arbed tenantiaeth. Y gwir amdani yw, os byddwch yn ei gwneud yn fwy deniadol i landlord preifat symud i'r sector gosod tai gwyliau, bydd gennych lai o ddarpariaeth barhaol.

Fel y soniwyd, gall perchnogion osod eiddo ar rent drwy Airbnb yn rhwydd a bod yn gymwys wedyn i gael rhyddhad ardrethi busnes. Mae angen edrych ar y bwlch hwn yn y gyfraith a'i gau fel mai ein busnesau gwyliau hirdymor go iawn sy'n gallu elwa. Fel y dywedodd Dr Simon Brooks, ceir cymunedau sydd â phroblem ail gartrefi lle mae darparu cyflenwad digonol o dai rhent yn bwysicach na chyfyngu ar nifer yr ail gartrefi, felly dylech fod yn ceisio cymell ein landlordiaid preifat fel eu bod yn dymuno parhau i osod eu heiddo ar rent i'r rhai sydd angen hynny ac i helpu i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto, megis drwy becyn cyfannol o gymhellion y dreth gyngor.

Mae'n argyfwng fod cyfanswm yr eiddo gwag hirdymor trethadwy wedi aros ar oddeutu 25,000 y flwyddyn drwy gydol y Senedd ddiwethaf. Rydym i gyd yn cytuno bod angen i'r rhain gael eu defnyddio eto. Felly, ffordd arall y gallwch wneud hyn yw drwy ymestyn Cymorth i Brynu i gynnwys adeiladau y mae angen eu hadnewyddu. Fel y mae, mae Cymorth i Brynu ar lwybr tuag i lawr, felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn annog dyhead, a gallwch wneud hyn yn sicr drwy ddileu'r dreth trafodiadau tir i brynwyr tro cyntaf. Gobeithio bod y pwyntiau a amlinellais heddiw yn fan cychwyn trawsbleidiol ar gyfer cydweithredu ar yr argyfwng hwn. Diolch.

16:10

A gaf fi ddweud mor falch wyf fi fod tai'n cael eu trafod mor gynnar yn nhymor y Cynulliad hwn? I lawer o fy etholwyr, mae tai'n eithriadol o bwysig. Mae llawer ohonynt heb fod wedi'u cartrefu'n addas, mewn llety dros dro neu'n ddigartref. Gwyddom hefyd fod maint aelwydydd wedi lleihau, gyda mwy o bobl ar aelwydydd un person, ac mae'n duedd sy'n debygol o barhau.

Mae llawer gormod o dai'n wag, nid oes digon o dai cyngor yn cael eu hadeiladu, rydym wedi gweld lesddaliad a thaliadau cynnal a chadw uchel yn dychwelyd, ac rydym yn gweld ystadau'n cael eu hadeiladu gyda'u ffyrdd a'u palmentydd nad ydynt yn cyrraedd safon y gellir eu mabwysiadu. Yn ôl data a gafwyd gan newyddion ITN yn 2018, roedd 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru, gydag o leiaf 18,000 wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Mae'r rhain yn cynnwys pob math o eiddo, gan gynnwys rhai yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd. Nid oes gennyf reswm i gredu bod y nifer hwn wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf.

Mae cartrefi gwag yn adnodd gwastraffus ar adeg pan fo galw sylweddol am dai. Gallant hefyd achosi amrywiaeth o broblemau cymdeithasol ac amgylcheddol. Gallant arwain at fandaliaeth, troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau, yn ogystal â phroblemau eraill, megis gerddi wedi gordyfu, ffensys terfyn ansefydlog a lleithder. Yn fwy pwysig, maent hefyd yn adnodd tai posibl nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd. Gall sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto helpu i fynd i'r afael â nifer o broblemau tai a phroblemau cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle ceir prinder tai.

Ceir dwy ffordd o gynyddu'r gwaith o adeiladu tai newydd yng Nghymru. Un yw rhoi'r gorau i'r holl reolaeth gynllunio a gadael i'r farchnad benderfynu ble y gellir adeiladu tai, sef yr hyn a ddigwyddai i bob pwrpas cyn Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947. Bydd hyn yn arwain at adeiladu mewn ardaloedd sydd wedi'u diogelu ar hyn o bryd. Yr ail ffordd yw adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, fel y gwnaethom yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel cyn 1979. Gweithiodd y ddwy strategaeth yn flaenorol; nid oes unrhyw reswm pam na fyddai'r strategaethau hyn yn gweithio eto. Credaf fod yr ail strategaeth yn strategaeth well o lawer na'r gyntaf.

Mae arnom angen mwy o dai cymdeithasol. Dylai tai fforddiadwy olygu tai cyngor a thai cymdeithasau tai. Yn hytrach na tharged ar gyfer Cymru gyfan, mae angen inni gael targedau ar gyfer pob ardal awdurdod lleol fel y gellir diwallu anghenion lleol. Yr unig adeg ers yr ail ryfel byd pan oedd digon o dai'n cael eu hadeiladu oedd pan oedd ystadau tai cyngor mawr yn cael eu hadeiladu ar hyd a lled Cymru. Rhaid inni adeiladu digon o dai fforddiadwy i ddiwallu'r angen rhagamcanol am dai yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Dylid cyflawni hyn drwy rymuso cynghorau lleol i wneud defnydd llawn o'u pwerau benthyca a'u gallu benthyca i adeiladu cartrefi a sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto ar gyfer rhent cymdeithasol.

Dylai fod gan gymdeithasau tai a chynghorau sydd heb stoc wedi'i throsglwyddo restr aros gyffredin a hefyd system drosglwyddo rhyngddynt. Byddai hyn yn helpu pobl i symud o dai mawr i dai llai wrth iddynt fynd yn hŷn, heb orfod wynebu'r broblem o fethu trosglwyddo a gorfod ailymgeisio. Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n gweithio. Mae llawer o bobl—mae cartref y teulu yno, mae'r teulu wedi gadael, mae un person ar ôl ynddo, mae'n dŷ tair neu bedair ystafell wely, mae'n gwbl anaddas, maent eisiau symud, ond mae dod o hyd i rywle iddynt symud iddo'n anodd iawn ac o ganlyniad, mae gennym sefyllfa lle mae gennym deuluoedd yn byw mewn cartref gwael iawn a phobl sydd eisiau symud yn methu symud i gartref llai.  

Rhaid inni gapio rhent cymdeithasol yn ôl mynegai prisiau defnyddwyr o chwyddiant, fel nad yw rhenti'n codi'n gyflymach na chyflogau neu fudd-daliadau. Ac mae'n bwysig gwneud y pwynt fod yn rhaid cysylltu polisi tai a pholisi sgiliau adeiladu yn well yng Nghymru, neu fel arall ni fydd neb ar gael i adeiladu neu roi at ei gilydd y cartrefi rydym am eu cael nac i ôl-osod y rhai sydd gennym yn barod. Mae llawer o waith i'w wneud ym maes tai. Rydym angen y sgiliau i'w wneud. Rydym angen polisi integredig cydlynol ar gyfer tai, gan sicrhau bod gennym weithwyr medrus i adeiladu'r tai.

Ymrwymiad cynghorau i adeiladu tai: cyllid ar gyfer datblygu tai cyngor, gan gynnwys defnyddio benthyca darbodus a benthyca yn erbyn gwerth stoc cynghorau. Datblygu tai cydweithredol: rwyf wedi ysgrifennu am hyn yn fanwl iawn, ond rydym ymhell ar ôl gweddill y byd ar gynhyrchu tai cydweithredol. Yn bwysicach na hynny, yr ewyllys wleidyddol i fynd i'r afael â'r prinder tai. Mae pawb yn haeddu cartref gweddus; ein lle ni yw sicrhau bod gan bawb gartref gweddus, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu strategaeth sy'n cael pobl i mewn i dai. Ac mae un effaith arall i adeiladu tai cyngor: mae'n adfer rhai o'r tai rhent preifat i berchen-feddiannaeth. Felly, mae pawb ar eu hennill.

16:15

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi clywed lot am yr argyfwng tai yng Nghymru a'r ffocws gan y cyfryngau yn benodol ar effaith ail gartrefi mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae pwysigrwydd y mater hwn yn amlwg, ond rhaid mynd i'r afael â'r broblem ehangach sydd gennym yng Nghymru.

Er nad oes cymaint o gartrefi gwyliau yn Nwyrain De Cymru ag sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, mae craidd y mater yma yr un fath: ni all pobl fforddio prynu cartrefi yn y lle maent yn ei ystyried yn gartref. Mae prisiau eiddo a chyflogau cyfartalog yn codi, ond pan fydd y cyntaf yn codi'n gyflymach na'r ail, mae gennym broblem. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu cymdogaethau. Nid yw'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn eithriadau.

Felly, pa mor ddrwg yw hi yn y de-ddwyrain? Wel, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cododd pris eiddo cyfartalog yng Nghaerffili 10 y cant. Mae'r darlun yn debyg ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Merthyr Tudful. Cymharwch hynny â'r cyflog wythnosol cyfartalog yng Nghymru, sydd ond wedi codi £1.71. Yr hyn y mae'n ei olygu yw bod pobl yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig Cymru yn cael eu prisio allan o'u cymunedau. A yw hyn yn swnio'n gyfarwydd?

Mae'r argyfwng tai yn effeithio ar bob rhan o Gymru. Yn aml, rhaid i'r rhai sy'n ddigon ffodus i gael troed ar yr ysgol eiddo ddibynnu ar fanc mam a dad. I'r rheini sydd heb gymorth teuluol, rhaid iddynt droi at y sector rhentu, lle mae llety'n llai diogel a digartrefedd yn fwy o fygythiad. Mae'r elusen Shelter yn dweud wrthym fod pobl iau wedi cael eu heffeithio'n fwy gan faich economaidd argyfwng COVID. Oni fydd y Llywodraeth yn gweithredu ar frys, bydd mwy o ofid ynghylch incwm ac opsiynau tai cenhedlaeth arall eto.

Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, cysylltodd dros 31,000 o bobl â'u hawdurdod lleol am gymorth gyda phroblemau tai. Yn fwy pryderus, mae cyfradd yr aelwydydd sy'n wynebu bygythiad digartrefedd wedi bod yn cynyddu'n gyflym o un flwyddyn i'r llall, gyda bron i 12,000 o aelwydydd wedi eu gwneud yn ddigartref yn 2018-19, y gyfradd uchaf ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae digartrefedd yn broblem genedlaethol sy'n effeithio'n ddinistriol ar bobl a chymunedau bob dydd. Mae'n broblem rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dweud ers blynyddoedd lawer y gellid ei datrys gyda'r ewyllys wleidyddol gywir. Yn y gorffennol, bu'n rhaid i ni ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol i wneud y pwynt hwn, ond nid oes rhaid i ni wneud hynny mwyach. Mae'r pandemig wedi newid pethau. Mae wedi dangos inni y gellir dileu digartrefedd yng Nghymru gyda'r lefelau cywir o fuddsoddiad ac awydd i wneud rhywbeth yn ei gylch. Bellach mae gennym brawf cadarn nad oes dim sy'n anochel am ddigartrefedd yng Nghymru. Mae'r ymateb i'r coronafeirws wedi dangos beth y gellir ei gyflawni. 

Rhaid inni ymdrin â rhai gwirioneddau sylfaenol. Mae tai fforddiadwy yn wahanol i dai y gallwn eu fforddio. Mae un yn derm a ddefnyddir gan adeiladwyr i weithio o gwmpas rheoliadau cynllunio, a'r llall yn fater sylfaenol i'n teuluoedd, ein ffrindiau, ein cymdogion a'n hetholwyr. Gellir gwneud mwy gyda'r ddeddfwriaeth bresennol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Gellir defnyddio adran 106 i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y gymuned, a gellir defnyddio adran 157 hefyd i atal datblygiad rhag cael ei adeiladu fel llety gwyliau, ond hefyd, yn hollbwysig, gall atal cartref rhag cael ei werthu fel pryniant i'w osod o fewn cyfnod rhagnodedig o amser, neu gyfuniad o'r ddau beth efallai. Rhaid cynyddu'r gyfran o dai fforddiadwy—a'r hyn a olygaf yw tai y gallwn eu fforddio—mewn datblygiadau newydd. Beth am fewnosod cymal sy'n ei gwneud yn orfodol i adeiladu tai fforddiadwy cyn i'r stoc gael ei hadeiladu? Ac rwy'n defnyddio'r gair 'datblygiad', ac efallai eich bod yn meddwl bod hynny'n awgrymu cynnydd, ond o ran tai y gallwn eu fforddio, mae'n ymddangos ein bod yn mynd tuag yn ôl.

Mae hanes yn dweud wrthym nad yw hyn yn newydd. Bron i 20 mlynedd yn ôl, cafwyd straeon am brisiau eiddo yn Abertyleri yn saethu i fyny o ganlyniad i fewnlifiad o bobl o Fryste yn chwilio am fargen eiddo am bris gostyngol. Heddiw mae gennyf etholwr nad yw'n gallu fforddio prynu tŷ ym Mryn Mawr am yr un rheswm yn union. Nid o ble y dônt yw'r pwynt, ond yr effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Nid cartrefi gwyliau ynddynt eu hunain yw'r pwynt, ond yr effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Y pwynt yw bod gennym argyfwng tai yng Nghymru ac mae'n effeithio ar ein cymunedau—ein holl gymunedau. Mae'r effaith ganlyniadol honno eisoes wedi cyrraedd rhai o'r cymunedau tlotaf a rhaid gofyn i ble y byddant yn mynd, os nad i ddigartrefedd. Mae gan y Llywodraeth hon ddyletswydd i weithredu a gweithredu yn awr. Os achosir digartrefedd—

16:20

—gan ddiffyg ewyllys wleidyddol, sut y caiff Llywodraeth ei barnu os byddant yn methu gweithredu yn wyneb argyfwng tai? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar iawn.

Rwy'n mynd i fod yn fyr iawn oherwydd rwy'n ymwybodol fod yna bwysau, yn amlwg, ond roeddwn i wir eisiau dweud ychydig eiriau ar fater tai. Mae gan lawer ohonom atebion gwych, a dylem fod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cynnwys y rheini mewn strategaeth gydlynol glir iawn.

Hoffwn sôn am ddau beth: y cyntaf yw fy nryswch gwirioneddol yma ynghylch safbwynt y Ceidwadwyr sy'n dweud ar y naill law eu bod am gael mwy o dai cymdeithasol, ac eto ar y llaw arall, maent am gael hawl i brynu. Oherwydd i mi yn fy ymennydd bach, mae hynny'n golygu eich bod yn mynd â thai o'r cyflenwad cymdeithasol ac nid ydych yn caniatáu i deuluoedd lleol allu eu cael. Credaf yn gryf y dylai pobl fod yn glir iawn nad yw hon yn strategaeth gydlynol, a diolch byth nad dyna'r ateb i Gymru.

Yr ail beth rwy'n awyddus i wneud sylw yn ei gylch yw'r broblem gydag ail gartrefi, mater y gwn ei fod wedi'i godi. Mae hyn mor bwysig ac mae'n fater y mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch ar frys. Yng Ngwynedd, mae 10 y cant o'r cartrefi yn ail gartrefi. Ac os gwelwn y ffordd y mae ail gartrefi'n mynd ar draws ardaloedd arfordirol a'r effaith a gaiff hynny ar y cymunedau ac ar y Gymraeg hefyd, mae angen inni wneud rhywbeth yn gyflym iawn. Ni wyddom beth yw hynny; ni cheir ateb unigol sy'n ein gadael mewn lle gwell. A yw'n fater o wneud mwy na dyblu'r dreth gyngor, efallai ei wneud yn ddeg gwaith cymaint, fel ein bod yn defnyddio'r arian hwnnw i'w roi i bobl ifanc a theuluoedd yn flaendal ar gyfer prynu tŷ? Gallai hwnnw fod yn un ateb. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych arno ac nad ydym yn ei ddiystyru. Tybed a ddylem edrych ar fater rhyddhad ardrethi ac edrych ar rywbeth a fyddai'n datrys hynny mewn gwirionedd? Tybed a ddylem edrych ar y sefyllfa yn ein cymunedau? Ac mewn gwirionedd, rwyf am weld rhywbeth sy'n golygu ein bod yn gwrando ar ein cymunedau, a'n bod yn gwrando hefyd ar dwristiaeth, oherwydd mae angen inni fod yn glir fod ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn effeithio ar ein diwydiant twristiaeth a'n diwydiant lletygarwch.

Hoffwn orffen gydag apêl ar Lywodraeth Cymru: gwnewch rywbeth ar frys ynglŷn ag ail gartrefi. Dewch â'r asiantaethau a'r diwydiannau sy'n gysylltiedig â'r mater at ei gilydd a gadewch inni gael rhywbeth sy'n wirioneddol radical a blaengar yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Cyn imi ddechrau, nid wyf yn derbyn unrhyw bregeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ail gartrefi pan fo gan rai ohonynt gartrefi yn Ffrainc, ac rwy'n credu bod gan y Democrat Rhyddfrydol yma ddau gartref hyd yn oed, ond dyna ni; gadawaf hynny yno.

Fel y gŵyr y Gweinidog, mae tai'n agos iawn at fy nghalon, a gan fy mod yn aelod cabinet llywodraeth leol dros dai, gwn yn iawn am y problemau y mae'r sector yn eu hwynebu. Oherwydd ar hyn o bryd mae'r farchnad eiddo yn anghytbwys, gyda dyheadau'r mwyafrif helaeth o bobl ifanc i fod yn berchen ar eu cartref yng Nghymru yn mynd ar chwâl. Mae pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu cloi allan o'r farchnad dai. Mae pobl sy'n gweithio ac ar gyflogau da yn ei chael hi'n anodd codi'r arian i dalu'r blaendaliadau enfawr sydd eu hangen i fodloni'r meini prawf ar gyfer cael morgais.

Mae'n ymddangos bod y freuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn atgof pell i fy nghenhedlaeth i. Y pris cyfartalog am dŷ yng Nghymru yw chwe gwaith y cyflog blynyddol, ac mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r blaendal angenrheidiol ar gyfer prynu tai—fel y clywsom gan Aelodau eraill, hyd yn oed y rheini sydd â banc mam a dad. Nid yw benthycwyr morgeisi wedi cadw i fyny â'r newid yn y marchnadoedd swyddi, ac mae'n anos yn awr nag erioed o'r blaen i fodloni meini prawf y prif fenthycwyr morgeisi. Rydym mewn sefyllfa o brinder yn y farchnad dai, a chaiff prisiau eu gwthio i fyny fwyfwy, gyda rhai ardaloedd yng Nghymru'n gweld cynnydd o 50 y cant yn y cynnydd cyfartalog ym mhrisiau tai.

Yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn profi prinder difrifol o eiddo ar rent, a phwysau chwyddiant bron yn wythnosol ar brisiau tai, a rhyfeloedd bidio rhwng prynwyr, a diwedd yn awr ar ddatblygu oherwydd y rheoliadau ffosffad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, mae datblygiadau cartrefi newydd yn fy etholaeth wedi dod i ben yn ddisymwth.

Mae tai bellach allan o gyrraedd cyfran fawr o fy nghenhedlaeth i ac eraill. Mae'r argyfwng tai hwn yng Nghymru yn gwbl annerbyniol. Mae gwleidyddion yn y Siambr hon ac yn ehangach yn siarad llawer am yr argyfwng tai, ond rydym yn methu mynd i'r afael â'r broblem.

Mae llawer o bobl yn y genhedlaeth hŷn yn berchnogion cartrefi sy'n elwa o'r degawdau o brisiau cynyddol yn y farchnad dai. Ond i'r rheini ohonom sydd eto i gael troed ar yr ysgol dai mae'n teimlo fel her anorchfygol. Nid yw'r tai fforddiadwy yno yn y niferoedd sydd eu hangen arnom, ac ni allwn gyflawni oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dangos gwir uchelgais i adeiladu mwy o gartrefi a neilltuo buddsoddiad ar raddfa fawr, llacio ceisiadau cynllunio, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen yn ein sector sgiliau i adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd.

Felly, Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud o ddifrif i helpu fy nghenhedlaeth i ac eraill i gael troed ar yr ysgol dai, yn hytrach na pharhau i wthio pobl i dai cymdeithasol neu'r sector rhentu preifat, nad yw ar gyfer pawb? Fe weithiaf gydag unrhyw un ar draws y Senedd hon i gyflwyno'r polisïau sydd eu hangen arnom i reoli'r sefyllfa hon, oherwydd nid yw'r strategaeth bresennol yn gweithio. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:25

Dwi eisiau canolbwyntio heddiw ar amodau tai, ac mae'n briodol, fel gwnaeth Janet ein hatgoffa ni gynnau heddiw, mae'n briodol wrth feddwl ei bod hi'n bedair blynedd ar ôl trychineb Grenfell. Mae’n glir o’m cyfarfodydd a’r negeseuon dwi wedi'u cael gan thrigolion fflatiau uchel yng Nghaerdydd fod yna ddryswch mawr ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y fflatiau yna yn ddiogel, a phwy sy'n gyfrifol am dalu'r costau i wneud y fflatiau yna yn ddiogel.

Heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, maent yn wynebu costau yswiriant enfawr, taliadau gwasanaeth a biliau i ymdrin â phroblem cladin, yn ogystal â gorfod ymdopi â'r straen feddyliol o wybod eu bod yn byw mewn adeilad anniogel ac na allant symud. Rhowch eich hun yn eu sefyllfa hwy, Weinidog; dychmygwch sut deimlad yw gorwedd yn y gwely yn y nos yn poeni am gostau ariannol parlysol, a mwy na hynny, am ddiogelwch eu teulu eu hunain. Mae'r preswylwyr yn teimlo fel cymunedau sydd wedi eu hanghofio, er bod llawer ohonynt yn gallu edrych allan drwy eu ffenestri ar ein Senedd. Maent yn teimlo eu bod wedi eu hanghofio ac maent yn aros i Lywodraethau o'r ddau liw, yn las ac yn goch, roi'r cymorth y maent ei angen iddynt.

Dywed Shelter Cymru na ddylai unrhyw breswylydd orfod talu am ddiffygion nad ydynt wedi'u creu eu hunain, ac rwy'n cytuno 100 y cant. Ni ddylai'r preswylwyr hyn dalu am ddiffygion pobl eraill. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arian sydd ei angen i sicrhau diogelwch tân a diogelwch yr adeiladau uchel hyn?

Oherwydd dyw'r cyllid eleni ddim yn ddigonol o bell ffordd. Mae'r gwaith hyd yn hyn yn araf iawn, a dyw'r gwaith, dyw'r costau hyd yn hyn, ddim yn cyfrif costau llogi scaffolding, llogi hoists ac ati, heb sôn am gost y cladin ei hun. Sut y bydd y Gweinidog yn gallu ein sicrhau ni a sicrhau trigolion y fflatiau fod y gwaith yn mynd i gael ei gwblhau cyn gynted â phosib? Mae trychineb Grenfell wedi dod â lot o bethau i'r fei, nid yn unig diogelwch y ffordd rŷm ni'n dylunio, adeiladu a rheoli adeiladau preswyl, ond hefyd y ffordd rŷm ni'n gwrando ar ac, yn bwysicach fyth, yn parchu'r bobl sy'n galw'r adeiladau yna yn gartref. Mae'n rhaid inni werthfawrogi'r pwysau aruthrol mae'r bobl yma oddi tano. Mae ganddynt lawer o gwestiynau y mae'n rhaid i'r Gweinidog eu hateb cyn gynted â phosibl, a dyma ychydig ohonyn nhw.

Yn gyntaf, nid oes modd gwerthu'r eiddo, Weinidog, ac mae eu gwerth bron yn sero gan na allant ennill ardystiad EWS1. Yna ni all darpar brynwyr gael morgais, felly ni allant werthu. Ac eto, mae eu treth gyngor yn parhau'n uchel iawn, rhai mor uchel â grŵp G. Gan fod y dreth gyngor yn seiliedig ar werth yr eiddo, a chan mai cynghorau sy'n gyfrifol am gymeradwyo'r adeiladau hyn a rhoi rheoliadau adeiladu i'r adeiladau hyn, a chaniatáu i adeiladau diffygiol gael achrediad wedyn, a ddylai cynghorau ostwng neu hyd yn oed gael gwared ar y dreth gyngor ar gyfer yr eiddo yr effeithir arnynt?  

Yn ail, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r gronfa unioni ar gyfer adeiladau y mae'r sgandal cladin yn effeithio arnynt? Deallwn fod y gyfran gyntaf gan Lywodraeth San Steffan wedi'i defnyddio i fynd i'r afael â COVID, ond mae wedi bod yn bedair blynedd ac nid yw'r gronfa wedi'i sefydlu eto. Prynodd y perchnogion eu fflatiau gyda phob ewyllys da. A all Llywodraeth Cymru warantu y bydd y gronfa, pan gaiff ei sefydlu, yn cynnwys adeiladau sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus ac adeiladau sy'n eiddo i unigolion preifat? 

Yn drydydd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd y datblygwyr y gwnaeth eu gwaith eilradd a'u hagwedd 'dim mwy na'r safon sy'n ofynnol yn gyfreithiol' ganiatáu i'r sgandal hon ddigwydd? A allant warantu y byddant yn dilyn dull Awstralia, a roddodd arian i'r lesddeiliaid yn gyntaf cyn mynd ar drywydd y datblygwr wedyn? 

Yn bedwerydd, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried estyn y dyddiad cau ar gyfer ad-daliadau treth trafodiadau tir? Byddai hon yn ffynhonnell enfawr i leddfu straen y preswylwyr. Ac yn olaf, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda Phlaid Cymru i geisio'r pwerau i gyflwyno treth ar elw datblygiadau mawr? Mae pobl mewn limbo. Cânt eu parlysu gan ofn a chânt eu llyffetheirio gan bwysau ariannol. Mae pobl yn methu ailnegodi morgeisi, mae pobl yn methu gwerthu eu fflatiau, mae gan bobl deuluoedd i'w magu, ac mae'r cof am drasiedïau fel tŵr Grenfell yn hunllef iddynt ddydd a nos. Maent angen gweld gweithredu ar frys, maent angen atebion gan Lywodraeth Cymru. Diolch yn fawr. 

16:30

Nodaf y gwelliannau a gynigiwyd gan y Torïaid ac rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr. Mae llawer o'r cyfraniadau yma heddiw wedi bod yn ddiddorol iawn. Nid oes ond raid inni edrych dros y ffin ar Loegr ac ar weithredoedd Llywodraeth y DU i weld y gwrthgyferbyniad llwyr rhwng agweddau at bolisi tai. Datgelwyd yr wythnos hon fod y teicŵn eiddo a'r biliwnydd John Bloor wedi rhoi £150,000 i'r blaid Dorïaidd—yn uniongyrchol i'r blaid Geidwadol—gwta 48 awr ar ôl i un o Weinidogion y Llywodraeth gymeradwyo cynllun tai dadleuol ganddo a oedd yn mynd yn erbyn y cyngor tref a etholwyd yn ddemocrataidd ger Ledbury a oedd wedi'i wrthod.

Yng Nghymru, rydym yn ceisio cartrefu'r digartref, cefnogi perchnogion tai a helpu rhentwyr, a pheidio â rhyngu bodd datblygwyr sy'n gorelwa. Yng Nghymru, rydym yn dewis gwella cartrefi sy'n bodoli'n barod, brwydro i ymladd tlodi tanwydd a chreu swyddi mawr eu hangen, cyfleoedd hyfforddi newydd a chadwyni cyflenwi, a hynny ar sylfaen polisi gwyrdd carbon niwtral. Am y tro cyntaf ers degawdau, mae awdurdodau lleol yn adeiladu tai cyngor eto, a chyflawnwyd hyn drwy ddod â'r hawl i brynu i ben yng Nghymru, fel y dehonglodd Jane Dodds yn gywir, a hynny er mwyn diogelu tai rhent cymdeithasol i'r rhai sydd eu hangen, a chodi'r cap ar fenthyca gan awdurdodau lleol.  

Yn y pumed Senedd, rhagorodd Llywodraeth Lafur Cymru ar ei tharged o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Mae'r cynnydd hwn yn nifer y tai fforddiadwy—ie, tai y gallwn eu fforddio—yn ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai dros y pum mlynedd diwethaf. Yn y chweched Senedd hon, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol. Ar ôl pandemig, ni fu erioed cymaint o'u hangen.

Ddirprwy Lywydd, rydym am weld pobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a dyna pam y mae prynu tŷ wedi'i wneud yn llawer mwy fforddiadwy drwy'r cynllun Cymorth i Brynu, sydd bellach yn rhagori ar ei darged o 6,000. Fodd bynnag, tai cymdeithasol i'w rhentu, fel y dywedodd Mike Hedges—rhent fforddiadwy—sy'n darparu asgwrn cefn i bob cymdeithas fwy cyfartal, ac yn awr, yng Nghymru, diolch i newid strategol, mae awdurdodau lleol bellach yn gallu adeiladu eto, a byddwn yn ehangu hyn. Mae Mike Hedges yn iawn eto ynghylch tai cydweithredol: mae angen inni ehangu'r maes hwn. Mae'r pandemig wedi datgelu ymhellach pa mor benderfynol yw Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd, gan na ddylid gorfodi neb byth i fyw ar strydoedd peryglus ac afiach ym mhob tywydd. Ac ers y cyfyngiadau symud, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi llety i 7,000 o bobl ac wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i ddechrau trawsnewid gwasanaethau digartrefedd, gan gynnwys galluogi cymorth cyson gwirioneddol bwysig, i gefnogi'r symud ymlaen i gartrefi parhaol. Yn syml, mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch ym maes tai ac mae'n un rwy'n ei gefnogi'n llawn ac yn llwyr. Diolch.

16:35

Roedd y cyfraniad cyntaf a wneuthum yn y Siambr hon yn 2016 yn ymwneud â thai, ac roedd yn ymwneud yn benodol â chynllun datblygu lleol Caerffili. Fel cynghorydd yng Nghaerffili, roeddwn i'n un o leiafrif o gynghorwyr a bleidleisiodd yn erbyn cynllun datblygu lleol arfaethedig Caerffili yn 2016. Ar y pryd, awgrymodd fy nghyd-Aelod Pred wrthyf fy mod yn gwneud hynny am resymau gwleidyddol. Credwch fi, roeddwn yn ei wneud oherwydd fy mod o'r farn ei fod yn gynllun gwael iawn ac angen ei roi heibio. Credaf imi brofi fy hun, Pred, oherwydd pan ddeuthum i'r Siambr hon, un o'r pethau cyntaf a godais oedd yr angen i roi'r gorau i'r CDLl hwnnw, ac yn sicr ddigon cafodd CDLl Caerffili ei ddileu o fewn tri mis i fy ethol i'r lle hwn.

Y rheswm pam nad oedd y CDLl hwnnw'n gweithio oedd oherwydd ei fod yn gweithio tuag at y cyflenwad tir ar gyfer tai, nid fforddiadwyedd tai, a daeth pwysau gan Redrow a Persimmon i adeiladu yn ne Caerffili er mwyn tynnu pwysau oddi ar ardaloedd lle mae galw mawr yng Nghaerdydd—er mwyn i dde Caerffili ddod yn dref gymudo. Dyna pam y gwrthwynebasom y CDLl hwnnw. Yn anffodus, nid oedd yn diogelu ardal Gwern y Domen, a gafodd ei diogelu o ganlyniad i gael gwared ar y CDLl, ond roedd yna ardal yn y CDLl a gâi ei diogelu, sef Hendredenny, ac rydym yn gwybod onid ydym, Pred, fod adeiladu'n digwydd yn Hendredenny ar hyn o bryd, gan Redrow, a dyma ran o'r broblem.

Yr ateb a awgrymais yn 2016, Weinidog, oedd yr angen, fel y nodwyd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, am gynllun datblygu strategol—cynllun datblygu strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Nid ydym wedi gweld un eto. Prifddinas-ranbarth Caerdydd sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf ar gynllun datblygu strategol, ond os ydym am dynnu pwysau oddi ar ardaloedd lleol ac edrych ar ardal ehangach, rhaid inni gael cynlluniau datblygu strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Cyflwynwyd y Ddeddf yn 2015 i ganiatáu hynny. Rhaid eu gweithredu yn awr.

Y mater arall rwyf am ei godi—. Rwy'n mynd i fod yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r mater arall roeddwn am ei godi yn gysylltiedig â hynny. Lle mae Redrow yn adeiladu tai, maent wedyn yn trosglwyddo ardaloedd gwyrdd i berchnogaeth, nid yr awdurdod lleol, ond ceidwaid tir preifat a elwir yn gwmnïau rheoli ystadau, sy'n codi tâl ar breswylwyr rhydd-ddaliadol ar ben eu treth gyngor am gynnal a chadw'r mannau hynny. Nid oes terfyn ar ba mor uchel y gall y ffioedd hynny fod ac nid oes terfyn ar faint y gallant ei godi. Nid oes rhaid iddynt fod yn codi tâl am yr hyn a wnânt ar y tir hyd yn oed; gallant ddefnyddio gorbenion o fannau eraill yn eu cwmni. Pe bai pobl yn y Siambr hon am ddod at ei gilydd a chreu cwmni rheoli ystadau, gallent wneud hynny yn awr a dechrau codi tâl ar breswylwyr. Dyna'r broblem gyda 'gorllewin gwyllt' y diwydiant tai sydd angen ei reoli. Gwn fod y Gweinidog o ddifrif ynglŷn â hyn, oherwydd gwnaeth yn siŵr ei fod ym maniffesto'r Blaid Lafur. Mae hi eisoes wedi agor ymgynghoriad ac wedi galw am dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth ger ei bron, felly edrychwn ymlaen at gynnydd ar hyn.

Felly, dyna ddau beth yr hoffwn weld cynnydd arnynt: cynlluniau datblygu strategol a thaliadau rheoli ystadau. Weinidog, hoffem weld gweithredu cyn gynted â phosibl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, gadewch imi ddiolch yn ddiffuant i Blaid Cymru, a Siân Gwenllian, y gwnaed y cynnig yn ei henw, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon mor gynnar yn nhymor y Senedd. Rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi nad ydym wedi diwygio'r cynnig a gyflwynwyd gennych. Ni wnaethom hynny oherwydd ein bod yn cytuno bod yna argyfwng tai. Bydd yr Aelodau o'r Senedd wedi gweld cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu yn gynharach yr wythnos hon. Mae'n glir iawn ynglŷn â'n hymrwymiad i fod yn uchelgeisiol ac yn radical, i weithredu ac i fynd i'r afael â heriau yn uniongyrchol, ac i wella bywydau pawb ledled Cymru.

Mae'r pandemig wedi ffocysu meddyliau pawb ohonom ar yr angen i bawb gael mynediad at gartref diogel, fforddiadwy, ac wrth gwrs, mae wedi tynnu sylw at yr heriau enfawr y mae pobl heb gartref parhaol yn eu hwynebu. Efallai yn awr yn fwy nag erioed ein bod yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'n ei olygu i gael to diogel dros ein pennau, rhywle i'w alw'n gartref, ac adlewyrchir hyn yn fawr yn ein rhaglen lywodraethu.

Ddirprwy Lywydd, yn sicr ni fydd gennyf amser i roi sylw priodol nac i ymdrin yn fanwl â'r holl faterion a godwyd gan yr Aelodau ar draws y Senedd heddiw. Byddai angen fy amser ar gyfer pob un o'r materion a godwyd yma i allu gwneud cyfiawnder ag ef. Felly, byddwn yn gobeithio'n fawr y gallwn gael nifer o ddadleuon ar draws y materion a godwyd heddiw ac y byddwn yn gallu cydweithio ar draws y Senedd i ddatrys rhai o'r problemau hyn, ac rwy'n credu bod rhywfaint o gonsensws ar hynny.

Gan adeiladu ar y sylfeini cryf a osodwyd gennym yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol—cartrefi wedi'u hadeiladu'n dda a diogel o ran yr hinsawdd y mae teuluoedd am eu cael ac y gallant eu fforddio. Gwnaethom ragori ar ein targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor diwethaf y Senedd; bydd y targed ar gyfer y tymor hwn yn fwy heriol eto, gan ganolbwyntio fel y mae ar 20,000 o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. Felly, yn llawer mwy penodol na'r diffiniad o dai fforddiadwy y bydd yr Aelodau wedi'i weld ac wedi ei anghymeradwyo yn gynt. Soniodd nifer o bobl amdano yma heddiw.

Nodir manylion ein targed tai yn y datganiad gweinidogol a gyhoeddais yn gynharach yn yr wythnos. Mae'r datganiad yn ei gwneud yn glir, er mwyn cefnogi cymunedau gwirioneddol gynaliadwy, y byddwn yn sicrhau bod datblygiadau'n darparu tai gyda deiliadaeth wirioneddol gymysg ar draws y sbectrwm cyfan o ddeiliadaethau, o dai perchen-feddianwyr a rhanberchnogaeth i gartrefi i'w rhentu y gall pobl eu fforddio. Mae llawer o fanteision i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a thai gwyrddach. Gall greu swyddi lleol, cyfrannu at ddatgarboneiddio, adeiladu'r economi sylfaenol, datblygu sgiliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, a darparu cartrefi o ansawdd gwell wrth gwrs, gan helpu i wneud digartrefedd yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.

Mae'n gwbl hanfodol fod ein ffocws ar dai cymdeithasol yn parhau, felly er inni ragori ar ein targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, mae ein hymrwymiad ar gyfer y tymor hwn yn codi'r bar mewn dwy ffordd arwyddocaol iawn. Yn gyntaf, byddant i gyd ar gyfer eu rhentu yn y sector cymdeithasol, ac yn ail, byddant i gyd yn gartrefi carbon isel, yn garedig i'r hinsawdd, yn gynnes ac yn fforddiadwy. Gadewch imi fod yn glir nad yw'r targed hwn yn ymwneud o gwbl â thai'r farchnad. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r pecyn cymorth yma yng Nghymru i sicrhau y gall pobl a theuluoedd gael cartref sy'n iawn iddynt hwy, ond nid yw'n rhan o'r targed o 20,000 a osodwyd gennym i ni ein hunain.

Mae'r targed yn un heriol. Mae ein hamcangyfrifon o anghenion tai yn dangos, o dan amcangyfrifon canolog, fod angen tua 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, ac mae hyn yn cynnwys angen am 3,500 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol bob blwyddyn. Mae'r targed yn mynd y tu hwnt i hynny ac rwy'n credu ei bod yn hollol briodol ei fod yn gwneud hynny. I gydnabod ein hymrwymiad parhaus i dai cymdeithasol, rydym eisoes wedi dyrannu £250 miliwn, sy'n ffigur uwch nag erioed, i'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn fwy na dwbl y gyllideb a welwyd yn 2020-21. Ac wrth gwrs, mae cyflenwad o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy yn hanfodol i ddatrys digartrefedd. Fodd bynnag, mae arnom angen y systemau, y polisïau a'r arferion hefyd sy'n cynorthwyo pobl i ffynnu yn y cartrefi ar ôl iddynt eu cael.

Rwyf mor falch o'r sector tai cyfan a'r ffordd y daethant at ei gilydd yn ystod y pandemig. Roedd yn rhywbeth a wnaeth Cymru'n dda iawn ac rwy'n teimlo'n freintiedig ac yn falch imi fod yn rhan ohono. Byddwn yn gallu adeiladu ar y gwaith gwych a wnaethom yn ystod y pandemig i drawsnewid yn sylfaenol ein dull o ymdrin â digartrefedd, gan ei wneud yn wirioneddol ataliol, a lle na ellir ei atal, sicrhau bod dulliau ailgartrefu cyflym yn golygu ei fod yn ddigwyddiad prin, byr ac yn brofiad na chaiff ei ailadrodd. Yn ystod y pandemig, rydym wedi cynorthwyo ymhell dros 10,000 o bobl i gael llety dros dro. Profasom y gallwn ymateb i'r her o ailgartrefu pawb yn gyflym yn eu munud o angen, heb ddogni na blaenoriaethu. Mae'r buddsoddiadau a wnaethom hyd yma yn fwy nag ateb tymor byr yn unig i argyfwng uniongyrchol; mae'n ddechrau taith drawsnewidol tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru am byth. Bellach mae gennym gyfle unigryw i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd a mabwysiadu dull gwirioneddol gynhwysol i sicrhau na chaiff neb ei adael heb lety neu gymorth. Rhaid inni symud o ddibynnu ar lety dros dro i system sy'n canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Mae argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn cefnogi hyn ac yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru, lle mae atal ac ailgartrefu'n greiddiol i'n polisïau a'n hymarfer ar ddigartrefedd.

Wrth gwrs, gall atal fod yn gymhleth. Mae atal yn greiddiol i'n grant cynnal tai. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol a'u helpu i gynnal tenantiaethau ac atal digartrefedd. Dyna pam y gwneuthum sicrhau cynnydd o £40 miliwn ar gyfer y grant eleni—cynnydd o tua 32 y cant. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd cymorth tai fel rhan o'r agenda ataliol honno. Ond rydym yn cydnabod y bydd trawsnewid digartrefedd yn cymryd nifer o flynyddoedd. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol eleni; rydym wedi rhyw fath o brofi'r cysyniad, os mynnwch, ac rydym yn sicr ar y trywydd bellach i wneud i hyn ddigwydd yng Nghymru.

Ochr yn ochr â hynny, mae'r Llywodraeth wedi dweud yn glir y bydd yr amgylchedd hefyd yn ganolog yn ein penderfyniadau. Wrth greu'r weinyddiaeth hon ar gyfer newid hinsawdd, rydym wedi dwyn ynghyd yr amgylchedd, ynni, tai ac adfywio, cynllunio a thrafnidiaeth, gan roi cyfle gwirioneddol i ni a'r holl ddulliau hanfodol i ddatblygu'r cymunedau cynaliadwy y mae pobl Cymru eu heisiau a'u hangen. Nid sedd wrth fwrdd y Cabinet yn unig sydd i'r amgylchedd; bydd yn ystyriaeth ym mhob dim a wnawn. Rydym yn awr yn datblygu safonau tai newydd yn y rhaglen grant tai cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ansawdd, gofod, ynni a datgarboneiddio.

Bydd yr Aelodau a oedd yma o'r blaen yn gwybod ein bod eisoes wedi lansio'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio i ddechrau cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio ar gyfer y stoc dai bresennol yng Nghymru, gan gyflwyno cartrefi, swyddi a sgiliau gwell y dyfodol, yn ogystal â bwrw ymlaen i adeiladu o'r newydd. Rydym yn croesawu arloesedd a dulliau newydd o adeiladu tai ac ôl-osod tai drwy ein rhaglen tai arloesol a chefnogi dulliau adeiladu modern.

Nid yw ein hymrwymiad i sicrhau bod gan deuluoedd ac unigolion fynediad at dai sy'n eu galluogi i ffynnu wedi gwyro, ac nid yw ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r rhwystrau i bawb rhag cael lle gweddus i'w alw'n gartref yn dod i ben gyda'r rhai rwyf wedi'u hamlinellu y prynhawn yma. Rydym hefyd yn darparu atebion sy'n cael eu harwain gan dai i anghenion iechyd a gofal pobl, wedi'u llywio gan ein cronfa gofal integredig. Byddwn yn parhau i ymladd y rhwystrau a'r rhagfarn y mae tenantiaid yn eu hwynebu rhag cael mynediad a rhag cael aros yn eu cartref rhent preifat.

Roeddwn yn cytuno ag un peth a ddywedodd Janet: mae'n gywir i ddweud bod y mwyafrif llethol o landlordiaid yng Nghymru yn landlordiaid da a'n bod yn gweithio'n dda iawn gyda hwy. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn arf ardderchog yn ystod y pandemig, oherwydd yn wahanol i Lywodraethau eraill y DU, rydym yn gwybod ble mae ein landlordiaid, rydym mewn cysylltiad â hwy ac rydym yn gallu cysylltu â hwy'n uniongyrchol. 

Ond rydym hefyd am wneud gwelliannau sylweddol i'r diogelwch a roddwn i'n tenantiaid a'u gallu i dalu. Fel y gwyddom i gyd, pan fydd gennych flwyddyn o ôl-ddyled rhent, nid ydych yn mynd i allu ei had-dalu os ydych ar incwm isel, felly byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau cymorth i'r tenantiaid hynny er mwyn eu galluogi i aros yn eu cartrefi—gan alluogi'r landlordiaid hefyd wrth gwrs i elwa o'r rhent y gall y tenantiaid ei dalu wedyn—ac yn bwysig iawn, er mwyn atal y bobl hynny rhag dod yn ddigartref hefyd, ar ben yr argyfwng llety dros dro sydd gennym eisoes ac sy'n gwaethygu.

Byddwn yn rhoi camau sylweddol ar waith i wella diogelwch adeiladau fel bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi, a chawsom i gyd ein hatgoffa o bwysigrwydd hynny yr wythnos hon a hithau'n bedair blynedd ers trychineb Tŵr Grenfell, mater y gwnaethom ddechrau trafodaeth arno yn gynharach heddiw. Nid oes gennyf amser yn awr i fanylu ar hynny i gyd, ond rwy'n eich sicrhau ein bod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â nifer o'r preswylwyr ac rydym yn gweithio'n galed iawn i ddatgloi rhai o'r cymhlethdodau hynny.

Ochr yn ochr â chreu lleoedd da, gan adfywio canol ein trefi i fod yn fwy hyblyg ac ystyriaethau ehangach fel teithio llesol, byddwn yn darparu safleoedd enghreifftiol fel rhai i arwain y ffordd ar gyfer y dyfodol. 

Yn olaf, ond nid yn lleiaf wrth gwrs, rydym yn cydnabod y problemau difrifol iawn sy'n ymwneud â niferoedd uchel o ail gartrefi yn rhai o'n cymunedau ledled Cymru, ac yn enwedig cynaliadwyedd hirdymor ein cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith. Mae ymdrin â'r materion hynny yn flaenoriaeth lwyr i ni, a bydd ein cynllun tai cymunedol Cymru yn ymdrechu i fynd i'r afael â'r pwysau a wynebir gan y cymunedau hynny. Mae grŵp gorchwyl gweinidogol traws-bortffolio eisoes wedi'i ffurfio ac yn gweithio.

Mae'n amlwg fodd bynnag nad oes ateb unigol a all ddatrys y materion cymhleth niferus dan sylw, fel y gwelwyd yn glir o nifer y cyfraniadau gyda nifer fawr o syniadau a roddwyd ar y llawr heddiw, syniadau rydym yn hapus i'w harchwilio. Ond mae ein nod yn glir ac yn un a rennir, rwy'n credu: rydym yn sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i allu fforddio byw yn y cymunedau y maent wedi tyfu i fyny ynddynt, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd a bywiogrwydd hirdymor y cymunedau hynny. 

Mae gennym ewyllys ac awydd i ymgysylltu'n eang er mwyn datblygu ein hymrwymiadau maniffesto. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y rhaglen lywodraethu—

16:45

—un frawddeg arall—byddwn bob amser yn rhoi cydweithio o flaen cystadleuaeth. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar, ond rwy'n fodlon gweithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i wireddu'r dibenion hynny. Diolch.

Galwaf yn awr ar yr Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno siarad. Jenny Rathbone.

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i eisiau codi ychydig o bethau. Un ohonynt yw fy mod yn cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod angen i bawb gael lle gweddus y gallant ei alw'n gartref, ac mae hynny gymaint yn fwy braf na'r iaith a ddefnyddir gan James Evans, er enghraifft, sy'n sôn am yr ysgol dai. Cefais fy syfrdanu'n fwy byth o'i weld yn sesiwn friffio Shelter Cymru, sy'n sôn am yr ysgol eiddo.

Un o'r problemau mwyaf sydd gennym yn ein heconomi yw'r cymhellion negyddol i fuddsoddi cyfalaf dros ben mewn brics a morter yn hytrach na gweithgaredd cynhyrchiol. Rywsut, mae angen inni newid y ffordd o feddwl am gartrefi. Un ffordd yw edrych ar ddiddymu rhyddhad treth ar enillion cyfalaf ar gartrefi cyntaf, ond gallai hynny arwain, yn amlwg, at gymhellion negyddol eraill. Ond yn sicr mae angen inni edrych ar gartrefi, yn hytrach na thai fel buddsoddiad.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac dwi'n falch iawn o grynhoi'r drafodaeth bwysig, gynhwysfawr rydyn ni wedi'i gael ar faes tai y prynhawn yma. Rydyn ni wedi trafod prinder tai, ail gartrefi, diogelwch, cynllunio, ffioedd rheoli—mae'r rheini i gyd wedi cael sylw gennym ni. Beth sy'n hollol glir ydy'r angen am ymyrraeth, a hynny ar frys.

Mae'r prinder tai fforddiadwy i'w rhentu neu i'w prynu yn tanseilio cymunedau ledled Cymru, ac yn chwalu gobeithion pobl ifanc. Mae o'n broblem genedlaethol ym Mlaenau Gwent fel ag ym Meirion Dwyfor. Mae anghyfartaledd incwm yn golygu na all unigolion a theuluoedd gystadlu yn y farchnad. Yn siroedd y gorllewin, o benrhyn Gŵyr i Amlwch, mae diffyg cyfleon gwaith â chyflog teg a rhestrau aros hirfaith am dai, ynghyd â gormodedd o ail gartrefi yn creu sefyllfa argyfyngus mewn ardaloedd eang o gefn gwlad. Mae newidiadau pellgyrhaeddol yn digwydd yn arswydus o gyflym o'n cwmpas ni yn ein cymunedau.

Twf economaidd cyfartal ar draws Cymru ydy un rhan o'r ateb, ie; adeiladu tai addas yn y llefydd iawn—mae angen i hynny hefyd ddigwydd. Ond rydyn ni'n galw heddiw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys yn y meysydd rheini lle mae modd symud arnyn nhw yn gyflym, a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau ni. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi llywodraeth leol er mwyn iddyn nhw fedru gweithredu i fynd i'r afael efo'r broblem. Ac un enghraifft: mi fedrai Llywodraeth Cymru ariannu cynlluniau gweithredu tai cynhwysfawr a blaengar, fel sydd wedi cael ei ddatblygu gan Gyngor Gwynedd. A gaf fi ddweud wrth y Ceidwadwyr, ac mae Jane Dodds yn hollol iawn: nid adfer right to buy ydy'r ateb? Mae'r polisi yna wedi gwaethygu'r argyfwng tai ers blynyddoedd wrth i'r stoc tai cyhoeddus grebachu, a phobl fregus yn cael eu gadael ar ôl.

Er mwyn delio efo'r sefyllfa ail gartrefi—ac mae rhaid gwneud hyn ar fyrder, ac rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cydnabod hynny—mae yna nifer o gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd. Dwi ddim yn mynd i fanylu arnyn nhw rŵan; rydyn ni fel plaid wedi manylu ar sawl maes lle medrid diwygio deddfwriaeth yn gyflym iawn er mwyn creu newid. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod o'n awyddus i gydweithio efo pleidiau eraill, ac mae o hefyd wedi dweud nad oes yna ddim un datrysiad syml i’r argyfwng ail gartrefi. Ac, wrth gwrs, dwi'n cytuno—rydyn ni ddim yn honni bod yna ateb syml i'r broblem, ond mae yna faterion cwbl ymarferol y gellid cychwyn eu rhoi ar waith tra rydym yn cael y drafodaeth ehangach yna o gwmpas beth sydd ei angen yn y tymor hir i greu cymunedau cynaliadwy.

Rydyn ni wedi gosod allan ein syniadau ni sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydw i wedi sefyll yn y man yma ni wn i faint o weithiau yn sôn am faterion trethi, materion cynllunio, materion cyllidol y gellid mynd ati ar unwaith i weithredu arnyn nhw. So, dyna beth rydyn ni ei eisiau rŵan: gweithredu er mwyn sicrhau bod gan bawb yr hawl i fyw yn eu cymuned, bod gan bawb gartref, rhywle i fyw, lloches. Felly, gweithredwch, da chi. Gwnewch y pethau rydych chi'n medru o fewn eich gallu chi cyn ei bod hi'n mynd rhy hwyr. Ie, trafodwn yn y man yma eto, ond rydyn ni eisiau gweld arwyddion rŵan o weithredu. Mae'r trafod angen parhau; mae'r gweithredu angen digwydd. Mae ein cymunedau ni angen gweld hynny. Mae ein pobl ifanc ni angen gweld bod Llywodraeth eu gwlad nhw yn cymryd yr argyfwng yma o ddifrif ac yn barod i symud ac i roi materion ar waith sydd yn mynd i helpu dechrau datrys problem fawr yn ein hoes fodern ni yma yng Nghymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?

A glywais i un? Naddo.

Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16:55

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ocê. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i gyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:55.

17:00

Ailymgynullodd y Senedd am 17:00, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

8. Cyfnod Pleidleisio

Croeso nôl, a symudwn yn awr at y bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio wedyn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

Eitem 6 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, roedd 15 yn ymatal a 12 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.

Eitem 6 - Gwelliant 1 - Cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 29, Yn erbyn: 12, Ymatal: 15

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM7712 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) hyrwyddo llwyddiannau ym maes chwaraeon yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd a gallu ein pobl ifanc ym maes chwaraeon a galluogi ein diwydiant chwaraeon i gynnal ei enw da ar y llwyfan byd-eang;

b) buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a dawnus a chlybiau llawr gwlad;

c) buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau artiffisial 3G.

2. Yn cydnabod hanes llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ddenu digwyddiadau uchel eu proffil yn y maes diwylliannol, busnes a chwaraeon i Gymru.

3. Yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed hŷn Cymru yng ngemau eraill y Pencampwriaethau Ewropeaidd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, roedd 14 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Eitem 6 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 42, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A daw hynny â ni at ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch yn fawr iawn, siwrnai ddiogel i chi, a mwynhewch y pêl-droed.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:02.