Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
12/04/2021Y Cofnod yw'r adroddiad swyddogol o drafodion Senedd Cymru a chaiff ei gyhoeddi gan Gomisiwn y Senedd yn unol ag adran 31(6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog y Senedd.
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 11:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Bore da, bawb. Mae'r Senedd wedi ei hadalw heddiw fel bod modd i'n Senedd genedlaethol fedru talu parch, yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Mae’n addas ein bod, fel Senedd, yn unol â Seneddau cenedlaethol eraill, yn cyfarfod i gydymdeimlo â’i Mawrhydi y Frenhines a’r teulu brenhinol. Rhoddodd y Tywysog flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth milwrol yn ystod yr ail ryfel byd a chreu Gwobr Dug Caeredin, sydd wedi rhoi profiadau a chyfleoedd hollbwysig i gannoedd ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt. Dwi nawr yn gofyn i’r Aelodau nodi munud o dawelwch.
Cynhaliwyd munud o dawelwch.
Diolch, bawb.
Mi wnaf i nawr alw ar y Prif Weinidog i arwain y teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin. Y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Bydd bywyd hir iawn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn dyst i ddigwyddiadau rhyfeddol, a chyfran o brofiadau i’w mwynhau neu i’w dioddef. Mwy rhyfeddol fyth yw byw bywyd o’r fath yng nghanol digwyddiadau rhyngwladol, a gwneud bron pob profiad o ddiddordeb cyhoeddus, yn hytrach nag o ddiddordeb preifat. A dyna oedd bywyd Dug Caeredin.
Llywydd, yn ein hetholiad ni, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn pleidleisio am y tro cyntaf; pan anwyd y Tywysog Philip, nid oedd menywod yn y wlad hon wedi pleidleisio erioed. Yn y flwyddyn pan oedd yn 16 oed, roedd Stanley Baldwin a Neville Chamberlain yn Brif Weinidogion. Os yw'n swnio fel oes yn ôl, mae hynny oherwydd ei fod oes yn ôl. Ac mewn ffordd nad yw llawer o bobl yn gorfod ymdopi â hi, roedd yn rhaid i'r bywyd hwnnw a oedd yn dyst i'r holl newidiadau hynny eu hamsugno i gyd gan fod yn llygad y cyhoedd bron bron bob amser, yn cael ei weld yn barhaus, bob amser yng nghanol y sylw, bob achlysur yn achlysur arbennig.
Byddwn i gyd wedi clywed teyrngedau yn ystod y dyddiau diwethaf yn canolbwyntio, a hynny yn gwbl briodol, ar y thema gwasanaeth cyhoeddus, ond mae'n werth oedi am eiliad i gofio'r stori ddynol sy'n mynd ochr yn ochr â'r gwasanaeth a'r degawd ar ôl degawd y cafodd y gwasanaeth hwnnw ei gynnal.
A'r gwasanaeth yma yng Nghymru hefyd, wrth gwrs. Erbyn hyn, bydd yr Aelodau wedi cael eu hatgoffa bod y Tywysog Philip, yn ogystal â bod yn Ddug Caeredin, hefyd yn Iarll Meirionnydd. Nid yw’n syndod, felly, ei fod yn noddwr i amrywiaeth o gymdeithasau ym Meirionnydd, o glwb criced i glwb hwylio i fand pres Meirionnydd. Dyna ambell enghraifft o'r amrywiaeth eang o achosion roedd yn ymwneud yn uniongyrchol â nhw yng Nghymru ym maes diwylliant, chwaraeon a’r amgylchedd.
Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf wedi gweld llawer o deuluoedd yn wynebu'r galar o golli rhywun y maen nhw wedi'i garu. Sut bynnag y mae'n digwydd, mae pob colled yn cael ei theimlo'n unigryw gan y rheini y bydd y person hwnnw'n gadael bwlch yn eu bywydau na all neb arall ei lenwi. Mae ein meddyliau heddiw gyda'r aelodau hynny o'r teulu brenhinol ehangach, y mae'n rhaid iddyn nhw wynebu'r golled honno o dan yr amgylchiadau arbennig o ofidus a achosir gan yr argyfwng iechyd y cyhoedd.
Llywydd, pan symudais i adran iau Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model yng Nghaerfyrddin, cymerais ran mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd. Roedd nifer fechan o fechgyn a merched llawer mwy i fod i deithio i Gaerdydd—lle a oedd yn swnio fel lle pell a phwysig iawn, mi gofiaf—i fynychu digwyddiad o dan arweiniad llywydd y gronfa yn y DU, Dug Caeredin. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ymdeimlad o wrthdrawiad y personol a'r hanesyddol wedi bod yno i'w weld yn ymateb cynifer o'n cyd-ddinasyddion. Mae'n dweud rhywbeth wrthym am bresenoldeb y Tywysog Philip drwy gydol oes pob un Aelod o'r Senedd hon.
Ar ran Llywodraeth Cymru a'r rheini sy'n ei chefnogi yn y Senedd hon, a oedd ei hun yn ddatblygiad anferth arall yn ystod ei fywyd, rwy'n estyn ein cydymdeimlad didwyll ar derfyn bywyd eithriadol a gafodd ei fyw i'r eithaf. Llywydd, diolch yn fawr.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n siŵr na fyddai yr un ohonom yn dymuno bod yma heddiw, ond mae'n wirioneddol briodol ein bod yn talu teyrnged i Ddug Caeredin ar achlysur trasig ei farwolaeth. Byddai'n llawer gwell gennym ni fod yn ymgyrchu'n frwd, rwy'n siŵr, a Dug Caeredin, yn amlwg, yn dal gydag Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ei chefnogi yn ei swydd fel y gwnaeth am gynifer o flynyddoedd a chymaint o ddegawdau. Saith deg tri o flynyddoedd yn ŵr, bron i 70 mlynedd yn gydweddog—mae hwnnw'n fywyd o wasanaeth cyhoeddus y mae'n siŵr na fyddwn ni byth yn ei weld eto.
O gyfnod cynnar ei fywyd, a oedd yn amlwg yn fywyd o drawma, yr oedd heb ddinasyddiaeth yn ifanc iawn, cafodd ei achub o Wlad Groeg gan long ddistryw Prydeinig, ei anfon i'r ysgol yn Lloegr, ac yna ei wasanaeth milwrol, a chael ei enwi mewn adroddiadau, mae'r cwbl yn gofnod rhagorol o ddyn ifanc a gymerodd reolaeth dros ei fywyd a'i ddefnyddio er lles y cyhoedd mewn cyfnod llwm iawn yn Ewrop a'r byd. Yna, priodi Ei Mawrhydi y Frenhines ym 1947 a dod yn gydweddog am oes, a bod mor gefnogol a bod yn brif gynheiliad i'r teulu brenhinol mewn degawdau a degawdau o wasanaeth cyhoeddus y gall llawer ohonom ddim ond edrych yn ôl a'i edmygu gyda gwir edmygedd. Tri ar ddeg o Brif Weinidogion, 13 o Arlywyddion yr Unol Daleithiau a thri Phrif Weinidog yma yng Nghymru—yn wir yn hanes na ragorir arno wrth i ni symud ymlaen i'r dyfodol.
Ond mae hefyd yn hanes o ddathlu y dylem ganolbwyntio arno gan ei fod yn rhywun mor arwyddocaol wrth iddo gefnogi pobl ifanc yn yr hyn yr oeddent yn ei wneud yn eu bywydau. Mae cynllun Dug Caeredin wedi cefnogi 8 miliwn o bobl ifanc ledled y byd, a miliynau lawer o bobl yma yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru yn arbennig, mae 400,000 o bobl wedi eu rhoi ar y ffordd i ddyfodol o ragolygon disglair drwy ddatblygiad cynllun Dug Caeredin ym 1956. A hefyd cefnogaeth i sefydliadau yma yng Nghymru, fel y soniodd y Prif Weinidog, pan briododd Ei Mawrhydi y Frenhines ym 1947 a chael ei urddo yn Iarll Meirionnydd, i fod yn Ganghellor Prifysgol Cymru ac yn noddwr cynghrair pêl-droed Cymru, a channoedd lawer o sefydliadau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a'r byd, yn wir.
Yn ogystal â myfyrio ar ei gefnogaeth gref i achosion bywyd gwyllt ac amgylcheddol, a oedd, i lawer o bobl, ymhell cyn eu hamser yn y 1960au a'r 1970au, mae bellach wedi datblygu i fod yn thema graidd newid hinsawdd a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i wella'r amgylchedd a hinsawdd a'r rhagolygon ar gyfer bywyd gwyllt ledled y byd.
Yn yr un modd, roedd ei wasanaeth yn y lluoedd arfog, ac yn benodol yn y Llynges Frenhinol, yn ei roi mewn sefyllfa dda i gefnogi'r elusennau milwrol a oedd yn cefnogi cyn-filwyr drwy gydol eu hoes. Ac, yn y pen draw, un o'm hatgofion olaf ohono oedd y llun hwnnw ohono gyda'r Môr-filwyr Brenhinol yn 2017 y tu allan i Balas Buckingham, pryd y safodd gyda balchder gyda chymaint o filwyr ifanc, fel pe bai'n dal yn un o'r milwyr ifanc hynny. Cynigiodd gymaint i gynifer o bobl, boed yn ifanc, yn ganol oed neu'n hen, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu brenhinol wrth iddyn nhw alaru yn eu colled fawr a galar y wlad hon dros ffigwr mor arwyddocaol ym mywydau pob un ohonom.
Bydd gan yr Aelodau lawer o atgofion ohono, ond y rhai sydd gen i ohono pan ddaeth i'r Senedd a'i ddiddordeb yn y tri agoriad rwyf wedi cymryd rhan ynddynt gydag ef yma, yn 2007, 2011 a 2016, yw atgofion o ddyn a oedd bob amser â diddordeb, bob amser yn ystyriol ac, yn y pen draw, bob amser yn ofalus yn ei farn a'r hyn a ddywedodd wrth iddo siarad â phobl wrth fynd o amgylch yr ystafell yn y Senedd ac wedi hynny. Bydd colled fawr ar ei ôl, ac yn y pen draw bydd y gynhaliaeth honno y cyfeiriodd y Frenhines ati fel y cryfder drwy gydol ei chyfnod o fod yn bennaeth y wladwriaeth yn golled enfawr i'w Mawrhydi y Frenhines yn y blynyddoedd i ddod. Ond, yn y pen draw, y bywyd o wasanaeth—gwasanaeth cyhoeddus—y dylem fyfyrio arno, a dathlu'r gwasanaeth cyhoeddus hwnnw wrth i ni alaru gydag Ei Mawrhydi y Frenhines ac anfon ein cydymdeimlad a'n gweddïau ati hi a gweddill y teulu brenhinol.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Estynnaf ar ran grŵp Plaid Cymru yn Senedd Cymru fy nghydymdeimladau dwysaf i’r Frenhines Elizabeth a’i theulu yn eu profedigaeth. Mae’n bwysig cofio, fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, yng nghanol yr holl alaru swyddogol, mai sôn ydym am wraig sydd wedi colli gŵr, a gwagle diamgyffred wedi ymagor ar ôl amser maith ynghyd. Mewn blwyddyn o golled anferthol, mae ein tawelwch heddiw er cof ac er parch i’r teulu brenhinol yn eu tristwch nhw hefyd yn symbol ingol o’n cydalaru â phawb a gollodd anwylyd yn y flwyddyn anoddaf hon.
Yr ydym yma hefyd nid yn unig i alaru ond i ddiolch i’r Tywysog Philip am gyfraniad ei fywyd. Un o ymrwymiadau mwyaf y Tywysog oedd i bobl ifainc, fel yr ydym eisoes wedi clywed. Mi oedd y cyfraniad hwnnw yn arbennig yng nghyd-destun addysg antur awyr agored, sector sydd wedi wynebu heriau eleni, wrth gwrs, a sector lle mae yna gysylltiad Cymreig agos a gwreiddiau cyn hired bron â bywyd y Tywysog ei hun. Mi oedd Philip, fel sydd yn adnabyddus, yn ddisgybl yn nwy o ysgolion yr addysgwr enwog Almaenig, Kurt Hahn, yn gyntaf yn ysgol Schloss Salem yn Baden-Württemberg, ac yna, ar ôl dyfodiad y Natsïaid i rym, yn Gordonstoun yn yr Alban. Craidd gweledigaeth Hahn oedd yr angen i roi cyfle i bob person ifanc wireddu eu potensial. 'Mae mwy ynot nag wyt yn amgyffred' oedd yr arwyddair enwog a fabwysiadwyd ganddo. Canolbwynt ei ddynesiad oedd pwysleisio dysgu drwy brofiad, nid ffeithiau addysg academaidd cul, drwy brojectau ymarferol neu'n well fyth anturiaethau yn yr awyr agored, ar dir a môr, i fagu cymeriad a gwreiddio’r syniad o arwain drwy wasanaethu eraill. Mi oedd y syniadaeth wedi dylanwadu'n gryf ar fyd-olwg a bywyd y Tywysog Philip.
Ym 1941, pan aeth Kurt Hahn ymlaen i sefydlu yr hyn a adnabyddir nawr fel y ganolfan anturiaeth awyr agored gyntaf yn y byd yn Aberdyfi, a drodd wedyn yn gartref mudiad byd-eang yr Outward Bound, Philip oedd un o’i gefnogwyr mwyaf brwd. A hynny yn ei dro oedd wrth wraidd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cynllun Gwobr Dug Caeredin, a roddodd y cyfle i lawer iawn mwy o bobl ifainc wireddu eu potensial na fuasai yn medru mynychu'r ysgolion democrataidd eu naws, ond elitaidd eu natur a sefydlwyd gan Hahn, gan gynnwys, wrth gwrs, Coleg yr Iwerydd yma yng Nghymru, y templed i rwydwaith byd-eang heddiw o 200 o ysgolion. Mi fyddai Dug Caeredin, oedd yn bresennol wrth agor y Senedd hon yn swyddogol ac sydd nawr yn destun ein sesiwn olaf, yn gwerthfawrogi’r ffaith mai’r Ddeddf olaf a basiwyd yn y pumed Senedd oedd un wnaeth orseddu blaengaredd addysgol Hahn, a grisialwyd dros hanner canrif yn ôl yn y fagloriaeth ryngwladol, yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru, a’i bwyslais ar greadigedd, ar gyd-ddysgu a dysgu trwy brofiad.
Yma i wneud cyfraniad yr ydym oll, yn unol â’n gallu a’n gwerthoedd, a'r cyfraniad pennaf yw gwasanaethu eraill. Dyma'r neges graidd a gymerodd y Tywysog Philip yn gwmpawd i'w fywyd. Mae'n wers sy'n werth myfyrio arni, boed ifanc neu hen, boed yn dywysog neu'n werinwr. Nid teitl na statws na choron hyd yn oed yw gwaddol pwysicaf y Tywysog Philip a ddathlwn heddiw ond y cymorth a gynigiodd i eraill. Diolchwn iddo am ei gyfraniad. A diolchwn am yr holl gyfraniadau cyffelyb gan y rhai o'i genhedlaeth yntau ac iau y collasom eleni yng Nghymru a thu hwnt. Boed iddyn nhw oll huno mewn hedd perffaith.
Hoffwn fynegi cydymdeimlad fy ngrŵp â'i Mawrhydi a'r teulu brenhinol i gyd. Roedd Dug Caeredin yn ŵr ffyddlon, yn dad a thaid cariadus, a bydd y golled yn dilyn ei farwolaeth drist yn cael ei theimlo'n ddwfn gan bawb a oedd yn ei garu, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda chi ar yr adeg drist hon. Mae marwolaeth Dug Caeredin yn golled i’w deulu ac i’w ffrindiau, fel y mae i bawb ohonom. Fel rhywun brenhingar, rwy’n galaru am ddyn gwirioneddol fawr, ond hefyd am esiampl ddisglair o wasanaeth cyhoeddus. Rhoddodd Ei Uchelder Brenhinol ei fywyd i'w Frenhines a'n cenedl. Ac mae’n rhaid i hyd yn oed y gweriniaethwyr mwyaf ffyddlon gyfaddef bod y Tywysog Philip yn un o weision mwyaf y wladwriaeth, dyn a oedd yn ymroddedig i helpu eraill yn anad dim.
Roedd y Tywysog yn llysgennad gwych dros ein brenhiniaeth a'n gwlad. Ceisiodd roi buddiannau ein gwlad o flaen popeth arall, heb geisio unrhyw ffafriaeth wleidyddol erioed. Bydd marwolaeth y Tywysog Philip yn gadael bwlch mawr yn ein gwlad, gwlad y bu'n ymladd drosti yn yr ail ryfel byd gan ymgysegru ei fywyd iddi pan briododd â'r Dywysoges Elizabeth ym 1947. Parhaodd i wasanaethu ei Frenhines a'i wlad o flaen popeth arall dros y 70 mlynedd nesaf. Ni ellir ond dychmygu'r boen calon y mae'n rhaid ei fod wedi ei theimlo pan y bu'n rhaid iddo ymddeol oherwydd afiechyd ychydig dros dair blynedd yn ôl, yn 96 oed. Yn ystod ei 70 mlynedd o wasanaeth, hyrwyddodd Ei Uchelder Brenhinol lawer o achosion ac roedd yn noddwr oddeutu 800 o sefydliadau ac elusennau. O'r amgylchedd i addysg, roedd y Tywysog yn weithgar gyda llawer o achosion.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o'r gwobrau sy'n rhannu ei enw, ond nid oes llawer o bobl yn gwybod ei fod wedi helpu i sefydlu Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd ym 1961. Roedd y Tywysog Philip yn amgylcheddwr mawr hefyd, yn hyrwyddo natur hyd yn oed cyn i hynny ddod yn boblogaidd. Ar wahân i fod yn un o sylfaenwyr Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd, roedd hefyd yn noddwr Meysydd Chwarae Cymru a llu o elusennau cadwraeth natur eraill. Fe oedd y person cyntaf i yrru car trydan o amgylch strydoedd Llundain, 10 mlynedd cyn i sylfaenydd Tesla gael ei eni hyd yn oed. Bydd ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin, yn cael ei golli'n fawr gan bob un ohonom, ac ymunaf â phawb i alaru yn sgil colli dyn mor wych a gwas cyhoeddus ardderchog. A boed i'w Mawrhydi gael rhywfaint o gysur o'r ffaith bod cynifer ohonom mor hoff o'i gŵr ffyddlon. Diolch yn fawr.
Mae hi'n fraint arbennig o drist ond hefyd arbennig o briodol ein bod ni'n cwrdd heddiw ar achlysur fel hyn i goffáu Iarll Meirionnydd a'r Tywysog Philip ac, wrth gwrs, Dug Caeredin. Rydym ni wedi cael y cyfle, lawer ohonom ni, i gwrdd ag o ar achlysuron ffurfiol ac anffurfiol. Ac mewn gwladwriaeth megis y Deyrnas Unedig, sydd wedi ei strwythuro yn ddemocratiaeth gymdeithasol ond sydd hefyd â brenhiniaeth yn bennaeth y wladwriaeth, mae angen pobl ddeallus i fod yn ymgymryd â'r swyddi hynny. Ac o'm mhrofiad i o'r Dug, roedd o'n ddeallus, yn frwdfrydig ac yn ddi-ben-draw ei gwestiynau. Ychydig a feddyliais i fel plentyn, disgybl ysgol gynradd, y tro cyntaf i fi ei weld o yn y cnawd, y byddwn i'n dod i'w weld o'n aml iawn yn hwyrach yn fy ngyrfa. Dwi'n cofio'r digwyddiad yn dda; roedd y trên brenhinol yn teithio'n araf deg drwy ddyffryn Conwy, er mwyn iddo fo gael cyfle i gyfarch y disgyblion cynradd oedd yn sefyll ar un ochr i'r lein. Ac mae'r math yna o barodrwydd i ymdrin â phobl yn nodwedd arbennig ar ei yrfa.
Ond dwi am ddweud gair yn bennaf am ei ddiddordeb gwbl unigryw o mewn materion ffydd. Wrth gwrs, fe briododd o â phennaeth y wladwriaeth Brydeinig, a gan fod yr eglwys yn Lloegr ddim eto wedi'i datgysylltu, roedd yn rhaid iddo fo fod yn Anglican yn Eglwys Loegr. Ond wnaf i byth anghofio'r cwestiynau ofynnodd o imi ar ôl gwasanaeth a gawson ni yn eglwys Fair Forwyn yn y bae yn un o'n hagoriadau seneddol—neu agoriad y Cynulliad Cenedlaethol, fel roedd o yr adeg honno—ac, fel y gŵyr rhai ohonoch sy'n gyfarwydd â Bae Caerdydd, mae eglwys Fair Forwyn, sydd yn rhan o'r Eglwys yng Nghymru erbyn hyn, wrth gwrs, wedi'i lleoli drws nesaf i'r eglwys Uniongred Roegaidd, ac roeddem ni wedi ceisio trefnu yn y gwasanaeth hwnnw i adlewyrchu yr holl gymunedau ffydd a'r holl ieithoedd oedd yn rhan o'r cymunedau hynny yng Nghymru er mwyn dangos bod yna draddodiad cryf o gydweithio rhwng cymunedau ffydd wedi bod yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd, ac yn arbennig felly yn ein datganoli newydd. Ac felly, fe gafwyd salm wedi ei chanu mewn Hebraeg, ac fe ddarllenwyd yr efengyl mewn Groeg, ac, wrth gwrs, fe ddefnyddiwyd yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal yn y gwasanaeth. Ac ar y diwedd, dyma fo'n dod ataf i ac yn edrych arnaf, ym myw fy llygad—fel y byddai fo'n gwneud i bawb roedd o'n siarad â nhw—a gofyn yn Saesneg, wrth gwrs:
'Rwyf eisiau gofyn cwestiwn i chi',
meddai fo,
'Dydw i erioed wedi clywed gwasanaeth rhyng-ffydd o'r fath,'
meddai fo,
'mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac rwyf eisiau dweud wrthych chi,'
meddai fo,
'fyddech chi byth yn llwyddo i wneud hynny yn Llundain.'
A beth oedd o ddiddordeb iddo fo, wrth gwrs, oedd pam oeddem ni wedi trefnu'r math yna o ddigwyddiad, ac roedd o'n deall pwysigrwydd ffydd i gymunedau, ac ieithoedd amrywiol, ac roedd ei brofiad o drwy ei fywyd yn adlewyrchu hynny.
Ac mae'r gair olaf yn mynd â fi'n ôl eto, wrth gwrs, i Feirionnydd. Fe'i gwnaed o'n Iarll Meirionnydd, ac un o'r ymweliadau mwyaf diddorol a difyr i fi erioed ei gael yn ei gwmni fo oedd i Aberdyfi, ac i'r ganolfan Outward Bound, oherwydd roedd o mor ymroddedig i'r defnydd o'r awyr agored ar gyfer hwyluso a datblygu bywydau pobl ifanc. Ac felly mae'n fraint i mi, fel Aelod Seneddol yn San Steffan, wrth gwrs, am gyfnod pan oeddwn i'n cael cyfle i gwrdd ag o, ac yna'n ddiweddarach yn yr ail Dŷ yn San Steffan, ac yma yng Nghynulliad Cymru, gael diolch iddo fo am fod yn Philip Meirionnydd yng Ngorsedd y Beirdd ac yn Iarll Meirionnydd, ac yn gynrychiolydd teilwng o amrywiaeth cenedligol a chrefyddol y Deyrnas Unedig.
Boed iddo orffwys mewn hedd a chyfodi mewn gogoniant.
Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â'i Mawrhydi y Frenhines, y teulu brenhinol a phawb sydd wedi'u cyffwrdd yn ddwys yn sgil marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Ymgysegrodd Dug Caeredin ei fywyd hir i'r rhai yr oedd yn eu caru, i'n gwlad, ac i'r achosion niferus yr oedd yn eu hyrwyddo. Roedd yr achosion hynny yn niferus ac yn amrywiol. Mae ei ymrwymiad i gyfiawnder amgylcheddol eisoes wedi ei grybwyll y bore yma, ac arddelwyd hynny ganddo cyn iddi ddod yn ffasiynol i wneud hynny. Ond, wrth gwrs, ei ddiddordeb mwyaf adnabyddus oedd yr awyr agored, y cyfeiriodd Dafydd Elis-Thomas ato, a sefydlu cynllun Gwobr Dug Caeredin, cynllun a oedd yn cydnabod yr angen i gefnogi a datblygu potensial ein pobl ifanc i gyd, ac i roi'r cyfle iddyn nhw brofi ystod eang o gyfleoedd y tu hwnt i addysg ffurfiol—yn wir, byddwn yn dadlau mai dyna'r ethos sy'n sail i'n cwricwlwm newydd ni yma yng Nghymru. Efallai fod rhai ohonom ni wedi bod yn ddigon ffodus i ymgymryd â Gwobr Dug Caeredin, er mae'n rhaid i mi gyfaddef, Llywydd, fod y ddau ddiwrnod hynny yn y Mynydd Du ar gyfer fy ngwobr efydd wedi bod yn ddigon i mi. Felly, roeddwn i'n teimlo braidd yn ffals pan gefais i'r anrhydedd fawr iawn, flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, o gael fy ngwahodd i Balas Sant Iago i gyflwyno gwobrau aur, ar ran y Dug, i dderbynwyr o Gymru.
Ond roedd ei ymrwymiad i blant a phobl ifanc ac achosion addysg yn mynd y tu hwnt i'w wobr. Roedd yn noddwr Book Aid International—rhaglen sy'n ceisio cefnogi rhaglenni llythrennedd ledled y byd ac sy'n ceisio datblygu llyfrgelloedd cyhoeddus, gan gydnabod pwysigrwydd y gallu i gael gafael ar y gair ysgrifenedig wrth ddemocrateiddio gwybodaeth. Roedd hefyd yn noddwr Plan International, sy'n ceisio cefnogi plant a phobl ifanc yn rhai o genhedloedd tlotaf y byd.
Gwn ei fod wedi cael croeso cynnes bob tro yr ymwelodd ag etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed, ac roedd ei ymweliadau yn destun balchder mawr i'r gymuned leol.
Boed iddo orffwys mewn hedd, a boed i'r cof amdano fod yn fendith.
Mae'n anodd amgyffred rhychwant lwyr oes y Tywysog Philip. Darllenais ei fod wedi cymryd rhan mewn 22,000 o ddigwyddiadau, ac yna clywais yn rhywle arall fod y ffigur yn 300 y flwyddyn. Tybiais fod yn rhaid ei fod yn fwy na hynny—sut y gallai fod yn 22,000 fel arall? Roedd yn rhaid i mi ei gyfrifo a'i luosi â 70 mlynedd i ddeall bod hynny'n eithaf agos i'w le mewn gwirionedd. Mae'r hyn a wnaeth yn rhyfeddol. Ym 1921, pan gafodd ei eni, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon oeddem ni. Lloyd George oedd y Prif Weinidog. Dim ond rhai menywod oedd wedi cael pleidleisio bryd hynny. Ac yn y flwyddyn honno, roedd tad y Tywysog Philip, Andrew, yn un o'r cadfridogion na lwyddodd i ennill ym mrwydr Sakarya, ger dinas Ankara. A chafodd chwe chadfridog arall eu hanfon i sefyll eu prawf ac fe'u dienyddiwyd ar unwaith, ond oherwydd bod tad y Tywysog Philip yn dywysog, cafodd sefyll ei brawf ar wahân. Ond, er mwyn achub y blaen rhag i'w dynged yntau fod yr un fath, torrodd y wlad hon, o dan Lloyd George, gysylltiadau diplomataidd â Gwlad Groeg, ac adferwyd y cysylltiadau ddim ond ar ôl i'r Tywysog Andrew a'i deulu, gan gynnwys y baban Philip, allu gadael yr hyn a fu gynt yn dŷ'r llywodraethwr yn Corfu, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, ar long ryfel Prydeinig. Mae'n rhyfedd sut y mae tynghedau hanes wedi eu hymblethu.
Cofiaf gwrdd â Dug Caeredin unwaith yn unig. Rwy'n credu mai yn nathliadau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines yn San Steffan oedd hynny. Yn yr oriel frenhinol, daeth heibio a siarad â mi, a chanfu mai fi oedd yr AS dros Rochester ar y pryd. Dywedodd ei bod yn debygol fy mod yn gorfod siarad llawer am Charles Dickens, ond roedd ef yn darllen cofiant newydd amdano gan Claire Tomalin, a siaradodd amdano. Dywedodd fod y cofiant yn fwy sensitif nag unrhyw un arall o ran deall anawsterau Dickens wrth bortreadu cymeriadau benywaidd o'i gymharu â chymeriadau gwrywaidd, a bod ynddo hefyd sensitifrwydd a dealltwriaeth ynghylch sut yr oedd profiadau plentyndod anodd iawn wedi dylanwadu arno yn ddyn a'r hyn y bu'n rhaid iddo ei wneud i wrthsefyll y rheini. Meddyliais am hynny wrth wrando ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud am y Tywysog Philip yn y dyddiau diwethaf. Yn gyntaf, pa mor rhyfeddol ydoedd, mewn gwirionedd, iddo gynnal sgwrs ddiffuant a real gyda chymaint o bobl y cyfarfu â nhw; pa mor hawdd yw bod yn annadleuol neu'n ddiddrwg-ddidda yn y sgyrsiau hynny a mynd drwyddynt gan lynu at ffurf yn hytrach na sylwedd, ac roedd cyffwrdd â bywydau cynifer o bobl drwy ddod o hyd i rywbeth arbennig i'w ddweud wrth wahanol bobl ac i ddangos ei gymeriad ei hun, rwy'n teimlo, yn rhyfeddol.
Y dyddiau hyn, byddem yn cyfeirio at rai o brofiadau'r Tywysog Philip fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae ei wyrion, y Tywysogion William a Harry, wedi gwneud llawer iawn dros iechyd meddwl, ac erbyn hyn rydym yn llawer mwy parod a chefnogol i bobl siarad am eu profiadau, ac nid yw arferiad y cenedlaethau a fu o ffrwyno teimladau mor amlwg ag yr oedd o'r blaen. Ond rwy'n gobeithio y byddwn yn dal i ganiatáu dewis, ac mae'r Tywysog Philip, Dug Caeredin, a'r hyn a wnaeth i oroesi ei heriau a'r hyn yr oedd yn ei wynebu er mwyn bod y dyn hwnnw a wnaeth cymaint dros ein gwlad, yn rhyfeddol, ac fe'i gwnaeth mewn modd gwahanol o'i gymharu â'r hyn y byddai llawer yn ei wneud nawr efallai. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cefnogi ac yn caniatáu'r dewis a'r ddealltwriaeth i bawb, pa bynnag ddewisiadau a wnânt. Mae ein meddyliau heddiw gyda'r Frenhines a gyda'i theulu, a gyda'r genedl gyfan. Boed iddo orffwys mewn hedd. Duw gadwo'r Frenhines.
Bydd llawer ohonom wedi rhannu cwmni'r Tywysog Philip, wrth fod yn bresennol gydag Ei Mawrhydi y Frenhines, mewn agoriadau brenhinol yn y Senedd ac ar adegau eraill, ond cofiaf hefyd rai o'r sgyrsiau llai ffurfiol. Pan ymwelodd ef a'r Frenhines â Glynebwy yn 2012 yn rhan o ddathliadau'r Jiwbilî Ddiemwnt, sylwais ar sut y treuliodd amser hefyd yn helpu pobl i deimlo'n gartrefol er mwyn iddyn nhw fwynhau'r achlysur. Roedd yn sicr yn gweld hyn fel achlysur i'r bobl ac nid dim ond fel achlysur iddo ef ei hun a'r parti brenhinol. Roedd am i bawb deimlo'n gartrefol er mwyn mwynhau cyfarfod ag ef a'i Mawrhydi.
Roedd yn cynrychioli cenhedlaeth a wnaeth nid yn unig ymladd yn yr ail ryfel byd, ond a oedd yn deall yr hyn sydd ei angen i sicrhau heddwch rhwng cenhedloedd. Roedd dyfnder ac ehangder ei wasanaeth cyhoeddus dros y blynyddoedd wedi'i wreiddio mewn safbwynt byd-eang a oedd yn eang ei ragolygon ac yn ddwfn ei ddealltwriaeth, ac wedi'i uno gan gred y gallai pobl fod yn rym ar gyfer newid. Llywydd, gwelais y safbwynt byd-eang hwn am y tro cyntaf pan gyfarfûm â'r Dug am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ôl nawr, yn y 1980au, pan oeddwn yn gweithio yn y WWF ac ef oedd llywydd y sefydliad. Nawr, yn aml iawn, gall llywydd o'r fath beidio ag ymwneud yn fawr â sefydliad, a dim ond bod yn bresennol ar achlysuron ffurfiol, ond nid dyna oedd ffordd y Tywysog Philip: roedd yn ysgogi ac yn bywiogi'r sefydliad cyfan. Heriodd ei angerdd a'i wybodaeth a'i ddealltwriaeth y sefydliad a phob un ohonom a fu'n gweithio ynddo. Roedd ei egni a'i benderfyniad yn golygu mai daeargrynfeydd oedd ei ymweliadau yn hytrach nag achlysuron urddasol. Roedd yn deall y cysylltiadau rhwng polisi hinsawdd ac ecoleg ar adeg pan oedd pethau o'r fath yn cael eu herio a'u cwestiynu'n eang. Ond roedd hefyd yn deall y rhan y gallai sefydliadau megis y WWF ei chwarae wrth arwain, arloesi a sbarduno newid. Roedd yn adnabyddus yn y 1950au fel un a oedd yn diwygio'r ffordd yr oedd y teulu brenhinol yn gweithio ac yn gweithredu, ond gallai ddod â phobl at ei gilydd a gweithredu fel catalydd a helpu i gyflawni'r newid hwnnw. Yr hyn a welais i oedd tywysog gweithgar iawn, tywysog a oedd ar frys nid yn unig i sicrhau newid, ond i chwarae rhan mewn sbarduno a llunio'r newid hwnnw.
Llywydd, yn y Cymoedd, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn cofio ei ymweliadau ag Aberfan. Bûm yn myfyrio gyda Dawn Bowden yn ystod y dyddiau diwethaf ynghylch cymaint oedd ei ymweliadau â theuluoedd bryd hynny wedi helpu, a sut yr oedd yn estyn allan ar adeg pan oeddem yn dioddef un o'r trychinebau cenedlaethol gwaethaf yn ein hanes. Treuliodd y Tywysog Philip amser yn siarad â phobl, yn gwneud te i bobl ac yn gwrando ar eu poen a'u dioddefaint. Heddiw, Llywydd, mae Ei Mawrhydi y Frenhines a'r teulu brenhinol cyfan yn ein calonnau. Gobeithiwn y bydd geiriau a chydymdeimlad pob un o'n gwledydd a'n pobloedd, yn unedig, yn dod â rhywfaint o gysur iddyn nhw ar yr adeg hon o dristwch mawr.
Ac yn olaf, David Melding.
Wrth imi estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â'i Mawrhydi a'r teulu brenhinol cyfan, cofiaf yn gynnes iawn agoriad swyddogol y pedwerydd Cynulliad yn 2011. Roedd yn anrhydedd cael gwasanaethu'r Tywysog Philip, ei gyflwyno i'r gwesteion a llywyddu ar ei fwrdd ar gyfer y cinio dathlu, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn syml, roedd y Dug yn gwmni da ac yn serchog. Dyna oedd sail ei gymeriad rhyfeddol. Roedd yn mwynhau bywyd a chanfu bod y bobl a roddwyd ar y ddaear hon ar yr un pryd ag ef yn ddiddorol, yn unigryw ac â'r gallu i roi gwasanaeth gwerthfawr i eraill.
Bydd yr Aelodau hynny a oedd yn bresennol yn 2011 yn cofio bod Only Men Aloud wedi canu i ni yn ystod y cinio. Yn y cyflwyniadau cyn hynny, gofynnodd i un o'r côr, 'Emynau ydych chi'n eu canu? Emynau yw hi bob amser.' Cafodd gerydd ysgafn gan y Frenhines, 'Ond gofynnwyd iddyn nhw ganu emynau, Philip.' Roedd hyn yn ein hatgoffa eu bod, yn anad dim, yn gwpl priod wedi'u bendithio â phriodas hapus. Fe wnaeth y Tywysog Philip i'r holl westeion wrth ei fwrdd deimlo'n gartrefol a siaradodd â phob un ohonyn nhw. Fe wnaeth i'r gweinydd deimlo'n gartrefol hefyd ar ôl iddo anghofio dod â chwrw'r Dug iddo, cwrw golau India, drwy drefniant. Roedd yn llawer gwell ganddo gwrw na gwin.
Ychydig cyn amser gadael, gofynnais i'r Tywysog Philip a oedd ganddo ymrwymiad arall y diwrnod hwnnw, 'Oes', atebodd, 'cinio i goffáu pedwar canmlwyddiant Beibl y Brenin Iago.' Roedd wrth ei fodd yn darllen y Beibl, meddai, ac yn credu bod fersiwn y Brenin Iago yn ysbrydoli rhywun. Fe'ch cynghorir i beidio â gofyn gormod o gwestiynau uniongyrchol ac anodd, ond, yn fy ffolineb, gofynnais pa un oedd ei hoff lyfr yn y Beibl. Ni phetrusodd y Tywysog Philip cyn ateb, 'Llyfr y Pregethwr.' Dim ond darllenydd brwd o'r Beibl fyddai wedi rhoi'r ateb hwnnw. Mae Llyfr y Pregethwr yn llyfr enigmatig, y mwyaf hynod a'r mwyaf paradocsaidd o lyfrau doethineb yr Hen Destament. Mae Llyfr y Pregethwr yn enwog am herio rhai credoau a goleddir; mae'n sôn am ddiwinyddiaeth yn seiliedig ar brofiad; mae'n annog rhywun i fyw ag afiaith; ac mae'n galw am ffydd sy'n onest ac mewn cysylltiad â realiti. Yn anad dim, roedd ganddo ffydd yn y dyfodol cyn belled â'n bod ni'n arloesi,
'Paid â dweud, "Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?" Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.'
Roedd yn ddyn y dyfodol, a gwasanaethodd ei wlad gyda phenderfyniad a chyflawniad anhygoel. Boed iddo orffwys mewn hedd.
Diolch i'r holl Aelodau felly am y cyfraniadau y bore yma. Mi fyddaf nawr yn anfon neges at Ei Mawrhydi y Frenhines i fynegi cydymdeimlad y Senedd yma yn ei phrofedigaeth. Felly, daw hynny â'n gwaith ni am y bore i ben, a diolch i chi i gyd am fynychu.
Daeth y cyfarfod i ben am 11:37.