Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Finance Committee - Fifth Senedd
11/12/2019Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol
Committee Members in Attendance
Llyr Gruffydd AM | |
Mike Hedges AM | |
Nick Ramsay AM | |
Rhun ap Iorwerth AM | |
Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol
Senedd Officials in Attendance
Georgina Owen | Ail Glerc |
Second Clerk | |
Martin Jennings | Ymchwilydd |
Researcher | |
Owen Holzinger | Ymchwilydd |
Researcher | |
Samantha Williams | Dirprwy Glerc |
Deputy Clerk |
Cynnwys
Contents
Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.
The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.
Dechreuodd y cyfarfod am 11:00.
The meeting began at 11:00.
Bore da. Croeso i chi i gyd i’r Pwyllgor Cyllid y bore yma. Gaf i nodi bod clustffonau ar gael ar gyfer yr offer cyfieithu neu addasu lefel y sain? Gaf i atgoffa Aelodau hefyd i ddiffodd y sain ar unrhyw ddyfeisiadau electronig, a gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelod unrhyw fudd i’w ddatgan? Nac oes. Iawn.
Good morning. Welcome to you all to the Finance Committee this morning. Could I note that headsets are available for translation or sound amplification? Could I remind Members to ensure that any electronic devices are on silent, and could I ask whether Members have any interests to declare? No.
Awn ni ymlaen, felly, at yr eitem nesaf, sef papurau i’w nodi. Fe welwch chi fod yna gopi o gofnodion y cyfarfod o 27 Tachwedd. Mae yna bapur i’w nodi sydd yn llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar yr ail gyllideb atodol. Mae yna lythyr gan y Gweinidog cyllid hefyd ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018. Ac mae yna lythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynglŷn ag ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Ydy Aelodau’n hapus i nodi’r papurau yna? Iawn. Diolch yn fawr iawn i chi.
Therefore, we'll move on to the next item, which is papers to note. You'll see that there is a copy of the minutes of the meeting from 27 November. There's a paper that is a letter from the Minister for Finance and Trefnydd on the second supplementary budget. There's a letter from the Minister for Finance and Trefnydd on the Welsh Government's consultation to amend the Government of Wales Act 2006 (Budget Motions and Designated Bodies) Order 2018. And there's a letter from the Auditor General for Wales to the Chair of the Equality, Local Government and Communities Committee on the consultation on the Local Government and Elections (Wales) Bill. Are Members content to note those papers? Good. Thank you very much.
Cynnig:
bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o ddechrau’r cyfarfod nesaf ar 18 Rhagfyr 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).
Motion:
that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting and the start of the next meeting on 18 December 2019 in accordance with Standing Order 17.42(vi).
Cynigiwyd y cynnig.
Motion moved.
Eitem 3, felly, ac yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), dwi’n cynnig bod y pwyllgor yn gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod hwn ac ar ddechrau’r cyfarfod ar 18 Rhagfyr eleni. Ydy Aelodau i gyd yn fodlon â hynny? Iawn. Fe awn ni i mewn i sesiwn breifat, felly. Diolch yn fawr iawn.
Item 3, therefore, in accordance with Standing Order 17.42(vi), I propose that the committee resolves to exclude the public from the remainder of this meeting and the start of the meeting on 18 December. Are Members content? Yes. Okay, we'll go into private session. Thank you very much.
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 11:01.
Motion agreed.
The public part of the meeting ended at 11:01.