Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

14/07/2021

Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol

Committee Members in Attendance

Alun Davies
Carolyn Thomas
Delyth Jewell Cadeirydd y Pwyllgor
Committee Chair
Hefin David
Heledd Fychan
Tom Giffard

Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol

Senedd Officials in Attendance

Angharad Roche Dirprwy Glerc
Deputy Clerk
Manon Huws Cynghorydd Cyfreithiol
Legal Adviser
Martha Da Gama Howells Ail Glerc
Second Clerk
Rhys Morgan Clerc
Clerk

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.

Cyfarfu'r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.

Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.

The committee met by video-conference.

The meeting began at 09:30. 

1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1. Introductions, apologies, substitutions and declarations of interest

Bore da. Hoffwn groesawu'r Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, rwyf wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd rhag bod yn bresennol yn y cyfarfod mewn person er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Mae'r holl Reolau Sefydlog eraill sy'n ymwneud ag ymddygiad yn ystod y cyfarfodydd yn parhau i fod yn berthnasol. 

Gwnawn ni droi yn gyntaf i eitem 1, sef ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau. A oes gan unrhyw Aelod fuddiannau i'w datgan, plis? Nac oes. Ocê.

Good morning. I'd like to welcome Members to this first meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee. In accordance with Standing Order 34.19, I have determined that the public are excluded from attending the meeting in person in order to protect public health. All other Standing Orders relating to conduct during meetings continue to apply. 

We'll move first to item 1, introductions, apologies, substitutions and declarations of interest. Do any Members have any declarations of interest please? No. Okay. 

2. Cylch gwaith y pwyllgor
2. Committee remit

Gwnawn ni droi yn awr at eitem 2, sef cylch gwaith y pwyllgor. Mae cylch gwaith y pwyllgor, fel sydd wedi cael ei benderfynu yn y Pwyllgor Busnes ar 23 Mehefin, wedi ei nodi ym mhapurau'r pwyllgor. A yw pawb yn fodlon i nodi cylch gwaith y pwyllgor? Byddwn ni'n gallu cael trafodaeth bellach, efallai, yn y cyfarfod preifat. 

We'll move to item 2, the committee remit. The remit of the committee, as decided at the Business Committee on 23 June, is set out in the committee papers. Is everyone content to note the remit of the committee? We can discuss it further, perhaps, in our private session. 

Heledd.

Heledd.

Sori, roeddwn i'n trio dod i mewn o ran datgan buddiannau. 

Sorry, I was trying to come in on the declarations of interest. 

Buddiannau—. Sori, ie. 

Interests—. Sorry, yes.

Sori. Dydy o ddim yn mynd i stopio fi rhag cymryd rhan, ond jest ichi i gyd fod yn ymwybodol, mi oeddwn i'n gweithio i Amgueddfa Cymru cyn cael fy ethol, ac mae un o'r papurau sy'n cael ei gyfeirio ato yn ein pecyn ni, sef tystiolaeth Amgueddfa Cymru i'r pwyllgor diwethaf, fi wnaeth ysgrifennu'r ymateb yna. Wedyn, dwi ddim yn meddwl y bydd o'n amharu dim ar unrhyw beth, ond roeddwn i jest eisiau ichi fod yn ymwybodol o hynny. 

I do apologise. It won't stop me participating, but, just for you to be aware, I did work for Amgueddfa Cymru prior to my election, and one of the papers referred to in our pack, which is evidence from Amgueddfa Cymru to the previous committee, I actually wrote that particular response. Now, I don't think it'll have any impact on anything we're discussing, but I wanted you to be aware. 

Diolch, Heledd. Dwi'n siŵr y byddwn ni'n elwa o'r ffaith bod gen ti'r profiad anhygoel yna. So, diolch yn fawr iawn am hwnna. Diolch am ddatgan hwnna. So, mae pawb yn hapus i nodi'r cylch gwaith ac i fynd ymlaen? Ie. Ocê. Grêt. 

Thank you, Heledd. I'm sure we'll benefit from your incredible experience in that area. So, thank you for that, and thank you for that declaration. Is everyone content to note the committee remit and to move on? Excellent. 

3. Papurau i'w nodi
3. Papers to note

Symud at eitem 3, papurau i'w nodi. Mae gennym ni sawl papur i'w nodi, fel legacy o'r pwyllgor blaenorol. Felly, eitem 3.1 ydy ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, 'Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?' Eitem 3.2 yw ymateb yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar yr un adroddiad. Eitem 3.3 yw adroddiad gwaddol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Ac eitem 3.4 yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor diwethaf ynghylch gwaith dilynol ar effaith COVID-19 ar chwaraeon. Ydy'r Aelodau yn fodlon nodi'r papurau hynny? Eto, byddwn ni'n gallu cael trafodaeth bellach yn breifat os oes angen. Pawb yn hapus i'w nodi? Grêt.

Moving on to item 3, papers to note, we have a number of papers to note, as a legacy from the previous committee. So, item 3.1 is the Welsh Government response to the report, 'Exploring the devolution of broadcasting: How can Wales get the media it needs?' Item 3.2 is the response of the Department for Digital, Culture, Media and Sport on the same report. Item 3.3 is the legacy report of the Culture, Welsh Language and Communications Committee. And item 3.4 is the Welsh Government's response to that committee's report on follow-up work on the impact of COVID-19 on sport. Are Members content to note those papers? Again, we can discuss them in private session if required. Everyone content? Excellent.  

4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4. Motion under Standing Order 17.42(ix) to exclude the public from the remainder of the meeting

Cynnig:

bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix).

Motion:

that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(ix).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Wel, felly, troi nawr at eitem 4. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, rwy'n cynnig bod y pwyllgor yn gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Ydy'r Aelodau'n fodlon inni wneud hynny? Pawb yn hapus? Ocê. Gwnawn ni nawr symud at sesiwn breifat, plis.

That brings us to item 4. In accordance with Standing Order 17.42, I propose that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting. Are Members content to do that? Everyone content? Okay. We'll move into private session. 

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 09:33.

Motion agreed.

The public part of the meeting ended at 09:33.