National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

12/02/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

Datganiad Personol
Personal Statement

Hoffwn groesawu Aelod newydd i'n plith y prynhawn yma, Delyth Jewell, sef yr Aelod newydd dros ranbarth de-ddwyrain. Rŷn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed dy gyfraniadau di yma yn y Senedd ar ran y bobl yn ne-ddwyrain Cymru, a Chymru i gyd. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud datganiad i ni. [Cymeradwyaeth.]

I would like to welcome a new Member this afternoon, Delyth Jewell, who is the new Member for the south Wales east region. We look forward very much to your contributions here in the Senedd, on behalf of the people of south-east Wales, and all the people of Wales. I call on Delyth Jewell to say a few words. [Applause.]

Diolch, Llywydd.

'All I have, I would have given gladly not to be standing here today.'

Not my words, but those of President Johnson to Congress when he had taken over from that other statesman, Kennedy. 'All I have'—I do not quote these words out of a lack of gratitude in coming to this seat, nor indeed from a lack of determination to do the best I can, but rather I quote them in a sense of profound sadness at the loss of my friend. That loss is something that unites us.

Diolch, Llywydd.

Popeth sydd gen i, byddwn i wedi ei roi yn hapus i beidio â bod yn sefyll yma heddiw.

Nid fy ngeiriau i, ond rhai'r Arlywydd Johnson i'r Gyngres ar ôl iddo gymryd drosodd oddi wrth y gwladweinydd arall hwnnw, Kennedy. Popeth sydd gen i—nid wyf i'n dyfynnu'r geiriau hyn o ganlyniad i ddiffyg diolchgarwch wrth ddod i'r sedd hon, nac yn wir o ddiffyg penderfyniad i wneud y gorau y gallaf, ond rwy'n eu dyfynnu yn hytrach gyda thristwch dwys o golli fy ffrind. Mae'r golled honno yn rhywbeth sy'n ein huno.

Mae Cymru'n galaru. Mae Gwent yn galaru am y gwrol un a gâr wlad, fel y soniodd Gerallt am y dyn arall hwnnw ar y gorwel—Saunders. Anodd rhoi mewn i eiriau maint y golled hon. Roedd Steffan mor falch ei fod yn dod o dde-ddwyrain Cymru, ardal Dic Penderyn, S.O. Davies, Phil Williams. Nawr, mae Steffan ymhlith y cewri hyn, ac rŷn ni yn cerdded ar eu holau nhw, yn ymbil arnynt i estyn llaw ac i'n rhoi ni i eistedd ar eu hysgwyddau. 

Pan oeddwn i'n meddwl am beth i'w ddweud yma heddiw, gwnes i feddwl am yr oriau dreuliais i gyda Steffan yn cerdded hyd a lled y de-ddwyrain yn 2016, ac am y daith gerdded ffantastig yna yr oedd ei chwaer, Nia, a Rhuanedd, wedi ei threfnu y llynedd. Dod â phobl ynghyd yr oedd Steffan yn ei wneud wastad. Nid dim ond cawr, ond cyfaill. 

Wales is in mourning. Gwent is in mouring, for what Gerallt described as 'Y gwrol un a gâr wlad', in reference to that other man on the horizon—Saunders. The sheer scale of this loss is difficult to put into words. Steffan was so proud that he was from south-east Wales, the area of Dic Penderyn, S.O. Davies, Phil Williams. Now, Steffan stands shoulder to shoulder with those giants, and we follow in their footsteps and urge them to reach out to us and to place us on their shoulders.

In preparing for this address, I thought about the hours I spent with Steffan on a sponsored walk across South Wales East in 2016, and about that wonderful walk organised by his sister, Nia, and Rhuanedd, last year. Steffan brought people together always. Not just a giant, but also a friend.

I've spoken about giants and I think it's fitting because this place has always seemed like a place of magic to me. Things come into being here that didn't exist before—yes, laws, but also ideas, alliances. It's long been a dream of mine to be here, not ever in these circumstances, but a dream all the same. Yeats taught me that in dreams begin responsibilities. I have a responsibility to the people of South Wales East to do the best I can, to my party and group, and I have a responsibility to Steffan. I do not bear it lightly. I know I must give all I have for him. I know that, no matter where in this Chamber I sit, many of you will think of me as being in Steffan's place, and I don't mind that. In fact, I will consider it an honour. For although I am this Chamber's newest member, in Steffan's place, I've been given the best seat in the house. 

I am in Steffan's place, but I will never replace him. I hope you will let me share it with him. Diolch. [Applause.]

Rwyf i wedi siarad am gewri a chredaf fod hynny'n briodol gan fod y lle hwn wedi ymddangos fel lle hudolus i mi erioed. Mae pethau yn dod i fodolaeth yma nad oedden nhw'n bodoli cynt—ie, deddfau, ond hefyd syniadau, cynghreiriau. Mae wedi bod yn freuddwyd i mi fod yma ers amser maith, nid erioed o dan yr amgylchiadau hyn, ond yn freuddwyd serch hynny. Dysgodd Yeats i mi bod cyfrifoldebau yn dechrau mewn breuddwydion. Mae gen i gyfrifoldeb i bobl Dwyrain De Cymru i wneud y gorau y gallaf, i fy mhlaid ac i'm grŵp, ac mae gen i gyfrifoldeb i Steffan. Nid wyf i'n ei gymryd yn ysgafn. Gwn fod yn rhaid i mi roi'r cwbl sydd gennyf drosto ef. Gwn hynny, ni waeth ble yn y Siambr hon yr wyf i'n eistedd, bydd llawer ohonoch chi'n meddwl fy mod i yn lle Steffan, ac nid oes ots gen i am hynny. A dweud y gwir, byddaf yn ei ystyried yn anrhydedd. Oherwydd er mai fi yw aelod mwyaf newydd y Siambr, yn lle Steffan, rwyf i wedi cael y sedd orau yn y tŷ.

Rwyf i yn lle Steffan, ond ni wnaf i byth ei ddisodli. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi fodloni i mi ei rannu ag ef. Diolch. [Cymeradwyaeth.]

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding.

Questions now to the First Minister, and the first question comes from David Melding. 

Cymorth Iechyd Meddwl
Mental Health Support

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth cymorth o ran iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ53395

1. What action is the Welsh Government taking to increase the provision of mental health support for young people? OAQ53395

Diolch, Llywydd. Actions to respond to the changing mental health needs of young people are being taken across the Welsh Government, in schools and colleges through the youth service, in the workplace and in the NHS, and through partnerships with third sector organisations and others.  

Diolch, Llywydd. Mae camau i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl ifanc yn cael eu cymryd ar draws Llywodraeth Cymru, mewn ysgolion a cholegau drwy'r gwasanaeth ieuenctid, yn y gweithle ac yn y GIG, a thrwy bartneriaethau â sefydliadau trydydd sector ac eraill.

First Minister, last week the UK Government announced one of the largest mental health trials in the world to find out what can be done differently to improve young people's mental health and well-being. Three hundred and seventy English schools will take part in these trials, testing different approaches, while nine areas will trial new ways of ensuring children entering care get the mental health support that they need at that particularly vulnerable time. Schools in England will also deliver mental health education from 2020, something that Samaritans Cymru have said Wales should do also. I realise you're developing best practice and improving services, and I welcome that, but will you also be looking at these initiatives in England, to see where that evidence emerges and where their best practice emerges too, and also share what we develop here in Wales with our English colleagues?

Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU un o'r treialon iechyd meddwl mwyaf yn y byd yr wythnos diwethaf i ddarganfod yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Bydd tri chant saith deg o ysgolion Lloegr yn cymryd rhan yn y treialon hyn, gan brofi gwahanol ddulliau, a bydd naw o ardaloedd yn treialu ffyrdd newydd o sicrhau bod plant sy'n dechrau derbyn gofal yn cael y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt ar yr adeg honno pan eu bod yn arbennig o agored i niwed. Bydd ysgolion yn Lloegr hefyd yn darparu addysg iechyd meddwl o 2020 ymlaen, rhywbeth y mae Samariaid Cymru wedi dweud y dylai Cymru ei wneud hefyd. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n datblygu arfer gorau ac yn gwella gwasanaethau, ac rwy'n croesawu hynny, ond a fyddwch chi hefyd yn edrych ar y mentrau hyn yn Lloegr, i weld ble bydd y dystiolaeth honno'n dod i'r amlwg a lle mae eu harferion gorau yn dod i'r amlwg hefyd, a hefyd rhannu'r hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu yma yng Nghymru gyda'n cydweithwyr yn Lloegr?

13:35

Well, Llywydd, absolutely we will be keen to learn any lessons that there are from new initiatives elsewhere. It's part of the joy of devolution that we are able to try things differently in different parts of the United Kingdom and then to share the learning between us. As the Member says, we already have a whole-school approach to mental health here in Wales. Eleven thousand, five hunderd and fifty eight children benefited from the school counselling service in the last year for which we have figures. And anything that we are able to share with others, from our experience, we are very keen to do. But, equally, it's always seemed to me that the sensible approach to devolution is to regard it, as we've said many times here, as a form of living laboratory in which experiments that are carried out elsewhere are available to us all, to draw any learning.

Wel, Llywydd, yn sicr byddwn yn awyddus i ddysgu unrhyw wersi a geir o fentrau newydd mewn mannau eraill. Mae'n rhan o bleser datganoli ein bod ni'n gallu rhoi cynnig ar bethau mewn ffordd wahanol mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig ac yna rhannu'r dysgu rhyngom. Fel y dywed yr Aelod, mae gennym ni eisoes ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yma yng Nghymru. Fe wnaeth un ar ddeg mil, pum cant a phum deg wyth o blant elwa ar y gwasanaeth cwnsela ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer. Ac unrhyw beth y gallwn ni ei rannu gydag eraill, o'n profiad ni, rydym ni'n awyddus iawn i wneud hynny. Ond, yn yr un modd, mae wedi ymddangos i mi erioed mai'r dull synhwyrol o ddatganoli yw ei ystyried, fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith yn y fan yma, fel math o labordy byw lle mae arbrofion sy'n cael eu cynnal mewn mannau eraill ar gael i ni i gyd, i ddysgu oddi wrthynt.

First Minister, I'm sure that you'll agree with me that it's very important, when we're designing services for anybody, but particularly for young people, that we hear their voices in that process. I'm sure that you will be aware that our Youth Parliament has already identified mental health and mental health services as one of their priorities. And I would like to invite you to commit today as a Government to working with the Youth Parliament, taking very seriously the suggestions that will come from them, and ensuring that, as we improve services for the mental health of our young people in Wales, those young people's voices are right at the centre. As they would say, 'Nothing about us without us'.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig iawn, pan ein bod ni'n cynllunio gwasanaethau i unrhyw un, ond yn enwedig i bobl ifanc, ein bod ni'n clywed eu lleisiau nhw yn y broses honno. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod ein Senedd Ieuenctid eisoes wedi nodi iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl fel un o'u blaenoriaethau. A hoffwn eich gwahodd chi i ymrwymo heddiw fel Llywodraeth i weithio gyda'r Senedd Ieuenctid, gan roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r awgrymiadau a ddaw ganddyn nhw, a sicrhau, wrth i ni wella gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl ein pobl ifanc yng Nghymru, bod lleisiau'r bobl ifanc hynny yn gwbl ganolog. Fel y bydden nhw'n ei ddweud, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'.

Well, Llywydd, I'm completely committed to developing our public services with the voice of the user in the centre of the way that we think about those services and try to develop them into the future. There are some groups in the population we have to work harder to make sure that their voices get heard, and the voices of young people who have a mental health condition are certainly in that category. I had the opportunity to meet with a group of young people using mental health services, brought to the Senedd by Helen Mary Jones, when I was the health Minister, and greatly valued that opportunity and the insights that those young people were able to provide to us. And in the field of mental health, that is particularly important, Llywydd, because we know from the most recent figures in England, for example, that there has been a six-fold reported increase amongst children and young people saying that they have a mental health condition over the last two decades. Yet, clinical diagnosed mental health conditions amongst that group of people is up only marginally. So, there is something to learn here from the message that young people are conveying to us when they report themselves having a mental health condition. And meeting those young people face to face is amongst the best ways that we can make sure that we learn those lessons.

Wel, Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu ein gwasanaethau cyhoeddus gyda llais y defnyddiwr yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n meddwl am y gwasanaethau hynny ac yn ceisio eu datblygu yn y dyfodol. Ceir rhai grwpiau yn y boblogaeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i wneud yn siŵr bod eu lleisiau yn cael eu clywed, ac mae lleisiau pobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl yn sicr yn y categori hwnnw. Cefais y cyfle i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, y daeth Helen Mary Jones â nhw i'r Senedd, pan yr oeddwn i'n Weinidog iechyd, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi'n fawr y cyfle hwnnw a'r wybodaeth yr oedd y bobl ifanc hynny yn gallu ei rhoi i ni. Ac ym maes iechyd meddwl, mae hynny'n arbennig o bwysig, Llywydd, gan ein bod ni'n gwybod o'r ffigurau diweddaraf yn Lloegr, er enghraifft, y bu cynnydd o chwe gwaith yn fwy yr adroddwyd amdanynt ymhlith plant a phobl ifanc sy'n dweud bod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl dros y ddau ddegawd diwethaf. Ac eto, dim ond rhyw fymryn y mae cyflyrau iechyd meddwl â diagnosis clinigol wedi cynyddu ymhlith y grŵp hwnnw o bobl. Felly, mae rhywbeth i'w ddysgu yma o'r neges y mae pobl ifanc yn ei gyfleu i ni pan eu bod yn nodi bod ganddyn nhw anhwylder iechyd meddwl. Ac mae cyfarfod y bobl ifanc hynny wyneb yn wyneb ymhlith y ffyrdd gorau i ni allu gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu'r gwersi hynny.

We're always tempted to look far afield for the very best possible examples of how to improve our services in terms of child and adolescent mental health. But, of course, back in the autumn, the health Secretary, Vaughan Gething, and I were delighted to be in Jayne Bryant's constituency, attending the launch of £13.4 million of funding through the transformation fund at the Serennu Centre, for a more joined-up approach of child and adolescent mental health services. It's very place based, very community focused, drawing on all the resources, all the capabilities of that area, to support and nurture our young people. It's early days yet, but if that was to prove its success—and I have no doubt that it will, partly because of the work that's been done by the Children, Young People and Education Committee pushing this agenda—if it proves that it works, will the intention be then to roll that out not just across that region, not across south-east Wales, but actually to use that as the model that we roll out across Wales so that all of our children and young people have the very best mental health support?

Rydym ni bob amser yn cael ein temtio i edrych ymhellach i ffwrdd am yr enghreifftiau gorau posibl o sut i wella ein gwasanaethau o ran iechyd meddwl plant a'r glasoed. Ond, wrth gwrs, yn ôl yn yr hydref, roedd yr Ysgrifennydd iechyd, Vaughan Gething, a minnau yn falch iawn o fod yn etholaeth Jayne Bryant, yn y lansiad o £13.4 miliwn o gyllid drwy'r gronfa weddnewid yng Nghanolfan Serennu, ar gyfer dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Mae wedi ei seilio i raddau helaeth ar le, â phwyslais cymunedol, gan fanteisio ar holl adnoddau, holl alluoedd yr ardal honno, i gynorthwyo a meithrin ein pobl ifanc. Dyddiau cynnar yw hi eto, ond pe byddai hwnnw'n profi i fod yn llwyddiant—ac nid wyf i'n amau y bydd, yn rhannol oherwydd y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwthio'r agenda hon—os bydd yn profi ei fod yn gweithio, ai'r bwriad wedyn fydd cyflwyno hynny nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, nid yn unig ar draws y de-ddwyrain, ond i ddefnyddio hwnnw fel y model y byddwn ni'n ei gyflwyno ledled Cymru fel bod pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl gorau oll?

Well, the model, Llywydd, that Huw Irranca-Davies points to is certainly one that we want to develop further, because it provides for a differentiated approach to mental health. We're absolutely used to differentiated approaches in physical health. If you have a cold—as I do—you need a paracetamol; if you have influenza, you need a different sort of answer; and if you've got pneumonia, then you could end up in an intensive care unit. We understand that different levels of need require a different sort of response. It was certainly one of the lessons in the Children, Young People and Education Committee's 'Mind over matter' report. Having a service of the sort that Huw Irranca-Davies has described, when there is a spectrum of different services available, able to provide that tailored support and tailored reaction to the need of our young people in the mental health field, is a model that we are very keen to see more generally used in Wales. 

Wel, mae'r model, Llywydd, y mae Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato yn sicr yn un yr ydym ni eisiau ei ddatblygu ymhellach, gan ei fod yn darparu ar gyfer dull gwahaniaethol o ymdrin ag iechyd meddwl. Rydym ni wedi arfer yn llwyr â dulliau gwahaniaethol ym maes iechyd corfforol. Os oes gennych chi annwyd—fel sydd gen i—mae angen paracetamol arnoch chi; os oes gennych chi ffliw, mae angen gwahanol fath o ateb arnoch chi; ac os oes gennych chi niwmonia, yna gallech chi ganfod eich hun mewn uned gofal dwys. Rydym ni'n deall bod gwahanol lefelau o angen yn gofyn am wahanol fath o ymateb. Roedd yn sicr yn un o'r gwersi yn adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae cael gwasanaeth o'r math y mae Huw Irranca-Davies wedi ei ddisgrifio, pan fo sbectrwm o wahanol wasanaethau ar gael, sy'n gallu darparu'r cymorth wedi'i deilwra hwnnw a'r ymateb wedi'i deilwra i angen ein pobl ifanc yn y maes iechyd meddwl, yn fodel yr ydym ni'n awyddus iawn i'w weld yn cael ei ddefnyddio yn fwy cyffredinol yng Nghymru.

13:40
Gadael yr UE heb Gytundeb
Leaving the EU without a Deal

2. Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud o’r effaith y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn ei chael ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru? OAQ53402

2. What assessment has the First Minister made of the impact that leaving the EU without a deal would have on the Welsh Government's legislative programme? OAQ53402

Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud yn glir nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn, a gofyn am estyniad i erthygl 50. Drwy wneud hynny, byddai modd lleddfu’r effaith ariannol a deddfwriaethol ar Gymru. Yn y cyfamser, rydyn ni’n symud ymlaen i gywiro diffygion mewn cyfraith sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. 

I thank Llyr Gruffydd for the question. The UK Government should take a 'no deal' Brexit off the table and seek an extension to article 50. In that way, both the financial and legislative impact on Wales could be eased. In the meantime, we press ahead with correcting deficiencies in law derived from the European Union. 

Diolch i chi am eich ateb. Mae yna ganfyddiad, yn sicr, fod Llywodraeth Cymru wedi mynd nawr i ddibynnu'n ormodol ar ganiatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeddfu ar ein rhan ni. Felly, allwch chi gadarnhau mai polisi'r Llywodraeth yw mai fan hyn fydd yn deddfu ar ran Cymru, oni bai bod yna resymau penodol i beidio gwneud hynny, ac nid, fel mae rhai y awgrymu, fod yna orddibyniaeth nawr ar San Steffan i ddeddfu ar ein rhan ni, oherwydd mae hynny'n bwysig oherwydd mae'n torri mas rôl graffu bwysig sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad yng nghyd-destun y deddfau hynny? Ac o gofio bod y Dáil yn edrych ar eistedd chwe diwrnod yr wythnos i ddelio gyda'r sefyllfa allai godi, a bod San Steffan, wrth gwrs, yn sôn am eistedd yn ystod hanner tymor, ydych chi'n rhagweld y bydd angen i'r Senedd hon eistedd yn amlach hefyd er mwyn dygymod â'r rhaglen ddeddfwriaethol fydd ei hangen yn wyneb diffyg cytundeb? 

Thank you for that response. There is a perception, certainly, that the Welsh Government has now become overly reliant on allowing the UK Government to legislate on our behalf. So, can you confirm that the Government's policy is that this place should legislate on behalf of Wales unless there are specific reasons for not doing so, and not, as some are suggesting, that there is an over-reliance on Westminster legislating on our behalf? That's important, because it cuts out an important scrutiny role that we as Assembly Members have in the context of that legislation. Bearing in mind that the Dáil is looking at sitting six days a week to deal with the situation that could arise, and that Westminster, of course, is talking about sitting during half term, do you anticipate that this Senedd will need to sit more often in order to cope with the legislative programme that will be necessary in the face of a 'no deal' Brexit?

Wel, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn arall yna. Jest i ddweud, ein polisi ni yw'r polisi mae e wedi ei roi mas y prynhawn yma—mae'r cyfrifoldebau i ddeddfu yn nwylo'r Cynulliad. Rŷn ni eisiau gweld y Cynulliad yn delio gyda'r cyfrifoldebau hynny oni bai bod rheswm penodol nad ydym yn gallu ei wneud e fel yna, ac, wrth gwrs, mae Brexit yn creu cyd-destun ble mae rheswm penodol yn codi.

Beth rydym ni'n ei wneud yw yr un peth ag y maen nhw'n ei wneud yn yr Alban. Ble mae Tŷ'r Cyffredin yn gallu gwneud pethau sy'n hollol dechnegol sydd ddim yn newid ein polisi ni o gwbl, achos does dim digon o amser i ni ail-wneud pethau maen nhw'n ei wneud, rydym ni'n dweud ein bod ni'n fodlon iddyn nhw, gyda'r cytundeb sydd gyda ni, i ddeddfu ac yn y blaen. Os yw polisïau yn newid, rydym ni'n dod at lawr y Cynulliad, a dyna beth rydym ni wedi ei wneud, ac mae mwy o bethau i'w gwneud, mwy o offerynnau statudol o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd i ddod at lawr y Cynulliad. So, pan fydd polisïau yn newid, rŷn ni'n dod yma ac yn rhoi cyfleon pwysig i'r Cynulliad graffu ar beth rydym ni'n ei awgrymu.

Yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd, ble mae cymaint o bethau i'w gwneud, pan fydd y newidiadau ddim ond yn bethau technegol, rydym ni'n rhoi cyfle i Dŷ'r Cyffredin wneud hynny ar ein rhan ni, fel maen nhw'n gwneud yn yr Alban. Jest i ddod at y cwestiwn olaf, dwi'n gallu gweld sefyllfa ble fydd rhaid i ni roi mwy o amser ar lawr y Cynulliad i ddelio gyda'r effaith os ydym ni yn mynd i ddod mas o'r Undeb Ewropeaidd. 

I thank Llyr Gruffydd for that supplementary question. I would just state that our policy is the policy that he has set out this afternoon—that the responsibility to legislate is in the hands of the Assembly. We want to see the Assembly dealing with those particular responsibilities unless there is a specific reason that we can't do it in that way. Of course, Brexit does create the context where that specific reason arises.

What we're doing is the same as they are doing in Scotland. Where the House of Commons can do things that are entirely technical and that don't change our policy at all, because there is insufficient time for us to redo things that they do, then we say, 'Well, we're content for them, with our agreement, to legislate.' But, if policies change, then we bring them to the floor of the Assembly, and that's what we've done. There are more things to do with regards to statutory instruments, with regard to exiting the European Union, and there are more to come to the floor of the Assembly. So, when policies change, we come here and we give opportunities, importantly, for the Assembly to scrutinise what we suggest.

In the context of exiting the European Union, where there are so many things to do, when the changes are only technical in nature, then we give the House of Commons the opportunity to do so on our behalf, as they do in Scotland. Just to come to the final question, I can foresee a situation where we will have to allocate greater time on the floor of the Assembly to deal with the impact if we are going to exit the European Union.  

First Minister, we know from the rural affairs Secretary that the delay in her Government's response to 'Brexit and our land' will push that response into the summer. One thing that the Minister's committed to is obviously bringing a Welsh agricultural Bill forward. We have two years roughly left of sitting in this institution. Can you confirm that there is no delay in the Government's intention to bring such a Welsh agricultural Bill forward, even though the consultation to 'Brexit and our land' has been pushed into the summer now, because, to give that Bill a fair run and be consulted on and implemented, it is vital that the time is put aside in Government business time for us to consider the merits or not of the case that the Government will be making in that Bill? 

Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod gan yr Ysgrifennydd materion gwledig y bydd yr oedi yn ymateb ei Llywodraeth i 'Brexit a'n tir' yn gwthio'r ymateb hwnnw i'r haf. Un peth y mae'r Gweinidog wedi ymrwymo iddo yn amlwg yw cyflwyno Bil amaethyddol ar gyfer Cymru. Mae gennym ni oddeutu dwy flynedd ar ôl o eistedd yn y sefydliad hwn. A allwch chi gadarnhau nad oes unrhyw oedi i fwriad y Llywodraeth i gyflwyno Bil amaethyddol Cymru o'r fath, er bod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' wedi cael ei wthio i'r haf erbyn hyn, oherwydd, i roi cyfle teg i'r Bil hwnnw ac iddo fod yn destun ymgynghoriad a chael ei weithredu, mae'n hanfodol bod yr amser yn cael ei neilltuo yn amser busnes y Llywodraeth er mwyn i ni ystyried rhinweddau neu beidio yr achos y bydd y Llywodraeth yn ei wneud yn y Bil hwnnw?

Well, Llywydd, I understand entirely the points that the Member is making, and the importance of them in ensuring that an agriculture Bill of our own for Wales can be brought forward in a way that offers the Assembly the time it will need to consider such an important Bill. Andrew R.T. Davies will, I think, be happy to recognise the fact that we have been able to work closely with the UK Government in relation to the Agriculture Bill, which is currently going through the House of Commons, that, as a result of the agreements we have now reached with the UK Government, we are confident that that Bill will provide Welsh Ministers with all the legislative tools we need to deal with the immediate impacts of leaving the European Union and there will be no gap in the statute book for Wales as a result of those agreements. But, as he says, the Minister has made it clear that, through the 'Brexit and our land' consultation and the continuing dialogue that she has with farmers' unions and others, it is her intention to bring forward an agriculture Bill for Wales. And, given all the uncertainties of the world that we live in, it is our intention to do that during this Assembly term.

Wel, Llywydd, rwy'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'u pwysigrwydd o ran sicrhau y gall Bil amaethyddiaeth ein hun i Gymru gael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n cynnig yr amser y bydd angen arno i'r Cynulliad ystyried Bil mor bwysig. Bydd Andrew R.T. Davies yn hapus, rwy'n credu, i gydnabod y ffaith ein bod ni wedi gallu gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU o ran y Bil Amaethyddiaeth, sy'n mynd trwy Dŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd, ein bod ni, o ganlyniad i'r cytundebau yr ydym ni wedi eu sicrhau gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn, yn ffyddiog y bydd y Bil yn darparu'r holl arfau deddfwriaethol i Weinidogion Cymru sydd eu hangen arnom i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol gadael yr Undeb Ewropeaidd ac na fydd unrhyw fwlch yn y llyfr statud i Gymru o ganlyniad i'r cytundebau hynny. Ond, fel y dywed, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud yn eglur, drwy ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' a'r deialog parhaus y mae'n ei gael gyda'r undebau amaethwyr ac eraill, mai ei bwriad yw cyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru. Ac, o ystyried holl ansicrwydd y byd yr ydym ni'n byw ynddo, ein bwriad yw gwneud hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

We now have questions from party leaders. The leader of Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch, Llywydd. Natural Resources Wales directly manages 80 per cent of Wales's forests and regulates the remaining 20 per cent. As a body itself, it produces 800,000 tonnes of timber each year. Yet, astonishingly, as we heard yesterday from the chief executive of NRW, no-one on the current board has either knowledge or experience in timber or forestry. In their report into the problems at NRW's forestry division, the auditors Grant Thornton referred to a merged entity without a single organisational culture and an isolated forestry function beset by serious failings including poor governance, poor people management, poor budgeting and an audit culture that was not so much dilatory as entirely non existent. The board of NRW must accept their share of the responsibility for this grim state of affairs, and indeed the former chair resigned. But, since it was your Government that appointed them, do you also accept your share of the blame in creating a board that so patently was simply not up to the task?

Diolch, Llywydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 80 y cant o goedwigoedd Cymru yn uniongyrchol ac yn rheoleiddio'r 20 y cant arall. Fel corff ei hun, mae'n cynhyrchu 800,000 o dunelli o bren bob blwyddyn. Ac eto, yn rhyfeddol, fel y clywsom ddoe gan brif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes gan neb ar y bwrdd presennol wybodaeth am bren na choedwigaeth na phrofiad ohonynt. Yn eu hadroddiad ar y problemau yn is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, cyfeiriodd yr archwilwyr Grant Thornton at endid cyfunol heb unrhyw ddiwylliant sefydliadol a swyddogaeth goedwigaeth ar wahân wedi ei phlagio gan ddiffygion difrifol gan gynnwys llywodraethu gwael, rheolaeth wael o bobl, cyllidebu gwael a diwylliant archwilio nad oedd gymaint yn oediog ond nad oedd yn bodoli o gwbl. Mae'n rhaid i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru dderbyn eu cyfran o'r cyfrifoldeb am y sefyllfa erchyll hon, ac yn wir fe ymddiswyddodd y cyn-gadeirydd. Ond, gan mai eich Llywodraeth chi wnaeth eu penodi, a ydych chi hefyd yn derbyn eich cyfran o'r bai am greu bwrdd yr oedd yn gwbl amlwg nad oedd yn gallu gwneud y gwaith?

Well, Llywydd, I think the Welsh Government has recognised the need for the board of NRW to be strengthened. That's why we have a new and distinguished interim chair of the board. That's why the board has been reinforced by, I believe, five new members appointed by the Minister, including members with experience in land management. It's to that board that we must now look to take the actions that are necessary to address the findings in the Grant Thornton report and to work with the Public Accounts Committee and others to make sure that the deficits that have been identified are put right, and that this very important organisation that does very necessary and important work across Wales every single day is able to get on with those important duties, confident in the culture that it has and in the structures that are there to support it. 

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei gryfhau. Dyna pam mae gennym ni gadeirydd dros dro newydd a nodedig ar y bwrdd. Dyna pam mae'r bwrdd wedi cael ei atgyfnerthu gan bum aelod newydd, rwy'n credu, a benodwyd gan y Gweinidog, gan gynnwys aelodau â phrofiad o reoli tir. I'r bwrdd hwnnw y mae'n rhaid i ni edrych nawr i gymryd y camau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau yn adroddiad Grant Thornton ac i weithio gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac eraill i wneud yn siŵr bod y diffygion a nodwyd yn cael eu hunioni, a bod y sefydliad pwysig iawn hwn sy'n gwneud gwaith angenrheidiol a phwysig ledled Cymru bob un dydd yn gallu bwrw ymlaen â'r dyletswyddau pwysig hynny, gyda ffydd yn y diwylliant sydd ganddo ac yn y strwythurau sydd yno i'w gefnogi.

It does beg the question why it's taken six years and four separate reports for these deep failings to be uncovered in this way. Now, the standard response we've heard from the Government in situations like this is that this is an autonomous body for which you only have arm's-length responsibility, but you do have direct responsibility for your own Government's strategy for forestry and woodlands. Almost a decade ago, you adopted the ambitious and widely lauded target of planting 5,000 hectares of new woodland every year until 2030. You only managed an average of around 500 hectares a year, so you dropped the target to 2,000 hectares. Now, you've raised the target back up to 4,000 hectares. But can the First minister tell us how far short of the previous target you have fallen over the last four years?

Mae'n codi'r cwestiwn pam mae wedi cymryd chwe blynedd a phedwar adroddiad ar wahân i'r methiannau dwys hyn gael eu datgelu yn y modd hwn. Nawr, yr ymateb safonol yr ydym ni wedi ei glywed gan y Llywodraeth mewn sefyllfaoedd fel hyn yw bod hwn yn gorff ymreolus nad oes gennych ond cyfrifoldeb hyd braich amdano, ond mae gennych chi gyfrifoldeb uniongyrchol dros strategaeth eich Llywodraeth eich hun ar gyfer coedwigaeth a choetiroedd. Bron i ddegawd yn ôl, mabwysiadwyd gennych y targed uchelgeisiol ac a ganmolwyd yn eang o blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn hyd at 2030. Fe wnaethoch chi lwyddo i blannu cyfartaledd o ddim ond oddeutu 500 hectar y flwyddyn, felly gostyngwyd y targed gennych i 2,000 hectar. Erbyn hyn, rydych chi wedi codi'r targed yn ôl i fyny i 4,000 hectar. Ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa mor bell o gyrraedd y targed blaenorol ydych chi wedi disgyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf?

Well, Llywydd, I am aware that we've not reached the targets that we intend for woodland and for tree planting here in Wales, and that is something that I personally am very committed to addressing. In the campaign that was held during the autumn for the leadership of my party, I put forward a proposal for a new national forest for Wales. That's an idea I'm very committed to making sure that we take forward during the rest of this Assembly term and beyond in order to be able to make sure that the woodland of Wales is able to make its contribution both to climate change and decarbonisation and to the other things that ideas of that sort can bring to those parts of Wales whose future are most likely to be affected by Brexit. 

Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol nad ydym ni wedi cyrraedd y targedau a fwriedir gennym ar gyfer coetir a phlannu coed yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael ag ef. Yn yr ymgyrch a gynhaliwyd yn ystod yr hydref ar gyfer arweinyddiaeth fy mhlaid, cyflwynais gynnig ar gyfer coedwig genedlaethol newydd i Gymru. Mae hwnnw'n syniad yr wyf i'n ymrwymedig iawn iddo a gwneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen ag ef yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn a thu hwnt er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod coetir Cymru yn gallu gwneud ei gyfraniad i'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ac at y pethau eraill y gall syniadau o'r math hynny ddod â nhw i'r rhannau hynny o Gymru y mae eu dyfodol yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan Brexit.

I think the idea of a national forest is all well and good and to be welcomed, but you have to ask the First Minister: you've been part of the furniture in this institution in different shapes or forms—part of the furniture whether it's made out of Welsh wood or not—and where have you been in terms of these targets? You weren't able to answer, and there's a very good reason, maybe, because you used to publish an annual report on the 'Woodlands for Wales' indicators; you stopped, and I think I know why, because, in the last four years, you've achieved an average of just 200 hectares a year of new woodland planting—just 10 per cent of the target. Can you think of another area of public policy, First Minister, where you've underperformed as badly as this? It's the worst four-year figure since modern records began in 1971. NRW hasn't produced any new woodland at all since it was created six years ago. Scotland has produced 10 times as much new woodland in that period. Restocking rates in Wales are the lowest they have been since 1990.

Now, to some this may seem like a particular problem in a relatively small sector. It's nevertheless an important one to the rural economy, significant in the national scale in terms of our climate change reduction strategy, but, First Minister, doesn't this deep failure at the heart of Wales's biggest public body tell a much larger truth that sums up 20 years of Labour Government—glossy strategies, ambitious goals, but no delivery and no accountability?

Rwy'n credu bod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da ac i'w groesawu, ond mae'n rhaid i chi ofyn i'r Prif Weinidog: rydych chi wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y sefydliad hwn mewn gwahanol ffyrdd—a ble ydych chi wedi bod o ran y targedau hyn? Nid oeddech chi'n gallu ateb, ac mae rheswm da iawn, efallai, oherwydd roeddech chi'n arfer cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddangosyddion 'Coetiroedd i Gymru'; rhoesoch y gorau i wneud hynny, ac rwy'n credu fy mod i'n gwybod pam, oherwydd, yn y pedair blynedd diwethaf, rydym chi wedi sicrhau cyfartaledd o ddim ond 200 hectar y flwyddyn o blannu coetiroedd newydd—dim ond 10 y cant o'r targed. A allwch chi feddwl am faes polisi cyhoeddus arall, Prif Weinidog, lle'r ydych chi wedi tanberfformio mor wael â hyn? Dyma'r ffigur pedair blynedd gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion modern ym 1971. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu unrhyw goetiroedd newydd o gwbl ers ei greu chwe blynedd yn ôl. Mae'r Alban wedi cynhyrchu 10 gwaith gymaint o goetir newydd yn y cyfnod hwnnw. Mae cyfraddau ailstocio yng Nghymru ar eu hisaf ers 1990.

Nawr, gallai hon ymddangos i rai fel problem benodol mewn sector cymharol fach. Serch hynny, mae'n un pwysig i'r economi wledig, yn sylweddol ar y raddfa genedlaethol o ran ein strategaeth lleihau'r newid yn yr hinsawdd, ond, Prif Weinidog, onid yw'r methiant dwys hwn wrth wraidd corff cyhoeddus mwyaf Cymru yn adrodd gwirionedd mwy o lawer sy'n crynhoi 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur—strategaethau sgleiniog, nodau uchelgeisiol, ond dim cyflawni a dim atebolrwydd?

13:50

Llywydd, the Member moved from an important specific point to a general point that simply cannot—he cannot construct his general point on the specifics that he identified. On the specifics, I agree with him that woodland in Wales is a genuinely important part of what we do, that we do have to do better in it, that there are very good reasons why it is particularly important now to put a focus on that part of what we do; I'm personally committed to making sure that we do that.

The general points that he makes about NRW are being taken forward through the Public Accounts Committee and will be picked up in a debate here in the Assembly, and there will be a statement from the Minister on forestry on 12 March, as we currently plan it. That is an example of a Government that is prepared to grasp these issues to make the difference that is needed to be made, and that is the story of Labour Government here in Wales.

Llywydd, symudodd yr aelod o bwynt penodol pwysig i bwynt cyffredinol na ellir—ni all lunio ei bwynt cyffredinol ar sail y manylion a nodwyd ganddo. O ran y manylion, rwy'n cytuno ag ef bod coetir yng Nghymru yn rhan wirioneddol bwysig o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, bod yn rhaid i ni wneud yn well yn hynny o beth,  bod rhesymau da iawn pam mae'n arbennig o bwysig nawr i ganolbwyntio ar y rhan honno o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud; rwyf i wedi ymrwymo'n bersonol i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny.

Mae'r pwyntiau cyffredinol y mae'n eu gwneud am Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu symud ymlaen drwy'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a byddan nhw'n cael eu codi mewn dadl yma yn y Cynulliad, a bydd datganiad gan y Gweinidog ar goedwigaeth ar 12 Mawrth, fel yr ydym ni'n ei gynllunio ar hyn o bryd. Mae honno'n enghraifft o Lywodraeth sy'n barod i fynd i'r afael â'r materion hyn i wneud y gwahaniaeth y mae angen ei wneud, a dyna hanes Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru.

Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

Leader of the opposition, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. First Minister, do you agree with the Association of School and College Leaders Cymru that the severe funding crisis in Welsh schools is having a detrimental effect on our young people?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru bod yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru yn cael effaith niweidiol ar ein pobl ifanc?

Where I agree with them is when they point to the fact that the austerity imposed on Wales by his Government is having the effect that they regret, and I regret the fact, and regret every day, that we are unable to invest to the extent that we would like in our schools, in our hospitals, in housing and in all the other things that we would like to do in Wales. But the association that he points to—and I've seen their letter—puts their finger on where the blame lies, and it belongs with him and with his Government.

Lle'r wyf i'n cytuno â nhw yw pan eu bod nhw'n cyfeirio at y ffaith bod y cyni cyllidol a orfodwyd ar Gymru gan ei Lywodraeth ef yn cael yr effaith y maen nhw'n ei resynu, ac rwyf innau'n gresynu'r ffaith, ac yn gresynu bob dydd, nad ydym ni'n gallu buddsoddi i'r graddau y byddem ni'n hoffi ei wneud yn ein hysgolion, yn ein hysbytai, mewn tai ac yn yr holl bethau eraill yr hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Ond mae'r gymdeithas y mae'n cyfeirio ati—ac rwyf i wedi gweld eu llythyr—yn rhoi eu bys ar ble mae'r bai, ac mae'n gorwedd gydag ef a gyda ei Lywodraeth ef.

First Minister, you need to stop giving excuses and start taking responsibility. You are responsible for education here in Wales, and, First Minister, this open letter to your education Minister is a damning reflection on the way your Government has managed education here in Wales. Despite having £1.20 to spend on education here in Wales for every £1 in England, we still see a significant shortfall in school budgets, which is actually undermining hopes for future reform.

Now, according to the NASUWT, we know that pupils in Wales receive £645 less per head than pupils in England, and schools in Wales are facing a collective shortfall of £291 million in their budgets, and £450 million of education funding never reaches the classroom. So, why have you chosen to provide schools with what has been described as a totally inadequate level of funding, which has pushed schools to crisis point?

Prif Weinidog, mae angen i chi roi'r gorau i roi esgusodion a dechrau cymryd cyfrifoldeb. Chi sy'n gyfrifol am addysg yma yng Nghymru, a, Prif Weinidog, mae'r llythyr agored hwn at eich Gweinidog addysg yn adlewyrchiad damniol o'r ffordd y mae eich Llywodraeth wedi rheoli addysg yma yng Nghymru. Er bod gennym ni £1.20 i'w wario ar addysg yma yng Nghymru am bob £1 yn Lloegr, rydym ni'n dal i weld diffyg sylweddol mewn cyllidebau ysgolion, sydd wir yn tanseilio gobeithion ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol.

Nawr, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, rydym ni'n gwybod bod disgyblion yng Nghymru yn cael £645 yn llai y pen na disgyblion yn Lloegr, ac mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £291 miliwn yn eu cyllidebau, ac nid yw gwerth £450 miliwn o gyllid addysg byth yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Felly, pam ydych chi wedi dewis darparu i ysgolion yr hyn a ddisgrifiwyd fel lefel hollol cwbl annigonol o gyllid, sydd wedi gwthio ysgolion i sefyllfa o argyfwng?

Llywydd, the last time that Paul Davies's party was prepared to say to the public in Wales where they would take money from in order to fund the many things that, week after week, they tell us need to be done, it was the education budget that they chose as the main sacrifice for the rest of their plans. So, I don't think that we will be taking too seriously the crocodile tears of the Member on this matter this afternoon. In fact, the Institute for Fiscal Studies has made it clear that the gap between funding in Wales and in England has narrowed to a point where it scarcely exists. And here in Wales, we have—[Interruption.] Here in Wales, we have a deliberate policy of passporting on to education in Wales all the money that came to us from his Government for teachers’ pay. We look forward to making sure that we have money from his Government to cover the increase in teachers’ pensions that they have introduced, and we will continue to do that, just as we ensure that the money that goes to local authorities and to improvement consortiums is then passed on, in turn, to schools.

Llywydd, y tro diwethaf yr oedd plaid Paul Davies yn barod i ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru o ble y byddent yn cymryd arian er mwyn ariannu'r llawer o bethau y maen nhw'n dweud wrthym ni, wythnos ar ôl wythnos, sydd angen eu gwneud, y gyllideb addysg a ddewiswyd ganddyn nhw fel y prif aberth ar gyfer gweddill eu cynlluniau. Felly, nid wyf i'n credu y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth rhy ddifrifol i ffug-ddagrau'r aelod ar y mater hwn y prynhawn yma. A dweud y gwir, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi ei gwneud yn eglur bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr wedi cau i bwynt lle nad yw prin yn bodoli. Ac yma yng Nghymru, mae gennym ni— [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, mae gennym ni bolisi bwriadol o drosglwyddo ymlaen i addysg yng Nghymru yr holl arian a ddaeth i ni gan ei Lywodraeth ar gyfer cyflogau athrawon. Edrychwn ymlaen at wneud yn siŵr bod gennym ni arian gan ei Lywodraeth i dalu am y cynnydd i bensiynau athrawon a gyflwynwyd ganddynt, a byddwn yn parhau i wneud hynny, yn union fel y byddwn ni'n sicrhau bod yr arian sy'n mynd i awdurdodau lleol ac i gonsortia gwella yn cael ei drosglwyddo wedyn, yn ei dro, i ysgolion.

13:55

First Minister, the facts are absolutely clear. As you know, for every £1 spent in England, your Government can spend £1.20, and you cannot deny those facts, given it was you—it was you—who agreed this fiscal framework with the UK Government in the first place. So, is there any wonder there is a crisis in our schools when they have received consistent cuts to their budgets by your Government?

Now, let’s look at the figures, shall we, First Minister? We know that, between 2010-11 and 2018-19, gross budgeted expenditure on schools has received a real-terms cut of 7.9 per cent. Now, this inability to support our education sector has seen a significant number of teachers leave the profession. Having seen a drop of just 29 pupils since 2010, figures by the NASUWT, again, reveal that there are over 1,400 fewer teachers working in Wales during that period. What will it take—[Interruption.] What will it take, First Minister, for your Government to realise that our schools are facing a crisis and that this failure to make education a priority will have serious consequences for our future generations? And will you now start listening to our teachers and to our educational professionals to start giving our schools and our children the support that they deserve?

Prif Weinidog, mae'r ffeithiau yn gwbl eglur. Fel y gwyddoch, am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, gall eich Llywodraeth chi wario £1.20, ac ni allwch wadu'r ffeithiau hynny, o gofio mai chi—chi—wnaeth gytuno'r fframwaith cyllidol hwn gyda Llywodraeth y DU yn y lle cyntaf. Felly, a oes unrhyw ryfedd bod argyfwng yn ein hysgolion pan eu bod wedi dioddef toriadau cyson i'w cyllidebau gan eich Llywodraeth chi?

Nawr, gadewch i ni edrych ar y ffigurau, ie, Prif Weinidog? Rydym ni'n gwybod bod gwariant gros a gyllidebwyd ar ysgolion wedi dioddef, rhwng 2010-11 a 2018-19, toriad mewn termau real o 7.9 y cant. Nawr, mae'r anallu hwn i gefnogi ein sector addysg wedi golygu bod nifer sylweddol o athrawon wedi gadael y proffesiwn. Ar ôl gweld gostyngiad o ddim ond 29 o ddisgyblion ers 2010, mae'r ffigurau gan Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn datgelu, unwaith eto, bod dros 1,400 yn llai o athrawon yn gweithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Beth wnaiff hi ei gymryd—[Torri ar draws.] Beth wnaiff hi ei gymryd, Gweinidog, i'ch Llywodraeth chi sylweddoli bod ein hysgolion yn wynebu argyfwng ac y bydd y methiant hwn i wneud addysg yn flaenoriaeth yn arwain at ganlyniadau difrifol i genedlaethau'r dyfodol? Ac a wnewch chi ddechrau gwrando nawr ar ein hathrawon a'n gweithwyr addysgol proffesiynol i ddechrau rhoi'r cymorth y maen nhw'n ei haeddu i'n hysgolion a'n plant?

Llywydd, the Member asks for facts, and let me give him 888 million of them, because that is the number of pounds less that we have to spend on public services here in Wales today as a result of his Government since the year 2010—£880 million less. Every one of those pounds is a fact that we could be using to spend on public services here in Wales. If he believes that teachers in Wales do not understand that the problems that they face in the classroom are the result of the decisions that his Government has made and that we have to deal with every day, then, really, he needs to get out a bit more and speak to the people who understand this at the front line.

Llywydd, mae'r Aelod yn gofyn am ffeithiau, a gadewch i mi roi 888 miliwn ohonynt iddo, oherwydd dyna nifer y punnoedd yn llai sydd gennym ni i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru heddiw o ganlyniad i'w Lywodraeth ef ers y flwyddyn 2010—£880 miliwn yn llai. Mae pob un o'r punnoedd hynny yn ffaith y gallem ni fod yn ei defnyddio i wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Os yw e'n credu nad yw athrawon yng Nghymru yn deall bod y problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn yr ystafell ddosbarth yn deillio o'r penderfyniadau y mae ei Lywodraeth ef wedi eu gwneud ac yr ydym ni'n gorfod ymdrin â nhw bob dydd, yna, mae gwir angen iddo fynd allan ychydig yn amlach a siarad â'r bobl sy'n deall hyn ar y rheng flaen.

Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.

Leader of the UKIP group, Gareth Bennett.

Diolch, Llywydd. First Minister, a fortnight ago, you restated the Welsh Government’s intention to legislate on removing the defence of reasonable chastisement. I won’t ask you if you’re still intending to bring in a smacking ban, since what you said last time was quite clear. You stated that you were determined that the ban would get through the Assembly during this Assembly term and get on to the statute book. Given that this legislation is likely to be widely unpopular, why are you so intent on creating a new law in this area?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch chi ailddatgan bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Wnaf i ddim gofyn i chi a ydych chi'n dal i fwriadu cyflwyno gwaharddiad ar smacio plant, gan fod yr hyn a ddywedasoch y tro diwethaf yn gwbl eglur. Dywedasoch eich bod yn benderfynol y byddai'r gwaharddiad yn mynd drwy'r Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac yn cael ei roi ar y llyfr statud. O gofio bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o fod yn amhoblogaidd iawn, pam ydych chi mor benderfynol o greu cyfraith newydd yn y maes hwn?

Well, we will bring forward a new law in this area, Llywydd. It was part of the Labour manifesto. It’s part of the manifesto on which my party is elected. We believe in keeping those promises to the Welsh public and we will bring forward a Bill, which it is then for the Assembly to scrutinise and to debate. My party will be committed to seeing that Bill on to the statute book, and we look forward to working with others in this Chamber who share that ambition.

Wel, byddwn yn cyflwyno cyfraith newydd yn y maes hwn, Llywydd. Roedd yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur. Mae'n rhan o'r maniffesto yr etholwyd fy mhlaid ar ei sail. Rydym ni'n credu mewn cadw'r addewidion hynny i'r cyhoedd yng Nghymru a byddwn yn cyflwyno Bil, a bydd yno i'r Cynulliad graffu arno a'i drafod wedyn. Bydd fy mhlaid i yn ymrwymedig i weld y Bil hwnnw ar y llyfr statud, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill yn y Siambr hon sy'n rhannu'r uchelgais hwnnw.

Well, I thank you for your clarity on the issue. Now, the results of the official consultation on the smacking ban showed that opinion was fairly split on this. Half of the respondees felt that legislation would protect children’s rights, but half felt that it would not. It seems that, at best, the smacking ban is a law that will split the Welsh electorate down the middle. Now, this is the Assembly’s own consultation. All of the opinion polls conducted before this have shown a strong view against the smacking ban. I wonder if your Welsh Labour Government has thought enough about how the smacking ban is going to be policed. How will it be enforced? Will we have children informing against their own parents? And, if we do, who will be able to verify whether the claims are true or not? We could be heading into some kind of imitation of Stalin’s Russia of the 1930s, when perfectly law-abiding parents got sent to prison camps because their children were encouraged to whisper allegations against them to their schoolteachers. Is this the kind of scenario you want to occur here in Wales? 

Wel, diolch am eich eglurder ar y mater. Nawr, dangosodd canlyniadau'r ymgynghoriad swyddogol ar y gwaharddiad ar smacio plant bod y farn ar hyn yn weddol ranedig. Roedd hanner yr ymatebwyr yn teimlo y byddai ddeddfwriaeth yn diogelu hawliau plant, ond roedd hanner yn teimlo na fyddai. Mae'n ymddangos, ar y gorau, bod y gwaharddiad ar smacio plant yn gyfraith a fydd yn hollti etholwyr Cymru i lawr y canol. Nawr, ymgynghoriad y Cynulliad ei hun yw hwn. Mae'r holl bolau piniwn a gynhaliwyd cyn hyn wedi dangos barn gref yn erbyn y gwaharddiad ar smacio plant. Tybed a yw eich Llywodraeth Lafur Cymru wedi meddwl digon am sut y mae'r gwaharddiad ar smacio plant yn mynd i gael ei blismona. Sut y bydd yn cael ei orfodi? A fydd gennym ni blant yn hysbysu yn erbyn eu rhieni eu hunain? Ac, os bydd, pwy fydd yn gallu gwirio a yw'r honiadau yn wir ai peidio? Gallem ni fod ar ei ffordd i ryw fath o efelychiad o Rwsia Stalin yn y 1930au, pan roedd rhieni a oedd yn parchu'r gyfraith yn llwyr yn cael eu hanfon i wersylloedd carchar gan fod eu plant yn cael eu hannog i sibrwd honiadau yn eu herbyn i'w hathrawon. Ai dyma'r math o sefyllfa yr ydych chi eisiau ei gweld yma yng Nghymru?

14:00

Well, Llywydd, I recognise nothing in what the Member has said about the proposal that we will bring forward. We will bring forward a proposal to remove the defence of reasonable chastisement. No adult can be hit in this country, and such a defence mounted; why should a child be allowed to be hit and then that defence brought forward? This is the position that exists already in countless countries across the globe, countries where none of the entirely scaremongering possibilities that the Member identifies have happened, and none of which we expect to see happen here in Wales. 

Wel, Llywydd, nid wyf i'n adnabod unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y cynnig y byddwn yn ei gyflwyno. Byddwn yn cyflwyno cynnig i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Ni ellir taro unrhyw oedolyn yn y wlad hon, a chyflwyno amddiffyniad o'r fath; pam y dylid caniatáu i blentyn gael ei daro ac yna cyflwyno'r amddiffyniad hwnnw? Dyma'r sefyllfa sy'n bodoli eisoes mewn gwledydd di-rif ledled y byd, gwledydd lle nad yw'r un o'r posibiliadau codi bwganod y mae'r Aelod yn eu nodi wedi digwydd, ac nid ydym yn disgwyl i'r un ohonynt ddigwydd yma yng Nghymru.

Well, I'm sure, First Minister, you appreciate that we live in a time when we've had a whole catalogue of historic sex abuse claims made against people, some of them against perfectly innocent people. Many of these historical sex allegations have turned out to be pure delusion, but I'm sure plenty of innocent people have been caught up in them. If the state encourages children to start making allegations, then we could have a whole new catalogue of wrongful prosecutions. Are you really sure your legislation is going to be robust enough to prevent this possibility? 

Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwerthfawrogi ein bod ni'n byw mewn oes pan ein bod ni wedi cael cyfres o honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn cael eu gwneud yn erbyn pobl, rhai ohonyn nhw yn bobl gwbl ddiniwed. Canfuwyd bod llawer o'r honiadau rhyw hanesyddol hyn yn rhithdybiau llwyr, ond rwy'n siŵr bod digonedd o bobl ddiniwed wedi cael eu dal ynddynt. Os yw'r wladwriaeth yn annog plant i ddechrau gwneud honiadau, yna gallem ni gael cyfres newydd o erlyniadau anghyfiawn. A ydych chi'n wirioneddol siŵr bod eich deddfwriaeth yn mynd i fod yn ddigon cadarn i atal y posibilrwydd hwn?

Llywydd, where abuse takes place, we want people to speak out. If it happens in the home and children have a story to tell, then we want to encourage a position where they feel confident to come forward and make their stories known, just as we do in situations where people who have suffered in the past and in silence now feel able to come forward and tell their stories. On this side of the Chamber, and I think in many parts of this Chamber, that is regarded as a sign of progress, and a sign that things are better today than they were in the past when people were fearful, and felt unable to have their stories heard. I'm sorry that that view is not shared in all parts of this Chamber.       

Llywydd, lle mae cam-drin yn digwydd, rydym ni eisiau i bobl ddweud am hynny. Os bydd yn digwydd yn y cartref a bod gan blant stori i'w hadrodd, yna rydym ni eisiau annog sefyllfa lle maen nhw'n teimlo'n hyderus i ddod ymlaen a gwneud eu straeon yn hysbys, yn union fel yr ydym ni'n ei wneud mewn sefyllfaoedd lle mae pobl sydd wedi dioddef yn y gorffennol ac yn dawel yn teimlo bellach y gallan nhw ddod ymlaen ac adrodd eu hanesion. Ar yr ochr hon i'r Siambr, ac mewn sawl rhan o'r Siambr hon rwy'n credu, ystyrir hynny fel arwydd o gynnydd, ac arwydd bod pethau yn well heddiw nag yr oedden nhw yn y gorffennol pan roedd pobl yn ofnus, ac yn teimlo yn analluog i gael rhywun i wrando ar eu straeon. Mae'n ddrwg gen i nad yw'r safbwynt hwnnw'n cael ei rannu ym mhob rhan o'r Siambr hon.

Datrys Anghydfodau rhwng Llywodraethau'r DU
Resolving Disputes between the Governments of the UK

3. Pa gynnydd a wnaed o ran sefydlu dull priodol ar gyfer datrys anghydfodau rhwng llywodraethau'r DU? OAQ53385

3. What progress has been made to establish a proper mechanism for resolving disputes between the governments of the UK? OAQ53385

Can I thank the Member for the question, and say how much I look forward to answering what must be his first question to a First Minister since the very first year of devolution? And the answer to his question is that, at best, modest progress was reported on this matter at the last Joint Ministerial Committee plenary in December. The inter-governmental relations review commissioned in March 2018, when the Member represented Wales at the JMC, is yet to produce a report. 

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, a dweud cymaint yr wyf i'n edrych ymlaen at ateb yr hyn sy'n gorfod bod ei gwestiwn cyntaf i Brif Weinidog, ers blwyddyn gyntaf un datganoli? A'r ateb i'w gwestiwn yw yr adroddwyd ychydig o gynnydd, ar y gorau, o ran y mater hwn yng nghyfarfod llawn diwethaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Rhagfyr. Nid yw'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol a gomisiynwyd ym mis Mawrth 2018, pryd y cynrychiolwyd Cymru gan yr Aelod yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion, wedi cyflwyno adroddiad hyd yn hyn.

I thank the First Minister for his answer. Does the First Minister share my concern that the current arrangements for dispute resolution are inadequate, because we know that the UK Government is the arbiter of disputes, despite frequently being a party to those disputes? And if he agrees with me on that, what kind of system would he like to see in its place?  

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, gan ein bod ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU yw'r canolwr mewn anghydfodau, er gwaethaf y ffaith ei bod yn aml yn rhan o'r achosion hynny o anghydfod? Ac os yw e'n cytuno â mi ynghylch hynny, pa fath o system yr hoffai ef ei gweld yn hytrach?

Diolch, Llywydd. I entirely agree with Carwyn Jones that current arrangements for dispute resolution are inadequate, like so much of the inter-governmental machinery in the United Kingdom. It will come under greater pressure in the future as a result of Brexit, and as report after report of select committees at the House of Commons and the House of Lords and committees here have reported, the current machinery simply cannot bear the weight of the issues that Brexit is producing for the United Kingdom. What we need, then, is a set of arrangements that are based on principles, parity of esteem, parity of participation, the principle that disputes are always best avoided where they can be. Those principles should lead to a set of rules, and those rules should have within them an element of independent expertise and arbitration.

Llywydd, Members will be, I think, glad to know that in the work that is being carried out under the JMC plenary, and that the former First Minister helped to get started, Wales is taking the lead in drawing up the principles for future inter-governmental relations. And as we saw in the inter-governmental agreement, if you get those principles right, then the practicalities of a dispute resolution system are always likely to be more robustly put in place.

Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Carwyn Jones bod y trefniadau presennol ar gyfer datrys anghydfod yn annigonol, fel llawer o'r prosesau rhynglywodraethol yn y Deyrnas Unedig. Bydd yn dod o dan fwy o bwysau yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit, ac fel y mae adroddiad ar ôl adroddiad pwyllgorau dethol Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a phwyllgorau yn y fan yma wedi ei adrodd, ni all y prosesau presennol ddal pwysau'r problemau y mae Brexit yn eu hachosi i'r Deyrnas Unedig. Yr hyn sydd ei angen arnom, felly, yw cyfres o drefniadau sy'n seiliedig ar egwyddorion, cydraddoldeb o ran parch, cydraddoldeb o ran cyfranogiad, yr egwyddor ei bod bob amser yn well osgoi anghydfod pan fo'n bosibl gwneud hynny. Dylai'r egwyddorion hynny arwain at gyfres o reolau, a dylai'r rheolau hynny gynnwys elfen o arbenigedd a chymrodeddu annibynnol.

Llywydd, credaf y bydd yr Aelodau yn falch o wybod bod Cymru, yn y gwaith sy'n cael ei wneud o dan gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog helpu i'w gychwyn, yn arwain y gwaith o lunio'r egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol. Ac fel y gwelsom yn y cytundeb rhynglywodraethol, os byddwch chi'n cael yr egwyddorion hynny'n iawn, yna mae ymarferoldeb system datrys anghydfod bob amser yn debygol o gael ei sefydlu yn fwy cadarn.

14:05

Disputes, generally, centre on money and power. First Minister, you're generally thought to have had a fairly successful record at negotiating the fiscal framework with the UK Government to resolve the funding coming to Wales. Your predecessor, I would say, did a good job negotiating with the UK Government about the powers of this Assembly and the devolution settlement in the Brexit context. Doesn't that show that the essential mechanism for resolving disputes will generally be that of negotiation?

Mae anghydfodau, yn gyffredinol, wedi eu canolbwyntio ar arian a grym. Prif Weinidog, ystyrir yn gyffredinol eich bod chi wedi cael hanes cymharol lwyddiannus o ran cytuno ar y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth y DU i ddatrys y cyllid sy'n dod i Gymru. Fe wnaeth eich rhagflaenydd, yn fy marn i, waith da wrth negodi â Llywodraeth y DU ynglŷn â phwerau'r Cynulliad hwn a'r setliad datganoli yng nghyd-destun Brexit. Onid yw hynny'n dangos mai negodi fydd y dull hanfodol ar gyfer datrys anghydfod yn gyffredinol?

Well, I thank the Member for what he said and I don't disagree with him that negotiation is always going to be the main way in which disputes are resolved. What we are talking about in this question, in the way that the former First Minister put it, is what happens when negotiation runs out of road. And you do have to to have a set of arrangements in place in order to deal with the point at which attempts to resolve disputes—by avoiding them, by resolving them, by negotiating them—don't get you to the end point. And as Carwyn Jones said, we cannot have is a system in which the body that is responsible for resolving the dispute is a party to that dispute. That's what happens at the moment. It's not acceptable now, it's certainly not acceptable in the long run. When negotiation runs out, then you have to have a mechanism that is genuinely independent and commands the confidence of all the players involved in it.  

Wel, diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd ac nid wyf i'n anghytuno ag ef mai negodi fydd y brif ffordd o ddatrys anghydfodau bob amser. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yn y cwestiwn hwn, yn y ffordd y'i cyflwynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw'r hyn sy'n digwydd pan fydd dim mwy o le i drafod. Ac mae'n rhaid i chi gael cyfres o drefniadau ar waith er mwyn ymdrin â'r adeg pan na fydd ymdrechion i ddatrys anghydfod—drwy ei osgoi, drwy ei ddatrys, drwy ei negodi—yn mynd â chi i'r diweddglo. Ac fel y dywedodd Carwyn Jones, ni allwn ni gael system lle mae'r corff sy'n gyfrifol am ddatrys yr anghydfod yn rhan o'r anghydfod hwnnw. Dyna'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw'n dderbyniol nawr, yn sicr nid yw'n dderbyniol yn y tymor hir. Pan ddaw trafodaethau i ben, yna mae'n rhaid i chi gael dull sy'n wirioneddol annibynnol ac y mae gan bawb sy'n rhan ohono ffydd ynddo.

Yn eich tyb chi, Prif Weinidog, ydy pwysau amser a phwysau gwaith delio efo'r ddeddfwriaeth ychwanegol sy'n deillio o Brexit—ydy hynna i gyd yn esgus digonol i ddwyn pwerau oddi wrth ein Senedd yma yng Nghymru ac yn ôl i San Steffan?

In your view, First Minister, is time pressure and the pressures of work in dealing with the additional legislation emerging from Brexit—is that all a sufficient excuse to take powers away from our Senedd here in Wales and take them back to Westminster?

Wel, Llywydd, jest i ddweud unwaith eto: fel dwi wedi dweud sawl gwaith o'r blaen, does dim un pŵer wedi mynd o'r Cynulliad hwn i San Steffan. Mae popeth sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit yn mynd i ddod yma, a dim ond gyda chytundeb yma bydd pwerau yn gallu symud i unrhyw le arall. Dŷn ni ddim wedi cytuno i ddim byd symud, a does dim byd wedi symud.

Well, Llywydd, just to restate: as I've said many times, there is no single power that has been taken from this Assembly to Westminster. Everything that comes to Wales after Brexit is going to come here, and it's only with the agreement of this place that powers will be able to move anywhere else. We haven't agreed to anything moving, and nothing has moved.

And in the report that was published only last week, Llywydd, into the matter that was a subject of controversy on the floor of this Assembly, the UK Government, in its second three-monthly report, confirmed what I've just said, that not a single power has left this Assembly. Not a single use has been made of the mechanism that is in the European Union (Withdrawal) Act 2018 to deal with powers returning and there is no intention on the part of the UK Government to use that mechanism, because we are able—we have demonstrated an ability to resolve matters that lie between the component parts of the United Kingdom on the basis of agreement, as the Welsh Government said we would be able to from the very beginning.

Ac yn yr adroddiad a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos diwethaf, Llywydd, ar y mater a oedd yn destun dadl ar lawr y Cynulliad hwn, cadarnhaodd Llywodraeth y DU, yn ei ail adroddiad tri misol, yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud, nad oes yr un grym wedi gadael y Cynulliad hwn. Ni wnaed unrhyw ddefnydd o'r dull sydd yn Neddf Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i ymdrin â phwerau yn dychwelyd ac nid oes unrhyw fwriad ar ran Llywodraeth y DU i ddefnyddio'r dull hwnnw, gan ein bod ni'n gallu—rydym ni wedi dangos gallu i ddatrys problemau sy'n gorwedd rhwng y gwahanol gydrannau o'r Deyrnas Unedig ar sail cytundeb, fel y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei wneud o'r cychwyn cyntaf.

Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy
Sustainable Social Services

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun grantiau trydydd sector Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ? OAQ53387

4. Will the First Minister make a statement on the Welsh Government's sustainable social services third sector grants scheme, please? OAQ53387

I thank the Member for the question, Llywydd. The Welsh Government’s sustainable social services third sector grant scheme provides £7 million each year to third sector organisations, delivering 32 projects that support vulnerable children, adults and older people in Wales. This grant is in place from April 2016 to March 2020. 

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae cynllun grant trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn darparu £7 miliwn bob blwyddyn i sefydliadau trydydd sector, gan ddarparu 32 o brosiectau sy'n cynorthwyo plant, oedolion a phobl hŷn agored i niwed yng Nghymru. Mae'r grant hwn ar waith o fis Ebrill 2016 tan fis Mawrth 2020.

Thank you very much for the answer, Minister. Family Fund is a charity that provides grants to families on low incomes who are raising disabled or seriously ill children in Wales. Earlier this month, Family Fund announced that they had insufficient funding to help families and were no longer able to accept applications until April 2019. One reason for the predicament is that their funding from the Welsh Government's sustainable social services third sector grants scheme was cut in 2016 from £2.5 million a year to less than £2 million over the next three years. Does the First Minister accept that this funding cut is having a detrimental effect on projects and initiatives that support his Government's strategy for social services in Wales, especially for disabled and seriously ill children?

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Mae Cronfa'r Teulu yn elusen sy'n rhoi grantiau i deuluoedd sydd ar incwm isel ac sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Cronfa'r Teulu nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian i helpu teuluoedd ac nad oedden nhw erbyn hyn yn  gallu derbyn ceisiadau tan fis Ebrill 2019. Un rheswm am y cyfyng-gyngor yw bod eu cyllid oddi wrth cynllun grantiau trydydd sector gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi ei dorri yn 2016 o £2.5 miliwn y flwyddyn i lai na £2 filiwn dros y tair blynedd nesaf. A yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod y toriad ariannol hwn yn cael effaith niweidiol ar brosiectau a mentrau sy'n cefnogi strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer plant anabl a difrifol wael?

14:10

Llywydd, I want to recognise the important work that the Family Fund does in Wales and will go on doing in Wales as a result of the £0.5 million every year that it receives through the sustainable social services grant. Some Members here will recall that, back in 2016, we developed a set of rules that said that no one organisation could receive more than 10 per cent of the total amount available in that grant, and that's exactly what the Family Fund receives. It receives the absolute maximum amount available under the rules of the sustainable social services grant scheme and, indeed, in the first year of the scheme, we provided the fund with an additional £400,000 in that year in order to smooth the transition from the amount of money it previously received to the amount we are able to provide under the new grant arrangements.

And part of the reason why we decided that no one organisation could receive more than 10 per cent of the total sum available was because we wanted to allow other organisations with equally important projects to get funded as well. So, amongst the 31 organisations that the social services grant now funds are Learning Disability Wales, Carers Wales, the All Wales Forum of Parents and Carers of People with Learning Disabilities, and the Family Action programme, which provides practical, emotional and financial support to families. So, the work that the Family Fund does is very important, but we're now able to complement that with a whole range of other services working in the field that the Family Fund also operates.

Llywydd, hoffwn gydnabod y gwaith pwysig y mae Cronfa'r Teulu yn ei wneud yng Nghymru ac y bydd yn parhau i'w wneud yng Nghymru o ganlyniad i'r £0.5 miliwn bob blwyddyn y mae'n ei dderbyn drwy'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio ein bod ni wedi datblygu cyfres o reolau yn ôl yn 2016 a oedd yn dweud na allai un sefydliad gael mwy na 10 y cant o'r cyfanswm sydd ar gael yn y grant hwnnw, a dyna'n union y mae Cronfa'r Teulu yn ei gael. Mae'n cael yr uchafswm posibl sydd ar gael o dan reolau'r cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac, yn wir, ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, darparwyd £400,000 yn ychwanegol gennym i'r gronfa yn y flwyddyn honno i hwyluso'r cyfnod pontio o'r swm o arian yr oedd yn ei gael o'r blaen i'r swm yr ydym ni'n gallu ei ddarparu o dan y trefniadau grant newydd.

A rhan o'r rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu na allai unrhyw un sefydliad gael mwy na 10 y cant o'r cyfanswm sydd ar gael oedd oherwydd ein bod ni eisiau caniatáu i sefydliadau eraill â phrosiectau sydd yr un mor bwysig gael eu hariannu hefyd. Felly, ymhlith y 31 o sefydliadau y mae'r grant gwasanaethau cymdeithasol yn eu hariannu erbyn hyn y mae Anabledd Dysgu Cymru, Cynhalwyr Cymru, Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu, a'r rhaglen Family Action, sy'n darparu cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i deuluoedd. Felly, mae'r gwaith y mae Cronfa'r Teulu yn ei wneud yn bwysig iawn, ond rydym ni'n gallu ategu hynny erbyn hyn gydag amrywiaeth eang o wasanaethau eraill sy'n gweithio yn y maes y mae Cronfa'r Teulu hefyd yn gweithredu ynddo.

Cydgynhyrchu Gwasanaethau
The Co-production of Services

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydgynhyrchu gwasanaethau gyda'r trydydd sector a chymunedau? OAQ53383

5. How is the Welsh Government co-producing services with the third sector and communities? OAQ53383

I thank Mark Isherwood for that. Llywydd, I want the principles of co-production to animate the approach of the Welsh Government in its work with the third sector and others. In order to achieve that, we work closely with the Co-production Network for Wales, Academi Wales and the Wales Audit Office, who encourage co-production through training, events and online resources.

Diolchaf i Mark Isherwood am hynna. Llywydd, hoffwn i egwyddorion cyd-gynhyrchu sbarduno dull Llywodraeth Cymru yn ei gwaith gyda'r trydydd sector ac eraill. Er mwyn cyflawni hynny, rydym ni'n gweithio'n agos gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Academi Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n annog cydgynhyrchu drwy hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein.

Diolch. I've also worked for many years with the Co-production Network for Wales. I was in fact the only politician, I think, invited to their official launch—[Assembly Members: 'Hear, hear.']—which was well worthy of support. Last Friday, I once again visited a small charity, an autism charity supporting families with children on the spectrum, which is having to devote a massive amount of volunteer time to applying for tiny grants, often not being successful. I routinely visit equivalent small charities doing wonderful work, co-producing solutions with families and with community members that work, and yet millions are going into the Welsh Government statutory provision or the integrated autism service and other top-down programmes that are not reaching the organisations on the ground that are making that real difference. 

Given that the interim evaluation of the IAS last March identified the failure of co-production because of a top-down approach as being a significant problem, how can you, and will you, personally intervene to drive your understanding of co-production, which I know is deep and meaningful, so that we can actually start to begin to do this right and ensure that what funding is available—and there's a lot out there—is going where it can make a real difference rather than into county halls where it doesn't always reach the places that could make that difference, so badly needed?

Diolch. Rwyf innau hefyd wedi gweithio ers blynyddoedd lawer gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru. A dweud y gwir, fi oedd yr unig wleidydd, rwy'n credu, a wahoddwyd i'w lansiad swyddogol—[Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']—a oedd yn sicr yn deilwng o gefnogaeth. Ddydd Gwener diwethaf, ymwelais unwaith eto ag elusen fach, elusen awtistiaeth sy'n cynorthwyo teuluoedd â phlant ar y sbectrwm, sy'n gorfod neilltuo llawer iawn o amser gwirfoddoli i wneud ceisiadau am grantiau bach, heb lwyddiant yn aml. Rwy'n ymweld ag elusennau bach cyfatebol fel mater o drefn, sy'n gwneud gwaith gwych, gan gydgynhyrchu atebion gyda theuluoedd ac aelodau'r gymuned sy'n gweithio, ac eto mae miliynau yn mynd at ddarpariaeth statudol Llywodraeth Cymru neu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a rhaglenni eraill o'r brig i lawr nad ydyn nhw'n cyrraedd y sefydliadau llawr gwlad sy'n gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol hwnnw.

O gofio bod y gwerthusiad dros dro o'r IAS fis Mawrth diwethaf wedi nodi methiant cydgynhyrchu oherwydd bod dull o'r brig i lawr yn broblem sylweddol, sut gallwch chi, ac y gwnewch chi, ymyrryd yn bersonol i ysgogi eich dealltwriaeth o gydgynhyrchu, y gwn sy'n drylwyr ac yn ystyrlon, fel y gallwn ni ddechrau gwneud hyn yn iawn a sicrhau bod y cyllid sydd ar gael—ac mae llawer ar gael—yn mynd i'r lle y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn hytrach nag i neuaddau sir lle nad yw bob amser yn cyrraedd y lleoedd a allai wneud y gwahaniaeth hwnnw, sydd ei angen mor daer?

Llywydd, I thank the Member for that question. This Government is committed to making sure that we work with a plurality of third sector organisations, recognising the very important contribution that they make to public services and the ability that they have to form an interface with the citizen that regards the users of our services as assets and people who have strengths that they can bring to bear on the services that are provided. I wanted to thank the Member for pointing out last week in First Minister's questions a report to which he referred, which I had a chance to look at over the weekend, and which does provide some practical ideas in the contracting sphere as to how small organisations can have a better chance of making the case for funding from public bodies. The place where I depart from Mark Isherwood, in relation to co-production, is that I sometimes think he describes it as a way of replacing the state as though it is a mechanism for moving things away from public services and replacing them with the work of others. I've never seen it that way myself; I see it as a way of augmenting, supplementing, influencing, shaping the work of others, but not of supplanting it.

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector, gan gydnabod y cyfraniad pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud i wasanaethau cyhoeddus a'r gallu sydd ganddyn nhw i ffurfio rhyngwyneb gyda'r dinesydd sy'n ystyried defnyddwyr ein gwasanaethau fel asedau a phobl sydd â chryfderau y gallan nhw eu defnyddio i ddylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir. Roeddwn i eisiau diolch i'r Aelod am nodi yr wythnos diwethaf yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog adroddiad y cyfeiriodd ato, y cefais gyfle i edrych arno dros y penwythnos, ac sy'n cynnig rhai syniadau ymarferol yn y maes contractio o ran sut y gall sefydliadau bach gael gwell cyfle o ddadlau'r achos am gyllid gan gyrff cyhoeddus. Yr hyn yr wyf i'n anghytuno â Mark Isherwood yn ei gylch, o ran cydgynhyrchu, yw fy mod i'n credu weithiau ei fod yn ei ddisgrifio fel ffordd o ddisodli'r wladwriaeth fel pe byddai'n dull ar gyfer symud pethau oddi wrth y gwasanaethau cyhoeddus a'u disodli gyda gwaith pobl eraill. Nid wyf i erioed wedi ei weld yn y modd hwnnw fy hun; rwy'n ei weld fel ffordd o atodi, ategu, dylanwadu, rhoi siâp ac ychwanegu at waith pobl eraill, ond nid ei ddisodli.

14:15
Cymorth i Deuluoedd Plant Byddar
Support for the Families of Deaf Children

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i deuluoedd plant byddar? OAQ53397

6. Will the First Minister make a statement on support for the families of deaf children? OAQ53397

I thank Nick Ramsay for that. A national framework of action was launched in 2017 to promote the care and support for people who are deaf or living with hearing loss. It commits the Welsh Government, health boards and local authorities to work together to improve services, including support for the families of deaf children. 

Diolch i Nick Ramsay am hynna. Lansiwyd fframwaith gweithredu cenedlaethol yn 2017 i hybu gofal a chymorth i bobl sy'n fyddar neu'n byw gyda diffyg clyw. Mae'n ymrwymo Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau, gan gynnwys cymorth i deuluoedd plant byddar.

Thank you, First Minister. I'm sure you're aware of the recent news story that Ros and Josh Hannam from Monmouthshire are having to pay £6,000 for sign language classes to help communicate with their deaf daughter, Lola. The couple have received funding through the local authority's sensory and communication service, but are having to fundraise to make up the shortfall themselves—valuable time that would otherwise be spent with their daughter. Debbie Thomas from the National Deaf Children's Society has said that parents of deaf children currently face a postcode lottery when it comes to funding for these sign language classes that are so crucial to helping their social and educational development. Can I ask that the Welsh Government's review—because I know you've committed to one—of the British Sign Language funding takes place as swiftly as possible so that all deaf children, regardless of where they live, get the best possible start in life?

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r stori newyddion ddiweddar bod Ros a Josh Hannam o Sir Fynwy yn gorfod talu £6,000 am ddosbarthiadau iaith arwyddion i'w helpu i gyfathrebu gyda'u merch fyddar, Lola. Mae'r pâr wedi cael cyllid trwy wasanaeth synhwyrau a chyfathrebu'r awdurdod lleol, ond yn gorfod codi arian i dalu'r diffyg eu hunain—amser gwerthfawr a fyddai fel arall yn cael ei dreulio gyda'u merch. Mae Debbie Thomas o'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn dweud bod rhieni plant byddar yn wynebu loteri cod post ar hyn o bryd pan ddaw i gyllid ar gyfer y dosbarthiadau iaith arwyddion hyn sydd mor hanfodol i helpu eu datblygiad cymdeithasol ac addysgol. A gaf i ofyn bod adolygiad Llywodraeth Cymru—oherwydd gwn eich bod chi wedi ymrwymo i un—o gyllid Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gynnal cyn gynted â phosib fel bod bod pob plentyn byddar, ni waeth ble mae'n byw, yn cael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd?

I'm very happy to confirm to the Member the timetable for that review. We expect tenders for the work to be received by 25 February, that the contract will be awarded early in March, that the field work will take place between March and May and that advice to Ministers will be received by the end of June of this year. So, I think that is a pretty rapid turnaround for a very important piece of work. To agree, Llywydd, with what Ramsay said, this is a piece of—the responsibility for these services lies with local authorities. I have seen figures that show a very wide range of charges that are imposed by different local authorities in Wales, and the point of the review is to try to make sure that we have a service that is fair, equitable and co-ordinated, and where people don't feel that they are at the mercy of the geography of where they happen to live.

Rwy'n hapus iawn i gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwnnw i'r Aelod. Rydym ni'n disgwyl i dendrau ar gyfer y gwaith ddod i law erbyn 25 Chwefror, y bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ddechrau mis Mawrth, y bydd y gwaith maes yn cael ei wneud rhwng mis Mawrth a mis Mai ac y bydd cyngor i Weinidogion yn cael ei dderbyn erbyn diwedd mis Mehefin eleni. Felly, rwy'n credu bod hynny'n weddol gyflym ar gyfer darn o waith pwysig iawn. I gytuno, Llywydd, gyda'r hyn a ddywedodd Ramsay, mae hwn yn ddarn o—awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn. Rwyf i wedi gweld ffigurau sy'n dangos amrywiaeth eang iawn o ffioedd a orfodir gan wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, a diben yr adolygiad yw ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni wasanaeth sy'n deg, yn gyfartal ac yn gydgysylltiedig, a lle nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw ar drugaredd y ddaearyddiaeth o ba le bynnag y maen nhw'n digwydd byw ynddo.

Can I join with Nick Ramsay in talking about the importance of sign language, not just to parents but also to siblings—an opportunity to be able to talk to other members of the family? I said last week, it's the first language of many deaf people.

Following on from what Nick Ramsay said, it's not only just about cost, it's about availability, and there is a serious problem of having people who are capable of teaching sign language. If we made it free to everybody who wanted it, in many cases, it wouldn't make a huge difference because there aren't enough people to teach it. So, what can be done to increase the number of people able to teach sign language so that more people can learn how to talk to their siblings, so parents can talk to their children, so we've got a situation where equality exists?

A gaf i ymuno â Nick Ramsay i sôn am bwysigrwydd iaith arwyddion, nid yn unig i rieni ond hefyd i frodyr a chwiorydd—cyfle i allu siarad ag aelodau eraill y teulu? Dywedais yr wythnos diwethaf, mai dyma iaith gyntaf llawer o bobl fyddar.

Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay, nid yw'n ymwneud â chost yn unig, mae'n ymwneud â'r hyn sydd ar gael, a cheir problem ddifrifol o gael pobl sy'n gallu addysgu iaith arwyddion. Pe byddem ni'n ei wneud yn rhad ac am ddim i bawb a oedd ei eisiau, mewn llawer o achosion, ni fyddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr oherwydd nad oes digon o bobl i'w haddysgu. Felly, beth ellir ei wneud i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu addysgu iaith arwyddion fel y gall mwy o bobl ddysgu sut i siarad â'u brodyr a'u chwiorydd, fel y gall rhieni siarad â'u plant, fel bod gennym ni sefyllfa lle mae cydraddoldeb yn bodoli?

Well, Llywydd, can I thank Mike Hedges for that very important follow-up question? This National Assembly formally recognised BSL as a language in its own right as long ago as 2004. And he's right that it is every bit as much a language as any other language for many of the families who use it, and there is a shortage of interpreters and tutors here in Wales.

The review will look at that issue as well. It will look at existing provision, it will consider costs and access, but it will also look at ways in which we can improve the flow of people properly equipped and able to provide the sorts of courses that Nick Ramsay referred to and which his constituents are hoping to be able to use.

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Mike Hedges am y cwestiwn dilynol pwysig iawn yna? Cydnabuwyd Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn fel iaith yn ei rhinwedd ei hun mor bell yn ôl â 2004. Ac mae'n iawn ei bod hi gymaint o iaith ag unrhyw iaith arall i lawer o'r teuluoedd sy'n ei defnyddio, a cheir prinder cyfieithwyr ar y pryd a thiwtoriaid yma yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad yn ystyried y mater hwnnw hefyd. Bydd yn ystyried y ddarpariaeth bresennol, bydd yn ystyried costau a mynediad, ond bydd hefyd yn ystyried ffyrdd y gallwn ni wella'r llif o bobl sydd â'r paratoad priodol ac sy'n gallu darparu'r mathau o gyrsiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atyn nhw ac y mae ei etholwyr yn gobeithio gallu eu defnyddio.

Cymorth i Ysgolion Cynradd
Support for Primary Schools

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ysgolion cynradd? OAQ53414

7. What support is the Welsh Government giving to primary schools? OAQ53414

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn darparu cymorth i ysgolion drwy bartneriaeth o awdurdodau lleol a’r pedwar consortiwm rhanbarthol. Yn dilyn y canlyniadau categoreiddio diweddar, mae’n galonogol i weld cynnydd yn nifer yr ysgolion cynradd sydd angen llai o ddyddiau o gymorth yn ystod y flwyddyn nesaf.

The Welsh Government identifies and provides support to schools through a partnership of local authorities and the four regional consortia. Following the most recent categorisation outcomes, it's encouraging to see that more primary schools need fewer days of support in the coming year.

14:20

Diolch am yr ymateb hynny. Cwpwl o wythnosau nôl, gwnes i gwrdd â nifer o brifathrawon yn ardal Abertawe, ac yn eu geiriau nhw, roedden nhw'n dweud bod y sefyllfa'n wynebu creisis o ran yr hyn sydd yn digwydd mewn ysgolion cynradd yn yr ardal benodol hynny. Mae moral yn isel iawn—nid fy ngeiriau i yw hynny, ond eu geiriau nhw ataf i. Beth ydych chi'n ei wneud i weithio gydag ysgolion, yng nghyd-destun y sefyllfa gyllidebol anodd iawn, i sicrhau eu bod nhw'n gallu gweithredu mewn modd effeithlon? Maen nhw wedi dweud wrthyf i fod y system grantiau'n rhy gymhleth, fod y fformiwla'n rhywbeth sydd yn anodd iddyn nhw ei ddeall, ac maen nhw'n poeni nad ydyn nhw'n gallu edrych ar ôl y disgyblion mwyaf bregus yn sgil y problemau ariannol hynny. Beth ydych chi'n gallu dweud wrthyf i heddiw i gymryd neges bositif yn ôl i'r prifathrawon hynny?

Thank you for that response. A few weeks ago, I met with a number of headteachers in the Swansea area, and in their own words, they said that the situation was reaching crisis point in terms of what's happening in primary schools in that particular area. Morale is very low—those aren't my words, but theirs. What are you doing to work with schools, in the context of the current very difficult financial climate, to ensure that they are able to operate effectively? They've told me that the grants system is too complex, that the formula is something that's difficult to understand, and that they concerned that they can't care for the most vulnerable pupils, given those financial problems. So, what can you tell me today so that I can take a positive message back to those headteachers?

Wel, Llywydd, dwi'n meddwl bod neges bositif i fwydo nôl i'r athrawon a phrifathrawon yn Abertawe.

Well, Llywydd, I think that we do have a positive message to feed back to teachers and headteachers in Swansea.

In the report that was published only a week or so ago, which showed how schools were faring in relation to the additional support that they need, in the Swansea area, part of the ERW consortium, far more primary schools moved towards needing fewer rather than greater hours of support. Twenty-nine schools in that area moved in a positive direction, whereas only four schools were categorised as needing more support—a ratio of more than 7:1 of schools moving in the right direction. That is a tremendous tribute, isn't it, to those people who lead education in that part of Wales and the work that teachers in schools do? So, while I recognise that out there on the front line the pressures of nine years of austerity are absolutely real and are felt every day in the work that people do, the positive message I would want to give to those headteachers is that, together, through the actions they are taking, they are succeeding in providing a better education for the children who are in their schools today, and I hope that they will take some confidence from their own success and that that will give them some of the strength and the resilience they need to deal with the undoubted difficulties that all public services in Wales face.

Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ryw wythnos neu ddwy yn ôl, a oedd yn dangos sut yr oedd ysgolion yn ymdopi o ran y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw, yn ardal Abertawe, rhan o gonsortiwm ERW, symudodd llawer mwy o ysgolion cynradd tuag at sefyllfa pryd yr oedd angen llai yn hytrach na mwy o oriau o gymorth. Symudodd naw ar hugain o ysgolion yn yr ardal honno mewn cyfeiriad cadarnhaol, a dim ond pedair ysgol gafodd eu nodi'n rhai a oedd angen mwy o gefnogaeth—cymhareb o fwy na 7:1 o ysgolion yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae hynny'n deyrnged aruthrol, onid yw, i'r bobl hynny sy'n arwain addysg yn y rhan honno o Gymru a'r gwaith y mae'r athrawon mewn ysgolion yn ei wneud? Felly, er fy mod yn cydnabod, allan yn y rheng flaen, mae pwysau o naw mlynedd o gyni yn hollol real ac yn cael ei deimlo gan bobl wrth eu gwaith bob dydd, y neges gadarnhaol yr hoffwn ei rhoi i'r penaethiaid hynny yw eu bod nhw, gyda'i gilydd, drwy'r camau y maen nhw'n eu cymryd, yn llwyddo i ddarparu addysg well i'r plant sydd yn eu hysgolion heddiw. Gobeithio y byddant hefyd yn magu hyder yn sgil eu llwyddiant eu hunain ac y bydd hynny'n rhoi'r cryfder a'r cydnerthedd sydd eu hangen arnyn nhw i ymdrin â'r anawsterau diamheuol y mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn eu hwynebu.

Finally, question 8—Lynne Neagle.

Yn olaf, cwestiwn 8—Lynne Neagle.

Rhoi Terfyn ar y Rhyddid i Symud
Ending Freedom of Movement

8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r gost i economi Cymru o roi terfyn ar ryddid i symud? OAQ53422

8. What assessment has the First Minister made of the cost to the economy in Wales of ending freedom of movement? OAQ53422

I thank Lynne Neagle for that. The UK Government’s own economic analysis, published in November, concluded that reducing migration from the European Economic Area to zero would reduce UK gross domestic product by almost 2 per cent. The impact of ending freedom of movement would be felt directly in Welsh businesses, universities and public services.

Diolch i Lynne Neagle am hynny. Daeth dadansoddiad economaidd Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, i'r casgliad y byddai gostwng ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd i sero yn gostwng cynnyrch domestig gros y DU bron 2 y cant. Byddai effaith rhoi terfyn ar ryddid i symud yn cael ei deimlo'n uniongyrchol mewn busnesau yng Nghymru, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus.

Thank you, First Minister. Would you agree with me that it would be a very serious mistake to leave the EU without any clear idea of the destination? And, will you make it clear to any Ministers from the UK Government, or, indeed, anyone with significant influence over Brexit, such as the leader of the opposition in Westminster, that supporting a blindfold Brexit would be an unacceptably high-risk policy?

Diolch i chi, Prif Weinidog. A fyddech chi'n cytuno â mi y byddai'n gamgymeriad difrifol iawn i adael yr UE heb unrhyw syniad clir ynghylch y gyrchfan? Ac a wnewch chi egluro wrth unrhyw Weinidogion o Lywodraeth y DU, neu, yn wir, unrhyw un sydd â dylanwad sylweddol dros Brexit, megis arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, y byddai cefnogi Brexit â mwgwd yn bolisi â risg uchel annerbyniol?

Well, we're certainly not in favour of a blindfold Brexit, and have not been since the very earliest days after the referendum. The Member knows, I know, very well the prospectus that the Welsh Government set out in that immediate aftermath: a Brexit that is shaped by the needs of the economy and jobs here in Wales; a Brexit that has a clear destination in terms of membership of a customs union; dynamic regulatory alignment with the single market; and a fair movement of people regime. That is the sort of Brexit, if we are to have Brexit, which does the most it can to mitigate the impact on the Welsh economy of leaving our closest and most important market. And I take every opportunity, as do my Cabinet colleagues, to advocate for that form of Brexit at every opportunity that comes our way.

Wel, nid ydym o blaid Brexit â mwgwd yn sicr, a heb fod ers y dyddiau cynharaf yn dilyn y refferendwm. Mae'r Aelod yn gyfarwydd iawn, mi wn, â'r prosbectws a gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn sgil hwnnw: Brexit a gaiff ei lywio gan anghenion yr economi a swyddi yma yng Nghymru; Brexit sydd â syniad clir o ran aelodaeth o undeb tollau; rheoleiddio deinamig sy'n gydnaws â'r farchnad sengl; a chyfundrefn symud pobl sy'n deg. Dyna'r math o Brexit, os ydym ni i gael Brexit, sy'n gwneud y gorau yn ei allu i liniaru'r effaith ar economi Cymru wrth inni adael ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig. Ac rwy'n manteisio ar bob cyfle, fel y gwnaiff fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, i ddadlau o blaid y math hwnnw o Brexit, ar bob cyfle a ddaw.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

The next item is the business statement and announcement. I call on the Trefnydd to make a statement—Rebecca Evans.

Thank you. There are no changes to this week's business. Draft business for the next three weeks is set out in the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.

Organiser, could we have a statement or response to the Minister's commitment to do an environmental impact assessment on the Barry incinerator? This commitment was given by the Government back last February. We are in February of 2019 now—that's 12 months, believe it or not—and we still haven't had a response from the Minister as to whether she is going to carry out this assessment or insist that Natural Resources Wales carry out this assessment. Many residents, not unreasonably, are very concerned about this, and they see that the Government has turned their back on them. In particular, the previous First Minister indicated that such a decision would have been made by November of last year. It cannot be still sitting on someone's desk waiting for a decision to be taken. Surely, the decision has been taken. Can we now have that decision communicated so we know whether an environmental impact assessment will be undertaken?

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad neu ymateb i ymrwymiad y Gweinidog i wneud asesiad o'r effaith amgylcheddol ar losgydd y Barri? Rhoddwyd yr ymrwymiad hwn gan y Llywodraeth nôl ym mis Chwefror y llynedd. Rydym yn awr ym mis Chwefror 2019—mae hynny'n 12 mis, credwch neu beidio—ac rydym ni'n dal i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog ynghylch a yw'n mynd i gynnal yr asesiad hwn neu fynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal yr asesiad hwn. Mae llawer o drigolion, nid yn afresymol, yn bryderus iawn ynghylch hyn, ac maen nhw'n gweld fod y Llywodraeth wedi troi ei chefn arnyn nhw. Yn benodol, nododd y Prif Weinidog blaenorol y byddai penderfyniad o'r fath wedi'i wneud erbyn mis Tachwedd y llynedd. 'Does bosib ei fod yn dal yn gorwedd ar ddesg rhywun yn aros am benderfyniad. Mae'n rhaid bod y penderfyniad wedi ei wneud. A gaiff y penderfyniad ei gyhoeddi yn awr er mwyn inni gael gwybod a fydd asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal?

14:25

Thank you for raising this issue. I know that this matter is clearly a very complex matter that is requiring some detailed consideration. I will ensure that you receive a more comprehensive and complete idea of when a decision will be made.

Diolch i chi am godi'r mater hwn. Gwn fod y mater hwn yn amlwg yn fater cymhleth iawn ac mae angen ei ystyried yn fanwl. Byddaf yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth mwy cynhwysfawr a chyflawn ynghylch pryd y gwneir penderfyniad.

Trefnydd, you'll be clearly aware of the announcement last week of plans by the UK Government to develop a west Wales parkway rail station on land at Felindre, Swansea, within your Gower constituency. Now, the proposal, as you know, which would make use of the Swansea district line, will bring about improvements to passengers in west Wales by delivering shorter journey times to Cardiff and London—being as electrification has gone—reducing the journey by up to a quarter of an hour, with scope for greater journey savings if line speeds are increased. It could also help with congestion issues on the M4 around Swansea and Port Talbot, and the main commuter arteries into Swansea.

Clearly, though, these east-west rail improvements cannot be looked at in isolation. You'll be aware that the Welsh Government has previously commissioned a feasibility for a Swansea bay and western Valleys metro. South-west Wales is crying out for improved public transport, and rail needs to play a key part in that. As well as seeing services to Swansea and Neath stations protected, we also need to see other routes being brought back into use—the Amman and Swansea Valley rail route, for example—and ensuring quality transport links to the Neath, Dulais and Afan valleys. The Welsh Government has been quiet on the UK Government's west Wales parkway proposal, and I would therefore be grateful if the Minister for transport would bring forward a statement on what discussions he is having with the UK Government, and how he sees the west Wales parkway interlinking with the wider challenge of developing further rail and tram infrastructure within the region, as part of the Swansea bay metro.

Trefnydd, byddwch yn amlwg yn ymwybodol o'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o gynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddatblygu gorsaf reilffordd barcffordd yn y gorllewin ar dir yn Felindre, Abertawe, o fewn eich etholaeth chi, sef Gŵyr. Nawr, bydd y cynnig, fel y gwyddoch, a fyddai'n gwneud defnydd o reilffordd ranbarthol Abertawe, yn sicrhau gwelliannau i deithwyr yn y gorllewin drwy gyflwyno amserau teithio llai i Gaerdydd a Llundain—o gofio bod cynlluniau trydaneiddio wedi diflannu—gan dynnu hyd at chwarter awr oddi ar y daith, gan gynnig posibiliadau ar gyfer arbed mwy o amser petai cyflymderau yn codi. Gallai hefyd helpu o ran materion tagfeydd ar yr M4 o amgylch Abertawe a Phort Talbot, a phrif rydwelïau cymudwyr i mewn i Abertawe.

Yn amlwg, fodd bynnag, ni ellir edrych ar y gwelliannau hyn i'r rheilffordd rhwng y dwyrain a'r gorllewin ar wahân. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin. Mae'r de-orllewin yn galw am drafnidiaeth gyhoeddus well, ac mae angen i reilffyrdd chwarae rhan allweddol yn hynny o beth. Yn ogystal â gweld gwasanaethau i orsafoedd Abertawe a Chastell-nedd yn cael eu hamddiffyn, mae angen inni hefyd weld llwybrau eraill yn cael eu defnyddio unwaith eto —llwybr rheilffordd Aman a Chwm Tawe er enghraifft—a sicrhau ansawdd cysylltiadau trafnidiaeth i gymoedd Nedd, Dulais ac Afan. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel ynghylch cynnig Llywodraeth y DU ar gyfer parcffordd gorllewin Cymru. Felly byddwn yn ddiolchgar pe byddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyflwyno datganiad ar ba drafodaethau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, a sut y mae'n gweld parcffordd gorllewin Cymru yn cydblethu â'r her ehangach o ddatblygu seilwaith tram a rheilffyrdd yn ehangach yn y rhanbarth fel rhan o fetro Bae Abertawe.

Thank you very much for raising this issue. I know that the economy Minister has responded to those proposals by the UK Government, but he'd be more than happy to recirculate his response to that, whilst also providing an update on the feasibility study with regard to the west Wales metro proposals.

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn. Gwn fod Gweinidog yr economi wedi ymateb i'r cynigion hynny gan Lywodraeth y DU, ond byddai'n fwy na pharod i ailgylchredeg ei ymateb i hynny, gan hefyd roi'r newyddion diweddaraf am yr astudiaeth ddichonoldeb o ran cynigion metro gorllewin Cymru.

Trefnydd, I would like to request three statements today. First of all, I'd welcome a statement from the education Minister on the next steps that the Welsh Government will take to tackle bullying in schools. The 'Respecting others' consultation is due to close later this week, but after many years in the classroom, I am still concerned that we do all we can to deal with this issue. In particular, I'm concerned about our approach to tackling LGBT+ bullying, as we know, for example, a higher rate of Welsh LGBT+ young people experience bullying than anywhere else in the UK, according to recent statistics. As February is LGBT History Month, I hope that this is something that we can make real progress on.

Secondly, Rhondda Cynon Taf cabinet has approved a policy of setting fixed-penalty notices for up to £400 to tackle fly-tipping. To my constituents, like to people throughout Wales, fly-tipping is a real concern, so it would be good to see the council using these powers that have just been made available to them by Welsh Government. Could we have a statement setting out how Ministers are prioritising action against fly-tipping, in particular assessing the efficacy of changes in terms of fixed-penalty notices?

Finally, it was really positive to read the statement that over 150 employers have now signed up to the groundbreaking code of practice on ethical employment in supply chains. This is a welcome step, but could we have an update in the Siambr from the Minister for economy on other interventions the Welsh Government could take to promote good employment practices? I am thinking in particular here of the ways in which the economic contract can be used to encourage more businesses in Wales to sign up.

Trefnydd, hoffwn ofyn am dri datganiad heddiw. Yn gyntaf, byddwn i'n croesawu datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion. Mae'r ymgynghoriad 'Parchu eraill' ar fin dod i ben yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond ar ôl blynyddoedd lawer yn yr ystafell ddosbarth, rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ymdrin â'r mater hwn. Yn benodol, rwy'n bryderus ynghylch ein dull ni o fynd i'r afael â bwlio LGBT+, fel y gwyddom, er enghraifft, mae mwy o bobl ifanc LGBT+ yng Nghymru yn cael eu bwlio nag yn unman arall yn y DU, yn ôl ystadegau diweddar. Gan fod mis Chwefror yn fis Hanes LGBT, rwy'n gobeithio bod hwn yn faes y gallwn wneud gwelliannau mawr iddo.

Yn ail, mae cabinet Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo polisi o gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o hyd at £400 i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. I'm hetholwyr i, fel i bobl ledled Cymru, mae tipio anghyfreithlon yn bryder mawr, felly byddai'n dda gweld y cyngor yn defnyddio'r pwerau hyn y maen nhw newydd eu cael gan Lywodraeth Cymru. A gawn ni ddatganiad yn nodi sut mae Gweinidogion yn blaenoriaethu camau yn erbyn tipio anghyfreithlon, yn benodol i asesu effeithiolrwydd y newidiadau o ran hysbysiadau cosb benodedig?

Yn olaf, roedd yn gadarnhaol iawn darllen y datganiad fod dros 150 o gyflogwyr bellach wedi ymrwymo i'r cod ymarfer arloesol ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae hwn yn gam i'w groesawu, ond a gawn ni'r newyddion diweddaraf yn y Siambr gan Weinidog yr economi ar ymyriadau eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i hybu arferion cyflogaeth da? Rwy'n meddwl yn benodol yma am y ffyrdd y gellir defnyddio'r contract economaidd i annog mwy o fusnesau yng Nghymru i ymrwymo.

Thank you very much for raising those three issues. On the first, regarding bullying, as you say, the recent consultation is just coming to an end, and I know that the Minister will have more to say on that in due course. But it is worth reflecting at this point that our new curriculum will lead the way on LGBT+ issues, and will provide teachers with the opportunity to teach Welsh LGBT+ history. The first draft of the new curriculum will be published in April, and there will be a full-scale consultation within the education community and the wider public on that. 

You quite rightly raise the issue of transparency in supply chains, and the Minister was listening to your comments and he has indicated that he would be happy to bring forward a statement exploring the work that's being done, particularly through the economic contract. I can tell you also that you know that we've launched the ethical employment in supply chains code of practice, aimed at making those supply chains more transparent and preventing exploitation of workers by ensuring that they are treated fairly at every stage in the supply chain. And this is very much a first for Wales and a first for the UK, and I'm very pleased that we now have 159 organisations signed up to the code so far, and we obviously would expect all organisaitons, businesses and third sector organisations who are in receipt of public sector funding to sign up to that code. 

And, finally, you raised the issue of how Welsh Government is seeking to ensure that the correct penalties are paid for fly-tipping. Well, it is a criminal offence, punishable by a fine of up to £50,000 or 12 months imprisonment if convicted in a magistrates' court. And this can attract an unlimited fine and up to five years of imprisonment if convicted at a Crown Court. The Welsh Government is proposing to introduce new fixed penalties to help local authorities deal with household waste duty of care offences, and this additional enforcement tool will aim to reduce the amount of domestic waste being passed to unauthorised waste carriers. 

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r tri mater hyn. O ran y cyntaf, ynglŷn â bwlio, fel y dywedwch, mae'r ymgynghoriad diweddar ar fin dod i ben, a gwn y bydd gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny maes o law. Ond mae'n werth ystyried ar hyn o bryd y bydd ein cwricwlwm newydd yn arwain y ffordd ynghylch materion LGBT+, a bydd yn rhoi cyfle i athrawon addysgu hanes LGBT+ Cymru. Cyhoeddir drafft cyntaf y cwricwlwm newydd ym mis Ebrill, a bydd ymgynghoriad llawn o fewn y gymuned addysg a'r cyhoedd ehangach ar hynny.

Rydych yn gwbl briodol yn codi'r mater o dryloywder mewn cadwyni cyflenwi. Roedd y Gweinidog yn gwrando ar eich sylwadau ac mae wedi nodi y byddai'n hapus i gyflwyno datganiad yn ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud, yn enwedig drwy'r contract economaidd. Gallaf ddweud wrthych hefyd eich bod yn gwybod ein bod wedi lansio'r cod ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, gyda'r nod o wneud y cadwyni cyflenwi hynny yn fwy tryloyw a rhwystro gweithwyr rhag cael eu hecsbloetio drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ar bob cam yn y gadwyn gyflenwi. Dyma'r tro cyntaf yng Nghymru a'r tro cyntaf yn y DU i hyn ddigwydd. Rwy'n falch iawn fod gennym ni bellach 159 o sefydliadau wedi ymrwymo i'r Cod, ac yn amlwg byddem yn disgwyl i bob sefydliad, busnes a sefydliad  trydydd sector sy'n derbyn arian cyhoeddus ymrwymo i'r cod hwnnw.

Ac, yn olaf, fe wnaethoch godi'r mater ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau y telir y cosbau cywir am dipio anghyfreithlon. Wel, mae'n drosedd â chosb o ddirwy hyd at £50,000 neu 12 mis o garchar yn dilyn euogfarn mewn llys ynadon. Gall y ddirwy fod yn ddiderfyn a gall y cyfnod yn y carchar fod hyd at bum mlynedd yn dilyn euogfarn yn Llys y Goron. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cosbau penodedig newydd i helpu awdurdodau lleol i ymdrin â throseddau dyletswydd gofal gwastraff cartref. Nod y dull gorfodi ychwanegol hwn yw lleihau maint y gwastraff domestig sy'n cael ei drosglwyddo i gludwyr gwastraff heb eu hawdurdodi. 

14:30

Minister, may I ask for a statement from the Welsh Government on the eligibility criteria for social housing in Wales? My constituents, Mr and Mrs Harradine, and their four children, rent a house from Newport City Homes. For the last three and a half years, the house has been suffering from damp and mould growing all over the property. This is affecting their health and their children's, who have developed asthma and bronchitis. Health visitors and a doctor at the Royal Gwent Hospital have written to the housing authority, stressing that the condition of this house is causing health problems in the children, but all in vain. No action has been taken by the local council or city council, you can call it. They desperately need to move out, but because both parents are in employment, they are not considered as a priority by the city council. Please can we have a statement from the Minister on what guidance can be given on the eligibility criteria for social housing, since it appears that threats to people's health are not considered serious enough to warrant being rehoused as a priority? 

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae fy etholwyr, Mr a Mrs Harradine, a'u pedwar plentyn yn rhentu tŷ gyda Newport City Homes. Am y tair blynedd a hanner diwethaf, bu lleithder yn y tŷ gyda llwydni yn tyfu ym mhob cwr o'r eiddo. Mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd ac ar iechyd y plant, sydd wedi datblygu asthma a broncitis. Mae ymwelwyr iechyd a meddyg yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi ysgrifennu at yr awdurdod tai, gan bwysleisio bod cyflwr y tŷ hwn yn achosi problemau iechyd i'r plant, ond yn ofer. Nid oes camau wedi eu cymryd gan y cyngor lleol neu gyngor y ddinas y gallwch ei alw ef. Mae angen iddyn nhw symud allan yn daer, ond oherwydd bod y ddau riant mewn gwaith, nid ydyn nhw'n cael eu hystyried fel blaenoriaeth gan gyngor y ddinas. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa ganllawiau y gellir eu rhoi ar y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol, gan yr ymddengys nad yw bygythiadau i iechyd pobl yn ddigon difrifol i gyfiawnhau eu hailgartrefu nhw fel blaenoriaeth?

Thank you for raising this case with us in the Chamber. I'm sure that you've taken up the specific case with the appropriate residential social landlord and/or the local authority. And I'd certainly recommend that you write with further details of that case to the housing Minister, who will be able to provide some further background on the detail of social housing eligibility criteria. 

Diolch am godi'r achos hwn gyda ni yn y Siambr. Rwyf yn siŵr eich bod wedi codi'r achos penodol gyda'r landlord cymdeithasol preswyl priodol a/neu'r awdurdod lleol. A byddwn yn sicr yn argymell eich bod chi'n ysgrifennu at y Gweinidog tai gyda rhagor o fanylion am yr achos hwnnw. Gall ef roi mwy o gefndir am fanylion y meini prawf cymhwyster am dai cymdeithasol.

Trefnydd, I just wanted to ask for a debate on the Welsh Government's definition of 'local' in relation to housing development. I know you can't comment on local cases, but I'm sure you're aware of the issue with regard to housing development in Pennard, and Swansea Council has defined 'local' as Mumbles. Now, I know of an instance of a young woman who moved home because she'd lost a child to a heart condition. She now wants to reapply for the council house that she lost because of the fact that she moved home, but she may not be able to move into the surrounding area because of this definition of 'local'. This planning permission is one of many where people are debating and not understanding the definition of 'local and affordable', so that people can utilise that to the best of their ability so that they can stay in the area where they want to stay. So, I'd like a debate in Government time so that we can have these definitions thrashed out here, so people locally can also engage in a more positive way with the planning process.

My second request for a statement would be for an update on the legislative programme of the Welsh Government, be it in a written or an oral form. We heard from the Welsh language Minister last week that she was dropping the Bill in relation to establishing a commission. I heard through social media the former Minister said there was a timetable for that legislation, but it's not something the committee that I chair were aware of. So, if there's one thing that the Government Minister knows and something else that the Assembly doesn't know, then I think we should all be made aware of the clear timetable that your Government has, so that we can all engage as positively as we can in scrutinising that programme and knowing where in the timetable that will happen.

Trefnydd, rwyf eisiau gofyn am ddadl ar ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ‘lleol’ mewn cysylltiad â datblygiad tai. Gwn na allwch roi sylwadau ar achosion lleol, ond rwyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r mater ynghylch datblygu tai ym Mhennard, ac mae Cyngor Abertawe wedi diffinio ‘lleol’ fel y Mwmbwls. Nawr, gwn am enghraifft lle mae menyw ifanc wedi symud cartref gan ei bod hi wedi colli plentyn oherwydd afiechyd y galon. Mae hi bellach yn dymuno ailymgeisio am y tŷ cyngor a gollodd oherwydd y ffaith ei bod hi wedi symud cartref, ond mae'n bosib na chaiff symud i’r ardal gyfagos oherwydd y diffiniad hwn o ‘lleol’. Mae’r caniatâd cynllunio hwn yn un o lawer lle bo pobl yn trafod, heb ddeall y diffiniad o ‘lleol a fforddiadwy’, fel y gall pobl ei ddefnyddio hyd eithaf eu gallu fel y gallan nhw aros yn yr ardal y maen nhw eisiau aros ynddi. Felly, hoffwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth fel y gallwn ni gael y diffiniadau hyn wedi eu gwyntyllu yma, fel y gall pobl leol ymgysylltu mewn ffordd fwy cadarnhaol gyda'r broses gynllunio hefyd.

Fy ail gais am ddatganiad yw cais am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, boed mewn ysgrifen neu ar lafar. Clywsom gan Weinidog y Gymraeg yr wythnos diwethaf ei bod hi’n gollwng y Bil mewn cysylltiad â sefydlu comisiwn. Clywais drwy’r cyfryngau cymdeithasol bod y cyn-Weinidog wedi dweud bod amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth honno, ond nid yw hynny'n rhywbeth y mae’r Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio yn ymwybodol ohono. Felly, os oes un peth y mae Gweinidog y Llywodraeth yn ei wybod a rhywbeth arall nad yw'r Cynulliad yn ei wybod, yna credaf y dylai pob un ohonom gael gwybod am yr amserlen glir sydd gan eich Llywodraeth, fel y gallwn ni i gyd gymryd rhan mor gadarnhaol â phosib wrth graffu ar y rhaglen honno a gwybod ymhle yn yr amserlen y bydd hynny’n digwydd.

14:35

Thank you very much for raising both of these issues. I would suggest that, on the specific issue that you refer to in Pennard, in the first instance it would probably be most appropriate to raise the issue regarding the definition of 'local' and the defintion of 'affordable' with the housing Minister, in order to have the full information in front of you, in order to be able to share that with constituents.

I'm sure that the First Minister answered some questions today with regard to the legislative timetable, and the impact that Brexit might be having on our considerations there, and, of course, the First Minister does make an annual statement on the legislative programme. But if you have specific questions regarding Bills, I'm sure that the appropriate Minister would be able to respond to those concerns.

Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hyn. Byddwn i'n awgrymu, ar y mater penodol y cyfeiriwch ato ym Mhennard, yn y lle cyntaf mae'n debyg mai codi'r mater ynghylch diffiniad 'lleol' a diffiniad 'fforddiadwy' gyda'r Gweinidog Tai fyddai'r peth mwyaf priodol i'w wneud, fel y cewch yr holl wybodaeth o'ch blaen, er mwyn gallu rhannu hynny gyda'r etholwyr.

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog wedi ateb rhai cwestiynau heddiw ynghylch yr amserlen ddeddfwriaethol, a'r effaith y gallai Brexit ei chael ar ein hystyriaethau yn y fan yna, ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad blynyddol ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Ond os oes gennych gwestiynau penodol ynghylch Biliau, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog priodol y gallu ymateb i'r pryderon hynny.

I have two questions. One is, firstly, in relation to Superfast Cymru and the previous roll-out scheme. I've been made aware of a very concerning issue relating to this. The delivery of superfast broadband, as part of the Superfast Cymru scheme, has been achieved, of course, through the handing of the contract to Openreach. However, I'm given to believe that Openreach then sub-contracted to Telent, who have then sub-contracted to Wavetec Limited, which has ended up employing individual contractors, including a constituent of mine, working freelance, and is still doing so, to help build the fibre network. Having been shown a copy of an aged creditors' breakdown by my constituent, I understand that he is now owed thousands of pounds and has not been paid for services rendered to Wavetec since the end of November. Trefnydd, would you be able to liaise with the responsible Minister and explain to me why Superfast Cymru has resulted in such a protected contract, which has seen several subcontractors in the chain, which is now resulting in my constituent facing financial hardship? That's No. 1.

And then, No. 2: will the Trefnydd explain why the Welsh Government does not deem it necessary for the Planning Inspectorate to consult with all the interested parties when new material or planning policy updates come forward during the course of the Planning Inspectorate process? Now, the reason I ask this is that, last week, the Planning Inspectorate approved a residential development, comprising of 110 dwellings, in Llandudno Junction. This, in my opinion, and others', was despite breaching a number of planning policies, and over 1,300 objections submitted. Due to the delayed process following the inquiry in September, where the actual decision breached its own ministerial target deadlines, the introduction of 'Planning Policy Wales', edition 10, had to be considered. Whilst the local authority and the appellant were consulted, all other interested parties, including myself, as the democratically elected Assembly Member, were not allowed to give further information forward, based on the interpretation of 'Planning Policy Wales'.

Now, subsection 47(7) of the Town and Country Planning (Referred Applications and Appeals Procedure) (Wales) Regulations 2017 states an appointed person needs to notify those involved in the inquiry about new material to allow them to make representations about new evidence, or to ask to reopen the inquiry before making their decision. However, the new material excludes Welsh Ministers' policy. This is wrong and undemocratic. So, would you agree with me that Welsh Ministers' policy should be subjected to the notification representations request to reopen provisions in the same way as any other type of new material? And, if so, would you be prepared to consider my proposal to change this flawed legislation, and the regulations, so that all interested parties are allowed to be part of the actual planning inspectorate process and regime?

Mae gennyf ddau gwestiwn. Mae un, yn gyntaf, mewn cysylltiad â Cyflymu Cymru a'r cynllun cyflwyno blaenorol. Rwyf wedi cael gwybod am fater sy’n destun pryder mawr ynghylch hyn. Mae darpariaeth band eang cyflym iawn, fel rhan o gynllun Cyflymu Cymru, wrth gwrs, wedi ei chyflawni drwy drosglwyddo’r contract i Openreach. Fodd bynnag, dywedir wrthyf fod Openreach wedyn wedi isgontractio i Telent, a isgontractiodd wedyn i Wavetec Limited, a gyflogodd gontractwyr unigol yn y pen draw, gan gynnwys un o'm hetholwyr i, a oedd yn gweithio'n llawrydd, ac mae e'n dal i wneud hynny, i helpu i adeiladu’r rhwydwaith ffibr. Ar ôl i’m hetholwr ddangos copi imi o hen ddadansoddiad y credydwyr, deallaf bellach fod arnynt filoedd o bunnoedd iddo ac nad yw ef wedi cael ei dalu am y gwasanaethau a roddwyd i Wavetec ers diwedd mis Tachwedd. Trefnydd, a allwch chi gysylltu â'r Gweinidog sy'n gyfrifol ac egluro i mi pam mae Cyflymu Cymru wedi arwain at gontract gwarchodedig o'r fath, sydd wedi gweld llawer o is-gontractwyr yn y gadwyn, sydd bellach yn arwain at fy etholwr i yn wynebu caledi ariannol? Hwnnw yw Rhif 1.

Ac yna, Rhif 2: a wnaiff y Trefnydd egluro pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â phob parti sydd â diddordeb pan fo deunydd newydd neu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynllunio polisi yn cael eu cyflwyno yn ystod proses yr Arolygiaeth Gynllunio? Nawr, y rheswm pam rwyf yn gofyn yw, yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd yr Arolygiaeth Gynllunio ddatblygiad preswyl, sy'n cynnwys 110 o anheddau, yng Nghyffordd Llandudno. Gwnaed hyn, yn fy marn i, ac ym marn pobl eraill, er gwaethaf y ffaith bod nifer o bolisïau cynllunio wedi eu torri, a bod dros 1,300 o wrthwynebiadau wedi eu cyflwyno. Oherwydd bod y broses wedi ei gohirio yn dilyn yr ymchwiliad ym mis Medi, pan dorrodd y penderfyniad ei dargedau gweinidogol ei hun, roedd yn rhaid ystyried cyflwyno ‘Polisi Cynllunio Cymru’, rhifyn 10. Er eu bod wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a'r apelydd, nid oedd partïon eraill â diddordeb, gan fy nghynnwys i, Aelod o’r Cynulliad wedi ei hethol yn ddemocrataidd, yn cael cyflwyno rhagor o wybodaeth, yn seiliedig ar ddehongliad ‘Polisi Cynllunio Cymru’.

Nawr, mae is-adran 47(7) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 yn datgan bod angen i unigolyn penodedig hysbysu'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad am ddeunydd newydd i'w galluogi nhw i gyflwyno sylwadau am dystiolaeth newydd, neu ofyn am i’r ymchwiliad gael ei ailagor cyn gwneud eu penderfyniad. Fodd bynnag, mae'r deunydd newydd yn eithrio polisi Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn anghywir ac yn annemocrataidd. Felly, a fyddech chi’n cytuno â mi y dylai polisi Gweinidogion Cymru fod yn destun y cais am sylwadau hysbysebu i ailagor darpariaethau yn yr un modd ag unrhyw fath arall o ddeunydd newydd? Ac, os felly, a fyddech chi’n barod i ystyried fy nghynnig i newid y ddeddfwriaeth ddiffygiol hon, a’r rheoliadau, fel y bydd yr holl bartïon â diddordeb yn cael cymryd rhan ym mhroses a threfn yr Arolygiaeth Gynllunio?

14:40

Thank you very much for raising those questions with me today. On the issue of broadband, if you would share with me the details of your constituent's specific circumstance, I'd be happy to explore that with the Minister and let you have the outcome of that. 

Your questions regarding 'Planning Policy Wales' and how it intersects with existing planning applications, and so forth, is probably best directed to the Minister with responsibility for planning. 

Diolch yn fawr iawn am godi'r cwestiynau hynny gyda mi heddiw. Ar y mater band eang, pe byddech yn rhannu manylion penodol amgylchiad eich etholwr gyda mi, byddwn yn hapus i archwilio hynny gyda'r Gweinidog a gadael i chi gael canlyniad hynny.

O ran eich cwestiynau ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' a sut y mae'n torri ar draws y ceisiadau cynllunio presennol, ac ati, mae'n debyg y dylid cyfeirio at y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio.

Trefnydd, I wonder if I can have perhaps updates on statements from the Welsh Government on two areas. One is obviously steel. Last week, we had a wonderful debate here in the Chamber on steel making in Wales, and the implications of the future for steel making and the challenge it still faces. Yesterday, we heard that Swansea University was going to be the lead university in a £35 million-project to look into the steel process to ensure that steel can become sustainable in Wales and the UK. Could we have a statement and an update from the Welsh Government as to what actions the Welsh Government is taking to work with the university sector on the steel research and development agenda to ensure that the money that's already invested in things like the Steel Institute in Swansea University continues to develop steel making and the processes so that steel making in Wales, particularly in my constituency in Port Talbot, is going to be something that is sustainable for the future? [Interruption.] I'll wait until the answer comes back. 

On the second one, we know about the Banksy issue in Port Talbot. I visited it on the very first day it was identified, before it became known as a Banksy. But we've also since then had the Ame72—three different pieces of street art: two on the back of Taibach rugby club on doors, and one on the door of a garage in a lane a few houses down from the rugby club. It's clearly becoming an issue—street art and the culture of street art. The individual I spoke to, and the previous owner of the Banksy, highlighted the need to ensure that we had somewhere to keep this street art. But there's also a concern that we don't become an area for graffiti, rather than street art, and so we actually create a culture of street art. Can we have a statement? I thank the deputy Minister for his response earlier, last week, on the previous requests, but we need to look at what is the Welsh Government's position on street art. What does it see as street art and the future of street art? How will you work with councils to ensure that street art can take place whilst not becoming over-intrusive in people's lives? Some people may think that street art is wonderful, others will consider it graffiti, and there are some that are graffiti—there's no doubt about that. But we need to ensure a culture of street art within our areas to ensure that it survives. So, can we have a statement on what the Welsh Government sees as the future of street art, and, also, how we can ensure that when it is there it is preserved and secured and not allowed to be vandalised?

Trefnydd, tybed a oes modd imi gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatganiadau gan Lywodraeth Cymru mewn dau faes. Un, yn amlwg, yw dur. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl wych yma yn y Siambr ynghylch dur yng Nghymru, a'r goblygiadau ar gyfer y dyfodol o ran cynhyrchu dur a’r her y mae hynny’n ei wynebu o hyd. Ddoe, clywsom fod Prifysgol Abertawe yn mynd i fod yn brifysgol arweiniol mewn prosiect £35 miliwn a fydd yn edrych i mewn i'r broses o gynhyrchu dur i sicrhau y gall dur fod yn gynaliadwy yng Nghymru ac yn y DU. A gawn ni ddatganiad a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda sector y brifysgol ar yr agenda ymchwil a datblygu dur er mwyn sicrhau bod yr arian sydd eisoes wedi ei fuddsoddi mewn pethau megis y Sefydliad Dur ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i ddatblygu cynhyrchu dur a’r prosesau yng Nghymru, yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot yn enwedig, ac y bydd yn rhywbeth sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? [Torri ar draws.] Arhosaf nes bydd yr ateb wedi dod yn ei ôl. 

Ar yr ail un, gwyddom am fater Banksy ym Mhort Talbot. Ymwelais â'r fan ar y diwrnod cyntaf y’i nodwyd ef, cyn y daeth yn hysbys fel Banksy. Ond ers hynny, rydym hefyd wedi cael tri darn gwahanol o gelf stryd gan Ame72: dau ar ddrysau y tu ôl i glwb rygbi Tai-bach, ac un ar ddrws garej mewn lôn ychydig o dai i lawr o’r clwb rygbi. Mae’n amlwg bod hyn yn dod yn broblem — celf stryd a diwylliant celf stryd. Amlygodd yr unigolyn y siaradais ag ef, a pherchennog blaenorol y Banksy, yr angen i sicrhau bod gennym le i gadw’r gelf stryd yma. Ond mae pryder hefyd y bydd yr ardal yn datblygu i fod yn fan i wneud graffiti ynddi, yn hytrach na chelf stryd, ac felly mewn gwirionedd rydym ni’n creu diwylliant o gelf stryd. A gawn ni ddatganiad? Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb yn gynharach, yr wythnos diwethaf, ar geisiadau blaenorol, ond mae angen inni edrych ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar gelf stryd. Beth mae’n ystyried i fod yn gelf stryd a dyfodol celf stryd? Sut y bydd yn gweithio gyda chynghorau er mwyn sicrhau bod celf stryd yn gallu digwydd heb fod yn orymwthiol ym mywydau pobl? Efallai y bydd rhai pobl yn credu bod celf stryd yn hyfryd, ac y bydd pobl eraill yn ei hystyried fel graffiti, a graffiti yw rhai ohonyn nhw—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond mae angen inni sicrhau diwylliant o gelf stryd yn ein hardaloedd i sicrhau ei bod yn goroesi. Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld fel dyfodol ar gyfer celf stryd a, hefyd, sut y gallwn sicrhau pan fydd yno ei bod yn cael ei chadw a'i diogelu ac na chaniateir iddi gael ei difrodi?

Thank you very much for raising those issues. Certainly, Welsh Government very much welcomes yesterday's announcement of that additional £10 million of funding from the Engineering and Physical Sciences Research Council for a £35 million research network aimed at reducing carbon emissions from the UK iron and steel industries. It really is excellent news, and I would like to congratulate Swansea University on the work that it's done to bring that funding to Wales, and it certainly builds on the investment that Welsh Government has made in the establishment of the Steel and Metals Institute in Swansea, which was opened in February of last year. The Minister for Economy and Transport has indicated that he'd be happy to bring forward a joint statement with the Minister for Education to respond to the points you raised in your contribution. 

On the matter of the Banksy artwork and street art more widely, Welsh Government, of course, channels its investment in the arts through the Arts Council of Wales, which is there to support a wide variety of art forms, including all forms of visual art, so that would include street art. It's also able to provide funding for individuals and it does so extensively, mainly through the funds it receives from the National Lottery.

On the specific issue of the Banksy artwork, as you know, we're meeting the security costs prior to  the removal and relocation of that to another site in Port Talbot. Talks are continuing between Welsh Government, the new owner and the local authority to ensure that a suitable new location is found as soon as possible. Indeed, I understand that there some discussions just this week on that, and the new owner has committed to ensuring that the new art will be displayed in Port Talbot for a minimum of two years, which I think is very welcome, and I know that the Minister is giving thought more widely to the future for the celebration of contemporary art here in Wales

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad ddoe ynghylch £10 miliwn o gyllid yn ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ar gyfer rhwydwaith ymchwil £35 miliwn â’r nod o leihau allyriadau carbon yn y diwydiannau dur a haearn yn y DU. Mae hynny'n newyddion rhagorol, a hoffwn i longyfarch Prifysgol Abertawe ar y gwaith y maen nhw wedi ei wneud i ddod â’r cyllid hwnnw i Gymru. Yn sicr mae’n adeiladu ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wrth gychwyn y Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe, a agorwyd ym mis Chwefror y llynedd. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi nodi y byddai'n hapus i gyflwyno datganiad ar y cyd â'r Gweinidog Addysg i ymateb i'r pwyntiau a godwyd gennych yn eich cyfraniad. 

Ynghylch y mater o waith celf Banksy a chelf stryd yn ehangach, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cyfeirio ei buddsoddiad yn y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd yno i gefnogi amrywiaeth eang o ffurfiau celf, gan gynnwys pob math o gelfyddyd weledol, felly byddai hynny’n cynnwys celf stryd. Mae'r Cyngor hefyd yn gallu darparu cyllid ar gyfer unigolion, ac mae’n gwneud hynny yn helaeth, yn bennaf, drwy’r cyllid a gaiff gan y Loteri Genedlaethol.

Ar y mater penodol o waith celf Banksy, fel y gwyddoch, rydym yn talu am y costau diogelwch cyn iddo gael ei symud a'i adleoli i’r safle arall hwnnw ym Mhort Talbot. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru, y perchennog newydd, a'r awdurdod lleol i sicrhau eu bod nhw’n dod o hyd i leoliad newydd addas cyn gynted â phosib. Yn wir, deallaf y cynhaliwyd rhai trafodaethau yr wythnos hon, ac mae'r perchennog newydd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd celf newydd yn cael ei harddangos ym Mhort Talbot am ddwy flynedd o leiaf. Credaf fod croeso mawr i hynny, a gwn fod y Gweinidog yn ystyried y dyfodol yn ehangach er mwyn dathlu celfyddyd gyfoes yma yng Nghymru.

14:45

Finally, this week the UK Government has admitted that the huge rise in the numbers of people reliant upon food banks is partly, at least, due to the roll-out of the disastrous universal credit. We also know that welfare reform is partly responsible for the steep rise in street homelessness as well. So, surely, after admitting this, the UK Government cannot carry on with it. So, will you agree to write the UK Government to make the case that their benefits reform is causing great harm, and will you tell them in the strongest possible terms to scrap universal credit now?

Figures recently released show that less than one in five complaints of sexual harassment in Wales's public sector have led to a dismissal. Non-disclosure agreements are also being used to silence complainants in sexual harassment and domestic abuse cases. These figures show exactly why we need the new Time's Up network that I've been involved in setting up. The new network aims to give voice to those experiencing sexual harassment and abuse in Wales and aims to change the situation. So, how can these unfair dismissals be stopped? Can the Welsh Government give a statement on what it's doing to curb the corrosive culture that persists in our society, and, specifically, can you tell us what can be done to prevent complainants from losing their jobs?

I've been contacted by two separate people complaining about the difficulties trans people face accessing healthcare in Wales: one whose personal experience dates back to the period 2008-12, but another who has a more recent experience confirms that matters have not changed in the intervening seven years. It's not acceptable, is it, for someone to have to go to Scotland to self-refer themselves to a gender identity clinic because of such a long delay in getting a referral from Wales—a delay that saw this person attempting suicide because of the toll it took on their mental health. It's not clear why people can't self-refer in Wales or why they have to go through community mental health teams when that provision doesn't exist elsewhere. On moving back to Wales, the man who contacted me was refused a repeat prescription of HRT and told they would have to start the process from scratch, despite being on HRT for two years and having had a mastectomy whilst in Scotland. Clearly, this was unacceptable then and it's unacceptable now. Now, I understand that there are proposals to bring Wales in line with Scotland's more progressive approach to trans people. So, can the Welsh Government please give an update to this Senedd on the progress with the new gender identity service for Wales and how the specific inequalities that I've talked about can be ended?

And, finally, the former leader of UKIP in the Assembly over the weekend described his former party as an 'anti-Muslim party'. Now, we have, for a long time, recognised this truth in Plaid Cymru, including when that former AM was the leader of the party in Wales. So, will you join me in condemning any hate-based party that singles out or treats people differently on the basis of their religion, their language, or because they belong to a minority? And will you agree with me that this politics has no place in Wales and anyone pushing a dangerous or discriminatory agenda ought to be ashamed of themselves?

O’r diwedd, yr wythnos hon, mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef bod y cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd yn rhannol, o leiaf, oherwydd cyflwyniad trychinebus y credyd cynhwysol. Gwyddom hefyd fod diwygio lles yn rhannol gyfrifol am y cynnydd serth mewn digartrefedd ar y stryd. Felly, yn sicr, ar ôl cyfaddef hyn, ni all Llywodraeth y DU barhau â'r credyd cynhwysol. Felly, a wnewch chi gytuno i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ddadlau’r achos bod ei diwygiad o’r budd-daliadau yn achosi niwed mawr, ac y byddwch yn dweud wrthi mor gadarn â phosib i ddileu’r credyd cynhwysol yn awr?

Mae'r ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod llai nag un o bob pum cwyn o aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi arwain at ddiswyddiad. Defnyddir cytundebau peidio â datgelu hefyd i dawelu achwynwyr mewn achosion o aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth ddomestig. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn union pam mae angen y rhwydwaith Time’s Up newydd y bûm i'n gysylltiedig â'i sefydlu. Mae'r rhwydwaith newydd yn ceisio rhoi llais i'r rhai sy'n profi aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth yng Nghymru gyda’r nod o newid y sefyllfa. Felly, sut y gellir dod â’r diswyddiadau annheg hyn i ben? A wnaiff Llywodraeth Cymru roi datganiad ar yr hyn y mae'n ei wneud i atal y diwylliant difäol sy'n parhau yn ein cymdeithas, ac, yn benodol, a wnewch chi ddweud wrthym beth y gellir ei wneud i atal achwynwyr rhag colli eu swyddi?

Mae dau unigolyn ar wahân wedi cysylltu â mi, yn cwyno am yr anawsterau y mae pobl drawsrywiol yn eu cael wrth ddefnyddio gofal iechyd yng Nghymru: mae profiad personol un ohonyn nhw yn dyddio'n ôl i’r cyfnod 2008-12, ond mae gan y llall brofiad mwy diweddar sy’n cadarnhau nad yw’r materion wedi newid yn y saith mlynedd ers hynny. Nid yw'n dderbyniol, nac ydy, i rywun orfod mynd i'r Alban i gyfeirio ei hun i glinig hunaniaeth o ran rhywedd oherwydd cymaint o oedi wrth gael atgyfeiriad gan Gymru—oedi a welodd yr unigolyn hwn yn ceisio cyflawni hunanladdiad oherwydd y niwed a wnaed i’w iechyd meddwl. Nid yw'n glir pam na all pobl gyfeirio eu hunain yng Nghymru na pham y mae'n rhaid iddyn nhw fynd drwy'r timau iechyd meddwl cymunedol pan nad yw’r ddarpariaeth honno’n bodoli yn unman arall. Ar ôl dychwelyd i Gymru, gwrthodwyd presgripsiwn amlroddadwy o HRT i’r dyn a gysylltodd â mi a dywedwyd y byddai'n rhaid iddyn nhw ddechrau ar y broses o'r cychwyn, er ei fod wedi bod ar HRT ers dwy flynedd a’i fod wedi cael mastectomi tra'r oedd yn yr Alban. Yn amlwg, roedd hyn yn annerbyniol bryd hynny ac mae'n annerbyniol yn awr. Deallaf bellach fod cynigion i ddod â Chymru yn unol â dull mwy blaengar yr Alban ar gyfer pobl drawsrywiol. Felly, a all Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon ar y cynnydd gyda'r gwasanaeth hunaniaeth rhywedd ar gyfer Cymru a sut y gall yr anghydraddoldebau penodol yr wyf wedi sôn amdanyn nhw ddod i ben?

Ac yn olaf, disgrifiodd cyn-arweinydd UKIP yn y Cynulliad ei hen blaid fel plaid wrth-Fwslimaidd dros y penwythnos. Nawr, ers cyfnod hir, rydym wedi cydnabod y gwirionedd hwn ym Mhlaid Cymru, gan gynnwys yr amser pan oedd y cyn-Aelod Cynulliad hwnnw yn arweinydd i’r blaid yng Nghymru. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio unrhyw blaid sydd wedi ei seilio ar gasineb sy'n dethol neu’n trin pobl yn wahanol oherwydd eu crefydd, eu hiaith, neu am eu bod nhw’n perthyn i leiafrif? Ac a wnewch chi gytuno â mi nad oes gan y wleidyddiaeth hon unrhyw le yng Nghymru ac y dylai unrhyw un sy’n gwthio agenda beryglus neu wahaniaethol fod â chywilydd o’u hunain?

Thank you very much for raising those issues. I will refer to them in the order in which you raised them. The first was universal credit, and Welsh Government has consistently and regularly raised the issue of universal credit and our multitude of concerns about it with UK Ministers. I know that the Minister for housing has recently written to the UK Government again on this issue and she would be happy to provide a—

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Cyfeiriaf atynt yn y drefn y cawsant eu codi. Y cyntaf oedd credyd cynhwysol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi codi'r mater o gredyd cynhwysol a'n pryderon di-ri yn ei gylch yn gyson ac yn rheolaidd gyda Gweinidogion y DU. Gwn fod y Gweinidog tai wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU eto yn ddiweddar ynghylch y mater hwn a byddai hi'n hapus i ddarparu—

The response came in the summer.

Fe ddaeth yr ymateb yn ystod yr haf.

She'd be happy to provide a copy of that to you and put a copy in the Library alongside the response that the Minister has received.

On the issue of sexual harassment in the workplace, clearly, this is of huge concern. So, it would be remiss of me not to mention that this week is Trade Union Week, and membership of a trade union can provide individuals with huge emotional support but also the legal support that they might need in order to take forward complaints of this kind. But, clearly, this kind of behaviour has no place in the workplace or anywhere else more widely I would suggest as well.

Your question about accessing services for trans people—the Minister has indicated that he will be bringing forward a statement when the new team comes into place around April of this year. I would completely agree with you on the issue of any hate-based party being extremely dangerous. Politics that is centred around discrimination and hatred towards people because of their religion, their language or their minority status of any kind clearly has no place in Wales.

Byddai hi'n hapus i ddarparu copi o hynny i chi a rhoi copi yn y Llyfrgell ochr yn ochr â'r ymateb a gafodd y Gweinidog.

Ar y mater o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle, mae hyn yn amlwg yn peri pryder mawr iawn. Felly, byddwn ar fai pe na bawn yn cyfeirio at y ffaith fod yr wythnos hon yn Wythnos Undebau Llafur, ac y gall bod yn aelod o undeb llafur roi cymorth emosiynol anferthol i unigolion ond hefyd y cymorth cyfreithiol y byddai o bosib ei angen arnyn nhw er mwyn symud cwynion o'r math hwn ymlaen. Ond, yn amlwg, nid oes gan ymddygiad o'r fath le yn y gweithle nac yn unman arall yn ehangach ychwaith, byddwn i'n awgrymu.

Eich cwestiwn ynghylch pobl drawsrywiol yn gallu defnyddio gwasanaethau—mae'r Gweinidog wedi nodi y bydd yn cyflwyno datganiad pan ddaw'r tîm newydd ynghyd tua mis Ebrill eleni. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod unrhyw blaid sydd wedi ei seilio ar gasineb yn eithriadol o beryglus. Mae'n amlwg nad oes gan wleidyddiaeth sy'n canolbwyntio ar wahaniaethu a chasineb tuag at bobl oherwydd eu crefydd, eu hiaith neu eu statws lleiafrifol unrhyw le yng Nghymru.

14:50

Trefnydd, this morning alone, I've received over 40 complaints by e-mail and social media about traffic congestion on the A467 leading to junction 28 of the M4. The Welsh Government said junction 28 road improvement works have been completed for a number of months now, but the situation is worse than ever before. Commuters are facing significant delays in all directions and I've raised this on many occasions with the Minister, officials and Costain, and unfortunately this is not an isolated incident. In fact, it occurs daily and can't simply be attributed to teething problems.

My constituents and people travelling down from the Valleys and east of Newport are being seriously affected, making them late for work, school, exams, appointments and extending journeys home in the evenings. The tailback at peak times reaches the slip road and inside lane of the M4. Commuters and local residents have been incredibly patient while the works have been carried out, but it doesn't appear to be an improvement by any stretch of the imagination and it's already adding to high air pollution and congestion in the area.

One of my constituents, who lives in Rogerstone, told me that he works in the Orb steelworks and what should be a 15-minute journey to work is taking him well over an hour. Another managing director of business told me that it's causing stress to his workforce and customers have told them that they've given up on getting there. Another has just told me that they have to leave an hour and 10 minutes earlier than their shift in a company in Tredegar Park, and that's for a 20-minute journey.

So, please can we have an urgent statement from the Minister for Economy and Transport on what is being done to resolve this issue as well as details of what markers are being used to measure how the project is delivering against its intended objectives?

Trefnydd, y bore yma'n unig, cefais dros 40 o gwynion drwy e-bost a'r cyfryngau cymdeithasol ynghylch tagfeydd traffig ar yr A467 yn arwain at gyffordd 28 yr M4. Dywedodd Llywodraeth Cymru y cwblhawyd y gwaith i wella'r ffordd ar gyffordd 28 ers sawl mis bellach, ond mae'r sefyllfa yn waeth nag erioed o'r blaen. Mae cymudwyr yn wynebu oedi sylweddol i bob cyfeiriad ac rwyf wedi crybwyll hyn ar sawl achlysur gyda'r Gweinidog, y swyddogion a Costain, ac yn anffodus nid yw hyn yn ddigwyddiad unigryw. Yn wir, mae'n digwydd bob dydd ac ni ellir ei briodoli i broblemau cychwynnol.

Mae hyn yn effeithio'n ddifrifol ar fy etholwyr a phobl sy'n teithio i lawr o'r Cymoedd ac i'r dwyrain o Gasnewydd, gan beri iddyn nhw gyrraedd yn hwyr i'r gwaith, ysgol, arholiadau, apwyntiadau ac yn ymestyn teithiau adref gyda'r nos. Mae cynffon y ciw yn ystod oriau brig yn cyrraedd y ffordd ymuno a lôn fewnol yr M4. Mae cymudwyr a thrigolion lleol wedi bod yn anhygoel o amyneddgar pan fu'r gwaith yn cael ei wneud, ond nid yw'n ymddangos yn welliant o unrhyw fath yn y byd ac mae'n ychwanegu at lygredd aer uchel a thagfeydd yn yr ardal.

Dywedodd un o fy etholwyr, sy'n byw yn y Tŷ du, wrthyf ei fod yn gweithio yng ngwaith dur Orb a bod yr hyn a ddylai fod yn daith 15 munud i'r gwaith yn cymryd ymhell dros awr iddo. Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr busnes arall ei fod yn achosi straen i'w weithlu ac mae cwsmeriaid wedi dweud wrthyn nhw eu bod wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran cyrraedd yno. Mae un arall newydd ddweud wrthyf i fod yn rhaid iddyn nhw adael awr a 10 munud yn gynharach na'u shifft mewn cwmni ym Mharc Tredegar, a bod hynny ar gyfer taith 20 munud.

Felly, os gwelwch yn dda a gawn ni ddatganiad brys gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y mater hwn yn ogystal â manylion ynglŷn â pha feini prawf sy'n cael eu defnyddio i fesur sut mae'r prosiect yn cyflawni ei amcanion arfaethedig?

Thank you very much for raising this issue. I know that you've already had a meeting with the Minister for Economy and Transport to discuss the congestion issue and to provide the Minister with some of those very detailed personal experiences that your constituents are experiencing on this stretch of road. I'm aware that you were provided with an update on a proposed way forward from Welsh Government, outlining the action that the project team are taking in order to try and resolve issues that you described. The Minister has indicated that he'd be happy to provide an update to all Members. 

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn. Rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi cyfarfod â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod y mater o dagfeydd ac i hysbysu'r Gweinidog am rai o'r profiadau personol manwl iawn hynny sy'n effeithio ar eich etholwyr ar y rhan hon o'r ffordd. Rwy'n ymwybodol y cawsoch chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud, yn amlinellu'r hyn y mae'r tîm prosiect yn ei wneud er mwyn ceisio datrys y materion a ddisgrifiwyd gennych chi. Mae'r Gweinidog wedi dweud y byddai'n fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bob Aelod.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darparu Gofal Heb ei Drefnu yn ystod y Gaeaf
3. Statement by the Minister for Health and Social Services: Unscheduled Care Winter Delivery

Y datganiad nesaf yw'r un gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddarparu gofal heb ei drefnu yn ystod y gaeaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

The next item is a statement by the Minister for Health and Social Services on unscheduled care winter delivery. I call on the Minister to make his statement—Vaughan Gething.

Thank you, Llywydd. I am pleased to update Members on the delivery of unscheduled care services this winter. I'd like to begin by paying tribute to the hard work and dedication of thousands of our health and social care staff this winter. I've had the opportunity to see front-line staff across Wales delivering services for people whilst under pressure. I've talked previously about the planning process for this winter, which included leaders from local health boards providing assurance to the Welsh Government about their readiness. The local plans were agreed in partnership between health and local government. I've supported local organisations through an extra £39 million, provided earlier than before, based upon findings from our 2017-18 review and feedback from clinicians.

I'm pleased to report improvements have been made following this additional investment and lessons learnt from previous winters. I am confident that, without these, the winter we have experienced so far would have been much tougher on staff and had a negative impact on patient and staff experience. Emerging evidence tells us that the number of lost hours for patients waiting over an hour for ambulance handovers decreased by 30 per cent, comparing December 2018 to December 2017. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal heb ei drefnu'r gaeaf hwn. Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad miloedd o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn. Rwyf wedi cael y cyfle i weld staff rheng flaen ledled Cymru yn darparu gwasanaethau i bobl, a hynny o dan bwysau. Rwyf wedi sôn o'r blaen am y broses gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, a oedd yn cynnwys arweinyddion o fyrddau iechyd lleol yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut roedden nhw wedi paratoi. Cytunwyd ar y cynlluniau lleol mewn partneriaeth rhwng y maes iechyd a llywodraeth leol. Rwyf wedi cefnogi sefydliadau lleol drwy roi £39 miliwn yn ychwanegol, a hynny yn gynharach nag o'r blaen, ar sail canfyddiadau o'n hadolygiad yn 2017-18 a sylwadau gan glinigwyr.

Rwy'n falch o adrodd fod pethau wedi gwella yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol hwn a gwersi a ddysgwyd o'r gaeafau blaenorol. Rwy'n ffyddiog, heb y rhain, y byddai'r gaeaf yr ydym ni wedi ei weld hyd yma wedi bod yn llawer caletach ar staff ac wedi cael effaith negyddol ar brofiad cleifion a staff. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dweud wrthym ni fod nifer yr oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o gerbydau ambiwlans wedi gostwng 30 y cant, o gymharu Rhagfyr 2018 â Rhagfyr 2017.

14:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

Hospitals across Wales reported considerably less time spent at the highest levels of escalation in December 2018 and January 2019 when compared to December 2017 and January 2018 respectively. When hospitals did experience those increased pressures, this winter they recovered and de-escalated quicker, and that is a real indication of improved resilience of front-line services.

Hospitals have admitted fewer people over the age of 85 as emergencies this winter, compared with the previous two winters. The average length of stay for patients admitted as emergencies in December 2018 was at its lowest for over six years. There has been a continued reduction in the number of delayed transfers of care, and improvements have been made in waiting times; the number of people waiting over 36 weeks for elective care at the end of November 2018 was 41 per cent lower than November 2017, and now all health boards are in a better position than they were last year. 

I'm also pleased to update Members on a number of collaboratively delivered initiatives between the Welsh Government, local health boards, the Welsh ambulance service and third sector organisations that are already making a positive impact for people this winter. The Welsh ambulance service has collaborated with St John's on a falls assistance initiative, responding to 773 people who have fallen this winter. Over 85 per cent of those calls included patients over the age of 65. Patient feedback indicates 94 of people were satisfied with the response provided.

Since mid December, local health boards have been working with the British Red Cross to support over 14,000 patients in eight emergency departments across the country. The pilot aims to improve staff well-being and patient experience. It supports patients and their families in emergency departments and transports patients home. The home transport includes helping to resettle patients by connecting them again to community services. That has been especially helpful for lonely people. 

The Hospital to Home pilot, delivered in collaboration with Care and Repair Cymru, is focusing on improving housing quality to support reductions in delayed transfers of care, prevent admissions and reduce readmission rates. Collaboration and integration with the third sector is a key facet of 'A Healthier Wales', and I'm encouraged to see further progress being made here.

We're also trialling new integrated models of care this winter by deploying pharmacists into emergency departments. Again, early indications are positive. Dedicated pharmacists are now working as part of a multidisciplinary team, with some hospitals already reporting seeing up to 100 patients a week, to help support the safe and efficient delivery of care to patients in the emergency department.

However, this winter has also been difficult for services and staff across health and social care. There have been occasions where patients have waited longer for advice, care or treatment than we or health and social care staff would like. Winter stomach bugs such as norovirus place additional strain on our NHS, and since October 2018 there have been 103 gastrointestinal outbreaks in hospitals and care homes across Wales.

Members will be aware that the last flu season saw the highest number of GP consultations and flu cases in hospitals since the 2009 pandemic. We've increased testing following the roll-out of Welsh Government-funded rapid flu tests for patients in emergency departments across Wales. This winter we have seen a higher number of flu cases confirmed in hospitals compared to the same time last year.

Despite a record number of attendances at major emergency departments, performance against the four-hour access target improved at seven out of 13 hospitals. However, it is clear that performance in particular at three sites is simply not good enough, and that has affected the national overall performance picture.

Looking forward to the medium term, we're overseeing a number of programmes to support the sustainable delivery of unscheduled care services. The new primary care model will provide a 24/7 response, with the 111 service being a key component. As the 111 service rolls out over the next two to three years it will improve access through better signposting, clinical advice and treatment using a free-to-call number and other digital opportunities. There'll be greater regional and national working to meet the demand for critical advice and treatment at peak times, and 111 will be available nationally by 2022.

The amber review implementation programme, which I've highlighted to Members in a previous statement, is well under way and expected to run until November 2019. I will update Members on progress on that programme over the summer. A quality and delivery framework for emergency departments is under development and includes the piloting of new measures developed alongside clinicians over the past year. This'll be the first phase of wider work to develop clinical outcome and experience measures across the unscheduled care system.

Building on an in-depth review into how we discharge people with complex needs from hospitals, we will substantially increase focus on preventing unnecessary admission and reducing delays in hospital transfers of care for older people in 2019-20. I will also provide an update on this ‘home first’ approach in the summer. This reinforces our need to work across our whole health and social care system.

And finally, we will launch a policy framework for unscheduled care to describe our policy expectations for local health boards and NHS trusts in the summer 2019. I will, of course, provide further detail upon its release.

Mae ysbytai ledled Cymru wedi dweud eu bod wedi treulio cryn dipyn yn llai o amser yn y categorïau uwchgyfeirio uchaf ym mis Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 o gymharu â mis Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018. Pan yr oedd ysbytai yn ymdopi â'r pwysau cynyddol hynny, y gaeaf hwn fe wnaethon nhw ddod at eu hunain ac isgyfeirio ynghynt, ac mae hynny'n arwydd gwirioneddol o wella cydnerthedd y gwasanaethau rheng flaen.

Mae ysbytai wedi derbyn llai o bobl dros 85 oed mewn achosion brys y gaeaf hwn, o'i gymharu â'r ddau aeaf blaenorol. Roedd hyd cyfartalog arosiadau ar gyfer cleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty fel achosion brys ym mis Rhagfyr 2018 ar ei isaf ers mwy na chwe blynedd. Bu gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, a bu gwelliannau mewn amseroedd aros; roedd nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos ar gyfer gofal dewisol ar ddiwedd mis Tachwedd 2018 yn 41 y cant yn is nag ym mis Tachwedd 2017, a bellach mae pob Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa well nag yr oedd y llynedd.

Rwyf hefyd yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am nifer o gynlluniau cyflawni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r trydydd sector sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar bobl y gaeaf hwn. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cydweithredu ag Ambiwlans Sant Ioan ar fenter cymorth cwympiadau, gan ymateb i 773 o bobl sydd wedi cwympo y gaeaf hwn. Roedd dros 85 y cant o'r galwadau hynny yn cynnwys cleifion dros 65 oed. Mae sylwadau gan gleifion yn dangos bod 94 o bobl yn fodlon ar yr ymateb a ddarparwyd.

Ers canol mis Rhagfyr, mae byrddau iechyd lleol wedi bod yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi dros 14,000 o gleifion mewn wyth adran achosion brys ledled y wlad. Diben y cynllun arbrofol yw gwella lles a phrofiad cleifion. Mae'n cefnogi cleifion a'u teuluoedd mewn adrannau achosion brys ac yn cludo cleifion adref. Mae'r cludiant cartref yn cynnwys helpu i adsefydlu cleifion drwy eu cysylltu eto i wasanaethau cymunedol. Mae hynny wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl unig.

Mae'r arbrawf Adre o'r Ysbyty, sy'n cael ei gynnig ar y cyd â Gofal a Thrwsio Cymru, yn canolbwyntio ar wella ansawdd tai i gefnogi llai o oedi wrth drosglwyddo gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a lleihau cyfraddau aildderbyn. Mae cydweithio ac integreiddio gyda'r trydydd sector yn elfen allweddol o 'Cymru Iachach', ac mae'n galonogol gweld rhagor o gynnydd yn hyn o beth.

Rydym ni hefyd yn treialu modelau integredig newydd o ofal y gaeaf hwn drwy ddefnyddio fferyllwyr mewn adrannau achosion brys. Unwaith eto, mae arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Mae fferyllwyr penodedig bellach yn gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol, gyda rhai ysbytai eisoes yn dweud eu bod yn gweld hyd at 100 o gleifion yr wythnos, i helpu cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion yn yr adrannau achosion brys.

Fodd bynnag, mae'r gaeaf hwn hefyd wedi bod yn anodd i wasanaethau a staff ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bu achlysuron lle bu cleifion yn aros yn hwy am gyngor, gofal neu driniaeth nag y buasem ni neu staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddymuno. Mae afiechydon stumog gaeaf fel norofeirws yn rhoi straen ychwanegol ar ein GIG, ac ers mis Hydref 2018 cafwyd 103 achos o haint gastroberfeddol mewn ysbytai a chartrefi gofal ledled Cymru.

Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y tymor ffliw diwethaf wedi gweld y nifer uchaf o ymgynghoriadau â meddygon teulu ac achosion o'r ffliw mewn ysbytai ers pandemig 2009. Rydym ni wedi cynyddu profion yn dilyn cyflwyno'r profion ffliw cyflym a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion mewn adrannau achosion brys ledled Cymru. Y gaeaf hwn, rydym ni wedi gweld mwy o achosion o'r ffliw wedi eu cadarnhau mewn ysbytai o gymharu â'r un pryd y llynedd.

Er gwaethaf y nifer uchaf erioed o bobl mewn adrannau achosion brys mawr, gwellodd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr mewn saith o 13 o ysbytai. Fodd bynnag, mae'n glir nad yw perfformiad, yn benodol mewn tri safle yn ddigon da, ac mae hynny wedi effeithio ar y darlun cenedlaethol cyffredinol o ran perfformiad.

Gan edrych ymlaen at y tymor canolig, rydym ni'n goruchwylio nifer o raglenni i gefnogi darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu mewn modd cynaliadwy. Bydd y model gofal sylfaenol newydd yn darparu ymateb 24/7, gyda'r gwasanaeth 111 yn elfen allweddol. Wrth gyflwyno'r gwasanaeth 111 dros y ddwy i dair blynedd nesaf, bydd yn gwella mynediad trwy well arwyddion, cyngor clinigol a thriniaeth gan ddefnyddio rhif ffôn am ddim a chyfleoedd digidol eraill. Bydd mwy o weithio rhanbarthol a chenedlaethol i ddiwallu'r galw am gyngor a thriniaeth gritigol yn ystod oriau brig, a bydd y gwasanaeth 111 ar gael yn genedlaethol erbyn 2022.

Mae rhaglen weithredu'r adolygiad oren, yr wyf wedi tynnu sylw Aelodau ati mewn datganiad blaenorol, ar y gweill ers tro ac mae disgwyl iddi redeg tan fis Tachwedd 2019. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynglŷn â'r cynnydd yn y rhaglen honno dros yr haf. Mae fframwaith ansawdd a darparu ar gyfer adrannau achosion brys yn cael ei ddatblygu ac mae'n cynnwys treialu mesurau newydd a ddatblygwyd ochr yn ochr â chlinigwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma fydd cam cyntaf y gwaith ehangach i ddatblygu canlyniadau clinigol a mesurau profiad ledled y system gofal heb ei drefnu.

Gan adeiladu ar adolygiad manwl ynglŷn â sut yr ydym ni'n rhyddhau pobl ag anghenion cymhleth o ysbytai, byddwn yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar atal mynediadau diangen i ysbytai a lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal ysbyty ar gyfer pobl hŷn yn 2019-20. Byddaf hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y dull 'gartref yn gyntaf' hwn yn yr haf. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hangen i weithio ledled ein system iechyd a gofal cymdeithasol.

Ac yn olaf, byddwn ni'n lansio fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu i ddisgrifio ein disgwyliadau polisi ar gyfer byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn ystod yr haf 2019. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi rhagor o fanylion pan gaiff ei gyflwyno.

15:00

Thank you, Minister, for your statement and for the advance copy that you provided to my office.

Clearly, there has been progress in some areas, and I’m very pleased to see that, because, my goodness, we needed some progress on this very important matter. Because, as you quite rightly said, whilst performance against the four-hour target has improved at some hospital sites, at others it is woefully inadequate, including, most seriously, in north Wales at two of the hospitals, which are at the bottom of the league table in a health board that, of course, is currently in special measures and under your direct control.

Can I give you an example of the sort of care that is being provided at Glan Clwyd Hospital? This is from an e-mail that was sent to me by my constituent, John Cook, about his son Gareth Cook, who, unfortunately, had occasion to need some attention in the emergency department there back in November. He attended three times in a single week, largely because, at the first of those attendances he was turned away inappropriately, and at the second attendance he was also turned away inappropriately, because of bed pressures in the hospital. He comments, and I quote:

'I have mentioned the lack of basic hygiene, privacy and respect for patients arising from the appalling conditions. To illustrate this point, I refer to patients vomiting within touching distance of one another. Gareth recounts an experience of sharing a four-chair bay with three others. Included in this group were an elderly blind person and a younger man who was an alcoholic and clearly disturbed. In the middle of the night, this alcoholic introduced a pair of scissors and was prodding the blind man awake.' 

In addition to that, there are scenes described of two elderly gentlemen, one 94 and the other in his 80s, spending days—not hours, days—on chairs, sharing a single one-bay bed with three others, all, again, within touching distance of one another.

Now, clearly, these are unacceptable descriptions of the sort of care that both you and I and anybody else in this Chamber would want to be seeing provided, but I am very concerned that that’s the sort of care, unfortunately, that many people are witnessing in our hospitals, particularly in north Wales. But I know that those sorts of scenes are not confined to there, and I want to know what you're doing to address those sorts of concerns, because it seems to me that a large part of the problem is the bed capacity in our hospitals, which is keeping too many people in our emergency departments for too long.

Because we know that the figures on the 12 plus-hour periods that people are spending in our hospitals are actually getting worse. They got worse in December, and they were worse in November than they were 12 months previously. So, whilst I appreciate that there is progress being made in terms of transfers of care, and that there has been some progress in terms of some of the other targets, clearly, people should not be spending more than 12 hours in an emergency department unless there is an exceptional circumstance that requires them to be in there.

You made reference to the extra cash that has been invested this winter. I’m pleased to see that cash going in. I’d be very grateful to know, Minister, how that cash was divided by health board area, because it seems to me that it’s not always been targeted at the level of greatest need, where the biggest problems are manifesting. So, it would be interesting to know if you could give us a breakdown in your response today.

I’m very keen also to hear a little bit more about these collaborations that the NHS is developing with the Red Cross, St John’s Ambulance, and Care & Repair Cymru. It’s wonderful that those collaborations have started. I know that patients, certainly in my neck of the words, really value very much the support that the Red Cross have been giving, and I think that’s working extremely well. But, clearly, I think what we need to know is: are these going to be permanent features within our health service in the future and, if so, are appropriate regimes in place to ensure that there's proper scrutiny of those new systems and arrangements, and are they being properly paid for?

Can you also tell us what the situation is in terms of the take-up of the flu jab by front-line healthcare workers? You made reference to the flu season in your statement, and we know that it started a little bit later this year than it has in previous years and, of course, there's always the opportunity that it will gather momentum again. Now, we've had just around half of our front-line healthcare workers in the past actually receiving their jabs. That's clearly not good enough. We need to get a higher take-up rate amongst front-line health professionals, and I'd be grateful if you could tell us whether you're going to introduce new targets, new measures that can prompt and encourage people to take the opportunity to protect themselves in order to protect other people.

And just finally, can I ask you on the whole subject of the ambulance service and its targets—? We know that there have been some welcome changes in terms of the intelligent targets that have been set now for the ambulance service, but one thing that rings in my ears on a frequent basis is the concern that some people who show symptoms of a cardiac attack, a heart attack, are not being regarded as the top category of calls, and don't stimulate an ambulance to be able to respond to them within the eight-minute call time. I think that is a concern for a lot of people. Some people, sadly, have lost partners, lost family members as a result of that target. I'd be grateful to know if you could tell us what you're doing to review that particular arrangement in terms of the cardiac care in the future. Thank you.    

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am y copi ymlaen llaw a gafodd fy swyddfa.

Yn amlwg, bu cynnydd mewn rhai meysydd, ac rwy'n falch iawn o weld hynny, oherwydd, bobol bach, roedd angen peth cynnydd arnom ni o ran y mater pwysig iawn hwn. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn briodol iawn, er bod perfformiad o gymharu â'r targed o bedair awr wedi gwella mewn rhai ysbytai, mewn rhai eraill mae'n druenus o annigonol, gan gynnwys, yn fwyaf difrifol, yn y gogledd mewn dau o'r ysbytai, sydd ar waelod y tabl cynghrair mewn bwrdd iechyd sydd, wrth gwrs, ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi.

A gaf i roi enghraifft o'r math o ofal a ddarperir yn Ysbyty Glan Clwyd i chi? Daw hyn o e-bost a anfonwyd ataf gan fy etholwr, John Cook, am ei fab Gareth Cook a oedd, yn anffodus, angen rhywfaint o sylw yn yr adran achosion brys yno yn ôl ym mis Tachwedd. Aeth yno dair gwaith mewn un wythnos, i raddau helaeth oherwydd, y tro cyntaf cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, a'r ail dro hefyd cafodd ei droi ymaith yn amhriodol, oherwydd pwysau ar welyau yn yr ysbyty. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Rwyf wedi crybwyll y diffyg hylendid sylfaenol, preifatrwydd a pharch i gleifion sy'n deillio o'r amodau ofnadwy. I egluro'r pwynt hwn, cyfeiriaf at gleifion yn chwydu a hwythau'n agos iawn at ei gilydd. Mae Gareth yn sôn am brofiad o rannu bae pedair cadair gyda thri arall. Ymhlith y grŵp hwn roedd person dall oedrannus a dyn iau a oedd yn alcoholig ac yn amlwg yn anniddig. Yng nghanol y nos, dyma'r alcoholig yn estyn siswrn ac yn pwnio'r dyn dall a'i ddeffro.

Yn ogystal â hynny, caiff golygfeydd eraill eu disgrifio o ddau ŵr bonheddig oedrannus, un yn 94 a'r llall yn ei 80au, yn treulio dyddiau—nid oriau, dyddiau—ar gadeiriau, gan rannu un bae gwely sengl gyda thri arall, a phob un ohonyn nhw, eto, yn agos iawn at ei gilydd.

Nawr, yn amlwg, mae'r rhain yn ddisgrifiadau annerbyniol o'r math o ofal yr hoffech chi a minnau ac unrhyw un arall yn y Siambr ei weld yn cael ei ddarparu, ond rwyf yn bryderus iawn mai dyna'r math o ofal, yn anffodus, y mae nifer o bobl yn dyst iddo yn ein hysbytai, yn enwedig yn y gogledd. Ond rwy'n gwybod nad yw'r mathau hynny o olygfeydd yn gyfyngedig i'r fan honno, ac fe hoffwn i wybod beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bryderon, gan ei fod yn ymddangos i mi mai rhan fawr o'r broblem yw nifer y gwelyau sydd ar gael yn ein hysbytai, sy'n cadw gormod o bobl yn ein hadrannau achosion brys am gyfnod rhy hir.

Rydym ni'n gwybod fod y ffigurau am y cyfnodau 12 awr a mwy y mae pobl yn eu treulio yn ein hysbytai mewn gwirionedd yn gwaethygu. Maen nhw wedi gwaethygu ym mis Rhagfyr, ac roedden nhw'n waeth ym mis Tachwedd nag yr oedden nhw 12 mis cyn hynny. Felly, er fy mod i'n deall bod cynnydd o ran trosglwyddo gofal, ac y bu rhywfaint o gynnydd o ran rhai o'r targedau eraill, yn amlwg, ni ddylai pobl fod yn treulio mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys oni bai y ceir sefyllfa eithriadol pan fo angen iddyn nhw fod yno.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr arian ychwanegol a fuddsoddwyd y gaeaf hwn. Rwy'n falch o weld yr arian hwnnw'n cael ei gyflwyno. Byddwn yn ddiolchgar iawn i wybod, Gweinidog, sut y rhannwyd yr arian hwnnw fesul ardal bwrdd iechyd, gan ei fod yn ymddangos i mi nad yw bob amser wedi'i dargedu i'r mannau lle mae'r angen mwyaf, lle mae'r problemau mwyaf yn ymddangos. Felly, fe fyddai'n ddiddorol gwybod os wnewch chi roi dadansoddiad inni yn eich ymateb heddiw.

Rwy'n awyddus iawn hefyd i glywed ychydig yn fwy am y cydweithio yma y mae'r GIG yn ei ddatblygu gyda'r Groes Goch, Ambiwlans Sant Ioan, a Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n wych bod y cydweithredu hwnnw wedi dechrau. Rwy'n gwybod fod cleifion, yn sicr yn fy rhan i o'r wlad, yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth y mae'r groes goch wedi bod yn ei rhoi, ac rwy'n credu ei fod yn gweithio'n hynod o dda. Ond, yn amlwg, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wybod yw: a fydd y rhain yn nodweddion parhaol yn ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol ac, os felly, a oes trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gwaith craffu priodol ar y systemau a'r trefniadau newydd hynny, ac a thelir amdanyn nhw'n briodol?

A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd beth yw'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn manteisio ar y brechiad rhag y ffliw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y tymor ffliw yn eich datganiad, ac rydym ni'n gwybod y dechreuodd ychydig yn hwyrach eleni na mewn blynyddoedd blaenorol ac, wrth gwrs, mae hi wastad yn bosib i hynny gynyddu eto. Nawr, dim ond tua hanner ein gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn y gorffennol mewn gwirionedd sydd wedi bod yn cael eu pigiadau. Nid yw hynny'n amlwg yn ddigon da. Mae angen inni gael cyfradd uwch o weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen yn manteisio ar hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n mynd i gyflwyno targedau newydd, mesurau newydd sy'n gallu ysgogi ac annog pobl i fanteisio ar y cyfle i ddiogelu eu hunain er mwyn diogelu pobl eraill.

Ac yn olaf, a gaf i eich holi ynglŷn â holl fater y gwasanaeth ambiwlans a'i dargedau—? Rydym ni'n gwybod y bu rhai newidiadau i'w croesawu o ran y targedau synhwyrol sydd wedi'u pennu bellach ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, ond un peth sy'n dod i fy nghlyw yn rheolaidd yw'r pryder nad yw rhai pobl sy'n dangos symptomau o drawiad cardiaidd, trawiad ar y galon, yn cael eu hystyried fel y categori uchaf o alwadau, ac nad oes angen i ambiwlans ymateb iddyn nhw o fewn wyth munud i amser yr alwad. Rwy'n credu bod hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Yn anffodus, mae rhai pobl, wedi colli partneriaid, wedi colli aelodau o'r teulu o ganlyniad i'r targed hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i adolygu'r trefniant penodol hwnnw o ran gofal cardiaidd yn y dyfodol. Diolch.    

15:05

Thank you for the series of questions. I'll begin with your last point, because it was covered in the amber review. There was a review of the conditions in the different categorisations, in red, amber 1 and amber 2, and your personal view is not supported by the clinicians who undertook the review. We're taking a proper evidence base as to the categorisation of healthcare conditions, but also to look at improvement within the amber category in any event. And as I said in my statement, I'll be reporting back to Members this summer on the progress being made in delivering that and, of course, I'll expect to report again at the end of the implementation period for the recommendations made in that review. As I indicated in my statement, that work is due to carry on until November of this calendar year.

On your broader point about the flu jab, again, I expect that, as part of the wider review into this winter, we'll look again at the overall success of persuading the public and our staff to take up the opportunity offered by protection from the flu jab. We'll look again at the most successful parts of our system, both for employees as well as the ability to persuade people to take up their flu jabs, whether at GP surgeries or at pharmacies. In fact, this morning I had to call into my own general practice, and the wall was plastered with posters about getting your flu jab for those people at increased risk. So, certainly, the information being provided there in both languages was very, very visible, and I know that it's something that has been discussed and will be discussed again with employers about the success, or otherwise, of persuading staff to take up the flu jab in each part of our system. And you'll know that this winter, of course, we've rolled out the opportunity for staff in residential care to receive the flu jab from the health service as well, so I'll be open and transparent about success and what measures we propose to take at the end of this winter as well.

On the Red Cross, I'm glad that there's broadly a welcome for it, and it's been very, very warmly welcomed by staff and by people who are engaged in the service themselves as well. It is a pilot, and it's a pilot that is due to run at the end of March, and we will then evaluate it to understand the impact that it has had. We will then—I will then have to make a decision about whether to recommission that, whether it will be a regular recommission, whether it will be a seasonal recommission if the evidence supports it in winter, or whether it's a regular part and feature of our system. We will need to understand from the Red Cross about their ability to supply that service, should the evaluation show that it's of the sort of value where we would want to sustain it. 

On your broader point about money, I confirmed in a previous statement that of the share of the money that's gone out, north Wales had the highest share of the moneys announced. I'll happily recirculate to Members the share of that between different health boards and their partners.

On your broader point about the experience of care when you started off your contributions and comments, I would not try to say that the picture that you paint from your constituency is one that I would wish anyone to have in any emergency department in any part of the country. And the challenge for us is not just understanding that that has taken place, but our ability to do something different about it. Now that, for me, isn't just about the front door, and we regularly rehearse this—it isn't just about ambulances and the front door. And actually, it isn't always about bed capacity. And one of the interesting things about the conversation with the college of emergency medicine has been their focus on, yes, wanting more staff, but actually, their other big focus has been about wanting more resource to go into social care, because they recognise that the medically fit people within any of the hospitals almost always equal the pressure they have at the front door, and actually being able to get those medically fit people out of the hospital requires the support of social care and the third sector for that to be able to happen.

Now, for me, the frustration is how fast we're able to move, bearing in mind the demand that we continue to see coming through our front door. We know that we have managed to support more people outside of emergency departments this winter. If we hadn't taken those measures, we'd have more people in our emergency departments. We need to do progressively more each winter just to keep pace with the demand that we know exists in our whole system. But it isn't just emergency departments that see that pressure, our colleagues in primary care do as well.

So, if you want to provide me with the details from your constituent, I'll happily make sure they're looked at, but the focus will be on the whole system and, in particular, how we support people to leave a hospital and be supported, so they're not readmitted and they're not returning to hospital without having had the appropriate support and care outside of our hospital system.

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Fe wnaf i ddechrau â'ch pwynt olaf, oherwydd yr ymdriniwyd ag ef yn yr adolygiad galwadau oren. Cynhaliwyd adolygiad o'r amodau mewn dosbarthiadau gwahanol, gyda galwadau coch, oren 1 ac oren 2, ac nid yw'r clinigwyr a gynhaliodd yr adolygiad yn cefnogi eich barn bersonol chi. Rydym ni'n defnyddio tystiolaeth briodol yn sylfaen i gategoreiddio amodau gofal iechyd, ond hefyd i edrych ar welliannau yn y categori oren beth bynnag. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau'rr haf hwn ynglŷn â'r cynnydd a wneir o ran darparu hynny ac, wrth gwrs, rwy'n disgwyl cyflwyno adroddiad eto ar ddiwedd y cyfnod gweithredu ar gyfer yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad hwnnw. Fel y nodais yn fy natganiad, mae'r gwaith i fod i fynd rhagddo tan fis Tachwedd y flwyddyn galendr hon.

O ran eich pwynt ehangach am y pigiad ffliw, unwaith eto, rwy'n disgwyl, yn rhan o'r adolygiad ehangach o'r gaeaf hwn, y byddwn ni'n edrych eto ar y llwyddiant cyffredinol wrth berswadio'r cyhoedd a'n staff i fanteisio ar y cyfle a gynigir i gael eu diogelu gan y pigiad ffliw. Fe wnawn ni edrych eto ar y rhannau mwyaf llwyddiannus o'n system, ar gyfer gweithwyr yn ogystal â'r gallu i ddarbwyllo pobl i gael eu pigiadau ffliw, boed mewn meddygfeydd teulu neu mewn fferyllfeydd. Yn wir, y bore yma roedd yn rhaid imi alw yn fy meddygfa deuluol fy hun, ac roedd y wal yn blastr o bosteri ynglŷn â chael brechiad rhag y ffliw ar gyfer y bobl hynny sydd mewn mwy o berygl. Felly, yn sicr, roedd yr wybodaeth a oedd yn cael ei darparu yn y fan honno yn y ddwy iaith yn weladwy iawn, iawn, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sydd wedi cael ei drafod ac a gaiff ei drafod eto gyda chyflogwyr, ynglŷn â llwyddiant, neu fel arall, darbwyllo staff i fanteisio ar y brechiad rhag y ffliw ym mhob rhan o'n system. A byddwch yn gwybod y gaeaf hwn, wrth gwrs, ein bod ni wedi rhoi cyfle i staff gofal preswyl gael brechiad rhag y ffliw gan y gwasanaeth iechyd hefyd, felly byddaf yn agored ac yn dryloyw ynghylch llwyddiant a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud ar ddiwedd y gaeaf hwn hefyd.

O ran y Groes Goch, rwy'n falch bod croeso cyffredinol iddo, ac mae wedi cael croeso gwresog iawn, iawn gan staff a'r bobl sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth eu hunain hefyd. Mae'n gynllun treialu, ac mae'n gynllun treialu sydd i fod yn weithredol ar ddiwedd mis Mawrth, ac yna byddwn yn gwerthuso i ddeall yr effaith a gafodd. Wedyn bydd angen inni—wedyn bydd angen imi wneud penderfyniad ynghylch p'un ai i ailgomisiynu hynny, a fydd hynny yn ailgomisiynu rheolaidd, a fydd yn ailgomisiynu tymhorol os bydd y dystiolaeth yn cefnogi hynny yn y gaeaf, neu a yw'n rhan reolaidd ac yn nodwedd o'n system. Bydd angen i ni ddeall gan y Groes Goch beth yw eu gallu i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw, os yw'r gwerthusiad yn dangos ei fod yn werth ei gynnal.

O ran eich sylw ehangach am arian, fe wnes i gadarnhau mewn datganiad blaenorol mai o'r gyfran o'r arian a roddwyd, y gogledd gafodd y gyfran uchaf o'r arian a gyhoeddwyd. Rwy'n fodlon iawn ailgylchredeg i Aelodau y gyfran o'r arian hwnnw rhwng gwahanol fyrddau iechyd a'u partneriaid.

O ran eich sylw ehangach am y profiad o ofal wrth ichi ddechrau eich cyfraniadau a'ch sylwadau, Ni wnaf i geisio dweud bod y darlun a roesoch chi yn eich etholaeth yn un y byddem yn dymuno i unrhyw un ei gael mewn unrhyw adran achosion brys mewn unrhyw ran o'r wlad. A'r her i ni yw nid dim ond deall fod hynny wedi digwydd, ond ein gallu i wneud rhywbeth yn wahanol am y peth. Nawr, i mi, nid yw hynny dim ond ynglŷn â'r drws ffrynt, ac rydym ni'n ymarfer hyn yn rheolaidd—nid yw'n ymwneud ag ambiwlansys a'r drws ffrynt yn unig. Ac mewn gwirionedd, nid yw bob amser ynglŷn â nifer y gwelyau. Ac un o'r pethau diddorol am y sgwrs gyda'r coleg meddygaeth frys fu eu pwyslais ar, ie, yr angen am fwy o staff, ond mewn gwirionedd, eu pwyslais mawr arall fu mwy o adnoddau i'r maes gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod bod y bobl sy'n feddygol heini mewn unrhyw un o'r ysbytai bron bob amser yn cyfateb i'r pwysau sydd ganddyn nhw wrth y drws ffrynt, ac mewn gwirionedd mae gallu cael rhai o'r bobl hynny sy'n feddygol heini allan o'r ysbyty angen cymorth gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i hynny ddigwydd.

Nawr, i mi, y rhwystredigaeth yw pa mor gyflym y gallwn ni wneud hyn, gan gadw mewn cof y galw yr ydym ni'n parhau i weld yn dod drwy'r drws ffrynt. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi llwyddo i gefnogi mwy o bobl y tu allan i adrannau brys y gaeaf hwn. Pe na byddem ni wedi gwneud hynny, byddai gennym ni fwy o bobl yn ein hadrannau achosion brys. Mae angen inni wneud mwy yn gynyddol bob gaeaf dim ond i ateb y galw y gwyddom ni'n sy'n bodoli yn ein system gyfan. Ond nid adrannau achosion brys yn unig sy'n gweld y pwysau hynny, ond ein cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol hefyd.

Felly, os hoffech chi roi'r manylion gan eich etholwr imi, rwy'n hapus i wneud siwr eu bod nhw'n cael sylw, ond bydd y pwyslais ar y system gyfan ac, yn benodol, ar sut yr ydym ni'n cefnogi pobl i adael yr ysbyty a chael cefnogaeth, fel nad ydyn nhw'n cael eu haildderbyn ac nad ydyn nhw'n dychwelyd i'r ysbyty heb gael y cymorth a'r gofal priodol y tu allan i'n system ysbytai.

15:10

I'd like to thank the Minister very much for his statement and, in doing so, join him in valuing the excellent work that our staff are doing, sometimes under very difficult circumstances. I'm sure that we all appreciate the efforts they make, often under very difficult circumstances, as I've said.

It is, as Darren Millar said, positive to see some trends. I'd like to ask the Minister for a little bit more detail about some of the headlines that he mentions. So, the statement mentions that hospitals across Wales reported considerably less time spent at the highest level of escalation in December last year and January this year. That's obviously good to hear, but I'd appreciate some more detail from the Minister. Perhaps he could write to Members, because 'considerably less time' is quite a vague term and it would be interesting to know whether that improved performance was consistent across all the hospitals in Wales, were there variations, and if there were variations, what accounts for them and how those might be addressed.

So, a further question of detail around delayed transfers of care. Again, it's very pleasing to hear that there has been a reduction, but it would be helpful, from the point of view of scrutiny, to know a reduction from what to what, and again, whether that performance is consistent across the whole of the service or whether, as we might suspect, there are substantial differences. And again, if there are differences, what accounts for those. And I should stress, Dirprwy Llywydd, that I'm not expecting the Minister to have all of this at his fingertips, though I'm sure he will have some of it. But it would be useful to have that level of detail.

I also welcome the engagement of the third sector, where it's appropriate, to help in this area of work. I would, though, put it to the Minister that it's very important that we ensure that these third sector services once—. As I appreciate the Minister said to Darren Millar, some of these are pilots, and we need to see whether they're working and then whether Government wants to commission them on an ongoing basis. But it is very important when we are engaging with the third sector that it's done on a sustainable basis and that the funding pattern is enough for the organisations to be able to sustain themselves as well as to provide the particular service. I have, for example, been in some discussions with a hospice at home service in my own region where the funding that they're being offered from the health board is on a standstill basis, despite the fact that nursing salaries are, rightly, being increased. So, I think it would be helpful for the Minister to take a look at how the service as a whole is engaging with the third sector and is it doing so in a way that makes those services, which are much appreciated, as Darren Millar has said, truly sustainable.

The Minister's statement made references to the accident and emergency situation, but it's at a fairly broad level, though I appreciate we have discussed this already. But the reality is, isn't it, that we had almost 4,000 people—3,887—waiting longer in major A&E centres last December, and that was more than in previous years. The Minister rightly highlights that the figures are skewed by particularly poor performances in particular places—Darren Millar made reference to the north—and I'd be grateful if the Minister can say a bit more today about what he and his officials are doing to address that performance in those three centres where we know that there are really serious issues.

Finally, Deputy Presiding Officer, it is fairly obvious to state that winter does come every year, and yet we do seem to hear that we are to be surprised by certain things like influenza and norovirus, and I wonder if the Minister can assure us—and I look forward to seeing the policy framework for unscheduled care, because I think it's very useful to have a national policy framework—. But will the Minister ensure that, in that framework, we take into account the fact that these pressures do come every year? Some years, they're worse than others; some years flu is worse, some years norovirus is worse. But we do need to understand that there will always be those additional pressures. So, can the Minister assure us that that policy framework will take into account that variation in pressure so that we're not looking for emergencies when, in fact, what we've got is just the weather and this being Wales? Thank you.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac, wrth wneud hynny, ategu ei werthfawrogiad am y gwaith rhagorol y mae ein staff yn ei wneud, weithiau o dan amgylchiadau anodd iawn. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r ymdrechion y maen nhw'n eu gwneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn, fel rwy'n dweud.

Mae hi, fel y dywedodd Darren Millar, yn gadarnhaol i weld rhai tueddiadau. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o fanylion am rai o'r penawdau y mae'n sôn amdanyn nhw. Felly, mae'r datganiad yn sôn bod ysbytai ledled Cymru yn dweud iddyn nhw dreulio llawer llai o amser yn y categori uchaf o uwchgyfeirio ym mis Rhagfyr y llynedd a mis Ionawr eleni. Mae'n dda clywed hynny yn amlwg, ond fe fyddwn i'n gwerthfawrogi ychydig mwy o fanylion gan y Gweinidog. Efallai y gallai ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd mae 'llawer llai o amser' yn derm eithaf amwys a byddai'n ddiddorol gwybod a oedd y gwelliant yna mewn perfformiad yn gyson ar draws yr holl ysbytai yng Nghymru, a oedd amrywiadau, ac os oedd amrywiadau, beth oedd i gyfrif amdanyn nhw a sut gellid mynd i'r afael â nhw.

Felly, cwestiwn pellach ynglŷn â manylion ynghylch oedi wrth drosglwyddo gofal. Unwaith eto, mae'n braf iawn clywed y bu lleihad, ond byddai'n ddefnyddiol, o safbwynt craffu, i wybod gostyngiad o beth i beth, ac eto, pa un a yw'r perfformiad yn gyson drwy'r holl wasanaeth neu, fel yr ydym ni'n amau, a oes yna wahaniaethau sylweddol. Ac eto, os oes gwahaniaethau, beth sydd i gyfrif am hynny. Ac fe ddylwn i bwysleisio, Dirprwy Lywydd, nad wyf yn disgwyl i'r Gweinidog fod â hyn i gyd ar flaenau ei fysedd, er fy mod yn siŵr y bydd ganddo rywfaint ohono. Ond byddai'n ddefnyddiol cael y manylder hwnnw.

Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad y trydydd sector, lle bo'n briodol, i helpu yn y maes hwn o waith. Fe wnaf i ddweud, fodd bynnag, wrth y Gweinidog ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod y gwasanaethau trydydd sector hyn unwaith—. Oherwydd rwy'n sylweddoli i'r Gweinidog ddweud wrth Darren Millar, bod rhai o'r rhain yn gynlluniau treialu, ac mae angen inni weld a ydyn nhw'n gweithio ac yna a yw'r Llywodraeth eisiau eu comisiynu'n barhaol. Ond mae hi'n bwysig iawn pan rydym ni'n trafod gyda'r trydydd sector bod hynny'n cael ei wneud yn gynaliadwy a bod y patrwm cyllido yn ddigon i'r sefydliadau allu cynnal eu hunain yn ogystal â darparu gwasanaeth penodol. Er enghraifft, bûm mewn rhai trafodaethau gyda gwasanaeth hosbis yn y cartref yn fy rhanbarth fy hun lle mae cyllid sy'n cael ei gynnig iddyn nhw gan y Bwrdd Iechyd ar sail ddigyfnewid, er gwaethaf y ffaith fod cyflogau nyrsio teg, yn gwbl briodol, yn cynyddu. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog edrych ar sut y mae'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn ymgysylltu gyda'r trydydd sector ac a yw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y gwasanaethau hynny, sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint, fel y dywedodd Darren Millar, yn wirioneddol gynaliadwy.

Roedd datganiad y Gweinidog yn cyfeirio at y sefyllfa o ran damweiniau ac achosion brys, ond mae hynny'n bur gyffredinol, er fy mod i'n sylweddoli ein bod ni wedi trafod hyn eisoes. Ond y gwir amdani yw, ynte, fod bron i 4,000 o bobl—3,887—wedi gorfod aros yn hwy mewn canolfannau damweiniau ac achosion brys mawr fis Rhagfyr diwethaf, ac roedd hynny'n fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod y ffigurau yn cael eu hystumio gan berfformiadau arbennig o wael mewn lleoedd penodol—cyfeiriodd Darren Millar at y gogledd—a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig yn fwy heddiw ynglŷn â'r hyn y mae yntau a'i swyddogion yn ei wneud i fynd i'r afael â'r perfformiad hwnnw yn y tair canolfan hynny lle'r ydym ni'n gwybod fod yna faterion difrifol iawn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n weddol amlwg i ddweud bod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae'n ymddangos ein bod ni'n clywed bod rhai pethau fel ffliw a norofeirws i fod i beri syndod inni, tybed a all y Gweinidog ein sicrhau ni—ac edrychaf ymlaen at weld y fframwaith polisi ar gyfer gofal heb ei drefnu, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn cael fframwaith polisi cenedlaethol—. Ond a wnaiff y Gweinidog sicrhau, yn y fframwaith hwnnw, ein bod yn ystyried y ffaith bod y pwysau hwn yn dod bob blwyddyn? Mae rhai blynyddoedd yn waeth nag eraill; mewn rhai blynyddoedd mae'r ffliw yn waeth, mewn rhai blynyddoedd mae'r norofeirws yn waeth. Ond mae angen inni ddeall y bydd y pwysau ychwanegol hynny yno bob amser. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau ni y bydd y fframwaith polisi hwnnw yn ystyried yr amrywiad hwnnw mewn pwysau fel nad ydym ni'n chwilio am argyfyngau pan, mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym ni yw dim byd ond y tywydd, a'r ffaith ein bod ni'n byw yng Nghymru? Diolch.

15:15

If I can deal with your last point first, we recognise that this being Wales and the weather vary in terms of the pressures that they drive. Cold weather tends not to produce a big spike in admissions at the time; it's actually roughly a week or so later when the cold weather produces the impact in terms of the additional number of people going in. We know that the first week of January is almost always a point of really large pressure right across primary care and the hospitals. There are parts that we really can predict and those that we can't accurately. We know that, as more of us live longer, we can expect there to be more pressure across the whole system and, in particular, through winter. That's why one of the encouraging things with the difference this year is the number of over-85s falling in emergency admissions terms, and that's really positive, but it does show that we need to do even more to support people in their own homes, and it's why there is such an understandable, not just direction of policy but a range of people across primary care and social care who are saying that they actually need to not just talk about the way we want more to be done there but how we actually resource those teams to deliver the care that we want to see delivered locally and sustained locally as well.

On your broader point about the three centres with particular challenge, there is a mixture of support and challenge. The support that is provided, not just in monetary terms but actually in advice from officials here has to be complemented with challenge at board level, and that absolutely happens. It's part of the conversation I recently had with health board chairs and trust chairs and chief execs last week. We went through their emergency department performance and in particular focusing on those areas where they recognise they have real and significant challenge, and there is the peer leadership and clinical leadership as well. There is a limit to what politicians demanding answers can actually do to help practice on the ground and indeed the broader whole system about how effective relationships are between health and social care and the third sector, because actually getting those relationships right is just as important as the clinical leadership in any emergency department.

So, there is never one single answer to resolve all of these issues, but you raise a point about the third sector, and actually the sustainability of those services, of course, matters to us as well as the third sector. When we're commissioning a service from the third sector, we want to know that the organisation is robust and able to deliver its service. We have key indicators about the service so they understand we're spending public money wisely, and the third sector don't take issue with that. They want some certainty about the future, and there's a limit to how much certainty we can provide. When you're living year to year on budgets in national Government, it's hard to give people the longer term funding cycles that they would want themselves, but actually we had a very constructive conversation with the third sector in Wales on exactly this topic around health and social care just a few weeks ago when I and the Deputy Minister met with the group convened by the Wales Council for Voluntary Action to look at all those people engaged in delivering and working around the health and social care sector.

And the encouraging point for the third sector to take is that, when you look at the way that 'A Healthier Wales' is not just written and what's in the language in it but actually the WCVA, the Welsh Local Government Association and the NHS Confederation here in Wales—the three key partners who co-produced that strategy—. So, they're absolutely at the start of the conversation, not being tagged on at the end. And they are also part of our regional partnership boards across the country. There's always third sector representation there. So, it's never a perfect point in time; there will always be a need to challenge and discuss what we're doing, but they're absolutely part of the conversation and part of the future as well.

On your two more detail points—on delayed transfers of care, yes, there are variations between health board partnerships. We publish those with the figures on a regular basis. I can say that the last two years have had the lowest levels of delayed transfers of care in the last 13 years since we started collecting these figures, and 2018 had a third lower delayed transfers of care than in 2006. So, actually, we are making real and sustained progress, and there's a positive comparison for Wales compared to England, where delayed transfers are moving in the opposite direction.

And on your point about the highest level of escalation, well, for those who aren't health geeks, we have four levels of escalation: level 1 being the lowest, level 4 being the highest—you may know this, others may not. And for the time we spent at level 4 for this January compared to last January, there is nearly a 12 percentage point difference. And, equally, when departments have been at level 4, they have de-escalated down to level 3 or lower on a much quicker basis as well. So, that is something that isn't because the Minister has said, 'You must do this', it's actually because there is greater grip and performance, and that is because our staff are in a better position, and it's also because the whole system in those areas is in a better position to deliver.

Os caf i ymdrin â'ch sylw olaf yn gyntaf, rydym ni'n cydnabod ein bod ni'n byw yng Nghymru a bod y tywydd yn amrywio ac felly hefyd y pwysau sy'n dod yn sgil hynny. Mae tywydd oer yn tueddu i beidio ag arwain at gynnydd mawr yn nifer y derbyniadau ar y pryd; mewn gwirionedd mae hi oddeutu wythnos neu fwy yn ddiweddarach pan fo'r tywydd oer yn cynhyrchu'r effaith o ran y nifer ychwanegol o bobl yn mynd i ysbytai. Gwyddom fod wythnos gyntaf mis Ionawr bron bob amser yn gyfnod o bwysau mawr iawn ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol ac ysbytai. Ceir rhannau mewn gwirionedd lle y gallwn ni eu rhagweld a rhai lle na allwn ni'n fanwl gywir. Gwyddom, wrth i fwy ohonom ni fyw'n hwy, y gallwn ni ddisgwyl y bydd mwy o bwysau ar draws y system gyfan ac, yn benodol, drwy'r gaeaf. Dyna pam mai un o'r pethau calonogol ynghylch y gwahaniaeth eleni yw nifer y bobl dros 85 oed yn gostwng o ran derbyniadau brys, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn, ond mae'n dangos bod angen inni wneud mwy fyth i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, a dyna pam y mae hi mor ddealladwy, y ceir nid yn unig cyfeiriad polisi ond amrywiaeth o bobl ym mhob rhan o'r maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn dweud bod angen iddyn nhw nid yn unig siarad am y ffordd yr ydym ni eisiau i fwy gael ei wneud yno ond sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn darparu adnoddau i'r timau hynny i ddarparu'r gofal yr ydym ni eisiau ei weld yn cael ei ddarparu'n lleol a'i gynnal yn lleol hefyd.

O ran eich sylw ehangach am y tair canolfan lle mae her benodol, ceir cyfuniad o herio a chefnogi. Mae'n rhaid i'r cymorth a ddarperir, nid yn unig mewn termau ariannol ond mewn gwirionedd o ran cyngor gan swyddogion, gael ei ategu gan her ar lefel y bwrdd, ac mae hynny mewn difrif calon yn digwydd. Mae'n rhan o'r sgwrs a gefais yn ddiweddar gyda chadeiryddion y byrddau iechyd a chadeiryddion yr ymddiriedolaeth a'r prif weithredwyr yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni edrych ar berfformiad eu hadrannau achosion brys, gan ganolbwyntio yn benodol ar y meysydd hynny lle maen nhw'n cydnabod bod ganddyn nhw heriau gwirioneddol a sylweddol, a cheir arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol hefyd. Mae terfyn i beth y gall gwleidyddion yn mynnu atebion mewn gwirionedd ei wneud i helpu ymarfer ar lawr gwlad ac yn wir yn y system gyfan ehangach ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, oherwydd mewn gwirionedd mae cael y perthnasoedd hynny'n gywir yr un mor bwysig ag arweinyddiaeth glinigol mewn unrhyw adran achosion brys.

Felly, nid oes byth un ateb unigol i ddatrys yr holl faterion hyn, ond rydych chi'n codi pwynt am y trydydd sector, ac mewn gwirionedd mae cynaliadwyedd y gwasanaethau hynny, wrth gwrs, yn bwysig i ni yn ogystal ag i'r trydydd sector. Pan rydym ni'n comisiynu gwasanaeth gan y trydydd sector, rydym ni eisiau gwybod bod y sefydliad yn gadarn ac yn gallu darparu ei wasanaeth. Mae gennym ni ddangosyddion allweddol ar gyfer y gwasanaeth fel eu bod yn deall ein bod ni'n gwario arian cyhoeddus yn ddoeth, ac nid yw'r trydydd sector yn anghytuno â hynny. Maen nhw eisiau rhywfaint o sicrwydd ynghylch y dyfodol, ac mae terfyn i faint o sicrwydd y gallwn ni ei ddarparu. Pan rydych chi'n byw o flwyddyn i flwyddyn ar gyllidebau mewn Llywodraeth genedlaethol, mae'n anodd rhoi i bobl y cylchoedd cyllid tymor hwy y byddent yn eu dymuno eu hunain, ond mewn gwirionedd, fe gawsom ni sgwrs adeiladol iawn gyda'r trydydd sector yng Nghymru ar y pwnc hwn yn union ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol ychydig wythnosau yn ôl pan wnaeth y Dirprwy Weinidog a minnau gyfarfod â grŵp a gafodd ei drefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i edrych ar yr holl bobl hynny sy'n ymwneud â darparu ac yn gweithio mewn rhannau amrywiol o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.

A'r agwedd galonogol i'r trydydd sector ei harddel yw, pan edrychwch chi ar y ffordd y mae 'Cymru Iachach' nid yn unig wedi ei ysgrifennu a beth sydd yn yr iaith ond mewn gwirionedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y GIG yma yng Nghymru—y tri phartner allweddol a gyd-gynhyrchodd y strategaeth honno—. Felly, maen nhw'n wirioneddol yn rhan o ddechrau'r sgwrs, nid yn bethau sy'n cael eu hatodi ar y diwedd. Ac maen nhw hefyd yn rhan o'n byrddau partneriaeth rhanbarthol ledled y wlad. Mae cynrychiolaeth o'r trydydd sector yno bob amser. Felly, nid yw hi byth yn adeg berffaith mewn amser; bydd hi wastad yn angenrheidiol i herio a thrafod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond maen nhw'n wirioneddol yn rhan o'r sgwrs ac yn rhan o'r dyfodol hefyd.

O ran eich dau bwynt mwy manwl—ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, oes, mae amrywiadau rhwng partneriaethau bwrdd iechyd. Rydym ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny yn rheolaidd. Gallaf ddweud fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld y lefelau isaf o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y 13 blynedd diwethaf ers inni ddechrau casglu'r ffigurau hyn, ac yn 2018 roedd traean yn llai o oedi wrth drosglwyddo gofal nag yn 2006. Felly, mewn gwirionedd, rydym ni yn gwneud cynnydd gwirioneddol a chyson, ac mae Cymru'n cymharu'n gadarnhaol â Lloegr, lle mae oedi wrth drosglwyddo yn cynyddu.

Ac ynglŷn â'ch sylw am y categorïau uwchgyfeirio uchaf, wel, ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n arbenigwyr ar iechyd, mae gennym ni bedair lefel o uwchgyfeirio: lefel 1, sef yr isaf, a lefel 4, sef yr uchaf—efallai y gwyddoch chi hyn, efallai nad yw eraill yn gwybod hyn. Ac o ran yr amser a dreuliwyd gennym ni ar lefel 4 ar gyfer mis Ionawr eleni o'i gymharu â mis Ionawr diwethaf, mae gwahaniaeth o bron iawn i 12 pwynt canran. Ac, yn yr un modd, pan fydd adrannau wedi bod ar lefel 4, maen nhw wedi isgyfeirio i lefel 3 neu'n is yn llawer cyflymach hefyd. Felly, y rheswm dros hyn yw nid y Gweinidog yn dweud, 'Mae'n rhaid ichi wneud hyn', ond oherwydd bod mwy o afael a gwell perfformiad, ac mae hynny oherwydd bod ein staff mewn sefyllfa well, ac mae hefyd oherwydd bod y system gyfan yn y meysydd hynny mewn sefyllfa well i gyflawni.

15:20

Could I echo both the words of the Minister and others who've contributed so far in response to this statement about the incredible work that people do in different disciplines, both within health and within social care and third sector partners as well? And it's to one of those particular organisations that was mentioned in the statement that I want to address some questions and some remarks. And that's one that began, actually, in my own area in Bridgend, back in 2013–14, I think it was, which is the Bridgend care and repair support that was given to the hospital to home initiative. And it proved its worth very, very quickly way back then—the ability to have much more rapid discharge from hospital to a safe, secure environment with wraparound care, but also to prevent too early readmissions as well by providing that right support of wraparound care at home. Now, of course, as the Minister mentioned, it's having some interesting pilots now—it's been extended well beyond that area to six different areas in south and west Wales, and we're waiting to see the results. But I will just draw the Minister's attention to the performance report of April 2017 to March 2018, which looks at some of the quite compelling results already at that point: around about 1,500 referrals that have been through this particular initiative. Within that, one of the notable successes of the service, even in that early period, was the speed of that service to respond quickly to referrals from health professionals, accessing the service, particularly for discharge. The average speed of the service was one day from referral to completion of work in order to rapidly get somebody back to their home environment. But in addition to that, of course, it's the other services that come with it, including not only the full home assessment visits and the falls risk assessments, using the FRAT tools, the healthy homes check, but a full welfare benefits check as well. Over 230 patients had their weekly income increased during that: a total increase for the whole cohort of £657,000 in that one year's annual report. So, the impacts are massive, and when you hear the health professionals' testimonials about what this is doing—from occupational therapists, from physios and others—the impact on people's lives, as well as preventing early re-admissions, as well as early discharge, is significant.

So, could I ask the Minister—in this quiet revolution that we're trying to do within health and social care, and all the partners within it, which needs, I would say, to be a continual revolution, constantly seeking improvement—how do we move from pilot funding? This was originally the integrated care fund, now it's got some transformation funding and so on in there—if it proves itself, does he agree with me that what we then need to do is make this normal, make this part of core business? If this sort of approach we see here in front of us works, and saves money by being more preventative, then, surely, that should be part of the core business of our health and social care and well-being services. And, secondly, perhaps I could ask him, and I'm sure he'd be up for this, at an appropriate moment, would he accept an invitation to come and see the work that is being done by Bridgend care and repair in their hospital to home service? Because I think he, like me, would be simply blown away, not only by the results but by the professionalism and the commitment of these people. They've been doing it for a long time—they know their stuff. So, please, come and see it; they'd be delighted to see you and to see first-hand the results that they're delivering on the ground and the quality-of-life improvements they're making for their clients as well.

A gaf i adleisio geiriau'r Gweinidog ac eraill sydd wedi cyfrannu hyd yma mewn ymateb i'r datganiad hwn am y gwaith aruthrol y mae pobl yn ei wneud mewn gwahanol ddisgyblaethau, yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid y trydydd sector hefyd? Ac fe hoffwn i gyfeirio rhai cwestiynau a rhai sylwadau at un o'r sefydliadau penodol hynny a grybwyllwyd yn y datganiad. Ac mae'r sefydliad hwnnw'n un a ddechreuodd, mewn gwirionedd, yn fy ardal fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ôl yn 2013–14, rwy'n credu, sef y cymorth a roddodd gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr i'r fenter Adre o'r Ysbyty. Ac fe brofodd ei werth yn gyflym iawn, iawn bryd hynny—y gallu i ryddhau pobl yn llawer cynt o'r ysbyty i le saff a diogel gyda gofal cofleidiol, ond hefyd i geisio sicrhau nad yw pobl yn dod yn ôl i ysbytai yn rhy gynnar drwy ddarparu'r cymorth addas hwnnw o ran gofal cofleidiol yn y cartref. Nawr, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, ceir rhai cynlluniau treialu diddorol yn hynny o beth erbyn hyn—mae wedi'i ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ardal honno i chwe ardal wahanol yn y de a'r gorllewin, ac rydym ni'n aros i weld y canlyniadau. Ond fe dynnaf sylw'r Gweinidog at yr adroddiad perfformiad o fis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018, sy'n edrych ar rai o'r canlyniadau eithaf cadarnhaol bryd hynny: oddeutu 1,500 o atgyfeiriadau a fu drwy'r fenter benodol hon. O fewn hynny, un o lwyddiannau nodedig y gwasanaeth, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwnnw, oedd cyflymder y gwasanaeth hwnnw yn ymateb yn gyflym i atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn manteisio ar y gwasanaeth, yn enwedig o ran rhyddhau cleifion. Cyfartaledd cyflymder y gwasanaeth oedd un diwrnod o atgyfeirio i gwblhau'r gwaith er mwyn i bobl allu mynd adref yn gyflym. Ond yn ogystal â hynny, wrth gwrs, dyna'r gwasanaethau eraill sy'n rhan o hynny, gan gynnwys nid yn unig yr ymweliadau asesiad llawn o'r cartref a'r asesiadau risg cwympiadau, gan ddefnyddio'r pecyn asesu, y gwiriad cartrefi iach, ond gwiriad budd-daliadau lles llawn hefyd. Cafodd dros 230 o gleifion gynnydd yn eu hincwm wythnosol yn ystod y cyfnod hwnnw: cyfanswm cynnydd ar gyfer y garfan gyfan o £657,000 yn adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. Felly, mae'r effeithiau yn enfawr, a phan glywch chi sylwadau gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch beth mae hyn yn ei wneud—yn therapyddion galwedigaethol, yn ffisiotherapyddion ac eraill—yr effaith ar fywydau pobl, yn ogystal ag atal pobl rhag gorfod dychwelyd yn gynnar i'r ysbyty, ynghyd â chael eu rhyddhau yn gynnar, yn sylweddol.

Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog—yn y chwyldro tawel hwn yr ydym ni'n ceisio ei gynnal yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a'r holl bartneriaid ynddo, sydd angen, byddwn yn dweud, chwyldro parhaus, sydd wastad yn ceisio gwella—sut ydym ni'n symud oddi wrth gyllid treialu? Hon yn wreiddiol oedd y gronfa gofal integredig, bellach mae peth arian trawsnewid arian ac ati yno—os yw'n profi ei hun, a yw'n cytuno â mi mai'r hyn sydd ei angen inni ei wneud yw gwneud hwn yn arferol, gwneud hwn yn rhan o'r busnes craidd? Os yw'r math hwn o ymagwedd a welwn ni o'n blaenau yn gweithio, ac yn arbed arian drwy fod yn fwy ataliol, yna, does bosib, dylai hynny fod yn rhan o fusnes craidd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a lles. Ac, yn ail, efallai y gallwn ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y byddai'n fodlon gwneud hyn, ar adeg briodol, a fyddai'n derbyn gwahoddiad i ddod i weld y gwaith sy'n cael ei wneud gan gofal a thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwasanaeth Adre o'r Ysbyty? Oherwydd rwy'n credu y byddai yntau, fel fi, yn cael ei syfrdanu, nid yn unig o weld y canlyniadau ond o weld proffesiynoldeb ac ymrwymiad y bobl hyn. Maen nhw wedi bod wrthi ers amser maith—maen nhw'n gwybod eu stwff. Felly, os gwelwch yn dda, dewch i weld; byddent wrth eu boddau yn eich gweld ac i weld yn uniongyrchol y canlyniadau y maen nhw'n eu cyflawni ar lawr gwlad a'r gwelliannau y maen nhw'n eu gwneud i ansawdd bywyd eu cleientiaid hefyd.

Thank you for highlighting the success of that particular area of work, and, again, the ideas come and they are supported, but, actually, people need to deliver them and to make the difference. And it is encouraging to hear to hear the level of detail and the numbers of people that are benefiting and benefiting rapidly from the new service—that point about a rapid discharge and supporting people to leave, but then the support they need to stay in their own homes safely and securely and as independently as possible. And I just want to pick up that this is about partnership between third sector, housing and different groups of staff who occasionally get talked about, particularly the therapists—occupational therapists and physiotherapy support as well. It is absolutely my ambition to understand which models of care and support have the greatest prospect of making the greatest difference, and the ability to be scaled on a much wider level. I've been really clear that I don't want to keep on funding micro projects that are not transferrable to other parts of the country. I'm interested in a broader—not just debate—but a broader change in practice and to take on best practice so that it becomes standard practice—not something you point to that stands apart from everything else, but, actually, that is the way to deliver business on a standard basis to make the sort of transformation that we all wish to. In principle, I'd be very happy to take up his offer, and if he'll write to me, I'm sure that we can sort out a convenient time and date in the diary.

Diolch am dynnu sylw at lwyddiant y maes penodol hwnnw o waith, ac, unwaith eto, mae'r syniadau'n dod ac yn cael eu cefnogi, ond, mewn gwirionedd, mae pobl angen eu cyflawni a gwneud y gwahaniaeth. Ac mae hi yn galonogol clywed y manylion ac am nifer y bobl sy'n elwa, ac yn elwa'n gyflym, ar y gwasanaeth newydd—y sylw hwnnw ynghylch rhyddhau pobl yn gyflym a chefnogi pobl i adael, ond yna'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i aros yn eu cartrefi eu hunain mor ddiogel ac mor annibynnol â phosib. A dim ond eisiau dweud yr wyf i fod hyn ynglŷn â phartneriaeth rhwng y trydydd sector, tai a gwahanol grwpiau o staff y sonnir amdanyn nhw'n achlysurol, yn enwedig y therapyddion—cymorth i therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi hefyd. Fy uchelgais yn llwyr yw deall pa fodelau o ofal a chymorth sydd â'r posibilrwydd mwyaf i wneud y gwahaniaeth mwyaf, a'r gallu i'w cyflwyno yn llawer ehangach. Rwyf wedi bod yn glir iawn nad wyf i eisiau parhau i ariannu prosiectau micro nad oes modd eu trosglwyddo i rannau eraill o'r wlad. Mae gennyf ddiddordeb—nid dim ond mewn dadl ehangach—ond mewn newid ehangach yn ymarferol ac i fanteisio ar yr arferion gorau fel bod hynny'n dod yn arfer safonol—nid rhywbeth yr ydych chi'n cyfeirio ato sy'n sefyll ar wahân i bopeth arall, ond, mewn gwirionedd, dyna'r ffordd i gyflwyno busnes ar sylfaen safonol i wneud y math o drawsnewid yr ydym i gyd ei eisiau. Mewn egwyddor, byddwn yn hapus iawn i dderbyn ei gynnig, ac os gwnaiff ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallwn ni drefnu amser a dyddiad cyfleus yn y dyddiadur.

15:25

Like everybody else, I'd like to thank the Minister for this statement and to express my own appreciation to NHS staff for the tremendous job that they do, often in very difficult and stressful circumstances. And can I start by echoing what Helen Mary Jones said in her questions earlier on, asking the Minister for greater transparency in statements of this kind? I know I'm knew to this brief and therefore don't have the degree of background knowledge that others might possess, but I have found it quite difficult to understand what is actually going on. The statement is fine, as far as it goes—under the emerging evidence section, we hear that hospitals have considerably less time spent at the highest level of escalation; that there are fewer people over 85 treated as emergencies; that the average length of stay for emergencies was at its lowest for over six years; that there's been a reduction in the number of delayed transfers of care. But without statistics, we're not really able to evaluate exactly what these statements mean. And although I've spent a bit of time with my researcher today trying to find out what the situation was last year in detail, I found that some statistics were found on the StatsWales website, others were on the NHS Wales website and others were held by CHC Wales. And sometimes, the tables are not always made user-friendly, forcing the user to create a table for every month within every year, making the deciphering of multi-year trends, therefore, extremely difficult. I wonder if it might be possible, in the digitised version of these statements, to provide links to the information sets that will actually put meat on the dry bone of the generalised statements. I realise that this isn't always possible, but where it is known in advance for some time that there is going to be a statement or a need for a statement on certain areas, it shouldn't be beyond the wit of man to set up a system that enables us to do our jobs better in the Assembly of providing scrutiny, in a constructive way, which is what these exchanges should be about.

I wonder if the Minister can perhaps provide a little more information about some of the statements that were made. In relation to lost hours for patients waiting over an hour for ambulance handovers, it's very good news that there's been a decrease by 30 per cent year on year, but patients waiting over an hour, according to the A&E patient experience review a short time ago, in January of last year, showed that at that stage 30 per cent or so of people were waiting for an ambulance for more than an hour. So, a 30 per cent reduction still means there's a very substantial number of people who are having to wait for more than an hour, and 10 per cent last year had to wait for three hours or more for an ambulance. So, I wonder if the Minister can tell me whether the improvement that is alluded to here has been pretty even throughout the time periods that people have to wait for, or is there still a specific problem in certain areas? Again, fewer people over 85 are treated as emergencies; well, out of 80,000 or so admissions last year, 5,000 of those were over-85s—not surprisingly, it's a significant number. But what has been the pressure this year? Is it related to the weather and perhaps fewer people getting diseases that would otherwise make them have emergency admissions, something over which the Government has no control, and for which they can take no credit, or does it show a real improvement within the system? Again, the average length of stay for patients admitted as emergencies last year, if they were 75 to 84 years old, was seven and a quarter hours, and, for 85 and over, eight and half hours. So, I wonder whether we can show meaningful improvements, because we just say that the average length of stay was the lowest for over six years, but what is the difference that we're talking about here? Is it something that is a very substantial reduction or not? These are all important issues, which are difficult to evaluate in the way in which this statement is made.

I accept that there have been improvements made as a result of the efforts that the Welsh Government has made in the last year; it would be difficult not to, given the extra resources that have been provided, and given the low base upon which we start in many cases. And the Minister, importantly, did say that a small number of hospitals are actually distorting the picture for the whole of Wales. I wonder, therefore, the extent to which Betsi Cadwaladr in particular is still underperforming and dragging the whole system down with it. I note from, particularly, the patient pathways, waiting for more than 36 weeks—in the statistical bulletin that was published last July, about half of those cases were in Betsi Cadwaladr's area. We will need to have Betsi Cadwaladr doing substantially better than the average if we're to make any real difference to these alarming figures. So, I wonder if the Minister is able to tell us whether he thinks that Betsi Cadwaladr is making enough progress towards improving the system for the whole national health service in Wales to appear in a better light. 

Fel pawb arall, fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn ac i fynegi fy ngwerthfawrogiad fy hun i staff y GIG am y gwaith aruthrol a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd ac ingol iawn. Ac a gaf i ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones yn ei chwestiynau yn gynharach, gan ofyn i'r Gweinidog am fwy o dryloywder mewn datganiadau o'r math hwn? Rwy'n gwybod fy mod i'n newydd i'r briff hwn ac nad wyf i felly yn meddu ar yr un wybodaeth gefndirol sydd gan eraill efallai, ond fe'i cefais yn eithaf anodd deall beth sy'n mynd ymlaen mewn gwirionedd. Mae'r datganiad yn iawn, o ran yr hyn y mae'n ei gynnwys—yn yr adran ynglŷn â thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, rydym ni'n clywed bod ysbytai yn treulio llawer llai o amser ar y lefelau uwchgyferio uchaf; bod llai o bobl dros 85 oed yn cael eu trin fel achosion brys; bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar gyfer achosion brys ar ei isaf ers dros chwe blynedd; y bu gostyngiad yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Ond heb ystadegau, nid ydym yn gallu arfarnu beth yn union mae'r datganiadau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Ac er fy mod i wedi treulio peth amser gyda fy ymchwilydd heddiw yn ceisio canfod beth oedd y sefyllfa'r llynedd yn fanwl, cefais fod rhai ystadegau i'w canfod ar wefan StatsCymru, eraill ar wefan GIG Cymru a bod eraill ym meddiant cynghorau iechyd cymuned Cymru. Ac weithiau, nid yw'r tablau bob amser yn hawdd eu defnyddio, gan orfodi'r defnyddiwr i greu tabl ar gyfer pob mis o bob blwyddyn, gan wneud dehongli tueddiadau aml-flwyddyn, felly, yn anodd iawn. Tybed a yw hi'n bosib, yn y fersiwn ddigidol o'r datganiadau hyn, i ddarparu dolenni i'r wybodaeth a fydd mewn gwirionedd yn rhoi cig ar esgyrn sychion datganiadau cyffredinol. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn bob amser yn bosib, ond lle gwyddys ymlaen llaw ers peth amser y bydd datganiad neu angen am ddatganiad ar rai meysydd, ni ddylai hi fod y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn i sefydlu system sy'n ein galluogi i wneud ein gwaith yn well yn y Cynulliad o ran craffu, mewn ffordd adeiladol, sef yr hyn y dylai'r sgyrsiau hyn fod yn ei gylch.

Tybed a all y Gweinidog o bosib roi ychydig mwy o wybodaeth am rai o'r datganiadau a wnaethpwyd. O ran oriau coll ar gyfer cleifion sy'n aros dros awr i gael eu trosglwyddo o'r ambiwlans, mae'n newyddion da iawn y bu gostyngiad o 30 y cant bob blwyddyn, ond o ran cleifion yn aros dros awr, yn ôl arolwg profiad cleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys a gynhaliwyd ychydig yn ôl, ym mis Ionawr y llynedd, bryd hynny roedd oddeutu 30 y cant o bobl yn aros am ambiwlans am fwy nag awr. Felly, mae gostyngiad o 30 y cant yn dal i olygu bod nifer sylweddol o bobl yn gorfod aros am fwy nag awr, ac roedd 10 y cant y llynedd yn gorfod aros am dair awr neu fwy am ambiwlans. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf i a yw'r gwelliant y cyfeirir ato yma wedi bod yn weddol gyson drwy gydol y cyfnodau amser y mae pobl yn gorfod aros, neu a oes problem benodol mewn rhai meysydd? Unwaith eto, caiff llai o bobl dros 85 oed eu trin fel achosion brys; wel, o blith yr 80,000 fwy neu lai o dderbyniadau'r llynedd, roedd 5,000 o'r rheini dros 85 oed—nid yw'n syndod, mae'n nifer sylweddol. Ond beth fu'r pwysau eleni? A yw'n gysylltiedig â'r tywydd ac efallai llai o bobl yn cael clefydau a fyddai fel arall wedi achosi iddyn nhw gael eu derbyn ar frys, rhywbeth nad oes gan y Llywodraeth unrhyw reolaeth drosto, ac felly ni ddylai gymryd y clod, neu a yw'n dangos gwelliant gwirioneddol yn y system? Unwaith eto, hyd cyfartalog arhosiad i gleifion a gafodd eu derbyn fel achosion brys y llynedd, os oeddent yn 75 i 84 oed, oedd saith awr a chwarter, ac, ar gyfer 85 a throsodd, wyth awr a hanner. Felly, tybed a allwn ni ddangos gwelliannau ystyrlon, oherwydd dim ond dweud yr ydym ni bod hyd cyfartalog yr arhosiad ar ei isaf ers dros chwe blynedd, ond beth yw'r gwahaniaeth yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma? A yw'n rhywbeth sy'n ostyngiad sylweddol iawn ai peidio? Mae'r rhain yn faterion hollbwysig, y mae'n anodd eu gwerthuso yn ôl y ffordd y gwneir y datganiad hwn.

Rwy'n derbyn y bu gwelliannau o ganlyniad i ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; byddai'n anodd peidio, o ystyried yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd, ac o ystyried y sylfaen isel yr ydym ni'n dechrau arni mewn llawer o achosion. Ac fe ddywedodd y Gweinidog, yn bwysig iawn, mewn gwirionedd bod nifer fach o ysbytai yn ystumio'r darlun ar gyfer Cymru gyfan. Tybed, felly, i ba raddau y mae Betsi Cadwaladr yn benodol yn dal yn tanberfformio ac yn llusgo'r system gyfan i lawr gyda hi. Sylwaf yn arbennig, o'r llwybrau gofal cleifion, o ran aros mwy na 36 wythnos—yn y bwletin ystadegol a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf, roedd tua hanner yr achosion hynny yn ardal Betsi Cadwaladr. Bydd angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell na'r cyfartaledd os ydym ni am wneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i'r ffigurau brawychus hyn. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n credu bod Betsi Cadwaladr yn gwneud digon o gynnydd i wella'r system er mwyn i'r gwasanaeth iechyd gwladol cyfan yng Nghymru ymddangos yn well.

15:30

Turning to your final point first, I've been very clear that Betsi Cadwaladr need to do substantially better on both unscheduled care and planned care as well. They make up about half of the numbers of people waiting more than they should do for 36 weeks. Their 26-week percentage isn't where it should be either. The revised plans they've provided me with, with new scrutiny from the chair and the reinvigorated board, give me some greater confidence, but I have made it clear that they will need to deliver the performance improvement they set out before I will come here and give the sort of assurance that you and other Members will look for. And making that difference in north Wales will make a difference to the people of north Wales and the picture across Wales as well. And the same in unscheduled care as well.

And it's about the appropriate balance between support and challenge, because I think, as I said previously, the easiest thing for me to do is to say it is somebody else's fault and I expect them to do better, when, actually, those staff need to be supported as well. And that's why the peer leadership and the clinical leadership really matters, and why the whole system support and engagement matters as well. I want to see people stay within the system, and, actually, I have some more cause for optimism about the next few months and where we'll get to after that, but I'm looking for that to be made real. And I fully expect to have questions to answer about that, not just through the winter, but through the rest of the year, whilst performance figures remain as they are. 

On your broader points about the level of detail, well, we always make a choice about what's in statements. If I'd provided particular statistical figures through the statement that are linked to it, then I'd have been spewing out a range of figures and not giving analysis. There is a balance, and, in an answer to a question from Helen Mary, I gave some more figures, and I have to tell you that, in terms of the length of stay for emergency admissions, there has been a 3 per cent reduction this winter compared to last winter, and, on emergency admissions for over 85s, there has been a 7 per cent reduction—so, a real and material reduction in percentage terms. The challenge is to sustain that, not just through the winter but through the rest of our year, and to do what I said in response to Helen Mary about making sure that we actually deliver on having the adequate resource within primary care and social care to deliver more care closer to home and keep people out of hospital when they don't need to be there. There is more to do in the way we engage professions in doing that, and, actually, the pharmacy pilot is a really important part of this year, not just in the community provision, and actually asking people to go the pharmacy first, but in having pharmacists within the emergency department, because, as we regularly rehearse—and David Melding regularly does when he talks about community pharmacy, and others—a significant number of hospital admissions are about medication errors. So, the more we can do in having appropriate pharmacy support, the better for the whole system. 

And, on your point about ambulance waits, well, I start with the recognition that too many people still wait too long—not just an hour, but there are some waits that are still just too long in any event, on an individual level. But the 30 per cent improvement is real, and it includes Betsi Cadwaladr as well—they have made real improvements in reducing the number of, if you like, lost ambulance hours too. That's part of the challenge about our system, that we're doing better on the ambulance end in a sustained way—that isn't transferring through the whole system, though. There is still more to do, but, again, we should not lose sight of the fact that this is the fortieth consecutive month that the Welsh ambulance service has met its target for red calls, despite there being a larger number than ever of the life-threatening red calls as well. And that is a significant tribute to the ambulance service trust.

And, on your final point about the level of demand that comes in and what that might be, well, actually, this isn't simply about numbers. The portion of numbers changes. We categorise patients who come in to emergency departments as either minor, in terms of minor injuries and minor ailments, or major, where they're really significantly ill. And, actually, it's the case that, in winter, we tend to see more people in the major category; they tend to be older. Actually, this winter, the percentage of our major patients, so the people who are most ill, has shifted again. So, we're actually seeing even more people who are actually very, very unwell, and need to be in a hospital for treatment. And, actually, more and more of those are getting there themselves—they actually are either walk-ups or people who are being driven there by friends and relatives—as well as the record numbers that are being transferred by the ambulance service. There is more to do about how we're able to cope with that changing picture in demand. That's the context for us to deliver, but I recognise Members will expect me to be accountable for the whole system, and for the whole system to be able to recognise and address the pressures that exist within our population.

Gan droi at eich pwynt olaf yn gyntaf, rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'r angen i Betsi Cadwaladr wneud yn llawer gwell yn y maes gofal heb ei drefnu a gofal wedi ei gynllunio hefyd. Y bwrdd hwn sy'n gyfrifol am oddeutu hanner nifer y bobl sy'n aros mwy nag y dylen nhw am 36 wythnos. Nid yw eu canran 26 wythnos gystal ag y dylai fod ychwaith. Mae'r cynlluniau diwygiedig y maen nhw wedi eu rhoi imi, gyda'r cadeirydd a'r Bwrdd, sydd wedi ei drawsnewid yn ddiweddar, yn craffu o'r newydd, yn rhoi rhywfaint mwy o ffydd imi, ond rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen iddyn nhw gyflawni'r gwelliant mewn perfformiad y maen nhw wedi ei nodi cyn y byddaf yn dod yma ac yn rhoi'r math o sicrwydd y byddwch chi ac aelodau eraill yn edrych amdano. A bydd gwneud y gwahaniaeth hwnnw yn y gogledd yn gwneud gwahaniaeth i bobl y gogledd ac i'r darlun ledled Cymru hefyd. Ac yn yr un modd, gofal heb ei drefnu hefyd.  

Ac mae a wnelo hynny â'r cydbwysedd priodol rhwng cymorth a her, oherwydd fy mod i'n credu, fel y dywedais o'r blaen, mai'r peth hawsaf i mi ei wneud yw dweud mai bai rhywun arall ydyw, a disgwyl iddyn nhw wneud yn well, pan, mewn gwirionedd, bod angen i'r staff hynny gael eu cefnogi hefyd. A dyna pam mae arweinyddiaeth gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth glinigol yn wirioneddol bwysig, a pham fod y cymorth ar gyfer y system gyfan ac ymgysylltu yn bwysig hefyd. Rwyf eisiau gweld pobl yn aros yn y system, ac, mewn gwirionedd, mae gennyf fwy o reswm i fod yn obeithiol ynghylch yr ychydig fisoedd nesa a ble byddwn ni arni ar ôl hynny, ond rwy'n gobeithio y cyflawnir hynny. Ac rwy'n llwyr ddisgwyl cael cwestiynau i'w hateb am hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf, ond drwy weddill y flwyddyn, tra bo ffigurau perfformiad yn aros fel y maent.

O ran eich pwyntiau ehangach am lefel y manylion, wel, rydym ni bob amser yn gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn sydd yn y datganiadau. Pe byddwn i wedi darparu'r ffigurau ystadegol penodol drwy'r datganiad sy'n gysylltiedig â hynny, yna fyddwn i wedi bod yn chwydu amrywiaeth o ffigurau ac nid yn rhoi dadansoddiad. Ceir cydbwysedd, ac, mewn ateb i gwestiwn gan Helen Mary, rhoddais ragor o ffigurau, ac mae'n rhaid imi ddweud wrthych chi, o ran hyd arhosiad ar gyfer derbyniadau brys, y bu gostyngiad o 3 y cant y gaeaf hwn o'i gymharu â'r gaeaf diwethaf, ac o ran derbyniadau brys ar gyfer pobl dros 85 oed, bu gostyngiad o 7 y cant—felly, gostyngiad gwirioneddol a sylweddol mewn canran. Yr her yw cynnal hynny, nid yn unig drwy'r gaeaf ond drwy weddill ein blwyddyn, ac i wneud yr hyn a ddywedais mewn ymateb i Helen Mary ynglŷn â gwneud yn siŵr ein bod ni mewn gwirionedd yn cyflawni o ran cael adnoddau digonol yn y maes gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol i ddarparu mwy o ofal yn agosach at gartref a chadw pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddyn nhw fod yno. Mae mwy i'w wneud o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â phroffesiynau wrth wneud hynny, ac, mewn gwirionedd, mae'r cynllun treialu fferylliaeth yn rhan bwysig iawn o'r flwyddyn hon, nid yn unig yn y ddarpariaeth gymunedol, a gofyn i bobl fynd i'r fferyllfa yn gyntaf, ond o ran cael fferyllwyr yn yr adran achosion brys, oherwydd, fel rydym ni'n dweud droeon—ac mae David Melding yn gwneud hynny'n rheolaidd pan fo'n sôn am fferylliaeth gymunedol, ac eraill—mae nifer sylweddol o dderbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â chamgymeriadau wrth roi meddyginiaeth. Felly, po fwyaf y gallwn ni wneud o ran cael cefnogaeth fferylliaeth briodol, gorau oll y bydd ar gyfer y system gyfan.

Ac, ynglŷn â'ch sylw am amseroedd aros ambiwlans, wel, rwy'n dechrau gan gydnabod bod gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir—nid dim ond am awr, ond mae rhai pobl yn dal i aros yn rhy hir beth bynnag, ar lefel unigol. Ond mae'r 30 y cant yn welliant gwirioneddol, ac mae'n cynnwys Betsi Cadwaladr hefyd—maen nhw wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol yn lleihau, os mynnwch chi, y nifer o oriau ambiwlans coll. Mae hynny'n rhan o'r her ynghylch ein system, ein bod ni'n gwneud yn well ym maes ambiwlansys mewn ffordd gynaliadwy—ond fodd bynnag nid yw'n cael ei drosglwyddo drwy'r system gyfan. Mae mwy i'w wneud o hyd, ond, unwaith eto, ni ddylem ni golli golwg ar y ffaith mai dyma'r deugeinfed mis yn olynol i wasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd ei darged ar gyfer galwadau coch, er gwaetha'r ffaith y bu mwy nag erioed o alwadau coch lle'r oedd bywyd yn y fantol hefyd. Ac mae hynny'n deyrnged sylweddol i'r ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans.

Ac, ar eich pwynt olaf ynglŷn â lefel y galw sy'n dod i mewn a beth allai hynny fod, wel, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud â niferoedd yn unig. Mae cyfran y niferoedd yn newid. Rydym ni'n categoreiddio cleifion sy'n dod i mewn i adrannau achosion brys sef mân, o ran mân anafiadau ac anhwylderau mân, neu sylweddol, pan eu bod nhw'n wirioneddol sâl iawn. Ac, mewn gwirionedd, mae'n wir, yn y gaeaf, ein bod yn tueddu i weld mwy o bobl yn y categori sylweddol; ac maen nhw'n tueddu i fod yn hŷn. Mewn gwirionedd, y gaeaf hwn, mae canran ein cleifion yn y categori sylweddol, felly'r pobl sydd fwyaf sâl, wedi newid unwaith eto. Felly, rydym ni'n gweld hyd yn oed mwy o bobl sydd mewn gwirionedd yn sâl iawn, iawn, ac mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty ar gyfer triniaeth. Ac, mae mwy a mwy o'r bobl hyn yn cyrraedd yno eu hunain—maen nhw'n cyrraedd ar eu pen eu hunan neu'n bobl y mae cyfeillion a pherthnasau yn eu cludo yno—yn ogystal â'r niferoedd uwch nag erioed sy'n cael eu trosglwyddo gan y gwasanaeth ambiwlans. Mae mwy i'w wneud ynghylch sut y gallwn ni ymdopi â'r darlun cyfnewidiol hwnnw o alw. Dyna'r cyd-destun i ni ei gyflawni, ond rwy'n cydnabod y bydd Aelodau yn disgwyl imi fod yn atebol ar gyfer y system gyfan, ac i'r system gyfan allu adnabod ac ymdrin â'r pwysau sy'n bodoli yn ein poblogaeth.

15:35
4. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019
4. The Developments of National Significance (Specified Criteria, Fees and Fees for Deemed Applications) (Wales) (Amendment) Regulations 2019

Item 4 on the agenda is the Developments of National Significance (Specified Criteria, Fees and Fees for Deemed Applications) (Wales) (Amendment) Regulations 2019. And I call on the Minister for Housing and Local Government to move the motion. Julie James.

Eitem 4 ar yr agenda yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig)(Cymru)(Diwygio)2019. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Julie James.

Cynnig NDM6963 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2019.

Motion NDM6963 Rebecca Evans

To propose that the National Assembly for Wales; in accordance with Standing Order 27.5:

1. Approves that the draft The Developments of National Significance (Specified Criteria, Fees and Fees for Deemed Applications) (Wales) (Amendment) Regulations 2019 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 21 January 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Thank you, Deputy Presiding Officer. I'm pleased to present these regulations to the Assembly for approval. On 1 April, further energy consenting powers under the Wales Act 2017 will be commenced. These regulations are the first in a suite of statutory instruments that set out how we will implement these new powers. The Wales Act raises the upper devolved limit for the consenting of generating stations from 50 MW onshore only to 350 MW on and offshore. It also devolves the consenting for associated overhead electric lines up to and including 132 kV to the Welsh Ministers. These regulations expand the scope of the developments of national significance, or DNS, process to capture these newly devolved powers. The DNS process already captures onshore generating stations of between 10 MW and 50 MW. Were these regulations not in place, planning applications for these newly devolved, nationally significant projects would be made to local planning authorities for determination, rather than Welsh Ministers. This would result in a situation where smaller planning applications for generating stations of between 10 MW and 50 MW would be consented by the Welsh Ministers, and larger, more significant generating stations consented at the local level. These regulations prevent this situation from arising.

Furthermore, without intervention, overhead electrical lines may require consent from two or more local planning authorities. Each link to the grid, regardless of scale, is important national infrastructure, hence it is my intention for these decisions to be made by the Welsh Ministers, to simplify decision making for developers and communities. In a related reform, these regulations also remove the majority of energy-storage technologies from the DNS process, for decision at the local level. It is a key aim to decarbonise the energy industry in Wales and to develop low-carbon technologies, which are often small in scale and have minimal environmental impacts. No storage projects have yet been consented through the DNS process; evidence suggests that the cost and timetable for decisions is seen as prohibitive to making an application. This change removes those barriers, while promoting our Government's decarbonisation agenda.

And, finally, the regulations also make a number of consequential amendments relating to fees for these new applications and deemed applications. Subject to the approval of these regulations, I also plan to lay further statutory instruments that make consequential changes to the DNS process to accommodate these new powers. The changes in these regulations were widely supported in the consultation published by the Minister for Environment, Energy and Rural Affairs last year.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad i'w cymeradwyo. Ar 1 Ebrill, bydd pwerau cydsynio ynni pellach o dan Ddeddf Cymru 2017 yn dechrau. Y rheoliadau hyn yw'r cyntaf mewn cyfres o offerynnau statudol sy'n pennu sut y byddwn yn gweithredu'r pwerau newydd hyn. Mae Deddf Cymru yn codi'r terfyn uchaf datganoledig ar gyfer rhoi caniatâd i orsafoedd cynhyrchu, o 50 MW ar y tir yn unig i 350 MW ar y tir ac alltraeth. Mae hefyd yn datganoli'r caniatâd i Weinidogion Cymru ar gyfer gwifrau trydan uwchben cysylltiedig hyd at a chan gynnwys 132 kV. Mae'r rheoliadau hyn yn ehangu cwmpas y broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol i gynnwys y pwerau datganoledig newydd hyn. Mae'r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol eisoes yn cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ar y tir o rhwng 10  MW a 50 MW. Pe na fyddai'r rheoliadau hyn ar waith, yr awdurdodau cynllunio lleol fyddai'n penderfynu ar y ceisiadau cynllunio ar gyfer y prosiectau newydd datganoledig hyn, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn hytrach na Gweinidogion Cymru. Byddai hyn yn arwain at sefyllfa lle  byddai ceisiadau cynllunio llai o faint ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu o rhwng 10 MW a 50 MW yn cael caniatâd gan Weinidogion Cymru, a gorsafoedd cynhyrchu mwy o faint a mwy sylweddol yn cael caniatâd ar lefel leol. Mae'r rheoliadau hyn yn atal y sefyllfa honno rhag codi.

At hynny, heb ymyrraeth, efallai y byddai angen caniatâd gan ddau neu ragor o awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer gwifrau trydan uwchben. Mae pob cyswllt â'r grid, beth bynnag ei faint, yn seilwaith cenedlaethol pwysig, ac felly fy mwriad i yw bod Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniadau hyn, er mwyn i benderfyniadau gan ddatblygwyr a chymunedau gael eu symleiddio. Mewn diwygiad cysylltiedig, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn hepgor y rhan fwyaf o'r technolegau storio ynni o'r broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, ar gyfer penderfyniadau ar lefel leol. Nod allweddol yw datgarboneiddio'r diwydiant ynni yng Nghymru a datblygu technolegau carbon isel, sy'n aml yn fach o ran maint ag effaith fechan iawn ar yr amgylchedd. Nid oes prosiectau storio wedi cael caniatâd eto drwy'r broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol; mae'r dystiolaeth yn awgrymu yr ystyrir y gost a'r amserlen ar gyfer penderfyniadau yn rhwystr mawr i wneud cais. Mae'r newid hwn yn cael gwared ar y rhwystrau hynny, gan hyrwyddo agenda datgarboneiddio ein Llywodraeth ni.

Ac, yn olaf, mae'r rheoliadau yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol hefyd sy'n ymwneud â'r ffioedd ar gyfer y ceisiadau newydd hyn a cheisiadau tybiedig. Yn amodol ar gymeradwyaeth y rheoliadau hyn, rwyf hefyd yn bwriadu gosod rhagor o offerynnau statudol sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i'r broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol i gynnwys y pwerau newydd hyn. Cafodd y newidiadau yn y rheoliadau hyn gefnogaeth eang yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y llynedd.

Thank you. There are no speakers to the debate. So, therefore, unless you've got anything else you want to add, we'll move to the vote. So, the proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Therefore, we will defer voting under this item until voting time.

Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr i'r ddadl. Gan hynny, felly, oni bai bod gennych chi unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu, byddwn yn symud at y bleidlais. Felly, y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

5. Dadl: Setliad yr Heddlu 2019-20
5. Debate: The Police Settlement 2019-20

Yr eitem nesaf yw dadl setliad yr heddlu 2019-20. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Julie James.

The next item is the debate on the police settlement 2019-20. And I call on the Minister for Housing and Local Government to move the motion. Julie James.

Cynnig NDM6960 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2019-20 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019.

Motion NDM6960 Rebecca Evans

To propose that the National Assembly for Wales, under Section 84H of the Local Government Finance Act 1988, approves the Local Government Finance Report (No. 2) 2019-20 (Final Settlement—Police and Crime Commissioners), which was laid in the Table Office on 24 January 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Dirprwy Lywydd. I am today presenting to the Assembly for its approval details of the Welsh Government's contribution to the core revenue funding for the four police and crime commissioners, or PCCs, in Wales for 2019-20. 

But before I do so, Deputy Presiding Officer, I'd like to pay tribute to all those who serve in our police forces for the work that is done by police forces across Wales keeping our communities safe, maintaining the highest standards of duty, dedication and, at times, bravery, in maintaining the community safety matters that are within the settlement for this place. 

Members will be aware that the core funding for the police in Wales is delivered through a three-way arrangement involving the Home Office, the Welsh Government and council tax. As policing policy and operational matters are non-devolved, the overall funding picture is determined and driven by the Home Office. The established approach to setting and distributing the Welsh Government component has therefore been based on a principle of ensuring consistency and fairness across England and Wales. 

As outlined in the final police settlement announcement on 24 January, the total unhypothecated revenue support for the police service in Wales for 2019-20 amounts to £357 million. The Welsh Government's contribution to this amount, through revenue support grant and redistributed non-domestic rates, is £143.4 million, and it is this funding you are being asked to approve today. 

As in previous years, the Home Office has decided to overlay it's needs-based formula with a floor mechanism. This means that for 2019-20 police and crime commissioners across England and Wales will all receive an increase in funding of 2.1 per cent when compared to 2018-19. The Home Office will provide top-up grant totalling £4.1 million to ensure that both Dyfed-Powys and North Wales Police meet the floor level.

As you will be aware, for 2019-20, PCCs will have the additional pressure of funding the increased costs of pensions. We've repeatedly called on the UK Government to fully fund the increased costs associated with changes to pensions, which are estimated to cost PCCs in England and Wales around £330 million. The Home Office has allocated an additional grant of £143 million specifically to help with these increased pension costs, and £7.3 million of this has been allocated to PCCs in Wales. This was above what was expected at the time of the UK budget in 2016.

PCCs also have the ability to raise additional funding through their council tax precept. The UK Government has doubled the precept flexibility to allow PCCs in England to raise their council tax precept by £24 in 2019-20, estimating this will raise an additional £500 million. Police and crime commissioners in Wales have the freedom to make their own decisions about council tax increases, and are not subject to the limits that apply in England. In settling their element of council tax, I expect each PCC to act in a reasonable manner and to take account of the pressures on hard-pressed households.

We appreciate that difficult decisions are necessary in developing plans for the coming years. The Welsh Government is committed to working with PCCs and chief constables to ensure funding challenges are managed in ways that minimise the impact on community safety in Wales. As part of this, the Welsh Government in its 2019-20 budget has made provision for a further year of funding for the 500 additional community support officers recruited under the previous programme for government commitment.

The Welsh Government has maintained the same level of funding for the delivery of this commitment as in 2018-19, with £16.8 million earmarked in the budget for next year. The full complement of officers has been deployed since October 2013, and they are making a positive contribution to public safety across Wales. One of the main drivers behind this project was to add visible police presence on our streets at a time when the UK Government is cutting back on police funding. The research suggests Wales has not seen the same decline in officer numbers that has been seen in England, and our additional officers are successfully dealing with low-level crime and anti-social behaviour.

Llywydd, the motion is to agree the local government finance report for police and crime commissioners that has been laid before the Assembly. If approved, this will allow the commissioners to confirm their budgets for the next financial year, and I therefore ask Assembly Members to support this motion today. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno heddiw i'r Cynulliad ar gyfer eu cymeradwyo fanylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yng Nghymru am 2019-20.

Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i bawb sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd heddlu am y gwaith a wneir ganddynt ledled Cymru yn cadw ein cymunedau yn ddiogel, yn cynnal y safonau uchaf o ddyletswydd, ymroddiad ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad ar gyfer y lle hwn.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol y caiff y cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei roi drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei osod a'i symbylu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn seiliedig felly ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.

Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 24 Ionawr, cyfanswm y refeniw cymorth heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2019-20 yw £357 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn, drwy grant cymorth refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosbarthwyd, yw £143.4 miliwn, a hwnnw yw'r cyllid y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu y bydd pob comisiynydd heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd o 2.1 y cant yn eu cyllid yn ystod 2019-20 o'i gymharu â 2018-19. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £4.1 miliwn i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.

Fel y byddwch yn ymwybodol, yn ystod 2019-20, bydd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu y pwysau ychwanegol o ariannu costau cynyddol pensiynau. Dro ar ôl tro rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau yn llawn. Amcangyfrifir y bydd y gost tua £330 miliwn i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Swyddfa Gartref wedi dyrannu grant ychwanegol o £143 miliwn yn benodol i helpu gyda'r costau pensiwn uwch hyn, ac mae £7.3 miliwn o hwn wedi ei ddyrannu i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru. Roedd hyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid adeg cyllideb y DU yn 2016.

Mae gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu hefyd y gallu i godi arian ychwanegol drwy braesept eu treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi dyblu hyblygrwydd y praesept i ganiatáu i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yn Lloegr godi praesept eu treth gyngor hyd at £24 yn 2019-20, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi hyd at £500 miliwn ychwanegol. Mae gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor, heb fod yn ddarostyngedig i'r terfynau sy'n gymwys yn Lloegr. Wrth setlo eu helfen nhw o'r dreth gyngor, rwy'n disgwyl i bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu weithredu mewn modd sy'n rhesymol ac ystyried y cyfyngiadau sydd ar aelwydydd dan bwysau.

Rydym yn gwerthfawrogi bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith gymaint â phosibl ar ddiogelwch cymunedau Cymru. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn ei chyllideb 2019-20 ar gyfer blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan yr ymrwymiad rhaglen lywodraethu flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw at yr un lefel o gyllid i gyflawni'r ymrwymiad hwn fel yr oedd yn 2018-19, gyda £16.8 miliwn wedi'i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Defnyddiwyd y cyflenwad llawn o swyddogion ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Un o'r prif ffactorau y tu ôl i'r prosiect hwn oedd ychwanegu presenoldeb gweladwy yr heddlu ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar ariannu'r heddlu. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw Cymru wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer y swyddogion ag a welwyd yn Lloegr, ac mae ein swyddogion ychwanegol yn ymdrin â mân droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyddiannus.

Llywydd, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu a osodwyd gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac felly gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw.

15:40

All police forces in Wales will receive a real-terms increase in 2019-20, up 4.9 per cent in Gwent, 5 per cent in south Wales, 5.3 per cent in north Wales and 6.1 per cent in Dyfed-Powys. The UK Home Office, as we heard, is continuing to overlay its needs-based formula with a floor mechanism and all police forces in Wales and England can expect to receive the same 2.1 per cent increase in revenue support again, as we heard, with £357.3 million total Government revenue support for Welsh police forces in 2019-20, combining £213.9 million Home Office funding with the £143.4 million Welsh Government funding referred to by the Minister. 

Of course, the third element—the council tax police precept—is increasing by 6.99 per cent in Gwent, or 32 pence per week for the average household, which will help fund 40 new officers; by 7 per cent in north Wales, or 38p per week for the average household, which will enable the recruitment of 34 additional officers and six staff; by 10.3 per cent in south Wales, with promised investment in front-line policing; and by 10.7 per cent in Dyfed-Powys. The increases in south Wales and Dyfed-Powys mean a 46p per week rise for the average household. With the South Wales Police Federation stating, in 2016, that the council tax precept gap with the other Welsh forces has now been closed, we must ask why their increase this year is noticeably higher than Gwent and north Wales. When Dyfed-Powys previously imposed the highest increases in Wales, it blamed the preceding funding freeze there, although the outgoing Welsh Conservative police and crime commissioner had stated that he had delivered more officers on our rural beats for more time for less money.

The UK Government has, since 2015, raised its contribution to overall police funding in line with inflation, including specific areas such as cyber crime, counter-terrorism and tackling child sexual exploitation. Prior to then, it also had to contend with £545 million-worth of cuts to the police, inherited from Labour's final budget in 2010, to be made by 2014.

The crime survey for England and Wales provides the best overview of long-term changes, with the latest estimates showing no significant change in theft offences, and computer misuse crime down 33 per cent. For crime types thought to be well reported and accurately recorded, police-recorded crime data can help identify short-term changes, and the latest figures show a mixed picture—for example, an increase in robbery offences alongside a decrease in the number of offences involving firearms. 

Figures published last week show that although homicides in England and Wales increased 3 per cent in the year ending March 2018, trends in homicide are affected by the recording of exceptional incidents with multiple victims, such as the terrorist attacks in London and Manchester, and the figure is still below the peak in March 2008.

The crime survey for England and Wales assessment found that the level of lower harm violent offences, for example, violence without injury and assault with minor injury, is stable. The latest Office for National Statistics release on crime in England and Wales, for the year ending September 2018, states that over recent decades we've seen continued falls in overall levels of crime, but in the last year there's been no change. As this states, the crime survey is the most reliable indicator for long-term trends, and police-recorded crime statistics do not always provide a reliable measure of levels and trends.

There has been no change in commonly occurring types of violent crime. Although assault admissions increased, they were still 33 per cent lower than in 2008. At last month's North Wales Police briefing, we heard that north Wales is still one of the safest places to live, that they were focused on prevention, but that crime is evolving to cyber, child sexual exploitation, modern slavery and domestic violence. They told us that they were having to detain too many people under the Mental Health Act 1983 because other devolved agencies were not there for the people concerned, and that ambulance availability and response times were resulting in them being used as a first point of triage, despite not being efficient paramedics.

There's also continuing concern about the Welsh Government's handling of the apprenticeship levy, with Welsh police forces denied access to the £2 million they contribute annually for training. Despite receiving more Treasury net funding than previously for this—an extra £600,000 Home Office funding for police training in 2018-19, and £400,000 promised for police training—the Welsh Government still has missing cash from previous years' contributions that should be addressing this gap.

Bydd pob heddlu yng Nghymru yn derbyn cynnydd mewn termau gwirioneddol yn 2019-20, cynnydd o 4.9 y cant yng Ngwent, 5 y cant yn y de, 5.3 y cant yn y gogledd a 6.1 y cant yn Nyfed-Powys. Fel y clywsom, mae Swyddfa Gartref y DU yn parhau i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Gall yr holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un cynnydd o 2.1 y cant mewn cymorth refeniw unwaith eto, fel y clywsom, gyda chyfanswm o £357.3 miliwn o gymorth refeniw gan y Llywodraeth i heddluoedd Cymru yn 2019-20, gan gyfuno cyllid o £213.9 miliwn gan y Swyddfa Gartref a'r £143.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru fel y soniodd y Gweinidog.

Wrth gwrs, mae'r drydedd elfen—praesept treth gyngor yr heddlu—yn cynyddu 6.99 y cant yng Ngwent, neu 32 ceiniog yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn helpu i ariannu 40 o swyddogion newydd; 7 y cant yng Ngogledd Cymru, neu 38c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog, a fydd yn golygu y bydd modd recriwtio 34 o swyddogion ychwanegol a chwe aelod o staff; 10.3 y cant yn Ne Cymru, gydag addewid o fuddsoddi mewn plismona rheng flaen; a 10.7 y cant yn Nyfed-Powys. Mae'r cynnydd yn Ne Cymru a Dyfed-Powys yn golygu codiad o 46c yr wythnos i'r aelwyd gyfartalog. Gyda Ffederasiwn Heddlu De Cymru yn nodi, yn 2016, fod y bwlch o ran praesept y dreth gyngor gyda heddluoedd eraill Cymru wedi cau erbyn hyn, mae'n rhaid inni ofyn pam mae eu cynnydd nhw y flwyddyn hon gryn dipyn yn uwch na chynnydd Gwent a Gogledd Cymru. Pan bennodd Dyfed-Powys y cynnydd uchaf yng Nghymru o'r blaen, roedd yn beio'r rhewi cyllid blaenorol, er i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu o blith y Ceidwadwyr Cymreig nodi wrth ymadael ei fod wedi darparu mwy o heddweision ar ein strydoedd gwledig am fwy o amser am lai o arian.

Mae Llywodraeth y DU, ers 2015 wedi codi ei chyfraniad at gyllido cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol megis seibrdrosedd, gwrthderfysgaeth a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddi ymrafael â gwerth £545 miliwn o doriadau yn yr heddlu, a etifeddwyd o gyllideb derfynol y Blaid Lafur yn 2010, i'w gwneud erbyn 2014.

Mae arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi'r trosolwg gorau o newidiadau hirdymor, gyda'r amcangyfrifon diweddaraf yn dangos nad oes unrhyw newid arwyddocaol wedi bod mewn troseddau dwyn, a chafwyd gostyngiad o 33 y cant mewn troseddau camddefnyddio cyfrifiaduron. Ar gyfer y mathau o droseddau y credir iddyn nhw gael eu hadrodd yn gywir a'u cofnodi'n gywir, gall data cofnodi'r heddlu helpu i nodi newidiadau byrdymor, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos darlun cymysg—er enghraifft, cynnydd mewn troseddau lladrad ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y tramgwyddau sy'n ymwneud â drylliau tanio.

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos, er bod achosion o ddynladdiad yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 3 y cant yn y flwyddyn a ddiweddodd ym mis Mawrth 2018, yr effeithir ar y tueddiadau o ran dynladdiad gan y modd y cofnodir digwyddiadau eithriadol gydag amrywiol ddioddefwyr, fel yr ymosodiadau terfysgol yn Llundain a Manceinion, ac mae'r ffigur yn dal i fod yn is na'r penllanw ym mis Mawrth 2008.

Canfu asesiad arolwg troseddu Cymru a Lloegr fod lefel y troseddau treisgar gyda niwed llai, er enghraifft, trais heb anaf a thrais gyda mân anafiadau, yn sefydlog. Mae cyhoeddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar droseddu yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018, yn nodi, dros y degawdau diwethaf, ein bod yn parhau i weld gostyngiad yn lefelau troseddu yn gyffredinol, ond yn y flwyddyn ddiwethaf ni welwyd unrhyw newid. Fel y dywed, yr arolwg troseddu yw'r dangosydd mwyaf dibynadwy o dueddiadau hirdymor, ac nid yw ystadegau troseddau a gofnodir gan yr heddlu bob amser yn cynnig mesur dibynadwy o lefelau a thueddiadau.

Ni fu unrhyw newid yn y mathau o droseddau treisgar sy'n digwydd yn fwyaf cyffredin. Er bod cynnydd yn nifer y cyfaddefiadau o ymosodiadau, roedden nhw'n parhau i fod 33 y cant yn is nag yn 2008. Yn sesiwn briffio Heddlu Gogledd Cymru y mis diwethaf, clywsom fod y gogledd yn un o'r mannau mwyaf diogel i fyw, bod yr heddlu yno yn canolbwyntio ar ataliad, ond fod troseddau yn esblygu tuag at seibrdroseddu, camfanteisio ar blant yn gorfod cadw gormod o bobl yn y ddalfa o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 oherwydd nad oedd yr asiantaethau datganoledig eraill ar gael i'r bobl dan sylw, a bod y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd ymateb yn arwain atynt yn cael eu brysbennu, er nad ydyn nhw'n barafeddygon effeithlon.

Ceir pryder parhaus hefyd ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r ardoll prentisiaeth, gyda heddluoedd Cymru yn cael eu rhwystro rhag defnyddio'r £2 filiwn y maen nhw'n ei gyfrannu'n flynyddol ar gyfer hyfforddiant. Er iddi gael mwy o gyllid net gan y Trysorlys nag o'r blaen ar gyfer hyn—£600,000 o gyllid ychwanegol gan y Swyddfa Gartref ar gyfer hyfforddiant yr heddlu yn 2018-19, ac addewid o £400,000 ar gyfer hyfforddiant heddlu—mae gan Lywodraeth Cymru arian parod sy'n parhau i fod ar goll o gyfraniadau'r blynyddoedd blaenorol a ddylai fod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn.

15:45

The motion before the Senedd this afternoon seeking approval of the Government's financial police settlement to 2019-20 reminds us yet again, in a very practical sense, of the inadequacies of the current constitutional framework in terms of policing and justice. Overall policy and funding responsibilities lie with Westminster, but essential elements of police funding in relation to matters such as community safety, which would be the responsibility of the communities department in England, form part of the Welsh Government's responsibility to which it is accountable to this National Assembly. Yet justice, in its broadest sense, isn't the responsibility of this institution, and scrutiny arrangements are underdeveloped.

Turning to the settlement itself, this follows the overall direction of the funding settlement agreed in Westminster last month. As your predecessor's written statement reminded us back in December when the initial proposals were published, the whole formula is based on the principle of ensuring consistency and fairness across England and Wales. However, we know that if Welsh policing was funded on the basis of population, as is the case with other devolved services, police forces in Wales would be better off by over £20 million per year. I fail to see how the Welsh Government can stand by when the system ensures such unfairness for Wales and Welsh policing forces. So, I'd be grateful if you could tell us how this is consistent with the Welsh Government's position in favour of the devolution of policing and justice. Surely, the current arrangements are the opposite of fair and consistent.

Given the complexity surrounding where policy and funding responsibilities rest and, often, the false distinction in the separation of power and responsibility between Wales and Westminster, I'd be grateful, as well, if you could provide clarity on some detailed matters in your reply. In particular, funding for community support officers is half funded by the Welsh Government. Are you able, Minister, to provide assurances that this will continue, and, if so, for how long, as these officers are the bedrock of our community policing system? SchoolBeat officers are also funded by the Welsh Government. They provide school liaison and are very important for restorative justice. Will she provide assurances on future funding for those? Two billion pounds has been allocated to the NHS in England for mental health, with a particular emphasis on reducing the demand on policing. What assurances can she give us that this settlement will reduce similar pressures on Welsh police forces?

It has to be said that it cannot either be acceptable or sustainable for the funding for policing and community safety in its broadest sense to be split between two Parliaments and two Governments in this way. It makes absolutely no sense. It's disappointing to have to report to you, Minister, that your Labour colleagues in Rhondda Cynon Taf council just a few weeks ago voted down a Plaid Cymru amendment calling for the devolution of police to be able to overcome some of these anomalies. I wonder if the Minister has a view on her colleagues voting against Labour Party policy in this way. Surely, now the time has come for us all to agree that Wales's policing policy, like Scotland and Northern Ireland's, should be set here in our national Parliament, not in the capital city of another country, far removed from where police forces are actually carrying out their work. Would the Minister agree?

Mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma yn ceisio cymeradwyaeth i setliad ariannol yr heddlu hyd at 2019-20 yn ein hatgoffa unwaith eto, mewn ystyr ymarferol iawn, o annigonolrwydd y fframwaith cyfansoddiadol presennol o ran plismona a chyfiawnder. Mae cyfrifoldebau polisi a chyllid yn gyffredinol yn aros gyda San Steffan. Ond mae elfennau hanfodol o gyllid yr heddlu, o ran materion megis diogelwch cymunedol, a fyddai'n gyfrifoldeb i'r adran cymunedau yn Lloegr, yn rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru y mae honno'n atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn amdanynt. Ac eto, nid yw cyfiawnder, yn ei ystyr ehangaf, yn gyfrifoldeb i'r sefydliad hwn, ac nid yw'r trefniadau craffu wedi cael eu datblygu'n ddigonol.

Gan droi at y setliad ei hun, mae hwn yn dilyn cyfeiriad cyffredinol y setliad ariannu y cytunwyd arno yn San Steffan fis diwethaf. Fel y gwnaeth datganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ein hatgoffa ni ym mis Rhagfyr pan gyhoeddwyd y cynigion cychwynnol, seilir y fformiwla gyfan ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Er hynny, gwyddom pe byddai plismona yng Nghymru yn cael ei ariannu ar sail poblogaeth, fel y gwneir gyda gwasanaethau datganoledig eraill, y byddai gan yr heddluoedd yng Nghymru dros £20 miliwn y flwyddyn o arian ychwanegol. Ni allaf weld sut y gall Llywodraeth Cymru sefyll o'r neilltu pan fo'r system yn gwarantu annhegwch o'r fath i Gymru a'r heddluoedd plismona yng Nghymru. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni sut mae hyn yn gyson â safbwynt Llywodraeth Cymru o blaid datganoli plismona a chyfiawnder. Yn ddiamau, mae'r trefniadau presennol yn groes i degwch a chysondeb.

O ystyried y cymhlethdod ynghylch pwy sy'n gyfrifol am bolisi ac ariannu, ac yn aml, y gwahaniaethu camarweiniol yn rhaniad y pwerau a'r cyfrifoldebau rhwng Cymru a San Steffan, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech roi eglurder ar rai materion manwl yn eich ateb. Yn arbennig, caiff cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol hanner ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. A oes modd ichi roi sicrwydd, Gweinidog, y bydd hyn yn parhau, ac, os felly, am ba hyd, gan mai'r swyddogion hyn yw sylfaen ein system o blismona cymunedau? Caiff swyddogion SchoolBeat eu hariannu gan Lywodraeth Cymru hefyd. Maen nhw'n darparu cyswllt ag ysgolion ac maen nhw'n bwysig iawn o ran cyfiawnder adferol. A wnaiff hi roi sicrwydd ynghylch cyllid i'r dyfodol ar gyfer y rhain? Dyrannwyd £2 biliwn i'r GIG yn Lloegr ar gyfer iechyd meddwl, gyda phwyslais arbennig ar leihau'r galw am blismona. Pa sicrwydd a all hi ei roi i ni y bydd y setliad hwn yn lleihau pwysau tebyg ar heddluoedd Cymru?

Mae rhaid dweud na all fod yn dderbyniol nac yn gynaliadwy i gyllid ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol yn ei ystyr ehangaf gael ei rannu rhwng dwy Senedd a dwy Lywodraeth yn y modd hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Siomedig yw gorfod dweud wrthych chi, Gweinidog, bod eich cymheiriaid Llafur yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf ychydig wythnosau'n ôl wedi gwrthod gwelliant gan Blaid Cymru yn galw am ddatganoli'r heddlu er mwyn gallu goresgyn rhai o'r anghysondebau hyn. Tybed a oes gan y Gweinidog farn ynglŷn â'i chymheiriaid yn pleidleisio yn erbyn polisi'r Blaid Lafur yn y modd hwn. Yn ddiamau, mae'r amser wedi dod yn awr i ni gyd gytuno y dylai polisi plismona Cymru, fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, fod yma yn ein Senedd genedlaethol ni, nid ym mhrifddinas gwlad arall, ymhell o'r mannau y mae'r heddluoedd yn gweithio mewn gwirionedd. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno?

15:50

Thank you. Can I now call the Minister for Housing and Local Government to reply to the debate? 

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl?

Thank you, Deputy Presiding Officer. Well, a number of issues were raised there, two or three worthy, I think, of some continued discussion. The first is on the devolution of policing. I entirely agree with Leanne Wood: I think it makes no sense at all for a blue-light responder not to be devolved to Wales, and we've called repeatedly for the devolution of policing in and of itself as well as part of criminal justice transfers, but I think policing in and of itself should be devolved. There are a number of issues around the split responsibility; she highlighted several of them. It's a continued conversation and it's one that the PCCs in Wales are on board with as well, and I can't find anything to disagree with in what she said there.

We have continued to protect the funding for community safety because of the way the devolution settlement is at the moment. I said that we were continuing to fund the community support officers in this next budget. We are looking for a comprehensive spending review at the end of this year, but our intention is to continue to support the community support officers, although I'm not in a position to absolutely, categorically say we will until we see what the comprehensive spending review—if it ever happens—actually brings alongside it.

I think, in terms of Mark Isherwood's contribution, the only thing I really wanted to raise was to reiterate my remarks in my opening statement around—. If he's very concerned about the funding challenges that the PCCs are currently struggling with, then he should be lobbying hard to get the whole of the pension provision covered off in the settlement, which it certainly isn't at the moment, and which is the No. 1 problem for police forces, and indeed in a large number of other areas. The UK Government seems not able to comprehend that if you devolve terms and conditions for people then their pensions come with them, and that that funding ought to flow. So, like in all other devolution conversations, we welcome the devolution but we would also welcome the attached funding to go with it, which we certainly haven't had.

He mentioned in particular the apprenticeship levy, and that is, of course, a classic example of the UK Government not devolving the money to go with its policies—[Interruption.] It did not. It took the money out of a departmental budget and put it into a separate place. So, the overall amount that we got was pretty close to zero. [Interruption.]

Deputy Presiding Officer, I've set out, with previous ministerial hats on, the issue around apprenticeship levy funding: it's very plain that the UK Government did not provide additional funding for Wales to cover off apprenticeship levy funding for the police, or for any other devolved area, in fact. The figures are very plain for all to see. 

Deputy Presiding Officer, community safety is a top priority for this Government. While the settlement is better than some may have expected, it still presents challenges, as I've said, and we are committed to working with PCCs and chief constables to ensure these challenges are managed in ways that limit the impact on community safety and front-line policing in Wales. Continuing to work in partnership to identify and take forward opportunities is important, as is demonstrated by the successful deployment of our 500 community support officers. 

Given that no debate in these days is complete without a mention of Brexit, I should also like to take this opportunity to draw to Members' attention additional funding of almost £0.5 million for police work with partners through the local resilience fora for a possible 'no deal' Brexit. This comes from our £50 million EU transition fund, which we've used to support public sector bodies, voluntary sector bodies and businesses. We're not spending Welsh Government money to fund things that are properly the responsibility of the UK Government, but as we have always recognised, the police forces have an important role in preparing with partners for the implications of Brexit, and in particular the possibility of a 'no deal' Brexit. We are pleased to support them through the local resilience fora.

Deputy Presiding officer, I commend this settlement to the Assembly. 

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Wel, codwyd nifer o faterion yno, dau neu dri ohonyn nhw'n deilwng, yn fy marn i, o'u trafod rywfaint ymhellach. Mae'r cyntaf yn ymwneud â datganoli plismona. Rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood: nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ymatebwyr golau glas beidio â chael eu datganoli i Gymru, ac rydym wedi galw dro ar ôl tro am ddatganoli plismona ynddo'i hun yn ogystal ag yn rhan o drosglwyddiadau cyfiawnder troseddol. Ond rwyf i o'r farn y dylai plismona ynddo'i hun gael ei ddatganoli. Ceir nifer o faterion sy'n ymwneud â rhaniad y cyfrifoldebau; fe dynnodd sylw at sawl un ohonyn nhw. Mae honno'n drafodaeth barhaus ac mae'n un y mae'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn cyd-fynd â hi hefyd, ac nid wyf i'n cael dim i anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd hi am hynny.

Rydym wedi parhau i warchod y cyllid ar gyfer diogelwch cymunedol oherwydd ffurfiad y setliad datganoli ar hyn o bryd. Dywedais ein bod am barhau i ariannu swyddogion cymorth cymunedol yn y gyllideb nesaf. Rydym yn chwilio am adolygiad cynhwysfawr o wariant ar ddiwedd y flwyddyn hon, ond ein bwriad yw parhau i gefnogi'r swyddogion cymorth cymunedol, er nad wyf mewn sefyllfa i ddweud yn bendant y byddwn ni'n gwneud felly hyd nes y gwelwn beth ddaw—os daw hwnnw byth—yn sgil yr adolygiad eang o gyllid.

Credaf, o ran cyfraniad Mark Isherwood, mai'r unig beth yr oeddwn yn awyddus i'w godi mewn gwirionedd oedd ailadrodd fy sylwadau yn fy natganiad agoriadol ynghylch—. Os yw ef yn bryderus iawn ynghylch yr heriau gydag ariannu y mae'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn ymrafael â nhw ar hyn o bryd, yna dylai fod yn lobïo'n galed i weld y ddarpariaeth pensiwn gyfan yn cael ei chynnwys oddi mewn i'r setliad. Yn sicr nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd, a honno yw'r brif broblem i'r heddluoedd, ac yn wir mewn nifer fawr o feysydd eraill. Nid yw Llywodraeth y DU yn ymddangos ei bod yn gallu deall os ydych chi'n datganoli telerau ac amodau i bobl yna mae eu pensiynau nhw'n dod gyda nhw, a dylai'r cyllid hwnnw lifo. Felly, fel yn yr holl sgyrsiau eraill o ran datganoli, rydym yn croesawu datganoli, ond byddem hefyd yn croesawu'r cyllid i ategu'r datganoli, ac yn sicr nid ydym wedi cael hwnnw.

Soniodd ef yn benodol am yr ardoll prentisiaeth, ac mae honno, wrth gwrs, yn enghraifft nodweddiadol o Lywodraeth y DU yn ymatal rhag datganoli'r arian i fynd â'i pholisïau—[Torri ar draws.] Ni wnaeth hynny. Cymerodd yr arian o'i chyllideb adrannol a'i roi mewn man ar wahân. Felly, roedd y swm cyflawn a gawsom y nesaf peth i ddim. [Torri ar draws.]

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi nodi, yn rhinwedd fy ngweinidogaethau blaenorol, y mater ynghylch cyllid yr ardoll prentisiaeth: mae'n eglur iawn na wnaeth Llywodraeth y DU  ddarparu arian ychwanegol i Gymru ar gyfer cyllid yr ardoll prentisiaeth i'r heddlu, nac ar gyfer unrhyw un ardal ddatganoledig arall, mewn gwirionedd. Mae'r ffigurau yn amlwg iawn i bawb eu gweld.

Dirprwy Lywydd, mae diogelwch cymunedol yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Er bod y setliad yn well nag y byddai rhai wedi disgwyl, ceir heriau yn ei sgil o hyd, fel y dywedais, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau hyn yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona ar y rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i nodi a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosodd y defnydd llwyddiannus o'n 500 o swyddogion cymorth cymunedol ni.

O gofio nad oes unrhyw ddadl yn gyflawn y dyddiau hyn heb gyfeirio at Brexit, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw'r Aelodau at gyllid gwerth bron £0.5 miliwn ar gyfer gwaith yr heddlu gyda phartneriaid drwy fforymau Cymru Gydnerth lleol ar gyfer posibilrwydd Brexit heb gytundeb. Daw hyn o'n Cronfa Bontio'r UE gwerth £50 miliwn, yr ydym wedi ei defnyddio i gynorthwyo cyrff y sector cyhoeddus, cyrff y sector gwirfoddol a busnesau. Nid ydym yn gwario arian Llywodraeth Cymru i ariannu pethau sydd mewn gwirionedd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond fel yr ydym wedi ei gydnabod bob amser, mae gan luoedd yr heddlu swyddogaeth bwysig wrth baratoi gyda phartneriaid ar gyfer goblygiadau Brexit, ac yn arbennig felly'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Rydym ni'n falch o'u cefnogi drwy'r fforymau Cymru Gydnerth lleol.

Dirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad.

15:55

Thank you very much. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] Therefore, we defer voting until voting time. 

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gan hynny, rydym yn gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau
6. Debate: The Substance Misuse Annual Report

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Darren Millar and amendments 2, 3 and 4 in the name of Rhun ap Iorwerth.

We now move to item 6, which is a debate on the substance misuse annual report, and I call on the Minister for Health and Social Services to move the motion—Vaughan Gething. 

Rydym yn symud nawr at eitem 6, sef dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM6961 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel yr amlygir yn Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2018).

Motion NDM6961 Rebecca Evans

To propose that the National Assembly for Wales:

Notes the progress being made in tackling the harms associated with substance misuse, as highlighted in the Welsh Government’s Substance Misuse Annual Report and Forward Look (November 2018).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Thank you, Deputy Presiding Officer. I'm pleased to open today's debate on the substance misuse annual report 2018. Tackling substance misuse is a priority for the Welsh Government and a significant area to focus upon if we are to meet our ambitions for a healthier Wales. It is a major health issue that affects individuals, families and communities. Our overall aim continues to be to ensure that people in Wales are aware of the dangers and the impact of substance misuse and to know where they can seek information, help and support if they need it. We remain committed to tackling the harms associated with substance misuse.

I'm pleased that we have recently been able to back up this commitment with extra resources. Last month, I announced an extra £2.4 million of funding for the next financial year for our seven area planning boards, who are responsible for commissioning local front-line services. That is an increase in funding of over 10 per cent. This additional funding, at a time of continuing austerity, means we are now able to support the area planning boards with extra money to meet future challenges. This additional investment takes our annual funding for substance misuse to over £50 million. 

In Wales, our approach to dealing with substance misuse will continue to be rooted in health-focused harm reduction. The recently published evaluation of our 10-year strategy, together with the independent health inspectorate review of services, both recognise that overall progress has been made, and this has been achieved against the challenging backdrop of the ever-changing nature of substance misuse. 

That said, we recognise there will always be more to do. We're supporting some of the most vulnerable people in our society and we will continue to face challenge. As we reach the end of the current strategy and delivery plan period, we're turning our attention to the areas on which we need to focus to reduce the harms associated with substance misuse over the next few years. We're currently engaging with area planning boards and other front-line partners and service users themselves to co-produce priorities for the next plan. 

I've already indicated to area planning boards the priority areas to be considered for investment in the coming financial year. These include support work on co-occuring substance misuse and mental health conditions, and work on supporting children and families. In particular, I want them to work with those on the edge of care. There will also be a need for continued focus on work to reduce drug-related deaths, looking at support for those who may be homeless or have housing issues. We have seen real progress on waiting times against our targets. In 2017-18, 90.9 per cent of people starting treatment were seen within 20 days, compared to 86.7 per cent in the year previous. And I would like to take this opportunity to thank those providing these essential front-line services for their achievement.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl heddiw ar yr adroddiad blynyddol ar gamddefnyddio sylweddau 2018. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn faes sylweddol i ganolbwyntio arno os ydym yn dymuno cyflawni ein huchelgeisiau o weld Cymru fwy iach. Mae hwn yn fater o bwys o ran iechyd sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Ein nod cyffredinol o hyd yw parhau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio sylweddau ac yn gwybod lle y gallan nhw fynd am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth pe byddai ei angen arnyn nhw. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.

Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r ymrwymiad hwn ag adnoddau ychwanegol yn ddiweddar. Fis diwethaf, cyhoeddais fod £2.4 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i'n saith bwrdd cynllunio ardal, sy'n gyfrifol am gomisiynu'r gwasanaethau rheng flaen yn lleol. Mae hynny dros 10 y cant o gyllid ychwanegol. Mae'r cyllid ychwanegol hwn, mewn cyfnod o gyni parhaus, yn golygu ein bod ni bellach yn gallu cefnogi'r byrddau cynllunio ardal gyda'r arian ychwanegol i ymdrin â heriau'r dyfodol. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn codi ein cyllid blynyddol i gamddefnyddio sylweddau i dros £50 miliwn.

Yng Nghymru, bydd ein dull ni o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn seiliedig ar leihau niwed gan ganolbwyntio ar iechyd pobl. Mae'r gwerthusiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o'n strategaeth 10 mlynedd ni, ynghyd ag adolygiad yr Arolygiaeth Iechyd Annibynnol o wasanaethau, fel ei gilydd yn cydnabod y gwnaed cynnydd yn gyffredinol, a bod hynny wedi ei gyflawni yn erbyn cefndir heriol natur newidiol camddefnyddio sylweddau.

Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod y bydd rhagor i'w wneud bob amser. Rydym yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a byddwn yn parhau i wynebu her. Wrth inni gyrraedd diwedd cyfnod y strategaeth gyfredol a'r cynllun cyflawni, rydym yn troi ein sylw at y meysydd y mae angen inni ganolbwyntio arnyn nhw i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn ymgysylltu ar hyn o bryd â'r byrddau cynllunio ardal a phartneriaid rheng flaen a defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain i gyd-gynhyrchu'r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun nesaf.

Rwyf eisoes wedi sôn wrth fyrddau cynllunio ardal am y meysydd blaenoriaeth sydd i'w hystyried ar gyfer buddsoddiad yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith cymorth ar gyflyrau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd, a gwaith ar gefnogi plant a theuluoedd. Yn benodol, rwy'n dymuno iddyn nhw weithio gyda'r rhai sydd ar ymylon gofal. Bydd angen parhau hefyd i ganolbwyntio ar y gwaith o leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, gan edrych ar gymorth ar gyfer y rhai a allai fod yn ddigartref neu â phroblemau o ran tai. Rydym wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran amseroedd aros yn erbyn ein targedau. Yn 2017-18, gwelwyd 90.9 y cant o'r bobl yn dechrau ar driniaeth o fewn 20 diwrnod, o'i gymharu ag 86.7% yn y flwyddyn flaenorol. A hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau rheng flaen hanfodol hyn am eu gwaith campus.

I'm also pleased to report that we're continuing to see positive outcomes for those in treatment: 86.5 per cent of people reported a reduction in their substance misuse treatment in 2017-18, up slightly from the year before. Whilst these improvements are welcome, there is clearly more work to do across the agenda. For example, the data shows a rise in alcohol-related specific deaths from 388 in 2016 to 419 in 2017. That emphasises how important it is that tackling alcohol misuse remains a priority for the Welsh Government, as both alcohol and drugs remain major causes of death and ill health.

The Public Health (Minimum Price for Alcohol) (Wales) Act 2018 is a crucial part of responding to what is a major public health issue. This legislation will focus on reducing alcohol consumption amongst hazardous and harmful drinkers. It will also help to reduce the negative impact of alcohol misuse on our hard-pressed public services. Minimum unit pricing will form part of and complement our wider substance misuse work. We're already working to tackle the excessive consumption of alcohol through better education, prevention and treatment services to support the most harmful drinkers. We will also continue to support families of those who misuse alcohol.

Turning to drug-related deaths, the small overall decrease in 2017 is welcome, but 185 drug misuse deaths is still far too many people dying needlessly within our communities. I'm particularly concerned about regional variations that exist and I'm clear that we must work with our partners to focus significant effort upon this. My officials continue to work with partners in a number of areas to try and reduce drug-related deaths further. Our groundbreaking WEDINOS—Welsh emerging drugs and identification of novel substances—project continues to play a key role in reducing drug-related deaths, with the analysis of a range of drugs. Testing substances enables us to examine the chemical compound of the substance, but then crucially to disseminate widely the risk factors involved when individuals take them. The distribution of naloxone, a drug that temporarily reverses the effects of opiate overdose, has been a key strand of our harm-reduction approach for a number of years, and will continue. A total of over 19,000 naloxone kits have been distributed throughout Wales since 2009, with 2,186 reported uses. This is available in every community drug treatment service, along with all prisons in Wales. Given its success, we'll work closely with areas of Wales to further expand the provision of naloxone, especially in relation to those who are not engaging in treatment. For example, our officials have been working closely with police custody suites, accident and emergency departments and community pharmacies to ensure that naloxone is available for hard-to-reach individuals who don't normally engage with services. The complexity of this agenda can be seen when we consider the rise in other substances such as image and performance-enhancing drugs. This reflects major pressures that exist in today's society in terms of body image, and where substances are misused to the detriment of the individual's health and well-being.

Information and education are key elements of our strategy, and we continue to support DAN 24/7, a free and bilingual substance misuse helpline providing a single point of contact for anyone in Wales who wants further information or help relating to their drug or alcohol issues. During 2017-18, there were over 5,000 calls to DAN 24/7, which marks a 26 per cent increase on the previous year. Traffic to the website has also increased by 92 per cent during the same time frame, with the DAN 24/7 interactive website receiving over 145,000 hits. DAN 24/7 played a part in numerous information campaigns over the last three years, in line with our continuing harm-reduction approach.

In terms of recovery from substance misuse, and reintegration into society, being able to support employment is hugely significant, but we know that people often face numerous barriers to working, including a lack of education and skills, particular mental health problems and low self-confidence. Our European social fund-supported out-of-work peer mentoring service is a unique approach in Wales, tackling these key employment barriers through a single service. It provides free, long-term support from trained mentors who have personal experience of substance misuse or mental health problems. And since its launch in August 2016, over 4,200 people recovering from substance misuse alone or from substance misuse combined with mental ill health have enrolled in the service.

In total, we’re investing £17.3 million, including £11.6 million of European social fund support, to support the delivery of the out-of-work peer-mentoring service. This will allow us to support over 14,000 people in their recovery journey by summer 2020. I’m keen to build on this work, and my officials are currently liaising with the Welsh European Funding Office to extend the service until 2022 and to provide more support to more people. Substance misuse is a major cause of people being sick, losing jobs, or feeling unable to get into work, and this service contributes to our commitment to supporting people, to break down the barriers that ill health places on employment.

Turning briefly to the amendments, we'll not support amendment 1 by Darren Millar, as the latest statistics on drug-related deaths show they're falling, not rising. Also, on residential rehabilitation, it’s essentially a matter for area planning boards, in line with clinical guidance and input from service users, to decide what is the most appropriate intervention when commissioning services, whether tier 4 provision or, for example, community rehabilitation.

We won’t support amendments 2 and 3 from Rhun ap Iorwerth. It should be recognised that the Healthcare Inspectorate Wales report looked at people’s experiences at the time of the review. However, officials monitor waiting times rigorously through our published statistics, and over 90 per cent of people, as I have recounted, are seen within our target of 20 working days. However, we will continue to focus and work with partners on the issues raised. And, as found in a recent evaluation, we're making progress on issues that are complex and challenging.

We will support amendment 4 from Rhun ap Iorwerth. Substance misuse is regarded as a health matter, and the harm-reduction approach is something that has been a focus of our work on substance misuse for the past 10 years. As opposed to criminalising individuals, there should be a strong focus on rehabilitation with a harm-reduction focus. I look forward to hearing Members contributions during the debate.

Rwy'n falch hefyd o adrodd ein bod ni'n parhau i weld canlyniadau cadarnhaol i'r rhai sy'n cael triniaeth: dywedodd 86.5 y cant o bobl eu bod wedi lleihau eu triniaeth camddefnyddio sylweddau yn 2017-18, ychydig yn uwch na'r flwyddyn cyn hynny. Er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud gydol yr agenda. Er enghraifft, mae'r data yn dangos cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig yn benodol ag alcohol, o 388 yn 2016 i 419 yn 2017. Mae hynny'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan fod alcohol a chyffuriau fel ei gilydd yn parhau i fod yn achosion cyffredin o farwolaeth ac afiechyd.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) 2018 yn rhan hanfodol o ymateb i'r hyn sy'n broblem bwysig o ran iechyd y cyhoedd. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn canolbwyntio ar leihau'r defnydd o alcohol ymhlith y rhai sy'n yfed yn beryglus a niweidiol. Bydd hefyd yn helpu i leihau effaith negyddol camddefnyddio alcohol ar ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan bwysau. Bydd isafswm pris fesul uned yn rhan o hynny ac yn ategu ein gwaith ehangach ar gamddefnyddio sylweddau. Rydym eisoes yn gweithio i fynd i'r afael â goryfed alcohol drwy addysg well, ataliad a gwasanaethau triniaeth i gefnogi'r rhai sy'n yfed yn fwyaf niweidiol. Byddwn yn parhau i gefnogi teuluoedd y rhai sy'n camddefnyddio alcohol hefyd.

Gan droi at farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, mae'r gostyngiad bach cyffredinol yn 2017 i'w groesawu, ond mae 185 o farwolaethau yn sgil camddefnyddio cyffuriau yn parhau i fod yn ormod o lawer o bobl yn marw'n ddiangen yn ein cymunedau. Rwy'n arbennig o bryderus am yr amrywiadau rhanbarthol sy'n bodoli ac rwy'n glir ei bod yn rhaid inni weithio gyda'n partneriaid i ganolbwyntio'r ymdrechion yn sylweddol ar hyn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda phartneriaid mewn nifer o feysydd i geisio lleihau eto nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae ein prosiect WEDINOS arloesol ni—Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru—yn parhau i chwarae rhan allweddol yn lleihau'r marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, drwy ddadansoddi ystod o gyffuriau. Mae cynnal profion ar sylweddau yn ein galluogi ni i ddadansoddi cyfansoddyn cemegol y sylwedd, ond yna, yn hollbwysig, i hysbysu'r unigolion sy'n eu cymryd am y ffactorau risg ehangach sy'n gysylltiedig â nhw. Mae rhannu naloxone, cyffur sydd dros dro yn gwrthdroi effeithiau gorddos opiadau, wedi bod yn elfen allweddol o'n dull ni i leihau niwed ers nifer o flynyddoedd, a bydd hynny'n parhau. Dosbarthwyd cyfanswm o dros 19,000 o becynnau naloxone ledled Cymru ers 2009, a nodwyd bod 2,186 wedi eu defnyddio. Mae hyn ar gael gan bob gwasanaeth triniaeth cyffuriau cymunedol, ynghyd â'r holl garchardai yng Nghymru. O ystyried ei lwyddiant, byddwn yn gweithio'n agos gydag ardaloedd o Gymru i ehangu'r ddarpariaeth o naloxone ymhellach, yn enwedig ymhlith y rhai nad ydyn nhw'n cael triniaeth. Er enghraifft, mae ein swyddogion wedi gweithio'n agos gyda dalfeydd yr heddlu, adrannau damweiniau ac achosion brys a fferyllfeydd cymunedol i sicrhau bod naloxone ar gael i unigolion sy'n anodd mynd atyn nhw am nad ydyn nhw'n cysylltu â'r gwasanaethau fel arfer. Gellir gweld cymhlethdod yr agenda hon pan ystyriwn y cynnydd mewn sylweddau eraill fel cyffuriau i wella perfformiad a delwedd. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwysau mawr sy'n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw o ran delwedd y corff, a lle camddefnyddir sylweddau er niwed i iechyd a lles yr unigolyn.

Mae cynnig gwybodaeth ac addysg yn elfennau allweddol o'n strategaeth, a byddwn yn parhau i gefnogi DAN 24/7, sef llinell gymorth camddefnyddio sylweddau rhad ac am ddim a dwyieithog sy'n cynnig un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n ceisio rhagor o wybodaeth neu gymorth o ran problem â chyffuriau neu alcohol. Yn ystod 2017-18, cafodd DAN 24/7 dros 5,000 o alwadau, sy'n golygu cynnydd o 26 y cant dros y flwyddyn flaenorol. Mae defnydd o'r wefan hefyd wedi cynyddu 92 y cant yn ystod yr un cyfnod, gyda gwefan ryngweithiol DAN 24/7 yn cael dros 145,000 o ymweliadau. Cymerodd DAN 24/7 ran mewn llawer o ymgyrchoedd gwybodaeth dros y tair blynedd diwethaf, yn unol â'n dull ni o leihau niwed yn barhaol.

O ran adferiad o gamddefnyddio sylweddau, ac ailintegreiddio i'r gymdeithas, mae gallu sicrhau cyflogaeth yn aruthrol o arwyddocaol, ond rydym yn gwybod y bydd pobl yn aml yn wynebu llawer o rwystrau i gael gwaith, gan gynnwys diffyg addysg a sgiliau, problemau iechyd meddwl a diffyg hunanhyder. Mae ein Gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Di-Waith, a ariennir gan gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, yn ddull unigryw yng Nghymru, o fynd i'r afael â'r rhwystrau allweddol hyn i gyflogaeth drwy gyfrwng un gwasanaeth. Mae hwn yn rhoi cymorth yn rhad ac am ddim yn yr hirdymor gan fentoriaid hyfforddedig sydd â phrofiad personol o broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Ac ers ei lansio ym mis Awst 2016, mae dros 4,200 o bobl sy'n adfer o gamddefnyddio sylweddau yn unig neu'n adfer o gyfuniad o gamddefnyddio sylweddau a salwch iechyd meddwl wedi cofrestru yn y gwasanaeth.

Rydym ni'n buddsoddi cyfanswm o £17.3 miliwn, gan gynnwys £11.6 miliwn o gymorth o'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd, i gefnogi darpariaeth y Gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Di-Waith. Bydd hyn yn caniatáu inni gefnogi dros 14,000 o bobl ar eu siwrnai tuag at adfer erbyn haf 2020. Rwy'n awyddus i adeiladu ar y gwaith hwn, ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn y gwasanaeth tan 2022 a rhoi mwy o gefnogaeth i fwy o bobl. Mae camddefnyddio sylweddau yn achos mawr o salwch, colli swydd, neu i bobl deimlo na allan nhw gael gwaith, ac mae'r gwasanaeth hwn yn cyfrannu at ein hymrwymiad i gefnogi pobl, i chwalu'r rhwystrau y mae afiechyd yn eu rhoi ar gyflogaeth.

Gan droi at y gwelliannau yn gryno iawn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 gan Darren Millar, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn gostwng, ac nid yn cynyddu. Hefyd, ar fater adsefydlu preswyl, yn ei hanfod mater i'r byrddau cynllunio ardal, yn unol â chanllawiau clinigol a mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, yw penderfynu ar yr ymyriad mwyaf priodol wrth gomisiynu gwasanaethau, boed yn ddarpariaeth haen 4 neu, er enghraifft, yn adsefydlu cymunedol.

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 3 gan Rhun ap Iorwerth. Dylid cydnabod bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn edrych ar brofiadau pobl ar adeg yr adolygiad. Eto i gyd, mae swyddogion yn monitro amseroedd aros yn drylwyr drwy gyfrwng ein hystadegau cyhoeddedig, a chaiff dros 90 y cant o bobl, fel y soniais, eu gweld o fewn ein targed o 20 diwrnod gwaith. Er hynny, byddwn yn parhau i ganolbwyntio a gweithio gyda phartneriaid ar y materion a godwyd. Ac, fel y gwelwyd yn y gwerthusiad diweddar, rydym ni'n gwneud cynnydd ar faterion sy'n gymhleth ac yn heriol.

Byddwn yn cefnogi gwelliant 4 gan Rhun ap Iorwerth. Ystyrir camddefnyddio sylweddau yn fater o iechyd, ac mae'r dull o leihau niwed yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolbwynt i'n gwaith ar gamddefnyddio sylweddau dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn hytrach na gwneud unigolion yn droseddwyr, dylid canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar adsefydlu a chanolbwyntio ar leihau niwed. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau gan yr Aelodau yn ystod y ddadl.

16:05

Thank you. I have selected four amendments to the motion. I call on Mark Isherwood to move amendment 1, tabled in the name of Darren Millar.

Diolch. Rwyf i wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynir yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n benodol gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu  defnyddwyr cyffuriau ac alcohol ar sail preswyl haen 4 yng Nghymru. 

Amendment 1—Darren Millar

Add as new points at end of motion:

Regrets the increase in deaths related to drug misuse and alcohol-specific deaths in Wales. 

Calls on the Welsh Government to address the need for tier 4 residential drug and alcohol rehabilitation in Wales.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Amendment 1 moved.

Diolch. Well, according to its substance misuse annual report 2018, the Welsh Government’s 10-year substance misuse strategy, published in 2008, sets out a clear national agenda for tackling and reducing the harms associated with substance misuse in Wales. It adds that it has commenced work to develop substance misuse priorities going forward from 2019. But the July 2018 Healthcare Inspectorate Wales's 'Review of Substance Misuse Services in Wales: Joint Thematic Report' referred to in amendments 2 and 3 identifies:

'However, people found it difficult to get the treatment they needed from substitute prescribing, detox, rehab and counselling services, because of long waiting times and a lack of capacity in services',

adding that

'There can also be long waits (months in some cases) to access counselling and relapse prevention programmes in some areas',

and that

'The difference between the national statistics and the experiences people have reported to us need to be further explored'.

We will be supporting amendments 2 and 3 accordingly.

The latest official—the latest official—ONS figures report that deaths related to drug misuse in Wales 2015-17 were up 15 per cent on the previous two years, and 32 per cent since the start of the Welsh Government’s strategy in 2008—not down. Alcohol-specific deaths in Wales were up 8 per cent on the previous year. Public Health Wales also reports an increase in alcohol deaths of over 7 per cent in 2017. I therefore move amendment 1, regretting the increase in deaths related to drug misuse and alcohol-specific deaths in Wales.

Amendment 1 also calls on the Welsh Government to address the need for tier 4 residential drug and alcohol rehabilitation in Wales. As the Healthcare Inspectorate Wales review states,

'The availability of Tier 4 detox and rehab services was inconsistent across Wales…a number of areas do not have their own in-patient detox and/or rehab facilities. Depending on where people live, they may need to travel considerable distances for treatment in another area of Wales or in England.'

During the second Assembly, independent reports on tier 4 residential detoxification and rehabilitation services in Wales were leaked to me after being buried by the Welsh Government. These found that the whole service was underfunded and identified numerous reports of people reoffending so they could be detoxed in prison, and of hospital admissions because of the unavailability of in-patient detoxification and residential rehabilitation. They call for a substantial increase in capacity, and for the development of three drug and alcohol detoxification and rehabilitation units across Wales, working with third sector providers.

A further report commissioned by the Welsh Government in 2010 reinforced this, and the then Welsh Government stated that it was taking forward work on the development of three units at Brynawel, Ty'n Rodyn and Rhoserchan. Well, Rhoserchan and Ty'n Rodyn have since had to close, and Brynawel states that its continued provision of these services is under threat. As Brynawel states, it appears that gaining access to a residential rehabilitation placement for someone living in Wales is a postcode lottery. 

After I wrote to the health Minister about this, he replied that the all-Wales substance misuse residential rehabilitation framework, implemented in April 2015, was developed for use in conjunction with the Welsh Government tier 4 ring-fenced funding of £1 million awarded to area planning boards annually in order to purchase residential rehabilitation placements. Brynawel, therefore, asked whether this £1 million is still ringfenced, what assurance the Minister could give that procedures are in place to ensure that local authorities are complying with their responsibilities in relation to drug and alcohol assessments for residential rehabilitation, and whether the Minister could confirm the number of community care assessments for residential rehabilitation conducted in 2017-18 by local authority, because the experience of providers is very different to the picture painted by the Minister.

Having closed Ty'n Rodyn in Bangor, CAIS has made alternative provision in Lancashire and at Parkland Place in Colwyn Bay, which currently caters for individuals seeking quality residential rehabilitation and who have the means to pay for it personally. They state that although they would be considering statutory referrals shortly, it remains to be seen what the take-up will be. Welsh Government policy has therefore forced charitable providers in Wales into both the private sector and England. These providers tell me that there is acknowledgement across the board that the tier 4 residential rehabilitation framework did not deliver the anticipated benefits for commissioners and providers, that many authorities did not fully engage with the pathway, resulting in referrals to non-framework units, many outside Wales, and that they are not even sure the framework exists at the moment.

Despite blood, sweat and tears over too many years, Welsh Government has returned us to groundhog day once again.       

Diolch. Wel, yn ôl ei adroddiad blynyddol 2018 ar gamddefnyddio sylweddau, mae strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2008, yn nodi agenda genedlaethol a chlir ar gyfer mynd i'r afael a lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae'n ychwanegu ei bod wedi dechrau ar waith i ddatblygu blaenoriaethau o ran camddefnyddio sylweddau o 2019 i'r dyfodol. Ond mae 'Adolygiad o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru: Adroddiad Thematig ar y Cyd', mis Gorffennaf 2018, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y cyfeirir ato yng ngwelliannau 2 a 3 un nodi:

Roedd pobl yn ei chael hi'n anodd cael y driniaeth yr oedd ei hangen arnynt gan wasanaethau rhagnodi meddyginiaeth gyfnewid, dadwenwyno, adsefydlu a chwnsela oherwydd amseroedd aros hir a phrinder capasiti gan wasanaethau

gan ychwanegu

Gall fod yn rhaid aros am hir hefyd (misoedd mewn rhai achosion) i gael mynediad at raglenni cwnsela ac atal atglafychu mewn rhai ardaloedd

ac

Mae angen ymchwilio ymhellach i'r gwahaniaeth rhwng yr ystadegau cenedlaethol hyn a'r profiadau y mae pobl wedi sôn wrthym amdanynt.

Byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 felly.

Mae ffigurau swyddogol diweddaraf—swyddogol diweddaraf—y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru 2015-17 wedi codi 15 y cant yn uwch na'r ddwy flynedd flaenorol, a 32 y cant ers dechrau strategaeth Llywodraeth Cymru yn 2008—ac nid gostwng. Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru wedi codi 8 y cant dros ben y flwyddyn flaenorol. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynnydd o dros 7 y cant hefyd wedi bod yn y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn 2017. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan resynu at y cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn benodol yng Nghymru.

Mae gwelliant 1 yn galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r angen am adsefydlu preswyl Haen 4 oherwydd cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Fel y dywed adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru,

Roedd y gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu Haen 4 ar gael ledled Cymru yn anghyson...nid oes gan nifer o ardaloedd eu cyfleusterau dadwenwyno a/neu adsefydlu eu hunain ar gyfer cleifion mewnol. Yn dibynnu ar ble mae pobl yn byw, gallai fod angen iddynt deithio cryn bellter i gael triniaeth mewn ardal arall o Gymru neu Loegr.

Yn ystod yr ail Gynulliad, cafodd adroddiadau annibynnol ar wasanaethau preswyl haen 4 oherwydd dadwenwyno ac adsefydlu yng Nghymru 4 eu datgelu i mi ar ôl cael eu claddu gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn canfod bod y gwasanaeth cyfan wedi ei danariannu ac yn nodi nifer o adroddiadau am bobl yn aildroseddu fel y gallen nhw gael eu dadwenwyno yn y carchar, ac o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd nad oedd gwasanaeth dadwenwyno cleifion mewnol nac adsefydlu preswyl. Maen nhw'n galw am gynnydd sylweddol o ran capasiti, ac am ddatblygu tair o unedau dadwenwyno ac adsefydlu oherwydd cyffuriau ac alcohol ledled Cymru, gan weithio gyda darparwyr trydydd sector.

Roedd adroddiad pellach a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 yn atgyfnerthu hyn, a dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu tair uned ym Mrynawel, Tŷ'n Rodyn a Rhoserchan. Wel, bu'n rhaid i Roserchan a Tŷ'n Rodyn gau ers hynny, ac mae Brynawel yn dweud bod parhad ei darpariaeth o'r gwasanaethau hyn dan fygythiad. Fel y dywed Brynawel, ymddengys ei bod yn loteri cod post i rywun sy'n byw yng Nghymru gael mynediad i leoliad ailsefydlu preswyl.

Ar ôl i mi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd am hyn, atebodd ef fod fframwaith Cymru gyfan ar gyfer adsefydlu preswyl camddefnyddio sylweddau, ar waith o fis Ebrill 2015, wedi cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio ar y cyd â chyllid haen 4 a glustnodir gan Lywodraeth Cymru o £1 miliwn a ddyfernir i fyrddau cynllunio ardal yn flynyddol er mwyn prynu lleoliadau adsefydlu preswyl. Gofynnodd Brynawel, felly, a yw'r £1 miliwn hwn wedi ei glustnodi o hyd, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi bod gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau o ran asesiadau cyffuriau ac alcohol ar gyfer ailsefydlu preswyl, ac a allai'r Gweinidog gadarnhau nifer yr asesiadau gofal cymunedol ar gyfer adsefydlu preswyl a gynhaliwyd yn 2017-18 gan awdurdodau lleol, oherwydd mae profiad y darparwyr yn wahanol iawn i'r darlun a roddwyd gan y Gweinidog.

Wedi iddyn nhw gau Tŷ'n Rodyn ym Mangor, mae CAIS wedi gwneud darpariaeth arall yn swydd Gaerhirfryn ac yn Parkland Place ym Mae Colwyn, sydd ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer unigolion sy'n ceisio ailsefydlu preswyl o ansawdd ac sydd â'r modd i dalu amdano'n bersonol. Dywedant, er y byddent yn ystyried atgyfeiriadau statudol cyn bo hir, nid yw'n amlwg ar hyn o bryd faint o ddefnydd fydd ar hynny. Mae polisi Llywodraeth Cymru felly wedi gorfodi darparwyr elusennol yng Nghymru i mewn i'r sector preifat ac i Loegr. Mae'r darparwyr hyn yn dweud wrthyf i y ceir cydnabyddiaeth ym mhobman nad yw'r fframwaith ailsefydlu preswyl haen 4 yn cynnig y manteision a ragwelwyd i'r comisiynwyr na'r darparwyr, ac nad oedd llawer o awdurdodau yn ymgysylltu'n llwyr â'r llwybr, gan arwain at atgyfeiriadau i unedau nad ydyn nhw o fewn y fframwaith, lawer y tu allan i Gymru, ac nad ydynt yn siŵr a yw'r fframwaith hyd yn oed yn bodoli ar hyn o bryd.

Er gwaethaf yr holl waed, chwys a dagrau dros lawer gormod o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dod â ni'n ôl unwaith eto i'r un fan.       

16:10

Thank you. Can I call on Leanne Wood to move amendment 2, 3 and 4, tabled in the name of Rhun ap Iorwerth? 

Diolch. A gaf i alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth?

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig

Yn nodi adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ‘Adolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghysonderau rhwng ystadegau swyddogol ar amseroedd aros, a phrofiadau amrywiol y bobl y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad hwn.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r aros hir am wasanaethau cwnsela a gwasanaethau atal ail bwl o salwch, y cyfeirir atynt yn adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod creu trosedd o gamddefnyddio rhai sylweddau yn ychwanegu at y niwed a gaiff ei achosi gan ddefnydd o’r fath, yn gwaethygu’r stigma, ac yn atal pobl sy'n gaeth rhag gwella’n llwyr, ac yn credu, yn hytrach, y dylid ystyried mai mater iechyd yw camddefnyddio sylweddau, ac mai lleihau niwed yw'r brif amcan.

Amendment 2—Rhun ap Iorwerth

Add as new point at end of motion:

Notes the Healthcare Inspectorate Wales report ‘Review of substance misuse services in Wales’ and calls on the Welsh Government to address the discrepancies between the official statistics on waiting times, and the variable experiences of people highlighted in this report.

Amendment 3—Rhun ap Iorwerth

Add as new point at end of motion:

Notes the long waits for counselling and relapse prevention services highlighted in the Healthcare Inspectorate Wales report.

Amendment 4—Rhun ap Iorwerth

Add as new point at end of motion:

Believes that the criminalisation of some substance misuse adds to the harm caused by such use, increases the stigma and prevents the full recovery of addicts and instead believes that tackling substance misuse should be regarded as a health matter, with harm reduction being the primary objective.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Amendments 2, 3 and 4 moved.

Diolch. I move the Plaid Cymru amendments, but I want to use my contribution today to focus on amendment 4 in particular. 

Now, this debate is timely because just last week, the UK Government announced its intention to conduct a review into drugs policy, including treatment options. Unfortunately, they pre-decided not to consider the questions of decriminalisation or legalisation as part of that review. Now, I'm of the view that limiting their review in that way is short-sighted, and it may well exclude some potentially effective solutions.

Let's take a look at the picture in Portugal, where they've done the unthinkable. Portugal is seen as the trendsetter for switching from the war on drugs to a harm-reduction model, which started in 2001, and, as a result, we now have enough data to evaluate. It's not complete decriminalisation. It's no longer a criminal offence to possess drugs for personal use. It's still an administrative violation, punishable by penalties such as fines or community service. The specific penalty is decided by the commissions for the dissuasion of drug addiction, which are regional panels made up of legal, health and social work professionals. The vast majority of those referred to the commissions by the police have their cases suspended, effectively meaning that they receive no penalty. The commissions' aim is for people to enter treatment voluntarily; they don't attempt to force them to do so—that would be counter-productive.

The main aims of the policy were to tackle the severely worsening health of Portugal's drug-using population, in particular the people who inject drugs. In the years leading up to the reform, the number of drug-related deaths had soared, and rates of HIV, AIDS, TB and hepatitis B and C among people who inject drugs were rapidly increasing. There was a growing consensus among law enforcement and health officials that the criminalisation and marginalisation of people who use drugs was contributing to the problem and that a new, more humane legal framework could be better managed.

As well as decriminalisation, Portugal allocated greater resources across the drugs field, expanding and improving prevention, treatment, harm reduction and social reintegration programmes. The introduction of these measures coincided with an expansion of the Portuguese welfare state, which included a guaranteed minimum income. Therefore, it's likely that decriminalisation alone was not the sole reason for success—it was more likely to be as a result of a combination of policies across all departments, focusing on harm reduction and public health. The Portuguese experiment has been a huge success—levels of drug use are now below the European average; drug use has declined among those aged 15 to 24. Lifetime drug use among the general population has increased slightly, in line with trends in comparable countries. However, lifetime use is widely considered to be the least accurate measure of a country's current drug use situation. 

So, why would we not do this? And why would we not at least make a start on what can be done today? There's a clear public health reason for providing a safer environment for people to use drugs, such as safer injecting zones. These sites allow drug users to inject illicit drugs under the supervision of medical professionals who could intervene in cases of overdose. Providers on site would also be tasked with directing users towards treatment as well as ensuring clean needles and hygiene to prevent infection. This is something that we can do now, and it is something that will save lives. Now, I know the solutions that I've proposed here today will not be supported by everyone, but when we see an increase in problems faced by people who use illegal drugs unsafely, surely this is something we have to consider. 

I'll close my contribution this afternoon by sharing a memory, and it isn't a pleasant memory. During the mid 1990s I worked for the probation service, and, in one year, we lost more than a dozen young people to heroin in a small, local probation office. And I remember one particularly harrowing case, where a young woman who had come out of prison had her toddler cling to her body for a whole weekend when she had died. It was absolutely awful. Now that was before we had this Senedd. We have this institution now and surely it's incumbent upon all of us to make sure that something like that doesn't happen again. We can, and so we should.

Diolch. Cynigiaf welliannau Plaid Cymru, ond rwy'n awyddus i ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ganolbwyntio ar welliant 4 yn benodol.

Nawr, mae'r ddadl hon yn amserol oherwydd dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gynnal adolygiad o bolisi cyffuriau, gan gynnwys dewisiadau triniaeth. Yn anffodus, eu penderfyniad rhag llaw oedd peidio ag ystyried materion dad-droseddoli a chyfreithloni yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Nawr, rwyf i o'r farn bod cyfyngu eu hadolygiad yn y fath fodd yn dangos diffyg gwelediad, ac yn debyg iawn o hepgor rhai datrysiadau effeithiol o bosib.

Gadewch inni edrych ar y darlun ym Mhortiwgal, lle maen nhw wedi gwneud yr hyn na ellir ei ddychmygu. Ystyrir bod Portiwgal ar flaen y gad o ran newid o'r frwydr yn erbyn cyffuriau at fodel o leihau niwed, a ddechreuodd yn 2001, ac, o ganlyniad, mae gennym ni ddigon o ddata bellach i wneud gwerthusiad. Nid dad-droseddoli yn llwyr mo hyn. Nid yw bod â chyffuriau yn eich meddiant at ddefnydd personol yn dorcyfraith erbyn hyn. Mae'n parhau i fod yn drosedd weinyddol, y gellir ei chosbi gan gosbau fel dirwyon neu wasanaeth cymunedol. Penderfynir ar y gosb benodol gan y comisiynau ar gyfer darbwyllo yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau, sef paneli rhanbarthol yn cynnwys staff proffesiynol cyfreithiol, iechyd a gwaith cymdeithasol. Yn achos mwyafrif llethol y rhai a gyfeirir at y comisiynau gan yr heddlu, caiff yr achosion yn eu herbyn eu hatal, sy'n golygu i bob pwrpas nad ydyn nhw'n cael unrhyw gosb. Nod y comisiwn yw cael pobl i ddechrau triniaeth yn wirfoddol; ni chânt eu gorfodi i wneud hynny—byddai hynny'n wrthgynhyrchiol.

Prif amcan y polisi oedd mynd i'r afael ag iechyd gynyddol ddifrifol wael y gyfran o'r boblogaeth a oedd yn defnyddio cyffuriau ym Mhortiwgal, yn enwedig y bobl sy'n chwistrellu cyffuriau. Yn y blynyddoedd yn arwain at y diwygio, roedd nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau wedi codi i'r entrychion, ac roedd cyfraddau HIV, AIDS, TB a hepatitis B ac C ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau yn cynyddu'n gyflym iawn. Roedd consensws cynyddol ymysg swyddogion iechyd fod troseddoli ac ymyleiddio pobl sy'n defnyddio cyffuriau yn ychwanegu at y broblem ac y gellid rheoli fframwaith cyfreithiol newydd a mwy gwâr yn well.

Yn ogystal â dad-droseddoli, mae Portiwgal wedi dyrannu mwy o adnoddau ar draws y maes cyffuriau, gan ehangu a gwella ataliad, triniaeth, lleihau niwed a rhaglenni ailintegreiddiad cymdeithasol. Roedd cyflwyno'r mesurau hyn yn cyd-daro ag ehangu'r wladwriaeth les ym Mhortiwgal, a oedd yn cynnwys isafswm incwm gwarantedig. Felly, mae'n debygol nad y dad-droseddoli oedd yr unig reswm am y llwyddiant—mae'n fwy tebygol ei fod o ganlyniad i gyfuniad o bolisïau ar draws pob adran, gan ganolbwyntio ar leihau niwed ac iechyd y cyhoedd. Mae arbrawf Portiwgal wedi bod yn llwyddiant ysgubol—bellach mae cyfraddau defnyddio cyffuriau yn is na'r cyfartaledd Ewropeaidd; mae defnyddio cyffuriau wedi gostwng ymysg rhai rhwng 15 a 24 oed. Mae defnydd cyffuriau gydol oes ymysg y boblogaeth yn gyffredinol wedi cynyddu rhyw ychydig, yn unol â thueddiadau mewn gwledydd cyffelyb. Fodd bynnag, ystyrir mai defnydd gydol oes yw'r mesur lleiaf cywir o sefyllfa defnydd cyffuriau presennol gwlad.

Felly, pam na fyddem ninnau'n gwneud fel hyn? A pham na fyddem ni o leiaf yn cychwyn arni yn hyn o beth o ran yr hyn y gellir ei wneud heddiw? Mae rheswm da iawn o ran iechyd cyhoeddus dros ddarparu amgylchedd mwy diogel i bobl ddefnyddio cyffuriau, megis parthau chwistrellu mwy diogel. Mae'r safleoedd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr cyffuriau chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon dan oruchwyliaeth gweithwyr meddygol proffesiynol sy'n gallu ymyrryd mewn achosion o orddosio. Byddai darparwyr ar y safle yn gyfrifol hefyd am gyfeirio defnyddwyr at driniaeth, yn ogystal â darpariaeth o nodwyddau glân a hylendid i atal heintiau. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth wnaiff achub bywydau. Nawr, rwy'n gwybod yn iawn na fydd pawb sydd yma'n cefnogi'r datrysiadau yr wyf i wedi eu cynnig yma heddiw. Ond pan welwn ni gynnydd yn y problemau a wynebir gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn anniogel, yn sicr fe ddylem ni ystyried hyn.

Rwyf am gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy rannu atgof, ac nid atgof dymunol mohono. Bûm yn gweithio i'r gwasanaeth prawf yn ystod canol yr 1990au, ac, mewn un flwyddyn, collasom dros ddeuddeg o bobl ifanc yn sgil heroin mewn swyddfa brofiannaeth fechan leol. Ac rwy'n cofio un achos arbennig o ddirdynnol, lle'r oedd menyw ifanc a oedd wedi dod allan o'r carchar â'i phlentyn bach yn glynu wrth ei chorff am benwythnos cyfan a hithau'n farw. Roedd hynny'n gwbl erchyll. Roedd hynny cyn bodolaeth y Senedd hon. Mae gennym y sefydliad hwn erbyn hyn, ac onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud yn siŵr nad yw rhywbeth fel hynny byth yn digwydd eto? Gallem, ac fe ddylem.

16:15

I think this is a useful moment to have a look at what we're achieving and what we're not achieving. The threefold increase, nearly, in hospital admissions because of the use of illegal drugs is obviously a cause for concern, and we know that people living in the most deprived areas of Wales are six times more likely to be admitted for drug misuse than in the least deprived areas.

I was puzzled by amendment 1, because it links together drug misuse and alcohol-specific deaths in Wales and there has actually been a reduction in deaths from drug misuse. It's only 4 per cent and, obviously, each death is a tragedy in itself, but, nevertheless, it's important to understand trends.

One of the concerning issues is opioid misuse amongst the older population increasing, and that, if you like, mirrors the use of alcohol in excessive quantities by older people as well. And so there are some clear messages there about things that we're going to need to think about in terms of how we— 

Credaf fod hon yn foment ddefnyddiol i edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei gyflawni a'r hyn nad ydym yn ei gyflawni. Mae'r cynnydd, sydd bron a bod yn driphlyg, yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty oherwydd y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, yn amlwg yn destun pryder, a gwyddom fod pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau na'r rhai o ardaloedd llai difreintiedig.

Synnais wrth weld gwelliant 1, gan ei fod yn cysylltu camddefnyddio cyffuriau a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru â'i gilydd, ac mewn gwirionedd bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau. 4 y cant yn unig yw hyn ac, yn amlwg, mae pob marwolaeth yn drychineb ynddi ei hun, ond, serch hynny, mae'n bwysig ein bod yn deall y tueddiadau.

Un o'r materion sy'n peri pryder yw'r cynnydd yn y camddefnydd o opioid ymhlith y boblogaeth hŷn. Mae hynny, os dymunwch, yn adlewyrchu'r defnydd gormodol o alcohol gan bobl hŷn hefyd. Felly mae yna rai negeseuon clir yno ynglŷn â'r pethau y mae angen inni feddwl amdanynt o ran sut yr ydym—

Have you looked at the latest published ONS figures, which do show that the figures, on the latest published figures, go up? That's the Office for National Statistics figures.

Ydych chi wedi edrych ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos bod y ffigurau, y rhai diweddaraf a gyhoeddwyd, yn cynyddu? Hynny yw, ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

I haven't, I'm afraid—I've only been looking at this report. So, I appreciate that you may have better figures, but the figures in this report show that there's been a reduction. If you think that, since then, there's been a massive increase in the number of drugs deaths, then that obviously is a matter that we need to take very seriously.

I think—. The landscape has undoubtedly changed in the last 10 years since we launched the drugs strategy. My constituency in particular has suffered considerably from the rise of county lines—people who target the vulnerable, who use those people in order to make very, very large sums of money. So, austerity has created a vacuum that's being filled by criminal gangs. They're coming in from large cities like London, Birmingham and Liverpool and exploiting children and young adults, often with violent coercion, to get them to deal in drugs. And this is pretty terrifying, not just for the people who are involved but for whole communities who may be innocent bystanders who suddenly become victims.

So, drug-related violence in Cardiff has rocketed. Two years ago, three young men stabbed to death another young man, Lynford Brewster, in broad daylight on an estate in Llanedeyrn, in full view of several witnesses who endeavoured to save this young man's life. A year ago this week, a man was shot in the face in a flat in Roath where three others visited him. Happily, he survived, but it must have been terrifying for all the other people living in this block of flats. And a few months later, just two blocks away, another drug dealer, on this occasion, was stabbed through the heart following a drugs deal that had just been completed. Elsewhere in Roath, another resident got himself involved with a cocaine gang because he'd got himself into debt over marijuana, and he was allowing his house to be used to ratchet up £70,000-worth of deals over a small period of time.

Last June, we had to use the resources of the police to arrest people in raids over five days. Hundreds of police were deployed in something called Operation Red Jet, with chainsaws being used to break down the doors of dealers and hundreds of items, including knives, swords and a machete being confiscated—all that resource being spent by our police forces on attempting to deal with a problem that has, frankly, started to get out of control. So, I want to just use the remaining part of my time to urge people to think about prevention and, in particular, to ensure that schools are adequately dealing with this matter and also that youth services are available, particularly in the most vulnerable communities, so that there are trusted adults that young people can turn to if they start to become involved in being asked to sell drugs, because, otherwise, the consequences for young people are very, very serious and it can generally ruin their lives. So, I think we must emphasise the prevention aspect of this to try and ensure that more young people aren't ruining their lives, either by being drug takers but also being drug dealers.

Naddo, mae arnaf ofn—dim ond ar yr adroddiad hwn yr wyf i wedi edrych. Felly,  sylweddolaf fod gennych chi ffigurau gwell, ond mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn dangos bod yna ostyngiad. Os ydych chi'n credu bod cynnydd enfawr yn nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi bod ers hynny, yna yn amlwg mae hwnnw'n fater y mae angen inni ei gymryd o ddifrif.

Yn fy marn i—. Yn ddi-os, mae'r dirwedd wedi newid yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ers inni lansio'r strategaeth gyffuriau. Mae fy etholaeth i yn enwedig wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y Llinellau Cyffuriau—pobl sydd yn targedu rhai sy'n agored i niwed, sy'n defnyddio'r bobl hynny er mwyn gwneud symiau mawr iawn o arian. Felly, mae cyni wedi creu gwagle sy'n cael ei lenwi gan gangiau troseddol. Maen nhw'n dod yma o ddinasoedd mawr fel Llundain, Birmingham a Lerpwl ac yn manteisio ar blant ac oedolion ifanc, hynny'n aml gan ddefnyddio gorfodaeth dreisgar, er mwyn eu perswadio i ddelio mewn cyffuriau. Ac mae hyn yn beth sy'n codi ofn dwys ar bobl, nid yn unig y bobl sy'n ymwneud â hynny ond hefyd ar gymunedau cyfan, a all fod yn gwbl ddiniwed un funud a'r funud nesaf yn ddioddefwyr.

Felly, mae trais sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghaerdydd wedi llamu i fyny. Ddwy flynedd yn ôl, trywanwyd dyn ifanc, Lynford Brewster, i farwolaeth ganol dydd gan dri dyn ifanc arall ar ystad yn Llanedeyrn, a hynny o flaen nifer o dystion a geisiodd  achub ei fywyd. Flwyddyn yn ôl i'r wythnos hon, saethwyd dyn yn ei wyneb mewn fflat yn y Rhath pan ddaeth tri arall i'w weld. Yn ffodus, goroesodd y dyn ond yn amlwg roedd y profiad yn un arswydus i'r holl bobl eraill oedd yn byw yn y bloc hwn o fflatiau. Rai misoedd yn ddiweddarach, dau floc i ffwrdd yn unig, cafodd deliwr cyffuriau y tro hwn, ei drywanu drwy ei galon wedi i fargen cyffuriau gael ei chwblhau. Mewn man arall yn y Rhath, daeth preswylydd arall i gysylltiad â gang oedd yn delio mewn cocên gan ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd ei ddefnydd o mariwana, ac roedd yn rhoi caniatâd i'r gang ddefnyddio ei dŷ er mwyn gwneud gwerth £70,000 o fargeinion dros gyfnod byr o amser.

Fis Mehefin diwethaf, bu'n rhaid inni ddefnyddio adnoddau'r heddlu i arestio pobl mewn cyrchoedd dros bum diwrnod. Defnyddiwyd cannoedd o heddlu mewn cyrch a gafodd ei alw'n Operations Red Line, pan ddefnyddiwyd llifiau cadwyn i dorri drysau'r delwyr a chipio cannoedd o eitemau, yn cynnwys cyllyll, cleddyfau a machete—yr holl adnoddau yna'n cael ei wario gan ein heddluoedd er mwyn ceisio ymdrin â phroblem sydd, a dweud y gwir, wedi dechrau mynd allan o reolaeth. Felly, rwyf am ddefnyddio'r hyn sy'n weddill o fy amser i annog pobl i feddwl am ymatal ac, yn benodol, i sicrhau bod ysgolion yn ymdrin yn ddigonol â'r mater hwn a hefyd bod gwasanaethau ieuenctid ar gael, yn enwedig yn y cymunedau mwyaf agored i niwed, fel bod oedolion cymeradwy y gall pobl ifanc droi atynt os ydynt yn dechrau cael eu tynnu i mewn i gael eu perswadio i werthu cyffuriau. Oherwydd, fel arall, mae'r canlyniadau i bobl ifanc yn ddifrifol iawn ac yn gyffredinol, yn difetha eu bywydau. Felly, credaf fod yn rhaid inni bwysleisio'r agwedd ymatal o hyn er mwyn ceisio sicrhau nad oes rhagor o bobl ifanc yn difetha eu bywydau, naill ai drwy gymryd cyffuriau ond hefyd drwy fod yn werthwyr cyffuriau.

16:20

I welcome the opportunity to contribute to this debate today, and I'm going to focus particularly on alcohol. The report shows some positive changes that have happened over the last 12 months and areas where we certainly could be doing more to help prevent harm from substance misuse, particularly as the report states that the number of alcohol-related deaths rose by 7.1 per cent in 2017, compared to the previous year, and I think that that is a cause for concern. Alcohol is the most widely used substance cited in this report and, arguably, the most harmful on an individual, family, community and societal level. It causes harm through ill health, both physical and mental, it causes accidents, and it is the basis for much violent crime. But I was alarmed to learn recently that Drinkaware, an alcohol education charity that works with public health bodies to raise awareness about alcohol use and responsible drinking, is supported by donations from the drinks industry. Last year, the UK Government's adviser, Sir Ian Gilmore, resigned over Public Health England's decision to work with Drinkaware for their Drink Free Days campaign, and that campaign urged drinkers between the age of 45 and 65 to have regular days off drinking. He said, and I agree, that it was incompatible for a body that is putting out public health advice to be funded by the alcohol industry. And I have to say that I would go as far as to say that I think it's unethical.

Of course people have the right to choose how much they drink, but I do believe that the alcohol education information that they receive should at least come from an indep