National Assembly for Wales

Y Cyfarfod Llawn



Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
1. Questions to the Cabinet Secretary for Economy and Transport

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.

The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Economy and Transport, and the first question is from Rhun ap Iorwerth.

Busnesau Bach Ynys Môn
Small Businesses on Ynys Môn

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach Ynys Môn? OAQ53006

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the support that is available for small businesses on Ynys Môn? OAQ53006

Diolch yn fawr iawn. In line with our economic action plan, we remain committed to supporting small businesses through the Business Wales service, which of course offers bilingual advice and support to start and to grow businesses. And, in addition, we are providing help for small businesses to get ready for Brexit, with a dedicated £7.5 million Brexit business resilience package.

Diolch yn fawr iawn. Yn unol â 'n cynllun gweithredu economaidd, rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi busnesau bach drwy wasanaeth Busnes Cymru, sydd wrth gwrs yn cynnig cyngor dwyieithog a chymorth i ddechrau a thyfu busnesau. Ac yn ogystal, rydym yn darparu cymorth i fusnesau bach baratoi ar gyfer Brexit, gyda phecyn cydnerthu busnes Brexit pwrpasol gwerth £7.5 miliwn.

Diolch yn fawr iawn i chi am yr ymateb yna. Mae hi'n Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ddydd Sadwrn yma. Rwy'n annog pobl yn fy etholaeth i i ddangos eu cefnogaeth i fusnesau bach ym Môn ac i'r stryd fawr y penwythnos yma, ond hefyd i wneud ymrwymiad i wneud hynny rownd y flwyddyn, oherwydd mae busnesau bach a'r stryd fawr mor hanfodol o ran cryfder ein heconomi ni ond hefyd yn hanfodol yn gymdeithasol. A wnewch chi ymrwymo i weithredu argymhellion diweddar—fel rydym wedi ei weld yn adroddiad Ffederasiwn Busnesau Bach ar ddyfodol ein trefi, ac adroddiadau tebyg—sy'n gosod her i lywodraeth, mewn difrif, i ddod â chyfres o bolisïau ac i weithredu mewn ffordd sy'n profi bod y stryd fawr, a busnesau bach yn gyffredinol, yn haeddu blaenoriaeth lawn?

Thank you very much for that reply. It is Small Business Saturday this Saturday, and I encourage people in my own constituency to show their support for small businesses in Ynys Môn, and to their local high street this week, but also to make a commitment to do that year round, because small businesses and the high street are so crucially important in terms of the strength of our economy, but they are also socially crucial. Will you commit to implementing the recent recommendations—as we have seen in the report by the Federation of Small Businesses on the future of our towns and in similar reports—that pose a challenge to Government, if truth to be told, to bring a series of policies forward and to operate in a way that proves that the high street, and small businesses more generally, do deserve full priority?

Well, can I thank the Member for his question? I'd agree entirely that it's incumbent upon us all to use small businesses, particularly in the retail sector, in our town centres and on our high streets, as much of the time as we can, and not just at Christmas. But I would encourage people to take advantage of Small Business Saturday and, of course, to promote the day as well in advance.

Now, retail has become one of the four sectors that are part of our new focus on the foundational economy. This is a major step away from the traditional way of economic development work within Welsh Government, as we recognise that a place-based approach to economic development has great advantage for communities across the length and breadth of Wales. Now, there will be an enabling plan for the foundational economy produced in the new year and, of course, there will be recommendations that apply to all four elements of our prioritised work on the foundational economy, which includes care, and it also includes food and drink.

But, with regard to retail, there are specific recommendations, some of which have been captured by the FSB recently in their study, which we are paying close attention to. I think it's fair to say that the future of town centres and the future of high streets will rely on mixed-use, mixed-purpose premises, and also, potentially, a shrinking in many parts of Wales of the size of the high street and the town centre in order to create a vibrant feel. Crucial to all that is ensuring that we have the right opportunities in place for as many redundant shop buildings and as many premises above shops to be utilised for dwellings, because if we had more people living in town centres, there's far more likely to be a vibrant town centre in existence.

Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Buaswn yn cytuno'n llwyr ei bod yn ddyletswydd ar bawb ohonom i ddefnyddio busnesau bach, yn enwedig yn y sector manwerthu, yng nghanol y dref ac ar y stryd fawr, fel y gallwn ei wneud gymaint o'r amser, ac nid ar adeg y Nadolig yn unig. Ond hoffwn annog pobl i fanteisio ar ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ac wrth gwrs, i hyrwyddo'r diwrnod ymlaen llaw.

Nawr, mae manwerthu wedi dod yn un o'r pedwar sector sy'n rhan o'n ffocws newydd ar yr economi sylfaenol. Mae hwn yn gam mawr oddi wrth y dull traddodiadol o wneud gwaith datblygu economaidd yn Llywodraeth Cymru, wrth inni gydnabod bod gan ddull o weithredu datblygu economaidd sy'n seiliedig ar le fantais fawr i gymunedau ledled Cymru. Nawr, cynhyrchir cynllun galluogi ar gyfer yr economi sylfaenol yn y flwyddyn newydd ac wrth gwrs, bydd yn cynnwys argymhellion sy'n berthnasol i bob un o bedair elfen ein gwaith â blaenoriaeth ar yr economi sylfaenol, sy'n cynnwys gofal, ac mae hefyd yn cynnwys bwyd a diod.

Ond o ran manwerthu, ceir argymhellion penodol, ac mae rhai ohonynt wedi'u cynnwys gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yn ddiweddar yn eu hastudiaeth, ac rydym yn rhoi sylw manwl iddi. Credaf ei bod yn deg dweud y bydd dyfodol canol y dref a'r stryd fawr yn dibynnu ar safleoedd defnydd cymysg, amlbwrpas, a hefyd, o bosibl, ar grebachu maint y stryd fawr a chanol y dref mewn sawl rhan o Gymru er mwyn creu naws fywiog. Yn allweddol i hyn i gyd rhaid sicrhau bod gennym gyfleoedd cywir yn eu lle ar gyfer defnyddio cynifer o adeiladau siopau gwag a chymaint o  safleoedd uwchben siopau fel anheddau, oherwydd pe bai gennym fwy o bobl yn byw yng nghanol trefi, mae canol y dref yn llawer mwy tebygol o fod yn fywiog.

The Holyhead infrastructure prospectus, summarising opportunities for jobs, growth and investment on Anglesey, said that there's a need to complete the enabling projects detailed in the report prior to the private sector investment, otherwise opportunities cannot be maximised. Earlier this year, the Economy, Infrastructure and Skills Committee report on enterprise zones stated,

'InAnglesey, the Committee heard that there was a shortage of units for small businesses.'

In your response, you said you'd be seeking advice from the Development Bank of Wales on this. What further action have you been able to take since we debated this in July?

Roedd prosbectws seilwaith Caergybi, wrth grynhoi cyfleoedd ar gyfer swyddi, twf a buddsoddiad ar Ynys Môn, yn dweud bod angen cwblhau'r prosiectau galluogi y manylir arnynt yn yr adroddiad cyn buddsoddiad y sector preifat, neu fel arall ni ellir manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd. Yn gynharach eleni, nodai adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau,

Yn Ynys Môn, clywodd y Pwyllgor fod prinder unedau ar gyfer busnesau bach.

Yn eich ymateb, fe ddywedoch chi y byddech yn gofyn am gyngor gan Banc Datblygu Cymru ar hyn. Pa gamau pellach y gallasoch eu rhoi ar waith ers inni drafod hyn ym mis Gorffennaf?

Well, I'm delighted to be able to announce that we have allocated funding for the creation of a new enterprise hub, which will be based at M-SParc. There will also be a spoke from that enterprise hub located in Llangefni. The Member is aware of the enterprise hub that's been operational now for approximately a year in Wrexham. That is aiming to create 100 new businesses, and progress is quite astonishing there. We're hoping that similar success will be recorded at the M-SParc enterprise hub and at the spoke in Llangefni. But there is no doubt that, whether it's for small or medium- or large-sized businesses, there is a great need and huge demand for new, modern space for businesses to start up in and to grow in, and that's why we're looking, as part of the regional work that's now taking place, again at a move away from sectors towards place-based regional economic development. We're looking at regional plans that can identify opportunities to bring redundant buildings back into use, and also opportunities to develop new space—not just office but also industrial and retail space—where there is obvious demand. 

Wel, rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi ein bod wedi dyrannu arian ar gyfer creu canolfan fenter newydd wedi'i lleoli yn M-SParc. Hefyd, bydd cangen o'r ganolfan fenter wedi'i lleoli yn Llangefni. Mae'r Aelod yn gwybod am y ganolfan fenter sydd wedi bod ar waith bellach ers tua blwyddyn yn Wrecsam. Mae honno'n anelu i greu 100 o fusnesau newydd, ac mae'r cynnydd yn eithaf syfrdanol yno. Rydym yn gobeithio y bydd llwyddiant tebyg yn cael ei gofnodi yng nghanolfan fenter M-SParc a'r gangen yn Llangefni. Ond nid oes unrhyw amheuaeth, boed ar gyfer busnesau bach neu ganolig neu fawr eu maint, mae mawr angen a galw enfawr am ofod newydd, modern i fusnesau ddechrau a thyfu ynddynt, a dyna pam rydym yn edrych eto, fel rhan o'r gwaith rhanbarthol sy'n digwydd yn awr, ar symud oddi wrth sectorau tuag at ddatblygu economaidd rhanbarthol sy'n seiliedig ar le. Rydym yn edrych ar gynlluniau rhanbarthol sy'n gallu nodi cyfleoedd i ailddefnyddio adeiladau segur, a mwy o gyfleoedd hefyd i ddatblygu gofod newydd—nid gofod swyddfa yn unig ond gofod diwydiannol a manwerthu hefyd—lle y ceir galw amlwg.

Diwygiadau i'r Cod Priffyrdd
Revisions to the Highway Code

2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth y DU am ddiwygiadau i'r Cod Priffyrdd? OAQ52992

2. What discussions has the Cabinet Secretary had with the UK Department for Transport on revisions to the Highway Code? OAQ52992

I'm sure the member will appreciate that the highway code is not devolved and it is, of course, still the responsibility of the UK Government. But, my officials do meet regularly with the Department for Transport's officials on road safety and active travel matters, and they'll look to work with them on their review of the highway code.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli nad yw rheolau’r ffordd fawr wedi'u datganoli ac wrth gwrs, maent yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Ond mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion yr Adran Drafnidiaeth ar faterion diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol a’u bwriad yw gweithio gyda hwy wrth iddynt adolygu rheolau’r ffordd fawr.

The UK Government announced in October that it is going to review the highway code guidance on how road users should behave in relation to cyclists and pedestrians. And it's going to highlight the dangers of close passing and encourage people to adopt the Dutch reach—a method of opening a car door with the hand furthest from the handle, to force drivers to look over their shoulders for passing traffic. I think these are very welcome developments. So, what can the Welsh Government do to help highlight these guidelines, which I think would be easy to adopt, as long as people know about them and do follow them? And what can the Welsh Government do to raise awareness about these with people in Wales?

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Hydref y bydd yn adolygu canllawiau rheolau’r ffordd fawr ar sut y dylai defnyddwyr ffyrdd ymddwyn mewn perthynas â beicwyr a cherddwyr. A bydd yn tynnu sylw at beryglon pasio agos, ac yn annog pobl i fabwysiadu dull yr Iseldiroedd—dull o agor drws car gyda'r llaw sydd bellaf oddi wrth y llyw, i orfodi gyrwyr i edrych dros eu hysgwyddau am draffig sy’n pasio. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau sydd i’w croesawu’n fawr. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i dynnu sylw at y canllawiau hyn a fyddai'n hawdd eu mabwysiadu yn fy marn i, cyn belled â bod pobl yn gwybod amdanynt ac yn eu dilyn? A beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r rhain ymhlith pobl yng Nghymru?

I think Julie Morgan raises a really important point. Although I consider myself something of a competent cyclist, one of the things that I worry about most when I'm cycling in an urban environment, or indeed when I'm running where there are no pavements, is the possibility that somebody will open a car door, particularly when I'm cycling. And this is something of a constant concern. Now, if I'm feeling that as a competent cyclist, I imagine that the concern is even more intense for a beginner. And, so, I have to say I'm very impressed by the number of responses to the consultation that is taking place. I believe that there are more than 14,000 responses to the consultation, which followed the call for evidence from the Department for Transport, and what is called the 'Dutch reach', I think, has been raised by a significant number of people. I'd be keen to see the Dutch reach approach adopted within the highway code, but I'm also keen to look at other areas to improve cyclists' safety on the roads, including, for example, Operation Snap that has been exercised by police forces in Wales. They were the first to pioneer a new approach to processing dashcam recordings of dangerous driving, which includes dangerous passing, and what it enables them to do, through management on an all-Wales basis, is to advise drivers when they are not driving safely and also to penalise them when they are proven to be driving unsafely or when they are not paying due attention, or due regard, to cyclists on the roads. 

So, I think the Dutch reach is another component, and another, if you like, weapon in our armoury in improving road safety, particularly for cyclists. And, given that we are soon to invest record sums in active travel, I think an intervention through the highway code of this form would complement our financial and investment interventions. 

Rwy'n credu bod Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn. Er fy mod yn ystyried fy hun yn feiciwr go gymwys, un o'r pethau rwy’n poeni amdanynt fwyaf pan fyddaf yn beicio mewn amgylchedd trefol, neu'n wir pan fyddaf yn rhedeg lle nad oes palmentydd, yw'r posibilrwydd y bydd rhywun yn agor drws car, yn enwedig pan fyddaf yn beicio. Ac mae'n rhywbeth sy'n peri pryder cyson. Nawr, os ydw i'n teimlo felly a minnau’n feiciwr cymwys, rwy'n dychmygu bod y pryder hyd yn oed yn fwy i ddechreuwr. Ac felly, mae'n rhaid imi ddweud bod nifer yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd ar y gweill wedi creu argraff fawr arnaf. Credaf fod mwy na 14,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dilyn yr alwad am dystiolaeth gan yr Adran Drafnidiaeth, ac rwy’n credu bod yr hyn a elwir yn ddull yr Iseldiroedd o agor drws car wedi'i grybwyll gan nifer sylweddol o bobl. Buaswn yn awyddus i weld dull yr Iseldiroedd yn cael ei fabwysiadu yn rheolau’r ffordd fawr, ond rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar feysydd eraill i wella diogelwch beicwyr ar y ffyrdd gan gynnwys, er enghraifft, Ymgyrch Snap sydd wedi'i rhoi ar waith gan heddluoedd Cymru. Hwy oedd y cyntaf i arloesi gyda dull newydd o brosesu recordiadau dashcam o yrru peryglus, sy'n cynnwys pasio peryglus, a'r hyn y mae'n eu galluogi i’w wneud drwy reolaeth ar sail Cymru gyfan yw cynghori gyrwyr pan nad ydynt yn gyrru'n ddiogel, a'u cosbi hefyd pan brofir eu bod yn gyrru'n anniogel neu lle nad ydynt yn talu sylw dyledus i feicwyr ar y ffyrdd.

Felly, rwy'n credu bod dull yr Iseldiroedd o agor drws car yn elfen arall, ac yn arf arall, os hoffech, ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i feicwyr. Ac o ystyried ein bod yn mynd i fuddsoddi symiau mwy nag erioed o’r blaen mewn teithio llesol gyda hyn, credaf y byddai ymyrraeth o’r fath drwy reolau’r ffordd fawr yn ategu ein hymyriadau ariannol a’n buddsoddiadau.

There are concerns, Cabinet Secretary, that electric vehicles could cause more accidents on our roads due to being so quiet. Do you think there is a need for a revision in the highway code in this area?

Ysgrifennydd y Cabinet, ceir pryderon y gallai cerbydau trydan achosi mwy o ddamweiniau ar ein ffyrdd oherwydd eu bod mor dawel. A ydych chi'n credu bod angen diwygio rheolau’r ffordd fawr yn hyn o beth?

I think there possibly is a need for revision, and I think manufacturers themselves are rightly looking at ways, because of the lack of sound, of course—and a lot of pedestrians, particularly pedestrians who will perhaps be using their phones, inappropriately it has to be said, because we should all pay due attention to what's happening around us when we're walking on the roadside—. Manufacturers are taking the issue seriously of the lack of noise emitted from electric vehicles, and, working through the Wales Automotive Forum, I'm keen to make sure that, as we see the number of electric vehicles rolled out on Welsh roads, they're rolled out in a way that ensures that passenger and pedestrian safety is maximised, and that includes, of course, cyclists. 

Rwy'n credu y gallai fod angen diwygio, ac rwy'n credu bod gweithgynhyrchwyr eu hunain yn briodol iawn yn edrych am ffyrdd o wneud hynny, oherwydd y diffyg sŵn, wrth gwrs—ac mae llawer o gerddwyr, yn enwedig cerddwyr a fydd efallai'n defnyddio eu ffonau, yn amhriodol mae'n rhaid dweud, oherwydd dylai pawb ohonom roi sylw dyladwy i'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas pan fyddwn yn cerdded ar ochr y ffordd—. Mae gweithgynhyrchwyr o ddifrif ynglŷn â diffyg sŵn cerbydau trydan, a chan weithio drwy Fforwm Modurol Cymru, wrth i ni weld nifer o gerbydau trydan yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd Cymru, rwy’n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr fod cymaint â phosibl o ddiogelwch i deithwyr a cherddwyr, ac mae hynny’n cynnwys beicwyr wrth gwrs.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from Party Spokespeople

The Minister for culture is not here to answer the question that was expected to be asked at this point, so I will reorder them temporarily and ask Rhun ap Iorwerth to ask his question to the Cabinet Secretary. 

Nid yw'r Gweinidog diwylliant yma i ateb y cwestiwn y disgwylid iddo gael ei ofyn ar y pwynt hwn, felly fe wnaf eu hail-drefnu dros dro a gofyn i Rhun ap Iorwerth ofyn ei gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch yn fawr.

I'm sure you don't need me to update you on the situation on the railways in Wales this morning, but I'll run through some of the latest problems of Transport for Wales lines: Aberystwyth to Shrewsbury trains cancelled again; Blaenau Ffestiniog to Llandudno, all trains replaced by a bus; Wrexham Central to Bidston, services affected; Swansea services to Pembroke Dock, Milford Haven and Fishguard disrupted; continued reduced services on Cardiff-Valleys lines, and so on. It's not acceptable. The first words on the statement on the front page of the Transport for Wales rail website today is, 'We apologise'. We still haven't heard that from Government. Would you like to take that opportunity now?

Diolch yn fawr.

Rwy'n siŵr nad oes angen i mi eich hysbysu ynglŷn â’r sefyllfa ar y rheilffyrdd yng Nghymru y bore yma, ond fe af drwy rai o’r problemau diweddaraf ar reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Trenau Aberystwyth i Amwythig wedi’u canslo eto; Blaenau Ffestiniog i Landudno, gwasanaeth bysiau yn lle’r holl drenau; gwasanaethau Wrecsam Canolog i Bidston wedi’u heffeithio; tarfu ar wasanaethau Abertawe i Ddoc Penfro, ac Aberdaugleddau ac Abergwaun. llai o wasanaethau ar reilffyrdd y Cymoedd i  Gaerdydd o hyd, ac yn y blaen. Nid yw'n dderbyniol. Y geiriau cyntaf yn y datganiad ar dudalen flaen gwefan rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru heddiw yw, 'Rydym yn ymddiheuro'. Nid ydym wedi clywed hynny gan y Llywodraeth o hyd. A hoffech chi fanteisio ar y cyfle i wneud hynny yn awr?


Well, TFW, as the managing and operator partner for Welsh Government, would like to apologise, but I think it also needs to be recognised that, in a very short space of time, Transport for Wales have worked incredibly hard to bring a number of trains back into use. Normally, we operate at about 80 per cent of the entire fleet. There are 127 trains in the fleet, so normally we'd be operating at around about 105, with the remaining trains in for servicing and maintenance. I can tell the Member that, as of this morning, the number was up to 96. We're therefore operating at around about 76 per cent. It will return to normal—back to the 80 per cent—within a few weeks, but I think it should also be noted that the cause of this problem—and I do appreciate passengers' patience during this difficult time—is that we inherited a fleet of trains that have been very poorly maintained, which we did not have full and proper access to ahead of inheriting them, and that, along with Storm Callum, and taking over the franchise in the autumn period, presented huge challenges for Transport for Wales and the operator and the delivery partner.

We're also looking into the reasons why this issue affected Wales—the Wales and borders network—more than other parts of the UK. What we have found, and I think I said this in the Chamber last week, is that none of the rolling stock—none of the trains—on our franchise are operating with wheel-slide protection. This is significant because trains across the rest of the UK have been operating with that protection. What we have now learnt is that, potentially, the problems were worsened in Wales because in the absence of wheel-slide protection and as a consequence of a decision taken in 2016—and this is across the UK—to stop applying sand to rails, it meant that the traction on Welsh rail lines has been worse this autumn. So, that's been another significant contributing factor. 

I met this morning with Sir Peter Hendy, the chair of Network Rail, and I also met, again, for the third time, with the chief executive officer of Transport for Wales. I received the latest update on services, and, as I say, there have been improvements—significant improvements—in the space of a week, with more than 10 per cent of the trains now having been brought back into use, but this remains a very challenging period due to the dreadful underinvestment in our rail network over the past 15 years.

Wel, fe hoffai Trafnidiaeth Cymru ymddiheuro, fel y partner rheoli a gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, ond credaf fod angen cydnabod hefyd, mewn cyfnod byr iawn o amser, fod Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio'n hynod o galed i ddod â nifer o drenau’n ôl i ddefnydd. Fel arfer, rydym yn gweithredu ar lefel o tua 80 y cant o'r fflyd gyfan. Mae 127 o drenau yn y fflyd, felly fel rheol, byddem yn gweithredu tua 105 ohonynt gyda'r trenau sy'n weddill i mewn i gael gwaith cynnal a chadw wedi’i wneud arnynt. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fod y nifer i fyny i 96 y bore yma; rydym felly'n gweithredu ar lefel o tua 76 y cant. Bydd yn dychwelyd i'r lefel arferol—yn ôl i'r 80 y cant—o fewn ychydig wythnosau, ond credaf y dylid nodi hefyd mai achos y broblem hon—ac rwy’n gwerthfawrogi amynedd y teithwyr yn ystod yr amser anodd hwn—yw ein bod wedi etifeddu fflyd o drenau nad ydynt wedi cael eu cynnal a’u cadw’n dda o gwbl, ac ni chawsom fynediad llawn a phriodol atynt cyn i ni eu hetifeddu ac arweiniodd hynny, ynghyd â storm Callum, a mabwysiadu’r fasnachfraint yn ystod yr hydref, at greu heriau enfawr i Trafnidiaeth Cymru a’r gweithredwr a'r partner cyflawni.

Rydym hefyd yn edrych ar y rhesymau pam yr effeithiodd y mater hwn ar Gymru—rhwydwaith Cymru a’r gororau—yn fwy na rhannau eraill o'r DU. Yr hyn a welsom, a chredaf fy mod wedi dweud hyn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yw nad oes yr un o'r cerbydau—yr un o'r trenau—yn ein masnachfraint yn gweithredu gydag amddiffyniadau i atal olwynion rhag llithro. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd bod trenau ar draws gweddill y DU wedi bod yn gweithredu gyda'r amddiffyniadau hynny. Rydym wedi dysgu bellach fod y problemau, o bosibl, wedi gwaethygu yng Nghymru oherwydd, heb yr amddiffyniadau hynny i’r olwynion, ac o ganlyniad i benderfyniad a wnaed yn 2016—a hyn ar draws y DU—i roi'r gorau i osod tywod ar reilffyrdd, golygai fod tyniant ar reilffyrdd Cymru wedi bod yn waeth yr hydref hwn. Felly, mae hwnnw wedi bod yn ffactor arall sy'n cyfrannu'n sylweddol at y broblem. 

Y bore yma cyfarfûm â Syr Peter Hendy, cadeirydd Network Rail a chyfarfûm, unwaith eto, am y trydydd tro, â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru. Cefais y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, ac fel rwy’n dweud, mae gwelliannau wedi bod—gwelliannau sylweddol—o fewn wythnos, gyda mwy na 10 y cant o'r trenau bellach yn ôl mewn defnydd, ond mae hon yn parhau i fod yn adeg heriol iawn, oherwydd y tanfuddsoddi ofnadwy yn ein rhwydwaith rheilffyrdd dros y 15 mlynedd diwethaf.

Thank you very much, and we've heard that explanation and we know that there are problems with the trains. Let me ask you this question, though: as a partner in the delivery of rail services in Wales, when Arriva Trains Wales was the franchise holder, did Welsh Government take its eye off the ball in terms of not gauging and not monitoring properly the state of rail in Wales, if it's as bad as you now say it is?

Diolch yn fawr iawn, ac rydym wedi clywed yr eglurhad hwnnw ac rydym yn gwybod bod yna broblemau gyda'r trenau. Fodd bynnag, gadewch imi ofyn y cwestiwn hwn i chi: fel partner yn darparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, pan oedd Trenau Arriva Cymru yn ddeiliad y fasnachfraint, a wnaeth Llywodraeth Cymru dynnu ei llygad oddi ar y bêl o ran peidio â mesur a pheidio â monitro cyflwr y rheilffyrdd yng Nghymru yn briodol, os yw mor ddrwg ag y dywedwch yn awr?

Can I just, again, for the purpose of clarity, outline that there were very few—? First of all, the standards of the delivery of the services were too low, because the contract that was agreed 15 years ago was not fit for purpose, and so, essentially, Arriva Trains Wales had a lower bar to get over. We had no levers at our disposal, no powers and no way of compelling Arriva Trains Wales to up the bar to improve the standard of service, and that includes maintenance. So, in particular in the period leading up to the transfer of the franchise, there was no commercial incentive for Arriva Trains Wales to invest in maintenance over and above what was essential through law. If I can put it this way, it’s a bit like when you buy a used car. You buy a used car knowing that the previous owner may not have maintained it as well as you would have liked them to. And so, what you do is inspect it, and you will factor into it the possibility of having to get new brakes or new tyres, but you inspect it.

The problem with the transfer of the franchise was that Transport for Wales were not given full and proper access to the entire fleet to be able to gauge the condition of it. However, what they did do was make sure that there were enough wheel sets in place. This is part and parcel of the problem right now. The wheel sets were flattened as a consequence of the lack of traction. So, they ordered a sufficient number of wheel sets, but it still takes time to take the trains off the rails and apply the new wheel sets to them.

A gaf fi, unwaith eto, amlinellu er eglurder mai ychydig iawn o—? Yn gyntaf oll, roedd y safonau ar gyfer darparu gwasanaethau yn rhy isel, oherwydd nid oedd y contract a gytunwyd 15 mlynedd yn ôl yn addas at y diben, ac felly, yn y bôn, roedd y bar yn llawer is i Trenau Arriva Cymru. Nid oedd gennym unrhyw ddulliau ar gael i ni, dim pwerau nac unrhyw fodd o orfodi Trenau Arriva Cymru i godi'r bar a gwella safon y gwasanaeth, ac mae hynny'n cynnwys cynnal a chadw. Felly, yn enwedig yn y cyfnod yn arwain at drosglwyddo'r fasnachfraint, nid oedd unrhyw gymhelliant masnachol i Trenau Arriva Cymru fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw y tu hwnt i'r hyn a oedd yn hanfodol yn gyfreithiol. Os caf ei roi fel hyn, mae'n debyg i pan fyddwch yn prynu car ail law. Rydych yn prynu car ail law gan wybod efallai na fydd y perchennog blaenorol wedi gofalu amdano cystal ag y byddech chi wedi hoffi iddynt wneud. Ac felly, rydych yn ei archwilio, ac fe fyddwch yn ystyried y posibilrwydd o orfod cael breciau newydd neu deiars newydd, ond fe fyddwch yn ei archwilio.

Y broblem gyda throsglwyddo'r fasnachfraint oedd na chafodd Trafnidiaeth Cymru fynediad llawn a phriodol at y fflyd gyfan i allu archwilio ei chyflwr. Fodd bynnag, yr hyn a wnaethant oedd gwneud yn siŵr fod digon o setiau olwynion yn eu lle. Dyma yw craidd y broblem ar hyn o bryd. Roedd y setiau olwynion wedi'u fflatio o ganlyniad i ddiffyg tyniant. Felly, fe wnaethant archebu nifer ddigonol o setiau olwyn, ond mae'n dal i gymryd amser i dynnu'r trenau oddi ar y cledrau a gosod setiau olwynion newydd arnynt.

You do provide these reasons, and I'm no rail engineer, so I can't question those details. What I can question though is: what monitoring, what scrutiny, was going on of what Arriva was doing when it was holding the franchise in Wales by Welsh Government? Will you be pursuing Arriva, for example, for the state of the trains as they were left to you as Transport for Wales? And, listen, I want Transport for Wales Rail to succeed. We all want a better rail service for Wales. But can you answer this question: were you ready for the transfer?

Rydych yn rhoi'r rhesymau, ac nid wyf yn beiriannydd trenau, felly ni allaf amau'r manylion. Er hynny, gallaf ofyn hyn: pa waith monitro, pa graffu, oedd yn digwydd gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn roedd Arriva yn ei wneud pan oedd yn dal y fasnachfraint yng Nghymru? A fyddwch yn mynd ar ôl Arriva, er enghraifft, ynglŷn â chyflwr y trenau fel y cawsant eu gadael i chi fel Trafnidiaeth Cymru? A gwrandewch, rwyf eisiau i Trafnidiaeth Cymru lwyddo. Mae pawb ohonom eisiau gwasanaeth trên gwell i Gymru. Ond a allwch ateb y cwestiwn hwn: a oeddech chi'n barod ar gyfer y trosglwyddiad?


We were ready for the transfer as much as we could be ready. But I must press again the point that the contract that's been operating for the last 15 years was a dreadful contract, with a very low base and a very low bar for them to get over. We have improved the contract considerably this time around. Let me put it this way as well: had we not proceeded with the new franchise agreement, we would have had an extension to the Arriva Trains Wales agreement, so there wouldn't have been the commitment to £800 million of new rolling stock, of new trains; there wouldn't have been the commitment of £200 million to station improvements; we wouldn't be getting new trains in the next few years, and we wouldn't be seeing the Pacers removed next year; we wouldn't be seeing a huge increase in capacity in the coming years as well. Instead, what we would have had is that very low bar applied from the 2003 agreement.

Monitoring did take place, and Arriva Trains Wales, based on the performance matrix, was reaching an acceptable standard, but that standard, in our view, was too low. And I'm on record time and time again saying that that contract dating back to 2003 was not fit for purpose. And now we are seeing the consequences of it. But, equally—equally—through the plans that are put in place, Transport for Wales, the operator and development partner, are addressing them at incredible speed, working 24/7 to make sure that as many trains get back on the rails as possible.

Roeddem mor barod ag y gallem fod ar gyfer y trosglwyddiad. Ond rhaid imi bwysleisio'r pwynt eto fod y contract a fu'n weithredol dros y 15 mlynedd diwethaf yn gontract ofnadwy, gyda sylfaen isel iawn a bar isel iawn. Rydym wedi gwella'r contract yn sylweddol y tro hwn. Gadewch imi ei roi yn y ffordd hon hefyd: pe na baem wedi bwrw ymlaen â chytundeb masnachfraint newydd, byddem wedi gweld cytundeb Trenau Arriva Cymru yn cael ei estyn, felly ni fyddai ymrwymiad wedi'i wneud i £800 miliwn o gerbydau newydd, o drenau newydd; ni fyddai ymrwymiad wedi bod i roi £200 miliwn tuag at wella gorsafoedd; ni fyddem yn cael y trenau newydd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac ni fyddem yn gweld y trenau Pacer yn cael eu dirwyn i ben y flwyddyn nesaf; ni fyddem yn gweld cynnydd enfawr yn y capasiti yn y blynyddoedd nesaf ychwaith. Yn hytrach, yr hyn y byddem wedi'i gael fyddai'r bar isel iawn a osodwyd ar gyfer cytundeb 2003.

Roedd gwaith monitro yn digwydd, ac roedd Trenau Arriva Cymru, yn seiliedig ar y matrics perfformiad, yn cyrraedd safon dderbyniol, ond roedd y safon honno'n rhy isel yn ein barn ni. Ac fe'm cofnodwyd yn dweud dro ar ôl tro nad oedd y contract a oedd yn dyddio'n ôl i 2003 yn addas i'r diben. Ac yn awr rydym yn gweld canlyniadau hynny. Ond yn yr un modd—yn yr un modd—drwy'r cynlluniau sydd wedi eu rhoi ar waith, mae Trafnidiaeth Cymru, y gweithredwr a'r partner datblygu, yn mynd i'r afael â hwy ar gyflymder anhygoel, gan weithio 24/7 i sicrhau bod cynifer o drenau ag y bo modd yn cael eu rhoi'n ôl ar y cledrau.

The Minister for culture is now in the Chamber to answer the question by David Melding. I'm sure he will want to apologise to David Melding for being late in being here to answer the question. David Melding.

Mae'r Gweinidog diwylliant yn y Siambr yn awr i ateb y cwestiwn gan David Melding. Rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i ymddiheuro i David Melding am fod yn hwyr i fod yma i ateb y cwestiwn. David Melding.

Diolch yn fawr, Llywydd. What is the Welsh Government doing to increase sport participation for children in deprived areas in Wales?

Diolch yn fawr, Lywydd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu ymwneud plant mewn chwaraeon yn ardaloedd difreintiedig Cymru?

I'm very grateful for that question, and I do apologise that I was not here earlier. We are working with Sport Wales as our main agency to ensure that priority is given, both for areas of deprivation and also for age groups where there is a lack of engagement with physical activity. The issue of lack of engagement in physical activity applies throughout the age cycle, regrettably. Some 32 per cent of people in Wales are inactive, and what we are trying to do is work through, with the sports council, and indeed with the Cabinet Secretary for Education, to ensure that the national curriculum and the new development in the curriculum lead to a greater level of physical activity throughout life.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yma yn gynharach. Rydym yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru fel ein prif asiantaeth i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd difreintiedig ac i grwpiau oedran hefyd lle nad yw pobl yn cymryd digon o ran mewn gweithgarwch corfforol. Mae problem diffyg ymwneud mewn gweithgarwch corfforol yn berthnasol drwy gydol y cylch oedran, yn anffodus. Mae tua 32 y cant o bobl Cymru yn anweithgar, ac rydym yn ceisio gweithio gyda'r Cyngor Chwaraeon, ac yn wir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i sicrhau bod y cwricwlwm cenedlaethol a datblygiadau newydd yn y cwricwlwm yn arwain at lefel uwch o weithgarwch corfforol gydol oes.

Can I thank the Minister for that answer? And can I also commend the work of Sport Wales, and the report that was published last week, which at least is looking at the right areas? But it did find that the levels of participation amongst the most deprived children were actually down on where they were last year, and the gap between them and children from wealthier areas—that gap has increased to 13 per cent. And, as we know, even moderate physical activity has been shown to improve a child's skill at maths, reading, improves their memory and well-being. So, these really are key areas. And I just wonder, in response to Sport Wales, what will you be doing, in particular working with local authorities, to ensure that over the next 18 months or so we can see a reversal in the fall in participation rates and a closing of that gap between those children from the most and the least affluent areas?

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac a gaf fi ganmol gwaith Chwaraeon Cymru hefyd, a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sydd o leiaf yn edrych ar y meysydd cywir? Ond fe welais fod y lefelau sy'n cymryd rhan ymhlith y plant mwyaf difreintiedig yn is na'r llynedd mewn gwirionedd, ac mae'r bwlch rhyngddynt a phlant o ardaloedd cyfoethocach—mae'r bwlch hwnnw wedi cynyddu i 13 y cant. Ac fel y gwyddom, dangoswyd bod gweithgarwch corfforol cymedrol hyd yn oed yn gwella sgiliau plentyn mewn mathemateg a darllen, yn gwella'u cof a'u lles. Felly, mae'r rhain yn feysydd allweddol. Ac roeddwn yn meddwl, mewn ymateb i Chwaraeon Cymru, tybed beth fyddwch chi'n ei wneud, drwy weithio gydag awdurdodau lleol yn enwedig, i sicrhau y gallwn weld gwrthdroi'r gostyngiad yn y cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a chau'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf cefnog a lleiaf cefnog dros y 18 mis nesaf?

Thank you for that further question. This relates, of course, to the Government's more general approach towards issues of obesity and of healthy living. And we are looking to trying to establish within the school experience of young people an understanding that participation in physical activity and in the choice of sports activities in school is the foundation stone for a healthy lifestyle. We are now—. In our work with Sport Wales, we are now being enabled to receive more detailed responses to the effect of our policy, but I am fully aware, and have discussed this with the chief medical officer, that we have, in the younger age group, in primary school, a cohort where we must tackle this issue. But I will certainly report back to the Assembly when we have more information on this point.

Diolch ichi am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae hyn yn ymwneud, wrth gwrs, â dull mwy cyffredinol y Llywodraeth o weithredu ar broblemau gordewdra a byw'n iach. Ac rydym yn bwriadu ceisio sefydlu dealltwriaeth ym mhrofiad ysgol pobl ifanc fod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac yn y dewis o weithgareddau chwaraeon yn yr ysgol yn garreg sylfaen ar gyfer ffordd o fyw iach. Rydym bellach yn—. Yn ein gwaith gyda Chwaraeon Cymru, rydym bellach yn cael ein galluogi i dderbyn ymatebion mwy manwl i effaith ein polisi, ond rwy'n llwyr ymwybodol, ac wedi trafod hyn gyda'r prif swyddog meddygol, fod gennym gohort yn y grŵp oedran iau, yn yr ysgol gynradd, lle mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Ond byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad pan fydd gennym fwy o wybodaeth ar y pwynt hwn.


I agree with you, Minister, that we need higher participation rates, but I am concerned about that gap that's affecting those from the most deprived communities in particular, and I do think it is an issue for all departments of Government under your direction and co-ordination to look at, because it does need a comprehensive approach—and you've already mentioned health education; it also affects local government and access to safe playing areas—and I just wonder if the Welsh Government might not follow its excellent practice, I think, with the Andrews report, in looking at a particular area—there, culture and heritage—from the point of view of how it can help reduce poverty levels. We do need, I think, to have this type of force to ensure that children that need the most encouragement in terms of their nurture and ability to do well at school through active play and participation in sport—that's the key measure into whether we're successful in our general approach to these issues in, obviously, trying to increase participation in sport for all.

Rwy'n cytuno gyda chi, Weinidog, fod angen cyfraddau cyfranogiad uwch, ond rwy'n bryderus am y bwlch sy'n effeithio ar blant o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn enwedig, ac rwy'n credu ei bod yn broblem y dylai pob un o adrannau'r Llywodraeth sydd o dan eich cyfarwyddyd a'ch cyd-drefniant edrych arni, oherwydd mae angen dull gweithredu cynhwysfawr—ac rydych eisoes wedi crybwyll addysg iechyd; mae hefyd yn effeithio ar lywodraeth leol a mynediad at fannau chwarae diogel—ac roeddwn yn meddwl tybed a all Llywodraeth Cymru ddilyn ei harferion rhagorol, yn fy marn i, gydag adroddiad Andrews, ac edrych ar faes penodol—diwylliant a threftadaeth yno—o safbwynt sut y gall helpu i leihau lefelau tlodi. Rwy'n credu bod angen inni gael y math hwn o rym i sicrhau bod y plant sydd angen fwyaf o anogaeth o ran eu magwraeth a'u gallu i wneud yn dda yn yr ysgol drwy chwarae egnïol a chymryd rhan mewn chwaraeon—dyna'r mesur allweddol o ba mor llwyddiannus yr ydym yn ein hymagwedd gyffredinol tuag at y materion hyn, yn amlwg, wrth geisio cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon i bawb.

We are, indeed, implementing the report on the impact of poverty on participation and the work of Baroness Andrews, and she is assisting us and supporting us in implementing that report, and I'm hopeful that we will have evidence that this implementation is going to be effective, which I will, of course, bring back to the Chamber. Thank you.

Yn wir, rydym yn gweithredu'r adroddiad ar effaith tlodi ar gyfranogiad a gwaith y Farwnes Andrews, ac mae hi'n ein cynorthwyo ac yn ein cefnogi yn y gwaith o weithredu'r adroddiad hwnnw, ac rwy'n obeithiol y cawn dystiolaeth fod y gweithgarwch hwn yn mynd i fod effeithiol, a byddaf yn dod â hynny'n ôl i'r Siambr wrth gwrs. Diolch.

Llefarydd UKIP, David Rowlands.

UKIP spokesperson, David Rowlands. 

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, I was unable to question the First Minister in Plenary yesterday due to time restraints, so perhaps I can use this opportunity to question you along the same lines. Why is there a reluctance to disclose the cost of attracting Aston Martin Lagonda to Wales? 

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ni lwyddais i holi'r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn ddoe oherwydd cyfyngiadau amser, felly efallai y gallaf ddefnyddio'r cyfle hwn i'ch holi ar hyd yr un llinellau. Pam y ceir amharodrwydd i ddatgelu cost denu Aston Martin Lagonda i Gymru?

Can I first of all thank the Member, and all opposition spokespeople, for more than two years of consistent and robust challenge? This is the last OAQs before a new Government is formed, and I know none of the three people who could determine my fate are here today. I imagine they would all remain poker-faced right now, but thank you for your questions and for offering such excellent challenge over the past two and a half years.

I can say to the Member that the reason that we have to maintain the confidence of investors is to ensure that we go on creating as many high-quality jobs as possible and we work with companies to reveal as much information as possible about the support that we're able to offer them, but often it's the case that, due to commercial confidentiality, we're not able to reveal every detail. 

A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r Aelod, a holl lefarwyr y gwrthbleidiau, am fwy na dwy flynedd o her gyson a chadarn? Dyma'r sesiwn gwestiynau olaf cyn y caiff Llywodraeth newydd ei ffurfio, a gwn nad oes yr un o'r tri unigolyn a allai benderfynu fy nhynged yma heddiw. Rwy'n dychmygu na fyddai'r un ohonynt yn bradychu dim ar hyn o bryd, ond diolch ichi am eich cwestiynau ac am gynnig her mor rhagorol dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.

Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai'r rheswm pam fod yn rhaid inni gynnal cyfrinachedd buddsoddwyr yw er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i greu cynifer o swyddi uchel eu safon ag sy'n bosibl a'n bod yn gweithio gyda chwmnïau i ddatgelu cymaint o wybodaeth â phosibl am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig iddynt, ond yn aml, oherwydd cyfrinachedd masnachol, nid ydym yn gallu datgelu pob manylyn.

Well, I thank the Cabinet Secretary for that rather obscure answer. I, for one, will say that I hope you remain in your position after next week, but I'm sure that many in this house and further afield in Wales would say that it would be difficult to put a price on attracting such an iconic motor manufacturer to Wales. Perhaps I'd go as far as to say you would be justified in spending a king's ransom on such an acquisition. So, again, I ask: why this reluctance to give us the figures?

Wel, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ateb braidd yn aneglur. Beth bynnag am bawb arall, fe ddywedaf fi fy mod yn gobeithio y byddwch yn aros yn eich swydd ar ôl yr wythnos nesaf, ond rwy'n siŵr y bydd llawer yn y tŷ hwn ac ymhellach i ffwrdd yng Nghymru yn dweud y byddai'n anodd rhoi pris ar ddenu gwneuthurwr ceir mor eiconig i Gymru. Efallai y buaswn yn mynd mor bell â dweud wrthych y gellid cyfiawnhau gwario crocbris ar gaffaeliad o'r fath. Felly, unwaith eto, rwy'n gofyn: pam yr amharodrwydd i roi'r ffigurau inni?

Again, it's because of the need to maintain investor confidence, and, if we weren't able to utilise non-disclosure agreements or confidentiality clauses, we would, potentially, lose out on investment opportunities, and it may well be that we wouldn't have been able to attract Aston Martin, who were—. Aston Martin carry incredible kudos, and, as a result of us being able to secure the new manufacturing facility in Wales with the DBX and the Lagondas, we've been able to further enhance our reputation as a global centre of excellence for the automotive industry, and that, in turn, during these very difficult times, is very important in order to maintain the best possible prospects for other facilities, for example, at Ford and at Toyota. So, we'll make no apologies for working as closely as possible with businesses in landing huge investment opportunities for Wales and in providing invaluable work for hundreds upon hundreds of skilled Welsh workers.

Unwaith eto, oherwydd yr angen i gynnal cyfrinachedd buddsoddwyr, a phe na baem yn gallu defnyddio cytundebau peidio â datgelu neu gymalau cyfrinachedd, byddem o bosibl yn colli cyfleoedd buddsoddi, ac mae'n dra phosibl na fyddem wedi gallu denu Aston Martin, a oedd—. Mae bri anhygoel i Aston Martin, ac o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi gallu sicrhau'r cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru gyda DBX a Lagondas, rydym wedi gallu gwella ein henw da ymhellach fel canolfan ragoriaeth fyd-eang yn y diwydiant modurol, ac mae hynny, yn ei dro, ar yr adeg hynod anodd hon, yn bwysig iawn er mwyn cadw'r rhagolygon gorau posibl ar gyfer cyfleusterau eraill, er enghraifft, yn Ford a Toyota. Felly, nid ydym yn ymddiheuro am weithio mor agos â phosibl gyda busnesau ar ddenu cyfleoedd buddsoddi enfawr i Gymru a darparu gwaith amhrisiadwy i gannoedd ar gannoedd o weithwyr medrus yng Nghymru.


Well, Cabinet Secretary, I feel I may be echoing some of your sentiments there, but, Cabinet Secretary, is it not time to silence your critics and point out that bringing Aston Martin to Wales opens up the possibility of attracting other iconic names and high-profile companies to invest in Wales? These are the companies that can help bring long-term quality jobs and wealth to the country. Later today, we debate the Economic, Infrastructure and Skills Committee report on selling Wales to the world. What better way is there to reinforce Wales's credentials as an outward-looking progressive country than to have such a prestigious company locate here? So, will you take my advice, Cabinet Minister, which is, quite simply, publish and be damned?

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, teimlaf efallai fy mod yn adleisio rhai o'ch teimladau chi yno, ond Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd tawelu eich beirniaid a nodi bod dod ag Aston Martin i Gymru yn agor y posibilrwydd o ddenu enwau eiconig a chwmnïau proffil uchel eraill i fuddsoddi yng Nghymru? Mae'r rhain yn gwmnïau a all helpu i ddod â swyddi o ansawdd a chyfoeth hirdymor i'r wlad. Yn nes ymlaen heddiw, byddwn yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar werthu Cymru i'r byd. Pa ffordd well sydd yna o atgyfnerthu enw da Cymru fel gwlad flaengar na chael cwmni o'r fath fri yn lleoli yma? Felly, a wnewch chi gymryd fy nghyngor, Weinidog y Cabinet, sef yn syml iawn, cyhoedder ac i gythraul?

Thank you. I will take that advice; I think it's absolutely essential that we promote Wales alongside key flag carriers of the economy. Aston Martin is an obvious one; we could include with that the likes of Airbus, we could include QinetiQ and Raytheon, and many other excellent businesses that showcase advanced manufacturing in the best possible way. There are other businesses in the creative industries and financial and professional services sectors, and many other sectors, that are exemplars around the world. And, equally, there are some incredible home-grown success stories alongside these; the likes of Admiral and Moneypenny really have attracted huge attention around the world and allow Wales to hold its head up high with pride. I would say to those people who have not welcomed the investment by Aston Martin in Wales that perhaps they should show more pride in the outcomes of this Welsh Government. They may not like the Welsh Government, but at least we land the jobs that keep people in employment.

Diolch. Fe gymeraf y cyngor hwnnw; credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn hyrwyddo Cymru ochr yn ochr â chwmnïau allweddol sy'n arwain yr economi. Mae Aston Martin yn un amlwg; gallem gynnwys cwmnïau fel Airbus, gallem gynnwys QinetiQ a Raytheon, a llawer o fusnesau eraill rhagorol sy'n arddangos gweithgynhyrchu uwch yn y ffordd orau bosibl. Ceir busnesau eraill yn y diwydiannau creadigol a'r sectorau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a llawer o sectorau eraill, sy'n dangos esiampl ledled y byd. Ac yn yr un modd, ceir rhai straeon llwyddiant anhygoel a wnaed yma yng Nghymru ochr yn ochr â'r rhain; mae cwmnïau fel Admiral a Moneypenny wedi denu sylw enfawr ledled y byd ac yn galluogi Cymru i ddal ei phen yn uchel gyda balchder. Hoffwn ddweud wrth y bobl nad ydynt wedi croesawu'r buddsoddiad gan Aston Martin yng Nghymru y dylent ddangos mwy o falchder o bosibl yng nghanlyniadau'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Efallai nad ydynt yn hoffi Llywodraeth Cymru, ond rydym o leiaf yn denu'r swyddi sy'n cadw pobl mewn gwaith.

Y Cyflog Byw Go Iawn yn y Sector Preifat
The Real Living Wage in the Private Sector

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd o'r cyflog byw go iawn gan y sector preifat yng Nghymru? OAQ53002

3. Will the Cabinet Secretary make a statement on the take-up of the real living wage by the private sector in Wales? OAQ53002

Yes. Businesses in Wales are actively encouraged to take up the real living wage through our economic contract and the code of practice for ethical employment in supply chains.

Gwnaf. Anogir busnesau yng Nghymru i fanteisio ar y cyflog byw go iawn drwy ein contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

Thank you, Cabinet Secretary. Supporting the real living wage campaign will help tackle low pay, counter the growth of indebtedness and use of food banks and support of fair work economy. It makes economic sense and it's the hallmark of a caring, compassionate and fair society. So, how can the Welsh Government further support more employers in the private sector to become real living wage employers?

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd cefnogi ymgyrch cyflog byw go iawn yn helpu i fynd i'r afael â chyflogau isel, yn atal twf dyled a'r defnydd o fanciau bwyd ac yn cefnogi economi gwaith teg. Mae'n gwneud synnwyr economaidd ac mae'n nodwedd o gymdeithas ofalgar, dosturiol a theg. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo mwy o gyflogwyr yn y sector preifat i ddod yn gyflogwyr cyflog byw go iawn?

It is a fact that more equal countries are happier countries and more contented countries, and, within the workplace, where people are well paid, it's proven that productivity levels are higher. Now, I'm keen to look at the work of the Fair Work Commission, particularly in regard to the economic contract that is now in place. I am looking keenly at the work of the Fair Work Commission because it's my hope that they will recognise that, alongside the incorporation of the real living wage, there is also a role for businesses to deal with the gender pay gap in order to drive a greater degree of equality within the workplace. So, I'll be looking at the work of the Fair Work Commission with a view to implementing their recommendations through the economic contract. But I'm also keen to make sure that the code of practice that I mentioned in my answer is taken up by as many employees as possible, and the recommendations within that code of practice are executed by as many employers as possible, and that includes the utilisation of the living wage.

Mae'n ffaith bod gwledydd mwy cyfartal yn wledydd hapusach a mwy bodlon ac yn y gweithle, lle mae pobl yn cael eu talu'n dda, profwyd bod lefelau cynhyrchiant yn uwch. Nawr, rwy'n awyddus i edrych ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, yn enwedig mewn perthynas â'r contract economaidd sydd bellach ar waith. Rwy'n edrych yn frwd ar waith y Comisiwn Gwaith Teg oherwydd rwy'n gobeithio y byddant yn cydnabod, ochr yn ochr ag ymgorffori'r cyflog byw go iawn, fod yna rôl hefyd i fusnesau ymdrin â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sbarduno mwy o gydraddoldeb yn y gweithle. Felly, byddaf yn edrych ar waith y Comisiwn Gwaith Teg gyda golwg ar weithredu eu hargymhellion drwy'r contract economaidd. Ond rwyf hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr fod y cod ymarfer a grybwyllais yn fy ateb yn cael ei fabwysiadu gan gynifer o weithwyr ag y bo modd, a bod yr argymhellion yn y cod ymarfer yn cael eu cyflawni gan gynifer o gyflogwyr ag y bo modd, ac mae hynny'n cynnwys y defnydd o'r cyflog byw.

A number of councils in Wales at the moment place no requirement on the private companies with whom they contract to pay the so-called living wage, but then 15 of the 22 of those councils don't commit to pay their own employees the living wage either. Earlier this—. Well, actually, I suppose I can understand why—because of the local government settlement, they probably couldn't afford to, even if they wanted to. Earlier this month, the Living Wage Foundation said that they did want to see local authorities, as well as other sectors, commit to the real living wage. So, I wonder if you can tell us if you've had any conversations with the Cabinet Secretary for local government about whether there's a way for local government perhaps to lead on this, or are you speaking as well to private companies with whom Government doesn't contract but are big enough to include these social obligation clauses, so that they perhaps can do this?

Ar hyn o bryd, ceir nifer o gynghorau yng Nghymru nad ydynt yn gosod unrhyw ofyniad ar gwmnïau preifat a gontractir ganddynt i dalu'r cyflog byw, fel y'i gelwir, ond ar ôl dweud hynny nid yw 15 o'r 22 o gynghorau hynny'n ymrwymo i dalu cyflog byw i'w gweithwyr eu hunain ychwaith. Yn gynharach y—. Wel, mewn gwirionedd, mae'n debyg y gallaf ddeall pam—oherwydd y setliad llywodraeth leol, mae'n debyg na allant fforddio gwneud, hyd yn oed pe baent yn dymuno. Yn gynharach y mis hwn, dywedodd y Living Wage Foundation eu bod am weld awdurdodau lleol, yn ogystal â sectorau eraill, yn ymrwymo i gynnig y cyflog byw go iawn. Felly, tybed a allwch ddweud wrthym a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol i weld a oes ffordd i lywodraeth leol arwain ar hyn o bosibl, neu a ydych yn siarad hefyd â chwmnïau preifat nad yw'r Llywodraeth yn eu contractio ond sy'n ddigon mawr i gynnwys y cymalau rhwymedigaeth gymdeithasol hyn, fel y gallant wneud hyn o bosibl?

Suzy Davies raises a really important point, and that is the role of the public sector in driving a greater degree of inclusive growth in our economy. I've spoken with colleagues right across Government about adopting the economic contract and extending it to other areas of service of Government activity, but also to the public sector, so it's my hope that, as we extend the economic contract, we include within it local authorities, potentially health boards, national sponsored bodies and arm's-length bodies, so that as many businesses as possible in the supply chain are able to gain opportunities from the public sector, where the public sector are paying the real living wage and, therefore, driving up salary levels. I think it's essential that the message we give to the private sector is matched by the message we give to the public sector. And so the application of the economic contract across the public and the private sectors is something that I think is highly desirable.

Mae Suzy Davies yn codi pwynt hynod bwysig, sef rôl y sector cyhoeddus yn sbarduno mwy o dwf cynhwysol yn ein heconomi. Rwyf wedi siarad gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ynglŷn â mabwysiadu'r contract economaidd a'i ymestyn i feysydd gwasanaeth eraill o weithgarwch Llywodraeth, ond hefyd i'r sector cyhoeddus, felly wrth inni ymestyn y contract economaidd, rwy'n gobeithio y byddwn yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd o bosibl, cyrff a noddir yn genedlaethol a chyrff hyd braich cyrff yn rhan ohono fel bod cymaint o fusnesau â phosibl yn y gadwyn gyflenwi yn gallu cael cyfleoedd o'r sector cyhoeddus, lle mae'r sector cyhoeddus yn talu cyflog byw go iawn ac felly'n codi lefelau cyflog. Credaf ei bod yn hanfodol fod y neges a roddwn i'r sector preifat yn cyd-fynd â'r neges a roddwn i'r sector cyhoeddus. Ac felly mae defnyddio'r contract economaidd ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn rhywbeth y credaf y byddai'n ddymunol iawn.


Of course, Cabinet Secretary, you have a great role in terms of what the public sector does. The airport that this Government bought five years ago is still paying people below the real living wage. We're talking about 100 or so security staff who have a great deal of responsibility if they are to do their job diligently. Are you embarrassed by the fact that these staff are not set to get the real living wage until April 2019—six years after the airport was bought by your Labour Government? And, can you guarantee that when this pay lift is belatedly brought in, Cardiff Airport will be certified by the Living Wage Foundation? Further to that, when will you be in a position to announce that all workers under the remit of this Assembly—those directly employed, those contracted out, those working for Assembly-sponsored public bodies—are earning the real living wage?

Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych chi rôl fawr yn yr hyn y mae'r sector cyhoeddus yn ei wneud. Mae'r maes awyr a brynodd y Llywodraeth hon bum mlynedd yn ôl yn dal i dalu llai na'r cyflog byw go iawn i bobl. Rydym yn sôn am oddeutu 100 neu fwy o staff diogelwch sydd â llawer iawn o gyfrifoldeb os ydynt yn mynd i wneud eu gwaith yn ddiwyd. A ydych yn teimlo cywilydd o'r ffaith nad yw'r aelodau hyn o staff yn mynd i gael y cyflog byw go iawn tan fis Ebrill 2019—chwe blynedd ar ôl i'ch Llywodraeth Lafur chi brynu'r maes awyr? Ac a allwch warantu pan gyflwynir y codiad cyflog hwn yn llawer hwyrach nag y dylai, y bydd maes awyr Caerdydd yn cael eu hardystio gan y Living Wage Foundation? Ymhellach, pa bryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gyhoeddi bod yr holl weithwyr y mae'r Cynulliad hwn yn gyfrifol amdanynt—y rhai a gyflogir yn uniongyrchol, y rhai sy'n gweithio o dan gontract allanol, y rhai sy'n gweithio i gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad—yn ennill y cyflog byw go iawn?

I'm not sure whether the Member took the time to write to the chair or chief executive of the airport regarding this matter, and I know that I offered Members as well an opportunity to meet with the chair and chief executive, and a number of Members behind me did just that. I think it's excellent that the airport is moving to become a real living wage employer by the start of the next financial year. I think it's an essential move to demonstrate that, again, right across the public and private sectors, we are trying to drive greater degrees of inclusive growth. I make no apologies for the incredible success of the airport. However, I think it's absolutely right that that success is shared more equally across the employment base at the airport, and so I'm delighted that it's moving to become a living wage employer.

Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod wedi rhoi amser i ysgrifennu at gadeirydd neu brif weithredwr y maes awyr ynglŷn â'r mater hwn, a gwn fy mod wedi cynnig cyfle i'r Aelodau hefyd i gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr, ac fe wnaeth nifer o'r Aelodau y tu ôl i mi yn union hynny. Credaf ei bod yn rhagorol fod y maes awyr yn newid i fod yn gyflogwr cyflog byw go iawn erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Credaf ei fod yn newid hanfodol i ddangos, unwaith eto, ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ein bod yn ceisio sbarduno graddau mwy o dwf cynhwysol. Nid wyf yn ymddiheuro am lwyddiant anhygoel y maes awyr. Fodd bynnag, credaf ei bod yn hollol gywir fod y llwyddiant hwnnw'n cael ei rannu'n fwy cyfartal ar draws y sylfaen gyflogaeth yn y maes awyr, ac felly rwy'n falch iawn ei fod yn newid i fod yn gyflogwr cyflog byw.

Galluogi Cwmnïau i Barhau i Fod o dan Berchnogaeth Gymreig
Enabling Firms to Remain in Welsh Ownership

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i alluogi cwmnïau i barhau i fod o dan berchnogaeth Gymreig? OAQ52988

4. What steps is the Welsh Government taking to enable firms to remain in Welsh ownership? OAQ52988

Business Wales is working collaboratively with stakeholders, including the Development Bank of Wales and Social Business Wales to support businesses with succession planning.

Mae Busnes Cymru yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru i gynorthwyo busnesau â chynllunio ar gyfer olyniaeth.

Thank you, Cabinet Secretary. We know that the economy of Wales is marked by having a small number of very large anchor firms and a very large number of micro firms, but a missing middle—too few medium-sized firms. And small firms that tend to grow often cash out and the ownership leaves Wales. We're now seeing in Llanelli the difference between a grounded local firm and a rootless global firm, and indeed, the difference that grounded local management can make. A decision by the German family firm Schaeffler to close its Llanelli factory is not a first. They tried to close it in the early 2000s, but then, a strong local management, committed to the area, fought back and developed new products that saved the plant. This time, the local management were not rooted in the area, and we are now seeing the consequences, with 214 families this Christmas facing an uncertain future. So, would the Cabinet Secretary update us on how the Development Bank of Wales is planning to grow a base of medium-sized Welsh firms, and what steps can be taken to support the local workforce in Llanelli in the current circumstances?

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod mai un nodwedd o economi Cymru yw'r ffaith ei bod yn cynnwys nifer fach o gwmnïau angori mawr iawn a nifer fawr iawn o ficrofusnesau, ond bod y canol ar goll—rhy ychydig o gwmnïau canolig eu maint. Ac mae cwmnïau bach sy'n tueddu i dyfu yn aml yn gwerthu a'r berchnogaeth yn gadael Cymru. Yn Llanelli, rydym bellach yn gweld y gwahaniaeth rhwng cwmni lleol sydd wedi gwreiddio'n gadarn a chwmni byd-eang diwreiddiau, ac yn wir, y gwahaniaeth y gall rheolaeth sydd wedi gwreiddio'n lleol ei wneud. Nid yw penderfyniad gan gwmni teuluol Almaenig Schaeffler i gau ei ffatri yn Llanelli yn digwydd am y tro cyntaf. Fe geisiodd y teulu ei chau yn y 2000au cynnar, ond wedyn, ymladdodd y rheolwyr lleol a oedd wedi ymrwymo i'r ardal yn ôl, a datblygu cynhyrchion newydd a achubodd y ffatri. Y tro hwn, nid oedd y rheolwyr lleol wedi'u gwreiddio yn yr ardal, ac rydym bellach yn gweld y canlyniadau, gyda 214 o deuluoedd y Nadolig hwn yn wynebu dyfodol ansicr. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y mae Banc Datblygu Cymru yn bwriadu tyfu sylfaen o gwmnïau canolig eu maint yng Nghymru, a pha gamau y gellir eu cymryd i gefnogi'r gweithlu lleol yn Llanelli yn yr amgylchiadau presennol?

Can I thank Lee Waters for his question? The company that the Member refers to was in contact with me today. I spoke to the plant manager and I'm keen to speak to the CEO in Germany. It's my belief that the Development Bank of Wales has a huge role to play in ensuring that as many of the, if you like, missing middle remain in Wales and in the hands of Welsh people—. I think there are many people who have said that we need to move to the German model of retaining particularly medium-sized enterprises in Welsh hands.

Whilst I'd urge Members not to make the mistake that de Tocqueville warned us of many, many years ago, which is that you shouldn't try to transplant a culture from one country to another, what we should do is look at the different behaviours and attitudes towards business ownership where, in the UK, I'm afraid there has been a cash-in-and-check-out attitude, once a business reaches a certain size, whereas in other European countries such as Germany, there is an attitude of long-term growth and long-term commitment within a family or within a co-operative. Whilst we can't transplant that attitude and that culture, what we can do is learn from the Germans and others how we can apply a greater degree of long-term planning and commitment to the businesses that people feel so passionately about when they're growing but which they then wish to depart from once they reach a certain size.

So, the Development Bank of Wales is going to be an important component in ensuring that as many businesses in Wales remain in Welsh hands as possible, and there is already—I'm pleased to say—a management succession fund, which amounts to £15 million. This is money that has been allocated to the bank by the Welsh Government, and the development bank are also currently seeking £10 million from Welsh pension funds to swell that particular investment pot.

But it has to be said that the development bank alone can't take responsibility for increasing the number of Welsh businesses that remain headquartered here; it's also for the Government itself, which is why one of the five calls to action within the new economic action plan concerns the headquartering of businesses in Wales. And it's also why Business Wales itself is promoting the fund and ensuring that as many businesses as possible and as many business leaders as possible are able to integrate business funding and support in order to identify and support succession deals—wherever and whenever they may apply.

A gaf fi ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn? Roedd y cwmni y mae'r Aelod yn cyfeirio ato mewn cysylltiad â mi heddiw. Bûm yn siarad â rheolwr y ffatri ac rwy'n awyddus i siarad â'r prif swyddog gweithredol yn yr Almaen. Rwy'n credu bod gan Banc Datblygu Cymru rôl enfawr i'w chwarae yn sicrhau bod cynifer o'r canol coll, os mynnwch, yn aros yng Nghymru ac yn nwylo pobl Cymru—. Credaf fod llawer o bobl wedi dweud bod angen inni symud at fodel yr Almaen o gadw mentrau canolig, yn enwedig, yn nwylo Cymry.

Er y buaswn yn annog yr Aelodau i beidio â gwneud y camgymeriad y cawsom ein rhybuddio gan de Tocqueville yn ei gylch flynyddoedd maith yn ôl, sef na ddylech geisio trawsblannu diwylliant o un wlad mewn gwlad arall, yr hyn y dylem ei wneud yw edrych ar y gwahanol batrymau ymddygiad ac agweddau tuag at berchnogaeth fusnes, lle rwy'n ofni bod ymagwedd o 'werthu a throi cefn' wedi bod yn y DU pan fo busnes yn cyrraedd maint penodol, ond mewn gwledydd Ewropeaidd eraill megis yr Almaen, ceir ymagwedd o dwf hirdymor ac ymrwymiad hirdymor o fewn y teulu neu'r cwmni cydweithredol. Er na allwn drawsblannu agwedd a diwylliant o'r fath, yr hyn y gallwn ei wneud yw dysgu gan yr Almaenwyr ac eraill sut y gallwn gymhwyso mwy o gynllunio hirdymor ac ymrwymiad i'r busnesau y mae pobl yn teimlo mor angerddol yn eu cylch pan fyddant yn tyfu ond y byddant wedyn yn dymuno troi cefn arnynt wrth iddynt gyrraedd maint penodol.

Felly, mae Banc Datblygu Cymru yn mynd i fod yn elfen bwysig yn y broses ar gyfer sicrhau bod cymaint o fusnesau ag y bo modd yng Nghymru yn parhau i fod mewn dwylo Cymreig, ac eisoes—rwy'n falch o ddweud—ceir cronfa reoli olyniaeth o £15 miliwn. Mae hwn yn arian sydd wedi'i ddyrannu i'r banc gan Lywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae'r banc datblygu hefyd yn chwilio am £10 miliwn o gronfeydd pensiwn Cymru i chwyddo'r pot pensiwn hwnnw.

Ond mae'n rhaid dweud na all y banc datblygu ei hun ysgwyddo cyfrifoldeb am gynyddu nifer y busnesau yng Nghymru y mae eu pencadlys yn dal i fod yma; mae'n fater hefyd i'r Llywodraeth ei hun, a dyna pam y mae un o'r pum galwad i weithredu yn y cynllun gweithredu economaidd newydd yn ymwneud â sefydlu pencadlys busnesau yng Nghymru. A dyna pam y mae Busnes Cymru ei hun hefyd yn hyrwyddo'r gronfa ac yn sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl a chymaint o arweinwyr busnes â phosibl yn gallu integreiddio cyllid a chymorth busnes er mwyn nodi a chefnogi cytundebau olyniaeth—lle bynnag a pha bryd bynnag y byddant yn gymwys.


If we make it harder for people in Wales to sell their businesses to people from outside Wales—or 'cash out', as I think it was referred to—isn't there a danger that that, in turn, would discourage people from building their businesses in Wales in the first place?

Os gwnawn hi'n anos i bobl yng Nghymru werthu eu busnesau i bobl o'r tu allan i Gymru—neu 'werthu allan', fel y cyfeiriwyd ato rwy'n credu—onid oes perygl y byddai hynny, yn ei dro, yn atal pobl rhag adeiladu eu busnesau yng Nghymru yn y lle cyntaf?

I'm not necessarily advocating that we make it harder for a business to be sold. My concern is the attitude towards business growth, which is very different here in the UK compared to economies such as Germany and Denmark, where there is an attitude amongst many business leaders and business owners that crosses generations, rather than simply crossing five-year plans. I think what's essential is that businesses are given the right financial support and the right management support in order to plan for succession. That's precisely what Business Wales and the development bank, between the two, are trying to do.

Nid wyf o reidrwydd yn dadlau ein bod yn ei gwneud hi'n anos i werthu busnes. Fy mhryder yw'r agwedd tuag at dwf busnes, sy'n wahanol iawn yma yn y DU o gymharu ag economïau megis yr Almaen a Denmarc, lle y ceir agwedd ymhlith llawer o arweinwyr busnes a pherchnogion busnesau sy'n para dros genedlaethau, yn hytrach na phara dros gynlluniau pum mlynedd yn unig. Credaf mai'r hyn sy'n hanfodol yw bod busnesau'n cael y cymorth ariannol cywir a'r cymorth rheoli cywir er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth. Dyna'n union y mae Busnes Cymru a'r banc datblygu rhyngddynt yn ceisio ei wneud.

Gwasanaethau Trên o Bontyclun i Gaerdydd
Train Services from Pontyclun to Cardiff

5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael mewn perthynas â gwella gwasanaethau trên o Bontyclun i Gaerdydd? OAQ53004

5. What discussions has the Cabinet Secretary had in relation to improving train services from Pontyclun to Cardiff? OAQ53004

Well, we are introducing a range of improvements to services at Pontyclun, including a reduction in journey times, new four-car trains and an increase in Sunday service frequency. We continue to work with Transport for Wales to consider extending the metro, including to Pontyclun—subject, of course, to funding and a strong business case.

Wel, rydym yn cyflwyno amrywiaeth o welliannau i wasanaethau ym Mhont-y-clun, gan gynnwys lleihau amseroedd teithio, trenau pedwar cerbyd newydd a chynyddu amlder gwasanaethau ar ddydd Sul. Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ystyried ymestyn y metro, gan gynnwys i Bont-y-clun—yn amodol, wrth gwrs, ar gyllid ac achos busnes cryf.

Thank you for that, Cabinet Secretary. Firstly, I'd like to thank you for meeting with me, with Huw Irranca-Davies, local Members of Parliament and the Rhondda Cynon Taf council leader, Andrew Morgan, to discuss those services from Pontyclun to Cardiff. And, of course, these impact very significantly on the public who wish to access public transport rather than taking to the road. As the Cabinet Secretary will know, the scale of housing development in Pencoed and in that part of Taff-Ely means that the demand for train services at Pontyclun is not only large, but is going to increase significantly.

The first key issue is that trains are only two carriages long, and I'd be grateful for your thoughts on how this could be addressed as part of the plan to replace rolling stock. Secondly, the frequency of trains is largely determined by the crossing at Pencoed, which is closed for up to 40 minutes every hour. A new overpass at Pencoed would mean that the crossing need not close, facilitating a significant increase in train frequency. I wonder if the Cabinet Secretary would give his thoughts on the viability of these solutions.

Diolch ichi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am gyfarfod â mi, gyda Huw Irranca-Davies, Aelodau Seneddol lleol ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, i drafod y gwasanaethau o Bont-y-clun i Gaerdydd. Ac wrth gwrs, mae'r rhain yn effeithio cryn dipyn ar y cyhoedd sy'n dymuno defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae maint y datblygiad tai ym Mhencoed ac yn y rhan honno o Daf Elai yn golygu bod y galw am wasanaethau trenau ym Mhont-y-clun nid yn unig yn fawr, ond yn mynd i gynyddu'n sylweddol.

Y broblem allweddol gyntaf yw mai dau gerbyd yn unig yw'r trenau o hyd, a buaswn yn ddiolchgar am eich barn o ran sut y gellid mynd i'r afael â hyn fel rhan o'r cynllun i gael cerbydau yn lle'r hen rai. Yn ail, i raddau helaeth, y groesfan ym Mhencoed, sydd ar gau am hyd at 40 munud bob awr, sy'n pennu amlder y gwasanaethau trên. Byddai pont newydd ym Mhencoed yn golygu na fyddai angen cau'r groesfan, gan ei gwneud hi'n haws cynyddu amlder gwasanaethau'n sylweddol. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud beth yw ei farn ynglŷn ag ymarferoldeb yr atebion hyn.

Well, can I thank Mick Antoniw for his question and also thank him for the opportunity to speak with him directly regarding the two issues that he raised in his question? I'm pleased to say that during the conversation I had with Sir Peter Hendy, the chair of Network Rail, this morning, the Pencoed crossing featured quite heavily in our discussions, and we have committed to work together to find a solution to this particular issue, utilising not just Network Rail resource, but also the local transport fund, which I think will be crucial in finding a solution there.

Now, in terms of the capacity on the two-carriage trains, I'm really pleased to be able to tell the Member that, with the roll-out of four-car trains by the end of 2022—and let's remember these are going to be new trains—the number of seats available on the trains will rise from 120 to 204, increasing quite considerably the capacity on that particular service.

Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn a hefyd am y cyfle i siarad ag ef yn uniongyrchol ynglŷn â'r ddau fater a gododd yn ei gwestiwn? Rwy'n falch o ddweud fod croesfan Pencoed wedi cael sylw amlwg yn y trafodaethau a gefais gyda chadeirydd Network Rail, Syr Peter Hendy, y bore yma, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ateb i'r mater penodol hwn, a defnyddio nid yn unig adnoddau Network Rail, ond hefyd y gronfa trafnidiaeth leol  y credaf y bydd yn hollbwysig wrth geisio dod o hyd i ateb yno.

Nawr, o ran y capasiti ar y trenau dau gerbyd, rwy'n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod, gyda chyflwyno'r trenau pedwar cerbyd erbyn ddiwedd 2022—a gadewch inni gofio mai trenau newydd fydd y rhain—y bydd nifer y seddi a fydd ar gael ar y trenau'n codi o 120 i 204, gan gynyddu capasiti'n sylweddol ar y gwasanaeth hwnnw.


I join the Member for Pontypridd in highlighting the Pontyclun station as a real pressure point, especially with developments that have gone on in recent years—but developments we know will be happening in the future. Over the last week, I have literally been bombarded by constituents in that area who have had a particularly poor experience of the service that's on offer to them, with trains overshooting the platform, an inability for conductors to collect fares on the train itself, and when they get to Cardiff Central station, only one hatch open to make payments to progress their journeys. Now, part of these faults don't depend on the weather; they just depend on good management, Cabinet Secretary. We've heard the reasoning behind some of the problems that have been affecting the network more generally, but what confidence can you give me as an elected Member to go back to my constituents and say that these very basic levels of staff being at stations to monitor the arrival and departure of trains, and, in particular, serviced areas within the stations to make payments, will be staffed fully, so that people can have that positive experience, not just in 2022 but here in 2018? 

Ymunaf â'r Aelod dros Bontypridd i dynnu sylw at orsaf Pont-y-clun fel man cyfyng go iawn, yn enwedig gyda'r datblygiadau sydd wedi bod yn mynd rhagddynt yn y blynyddoedd diwethaf—ond datblygiadau y gwyddom eu bod yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Dros yr wythnos ddiwethaf, cefais fy mombardio'n llythrennol gan etholwyr yn yr ardal honno sydd wedi cael profiad arbennig o wael o'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig iddynt, gyda threnau'n gor-redeg heibio i'r platfform, anallu tocynwyr i gasglu tocynnau ar y trên ei hun, a phan gyrhaeddant orsaf Caerdydd Canolog, un agoriad yn unig ar agor i wneud taliadau i allu parhau eu taith. Nawr, nid yw'r diffygion hyn yn dibynnu ar y tywydd yn llwyr; maent yn dibynnu ar reoli da, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi clywed y rhesymeg y tu ôl i rai o'r problemau a fu'n effeithio ar y rhwydwaith yn fwy cyffredinol, ond pa hyder y gallwch ei roi imi fel Aelod etholedig i fynd yn ôl at fy etholwyr a dweud y bydd y lefelau sylfaenol iawn hyn o staff sydd yn y gorsafoedd i fonitro trenau yn cyrraedd a gadael, ac yn arbennig mannau penodol sy'n cael eu gwasanaethu o fewn y gorsafoedd ar gyfer gwneud taliadau, yn cael eu staffio'n llawn, fel y gall pobl gael profiad cadarnhaol, nid yn unig yn 2022, ond yn awr yn 2018?

I'm pleased to be able to say that, as a consequence of the agreement that we reached with KeolisAmey, we're going to be increasing employment by 600. That's quite a significant figure. We're also going to be rolling out cashless ticketing machines at all stations across the Wales and borders franchise area, and we'll also further recognise the challenges faced at the moment with the particular station that the Member highlighted in his question. But, every single station will receive investment and will be upgraded as a consequence of the £200 million that we'll be investing in stations across Wales and borders routes.

Rwy'n falch o allu dweud, o ganlyniad i'r cytundeb rhyngom â KeolisAmey, ein bod yn mynd i gyflogi 600 yn fwy o bobl. Mae hwnnw'n ffigur eithaf sylweddol. Hefyd, rydym yn mynd i gyflwyno peiriannau tocynnau nad ydynt yn defnyddio arian ym mhob gorsaf ar draws ardal masnachfraint Cymru a'r gororau, a byddwn hefyd yn cydnabod ymhellach yr heriau a wynebir ar hyn o bryd gyda'r orsaf benodol a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn. Ond bydd pob gorsaf yn cael buddsoddiad ac yn cael ei huwchraddio o ganlyniad i'r £200 miliwn y byddwn yn ei fuddsoddi mewn gorsafoedd ar draws llwybrau Cymru a'r gororau.

Y Contract Economaidd
The Economic Contract

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y contract economaidd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau Cymru? OAQ53003

6. Will the Cabinet Secretary provide an update on the economic contract between the Welsh Government and Welsh businesses? OAQ53003

Yes. I am delighted that we recently agreed the hundredth economic contract. It's only been in place for six months and this—[Inaudible.

Gwnaf. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cytuno ar y canfed contract economaidd yn ddiweddar. Nid yw ond wedi bod ar waith ers chwe mis ac—[Anghlywadwy.]

The Office for National Statistics has reported that the average full-time female employee earns 8.6 per cent less than the average male employee. In light of Equal Pay Day 2018 on 10 November and the recent call by the Electoral Reform Society Cymru and groups such as the Women's Equality Network, Chwarae Teg, BAWSO, Llamau to close the political gender gap and publish diversity data, is there an opportunity to use the economic contract to help address the gender pay gap?

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adrodd bod y gweithiwr amser llawn benywaidd cyfartalog yn ennill 8.6 y cant yn llai na'r gweithiwr gwrywaidd cyfartalog. Yng ngoleuni Diwrnod Cyflog Cyfartal 2018 ar 10 Tachwedd a'r alwad ddiweddar gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru a grwpiau fel y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Chwarae Teg, BAWSO, Llamau i gau'r bwlch gwleidyddol rhwng y rhywiau a chyhoeddi data ar amrywiaeth, a oes cyfle i ddefnyddio'r contract economaidd i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

There is no doubt in my mind that many employers could adopt the economic contract and provide their employees with a better working environment and opportunities to progress through the workplace and up through various jobs and roles and earn more remuneration as a consequence. Now, the gender pay difference on an hourly full-time basis is 7.3 per cent in Wales and 8.6 per cent across the UK as a whole. Between 2011 and 2018, the gender pay difference in Wales decreased from 9.2 per cent to that 7.3 per cent—so, a welcome move in the right direction over the last seven years. However, I'm afraid that still more work needs to be done, and I think that the role of the Fair Work Commission will be crucial in this regard, in informing how we use the economic contract as the vehicle to drive responsible employer behaviours. Of course, equal pay for men and women is a responsible approach that businesses should adopt. 

Nid oes amheuaeth yn fy meddwl y gallai llawer o gyflogwyr fabwysiadu'r contract economaidd a darparu gwell amgylchedd gwaith a chyfleoedd i'w gweithwyr allu symud ymlaen drwy'r gweithle ac i fyny drwy'r gwahanol swyddi a rolau ac ennill cyflog gwell o ganlyniad. Nawr, mae'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ar sail amser llawn fesul awr yn 7.3 y cant yng Nghymru ac 8.6 y cant ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Rhwng 2011 a 2018, mae'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gostwng o 9.2 y cant i 7.3 y cant—felly, symudiad sydd i'w groesawu i'r cyfeiriad iawn dros y saith mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae arnaf ofn fod angen gwneud mwy o waith o hyd, a chredaf y bydd rôl y Comisiwn Gwaith Teg yn allweddol yn hyn o beth, yn llywio'r modd y defnyddiwn y contract economaidd fel y cyfrwng i hybu ymddygiad cyfrifol gan gyflogwyr. Wrth gwrs, mae cyflog cyfartal i ddynion a menywod yn ymagwedd gyfrifol y dylai busnesau ei mabwysiadu.

Cabinet Secretary, how many businesses in Wales has the Welsh Government engaged with directly in relation to the new economic contract, and can I ask: how much does the Welsh Government intend to lend small and medium-sized enterprises as a direct result of the new economic contract?

Ysgrifennydd y Cabinet, faint o fusnesau yng Nghymru y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â hwy'n uniongyrchol mewn perthynas â'r contract economaidd newydd, ac a gaf fi ofyn: faint y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei fenthyca i fusnesau bach a chanolig o ganlyniad uniongyrchol i'r contract economaidd newydd?

Well, the Member will know from my evidence session at his committee just recently that the consolidated economy futures fund has been established. That's now in operation. We've awarded a significant number of businesses support. Those include small and micro-sized businesses. The new economic contract is being promoted first and foremost in the initial stages to businesses that are seeking financial support from Government. But, I'm able to say—and I'm delighted to be able to inform the Member—that we are hearing of a number of businesses that are not seeking financial support now applying and successfully signing the economic contract. That shows, I think, that Wales actually does have a huge number of businesses that act responsibly and want to drive inclusive growth as a priority for our country.

Wel, bydd yr Aelod yn gwybod o fy sesiwn dystiolaeth yn ei bwyllgor yn ddiweddar fod y gronfa dyfodol yr economi gyfunol wedi'i sefydlu. Mae honno bellach ar waith. Rydym wedi dyfarnu cymorth i nifer sylweddol o fusnesau. Mae'r rheini'n cynnwys busnesau bach a micro. Hyrwyddir y contract economaidd newydd yn bennaf yn ystod y camau cychwynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol gan y Llywodraeth. Ond rwy'n gallu dweud—ac rwy'n falch iawn o allu rhoi gwybod i'r Aelod—ein bod yn clywed bod nifer o fusnesau nad ydynt yn ceisio cymorth ariannol bellach yn defnyddio ac yn llofnodi'r contract economaidd yn llwyddiannus. Mae hynny'n dangos, rwy'n credu, fod gan Gymru nifer enfawr o fusnesau sy'n ymddwyn yn gyfrifol ac yn dymuno hybu twf cynhwysol fel blaenoriaeth ar gyfer ein gwlad.

Perfformiad Trafnidiaeth Cymru
The Performance of Transport for Wales

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am berfformiad Trafnidiaeth Cymru? OAQ52986

7. Will the Cabinet Secretary make a statement on the performance of Transport for Wales? OAQ52986

Yes. Storm Callum, autumn conditions and the poor quality of the rolling stock that we inherited from Arriva Trains Wales have impacted on Transport for Wales’s operational start. Transport for Wales has, as I have already said, implemented a recovery plan, and passengers are beginning to see the consequential service improvements, which will continue over the next few weeks.

Gwnaf. Mae storm Callum, tywydd yr hydref ac ansawdd gwael y cerbydau a etifeddwyd gan Trenau Arriva Cymru wedi effeithio ar y camau cyntaf o weithrediad Trafinidiaeth Cymru. Fel y dywedais eisoes, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithredu cynllun adfer, ac mae teithwyr yn dechrau gweld gwelliannau yn y gwasanaeth o ganlyniad i hynny, a bydd y gwelliannau hyn yn parhau dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Thank you, Cabinet Secretary. I've listened carefully to the Government's statement on Transport for Wales and recognise the difficulties of the transition. Yesterday, the Leader of the House and Chief Whip indicated that Transport for Wales is looking to introduce something similar to Transport for London's Oyster card—something that I welcome. This sounds like a real win for commuters. What will the timetable be for introducing this system, and, more importantly, how is this going to be communicated with the public, and are there any quick wins that you can tell the public and this Chamber about?

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gwrando'n astud ar ddatganiad y Llywodraeth ar Trafnidiaeth Cymru ac yn cydnabod anawsterau'r pontio. Ddoe, dywedodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rhywbeth tebyg i gerdyn Oyster Transport for London—rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae'n swnio fel rhywbeth a fydd o fudd go iawn i gymudwyr. Beth fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r system hon, ac yn bwysicach, sut y caiff ei hyrwyddo ymhlith y cyhoedd, ac a oes unrhyw atebion cyflym y gallwch ddweud wrth y cyhoedd a'r Siambr hon amdanynt?

Well, I'm pleased to be able to say that this is an objective of ours for the first five years before we get to the five-year point review. It's my view that the Oyster card in London has been a great success, but, of course, we're now able to use our bank cards on the London underground rather than having to buy an Oyster card; so, again demonstrating that technology has moved on still further. I'd like to be in a position by 2023 where the vast majority of people in Wales and on the English side of the Wales and borders franchise area are utilising cashless payment systems, so that it becomes more cost-effective and so that we can drive down the number of people who use our services without paying for tickets.

Wel, rwy'n falch o allu dweud bod hwn yn amcan sydd gennym ar gyfer y pum mlynedd gyntaf cyn inni gyrraedd yr adolygiad pum mlynedd. Yn fy marn i, mae'r cerdyn Oyster yn Llundain wedi bod yn llwyddiant mawr, ond wrth gwrs, erbyn hyn gallwn ddefnyddio ein cardiau banc ar drenau tanddaearol Llundain yn hytrach na gorfod prynu cerdyn Oyster, gan ddangos unwaith eto fod technoleg wedi symud ymhellach eto. Hoffwn fod mewn sefyllfa erbyn 2023 lle mae'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru ac ar ochr Lloegr i ardal masnachfraint Cymru a'r gororau yn defnyddio systemau talu heb arian, fel ei fod yn fwy costeffeithiol ac er mwyn inni allu cyfyngu ar nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau heb dalu am docynnau.

Gwasanaethau Trên yn Nhorfaen
Train Services in Torfaen

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trên yn Nhorfaen? OAQ53007

8. Will the Cabinet Secretary provide an update on train services in Torfaen? OAQ53007

Yes. New rolling stock will be introduced to the rail line serving the communities of Torfaen from 2022. Once the new rolling stock is introduced, the number of services serving the communities of Torfaen will, I'm pleased to say, increase to two trains per hour.

Gwnaf. Bydd cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ar y rheilffordd sy'n gwasanaethu cymunedau Torfaen o 2022 ymlaen. Pan gyflwynir y cerbydau newydd, rwy'n falch o ddweud y bydd nifer y gwasanaethau sy'n gwasanaethu cymunedau Torfaen yn cynyddu i ddau drên yr awr.

Thank you, that is very encouraging. As I'm sure you're aware, there are major issues in terms of the frequency of trains calling, particularly in Pontypool, which causes major challenges for commuters who have to drive to Cwmbran to get a train from there. That's despite the fact that the regular Cardiff to Manchester service passes Pontypool by and goes on to Abergavenny. Will you discuss this with Transport for Wales and see what urgent changes can be made to prioritise more stops to Pontypool?

Diolch i chi, mae hynny'n galonogol iawn. Fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae yna broblemau mawr ynglŷn ag amlder y trenau sy'n stopio, yn enwedig ym Mhont-y-pŵl, gan achosi heriau mawr i gymudwyr sy'n gorfod gyrru i Gwmbrân i gael trên oddi yno. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth rheolaidd o Gaerdydd i Fanceinion yn pasio drwy Bont-y-pŵl ac yn mynd yn ei flaen i'r Fenni. A wnewch chi drafod hyn gyda Trafnidiaeth Cymru a gweld pa newidiadau y gellir eu gwneud ar frys i roi blaenoriaeth i sicrhau bod mwy o drenau'n stopio ym Mhont-y-pŵl?

I will do exactly as the Member has requested. Of course, 2022 is some way off, and I recognise the need to provide improved services whenever and wherever possible in the shorter term, so I will endeavour to do just that for my friend and colleague's constituents.

Byddaf yn gwneud yn union fel y mae'r Aelod wedi gofyn. Wrth gwrs, mae cryn dipyn o amser tan 2022, ac rwy'n cydnabod yr angen i ddarparu gwell gwasanaethau pryd bynnag a ble bynnag y bo modd yn y tymor byrrach, felly byddaf yn ymdrechu i wneud hynny i etholwyr fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Thank you, Cabinet Secretary.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
2. Questions to the Counsel General

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.

The next item, therefore, is questions to the Counsel General, and the first question is from Dai Lloyd.

Dyletswyddau Awdurdodau Cynllunio Lleol
Local Planning Authorities' Duties

1. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch dyletswyddau awdurdodau cynllunio lleol i hysbysebu'r ffaith bod ceisiadau cynllunio wedi dod i law? OAQ52983

1. What representations has the Counsel General made on behalf of the Welsh Government regarding the duties of local planning authorities to advertise the receipt of planning applications? OAQ52983

Mae’r gyfraith mewn perthynas â’r mater hwn yn glir. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau cynllunio lleol yn cyhoeddi ceisiadau am ganiatâd cynllunio. Mae’n ofynnol iddynt gynnal a chadw cofrestr gyhoeddus o geisiadau, ac mae canllawiau manwl ar gael yn y llawlyfr rheoli datblygu.

The law in this matter is quite clear. The Town and Country Planning (Development Management Procedure) (Wales) Order 2012 requires applications for planning permission to be publicised by local planning authorities. They are required to maintain a public register of applications, and detailed guidance is contained in the development management manual.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ond, yn sicr, bydd pob Aelod yn y Siambr yma wedi derbyn cwynion ar ryw adeg neu'i gilydd gan drigolion lleol am nad oeddent yn ymwybodol o gais cynllunio a oedd wedi'i gyflwyno i'r awdurdod lleol. Yn aml, erbyn iddynt ddod i wybod amdano, mae'r penderfyniad eisoes wedi'i wneud. Fel arfer, mae'r awdurdod lleol wedi rhoi'r rhybudd ar ryw bostyn lamp anghysbell ac yn ystyried bod hyn yn ddigonol o ran ymgynghoriad cyhoeddus. Yn syml, mae llawer yn teimlo bod y rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol i ymgynghori ar geisiadau cynllunio yn rhy wan. Felly, a ydych chi wedi cynnal trafodaethau ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y mater hwn, ac a ydych chi'n credu bod angen darpariaeth gyfreithiol ychwanegol i sicrhau bod ymgynghori priodol, yn enwedig â thrigolion cyfagos, ac yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn digwydd?

Thank you very much for that response, but, certainly, every Member in this Chamber will have received complaints at some point or another from local residents because they weren’t aware of a planning application introduced to the local authority. By the time they do learn about it, then very often the decision has already been made. Usually, the local authority will have put a notice on a remote lamp post somewhere, and will consider this to be adequate in terms of public consultation. Quite simply, many feel that the legal requirements on local authorities to consult on planning applications are too weak. So, have you had any discussions with the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs on this issue, and do you believe that additional legal provision is required in order to ensure that appropriate consultation happens, particularly with local residents, in line with the requirements of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015?


Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae'r fframwaith deddfwriaethol yn gosod sail isafswm ar oblygiadau a chyfrifoldebau awdurdodau lleol i hysbysebu. Hynny yw, mae'n rhaid gwneud hynny yn agos at y man, ac mewn papur newydd, ond hefyd ar ben hynny, mae hyblygrwydd i awdurdodau lleol i ehangu'r hysbysebu sydd yn cael ei wneud ar gyfer cynlluniau o'r math yma. Ac mae'n gyfrifoldeb arnyn nhw i sicrhau bod y math o hysbysebu'n addas ac fel gwnes i ddweud, sicrhau bod cofrestr gyhoeddus ar gael er mwyn i'r cyhoedd gael access i allu dirnad beth yw'r cynlluniau. Wrth gwrs, mae cyfle i unrhyw un sydd â chwyn yn y maes yma yn erbyn awdurdod lleol am beidio naill ai cyrraedd yr isafswm statudol neu beidio sicrhau mesurau addas, mae'n agored iddyn nhw i fynd â'r mater i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a mynd â'u cwyn drwy'r broses swyddogol honno.

Thank you to the Member for that further question. The legislative framework sets out the minimum requirements and responsibilities of local authorities to advertise. It has to be done close to the area and in a newspaper and, on top of that, flexibility is available for local authorities to expand the advertising that’s done for plans such as these. It’s a responsibility on them to ensure that the types of advertisements are suitable and, as I said earlier, to ensure that there is a public register maintained, so that the public can access and understand what the plans are. Of course, there is an opportunity for anyone who has a complaint in this area against a local authority for not reaching the statutory minimum, or for not ensuring specific or suitable measures, it is open for them, of course, to take up the issue with the Public Services Ombudsman for Wales and take their complaint through that official process. 

Yr Heriau sy'n Deillio o Dechnoleg Newydd
The Challenges Posed by New Technology

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ar sut y gall helpu cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o dechnoleg newydd? OAQ52987

2. Will the Welsh Government commission a study on how it can help Welsh legal firms to prepare for the challenges posed by new technology? OAQ52987

The Government recognises the importance of the legal sector in Wales, not least because a resilient and flourishing sector would underpin any new jurisdictional arrangements that may emerge from the work of the Commission on Justice in Wales. We are looking again at how best to support the sector, and that includes commissioning a piece of advisory work that would be potentially broad ranging. But it's clear that the opportunities and challenges posed by new technologies will play a part in that.

Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector cyfreithiol yng Nghymru, nid yn lleiaf oherwydd y byddai sector cryf a ffyniannus yn sylfaen i unrhyw drefniadau awdurdodaethol newydd a allai godi o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Rydym yn edrych eto ar y ffordd orau o gefnogi'r sector, ac mae hynny'n cynnwys comisiynu gwaith cynghorol a allai fod yn bellgyrhaeddol. Ond mae'n amlwg y bydd y cyfleoedd a'r heriau sy'n deillio o dechnolegau newydd yn chwarae rhan yn hynny.

Thank you, Counsel General. I was very grateful to you for attending the round-table I organised recently with law schools and law firms looking at the impact of automation on the legal sector in Wales. It was clear from the discussion we had there were both opportunities and threats: opportunities for the firm, like we heard from Hoowla, who provide software to manage cases and automate work flow, which could certainly free up resources in firms, but also risks for the 30 or so small law firms in my constituency—the fact you can now get a will online for £19.99 clearly poses a significant problem to their business model.

It was striking from the discussion, I thought, that the level of awareness in the legal sector was quite low, and as Richard Susskind, the author, has pointed out, there is still a degree of denial amongst firms that this change is coming and the impact it will have on them. Therefore, the provision of skills and advice would seem to be crucial to allow law firms to adapt, because if they don't adapt, they will die.

Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am fynychu'r drafodaeth bwrdd crwn a drefnais yn ddiweddar gydag ysgolion y gyfraith a chwmnïau cyfreithwyr i edrych ar effaith awtomatiaeth ar y sector cyfreithiol yng Nghymru. Roedd hi'n amlwg o'r drafodaeth a gawsom fod yna gyfleoedd a bygythiadau: cyfleoedd i'r cwmni, fel y clywsom gan Hoowla, sy'n darparu meddalwedd ar gyfer rheoli achosion ac awtomeiddio llif gwaith, a allai ryddhau adnoddau mewn cwmnïau yn sicr, ond hefyd gallai greu risgiau i'r oddeutu 30 o gwmnïau cyfreithwyr bach yn fy etholaeth—yn amlwg, mae'r ffaith y gallwch gael ewyllys ar-lein am £19.99 yn achosi problem sylweddol i'w model busnes.

Roeddwn yn credu ei bod hi'n drawiadol o'r drafodaeth fod lefel yr ymwybyddiaeth yn y sector cyfreithiol yn eithaf isel, ac fel y nododd Richard Susskind, yr awdur, ceir rhyw raddau o wadiad ymhlith y cwmnïau fod y newid hwn yn dod a'r effaith a gaiff arnynt. Felly, byddai'n ymddangos bod darparu sgiliau a chyngor yn hanfodol er mwyn caniatáu i gwmnïau cyfreithwyr addasu, oherwydd os nad ydynt yn addasu, fe fyddant yn dod i ben.

I was pleased to be invited by the Member to the legal tech round-table a couple of weeks ago. It was an important opportunity to explore what is a very significant change in the legal professional services sector in Wales. I, myself, as I mentioned that morning, have met with a number of law firms across Wales since becoming Counsel General and I would say that wherever they are in Wales and whatever their practice area, and almost whatever their size, they recognise in a general sense the challenge and also the opportunity to deliver better added value services or more efficient services that technology presents. But there is also, as he in his question identifies, a very significant potential disruption to the business models that many firms, again with a range of sizes and a range of locations, have depended upon to sustain those firms. So, I would support the points he is making in his question, really the need for the sector generally to address this issue and to see not just the threat, but also the opportunity that increased digital technological innovation brings, be that more effective case management or, at the more ambitious end, artificial intelligence—the opportunities that those bring, not just for commercial clients, but also for clients accessing services that hitherto have been funded by legal aid. It's important that these advances are available to all people seeking legal advice and legal representation in Wales.

Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad gan yr Aelod i'r drafodaeth bwrdd crwn ar dechnoleg gyfreithiol ychydig wythnosau yn ôl. Roedd yn gyfle pwysig i archwilio'r hyn sy'n newid sylweddol iawn yn y sector gwasanaethau cyfreithiol proffesiynol yng Nghymru. Fel y soniais y bore hwnnw, rwyf wedi cyfarfod â nifer o gwmnïau cyfreithwyr ledled Cymru ers dod yn Gwnsler Cyffredinol a buaswn yn dweud, ble bynnag y maent yng Nghymru a beth bynnag yw eu maes ymarfer, a beth bynnag eu maint bron, eu bod yn gyffredinol yn cydnabod yr heriau a hefyd y cyfleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau gwerth ychwanegol gwell neu wasanaethau mwy effeithlon y gall y dechnoleg eu cynnig. Ond hefyd, fel y mae'n nodi yn ei gwestiwn, mae posibilrwydd y ceir tarfu sylweddol iawn ar y modelau busnes y mae llawer o gwmnïau, o amryw feintiau ac amryw leoliadau unwaith eto, wedi dibynnu arnynt i gynnal y cwmnïau hynny. Felly, buaswn yn cefnogi'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn ei gwestiwn, yr angen mewn gwirionedd i'r sector yn gyffredinol roi sylw i'r mater ac i weld nid yn unig y bygythiad, ond hefyd y cyfle a ddaw yn sgil mwy o arloesi technolegol digidol, boed yn ddulliau o reoli achosion yn fwy effeithiol neu, ar y pen mwy uchelgeisiol, deallusrwydd artiffisial—y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, nid yn unig ar gyfer cleientiaid masnachol, ond hefyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau a gafodd eu hariannu gan gymorth cyfreithiol hyd yn hyn. Mae'n bwysig fod y datblygiadau hyn ar gael i bawb sy'n chwilio am gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol yng Nghymru.

Rhwymedigaethau Cyfreithiol Awdurdodau Lleol Mewn Perthynas â Chonsortia Addysg Rhanbarthol
The Legal Obligations of Local Authorities in Relation to Regional Education Consortia

3. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhwymedigaethau cyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chonsortia addysg rhanbarthol? OAQ52982

3. What representations has the Counsel General made on behalf of the Welsh Government regarding the legal obligations of local authorities in relation to regional education consortia? OAQ52982


To date, I have made no representation on behalf of the Welsh Government regarding the legal obligation of local authorities in relation to regional education consortia.

Hyd yma, nid wyf wedi gwneud unrhyw sylwadau ar ran Llywodraeth Cymru o safbwynt rhwymedigaeth gyfreithiol awdurdodau lleol mewn perthynas â chonsortia addysg rhanbarthol.

I'm grateful for that answer. You will no doubt be aware that the leader of Neath Port Talbot council, Councillor Rob Jones, has stated that he has taken the decision to withhold paying £40,000 into the Education through Regional Working regional education consortia because he doesn't believe that his council is gaining value for money from the regional service. Now, I'm not going to enter into the merits of that point, but clearly ERW has faced some challenges over the past year or so. Legally, what is your view in terms of Councillor Jones's seemingly unilateral decision to withhold the funding? Is there a legal basis for that? Is it acceptable for council leaders to refuse to contribute to regional bodies? And isn't there a risk here to the Welsh Government's regional agenda, unless frameworks are clear in these types of situations?

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod mae'n siŵr fod arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi datgan ei fod wedi penderfynu ymatal rhag talu £40,000 i gonsortia addysg rhanbarthol Ein Rhanbarth ar Waith am nad yw'n credu bod ei gyngor yn cael gwerth am arian o'r gwasanaeth rhanbarthol. Nawr, nid wyf am edrych ar rinweddau'r pwynt hwnnw, ond yn amlwg mae ERW wedi wynebu heriau dros y flwyddyn neu fwy ddiwethaf. Yn gyfreithiol, beth yw eich barn o ran penderfyniad ymddangosiadol unochrog y Cynghorydd Jones i atal y cyllid? A oes sail gyfreithiol i hynny? A yw'n dderbyniol i arweinwyr cyngor wrthod cyfrannu at gyrff rhanbarthol? Ac onid oes risg yma i agenda ranbarthol Llywodraeth Cymru, oni bai bod y fframweithiau'n glir mewn sefyllfaoedd o'r fath?

I thank the Member for that question. As he will know, local authorities retain their statutory responsibilities and accountability for school performance, and the regional consortia don't change their principal statutory accountability in relation to that, and that underpins their relationships with other local authorities. Regional consortia are, at the end of the day, if you like, joint ventures between local authorities. They're established under the section 102 joint committees and where there are concerns, as some councils may have in relation to consortia, then those concerns are ones that they can bring to bear in their relationships with other local authorities within the particular consortium.

I know that the Cabinet Secretary for Education's view is, as I think his question assumes, that there have been considerable gains in the regional model of working and that that represents the best way forward for authorities across Wales. Clearly, as his question identifies, there have been some concerns in relation to some consortia. That has been the subject of Estyn inspection and, across the board, there's been significant improvement. I know that the Cabinet Secretary has made clear her expectations of the management of consortia that, as much as possible, they should lower the spend on administration and focus their spending plans on a school-focused approach, wherever that is possible.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y gŵyr, awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb ac atebolrwydd statudol dros berfformiad ysgolion, ac nid yw'r consortia rhanbarthol yn newid eu prif atebolrwydd statudol mewn perthynas â hynny, ac mae'n sail i'w perthynas gydag awdurdodau lleol eraill. Yn y pen draw, mentrau ar y cyd rhwng awdurdodau lleol, os mynnwch, yw consortia rhanbarthol. Cânt eu sefydlu o dan y cyd-bwyllgorau adran 102 a lle y ceir pryderon, fel y gallai fod gan rai cynghorau mewn perthynas â chonsortia, gallant fynd i'r afael â'r pryderon hynny yn eu cysylltiadau ag awdurdodau lleol eraill o fewn y consortiwm penodol.

Gwn mai barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, fel y mae ei gwestiwn yn rhagdybio rwy'n credu, yw y bu enillion sylweddol o fewn y model rhanbarthol o weithio ac mai dyna'r ffordd orau ymlaen i awdurdodau ledled Cymru. Yn amlwg, fel y mae ei gwestiwn yn nodi, cafwyd pryderon mewn perthynas â rhai consortia. Mae hynny wedi bod yn destun arolygiad gan Estyn ac yn gyffredinol, gwelwyd gwelliant sylweddol. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan yn glir beth yw ei disgwyliadau o ran rheoli consortia, ac y dylent leihau cymaint ag y bo modd y gwariant ar weinyddu a chanolbwyntio eu cynlluniau gwariant ar ddull sy'n canolbwyntio ar ysgolion lle bynnag y bo'n bosibl.

System Ar-Lein yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
The Legal Aid Agency's Online System

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o berfformiad system ar-lein yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol? OAQ53009

4. What assessment has the Counsel General made of the performance of the Legal Aid Agency's online system? OAQ53009

We have drawn to the attention of the Ministry of Justice a number of technical issues that could prevent or deter people from using the Legal Aid Agency’s online system. But the wider problem here is, of course, the hugely detrimental effect on access to justice of the UK Government’s cuts to legal aid.

Rydym wedi tynnu sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder at nifer o faterion technegol a allai rwystro neu atal pobl rhag defnyddio system ar-lein yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Ond y broblem ehangach yma, wrth gwrs, yw effaith niweidiol iawn toriadau Llywodraeth y DU i gymorth cyfreithiol ar fynediad at gyfiawnder.

I thank you for that answer, Counsel General. I ask the question because I've read some very concerning reports detailing how glitches within the system are forcing victims of domestic abuse to attend court on their own. Essentially, the Legal Aid Agency’s client and cost management system is crashing, so solicitors are unable to complete the necessary paperwork to attend hearings alongside their clients. And we do already know that savage cuts to legal aid are one of the many ways that austerity has disproportionately hit women. We know that hundreds of thousands of people are no longer eligible for legal aid, including victims of domestic abuse, who cannot secure injunctions to protect themselves from harm because they can't afford to pay the contributions. So, I will ask, if you haven't already done so, that you make urgent representations to the Ministry of Justice and that they act to fix this issue on behalf of the victims that they and their system are badly letting down.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Gofynnaf y cwestiwn am fy mod wedi darllen adroddiadau sy'n peri pryder mawr yn manylu ar sut y mae anawsterau o fewn y system yn gorfodi dioddefwyr cam-drin domestig i fynychu'r llys ar eu pen eu hunain. Yn y bôn, mae system reoli cleientiaid a chostau'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn chwalu, felly nid yw cyfreithwyr yn gallu cwblhau'r gwaith papur angenrheidiol ar gyfer mynychu gwrandawiadau gyda'u cleientiaid. Ac rydym eisoes yn gwybod bod toriadau enbyd i gymorth cyfreithiol yn un o'r ffyrdd niferus y mae cyni wedi effeithio'n anghymesur ar fenywod. Rydym yn gwybod bod cannoedd o filoedd o bobl nad ydynt yn gymwys bellach i gael cymorth cyfreithiol, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, na all sicrhau gwaharddebau i amddiffyn eu hunain rhag niwed am na allant fforddio talu'r cyfraniadau mwyach. Felly, os na wnaethoch hynny eisoes, rwyf am ofyn i chi gyflwyno sylwadau ar frys i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'u bod yn gweithredu i ddatrys hyn ar ran y dioddefwyr y maent hwy a'u system yn gwneud cam mawr â hwy.

Well, can I associate myself with the comments the Member makes in her question? We have been making representations to the Ministry of Justice in relation to this point in particular. She will want to know that the data that the Ministry of Justice has made available indicates a dramatic fall in legal aid provision in Wales, with 2,440 fewer civil representations in the last year than in 2011-12—2,440. The fall is particularly pronounced in private family proceedings, which she touches on in her question.

I'm aware of the article that she refers to, and it's part of a pattern of failure in relation to the legal aid online system, which we have identified and communicated to the Ministry of Justice. This includes the system sometimes failing to recognise answers, providing error messages routinely, not providing a full Welsh language service, and perhaps most worryingly of all, it's possible, when looking through a computer history, to spot on the user's page when they have been on the legal aid website, seeking services there, which, for victims of domestic abuse using a shared computer, as she will recognise, could have profound consequences, and let the perpetrator of abuse have advanced warning of the potential for intended legal action.

So, these are significant failings. No-one is suggesting that the online system has no role to play here—she will have heard from my answer to Lee Waters earlier that I think there is significant potential, generally—but it cannot be the case where the UK Government's making deep cuts to legal aid, but it cannot provide a system that is reliable, dependable and secures the privacy and safety of those who are using it.

Wel, a gaf fi gysylltu fy hun â'r sylwadau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ei chwestiwn? Rydym wedi bod yn cyflwyno sylwadau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y pwynt hwn yn benodol. Fe fydd hi eisiau gwybod bod y data a ryddhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos gostyngiad dramatig yn y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol yng Nghymru, gyda 2,440 yn llai o gynrychiolaethau sifil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf nag yn 2011-12—2, 440. Mae'r gostyngiad yn arbennig o amlwg mewn achosion teuluol preifat, fel y mae'n crybwyll yn ei chwestiwn.

Rwy'n ymwybodol o'r erthygl y mae'n cyfeirio ati, ac mae'n rhan o batrwm o fethiant mewn perthynas â'r system cymorth cyfreithiol ar-lein, ac rydym wedi nodi a chyfleu hynny wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'n cynnwys y ffaith bod y system weithiau'n methu adnabod atebion, yn darparu negeseuon gwall fel mater o drefn, nid yw'n darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn, ac efallai yn fwyaf pryderus o bosibl, wrth edrych drwy hanes cyfrifiadur, mae modd gweld tudalen y defnyddiwr pan fyddant wedi bod ar y wefan cymorth cyfreithiol, yn chwilio am wasanaethau yno, a allai arwain at ganlyniadau difrifol i ddioddefwyr cam-drin domestig sy'n defnyddio cyfrifiadur a rennir, fel y bydd yn cydnabod, a gadael i'r sawl sy'n cam-drin gael rhybudd ymlaen llaw o'r bwriad posibl i roi camau cyfreithiol ar waith.

Felly, mae'r rhain yn ddiffygion sylweddol. Nid oes neb yn awgrymu nad oes rhan gan y system ar-lein i'w chwarae yma—fe fydd hi wedi clywed o fy ateb i Lee Waters yn gynharach fy mod yn meddwl bod yna botensial sylweddol, yn gyffredinol—ond ni all fod yn wir lle mae Llywodraeth y DU yn gwneud toriadau dwfn i gymorth cyfreithiol, ond nad yw'n gallu darparu system sy'n ddibynadwy, yn gyson ac yn sicrhau preifatrwydd a diogelwch y rhai sy'n ei defnyddio.

Achos Wightman
The Wightman Case

5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o benderfyniad y Goruchaf Lys i wrthod apêl gan Lywodraeth y DU yn achos Wightman? OAQ53011

5. What assessment has the Counsel General made of the decision of the Supreme Court to deny an appeal by the UK Government in the Wightman case? OAQ53011

The case raises an important question about the ability, or otherwise, to revoke article 50, which should be answered, to ensure that a fully informed decision can be taken on the withdrawal agreement and political declaration on the future relationship reached between the UK Government and the European Union, or in the catastrophic case of a 'no deal' outcome.

Mae'r achos yn codi cwestiwn pwysig am y posibilrwydd, neu fel arall, o ddiddymu erthygl 50, a ddylai gael ei ateb, er mwyn sicrhau y gellir gwneud penderfyniad deallus ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol ar y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, neu o ganlyniad i argyfwng 'dim bargen'.

Thank you for your answer, Counsel General. As you may be aware, the case was actually heard in the European Court of Justice this week, and we are now awaiting the decision by the ECJ. Have you yet made arrangements with your colleagues in the other nations to have a discussion on the outcome of that case, because, as you highlighted, it does put the legal position on the possibility of revocation of article 50? And considering the mess we're currently in with the UK Government, and the chaos that might ensue in two weeks' time, when it's likely that the vote will be such that they will not get this deal through, will you therefore meet with your colleagues, to look at what possibilities would be existing to extend or revoke article 50 if it comes in favour, so that we can actually keep on negotiating, so that we get a deal that suits Wales and not that suits Theresa May?

Diolch i chi am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, efallai, clywyd yr achos yn Llys Cyfiawnder Ewrop yr wythnos hon mewn gwirionedd, ac rydym bellach yn aros am y penderfyniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop. A ydych wedi gwneud trefniadau gyda'ch cymheiriaid yn y gwledydd eraill i gael trafodaeth ar ganlyniad yr achos hwnnw eto, oherwydd, fel rydych wedi'i ddweud, mae'n rhoi'r sefyllfa gyfreithiol ar y posibilrwydd o ddiddymu erthygl 50? Ac o ystyried y llanastr rydym ynddo ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU, a'r anhrefn a allai ddilyn ymhen pythefnos, pan yw'n debygol y bydd y bleidlais yn pennu na fydd y fargen hon yn cael ei derbyn, a wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-Weinidogion felly i edrych ar ba bosibiliadau a fyddai ar gael i ymestyn neu ddiddymu erthygl 50 os yw'n barnu o blaid hynny, fel y gallwn barhau i negodi mewn gwirionedd, fel y gallwn sicrhau bargen sy'n addas i Gymru yn hytrach na bargen sy'n addas i Theresa May?

Well, the Member is correct—the European Court of Justice heard this reference yesterday morning, in a four-hour hearing, with all 28 justices hearing the matter. It's obviously a very significant point. As it happens, the UK Government's position in that litigation is that this is a hypothetical, because they have no intention of revoking it, and counsel for the EU made the representation that the article 50 process could not be revoked without the agreement of the other 27 members.

He asks about discussions between Governments. As he will appreciate, there is a continuing discussion around the implications of all the legal developments at the moment. I would say that the UK Government would have to think very carefully before taking the step of revoking article 50. The Welsh Government's position has been, and remains, that the focus should be on the form rather than the fact of Brexit. But as we approach what is an incredibly uncertain parliamentary process, and the opportunity in this Chamber of debating and expressing a view on the negotiations and the agreement reached to date, it seems to me important to have as much clarity, and as many fixed points, in that discussion. And therefore I welcome the opportunity for this point to be clarified by the court of justice.

Wel, mae'r Aelod yn gywir—clywodd Llys Cyfiawnder Ewrop y cyfeiriad hwn fore ddoe, mewn gwrandawiad a barodd bedair awr, gyda phob un o'r 28 ustus yn clywed y mater. Yn amlwg, mae'n bwynt arwyddocaol iawn. Fel y mae'n digwydd, safbwynt Llywodraeth y DU yn yr ymgyfreithiad hwnnw yw mai mater damcaniaethol yw hwn, oherwydd nid oes bwriad ganddynt i'w ddiddymu, ac mae cwnsleriaid ar ran yr UE wedi gwneud y sylw nad oes posibl diddymu erthygl 50 heb gytundeb y 27 Aelod arall.

Mae'n gofyn am drafodaethau rhwng y Llywodraethau. Fel y bydd yn ei sylweddoli, mae trafodaeth ar y gweill ynghylch goblygiadau'r holl ddatblygiadau cyfreithiol ar hyn o bryd. Buaswn yn dweud y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried yn ofalus iawn cyn gweithredu i ddiddymu erthygl 50. Safbwynt Llywodraeth Cymru oedd y dylai'r ffocws fod ar ffurf yn hytrach na ffaith Brexit, a dyna yw ei safbwynt o hyd. Ond wrth i ni nesáu at yr hyn sy'n broses seneddol hynod o ansicr, a'r cyfle yn y Siambr hon i drafod a mynegi barn ar y negodiadau a'r cytundeb a gyrhaeddwyd hyd yma, mae'n ymddangos i mi ei bod yn bwysig sicrhau cymaint o eglurder â phosibl, a chymaint o bwyntiau sefydlog â phosibl, yn y drafodaeth honno. Ac felly, rwy'n croesawu'r cyfle i'r llys cyfiawnder roi eglurder ar y pwynt hwn.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.

I thank the Counsel General.

3. Cwestiynau Amserol
3. Topical Questions

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ac mae'r cwestiwn gan Dai Lloyd.

The next item, therefore, is the topical questions. The first question is to be asked to the Minister for Culture, Tourism and Sport, and the question is from Dai Lloyd.

Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru
The National Broadcasting Archive for Wales

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol archif ddarlledu genedlaethol i Gymru? 237

1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the future of the national broadcasting archive for Wales? 237

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig i sefydlu archif ddarlledu genedlaethol yn y llyfrgell genedlaethol. Mae'r trafodaethau â'r llyfrgell yn parhau i gefnogi'r broses gynllunio. Ond rydym am sicrhau bod unrhyw ddatblygiad ar sylfeini cadarn a chynaliadwy, heb fod yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd bresennol sydd gan y llyfrgell.

The Welsh Government supports the proposal to establish a national broadcasting archive at the National Library of Wales. The discussions with the library are ongoing in supporting the planning process. But we do want to ensure that any development is on firm and sustainable foundations, without impacting on any of the current duties of the national library.

Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, roedd hi'n fater o siom a syndod i mi ddeall yr wythnos diwethaf eich bod chi wedi gwrthod £1 filiwn i'r llyfrgell genedlaethol, a fyddai'n denu, wrth gwrs, yn ychwanegol, arian loteri—HLF—ychwanegol o ryw £5 miliwn, efo cefnogaeth Llywodraeth Cymru, i ganiatáu datblygu archif ddarlledu genedlaethol i Gymru. A ydy hi'n bosib, felly, cael cadarnhad ar gwpwl o gwestiynau sy'n dilyn o hynny? A oes yna gadarnhad bod yna ymrwymiad o £5 miliwn i'r cynllun oddi wrth y loteri ym mis Mai 2017? A ydy hynny'n ffeithiol gywir—£5 miliwn tuag at brosiect cenedlaethol o £9 miliwn i greu archif ddarlledu genedlaethol, yn cynnwys archifau y BBC, ITV, S4C a chwmnïau annibynnol? Mae yna gyfoeth o dreftadaeth gymdeithasol Cymru drwy'r ugeinfed ganrif bron i gyd yn fanna, yn y ddwy iaith, ac, wrth gwrs, pwyslais y cynllun yma yw bod argaeledd a mynediad i'r cyhoedd yn fan hyn. Nid ydym yn sôn am dapiau wedi'u storio mewn rhyw storfa bell i ffwrdd, neu hyd yn oed yn cael eu dinistrio, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan. 

Nawr, mae yna gais ffurfiol i fod i gael ei gyflwyno yr wythnos sy'n dechrau 18 Rhagfyr i'r loteri, i'r HLF. Pam ydych chi wedi ei gadael hi mor hwyr i ddweud 'na' o ran y £1 filiwn o gyfalaf yna a'r gefnogaeth strategol? A ydy'r Llywodraeth mewn egwyddor yn fan hyn yn erbyn, felly, creu archif ddarlledu genedlaethol? A oes modd i'r Llywodraeth edrych eto ar hyn i weld sut y gellid gweithio allan unrhyw gonsérn sydd gyda chi, fel bod y £5 miliwn o arian HLF ddim yn cael ei golli i Gymru, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan, a bod pobl Cymru yn cael mynediad i archif wirioneddol genedlaethol? Achos rydym ni yn sôn yn fan hyn, i orffen, Llywydd, am adeiladu cenedl, am gof cenedl—dyna beth yw archif. Ddoe, fe glywsom ni am bwysigrwydd hanfodol creu sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen gwir ddatrysiad i'r sefyllfa yma rŵan, neu fe gollir archif gwerthfawr am byth. Beth amdani, Weinidog?

Thank you for that response, Minister. But I have to say, it was a matter of disappointment for me to understand last week that you had rejected £1 million for the national library, which would attract, of course, additional money from the Heritage Lottery Fund of about £5 million, with the support of the Welsh Government, to allow the development of a national broadcasting archive for Wales. Is it possible, therefore, to have confirmation on a couple of questions that follow from that? Is there confirmation that there is a commitment of £5 million to the plan from the lottery in May 2017? Is that factually correct—£5 million towards a national project of £9 million to create a national broadcasting archive, including archives from the BBC, ITV, S4C and independent companies? There is a richness of Welsh heritage there in both languages from the twentieth century, and, of course, the emphasis of this plan is the availability and the access for the public. We’re not talking here about tapes stored in some faraway warehouse, or even being destroyed, because that is the threat now.

Now, there is supposed to be a formal request to be submitted in the week beginning 18 December to the HLF. Why have you left it so late to say ‘no’ in terms of the £1 million of capital and that strategic support? Is the Welsh Government, in principle, against establishing a national broadcasting archive for Wales? Can the Government look again at this to see how any concern you have could be worked out, so that that £5 million of HLF funding is not lost for Wales, because that’s the threat now, and that the people of Wales will have access to a real national archive? Because we are talking here about building a nation, and about the memory of a nation—that’s what an archive is. Yesterday, we heard of the importance of establishing national bodies, and there is a real need for a solution to this situation now, otherwise a very valuable archive will be lost forever. How about it, Minister?


Nid oes unrhyw gwestiwn o golli'r archif. Mae'r archif yn gyfrifoldeb i'r BBC, ac mae'r ddarpariaeth ar ei chyfer hi at y dyfodol yn un y mae'r llyfrgell wedi mynegi diddordeb ynddi hi. Ac, yn wir, mae yn gywir i ddweud bod gwaith rhagbaratoadol wedi cael ei wneud, ac mae yna ohebiaeth wedi bod rhyngof i â'r llyfrgell ers blwyddyn ar y mater yma, yn ceisio gosod seiliau cadarn i'r datblygiad. Er enghraifft, nid oeddwn i'n fodlon bod staff presennol y llyfrgell yn gorfod cael eu hailgyfeirio, o bosib, i ddyletswyddau yn ymwneud â'r archif a fyddai yn peryglu safle'r llyfrgell, a bod yn rhaid inni ddiogelu safle cyllidol y llyfrgell. Ac i'r bwriad hwnnw y mae'r £1 filiwn, os caf ateb yn y ffordd yma, ar y bwrdd o hyd. Ac rydw i wedi trafod y mater yma heddiw'r bore, fel mae'n digwydd, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid. Yr hyn nad oeddwn yn fodlon ei wneud oedd mynd ymlaen â'r cynllun yma nes bod y llyfrgell wedi adolygu'r cynllun yn llwyr, ac wedi rhoi sicrwydd i ni ei fod o'n gynllun cynaliadwy, ac na fyddai o'n gwanio o gwbl ddarpariaeth gyffredinol ac ehangach y llyfrgell. 

There is no question of losing the archive. The archive is the responsibility of the BBC, and the provision for its future is one that the library has expressed an interest in. And, indeed, it is true to say that some preparatory work has been done, and there has been correspondence between myself and the library over a period of a year on this issue, trying to put in place firm foundations for this development. For example, I wasn't content that the current staff of the library would have to be redirected, possibly, to duties related to the archive, which would put at risk the position of the library, and that we had to safeguard the financial situation of the library. And to that end, the £1 million, if I can respond to the question in this way, is still on the table. And I have discussed this issue this morning, as it happens, with the Cabinet Secretary for Finance. What I wasn't happy to do was to proceed with this proposal until the library had reviewed its plan in its entirety, and given us an assurance that it was sustainable, and that it wouldn't, in any way, weaken the general provisions and broader provisions of the library.

Can I add my support to Dai Lloyd, in saying how important this project is? And I am indeed relieved that, in principle, the Welsh Government is still committed to it. I do think it's unfortunate that, at this late stage, we've not really heard some of the substance of the main concerns, and I think all the stakeholders now need to get together and make some sort of statement about how this is going to proceed. Whilst we may not lose the BBC part of the archive, other aspects are potentially more fragile—ITV, and even S4C—and also, the BBC one is going to have to be moved somewhere and is not potentially going to be available until many years in the future if we don't see the transfer to Aberystwyth fairly soon.

Clearly, this acquisition complements the work to digitise the newspapers of Wales—a remarkable achievement, and a resource for all people in Wales, and the academic and cultural communities as well. That resource now could be redoubled by the acquisition and the access that people would have to this broadcast archive. It is so important to our national understanding and to our whole concept of Wales and how we reflect on the decisions we've made and the options we have in the future. I really want to see some answers into how this is going to be sorted, because it's a bit disappointing that we're not here celebrating this wonderful project rather than seeing this major hiccup at a late stage. So, get everyone together and the stakeholders to make a clear statement to us all so that we can then scrutinise and add our support to what, undoubtedly, is a hugely important national project.

A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i Dai Lloyd, ac ategu pa mor bwysig yw'r prosiect hwn? Ac yn wir, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn dal i fod wedi ymrwymo iddo. Credaf ei bod yn anffodus, ar y cam hwyr hwn, nad ydym wedi clywed peth o sylwedd y prif bryderon mewn gwirionedd, a chredaf fod angen i'r holl randdeiliaid ddod at ei gilydd yn awr a gwneud rhyw fath o ddatganiad ynglŷn â sut y bydd hyn yn datblygu. Er efallai na fyddwn yn colli rhan y BBC o'r archif, mae'n bosibl y bydd agweddau eraill yn fwy bregus—ITV ac S4C hyd yn oed—a hefyd, bydd yn rhaid i ran y BBC gael ei symud i rywle, ac mae'n bosibl na fydd ar gael am flynyddoedd lawer os na fydd yn cael ei drosglwyddo i Aberystwyth yn weddol fuan.

Yn amlwg, mae'r caffaeliad hwn yn ategu'r gwaith ar ddigido papurau newydd yng Nghymru—tipyn o gamp, ac adnodd i holl bobl Cymru, a'r cymunedau academaidd a diwylliannol yn ogystal. Bellach, gallai'r adnodd hwnnw gael ei atgyfnerthu gan y caffaeliad a'r mynediad a fyddai gan bobl at yr archif ddarlledu hon. Mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth genedlaethol a'n holl gysyniad o Gymru a sut y myfyriwn ar y penderfyniadau a wnaethom a'r opsiynau sydd gennym yn y dyfodol. Rwy'n awyddus iawn i weld atebion o ran sut y caiff hyn ei ddatrys, oherwydd mae hi braidd yn siomedig nad ydym yma'n dathlu'r prosiect gwych hwn yn hytrach na'n wynebu'r anhawster mawr hwn yn hwyr yn y dydd. Felly, dewch â phawb at ei gilydd, a'r rhanddeiliaid, i wneud datganiad clir i bawb ohonom fel y gallwn graffu a chefnogi'r hyn sydd, yn ddiau, yn brosiect cenedlaethol hynod o bwysig.


Let me make this very clear: the discussions with the national library have gone on for a year. The exchange of correspondence has been taking place since I took this position, and I certainly agree with you that this battle should have been resolved long ago, and it would have been if we had a proper response—a timely response—to our concerns at an earlier date from the library, and that is what we're still waiting for. Speaking, as I have been today and yesterday, to officials on this matter, I am very keen that there are serious discussions as to how the concerns that we have as a Government about the viability, both of the project of the national broadcasting archive and also the viability of the library, are properly resolved.

Gadewch i mi wneud hyn yn glir iawn: mae'r trafodaethau gyda'r llyfrgell genedlaethol wedi bod yn mynd rhagddynt ers blwyddyn. Mae gohebiaeth wedi bod yn mynd rhagddi ers i mi ddod i'r swydd hon, ac yn sicr, cytunaf â chi y dylai'r frwydr hon fod wedi cael ei datrys amser maith yn ôl, a byddai hynny wedi digwydd pe baem wedi cael ymateb priodol—ymateb amserol—i'n pryderon yn gynharach gan y llyfrgell, ac rydym yn dal i aros am hynny. Wrth siarad â swyddogion am y mater hwn, fel y bûm yn ei wneud heddiw a ddoe, rwy'n awyddus iawn i weld trafodaethau difrifol ynglŷn â sut y mae'r pryderon sydd gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â hyfywedd prosiect yr archif ddarlledu genedlaethol, a hyfywedd y llyfrgell hefyd, yn cael eu datrys yn briodol.

Nid wyf yn siŵr iawn a ydw i fod i ddatgan budd yn fan hyn oherwydd bod cymaint o fy ngyrfa broffesiynol i yn yr archif BBC—[Chwerthin.]—ond rydw i yn ystyried yr ymateb gennych chi i'r cwestiwn amserol prynhawn yma i fod yn un cadarnhaol dros ben—bod yr arian yma yn dal â photensial i fod ar y bwrdd. Tybed a allwch chi roi sicrwydd bod yr arian yna ar gael i'w ryddhau rŵan er mwyn rhyddhau'r arian HLF yn y ffenest bresennol, os ydy'r sicrwydd rydych yn chwilio amdano fo yn gallu dod mewn cyfnod amserol gan y llyfrgell genedlaethol.

I’m not sure if I should declare an interest here, because so much of my professional career is held in the BBC archives—[Laughter.]—but I do consider your response to this topical question to have been very positive indeed—that this funding is still potentially on the table. Can you give us an assurance that that funding is available to be released now in order to also release that HLF funding in the current window, if the assurances that you’re seeking can be provided in a timely manner by the national library?

Wel, mae yna drafodaeth wedi bod efo cronfa’r loteri ac mae'r trafodaethau yna yn parhau. Nid wyf mewn safle i allu dweud a fydd yna estyniad pellach i'r amser, ond rwy'n gobeithio y bydd yna, a fydd yn rhoi cyfle inni wedyn ddatrys y mater yma o fewn y mis neu ddau nesaf. Mae hynny'n hanfodol i mi, ond mae'n rhaid imi ei wneud yn hollol glir nad oeddwn i ddim yn fodlon gweld unrhyw leihad yn narpariaeth y llyfrgell genedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac mae o'n gwestiwn i'w ofyn i'r BBC, ac nid wyf yn glir iawn am y sefyllfa yma: beth sydd yn digwydd a phwy sy'n talu am archif y BBC yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban? Ni fedraf i gredu bod Gweinidogion yn Llywodraethau yna yn mynd i roi arian i'r BBC, sydd yn cael arian sylweddol gennym ni i gyd fel rhan o'r drwydded, pan mae modd datrys y materion yma heb orfod gwario arian cyhoeddus ychwanegol allan o gyllideb gyfyngedig Llywodraethau datganoledig.

Well, there has been a discussion with the HLF and those discussions are ongoing. I’m not in a position to say whether there will be a further extension to the timetable, but I do hope that there will be, which will give us an opportunity to resolve this issue within the next month or two. That is crucial for me, but I must make it entirely clear that I was not content to see any reduction in the provision of the national library as the National Library for Wales. And it’s a question to be asked of the BBC, and I’m not entirely clear of this situation: what’s happening and who is paying for the BBC archive in England, in Northern Ireland and in Scotland? I can’t believe that Ministers within those Governments are going to provide funds for the BBC, which receives significant funds from us all as part of the licence fee, when it is possible to resolve these issues without having additional public expenditure from a restricted budget of the devolved Governments. 

Minister, on your explanation that it has taken a year and we still haven't resolved this issue, the Culture, Welsh Language and Communications Committee is going to the national library next Thursday—I wonder if you can give us a brief so that we can come back with some clear answers to these questions so that we can just get on with this; otherwise we're going to lose the lottery funding.

Weinidog, mewn ymateb i'ch esboniad fod hyn wedi cymryd blwyddyn ac nad ydym wedi datrys y mater hwn o hyd, mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn mynd i ymweld â'r llyfrgell genedlaethol ddydd Iau nesaf—tybed a allwch roi briff i ni er mwyn inni allu dychwelyd gydag atebion clir i'r cwestiynau hyn fel y gallwn fwrw ymlaen â hyn; fel arall, rydym yn mynd i golli arian y loteri.

The lottery funding is not going to be lost, if it is possible for the lottery to provide an extension of time, but I can't myself announce anything to that effect this afternoon. I'm glad you're going to the national library and I hope that you will be able to get further answers on this matter. You're welcome to have all the correspondence here between me and the library and any further briefing from officials in my department, in addition to what the research department of the Assembly Commission will be able to give.

Ni fydd arian y loteri'n cael ei golli, os yw'n bosibl i'r loteri ddarparu estyniad o ran amser, ond ni allaf fi gyhoeddi unrhyw beth i'r perwyl hwnnw y prynhawn yma. Rwy'n falch eich bod yn mynd i'r llyfrgell genedlaethol ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu cael atebion pellach ar y mater hwn. Croeso i chi gael pob gohebiaeth rhyngof fi a'r llyfrgell ac unrhyw wybodaeth bellach gan swyddogion yn fy adran, yn ogystal â'r hyn y bydd adran ymchwil Comisiwn y Cynulliad yn gallu ei roi.

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.

Thank you, Minister. The next question to be asked is for the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs, and the question is to be asked by Andrew R.T. Davies. 

Cyfoeth Naturiol Cymru
Natural Resources Wales

2. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i gael hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r amgylchedd yng Nghymru, yn sgil adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus? 238

2. Does the Cabinet Secretary still have confidence in Natural Resources Wales as the body responsible for overseeing the environment in Wales, in light of the recent Public Accounts Committee report? 238

Lesley Griffiths AM 14:45:06
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Thank you. The report that refers to the period up to March 2018 makes uncomfortable reading. The chief executive commenced her post in February 2018. I appointed an interim chair on 1 November and also refreshed the board this month with five new members. They are best placed to oversee the improvements needed, to ensure mistakes are not repeated. They have my full confidence.

Diolch. Mae'r adroddiad sy'n cyfeirio at y cyfnod hyd at fis Mawrth 2018 yn peri anghysur. Dechreuodd y prif weithredwr yn ei swydd ym mis Chwefror 2018. Penodais gadeirydd dros dro ar 1 Tachwedd, ac rwyf wedi ailwampio'r bwrdd y mis hwn gyda phum aelod newydd. Maent yn y sefyllfa orau i oruchwylio'r gwelliannau sydd eu hangen, er mwyn sicrhau na chaiff camgymeriadau eu hailadrodd. Mae gennyf hyder llawn ynddynt.

Thank you, Cabinet Secretary, for that answer. We on this side of the Chamber have obviously lost confidence in Natural Resources Wales after a sequence of scandals, disasters and reports that have indicated even staff themselves within the organisation have very little confidence in the senior management. That is something that is highly regrettable given the very important role that Natural Resources Wales fulfils. It was set up some years ago now and should be performing far better.

The Public Accounts Committee report says that much of the actions it looked at defy logic and actually go further than incompetence when you're talking about the tens of millions of pounds that these contracts were involved in in the timber industry. Grant Thornton are undertaking a piece of work at the moment on behalf of Natural Resources Wales. It gets to a point where you really have to start calling time on these things and actually rebooting an organisation so that it can actually focus on what its priorities should be. Do you not think now is that time, even though you've indicated your support for NRW? In its five years, we have stood here time and time again with topical questions and urgent questions, and, from the sector itself, the confidence is just not there to see this organisation through to actually what it was originally intended to do—to be that guardian of the environment. Now is the time to reform it and actually take away the environmental element and put it on its own two feet with the regulation element in a separate body, and to get on with the job of having an environment here in Wales that is a beacon of what we want the rest of the world to follow. 

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi colli hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl cyfres o sgandalau, trychinebau ac adroddiadau sydd wedi dangos nad oes gan staff y sefydliad hyd yn oed fawr o hyder yn yr uwch-reolwyr. Mae hynny'n rhywbeth sy'n destun gofid mawr o ystyried y rôl bwysig iawn y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyflawni. Cafodd ei sefydlu rai blynyddoedd yn ôl bellach a dylai fod yn perfformio'n llawer gwell.

Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud bod llawer o'r camau gweithredu yr edrychodd arnynt yn afresymegol, a'r tu hwnt i fod yn anghymwys, mewn gwirionedd, pan soniwch am y degau o filiynau o bunnoedd a oedd ynghlwm wrth y contractau hyn yn y diwydiant coed. Mae Grant Thornton yn gwneud gwaith ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd. Mae'n cyrraedd pwynt lle mae'n rhaid i chi roi diwedd ar y pethau hyn ac adnewyddu sefydliad fel y gall ganolbwyntio ar yr hyn a ddylai gael blaenoriaeth ganddo mewn gwirionedd. Onid ydych yn credu mai dyma'r amser i wneud hynny, er eich bod wedi dangos eich cefnogaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru? Yn y pum mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, rydym wedi sefyll yma dro ar ôl tro gyda chwestiynau amserol a chwestiynau brys, ac nid oes digon o hyder yn y sector ei hun i sicrhau y bydd y sefydliad hwn yn cyflawni'r hyn y bwriadwyd iddo ei wneud yn wreiddiol mewn gwirionedd—sef gwarchod yr amgylchedd. Nawr yw'r amser i'w ddiwygio a chael gwared ar yr elfen amgylcheddol a'i rhoi ar ei thraed ei hun gyda'r elfen reoleiddiol mewn corff ar wahân, a bwrw ymlaen â'r gwaith o sicrhau bod yr amgylchedd yma yng Nghymru yn symbol o'r hyn rydym eisiau i weddill y byd ei efelychu.

No, I don't think it's the time. I refer you to my original answer and the work that I've done with NRW. I've just mentioned all the new appointments that have been brought in this year. I think you have to recognise, and you clearly don't in your questioning, the excellent work so many of the staff do. If you think about storm Callum recently, they protected homes, they protected businesses. They deliver our internationally acclaimed projects. So, let's just think about the staff morale, shall we, for a little while, because I think that really needs to be recognised by the Welsh Conservatives. I meet with many members of staff, as does my colleague the Minister for Environment, and I think we need to think about them a little bit more. So, in answer to your question, I do have full confidence in them. I mentioned the new chief executive, I mentioned the new interim chair and I mentioned the new five board members. I do think they're best placed. I don't think there's any support for Natural Resources Wales to be changed.

Na, nid wyf yn credu mai dyma'r amser i wneud hynny. Fe'ch cyfeiriaf at fy ateb gwreiddiol a'r gwaith rwyf wedi'i wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwyf newydd grybwyll yr holl benodiadau newydd a wnaed eleni. Credaf fod yn rhaid i chi gydnabod, ac mae'n amlwg o'ch cwestiwn nad ydych yn gwneud hynny, y gwaith rhagorol y mae llawer o'r staff yn ei wneud. Os meddyliwch am storm Callum yn ddiweddar, fe wnaethant ddiogelu cartrefi a diogelu busnesau. Maent yn cyflawni ein prosiectau sy'n enwog yn rhyngwladol. Felly, gadewch i ni feddwl am forâl y staff am eiliad, oherwydd credaf fod angen i'r Ceidwadwyr Cymreig gydnabod hynny mewn gwirionedd. Rwy'n cyfarfod â llawer o aelodau o staff, fel y mae fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Amgylchedd, yn ei wneud, ac rwy'n credu bod angen i ni feddwl ychydig bach mwy amdanynt hwy. Felly, i ateb eich cwestiwn, mae gennyf hyder llawn ynddynt. Soniais am y prif weithredwr newydd, soniais am y cadeirydd dros dro newydd a soniais am y pum aelod newydd o'r bwrdd. Credaf eu bod yn y sefyllfa orau. Nid wyf yn credu bod unrhyw gefnogaeth i newid Cyfoeth Naturiol Cymru.

I welcome the Public Accounts Committee's report. I think it's right that they've scrutinised NRW in the way that they have done. There are issues certainly that need to be addressed, but scrapping the whole organisation is not the answer, as far as I'm concerned. It won't help. With the instability and insecurity ahead with Brexit, the last thing we need is the huge organisational upheaval that would be caused by scrapping this organisation and starting again.

The real issue here, of course, is the issue of capacity. Natural Resources Wales has seen a 35 per cent cut in its funding in real terms since it was established just five years ago. At the very same time, of course, it's seen a huge increase in the duties expected of it from Government, through the well-being of future generations Act, the environment Act, the planning Act, and others. That situation, of course, is wholly unsustainable. The chief executive wrote last month about her concerns that NRW's capital allocation of £800,000 was against an actual requirement of over £5 million.

You're right—we should spare a thought about the staff, because the number of sickness absences reported last year saw a considerable increase. That tells it's own story, does it not, as well? There are good people in NRW and we should be paying testament to the fact that they're doing as well as they are and working so admirably under such difficult conditions. So, my question to you, Cabinet Secretary, is this: on its current trajectory of shrinking budgets and increasing workloads, at what point does Natural Resources Wales grind to a dysfunctional halt?

Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Credaf ei bod yn iawn eu bod wedi craffu ar Cyfoeth Naturiol Cymru yn y ffordd y maent wedi'i wneud. Yn sicr, ceir materion y dylid mynd i'r afael â hwy, ond o'm rhan i, nid cael gwared ar y sefydliad cyfan yw'r ateb. Ni fydd yn helpu. Gyda'r ansefydlogrwydd a'r ansicrwydd sydd o'n blaenau gyda Brexit, y peth olaf sydd ei angen arnom yw'r chwalfa drefniadol enfawr a gâi ei hachosi pe baem yn cael gwared ar y sefydliad hwn a dechrau eto.

Y broblem go iawn yma, wrth gwrs, yw capasiti. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweld toriad o 35 y cant yn ei gyllid mewn termau real ers iddo gael ei sefydlu bum mlynedd yn ôl yn unig. Ar yr un pryd yn union, wrth gwrs, mae wedi gweld cynnydd enfawr yn y dyletswyddau y mae'r Llywodraeth yn disgwyl iddo eu cyflawni, drwy Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, Deddf yr amgylchedd, y Ddeddf gynllunio, ac eraill. Mae'r sefyllfa honno, wrth gwrs, yn gwbl anghynaladwy. Fis diwethaf, ysgrifennodd y prif weithredwr am ei phryderon ynghylch dyraniad cyfalaf Cyfoeth Naturiol Cymru o £800,000 a wnaed yn erbyn gofyniad gwirioneddol o dros £5 miliwn.

Rydych yn gywir—dylem fod yn meddwl am y staff, oherwydd gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr absenoldebau oherwydd salwch y llynedd. Onid yw hynny'n siarad cyfrolau hefyd? Mae yna bobl dda yn Cyfoeth Naturiol Cymru a dylem fod yn tystio i'r ffaith eu bod yn gwneud cystal ag y maent ac yn gweithio mor gampus o dan amodau mor anodd. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: ar ei drywydd cyfredol o gyllidebau sy'n crebachu a llwyth gwaith sy'n cynyddu, ar ba bwynt y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhygnu i stop camweithredol?

I think you make a very important point around capacity and their budget. I've obviously been scrutinised this year on the budget and you will see that we are making every effort we can to ensure they receive the funding they have. In the last five years, as NRW have brought the work and the responsibilities of the three previous organisations together, they did have a target of saving £158 million, and they're well on course to deliver even more than that. So, I think it is about balance, and I appreciate that legislation Welsh Government have brought forward has required more from NRW, and those are certainly conversations that I'm having with the interim chair and the chief executive on a monthly basis, along with the Minister for Environment. I don't want them to come to a point where that is the case, and we will make sure that that does not happen. 

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â chapasiti a'u cyllideb. Yn amlwg, cafodd fy ngwaith ar y gyllideb ei graffu eleni, ac fe fyddwch yn gweld ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael y cyllid sydd ganddynt. Yn y pum mlynedd ddiwethaf, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ddod â gwaith a chyfrifoldebau'r tri chorff blaenorol at ei gilydd, roedd ganddynt darged i arbed £158 miliwn, ac maent yn bendant ar y trywydd i arbed mwy na hynny hyd yn oed. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chydbwysedd, ac rwy'n derbyn bod deddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galw am fwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'r rheini'n sicr yn sgyrsiau rwy'n eu cael gyda'r cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr bob mis, ynghyd â Gweinidog yr Amgylchedd. Nid wyf eisiau iddynt gyrraedd pwynt lle mae hynny'n wir, a byddwn yn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.  


I've had the advantage of questioning Clare Pillman, the current chief executive, on the Public Accounts Committee, and I have to say that she did impress me, and she's certainly a vast improvement on her predecessor. But I wonder whether there is an inherent tension between the regulatory role on one hand and the management of the environment role in NRW, and its commercial arm, given the disastrous consequences of their attempts to act in a commercial fashion in recent years. And, whilst I wouldn't necessarily go as far as Andrew R.T. Davies in calling for the whole organisation to be dismantled and put back together again as it was previously, perhaps, is there not an argument for separating out the commercial functions of NRW and having a separate board for that which is quasi-independent, at least, of the main board?

Cefais y fantais o holi Clare Pillman, y prif weithredwr cyfredol, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei bod wedi creu argraff arnaf, ac mae'n sicr yn llawer gwell na'i rhagflaenydd. Ond rwy'n meddwl tybed a oes tensiwn cynhenid rhwng y rôl reoleiddiol ar y naill law a'r rôl rheoli'r amgylchedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru, a'i gangen fasnachol, o ystyried canlyniadau trychinebus eu hymdrechion i weithredu mewn modd masnachol yn y blynyddoedd diwethaf. Ac er na fuaswn o reidrwydd yn mynd mor bell ag Andrew R.T. Davies a galw am ddatgymalu'r sefydliad cyfan a'i roi yn ôl at ei gilydd eto fel yr oedd o'r blaen, efallai, onid oes dadl dros wahanu swyddogaethau masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru a chael bwrdd ar wahân ar gyfer hynny sy'n lled-annibynnol, o leiaf, oddi ar y prif fwrdd?

I have certainly had conversations with the chief executive around this, and I don't think that should be done at the current time. You'll be aware that NRW are in the process of recruiting a head of the commercial sector within NRW to see what extra funding they can bring in, and I think that's the right way to be at the moment. But I'm very pleased to hear that you don't think changing the organisation is the right thing. I think it's really unlikely to help us to move forward on the delivery that we need to see. 

Yn sicr, rwyf wedi cael sgyrsiau am hyn gyda'r prif weithredwr, ac nid wyf yn credu y dylid gwneud hynny ar hyn o bryd. Fe fyddwch yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o recriwtio pennaeth y sector masnachol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa gyllid ychwanegol y gallant ei gyflwyno, a chredaf mai dyna'r ffordd iawn i fynd ar hyn o bryd. Ond rwy'n falch iawn o glywed nad ydych yn credu mai newid y sefydliad yw'r peth iawn. Credaf fod hynny'n annhebygol iawn o'n helpu i symud ymlaen a chyflawni'r hyn sydd angen i ni ei weld.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.

Thank you, Cabinet Secretary. 

4. Datganiadau 90 Eiliad
4. 90-second Statements

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90-eiliad. Jane Hutt.

The next item is the 90-second statement. Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Last week, we celebrated the centenary of the day women were able to stand for Parliament in 1918, and one of the early pioneering women MPs was Edith Picton-Turbervill, featured in Angela John's book, Rocking The Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990.

A family plaque for Edith Picton-Turbervill is featured in Ewenny priory in my constituency, where she lived, but it doesn't mention the fact that she was a Labour MP for the Wrekin. In January 1919, Edith, from a staunchly Conservative family, joined the Labour Party. She declared that the Labour Party does its thinking in human terms. She was elected to the Wrekin in 1929, having unsuccessfully stood twice for Parliament in Islington. 

Angela John describes Edith as an able debater, unafraid of asking difficult questions. Most of her speeches concerned the plight of the poorer woman and her children. She was a passionate advocate of women priests and wore a cassock in Parliament, preaching several times in a chapel near Ewenny on the spiritual aspect of the women's movement. She claimed she'd heard better speeches made at meetings of the Mother's Union than many in the House. 

Her great parliamentary achievement came in 1931, when she took a private Member's Bill outlawing the hanging of pregnant women through Parliament. As Angela John describes, her Bill provided that a woman should have the opportunity to state that she was pregnant before the death sentence was pronounced and, if her statement proved correct, this sentence could not then be given. Her first reading of the Bill produced silence in the Chamber. It was unopposed, backed by the Government and became law. 

Edith Picton-Turbervill was inspirational and I pay homage to her here today. 

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, roeddem yn dathlu canmlwyddiant y diwrnod y gallodd menywod sefyll etholiad i'r Senedd yn 1918, ac un o'r ASau benywaidd arloesol cynnar oedd Edith Picton-Turbervill, sydd wedi ei chynnwys yn llyfr Angela John, Rocking The Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990.

Mae plac teuluol i Edith Picton-Turbervill ym mhriordy Ewenni yn fy etholaeth, lle roedd yn byw, ond nid yw'n sôn am y ffaith ei bod yn AS Llafur dros Wrekin. Ym mis Ionawr 1919, a hithau o deulu Ceidwadol cadarn, ymunodd Edith â'r Blaid Lafur. Datganodd fod y Blaid Lafur yn meddwl mewn termau dynol. Cafodd ei hethol dros Wrekin ym 1929, ar ôl sefyll dau etholiad seneddol yn aflwyddiannus yn Islington.

Mae Angela John yn disgrifio Edith fel dadleuwr medrus, nad oedd yn ofni gofyn cwestiynau anodd. Roedd y rhan fwyaf o'i hareithiau'n ymwneud â dioddefaint y fenyw dlotach a'i phlant. Roedd yn eiriolwr brwd dros offeiriaid benywaidd ac yn gwisgo casog yn y Senedd, a phregethodd droeon mewn capel ger Ewenni ar agwedd ysbrydol y mudiad menywod. Honnodd ei bod wedi clywed areithiau gwell yng nghyfarfodydd Undeb y Mamau nag yn y Tŷ.

Daeth ei champ seneddol fawr ym 1931, pan arweiniodd Fil Aelod preifat drwy'r Senedd yn gwahardd hongian menywod beichiog. Fel y mae Angela John yn disgrifio, roedd ei Bil yn darparu ar gyfer rhoi cyfle i fenyw ddatgan ei bod yn feichiog cyn i ddedfryd o farwolaeth gael ei chyhoeddi ac os câi ei datganiad ei brofi'n gywir, ni ellid cyflawni'r ddedfryd honno wedyn. Arweiniodd ei darlleniad cyntaf o'r Bil at dawelwch yn y Siambr. Ni chafodd ei wrthwynebu, cafodd gefnogaeth y Llywodraeth, a daeth yn ddeddf.

Roedd Edith Picton-Turbervill yn ysbrydoledig ac rwy'n talu teyrnged iddi yma heddiw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i'r Byd
5. Debate on the Economy, Infrastructure and Skills Committee Report: Selling Wales to the World

Item 5 on the agenda this afternoon is a debate on the Economy, Infrastrucutre and Skills Committee report 'Selling Wales to the World', and I call on the Chair of that committee to move the motion—Russell George.

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gwerthu Cymru i'r Byd', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6879 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Gwerthu Cymru i'r Byd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2018.

Motion NDM6879 Russell George

To propose that the National Assembly for Wales:

Notes the report of the Economy, Infrastructure and Skills Committee on its inquiry, 'Selling Wales to the World', which was laid in the Table Office on 27 September 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Deputy Presiding Officer. I'd like to move the motion in my name. 

We are, of course, living in changing times as we define our relationship with the rest of Europe and seek new links with emerging and expanding markets. Following the Brexit referendum in 2016, the First Minister announced that he had made it his intention to prioritise the Welsh Government and sell Wales to the world like never before. So, the Economy, Infrastructure and Skills Committee launched an inquiry to explore how the Welsh Government has been selling Wales to the world so far and what selling Wales to the world might look like. We focused on three areas—trade, tourism and skills—and made 14 recommendations on our findings. I won’t go into all 14 today, but I will highlight a few.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud y cynnig yn fy enw i.

Rydym yn byw wrth gwrs mewn cyfnod o newid mawr wrth i ni ddiffinio ein perthynas â gweddill Ewrop a chwilio am gysylltiadau newydd â marchnadoedd sy'n datblygu ac yn ehangu. Yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod yn bwriadu rhoi blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwerthu Cymru i'r byd fel erioed o'r blaen. Felly, lansiwyd ymchwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwerthu Cymru i'r byd hyd yn hyn a sut y gellid gwerthu Cymru i'r byd. Rydym wedi canolbwyntio ar dri maes—masnach, twristiaeth a sgiliau—ac wedi gwneud 14 o argymhellion ar sail ein canfyddiadau. Nid wyf am drafod pob un o'r 14 argymhelliad heddiw, ond rwyf am dynnu sylw at rai ohonynt.

The committee’s first recommendation sought to address the lack of accountability for international trade and Brexit implementation. Currently, these responsibilities are shared between the First Minister, the Cabinet Secretary for Finance and the Cabinet Secretary for Economy and Transport. There is a clear danger that shared responsibility can sometimes fall between two stools, or three stools in this case. So, the committee recommended that the First Minister, whoever that may be, should create a specific Cabinet post for Brexit and international trade. I was pleased that the Welsh Government was accepting of that recommendation. It's clearly up to the new First Minister to make that post available.  

The committee’s focus on international trade found that, although export performance was strong, there were concerns that some SMEs were being crowded out of overseas roadshows as the slots made available by the Welsh Government are snapped up so quickly. So, it was unclear how ambitious small and medium-sized businesses that were not already on the Government’s radar could get involved. Witnesses asked, 'How could we be sure that we were taking the A team on global trade missions if businesses were selected on a first-come-first-served basis?' I think committee members thought that was a fair question.

The committee recommended that the Welsh Government develops an export growth strategy to prepare companies for international markets and increase the number of companies exporting. The economic action plan prioritises support for companies to export, but I will highlight the need to reach those businesses that are currently unable to secure a place on global trade missions.

The committee considered the Welsh Government’s overseas offices. Witnesses were unable to point to the impact the overseas offices have had on export. In fact, witnesses were unable to even define the role of them. The level of resourcing and personnel varies greatly from office to office, and there appears to be a lack of links between offices and local authorities, which could support each other, of course, in this area of work. Further offices have been opened in the past 12 months and more are planned, although the Cabinet Secretary does report to us that each office is now required to develop a business plan. But those are still not being shared with the wider world at large and, more importantly, key stakeholders. So, I would say to the Cabinet Secretary that publishing the contact details of your offices on a website isn’t enough. If stakeholders are unaware of the remit of the offices and the support they could get from them, why would they get in touch? Maximising the use of these offices will go some way to increasing the value for money that they can deliver, so it’s important that we get clarity on this.

If I move on to tourism, Wales is the most tourism-dependent region of the whole of the UK. The 2013 'Partnership for Growth' strategy recognised the importance of the tourism industry and the need to work together with the private sector and other organisations to develop the industry further. As with the global trade missions I mentioned earlier, witnesses raised concerns that some businesses are being debarred from what they considered to be the Visit Wales family. Businesses felt left out of marketing opportunities and excluded from the brand. So, I am pleased that the Cabinet Secretary has accepted our recommendation to enable Welsh businesses to access that branding, and I welcome the work that had started to bring together a digital hub of guidance, tools and materials for businesses and organisations across Wales to use.

I was also pleased to hear that the Cabinet Secretary will be considering a number of partnership options that are intended to help businesses develop bookable products. We know that bookable products are attractive to overseas visitors and that overseas visitors account for less than 5 per cent of visits but 10 per cent of spending, so it’s important that we are able to compete in that market.

Finally, I will reiterate the committee’s call for air passenger duty to be devolved to Wales. We’re not the first committee or group of politicians to call for this, and I suspect we won’t be the last, but it’s been devolved in Scotland and it should be devolved in Wales. I see that the Welsh Affairs Select Committee has launched an inquiry on this matter, and, of course, I look forward to seeing their conclusions.

Deputy Presiding Officer, overall, the committee’s inquiry uncovered pockets of good practice but they must be better aligned across portfolios and accessible to businesses if Wales is to meet its potential in this area. I look forward to the debate this afternoon.

Roedd argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd mewn perthynas â masnach ryngwladol a gweithredu Brexit. Ar hyn o bryd, rhennir y cyfrifoldebau hyn rhwng y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae yna berygl amlwg o syrthio rhwng dwy stôl wrth rannu cyfrifoldebau, neu dair stôl yn yr achos hwn. Felly, argymhellodd y pwyllgor y dylai'r Prif Weinidog, pwy bynnag y bydd, greu swydd benodol yn y Cabinet ar gyfer Brexit a masnach ryngwladol. Roeddwn yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Mae'n amlwg mai cyfrifoldeb y Prif Weinidog newydd yw sicrhau bod y swydd honno ar gael.

Canfu ffocws y pwyllgor ar fasnach ryngwladol fod yna bryderon, er bod perfformiad allforio'n gryf, fod rhai busnesau bach a chanolig yn cael eu gwasgu allan o sioeau teithiol tramor gan fod y lleoedd a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cael eu bachu mor gyflym. Felly, nid oedd yn glir sut y gallai busnesau bach a chanolig uchelgeisiol nad oeddent eisoes ar radar y Llywodraeth gymryd rhan. Gofynnai tystion, 'Sut y gallem fod yn sicr ein bod yn mynd â'r tîm gorau ar deithiau masnach byd-eang os oedd busnesau'n cael eu dewis ar sail y cyntaf i'r felin?' Credaf fod aelodau'r pwyllgor yn credu bod hwnnw'n gwestiwn teg.

Roedd y pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth twf allforio i baratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol a chynyddu nifer y cwmnïau sy'n allforio. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn blaenoriaethu cymorth i gwmnïau allforio, ond rwyf am dynnu sylw at yr angen i gyrraedd y busnesau sy'n methu sicrhau lle ar deithiau masnach byd-eang ar hyn o bryd.

Bu'r pwyllgor yn ystyried swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru. Nid oedd tystion yn gallu dangos yr effaith y mae swyddfeydd tramor wedi'i chael ar allforio. Yn wir, nid oedd tystion yn gallu diffinio'u rôl hyd yn oed. Mae lefel yr adnoddau a'r personél yn amrywio'n fawr o swyddfa i swyddfa, ac ymddengys bod diffyg cysylltiadau rhwng swyddfeydd ac awdurdodau lleol, a allai gefnogi ei gilydd, wrth gwrs, yn y maes gwaith hwn. Mae swyddfeydd pellach wedi'u hagor yn y 12 mis diwethaf ac mae rhagor yn yr arfaeth, er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud wrthym bod angen i bob swyddfa ddatblygu cynllun busnes bellach. Ond nid yw'r rheini'n cael eu rhannu â gweddill y byd yn gyffredinol, ac yn bwysicach, â rhanddeiliaid allweddol. Felly, buaswn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet nad yw cyhoeddi manylion cyswllt eich swyddfeydd ar wefan yn ddigon. Os nad yw rhanddeiliaid yn ymwybodol o gylch gorchwyl y swyddfeydd a'r cymorth y gallent ei gael ganddynt, pam y byddent yn dod i gysylltiad? Bydd manteisio i'r eithaf ar y defnydd o'r swyddfeydd hyn yn gymorth i gynyddu'r gwerth am arian y gallant ei gyflawni, felly mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eglurder ar hyn.

Os caf symud ymlaen at dwristiaeth, Cymru yw'r rhanbarth sy'n dibynnu fwyaf ar dwristiaeth yn y DU gyfan. Roedd strategaeth 'Partneriaeth ar gyfer Twf' 2013 yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a'r angen i gydweithio gyda'r sector preifat a sefydliadau eraill i ddatblygu'r diwydiant ymhellach. Fel gyda'r teithiau masnach byd-eang y soniais amdanynt yn gynharach, mynegodd tystion bryderon fod rhai busnesau'n teimlo nad oeddent yn rhan o'r hyn a ystyrient yn deulu Croeso Cymru. Roedd busnesau'n teimlo eu bod yn cael eu hepgor o'r cyfleoedd marchnata a'u heithrio o'r brand. Felly, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad i alluogi busnesau Cymru i gael mynediad at y brand hwnnw, a chroesawaf y gwaith a oedd wedi dechrau ar greu canolbwynt digidol o ganllawiau, adnoddau a deunyddiau i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru eu defnyddio.

Roeddwn yn falch o glywed hefyd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried nifer o opsiynau partneriaeth gyda'r bwriad o helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion y gellir eu harchebu. Rydym yn gwybod bod cynhyrchion y gellir eu harchebu yn ddeniadol i ymwelwyr o wledydd tramor ac mai 5 y cant yn unig o ymweliadau a wneir gan ymwelwyr o wledydd tramor ond hwy sydd i gyfrif am 10 y cant o'r gwariant, felly mae'n bwysig ein bod yn gallu cystadlu yn y farchnad honno.

Yn olaf, rwyf am ailadrodd galwad y pwyllgor am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Nid ni yw'r pwyllgor cyntaf na'r grŵp cyntaf o wleidyddion i alw am hyn, ac rwy'n tybio nad ni fydd yr olaf, ond mae wedi'i ddatganoli yn yr Alban a dylid ei ddatganoli yng Nghymru. Gwelaf fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi lansio ymchwiliad ar y mater hwn, ac wrth gwrs, edrychaf ymlaen at weld eu casgliadau.

Ddirprwy Lywydd, yn gyffredinol, mae ymchwiliad y pwyllgor wedi datgelu pocedi o arferion da ond mae'n rhaid iddynt gael eu cysoni'n well ar draws portffolios ac mae'n rhaid iddynt fod yn hygyrch i fusnesau os yw Cymru'n mynd i gyrraedd ei photensial yn y maes hwn. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma.


Firstly—and I speak not as a member of the committee, but as somebody who takes a keen interest in our positioning as a nation—certainly, we welcome the report. It includes very valuable advice going forward, and, of course, what we don't quite know as yet is what Wales's context will be. It looks as if it will be outside the European Union, but, whatever happens next year in terms of our future direction as a country, Wales is going to need a bigger voice than ever.

Russell George, in the introduction to the report, says that:

'It is clear to the Committee that more can be done to sell Wales to the world in a strategic and joined up way. There are pockets of good practice that must be better aligned across portfolios—and accessible to more businesses—if we are to meet our potential in this area'.

In many ways, we can see this as the story of this Government across many portfolio areas: lack of strategic thinking, not enough thinking strategically, not as much joined-up working as we'd like to see, only pockets of good practice here and there. And I think the crisis of Brexit—and it's not too strong a word to use—means that Wales's voice risks being lost, I think, and drowned out, and we really must be doing better, must be thinking more strategically, and I fear that, over two years since the Brexit referendum, the Welsh Government hasn't taken as many steps as I would like—as we would like—to take this as seriously as it should have been.

And in Scotland, I think, we see once again a Government showing what can be done with a strategic vision. For many years, I think the devolved Government there has worked hard to sell a distinct Scottish brand in business and in tourism and so on and to seek out as much influence as possible for their country, in Europe, and, indeed, elsewhere around the world, and this at a time when there seems to be an effort on the part of some, not least the UK Government, of course, to marginalise the Welsh brand, as seen most explicitly, of course, in the Royal Welsh Show, as I've mentioned a number of times, with Welsh produce this summer.

Now, the main recommendation in this report, the top recommendation, is that a specific Minister is created to combine Brexit responsibilities with external affairs, including selling Wales to the world. Scotland has had a similar, actually, Cabinet-level Minister for Europe and External Affairs going back to the dawn of devolution, I think, from the year 2000. It was abolished, then merged with other portfolios, before being resurrected when the SNP came into power in 2007. Europe and external affairs is part of a Cabinet-level position in Scotland, with a junior Minister assisting. Of course, they have more capacity in terms of membership there in Scotland. And I don't think there really is an excuse not to have one now in Wales, given the challenges that we face, and Plaid Cymru has been calling for a Minister to deal with external issues for some time—a specific Minister, of course. It's rolled into the First Minister's responsibilities; we think that there needs to be a stepping up, and the changing context, I think, strengthens the argument for that.

We're a little unclear from the Government response to the report whether or not they're accepting the need for the creation of a ministerial-level position for Brexit and international trade or suggesting that we just stick as we are now with the First Minister and other Ministers currently dealing with those issues. Perhaps some clarity on that point, actually, would be useful now. The current set-up, though, as the report notes, isn't joined-up, isn't specific enough, isn't strategic enough, and a separate Minister would be able to also bring real clarity and accountability, which is crucial, of course, to how we approach our external affairs issues as a country. So, that's what the main recommendation is. 

I'd like to pick up on the role of overseas offices too. The report was clear in its conclusions that there was a lack of direction and resources for these officers. More focus is needed; better engagement with businesses in Wales and elsewhere is going to be crucial. I note from the Government response that the offices are now required to tailor specific business plans based on the strengths and opportunities in their respective markets. We welcome that, but there's still, I think, a question of resources here and whether we now believe they are able to carry out the need for an expanded role in that new context.

The main takeaway, then, from this report for us is that, as with so many areas of Government, there's a lack of strategic thinking, a lack of leadership. Highlighted is the work that needs to be done across a variety of departments. This, in many ways, is the beginning of a new era for Wales; it's not an era that we would have invented ourselves, but I think we have in this report a series of recommendations that, hopefully, can lay some foundations at the start of that new period in Welsh history.

Yn gyntaf—ac rwy'n siarad, nid fel aelod o'r pwyllgor, ond fel rhywun sydd â diddordeb brwd yn lle y cawn ein gosod fel cenedl—yn sicr, rydym yn croesawu'r adroddiad. Mae'n cynnwys cyngor gwerthfawr iawn ar gyfer y dyfodol, ac wrth gwrs, nid ydym yn gwybod yn iawn eto beth fydd cyd-destun Cymru. Ymddengys y bydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond beth bynnag fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf o ran ein cyfeiriad fel gwlad yn y dyfodol, bydd Cymru angen llais uwch nag erioed o'r blaen.

Mae Russell George, yn y cyflwyniad i'r adroddiad, yn dweud:

'Mae’n amlwg i’r Pwyllgor fod rhagor y gellir ei wneud i werthu Cymru i’r byd mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig. Mae pocedi o arfer da y mae’n rhaid eu halinio’n well ar draws portffolios—a’u gwneud yn agored i ragor o fusnesau—os ydym am gyflawni ein potensial yn y maes hwn'.

Mewn llawer o ffyrdd, gallwn ei gweld fel stori'r Llywodraeth hon ar draws nifer o feysydd portffolio: diffyg meddwl strategol, dim digon o feddwl yn strategol, dim cymaint o weithio cydgysylltiedig ag yr hoffem ei weld, dim ond pocedi o arferion da yma ac acw. A chredaf fod argyfwng Brexit—ac nid yw'n air rhy gryf i'w ddefnyddio—yn golygu bod yna berygl y bydd llais Cymru'n cael ei golli, rwy'n credu, a'i foddi, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well, rhaid i ni feddwl yn fwy strategol, ac mae arnaf ofn, dros y ddwy flynedd ers refferendwm Brexit, nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynifer o gamau ar waith ag yr hoffwn—ag y byddem yn ei hoffi—gyda'r difrifoldeb y dylai fod wedi'i ddangos tuag at y mater hwn.

Ac yn yr Alban, rwy'n credu, unwaith eto, rydym yn gweld Llywodraeth sy'n dangos beth y gellir ei wneud gyda gweledigaeth strategol. Ers blynyddoedd lawer, rwy'n credu bod y Llywodraeth ddatganoledig yno wedi gweithio'n galed i werthu brand unigryw yr Alban mewn busnes ac mewn twristiaeth ac ati ac wedi ceisio cymaint o ddylanwad ag y bo modd i'w gwlad, yn Ewrop, ac yn wir, mewn mannau eraill o gwmpas y byd, a hynny ar adeg pan ymddengys bod rhai'n ymdrechu, nid yn lleiaf Llywodraeth y DU, wrth gwrs, i ymyleiddio brand Cymru, a gwelwyd hynny ar ei fwyaf amlwg, wrth gwrs, yn Sioe Frenhinol Cymru, fel rwyf wedi'i grybwyll sawl gwaith, gyda chynnyrch Cymru yr haf hwn.

Nawr, prif argymhelliad yr adroddiad hwn, yr argymhelliad ar y brig, yw y dylid creu Gweinidog penodol i gyfuno cyfrifoldebau Brexit â materion allanol, gan gynnwys gwerthu Cymru i'r byd. Mewn gwirionedd, mae gan yr Alban Weinidog Ewrop a Materion Allanol o'r fath ar lefel Cabinet ers dechrau datganoli, rwy'n credu, o'r flwyddyn 2000 ymlaen. Cafodd ei ddiddymu, yna'i gyfuno â phortffolios eraill, cyn cael ei atgyfodi pan ddaeth yr SNP i rym yn 2007. Mae Ewrop a materion allanol yn rhan o swydd lefel Cabinet yn yr Alban, gydag is-weinidog yn cynorthwyo. Wrth gwrs, mae ganddynt fwy o gapasiti o ran nifer yr aelodau yno yn yr Alban. Ac nid wyf yn credu bod esgus dros beidio â chael un yn awr yng Nghymru mewn gwirionedd, o ystyried yr heriau a wynebwn, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am Weinidog i ymdrin â materion allanol ers peth amser—Gweinidog penodol, wrth gwrs. Mae'n rhan o gyfrifoldebau'r Prif Weinidog; credwn fod angen camu'n uwch, ac mae'r cyd-destun newidiol, rwy'n credu, yn cryfhau'r ddadl dros wneud hynny.

Nid ydym yn siŵr o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad a ydynt yn derbyn yr angen i greu swydd ar lefel weinidogol ar gyfer Brexit a masnach rhyngwladol neu a ydynt yn awgrymu ein bod yn aros gyda'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd gyda'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yn ymdrin â'r materion hynny. Efallai y byddai rhywfaint o eglurder ar y pwynt hwnnw'n ddefnyddiol yn awr mewn gwirionedd. Nid yw'r trefniant presennol, fodd bynnag, fel y noda'r adroddiad, yn gydgysylltiedig, nid yw'n ddigon penodol, nid yw'n ddigon strategol, a byddai Gweinidog ar wahân yn gallu sicrhau eglurder ac atebolrwydd go iawn, sy'n hollbwysig, wrth gwrs, o ran sut rydym yn ymdrin â'n materion allanol fel gwlad. Felly, dyna yw'r prif argymhelliad.

Hoffwn sôn am rôl swyddfeydd tramor hefyd. Roedd yr adroddiad yn glir yn ei gasgliadau fod yna ddiffyg cyfeiriad ac adnoddau ar gyfer y swyddogion hyn. Mae angen mwy o ffocws; bydd ymgysylltiad gwell â busnesau yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn hollbwysig. Sylwaf, o ymateb y Llywodraeth, fod gofyn i'r swyddfeydd deilwra cynlluniau busnes penodol erbyn hyn yn seiliedig ar y cryfderau a'r cyfleoedd yn eu gwahanol farchnadoedd. Rydym yn croesawu hynny, ond mae cwestiwn yn codi o hyd ynglŷn ag adnoddau ac a ydym bellach yn credu eu bod yn gallu cyflawni'r angen am swyddogaeth ehangach yn y cyd-destun newydd hwnnw.

Prif neges yr adroddiad hwn, felly, yw bod yna ddiffyg meddwl strategol, a diffyg arweinyddiaeth, fel sy'n wir am gynifer o feysydd Llywodraeth. Tynnwyd sylw at y gwaith sydd angen ei wneud ar draws amrywiaeth o adrannau. Mae hwn, mewn sawl ffordd, yn ddechrau cyfnod newydd i Gymru; nid yw'n gyfnod y byddem wedi'i ddyfeisio ein hunain, ond rwy'n credu bod gennym gyfres o argymhellion yn yr adroddiad hwn a fydd, gobeithio, yn gallu gosod rhai sylfeini ar gychwyn y cyfnod newydd hwnnw yn hanes Cymru.


I'm grateful to get the opportunity to speak in support of this report into selling Wales to the world. It's a crucial area for our country's prosperity and one that is all the more vital as we face the uncertainty of the post-Brexit world. Giving small businesses in my constituency of Cynon Valley, and across Wales, the skills, confidence and opportunity to engage is really, really important. This report clearly shows what more we must do to get it right. I want to focus on what I believe to be six key recommendations in the report.

Firstly, recommendation 2—now, this notes the importance of an export growth strategy that prepares companies for international markets and increases the numbers of companies exporting. I'm glad the Welsh Government has accepted this recommendation, and that, in doing so, it sets out what it's already doing, such as prioritising exports within the economic action plan. It’s especially good to see mention of our food and drink sector. Several companies from my constituency have already benefited from Welsh Government support to take part in prestigious trade fairs. They told me how valuable this has been in building their success. That’s companies like the internationally recognised Penderyn Distillery—which welcomed the First Minister the other week—also Grey Trees brewery, the Authentic Curry Co, and Welsh Hills Bakery, with their specialist gluten-free products. I hope that we can encourage more of our local companies, especially in a post-Brexit Wales, to participate in this way.

Increasing business involvement is also key to recommendation 6. However, this is more about getting them to buy into a strong Welsh brand identity. We know that countries who do well have strong, recognisable branding. And I do share the concerns of other colleagues that have spoken already that our Welsh brand may not quite be as strong as it could be. I also note from our work as a committee the evidence from stakeholders about brand identity needing time to bed in.

I think the work that Visit Wales does around its various themed years is very exciting, but I do wonder if annual shifts of focus are the right way to build brand identity. Perhaps we need to think about a more long-term theming to really build that globally recognised Welsh brand. I look forward to the outcomes of the work to develop a digital brand hub for Welsh businesses and organisations to buy into, and also to the incorporation of a Wales brand into all tourism signage and labelling. Related to this are our recommendations 7 and 8. Now, when we were doing this work in committee, I was really not happy with the lack of Welsh resources on the Visit Britain web pages, and in particular, the lack of bookable products. I’ve checked again this morning, and it's good to see that things are improving and there are now eight Welsh bookable attractions on there. That's more than Northern Ireland, but still less than Scotland, and a tiny fraction of the 153 bookable attractions for England, including London.

It’s a similar picture for trips and tours and sightseeing passes too. I still can't see any direct link between the Visit Britain web page and Visit Wales web page. So, I welcome the Cabinet Secretary’s evidence that he gave to the committee, and I know that this is something he said he is aware of and he's entered into discussions around. And it's good to see the additional detail set out in the Welsh Government's response to our report, particularly around developing bookable products and strengthening partnerships. It is clear that there is more that needs to be done in this area to give Wales a level playing field.

I also want to fully endorse recommendation 11, on the devolution of air passenger duty. Professor Annette Pritchard, a tourism expert at Cardiff Metropolitan University, made the case to us very powerfully here, as a committee. She told us that failure to devolve APD had suppressed tourism, economic growth, employment prospects and revenue contributions. In addition, it was hampering the ability of Cardiff Airport to expand and operate as a hub for international tourism to Wales. Indeed, modelling submitted to the Welsh Government has estimated that devolution of APD could lead to an additional 658,000 passengers using Cardiff Airport each year by 2025. So, I hope that we can send a strong message that APD should be devolved, and endorse the Cabinet Secretary’s robust reply on this.

I want to close by saying a few words on our first recommendation, and that's the one that calls for a Cabinet-level trade portfolio. While agreeing with this, I also want to applaud the work that Ministers have done in this area to date, in particular the leadership shown by our current First Minister throughout his term of office. A future First Minister may well agree with us that a visible presence focusing on this area is important, but that should not detract from the dedication that our current First Minister and his team have shown to selling Wales. I am happy to endorse this report today.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad o blaid yr adroddiad hwn ar werthu Cymru i'r byd. Mae'n faes hanfodol ar gyfer ffyniant ein gwlad ac yn un sy'n fwyfwy hanfodol wrth i ni wynebu ansicrwydd y byd ôl-Brexit. Mae rhoi sgiliau, hyder a chyfleoedd i fusnesau bach ymgysylltu, yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, yn wirioneddol bwysig. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir beth arall sy'n rhaid i ni ei wneud er mwyn cael pethau'n iawn. Credaf fod yna chwe argymhelliad allweddol yn yr adroddiad, ac rwyf am ganolbwyntio ar y rhain.

Yn gyntaf, argymhelliad 2—nawr, mae hwn yn nodi pwysigrwydd strategaeth twf allforio sy'n paratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol ac yn cynyddu nifer y cwmnïau sy'n allforio. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a thrwy wneud hynny, mae'n nodi'r hyn y mae'n ei wneud eisoes, megis blaenoriaethu allforio o fewn y cynllun gweithredu economaidd. Mae'n arbennig o braf gweld cyfeiriad at ein sector bwyd a diod. Mae nifer o gwmnïau yn fy etholaeth eisoes wedi elwa o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn ffeiriau masnach o fri. Maent wedi dweud wrthyf pa mor werthfawr oedd hyn wrth iddynt adeiladu eu llwyddiant. Mae hynny'n cynnwys cwmnïau fel Distyllfa Penderyn a gydnabyddir yn rhyngwladol—ac a groesawodd y Prif Weinidog yr wythnos o'r blaen—yn ogystal â bragdy Grey Trees, Authentic Curry Co., a Welsh Hills Bakery, gyda'u cynnyrch di-glwten arbenigol. Rwy'n gobeithio y gallwn annog mwy o'n cwmnïau lleol i gymryd rhan yn y modd hwn, yn enwedig ar ôl Brexit.

Mae cynyddu cyfraniad busnesau hefyd yn allweddol i argymhelliad 6. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud mwy â'u cael i gefnogi hunaniaeth brand Cymreig cryf. Rydym yn gwybod bod gan wledydd sy'n gwneud yn dda frand cryf y gellir ei adnabod. Ac rwy'n rhannu pryderon cyd-Aelodau eraill sydd eisoes wedi siarad nad yw ein brand Cymreig mor gryf ag y gallai fod. Nodaf o'n gwaith fel pwyllgor hefyd y dystiolaeth gan randdeiliaid fod angen amser i sefydlu hunaniaeth brand.

Credaf fod y gwaith y mae Croeso Cymru yn ei wneud gyda'i flynyddoedd thematig amrywiol yn gyffrous iawn, ond rwy'n meddwl tybed ai newid ffocws bob blwyddyn yw'r ffordd gywir o adeiladu hunaniaeth brand. Efallai bod angen inni feddwl am thema fwy hirdymor i adeiladu brand Cymreig go iawn a gydnabyddir yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ar ddatblygu canolbwynt brand digidol ar gyfer busnesau a sefydliadau Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld brand Cymru yn cael ei gynnwys ar yr holl arwyddion a labeli twristiaeth. Mae argymhellion 7 ac 8 yn gysylltiedig â hyn. Nawr, pan oeddem yn gwneud y gwaith hwn yn y pwyllgor, nid oeddwn yn hapus o gwbl ynghylch y diffyg adnoddau Cymreig ar dudalennau gwe Visit Britain, ac yn arbennig, y diffyg cynhyrchion y gellir eu harchebu. Rwyf wedi edrych eto y bore yma, ac mae'n dda gweld bod pethau'n gwella a bod wyth o atyniadau Cymreig y gellir eu harchebu yno erbyn hyn. Mae hynny'n fwy na Gogledd Iwerddon, ond yn dal i fod yn llai na'r Alban, ac yn gyfran fach iawn o'r 153 o atyniadau y gellir eu harchebu yn Lloegr, gan gynnwys Llundain.

Mae'n ddarlun tebyg ar gyfer tripiau a theithiau a thocynnau ymweld hefyd. Ni allaf weld unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng tudalen we Visit Britain a thudalen we Croeso Cymru. Felly, croesawaf y dystiolaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyllgor, a gwn fod hyn yn rhywbeth y dywedodd ei fod yn ymwybodol ohono a'i fod wedi cynnal trafodaethau yn ei gylch. Ac mae'n dda gweld y manylion ychwanegol a nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, yn enwedig mewn perthynas â datblygu cynhyrchion y gellir eu harchebu a chryfhau partneriaethau. Mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y maes hwn i roi chwarae teg i Gymru.

Hoffwn gefnogi argymhelliad 11 yn llawn hefyd, ar ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Cyflwynodd yr Athro Annette Pritchard, arbenigwr ar dwristiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, achos cryf iawn i ni yma, fel pwyllgor. Dywedodd wrthym fod methiant i ddatganoli'r doll teithwyr awyr wedi atal twristiaeth, twf economaidd, rhagolygon cyflogaeth a chyfraniadau refeniw. Yn ogystal, roedd yn amharu ar allu Maes Awyr Caerdydd i ehangu a gweithredu fel canolbwynt ar gyfer twristiaeth ryngwladol i Gymru. Yn wir, mae gwaith modelu a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y gallai datganoli'r doll teithwyr awyr arwain at 658,000 o deithwyr ychwanegol yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd bob blwyddyn erbyn 2025. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn anfon neges gref y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr, a chefnogi ateb cadarn Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn.

Rwyf am gloi drwy ddweud ychydig eiriau am ein hargymhelliad cyntaf, sef yr un sy'n galw am bortffolio masnach ar lefel y Cabinet. Er fy mod yn cytuno â hyn, hoffwn ganmol y gwaith y mae Gweinidogion wedi'i wneud yn y maes hwn hyd yn hyn hefyd, yn enwedig yr arweiniad a ddangoswyd gan ein Prif Weinidog drwy gydol ei gyfnod yn y swydd. Mae'n bosibl y bydd Prif Weinidog yn y dyfodol yn cytuno â ni fod presenoldeb gweladwy sy'n canolbwyntio ar y maes hwn yn bwysig, ond ni ddylai hynny dynnu oddi ar yr ymroddiad y mae ein Prif Weinidog cyfredol a'i dîm wedi'i ddangos wrth werthu Cymru. Rwy'n falch o gymeradwyo'r adroddiad hwn heddiw.


As the committee Chair pointed out, our inquiry centred on three areas: trade, tourism, skills and training. It must be acknowledged that selling a small country such as Wales on the global market is no easy task. Sadly, our diaspora throughout the world is far smaller than that of either Scotland or Ireland. Consequently, the world's general knowledge of Wales is far less than that of these countries. We are, so to speak, lagging behind these nations. This lack of general knowledge of Wales was witnessed in our recent visit to Brussels, in that the Canadian diplomats and officials we met told us that, until recently, they had little or no knowledge of Wales.

There are, of course, signs that Wales is beginning to gain recognition, particularly from the worldwide sporting events that we have managed to attract—the Ryder Cup and the Champions League are good examples of this. But one has to ask: do they bring a lasting legacy, or is that legacy subsumed by the next venue to hold the event? The Cabinet Secretary, Ken Skates, is convinced that we are beginning to establish ourselves in an international context in such things as projecting ourselves as the adventure tourism playground of Europe, and I'm sure that this sort of specialisation is the key to obtaining global recognition for Wales. 

The first recommendation in our report is that the Government should create a specific Cabinet post to combine international trade responsibility and Brexit policy implementation. The committee sees this as a key factor in drawing together all the disparate strands in the development of the Wales brand. I'm disappointed that the Government only accepted in principle our fourth recommendation that the Cabinet Secretary should publish a detailed remit for overseas offices and report annually on how each office is delivering against that remit. It must be asked: what other way can we scrutinise their performance and make adjustments and strategies to make them more effective? 

I will end by pointing out that in Y Ddraig Goch, the unique flag, we have a ready-made marketing icon far more recognisable than the Scottish saltire or the Irish tricolour or, dare I say, the cross of St George. We should promote it on everything we produce and wherever we exhibit. Companies pay millions to have such a recognisable symbol; we should exploit it wherever and whenever we can.

Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, roedd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar dri maes: masnach, twristiaeth, sgiliau a hyfforddiant. Rhaid cydnabod nad yw gwerthu gwlad fach fel Cymru ar y farchnad fyd-eang yn dasg hawdd. Yn anffodus, mae ein cymuned o Gymry alltud ledled y byd yn llawer llai nag un yr Alban neu Iwerddon. O ganlyniad, mae gwybodaeth gyffredinol y byd am Gymru yn llawer llai nag un y gwledydd hyn. Rydym yn llusgo ar ôl y gwledydd hyn, fel petai. Gwelwyd y diffyg gwybodaeth gyffredinol hwn am Gymru yn ein hymweliad diweddar â Brwsel, pan ddywedodd y diplomyddion a'r swyddogion o Ganada y cyfarfuom â hwy nad oedd ganddynt fawr o wybodaeth, os o gwbl, am Gymru tan yn ddiweddar.

Wrth gwrs, mae yna arwyddion fod Cymru'n dechrau cael sylw, yn enwedig yn sgil y digwyddiadau chwaraeon byd-eang rydym wedi llwyddo i'w denu—mae Cwpan Ryder a Chynghrair y Pencampwyr yn enghreifftiau da o hyn. Ond mae'n rhaid i ni ofyn: a ydynt yn cynnig gwaddol barhaol, neu a fydd y gwaddol hwnnw'n cael ei basio i'r lleoliad nesaf a fydd yn cynnal y digwyddiad? Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yn argyhoeddedig ein bod yn dechrau ymsefydlu yn y cyd-destun rhyngwladol drwy ddarlunio ein hunain fel parc antur twristiaeth Ewrop er enghraifft, ac rwy'n siŵr bod y math hwn o arbenigedd yn allweddol i sicrhau sylw byd-eang i Gymru.

Yr argymhelliad cyntaf yn ein hadroddiad yw y dylai'r Llywodraeth greu swydd benodol yn y Cabinet i gyfuno cyfrifoldebau masnach ryngwladol a gweithrediad polisi Brexit. Mae'r pwyllgor yn credu bod hwn yn ffactor allweddol ar gyfer dwyn ynghyd yr holl elfennau gwahanol wrth ddatblygu brand Cymru. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth ond wedi derbyn ein pedwerydd argymhelliad mewn egwyddor, sef y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi cylch gwaith manwl ar gyfer y swyddfeydd tramor a llunio adroddiad blynyddol ar y modd y mae pob swyddfa yn cyflawni'r cylch gwaith hwnnw. Mae'n rhaid gofyn: pa ffordd arall y gallwn graffu ar eu perfformiad a gwneud addasiadau a strategaethau i'w gwneud yn fwy effeithiol?

Rwyf am gloi drwy nodi bod gennym ym maner unigryw'r Ddraig Goch eicon marchnata parod sy'n llawer mwy adnabyddus na chroes Andreas yr Alban neu faner drilliw Iwerddon, neu groes San Siôr, os caf ddweud. Dylem ei hyrwyddo ar bopeth a gynhyrchwn a lle bynnag y byddwn yn ei arddangos. Mae cwmnïau'n talu miliynau i gael symbol mor adnabyddus; dylem fanteisio arno lle bynnag a phryd bynnag y gallwn.

Can I now call the Cabinet Secretary for Economy and Transport, Ken Skates?

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Can I begin by saying that I very much welcome the committee's report? I'd like to thank Members for their contributions today and their hard work in compiling the report and its recommendations. I really do think that international engagement and delivery is a vital part of our agenda to grow the Welsh economy.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu adroddiad y pwyllgor yn fawr iawn? Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a'u gwaith caled wrth lunio'r adroddiad a'i argymhellion. Rwy'n credu o ddifrif fod ymgysylltiad a chyflawniad rhyngwladol yn rhan hanfodol o'n hagenda i dyfu economi Cymru.

Now, our relationship with the European Union might well be changing, but with two thirds of Welsh exports currently going to the European market, we will do everything possible to maintain a relationship with the European single market that allows companies to maintain free and unfettered access. Now, we have seen an increase in the value of exports in the last few years, and we need to continue that positive momentum. Our continued support for Welsh exporters will help to achieve this goal, and by making this support one of our five calls to action, we will help Welsh businesses to maintain exports to the EU, as well as accessing new markets in North America, the middle east and beyond. And across Government, but particularly with the assistance of my friend and colleague Lesley Griffiths, we are ensuring that companies—large, small and micro-sized companies—have access to trade missions, and it's particularly apparent in trade missions concerning Welsh food and drink, which is becoming increasingly recognised for the high quality of produce and the strong provenance of the goods that we are able to take overseas. 

Now, I'm pleased to be able to say that we are allocating resources from the £7.5 million business resilience fund recently approved through the European transition fund to support campaigns and activities that help companies to establish the traction that they need in new markets, and that positions us, I think, to keep Wales's international profile as a location for investment strong and positive. Our overseas offices are, indeed, vital to this agenda, and they are multifaceted, covering business, culture, education and tourism. We've already embarked upon a strategic expansion of this network, opening, in recent months and in the past few years, new offices in key markets, which include Canada, and Qatar, and Germany, and, of course, France. Over time, these offices will build upon the existing links that are already established in those territories and their respective markets and deliver even greater gains for Wales.

Now, our relationship with our partners in the UK Government's Department for International Trade, and also the Foreign and Commonwealth Office, ensures that Welsh companies have access to the full range of support to promote their goods and services overseas, as well as promoting the message that Wales is a great place in which to do business, a great place in which to learn, and a superb place in which to live.

The Wales brand now provides a firm foundation for our work to promote Wales in a wide range of markets across all channels and all sectors. It underpins more than £10 million of marketing spend per annum in the tourism and business sectors. It also is used at prestigious events, such as the UEFA Champions League final, the Ryder Cup and the Volvo Ocean Race. It can be seen at iconic locations across Wales, from the airport to stadia. It's also applied to all our food and drink marketing, and it's a major aspect of our international health recruitment campaigns. It's also worth saying, Dirprwy Lywydd, that it is an internationally renowned, award-winning brand campaign. It's delivering tangible results right across the economy. Tourism marketing alone has delivered an additional spend of around about £350 million a year for the economy, and this has doubled since 2013, and it supports thousands upon thousands of valuable jobs in Wales. It's just one example of how raising our international profile and having a consistent, strong and compelling brand has benefited the people, the economy and the country of Wales.

Tourism is often identified as the flag carrier for the country, and the themed years have been carving, I think, a much stronger and clearer and distinctive proposition for Wales, and this is indeed being noticed. Many awards have been bestowed upon Visit Wales for the thematic years campaign, and it's no doubt one of the most successful branding exercises and campaign exercises in the UK in recent times, but we cannot stop here, and our economic action plan sets out the Welsh Government's commitment to building and maintaining European partnerships in areas of common interest. Seventy-seven per cent—I believe it is—of Welsh food and drink exports alone went to the EU in 2017. Therefore, it's vital that we maintain strong links to this important region despite Brexit. We'll also continue to develop new ways to build and maintain European partnerships through investing in networks and bilateral co-operation with partner countries and regions. From our existing support for exporters in Wales to the work that we undertake with our own overseas network and its partners, all of our international activity demonstrates the Welsh Government's commitment to this crucially important agenda. The relationships that we have built in Europe and beyond have been enhanced by the recent commitment to expand our overseas network, ensuring that the Wales offer to businesses, to tourists, to students is visible and as far-reaching as possible. And, we won't stop here, as we continue to help businesses to explore new markets, to attract overseas students and visitors and create lasting partnerships that will meet the challenges of today and tomorrow.

Can I just say finally, in reference specifically to recommendation 1, every time a Minister travels abroad, they are subject to a freedom of information request, and, consequently, often criticised for the costs incurred in promoting Wales abroad. So, please, if the new First Minister does create a role for international trade and Brexit, as you have strongly recommended, then please, please recognise that their travel and subsistence costs will be much higher than others in Government. So, please don't call today for this, only to tomorrow condemn such a person for the cost of doing the job right.    

Nawr, gallai ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn newid, ond gyda dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd ar hyn o bryd, byddwn yn gwneud popeth a allwn i gynnal perthynas gyda'r farchnad sengl Ewropeaidd sy'n caniatáu i gwmnïau gynnal mynediad rhydd a dilyffethair. Nawr, rydym wedi gweld cynnydd yng ngwerth allforion yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae angen i ni barhau'r momentwm cadarnhaol hwnnw. Bydd ein cefnogaeth barhaus i allforwyr Cymru yn helpu i gyflawni'r nod hwn, a thrwy sicrhau bod y cymorth hwn yn un o'n pum galwad i weithredu, byddwn yn helpu busnesau Cymru i gynnal allforion i'r UE, yn ogystal â meithrin marchnadoedd newydd yng Ngogledd America, y dwyrain canol a thu hwnt. Ac ar draws y Llywodraeth, ond yn enwedig gyda chymorth fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, rydym yn sicrhau bod gan gwmnïau—cwmnïau mawr, bach a microgwmnïau—fynediad at deithiau masnach, ac mae'n arbennig o amlwg mewn teithiau masnach sy'n ymwneud â bwyd a diod, sy'n cael mwyfwy o sylw oherwydd ansawdd uchel y cynnyrch a tharddiad cryf y nwyddau y gallwn eu hallforio dramor. 

Nawr, rwy'n falch o allu dweud ein bod yn dyrannu adnoddau o'r gronfa cydnerthedd busnes gwerth £7.5 miliwn a gymeradwywyd yn ddiweddar drwy gronfa bontio Ewrop i gefnogi ymgyrchoedd a gweithgareddau sy'n helpu cwmnïau i sefydlu'r gafael sydd ei angen arnynt mewn marchnadoedd newydd, ac sy'n ein paratoi, rwy'n credu, i allu cadw proffil rhyngwladol Cymru fel lleoliad ar gyfer buddsoddi yn gryf a chadarnhaol. Yn wir, mae ein swyddfeydd tramor yn hanfodol i'r agenda hon, ac maent yn amlweddog, ac yn ymdrin â busnes, diwylliant, addysg a thwristiaeth. Rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ehangu'r rhwydwaith hwn yn strategol, gan agor swyddfeydd newydd, yn ystod y misoedd diwethaf ac yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mewn marchnadoedd allweddol, gan gynnwys Canada, Qatar, yr Almaen, a Ffrainc wrth gwrs. Dros amser, bydd y swyddfeydd hyn yn adeiladu ar y cysylltiadau cyfredol a sefydlwyd eisoes yn y gwledydd hynny a'u marchnadoedd ac yn sicrhau mwy byth o enillion i Gymru.

Nawr, mae ein perthynas â'n partneriaid yn Adran Fasnach Ryngwladol Llywodraeth y DU, a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd, yn sicrhau bod gan gwmnïau o Gymru fynediad at yr ystod lawn o gymorth i hyrwyddo eu nwyddau a'u gwasanaethau dramor, yn ogystal â hyrwyddo'r neges fod Cymru yn lle gwych i wneud busnes, yn lle gwych i ddysgu, ac yn lle ardderchog i fyw ynddo.

Mae brand Cymru bellach yn darparu sylfaen gadarn i'n gwaith yn hyrwyddo Cymru mewn ystod eang o farchnadoedd ar draws pob sianel a phob sector. Mae'n sail i fwy na £10 miliwn o wariant marchnata bob blwyddyn yn y sectorau twristiaeth a busnes. Fe'i defnyddir hefyd mewn digwyddiadau o fri, megis rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, Cwpan Ryder a Ras Hwylio Volvo. Gellir ei weld mewn lleoliadau eiconig ledled Cymru, o'r maes awyr i'r stadia. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i farchnata ein bwyd a'n diod, ac mae'n un o brif elfennau ein hymgyrchoedd recriwtio rhyngwladol i'r maes iechyd. Mae hefyd yn werth dweud, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn ymgyrch brand sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Mae'n cyflawni canlyniadau go iawn ar draws yr economi. Mae marchnata twristiaeth yn unig wedi sicrhau gwariant ychwanegol o tua £350 miliwn y flwyddyn i'r economi, ac mae'r gwariant hwn wedi dyblu ers 2013, ac mae'n cefnogi miloedd ar filoedd o swyddi gwerthfawr yng Nghymru. Nid yw ond yn un enghraifft o'r modd y mae codi ein proffil rhyngwladol a chael brand cyson, cryf ac ysgogol wedi bod o fudd i bobl Cymru, economi Cymru a Chymru fel gwlad.

Yn aml, nodir mai'r sector twristiaeth sy'n chwifio'r faner dros y wlad, ac rwy'n credu bod y blynyddoedd thematig wedi naddu cynnig llawer cryfach a chliriach a mwy unigryw i Gymru, ac mae pobl yn sylwi ar hyn. Mae Croeso Cymru wedi ennill llu o wobrau am ymgyrch y blynyddoedd thematig, ac nid oes amheuaeth ei fod yn un o'r ymarferion brandio ac ymgyrchu mwyaf llwyddiannus a welwyd yn y DU yn ddiweddar, ond ni allwn fodloni ar hyn, ac mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu a chynnal partneriaethau Ewropeaidd mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin. Aeth 77 y cant—rwy'n credu—o allforion bwyd a diod Cymru i'r UE yn 2017. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal cysylltiadau cryf â'r rhanbarth pwysig hwn er gwaethaf Brexit. Byddwn hefyd yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o adeiladu a chynnal partneriaethau Ewropeaidd drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau a chydweithrediad dwyochrog gyda gwledydd a rhanbarthau partner. O'r cymorth rydym eisoes yn ei roi i allforwyr yng Nghymru i'r gwaith a wnawn gyda'n rhwydwaith tramor ein hunain a'i bartneriaid, mae ein holl weithgarwch rhyngwladol yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r agenda hollbwysig hon. Mae'r cysylltiadau rydym wedi'u meithrin yn Ewrop a thu hwnt wedi gwella yn sgil yr ymrwymiad diweddar i ehangu ein rhwydwaith tramor, gan sicrhau bod cynnig Cymru i fusnesau, twristiaid a myfyrwyr yn weladwy ac mor bellgyrhaeddol â phosibl. Ac ni fyddwn yn bodloni ar hyn, wrth inni barhau i helpu busnesau i archwilio marchnadoedd newydd, i ddenu myfyrwyr ac ymwelwyr o dramor a chreu partneriaethau sy'n para er mwyn ateb heriau heddiw ac yfory.

Yn olaf, a gaf fi ddweud, gan gyfeirio'n benodol at argymhelliad 1, bob tro y mae Gweinidog yn teithio dramor, maent yn destun cais rhyddid gwybodaeth, ac o ganlyniad, cânt eu beirniadu'n aml oherwydd y costau sydd ynghlwm wrth hyrwyddo Cymru dramor. Felly, os gwelwch yn dda, os bydd y Prif Weinidog newydd yn creu rôl ar gyfer masnach ryngwladol a Brexit, fel rydych wedi'i argymell yn gryf, a wnewch chi gydnabod y bydd eu costau teithio a chynhaliaeth yn llawer uwch na rhai pobl eraill yn y Llywodraeth. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â galw am hyn heddiw, a mynd ati i gondemnio unigolyn o'r fath oherwydd y gost o wneud y swydd yn iawn.    


Thank you. Can I now call on Russell George to reply to the debate?

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?

Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I thank the Members for taking part in the debate across the Chamber this afternoon? I should also like to thank, of course, the many witnesses who took part in our report—who are mentioned in detail in the report—and representatives of Welsh, UK, European and international businesses, and the cultural and educational organisations that we met with in Brussels as well.

David Rowlands, in his contribution, pointed out our visit to Brussels. It seems a long time ago, doesn't it, David, since we undertook that visit? But, he recalled some of the conversations that we had, and I do remember the conversation with Canadian Government officials, telling us that they had had little contact with Wales before. So, I think that there is a role here for Welsh Government—but not only Welsh Government. I think it's a role for all of us, as an Assembly, in our various committees as well. I think we've all got a responsibility to sell Wales to the world, not just the Government.

I hear the Cabinet Secretary's call, if there is that post created, that we should not be critical if there are expenses incurred by that Cabinet Secretary or that post whilst they travel around the world. I accept that, and you have my assurance that I won't do that. I think it's correct to scrutinise what's achieved from those visits, but I accept what the Cabinet Secretary is saying, and I make a commitment here today that he won't have that from me.

In other parts of the debate, Rhun ap Iorwerth and others correctly pointed out, of course, our call for that new Cabinet post—that loud voice, that joined-up thinking approach that was needed across Government in regard to Brexit and international affairs. We, as a committee, feel that that can be achieved by having that department—that Cabinet post—specifically for international affairs. The Government accepted our recommendation, but clearly it's a matter for the next First Minister, whoever he or she is. But, I accept that, in the response to our report, the Government pointed out that legislation permits only a number of Government positions. We accept that, but, of course, we believe, as a committee, that this is a priority in that regard.

Vikki Howells rehearsed the branding issue actually, which we discussed, in regards to that theme that changes every year, and that question about whether that is good branding. I do remember distinctly the Cabinet Secretary defending that annual theme. But, of course, there's the other side to that debate as well—that annual themes perhaps are not good for branding. So, I'm sure that discussion will continue on as well. I do share David Rowlands's disappointment that the Government only accepted recommendation 4 in principle.

The report looked at, of course, our three areas vital to our economy here in Wales. But, the work doesn't remain static. Wales is changing, and since undertaking that work as a committee, we've also undertaken work on the fourth industrial revolution. And, from our work in that area, it's clear that we just can't stand still and that our work in this area will be a changing feast, if you like, as well.

Can I thank Members for taking part in the debate this afternoon, and can I thank the Government for accepting nearly all of our recommendations?

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon yn y Siambr y prynhawn yma? Hoffwn ddiolch hefyd, wrth gwrs, i'r nifer o dystion a gymerodd ran yn ein hadroddiad—ac maent yn cael eu crybwyll yn fanwl yn yr adroddiad—a chynrychiolwyr busnesau o Gymru a'r DU, busnesau Ewropeaidd a busnesau rhyngwladol, a'r sefydliadau diwylliannol ac addysgol y cyfarfuom â hwy ym Mrwsel yn ogystal.

Yn ei gyfraniad, soniodd David Rowlands am ein hymweliad â Brwsel. Onid yw'n teimlo fel pe bai amser maith wedi mynd heibio ers yr ymweliad hwnnw, David? Ond fe gofiai rai o'r sgyrsiau a gawsom, ac rwyf fi'n cofio'r sgwrs a gawsom gyda swyddogion Llywodraeth Canada, a ddywedodd wrthym nad oeddent wedi cael llawer o gysylltiad â Chymru cyn hynny. Felly, credaf fod yna rôl yma i Lywodraeth Cymru—ond nid i Lywodraeth Cymru'n unig. Credaf ei bod yn rôl i bob un ohonom, fel Cynulliad, yn ein pwyllgorau amrywiol yn ogystal. Credaf fod cyfrifoldeb ar bawb ohonom i werthu Cymru i'r byd, nid y Llywodraeth yn unig.

Clywaf alwad Ysgrifennydd y Cabinet, os bydd y swydd honno'n cael ei chreu, na ddylem fod yn feirniadol os bydd yr Ysgrifennydd Cabinet neu'r swydd honno'n creu costau pan fyddant yn teithio o amgylch y byd. Rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n eich sicrhau na fyddaf yn gwneud hynny. Credaf ei bod yn gywir inni graffu ar yr hyn a gyflawnir yn ystod yr ymweliadau hynny, ond rwy'n derbyn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, ac rwy'n ymrwymo yma heddiw na fyddaf yn gwneud hynny. 

Mewn rhannau eraill o'r ddadl, yn briodol iawn, nododd Rhun ap Iorwerth ac eraill ein galwad am y swydd newydd honno yn y Cabinet—y llais cryf hwnnw, y dull meddwl cydgysylltiedig roedd ei angen ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â Brexit a materion rhyngwladol. Rydym ni fel pwyllgor yn teimlo y gellir cyflawni hynny drwy gael yr adran honno—y swydd honno yn y Cabinet—yn benodol ar gyfer materion rhyngwladol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad, ond yn amlwg cyfrifoldeb y Prif Weinidog nesaf ydyw, pwy bynnag y bo. Ond yn yr ymateb i'n hadroddiad, rwy'n derbyn bod y Llywodraeth wedi nodi nad yw deddfwriaeth ond yn caniatáu hyn a hyn o swyddi o fewn y Llywodraeth. Rydym yn derbyn hynny, ond wrth gwrs, fel pwyllgor credwn fod hon yn flaenoriaeth yn hynny o beth.

Cyfeiriodd Vikki Howells at frandio, rhywbeth y buom yn ei drafod, mewn perthynas â'r ffaith bod y thema'n newid bob blwyddyn, a'r cwestiwn ynglŷn ag a yw hynny'n frandio da. Rwy'n cofio'n glir Ysgrifennydd y Cabinet yn amddiffyn y thema flynyddol honno. Ond wrth gwrs, mae ochr arall i'r ddadl honno hefyd—ei bod yn bosibl nad yw themâu blynyddol yn dda ar gyfer brandio. Felly, rwy'n siŵr y bydd y drafodaeth honno'n parhau hefyd. Rwy'n rhannu siom David Rowlands nad yw'r Llywodraeth ond wedi derbyn argymhelliad 4 mewn egwyddor.

Wrth gwrs, edrychodd yr adroddiad ar ein tri maes sy'n hanfodol i'n heconomi yma yng Nghymru. Ond nid yw'r gwaith yn aros yn llonydd. Mae Cymru'n newid, ac ers gwneud y gwaith hwnnw fel pwyllgor, rydym hefyd wedi gwneud gwaith ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Ac o'n gwaith yn y maes hwnnw, mae'n amlwg na allwn sefyll yn llonydd ac y bydd ein gwaith yn y maes hwn yn newid yn gyson hefyd.

A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac a gaf fi ddiolch i'r Llywodraeth am dderbyn bron bob un o'n hargymhellion?


Thank you. The proposal is to note the committee's report. Does any Member object? Therefore the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau
6. Debate on the Culture, Welsh Language and Communications Committee report: Building Resilience, Inquiry into Non-Public Funding of the Arts

Item 6 on the agenda this afternoon is a debate on the Culture, Welsh Language and Communications Committee report, 'Building Resilience: Inquiry into non-public funding of the arts'. I call on Dai Lloyd to speak to the debate on behalf of the committee—Dai.

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau'. Galwaf ar Dai Lloyd i siarad yn y ddadl ar ran y pwyllgor— Dai.

Cynnig NDM6878 Bethan Sayed

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd—Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2018.

Motion NDM6878 Bethan Sayed

To propose that the National Assembly for Wales:

Notes the report of the Culture, Welsh Language and Communications Committee, 'Building Resilience—Inquiry into non-public funding of the arts’, which was laid in the Table Office on 22 March 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o agor y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Meithrin Cydnerthedd’, sy’n trafod cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau.

Mae’r celfyddydau yn rhan hanfodol o fywyd Cymru. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu traddodiad sydd yn hen a chyfoethog o weithgarwch ac allbwn artistig. Rydym ni wedi bod yn gartref hirhoedlog i lu o unigolion talentog ac angerddol sydd wedi helpu i greu sector sy’n dod â manteision eang i bob un ohonom ni. O fuddion economaidd ac ymarferol i helpu i fynd i’r afael â materion polisi cyhoeddus, boed hynny o fewn y system addysg neu wrth fynd i’r afael â materion iechyd, mae’r celfyddydau yn rhan annatod o unrhyw gymdeithas iach a ffyniannus. Hefyd, mae yna gydnabyddiaeth eang fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac yn lleihau unigrwydd ac allgáu cymdeithasol.

Serch hyn, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r mwyafrif helaeth o ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn y gyllideb ar gyfer 2017-18, allan o’r £31.7 miliwn a ddyrannwyd i’r maes hwn, dyrannwyd £31.2 miliwn i gyngor y celfyddydau. Fodd bynnag, rhwng 2011-12 a 2017-18, mae cyllid Llywodraeth Cymru i gyngor y celfyddydau wedi gostwng 18 y cant mewn termau real. Mae cyfran cyngor y celfyddydau o gyllid y loteri hefyd wedi gostwng yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, wrth i gyllidebau awdurdodau lleol dynhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyllid y mae’r sector celfyddydau yn ei gael o’r cyfeiriad hwn hefyd wedi gostwng. I ddangos hyn, mae cyllid awdurdodau lleol i Bortffolio Celfyddydau Cymru, sef y sefydliadau celfyddydol sy’n cael cyllid refeniw blynyddol gan gyngor y celfyddydau, wedi gostwng o £11 miliwn yn 2011-12 i £5.1 miliwn yn 2016-17.

O gofio’r gydnabyddiaeth eang o’i fanteision, mae’r lefel hon o doriadau yn amlwg yn codi pryderon. Er mwyn lliniaru’r gostyngiad hwn mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar gyngor y celfyddydau i leihau dibyniaeth y sector ar gymhorthdal ​​cyhoeddus ac i’r sector ei hun godi ei gêm o ran codi arian.

Felly, ar gyfer yr ymchwiliad hwn, yn hytrach na dim ond trafod effaith y dirywiad hwn mewn cyllid a galw am ei gynyddu, gwnaethom benderfynu edrych yn benodol ar ddull y Llywodraeth o weithredu yn y maes hwn i asesu pa mor ddichonadwy ydyw, a gofyn a oes unrhyw gamau ymarferol ychwanegol y gallai’r sector eu cymryd i arallgyfeirio a chynyddu’r cyllid y mae’n ei gael o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau cyhoeddus.

Er mwyn llywio’r ymchwiliad, cytunodd y pwyllgor i archwilio yn gyntaf pa mor llwyddiannus y mae sector y celfyddydau yng Nghymru wedi bod o ran cynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus; hefyd, sut y caiff cyllid celfyddydol heblaw cyllid cyhoeddus ei rannu ledled Cymru; ac a oes yna fodelau rhyngwladol o arferion gorau y gallai Cymru eu hefelychu.

Yn ystod ein hymchwiliad, daeth yn amlwg yn gyflym fod sector celfyddydau Cymru yn wynebu heriau amrywiol ac anodd iawn o ran codi arian. Mae sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau penodol o ran cynyddu eu hincwm, sy’n seiliedig yn bennaf ar raddfa’r sefydliadau hyn a’u lleoliad. Er mwyn i sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn llwyddiannus wrth leihau eu dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae cwmnïau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu llawer o anawsterau nad ydynt mor gyffredin mewn mannau eraill.

O ganlyniad, mae nifer o gamau y credwn y bydd angen i’r Llywodraeth eu cymryd cyn y gall ddisgwyl yn realistig i’r sector ymateb yn effeithiol i’w chais am ddibynnu llai ar gymhorthdal ​​cyhoeddus. Heb gymryd y camau hyn, mae’n anodd dychmygu senario lle na fydd allbwn ac amrywiaeth y sector yn lleihau, yn sgil y lleihad yn y cymhorthdal ​​cyhoeddus. 

Thank you very much, Dirprwy Llywydd, and I’m very pleased to open this debate on the Culture, Welsh Language and Communications Committee’s report, ‘Building Resilience’, which discusses non-public funding of the arts.

The arts are an indispensable part of Welsh life. As a nation, we rightly celebrate an enduring and rich history of artistic endeavour and output. We've long had a wealth of talented and passionate individuals who have helped to create a sector that brings wide-ranging benefits to us all. From their economic and practical benefits, to their use in addressing public policy matters, whether that be within the education system or addressing health issues, the arts are an invaluable part of any healthy and prosperous society. And there is wide recognition that participation in the arts promotes community cohesion and reduces social isolation and exclusion.

Despite this, real-terms public funding of the arts has declined substantially in Wales over the past five years. The vast majority of the Welsh Government’s budget allocations for the arts are for the Arts Council of Wales. In the 2017-18 budget, out of the £31.7 million allocated in this area, £31.2 million was allocated to the arts council. However, between 2011-12 and 2017-18, Welsh Government funding of the arts council has declined by 18 per cent in real terms. The arts council’s share of lottery proceeds has also decreased during this period. Additionally, as local authority budgets have tightened in recent years, the funding the arts sector receives from this area has also decreased. To illustrate this, local authority funding of the Arts Portfolio Wales, which comprises the arts organisations receiving annual funding from the arts council, has reduced from £11 million in 2011-12 to £5.1 million in 2016-17.

Given the wide recognition of its benefits, this level of cut is clearly concerning. To mitigate this decrease, the Welsh Government has called on the arts council to reduce the sector’s dependence on public subsidy and for the sector itself to up its game on fundraising.

So, for this inquiry, rather than simply look into the impact of this decline in funding and to call for it to be increased, we decided to look specifically at the Government’s approach, to assess how feasible it is, and to ask whether there are any additional practical steps the sector could take to diversify and increase the funding it receives from non-public sources.

To frame the inquiry, the committee agreed to investigate, first of all, how successful the arts sector in Wales has been in increasing non-public funding; also, how non-public arts funding is shared out across Wales; and whether there are international models of best practice that Wales could emulate.

During our inquiry, it quickly became evident that Wales’s arts sector faces varied and very difficult challenges when it comes to raising funds. Arts organisations in Wales face specific challenges to increasing their incomes, based primarily on their scale and location. In order for Wales’s arts organisations to be successful at reducing their reliance on public funding, the Welsh Government needs to ensure that they are equipped to do so. Arts companies based in Wales face many difficulties that aren’t as prevalent in other areas.

As a result, there are a number of actions we believe the Government needs to take before it can realistically expect the sector to respond effectively to its request for reduced dependence on public subsidy. Without this action, it is difficult to imagine the sector’s output and diversity not being reduced, in line with the reduction of public subsidy.

Oherwydd y nifer fach o fusnesau mawr sydd â phencadlys yng Nghymru, mae denu cymorth busnes yn anodd. Eglurodd Nick Capaldi, prif weithredwr cyngor y celfyddydau, fod nawdd busnes yn fwy cyffredin yn y canolfannau metropolitan ac i gefnogi sefydliadau celfyddydol mwy sydd â phroffil uwch. Ychwanegodd fod sefydliadau cymunedol bach mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, yn ei chael hi’n anodd denu nawdd corfforaethol sylweddol.

Mae codi arian drwy roddion gan unigolion hefyd yn broblem i’r celfyddydau yng Nghymru. Dywedwyd wrthym bod y nifer cymharol isel o unigolion gwerth net uchel yng Nghymru yn gwneud codi arian drwy roddion gan unigolion yn anodd iawn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r anhawster a nodwyd gan Ganolfan Celfyddydau Chapter, sef yr her gyson o brofi bod y celfyddydau yn achos elusennol. Tynnodd Blue Canary, sef yr ymgynghoriaeth codi arian ym maes y celfyddydau, sylw at y mater yma hefyd. Dywedodd wrth y pwyllgor fod sefydliadau celfyddydol ar ei hôl hi o ran mentergarwch i gynhyrchu incwm ar draws y sector elusennol ehangach.

Roedd y farchnad hynod gystadleuol ar gyfer arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn rhywbeth a ddaeth i’n sylw drwy gydol yr ymchwiliad. Mae sefydliadau preifat yn Ewrop wedi cyfyngu ar y grantiau y maent yn eu rhoi yn ystod cyfnod hir o gyfraddau llog isel. Gan gyfuno hyn â nifer o flynyddoedd o doriadau yn y sector cyhoeddus, mae’n hawdd deall pam mae’r farchnad hon wedi dod mor gystadleuol, wrth i sefydliadau celfyddydol wneud pob ymdrech i adennill yr arian cyhoeddus a gollwyd. Clywsom hefyd y byddai’n well gan ymddiriedolaethau a sefydliadau ariannu prosiectau penodol, yn hytrach na rhoi arian yn lle cyllid refeniw o’r sector cyhoeddus a gollwyd.

Fodd bynnag, er bod y gystadleuaeth am grantiau yn frwd, clywsom fod llawer o ymddiriedolaethau yn Llundain yn dal i fynegi’r awydd i fuddsoddi mwy yng Nghymru, gan nodi bod nifer ac ansawdd y ceisiadau yn isel o hyd. Mae’r sefydliadau hynny sy’n llwyddo yn dueddol o fod yn fwy, gyda mwy o gapasiti i wneud ceisiadau am gyllid.

Yn hyn o beth, pwysleisiodd canolfan celfyddydau Chapter bwysigrwydd yr arian cyhoeddus y mae yn ei gael, gan esbonio bod ymddiriedolaethau yn awyddus i gael sicrwydd o weld cefnogaeth gyhoeddus yno. I gyrff cyllido nad ydynt yn gyrff lleol, y gefnogaeth gyhoeddus hon yw’r arwydd cyntaf bod galw lleol am y prosiect perthnasol ac y dylid ei ariannu. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn amlwg o’r dystiolaeth a gawsom y bydd y capasiti i ymgeisio am gyllid o ffynonellau preifat yn gostwng wrth i gyllid cyhoeddus leihau.

Mae codi refeniw drwy werthu nwyddau a gwasanaethau yn amlwg yn ffordd arall o gynyddu cyllid sefydliad heblaw cyllid cyhoeddus. Esboniodd Celfyddydau a Busnes Cymru, sy’n cael arian cyhoeddus i feithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau celfyddydol a busnes, fod cynnydd cyson wedi bod yn nifer y cwmnïau sy’n chwilio am hyfforddiant yn y celfyddydau i fynd i’r afael ag anghenion datblygu staff. Mae cwmni theatr Hijinx yn un o’r sefydliadau sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn. Mae Hijinx bellach yn cyflogi ei actorion, sydd ag anableddau dysgu, i ddarparu hyfforddiant i gwmnïau ynghylch cyfathrebu efo phobl sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, mae yna hefyd gwmnïau fel Theatr na nÓg, a esboniodd mai ei gylch gwaith fel elusen yw darparu gwasanaeth nad yw fyth yn debygol o arwain at elw ar fuddsoddiad gan gwmni masnachol.

Yn strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru, 'Golau yn y Gwyll', mae wedi cydnabod bod angen i’r sector celfyddydau addasu i ymdopi â llai o arian cyhoeddus. Mae rhaglen wytnwch cyngor y celfyddydau yn un ymgais i wella cynaliadwyedd ariannol y sector diwylliant. Fodd bynnag, dim ond i sefydliadau sy’n cael cyllid refeniw gan y cyngor y mae’r rhaglen hon yn agored. O ganlyniad, rydym ni wedi argymell bod cyngor y celfyddydau yn ystyried ymestyn y rhaglen hon i gynnwys cyrff celfyddydol nad ydynt eisoes wedi’u hariannu gan gyngor y celfyddydau, ac rydym yn falch ei fod yn bwrw ymlaen â gwaith i fynd i’r afael efo’r mater hwn.

Yn ein hadroddiad, rydym wedi nodi nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r anawsterau cyffredinol ac, mewn sawl achos, yr anawsterau penodol iawn sy’n wynebu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru wrth geisio cynyddu eu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i barhau â’i chefnogaeth ariannol i ddatblygu partneriaethau rhwng busnesau a’r celfyddydau. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn cymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol, ac i godi ymwybyddiaeth o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru.

Rydym wedi cynnwys nifer o argymhellion o ran manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol. O ystyried y nifer isel o fusnesau mawr ac unigolion gwerth net uchel yng Nghymru, mae’n hanfodol bod y marchnadoedd hyn yn cael eu nodi, a bod sefydliadau’n manteisio arnynt cyn belled ag y bo modd. O ystyried y nifer fach o geisiadau am gyllid sy’n cael eu cyflwyno, a safon isel y ceisiadau hyn ar adegau, rydym hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu ffynhonnell o arbenigedd i gefnogi sefydliadau celfyddydol bach i wella nifer ac ansawdd eu ceisiadau.

Yn gyffredinol, credwn hefyd fod yn rhaid i’r Llywodraeth, yn ogystal â’r sector, anelu’n uwch os yw’n disgwyl i sefydliadau’r celfyddydau ffynnu gyda llai o arian cyhoeddus. Nid yw galw arnynt i wneud hynny yn ddigon. Mae angen sicrhau bod y lefel briodol a digonol o gefnogaeth wedi’i deilwra yn cyd-fynd â’r alwad, a hynny’n gefnogaeth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r sector.

I gloi, er fy mod yn falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn, o leiaf mewn egwyddor—ac mae hynny'n ddadl eto—ein 10 argymhelliad, rhaid cymryd camau effeithiol a phriodol i gyd-fynd efo’r ymateb hwn. Mewn sawl achos, mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yn gofyn i swyddogion weithio gyda chyngor y celfyddydau i fwrw ymlaen â’r gwaith o gynyddu cyfraniadau. Mae wedi ymrwymo i lunio cynllun gweithredu, ac i gyngor y celfyddydau a Chelfyddydau a Busnes Cymru drefnu seminarau rhanbarthol ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Rwy’n falch o weld y camau hyn. Bydd y pwyllgor hefyd yn disgwyl adroddiad ar sut mae’r ymdrechion hyn wedi arwain at newidiadau pendant er gwell.

Bydd y pwyllgor yn dychwelyd i’r pwnc hwn nesaf, a gofynnwn i’r Gweinidog baratoi gwerthusiad o’r camau y mae wedi cytuno i’w cymryd mewn ymateb i bob un o’n hargymhellion erbyn y gwanwyn. Dywedodd y Gweinidog wrthym y bydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng y celfyddydau a busnes yn cael ei hadolygu. Dywedodd wrthym y bydd yn pwysleisio i gyngor y celfyddydau yr angen iddo barhau i ddyrannu adnoddau i’r gweithgaredd hwn, o gofio bod y pwysau ar gyllid cyhoeddus yn debygol o barhau yn y dyfodol rhagweladwy. Hoffwn wybod pa gynlluniau sydd ar waith i ddisodli’r gwaith hwn o fis Ebrill 2019 ymlaen os yw cyngor y celfyddydau yn penderfynu nad yw Celfyddydau a Busnes Cymru yn cynnig gwerth am arian. Pe na bai ei waith yn parhau ar ôl mis Ebrill, pa strategaeth fydd yn ei lle i ymateb i hyn? A oes perygl y byddwn yn colli ffynhonnell hanfodol o wybodaeth?

Rhywbeth a wnaethpwyd yn glir iawn i ni yn ystod yr ymchwiliad hwn yw bod llu o unigolion talentog ac angerddol yn rhan o’r sector celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n haeddu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, ac i ganiatáu i bob un ohonom elwa o’u talentau. Diolch yn fawr.

And because of the small number of large businesses headquartered in Wales, attracting business support is difficult. Nick Capaldi, chief executive of the arts council, explained that business sponsorship is more prevalent in the metropolitan centres and in support of larger, higher profile arts organisations. He added that smaller, community-based organisations in rural areas, for example, are struggling to achieve significant corporate sponsorship.

And raising funding from individuals is also problematic for the arts in Wales. We were told that the comparatively low number of high net worth individuals in Wales makes fundraising from individuals very difficult. Compounding this is the difficulty Chapter Arts Centre noted as the constant challenge of demonstrating the arts as a charitable cause. Arts fundraising consultancy Blue Canary also highlighted this issue. They told us that arts organisations are trailing behind the enterprise and initiative that is being demonstrated in income generation across the wider charitable sector.

The highly competitive market for funding from trusts and foundations was something that was brought to our attention throughout this inquiry. Private foundations in Europe have restricted their grant giving during a prolonged period of low interest rates. When combined with a number of years of public sector cuts, it is easy to understand why this market has become so fiercely competitive, as arts organisations scramble to replace lost public funding. We also heard that trusts and foundations prefer to fund distinct projects rather than replacing lost public sector revenue funding.

That being said, we were also told that, whilst competition for grants is fierce, many of the large London-based trusts still express a desire to invest more in Wales, stating that the number and quality of applications remains low. Those organisations that do succeed tend to be larger, with more capacity to dedicate to funding applications.

In this regard, Chapter arts centre stressed the importance of their public funding, explaining that trusts like the reassurance of seeing public support in place. For funders who are not local, this public support is often the first sign that a project has a local need and that it should be funded. I think it’s fair to say that, from the evidence we received, it is clear that as public funding declines, so too does the capacity to seek funding from private sources.

Raising revenue by selling goods and services is obviously another avenue to increase an organisation’s non-public funding. Arts & Business Cymru, who receive public funding to build relationships between arts and business organisations, explained that there has been a sharp increase in the number of companies seeking arts-based training to address staff development needs. Hijinx theatre company are such an organisation that has seized this opportunity. Hijinx now employs their learning-disabled actors to provide training for companies in communicating with vulnerable people. However, there are also companies like Theatr na nÓg, who explained that their remit as a charity is to provide a service that is not of a nature that would ever gain a return on investment by a commercial company.

In the Welsh Government’s culture strategy, 'Light Springs Through the Dark', they have recognised that the arts sector needs to adapt to cope with reduced public funding. The arts council’s resilience programme is one attempt to improve the culture sector’s financial sustainability. However, this programme is only open to the council’s revenue-funded arts organisations. As such, we have recommended that the arts council considers extending this programme to include arts bodies that aren’t already funded by the arts council, and we're pleased that they are taking forward work aimed at addressing this issue.

In our report, we have set out a number of recommendations aimed at addressing the general and, in many cases, very specific difficulties arts organisations in Wales face when attempting to increase their non-public funding. We have called on the Government to continue its financial support for the development of partnerships between businesses and the arts. We have recommended that the Government takes action to raise the profile of the arts as a charitable cause, and to increase awareness of the excellent arts organisations and projects based in Wales.

We’ve included a number of recommendations around the exploitation of international markets. Given the low number of large businesses and high net worth individuals in Wales, it is essential that these markets are recognised and exploited as far as possible. Given the small number and sometimes poor quality of funding applications being submitted, we have also called for the Government to provide a source of expertise to support small arts organisations to improve the number and quality of their applications.

So, in general, we also believe that the Government, as well as the sector, must up its game if it expects arts organisations to prosper with reduced public funding. Simply calling for them to do so is not enough. The call needs to be backed up by an appropriate and sufficient level of tailored and informed support.

In conclusion, although I am pleased to see that the Minister has accepted, at least in principle—and that’s another debate—our 10 recommendations, his response now needs to be accompanied by effective and appropriate action. In many instances, he has said he will be asking officials to work with the arts council to progress work to increase contributions. He’s committed to drawing up an action plan, and for the arts council and Arts & Business Cymru to arrange regional seminars for UK trusts and foundations, and I’m pleased to see these actions. The committee will also be expecting a report on how these efforts have translated into concrete changes for the better.

The committee will be returning to this topic next, and we ask that the Minister prepares an evaluation of the actions he has agreed to undertake in response to each of our recommendations by the spring. The Minister told us that the way the Welsh Government promotes partnership working between arts and business will be reviewed. He told us that he will be stressing to the arts council the need for it to continue to resource this activity, given that pressures on public funding are likely to continue for the foreseeable future. I would like to know what plans are in place to replace this work from April 2019 onwards if the arts council decides that Arts & Business Cymru is not providing value for money. Should their work not continue after April, what exit strategy will be in place? And is there a risk that we will lose vital learning?

Something that was made very clear to us during this inquiry is that Wales’s arts sector has an abundance of talented and passionate individuals. They deserve the support necessary to prosper, and to allow all of us to benefit from their gifts. Thank you.


Can I commend our acting Chair for the alacrity with which he's performed his temporary duties this afternoon? I think it was an excellent summary of our report, and the importance of it, and a great start to this debate.

I think the non-public funding that the arts sector receives is a key sign of its health, or otherwise. And it's important that we focus on this aspect. We all know that, throughout the ages, the great funders of the arts have been the princes of realms, and the princes of the church, and very public sources. Since the second world war, that's turned into the arts council and Government. But the amount that comes in from what we can loosely describe as the private sector, I think is really, really important as a mark of general health.

We do realise that, in Wales, we face some particular challenges. We are not London, but there again most of the United Kingdom isn't London. But an awful lot of the energy and the sponsorship that that generates through the business sector doesn't flow very far from London, and the metropolitan scene that's centred in London can be somewhat stifling sometimes. I think it is part of our work to challenge those sources of finance that are perhaps most comfortable in London to look further afield, not just to Wales—it would benefit them to look across the UK too—but we need to make our case very strongly. So, London is a key source for funding, and I think we should always remember that in our work and in the work we expect the Government to undertake.

We have great success stories as well, like the Welsh National Opera and the Artes Mundi prize. We've really got some of the best connections with the wider business community and sources of sponsorship and really creative programmes. So, I don't think we should suffer any lack of confidence in this respect.

I think one of the key areas the report highlighted in terms of the need for development is greater promotion internationally. The Government here can play a great part and the report mentioned trade missions, cultural exchanges. And can I just add that I've often thought that the projection that we give to the Mabinogion could be much greater? There are some success stories there as well, but it’s one of the great canons of world literature and in terms of the importance of the cultural development of Europe, it really is key. I've quoted John Updike several times in terms of what importance he placed on the Mabinogion, and he was a great champion in his time, in North America.

I do believe, as the acting Chair said, that fundraising expertise needs to be radically strengthened. I think the sector needs to co-operate to develop, perhaps with Welsh Government, that sort of muscle so that we can see the opportunities and we can present very coherent packages when we're making applications to funders. I think that, sometimes, we don't co-operate enough. We think that all the players out there, who might seek funding, will need their own fundraising officer. I'm not sure that’s necessarily the best way to approach it. There needs to be a more co-ordinated approach, and that can really then give you much greater strength in the capacity that you develop. Of course, the future of Arts & Business Cymru is very important in terms of the work that they've done to promote links between arts and businesses, and what will happen next year, as the Chair said, is very important.

I also think that we should remember the place of the experimental in art. Again, that’s another key sign of its success. That area is unlikely to receive very much or at least consistent non-public funding. So, we don't want to overlook that as well in our enthusiasm for other streams of finance. The approach we need is one that allows for a whole range of art to get a level of funding that it deserves so that it adds to our national life. So, public funding will still clearly be crucial.

I just would like to conclude: it was mentioned in the last debate actually that the Welsh diaspora is there. I think sometimes, because we don't see it as big as Ireland or even as Scotland—. But look at Scotland: they've done a lot of work in this area. I think that we should also tap in and perhaps define the Welsh diaspora as also including those who live in London, but also internationally. Again, there are many people there who, if asked, I'm sure would like to invest in our arts scene. Thank you, Deputy Llywydd.

A gaf fi gymeradwyo ein Cadeirydd dros dro am ei frwdfrydedd wrth gyflawni ei ddyletswyddau dros dro y prynhawn yma? Credaf iddo roi crynodeb rhagorol o'n hadroddiad, a'i bwysigrwydd, ac roedd yn ddechrau gwych i'r ddadl hon.

Credaf fod yr arian nad yw'n arian cyhoeddus y mae'r sector celfyddydau yn ei dderbyn yn arwydd allweddol o'i iechyd, neu fel arall. Ac mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar yr agwedd hon. Gŵyr pob un ohonom mai tywysogion teyrnasoedd a thywysogion eglwysig, a ffynonellau cyhoeddus iawn, sydd wedi ariannu’r celfyddydau ar hyd yr oesoedd i raddau helaeth. Ers yr ail ryfel byd, mae hynny wedi newid yn gyngor y celfyddydau a'r Llywodraeth. Ond mae'r swm a ddaw o'r hyn y gallwn ei ddisgrifio'n fras fel y sector preifat yn bwysig tu hwnt yn fy marn i, fel arwydd o iechyd cyffredinol.

Rydym yn sylweddoli ein bod yn wynebu heriau penodol yng Nghymru. Nid Llundain ydym ni, ond serch hynny, nid Llundain yw'r rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig. Ond nid yw llawer iawn o'r egni a'r nawdd y mae hynny'n ei greu drwy'r sector busnes yn llifo'n bell iawn o Lundain, a gall y byd metropolitanaidd sydd â’i ganolbwynt yn Llundain fod yn llyffethair braidd weithiau. Credaf mai rhan o'n gwaith yw herio'r ffynonellau cyllid hynny sy'n fwyaf cyfforddus yn Llundain o bosibl i edrych ymhellach, nid yn unig tuag at Gymru—byddai o fudd iddynt edrych ledled y DU hefyd—ond mae angen inni ddadlau ein hachos yn gadarn. Felly, mae Llundain yn ffynhonnell allweddol ar gyfer cyllid, a chredaf y dylem gofio hynny bob amser yn y gwaith a wnawn a’r gwaith rydym yn disgwyl i'r Llywodraeth ei wneud.

Rydym wedi cael cryn lwyddiant hefyd, megis gydag Opera Cenedlaethol Cymru a gwobr Artes Mundi. Mae gennym rai o'r cysylltiadau gorau gyda'r gymuned fusnes ehangach a ffynonellau nawdd a rhaglenni creadigol iawn. Felly, ni chredaf y dylem ddioddef unrhyw ddiffyg hyder yn hyn o beth.

Credaf mai un o'r meysydd allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad o ran yr angen am ddatblygiad yw mwy o hyrwyddo ar lefel ryngwladol. Gall y Llywodraeth yma chwarae rhan fawr a soniai’r adroddiad am deithiau masnach, teithiau cyfnewid diwylliannol. Ac a gaf fi ychwanegu fy mod wedi meddwl yn aml y gallem roi llawer mwy o sylw i'r Mabinogi? Mae cryn lwyddiant wedi bod yn hynny o beth hefyd, ond mae'n un o ganonau pwysicaf llenyddiaeth y byd, ac o ran pwysigrwydd datblygiad diwylliannol Ewrop, mae'n wirioneddol allweddol. Rwyf wedi dyfynnu John Updike sawl tro mewn perthynas â’r pwysigrwydd a roddai i’r Mabinogi, ac roedd yn hyrwyddwr gwych yn ei ddydd, yng Ngogledd America.

Fel y dywedodd y Cadeirydd dros dro, credaf fod angen cryfhau arbenigedd codi arian yn sylweddol. Credaf fod angen i'r sector gydweithredu er mwyn datblygu'r math hwnnw o gryfder, gyda Llywodraeth Cymru o bosibl, fel y gallwn weld y cyfleoedd a chynnig pecynnau cydlynol iawn wrth wneud ceisiadau i arianwyr. Weithiau, credaf nad ydym yn gwneud digon o gydweithredu. Rydym yn credu y bydd angen eu swyddog codi arian eu hunain ar bawb sy’n chwilio am gyllid. Nid wyf yn siŵr ai dyna'r ffordd orau o fynd ati o reidrwydd. Mae angen ymagwedd fwy cydgysylltiedig, a gall hynny roi llawer mwy o gryfder i chi o ran y capasiti a ddatblygwch. Wrth gwrs, mae dyfodol Celfyddydau a Busnes Cymru yn bwysig iawn o ran y gwaith y maent wedi'i wneud ar hyrwyddo cysylltiadau rhwng y celfyddydau a busnesau, a bydd yr hyn a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, fel y dywedodd y Cadeirydd, yn bwysig iawn.

Rwyf hefyd o'r farn y dylem gofio lle'r arbrofol yn y celfyddydau. Unwaith eto, mae hynny’n arwydd allweddol arall o'i lwyddiant. Mae'n annhebygol y bydd y maes hwnnw'n derbyn llawer iawn o arian nad yw'n arian cyhoeddus, neu arian cyson o leiaf. Felly, nid ydym am anwybyddu hynny ychwaith yn ein brwdfrydedd ynglŷn â ffrydiau ariannol eraill. Rydym angen ymagwedd sy'n caniatáu i ystod eang o gelfyddyd gael lefel o gyllid y mae'n ei haeddu fel y gall ychwanegu at ein bywyd cenedlaethol. Felly, mae’n amlwg y bydd cyllid cyhoeddus yn dal i fod yn hollbwysig.

Hoffwn gloi drwy ddweud hyn: soniwyd yn y ddadl ddiwethaf mewn gwirionedd fod cymuned o Gymry alltud yn bodoli. Weithiau, am nad ydym yn ei hystyried yn gymuned mor fawr ag un Iwerddon neu'r Alban hyd yn oed, rwy'n credu—. Ond edrychwch ar yr Alban: maent wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Credaf y dylem ninnau hefyd fanteisio ar y gymuned o Gymry alltud a’i diffinio o bosibl, a chynnwys y rheini sy'n byw yn Llundain, ond yn rhyngwladol hefyd. Unwaith eto, rwy’n siŵr fod llawer o bobl yno a fyddai’n awyddus i fuddsoddi yn ein celfyddydau, pe baech yn gofyn iddynt. Diolch, Ddirprwy Lywydd.


I'd like to thank the Culture, Welsh Language and Communications Committee for their report and to thank the clerks for helping with the inquiry. The inquiry into the funding of the arts predates my membership of the committee, so, unfortunately, I was unable to interact with the witnesses, but I would also like to thank them for providing robust evidence.

There are those who believe that, in a time with so many competing calls on dwindling public funds, public funding for the arts is an unaffordable luxury, but I am not one of them. As our committee Chair rightly highlights, the arts illuminate and enrich our lives. They are an indispensable part of our society, and they bring wide-ranging benefits to us all.

The amount we spend on the arts equates to just 0.17 per cent of the Welsh budget, yet the arts not only play a vital role in our economy, but also help put Wales on the map. According to the Welsh Government's own figures, we have over 5,300 creative businesses in Wales, which generate over £2.1 billion in annual turnover, and give employment to over 49,000 people. The arts are a major tourist draw, representing 32 per cent of all visits to the UK and 42 per cent of all inbound tourism-related expenditure, to say nothing of the enrichment they deliver to our wellbeing, which is incalculable.

Over the last decade, public funding for the arts has been cut by over 10 per cent, and the Welsh Government have indicated that greater cuts are to come by asking the sector to reduce its reliance on public funds. However, as the committee discovered, doing so would be very difficult for arts organisations. Unfortunately, we don't have a great philanthropic tradition in this country, simply because The Sunday Times rich list isn't littered with Welsh sons and daughters and we can't rely on the largesse of billionaires. We have to find other means of supplementing the funds of Welsh arts organisations.

The committee considered a range of options, and its 10 recommendations are aimed at maximising the opportunities for alternative sources of funding. One thing is clear, the arts in Wales must continue to receive public funding and in order to reduce their reliance on that funding need some Government support. I am pleased that the Minister accepts, at least in principle, all the committee’s recommendations. 

In relation to recommendation 8, I am pleased that the Minister recognises how hard it is for small arts organisations to employ specialist fundraisers and therefore attract donors. The Minister says he will ask the Arts Council of Wales to look sympathetically at extending its resilience programme, and to encourage arts and businesses to promote options by which smaller organisations might share the services and expertise of a professional fundraiser. I would ask the Minister to go further. We shouldn't be asking or encouraging; these services have to be provided, so we should be directing and requiring. Access to a shared pool of professional fundraisers is essential if we are to decrease arts organisations' reliance on public funds. Diolch yn fawr. Thank you. 

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad a diolch i'r clercod am gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Agorwyd yr ymchwiliad i ariannu'r celfyddydau cyn imi ddod yn aelod o'r pwyllgor, felly, yn anffodus, nid oedd modd imi ymwneud â'r tystion, ond hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am ddarparu tystiolaeth gadarn.

Ar adeg pan fo cymaint o alwadau'n cystadlu am arian cyhoeddus prin, mae rhai'n credu bod arian cyhoeddus i'r celfyddydau yn foethusrwydd na ellir ei fforddio, ond nid wyf yn un ohonynt. Roedd Cadeirydd ein pwyllgor yn nodi'n gywir fod y celfyddydau'n goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau. Maent yn rhan annatod o'n cymdeithas, ac maent yn creu manteision pellgyrhaeddol i bob un ohonom.

Mae'r swm rydym yn ei wario ar y celfyddydau oddeutu 0.17 y cant yn unig o gyllideb Cymru, ac eto, mae'r celfyddydau nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, maent hefyd yn helpu i roi Cymru ar y map. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae gennym dros 5,300 o fusnesau creadigol yng Nghymru, sy'n cynhyrchu dros £2.1 biliwn mewn trosiant blynyddol, ac yn cyflogi dros 49,000 o bobl. Mae'r celfyddydau'n atyniad pwysig i dwristiaid, ac yn cynrychioli 32 y cant o'r holl ymweliadau â'r DU a 42 y cant o'r holl wariant a ddaw i mewn sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, heb sôn am y ffordd y maent yn cyfoethogi ein lles, sy'n anfesuradwy.

Dros y degawd diwethaf, mae arian cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi'i dorri fwy na 10 y cant, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dangos bod mwy o doriadau i ddod drwy ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Fodd bynnag, fel y darganfu'r pwyllgor, byddai gwneud hynny'n anodd iawn i sefydliadau celfyddydol. Yn anffodus, nid oes gennym draddodiad dyngarol cryf yn y wlad hon, gan nad yw rhestr The Sunday Times o'r bobl gyfoethocaf yn llawn dynion a menywod o Gymru a chan na allwn ddibynnu ar haelioni biliwnyddion. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o ychwanegu at gronfeydd sefydliadau celfyddydol Cymru.

Bu'r pwyllgor yn ystyried amrywiaeth o opsiynau, a nod ei 10 argymhelliad yw sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer ffynonellau cyllid amgen. Mae'n amlwg iawn fod yn rhaid i'r celfyddydau yng Nghymru barhau i dderbyn cyllid cyhoeddus, ac er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar yr arian hwnnw, mae arnynt angen peth cymorth gan y Llywodraeth. Rwy'n falch fod y Gweinidog yn derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor, mewn egwyddor o leiaf.

O ran argymhelliad 8, rwy'n falch fod y Gweinidog yn cydnabod pa mor anodd yw hi i sefydliadau celfyddydol bach gyflogi swyddogion codi arian arbenigol ac felly i ddenu rhoddwyr. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd yn gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru edrych yn gadarnhaol ar ymestyn eu rhaglen gydnerthedd, ac annog celfyddydau a busnesau i hyrwyddo opsiynau fel y gallai sefydliadau llai rannu gwasanaethau ac arbenigedd swyddog codi arian proffesiynol. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog fynd ymhellach. Ni ddylem fod yn gofyn neu'n annog; mae'n rhaid darparu'r gwasanaethau hyn, felly dylem fod yn cyfarwyddo ac yn mynnu. Mae mynediad at gronfa a rennir o swyddogion codi arian proffesiynol yn hanfodol os ydym am leihau dibyniaeth sefydliadau celfyddydol ar arian cyhoeddus. Diolch yn fawr.


Thank you. Can I now call the Minister for Culture, Tourism and Sport, Dafydd Elis-Thomas?

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith? Mae wedi bod yn bleser cydweithio â nhw. Maen nhw wedi llwyddo i dynnu sylw at yr heriau ariannol sy'n wynebu'r sector celfyddydau yn sgil y pwysau na allwn ni ei wadu ar gyllidebau awdurdodau lleol, ynghyd â'r gostyngiadau diweddar yn incwm o'r Loteri Genedlaethol. Rydym ni'n cydnabod yr heriau yma. Mae'r Llywodraeth yn parhau hefyd i fod yn gwbl ymrwymedig i ariannu'r celfyddydau â chyllid cyhoeddus. Rydym hefyd yn cydnabod nad ydy hi'n debygol y bydd cynnydd sylweddol i'r cyllid hwn yn bosib am rai blynyddoedd, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried gyda'n gilydd yr holl ffyrdd posib o helpu'r sector i hybu incwm.  

O'r 10 argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad, rydw i'n falch o fod wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr wyth sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth ariannol er mwyn annog busnesau a'r celfyddydau i weithio mewn partneriaeth, ac i ystyried a oes angen cyllid ychwanegol er mwyn helpu sector y celfyddydau i ddenu mwy o arian gan fusnesau. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu'r gwaith yma drwy gyngor y celfyddydau drwy ein cyllid cymorth grant. Mae'r cymorth ar gael yn bennaf gan y cyngor ei hun, fel y cyfeiriodd Dai Lloyd wrth agor y drafodaeth yma, a chan Gelfyddydau a Busnes Cymru, sy'n cael cymorth gan y cyngor i ddarparu gwasanaethau penodol. 

Thank you, Deputy Presiding Officer. May I start by thanking the committee members for their work? It's been a pleasure to co-operate with them. They have drawn attention to the financial challenges facing the arts sector in light of the undeniable pressure on the budgets of local authorities, as well as the recent reductions in the income from the National Lottery. We recognise these challenges and the Government continues to be entirely committed to funding the arts with public funds. We also acknowledge that it's unlikely that there will be a substantial increase in this funding for some years to come, and therefore it is crucial that we jointly consider all possible means of assisting the sector to increase its income.  

Of the 10 recommendations made in the report, I am pleased to have accepted or accepted in principle, the eight that are relevant to the Welsh Government. The report asks Welsh Government to continue to provide financial support in order to encourage businesses and the arts to work in partnership, and to consider whether additional funding is required in order assist the arts sector in attracting more funding from business. At the moment, we fund this work through the arts council and through our support grant funding. The support is mainly available through the arts council itself, as Dai Lloyd mentioned in opening this debate, as well as from Arts & Business Cymru, which is supported by the council to provide specific services. 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.


Rydym ni yn trafod gyda'r cyngor celfyddydau ynglŷn â sut y gallwn ni gyfuno'r cymorth yma. Mae wedi nodi y bydd y cyngor yn parhau i geisio ymestyn y rhaglen gydnerthedd, neu 'gwytnwch' os ydy hynny'n well gennyt ti, yn llwyddiannus. Mae'r rhaglen yma yn rhoi cymorth busnes a chymorth llywodraethiant i sefydliadau celfyddydol allweddol ar gyfer eu hanghenion unigol. Rydym ni hefyd yn awyddus i helpu Celfyddydau a Busnes Cymru i barhau â'r gwaith o annog nawdd corfforaethol ac i ysgogi mwy o bobl i ymwneud â'r celfyddydau ymhob ffordd. Rydw i wedi gofyn i swyddogion drefnu partneriaethau lle byddai peth o gyllid craidd Celfyddydau a Busnes Cymru yn seiliedig ar lefel y buddsoddiad ychwanegol y byddan nhw'n ei sicrhau ar gyfer sector ehangach y celfyddydau. Ond rydym ni'n dal i geisio gwirio'r cynllun yna ar hyn o bryd. Ond rydw i'n meddwl bod y syniad o roi anogaeth i Gelfyddydau a Busnes Cymru a'u gwobrwyo nhw am eu llwyddiant yn gweithio i godi cyllid yn egwyddor ddefnyddiol iawn. Ac rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cadw cyllid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn benodol ar gyfer hynny.

Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn inni godi ymwybyddiaeth am sefydliadau celfyddydol Cymru a'r buddsoddiad y mae ymddiriedolaethau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig yn ei wneud ynddyn nhw. Rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn mewn sawl ffordd. Rydym ni wedi gofyn i'r cyngor celfyddydau gymryd yr awenau strategol. Maen nhw eisoes wedi cynnal dau ddiwrnod o gyfarfodydd yn Llundain gyda chynrychiolwyr sefydliadau mawr o'r Deyrnas Unedig, ac mae'r dyddiau yma wedi bod mor boblogaidd fel y byddan nhw yn arwain at ddigwyddiadau pellach yng Nghymru yn ogystal.

Ar ben hynny, mae Celfyddydau a Busnes Cymru wedi bod yn trefnu symposiwm i roi cyngor wyneb yn wyneb i sefydliadau celfyddydol ar y ffyrdd gorau o wneud ceisiadau yn llwyddiannus wrth geisio cyllid. Yn y symposiwm diweddaraf, roedd yna bedair ymddiriedolaeth o Lundain wedi cysylltu â Chelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn trefnu dyddiau tebyg eu hunain. Mi fyddaf i hefyd yn cysylltu â'r prif ymddiriedolaethau a sefydliadau drwy'r Deyrnas Unedig i ofyn am eu cefnogaeth nhw i fynd â'r argymhelliad hwn ymhellach, ac yn gwahodd eraill sy'n arbenigo mewn cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i wahanol ymddiriedolaethau a sefydliadau i rannau eu profiadau nhw yn ehangach.

Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn inni ddatblygu strategaeth i helpu'r sector celfyddydau i ddatblygu'r marchnadoedd rhyngwladol, i gomisiynu ymchwil, i nodi'r marchnadoedd sydd â'r potensial i ehangu fwyaf, ac i sicrhau bod yr elfen ddiwylliannol yn amlwg mewn teithiau cenhadol, mewn teithiau masnach tramor. Rydym ni'n croesawu hyn yn fawr. Yn dilyn y newid yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i Gymru ddatblygu dull a stori newydd i gyfleu ein gwaith rhyngwladol, ochr yn ochr â'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs. Mae hynny yn dilyn y datganiad o weledigaeth a gawsom ni yn 'Golau yn y Gwyll', a'r pwyslais ar ba mor bwysig yw sicrhau bod pobl yn ymddiddori mewn diwylliant er mwyn dangos yn glir ein bod ni yn wlad gyfoes a diwylliedig sy'n edrych allan, ac yn wlad i ymweld â hi o safbwynt dwristiaeth ac i wneud busnes â hi.

Ym mis Gorffennaf, wrth annerch fforwm celfyddydau rhyngwladol yng Nghaerdydd, fe ges i gyfle i roi her i'r asiantaethau allweddol, gan gynnwys y cyngor celfyddydau, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, a'r cyngor llyfrau, a hefyd yr amgueddfeydd a'r orielau, i gydweithio â ni yn Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r bwriad yma i wella canlyniadau diwylliannol ac economaidd ein gweithgareddau rhyngwladol. Mae'r ymateb i hynny wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mi fydd yna gyfarfod pellach cyn hir i ddatblygu'r gwaith yma.

Fel y pwysleisiodd y pwyllgor, mae cael gwybodaeth arbenigol am godi arian yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau celfyddydol llai. Yn y cyfeiriad yma, mae'n bwysig atgoffa unrhyw gwmni celfyddydol neu unrhyw fusnes celfyddydol fod y cymorth sydd gyda ni drwy Fusnes Cymru ar gael iddynt hwythau. Mae'r gwasanaethau yma ar gael i sefydliadau celfyddydol llai i helpu i farchnata, i fanteisio ar eiddo deallusol ac yn y blaen. Ond rydym ni yn derbyn bod angen help mwy arbenigol ar rai agweddau o godi arian, ac mae cyngor y celfyddydau eto yn mynd i'r afael â'r mater yma. Ac mi fydd y cyngor, cyn hir, yn cyhoeddi cynlluniau i helpu sefydliadau llai i ddatblygu ac i godi arian, yn enwedig i'r rheini nad ydyn nhw’n cael arian craidd o fewn cynllun cyngor y celfyddydau.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi rhoi arian loteri i Gelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn datblygu'r rhaglen o interniaethau creadigol, i hyfforddi gweithwyr proffesiynol newydd i godi arian. Mi fyddan nhw hefyd yn cefnogi lleoliadau bwrsariaethau yn yr ysgol codi arian ar gyfer y celfyddydau cenedlaethol, ac mae'r cyngor hefyd wedi creu pecyn cymorth briffio ar gyfer sefydliadau codi arian am y tro cyntaf. Mi fydd y gwaith yma'n cael ei ddatblygu, a'r deunydd yma ar gael yn fuan iawn.

Ac yn olaf, rydw i'n dod at fy hoff gorff nad yw eto wedi'i lwyr sefydlu, sef Cymru Greadigol. Ac mae'r pwyllgor wedi gofyn, yn ddigon teg, inni egluro'r nodau o ran sut y byddwn ni'n gweithredu Cymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu fel asiantaeth fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, yn cyfateb, ond nid yn union yn yr un modd, yn ei drefniadaeth fewnol i Cadw a Chroeso Cymru. Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn penodi aelodau i fwrdd cynghori ac mi fydd disgwyl i'r asiantaeth newydd yma weithio mewn partneriaeth agos â Chyngor y Celfyddydau, ac mae'r cyngor, wrth gwrs, yn croesawu hynny.

Rydym ni'n credu y bydd Cymru Greadigol yn gorff a fydd yn gallu datblygu'r potensial economaidd llawnach yn y sector greadigol yn gyffredinol. A gobeithio bod hynny yn ymateb yn weddol lawn i argymhellion gwerthfawr y pwyllgor hwn. Diolch yn fawr.

We do discuss with the arts council how we can combine this support. It has been noted that the council will continue to extend its resilience programme—or 'gwytnwch' in Welsh if you prefer. This programme does provide business support as well as governance support to key arts organisations to meet their individual needs. We are also eager to assist Arts & Business Cymru to continue the work to encourage corporate sponsorship and to encourage more people to become involved with the arts in all ways possible. I have asked officials to arrange partnerships where some of the core funding of Arts & Business Cymru will be based on the level of additional investment they secure for the broader arts sector. But we are still verifying that proposal at the moment. But I think that the concept of giving encouragement to Arts & Business Cymru and to reward them for their success in achieving funding is a very useful principle, and I very much hope that we will be able to retain funds in next year's budget specifically for that.

The report also asked us to raise awareness of Welsh arts institutions and the investment that trusts and foundations across the UK make in those organisations. We have tackled this in a number of different ways. We have asked the arts council to take the strategic lead. They have already held two days of meetings in London with representatives of major foundations within the UK, and these days have been so popular that they will lead to further events in Wales too.

In addition to that, Arts & Business Cymru has been organising a symposium to give face-to-face advice to arts organisations on how best to make successful applications for funding. In the most recent symposium, there were four trusts from London who had contacted Arts & Business Cymru in order to arrange similar events themselves. I will also be contacting the main trusts and foundations throughout the UK to ask for their support in taking this recommendation forward, and will invite others who are specialists in introducing successful bids and applications to the various trusts and foundations to share their experiences more broadly too.

The report also asks us to develop a strategy to assist the arts sector to develop international markets, to commission research, in order to earmark those markets that have the greatest potential for expansion, and to ensure that the cultural element is prominent in overseas trade missions. We warmly welcome this. Following a change in our relationship with the European Union, Wales must develop a new story to convey our international work, along with the European Union, of course. That follows the vision statement that we received in ‘Light Springs through the Dark’, and the emphasis on how important it is that people take an interest in culture in order to clearly demonstrate that we are a contemporary, outward-looking nation, and a nation that people should visit in terms of tourism, and where people can do business.

In July, while speaking to an international arts forum in Cardiff, I had an opportunity to challenge the key agencies, including the British Council, the arts council and the books council, as well as museums and galleries Wales, to work with us within Welsh Government in order to tackle this intention to improve cultural and economic outputs in our international activities. The response to that has been extremely positive, and there will be a further meeting soon to develop this work. 

As the committee emphasised, having specialist information on fundraising is crucial, particularly for smaller arts organisations. In this regard, it’s important to remind any arts company or any arts business that the support that we provide through Business Wales is available to them too. These services are available to smaller arts organisations to assist them with marketing, to take advantage of intellectual property and so on and so forth. But we do accept that more specialist assistance is needed in some aspects of fundraising, and the arts council once again is tackling this issue. And the council will soon announce plans to help smaller organisations to develop and to fundraise, particularly for those not in receipt of core funding within the arts council’s plans.

The Arts Council for Wales has also provided lottery funding to Arts & Business Cymru in order to develop a programme of creative interns to train new professionals in fundraising. They will also be supporting bursaries in the National Arts Fundraising School, and the council has also created a briefing pack on fundraising for the first time. This work will be developed and the materials will be available soon.

And finally, I come to my favourite, yet to be fully established body, which is Creative Wales, Cymru Greadigol, and the committee has quite rightly asked us to explain the objectives and how Creative Wales, Cymru Greadigol, will be established. It will be established as an internal agency within Welsh Government, corresponding, but not following the exact model in terms of its internal arrangements, to Cadw and Visit Wales. We are currently appointing Members to an advisory board, and this new agency will be expected to work in close partnership with the arts council, and the council welcomes that, of course.

We believe that Creative Wales, Cymru Greadigol, will be an organisation that will be able to develop the economic potential more fully in the creative sector. And I do hope that that responds to the valuable recommendations made by the committee. Thank you.


Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.

I call on Dai Lloyd to reply to the debate.

Diolch yn fawr, Llywydd. A diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl bwysig yma, ac yn gyntaf i David Melding am ei eiriau caredig a hefyd am olrhain yr hanes, wrth gwrs, achos rydym ni'n sôn am nifer o heriau yn fan hyn yn y maes o godi arian tuag at fudd y celfyddydau. Ac, wrth gwrs, roeddwn yn falch clywed y sôn am y Mabinogion—ddim bob dydd rydym ni'n sôn am y Mabinogion yn y Siambr yma—un o gampweithiau Ewrop, yn wir, yn llenyddol, ac rydw i'n falch bod David hefyd yn cydnabod hynny, ac yn gwneud y pwynt ehangach nad Llundain yw Cymru, yn nhermau codi pres, ond hefyd y dylai fod yr hyder gyda ni i fynd i Lundain ac i fynd ar ôl yr arian, a chael yr hyder ddim jest i fynd i Lundain, ond hefyd yn fwy rhyngwladol, ac yn enwedig yn ymgysylltu efo'r Cymry hynny sydd yn byw dramor—rhan o'r ddadl y gwnaethon ni ei chlywed yn y ddadl gynt. Mae Mark ar ei draed.

Thank you very much, Llywydd. And thank you to everyone who has contributed to this important debate, and first of all to David Melding for his kind words and also for outlining the history, of course, because we are talking here about a number of challenges in this field of fundraising for the benefit of the arts. And, of course, I’m very pleased to hear about the Mabinogion—it’s not every day that we talk about the Mabinogion here in the Chamber—one of the masterpieces in Europe, certainly, in terms of literature. I’m very pleased that David also recognises that, and makes the wider point that London isn’t Wales in terms of fundraising, but also that we should have the confidence to go to London and to pursue those funds, and to have the confidence not just to go to London, but to go internationally to seek those connections with the Welsh diaspora, which was part of the debate that we heard in the previous debate. Mark is on his feet.

The great Mabinogion includes the first know Arthurian romances in Welsh, critically written before Geoffrey of Monmouth wrote his false accounts for the Norman courts. Do you agree that we should be reclaiming those stories for Wales? 

Mae'r Mabinogi gwych yn cynnwys y rhamantau Arthuraidd cyntaf yn y Gymraeg, a ysgrifennwyd, yn hollbwysig, cyn i Sieffre o Fynwy ysgrifennu ei hanesion ffug ar gyfer y llysoedd Normanaidd. A ydych yn cytuno y dylem fod yn hawlio'r straeon hynny'n ôl ar gyfer Cymru?

Absolutely, but some of us have never lost them, so if you go far enough back—[Laughter.]

Yn sicr, ond mae rhai ohonom heb erioed eu colli, felly os ewch yn ddigon pell yn ôl—[Chwerthin.]

Felly, diolch yn fawr iawn, David, yn wir, a hefyd i Mark. A hefyd i Caroline, wrth gwrs, a oedd yn rhoi dadl gref gerbron am werth ehangach y celfyddydau a hefyd y cyfraniad allweddol i dwristiaeth. A hefyd, rydw i'n falch nodi, yn ymateb y Gweinidog, i fod yn deg, ei fod o wedi bod yn ateb ein cwestiynau ni—y rheini y gwnaethom ni eu gosod gerbron. Roedd y Gweinidog hefyd yn olrhain yr heriau a hefyd yn datgan yn glir ei fod o'n parhau i fod yn rhwymedig i ariannu'r celfyddydau cyhoeddus i'r dyfodol, ac, wrth gwrs, ei fod o'n cadarnhau hefyd fod y rhaglen wytnwch yma i barhau. A hefyd rydym ni'n croesawu'r newyddion ynglŷn â Chymru Greadigol. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am yr ymateb cadarnhaol i'n hargymhellion. Mae wedi bod yn fodd, drwy'r ddadl yma a'r adroddiad yma, i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y celfyddydau. Rwyf hefyd yn falch o olrhain y gwaith cefnogi y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tu ôl i'r llenni, efallai, ddim wastad ynghanol yr holl gyhoeddusrwydd, yn cefnogi'r sawl sy'n gwneud ceisiadau ariannol llwyddiannus. 

Ond, i gloi, mae gyda ni lu o unigolion talentog ac angerddol yn gweithio ym maes y celfyddydau yma yng Nghymru. Mae gyda ni lu o Gymry ym mhob man ar draws y byd yn ogystal ag yn y wlad hon sydd â digon o ewyllys da i fod eisiau eu cefnogi nhw hefyd. Felly, mae'n fater o ddod â'r ddau at ei gilydd. Gydag arweiniad gref y Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, rydym ni'n disgwyl gweld tro ar fyd wrth ariannu a meithrin cydnerthedd ar gyfer y celfyddydau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr. 

So, thank you very much, David, and, indeed, to Mark, and also to Caroline, who put forward a strong argument for the wider value of the arts and also the key contribution in terms of tourism. And also, I’m very pleased to note in the Minister’s response, to be fair, that he did answer our questions—questions that we put forward. The Minister also told us about the challenges that we face and also stated clearly that he continues to be committed to funding the arts in terms of public funding, and, of course, confirmed this resilient programme is to continue. We also welcome the news with regard to Creative Wales, Cymru Greadigol as well. I'm also grateful for the positive response to our recommendations. It has been a means, through this debate and report, of raising awareness of the importance of the arts. I'm very pleased to talk about the work that the Welsh Government is doing behind the scenes. It's not always the given the publicity that it deserves, but they are supporting those people who make those successful funding bids.

To close, we have a whole host of talented and passionate individuals working in the arts here in Wales, and we have a whole host of Welsh people worldwide as well as in this country who have sufficient goodwill to want to support them in this regard. So, it’s a matter of bringing the two together. With strong leadership from the Welsh Government in this area, we do expect to see transformation in terms of funding and developing the resilience for the arts here in Wales. Thank you very much.


Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

The proposal is to note the committee’s report. Does any Member object? No. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Motion agreed in accordance with Standing Order 12.36.

7. Dadl Plaid Cymru: Penderfyniad Coridor yr M4
7. Plaid Cymru Debate: M4 Corridor Decision

Sy'n dod â ni at eitem 7, dadl Plaid Cymru ar y penderfyniad ar goridor yr M4. Rydw i'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig. 

Which brings us to item 7, the Plaid Cymru debate on the M4 corridor decision, and I call on Rhun ap Iorwerth to move the motion.

Cynnig NDM6880 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.

Motion NDM6880 Rhun ap Iorwerth

To propose that the National Assembly for Wales:

Believes that the decision on whether to go ahead with the proposed M4 corridor around Newport project should be left to the new First Minister, appointed in December 2018, subject to the findings of the local public inquiry.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch, Llywydd. Siaradaf i ddim yn hir heddiw achos mae'r pwynt rydym ni'n ei wneud drwy gyflwyno'r cynnig yma yn un eithaf syml. Mi gawn ni gyfleon i drafod y dadleuon dros ac yn erbyn llwybr du yr M4 yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, heb os. Er mwyn y cofnod, mi wnaf i nodi beth ydy fy marn i a'm mhlaid i ynglŷn â'r cynlluniau sydd yn cael eu trafod ac sydd wedi bod yn destun ymchwiliad cyhoeddus yn ddiweddar.

Rydym ni yn cydnabod ac yn sylweddoli bod yna waith i'w wneud i wneud y system ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn fwy gwydn, bod yna le i fuddsoddi arian sylweddol mewn gwneud hynny, ond nid ydym ni wedi'n hargyhoeddi mai mynd am y cynllun llwybr du, fel y mae'n cael ei alw, neu llwybr newydd yr M4 i'r de o Gasnewydd, ydy'r ffordd i wneud hynny. Mae yna ddadleuon ariannol dros hynny. Pam 'commit-io' gymaint o arian ar gyfer un ffordd pan fo yna ffyrdd amgen o weithredu? Mae yna ddadleuon amgylcheddol cryf iawn yn erbyn hynny. Mi glywn ni fwy am hynny gan Llyr Gruffydd yn y man.

Rydym ni'n credu bod yna fodd i fod yn fwy arloesol a dod ag ateb unfed ganrif ar hugain i'r broblem rydym ni'n ei hwynebu, yn hytrach nag ateb sydd â'i wreiddiau—waeth i ni fod yn onest—yn ôl yn 1970au a 1980au y ganrif ddiwethaf. Rydym ni'n credu mewn difrif y gallwn ni symud yn gynt tuag at ddatrys y broblem ffyrdd yn y modd yma, ond, ochr yn ochr â hynny, rydym ni'n credu mai'r hyn sydd angen ei wneud hefyd ydy cryfhau'r system drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn tynnu pobl oddi ar y ffyrdd yn y lle cyntaf. Felly, dyna, er mwyn y cofnod, yw lle rydym ni'n sefyll ar yr M4.

Ond nid dadl am hynny ydy hon heddiw yma. Mae yna bleidlais yn mynd i gael ei chynnal yma rhyw ben ynglŷn â dyfodol y cynllun hwn, lle mae disgwyl i bleidlais o Aelodau ein Senedd genedlaethol ni fod yn binding, ac, os ydy'r Cynulliad yma yn dweud 'na' i'r llwybr du, yna mae disgwyliad mai 'na' fydd hi. Ond, wrth gwrs, mae yna gam pwysig i'w gymryd cyn hynny gan Lywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru fydd yn edrych ar gasgliadau'r ymchwiliad cyhoeddus ac yn dod i'r penderfyniad a ydyn nhw am fwrw ymlaen ai peidio. 

Prif Weinidog Cymru fydd yr un fydd yn gwneud yr alwad yna, ond mae yna gyd-destun sy'n mynd i fod yn newid, a hynny yn fuan iawn. Mae yna newid yn mynd i fod yn nhirwedd llywodraethol Cymru, ac mae, beth bynnag, un o'r tri sydd yn ymgeisio am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yma yn y Siambr heddiw. Mae un o'r tri yn mynd i fod yn Brif Weinidog newydd Cymru o fewn mater o wythnosau. Ein pwynt syml iawn ni heddiw ydy mai penderfyniad i'r Prif Weinidog newydd ddylai fod i fwrw ymlaen ai peidio, achos rydym ni'n meddwl bod arwyddocâd mor fawr i'r penderfyniad yma y dylai'r penderfyniad gael ei berchnogi gan bwy bynnag ydy Prif Weinidog newydd Cymru. 

Nid ydym ni'n credu ei bod hi'n dderbyniol un ai i'r Prif Weinidog presennol gymryd y bai am wneud rhywbeth amhoblogaidd ac yna diflannu, neu i geisio perchnogi hwn fel rhyw fath o ffordd o adael gwaddol personol ohono'i hun. Na, mae yna ormod yn y fantol—

Thank you, Llywydd. I won’t speak for too long today, because the point that we have made by presenting this motion is quite simple. We will have opportunities to discuss the case for and against the M4 black route over the next few weeks and months. For the record, I will note my own view and my party’s view on the proposals that are being discussed and that have been subject to a public inquiry recently.

We do recognise and realise that there is work to be done to make the road system in the south-east of Wales more resilient and that there is room to make great investment in doing that, but we have yet to be convinced that going for the black route, as it is described, or a new route for the M4 to the south of Newport, is the way to deliver that. There are financial arguments for that. Why commit so much funding for one road, when there are alternatives? There are strong environmental arguments against that. We will hear more about that from Llyr Gruffydd a little later.

We believe that we could be more innovative and bring a twenty-first century solution to the problem that we are facing, rather than a solution that has its roots—let's be honest—in the 1970s and 1980s. We believe that we could move more swiftly towards resolving this problem taking that approach, but, along with that, we believe that what also needs to be done is to strengthen the public transport system in order to take people off the roads in the first place. So, for the record, that's where we stand on the M4.

But this debate isn't about that issue. There will be a vote held in this place at some point on the future of this proposal, where it's expected that the Members of our national Senedd’s vote will be binding. And if this Assembly says 'no' to the black route, then there is an expectation that 'no' should mean 'no'. But there is an important step to be taken before then by the Welsh Government. It’s the Welsh Government who will look at the conclusions of the public inquiry and will make a decision as to whether they wish to proceed or not.

The Welsh First Minister will make that call, but there is a context that will change very soon. There will be a change in the governance landscape of Wales, and one of the three candidates for the leadership of the Labour Party is here in the Chamber today. One of the three will become the new First Minister of Wales within a matter of weeks. Our simple point today is that the decision should be left to the new First Minister as to whether we proceed or not, because we believe that the decision is so significant that the decision should be owned by whoever becomes the new First Minister of Wales.

We don't believe that it’s acceptable for either the current First Minister to take the blame for doing something unpopular and then to disappear off the scene, or to take ownership of this as some means of leaving a personal legacy. No, there is too much at stake—

—rwy'n credu ar gyfer hyn a penderfyniad rwy'n credu y dylai hyn fod i'r sawl a fydd yn cymryd lle y Prif Weinidog presennol. 

—here, and it should be a decision taken by the person who replaces the current First Minister.

Yes, I will take an intervention.

Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.


Here, the motion refers to the decision as to whether to go ahead, but aren't there two distinct decisions here: (1) whether to make these Orders and give planning permission, where the current First Minister has been careful not to prejudice himself and is well-placed to do that, and then, second, a decision whether to prioritise and spend the money and actually commence construction, which Welsh Government will take after? Isn't that a sensible division?

Yma, mae'r cynnig yn cyfeirio at y penderfyniad i fwrw ymlaen ai peidio, ond onid oes dau benderfyniad gwahanol yma: (1) a ddylid gwneud y Gorchmynion hyn a rhoi caniatâd cynllunio, lle mae'r Prif Weinidog presennol wedi bod yn ofalus i beidio â dangos tuedd ac mae mewn sefyllfa dda i wneud hynny, ac yna, yn ail, penderfyniad ynglŷn ag a ddylid blaenoriaethu a gwario'r arian a chychwyn ar y broses adeiladu, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud wedi hynny? Onid yw hwnnw'n rhaniad synhwyrol?

You're absolutely right, that is the process that is followed and, in a way, what we are saying is that we want that decision on whether to sign those statutory Orders to be taken by an incoming First Minister, because that's what instigates and kicks off that process, which then leads to a vote here on whether we think it's something that should be prioritised to release that money that is held currently in reserves, waiting to be triggered. We believe that trigger should be pulled by the new First Minister. There is so much at stake for the future of spending in Wales, the environment in Wales, future generations in Wales; let's see ownership of that decision by the new, incoming First Minister of Wales. 

Rydych yn llygad eich lle, dyna'r broses a ddilynir, ac mewn ffordd, yr hyn rydym yn ei ddweud yw ein bod am i'r penderfyniad hwnnw ynglŷn ag a ddylid llofnodi'r Gorchmynion statudol hynny gael ei wneud gan Brif Weinidog newydd, gan mai hynny sy'n achosi ac yn cychwyn y broses honno, sydd wedyn yn arwain at bleidlais yma ynglŷn ag a ydym yn credu ei fod yn rhywbeth y dylid ei flaenoriaethu er mwyn rhyddhau'r arian a gedwir wrth gefn ar hyn o bryd, yn aros i gael ei ddefnyddio. Credwn mai'r Prif Weinidog newydd a ddylai roi'r broses honno ar waith. Mae cymaint yn y fantol o ran dyfodol gwariant yng Nghymru, yr amgylchedd yng Nghymru, cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru; gadewch i ni weld Prif Weinidog newydd Cymru yn perchnogi'r penderfyniad hwnnw.

Of course, we need a solution to the M4 congestion issue—that's an issue that no doubt will be supported by every Member across the Chamber—but what we are waiting for is, of course, the full details of the public inquiry. And we as AMs across this Chamber need to see that report, and I'd say it's essential that the Government publishes the findings and conclusions of the public inquiry so that we and stakeholders are able to digest and scrutinise that consultation and the conclusions of that inquiry report. 

I won't be a lone AM in this Chamber in having a large e-mail postbag, especially over the last week, with views from all different sectors, and those views, of course, have all got to be balanced. But I do believe that the Welsh Government has dragged its feet on this issue. There have been 20 years of discussions and consultations, and no practical solution has been delivered. We have had the public inquiry, the inquiry has now presented its findings to the Welsh Government, so I'm disappointed that we, as AMs here, haven't had the chance to scrutinise those findings either.

And it does look like, as well, that we've had contradictory information as well on this issue. We've had the leader of the house, in answering First Minister's questions last week and in previous times as well, give us one position, we've had the economy and transport Minister providing evidence to the environment committee last week that appears to tell us something different, and the First Minister something else. So, what I do hope will come out of this debate when the Cabinet Secretary, or the leader of the house, perhaps, responds to this debate this afternoon, is again that clarity on the position and the timetable of the decision-making process. I think it's absolutely clear that we have that.

But I understand the motion that's put forward today; I'm willing to listen to the debate before we make any conclusion on this side about how that should be—which way we'll vote ourselves. We have constantly said a decision needs to be made as soon as possible. So, I don't want to see that put off, but I accept absolutely—

Wrth gwrs, mae arnom angen ateb i fater tagfeydd yr M4—mae hwnnw'n fater y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn ei gefnogi, heb os—ond yr hyn rydym yn aros amdano, wrth gwrs, yw manylion llawn yr ymchwiliad cyhoeddus. Ac mae angen i ni fel ACau ar draws y Siambr hon weld yr adroddiad hwnnw, a buaswn yn dweud ei bod yn hanfodol fod y Llywodraeth yn cyhoeddi canfyddiadau a chasgliadau'r ymchwiliad cyhoeddus fel y gallwn ni a'r rhanddeiliaid ystyried a chraffu ar yr ymgynghoriad hwnnw a chasgliadau adroddiad yr ymchwiliad hwnnw.

Nid fi fydd yr unig AC yn y Siambr hon â mewnflwch yn llawn o e-byst, yn enwedig dros yr wythnos ddiwethaf, gyda safbwyntiau o'r holl wahanol sectorau, ac mae'n rhaid cydbwyso'r safbwyntiau hynny, wrth gwrs. Ond credaf fod Llywodraeth Cymru wedi llusgo'i thraed ar y mater hwn. Wedi 20 mlynedd o drafodaethau ac ymgynghoriadau, nid oes ateb ymarferol wedi'i ddarparu. Rydym wedi cael ymchwiliad cyhoeddus, mae'r ymchwiliad bellach wedi cyflwyno ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru, felly rwy'n siomedig nad ydym ni, fel AC yma, wedi cael cyfle i graffu ar y canfyddiadau hynny ychwaith.

Ac ymddengys hefyd ein bod wedi cael gwybodaeth anghyson ynglŷn â'r mater hwn. Mae arweinydd y tŷ, wrth ateb cwestiynau'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ac ar adegau blaenorol hefyd, wedi rhoi un safbwynt i ni, mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor yr amgylchedd yr wythnos diwethaf ac ymddengys ei fod yn dweud rhywbeth gwahanol wrthym, a'r Prif Weinidog yn dweud rhywbeth arall. Felly, rwy'n gobeithio mai'r hyn a ddaw o'r ddadl hon pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet, neu arweinydd y tŷ, efallai, yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma, yw eglurder, unwaith eto, ynglŷn â'r safbwynt ac amserlen y broses o wneud penderfyniadau. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cael hynny.

Ond rwy'n deall y cynnig a gyflwynwyd heddiw; rwy'n barod i wrando ar y ddadl cyn inni ddod i unrhyw gasgliad ar yr ochr hon ynglŷn â sut y dylid—ynglŷn â sut y byddwn yn pleidleisio ein hunain. Rydym wedi dweud yn gyson fod angen gwneud penderfyniad cyn gynted â phosibl. Felly, nid wyf am weld hynny'n cael ei ohirio, ond rwy'n derbyn yn llwyr—

Will you just take an intervention—

A wnewch chi dderbyn ymyriad—

—just to make that point? I think it's not a matter of seeking to build in additional delays into a process that's already taken a long time, whichever side of the debate you're on; we're talking about weeks here before a decision will be taken. 

—er mwyn gwneud y pwynt hwnnw? Credaf nad yw'n fater o geisio ychwanegu rhagor o oedi mewn proses sydd eisoes wedi cymryd cryn dipyn o amser, pa ochr bynnag i'r ddadl rydych arni; rydym yn sôn am wythnosau yma cyn y caiff penderfyniad ei wneud.

Yes, and I absolutely accept that position. We are talking a matter of weeks and, of course, the new First Minister—I see the argument for the new First Minister taking the final decision. I do see that argument as well, and I appreciate what you're saying. 

Ydym, ac rwy'n derbyn y safbwynt hwnnw'n llwyr. Rydym yn sôn am fater o wythnosau, ac wrth gwrs, y Prif Weinidog newydd—rwy'n gweld y ddadl o blaid y Prif Weinidog newydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Rwy'n gweld y ddadl honno hefyd, ac rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch.

For the record, my postbag is full of people who don't want to see the destruction of the Gwent Levels, which some of them are describing as the equivalent of the Amazon basin. So, that is certainly a particular concern of many, many of my constituents.

However, I completely agree with the motion. We need to ensure that the new Government has options available because, looking back, it's five years since Mark Barry's report, 'A Metro for Wales’ Capital City Region' made the case for a step change in regional public transport connectivity and the adoption of an integrated city region economic transport and land use plan. We are a very long way from that, and we have ignored the fact that, two years later, the Cardiff capital region board's 'Powering the Welsh Economy' pointed out that an integrated transport system, aligned with land use planning, could be a catalyst for economic change across the region. And at the heart of this aspiration, they say, is the metro vision for a modern, high-quality, multi-modal integrated public transport network. Hurrah. I completely agree with that. And we have to acknowledge that it is simply unsustainable to have 100,000 people commuting into Cardiff and Newport by car for both climate change and public health reasons. This is simply something that hasn't been properly considered in the inquiry. Given that it costs exactly the same per kilometre to build a rail line as a motorway and yet the rail line can carry between eight and 20 times more people, that, in my view, is where the investment needs to go, in line with the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015—inspirational legislation created by Carl Sargeant.

Now, we've just heard the pleas from the Member for Torfaen—I'm sorry she's not here at the moment. But earlier on she was talking about the need to have trains stopping in Pontypool so that people could commute by train to their jobs, and I absolutely agree with that. We simply aren't going to distribute growth across the region unless we have that connectivity. If I want to start a new business, I'm much more likely to want to locate it in Pontypool than in Cardiff, simply because the rents are going to be cheaper. We've had this very expensive public inquiry going on for months about 14 miles of road, and this has meant, sadly, policy paralysis and not nearly enough attention paid to the public transport infrastructure that this region needs.

So, I want to see a lot more work being done by the Government, old and new, coming in as a matter of urgency on the public transport options, which were absent from the public inquiry. For example, how can we use the four lines running east of Cardiff Central? Two of them have to be dedicated to the so-called high-speed lines to London and elsewhere. We can have a debate about that, but the other two lines are not being appropriately deployed to provide many more train services running to and from the east of Cardiff for local traffic, and I want to understand why that is, because there are four lines and we're not using them. So—

Ar gyfer y cofnod, mae fy mag post yn llawn o bobl nad ydynt am weld Gwastadeddau Gwent yn cael eu dinistrio, gyda rhai ohonynt yn eu cymharu â basn yr Amazon. Felly, mae hynny'n sicr yn bryder penodol i lawer iawn o fy etholwyr.

Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â'r cynnig. Mae angen inni sicrhau bod opsiynau ar gael i'r Llywodraeth newydd oherwydd, wrth edrych yn ôl, mae pum mlynedd wedi bod bellach ers i adroddiad Mark Barry, 'A Metro for Wales' Capital City Region', ddadlau'r achos dros newid sylweddol i gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus ranbarthol a mabwysiadu cynllun trafnidiaeth economaidd dinas-ranbarthol a defnydd tir integredig. Rydym yn bell iawn o hynny, ac rydym wedi anwybyddu'r ffaith bod dogfen bwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd, 'Sbarduno Economi Cymru', wedi nodi, ddwy flynedd yn ddiweddarach, y gallai system drafnidiaeth integredig, i gyd-fynd â chynllunio defnydd tir, fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth. A dywedant fod gweledigaeth y metro ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern amlfodd integredig o ansawdd uchel yn ganolog i'r dyhead hwn. Hwrê. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac mae'n rhaid inni gydnabod ei bod yn anghynaladwy i 100,000 o bobl gymudo i Gaerdydd a Chasnewydd mewn ceir am resymau sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd yn ogystal ag iechyd y cyhoedd. Mae hyn yn rhywbeth na chafodd ei ystyried yn briodol yn yr ymchwiliad. O gofio ei bod yn costio'r un faint yn union i adeiladu cilometr o reilffordd a chilometr o draffordd, ac eto, gall rheilffordd gludo rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl, dyna lle y dylid buddsoddi yn fy marn i, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015—deddfwriaeth ysbrydoledig a grëwyd gan Carl Sargeant.

Nawr, rydym newydd wrando ar yr apêl gan yr Aelod dros Dorfaen—mae'n flin gennyf nad yw hi yma ar hyn o bryd. Ond yn gynharach, bu'n sôn am yr angen i sicrhau bod trenau'n stopio ym Mhont-y-pŵl fel y gall pobl gymudo ar y trên i'w swyddi, a chytunaf yn llwyr â hynny. Yn syml iawn, nid ydym yn mynd i ddosbarthu twf ar draws y rhanbarth heb y cysylltedd hwnnw. Pe bawn yn dymuno dechrau busnes newydd, rwy'n llawer mwy tebygol o fod eisiau ei leoli ym Mhont-y-pŵl nag yng Nghaerdydd, gan y bydd y rhent yn rhatach. Rydym wedi cael yr ymchwiliad cyhoeddus drud iawn hwn yn mynd rhagddo ers misoedd lawer ynglŷn ag oddeutu 14 milltir o ffordd, ac mae hyn wedi golygu, yn anffodus, fod polisi wedi aros yn ei unfan a dim hanner digon o sylw wedi'i roi i'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd ei angen ar y rhanbarth hwn.

Felly, hoffwn weld llawer mwy o waith yn cael ei wneud gan y Llywodraeth, hen a newydd, i ddigwydd fel mater o frys ar yr opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, a oedd ar goll o'r ymchwiliad cyhoeddus. Er enghraifft, sut y gallwn ddefnyddio'r pedwar trac sy'n rhedeg i'r dwyrain o orsaf Caerdydd Canolog? Mae'n rhaid neilltuo dau ohonynt ar gyfer y rheilffyrdd cyflym fel y'u gelwir i Lundain a mannau eraill. Gallwn gael dadl ynglŷn â hynny, ond nid yw'r ddau arall yn cael eu defnyddio'n briodol er mwyn darparu llawer mwy o wasanaethau trên i ac o ddwyrain Caerdydd ar gyfer traffig lleol, ac rwy'n awyddus i ddeall pam, gan fod pedwar trac yno ac nid ydym yn eu defnyddio. Felly—


Does she recognise the new station at Llanwern, with the proposed new private station near St Mellons, but also with campaigns for stations, such as at Magor and Undy—if we have several new stations on that line, then that would make a very strong case for an additional type of stopping service beyond the high-speed services we currently have?

A yw'n gyfarwydd â'r orsaf newydd yn Llan-wern, gyda'r orsaf breifat newydd arfaethedig ger Llaneirwg, ond hefyd yr ymgyrchoedd dros orsafoedd, fel ym Magwyr a Gwndy—pe bai gennym sawl gorsaf newydd ar y rheilffordd honno, byddai'n creu achos cryf iawn dros fath ychwanegol o wasanaeth sy'n stopio ar wahân i'r gwasanaethau cyflym sydd gennym ar hyn o bryd?

I don't disagree with Mark Reckless. I'm sure that's one of the possible options, but obviously there are other places that need to be served. This isn't quite the place for examining the detail. But one of the important things we've learned recently, since Transport for Wales took over the Arriva contract, is that James Price has assured us that the Keolis contract is flexible enough to be able to adapt to changing targets. So, this is very good; we can change the spec for the contract without incurring penalties. So, this is really important. So, instead of assuming that the congestion around Newport can be magicked away by building more roads—it would be a first if that was the case—the Government needs to do some serious work on the public transport solutions to the congestion problems that Newport undoubtedly faces. In particular, I want to know in the short term how long it takes to get a fleet of electric or hydrogen buses purchased and up and running. That is the fastest solution while we fix the rail lines and get more trains on the tracks.

Nid wyf yn anghytuno â Mark Reckless. Rwy'n siŵr fod hwnnw'n un o'r opsiynau posibl, ond mae'n amlwg fod mannau eraill y mae angen eu gwasanaethu. Nid dyma'r lle gorau ar gyfer edrych ar y manylion. Ond un o'r pethau pwysig rydym wedi'u dysgu yn ddiweddar, ers i Trafnidiaeth Cymru ddod yn gyfrifol am y contract yn lle Arriva, yw bod James Price wedi rhoi sicrwydd inni fod contract Keolis yn ddigon hyblyg i allu addasu i dargedau newidiol. Felly, mae hyn yn dda iawn; gallwn newid y fanyleb ar gyfer y contract heb gael ein cosbi. Felly, mae hyn yn bwysig iawn. Felly, yn lle rhagdybio y gellir swyno'r tagfeydd o gwmpas Casnewydd ymaith drwy adeiladu mwy o ffyrdd—dyna fyddai'r tro cyntaf i hynny ddigwydd pe bai'n wir—mae angen i'r Llywodraeth wneud gwaith sylweddol ar atebion trafnidiaeth gyhoeddus i'r problemau tagfeydd sydd, heb unrhyw amheuaeth, yn effeithio ar Gasnewydd. Yn benodol, hoffwn wybod yn y tymor byr pa mor hir y mae'n ei gymryd i brynu fflyd o fysiau trydan neu hydrogen a'u rhoi ar waith. Dyna'r ateb cyflymaf wrth inni drwsio'r rheilffyrdd a rhoi mwy o drenau ar y cledrau.

I admire the Member for Cardiff Central for her independence of mind, and I frequently agree with what she says. There is a serious argument about which is the best solution to the problems that we all know about. I stood for election, as did my colleagues, in support of the blue route rather than the black route, although I did say about two years ago that the black route would be better than no route. We can't go on endlessly in limbo as we have been for the last 20 years. But this is undoubtedly going to be the biggest capital spending decision that has been made since devolution 20 years ago, and I think that the importance of it does require, as Rhun ap Iorwerth said in his opening speech, that the decision should be owned by the new First Minister. I know that there's collective responsibility, of course, and all members of the Cabinet who are involved in taking this decision, ultimately, who survive the reshuffle, will, therefore, be able to be made accountable. But I do think that as a matter of practice it should be the new Cabinet, under the leadership of the new First Minister, that ought to take this decision, especially as we're not talking of—Rhun ap Iorwerth said just a few moments ago—immense delay. It's just a couple of weeks before the new First Minister is in place. There can surely be no argument for rushing this in the course of the next few hours, in effect, given that we've been waiting for it for such an immense length of time.

It is a decision on which, I think, party lines may become blurred, and a good thing too, in my opinion. We should take into account the variety of different interests that have contributed, and are still contributing, as we know from our postbags, each and every one of us, to the decision that has to be made. So, it does seem to me that there's an unanswerable case for what Rhun ap Iorwerth set out and is set out in this motion, and I shall be supporting it today.

Rwy'n edmygu'r Aelod dros Ganol Caerdydd am ei meddwl agored, ac rwy'n aml yn cytuno â'r hyn y mae'n ei ddweud. Mae dadl difrifol i'w chael ynglŷn â'r ateb gorau i'r problemau y mae pawb ohonom yn gwybod amdanynt. Sefais etholiad, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelodau, gan gefnogi'r llwybr glas yn hytrach na'r llwybr du, er fy mod wedi dweud oddeutu dwy flynedd yn ôl y byddai'r llwybr du yn well na dim llwybr. Ni allwn barhau i fod mewn limbo diddiwedd fel y buom ynddo dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ond heb os, dyma fydd y penderfyniad mwyaf a wnaed ynghylch gwariant cyfalaf ers datganoli 20 mlynedd yn ôl, a chredaf fod ei bwysigrwydd yn golygu, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith agoriadol, mai'r Prif Weinidog newydd a ddylai berchnogi'r penderfyniad. Gwn fod yno gyfrifoldeb cyfunol, wrth gwrs, ac felly, bydd modd sicrhau bod pob Aelod o'r Cabinet sy'n rhan o wneud y penderfyniad hwn yn y pen draw, ac sy'n goroesi'r broses ad-drefnu, yn cael eu gwneud yn atebol. Ond fel mater o arfer, credaf mai'r Cabinet newydd, o dan arweiniad y Prif Weinidog newydd, a ddylai wneud y penderfyniad hwn, yn enwedig gan nad ydym yn sôn—fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth ychydig eiliadau'n ôl—am oedi aruthrol. Ychydig wythnosau yn unig sydd ar ôl tan i'r Prif Weinidog newydd ddod i'w swydd. Ni all fod dadl o blaid rhuthro hyn yn ystod yr ychydig oriau nesaf, i bob pwrpas, o gofio ein wedi bod yn aros amdano ers amser mor faith

Credaf ei fod yn benderfyniad sydd efallai wedi cymylu ffiniau gwleidyddol, ac mae hynny'n beth da hefyd yn fy marn i. Dylem ystyried yr amrywiaeth o wahanol fuddiannau sydd wedi cyfrannu, ac sy'n parhau i gyfrannu, fel y gwyddom o'r llythyrau a gawn, bob un ohonom, i'r penderfyniad sy'n rhaid ei wneud. Felly, ymddengys i mi fod yna achos diymwad dros yr hyn a nododd Rhun ap Iorwerth, a'r hyn a ddisgrifir yn y cynnig hwn, a byddaf yn ei gefnogi heddiw.


Mae'r egwyddor o atebolrwydd mewn gwleidyddiaeth, wrth gwrs, yn un pwysig, ac mae e'n amlycach mewn rhai sefyllfaoedd na'i gilydd y dyddiau yma. Yn rhy aml o lawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym ni wedi gweld gwleidyddion nid yn unig yn gwneud addewidion pan nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wireddu'r addewidion hynny—ac rydw i'n sôn am Brexit, gyda llaw, rhag ofn bod rhywun ddim yn siŵr—ond rydym ni hefyd yn gweld, wrth gwrs, Gweinidogion a Phrif Weinidogion yn gwneud penderfyniadau sy'n mynd i gael effaith pellgyrhaeddol ar y rhai maen nhw'n atebol iddyn nhw cyn wedyn camu o'r neilltu, heb wynebu canlyniadau eu penderfyniad, heb orfod cyfiawnhau eu penderfyniad, a heb fod yn atebol am y penderfyniadau hynny, ac mae hwnnw'n egwyddor pwysig sydd—mewn cyd-destun gwahanol iawn yn fan hyn, wrth gwrs—yn y fantol fan hyn, yn enwedig pan ydym ni'n sôn am benderfyniad mor, mor fawr, ac yn enwedig pan fod yna benderfyniad sy'n cael ei gymryd mor, mor agos at ddiwedd cyfnod un Prif Weinidog a chychwyn cyfnod Prif Weinidog newydd, ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn i Adam Price fod yn cymryd ei sedd yn y rheng flaen yn fan yna. 

The principle of accountability in politics is an important one, of course, and it’s clearer in some situations than others these days. Too often, over the past two years, we have seen politicians not only making promises when they’re not in a situation to achieve those or fulfil those promises—I’m talking about Brexit, by the way, if you’re not sure—but we also see Ministers, and First or Prime Ministers indeed, making decisions that are going to have far-reaching consequences for those that they’re accountable to before stepping aside, without facing the results of their decisions, without having to justify the decisions, and without being accountable for those decisions. That’s an important principle that, in a very different context, is visible here, especially when we’re talking about such a major decision, especially when it’s a decision that is being taken so close to the end of the period of one First Minister in office, and the beginning of the period of the next First Minister. And I’m looking forward to Adam Price taking his place in the frontbenches over there.   

We've heard, of course, about the scale of the decision to be taken: the single largest investment decision that this Government, or any Government since the dawn of devolution, has taken. But, of course, if that decision is made by the current First Minister, then it won't be him that'll be in a position to be held to account for it or to have to justify it and its wide-ranging consequences. Of course, it won't be the present First Minister who will be held accountable when the building starts and when the unique protected landscape of the Gwent levels is damaged, the ancient woodland, the nationally designated nature conservation sites. It won't be the present First Minister who will be held to account when future generations face the adverse effects resulting from the increased carbon emissions, making it, of course, more difficult for the Government to meet its own emission reduction targets. It won't be the present First Minister's capital budget that will be limited, or who's entire borrowing powers will have been used. It's not the present First Minister who will have to explain to communities in other parts of Wales, consequently, why they won't get the fair share of capital investment that they were hoping for. Now, all of that will fall, of course, on the next First Minister. And who knows? The next First Minister may well have different priorities. Instead of spending the £1.4 billion on 14 miles of tarmac, he or she may decide to use that money to realise phases 2 and 3 of the metro—

Rydym wedi clywed, wrth gwrs, am faint y penderfyniad sydd angen ei wneud: y penderfyniad mwyaf o ran buddsoddi a wnaed gan y Llywodraeth hon, neu unrhyw Lywodraeth ers datganoli. Ond wrth gwrs, pe bai'r Prif Weinidog presennol yn gwneud y penderfyniad hwnnw, nid ef a fyddai mewn sefyllfa i fod yn atebol amdano, neu orfod ei gyfiawnhau ynghyd â'i ganlyniadau pellgyrhaeddol. Wrth gwrs, nid y Prif Weinidog presennol a wneir yn atebol pan fydd y gwaith adeiladu'n cychwyn a phan fydd tirwedd unigryw a gwarchodedig Gwastadeddau Gwent yn cael ei difrodi, y coetir hynafol, y safleoedd cadwraeth natur sydd wedi'u dynodi'n genedlaethol. Nid y Prif Weinidog presennol a fydd yn atebol pan fydd cenedlaethau'r dyfodol yn wynebu'r effeithiau andwyol o ganlyniad i allyriadau carbon uwch, a fydd, wrth gwrs, yn ei gwneud hi'n anos i'r Llywodraeth gyrraedd ei thargedau ei hun ar gyfer lleihau allyriadau. Nid cyllideb gyfalaf y Prif Weinidog presennol a fydd yn cael ei chyfyngu, ac nid ei bwerau benthyca ef a fydd wedi cael eu defnyddio'n gyfan gwbl. Nid y Prif Weinidog presennol a fydd yn gorfod egluro i gymunedau mewn rhannau eraill o Gymru yn sgil hynny pam na fyddant yn cael y gyfran deg o fuddsoddiad cyfalaf roeddent yn gobeithio'i chael. Nawr, bydd hyn oll yn disgyn ar ysgwyddau'r Prif Weinidog nesaf wrth gwrs. A phwy a ŵyr? Efallai'n wir y bydd gan y Prif Weinidog nesaf flaenoriaethau gwahanol. Yn hytrach na gwario'r £1.4 biliwn ar 14 milltir o darmac, efallai y bydd ef neu hi yn penderfynu defnyddio'r arian hwnnw i wireddu camau 2 a 3 o'r cynllun metro—

Will you take an intervention?

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Yes, okay, very briefly. 

Gwnaf, o'r gorau, yn fyr iawn.

Why do you think it's only going to cost £1.4 billion?

Pam y credwch mai dim ond £1.4 biliwn y bydd yn ei gostio?

Wow. I don't, and I'm glad that you reminded me of that. [Laughter.] Look at what else we could achieve if it transpires to be much higher than that. We could build the Swansea bay tidal lagoon, and I know there'd be one person here who'd be supportive of that; we could bring all homes in Wales up to a required energy efficiency standard; we could electrify 175 miles of train lines in Wales.

Now, these are the projects that, according to the future generations commissioner, could be built using the money for the M4, and I commend the future generations commissioner's report, 'Transport fit for Future Generations', which raises fundamental questions. It highlights that there are limitations to the modelling undertaken by the Welsh Government. The black route would exacerbate many of the societal and environmental challenges facing Wales, and the black route is weak on the criteria set out in the well-being of future generations Act. Now, as far as I'm concerned, the black route is incompatible with the well-being of future generations Act. We were told that the Act is world leading, and I'm happy to believe that, but it's only world-leading legislation when it leads to world-leading change, and this is very much business as usual. For me, it's a litmus test as to whether the Government takes seriously its duties under the well-being of future generations Act, and I very much hope that the decision will be left to the incoming First Minister.

Waw. Nid wyf yn credu hynny, ac rwy'n falch eich bod wedi fy atgoffa o hynny. [Chwerthin.] Edrychwch ar beth arall y gallem ei gyflawni pe bai'n digwydd costio llawer mwy na hynny. Gallem adeiladu morlyn llanw bae Abertawe, a gwn y byddai un unigolyn yma a fyddai'n cefnogi hynny; gallem sicrhau bod pob cartref yng Nghymru yn cyrraedd safon ofynnol o ran effeithlonrwydd ynni; gallem drydaneiddio 175 milltir o reilffyrdd yng Nghymru.

Nawr, yn ôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, dyma'r prosiectau y gellid eu datblygu gan ddefnyddio'r arian ar gyfer yr M4, a chymeradwyaf adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, 'Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol', sy'n codi cwestiynau allweddol. Mae'n nodi cyfyngiadau'r gwaith modelu a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru. Byddai'r llwybr du yn gwaethygu llawer o'r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu Cymru, ac mae'r llwybr du yn wan iawn o ran y meini prawf a nodir yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, o'm rhan i, mae'r llwybr du yn anghydnaws â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dywedwyd wrthym fod y Ddeddf yn flaengar, ac rwy'n fwy na pharod i gredu hynny, ond nid yw ond yn ddeddfwriaeth flaengar pan fydd yn arwain at newid blaengar, ac nid yw hwn yn fawr o newid. I mi, mae'n brawf litmws sy'n dangos a yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â'i dyletswyddau o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n mawr obeithio mai'r Prif Weinidog newydd fydd yn gwneud y penderfyniad.