National Assembly for Wales

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

27/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rydw i wedi derbyn gwybodaeth, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd arweinydd y tŷ, Julie James, yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Cwestiwn 1—Mark Isherwood. 

The first item today is questions to the First Minister, and I've received notification, under Standing Order 12.58, that the leader of the house, Julie James, will answer questions today on behalf of the First Minister. Question 1—Mark Isherwood. 

Ffyniant Economaidd yng Ngogledd Cymru
Economic Prosperity in North Wales

1. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ffyniant economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ52981

1. What is the Welsh Government's policy to increase economic prosperity in North Wales? OAQ52981

Our 'Prosperity for All' economic action plan sets out how we intend to support the Welsh economy over the next decade and beyond, and how we can pool the resources, expertise and knowledge we have in Wales to strengthen our economic foundations and futureproof the Welsh economy.

Mae ein cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb' yn nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cefnogi economi Cymru dros y degawd nesaf a thu hwnt, a sut y gallwn gyfuno'r adnoddau, yr arbenigedd a'r wybodaeth sydd gennym ni yng Nghymru i gryfhau ein sylfeini economaidd a diogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol.

Diolch. In March 2016, the UK Government announced that it was opening the door to a growth deal for north Wales, and called on the Welsh Government to devolve powers down and invest in the region as part of the deal. The bid was submitted to both Governments last December, including calls for the delegation of powers by Welsh Government to north Wales, so that it could operate in an executive capacity in certain areas. Following the UK Government's announcement of £120 million for the growth deal, how do you respond to the statements made from the stage at the north Wales growth bid conference on 1 November, organised by the economic ambition board, 'We've heard of the UK Government commitment but worry about the commitment from the Welsh Government in a smoke and mirrors situation.' So, where is the money, when will it be announced by the Welsh Government, and will this be accepting the bid or instead designing a system, as appears to be the case, where Welsh Government still has those levers of power, and the delegated calls are not necessarily going their way?

Diolch. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen twf ar gyfer y gogledd, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddatganoli pwerau i lawr a buddsoddi yn y rhanbarth yn rhan o'r fargen. Cyflwynwyd y cais i'r ddwy Lywodraeth fis Rhagfyr diwethaf, gan gynnwys galwadau i Lywodraeth Cymru ddirprwyo pwerau i'r gogledd, fel y gallai weithredu mewn swyddogaeth weithredol mewn meysydd penodol. Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £120 miliwn ar gyfer y fargen twf, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiadau a wnaed o'r llwyfan yng nghynhadledd bargen twf y gogledd ar 1 Tachwedd, a drefnwyd gan y bwrdd uchelgais economaidd, 'Rydym ni wedi clywed am ymrwymiad Llywodraeth y DU ond yn poeni am yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mewn sefyllfa mwg a drychau.' Felly, ble mae'r arian, pryd bydd yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd hyn yn derbyn y cais neu yn hytrach yn dylunio system, fel y mae'n ymddangos yw'r gwir, lle mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â'r ysgogiadau hynny, ac nad yw'r galwadau i ddirprwyo yn mynd o'i phlaid o anghenraid?

That's not a picture we recognise. Negotiations between north Wales partners and the Welsh and UK Governments are advancing well on the north Wales growth bid. Officials from both Governments and north Wales partners attended a workshop last week to discuss and agree a package of proposals and the next steps to enable delivery of the deal. The Cabinet Secretary is meeting with partners on Friday of this week, I believe, and that will all form an integral component of the overall vision for north Wales. So, from our point of view, other than that the UK Government hasn't come up with the entire package of money that we were expecting, the deal is progressing well. 

Nid yw hwnnw'n ddarlun yr ydym ni'n ei adnabod. Mae trafodaethau rhwng partneriaid y gogledd a Llywodraethau Cymru a'r DU yn symud ymlaen yn dda ar gynnig twf y gogledd. Roedd swyddogion o'r ddwy lywodraeth a phartneriaid yn y gogledd yn bresennol mewn gweithdy yr wythnos diwethaf i drafod a chytuno ar becyn o gynigion a'r camau nesaf i alluogi cyflawniad y cytundeb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â phartneriaid ddydd Gwener yr wythnos hon, rwy'n credu, a bydd hynny i gyd yn rhan annatod o'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y gogledd. Felly, o'n safbwynt ni, heblaw'r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu'r pecyn cyfan o arian yr oeddem ni'n ei ddisgwyl, mae'r fargen yn mynd rhagddi'n dda.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen am gyhoeddiad cynnar ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y byddai'r Llywodraeth yn ei roi i'r gwaith yna, wrth gwrs, ond os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd gogledd Cymru, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl.

We all look forward to seeing an early announcement of any support that the Government might give to that work, of course, but if we are serious about the economic prosperity of north Wales, then Brexit wouldn’t happen at all.

Sorry, Llyr, my translator thing is intermittent, I'm afraid. 

Mae'n ddrwg gen i, Llyr, mae fy mheth cyfieithydd yn ysbeidiol, mae arna i ofn.

Can you borrow the finance Minister's? [Laughter.]

A allwch chi fenthyg un y Gweinidog cyllid? [Chwerthin.]

Sorry. We'll try again. 

Mae'n ddrwg gen i. Rhoddwn gynnig arall arni.

Diolch yn fawr. Roeddwn i jest yn gwneud y pwynt y byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed cyhoeddiad buan, gobeithio, gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth y bydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cynllun twf yn y gogledd. Ond y pwynt roeddwn i eisiau ei wneud oedd: os ydym ni o ddifrif ynglŷn â ffyniant economaidd yn y gogledd, yna byddai Brexit ddim yn digwydd o gwbl. Ac rŷm ni wedi gweld, drwy adroddiad gan y London School of Economics yn ddiweddar iawn nawr, wrth gwrs, yr impact y bydd sawl senario gwahanol yn ei gael. Ond o gofio, wrth gwrs, dibyniaeth economi gogledd Cymru ar weithgynhyrchu, ar y sector amaeth a bwyd, a phwysigrwydd strategol porthladd Caergybi, onid yw hi'n glir bod aros o fewn y farchnad sengl yn gwbl greiddiol yn hyn o beth? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, nid yn unig bod Llywodraeth Prydain yn barod i gadarnhau hynny, ond bod eich plaid chi eich hunan yn San Steffan yn barod i ddadlau dros hynny?

Thank you very much. I was just making the point that we all look forward to hearing an early announcement, hopefully, from the Cabinet Secretary on any support that the Government may give to the north Wales growth deal. But the point that I wanted to make was: if we’re serious about the economic prosperity of north Wales, then Brexit wouldn’t happen at all. And we have seen, through a London School of Economics report very recently, the impact that many different scenarios will have. But bearing in mind, of course, the reliance of the north Wales economy on manufacturing, on agriculture and food, and the strategic importance of the port of Holyhead, isn’t it clear now that staying within the single market is crucially important in this regard? And can you tell us what you’re doing to ensure that not only the UK Government is ready to confirm that, but that your own party itself in Westminster will make that case?

Yes, it's clear that the current negotiating deal that the Prime Minister is attempting, by any means necessary, to garner up some very much-needed support for is ill-advised as a result of her red lines. She has learnt a little from our proposals, but much too little and much too late. I entirely agree with the Member that the recent forecasts from a number of sources simply underline the economic prospects of a 'no deal' and hard Brexit, and any Brexit that takes us out of the single market and the customs union is also problematic. 

Ydy, mae'n eglur bod y cytundeb negodi presennol y mae Prif Weinidog y DU yn  ei geisio, trwy unrhyw ddull angenrheidiol, i ennyn rhywfaint o gefnogaeth y mae wir ei hangen arno yn annoeth o ganlyniad i'w llinellau coch. Mae hi wedi dysgu rhyw fymryn o'n cynigion, ond llawer rhy ychydig ac yn llawer rhy hwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod mai'r cwbl y mae'r rhagolygon diweddar o nifer o ffynonellau yn ei wneud yw tanlinellu rhagolygon economaidd Brexit 'dim cytundeb' a chaled, ac mae unrhyw Brexit sy'n ein tynnu ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn peri problemau hefyd.

Adroddiad 'A Yw Cymru'n Decach?'
The ‘Is Wales Fairer?’ Report

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018, 'A yw Cymru'n decach?'? OAQ52990

2. What action will the Welsh Government take in response to the Equality and Human Rights Commission Wales 2018 report, ‘Is Wales Fairer?’? OAQ52990

Thank you for that question. I am very grateful for the report, which provides valuable evidence to support the efforts of all our public bodies to reduce inequality in Wales. I recently met with the Wales commissioner to discuss the challenges identified, and officials are now considering the recommendations in some detail.

Diolch am y cwestiwn yna. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr adroddiad, sy'n cynnig tystiolaeth werthfawr i gefnogi ymdrechion ein holl gyrff cyhoeddus i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chomisiynydd Cymru i drafod yr heriau a nodwyd, ac mae swyddogion wrthi'n ystyried yr argymhellion yn eithaf manwl ar hyn o bryd.

Leader of the house, the Tory UK Government's political choice of austerity is causing more and more misery and hardship for our communities—rising poverty, homelessness and rough-sleeping, queues at food banks, mental and physical ill health. All of this in the world's fifth-largest economy. Professor Philip Alston, the UN rapporteur on poverty and human rights, has just issued a report, which is absolutely damning, regarding the callous and uncaring nature of the UK Government's policies, making the vulnerable pay the price for their failures. And the Equality and Human Rights Commission has published its report on fairness in Wales, showing discrimination and disadvantage hitting poorer communities, disabled people, women, and ethnic minorities. We know that many of the levers to address this situation are in the control of the UK Government, but, of course, Welsh Government also has key responsibilities. So, leader of the house, will Welsh Government now further consider how it can achieve a laser-like focus on tackling poverty, with specific targets, monitoring and evaluation in place, and further consider the issues in the case for devolving the administration of welfare benefits, given the impact of the roll-out of universal credit in Wales?

Arweinydd y tŷ, mae dewis gwleidyddol Llywodraeth Dorïaidd y DU o gyni cyllidol yn achosi mwy a mwy o ofid a chaledi i'n cymunedau—tlodi cynyddol, digartrefedd a chysgu ar y stryd, ciwio mewn banciau bwyd, salwch meddwl a chorfforol. Hyn i gyd ym mhumed economi fwyaf y byd. Mae'r Athro Philip Alston, adroddwr y CU ar dlodi a hawliau dynol, newydd gyhoeddi adroddiad, sy'n hollol ddamniol, ynghylch natur ddideimlad ac angharedig polisïau Llywodraeth y DU, gan wneud i'r rhai sy'n agored i niwed dalu'r pris am ei methiannau. Ac mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar degwch yng Nghymru, sy'n dangos gwahaniaethu ac anfantais yn taro cymunedau tlotach, pobl anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n rheoli llawer o'r dulliau ar gyfer datrys y sefyllfa hon, ond, wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau allweddol hefyd. Felly, arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymhellach nawr sut y gall hi sicrhau'r pwyslais mwyaf manwl posibl ar fynd i'r afael â thlodi, gyda thargedau penodol, monitro a gwerthuso ar waith, ac ystyried ymhellach y materion yn yr achos dros ddatganoli gweinyddu budd-daliadau lles, o ystyried effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?

13:35

Officials are looking very carefully at the report in a lot of detail—laser-like focus, as John Griffiths says—with a view to having it be fed into the next iteration of our strategic equality plan, and, indeed, in the way that the previous strategic equality plan was based on the previous 'Is Wales Fairer?' report. We're very pleased that we've been able to work in conjunction with the Equality and Human Rights Commission in that regard. I've also had a number of meetings with other officials of the Equality and Human Rights Commission, with my management board, for example, in my portfolio responsibilities, looking to see what we can do to pick up on some of the data that we need, in order to be able to drive some of those issue.

Professor Philip Alston's report echoes what we've been saying all along that there's overwhelming evidence from a range of respected organisations, including parliamentary committees and the National Audit Office, as John Griffiths highlighted, that the UK is just hellbent on delivering its damaging welfare and tax reform policies, which are entirely regressive, and which we regret. We have a number of measures that we can put in place to try and ameliorate those, but, unfortunately, we do not have the levers at our disposal to completely take them away.

I'd just like to draw attention to two things that we're very keen on doing, that is making sure that well-paid work, through our fair work commission, is very much at the top of the agenda in Wales, because we know that's the best route out of poverty, and also to ensure that everything we do takes into account the needs of those people with all the protected characteristics. So, our recent consultation for disability action, for example, which is still open—and I would very much encourage all Assembly Members, Llywydd, to respond to it.

Mae swyddogion yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad ac yn fanwl iawn—y pwyslais mwyaf manwl posibl, fel y mae John Griffiths yn ei ddweud—gyda golwg iddo gael ei gyfrannu at fersiwn nesaf ein cynllun cydraddoldeb strategol, ac, yn wir, yn y ffordd yr oedd y cynllun cydraddoldeb strategol blaenorol yn seiliedig ar yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?' blaenorol. Rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio ar y cyd â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hynny o beth. Rwyf i hefyd wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion eraill o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gyda'm bwrdd rheoli, er enghraifft, yn fy nghyfrifoldebau portffolio, yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud i fynd ar drywydd rhai o'r data sydd eu hangen arnom ni, er mwyn gallu bwrw ymlaen â rhai o'r materion hynny.

Mae adroddiad yr Athro Philip Alston yn adleisio'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei ddweud o'r cychwyn bod tystiolaeth gref gan amrywiaeth o sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys pwyllgorau seneddol a Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fel y dywedodd John Griffiths, bod y DU yn gwbl benderfynol o gyflwyno ei pholisïau diwygio lles a threthi niweidiol, sy'n gwbl atchweliadol, ac yr ydym ni'n eu gresynu. Mae gennym ni nifer o fesurau y gallwn ni eu rhoi ar waith i geisio lleddfu'r rheini, ond, yn anffodus, nid yw'r ysgogiadau ar gael i ni gael gwared arnyn nhw yn llwyr.

Hoffwn dynnu sylw at ddau beth yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud, sef gwneud yn siŵr bod gwaith sy'n talu'n dda, drwy ein comisiwn gwaith teg, yn bendant ar frig yr agenda yng Nghymru, gan ein bod ni'n gwybod mai dyna'r llwybr gorau allan o dlodi, a hefyd sicrhau bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn cymryd anghenion y bobl hynny â'r holl nodweddion gwarchodedig i ystyriaeth. Felly, ein hymgynghoriad diweddar ar gyfer gweithredu ar anabledd, er enghraifft, sy'n dal ar agor—a byddwn yn annog yn bendant bod holl Aelodau'r Cynulliad, Llywydd, yn ymateb iddo.

The Welsh Government is committed to providing 100,000 apprenticeships in this term. However, the 'Is Wales Fairer?' report found that, in apprenticeships, strong gender segregation remains, ethnic minorities are under-represented and the representation of disabled people is particularly low. What is the acting First Minister—your Government—doing to tackle gender segregation and to boost the employment prospects of ethnic minorities and disabled people through the apprenticeship system in this country?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn. Fodd bynnag, canfu adroddiad 'A yw Cymru'n Decach?', mewn prentisiaethau, bod gwahanu cryf ar sail rhyw yn parhau, bod lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a bod cynrychiolaeth pobl anabl yn arbennig o isel. Beth mae'r Prif Weinidog dros dro—eich Llywodraeth chi—yn ei wneud i fynd i'r afael â gwahanu ar sail rhyw ac i hybu rhagolygon cyflogaeth lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl drwy'r system brentisiaeth yn y wlad hon?

We've appointed an equality champion to work with our apprenticeship providers in order to do that, and the Minister has been working very hard to ensure that we get very good representation from all groups of protected characteristics in particular. There is a wider society issue at play in the gender segregation, so you see very many more women in social settings, very many more men in hard engineering settings, and that's a wide social construct across UK society. We have been running a number of campaigns, and I'd just like to highlight the This is Me campaign, around gender stereotyping, to try and get the message out there that people should try to be the person they want to be and not something that's predetermined by their sex, in particular, or any other characteristic. If the Member hasn't seen that campaign, I recommend it to him—it's been one of the most successful we've had in terms of reach. We remain absolutely committed to working very hard on eliminating gender stereotyping, and therefore gender inequality, from Welsh society.

Rydym ni wedi penodi hyrwyddwr cydraddoldeb i weithio gyda'n darparwyr prentisiaeth er mwyn gwneud hynny, ac mae'r Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n cael cynrychiolaeth dda iawn o'r holl grwpiau nodweddion gwarchodedig yn arbennig. Mae mater cymdeithasol ehangach ar waith o ran gwahanu ar sail rhyw, felly rydych chi'n gweld llawer iawn mwy o fenywod mewn lleoliadau cymdeithasol, llawer iawn mwy o ddynion mewn lleoliadau peirianneg caled, ac mae hwnnw'n ddarlun cymdeithasol eang ar draws cymdeithas y DU. Rydym ni wedi bod yn rhedeg nifer o ymgyrchoedd, a hoffwn dynnu sylw at yr ymgyrch Dyma Fi, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhyw, i geisio lledaenu'r neges y dylai pobl geisio fod y person y maen nhw eisiau ei fod ac nid rhywbeth sydd wedi'i bennu ymlaen llaw gan eu rhyw, yn arbennig, neu unrhyw nodwedd arall. Os nad yw'r Aelod wedi gweld yr ymgyrch honno, rwy'n ei hargymell iddo—bu'n un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yr ydym ni wedi eu cael o ran cyrhaeddiad. Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n galed iawn ar roi terfyn ar stereoteipio ar sail rhyw, ac felly anghydraddoldeb ar sail rhyw, o gymdeithas Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies.

Questions now from the party leaders. The leader of the opposition—Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn bod corff cyhoeddus pwysig yn gallu gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr?

Thank you, Llywydd. Leader of the house, do you believe that it's right that an important public body can operate without giving due regard to legal frameworks or taxpayers' money?

No, of course I don't, and I don't know what he's referring to. But, no, in general, of course, the answer to that would be 'of course I don't'.

Nac ydw, wrth gwrs nad ydw i, ac wn i ddim beth mae e'n cyfeirio ato. Ond, na, yn gyffredinol, wrth gwrs, yr ateb i hynny fyddai 'wrth gwrs nad ydw i'.

Wel, rydw i'n falch ei bod hi'n cytuno â hynny, oherwydd mae gyda ni sefydliad yma yng Nghymru sydd yn gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr. Fel y gwyddoch, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gatalog o fethiannau sydd â chanlyniadau difrifol ar gyfer y rheolaeth gynaliadwy o adnoddau Cymru. Nid yn unig y mae cyfrifon y corff wedi cael eu cymhwyso yn nhair o'r pum mlynedd mae e wedi bod yn weithredol, ond mae e hefyd wedi colli £1 filiwn o arian cyhoeddus i drethdalwyr. Mewn adroddiad damniol ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi pryderon nad yw'r sefydliad yn derbyn cyfrifoldeb am ei fethiannau a'i fod wedi diystyru nifer o argymhellion gan adroddiadau'r archwilydd cyffredinol. Pan ofynnais i i'r Prif Weinidog nôl ym mis Hydref, roedd e o'r farn bod y sefydliad yma yn addas i'r pwrpas. Felly, a ydych chi fel Llywodraeth nawr yn dal i gredu bod y sefydliad yma yn addas i'w ddiben? 

Well, I'm pleased that she would agree with that, because we do have an institution here in Wales that is operating without giving due regard to legal frameworks or taxpayers’ money. As you know, Natural Resources Wales is responsible for a catalogue of failings that have grave outcomes for the sustainable management of Wales’s resources. Not only have the body’s accounts been qualified for three of the five years of its operation, but it’s also lost £1 million of public money to the taxpayer. In a damning report on NRW, the Public Accounts Committee has raised concerns that the institution isn’t taking responsibility for its failings and has disregarded many recommendations made by the auditor general. When I asked the First Minister back in October, he was of the view that this organisation was fit for purpose. So, do you as a Government still believe that this organisation is fit for purpose?

13:40

I think that there is a new management regime at NRW. The Cabinet Secretary has answered questions on this, as has the First Minister, on a number of occasions. Changing the organisation now would be a massive organisational change, on top of some of the other challenges that the Member has mentioned. We've only just put—very recently in organisational terms—a new chief executive in, we have a new board, five new board members and a new interim chair. I think it's time to let them get on with the task and not to visit another set of organisational challenges on top of what they already have. 

Rwy'n credu bod cyfundrefn reoli newydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ateb cwestiynau am hyn, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud, ar sawl achlysur. Byddai newid y sefydliad nawr yn newid sefydliadol enfawr, yn ychwanegol i rai o'r heriau eraill y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw. Dim ond newydd—yn ddiweddar iawn o safbwynt sefydliadol—benodi Prif Weithredwr newydd ydym ni, mae gennym ni fwrdd newydd, pum aelod newydd o'r bwrdd a chadeirydd dros dro newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n amser gadael iddyn nhw fwrw ymlaen â'r dasg a pheidio â chyflwyno cyfres arall o heriau sefydliadol ar ben yr hyn sydd ganddyn nhw eisoes.

Arweinydd y tŷ, rydw i'n teimlo nad ydych chi'n derbyn graddfa'r mater yma. Mae hwn yn sefydliad sy'n methu: mae'n methu i wella ar ei berfformiad ac i ddysgu o'i gamgymeriadau difrifol, mae'n methu â dilyn ei ofynion statudol a chyfreithiol, ac mae'n methu â chyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'n amlwg nad oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw strategaeth ar waith i ddelio â'r sefydliad hwn, ac mae hyd yn oed un Aelod o'ch plaid chi wedi disgrifio Cyfoeth Naturiol Cymru fel 'allan o reolaeth'.

Mae llawer ohonom ni yn dal pryderon difrifol am allu eich Llywodraeth chi i reoli gwasanaethau cyhoeddus, gyda'n bwrdd iechyd mwyaf mewn mesurau arbennig, ynghyd ag 19 o ysgolion. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad cyhoeddus arall o dan eich rheolaeth chi sy'n methu â chyflawni. Felly, arweinydd y tŷ, ar ran pawb sy'n gwerthfawrogi ac sy'n dibynnu ar adnoddau naturiol Cymru, a wnewch chi nawr alw amser ar y sefydliad hwn, sy'n amlwg yn methu, â sicrhau bod y digwyddiad yma yn cael ei ddiwygio'n gyfan gwbl? 

Leader of the house, I feel that you’re not accepting the scale of this problem. This is an institution that is failing: it’s failing to improve on its performance and to learn from its grave mistakes, it’s failing to follow its statutory and legal requirements, and it’s failing to deliver value for money for the taxpayers of Wales. It’s clear that your Government has no strategy in place to deal with this organisation, and even one Member of your own party has described NRW as ‘out of control’.

Many of us have grave concerns about the ability of your Government to manage public services, with our largest health board in special measures, along with 19 schools. NRW is another public organisation that is under your management that is failing to deliver. So, leader of the house, on behalf of everyone who appreciates and relies on Welsh natural resources, will you now call time on this organisation, which is clearly failing, and ensure that it is totally reformed?

As I said, I think that would be entirely the wrong approach to organisational challenge. The Member is very keen on highlighting some of the negative aspects and, absolutely, the organisation has a number of things that it needs to address, and its new management arrangements are designed to address them. But I think there are two sides to every story. It is important to remember that during storm Callum, for example, NRW delivered internationally acclaimed projects to help with emergency responder issues, with flood protection, with alleviation. It manages 7 per cent of Wales's land area and employs 1,900 staff. It is important that the management of that organisation has the chance to bed in and sort out its problems. I think I'm right in quoting a Roman general in saying that the illusion of change can be done by simply moving the boards around. What you actually need is real management structural change and we believe we've now got the management team in place to do that.  

Fel y dywedais, rwy'n credu mai dyna fyddai'r dull cwbl anghywir o ymateb i her sefydliadol. Mae'r Aelod yn awyddus iawn i dynnu sylw at rai o'r agweddau negyddol ac, yn sicr, mae gan y sefydliad nifer o bethau y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw, a bwriedir i'w drefniadau rheoli newydd fynd i'r afael â nhw. Ond rwy'n credu bod dwy ochr i bob stori. Mae'n bwysig cofio, yn ystod storm Callum, er enghraifft, bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu prosiectau a gafodd glod rhyngwladol i helpu gyda materion ymatebwyr brys, gydag amddiffyn rhag llifogydd, gyda lliniaru. Mae'n rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru ac yn cyflogi 1,900 o staff. Mae'n bwysig bod rheolwyr y sefydliad hwnnw yn cael cyfle i gynefino a datrys ei broblemau. Rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddyfynnu cadfridog Rhufeinig yn dweud y gellir cyflwyno'r argraff o newid, dim ond drwy symud y byrddau o gwmpas. Yr hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol i'r strwythur rheoli ac rydym ni'n credu erbyn hyn bod gennym ni'r tîm rheoli ar waith i wneud hynny.

Arweinydd Plaid Cymru—Adam Price. 

Plaid Cymru leader—Adam Price. 

Diolch, Llywydd. Back in January, the First Minister stated in this Chamber that your Government was completely against privatisation in the NHS and contrasted that with the situation in England. Indeed, the policy of the Government when Carwyn Jones first became First Minister was to phase out the use of the private sector completely by 2011. What actions are you taking today to ensure that health boards do not allow private sector providers to increase their foothold here in Wales? 

Diolch, Llywydd. Yn ôl ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon bod eich Llywodraeth yn gwrthwynebu preifateiddio yn y GIG yn llwyr gan gymharu hynny â'r sefyllfa yn Lloegr. Mewn gwirionedd, polisi'r Llywodraeth pan benodwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog i ddechrau oedd diddymu'n raddol y defnydd o'r sector preifat yn llwyr erbyn 2011. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd heddiw i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn caniatáu i ddarparwyr sector preifat gynyddu eu dylanwad yma yng Nghymru?

Yes, we're absolutely committed to making sure that the national health service is based on its founding principles, so delivered by public sector staff where at all possible and free at the point of delivery. 

Ie, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn seiliedig ar ei egwyddorion sylfaenol, ac yn cael ei ddarparu felly gan staff sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl o gwbl ac yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu.

It's well established that your Government's record on NHS waiting times is far from satisfactory. For example, the auditor general has recently reported a 55 per cent growth since 2015 in the number of patients whose follow-up appointments are delayed twice as long as they should be. Now, one area where targets are currently being met is in radiology, but this is because health boards are increasingly outsourced to the private sector. The auditor general's report notes that waiting time performance has been helped by securing additional capacity from the private sector in response to what he describes as

'difficulties with recruitment and retention of staff, outdated and insufficient scanning equipment, along with IT weaknesses'

within the NHS. Isn't what is happening at the moment a policy of privatisation by stealth as a sticking plaster to mask longer term structural problems within the Welsh NHS?

Mae'n gydnabyddedig iawn bod hanes eich Llywodraeth o ran amseroedd aros y GIG ymhell o fod yn foddhaol. Er enghraifft, mae'r archwilydd cyffredinol wedi adrodd yn ddiweddar y bu cynnydd o 55 y cant ers 2015 i nifer y cleifion y caiff eu hapwyntiadau dilynol eu gohirio ddwywaith cyn hired ag y dylent. Nawr, mae radioleg yn un maes lle mae targedau yn cael eu bodloni ar hyn o bryd, ond mae hyn oherwydd bod byrddau iechyd yn cael eu rhoi fwyfwy ar gontractau allanol i'r sector preifat. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod perfformiad o ran amseroedd aros wedi cael ei helpu trwy sicrhau capasiti ychwanegol o'r sector preifat mewn ymateb i'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel

'anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, oherwydd bod y cyfarpar sganio’n hen ac yn annigonol, ac oherwydd gwendidau TG'

yn y GIG. Onid yw'n wir bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn bolisi o breifateiddio llechwraidd fel plastr i guddio problemau strwythurol tymor hwy yn y GIG yng Nghymru?

13:45

Well, I couldn't really disagree with the Member more. Clearly, we have to arrange for services to be delivered in the best possible fashion, but there is a clear, determined, publicly stated, open and transparent principle at stake, which is: where possible, we deliver it by public sector staff, free at the point of delivery. Clearly, there are some instances where we have to use private sector providers in the short term in order to cover off to make sure that the service is delivered, and the Member would be the first to stand on his feet and criticise us if we didn't do that. But there's clearly not a route to privatisation on a wholesale basis, as he suggests. 

Wel, ni allwn anghytuno mwy gyda'r aelod a dweud y gwir. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni drefnu i wasanaethau gael eu darparu yn y modd gorau posibl, ond ceir egwyddor eglur, benderfynol, a fynegwyd yn gyhoeddus, agored a thryloyw yn y fantol, sef: pan fo hynny'n bosibl, rydym ni'n eu darparu gan staff sector cyhoeddus, yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu. Yn amlwg, ceir rhai achosion lle mae'n rhaid i ni ddefnyddio darparwyr sector preifat yn y tymor byr fel trefniant wrth gefn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a'r Aelod fyddai'r cyntaf i sefyll ar ei draed a'n beirniadu ni pe na byddem ni'n gwneud hynny. Ond mae'n amlwg nad oes llwybr i breifateiddio ar sail eang, fel y mae ef yn ei awgrymu.

Well, look, leader of the house, there may be an argument, obviously, for using private sector capacity in an emergency, but it's not how you build a sustainable NHS. Long-term planning requires you to train the workforce, buy the equipment needed, so you have the capacity to meet the demands in the future. Now, in fact, spending on the use of private sector providers has gone up substantially on your Government's watch. In 2011, it was at £14 million; last year it was £38.5 million. Now that's a 260 per cent increase over the last seven years. The Labour Party in England, under Jeremy Corbyn, has pledged to end the use of private sector provision in the NHS completely; that was the policy here. Isn't this yet another case of Labour saying one thing in opposition at Westminster and doing the opposite in Government here in Wales? And let's—[Interruption.] Let's put—[Interruption.] Let's put Jeremy Corbyn to one side for a second. Aren't you reneging on Bevan's values and your own vision?

Wel, edrychwch, arweinydd y tŷ, efallai fod dadl, yn amlwg, dros ddefnyddio capasiti sector preifat mewn argyfwng, ond nid dyna sut yr ydych chi'n adeiladu GIG cynaliadwy. Mae cynllunio hirdymor yn ei gwneud yn ofynnol i chi hyfforddi'r gweithlu, prynu'r offer sydd ei angen, fel bod y capasiti gennych chi i fodloni'r gofynion yn y dyfodol. Nawr, mewn gwirionedd, mae gwariant ar y defnydd o ddarparwyr sector preifat wedi cynyddu'n sylweddol ers i'ch Llywodraeth chi fod mewn grym. Yn 2011, roedd yn £14 miliwn; y llynedd, roedd yn £38.5 miliwn. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 260 y cant dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'r Blaid Lafur yn Lloegr, o dan Jeremy Corbyn, wedi addo rhoi terfyn ar y defnydd o ddarpariaeth sector preifat yn y GIG yn llwyr; dyna oedd y polisi yma. Onid yw hwn yn achos arall o Lafur yn dweud un peth fel yr wrthblaid yn San Steffan ac yn gwneud i'r gwrthwyneb mewn Llywodraeth yma yng Nghymru? A gadewch i ni—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi Jeremy Corbyn o'r neilltu am eiliad. Onid ydych chi'n cefnu ar werthoedd Bevan a'ch gweledigaeth eich hun?

Well, Llywydd, I can do no better than to repeat what I said: of course we are not doing that. The Welsh Government is utterly committed to delivering the NHS as a public service free at the point of use. Of course we sometimes have to use private contractors to fill off service difficulties and of course we are doing exactly as he suggested we should do, which is training the largest number of staff we can into the biggest number of training places that we have ever had in order to fill that off. And, actually, we're absolutely four square with the Labour Party at a UK level on this. We absolutely abhor privatisation of the NHS, and it's certainly not the principle or policy of this Government. 

Wel, Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag ailadrodd yr hyn a ddywedais: wrth gwrs nad ydym ni'n gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r GIG fel gwasanaeth cyhoeddus rhad ac am ddim ar y pwynt o ddefnydd. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddefnyddio contractwyr preifat weithiau i ymateb i anawsterau gwasanaeth ac wrth gwrs rydym ni'n gwneud yn union fel yr awgrymodd y dylem ni ei wneud, sef hyfforddi'r nifer fwyaf o staff y gallwn yn y nifer fwyaf o leoedd hyfforddi y bu gennym ni erioed er mwyn cyflawni hynny. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n sefyll ochr yn ochr â'r Blaid Lafur ar lefel y DU yn hyn o beth. Mae preifateiddio'r GIG yn gwbl wrthun i ni, ac yn sicr nid dyna egwyddor na pholisi'r Llywodraeth hon.

Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett. 

The leader of the UKIP group, Gareth Bennett.

Diolch, Llywydd. On the weekend, I had the pleasure of using local train services across northern England and Scotland. The trains ran on time, services connected with one another, and there were plenty of seats for people to sit on. I think it's fair to say that people using trains in Wales aren't receiving quite the same treatment. Leader of the house, are you and your Government in full agreement with Transport for Wales's director of customer services, Bethan Jelfs, when she said recently that customers must 'share the pain' of the recent rail disruption?

Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, cefais y pleser o ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd lleol ar draws gogledd Lloegr a'r Alban. Roedd y trenau'n rhedeg yn brydlon, roedd gwasanaethau yn cysylltu â'i gilydd, ac roedd digonedd o seddi i bobl eistedd arnynt. Onid yw'n deg i ddweud nad yw pobl sy'n defnyddio trenau yng Nghymru yn cael yr un driniaeth. Arweinydd y tŷ, a ydych chi a'ch Llywodraeth yn cytuno'n llwyr â chyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Bethan Jelfs, pan ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid i gwsmeriaid rannu poen y tarfu diweddar ar y rheilffyrdd?

No. Of course, we are very sorry indeed, as many people have said in the Chamber over the last week or so, to find ourselves in the position where Transport for Wales has inherited a fleet of trains, very substandard and substantially not what we'd expect—frankly, from years and years and years of underinvestment by the private sector. So, we have a very firm recovery plan in place. The Cabinet Secretary for Economy and Transport met with the chief executive officer of Transport for Wales last week to seek assurance that that recovery plan was there. It was confirmed at that meeting that Transport for Wales and Network Rail have operationalised a full recovery plan to manage the situation and that we will be receiving regular updates from the CEO of Transport for Wales on progress against that plan. 

The engineers from Transport for Wales and from Network Rail are working around the clock to resume services as soon as possible. We've only had the franchise for just under a month; we cannot correct the underinvestment of 15 years in four weeks. 

Nac ydym. Wrth gwrs, mae'n hynod ddrwg gennym, fel y mae llawer o bobl wedi ei ddweud yn y Siambr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ganfod ein hunain yn y sefyllfa lle mae Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu fflyd o drenau, is-safonol iawn ac nid yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl i raddau helaeth—a dweud y gwir, oherwydd y blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd o danfuddsoddi gan y sector preifat. Felly, mae gennym ni gynllun adfer cadarn iawn ar waith. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i geisio sicrwydd bod y cynllun adfer hwnnw yno. Cadarnhawyd yn y cyfarfod hwnnw bod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi rhoi cynllun adfer llawn ar waith i reoli'r sefyllfa ac y byddwn yn cael diweddariadau rheolaidd gan Brif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru ar gynnydd o'i gymharu â'r cynllun hwnnw.

Mae'r peirianwyr o Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gweithio bob awr o'r dydd i ailddechrau gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Ychydig yn llai na mis yn unig y bu'r fasnachfraint gennym ni; ni allwn gywiro tanfuddsoddiad 15 mlynedd mewn pedair wythnos.

Yes, I appreciate the problems that were inherited by Transport for Wales, of course, but I do wonder whether some of the things that Transport for Wales have recently been presiding over are difficulties of their own making. For instance, it's been well publicised that around 25 to 30 per cent of the fleet covering Wales and borders has been removed for servicing and repair. Of course, I realise that train wheels are subject to wear and tear, which might be accelerated by leaves on the line during the autumn of any year. Given that this is a difficulty faced by all train franchises every single year, surely the way in which Transport for Wales's well-paid officers should be dealing with this is by expecting and anticipating this issue, and then planning for it in advance. Most rail users simply don't understand why 25 per cent of the fleet had to be withdrawn all at the same time this autumn. Why could the withdrawal not be staggered to, say, 5 per cent of the time over five weeks, rather than 25 per cent all at once in a week? 

Ie, rwy'n sylweddoli bod problemau a gafodd eu hetifeddu gan Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, ond rwy'n meddwl tybed a yw rhai o'r pethau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw yn ddiweddar yn anawsterau a grëwyd ganddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, rhoddwyd llawer o sylw i'r ffaith fod tua 25 i 30 y cant o'r fflyd ar gyfer Cymru a'r gororau wedi cael ei dynnu'n ôl i'w archwilio a'i drwsio. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod olwynion trên yn gwisgo, a allai gael ei waethygu gan ddail ar y rheilffordd yn ystod yr hydref mewn unrhyw flwyddyn. O ystyried bod hwn yn anhawster a wynebir gan bob masnachfraint rheilffordd bob blwyddyn, siawns mai'r ffordd y dylai swyddogion Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael eu talu'n dda, fod yn ymdrin â hyn yw trwy ddisgwyl a rhagweld y broblem hon, ac yna cynllunio ar ei chyfer ymlaen llaw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rheilffyrdd yn gallu deall pam mae'n rhaid tynnu 25 y cant o'r fflyd yn ôl i gyd ar yr un pryd yr hydref hwn. Pam na ellid eu tynnu'n ôl fesul tipyn i tua 5 y cant o'r amser, dros bum wythnos, dyweder, yn hytrach na 25 y cant i gyd ar unwaith mewn wythnos?

13:50

Actually, Transport for Wales have done an absolutely fantastic job, and 10 per cent of the fleet is now back in action again. So, I think, actually, they're to be praised for the swiftness of their response. Clearly, there are real issues with keeping trains that are substandard in operation that I don't have to reiterate to the Member. We are working very hard to make sure that the fleet is back in action. As I say, the operational recovery plan is in place; the Cabinet Secretary is receiving regular updates. We very much want to make sure that the service to the people of Wales is as good as it possibly can be as we go into the autumn.  

A dweud y gwir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith cwbl wych, ac mae 10 y cant o'r fflyd yn weithredol eto. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y dylid eu canmol am gyflymder eu hymateb. Yn amlwg, ceir problemau gwirioneddol gyda chadw trenau i weithredu nad ydyn nhw'n ddigon da, ac nid oes rhaid i mi eu hailadrodd i'r Aelod. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y fflyd yn weithredol eto. Fel y dywedais, mae'r cynllun adfer gweithredol ar waith; mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cael diweddariadau rheolaidd. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth i bobl Cymru cystal ag y gall fod wrth i ni gyrraedd yr hydref.

Well, I'm glad to hear that, leader of the house, and I hope that the fleet is back in good condition in good time for the passengers, and I hope the passengers will get the benefits of that. Passengers at the moment, though, are not just frustrated about train delays. In recent weeks, I've had complaints from constituents that, during morning rush hour, there have been long queues of passengers in Cardiff stretching right across the station. The queues comprise passengers who've completed their journeys, but were unable to buy a ticket either at their starting train station or from a member of staff on the train, so they had to go to the unpaid fares counter at Cardiff Central station. The time it took to get through this queue was sometimes averaging 20 minutes to 30 minutes. Now, we had issues with the previous operator, Arriva Trains Wales, whereby they were threatening to fine lots of people hundreds of pounds for not having valid tickets and then, of course, it transpired that many of the ticket machines on their unstaffed stations weren't actually working. So, now we seem to be going through a whole new ticketing palaver with the new operator. Now, I know it's early days, leader of the house—we all accept that—but what can you do to assure the rail users that the new service is not going to simply go on replicating all the problems of the old one?  

Wel, rwy'n falch o glywed hynny, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gobeithio y bydd y fflyd yn ôl mewn cyflwr da mewn da bryd i'r teithwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y teithwyr yn mwynhau buddion hynny. Fodd bynnag, nid ynghylch oediadau trên yn unig y mae teithwyr yn teimlo'n rhwystredig ar hyn o bryd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi cael cwynion gan etholwyr y bu ciwiau hir o deithwyr yng Nghaerdydd yn ystod oriau brig y bore yn ymestyn ar draws yr orsaf. Mae'r ciwiau yn cynnwys teithwyr sydd wedi cwblhau eu teithiau, ond nad oeddent yn gallu prynu tocyn yn eu gorsaf reilffordd gychwynnol na chan aelod o staff ar y trên, felly bu'n rhaid iddyn nhw fynd at y cownter teithiau na thalwyd amdanynt yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Roedd yr amser yr oedd hi'n ei gymryd i gyrraedd blaen y ciw hwn weithiau'n 20 munud i 30 munud ar gyfartaledd. Nawr, roedd gennym ni broblemau gyda'r gweithredwr blaenorol, Trenau Arriva Cymru, pan oedden nhw'n bygwth codi dirwy o gannoedd o bunnoedd ar bobl am nad oedd ganddyn nhw docynnau dilys ac wedyn, wrth gwrs, daeth i'r amlwg bod llawer o'r peiriannau tocynnau yn eu gorsafoedd nad ydynt wedi eu staffio, ddim yn gweithio mewn gwirionedd. Felly, mae'n ymddangos erbyn hyn ein bod ni'n mynd trwy anrhefn tocynnau newydd sbon gyda'r gweithredwr newydd. Nawr, gwn mai dyddiau cynnar yw hi, arweinydd y tŷ—rydym ni i gyd yn derbyn hynny—ond beth allwch chi ei wneud i sicrhau defnyddwyr rheilffyrdd nad yw'r gwasanaeth newydd yn mynd i barhau i ailadrodd holl broblemau'r hen un?

Very much part of the new franchise is to move to the ticketless system that you see—. If you go to Transport for London, for example, almost all of the services are ticketless, so we'll be moving to that. The investment is very much there. That's very much part of the plan—to move to ticketless operations as fast as possible. 

Mae symud i'r system ddi-docyn yr ydych chi'n ei gweld yn rhan bwysig o'r fasnachfraint newydd—. Os ewch chi i Transport for London, er enghraifft, mae bron pob un o'r gwasanaethau yn ddi-docyn, felly byddwn ni'n symud tuag at hynny. Mae'r buddsoddiad yn sicr yno. Dyna'n sicr yw'r bwriad—symud i weithrediadau di-docyn mor gyflym â phosibl.

Gwella Signal Ffonau Symudol yng Nghanolbarth Cymru
Improving Mobile Phone Coverage in Mid Wales

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar wella signal ffonau symudol yng nghanolbarth Cymru? OAQ53016

3. Will the First Minister make a statement on the Welsh Government's policy on improving mobile phone coverage in mid Wales? OAQ53016

Yes. Work continues on the delivery of our mobile action plan. This includes the publication of our new 'Planning Policy Wales' document very shortly, which recognises the economic importance of mobile coverage and appropriate permitted development rights for mobile phone infrastructure.

Gwnaf. Mae gwaith yn parhau ar ddarpariaeth ein cynllun gweithredu symudol. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi ein dogfen 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan iawn, sy'n cydnabod pwysigrwydd economaidd signal symudol a hawliau datblygu priodol a ganiateir ar gyfer seilwaith ffonau symudol.

Thank you for your answer, leader of the house. Of course, the mobile action plan that you talk about hasn't delivered any concrete actions to date. We've seen planning policy updated and guidance updated in Scotland and in England as well. That's helped to prepare the way for 5G deployment and has helped to speed up the process for new mobile phone masts. A report that you commissioned on permitted development rights with respect to mobile telecommunications recommends an increase in the height of mobile masts to 20m or 25m, despite the fact that you've previously said that there's no evidence to support this. Can you update us on the status of implementing these recommendations, and commit to a public date when these reforms will be delivered? 

Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ. Wrth gwrs, nid yw'r cynllun gweithredu symudol yr ydych chi'n sôn amdano wedi cyflawni unrhyw gamau pendant hyd yma. Rydym ni wedi gweld polisi a chanllawiau cynllunio yn cael eu diweddaru yn yr Alban ac yn Lloegr hefyd. Mae hynny wedi helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno 5G ac wedi helpu i gyflymu'r broses ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae adroddiad a gomisiynwyd gennych chi ar hawliau datblygu a ganiateir o ran telathrebu symudol yn argymell cynnydd i uchder mastiau ffonau symudol i 20 metr neu 25 metr, er gwaethaf y ffaith eich bod chi wedi dweud yn y gorffennol nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y statws o ran gweithredu'r argymhellion hyn, ac ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus pan fydd y diwygiadau hyn yn cael eu cyflawni?

Yes. What I actually said, if you remember, was that it was very important that we make sure that what we recommend in Wales is fit for purpose in Wales, particularly in our very beautiful national parks. We wanted very much to ensure that the people of Wales are very happy with what we were proposing by way of infrastructure. Russell George, you and I have had these conversations very frequently over the last several years. We will be shortly publishing a new 'Planning Policy Wales'; that will set out some different permitted development rights, as you said. There are a number of other things that we're still talking about inside the mobile action plan around the way that that infrastructure is deployed, and I won't rehearse them here, because the Llywydd will start tapping her fingers on the desk. But there are a large number of things in contemplation there, a suite of which we hope will help. But, in the end, this is not devolved to Wales. In the end, what we need is action from the UK Government to—

Gallaf. Yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd, os cofiwch chi, oedd ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni'n ei argymell yng Nghymru yn addas i'w ddiben yng Nghymru, yn enwedig yn ein parciau cenedlaethol hardd iawn. Roeddem ni'n sicr eisiau sicrhau bod pobl Cymru yn hapus iawn â'r hyn yr oeddem ni'n ei gynnig o ran seilwaith. Russell George, rydych chi a minnau wedi cael y sgyrsiau hyn yn aml iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Byddwn yn cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru' newydd yn fuan; bydd hwnnw'n nodi rhai o'r gwahanol hawliau datblygu a ganiateir fel y dywedasoch. Ceir nifer o bethau eraill yr ydym ni'n dal i'w trafod yn y cynllun gweithredu symudol ynghylch y ffordd y defnyddir y seilwaith hwnnw, ac ni wnaf eu hailadrodd yn y fan yma, gan y bydd y Llywydd yn dechrau tapio ei bysedd ar y ddesg. Ond ceir nifer fawr o bethau a fydd yn cael eu hystyried yn y fan yna, cyfres ohonyn nhw yr ydym ni'n gobeithio y byddant yn helpu. Ond, yn y pen draw, nid yw hyn wedi'i ddatganoli i Gymru. Yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw camau gweithredu gan Lywodraeth y DU i—

This is a planning question. 

Cwestiwn cynllunio yw hwn.

Yes, planning policy is devolved to Wales, but that will not—. It's not a silver bullet. What would be a silver bullet is putting 100 per cent geographic coverage for the mobile phone operators across Wales, or, if that's not going to be done in the spectrum sales, then allowing roaming in rural areas. This is a matter of some discussion between us. If we don't do that, we will never get the coverage that he, I know, very much wants, and certainly on this side of the house we very much want. 

Ie, mae polisi cynllunio wedi'i ddatganoli i Gymru, ond ni fydd hynny'n—. Nid yw'n fwled arian. Yr hyn a fyddai'n fwled arian yw cyflwyno signal daearyddol 100 y cant i weithredwyr ffonau symudol ledled Cymru, neu, os nad yw hynny'n mynd i gael ei wneud yn y gwerthiannau sbectrwm, yna caniatáu trawsrwydweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn destun cryn drafodaeth rhyngom. Os na fyddwn ni'n gwneud hynny, ni fyddwn byth yn cael y signal y mae ef, rwy'n gwybod, wir ei eisiau, ac yn sicr ar yr ochr hon i'r tŷ yr ydym ni wir ei eisiau.

Leader of the house, yesterday at the winter fair I published a consultation document about economic futures for Powys. And there at the show, and also in e-mails that I've received since, I've had numerous communications highlighting the difficulties faced with the poor access to 4G in the Newtown and Llanidloes areas. Now, I appreciate from your response to Russell George that there are some elements of this agenda that are not devolved, but what further can you do, because those businesses are telling us that the poor mobile access is really having an impact on their capacity to expand?

Arweinydd y tŷ, ddoe yn y ffair aeaf cyhoeddais ddogfen ymgynghori ar ddyfodol economaidd i Bowys. Ac yno yn y sioe, a hefyd mewn negeseuon e-bost yr wyf i wedi eu derbyn ers hynny, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth yn tynnu sylw at yr anawsterau a wynebir gyda'r mynediad gwael at 4G yn ardaloedd y Drenewydd a Llanidloes. Nawr, rwy'n sylweddoli o'ch ymateb i Russell George bod rhai elfennau o'r agenda hon nad ydyn nhw wedi'u datganoli, ond beth arall allwch chi ei wneud, oherwydd mae'r busnesau hynny yn dweud wrthym ni bod y mynediad symudol gwael yn cael effaith wirioneddol ar eu gallu i ehangu?

13:55

Yes, and I have every sympathy with them. Unfortunately, the 4G spectrum was sold in such a way that you can hold it and never use it, and that's very much part of the discussion with the UK Government about the sale of future spectrum, because we think that just being able to buy it and then hold it and never do anything with it is not the way forward for obvious reasons. We are looking, however, to make sure that we can maximise our use of public buildings, public space, and the new technologies that cross across mobile and broadband, so that, for example, we can broadcast a Wi-Fi signal off public buildings. So, we're actively looking to see what other things we can do to enable, for example, Wi-Fi calling. Unfortunately, we cannot change the 4G situation, but we are constantly lobbying both Ofcom and the UK Government to change the way that the spectrum is held and to change the geographical obligation coverages in that, because at the moment it's absolutely hopeless.

Ie, ac mae gen i bob cydymdeimlad â nhw. Yn anffodus, gwerthwyd y sbectrwm 4G yn y fath fodd fel y gallwch chi ei gadw a byth ei ddefnyddio, ac mae hynny'n rhan fawr o'r drafodaeth gyda Llywodraeth y DU am werthu sbectrwm yn y dyfodol, oherwydd nid ydym ni'n meddwl mai gallu ei brynu ac yna ei gadw a byth gwneud dim byd ag ef yw'r ffordd ymlaen am resymau amlwg. Rydym ni'n bwriadu, fodd bynnag, gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud y defnydd mwyaf posibl o adeiladau cyhoeddus, mannau cyhoeddus, a'r technolegau newydd sy'n croesi ar draws symudol a band eang, fel y gallwn, er enghraifft, ddarlledu signal Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus. Felly, rydym ni'n ystyried yn weithredol i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i alluogi, er enghraifft, galwadau Wi-Fi. Yn anffodus, ni allwn newid y sefyllfa 4G, ond rydym ni'n lobïo Ofcom a Llywodraeth y DU yn gyson i newid y ffordd y cedwir y sbectrwm ac i newid y signalau rhwymedigaeth ddaearyddol yn hynny, oherwydd mae nhw'n gwbl anobeithiol ar hyn o bryd.

Tynnwyd cwestiwn 4 [OAQ53014] yn ôl. Cwestiwn 5, felly—Leanne Wood.

Question 4 [OAQ53014] is withdrawn. Question 5—Leanne Wood.

Defnyddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol
Cannabis Use for Medicinal Purposes

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol? OAQ52980

5. Will the First Minister make a statement on the Welsh Government's policy on cannabis use for medicinal purposes? OAQ52980

Yes. The law regarding medicinal cannabis in England, Wales and Scotland changed on 1 November 2018. Specialist doctors may now decide whether to prescribe cannabis-based products for medicinal use where clinically appropriate.

Gwnaf. Newidiodd y gyfraith ar ganabis meddyginiaethol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ar 1 Tachwedd 2018. Caiff meddygon arbenigol benderfynu erbyn hyn a ddylid rhagnodi cynhyrchion seiliedig ar ganabis i'w defnyddio ar sail feddyginiaethol pan fo hynny'n briodol yn glinigol.

As you've said, from 1 November 2018, changes to the misuse of drugs legislation has enabled unlicensed cannabis-based products to be prescribed by some doctors for medicinal use where there is a special clinical need. At the time, our chief pharmaceutical officer, Andrew Evans, said that the number of people in Wales who would be prescribed medicinal cannabis is likely to be very small. The interim guidance published is restrictive, and charities such as the MS Society say that nothing will change in the short term for the 10,000 people in the UK living with MS who could get relief from pain and muscle spasms by using medicinal cannabis.

Now, Sativex is only licensed for the treatment of spasticity, and then it's only available to a small group of people living with MS who meet the criteria. Now that the legislation's been changed, can the NHS in Wales make medicinal cannabis available to everyone who would benefit from it, or do we need to continue to hang on the coat-tails of the NHS in England? And will the Welsh Government review the interim guidance on prescribing medicinal cannabis so that access to the treatment is not so heavily restricted?

Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, o 1 Tachwedd 2018, mae newidiadau i'r ddeddfwriaeth camddefnyddio cyffuriau wedi caniatáu i gynhyrchion seiliedig ar ganabis didrwydded gael eu rhagnodi gan rai meddygon at ddefnydd meddyginiaethol lle ceir angen clinigol arbennig. Ar y pryd, dywedodd ein prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, bod nifer y bobl yng Nghymru y byddai canabis meddyginiaethol yn cael ei ragnodi iddynt yn debygol o fod yn fach iawn. Mae'r canllawiau dros dro a gyhoeddwyd yn gyfyngol, ac mae elusennau fel y Gymdeithas MS yn dweud na fydd dim yn newid yn y tymor byr i'r 10,000 o bobl yn y DU sy'n byw gyda MS a allai gael rhyddhad o boen a gwingiadau'r cyhyrau trwy ddefnyddio canabis meddyginiaethol.

Nawr, mae Sativex wedi'i drwyddedu ar gyfer y driniaeth o sbastigedd yn unig, ac wedyn nid yw ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gydag MS sy'n bodloni'r meini prawf. Nawr bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei newid, a all y GIG yng Nghymru sicrhau bod canabis meddyginiaethol ar gael i bawb a fyddai'n elwa arno, neu a oes angen i ni barhau i hongian ar gynffonau'r GIG yn Lloegr? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu'r canllawiau dros dro ar ragnodi canabis meddyginiaethol fel nad yw mynediad at y driniaeth wedi ei gyfyngu mor llym?

Yes, I share the Member's concern. We've all had constituents who've been contacting us about the use of medicinal cannabis. I think it's important to set out the actual situation as we find it. So, prior to the change in law, Sativex was able to be prescribed to treat spasticity and multiple sclerosis where clinically appropriate. At present, seven pharmaceutical companies are developing around 21 new medicines that contain cannabis derivatives or synthetic cannabis compounds. As each medicine is ready, it will go through the well-established processes in place to ensure it's safe and effective and appropriate for use. The quality control processes are obviously the most safe way to provide patients with access to the medically active compound in cannabis. The Member well knows that the legal classification of drugs is not a devolved matter to Wales. It remains the responsibility of the UK Government and it's something we can't unilaterally take action on. But it is, we think, most appropriate to look at a UK-wide basis for the use of medicinal cannabis and, as the evidence base grows and as the products available grow, then the availability of the medicines will, of course, be more widespread in Wales, as it will be elsewhere in the UK.

Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod. Rydym ni i gyd wedi cael etholwyr sydd wedi bod yn cysylltu â ni ynghylch y defnydd o ganabis meddyginiaethol. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cyflwyno'r sefyllfa wirioneddol fel yr ydym ni'n ei gweld. Felly, cyn y newid i'r gyfraith, gellid rhagnodi Sativex i drin sbastigedd a sglerosis ymledol, pan oedd hynny'n briodol yn glinigol. Ar hyn o bryd, mae saith cwmni fferyllol yn datblygu oddeutu 21 p feddyginiaethau newydd sy'n cynnwys deilliadau canabis neu gyfansoddion canabis synthetig. Wrth i bob meddyginiaeth fod yn barod, bydd yn mynd drwy'r prosesau hirsefydlog sydd ar waith i sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn briodol i'w defnyddio. Y prosesau rheoli ansawdd, yn amlwg yw'r ffordd fwyaf diogel i roi mynediad i gleifion at y cyfansoddyn meddygol gweithredol mewn canabis. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dosbarthiad cyfreithiol cyffuriau yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth na allwn ni gymryd camau annibynnol arno. Ond, rydym ni'n credu ei bod hi'n fwyaf priodol edrych ar sail y DU gyfan ar gyfer y defnydd o ganabis meddyginiaethol ac, wrth i'r sail dystiolaeth dyfu ac wrth i'r cynhyrchion sydd ar gael gynyddu, yna bydd y meddyginiaethau sydd ar gael, wrth gwrs, ar gael yn fwy eang yng Nghymru, fel y byddant mewn rhannau eraill o'r DU.

Leader of the house, the misuse of cannabis, of course, can be very dangerous indeed. It can act as a gateway to much harder substances, which can result in ruining people's lives. Will you therefore join me in condemning the actions of the north Wales police and crime commissioner, Arfon Jones, for his irresponsible behaviour in visiting cannabis clubs, which are promoting illegal activity, including being the guest of honour on 23 October at a private cannabis club in London? This sort of behaviour sends mixed messages, frankly, to young people in our country. And do you agree that police commissioners actually ought to support people and the police in upholding the law, not encourage people to break it?

Arweinydd y tŷ, gall camddefnyddio canabis, wrth gwrs, fod yn beryglus dros ben. Gall fod yn llwybr i sylweddau llawer caletach, a all arwain at ddifetha bywydau pobl. A wnewch chi ymuno â mi felly i gondemnio gweithredoedd comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru, Arfon Jones, am ei ymddygiad anghyfrifol o ymweld â chlybiau canabis, sy'n hyrwyddo gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys bod yn ŵr gwadd ar 23 Hydref mewn clwb canabis preifat yn Llundain? Mae'r math hwn o ymddygiad yn anfon negeseuon cymysg, a dweud y gwir, i bobl ifanc yn ein gwlad. Ac a ydych chi'n cytuno y dylai comisiynwyr heddlu gynorthwyo pobl a'r heddlu i gynnal y gyfraith mewn gwirionedd, nid annog pobl i'w thorri?

Well, I think it's very important not to mix up the use of medicinal cannabis with the unlawful use of a prescribed drug. So, I'm not going to go down the rabbit-hole that the Member has opened up in front of me. I think it's actually extremely important to make the very clear distinction between the use of illegal drugs—which is what the Member's talking about—and the purpose of this question, which is to talk about the availability of medicinal cannabis in the Welsh NHS. 

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn peidio â chymysgu'r defnydd o ganabis meddyginiaethol â'r defnydd anghyfreithlon o gyffur rhagnodedig. Felly, nid wyf i'n mynd i fynd i lawr y twll cwningen y mae'r Aelod wedi ei agor o fy mlaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dros ben gwahaniaethu yn amlwg iawn rhwng y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon—sef yr hyn y mae'r Aelod yn sôn amdano—a diben y cwestiwn hwn, sef trafod y canabis meddyginiaethol sydd ar gael yn GIG Cymru.

14:00
Gofal Iechyd yn y Gymuned yng Ngogledd Cymru
Community Healthcare in North Wales

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gofal iechyd yn y gymuned yng Ngogledd Cymru? OAQ53018

6. What assessment has the First Minister made of the effectiveness of community healthcare in North Wales? OAQ53018

Our approach on health and well-being in our communities is set out in our primary care model for Wales. In north Wales, we expect the health board and local authorities to collaborate with a wide range of service providers to plan and deliver effective and seamless health and well-being care.

Nodir ein dull gweithredu ar iechyd a llesiant yn ein cymunedau yn ein model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Yn y gogledd, rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol gydweithredu ag amrywiaeth eang o ddarparwyr gwasanaeth i gynllunio a darparu gofal iechyd a llesiant effeithiol a di-dor.

Fe gofiwch chi, rydw i'n siŵr, bum mlynedd yn ôl, fe gaewyd nifer o ysbytai cymunedol yn y gogledd, gan symud i drefn newydd o ofal yn y gymuned trwy gyflwyno'r gwasanaeth home enhanced care—HECS yw'r acronym sy'n cael ei ddefnyddio—a oedd yn cael ei werthu fel cyfundrefn fwy effeithiol, a byddai rhywun yn disgwyl, felly, fod modd inni allu mesur unrhyw lwyddiant sydd wedi cael ei gyflawni yn y cyfnod yna. Ond mae'n glir erbyn hyn nad oes posib mesur llwyddiant neu fethiant yr approach newydd yma oherwydd nad oes yna ddim record gyson o faint o gleifion sydd yn derbyn HECS ar draws bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr; nid yw'r bwrdd yn gwybod faint o gleifion sy'n derbyn HECS ar hyn o bryd; nid oes dim record o gost y gwasanaeth yn cael ei chadw; ac er mai'r bwriad yw cadw claf ar HECS am ddim ond pythefnos, nid oes dim record lawn yn cael ei chadw o ba hyd y mae cleifion yn derbyn HECS. Yn wir, rydw i wedi gweld tystiolaeth fod rhai cleifion wedi derbyn HECS am dros 10 wythnos. Nawr, mae'n ymddangos i fi bod hyn yn llanast llwyr. Felly, pam bod eich Llywodraeth chi wedi caniatáu i ogledd Cymru gael trefn newydd o ofal iechyd heb sicrhau bod modd i fesur llwyddiant neu effeithlonrwydd y broses honno, ac a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n hyderus bod y gyfundrefn newydd yma'n gweithio?

You will recall that five years ago, a number of community hospitals in north Wales were closed, moving to a new regime of care in the community through the introduction of the home enhanced care system—the HECS—which was sold as a more effective system. And one would expect, therefore, that we could measure any success that has been delivered during that period, but it’s now clear that it isn’t possible to measure the success or failure of this new approach, because there is no consistent record of how many patients receive HECS across the Betsi Cadwaladr health board. The board doesn’t know how many patients are in receipt of HECS at the moment, there is no record of the cost of the service kept and, although the intention is to keep a patient on HECS for just a fortnight, there is no full record of how long patients are in receipt of HECS. Indeed, I’ve seen evidence that some patients have received HECS for over 10 weeks. Now, it appears to me that this is an utter mess. So, why has your Government allowed north Wales to have a new system of healthcare without ensuring that you can measure the success or efficiency of that process? Can you tell us, are you confident that this new system is working?

I'm afraid I don't know the detail that the Member has set out there. I'd be very grateful if he would write to the First Minister, and we'll get a detailed response to him as soon as possible. 

Mae gen i ofn nad wyf i'n ymwybodol o'r manylion y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt yn y fan yna. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai'n ysgrifennu at y Prif Weinidog, a byddwn yn cael ymateb manwl iddo cyn gynted â phosibl.

Community and primary care services play a vital role in reducing hospital admissions. As we approach the winter months, it is vital that these services are strengthened to offer a genuine and safe alternative to hospital care, particularly for our older people, and this must include fully co-ordinated, multidisciplinary community care support teams. Now, we know, from last year's evaluation of winter planning, initiatives such as frailty services, which are vital in reducing hospital admissions, did not deliver as effectively as they could or should have done in the Betsi Cadwaladr health board. How are you, as a Government, ensuring that winter pressures funding reaches these services to build capacity and resilience in community services this winter across Wales, and how will you ensure that hospital at home is, in fact, safe treatment and care at home? 

Mae gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol i leihau derbyniadau i'r ysbyty. Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, mae'n hanfodol bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cryfhau i gynnig dewis arall gwirioneddol a diogel yn hytrach na gofal ysbyty, yn enwedig i'n pobl hŷn, ac mae'n rhaid i hyn gynnwys timau cymorth gofal cymunedol amlddisgyblaeth cwbl gydlynol. Nawr, rydym ni'n gwybod, o werthusiad blwyddyn diwethaf o gynllunio ar gyfer y gaeaf, na wnaeth mentrau fel gwasanaethau eiddilwch, sy'n hanfodol i leihau derbyniadau i'r ysbyty, ddarparu mor effeithiol ag y gallent neu y dylent fod wedi ei wneud ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Sut ydych chi, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod cyllid pwysau'r gaeaf yn cyrraedd y gwasanaethau hyn i gynyddu capasiti a chydnerthedd mewn gwasanaethau cymunedol y gaeaf hwn ledled Cymru, a sut gwnewch chi sicrhau bod ysbyty yn y cartref yn driniaeth a gofal diogel yn y cartref, mewn gwirionedd?

The Cabinet Secretary recently set out his winter preparedness statement, making sure that we are as resilient as it's possible to be as we approach the winter months. Integrated winter delivery plans have been received from each health board, and have been scrutinised carefully by officials, the NHS Wales delivery unit and the national programme for unscheduled care, and feedback has been provided to inform further enhancement of the plans ahead of the winter period. We're as confident, therefore, as we can be, that we are prepared for the winter ahead, but Members will all be aware of the stresses and strains that winter can bring on the NHS, and we could all be well-advised to make sure that our constituents receive the message that they should go to the appropriate healthcare provider, the community pharmacy, where that's appropriate, the GP, where that's appropriate, and not turn up at accident and emergency when they have other issues, so that we can ensure that we have as smooth a winter period as humanly possible. 

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn ddiweddar, gan wneud yn siŵr ein bod ni mor gydnerth â phosibl wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf. Derbyniwyd cynlluniau darpariaeth y gaeaf integredig gan bob bwrdd iechyd, ac mae swyddogion, uned gyflawni GIG Cymru a'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu wedi craffu arnynt yn ofalus, a darparwyd adborth i hysbysu gwelliant pellach i'r cynlluniau cyn cyfnod y gaeaf. Rydym ni mor ffyddiog, felly, ag y gallwn fod, ein bod ni'n barod ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, ond bydd yr holl Aelodau yn ymwybodol o'r pryderon a'r straen y gall y gaeaf eu hachosi i'r GIG, ac efallai y byddai'n ddoeth i bob un ohonom ni wneud yn siŵr bod ein hetholwyr yn cael y neges y dylen nhw fynd at y darparwr gofal iechyd priodol, y fferyllfa gymunedol, pan fo hynny'n briodol, y meddyg teulu, pan fo hynny'n briodol, a pheidio â mynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys pan fydd ganddyn nhw broblemau eraill, fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n cael gaeaf mor ddidrafferth â phosibl.

Tagfeydd yng Nghasnewydd a'r Cyffiniau
Congestion in and around Newport

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau? OAQ52994

7. What is the Welsh Government doing to alleviate congestion in and around Newport? OAQ52994

We are taking significant steps to tackle congestion and improve journey-time reliability across Wales, through our road infrastructure projects, pinch-points programme and improvements to public transport.

Rydym ni'n cymryd camau sylweddol i fynd i'r afael â thagfeydd a gwella dibynadwyedd amser teithiau ledled Cymru, drwy ein prosiectau seilwaith ffyrdd, ein rhaglen mannau cyfyng a gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus.

Thank you, leader of the house. Newport's road network is undeniably under strain. Any incident or heavy congestion on the M4 has a significant effect, not just on the main artery for Wales, but a severe knock-on effect on local roads. It also causes traffic that's passing through the city on the M4, like heavy goods vehicles and others, to spill out onto Newport's roads. Next week, the Severn bridge tolls will finally be lifted. Without any mitigation, this will put an additional pressure on the bottleneck at the Brynglas tunnels. Already poor air quality due to idling traffic will only get worse. With bus companies finding it hard to cope during heavy congestion and current disruption on trains, local people have very few alternatives. What preparation is being made to help alleviate congestion on an already struggling road network following the abolishment of the tolls?

Diolch, arweinydd y tŷ. Ni ellir gwadu bod rhwydwaith ffyrdd Casnewydd o dan straen. Mae unrhyw ddigwyddiad neu dagfeydd trwm ar yr M4 yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar y brif ffordd i Gymru, ond sgil-effaith ddifrifol ar ffyrdd lleol. Mae hefyd yn achosi i draffig sy'n teithio drwy'r ddinas ar yr M4, fel cerbydau nwyddau trwm ac eraill, i orlifo allan i ffyrdd Casnewydd. Yr wythnos nesaf, bydd tollau pontydd Hafren, yn cael eu diddymu o'r diwedd. Heb unrhyw gamau lliniaru, bydd hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y dagfa yn nhwnelau Bryn-glas. Bydd ansawdd aer sydd eisoes yn wael oherwydd traffig llonydd ddim ond yn gwaethygu. Gyda chwmnïau bysiau yn ei chael yn anodd ymdopi yn ystod tagfeydd trwm a'r tarfu presennol ar y trenau, prin iawn yw'r dewisiadau eraill i bobl leol. Pa waith paratoi sy'n cael ei wneud i helpu i leddfu tagfeydd ar rwydwaith ffyrdd sydd eisoes mewn trafferthion ar ôl diddymu'r tollau?

14:05

Thank you for that very important question. We've been conducting a series of studies into measures to tackle pinch points on the most heavily congested parts of the motorway and trunk road network. Those studies are under way, and as soon as we've got the results, we will be acting on them. Our transport network needs to obviously be sustainable, as the Member rightly points out.

The pinch-point studies are designed to look at a range of solutions to congestion problems right across the whole range of things available, from public transport to active travel measures, for example. We continue to support local authorities in addressing key local congestion issues through the provision of financial support and collaborative working. A number of other things have been done on the artery, as she calls the M4, quite rightly. M4 junction 28—the construction was completed in autumn 2018, representing an investment of £13.7 million in that area, and the Brynglas tunnels have recently had a £40 million uplift to ensure the tunnels are compliant with current design standards. In addition, essential maintenance has been carried out on the Usk river bridge and the Malpas viaduct.

The Member will, of course, be aware of where we are with the M4 corridor around Newport. The year-long public inquiry has just finished, and we are awaiting advice from the lawyers on the public inquiry to be supplied to the Executive when that's complete. We hope that that process will continue, and then, as the Llywydd knows, we're hoping to get a debate in Plenary time, as promised, on the M4.

Diolch am y cwestiwn pwysig iawn yna. Rydym ni wedi bod yn cynnal cyfres o astudiaethau ar fesurau i fynd i'r afael â mannau cyfyng ar y rhannau o'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd lle ceir y mwyaf o dagfeydd. Mae'r astudiaethau hynny wedi cychwyn, a chyn gynted ag y bydd y canlyniadau gennym ni, byddwn yn cymryd camau ar eu sail. Mae angen i'n rhwydwaith trafnidiaeth fod yn gynaliadwy, yn amlwg, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n briodol.

Bwriedir i'r astudiaethau o fannau cyfyng ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd ar draws yr holl ystod o bethau sydd ar gael, o drafnidiaeth gyhoeddus i fesurau teithio llesol, er enghraifft. Rydym ni'n parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion lleol allweddol yn ymwneud â thagfeydd trwy ddarparu cymorth ariannol a gweithio ar y cyd. Gwnaed nifer o bethau eraill ar y brif ffordd, fel y mae'n galw'r M4, yn gwbl briodol. Cyffordd 28 yr M4—cwblhawyd y gwaith adeiladu yn ystod hydref 2018, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £13.7 miliwn yn yr ardal honno, a gwnaed gwaith ailwampio gwerth £40 miliwn ar dwnelau Bryn-glas yn ddiweddar i sicrhau bod y twnelau yn cydymffurfio â safonau dylunio cyfredol. Hefyd, gwnaed gwaith cynnal a chadw hanfodol ar bont afon Wysg a thraphont Malpas.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'n sefyllfa o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae'r ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd newydd orffen, ac rydym ni'n aros am gyngor gan gyfreithwyr i'r ymchwiliad cyhoeddus gael ei ddarparu i'r Weithrediaeth pan fydd hwnnw wedi ei gwblhau. Rydym ni'n gobeithio y bydd y broses honno'n parhau, ac yna, fel y mae'r Llywydd yn gwybod, rydym ni'n gobeithio cael dadl yn amser y Cyfarfod Llawn, fel yr addawyd, ar yr M4.

I note that the Minister got through a minute and a half before you actually mentioned the M4 relief road, and I do hope we have this debate next week, as I think you suggested in a prior session. I just wonder, given the First Minister has worked so hard to ensure that he doesn't prejudice his position so that he can consider the inquiry dispassionately and then take the planning decision, isn't it important that he's allowed to take that planning decision, even if a new First Minister in Welsh Government, nonetheless, thereafter, has to decide whether to actually spend the money on taking up that permission if he grants it?

Rwy'n sylwi bod y Gweinidog wedi siarad am funud a hanner cyn i chi sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael y ddadl hon yr wythnos nesaf, fel yr awgrymwyd gennych, rwy'n credu, mewn sesiwn flaenorol. Rwy'n meddwl tybed, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi gweithio mor galed i sicrhau nad yw'n rhagfarnu ei safbwynt fel y gall ystyried yr ymchwiliad mewn modd diduedd ac yna gwneud y penderfyniad cynllunio, onid yw'n bwysig ein bod yn caniatáu iddo wneud y penderfyniad cynllunio hwnnw, hyd yn oed os oes rhaid i Brif Weinidog newydd yn Llywodraeth Cymru, serch hynny, wedyn, benderfynu a ddylid gwario'r arian ar fwrw ymlaen â'r caniatâd hwnnw os yw'n ei roi?

Well, no, that's not how the legals work; it's an executive decision for the Government. So, if it's not the Government, then, obviously, he can't take it. However, we are currently working very hard, as I've said repeatedly—we're currently working very hard to make sure that all of the legal advice and all of the other advice necessary to ensure that the decision can be properly considered and taken in the light of all relevant information will be available. As soon as it's available, then the First Minister will be able to apply his mind to that. There's no certainty of the outcome of that; the First Minister needs to apply his judgment to that when he's got all of that information in front of him. Once that has been done, then it can proceed to the next stages of that very, very complex legal set of issues that surround it.

Wel, na, nid dyna sut mae'r ochr gyfreithiol yn gweithio; penderfyniad gweithredol i'r Llywodraeth yw hwn. Felly, os nad y Llywodraeth, yna, yn amlwg, ni all ei wneud. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon—rydym ni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i wneud yn siŵr y bydd yr holl gyngor cyfreithiol a'r holl gyngor arall sydd ei angen i sicrhau y gall y penderfyniad gael ei ystyried yn briodol a'i wneud yng ngoleuni'r holl wybodaeth berthnasol a fydd ar gael. Cyn gynted ag y bydd ar gael, yna bydd y Prif Weinidog yn gallu rhoi ei feddwl ar hynny. Nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch canlyniad hynny; mae angen i'r Prif Weinidog wneud ei ddyfarniad ynghylch hynny pan fydd ganddo'r holl wybodaeth honno o'i flaen. Ar ôl i hynny gael ei wneud, yna gall symud ymlaen i gamau nesaf y gyfres o faterion cyfreithiol cymhleth iawn, iawn sy'n gysylltiedig ag ef.

I'd like to take this opportunity to thank organisations such as Gwent Wildlife Trust and Friends of the Earth Cymru for their vocal opposition to the Government's proposed black route M4 around Newport, which, as we all know, will do nothing to alleviate congestion around the city or the wider area. I note that it took the leader of the house a little while to get round to mentioning the black route in her answer, but I wonder if she'll take this opportunity now to agree with me that we'd be far better off, financially and environmentally, by investing money earmarked for the black route instead on the final phases of the metro system and improving public transport links between the communities of the south-east.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chyfeillion y Ddaear Cymru am eu gwrthwynebiad llafar i lwybr du arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, na fydd, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, yn gwneud dim i leddfu tagfeydd o gwmpas y ddinas nac yn yr ardal ehangach. Nodaf iddi gymryd cryn dipyn o amser i arweinydd y tŷ gyfeirio at y llwybr DU yn ei hateb, ond tybed a wnaiff hi achub ar y cyfle hwn nawr i gytuno â mi y byddem ni'n llawer gwell ein byd, yn ariannol ac yn amgylcheddol, drwy fuddsoddi arian a glustnodwyd ar gyfer y llwybr du ar gamau olaf y system fetro yn hytrach, a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng cymunedau'r de-ddwyrain.

As I said, the Government is in a legal process; it's not for me to upset the legal process. The legal process is a set process that I've explained on a lot of occasions; I'm happy to explain it again. The reason I took a little while to get to the M4 is because I do think that Members need to understand that this is a range of measures; there are a suite of things happening across the road network in that area as well as across Wales, and to get fixated on a single project is not necessarily where we want to be. It's a very important project, of course it is. There is a legal process that we are in, the legal process is inexorable, we must follow it to its conclusion, whatever that is, and I'm sure the Member will be taking part in the debate when it's brought forth.

Fel y dywedais, mae'r Llywodraeth mewn proses gyfreithiol; nid fy lle i yw amharu ar y broses gyfreithiol. Mae'r broses gyfreithiol yn broses sefydlog yr wyf i wedi ei hesbonio ar sawl achlysur; rwy'n hapus i'w hesbonio eto. Y rheswm y cymerais i ychydig o amser i gyfeirio at yr M4 oedd y ffaith fy mod i'n credu bod angen i'r Aelodau ddeall bod hon yn amrywiaeth o fesurau; mae cyfres o bethau sy'n digwydd ar draws y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal honno yn ogystal â ledled Cymru, ac nid datblygu obsesiwn gydag un prosiect yw'r sefyllfa yr ydym ni eisiau bod ynddi o reidrwydd. Mae'n brosiect pwysig iawn, wrth gwrs ei fod. Ceir proses gyfreithiol yr ydym ni ynddi, mae'r broses gyfreithiol yn ddiwrthdro, mae'n rhaid i ni ei dilyn i'w chasgliad, beth bynnag fydd hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn cymryd rhan yn y ddadl pan fydd hi'n cael ei chynnal.

Leader of the house, one of the issues, when it comes to tackling the pinch points, of course, is that you often just free up traffic to go to the next pinch point. One of the next pinch points further on from that location, of course, is the A470, which is now recognised, actually, as the most congested part of Wales with very serious pollution issues. Would you agree with me that the ultimate solution to our problems on the roads is the development and maintenance of a public transport system that gives people the opportunity not to have to drive on the roads to get to where they need to go, using a safe and efficient and comfortable public transport system?

Arweinydd y tŷ, un o'r materion, o ran mynd i'r afael â mannau cyfyng, wrth gwrs, yw mai'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yn aml yw rhyddhau traffig i fynd ymlaen i'r man cyfyng nesaf. Un o'r mannau cyfyng nesaf ymhellach ymlaen o'r lleoliad hwnnw, wrth gwrs, yw'r A470, a gydnabyddir erbyn hyn, a dweud y gwir, fel y rhan brysuraf o Gymru sydd â phroblemau llygredd difrifol iawn. A fyddech chi'n cytuno â mi mai'r ateb yn y pen draw i'n problemau ar y ffyrdd yw datblygu a chynnal system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi cyfle i bobl i beidio â gorfod gyrru ar ffyrdd i gyrraedd lle maen nhw angen mynd, gan ddefnyddio system trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel ac effeithlon a chyfforddus?

14:10

Yes, and as I said, I emphasised that the pinch-point studies are designed to look at a range of solutions to congestion problems—not just road building, but absolutely everything, from public transport to active travel. A whole suite of measures is necessary to reduce congestion in most parts of Wales, not a fixation on a single part of that.

Byddwn, ac fel y dywedais, pwysleisiais fod astudiaethau mannau cyfyng wedi'u cynllunio i ystyried amrywiaeth o atebion i broblemau tagfeydd—nid adeiladu ffyrdd yn unig, ond popeth, o drafnidiaeth gyhoeddus i deithio llesol. Mae angen cyfres lawn o fesurau i leihau tagfeydd yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru, nid obsesiwn ag un rhan o hynny.

Ansawdd Aer
Air Quality

8. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fabwysiadu terfynau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer allyriadau o ronynnau? OAQ52997

8. What consideration has the Welsh Government given to adopting the World Health Organization’s air quality limits for the emission of particulate matter? OAQ52997

We are considering all options to improve air quality in Wales. As part of the clean air programme, the Minister for Environment has established an air quality evidence, innovation and improvements project, which will consider the practical application of the World Health Organization guidelines for air pollution in Wales. 

Rydym yn ystyried pob dewis i wella ansawdd aer yng Nghymru. Yn rhan o'r rhaglen aer glân, mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi sefydlu prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer, a fydd yn ystyried y defnydd ymarferol o ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer yng Nghymru.

Leader of the house, I'm sure you'll be aware that this is a very important matter that relates to the concerns of my colleague for Newport West, which is that pollution and congestion are very, very serious matters when it comes to public health. You may be aware that there was a report last month, published by the English public health organisation, about the effects of long-term exposure on cardiovascular morbidity i.e. it's killing more of us than it needs to. And although a lot of concern has been expressed about the levels of nitrogen oxides in the environment, I think it's really important we consider particulates in combination with them, because it's particulates that are the most damaging, because they penetrate the very smallest ventricles, and particularly the impact on children. So, I'd be very grateful if you could tell me what consideration, if any, the Government has so far given to adopting the WHO limits, which are obviously considerably better than the European Union's limits.

Arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod hwn yn fater pwysig iawn sy'n ymwneud â phryderon fy nghyd-Aelod dros Orllewin Casnewydd, sef bod llygredd a thagfeydd yn faterion difrifol dros ben pan ddaw i iechyd y cyhoedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod adroddiad fis diwethaf, a gyhoeddwyd gan sefydliad iechyd y cyhoedd yn Lloegr, ar effeithiau amlygiad hirdymor ar afiachusrwydd cardiofasgwlaidd h.y. mae'n lladd mwy ohonom ni nag y mae angen iddo. Ac er y mynegwyd llawer o bryder ynghylch y lefelau o ocsidau nitrogen yn yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ystyried gronynnau mewn cyfuniad â nhw, oherwydd gronynnau sydd fwyaf niweidiol, gan eu bod nhw'n treiddio'r fentriglau lleiaf, ac yn enwedig yr effaith ar blant. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud wrthyf pa ystyriaeth, os o gwbl, y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi hyd yma i fabwysiadu terfynau Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n amlwg yn sylweddol well na therfynau'r Undeb Ewropeaidd.

Yes, absolutely. As part of the clean air programme established this summer, as I just said, an air quality evidence, innovation and improvements project has been set up. That will look at the World Health Organization guidelines for air pollution and all of their potential impacts and for potential adoption in Wales. The guidelines are based solely on scientific conclusions about public health aspects of air pollution, and don't consider the technical feasibility or the economic, political and social aspects of the achievement of those levels. Therefore, we have officials currently assessing such practical aspects so that we can underpin future targets with evidence, to ensure they deliver the most effective change, supporting the delivery of our well-being goals. We already have access to a wide range of levers to take forward action to improve air quality, including planning, infrastructure, legislation, regulation and communication measures. The Minister has indicated that we would consider legislating as well, if we find that that suite of measures isn't sufficient for the practical implementation of the standards.

Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r rhaglen aer glân a sefydlwyd yr haf hwn, fel yr wyf i newydd ei ddweud, sefydlwyd prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ar gyfer ansawdd aer. Bydd hwnnw'n edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer a'u holl effeithiau posibl, ac ar gyfer eu mabwysiadu o bosibl yng Nghymru. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd cyhoeddus llygredd aer yn unig, ac nid ydynt yn ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol ar gyflawni'r lefelau hynny. Felly, mae gennym ni swyddogion yn asesu agweddau ymarferol o'r fath ar hyn o bryd fel y gallwn seilio targedau yn y dyfodol ar dystiolaeth, i sicrhau eu bod yn cyflawni'r newid mwyaf effeithiol, gan helpu i gyflawni ein nodau llesiant. Mae gennym ni fynediad at amrywiaeth eang o ysgogiadau eisoes i fwrw ymlaen â chamau i wella ansawdd aer, gan gynnwys cynllunio, seilwaith, deddfwriaeth, rheoliadau a mesurau cyfathrebu. Mae'r Gweinidog wedi nodi y byddem yn ystyried deddfu hefyd, os byddwn yn canfod nad yw'r gyfres honno o fesurau yn ddigonol ar gyfer gweithredu'r safonau yn ymarferol.

Back in March, leader of the house, I did ask the First Minister what leadership role the Welsh Government was taking to reduce the premature deaths through poor air quality. We know that 2,000 people a year die prematurely through poor air quality here in Wales. That's 6 per cent of all deaths in Wales, or five every day. Those are really, really major figures that we've desperately got to be tackling, and when you talk to certain organisations, they say there's good work going on in isolation, but not in a co-ordinated fashion. Would the Government be open-minded to actually having a summit of all relevant partners to try and drive forward this agenda, so that by 2021, when this Assembly breaks for the elections, we can see genuine improvement in those figures and a substantial reduction in the premature deaths through poor air quality here in Wales?

Yn ôl ym mis Mawrth, arweinydd y tŷ, gofynnais i'r Prif Weinidog pa swyddogaeth arweinyddiaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i leihau marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael. Rydym ni'n gwybod bod 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw'n gynamserol bob blwyddyn drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru. Mae hynny'n 6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, neu bump bob dydd. Mae'r rheini'n ffigurau mawr dros ben y mae hanfodol i ni fynd i'r afael â nhw, a phan fyddwch chi'n siarad â sefydliadau penodol, maen nhw'n dweud bod gwaith da yn cael ei wneud yn annibynnol, ond nid mewn modd cydlynol. A fyddai'r Llywodraeth yn ddigon meddwl agored i gynnal uwchgynhadledd o'r holl bartneriaid perthnasol i geisio bwrw ymlaen â'r agenda hon, fel y gallwn ni weld, erbyn 2021, pan fydd y Cynulliad hwn yn torri ar gyfer yr etholiadau, welliant gwirioneddol i'r ffigurau hynny a gostyngiad sylweddol i'r marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru?

Yes. As I said, we've got the studies going on at the moment, and I'm sure, once we've bottomed out some of the practical aspects, then we will be consulting on a way forward on that. I can't speak for this particular area, but normally we would look to consult and engage with as wide a range of stakeholders as possible—particularly those with expert knowledge on how to implement practical standards in clean air, which, after all, as the Member points out, is what we all want.

Byddem. Fel y dywedais, mae gennym ni'r astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr, ar ôl i ni gytuno ar rai o'r agweddau ymarferol, y byddwn ni'n ymgynghori ar ffordd ymlaen ar hynny. Ni allaf siarad ar gyfer y maes penodol hwn, ond fel rheol byddem yn ceisio ymgynghori ac ymgysylltu ag amrywiaeth mor eang o randdeiliaid â phosibl—yn enwedig y rhai â gwybodaeth arbenigol am sut i weithredu safonau ymarferol mewn aer glân, sef, wedi'r cyfan, fel mae'r Aelod yn ei nodi, yr hyn yr ydym ni i gyd ei eisiau.

Well, dirty air is killing our citizens, and it's ruining the lives of our children. Now, Plaid Cymru has outlined some of our proposals in relation to tackling vehicle emissions, pollution monitoring, pollution and congestion charging, creating clean air zones, but also giving them that legal underpinning that they need. Now, you mentioned that you might consider it. Well, I would urge you, please, as a Government, to support Plaid Cymru's proposals for a clean air Bill for Wales.

Wel, mae aer budr yn lladd ein dinasyddion, ac mae'n difetha bywydau ein plant. Nawr, mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai o'n cynigion o ran mynd i'r afael ag allyriadau o gerbydau, monitro llygredd, ffioedd llygredd a thagfeydd, creu ardaloedd aer glân, ond gan hefyd roi'r sail gyfreithiol honno sydd ei hangen arnyn nhw. Nawr, soniasoch efallai y byddwch chi'n ei ystyried. Wel, rwyf yn eich annog, os gwelwch yn dda, fel Llywodraeth, i gefnogi cynigion Plaid Cymru ar gyfer Bil aer glân i Gymru.

Yes, as I said, we've a range of measures in place, and we need to look to see what we can do with current levers, including that we have—. For example, we consulted earlier this year on tackling roadside nitrogen dioxide concentrations. That document set out how we will reduce concentrations of nitrogen dioxide around roads in Wales where levels are above the limit. That plan will be published by the end of this month. We've also got the clean air zone framework for Wales. The final framework will be published by the end of the year. We've a number of other, as I said, studies and so on going on. What we need to do is get the most comprehensive set of measures in place and then look to see what can be added by a clean air Act. Certainly, that's not off the table, but it may not be necessary. What we'd really like to do is just get on with it as soon as possible.

Ie, fel y dywedais, mae gennym ni amrywiaeth o fesurau ar waith, ac mae angen i ni edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag ysgogiadau cyfredol, gan gynnwys bod gennym ni—. Er enghraifft, ymgynghorwyd yn gynharach eleni ar fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymyl y ffordd. Roedd y ddogfen honno'n nodi sut y byddwn yn lleihau crynodiadau o nitrogen deuocsid o amgylch ffyrdd yng Nghymru lle mae lefelau yn uwch na'r terfyn. Bydd y cynllun hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn. Mae gennym ni fframwaith ardal aer glân Cymru hefyd. Bydd y fframwaith terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae gennym ni nifer o astudiaethau eraill ac ati, fel y dywedais, ar y gweill. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw cael y gyfres fwyaf gynhwysfawr o fesurau ar waith ac yna edrych i weld beth y gellid ei ychwanegu drwy gael Deddf aer glân. Yn sicr, nid yw hynny oddi ar y bwrdd, ond efallai na fydd yn angenrheidiol. Yr hyn yr hoffem ni ei wneud yn sicr yw bwrw ymlaen â phethau cyn gynted â phosibl.

14:15

Diolch i arweinydd y tŷ, yn ateb ar ran y Prif Weinidog. 

Thank you, leader of the house, responding on behalf of the First Minister.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Nawr, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan arweinydd y tŷ, Julie James.

Now the next item is the business statement and announcement, and I call on the leader of the house, Julie James.

Diolch, Llywydd. The only change to this week's business is to reduce the time allocated to questions to the Counsel General tomorrow. Draft business for the next three weeks is set out in the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon yw lleihau'r amser sydd wedi ei neilltuo ar gyfer holi'r Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei amlinellu yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Leader of the house, could I revisit the M4 discussion that was just had in FMQs? During an environment and sustainability committee meeting last week, the Cabinet Secretary for Economy and Transport was before us. He clearly outlined that the planning decision is a decision for the First Minister and him alone. It's not a collective responsibility decision of the Government as a whole, which you indicated in your response to us. But, he also told the committee members that there was the belief within Government that a debate would be taken on 4 December and that the report would be made available to Members of this institution this week. It's a 580-page report, as I understand it. You are leader of the house, responsible for Government business. If that debate is to be taken next Tuesday, you would have to be tabling that debate today. Can you confirm whether that debate will be tabled today, and that the report will be released for Members to look over in the coming days? Or, is it really the case that this debate will not see the light of day now under this current First Minister, and that we are looking at going into the spring term before that debate is held here? As I said, there are so many conflicting notes and responses to questions out there that we do need clarity. This is the largest infrastructure project that the Welsh Government has undertaken, or will potentially undertake, since 1999. From the Cabinet Secretary, to your good self, to the First Minister himself, there are so many different scenarios working out there that we, as Members, do require the courtesy that we do have clarity from the Government over the course of action.

I'd also ask, in light of the continuing poor experience that people are having on the railways, that the Cabinet Secretary himself brings forward a statement that outlines entirely what happened in the handover process from Arriva Trains to the new franchise operator. There is evidence, given by the Cabinet Secretary himself and by Transport for Wales, that it wasn't the most ideal handover that could have been undertaken. Yet, this date was well-known to many people; it was known to everyone, in fact. The statement that we received from Transport for Wales last week even alludes to the fact that the stores for spare parts were certainly not what they should be, and there was an inadequacy there. We do need to understand, because we are all getting e-mails, telephone correspondence, face-to-face experiences with the travelling public over the horrendous situation that many have been left in. It is not fair on the travelling public, leave alone Members in this institution, that we cannot furnish them with the answers that they do deserve.

I am grateful for the statement that came from Transport for Wales last week. But, if this were a positive news story, I'm sure the Cabinet Secretary would be making a statement about the initial handover and the six weeks in the intervening period. So, please can we have a Government statement outlining exactly the responsibilities the Government has taken on itself to fix this problem?

Arweinydd y tŷ, a gaf i edrych eto ar drafodaeth yr M4 sydd newydd gael ei chynnal yng nghwestiynau’r Prif Weinidog? Yn ystod cyfarfod y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o’n blaen ni. Amlinellodd yn glir mai penderfyniad y Prif Weinidog a’r Prif Weinidog yn unig yw’r penderfyniad cynllunio. Nid penderfyniad y mae'r Llywodraeth gyfan yn gyd-gyfrifol amdano yw hyn, sef yr hyn y gwnaethoch chi ei fynegi yn eich ymateb inni. Ond, dywedodd hefyd wrth aelodau’r pwyllgor bod cred o fewn y Llywodraeth y byddai dadl ar 4 Rhagfyr, ac y byddai’r adroddiad ar gael i aelodau o'r sefydliad hwn yr wythnos hon. Mae'n adroddiad 580 o dudalennau, fel yr wyf yn deall. Chi yw arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth. Os bydd y ddadl honno yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf, byddai’n rhaid ichi gyflwyno’r ddadl honno heddiw. A wnewch chi gadarnhau a fydd y ddadl honno yn cael ei chyflwyno heddiw, ac y bydd yr adroddiad yn cael ei ryddhau fel y gall yr Aelodau edrych drosto yn ystod y dyddiau nesaf? Neu, ai'r gwir amdani yw na fydd y ddadl hon yn gweld golau dydd yn awr o dan y Prif Weinidog presennol hwn, ac na fydd y ddadl honno yn debygol o gael ei chynnal yma cyn tymor y gwanwyn? Fel y dywedais, mae cymaint o nodiadau ac ymatebion cyferbyniol i gwestiynau y mae angen eglurder arnom. Dyma’r prosiect seilwaith mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ef, neu y bydd wedi ymgymryd ag ef o bosibl, ers 1999. Rhwng Ysgrifennydd y Cabinet, chithau, a’r Prif Weinidog ei hun, mae cymaint o wahanol sefyllfaoedd yn ymffurfio fel ein bod ni, yr Aelodau, angen eglurder gan y Llywodraeth yn ystod y camau gweithredu.

Byddwn yn gofyn hefyd, yng ngoleuni’r profiadau gwael parhaus y mae pobl yn eu cael ar y rheilffyrdd, i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun gyflwyno datganiad sy'n amlinellu yn llwyr yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y broses o drosglwyddo rhwng Trenau Arriva a gweithredwr y fasnachfraint newydd. Ceir tystiolaeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun a chan Drafnidiaeth Cymru, nad dyna oedd y trosglwyddiad mwyaf delfrydol y gellid ei wneud. Ond eto, roedd y dyddiad hwn yn adnabyddus i lawer o bobl; roedd yn hysbys i bawb, mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y datganiad a gawsom ni yr wythnos diwethaf gan Drafnidiaeth Cymru yn cyfeirio at y ffaith nad oedd y storfeydd ar gyfer darnau sbâr yr hyn y dylent fod yn sicr, a'u bod yn annigonol. Mae angen inni ddeall, gan ein bod ni i gyd yn cael negeseuon e-bost, gohebiaeth dros y ffôn, profiadau wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd sy'n teithio ynghylch y sefyllfa erchyll y mae llawer o bobl wedi eu gadael ynddi. Nid yw'n deg ar y cyhoedd sy’n teithio, heb sôn am Aelodau’r sefydliad hwn, na allwn ni roi'r atebion iddyn nhw y maen nhw’n eu haeddu .

Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a ddaeth gan Drafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf. Ond, pe bai hon yn stori newyddion gadarnhaol, rwyf yn siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ynghylch y trosglwyddiad cychwynnol a’r chwe wythnos yn y cyfamser. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda sy’n amlinellu'r union gyfrifoldebau y mae’r Llywodraeth wedi ymgymryd â nhw i ddatrys y broblem hon?

On the M4, I'll try to be as crystal clear as I possibly can be. We are in a legal process. We had a local inquiry. That report has been received by the Government. It is subject to official advice and legal advice. When the official and legal advice and clearances are through, it will be submitted to the First Minister for his executive decision. It is not a collective decision of the Cabinet; it is an executive decision of the First Minister.

Once that has been done, to be clear, I have made it very clear that, because of the scale of the project and the interest across Wales, unlike any other highway project, we will bring forward a debate in Government time. There is still some possibility that we could do that next Monday. We would have to have the Llywydd's indulgence to do that. It was discussed at Business Committee this morning that there is still that possibility. However, as I said before, if that's not possible—if that's not possible because we haven't got to that point in the process—then we'll see what else can be done.

If it does go out past the end of this Assembly term, then I will be recommending to the incoming First Minister, whoever she or he would be, that the commitment by this Government is honoured, that that debate comes forward, and I don't see any reason why that couldn't happen. But it must be in the correct sequence. We can't have a debate in Assembly time before the making of the Orders, because that is not a relevant consideration in terms of the way that that decision must be made. So, there's a very clear set of processes, and the Assembly debate must come at the right point in that process. So, it's still not inconceivable that we could do it next Tuesday, but, if we can do it, we will. If we can't, then we'll have to see what else can be done.

We are very committed to the debate, but it has to be at the right point in the process. The process is immensely complex. The amount of things that have to be done in order for the First Minister to be able to take that decision lawfully, taking into account all the relevant considerations, is hugely complicated. So, we need to get the process right, and then we need to move on to the debate. So, I hope that that is clear. I don't know how to make it any clearer than that.

In terms of Transport for Wales, the Cabinet Secretary has indicated to me that he's very happy to ensure that Transport for Wales give a weekly update to all Members on where we are with the transition arrangements and the handover. So, I'll make sure that that happens.

Ynghylch yr M4, fe geisiaf fod mor glir ag y gallaf. Rydym ni mewn proses gyfreithiol. Rydym ni wedi cael ymchwiliad lleol. Mae’r Llywodraeth wedi cael yr adroddiad hwnnw. Mae'n amodol ar gyngor swyddogol a chyngor cyfreithiol. Ar ôl cael y cyngor swyddogol a chyfreithiol a chwblhau'r cliriadau, caiff ei gyflwyno i'r Prif Weinidog ar gyfer ei benderfyniad gweithredol yntau. Nid penderfyniad y Cabinet ar y cyd mohono; penderfyniad gweithredol y Prif Weinidog ydyw.

Unwaith y bydd hynny wedi ei wneud, i fod yn glir, rwyf wedi ei gwneud hi’n glir iawn, oherwydd maint y prosiect a'r diddordeb ledled Cymru, yn wahanol i unrhyw brosiect priffyrdd arall, y byddwn ni'n cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth. Mae peth posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Llun nesaf. Byddai'n rhaid inni gael caniatád y Llywydd i wneud hynny. Trafodwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore 'ma bod hyn yn bosibilrwydd o hyd. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, os nad yw hynny'n bosibl—os nad yw hynny'n bosibl gan nad ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yn y broses—yna byddwn yn gweld beth arall y gellir ei wneud.

Os cyrhaeddwn ni ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna byddaf yn argymell i’r Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd ef neu hi, fod ymrwymiad y Llywodraeth hon yn cael ei anrhydeddu, bod y ddadl honno yn cael ei chyflwyno, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na allai hynny ddigwydd. Ond mae’n rhaid i hyn ddigwydd yn y drefn gywir. Ni allwn ni gael dadl yn amser y Cynulliad cyn gwneud y Gorchmynion, oherwydd nid yw hynny'n ystyriaeth berthnasol o’r ffordd y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw. Felly, bydd yn rhaid cael cyfres glir iawn o brosesau, a bydd yn rhaid i ddadl y Cynulliad ddod ar yr adeg iawn yn ystod y broses honno. Felly, mae posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Mawrth nesaf, ond, os gallwn ni wneud hynny, byddwn yn gwneud hynny. Os na allwn ni, yna bydd yn rhaid inni weld beth arall y gellir ei wneud.

Rydym ni'n ymrwymedig iawn i'r ddadl, ond mae'n rhaid i hynny fod ar yr adeg briodol yn ystod y broses. Mae'r broses yn hynod o gymhleth. Mae’r holl bethau y mae’n rhaid eu gwneud fel y gall y Prif Weinidog wneud y penderfyniad hwnnw yn gyfreithlon, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol, yn hynod o gymhleth. Felly, mae angen inni gael y broses yn gywir, ac mae arnom ni angen symud ymlaen at y ddadl. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir. Nid wyf yn gwybod sut i’w ddweud yn gliriach na hynny.

O ran Trafnidiaeth Cymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi imi ei fod yn hapus iawn i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi diweddariad wythnosol i'r holl Aelodau ynghylch ble'r ydym ni arni gyda'r trefniadau pontio a’r trosglwyddiad. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

14:20

Leader of the house, can I ask for a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Services concerning GP premises, please? As you'll be aware, GPs who are independent contractors in the traditional mould also own their own premises, and I well remember as young GPs, you are expected to take out what is effectively a second mortgage on a GP surgery at the same time as you are taking out a first mortgage on a family home.

Now, recently, I've received representations to the effect that, when you fast-forward 20 to 30 years, and GPs retire, or retire early, or move on, leaving the remaining GPs with a building that is often difficult to sell, with negative equity and early redemption penalties, huge financial losses can be incurred at this difficult time. And people wonder why GPs do not want to become independent contractors owning their own surgeries any more.

Now, the NHS in England has a compensation system for GPs in similar circumstances. GPs who have provided a lifetime of service to their communities face huge financial losses if they are the last ones standing in GP premises after the other partners have left. We don't expect hospital consultants to have an obligatory financial stake in your average district general hospital or tertiary specialist care centre, and I would value a statement from the Cabinet Secretary to clarify matters. Thank you very much.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch meddygfeydd teulu, os gwelwch yn dda? Fel y byddwch yn ymwybodol, mae meddygon teulu sy'n gontractwyr annibynnol hefyd yn berchen ar eu hadeiladau eu hunain yn draddodiadol, a chofiaf yn dda, yn feddyg teulu ifanc, y disgwylir ichi gael yr hyn sydd, yn effeithiol, yn ail forgais ar feddygfa deulu ar yr un pryd â morgais ar eich cartref teuluol.

Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi cael sylwadau i'r perwyl, pan rydych chi'n gwibio 20 i 30 mlynedd yn eich blaen, pan fo meddygon teulu yn ymddeol, neu'n ymddeol yn gynnar, neu'n symud yn eu blaenau, gan adael y meddygon teulu sy'n weddill gydag adeilad sy'n anodd ei werthu yn aml, gydag ecwiti negyddol a chosbau adbrynu cynnar, bod modd cael colledion ariannol enfawr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac mae pobl yn meddwl tybed pam nad yw meddygon teulu yn dymuno bod yn gontractwyr annibynnol sy'n berchen ar eu meddygfeydd eu hunain mwyach.

Nawr, mae gan y GIG yn Lloegr system iawndal ar gyfer meddygon teulu mewn amgylchiadau tebyg. Meddygon teulu sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i'w cymunedau sy'n wynebu colledion ariannol enfawr os mai nhw yw'r rhai olaf mewn meddygfa deulu ar ôl i'r partneriaid eraill adael. Nid ydym ni'n disgwyl i feddygon ymgynghorol mewn ysbytai fod â chyfran ariannol orfodol yn eich ysbyty cyffredinol dosbarth arferol neu ganolfan gofal arbenigol trydyddol, a byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pethau. Diolch yn fawr iawn.

Yes, the Member highlights a particular issue with the current system in which GPs are independent contractors. We are seeing a shift towards fewer, larger sized GP practices with a wider skill mix of health professionals providing a greater range of healthcare locally, and that's partly because of what the Member is pointing out there about the financial commitments and so on.

We do take over practices in some circumstances of a managed practice approach, particularly as the tendency to use locums attracting higher costs and so on plays out. So, he's right to highlight that. We're working closely with the British Medical Association and NHS Wales colleagues on a programme of contract reform to address how the contract operates, making it more sustainable for GPs whilst delivering against the actions. The number of GP practices is gradually reducing, and it is a trend. As part of those negotiations, we are looking to see what can be done to alleviate the circumstances that the Member highlights.

Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at broblem benodol gyda'r system bresennol lle mae meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol. Rydym ni'n gweld symudiad tuag at lai o bractisau meddygon teulu sy'n fwy o ran maint gyda chymysgedd sgiliau ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n darparu amrywiaeth ehangach o ofal iechyd yn lleol, ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ynghylch ymrwymiadau ariannol ac ati.

Rydym ni yn meddiannu practisau mewn rhai amgylchiadau os caiff y practisau hynny eu rheoli, yn enwedig gan fod y duedd o ddefnyddio staff locwm sy'n costio mwy ac ati yn datblygu. Felly, mae'n gywir i dynnu sylw at hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a chydweithwyr yn GIG Cymru ar raglen diwygio contractau i fynd i'r afael â sut y mae contractau yn gweithredu, sy'n ei gwneud hi'n fwy cynaliadwy i feddygon teulu o ran cyflawni'r camau gweithredu. Mae nifer y practisau meddygon teulu yn gostwng yn raddol, ac mae hynny'n duedd. Yn rhan o'r trafodaethau hynny, rydym ni'n edrych i weld beth y gellir ei wneud i liniaru'r amgylchiadau hynny y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt.

I wanted to raise the issue about folic acid. The UK Government, as the leader of the house will know, recently announced its plans to fortify flour with folic acid to reduce spina bifida and other preventable birth defects linked to low folic acid. I think we know that, at the moment, two children a week in the UK are born with preventable birth defects. It's very good news that the UK Government has announced this, and I know this is something that Scottish and Welsh Ministers have lobbied for, and I assume it will apply to all UK flour producers. But I did wonder whether it would be possible to have a statement in Wales to clarify that this will apply in Wales and how it will link with our duties to regulate food and our responsibilities for food standards, because I think, obviously, this is something that mothers in particular need to know.

Roeddwn i'n bwriadu codi'r mater o asid ffolig. Mae Llywodraeth y DU, fel y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol, wedi cyhoeddi ei chynlluniau i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ddiweddar i leihau spina bifida a namau geni ataliadwy eraill sy'n gysylltiedig â lefelau isel o asid ffolig. Credaf ein bod ni'n gwybod bod dau blentyn yr wythnos yn y DU, ar hyn o bryd, yn cael eu geni gyda namau geni ataliadwy. Mae'n newyddion da iawn bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyn, ac rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth y mae Gweinidogion Cymru a'r Alban wedi lobïo drosto, ac rwy'n tybio y bydd hyn yn berthnasol i holl gynhyrchwyr blawd y DU. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad yng Nghymru i egluro y bydd hyn yn berthnasol i Gymru a sut y bydd yn cysylltu â'n dyletswyddau i reoleiddio bwyd a'n cyfrifoldebau dros safonau bwyd, oherwydd rwy'n credu, yn amlwg, bod hyn yn rhywbeth y mae mamau yn benodol angen ei wybod.

Yes, the Member highlights an incredibly important area. We very much welcome the positive announcement from the UK Government to fortify flour with folic acid. We have for a very long time called for this to be taken forward, and the Cabinet Secretary for Health and Social Services has written a joint letter with the Scottish Government yesterday to endorse our support and to drive forward rapid action in this regard. We note that the expected timing is early 2019 for the consultation, and officials have begun a positive dialogue to drive forward the consultation on a UK-wide level. We also know that the Committee on Toxicity of Chemicals in Food, Consumer Products and the Environment are yet to make an official report on the maximum level of folic acid, but we're of the view that that shouldn't delay the consultation process with a view to agreeing a uniform approach to the introduction of legislation across the UK as soon as possible.

Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at faes hynod o bwysig. Rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig. Rydym ni wedi bod yn galw ers amser hir i fwrw ymlaen â hyn, ac mae Ysgrifennodd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ddoe i gadarnhau ein cefnogaeth a hyrwyddo gweithredu cyflym yn hyn o beth. Nodwn mai'r amseriad disgwyliedig ar gyfer yr ymgynghoriad yw dechrau 2019, a bod swyddogion wedi dechrau deialog cadarnhaol i hyrwyddo'r ymgynghoriad drwy'r Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gwybod hefyd nad yw'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a'r Amgylchedd wedi gwneud adroddiad swyddogol ynghylch y lefel uchaf o asid ffolig eto, ond rydym ni o'r farn na ddylid oedi'r broses ymgynghori gyda bwriad o gytuno ar ddull gweithredu unffurf i gyflwyno deddfwriaeth ledled y DU cyn gynted â phosib.

14:25

Leader of the house, may I ask for a statement from the Minister for Culture, Tourism and Sport on the results of the latest school sport survey? According to the survey, the gap between children from the most and the least deprived areas taking part in sport has widened in the last three years. The number of children taking part in sport outside school three or more times a week has remained unchanged since 2015, and the gender disparity between boys and girls remains the same. Enjoyment of sports, both in and out of school, has fallen, and as the chief executive of Sport Wales said, in her words,

'Without it, there is no hope of them having a positive lifelong relationship with sport.'

Please can we have a statement from the Minister on what can be done to encourage more pupils to take part in sports in Wales, please?

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ganlyniadau'r arolwg diweddaraf ynglŷn â chwaraeon mewn ysgolion? Yn ôl yr arolwg, mae'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ehangu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol dair gwaith yr wythnos neu fwy wedi aros yn ddigyfnewid ers 2015, ac mae'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau rhwng bechgyn a merched yn parhau i fod yr un fath. Mae'r mwynhad o chwaraeon, yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, wedi gostwng, ac fel y mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru wedi dweud,

heb hynny, nid oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gael perthynas gadarnhaol gydol oes â chwaraeon.

Os gwelwch yn dda, gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y gellir ei wneud i annog mwy o ddisgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

The Member highlights a very important part of the curriculum, and the Member will be aware that, as part of the Donaldson reforms to the curriculum, we're rolling out the new curriculum and part of that is very much to be a healthy, active citizen of Wales. We hope very much that that will mean that sport is far more integrated into the curriculum. The Member will be aware that we've been experimenting with the mile a day programme for primary schools, and so on. So he highlights a very important part of the roll-out of the new curriculum. It's very much part of our planning for the future for schools with a view to getting our children as they come out of our schools to be the healthy, active participants in Welsh society that we want them to be.

Mae'r Aelod yn amlygu rhan bwysig iawn o'r cwricwlwm, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn rhan o ddiwygiadau Donaldson i'r cwricwlwm, ein bod ni'n cyflwyno cwricwlwm newydd a rhan fawr iawn o hynny yw bod yn  ddinesydd iach a gweithgar yng Nghymru. Rydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd hynny'n golygu y bydd chwaraeon yn rhan llawer mwy creiddiol o'r cwricwlwm. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y buom ni'n arbrofi gyda'r rhaglen milltir y diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd, ac ati. Felly mae'n amlygu rhan bwysig iawn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n rhan bwysig iawn o'n cynllunio ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgolion gyda'r nod o sicrhau bod ein plant, fel maen nhw'n dod allan o'n hysgolion, yn cyfrannu at Gymdeithas Cymru mewn modd iach a gweithgar, fel yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud. 

Leader of the house, I'd like to ask for two statements today. I continue to deal with a large volume of casework relating to problems caused by unadopted housing estates. In fact, I would say it's the largest single element in my postbag, and I know that other Assembly Members see similar issues. Some time ago, during a debate on unadopted roads, the economy and transport Secretary announced that he would be setting up a taskforce to look into this issue. Please can we have a statement updating Members on this work?

Secondly, I recently met with a representative of the WAVE 70/30 campaign. That campaign focuses on eliminating child maltreatment through primary prevention. Their solution, offering support to parents and expectant parents before damage occurs, accords well with Welsh Government priorities, so could we have an update from Ministers on work to promote positive parenting?

Arweinydd y tŷ, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Rwy'n parhau i ymdrin â swmp mawr o waith achos sy'n ymwneud â phroblemau a achosir gan ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu. Yn wir, byddwn i'n dweud mai hyn yw'r elfen fwyaf yn fy mag post, ac rwy'n gwybod fod Aelodau eraill y Cynulliad yn gweld materion tebyg. Beth amser yn ôl, yn ystod dadl ar ffyrdd nad oedden nhw wedi eu mabwysiadu, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth y byddai'n sefydlu tasglu i edrych ar y mater hwn. A gawn ni ddatganiad i ddiweddaru'r Aelodau ar y gwaith hwn?

Yn ail, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolydd yr ymgyrch WAVE 70/30. Mae'r ymgyrch honno'n canolbwyntio ar ddileu camdriniaeth plant drwy ataliaeth sylfaenol. Mae eu hateb, sef cynnig cymorth i rieni a darpar rieni cyn y bydd niwed yn digwydd yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, felly gawn ni ddiweddariad gan y Gweinidogion ar y gwaith i hyrwyddo magu plant yn gadarnhaol?

Yes, indeed. Taking them in reverse order, officials have met with George Hosking, the founder and CEO of the WAVE Trust, on a number of occasions to discuss the work, including the 70/30 campaign that the Member highlights, and the adverse childhood experiences work. The meetings have provided opportunities for officials to share with the WAVE Trust information on the Welsh Government's policies and key family support programmes. We anticipate that that will have a mutual interest with the WAVE Trust and that discussions will continue.

The approach of the campaign is completely compatible with the aims and objectives of our Flying Start and Families First programmes, as well as the Welsh Government's positive parenting campaign, 'Parenting. Give it Time'. We're very supportive of the campaign and believe the services provided have the potential to complement the work already undertaken by the Government, and we're very happy to work alongside the project.

In terms of unadopted roads, the Cabinet Secretary has been looking for some time at some of the issues, in conjunction with the Minister for housing, the Minister for planning and a number of other people across the Government. I'll check with them where that work is and how it's progressing and write to the Member accordingly.

Ie, yn wir. Gan ymdrin â nhw tuag yn ôl, mae swyddogion wedi cwrdd â George Hosking, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol WAVE Trust, ar sawl achlysur i drafod y gwaith, gan gynnwys yr ymgyrch 70/30 y mae'r Aelod yn ei amlygu, a gwaith ynglŷn â phrofiadau plentyndod andwyol. Mae'r cyfarfodydd wedi rhoi cyfleoedd i swyddogion rannu gwybodaeth gyda WAVE Trust ynghylch polisïau a rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i deuluoedd. Rydym ni'n rhagweld y bydd gennym ni ddiddordeb cyffredin gyda WAVE Trust ac y bydd trafodaethau yn parhau.

Mae dull yr ymgyrch yn gwbl gydnaws â nodau ac amcanion ein rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn ogystal ag ymgyrch magu plant yn gadarnhaol Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo'. Rydym ni'n gefnogol iawn i'r ymgyrch ac yn credu bod gan y gwasanaethau a ddarperir y gallu i ategu'r gwaith a wnaed eisoes gan y Llywodraeth, ac rydym ni'n hapus i weithio ochr yn ochr â'r prosiect.

O ran ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn edrych ar rai o'r materion ers peth amser, ar y cyd â'r Gweinidog dros dai, y Gweinidog dros gynllunio a nifer o bobl eraill yn y Llywodraeth. Byddaf yn gwirio gyda nhw ble'r ydym ni arni gyda'r gwaith hwnnw a sut mae pethau'n bwrw ymlaen a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn unol â hynny.

Could I call for a single statement on rail services in north Wales? On Saturday I attended the Wrexham-Bidston Rail Users Association's annual general meeting, where the chair referred us to Transport for Wales's live travel updates on Saturday, which showed that, with the exception of minor delays at Cardiff-Shrewsbury and Cardiff-Swansea, all the other south Wales services had good service, whereas Llandudno-Blaenau Ffestiniog and Chester-Crewe had severe delays, and Wrexham-Bidston had an amended timetable—i.e. cancelled.

Yesterday, the executive member for transport at Wrexham wrote to the Cabinet Secretary here. You will be aware that following the decision by Transport for Wales that no train services operated on Wrexham-Bidston last weekend, due to rail services in south Wales being supplemented due to a sporting fixture, no stakeholders here were consulted in advance or informed directly of that, or then the decision to rescind and reduce the reduced timetable over the weekend with no discussion with stakeholders. We know that the chair of Neston transport working group, the other end of this line, on Friday e-mailed—it's been their position in Neston for three years that the whole of the line should be operated by Merseytravel, because at least the section from Bidston to Shotton, they say, could then experience high-quality services provided by them. 

And, finally, on Friday, my office received a phone call from a rail insider, a whistleblower, who wished to remain anonymous, who told me that the majority of trains had been cancelled because no spares were available when the Welsh Government took over, and that the tooling and spares had been taken by Arriva. So, we need to know why these missing spares were not picked up and provided for by the operator, and why the wheel lathes access was not put into place. Again, we heard on Saturday that there was no access, belatedly, to Crewe, Bristol and Taunton. But we also know that the excuse for so many trains being off the line is because of shortage of wheel lathes. Is there a sustainable solution in place, or is this a one-off, and will this address the problem?

I don't want a short response. I'm calling for a ministerial statement to this Assembly so that we can get to the bottom of these many questions being raised by very worried stakeholders. 

A gaf i ofyn am un datganiad ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd? Euthum i gyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ddydd Sadwrn, lle cyfeiriodd y Cadeirydd ni at ddiweddariadau teithio byw Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn, a ddangosodd, ac eithrio mân achosion o oedi rhwng Caerdydd-yr Amwythig a rhwng Caerdydd-Abertawe, bod holl wasanaethau eraill y de yn wasanaethau da, tra bod oedi difrifol rhwng Llandudno-Blaenau Ffestiniog a rhwng Caer-Cryw, ac roedd amserlen Wrecsam-Bidston wedi ei newid—h.y. wedi ei dileu.

Ddoe, ysgrifennodd yr aelod gweithredol dros drafnidiaeth yn Wrecsam at Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwch yn ymwybodol, yn dilyn y penderfyniad gan Drafnidiaeth Cymru nad oedd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Wrecsam a Bidston y penwythnos diwethaf, oherwydd ychwanegu at wasanaethau rheilffyrdd yn y de oherwydd digwyddiad chwaraeon, nid ymgynghorwyd ag unrhyw randdeiliaid yn y fan yma ymlaen llaw ac ni chawsant eu hysbysu'n uniongyrchol o hynny, nac wedyn y penderfyniad i ddileu a chwtogi ar yr amserlen a oedd eisoes wedi ei chwtogi dros y penwythnos heb unrhyw drafodaeth gyda'r rhanddeiliaid. Rydym ni'n gwybod fod cadeirydd gweithgor trafnidiaeth Neston, ar ben arall y llinell, wedi e-bostio ddydd Gwener—eu sefyllfa yn Neston am dair blynedd oedd y dylai'r llinell gyfan gael ei gweithredu gan Merseytravel, gan y byddai'r darn rhwng Bidston a Shotton, o leiaf, meddent, yn gallu cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maen nhw'n eu darparu. 

Ac, yn olaf, ddydd Gwener, derbyniodd fy swyddfa alwad ffôn gan rywun o'r tu mewn sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd, chwythwr chwiban, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, a ddywedodd wrthyf fod y rhan fwyaf o'r trenau wedi eu dileu gan nad oedd rhai sbâr ar gael pan gymerodd Lywodraeth Cymru yr awenau, a bod yr offer a'r darnau sbâr wedi eu cymryd gan Arriva. Felly, mae arnom ni angen gwybod pam na wnaeth y gweithredwr sylwi ar y darnau sbâr colledig hyn a'u darparu, a pham na roddwyd mynediad at durniau olwynion yn ei lle. Eto, clywsom ddydd Sadwrn, yn rhy hwyr, nad oedd mynediad i Cryw, Bryste na Taunton. Ond gwyddom hefyd mai'r esgus dros yr holl drenau nad ydynt ar y llinellau yw prinder turniau olwynion. A oes ateb cynaliadwy ar waith, neu ai problem untro yw hyn, ac a fydd hyn yn datrys y broblem?

Nid wyf eisiau ymateb byr. Rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol i'r Cynulliad hwn fel y gallwn ni fynd at wraidd yr amryw gwestiynau hyn sy'n cael eu codi gan randdeiliaid pryderus iawn.

14:30

As I said, the situation with the stock being off the rails—as I said in answer to an FMQ, we've got 10 per cent of that stock back in action. And in response to Andrew R.T. Davies, we did say that we'll arrange for Transport for Wales to have a weekly update for Members on the situation across Wales, and I'll make sure the Member is included in that, obviously. 

Fel y dywedais, y sefyllfa lle nad yw'r stoc ar y cledrau—fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau'r Prif Weinidog, mae gennym ni 10 y cant o'r stoc honno ar waith eto. Ac mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, fe wnaethom ni ddweud y byddwn yn gwneud trefniadau i Drafnidiaeth Cymru roi diweddariad wythnosol i'r Aelodau ar y sefyllfa ledled Cymru, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr Aelod yn cael ei gynnwys yn hynny, yn amlwg.

Leader of the house, I call for a statement on two matters. The first one is: you'll be aware of the Musicians' Union report, which raises the issue of the lack of access to music now for whole sections of communities, and individuals, particularly from more deprived backgrounds. It would be very helpful to have a statement that actually analysed that report and identified whether those conclusions actually apply to Wales as well.

And the second one I'd like to ask for is a statement on the discussions that Welsh Government has had with the UK Government in respect of the provision of information to Members of Parliament and to Assembly Members from differing Parliaments. The reason being this: we are all parliamentary representatives; we raise matters on behalf of our constituents. I have matters I've had to raise with the Home Office. The Home Office refused to reply to Members of the National Assembly for Wales. If we were to adopt the tit-for-tat approach in respect of devolved responsibilities between the respective Parliaments, then business would break down, constituents would have a bad deal in terms of representation. And it seems to me that this is a major issue, that the Home Office has adopted the position of basically completely refusing to engage with Members of the Assembly for Wales. If we adopted that in other areas, we'd have very significant consequences. We obviously don't want to have that. It seems to me it's a matter that needs to be resolved at Government to Government level. 

Arweinydd y tŷ, rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddau fater. Y cyntaf yw: byddwch yn ymwybodol o adroddiad Undeb y Cerddorion, sy'n codi'r mater o ddiffyg mynediad at gerddoriaeth, nawr, sy'n effeithio ar rannau cyfan o gymunedau, ac unigolion, yn enwedig pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig. Byddai datganiad sy'n dadansoddi'r adroddiad hwnnw gan nodi a yw'r casgliadau hynny hefyd yn berthnasol i Gymru mewn gwirionedd yn ddefnyddiol iawn.

Ac yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu gwybodaeth i Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Cynulliad o wahanol seneddau. Dyma'r rheswm: mae pob un ohonom ni yn gynrychiolwyr seneddol; rydym yn codi materion ar ran ein hetholwyr. Mae gennyf faterion yr wyf wedi gorfod eu codi gyda'r Swyddfa Gartref. Gwrthododd y Swyddfa Gartref ymateb i Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Pe baem yn arddel yr egwyddor dant am ddant gan gyfeirio at gyfrifoldebau datganoledig rhwng y Seneddau priodol, yna byddai busnes yn chwalu, byddai etholwyr yn cael bargen wael o ran cynrychiolaeth. Ac mae'n ymddangos i mi fod hwn yn fater pwysig, bod y Swyddfa Gartref wedi arddel y safbwynt o wrthod ymgysylltu ag Aelodau Cynulliad Cymru yn llwyr. Pe baem yn gwneud hynny mewn meysydd eraill, byddai gennym ni ganlyniadau sylweddol iawn. Yn amlwg, nid ydym ni'n dymuno hynny. Mae'n ymddangos i mi fod hyn yn fater y mae arno angen ei ddatrys rhwng Llywodraethau.

Yes, actually, it's something I've already raised with the Llywydd. It's Commission to Commission level, I think. And we've had some discussion about reciprocal arrangements. Members will have seen in the recent Her Majesty's Revenue and Customs communication about Welsh tax rates, and the communication that's gone to all Assembly Members—about HMRC making arrangements to deal with Assembly Members in raising issues around the Welsh tax. We've had a similar conversation about the Home Office and other reciprocal arrangements about access to buildings and facilities and so on. And I think it's a matter the Llywydd will want to take up in the future; we've had some discussion about it. 

In terms of the music arrangements, the Member highlights a very serious part of Welsh culture and society. I know he himself is a keen ukulele and banjo player—I thought I'd mention that in his company. We absolutely recognise the current pressures facing music services and the need to take action as soon as possible. That's why the Cabinet Secretary has made additional funding of £3 million over the next two years available for music provision across Wales. Proposals are currently being considered on how to spend the funding, and an announcement on that is expected extremely shortly. 

Ie, a dweud y gwir, mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisoes wedi ei godi gyda'r Llywydd. Lefel Comisiwn i Gomisiwn ydyw, rwy'n credu. Ac rydym ni wedi cael peth trafodaeth ynghylch trefniadau dwyochrog. Bydd Aelodau wedi gweld yng nghyfathrebu diweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ynghylch cyfraddau treth yng Nghymru, a'r ohebiaeth a anfonwyd at bob un o Aelodau'r Cynulliad—ynghylch CThEM yn gwneud trefniadau i ymdrin ag Aelodau'r Cynulliad wrth godi materion sy'n ymwneud â'r dreth Gymreig. Rydym ni wedi cael sgwrs debyg am y Swyddfa Gartref a threfniadau dwyochrog eraill ynghylch mynediad i adeiladau a chyfleusterau ac ati. Ac rwyf yn credu bod hwn yn fater y bydd y Llywydd yn dymuno rhoi sylw iddo yn y dyfodol; rydym ni wedi cael peth trafodaeth am y peth.

O ran y trefniadau cerddoriaeth, mae'r aelod yn amlygu'r rhan difrifol iawn o ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Rwy'n gwybod ei fod ef ei hun yn chwaraewr ukelele a banjo brwd—roeddwn yn meddwl y byddwn yn sôn am hynny yn ei gwmni. Rydym yn cydnabod yn llwyr y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth a'r angen i wneud rhywbeth cyn gynted â phosib. Dyna pam fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cyllid ychwanegol o £3 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i ddarparu cerddoriaeth ledled Cymru. Mae cynigion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ynglŷn â sut i wario'r arian, a disgwylir cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn fuan iawn.

I wondered if we could have a statement, a whole-system approach from the Government, on gambling. Last week, the Gambling Commission published its annual report on the issue of young people and gambling, and, worryingly, it is now the biggest harmful activity that young people up to 16 are engaging in. So, it's now a bigger problem than alcohol consumption by under 16-year-olds. Some of the concerns that were expressed at the cross-party group last Tuesday were that 90 per cent of pubs do not take action to prevent young people using their fruit machines. It takes them up to half an hour before they actually do anything, and meanwhile, of course, all the money's gone down the tube. So, I appreciate that the chief medical officer takes this matter very seriously, but it seems to me it's also a regulatory matter for local authorities to ensure that pubs, if they have these dreadful fruit machines, are actually supervising who's using them. Plus, I think there's a general issue around the way in which the gambling companies are penetrating—across social media, through sporting activities—young people's brains, that gambling is something that it's cool to do. And we've seen from research produced in Australia that this is a pretty terrifying way in which children's brains are being cooked. So, I wondered if we could have a statement so that we can see that the Government is taking this as seriously as we should have taken smoking some 30 years ago.

Tybed a allem ni gael datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn ag ymdrin â'r diwydiant hapchwarae yn ei gyfanrwydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Comisiwn Hapchwarae ei adroddiad blynyddol ar y mater o bobl ifanc a hapchwarae, ac, yn bryderus, dyma'r gweithgaredd mwyaf niweidiol bellach y mae pobl ifanc hyd at 16 oed yn ei wneud. Felly, mae hyn bellach yn fwy o broblem nag yfed alcohol ymysg pobl o dan 16 mlwydd oed. Rhai o'r pryderon a fynegwyd yn y grŵp trawsbleidiol ddydd Mawrth diwethaf oedd nad yw 90 y cant o'r tafarndai yn cymryd camau i atal pobl ifanc sy'n defnyddio eu peiriannau ffrwythau. Mae'n cymryd hyd at hanner awr cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth, ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae'r holl arian wedi diflannu. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod y prif swyddog meddygol yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn, ond mae'n ymddangos imi hefyd mai mater rheoleiddiol i awdurdodau lleol yw sicrhau bod tafarndai, os yw'r peiriannau ffrwythau ofnadwy hyn ganddyn nhw, yn goruchwylio pwy sy'n eu defnyddio. Hefyd, credaf fod mater cyffredinol ynglŷn â'r ffordd y mae cwmnïau hapchwarae yn treiddio—drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy weithgareddau chwaraeon—i ymenydd pobl ifanc, bod hapchwarae yn rhywbeth cŵl i'w wneud. Ac rydym ni wedi gweld mewn gwaith ymchwil a gynhyrchwyd yn Awstralia bod hyn yn ffordd eithaf dychrynllyd y mae ymenyddiau plant yn cael eu dylanwadu arnynt. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad i weld bod y Llywodraeth yn cymryd hyn o ddifrif fel y dylem ni fod wedi ei wneud gydag ysmygu tua 30 mlynedd yn ôl.

14:35

The Member highlights a matter of some concern, across the Chamber, to everybody. Earlier this year, I wrote jointly with the Cabinet Secretary for Health and Social Services to the Advertising Standards Authority about the proliferation of gambling advertising on television, and through social media and online—for those of us who are gamers, it's absolutely all over the gaming industry—particularly in the way they seek to influence vulnerable and especially children and young people in those adverts. Their response was placed in the Members' library, and I've subsequently met with the Advertising Standards Authority to discuss the issue of shared mobile devices, and how they know who's being targeted by them. They're taking it very seriously indeed, I'm pleased to say.

As a Government, we have been working across departments to identify actions we can take to reduce and tackle the gaming gambling-related issues. The Cabinet Secretary for Health and Social Services is planning to make a statement in due course, outlining the actions taken so far, and what else we can do. We are taking this very seriously indeed. The Member is absolutely right to highlight the difficulties, and the work on fixed-odds betting terminals that's being undertaken in the UK Parliament by Labour colleagues has gone some way to addressing this as well.

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at fater sydd o gryn bryder, ym mhob rhan o'r Siambr, i bawb. Yn gynharach eleni, fe ysgrifennais i ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am y llwyth o hysbysebion hapchwarae ar y teledu, a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein—ar gyfer y rhai ohonom ni sy'n ymhél â gemau, mae'n drwch drwy'r diwydiant hapchwarae—yn enwedig yn y ffordd y maen nhw'n ceisio dylanwadu ar bobl hawdd manteisio arnyn nhw, ac yn enwedig plant a phobl ifanc yn yr hysbysebion hynny. Rhoddwyd eu hymateb yn Llyfrgell yr Aelodau, ac rwyf wedi cyfarfod ers hynny â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu i drafod y mater o ddyfeisiau symudol sy'n cael eu rhannu, a sut maen nhw'n gwybod pwy sy'n cael eu targedu ganddyn nhw. Maen nhw'n hollol o ddifri ynghylch hynny, rwy'n falch o ddweud.

Fel Llywodraeth, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag adrannau gwahanol i weld beth y gallwn ni ei wneud i leihau a mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hapchwarae. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynllunio i wneud datganiad maes o law, sy'n amlinellu'r hyn a wnaed hyd yma, a beth arall y gallwn ni ei wneud. Rydym ni'n hollol o ddifri ynglŷn â hyn. Mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr anawsterau, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Senedd y DU ar derfynellau betio ods sefydlog gan gyd-Aelodau Llafur wedi mynd peth o'r ffordd i fynd i'r afael â hyn hefyd. 

Diolch i arweinydd y tŷ.

I thank the leader of the house.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol
3. Statement by the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services: Update on the Our Valleys, Our Future Delivery Plan

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar y wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Alun Davies.

The next item, therefore, is the statement by the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services—update on the Our Valleys, Our Future delivery plan. And I call on the Cabinet Secretary to make the statement—Alun Davies.

Member
Alun Davies AM 14:37:34
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Thank you very much, Presiding Officer, and I'm grateful to you for providing this opportunity to inform Members about the latest updates that we have made to our ambitions and plans for the south Wales Valleys. This is set out in the 'Our Valleys, Our Future' delivery plan.

Just a few months ago, in July, I had the pleasure of updating Members about the first 12 months of progress since we published 'Our Valleys, Our Future'. Since then, the ministerial taskforce for the south Wales Valleys has been reviewing its work and the more than 60 actions that we identified in the delivery plan, to ensure that they are still fit for purpose, and will continue to contribute to our three overarching priorities. Members will remember the three priorities at the heart of the taskforce’s work were based on the feedback we received from people living and working in the Valleys. They told us that they wanted good jobs and the skills to do them, better public services and improvements, and a focus on their local community. This year’s update of the delivery plan has focused attention on those areas, which add real value to Valleys communities.

We have identified new actions and programmes that will make a positive difference over the next 12 months, such as a focus on maximising the benefits of the investment on the A465 corridor for local communities alongside this important development. We know the improved transport links for the Heads of the Valleys have the potential to unlock new housing developments and tourism, new job opportunities, and economic development for the region. The investment in the dualling of this road has to be measured and understood in the increased economic activity and the creation of new opportunities, which will flow from the dualling of the A465. The taskforce has been working with stakeholders and partners to identify and build on these opportunities for investment associated with the dualling project.

Over the next 12 months, we will continue this work to develop priority areas for the Heads of the Valleys. Deputy Presiding Officer, I recently announced a £25 million capital fund to support the seven strategic hubs over the next two years. Local authorities in the hub areas have led the development of the blueprints for long-term improvements in each strategic hub. Working with the Valleys authorities and the Cardiff capital region city deal we will confirm further details of the plans for the seven hubs in the new year. 

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am roi'r cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau am yr addasiadau diweddaraf yr ydym ni wedi'u gwneud i'n huchelgeisiau a'n cynlluniau ar gyfer Cymoedd y De. Nodir hyn yn y cynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'.

Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Gorffennaf, cefais y pleser o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y 12 mis cyntaf o gynnydd ers inni gyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Ers hynny, mae'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De wedi bod yn adolygu ei waith a'r mwy na 60 o gamau gweithredu a nodwyd gennym ni yn y cynllun cyflawni, i sicrhau eu bod yn dal yn addas at y diben, ac y byddant yn parhau i gyfrannu at ein tair blaenoriaeth gynhwysfawr. Bydd Aelodau yn cofio bod y tair blaenoriaeth sydd wrth wraidd gwaith y tasglu yn seiliedig ar yr adborth a gawsom ni gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni eu bod eisiau swyddi da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwelliannau, a phwyslais ar eu cymuned leol. Mae  diweddariad eleni ynglŷn â'r cynllun cyflawni wedi canolbwyntio ar y meysydd hynny, sy'n ychwanegu gwerth gwirioneddol i gymunedau yn y Cymoedd.

Rydym ni wedi nodi camau gweithredu a rhaglenni newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros y 12 mis nesaf, megis canolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad ar goridor yr A465 ar gyfer cymunedau lleol sy'n ffinio â'r datblygiad pwysig hwn. Rydym ni'n gwybod fod gan y cysylltiadau trafnidiaeth gwell ar gyfer Blaenau'r Cymoedd y potensial i esgor ar ddatblygiadau tai newydd a thwristiaeth, cyfleoedd gwaith newydd a datblygu economaidd ar gyfer y rhanbarth. Mae angen mesur a deall y buddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r ffordd hon yng nghyd-destun y cynnydd mewn gweithgarwch economaidd a chreu cyfleoedd newydd, a fydd yn deillio o'r gwaith deuoli ar yr A465. Mae'r tasglu wedi bod yn gweithio gyda rhandaliad a phartneriaid i ganfod ac adeiladu ar y cyfleoedd hyn ar gyfer buddsoddi sy'n gysylltiedig â'r prosiect deuoli.

Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn parhau â'r gwaith hwn i ddatblygu meysydd blaenoriaeth ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Dirprwy Lywydd, yn ddiweddar, cyhoeddais gronfa gyfalaf gwerth £25 miliwn i gefnogi saith canolbwynt strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt hyn wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r glasbrintiau ar gyfer gwelliannau hirdymor ym mhob canolbwynt strategol. Gan weithio gydag awdurdodau'r Cymoedd a bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd byddwn yn cadarnhau manylion pellach am y cynlluniau ar gyfer y saith canolbwynt yn y flwyddyn newydd. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

14:40

I am pleased to say that we have made available development funding for some of the local authorities in the strategic hub areas. This will commission the feasibility and design of new integrated transport hubs, replacing, where necessary, existing rail and bus interchange and improving infrastructure and connectivity, which will incorporate the key metro development sites. The designs will also take into account the wider regeneration ambitions for these areas.

Business support remains a key area for us. We want to encourage the facilitation of entrepreneurship and enterprise amongst individuals, businesses and communities in the Valleys. I have provided funding for a focused business support campaign that identifies and brings together success amongst Valleys communities. I have also allocated funding for a pilot project to support a peer-to-peer network for high-growth Valleys-based business founders or leaders.

Harnessing digital technologies plays an important role in this updated plan. We have included three pilot schemes for the Valleys, which the taskforce’s digital work stream will oversee. The taskforce will work with Transport for Wales to ensure its new integrated responsive transport programme gets people from all parts of the Valleys to and from their health appointments more effectively, and we will be developing an app to support this. 

We will also pilot the Wi-Fi i Fi programme–an exciting way opening up public sector broadband to create community Wi-Fi hotspots to be used by everyone in the local area. Again, an app will be created, which shows where these hotspots are in the Valleys. We are also investing in the Wales-wide mapping tool 'Lle'. We will develop its functionality and content to enable easy access to a host of useful data to inform and encourage investment in the Valleys.

Deputy Presiding Officer, last month I updated members about the creation of a Valleys regional park and our ambition to use the park to strengthen the national and international profile of the region. Last month I published a prospectus, inviting others to help shape the thinking behind this regional park. The prospectus has been well received here and across the Valleys. There was also a striking consensus that to succeed we need to work collaboratively with a focus on the Valleys as a whole. 

We have refreshed the 'My Community' section in the delivery plan to deliver the first phase of the Valleys regional park, focusing on the three themes of landscape: culture and identity; recreation and wellbeing; and then communities and enterprise. At the heart of our plans for the regional park are the gateway locations across the Valleys, which will help tell the stories of these Valleys. These gateway sites will encourage people to be more active and to explore the beautiful landscapes of the Valleys. I have said that I intend to announce the first location of these gateways by the end of the year and deliver phase 1 by spring 2019.

Deputy Presiding Officer, working closely with local authorities and other partners in the Valleys, I am pleased to be able to announce today that Dare Valley Country Park, Caerphilly castle, Cwmcarn forest, Blaenavon World Heritage Visitor Centre—[Interruption.]—I can't hear that—Cyfarthfa Park and Bryngarw Country Park will be amongst those gateway sites. I will announce further sites in the coming weeks. The £7 million of capital funding for the development of the Valleys regional park, which the Cabinet Secretary for Finance announced in the draft budget for 2019-20, will be invested in these gateways and the iconic trails that connect the Valleys. The detailed plans for utilising the whole of that allocation will be announced in due course.   

One of the defining features of the Valleys taskforce has been its ongoing engagement with people living and working in the Valleys. It's been really important for all of us to talk to and listen to people and local communities. That's how this plan was and has been developed and shaped. That engagement will continue to be at the heart of our approach. The taskforce will also continue to work across the whole of Welsh Government and with both city deals. We want to be a catalyst not just for change in the Valleys, but for a more joined-up Government working together to deliver for the people we represent. This delivery plan cuts across all the Welsh Government departments and all of my Cabinet colleagues’ portfolios. I’d like to thank all of my colleagues and their departments for their commitment to this agenda.

Deputy Presiding Officer, we want this plan to meet the needs and ambitions of people living and working in the Valleys and their expectations. The taskforce has already began to make a real and lasting difference to the south Wales Valleys, and it will continue to do so.

Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi sicrhau bod arian datblygu ar gael ar gyfer rhai o'r awdurdodau lleol yn yr ardaloedd canolbwynt strategol. Bydd hyn yn comisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd, gan ddisodli, lle bo angen, cyfnewidfeydd bws a rheilffyrdd presennol a gwella seilwaith a chysylltedd, a fydd yn cynnwys y safleoedd datblygu allweddol o ran y metro. Bydd y cynlluniau hefyd yn ystyried yr uchelgeisiau adfywio ehangach ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Mae cymorth busnes yn parhau i fod yn faes allweddol i ni. Rydym ni eisiau annog hwyluso entrepreneuriaeth a menter ymhlith unigolion, busnesau a chymunedau yn y Cymoedd. Rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer ymgyrch benodol i gefnogi busnesau sy'n adnabod ac yn cyfuno llwyddiannau yng nghymunedau'r Cymoedd. Rwyf hefyd wedi dyrannu cyllid ar gyfer prosiect treialu i gefnogi rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer sylfaenwyr neu arweinwyr busnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial i dyfu.

Mae manteisio ar dechnoleg ddigidol yn chwarae rhan bwysig yn y cynllun diwygiedig hwn. Rydym ni wedi cynnwys tri chynllun treialu ar gyfer y Cymoedd, y bydd ffrwd waith digidol y tasglu yn eu goruchwylio. Bydd y tasglu yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ei raglen trafnidiaeth ymatebol integredig newydd yn gwneud yn siŵr fod pobl o bob rhan o'r Cymoedd yn cyrraedd ac yn gadael eu hapwyntiadau iechyd yn fwy effeithiol, a byddwn yn datblygu ap i gefnogi hyn.

Byddwn hefyd yn treialu'r rhaglen Wi-Fi i Fi–ffordd gyffrous o ddefnyddio band eang y sector cyhoeddus i greu llecynnau Wi-Fi cymunedol i'w defnyddio gan bawb yn y fro. Unwaith eto, caiff ap ei greu, fydd yn dangos ble mae'r llecynnau hyn yn y Cymoedd. Rydym ni hefyd yn buddsoddi yn yr offeryn mapio Cymru gyfan 'Lle'. Byddwn yn datblygu ei swyddogaethau a'i gynnwys fel ei bod hi'n hawdd cyrchu llawer iawn o ddata defnyddiol fel modd o roi canllaw ac anogaeth i fuddsoddi yn y Cymoedd.

Dirprwy Lywydd, y mis diwethaf rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynglŷn â chreu parc rhanbarthol yn y Cymoedd a'n huchelgais i ddefnyddio'r Parc i gryfhau delwedd genedlaethol a rhyngwladol y rhanbarth. Y mis diwethaf cyhoeddais brosbectws, yn gwahodd eraill i helpu i lunio'r meddylfryd y bydd y parc rhanbarthol hwn yn seiliedig arno. Bu croeso brwd i'r prosbectws yn y fan yma a ledled y Cymoedd. Hefyd cafwyd cydsyniad trawiadol bod angen inni gydweithio gan roi pwyslais ar y Cymoedd yn eu cyfanrwydd er mwyn llwyddo. 

Rydym ni wedi diweddaru'r adran 'Fy nghymuned' yn y cynllun cyflawni er mwyn gyflawni cam cyntaf Parc Rhanbarthol y Cymoedd, gan ganolbwyntio ar y tair thema tirwedd, sef; diwylliant a hunaniaeth; hamdden a lles; ac yna cymunedau a menter. Wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer y Parc Rhanbarthol mae'r lleoliadau porth ledled y Cymoedd, a fydd yn helpu i adrodd hanes y Cymoedd hyn. Bydd y safleoedd porth hyn yn annog pobl i fod yn fwy egnïol ac i archwilio tirweddau hardd y Cymoedd. Rwyf wedi dweud fy mod yn bwriadu cyhoeddi lleoliad cyntaf y pyrth hyn erbyn diwedd y flwyddyn a chyflawni cyfnod 1 erbyn gwanwyn 2019.

Dirprwy Lywydd, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y Cymoedd, rwy'n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd Parc Gwledig Cwm Dâr, Castell Caerffili, coedwig Cwmcarn, Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Byd Blaenafon—[ Torri ar draws.]—Ni allaf glywed hynna—Parc Cyfarthfa a Pharc Gwledig Bryngarw ymhlith y safleoedd porth hynny. Byddaf yn cyhoeddi safleoedd pellach yn yr wythnosau nesaf. Caiff y £7 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer datblygu Parc Rhanbarthol y Cymoedd, y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20, ei fuddsoddi yn y pyrth hyn a'r llwybrau eiconig sy'n cysylltu'r Cymoedd. Caiff y cynlluniau manwl ar gyfer defnyddio'r holl ddyraniad hwnnw eu cyhoeddi maes o law.

Un o nodweddion diffiniol tasglu'r Cymoedd yw ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Mae hi wedi bod yn bwysig iawn i bob un ohonom ni i siarad a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Dyna sut y cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu a'i lunio. Bydd y cyswllt hwnnw yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o weithredu. Bydd y tasglu hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd a gyda'r ddwy fargen ddinesig. Rydym ni eisiau sbarduno nid yn unig newid yn y Cymoedd, ond creu Llywodraeth mwy cydgysylltiedig sy'n cydweithio i ddarparu ar gyfer y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli. Mae'r cynllun cyflenwi hwn yn croesi ffiniau holl adrannau Llywodraeth Cymru a chyfrifoldebau pob un o'm cydweithwyr yn y Cabinet. Fe hoffwn i ddiolch i bob un o fy nghydweithwyr a'u hadrannau am eu hymrwymiad i'r agenda yma.

Dirprwy Lywydd, rydym ni eisiau i'r cynllun hwn ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd a'u disgwyliadau. Mae'r tasglu eisoes wedi dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i Gymoedd y De, a bydd yn parhau i wneud hynny.

14:45

You state that one of the defining features of the work of the ministerial taskforce for the south Wales Valleys has been its ongoing engagement with people living and working in the Valleys, stressing the importance of talking to and listening to people and local communities. Of course, co-production, which is in Welsh legislation, goes further, very much in terms of the sustainability duty and the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, and that involves designing and delivering services together, sharing power and working in equal partnership. So, does this go beyond talking to and listening to, and, if so, how are you ensuring that services are being designed and delivered on a parity of power basis with local people, local communities and local organisations? 

Of course, west Wales and the Valleys, which, unfortunately, has continued to produce the lowest value of goods and services per head of all UK regions or areas, includes four north Wales counties, and this programme only addresses those in the south Wales Valleys part of that. Why is that? Or is that because you believe, possibly correctly, that the initiatives in north Wales behind the growth deal, the growth vision, the growth bid, are ticking the boxes up there? And, if you do believe that, and that's the reason why the four north Wales counties have been excluded, what consideration have you given to the way the six north Wales counties, the business sector and academia have come together and, with a voice of unity, brought forward their proposals for that region and closing that prosperity gap there?

The Welsh Government's 'Our Valleys, Our Future' progress report 2018, I have to say, is a bit of eclectic mix of cobbled together Welsh Government programmes and policies. As it rightly says:

'more good jobs and opportunities to get skills are needed'

and that you're committed to exploring options to target investment and create new strategic hubs areas, which you refer to in your statement as:

'areas where public money is focused to provide opportunities for the private sector to invest and create new jobs.'

So, how has the private sector been incorporated within that, not just as someone to talk to and listen to, but in the context, as in north Wales, where those solutions are being co-produced for delivery together?

You refer in this report to the Welsh Government's knowledge and analytical services department identifying areas across south Wales Valleys where economic potential was greatest. Again, similarly, how have they worked with the business and third sectors to reach their conclusions, or have they simply done this talking to and listening to people?

You refer to the Welsh Government's employability plan, published in March this year. Of course, we understand it's not due to roll out until next year, although a range of employment programmes are now operating in Wales, such as the programmes being delivered through Remploy and the Department for Work and Pensions. We know from previous responses in this Chamber from Welsh Government members that those programmes have got Welsh Government input. So, can you tell us if and how, therefore, those UK schemes operating in Wales with Welsh Government input have been or will be incorporated into the work in 'Our Valleys, Our Future'?

You refer, in the report, to Ferndale developing a hub with a range of community-based services, and I love the sound of that—that sounds brilliant. But will you give consideration to the work of Dr Karen Sankey in Wrexham, whose work has been identified, I know, by the Welsh Government's health department, who's developed a community hub model to bring together and address the physical, psychological and social needs of people in that community, including those on the streets, as a best practice model?

You refer to account executives for secondary schools and working with Careers Wales. Again, how will that address the concern that was raised when Careers Wales was no longer able to facilitate pupils in schools going into the workplaces for practical work experience? Are we purely talking about within school, and, if so, how will that integrate with the businesses themselves?

Two very, very short questions remaining, and then I'm finished. South Wales metro—you refer to a long-term programme. How long term, really, are you thinking about with this, in dialogue with your colleagues? Because we keep hearing these things bandied around, and they do sound very positive, and, although I don't live in south Wales, I wish the people there every good wish, but when do you anticipate this being transport on the ground?

Finally, you refer in the report to the 20,000 affordable housing targets—of course, that includes home purchase, it includes intermediate rent, and provision by a range of providers. So, what collective housing needs assessment is at the core of this, not just to identify the numbers of units needed by people in the population, but the type and range of properties, whether that's social rent, intermediate rent, low-cost purchase or full market purchase or otherwise? Thank you.

Rydych chi'n dweud mai un o nodweddion diffiniol gwaith y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De fu ei ymgysylltiad parhaus gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, gan bwysleisio pwysigrwydd siarad gyda a gwrando ar bobl a chymunedau lleol. Wrth gwrs, mae cyd-gynhyrchu, sydd mewn deddfwriaeth yng Nghymru, yn mynd ymhellach, i raddau helaeth iawn o ran y ddyletswydd gynaliadwyedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae hynny'n cynnwys cyd-ddylunio a chyd-ddarparu gwasanaethau, rhannu grym a gweithio mewn partneriaeth gyfartal. Felly, a yw hyn yn mynd y tu hwnt i siarad a gwrando, ac, os felly, sut ydych chi'n sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu yn seiliedig ar gydraddoldeb grym gyda phobl leol, cymunedau lleol a sefydliadau lleol?

Wrth gwrs, mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sydd, yn anffodus, wedi parhau i gynhyrchu'r gwerth isaf o ran nwyddau a gwasanaethau y pen o holl ranbarthau  neu ardaloedd y DU, yn cynnwys pedair sir yn y gogledd, ac mae'r rhaglen hon yn mynd i'r afael â rhai yng Nghymoedd y De yn unig. Pam hynny? Neu a yw hynny oherwydd eich bod yn credu, o bosib yn gywir, bod y mentrau yn y gogledd y mae'r fargen dwf, y weledigaeth dwf, y cynnig twf yn seiliedig arnynt, yn cyflawni hynny? Ac, os ydych chi yn credu hynny, ac mai dyna'r rheswm pam mae pedair sir y gogledd wedi'u heithrio, pa ystyriaeth a roesoch chi i'r ffordd y mae chwe sir y gogledd, y sector busnes a'r byd academaidd wedi dod at ei gilydd a, gydag un llais, wedi cyflwyno eu cynigion ar gyfer y rhanbarth hwnnw a chau'r bwlch ffyniant yn y fan yna?

Mae adroddiad cynnydd 'Ein Cymoedd, ein Dyfodol' 2018 Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid imi ddweud, yn dipyn o gymysgedd dethol o bolisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru wedi eu taflu ynghyd. Fel y mae'n dweud yn gwbl briodol:

mae angen mwy o swyddi da a chyfleoedd i gael sgiliau,

a'ch bod wedi ymrwymo i archwilio'r dewisiadau i dargedu buddsoddiad a chreu ardaloedd canolbwynt strategol newydd, yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad fel

ardaloedd lle mae arian cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd.

Felly, sut mae'r sector preifat wedi'i gynnwys o fewn hynny, nid yn unig fel rhywun i siarad ag ef a gwrando arno, ond yng nghyd-destun, fel yn y gogledd, lle cydweithir ar yr atebion hynny ar gyfer darparu rhywbeth ar y cyd?

Rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad hwn at adran wybodaeth a gwasanaethau dadansoddol Llywodraeth Cymru gan nodi ardaloedd ledled Cymoedd y De lle'r oedd y mwyaf o botensial economaidd. Unwaith eto, yn yr un modd, sut maen nhw wedi gweithio gyda'r sector busnes a'r trydydd sector i lunio'u casgliadau, neu a ydyn nhw wedi gwneud hyn drwy ddim ond siarad a gwrando ar bobl?

Rydych chi'n cyfeirio at gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Wrth gwrs, rydym ni'n deall nad oes disgwyl iddo gael ei gyflwyno tan y flwyddyn nesaf, er bod amrywiaeth o raglenni cyflogaeth bellach ar waith yng Nghymru, megis y rhaglenni a gyflwynir drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau a Remploy. Rydym ni'n gwybod o ymatebion blaenorol yn y Siambr hon gan Aelodau Llywodraeth Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi cael mewnbwn i'r rhaglenni hynny. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni os a sut, felly, mae'r cynlluniau Prydeinig hynny sy'n gweithredu yng Nghymru gyda mewnbwn Llywodraeth Cymru wedi cael neu sut fyddan nhw'n cael eu hymgorffori i'r gwaith yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'?

Rydych chi'n cyfeirio, yn yr adroddiad, at Glynrhedynog yn datblygu canolfan ag amrywiaeth o wasanaethau cymunedol, ac rwyf wrth fy modd yn clywed hynny—mae hynny'n swnio'n wych. Ond a wnewch chi roi ystyriaeth i waith Dr Karen Sankey yn Wrecsam, y mae adran iechyd Llywodraeth Cymru, rwy'n gwybod, wedi cyfeirio at ei gwaith, sydd wedi datblygu model canolfan gymunedol i ddwyn ynghyd a mynd i'r afael ag anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol y bobl yn y gymuned honno, gan gynnwys y rhai ar y strydoedd, fel model arfer gorau?

Rydych chi'n cyfeirio at weithredwyr cyfrif ar gyfer ysgolion uwchradd ac at weithio gyda Gyrfa Cymru. Unwaith eto, sut fydd hynny'n ymdrin â'r pryder y soniwyd amdano pan nad oedd Gyrfa Cymru yn gallu hwyluso disgyblion mewn ysgolion i ymweld â gweithleoedd er mwyn cael profiad gwaith ymarferol mwyach? A ydym ni'n sôn am ddim ond o fewn ysgolion, ac, os felly, sut y bydd hynny'n integreiddio gyda'r busnesau eu hunain?

Dau gwestiwn byr iawn, iawn yn weddill, ac yna byddaf wedi gorffen. Metro de Cymru—rydych chi'n cyfeirio at raglen hirdymor. Pa mor hirdymor, mewn gwirionedd, ydych chi'n ei olygu yn hyn o beth, mewn trafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau? Oherwydd rydym ni wedi clywed sôn am y pethau hyn, ac maen nhw'n swnio'n gadarnhaol iawn, ac, er nad wyf i'n byw yn y De, rwy'n dymuno'r gorau i'r bobl sy'n byw yno, ond pryd ydych chi'n rhagweld y caiff hyn ei weithredu mewn gwirionedd?

Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio yn yr adroddiad at y targedau o 20,000 o dai fforddiadwy—wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys prynu cartref, mae'n cynnwys rhent canolradd, a darpariaeth gan ystod o ddarparwyr. Felly, pa asesiad ar y cyd o anghenion tai sy'n greiddiol i hyn, nid yn unig o ran canfod nifer yr unedau sydd eu hangen ar bobl yn y boblogaeth, ond y math a'r amrywiaeth o eiddo, boed hwnnw'n rhent cymdeithasol, rhent canolraddol, prynu'n rhad, am bris llawn y farchnad neu fel arall? Diolch.

14:50

Thank you very much. The Conservative spokesperson seems to have conspired to ask the same question half a dozen times. I'll try to answer it only once. In terms of the approach that we're taking, we are seeking to involve people from the point at which we begin through the point at which we develop our concepts and deliver those concepts. There isn't—. He asked on a number of occasions in that contribution about co-production in different areas of our work, but the whole of what we do is about working with people. It's not the ownership of Welsh Government; it is Welsh Government acting as a catalyst, bringing people together to enable us to use not only the power of Government but the creativity of people and the ambition and vision of people living in and throughout the Valleys.

He asked a specific question on UK schemes and UK employability schemes. I'm disappointed that he doesn't understand that the regional manager for the DWP is actually a member of the taskforce. So, all of these matters are actually hardwired into our discussions and our debates. This is a fundamental part of what we're doing. He says it's an eclectic mix of schemes—people are creative, and creativity isn't always clean and tidy, I'm afraid. But let me say this to him: we have a number of entrepreneurs represented on the taskforce as well, and the work streams that we are developing on the taskforce themselves bring people together and enable people to make a contribution and to play different roles.

So, this isn't a matter of compartmentalising our work in the way that the Conservative spokesperson has sought to do; this is fundamental, about what the taskforce actually is at it roots, at its heart. In terms of the way that we're taking things forward, we are seeking to be more inventive or creative in the way we talk and the way we communicate with people. I've invested a great deal of time, whether it's in public meetings, talking to smaller groups of people—. Last week, I was in Blaenavon doing a Facebook live event, talking to people and answering their questions on social media. We do this in a number of different ways over a period of time.

I do notice that the Conservative spokesperson for these matters tries on a number of occasions in his contributions to this place to pit parts of Wales against each other—region against region, community against community. I wish that he would desist in doing so. It diminishes him and his contributions. This is not a matter of the Valleys of south Wales having any sort of preferential treatment over another part of the country—this is about addressing poverty; it is about addressing the poverty that exists in these places.

He's a member of a party that has actively contributed to the creation of that poverty. For those of us who were brought up in the Valleys of south Wales, we saw what Conservative Governments—successive UK Conservative Governments—did to us. They did nothing to support our communities, but everything to undermine our communities. [Interruption.] They did everything to take away the economic base of what we were seeking to do. This is about redressing that balance. This is about redressing that balance and tackling that poverty. I hear him, Deputy Presiding officer, calling from his seat. This isn't about setting north against south or east against west. When he does that, he diminishes himself. And I will not allow him to do that to this scheme or to diminish what we are seeking to do. This is not about pitting community against community, it's about tackling poverty, and I know that the Conservatives have difficulty with that concept, but it's what this Government was elected to do. 

Diolch yn fawr iawn. Mae'n ymddangos bod llefarydd y Ceidwadwyr wedi cynllwynio i ofyn yr un cwestiwn hanner dwsin o weithiau. Fe wnaf i geisio ei ateb unwaith yn unig. O ran sut yr ydym ni'n mynd ati, rydym ni'n ceisio cynnwys pobl o'r adeg lle'r ydym ni'n dechrau hyd at yr adeg y byddwn ni'n datblygu ein cysyniadau ac yn cyflwyno'r cysyniadau hynny. Does dim—. Gofynnodd ar nifer o achlysuron yn y cyfraniad hwnnw am gyd-gynhyrchu yng ngwahanol feysydd ein gwaith, ond mae'r cyfan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ymwneud â gweithio gyda phobl. Nid yw'n eiddo i Lywodraeth Cymru; mae ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â phobl at ei gilydd er mwyn inni allu defnyddio nid yn unig grym Llywodraeth ond creadigrwydd pobl ac uchelgais a gweledigaeth pobl sy'n byw yn y Cymoedd a ledled y Cymoedd.

Gofynnodd gwestiwn penodol ar gynlluniau'r DU a chynlluniau cyflogadwyedd y DU. Rwy'n siomedig nad yw'n deall bod rheolwr rhanbarthol Yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd yn aelod o'r tasglu. Felly, mae'r holl faterion hyn yn rhan greiddiol mewn gwirionedd o'n trafodaethau a'n dadleuon. Mae hyn yn rhan sylfaenol o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n dweud ei fod yn gymysgedd dethol o gynlluniau—mae pobl yn greadigol, ac nid yw creadigrwydd bob amser yn lân ac yn daclus, mae arnaf i ofn. Ond gadewch i mi ddweud hyn wrtho; mae gennym ni nifer o entrepreneuriaid wedi eu cynrychioli ar y tasglu hefyd, ac mae'r ffrydiau gwaith yr ydym ni'n eu datblygu ar y tasglu eu hunain yn dod â phobl at ei gilydd ac yn galluogi pobl i wneud cyfraniad ac i ymgymryd â swyddogaethau gwahanol.

Felly, nid yw hyn yn fater o rannu ein gwaith yn gategorïau, yn y ffordd y mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi ceisio ei wneud; mae hyn yn sylfaenol ynglŷn â beth mewn gwirionedd sydd gan y tasglu wrth ei wraidd, wrth ei galon. O ran y ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â phethau, rydym ni'n ceisio bod yn fwy dyfeisgar neu greadigol yn y ffordd yr ydym ni'n siarad ac yn y ffordd yr ydym ni'n cyfathrebu â phobl. Rwyf wedi buddsoddi llawer o amser, boed hynny mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn siarad â grwpiau llai o bobl—. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i ym Mlaenafon yn cynnal digwyddiad Facebook byw, yn siarad â phobl ac yn ateb eu cwestiynau ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym ni'n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd gwahanol dros gyfnod o amser.

Rwyf yn sylwi bod llefarydd y Ceidwadwyr ar gyfer y materion hyn yn ceisio sawl gwaith yn ei gyfraniadau yn y fan yma i roi rhannau o Gymru benben â'i gilydd—rhanbarth yn erbyn rhanbarth, cymuned yn erbyn cymuned. Byddai'n dda gennyf petai'n ymatal rhag gwneud hynny. Mae'n bychanu ei hun a'i gyfraniadau. Nid yw hyn yn fater o Gymoedd y De yn cael unrhyw fath o driniaeth ffafriol dros ran arall o'r wlad—mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â thlodi; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli yn y lleoedd hyn.

Mae'n aelod o blaid sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at greu'r tlodi hwnnw. I'r rhai ohonom ni a fagwyd yng Nghymoedd y De, rydym ni wedi gweld beth wnaeth Llywodraethau Ceidwadol—Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU—i ni. Ni wnaethon nhw ddim byd i gefnogi ein cymunedau, ond popeth i danseilio ein cymunedau. [Torri ar draws.] Fe wnaethon nhw bopeth i gael gwared ar y sylfaen economaidd yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae hyn ynglŷn ag unioni'r cydbwysedd hwnnw. Mae hyn ynglŷn ag unioni'r cydbwysedd hwnnw a mynd i'r afael â'r tlodi hwnnw. Rwy'n ei glywed, Dirprwy Lywydd, yn galw o'i sedd. Nid yw hyn ynglŷn â gosod y gogledd yn erbyn y de neu'r dwyrain yn erbyn y gorllewin. Pan fo'n gwneud hynny, mae'n bychanu ei hun. Ac ni fyddaf yn caniatáu iddo wneud hynny i'r cynllun hwn nac i fychanu'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Nid oes a wnelo hyn â gosod cymuned yn erbyn cymuned, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi, ac rwy'n gwybod bod y Ceidwadwyr yn cael anhawster gyda'r cysyniad hwnnw, ond dyna beth yr etholwyd y Llywodraeth hon i'w wneud.

14:55

I'm not convinced that this statement brings anything new to the table today, and I think the evidence for that is the attack that the Cabinet Secretary just made. Cabinet Secretary, you always seem to attack when you don't have any answers.

Anyway, you finished your statement today by saying that the delivery plan in front of us today cuts across all Welsh Government departments and all of your Cabinet colleagues' portfolios, so I'll use this opportunity to ask some questions today about how the Welsh Government's wider policy agenda affects the ambitions that you set out in your plan. 

A major element of supporting priority 1 of the delivery plan, which is to create good-quality jobs and the skills to do them, is, as you mention, the Welsh Government's childcare offer. Now, this offer will provide 30 hours of free early education and childcare to working parents of three and four-year-olds for 48 weeks of the year. As my Plaid Cymru colleague Llyr Gruffydd has consistently argued, by limiting the offer of free childcare provision to working parents only, you are actively creating another barrier for economically inactive parents from returning to work. This has also been supported by the children's commissioner, who stated that

'children whose parents are not employed will fall even further behind their peers if they miss out on this provision.'

Your target of helping 7,000 economically inactive and unemployed people in the Valleys into work was so that you could bring the Valleys parts of the local authorities in question up to the same levels as the rest of Wales. Cabinet Secretary, your Government's childcare offer will not support this aim. In fact, it'll make the situation in the Valleys even worse, leading to even more families being left behind. Therefore, as a member of the Government, what representations have you made to your colleagues to urge them to expand the childcare offer to all parents in Wales?

The problem in many of the Valleys communities is not the number of jobs, it's the quality of those jobs. It's the low-skilled and low-paid nature of many of those jobs and the fact that way too many of them are insecure jobs. The target of supporting 7,000 people into employment by 2021 is, of course, to be welcomed. However, without bringing new industries and developing existing ones to grow further, you may well support 7,000 people into employment on one hand, but the insecure nature of the labour market in the Valleys might well result in those job losses elsewhere in the same area. Therefore, can the Cabinet Secretary provide a target figure of how many jobs will be secured in the period up until 2021 as well?

Last week, the Welsh Government lost a vote in the Assembly calling for no more cuts to further education and lifelong learning, a sector that has been a persistent target for the cuts, now, over many, many years. If we are serious about reversing the long-term decline in the Welsh economy and raising skills, incomes and productivity, then the further education sector is absolutely crucial. A major element of the taskforce's delivery plan skills agenda will depend heavily on the Welsh Government's employability plan, for example, which will place demands and expectations on colleges and the wider skills and learning sector as crucial delivery partners. However, in reality, nobody can take these plans and sentiments forward when the funding isn't there to support these priorities. Therefore, how confident are you that the funding is there to deliver the training required to upskill the Valleys' labour force?

Now, I'm sure I don't need to explain to anyone how difficult it is to travel on the Valleys lines at the moment. It simply cannot carry on as things stand. That's why I welcome the development funding secured to commission the feasibility and design of new integrated transport hubs to ease travel opportunities into the new strategic hubs. Specifically, I welcome the commitment to looking at improvements in infrastructure as part of the metro development. Much of the focus with the metro development with regard to the Valleys is how best to connect Valleys communities with Cardiff, instead of considering how we connect the Valleys to each other. The idea for the Valleys circle line was not included in the next phase of the metro development. Therefore, can the Cabinet Secretary commit to ensuring that part of the development funding will go towards the feasibility of pursuing the creation of a circle line for the Valleys?  

Nid wyf yn argyhoeddedig bod y datganiad hwn yn cyflwyno unrhyw beth newydd i'n sylw ni heddiw, ac rwy'n credu mai'r dystiolaeth o hynny yw'r ymosodiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet rai munudau'n ôl. Ysgrifennydd Cabinet, mae'n ymddangos eich bod wastad yn ymosod pan nad oes gennych chi unrhyw atebion.

Beth bynnag, fe wnaethoch chi orffen eich datganiad heddiw drwy ddweud bod y cynllun cyflawni sydd ger ein bron heddiw yn cynnwys holl adrannau Llywodraeth Cymru a holl bortffolios eich cydweithwyr yn y Cabinet, felly fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ofyn rhai cwestiynau heddiw ynglŷn â sut mae agenda polisi ehangach Llywodraeth Cymru yn effeithio ar yr uchelgeisiau a nodwyd gennych chi yn eich cynllun.

Elfen bwysig o gefnogi blaenoriaeth 1 y cynllun cyflawni, sef creu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud nhw, yw, fel y soniwch chi, cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'r cynnig hwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed am 48 o wythnosau'r flwyddyn. Fel y mae fy nghyd-Aelod Plaid Cymru Llyr Gruffydd wedi dadlau'n gyson, drwy gyfyngu'r cynnig o ddarpariaeth gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn unig, rydych chi'n creu rhwystr sylweddol arall i rieni economaidd anweithgar rhag dychwelyd i'r gwaith. Mae'r Comisiynydd Plant wedi cefnogi hyn hefyd, a dywedodd y bydd

plant rhieni nad ydyn nhw'n gweithio yn llithro ymhellach fyth ar ôl eu cyfoedion os cânt eu heithrio o'r ddarpariaeth hon.

Diben eich targed o helpu 7,000 o bobl ddi-waith ac economaidd anweithgar yn y Cymoedd i gael gwaith oedd er mwyn ichi allu dod â'r rhannau hynny o'r awdurdodau lleol dan sylw sy'n cynnwys y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, ni fydd cynnig gofal plant eich Llywodraeth yn cefnogi'r nod hwn. Yn wir, bydd yn gwneud y sefyllfa yn y Cymoedd hyd yn oed yn waeth, gan arwain at hyd yn oed mwy o deuluoedd yn cael eu hesgeuluso. Felly, fel aelod o'r Llywodraeth, pa sylwadau a ydych chi wedi eu gwneud i'ch cyd-Aelodau i bwyso arnyn nhw i ehangu'r cynnig gofal plant i bob rhiant yng Nghymru?

Y broblem yn llawer o gymunedau'r Cymoedd yw nid nifer y swyddi, ond ansawdd y swyddi hynny. Mae'n ymwneud â natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny a'r ffaith bod llawer gormod ohonyn nhw yn swyddi ansicr. Mae'r targed o gefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith erbyn 2021, wrth gwrs, i'w groesawu. Fodd bynnag, heb ddod â diwydiannau newydd a datblygu'r rhai sy'n bodoli eisoes i dyfu ymhellach, mae'n bosib iawn y byddwch chi'n cefnogi 7,000 o bobl i gael gwaith ar un llaw, ond gallai natur ansicr y farchnad lafur yn y Cymoedd arwain at golli'r swyddi hynny mewn mannau eraill yn yr un ardal. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi ffigur targed o faint o swyddi a gaiff eu sicrhau yn ystod y cyfnod hyd at 2021 hefyd?

Yr wythnos diwethaf, collodd Llywodraeth Cymru bleidlais yn y Cynulliad yn galw am ddim mwy o doriadau i addysg bellach a dysgu gydol oes, sector sydd wedi bod yn darged parhaus ar gyfer y toriadau, erbyn hyn, dros lawer iawn o flynyddoedd. Os ydym ni o ddifrif am wrthdroi'r dirywiad hirdymor yn economi Cymru a chodi sgiliau, incwm a chynhyrchiant, yna mae'r sector addysg bellach yn gwbl hanfodol. Bydd elfen fawr o agenda sgiliau cynllun cyflawni'r tasglu yn dibynnu'n helaeth ar gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, er enghraifft, a fydd yn gosod gofynion a disgwyliadau ar y colegau a'r sector dysgu a sgiliau ehangach fel partneriaid cyflawni hollbwysig. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, ni all neb ddwyn y maen i'r wal gyda'r teimladau a'r cynlluniau hyn pan nad yw'r cyllid ar gael i gefnogi'r blaenoriaethau hyn. Felly, pa mor ffyddiog ydych chi fod arian ar gael i ddarparu'r hyfforddiant gofynnol i uwchsgilio gweithlu'r Cymoedd?

Nawr, rwy'n sicr nad oes angen imi esbonio i neb pa mor anodd yw hi i deithio ar reilffyrdd y Cymoedd ar hyn o bryd. Ni all hyn barhau fel y mae pethau ar hyn o bryd. Dyna pam rwy'n croesawu'r arian datblygu a sicrhawyd i gomisiynu dichonoldeb a dyluniad canolfannau trafnidiaeth integredig newydd i hwyluso cyfleoedd teithio i'r canolbwyntiau strategol newydd. Yn benodol, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i edrych ar welliannau yn y seilwaith yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r metro. Mae llawer o'r pwyslais gyda datblygiad y metro yn y Cymoedd ynglŷn â sut orau i gysylltu cymunedau yn y Cymoedd â Chaerdydd, yn hytrach nag ystyried sut yr ydym ni'n cysylltu'r Cymoedd â'i gilydd. Ni chynhwyswyd y syniad ar gyfer llinell gylch y Cymoedd yn ystod cam nesaf datblygiad y metro. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i sicrhau y bydd rhan o'r cyllid datblygu yn mynd tuag at ddichonoldeb parhau i ystyried creu llinell gylch ar gyfer y Cymoedd?  

15:00

I'm grateful to the Plaid Cymru spokesperson for her questions. I reflect and observe that when I answered questions on previous occasions—I think, last year—I was attacked by Plaid Cymru for placing in the plan policy issues that were directly targeted at the Valleys, and I notice that this afternoon she's decided to major on all of those policy issues that aren't directly targeted at the Valleys. I reflect on that because—[Interruption.] I said in the first paragraph, because—

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chwestiynau. Rwy'n meddwl yn ôl ac yn sylwi pan atebais gwestiynau ar achlysur blaenorol—rwy'n credu, y llynedd—ymosodwyd arnaf gan Blaid Cymru am gynnwys materion polisi yn y cynllun a oedd wedi eu targedu'n uniongyrchol at y Cymoedd, a sylwaf y prynhawn yma ei bod hi wedi penderfynu canolbwyntio ar yr holl faterion polisi hynny nad ydyn nhw'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar y Cymoedd. Rwy'n pendroni ynglŷn â hynny oherwydd—[torri ar draws.] Dywedais yn y paragraff cyntaf, oherwydd—

Can you make him answer the questions, Deputy Presiding Officer, rather than—[Inaudible.

A allwch chi wneud iddo ateb y cwestiynau, Dirprwy Lywydd, yn hytrach na— [Anghlyw.]

It's a statement, and the Minister has an opportunity to answer the questions in the way he wants to answer them. If that's not acceptable, then there are other methods that you could use. 

Datganiad ydyw, ac mae cyfle i'r Gweinidog ateb y cwestiynau yn y ffordd y mae ef eisiau eu hateb. Os nad yw hynny'n dderbyniol, yna mae dulliau eraill y gallech chi eu defnyddio.

I will say to the Member that I listened to her questions, and perhaps she might listen to my answers. 

In terms of the childcare offer, it is a manifesto commitment and a commitment of the programme for government for this Government, and it will be delivered in the way that is being described, and it will continue to be delivered in the way that's described. It is, I believe, one of the most ambitious and generous childcare offers anywhere in the United Kingdom, and I make no apology for investing in childcare. And as a Minister at the beginning of this Government, I played my part in developing the opportunities for the childcare offer, and I saw the difference that it was making to people's lives up and down the Valleys and elsewhere.

Let me also say this to the Member: if she's read the updated delivery plan, she will know that we're also going further than simply offering childcare facilities and opportunities. We're also addressing the adverse childhood experiences that many children growing up in the Valleys will face in their lives. We're also talking to the police about how we can ensure that it's done in a holistic way, and we're looking at addressing the experiences of children growing up in, sometimes, some very difficult households. So, we are investing not simply in the childcare offer—and I reject her criticisms of it—but we're actually investing in a more holistic approach to the early years as well. So, we're going further than the suggestion she has made.

She criticises us for adopting the target of 7,000 people into work, rather than, I think, the point that she was making was this, creating a job creation target. What this target does is very, very clear. It ensures that the Valleys have the same economic profile and social profile as other parts of the country. I've said, Deputy Presiding Officer, in my answer to the Conservative spokesperson that the reason we established this taskforce is to address the poverty that exists in the Valleys of south Wales, and it is people who are affected by that poverty, and it is people who we are seeking to ensure are able to get back into work, and to have the sort of work that we want them to have.

I recognise very well—I recognise from my own constituency and I recognise from this work—the impact of underemployment in the Valleys, and the impact of poorly paid employment in the Valleys. We recognise that. We recognise—and that is why this Government is committed to creating Wales as a fair work nation so that we do work with business, and we do work with all sectors of the economy, and we invest in the foundational economy to actually create the work for people. But I defend us having a target of 7,000 people becoming economically active in this way, because that is what we've been advised will do most to invest in the people and the communities of the Valleys of south Wales. 

We do have the funding in place for this, and we do have the funding in place for the training opportunities and for the metro. But let me say this—let me be absolutely clear in doing this—what we've been trying to do over the last year has been to ensure that we not only hardwire accountability into what we do, but we actually hardwire our targets into that as well so that Members are able to come here to question me on what we're doing and what we're achieving. But that has to be done on the basis of the plans that we are publishing and the targets that we are setting. I believe that the targets are ambitious, visionary and demonstrate that it is this Government and Welsh Labour that have a very real, ambitious vision for the Valleys of south Wales.

Fe wnaf i ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi gwrando ar ei chwestiynau, ac efallai y gwnaiff hi wrando ar fy atebion i.

O ran y cynnig gofal plant, mae'n ymrwymiad maniffesto ac yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu ar gyfer y Llywodraeth hon, ac fe gaiff ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir, a bydd yn parhau i gael ei ddarparu yn y ffordd a ddisgrifir. Mae, rwy'n credu, yn un o'r cynigion gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ac nid wyf yn ymddiheuro am fuddsoddi mewn gofal plant. Ac fel Gweinidog ar ddechrau'r Llywodraeth hon, fe wnes i chwarae fy rhan yn datblygu'r cyfleoedd ar gyfer y cynnig gofal plant, a gwelais y gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud i fywydau pobl ar hyd a lled y Cymoedd ac mewn mannau eraill.

Gadewch imi ddweud hyn hefyd wrth yr Aelod: Os yw hi wedi darllen y cynllun cyflawni diwygiedig, bydd hi'n gwybod ein bod ni hefyd yn mynd ymhellach na dim ond cynnig cyfleusterau a chyfleoedd gofal plant. Rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â phrofiadau plentyndod andwyol y bydd llawer o blant sy'n cael eu magu yn y Cymoedd yn eu hwynebu yn eu bywydau. Rydym ni hefyd yn siarad â'r heddlu ynghylch sut y gallwn ni sicrhau y gwneir hynny mewn ffordd gynhwysfawr, ac rydym ni'n bwriadu mynd i'r afael â phrofiadau plant sy'n cael eu magu, weithiau, mewn rhai cartrefi anodd iawn. Felly, rydym ni yn buddsoddi nid yn unig yn y cynnig gofal plant—ac rwy'n gwrthod ei beirniadaeth ohono—ond mewn gwirionedd rydym ni'n buddsoddi mewn dull mwy cynhwysfawr o ymdrin â'r blynyddoedd cynnar hefyd. Felly, rydym ni'n mynd ymhellach na'r awgrym y mae hi wedi ei wneud. 

Mae hi'n ein beirniadu ni am fabwysiadu targed o 7,000 o bobl i gael gwaith, yn hytrach na, rwy'n credu mai'r sylw yr oedd hi yn ei wneud oedd hyn, creu targed creu swyddi. Mae'r hyn y mae'r targed hwn yn ei wneud yn glir iawn, iawn. Mae'n sicrhau bod gan y Cymoedd yr un proffil economaidd a'r proffil cymdeithasol â rhannau eraill o'r wlad. Rwyf wedi dweud, Dirprwy Lywydd, yn fy ateb i lefarydd y Ceidwadwyr mai'r rheswm pam yr ydym ni wedi sefydlu'r tasglu hwn yw er mwyn trechu'r tlodi sy'n bodoli yng Nghymoedd y De, a'r bobl yr effeithir arnyn nhw gan y tlodi hwnnw, a'r bobl yr ydym ni'n ceisio sicrhau y gallan nhw ddychwelyd i'r gwaith, ac i gael y math o waith yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei gael.

Rwy'n ymwybodol iawn—rwy'n ymwybodol o fy etholaeth fy hun ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith hwn—o effaith tangyflogaeth yn y Cymoedd, ac effaith gwaith cyflogedig gwael yn y Cymoedd. Rydym ni'n cydnabod hynny. Rydym ni'n cydnabod—a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i sicrhau fod Cymru yn genedl waith teg fel ein bod ni yn gweithio gyda'r byd busnes, a'n bod ni yn gweithio gyda phob sector o'r economi, ac yn buddsoddi yn yr economi sylfaenol i greu gwaith i bobl mewn gwirionedd. Ond rwy'n amddiffyn y targed o 7,000 o bobl yn dod yn economaidd weithgar yn y modd hwn, oherwydd dyna beth yn ôl y cyngor a gawsom ni fyddai'n gwneud y mwyaf i fuddsoddi ym mhobl a chymunedau Cymoedd y De.

Mae gennym ni'r arian ar gyfer hyn, ac mae gennym ni'r cyllid ar gyfer y cyfleoedd hyfforddi ac ar gyfer y metro. Ond gadewch i mi ddweud hyn—gadewch imi fod yn gwbl glir wrth wneud hyn—yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yw sicrhau ein bod ni nid yn unig yn rhoi atebolrwydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn cysylltu ein targedau â hynny hefyd fel bod Aelodau yn gallu dod yma i holi ynghylch beth yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n ei gyflawni. Ond mae'n rhaid gwneud hynny ar sail y cynlluniau yr ydym ni'n eu cyhoeddi a'r targedau yr ydym ni yn eu gosod. Rwy'n credu bod y targedau yn uchelgeisiol a blaengar ac yn dangos mai'r Llywodraeth hon a Llafur Cymru sydd â gweledigaeth uchelgeisiol, wirioneddol ar gyfer Cymoedd y De.

15:05

On 16 November, I visited Welsh ICE, which is based in Caerphilly business park, and it was recently awarded Welsh Government funding to become a regional enterprise hub to encourage and support entrepreneurship, linking with all kinds of partners from universities, local businesses, colleges and the Development Bank of Wales. They're also linking up with satellites, who are to be confirmed, according to the development plan, and I'd like to hear more about that.

If it's going to be successful, Welsh ICE wants to support the Minister's ambition for connectivity, which has already been referred to, and help identify key partners. When I visited Welsh ICE, they showed me an infographic that demonstrated the businesses that were linking in with them. It was interesting that it was a kind of upside-down T shape in the fact that it was businesses from along the M4 corridor and then the Rhymney valley linking into Cardiff and not much outside of that area. So, there's certainly a challenge to get those different communities linking into Welsh ICE. I particularly want to see businesses from Bargoed and Senghenydd linking into Welsh ICE, but also from across those Valleys communities. Overwhelmingly, we see businesses interested in the southern parts; we need to connect the northern Valleys.

So, what can the Welsh Government do to encourage this? I notice in his statement that he mentions a focused business support campaign. Can he just elaborate on what he means by that and also what he means by the peer-to-peer network that he referred to in his statement? Some elaboration on those things also would assist Members in understanding how we're going to develop those northern Valleys communities and businesses.

Ar 16 Tachwedd, ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, sydd ym Mharc Busnes Caerffili, y dyfarnwyd arian Llywodraeth Cymru iddi'n ddiweddar er mwyn iddi ddod yn ganolfan fenter ranbarthol i annog a chefnogi entrepreneuriaeth, gan gysylltu â phob math o bartneriaid o'r prifysgolion, busnesau lleol, colegau a Banc Datblygu Cymru. Mae hefyd yn cysylltu â chanolfannau ategol, sydd i'w cadarnhau, yn ôl y cynllun datblygu, ac fe hoffwn i glywed mwy am hynny.

Os yw'n mynd i fod yn llwyddiannus, mae angen i Ganolfan Arloesi Menter Cymru gefnogi uchelgais y Gweinidog ar gyfer cysylltedd, y cyfeiriwyd ato eisoes, a helpu i adnabod partneriaid allweddol. Pan ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, fe wnaethon nhw ddangos ffeithlun imi a oedd yn dangos y busnesau a oedd yn cysylltu â nhw. Roedd yn ddiddorol ei fod yn fath o siâp T ar ei ben i lawr oherwydd y ffaith yw mai busnesau ar hyd coridor yr M4 ac yna Cwm Rhymni oedd yn cysylltu â Chaerdydd, a dim llawer y tu allan i'r ardal honno. Felly, ceir her yn sicr i gael y cymunedau gwahanol hynny i gysylltu â Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Rwyf yn arbennig eisiau gweld busnesau o Fargoed a Senghennydd yn cysylltu â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, ond hefyd busnesau o gymunedau ledled y Cymoedd. Rydym ni'n gweld bod gan y mwyafrif helaeth o fusnesau ddiddordeb yn y rhannau deheuol; mae angen inni gysylltu'r Cymoedd gogleddol.

Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog hyn? Sylwaf yn ei ddatganiad ei fod yn sôn am ymgyrch benodol i gefnogi busnesau. A all ymhelaethu ychydig ynglŷn â beth y mae'n ei olygu wrth hynny a hefyd beth y mae'n ei olygu wrth y rhwydwaith cymheiriaid y cyfeiriodd ato yn ei ddatganiad? Byddai ymhelaethu ar y pethau hynny hefyd yn helpu Aelodau i ddeall sut yr ydym ni'n mynd i ddatblygu cymunedau a busnesau yn y Cymoedd gogleddol.

The development of investment in the northern Valleys is a point that's been well made by the Member for Caerphilly over his time here, and it's something I clearly share for reasons that are clear. We have discussed the Rhymney valley with the Member for Merthyr Tydfil and Rhymney as well. It is important that we're able to reach out beyond the southern parts of the Valleys of south Wales, and that's why we are putting in place a development plan that specifically looks at maximising the impact of the A465 dualling project, and we need to be able to deliver that over the coming six months or so.

In terms of Welsh ICE, I've clearly met with Welsh ICE, and we do have a representative on the taskforce who's taking forward the plans on entrepreneurship. What we hope to be able to do is use the model of Welsh ICE to be able to extend that to parts of the region in the south-east of Wales where we haven't got a similar sort of facility, and what I hope we'll be able to do is use individuals who are entrepreneurs in their own right to mentor and work with businesses in order to deliver the sort of help and support that is tailored for each individual business. So, it's very much a granular approach to ensuring that people who are establishing and running small businesses have exactly the support that they need—not the support that we believe that they need—and that's absolutely essential.

What I hope we'll be able to do is use the model of Welsh ICE in Caerphilly to be able to develop exactly that approach in other parts of the south-east of Wales.

Mae datblygu buddsoddiad yn y Cymoedd gogleddol yn sylw sydd wedi'i grybwyll droeon gan yr Aelod dros Gaerffili yn ystod ei amser yma, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn amlwg yn ei rannu am resymau sy'n glir. Rydym ni wedi trafod Cwm Rhymni gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni hefyd. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gallu ymestyn allan y tu hwnt i rannau deheuol Cymoedd y De, a dyna pam ein bod ni'n rhoi cynllun datblygu ar waith sy'n edrych yn benodol ar fanteisio i'r eithaf ar effaith prosiect deuoli ffordd yr A465, ac mae angen inni allu darparu hynny yn ystod y chwe mis nesaf.

O ran Canolfan Arloesi Menter Cymru, rydw i wedi cyfarfod â Chanolfan Arloesi Menter Cymru yn amlwg, ac mae gennym ni gynrychiolydd ar y tasglu sy'n bwrw ymlaen â'r cynlluniau ar entrepreneuriaeth. Yr hyn yr ydym ni'n gobeithio gallu ei wneud yw defnyddio model Canolfan Arloesi Menter Cymru i allu ymestyn hynny i rannau o'r rhanbarth yn y de-ddwyrain lle nad oes gennym ni gyfleuster tebyg, a'r hyn yr wyf i'n ei obeithio y gallwn ni ei wneud yw defnyddio unigolion sy'n entrepreneuriaid yn eu hawl eu hunain i fentora a gweithio gyda busnesau er mwyn darparu'r math o gymorth a chefnogaeth sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob busnes unigol. Felly, mae ynglŷn â mynd ati gan bwyll i sicrhau bod pobl sy'n sefydlu a rhedeg busnesau bach yn cael yr union gymorth sydd ei angen arnyn nhw—nid y cymorth yr ydym ni'n credu sydd ei angen arnyn nhw—ac mae hynny'n gwbl hanfodol.

Yr hyn yr wyf i yn gobeithio y gallwn ni ei wneud yw defnyddio model Canolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili i allu mynd ati yn yr un modd yn union mewn rhannau eraill o'r de-ddwyrain. 

I have two more speakers whose areas have been, I think, named in the Minister's statement. Therefore, I will take them, but if they can be brief, that would be helpful. Vikki Howells.

Mae gennyf ddau siaradwr arall y mae eu meysydd, rwy'n credu, wedi cael eu crybwyll yn natganiad y Gweinidog. Felly, rhoddaf gyfle iddyn nhw ymateb, ond os gallan nhw fod yn gryno, byddai hynny o gymorth. Vikki Howells.

Diolch, Dirprwy Lywydd, and thank you, Cabinet Secretary. I welcome your comments about using the Heads of the Valley corridor as a tool for economic development. The former Tower colliery site in Hirwaun is ideally situated for these purposes and is, as you will know, currently undergoing restoration. What discussions have you had with the team at Tower Regeneration about how the Valleys taskforce can help to exploit the untapped potential of this site?

Secondly, it was good to hear about the discovery gateways and the mention of Dare Valley Country Park in particular. I agree with you—I think it would be an excellent location for that. I'm glad to see that it will also be backed up by a definite budget line. When will detailed plans for this be available?

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch defnyddio coridor Blaenau'r Cymoedd fel arf ar gyfer datblygu economaidd. Mae hen safle Glofa'r Tŵr yn Hirwaun yn ddelfrydol ar gyfer y dibenion hyn ac, fel y gwyddoch chi, mae'n cael ei adfer ar hyn o bryd. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r tîm sy'n adfywio Glofa'r Tŵr ynglŷn â sut y gall tasglu'r Cymoedd helpu i fanteisio ar botensial enfawr y safle hwn?

Yn ail, roedd yn dda clywed am y pyrth darganfod a'r sôn am Barc Gwledig Cwm Dâr yn benodol. Rwy'n cytuno â chi—rwy'n credu y byddai'n lleoliad ardderchog ar gyfer hynny. Rwy'n falch o weld y bydd hefyd yn ategu hyn drwy neilltuo llinell iddo yn y gyllideb. Pryd fydd cynlluniau manwl ar gyfer hyn ar gael?

15:10

I hope they'll be available early in the new year—in the next new year. I would expect that we would be able to make more detailed announcements in January or February of 2019. I certainly want us to be in a position to be able to make those investments in the current financial year. So, I want us to move ahead with some pace on that. I also want to be able to announce further discovery sites in the coming weeks, potentially before Christmas, but certainly early in the new year, in which we'll be able to build upon the basis upon which we're able to make these announcements today. So, I want to move with a fair degree of pace to move forward with this. I also believe that we need to create a far greater structure for the Valleys regional park in terms of how it will actually deliver what its potential will be, and I hope that we can put a structure in place immediately after Christmas as well, and certainly in the first quarter of 2019.

In terms of Tower colliery, Tower colliery were represented at the seminar we had, which kicked off, if you like, the work that we're doing on the A465 corridor in the spring. They've clearly been kept in touch with the work that is being undertaken by the group of people I've invited to develop an economic development plan for the Heads of the Valleys, and I agree with the Member for the Cynon Valley, the Tower colliery site is an important site, and I see it as being an important strategic site for the future of the A465 corridor. 

Rwy'n gobeithio y byddan nhw ar gael yn fuan yn y flwyddyn newydd—yn y flwyddyn newydd nesaf. Byddwn yn disgwyl y byddem ni'n gallu gwneud cyhoeddiadau manylach ym mis Ionawr neu Chwefror 2019. Rwy'n sicr eisiau inni fod mewn sefyllfa i allu gwneud y buddsoddiadau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Felly, rwyf eisiau inni symud ymlaen yn weddol gyflym yn hynny o beth. Rwyf hefyd eisiau gallu cyhoeddi safleoedd darganfod pellach yn yr wythnosau nesaf, o bosib cyn y Nadolig, ond yn sicr yn gynnar yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni'n gallu adeiladu ar y sail yr ydym ni'n gallu gwneud y cyhoeddiadau hyn heddiw. Felly, rwyf eisiau bwrw iddi yn weddol gyflym i symud ymlaen â hyn. Credaf hefyd fod angen i ni greu strwythur mwy o lawer ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd o ran sut y bydd yn cyflawni mewn gwirionedd beth fydd ei botensial, ac rwy'n gobeithio y gellir rhoi strwythur ar waith ar unwaith ar ôl y Nadolig hefyd, ac yn sicr yn chwarter cyntaf 2019.

O ran Glofa'r Tŵr, cynrychiolwyd Glofa'r Tŵr yn y seminar a oedd gennym ni, a sbardunodd, os mynnwch chi, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar goridor yr A465 yn y gwanwyn. Maen nhw'n amlwg wedi cael gwybod y diweddaraf am y gwaith a wneir gan y grŵp o bobl yr wyf wedi eu gwahodd i ddatblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, ac rwy'n cytuno gyda'r Aelod dros Gwm Cynon, bod safle Glofa'r Tŵr yn safle pwysig, ac rwy'n ei weld fel safle strategol bwysig ar gyfer dyfodol coridor yr A465.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cabinet Secretary, as the Assembly Member for Islwyn, I greatly welcome the £7 million Valley regional park announcement, and greatly welcome that Cwmcarn Forest Drive will be among the first wave of projects of the discovery gateways to be announced by the Welsh Government. Members will know how prized the historic Cwmcarn Forest Drive is in my constituency: it is one of the jewels in the Welsh crown, and it is very good news, indeed, for my constituency. It is exactly the effective partnership working between Welsh Government, local authorities and other parties working together—even in this age of Tory austerity, local government, Welsh Government, and their partner organisations will and can make a positive difference to our communities. Would the Cabinet Secretary be willing to meet with me at the Cwmcarn Forest Drive and meet representatives of the friends of the Cwmcarn Forest Drive to spread the word of this truly transformative potential of the discovery gateways to the people of Islwyn?

Finally, Cabinet Secretary, I wish to explore in more detail the new local transport hubs that have been mentioned and identified by Welsh Government, which will directly benefit the communities of Islwyn, and as I've stated, my constituency is very enthusiastic for increased and enhanced connectivity between our Valleys, and I would ask that the Cabinet Secretary update us as Members in detail as to how this important work develops as the months proceed. Thank you, Deputy Llywydd. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad o £7 miliwn ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ac rwy'n croesawu'n fawr y bydd Ffordd Coedwig Cwmcarn ymysg y don gyntaf o brosiectau y pyrth darganfod i'w cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod pa mor werthfawr yw Ffordd Coedwig hanesyddol Cwmcarn yn fy etholaeth i: mae'n un o'r perlau yng nghoron Cymru, ac mae'n newyddion da iawn, yn wir, ar gyfer fy etholaeth. Dyma'n union y gwaith partneriaeth effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartïon eraill yn gweithio gyda'i gilydd—hyd yn oed yn yr oes hon o gyni Torïaidd, y gall llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru a'u sefydliadau partner wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i gyfarfod â mi ar Ffordd Coedwig Cwmcarn a chwrdd â chynrychiolwyr cyfeillion Ffordd Coedwig Cwmcarn i ledaenu'r gair hwn am botensial trawsnewidiol gwirioneddol y pyrth darganfod i bobl Islwyn?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ymchwilio yn fanylach i'r canolfannau trafnidiaeth lleol newydd a grybwyllwyd ac a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, a fydd o fantais uniongyrchol i gymunedau Islwyn, ac fel yr wyf i wedi dweud, mae fy etholaeth yn frwdfrydig iawn i gael cysylltedd gwell ac ychwanegol rhwng y Cymoedd, ac rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni fel Aelodau mewn cryn fanylder ynglŷn â sut y bydd y gwaith pwysig hwn yn datblygu wrth i'r misoedd fynd rhagddynt. Diolch, Dirprwy Lywydd.

I'm certainly happy, Deputy Presiding Officer, to meet individual Members or groups of Members in order to update them on this work as it develops over the coming weeks and months. I'm certainly very, very happy to do that, and I'm also delighted to visit Cwmcarn Forest Drive with the Member. I hope she doesn't mind if I bring my family along with me. We've always enjoyed that part of the world. It's a great place for families to be able to relax and enjoy the fantastic environment and landscape of the Valleys of south Wales. We're very fortunate to represent such places, and I think we should all take great pride in the environment and the landscape of the Valleys, and tell the whole world that the Valleys of south Wales are a very, very special place to be, to see, to visit, to live, to work. 

Rwy'n sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i gyfarfod Aelodau unigol neu grwpiau o Aelodau er mwyn eu diweddaru ar y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n sicr yn hapus iawn, iawn i wneud hynny, ac rwyf hefyd yn falch iawn o ymweld â Ffordd Coedwig Cwmcarn gyda'r aelod. Rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth ganddi os byddaf yn dod â'm teulu gyda fi. Rydym ni wastad wedi mwynhau'r rhan honno o'r byd. Mae'n lle gwych i deuluoedd allu ymlacio a mwynhau amgylchedd a thirwedd gwych Cymoedd y De. Rydym ni'n ffodus iawn i gynrychioli lleoedd o'r fath, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd ymfalchio'n fawr yn amgylchedd a thirwedd y Cymoedd, a dweud wrth y byd bod Cymoedd y De yn lle arbennig iawn, iawn i fod, i weld, i ymweld, i fyw, i weithio.

Thank you very much, Cabinet Secretary. 

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf am Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
4. Statement by the Leader of the House and Chief Whip: Update on Implementation of the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act

Item 4 on our agenda is a statement by the leader of the house: update on the implementation of the Violence Against Women, Domestic Abuse, and Sexual Violence (Wales) Act 2015, and I call on the leader of the house, Julie James. 

Eitem 4 ar ein hagenda yw datganiad gan arweinydd y Tŷ: y diweddaraf am weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), a galwaf ar arweinydd y Tŷ, Julie James.

Diolch, Deputy Llywydd. I'm very pleased to give Assembly Members an update on the significant progress made since the violence against women, domestic abuse and sexual violence Act came into force in 2015. The two annual reports that have been published since I took on this portfolio provide more detail of this progress.

Our national strategy published in 2016 outlines six objectives. These objectives were designed to enable compliance, as far as our powers allow, with the Council of Europe Convention on Preventing and Combating Violence Against Women and Domestic Violence, or the Istanbul convention. The delivery framework, which we published in July 2018, explains how we will work across Government departments to deliver against each of these six objectives.

The Welsh Government is committed to the prevention of violence against women, domestic abuse and sexual violence, or VAWDASV. It's an impossible acronym, Deputy Presiding Officer, but VAWDASV, as it's called. We want to improve the public sector response to these issues, and through education, empowerment and engagement, we are challenging attitudes and behaviours across society.

We need to work together to protect those who are currently experiencing VAWDASV. Our national training framework, for example, ensures that, for the first time, standards have been set on training for professionals to help them to recognise who is at risk. Last year, we published draft guidance and rolled out 'ask and act' training. 'Ask and act' is a process of targeted enquiry to be practised by front-line professionals. The training has been developed with survivors, and therefore informed by lived experience. It has the potential to change and save lives, and feedback from the early adoption work shows that it does achieve this.

We've trained over 135,000 people across Wales through e-learning and face-to-face training. That is 135,000 professionals who are more knowledgeable, more aware and more confident to respond to those experiencing VAWDASV. We have published a suite of films aimed at public service leadership to raise awareness of VAWDASV. These films have been viewed over 6,500 times. We are raising awareness amongst children and young people and are teaching them what healthy relationships look like. This work is aimed at preventing them from becoming victims, or even perpetrators. Many schools deliver this through the Welsh Government-funded Spectrum project. We are also strengthening our guidance for schools to include links to appropriate support. This will build upon our good practice guide on taking a whole education approach, and also our guidance for school governors.

The introduction of the new curriculum in 2022 will offer the opportunity to deliver relationships and sexuality education in a completely different way to traditional sex education. Schools do not have to wait until formal roll-out if they feel sufficiently equipped to do so before then.

One of my officials jointly chairs the female genital mutilation, honour-based violence and forced marriage leadership group with the Crown Prosecution Service and BAWSO. This group has developed a delivery framework for tackling so-called honour-based violence, whilst providing the best possible support to survivors. The group has also been instrumental in supporting Wales’s first specialist women’s well-being clinic for those affected by FGM.

We are working under a collaborative agreement with HM Prison and Probation Service on improving the approach to working with perpetrators. This links with the framework to support positive change for those at risk of offending in Wales. The newly formed perpetrator services network takes part in regular practice-sharing events, and a rapid evidence review on what works with domestic abuse perpetrators is due to be published in December. Next month, I will be launching new perpetrator service standards to support commissioners and services to deliver safe and effective practices. We have conducted a mapping exercise of perpetrator services in Gwent and are sharing the learning from this with other areas.

We are tackling gender stereotyping through our communication campaign, This is Me. Gender stereotyping can lead to gender inequality, which is at the root of violence against women, domestic abuse and sexual violence. Survivors have informed our campaigns, and it is their words, voiced by actors, that delivered powerful messages about the impact of just being asked, 'Is everything OK?' in our Don’t be a Bystander campaign.

Working with survivors is integral to our delivery. We want those with lived experience to have a voice in the development and delivery of policy, funding and legislation. That is why we will be piloting a national survivor panel next year and undertaking more work on what a survivor engagement framework should look like.

Welsh Government continues to fund the Live Fear Free website and helpline. These provide 24-hour confidential support, information and advice to women, men and children experiencing abuse. It is also there for concerned others and for professionals working with victims and survivors. Men are supported through the Dyn project and men's helpline. We are working with the national advisers and key stakeholders to develop national indicators that will be measures of progress against the purposes of the Act. We will consult on these by the end of the year and will publish the final indicators by May 2019.

We have provided guidance to support local health boards and local authorities to publish their first local strategies. Our national advisers are reviewing these and will feed back on how these can improve delivery. Earlier this month, the First Minister announced that he would commission an expert-led review into refuge provision and sexual violence services in Wales. The review will look to take the best of the international approaches to inform a made-in-Wales model of support for victims of sexual assault and domestic abuse.

Violence against women, domestic abuse and sexual violence are horrifyingly prevalent, not only in Wales, but across the world. Our legislation is groundbreaking, but nothing will change overnight; these issues are too deeply entrenched. We are making progress, however, and I want the progress that has been made over the past three years since the Act was introduced to be recognised. I am determined that Wales will realise its ambition to be the safest place for women in Europe. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd sylweddol a wnaed ers y daeth y Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i rym yn 2015. Mae'r ddau adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd ers imi ymgymryd â'r portffolio hwn yn rhoi rhagor o fanylion am y cynnydd hwn.

Mae ein strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd yn 2016 yn amlinellu chwe amcan. Cynlluniwyd yr amcanion hyn er mwyn galluogi cydymffurfio, i'r graddau y mae ein pwerau yn caniatáu, gyda Chonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a thrais domestig, neu Gonfensiwn Istanbwl. Mae'r fframwaith cyflawni, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Gorffennaf 2018, yn esbonio sut fyddwn ni'n gweithio gydag amrywiol adrannau'r Llywodraeth i gyflawni pob un o'r chwe amcan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu VAWDASV. Mae'n acronym amhosib, Dirprwy Lywydd, ond VAWDASV, fel y'i gelwir. Rydym ni eisiau gwella ymateb y sector cyhoeddus i'r materion hyn, a thrwy addysg, grymuso ac ymgysylltu, rydym ni'n herio agweddau ac ymddygiadau ym mhob haen o gymdeithas.

Mae angen inni gydweithio i amddiffyn y rhai sydd ar hyn o bryd yn dioddef VAWDASV. Mae ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol, er enghraifft, yn sicrhau, am y tro cyntaf, bod safonau wedi'u gosod ynglŷn â hyfforddiant i weithwyr proffesiynol i'w helpu i adnabod pwy sydd mewn perygl. Y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau drafft a chyflwyno hyfforddiant 'holi a gweithredu'. Mae 'holi a gweithredu' yn broses o ymholi penodol i'w arfer gan weithwyr proffesiynol rheng flaen. Mae'r hyfforddiant wedi ei ddatblygu gyda goroeswyr, ac felly mae'n seiliedig ar brofiadau y mae pobl wedi byw drwyddyn nhw. Mae ganddo'r potensial i newid ac i achub bywydau, ac mae adborth gan y gwaith mabwysiadu cynnar yn dangos ei fod yn gwneud hyn.

Rydym ni wedi hyfforddi dros 135,000 o bobl ledled Cymru drwy hyfforddiant e-ddysgu ac wyneb yn wyneb. Dyna 135,000 o weithwyr proffesiynol sydd yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n dioddef VAWDASV. Rydym ni wedi cyhoeddi cyfres o ffilmiau ar gyfer arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o VAWDASV. Mae'r ffilmiau hyn wedi cael eu gweld dros 6,500 o weithiau. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc ac yn eu haddysgu ynghylch sut beth yw perthnas iach. Nod y gwaith hwn yw eu hatal rhag bod yn ddioddefwyr, neu hyd yn oed rhag cyflawni'r fath weithredoedd. Mae llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy gyfrwng prosiect Sbectrwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cryfhau ein canllawiau ar gyfer ysgolion i gynnwys cysylltiadau i gefnogaeth briodol. Bydd hyn yn adeiladu ar ein canllaw arfer da o ran ymdrin ag addysg mewn modd cynhwysfawr, a hefyd ein canllawiau ar gyfer llywodraethwyr ysgol.

Bydd cyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2022 yn cynnig cyfle i ddarparu addysg rhywioldeb a pherthnasoedd mewn ffordd hollol wahanol i addysg ryw draddodiadol. Does dim rhaid i ysgolion aros neu gyflwyno hynny'n ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon cymwys i wneud hynny cyn hynny.

Mae un o'm swyddogion yn cyd-gadeirio grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a BAWSO. Mae'r grŵp hwn wedi datblygu fframwaith cyflawni er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd fel y'i gelwir, gan ddarparu'r cymorth gorau posib i oroeswyr. Mae'r grŵp wedi bod yn allweddol hefyd yn cefnogi clinig lles menywod arbenigol cyntaf Cymru ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan anffurfio organau cenhedlu benywod.

Rydym ni'n gweithio o dan gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf i wella'r dull o weithio gyda'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Mae hyn yn cysylltu â'r fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith gwasanaethau tramgwyddwyr sydd newydd ei ffurfio yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhannu arferion rheolaidd, ac mae adolygiad tystiolaeth cyflym ynglŷn â beth sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Fis nesaf, byddaf yn lansio safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd i gefnogi gwasanaethau a chomisiynwyr i weithio'n ddiogel ac effeithiol. Rydym ni wedi cynnal ymarfer mapio o wasanaethau tramgwyddwyr yng Ngwent ac yn rhannu'r hyn a ddysgwyd ag ardaloedd eraill.

Rydym ni'n mynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw drwy ein hymgyrch cyfathrebu, Dyma Fi. Gall stereoteipio ar sail rhyw arwain at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, sydd wrth wraidd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni wedi seilio ein hymgyrchoedd ar sylwadau goroeswyr, a'u geiriau nhw, wedi eu lleisio gan actorion, sy'n darparu negeseuon grymus am effaith rhywun dim ond yn gofyn, 'Ydy popeth yn iawn?' yn ein hymgyrch Paid Cadw'n Dawel.

Mae gweithio gyda goroeswyr yn rhan annatod o'r darparu. Rydym ni eisiau i'r rhai hynny sydd â phrofiad bywyd o hyn gael llais wrth ddatblygu a darparu polisi, cyllid a deddfwriaeth. Dyna pam y byddwn ni'n treialu panel goroeswr cenedlaethol y flwyddyn nesaf ac yn gwneud mwy o waith ynglŷn â sut beth ddylai'r fframwaith ymgysylltu â goroeswr fod.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r wefan a'r llinell gymorth Byw Heb Ofn. Mae'r rhain yn rhoi cymorth cyfrinachol 24-awr, gwybodaeth a chyngor i fenywod, dynion a phlant sy'n cael eu cam-drin. Mae hefyd yno ar gyfer pobl eraill sy'n poeni ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr. Cefnogir dynion drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Rydym ni'n gweithio gydag ymgynghorwyr cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu dangosyddion cenedlaethol y byddant yn fodd o fesur cynnydd at ddibenion y Ddeddf. Byddwn yn ymgynghori ar y rhain erbyn diwedd y flwyddyn ac yn cyhoeddi'r dangosyddion terfynol erbyn mis Mai 2019.

Rydym ni wedi darparu canllawiau i gefnogi'r byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol yn gyntaf. Mae ein cynghorwyr cenedlaethol yn adolygu'r rhain ac yn adrodd yn ôl ar sut y gall hyn wella cyflawni. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n comisiynu adolygiad dan arweiniad arbenigol i ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ceisio defnyddio'r gorau o'r dulliau rhyngwladol yn sail i'r model yng Nghymru o gymorth i ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arswydus o gyffredin, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae ein deddfwriaeth yn torri tir newydd, ond ni fydd dim yn newid dros nos; mae'r materion hyn wedi ymwreiddio'n rhy ddwfn. Rydym ni'n gwneud cynnydd, fodd bynnag, ac rwyf eisiau i'r cynnydd sydd wedi'i wneud dros y tair blynedd diwethaf ers cyflwyno'r Ddeddf gael ei gydnabod. Rwy'n benderfynol y bydd Cymru'n gwireddu ei huchelgais i fod y lle mwyaf diogel ar gyfer menywod yn Ewrop. Diolch.

15:15

Thank you for your statement. You say that standards are being set for training professionals, and refer to 135,000 people trained. Of course, training is an event rather than a process, and awareness isn't the same as understanding and acceptance of issues as we go forward. So, how do you propose to embed this, not as a one-off online or face-to-face training event, but as an ongoing cultural awareness and change?

Diolch am eich datganiad. Rydych chi'n dweud bod safonau'n cael eu pennu ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol, ac yn cyfeirio at 135,000 o bobl wedi'u hyfforddi. Wrth gwrs, mae hyfforddiant yn ddigwyddiad yn hytrach nag yn broses, ac nid yw ymwybyddiaeth yr un fath â deall a derbyn materion wrth inni gamu i'r dyfodol. Felly, sut ydych chi'n bwriadu sefydlu hyn, nid fel digwyddiad hyfforddi ar-lein neu wyneb yn wyneb unwaith yn unig, ond fel ymwybyddiaeth a newid diwylliannol parhaus?

You refer to healthy relationships education for children and young people, preventing them from becoming victims or perpetrators, and the introduction of relationships and sexuality education in schools from 2022, but schools not having to wait until the formal roll-out if they feel sufficiently equipped before then to do this. When I questioned you on this recently in the Equality, Local Government and Communities Committee, I pointed out that there were programmes like the Hafan Cymru programme in schools. I think we've both been out with them and were both impressed by that. I referred to my working with Jocelyn Davies and Peter Black at Stage 4 of the Act, threatening, possibly, to bring it down had we not got assurances on healthy relationships education—or, you're now rephrasing it as the new term you're using, 'relationships and sexuality education'—in schools. I said we didn't support this on the grounds that we'd wait seven years for it, and leaving schools to have the option, if they wish, in the meantime. So, how have you taken forward what you stated to me in the committee, which was that you hadn't had the conversation with Kirsty Williams about the seven years, so you would go back and have that, because it was then a surprise to you?

You refer to the work of the female genital mutilation, honour-based violence and forced marriage leadership group, and their development of a delivery framework for tackling so-called honour-based violence. How is that delivery framework turning into delivery? Could you give us a bit more information on what the delivery is, who's doing it, where, when and how will that be monitored?

You refer to perpetrator programmes. I also, with the support of the other opposition parties during the passage of the Act, put down amendments, which were defeated by the Government, calling for perpetrator programmes to be within the Act. At the time, we were told by the then Minister that there weren't any accredited schemes available in Wales. In fact, there were; there was the Relate Cymru scheme, which has also been adopted by various other providers across Wales.

You refer to collaborative agreement with HM Prison and Probation Service. Well, I received assurances that we would have action by the Welsh Government on pre-custodial perpetrator programmes. So, can you confirm that the new perpetrator service standards you'll be launching to support commissioners and services next month will also address the need for pre-custodial perpetrator programmes, and how they will reflect the Respect accreditation standards, on which evidence was given to the cross-party group on violence against women and children some months ago, providing an evidence-based framework for work with perpetrators of domestic violence and abuse? And also, their new delivering interventions work with young people who use violence and abuse towards a family member, work with women using violence against men, and work with those in same-sex relationships, which they also told that cross-party group about.

You refer to the Live Fear Free website, and men being supported through the Dyn project and men's helpline. Of course, you wouldn't refer a woman victim or survivor to a charity run by men, and during the passage of the Act, another amendment I put down was calling for what Welsh Women's Aid had called for in the past, which was a gender-specific strategy for men and women. Again, the Minister stated this wouldn't be in the Act, but the need would be addressed as we move forward. So, given that North Wales Police has now announced that a quarter of their domestic abuse reports involve men, and the crime survey for England states that 42 per cent of the cases they now are picking up are affecting men, and that three quarters of suicides are men, how will you also work with some wonderful charities like KIM Inspire in Holywell, which you might have heard of and who would love you to visit, who started out supporting women needing mental health support in their community? They have now also established and recruited men to deliver the KIM 4 HIM project, which is groundbreaking, established by a brilliant women's group but incorporating men to deliver it. And, of course, there is the work of DASU, the Domestic Abuse Safety Unit on Deeside, who were also innovative, many years ago, in broadening their services to incorporate men as well as women, who work together in mutual support.

Rydych chi'n cyfeirio at addysg perthnasoedd iach i blant a phobl ifanc, yn eu hatal rhag dod yn ddioddefwyr neu dramgwyddwyr, a chyflwyno addysg am berthnasoedd a rhywioldeb mewn ysgolion o 2022, ond nad oes yn rhaid i ysgolion aros tan y cyflwyniad ffurfiol os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi eu paratoi'n ddigonol cyn hynny i wneud hyn. Pan holais chi ynglŷn â hyn yn ddiweddar yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, nodais fod yna raglenni fel y rhaglen Hafan Cymru ar waith mewn ysgolion. Rwy'n credu bod y ddau ohonom ni wedi bod allan gyda nhw ac i hynny greu argraff arnom ni. Cyfeiriais y bûm i'n gweithio gyda Jocelyn Davies a Peter Black yng Nghyfnod 4 y Ddeddf, yn bygwth, o bosib, ei atal pe byddem ni heb gael sicrwydd ynglŷn ag addysg ar berthnasoedd iach—neu, rydych chi'n awr yn ei aralleirio ar ffurf y term newydd yr ydych chi'n ei ddefnyddio, 'addysg perthnasoedd a rhywioldeb'—mewn ysgolion. Dywedais nad oeddem ni'n cefnogi hyn ar y sail y byddem ni'n aros saith mlynedd amdano, gan roi'r dewis i ysgolion, os maen nhw'n dymuno, yn y cyfamser. Felly, sut ydych chi wedi gweithredu ar yr hyn a ddywedwyd gennych chi wrthyf i yn y Pwyllgor, sef nad oeddech chi wedi cael y sgwrs gyda Kirsty Williams am y saith mlynedd, felly y byddech chi'n dychwelyd ac yn cael y sgwrs honno, oherwydd ei bod hi'n syndod i chi bryd hynny?

Rydych chi'n cyfeirio at waith y grŵp arweinyddiaeth ar anffurfio organau rhywiol merched, trais ar sail anrhydedd a phriodas orfodol, a'u bod wedi datblygu fframwaith gweithredu er mwyn mynd i'r afael â thrais ar sail anrhydedd, fel y'i gelwir. Sut mae'r fframwaith gweithredu hwnnw yn troi yn weithredu? Allech chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynglŷn â beth fydd yn cael ei wneud, pwy sy'n gwneud hynny, ble, pryd a sut y caiff ei fonitro?

Rydych chi'n cyfeirio at raglenni tramgwyddwyr. Fe wnes i hefyd, gyda chefnogaeth rhai o'r gwrthbleidiau eraill yn ystod hynt y Ddeddf, gyflwyno gwelliannau, a drechwyd gan y Llywodraeth, a galw ar i raglenni tramgwyddwyr fod yn rhan o'r Ddeddf. Ar y pryd, dywedwyd wrthym ni gan y Gweinidog nad oedd unrhyw gynlluniau achrededig ar gael yng Nghymru. Y gwir amdani oedd bod cynllun iau o'r fath yn bodoli; dyna gynllun Relate Cymru, sydd hefyd wedi'i fabwysiadu gan ddarparwyr amrywiol eraill ledled Cymru.

Rydych chi'n cyfeirio at gytundeb cydweithredu â Gwasanaeth Carchar ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Prawf. Wel, cefais sicrwydd y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ran rhaglenni tramgwyddwyr cyn carcharu. Felly, a allwch chi gadarnhau bod y safonau gwasanaeth tramgwyddwyr newydd y byddwn chi yn eu lansio i gefnogi comisiynwyr a gwasanaethau y mis nesaf hefyd yn ymateb i'r angen am rhaglenni tramgwyddwyr cyn carcharu, a sut y byddant yn adlewyrchu'r safonau achrededig Respect, y cyflwynwyd tystiolaeth yn ei gylch i'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant rai misoedd yn ôl, gan ddarparu fframwaith sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni trais domestig a cham-drin? A hefyd, mae eu technegau newydd yn gweithio gyda phobl ifanc sy'n defnyddio trais ac yn cam-drin aelod o'r teulu, yn gweithio gyda menywod sy'n defnyddio trais yn erbyn dynion, ac yn gweithio gyda'r rhai mewn perthnasau o'r un rhyw, y gwnaethon nhw hefyd ddweud wrth y grŵp trawsbleidiol amdano.

Rydych chi'n cyfeirio at y wefan Byw Heb Ofn, a dynion yn cael eu cefnogi drwy'r prosiect Dyn a llinell gymorth i ddynion. Wrth gwrs, fyddech chi ddim yn cyfeirio dioddefwr neu oroeswr sy'n fenyw at elusen sy'n cael ei redeg gan ddynion, ac yn ystod hynt y Ddeddf, cyflwynais welliant arall a oedd yn galw am yr hyn yr oedd Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw amdano yn y gorffennol, sef strategaeth rhyw-benodol ar gyfer dynion a menywod. Unwaith eto, dywedodd y Gweinidog na fyddai hyn yn y Ddeddf, ond y byddai'r angen hwnnw yn cael sylw yn y dyfodol. Felly, o ystyried bod Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi cyhoeddi bod chwarter eu hachosion o gam-drin domestig yn cynnwys dynion, a bod arolwg troseddu Lloegr yn nodi bod 42 y cant o'r achosion y maen nhw'n ymdrin â nhw bellach yn effeithio ar ddynion, a bod tri chwarter o achosion o hunanladdiad yn ddynion, sut fyddwch chi'n gweithio hefyd gyda rhai elusennau gwych fel KIM Inspire yn Nhreffynnon, yr ydych chi efallai wedi clywed amdani ac a fyddai wrth eu boddau pe byddech chi'n ymweld, a ddechreuodd drwy gefnogi menywod sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl yn eu cymuned? Maen nhw bellach wedi eu sefydlu a recriwtio dynion i gyflwyno eu KIM 4 HIM, sy'n torri tir newydd, a sefydlwyd gan grŵp menywod gwych ond sy'n ymgorffori dynion i'w gyflawni. Ac, wrth gwrs, dyna waith DASU, yr uned diogelwch cam-drin domestig ar Lannau Dyfrdwy, a oedd hefyd yn arloesol, flynyddoedd lawer yn ôl, yn ehangu eu gwasanaethau i gynnwys dynion yn ogystal â menywod, sy'n gweithio gyda'i gilydd gan gefnogi ei gilydd.

15:25

Okay. Well, I'll do my best with that very long list of issues that you've raised. In terms of the training being an event and not a process—I think you said—it's a training framework. So, we are rolling out specific parts of the training framework. So, for example, 'ask and act' is part of the framework. So, the national training framework exists, within which the training programme sits, and the whole point of them is that they are a process and that people continue to progress with their knowledge, so that it's an effective set of professional qualifications. But also, actually, it's a set of abilities and skills that all front-line workers should have. I was particularly impressed by going, for example, to the South Wales Fire and Rescue Service, who've put all of their firefighters through it because firefighters are respected and are allowed into people's houses. They've been trained to look for the signs of domestic violence and sexual violence, and that's been very successful and I was very impressed with that. So, I think I can reassure the Member that we are very much aware that it's a framework and not an event.

In terms of the schools issue that he raised with me in committee, with my conversation with the Cabinet Secretary for Education, we have that in the diary but we've not yet actually met. But, as I said to him, we are making sure that the programmes that we currently fund, as I said in the committee, are still there and that schools that have got expertise as a result of those programmes and so on can roll out the new curriculum as soon as possible. As soon as I've had the meeting with Kirsty Williams, I will come back to him. I've not yet been able to have that due to diary pressures.

In terms of perpetrator programmes, we're working with Cardiff Metropolitan University to undertake a rapid evidence assessment of what works with domestic abuse perpetrators, which will be published imminently. We'll be consulting on draft guidance for public services working with perpetrators, and we are working with the regional VAWDASV boards to ensure that safe and effective work with perpetrators is reflected in their strategies. So, we will expect to see the consultation on that very shortly.

In terms of the issues that he made about the quarter of domestic abuse reports being men, Deputy Presiding Officer, without taking anything away from the men who suffer from domestic violence—because all domestic violence is an abhorrent process in our society—it's the scale of the abuse. Two women a week are killed by their partners. That simply isn't the case for men reporting domestic abuse. That's without being disrespectful to those people who are, because that's not my intention. But, clearly, the scale of the problem is nothing like what the figures that the Member quoted would lead you to believe. Men report abuse—it's a generalisation, I know—at a much lower level than women. Women tolerate it for much longer, and the abuse is much worse and much more violent. So, we do have to have a proportionate response to the various sorts of abuse. We do have the various helplines and projects that are being sponsored, but it would be a mistake to think that some sort of equality across the provision was what was required as a result of some of the statistics the Member quoted.    

Iawn. Wel, fe wnaf i fy ngorau gyda'r rhestr hir iawn yna o faterion yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw. O ran bod yr hyfforddiant yn ddigwyddiad ac nid yn broses—rwy'n credu ichi ddweud—mae'n fframwaith hyfforddi. Felly, rydym ni'n cyflwyno agweddau penodol ar y fframwaith hyfforddiant. Felly, er enghraifft, mae 'gofyn a gweithredu' yn rhan o'r fframwaith. Felly, mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn bodoli, y mae'r rhaglen hyfforddiant yn rhan ohono, a'u holl ddiben yw eu bod yn broses a bod pobl yn parhau i wneud cynnydd â'u gwybodaeth, fel ei fod yn set effeithiol o gymwysterau proffesiynol. Ond hefyd, mewn gwirionedd, mae'n gyfres o alluoedd a sgiliau y dylai fod gan bob gweithiwr rheng flaen. Gwnaed argraff arbennig arnaf pan euthum, er enghraifft, i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd wedi rhoi'r hyfforddiant i gyd i bob un o'u diffoddwyr tân oherwydd bod diffoddwyr tân yn cael eu parchu ac yn cael mynd i mewn i dai pobl. Maen nhw wedi cael eu hyfforddi i edrych am arwyddion o drais domestig a thrais rhywiol, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn ac fe gafodd hynny argraff fawr iawn arnaf. Felly, credaf y gallaf dawelu meddwl yr Aelod ein bod yn ymwybodol iawn ei fod yn fframwaith ac nid yn ddigwyddiad.

O ran y mater ysgolion a gododd gyda mi yn y Pwyllgor, gyda fy sgwrs ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, mae gennym ni hynny yn y dyddiadur ond dydym ni ddim wedi cyfarfod eto mewn gwirionedd. Ond, fel y dywedais wrtho, rydym ni'n gwneud yn siŵr bod y rhaglenni yr ydym ni'n eu hariannu ar hyn o bryd, fel y dywedais yn y Pwyllgor, yn dal i fod yno ac y gall ysgolion sydd wedi datblygu arbenigedd o ganlyniad i'r rhaglenni hynny ac ati gyflwyno'r cwricwlwm newydd cyn gynted â phosib. Cyn gynted ag yr wyf wedi cael cyfarfod gyda Kirsty Williams, byddaf yn rhoi gwybod iddo. Nid wyf eto wedi llwyddo i wneud hynny oherwydd pwysau dyddiadur.

O ran rhaglenni tramgwyddwyr, rydym ni'n gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i wneud asesiad tystiolaeth cyflym o'r hyn sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig, a gyhoeddir yn fuan. Byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda thramgwyddwyr, ac rydym ni'n gweithio gyda byrddau VAWDASV rhanbarthol i sicrhau yr adlewyrchir gwaith gyda thramgwyddwyr yn ddiogel ac effeithio yn eu strategaethau. Felly, byddwn yn disgwyl gweld ymgynghoriad ar hynny cyn bo hir.

O ran y materion y soniodd amdanyn nhw bod chwarter yr achosion o gam-drin domestig yn ddynion, Dirprwy Lywydd, heb ddiystyru am eiliad y dynion sy'n dioddef trais yn y cartref—oherwydd mae pob trais domestig yn broses wrthun yn ein cymdeithas—mae ynglŷn â graddfa'r cam-drin. Mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu lladd gan eu partneriaid. Mae hynny ymhell o fod yn wir ar gyfer dynion sy'n adrodd am gam-drin domestig. Mae hynny heb fod yn amharchus i'r bobl hynny sydd, oherwydd nid dyna yw fy mwriad. Ond, yn amlwg, nid yw maint y broblem yn ddim byd tebyg i'r ffigurau a ddyfynnwyd gan yr aelod yn eich arwain i gredu. Mae llawer llai o dynion yn adrodd am gam-drin—mae'n cyffredinoli, rwy'n gwybod—ar lefel is o lawer na merched. Mae menywod yn ei oddef lawer yn hwy, ac mae'r cam-drin yn waeth o lawer ac yn llawer mwy treisgar. Felly, mae'n rhaid inni gael ymateb cymesur i wahanol fathau o gam-drin. Mae gennym ni'r llinellau cymorth a'r prosiectau sy'n cael eu noddi, ond byddai'n gamgymeriad meddwl bod angen rhyw fath o gydraddoldeb yn y ddarpariaeth o ganlyniad i rai o'r ystadegau a ddyfynnwyd gan yr Aelod.    

Leader of the house, I would urge caution when discussing who provides services. As a former probation officer and support worker for Women's Aid, I would say, of course, that all violence and all abuse in all relationships is wrong, but I'm also acutely aware of perpetrators who say that they are victims of abuse as a cover for their actions. So, when considering the funding of services, I'd want to be satisfied that proper checks are taking place to avoid this sort of cover from perpetrators being publicly funded and further harming victims. So, how can we ensure that those getting money for the provision of these services are bona fide?

I'm surprised that, three and a half years into this legislation, the basic level of mapping services has yet to happen. We know from the organisations delivering these services that there are gaping holes in service provision, and cuts to local government may well have made this situation worse. But, we don't know the extent of that because we can't properly follow the budget lines through to show this.

As I raised with you in committee, I'm concerned about the provision for children in all of this. When I worked for Women's Aid in the 1990s, we were campaigning for core funding for children's services. If children are not given the opportunity to work through the impact of the domestic abuse that's taking place between their parents, we risk seeing patterns of that behaviour being repeated. 

I also raised concerns with you about the teaching of relationships, control, consent et cetera in school. The need is there to start at a very young age, but this won't come in now, we've heard, until 2022—eight years into the legislation. That tells me that this matter is not a priority for your Government. We cannot wait for another three years' worth of potential harm to be done before we address this among young people. And the work that's being done by the third sector, fantastic though it may well be, is great, but it's not enough—it isn't comprehensive enough. So, my questions are: will you ensure that children's domestic abuse services are core funded? I know you said that this will be covered by the review of services, but I don't think that there was specific mention of children's services in that statement. Will you work with the Cabinet Secretary for Education to bring those curriculum changes forward?

I welcome the First Minister's announcement to commission an expert review into refuge provision and sexual violence services in Wales. This is long overdue. We've got so many people who are not receiving the help that they need when they ask for it, and there are many, many more who don't seek help until much, much later. And we're letting all of these people down by not adequately funding services that can help people to rebuild their lives after a traumatic incident. So, another question, then, is: when are we likely to see the conclusion of that review? And more importantly, when will we see additional resources allocated to fund extra services?

And my final question is a question that I asked you in committee, but I didn't get an answer for there, so perhaps I'll get one here. In 2016, a previous national adviser said that commissioning guidance is critical to the purpose of the Act. So, when is that guidance going to be published? 

Arweinydd y Tŷ, byddwn yn annog bod yn ofalus wrth drafod pwy sy'n darparu gwasanaethau. Fel cyn swyddog prawf a gweithiwr cymorth ar gyfer Cymorth i Fenywod, byddwn yn dweud, wrth gwrs, bod pob trais a cham-drin ym mhob perthynas yn anghywir, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o bobl sy'n cyflawni camdriniaeth sy'n dweud eu bod yn dioddef cam-drin i guddio'u gweithredoedd. Felly, wrth ystyried ariannu'r gwasanaethau, byddwn eisiau bod yn fodlon bod gwiriadau priodol yn digwydd i osgoi'r math hwn o sefyllfa lle caiff pobl sy'n cyflawni camdriniaeth eu hariannu yn gyhoeddus a niweidio ymhellach. Felly, sut y gallwn ni sicrhau bod y rhai sy'n cael arian ar gyfer darpariaeth y gwasanaethau hyn yn ddilys?

Rwy'n synnu, tair blynedd a hanner ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, bod y cam sylfaenol o fapio gwasanaethau eto i ddigwydd. Rydym ni'n gwybod o'r sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn bod diffygion anferth yn y ddarpariaeth gwasanaeth, ac fe all toriadau i Lywodraeth Leol wneud y sefyllfa hon yn waeth. Ond, nid ydym ni'n gwybod graddau hynny oherwydd ni allwn ni ddilyn y llinellau cyllideb yn iawn i ddangos hyn.

Fel y soniais wrthych chi yn y Pwyllgor, rwy'n bryderus ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer plant yn hyn i gyd. Pan oeddwn yn gweithio i Cymorth i Fenywod yn y 1990au, roeddem ni'n ymgyrchu am gyllid craidd ar gyfer gwasanaethau plant. Os nad yw plant yn cael y cyfle i weithio drwy effaith y cam-drin domestig sy'n digwydd rhwng eu rhieni, mae perygl inni weld patrymau'r ymddygiad hwnnw yn cael eu hailadrodd.

Fe wnes i grybwyll pryderon hefyd wrthych chi am addysgu perthnasoedd, rheolaeth, caniatâd ac ati yn yr ysgol. Mae'r angen yna i ddechrau ar oedran ifanc iawn, ond ni fydd hyn yn digwydd yn awr, rydym ni wedi clywed, tan 2022—wyth mlynedd ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Mae hynny'n dweud wrthyf i nad yw'r mater hwn yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth. Ni allwn ni aros i werth tair blynedd arall o niwed posib ddigwydd cyn inni ymdrin â hyn ymhlith pobl ifanc. Ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y trydydd sector, er mor rhagorol y gallai fod, yn wych, ond nid yw'n ddigon—nid yw'n ddigon cynhwysfawr. Felly, fy nghwestiynau yw: a wnewch chi sicrhau bod y gwasanaethau cam-drin domestig i blant yn cael arian craidd? Rwy'n gwybod ichi ddweud y caiff hyn ei gwmpasu gan yr adolygiad o wasanaethau, ond nid wyf yn credu y cafwyd cyfeiriad penodol at wasanaethau plant yn y datganiad hwnnw. A fyddwch chi'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyflwyno'r newidiadau cwricwlwm hynny?

Rwy'n croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog i gomisiynu adolygiad arbenigol o ddarpariaeth lloches a gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru. Mae'n hwyr glas gwneud hynny. Mae gennym ni gymaint o bobl nad ydyn nhw'n cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen pan fyddan nhw'n gofyn amdano, a cheir llawer iawn mwy nad ydyn nhw'n gofyn am gymorth tan yn llawer, llawer iawn hwyrach. Ac rydym ni'n siomi'r holl bobl hyn drwy beidio â rhoi cyllid digonol i wasanaethau sy'n gallu helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau ar ôl digwyddiad trawmatig. Felly, cwestiwn arall, wedyn, yw: pryd ydym ni'n debygol o weld casgliad yr adolygiad hwnnw? Ac yn bwysicach, pryd fyddwn ni'n gweld adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i ariannu gwasanaethau ychwanegol?

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn gwestiwn a ofynnais ichi yn y Pwyllgor, ond chefais i ddim ateb iddo yno, felly efallai y caf i un yma. Yn 2016, dywedodd cynghorydd cenedlaethol blaenorol fod canllawiau comisiynu yn hanfodol i bwrpas y Ddeddf. Felly, pryd caiff y canllawiau hynny eu cyhoeddi?

15:30

I'll try and work my way through that list of questions. The proportionality bit is very important to us. So, as I said, we've got to look very carefully at who's providing what services and what the proportionate response to various levels are—[Interruption.] Yes. So, for example, many of the providers dealing with women who are seeking refuge from domestic abuse are also seeking refuge because they've experienced sexual violence, for example. The two things go hand in hand with women—not so much with male survivors of domestic abuse. And without taking anything away from men who come forward, as I said, the level at which men come forward is—it's a generalisation, of course, and that's always invidious, but, across, the piece, it's much less so. So, we're working very hard to make sure we do get a proportionate response and a proportionate funding level as a result of that. Would that we had enough money to fund absolutely all of it, but we don't, so a proportionate response is very important to us. 

As part of our sustainable funding model, we are looking to see how we work across the piece with the regional services. For the first time ever, local authorities have had to come forward with a plan and a map of their services. So, it's the first time we're responding to that. We've worked very hard, particularly in a pilot area in Gwent, who are much more advanced in terms of their collaboration in this area, to see what will work and what will not work. I think it's fair to say that we've had some unintended consequences of some of the funding arrangements that we've put in place. So, for example, we ask people to collaborate, and then we ask them to submit a retender for services, in which the unique selling point that they're resubmitting is part of the collaboration. So, clearly, there are some unintended behaviour consequences of that, and we're working very hard to overcome that. And some of the regional consortia have made very strong and I think sustainable suggestions for that. The national advisers are chairing those discussions and I'm sure we can come up with a more sustainable model for that. 

I actually agree with her about the mapping services. That's the purpose of the local authorities being asked to come forward in this way with their plan for the services and our response to that. The First Minister has announced his expert-led review. I'm very keen to see the voice of the survivor inside that. It's important that the experts are there to give us that advice, but, as I said, we want to see survivors at the heart of reviews of services, because we know how much we learn from what happened to them and where we might have intervened earlier, and what worked for them and what didn't. I was very pleased to be at the launch of a Welsh European Funding Office-funded service with Mark Drakeford, my colleague, last week—Threshold DAS—where that was emphasised. I had the privilege and pleasure of meeting four of the survivors there, who talked us through their experience and what would have been of assistance to them. And it's very important indeed for us to do that.

Part of the gender review of policy, which is going on simultaneously as well—it will be no surprise to anybody here, if you've read stage 1 of the review, it's in there, but the stage 2 review as well looks at resources and the budgeting process as part of that review, and I'm sure that that will come to the forefront. One of the things we want to look at is how we measure interventions across the Welsh Government, and what impact we look at in terms of what those interventions deliver, and that hasn't been done in quite that way before, so I'm very keen to get that done. And the guidance will be out very shortly. I don't want to give you an absolute deadline, but I'm hopeful it will be very shortly.

Fe wnaf i geisio gweithio fy ffordd drwy'r rhestr yna o gwestiynau. Mae'r darn ynglŷn â chymesuredd yn bwysig iawn i ni. Felly, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar bwy sy'n darparu pa wasanaethau a beth yw'r ymateb cymesur i lefelau amrywiol— [torri ar draws.] Ie. Felly, er enghraifft, mae llawer o ddarparwyr sy'n ymdrin â menywod sy'n ceisio lloches rhag cam-drin domestig hefyd yn ceisio lloches oherwydd eu bod wedi dioddef trais rhywiol, er enghraifft. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw â menywod—nid cymaint felly gyda dynion sydd wedi goroesi cam-drin domestig. A heb fod yn ddiystyriol o gwbl o ddynion sy'n dod ymlaen, fel y dywedais, mae nifer y dynion sy'n dod ymlaen—mae'n cyffredinoli, wrth gwrs, ac mae hynny bob amser yn annymunol, ond, yn gyffredinol, mae'n llawer llai felly. Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y cawn ni ymateb cymesur ac arian cymesur o ganlyniad i hynny. O na bai gennym ni ddigon o arian i ariannu pob agwedd arno, ond does gennym ni ddim, felly mae ymateb cymesur yn bwysig iawn i ni.

Fel rhan o'n model ariannu cynaliadwy, rydym ni'n edrych i weld sut yr ydym ni'n gweithio'n gyffredinol gyda gwasanaethau rhanbarthol. Am y tro cyntaf erioed, bu'n rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno cynllun a map o'u gwasanaethau. Felly, dyma'r tro cyntaf yr ydym ni'n ymateb i hynny. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn, yn enwedig mewn ardal dreialu yng Ngwent, sy'n llawer mwy datblygedig o ran eu cydweithio yn y maes hwn, i weld beth fydd yn gweithio ac na fydd hyn yn gweithio. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod ni wedi cael rhai canlyniadau anfwriadol o rai o'r trefniadau ariannu yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith. Felly, er enghraifft, rydym ni'n gofyn i bobl gydweithio, ac yna rydym ni'n gofyn iddyn nhw gyflwyno ail dendr ar gyfer gwasanaethau, y mae'r pwynt gwerthu unigryw y maen nhw'n ei ailgyflwyno yn rhan o'r cydweithio. Felly, yn amlwg, ceir canlyniadau anfwriadol o ran arferion yn hynny o beth, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i oresgyn hynny. Ac mae rhai o'r consortia rhanbarthol wedi gwneud awgrymiadau cryf a chynaliadwy iawn rwy'n credu ar gyfer hynny. Mae'r ymgynghorwyr cenedlaethol yn cadeirio'r trafodaethau hynny ac rwy'n siŵr y gallwn ni gynnig model mwy cynaliadwy ar gyfer hynny.

Rwy'n cytuno â hi mewn gwirionedd am y gwasanaethau mapio. Dyna ddiben gofyn i'r awdurdodau lleol ddod ymlaen yn y modd yma gyda'u cynllun ar gyfer y gwasanaethau a'n hymateb i hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei adolygiad a arweinir gan arbenigwyr. Rwy'n awyddus iawn i weld llais y goroeswr sy'n elfen greiddiol o hynny. Mae'n bwysig bod yr arbenigwyr yno i roi'r cyngor hwnnw inni, ond, fel y dywedais, rydym ni eisiau gweld goroeswyr wrth galon yr adolygiadau o wasanaethau, oherwydd rydym ni'n gwybod faint yr ydym ni'n ei ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, a lle y gallasem ni fod wedi ymyrryd yn gynharach, a beth oedd yn gweithio iddyn nhw a beth oedd ddim. Roeddwn yn falch iawn o fod yn lansiad gwasanaeth a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gyda Mark Drakeford, fy nghyd-Aelod, yr wythnos diwethaf—Threshold DAS—lle pwysleisiwyd hynny. Cefais y fraint a'r pleser o gyfarfod pedwar o'r goroeswyr yno, a soniodd wrthym ni am eu profiad a beth fyddai wedi bod o gymorth iddyn nhw. Ac mae'n bwysig iawn yn wir inni wneud hynny.

Rhan o adolygu'r polisi i gael cyfatebiaeth rhwng y rhywiau, sy'n mynd ar yr un pryd hefyd—ni fydd hi'n syndod i neb yma, os ydych chi wedi darllen cam 1 yr adolygiad, mae i'w weld yno, ond mae cam 2 yr adolygiad yn edrych hefyd ar adnoddau a'r broses gyllidebu yn rhan o'r adolygiad hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn dod i'r amlwg. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau edrych arno yw sut ydym ni'n mesur ymyriadau ar draws Llywodraeth Cymru, a pha effaith ydym ni'n edrych arno o ran beth mae'r ymyriadau hynny yn eu cyflawni, ac nid yw hynny wedi'i wneud yn union felly o'r blaen, felly rwy'n awyddus iawn i gwblhau hynny. A bydd y canllawiau ar gael yn fuan iawn. Does arnaf i ddim eisiau rhoi dyddiad pendant i chi, ond rwy'n obeithiol y bydd yn fuan iawn.

15:35

Sorry—excuse me, John. On the curriculum, I've yet to have the meeting with Kirsty Williams, and as soon as I have, I'll report to all Members about where we are with that. Sorry, John—I beg your pardon.

Mae'n ddrwg gennyf—esgusodwch fi, John. Ar y cwricwlwm, nid wyf byth wedi cael y cyfarfod gyda Kirsty Williams, a chyn gynted ag y bydd ef gennyf, byddaf yn adrodd i'r holl Aelodau o ran ble'r ydym gyda hynny. Mae'n ddrwg gennyf, John.

John Griffiths—we'll try again. [Laughter.]

John Griffiths — fe geisiwn eto. [Chwerthin.]

No problem at all.

Leader of the house, as you will know, the committee that I Chair, the Equality, Local Government and Communities Committee, is taking a general approach of returning to reports and, indeed, legislation that we've scrutinised, to make sure that implementation is what it needs to be, and that includes this particular piece of legislation. So, one aspect that we've been concerned with, as Leanne Wood mentioned, is the statutory commissioning guidance, and the timeliness of taking that forward. And as Leanne Wood also said, the previous national adviser said, I think some two years ago, that the publication of statutory guidance is critical to the purpose of the Act, and that she was very concerned at the time that there was no confirmed timeline for publication of that guidance. And, indeed, in the absence of that, Lloyds Bank Foundation and Welsh Women's Aid produced non-statutory guidance. So, I'd just be interested in anything further you can say in terms of making sure that those issues are satisfactorily addressed.

Also, in terms of the local strategies, leader of the house, in a recent evidence session, you said that the draft strategies were all published by the deadline set in the legislation, which I think was May of this year. But I'm just wondering if there are any legal consequences in terms of those local strategies not being published in their final form by that May deadline, given that that deadline was actually set out in the legislation. I'm wondering whether there will be a timescale for the delivery framework, because I think that's obviously very significant to the progress that needs to be made.

And finally, on the review of refuge provision, I wonder if you might provide some clarity as to how the review, announced by the First Minister, will work alongside the sustainable funding model.

Dim problem o gwbl.

Arweinydd y tŷ, fel y byddwch yn gwybod, mae'r pwyllgor yr wyf yn Gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cymryd ymagwedd gyffredinol ar gyfer dychwelyd yr adroddiadau ac, yn wir, y ddeddfwriaeth yr ydym wedi craffu arni, i wneud yn siŵr bod y gweithredu yn cyrraedd y safon briodol, ac mae hynny'n cynnwys y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Felly, un agwedd yr ydym ni wedi bod yn bryderus amdani, fel y soniodd Leanne Wood, yw'r canllawiau comisiynu statudol, a phrydlondeb bwrw ymlaen gyda hynny. Ac fel y dywedodd Leanne Wood hefyd, roedd y cynghorydd cenedlaethol blaenorol wedi dweud, ryw ddwy flynedd yn ôl rwy'n credu, fod cyhoeddi'r canllawiau statudol yn allweddol at ddiben y Ddeddf, a'i bod hi'n bryderus iawn ar y pryd nad oedd unrhyw amserlen wedi ei chadarnhau ar gyfer cyhoeddi'r canllawiau hynny. Ac, yn wir, yn absenoldeb hynny, cynhyrchodd Ymddiriedolaeth Banc Lloyds a Chymorth i Ferched Cymru ganllawiau anstatudol. Felly, yn syml, bydd gennyf ddiddordeb mewn unrhyw beth pellach y gallwch ei ddweud o ran gwneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael eu datrys yn foddhaol.

Hefyd, o ran y strategaethau lleol, arweinydd y tŷ, mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar, roeddech wedi dweud bod y strategaethau drafft i gyd wedi eu cyhoeddi erbyn y dyddiad cau a osodwyd yn y ddeddfwriaeth, sef mis Mai eleni rwyf yn credu. Ond tybed a oes unrhyw ganlyniadau cyfreithiol o ran y strategaethau lleol hynny nad ydynt yn cael eu cyhoeddi yn eu ffurfiau terfynol erbyn y dyddiad cau hwnnw ym mis Mai, o ystyried bod y dyddiad cau hwnnw wedi ei nodi yn y ddeddfwriaeth. Rwyf yn meddwl tybed a fydd amserlen ar gyfer y fframwaith cyflawni, gan fy mod i'n credu yn amlwg bod hynny'n bwysig iawn tuag at y cynnydd y mae'n rhaid ei wneud.

Ac yn olaf, ar adolygu darpariaeth lloches, tybed a allech roi rhywfaint o eglurder ynghylch sut y bydd yr adolygiad, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, yn gweithio ochr yn ochr â'r model ariannu cynaliadwy.

I'll start there, because that allows me to talk about the two together. We've set up a task and finish group of stakeholders to develop the sustainable funding model, after all of the work that we were doing, as I said in answer to Leanne Wood, around sorting out the necessary infrastructure to regionalise the commissioning. And then we realised, as a result of various submissions, from all over Wales, that people were not in a position to do that, and there were various difficulties. So, rather than forging ahead with that—we very much want this to work, in the end, so what we did was we rowed back from that a little bit. And the task and finish group is chaired by one of the national advisers, Yasmin Khan, with a view to us working out the sustainable funding model that everybody involved in the sector actually buys into and agrees. So, the timescale did slip, but I thought it was much more important to have that sustainable funding model than to have the rigid timetable and then not have something that worked.

In terms of whether there was a penalty or a consequence of them not having done it, we had to consider that, because I didn't think that, where we are in the cycle, that was a proportionate response. So, we decided that that wasn't a proportionate response in this instance. However, it's possible to have that if, in further iterations, the timescale isn't met. But given where we are in the Act, and this is new territory and so on, and given that they'd got their drafts in, we didn't think that was a proportionate response. But it is possible to do that later on in the cycle if we do have somebody who doesn't produce it in good time.

In terms of the refuge provision, what we want to look at is the assessment of need coming back from the local authorities, what's currently funded at the moment, what the map of that looks like and how that matches. This is a very complex area, because it's not just Welsh Government funding—there are a raft of other sets of funding: lots of charities fund in this area, the UK Government tampon tax funds in this area, and a number of other things do. So, what we want to do is put a set of fundings together that allow people to get the best out of that jigsaw and to kind of provide a pathway through it, because you don't want to have a PhD in how some of that fits together to be able to access it, and to stop the constant competition for small amounts of money that goes on in groups of people we'd like to have collaboration from. So, that's no small task and finish group that the national advisers are chairing, but I'm told it's going very well, and we are very hopeful that we'll have a seriously sustainable funding model coming back out of it. 

Fe ddechreuaf yn y fan yna, gan y bydd hynny'n caniatáu imi siarad am y ddau gyda'i gilydd. Rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen o randdeiliaid i ddatblygu model ariannu cynaliadwy, ar ôl yr holl waith a wnaethom, fel y dywedais yn fy ateb i Leanne Wood, o amgylch y seilwaith angenrheidiol i ranbartholi’r comisiynu. Ac wedyn, fe wnaethom sylwi, o ganlyniad i gyflwyniadau amrywiol, o bob cwr o Gymru, nad oedd pobl mewn sefyllfa i wneud hynny, a bod anawsterau amrywiol yn bodoli. Felly, yn hytrach na bwrw ymlaen â hynny—rydym yn awyddus iawn i hyn weithio, yn y pen draw, felly yr hyn a wnaethom oedd cefnu ychydig bach. Ac mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gadeirio gan un o’r ymgynghorwyr cenedlaethol, Yasmin Khan, gyda bwriad o’n cael ni i weithio allan y model ariannu cynaliadwy y mae pawb sy’n gysylltiedig â’r sector mewn gwirionedd yn ei gefnogi ac yn cytuno ag ef. Felly, fe wnaeth yr amserlen lithro, ond credais ei bod hi’n llawer pwysicach cael y model ariannu cynaliadwy hwnnw na chael yr amserlen anhyblyg ac yna bod heb rywbeth a oedd yn gweithio.

O ran a oedd cosb neu ganlyniad i'r ffaith nad oedden nhw wedi gwneud hynny, roedd yn rhaid inni ystyried hynny, gan nad oeddwn i’n credu, y lle yr ydym ynddo yn y cylch, bod hynny’n ymateb cymesur. Felly, fe wnaethom benderfynu nad oedd hynny’n ymateb cymesur yn yr achos hwn. Fodd bynnag, mae'n bosibl cael hynny os na fydd yr amserlen yn cael ei bodloni mewn fersiynau pellach. Ond o ystyried lle'r ydym arni yn y Ddeddf, a bod hyn yn faes newydd ac ati, ac o ystyried eu bod nhw wedi cyflwyno eu drafftiau, nid oeddem ni’n credu bod hynny’n ymateb cymesur. Ond mae'n bosibl gwneud hynny yn ddiweddarach yn y cylch os oes gennym rywun nad yw’n cynhyrchu mewn da bryd.

O ran y ddarpariaeth lloches, rydym yn bwriadu edrych ar yr asesiad o’r angen sy’n dod yn ôl o’r awdurdodau lleol, beth sy’n cael ei ariannu ar hyn o bryd, sut y mae’r map yn edrych a sut mae hynny'n cyfateb. Mae hyn yn faes cymhleth iawn, oherwydd nid cyllid Llywodraeth Cymru yn unig yw ef—ceir llwyth o setiau cyllid eraill: mae llawer o elusennau sy’n ariannu yn y maes hwn, mae treth tamponau Llywodraeth y DU yn ariannu yn y maes hwn, ac mae nifer o bethau eraill yn gwneud. Felly, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw rhoi set o gyllidebau gyda’i gilydd a fydd yn caniatáu i bobl gael y gorau o'r jig-so hwnnw gan ryw fath o ddarparu llwybr drwyddo, gan nad ydych chi eisiau gorfod cael doethuriaeth mewn sut y mae peth o hynny’n dod at ei gilydd er mwyn bod yn gallu cael gafael arno, ac i atal y gystadleuaeth gyson am symiau bach o arian sy'n digwydd mewn grwpiau o bobl yr hoffem gael cydweithrediad ganddyn nhw. Felly, nid grŵp gorchwyl a gorffen bach y mae ymgynghorwyr cenedlaethol yn ei gadeirio mohono, ond dywedir wrthyf fod pethau’n mynd yn dda iawn, ac rydym yn obeithiol iawn y bydd gennym fodel ariannu hynod gynaliadwy yn dod allan ohono.

15:40

My interest in this subject is prompted by the many years I spent as a justice of the peace, where I saw first-hand the terrible effect that domestic abuse has not only on the victims but also on the families. So, can I thank the leader of the house for her statement? It is gratifying to see the steps being taken by the Welsh Government to eradicate these abhorrent crimes. The Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 was a welcome, much-needed piece of legislation. I also think it right to recognise the many interventions and initiatives the Welsh Government has introduced since the Act, including a national strategy and its six objectives, published in 2016, and the leader of the house mentions the Live Fear Free website and helpline. It would be of interest to have some figures on how effective these two interventions are and the level of interaction by victims with both these online services. 

Leader of the house, for many years, domestics were ignored by police and society in general, often viewed as 'family matters'. Thankfully, that is no longer the case. It is now acknowledged that domestic abuse not only affects the families involved, but also society in general. Those who grow up in a violent household often take that violence into their wider social activities, and those who regularly view domestic abuse are far more likely to see it as normal behaviour and often reflect it in their own domestic relationships. 

One of the key factors in protecting the victims of domestic abuse is the provision of interventions to help them get out of such relationships. They must be sure that if they leave an abusive environment, they will be protected from their abuser and provided with a safe refuge, not just for themselves but also for any children they may have. They must also be confident that their predicament is understood and that the law will act against the perpetrators in an appropriate manner. Leader of the house, we must ensure that there are adequate numbers of refuges to take any, and all, victims of domestic abuse.

Leader of the house, you mentioned that Gwent Police has become the first force in Wales to offer 24-hour specialist support to victims of domestic abuse. They will, in the force's control room, have a team of four specially trained assertive outreach officers who will work exclusively with people who come forward as the victims of such crime. This is a positive response to the fact that Gwent Police receive around 12,000 domestic abuse calls a year. But we know that there are probably many more victims out there who, for fear of reprisal, fail to report such abuse. It is to be hoped that other police forces in Wales will follow this excellent example. Perhaps the leader of the house could update us on where other police forces are with regard to that. 

We must all play our part, both as AMs and as ordinary citizens, in helping to eradicate this evil practice. Domestic abuse is violence and violence of the worst kind, because it is often perpetrated against some of the most vulnerable in society. We must send a clear message that it will not be tolerated in Welsh society. 

Caiff fy niddordeb yn y pwnc hwn ei ysgogi gan y blynyddoedd lawer a dreuliais fel ynad heddwch, lle gwelais yn uniongyrchol effaith ofnadwy trais yn y cartref, nid ar y dioddefwyr yn unig, ond hefyd ar y teuluoedd. Felly, a gaf i ddiolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad? Mae'n braf gweld y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i ddileu’r troseddau ffiaidd hyn. Croesawyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac roedd yn ddarn o ddeddfwriaeth yr oedd angen mawr amdano. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi’n iawn cydnabod y nifer o ymyriadau a mentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno ers y Ddeddf, gan gynnwys strategaeth genedlaethol a’i chwe amcan a gyhoeddwyd yn 2016, ac mae arweinydd y tŷ yn sôn am y llinell gymorth a’r wefan Byw Heb Ofn. Byddai cael ffigurau ynghylch effeithiolrwydd y ddau ymyriad hyn o ddiddordeb ynghyd â lefel y rhyngweithio gan ddioddefwyr â'r ddau wasanaeth ar-lein hyn. 

Arweinydd y tŷ, ers blynyddoedd lawer, roedd trais yn y cartref yn cael ei anwybyddu gan yr heddlu a'r gymdeithas yn gyffredinol, gan ei weld fel ‘materion teuluol’ yn aml. Diolch byth, nad yw hynny bellach yn wir. Cydnabyddir bellach nad yw trais yn y cartref yn effeithio ar y teuluoedd yn unig, ond hefyd ar gymdeithas yn gyffredinol. Mae pobl sy'n tyfu i fyny gyda thrais yn y cartref yn aml yn mynd â’r trais hwnnw gyda nhw i’w gweithgareddau cymdeithasol ehangach, ac mae'r rhai sy'n gweld trais yn y cartref yn rheolaidd yn llawer mwy tebygol o'i ystyried yn ymddygiad arferol ac maen nhw’n adlewyrchu hynny yn aml yn eu perthnasoedd domestig eu hunain. 

Ffactor allweddol wrth amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref yw darparu ymyriadau i’w helpu nhw i ddianc o berthnasoedd o'r fath. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn siŵr os byddan nhw’n gadael amgylchedd camdriniol, y byddan nhw’n cael eu hamddiffyn rhag eu camdriniwr ac y bydd lloches ddiogel yn cael ei darparu ar eu cyfer nhw, ac nid ar eu cyfer nhw yn unig ond hefyd ar gyfer unrhyw blant sydd ganddyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hyderus hefyd y bydd eu sefyllfa yn cael ei deall ac y bydd y gyfraith yn gweithredu yn erbyn y drwgweithredwyr mewn modd priodol. Arweinydd y tŷ, mae’n rhaid inni sicrhau bod niferoedd digonol o lochesi i gymryd unrhyw, a phob, dioddefwr trais yn y cartref.

Arweinydd y tŷ, roeddech yn sôn mai Heddlu Gwent yw’r heddlu cyntaf yng Nghymru i gynnig cymorth arbenigol 24 awr i ddioddefwyr trais yn y cartref. Bydd ganddyn nhw, yn ystafell reoli’r heddlu, dîm o bedwar swyddog gwaith allanol pendant sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig ac a fydd yn gweithio gyda phobl sy'n dod ymlaen fel dioddefwyr trosedd o'r fath yn unig. Mae hyn yn ymateb cadarnhaol at y ffaith bod Heddlu Gwent yn derbyn tua 12,000 o alwadau trais yn y cartref y flwyddyn. Ond gwyddom, mae'n debyg, bod llawer mwy o ddioddefwyr allan yna sydd, oherwydd ofn dialedd, yn methu â chrybwyll camdriniaeth o'r fath. Y gobaith yw y bydd heddluoedd eraill yng Nghymru yn dilyn yr esiampl ragorol hon. Efallai y gall arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar le y mae heddluoedd eraill o ran hynny. 

Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, yn Aelodau’r Cynulliad ac yn ddinasyddion cyffredin, gan helpu i ddileu'r arfer drwg yma. Mae cam-drin domestig yn drais a thrais o'r math gwaethaf, gan ei fod yn aml yn digwydd i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae’n rhaid inni anfon neges glir na oddefir hyn yn y gymdeithas yng Nghymru.

Well, yes, thank you for those remarks. I want to pay tribute to our previous colleague Jeff Cuthbert, who is the police and crime commissioner, who has taken his passion in this regard into Gwent Police with him, and Gwent Police have indeed been good role models in this, and he's the lead police commissioner in this area. We work very closely with him to make sure that we understand what works, and, as I said, Gwent is one of the areas where we've been looking to see how we roll out the regional commissioning, because of the advanced nature of their arrangements.

David Rowlands raised an interesting point about data. That is an issue for us, and one of the reasons we're doing the review that the First Minister announced is to make sure that we do have all of the right data and, where we don't have it, we know in advance we don't have it and we put in place the right arrangements so that we can collect that data. And that data can come from all over the place: from A&E resources, from GPs, from programmes, from helplines, and all the rest of it. So, that's one of the many purposes of the review.

And just in terms of the normal behaviour and the perpetrator programmes, we know that they work. After the This Is Me campaign, we had an increased use of the Live Fear Free website by over 6,000 per cent. So, it really did work. Seven million impressions through tv and radio advertisements, a significant increase across the use of all of our social media channels—so, that's very good. We also know that calls to the helpline from concerned others doubled during the Don't Be a Bystander campaign period compared with the same period the year before. So, we know that they work and we collect the data to show that.

The last thing to say is that future campaigns are going to be focusing on coercive control. Deputy Presiding Officer, I've seen the storyboard for that; it actually moved me to tears, I have to say. We are launching those in January and we expect similar penetration and reach across the market to redouble our efforts to say what David Rowlands said, that this behaviour is simply not tolerable in any civilised society, never mind Wales.

Wel, ie, diolch ichi am y sylwadau hynny. Rwyf yn dymuno talu teyrnged i’n cyn gyd-Aelod Jeff Cuthbert, sy’n gomisiynydd heddlu a throsedd, sydd wedi mynd â’i angerdd gydag ef i Heddlu Gwent, ac mae Heddlu Gwent yn sicr wedi bod yn ddelfryd ymddwyn da yn hyn o beth, ac y fe yw comisiynydd arweiniol yr heddlu yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag ef i wneud yn siŵr ein bod ni’n deall beth sy'n gweithio, ac, fel y dywedais, Gwent yw un o'r ardaloedd yr ydym wedi bod yn edrych arno i weld sut i gyflwyno'r comisiynu rhanbarthol, oherwydd natur ddatblygedig eu trefniadau.

Cododd David Rowlands bwynt diddorol ynghylch data. Mater i ni yw hynny, ac un o'r rhesymau pam rydym yn gwneud yr adolygiad y cyhoeddodd y Prif Weinidog yw i wneud yn siŵr bod y data cywir i gyd gennym a, lle nad yw ef gennym, rydym yn gwybod ymlaen llaw nad yw ef gennym a gallwn roi’r trefniadau cywir ar waith fel y gallwn gasglu’r data hwnnw. A daw’r data hwnnw o bob man: o adnoddau damweiniau ac achosion brys, gan feddygon teulu, o raglenni, o linellau cymorth, ac yn y blaen. Felly, dyna un o lawer o ddibenion yr adolygiad.

Ac o ran yr ymddygiad arferol a’r rhaglenni tramgwyddwyr yn unig, gwyddom eu bod nhw’n gweithio. Ar ôl yr ymgyrch This Is Me, fe gawsom ni fwy o ddefnydd o’r wefan Byw Heb Ofn gan dros 6,000 y cant. Felly, roedd ef yn wir yn gweithio. Saith miliwn o argraffiadau drwy hysbysebion teledu a radio, cynnydd sylweddol yn nefnydd ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyd — felly, mae hynny'n dda iawn. Rydym hefyd yn gwybod bod galwadau i'r llinell gymorth gan bobl eraill sy’n bryderus yn ystod yr ymgyrch Paid Cadw'n Dawel wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Felly, gwyddom eu bod nhw’n gweithio ac rydym yn casglu data i ddangos hynny.

Y peth olaf i'w ddweud yw bydd ymgyrchoedd yn y dyfodol yn canolbwyntio ar reolaeth gymhellol. Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi gweld y bwrdd stori ar gyfer hynny; cyffwrddodd fi hyd at ddagrau, mae’n rhaid imi ddweud. Rydym yn lansio’r rhai hynny fis Ionawr ac rydym yn disgwyl treiddiad tebyg gan gyrraedd pob rhan o’r farchnad i ddyblu ein hymdrechion i ddweud yr hyn a ddywedodd David Rowlands, sef bod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas waraidd, heb sôn am Gymru.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. I thank you for your update today, leader of the house. We all know that last Sunday was the International Day for the Elimination of Violence against Women and that there will be 16 days of activism. There is huge campaigning going on and awareness-raising around things like the White Ribbon campaign, and I'll be doing one of those again with the Women's Institute in Aberystwyth on Friday.

But what isn't happening is—the incidence of domestic abuse and the deaths of two women per week, they're not coming down. There is no reduction whatsoever in those figures, and those figures do represent people. They represent individuals and families and loved ones that are being lost. So, it leads me to ask the question: whilst I recognise all the good work that we are now putting into schools, teaching children about the respect agenda at the very earliest stages that they are able to comprehend that, what work are we doing beyond that in terms of other clubs, social clubs, sports clubs, youth clubs that aren't attached to schools, where we can get that message into communities in a different way? Because it is obvious that we have to change the pattern of behaviour, and the pattern of behaviour clearly starts with young people.

The other figure that doesn't seem to be coming up very often is the one that the South Wales Fire and Rescue Service told me last week, that they receive 60 calls every single month about threatened arson. And, if you look at the UK figures, when it comes to domestic abuse, 40 per cent of them are as a consequence of arson attacks.

So, those are my two questions: one about other fire and rescue services taking up the very good work that's been driven by Huw Jakeway in south Wales, and the other question is about widening, as far and wide as possible, the impact and the influence that we can have on young people under the respect agenda.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch ichi am eich diweddariad heddiw, arweinydd y tŷ. Gwyddom i gyd mai dydd Sul diwethaf oedd Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a bydd 16 diwrnod o weithredu. Ceir llawer o ymgyrchu parhaus a chodi ymwybyddiaeth am bethau fel ymgyrch y Rhuban Gwyn, a byddaf yn gwneud un o'r rhai hynny unwaith eto gyda Sefydliad y Merched yn Aberystwyth ddydd Gwener.

Ond yr hyn nad yw’n digwydd yw—nifer yr achosion o drais yn y cartref a dwy fenyw sy’n marw bob wythnos, nid yw’r nifer hwnnw’n lleihau. Nid oes gostyngiad o gwbl yn y ffigurau hynny, ac mae’r ffigurau hynny yn cynrychioli pobl. Maen nhw’n cynrychioli unigolion a theuluoedd ac anwyliaid sy'n cael eu colli. Felly, mae hyn yn fy arwain i ofyn y cwestiwn: er fy mod i’n cydnabod yr holl waith da yr ydym yn ei roi i mewn i’r ysgolion yn awr, yn addysgu plant am faterion parch yn gynnar pan eu bod nhw’n gallu deall hynny; mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud y tu hwnt i hynny o ran clybiau eraill, clybiau cymdeithasol, clybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgolion, sut allwn ni drosglwyddo'r neges honno i gymunedau mewn ffordd wahanol? Oherwydd, mae hi'n amlwg bod rhaid inni newid y ffordd y mae pobl yn ymddwyn, ac mae'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn yn amlwg yn dechrau gyda phobl ifanc.

Y ffigur arall nad yw'n ymddangos yn aml iawn yw'r un y dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrthyf amdano yr wythnos diwethaf, eu bod nhw’n cael 60 o alwadau bob mis ynghylch bygythiadau llosgi bwriadol. Ac, os edrychwch chi ar ffigurau'r DU ynghylch trais yn y cartref, mae 40 y cant ohonyn nhw o ganlyniad i ymosodiadau llosgi bwriadol.

Felly, dyna fy nau gwestiwn: un am y gwasanaethau tân ac achub eraill yn ymgymryd â’r gwaith da iawn sydd wedi ei sbarduno gan Huw Jakeway yn y de, a’r llall am ehangu, gymaint â phosibl, yr effaith a’r dylanwad y gallwn eu cael ar bobl ynghylch materion parch.

Yes, and, as usual—Joyce Watson has championed this for years beyond mention. All of your political career, you've been a champion for this, quite rightly so. And it is worrying that the figures don't move. We need a much more concerted, across our society, impact on this. It's part of the reason we were running the gender stereotyping piece, because I think—. Some people, we had some feedback saying, 'What's this got to do with it?' But, actually, we need to understand the base cause of some of these issues, and a large part of the base cause is people being forced into role models that they simply don't want to be in, don't live up to, and it makes people seriously suffer in their mental health, and that leads on to these kinds of programmes. So, I couldn't agree with you more. We're having a conversation with our universities about running compulsory consent programmes before people register, for example, and I'd like to pay tribute to Cardiff University, which has already done that, and we'd like to see that rolled out across the piece, and to have compulsory consent talks in schools for young people as they become sexually active as part of the new curriculum, and, as I said, I will be talking to Kirsty about the timing of that, and what we can do about it.

But she makes a very good point, and I will be taking it up with the national advisers as well, about how we can get, for example, our youth engagement and protection programme involved in this matter, because she's absolutely right: we have to get that consent talk out there. Unfortunately, with my data and digital hat on, you see increasing numbers of young men addicted to pornography online, and that's a real serious issue as well. We see the rise of some behaviours associated with that.

So, this is—you're absolutely right: we need to get this widespread in society, and that whole issue around ACEs, teaching children that what they're experiencing is not normal or right, and that they have rights, and our whole rights-based approach to education, is also in this space. So, I think we just need a whole-Government approach to working it out, and I think the gender review is very much pushing us in that direction as well, and she's absolutely right to highlight it.

Ie, ac, fel arfer—mae Joyce Watson wedi hyrwyddo hyn ers blynyddoedd maith. Eich holl yrfa wleidyddol, rydych wedi hyrwyddo hyn, a da o beth yw hynny. Ac mae'n destun pryder nad yw’r ffigurau’n symud. Mae angen llawer mwy o effaith ar y cyd, ar draws ein cymdeithas, ar hyn. Mae’n rhan o'r rheswm pam rydym yn rhedeg y darn ynghylch stereoteipio ar sail rhyw, gan fy mod i’n credu—. Mae rhai pobl, rydym wedi cael rhai sylwadau sy’n gofyn beth sydd gan hyn i wneud â’r peth. Ond, mewn gwirionedd, mae angen inni ddeall achos sylfaenol rhai o'r materion hyn, a rhan fawr o'r achos sylfaenol yw bod pobl yn cael eu gorfodi i fod yn esiamplau ymddygiad nad ydyn nhw’n dymuno bod, nid ydyn nhw’n bodloni’r disgwyliadau, ac maen nhw’n gwneud i bobl ddioddef o ddifrif yn eu hiechyd meddwl, ac mae hynny'n arwain at y mathau hyn o raglenni. Felly, allwn i ddim cytuno â chi yn fwy. Rydym ni'n cael sgyrsiau gyda'n prifysgolion ynghylch rhedeg rhaglenni cydsyniad gorfodol cyn i bobl gofrestru, er enghraifft, a byddwn i’n hoffi talu teyrnged i Brifysgol Caerdydd, sydd eisoes wedi gwneud hynny, a byddem ni’n hoffi gweld hynny’n ymestyn yn gyffredinol, a chael sgyrsiau gorfodol ynghylch cydsyniad ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion wrth iddyn nhw ddechrau ymwneud â gweithgarwch rhywiol yn rhan o'r cwricwlwm newydd, ac, fel y dywedais, byddaf yn siarad gyda Kirsty ynghylch amseriad hynny, a’r hyn y gallwn ni ei wneud am y peth.

Ond mae hi’n gwneud pwynt da iawn, a byddaf yn codi hynny gyda'r cynghorwyr cenedlaethol hefyd, ynghylch sut y gallwn, er enghraifft, gael ein rhaglen diogelu ac ymgysylltu â phobl ifanc i gymryd rhan yn y mater hwn, gan ei bod hi’n hollol gywir: mae’n rhaid cael y sgyrsiau cydsyniad hynny allan yn y gymdeithas. Yn anffodus, gan wisgo fy het data a digidol, ceir nifer cynyddol o ddynion ifanc sy’n gaeth i bornograffi ar-lein, ac mae hynny'n fater difrifol hefyd. Rydym yn gweld cynnydd mewn rhai mathau o ymddygiad sy'n gysylltiedig â hynny.

Felly, mae hyn—rydych yn llygad eich lle: mae arnom angen gwneud hyn yn gyffredin mewn cymdeithas, ac mae’r holl fater ynghylch ACE, addysgu plant nad yw’r hyn y maen nhw’n ei brofi yn arferol nac yn gywir, a bod ganddyn nhw hawliau, a bod ein dull addysgol cyfan sy’n seiliedig ar hawliau, yn y lle hwn hefyd. Credaf, felly, bod arnom angen dull Llywodraeth gyfan i weithio hyn allan, a chredaf fod yr adolygiad rhyw yn ein gwthio i'r cyfeiriad hwnnw yn fawr iawn hefyd, ac mae hi'n hollol gywir wrth dynnu sylw at hynny.

15:50

Thank you very much, leader of the house. Thank you.

Diolch yn fawr iawn i chi, arweinydd y tŷ. Diolch.

5. Dadl: 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'
5. Debate: 'A National Contemporary Art Gallery Wales Feasibility Study' and 'A Sport Museum for Wales Feasibility Study'

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

The following amendments have been selected: amendment 1 in the name of Darren Millar, and amendments 2, 3, 4 and 5 in the name of Rhun ap Iorwerth.

Yr eitem nesaf yw'r ddadl 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'. Galwaf ar y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas.

The next item is the debate 'A National Contemporary Art Gallery Wales Feasibility Study' and 'A Sport Museum for Wales Feasibility Study', and I call on the Minister, Dafydd Elis-Thomas.

Cynnig NDM6873 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru— Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'.

2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.

3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.

Motion NDM6873 Julie James

To propose that the National Assembly for Wales:

1. Notes the publication of the feasibility studies on a 'National Contemporary Art Gallery Wales Feasibility Study' and 'A Sport Museum for Wales Feasibility Study'.

2. Welcomes the analysis and recommendations in both reports, together with the opportunities and challenges they present.

3. Recognises that further work is required before decisions on future action is taken.

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw 'dichonoldeb' yn air hawdd i'w yngan yn Gymraeg nag yn Saesneg, ond mae'n fraint gen i gyflwyno'r ddadl yma a dathlu'r ffaith ein bod ni'n genedl sy'n gyforiog o hanes a diwylliant, ble mae ein hanes a'n treftadaeth ni yn elfennau pwysig yn ein cymeriad fel cenedl. Ac, o ganlyniad i hynny, mae'r ffordd yr ydym ni yn cyfleu ein hunain drwy gelf a chwaraeon bob amser yn fater trafodaeth yn ein plith ni. 

Yn yr achos yma, mi fu'r ymgynghorwyr ar gyfer y ddwy astudiaeth yma yn gweithio am flwyddyn, a mwy na hynny, ac mae'r adroddiadau terfynol bellach wedi'u cyhoeddi, ac rydw i wedi cael cyfle i'w hastudio nhw. Mi fyddaf i'n cyfeirio ar rai o'r prif argymhellion, ond beth rydym ni'n ceisio amdani ydy nid chwilio am atebion hawdd na sydyn, ond rhoi cyfle i bobl gyfrannu i'r drafodaeth, ac mae'r ddadl yma yn amser y Llywodraeth yn rhan o hynny.  

Rydym ni am geisio sicrhau—a dyma ydy'r prif amcan—fod pobl Cymru yn cael gafael ac yn gallu cymryd rhan a mwynhau ein celf a diwylliant byrlymus, a'n bod ni'n cynyddu'r gyfranogaeth honno. I'r pwrpas yma, fe ymgynghorwyd â rhanddeiliaid o bob math—arbenigwyr yn eu maes, pobl â diddordeb arbennig mewn amgueddfeydd a chelf—ac mae'r argymhellion yn y ddau adroddiad yn deillio o'r trafodaethau hynny.

I edrych yn gyntaf gyda'r astudiaeth chwaraeon, amgueddfa bêl-droed genedlaethol oedd symbyliad cychwyn yr astudiaeth yma yn wreiddiol, ond, yn fuan iawn, fe ledwyd y briff yn ehangach i ystyried treftadaeth chwaraeon o bob math, ond bod pêl-droed yn parhau yn elfen ganolog yn yr argymhellion. Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn cofio am yr ystod o gemau hanesyddol a oedd yn cael eu chwarae yng Nghymru, yn sail i'r gemau modern megis rygbi a phêl-droed a snwcer a bocsio, heb anghofio am bwysigrwydd y cynnydd sylweddol mewn pêl-rwyd ymhlith menywod, a'r diddordeb byw a newydd, oherwydd llwyddiant pobl fel Geraint Thomas, mewn beicio ac yna athletau a nofio yn ogystal. Mae gennym ni sêr yn y byd chwaraeon, ac mae'r sêr yr un mor bwysig ag yw cyfranogaeth y boblogaeth yn gyffredinol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi canfod yn y trafodaethau rwyf i wedi eu cael gyda'r adran sy'n gyfrifol am y maes yma yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yna fwy o ddiddordeb gennym ni yng Nghymru—ac mae polisi'r Llywodraeth yn adlewyrchu hynny—mewn cynyddu cyfranogaeth a llai o bwyslais, o bosib, ar gyfrif medalau. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn beth iach. 

Thank you very much, Deputy Presiding Officer. 'Dichonoldeb' isn’t an easy word to pronounce in Welsh, nor is ‘feasibility’ in English, but it’s my pleasure to open this debate and to celebrate the fact that we are a nation that is awash with history and culture, where our history and heritage are important elements of our national character. And, as a result of that, the way in which we convey ourselves through sport and art is always a topic for discussion among us.

In this case, the consultants for these two feasibility studies worked for 12 months and more, and the final reports have now been published. I have had an opportunity to study them and I will refer to some of the main recommendations contained within them, but what we are seeking here is not easy or quick solutions, but to give people an opportunity to contribute to the discussion, and this debate in Government time is part of that.

We will seek to ensure—and this is the main objective—that the people of Wales can access and can participate and enjoy our art and culture, and that we enhance and increase that participation. To this end, stakeholders of all kinds were consulted—specialists in their areas, people who have a particular interest in museums, galleries and in arts more generally—and the recommendations of both reports emerge from those discussions.

To look, first of all, at the sports study, a national football museum was the initial spark for this study, but, very soon, the brief was widened to consider sports heritage of all kinds, but football remaining a central part in the recommendations. Therefore, it’s important that we do bear in mind the range of historical sports played in Wales, which are the basis, of course, for the modern versions of football, rugby, snooker and boxing, never mind the importance of the great increase in netball among women, and the very live interest, because of the success of people like Geraint Thomas, in cycling, as well as athletics and swimming too. We have sports stars in Wales, and the stars are just as important as the participation of the wider population. I have to say that I have found in the discussions that I have had with the department responsible for this area within the UK Government that there is more interest among us here in Wales—and the Government’s policy here reflects that—in increasing participation and less emphasis, perhaps, on counting medals, and I do think that that is healthy.

15:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

The Llywydd took the Chair.

Mae'r adroddiadau yma, fel y dywedais i, yn benllanw sgyrsiau a chyfraniadau gan sefydliadau ac unigolion, ac mae'r prif gyrff llywodraethu wedi cyfrannu, gan gofio bod gennym ni dros 60 o gyrff llywodraethu ar yr holl amrywiol chwaraeon yng Nghymru, ac mae'r dystiolaeth yn adlewyrchu barn y rheini. Mae yna argymhelliad pendant i fuddsoddi yn Wrecsam yn yr adroddiad i alluogi datblygu'r amgueddfa yno yn amgueddfa bêl-droed. Ac mae'r argymhelliad hefyd yn mynd ymlaen yn y panel i sôn am banel arbenigol ar dreftadaeth chwaraeon i gryfhau gweledigaeth genedlaethol a fframweithiau yn codi o hynny. Ac yna mae'r argymhelliad pwysig bod yna gampau eraill yn haeddu sylw a bod yn rhaid ceisio ffyrdd eraill o wneud hynny yn hytrach na chreu rhagor o amgueddfeydd i wahanol fathau o chwaraeon. 

Mae yna gyfeiriad penodol wedi cael ei wneud at yr awdurdod lleol yn Wrecsam yn yr adroddiad, ac mae'n amlwg nad mater i Lywodraeth Cymru benderfynu ffordd ymlaen ar ei phen ei hun ydy hwn. Rydw i wedi ceisio pob cyfle—ac rydw i'n cael llawer ohonyn nhw, wrth gwrs—i drafod o gwmpas achlysuron chwaraeon i geisio gweld beth yw'r farn a beth yw'r ymdeimlad yn gyffredinol yn y sector yng Nghymru.

Mae'r un peth yn wir gyda'r adroddiad celf gyfoes. Dyma'r adeg o'r flwyddyn y mae yna lawer o arddangosfeydd celf o bob math yn digwydd ac rydw i wedi cael cyfle i weld y diwylliant celf gyfoes iach a bywiog o bob math ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, o'r amgueddfeydd a'r orielau mawr drwodd i'r datblygiad diddorol sy'n digwydd bellach mewn llawer o orielau preifat, llai, a'r orielau rhanbarthol, safonol, megis y Mostyn yn y gogledd a Glyn y Weddw a Glynn Vivian yn Abertawe. Mae hyn i gyd wedi cael ei gydnabod yn glir yn yr adroddiad ac efallai mai un o'r argymhellion mwyaf rhybuddiol i mi fel Gweinidog oedd nad ydym yn creu gormod o gynnwrf nac unrhyw fath o anwastadrwydd yn y ddarpariaeth bresennol sy'n bod. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn allweddol bwysig.

Mae'r argymhellion yn eithaf clir. Y cam cyntaf ydy'r hyn a elwir yn gynfas cenedlaethol comisiynu gweithiau newydd ledled Cymru i greu diddordeb, gydag artistiaid yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol; y cam o fuddsoddi yn y seilwaith sydd gennym yn barod gan ddarparu dull cyflenwi sy'n agor y casgliadau cenedlaethol ac yn cynnig gweithiau newydd i gynulleidfaoedd ar draws y wlad; ac yna y trydydd argymhelliad i sefydlu pencadlys celf gyfoes cenedlaethol yn ofod parhaol ac yn llwyfan bywiog.

Wel, mae'r model yma sydd wedi'i awgrymu yn yr adroddiad yn un cymhleth, ond mae o'n un y gallwn ni feddwl am ei ddatblygu mewn sawl ffordd wahanol, gan gysylltu hynny â pha adnoddau sydd ar gael. Fel gyda'r astudiaethau chwaraeon, mae'r cyfan yn dibynnu ar weithredu mewn partneriaeth, yn fy marn i, ac mi fyddaf i yn ceisio gwneud hynny os caf i'r cyfle i barhau yn y swydd yma ac i weithredu ar yr argymhellion. Mae'r astudiaeth yn codi allan o ymgynghoriad, gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r rhai a wnaeth y gwaith, a hefyd i'r holl garedigion chwaraeon a charedigion celf mas fanna sydd wedi cymryd diddordeb yn y broses yma, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed beth a ddywedir ymhellach yn y ddadl yma heddiw.

These reports, as I say, are the high point of a series of discussions by a number of individuals and organisations, and the main governing bodies have contributed, bearing in mind that we have over 60 governing bodies on all of the various sports in Wales, and the evidence reflects the views expressed there. There is a recommendation to invest in Wrexham in order to allow the development of a football museum there, and the recommendation goes on to mention an expert panel on sport heritage in order to strengthen that national vision, and there will be frameworks arising from that. And then there’s an important recommendation that other sports deserve to be included and that we must seek other means of addressing that issue, rather than creating further museums for the various different sports.

There is a specific reference that has been made to the local authority in Wrexham in the report, and it is clear that it’s not a mater for the Welsh Government to determine the way forward alone. And I have sought all opportunities—and I do have very many of them—to have discussions on these issues around sporting events in order to see what the view is and what the feeling is more generally within the sector.

The same is true with the report on contemporary arts. This is the time of year when a great many arts exhibitions are taking place, and I have had an opportunity to see the vibrant contemporary arts culture of all kinds across Wales over the past few months, from the major museums and galleries through to the interesting developments happening now in many private galleries, smaller galleries, as well as the quality regional galleries, such as Mostyn, Glyn y Weddw and the Glynn Vivian in Swansea. This has all been clearly recognised in the report, and perhaps one of the starkest recommendations for me, as a Minister, is that we shouldn’t create too much imbalance in the current provision, and I do feel that that is a crucially important point.

The recommendations are quite clear. The first step is what is called a national canvass to commission new works the length and breadth of Wales to generate interest, with artists working alongside local communities. The next step would be investing in the infrastructure that we have and providing a supply structure that opens out the national collections and provides new works to audiences across the nation. And then the third recommendation is to establish a headquarters for contemporary art as a permanent space and a vibrant platform for the arts.

Now, this model that has been suggested in the report is complex, but it is one that we can consider developing in many different ways, linking that with the resources available to us. As with the sports feasibility studies, it’s all reliant on working in partnership, in my view, and I will be seeking to do that if I have the opportunity to continue in this role and to implement these recommendations. The study arises from a consultation, information and specialist knowledge and I’m very grateful to those who carried out this work, and also to all the friends of sports and the arts out there who have taken an interest in this process, and I look forward to listening to this debate here this afternoon.

16:00

Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—David Melding.

I have selected the five amendments to the motion. I call on David Melding to move amendment 1, tabled in the name of Darren Millar—David Melding. 

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod gwerth y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth;

Yn croesawu'r argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.

Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd.

Amendment 1—Darren Millar

Deletes points 2 and 3 and replace with:

Acknowledges the value of the analysis provided in the two reports as a basis for extensive public engagement.

Welcomes the recommendations for expert panels to improve the recognition and protection of Wales's sporting and artistic heritage.

Believes that decisions on future action must reflect the ambition to create something fresh and world leading.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Amendment 1 moved.