Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/09/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog. Cwestiwn 1, Russell George.

Amseroedd Ymateb Ambiwlansys

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys? OAQ52627

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ragori ar y targed cenedlaethol i ymateb i alwadau lle ceir bygythiad uniongyrchol i fywyd neu alwadau coch o fewn wyth munud. Ym mis Awst, cafodd 74.4 y cant o alwadau coch ymateb o fewn wyth munud, gydag amser ymateb canolrif o ychydig dros bum munud.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Holais Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys, yn dilyn oediadau o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans gyrraedd yn dilyn galwad 999. Priodolwyd hyn yn rhannol i ambiwlansys yn disgwyl y tu allan i ysbytai i drosglwyddo cleifion i ofal staff yr ysbyty. Mewn llythyr ataf i ar 24 Gorffennaf, cadarnhaodd prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod amseroedd trosglwyddo cyfartalog ambiwlansys o fis Ionawr i fis Mehefin eleni yn naw munud yn Telford, 26 munud yn Amwythig, ac amser brawychus o awr a dau funud yn ysbyty Maelor Wrecsam. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddarparu manylion yr hyn yr ydych chi'n ei wneud i wella'r amser trosglwyddo yn ysbyty Maelor Wrecsam, sydd, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, i osgoi oediadau pellach i amseroedd ymateb ambiwlansys i drigolion Sir Drefaldwyn.

Wel, yn amlwg mae problemau yn ysbytai Lloegr hefyd, a bydd adegau pan fydd y galw yn arbennig o ddwys. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho, fodd bynnag, yw, o ran Powys, ym mis Awst, yr ymatebwyd i 71.2 y cant o alwadau coch o fewn wyth munud—mae hynny'n uwch na'r targed cenedlaethol o 65 y cant am y pedwerydd mis yn olynol. Tua pedwar munud ac wyth eiliad oedd yr amser ymateb nodweddiadol ar gyfer y math hwnnw o alwad—yr amser ymateb nodweddiadol cyflymaf yng Nghymru y mis hwnnw. Ac, yn olaf, er nad oes targed amser ffurfiol ar waith ar gyfer galwadau ambr, 20 munud ac 17 eiliad oedd yr ymateb nodweddiadol ar gyfer galwad ambr ym Mhowys ym mis Ionawr, sydd unwaith eto yn well na'r cyfartaledd cenedlaethol o 24 munud ac 19 eiliad.

Rydym ni'n sôn fel arfer am ymateb ambiwlans i bobl sydd â salwch corfforol. Ond, wrth gwrs, mae yna bobl sydd ag anghenion salwch meddyliol hefyd, ac nid oes gennym ni dimau penodol sy'n ymateb i alwadau iechyd meddwl. Rŵan, yn Sweden—yn Stockholm, yn benodol—oherwydd y nifer uchel o hunanladdiadau, mae yna dîm arbennig wedi cael ei sefydlu, sef tîm ymateb brys seiciatryddol. Rŵan, o ystyried yr angen sydd yna am ymateb brys i bobl sydd ag anhwylder acíwt meddwl neu i'r rheini sydd mewn peryg o hunanladdiad, a ydych chi fel Prif Weinidog yn cytuno y dylai'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru fod yn edrych ar y posibilrwydd o greu tîm brys iechyd meddwl, neu dimau brys iechyd meddwl, hefyd yng Nghymru?

Mae hynny'n syniad diddorol. Rydym ni wedi canolbwyntio ar child and adolescent mental health services—ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn cynnwys oedolion. Ond mae hi'n wir i ddweud, os yw rhywun â rhyw fath o grisis ynglŷn â'u hiechyd meddwl, wel nid ydynt yn tueddu i feddwl am ambiwlans a'r ysbyty o ran y lle cyntaf i fynd. Ond mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, sy'n ddiddorol, yn werth edrych arno, ac fe ofynnaf i i'r Ysgrifennydd Cabinet ysgrifennu yn ôl at yr Aelod.

Prif Weinidog, bu cynnydd aruthrol i'r galw am ambiwlansys—cynnydd o tua 128 y cant dros y ddau ddegawd diwethaf. Ond mae'r model ymateb clinigol newydd i fod i sicrhau bod y rhai hynny sydd â'r mwyaf o angen yn cael yr ymateb cyflymaf—boed hynny'n ambiwlans â chriw llawn neu barafeddyg ymateb cyflym. Fodd bynnag, y llynedd, cymerodd 16 y cant o alwadau coch fwy na 10 munud ac arhosodd 68 o bobl mwy na hanner awr am ymateb brys. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn annerbyniol, ac a wnewch chi amlinellu'r camau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i leihau nifer y galwadau coch sy'n cymryd mwy na 10 munud a dileu nifer y galwadau sy'n cymryd dros hanner awr i ymateb iddynt? Diolch.

Wel, byddwn i'n siomedig iawn pe byddai'n cymryd mwy na hanner awr i ymateb i alwadau coch. O ran galwadau coch, rydym ni ymhell uwchlaw'r targed. Nid yw'n 100 y cant—rwy'n deall hynny—ond rydym ni'n llawer uwch na'r targed o ran ambiwlansys yn cyrraedd pobl pan fydd eu hangen. Bu problem a godwyd o ran galwadau ambr, wrth gwrs. Ceir rhai cleifion sy'n parhau i aros yn hwy nag y byddem yn ei ddisgwyl, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi comisiynu prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans i edrych ar y categori ambr, i gynnal adolygiad dan arweiniad clinigol o'r categori ambr. Mae hynny'n cynnwys galwadau difrifol ond nad ydynt yn fygythiad i fywyd—oddeutu dwy ran o dair o holl alwadau gwasanaeth ambiwlans Cymru, a dweud y gwir. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn diweddaru'r Aelodau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Cefnogi Prifysgolion Cymru

2. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prifysgolion Cymru? OAQ52647

13:35

Wel, rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd sector addysg uwch o'r radd flaenaf sy'n ffynnu i les economaidd a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth, wrth gwrs, i'r sector trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fydd, ynghyd â'n diwygiadau i gymorth myfyrwyr, yn creu sector cryfach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Gwn y bydd y Prif Weinidog yn cytuno bod yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit yn cael effaith enfawr ar y sector prifysgolion. Yn anffodus, dioddefwyd y gostyngiad mwyaf yn y DU gan Gymru o ran nifer yr ymgeiswyr Undeb Ewropeaidd rhwng 2017 a 2018. Felly, pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r prifysgolion, sy'n amlwg yn rhan hanfodol o'n heconomi yng Nghymru, i atal neu geisio gwyrdroi'r duedd at i lawr hon o fyfyrwyr yr UE yn dod i brifysgolion Cymru?

Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi sawl elfen ychwanegol o gyllid ar gyfer CCAUC dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan gynnwys £6 miliwn yn 2017-18 i ymdrin â goblygiadau byrdymor newid demograffig ac i baratoi ar gyfer goblygiadau Brexit. Rydym ni hefyd wedi dyrannu £3.5 miliwn i Cymru Fyd-eang hefyd o gronfa bontio Ewrop i hybu marchnata rhyngwladol a chysylltiadau ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru, a byddwn yn edrych ar gyfleoedd pellach i gronfa bontio'r UE i gynorthwyo'r sector hwn.

Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw'r cynnig yn ddigon cryf ar hyn o bryd. Pan edrychwch chi ar y ffigurau, mae gostyngiad o 7 y cant o wledydd nad ydynt yn yr UE a gostyngiad o 10 y cant o wledydd yr UE yn dod i brifysgolion yng Nghymru. Ac eto bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr a ymrestrodd ym mhrifysgolion Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr arian, sydd i'w groesawu, sut ydych chi'n mynd i newid y cynnig a fydd wir yn dechrau cael mwy o fyfyrwyr i ddod i Gymru, fel y cynigion eraill sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gweld cynnydd i'w niferoedd ymrestru?

Wel, ceir mater, wrth gwrs, sy'n effeithio ar y DU gyfan, sef y mater o'r hyn sy'n cael ei wneud o ran mudo. Mae myfyrwyr yn teimlo nad oes croeso iddynt. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei glywed lawer iawn o weithiau o ran myfyrwyr o India—maen nhw'n teimlo nad oes croeso iddyn nhw yn y DU. Mae hefyd yn bwysig dros ben ein bod ni'n gallu cael gafael ar y staff academaidd sydd eu hangen er mwyn i'n prifysgolion fod yn gystadleuol ac, yn y pen draw, dyna wraidd y mater—mae'r prifysgolion yn cystadlu mewn marchnad fyd-eang. Rwyf i eisoes wedi egluro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran prifysgolion yng Nghymru ac, wrth gwrs, rwy'n frwd dros annog ein prifysgolion i werthu eu hunain dramor i ddeall eu bod yn gweithredu mewn marchnad fyd-eang ac, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod mwy o fyfyrwyr yn dod i Gymru oherwydd ansawdd yr addysg prifysgol sydd ar gael yma.

Ond mae'r pwynt yn ddilys, onid yw? Mae yna rywbeth unigryw ynglŷn â'r ffigurau yma yng Nghymru, oherwydd mae gweddill y Deyrnas Unedig wedi gweld cynnydd o 2 y cant yn y myfyrwyr israddedig sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ond mae Cymru wedi gweld cwymp o 10 y cant. Nawr, awgrym gan eich Ysgrifennydd addysg chi, wrth gwrs, yw bod y ffordd y mae'r gefnogaeth i fyfyrwyr yng Nghymru wedi newid nawr yn golygu, wrth edrych ar y gefnogaeth, fod myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd yn gweld, efallai, neu'n cael y canfyddiad, y bydden nhw'n cael llai o gefnogaeth nag y bydden nhw yn y gorffennol. Felly, gyda hynny'n benodol mewn golwg, beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i farchnata'r cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd yno i'r myfyrwyr hynny, oherwydd ar hyn o bryd mae'n amlwg nad ydyn nhw'n clywed y neges? 

Wel, rydw i'n credu ei bod yn wir dweud bod yna effaith wedi bod ynglŷn â newid y system o gefnogaeth i fyfyrwyr. Byddai hynny'n rhywbeth hollol naturiol i'w weld. Mae'n anodd gwybod a yw hynny'n wir ai peidio heb edrych ar beth sy'n digwydd yn y pen draw, dros y blynyddoedd, i weld a yw hwn yn rhywbeth sydd yn anarferol neu i weld a yw hwn yn rhywbeth sydd yn trend. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae'n ddyletswydd ar y prifysgolion i farchnata eu hunain, ac, wrth gwrs, i edrych ar ddenu myfyrwyr i mewn i'w prifysgolion. Rydym ni'n gweithio gyda nhw fel Llywodraeth. Rydw i wedi gweithio gyda sawl prifysgol sydd wedi mynd dramor er mwyn gwerthu'r prifysgolion hynny ar draws y byd. Ond beth sy'n hollbwysig, wrth gwrs, yw sicrhau bod y staff academaidd gyda nhw sy'n gallu cynnig y fath o addysg y byddem ni'n moyn ei gweld. Ar hyn o bryd, beth sy'n peryglu hynny'n fwy na dim byd yw'r ffaith nad oes yna eglurder o gwbl ynglŷn â beth fydd statws staff academaidd o'r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill yn y pen draw. A fydd croeso iddyn nhw ai peidio? Rydw i'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd y croeso yn dal i fod yno. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Trown nawr at arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, a'r cyntaf y prynhawn yma yw arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth i weithredu gofal plant cyffredinol, sydd, a dyfynnaf,

yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ac yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol?

Mae gennym ymrwymiad maniffesto cadarn iawn, y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef.

13:40

Prif Weinidog, roedd y dyfyniad yna a ddefnyddiais o ymgais arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae eich Llywodraeth yn torri'r ddarpariaeth prydau ysgol. Mae gennym ni Ysgrifenyddion Cabinet yn eich Llywodraeth sy'n dweud un peth ac yna'n gwneud yn llwyr i'r gwrthwyneb. Nawr, mae'r comisiynydd plant wedi gresynu eich deddfwriaeth gofal plant fel cymhorthdal mawr—[Torri ar draws.]—cymhorthdal mawr ar gyfer rhai o'r teuluoedd sy'n ennill y mwyaf yng Nghymru sy'n debygol o atgyfnerthu anghydraddoldebau.

Prif Weinidog, rydych chi'n parhau i droi eich cefn ar wleidyddiaeth cynnydd o blaid gwleidyddiaeth tlodi. A ydych chi'n derbyn bod eich cynnig gofal plant atchweliadol yn debygol o atgyfnerthu anghydraddoldeb, neu a ydych chi o'r farn bod y comisiynydd plant yn anghywir?

Wel, dau beth: gadewch i ni ladd y camargraff hwn yn gyntaf oll bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yng Nghymru yn waeth nag y mae yn Lloegr. Nid dyna'r ffaith. Ceir 3,000 yn fwy o blant a fydd yn derbyn cinio ysgol am ddim o ganlyniad i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Rhoddwyd £10 miliwn ychwanegol yn y gyllideb er mwyn i hynny ddigwydd. Felly, mae'r syniad hwn bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn cael ei thorri rywsut, yn anghywir—mae'n gwbl anghywir. Rwyf i eisoes wedi rhoi'r ffigurau o ran y sefyllfa ariannol ac o ran y plant a fydd yn cael eu heffeithio.

Cyflwynwyd cynllun radical ac arloesol gennym i helpu rhieni sy'n gweithio. Dyna yw diben y cynnig—mae ar gyfer rhieni sy'n gweithio, gan ein bod ni'n gwybod pa mor anodd y gall hi fod i bobl fynd yn ôl i weithio gyda chostau gofal plant. A dyma y mae hyn wedi ei gynllunio i'w wneud—helpu'r bobl hynny sydd eisiau mynd i'r gwaith, i gael gwared ar rwystr i gyflogaeth a darparu'r gofal plant sydd ei angen ar bobl ar adeg pan fo angen y cymorth hwnnw arnyn nhw er mwyn symud yn ôl i'r byd cyflogaeth. Dyna y mae'r cynllun wedi ei lunio i'w wneud.

Yn union fel eich polisi prydau ysgol, gyda hwn, bydd plant ar eu colled. Bydd rhieni ar eu colled, a'r rheini sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn enwedig—[Torri ar draws.]—bydd y rheini sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd ar eu colled o ganlyniad i'ch deddfwriaeth gofal plant. Nawr, mae astudiaethau o Iwerddon i Awstralia i yma yng Nghymru yn dangos mai un o'r rhwystrau mwyaf i bobl sy'n chwilio am waith yw mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, a'r union bobl hynny—y bobl sy'n chwilio am waith neu'r rhai sydd mewn addysg neu hyfforddiant—y bydd eich polisi yn eu heithrio o gymorth gofal plant. Felly, Prif Weinidog, mae hwn yn bolisi atchweliadol. Byddwch yn gallu cael gofal plant am ddim os ydych chi'n bâr sy'n ennill £200,000, ond os ydych chi'n rhiant mewn anawsterau sy'n ceisio dychwelyd i waith neu hyfforddiant, bydd cymorth o'r fath yn cael ei wadu i chi. Sut mae hyn yn cyd-fynd â'ch gwerthoedd sosialaidd honedig, Prif Weinidog?

Wel, unwaith eto, dychwelaf at y pwynt a wneuthum, y mae'n ymddangos na wnaeth hi sylwi arno, sef hwn: pan ddaw i brydau ysgol am ddim, mae'r cynnig a wnaed gennym ni yn golygu y bydd £10 miliwn yn fwy y flwyddyn ac y bydd 3,000 yn fwy o blant yn cael prydau ysgol am ddim. Nid wyf i'n gweld sut mae hynny'n cyfateb i dorri prydau ysgol am ddim. Gadewch i ni wneud hynny'n gwbl eglur nawr.

Yn ail, ceir y cynllun cyflog, wrth gwrs, sy'n helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith, ond mae'n ymddangos ei bod hi'n gwrth-ddweud ei hun. Ar y naill law mae'n dweud y dylai fod yn gynllun cyffredinol; yna mae'n dweud y dylai fod yn gynllun i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith. Dyna y bwriedir iddo ei wneud—helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith a gwrthbwyso'r costau gofal plant y byddai'n rhaid iddyn nhw eu talu fel arall, sy'n ei gwneud yn llai deniadol i fynd i mewn i waith. Nawr, os mai dyna'r hyn y mae'n ei ddweud y dylem ni fod yn ei wneud, rydym ni yn gwneud hynny a byddwn yn bwrw ymlaen â'n cynnig maniffesto ac yn gwneud y cynnig gofal plant mwyaf hael mewn unrhyw le yn y DU.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, a oes gennych chi gywilydd o'r amseroedd aros damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd, sef y gwaethaf a gofnodwyd erioed, a gyhoeddwyd y mis hwn?

Mae'n rhaid iddyn nhw wella, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond, os edrychwn ni ar berfformiadau mewn rhannau eraill o'r GIG, rydym ni'n gweld bod y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn gwella. Yn amlwg, ceir her bod yn rhaid i Betsi Cadwaladr ymateb iddi er mwyn lleihau amseroedd aros yn yr ysbytai hynny.

Wel, Prif Weinidog, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers bron i dair blynedd a hanner. Beth sydd yna i'w ddangos yn sgil eich cynlluniau gwella a gweddnewid cam wrth gam? Wel, mae'r hanes yn dweud y cyfan: bu 1,900 o gleifion yn aros mwy na 12 awr mewn gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y gogledd—mae hyn yn fwy na'r holl fyrddau iechyd eraill gyda'i gilydd; yr haf hwn, collwyd mwy na 5,000 o oriau gan fod ambiwlansys yn cael eu hoedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai yn y gogledd; cofnodwyd 26,000 o ddigwyddiadau diogelwch cleifion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 10,000 yn fwy nag yng Nghaerdydd, ac roedd 233 o'r rhain yn ddigwyddiadau difrifol, mwy na dwbl y rhai yng Nghaerdydd; yn y tair blynedd diwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi gorwario £88 miliwn ac mae ganddo fwy na 2,000 o gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Mae'r rhain yn ystadegau brawychus, ac y tu ôl i'r ffigurau hyn y mae pobl go iawn sy'n dioddef o ganlyniad i'ch anallu llwyr i helpu'r bwrdd iechyd hwn i wella. Ers tair blynedd, rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaethau hyn ac wedi gosod meincnodau i sicrhau bod y bwrdd iechyd hwn yn gwella. Rydych chi'n amlwg yn siomi pobl y gogledd, felly a allwch chi ddweud wrthym ni nawr beth ydych chi a'ch Llywodraeth yn mynd i'w wneud am hyn? Pa fesurau penodol ydych chi'n mynd i'w cymryd nawr i ddechrau mynd i'r afael â'r sefyllfa hynod ddifrifol hon?

13:45

Wel, rydym ni'n cydnabod bod perfformiad ar y ddau safle hynny yn annerbyniol. Dyna'r peth cyntaf i'w ddweud. Mae'n adlewyrchiad o bwysau a gofynion ar staff sy'n gweithio'n galed. Rwyf i wedi dweud fy mod i'n disgwyl i'r bwrdd roi camau ystyrlon ar waith i ymdrin â hyn. Nawr, beth ydym ni wedi ei wneud? Wel, mae'r bwrdd, gyda gwerth £1.5 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi gwneud trefniadau i dargedu gwelliannau a chamau gweithredu o ran y system gofal heb ei drefnu yn y gogledd. Darparwyd £6.8 miliwn gennym yn gynharach eleni hefyd i gryfhau capasiti gweithredol y bwrdd iechyd ym mhob un o'r tri prif ysbyty yn y gogledd, a bwriedir i'r pecyn cymorth hwnnw alluogi'r bwrdd iechyd i gynyddu ei ddealltwriaeth o heriau lleol a gwneud penderfyniadau effeithiol i gynorthwyo gwelliant ar unwaith. Mae uned gyflawni GIG Cymru hefyd yn gweithio ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam i gynorthwyo gwaith rheoli perfformiad lleol.

Nawr, fel y dywedais, er bod y perfformiad yn gyffredinol yn annerbyniol, dwy awr a 48 munud oedd y cyfnod aros nodweddiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Awst i gleifion gael eu gweld, eu hasesu a'u trin neu eu rhyddhau. Nawr, o ystyried y pryder penodol, sydd wedi ei godi yn deg, am ffigurau mis Awst, rhoddwyd cylch gwelliant o 90 diwrnod a bydd hwn yn ganolbwynt i'r bwrdd a'r timau clinigol ar draws y gogledd. Byddwn yn adolygu cynllun 90 diwrnod y bwrdd ac yn penderfynu pa un a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol wedi'i dargedu fel mater o frys.

Prif Weinidog, mae pobl y gogledd yn y sefyllfa hon o ganlyniad i danariannu, israddio ac esgeulustod cyson ar ran eich Llywodraeth Cymru chi. Mae eich anallu llwyr i arwain y bwrdd iechyd hwn i well sefyllfa yn arwain at ganlyniadau enfawr i bobl y gogledd a'r staff sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu eu gofal. Mae pobl y gogledd yn haeddu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy. Yn amlwg, rydych chi wedi methu. Felly, dyma eich cyfle, Prif Weinidog: cyn i chi adael, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn nawr i ymddiheuro i bobl y gogledd yr ydych chi wedi eu siomi mor wael?

Yn gyntaf oll, mae'r rhain yn ddau fater mewn dau ysbyty sydd wedi dod i'r amlwg ym mis Awst y mae'n rhaid ymdrin â nhw. Does bosib y gall ef sefyll yn y fan yna a dweud nad oes gan gyni cyllidol ddim i'w wneud â hyn? Pan roddwyd £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, yr oedd cyfran sylweddol ohono ar gyfer iechyd ac addysg, a yrrodd—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn boenus—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn boenus, ond pan roddwyd swm sylweddol i iechyd ac addysg, a yrrodd geffyl a throl drwy fformiwla Barnett, lle'r oedd y Ceidwadwyr Cymreig? Mud, distaw, di-hid. Gadewch i mi ddweud wrtho: mae'n ceisio creu darlun o'r gogledd yn cael ei esgeuluso—roedd yn bleser mawr gennyf yr wythnos diwethaf gael mynd i Ysbyty Glan Clwyd ac agor y ganolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol—[Torri ar draws.] Bai pwy yw hynny? Fy mai i yw bod y SuRNICC wedi ei hagor, mae'n ymddangos? Dyna ni. Agorodd canolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol, atgoffaf y blaid gyferbyn, oherwydd i mi gomisiynu adroddiad i weld a fyddai'n gynaliadwy i leoli uned o'r fath yn y gogledd—[Torri ar draws.] O ganlyniad i—

A allwch chi i gyd ymdawelu, os gwelwch yn dda, a gwrando ar yr hyn sydd gan y Prif Weinidog i'w ddweud? Gofynnodd eich arweinydd y cwestiwn—rwy'n siarad wrth Aelodau ar y meinciau i'r dde i mi—gofynnodd eich arweinydd gwestiwn ac mae angen i ni glywed yr ateb gan y Prif Weinidog, heb unrhyw gymorth gan neb arall. Diolch.

O ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, bydd llawer, iawn o famau yn y gogledd a fydd yn gallu rhoi genedigaeth i'w babanod yn ddiogel a chael gofal yn ddiogel yn y gogledd erbyn hyn, yn hytrach na gorfod teithio i Lerpwl. Gall ef siarad, rydym ni'n cyflawni.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, pa un o'r penderfyniadau canlynol ydych chi'n credu y gall Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwyaf balch ohono? Ai dympio 300,000 tunnell o fwd niwclear tua 1 filltir o Fae Caerdydd, neu ai rhoi trwydded ar gyfer llosgydd biomas sydd y drws nesaf i adeiladau preswyl yn noc y Barri, neu, yn olaf, ai gwrthod gwerthu pren o'r coetir cyhoeddus am bris y farchnad, gan ddwyn £1 filiwn oddi wrth trethdalwyr Cymru o bosibl?

13:50

Wel, mae'r ddau fater cyntaf yn faterion gweithredol, o ran trwyddedu. Mae'r trydydd yn fater sydd wedi ei archwilio ac nad yw'n dderbyniol. Yn amlwg, dangoswyd diffyg cymhwysedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru—nid yw cael contractau llafar, er eu bod efallai'n dechnegol ddilys yn gyfreithiol, yn ddoeth. Mae'n llawer gwell cael pethau wedi eu hysgrifennu i lawr. Mae hynny wedi cael ei archwilio, yn briodol, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

A gaf i ei atgoffa nad ei blaid ef yw'r blaid orau mewn gwirionedd i bregethu ar yr amgylchedd? Dyma blaid nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb yn yr amgylchedd o gwbl, hyd y gwelaf, ac a oedd eisiau ein tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd, a oedd yn llwyr gyfrifol am godi safonau Prydain, a oedd mor echrydus, o ran yr amgylchedd, yn enwedig yn y 1970au a'r 1980au. Roedd un afon—afon Irwell yn Salford, rwy'n credu—a fyddai'n mynd ar dân ar un adeg os oeddech chi'n taflu matsien wedi ei chynnau i mewn iddi. Yr Undeb Ewropeaidd lusgodd Prydain allan o'r gwter o ran ei safonau amgylcheddol.

Nawr, gadewch i ni weld yr hyn y mae UKIP yn ei gynnig er mwyn gwarchod a gwella ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol, yn absenoldeb y fframwaith Ewropeaidd hwnnw.

Ie, rydych chi'n sôn am yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n eich holi am eich goruchwyliaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru, ond diolch am ein harwain ni i lawr lôn bengaead, Prif Weinidog. Soniasoch—[Torri ar draws.] Soniasoch am y goruchwyliaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n falch eich bod chi'n gweld swyddogaeth werthfawr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i wneud hynny. Nawr, mae gan Aelodau meinciau cefn eich hun, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae, rhan hanfodol i'w chwarae, o ran craffu ar sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, mae gennym ni un Aelod o'r meinciau cefn sydd wedi chwarae rhan hynod werthfawr ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o ran darparu goruchwyliaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru. Nodaf fod yr Aelod hwnnw yn cael ei wobrwyo am ei waith clodwiw trwy gael ei dynnu oddi ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Onid yw hyn yn profi, Prif Weinidog, nad ydych chi eisiau craffu priodol ar sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan eich Llywodraeth?

Rwy'n ei chael hi'n anodd derbyn yr hyn y mae arweinydd UKIP yn ei ddweud pan ddywed—. Mae'n sôn am bwysigrwydd gwaith y pwyllgor materion cyhoeddus, yr wyf i'n credu sy'n gywir, ac mae'n sôn am yr angen am graffu, ac eto ar yr un pryd mae eisiau diddymu'r Cynulliad, gan roi dim craffu o gwbl i ni wedyn—dros Cyfoeth Naturiol Cymru na thros unrhyw beth arall. Mae'n galw am ail refferendwm ar ddatganoli, ac yn gwrthwynebu un pan ddaw i Brexit. Felly, pan ddaw i graffu, ei ateb ef i fwy o graffu yw diddymu'r union graffwyr eu hunain, gan ei gwneud yn llawer mwy anodd i waith craffu priodol ddigwydd. Ac oherwydd y gwaith craffu hwnnw y cynorthwywyd i'r problemau yn Cyfoeth Naturiol Cymru gael eu canfod. Yn y blynyddoedd a fu, ni fyddai'r lefel honno o graffu erioed wedi bod yno, yn y dyddiau cyn datganoli. Mae'r gwaith craffu hwnnw, yn gwbl briodol, wedi ei wneud gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mae'n fater nawr i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda ni fel Llywodraeth, i unioni'r sefyllfa.

Nawr, i ddychwelyd at yr hyn a ddywedodd eich Aelod, eich Aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yng nghanol y ffiasgo pren, dyfynnaf:

'Beth sy'n digwydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae cael eu cyfrifon wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddigynsail ac yn warthus a dweud y gwir. Rwy'n cael trafferth meddwl am esboniad pam y gallai hyn fod yn digwydd. A allai fod yn llygredd neu'n anghymhwysedd? Ond ymddengys bod adran goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli rheolaeth...a chredaf y dylai fod atebolrwydd gan...uwch arweinwyr...y sefydliad hwn, sy'n ymddangos fel pe byddai wedi colli rheolaeth.'

Diwedd y dyfyniad. Nawr, rydych chi'n sôn fy mod i eisiau gael gwared ar graffu. Rwy'n sôn am fod eisiau cael gwared ar y sefydliad cwbl ddiwerth hwn, Cynulliad Cymru, yr ydych chi wedi bod yn ganolog iddo ers 18 mlynedd. Nid y craffu gan Aelodau'r meinciau cefn yw'r broblem, oherwydd pan fyddan nhw'n gwneud gwaith craffu, rydych chi'n lladd arno beth bynnag ac rydych chi'n eu tynnu oddi ar y pwyllgorau. Y pwynt yw nad yw'r Llywodraeth—[Torri ar draws.] Nad yw'r Llywodraeth—[Torri ar draws.] Nad yw'r Llywodraeth yr ydych chi wedi bod yn rhan ohoni ers 18 mlynedd yn addas i redeg y sefydliadau hyn, a dyna pam mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael bargen ofnadwy o Gynulliad Cymru. Onid yw hynny'n wir, Prif Weinidog?

Gadewch i mi weld nawr. Gadewch i mi weld—bu dau refferendwm: un ym 1997 ac un yn 2011. Nid yw'n derbyn y canlyniad, ac eto mae e'n mynnu—yn mynnu—na ddylai fod unrhyw refferendwm o gwbl ar y cytundeb o ran Brexit. Mae ei ragrith yn anhygoel bron. Ar y naill law, mae'n dweud ein bod ni angen mwy o graffu, ac yna mae'n dweud bod angen i ni gael gwared ar yr holl graffu, heb sylweddoli'r gwrthddywediad yn yr hyn y mae'n ei ddweud. Rwy'n siŵr bod yr Aelod dros Lanelli wrth ei fodd gyda'r gefnogaeth a roddwyd iddo gan arweinydd UKIP. [Chwerthin.] Mae'n rhywun sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif o feinciau cefn y Llywodraeth, yn union—[Anhyglywadwy.]—fel y dylid ei wneud. Mae Lee yn rhywun—mae'r Aelod dros Lanelli yn rhywun—sy'n mynegi ei farn, ac mae'n iawn i wneud hynny. Dyna y mae Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth yno i'w wneud, i wneud yn siŵr ein bod ni, fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn gwneud pethau'n iawn.

Nawr, nid wyf yn siŵr beth mae e'n ei ddweud: cael gwared ar y Cynulliad neu gael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid wyf i'n gwybod. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw pe byddai UKIP byth yn dod i rym—ac roedd saith ohonyn nhw i ddechrau, ac mae pedwar ohonyn nhw nawr; pwy a ŵyr, efallai y bydd llai o lawer ohonyn nhw yn y dyfodol, a rhan o'r rheswm am hyn yw oherwydd na all UKIP ennill dim, 'Gadewch i ni geisio ymosod ar y corff na allwn ni ennill etholiad iddo.' Ond, pe byddai UKIP byth yn dod i rym, rydym ni'n gwybod na fyddai unrhyw gorff rheoleiddio amgylcheddol; byddai caniatâd i bopeth pan ddaw i'r amgylchedd. Byddai ein hamgylchedd yn cael ei ddinistrio, byddai ein traethau yn cael eu difetha, i gyd yn enw'r athroniaeth farchnad wallgof y mae ei blaid eisiau ei hyrwyddo. A dyna realiti UKIP. Byddwn ni'n brwydro i wneud yn siŵr bod pobl Cymru, ie, yn cael y Llywodraeth y maen nhw'n ei haeddu, y craffu y maen nhw'n ei haeddu, ac yn cadw'r corff y gwnaethant bleidleisio drosto, nid unwaith, ond y gwnaethant bleidleisio drosto ddwywaith, o ran pwerau ychwanegol.

13:55
Bargen Ddinesig Bae Abertawe

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig Bae Abertawe? OAQ52649

Mae'r pedwar awdurdod lleol wedi cyrraedd carreg filltir gyda chymeradwyaeth eu cytundeb cyd-bwyllgor, a dyna'r cam pwysig i ryddhau cyllid gan y Llywodraeth.

Diolch yn fawr iawn am hynna, o gofio ein bod ni gryn ffordd i mewn i oes y cytundebau hyn. Mae'n drueni eu bod hi wedi cymryd cyhyd â hynny, ond, serch hynny—. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi dadlau bod yn rhaid cael mwy o fuddsoddiad, ymchwil ac arloesi i ni fod ag unrhyw obaith o gyrraedd 100 y cant o'n galw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac mae'r prosiect cartrefi fel gorsafoedd pŵer yn un agwedd ar fargen ddinesig bae Abertawe.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £36 miliwn ychwanegol ar gyfer Prifysgol Abertawe, sydd, wrth gwrs, yn bartner yn y fargen, gan ddod â'r buddsoddiad i £100 miliwn mewn wyth mlynedd, fel y gall y brifysgol arwain ar arloesedd ym maes ynni ar gyfer y DU. Fe'i croesawyd gan Tata Steel, Abertawe ei hun, a Coastal Housing, ac rwy'n yn siŵr eich bod chithau'n ei groesawu hefyd, ond mae'n dangos bod y fargen ddinesig yn ysgogi diddordeb gan bartïon eraill mewn buddsoddi. A allwch chi ddweud wrthym ni sut mae eich ymweliadau tramor wedi helpu i wneud yr un peth o rannau eraill o'r byd?

Wel, gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi. Os edrychwn ni ar yr Unol Daleithiau, rwyf i wedi treulio llawer o amser yn siarad gyda'r cwmnïau sy'n buddsoddi, yng Nghymru yn arbennig, o America, a'r un fath gyda Japan. Rwyf i wedi treulio llawer o amser gyda chwmnïau yn Ewrop sy'n buddsoddi yng Nghymru, yn eu plith Airbus, er enghraifft, Ford, rwyf i wedi eu cyfarfod Toyota, ac mae'r holl sefydliadau hyn yn gwerthfawrogi'n fawr presenoldeb Prif Weinidog neu Weinidog Llywodraeth, gan fod Gweinidog Llywodraeth yn gallu agor drysau nad yw swyddogion ac nad yw asiantaethau yn gallu eu hagor.

Beth yw'r canlyniadau? Y ffigurau buddsoddi uniongyrchol o dramor gorau ers 30 mlynedd, ac mae'r ffigurau hynny yn siarad drostynt eu hunain, a diweithdra ar 3.8 y cant. Ni ellid bod wedi dychmygu hynny yn y dyddiau cyn datganoli.

Mae hi'n sôn, yn briodol—ac mae'n iawn i ddweud y byddwn yn cefnogi'r fenter y mae hi wedi ei disgrifio—ond byddai morlyn bae Abertawe wedi bod yn ffordd dda iawn o fwrw ymlaen â chynyddu faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy, ac fe'i gwrthodwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, gan atal ein siawns o arloesi, o arwain y byd mewn technoleg benodol, creu 1,000 o swyddi, ac, wrth gwrs, nifer fawr iawn o gartrefi a gweithfeydd gweithgynhyrchu wedi'u pweru gan ynni adnewyddadwy. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei resynu'n fawr, ac mae'n eithriadol o bwysig bod Llywodraeth y DU yn parhau i adolygu'r penderfyniad y mae wedi ei wneud a rhoi'r un chwarae teg i Gymru ag y mae eisiau ei roi i'r DUP.

Rwyf i wrth fy modd bod y pentref llesiant gwerth £200 miliwn yn Llanelli sydd, trwy ei arloesedd yn argoeli i fod yn esiampl i Gymru gyfan, ymhlith y prosiectau cyntaf i gael eu cyflwyno o dan y cais. Rwyf i wedi bod yn trafod gyda'r Cyngor sut y gallwn ni wneud yn siŵr ei fod yn cysylltu â gweddill Llanelli ac nad yw'n troi'n rhyw fath o ddatblygiad cyrion tref; mae'r traffig yn yr ardal eisoes yn ddwys yn ystod oriau brig. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod y cynlluniau newydd ar fetro de Cymru yn cydblethu â'r datblygiadau o amgylch y pentref llesiant?

Byddant yn hanfodol. Yn yr un modd ag unrhyw ddatblygiad o'r maint hwn, ni all fod yn gwbl seiliedig ar geir—mae yn llygad ei le. Mae gennym ni Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae'n eithriadol o bwysig, wrth i ni fwrw ymlaen â'r metro, bod cysylltiadau bws priodol, cysylltiadau trên lle bo hynny'n briodol ac, wrth gwrs, cyfleoedd ar gyfer teithio llesol. Ni ellid cymryd unrhyw ddatblygiadau fel y pentref llesiant, o ystyried y ffaith ei fod yn bentref llesiant, yn gyfan gwbl o ddifrif pe na byddai teithio llesol yn rhan o neges ac ethos y pentref llesiant hwnnw. Felly, mae yn llygad ei le i ddweud mai'r peth olaf yr hoffwn ei weld yw datblygiad yn creu lefelau annerbyniol o draffig, yn bennaf oherwydd nad oes dewis arall i bobl ond gyrru. Mae'n rhaid i ni greu'r dewisiadau eraill hynny.

14:00

Ar yr un un trywydd â Lee Waters, i fod yn deg. Wrth gwrs, yn ogystal â'r fargen ddinesig ei hun, mae'r pedwar awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru yn cydnabod bod trafnidiaeth hefyd yn rhywbeth y mae angen iddynt ei datrys ar lefel rhanbarthol, ac mae yna astudiaeth dichonolrwydd i fetro bae Abertawe a Chymoedd y gorllewin. Mae hyn yn amlwg yn gam pwysig ymlaen wrth ddatblygu system drafnidiaeth gyhoeddus fodern yn ne-orllewin Cymru i gyplysu'r math o ddatblygiad y mae Lee yn sôn amdano. Fodd bynnag, hyd yma, nid oes braidd dim manylion wedi'u cyhoeddi ers i'r gwaith yma ddechrau ar yr astudiaeth dichonolrwydd. Pryd ydych chi'n rhagweld y bydd y cyhoedd yn cael gwybod am gynnydd ar y project yma ac yn cael cyfle i drafod unrhyw syniadau neu gynlluniau?

Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, i'r awdurdodau lleol symud yn ei flaen. Rydym ni'n mynd i weithio gyda nhw er mwyn gweithredu ar y cynlluniau, ond mae hynny lan iddyn nhw ar hyn o bryd. Ac nid wyf yn dodi bai arnyn nhw, ond mae e lan iddyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n cynhyrchu cynllun sydd yn effeithiol ac yn gyhoeddus.

Cyllid ar gyfer Tai Cymdeithasol

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol? OAQ52646

Mae tai cymdeithasol wedi bod yn flaenoriaeth hanfodol i'r Llywodraeth hon erioed, a bydd yn parhau i fod, wrth gwrs. Nid ydym erioed wedi symud oddi wrth gefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen, a dyna pam yr ydym ni'n gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cymdeithasol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed cyhoeddiad Prif Weinidog y DU o £2 biliwn ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr a phwysleisiodd ei balchder mewn tai cymdeithasol, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd rannu'r balchder hwnnw. Mae wedi bod yn ganolog i'r rhaglenni adeiladu tai mawr drwy'r ganrif ddiwethaf. Yn anffodus, mae wedi arafu yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i weddnewid adeiladu tai, bydd yn rhoi cyllid wedi ei sicrhau i gymdeithasau tai gan roi sicrwydd hirdymor iddyn nhw fuddsoddi. Ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi galw amdano dro ar ôl tro yma yng Nghymru. Felly, o dan gynllun Lloegr, bydd cymdeithasau yn gallu gwneud cais am gyllid yn ymestyn cyn belled â 2028-29.

Nawr, pan fyddwn ni'n cael arian canlyniadol Barnett—bydd y cyllid hwn yn cael ei roi ar gael yn y 2020au—a wnewch chi ymrwymiad tebyg i neilltuo'r arian hwn ar gyfer tai cymdeithasol a threfnu'r cynlluniau grant i gymdeithasau tai, fel y gallan nhw fuddsoddi ar gyfer yr hirdymor ac, o'r diwedd, ein harwain at oes lle'r ydym ni'n adeiladu digon o dai ar gyfer pobl sydd angen byw ynddyn nhw?

Wel, mae yna—. Mae gen i'r parch mwyaf at yr Aelod, ond yn dod gan blaid a werthodd gymaint o dai cymdeithasol heb ddarparu rhai yn eu lle, ac a achosodd llawer o'r problemau yr ydym ni'n eu hwynebu nawr yn y lle cyntaf, mae'n rhaid i mi gymryd hynna gyda phinsiad mawr o halen. Dau beth y byddwn i'n ei ddweud wrtho: yn gyntaf, nid yw'n eglur pa un a fydd cyllid canlyniadol Barnett eto. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y DU yn feistri o ran cyfrwystra ac yn gwneud cyhoeddiadau ariannu ac yna'n dweud bod yr arian hwn yn dod o adran benodol. Yn yr achos hwnnw, nid ydym ni'n yn cael unrhyw gyllid canlyniadol Barnett o gwbl. 'Dydym ni ddim yn gwybod', yw'r ateb i hynny eto. Ac yn ail, wrth gwrs, mae hyn ar gyfer 2022. Ni allaf wneud ymrwymiadau ar gyfer unrhyw Lywodraethau sydd ar waith ar ôl 2021, nid lleiaf oherwydd y ffaith na fyddaf i yma. Felly, bydd hwnnw'n fater i unrhyw Lywodraeth newydd.

Beth ddigwyddodd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

Rydw i'n cydnabod bod eich Llywodraeth chi'n gwneud astudiaeth annibynnol ar hyn o bryd i mewn i'r diffiniad o 'dai fforddiadwy', ond rwy'n credu taw'r broblem sydd wedi bodoli dros y blynyddoedd gyda hynny yw bod yna ystadau newydd yn cael eu datblygu yng Nghymru nad ydynt, yn ôl diffiniad lleol, yn rhywbeth y mae pobl yn gallu eu fforddio. Cyn yr haf gwnes i godi gyda chi y ffaith bod Cymorth i Brynu yn caniatáu i lot o deuluoedd uwchraddio eu tai—teuluoedd efallai sydd ddim angen yr arian hwnnw. Fel rhan o'r adolygiad rydych chi'n ei gynnal fel Llywodraeth, a fyddwch chi'n edrych i mewn i hyn? Oherwydd efallai byddai mwy o arian ar gael ar gyfer tai fforddiadwy pe byddai peth o'r arian hwnnw yn mynd i mewn i greu mwy o dai cymdeithasol yn ein cymunedau.

Mae'n hadolygiad ni'n edrych ar lot fawr o bethau er mwyn sicrhau bod y polisi yn iawn, ond mae yna wahaniaeth rhwng tai cymdeithasol a thai fforddiadwy, oherwydd os yw tai'n fforddiadwy, wrth gwrs bydd rhai pobl yn eu rhentu nhw a bydd rhoi pobl yn eu prynu nhw. So, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna ddewis i bobl lle maen nhw'n gallu gwneud y dewis hwnnw. Mae hynny'n meddwl y dylai fod yna gymysgedd o dai ar gael—rhai tai cymdeithasol, wrth gwrs; efallai byddai rhai tai lle mae ecwiti'n cael ei rannu; tai eraill lle mae yna ymddiriedolaeth tir cymunedol yn rhedeg yr ystâd ei hun, ac felly'n cadw'r prisiau i lawr. Felly, y nod yw sicrhau bod yna ddewis eang ar gael ynglŷn â pha fathau o dai sydd ar gael. Rŷm ni wedi ymrwymo'n barod i sicrhau buddsoddiad mawr mewn tai cymdeithasol. Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni helpu'r rheini sydd yn edrych i brynu ond yn ffaelu fforddio hynny ar hyn o bryd.

14:05

Prif Weinidog, o gofio bod maint y stoc tai cymdeithasol wedi gostwng yn sylweddol ers 1980 pan gyflwynwyd yr hawl i brynu, gan arwain at amseroedd aros hwy i bobl sydd angen tai, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r terfyn i hawl i brynu gan Lywodraeth Lafur Cymru trwy Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018? A wnewch chi hefyd groesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai cymdeithasol yn fy etholaeth i, Bro Morgannwg, gan gynnwys nid yn unig buddsoddiad helaeth trwy ein grant tai cymdeithasol i gymdeithasau tai ond hefyd adeiladu tai cyngor newydd gan, mewn gwirionedd, yr hyn a oedd yn gyngor Llafur yn rhedeg Bro Morgannwg, a hefyd, yn bwysig, lwfans atgyweiriadau mawr gwerth £2.8 biliwn i alluogi Cyngor Bro Morgannwg i ddod â thai cymdeithasol i fyny i safon ansawdd tai Cymru?

Roeddwn i'n ddigon ffodus i ymuno â'r Aelod yn Gibbonsdown lle gwelsom y gwaith ailwampio a oedd yn cael ei wneud yno. Roedd llawer o bobl, wrth gwrs, wrth eu boddau gyda'r hyn a welsant yno. Rwyf i wedi dweud erioed os gwnewch chi geisio adeiladu tai cymdeithasol a chael yr hawl i brynu ar yr un pryd, mae fel llenwi'r bath gyda'r plwg allan, ond bod y Torïaid wedi gadael y plwg allan drwy'r 1980au cyfan heb adael y tapiau ymlaen o gwbl. Ni allwch chi ailgyflenwi eich stoc tai os gwnewch chi ganiatáu iddynt gael ei gwerthu ar gyfradd nad yw'n caniatáu i chi gadw i fyny. Dyma un o'r rhesymau pam y gwelsom gymaint o ddigartrefedd a ddechreuodd yn benodol yn y 1980au, oherwydd nid oedd tai cyhoeddus ar gael. Ym Mhowys, rwy'n credu i mi gofio darllen, collwyd tua hanner y stoc tai cyhoeddus ac ni chafodd ei ailgyflenwi. Sut ar y ddaear all hynny fod yn deg ar bobl mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig pan ei bod yn anodd prynu mewn rhai ardaloedd gwledig gan fod pobl yn symud i mewn gyda llawer o arian o fannau eraill, ac ni all pobl leol gystadlu? Felly, mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sicrhau bod cyflenwad digonol o dai cyhoeddus ar gael ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, creu sefyllfa lle mae tai cyhoeddus yn parhau i fod yn union hynny—cyhoeddus.

Parc Bryn Cegin

5. A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi amserlen benodol ar gyfer datblygu parc busnes Parc Bryn Cegin? OAQ52636

Mae tir datblygu ym Mharc Bryn Cegin ar gael i’w ddatblygu nawr, ac yn cael ei farchnata drwy’n hasiant eiddo masnachol, sef Cooke & Arkwright, ein cronfa ddata eiddo a Chyngor Gwynedd.

Fe gyhoeddwyd y cynlluniau cyntaf ar gyfer y parc busnes yma yn y flwyddyn 2000. Fe adeiladwyd ffyrdd newydd a chylchfan newydd, ac agorwyd mynedfa i'r parc. Fe addawyd o leiaf 1,500 o swyddi. Deunaw mlynedd yn ddiweddarach, nid oes yna ddim un swydd—yr un swydd o gwbl—wedi cael ei chreu er gwaetha'r holl filiynau a gafodd eu buddsoddi i ddatblygu Parc Bryn Cegin. Onid ydy'n bryd i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth, egni a brwdfrydedd i'r dasg o ddatblygu Parc Bryn Cegin? 

Wel, hanes Parc Bryn Cegin yw hyn, ac mae'r Aelod yn gywir i ddweud bod yr hanes yn mynd nôl 18 mlynedd. Mi oedd yna ganiatâd cynllunio wedi cael ei roi ynglŷn â chyflogaeth, sef ffatrioedd a swyddfeydd bryd hynny. Fe wnaethom ni fuddsoddi yn drwm rhwng 2006 a 2008 er mwyn paratoi'r safle ar gyfer datblygu, sef dodi'r hewlydd mewn a dodi gwasanaethau mewn. Ond, wrth gwrs, yn 2008 fe welom ni'r crash ac ar ôl hynny dechreuodd ddod yn anodd ar yr amser hwnnw i dynnu pobl i mewn achos y ffaith bod hynny wedi digwydd. Mae yna obaith nawr ynglŷn â sicrhau bod y sefyllfa yn symud ymlaen. Rwy'n deall bod y datblygwr, sef Liberty Properties, wedi dweud bydd yna sinema mawr efallai yn dod i'r safle ei hun ac, wrth gwrs, rydym yn edrych ymlaen, os yw hynny'n wir, i hynny felly yn helpu'r safle i ddatblygu wrth dynnu mwy o fusnesau i mewn yn y pen draw.        

Taliadau Rheoli Ystadau

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymdrin â phroblem taliadau rheoli ystadau? OAQ52645

Mae'r adolygiad o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, a sefydlwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cychwyn erbyn hyn. Bydd y gwaith hwnnw'n ategu gwaith y grŵp cynghori ar lesddaliadau, a gynullwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwn fod yr Aelod wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr hon. Mae'n fater pwysig dros ben, rhywbeth sy'n gymharol newydd o ran ei gysyniad, ond un y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef i wneud yn siŵr na chamfanteisir ar bobl.

Ac yn gynyddol felly, mae pobl yn prynu llety rhydd-ddaliad ac yn cael eu gorfodi i dalu'r ffioedd hyn i gwmnïau preifat ar ben eu treth gyngor i gynnal eu hystadau. Yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn fy etholaeth i, mae Meadfleet, y cwmni rheoli ystâd yno, wedi cyhoeddi bod y taliadau yn mynd i gynyddu fesul chwe mis o £61 i £78, ac nid oes dim—dim—y gall neb ei wneud. Mae y tu hwnt i reolaeth ddemocrataidd yn llwyr. Ddeng mlynedd yn ôl, daeth Cyngor Barnet i gael ei adnabod fel y cyngor EasyJet, lle mae pobl yn talu'n ychwanegol am eu gwasanaethau, ar ben eu treth gyngor, am wasanaethau ychwanegol honedig. Fe'i hadwaenir fel y cyngor contractau allanol erbyn hyn. Wel, mae taliadau rheoli ystâd yn gontractio allanol llechwraidd, ond o leiaf gydag EasyJet gallwch chi ddewis pa un a ydych chi'n talu am gnau sy'n rhy ddrud. Beth mwy all y Llywodraeth ei wneud?

14:10

Gallaf sicrhau'r Aelod bod hyn yn rhan o'r hyn y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn ei ystyried. Mae'n gwneud y pwynt, yn gwbl briodol, lle mae ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu, bod pobl yn aml yn cael eu hysbysu y dyddiau hyn bod tâl gwasanaeth i'w dalu am dorri'r glaswellt, tâl gwasanaeth i dalu am waith cynnal a chadw, i dalu am y ffyrdd ac i dalu am y palmentydd, ond maen nhw'n dal i dalu treth gyngor ar yr un lefel, wrth gwrs. Felly, maen nhw'n talu ddwywaith am wasanaeth a ddylai gael ei ddarparu gan awdurdod lleol. Byddwn yn gobeithio nad oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gweld ffioedd rheoli ystâd fel ffordd o roi caniatâd cynllunio heb y gost refeniw barhaus y byddai ystâd o dai yn ei chostio iddynt. Rwy'n gobeithio nad dyna'r achos. Ond, yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo y bydd hyn yn rhywbeth y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn ei ystyried.

Twyll Hunaniaeth

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i atal twyll hunaniaeth? OAQ52628

Mater i Lywodraeth y DU yw hwn yn bennaf, ond rydym ni wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau yn fwy diogel ac i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throseddu.

Diolch, Prif Weinidog, ac, fel y byddwch yn gwybod, mae twyll hunaniaeth yn weithgarwch troseddol difrifol a all gostio llawer i unigolion. Mae dadansoddiad gan y sefydliad gwrth-dwyll Cifas yn dangos y bu rhywfaint o ostyngiad yng Nghymru i nifer yr achosion o dwyll, ond cynyddodd twyll hunaniaeth gan oddeutu 14 y cant rhwng 2016 a 2018, ac roedd dros 4,000 o achosion yng Nghymru yn 2017. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gwaith pwysig a wneir gan sefydliadau, gan gynnwys safonau masnach ac Age Cymru, sy'n helpu dinasyddion mwy agored i niwed wrth fynd i'r afael â'r drosedd hon? A allwch chi ddweud wrthyf beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r cyngor sy'n cael ei gynnig i ddiogelu ein hunain rhag twyll hunaniaeth?

Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelod bod unigolyn yr wyf i'n ymwybodol ohono wedi cymryd benthyciad gan fanc, wedi torri amodau'r benthyciad hwnnw ac wedi hysbysu'r banc ei fod wedi symud i'r lle yr ydym ni'n byw ynddo, felly rwy'n cael llythyrau fy hun nawr, nid wedi eu cyfeirio ataf i ond at yr unigolyn hwn yn fy nghyfeiriad i. Felly, ni all neb ddianc hyn. Ond mae'n bwynt pwysig, a gwn fod gennych chi ddigwyddiad yn y Senedd ar 19 Medi, yn codi ymwybyddiaeth o fynd i'r afael â thwyll a sgiamiau. Wrth gwrs, cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet hyd at £3,000 o gyllid i bartneriaeth Cymru yn erbyn sgiamiau, sydd o gymorth mawr. Gwn ei fod hefyd wedi cyfarfod â'r Gweinidog yn y Swyddfa Gartref i drafod gweithredu'r strategaeth troseddu cyfundrefnol difrifol, i ddiwallu anghenion Cymru. Ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i ddarparu cyllid o £16.8 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yng Nghymru.

Negodiadau Brexit

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlyniad a fyddai orau gan Lywodraeth Cymru yn y negodiadau ar Brexit? OAQ52648

Gellir dod o hyd iddo yn y Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb anaddysgiadol yna. Ond rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi bod Theresa May wedi gwneud cawl llwyr o'r trafodaethau gyda Brwsel. Roedd cynigion Chequers bob amser yn mynd i fod yn farw-anedig, nid oes unrhyw baratoadau gwirioneddol wedi eu gwneud ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb, ac nid oes llawer o amser ar ôl i ddod i gytundeb masnach rydd fel yr un a gytunwyd gyda Canada. Ym mhle mae'r Blaid Lafur yn sefyll yn hyn i gyd? Mae'n ymddangos bod Syr Keir Starmer, llefarydd Brexit y Blaid Lafur yn y DU, wedi dweud y bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn unrhyw beth y mae Theresa May yn ei gyflwyno, neu y caniateir iddi ei gyflwyno, rhwng nawr a mis Mawrth nesaf. Mae'n ymddangos bod Jeremy Corbyn, y gorymdeithiais ag ef trwy lawer o lobïau yn pleidleisio yn erbyn deddfwriaeth yr UE dros y blynyddoedd, yn eistedd ar y ffens. Mae'n ymddangos bod Keir Starmer wedi ei gwneud yn eglur ei fod eisiau ail refferendwm, doed â ddêl, tra bod John McDonnell, ar y llaw arall, yn dweud er ei fod o blaid pleidlais y bobl ar beth bynnag a ddaw, ni ddylai gynnwys y dewis o adael yr UE. Beth yw barn y Prif Weinidog? A ddylid cynnal ail refferendwm lle ceir dewis o adael yr UE ai peidio?

Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod teimlad cynyddol yn y Siambr hon a'r tu allan os nad oes cytundeb ac, felly, trychineb, mai bai'r rheini a oedd o blaid aros fydd hyn ac nid bai'r rheini a roddodd ddadansoddiad breuddwyd gwrach ddwy flynedd yn ôl o'r hyn y byddai'r refferendwm yn ei olygu. Dywedwyd wrthym mai'r rhain fyddai'r trafodaethau hawddaf erioed. Nid yw hynny wedi bod yn wir. Dywedwyd wrthym y byddai'r UE yn ildio yn wyneb gofynion y DU. Nid yw wedi gwneud hynny. Dywedwyd wrthym y byddai cynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ein hachub ac yn gorfodi Llywodraeth yr Almaen i dderbyn cytundeb o blaid y DU. Nid ydynt wedi gwneud hynny. Y gwir amdani yw bod y DU yn fwy rhanedig nag y mae'r UE wedi bod o gwbl yn ystod y broses hon.

Nawr, gofynnodd fy marn ar hynny. Yn gyntaf oll, i roi hyn mewn cyd-destun, rwyf i wedi clywed ei blaid ef yn dadlau'n gryf yn erbyn ail refferendwm, ac eto roedd yn aelod o blaid a wnaeth, am wyth mlynedd, ddadlau'n gryf am ail refferendwm ar ôl 1997, gan nad oedden nhw'n hoffi'r canlyniad, ac aeth i mewn i etholiad 2005 ar sail maniffesto o gynnal ail refferendwm ar fodolaeth y Cynulliad. Felly, ceir lefel benodol o safonau dwbl yn y fan yna y mae'n rhaid ei chydnabod.

Nawr, beth ydw i'n feddwl ddylai ddigwydd? Yn gyntaf, os na chytunir ar gytundeb—mewn geiriau eraill, mae hynny'n golygu 'dim cytundeb' neu ddim cytundeb ar fargen arfaethedig—nid yn San Steffan yn unig ond yn y lle hwn ac yng Nghaeredin hefyd, nid wyf i'n gweld unrhyw ddewis arall ond etholiad cyffredinol, ac, yn yr etholiad cyffredinol hwnnw, Brexit fyddai'r unig bwnc trafod, rwy'n amau. Yn yr etholiad cyffredinol hwnnw, mae'n iawn i ddweud y gellid trafod y mater yn drylwyr ac y gallai pobl benderfynu. Fodd bynnag, pe byddai canlyniad yr etholiad cyffredinol hwnnw yn amhendant, wel, sut arall ydych chi'n datrys y mater wedyn, ac eithrio trwy fynd yn ôl at yr union bobl a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf ond a fyddai mewn sefyllfa erbyn hyn i weld yn union yr hyn y byddai Brexit yn ei olygu?

Nawr, i mi, dyna'r adeg pan fydd ail refferendwm yn dod yn rhywbeth y byddai angen ei ystyried, oherwydd sut arall ydych chi'n datrys y sefyllfa? Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd ym mis Hydref a mis Tachwedd ac yna gwneud penderfyniadau o'r fan honno.

14:15

Ond, o ran etholiad cyffredinol, os daw'n sefyllfa ddiddatrys yn Nhŷ'r Cyffredin, beth mae'r Prif Weinidog yn credu fyddai'n cael ei gyflawni gan unrhyw ganlyniad sy'n bosib yno, oherwydd, wrth gwrs, mae Theresa May a Jeremy Corbyn yn dymuno mynd â ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau? Felly, does bosib nad yw'r dewis o Brexit caled yn ddewis o gwbl.

Ac rwy'n sylwi, yn ei ymateb i Mr Hamilton, ei fod wedi methu ag ateb un cwestiwn pwysig ac amserol iawn, sef, os bydd refferendwm ar y senarios cytundeb neu 'dim cytundeb', a ddylai fod yno gwestiwn hefyd yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n dymuno aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu beidio?

Rwy'n credu bod hynny'n debygol. Rwy'n credu bod dau bosibilrwydd yma, onid oes? Os nad oes cytundeb, yna byddai'n gwestiwn o 'dim cytundeb' neu aros. Os bydd cytundeb, byddai pethau'n mynd ychydig yn fwy cymhleth, yn yr ystyr y bydd yn gwestiwn o: 'A ydych yn derbyn y cytundeb? Ond, os na, beth ydych chi'n ei ddymuno:"dim cytundeb" neu aros?' Rwy'n siwr bod yna ffyrdd y gall y Comisiwn Etholiadol ystrywio'r refferendwm hwnnw. Ond, os oes unrhyw gytundeb ar y Bwrdd, wel, yn sicr mae gan bobl yr hawl i fynegi barn ynghylch a ydynt yn dymuno gadael mewn amgylchiadau na fyddai unrhyw gefnogwr Brexit wedi eu hawgrymu. Ni ddywedodd unrhyw un ddwy flynedd yn ôl, ' Os nad oes cytundeb, does dim ots.' Ni ddywedodd unrhyw un hynny. Dywedodd pawb, 'Bydd cytundeb.' Mae hynny wedi newid.

Dydw i ddim yn hoffi'r syniad o ail refferendwm ar yr union un mater, a dyna pam yr oeddwn yn gwrthwynebu ail refferendwm ym 1997. Ond, lle mae amgylchiadau wedi newid yn y bôn, lle mae'r addewidion a wnaed ddwy flynedd yn ôl wedi dod i ddim, yna, ar yr adeg honno, ac os ceir canlyniad amhendant mewn etholiad cyffredinol—. Pwy a ŵyr beth allai pleidiau gynnig mewn etholiad cyffredinol? Rwy'n siŵr y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig rhywbeth eithaf gwahanol eto. Rwy'n siŵr y bydd ei blaid ef hefyd. Ond mae wedi dod i bwynt lle, os daw'n sefyllfa ddiddatrys, mae angen i bobl benderfynu, ac mae'n rhaid gadael iddyn nhw benderfynu ar sail yr hyn y maen nhw'n ei wybod nawr ac nid ar yr hyn a ddywedwyd wrthyn nhw ddwy flynedd yn ôl, na ddigwyddodd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad heddiw ar Brexit a chymorth i addysg bellach a sgiliau wedi'i dynnu'n ôl, ac yfory, mae llai o amser wedi'i neilltuo i gwestiynau llafar Cwnsler Cyffredinol y Cynulliad. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod ar gael i'r Aelodau'n electronig.

A gaf i alw am dri datganiad gan arweinydd y tŷ heddiw ar ran y Llywodraeth? Yn gyntaf, o ran y rhwydwaith cefnffyrdd a chynnal a chadw'r rhwydwaith hwnnw. Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod y bu oedi sylweddol ar yr A55 yn y Gogledd yn ddiweddar, yn fy etholaeth i fy hun, o ganlyniad i gau'r ffordd oherwydd y gwaith yn Llanddulas. Mae'r tagfeydd wedi bod cyhyd ag wyth milltir, gydag oedi i draffig o fwy na hanner awr ym mhob cyfeiriad. Nawr, rhoddwyd sicrwydd i ni ar y pryd—rhoddwyd sicrwydd i fy etholwyr—y byddai'r gwaith yn digwydd 24/7 er mwyn cael cyn lleied â phosib o oedi ac amharu. Ond yn anffodus ymddengys nad oes gwaith yn digwydd o gwbl ambell i noson, ac nid yw hyn yn gyson â'r sicrwydd a roddwyd i fy etholwyr o gwbl. Felly, tybed a oes modd ichi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy etholwyr i roi tawelwch meddwl iddyn nhw y bydd cyn lleied â phosib o oedi yn y dyfodol ac y bydd gwaith yn cael ei gynnal drwy gydol y nos nes cwblheir y gwaith.

Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd? Rwyf wedi bod yn galw yn rheolaidd i fynd i'r afael â phroblemau o amddiffynfeydd arfordir Hen Golwyn, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn bod y Gweinidog wedi ymweld â fy etholaeth i arolygu'r amddiffynfeydd ei hun. Ond, er gwaetha'r ffaith bod y cyfarfod a gynhaliwyd yn gadarnhaol iawn, rwyf wedi cael llythyr yn ddiweddar gan y Gweinidog yr ymddengys ei fod yn awgrymu nad yw hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac na fydd y lefel arferol o arian grant ar gael i weithredu'r cynllun, oherwydd ei bod yn llai tebygol y bydd cartrefi preswyl yn elwa nag y mae'r Llywodraeth yn ei ddychmygu. Nawr, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o rwydwaith amddiffyn yr arfordir sy'n diogelu seilwaith trafnidiaeth hanfodol, sef y gefnffordd A55 a rheilffordd Gogledd Cymru ac sy'n gwarchod y system garthffosiaeth ar gyfer Bae Colwyn cyfan. Felly, sut yn union y gellir awgrymu nad yw hyn o fudd i gartrefi a busnesau, mae hyn y tu hwnt i mi. Nawr, bydd angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r broblem hon a dwyn ynghyd y gwahanol bartïon y mae angen iddyn nhw gyfrannu at y gwaith, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu i gael y llythyr hwn, ac roedd yr awdurdod lleol wedi'i syfrdanu hefyd, yn dilyn y cyfarfod hwnnw a oedd, yn fy marn i, yn gynhyrchiol iawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar cael datganiad gan y Gweinidog ar amddiffynfeydd yr arfordir a phe gallai egluro'r sefyllfa.

Ac, yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar wiwerod coch? Mae pobl yn gwybod fy mod yn hyrwyddwr y wiwer goch yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth cyfle imi ymweld â'r gwaith cadwraeth ardderchog sy'n digwydd yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth i ac ar Ynys Môn, sy'n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru mewn partneriaeth â Red Squirrels United. Yr wythnos hon mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Wiwerod Coch, ac mae'r Sw Fynydd Gymreig yn fy etholaeth i yn rhan o raglen fridio ryngwladol ar gyfer y rhywogaeth warchodedig bwysig iawn hon. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd fel y bydd y gwaith da a wneir gan y prosiectau hyn yn gallu parhau ar ôl i'r cyllid grant cyfredol ddod i ben y flwyddyn nesaf. Diolch.

14:20

Diolch. Cymeradwyaf yr Aelod am gyflwyno llawer o faterion ei etholaeth ei hun, felly da iawn chi.

O ran y mater cyntaf ar gefnffyrdd a godwyd ganddo, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud arwydd imi nad yw hyn yn ôl ei ddealltwriaeth ef yn gywir, ac yn wir, nid yw hyn fel yr wyf i'n ei ddeall hi ychwaith. Felly mae'n bwriadu ysgrifennu atoch i gael gwybod sut a pham yr ydych chi'n credu hynny fel y gallwn ni roi trefn ar bethau, gan mai fy nealltwriaeth i yw bod y gwaith yn mynd rhagddo 24/7 a dyna sut y dylai fod. Ceisiwn unioni hynny mewn gohebiaeth. Pe gallech roi inni'r manylion, byddai hynny'n wych.

O ran y mater ar amddiffyn yr arfordir, mae'n swnio fel eich bod chi eisoes yn cyfathrebu ag Ysgrifennydd y Cabinet, er eich bod wedi nodi—beth allwn ni ei ddweud—nad oes cydlyniant rhyngoch, felly awgrymaf fod hynny'n fater y dylech ei godi naill ai yn ystod cwestiynau neu mewn gohebiaeth barhaus.

Ac, o ran eich rhan yn hyrwyddo'r gwiwerod coch, rwy'n falch iawn o ddarganfod bod y cynllun hyrwyddo rhywogaeth hon yn gweithio cystal yma yn y Cynulliad. Nid oes gennyf gywilydd i achub ar y cyfle i ddweud fy mod i yn hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer y wystrys brodorol, sy'n cael ei hau ym mae Abertawe erbyn hyn. Rwyf innau hefyd yn hoff iawn o'r cynllun. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf maes o law ynghylch y cyllid parhaus ar gyfer cynllun o'r fath.

Arweinydd y tŷ, byddwch yn sicr yn gwybod bod y cwmni y tu ôl i'r prosiect morlyn llanw £1.3 biliwn yn Abertawe wedi cytuno bellach ar gytundeb gwirfoddol cwmni â'i gredydwyr i gael hyd at ddwy flynedd o amser i ddod o hyd i ffordd o gyflawni'r prosiect hwn. Ac, fel y byddwch yn gwybod hefyd, mae'r gobeithion yn dal yn fyw yn Abertawe y gall y prosiect hwn ddigwydd. Mewn digwyddiad yn y ddinas yr wythnos diwethaf, dywedodd Mark Shorrock o Tidal Lagoon Power ei fod yn dymuno cyflenwi trydan yn uniongyrchol i sefydliadau a chartrefi yn Abertawe drwy geblau preifat, rhywbeth y mae'n gobeithio y bydd yn gwneud y prosiect yn hyfyw yn fasnachol heb unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth y DU.

Rydym hefyd yn gwybod bod rhanbarth dinas Bae Abertawe wedi sefydlu tasglu'r morlyn a bod trafodaethau wedi digwydd gyda chronfeydd pensiwn sector cyhoeddus Cymru o ran buddsoddiad posibl. Fodd bynnag, un peth a nodwyd yn ystod cyfarfod yr wythnos diwethaf oedd nad yw Llywodraeth Cymru, ers penderfyniad Llywodraeth y DU ym mis Mehefin i beidio â chefnogi cynllun y morlyn llanw, wedi trafod gyda'r cwmni y £200 miliwn a nododd yn flaenorol y byddai'n barod i'w fuddsoddi yn gynharach eleni. Felly, gyda modelau ariannu a pherchnogaeth gwahanol ar y bwrdd, mae cwestiwn clir ynghylch pa ran y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w chwarae wrth helpu i gyflawni'r prosiect hwn.

Mae gan y prosiect hwn y gallu i gynnig hwb economaidd mawr ei angen i Abertawe a'r De-orllewin ac mae'n hanfodol bwysig, gan fod Llywodraeth y DU yn anghofio Cymru unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn camu i'r marc. Gyda hynny mewn cof, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ar y morlyn llanw ym Mae Abertawe a fydd yn amlinellu'n glir beth yw safbwynt y Llywodraeth, pa waith y mae wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf ar y mater, sut mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol yn y rhanbarth, ei barn ar fuddsoddiad posibl gan Lywodraeth Cymru, a'r model a ffefrir ar gyfer gweithredu'r cynllun? Diolch yn fawr.

14:25

Ydy. Mae'n fater pwysig iawn i bawb yng Nghymru, heb sôn am y rhai ohonom sy'n cynrychioli etholaethau a rhanbarthau Abertawe. Gallaf gadarnhau bod y £200 miliwn yn dal ar y bwrdd. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â'r tasglu. Cyn gynted ag y gwyddom ble mae'r tasglu yn mynd, wedyn byddwn yn gallu cyflwyno datganiad. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r tasglu ac yn sicr ni chaiff ei wario ar unrhyw beth arall yn y cyfamser, ond mae yna nifer o opsiynau ar y bwrdd, fel y gŵyr yr Aelod, ac fel y gŵyr pob Aelod, ar gyfer parhau gyda phŵer morlyn llanw. Hyd nes y byddwn yn gwybod beth yw'r opsiynau hynny, nid ydym mewn sefyllfa i ddweud yn benodol. Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau gyda'i chefnogaeth frwd a'i beirniadaeth chwyrn, rhaid imi ddweud, o'r diffyg buddsoddiad yn y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad—un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sydd wedi gadael y Siambr ar hyn o bryd, rywbryd cyn toriad mis Hydref, ar y cynnydd o ran newidiadau ffin Byrddau Iechyd Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg, fel y gallwn ni gael diweddariad ar yr hyn sy'n digwydd a lle bydd yn mynd? Oherwydd bydd yn dod i rym o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ac mae'n bwysig y gallwn ni, fel Aelodau, gael y cyfle hwnnw i arholi Ysgrifennydd y Cabinet yn fanwl ar y materion hynny.

Yr ail bwynt yw, fel y gwyddoch efallai, ein bod wedi cynnal ymgyrch hir yn Aberafan yn erbyn treialu cau Cyffordd 41. Yn y pen draw llwyddwyd i berswadio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mai'r penderfyniad cywir oedd atal y treialu a chadw'r gyffordd ar agor, ac mae hynny wedi bod yn gweithio ers hynny. Nawr, yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar y terfyn cyflymder 50 mya dros dro a'r allyriadau ar gyffordd 41 a 42 yr M4. Soniwyd yn hwnnw am ailgyflwyno'r posibilrwydd unwaith eto o gau'r ffordd ymuno/ymadael â'r Gyffordd 41 tua'r gorllewin. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol yn fy etholaeth i, a byddaf unwaith eto yn brwydro yn erbyn unrhyw bosibilrwydd o hyn yn digwydd. Ond a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gadarnhau ei benderfyniad ar y dechrau cyn gynted â phosib y bydd y Llywodraeth hon yn cadw'r gyffordd honno ar agor ac yn weithredol? Oherwydd bydd unrhyw ymgais i gau'r gyffordd honno ar sail llygredd, gallwch fod yn siŵr, yn cynyddu'r llygredd ar lawr gwlad lle mae pobl yn ei anadlu, wrth i geir greu tagfeydd ar y ffyrdd lleol. Nid dyma'r ateb, ac nid yw'r sawl a ysgrifennodd hyn yn amlwg yn gyfarwydd â'r strydoedd a'r tagfeydd a achoswyd yn ystod y treialu hwnnw a fu.

Mae David Rees bob amser wedi bod yn weithgar iawn ar ran ei etholwyr yn yr achos hwn. Y mesur arfaethedig, er mwyn sicrhau bod Port Talbot yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb ansawdd aer yr UE, yw parhau, fel y gŵyr, gyda'r terfyn cyflymder 50 mya dros dro a roddwyd ar waith yn ôl ym mis Mehefin. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw'n bosib diystyru cau cyffordd 41 yn gyfan gwbl am resymau cyfreithiol, oherwydd bod monitro crynodiad nitrogen deuocsid yn parhau ac mae'n bosib, yn ddibynnol ar ganlyniadau, y gallai fod angen mesurau pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, pe byddai hynny'n digwydd, byddai mesurau arfaethedig ychwanegol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn cyn cymryd unrhyw gamau i fwrw ymlaen â hyn.

O ran ail-strwythuro Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag y bydd digon o gynnydd wedi bod i wneud adroddiad arwyddocaol yn ei gylch.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar brofion llygaid gorfodol ar gyfer modurwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Ym mis Mai y llynedd, cafodd gyrrwr â golwg gwael—

Mae'n ddrwg gennyf, chlywais i mo hynny, Mohammad Asghar. A wnewch ei ailadrodd? Mae'n ddrwg gennyf.

Iawn. Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar brofion llygaid gorfodol ar gyfer modurwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Ym mis Mai y llynedd,cafodd gyrrwr â golwg gwael, a aeth yn groes i gyngor ei optegydd i beidio â gyrru, ei garcharu am saith mlynedd ar ôl iddo ladd modurwr mewn damwain ar yr M4 yng Nghasnewydd. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb y gyrrwr yw hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau na all yrru mwyach. A gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch pa gynllun sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i gryfhau'r canllawiau i optegwyr i'w gwneud yn orfodol eu bod yn rhoi gwybod i'r DVLA pan mae golwg gyrrwr wedi gwaethygu i'r fath raddau ei fod yn beryg i'w hunan ac i fodurwyr eraill ar y ffordd, os gwelwch yn dda? Diolch.

14:30

Dirprwy Lywydd, nid wyf yn siŵr mewn gwirionedd ble yn union y mae'r setliad datganoli ar hynny. Felly, byddaf yn cynnal trafodaeth ar hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ac yn dod yn ôl at yr Aelod.

Mae yfory'n Ddiwrnod Llaeth Ysgol y Byd, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Cynulliad yn mwynhau'r peint o laeth y byddaf fi'n ei ddelifro i stepen drws eich swyddfeydd chi bore fory, er mwyn tanlinellu a'ch atgoffa chi o werth iachusol llaeth i'n plant ni, a hefyd wrth gwrs pwysigrwydd y sector llaeth i economi cefn gwlad. Nawr, mae'r cynllun yma, wrth gwrs, yn cael ei sybsideiddio'n rhannol gan gynllun sybsidi llaeth ysgol yr Undeb Ewropeaidd, ac mi wnaeth yr Ysgrifennydd addysg, yn gynharach eleni, ddweud ei bod hi mewn trafodaethau gyda DEFRA ynglŷn â sicrhau dilyniant ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd—os y digwydd hynny—i'r cynllun hwnnw. Byddwn i yn gofyn a yw'n bosib cael datganiad gan yr Ysgrifennydd sy'n rhoi diweddariad i ni ar y trafodaethau hynny, oherwydd, yn amlwg, fel roeddwn i'n ei ddweud, mae e'n bwysig o safbwynt iechyd ein plant ni, ac mae e'n bwysig hefyd o safbwynt y cyfraniad y mae e'n ei wneud i'r diwydiant llaeth. Felly, mi fyddwn i'n gofyn am ddatganiad ar hynny.

A gaf fi hefyd ofyn—? Yn amlwg, mi gawsom ni gyhoeddi adroddiad arwyddocaol iawn ddiwedd yr wythnos diwethaf gan yr Ysgrifennydd addysg eto o waith gan yr Athro Mick Waters, yr Athro Melanie Jones, a Syr Alasdair Macdonald, a oedd wedi cynnal adolygiad annibynnol o gyflog ac amodau athrawon ysgol. Ac rwyf am roi ar y record fy niolch i iddyn nhw am eu gwaith. Fel un a roddodd dystiolaeth iddyn nhw fel rhan o'r broses yna, roeddwn i'n falch iawn i weld bod nifer o elfennau maniffesto Plaid Cymru, a dweud y gwir, yn ymddangos yn yr argymhellion roedden nhw wedi eu gwneud. Ond rwyf fi yn meddwl bod yr adroddiad hwn, yn amlwg, yn un arwyddocaol iawn, iawn, iawn—un sydd yn mynd i fod, rwy'n siŵr, yn bellgyrhaeddol o safbwynt y newidiadau a fydd yn dod yn ei sgil e i'r sector, ac i dâl ac amodau athrawon. Ac rwyf fi yn gresynu mai datganiad ysgrifenedig a gawsom ni, ac na chawsom ni gyfle i drafod yr hyn sy'n cael ei argymell ar lawr y Senedd. Yn amlwg, rwy'n tybio y bydd yr Ysgrifennydd am gael cyfnod i ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig, ond a gaf i ofyn ein bod ni'n cael cyfle i drafod y mater yma yn fuan? Oherwydd rwyf yn meddwl ei fod e yn adroddiad cyffrous, mae'n adroddiad diddorol, mae'n adroddiad heriol mewn sawl ffordd, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd fan hyn yn cael cyfle i wyntyllu hynny yn llawn. Ac mi fyddwn i wedi gwerthfawrogi cyfle i gael datganiad llafar, yn hytrach na dim ond datganiad ysgrifenedig.

Mae Llŷr Gruffydd yn gwneud dau bwynt pwysig iawn. Edrychaf ymlaen at weld fy mheint o laeth yn cyrraedd; mae bob amser yn ddiod braf, ffres. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi i mi ei bod yn hapus iawn i gyflwyno datganiad am sefyllfa'r negodi parhaus â DEFRA ynghylch y cymhorthdal.

Hefyd, ar y pwynt am yr adroddiad pwysig iawn, rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod ar y mater. Cyn gynted ag y bydd gennym ni ymateb sy'n barod i fynd, byddwn yn rhoi cyfle arall i'r Aelodau gael trafodaeth lawn ar yr adroddiad, ac ymateb y Llywodraeth.

Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n ymwybodol o adroddiad y pwyllgor dethol ar waith a phensiynau ar effaith y credyd cynhwysol ar ddioddefwyr cam-drin domestig? O gofio bod y pwyllgor wedi cydnabod bod menywod yn wynebu mwy o risg o dan y credyd cynhwysol, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ystyried camau y gallwn ni eu cyflawni ar argymhellion adroddiad y pwyllgor dethol, i ddiogelu menywod sy'n dioddef cam-drin domestig?

Yn ail, ynglŷn â'r ymgynghoriad ar ganllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru ar y ffordd gyswllt arfaethedig i'r M4 a'r A48, codwyd pryderon gyda mi ynghylch aelodaeth arfaethedig grŵp adolygu Cyngor Bro Morgannwg, sydd i gyfarfod ar 2 Hydref. Mae fy etholwyr yn teimlo nad yw'r aelodaeth bresennol yn cynrychioli'r pedair agwedd ar lesiant—buddion cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd—a byddwn yn croesawu ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pwynt hwnnw.

Diolch i chi am y ddau fater pwysig hynny, Jane Hutt. O ran y canllawiau ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, neu WelTAG, ar ffordd gyswllt yr M4 a'r A48, codwyd pryderon ynghylch aelodaeth grŵp adolygu Cyngor Bro Morgannwg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i drafod y mater â Bro Morgannwg fel y gallwn ni gael dealltwriaeth lawn o'r sefyllfa, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn adrodd yn ôl atoch chi ar ganlyniad hynny maes o law. Diolch i chi am godi hyn gydag ef.

O ran y mater am gam-drin domestig a'r credyd cynhwysol yr ydych yn ei godi—mae'n fater pwysig iawn yn y bôn—rydym ni'n gwybod, Dirprwy Lywydd, mai un o'r prif achosion o drais domestig a cham-drin domestig yw anghydraddoldeb economaidd yn y cartref. Gwyddom fod hynny'n broblem barhaus. Gyda'r newidiadau yn y system fudd-daliadau, sy'n effeithio ar y pwrs yn enwedig ac nid ar y waled, i ddefnyddio'r ffordd honno o'i ddweud, gwyddom y bydd y sefyllfa'n gwaethygu. Rydym hefyd yn gwybod bod y swm o arian a dynnwyd allan o economi Cymru yn sicr o gael effaith ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rwy'n bwriadu gwneud nifer o ddatganiadau a hefyd gael dadl ar nifer o faterion yn ymwneud ag agenda trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol dros yr hydref. Rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaeth gadarn am rai o'r problemau gwirioneddol sy'n effeithio ar bobl sy'n ffoi rhag trais yn y cartref, yn ogystal â'r rheini sy'n dioddef ohono ar hyn o bryd ac nad ydyn nhw wedi canfod y modd i ffoi eto. Hefyd, yn arbennig, rwy'n edrych ymlaen at barhau â'n hymgyrch i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan o adolygiad rhywedd, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys setliad ariannol gwell i fenywod yn y system ar y cyfan, oherwydd gwyddom fod y math hwnnw o anghydraddoldeb yn arwain at drais pellach yn y cartref.

Felly, edrychaf ymlaen at nifer—. Nid wyf yn mynd i roi datganiad penodol ar y mater arbennig hwnnw, ond bydd digon o gyfleoedd, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cael trafodaeth gadarn ynghylch y sefyllfa yn union. Rwy'n credu y bydd dau gyfle, os nad tri, i wneud hynny dros y tymor nesaf.

14:35

A gaf i ofyn, os gwelwch yn dda, am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Mae'r cyntaf yn ymwneud â chleifion clefyd interstitaidd yr ysgyfaint—ILD yn gallu defnyddio gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint. Roedd yr wythnos diwethaf yn wythnos IPF neu ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint, ac, yn ôl Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, mae ffibrosis yr ysgyfaint yn fath ar glefyd interstitaidd yr ysgyfaint. Mae gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint yn aml wedi canolbwyntio ar gyflyrau eraill megis COPD—clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint—oherwydd ei fod mor gyffredin, gyda dros 70,000 o bobl yng Nghymru—neu 2.3 y cant o'r boblogaeth—wedi eu heffeithio. Ond ceir tystiolaeth gynyddol fod darparu gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint ar gyfer clefydau interstitaidd yr ysgyfaint yn gallu cyfrannu'n sylweddol at wella ansawdd bywyd yn unol â chanllawiau NICE. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd iechyd ataf yn nodi fod y cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol Cymru, sy'n cael ei ddiweddaru a'i gyhoeddi ym mis Ionawr, yn cynnwys ffrwd waith genedlaethol ar gyfer clefyd interstitaidd yr ysgyfaint a chynllun i sefydlu timau arbenigol rhanbarthol i gefnogi gofal lleol. Felly, rwy'n gofyn am ddatganiad yn rhoi manylion am y cynnydd, os o gwbl, sydd wedi bod wrth ddatblygu llwybr adsefydlu cleifion yr ysgyfaint a phryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i hynny fod ar waith.

Mae fy ail gais am ddatganiad yn ymwneud â Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica. Yn ystod yr haf, cefais gyfarfod defnyddiol iawn gydag ymddiriedolwyr yr elusen gofrestredig Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica, i drafod y gwahanol gysylltiadau iechyd ar draws Gogledd Cymru. Fe ddywedon nhw wrthyf am y cysylltiadau rhwng ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam ac Ethiopia, a rhwng Ysbyty Gwynedd a Lesotho. Fe ddywedon nhw wrthyf eu bod yn gweld effaith fawr yn deillio o fewnbwn bach, oherwydd bod cymaint o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser am ddim, yn enwedig gweithwyr iechyd proffesiynol sydd, o ganlyniad, hefyd yn gallu datblygu eu sgiliau meddal er budd y GIG gyda Llywodraeth Cymru yn cael gwerth am arian sylweddol o ran iechyd byd-eang, cyfrifoldeb byd-eang, cysylltiadau rhyngwladol a diplomyddiaeth feddal, yn ogystal â'r sgiliau meddal yr oedden nhw eu hunain yn eu datblygu.

Dywedon nhw wrthyf fod ymrwymiadau allweddol y GIG ar gyfer cysylltiadau iechyd rhyngwladol yn cael eu cynrychioli gan y siarter ar gyfer partneriaethau iechyd rhyngwladol, ond fod y GIG a'r byrddau iechyd yn araf iawn yn gweithredu eu hymrwymiadau, ac er i raglen Llywodraeth Cymru—Cymru o Blaid Affrica—fod yn llwyddiant a chael effaith er budd cymunedau yng Nghymru ac Affrica, a hybu enw da Cymru fel gwlad, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhagor o gefnogaeth i'r rhaglen ers blynyddoedd. A fyddech chi felly yn ystyried darparu datganiad yn y cyd-destun hwn, lle y ceir tystiolaeth i ddangos y byddai gwneud ychydig yn fwy yn gallu cael effaith buddiol iawn ar Gymru ac ar y cymunedau yn Affrica y mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn rhoi o'u hamser yn wirfoddol i'w cefnogi?

14:40

Gan ddechrau gyda hynny, rydym ni yn amlwg yn falch iawn o'r cynllun Cymru o Blaid Affrica. Mae'r Aelod wedi amlinellu, rwy'n credu, yn fedrus iawn y ffaith ei fod er budd Cymru ei hun a'r gweithwyr proffesiynol a, wel, pawb sy'n gwirfoddoli yn y rhaglen. Ac, wrth gwrs, y mae o fudd i'r gwledydd yn Affrica sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Nid wyf am dynnu unrhyw beth oddi wrth hynny, ond mae'n amlwg fod gennym ni benderfyniadau cyllideb anodd iawn i'w gwneud. O na fyddai'n bosibl rhoi mwy o arian i gynllun o'r fath. Fe hoffwn i pe bai hynny'n bosibl, ond, yn anffodus, yn wyneb y gyllideb sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ni fydd hynny'n flaenoriaeth ac rwy'n gresynu’n fawr iawn, Dirprwy Lywydd, fod yr agenda o gyni a wynebwn ni yn ein gwthio ni i wneud penderfyniadau anodd iawn. Yn anffodus, nid yw hynny'n mynd i fod yn un o'r blaenoriaethau, ac mae hynny'n destun gofid, ac yn yr un modd bydd nifer o gynlluniau eraill yn wynebu sefyllfaoedd tebyg pryd gyda dim cyllid ychwanegol dros y blynyddoedd nesaf.

O ran mater clefyd yr ysgyfaint, mae'r Aelod yn dangos ei fod eisoes yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ac y mae ef ei hun wedi nodi bod y cynllun iechyd anadlol yn cydnabod pwysigrwydd gofal amserol ac arbenigol, a bod y Cynllun Cenedlaethol yn cynnwys ffrwd waith i wella gofal clefydau interstitaidd yr ysgyfaint ledled Cymru, a bod y GIG yng Nghymru wedi sefydlu dau wasanaeth arbenigol i gefnogi rheoli cyflyrau yn lleol. Nid wyf yn siŵr, ar hyn o bryd, fod gan y Llywodraeth lawer i'w ychwanegu at hynny mewn datganiad. Yn amlwg, fe fydd gan yr Aelod gyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ymhellach ynghylch hynny maes o law.

Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru am ddatganiad ar yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddo yng Nghaerffili ynghylch y posibilrwydd y bydd saith o gyfleusterau hamdden yn y fwrdeistref sirol yn cau. Rwy'n credu bod datganiad yn briodol am ddau reswm sylfaenol. Yn gyntaf, gwn fod nifer o aelodau'r cyhoedd wedi ceisio bod yn rhan o'r broses ymgynghori ac wedi ei chael hi'n anhyblyg iawn. Fe fydden nhw wedi hoffi cael cyfle i ymhelaethu ymhellach ar eu barn, ac nid yw rhai o'r cwestiynau aml-ddewis yn arbennig o eang eu rhychwant, ac felly mae hynny'n codi cwestiynau ynglŷn â'r ffydd y bydd gan bobl leol yn yr ymgynghoriad ac y bydd eu barn yn cael ei chymryd o ddifrif. Yn ail, wrth gwrs, wrth inni nesáu at fom amser iechyd sy'n tician o ran diffyg gweithgarwch corfforol a gordewdra, a yw hi mewn difrif yn briodol, ar hyn o bryd, ein bod yn ei gwneud hi'n anoddach i ddinasyddion yng Nghaerffili fod yn egnïol, yn enwedig o ystyried darpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Mae gan un o'r canolfannau hamdden y gyfradd bresenoldeb uchaf hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf—Pontllanfraith—ac mae mwy nag 80 o glybiau a grwpiau yn dibynnu ar ei chyfleusterau. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch problemau cyfleusterau hamdden yng Nghaerffili.

Mae canolfannau hamdden, fel y gŵyr yr Aelod, yn fater i'r awdurdod lleol, ond yr wyf yn rhannu ei bryder fod yr agenda o gyni yn dylanwadu ar rai penderfyniadau ynghylch gofal iechyd uwch yn y gadwyn, os mynnwch chi—penderfyniadau ynghylch y math o weithgareddau hamdden, ac, mewn gwirionedd, cyfleusterau sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol. Nid yw'n fater i ni sut y mae Caerffili yn ymgynghori ar y materion hyn, ond yr wyf yn sicr pe bai'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gyda'i bryderon, yna fe allwn ni edrych ar hyn ymhellach.

Rwy'n sicr y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol yr aeth llawer o deuluoedd o Gymru i Lundain ddoe ar gyfer agoriad yr ymchwiliad cyhoeddus i waed halogedig, ac fel y gŵyr arweinydd y tŷ, collodd dros 70 o bobl o Gymru eu bywydau oherwydd y sgandal hwn, a difethwyd bywydau llawer o rai eraill. Felly, mae hon yn adeg o bwys enfawr i deuluoedd yng Nghymru, a'r wythnos diwethaf bûm mewn cyfarfod â'r teuluoedd a'u bargyfreithwyr i wrando ar y dystiolaeth yr oeddynt yn ei pharatoi ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus. Mae'n ymddangos bod yn rhaid i bob unigolyn ofyn i'r byrddau iechyd lleol am ei nodiadau achos ei hun, ond hefyd mae'n rhaid i'r byrddau iechyd lleol ddarparu gwybodaeth gyffredinol o'r 1970au, ac wrth gwrs, bu llawer o newidiadau ymysg sefydliadau yng Nghymru. Felly, tybed a fyddai modd cael gwybodaeth gan y Llywodraeth ynghylch unrhyw ran y byddai'n debygol o'i chwarae yn ystod y broses hir hon, sy'n debygol o bara tair blynedd i fod yn optimistaidd, ac a yw hi'n debygol y bydd unrhyw gymorth ar gael ar gyfer awdurdodau iechyd ar gyfer tasg a fydd yn un eithaf mawr.

Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi ymgyrchu'n hir a chaled dros hyn, ac rydym ni wrth ein bodd yn gweld yr ymchwiliad yn dechrau o'r diwedd. Gobeithiaf yn fawr iawn y bydd rhai o bryderon dealladwy'r bobl a welsom ni'n cael eu holi ar y teledu ac ati ynglŷn ag effeithiolrwydd yr ymchwiliad yn cael eu lleddfu oherwydd yr ymchwiliad barnwrol llawn. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi cadarnhau y byddant yn cydymffurfio â Rheol 9 Deddf Ymchwiliadau 2005 drwy ddarparu gwybodaeth i'r ymchwiliad pan fo angen. Rydym yn cytuno y bydd yr ymchwiliad yn para tan fis Gorffennaf/Awst 2020 cyn y bydd unrhyw adroddiadau'n debygol o gael eu cyflwyno.

Rydym ni hefyd wedi cael cadarnhad gan bob un o'n byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau na chodir tâl ar y rhai a effeithiwyd o ran gweld cofnodion meddygol nac am eu copïo os bydd eu hangen. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod, wedi gwneud ymholiadau i wneud yn siŵr y byddwn yn gwneud hynny'n ddi-oed. Os daw yn amlwg fod unrhyw fath o broblem ynghylch hynny, rwy'n sicr y bydd yr Aelod yn codi'r mater gyda ni, ond rydym ni wedi gwneud ymholiadau rhagweithiol i sicrhau y bydd y broses yn un mor llyfn â phosibl. Mae hi wedi nodi bod rhai o'r pethau hyn yn mynd yn ôl ymhell, ond y mae'r byrddau iechyd i gyd wedi cadarnhau eu bod yn barod ac yn aros i gydymffurfio hyd eu gallu, ac na chodir unrhyw dâl am unrhyw fynediad neu waith copïo a fyddai eu hangen o ganlyniad. 

Fel y dywedaf, rydym ni'n gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo'n gyflym ac yn esmwyth gan ddod i'r canlyniad cywir, gan gynnig ymdeimlad o ddiweddglo a chyfiawnder y bu'r ymgyrchwyr yn brwydro'n hir amdanynt, ac y mae hynny'n gwbl briodol.

14:45

Arweinydd y tŷ, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig ar 25 Medi ynghylch corff adolygu meddygon a deintyddion a'r argymhellion ynglŷn â'u cyflogau. Tra bo gweld y bydd cynnydd ar draws y gyfran hon o'r GIG yn newyddion da, ac roeddwn yn falch o ddarllen y datganiad ysgrifenedig, rwyf yn credu serch hynny bod angen inni gael datganiad llafar llawn gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn. Ceir effeithiau posibl ar wariant ar asiantaethau a meddygon locwm. Mae cwestiynau i'w hateb ynghylch staff arbenigol a staff arbenigol cyswllt. A hoffwn hefyd ddeall sut aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati i drin y ffigurau pan ddywed fod y fargen hon yn mynd y tu hwnt i beth a gytunwyd ar gyfer meddygon a deintyddion dros y ffin—ac rwy'n tybio ei fod yn cyfeirio at Loegr—rydych chi'n gwybod, fel y gwyddom ni, yn Lloegr cafwyd datganiad ym mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni yn sôn am gynnydd sylfaenol o 2 y cant ar gyfer meddygon a deintyddion cyflogedig, ymarferwyr meddygol cyffredinol cyflogedig, ac ymarferwyr meddygol cyffredinol annibynnol ar gontract ac ymarferwyr deintyddol cyffredinol ar gontract, sef yr un ffigyrau yn union ag a geir yma. Felly, hoffwn wybod yn union beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, a chredaf y byddai'n ddefnyddiol iawn i ni gael mwy o gig ar yr asgwrn fel ein bod i gyd yn sôn am yr un peth.

Rydym yn croesawu'n fawr iawn gyhoeddiad yr Ysgrifennydd iechyd ynghylch cytundeb cyflog newydd ar gyfer meddygon a deintyddion yng Nghymru, sy'n cynnwys cynnydd cyflog sy'n uwch na'r cytundeb yn Lloegr. Rydym ni wedi ymrwymo i roi arian ychwanegol i gyflawni'r argymhellion hynny. Wrth gwrs, y realiti yw bod ein cyllidebau yn gyfyngedig, felly fe welir effeithiau eraill. Rydym ni'n hapus iawn bod Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth â ni a chyflogwyr y GIG i gyflawni'r uchelgais a nodir yn 'Cymru Iachach' ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu a'r ddarpariaeth o fodel gofal sylfaenol ar gyfer Cymru. Ac mae ein cytundeb codiad cyflog diweddar ar gyfer gweddill gweithlu'r GIG yng Nghymru yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn staff i sicrhau y gallant barhau i ddarparu gofal cymdeithasol a gofal iechyd rhagorol. Dirprwy Lywydd, gydag ymgyrchoedd recriwtio megis 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' byddwn gyda'n gilydd yn gallu creu gweithlu sy'n gallu cyflawni gweledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru, ac rydym yn croesawu hynny'n fawr iawn.

Arweinydd y tŷ, roeddwn wrth fy modd yn gweld y newyddion o gynhadledd y Blaid Lafur ddoe bod y Llywodraeth hon yn bwriadu cadarnhau confensiwn Istanbul i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae'r confensiwn yn fframwaith cyfreithiol hynod o bwysig a chynhwysfawr i wledydd lynu wrtho wrth fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd. Mae chwech ar hugain o wledydd wedi'i gadarnhau hyd yn hyn, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal, ond nid yw'r DU wedi ei gadarnhau. Mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef camdriniaeth ddomestig yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Lleddir dwy fenyw'r wythnos gan bartneriaid neu gyn-bartneriaid. Rhaid inni fod ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â'r hyn sy'n anfad yn ein cymdeithas, ac fe fyddai'n dda inni gofio y collodd 101 o fenywod yng Nghymru eu bywyd y llynedd o ganlyniad i drais yn eu herbyn gan bartner neu gyn-bartner.

Felly, ni allwn ni fforddio cael ein gadael ar ôl, a dyna pam yr wyf i'n croesawu'r datganiad ddoe. Ond yr hyn yr hoffwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, yw datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu'r broses a'r amserlen ar gyfer cadarnhau, ac amser i drafod y goblygiadau ar gyfer polisïau a deddfwriaeth Gymreig, a'r gwasanaethau cymorth hefyd y bydd eu hangen, efallai, i ail-werthuso yn seiliedig ar y cadarnhad hwnnw. 

14:50

Mae ymrwymiad llwyr yr Aelod i hyn ers cryn amser yn hysbys iawn, ac rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Prif Weinidog i'n cadarnhad ni, cyn belled ag y gallwn, o elfennau o gonfensiwn Istanbul. Yn amlwg, bydd yn rhaid iddo gael ei gadarnhau ar lefel y wladwriaeth ac, yn anffodus, nid ydym yn gallu gwneud hynny i gyd ein hunain. Ond rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a byddwn yn ymrwymo, ac rydym eisoes wedi ymrwymo, cyn belled â phosib, i ymgorffori yn neddfwriaeth Cymru holl elfennau confensiwn Istanbul sy'n gymwys i ni fel gweinyddiaeth ddatganoledig.

Fel y mae'r Aelod yn ei nodi, dibenion y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 oedd atal trais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd a cham-drin domestig a thrais rhywiol, a chefnogi ac amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr. A bod yn deg, mae gan y DU eisoes rai o'r amddiffyniadau mwyaf cadarn yn y byd rhag trais yn erbyn menywod. Ceir rhai materion awdurdodaeth alldiriogaethol nad ydyn nhw wedi eu cynnwys mewn cyfraith ddomestig eto ar lefel y DU. Mae angen deddfwriaeth sylfaenol arnyn nhw ar gyfer eu cyflwyno ledled y DU cyn y byddwn yn gallu cadarnhau'r elfennau hynny'n llawn fel y Deyrnas Unedig. Nid ydynt yn gymwys yma yng Nghymru. Bydd y Bil Cam-drin Domestig y mae deddfwrfa'r Deyrnas Unedig wedi ei amlinellu yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol ar awdurdodaeth alldiriogaethol i ymgorffori'r rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu goruchwylio gan Lys Cyfiawnder Ewrop mewn cyfraith ddomestig, fel y gallwn fod yn sicr hyd yn oed wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, na chawn ein hamddifadu o'r amddiffyniadau hynny rhag trais rhywiol, sydd mor angenrheidiol yn y byd yr oedd Joyce Watson yn ei gyfleu mor fedrus.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Byr iawn fyddaf i; gwn fod amser yn brin.

Arweinydd y Tŷ, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr o Moncare, menter a gefnogir gan y Loteri Fawr ac Anabledd Cymru ar gyfer gwella gofal cymdeithasol mewn trefi a phentrefi ledled Cymru drwy gyfrwng model o fath cydweithredol a chydgynhyrchiol. Ymddengys i mi mai dyma'r union fath o brosiect sy'n ticio blychau Llywodraeth Cymru, yn ticio blychau awdurdodau lleol, ac yn ticio'r blwch cydgynhyrchu. Ond bydden nhw'n hoffi mwy o gymorth i godi proffil yr hyn y maen nhw'n ceisio ei gyflawni yn Sir Fynwy a hefyd o ran cyflwyno eu model yn ehangach ledled Cymru.

Maen nhw'n eiddgar i roi'r dinesydd yn y canol, a rhoi'r claf yn ganolog i'w gofal. Fel y dywedaf, gwnaed argraff fawr arnaf gan yr hyn yr oedd ganddyn nhw i'w gynnig a'r hyn yr oedden nhw'n sôn amdano wrthyf i. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru neu a allech chi gael trafodaeth gyda'ch cyd-Aelodau am y modd y gellid cefnogi'r prosiect hwn.

Gallaf, pe byddai'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf gyda rhai o'r manylion, gallwn ni ystyried hynny'n sicr. Mae unrhyw beth sy'n cael ei wneud drwy gyfrwng cydgynhyrchu sy'n rhoi'r dinesydd yn y canol ac mewn rheolaeth o'i amgylchiadau a'i ofal personol i'w groesawu'n fawr. Felly, os hoffech ysgrifennu ataf gyda'r manylion, fe wnaf yn siŵr y byddwn yn gallu rhoi ystyriaeth i hynny.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Trefniadau Gwerthuso a Gwella

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: y trefniadau gwerthuso a gwella. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Y farn gyffredinol sydd wedi bod, am gyfnod rhy hir, yw nad yw system atebolrwydd addysg Cymru wedi cael yr effaith a ddymunir o ran codi safonau. Yn wir, mewn rhai achosion, mae wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol ag effeithiau niweidiol ar addysg disgyblion unigol. Mae'r canlyniadau anfwriadol hyn yn hen gyfarwydd. O ysgolion yn canolbwyntio'n ormodol ar ffin fympwyol gradd C heb hidio am gynnydd na gallu'r disgyblion, i achosion lle mae ysgolion yn canolbwyntio cymaint ar yr hyn y maen nhw'n credu y cânt eu dwyn i gyfrif amdano fel eu bod wedi cyfyngu ar y cwricwlwm i raddau annerbyniol. Mae ein cynllun gweithredu cenhadaeth cenedlaethol yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer system asesu a gwerthuso sy'n deg, yn gydlynol ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth ryngwladol a'r genadwri yng Nghymru yn eglur: mae'n rhaid inni sicrhau dull cydlynol sy'n osgoi'r canlyniadau anfwriadol hynny ac yn cyfrannu at godi safonau yn ein hystafelloedd dosbarth, gan ein holl athrawon, ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Rwyf eisoes wedi gweithredu, er enghraifft wrth fynd i'r afael â'r defnydd anghywir o sefyll arholiad TGAU yn gynnar a chyhoeddi mesurau perfformiad newydd dros dro a throsiannol ar gyfer ysgolion uwchradd, i sicrhau bod pob plentyn yn cyfrif ni waeth beth fyddo ei gefndir na'i allu. Bydd y fframwaith cyffredinol ar gyfer asesu a gwerthuso yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf ochr yn ochr â meysydd cwricwlwm newydd dysgu a phrofiad. Bydd yn disgrifio sut y caiff dysgwyr eu hasesu mewn ysgolion, sut y bydd athrawon yn cael eu harfarnu a'r trefniadau gwerthuso ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd.

Heddiw, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o gael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y modd yr ydym yn cyflawni'r ymrwymiad i ddatblygu a chyhoeddi gwerthusiad newydd a gwella trefniadau ar gyfer y system addysg gyfan. Bydd gan y trefniadau bedair elfen integredig a fydd yn gymwys i ysgolion, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Y rhain yw hunanwerthuso, adolygiad a dilysu gan gymheiriaid, dangosyddion gwerthuso, a chyhoeddi cynllun gweithredu.

Fel yn achos llawer o'r systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd, mae hunanwerthuso cadarn a pharhaus yn rhoi mecanwaith ar gyfer gwelliant. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygu ac Estyn yn gweithio gydag ymarferwyr i gynllunio fframwaith o hunanwerthuso, a fydd yn sicrhau cydlyniad, meini prawf ac iaith gyffredin er mwyn hunanarfarnu ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, consortia, Estyn a Llywodraeth Cymru. Bydd yn ofynnol i ysgolion hunanwerthuso mewn nifer o feysydd, er enghraifft eu heffaith ar gyrhaeddiad disgyblion ac ar eu lles, ehangder y cwricwlwm, eu gallu i ennyn gwelliant a'u heffeithiolrwydd i gydweithio ag ysgolion eraill.

Prif ddiben ein dull o hunanarfarnu yw nodi meysydd llwyddiant a methiant, lle gellir rhannu arfer da ac, yn bwysig iawn, lle gall methiannau gael sylw ar fyrder. Rwy'n glir hefyd y bydd yn rhaid i'r broses hunanarfarnu fod â safbwynt allanol os bydd i elwa ar yr her angenrheidiol sy'n anhepgor. Felly, ein bwriad yw y bydd pob ysgol yn cael eu hunanarfarniadau wedi'u gwirio. Caiff hunanarfarniad yr ysgol ei drafod yn flynyddol gyda'r consortia i benderfynu ar lefel y cymorth sydd ei angen ar yr ysgol neu lefel y cymorth y gall ei roi i ysgolion eraill. Ar ben hynny, y gobaith yw y bydd yr hunanarfarnu hwn yn cael ei wirio gan Estyn wedyn yn rhan o'u proses arolygu newydd. Yn bwysig iawn, gan y bydd disgwyl i hunanarfarnu'r ysgol gael ei adolygu gan ysgolion eraill, bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ein diwylliant o bartneriaeth a chymorth rhwng ysgol ac ysgol, gan ehangu capasiti hefyd ledled clystyrau o ysgolion fel eu bod yn raddol yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain.

Nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y datblygiadau y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Estyn a'r proffesiwn yn gweithio arnynt. Serch hynny, rwyf yn disgwyl i hunanarfarnu'r ysgolion fod yn eang a chynnwys meysydd pwysig megis ansawdd yr arweinyddiaeth mewn ysgol, ansawdd yr addysgu a'r dysgu, lles disgyblion, yn ogystal â sut mae ysgolion yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm, ymysg meysydd eraill. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o wybodaeth inni am sut mae'r ysgol yn gweithredu, uwchlaw a thu hwnt i'r sgôr lefel 2 cynhwysol yn unig sydd wedi celu'n rhy hir berfformiad llawer gormod o garfannau o blith ein disgyblion, yn ein sector uwchradd yn arbennig. O ran amlygrwydd yr wybodaeth hon, bydd canlyniad yr hunanarfarnu a'r dilysu yn ymddangos mewn cynllun datblygu ysgol tair blynedd. Ein bwriad yw y bydd pob ysgol yn cyhoeddi crynodeb o gynllun datblygu ysgol i rannu'r wybodaeth honno gyda'r rhieni a'r gymuned yn ehangach. Mae'n ymwneud â darparu cyfres fwy deallus o drefniadau gwerthuso a gwelliant ac rwy'n hyderus y bydd y prosesau adolygu a dilysu gan gymheiriaid yn gwneud hyn.

Fel y soniais yn gynharach, bydd y trefniadau hyn yn berthnasol hefyd i haenau eraill y system hefyd. Byddaf yn disgwyl i'r consortia rhanbarthol hunanwerthuso yn ôl y cynllun busnes a gytunwyd ganddynt a mynd drwy adolygiad blynyddol gan gymheiriaid gyda'r consortia eraill. Canlyniad yr hunanarfarnu fydd datblygiad cynllun gweithredu tair blynedd, a fydd yn ddarostyngedig i waith craffu a chymeradwyo fel rhan o'r trefniadau llywodraethu presennol fel yr amlinellwyd yn y model cenedlaethol ar gyfer gweithio yn rhanbarthol, gydag Estyn yn dilysu'r hunanarfarnu. Bydd disgwyl i'r consortia gyhoeddi crynodeb o'u cynlluniau gweithredu yn flynyddol i rannu gwybodaeth gydag ysgolion ac awdurdodau cyfansoddol lleol y consortia.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd—ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Siambr hon yn croesawu hyn—ar lefel genedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn hunanwerthuso yn ôl amcanion a chamau gweithredu o fewn ein cenhadaeth genedlaethol ac yn cynhyrchu adroddiad hunanarfarnu. Bydd yr adroddiad hunanarfarnu yn cael ei adolygu gan gymheiriaid sy'n aelodau o'r Atlantic Rim Collaboratory, sy'n cynnwys systemau addysg blaenllaw megis y Ffindir, Iwerddon a thaleithiau a rhanbarthau yng Ngogledd America. Rwy'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r cynllun gweithredu a hunanarfarnu ar ffurf adroddiad ar addysg yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn hon, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ar y gwaith hwn yn y misoedd nesaf.

14:55
15:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddim ond dweud fy mod yn bendant yn croesawu'r datganiad hwn? Mae unrhyw beth sydd o blaid gwella ac amlygu'r gwelliant o ran safonau yn rhywbeth rwy'n siŵr y bydd pawb yn awyddus i glywed ychydig mwy amdano.

Efallai y caf i ofyn i chi i ddechrau—rydych yn dweud y byddwn yn cael y newyddion diweddaraf ar hyn eto pan fydd y meysydd cwricwlwm dysgu a phrofiad yn cael eu cyhoeddi, rwy'n credu y daw hynny fis Ebrill y flwyddyn nesaf. A wnewch chi ddweud wrthym a yw hynny'n gywir yn fras ac, os felly, pa mor anodd fydd hi i'r gwaith adolygu gan gymheiriaid a grybwyllwyd gennych ar ddiwedd eich datganiad gael ei gynhyrchu erbyn diwedd y flwyddyn? Nid yw'n ymddangos fod hynny'n rhoi llawer iawn o amser iddyn nhw i fynd i'r afael â'r system newydd hon.

Croesawaf yn arbennig hefyd y gydnabyddiaeth o'r canlyniadau anfwriadol, ond, gellid dadlau, ganlyniadau rhagweladwy yn sgil y system bresennol sydd wedi bod yn canolbwyntio'n ormodol ar y ffin rhwng graddau C a D ac ar sefyll arholiadau yn gynnar, deubeth a godwyd gennym yn y ddadl yr wythnos diwethaf. Yn y ddadl honno, roeddem ni hefyd yn herio'r honiad na ellid cymharu safonau o flwyddyn i flwyddyn oherwydd—yn yr achos hwnnw, roeddem yn sôn am gymwysterau, ond roeddem ni'n dweud y gallech chi gymharu o hyd, oherwydd roedd adroddiad Cymwysterau Cymru wedi dweud wrthym fod y safonau yn sefydlog. Yr hyn yr wyf yn chwilio amdano, rwy'n credu, yw rhyw fath o sicrwydd na fydd y newid yn y system hon yn ei gwneud yn anodd i ni gymharu canfyddiadau ar welliant neu fethiant ar gyfer gwella'r hyn sydd i ddod a'r hyn sydd wedi bod eisoes. Gwyddoch eisoes am ein pryderon ynghylch ailgategoreiddio yn cuddio rhai methiannau o bosibl o ran gwelliant, ac, fel yr ydym wedi ei glywed gydag amseroedd ymateb ambiwlansys, mae newid y rheolau yn gallu cuddio profiad cyfansoddol cynyddol ofidus. Rydym yn dymuno osgoi'r sefyllfa honno gyda'r newidiadau hyn, sydd, fel y dywedaf, ar yr wyneb, yn ymddangos eu bod i'w croesawu'n fawr. Mae gennym ni ddyletswydd i graffu arnoch, a gwn fy mod yn newydd yn y swydd hon ar hyn o bryd, ond rwy'n ei chael yn anodd ar hyn o bryd i ddod o hyd i bwyntiau o gymhariaeth rhwng y system sydd gennym ar hyn o bryd a'r newidiadau y cawsom ni syniad ohonyn nhw gennych chi yn eich datganiad ysgrifenedig fis Mai. Felly, yn amlwg, gobeithio y byddaf yn dod yn well am gymharu, ond pe byddech yn rhoi peth sicrwydd i ni, fel y dywedaf, ein bod yn mynd i allu gweld cymhariaethau rhwng y system hon a'r un flaenorol—.

A fydd y gwerthusiad yn cynnwys effaith y pwyslais ar bynciau academaidd dros gynigion galwedigaethol o ansawdd da? Codais hyn unwaith eto yn y ddadl yr wythnos diwethaf, pryd y gwelsom fod y gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr gwannach ar gyfer lefel A yn amlwg wedi gwella'r ystadegau ar gyfer lefel A, tra bod cynnydd yn y niferoedd sy'n dewis gwyddorau ar gyfer TGAU wedi gweld cwymp yn y ganran o ganlyniadau graddau A i C. Felly, fel rhan o'r newid hwn i werthuso ansawdd yr arweinyddiaeth yn well, a chan mai rheolaeth ysgolion yw un o'r rhesymau ein bod wedi cael trwch o hysbysiadau rhybuddio, y cyfeiriwyd at hyn yn y ddadl yr wythnos diwethaf hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym pe byddai arweinyddion yr ysgolion, ar sail fesul disgybl, yn penderfynu bod disgybl mewn sefyllfa well, os hoffech chi, i ddewis pwnc galwedigaethol yn hytrach nag academaidd, neu arholiad, mae'n ddrwg gennyf, na fydd hynny'n effeithio ar ystadegau gwerthuso'r ysgol? Oherwydd ystyr arweinyddiaeth dda yw cael y gorau allan o bob disgybl, ac, wrth gwrs, nid yw pynciau academaidd yn addas ar gyfer pawb.

Rwy'n falch o weld bod y gwerthusiad yn gymwys i gonsortia rhanbarthol ac, yn wir, i Lywodraeth Cymru. Efallai fod hunanwerthuso, wrth gwrs, yn nodwedd o'r arfer gorau, ond fe ddaw â'i beryglon ei hun, ac rwyf fel petawn yn cofio bod adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, rwy'n mynd yn ôl ychydig o flynyddoedd nawr, wedi canfod bod ysgolion yng Nghymru yn tueddu i fod yn rhy hael gyda nhw eu hunain o ran hunanarfarnu eu perfformiad ar ddisgyblaeth. Felly, rwy'n llwyr groesawu'r syniad hwn o adolygiad gan gymheiriaid, yn enwedig y sylwadau terfynol yn eich datganiad. Ond a gaf i ofyn a fydd yn caniatáu am elfen o—wel, mae 'croesbeillio' wedi cael ei ysgrifennu yma gennyf i, ond yr hyn yr wyf yn ei olygu gyda hynny yw: a fydd ysgolion, wrth werthuso eu hunain, yn cael caniatâd i wneud sylwadau am eu perthynas gyda'r consortia ysgolion, gyda her ysgolion, hyd yn oed gyda'r awdurdodau lleol, efallai gyda Llywodraeth Cymru hyd yn oed, oherwydd mae'r rhain i gyd yn gysylltiadau a ddylai arwain at safonau gwell mewn ysgolion? Felly, byddem yn hoffi iddyn nhw gael y rhyddid i fod yn onest am y cysylltiadau hynny ac, yn yr un modd, i'r cyrff eraill hynny fod â'r rhyddid i fod yn onest am eu perthynas â rhai ysgolion penodol hefyd.

Ac yna, yn olaf, roeddech chi'n sôn am amlygrwydd—neu efallai mai eglurdeb yw'r hyn yr wyf â mwy o ddiddordeb ynddo, oherwydd mae'r byd cyfan hwnnw o deuluoedd ysgol a chwarteli wedi cael ei ysgrifennu mewn iaith o blaned arall i bob pwrpas yng ngolwg y teuluoedd. Felly, er bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad wedi awgrymu efallai mai diben asesiad o berfformiad disgyblion yw nodi eu cryfderau a'u gwendidau er mwyn eu helpu i wella, credaf ei bod yn realistig disgwyl i deuluoedd fod yn awyddus i ddeall sut mae ysgol yn ei chyfanrwydd yn perfformio hefyd. Felly, sut fyddwch yn sefydlu pa wybodaeth sy'n bwysig i deuluoedd a sut fydd yr wybodaeth honno yn cael ei chynnwys yn y crynodeb o gynllun datblygu'r ysgol? Ys gwn i: a oes unrhyw gyfle, efallai, am rywfaint o ganllawiau ar gyfer hynny i gydredeg â'r dangosyddion gwerthuso newydd? Oherwydd mae ansawdd y cyfathrebu rhwng ysgolion a theuluoedd yn beth sy'n werth ei werthuso, yn fy marn i—efallai nid fel rhan o hyn o reidrwydd, ond os oes rhyw ffordd y gellir ymgorffori hynny yn yr hyn yr ydym yn edrych arno i'r dyfodol, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch.

15:05

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y cwestiynau hynny? Dirprwy Lywydd, nid yw hi'n gwneud cyfiawnder â hi ei hun drwy ganolbwyntio ar y ffaith ei bod yn newydd i'r swydd. Rwyf i o'r farn bod y pwyntiau yr ydych wedi eu codi yn bethau gwir berthnasol a phwysig y mae angen inni eu trafod.

Os caf i ddim ond mynd trwyddyn nhw mor fanwl ag y gallaf, rwy'n credu bod yna—. Yr hyn y mae'r Aelod yn ei gyfuno yw'r fframwaith asesu a gwerthuso, a gyhoeddir yn y gwanwyn. Mae hynny'n rhan o'n gwaith ar ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yw nid canolbwyntio ar gynnwys yn unig, er bod hynny'n bwysig iawn, mae'n amlwg, ond mewn gwirionedd ar sut y byddwn yn mesur cynnydd plant unigol yn ôl y cynnwys hwnnw. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o—ac weithiau maen nhw'n codi gyda mi—y materion ynghylch yr Alban. Credaf mai un o'r gwersi yr ydym wedi eu dysgu o brofiad yr Alban yw eu bod wedi ceisio ychwanegu'r asesiad a'r gwerthusiad wedi iddyn nhw orffen ymdrin â'r cynnwys. Rydym ni yn ceisio gwneud hynny ar yr un pryd fel bod gennym ddealltwriaeth glir. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn y fan hon yw hunanwerthuso perfformiad ysgolion unigol, sydd ychydig yn wahanol.

Yr holl ddiben yw cynyddu amlygrwydd a rhoi mwy o wybodaeth i'r rhai sydd â diddordeb, fel bod yr ysgol ei hun yn myfyrio ar ei pherfformiad ei hun, ymhle mae angen gwella, ymhle mae hi'n llwyddo a pha gynnydd y gall ei wneud. Dywedodd yr Aelod yn gwbl briodol, 'A oes perygl y bydd pobl yn marcio eu gwaith cartref eu hunain a dewis yr hyn y cânt ei werthuso yn ôl eu dymuniad? Un o'r problemau a nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ran y system bresennol o hunanwerthuso—gan fod hynny'n digwydd yn yr ysgol—yw nad oes unrhyw ddull cenedlaethol. Ceir pecynnau cymorth amrywiol, ceir gwahanol ddulliau o wneud pethau, ac un o'r pethau yr wyf yn eu hegluro heddiw yw y bydd yna ddull gweithredu cenedlaethol, dealltwriaeth gyffredin, o'r modd y bydd pob ysgol yn gwneud hyn i sicrhau cydlyniaeth ledled y system gyfan, fel bod modd gwella ar yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn, a hefyd, fel y nododd hi'n gywir, gwneud yn siŵr bod hynny'n gymwys drwy'r system i gyd.

Rwy'n sylweddoli, gan ein bod yn newid systemau atebolrwydd, bod hynny yn rhoi her o ran cymharu blwyddyn a blwyddyn. Ond yr hyn yr ydym yn ei wneud, rwy'n credu, yw symud tuag at system o fesurau atebolrwydd mwy deallus yn ein hysgolion, yr wyf yn credu y bydd yn symbylu'r math iawn o ymddygiadau. Roedd yr Aelod, yn gwbl briodol, yn sôn am roi'r un parch i gymwysterau academaidd a rhai mwy galwedigaethol, ac am arweinyddion ysgolion yn gwneud penderfyniad cywir ar gyfer pob disgybl. Byddwn yn dadlau, o dan yr hen drefn, ein bod o bosib wedi cymell arweinyddion ysgol i chwarae'r system a gwneud i'r ysgol ymddangos yn well, yn hytrach nag ystyried yr hyn oedd yn iawn o ran anghenion pob plentyn unigol. Dyna pam mai un o'r materion a gaiff eu hystyried yn rhan o'r hunanwerthusiad—er nad wyf yn dymuno achub y blaen ar y gwaith y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei wneud, oherwydd y Sefydliad hwn, Estyn a'r proffesiwn sy'n datblygu'r fframwaith gwerthuso; nid ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain, ac mae gennym oruchwyliaeth ryngwladol—a fydd yn edrych ar ehangder y cwricwlwm, a'r hyn sydd mewn gwirionedd ar gael, fel bod ein system ysgolion yn diwallu anghenion amrywiaeth o ddysgwyr ac yn deall bod hynny yn deillio o gwricwlwm eang a chyfle eang.

Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi symud oddi wrth fesur perfformiad cynhwysol lefel 2 ar gyfer ysgolion uwchradd i sgôr pwyntiau wedi'i chapio, sy'n golygu bod pob disgybl yn cyfrif. Yn y gorffennol, pe byddech yn canolbwyntio ar eich ffiniau rhwng graddau C a D ac yn eu cael nhw dros y llinell, mewn gwirionedd, dyna'r hyn oedd yn sbarduno ymddygiad mewn ysgol. O dan y system newydd, bydd pob plentyn yn cyfrif. Bydd yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn cyfrif. Bydd hyn yn golygu bod pob plentyn yn bwysig a'u bod yn haeddu sylw cyfartal gan staff eu hysgol.

Rwy'n derbyn eich pwynt am berthynas gyda'r teuluoedd. Heblaw am ansawdd yr addysg, gwyddom mai'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar sut mae plentyn yn dod yn ei flaen yw ymgysylltiad y rhieni ag addysg y plentyn hwnnw. Felly, mae perthynas weithio dda â theuluoedd yn gwbl hanfodol, ac rwy'n deall bod hynny wedi bod yn rhan o'r asesiad sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Croesbeillio yw'r union beth yr ydym yn ei ddymuno yn sgil y broses hon o gael ysgolion i weithio'n fwy agos i'w gilydd—ac ysgolion a chonsortia rhanbarthol ac Estyn—fel ein bod yn gwella o ran rhannu arfer da. Un o'm rwystredigaethau parhaus gyda'r system yw bod gennym arferion rhagorol a blaenllaw yn rhai o ysgolion Cymru, a does bosib ei bod y tu hwnt i'n crebwyll ni i sicrhau bod hynny'n cael ei gymhwyso'n gyson ym mhob un o'n hysgolion ni. A rhan o'r broses hon yw gwneud yn siŵr bod ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd—bydd hynny'n rhan o'r gwerthusiad—ac rwy'n gweithio gyda fy ysgolion eraill. Mae gennyf gyfrifoldeb, oes, i'm plant, ond mae gennyf gyfrifoldeb hefyd i'r clwstwr ac i'r genedl. A hefyd bydd y crynodeb hwnnw o'r gwerthusiad ar gael i rieni. Ar hyn o bryd, mae'r wybodaeth sydd ar gael i rieni yn reit gyfyngedig mewn gwirionedd, felly mae hyn yn ymwneud â darparu mwy o amlygrwydd i rieni y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.

A gaf i gywiro'r Aelod o ran un peth? Mae gwahaniaeth rhwng asesiad ac atebolrwydd. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl at system sy'n defnyddio asesiad at ddibenion dysgu ac at symbylu taith addysgol y plentyn. Ni ddylai asesiad olygu systemau o atebolrwydd, oherwydd os croeswch chi'r rheini, dyna pryd y cewch chi chwarae ar y system. Dyna pryd y byddwch yn cael darlun anghywir o'r hyn sy'n digwydd. Felly, mae gwahaniaeth rhwng asesiad, yr ydym yn ei ddymuno ar gyfer symbylu addysg yn ein hysgolion—. Mae asesiad yn bont rhwng addysg a dysgu, ac ni allwn ganiatáu i hynny gael ei gaethiwo yn y drefn atebolrwydd. Mae atebolrwydd yn sefyll ar wahân, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu: mesurau asesu cadarn i symbylu addysg a dysgu yn ein hysgolion ond hefyd fesurau atebolrwydd cadarn y gellir dwyn ysgolion unigol, consortia rhanbarthol a'r Llywodraeth i gyfrif drwyddynt.

15:10

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei datganiad a chroesawu’r datganiad hefyd? Yn amlwg, byddwn ni eisiau gweld y fframwaith a’r manylion pan fyddan nhw ar gael, ond rydw i’n sicr yn cefnogi’r cyfeiriad rydych chi’n symud tuag ato fe. Yn aml iawn, rŷm ni’n anghofio—yn sicr yn y blynyddoedd a fu, efallai—fod angen ymddiried yn yr athrawon yn fwy, efallai, nag ydym ni wedi gwneud yn y gorffennol. Rydw i wedi dweud hyn yng nghyd-destun adnabod gallu plant a photensial plant i weld cynnydd ac yn y blaen, ac rydw i’n meddwl bod yr un egwyddor yn berthnasol fan hyn, hynny yw symud i hunanwerthuso, i hunanasesu. Mae Plaid Cymru wedi hen alw am system hunanwella lle mae’r proffesiwn yn gyfrifol am eu safonau eu hunain ond lle mae yna, wrth gwrs, fframwaith asesu a gwerthuso cryf yn eistedd y tu ôl i hynny.

Mi ddywedoch chi mewn datganiad fis Medi diwethaf y byddech chi’n cyhoeddi’r fframwaith newydd i’r system addysg yn ei gyfanrwydd yn ystod yr hydref eleni. Yn amlwg, heddiw, nawr, rŷch chi’n cadarnhau y byddwch chi’n gwneud hynny y flwyddyn nesaf. Rŷch chi wedi cyffwrdd ar hyn mewn ateb blaenorol, ond mi fuaswn i jest yn licio deall pam yr oedi. Gwnaethoch chi gyfeirio at y ffaith eich bod chi, efallai, yn cyplysu’r broses yma â chyflwyno y cwricwlwm, ac mae rhywun yn deall y rhesymeg y tu ôl i hynny, ond efallai—. Pryd, felly, fydd hwn yn llawn weithredol ar draws Cymru? Beth yw'ch nod chi o safbwynt pryd fydd y fframwaith yma’n gwbl weithredol ac y bydd pawb o fewn y gyfundrefn addysg yn atebol iddo fe? Fe fyddwn i’n falch i glywed hynny.

Rŷch chi’n sôn yn eich datganiad y bydd disgwyl hunanwerthuso ar draws nifer o feysydd gwahanol sy’n edrych ar gyflawniad a lles disgyblion, ystod y cwricwlwm sydd ar gael, y capasiti i wella a gweithio gydag ysgolion eraill ac yn y blaen, ac mae hynny i gyd, wrth gwrs, yn agweddau i’w canmol ac i’w hannog, ond sut fydd hynny’n cael ei ystyried yng nghyd-destun yr amrywiaeth sydd yna o adnoddau sydd ar gael i ysgolion? Oherwydd mae yna anghysondeb: rŷm ni’n chwilio am gysondeb yn yr asesu, ond mae yna anghysondeb yn yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni, er enghraifft, yr ystod o gwricwlwm sydd ar gael. Mewn rhai ardaloedd, mae yna gyllidebau gwell na’i gilydd, ac mae hynny’n mynd i gael effaith uniongyrchol ar y pynciau y mae ysgolion yn gallu eu cynnig. Felly, rydw i jest yn teimlo, tra bod yr egwyddorion yna yn bwysig a’n bod ni’n gallu cael system gydlynus—'coherent' rydw i’n credu rydych chi’n ei ddweud—a chyson ar draws Cymru, mae’r cyd-destun, wrth gwrs, yn amrywio o un ardal i’r llall, ac efallai fod hynny’n mynd i greu rhyw fath o wrthdaro o fewn y system.

Rŷch chi hefyd yn berffaith iawn i ddweud bod angen annog a hwyluso rhannu arfer da, ond, eto, un o’r pethau rŷm ni’n eu clywed gan y sector yn aml iawn yw bod yna ddim lle na'r capasiti a’r slac, os liciwch chi, o fewn y system i ryddhau aelodau staff i fynd i sôn am yr arfer da yma sy’n digwydd, ac mae hynny, i raddau, yn cael ei gydnabod yn yr adnoddau ychwanegol rŷch chi’n eu rhoi i’r ysgolion arloesi, er mwyn rhyddhau athrawon i fynd i siarad mewn cynadleddau ac i siarad o’u profiad. Felly, a oes yna adnoddau ychwanegol ar gael i ysgolion er mwyn gweithredu elfennau o’r fframwaith yma? Neu a ydych chi’n rhagweld efallai fod yna ryw arian transitional ar gyfer symud o un gyfundrefn i'r llall? Fe fyddwn i'n falch iawn i glywed beth yw'r sefyllfa yn hynny o beth.

Mae’n hyfryd gweld y bydd y consortia a Llywodraeth Cymru yn atebol i fframweithiau cyfatebol. Rydw i’n meddwl bod hynny’n anfon neges bwysig i athrawon ac i’r sector gyfan fod pawb nid yn unig yn tynnu i’r un cyfeiriad, ond bod pawb hefyd yn atebol ac yn chwarae i'r un rheolau, a’i fod yn cyflwyno elfen o gydraddoldeb, sydd yn neges bositif, yn fy marn i.

Byddwn i hefyd yn gofyn a oes yna fwriad i beilota hwn ar y ffas lo, oherwydd yn amlwg, rŷm ni i gyd yn awyddus i weld ni’n symud i’r cyfeiriad yna, ond mae’n bwysig, os ydyw’n digwydd, ei fod yn cael ei wneud yn iawn. Rŷch chi’n sôn am yr angen i osgoi unintended consequences, rŷch chi’n ei ddweud, a chyflwyno coherent approach, hynny yw, cyson ar draws Cymru, wel, mae’n debyg y byddai elfen o beilota efallai, yn rhan o’i gyflwyniad e, yn gyfraniad pwysig yn hynny o beth.

15:15

A gaf i ddiolch i Llŷr am ei groeso i'r llwybr a ddilynir? Rwy'n siŵr ein bod ni ill dau wedi darllen ac astudio'r ymchwil a'r dystiolaeth am allu hunanwerthusiad i symbylu gwelliannau a gallu system ysgol sydd yn ei gwella ei hun. Os edrychwn ar yr arfer gorau rhyngwladol mewn gwledydd sy'n perfformio'n uchel, mae ymddiriedaeth yn y proffesiwn, yn ogystal â system gadarn o hunanwerthuso a gweithio rhwng ysgol ac ysgol, yn hanfodol i ddatblygu system addysg.

Yn anffodus efallai yn rhai o'r ffyrdd lle yr oeddem wedi cael mesurau atebolrwydd yn y gorffennol, mae hynny wedi gweithio yn erbyn yr egwyddor honno o ysgolion yn rhannu arfer da. Os wyf i mewn chwartel, mae angen imi gael rhywun arall sy'n gwneud yn waeth na fi, felly pam ddylwn i rannu â chi'r dulliau sy'n gweithio'n dda i mi? Felly, mewn gwirionedd, yn y gorffennol, rydym wedi cael system o atebolrwydd a oedd efallai yn anfwriadol wedi gweithio yn erbyn yr egwyddor hon o ysgolion yn cydweithio'n agos ac yn codi safonau ar y cyd, sydd, fel y dywedais, fel y gwyddom o dystiolaeth ryngwladol, yn symbyliad cryf ar gyfer newid system addysg.

O ran amserlenni a'r pwynt pwysig a wnaeth Llŷr am brofi, byddwn yn rhoi prawf ar hyn yn y flwyddyn newydd, yn 2019. Rydych chi'n hollol iawn: mae angen inni ddeall pe byddai'r Llywodraeth yn tynnu'r lifer hwn, beth fyddai ystyr hynny o ddydd i ddydd yn ein hysgolion, ac nid ydym yn dymuno creu cyfres newydd o ganlyniadau anfwriadol yn sgil y newidiadau a wnawn. Felly, fe gaiff ei brofi. I ddechrau, ar hyn o bryd, rydym yn rhannu peth o'r syniadau â'n sector ysgol gynradd ar y ffordd y bydd yn gweithio yn y sector cynradd. Yr hyn sy'n bwysig ei nodi, Llŷr, yw bod y dull hunanwerthuso yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel bod gennym y trylwyredd a'r goruchwylio rhyngwladol, gydag Estyn, a fydd â'r swyddogaeth o ddilysu cyfundrefn hunanwerthuso ysgol, ac â'r proffesiwn ei hun fel ein bod yn gwybod ein bod yn dyfeisio system sy'n ymarferol mewn ysgol. Y peth gwaethaf y gallem ei wneud yw dylunio system nad yw, mewn gwirionedd, yn ymarferol ar gyfer ysgol i'w defnyddio a'i helpu i ysgogi gwelliant. Felly, mae'r proffesiwn ynghlwm yn ei datblygiad.

Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig—.Rwy'n derbyn eich pwynt bod ysgolion unigol ac awdurdodau lleol yn gwneud gwahanol fathau o benderfyniadau ariannu, ond rwy'n credu bod angen inni gael cyd-ddealltwriaeth ledled y system am yr hyn a olygir wrth hunanwerthusiad ac rydym yn edrych ar yr un ffactorau ym mhob un o'n hysgolion. Unwaith eto, y pethau y byddem yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r fframwaith fyddai ei effeithiolrwydd fel sefydliad addysgol, sut mae'n dangos sut y gall yrru pethau ymlaen, effeithiolrwydd ei brosesau i wella ysgol, yn hanfodol o ran yr effaith ar y disgyblion. Pam ydym ni'n gwneud hyn? Beth yw diben gwneud hyn o gwbl os na fydd eich gwelliant yn arwain at ganlyniadau gwell ac effaith fwy cadarnhaol ar eich disgyblion ysgol? Cynnydd a chyflawniad ynghylch y cwricwlwm ei hun, mae'n amlwg, ond hefyd gan edrych ar fater llesiant.

Rydym wedi cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon yn ddiweddar am yr angen am ddull ysgol gyfan. Mae'n rhaid inni gael ffordd fwy soffistigedig o ddal ysgolion i gyfrif o ran llesiant. Ar ei waethaf, mae llesiant yn ymwneud ag 'A yw'r plant wedi dod i'r ysgol?' ac os ydyn nhw wedi dod, 'Wel, dyna ni, rydym yn mynd i'r afael â llesiant.' Gwyddom, o'r gwaith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud, ei bod yn rhaid inni fod yn llawer mwy soffistigedig wrth edrych ar y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â llesiant. Mae angen dull ysgol gyfan arnom. Rydym yn gwybod hefyd bod ysgolion yn gwneud yr hyn y cânt eu gwerthuso arno, felly mae'n rhaid i hyn fod yn rhan bwysig o fframwaith hunanwerthuso wrth i ni fynd ymlaen.

Rydych chi'n iawn: un o'r heriau, Llŷr, yw creu amser ar gyfer hyn i gyd. Yn y lle cyntaf, roeddech chi'n nodi'n gywir ein bod yn rhoi adnoddau i ysgolion arloesi er mwyn gallu gwneud y gwaith hwn. Rydym yn bwriadu ariannu datblygiad cyfleoedd dysgu proffesiynol newydd a fydd yn ei gwneud yn fwy hwylus i bobl wrth fynd a dod rhwng gwahanol ysgolion. Felly, bydd angen adnoddau ar gyfer hynny ac, yn yr hirdymor, dyna pam yr ydym wedi comisiynu Mick Waters i wneud yr adroddiad a grybwyllwyd gennych chi eich hun yn gynharach mewn cwestiynau i arweinydd y tŷ, oherwydd mae hynny'n sôn am y ffordd y gallwn ddechrau meddwl am sut y gallwn wireddu'r pethau hyn gan ystyried cyfyngiadau bywyd gwaith prysur iawn yr athro. Byddaf yn ceisio ymateb yn llawn i'r adroddiad hwnnw pan fyddwn wedi cael cyfle i ystyried popeth sydd ynddo. Ond cefais fy nghalonogi yn fawr iawn eich bod wedi ei gael yn ddiddorol ac yn ysgogol iawn i'w ddarllen, ac mae hynny'n rhoi glasbrint ar gyfer y modd y gall rhai o'r materion hyn gael eu trin yn y tymor hwy mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn hytrach na gorfod rhoi ffynonellau ariannu ynghyd drwy'r amser er mwyn i'r pethau hyn ddigwydd.

15:20

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hunanwerthuso yn ymarferiad mewnol pwysig, ond pan gaiff ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn, ym mha ffordd fydd yn llunio rhan o'r broses ehangach o werthuso ac asesu? A phan fo ysgolion yn gweithredu yn ôl model cyllido sydd yn gweld ysgolion yn cystadlu am ddisgyblion, a fydd hunanwerthuso'r ysgolion a'r consortia yn ddim ond ymarfer o hunan gyhoeddusrwydd yn y pen draw? Gwn eich bod yn dweud y bydd yr hunanwerthuso yn cael ei ddilysu yn allanol, ond os hynny, os bydd yn destun dilysu a gwerthuso allanol, pam trafferthu gyda'r hunanwerthuso yn y lle cyntaf, a'i adael yn fater i gorff allanol fel Estyn? Ac o safbwynt ymarferol, beth fydd dilysu yn ei olygu mewn gwirionedd, a sut fydd Estyn yn ymdrin mewn gwirionedd â dilysu hunanwerthusiadau'r consortia a'r ysgolion? Byddwn yn falch dros ben o glywed sut yr ydych chi'n rhagweld hynny'n gweithio, Ysgrifennydd y Cabinet.

Dylai ysgolion fod yn hunanwerthuso eisoes ar gyfer eu defnydd eu hunain, felly bydd y syniad hwn fod yn rhaid i'r gwerthusiad fod yn rhywbeth cyhoeddus, mewn rhyw ystyr, yn sicr o beryglu yr hyn a oedd o'r blaen yn werthusiad gonest yn mynd yn un wedi ei greu i ddenu mwy o ddisgyblion. Ai dyma'r symudiad cywir mewn gwirionedd o ystyried y model ariannu, ac a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet o blaid newid y model ariannu fel y byddai'n fwy addas ar gyfer y cynllun gwerthuso hwn?

Gan droi at yr adolygiadau gan gymheiriaid o hunanwerthusiadau consortia rhanbarthol ac ysgolion, sut ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol? Beth yw nod yr adolygiadau gan gymheiriaid? Ac o ystyried y bydd consortia rhanbarthol ac ysgolion mewn gwirionedd yn gwirio gwaith cartref ei gilydd, sut ydych chi am sicrhau y bydd safonau yn gwella o ganlyniad? Diolch.

Credaf fod llawer iawn o werth i'w roi ar ymarfer mewnol sy'n edrych ar gryfderau a gwendidau sefydliad unigol ac, yn bwysicach na hynny, pa gamau a gymerir i wneud y sefydliad yn un gwell. Rydym yn gwybod, ar sail yr holl dystiolaeth a'r ymchwil rhyngwladol, bod ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn nodwedd o systemau addysg sy'n perfformio'n dda iawn, a dyna'r hyn yr wyf yn ei ddymuno i blant Cymru. Ond rydym yn gwybod hefyd fod angen elfen o adolygiad gan gymeiriaid ar yr hunanwerthuso hwnnw. Dyna pam y bydd gennym ysgolion sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu hynny. Nid yn unig y bydd yn gyfle ardderchog i wirio ymarferiad mewnol, ond bydd yn hyrwyddo ysbryd cydweithio rhwng ein hysgolion—rhywbeth nad ydym wedi llwyddo i'w gyflawni yn ein system yn y gorffennol, ac mae angen inni wella ar hynny. A dyna oedd un o nodweddion adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar system addysg Cymru.

Estyn fydd yn cynnal y gwaith dilysu. Dywed yr Aelod efallai y dylid gadael hyn i gyd i Estyn, ond, mewn gwirionedd, byddai'r cylch arolygu yn gadael bylchau enfawr pryd na fyddai Estyn yn gallu cyrraedd ysgol. Proses a gaiff ei chynnal yn flynyddol yw hon, ac felly cawn amser byw real. Un o'r problemau gyda'r system arolygu bresennol yw y gall ysgol fod am lawer iawn o flynyddoedd cyn y bydd Estyn yn mynd yn ôl i arolygu'r ysgol honno eto. Ac, er gwell neu er gwaeth, gall adroddiad arolygu ddyddio'n gyflym iawn. Rwy'n gwybod am ysgolion sydd wedi newid yn anfesuradwy mewn cyfnod byr o amser, ac mae gennym ni ysgolion hefyd sydd wedi gwneud yn dda, a cheir llawer o dystiolaeth o hynny dros y ffin yn Lloegr, bod ysgol wedi gwneud yn dda ac yna, ar ôl arolwg, mae perfformiad a safonau yn disgyn ar unwaith gan na fydd y bygythiad o adroddiad arolygiad ar y gorwel am flynyddoedd lawer eto. Felly, mewn gwirionedd, bydd hyn yn rhoi system well o lawer i ni, a system llawer mwy cadarn, lle bydd y pethau hyn yn cael eu harchwilio a'u herio'n gyson.

Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid y model presennol o gyllido addysg, ond, wrth gwrs, byddaf yn rhoi ystyriaeth i bob cyfle i fanteisio i'r eithaf ar gyllidebau ysgolion a chynyddu swm y buddsoddiad y gall y Llywodraeth Cymru ei roi yn ein system addysg.

15:25
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Cyflawni ar Awtistiaeth wedi'i Ddiweddaru a'r Cod Ymarfer Awtistiaeth

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y cynllun cyflawni ar awtistiaeth wedi'i ddiweddaru a'r cod ymarfer awtistiaeth, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Cydnabyddir yn gyffredinol bod gwasanaethau awtistiaeth yn gwella, ond rwy'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl awtistig a'u teuluoedd yn dal i wynebu brwydr ddyddiol i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n deall bod yn rhaid i wasanaethau nid yn unig barhau i wella, ond gwella'n gyflymach hefyd.

Dyna pam, heddiw, fy mod i wedi cyhoeddi fersiwn diwygiedig o'r cynllun cyflawni ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Mae'r cynllun diwygiedig yn adlewyrchu ymrwymiadau newydd pwysig i wella gwasanaethau. Mae'r ymrwymiadau newydd hyn yn adlewyrchu'r adborth yr ydym ni a'n partneriaid wedi ei glywed gan bobl awtistig, eu teuluoedd, gofalwyr a rhanddeiliaid ehangach. Mae'r ymrwymiadau'n cynnwys: cyhoeddi cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006; cyhoeddi cod ymarfer ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a chyflwyno'r system ADY newydd o 2020 ymlaen; diweddaru ac ehangu canllawiau awtistiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr tai; gwella casglu data drwy ddatblygu cofrestri awtistiaeth ar gyfer meddygon teulu; ymgynghori ar wneud awtistiaeth yn thema annibynnol ar gyfer asesiadau o anghenion poblogaeth y dyfodol; codi ymwybyddiaeth drwy wella ymgysylltiad a chyfranogiad pobl awtistig wrth ddatblygu polisïau; ac ehangu'r gwerthusiad annibynnol i edrych ar yr hyn sy'n gyffredin rhwng gwasanaethau niwroddatblygiadol plant a gwasanaethau awtistiaeth ehangach a mynd i'r afael â'r rhwystrau parhaus i leihau amseroedd aros am ddiagnosis.

Rwyf eisiau dweud rhagor heddiw am fy mwriadau ar gyfer y cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, yr wyf eisoes wedi ymrwymo i'w gyhoeddi o fewn tymor y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Bydd y cod hwn yn nodi sut y dylai awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'u partneriaid fod â gwasanaethau ar gael i ddiwallu anghenion a nodwyd gan bobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Ym mis Tachwedd, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ar yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno yn y cod awtistiaeth. Bydd y cod yn cael dylanwad sylweddol ar ble a sut y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn blaenoriaethu adnoddau a sut y maen nhw'n darparu gwasanaethau awtistiaeth mewn gwirionedd. Mae angen inni gael y cydbwysedd cywir rhwng gwneud canlyniadau penodol yn ofynnol ac ar yr un pryd galluogi arloesi parhaus.

Bydd y ddogfen ymgynghori yn adlewyrchu'r adborth a dderbyniwyd eisoes gan randdeiliaid, gan gynnwys ein grŵp cynghori ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Wrth imi ystyried profiadau unigolion yn brwydro i gael y cymorth sydd ei angen, rwy'n benodol eisiau clywed rhagor gan bobl awtistig a'u rhieni, gofalwyr a'r teulu ehangach ynghylch yr hyn y maen nhw eisiau ei weld mewn cod ymarfer a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol yn eu bywydau bob dydd. Rydym ni hefyd eisiau clywed rhagor gan y rhai hynny sy'n darparu cymorth, a fydd yn gallu cynghori ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd i ddweud wrthym ni lle y dylid gwneud gwelliannau. Rydym ni hefyd eisiau gwybod a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol a allai godi oherwydd unrhyw ganllawiau yr ydym ni'n dewis eu rhoi ar waith.

Bydd y ddogfen ymgynghori yn canolbwyntio ar bum maes allweddol a bydd yn ceisio casglu llawer o'r materion a nodir yn y Bil awtistiaeth yr wyf yn credu y gellir rhoi sylw iddyn nhw heb yr angen am y ddeddfwriaeth a gynigir ym Mil Awtistiaeth (Cymru) sy'n dechrau ar ei gyfnod craffu ar hyn o bryd. Y rhain yw: asesu a rhoi diagnosis; manteisio ar ofal a chymorth; hyfforddiant staff; cynllunio; ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am adborth ar feysydd lle y gallai ein cynlluniau achosi niwed yn anfwriadol i wasanaethau presennol a llesteirio cyflawniad llwyddiannus y cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig, yn arbennig y gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Er enghraifft, rydym yn bwriadu cynnal y safon amser aros am asesiad o 26 wythnos ar gyfer plant ac ehangu hyn i wasanaethau oedolion. Nid ydym yn credu ei bod yn ddoeth newid y trefniadau hyn, gan y bydd ein dull sydd wedi ei brofi yn galluogi darparwyr gwasanaethau i drefnu a darparu apwyntiadau asesu cyntaf yn brydlon, yn hytrach na dim ond nodi bod asesiad wedi dechrau, fel y cynigiwyd yn y Bil awtistiaeth. Bydd ein dull yn helpu i sicrhau bod digon o adnoddau yn parhau i fod ar gael i ddarparu gwasanaeth ar ôl rhoi diagnosis. Credaf nad oes llawer i'w ennill drwy ganolbwyntio adnoddau sydd o dan bwysau ar wasgu unigolion drwy asesiad ar draul darparu gofal ymhellach yn y broses, lle mae ei angen fwyaf.

Bydd y cod, pan gaiff ei gyhoeddi, yn atgyfnerthu'r dyletswyddau a osodir eisoes ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau asesu awtistiaeth, ac yn nodi canllawiau ynglŷn â threfniadau a chwmpas darpariaeth y gwasanaeth. Bydd yn amlygu bod angen cydymffurfio â llwybrau diagnostig y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, a thrwy annog swyddogaethau arweiniol penodol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn adlewyrchu arferion cyfredol. Bydd canllawiau hefyd ar sut y dylai pobl awtistig allu manteisio ar wasanaethau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar eu hanghenion a'u bod ar gael drwy addasu arferion. Dylai hynny adlewyrchu'r dyletswyddau presennol mewn deddfwriaeth gofal cymdeithasol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith gwasanaethau ac ar draws y gymuned. Ac rydym ni eisiau gwneud mwy drwy ofyn i wasanaethau gynnal asesiad o anghenion hyfforddi pob un o'u staff ac yna darparu hyfforddiant a nodwyd ei fod yn addas ar gyfer eu swyddogaeth a'u profiad. Mae fframwaith awtistiaeth cenedlaethol Cymru ar gael fel adnodd i wneud y gwaith hwn eisoes.

Bydd y cod hefyd yn rhoi canllawiau ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ynghylch cynllunio gwasanaethau a dyletswyddau presennol i gynnal asesiad anghenion y boblogaeth. Byddwn yn gwneud awtistiaeth yn thema graidd orfodol annibynnol ar gyfer asesiadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod gan ranbarthau gynlluniau clir ar waith i ddarparu a monitro gwasanaethau awtistiaeth. Ac, yn olaf, ond efallai yn fwyaf pwysig, bydd y canllawiau newydd yn nodi'r camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod pobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cynllunio ac yn ymwneud â datblygu'r gwasanaeth.

Wrth ddatblygu'r cod, byddaf wrth gwrs yn ystyried y gwaith a wneir ar Fil Awtistiaeth (Cymru) a arweinir gan un o'n Haelodau Cynulliad, a gyflwynwyd yn ddiweddar. Wrth i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gasglu tystiolaeth ar y ddeddfwriaeth arfaethedig dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddaf wrth gwrs yn gwrando. Byddaf yn mynychu'r pwyllgor ac yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, rwy'n dal i gredu nad y Bil yw'r ateb cywir i wella gwasanaethau i bobl, yng nghyd-destun yr ystod o ddatblygiadau gwasanaeth sy'n cael, neu a fydd yn cael eu rhoi ar waith. Yng nghyd-destun yr holl gamau gweithredu yr wyf wedi eu hamlinellu heddiw, ni fydd y ddeddfwriaeth bosibl sy'n cael ei thrafod yn y Cynulliad, yn fy marn i, yn darparu adnoddau newydd i ni wella gwasanaethau. Fe fyddai, er hynny, yn fy marn i, yn sefydlu cyfres anhyblyg o ofynion sy'n debygol o wneud niwed i'r cynnydd y mae ein gwasanaethau yn ei wneud. Ni fydd yn arwain at fwy o arian yn cael ei roi yn y system; byddai'n arwain at adnoddau presennol yn cael eu defnyddio'n llai effeithiol.

Rwy'n credu ein bod ar y trywydd iawn. Yn hytrach na newid cwrs nawr, mae angen inni fwrw ati i gyflawni, gan gynnwys drwy gymryd y camau yr wyf wedi eu hamlinellu heddiw. Ac rwy'n gobeithio y gall cydweithwyr ar draws y pleidiau gefnogi ein cynllun ac, o ganlyniad, y bydd canlyniadau ar gyfer pobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn parhau i wella.

15:30

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud y bydd y cod ymarfer awtistiaeth yn nodi sut y dylai awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid fod â gwasanaethau ar gael. Beth ydych chi'n ei olygu wrth 'dylai', a pa ddefnydd yw 'dylai', o gofio nad yw 'dylai' byth yn cyflawni unrhyw beth? Rydych chi'n cyfeirio at ymgynghoriad cyhoeddus, ond rydych chi'n gwybod bod cynllunio'r gwasanaeth awtistiaeth integredig i fod i fabwysiadu dulliau cydgynhyrchiol. Felly, sut ydych chi'n ymateb i ganfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol interim o'r strategaeth awtistiaeth a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a ganfu, er bod y dull cydgynhyrchiol gan gynnwys staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r Strategaeth Awtistiaeth Integredig yn ofynnol, bod pryderon am ddull o'r brig i lawr, a oedd wedi cyfyngu ar hyn? A gallaf eich sicrhau chi fy mod wedi treulio llawer o'r haf yn gweithio gyda phobl awtistig a'u teuluoedd sydd mewn gofid, sy'n dweud wrthyf nad yw'r sefyllfa'n gwella.

O ran eich ymgynghoriad, sut ydych chi'n sicrhau bod hyn yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y darparwr gwasanaeth, neu ar y Llywodraeth, i nodi anghenion cyfathrebu ac amgylcheddau cyfathrebu pobl awtistig? Ni fydd anfon neu roi gwybodaeth iddynt am ymgynghoriad yn galluogi llawer ohonynt i fynd ato a bydd mewn gwirionedd yn gweithredu fel rhwystr iddynt.

Rydych chi'n cyfeirio at asesu a rhoi diagnosis: sut ydych chi'n ymateb i sefyllfa yr wyf i wedi dod ar ei thraws—yn amlwg, yn fy achos i, yn y gogledd—lle mae diagnosiwr preifat, seicolegydd clinigol ymgynghorol a thîm amlddisgyblaethol, yn cael eu comisiynu gan y bwrdd iechyd i asesu a rhoi diagnosis, ond mae eu hasesiadau preifat, pan fo asesiad a diagnosis wedi'u gwrthod i bobl, yn aml oherwydd bod merched wedi bod mor effeithiol am guddio'r cyflwr yn yr ysgol, wedi eu gwrthod gan yr un bwrdd iechyd ar yr honiad dro ar ôl tro eu bod yn defnyddio gwahanol safonau, a dangoswyd eu bod yn ffeithiol anghywir, lle defnyddir yr un broses yn union yn y ddau achos?

Sut ydych chi'n cyfeirio at y datganiad gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth na fydd cod ymarfer yn unig yn mynd yn ddigon pell i ymdrin ag anghenion y gymuned awtistig, pan rybuddiodd Ysgol Economeg Llundain yn ei adroddiad 'The Autism Dividend: Reaping the Rewards of Better Investment' yn 2017, na fyddai llawer o allu, heb ddeddfwriaeth, i'w gwneud hi'n ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu mentrau'r Llywodraeth yn llawn ac nid yw'n rhoi sefydlogrwydd statudol mewn modd y byddai Deddf awtistiaeth?

Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder, sydd hefyd wedi ei fynegi i chi, rwy'n gwybod, oherwydd yr wyf wedi cael fy nghynnwys yn rhywfaint o'r ohebiaeth hon, am y diffyg niferoedd sy'n cael sylw gan y gwasanaeth integredig a'r diffyg gwasanaethau gan y gwasanaeth i godi'r slac o'r cyrff trydydd sector sy'n gynyddol yn colli cymorth? Rwy'n gwybod—. Ac rwy'n dyfynnu o lythyr atoch chi ar 11 Awst ynghylch y siop-un-stop a gynigir gan Autism Spectrum Connections Cymru yng Nghaerdydd, sydd erbyn hyn yn cwtogi eu gwasanaethau o fis Medi ymlaen oherwydd diffyg arian. Fel yr oedd y person hwn yn dweud wrthych chi, mae'n gweithredu fel man diogel yn y gymuned ar gyfer pobl awtistig fel nhw ac mae wedi cynorthwyo dros 740 o bobl awtistig rhwng 2015 a 2018. Mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn cyfeirio pobl at wasanaethau ac eto mae'r gwasanaethau y mae'r gymuned awtistiaeth ei hun yn dweud eu bod yn dibynnu arnynt yn diflannu'n raddol.

Nid yw gwasanaeth integredig awtistiaeth Caerdydd a'r Fro, mewn gwirionedd, yn ôl Cyngor Caerdydd, yn cynnig gwasanaeth galw heibio ar gyfer oedolion awtistig. Mae'n cynnig dim ond cyfle i ymgynghori ar y ffôn a chymorth ar gyfer oedolion awtistig, eu gofalwyr neu eu rhieni—unwaith eto, methiant i asesu anghenion cyfathrebu pobl awtistig ac felly i fesur pa brofiad go iawn y maen nhw'n ei chael, mewn gwirionedd.

Sut ydych chi'n ymateb, o ystyried bod Cyngor Sir y Fflint yn cynnal y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y gogledd, i'r e-bost hwn y derbyniais y penwythnos diwethaf ar ran grŵp eirioli cymheiriaid o bobl awtistig—llythyr drafft, sy'n dweud bod unigolion awtistig a'u teuluoedd yn cael eu siomi dro ar ôl tro, ac yna, pan wneir cwynion, nid yw unrhyw un yn atebol am fethiannau—neu un yr wythnos diwethaf gan blentyn 12 mlwydd oed, un o lawer y gwrthodwyd asesiad iddi i ddechrau oherwydd ei bod mor effeithiol am guddio'r cyflwr? Ysgrifennodd at yr un cyngor, a dywedodd, y penwythnos diwethaf, ar ôl i'w datganiad drafft gael ei ddangos iddi, 'Roedd llawer o'r pwyntiau yn anghywir, roedd rhai yn llawer rhy eithafol. Rwy'n 12, ar hyn o bryd yn methu mynd i'r ysgol am nifer o resymau. Rwy'n anfodlon ar yr adroddiad ac yn teimlo nad oes neb wedi gwrando ar yr wybodaeth a ddarparwyd gennym', oherwydd ni sefydlodd neb ei hanghenion cyfathrebu i ddechrau. Mae gennyf un arall yma i'r un sefydliad: 'Mae llawer ohonom ni yn cael trafferth wrth gwrdd dieithriaid, yn enwedig mewn mannau estron. Rydym ni'n cael trafferth i gyfathrebu ein hanghenion yn effeithiol dros y ffôn, yn ysgrifenedig ac ar e-bost. Rydym ni wedi methu â chael gafael ar eiriolaeth effeithiol ar ran ein hunain a'n plant er ein bod wedi rhoi manylion ein hanawsterau prosesu. Mae'n aml yn cymryd amser hir i brosesu gwybodaeth ar lafar neu yn ysgrifenedig heb gymorth i ddeall a dehongli yn gywir, er bod llawer ohonom ni'n ymddangos yn huawdl iawn.'

Pan wnaethon nhw gysylltu â'r gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd, anfonwyd ffurflenni atyn nhw i'w llenwi, a achosodd broblemau mawr i lawer ohonyn nhw. Yna, cawsant wybod, os na allen nhw lenwi'r ffurflenni, dylen nhw ddod i ganolfan galw heibio mewn lleoliad penodol i gwrdd â phobl ddieithr, a oedd yn dangos nad oes gan y bobl a anfonodd y rhain ddim dealltwriaeth o awtistiaeth, pobl awtistig na'u hanghenion cyfathrebu.

Af ymlaen a dirwyn i ben drwy ofyn sut ydych chi'n ymateb i'r erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig yn ddiweddar gan y rheolwr materion allanol ar gyfer National Autistic Society Cymru. Dywedodd hi fod eu harolwg diweddar

'wedi canfod bod bron i hanner...yr oedolion awtistig yn nodi diffyg dealltwriaeth broffesiynol fel rhwystr i fanteisio ar gymorth. Mae'n amlwg nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn ddigon i leihau'r rhwystrau sylweddol iawn y mae pobl awtistig yn eu hwynebu.'

Dywedodd fod y Bil, y Bil awtistiaeth

'yn gyfle i roi chwarae teg i bobl awtistig, lle y gall rhywun gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt heb gael eu trosglwyddo rhwng y gwasanaethau statudol eraill, megis y rhai hynny a gynlluniwyd ar gyfer pobl â chyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu.'

Felly, gadewch i ni ofyn beth fyddai canlyniadau diffyg gweithredu ar 34,000 o bobl awtistig ledled Cymru a'u teuluoedd. Ond yr her i unrhyw un nad yw eto wedi ei argyhoeddi bod angen y ddeddfwriaeth hon fyddai i wrando ar safbwyntiau a phrofiadau y bobl hynny a chynnig ateb sy'n ennyn eu cefnogaeth ac sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon i'w bywydau. Felly, gobeithio, y byddwch chi'n clywed yr alwad honno ac, wrth wneud hynny, efallai y gallech chi orffen drwy ddweud wrthym ni eto sut y byddwch yn sicrhau bod eich Llywodraeth, eich gwasanaethau a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig mewn gwirionedd yn dechrau sefydlu anghenion cyfathrebu y gymuned awtistig ac unigolion oddi mewn iddi yng Nghymru cyn dechrau dod i gasgliadau a gwneud argymhellion i chi.

15:40

Diolch i'r Aelod am y gyfres o sylwadau a'r cwestiynau oddi mewn iddynt. Rwy'n credu, yn y bôn, fod tair thema eang wedi eu cynnwys. Mae'r gyntaf yn ymwneud â chyfathrebu, ac rwy'n cydnabod bod her ynghylch cyfathrebu effeithiol nid yn unig wrth ond gyda phobl, ac mae hyn yn gyffredin i lawer o'r heriau sy'n ein hwynebu ym mhob agwedd ar iechyd a gofal cymdeithasol—yn arbennig yn y maes hwn, fodd bynnag.

Yr ail her eang, rwy'n credu, yw bod nifer o'r pwyntiau a wnewch yn yr enghreifftiau a roesoch ynglŷn â'r gwasanaeth yn y gogledd. Ac, wrth gwrs, dim ond yr haf hwn y dechreuwyd cyflwyno gwasanaeth awtistiaeth integredig yn y gogledd, felly ni fyddwn yn disgwyl gweld cysondeb sylweddol eto na hanes sylweddol o wella gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol y mae pobl yn ei deimlo ac y gallant ei brofi drostynt eu hunain yn y gogledd eto. Rwy'n credu ei bod hi'n briodol inni farnu llwyddiant y gwasanaeth unwaith y bydd nifer sylweddol o bobl mewn gwirionedd wedi cymryd rhan ynddo. Ond mae gwersi i'w dysgu wrth inni edrych i barhau a chwblhau'r broses o gyflwyno'r gwasanaeth. Ac mae'n bwysig ein bod yn deall pan nad yw pethau'n mynd yn dda. Mae hynny'n rhan o hanfod darparu a gwella gwasanaethau.

Ar y mater ar wahân a godwch am ddiagnosis, yn amlwg ni allaf ymdrin â hynny; nid wyf yn gallu rhoi sylwadau ar y pwyntiau penodol yr ydych yn eu crybwyll. Ond, os hoffech chi ysgrifennu ataf gyda'r manylion, yna rwy'n hapus i wneud yn siŵr bod y materion hynny yn cael sylw priodol.

Y trydydd pwynt eang sy'n rhan o'ch cyfres eich hun o sylwadau a chwestiynau yw'r ddadl o blaid deddfwriaeth, ac mae anghytuno gonest ynghylch hyn. Byddwn yn dweud yn onest wrtho ef ac eraill sy'n cefnogi deddfwriaeth, os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, ni allwch chi lunio siart ar gyfer gwella gwasanaethau a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ag awtistiaeth ar yr un pryd. Felly, rwy'n credu bod her ynghylch yr awgrym y bydd deddfwriaeth yn cael gwared ar yr heriau hynny yr ydym ni i gyd yn y Siambr hon yn cydnabod sy'n effeithio ar bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd. A chredaf fod pobl awtistig yn chwilio am ateb a fydd o gymorth ymarferol i wella eu bywyd presennol a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Ac nid wyf yn credu bod ceisio awgrymu bod gan y gymuned awtistiaeth yr un safbwynt ar hyn yn gyson â'r ffeithiau. Mae pobl awtistig wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a'r sgwrs hyd yma ac mae'n wir i ddweud nad oes un farn unigol neu unfrydedd safbwynt. Os edrychwch chi ar ble mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyflwyno dros gyfnod o amser, mae yna amrywiaeth o dystiolaeth gan staff o fewn y gwasanaeth sy'n credu eu bod yn gweithio'n well a bod ganddyn nhw fwy o amser i weithio'n well, yn ogystal â phobl awtistig eu hunain sydd wedi cymryd rhan ac wedi cael gwrandawiad i wneud yn siŵr bod eu hanghenion unigol yn cael ystyriaeth briodol.

Nid oes cefnogaeth unfrydol byth i ailgynllunio gwasanaethau ac mae'n bwysig bob pob un ohonom ni sydd eisiau gweld diwygio gwasanaethau mewn unrhyw faes yn cydnabod hynny. Felly, wrth gwrs y bydd beirniadaeth—pobl sydd ddim yn cefnogi'r hyn sy'n cael ei wneud, pobl sy'n cydnabod nad yw eu profiad eu hunain yn ddigon da—ac nid wyf yn ceisio osgoi hynny o gwbl, ond nid wyf yn derbyn o gwbl y datganiadau dydd y farn y mae'r Aelod yn eu gwneud ynglŷn â beth sy'n cael ei wneud a pham. Edrychaf ymlaen at dystiolaeth bellach o ran cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, ac edrychaf ymlaen at weld pobl yn trin a thrafod yn agored ac yn onest yr awgrymiadau a wnaethpwyd heddiw ac, yn wir, yr ymgynghoriad a gyhoeddir ym mis Tachwedd eleni.

Diolch, ac mae'n rhaid dweud bod sawl elfen o'r datganiad rydym ni wedi'i gael gennych chi heddiw yn bositif ynddyn nhw eu hunain, ond rydw i'n meddwl mai yr hyn sy'n bwysig i'w gofio ydy eu bod nhw, yng ngolwg llawer o bobl, yn cynnwys fi, yn syrthio'n fyr o'r hyn a allai gael ei ddarparu drwy ddeddfwriaeth benodol. Rydych chi, drwy'r ffordd rydych chi'n ymwneud â hyn, yn sôn am ddiagnosis a gwasanaethau cefnogi uniongyrchol fel y pethau pwysig. Wrth gwrs, mae yna lawer mwy na hynny iddi hi, a dyna pam rwy'n meddwl bod angen deddfwriaeth. Rydym ni'n sôn am yr angen i gael gwared ar rwystrau i bobl awtistig rhag gallu chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.

Mae angen rhoi rhagor o amddiffyniad i bobl efo ASD yn erbyn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud sydd ddim yn cymryd i ystyriaeth niwroamrywiaeth. Mae o'n ymwneud â, o bosib, newid arferion recriwtio, er enghraifft. Mae o'n golygu sylweddoli bod penderfyniadau ynglŷn â phob mathau o feysydd o wasanaeth cyhoeddus yn gallu cael effaith ddofn iawn ar bobl sydd ag awtistiaeth. Er enghraifft, mi glywais i am yr effaith mae newid neu dynnu gwasanaethau trafnidiaeth i ysgol yn ei gael ar blant efo ASD. Mae'r newidiadau yna yn gallu cael effaith ddofn ar blentyn awtistig. Rŵan, nid yw trafnidiaeth ysgol yn wasanaeth i bobl ag awtistiaeth, ond mae penderfyniadau ynglŷn â hynny yn gallu cael effaith ddofn.

Cwpwl o gwestiynau cyffredinol, mewn difrif. Mi rydych chi yn dweud eich hun bod y cod rydych chi eisiau ei ddatblygu yn mynd i allu cael 'dylanwad sylweddol'—dyna eich geiriau chi—ar lle a sut mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn blaenoriaethu adnodau, a sut maen nhw'n darparu gwasanaethau ac adnoddau. Ond a wnewch chi gyfaddef bod cael dylanwad sylweddol yn syrthio yn fyr iawn o'r gwarantau fyddai'n cael eu cynnig drwy ddeddfwriaeth? Ac mi ydych chi, wrth wrthod, ar hyn o bryd—gobethio y gallwn newid eich meddwl chi—mynd lawr y llwybr o gefnogi'r llwybr o gael deddfwriaeth ar wahân, yn dweud y byddai deddfwriaeth ar wahân yn gosod gofynion rhy llym a fyddai yn gwneud niwed i'r gwelliant rydym yn ei weld, yn eich tyb chi, ar hyn o bryd. Ond a wnewch chi dderbyn mai oherwydd bod pobl yn methu â gweld ein bod ni ar lwybr digonol o welliant y mae pobl—mwyafrif llethol teuluoedd y bobl sydd ag ASD neu bobl awtistig—yn teimlo bod angen deddfwriaeth benodol?

15:45

Diolch am y gyfres fwy cryno o sylwadau a chwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru. Rwy'n cydnabod yr her gyffredinol ynglŷn â deddfwriaeth neu beidio, ac mae'n un onest hefyd. Nid wyf yn honni bod pobl yn cymryd rhan yn y ddadl hon yn annidwyll—ddim o gwbl. Rwy'n cydnabod bod pryder dilys ym mhob plaid ynglŷn ag a ydym ni'n darparu'r gwasanaethau cywir gyda'r lefel gywir o ymgysylltu i gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer pobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ac rwy'n deall hyn yn iawn o fewn fy nheulu fy hun hefyd. Felly, rwyf yn wirioneddol sensitif o sut yr ydym ni'n diwallu anghenion pobl nad ydynt yn cael bargen ddigon da ar hyn o bryd. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi amser, ynni ac ymdrech i wella gwasanaethau gyda ac ar gyfer pobl awtistig. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi arian ychwanegol i wneud hyn. Dyna holl amcan a diben cyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Ond nid wyf yn credu y bydd deddfwriaeth ynddo'i hun yn gwarantu goresgyn rhai o'r rhwystrau cymdeithasol hynny. Mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n defnyddio'r dyfeisiau gwahanol sydd ar gael i ni i wneud hynny.

Rwy'n cydnabod yr heriau a nodwyd gennych chi, ond mewn gwirionedd, credaf o fewn y gwasanaeth awtistiaeth integredig sydd eisoes yn cael ei gyflwyno a'n cynigion i ymdrin â'r rheini, gan gynnwys y cod, mae gweithredu gwirioneddol a ddylai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu pobl i gyflawni'r amcanion sydd ganddynt ar eu cyfer eu hunain, a chredaf fod yn rhaid i hynny fod yn rhan o sgwrs wirioneddol ynglŷn â sut y diwellir eu hanghenion, yn arwain at fan terfyn, fel y gallant weld eu hanghenion yn cael eu bodloni'n fwy effeithiol, hefyd. Ond rwy'n cydnabod eich pwynt; os nad yw pobl yn gweld gwelliannau ac yn credu nad oes neb yn gwrando arnynt, yna rwy'n deall pam mae'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth yn ddeniadol—wyf yn wir. Yr her yw: a yw pobl mewn gwirionedd yn teimlo iddynt gael eu siomi, felly deddfwriaeth yw'r ateb, neu ai'r ddeddfwriaeth a gynigir?

Yn yr un modd, credaf mai'r hyn yr ydym ni yn ei wneud yw edrych mewn gwirionedd i gymell gwelliant o ran ymgysylltu â phobl yn uniongyrchol yn y gwasanaeth—y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny a phobl awtistig eu hunain—dyna mewn gwirionedd yr hyn yr ydym ni yn ei wneud gyda'r arian sydd ar gael. Credaf, os edrychwch chi ar y dystiolaeth gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny, ble mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig eisoes wedi'i gyflwyno, y byddwch yn gweld bod pobl yn gadarnhaol yn ei gylch. Mae'r her yn y dystiolaeth rwy'n gwybod eich bod yn ei chlywed yn uniongyrchol, ble mae gan bobl bryderon o hyd ynghylch lefel ac ansawdd y gwasanaeth fel y mae'n cael ei gyflwyno ar sail fwy diweddar mewn rhannau eraill o'r wlad.

Credaf o hyd nad deddfwriaeth yw'r ateb, a gobeithiaf y bydd pawb sy'n rhan o archwilio'r Bil presennol yn edrych mewn modd agored ar nid yn unig a oes mater y mae pobl yn poeni amdano, ond ai deddfwriaeth yw'r ateb cywir i helpu i fynd i'r afael â'r mater hwnnw ac i wneud gwahaniaeth ymarferol, ac yn cymharu hynny â'r hyn yr ydym ni yn ei wneud eisoes o ran yr hyn yr wyf yn ei osod allan heddiw. Gobeithiaf—oherwydd bod pobl, rwy'n credu, yn gyffredinol yn rhannu'r un amcan o ran gwella canlyniadau gyda ac ar gyfer pobl awtistig—y byddwn ni yn y pen draw yn gallu dod i safbwynt y gall pob un ohonom ni ei gefnogi.

15:50

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch i chi am eich datganiad ac am eich ymrwymiad i roi pethau ar waith i wella amodau byw teuluoedd sydd ag awtistiaeth, wrth i'r holl ddadl am ddeddfwriaeth barhau yn ei gylch. Ymwelais â meithrinfa Serendipity ym Mhen-bre yn ddiweddar a gwelais drosof fy hun raglen y blynyddoedd cynnar Dysgu ag Awtistiaeth. Meithrinfa Serendipity yw'r gyntaf yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi mynd drwy'r rhaglen honno, a gwnaed argraff fawr arnaf gan y ffordd yr oedd y profiad yn cael ei gymhwyso, nid yn unig ar gyfer y plentyn yn y feithrinfa sydd ag awtistiaeth, ond ar gyfer y plant i gyd yno. Felly, roedd yr holl brofiad ynglŷn â gwneud i bobl werthfawrogi gwahaniaeth a gwneud newidiadau bach i wneud i bawb teimlo eu bod wedi eu cynnwys. Teimlais fod hynny'n enghraifft amlwg iawn o newid ar lawr gwlad.

Byddai gennyf ddiddordeb gwybod am y cynnydd o ran cyflwyno hynny ledled Cymru, oherwydd rwy'n credu yr oedd hynny i fod i ddechrau y llynedd drwy'r blynyddoedd cynnar ac mewn ysgolion uwchradd. Credaf fod yr egwyddor yn gywir. Mae angen iddi bellach gael ei chyflwyno ar raddfa eang. Yn yr un modd, hoffwn glywed am y cynnydd o ran datblygu'r un rhaglen, Dysgu ag Awtistiaeth, ar gyfer addysg bellach a gweithleoedd, yn unol â'r amserlen, fe gredaf, yr oedd gennych chi mewn golwg ar gyfer dechrau cyflwyno yn 2019. A'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol ei hun—o'r sgyrsiau a gefais gyda'r rhai sy'n ymdrin â hynny ar lawr y dosbarth, roedden nhw'n galonogol iawn o ran yr egwyddor, er, yn amlwg, mae llawer o fanylion i'w cael yn gywir. Mae hyn i fod ar waith erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, rwy'n credu. Nid yw ar waith yn Llanelli hyd yn hyn, a byddwn yn gwerthfawrogi diweddariad, os gwelwch yn dda.

Rwy'n hapus i gael enghraifft uniongyrchol o'ch etholaeth chi, lle mae'n ymwneud â gwneud gwelliannau yn awr. Yn wir, mae nifer o Aelodau Cynulliad eraill wedi siarad â mi, o wahanol rannau'r Siambr—ni wnaf eu henwi—am yr heriau y maen nhw yn eu gweld yn eu cymunedau lleol ac, yn yr un modd, y cynnydd y maen nhw'n ei weld, hefyd, ar gyfer rhai pobl. Mae'n bwynt pwysig, rwy'n credu, i nodi yr hyn a ddywedasoch chi am newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad byw pobl.

Yn benodol, yn eich rhan chi o Gymru, dyna'r rhan olaf o Gymru lle caiff y gwasanaeth awtistiaeth integredig ei gyflwyno—ardal bae'r gorllewin a gorllewin Cymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, dylai hynny fod yn weithredol erbyn mis Mawrth, o fewn y flwyddyn ariannol hon. Felly, mae pethau'n argoeli'n dda yn hynny o beth. Credaf fod yna bwynt pwysig y dylwn i, yn y dyfodol, roi diweddariad manylach i'r Aelodau ar yr hyn sy'n digwydd o ran y cymorth a ddarperir mewn amrywiaeth o feysydd eraill o fywyd, yn benodol ynglŷn â gweithgarwch yn ymwneud â gwaith, hefyd. Oherwydd os yw pobl wirioneddol yn mynd i gael eu cynnwys, yna, mewn gwirionedd, mae pwysigrwydd gwaith ar gyfer pob un ohonom ni yn bwysig, ac mae hynny yr un mor bwysig i bobl awtistig. Felly, rwy'n awyddus i allu egluro hynny, ynghylch graddfa'r gweithgarwch, a lle mae hynny'n digwydd. Yn yr un modd, os nad yw Aelodau yn gweld hynny yn eu cymunedau eu hunain, byddai gennyf ddiddordeb clywed gan bobl, oherwydd mae gennyf ddiddordeb cyflwyno hyn yn genedlaethol er mwyn creu gwelliant cenedlaethol ym mhob rhan o'r wlad.

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ar bwnc pwysig iawn. Rydym ni wedi cael o leiaf un ddadl hynod angerddol ar hyn yn y Siambr—mae'n debyg bod mwy nag un os ewch yn ôl ychydig o flynyddoedd—felly mae'n amlwg yn fater sy'n agos at galonnau llawer o bobl. Nawr, Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud eich bod eisiau cefnogaeth ar gyfer eich mesurau newydd o bob rhan o'r Siambr, ac rwyf yn siŵr y byddech chi'n cael y gefnogaeth honno pe gallech chi ein hargyhoeddi y byddai cynllun cyflawni newydd a chod ymddygiad yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon a chadarnhaol i sefyllfa pobl awtistig yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol agos. Ond mae gwahaniaeth barn sylweddol, fel yr ydych chi eich hun wedi dweud, ynghylch a fyddai angen deddfwriaeth arnom ni ai peidio i gyflawni'r newid hwn. Nid wyf yn cytuno â chi yn un peth: nid yw deddfwriaeth ynddi ei hun yn ateb i bopeth. Mae'n dibynnu ar ansawdd y ddeddfwriaeth a hefyd, yn hollbwysig, ar sut y caiff y ddeddfwriaeth honno ei gorfodi unwaith y caiff ei phasio. Fel y byddem yn cytuno mae'n debyg, gorfodaeth yw'r allwedd i wneud i ddeddfwriaeth dda weithio.

Nawr, roeddwn yn falch o glywed y rhoesoch chi rai dyddiadau penodol i Lee Waters ynglŷn â chyflwyno'r mesurau newydd, ac rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl eisiau ei wybod yw: a fydd hyn yn gwella pethau, a faint o amser fydd ei angen cyn bod pethau'n gwella? Felly, os caf i bwyso arnoch chi ar un neu ddau o bwyntiau penodol. Cael diagnosis: a ydych chi'n ffyddiog y bydd y mesurau hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael diagnosis, a beth yw eich amserlen debygol cyn y gallwn ni weld y math hwnnw o welliant? Mater arall, rwy'n credu, yw hyfforddiant. Credaf y bydd hyfforddiant yn bur allweddol i wneud cynnydd gyda'r mesurau hyn. Nawr, fe wnaethoch chi bwysleisio i ryw raddau yr angen i uwchraddio hyfforddiant ar gyfer pobl sy'n debygol o fod yn rhan o geisio helpu pobl awtistig. Soniasoch chi am sefydliadau sydd angen asesu pa mor dda mae eu staff wedi eu hyfforddi i ymdrin â phobl awtistig. A allwch chi roi mwy o fanylion inni ynghylch pa mor gyflym y caiff yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno? Diolch.

15:55

O ran y cynnydd ar gael diagnosis, rydym ni wedi cyhoeddi eisoes y safon amser aros 26 wythnos, y cyfeiriais ato yn fy natganiad, a bydd gennym ni—. Gan dybio y cawn y data'n gywir, fe'u cyhoeddir yn rheolaidd yn Stats Cymru. Rydym yn ymrwymedig i gael diweddariad blynyddol ar yr hyn a wnaed yn y cynllun gweithredu strategol, a bydd hynny hefyd yn rhoi diweddariad ar y mesurau hyfforddiant—ar wella hyfforddiant, hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau yn ei ddatganiad heddiw y bu'n dilyn fy Mil gyda diddordeb mawr iawn, a byddwn yn annog iddo, hyd yn oed ar hyn o bryd, i ailystyried o ddifrif safbwynt Llywodraeth Cymru a gweithio gyda mi i greu y Bil awtistiaeth cryfaf posibl y gall y sefydliad hwn ei ddatblygu. Mae amser o hyd, Ysgrifennydd y Cabinet, i ni weithio gyda'n gilydd ar ddarn o ddeddfwriaeth.

Nawr, mae datganiad heddiw wedi cadarnhau cyflwyno cod, sydd, rwy'n credu, yn cyfeirio at y ffaith amlwg nad yw'r strategaeth gyfredol yn diwallu anghenion y gymuned awtistiaeth—rhywbeth na fyddai, rwy'n credu, wedi digwydd oni bai am gryfder yr ymgyrch i gyflwyno deddfwriaeth yn y lle cyntaf. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ac yn derbyn na fyddai Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn ystyried cyflwyno cod oni bai am y Bil awtistiaeth arfaethedig? Yn wir, a yw hefyd yn derbyn bod cyflwyno cod, mewn gwirionedd, yn cyflwyno deddfwriaeth rannol, o gofio y bydd gan y cod rai elfennau statudol? Oni fyddai hi'n well, felly, petai'r Llywodraeth yn penderfynu cefnogi cyflwyno deddfwriaeth a chefnogi fy Mil yn y lle cyntaf?

Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o fy marn i nad yw cod yn mynd yn ddigon pell o ran mynd i'r afael â rhai o'r materion hirsefydlog sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau, ac yn sicr nid yw'n cynnig sefydlogrwydd absoliwt i ddarparu gwasanaethau, oherwydd gall cod gael ei ddirymu ar unrhyw adeg. Felly, efallai bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awr mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni sut y bydd cyflwyno cod yn mynd i'r afael â'r cyfryw faterion.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae'n dweud yn ei ddatganiad heddiw ei fod yn credu y byddai cyflwyno deddfwriaeth yn arwain at adnoddau presennol yn cael eu defnyddio'n llai effeithiol. Fodd bynnag, siawns na fydd cyflwyno cod hefyd yn arwain at ddefnyddio adnoddau presennol. Felly, a all ddweud wrthym ni pa asesiadau effaith ariannol sydd wedi'u cynnal ar y posibilrwydd o gyflwyno'r cod hwn? Mewn geiriau eraill, a all ddweud wrthym ni faint o arian a gaiff ei ddefnyddio wrth gyflwyno'r cod hwn yn y lle cyntaf?  

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Rwy'n siomedig ar y cychwyn ynghylch yr awgrym na fyddai'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gymryd camau i wella gwasanaethau oni bai am y Bil. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Pe bai wedi gwrando ar ddadleuon blaenorol yn y Siambr hon, byddai'n cydnabod hynny—a'n cyfarfodydd blaenorol. Nid yw'n wir dweud, heb ei Fil, na fyddai cod. Ymrwymodd y Llywodraeth hon beth amser yn ôl i edrych ar god er mwyn ceisio rhoi mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd ynghylch beth yw ein disgwyliadau ar gyfer darparu gwasanaethau. Byddai'n rhaid iddo—nid yw'n achos o fod â chod mor fyrhoedlog nad yw o unrhyw werth. Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Mae gennym ni nifer o godau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ddarpariaeth gwasanaeth a chanlyniadau ar gyfer pobl. Pe dymunai unrhyw un yn y dyfodol newid y Cod neu ei ddirymu, byddai'n rhaid iddynt wneud hynny mewn modd cadarnhaol. Mae'r cod eisoes wedi ei gynllunio i fod yn rhan o'r gwaith sydd gennym, felly rydym ni wedi cyllidebu ar ei gyfer ac yn disgwyl nid yn unig i fynd drwy'r broses ymgynghori ond i ddarparu gwasanaethau. Byddai'r Bil a'r model yr ydych chi'n eu cynnig yn cyfeirio gwasanaethau mewn cyfeiriad gwahanol. Mae'n berffaith resymol i mi i ddweud wrth Aelodau y byddai defnyddio'r arian mewn ffordd wahanol yn rhoi gwahanol ganlyniadau.

Byddai'r Bil a gynigir ganddo, rwy'n credu, yn ddefnydd gwael o adnoddau ac yn eu dargyfeirio o ddarparu gwasanaethau uniongyrchol. Mae'n fater iddo ef ddadlau dros ei Fil a'r arian y mae'n dymuno ei weld yn cael ei ddefnyddio a beth yw'r adnodd hwnnw mewn gwirionedd. Wrth gwrs, bydd craffu cadarn gan bobl sy'n dal i gytuno yn fras ein bod ni eisiau gwella gwasanaethau gyda ac ar gyfer pobl awtistig. Fodd bynnag, mae gennym ni anghytundeb gonest ynglŷn ag ai llwybr mwy anhyblyg o ddeddfwriaeth yw'r ateb cywir o ran gwneud hynny.

16:00

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n well cyn bo hir.

5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru

Symudwn ni nawr at ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: blaenoriaethau ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Gadeirydd gweithredol croesawgar.

Mae'n bleser gen i gyflwyno fy mlaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, fel y'u nodwyd yn y ddogfen yr wyf yn gobeithio eich bod chi i gyd wedi'i derbyn y bore yma, sef y papur yma ymhlith ein cyhoeddiadau diweddaraf o'r adran diwylliant.

Mae'r blaenoriaethau yma yn cwmpasu pedair thema allweddol. Yn gyntaf, rydw i am inni adeiladu ar y cynnydd gwych rydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth ofalu am ein safleoedd a thirweddau hanesyddol unigryw. Yn ail, rydw i am sicrhau bod gyda ni'r sgiliau drwy'r sector er mwyn helpu i'w gwarchod yn briodol. Yn drydydd, rydw i am helpu pobl i fwynhau a gwerthfawrogi ein safleoedd hanesyddol a'u hannog i gymryd rhan fwy gweithgar ac amlwg yn y broses o ofalu am ein treftadaeth. Ac yna, yn olaf ac yn bedwerydd, mae ein safleoedd hanesyddol yn asedau sydd hefyd yn cyfrannu at fywiogrwydd economaidd Cymru. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad sy'n ymestyn y tu hwnt i'w gwerth i gymdeithas a'n gwybodaeth am y gorffennol. Maen nhw'n gwneud cyfraniad sylweddol at dwristiaeth ac ymdrechion i hyrwyddo Cymru fel lleoliad unigryw i fuddsoddi ynddo, ac yn arbennig fel lle hynod i ni i gyd fyw a gweithio ynddo.

Fodd bynnag, mae'r themâu hyn yn dibynnu ar ei gilydd. Mae angen inni sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn gwneud y cyfraniad mwyaf posib at ein llesiant economaidd, ond fedrwn ni ddim manteisio ar werth economaidd ein treftadaeth os nad ydym ni'n gofalu amdani, ac mae angen talu am hynny. Felly, mae'r sector amgylchedd hanesyddol yn cynnal rôl allweddol yn y gwaith o gyflawni amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Mae'n cyfrannu at themâu strategaeth ffyniannus ‘Ffyniant i Bawb’, sydd yn rhan o'n strategaeth genedlaethol, drwy helpu i greu cenedl fwy ffyniannus, gweithgar ac unedig sy'n dysgu. Mae hefyd yn ategu'r uchelgeisiau a nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd, drwy gydnabod y lleoedd arbennig yma sy'n asgwrn cefn economïau lleol ar draws Cymru. Ond yn fwy na dim, mae'r amgylchedd hanesyddol wrth wraidd ein nodau llesiant a'n hymdeimlad o falchder fel cenedl, peth sy'n amhosibl rhoi pris arno, fe fyddwn i’n tybio.

A dod nôl at y thema gyntaf, y man cychwyn ydy gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol. Fe wnaethom ni gyflwyno fe Llywodraeth, cyn i mi ymuno â hi, Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a'r canllawiau a’r rheoliadau cysylltiedig. Rydym yn cynnal a chadw ac yn gofalu am y 130 o henebion sydd yng ngofal y Llywodraeth. Rydym hefyd yn helpu perchenogion preifat ac ymddiriedolaethau i ofalu am ein hasedau pwysig, p'un ai drwy grantiau neu gyngor ac arweiniad.

At yr ail thema, mae'r broses o ddiogelu a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol yn dibynnu ar ddealltwriaeth o'i briodweddau arbennig a set o sgiliau crefft cadwraeth benodol. Rwy'n awyddus iawn i gefnogi camau i feithrin y ddealltwriaeth honno a datblygu'r sail sgiliau ymarferol. Er mwyn gwneud hyn, bydd raid prif ffrydio sgiliau crefft treftadaeth yn y diwydiant adeiladu ehangach ac yn y cwricwlwm sgiliau, ac adeiladu ar yr enghreifftiau sefydledig sydd i'w gweld eisoes o fewn cyrsiau'r meysydd llafur yma.

Er mwyn cyflawni'r drydedd thema—trysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol gwerthfawr—rydw i am annog llawer mwy o bobl i ymweld â'n safleoedd hanesyddol ac i'w gwneud hi'n haws iddyn nhw i gyd, beth bynnag fo'u hanghenion neu'u galwadau personol, wneud hynny.

Mae niferoedd ymweld yn bwysig. Yn ystod 2016-17, fe ymwelodd dros 1.4 miliwn o bobl â 24 o safleoedd Cadw sydd wedi'u staffio. Fodd bynnag, mae yna gyfle inni wneud mwy i annog ymwelwyr iau, ac rydw i’n awyddus i weld mwy o weithgareddau'n cael eu cynnal i'r teulu yn henebion Cadw a deunydd dehongli diddorol. A dyna yw ystyr digwyddiadau difyr megis agor Drysfa Gilbert a Ffau'r Dreigiau yng nghastell Caerffili, ym mhresenoldeb yr Aelod Cynulliad lleol, wrth gwrs. Roedd y rhyfeddod ar wynebau'r plant a'r oedolion yn brofiad llawen iawn ac amhrisiadwy i mi.

Hefyd, mae angen inni barhau i wella mynediad i'r rhai sydd â chwestiynau a phroblemau ynglŷn â symud, a gwneud hynny mor effeithiol ag y gallwn ni. Rydw i'n gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i weld y pontydd mynediad rhagorol yng nghastell Caernarfon ac yng nghastell Harlech. Rydw i am weld cynnydd sylweddol yn y gwella ar y mynediad at lefelau uwch rhai o'n cestyll mewn ffordd sy'n gydnaws â'u cymeriad hanesyddol a heb darfu ar y profiad unigryw o fod o fewn henebion o'r math yma. Hefyd, rydw i wedi gofyn i Cadw ailystyried y canllawiau ar fynediad hawdd i bawb i adeiladau hanesyddol a sicrhau eu bod nhw'n cyd-fynd â'r farn a'r safon ddiweddaraf. Mae mynediad at safleoedd Cadw, wrth gwrs, yn dechrau ymhell cyn i ymwelwyr gyrraedd y fynedfa. Rydw i wedi gofyn am adolygiad o'r ffordd y mae ymwelwyr yn teithio i henebion Cadw, sy'n ystyried arwyddion, parcio, llwybrau cerdded, darpariaeth seiclo, a hefyd ar gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r angen i gynnal partneriaethau effeithiol yn sail i lwyddiant y pedair thema rydw i wedi eu hamlinellu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o lwyddiannau sector yr amgylchedd hanesyddol wedi bod yn seiliedig ar bartneriaethau o'r fath, gan gynnwys y rhai â'r grŵp penodol sydd yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol, y fforwm treftadaeth adeiledig ac, wrth gwrs, awdurdodau lleol, sy'n hollbwysig inni allu gweithredu'n effeithiol ar y rheng flaen yn lleol. Yn fwy diweddar, mae fforwm addoldai Cymru—ac rydw i wedi cael y cyfle i fod yn un o'u cyfarfodydd nhw'n weddol ddiweddar—yn mynd i'r afael â chwestiwn anodd sydd gyda ni sydd yn aelodau o gymunedau ffydd o weld lleihau cynulleidfaoedd crefyddol: y ffaith bod nifer gynyddol o gapeli ac eglwysi, bellach, yn segur, a hwythau wedi bod, yn y gorffennol o leiaf, yn ffocws i'w cymunedau.

Mae'r bartneriaeth strategol newydd rhwng Cadw a'r tri sefydliad treftadaeth cenedlaethol arall yng Nghymru yn rhoi safle gwirioneddol i rannu sgiliau a phrofiad masnachol—sut i sicrhau refeniw a chyllid a'u cael i mewn i'r gwaith o dreftadaeth—ac rydw i’n edrych ymlaen at gael adroddiadau rheolaidd ar gynnydd yn y cyfeiriad yma. Ar yr un pryd, fel un a fu'n byw yn y llyfrgell genedlaethol, bron, am rai blynyddoedd, mewn cyfnod lle roeddwn i'n ceisio bod yn ysgolhaig, cyn imi ddilyn temtasiynau eraill—nid yw hynny yn y datganiad swyddogol, gyda llaw—rydw i am gydnabod cyfraniad y llyfrgell genedlaethol, yr amgueddfa genedlaethol a'r comisiwn brenhinol henebion, a'r gwaith y mae'r rhain yn ei wneud, yn eu hawl eu hunain, ansawdd eu gwaith, a'u pwysigrwydd, yn fy marn i. Fel y dadleuais i, beth amser yn ôl, mewn sefyllfa wahanol, ynglŷn â'u dyfodol nhw, mae eu gwaith unigryw nhw ac ansawdd eu gwaith nhw fel cyrff unigol yn bwysig iawn. Nid ydw i am weld y sefydliadau hyn, felly, yn colli eu hunaniaethau unigol, ond rydw i yn edrych ymlaen at ddatblygiad trefniadau llywodraethol newydd o fewn Cadw: sefydlu bwrdd mewnol newydd, a fydd yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, a mwy o gymorth gweithredol, wedyn, yn galluogi Cadw i weithredu'n fwy effeithiol, ochr yn ochr â'i bartneriaid mewn amgylchedd masnachol.

Rydw i'n dod i ben rŵan, mae'n dda gen i ddweud. Mae sector yr amgylchedd hanesyddol yn wynebu cyfnod anodd oherwydd pwysau ariannol ac ansicrwydd y dyfodol. Mae'r sector wedi manteisio'n sylweddol, fel y gwyddom ni, ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd, ac mi fydd y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—ond nid ag Ewrop, ac nid byth â diwylliant Ewrop—yn arwain at heriau sylweddol. Ond mae o hefyd yn gyfnod cyffrous. Mae'r ffaith ein bod ni wedi cyflawni cymaint dros y blynyddoedd diwethaf yn brawf o'r partneriaethau llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi'u sefydlu gydag ystod eang o randdeiliaid. Mae yna gyfle go iawn bellach i'n treftadaeth ragorol fod yn ganolog i'n llesiant yn y dyfodol. Dyma yw gwraidd ein hunaniaeth ddiwylliannol fel cenedl, a hyn sydd yn dweud stori Cymru wrth y byd. Diolch yn fawr.

16:10

Rwy'n falch o wneud fy nghyfraniad cyntaf fel llefarydd treftadaeth a diwylliant newydd fy mhlaid, yn dilyn enghraifft wych y sawl sydd yn awr yn cadeirio ein trafodion; rwy'n credu bod hynny'n gyswllt rhagorol. A gaf i ddweud, Gweinidog, ers 12 mlynedd nodedig iawn, rydych chi wedi bod yn eistedd yn y gadair honno ac wedi hyrwyddo'r cysyniad o her adeiladol, a dyna'r math o berthynas rwy'n credu y bydd gennym ni bellach, ac mae'n un yr wyf yn edrych ymlaen ati yn fawr?

Rwyf yn cymeradwyo'r ddogfen. Rwy'n credu ei bod wedi ei gosod allan yn dda gyda darluniau pwrpasol. Roeddwn yn arbennig o falch o weld llun yno o Abaty Nedd—yn fwy penodol, y ffordd yr addaswyd Abaty Nedd ar ôl terfysg y diwygiad Protestannaidd, a'i foderneiddio'n braf gan y Tuduriaid i fod yn blasty a phreswylfa, sy'n ein hatgoffa o'r grymoedd anhygoel sydd gennym ni mewn hanes. Ond fe'm ganwyd i ddwy filltir o'r safle hwn. Mae'r rhan fwyaf o'm teulu yn byw yn weddol agos ato, hyd yn oed heddiw, a phan rwy'n dychwelyd i Gastell-nedd, rwy'n aml yn mynd am dro sy'n mynd â mi i lawr i Abaty Nedd ar hyd Camlas Tennant. Rydych chi'n gweld y gamlas yno, ac wedyn yr arwyddion cynnar eraill o ddiwydiannu a gweithfeydd copr, a'r abaty. Mae'n olygfa ryfeddol. Credaf ei fod yn gymharol, bron—bron; doedd ganddo ddim bardd rhamantus—gydag Abaty Tyndyrn, ac fe ddylem gofio bod gennym ni'r safleoedd hyn. Maen nhw fymryn bach yn is na'r uwch-gynghrair, ond yn werthfawr iawn, a gwn pa mor falch yw pobl Castell-nedd o Abaty Nedd. Nid oes gennym ni gastell godidog o'r fath. Ein prif safle hanesyddol, o'r oes honno, yw'r abaty, ac rwy'n falch o weld darluniau ohono. 

A gaf i gymeradwyo eich ymrwymiad i gydweithio? Credaf, yn y sector hwn, bod hyn yn allweddol. Bu'r gwaith gyda gwirfoddolwyr a gwaith gyda grwpiau dinesig bob amser yn aruthrol iawn. Yn wir, yn yr 1920au, pan oedd grŵp archeolegol mawr yn gweithio ar olion Abaty Nedd, yn gymysgedd o academyddion a phobl mewn cymdeithasau dinesig a phobl a oedd yn ddim ond selogion—fe wnaeth hynny fraenaru'r tir. Mae'n bwysig iawn, iawn. Tybed a fyddai modd efallai hyd yn oed mynd mor bell â chanmol gwaith Dr Mark Baker. Mae fy nghyd-Aelod yn gynghorydd Ceidwadol yn y gogledd, ond mae ei ymrwymiad i dreftadaeth yn hynod, ac mae wedi ei gydnabod am ei waith yn arbed a gwarchod Castell Gwrych—gwaith a ddechreuodd pan oedd yn 13 oed yn unig—ac mae Prif Weinidog y DU wedi ei gydnabod â gwobr Points of Light arbennig. Nid wyf yn gwneud pwynt pleidiol yma o gwbl; dim ond dweud yr wyf i mai pobl â'r weledigaeth honno sy'n allweddol mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw'n gwerthfawrogi eu safleoedd lleol ac yn gweld eu gwir arwyddocâd, fel yr awgrymais efallai gydag Abaty Nedd.

O sôn am Abaty Nedd, rwy'n amlwg yn falch o weld y cyfeiriad at Fforwm Addoldai Cymru. Cyfeiriasoch at hyn a'r dreftadaeth anhygoel sydd gennym ni gyda chapeli. Rwy'n credu bod rhywbeth fel un yr wythnos yn cael ei agor yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg—5,000 neu fwy o fannau addoli. Un o arwyddion mawr o gynnydd y ffydd Gristnogol efengylaidd, ac mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch ohono. Yn amlwg, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo ymlyniad i'r math hwnnw o Gristnogaeth werinol mwyach, ond roedd yn bwysig iawn, iawn.

Ac a gaf i gymeradwyo, nawr nad wyf yn gwasanaethu ardal Castell-nedd—bu fy mywyd gwleidyddol i yma yng Nghanol De Cymru—y prosiect tirweddau ffydd, sy'n cael ei redeg gan Esgobaeth Llandaf rwy'n credu, a ddylai fod yn amlwg yn hyn o beth, ac am eu partneriaeth â sefydliadau eraill fel Sefydliad Coleridge yng Nghymru? Rwy'n credu bod hynny'n dangos y dychymyg sydd ei wir angen arnom ni. Mae'n bwysig iawn, iawn ein bod yn dilyn nod eu prosiect i hyrwyddo Cymru fel lle rhyngwladol pwysig i ddarganfod treftadaeth ffydd a chredoau, ac fe allem ni gymhwyso hynny yn y meysydd eraill o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol.

Rwy'n credu mai'r peth allweddol yn hyn o beth yw sut yr ydym ni'n defnyddio mannau addoli rhestredig er mwyn eu cynnal nhw. Ac mae gwir angen canfod defnydd i'r rhai mwyaf godidog, ac efallai y gallai'r defnydd hwnnw amrywio o oriel—un draddodiadol—ond gallai fod yn dŷ bwyta, gallai fod yn ganolfan gymunedol o ryw fath; amrywiaeth o bethau. Ac mae angen inni warchod yr adeiladau hynny, ond mae angen inni eu defnyddio, ac rwy'n credu bod hynny'n allweddol.

Roeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio at Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, sydd wrth gwrs yn ceisio dynodi a gwarchod ystod gyfan o safleoedd hanesyddol pwysig. Mae llawer o'r rhain bellach yn cael eu datgelu gan dechnegau mapio newydd a ffotograffiaeth o'r awyr, yn enwedig y rheini sy'n perthyn i'r cyfnod canoloesol cynnar, oes yr haearn, a hyd yn oed yr oes Neolithig. Rydym yn darganfod nifer rhyfeddol o safleoedd, a bydd llawer ohonynt yn sicr o arwyddocâd rhyngwladol, o bosib, oherwydd cryfder y diwylliannau cynnar hynny yn y rhan hon o orllewin Ewrop ar hyd yr arfordir. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn, ein bod yn cefnogi pobl, tirfeddianwyr yn arbennig a'r cynghorau lleol, lle bynnag y mae'r safleoedd hyn, a'u diogelu ac yna, yn amlwg, eu dehongli, oherwydd bydd rhai ohonynt yn sicr yn dod i'r amlwg fel safleoedd o'r pwysigrwydd mwyaf.

A gaf i orffen gan ddod i gasgliad ynghylch marchnata a thwristiaeth? Fel y dywed y ddogfen, yn ymarferol mae'n ddiwydiant gwerth £1 biliwn yng Nghymru, a chredaf eich bod yn iawn i sôn am y potensial economaidd a'r angen i ni gael gweledigaeth ar gyfer Cymru. Rwy'n falch bod cestyll yn cael eu crybwyll, oherwydd mae'n hawdd i ni weld hyn fel math o orthrwm Eingl-Normanaidd ar Gymru, ond yr ochr arall o ddehongli hynny oedd y buddsoddiad milwrol oedd ei angen i reoli'r ardal honno, ac mae'n ganmoliaeth ryfeddol mewn ffordd ryfedd.

Ond os ydym yn edrych ar Gastell Conwy, er enghraifft, mae ganddo, rwy'n credu, yr hawl fwyaf digamsyniol i fod yn uchafbwynt y gwaith o adeiladu cestyll, ac mae'r adeilad yn ddelfrydol fel castell caerog ar gyfer ei ardal ddaearyddol ac ar gyfer—yn yr achos hwnnw— diben gwleidyddol creulon. Mae'n bwysig pan fydd pobl yn dod i Brydain i ymweld â chestyll eu bod yn sylweddoli os ydynt eisiau gweld sut mae castell caerog yn gweithio—ac mae wedi ei gadw bron yn berffaith; nid adfail mohono, mae fel y cafodd ei adeiladu, fwy neu lai—mae angen iddyn nhw fynd i Gonwy.

Ac a gaf i orffen drwy ddweud y credaf fod technoleg fodern yn faes allweddol yn hyn o beth a bod sgiliau yn bwysig iawn? Hoffwn glywed yn benodol am unrhyw beth y byddwch yn ei wneud yn y maes digidol, dehongli diwylliannol ac o ran adnoddau. Mae gan Lywodraeth y DU brosiect digidol, diwylliannol penodol. Rwy'n siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth tebyg, ond byddai ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â hynny yn bwysig, oherwydd gall pobl weld hynny yng Ngogledd America, Awstralia, neu ble bynnag arall, a phan maen nhw'n cynllunio eu taith, gallant gael gwybod am, ac yna gael ymweliad rhithwir â Chastell Conwy, ac yna dod i'w weld fel y mae'n bodoli. Ond byddwn yn gweithio'n adeiladol yn y maes pwysig iawn hwn i sicrhau bod Cymru yn cael y gwerth mwyaf posib ar gyfer ei dinasyddion ei hun, i ni i gyd, ond hefyd i'r rhai sy'n ymweld â ni.

16:20

Diolch yn fawr iawn ichi, David, am eich sylwadau cadarnhaol a hael.

Ymwelais â Chastell-nedd, ac roedd yn agoriad llygad i mi weld y ffordd y llwyddwyd i adfer yr abaty. Mewn gwirionedd fe sefais yno yn syllu ar y gwaith pwyntio a gyflawnwyd gan y rhai a gyflogir gan Cadw ar y gwaith ar y safle hwnnw. Ond fe geir hefyd, fel y byddai fy nghyd-Aelod ar fy chwith yma yn fy atgoffa i, y gwaith haearn. Mae'r ardal gyfan honno o amgylch Castell-nedd, gan gynnwys y system gamlas, yn faes y gellid ei ddatblygu, rwy'n credu, er na ddylwn i ddweud gormod, oherwydd, yn amlwg, mae buddiannau masnachol, o ran pobl sy'n weithgar yn y maes hwnnw gyda'u busnesau eu hunain. Ond rwy'n siŵr y gellid datblygu'r ardal yn brif atyniad ardal gadwraeth i dwristiaid sy'n ymweld.

Ac yn yr un modd, ymwelais â Gwrych—sut na allwn i beidio ag ymweld â Chastell Gwrych, oherwydd rwy'n byw dim ond rhyw 10 milltir o'r safle— a gweld y gwaith rhyfeddol y mae'r Dr Mark Baker yn ei wneud yno. Ar ei ben ei hun mae wedi gwarchod a diogelu hen dir hela y Tywysog Llywelyn yn fy ardal i fy hun, sef Dwyfor, ac mae'n berson hynod llawn dychymyg ac yn adnodd gwych i ni. Ac yn wir, rydym wedi buddsoddi yn y gwaith cychwynol o gynnal a chadw ac adfer Castell Gwrych. Nid yw'n ffolineb; mae'n ymdrech unigryw i ailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ryfeddodau y cyfnod canoloesol, ac felly mae'n cyfateb, mae'n debyg, i fynd yn ôl i fy ngorffennol academaidd i fy hun, i lenyddiaeth ramantus, llenyddiaeth a barddoniaeth ramantus yn benodol. Mae'n adeilad, fel petai, yn nhraddodiad Samuel Taylor Coleridge. Ac felly, mae cynnal hynny a'i leoliad penodol, yn weladwy fel y mae o'r A55 ac o brif reilffordd gogledd Cymru, a'i ailadeiladu fel atyniad i dwristiaid, rwy'n credu, yn gyfle enfawr.

Rwyf hefyd yn falch o ddweud fy mod ar fin ymweld â chadeirlan fawr anghydffurfiaeth yn Nhreforys.

Felly, credaf y byddaf yn cadw fy sylwadau ar gapeli i mi fy hun nes fy mod wedi cael y drafodaeth honno yn Nhreforys, ond rwyf yn awyddus i weld beth y gallwn ei wneud gyda threftadaeth y capeli. Mae llawer ohonynt eisoes wedi cael eu trosi'n dai preifat godidog. Mae rhai ohonynt wedi eu troi yn garejys, mae rhai ohonynt yn garejys da iawn. Mae'n bwysig cydnabod yr holl ddefnyddiau hyn sydd gennym ar gyfer ein hadeiladau crefyddol, yn fy marn i.

Rwyf hefyd wedi cael cyfle gwych i ymweld â rhai o'r safleoedd Neolithig. Mae Bryn Celli Ddu ar y safle hwnnw ar Ynys Môn yn lle anhygoel. Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud eisoes i warchod y lle hwnnw gan bobl fel Dr Ffion Reynolds ac eraill yn Cadw yn hyfrydwch enfawr a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn hynny.

Mae cestyll yn arbennig iawn oherwydd, fel y dywedasoch chi yn briodol iawn gynnau, David, mae'n ymwneud â'r etifeddiaeth Eingl-Normanaidd. Mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn gofalu am safleoedd milwrol mawr a sefydlwyd ar gyfer ymgais aneffeithiol ar goncwest. Yr hyn sydd yr un mor bwysig i mi yw cestyll yr Arglwyddi a'r Tywysogion, a byddwn yn hybu'r rheini hefyd. Ond mae'r ddeubeth hyn yn ddrama o hanes Cymru, ac os gallwn gyfleu'r rheini i'n hymwelwyr ac, yn wir, yn ddigidol i'r rhai sydd heb fod yno eto, mae hynny'n rhan o swyddogaeth Llywodraeth, oherwydd fel y dywedais tua thair gwaith, rwy'n credu, yn y datganiad hwn, dyna ein hunaniaeth a'r hyn sy'n gwneud Cymru yn wahanol yn y byd. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn teimlo'n gryf iawn ynglŷn â'i hyrwyddo. Diolch.

Gyda llaw, mae croeso bob amser i lefarwyr y gwrthbleidiau ddod i drafod y materion hyn, oherwydd nid yw treftadaeth Cymru yn perthyn i Lywodraeth Cymru yn unig. 

16:25

Diolch yn fawr, Cadeirydd gweithredol ar y pryd. Diolch yn fawr. A allaf hefyd ddiolch a chroesawu'r datganiad yma gan y Gweinidog ar flaenoriaethau ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, a hefyd croesawu ymddangosiad y ddogfen yna heddiw y mae David Melding wedi cyfeirio ati eisoes? Achos, wrth gwrs, efo'r agenda yma mae gennym ni drysor yma; trysor i'w drysori yn wir. 

A allaf ddechrau drwy groesawu ambell i beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud eisoes? I ddechrau, pan rydych chi'n dweud eich bod yn cydnabod y cyfraniadau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eu gwneud yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae ansawdd eu gwaith wedi creu argraff arnoch chi—wedi creu argraff arnom ni i gyd fe fuaswn i'n fodlon dweud—ac rydych chi ymhellach yn mynd ymlaen i ddweud,

'Nid wyf am weld y sefydliadau hyn yn colli eu hunaniaethau unigol.'

Clywch, clywch, ddywedwn ni, felly rwy'n eich llongyfarch chi ar allu dweud y fath ddatganiad.

Rydych chi'n mynd ymlaen cyn y diwedd i sôn am yr heriau ariannol i'r sector yma, wrth gwrs, wrth inni adael Ewrop. Felly, y cwestiwn sy'n deillio o hynny ydy: sut ydych chi fel y Gweinidog yn y fan hyn yn mynd i sicrhau parhad ariannol pan fydd yr arian Ewropeaidd yn dod i ben? 

Mae hwnnw'n un cwestiwn penodol ond, wrth gwrs, fel rydych chi wedi awgrymu, mae'r rhan fwyaf o hyn yn ymwneud â hanes cenedl y Cymry, ac angen i ehangu y profiad amgylcheddol drwy addysgu yn y man a'r lle. Hynny yw, wrth i'n pobl ni, ein disgyblion ni a'n plant ni fynd i ymweld â rhyw safle hanesyddol, fod yna hefyd rôl addysgiadol yn fanna yn dysgu ein hanes ni fel cenedl y Cymry. Rwy'n cydnabod eich bod wedi dechrau yn wirioneddol dros yr haf rŵan wrth danlinellu rôl cestyll y Cymry—hynny yw, fel castell y Bere, ac ati—i'w cyferbynnu efo'r cestyll arferol rydym yn clywed amdanyn nhw, megis Conwy, Biwmares, Harlech ac unrhyw gastell gormesol arall rydych chi eisiau sôn amdano fe.

Ond y pwynt sylweddol ydy: yn absenoldeb dysgu hanes ein gwlad ni fel Cymry yn ein hysgolion ni—rydym wedi cael amryw o drafodaethau yn y gorffennol, a byddwn yn parhau i gael y trafodaethau yna, sbo—a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n ofynnol i ddisgrifiadau yn ein cestyll ni olrhain hanes dewr y Cymry yn eu brwydr am annibyniaeth, a'r ffordd greulon y cawsom ni ein gormesu yn aml yn y gorffennol? Achos, wrth gwrs, fel rydych chi wedi ei gydnabod eisoes, yn ôl pob sôn, mae yna fwy o gestyll i'r filltir sgwâr yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mi allai hynny fod yn gryfder o ran gwerthu'r peth unigryw yma, ond hefyd mae'n adlais dwfn o'n hanes yn y gorffennol.

Felly, rwyf yn croesawu eich gwaith yr haf yma yng nghastell y Bere, wrth gwrs, castell y Cymry, yr olaf i ddisgyn i'r Saeson—neu'r Eingl-Normaniaid y buasai'n well i mi eu galw nhw yn fan hyn; mi ddaethant yn Saeson yn nes ymlaen—ac, wrth gwrs, cyfraniad castell Caergwrle a hefyd castell Cricieth. Ond yr haf yma, wrth imi fynd i ymweld ag un o'r cestyll Eingl-Normanaidd—hynny yw, castell Llansteffan ar y pryd—beth rydych chi'n ei gael yn fanna yw disgrifiad yn unig o fanylion yr adeiladwaith. Nid ydych yn cael dim byd o hanes y lle, na hanes y wlad o gwmpas, na hanes Cymru fel cenedl na dim byd. Rydych chi'n cael disgrifiadau o sut oedd y castell yma wedi datblygu dros y canrifoedd, beth oedd uchder y waliau ac yn y blaen, lle oedden nhw'n byw, lle y gwnaethon nhw symud ryw ddwy ganrif yn nes ymlaen. Nid oes yna olrhain pwt o'n hanes ni fel cenedl yn fanna—pam adeiladwyd y castell yna i ormesu'r Cymry lleol.

Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes, rydym ni erioed wedi clywed cryn dipyn am y cestyll mawrion yn y gogledd, fel Caernarfon a Harlech, sy'n amgylchynu'r gogledd, a gafodd eu hadeiladu gan Edward I i ormesu'r Cymry. Mae e'n hyfryd nodi, though, i Owain Glyndŵr wneud ei farc a rheoli Cymru o gastell Harlech am ryw bedair blynedd. Gwnaeth o lwyddo i gael mynediad i'r lle. Rydw i'n clodfori'r gwaith o gael hygyrchedd i gastell Harlech y dyddiau hyn, ond, wrth gwrs, bu rhywun yno o'r blaen ac yn rheoli cenedl annibynnol am ryw bedair blynedd. Dyna darddiad hanesyddol rhyfelgyrch gŵyr Harlech. Achos buaswn i'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gallu cytuno â fi fod bod yn ymwybodol o'r hanes yma yn gallu osgoi embaras, felly, fel y fodrwy haearn bondigrybwyll yng nghastell Fflint y llynedd. Os byddech chi'n gwybod taw castell Fflint oedd y cyntaf i gael ei adeiladu ym modrwy ffyrnig, haearnaidd Edward I i ladd y Cymry yn y gorffennol, ni fyddech chi wedi dechrau ar y syniad o feddwl, 'Cawn ni fodrwy haearn, a dechreuwn ni o yng nghastell Fflint, yntefe?'

Jest i symud ymlaen, mae diogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn bendant, rydw i'n credu, yn golygu diogelu ein henwau lleol hanesyddol traddodiadol hefyd. Rydym ni wedi clywed am ddigon o enghreifftiau, fel Cwm Cneifion yn Eryri yn dod yn 'Nameless Cwm', ac mae yna ddwsinau o enghreifftiau tebyg—sawl enw newydd Saesneg yn disodli'r enwau Cymraeg hanesyddol. Felly, a ydy'r Gweinidog yn dal i gredu ei fod o yn iawn i bleidleisio yn erbyn fy Mesur i i ddiogelu enwau hanesyddol y llynedd, ac, o gofio rydym ni'n dal i dderbyn esiamplau eleni o golli enwau hanesyddol, a oes ganddo unrhyw fwriad i roi diogelwch cyfreithiol i arbed a diogelu ein henwau hanesyddol? Wedi'r cwbl, mae planhigion prin yn cael eu diogelu yn gyfreithiol. Beth am amddiffyn ein henwau traddodiadol, sy'n ein diffinio ni fel Cymry?

Ac yn olaf—rydw i yn ymwybodol o'r amser—gwnaf i droi at fforwm addoldai Cymru, ac rydw i'n falch o weld cyfeiriad at hwnnw a hefyd yn falch o allu dathlu'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Rydw i'n siarad fel ysgrifennydd capel bywiog yn Abertawe a jest i gadarnhau bod yna hanes cyfoethog, fel rydym ni wedi ei glywed, gyda'n capeli a'n heglwysi yma yng Nghymru hefyd. Wedi'r cwbl, fel y clywsom ni gan David, efo anghydffurfiaeth ar ei hanterth, bu i un capel Cymreig newydd gael ei agor bob 10 diwrnod yn y 1880au. Yn y ddegawd honno, agorwyd un capel newydd bob 10 diwrnod. Ac mae'n bosib olrhain hanes Cristnogaeth yng Nghymru o amser y Rhufeiniaid ymlaen drwy fynd i'n hen eglwysi ac wedyn ein capeli a hefyd edrych ar ein hadfeilion Cristnogol. Fel rydw i wedi dweud eisoes, ac fel rydych chi wedi cyfeirio ato, mae yna waith clodwiw yn cael ei wneud yn y maes, ond a allaf i ofyn a fedr y Gweinidog ehangu ar y gwaith bendigedig sydd yn mynd ymlaen a gweld sut byddai gwahanol gynlluniau yn datblygu? Achos mae'n wir inni fod yn cloriannu ac yn clodfori hanes crefyddol ein gwlad hefyd. Diolch yn fawr.

16:30

Diolch yn fawr i Dai am y sylwadau yna. A gaf i ddechrau drwy ddweud nad wyf i'n ymddiheurio am roi llun Capel Tegid, y Bala, lle oedd fy niweddar annwyl fam yn ddiacones, neu yn flaenores fel sydd gyda'r Hen Gorff, am flynyddoedd ar y dudalen yna? Oherwydd mae'r etifeddiaeth anghydffurfiol, etifeddiaeth y capeli, yn allweddol bwysig, fel y cyfeirioedd Dai ati. Dyna pam nad ydw i am sôn gormod am hynny heddiw, achos mae fy nghyfarfod i efo Huw Tregelles Williams yn Nhreforys yn fuan, ac rydw i'n gobeithio y gallwn ni gynnig rhyw fath o gynllun penodol mewn cysylltiad â'r gweithgaredd gyda'r fforwm ffydd, y gallwn ni gynnig datrysiad, yn sicr i'r adeiladau hanesyddol gwarchodedig, ond hefyd i ddefnydd o etifeddiaeth ffydd fel rhan o ddealltwriaeth y Cymry ym mhob cenhedlaeth.

Ond rydw i am ddweud gair am y mater o enwau lleoedd, oherwydd beth rydw i wedi ei sicrhau ydy bod y comisiwn henebion wedi cael y cytundeb, ac maen nhw wedi cytuno i lunio a chynnal y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol ar ein rhan ni fel Gweinidogion Cymru. I ni, mae'r comisiwn brenhinol wedi profi ei hun, ers cyn diwygiad 1904, i fod yn gorff sydd yn gallu gwneud gwaith effeithiol iawn ar yr amgylchedd diwylliannol a'r dirwedd yng Nghymru. Mae yna guradur amser llawn wedi'i gyflogi i wella'r rhestr. Mae'r curadur yn gallu ateb ymholiadau a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol. Lle mae yna ymgais yn cael ei wneud i newid enwau caeau a lleoedd wrth greu ystadau tai masnachol newydd, fel sydd wedi digwydd nid yn rhy bell o'r adeilad yma, yna mae'r comisiwn ar gael i atgoffa datblygwyr bod yna enwau Cymraeg digonol ar gyfer y safleoedd hanesyddol yma.

Mae'r canllawiau statudol sydd gyda ni yn cyfarwyddo awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r rhestr yma. Mae'n dda gen i ddweud bod curadur y rhestr wedi bod yn helpu awdurdodau lleol yn sir Benfro, Caerffili a llefydd eraill i adnabod enwau hanesyddol addas. Drwy swyddogion Cadw, mae yna gydweithrediad i ddatblygu cysylltiadau cliriach gydag awdurdodau lleol a'r sylweddoliad bod enwau llefydd yr un mor bwysig i'r llefydd ag y mae enwau personol i bobl. Nid wyf i'n credu bod pobl yn union cweit wedi deall hynny.

Nawr, nid wyf i am fynd yn ôl chwaith dros gyd-destun oes y tywysogion a thraddodiad tywysogaeth Cymru, ond un o'r pethau efallai y bydd Dai yn cofio imi bwysleisio erioed yw bod tywysogaeth Cymru yn boliti. Hynny yw, mae hi'n egin wladwriaeth, fel y'i dyfeisiwyd hi, mae'n debyg, gan Owain Gwynedd, ac fel y dyfeisiwyd arglwyddiaeth wahanol yn y Deheubarth, sydd yn gysylltiol, wrth gwrs, â'r Arglwydd Rhys, ac mai diogelu'r safleoedd yma, a'r syniad o ddatganoli canol oesol, sydd yn ganolog i'n traddodiad ni fel Cymry. Felly, mae'r cestyll yma, sef yr arwydd pŵer ar y ddaear—yr arwydd milwrol o'r gwrthdaro yma rhwng dwy boliti, efallai, os rydym ni'n galw beth oedd yn perthyn i'r Goron neu i'r barwniaid ac i Arglwyddi'r Mers, a beth oedd yn perthyn i dywysogion ac arglwyddi Cymreig—. Mae'r gwrthdaro ynglŷn â phŵer gwleidyddol, yn y modd y byddai wedi digwydd yn y canol oesoedd, yn rhan o beth sydd yn ein diffinio ni fel cenedl—ac mae bodolaeth y cestyll yma nid yn unig yng Nghymru ond ar hyd y Mers. Rydw i'n awyddus iawn inni edrych ar hanes Cymru a'r Mers gyda'i gilydd, fel maen nhw wedi cael eu hedrych arnyn nhw ar hyd y canrifoedd, ac nid i weld o yn nhermau ein bod ni yng Nghymru yn gwneud un peth a bod pobl yr ochr arall, fel petai, yn gwneud rhywbeth arall.

Felly, mae datblygu cydweithrediad rhwng yr ardaloedd o harddwch eithriadol yng Nghymru a'r parciau cenedlaethol yng Nghymru gydag ardaloedd fel ucheldiroedd sir Amwythig—mae'r pethau yma'n bwysig iawn imi er mwyn creu coridorau o ddealltwriaeth hanesyddol ar hyd gororau Cymru. Ond eto a gaf i bwysleisio bod y gwahoddiad y gwnes i ymestyn i lefaryddion yr wrthblaid arall y lle yma yn ymestyn i tithau? A gobeithio y gallwn ni barhau gyda thrafodaeth adeiladol dros y blaenoriaethau yr ydym ni wedi’u creu yn barod fel adran sydd wedi cael ei hadfer i Lywodraeth Cymru.

16:35

Mae'n anghyffredin gweld gwleidydd gyda'r fath brofiad yn ymroi i frîff gyda'r fath frwdfrydedd ifanc, sef yr hyn rwy'n credu y mae'r Gweinidog wedi ei wneud dros y 10 mis diwethaf ac sydd wedi arwain at y ddogfen hon, er mae'n rhaid imi ddweud bod gen i gŵyn, sef mai castell mwyaf Cymru, Castell Caerffili, sydd â'r llun lleiaf yn y llyfryn, ond fe fyddech yn disgwyl imi wneud y gŵyn honno beth bynnag.

Mae'n rhaid dweud, fodd bynnag, bod y Gweinidog wedi gwneud yn iawn am hynny trwy ymweld â'r castell ar sawl achlysur, y mwyaf diweddar, fel yr ydych chi wedi sôn eisoes, oedd ar gyfer Ffau'r Dreigiau a Drysfa Gilbert. Roeddwn i yno ar gyfer y lansiad ac fe es â'm plant gyda fi, ac yn ei araith, dywedodd y Gweinidog fod wynebau'r plant wedi goleuo i fyny pan welson nhw'r ddraig yn chwythu mwg. Mae'n rhaid imi ddweud bod fy merch fach 15 mis oed Holly wedi dychryn yn ofnadwy a dechrau beichio crio, ond y newyddion da yw fy mod i wedi saethu fideo o'r ddraig a nawr bob tro mae hi'n gweld fy ffôn symudol yn fy llaw mae hi'n gofyn am weld y ddraig—a gaiff hi weld fideo o'r ddraig—felly, gwnaeth gryn argraff arni.

Mae angen mwy o safleoedd addysgol fel hyn arnom ni, ond mae'n rhaid imi ddweud mai un o'r problemau gyda Chaerffili, wrth ichi edrych o'r castell tuag at y stryd, yw'r ffaith y gallai'r olygfa o'r stryd fod yn llawer gwell. Rwy'n credu, i ryw raddau—a chredaf fod y Gweinidog wedi cydnabod hyn—er bod castell consentrig mwyaf Ewrop yn denu ymwelwyr, os edrychwch chi ar draws y stryd, fe welwch fod cyflwr rhai rhannau o'r stryd fawr yn tynnu oddi ar hynny, ac rwy'n credu bod angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwnnw.

Rwyf eisoes wedi crybwyll bod y Gweinidog wedi gwneud cymaint o ymweliadau â Chastell Caerffili rwyf wedi colli cyfrif. Mae'n dda felly ei fod wedi cyflwyno newidiadau i'r polisi mynediad, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl ymweld â lleoliadau twristiaeth fel hyn ar eu stepen drws ledled Cymru. Yn wir, dyma un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Gweinidog ar ôl dod i'w swydd.

Mae mwy i Gaerffili na chastell Caerffili, wrth gwrs. Mae'n ddefod bod yn rhaid i Aelod y Cynulliad dros Gaerffili grybwyll castell Caerffili a chaws Caerffili rywbryd yn ystod ei dymor, ond hefyd, wrth gwrs, ceir Llancaiach Fawr, plasty o'r unfed ganrif ar bymtheg, a oedd yn segur yn y 1980au cynnar. Rwy'n falch iawn o ddweud y bu fy nhad yn gadeirydd pwyllgor cynllunio Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni, a gytunodd i adnewyddu ac adfer Llancaiach Fawr. A does gennyf ddim amheuaeth fod y Gweinidog wedi ymweld â'r lle hwnnw, neu, os nad yw wedi bod yno, yna y bydd ganddo gynlluniau i ymweld â'r lle. Mae Llancaiach yn lle gwych i ymweld ag ef ond mae hefyd dan fygythiad. Mae'n eiddo i'r cyngor ar hyn o bryd, ac mae llai o gyllidebau gan gynghorau. Hefyd, byddwn yn nodi mai lle arall dan fygythiad yw'r gofeb lofaol genedlaethol, y bydd y Gweinidog yn ymweld â hi fis nesaf. Mae'n coffáu trychineb trasig pwll glo'r Universal ym 1913. Nid yw aelodau'r pwyllgor yno mor ifanc ag y buon nhw, ac rydym yn pryderu y bydd rheoli'r pwyllgor hwnnw yn anos gyda threigl amser. Felly, rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r Gweinidog i gyfarfod y pwyllgor ac i drafod hynny yn y digwyddiad coffa a gynhelir y mis nesaf.

Mae gan Gaerffili lawer i'w gynnig. Dydw i ddim wedi crybwyll Castell Rhiw'r Perrai. Rwy'n credu bod cyfle i gael llwybr treftadaeth yno. Ond, o gofio'r hyn yr wyf wedi ei grybwyll, rwyf hefyd wedi dangos bod gwaith eto i'w wneud yng Nghaerffili, ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â hynny. 

16:40

Diolch yn fawr iawn am hynny, a bu'n bleser gweithio gyda chi. Wrth gwrs, rydych chi'n hollol iawn yn hawlio clod am ein cymell ni i weithredu ar yr adolygiad o docynnau mynediad i drigolion lleol ar draws Cymru. Cynhaliwyd hynny yn ystod haf 2017 ac, o ganlyniad i hynny, ceir cynnig aelodaeth gynhwysol newydd, sydd wedi disodli'r tocyn blaenorol, sy'n rhoi mynediad i un safle dynodedig yn rheolaidd. Felly, mae'r mater o ran ffiniau a godwyd gennych chi yn gyntaf gyda mi—ein bod yn gweithio yn seiliedig ar ffiniau blaenorol awdurdodau lleol blaenorol a bod hyn yn gwahardd pobl o ran diffinio a oeddent yn drigolion lleol neu beidio—wedi cael sylw.

Nawr, rydym wedi cael ein problemau gyda'r trap llaid a'r llifddorau yng Nghastell Caerffili dros y blynyddoedd. Gan weithio gyda pheirianwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae Cadw yn ceisio sicrhau ein bod yn cael gwared ar y gwaddod llaid fel y caiff y ffos ei chlirio'n rheolaidd o sbwriel a rwbel ac ati, ac mae'r holl weithgarwch hwnnw yn digwydd. Rydym hefyd wedi comisiynu uwchgynllun ar gyfer Castell Caerffili, a fydd yn ystyried y posibilrwydd o gynnal gweithgareddau newydd yn y castell ac o'i amgylch. Mae'n debygol iawn y bydd y posibilrwydd o ddefnyddio'r ffos at ddibenion hamdden yn rhan o'r ymarfer cwmpasu. Felly, nid wyf wedi gorffen gyda Chaerffili eto. Ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod y safle yn un unigryw ar ben deheuol cymuned yn y Cymoedd sy'n agos at y brifddinas, ac rwyf eisiau ei wneud yn safle sy'n hanfodol i bawb sydd o ddifrif ynglŷn â chanfod gwybodaeth am Gymru ymweld ag ef. Felly, edrychaf ymlaen at barhau â'n gwaith yng Nghaerffili ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.

16:45

Rydym wedi clywed gan bob plaid sy'n bresennol yn y Siambr heddiw ac rydym wedi rhedeg mas o amser, ond mae siawns i'r siaradwr olaf ofyn cwestiwn clou, os yn bosib—Jayne Bryant.

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n croesawu eich geiriau a'ch brwdfrydedd diffuant ar gyfer ein hamgylchedd hanesyddol. Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint fawr o ymuno â chi ar ymweliad â phont gludo ryfeddol Casnewydd, un o ddim ond chwe phont yn y byd sy'n dal i weithredu heddiw a'r bont gludo orau yn y byd. Rwy'n gwybod bod y ddau ohonom wedi cael y fraint o yrru'r gondola ar draws yr afon—rhywbeth y byddaf wirioneddol yn ei gofio. Ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, cefnogaf yn llwyr yr ymgyrch i helpu i sicrhau dyfodol y bont. Fe'i hagorwyd ym 1906 ac mae'n garreg filltir ddiwydiannol nodedig ac yn eicon a werthfawrogir yn fawr yng Nghasnewydd. Mae'n symbol o'n treftadaeth ddiwydiannol a morol balch—

A gaf i ofyn ichi ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Fy nghwestiwn i yw: a yw'r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid gwneud mwy i hyrwyddo'r dreftadaeth unigryw sydd gennym yn y de-ddwyrain, nid yn unig i'r twristiaid ond i drigolion lleol a phobl ifanc ym mhob man, fel y gallant fwynhau a gwerthfawrogi ein safleoedd hanesyddol?

Diolch. Roedd hi'n wych cael bod yng Nghasnewydd. Rwyf wedi treulio mwy o amser yng Nghasnewydd nag yn unman arall, fwy na thebyg, ar wahân i fy ardal i fy hun, yn yr ychydig fisoedd diwethaf. Ond diolch i chi am yrru'r gondola gymaint yn well na'r Gweinidog druan. Cafodd hyn sylw—wnaf i ddim sôn am yr enw, ond, wel, fe wyddoch pwy sy'n gweithio'r bont. Mae'r bont honno'n cael ei gweithio; nid yw'n rhywbeth awtomatig yn unig, mae'n heneb byw wirioneddol. Felly, i mi—credaf imi ddweud hyn wrthoch chi ar y diwrnod—rwyf eisiau hybu treftadaeth ddiwydiannol fel cam nesaf yr hyn y byddaf yn ceisio ei wneud yn fy swyddogaeth i fel Gweinidog, cyn belled ag y caf i'r cyfle hwn. Credaf fy mod wedi ymwneud â chestyll, rwyf wedi ymwneud rhywfaint ag ambell abaty, ac rwyf bellach eisiau ymwneud â threftadaeth ddiwydiannol mewn ffordd lawer mwy, yr ymweliad â Blaenafon y diwrnod o'r blaen, yr ymweliad â'r Big Pit ac amrywiol bethau—ond i mi, y bont gludo, os caniatewch imi gael ei fenthyg, yw ein symbol, hon yw eicon ein treftadaeth ddiwydiannol, a'r hyn y mae'n ei olygu i ni yng Nghymru. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:47.