National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/07/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

The first item on our agenda is questions to the First Minister, and the first question is from Llyr Gruffydd. 

Effaith Brexit ar Addysg Bellach ac Uwch
The Impact of Brexit on Further and Higher Education

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Brexit ar addysg bellach ac uwch? OAQ52519

1. Will the First Minister make a statement on the impact of Brexit on further and higher education? OAQ52519

Roedd ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn rhoi sylw i effaith Brexit ar addysg ôl-orfodol ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau. Rydym ni’n parhau i bwyso am y blaenoriaethau hyn mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

We addressed the implications of Brexit for post-compulsory education in our White Paper 'Securing Wales' Future' and identified priorities for negotiations. We continue to press for these priorities in discussions with UK Government officials.

Last week, in answer to the Plaid Cymru leader here in the Assembly, you told us that you and your Government had no plans for the Welsh NHS if there was to be, as is, of course, increasingly likely now, a 'no deal' Brexit. In fact, your exact words were

'There is no planning for a "no deal" Brexit. It's more like people running around in circles screaming. There are no plans at all for it.'

Now, I'm not sure that's the kind of leadership that the people of Wales expected from somebody who stood on a promise of standing up for Wales, but if you have no plan for the NHS, could you tell us whether that's also the case for Welsh universities and Welsh colleges in the face of a 'no deal' Brexit, and, if it is, when exactly would you expect the HE and FE sector to start running around in circles screaming?

Yr wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd Plaid Cymru yma yn y Cynulliad, dywedasoch wrthym nad oedd gennych chi na'ch Llywodraeth unrhyw gynlluniau ar gyfer GIG Cymru pe byddai, fel sy'n gynyddol debygol erbyn hyn, wrth gwrs, Brexit dim cytundeb. Mewn gwirionedd, eich union eiriau oedd

'Nid oes unrhyw gynllunio ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae'n debycach i bobl yn rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd yn sgrechian. Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl ar ei gyfer.'

Nawr, nid wyf i'n siŵr ai dyna'r math o arweinyddiaeth yr oedd pobl Cymru yn ei disgwyl gan rywun a safodd ar sail addewid o sefyll dros Gymru, ond os nad oes gennych chi gynllun ar gyfer y GIG, a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny hefyd yn wir ar gyfer prifysgolion a cholegau Cymru yn wyneb Brexit 'dim cytundeb', ac, os ydyw, pryd yn union fyddech chi'n disgwyl i'r sector addysg uwch ac addysg bellach ddechrau rhedeg o gwmpas mewn cylchoedd yn sgrechian?

The Member is being mischievous. He knows full well that I was referring to the UK Government and not the Welsh Government—as he knows, but there's the mischief. But he asked a question: what is the situation in terms of what we've done? Well, we have the European advisory group, bringing together business leaders, representatives from universities, trade unions, agriculture, public services, politicians and the third sector. We have a higher education Brexit working group, with senior representatives from the HE and FE sectors. They are providing us with advice on the implications of Brexit for the higher education sector. We have the Council for Economic Renewal Brexit sub-group, with senior business leaders and organisations, chaired by the economy Secretary. We have the environment and rural affairs Brexit round-table stakeholder group, set up after the referendum. That is a forum for engagement and collaboration between the Welsh Government and the food, fisheries, farming, forestry and environment sectors. And you mentioned health. Well, we continue to work with key health and care stakeholders through the main representative bodies, and we're also working directly with specific groups, such as Public Health Wales, the Royal College of Nursing and NHS medical directors, in order for us to understand from them what their challenges are. 

Mae'r Aelod yn bod yn ddireidus. Mae'n gwybod yn iawn mai cyfeirio at Lywodraeth y DU oeddwn i ac nid Llywodraeth Cymru—fel y mae'n gwybod, ond dyna'r direidi. Ond gofynnodd gwestiwn: beth yw'r sefyllfa o ran yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud? Wel, mae gennym ni grŵp cynghori Ewropeaidd, sy'n dod ag arweinyddion busnes, cynrychiolwyr o brifysgolion, undebau llafur, amaethyddiaeth, gwasanaethau cyhoeddus, gwleidyddion a'r trydydd sector at ei gilydd. Mae gennym ni weithgor Brexit addysg uwch, gydag uwch gynrychiolwyr o'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Maen nhw'n darparu cyngor i ni ar oblygiadau Brexit i'r sector addysg uwch. Mae gennym ni is-grŵp Brexit Cyngor Adnewyddu'r Economi, gydag arweinyddion busnes uwch a sefydliadau, wedi ei gadeirio gan Ysgrifennydd yr economi. Mae gennym ni grŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn Brexit yr amgylchedd a materion gwledig, a sefydlwyd ar ôl y refferendwm. Fforwm yw hwnnw ar gyfer ymgysylltiad a chydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a'r sectorau bwyd, pysgodfeydd, ffermio, coedwigaeth a'r amgylchedd. Ac fe wnaethoch sôn am iechyd. Wel, rydym ni'n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid iechyd a gofal allweddol drwy'r prif gyrff cynrychioliadol, ac rydym ni hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau penodol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Coleg Nyrsio Brenhinol a chyfarwyddwyr meddygol y GIG, er mwyn i ni ddeall ganddyn nhw beth yw'r heriau sy'n eu hwynebu.

Will the First Minister and his party get behind a deal with the EU on education or anything else? At Chequers, the Prime Minister went a long way towards the sort of Brexit that Labour claims to want. [Interruption.] But instead of welcoming that, they say they'll vote down any deal based on it to try and get a general election instead. Since that approach may lead to our leaving the EU without a deal, will you as First Minister now support the UK Government in accelerating preparations for such an outcome?

A wnaiff y Prif Weinidog a'i blaid gefnogi cytundeb gyda'r UE ar addysg neu unrhyw beth arall? Yn Chequers, aeth Prif Weinidog y DU ymhell iawn tuag at y math o Brexit y mae Llafur yn honni ei fod ei eisiau. [Torri ar draws.] Ond yn hytrach na chroesawu hynny, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb yn seiliedig arno i geisio cael etholiad cyffredinol yn hytrach. Gan y gallai'r agwedd honno arwain atom ni'n gadael yr UE heb gytundeb, a wnewch chi fel Prif Weinidog gefnogi Llywodraeth y DU nawr i gyflymu paratoadau ar gyfer canlyniad o'r fath?

Well, Boris Johnson and David Davis stood behind the Prime Minister with a knife and we all saw what they did. I mean, really, this is not the strongest ground for his party to lead on, given the incredible divisions that exist within the Conservative Party. Now, in terms of what the Prime Minister is trying to do, she's trying, I hope, to steer the UK towards a soft Brexit. In that, I will support that general principle. But we need to see more detail. We don't know yet what will be in the trade White Paper; it hasn't been shared with us in its entirety. We don't know that the detail will be. We don't know what the view of the EU will be, but what is absolutely clear is this: that the Conservative Party is absolutely divided. The resignation of two senior Cabinet Secretaries in the space of one day hasn't happened since 1979, I understand. And that shows the depth of the division that exists in Whitehall. It's time really for the Conservative Party to get a grip and show some leadership for this country. 

Wel, fe wnaeth Boris Johnson a David Davis sefyll y tu ôl i Brif Weinidog y DU gyda chyllell ac fe welsom i gyd yr hyn a wnaethant. Hynny yw, mewn gwirionedd, nid dyma'r sail gryfaf i'w blaid arwain arni, o ystyried y rhaniadau anhygoel sy'n bodoli o fewn y Blaid Geidwadol. Nawr, o ran yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio ei wneud, mae'n ceisio, rwy'n gobeithio, llywio'r DU tuag at Brexit meddal. Yn hynny o beth, byddaf yn cefnogi'r egwyddor gyffredinol honno. Ond mae angen i ni weld mwy o fanylion. Nid ydym ni'n gwybod eto beth fydd yn y Papur Gwyn masnach; nid yw wedi ei rannu gyda ni yn ei gyfanrwydd. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd y manylion. Nid ydym ni'n gwybod beth fydd safbwynt yr UE, ond yr hyn sy'n gwbl eglur yw hyn: bod y Blaid Geidwadol yn gwbl rannol. Ni welwyd ymddiswyddiad dau Ysgrifennydd Cabinet uwch ar yr un diwrnod ers 1979, rwy'n deall. Ac mae hynny'n dangos dyfnder y rhaniad sy'n bodoli yn Whitehall. Mae'n amser mewn gwirionedd i'r Blaid Geidwadol gallio a dangos rhywfaint o arweinyddiaeth i'r wlad hon.

First Minister, the UK has three universities in the global top 10. The rest of the EU has none; they're not even in the top 30. Has the First Minister made any assessment of the impact on EU students, Government and non-governmental agencies and organisations, such as the European Space Agency, were they to lose access to our world-leading academics in educational institutions?

Prif Weinidog, mae gan y DU dair prifysgol yn 10 uchaf y byd. Nid oes gan weddill yr UE unrhyw un; nid ydyn nhw yn y 30 uchaf hyd yn oed. A yw'r Prif Weinidog wedi gwneud unrhyw asesiad o'r effaith ar fyfyrwyr yr UE, asiantaethau a sefydliadau Llywodraeth ac anllywodraethol, fel yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, pe bydden nhw'n colli mynediad at ein hacademyddion mwyaf blaenllaw y byd mewn sefydliadau addysgol?

I don't think it works for anybody. The first thing that academics will tell you is they rely absolutely entirely on the ability to work in different universities around the world. And if the UK is seen as self-contained, that will be to the UK's detriment, and if it's seen as unwelcoming, that will be to the UK's detriment. It's absolutely essential that co-operation continues in the future, with schemes such as Erasmus and Horizon 2020 being able to deliver to their fullest extent. 

Nid wyf i'n credu ei fod yn gweithio i neb. Y peth cyntaf y bydd academyddion yn eu ddweud wrthych yw eu bod nhw'n dibynnu'n llwyr ar y gallu i weithio mewn gwahanol brifysgolion ledled y byd. Ac os bydd y DU yn cael ei hystyried yn hunangynhwysol, bydd hynny yn anfantais i'r DU, ac os caiff ei hystyried yn ddigroeso, bydd hynny yn anfantais i'r DU. Mae'n gwbl hanfodol bod cydweithredu yn parhau yn y dyfodol, gyda chynlluniau fel Erasmus a Horizon 2020 yn gallu darparu hyd eithaf eu gallu.

Gwella Lles Anifeiliaid Anwes
Improve the Welfare of Companion Animals

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid anwes yng Nghwm Cynon? OAQ52482

2. Will the First Minister provide an update on the Welsh Government's plans to improve the welfare of companion animals in Cynon Valley? OAQ52482

13:35

The Wales animal health and welfare framework implementation plan sets out our priorities for animal health and welfare, and I know that the Cabinet Secretary set out plans to maintain and improve companion animal welfare in Wales in her oral statement on 21 June.

Mae cynllun gweithredu fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlinellu cynlluniau i gynnal a gwella lles anifeiliaid anwes yng Nghymru yn ei datganiad llafar ar 21 Mehefin.

Thank you, First Minister. Tomorrow, with my colleague Eluned Morgan, I am co-sponsoring an event to raise awareness of how Lucy's law could improve animal welfare by ensuring people only get puppies from rescue centres or reputable breeders, and I'd encourage all AMs to come along. Tackling puppy farming is crucial, and many of my constituents have suffered the heartbreak of paying hundreds of pounds for a poorly pup that was bred in unacceptable conditions. During her statement on animal welfare, the Cabinet Secretary said that getting a puppy from the right source is the first fundamental step towards being a responsible owner. So, how is the Welsh Government promoting this, and when can we expect an update on discussions on introducing a ban on third-party sales?

Diolch, Prif Weinidog. Yfory, gyda fy nghyd-Aelod Eluned Morgan, rwy'n cyd-noddi digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o sut y gallai cyfraith Lucy wella lles anifeiliaid trwy sicrhau bod pobl yn cael cŵn bach o ganolfannau achub neu fridwyr cyfrifol yn unig, ac rwyf yn annog holl Aelodau'r Cynulliad i ddod. Mae mynd i'r afael â ffermio cŵn bach yn hollbwysig, ac mae llawer o'm hetholwyr wedi dioddef y torcalon o dalu cannoedd o bunnoedd am gi bach sâl a fridiwyd mewn amodau annerbyniol. Yn ystod ei datganiad ar les anifeiliaid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai cael ci bach o'r ffynhonnell gywir yw'r cam hanfodol cyntaf tuag at fod yn berchennog cyfrifol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo hyn, a pryd y gallwn ni ddisgwyl diweddariad ar drafodaethau ar gyflwyno gwaharddiad ar werthiannau trydydd parti?

Well, the updated welfare code for dogs will be laid before the Assembly before the summer recess. It will remind owners of their responsibilities when looking after and sourcing their dog or puppy. Regarding the specific issue of third-party sales, I know the Cabinet Secretary is attending the Lucy's law event on Wednesday, and I'm sure this will help to inform those discussions with her. I will ask for a written statement to be published, to update Members on developments as they progress.

Wel, bydd y cod lles cŵn wedi'i ddiweddaru yn cael ei osod gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf. Bydd yn atgoffa perchnogion o'u cyfrifoldebau wrth ofalu am eu ci neu gi bach, ac wrth gael gafael arnynt. O ran y mater penodol o werthiannau trydydd parti, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol yn nigwyddiad cyfraith Lucy ddydd Mercher, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn helpu i lywio'r trafodaethau hynny gyda hi. Byddaf yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig i gael ei gyhoeddi, i ddiweddaru'r Aelodau ar ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd.

I do feel privileged today to be sitting next to the rescuer of the hedgehog fancier club here, Darren Millar. Anyone who's followed his Twitter feed would see the rescue mission he launched last week. But I would ask you, First Minister—. The Welsh Government commission many services in the public sector, obviously—bus services and the regulation of taxis. It is important that when people with companion dogs, in particular, seek to use those services, there is an understanding among the operators what their obligations are, and they are not turned away from use of those services. How confident are you that the regulations, and in particular the services you commission, do have the safeguards in place so that people who do need guide dogs, and other companion animals, are able to access those public services?

Rwyf i'n teimlo'n freintiedig heddiw o fod yn eistedd wrth ymyl achubwr y clwb bridwyr draenogod yn y fan yma, Darren Millar. Byddai unrhyw un sydd wedi dilyn ei gyfrif Twitter yn gweld y genhadaeth achub a lansiwyd ganddo yr wythnos diwethaf. Ond rwyf yn gofyn i chi, Prif Weinidog—. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu llawer o wasanaethau yn y sector cyhoeddus, yn amlwg—gwasanaethau bws a rheoleiddio tacsis. Mae'n bwysig pan fydd pobl â chŵn anwes, yn arbennig, yn ceisio defnyddio'r gwasanaethau hynny, bod dealltwriaeth ymhlith y gweithredwyr o beth yw eu rhwymedigaethau, ac nad ydynt yn cael eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaethau hynny. Pa mor ffyddiog ydych chi bod gan y rheoliadau, ac yn enwedig y gwasanaethau yr ydych chi'n eu comisiynu, y trefniadau diogelu ar waith fel bod pobl sydd angen cŵn tywys, ac anifeiliaid anwes eraill, yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau cyhoeddus hynny?

Well, of course, all operators are required to operate within the boundaries of the law, particularly the Disability Discrimination Act 1995. I would expect every operator to ensure that, where somebody needs the assistance of a guide dog, for example, they're able to access bus services, train services, and any other service. That is what the law would expect them to do, and that's what I think decent standards would expect them to do as well.

Wel, wrth gwrs, mae'n ofynnol i'r holl weithredwyr weithredu o fewn ffiniau'r gyfraith, yn enwedig Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Byddwn yn disgwyl i bob gweithredwr sicrhau, pan fo rhywun angen cymorth ci tywys, er enghraifft, eu bod nhw'n gallu cael mynediad at wasanaethau bws, gwasanaethau trên, ac unrhyw wasanaeth arall. Dyna fyddai'r gyfraith yn disgwyl iddyn nhw ei wneud, a dyna fyddwn i'n credu y byddai safonau gweddus yn disgwyl iddyn nhw ei wneud hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.

Questions now from the party leaders. The leader of the UKIP group, Caroline Jones.

Diolch, Llywydd. First Minister, the UK Government is in turmoil and apparently determined to make such a complete hash of Brexit that we have no choice but to remain in the European Union, despite the wishes of UK voters. David Cameron abandoned the UK, unwilling to carry out the democratic wishes of the electorate. Theresa May has bungled every negotiation with the EU, and senior Tory Ministers are more interested in looking at their leadership chances than the fate of our country. And this has now all reached a crescendo, with a plan for Brexit that doesn't deliver Brexit. The Chequers proposals mean that we continue to be subject to EU laws, unable to alter or influence them, and we would be unable to conduct independent trade policies, hampering our ability to negotiate trade deals outside the EU. This would leave us subject to EU and European Court of Justice rules and we would be forced to take rules that benefit our continental competitors. This is not what I voted for and not what the majority of UK voters voted for. Out means out. First Minister, do you support the position taken by the Chequers agreement, or do you agree with me that it's such a shambolic deal that it's back to the drawing board?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl ac yn benderfynol, mae'n ymddangos, o wneud cymaint o lanastr llwyr o Brexit fel nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf dymuniadau etholwyr y DU. Cefnodd David Cameron ar y DU, yn amharod i gyflawni dymuniadau democrataidd yr etholwyr. Mae Theresa May wedi gwneud cawl o bob trafodaeth gyda'r UE, ac mae gan Weinidogion Torïaidd uwch fwy o ddiddordeb mewn edrych ar eu cyfleoedd arweinyddiaeth na thynged ein gwlad. Ac mae hyn i gyd wedi cyrraedd cresendo erbyn hyn, gyda chynllun ar gyfer Brexit nad yw'n cyflawni Brexit. Mae cynigion Chequers yn golygu ein bod ni'n parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r UE, heb allu eu newid na dylanwadu arnynt, ac ni fyddem yn gallu cynnal polisïau masnach annibynnol, gan lesteirio ein gallu i ddod i gytundebau masnachol y tu allan i'r UE. Byddai hyn yn ein gadael yn ddarostyngedig i reolau'r UE a Llys Cyfiawnder Ewrop a byddem yn cael ein gorfodi i dderbyn rheolau sydd o fudd i'n cystadleuwyr cyfandirol. Nid dyma wnes i bleidleisio drosto ac nid dyma bleidleisiodd mwyafrif pleidleiswyr y DU drosto. Mae allan yn golygu allan. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r safbwynt a fabwysiadir gan gytundeb Chequers, neu a ydych chi'n cytuno â mi ei fod yn gytundeb mor ddi-drefn fel bod yn rhaid i ni ddechrau o'r dechrau?

I don't agree with either. I think what we need is a sensible solution that sees us staying in the customs union, with full and unfettered access to the single market. And, above all else, she is right—the UK Government is in turmoil. That's why we need a Labour Government in Whitehall.

Nid wyf yn cytuno gyda'r un o'r ddau. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ateb synhwyrol sy'n golygu ein bod ni'n aros yn yr undeb tollau, gyda mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Ac, yn anad dim, mae hi'n iawn—mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl. Dyna pam mae angen Llywodraeth Lafur arnom ni yn Whitehall.

First Minister, unfortunately, the Labour Party position is confusing. The Labour MP for Aberavon strongly believes Labour should commit wholeheartedly to a Brexit model that would see the UK continue to make financial contributions to the EU and accept many of its laws. The Labour leader in Westminster clearly isn't sure what he wants—one day, it is we need to remain in the single market and the customs union, and the next it's to obtain a tariff-free trade relationship with Europe and that we develop a customs union to go alongside that. The shadow Cabinet has more resignations than appointments, and the shadow Brexit Secretary is now calling for a second Brexit referendum, seemingly influenced by key members of the Unite union. First Minister, what is your party's position on Brexit? Is it the position that you outlined with the leader of Plaid Cymru? Is that what it is? Or, is your stance the Labour Party's stance, please?

Prif Weinidog, yn anffodus, mae safbwynt y Blaid Lafur yn ddryslyd. Mae'r AS Llafur dros Aberafan yn credu'n gryf y dylai Llafur ymrwymo'n llwyr i fodel Brexit a fyddai'n golygu bod y DU yn parhau i wneud cyfraniadau ariannol i'r UE a derbyn llawer o'i ddeddfau. Mae'n amlwg nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn siŵr beth y mae ef ei eisiau—un diwrnod, mae angen i ni aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a'r diwrnod wedyn mae'n rhaid cael perthynas fasnach ddi-dariff gydag Ewrop a datblygu undeb tollau i fynd ochr yn ochr â hynny. Mae Cabinet yr wrthblaid wedi gweld mwy o ymddiswyddiadau na phenodiadau, ac mae Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid yn galw am ail refferendwm Brexit erbyn hyn, wedi ei ddylanwadu yn ôl pob golwg gan aelodau allweddol o undeb Unite. Prif Weinidog, beth yw safbwynt eich plaid chi ar Brexit? Ai'r safbwynt a amlinellwyd gennych chi gydag arweinydd Plaid Cymru? Ai dyna'r safbwynt? Neu, ai safbwynt y Blaid Lafur yw eich safbwynt, os gwelwch yn dda?

13:40

Back again, is it? No answer. Okay. [Interruption.] Sorry?

Yn ôl eto, aie? Dim ateb. Iawn. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?

The former—what we agreed with Plaid Cymru.

Y cyntaf—yr hyn a gytunwyd gennym gyda Phlaid Cymru.

With Plaid Cymru. Thank you. Sorry, I didn't quite catch that. Thank you, First Minister.

I note that your Government has today outlined proposals for farm subsidies should we ever leave the EU, and I welcome the proposals, which, according to the RSPB, signal a new way of working. The common agricultural policy has pitted conservationists and farmers against one another in the battle for land, so this will end this approach. According to your Cabinet Secretary, Brexit presents a unique opportunity to put in place bespoke Welsh policy that delivers for our economy, society and natural environment, and I agree wholeheartedly with this statement.

So, First Minister, we are clearly not going to be able to influence the Brexit negotiations with the UK Government, which will simply ignore our views, but we can seek to capitalise on the opportunities presented by our exit from the EU: so, bespoke agriculture and conservation policies, bespoke fisheries policies and bespoke trade policies. So, First Minister, do you agree that it's now time to focus on the opportunities ahead of us and open to us, rather than playing up the risks? After all, we were supposed to be in a deep recession by now. Instead, business investment is booming, which should go some way to giving positive vibes to potential investors. So, how will you encourage investment into Wales, please?

Gyda Phlaid Cymru. Diolch. Mae'n ddrwg gen i, ni wnes i ddim clywed hynna'n iawn. Diolch, Prif Weinidog.

Sylwaf bod eich Llywodraeth wedi amlinellu heddiw cynigion ar gyfer cymorthdaliadau fferm pe byddem ni fyth yn gadael yr UE, a chroesawaf y cynigion, sydd, yn ôl yr RSPB, yn nodi ffordd newydd o weithio. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin wedi rhoi cadwraethwyr a ffermwyr benben â'i gilydd yn y frwydr am dir, felly bydd hyn yn rhoi terfyn ar yr agwedd hon. Yn ôl eich Ysgrifennydd Cabinet, mae Brexit yn gyfle unigryw i gyflwyno polisi wedi'i deilwra i Gymru sy'n cyflawni ar gyfer ein heconomi, ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn.

Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i allu dylanwadu ar y trafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn anwybyddu ein safbwyntiau’n llwyr, ond gallwn geisio manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan ein hymadawiad â'r UE: felly, polisïau amaethyddiaeth a chadwraeth wedi'u teilwra, polisïau pysgodfeydd wedi'u teilwra a pholisïau masnach wedi'u teilwra. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n bryd nawr i ganolbwyntio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ac yn agored i ni, yn hytrach na phwysleisio'r risgiau? Wedi'r cyfan, roeddem ni i fod mewn dirwasgiad dwfn erbyn hyn. Yn hytrach, mae buddsoddiad mewn busnes yn ffynnu, a ddylai fynd gryn ffordd i roi teimlad cadarnhaol i ddarpar fuddsoddwyr. Felly, sut gwnewch chi annog mewnfuddsoddiad i Gymru, os gwelwch yn dda?

Well, first of all, it is quite clear that many businesses are concerned about the prospect of a hard Brexit. We've heard Airbus say it, we've heard JLR say it, and heard others say it. For them, a hard Brexit doesn't work. It is right to say that we have an opportunity to shape farming policy as we would want, subject, of course, to there being a commonly agreed framework—which is important—across the whole of the UK. And money. The reality is that we have no guarantees on the money. Two hundred and sixty million pounds a year goes into farming subsidies in Wales. We can't find that money. I can say that now. It's impossible. It has to be set aside, to my mind, in a separate pot by the UK Government, and distributed as it is now until there's agreement to change things. That's hugely important. But, none of this means anything without a market.

The reality is that 90 per cent of our food and drink exports go to the single market. Geography dictates that. A lot of what we produce—if we look at fish, for example—is perishable. It's just easier to sell it in the European market than it is to take it halfway across the world to another market. So, the reality is, yes, we can look at producing a better deal for our farmers in Wales, as long as the money is there from Westminster. But, none of this means anything unless they can sell their produce. Unless they can get fish and perishable products, for example, across through Dover and into the French ports as quickly as possible, they can't sell anything, which is why it's hugely important that we avoid a hard Brexit.

Wel, yn gyntaf oll, mae'n gwbl eglur bod llawer o fusnesau yn pryderu am y posibilrwydd o Brexit caled. Rydym ni wedi clywed Airbus yn ei ddweud, rydym ni wedi clywed JLR yn ei ddweud, ac rydym ni wedi clywed pobl eraill yn ei ddweud. Iddyn nhw, nid yw Brexit caled yn gweithio. Mae'n iawn i ddweud bod gennym ni gyfle i lunio polisi ffermio fel y byddem yn dymuno, yn amodol, wrth gwrs, ar gael fframwaith wedi'i gytuno'n gyffredin—sy'n bwysig—ar draws y DU gyfan. Ac arian. Y gwir amdani yw nad oes gennym ni unrhyw sicrwydd ynghylch yr arian. Mae dau gant a thrigain miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn cael ei roi mewn cymorthdaliadau ffermio yng Nghymru. Ni allwn ddod o hyd i'r arian hwnnw. Gallaf ddweud hynny nawr. Mae'n amhosibl. Mae'n rhaid iddo gael ei neilltuo, yn fy marn i, mewn pot ar wahân gan Lywodraeth y DU, a'i ddosbarthu fel a wneir ar hyn o bryd tan fod cytundeb i newid pethau. Mae hynny'n hynod o bwysig. Ond, nid oes dim o hyn yn golygu unrhyw beth heb farchnad.

Y gwir amdani yw bod 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad sengl. Daearyddiaeth sy'n dylanwadu ar hynny. Mae llawer o'r hyn yr ydym ni'n ei gynhyrchu—os edrychwn ni ar bysgod, er enghraifft—yn ddarfodus. Yn syml, mae'n haws ei werthu yn y farchnad Ewropeaidd nag y mae hi i'w gludo hanner ffordd ar draws y byd i farchnad arall. Felly, y gwir yw, gallwn, mi allwn ni edrych ar sicrhau bargen well i'n ffermwyr yng Nghymru, cyhyd ag y bydd yr arian ar gael gan San Steffan. Ond, nid yw dim o hyn yn golygu unrhyw beth oni bai ei bod yn gallu gwerthu eu cynnyrch. Oni bai eu bod yn gallu cael pysgod a chynhyrchion darfodus, er enghraifft, ar draws drwy Dover ac i mewn i borthladdoedd Ffrainc cyn gynted â phosibl, allan nhw ddim gwerthu unrhyw beth, a dyna pam mae'n hynod bwysig ein bod ni'n osgoi Brexit caled.

Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

The Plaid Cymru leader, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. First Minister, it's on the record that you said that everyone was running around screaming, when I asked you last week what your plan is for a 'no deal' Brexit. Westminster is in chaos, and leaving the EU without a deal now looks more likely than ever. So, will you now commit to developing a 'no deal' plan to protect Welsh jobs, wages, and the opportunities of future generations?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ar y cofnod eich bod chi wedi dweud bod pawb yn rhedeg o gwmpas yn sgrechian, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf beth yw eich cynllun ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae San Steffan mewn anhrefn, ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn edrych yn fwy tebygol nag erioed erbyn hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddatblygu cynllun 'dim cytundeb' i ddiogelu swyddi a chyflogau Cymru, a chyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol?

I think I just answered that question. There is no mitigation against no deal. It would not be right to say that. The reality is that, if we have a 'no deal' Brexit, we will lose jobs, and we will lose investment. There is no question about that, which is why I have fought tooth and nail against a 'no deal' Brexit. That does not mean, of course, that we are not doing anything in terms of preparing for Brexit. She'll have heard me say earlier on what we have been doing. We also have put in place, of course, the EU transition fund—£50 million that helps businesses, public services and other organisations to plan for and prepare for the impact of Brexit. So, yes, we have a number of groups where we are talking to stakeholders. We also have money on the table. But surely nobody can pretend that a 'no deal' Brexit can be fully mitigated, because it can't.

Rwy'n credu fy mod i newydd ateb y cwestiwn yna. Nid oes unrhyw fesurau lliniaru yn erbyn dim cytundeb. Ni fyddai'n iawn i ddweud hynny. Y gwir amdani yw, os byddwn ni'n cael Brexit 'dim cytundeb', byddwn yn colli swyddi, a byddwn yn colli buddsoddiad. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna pam yr wyf i wedi brwydro'n galed yn erbyn Brexit 'dim cytundeb'. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwneud unrhyw beth o ran paratoi ar gyfer Brexit. Bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rydym ni hefyd wedi sefydlu, wrth gwrs, cronfa bontio'r UE—£50 miliwn sy'n helpu busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill i gynllunio ar gyfer a pharatoi ar gyfer effaith Brexit. Felly, oes, mae gennym ni nifer o grwpiau lle'r ydym ni'n siarad â rhanddeiliaid. Mae gennym ni arian ar y bwrdd hefyd. Ond does bosib y gall neb esgus y gellir lliniaru'n llawn yn erbyn Brexit 'dim cytundeb', oherwydd ni ellir gwneud hynny.

13:45

First Minister, I think we can all agree that the Westminster Government is making a right mess of Brexit, and the position is so weak. Last week, Plaid Cymru—. Sorry, it wasn't Plaid Cymru that consented to Westminster's flagship Brexit Bill, was it? And it wasn't Plaid Cymru that abstained on the votes that could have kept us in the single market. And it wasn't Plaid Cymru that voted to trigger article 50 without a plan. First Minister, that was the Labour Party that did all those things—no input, and not even sight of Westminster's Brexit paper. Now, is this what the finance Secretary meant when he said that his deal with the Conservatives marked, and I quote, a 'significant step' towards 'equitable' inter-governmental working, or, in hindsight, was your Government wrong to consent to the European Union (Withdrawal) Bill, which will help to further the chaos that we're already seeing in Westminster?

Prif Weinidog, rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod Llywodraeth San Steffan yn gwneud llanastr go iawn o Brexit, ac mae'r sefyllfa mor wan. Yr wythnos diwethaf, cydsyniodd Plaid Cymru—. Mae'n ddrwg gen i, nid Plaid Cymru wnaeth gydsynio i brif Fil Brexit San Steffan, nage? Ac nid Plaid Cymru wnaeth atal y pleidleisiau a allai fod wedi ein cadw yn y farchnad sengl. Ac nid Plaid Cymru bleidleisiodd i sbarduno erthygl 50 heb gynllun. Prif Weinidog, y Blaid Lafur wnaeth yr holl bethau hynny—dim mewnbwn, a dim golwg ar bapur Brexit San Steffan hyd yn oed. Nawr, ai dyma oedd yr Ysgrifennydd dros gyllid yn ei olygu pan ddywedodd bod y cytundeb hwn gyda'r Ceidwadwyr, a dyfynnaf, yn gam sylweddol tuag at weithio rhynglywodraethol teg, neu, o edrych yn ôl, a oedd eich Llywodraeth chi yn anghywir i roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a fydd yn helpu i ychwanegu at yr anhrefn yr ydym ni eisoes yn ei weld yn San Steffan?

In terms of what she said about this being an important step to inter-governmental co-operation, I believe that Nicola Sturgeon, the Scottish First Minister, said the same thing. So, yes, it is an important step, but obviously there are different positions taken by the Scottish and Welsh Governments. The reality is I can't answer for what happens in Westminster; I'm the First Minister of Wales. And she will know, working with her party, we have developed what I think are the most thought-through and sensible policies of anywhere in the UK. We have worked through policies, working with her party, that provide for, yes, the delivery of the referendum result, but also a soft Brexit, a sensible trade policy, sensible relationships with the EU, full unfettered access to the single market—all these things we've shared together. We are continuing to press the UK Government. It seems, we hope, that they are listening to an extent, given that the Chequers agreement goes much further towards where we think the UK should be than has previously been the case.

O ran yr hyn a ddywedodd am y ffaith fod hwn yn gam pwysig at gydweithredu rhynglywodraethol, rwy'n credu bod Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud yr un peth. Felly, ydy, mae'n gam pwysig, ond yn amlwg mae gan Lywodraethau'r Alban a Chymru wahanol safbwyntiau. Y gwir amdani yw na allaf i fod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan; Prif Weinidog Cymru wyf i. A bydd hi'n gwybod, gan weithio gyda'i phlaid, ein bod ni wedi datblygu'r hyn yr wyf i'n ei gredu yw'r polisïau a ystyriwyd yn fwyaf trylwyr a synhwyrol o unrhyw fan yn y DU. Rydym ni wedi gweithio trwy bolisïau, wedi gweithio gyda'i phlaid hi, sy'n darparu ar gyfer, ie, darparu canlyniad y refferendwm, ond hefyd Brexit meddal, polisi masnach synhwyrol, perthynas synhwyrol â'r UE, mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl—rydym ni wedi rhannu'r holl bethau hyn gyda'n gilydd. Rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU. Mae'n ymddangos, rydym ni'n gobeithio, eu bod nhw'n gwrando i ryw raddau, o gofio bod y cytundeb Chequers yn mynd ymhellach o lawer tuag at lle'r ydym ni'n credu y dylai'r DU fod na'r hyn a oedd yn wir yn flaenorol.

How can you expect the UK Government to listen to what we jointly want when you can't even get your own party to accept that position? Your MPs vote against the joint agreed position that your party and my party have agreed in this Assembly. 

First Minister, we face uncertainty here like we've never faced it before. With just weeks of negotiating time left, and Westminster in more chaos than ever, why do you refuse to accept reality? A 'no deal' Brexit is looming over us, and I don't think that your Government is doing anywhere near enough to protect this nation. Now, as a democrat, I believe that people should have a say on the final deal, so, First Minister, now that we know that it looks like either a bad deal or a 'no deal', will you now back a people's vote so that we can have a chance to reject the extreme Brexit that you and I know will cause so much damage to the people and the economy of this country?

Sut gallwch chi ddisgwyl i Lywodraeth y DU wrando ar yr hyn yr ydym ni ei eisiau ar y cyd pan na allwch chi hyd yn oed gael eich plaid eich hun i dderbyn y safbwynt hwnnw? Mae eich ASau yn pleidleisio yn erbyn y safbwynt a gytunwyd ar y cyd y mae eich plaid chi a'm plaid innau wedi ei gytuno yn y Cynulliad hwn.

Prif Weinidog, rydym ni'n wynebu ansicrwydd yn y fan yma yma fel nad ydym ni erioed wedi ei wynebu o'r blaen. Gyda dim ond wythnosau o amser trafod yn weddill, a San Steffan mewn mwy o anhrefn nag erioed, pam ydych chi'n gwrthod derbyn realiti? Mae Brexit 'dim cytundeb' ar fin ein taro, ac nid wyf i'n credu bod eich Llywodraeth yn gwneud hanner digon i amddiffyn y wlad hon. Nawr, fel democrat, rwy'n credu y dylai pobl gael lleisio eu barn ar y cytundeb terfynol, felly, Prif Weinidog, nawr ein bod ni'n gwybod ei fod yn edrych fel naill ai cytundeb gwael neu 'ddim cytundeb', a wnewch chi gefnogi pleidlais i'r bobl nawr, fel y gallwn ni gael cyfle i wrthod y Brexit eithafol yr ydych chi a minnau'n gwybod fydd yn achosi cymaint o niwed i bobl ac i economi'r wlad hon?

Well, my view has always been that any deal should be ratified by the Parliaments—plural—of the UK. If that doesn't happen, the matter would either have to be settled through an election or indeed, possibly, by a referendum on the deal itself. Because, if there's no other way of resolving it, then the people who voted in 2016 have a perfect right to decide what kind of deal they want to approve from 2018 onwards. It seems right that that should happen. But it seems to me that the first port of call is for the Parliaments of the UK to examine any deal and decide whether that deal should be supported or not. If there is then, for example, a general election if that deal is rejected, and that produces an inconclusive result, well, how else can it be resolved other than by a referendum on the deal? I think that becomes inevitable at that stage.

Wel, fy marn i erioed fu y dylai unrhyw gytundeb gael ei gadarnhau gan Seneddau—lluosog—y DU. Os na fydd hynny'n digwydd, byddai'n rhaid penderfynu'r mater naill ai drwy etholiad neu, yn wir, o bosibl, drwy refferendwm ar y cytundeb ei hun. Oherwydd, os nad oes unrhyw ffordd arall o'i ddatrys, yna mae gan y bobl a bleidleisiodd yn 2016 berffaith hawl i benderfynu pa fath o gytundeb y maen nhw eisiau ei gymeradwyo o 2018 ymlaen. Mae'n ymddangos yn briodol y dylai hynny ddigwydd. Ond mae'n ymddangos i mi mai'r peth cyntaf i'w wneud yw i Seneddau'r DU archwilio unrhyw gytundeb a phenderfynu ar ba un a ddylid cefnogi'r cytundeb hwnnw ai peidio. Os bydd wedyn, er enghraifft, etholiad cyffredinol os caiff y cytundeb hwnnw ei wrthod, a bod hwnnw'n arwain at ganlyniad amhendant, wel, sut arall y gellir ei ddatrys heblaw drwy refferendwm ar y cytundeb? Rwy'n credu bod hynny'n dod yn anochel ar yr adeg honno.

Ar ran yr wrthblaid, Paul Davies.

On behalf of the opposition, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. First Minister, what is the Welsh Government doing to support children and young people with learning disabilities?

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?

We have done a great deal, as he will know—for example, the fact that we've helped local authorities in terms of providing services for care for children; the fact, for example, that we've put so much money into child and adolescent mental health services, where so many young people have had benefit from the £8 million extra we've given to CAMHS; and, of course, we have the children's commissioner there, who is able to advise us in terms of what more we might need to do.

Rydym ni wedi gwneud llawer iawn, fel y bydd ef yn gwybod—er enghraifft, y ffaith ein bod ni wedi helpu awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau ar gyfer gofal plant; y ffaith, er enghraifft, ein bod ni wedi cyfrannu cymaint o arian at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, lle mae cymaint o bobl ifanc wedi elwa ar yr £8 miliwn ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i CAMHS; ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r comisiynydd plant yno, sy'n gallu ein cynghori ni o ran beth arall y gallai fod angen i ni ei wneud.

Well, First Minister, you'll be aware of the very worrying report published by the Children's Commissioner for Wales that showed that, on a number of counts, the Welsh Government is failing to deliver the support needed for children and young people with learning disabilities. The report showed that 83 per cent of parents surveyed said they were worried their children were socially isolated, and many highlighted concerns about bullying. First Minister, in light of this damning report, can you tell us what immediate action the Welsh Government will now take to address the concerns highlighted by the children's commissioner and support children and young people with learning disabilities?

Wel, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad sy'n peri pryder mawr a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a ddangosodd, ar sawl cyfrif, bod Llywodraeth Cymru yn methu â darparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu. Roedd yr adroddiad yn dangos bod 83 y cant o rieni a holwyd yn dweud eu bod yn poeni bod eu plant wedi'u hynysu yn gymdeithasol, a tynnodd llawer sylw at bryderon am fwlio. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r adroddiad damniol hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r pryderon a amlygwyd gan y comisiynydd plant a chynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?

13:50

Well, it's hugely important with a report like this that there is a proper response given by Government, and that response will be given, of course, and consideration given to what the children's commissioner has actually said.

Wel, mae'n hynod bwysig gydag adroddiad fel hwn bod ymateb priodol yn cael ei roi gan Lywodraeth, a bydd yr ymateb hwnnw'n cael ei roi, wrth gwrs, ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r hyn y mae'r comisiynydd plant wedi ei ddweud mewn gwirionedd.

First Minister, the Welsh Government has already committed to upholding the rights of children and young people across Wales, and yet we have seen a number of recent reports in recent months where the Welsh Government is failing children and young people. Of course, one way the Welsh Government could better support children and young people and uphold their rights is by supporting my proposed autism Bill, which has indeed the backing of independent bodies such as the National Autistic Society and the Equality and Human Rights Commission and is supported by many in this Chamber. First Minister, will you now therefore commit to supporting the autism Bill, which will actually send a clear message to children and young people across Wales that the Welsh Government will do all that it can to support them? 

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gynnal hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru, ond eto rydym ni wedi gweld nifer o adroddiadau diweddar yn y misoedd diwethaf lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi plant a phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo plant a phobl ifanc yn well a chynnal eu hawliau yw trwy gefnogi fy mil Awtistiaeth arfaethedig, sydd wedi cael cefnogaeth cyrff annibynnol fel y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn wir ac a gefnogir gan lawer yn y Siambr hon. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr felly i gefnogi'r Bil awtistiaeth, a fydd yn anfon neges eglur i blant a phobl ifanc ledled Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cynorthwyo?

We will do all that we can to support parents and, indeed, young people with autism. That does not necessarily mean that it has to be done via a Bill. It's hugely important that resources are made available and we have done that in terms of support. It's also hugely important that we are able to work with organisations to deliver the best package for young people with autism. So, while I'm convinced that a Bill would do it, it's hugely important that we look to see what further resource can be identified in order to help those people who live with the condition every day. 

Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo rhieni ac, yn wir, pobl ifanc ag awtistiaeth. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid ei wneud trwy gyfrwng Bil. Mae'n hynod bwysig bod adnoddau ar gael ac rydym ni wedi gwneud hynny o ran cymorth. Mae hefyd yn hynod bwysig ein bod ni'n gallu gweithio gyda sefydliadau i ddarparu'r pecyn gorau ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth. Felly, er fy mod i'n argyhoeddedig y byddai Bil yn llwyddo i'w wneud, mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n edrych i weld pa adnoddau ychwanegol y gellir eu nodi er mwyn helpu'r bobl hynny sy'n byw gyda'r cyflwr bob dydd.

Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored
Outdoor Leisure Activities

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso gweithgareddau hamdden awyr agored yng Nghymru? OAQ52509

3. Will the First Minister make a statement on how the Welsh Government facilitates outdoor leisure activities in Wales? OAQ52509

We work closely with a number of partners, including Sport Wales and Natural Resources Wales, to provide opportunities for people of all ages to participate in a range of outdoor leisure activities. It is important that we make use of our natural landscape to encourage people to become more active.

Rydym ni'n gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, i gynnig cyfleoedd i bobl o bob oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hamdden yn yr awyr agored. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud defnydd o'n tirwedd naturiol i annog pobl i fod yn fwy egnïol.

I thank the First Minister for that response. A constituent who is a keen off-road cyclist has written to me from Kidwelly to complain that a large area of land near Merthyr Tydfil that is owned by Natural Resources Wales has been leased to a private company and trades under the name of BikePark Wales, as a result of which there's been a restriction on public access to that land. And I looked at BikePark Wales's website this morning, which says:

'Any rider caught tresspassing on the trails without a valid pass will be fined on the spot, this will be enforced by our marshalls.'

A rather dictatorial attitude to take in these circumstances. Can the First Minister tell me what's the policy on public access to Welsh Government owned land for the purpose of cycling and walking, and how this new policy of privatisation might affect the active Wales initiative by banning local people from free and unrestricted access?

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae etholwr sy'n feiciwr oddi ar y ffordd brwd wedi ysgrifennu ataf i o Gydweli i gwyno bod darn mawr o dir ger Merthyr Tudful sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei brydlesu i gwmni preifat ac yn masnachu o dan yr enw BikePark Wales, ac o ganlyniad i hynny bu cyfyngiad ar fynediad cyhoeddus i'r tir hwnnw. Ac edrychais ar wefan BikePark Wales y bore yma, sy'n dweud:

Bydd unrhyw dresmasiad ar y llwybrau heb drwydded ddilys yn destun dirwy yn y fan a'r lle, a bydd hyn yn cael ei orfodi gan ein swyddogion.

Agwedd braidd yn unbenaethol i'w mabwysiadu o dan yr amgylchiadau hyn. A all y Prif Weinidog ddweud wrthyf beth yw'r polisi ar fynediad cyhoeddus i dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru at ddibenion cerdded a beicio, a sut y gallai'r polisi newydd hwn o breifateiddio effeithio ar fenter Cymru egnïol trwy wahardd pobl leol rhag cael mynediad rhydd ac anghyfyngedig?

Well, I'm not aware of the area of land he's talking about, but, certainly, I cannot see any legal way in which people can have money extorted from them simply because they're standing on a piece of land. I can't see any way where that can be enforced in any lawful way. But, if the Member writes to me with more details, I will, of course, be pleased to look at this in more detail.

Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r darn o dir y mae'n sôn amdano, ond, yn sicr, ni allaf weld unrhyw ffordd gyfreithiol y gall pobl gael arian wedi ei wasgu oddi wrthynt dim ond am eu bod yn sefyll ar ddarn o dir. Ni allaf weld unrhyw ffordd lle y gellir gorfodi hynny mewn unrhyw ffordd gyfreithlon. Ond, os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddaf, wrth gwrs, yn falch o edrych ar hyn yn fanylach.

First Minister, at the same time that Santander's sponsored community bike scheme has finally come to life—I'm really pleased about that—and there are more and more cycle tracks becoming apparent in Swansea, the local authority plan to dig up much-loved and well-used tennis courts in Mumbles and replace them with a temporary car park. At least the Swansea council did listen to residents' complaints about this and have withdrawn their plans for now. At a time when we're trying to get people out of their cars and we have the active travel agenda, as we've just heard, and we want people visiting Wales and some of our most important tourism spots, I think this was a bit of a strange and muddled plan from Swansea council. So, do you agree that, at a time when the city region is bringing councils together to think big picture about the regeneration of the area, they should be looking at active travel in exactly the same way and avoiding short-sighted decisions like this, which actually reduce the opportunities for people to take part in activity?

Prif Weinidog, ar yr un pryd ag y mae cynllun beiciau cymunedol noddedig Santander wedi bywiogi o'r diwedd—rwy'n falch iawn am hynny—a bod mwy a mwy o lwybrau beicio yn dod i'r amlwg yn Abertawe, mae'r awdurdod lleol yn bwriadu tyrchu'r cyrtiau tenis y mae pobl yn hoff iawn ohonynt ac sy'n cael llawer o ddefnydd yn y Mwmbwls, a'u disodli gyda maes parcio dros dro. Gwrandawodd cyngor Abertawe ar gwynion trigolion am hyn o leiaf, ac maen nhw wedi tynnu eu cynlluniau yn ôl am y tro. Ar adeg pan ein bod ni'n ceisio cael pobl allan o'u ceir a bod gennym ni'r agenda teithio llesol, fel yr ydym ni newydd ei glywed, a'n bod ni eisiau pobl i ymweld â Chymru a rhai o'n mannau twristiaeth pwysicaf, rwy'n credu bod hwn yn dipyn o gynllun rhyfedd a dryslyd gan gyngor Abertawe. Felly, a ydych chi'n cytuno, ar adeg pan fo'r ddinas-ranbarth yn dod â chynghorau at ei gilydd i ystyried y darlun mawr o ran adfywio'r ardal, y dylen nhw fod yn ystyried teithio llesol yn union yr un ffordd ac osgoi penderfyniadau annoeth fel hyn, sydd mewn gwirionedd yn lleihau'r cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau egnïol?

Well, that will be a matter for Swansea council, but we do expect, of course, local authorities to comply with the Active Travel (Wales) Act 2013 and to look for opportunities to ensure more people are able to cycle and cycle safely. I'm not familiar with the particular planning issue that the Member talks about, but I can assure her that it's the view of the Government that we want to see more opportunities arise for cycling and walking in the future.

Wel, mater i gyngor Abertawe fydd hynny, ond rydym ni'n disgwyl, wrth gwrs, i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac i chwilio am gyfleoedd i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu beicio a beicio'n ddiogel. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r mater cynllunio penodol y mae'r Aelod yn sôn amdano, ond gallaf ei sicrhau mai barn y Llywodraeth yw ein bod ni eisiau gweld mwy o gyfleoedd yn ymddangos i feicio a cherdded yn y dyfodol.

And tennis. I beg your pardon.

A thenis. Mae'n ddrwg gen i.

Cymhwystra i Bleidleisio
Eligibility to Vote

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymhwystra i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru? OAQ52479

4. Will the First Minister make a statement on eligibility to vote in Welsh elections? OAQ52479

Yes. To be eligible to vote in Welsh elections you need to be registered and 18 years of age or over on polling day. I do intend, however, to support the bid to extend the franchise to include 16 and 17-year-olds.  

Gwnaf. I fod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Cymru mae angen i chi fod yn gofrestredig ac yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio. Rwyf yn bwriadu, fodd bynnag, cefnogi cais i ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl 16 a 17 mlwydd oed.

Thank you, First Minister. I've been contacted by a former constituent who's written to me to say that he feels disenfranchised at not being able to vote in Welsh elections. He was born in Wales and raised locally and has extensive family in mid Wales. He moved from mid Wales to Shropshire, where his job took him, and then went to work abroad. Contacting the election office in Powys, they've advised him that, as an overseas resident, he can only register to vote where he last lived. So, as a Welsh national, he is able to vote in a UK general election, but he can't vote in a Welsh general election. So, this does seem to me to be an anomaly. Can I ask if you are aware of this issue? If you are, has the Welsh Government made and could the Welsh Government make representation to the Electoral Commission?

Diolch, Prif Weinidog. Mae cyn-etholwr wedi cysylltu â mi sydd wedi ysgrifennu ataf i ddweud ei fod yn teimlo wedi'i ddifreinio o fethu â gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru. Fe'i ganwyd yng Nghymru a chafodd ei fagu'n lleol ac mae ganddo deulu helaeth yn y canolbarth. Symudodd o ganolbarth Cymru i Sir Amwythig, lle'r aeth ei swydd ag ef, ac yna aeth i weithio dramor. O gysylltu â'r swyddfa etholiadau ym Mhowys, maen nhw wedi ei gynghori, fel preswylydd tramor, mai dim ond yn y man lle'r oedd yn byw ddiwethaf y caiff gofrestru i bleidleisio. Felly, fel dinesydd Cymru, mae'n cael pleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU, ond ni chaiff bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru. Felly, mae'n ymddangos i mi bod hwn yn anghyson. A gaf i ofyn pa un a ydych chi'n ymwybodol o'r mater hwn? Os ydych chi, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud ac a allai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Etholiadol?

13:55

I think that's very difficult. There are two ways in which you can establish someone's right to vote. One is residence, obviously; the other is citizenship. We don't have Welsh citizenship. There are some in the Chamber, I know, who would seek to promote that, but, in the absence of Welsh citizenship, residence is the only way of doing it. The question then is: how far back do you go? What if someone lives in Wales for a week or two? Does that mean they're eligible? I think there are lots of difficulties there that would need to be resolved in order for a change in the law to be workable.

Rwy'n credu bod hynny'n anodd iawn. Mae dwy ffordd y gallwch chi ddarganfod hawl rhywun i bleidleisio. Preswyliad yw un, wrth gwrs; a dinasyddiaeth yw'r llall. Nid oes gennym ni ddinasyddiaeth Gymreig. Mae rhai yn y Siambr, mi wn, a fyddai'n ceisio hyrwyddo hynny, ond, yn absenoldeb dinasyddiaeth Gymreig, preswyliad yw'r unig ffordd o'i wneud. Y cwestiwn wedyn yw: pa mor bell yn ôl ydych chi'n mynd? Beth os bydd rhywun yn byw yng Nghymru am wythnos neu ddwy? A yw hynny'n golygu ei fod yn gymwys? Rwy'n credu bod llawer o anawsterau yn y fan yna y byddai angen eu datrys er mwyn i newid i'r gyfraith fod yn ymarferol.

First Minister, would you agree with the expert panel on Assembly electoral reform that a reduction in the minimum voting age to 16 would be a powerful way to raise political awareness and participation among young people?

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â'r panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad y byddai gostwng yr isafswm oed pleidleisio i 16 yn ffordd rymus o godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad gwleidyddol ymhlith pobl ifanc?

Yes, I would. I have to say, we have seen one electoral event in the UK, namely the Scottish referendum, where 16 and 17-year-olds were allowed to vote. That precedent having been established, I fail to see why that can't operate in the future for all of them—for elections and referenda. It seemed to work very well in Scotland; the turnout seemed to be very good amongst those who were 16 and 17 years old, showing that they were engaged, one side or the other, in the issues in 2014. That's why I'm supportive of lowering the voting age to 16.

Byddwn. Mae'n rhaid imi ddweud, rydym ni wedi gweld un digwyddiad etholiadol yn y DU, sef refferendwm yr Alban, pryd y caniatawyd i bobl 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio. Ar ôl sefydlu'r cynsail hwnnw, ni welaf pam na all hynny weithredu yn y dyfodol ar gyfer pob un ohonyn nhw—ar gyfer etholiadau a refferenda. Ymddengys iddo weithio'n dda iawn yn yr Alban; roedd y nifer a bleidleisiodd yn ymddangos yn uchel iawn ymhlith y rhai a oedd yn 16 a 17 mlwydd oed, sy'n dangos eu bod yn cymryd rhan, ar y naill ochr neu'r llall, yn y materion yn 2014. Dyna pam yr wyf i'n cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16.

Datblygiadau Llain Las
Green-belt Developments

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiadau llain las yng Nghanol De Cymru? OAQ52496

5. Will the First Minister make a statement on green-belt developments in South Wales Central? OAQ52496

Yes. The local planning authorities within the South Wales Central region haven't designated green belts in their respective local development plans.

Gwnaf. Nid yw'r awdurdodau cynllunio lleol yn rhanbarth Canol De Cymru wedi dynodi lleiniau glas yn eu cynlluniau datblygu lleol priodol.

Yes, thanks for that answer. We've had recent press reports that the leader of Cardiff council, Huw Thomas, wants to merge with the Vale of Glamorgan Council, principally so Cardiff can build more houses on land in the Vale. We've already had housing developments infringing on the green belt and we're losing prime agricultural land due to this. Do you agree, First Minister, that Cardiff council's bid to turn the Vale into a building site is not the way forward?

Ie, diolch am yr ateb yna. Rydym ni wedi cael adroddiadau diweddar yn y wasg bod arweinydd cyngor Caerdydd, Huw Thomas, eisiau uno â Chyngor Bro Morgannwg, yn bennaf fel y gall Caerdydd adeiladu mwy o dai ar dir yn y Fro. Rydym ni eisoes wedi cael datblygiadau tai yn tresmasu ar y llain las ac rydym ni'n colli tir amaethyddol o ansawdd da oherwydd hyn. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, nad cais cyngor Caerdydd i droi'r Fro yn safle adeiladu yw'r ffordd ymlaen?

I'm sure he hasn't said that. I find it difficult that the Vale of Glamorgan Council would acquiesce to a merger along those lines. I don't think that Councillor Huw Thomas has approached the Vale of Glamorgan and said, 'Merge with us so that we can build on your land.' It strikes me that's not the best example of diplomacy in those circumstances.

There is a duty on all local authorities to maintain an LDP, of course, and it's good to see now that progress is being made in terms of the development of a strategic development plan as well to better manage the undoubted demand there is for housing.

Rwy'n siŵr nad yw wedi dweud hynny. Rwy'n ei chael hi'n anodd credu y byddai Cyngor Bro Morgannwg yn cytuno i uno ar y sail honno. Nid wyf i'n credu bod y Cynghorydd Huw Thomas wedi cysylltu â Bro Morgannwg a dweud, 'Unwch â ni fel y gallwn ni adeiladu ar eich tir.' Mae'n ymddangos i mi nad dyna'r enghraifft orau o ddiplomyddiaeth yn yr amgylchiadau hynny.

Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol i gynnal CDLl, wrth gwrs, ac mae'n dda gweld nawr bod cynnydd yn cael ei wneud o ran datblygu cynllun datblygu strategol hefyd i reoli yn well y galw diamau sy'n bodoli am dai.

First Minister, access to green spaces is really important today. Ninety-six per cent of Copenhageners live within a 15-minute walk of a sizeable green or blue area, and work is indeed under way to even improve those access rates. The city has biodiversity volunteers who play a vital role in nurturing the city's green areas and the city has planted more than 3,600 trees, many of them adopted by local people and companies or institutions. Do you agree with me that access to really pleasant green areas can be inside the city as well as just surrounding it?

Prif Weinidog, mae mynediad at fannau gwyrdd yn bwysig iawn yn yr oes sydd ohoni. Mae naw deg chwech y cant o drigolion Copenhagen yn byw o fewn taith gerdded 15 munud o ardal werdd neu las sylweddol, ac mae gwaith ar y gweill yn wir i wella'r cyfraddau mynediad hynny hyd yn oed. Mae gan y ddinas wirfoddolwyr bioamrywiaeth sy'n chwarae rhan hanfodol o ran meithrin ardaloedd gwyrdd y ddinas ac mae'r ddinas wedi plannu mwy na 3,600 o goed, llawer ohonynt wedi eu mabwysiadu gan bobl leol a chwmnïau neu sefydliadau. A ydych chi'n cytuno â mi y gall mynediad at ardaloedd gwyrdd dymunol iawn fod y tu mewn i'r ddinas yn ogystal â dim ond o'i chwmpas?

Absolutely. We're looking at the idea of green corridors to see how they can be developed in the future. We know that Cardiff, for example, is reasonably well blessed with parks, and the last thing we would want to see, for example, as the city grows, is to see developments without access to green spaces, without access to cycle paths, without access to a rural environment. That's hugely important in terms of well-being, for example. We know that the way people perceive their environment has a direct effect on their health and well-being and that means it's hugely important not just to plan on the basis of, 'Let's build houses over there', but more, 'Let's create communities that are sustainable, which are easy to travel in and out of, and have access to green areas.'

Yn sicr. Rydym ni'n ystyried y syniad o goridorau gwyrdd i weld sut y gellir eu datblygu yn y dyfodol. Rydym ni'n gwybod bod Caerdydd, er enghraifft, wedi ei bendithio'n weddol dda gyda pharciau, a'r peth olaf y byddem ni eisiau ei weld, er enghraifft, wrth i'r ddinas dyfu, yw gweld datblygiadau heb fynediad at fannau gwyrdd, heb fynediad at lwybrau beicio, heb fynediad at amgylchedd gwledig. Mae hynny'n hynod bwysig o ran llesiant, er enghraifft. Rydym ni'n gwybod bod y ffordd y mae pobl yn gweld eu hamgylchedd yn cael effaith uniongyrchol ar eu hiechyd a'u llesiant ac mae hynny'n golygu ei bod hi'n hynod bwysig nid yn unig i gynllunio ar y sail o, 'Beth am i ni adeiladu tai yn y fan yna', ond mwy o, 'Beth am i ni greu cymunedau sy'n gynaliadwy, y mae'n hawdd teithio i mewn ac allan ohonynt, a chael mynediad at ardaloedd gwyrdd.'

First Minister, in 2012, you denied announcing to the South Wales Echo that the green fields around Cardiff would not be built on as part of Labour's so-called local development plan. Your Labour colleagues stood in the green fields, and I quote, for the record, 'Labour does not want to build in Waterhall fields or on any green spaces.'

Those fields are now being built on, and the beautiful countryside around Danescourt will also be built on unless we can stop it. People in Cardiff were misled. Do you now accept that those green fields are being built on, and that it's happening because Labour gave these massive housing corporations the permission to do it? 

Prif Weinidog, yn 2012, fe wnaethoch chi wadu cyhoeddi i'r South Wales Echo na fyddai adeiladu ar y caeau gwyrdd o amgylch Caerdydd yn rhan o gynllun datblygu lleol honedig y Blaid Lafur. Safodd eich cyd-Aelodau Llafur yn y caeau gwyrdd, a dyfynnaf, ar gyfer y cofnod, 'Nid yw Llafur eisiau adeiladu yn nghaeau Waterhall nac ar unrhyw fannau gwyrdd.'

Mae adeiladu yn digwydd ar y caeau hynny erbyn hyn, a bydd adeiladu ar y cefn gwlad hardd o amgylch Danescourt hefyd oni bai ein bod yn gallu ei atal. Cafodd pobl yng Nghaerdydd eu camarwain. A ydych chi'n derbyn nawr bod adeiladu ar y caeau gwyrdd hynny, a'i fod yn digwydd gan fod y Blaid Lafur wedi rhoi'r caniatâd i'r corfforaethau tai enfawr hyn wneud hynny?

14:00

His position has always been quite curious. I don't think I've ever announced anything to the Echo at any point in time. Secondly, I am not, nor have I ever been, the leader of Cardiff city council, and in 2012 I was not the planning Minister, so I could not anyway give any kind of permission for development in Cardiff or anywhere else in Wales. That's self-evident. But it is important that local authorities, of course, are able to manage the demand. The reality is that lots of people want to live in Cardiff. It's hugely important that the city is able to manage that demand, but also, of course, to work with authorities around Cardiff in order to manage them so that people can live elsewhere as well. The idea that a local authority should only plan for people who live and work in their own area is clearly ridiculous, because that's not the way it works in terms of the economy and nor should it work in terms of the planning system, which is why strategic development plans are important. 

Mae ei safbwynt wedi bod braidd yn rhyfedd erioed. Nid wyf i'n credu fy mod i erioed wedi' cyhoeddi unrhyw beth i'r Echo ar unrhyw adeg mewn amser. Yn ail, nid wyf i, nac ychwaith erioed wedi bod, yn arweinydd cyngor dinas Caerdydd, ac nid fi oedd y Gweinidog cynllunio yn 2012, felly ni allwn roi unrhyw fath o ganiatâd ar gyfer datblygiad yng Nghaerdydd nac mewn unrhyw le arall yng Nghymru beth bynnag. Mae hynny'n amlwg ynddo'i hun. Ond mae'n bwysig bod awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn gallu rheoli'r galw. Y gwir amdani yw bod llawer o bobl eisiau byw yng Nghaerdydd. Mae'n bwysig dros ben bod y ddinas yn gallu rheoli'r galw hwnnw, ond hefyd, wrth gwrs, gweithio gydag awdurdodau o amgylch Caerdydd er mwyn eu rheoli nhw fel y gall pobl fyw mewn mannau eraill hefyd. Mae'r syniad y dylai awdurdod lleol gynllunio ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yn eu hardal eu hunain yn unig yn amlwg yn hurt, oherwydd nid dyna'r ffordd y mae'n gweithio o ran yr economi ac ni ddylai weithio felly o ran y system gynllunio, a dyna pam mae cynlluniau datblygu strategol yn bwysig.

Dioddefwyr Asthma
Asthma Sufferers

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr asthma? OAQ52484

6. What action is the Welsh Government taking to improve services for asthma sufferers? OAQ52484

An updated respiratory health delivery plan for Wales was published in January. It sets out the approach to tackling respiratory disease over the next 12 months. Investment in respiratory care in Wales has increased from £338 million in 2009-10 to £432 million in 2016-17.

Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ar iechyd anadlol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Cymru ym mis Ionawr. Mae'n nodi'r dull o fynd i'r afael â chlefyd anadlol dros y flwyddyn nesaf. Mae buddsoddiad mewn gofal anadlol yng Nghymru wedi cynyddu o £338 miliwn yn 2009-10 i £432 miliwn yn 2016-17.

Thank you very much for the reply, First Minister. The provision of a basic level of asthma care, as set out in the clinical guidelines, contributes to keeping sufferers out of hospital and, ultimately, to saving lives. According to Asthma UK, Wales is the worst place in the United Kingdom to be an asthma sufferer, with just over a quarter of people receiving every element of basic care, compared to over a third in England, and nearly half in Northern Ireland. What action will your Government take to improve services for asthma sufferers so that more people in Wales receive every element of basic care?  

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'r ddarpariaeth o lefel sylfaenol o ofal asthma, fel y nodir yn y canllawiau clinigol, yn cyfrannu at gadw dioddefwyr allan o'r ysbyty ac, yn y pen draw, at achub bywydau. Yn ôl Asthma UK, Cymru yw'r lle gwaethaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn ddioddefwr asthma, gydag ychydig dros chwarter y bobl yn derbyn pob elfen o ofal sylfaenol, o'i gymharu â dros draean yn Lloegr, a bron i hanner yng Ngogledd Iwerddon. Pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i wella gwasanaethau i ddioddefwyr asthma fel bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael pob elfen o ofal sylfaenol?

The national respiratory implementation group does obviously recognise the significance of asthma as an illness. It has put in place a national work stream and appointed a lead clinician for Wales to co-ordinate health board activity. It's hugely important that patients receive a comprehensive asthma review; that is a priority for us. We are also looking to develop all-Wales prescribing guidelines, paediatric asthma guidance and the establishment of a difficult asthma group for the management of more complex cases. There's also a broader focus on the national review into asthma deaths and measurement of standards through the national asthma and chronic obstructive pulmonary diseases audit programme.  

Mae'r grŵp gweithredu anadlol cenedlaethol yn amlwg yn cydnabod arwyddocâd asthma fel salwch. Mae wedi sefydlu ffrwd gwaith cenedlaethol ac wedi penodi clinigydd arweiniol ar gyfer Cymru i gydgysylltu gweithgarwch byrddau iechyd. Mae'n hynod bwysig bod cleifion yn cael adolygiad asthma cynhwysfawr; mae hynny'n flaenoriaeth i ni. Rydym ni hefyd yn bwriadu datblygu canllawiau rhagnodi Cymru gyfan, canllawiau asthma pediatrig a sefydlu grŵp asthma anodd ar gyfer rheoli achosion mwy cymhleth. Ceir pwyslais ehangach hefyd ar yr adolygiad cenedlaethol o farwolaethau oherwydd asthma a mesur safonau drwy'r rhaglen genedlaethol ar gyfer archwilio asthma ac afiechydon ysgyfeiniol rhwystrol cronig .

Plant ag Epilepsi
Children with Epilepsy

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i blant ag epilepsi? OAQ52488

7. What support does the Welsh Government provide for children with epilepsy? OAQ52488

The neurological conditions delivery plan for Wales sets out our expectations for the future delivery of safe, sustainable and high-quality care for people who have neurological conditions. That includes, of course, supporting children and young people with neurological conditions such as epilepsy.

Mae cynllun cyflawni ar gyflyrau niwrolegol Cymru yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer darparu gofal diogel, cynaliadwy ac o ansawdd 7 uchel i bobl sydd â chyflyrau niwrolegol. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, cynorthwyo plant a phobl ifanc â chyflyrau niwrolegol fel epilepsi.

Last week, I hosted and chaired the Epilepsy Wales annual Epilepsy Aware event in the Assembly, and we heard that people with complex epilepsy were not able to access treatment, including the keto diet, although recommended as a first-line treatment by the National Institute for Health and Care Excellence. This included children with epilepsy after unsuccessfully trying two first-line drugs, which is also recommended by NICE—children who have a GLUT1 diagnosis. How do you therefore respond to their call for provision within Wales of the necessary treatments and levels of care as outlined in the NICE guidelines, a ketogenic team, and accepting the offer from the Daisy Garland foundation to fund a dietician in Wales for a year with immediate effect, alongside similar proposals in a list of ideas that would, finally, if delivered in Wales, meet the needs of these people and, as they say, impact positively on the finances of the NHS?      

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais a chadeiriais y digwyddiad blynyddol Codi Ymwybyddiaeth o Epilepsi Epilepsi Cymru yn y Cynulliad, a chlywsom nad oedd pobl ag epilepsi cymhleth yn gallu cael gafael ar driniaeth, gan gynnwys deiet keto, er ei fod yn cael ei argymell fel triniaeth llinell gyntaf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Roedd hyn yn cynnwys plant ag epilepsi ar ôl rhoi cynnig aflwyddiannus ar ddau gyffur llinell gyntaf, a argymhellir gan NICE hefyd—plant sydd wedi cael diagnosis GLUT1. Sut ydych chi'n ymateb felly i'w galwad am ddarpariaeth yng Nghymru o'r triniaethau a'r lefelau gofal angenrheidiol fel yr amlinellir yn y canllawiau NICE, tîm ketogenic, a derbyn y cynnig gan sefydliad Daisy Garland i ariannu deietegydd yng Nghymru am flwyddyn i ddechrau ar unwaith, ochr yn ochr â chynigion tebyg yn y rhestr o syniadau a fyddai, yn y pen draw, pe byddent yn cael eu darparu yng Nghymru, yn diwallu anghenion y bobl hyn ac, fel maen nhw'n dweud, yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid y GIG?

The Member is quite correct to say that, currently, services for patients in south Wales who require access to support for a ketogenic diet are provided in Bristol. That is correct. The service can be accessed through an individual patient funding request. I can say to the Member that officials do know of discussions between Cardiff and Vale university health board and the Welsh Health Specialised Services Committee about the possibility of those services now being provided more locally. So, those issues are ongoing as far as south Wales is concerned, and I look forward to a positive outcome of those discussions to see whether we can actually provide the service closer to south Wales at this moment in time than is presently the case.

Mae'r Aelod yn gwbl gywir i ddweud, ar hyn o bryd, bod gwasanaethau ar gyfer cleifion yn ne Cymru sydd angen mynediad at gymorth ar gyfer deiet ketogenic yn cael eu darparu ym Mryste. Mae hynny'n wir. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth trwy gais am gyllid ar gyfer cleifion unigol. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod swyddogion yn gwybod am drafodaethau rhwng bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y posibilrwydd o ddarparu'r gwasanaethau hynny yn fwy lleol bellach. Felly, mae'r materion hynny yn parhau cyn belled ag y mae de Cymru yn y cwestiwn, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol o'r trafodaethau hynny i weld pa un a allwn ni ddarparu'r gwasanaeth yn nes at dde Cymru ar yr adeg hon na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.

14:05

First Minister, I appreciate the treatments that we have talked about, but one of the big problems is actually taking a child who has a severe seizure to the hospital in the first place. I've got constituents who have phoned for ambulances and, in fact, family who lived over half an hour away got there before the ambulance got there. A lone parent cannot take a child to the hospital with their child having a seizure in the back of the car; it's dangerous. They need the response from the ambulance quickly because the child sometimes stops breathing as a consequence of this. Will you ask your health Secretary to look at the discussions with the ambulance service to ensure that, for these children, they can get responses quickly so a parent doesn't have to see a child suffer whilst they're waiting for an ambulance?

Prif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r triniaethau yr ydym ni wedi sôn amdanynt, ond un o'r problemau mawr mewn gwirionedd yw mynd â phlentyn sy'n cael ffit difrifol i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Mae gen i etholwyr sydd wedi ffonio am ambiwlansys ac, yn wir, cyrhaeddodd aelodau o'r teulu a oedd yn byw dros hanner awr i ffwrdd cyn i'r ambiwlans gyrraedd yno. Ni all rhiant sengl fynd â phlentyn i'r ysbyty gyda'i blentyn yn cael ffit yng nghefn y car; mae'n beryglus. Maen nhw angen yr ymateb gan yr ambiwlans yn gyflym gan fod y plentyn weithiau'n peidio ag anadlu o ganlyniad i hyn. A wnewch chi ofyn i'ch Ysgrifennydd iechyd edrych ar y trafodaethau gyda'r gwasanaeth ambiwlans i sicrhau, ar gyfer y plant hyn, eu bod yn gallu cael ymatebion yn gyflym fel nad oes rhaid i riant weld plentyn yn dioddef tra ei fod yn aros am ambiwlans?

The Member will be aware, of course, of the assessment system to determine the clinical priority of a patient. The type of response sent to a child who has experienced a seizure will depend on the information provided by the person who's dialled 999, but I can say in response to his particular concern that the chief ambulance services commissioner is currently overseeing a review of the amber category, which will make recommendations for improvement in the autumn, and it'll be important that this issue that he has raised is part of the examination that's taking place at the moment.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r system asesu i bennu blaenoriaeth glinigol claf. Bydd y math o ymateb a anfonir i blentyn sydd wedi dioddef ffit yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd gan y person sydd wedi deialu 999, ond gallaf ddweud mewn ymateb i'w bryder penodol bod y prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans yn goruchwylio adolygiad o'r categori ambr ar hyn o bryd, a fydd yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn yr hydref, ac mae'n bwysig bod y mater hwn y mae wedi ei godi yn rhan o archwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

First Minister, whilst Mark Isherwood and I might not see eye to eye on many political issues, we have worked closely together on the question of medicinal cannabis with the MS Society. So, I wonder whether I can ask whether an assessment has been undertaken of how many children in Wales have severe epilepsy but could also benefit from the availability of cannabis oil like Billy Caldwell. And will you also see that preparations are made to ensure that the NHS in Wales is prepared to meet the demand for medicinal cannabis and prepared to prescribe it to patients if and when restrictions are relaxed by the UK Government?

Prif Weinidog, er efallai nad yw Mark Isherwood a minnau yn cydweld ar lawer o faterion gwleidyddol, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'n gilydd ar y cwestiwn o ganabis meddyginiaethol gyda'r Gymdeithas MS. Felly, tybed a gaf i ofyn a oes asesiad wedi ei gynnal o faint o blant yng Nghymru sydd ag epilepsi difrifol, ond a allai elwa hefyd ar gael olew canabis ar gael fel Billy Caldwell. Ac a wnewch chi hefyd sicrhau bod paratoadau yn cael eu gwneud i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn fodlon ymateb i'r galw am ganabis meddyginiaethol ac yn fodlon ei ragnodi i gleifion os a phryd y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio gan Lywodraeth y DU?

It's difficult to provide a figure because it depends on the individual, of course, but she does ask an important question. This is tied up, as she will know, in the Misuse of Drugs Act 1971, which is not devolved, either in Wales or in Scotland. So, there are issues there that surround the ability of practitioners to prescribe drugs that are caught up in that Act. We know that cannabis derivatives can play a role in treating some medical conditions. That's why Sativex, of course, is available in Wales. I can say that, on 18 June, the Home Office Minister Nick Hurd, assuming he is still the Home Office Minister, announced plans to establish an expert clinicians panel, led by the UK chief medical officer, to advise Ministers on any applications to prescribe cannabis-based medicines. That panel will consider the merits of each individual case and make a clinical assessment of an exceptional and unmet clinical need. Now, what is not clear to us at the moment is how that will affect us in terms of prescribing. However, the chief pharmaceutical officer, Andrew Evans, is a non-voting member of the panel. So, even though we're talking about a devolved area, because the misuse of drugs isn't a devolved area, we need to make sure that restrictions are removed from London in order for us to be able to prescribe here in Wales. But I do hope that there is a proper examination of the possibilities of cannabis oil and what it might deliver for the welfare of some patients.

Mae'n anodd rhoi ffigur oherwydd mae'n dibynnu ar yr unigolyn, wrth gwrs, ond mae hi'n gofyn cwestiwn pwysig. Mae hyn yn gysylltiedig, fel y bydd hi'n gwybod, â Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, nad yw wedi ei datganoli, yng Nghymru nac yn yr Alban. Felly, mae materion yn y fan yna ynghylch gallu ymarferwyr i ragnodi cyffuriau sydd wedi eu cynnwys o dan y Ddeddf honno. Rydym ni'n gwybod y gall deilliadau canabis chwarae rhan wrth drin rhai cyflyrau meddygol. Dyna pam mae Sativex, wrth gwrs, ar gael yng Nghymru. Gallaf ddweud, ar 18 Mehefin, bod Gweinidog y Swyddfa Gartref Nick Hurd, gan dybio mai ef yw Gweinidog y Swyddfa Gartref o hyd, wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu panel clinigwyr arbenigol, dan arweiniad prif swyddog meddygol y DU, i gynghori Gweinidogion ar unrhyw geisiadau i ragnodi meddyginiaethau seiliedig ar ganabis. Bydd y panel hwnnw'n ystyried rhinweddau pob achos unigol ac yn gwneud asesiad clinigol o angen clinigol eithriadol ac nas ddiwallwyd. Nawr, yr hyn nad yw'n eglur i ni ar hyn o bryd yw sut y bydd hynny'n effeithio arnom ni o ran rhagnodi. Fodd bynnag, mae'r prif swyddog fferyllol, Andrew Evans, yn aelod heb bleidlais o'r panel. Felly, er ein bod ni'n sôn am faes datganoledig, oherwydd nid yw camddefnyddio cyffuriau yn faes datganoledig, mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfyngiadau yn cael eu diddymu o Lundain fel y gallwn ni ragnodi yma yng Nghymru. Ond rwy'n gobeithio y bydd archwiliad priodol o bosibiliadau olew canabis a'r hyn y gallai ei ddarparu ar gyfer lles rhai cleifion.

Prosiectau Treftadaeth
Heritage Projects

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prosiectau treftadaeth ar Ynys Môn? OAQ52516

8. What is the Welsh Government doing to support heritage projects on Ynys Môn? OAQ52516

Mae’r Llywodraeth yn ariannu cyfres o brosiectau treftadaeth ar Ynys Môn. Mae’r rheini’n amrywio o brosiectau cymunedol sy’n cynnwys nifer o wirfoddolwyr lleol, fel y rhai yn Niwbwrch a Bryn Celli Ddu, i fuddsoddiadau mawr fel gwella gwasanaethau i ymwelwyr yng nghastell Biwmares.

The Government funds an array of heritage projects on Ynys Mȏn. These range from community projects involving a number of local volunteers such as those at Newborough and Bryn Celli Ddu, through to major-scale investments such as improving visitor services at Beaumaris castle.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni, fel pob etholaeth, rwy’n gwybod, yn falch iawn o’n treftadaeth. Mae yna nifer o gynlluniau cyffrous ar y gweill ar hyn o bryd i ailagor Tŵr Marcwis, er enghraifft, yn Llanfairpwllgwyngyll, ac i ailagor llinell drên Amlwch. Mae yna sawl cynllun eisoes yn gweithredu i ddathlu ein treftadaeth ddiwydiannol a thrafnidiaeth—rwy’n meddwl am y Deyrnas Gopr yn Amlwch a pharc y Morglawdd yng Nghaergybi. Ond, un cynllun pwysig iawn arall, ac un sydd angen help Llywodraeth Cymru, ydy hwnnw i agor amgueddfa yn dweud hanes y pontydd ym Mhier y Tywysog ym Mhorthaethwy. Wel, mi oedd yna ergyd i’r cynllun hwnnw yn ddiweddar pan glywodd yr ymddiriedolaeth nad oedden nhw’n gymwys am arian o raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol. Rwy’n gobeithio y byddwch chi fel Prif Weinidog yn cytuno â fi bod hwn yn amser da iawn i edrych ar fuddsoddi mewn amgueddfa o’r fath, o ystyried y camau sy’n cael eu cymryd tuag at ddeuoli Pont Britannia, ac mi fyddwn i’n ddiolchgar iawn am air o gefnogaeth gennych chi fel Prif Weinidog y gallwch chi, mewn cydweithrediad â'r Gweinidog dros dreftadaeth, edrych ar bob modd posib arall o fuddsoddi yn y cynllun hwn, a fyddai'n goron, yn wir, yn natblygiad diweddar tref Porthaethwy.

Thank you very much. We, like every other constituency, are very proud of our heritage, and there are a number of exciting plans afoot at the moment to reopen Marquess of Anglesey's Column in Llanfairpwllgwyngyll and to reopen the Amlwch train line. There are a number of proposals already in operation to celebrate our industrial and transport heritage—I'm thinking about the Copper Kingdom in Amlwch and the Breakwater park in Holyhead. But another important proposal, and one that needs the help of the Welsh Government, is to open the museum telling the story of the bridges in Menai Bridge. Now, there was a blow to that particular programme recently when the trust heard that they wouldn't qualify for funding for the Building for the Future programme. I hope that you as First Minister would agree with me that this is a very good time to look at investing in such a museum, given the steps that have been taken towards dualling the Britannia bridge, and I would be grateful for some support from you as First Minister, and that you, in collaboration with the Minister for heritage, can look at every possible alternative means of investing in this project, which would be a crown on the recent development of Menai Bridge.

14:10

Rydym wastad, wrth gwrs, yn edrych i fuddosoddi, pan mae'r arian ar gael, mewn prosiectau treftadaeth sydd yn bwysig. Un enghraifft yw Llys Rhosyr, a'r ffaith ein bod ni'n moyn sicrhau bod pobl yn mynd yna, yn deall treftadaeth yr ardal a hanes yr ardal. Ond, wrth gwrs, byddai unrhyw fath o fìd yn gorfod dod i'r Llywodraeth er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni gefnogi'r bìd yna. 

Of course, we always, when the money is available, wish to invest in important heritage projects, One example, of course, is Llys Rhosyr and the fact that we want people to visit there and understand the heritage and history of the area. But any kind of bid would have to be submitted to the Government to see in which way we could support that bid.

Mark Isherwood. Mark Isherwood. 

Mark Isherwood. Mark Isherwood.

Of course, Ynys Môn/Anglesey is an incredible place and its history goes back a long way. How do you think we can incorporate into the promotion of that island the period when it was the Rome of the juridic world, the fact that it was on the Roman imperial trading route even before Rome conquered this island, its wonderful Arthurian links and its links to the legends of Avalon and Avallach, the fact that it was occupied by the Vikings—half of it was occupied by the Vikings for two centuries, having a massive impact on local culture and dislocation at the time—and much more, aligned to the history we hear much more about as well?

Wrth gwrs, mae Ynys Môn yn lle anhygoel ac mae ei hanes yn mynd yn ôl ymhell iawn. Sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnwys yn neunydd hyrwyddo'r ynys honno y cyfnod pan mai hi oedd Rhufain y byd cyfreithyddol, y ffaith ei bod ar y llwybr masnachu ymerodrol Rhufeinig hyd yn oed cyn i Rufain oresgyn yr ynys hon, ei chysylltiadau Arthuraidd gwych a'i chysylltiadau â chwedlau Afallon ac Afallach, y ffaith iddi gael ei meddiannu gan y Llychlynwyr—meddiannwyd hanner yr ynys gan y Llychlynwyr am ddwy ganrif, gan gael effaith enfawr ar ddiwylliant lleol a dadleoliad ar y pryd—a llawer mwy, yn cyd-fynd â'r hanes yr ydym ni'n clywed llawer mwy amdano hefyd?

If the Member was taken by surprise by that question, he did a sterling job, I must say, of selling Anglesey as a result of what he has said. It's hugely important for us to ensure that people visit all parts of Wales to understand the rich history that we have. I know, for example, if we talk about Llys Rhosyr, which I mentioned earlier on, that the Minister is preparing—or Cadw, rather, is preparing a leaflet at the request of the Minister on the castles and the sites of the lords and princes of Wales, and that will include Llys Rhosyr as well. It's part of our history that I think has been neglected, actually, over the years, because we know that Welsh history was not well taught in schools for many, many years and in some ways, as a nation, we're not well aware of our own history. So, all that we can do to encourage not just our own people but others as well to understand more of our medieval history, I think, is something to be welcomed.

Os cafodd yr Aelod ei synnu gan y cwestiwn yna, fe wnaeth waith rhagorol, mae'n rhaid i mi ddweud, o werthu Ynys Môn o ganlyniad i'r hyn a ddywedodd. Mae'n hynod bwysig i ni sicrhau bod pobl yn ymweld â phob rhan o Gymru i ddeall yr hanes cyfoethog sydd gennym ni. Gwn, er enghraifft, os byddwn ni'n siarad am Lys Rhosyr, y cyfeiriais ato'n gynharach, bod y Gweinidog yn paratoi—neu mae Cadw, yn hytrach, yn paratoi taflen ar gais y Gweinidog ar gestyll a safleoedd arglwyddi a thywysogion Cymru, a bydd hynny'n cynnwys Llys Rhosyr hefyd. Mae'n rhan o'n hanes y credaf sydd wedi ei hesgeuluso, a dweud y gwir, dros y blynyddoedd, oherwydd rydym ni'n gwybod na chafodd hanes Cymru ei addysgu'n dda mewn ysgolion am flynyddoedd maith, ac mewn rhai ffyrdd, fel cenedl, nid ydym ni'n ymwybodol iawn o'n hanes ein hunain. Felly, mae popeth y gallwn ni ei wneud i annog nid yn unig ein hunain ond eraill hefyd i ddeall mwy am ein hanes canoloesol, rwy'n credu, yn rhywbeth i'w groesawu.

Nid yw Lynne Neagle yma i ofyn cwestiwn 9 [OAQ52517], felly cwestiwn 10—Andrew R.T. Davies. 

Lynne Neagle is not here to ask question 9 [OAQ52517], so question 10—Andrew R.T. Davies. 

Prosiectau Seilwaith Trafnidiaeth
Transport Infrastructure Projects

10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru? OAQ52512

10. Will the First Minister make a statement on Welsh Government funding of transport infrastructure projects across Wales? OAQ52512

Yes. The national transport finance plan, last updated in 2017, sets out an ambitious programme of road, rail, bus and active travel improvements.

Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2017, yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau i ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.

Thank you, First Minister. One of the schemes that the Welsh Government, via the Vale of Glamorgan Council, is promoting is the new road from the Miskin junction, as it's known, in the Vale of Glamorgan to Sycamore Cross. Can the First Minister confirm that if this project is to go ahead it will require Welsh Government funded money to be made available for its construction and that that money is within the budget as currently laid out?

Diolch, Prif Weinidog. Un o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hyrwyddo, trwy Gyngor Bro Morgannwg, yw'r ffordd newydd o gyffordd Meisgyn, fel y'i gelwir, ym Mro Morgannwg i Sycamore Cross. A all y Prif Weinidog gadarnhau os bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo y bydd angen i arian gan Lywodraeth Cymru fod ar gael i'w adeiladu a bod yr arian hwnnw o fewn y gyllideb fel y mae wedi ei phennu ar hyn o bryd?

Well, where we are at the moment is that we allocated a £60,000 grant to the council in 2017 to undertake an appraisal for the provision of those improvements. We commissioned Peter Brett Associates to assess the case for change for addressing connectivity issues for strategic employment sites in the Vale. Things are at a very, very early stage at the moment. I understand the council itself has extended the consultation until 17 July. So, any comments, of course, should be directed to the council, but inevitably, if it was to move ahead, it would be a large project, and it's difficult to see how the Vale of Glamorgan could finance such a project itself.

Wel, y sefyllfa ar hyn o bryd yw ein bod ni wedi dyrannu grant o £60,000 i'r cyngor yn 2017 i gynnal gwerthusiad ar gyfer darparu'r gwelliannau hynny. Comisiynwyd Peter Brett Associates gennym i asesu'r achos dros newid ar gyfer mynd i'r afael â materion cysylltedd ar gyfer safleoedd cyflogaeth strategol yn y Fro. Mae pethau ar gam cynnar iawn, iawn ar hyn o bryd. Rwy'n deall bod y Cyngor ei hun wedi ymestyn yr ymgynghoriad hyd at 17 Gorffennaf. Felly dylid cyfeirio unrhyw sylwadau, wrth gwrs, at y Cyngor, ond yn anochel, pe byddai'n symud yn ei flaen, byddai'n brosiect mawr, ac mae'n anodd gweld sut y gallai Bro Morgannwg ariannu prosiect o'r fath ei hun.

Gwasanaethau Mamolaeth
Maternity Services

11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth ar gyfer cleifion yng ngogledd Cymru? OAQ52494

11. Will the First Minister make a statement on maternity services for patients in north Wales? OAQ52494

Yes. Betsi Cadwaladr university health board offers women from the north a full range of maternity services from birth at home or in hospital, including both midwifery and obstetric-led care and specialist facilities, and these services have been supported by the Welsh Government's £18 million investment in the sub-regional neonatal intensive care centre, which became operational last month.

Gwnaf. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig ystod lawn o wasanaethau mamolaeth i fenywod o'r gogledd o enedigaeth yn y cartref neu yn yr ysbyty, gan gynnwys gofal a arweinir gan fydwreigiaeth ac obstetreg a chyfleusterau arbenigol, a chefnogwyd y gwasanaethau hyn gan fuddsoddiad £18 miliwn Llywodraeth Cymru yn y ganolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol, a ddaeth yn weithredol fis diwethaf.

I'm very grateful for the fact that that service is available to people in my own constituency. The First Minister will be aware, however, that some people from north Wales avail themselves of maternity services in Chester at the Countess of Chester Hospital. There's been a recent scandal there with a nurse who has been arrested on suspicion of taking the life of eight babies. Some parents in north Wales who have lost children are obviously very concerned about that news and want to have the deaths of their children investigated. What support is the Welsh Government putting in place for parents from north Wales who have lost children and are very concerned about the nature in which they were lost and whether there is an implication for them as a result of this ongoing investigation?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith bod y gwasanaeth hwnnw ar gael i bobl yn fy etholaeth i fy hun. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, fodd bynnag, bod rhai pobl o'r gogledd yn manteisio ar wasanaethau mamolaeth yng Nghaer yn Ysbyty Iarlles Caer. Bu sgandal diweddar yno gyda nyrs sydd wedi ei harestio ar amheuaeth o ladd wyth o fabanod. Mae rhai rhieni yn y gogledd sydd wedi colli plant yn amlwg yn bryderus iawn am y newyddion hynny ac eisiau gweld ymchwiliadau i farwolaethau eu plant. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith ar gyfer rhieni o'r gogledd sydd wedi colli plant ac sy'n bryderus iawn ynghylch y ffordd y'u collwyd a pha un a oes goblygiadau iddyn nhw o ganlyniad i'r ymchwiliad parhaus hwn?

Well, as the Member will understand, this is an ongoing police investigation. There's not a great deal I can say about it. What I can say is that should any Welsh residents have been involved in what has happened there, we would expect the health board to provide support to the families affected and to seek the appropriate assurances from the NHS trust concerned regarding any Welsh residents currently under their care.

Wel, fel y bydd yr Aelod yn deall, mae hwn yn ymchwiliad gan yr heddlu sy'n parhau. Nid oes llawer iawn y gallaf i ei ddweud amdano. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw pe byddai unrhyw drigolion Cymru wedi bod yn rhan o'r hyn sydd wedi digwydd yno, byddem ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddarparu cymorth i'r teuluoedd yr effeithir arnynt ac i geisio'r sicrwydd priodol gan yr ymddiriedolaeth GIG dan sylw ynghylch unrhyw drigolion Cymru y mae'n gofalu amdanynt ar hyn o bryd.

14:15
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.

The next item, therefore, is the business statement and announcement, and I call on the leader of the house to make the statement—Julie James.

Diolch, Llywydd. There's one change to today's agenda. Later this afternoon I will be making a statement on the review of gender equality, otherwise business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement found amongst the meeting papers available to Members electronically.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma byddaf yn gwneud datganiad ar yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf  fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Cabinet Secretary, may I ask for a statement from the Welsh Government on the Centre for City's report that says that the struggling city centres should end their dependency on retail by replacing shops with offices and housing? According to this report, offices in successful city centres like Bristol and Manchester made up two thirds of the commercial space available, and retail made 18 per cent of that. In Newport city centre, 54 per cent of commercial space was in retail, and 28 per cent of the shops are vacant. Also, the number of people living in Cardiff city centre—an increase of 88 per cent between 2002 and 2015. In Swansea city centre—63 per cent over the same period. In Newport—an increase of only 20 per cent, Minister.

Could we have a statement from the Welsh Government on the findings of this report, and on how we can breathe life back into cities and towns such as Newport, please?

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr adroddiad gan centreforcities sy'n dweud y dylai canol dinasoedd sy'n ei chael hi'n anodd roi diwedd ar eu dibyniaeth ar fanwerthu drwy newid siopau i swyddfeydd a thai? Yn ôl yr adroddiad hwn, mae swyddfeydd yng nghanol dinasoedd llwyddiannus fel Bryste a Manceinion yn ddwy ran o dair o'r gofod masnachol sydd ar gael, ac roedd manwerthu yn 18 y cant o hynny. Yng nghanol dinas Casnewydd, roedd 54 y cant o ofod masnachol yn lleoedd manwerthu, ac mae 28 y cant o'r siopau yn wag. Hefyd, mae nifer y bobl sy'n byw yng nghanol dinas Caerdydd—wedi cynyddu gan 88 y cant rhwng 2002 a 2015. Canol dinas Abertawe—63 y cant yn ystod yr un cyfnod. Yng Nghasnewydd—cynnydd o 20 y cant yn unig, Gweinidog.

A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ganfyddiadau'r adroddiad hwn, ac ar sut y gallwn ni roi bywyd yn ôl i ddinasoedd a threfi fel Casnewydd, os gwelwch yn dda?

Yes, a very interesting report, and a lot of work has been done on the changing nature of city centres. The Cabinet Secretary has made a number of contributions to that debate, and we've been working very hard with partners on the city deals in order to take account of what the Member is outlining, which is the fundamental change in the way that people shop, the effect of, obviously, internet shopping on retail space, and what needs to be done to make those vibrant places that people want to go to for something other than a retail experience. The Member has pointed out the findings of the report very much. I know the Cabinet Secretary's very well aware of them.

Ie, adroddiad diddorol iawn, ac mae llawer o waith wedi'i wneud ar y ffordd y mae natur canol dinasoedd yn newid. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud nifer o gyfraniadau at y ddadl honno, ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid ar y bargeinion dinesig er mwyn ystyried yr hyn y mae'r Aelod yn ei amlinellu, sef y newid sylfaenol yn y ffordd y mae pobl yn siopa, yn amlwg, effaith siopa ar y rhyngrwyd ar ofod manwerthu, a'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y lleoedd bywiog hynny y mae pobl eisiau mynd iddyn nhw yn rhywbeth heblaw profiad manwerthu. Mae'r Aelod wedi pwysleisio'n helaeth ar ganfyddiadau'r adroddiad. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn ohonyn nhw.

First of all, leader of the house, can I say that I'm a bit surprised that we haven't had an oral statement on the consultation on land-use management and the future of common agricultural policy payments, which is going to be hugely important over the summer? I understand it's a long consultation, but it will feature strongly in the summer shows. I think an oral statement would have been suitable for such a consultation, and I no doubt will return to this tomorrow when the Cabinet Secretary is due to answer questions. But I think it deserves a particular session in this Chamber, to look at and examine that consultation.

Can I ask for two further possible statements? First of all, does the Welsh Government intend to make a statement on water over the next week or so? We're not in a position of drought yet in Wales—just to be sure that we're very clear about this—however, we do have a situation where we're starting to look at a situation that might arise with drought. Two months in a row of way-below-average rainfall is one of the triggers for drought—we're getting on for that. We're much better prepared than the summer of 1976, which I think we both can remember, but it's certainly true that there is some concern now about water use in Wales—a potential water shortage—and, of course, we'll be on a break over the summer, so if the Welsh Government does intend to support any kind of water-use restrictions, or needs to do that, because we may well have rain, but if it's not of sufficient quantity, we could still be in August with some problems—. So, will the Welsh Government make a statement, and in particular, will the Welsh Government make a statement on the use of the new joint powers in the Wales Act 2017 with the UK Government around water resources in Wales? I'm perfectly happy that our water is shared throughout the United Kingdom; I think it's right and proper that a common resource is shared. But I also think it's right and proper that the right price is paid for the use of resources. I think it would be very difficult politically if we saw any drought restrictions in Wales and water was flowing, shall we say, through English factories and towns without there being a quid pro quo in some of that. We just need to understand where the new powers under the Wales Act will be used by the Welsh Government to have discussions with the UK Government about the joint management, and appropriate management, of water resources in Wales.

The other situation I'd like to request a statement on specifically, or perhaps a letter from the Cabinet Secretary would be appropriate, is the situation of dentistry in Wales, and in particular dentistry at a consultant-led level. I have a constituent who's happy for me to name him, Mr Boff, who has been waiting for two and a half years for restorative dentistry, having lost all his teeth. He can't get that done by a restorative dentist in Betsi Cadwaladr, because they've never been able to retain a restorative dentist, but they're not willing, either, to pay for him to get it done where their previous restorative dentist has gone, which is in the west midlands. So, they're not prepared to pay for him to go there, but they don't have a dentist who can do it in the health board area, and they sent back £1 million to the Welsh Government for dentistry last year, because they couldn't spend the money. In the meantime, my constituent has actually been warned by his general practitioner that he now faces malnutrition because he literally does not have the teeth to eat properly.

This is something that could be solved so easily if health boards had a way of utilising the resources that they've been given by Welsh Government to spend outside their area, to make sure that our constituents do get the healthcare that they need. Now, the last time—I could read this out; I've got a very long list of interactions on this, and a lot of people have been involved—but the last time, most recently, a couple of weeks ago, a response from the Cabinet Secretary did show a little bit of urgency and a realisation that the health board can't continue sending holding letters to me—several weeks ago—on this matter, and that Mr Boff does need his full treatment. I would appreciate some response before the recess on what's being done to restore this service, which must be affecting other constituents, because Betsi has not had a restorative dentist for at least a year now, and is not able to provide a very essential service.

Yn gyntaf oll, arweinydd y tŷ, a gaf i ddweud fy mod i'n synnu braidd nad ydym ni wedi cael datganiad llafar ar yr ymgynghoriad ar reoli'r defnydd o dir a dyfodol taliadau'r polisi amaethyddol cyffredin, sy'n mynd i fod yn eithriadol o bwysig dros yr haf? Rwy'n deall ei fod yn ymgynghoriad hir, ond bydd hyn yn rhan bwysig o sioeau'r haf. Rwy'n credu y byddai datganiad llafar wedi bod yn addas ar gyfer ymgynghoriad o'r fath, a byddaf yn sicr yn dod yn ôl at hyn yfory pan mae Ysgrifennydd y Cabinet i fod i ateb cwestiynau. Ond rwyf i'n credu ei fod yn haeddu sesiwn arbennig yn y Siambr hon, i edrych ar yr ymgynghoriad hwnnw a'i archwilio. 

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad posibl arall? Yn gyntaf, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud datganiad ar ddŵr rywbryd yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf? Nid ydym ni mewn sefyllfa o sychder yng Nghymru eto—dim ond er mwyn sicrhau ein bod yn glir iawn ynglŷn â hyn—fodd bynnag, mae gennym ni sefyllfa lle yr ydym ni'n dechrau edrych ar y sefyllfa a allai godi oherwydd  sychder. Mae dau fis olynol o lawer llai o law llawer na'r cyfartaledd yn un o'r trothwyon o ran nodi sychder—rydym ni bron â chyrraedd hynny. Rydym ni'n fwy parod o lawer nag yn haf 1976, rwy'n credu y gall y ddau ohonom ni ei gofio, ond mae'n sicr yn wir bod rhywfaint o bryder erbyn hyn ynghylch defnyddio dŵr yng Nghymru—prinder dŵr posibl—ac, wrth gwrs, byddwn ni ar doriad dros yr haf, felly os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi unrhyw fath o gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr, neu fod angen gwneud hynny, gan y gallem yn wir gael glaw, ond os na fydd digon ohono, gallai problemau barhau i fodoli ym mis Awst—. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad, ac yn benodol, a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad ar ddefnyddio pwerau newydd Deddf Cymru 2017 ar y cyd â Llywodraeth y DU ynghylch adnoddau dŵr yng Nghymru? Rwy'n gwbl fodlon bod ein dŵr yn cael ei rannu ledled y Deyrnas Unedig; rwy'n credu ei bod yn iawn a phriodol bod adnodd cyffredin yn cael ei rannu. Ond rwy'n credu hefyd ei bod yn iawn a phriodol i dalu'r pris cywir am ddefnyddio adnoddau. Rwy'n credu y byddai'n anodd iawn yn wleidyddol pe byddem ni'n gweld unrhyw gyfyngiadau sychder yng Nghymru a bod dŵr yn llifo, dyweder, drwy ffatrïoedd a threfi Lloegr heb fod gennym delerau cyfatebol. Mae angen yn syml i ni ddeall pryd y caiff pwerau newydd Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Cymru eu defnyddio i gael trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch rheoli ar y cyd, a rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru yn briodol.

Y sefyllfa arall yr hoffwn i ofyn am ddatganiad arni yn benodol, neu efallai y byddai llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn briodol, yw sefyllfa deintyddiaeth yng Nghymru, ac yn enwedig deintyddiaeth ar lefel dan arweiniad deintyddion ymgynghorol. Mae gennyf i etholwr sy'n hapus i mi ei enwi, Mr Boff, sydd wedi bod yn aros am ddwy flynedd a hanner i gael deintyddiaeth adferol, ar ôl colli ei ddannedd i gyd. Nid yw'n gallu cael hynny wedi ei wneud gan ddeintydd adferol yn Betsi Cadwaladr, oherwydd nad ydyn nhw erioed wedi llwyddo i gadw deintydd adferol, ond dydyn nhw ddim yn fodlon, ychwaith, talu am iddo gael hyn wedi ei wneud ym mhle yr aeth eu deintydd adferol blaenorol, sef yng ngorllewin canolbarth Lloegr. Felly, dydyn nhw ddim yn fodlon talu am iddo fynd yno, ond nid oes ganddyn nhw ddeintydd a allai ei wneud yn ardal y bwrdd iechyd, ac anfonwyd £1 miliwn yn ôl i Lywodraeth Cymru ganddynt ar gyfer deintyddiaeth y llynedd, oherwydd nad oedden nhw'n gallu gwario'r arian. Yn y cyfamser, mae fy etholwr a dweud y gwir wedi ei rybuddio gan ei feddyg teulu ei fod bellach yn wynebu diffyg maeth oherwydd nad oes ganddo yn llythrennol y dannedd i fwyta yn briodol.

Mae hyn yn rhywbeth y byddai mor hawdd ei ddatrys mor pe byddai gan y byrddau iechyd ffordd o ddefnyddio adnoddau y maen nhw wedi eu cael gan Lywodraeth Cymru i'w gwario y tu allan i'w hardal, i wneud yn siŵr bod ein hetholwyr yn cael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Nawr, y tro diwethaf—gallaf gallu darllen hyn yn uchel; mae gennyf i restr hir iawn o gyfathrebiadau ar hyn, ac mae llawer o bobl wedi cyfranogi—ond y tro diwethaf, y tro diweddaraf, ychydig wythnosau yn ôl, roedd ymateb oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos ychydig o frys a sylweddiad na all y bwrdd iechyd barhau i anfon llythyrau ateb dros dro ataf i—ychydig wythnosau yn ôl—ar y mater hwn, a bod Mr Boff angen ei driniaeth lawn. Byddwn i'n gwerthfawrogi rhyw ymateb cyn y toriad o ran beth sy'n cael ei wneud i adfer y gwasanaeth hwn, y mae'n rhaid ei fod yn effeithio ar etholwyr eraill, oherwydd ni fu gan Betsi ddeintydd adferol ers o leiaf blwyddyn erbyn hyn, ac nid yw'n gallu darparu gwasanaeth hanfodol iawn.

14:20

Llywydd, in time-honoured fashion, going in reverse order, I'll make sure that the Cabinet Secretary is aware of the issue, and finds out for the Member where he is on the response to his constituent's concerns.

In terms of water, we have not yet got to the point that some of us remember from the long, hot summer of 1976. I have to say, many of my Cabinet colleagues, of course, were not born in that time, but, sadly, I was. But we are keeping—forgive the pun—a weather eye on it and I'm sure that the Minister will bring forward a statement if we get to the point where that's necessary. I don't want to jinx the lovely weather, Llywydd, as I've an important family wedding, which I very much hope it will last until, just after recess.

In terms of land management, obviously we are out to consultation, and the Cabinet Secretary, once we've had the consultation, will be coming back and giving us an outline of that consultation. The Member himself pointed out that there are a number of events over the summer where it will be discussed in some detail, and the time to bring a statement forward will be when we have the results of the consultation.

Llywydd, yn ôl yr arfer traddodiadol, gan fynd o'r diwedd at yn ôl, byddaf yn gwneud yn siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r mater, ac yn canfod ar ran yr aelod sut y mae o arni o ran ei ymateb i bryderon ei etholwr.

O ran dŵr, nid ydym ni eto wedi cyrraedd y sefyllfa y mae rhai ohonom ni yn ei chofio o haf hir, poeth 1976. Mae'n rhaid i mi ddweud, nad oedd llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, wrth gwrs, wedi eu geni bryd hynny, ond, yn anffodus, mi roeddwn i. Ond rydym ni'n cadw—maddeuwch y gair mwys—llygad tywydd arno ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad os byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa pan fydd angen gwneud rhywbeth. Nid wyf i eisiau amharu ar y tywydd hyfryd, Llywydd, gan fod gennyf briodas deuluol bwysig, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd yn para tan hynny, yn union ar ôl toriad yr haf.

O ran rheoli tir, yn amlwg rydym ni mewn ymgynghoriad, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl i ni gael yr ymgynghoriad, yn dod yn ôl ac yn rhoi amlinelliad o'r ymgynghoriad hwnnw. Nododd yr Aelod ei hun y bydd nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr haf pryd y caiff ei drafod yn fanwl, a'r amser i ddod â datganiad ymlaen fydd pan fo gennym ni ganlyniadau'r ymgynghoriad.

Leader of the house, I'm particularly concerned to safeguard my constituents in the western part of the Vale of Glamorgan, where there's a long-standing practice of using the services of the Princess of Wales Hospital. Can you provide an update on the proposed health board boundary change in Bridgend?

Secondly, I would be grateful if the leader of the house could confirm that the Welsh Government will respond, as a matter of urgency, to the report from the independent medicines and medical devices safety review, which has concluded that there must be an immediate pause on the use of surgical mesh for the treatment of stress urinary incontinence. You will know that I held a meeting last week of the Welsh mesh survivors group. Does this accord with a statement made by the Cabinet Secretary, Vaughan Gething, on 8 May, where he drew attention to his support for the National Institute for Health and Care Excellence new guidance in December last year, stating that transvaginal mesh repair for vaginal wall prolapse should only be used in the context of research? And also, in his statement, he stated his support for the recommendation from the working group that the NHS supports women with pelvic health problems, moving to a focus on prevention and conservative therapies, with surgical intervention as a last resort.

Arweinydd y tŷ, rwy'n arbennig o bryderus i ddiogelu fy etholwyr yn rhan orllewinol Bro Morgannwg, lle ceir arfer hirsefydlog o ddefnyddio gwasanaethau ysbyty Tywysoges Cymru. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newid arfaethedig i ffin y Bwrdd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Yn ail, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai arweinydd y tŷ gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb, fel mater o frys, i adroddiad gan yr adolygiad annibynnol o ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, sydd wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid rhoi'r gorau i ddefnyddio rhwyll lawfeddygol i drin anymataliad wrinol straen ar unwaith. Byddwch chi'n gwybod y cynhaliais gyfarfod yr wythnos diwethaf y grŵp goroeswyr rhwyll Cymru. A yw hyn yn gydnaws â datganiad a wnaethpwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething, ar 8 Mai, pan dynnodd sylw at ei gefnogaeth ar gyfer canllawiau newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Rhagfyr y llynedd, sy'n datgan na ddylid atgyweirio prolaps wal y wain â rhwyll drwy'r wain ond yng nghyd-destun ymchwil? A hefyd, yn ei ddatganiad, dywedodd ei fod yn cefnogi argymhelliad y Gweithgor bod y GIG yn cefnogi menywod sydd â phroblemau iechyd pelfis, gan symud i ganolbwyntio ar atal a therapïau ceidwadol, gydag ymyrraeth lawfeddygol fel dewis olaf.

It's a very important issue, and as Jane Hutt correctly said, the Cabinet Secretary has already made some remarks on that. We are advising the NHS to restrict the use of vaginal mesh in Wales, ensuring its use is continued only in those with very specific need and who fully understand the risks. That is in line with the recent recommendations of the report from the review panel, which Jane Hutt just mentioned, and the Chief Medical Officer for Wales has written to medical directors reiterating that advice.

We expect sufficient levels of clinical governance, consent, audit and research are in place in health boards to ensure that all women can be confident that the appropriate safeguards are in place. We have evidence of a significant reduction in the number of vaginal mesh procedures in Wales. So, that largely suggests, Llywydd, that a pause is already in place, driven by a change in clinical decision making during recent years. However, it's our expectation that that will continue to be the case until the requirements for increased safeguards can be met. So, I think the announced immediate curb in England very much reflects the Wales position. So, they're basically following our lead in implementing those safeguards.

In terms of the health board boundaries, I know that the—Llywydd, obviously, my constituency is one of the ones affected, just to remind Members of that—chairs of the health boards have issued a joint statement on this change and invited all elected Members to raise any concerns directly with them. If you haven't received that, I'll make sure you have a copy and that the invitation is extended to you, if that hasn't happened. There's no intention to change front-line health services in the Bridgend local authority area. We are obviously very keen to reduce duplication and bureaucracy, and to encourage simplicity. The proposals for realigning the health board boundaries are intended to offer such opportunities, empowering local government to be strong and capable and make decisions based locally on clear accountabilities and to work effectively with a consistent set of partners, so it realigns the boundaries, as I know Jane Hutt is already aware.

Welsh Government is continuing to work with the health boards and other partners as preparations for the boundary change are developed, and the relevant legislation will be brought forward in due course. Obviously, any further health service change proposals will be the subject of separate public engagement and, where appropriate, consultation in line with usual procedures for the consideration of such boundaries. So, this isn't the harbinger of another set of changes to come.

Mae'n fater pwysig iawn, ac fel y dywedodd Jane Hutt yn gywir, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi gwneud rhai sylwadau ar hynny. Rydym ni'n argymell y GIG i gyfyngu ar y defnydd o rwyll y wain yng Nghymru, gan sicrhau bod hyn yn parhau i gael ei ddefnyddio dim ond ar gyfer y rhai hynny sydd ag angen penodol iawn ac sy'n deall y risgiau yn llwyr. Mae hynny'n unol ag argymhellion diweddar yr adroddiad gan y panel adolygu, y mae Jane Hutt newydd ei grybwyll, ac mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at gyfarwyddwyr meddygol yn ailadrodd y cyngor hwnnw.

Rydym ni'n disgwyl bod lefelau digonol o lywodraethu clinigol, cydsyniad, archwilio ac ymchwil ar waith mewn byrddau iechyd i sicrhau y gall pob menyw fod yn ffyddiog fod y mesurau diogelwch priodol ar waith. Mae gennym ni dystiolaeth o ostyngiad sylweddol yn nifer y triniaethau rhwyll y wain yng Nghymru. Felly, mae hyn yn awgrymu i raddau helaeth, Llywydd, bod pwyllo eisoes ar waith, wedi ei ysgogi gan y newid o ran gwneud penderfyniadau clinigol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, ein disgwyliad ni yw y bydd hynny'n parhau i fod yn wir nes bod y gofynion ar gyfer gwell drefniadau diogelu wedi eu bodloni. Felly, rwy'n credu bod cyhoeddi gwaharddiad ar unwaith yn Lloegr yn adlewyrchu sefyllfa Cymru i raddau helaeth. Felly, yn y bôn, maen nhw'n dilyn ein harweiniad ni wrth weithredu'r mesurau diogelu hynny.

O ran ffiniau'r byrddau iechyd, rwy'n gwybod bod—Llywydd, yn amlwg, mae fy etholaeth i yn un o'r rhai yr effeithir arnynt, dim ond i atgoffa Aelodau am hynny—cadeiryddion y byrddau iechyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar y newid hwn ac wedi gwahodd yr holl aelodau etholedig i godi unrhyw bryderon uniongyrchol â nhw. Os nad ydych chi wedi cael hwnnw, byddaf yn sicrhau bod gennych chi gopi a bod y gwahoddiad wedi ei estyn i chi, os nad yw hynny wedi digwydd. Does dim bwriad i newid gwasanaethau iechyd rheng flaen yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym ni'n amlwg yn awyddus iawn i leihau dyblygu a biwrocratiaeth, ac i annog symlrwydd. Bwriedir i'r cynigion ar gyfer ail-gyfochri ffiniau byrddau iechyd gynnig cyfleoedd o'r fath, gan rymuso llywodraeth leol i fod yn gryf ac yn fedrus ac i wneud penderfyniadau lleol yn seiliedig ar linellau atebolrwydd clir a gweithio'n effeithiol gyda chyfres gyson o bartneriaid, felly mae'n ailosod y ffiniau,a gwn fod Jane Hutt eisoes yn ymwybodol o hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd a phartneriaid eraill wrth i baratoadau ddatblygu ar gyfer y newid i'r ffin, a chaiff y ddeddfwriaeth berthnasol ei chyflwyno maes o law. Yn amlwg, bydd unrhyw gynigion pellach i newid gwasanaeth iechyd yn destun ymgysylltiad cyhoeddus ar wahân a, phan fo hynny'n briodol, yn destun ymgynghori yn unol â gweithdrefnau arferol ar gyfer ystyried ffiniau o'r fath. Felly, nid yw hyn yn arwydd o gyfres arall o newidiadau i ddod.

14:25

I endorse the call for a statement on mesh operations. England hasn't followed Wales. NHS England has announced a stop to NHS operations—full stop. In that context, I would welcome a statement.

Secondly, I'd welcome a statement on the contribution that heritage railways can and can further make to Wales and our local and regional economies. Last week, Lord Dafydd Elis-Thomas hosted a Worshipful Livery Company of Wales event with the magnificent Ensemble Cymru from Bangor University at Venue Cymru, Llandudno, playing, at which we heard the chair of the Worshipful Company was related to the family who had saved the Snowdonia mountain railway. Last Friday, at the Prince of Wales PRIME Cymru awards in Llandudno, I was speaking to a representative of the Ffestiniog and Welsh Highlands Railway. Last Saturday, we saw Channel 4 screening its fifth and final episode of its Great Rail Restorations series, operating its time train on Llangollen Railway, promoting the wonderful railways setting between Llangollen and Carrog, but, of course, now going to Corwen as well, their ability to operate the heritage train, and the efforts of all those involved. For many years, we've heard of the Welsh Government's support for some heritage railways, a celebration of Welsh heritage railways, but we still need a joined-up tourism officer with through ticketing, enabling regional visitors to extend their stays and have the fantastic time we know they can have. Therefore, I call for a statement accordingly.

Rwy'n cefnogi'r alwad am ddatganiad ar weithrediadau rhwyll. Nid yw Lloegr wedi dilyn Cymru. Mae'r GIG yn Lloegr wedi cyhoeddi terfyn i driniaethau'r GIG—yn bendant iawn. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn i'n croesawu datganiad.

Yn ail, byddwn i'n croesawu datganiad ar y cyfraniad y gall rheilffyrdd treftadaeth ei wneud ac y gall ei wneud ymhellach i Gymru ac i'n heconomïau lleol a rhanbarthol. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ddigwyddiad â Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru gyda'r Ensemble Cymru godidog o Brifysgol Bangor yn perfformio yn Venue Cymru, Llandudno, a chlywsom yn y digwyddiad hwnnw fod Cadeirydd y Cwmni Anrhydeddus yn perthyn i'r teulu a achubodd reilffordd yr Wyddfa. Ddydd Gwener diwethaf, yng Ngwobrau Tywysog Cymru PRIME Cymru yn Llandudno, roeddwn yn sgwrsio â chynrychiolydd Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru. Ddydd Sadwrn diwethaf, gwelsom Channel 4 yn dangos y bumed bennod, a'r olaf, o'r gyfres Great Rail Restorations, gan yrru'r trên amser ar Reilffordd Llangollen, gan hyrwyddo'r lleoliad rheilffyrdd gwych rhwng Llangollen a Charrog, ond sydd wrth gwrs erbyn hyn yn mynd i Gorwen hefyd, yn ogystal â'u gallu i weithredu'r trên treftadaeth, ac ymdrechion pawb sy'n gysylltiedig. Ers blynyddoedd lawer, rydym ni wedi bod yn clywed am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i rai rheilffyrdd treftadaeth, dathliad o reilffyrdd treftadaeth Cymru, ond mae arnom angen swyddog twristiaeth cydgysylltiedig i werthu tocynnau cyffredinol, gan alluogi ymwelwyr rhanbarthol i ymestyn eu harhosiad yma a chael yr amser gwych yr ydym ni'n gwybod y gallan nhw ei gael. Felly, rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

The Member highlights a really great part of Welsh heritage, and I'm delighted to say that I recently was in Llangollen for their heritage railway event there, and it was really fun to see, and the enthusiasm of all of the crowds that came to greet the train was also great to see. I know the Minister takes it very seriously indeed, and will be considering how we can best join up those services to make sure that we put our best foot forward in the offer that we have. I know the Member is very enthusiastic about those railways, as am I. I'm sad to say I haven't been on the Snowdon railway very recently, but I'm hoping to make good on that over the summer. So, I'll speak with the Minister about the best way to ensure that the Member's concerns are highlighted properly.

In terms of vaginal mesh, as I already said, I haven't really got anything to add, Llywydd, to what I said earlier about the mesh issue. Obviously, we are very acutely aware of the issues that the Member raises.

Mae'r Aelod yn amlygu rhan wirioneddol wych o dreftadaeth Cymru, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod i wedi bod yn Llangollen yn ddiweddar ar gyfer eu digwyddiad rheilffordd treftadaeth yno, ac roedd wir yn hwyl gweld hynny, ac roedd hefyd yn wych gweld brwdfrydedd yr holl dyrfa a ddaeth i gyfarch y trên. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wir o ddifrif ynglŷn â hyn, a byddaf yn ystyried sut y gallwn ni gydgysylltu'r gwasanaethau hynny orau i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau i fanteisio ar y cynnig sydd gennym. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn frwdfrydig iawn dros y rheilffyrdd hynny, fel yr wyf innau. Mae'n ddrwg gennyf ddweud nad wyf wedi bod ar reilffordd yr Wyddfa yn ddiweddar iawn, ond rwy'n gobeithio newid hynny yn ystod yr haf. Felly, byddaf yn siarad â'r Gweinidog ynghylch y ffordd orau i sicrhau bod pryderon yr Aelod yn cael eu hamlygu yn briodol.

O ran rhwyll y wain, fel y dywedais eisoes, nid oes gennyf mewn gwirionedd unrhyw beth i'w ychwanegu, Llywydd, at yr hyn a ddywedais yn gynharach am fater y rhwyll. Yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi.

Leader of the house, you'll be aware of the recent British Council research comparing the soft power of sub-national countries and regions, and examining how they can build their international profile. There was a meeting here involving Rhun ap Iorwerth recently. The research looked at the people, brands, political values, culture and sport of Wales, Scotland and Northern Ireland and seven other broadly comparable regions and countries. In terms of overall results, Scotland come second after Québec, with Wales in sixth place.

Now, clearly, perception and branding are important to our tourism sector in terms of attracting international visitors. Last year, all nations within the UK experienced increases in the volume of international trips, but Scotland and London performed particularly strongly. Whilst the number of trips to Wales also increased, spend in Wales during the same period decreased by 8 per cent, in contrast to spend growth across the rest of the United Kingdom of some 11 per cent. So, despite Welsh Government efforts, it is clear that more can be done to grow Wales's profile and international visitor numbers, and therefore, I would be grateful if the Minister for tourism were to bring forward a statement on the work that is going on in this field, his response to the British Council report, which identifies potential challenges and opportunities, and also to set out his vision of how he sees the international tourism strategy developing over future years. 

Arweinydd y tŷ, fe fyddwch yn ymwybodol o ymchwil ddiweddar y Cyngor Prydeinig sy'n cymharu grym meddal is-genedlaethol gwledydd a rhanbarthau, ac yn archwilio sut y gallan nhw adeiladu eu proffil rhyngwladol. Roedd cyfarfod yma yn ddiweddar a oedd yn cynnwys Rhun ap Iorwerth. Edrychodd yr ymchwil ar bobl, brandiau, gwerthoedd gwleidyddol, diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal â saith rhanbarth a gwlad arall sy'n debyg yn fras. O ran canlyniadau cyffredinol, daeth yr Alban yn ail ar ôl Québec, a Chymru yn y chweched safle.

Nawr, yn amlwg, mae canfyddiad a brandio yn bwysig i'n sector twristiaeth o ran denu ymwelwyr rhyngwladol. Y llynedd, cafodd holl genhedloedd y DU brofiad o gynnydd yn nifer y teithiau rhyngwladol, ond dangosodd yr Alban a Llundain ganlyniad arbennig o gryf. Er bod nifer y teithiau i Gymru wedi cynyddu hefyd, cafwyd gostyngiad o 8 y cant mewn gwariant yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, mewn cyferbyniad â thwf gwariant ar draws gweddill y Deyrnas Unedig o ryw 11 y cant. Felly, er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg y gellir gwneud mwy i gynyddu proffil a nifer yr ymwelwyr rhyngwladol sy'n dod i Gymru, ac felly, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog twristiaeth yn cyflwyno datganiad ar y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwn, ei ymateb i adroddiad y Cyngor Prydeinig, sy'n nodi'r heriau a'r cyfleoedd posibl, a hefyd i nodi ei weledigaeth o sut y mae'n gweld y strategaeth twristiaeth ryngwladol yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

14:30

Yes, we were very pleased to see the increase in visitor numbers, and I was particularly pleased with the cruise ship arrangements in Ynys Môn, which we hope, very much, to be able to duplicate elsewhere in Wales. The Minister's indicating to me that he'll be more than happy to bring forward a statement to that effect, so I will liaise with him about the best timing for that. 

Ie, roeddem ni'n falch iawn o weld y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ac roeddwn i'n arbennig o falch gyda'r trefniadau llongau mordeithio yn Ynys Môn, yr ydym ni'n gobeithio, yn fawr iawn, y byddwn ni'n gallu eu dyblygu mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae'r Gweinidog yn dangos i mi y bydd yn fwy na pharod i gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw, felly byddaf yn cysylltu ag ef ynghylch yr amseru gorau ar gyfer hynny.

Leader of the house, every six minutes someone in the UK suffers a sudden cardiac arrest and their chance of survival is less than 10 per cent. Within Wales, it's less than 3 per cent, yet in many other countries across the world this person would have a 50 per cent chance of life. Sadly, children and young people can suffer sudden cardiac arrest as well as the older generation. Medical experts believe many children could be saved if a defibrillator were used within minutes of the collapse. I know that the charity Welsh Hearts have worked with the Welsh Rugby Union to try and install defibrillators in every single rugby club across Wales, which is a great initiative, and I know the Member from across the Chamber, Suzy Davies, has done some work in the past on this issue. But could we have another update, because we did receive a very useful update from the Cabinet Secretary in December 2016? But could we have another update on this extremely important issue?

And also, can I request a second update from the Cabinet Secretary for Education on mental health services in schools? It's almost a year since the Welsh Government announced its £1.4 million investment to strengthen the support from specialist child and adolescent mental health services to schools, and it would be extremely useful again to have an update on what work is being done to improve the services within our school system.

Arweinydd y tŷ, bob chwe munud mae rhywun yn y DU yn dioddef ataliad sydyn ar y galon ac mae ei siawns o oroesi yn llai na 10 y cant. Yng Nghymru, mae hyn yn llai na 3 y cant, ond mewn llawer o wledydd eraill ar draws y byd byddai gan y person hwnnw siawns o 50 y cant i fyw. Yn anffodus, gall plant a phobl ifanc ddioddef ataliad sydyn ar y galon yn ogystal â'r genhedlaeth hŷn. Mae arbenigwyr meddygol yn credu y gellid achub llawer o blant pe byddai diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio o fewn munudau ar ôl y llewyg. Rwy'n gwybod bod elusen Calonnau Cymru wedi gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru i geisio gosod diffibrilwyr ym mhob un clwb rygbi ledled Cymru, sy'n fenter wych, a gwn fod yr aelod gyferbyn yn y Siambr, Suzy Davies, wedi gwneud rhywfaint o waith yn y gorffennol ar y mater hwn. Ond a gawn ni ddiweddariad arall, gan ein bod ni wedi cael diweddariad defnyddiol iawn gan Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Rhagfyr 2016? Ond a gawn ni ddiweddariad arall ar y mater hynod bwysig hwn?

A hefyd, a gaf i ofyn am ail ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar wasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion? Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei buddsoddiad o £1.4 miliwn i gryfhau cefnogaeth i ysgolion gan wasanaethau arbenigol ar gyfer iechyd meddwl plant a'r glasoed, a byddai'n ddefnyddiol tu hwnt eto i gael diweddariad ar ba waith sy'n cael ei wneud i wella'r gwasanaethau o fewn ein system ysgolion.

Jack Sargeant raises two very important issues. There isn't a specific programme for schools to have access to a defibrillator as such, but all schools, of course, should have arrangements in place for dealing with emergency situations. As part of the out-of-hospital cardiac arrest plan, which we published in June 2017, work is under way with partners to map out the organisations that provide cardiopulmonary resuscitation training within communities across Wales. We have effective partnership working, which will mean that people of all ages in Wales are not only given every opportunity to survive a cardiac arrest, but are also provided with the CPR skills and resources, like defibrillators, to enable them to assist in saving a life. And, as Jack Sargeant's just pointed out, the provision of defibrillators in appropriate public places, including rugby clubs, combined with investing in first responder training for cardiopulmonary resuscitation, and ensuring the fastest possible ambulance response times, does significantly increase the chance of survival and recovery for out-of-hospital cardiac arrests. 

The Welsh ambulance service and third sector organisations are working with schools across Wales to promote CPR and the use of defibrillators through initiatives such as Shocktober and Restart a Heart Day. There were 53 secondary schools involved in Restart a Heart last year and, in total, 10,622 secondary school pupils were trained in CPR. Thirty-two primary schools took part in Shocktober 2017, and 2,146 pupils were taught CPR as a result of that. They also covered when to ring 999 and what to do in emergencies such as choking as well. So, it's a very important issue and we look forward to seeing the extension of that this year as part of the campaign. 

Mae Jack Sargeant yn codi dau fater pwysig iawn. Nid oes rhaglen benodol ar gyfer ysgolion yn gallu cael gafael ar ddiffibriliwr fel y cyfryw, ond wrth gwrs, dylai fod, ym mhob ysgol, drefniadau ar waith ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd brys. Yn rhan o'r cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Mehefin 2017, mae gwaith ar y gweill gyda phartneriaid i fapio'r sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd o fewn cymunedau ledled Cymru. Mae gennym ni drefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol, a fydd yn golygu bod pobl o bob oedran yng Nghymru yn cael pob cyfle i oroesi ataliad y galon, ond darperir hefyd y sgiliau a'r adnoddau CPR iddyn nhw, fel diffibrilwyr, i'w galluogi i helpu i achub bywyd. Ac, fel y dywedodd Jack Sargeant nawr, mae darparu diffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus priodol, gan gynnwys clybiau rygbi, ynghyd â buddsoddi mewn hyfforddi ymatebwr cyntaf ar gyfer adfywio cardio-pwlmonaidd, a sicrhau'r amseroedd ymateb ambiwlans cyflymaf posibl, yn cynyddu'n sylweddol y siawns o oroesi a gwella ar ôl ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r trydydd sector yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i hyrwyddo CPR a defnyddio'r diffibrilwyr drwy fentrau megis Shocktober a Diwrnod Adfywio Calon. Cymerodd 53 ysgolion uwchradd ran yn y Diwrnod Adfywio Calon y llynedd, a chafodd 10,622 o ddisgyblion ysgol uwchradd eu hyfforddi mewn CPR. Cymerodd 32 o ysgolion cynradd ran yn Shocktober 2017, ac addysgwyd CPR i 2,146 o ddisgyblion o ganlyniad i hynny. Roedd hyn hefyd yn cynnwys pryd i ffonio 999 a beth i'w wneud mewn argyfwng megis mygu hefyd. Felly, mae'n fater pwysig iawn ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld ymestyn hynny eleni yn rhan o'r ymgyrch.

Leader of the house, can I call for a statement from the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs on big cat sightings in Wales? The leader of the house may be aware that there was a further big cat sighting in north Wales just over 10 days ago on the A5, and that's in addition to, of course, the 10 big cat sightings between 2011 and 2016 reported to North Wales Police—a number of which have been recorded by the Welsh Government. I'm sure that you will agree with me that we do need to understand whether there is a population of big cats in the Welsh countryside. There have been sightings in my own constituency in and around the Clocaenog forest and, of course, many farmers are concerned about the safety of their livestock as a result of these animals, should they be in the Welsh countryside. So, I wonder whether the Welsh Government can make a statement on whether they will be commissioning any further research into this subject, in order that we can establish whether there is a population in Wales and what risk they may pose to livestock and the public. 

Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y cathod mawr gwyllt a welwyd yng Nghymru? Efallai y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod cath fawr wedi ei gweld erbyn hyn yn y gogledd ychydig dros 10 diwrnod yn ôl ar yr A5, ac mae hyn yn ogystal, wrth gwrs, â 10 hysbysiad o weld cath fawr a wnaed i Heddlu Gogledd Cymru rhwng 2011 a 2016—ac mae nifer o'r rhain wedi eu cofnodi gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni wybod pa un a oes poblogaeth o gathod mawr gwyllt yng nghefn gwlad Cymru. Bu adroddiadau o weld cath fawr yn fy etholaeth i fy hun yng nghoedwig Clocaenog a'r cyffiniau ac, wrth gwrs, mae llawer o ffermwyr yn poeni am ddiogelwch eu da byw yn sgil yr anifeiliaid hyn, pe bydden nhw yng nghefn gwlad Cymru. Felly, tybed a all Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar ba un a fydd yn comisiynu unrhyw ymchwil arall i'r pwnc hwn, fel y gallwn ni gadarnhau pa un a oes poblogaeth o'r cathod hyn yng Nghymru a pha risg y gallen nhw ei achosi i dda byw ac i'r cyhoedd.

The Cabinet Secretary is indicating that, obviously, she answered a question from you, and she expects that a letter from her to you should be received at any moment. 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos ei bod, yn amlwg, wedi ateb cwestiwn gennych chi, ac yn disgwyl y bydd llythyr oddi wrthi atoch chi yn eich cyrraedd yn fuan iawn.

14:35

Could we have a statement on the issue of British Steel pensions, which were swindled from workers by Celtic Wealth Management and their partners? I have raised this with the First Minister, but he seemed to fudge the response. We know that Celtic are not a financial advisory firm, so they will not be regulated by the Financial Conduct Authority, and so to try and claim that the FCA are looking into this issue is not something that I accept. We know that the firm has been offering sports tickets to pension holders, to get them to take their pensions out of the British Steel pension scheme and the PPS. And there needs to be an investigation by the Welsh Government as to how this grant was given, on what premise it was given, and, since November, you've known about the problems that have emanated from this particular firm, and I would like to see an investigation carried out by the Welsh Government before we're waiting for more problems to emanate in relation to other pension holders in the Port Talbot area.

I'd also like to ask for another statement, with regard to your communications with the police in relation to the death of a young Sudanese man in Newport last week—Mustafa. Obviously, I understand that the law needs to be enforced, but when there is a serious incident such as this, resulting in a death, after or during an enforcement operation, we need to be thorough, and we need to ensure that, in future, incidents like this do not happen again. We don't want to see anybody die in this way. Whilst we do not know his immigration status, this man was employed and came to this country for a better life, and it should not have ended with his death. I know that immigration isn't within the confines of the Welsh Government's powers, but I really would urge you to assure the Welsh population, who have contacted me, who want to know what's happening in this regard, so that we don't see instances like this happen again.

A gawn ni ddatganiad ar fater pensiynau Dur Prydain, y cafodd gweithwyr eu twyllo ohonynt gan Celtic Wealth Management a'u partneriaid? Rwyf wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog, ond ymddengys ei fod yn osgoi ymateb. Rydym ni'n gwybod nad yw Celtic yn gwmni cyngor ariannol, felly nid ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac felly nid yw ceisio honni bod yr FCA yn archwilio i'r mater hwn yn rhywbeth yr wyf yn ei dderbyn. Rydym ni'n gwybod bod y cwmni wedi bod yn cynnig tocynnau chwaraeon i ddeiliaid pensiwn, i'w perswadio i gymryd eu pensiwn o gynllun pensiwn Dur Prydain a'r Gronfa Diogelu Pensiynau. Ac mae angen ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru i sut y rhoddwyd y grant hwn, ar ba sail y'i rhoddwyd, ac, ers mis Tachwedd, rydych chi'n gwybod am y problemau sydd wedi deillio o'r o'r cwmni penodol hwn, a hoffwn i weld ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru cyn i ni fod yn disgwyl mwy o broblemau ddeillio ynglŷn â deiliaid pensiwn eraill yn ardal Port Talbot.

Hefyd, hoffwn i ofyn am ddatganiad arall, yn ymwneud â'ch cyfathrebu â'r heddlu o ran marwolaeth dyn Swdanaidd ifanc yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf—sef Mustafa. Yn amlwg, rwy'n deall bod angen i'r gyfraith gael eu gorfodi, ond pan fo digwyddiad difrifol fel hyn, sy'n arwain at farwolaeth, ar ôl neu yn ystod gweithrediad gorfodi, mae angen i ni fod yn drylwyr, ac mae angen i ni sicrhau, yn y dyfodol, nad yw achosion fel hyn yn digwydd eto. Nid ydym ni eisiau gweld neb yn marw yn y modd hwn. Er na wyddom ei statws mewnfudo, roedd y dyn hwn yn gyflogedig a daeth i'r wlad hon i gael bywyd gwell, ac ni ddylai fod wedi dod i ben gyda'i farwolaeth. Rwy'n gwybod nad yw mewnfudo o fewn cyfyngiadau pwerau Llywodraeth Cymru, ond byddwn i wir yn eich annog i roi sicrwydd i boblogaeth Cymru, sydd wedi cysylltu â mi, sydd eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn hyn o beth, er mwyn i ni beidio â gweld pethau fel hyn yn digwydd eto.

That's a very important issue. Actually, I'd like to reassure the Member that I have asked for more details myself, as the equalities Minister, to find out exactly what happened there. When I have those details, I'm happy to—I'll probably write to all AMs once we have them. I'm in the process of having that conversation at the moment.

And in terms of the British Steel pensions, if the Member has any further information—specific information—that she'd like to share with me, I'll make sure that we take that very seriously.

Mae hwnna'n fater pwysig iawn. Mewn gwirionedd, hoffwn i roi sicrwydd i'r Aelod fy mod wedi gofyn am fwy o fanylion fy hun, fel y Gweinidog cydraddoldeb, i ganfod yn union beth a ddigwyddodd yno. Pan fydd gennyf y manylion hynny, byddaf yn hapus i—byddaf mwy na thebyg yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad pan fyddan nhw gennym. Rwyf wrthi'n cael y sgwrs honno ar hyn o bryd.

Ac o ran pensiynau Dur Prydain, os oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth ychwanegol—gwybodaeth benodol—yr hoffai ef ei rhannu â mi, byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi sylw o ddifrif i hynny.

Can I just endorse the remarks made by Jack Sargeant earlier on? I think it's a very important issue that he's raised, and I'm glad you took it so positively. In the figures that you gave us, though, I didn't see anything about the repeat engagement of students over time—a one-off hit is not going to create a nation of life savers, I'm afraid. So, if there is a statement to come on the now-belated anniversary of the out-of-hospital cardiac arrest plan, then perhaps that information could be included.

Could I just ask for a statement, please—probably from the Minister for tourism—well, an update really, on the state of cruise tourism, specifically, within the Welsh picture at the moment? We heard a lot about this in the last Assembly, but I don't think I've heard about it at all in this Assembly. And it's not just visitor numbers I'm interested in, but the development of local businesses, and local provision—quality of providers, and so forth—to meet the expectations of cruise passengers, which are obviously pretty high, and what the Welsh Government investment has been in that area of activity, as well as in the marketing of Wales to cruise companies. Thank you.

A gaf i gefnogi'r sylwadau a wnaed gan Jack Sargeant yn gynharach? Rwy'n credu bod hwn yn fater pwysig iawn y mae wedi ei godi, ac rwyf yn falch eich bod chi wedi ei gymryd mor gadarnhaol. Yn y ffigurau a roesoch i ni, fodd bynnag, ni welais unrhyw beth am ail-benodi myfyrwyr dros gyfnod nid yw ymgyrch untro yn mynd i greu cenedl o achubwyr bywyd, mae arna i ofn. Felly, os oes datganiad i ddod ar ben-blwydd hwyr erbyn hyn y cynllun ataliad y galon o'r tu allan i'r ysbyty, yna efallai y gellid cynnwys yr wybodaeth honno ynddo.

A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda—gan y Gweinidog Twristiaeth mae'n debyg—wel, diweddariad mewn gwirionedd ar sefyllfa twristiaeth mordeithio, yn benodol, o fewn y darlun yng Nghymru ar hyn o bryd? Rydym ni wedi clywed llawer am hyn yn y Cynulliad diwethaf, ond nid wyf i'n credu fy mod i wedi clywed amdano o gwbl yn y Cynulliad hwn. Ac nid dim ond niferoedd ymwelwyr y mae gennyf i ddiddordeb ynddynt, ond hefyd datblygiad busnesau lleol, a darpariaeth leol—ansawdd y darparwyr, ac ati—i fodloni disgwyliadau teithwyr mordeithio, sy'n amlwg yn eithaf uchel, a pha fath o fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn y maes hwnnw o weithgarwch, yn ogystal â marchnata Cymru i gwmnïau mordeithiau. Diolch.

It's a very important point. As I said, I know there's been a big increase in cruise visits to Ynys Môn. Suzy Davies is of course right: we did hear a lot about cruise tourism in the last Assembly. I know that the Minister's been working very hard to make sure that we could get an embarkation point in Wales, which would be the holy grail of the cruise industry. When those conversations are well advanced, I'll be sure to help the Minister make an update to the Assembly on those discussions.

And in terms of the defibrillators, my understanding is that that's a rolling programme. If I'm wrong in that, I'll make sure that I let the Member know.

Mae'n bwynt pwysig iawn. Fel y dywedais, rwy'n gwybod y bu cynnydd mawr  mewn mordeithiau sy'n ymweld ag Ynys Môn. Mae Suzy Davies yn iawn wrth gwrs: fe glywsom lawer am dwristiaeth mordeithio yn y Cynulliad diwethaf. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y gallem ni gael man cychwyn yng Nghymru, a dyna fyddai greal sanctaidd y diwydiant mordeithio. Pan fydd y sgyrsiau hynny wedi eu datblygu, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n helpu'r Gweinidog i roi diweddariad i'r Cynulliad ar y trafodaethau hynny.

Ac o ran y diffibrilwyr, fy nealltwriaeth i yw mai rhaglen dreigl yw hon. Os wyf i'n anghywir yn hynny o beth, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi gwybod i'r Aelod.

Leader of the house, you've already given the Minister for culture one namecheck today, or I should say another Member did. I was delighted to welcome the Minister to my constituency for a meeting with Cadw and local residents at Raglan castle last week. The meeting was primarily about the successor to Cadw's resident access scheme, but attention quickly turned to the dangers for local residents crossing the busy A40 from the village to the castle, with a relatively high speed limit, and without a crossing or a bridge, or any means of crossing safely at that point. Would it be possible for the Welsh Government to bring forward a statement on possibly having an access review to Cadw's sites across Wales, as soon as possible? I'm sure that Raglan castle is not the only Cadw site affected by similar issues. It's brilliant, on the one hand, to be revising the resident access scheme and to be increasing the ability for local residents, and indeed residents from other areas, to access Cadw sites, but if the physical access to those sites is limited for pedestrians, then you're either asking for trouble, with the increasing likelihood of accidents, or people just won't be able to get there in the first place in order to access these wonderful sites and places of heritage and interest that are found across Wales.

Arweinydd y tŷ, rydych chi eisoes wedi crybwyll enw'r Gweinidog diwylliant heddiw, neu a ddylwn i ddweud mai aelod arall wnaeth hynny. Roeddwn i'n falch iawn o groesawu'r Gweinidog i'm hetholaeth ar gyfer cyfarfod â Cadw a'r trigolion lleol yng nghastell Rhaglan yr wythnos diwethaf. Roedd y cyfarfod yn ymwneud yn bennaf ag olynydd cynllun tocyn trigolion Cadw, ond trodd y sylw yn gyflym at y peryglon i drigolion lleol wrth groesi'r A40 brysur o'r pentref i'r castell, gan fod terfyn cyflymder cymharol uchel, ac heb groesfan na phont, nac unrhyw fodd o groesi'n ddiogel yn y man hwnnw. A fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar gael adolygiad o bosib o ran mynediad i safleoedd Cadw ledled Cymru, cyn gynted â phosib? Rwy'n siŵr nad castell Rhaglan yw'r unig safle Cadw yr effeithir arno gan faterion tebyg. Mae'n wych, ar y naill law, i adolygu cynllun mynediad i drigolion a chynyddu gallu trigolion lleol, ac yn wir, trigolion o ardaloedd eraill, i gael mynediad i safleoedd Cadw, ond os yw'r mynediad corfforol i'r safleoedd hynny yn gyfyngedig i gerddwyr, yna rydych chi naill ai'n gofyn am drwbl, gyda'r tebygolrwydd cynyddol o ddamweiniau, neu ni fydd pobl yn gallu cyrraedd yno yn y lle cyntaf er mwyn cael mynediad i'r safleoedd a'r mannau treftadaeth a diddordeb bendigedig hyn sydd i'w gweld ledled Cymru.

14:40

Yes, that's a very good point. The Minister is indeed getting a lot of namechecks today. I'm sure he won't have any problem with that at all, and he's also nodding happily that he's looking into that issue and will bring something forward in due course.

Ie, mae hwnnw'n bwynt da iawn. Mae llawer o sôn yn wir am y Gweinidog heddiw. Rwy'n siŵr na fydd ganddo unrhyw broblem â hynny o gwbl, ac mae yntau hefyd yn nodio'n hapus i ddangos ei fod yn edrych ar y mater hwnnw ac y bydd yn cyflwyno rhywbeth maes o law.

Diolch i arweinydd y tŷ.

Thank you to the leader of the house.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Cynnydd ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'
3. Statement by the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services: 'Our Valleys, Our Future' Progress Report

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: adroddiad cynnydd ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Alun Davies.

The next item, therefore, is a statement by the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services: 'Our Valleys, Our Future' progress report. I call on the Cabinet Secretary to make the statement. Alun Davies.

Member
Alun Davies AM 14:41:12
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Presiding Officer, I am grateful to you for the opportunity to update Members about the progress that the Valleys taskforce has made since the 'Our Valleys, Our Future' action plan was published last July. I would like to start by placing on record my own personal thanks for the taskforce members’ work and support over the last 12 months, including my colleagues, the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure, the Leader of the House and Chief Whip, the Minister for Housing and Regeneration, and the Minister for Welsh Language and Lifelong Learning.

The Valleys taskforce was set up to create lasting change in the south Wales Valleys: an area that has immense opportunities, but also more than its fair share of challenges. I’m pleased to report today that the taskforce has planted the seeds of that change. At the heart of both the action plan and the delivery plan that accompanies it and which we published last November, there are three key priorities: good-quality jobs and the skills to do them, better public services, and my local community. There are more than 60 individual actions across each of the priorities, which have been developed following extensive engagement with people living and working in the south Wales Valleys. We believe that these actions will deliver real and lasting change for Valleys communities.

The taskforce is today publishing a first-year progress report, detailing the breadth of the work over the last 12 months and, Presiding Officer, I would like, with your consent, to share some of that progress with you today. A year ago, the taskforce set the challenging target of closing the employment gap between the south Wales Valleys and the rest of Wales. This means helping an extra 7,000 people into fair work and creating thousands of new, fair, secure and sustainable jobs in the Valleys. Over the last 12 months, more than 1,000 economically inactive people living in Valleys taskforce areas have started work through Welsh Government-led employment programmes. Nearly 1,000 people and small businesses have been helped through advice and business support. And more than 100 new enterprises have been created within the Valleys taskforce area.

The seven strategic hubs were originally conceived as areas where public money and resources would be focused to create opportunities for the private sector to invest and create new jobs. Over the last 12 months, we have made good progress in the development of these hubs. Local authorities in each of the hub areas have led the development of the plans, which are unique to their local area. Each area has been developing a blueprint for future investment, and we are identifying key projects to support long-term transformation. The early work on the hubs is highlighting the benefit that a joined-up approach to this type of investment can bring. We have seen this already with the Taff Vale project, which will provide the new headquarters for Transport for Wales, and help to revitalise Pontypridd’s high street. The Tech Valleys strategic plan has been published, providing strategic direction for investments and programme activity for Ebbw Vale, alongside a £25 million commitment between 2018 and 2021.

Presiding Officer, we are all aware in this Chamber of the metro and the welcome announcement made by my Cabinet colleague Ken Skates about the new rail franchise and the plans for a world-leading rail testing complex for the top of the Dulais valley. The metro is now becoming a reality, but as we have made clear all along, we need to ensure that it delivers far more than transport benefits alone. That will require the active support of a range of organisations, and we are already working across the region to deliver for Valleys communities.

Last week, the First Minister announced that he has appointed Linda Dickens, emeritus professor of industrial relations at the University of Warwick, as chair of our fair work commission. On behalf of the taskforce, I would also like to extend my own thanks to Professor Dickens for agreeing to support us on this journey. The Welsh Government has an ambition for Wales to be a fair work nation, and this work is extremely important to what we're trying to achieve in the Valleys. From the outset, the Valleys taskforce has highlighted the importance of engagement with Valleys communities. That has continued to be a vital element of our work over the course of the last 12 months.

Alongside our traditional methods of engagement, the taskforce has been working closely with three communities—in Llanhilleth, Ferndale, and in Glynneath and Banwen. We have been looking at how we can improve local services and make them better integrated. Each of these pathfinders have agreed a number of actions or activities, and the learning from this work will feed into the wider taskforce approach.

Presiding Officer, the taskforce will be taking forward three digital pilot schemes for the Valleys. We will explore extending public sector broadband networks to create a series of free Wi-Fi hotspots open to all across Valleys communities. We're investigating the creation of an Uber-style app, which would bring together all providers of community transport, making it easier for people to order transport to health appointments. We want to increase the use of online data mapping technologies as a means of promoting the Valleys. This work is closely aligned to the priorities identified by the Cardiff capital city region. It is also another area where the taskforce is acting as a catalyst for wider change. We all recognise the importance of digital technologies in the creation of high-quality jobs.

The Valleys landscape park is key to a third of the priorities in 'Our Valleys, Our Future'. It is at the heart of our ambition to help Valleys communities celebrate and make the most of our natural resources and heritage. We want communities in the Valleys to feel that they are a place that we can be proud to call 'home' and where businesses choose to operate. We want communities to be empowered and to show pride in their environment that is easily accessible and widely used.

The taskforce has spent much of the last year working on developing this exciting and dynamic approach that will co-ordinate, drive and promote activities related to environment and tourism across the south Wales Valleys. We all know just how much the Valleys have to offer, but I want the rest of Wales, the UK and the world to learn more about our history, our culture and our breathtaking scenery.

We have developed the idea for the Valleys landscape park with local communities, with key stakeholders and different interest groups. The aim is for it to deliver ambitious plans that will connect what we are calling 'discovery locations' across the Valleys with walking trails and cycle routes. It is my intention that this will be developed within a defined boundary and supported by a designated land status for the Valleys. We want the Valleys to be a recognised tourist destination. We want to grow the tourism economy in the Valleys to benefit from the economic impact that we know it can have. We are currently working with a number of proposed high-quality tourism developments, which, if realised, will attract new high-spending visitors to the Valleys.

I'm very pleased that this week the Minister for Culture, Tourism and Sport announced the approval of two projects that will make a significant difference to their areas within the Valleys. The £4.6 million Monmouthshire and Brecon Canal Adventure Triangle project will develop outdoor recreation, tourism and leisure activity along the Monmouthshire and Brecon canal in Torfaen and Caerphilly, and will be able to connect the upland area of Mynydd Maen. The project will be delivered by a partnership between Torfaen council, Caerphilly council, the Canal and River Trust, and the Monmouthshire, Brecon and Abergavenny Canals Trust. It will create a focus for visitors interested in outdoor recreation and adventure sports, bringing together a range of facilities to stimulate overnight visitor stays, and will help exploit the economic potential of the currently underused southern section of the canal and surrounding uplands.

Also detailed in the progress report is the upgrade of Llechwen Hall, a three-star country house hotel just outside Pontypridd, set in six acres of grounds. Welsh Government funding has been offered to expand the hotel’s capacity, add a gym and spa facilities and upgrade to a four-star hotel.

There is inspiring community work taking place across the Valleys. We want to build upon this and support people to take it further.

Presiding Officer, I'm sure you will agree with me that there is still very much to do, but, by working with our partners and with people living and working in the Valleys, we will deliver results.

Llywydd, rwy'n ddiolchgar i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed gan dasglu'r Cymoedd ers cyhoeddiad y cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' fis Gorffennaf y llynedd. Hoffwn ddechrau drwy fynegi ar goedd fy niolch personol am waith a chymorth aelodau'r tasglu yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Sefydlwyd tasglu'r Cymoedd ar gyfer creu newid hirhoedlog yng Nghymoedd y de: maes sydd â chyfleoedd aruthrol, ond mwy na'i siâr o heriau hefyd. Rwy'n falch o adrodd heddiw bod y tasglu wedi plannu hadau'r newid hwnnw. Wrth galon y cynllun gweithredu a'r cynllun cyflawni sy'n cyd-fynd â hwnnw a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd y llynedd, ceir tair blaenoriaeth allweddol: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni, gwasanaethau cyhoeddus gwell, a'm cymuned leol i. Ceir mwy na 60 o gamau gweithredu unigol i'r blaenoriaethau hyn, a ddatblygwyd yn dilyn gwaith ymgysylltu eang â phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y de. Rydym ni o'r farn y bydd y camau hyn yn sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol i gymunedau yn y Cymoedd.

Mae'r tasglu yn cyhoeddi adroddiad heddiw ar gynnydd y flwyddyn gyntaf, yn nodi ehangder y gwaith dros y 12 mis diwethaf, a hoffwn i, Llywydd, gyda'ch cydsyniad chi, rannu peth o'r cynnydd hwnnw gyda chi heddiw. Flwyddyn yn ôl, gosododd y tasglu darged heriol o gau'r bwlch cyflogaeth rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru. Mae hyn yn golygu helpu 7,000 yn fwy o bobl i gael gwaith teg a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd. Dros y 12 mis diwethaf, mae mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn ardaloedd tasglu'r Cymoedd wedi dechrau gweithio drwy raglenni cyflogaeth a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd bron 1,000 o bobl a busnesau bach eu helpu drwy gael cyngor a chymorth busnes. Ac mae mwy na 100 o fentrau newydd wedi cael eu creu o fewn ardal tasglu'r Cymoedd.

Lluniwyd y saith canolfan strategol yn wreiddiol fel ardaloedd lle byddai arian cyhoeddus ac adnoddau yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd da i ddatblygu'r canolfannau hyn. Mae awdurdodau lleol ym mhob un o'r ardaloedd wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau, sy'n unigryw i'w hardal leol. Mae pob ardal wedi bod yn datblygu glasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, ac rydym yn nodi'r prosiectau allweddol i gefnogi trawsnewid hirdymor. Mae'r gwaith cynnar ar y canolfannau yn tynnu sylw at y budd y gall dull cydgysylltiedig o weithredu'r math hwn o fuddsoddiad ei gynnig. Rydym wedi gweld hyn eisoes gyda phrosiect Bro Taf, a fydd yn rhoi pencadlys newydd i Drafnidiaeth Cymru, ac yn helpu i adfywio stryd fawr Pontypridd. Cyhoeddwyd Cynllun Strategol Cymoedd Technoleg, gan roi cyfeiriad strategol i fuddsoddiadau a gweithgarwch rhaglen yng Nglynebwy, ochr yn ochr ag ymrwymiad o £25 miliwn rhwng 2018 a 2021.

Llywydd, mae pawb yn y Siambr hon yn ymwybodol o'r metro ac yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaeth fy nghyd-Weinidog Ken Skates am y fasnachfraint rheilffyrdd newydd a'r cynlluniau sy'n flaenllaw yn fyd-eang ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd ar frig Cwm Dulais. Mae'r metro nawr yn cael ei wireddu, ond fel yr eglurwyd ar hyd y daith, mae angen inni sicrhau ei fod yn cyflawni llawer mwy na manteision trafnidiaeth yn unig. Ar gyfer hynny bydd angen cefnogaeth weithredol amrywiaeth o sefydliadau, ac rydym yn gweithio ledled y rhanbarth eisoes i gyflawni er budd cymunedau'r Cymoedd.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi Linda Dickens, Athro Emeritws mewn cysylltiadau diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick, yn gadeirydd ein comisiwn gwaith teg. Ar ran y tasglu, hoffwn fynegi fy niolch innau i'r Athro Dickens am gytuno i'n cefnogi ni ar y daith hon. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i Gymru fod yn genedl gwaith teg, ac mae'r gwaith hwn yn bwysig iawn o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn y Cymoedd. O'r cychwyn cyntaf, mae tasglu'r Cymoedd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau'r Cymoedd. Mae hynny wedi parhau i fod yn elfen hanfodol o'n gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ochr yn ochr â'n dulliau traddodiadol o ymgysylltu, mae'r tasglu wedi bod yn gweithio'n agos gyda thair chymuned—yn Llanhiledd, Glynrhedynog, ac yng Nglyn-nedd a Banwen. Rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau lleol a'u gwneud nhw'n fwy integredig. Mae pob un o'r cynlluniau braenaru hyn wedi cytuno ar nifer o gamau gweithredu neu weithgareddau, a bydd yr hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn yn ychwanegu at ddull ehangach y tasglu o weithredu.

Llywydd, bydd y tasglu yn datblygu tri chynllun peilot digidol ar gyfer y Cymoedd. Byddwn yn ystyried ymestyn rhwydweithiau band eang y sector cyhoeddus i greu dilyniant o lecynnau Wi-Fi rhad ac am ddim sy'n agored i bawb ledled cymunedau'r Cymoedd. Rydym yn gwneud ymchwil i lunio ap ar ddull Uber, a fyddai'n dwyn ynghyd ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol, gan ei gwneud yn haws i bobl i drefnu trafnidiaeth ar gyfer eu hapwyntiadau iechyd. Rydym yn awyddus i gynyddu'r defnydd o dechnolegau mapio data ar-lein fel cyfrwng i hyrwyddo'r Cymoedd. Mae'r gwaith hwn yn cydfynd yn agos â'r blaenoriaethau a nodwyd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae hefyd yn faes arall lle y mae'r tasglu yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid ehangach. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd technolegau digidol yn natblygiad swyddi o ansawdd uchel.

Mae parc tirwedd y Cymoedd yn allweddol o ran traean y blaenoriaethau yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae wrth galon ein huchelgais i helpu cymunedau'r Cymoedd i ddathlu a gwneud y mwyaf o'n hadnoddau naturiol a'n treftadaeth. Rydym yn awyddus i weld cymunedau yn y Cymoedd yn teimlo eu bod yn ardal y gallwn fod yn falch o'i galw yn 'gartref' ac y bydd busnesau yn dewis gweithredu ynddi. Rydym yn awyddus i gymunedau ennill hyder a dangos balchder yn eu hamgylchedd sydd yn rhwydd i'w gyrraedd a'r defnydd ohono yn helaeth.

Mae'r tasglu wedi treulio llawer o amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gweithio ar ddatblygu'r dull cyffrous a deinamig hwn a fydd yn cydgysylltu, yn gyrru ac yn hybu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a thwristiaeth ledled Cymoedd y de. Rydym ni i gyd yn gwybod cymaint sydd gan y Cymoedd i'w gynnig, ond rwy'n dymuno y bydd gweddill Cymru, y DU a'r byd yn dysgu mwy am ein hanes, ein diwylliant, a'n golygfeydd syfrdanol.

Rydym wedi datblygu'r syniad ar gyfer parc tirwedd y Cymoedd gyda chymunedau lleol, gyda rhanddeiliaid allweddol a gwahanol grwpiau buddiant. Y nod yw cyflawni cynlluniau uchelgeisiol a fydd yn cysylltu'r hyn yr ydym yn ei alw yn 'lleoliadau darganfod' ledled y Cymoedd â llwybrau cerdded a llwybrau beicio. Fy mwriad i yw y bydd hyn yn datblygu o fewn ffiniau diffiniedig a chaiff ei gefnogi gan statws tir dynodedig ar gyfer y Cymoedd. Rydym yn eiddgar i'r Cymoedd fod yn gyrchfan gydnabyddedig i dwristiaid. Rydym yn awyddus i feithrin yr economi twristiaeth yn y Cymoedd ar gyfer elwa ar yr effaith economaidd y gwyddom sy'n bosibl. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda nifer o ddatblygiadau twristiaeth arfaethedig o ansawdd uchel, a fydd, pe digwydd hynny, yn denu ymwelwyr newydd i'r Cymoedd a fydd yn gwario llawer o arian.

Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cyhoeddi cymeradwyaeth i ddau brosiect yr wythnos hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w hardaloedd yn y Cymoedd. Bydd y prosiect £4.6 miliwn Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn datblygu gweithgarwch twristiaeth a hamdden yn yr awyr agored ar hyd camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhor-faen a Chaerffili, a bydd yn gallu cysylltu ag ardal ucheldirol Mynydd Maen. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen, Cyngor Caerffili, Ymddiriedolaeth yr Afonydd a'r Camlesi, ac Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Aberhonddu a'r Fenni. Bydd yn canolbwyntio ar ymwelwyr sydd â diddordeb mewn gweithgareddau hamdden awyr agored a chwaraeon antur, gan ddwyn ynghyd amrywiaeth o gyfleusterau i ysgogi ymwelwyr i aros dros nos, a bydd yn helpu i fanteisio ar botensial economaidd rhan ddeheuol y gamlas nad yw'n cael ei defnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd, a'r ucheldir cyfagos.

Ceir manylion hefyd yn yr adroddiad cynnydd am uwchraddio Neuadd Llechwen, gwesty gwledig tair seren ger Pontypridd, a leolir mewn chwe acer o dir. Cynigiwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu maint y gwesty, ychwanegu cyfleusterau campfa a sba ac uwchraddio i westy pedair seren.

Mae gwaith cymunedol ysbrydoledig yn digwydd ledled y Cymoedd. Rydym yn dymuno adeiladu ar hyn a chefnogi pobl i fynd gam ymhellach.

Llywydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llawer iawn i'w wneud eto, ond, gan weithio gyda'n partneriaid a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, byddwn yn gwireddu'r canlyniadau.

14:45

During January's debate here on the 'Our Valleys, Our Future' delivery plan, I noted that the value of goods and services produced per head of population in the west Wales and the Valleys sub-region was still bottom across the UK, with the Gwent valleys second only to Anglesey as the lowest in the UK. I also noted that the Bevan Foundation's 'Tough times ahead? What 2018 might hold for Wales' report said that unemployment performance was unlikely to be enough to boost those parts of Wales where unemployment stood well above the UK figure, such as Merthyr Tydfil and Blaenau Gwent, that there is nothing to be gained by pretending that all is rosy, and that performance was also unlikely to help young adults, with more than one in eight 16 to 24-year-olds out of work in Wales as a whole.

This plan includes within it an action: working with people who live and work in the south Wales Valleys and with the Cardiff region and Swansea bay city deals, UK Government, businesses and the third sector. In January, I asked how you were monitoring to ensure, if you believe you should, that this involves true co-production, turning the power thing upside down, if the Welsh Government is not to repeat the approaches of the last 18 years, thereby enabling people and professionals to share power and work in equal partnership.

Today's statement by the Bevan Foundation that the 'Our Valleys, Our Future' programme to improve the south Wales Valleys is bland and not reaching those who most need it is concerning. How do you respond to their statement today that this amounts to more of the same? How do you respond to their statement that recent investment in Taff's Well and Nantgarw was not in core Valleys areas? You state that 1,000 people started employment programmes. How many completed them? How many went into employment, of those 1,000? How do you respond to the Bevan Foundation's statement today that the target to get 7,000 into work sounds really impressive, but, if you look a bit deeper, that it's not very ambitious at all, that it's around about the numbers achieved over the last few years, and that if we carry on doing more of the same, the Valleys won't change? How do you respond to their statement that unemployment is 25 per cent of young males in some areas, and that there have been job losses in retail and small factories? And how do you respond to their statement that they are puzzled as to how the Welsh Government could live with deprivation virtually on its doorstep, without sufficient proposals to push investment and skills?

Yn ystod dadl mis Ionawr ar y cynllun cyflenwi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', nodais fod gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth yn y gorllewin ac yn is-ranbarth y Cymoedd yn parhau ar y gwaelod ledled y DU, gyda chymoedd Gwent, yn ail yn unig i Ynys Môn, yr isaf yn y DU. Nodais hefyd fod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough times ahead? What 2018 might hold for Wales' wedi dweud bod y perfformiad diweithdra yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae cyfradd diweithdra ymhell uwchlaw ffigur y DU, fel Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Roedd yn dweud hefyd nad oes dim i'w ennill o esgus fod popeth yn dda, ac y byddai'r perfformiad hwnnw yn annhebygol o helpu oedolion ifanc, gyda mwy nag un mewn wyth o'r rhai rhwng 16 a 24 oed yn ddi-waith yng Nghymru gyfan.

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys cam gweithredu: gweithio gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y de, a hefyd gweithio â bargeinion dinesig dinas-ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe, Llywodraeth y DU, busnesau a'r trydydd sector. Ym mis Ionawr, gofynnais sut yr oeddech yn monitro i sicrhau, os credwch y dylech chi, bod hyn yn golygu gwir gydgynhyrchu, gan wyrdroi mater pŵer, os nad yw Llywodraeth Cymru am ailadrodd dulliau'r 18 mlynedd diwethaf, gan alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu pŵer a gweithio mewn partneriaeth gyfartal.

Achos pryder yw'r datganiad heddiw gan Sefydliad Bevan sy'n dweud mai diafael yw'r rhaglen i gael adferiad i Gymoedd y de 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ac nid yw'n cyrraedd y rhai hynny sydd â'r angen mwyaf. Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad heddiw bod hyn yn gyfystyr â mwy o'r un peth? Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad nad oedd buddsoddiad yn ddiweddar yn Ffynnon Taf a Nantgarw yn ardaloedd craidd y Cymoedd? Rydych yn dweud bod 1,000 o bobl wedi cychwyn rhaglenni cyflogaeth. Faint o'r rheini sydd wedi eu cwblhau nhw? Faint o'r 1,000 hynny gafodd gyflogaeth? Sut ydych yn ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan heddiw fod y targed o gael 7,000 o bobl mewn cyflogaeth yn swnio'n drawiadol iawn? Os edrychwch chi ar hynny ychydig yn fanylach, nid yw'n uchelgeisiol iawn o gwbl. Mae'n golygu'r niferoedd a gyflawnwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac os parhawn i wneud mwy o'r un peth, ni fydd y Cymoedd yn newid. Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad bod diweithdra yn 25 y cant ymysg dynion ifanc mewn rhai ardaloedd, ac y collwyd swyddi mewn manwerthu a ffatrïoedd bach? A sut wnewch chi ymateb i'w datganiad eu bod yn synnu sut y gallai Llywodraeth Cymru fyw gydag amddifadedd fwy neu lai ar garreg y drws, heb ddigon o gynigion i hybu buddsoddiad a sgiliau?

14:50

I'm grateful to the Conservative spokesperson for those questions. Can I say first of all that I did read the response of the Bevan Foundation? I actually enjoyed it. I thought it was a very good response, actually. I thought it was very well articulated, and I thought it made some very fair points. Can I say more than anything that I share the same frustration? I want to see a greater tempo of change. I want to see a greater tempo of delivering very real change to the communities that I represent and elsewhere. I think it's right and proper that that sense of impatience underpins a lot of our debate and much of what we say. I don't believe for one moment, and I don't seek to make any claims, that all in the garden is rosy, and I don't seek to make any claims that we have, in a little more than 18 months, turned around nearly a century of decline. I think it would be absurd were I to come to the Chamber and make those claims, and I think it would be absurd were the Government to seek to make those claims on our behalf. That's not what we are saying. In my statement, I said we were planting the seeds for sustainable transformation, and that is what we are seeking to do.

I reject any claim that we're not being ambitious enough. When I look at projects such as the landscape park, I look at something that is really transformational, and transformational in the sense of not simply putting investment in infrastructure or in a particular industrial complex, but inspirational in the way that we regard ourselves and our communities. One of the real tragedies of recent years is that too many people in the Valleys feel that there is very little hope for the future. We need to turn that around, and we need to turn that around not simply by making the physical investments that we need to be able to do—and we must do, and we will do—but also by investing in our people, our culture, our heritage and our environment. The landscape park brings together all of those different aspects of what we're seeking to achieve, and seeks to package it in a way that transforms not just the physical expression of who we are, but a cultural understanding of who we are as well. I think that speaks to the ambition of what we seek to achieve.

Now, I understand the debates about whether Taff's Well or Nantgarw are 'Valleys' enough. Are they deep enough into a particular Valley or not? Are they in the Valleys at all? I have to say that it's not a debate I intend to join, either this afternoon or at any point.

I think the more fundamental point that was made by the Bevan Foundation is more important, and that is the importance of investment in the Heads of the Valleys area and parts of the upper Valleys region where there are more significant and deep-seated problems and difficulties. For those of us who campaigned for the dualling of the A465—the Heads of the Valleys road—something like a decade ago now, we did that not to build a bypass past our communities, but to create an opportunity for real connectivity between the Heads of the Valleys area and the wider economy. What we saw that as being was a means of developing an industrial strategy for the Heads of the Valleys. I've already held one seminar on how we do that and how we maximise the advantage of that investment, and we'll be returning to that in September, because, for me, what is important is that we put in place the investments that we need to put in place to create sustainable and well-paid employment, but we also put in place the investments to ensure that that employment and that way of living is sustainable for the future. So, certainly we will not be living with deprivation. We do not wish to live with deprivation, and I'll say to the Conservative Member for North Wales that I see deprivation all too often when I return to my constituency after my duties here. I am impatient to change that. That is why I came into politics in the first place, and that is what I and this Government seek to do.

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y cwestiynau hyn. A gaf i ddweud yn gyntaf un fy mod i wedi darllen ymateb Sefydliad Bevan? Mewn gwirionedd cefais fwynhad ohono. Roeddwn o'r farn ei fod yn ateb da iawn, a dweud y gwir. Roeddwn yn credu ei fod wedi ei fynegi'n dda iawn, a'i fod yn gwneud rhai pwyntiau teg iawn. A gaf i ddweud yn fwy na dim fy mod yn rhannu'r un rhwystredigaeth? Rwy'n eiddgar i weld newid cyflymach. Rwy'n eiddgar i weld amseriad cyflymach a sicrhau newid gwirioneddol yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli ac mewn mannau eraill. Credaf ei bod yn deg a phriodol i'r ymdeimlad hwnnw o fod yn ddiamynedd fod yn sail i lawer o'n trafodaethau a llawer o'r hyn a ddywedwn. Nid wyf yn credu am funud, ac nid wyf yn ceisio honni bod pethau'n fêl i gyd, ac nid wyf yn ceisio honni ein bod, mewn ychydig dros 18 mis, wedi gwyrdroi bron canrif o ddirywiad. Credaf y byddai'n hurt pe byddwn yn dod i'r Siambr ac yn gwneud honiadau fel hyn, a chredaf y byddai'n hurt pe byddai'r Llywodraeth yn ceisio gwneud yr honiadau hynny ar ein rhan ni. Nid ydym yn dweud hynny. Yn fy natganiad, dywedais ein bod yn plannu hadau'r trawsnewid cynaliadwy, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud.

Rwy'n gwrthod unrhyw honiad nad ydym yn ddigon uchelgeisiol. Pan edrychaf ar brosiectau fel y parc tirwedd, rwy'n edrych ar rywbeth gwirioneddol drawsnewidiol a thrawsnewidiol yn yr ystyr nid o fuddsoddi mewn seilwaith neu ganolfan ddiwydiannol benodol yn unig, ond yn ysbrydoledig yn y ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain a'n cymunedau. Un o'r trychinebau gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf yw bod gormod o bobl yn y Cymoedd yn teimlo nad oes fawr ddim gobaith i'r dyfodol. Mae angen inni droi hynny ar ei ben, ac mae angen inni droi hynny ar ei ben nid yn unig drwy wneud y buddsoddiadau materol y mae angen inni eu gwneud—ac y mae'n rhaid inni, ac fe wnawn ni—ond hefyd drwy fuddsoddi yn ein pobl, ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hamgylchedd. Mae'r parc tirwedd yn dwyn ynghyd yr holl wahanol agweddau hynny ar yr hyn a geisiwn ei gyflawni, ac yn ceisio ei becynnu mewn ffordd sydd nid yn unig yn trawsnewid y mynegiant corfforol o bwy ydym ni, ond ein dealltwriaeth ddiwylliannol o bwy ydym ni hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n siarad dros uchelgais yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.

Nawr, rwy'n deall y dadleuon ynghylch a yw Ffynnon Taf neu Nantgarw yn ddigon o 'Gymoedd' o ran eu hanian. A ydyn nhw'n ddigon isel mewn cwm arbennig neu beidio? A ydyn nhw yn y Cymoedd o gwbl? Mae'n rhaid imi ddweud nad yw honno'n ddadl y bwriadaf ymuno ynddi, y prynhawn yma nac unrhyw bryd arall.

Credaf fod y pwynt mwy sylfaenol a wnaeth Sefydliad Bevan yn bwysicach, a hwnnw yw pwysigrwydd buddsoddi yn ardal Blaenau'r Cymoedd a rhannau o ranbarth y Cymoedd uchaf lle ceir problemau ac anawsterau mawr a dwfn. I'r rhai ohonom a ymgyrchodd dros ddeuoli'r A465—ffordd Blaenau'r Cymoedd—ryw ddegawd yn ôl, roeddem yn gwneud hynny nid  i adeiladu ffordd ar gyfer osgoi ein cymunedau, ond i greu cyfle ar gyfer cysylltedd gwirioneddol rhwng ardal Blaenau'r Cymoedd a'r economi yn ehangach. Roeddem yn ystyried y byddai hwnnw'n ddull o ddatblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Rwyf eisoes wedi cynnal un seminar ar sut yr ydym yn gwneud hynny a sut y gallwn gynyddu'r budd o'r buddsoddiad hwnnw. Byddwn yn dychwelyd at hynny ym mis Medi, oherwydd, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn rhoi ar waith y buddsoddiadau y mae angen i ni eu rhoi ar waith i greu gwaith cynaliadwy sy'n talu'n dda, ond ein bod hefyd yn rhoi buddsoddiadau ar waith i sicrhau bod y gyflogaeth a bod y ffordd honno o fyw yn gynaliadwy i'r dyfodol. Felly, yn sicr ni fyddwn yn cydfyw ag amddifadedd. Nid ydym yn dymuno cydfyw ag amddifadedd, a dywedaf wrth yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru fy mod yn gweld amddifadedd yn rhy aml o lawer pan fyddaf yn dychwelyd i fy etholaeth i wedi gorffen fy nyletswyddau yn y fan hon. Rwy'n dyheu am newid hynny. Dyna pam y deuthum i mewn i wleidyddiaeth yn y lle cyntaf, a dyna'r hyn yr wyf i a'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.

14:55

Alun Davies is right, of course, that in the near enough century of economic crisis we've witnessed in the former coalfield communities, since the collapse of the coal price in 1924, we've had a series of interventions and initiatives and strategies, and I think they can all be summed up, really, as micro progress and macro decline. The question that I think we must pose to him, and I'm sure he poses it to himself, is: how can this initiative escape that fate? We've had, time after time, raised expectations and dashed hopes, and that would be the ultimate disservice to these communities.

So, I welcome the progress report. There are many things in it that it's difficult not to like at the micro level, but, if it is to be genuinely transformational, then I think we need to engage with the kind of critical challenge—and I'm glad that he was positive about the critique offered by the Bevan Foundation, because I share some it—. Are we targeting the right things, is the focus correct? You referred to geography, and that's a critical question as well. Are the interventions collectively on a sufficient scale compared to the challenge, and are the structures right? I'm just digging very briefly into some of this.

Jobs: the only figure—the major figure that we have in targets—is the 7,000 jobs. There is a little bit of confusion there because, actually, if we look at the job creation record, or the number of jobs in the Valleys taskforce area, actually, over the five-year period to 2016, it went up to 22,000. So, at least on the face of it, unless you can correct me, it seems that the target is less ambitious than the trend rate over the previous five-year period. Even digging a little bit further than that, isn't really the issue the quality of those jobs? The problem now in many of these Valleys communities is not the number of jobs per se; it is the quality, it is the low-skill and low-paid nature of many of those jobs. It's a productivity problem and then it's about investing in skills.

On the issue of whether it is of sufficient scale, if you look at some of the earlier initiatives—the strategic regeneration areas, for example, under a previous administration, the One Wales Government—there were designated pots of money in what were effectively versions of the strategic hubs that he's created. We still don't have any clarity about the amount of global investment that is going into this programme or, indeed, attached to those strategic hubs. When will we get the assurances that, actually, we're going to get significant investment over the course of a generation, which, actually, is necessary in order to effect change?

And, finally, when we compare the Valleys taskforce—. And I also pay tribute to the incredibly impressive engagement that's gone on and the volunteers that sit on the taskforce, but, when you compare that to the structures of the city regions—the city regions, which, through their governance structures, involve many of the key agencies, including local government, and have huge budgets attached to them—then it's an unequal equation at the moment and it's no surprise that there is this concern that what is happening is the magnet of the M4 corridor within those city regions is continuing to wield its enormous power. And how can the Valleys taskforce drive the necessary investment in a different direction to the core Valleys areas that he referred to earlier?

Mae Alun Davies yn iawn, wrth gwrs, yn ystod bron canrif o argyfwng economaidd a welwyd mewn cyn-ardaloedd glofaol, ers cwymp pris glo ym 1924, rydym wedi cael cyfres o ymyriadau a mentrau a strategaethau a chredaf y gellid crynhoi'r cyfan, yn wir, fel cynnydd bach a dirywiad mawr. Y cwestiwn y mae'n rhaid i ni ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn ei ofyn iddo'i hun, yw: sut y gall y fenter hon ddianc rhag y dynged honno? Rydym wedi gweld, dro ar ôl tro, godi disgwyliadau a chwalu gobeithion, a'r anghymwynas fwyaf fyddai honno i'r cymunedau hyn.

Felly, croesawaf yr adroddiad ar y cynnydd. Mae llawer o bethau ynddo sydd yn anodd peidio â'u hoffi ar y lefel micro, ond, os yw am fod yn wirioneddol drawsnewidiol, rwy'n credu bod angen inni wedyn ymgysylltu gyda'r math o her feirniadol—ac rwy'n falch ei fod yn gadarnhaol am y feirniadaeth a roddir gan Sefydliad Bevan, oherwydd fy mod yn rhannu peth—. A ydym ni'n targedu'r pethau iawn, a yw'r ffocws yn gywir? Roeddech yn cyfeirio at ddaearyddiaeth, a dyna gwestiwn hollbwysig hefyd. A yw'r ymyriadau ar y cyd ar raddfa ddigonol o'i chymharu â'r her, ac a yw'r strwythurau yn iawn? Rwyf am ddilyn peth o'r trywydd hwn yn fyr iawn.

Swyddi: yr unig ffigur—y ffigur mawr sydd gennym mewn targedau—yw'r 7,000 o swyddi. Mae ychydig o ddryswch yn y fan hon oherwydd, mewn gwirionedd, os edrychwn ar y record o ran creu swyddi, neu nifer y swyddi yn ardal tasglu'r Cymoedd, mewn gwirionedd, dros y cyfnod o bum mlynedd hyd 2016, aeth i fyny i 22,000. Felly, o leiaf ar y wyneb, oni bai i chi fy nghywiro i, ymddengys bod y targed yn llai uchelgeisiol na thuedd y gyfradd dros y pum mlynedd flaenorol. A chan dilyn ychydig mwy ar y trywydd na hynny, onid y mater gwirioneddol yw ansawdd y swyddi hynny? Erbyn hyn y broblem mewn llawer o gymunedau yn y Cymoedd hyn yw nid nifer y swyddi fel y cyfryw; ond eu hansawdd, sef natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny. Problem cynhyrchiant yw hon, ac yna mae'n ymwneud â buddsoddi mewn sgiliau.

O ran a yw'r raddfa'n ddigonol, os edrychwch ar rai o'r mentrau cynharach—yr ardaloedd adfywio strategol, er enghraifft, dan weinyddiaeth flaenorol, Llywodraeth Cymru'n Un—roedd cronfeydd o arian dynodedig mewn gwirionedd yn y fersiynau o'r canolfannau strategol a grëodd. Nid oes gennym unrhyw eglurder o hyd ynghylch maint y buddsoddiad cyfan sydd yn mynd i'r rhaglen hon neu, yn wir, sydd ynghlwm wrth y canolfannau strategol hynny. Pryd y cawn ni'r sicrwydd ein bod, mewn gwirionedd, am gael buddsoddiad sylweddol dros gyfnod cenhedlaeth, sydd, mewn gwirionedd, yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau newid?

Ac, yn olaf, pan ydym yn cymharu tasglu'r Cymoedd—. A hoffwn innau dalu teyrnged i'r ymgysylltu hynod drawiadol sydd wedi digwydd a'r gwirfoddolwyr sy'n eistedd ar y tasglu, ond pan fyddwch yn cymharu hynny â strwythurau'r dinas-ranbarthau—y dinas-ranbarthau, sydd, drwy eu strwythurau llywodraethu, yn cynnwys llawer o asiantaethau allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Leol, ac mae ganddyn nhw gyllidebau enfawr ynghlwm wrthyn nhw—yna hafaliad annheg yw hwnnw ar hyn o bryd ac nid yw'n syndod fod pryder ynghylch yr hyn sy'n digwydd, sef bod magnet coridor yr M4 o fewn y dinas-ranbarthau yn parhau i arfer ei rym anferthol. A sut all tasglu'r Cymoedd yrru'r buddsoddiad angenrheidiol mewn cyfeiriad arall i ardaloedd craidd y Cymoedd hynny y cyfeiriodd ato yn gynharach?

15:00

Presiding Officer, before answering the questions from the Plaid Cymru spokesperson, I think that Members on all sides of the Chamber would like to join me in welcoming him back to this place and congratulating him and wishing his family well in the future. I think all of us on all sides of the Chamber want to pass on our good wishes to you.

Can I say this? In terms of where we are today, you've asked some very fundamental questions and, if I'm completely honest with you in answering them, I will say to you, 'Is the focus correct? Are the interventions correct? Are the structures in place?' I hope so. But let me say this: I am impatient for change. I am not content and I will not come here simply to say that what we've put in place over the last 18 months or so will remain in place. I'm continually looking at the structures and the processes that we have in place, and, if I do not believe that they're delivering the change we want to see, then I will have no hesitation at all in making the changes to ensure that we do achieve the change that we want to see. So, I hope—.

His characterisation of previous initiatives—micro progress and macro decline—is a well-made criticism and that is a criticism that we hope to learn from rather than repeat. It is not my wish, this afternoon, to simply come here and say, 'We have a report, and, come what may, whatever criticisms are made of that report, I will defend it in a ditch'. That is not my purpose. My purpose is to come here and report honestly and clearly and to learn from the critiques made, both by Members here and by the wider community, which is why, like you—. I probably enjoyed reading the Bevan Foundation's report slightly less than you did, if I'm completely honest, but I thought the arguments were good and well made.

So, in terms of the scaling up of our ambition, that is the key challenge facing us. Ensuring that we're able to put the investments in place in strategic hubs, which will then successfully lever in the private sector investment, is the key challenge. Ensuring that we do have the relationship with city regions and other strategic bodies is a key challenge. And I'm not convinced that we have that in place at the moment, if I'm completely honest in my responses.

But let me say this: the taskforce itself—. And this is one area where I am concerned about where this debate goes sometimes. Too often, people believe that the taskforce is itself a Government body that has a life of its own—its own headed notepaper and flag and a headquarters building somewhere. It isn't. The taskforce is a way of focusing Welsh Government approach and policy on the Valleys of south Wales. So, when we talk about the taskforce, what we're talking about is the approach and policy of the Welsh Government and not simply a group of civil servants or a single Minister or a group of Ministers acting independently of Government. So, all the resources we have available to us are the resources of Government and those resources need to be brought to bear on the issues of deprivation that were very well described by Mark Isherwood.

And, in terms of what we're seeking to achieve, the target is 7,000 people rather than 7,000 jobs. But the overall criticism made by the Plaid Cymru spokesperson is well made again. We are looking at the quality of work and we are looking at Wales as a fair work nation. The reason I wanted to specifically acknowledge the work of Professor Dickens in my opening statement was to make that very point. We recognise and we know that if we look at employment levels alone in the Valleys we don't tell the true story. In fact, we learn the wrong lessons. All too often, people in employment in many parts of the Valleys, including my own constituency, and I'm sure parts of the Member's constituency in Carmarthenshire as well, are working in poorly paid jobs that are insecure and don't have the opportunities for skills development that we would wish to see. So, what we need to do is not simply ensure that people have that sort of low skilled, insecure, poorly paid work available to them, but that we have the sort of jobs that will lead to careers in the Valleys and in the Heads of the Valleys and in all parts of the Valleys. That is our ambition and, in developing the target for 7,000 people, what we wanted to do—. The target didn't appear out of thin air; where it came from was to bring the Valleys parts of the local authorities in question up to the same levels as the rest of Wales, and to achieve that in five years. That is the scale of our ambition.

The Member is a very good and skilled economic historian; he knows the difficulties that have faced the Valleys over decades. What we seek to do is to plant the seeds of change, and that will take more than 18 months and it'll take more than two years. But what I hope we'll be able to do is to demonstrate that we have in place the foundations for a very different future for our Valleys.

Llywydd, cyn ateb y cwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru, credaf y byddai'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn hoffi ymuno â mi i'w groesawu ef yn ôl i'r lle hwn a'i longyfarch a dymuno'n dda i'w deulu i'r dyfodol. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom ar bob ochr i'r Siambr yn awyddus i gyfleu ein dymuniadau da i chi.

A gaf i ddweud hyn? O ran ein sefyllfa heddiw, rydych wedi gofyn rhai cwestiynau sylfaenol iawn ac, os byddaf yn gwbl onest gyda chi wrth eu hateb, rwy'n dweud wrthych, 'A yw'r ffocws yn iawn? A yw'r ymyriadau yn iawn? A yw'r strwythurau yn eu lle?' Rwy'n gobeithio hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n awchu am weld newid. Nid wyf i'n fodlon ac nid ydwyf am ddod i'r fan hon yn unig er mwyn dweud y bydd yr hyn yr ydym wedi ei roi ar waith dros y 18 mis diwethaf yn parhau i fod ar waith. Rwy'n edrych yn barhaus ar y strwythurau a'r prosesau sydd ar waith gennym, ac, os nad wyf yn credu eu bod yn cyflawni'r newid yr ydym yn ei ddymuno, yna ni fyddaf yn petruso o gwbl wrth wneud newidiadau i sicrhau y gallwn gyflawni'r newid yr ydym yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n gobeithio—.

Mae ei bortread o fentrau blaenorol—cynnydd bach a dirywiad mawr—yn feirniadaeth deg ac yn feirniadaeth y gobeithiwn y byddwn yn dysgu oddi wrthi yn hytrach na'i hailadrodd. Nid fy nymuniad i y prynhawn yma yw dod yma a dweud, 'Mae gennym ni adroddiad, a, doed a ddelo, pa feirniadaethau beth bynnag a wneir o'r adroddiad hwnnw, byddaf yn ei amddiffyn hyd yr eithaf'. Nid dyna fy mwriad. Fy mwriad i yw dod yma ac adrodd yn onest ac eglur a dysgu o'r feirniadaeth, gan Aelodau yma a chan y gymuned yn ehangach, a dyna pam, fel chithau—. Mae'n debyg na chefais i lawn cymaint o fwynhad o ddarllen adroddiad Sefydliad Bevan ag y cawsoch chi, os wy'n gwbl onest, ond roeddwn o'r farn fod y dadleuon yn dda a theg.

Felly, o ran cynyddu ein dyhead, dyna'r her allweddol sy'n ein hwynebu. Yr her allweddol yw sicrhau y gallwn roi'r buddsoddiadau ar waith mewn canolfannau strategol, a fydd wedyn yn denu buddsoddiad y sector preifat yn llwyddiannus. Mae sicrhau bod gennym ni'r berthynas â'r dinas-ranbarthau a'r cyrff strategol eraill yn her allweddol. Ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod hynny'n digwydd ar hyn o bryd, os wy'n gwbl onest yn fy ymatebion.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: y tasglu ei hun —. Ac mae hwn yn un maes yr wyf yn pryderu yn ei gylch o ran cyfeiriad y ddadl hon weithiau. Yn rhy aml, mae pobl yn credu bod y tasglu ynddo'i hun yn un o gyrff y Llywodraeth sydd â'i fywyd ei hun—gyda'i bapur ysgrifennu a phennawd iddo, a baner a phencadlys yn rhywle. Nid felly y mae. Ffordd o ganolbwyntio dull a pholisi Llywodraeth Cymru ar Gymoedd y de yw'r tasglu. Felly, pan fyddwn yn sôn am y tasglu, yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw dull a pholisi Llywodraeth Cymru ac nid dim ond grŵp o weision sifil neu un Gweinidog neu grŵp o Weinidogion sy'n gweithredu yn annibynnol ar Lywodraeth. Felly, yr holl adnoddau sydd gennym ni yw adnoddau'r Llywodraeth ac mae angen i'r adnoddau hynny gael eu rhoi ar waith i bwyso ar yr achosion o amddifadedd a ddisgrifiwyd yn dda iawn gan Mark Isherwood.

Ac, o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni, y targed yw 7,000 o bobl yn hytrach na 7,000 o swyddi. Ond mae'r feirniadaeth gyffredinol a wnaeth llefarydd Plaid Cymru yn gymen unwaith eto. Rydym yn edrych ar ansawdd y gwaith ac rydym yn edrych ar Gymru fel cenedl gwaith teg. Y rheswm dros gydnabod yn benodol waith yr Athro Dickens yn fy natganiad agoriadol oedd gwneud yr union bwynt hwnnw. Rydym yn cydnabod ac yn gwybod, pe byddem yn edrych yn unig ar lefelau cyflogaeth yn y Cymoedd ni fyddem yn adrodd y stori wirioneddol. Yn wir, rydym yn dysgu'r gwersi anghywir. Yn rhy aml o lawer, mae pobl mewn cyflogaeth mewn llawer rhan o'r Cymoedd, gan gynnwys fy etholaeth i, a rhannau o etholaeth yr Aelod yn Sir Gaerfyrddin hefyd, rwy'n siŵr, yn gweithio mewn swyddi sy'n talu'n wael ac yn ansicr ac nid oes ganddyn nhw'r cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau yr hoffem eu gweld. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw hyn–nid sicrhau bod gan bobl y math hwnnw o waith sgiliau isel ac ansicr, sy'n talu'n wael, ond y bydd y math o swyddi sydd gennym yn arwain at yrfaoedd yn y Cymoedd ac ym Mlaenau'r Cymoedd ac ym mhob rhan o'r Cymoedd. Dyna yw ein huchelgais ni. Ac wrth ddatblygu'r targed o 7,000 o bobl, yr hyn yr oeddem yn dymuno ei wneud—. Nid ymddangos o'r awyr wnaeth y targed; roedd yn tarddu o'r dymuniad i ddod â'r rhannau o'r awdurdodau lleol dan sylw yn y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru, a chyflawni hynny o fewn pum mlynedd. Dyna yw maint ein huchelgais.

Mae'r Aelod yn hanesydd economaidd da a medrus iawn; mae'n gwybod am yr anawsterau a wynebwyd gan y Cymoedd dros y degawdau. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw plannu hadau'r newid, a bydd hynny'n cymryd mwy na 18 mis a bydd yn cymryd mwy na dwy flynedd. Ond rwy'n gobeithio mai'r hyn y gallwn ei wneud yw dangos bod y sylfeini gennym ni ar gyfer dyfodol gwahanol iawn i'n Cymoedd.

15:05

Thanks to the Minister for today's progress report on the Welsh Government's ongoing Valleys initiative. When opposition spokesmen and politicians discuss your plans, we normally do have a little bit of prelude about lots of Valleys plans that have been before, and Adam's given us that prelude again today—a very informed one—but we know that we need to get away from the past failures.

We in UKIP are hopeful that this initiative will lead to some progress in the Valleys and there are good things contained in the update today. We think, overall, of course, any initiative is a good one as long as it has good intentions and it means to be meaningful. You stated last time around that what you didn't want to do was to create any new bureaucracies. You didn't want a secret conclave of politicians, but what you did want was to bring the people of the Valleys into the discussion, and I agree with you that we don't want to create things that appear to be more tiers of government. It is crucial, I think, that we do bring the voice of the Valleys into this discussion and that we allow people in the Valleys to have a meaningful say in plans for their own future. So, I'm encouraged by the talk of the local authorities that have been involved, bringing events like summits and workshops into play, so that we do get that engagement with local people.

But, of course, Adam has raised the issue that, in some ways, this kind of reacts against, perhaps, the city region plans, which will be focusing on the fact that the Valleys are proximate to the M4 corridor, whereas what you want to do with the Valleys plan is to actually bring investment into the upper Valleys. Of course, we do have to consider what the Valleys actually constitute and that there is a meaningful difference between the southern corridor end and the upper Valleys. I know you acknowledged that there is a difference. We don't want to get too much into it, because investment in the Valleys as such is a good thing, but I think there is a distinct difference between the two ends of the Valleys. So, we have to be a bit focused about where we do put any investment.

Now, going back to the public engagement, how will you ensure that the voice of local people will continue to be represented in your plans, and will that voice lead to meaningful change? You did mention the relationship with the city regions and that the shape of it at the moment isn't as you would like it to be, so, if you could shed a little bit more light on that, that would be good. The primary need is the need for good quality and sustainable jobs. Yes, they need to be high-quality jobs, not—. We need to move away from low skills and try to get people into higher skilled jobs, so, clearly, that involves a need to retrain people and a big factor is giving an increased opportunity to train and retrain people so that people of all ages in the Valleys will be able to access those jobs. What specific commitments will be given to retraining? You're going to have to work with employers, with local colleges and with careers advisors, so what will your engagement be with employers and colleges and with Careers Wales as you take your plans forward? Particular points were raised last time, in fact, by Hefin David, who has got a lot of experience, clearly, of higher and further education—he mentioned that more part-time study and more franchised study was needed and that local colleges would have to take that responsibility on. So, what are your thoughts on those precise points? 

Transport is going to be key. Mick Antoniw and Adam Price have both in the past cited the need for a circle line around the Valleys, which the current plans for the south Wales metro do, to some extent, provide for. So, I think we need to make sure that the metro doesn't end up just being another route into Cardiff; we do need it to have that interconnection between the Valleys. What will you be doing to ensure that that interconnecting idea remains in place as plans for the metro progress, and can you offer anything to assure us or to help keep the metro from perhaps bypassing these plans in future? Perhaps, if it scales down its investment, there is a danger that that interconnecting idea could disappear. 

We also have local schemes; a couple of them were mentioned today. That's very welcome. The canal scheme sounds like a good initiative. I met last week with several people involved with the Rhondda tunnel scheme. So, I wonder what part schemes like that will have in your thinking, and are you looking to develop more local transport schemes as we go forward? Diolch yn fawr.  

Diolch i'r Gweinidog am yr adroddiad cynnydd heddiw ar fenter y Cymoedd bresennol Llywodraeth Cymru. Pan fydd llefarwyr a gwleidyddion y gwrthbleidiau yn trafod eich cynlluniau, fel arfer mae gennym ychydig o ragarweiniad am lawer o gynlluniau'r Cymoedd sydd wedi bod o'r blaen, ac mae Adam wedi rhoi'r rhagarweiniad hwnnw inni unwaith eto heddiw—un hyddysg iawn—ond rydym yn gwybod bod angen inni ddianc oddi wrth fethiannau'r gorffennol.

Rydym ni yn UKIP yn obeithiol y bydd y fenter hon yn arwain at rywfaint o gynnydd yn y Cymoedd a cheir pethau da yn y diweddariad heddiw. Rydym ni'n credu, yn gyffredinol, wrth gwrs, bod unrhyw fenter yn un dda cyn belled ag y bo ganddi fwriadau da a'i bod yn ystyrlon. Dywedasoch y tro diwethaf mai'r hyn nad oeddech yn dymuno ei wneud oedd creu unrhyw fiwrocratiaeth newydd. Nid oeddech yn awyddus i gael dirgel-gyngor o wleidyddion, ond roeddech yn dymuno sicrhau bod pobl y Cymoedd yn rhan o'r drafodaeth, ac rwy'n cytuno â chi nad ydym yn dymuno creu pethau sy'n ymddangos eu bod yn haenau ychwanegol o Lywodraeth. Mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod yn clywed llais y Cymoedd yn y drafodaeth hon a'n bod yn caniatáu i bobl y Cymoedd  ddweud eu barn yn ystyrlon ar y cynlluniau ar gyfer eu dyfodol nhw eu hunain. Felly, rwyf wedi cael fy nghalonogi o glywed am yr awdurdodau lleol yn cymryd rhan, gan ddod â digwyddiadau fel uwchgynadleddau a gweithdai i mewn i'r peth, a'n bod felly yn cael yr ymgysylltu hwnnw â phobl leol.

Ond, wrth gwrs, mae Adam wedi codi'r mater bod hwn, mewn rhai ffyrdd, yn adweithio yn erbyn, o bosib, y cynlluniau dinas-ranbarth, a fydd yn canolbwyntio ar y ffaith bod y Cymoedd yn agos i goridor yr M4, tra mai'r hyn yr ydych yn dymuno ei wneud gyda chynllun y Cymoedd yw ennyn buddsoddiad i'r Cymoedd uchaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried beth a olygir gan y Cymoedd mewn gwirionedd a bod gwahaniaeth ystyrlon rhwng pen y coridor deheuol a'r Cymoedd uchaf. Rwy'n gwybod eich bod wedi cydnabod y gwahaniaeth. Nid ydym yn dymuno mynd ar ôl y pwnc yn ormodol, oherwydd mae buddsoddiad yn y Cymoedd yn beth da ar y cyfan. Ond rwyf i o'r farn bod gwahaniaeth eglur rhwng dau ben y Cymoedd. Felly, bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ychydig yn fwy ar ble y byddwn yn buddsoddi.

Nawr, gan fynd yn ôl at yr ymgysylltiad â'r cyhoedd, sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd llais pobl leol yn parhau i gael ei gynrychioli yn eich cynlluniau, ac a fydd y llais hwnnw yn arwain at newid ystyrlon? Fe wnaethoch chi sôn am y berthynas â'r dinas-ranbarthau ac nad yw'r berthynas fel y mae ar hyn o bryd fel y byddech yn hoffi iddi fod, felly, pe gallech chi daflu ychydig mwy o oleuni ar hynny, byddai'n dda o beth. Y prif angen yw cael swyddi o ansawdd da a chynaliadwy. Ie, mae angen iddyn nhw fod yn swyddi o ansawdd uchel, nid—. Mae angen inni symud oddi wrth sgiliau isel a cheisio cael pobl i swyddi sgiliau uwch. Felly, yn amlwg, mae hynny'n golygu bod angen ailhyfforddi pobl, a ffactor mawr yw rhoi mwy o gyfle i hyfforddi ac ailhyfforddi pobl fel y gall pobl o bob oedran yn y Cymoedd gael gwaith mewn swyddi fel y rheini. Pa ymrwymiadau penodol a roddir i ailhyfforddi? Bydd yn rhaid ichi weithio gyda chyflogwyr, â cholegau lleol a'r cynghorwyr gyrfaoedd, felly beth fydd eich ymgysylltiad â chyflogwyr a cholegau a Gyrfa Cymru wrth ichi ddatblygu eich cynlluniau? Codwyd pwyntiau penodol y tro diwethaf, mewn gwirionedd, gan Hefin David, sydd wedi cael llawer o brofiad, yn amlwg, o addysg bellach ac uwch—roedd ef yn sôn am yr angen am fwy o astudio rhan-amser a mwy o astudio breiniol a byddai'n rhaid i golegau lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Felly, beth yw eich barn ar y pwyntiau penodol hynny?

Bydd trafnidiaeth yn allweddol. Mae Mick Antoniw ac Adam Price fel ei gilydd yn y gorffennol wedi cyfeirio at yr angen am lein gylch o amgylch y Cymoedd, y mae'r cynlluniau cyfredol ar gyfer metro de Cymru, i ryw raddau, yn darparu ar ei chyfer. Credaf, felly, fod angen inni wneud yn siŵr nad yw'r metro yn y pen draw yn golygu dim ond un llwybr ychwanegol i mewn i Gaerdydd; mae angen iddo fod â'r rhyng-gysylltiad hwnnw rhwng y Cymoedd. Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod y syniad o gael y rhyng-gysylltiad hwnnw'n parhau wrth i'r cynlluniau ddatblygu ar gyfer y metro, ac a allwch chi gynnig unrhyw beth i'n sicrhau ni neu i helpu i rwystro'r metro rhag efallai osgoi'r cynlluniau hyn yn y dyfodol? O bosib, pe bai maint y buddsoddiad yn cael ei leihau, mae perygl y gallai'r syniad o ryng-gysylltiad ddiflannu.

Mae gennym gynlluniau lleol hefyd; cafodd un neu ddau ohonyn nhw eu crybwyll heddiw. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r cynllun camlas yn swnio fel menter dda. Yr wythnos diwethaf cyfarfûm â nifer o bobl sy'n ymwneud â chynllun y twnnel yn y Rhondda. Felly, tybed pa ran fydd gan gynlluniau fel hynny yn eich barn chi, ac a ydych yn bwriadu datblygu mwy o gynlluniau trafnidiaeth lleol wrth inni symud ymlaen? Diolch yn fawr.

15:10

Presiding Officer, one of the issues that was raised with us at almost every public event we've done over the last two years has been the issue of local transport. Most people raise issues around local buses rather than the metro system, and I think it's important that we do recognise that, in developing the metro, we are developing and delivering a transport network that does go beyond simply the trains that quite often form the highlights of that. So, we will be ensuring that transport links lie at the heart of what we're doing. When we identified the seven strategic hubs, we identified areas that were accessible by public transport and areas that would be served by the metro in the future so that we do have a spatial and strategic view of where we will be focusing investment in the future, and the metro will form an absolutely essential part of that. 

In terms of the issues that the UKIP spokesperson raises on apprenticeships and training, clearly, we will be ensuring that the employability programme that the Minister for Welsh Language and Lifelong Learning has launched is active in the Valleys, and it has a focus on the Valleys. We're also developing a shared apprenticeship model in Merthyr Tydfil that will ensure that we are able to develop and learn the lessons of some of the other projects, such as the Aspire project, based in my own constituency, which will ensure that we have a means of delivering skills, training and apprenticeships that is sustainable and reaches all the different parts of the Valleys, and the different skills required for sustainable jobs in the Valleys. 

But can I say that the UKIP spokesperson makes a point of ensuring that local people are involved in the design of all of these different projects and programmes? We have rooted all that we've done in the ambitions that have been shared with us from people in and around the communities of the Valleys. This hasn't simply been co-produced in the way that the Conservative spokesperson has said, but it's been rooted in the ambitions and the visions of people throughout the whole of the Valleys region. We have spent time and we have invested time not simply in talking with people, but listening to what those people have said to us. And one of the key things they've said to us—and the Plaid Cymru spokesperson referred to this in his remarks—has been that all too often expectations have been raised only for those hopes to be dashed. What I want to be able to do through this programme of listening and talking, and by publishing a delivery plan, is to be held to account for the promises that we make, so that people here—Members on all sides of the Chamber here—will be able to hold us to account for what we deliver and what we say we will deliver, the timetables and the targets that we set, but, at the same time, people across the Valleys will be able to hold us to account as well. And I think, in terms of winning and rebuilding trust in politics, that is essential for the future. 

Llywydd, un o'r materion a godwyd gyda ni ym mhob digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd bron dros yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yw mater trafnidiaeth leol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn codi materion yn ymwneud â bysiau lleol yn hytrach na'r system fetro, ac rwyf i o'r farn y bydd yn bwysig inni gydnabod, wrth ddatblygu'r metro, ein bod yn datblygu ac yn darparu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn mynd y tu hwnt i'r trenau hynny sydd gan amlaf yn cael y sylw mwyaf yn hynny o beth. Felly, byddwn yn sicrhau y bydd cysylltiadau trafnidiaeth wrth galon yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Pan nodwyd y saith canolfan strategol, nodwyd ardaloedd a oedd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ardaloedd a fyddai'n cael eu gwasanaethu gan y metro yn y dyfodol. Felly bydd gennym olwg strategol a gofodol o'r mannau y byddwn yn canolbwyntio ein buddsoddiad yn y dyfodol, a bydd y metro yn rhan gwbl hanfodol o hynny.

O ran y materion y mae llefarydd UKIP yn eu codi ar brentisiaethau a hyfforddiant, yn amlwg, byddwn yn sicrhau bod y rhaglen gyflogadwyedd y mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi ei lansio yn weithgar yn y Cymoedd, a'i bod yn canolbwyntio ar y Cymoedd. Rydym hefyd yn datblygu model rhannu prentisiaeth ym Merthyr Tudful a fydd yn sicrhau y gallwn ddatblygu a dysgu gwersi yn sgil rhai o'r prosiectau eraill, fel prosiect Aspire, yn fy etholaeth i, a fydd yn sicrhau bod gennym ffordd o ddarparu sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau sy'n gynaliadwy ac a fydd yn cyrraedd y gwahanol rannau o'r Cymoedd, a'r gwahanol sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer swyddi cynaliadwy yn y Cymoedd. 

Ond a gaf i ddweud bod llefarydd UKIP yn gwneud pwynt o sicrhau bod pobl leol yn cymryd rhan yn nyluniad yr holl wahanol brosiectau a rhaglenni hyn? Rydym wedi gwreiddio popeth a wnaethom yn y dyheadau a rannwyd â ni gan bobl yng nghymunedau'r Cymoedd a'r cyffiniau. Ni chafodd hyn ei gyd-gynhyrchu yn y ffordd y mae llefarydd y Ceidwadwyr yn ei ddweud, ond cafodd ei wreiddio yn nyheadau a gweledigaethau'r bobl ledled rhanbarth y Cymoedd yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi treulio amser ac rydym wedi buddsoddi ein hamser nid yn unig yn siarad â phobl, ond yn gwrando ar yr hyn a ddywedodd y bobl hynny wrthym ni. Ac un o'r pethau allweddol a ddywedwyd wrthym—ac roedd llefarydd Plaid Cymru yn cyfeirio at hyn yn ei sylwadau—yw y codwyd disgwyliadau yn rhy aml o lawer dim ond i'r gobeithion hynny gael eu chwalu. Yr hyn yr wyf yn dymuno gallu ei wneud drwy'r rhaglen hon o wrando a siarad, a thrwy gyhoeddi cynllun cyflenwi, yw cael fy nwyn i roi cyfrif o'r addewidion a wnawn, fel bod pobl yn y fan hon—yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yma—yn gallu ein dal ni i gyfrif am yr hyn a gyflawnwn a'r hyn a ddywedwn ein bod yn ei gyflawni, yr amserlenni a'r targedau a osodir gennym, ond, ar yr un pryd, bydd pobl ledled y Cymoedd yn gallu ein dal ni i gyfrif hefyd. Ac o ran ennill ac ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, credaf fod hynny'n hanfodol i'r dyfodol.

Can I thank the Cabinet Secretary for the update? I think there is, Alun, much to welcome in the statement that you've presented today. Like you, representing a Valleys community, I've been hugely supportive of the work of the taskforce, what it has set out to achieve and the way in which it has engaged with communities right the way across the Valleys to get to the point that we're at now. But you will appreciate that I'm going to make no apologies for, once again, taking this opportunity to make a parochial point about the upper Rhymney valley. While I welcome the kind of investment that we've seen in things like the delivery of the new Idris Davies School in Abertysswg, for instance, I do remain concerned that Rhymney is becoming a forgotten corner of the Valleys. There's been no obvious or substantial economic investment coming its way, despite it being so strategically placed next to the Heads of the Valleys road.

As has already been mentioned, I think this is the point that the Bevan Foundation were trying to make in their statement, particularly in relation to the metro investment in Taff's Well. And I know you don't want to go into that and I know that others have mentioned it, but I will repeat it: it's closer to Cardiff than it is to the Valleys. I have raised this before and I think it is a question of economic priorities in terms of investment, and that's the reason I've questioned that. Because I think that such an investment like that, if that had been in the Rhymney valley, would have been transformational in terms of the quality jobs that it would have provided, the skills it would have brought with it, and the positive knock-on effect on the wider economy, not just in Rhymney, but across the Heads of the Valleys. It would have ticked every box in the Valleys taskforce objectives, as well as in the Government's Better Jobs Closer to Home programme. 

So, given the Welsh Government has to lead on the delivery of investment in our Valleys communities and that it does hold the levers of economic power in so many areas, I'm pleased that the Cabinet Secretary for the economy is coming to Rhymney on Thursday, when he's going to be meeting with local representatives and some businesses there, and he will be able to see first-hand and hear from them what's expected. So, my question to you, as Cabinet Secretary for public services is: will you also visit Rhymney with me and discuss the progress in our Valleys strategies for these communities and give some assurance that this Valley will not be left behind? Because frankly, while, of course, I totally understand that things can't happen overnight, and I know that you'll agree with this, if 'Our Valleys, Our Future' doesn't deliver in places like Rhymney, then it will have failed.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth ddiweddaraf? Credaf fod yna lawer i'w groesawu yn y datganiad yr ydych wedi ei gyflwyno heddiw, Alun. Fel chithau, sy'n cynrychioli cymuned yn y Cymoedd, rwyf wedi bod yn gefnogol dros ben i waith y tasglu, yr hyn y mae wedi ceisio ei gyflawni a'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â chymunedau'r holl ffordd ar hyd y Cymoedd i gyrraedd ein sefyllfa ar hyn o bryd. Ond byddwch yn gwerthfawrogi nad wyf i am ymddiheuro am fy mod i, unwaith eto, yn achub ar gyfle fel hwn i wneud pwynt plwyfol am gwm Rhymni uchaf. Er fy mod yn croesawu'r math o fuddsoddiad a welsom mewn pethau fel cyflenwi ysgol newydd Idris Davies yn Abertyswg, er enghraifft, rwy'n parhau i fod yn bryderus bod Rhymni yn mynd yn gwr angof o'r Cymoedd. Nid oes unrhyw fuddsoddiad economaidd amlwg neu sylweddol i ddod ar ei gyfer, er ei fod wedi ei leoli mor strategol wrth ymyl ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Fel y crybwyllwyd eisoes, rwy'n credu mai dyma'r pwynt yr oedd Sefydliad Bevan yn ceisio ei wneud yn ei ddatganiad, yn enwedig o ran buddsoddiad y metro yn Ffynnon Taf. Gwn nad ydych chi yn awyddus i drafod hynny a gwn fod eraill wedi sôn am hyn, ond rwyf am ei ailadrodd: mae'n nes at Gaerdydd nag y mae at y Cymoedd. Rwyf i wedi crybwyll hyn o'r blaen a chredaf ei fod yn fater o flaenoriaethau economaidd o ran buddsoddiad, a dyna'r rheswm pam yr wyf yn amheus o hynny. Oherwydd rwy'n credu y byddai buddsoddiad o'r fath, pe byddai wedi bod yng Nghwm Rhymni, wedi bod yn drawsnewidiol o ran y swyddi o ansawdd da y byddai wedi eu darparu, y sgiliau a fyddai wedi dod yn ei sgil, a'r effaith gadarnhaol ar yr economi ehangach, nid yn Rhymni yn unig, ond ledled Blaenau'r Cymoedd. Byddai wedi ticio pob blwch yn amcanion tasglu'r Cymoedd, yn ogystal ag yn rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref y Llywodraeth.

Felly, o ystyried ei bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru arwain ar ddarparu buddsoddiad yng nghymunedau ein Cymoedd a'i bod yn dal yr awenau economaidd mewn cynifer o feysydd, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am ddod i Rhymni ddydd Iau, pan gynhelir cyfarfod â chynrychiolwyr lleol a rhai busnesau yno. Bydd yn gallu gweld yn uniongyrchol a chlywed ganddyn nhw beth sy'n ddisgwyliedig. Felly, fy nghwestiwn i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yw: a wnewch chithau hefyd ymweld â Rhymni gyda mi a thrafod y cynnydd yn ein strategaeth ar gyfer y Cymoedd er mwyn y cymunedau hyn a rhoi rhywfaint o sicrwydd na fydd y Cwm hwn yn cael ei adael ar ôl? Oherwydd a dweud y gwir, er fy mod yn deall yn iawn na all pethau ddigwydd dros nos, a gwn y byddwch yn cytuno â hyn, os nad yw 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn cyflawni mewn lleoedd fel Rhymni, yna bydd wedi ffaelu.

15:15

Presiding Officer, the Rhymney valley has some great advocates speaking on its behalf. I know that Dawn Bowden, the Member for Merthyr and Rhymney, speaks for the upper Rhymney valley and our colleague Hefin David speaks for the lower parts of the Rhymney valley with equal ferocity, shall we say. I understand the points that have been made, and I recognise those points. I'm very happy to come across to Rhymney at any point to speak and to visit and to have these conversations. But I think the fundamental point you make about the communities of the upper Valleys, of the Heads of the Valleys, is absolutely correct. I think you attended a seminar back in April to discuss some of those particular issues. All too often, we look at the Valleys as a whole without understanding the differential in the different communities and the importance of having a very focused strategy to address some of the more deep-seated issues.

For me, the Heads of the Valleys will provide the litmus test for us for whether we succeed or fail. The points made by the Plaid Cymru spokesperson were well made, and if we are to pass the tests that have been set by you and others here, it will be in places like Pontlottyn or Rhymney that that will be seen. So, let me say this: we brought together a group of people in the spring to look at how the dualling of the A465, the Heads of the Valleys road, can be used as a catalyst for change, and I believe that we need to now look at what steps and what investments we have to make in the infrastructure of the upper Valleys to realise that ambition. I can see the Member for Cynon Valley is here as well, and we know that from Hirwaun right across to Brynmawr, our communities face some very significant challenges that are beyond those faced by other areas—and we can debate as to whether they are part of the Valleys or not at perhaps another time.

The key issue of the upper Valleys is firmly in the centre of my mind, and I hope that what we'll be able to do in the early autumn is to have in place an industrial strategy that is aimed at those upper Valley communities—an industrial strategy for the Heads of the Valleys, which looks to see how we can secure sustainable employment in and around the area of the Tower Colliery site in the upper Cynon valley, across to Merthyr itself. I think the Crucible project that we've debated before will provide a real boost for Merthyr in the way forward, and the upper Rhymney valley needs exactly the sort of investment that you've described. For my own constituency, it's about developing places like Tafarnaubach industrial estate or Rassau industrial estate, ensuring that the Tech Valleys investment doesn't simply stay in Ebbw Vale, but is able to act as a boost for investment across the whole of the Heads of the Valleys region. That is the ambition that I think we all share, and we need to make that a reality. So, I very much agree with the points that have been made.

Llywydd, mae gan Gwm Rhymni rai eiriolwyr gwych yn siarad ar ei ran. Gwn fod Dawn Bowden, yr aelod ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni, yn siarad ar ran Cwm Rhymni uchaf ac mae ein cyd-Aelod Hefin David yn siarad am rannau isaf Cwm Rhymni gyda ffyrnigrwydd cyffelyb. Deallaf y pwyntiau a wnaed, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau hynny. Rwy'n hapus iawn i ddod draw i Rhymni ar unrhyw adeg i siarad ac i ymweld a chael y trafodaethau hyn. Ond rwyf i o'r farn fod y pwynt sylfaenol a wnewch am gymunedau'r Cymoedd uchaf, Blaenau'r Cymoedd, yn gwbl gywir. Credaf i chi fod mewn seminar yn ôl ym mis Ebrill i drafod rhai o'r materion penodol hynny. Yn rhy aml, rydym yn edrych ar y Cymoedd fel cyfanrwydd heb ddeall y gwahaniaethau rhwng y cymunedau amrywiol a phwysigrwydd bod â strategaeth fanwl iawn i ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol.

I mi, bydd Blaenau'r Cymoedd yn brawf litmws i weld a fyddwn yn llwyddo neu'n methu. Roedd y pwyntiau a wnaeth llefarydd Plaid Cymru yn dda, ac os ydym am lwyddo yn y profion sydd wedi eu gosod gennych chi ac eraill yma, mewn lleoedd fel Pontlotyn neu Rhymni y gwelir hynny. Felly, gadewch imi ddweud hyn: daethom â grŵp o bobl at ei gilydd yn y gwanwyn i edrych ar sut y gellir defnyddio gwaith deuoli ar yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, fel catalydd ar gyfer newid, a chredaf fod angen inni edrych nawr ar y camau a pha fuddsoddiadau y mae angen eu gwneud yn seilwaith y Cymoedd uchaf i wireddu'r uchelgais hwnnw. Gallaf weld bod yr Aelod dros Gwm Cynon yma hefyd, ac rydym yn gwybod bod ein cymunedau, o Hirwaun a throsodd i Frynmawr, yn wynebu rhai heriau sylweddol iawn sydd y sydd tu hwnt i'r rhai a wynebir gan ardaloedd eraill—a gallwn ddadlau ynghylch a ydyn nhw'n rhan o'r Cymoedd neu beidio rywbryd arall efallai.

Mae mater allweddol y Cymoedd uchaf yn sicr yn ystyriaeth ganolog yn fy meddwl i, a gobeithiaf, yn gynnar yn yr hydref, y gallwn sefydlu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cymunedau'r Cymoedd uchaf—strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, a fydd yn edrych ar sut y gallwn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn ardal safle Glofa'r Tŵr yng Nghwm Cynon uchaf a throsodd i Ferthyr ei hunan. Credaf y bydd prosiect y Pair yr ydym wedi ei drafod o'r blaen yn rhoi hwb gwirioneddol i Ferthyr ar gyfer y ffordd ymlaen, ac mae ar Gwm Rhymni uchaf angen yr union fath o fuddsoddiad yr ydych wedi ei ddisgrifio. Yn fy etholaeth i fy hunan, mae'n golygu datblygu lleoedd fel stad ddiwydiannol Tafarnaubach neu stad ddiwydiannol Rasa, yn sicrhau nad yw buddsoddiad Cymoedd Technoleg yn aros yng Nglynebwy yn unig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel hwb i fuddsoddiadau ledled ardal  Blaenau'r Cymoedd. Dyna'r uchelgais sydd gennym i gyd, rwy'n credu, ac mae angen inni wireddu hynny. Felly, rwy'n cytuno'n fawr iawn â'r pwyntiau a wnaed.

15:20

Thank you, Cabinet Secretary, for your update here today. You'll know that I'm an enthusiastic supporter of the Valleys taskforce and its delivery plan, as are so many of my constituents as well. It's good to see you referencing the former Tower Colliery site, which I believe has excellent potential due to its unique connectivity links. I look forward to seeing what can be done with that site with Welsh Government help in the future.

I have a few questions for you today. Firstly, in relation to the Valleys landscape parks, and particularly joining those up, you may have seen recently in the news that RCT council has been appointed as the lead authority to take forward the reopening of former railway tunnels, including the Abernant tunnel, which links Cwmbach in my constituency with Merthyr Tydfil. With your comments around heritage and tourism, do you agree with me that these structures, including the Abernant tunnel designed by Brunel, could be used as levers to support tourism being brought into the area and also to encourage active travel? How can the Welsh Government support taking these projects forward?

Secondly, a number of interventions around health were mentioned in 'Our Valleys, Our Future' and with last week's timely seventieth anniversary of the NHS, and that institution's strong links to the Valleys, are you able to say any more on Welsh Government actions to meet these goals?

Thirdly, and finally, I recently spoke at a conference organised under the umbrella of the mutuals alliance, which highlighted how co-operative and mutual models could be used to deliver services in a range of areas. How are you linking into this sector and encouraging the development of real grass-roots, co-operative alternatives?

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich diweddariad yma heddiw. Byddwch yn gwybod fy mod yn gefnogwr brwd o dasglu'r Cymoedd a'i gynllun cyflawni, fel y mae llawer o'm hetholwyr hefyd. Mae'n dda eich clywed yn cyfeirio at hen safle Glofa'r Tŵr, y credaf fod ganddo bosibiliad ardderchog oherwydd ei gysylltiadau unigryw o ran cysylltedd. Edrychaf ymlaen at weld beth y gellir ei wneud gyda'r safle hwnnw gyda help Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae gennyf i ychydig o gwestiynau i chi heddiw. Yn gyntaf, o ran parciau tirwedd y Cymoedd, ac yn benodol eu cysylltu â'i gilydd, efallai i chi weld yn ddiweddar yn y newyddion y penodwyd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awdurdod arweiniol i ddatblygu'r gwaith o ailagor hen dwnelau rheilffordd, gan gynnwys twnnel Abernant, sy'n cysylltu Cwmbach yn fy etholaeth i â Merthyr Tudful. O ystyried eich sylwadau ar dreftadaeth a thwristiaeth, a ydych yn cytuno â mi y gellid defnyddio'r strwythurau hyn, gan gynnwys twnnel Abernant a gynlluniwyd gan Brunel, yn ysgogiadau i gefnogi denu twristiaeth i'r ardal ac i annog teithio llesol hefyd? Ym mha ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad y prosiectau hyn?

Yn ail, cafodd nifer o ymyriadau iechyd eu crybwyll yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. O ystyried y dathliad amserol yr wythnos diwethaf o ddengmlwyddiant a thrigain y GIG, a chysylltiadau cryf y sefydliad hwnnw â'r Cymoedd, a allwch ddweud mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fodloni'r nodau hyn?

Yn drydydd, ac yn olaf, siaradais yn ddiweddar mewn cynhadledd a drefnwyd o dan ymbarél cynghrair y cymdeithasau cydfuddiannol, a oedd yn tynnu sylw at ba fodelau cydweithredol a chydfuddiannol y gellid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau mewn amrywiaeth o feysydd. Sut ydych yn cysylltu â'r sector hwn ac yn annog datblygiad dewisiadau cydweithredol gwirioneddol ar lawr gwlad?

Presiding Officer, the points made by the Member for Cynon Valley are very well made. In terms of health and co-operatives, of course, we have just celebrated what many people described as the seventieth anniversary of the national health service. Of course, for those of us from Tredegar, Presiding Officer, it is simply the seventieth anniversary of the Act of Parliament that created the national health service. We have been celebrating the one hundred and twenty-eighth anniversary of the founding of the Tredegar medical aid and sick relief fund that led to the creation of the health service. And that's a very well-made point, because those of us who are Members of the co-operative party recognise that there are ways that active citizenship can be used in order to deliver significant change in our communities, which takes us back to many of the themes that have run through our conversation this afternoon.

My ambition for the Valleys isn't simply doing things to the Valleys whether the Valleys like it or not, but active citizenship determining our futures throughout the Valleys. The future that we would want to see in the Sirhowy valley and in Blaenau Gwent may well be very different to the view of the Member for Neath on the Neath valley and the Dulais valley, where we were very recently, where we'd have a different set of priorities and a very different set of ambitions. But it is right and proper that we put in place the means of enabling active citizens to take control of their own futures and to ensure that we provide the means and the funding and the structures to enable people to do that.

When I think of the great history and heritage of the Valleys—we talked about the Abernant tunnel this afternoon, but we've also talked about the tunnel in the Rhondda valleys on previous occasions—there are opportunities here for us to change the future of the Valleys. I think the Valleys landscape park is one of these very, very exciting initiatives and concepts that could actually do far more than it says on the tin. It can actually change the way that we look at ourselves, which is absolutely crucial for me. When I was talking to people in Aberdare, in the Dare Valley Country Park, a couple of months ago about their ambitions for the future, it struck a chord with me about my own ambitions, and that we share that vision for the future.

When I think of the landscape park, I think also of gateways—areas into the valleys—and I think the Dare Valley Country Park could be one of those areas. I think Merthyr could be one of those areas. I think areas around my own constituency, with the heritage of the national health service, could also be one of those, and you can bring in Blaenavon with Big Pit, and other areas as well. There are a number of ways in which we can transform the future, but we will only do it if we root our visions with the visions of people living in the valleys at the same time. When we were talking about the economy of the Heads of the Valleys, it was great to see Tyrone O'Sullivan, the great miners' leader, talking there about his ambitions for the future of the Tower site, and what that can continue to offer the people not just of Hirwaun and Aberdare, but people of the whole of the Heads of the Valleys region. It's that ambition that I hope we can unleash in the future.

Llywydd, mae'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon yn rhai da iawn. O ran iechyd a mentrau cydweithredol, wrth gwrs, rydym newydd ddathlu'r hyn yr oedd llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel dengmlwyddiant a thrigain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Wrth gwrs, i'r rhai ohonom ni sydd o Dredegar, Llywydd, y cyfan yw hyn yw dengmlwyddiant a thrigain y Ddeddf Seneddol a grëodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rydym ni wedi dathlu cant ac wyth ar hugain o flynyddoedd ers sefydlu Cronfa Cymorth Meddygol a Lliniaru Tostrwydd Tredegar a arweiniodd at greu'r gwasanaeth iechyd. Ac mae hwnnw'n bwynt da iawn, oherwydd mae rhai ohonom sy'n aelodau o'r blaid gydweithredol yn cydnabod bod ffyrdd y gellir defnyddio dinasyddiaeth weithredol ar gyfer cyflawni newid sylweddol yn ein cymunedau, sy'n mynd â ni yn ôl at nifer o themâu sydd fel edafedd drwy ein trafodaeth y prynhawn yma.

Nid fy uchelgais i ar gyfer y Cymoedd yw gwneud pethau i'r Cymoedd, boed y Cymoedd yn hoffi hynny neu beidio, ond cael dinasyddiaeth weithgar i benderfynu ar ein dyfodol ledled y Cymoedd. Efallai'n wir y byddai'r dyfodol y byddem yn dymuno ei weld yn nyffryn Sirhywi ac ym Mlaenau Gwent yn wahanol iawn i farn yr Aelod dros Gastell-nedd ar gyfer Cwm Nedd a Chwm Dulais, lle buom yn ddiweddar iawn, lle byddai gennym setiau gwahanol o flaenoriaethau a setiau gwahanol iawn o uchelgeisiau. Ond mae'n iawn a phriodol ein bod yn rhoi dull ar waith i alluogi dinasyddion gweithredol i gymryd rheolaeth o'u dyfodol eu hunain a sicrhau ein bod yn darparu'r modd a'r arian a'r strwythurau i ganiatáu pobl i wneud hynny.

Pan feddyliaf am hanes a threftadaeth wych y Cymoedd—soniasom am dwnnel Abernant y prynhawn yma, ond hefyd siaradwyd am y twnnel yng Nghymoedd y Rhondda ar achlysuron blaenorol—mae cyfleoedd yma i ni newid dyfodol y Cymoedd. Credaf fod parc tirwedd y Cymoedd yn un o'r mentrau a'r cysyniadau cyffrous iawn hynny a allai wneud llawer mwy nag a ragwelir. Yn wir, gall newid y ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain, sydd yn gwbl hanfodol yn fy marn i. Pan oeddwn yn siarad â phobl yn Aberdâr, ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ychydig fisoedd yn ôl, am eu dyheadau ar gyfer y dyfodol, roedd yn taro tant gyda mi o ran fy uchelgeisiau fy hunan, a'n bod yn rhannu'r weledigaeth honno am y dyfodol.

Pan feddyliaf am y parc tirwedd, rwy'n meddwl hefyd am y pyrth—ardaloedd yn arwain i'r cymoedd—ac rwy'n credu y gallai Parc Gwledig Cwm Dâr fod yn un o'r ardaloedd hynny. Credaf y gallai Merthyr fod yn un o'r ardaloedd hynny. Credaf hefyd y gallai ardaloedd o amgylch fy etholaeth i, sydd â threftadaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fod yn un o'r rhai hynny, a gallwch ddwyn Blaenafon i mewn gyda'r Big Pit, ac ardaloedd eraill hefyd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn drawsnewid y dyfodol, ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid inni wreiddio ein gweledigaethau ni â gweledigaethau'r bobl sy'n byw yn y Cymoedd ar yr un pryd. Pan oeddem yn trafod economi Blaenau'r Cymoedd, roedd yn hyfryd gweld Tyrone O'Sullivan, arweinydd mawr y glowyr, yn sôn am ei ddyheadau ar gyfer dyfodol safle'r Tŵr, a'r hyn y gall hynny barhau i'w gynnig i bobl nid yn unig yn Hirwaun ac Aberdâr, ond y bobl drwy holl ardal Blaenau'r Cymoedd. Gobeithio mai'r uchelgais hwnnw y gallwn ei wireddu yn y dyfodol.

15:25

Diolch, Llywydd. Cabinet Secretary, I thank you for your statement this afternoon. I very much welcome the taskforce and its ambitions, and I want to see it work. Obviously, I want to be able to see the lessons learned from that apply to all the valleys in south Wales, because, as you know, the Afan valley is not included in your hub areas. You've actually identified the Valleys landscape park as one opportunity, and Vikki Howells has mentioned the Abernant tunnel. The one she didn't mention was the Rhondda to Blaengwynfi tunnel—to ensure that that all works as well.

But there are developments in the Afan valley, which is not included, that have looked at projects that will develop the tourism industry there, with the Afan Valley resort project or the Rhondda tunnel project. These are projects focusing upon bringing tourism in. Will you confirm to me now that, because we're not in the hub areas, we will not be missing out on the opportunities to benefit from the Valleys landscape park, so that we can build into that and work together?

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Croesawaf yn fawr y tasglu a'i uchelgeisiau, ac rwy'n dymuno ei weld yn gweithio. Yn amlwg, rwyf eisiau gallu gweld y gwersi a ddysgwyd o hynny yn berthnasol i bob cwm yn ne Cymru, oherwydd, fel y gwyddoch, ni chynhwysir cwm Afan yn eich canolfannau. Mewn gwirionedd rydych wedi nodi parc tirwedd y Cymoedd fel un cyfle, ac mae Vikki Howells wedi sôn am dwnnel Abernant. Yr un na wnaeth sôn amdano oedd twnnel y Rhondda i Blaengwynfi—i sicrhau bod hynny i gyd yn gweithio hefyd.

Ond mae datblygiadau yng nghwm Afan, nad ydynt yn cael eu cynnwys, sydd wedi edrych ar brosiectau a fydd yn datblygu'r diwydiant twristiaeth yno, gyda phrosiect man gwyliau cwm Afan neu brosiect twnnel y Rhondda. Mae'r rhain yn brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddenu twristiaeth. A wnewch chi gadarnhau i mi yn awr, na fyddwn yn colli allan ar gyfleoedd i elwa o barc tirwedd y Cymoedd, fel y gallwn adeiladu ar hynny a gweithio gyda'n gilydd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

The Deputy Presiding Officer (Ann Jones) took the Chair.

I can absolutely make that confirmation today. When you take decisions about strategic investment, you do create that sort of situation whereby some people feel they're in and others feel that they are not. I recognise that, and I know that others have made very similar points to me at different times. But let me say this: I think all of us who have travelled through the Afan valley and have travelled up to Blaengwynfi, and over the top there, have seen a landscape that is comparable with anywhere in the world. It's a fantastic place to be; it's a fantastic proposition, if you like, for tourism. It brings together some fantastic opportunities, and certainly, the conversations that we've had about the future of tourism in the Afan valley are, I think, some of the most positive conversations I've had about the future of the valleys. Certainly, the investments that we've debated and discussed in the Afan valley, I think, will transform not just the Afan valley, but the perception of the valleys and the place of the valleys, both in terms of tourism from Wales and the rest of the UK, but also our own perception of ourselves.

I think the Valleys, in terms of tourism, have more potential than almost any other part of Wales; that potential is currently untapped. What we have to do is to ensure that we put in place the structures that enable tourism to be a key part of our future, but also—and this is important for me in finishing, Deputy Presiding Officer—that the benefits of that tourism stay within the valleys, and that we see Valleys communities benefiting from that in a very real way, and also, returning to the point made by the Member for the Cynon Valley, that we do also ensure that it's a part of who we are in the future in terms of public health, and in terms of providing opportunities for people to explore and understand in a way that we've been losing in the last few decades. So, the reopening of the tunnels is one way, an understanding of our heritage is another way. Opening up access to the hills and the mountains and the countryside around the Valleys, and within the Valleys, I think, is a way of reconnecting ourselves with our past to create a very different future.

Gallaf yn bendant gadarnhau hynny heddiw. Pan ydych yn gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi strategol, rydych chi'n creu'r math hwnnw o sefyllfa lle mae rhai pobl yn teimlo eu bod nhw i mewn ac mae eraill yn teimlo nad ydynt. Rwy'n cydnabod hynny, a gwn fod eraill wedi gwneud pwyntiau tebyg iawn i mi ar adegau gwahanol. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n credu bod pawb ohonom sydd wedi teithio drwy gwm Afan ac wedi teithio hyd at Blaengwynfi, a thros y grib yno, wedi gweld tirwedd sydd yn cymharu ag unrhyw le yn y byd. Mae'n lle gwych i fod ynddo; mae'n gynnig gwych, os mynnwch, ar gyfer twristiaeth. Mae'n dwyn ynghyd rai cyfleoedd gwych, ac yn sicr, mae'r sgyrsiau a gawsom am ddyfodol twristiaeth yng nghwm Afan, yn fy marn i, yn rhai o'r sgyrsiau mwyaf cadarnhaol a gefais am ddyfodol y Cymoedd. Yn sicr,  bydd y buddsoddiadau yr ydym wedi eu trafod a dadlau amdanynt yng Nghwm Afan, yn fy marn i, yn trawsnewid nid yn unig gwm Afan, ond y canfyddiad o'r cymoedd a lle'r cymoedd, o ran twristiaeth o Gymru a gweddill y DU, ond hefyd ein canfyddiad ni ein hunain ohonom ni ein hunain.

Credaf fod gan y Cymoedd, o ran twristiaeth,  fwy o botensial na bron unrhyw ran arall o Gymru; mae'r potensial hwnnw heb ei gyffwrdd ar hyn o bryd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi'r strwythurau ar waith sy'n galluogi twristiaeth i fod yn rhan allweddol o'n dyfodol, ond hefyd—ac mae hyn yn bwysig i mi wrth orffen, Dirprwy Lywydd—bod manteision twristiaeth yn aros o fewn y Cymoedd, a'n bod yn gweld cymunedau yn y Cymoedd yn elwa o hynny mewn ffordd  real iawn, a hefyd, gan ddychwelyd at y pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon, ein bod hefyd yn sicrhau ei fod yn rhan o'r hyn ydym yn y dyfodol o ran iechyd y cyhoedd, ac o ran darparu cyfleoedd i bobl archwilio a deall mewn ffordd a gollwyd dros y degawdau diwethaf. Felly, mae ailagor y twnnel yn un ffordd, mae deall ein treftadaeth yn ffordd arall. Mae agor mynediad at y bryniau a'r mynyddoedd a chefn gwlad o gwmpas y Cymoedd, ac yn y Cymoedd, mi gredaf, yn ffordd inni ailgysylltu â'n gorffennol i greu dyfodol gwahanol iawn.

Thank you very much, Cabinet Secretary. 

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol
4. Statement by the Leader of the House: The Review of Gender Equality

Item 4 on the agenda this afternoon is a statement by the leader of the house on the review of gender equality. I call on the leader of the house, Julie James, to make the statement.

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud y datganiad.

Thank you, Deputy Presiding Officer. On International Women’s Day, the First Minister announced a rapid review of our gender and equality policies, and wanted to bring new impetus to that work. The initial phase of this review has been supported by the equalities charity Chwarae Teg, and the Wales Centre for Public Policy. I am very pleased today to be able to update Assembly Members on progress and to set out next steps.

Chwarae Teg and the Wales Centre for Public Policy have today published an important report, gathering evidence from Wales, the UK and other countries. I am extremely grateful to them for their work, and also extend my thanks to the many stakeholders who contributed to the evidence gathering, and who put forward proposals for consideration. The Chwarae Teg report identifies mechanisms to strengthen the way Welsh Government, the National Assembly for Wales, and the Welsh public sector work, and to be more ambitious about the development of our policies in ways that actively promote equality in relation to gender.

The report focuses on three key themes, the first being vision and leadership. The Welsh Government is challenged to be clearer about our vision for a Wales in which gender is at the heart of our policy making. We need to set a clear vision of equality in Wales, identifying goals and desired outcomes, and making sure that this is well understood within the Government, with our stakeholders and the general public. Wales has some world-leading legislation, and we have been challenged to do more to consistently use this to its full potential to have a greater impact. The Welsh Government also has an important role to play in leading by example, both as an employer and a policy maker, to drive lasting change.

The second theme, policy in practice, looks at the way the Welsh Government designs and implements policies and legislation. The report has identified areas of good practice, and made recommendations about how this can be delivered more consistently. It focuses on areas such as the budget-setting process, how we engage, and the importance of effective equality impact assessments.

The final theme, external scrutiny and accountability, finds that external scrutiny is welcomed, and that effective scrutiny drives behaviour change. The report identifies that there is scope to strengthen and better integrate existing accountability mechanisms across the legislative and regulatory framework.

The report also highlights the importance of putting such action in the context of equality more widely, recognising that intersectional factors, such as disability, race and poverty have a great impact on life outcomes. Conversely, a strong focus on gender equality has the potential to drive forward equality and fairness for everyone in Wales, including the most disadvantaged groups in our society.

The Wales Centre for Public Policy report, annexed to this report, examines international approaches to embedding a gender perspective in decision and policy making. Scandinavian and Nordic countries consistently score well in indices that measure how well countries are closing gender inequality gaps. The report recognises that some polices implemented by these countries cannot easily be transported to Wales, where we have a very different welfare regime, mostly determined by the UK Government. However, they are well worth considering in terms of what we can learn from their sustained efforts to promote gender equality.

The WCPP report recognises the challenges of including a gender perspective in all decision making, finding that we need the right cultural and behavioural conditions, cross-cutting Government working, equalities expertise, and the inclusion of the voices of people affected by mainstream policies that are otherwise assumed to be gender neutral. The WCPP concludes that proactive, creative and collaborative use of gender-mainstreaming principles and tools will assist with setting a vision for equality in phase 2 of the gender equality review, and recommends areas to explore in our next phase.

These reports have posed challenging questions we need to ask ourselves, and presented recommendations for action to strengthen the building blocks for achieving gender equality. These recommendations provide areas for action in phase 2 that we can move forward on immediately, and others that will need further exploration. I will publish a full response in the autumn. The second phase of the review will begin as soon as possible, and will provide the opportunity to explore these recommendations in greater depth. [Interruption.] Excuse me for that, Presiding Officer; I thought that was on silent, but it's vibrating in a very unhelpful manner. And I've completely lost my focus now. This will include clarification of the costs, issues and risks involved, and move to action. I will set up a steering group to facilitate the progress of phase 2, and the analysis of the phase 1 recommendations.

We have achieved important successes with regard to equality in recent years, including the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, and the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015. Nevertheless, it is clear that we must make better use of the levers of Government if we are to achieve the ambition to be a gender-equal Government that truly puts gender at the centre of our policies.

We need to strengthen the current vision and leadership in Wales, and build on our existing legislative and regulatory framework, to advance gender equality and women’s empowerment. The report makes it clear that this framework, and how the various pieces fit together, is not well understood by stakeholders, and is consequently perceived as not fully integrated. We can and we will do better.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyhoeddodd y Prif Weinidog adolygiad cyflym o'n polisïau rhyw a chydraddoldeb, ac roedd yn awyddus i roi symbyliad newydd i'r gwaith hwnnw. Cefnogwyd cam cychwynnol yr adolygiad hwn gan yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rwy'n falch iawn heddiw o allu rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a nodi'r camau nesaf.

Mae Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru heddiw wedi cyhoeddi adroddiad pwysig, yn casglu tystiolaeth o Gymru, y DU a gwledydd eraill. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu gwaith, a hefyd yn estyn fy niolch i lawer o randdeiliaid a gyfrannodd at gasglu tystiolaeth, ac sy'n cyflwyno cynigion i'w hystyried. Mae adroddiad Chwarae Teg yn nodi mecanweithiau i gryfhau'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio, ac i fod yn fwy uchelgeisiol ynghylch datblygu ein polisïau mewn ffyrdd sy'n mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb mewn perthynas â rhywedd.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar dair thema allweddol, y cyntaf yw gweledigaeth ac arweinyddiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei herio i fod yn gliriach am ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae rhywedd wrth wraidd gwneud polisi. Mae angen inni nodi gweledigaeth glir o gydraddoldeb yng Nghymru, nodi amcanion a chanlyniadau dymunol, a gwneud yn siŵr bod ddealltwriaeth dda o hynny o fewn y Llywodraeth, â'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae gan Gymru rywfaint o ddeddfwriaeth sy'n arwain y byd, ac rydym wedi cael ein herio i wneud mwy i ddefnyddio hyn yn gyson i'w lawn botensial i gael mwy o effaith. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth arwain drwy esiampl fel cyflogwr a lluniwr polisi i sbarduno newid parhaol.

Mae'r ail thema, polisi ar waith, yn edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dylunio ac yn gweithredu polisïau a deddfwriaeth. Nododd yr adroddiad feysydd o arfer da, a gwnaeth argymhellion ynghylch sut y gellir cyflenwi hyn yn fwy cyson. Mae'n canolbwyntio ar feysydd fel y broses o bennu'r gyllideb, sut yr ydym yn ymgysylltu, a phwysigrwydd asesiadau effeithiol o'r effaith ar gydraddoldeb .

Mae'r thema olaf, craffu allanol ac atebolrwydd, yn canfod y croesewir craffu allanol, a bod gwaith craffu effeithiol yn sbarduno newid ymddygiad. Mae'r adroddiad yn nodi bod lle i gryfhau a gwella integreiddio mecanweithiau atebolrwydd presennol ar draws y fframwaith deddfwriaethol a rheoliadol.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd rhoi camau o'r fath yng nghyd-destun cydraddoldeb yn fwy eang, gan gydnabod bod ffactorau croestoriadol, megis anabledd, hil a thlodi yn cael effaith fawr ar ganlyniadau bywyd. Ar y llaw arall, mae ffocws cryf ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn meddu ar y potensial i sbarduno cydraddoldeb  a thegwch i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y grwpiau mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn, yn edrych ar ddulliau gweithredu rhyngwladol i ymgorffori persbectif rhywedd mewn penderfyniadau a llunio polisïau. Mae gwledydd Llychlyn a Nordig yn sgorio'n gyson dda yn y mynegeion sy'n mesur pa mor dda y mae gwledydd hyn yn cau bylchau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod rhai polisïau ar waith gan y gwledydd na ellir yn hawdd eu cludo i Gymru, lle mae gennym gyfundrefn les wahanol iawn, gan amlaf wedi'i phennu gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, maent yn werth eu hystyried o ran beth y gallwn ei ddysgu oddi wrth eu hymdrechion parhaus i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cydnabod yr heriau o gynnwys safbwynt o ran rhywedd wrth wneud pob penderfyniad, gan ganfod bod arnom angen yr amodau diwylliannol ac ymddygiadol iawn, gweithio Llywodraeth trawsbynciol, arbenigedd cydraddoldebau a chynnwys lleisiau pobl yr effeithir arnynt gan bolisïau prif ffrwd y tybir fel arall eu bod yn niwtral o ran rhywedd. Daw Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'r casgliad y bydd defnydd rhagweithiol, creadigol a chydweithredol o egwyddorion ac offer prif ffrydio rhywedd yn helpu gyda gosod gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb yng Ngham 2 yr adolygiad cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac yn argymell meysydd i'w harchwilio yn ein cam nesaf.

Mae'r adroddiadau hyn wedi gofyn cwestiynau heriol y mae angen inni eu gofyn inni ein hunain, ac wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer camau gweithredu i gryfhau blociau adeiladu ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Mae'r argymhellion hyn yn darparu meysydd gweithredu cam 2 y gallwn symud ymlaen arnynt ar unwaith, ac eraill y bydd angen eu harchwilio ymhellach. Byddaf yn cyhoeddi ymateb llawn yn yr Hydref. Bydd ail gam yr adolygiad yn dechrau cyn gynted â phosibl, ac yn rhoi cyfle i archwilio'r argymhellion hyn mewn mwy o ddyfnder. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi am hynny, Llywydd; roeddwn yn meddwl ei fod wedi ei osod i fod yn fud, ond mae'n dirgrynu mewn ffordd annefnyddiol iawn. A dwi wedi llwyr golli fy ffocws bellach. Bydd hyn yn cynnwys eglurhad o'r costau, y materion a'r risgiau sy'n gysylltiedig, a symud i weithredu. Byddaf yn sefydlu grŵp llywio i hwyluso hynt cam 2, a dadansoddiad o argymhellion cam 1.

Rydym wedi sicrhau llwyddiannau pwysig o ran cydraddoldeb yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Serch hynny, mae'n amlwg bod rhaid inni wneud gwell defnydd o ysgogiadau'r Llywodraeth os ydym i gyflawni'r uchelgais o fod yn Llywodraeth gyfartal rhwng y rhywiau sy'n rhoi rhywedd wrth wraidd ein polisïau mewn gwirionedd.

Mae angen inni gryfhau gweledigaeth ac arweinyddiaeth bresennol yng Nghymru, ac adeiladu ar ein fframwaith deddfwriaethol a rheoliadol presennol i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir nad yw'r fframwaith hwn, a sut mae gwahanol eitemau yn ffitio gyda'i gilydd, yn cael ei ddeall yn dda gan randdeiliaid, ac o ganlyniad, ystyrir nad yw wedi'i integreiddio'n llawn. Gallwn a byddwn yn gwneud yn well.

15:30

Thank you very much for the statement. I'm happy, actually, to join with you in congratulating your success, as a Government, obviously supported by this Assembly, in the two Acts that you mentioned at the end of your statement there. I think there is quite a lot to be proud of there.

To turn to the rest of the statement, though, I wonder if you can deal with these for me: the first one is—I'm just wondering, is this intended to be a sort of pathfinder for the private and social enterprise sector as well? I accept that we have a very small small and medium-sized enterprise sector in Wales and there'll be lots of businesses that are too small to take a lot of what we're talking about on board here, but I'm just wondering what your plans are for perhaps rolling this out, or sharing the good practice that we'll see as a result of this, hopefully, with the private sector, and whether there might be any plans to incentivise some businesses to take these on. I mean, my argument being that there shouldn't be a need to incentivise them, but it's always worth considering, isn't it?

Just to go back to your first point, policy and practice—no, sorry, the vision and leadership part of your statement, equality and sustainability were embedded in this Assembly when it was created, so I was perhaps a little worried to hear that a clear vision of equality may not be as understood within Government as perhaps we might have expected. Do you have any internal policy on this issue? Surely, you must have, because the Assembly itself does, but if you do, can you say whether the gaps are visible in any particular directorate or particular policy area, and what it is that you will be expecting, from the vision and leadership, to fix precisely?

Turning to equality impact assessments, I’m wondering if the process for compiling these has changed significantly over the years. I remember reading budget documents and there certainly was a time when these were referred to and then routinely ignored in making decisions. So, if there have been any movements forward in what is considered during the course of making impact assessments, I think that would be quite helpful for us to all know, actually.

I haven’t seen the report itself—I’ll be honest with you there—but I was quite interested in your remarks on scrutiny and accountability, not just in the role of this Assembly—. Obviously, it’s clearly the role of this Assembly, but civil society in Wales as a whole has a huge role to play here as well, not least our media. Do you have any concerns that there may be some quarters who are nervous of criticising the outcome of Welsh Government policy, lest they be received less favourably for Welsh support in the future?

And then, looking at the mainstreaming of principles and tools, which you mentioned, I’d like to come back to a particular area of interest for me, which is the vocational choices that tend to be made by young women, post 16. One of the things I particularly wanted to mention was the lack of enthusiasm on the part of Welsh Government here for an apprenticeship route into occupational therapy, as they have in England. Now, this is an area of work that is already very attractive to women, and I think this lack of an apprenticeship route is actually a barrier for women coming into an area of work where, actually, they’ve got a massive career opportunity, with plenty of routes of progression within the profession.

Similarly, we’ve discussed peer pressure before, about the choices young women make at 16. Alongside any work that encourages them to go into the less traditional areas than health and beauty and social care and so on, how will your steering group consider how further education courses that traditionally attract young women can be geared better and promoted better to students so that they view these as the beginning of an ambitious career programme, rather than just assuming that it’s got limited expectations, which perhaps unfairly characterises some of these courses, I have to say that, so that they’re looking at it with an ambitious eye, rather than just a, ‘Well, this is what I can do, because my academic qualifications weren’t so great’? Thank you.

Diolch yn fawr am y datganiad. Rwy'n hapus, mewn gwirionedd, i ymuno â chi i longyfarch eich llwyddiant, fel Llywodraeth, yn amlwg yn cael ei gefnogi gan y Cynulliad hwn, yn y ddwy Ddeddf y soniasoch amdanynt ar ddiwedd eich datganiad. Credaf fod yno gryn dipyn i fod yn falch ohono.

I droi at weddill y datganiad, fodd bynnag, tybed a allwch chi ymdrin â'r rhain i mi: y cyntaf yw—tybed a fwriedir hyn i fod yn rhyw fath o arloeswr ar gyfer y sector preifat a mentrau cymdeithasol hefyd? Derbyniaf fod gennym sector mentrau bach a chanolig bach iawn yng Nghymru a bydd llawer o fusnesau sy'n rhy fach i ystyried llawer o'r hyn yr ydym yn sôn amdano yma. Ond tybed beth yw eich cynlluniau ar gyfer efallai gyflwyno hyn, neu rannu'r arfer da y byddwn yn ei weld o ganlyniad i hyn, gobeithio, gyda'r sector preifat, ac a allai fod unrhyw gynlluniau i gymell rhai busnesau i ymgymryd â hyn. Hynny yw, fy nadl i yw na ddylai fod angen eu cymell nhw, ond mae'n werth ei ystyried, onid yw?

I fynd yn ôl at eich pwynt cyntaf, polisi ar waith—na, mae'n ddrwg gennyf, cafodd rhan gweledigaeth ac arweinyddiaeth eich datganiad, cydraddoldeb a chynaliadwyedd, eu hymgorffori yn y Cynulliad hwn pan gafodd ei greu, felly roeddwn ychydig yn bryderus o glywed nad yw gweledigaeth glir o gydraddoldeb o bosib yn ddealledig o fewn y Llywodraeth gystal â'r disgwyl. A oes gennych unrhyw bolisi mewnol ar y mater hwn? Does bosib nad oes gennych, oherwydd mae gan y Cynulliad ei hun bolisi, ond os oes gennych, a allwch chi ddweud a oes bylchau yn weladwy mewn unrhyw gyfarwyddiaeth arbennig neu faes polisi penodol, a beth fyddwch chi'n disgwyl, o'r weledigaeth a'r arweiniad, ei bennu yn union?

Gan droi at asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, tybed a yw'r broses ar gyfer llunio'r rhain wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd. Cofiaf ddarllen dogfennau cyllideb ac yn sicr roedd adeg pan gyfeiriwyd at y rhain ac yna roeddent yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn wrth wneud penderfyniadau. Felly, os bu unrhyw symudiadau ymlaen yn yr hyn a ystyrir yn ystod gwneud asesiadau effaith, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn i bawb gael gwybod hynny.

Nid wyf wedi gweld yr adroddiad ei hun—byddaf yn onest â chi—ond roedd gen i ddiddordeb mawr yn eich sylwadau ar graffu ac atebolrwydd, nid yn unig yn swyddogaeth y Cynulliad hwn—. Yn amlwg, swyddogaeth y Cynulliad hwn ydyw, ond mae gan gymdeithas sifil yng Nghymru fel cyfangorff ran enfawr i'w chwarae yma hefyd, yn enwedig ein cyfryngau. A oes gennych unrhyw bryderon y gallai rhai fod yn nerfus am feirniadu canlyniad polisi Llywodraeth Cymru, rhag ofn iddynt gael eu derbyn yn llai ffafriol ar gyfer cefnogaeth Cymru yn y dyfodol?

Ac yna, gan edrych ar brif ffrydio'r egwyddorion a'r offer, a grybwyllwyd gennych, hoffwn ddod yn ôl at faes arbennig o ddiddordeb i mi, sef y dewisiadau galwedigaethol sy'n tueddu i gael eu gwneud gan fenywod ifanc, ôl-16. Un o'r pethau yr oeddwn am sôn amdano yn benodol oedd y diffyg brwdfrydedd ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybr prentisiaeth i therapi galwedigaethol, fel sy'n bodoli yn Lloegr. Nawr, mae hwn yn faes gwaith sydd eisoes yn ddeniadol iawn i fenywod, a chredaf fod y diffyg llwybr prentisiaeth hwn mewn gwirionedd yn rhwystr i fenywod sy'n dod i faes gwaith lle, mewn gwirionedd, mae ganddyn nhw gyfle gyrfa enfawr, gyda digon o lwybrau i symud ymlaen o fewn y proffesiwn.

Yn yr un modd, rydym wedi trafod pwysau gan gymheiriaid o'r blaen, am y dewisiadau y mae menywod ifanc yn eu gwneud yn 16 oed. Ochr yn ochr ag unrhyw waith sy'n eu hannog i fynd i mewn i'r meysydd llai traddodiadol nag iechyd a harddwch a gofal cymdeithasol ac ati, sut fydd eich grŵp llywio yn ystyried hyrwyddo'n well y cyrsiau addysg bellach sydd yn draddodiadol yn denu menywod ifanc fel eu bod yn edrych ar hyn fel dechrau ar raglen yrfa uchelgeisiol, yn hytrach na dim ond derbyn disgwyliadau cyfyngedig, sy'n nodweddu rhai o'r cyrsiau hyn yn annheg efallai, rhaid i mi ddweud hynny, fel eu bod nhw'n edrych arnynt o safbwynt uchelgeisiol, yn hytrach na dim ond, 'Wel, dyma beth alla i ei wneud, oherwydd nid oedd fy nghymwysterau academaidd yn wych'? Diolch.

15:35

A very excellent set of questions. I'll try and just talk about them as we go through. Apologies—the report has been published today. I'm not at all, therefore, surprised that Suzy Davies hasn't had a chance to read it in any depth. However, there is a summary report included. It's published on the Chwarae Teg website. Also, the Welsh policy annex is also very interesting in terms of international examples, if you like. I think, Deputy Presiding Officer, it's fair to say—and I've said this to Cabinet colleagues as well—in reading that report, I experienced an almost epiphany in the way that I thought about gender. It's very interesting and I hope that Members will be able to read it.

The statement today is the beginning of a process, so we're not formally responding to the report. I can answer some of the questions from what I know now, but what we're doing is launching the report. What I very much hope we can do, Deputy Presiding Officer, is have a good conversation across this Chamber and civic society, and all society in Wales, about what on earth to do about it. The epiphany is this—that in the Scandinavian and Nordic countries, they start from an agreed place that women suffer discrimination at all levels in society. So, obviously, the suffered discrimination is in proportion to where else they are in that society, so a white, middle-class woman will suffer less discrimination than an ethnic minority or disabled woman and so on. But, nevertheless, that discrimination is there, as against the male counterpart. Therefore, they look at all of their policies, not to see that they don't discriminate, but at what they do to advance the cause of equality, which is the flip side. And as soon as you start to look at it like that, it looks very different. So, you ask yourself not 'Will this policy discriminate against women?', because that is what it describes as gender neutral. In other words, it will do nothing about the relative place of women at the moment. It won't discriminate against them, but neither will it advance them. I think that a conversation needs to be had about whether we want to flip that the other way round. So, I think that is a real difference in the way that this report presents itself to us. And then, when you view our policies through that framework, they look different.

We've done very well in eliminating discrimination. What we haven't done well at is advancing equality, and I do think that those are very important. So, in your series of questions, that's what the clear vision is. It's not that we don't have a clear vision about preventing discrimination, it's that we lack the clear vision for advancing equality. So, if you flip it like that, all the way through, you can see. So, when you look at our equality impact assessments and flip them, you get a slightly different result and slightly different policies, and that goes all the way through. If you do the scrutiny on that basis, you get a different result. So, the report is very interesting, Presiding Officer, and has the basis for us to do it differently in the way that countries that are a lot further advanced than us are still doing in numbers, because nowhere in the world, I'm sorry to say, are women actually equal to their male counterparts in the society that they live in.

Cyfres o gwestiynau rhagorol iawn. Byddaf yn ceisio siarad amdanynt wrth inni fynd ymlaen. Ymddiheuriadau—cyhoeddwyd yr adroddiad heddiw. Nid wyf yn synnu o gwbl, felly, na chafodd Suzy Davies gyfle i'w ddarllen yn fanwl. Fodd bynnag, mae adroddiad cryno wedi'i gynnwys. Fe'i cyhoeddir ar wefan Chwarae Teg. Hefyd, mae atodiad polisi Cymru hefyd yn ddiddorol iawn o ran enghreifftiau rhyngwladol, os hoffech chi. Credaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud—ac rwyf wedi dweud hyn wrth gydweithwyr yn y Cabinet hefyd—wrth ddarllen yr adroddiad hwnnw, profais epiphani bron yn y ffordd yr oeddwn yn meddwl am rywedd. Mae'n ddiddorol iawn a gobeithio y bydd yr Aelodau yn gallu ei ddarllen.

Mae'r datganiad heddiw yn ddechrau proses, felly nid ydym yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad. Gallaf ateb rhai o'r cwestiynau o'r hyn y gwn bellach, ond yr hyn yr ydym yn ei wneud yw lansio adroddiad. Yr hyn yr wyf yn gobeithio'n fawr y gallwn ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw cael sgwrs dda ar draws y Siambr hon a chymdeithas ddinesig, a'r gymdeithas gyfan yng Nghymru, am beth ar y ddaear i'w wneud am y peth. Yr epiphani yw hyn—yn y gwledydd Llychlyn a Nordig, maent yn dechrau o fan y cytunwyd arno bod menywod yn dioddef gwahaniaethu ar bob lefel mewn cymdeithas. Felly, yn amlwg, mae'r gwahaniaethu a ddioddefir yn cyfateb i'w safle yn y gymdeithas honno, felly bydd menyw ddosbarth canol â chroen gwyn yn dioddef llai o wahaniaethu na menyw o leiafrif ethnig neu fenyw anabl ac ati. Ond, serch hynny, mae'r gwahaniaethu hwnnw yno, o'i gymharu â'r gwryw cyfatebol. Felly, maent yn edrych ar bob un o'u polisïau, nid i weld nad ydynt yn gwahaniaethu, ond ar yr hyn y maent ei wneud i hyrwyddo achos cydraddoldeb, sef yr ochr arall. A chyn gynted ag y dechreuwch edrych arno fel hynny, mae'n edrych yn wahanol iawn. Felly, gofynnwch i chi eich hun nid 'A fydd y polisi hwn yn gwahaniaethu yn erbyn menywod?', oherwydd dyna beth y mae'n ei ddisgrifio fel niwtral o ran rhywedd. Mewn geiriau eraill, ni fydd yn gwneud dim am safle cymharol menywod ar hyn o bryd. Ni fydd yn gwahaniaethu yn eu herbyn, ond ni fydd yn eu hybu chwaith. Credaf fod angen cael sgwrs ynghylch a ydym am droi hynny y ffordd arall rownd. Felly, credaf fod hynny'n wahaniaeth gwirioneddol yn y ffordd y mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno ei hun i ni. Ac wedyn, wrth i chi edrych ar ein polisïau drwy'r fframwaith hwnnw, maent yn edrych yn wahanol.

Rydym wedi gwneud yn dda iawn i ddileu gwahaniaethu. Yr hyn nad ydym wedi ei wneud yn dda yw hyrwyddo  cydraddoldeb, a chredaf fod y rheini'n bwysig iawn. Felly, yn eich cyfres o gwestiynau, dyna beth yw'r weledigaeth glir. Nid yw'n fater o fod heb weledigaeth glir am atal gwahaniaethu, mae'n fater o fod heb weledigaeth glir ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb. Felly, os ydych yn ei droi fel yna, yr holl ffordd drwyddo gallwch ei weld. Felly, pan edrychwch ar ein hasesiadau o effaith cydraddoldeb a'u troi, rydych chi'n cael canlyniad ychydig yn wahanol a pholisïau ychydig yn wahanol, ac mae hynny'n mynd yr holl ffordd drwyddo. Os ydych yn gwneud y gwaith craffu ar y sail honno, cewch ganlyniad gwahanol. Felly, mae'r adroddiad yn ddiddorol iawn, Llywydd, ac mae sail ynddo inni ei wneud yn wahanol, fel y gwna gwledydd sydd yn llawer mwy datblygedig na ni yn eu niferoedd o hyd, oherwydd nid oes unman yn y byd, mae'n ddrwg gennyf ddweud, lle mae merched mewn gwirionedd yn gyfartal i'w cymheiriaid gwrywaidd yn y gymdeithas y maent yn byw ynddi.

15:40

Rydw innau hefyd yn croesawu cyhoeddi rhan gyntaf yr adolygiad rhywedd a pholisïau cyfartal, ond mae'n rhaid cydnabod, wrth gwrs, fod y gwaith yma yn un cyfyngedig ac mae'r ffocws ar brosesau'r Llywodraeth. Maen nhw yn bwysig ac mae materion fel asesiadau cydraddoldeb yn hollbwysig, ond mae o'n gyfyngedig, onid ydy, o ran hyrwyddo cydraddoldeb ar draws cymdeithas yng Nghymru, a hynny, yn y pen draw, sydd yn mynd i arwain at wlad lle mae merched yn gallu byw eu bywydau yn ddiogel a lle mae cydraddoldeb yn cael blaenoriaeth?

Rydw i'n cytuno â chi pan ydych chi'n dweud yn eich datganiad fod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae drwy arwain drwy esiampl fel cyflogwr ac fel gwneuthurwr polisi i greu newid parhaol. Mae argymhelliad 24 o'r adroddiad gan Chwarae Teg yn dweud bod angen i gam 2 ddechrau gyda thrafodaeth gyhoeddus er mwyn gosod gweithredoedd ymarferol—tangible actions—er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb. I mi, mae hwn yn argymhelliad pwysig. Oes, mae angen trafodaeth, ond, plis, nid un sydd yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Beth sy'n bwysig ydy gweithredu ar feysydd polisi allweddol, ac mae yna eisoes lwyth o dystiolaeth amdanyn nhw. Rydym ni'n gwybod yn barod beth sydd angen ymrafael ag o er mwyn creu gwelliant. Beth sydd eisiau ydy creu'r gwelliant yna. 

Un o'r meysydd yna, wrth gwrs, ydy gofal plant, ac mae pawb yn cydnabod bod cael darpariaeth gofal plant rhad, safonol sydd ar gael ymhob rhan o Gymru yn allweddol i hyrwyddo cydraddoldeb. Felly, rydych chi'n gwybod beth rydw i'n mynd i ofyn nesaf: a ydych chi'n credu bod cynnig gofal plant presennol eich Llywodraeth chi yn ffit i'w bwrpas? Tybed a oes angen ailystyried y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) sy'n mynd drwy bwyllgor ar hyn o bryd, oherwydd mae o'n ein symud ni tuag at un cyfeiriad penodol, ac mae rhanddeiliaid—y rhan fwyaf ohonyn nhw—yn dadlau bod y cyfeiriad hwnnw yn un anghywir, ac yn dadlau bod angen i'r cynnig gofal plant fod yn weithredol pan mae'r plentyn yn un oed, nid yn ddwy oed, ac mai hynny fyddai'n gwneud y gwir wahaniaeth er mwyn caniatáu i fwy o ferched ddod yn ôl i mewn i'r gweithle. Felly, y cwestiwn rydw i'n ei ofyn ydy: onid ydych chi'n meddwl y byddai'n well oedi'r Bil, ailystyried, ac ailgyflwyno cynnig a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth rydym ni'n dymuno ei weld?

Yn troi at ail faes, tra bod yr adolygiad yma'n digwydd, a thra bydd Cam 2 yn digwydd hefyd, mi fydd y trafodaethau am Brexit yn parhau ac yn dwysáu, ac mae'n hollbwysig bod hawliau menywod yn cael eu cynnal a'u datblygu yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Hawliau megis yr hawl i dâl cyfartal; hawl i amser o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau antenatal; hawliau yn y gweithle i fenywod beichiog neu i fenywod sydd ar gyfnod mamolaeth; iechyd a diogelwch menywod beichiog yn y gweithle; hawliau pensiwn ac ati—hawliau, fel rydych chi'n gwybod, sy'n deillio yn uniongyrchol o'n haelodaeth ni o'r Undeb Ewropeaidd, ond hawliau y mae perygl gwirioneddol iddyn nhw gael eu colli, o gofio'r hinsawdd gynyddol ymosodol yng nghylch hawliau rydym ni'n byw ynddi hi. Ac mae'n rhaid inni wynebu'r posibilrwydd yna y bydd yna ymgais i danseilio rhai o'r hawliau sydd wedi cael eu hennill hyd yma, heb sôn am drio rhwystro symud ymlaen a datblygu hawliau ymhellach. Un ffordd o ddiogelu'r hawliau yma fyddai i wreiddio egwyddorion cydraddoldeb yng nghyfraith Cymru: egwyddorion confensiwn Istanbwl a'r confensiwn ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod, er enghraifft.

Felly, hoffwn i wybod, a chymryd y cyfle yma—. Rydw i'n gwybod fy mod i'n crwydro oddi wrth yr adolygiad, ond rydw i'n meddwl bod hwn yn bwysig yn y cyfnod rydym ni ynddo fo. A ydy'r Llywodraeth yn ystyried gwreiddio'r egwyddorion cydraddoldeb yn ein cyfraith ni yma yng Nghymru? Mae yna arbenigwyr, fel yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, o'r farn y byddai hi'n briodol i wneud hynny, ei bod hi o fewn ein cymhwysedd ni, ac efallai i gyflwyno Bill i ddiogelu hawliau menywod, a hawliau gweithwyr hefyd, wrth gwrs—Bil penodol Cymreig.

Rydych chi'n sôn yn—

I too welcome the publication of the first part of this review of gender and equality policies, but we have to acknowledge, of course, that this work is restricted in its nature and the focus is on the Government processes. They are important, of course, and issues such as equality impact assessments are vitally important, but it is limited, isn't it, with regard to promoting equality across society in Wales? That, ultimately, is what will lead to a nation where women can live their lives safely and where equality is prioritised.

I do agree with you when you say in your statement that the Welsh Government does have an important role to play in leading by example as an employer and as a policy maker to create permanent change. Recommendation 24 of the report by Chwarae Teg notes that stage 2 needs to start with a public debate in order to put practical and tangible actions in place to promote equality. For me, this is an important recommendation. Yes, we do need to have that debate, but, please, not one that goes on and on and on. What’s important is that actions are taken on key policy areas, and there is already a whole host of evidence about these issues. We know already what we need to be tackling in order to lead to improvement. What we need to do now is to make that improvement.

One of those areas, of course, is childcare, and everyone recognises that having affordable, quality childcare provision that’s available in all parts of Wales is vitally important to promote equality. So, you know what I’m going to ask next: do you believe that the current childcare offer of your Government is fit for purpose? I wonder whether we need to reconsider the Childcare Funding (Wales) Bill that’s going through committee stage at present, because it is taking us towards one specific direction, and stakeholders, the vast majority of them, argue that that direction is the incorrect one. They argue that the childcare offer needs to be active when a child is one year old and not when they’re two years of age. That’s what will make the genuine difference in order to allow more women to return to the workplace. So, the question I ask is this: do you believe that it would be worth pausing the Bill, reconsidering it and reintroducing a motion that would make the difference that we all wish to see?

Turning to a second area, whilst this review is under way and whilst Stage 2 will take place, the discussions about Brexit will also continue and will intensify, and it’s vitally important that women’s rights are maintained and developed as a result of leaving the European Union. Rights such as the right to equal pay; the right to leave from work for an antenatal appointment; rights in the workplace for pregnant women or for women who are on maternity leave; health and safety for women in the workplace; pension rights and so on—rights, as you know, that stem directly from our membership of the European Union, but also rights that are genuinely at risk of being lost, remembering this increasingly aggressive environment that we’re living in with regard to rights. We need to face the possibility that there will be an attempt to undermine some of these rights, without mentioning preventing the further development of rights. One way of safeguarding these rights would be to embed equality principles in the law in Wales: the principles of the Istanbul convention and the convention on eradicating discrimination against women and so on.

So, I’d like to know—. I know that I’m straying from the review itself here but I do think it’s important at this current time. Is the Government considering embedding those equality principles in our laws here in Wales?  Experts, such as Professor Simon Hoffman from Swansea University, are of the opinion that it would be appropriate to do just that, and it’s within our competence, and perhaps to put forward a Bill to safeguard women’s rights and also workers’ rights, of course—a specific Bill in Wales.

You mentioned—

15:45

Ydw. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad eich bod chi eisiau dangos gweledigaeth ac arweinyddiaeth yng Nghymru ar faterion rhywedd, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gwneud hynny. Rydw i'n meddwl y byddai dod â Bil ymlaen i ddiogelu ein hawliau ni fel merched yn ffordd dda iawn o ddangos y weledigaeth a'r arweinyddiaeth hynny. Diolch.

Yes. You mentioned in your statement that you want to show vision and leadership in Wales on gender issues, and of course we want to do that. I think that bringing a Bill forward to safeguard our rights as women would be an excellent way of showing that vision and leadership. Thank you.

Yes. A very important set of points there. In terms of why it's limited in the way that it is, it's just that for the first phase of the review, to get it under way, we asked them to do a rapid review of the Government and its policies deliberately, as a place to start—that's all. So, obviously, what we want to do is take it out from there, and the recommendations make that plain. There are, however, some recommendations for us, as I said, as both an employer and a policy lead, to make sure that we have our own house in the very best place it can be, in order to be able to be a role model. It would be very hard to ask other parts of our society to, for example, close the gender pay gap, if we're not able to do it ourselves. So, I do think there are some important things that can be done in-house, if you like, but then, clearly, the idea is to take it out to the world. A large number of the phase 2 recommendations are around that and the steering group, and I very much welcome a role for the cross-party group on women in taking forward the review as well, because in this place, I think, we have many things that we share across the whole Senedd about how this can be taken forward, and there are some very exciting things in here that will need some drive to push them forward. 

You mentioned a couple of very specific things. The Bill, at the moment, on the childcare offer, is actually just about the HMRC arrangements for proving eligibility for working parents, so I don't think that that limits us in terms of what we do on the childcare offer. So, that's a different Bill. The committee scrutiny for the actual childcare offer Bill will be very interesting to see. I'm sure we'll take into account a range of stakeholder views, and so on, and there's a conversation to be had about what the best way forward on some of the offers is. I think our offer in our manifesto is a very generous offer, but there are issues around all childcare offers that need to be fully explored.

In terms of Brexit and the embedding of rights, we are actively looking into whether we can embed parts or all of the Istanbul convention. Obviously, we're not the nation state, but what we can do to embed that in our law, and actually also the Convention on the Elimination of All Forms of Discrimination Against Women stuff from the European Union. We want to hold onto those rights and make sure that they are embedded in our law. So, there's an active engagement with the Counsel General about how we might achieve that in our legislation, and what the best way to do that is, whether it needs a separate Bill or whether we can do it in another way. That will be very much part of phase 2 as well, as we go forward. We will be looking to establish a steering group alongside the cross-party group on women, which I know, Siân Gwenllian, you take a very particular interest in, alongside Jane Hutt and Suzy Davies. I'm very much hoping that, together, we can get a consensus on how to take some of the very exciting parts of this review forward.

Ie. Cyfres o bwyntiau pwysig iawn yn fan'na. O ran pam y mae'n gyfyngedig yn y ffordd y mae, ar gyfer cam cyntaf yr adolygiad, er mwyn ei gychwyn, gofynnwyd iddynt wneud adolygiad cyflym o'r Llywodraeth a'i pholisïau yn fwriadol, fel lle i ddechrau—dyna i gyd. Felly, yn amlwg, rydym eisiau ei dynnu allan oddi yno, ac mae'r argymhellion yn gwneud hynny'n glir. Fodd bynnag, ceir rhai argymhellion i ni, fel y dywedais, fel cyflogwr ac fel arweinydd  polisi, i wneud yn siŵr bod ein tŷ ni ein hunain yn y cyflwr gorau y gall fod, er mwyn gallu bod yn esiampl. Byddai'n anodd iawn gofyn i rannau eraill o'n cymdeithas  gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, er enghraifft, os nad ydym ni ein hunain yn gallu ei wneud. Felly, rwy'n credu bod rhai pethau pwysig y gellir eu gwneud yn fewnol, os mynnwch, ond yna, yn amlwg, y syniad yw mynd ag ef allan i'r byd. Mae nifer fawr o argymhellion cam 2 yn ymwneud â hynny ac mae'r grŵp llywio a minnau yn croesawu swyddogaeth y grŵp trawsbleidiol ar fenywod wrth weithredu'r adolygiad hefyd, oherwydd yn y lle hwn, rwy'n credu, mae gennym lawer o bethau a rannwn ar draws y Senedd gyfan ynghylch sut y gellir bwrw ymlaen â hyn. Ac mae rhai pethau cyffrous iawn yma y bydd angen rhywfaint o sbardun i'w gwthio ymlaen.

Soniasoch am un neu ddau o bethau penodol iawn. Mae'r Bil ar y cynnig gofal plant, ar hyn o bryd mewn gwirionedd yn ymwneud yn unig â threfniadau Cyllid a Thollau EM ar gyfer profi cymhwysedd ar gyfer rhieni sy'n gweithio, felly dwi ddim yn credu bod hynny'n ein cyfyngu o ran yr hyn a wnawn ar y cynnig gofal plant. Mae hwnnw'n Fil gwahanol. Bydd craffu'r pwyllgor ar gyfer y Bil ar y cynnig gofal plant gwirioneddol yn ddiddorol iawn i'w weld. Rwy'n siŵr y byddwn yn ystyried amrywiaeth o safbwyntiau rhanddeiliaid, ac ati, ac mae sgwrs i'w chael ynghylch beth yw'r ffordd orau ymlaen ar rai o'r cynigion. Credaf fod y cynnig yn ein maniffesto yn gynnig hael iawn, ond mae angen rhoi ystyriaeth lawn i faterion yn ymwneud â phob cynnig gofal plant.

O ran Brexit ac ymgorffori hawliau, rydym wrthi yn edrych i weld a oes modd cynnwys rhannau neu holl gonfensiwn Istanbul. Yn amlwg, nid y ni yw'r genedl-wladwriaeth, ond gallem ymgorffori hynny yn ein cyfraith, a hefyd holl stwff y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym eisiau dal ein gafael ar yr hawliau hynny a gwneud yn siŵr eu bod wedi'u hymgorffori yn ein cyfraith ni. Felly, mae ymgysylltiad yn digwydd gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch sut y gallwn gyflawni hynny yn ein deddfwriaeth ni, a'r ffordd orau o wneud hynny, a oes angen Bil ar wahân neu a oes modd ei wneud mewn ffordd arall. Bydd hynny'n rhan bwysig iawn o gam 2 hefyd, wrth inni symud ymlaen. Byddwn yn ceisio sefydlu grŵp llywio ochr yn ochr â grŵp trawsbleidiol ar fenywod, y gwn, Siân Gwenllian, yr ydych chi â diddordeb arbennig iawn ynddo, ochr yn ochr â Jane Hutt a Suzy Davies. Rwy'n gobeithio yn fawr iawn, y gallwn, gyda'n gilydd, gael consensws ynghylch sut i weithredu rhai o rannau cyffrous iawn yr adolygiad hwn.

15:50

Thank you for your statement, leader of the house, and for your earlier written statement. This year we celebrated the centenary of the first women being able to vote in parliamentary elections, and 90 years since we were given the vote on equal terms. Gender equality has come a long way in those 90-or-so years, but it hasn't come far enough. There is still a huge gender pay gap, unnecessary barriers to women taking key leadership roles, and we still battle misogyny on a daily basis.

Gender is a function of biology and should have no bearing on a person's life chances. Unfortunately, in 2018, it still does. Welsh women can expect to earn over £1.80 an hour less than men. Only 6 per cent of the top 100 companies' chief executives, and fewer than 14 per cent of local government chief executives are women. Women make up 51 per cent of the Welsh population, yet only make up 42 per cent of senior officials in Welsh Government. Only 28 per cent of local councillors are women. The Welsh Government have passed a number of pieces of legislation and regulations aimed at improving gender equality, but as highlighted by the rapid review of gender equality, they are not working sufficiently well.

Legislation will not tackle misogyny. Positive discrimination will not eradicate prejudice. We have to change attitudes. We have to show the world that it is not okay to make comments on a woman's appearance rather than what she is saying. We have to show the world that men are not better than women, that girls can do anything that boys can; and we have to show the world that threatening to rape someone on Twitter will not be tolerated.

I have just one or two questions on your statement. Leader of the house, how will you ensure that action on gender equality is taken across Government? And what discussions have you had with the Cabinet Secretary for Education about the action she can take to ensure young people are educated about becoming gender blind, and encouraging young girls and boys to challenge stereotypes? There should be no such thing as a man's job or a woman's job. Young people should be free and encouraged to do whatever job they wish. Finally, leader of the house, when will you be in a position to outline the timescales for the completion of phase 2?

We all have a role to play in improving gender equality. We have to fight misogyny, stand up to domestic violence, and challenge gender stereotypes. That's not feminism, it's humanism. We will not tolerate discrimination in any form. Diolch yn fawr.

Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ, ac am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Eleni rydym yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn gallu pleidleisio mewn etholiadau seneddol, a 90 mlynedd ers inni gael y bleidlais ar yr un telerau. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi dod ymhell yn y 90 mlynedd hynny, ond nid yw wedi dod yn ddigon pell. Mae bwlch enfawr rhwng cyflogau, rhwystrau diangen i fenywod gymryd swyddogaethau arwain allweddol, ac rydym yn dal yn brwydro casineb at wragedd yn ddyddiol.

Ffrwyth bioleg yw rhywedd ac ni ddylai fod yn berthnasol i gyfleoedd bywyd unigolyn. Yn anffodus, yn 2018, mae'n dal yn berthnasol. Gall menywod Cymru ddisgwyl ennill dros £1.80 awr yn llai na dynion. Dim ond 6 y cant o brif weithredwyr y 100 cwmni gorau, a llai na 14 y cant o'r prif weithredwyr llywodraeth leol sy'n fenywod. Menywod yw 51 y cant o boblogaeth Cymru, ac eto dim ond 42 y cant o uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru. Dim ond 28 y cant o gynghorwyr lleol sy'n fenywod. Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau sy'n anelu at wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond fel yr amlygwyd gan yr adolygiad cyflym o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, nid ydynt yn gweithio'n ddigon da.

Ni fydd deddfwriaeth yn mynd i'r afael â chasineb at wragedd. Ni fydd gwahaniaethu cadarnhaol yn dileu rhagfarn. Rhaid inni newid agweddau. Rhaid inni ddangos i'r byd nad yw'n iawn gwneud sylwadau ar ymddangosiad menyw yn hytrach na'r hyn y mae'n ei ddweud. Rhaid inni ddangos i'r byd nad yw dynion yn well na merched, y gall merched wneud unrhyw beth y gall bechgyn ei wneud; a rhaid inni ddangos i'r byd na oddefir bygwth treisio rhywun ar Twitter.

Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau ar eich datganiad. Arweinydd y tŷ, sut y byddwch chi'n sicrhau y cymerir camau ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y Llywodraeth? A pha drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg am y camau y gall hi eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu ynghylch bod yn ddall o ran rhywedd, ac annog merched a bechgyn ifanc i herio stereoteipiau? Ni ddylai fod y fath beth â swydd dyn neu swydd menyw. Dylai pobl ifanc fod yn rhydd a chael eu hannog i wneud pa bynnag swyddi a ddymunant. Yn olaf, arweinydd y tŷ, pryd fyddwch chi mewn sefyllfa i amlinellu amserlenni ar gyfer cwblhau cam 2?

Mae gennym oll ran i'w chwarae i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rhaid inni ymladd casineb yn erbyn gwragedd, herio trais domestig, a herio stereoteipiau rhywedd. Nid ffeministiaeth yw hynny, dyneiddiaeth yw hynny. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu mewn unrhyw ffurf. Diolch yn fawr.

Well, thank you very much for those remarks. There was much there that I completely agreed with. I think, Deputy Presiding Officer, it's worth indulging myself with a quote from a young woman who was with us standing outside with Val Feld's plaque, who said that she looked forward to a time when somebody complimenting her on her figures was talking about her attainment in maths and not the shape of her body. So, I think that's something well worth bearing in mind, and we are a long way from that, I fear.

But I also think it's worth quoting a little bit from the report—and I appreciate that Members won't have had a chance to read it even at all, or certainly not in depth—because I do think this epiphany that I spoke of earlier is summarised by this. So, it says:

'A gender-neutral approach defaults to treating men and women the same, which does not result in equality of outcome for men and women. This approach is often described as "gender-blind" which the UN define as "inability to perceive that there are different gender roles, need, responsibilities of men, women, boys and girls, and as a result failure to realize that policies, programmes and projects can have different impact on men, women, boys and girls"'.

I think that sums up the report. So, it's exactly as I said in response to Suzy Davies: if you flip the way you think about it and say that gender neutrality is not what we're looking for; we're looking for gender equality, which is not the same thing, because we are not equal when we start. Therefore, a policy that is gender neutral results in the same inequality at the other side of it as it did when it started. That's the drive, I think, across Government.

Obviously, we have taken this report through Cabinet before I took my oral statement. We had a robust conversation there about what can be done. In taking phase 2 forward and in developing our full response to this, which I'll bring back to the Senedd in the autumn, we will be talking about what each Cabinet Secretary and their departments can contribute to this. There are recommendations in the report, which I have yet to be able to discuss with all parts of this structure of Government, if I can call it that. Some of them are for the Commission. Some of them are around the ways that political parties promote gender equality and so on. That's why I was talking about the cross-party working group taking some of those forward. We will need to find some structures for how to advance mutual understanding of all of that, and that clearer vision, not just for the Government but across civic society—I think that Siân Gwenllian very much majored on that as well—that we accept where we start and then what we want to do to go forward. I do think that's fundamental for that.

In terms of outcomes, we're expecting to get to a point where we can agree how to take this forward by a year's time. I just want to be really clear what I mean by that. Obviously, I don't expect to have achieved gender equality in a year's time. Would that I could expect that, but obviously not. What we hope to do is have a comprehensive programme to embed in Wales in our lives in a year's time that we all agree on and that we can take forward.

Wel, diolch yn fawr am y sylwadau hynny. Roeddwn yn cytuno'n llwyr â llawer ohonynt. Credaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn werth sôn am ddyfyniad gan ferch ifanc a oedd gyda ni yn sefyll y tu allan gyda phlac Val Feld, a ddywedodd ei bod yn edrych ymlaen at yr amser pan fyddai cael ei chanmol am ei ffigur yn cyfeirio at ei chyrhaeddiad mewn mathemateg ac nid at siâp ei chorff. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth sy'n werth ei gofio, ac rydym ymhell oddi wrth hynny, rwy'n ofni.

Ond credaf hefyd ei bod yn werth dyfynnu ychydig o'r adroddiad—ac rwy'n sylweddoli na fydd yr Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen  o gwbl hyd yn oed, neu yn sicr ddim yn fanwl—oherwydd fy mod yn credu bod yr epiphani hwn y siaradais amdano'n gynharach yn crynhoi hyn. Felly, mae'n dweud:

Mae dull niwtral o ran rhywedd yn rhagosod trin dynion a menywod yr un fath, nad yw'n arwain at gydraddoldeb canlyniad ar gyfer dynion a menywod. Disgrifir y dull hwn yn aml fel "bod yn ddall o ran rhywedd". Mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei ddiffinio fel anallu i ganfod bod gwahanol swyddogaethau rhywedd, angen, cyfrifoldebau dynion, menywod, bechgyn a merched, ac o ganlyniad methiant i sylweddoli y gall polisïau, rhaglenni a phrosiectau gael effaith wahanol ar ddynion, menywod, bechgyn a merched.

Credaf fod hynny'n crynhoi'r adroddiad. Felly, mae'n union fel y dywedais mewn ymateb i Suzy Davies: Os ydych yn gwrth-droi'r ffordd yr ydych yn meddwl amdano ac yn dweud nad niwtraliaeth o ran rhywedd yw'r hyn yr ydym yn chwilio amdano; rydym yn edrych am gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac nid yw hynny'r un peth, oherwydd nid ydym yn gyfartal pan fyddwn yn dechrau. Felly, mae polisi sy'n niwtral o ran rhywedd yn arwain at yr un anghydraddoldeb ar yr ochr arall ag yr oedd pan ddechreuodd. Dyna'r sbardun, mi gredaf, ar draws y Llywodraeth.

Yn amlwg, rydym wedi mynd â'r adroddiad hwn drwy'r Cabinet cyn imi wneud fy natganiad llafar. Cawsom sgwrs gadarn yno am yr hyn y gellir ei wneud. Wrth fynd â cham 2 ymlaen ac wrth ddatblygu ein hymateb llawn i hyn, a roddaf i'r Senedd yn yr Hydref, byddwn yn sôn am beth y gall pob Ysgrifennydd Cabinet a'u hadrannau gyfrannu at hyn. Ceir argymhellion yn yr adroddiad, nad wyf eto wedi gallu eu trafod gyda phob rhan o'r strwythur hwn o Lywodraeth, os gallaf ei alw'n hynny. Mae rhai ohonynt ar gyfer y Comisiwn. Mae rhai ohonynt yn ymwneud â'r ffyrdd y mae pleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ati. Dyna pam yr oeddwn yn siarad am y gweithgor trawsbleidiol yn datblygu rhai o'r rheini. Bydd angen inni ddod o hyd i rai strwythurau ar gyfer sut i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o hynny, a'r holl weledigaeth gliriach honno, nid yn unig i'r Llywodraeth ond ar draws cymdeithas ddinesig—credaf fod Siân Gwenllian wedi canolbwyntio ar hynny yn fawr iawn hefyd—ein bod yn derbyn lle'r ydym yn dechrau ac yna'r hyn yr ydym eisiau ei wneud i symud ymlaen. Credaf fod hynny yn hanfodol ar gyfer hynny.

O ran canlyniadau, rydyn ni'n disgwyl cyrraedd pwynt lle mae modd cytuno ar sut i ddatblygu hyn ymhen y flwyddyn. Rwyf eisiau egluro'r hyn a olygaf gan hynny. Yn amlwg, dwi ddim yn disgwyl y byddwn wedi cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhen y flwyddyn. Gresyn na allwn ddisgwyl hynny, ond yn amlwg ni allwn. Yr hyn y gobeithiwn ei wneud yw sefydlu rhaglen gynhwysfawr yn ein bywydau yng Nghymru ymhen y flwyddyn, yr ydym i gyd yn cytuno arni ac y gallwn ei datblygu.

15:55

Can I welcome your statement, leader of the house, on the gender review? It's particularly relevant to this year, with the centenary of women's suffrage. Last Saturday, I spoke at an adult learning event, and my theme was: 'We won the vote 100 years ago. Let's win equality for women in Wales today.'

The opera Rhondda Rips it Up, which some of us saw—the Welsh National Opera opera—told us about the life of Margaret Mackworth, or Lady Rhondda as she became, who set fire to the post box in Newport as part of her protest as a suffragette. She was sent to prison and went on hunger strike, but was released under the cat and mouse Act. The main theme on Saturday, once we'd talked a bit about suffragettes in our communities and historical figures who had made such an impact and enabled us to be there and be discussing the way forward—. The main discussion point on Saturday was on issues relating to today's Wales, in terms of gender equality, and that is where my questions will arise in relation to your review.  

I look forward to reading the reports that you have published today. I've only been able to read the Chwarae Teg gender review summary. But I, particularly, have been impressed by the Women's Equality Network manifesto, and that states that it has—the manifesto and the network—a vision for Wales where every woman and girl is treated equally, lives safe from violence and fear, and is able to fully participate in the economy. So, leader of the house, do you believe the outcomes of the gender review, phase 1 and then moving on to phase 2, will help us move to fulfil—? We can only move, make steps to fulfil that vision. We acknowledge that. Will it help to address gender inequalities that are highlighted in that manifesto?

It's worth again looking at those inequalities. Fifty-five per cent of girls aged seven to 21 say that gender stereotypes affect their ability to say what they think. Fifty-two per cent of women report being sexually harassed in the workplace. We know we have a responsibility, not just the Welsh Government but here in this Assembly, to address the Me Too issues that have come out this year. One in three women in Wales will experience physical or sexual violence at some point in their lives. And the one that is so hard for us to tackle, and we cannot tackle it on our own in terms of the Welsh Government: there is a 15 per cent gender pay gap in Wales. Average hourly pay for women in Wales is £10.57, compared with £12.75 for men. Do you believe your review will help us to move forward in terms of securing commitment to halve the gender pay gap, as proposed by the Women's Equality Network in their manifesto? Can you update the Assembly on the gender pay gap in the Welsh Government—indeed, the Commission has a responsibility here—and how we can directly address that?

Now, you have said, and I'm grateful for it, that Siân Gwenllian and I are co-chairing, and Suzy Davies as well—the new cross-party group on women. On Thursday we welcomed Laura McAllister to speak on her expert panel on 'A Parliament that Works for Wales'. I'm pleased to note the recommendation in the Chwarae Teg phase 1 summary report, which says Welsh Government should legislate for implementation of the expert panel for Assembly reform. Well, we know this is, again, up to the Assembly to take forward. I hope that the gender review will enable us to take this forward in terms of some of the gender-focused recommendations, and I would talk about regaining the 50/50 representation of men and women in this Assembly. We gained it in 2003. We have to regain that, and, if that includes looking at those recommendations regarding gender quotas, job sharing, then so be it. We need to move forward.

Just finally on this area, we have made strides to tackle the scourge of violence against women in Wales, but the reality of violence against women is stark. I'm patron of both Atal y Fro, my local Women's Aid group and Bawso. Can you assure me that the recommendations in the gender review will be taken forward? I think this does relate to your point in your statement about making better use of the levers of government. We can have legislation, we can have funding, we can have policy that we approve, but it's about how we use those levers of government to ensure that we put gender at the centre of our policies. Can we see a step change in Welsh Government to achieve this? Of course, that does include the recommendations that say Welsh Government should review and, where necessary, strengthen existing legislation and duties, including the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act (2015).

So, just finally—sorry, thank you, Deputy Presiding Officer—there's a lot more we can take forward, but I would be very pleased for what I hope will be agreed in our cross-party group, that we can help you to take this forward in terms of the gender review.

Gaf i groesawu eich datganiad, arweinydd y tŷ, ar yr adolygiad rhywedd? Mae'n arbennig o berthnasol i eleni, gyda chanmlwyddiant y bleidlais i fenywod. Ddydd Sadwrn diwethaf, siaradais mewn digwyddiad dysgu oedolion, a fy thema oedd: 'Enillon ni'r  bleidlais 100 mlynedd yn ôl. Dewch inni ennill cydraddoldeb i fenywod yng Nghymru heddiw.'

Roedd yr opera Rhondda Rips it Up, y gwelodd rhai ohonom ni hi— opera Opera Cenedlaethol Cymru—yn dweud wrthym am fywyd Margaret Mackworth, neu Arglwyddes Rhondda fel y daeth hi i fod, a osododd y blwch post yng Nghasnewydd ar dân fel rhan o'i phrotest fel swffragét. Cafodd ei hanfon i'r carchar ac aeth ar streic newyn, ond rhyddhawyd hi dan Ddeddf y gath a'r llygoden. Y brif thema ar ddydd Sadwrn, unwaith yr oeddem wedi sôn ychydig am swffragetiaid yn ein cymunedau a ffigurau hanesyddol a gafodd effaith o'r fath ac a'n galluogodd i fod yno ac i drafod y ffordd ymlaen—. Y prif bwynt trafod ddydd Sadwrn oedd ar faterion sy'n ymwneud â Chymru heddiw, o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a dyna lle bydd fy nghwestiynau yn codi mewn perthynas â'ch adolygiad.

Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiadau a gyhoeddwyd gennych heddiw. Nid wyf ond wedi gallu darllen crynodeb adolygiad rhywedd Chwarae Teg. Ond yn arbennig, gwnaed argraff arnaf gan faniffesto Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, ac mae hynny'n datgan bod ganddo— y maniffesto a'r rhwydwaith— weledigaeth ar gyfer Cymru lle caiff pob menyw a merch ei thrin yn yr un modd, byw yn ddiogel rhag trais ac ofn, ac yn gallu cymryd rhan yn llawn yn yr economi. Felly, arweinydd y tŷ, ydych chi'n credu y bydd canlyniadau'r adolygiad rhywedd, cam 1 ac yna symud ymlaen i gam 2, yn ein helpu i symud i gyflawni—? Ni allwn ond symud, cymryd camau i gyflawni'r weledigaeth honno. Rydym yn cydnabod hynny. A fydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau a amlygwyd yn y maniffesto hwnnw?

Mae'n werth edrych unwaith eto ar yr anghydraddoldebau hynny. Mae pum deg pump y cant o ferched saith i 21 oed yn dweud bod stereoteipio ar sail rhyw yn effeithio ar eu gallu i ddweud eu barn. Mae pum deg dau y cant o fenywod yn adrodd am ddioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Rydym yn gwybod bod gennym gyfrifoldeb, nid yn unig y Llywodraeth ond yma yn y Cynulliad hwn i fynd i'r afael â'r materion Me Too sydd wedi dod allan eleni. Bydd un o bob tair menyw yng Nghymru yn dioddef trais corfforol neu rywiol ar ryw adeg yn eu bywydau. A'r un sydd mor anodd inni i fynd i'r afael ag ef, ac na allwn ymdrin ag ef ar ein telerau ein hunain o ran Llywodraeth Cymru: mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 15 y cant yng Nghymru. Mae tâl fesul awr cyfartalog menywod yng Nghymru yn £10.57, o'i gymharu â £12.75 ar gyfer dynion. A ydych yn credu y bydd eich adolygiad yn ein helpu i symud ymlaen o ran sicrhau ymrwymiad i haneru'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, fel y cynigir gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn eu maniffesto? Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru—yn wir, mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb yma—a sut y gallwn ymdrin â hynny'n uniongyrchol?

Yn awr, rydych wedi dweud, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, bod  Siân Gwenllian a minnau yn cyd-gadeirio, a Suzy Davies yn ogystal—y grŵp trawsbleidiol newydd ar fenywod. Ddydd Iau croesawyd Laura McAllister i siarad ar ei phanel arbenigol ar 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. Rwy'n  falch o weld yr argymhelliad yn adroddiad cryno cam 1 Chwarae Teg, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer gweithredu'r panel arbenigol ar gyfer diwygio'r Cynulliad. Wel, gwyddom, unwaith eto, mai mater i'r Cynulliad yw bwrw ymlaen â hyn. Gobeithiaf y bydd yr adolygiad rhywedd yn ein galluogi i fynd â hyn ymlaen o ran rhai o'r argymhellion sy'n canolbwyntio ar y rhywiau, a byddwn yn sôn am adennill cynrychiolaeth 50/50 dynion a menywod yn y Cynulliad hwn. Cyflawnwyd hynny yn 2003. Rhaid i ni adennill hynny, ac os yw hynny'n cynnwys edrych ar yr argymhellion hynny ynghylch cwotâu, rhannu swyddi, yna felly y bo. Mae angen inni symud ymlaen.

Yn olaf ar y maes hwn, rydym wedi cymryd camau i fynd i'r afael â melltith trais yn erbyn menywod yng Nghymru, ond mae realiti trais yn erbyn menywod yn llym. Rwyf yn noddwr ar Atal y Fro, fy grŵp cymorth i fenywod lleol a Bawso. A allwch fy sicrhau y bydd yr argymhellion yn yr adolygiad rhywedd yn cael eu datblygu? Rwy'n  meddwl bod hyn yn berthnasol i'r pwynt a wnaethoch yn eich datganiad am wneud gwell defnydd o ysgogiadau Llywodraeth. Gallwn gael deddfwriaeth, gallwn gael arian, gallwn gael polisi y byddwn yn ei gymeradwyo, ond mae'n ymwneud â sut y defnyddiwn y liferi hynny o'r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn rhoi rhywedd wrth wraidd ein polisïau. A allwn ni weld newid sylweddol yn Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn? Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys yr argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a, lle bo angen, atgyfnerthu deddfwriaeth a dyletswyddau presennol, gan gynnwys Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (2015).

Felly, yn olaf—mae'n ddrwg gennyf, diolch i chi, Ddirprwy Lywydd—mae llawer mwy y gallwn ei ddatblygu, ond byddwn yn falch iawn ar gyfer yr hyn y gobeithiaf y cytunir arno yn ein grŵp trawsbleidiol, y gallwn eich helpu chi i ddatblygu hyn o ran yr adolygiad rhywedd.

16:00

Thank you for that series of questions and comments. I entirely agree with what you said. There's a lot to digest in the report. I wanted to bring it forward to Members for them to see the report as it is. We have not yet formally responded. We'll be doing that in the autumn. I would very much welcome that cross-party group involvement in that, because I think this is an agenda, Deputy Presiding Officer, that self-evidently the Government cannot achieve alone. We absolutely have to agree cross-party here a set of things to go forward in order to take civic society, society at large, with us. Because otherwise we're just not going to even get off the mark.

We've got groundbreaking legislation, of which we're rightly very proud. It's played its role, it makes the statements, it sets in train some of the actions, but you need more than that. You need a groundswell of opinion. You need what's in the Scandinavian countries: an absolute acceptance across the piece that this is something that the country wants to tackle.

So, just to take some of the specifics that Jane Hutt mentioned, these are a cycle of self-fulfilling prophecies, really. Women make choices based on their gender because they expect to be primary carers in their home. One of the recommendations in the report that I'm looking forward to exploring is that we should take account of the unpaid care that goes on in the Welsh economy in terms of our GVA. That's a very interesting thing, because we know that the young women stakeholders who were interviewed as part of this process know that their aspirations will be tempered by their need to be the primary carer, because we have not shifted that agenda one bit. We also know that economic disadvantage plays a role—it's not the only cause, but it plays a role—in gender violence. We know that gender aspirations do affect people's choices. We know these things are happening. We need a big push to accept as a society that we want to do something about that, to develop the role models that allow that to happen.

Deputy Presiding Officer, I know that you share with me the frustration that this is a conversation we are still having. We had it ourselves as young women and we ought to be advancing this. So, I'm not ashamed to stand here and say I do not have all the answers to this. But, between us, together, we can move this agenda forward.

Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau a sylwadau. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedasoch. Mae llawer i'w ystyried yn yr adroddiad. Roeddwn am gyflwyno hyn i'r Aelodau fel y gallant weld yr adroddiad fel y mae. Ni ydym eto wedi ymateb yn ffurfiol. Byddwn yn gwneud hynny yn yr hydref. Byddwn yn  croesawu'n fawr iawn ymwneud y grŵp  trawsbleidiol yn hynny, oherwydd credaf fod hon yn agenda, Dirprwy Lywydd, yn amlwg na all y Llywodraeth ei chyflawni ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid inni gytuno yn drawsbleidiol yma ar gyfres o bethau i fynd ymlaen er mwyn mynd â chymdeithas ddinesig, cymdeithas yn gyffredinol, gyda ni. Oherwydd fel arall nid ydym hyd yn oed yn mynd i allu cychwyn.

Mae gennym ddeddfwriaeth arloesol, yr ydym yn iawn i fod yn falch iawn ohoni. Mae wedi chwarae ei rhan, mae'n gwneud y datganiadau, mae'n cychwyn y camau gweithredu, ond mae angen mwy na hynny. Mae angen ymchwydd barn arnoch. Mae angen yr hyn sydd yng ngwledydd Llychlyn arnoch: derbyniad absoliwt yn gyffredinol fod hyn yn rhywbeth y mae'r wlad yn dymuno mynd i'r afael ag ef.

Felly, dim ond i gymryd rhai o'r manylion a grybwyllwyd gan Jane Hutt, mae'r rhain yn gylch o broffwydoliaethau hunangyflawnol, mewn gwirionedd. Mae merched yn gwneud dewisiadau ar sail rhywedd oherwydd maent yn disgwyl bod yn brif ofalwyr yn eu cartref. Un o'r argymhellion yn yr adroddiad yr wyf yn edrych ymlaen at ei archwilio yw y dylem ystyried y gofal di-dâl sy'n digwydd yn economi Cymru o ran ein gwerth ychwanegol gros. Mae hwnnw'n rhywbeth diddorol iawn, oherwydd rydym yn gwybod bod y merched ifanc sy'n rhanddeiliaid a gafodd eu cyfweld fel rhan o'r broses hon yn gwybod y bydd eu dyheadau yn cael eu llywio gan eu hangen i fod yn brif ofalwr, oherwydd nid ydym wedi symud yr agenda honno o gwbl. Rydym hefyd yn gwybod bod anfantais economaidd yn chwarae rhan—nid yr unig achos, ond mae'n chwarae rhan—mewn trais rhywiol. Gwyddom fod  dyheadau rhywedd yn effeithio ar ddewisiadau pobl. Rydym yn gwybod bod y pethau hyn yn digwydd. Mae angen ymgyrch fawr i dderbyn fel cymdeithas ein bod yn dymuno gwneud rhywbeth am hynny, a datblygu modelau rôl sy'n caniatáu i hynny ddigwydd.

Dirprwy Lywydd, gwn eich bod yn rhannu gyda mi y rhwystredigaeth fod hon yn sgwrs yr ydym yn dal i'w chael. Cawsom y sgwrs ein hunain fel merched ifanc, a dylem fod yn symud ymlaen â hyn. Felly, nid oes gennyf  gywilydd sefyll yma a dweud nad yw'r holl atebion i hyn gennyf. Ond, rhyngom ni, gyda'n gilydd, gallwn symud yr agenda hon ymlaen.

Thank you. We have had a major speaker from each of the parties. Can I now—? For the rest of the speakers—we've still got quite a few—it will be a short introduction and one question so that we can get through all of you. Bethan Sayed.

Diolch. Rydym wedi cael siaradwr o bob un o'r partïon mawr. Gallaf yn awr —? Ar gyfer gweddill y siaradwyr — mae sawl un o hyd — bydd cyflwyniad byr ac un cwestiwn fel bod cyfle i bawb. Bethan Sayed.

16:05