National Assembly for Wales

Back to Search

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

15/05/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

The Assembly met at 13:30 with the Llywydd (Elin Jones) in the Chair.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Questions to the First Minister

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Dawn Bowden. 

The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Dawn Bowden. 

Buddsoddi mewn Twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni
Tourism Investment in Merthyr Tydfil and Rhymney

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52176

1. Will the First Minister make a statement on tourism investment in Merthyr Tydfil and Rhymney? OAQ52176

Over the past few years, we have provided support for a number of exciting capital projects and events in the area, for example BikePark Wales, Rock UK and, of course, support for the Merthyr Rising festival. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi darparu cymorth ar gyfer nifer o brosiectau cyfalaf a digwyddiadau cyffrous yn yr ardal, er enghraifft BikePark Cymru, Rock UK ac, wrth gwrs, cefnogaeth i ŵyl Merthyr Rising.

Thank you, First Minister, and given that this is tourism week, it's probably timely to remind ourselves that tourism, culture, our environment and our heritage will play a major part in securing a successful future for our Valleys communities as they make a valuable contribution to securing a diverse economy alongside the traditional sectors like manufacturing, public services and now an ever stronger retail offer. With this in mind, can you assure me that the recent 'Crucible' report, published by the Design Commission for Wales, which provides us all with a big vision for the huge future potential for Merthyr Tydfil's industrial heritage, will receive a full and proper consideration by the Welsh Government in order that all partners can work together to drive forward this ambitious project, which has the potential to provide us with a major Valleys attraction that could be as successful as Titanic Belfast or even the Eden Project in Cornwall? 

Diolch, Prif Weinidog, ac o gofio ei bod hi'n wythnos twristiaeth, mae'n debyg ei bod hi'n amserol i atgoffa ein hunain y bydd twristiaeth, diwylliant, ein hamgylchedd a'n treftadaeth yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau dyfodol llwyddiannus i'n cymunedau yn y Cymoedd gan eu bod nhw'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau economi amrywiol ochr yn ochr â sectorau traddodiadol fel gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus a chynnig manwerthu cynyddol gryfach erbyn hyn. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi fy sicrhau y bydd adroddiad diweddar 'Crucible', a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, sy'n cyflwyno gweledigaeth fawr ar gyfer y potensial enfawr ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn y dyfodol, yn derbyn ystyriaeth lawn a phriodol gan Lywodraeth Cymru fel y gall yr holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â'r prosiect uchelgeisiol hwn, sydd â'r potensial i gynnig atyniad mawr i ni yn y Cymoedd a allai fod mor llwyddiannus â Titanic Belfast neu hyd yn oed yr Eden Project yng Nghernyw?

Well, I'm aware of the report. It does call for around £50 million to be spent on Merthyr's industrial past to make it a major tourist destination with the focus, of course, on Cyfarthfa castle. I do look forward to being kept up to date with progress on developing the offer that was set out in the report. I understand that you met recently with the Minister for Culture, Tourism and Sport to discuss the report, and that is something, of course, that will continue, no doubt, in the future. I know that officials are also working on a number of exciting private sector proposals that will continue to develop the offer in the area. So, a great deal of interest and, of course, a great deal to offer, as far as Merthyr and Rhymney are concerned. 

Wel, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad. Mae yn galw am i tua £50 miliwn gael ei wario ar orffennol diwydiannol Merthyr i'w wneud yn atyniad mawr i dwristiaid gyda'r pwyslais, wrth gwrs, ar Gastell Cyfarthfa. Edrychaf ymlaen at dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu'r cynnig a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Rwy'n deall eich bod chi wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i drafod yr adroddiad, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, a fydd yn parhau, heb amheuaeth, yn y dyfodol. Gwn fod swyddogion hefyd yn gweithio ar nifer o gynigion sector preifat cyffrous a fydd yn parhau i ddatblygu'r cynnig yn yr ardal. Felly, llawer iawn o ddiddordeb ac, wrth gwrs, llawer iawn i'w gynnig, cyn belled ag y mae Merthyr Tudful a Rhymni yn y cwestiwn.

The report for the Design Commission for Wales has highlighted that there is a huge benefit that could be gained from the marketing of Merthyr Tydfil's industrial heritage, making the town a major tourist destination. Does the First Minister agree with me that a marketing strategy covering all industrial heritage sites of south Wales, including canals such as Monmouthshire and Brecon, has the potential of providing a massive boost to the tourism sector of our economy? Thank you.

Mae'r adroddiad ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru wedi amlygu bod budd enfawr y gellid ei gael o farchnata treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful, gan droi'r dref yn gyrchfan dwristiaeth flaenllaw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod gan strategaeth farchnata sy'n cynnwys holl safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y de, gan gynnwys camlesi fel Mynwy ac Aberhonddu, y potensial i roi hwb enfawr i sector dwristiaeth ein heconomi? Diolch.

Yes, because I think what's important is that we link what Merthyr has to offer with other attractions in the area as well. So, the centrepiece of the 'Crucible' report is regenerating Cyfarthfa castle, but there are wider opportunities to bring together other local heritage landmarks, including, of course, the furnaces at Blaenavon, Big Pit and the National Waterfront Museum as well, and being able to offer a collection of experiences to potential tourists of high quality will be important in the future. 

Ydw, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cysylltu'r hyn sydd gan Merthyr i'w gynnig gydag atyniadau eraill yn yr ardal hefyd. Felly, canolbwynt adroddiad 'Crucible' yw adfywio castell Cyfarthfa, ond mae cyfleoedd ehangach i ddod â thirnodau treftadaeth leol eraill at ei gilydd, gan gynnwys, wrth gwrs, y ffwrneisi ym Mlaenafon, Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau hefyd, a bydd gallu cynnig casgliad o brofiadau o ansawdd uchel i ddarpar ymwelwyr yn bwysig yn y dyfodol.

Chwaraeon a Ffitrwydd yng Nghasnewydd
Sport and Fitness in Newport

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a ffitrwydd yng Nghasnewydd? OAQ52164

2. Will the First Minister make a statement on Welsh Government support for sport and fitness in Newport? OAQ52164

Well, via Sport Wales, we are providing over £570,000 this year to Newport City Council to support the development of sport in the area. The council has a contract with Newport Live to deliver a range of sport and physical activity programmes, allowing people of all ages to take part.

Wel, drwy Chwaraeon Cymru, rydym ni'n darparu dros £570,000 eleni i Gyngor Dinas Casnewydd i gynorthwyo datblygiad chwaraeon yn yr ardal. Mae gan y cyngor gontract gyda Casnewydd Fyw i ddarparu amrywiaeth o raglenni chwaraeon ac ymarfer corff, gan alluogi pobl o bob oed i gymryd rhan.

Yes, First Minister, sport and fitness are obviously vital for health and general quality of life and, thankfully, Newport is building a strong reputation in terms of its activities and facilities. As you mentioned, Newport Live is the bedrock, really, of delivery in Newport with over 1.6 million participants at leisure facilities annually and they work in close partnership with Newport City Council and many other organisations to reach every community in the city. Soon, they will be on the public service board and they are very keen to support the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015.

They also helped with the delivery of the recent Newport marathon and 10K, which saw several thousand runners on the route, including the vibrant riverfront and the wonderful Gwent levels. It was a great occasion for the city, First Minister, as I know you are aware, and it saw a really good turnout of local people in support. And the really good news is that there is almost a year to go before next year's event, which gives plenty of time for you and any others who may be considering participation to prepare. I'm sure, First Minister, you'll join me in recognising the sport and leisure activity in Newport at a scale that I think shows a good example to many others. 

Ydy, Prif Weinidog, mae chwaraeon a ffitrwydd yn amlwg yn hanfodol ar gyfer iechyd ac ansawdd bywyd cyffredinol, a diolch byth, mae Casnewydd yn datblygu enw da am ei weithgareddau a'i gyfleusterau. Fel y soniasoch, Casnewydd Fyw yw sylfaen, mewn gwirionedd, y ddarpariaeth yng Nghasnewydd gyda dros 1.6 miliwn o gyfranogwyr mewn cyfleusterau hamdden bob blwyddyn ac maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Dinas Casnewydd a llawer o sefydliadau eraill i gyrraedd pob cymuned yn y ddinas. Yn fuan, byddan nhw ar y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw'n awyddus iawn i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Fe wnaethant helpu hefyd gyda darpariaeth rasys marathon a 10 cilomedr diweddar Casnewydd, pryd yr oedd sawl mil o redwyr ar y ffordd, gan gynnwys ardal fywiog glan yr afon a gwastatiroedd godidog Gwent. Roedd yn achlysur gwych i'r ddinas, Prif Weinidog, fel y gwn eich bod yn ymwybodol, a chafwyd niferoedd da o bobl leol a ddaeth allan i gefnogi. A'r newyddion da iawn yw bod bron i flwyddyn i fynd cyn digwyddiad y flwyddyn nesaf, sy'n rhoi digon o amser i chi ac unrhyw un arall a allai fod yn ystyried cymryd rhan i baratoi. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod y gweithgarwch chwaraeon a hamdden yng Nghasnewydd ar raddfa sy'n dangos esiampl dda i lawer o bobl eraill, yn fy marn i.

Well, the Member has great faith in me in assuming I'd run a marathon in under a year. I will have more time on my hands after December, but I think that's misplaced faith. I understand that the Member for Carmarthen East and Dinefwr was out jogging this morning; I think he's well ahead of me in terms of his ability to take part, rather than myself.

But he makes an important point and that is that people now are participating far more in activities than was the case. Twenty-five or 30 years ago, there were very few, if any, marathons that people took part in. It wasn't a question of trying to run to win; it was a question of taking part and finishing the course. That was the achievement for so many people. The money that we have provided for Newport, working closely with Newport Live, working closely with Newport City Council, has ensured that Newport is ever stronger in terms of being on the map for physical activity. That's good for the city, but it's also good, of course, for all those who participate.

Wel, mae gan yr aelod ffydd fawr ynof i o dybio y byddwn i'n rhedeg marathon mewn llai na blwyddyn. Bydd gen i fwy o amser ar fy nwylo ar ôl mis Rhagfyr, ond credaf fod hwnnw'n ffydd a roddwyd ynof ar gam. Rwy'n deall bod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr allan yn loncian y bore yma; rwy'n credu ei fod ymhell ar y blaen i mi o ran ei allu i gymryd rhan, yn hytrach na mi.

Ond mae'n gwneud pwynt pwysig sef bod pobl yn cymryd llawer mwy o ran mewn gweithgareddau erbyn hyn nag oedd yn arfer bod yn wir. Pump ar hugain neu 30 mlynedd yn ôl, prin iawn oedd y marathonau yr oedd pobl yn cymryd rhan ynddynt, os oedd rhai o gwbl. Nid oedd hi'n fater o geisio rhedeg i ennill; roedd yn fater o gymryd rhan a gorffen y cwrs. Dyna oedd y gamp i gymaint o bobl. Mae'r arian a ddarparwyd gennym ni i Gasnewydd, gan weithio'n agos gyda Casnewydd Fyw, gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, wedi sicrhau bod Casnewydd yn gryfach fyth o ran bod ar y map ar gyfer ymarfer corff. Mae hynny'n dda o beth i'r ddinas, ond mae hefyd yn dda, wrth gwrs, i bawb sy'n cymryd rhan.

13:35

Free swimming for children was a flagship Labour party policy designed to encourage children in Newport and elsewhere in Wales to get fit and healthy. It has now been announced that Sport Wales is reviewing its support for free swimming for children. Given that child obesity in Wales is soaring, will the First Minister update this Assembly on its free swimming policy and what measures the Welsh Government intends to take to encourage children in Newport and elsewhere to improve their fitness?

Roedd nofio am ddim i blant yn un o bolisïau blaenllaw'r Blaid Lafur. Fe'i cynlluniwyd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru i fod yn heini ac yn iach. Cyhoeddwyd erbyn hyn bod Chwaraeon Cymru yn adolygu ei gefnogaeth i nofio am ddim ar gyfer plant. O gofio bod gordewdra ymhlith plant yng Nghymru yn codi i'r entrychion, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn am ei bolisi nofio am ddim a pha fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill i wella eu ffitrwydd?

We have no plans to change the policy. Policies are always under review, of course, and we recognise how important it is that children are able to access facilities in order to be active in order that they remain active for the rest of their lives.

Nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau i newid y polisi. Mae polisïau yn cael eu hadolygu drwy'r amser, wrth gwrs, ac rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi bod plant yn gallu cael mynediad at gyfleusterau er mwyn bod yn egnïol fel eu bod yn parhau i fod yn egnïol am weddill eu bywydau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
Questions Without Notice from the Party Leaders

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Questions now from the party leaders. The leader of Plaid Cymru, Leanne Wood.

Diolch, Llywydd. Does the First Minister agree that, quite clearly, there is a power grab going on by Whitehall on the EU withdrawal Bill?

Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod Whitehall, yn gwbl amlwg, yn ceisio cipio pwerau yng nghyswllt Bil ymadael yr UE?

I think that was the case, but the agreement that we have reached now with the UK Government has avoided that.

Rwy'n credu bod hynny'n wir, ond mae'r cytundeb sydd gennym ni gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn wedi osgoi hynny.

It's absurd and embarrassing in equal measure that this Government chooses to endorse Theresa May rather than their own party leader. It's difficult to find any real benefits to exiting the EU, but there was one tiny sliver of positivity [Interruption.]—

Mae'n hurt ac yn codi cywilydd i'r un graddau bod y Llywodraeth hon yn dewis cymeradwyo Theresa May yn hytrach nag arweinydd ei phlaid ei hun. Mae'n anodd dod o hyd i unrhyw fanteision gwirioneddol o adael yr UE, ond roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol [Torri ar draws.]—

Can I hear the leader of Plaid Cymru, please? The question needs to be asked, please.

A gaf i glywed arweinydd Plaid Cymru, os gwelwch yn dda? Mae angen i'r cwestiwn gael ei ofyn, os gwelwch yn dda.

There was one sliver of positivity in that more decisions about Wales would be made in Wales, we were promised. That glimmer of hope has now gone. So, First Minister, tonight we will vote to accept this disastrous Brexit Bill. You can choose who to back: Plaid Cymru, the Scottish Labour Party, the Scottish and English Liberal Democrat parties, the Green Party, the Scottish Government, legal and constitutional experts, or your own party leader. Not even a single one of the six tests set up by this Assembly's own cross-party external affairs committee is met by this deal. The list goes on. Or you can back the Conservative and Unionist Party and UKIP. Who is it going to be?

Roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol o'r safbwynt y byddai mwy o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, addawyd hynny i ni. Mae'r llygedyn hwnnw o obaith wedi diflannu erbyn hyn. Felly, Prif Weinidog, byddwn yn pleidleisio heno i dderbyn y Bil Brexit trychinebus hwn. Gallwch chi ddewis pwy i'w gefnogi: Plaid Cymru, Plaid Lafur yr Alban, pleidiau Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban a Lloegr, y Blaid Werdd, Llywodraeth yr Alban, arbenigwyr cyfreithiol a chyfansoddiadol, neu arweinydd eich plaid eich hun. Nid oes hyd yn oed unrhyw un o'r chwe phrawf a sefydlwyd gan bwyllgor materion allanol traws-bleidiol y Cynulliad hwn yn cael ei fodloni gan y cytundeb hwn. Mae mwy ar y rhestr. Neu gallwch chi gefnogi'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ac UKIP. Pa un fydd hi?

Well, this is Wales, and, as Welsh Labour, we, in Government, have negotiated hard to get the best deal for Wales, which we believe we have achieved. What happens in Scotland and England is a matter for Scotland and England. That is what devolution is about. I note the support we received from the Confederation of British Industry and the report that we received from the Institute of Directors, and I am still not clear what the position of the leader of Plaid Cymru is when she says that, somehow, powers are being taken away from Wales. All 64 areas will return to Wales when we leave the EU. There will be some powers that, by agreement, will then be kept in the freezer. Every Government in the UK will be in the same position; they will not be able to legislate until such time as there is agreement to take those powers out of the freezer. That is a huge change from where we were last year when all powers would have gone straight to Westminster, where Ministers in Westminster would have had unlimited powers in terms of sunset clauses, and they would've determined when and if powers came to this Assembly and this Government. We've moved a huge way since then, which is why we are the party of devolution.

Wel, rydym ni yng Nghymru, ac, fel Llafur Cymru, rydym ni, mewn Llywodraeth, wedi negodi'n galed i gael y fargen orau i Gymru, a chredwn ein bod wedi gwneud hynny. Mater i'r Alban a Lloegr yw'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban a Lloegr. Dyna yw hanfod datganoli. Nodaf yn y gefnogaeth a gawsom gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r adroddiad a dderbyniwyd gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ac nid wyf i'n eglur o hyd beth yw safbwynt arweinydd Plaid Cymru pan ddywed, rywsut, fod pwerau yn cael eu cipio oddi wrth Gymru. Bydd pob un o'r 64 maes yn dychwelyd i Gymru pan fyddwn ni'n gadael yr UE. Bydd rhai pwerau a fydd, trwy gytundeb, yn cael eu cadw yn y rhewgell wedyn. Bydd pob Llywodraeth yn y DU yn yr un sefyllfa; ni fyddan nhw'n gallu deddfu tan y bydd cytundeb i dynnu'r pwerau hynny allan o'r rhewgell. Mae hynny'n newid enfawr o'r sefyllfa y llynedd pan fyddai'r holl bwerau wedi mynd yn syth i San Steffan, lle byddai Gweinidogion yn San Steffan wedi cael pwerau diderfyn o ran cymalau machlud, a byddent wedi penderfynu pryd ac os y byddai pwerau yn dod i'r Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol ers hynny, a dyna pam mai ni yw plaid datganoli.

Can you tell us, then, what extra powers have been delivered by this deal? Because when our steel industry needed Westminster's intervention, they were nowhere to be seen. When our family farms need the support to sustain their business, do you trust Westminster to be there? When our environment is being laid to waste, do you trust Westminster to be there? That's what this deal means. Westminster, and not Wales, will decide on issues that matter to people's lives here in Wales. Llywydd, the very principles of devolution are at stake with this. So, First Minister, now that you know the facts, now that all the players have shown their hands, what will it be? Are you going to stand up for Wales or for Westminster?

A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bwerau ychwanegol sydd wedi eu darparu gan y cytundeb hwn? Oherwydd pan oedd angen ymyrraeth San Steffan ar ein diwydiant dur, nid oedden nhw i'w gweld yn unman. Pan fydd angen cymorth ar ein ffermydd teuluol i gynnal eu busnes, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Pan fo'n hamgylchedd yn cael ei ddinistrio, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Dyna mae'r cytundeb hwn yn ei olygu. San Steffan, ac nid Cymru, fydd yn penderfynu ar faterion sy'n bwysig i fywydau pobl yma yng Nghymru. Llywydd, mae union egwyddorion datganoli yn y fantol gyda hyn. Felly, Prif Weinidog, nawr eich bod chi'n gwybod y ffeithiau, nawr bod yr holl chwaraewyr wedi dangos eu dwylo, beth fydd hi? A ydych chi'n mynd i sefyll dros Gymru neu dros San Steffan?

I will always stand up for my country. It may be that others will take a different view on what's best for Wales, but I respect their views and I trust that the views of those on these benches will be respected as well, because they weren't last week. I have to say, as far as I am concerned—she mentions steel—we worked to save our steel industry. We did that with the powers that we have and we did that by working with Tata and putting a financial package on the table. With regard to farming, we need to see the colour of Westminster's money, that much is true, because we can't pay farming subsidies. It's hugely important that an equivalent sum of money is put into a pot at the UK level and distributed in the same way as it is now until such time as there is agreement to change the way money is spent and allocated. That much is very, very true.

But, as far as this agreement is concerned, there are restraints on the UK Government that are equivalent to any restraints there would be on Welsh Government. We are in a situation now where we are all in the same situation. There's great pressure on us all to come to agreed frameworks well before seven years, because England is now in the same situation as Wales, Scotland and Northern Ireland. And so—[Interruption.] It is exactly the same situation as Scotland, Northern Ireland and England. So, we've come to position where a UK Government, a year ago, were saying—and I'm not sure the situation would be different if they had a majority of 100 in the House of Commons—'All powers will come to us. We will determine when and if they come to the devolved administrations.' That has changed; those powers will come to us. We will agree how they are frozen, we will agree the frameworks and then, of course, we will all be on a level playing field across Governments in the UK. This is the first time that the UK Government has ever agreed to be bound in this way, and that is a tribute to the negotiating skills of Mark Drakeford.

Byddaf bob amser yn sefyll dros fy ngwlad. Mae'n bosib y bydd pobl eraill yn cymryd safbwynt gwahanol ar yr hyn sydd orau i Gymru, ond rwy'n parchu eu barn a hyderaf y bydd barn y rheini ar y meinciau hyn yn cael eu parchu hefyd, oherwydd ni chawsant yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid imi ddweud, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn—mae'n sôn am ddur—fe wnaethom ni weithio i achub ein diwydiant dur. Gwnaethom hynny gyda'r pwerau sydd gennym, a gwnaethom hynny drwy weithio gyda Tata a rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. O ran ffermio, mae angen inni weld faint o arian a ddaw o San Steffan, mae cymaint â hynny'n wir, oherwydd ni allwn dalu cymorthdaliadau ffermio. Mae'n bwysig dros ben bod swm cyfatebol o arian yn cael ei roi mewn pot ar lefel y DU ac yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd ag y mae ar hyn o bryd hyd nes bydd cytundeb i newid y ffordd y caiff arian ei wario a'i ddyrannu. Mae cymaint â hynny yn arbennig o wir.

Ond, cyn belled ag y mae'r cytundeb hwn yn y cwestiwn, ceir cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i unrhyw gyfyngiadau a fyddai ar Lywodraeth Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa nawr lle'r rydym ni i gyd yn yr un sefyllfa. Mae pwysau mawr ar bawb ohonom ni i gytuno ar fframweithiau ymhell cyn saith mlynedd, gan fod Lloegr yn yr un sefyllfa â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn hyn. Ac felly—[Torri ar draws.] Mae'r union yr un sefyllfa â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle'r oedd Llywodraeth y DU, flwyddyn yn ôl, yn dweud—ac nid wyf i'n siŵr a fyddai'r sefyllfa yn wahanol pe byddai ganddyn nhw fwyafrif o 100 yn Nhŷ'r Cyffredin—'Bydd yr holl bwerau yn dod atom ni. Ni fydd yn penderfynu pryd ac os y byddan nhw'n dod i'r gweinyddiaethau datganoledig.' Mae hynny wedi newid; bydd y pwerau hynny'n dod atom ni. Byddwn yn cytuno sut maen nhw'n cael eu rhewi, byddwn yn cytuno ar y fframweithiau ac yna, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn yr un sefyllfa ar draws Llywodraethau yn y DU. Dyma'r tro cyntaf erioed y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gael ei rhwymo yn y ffordd hon, ac mae hynny'n deyrnged i sgiliau negodi Mark Drakeford.

13:40

Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.

The leader of the opposition, Andrew R.T. Davies.

Thank you, Presiding Officer. It's not very often I start First Minister's questions by saying I agree with the First Minister, and he might not want that type of praise from the leader of the opposition here in the Senedd.

I'd like to ask you about the rail franchise, First Minister, and the tendering exercise that is under way at the moment. Obviously, there is huge anticipation of the improvements that people want to see in the rail franchise. I think, across the Chamber here, people generally recognise that the last 15 years have been difficult, shall we say, because the last franchise that was awarded had zero growth built into it. You yesterday, at the opening of the new station at Bridgend and the subsequent journey you took, said that it is doubtful that there will be any real improvements until at least four years into the franchise. Those were your words. Back in June last year, the Cabinet Secretary, in responding to the committee report that looked into this, talked of there being very early improvements in the next rail franchise. Why is there now the difference in timelines for seeing the improvements that passengers, politicians and businesses want to see, because your assessment yesterday has those improvements coming at nearly a third into the life of the next franchise?

Diolch, Llywydd. Nid yn aml yr wyf i'n dechrau cwestiynau i'r Prif Weinidog trwy ddweud fy mod i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac efallai na fydd ef eisiau'r math hwnnw o ganmoliaeth gan arweinydd yr wrthblaid yma yn y Senedd.

Hoffwn eich holi am y fasnachfraint reilffyrdd, Prif Weinidog, a'r ymarfer tendro sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae llawer o edrych ymlaen at y gwelliannau i'r fasnachfraint reilffyrdd y mae pobl eisiau eu gweld. Rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, fod pobl yn cydnabod yn gyffredinol bod y 15 mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd, gadewch i ni ddweud, oherwydd nad oedd unrhyw dwf wedi ei gynnwys yn y fasnachfraint ddiwethaf a ddyfarnwyd. Fe ddywedasoch chi ddoe, yn agoriad yr orsaf newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r daith ddilynol yr aethoch arni, ei bod hi'n annhebygol y bydd unrhyw welliannau gwirioneddol am o leiaf pedair blynedd i mewn i'r fasnachfraint. Dyna oedd eich geiriau. Yn ôl ym mis Mehefin y llynedd, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor a ymchwiliodd i hyn, y byddai gwelliannau cynnar iawn yn y fasnachfraint reilffyrdd nesaf. Pam mae gwahaniaeth erbyn hyn yn y llinellau amser ar gyfer gweld y gwelliannau y mae teithwyr, gwleidyddion a busnesau eisiau eu gweld, oherwydd roedd eich asesiad ddoe yn nodi y bydd y gwelliannau hynny yn digwydd bron i draean y cyfnod i mewn i oes y fasnachfraint nesaf?

No, what I said was that people will start to see improvements in services very soon, certainly over the course of next year. But, in terms of new trains, well, clearly, they take time to procure and build, and, in terms of electrification, for example, in terms of new trains, in terms of looking to extend the current network, well, of course, that would take us into the early part of next year. People will begin to see changes early, but the step change will come, I suspect, in around about four or five years' time when people will see the roll-out of new trains and new modes of traction.

Na, yr hyn a ddywedais i oedd y bydd pobl yn dechrau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau yn fuan iawn, yn sicr dros y flwyddyn nesaf. Ond, o ran trenau newydd, wel, yn amlwg, maen nhw'n cymryd amser i'w caffael a'u hadeiladu, ac o ran trydaneiddio, er enghraifft, o ran trenau newydd, o ran ceisio ymestyn y rhwydwaith presennol, wel, wrth gwrs, byddai hynny'n mynd â ni i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Bydd pobl yn dechrau gweld newidiadau yn gynnar, ond bydd y newid sylweddol yn dod, rwy'n amau, ymhen tua tua pedair neu bum mlynedd pan fydd pobl yn gweld trenau newydd a dulliau newydd o dyniant yn cael eu cyflwyno.

I think the language you used yesterday did confuse the situation for many people, because we were led to believe that the change would come in the very early years, but I'm glad of the clarification you've given. The Cabinet Secretary in February indicated that the announcement as to the winner of the tendering process would be made now in May of this year. I don't see anything on the forward outlook for next week on any announcement that's to be made. Is the First Minister able to confirm that the announcement will still be made in May as to who will be the preferred bidder and, actually, that the franchise will begin in October of this year, as the original timeline identified?

Rwy'n credu bod yr iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddoe wedi drysu'r sefyllfa i lawer o bobl, oherwydd cawsom ein harwain i gredu y byddai newid yn dod yn y blynyddoedd cynnar iawn, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad yr ydych chi wedi ei roi. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Chwefror y byddai'r cyhoeddiad ynghylch enillydd y broses dendro yn cael ei wneud ym mis Mai eleni. Nid wyf i'n gweld dim yn y flaenraglen ar gyfer yr wythnos nesaf am unrhyw gyhoeddiad sydd i'w wneud. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y cyhoeddiad yn dal i gael ei wneud ym mis Mai ynghylch pwy fydd yr ymgeisydd a ffefrir ac y bydd y fasnachfraint yn dechrau ym mis Hydref eleni, fel y nodwyd yn yr amserlen wreiddiol?

I can confirm there is no delay to the process, and we want to make the announcement as soon as possible.

Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw oedi yn y broses, ac rydym ni eisiau gwneud y cyhoeddiad cyn gynted â phosib.

So, on that timeline that I just asked you about, i.e. the announcement on the preferred bidder will be made in May of this year and, obviously, in October the actual franchise will begin, and given the difference in interpretation of improvements, i.e. the major improvements in five or four years' time, what can you also identify as being the quick wins that can be identified for early improvements? Can I ask you just to confirm that the timeline is still being stuck to on the franchise, with announcement this month, which it would be pleasing to have in this Chamber, bearing in mind that the last week of May is the half-term recess, so that we can question the Cabinet Secretary and understand exactly what's happening?

Felly, ar y llinell amser yr wyf i newydd eich holi amdani, h.y. bydd cyhoeddiad yr ymgeisydd a ffefrir yn cael ei wneud ym mis Mai eleni ac, yn amlwg, ym mis Hydref bydd y fasnachfraint ei hun yn dechrau, ac o gofio'r gwahaniaeth o ran dehongli gwelliannau, h.y. y gwelliannau mawr ymhen pedair neu bum mlynedd, beth allwch chi hefyd ei nodi fel yr enillion cyflym y gellir eu nodi ar gyfer gwelliannau cynnar? A gaf i ofyn i chi gadarnhau bod cydymffurfiad o hyd â'r llinell amser o ran y fasnachfraint, gyda'r cyhoeddiad y mis hwn, a byddai'n braf ei gael yn y Siambr hon, o gofio mai'r toriad hanner tymor yw wythnos ddiwethaf mis Mai, fel y gallwn holi Ysgrifennydd y Cabinet a deall yn union beth sy'n digwydd?

13:45

I can confirm that. In terms of what people will see immediately, well, what we would look to see are new services and more frequent services, although not to say, obviously, with new trains at that stage. There's then the question of electrification and how that's rolled out, and then new trains being procured as a result of the electrification. So, people will see changes when the franchise is tendered, but the major changes are bound to come a few years down the line, as we look at changing the nature of the lines through electrification and as we look at new rolling stock. That's when people will start to really see a big difference in the quality of the trains.

Gallaf gadarnhau hynny. O ran yr hyn y bydd pobl yn ei weld ar unwaith, wel, yr hyn y byddem ni'n dymuno ei weld yw gwasanaethau newydd a gwasanaethau amlach, ond nid, yn amlwg, gyda threnau newydd bryd hynny o reidrwydd. Yna, ceir y cwestiwn o drydaneiddio a sut y mae hynny'n cael ei gyflwyno, ac yna trenau newydd yn cael eu caffael o ganlyniad i drydaneiddio. Felly, bydd pobl yn gweld newidiadau pan fydd y fasnachfraint yn cael ei rhoi ar dendr, ond mae'r newidiadau mawr yn sicr o ddod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth i ni edrych ar natur newidiol y rheilffyrdd trwy drydaneiddio ac wrth i ni edrych ar gerbydau newydd. Dyna pryd y bydd pobl yn dechrau gweld gwahaniaeth mawr yn ansawdd y trenau.

Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Leader of the UKIP group, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Important as are the constitutional issues raised by the leader of Plaid Cymru, they're always likely to be of less immediate concern to the average person in the street than issues such as the health service, and last week, in answer to the leader of the opposition, First Minister, you were unable to give him the assurance that Betsi Cadwaladr health board would be out of special measures by the time your term as First Minister comes to an end. The Tawel Fan report referred to the difficulties involved in the creation of Betsi Cadwaladr in the first place, and that said that organisational developments on that scale normally take between five and seven years to accomplish. In the light of the Deloitte report, which was commissioned by the Welsh Government, which said that 

'change management arrangements...are not fit for purpose and remain a significant obstacle towards delivering sustainable change',

can the First Minister tell us whether he thinks that there is the right culture, still, within Betsi Cadwaladr, and whether their use of personnel is sufficiently good so that it can ever pull itself out of special measures?

Diolch yn fawr, Llywydd. Er mor bwysig yw'r materion cyfansoddiadol a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru, maen nhw bob amser yn debygol o beri llai o bryder uniongyrchol i'r person cyffredin yn y stryd na materion fel y gwasanaeth iechyd, a'r wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog, nid oeddech chi'n gallu rhoi'r sicrwydd iddo na fyddai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig erbyn i'ch tymor chi fel Prif Weinidog ddod i ben. Cyfeiriodd adroddiad Tawel Fan at yr anawsterau a oedd yn gysylltiedig â chreu Betsi Cadwaladr yn y lle cyntaf, ac roedd hwnnw'n dweud bod datblygiadau sefydliadol ar y raddfa honno fel rheol yn cymryd rhwng pump a saith mlynedd i'w cyflawni. Yng ngoleuni adroddiad Deloitte, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd

nid yw'r trefniadau rheoli newid yn addas i'w diben ac maent yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gyflawni newid cynaliadwy,

a all y Prif Weinidog ddweud wrthym a yw'n credu bod y diwylliant cywir yn bodoli, o hyd, o fewn Betsi Cadwaladr, ac a yw eu defnydd o bersonél yn ddigon da iddo allu tynnu ei hun allan o fesurau arbennig byth?

I believe it can pull itself out of special measures. It's not there yet. I've never been somebody who would put an artificial timetable on when it should come out of special measures. I think it's important that it comes out of special measures when the time is appropriate and right. When that is, we would have to take a judgment at the time. There are challenges for Betsi Cadwaladr as a result of what was in the Tawel Fan report, that much is true, and they will need to meet those challenges, but I don't think, for example, another reorganisation of the health service in the north of Wales would be the answer. I think stability is crucial for the next few years.

Rwy'n credu y gall dynnu ei hun allan o fesurau arbennig. Nid yw yno eto. Nid wyf i erioed wedi bod yn rhywun a fyddai'n rhoi amserlen artiffisial ar pryd y dylai ddod allan o fesurau arbennig. Credaf ei bod yn bwysig ei fod yn dod allan o fesurau arbennig pan fydd yr amser yn briodol ac yn iawn. Pryd fydd hynny, byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniad ar y pryd. Ceir heriau i Betsi Cadwaladr o ganlyniad i'r hyn oedd yn adroddiad Tawel Fan, mae cymaint â hynny'n wir, a bydd angen iddyn nhw ymateb i'r heriau hynny, ond nid wyf i'n credu, er enghraifft, mai ad-drefniad arall o'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd fyddai'r ateb. Credaf fod sefydlogrwydd yn hollbwysig ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

I understand the point that the First Minister makes, and I've got a great deal of sympathy with it, but the Deloitte report notes a number of worrying, long-term systemic weaknesses, which will need to be addressed if the delivery of health services in north Wales is to be significantly improved. For example, in relation to the transformation groups that are supposed to deliver the improvements that we all want to see, the objectives are said to be poorly defined; group leaders don't yet appear to be clear on accountability outside their own divisions, and are yet to deliver any tangible outcomes; service improvement members of staff are said to be overly junior; there's a lack of in-depth analysis and benchmarking; there is concern about the project management office, over whether the skill set actually exists to address the transformation agenda; and in responding to a question from Deloitte on whether there is sufficient project management capability and capacity to support delivery across the financial plan, the majority of managers, finance directors and members of the central finance function teams said that they either could not say or they disagreed. So, are we actually in a position at the moment where we can say we've even begun this improvement plan to any significant degree?

Rwy'n deall y pwynt y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, ac mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad ag ef. Ond mae adroddiad Deloitte yn nodi nifer o wendidau systemig hirdymor sy'n peri pryder, y bydd angen rhoi sylw iddynt os yw'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn y gogledd yn mynd i gael ei gwella'n sylweddol. Er enghraifft, o ran y grwpiau gweddnewid sydd i fod i gyflawni'r gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, dywedir bod yr amcanion wedi eu diffinio'n wael; nid yw'n ymddangos bod arweinwyr y grŵp yn eglur hyd yn hyn ynghylch atebolrwydd y tu allan i'w his-adrannau eu hunain, ac nid ydynt wedi sicrhau unrhyw ganlyniadau pendant hyd yn hyn; dywedir bod aelodau staff gwella gwasanaethau ar lefel rhy iau; ceir diffyg dadansoddi a meincnodi manwl; ceir pryder ynghylch y swyddfa rheoli prosiect ynghylch pa un a yw'r set sgiliau yn bodoli i fynd i'r afael â'r agenda gweddnewid; ac wrth ymateb i gwestiwn gan Deloitte ynghylch pa un a oes digon o allu rheoli prosiect a chapasiti i gefnogi darpariaeth ar draws y cynllun ariannol, dywedodd mwyafrif y rheolwyr, y cyfarwyddwyr cyllid ac aelodau'r timau swyddogaeth cyllid canolog naill ai na allent ddweud neu eu bod yn anghytuno. Felly, a ydym ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle gallwn ni ddweud ein bod ni hyd yn oed wedi dechrau'r cynllun gwella hwn i unrhyw raddau sylweddol?

There have been performance improvements, but there is some way to go, and the leader of UKIP is correct in identifying the weaknesses that still need to be addressed, which is why Betsi Cadwaladr will remain in special measures until such a time as we can be assured as a Government, and indeed that the Assembly can be assured, that it's able to stand on its own two feet again.

Bu gwelliannau i berfformiad, ond mae cryn dipyn i'w wneud o hyd, ac mae arweinydd UKIP yn iawn i nodi'r gwendidau y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd, a dyna pam y bydd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig hyd nes y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth, ac yn wir y gall y Cynulliad fod yn sicr, ei fod yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith eto.

There were some damning comments in the Deloitte report about leadership in Betsi Cadwaladr, specifically: executive directors operating in silos; a lack of joint corporate ownership and accountability; the chief operational officer's portfolio was said to be too large for a single individual, managing a budget of over £800 million a year; other executive directors still establishing their portfolios; a lack of granular understanding that the actions of the health board will need to deliver to ensure financial stability. Given that continued indictment, is there not a case for the Welsh Government getting even further involved in the process of transformation than it is already, and that the current leadership team within Betsi Cadwaladr simply have a task that is too great for them to achieve within the limitations of the administrative structure of Betsi Cadwaladr and the budget that they have available to them?

Cafwyd rhai sylwadau damniol yn adroddiad Deloitte am arweinyddiaeth yn Betsi Cadwaladr, ac yn benodol: cyfarwyddwyr gweithredol yn gweithredu mewn seilos; diffyg perchnogaeth ac atebolrwydd corfforaethol ar y cyd; dywedwyd bod portffolio'r prif swyddog gweithredu yn rhy fawr i un unigolyn, gan reoli cyllideb o dros £800 miliwn y flwyddyn; cyfarwyddwyr gweithredol eraill yn dal i sefydlu eu portffolios; diffyg dealltwriaeth ronynnog y bydd angen i gamau gweithredu'r bwrdd iechyd ei darparu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol. O ystyried y cyhuddiadau parhaus hynny, onid oes achos dros gael Llywodraeth Cymru i gymryd hyd yn oed mwy o ran yn y broses weddnewid nag y mae eisoes yn ei chymryd, a bod gan dîm arweinyddiaeth presennol Betsi Cadwaladr dasg sy'n rhy fawr iddyn nhw ei chyflawni o fewn cyfyngiadau strwythur gweinyddol Betsi Cadwaladr a'r gyllideb sydd ar gael iddyn nhw?

13:50

No. I think it is right to say that the situation in Betsi Cadwaladr is such that the new structure is not yet bedded in, which is why, of course, it's still in special measures, which is why I've always been absolutely firm in saying that it will remain in special measures until such a time as it's able to leave. If I were to say, for example, 'Well, it will leave special measures by x date', well, inevitably, I think that would take some of the positive pressure off in terms of making sure that the health board is fit for purpose in the future, and I don't intend to do that. Working with the board, we intend to make sure that the board looks to a situation where it's able to run itself outside of special measures in the future.

Nac oes. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr yn golygu nad yw'r strwythur newydd wedi ei ymwreiddio eto, a dyna pam, wrth gwrs, mae'n dal i fod mewn mesurau arbennig, a dyna pam yr wyf i wedi bod yn gwbl gadarn erioed o ran dweud y bydd yn aros mewn mesurau arbennig tan y bydd yn gallu gadael. Pe byddwn i'n dweud, er enghraifft, 'Wel, bydd yn gadael mesurau arbennig erbyn dyddiad x', wel, yn anochel, rwy'n credu y byddai hynny'n cael gwared ar rywfaint o'r pwysau cadarnhaol o ran gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn addas i'w ddiben yn y dyfodol, ac nid wyf i'n bwriadu gwneud hynny. Gan weithio gyda'r bwrdd, rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn ceisio sicrhau sefyllfa lle mae'n gallu rhedeg ei hun y tu allan i fesurau arbennig yn y dyfodol.

Cynlluniau Adfywio yng Ngorllewin De Cymru
Regeneration Schemes in South Wales West

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau adfywio yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52206

3. Will the First Minister make a statement on regeneration schemes in South Wales West? OAQ52206

Wel, mae ein buddsoddiad mewn cynlluniau adfywio yn helpu i greu swyddi, gwella sgiliau, ac yn darparu’r amgylchedd cywir i fusnesau gychwyn a ffynnu.

Well, our investment in regeneration supports schemes that create jobs, enhance skills and employability, and delivers the right environment for businesses to grow and thrive.

Thank you for that answer, First Minister. Now, obviously, the Swansea bay city deal is vital in seeking to develop jobs in south-west Wales, yet 12 months on from the city deal agreement by the UK Government, and despite the agreement by Welsh Government that local authorities can retain 50 per cent of any business rates uplift, there are still concerns around finances and governance, most notably from Neath Port Talbot council. So, what is the Welsh Government therefore doing to tackle those concerns, and how confident are you that a joint-working agreement can be finalised and agreed by the local authorities in the near future?

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn amlwg, mae bargen ddinesig bae Abertawe yn hollbwysig i geisio datblygu swyddi yn y de-orllewin, ac eto flwyddyn ar ôl y cytundeb bargen ddinesig gan Lywodraeth y DU, ac er gwaethaf y cytundeb gan Lywodraeth Cymru y gall awdurdodau lleol gadw 50 y cant o unrhyw gynnydd i ardrethi busnes, ceir pryderon o hyd ynghylch cyllid a llywodraethu, yn fwyaf nodedig gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud felly i fynd i'r afael â'r pryderon hynny, a pha mor hyderus ydych chi y gall cytundeb cydweithio gael ei gwblhau a'i gytuno gan yr awdurdodau lleol yn y dyfodol agos?

I understand that the concerns of Neath Port Talbot have been addressed, but there is a responsibility on local authorities, of course. The city deal is a deal that requires local authorities to work together for the good of the wider areas—something that all parties in the Chamber have been keen to promote. We see, of course, the Cardiff capital region deal working very, very well, and it is hugely important that, with our support and with the support of the UK Government, local authorities are able to show delivery in Swansea bay as well.

Rwy'n deall y rhoddwyd sylw i bryderon Castell-nedd Port Talbot, ond mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol, wrth gwrs. Mae'r fargen ddinesig yn gytundeb sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd er lles yr ardaloedd ehangach—rhywbeth y mae pob plaid yn y Siambr wedi bod yn awyddus i'w hybu. Gwelwn, wrth gwrs, bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithio'n dda dros ben, ac mae'n eithriadol o bwysig, gyda'n cymorth ni a chyda cymorth Llywodraeth y DU, bod awdurdodau lleol yn gallu dangos cyflawniad ym mae Abertawe hefyd.

I share Dai Lloyd's concerns, but I want to mention today that it's been a good five years now since it was reported that the revival of Swansea castle would provide an extra attraction to the thousands of people who were expected to flood into the city for the Dylan Thomas centenary celebrations. Well, those celebrations are well over now, but Swansea castle is still closed to the public. While there are some regeneration projects around the castle, I'm wondering whether you would be prepared to approach Swansea council to make more of the castle itself, because it's Wales Tourism Week and much of Cadw's promotion work, of course, is based on us being a nation of castles. So, I think perhaps a little Government support or intervention or leverage here would be very welcome indeed.

Rwy'n rhannu pryderon Dai Lloyd, ond hoffwn sôn heddiw bod pum mlynedd o leiaf wedi mynd heibio erbyn hyn ers hysbysu y byddai adfywio castell Abertawe yn cynnig atyniad ychwanegol i'r miloedd o bobl y disgwyliwyd iddynt lifo i mewn i'r ddinas ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Wel, mae'r dathliadau hynny wedi hen ddod i ben erbyn hyn, ond mae castell Abertawe yn dal i fod ar gau i'r cyhoedd. Er bod rhai prosiectau adfywio o amgylch y castell, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n fodlon cysylltu â chyngor Abertawe i wneud mwy o'r castell ei hun, oherwydd mae'n Wythnos Twristiaeth Cymru ac mae llawer o waith hyrwyddo Cadw, wrth gwrs, yn seiliedig ar y ffaith ein bod ni'n genedl o gestyll. Felly, rwy'n meddwl efallai y byddai ychydig o gymorth neu ymyrraeth neu ysgogiad gan y Llywodraeth yn hyn o beth yn cael ei groesawu'n fawr.

The castle was actually almost demolished after the war, because there was so little of it left that—

Bu bron i'r castell gael ei ddymchwel ar ôl y rhyfel a dweud y gwir, gan fod cyn lleied ohono ar ôl fel bod—

—in the 1950s and 1960s, when such things were done, the suggestion was to remove it altogether. Fortunately, that didn't happen. It is a matter, ultimately, for Swansea council. I will, however, seek to get more information, and I'll write to the Member with more information.

—yn y 1950au a'r 1960au, pan oedd pethau o'r fath yn cael eu gwneud, yr awgrym oedd cael gwared arno'n gyfan gwbl. Yn ffodus, ni ddigwyddodd hynny. Mae'n fater, yn y pen draw, i gyngor Abertawe. Fodd bynnag, byddaf yn ceisio cael rhagor o wybodaeth, a byddaf yn ysgrifennu at yr aelod gyda mwy o wybodaeth.

First Minister, Port Talbot is not only one of the poorest parts of my region but also one of the poorest parts of the UK. The Social Mobility Commission also ranks Port Talbot as the worst area in Wales for social mobility. This is despite significant Welsh Government investment. The Port Talbot waterway has created fewer than 100 jobs, and we also live with an element of uncertainty regarding Tata steelworks. So, First Minister, what changes do you propose to your regeneration policies for Port Talbot, and will you support Neath Port Talbot council's bid to relocate Channel 4 to Port Talbot? Thank you.

Prif Weinidog, nid yn unig y mae Port Talbot yn un o rannau tlotaf fy rhanbarth i ond mae hefyd un o rannau tlotaf y DU. Mae'r Comisiwn Symudedd Cymdeithasol hefyd wedi dyfarnu mai Port Talbot yw'r ardal waethaf yng Nghymru ar gyfer symudedd cymdeithasol. Mae hyn er gwaethaf buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae dyfrffordd Port Talbot wedi creu llai na 100 o swyddi, ac rydym ni hefyd yn byw gydag elfen o ansicrwydd ynghylch gwaith dur Tata. Felly, Prif Weinidog, pa newidiadau ydych chi'n eu cynnig i'ch polisïau adfywio ar gyfer Port Talbot, ac a wnewch chi gefnogi cais cyngor Castell-nedd Port Talbot i adleoli Channel 4 i Bort Talbot? Diolch.

Well, there are a number of bids from across Wales, so we have to be careful in terms of showing favouritism to any particular bid. We would like to be supporting all of them, of course.

In terms of Port Talbot, what is crucially important to the sustainability of Port Talbot is the future of steel making, and the fact that we have, over the past two years, secured that—let's not forget that, just before the last Assembly elections, the future looked very bleak indeed for the heavy end at Port Talbot. Because of the hard work that we've put in, working with others, working with Tata, the money put on the table, we've ensured that the steel-making end of Tata has a future, and that is something, in particular, that's hugely important to the town. I understand that Neath Port Talbot County Borough Council secured £11.5 million of the funding to deliver a programme of targeted regeneration projects to address community needs and to improve the well-being of the people of Port Talbot.

Wel, mae nifer o geisiadau o bob cwr o Gymru, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran dangos ffafriaeth i unrhyw gais penodol. Hoffem gefnogi pob un ohonyn nhw, wrth gwrs.

O ran Port Talbot, yr hyn sy'n hollbwysig i gynaliadwyedd Port Talbot yw dyfodol cynhyrchu dur, a'r ffaith ein bod ni, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi sicrhau hynny—gadewch i ni beidio ag anghofio, ychydig cyn etholiadau diwethaf y Cynulliad, bod y dyfodol yn edrych yn llwm iawn yn wir i'r pen trwm ym Mhort Talbot. Oherwydd y gwaith caled yr ydym ni wedi ei wneud, gan weithio gydag eraill, gan weithio gyda Tata, yr arian a roddwyd ar y bwrdd, rydym ni wedi sicrhau bod dyfodol i ben cynhyrchu dur Tata, ac mae hynny'n rhywbeth, yn arbennig, sy'n bwysig dros ben i'r dref. Rwy'n deall bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £11.5 miliwn o'r cyllid i ddarparu rhaglen o brosiectau adfywio wedi'u targedu i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned ac i wella llesiant pobl Port Talbot.

Undebau Credyd
Credit Unions

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi undebau credyd? OAQ52204

4. What is the Welsh Government doing to support credit unions? OAQ52204

Well, £844,000 is in place over the next two years for credit unions to take forward projects to support financial inclusion. An additional £1 million has also been agreed to support credit unions with their growth. 

Wel, mae £844,000 ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i'r undebau credyd fwrw ymlaen â phrosiectau i gefnogi cynhwysiant ariannol. Cytunwyd ar £1 filiwn ychwanegol hefyd i gynorthwyo undebau credyd gyda'u twf.

13:55

Diolch. The Minister for Housing and Regeneration has rightly commented that credit unions in Wales deliver financial awareness education for adults and children, they support people dealing with debt problems and provide some of the most vulnerable people with sound and ethical financial products, and therefore I very much welcome that the Welsh Government recently announced that credit unions across Wales will receive additional funding, including the £844,000 of funding, for projects that support people who are struggling financially. Sadly, under this UK Government, these people are the many and not the few. What direct impact does the First Minister then think this financial and capacity support for credit unions will give to some of the most vulnerable people in Islwyn?

Diolch. Mae'r Gweinidog Tai ac adfywio wedi nodi'n briodol bod undebau credyd yng Nghymru yn darparu addysg ymwybyddiaeth ariannol ar gyfer oedolion a phlant, maen nhw'n cynorthwyo pobl sy'n ymdopi â phroblemau dyled ac yn darparu cynhyrchion ariannol cadarn a moesegol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac felly rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd undebau credyd ledled Cymru yn cael arian ychwanegol, gan gynnwys yr £844,000 o gyllid, ar gyfer prosiectau sy'n cynorthwyo pobl sydd mewn trafferthion ariannol. Yn anffodus, o dan Lywodraeth y DU hon, y bobl hyn yw'r mwyafrif ac nid y lleiafrif. Pa effaith uniongyrchol y mae'r Prif Weinidog yn ei feddwl felly y bydd y cymorth ariannol a chapasiti hwn i undebau credyd yn ei chael ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn Islwyn?

I can say that officials will be meeting with the credit union sector on 21 May to discuss the financial transactions capital support that's being made available for this and the next financial year. Indeed, there's been interest from credit unions in terms of accessing that. We now have some 75,000 credit union members in Wales, and for many credit union members the credit unions provide a choice that doesn't involve going to loan sharks. We know that, and we know the financial pressures that have come on people over the last eight years, and we've seen never-ending austerity, and that's why the credit unions play such an important role in our communities, and it's why we have been supporting them to support people.

Gallaf ddweud y bydd swyddogion yn cyfarfod â'r sector undebau credyd ar 21 Mai i drafod y cymorth cyfalaf trafodiadau ariannol sy'n cael ei roi ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf. Yn wir, bu diddordeb gan undebau credyd o ran cael mynediad at hwnnw. Mae gennym ni tua 75,000 o aelodau undebau credyd yng Nghymru erbyn hyn, ac i lawer o aelodau undebau credyd mae undebau credyd yn cynnig dewis nad yw'n golygu mynd at fenthycwyr arian didrwydded. Rydym ni'n gwybod hynny, ac rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ariannol sydd wedi bod ar bobl dros yr wyth mlynedd diwethaf, ac rydym ni wedi gweld cyni cyllidol diddiwedd, a dyna pam mae'r undebau credyd yn chwarae rhan mor bwysig yn ein cymunedau, a dyna pam yr ydym ni wedi bod yn eu cynorthwyo i gefnogi pobl.

First Minister, I was looking forward there to saying I agree with Rhianon Passmore. Unfortunately, the bit at the end I found difficult to agree with, but the first part was positive. Can I also concur with those sentiments that credit unions do a great deal of work across Wales? In south-east Wales, my area, the Gateway Credit Union has branches in Abergavenny and in Bulwark, and as Rhianon Passmore said, they do a great deal to deal with poverty issues. Would you agree with me that it's important that we recognise the role that credit unions play in rural areas as well? It's not just an urban area that they serve. There are great pockets of rural poverty across my area, and also mid Wales as well, and they have an important role to play there. So, when you're targeting this funding, will you make sure that rural areas' poverty is addressed as well?

Prif Weinidog, roeddwn i'n edrych ymlaen at ddweud fy mod i'n cytuno â Rhianon Passmore. Yn anffodus, fe'i cefais hi'n anodd cytuno â'r darn ar y diwedd, ond roedd y rhan gyntaf yn gadarnhaol. A gaf i hefyd gytuno â'r safbwyntiau hynny bod undebau credyd yn gwneud llawer iawn o waith ledled Cymru? Yn y de-ddwyrain, fy ardal i, mae gan Undeb Credyd Gateway ganghennau yn y Fenni ac yn Bulwark, ac fel y dywedodd Rhianon Passmore, maen nhw'n gwneud llawer iawn i ymdrin â phroblemau tlodi. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y rhan y mae undebau credyd yn ei chwarae mewn ardaloedd gwledig hefyd? Nid ardal drefol yn unig y maen nhw'n ei gwasanaethu. Ceir pocedi mawr o dlodi gwledig ar draws fy ardal i, ac yn y canolbarth hefyd, ac mae ganddyn nhw ran bwysig i'w chwarae yn y fan honno. Felly, pan fyddwch chi'n targedu'r cyllid hwn, a wnewch chi sicrhau bod tlodi ardaloedd gwledig yn cael sylw hefyd?

Absolutely. Credit unions are as relevant to rural areas as they are to urban areas. Some years ago, when I first went to Ireland, it was noticeable how large the credit unions were, particularly in small country towns, and the progress that had been made there. So, credit unions have a relevance and they provide a means of support to all communities in Wales, urban or rural.

Yn sicr. Mae undebau credyd yr un mor berthnasol i ardaloedd gwledig ag y maen nhw i ardaloedd trefol. Rai blynyddoedd yn ôl, pan euthum i Iwerddon gyntaf, roedd yn amlwg pa mor fawr oedd undebau credyd, yn enwedig mewn trefi bach cefn gwlad, a'r cynnydd a oedd wedi ei wneud yno. Felly, mae undebau credyd yn berthnasol ac maen nhw'n cynnig modd o gymorth i bob cymuned yng Nghymru, trefol neu wledig.

Er bod pobl o Gymru yn aelodau o undebau credyd, o gymharu â gweddill Prydain ac Iwerddon, fel rydych chi newydd ddweud, mae aelodaeth yn llawer is na'r gwledydd hynny. Felly, pan wnes i godi'r mater yma gyda chi o'r blaen, gwnes i godi'r cysyniad o gael hwb cenedlaethol i undebau credyd. Ydy, mae arian yn mynd atyn nhw fel unigolion, ond mae yna lot y gallan nhw ei ddysgu o'i gilydd er mwyn iddyn nhw allu gweithio a gwella'r hyn y maen nhw'n ei gynnig fel undebau credyd. Ble ydych chi gydag edrych i mewn i'r cysyniad hwn, a beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud o ran hybu neu ennyn aelodau o staff y gwasanaeth sifil, er enghraifft, i gynilo arian gydag undebau credyd, er mwyn sicrhau ein bod ni fel Aelodau, a'r rheini sydd yn gweithio yma yng Nghymru, yn gwneud ein rôl ni i hybu'r sector yma?

Although people from Wales are members of credit unions, as compared to the rest of the UK and Ireland, as you’ve just said, membership is much lower than it is in those other nations. So, when I raised these issues with you in the past, I suggested the concept of having a national hub for credit unions. Yes, funding is provided to them individually, but there’s a great deal that they can learn from each other so that they can work and improve their offer as credit unions. So, where are you with looking into that concept and what are you as Government doing in terms of promoting or encouraging members of the civil service staff, for example, to save with credit unions, in order to ensure that we as Members, and those working here in Wales, play our role in promoting this sector?

Fe wnes i sôn am yr arian sydd ar gael a sôn am y cyfarfod sy'n mynd i gymryd lle yr wythnos nesaf. Mae aelodaeth undebau credyd wedi codi o 10,000 ar ddechrau'r ganrif i 75,000, fel y dywedais i, nawr. So, felly, mae yna dwf wedi bod. Y cam nesaf, rwy'n credu, i undebau credyd yw faint maen nhw eisiau tyfu a faint o capacity sydd ei eisiau iddyn nhw dyfu. Rwy'n gwybod, yn Iwerddon, mae'n bosibl cael benthyciadau o gannoedd o filoedd o ewros, achos y ffaith bod y sefydliadau llawer yn hŷn, a'n llawer mwy na'r undebau credyd yng Nghymru. So, felly, beth mae'n rhaid inni ei ystyried yw: pa mor bell mae'r undebau credyd eisiau tyfu? A ydyn nhw'n moyn tyfu i ddod lot yn fwy, fel undebau credyd Iwerddon, neu ydyn nhw'n moyn sefyll yn hollol leol? Rwy'n credu y byddai rhai yn dewis yr un a rhai yn dewis y llall, ond byddwn ni'n cario ymlaen i siarad â nhw er mwyn gweld ym mha ffordd y gallwn ni eu hybu nhw yn y pen draw.  

I mentioned the funding that’s available and I mentioned the meeting that will take place next week. Membership of credit unions has increased from 10,000 people at the beginning of the century to 75,000, as I said, currently. So, there has been a great growth. The next step for credit unions, I think, is for them to consider how much they want to grow and what capacity is needed for them to grow. I know that, in Ireland, they can have hundreds of thousands of euros-worth of loans, which is much greater than those available in Wales. So, we must consider how far some of these credit unions wish to go. Do they want to grow to become much bigger, like the Irish credit unions, or do they want to remain as local credit unions? I think some of them will choose the first route and some will choose the other, but we will continue to speak with them in order to identify the ways in which we can ultimately promote them.

Dinas-ranbarth Bae Abertawe
Swansea Bay City Region

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ52203

5. Will the First Minister provide an update on the Swansea Bay city region deal? OAQ52203

Yes. Progress continues to be made towards the next stage of delivery and to unlock UK Government funding.

Gwnaf. Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud tuag at y cam cyflawni nesaf ac i ddatgloi cyllid Llywodraeth y DU.

Thank you. A groundhog day question, I know.

The shadow board of the Swansea bay city deal told us that they would, if it were possible, like to add to the 11 projects that are already part of the deal, and, of course, many of us have been speaking about transport potentially being an additional aspect of it. Two weeks ago, your economy Secretary said that work on a Swansea parkway should be taken forward 'at pace', just to quote him. And with that in mind, what discussions are you holding with the Wales Office and the Department for Transport about this idea? And can you tell us whether it's been discussed in the context of the city deal or more generally as part of the wider vision for transport improvement in Wales, or maybe both? Thank you.

Diolch. Cwestiwn ailadroddus, mi wn.

Dywedodd bwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe wrthym y bydden nhw'n hoffi, pe byddai'n bosibl, ychwanegu at yr 11 o brosiectau sydd eisoes yn rhan o'r fargen, ac, wrth gwrs, mae llawer ohonom ni wedi bod yn sôn y gallai trafnidiaeth fod yn agwedd ychwanegol o hynny. Bythefnos yn ôl, dywedodd eich Ysgrifennydd dros yr economi y dylid bwrw ymlaen â gwaith ar barcffordd Abertawe 'yn gyflym', dim ond i'w ddyfynnu ef. A chyda hynny mewn golwg, pa drafodaethau ydych chi'n eu cynnal gyda Swyddfa Cymru a'r Adran Drafnidiaeth am y syniad hwn? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa un a yw wedi cael ei drafod yng nghyd-destun y fargen ddinesig neu yn fwy cyffredinol yn rhan o'r weledigaeth ehangach ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Nghymru, neu'r ddau efallai? Diolch.

14:00

I know the idea—the idea has been around for some time for a station at Morriston, effectively: Swansea parkway, as I understand it. There are issues, because it would mean upgrading the Swansea district line, and it would bypass Swansea itself, and also bypass Neath. And I know that people in Neath do not want to see their station bypassed in that way and I can well understand why it is not Government policy that we would want to do that. So, there would be a need to upgrade the Swansea district line, because at the moment it's a freight line and is used for occasional passenger diversions. There would also be a need to ensure that services were not lost to existing stations, particularly inter-city services—not just inter-city services, but all services—if that proposal was taken forward. So, an interesting idea, but there are some negative potential effects, unless any services on the Swansea district line were in addition to the services that already exist, serving stations such as Swansea high street itself and Neath.

Gwn am y syniad—mae'r syniad wedi bod o gwmpas ers cryn amser ar gyfer gorsaf yn Nhreforys, i bob pwrpas: parcffordd Abertawe, fel y deallaf. Ceir problemau, gan y byddai'n golygu uwchraddio rheilffordd ardal Abertawe, a byddai'n osgoi Abertawe ei hun, a hefyd yn osgoi Castell-nedd. A gwn nad yw pobl yng Nghastell-nedd eisiau gweld eu gorsaf yn cael ei hosgoi yn y modd hwnnw a gallaf ddeall yn iawn pam nad yw'n bolisi Llywodraeth y byddem ni eisiau gwneud hynny. Felly, byddai angen uwchraddio rheilffordd ardal Abertawe, gan ei bod hi'n rheilffordd cludo nwyddau ar hyn o bryd ac yn cael ei defnyddio ar gyfer gwyriadau teithwyr achlysurol. Byddai angen sicrhau hefyd nad oedd gwasanaethau yn cael eu colli i orsafoedd presennol, yn enwedig gwasanaethau rhwng dinasoedd—nid gwasanaethau rhwng dinasoedd yn unig, ond pob gwasanaeth—pe byddem yn bwrw ymlaen â'r cynnig hwnnw. Felly, syniad diddorol, ond ceir rhai effeithiau negyddol posibl, oni bai bod unrhyw wasanaethau ar reilffordd ardal Abertawe yn ogystal â'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes, sy'n gwasanaethu gorsafoedd fel stryd fawr Abertawe ei hun a Chastell-nedd.

Y Gwasanaeth Ambiwlans
The Ambulance Service

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans? OAQ52202

6. Will the First Minister make a statement on the performance of the ambulance service? OAQ52202

Yes. The Welsh ambulance service continues to deliver a highly responsive service to the people of Wales despite record levels of demand. In March, 69.6 per cent of immediately life threatening calls received a response within eight minutes, with a typical response time of five minutes and 29 seconds.

Gwnaf. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth hynod ymatebol i bobl Cymru er gwaethaf lefelau uwch nag erioed o alw. Ym mis Mawrth, cafodd 69.6 y cant o alwadau lle'r oedd bywyd yn y fantol ymateb o fewn wyth munud, gydag amser ymateb nodweddiadol o bum munud a 29 eiliad.

In a Plenary session on 16 January I raised the important issue of front-line NHS workers being at breaking point as a result of the pressures being put on them on a daily basis. This related specifically to the Welsh ambulance service, and you pledged to investigate and to write back to me. You wrote back to me earlier this month with a reply that outlined that measures are being taken by the ambulance trust to support its staff. And that includes an in-house well-being team, which on paper sounds great, but a contact of mine says they were unable to access this service because that service never got back to them. The lack of capacity in our hospitals, causing delays in transfers of care, is cited by my contact as being the biggest factor in delayed ambulance responses and, subsequently, stress caused to call handlers. For the sake of our NHS as well as staff and patients, when is this Government going to get to grips with this problem?

Mewn cyfarfod llawn ar 16 Ionawr, codais fater pwysig gweithwyr rheng flaen y GIG ar ben eu tennyn o ganlyniad i'r pwysau sy'n cael ei roi arnyn nhw yn feunyddiol. Roedd hyn yn ymwneud yn benodol â gwasanaeth ambiwlans Cymru, ac fe wnaethoch addo ymchwilio i'r mater ac ysgrifennu yn ôl ataf. Ysgrifenasoch yn ôl ataf yn gynharach y mis hwn gydag ateb a amlinellodd bod mesurau yn cael eu cymryd gan yr ymddiriedolaeth ambiwlans i gefnogi ei staff. Ac mae hynny'n cynnwys tîm llesiant mewnol, sy'n swnio'n wych ar bapur, ond dywedodd rhywun yr wyf i'n ei adnabod nad oedd yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth hwn gan na wnaeth y gwasanaeth hwnnw ymateb o gwbl iddo. Mae'r person hwnnw yn nodi mai'r diffyg capasiti yn ein hysbytai, sy'n achosi oedi wrth drosglwyddo gofal, yw'r ffactor mwyaf o ran oedi ymatebion ambiwlansys ac, wedyn, straen a achosir i'r rheini sy'n ymdrin â galwadau. Er lles ein GIG yn ogystal â staff a chleifion, pryd mae'r Llywodraeth hon yn mynd i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Let me give the leader of Plaid Cymru a fuller answer. The winter of 2017-18 did see a sustained pressure across the NHS, both in Wales and the UK in general. March 2018 was, I think I'm right in saying, the busiest month ever for the ambulance service. One of the key groups of staff affected has been the 999 call takers and the control-room staff who work for the Welsh ambulance service as well as, of course, ambulance staff themselves and the paramedics. What the ambulance service did was approach the ambulance service charity to provide support to ambulance clinical-control centres, particularly to call-taking staff. Two sessions were run at each of the three regional control centres, covering a range of support mechanisms available to help staff with their emotional and physical well-being, but also the wider support available from TASC, the charity, in areas such as financial management, preparing for the future, and other benefits that TASC provides for ambulance staff. And the feedback from staff has been, 'Those sessions were invaluable', and the trust is now looking at how TASC resources can be used to support staff in the future as part of the trust's response to operational pressure. 

Gadewch i mi roi ateb llawnach i arweinydd Plaid Cymru. Bu pwysau cyson ar draws y GIG, yng Nghymru a'r DU yn gyffredinol, yn ystod gaeaf 2017-18. Mis Mawrth 2018, credaf fy mod yn iawn yn dweud, oedd y mis prysuraf erioed i'r gwasanaeth ambiwlans. Un o'r grwpiau allweddol o staff yr effeithiwyd arnynt oedd y derbynwyr galwadau 999 a'r staff ystafell reoli sy'n gweithio i wasanaeth ambiwlans Cymru yn ogystal, wrth gwrs, â'r staff ambiwlans eu hunain a'r parafeddygon. Yr hyn a wnaeth y gwasanaeth ambiwlans oedd cysylltu ag elusen y gwasanaeth ambiwlans i ddarparu cymorth i ganolfannau rheoli clinigol ambiwlansys, yn enwedig i staff sy'n ateb galwadau. Cynhaliwyd dwy sesiwn ym mhob un o'r tair canolfan reoli ranbarthol, sy'n cynnwys amrywiaeth o fecanweithiau cymorth sydd ar gael i helpu staff gyda'u llesiant emosiynol a chorfforol, ond hefyd y cymorth ehangach sydd ar gael gan TASC, yr elusen, mewn meysydd fel rheoli ariannol, paratoi ar gyfer y dyfodol, a manteision eraill y mae TASC yn eu cynnig i staff ambiwlans. A'r adborth gan staff fu, 'Roedd y sesiynau hynny yn hynod werthfawr', ac mae'r ymddiriedolaeth yn ystyried erbyn hyn sut y gellir defnyddio adnoddau TASC i gynorthwyo staff yn y dyfodol yn rhan o ymateb yr ymddiriedolaeth i bwysau gweithredol.

First Minister, over the three winter months, 1,860 people who were classified as amber, and you will know this includes people suffering from a stroke or a heart attack, were made to wait over six hours for their ambulance. Now, this is, surely, unacceptable and we need to ensure that, next winter, some of these very basic standards are met.

Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.

I can say, at the request of the Cabinet Secretary, the chief ambulance services commissioner has commenced a clinically led review specifically on the amber category, alongside work that's ongoing at the moment to look at ambulance responsiveness, clinical outcomes and patient experience. There are four things in particular the review will look at: firstly, the current state in respect of extant policy practice and guidance; secondly, the expectations and experiences of the public, staff, and the wider service around ambulance response to amber calls; thirdly, consideration of environmental factors, such as the location of an incident and the age of a patient when determining allocation of a response; and, fourth, the other external or internal factors that may contribute to, or impact on, how the Welsh Ambulance Services NHS Trust responds to amber category calls, and that work is ongoing.

Gallaf ddweud, ar gais Ysgrifennydd y Cabinet, bod prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans wedi dechrau adolygiad o dan arweiniad clinigol ar y categori ambr yn benodol, ochr yn ochr â gwaith sy'n parhau ar hyn o bryd i ystyried ymatebolrwydd ambiwlansys, canlyniadau clinigol a phrofiad cleifion. Ceir pedwar peth yn benodol y bydd yr adolygiad yn eu hystyried: yn gyntaf, y sefyllfa bresennol o ran arferion polisi a chanllawiau ar hyn o bryd; yn ail, disgwyliadau a phrofiadau'r cyhoedd, staff a'r gwasanaeth ehangach o ran ymatebion ambiwlans i alwadau ambr; yn drydydd, ystyriaeth o ffactorau amgylcheddol, fel lleoliad digwyddiad ac oedran y claf wrth benderfynu ar ddyrannu ymateb; ac, yn bedwerydd, y ffactorau allanol neu fewnol eraill a allai gyfrannu at, neu effeithio ar, sut mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ymateb i alwadau categori ambr, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau.

14:05

The amount of emergency ambulance calls during 2016-17 was up 116 per cent on the number of emergency ambulance calls made in previous years. This is a staggering increase by any calculation, yet the Welsh ambulance service has for 30 consecutive months met its national response-time target for red calls, thanks to our clinical response model and our staff delivering care quicker to those who need it most—a model rubbished by the Welsh Tories as 'moving the goalposts', and a model now being looked at to be replicated in England by their Westminster Tory colleagues.

Will the First Minister join me, then, in praising the dedicated men and women of the ambulance service, who continue to contribute to our wonderful Welsh national health service in the year of its seventieth anniversary, and further outline what we can do to further aid their invaluable work?

Roedd nifer y galwadau ambiwlans brys yn ystod 2016-17 116 y cant yn uwch na nifer y galwadau ambiwlans brys a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hwn yn gynnydd syfrdanol ar sail unrhyw gyfrifiad, ac eto mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bodloni ei darged amser ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am 30 mis yn olynol, diolch i'n model ymateb clinigol a'n staff yn darparu gofal yn gyflymach i'r rheini sydd ei angen fwyaf—model a ddifrïwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig fel 'symud y pyst', a model sy'n cael ei ystyried erbyn hyn i gael ei ailadrodd yn Lloegr gan eu cydweithwyr Torïaidd yn San Steffan.

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi, felly, i ganmol dynion a menywod ymroddgar y gwasanaeth ambiwlans, sy'n parhau i gyfrannu at ein gwasanaeth iechyd gwladol ardderchog yng Nghymru ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain oed, ac amlinellu ymhellach yr hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo eu gwaith gwerthfawr ymhellach?

Can I join the Member in paying my regard, consideration and thanks, indeed, to the ambulance staff for what they do in saving lives day after day in Wales? I can say that significant resources have been invested in the last few years, targeted at ensuring that the number of front-line staff is increased, both in the control centres and, indeed, on the road. We have a record number of staff, actually, employed in the service. Back in October, we announced an £8.2 million investment to enable the Welsh ambulance service to continue upgrading the existing fleet, which brings the total investment in new ambulance vehicles since 2011 to almost £45 million.

A gaf i ymuno â'r Aelod i roi fy ngwerthfawrogiad, fy ystyriaeth a'm diolch, yn wir, i'r staff ambiwlans am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i achub bywydau ddydd ar ôl dydd yng Nghymru? Gallaf ddweud bod adnoddau sylweddol wedi eu buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf, gyda'r nod o sicrhau bod nifer y staff rheng flaen yn cael ei gynyddu, yn y canolfannau rheoli ac, yn wir, ar y ffordd. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o staff, a dweud y gwir, wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth. Yn ôl ym mis Hydref, cyhoeddwyd buddsoddiad o £8.2 miliwn gennym i alluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i barhau i uwchraddio'r fflyd bresennol, sy'n dod â chyfanswm y buddsoddiad mewn cerbydau ambiwlans newydd ers 2011 i bron i £45 miliwn.

Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru
Healthcare in Mid Wales

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gofal iechyd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52186

7. Will the First Minister provide an update on the provision of healthcare in mid Wales? OAQ52186

We continue to invest in the provision of healthcare services in mid Wales, including £6.6 million on the Llandrindod Wells County War Memorial Hospital. We will continue to work with health boards in the region to provide healthcare services that deliver the best possible outcomes for patients.

Rydym ni'n parhau i fuddsoddi yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal iechyd yn y canolbarth, gan gynnwys £6.6 miliwn yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd yn y rhanbarth i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.

I thank the First Minister for that reply. I've seen many health service reorganisations in the course of my lifetime, and it's always a great problem bringing about change—even beneficial change. There are always going to be perceived winners and losers. The Hywel Dda university health board proposed their big NHS change, which will affect the provision of healthcare facilities throughout the Hywel Dda area. Will he agree with me that any change that does take place should not disadvantage very significant areas of population within the health board in order to benefit other parts of the area?

In particular, in Llanelli there's a proposal to downgrade the Prince Philip Hospital, which will see the provision of 24/7 acute medical services affected; adequate bed space in the highest populated area of Hywel Dda will be reduced; a specialist breast oncology unit will not be there; and also it will affect mental health services. If changes are going to be acceptable to the public at large, then they have to benefit the maximum number of people and not disadvantage them. 

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwyf wedi gweld sawl achos o ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn ystod fy mywyd, ac mae bob amser yn broblem fawr cyflawni newid—hyd yn oed newid buddiol. Bydd enillwyr a chollwyr tybiedig bob amser. Cynigiodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda eu newid GIG mawr, a fydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o gyfleusterau gofal iechyd ar draws ardal Hywel Dda. A wnaiff ef gytuno â mi na ddylai unrhyw newid sy'n cael ei wneud roi ardaloedd sylweddol iawn o'r boblogaeth o fewn y bwrdd iechyd o dan anfantais er mwyn bod o fudd i rannau eraill o'r ardal?

Yn arbennig, ceir cynnig yn Llanelli i israddio Ysbyty'r Tywysog Philip, a fydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol acíwt 24/7; bydd lleoedd digonol mewn gwelyau yn ardal fwyaf poblog Hywel Dda yn cael eu lleihau; ni fydd uned oncoleg y fron arbenigol yno; a bydd hefyd yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl. Os yw newidiadau yn mynd i fod yn dderbyniol i'r cyhoedd yn gyffredinol, yna mae'n rhaid iddyn nhw fod o fudd i'r nifer fwyaf bosibl o bobl ac nid eu rhoi o dan anfantais.

There are two objectives, to my mind, to the exercise: first of all, to have the fullest possible consultation, and, secondly, to ensure that what we see, not just in Hywel Dda but across Wales, is the best, safest and most sustainable health service for the population. That is something that, as a Government, we'd want to see across Wales.

Mae dau amcan, yn fy marn i, i'r ymarfer: yn gyntaf oll, cael yr ymgynghoriad llawnaf posibl, ac, yn ail, sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei weld, nid yn unig yn Hywel Dda, ond ledled Cymru, yn cynrychioli’r gwasanaeth iechyd gorau, mwyaf diogel a mwyaf cynaliadwy ar gyfer y boblogaeth. Mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, fel Llywodraeth, eisiau ei weld ledled Cymru.

First Minister, a constituent, Mr Robert Jones, has recently informed me that he can no longer collect his prescription from the pharmacy within the building of his GP practice because of dispensing rules that have changed as a result of being brought in following the National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013, in spite of the fact that he has been registered at the practice for the whole of his life. It's clearly common sense, as far as I can see, for him to be able to collect his prescription from within the building where he was given the prescription, so I do find the policy difficult to comprehend when the constituent is already at their GP practice. Can you commit to looking again at this issue to see whether there is sufficient flexibility within the system—from the correspondence I've received back from the health Minister that doesn't seem to be the case—so that these regulations do not have these kinds of unintended consequences?

Prif Weinidog, mae etholwr, Mr Robert Jones, wedi fy hysbysu yn ddiweddar nad yw'n gallu casglu ei bresgripsiwn o'r fferyllfa yn adeilad ei feddygfa deulu mwyach oherwydd rheolau dosbarthu meddyginiaeth sydd wedi newid o ganlyniad i gael eu cyflwyno yn dilyn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei gofrestru yn y feddygfa drwy gydol ei oes. Mae'n amlwg yn synnwyr cyffredin, cyn belled ag y gallaf weld, iddo allu casglu ei bresgripsiwn o'r adeilad lle rhoddwyd y presgripsiwn iddo, felly rwy'n ei chael hi'n eithaf anodd deall y polisi pan fo'r etholwr yn ei feddygfa deulu eisoes. A allwch chi ymrwymo i ystyried y mater hwn eto i weld a oes digon o hyblygrwydd yn y system—nid yw'n ymddangos o'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael yn ôl gan y Gweinidog iechyd bod hynny'n wir—i sicrhau nad yw'r rheoliadau hyn yn cael y mathau hyn o ganlyniadau anfwriadol?

I'd not heard that, I have to say. The Member asked a question that, with respect, is hyperlocal. It deserves an answer, but that answer will need to come, if he gives me further details, via a letter.

Nid oeddwn i wedi clywed hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn sydd, gyda pharch, yn hynod o leol. Mae'n haeddu ateb, ond bydd angen i'r ateb hwnnw ddod, os gwnaiff roi rhagor o fanylion i mi, mewn llythyr.

It's been a delight today to welcome Elly Neville to the Assembly, and many Assembly Members have met her. She's raised nearly £160,000 now, as a six and seven-year-old, for ward 10 cancer treatment in Withybush, and I'm sure you'll join me in a minute, First Minister, hopefully, in thanking her for her efforts.

But what it really underlines, of course, is how important those services are to local communities, and how committed communities are to them. You told me last week that in the options being considered for Hywel Dda, you as a Government and you as a First Minister had no preference. Wouldn't it be better, therefore, if your own Assembly Members did not campaign for or against some of these options, but let the public have that wider consultation and then take some decisions in the cold of light of day, with good clinical evidence to date with that, and with the best evidence possible from the health Cabinet Secretary around the availability of funding also?

Mae hi wedi bod yn bleser heddiw croesawu Elly Neville i'r Cynulliad, ac mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi ei chyfarfod. Mae hi wedi codi bron i £160,000 erbyn hyn, fel merch chwech a saith mlwydd oed, ar gyfer triniaeth ganser ward 10 yn Llwynhelyg, ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi mewn munud, Prif Weinidog, gobeithio, i ddiolch iddi am ei hymdrechion.

Ond yr hyn y mae wir yn ei danlinellu, wrth gwrs, yw pa mor bwysig yw'r gwasanaethau hynny i gymunedau lleol, a pha mor ymroddedig yw cymunedau iddynt. Dywedasoch wrthyf yr wythnos diwethaf nad oedd gennych chi fel Llywodraeth na chithau fel Prif Weinidog unrhyw ffafriaeth o ran y dewisiadau sy'n cael eu hystyried ar gyfer Hywel Dda. Oni fyddai'n well, felly, pe na byddai  eich Aelodau Cynulliad eich hun yn ymgyrchu dros neu yn erbyn rhai o'r dewisiadau hyn, ond gadael i'r cyhoedd gael yr ymgynghoriad ehangach hwnnw ac yna gwneud penderfyniadau yng ngolau oer rheswm, gyda thystiolaeth glinigol dda hyd yma gyda hynny, a chyda'r dystiolaeth orau bosibl gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch y cyllid sydd ar gael hefyd?

14:10

Firstly, I've had the pleasure of meeting Elly before, and it's wonderful to welcome her back to this building. She's done a fantastic job in raising so much money, and it's great to know that she's here. Secondly, if it were the case that no AMs were going to campaign in any way with regard to Hywel Dda's consultation, it might be a level playing field, but I suspect that's going a little bit too far in terms of what to expect. Backbench Labour AMs are free, of course, to represent their communities; that's why they are there. There are more restrictions, of course, on those in Government, naturally, but I'm sure that all AMs who live in the Hywel Dda area will make their views known as part of the consultation.  

Yn gyntaf, rwyf i wedi cael y pleser o gyfarfod Elly o'r blaen, ac mae'n braf iawn cael ei chroesawu hi yn ôl i'r adeilad hwn. Mae hi wedi gwneud gwaith ardderchog yn codi cymaint o arian, ac mae'n wych gwybod ei bod hi yma. Yn ail, pe na byddai unrhyw ACau yn mynd i ymgyrchu mewn unrhyw ffordd o ran ymgynghoriad Hywel Dda, gallai fod chwarae teg i bawb, ond rwy'n amau bod hynny yn mynd ychydig yn rhy bell o ran yr hyn sydd i'w ddisgwyl. Mae ACau Llafur ar y meinciau cefn yn rhydd, wrth gwrs, i gynrychioli eu cymunedau; dyna pam maen nhw yma. Ceir mwy o gyfyngiadau, wrth gwrs, ar y rhai hynny yn y Llywodraeth, yn naturiol, ond rwy'n siŵr y bydd yr holl ACau sy'n byw yn ardal Hywel Dda yn mynegi eu safbwyntiau yn rhan o'r ymgynghoriad.

Porthladd Caergybi
The Port of Holyhead

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i borthladd Caergybi? OAQ52207

8. Will the First Minister make a statement on support for the port of Holyhead? OAQ52207

Rydym ni’n parhau i weithio gyda Stenaline a’i helpu i wneud y mwyaf o botensial Caergybi i gynyddu twf economaidd a dod â mwy o swyddi i’r rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys trafod cynlluniau am angorfa aml-ddefnydd newydd, ac rydym ni wedi rhoi £0.5 miliwn drwy'r gronfa datblygu porthladdoedd tuag at y gwaith o gynnal astudiaeth o ymarferoldeb.

We continue to work with and support Stenaline to maximise Holyhead’s potential to increase economic growth and jobs for the region. This includes engaging on plans for a new multi-use berth, for which we have granted £0.5 million under the ports development fund towards undertaking a feasibility study.

Diolch yn fawr iawn. Ddydd Gwener yma, mae grŵp yn cael ei ailgynnull a fydd yn dod â gwahanol ddefnyddwyr y porthladd at ei gilydd, yn cael ei gyd-gadeirio gen i fel yr Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ynys Môn, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad yn y tri chwarter awr diwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gyrru swyddog i'r cyfarfod hwnnw. Ond ar drothwy y cyfarfod, mi hoffwn i apelio am ffocws clir iawn, iawn gan Lywodraeth Cymru ar gefnogi a buddsoddi ym mhorthladd Caergybi a'r isadeiledd trafnidiaeth, ac ati, sy'n gwasanaethu'r porthladd hwnnw, yn enwedig yn sgîl her Brexit, yr her o gystadleuaeth gan borthladdoedd eraill fel Lerpwl, a'r her o groesiadau uniongyrchol sy'n datblygu fwy a mwy o Iwerddon i Ffrainc. Mae'n rhaid sicrhau bod porthladd rhagorol Caergybi yn parhau i fod yn gystadleuol er mwyn y swyddi yn uniongyrchol yno ac, wrth gwrs, economi ehangach Ynys Môn ac nid yn unig gogledd Cymru, ond Cymru hefyd.

Thank you very much. This Friday, a group will be reconvened bringing together various users of the port. It will be jointly chaired by myself as Assembly Member and the Member of Parliament for Anglesey, and I’m grateful for the confirmation over the last three quarters of an hour that the Welsh Government will send an official to that meeting. But prior to that meeting, I would like to appeal for a very clear focus from the Welsh Government on supporting and investing in the port of Holyhead and the transport infrastructure serving that port, particularly as a result of the challenge of Brexit, competition from other ports such as Liverpool, and the challenge of direct crossings developing more and more from Ireland to France. We must ensure that the excellent port of Holyhead continues to be competitive for the sake of jobs directly there and, of course, for the wider economy of Anglesey and not just north Wales, but the whole of Wales too.

Mae Brexit yn her, wrth gwrs, i Gaergybi a'r porthladdoedd eraill fel Doc Penfro ac Abergwaun. Rwy'n cofio'r amser lle roedd yna dollau yng Nghaergybi. Nid oedd pawb yn cael eu tsiecio, ond ta beth, pe byddech chi'n cael eich dal yna, roedd yna broblem ynglŷn â'r ffaith eich bod chi'n gorfod aros ac wedyn symud ymlaen.

I fi, mae yna ddau beth. Yn gyntaf, nid ydym yn gwybod beth yn gwmws fydd yn digwydd rhwng Caergybi a'r Iwerddon. Rydym ni wedi dweud na ddylai dim byd fynd yna, wrth ddweud y dylai'r Deyrnas Unedig sefyll yn yr undeb tollau; mae hynny'n hollbwysig. Pan siaradais i ag Irish Ferries, un o'r pethau a oedd yn fy nharo i oedd eu bod nhw'n dweud wrthyf i fod yna botensial i fynd â'r llongau o Iwerddon i Ffrainc, ond nid yw'r capasiti yna yn yr un ffordd. Mae'n amhosibl i gael yr un capasiti a mynd rhwng, er enghraifft, Dulyn a Chaergybi. Y broblem iddyn nhw oedd sefyllfa lle bydden nhw'n mynd â rhywbeth fel pysgod, ffeindio yng Nghaergybi eu bod nhw'n ffaelu mynd mas o'r porthladd yn ddigon cyflym, wedyn colli'r fferi yn Dover, ac wedyn, wrth gwrs, colli'r cargo yn hollol. Roedd hynny yn rhywbeth roedden nhw'n ei weld yn hollbwysig i'w ddatrys. 

Ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw fath o fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y rhwydwaith yng Nghaergybi, ond beth na fyddwn i'n moyn ei weld fyddai tollau nac, yn waeth byth, unrhyw fath o reolaeth ynglŷn â phasbortau yng Nghaergybi. Dyna i gyd y byddai hynny yn ei wneud yw ei gwneud yn fwy anodd i ddefnyddio'r porthladd a rhoi mantais ynglŷn â chystadleuaeth i borthladdoedd fel Cairnryan a Lerpwl.   

Brexit, of course, is a challenge for Holyhead and the other ports such as Pembroke Dock and Fishguard. I can remember a time when there were tolls at Holyhead. Not everybody was checked, but if you were stopped there, there was a problem as regards a delay before moving on.

For me, there are two things. Firstly, we don’t know exactly what the relationship will be between Holyhead and Ireland. We’ve said that nothing should go there, by saying that the UK should remain in the customs union and that is vital. When I spoke to Irish Ferries, one thing that struck me was that they said there is potential as regards ferries going from Ireland to France directly, but that the capacity isn’t quite the same as that from Dublin to Holyhead. Their problem was that they would carry something like fish and then find that they couldn’t get out of the Holyhead port in time and then they would miss the ferry at Dover and their load would perish. That is something that they considered would have to be resolved.

At the moment, I don’t see any kind of investment from the United Kingdom Government in the network in Holyhead, but what I wouldn't like to see would be tolls and, even worse, we wouldn’t want to see any kind of passport control in Holyhead. All that that would do is make it even more difficult to use the port and give a competitive advantage to ports such as Cairnryan and Liverpool.

Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Bangor
Medical Education in Bangor University

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynyddu'r ddapariaeth o addysg feddygol ym Mhrifysgol Bangor? OAQ52201

9. Will the First Minister provide an update on increasing the provision of medical education in Bangor University? OAQ52201

Rydym ni’n parhau i gredu bod modd i Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag ysgolion meddygol Caerdydd ac Abertawe, gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol yn y gogledd. Rydym ni’n gweithio gyda’r prifysgolion ar gynigion i ddarparu addysg feddygol gynaliadwy yn y gogledd.

We remain of the view that Bangor University, working with Cardiff and Swansea medical schools, can deliver increased opportunities for medical education and training in north Wales. We are working with the universities on proposals for delivering sustainable medical education in north Wales.

Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fy mod i wedi bod yn blaenoriaethu ymgyrch i gael ysgol feddygol i Fangor oherwydd fy mod i'n credu ei fod o'n ffordd o wella gofal cleifion ar drws y gogledd. Mi wnes i gomisiynu'r adroddiad yma, 'Delio â'r Argyfwng', oedd yn amlinellu'r achos yn glir iawn. Fe gafwyd cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur a neilltuwyd £7 miliwn y flwyddyn tuag at ddatblygu cynllun i gynyddu hyfforddiant feddygol yn y gogledd. Rydw i'n falch bod y trafodaethau'n parhau ond fe hoffwn i fanylion ynglŷn â'r gwariant yma, yn enwedig yr elfen gwariant cyfalaf o'r arian sydd wedi'i glustnodi, ac mi hoffwn i gael ymrwymiad gennych chi heddiw y cawn ni ddatganiad clir yn dangos y cynnydd ar y mater yma, os gwelwch yn dda.  

You will be aware, of course, that I have been prioritising a campaign for a medical school at Bangor, because I believe that it is a means of improving patient care across north Wales. I commissioned this report, 'Tackling the Crisis', which outlined the case very clearly and there was an agreement between Plaid Cymru and the Labour Party and £7 million was allocated towards developing a plan for medical education in north Wales. I’m pleased that negotiations are ongoing but I would like some details on this expenditure, particularly the capital spend element of the funding allocated, and I would like a commitment from you today that we will receive a clear statement demonstrating the progress that’s been made in this area. Thank you.

14:15

Wel, fe allaf i roi'r ymrwymiad hwnnw. Mae'n bwysig i Fangor weithio gyda Chaerdydd ac Abertawe er mwyn cael mynediad i ysbytai mawr y de hefyd, er mwyn rhoi addysg gyflawn i unrhyw ddoctor sydd yn hyfforddi. Yr opsiwn arall yw gweithio gyda Lerpwl. Wel, i mi, mae'n well ein bod ni'n creu system addysg Gymreig ynglŷn a meddyginiaeth rhwng y de a'r gogledd. Mae'r gwaith yna yn parhau ac, unwaith y bydd y gwaith yn barod, rwy'n siŵr bydd yna ddatganiad yn cael ei wneud. 

I can give you that commitment. It is important that Bangor collaborates with Cardiff and Swansea in order to access the major hospitals in south Wales too, in order to give a complete education to any trainee doctors. The other option would be Liverpool, but, for myself, I would prefer to create a Welsh medical education system between the north and the south. That work continues and, once the work is ready, we will make a statement.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2. Business Statement and Announcement

Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James. 

The next item is the business statement and announcement and I call on the leader of the house to make that statement—Julie James.

Diolch, Llywydd. There are no changes to this week's business. Business for the next three weeks is shown on the business statement and announcement found amongst the meeting papers available to Members electronically. 

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Leader of the house, you will have heard the First Minister's exchange—the questions exchanged between myself and the First Minister in relation to any announcement that we might be able to expect as an Assembly on the awarding of the rail franchise. The Cabinet Secretary is on record as saying that this will be made in May 2018. Can you confirm as leader of the house that next week there will be a statement on the order of business for the Assembly to actually understand how the Government are going to make this announcement and indeed who is the successful bidder? Because, in my understanding, there are still only 12 working days left in May and it is very important, with such a substantial announcement that affects so many communities the length and breadth of Wales, that that statement is made in this Chamber so that Assembly Members are able to question the Cabinet Secretary in relation to the awarding of the tender and, importantly, the timetable for implementation of that tender. So, I'd be grateful if you could confirm that that piece of business will be taken next week.

And, secondly, in relation to the QC-led inquiry, could we have a statement from the First Minister or the relevant person in Government as to the progress of the QC-led inquiry into the reshuffle of last November? There's much press speculation in relation to the progress, or not, as the case may be, on this inquiry. I think it is only appropriate that, as Assembly Members, we understand how the work is going in this particular area and when the actual inquiry will begin its full engagement and undertake its inquiry. 

Arweinydd y Tŷ, byddwch wedi clywed y drafodaeth â'r Prif Weinidog—y cwestiynau rhyngof fi a'r Prif Weinidog ynghylch unrhyw gyhoeddiad y gallem ni fod yn ei ddisgwyl fel Cynulliad ar ddyfarnu masnachfraint y rheilffyrdd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar y cofnod y gwneir y cyhoeddiad hyw ym mis Mai 2018. A wnewch chi gadarnhau fel arweinydd y tŷ y bydd yna ddatganiad ar drefn busnes y Cynulliad yr wythnos nesaf i ddeall mewn gwirionedd sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y cyhoeddiad hwn, ac yn wir, pwy yw'r cynigydd llwyddiannus? Oherwydd, O'r hyn y deallaf i, dim ond 12 diwrnod gwaith sydd ar ôl ym mis Mai ac mae'n bwysig iawn, gyda chyhoeddiad sylweddol o'r fath sy'n effeithio ar gynifer o gymunedau ar hyd a lled Cymru, fod y datganiad yn cael ei wneud yn y Siambr hon fel y gall Aelodau'r Cynulliad holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch dyfarniad y tendr ac, yn bwysicaf oll, ynghylch yr amserlen ar gyfer g weithredu'r tendr hwnnw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi gadarnhau y caiff y darn hwnnw o fusnes ei gyflwyno yr wythnos nesaf.

Ac, yn ail, ynglŷn â'r ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, a gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog neu gan y person perthnasol yn y Llywodraeth am ddatblygiad yr ymchwiliad, sydd o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, i'r ad-drefniant fis Tachwedd diwethaf? Mae llawer o ddyfalu yn y wasg ar y cynnydd, neu fel arall, fel y mae'n digwydd, ar yr ymchwiliad hwn. Rwy'n credu ei bod yn hollol briodol i ni, fel Aelodau'r Cynulliad, ddeall sut y mae'r gwaith yn mynd yn y maes penodol hwn a pha bryd y bydd yr ymchwiliad yn dechrau ymgysylltu'n llawn a chynnal yr ymchwiliad.

In terms of the first question you asked, which you asked in FMQs as well—you can see the Cabinet Secretary explaining a complex process that goes with the procurement, but I'm sure there will be an announcement in May. There is the necessity for a stop—[Interruption.] Well, because of the procurement rules—and the Member, I know, is familiar with this—and because of the particular procurement route that's been taken, there is a standstill period between the initial announcement and the actual award of contract. So, a statement will be made, but it will be after the initial announcement, because of the way that the procurement rules work. But the Cabinet Secretary is nodding happily at me that we're on track and that the announcement will be made in line with the current timetable. 

O ran y cwestiwn cyntaf y gwnaethoch chi ei ofyn, sef yr un cwestiwn a ofynnoch chi yn ystod sesiwn cwestiynau i'r Prif Weinidog hefyd—gallwch weld Ysgrifennydd y Cabinet yn egluro proses gymhleth sydd ynghlwm wrth y gwaith caffael, ond rwy'n siŵr y bydd yna gyhoeddiad ym mis Mai. Mae'n angenrheidiol cael stop—[torri ar draws.] Wel, oherwydd y rheolau caffael—ac mae'r Aelod, rwy'n gwybod, yn gyfarwydd â hyn—ac oherwydd y llwybr caffael penodol a gymerwyd, ceir cyfnod segur rhwng y cyhoeddiad cychwynnol a dyfarniad y contract gwirioneddol. Felly, fe fydd datganiad yn cael ei wneud, ond fe fydd yn digwydd ar ôl y cyhoeddiad cychwynnol, oherwydd y ffordd y mae'r rheolau caffael yn gweithio. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus i mi i ddangos ein bod ni ar y trywydd cywir ac y caiff y cyhoeddiad ei wneud yn unol â'r amserlen bresennol.

Further to the point just raised around the QC-led inquiry that Andrew R.T. Davies asked about— another opportunity to answer that aspect, but, in particular, if you could confirm something that I've asked you in the past, whether the terms of reference of that inquiry will also be published by means perhaps of a First Minister's statement to the Assembly. Because I think we all have an interest to understand the terms of reference of the inquiry but, particularly, the extent of the inquiry in terms of the period of time that will be relevant to that QC-led inquiry. So, if you could confirm those and when we might hear about that in terms of future business.

The second item I wanted to raise with you is different, but many of us would have been shocked by the events in Gaza yesterday. It is not to excuse anything that Hamas or any other organisation does as an authority in Gaza to say that we do not and cannot accept the use of snipers to mow down thousands—literally thousands—of unarmed civilians. That is beyond any civilised Government's response in terms of protecting its borders or protecting its citizens. So, although this is not, I appreciate, an item for you or specifically for the Welsh Government, certainly people have been contacting me, people who are very upset about what was experienced. It's the worst that we've had for at least half a decade in that part. And, of course, the effects on overall peace in the middle east do affect us all because they affect the way we live our lives in our communities here and the way that many of our members of armed services might be involved in future as well. So, there is, I think, a real need for the Government to do two things, if possible: (1) simply for the First Minister to write to the Palestinian Authority just in terms of commiserating with the loss of life, not in a political way but simply just as a humanitarian gesture, and, secondly, to contact the Foreign Secretary Boris Johnson to urge the UK Government to take this up at the highest level, including at the United Nations.

I know that questions are being asked right now in the House of Commons about this, so I'm not quite sure where it is, but I just would like the Welsh Government to be part of that discussion and, particularly in your role then, for you to share that correspondence with us so that, when people do contact us, as they don't always know who we represent and what level we represent at, we're able to share with them the expressions of regret but also some positive action going forward trying to achieve the maximum opportunities—that's all we can talk about at this stage—for peace in that benighted land. 

Gan ymhelaethu ar y pwynt a godwyd nawr am yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines y gofynnodd Andrew R.T. Davies amdano—cyfle arall i ateb yr agwedd honno, ond, yn benodol, a wnewch chi gadarnhau rhywbeth yr wyf i wedi gofyn ichi yn y gorffennol, sef pa un a fydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn cael ei gyhoeddi, efallai drwy gyfrwng datganiad y Prif Weinidog i'r Cynulliad. Oherwydd, rwy'n credu bod gennym ni i gyd ddiddordeb mewn deall cylch gorchwyl yr ymchwiliad ond, yn enwedig, rhychwant yr ymchwiliad o ran y cyfnod o amser a fydd yn berthnasol i'r ymchwiliad hwnnw dan arweiniad Cwnsler y Frenhines. Felly, a wnewch chi gadarnhau hynny a pha bryd y gallem ni glywed am hynny o ran busnes yn y dyfodol.

Mae'r ail eitem y mae arnaf i eisiau ei godi gyda chi yn wahanol, ond byddai llawer ohonom ni wedi ein dychryn o weld y digwyddiadau yn Gaza ddoe. Nid yw'n cyfiawnhau unrhyw beth y mae Hamas neu unrhyw sefydliad arall yn ei wneud fel awdurdod yn Gaza i ddweud nad ydym ni ac na allwn ni dderbyn defnyddio saethwyr cudd i saethu miloedd—yn llythrennol, miloedd—o ddinasyddion di-arfau. Mae hynny'n mynd i'r tu hwnt i unrhyw ymateb gwâr gan Lywodraeth er mwyn diogelu ei ffiniau neu warchod ei dinasyddion. Felly, er nad yw hwn, rwy'n sylweddoli, yn eitem i chi neu i Lywodraeth Cymru yn benodol, y mae pobl yn sicr wedi bod yn cysylltu â mi, pobl sydd yn anhapus iawn am yr hyn a ddigwyddodd. Dyma'r peth gwaethaf a gawsom am o leiaf hanner degawd yn yr ardal honno. Ac, wrth gwrs, mae effeithiau ar heddwch yn y dwyrain canol yn gyffredinol yn effeithio arnom ni i gyd oherwydd eu bod yn effeithio ar y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau yn ein cymunedau yma a'r ffordd y gallai llawer o aelodau ein lluoedd arfog gael eu cynnwys yn y dyfodol hefyd. Felly, oes, rwy'n credu, mae gwir angen i'r Llywodraeth wneud dau beth, os yn bosibl: (1) y Prif Weinidog i ysgrifennu at Awdurdod Palesteina i fynegi cydymdeimlad o ran y bywydau a gollwyd, nid mewn modd gwleidyddol, ond yn hytrach dim ond fel arwydd dyngarol, ac, yn ail, i gysylltu â'r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, i annog Llywodraeth y DU i godi'r mater hwn ar y lefel uchaf un, gan gynnwys yn y Cenhedloedd Unedig.

Rwy'n gwybod bod cwestiynau yn cael eu gofyn ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Cyffredin am hyn, felly nid wyf yn hollol siŵr lle y maen nhw arni, ond hoffwn i i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o'r drafodaeth honno, ac, yn arbennig yn eich swyddogaeth chi, hoffwn i chi rannu'r ohebiaeth honno â ni, ac felly pan fydd pobl yn cysylltu â ni, gan nad ydyn nhw bob amser yn gwybod pwy ydym ni'n ei gynrychioli ac ar ba lefel, gallwn ni rannu'r geiriau o ofid â nhw, ond hefyd, gallwn rannu rhai camau cadarnhaol wrth symud ymlaen yn ceisio sicrhau'r cyfleoedd gorau—dyna'r cwbl y gallwn ni siarad amdano ar hyn o bryd—am heddwch yn y tir hwnnw, sydd mewn tywyllwch.

14:20

Yes, absolutely. Absolutely shocking scenes; I think all of us were just horrified at what we were seeing. I'm sure the Government will want to pass on its commiserations to the people who lost their lives in such an appalling way. It is a very worrying time in the middle east. There is a large number of things happening in slightly different spheres in the middle east, the complexity of which I think we haven't seen in many, many decades, if at all. So, I think the Member makes a series of very important points and I will certainly have a discussion with the First Minister about what can be done in terms of expressing the views of this place as to where we are with some of that. But I think, absolutely—. Presiding Officer, I'd like to pass on my own commiserations indeed to the people caught up in such an appalling conflict—terrible, terrible scenes.

In terms of the QC-led inquiry, my understanding is that we're still in discussion about the terms of reference and that that's very much a discussion ongoing between the QC, the family and the Government. Presiding Officer, if there is some information that's different to that that I'm unaware of, I will make sure that the Assembly knows, but I'm not aware that anything has changed other than that those negotiations are ongoing.

Ie, wrth gwrs. Golygfeydd cwbl ddychrynllyd; rwy'n credu bod pob un ohonom ni wedi ein harswydo gan yr hyn yr oeddem ni'n ei weld. Rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn dymuno estyn eu cydymdeimlad â'r bobl hynny a gollodd eu bywydau mewn ffordd mor ofnadwy. Mae'n amser pryderus iawn yn y dwyrain canol. Mae yna nifer fawr o bethau'n digwydd mewn meysydd ychydig yn wahanol yn y dwyrain canol, ac nid ydym wedi gweld cymhlethdod o'r math hwn ers degawdau lawer, lawer, os o gwbl. Rwy'n credu felly, fod yr Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn a byddaf yn sicr yn cael trafodaeth â'r Prif Weinidog am yr hyn y gellir ei wneud o ran mynegi barn y lle hwn, o ran lle'r ydym ni o ran hynny. Ond credaf, yn hollol—. Llywydd, hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad i fy hun yn wir â'r bobl a gafodd ei dal mewn gwrthdaro ofnadwy o'r fath—golygfeydd ofnadwy, ofnadwy.

O ran yr ymchwiliad dan arweiniad Cwnsler y Frenhines, fy nealltwriaeth i yw ein bod yn dal i fod mewn trafodaeth ynghylch y cylch gorchwyl a bod hynny'n drafodaeth barhaus i raddau helaeth rhwng Cwnsler y Frenhines, y teulu a'r Llywodraeth. Llywydd, os oes unrhyw wybodaeth sy'n wahanol i'r hon sydd gennyf i ac nad wyf yn ymwybodol ohoni, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael gwybod. Ond nid wyf yn ymwybodol bod unrhyw beth wedi newid heblaw bod y trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt.

I would like to ask for two statements. The first one—I would like a statement on the Welsh Government's proposals to improve public health, this to include the relationship between health and lifestyle. It should also include action to reduce obesity, increase exercise and improve diet, including what is being done to replace Communities First activity in this area.

The second one, which perhaps is more urgent—last week we were all surprised, shocked and disappointed to hear that Virgin Media were talking about closing and the loss of just under 800 jobs. The Welsh Government hadn't been consulted a great deal at that time, if at all, about it, and it's a matter of grave concern to me, as it's in my constituency, but I'm sure it is to you and our colleagues from the whole of west Glamorgan and east Dyfed, because people travel some distance to go to work. So, have you got any further update on how the Welsh Government is doing? I know the Cabinet Secretary talked about that actions could be taken and a taskforce and lots of other things, but we're now a week further on, people are further worried, as we all would be, or, as I said last week, as I was when redundancy hung over me. So, have we got any further updates on what is happening?

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf—hoffwn gael datganiad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wella iechyd cyhoeddus, a bod hwnnw'n cynnwys y berthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw. Dylai hefyd gynnwys camau i leihau gordewdra, cynyddu ymarfer corff a gwella deiet, gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei wneud i gymryd lle gweithgarwch Cymunedau yn Gyntaf yn y maes hwn.

Yr ail un, sydd efallai yn fater sydd angen sylw ar frys—yr wythnos diwethaf cawsom ni ein synnu, ein syfrdanu, a'n siomi o glywed bod Virgin Media yn sôn am gau a bod ychydig o dan 800 o swyddi yn cael eu colli. Doedd dim llawer iawn o ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru ar y pryd, os o gwbl, am hynny, ac mae'n destun pryder mawr i mi, gan ei fod yn digwydd yn fy etholaeth i. Ond rwy'n siŵr ei fod yn bryder i chi ac i'n cyd-aelodau o bob rhan o Orllewin Morgannwg a Dwyrain Dyfed, oherwydd bod pobl yn teithio cryn bellter i fynd i'w gwaith. Felly, a oes gennych chi unrhyw ddiweddariad pellach ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am gamau y gellid eu cymryd, a thasglu a llawer o bethau eraill. Ond mae wythnos wedi mynd heibio, mae pobl yn poeni'n fwy, fel y byddai pawb ohonom, neu, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, fel yr oeddwn i'n poeni pan oedd fy swydd i dan fygythiad. Felly, a oes rhagor o wybodaeth i ni am yr hyn sy'n digwydd?

Yes, indeed, on that matter, the Member will know, because he was there as well as me, that a large number of AMs from the region had a meeting with Virgin Media last week to discuss the situation that they find themselves in. I can't say that that meeting was entirely positive, but some positive discussions have been taking place since. Once the consultation period that was spoken of in the meeting last week is complete, which we understand is the week commencing now—so, at some point this week the consultation will have finished—then the taskforce has been agreed by Virgin Media to go in to assist people who are at threat of redundancy. We've had a very large number of positive discussions as the Welsh Government with other employers in the area who might have need of the skills of the people who are potentially displaced from Virgin Media and those have been going well. I'm delighted to say that Virgin Media have actually agreed that the taskforce will go in with their full co-operation, which is a serious step forward from where we were before. We continue to talk to other major employers in the area who might require the skills necessary for the displaced officials. I do very much regret that Virgin Media did not see fit to approach the Government first. You were in the meeting as well as I; it was very frustrating, where we were. But the Welsh Government has stepped forward and stands ready to support any employees that are displaced as a result of the activity there.

In terms of the public health matter, our proposals to improve public health definitely include the relationship between health and lifestyle. That includes all of the actions that the Member set out, and, in fact, it's set out in our flagship programme, 'Prosperity for All'. The Cabinet Secretary for Health and Social Services will be setting out our aims and ambitions to promote healthier weights in a forthcoming strategy to be consulted on later this year. That will include all local health boards and partners delivering against the all-Wales obesity pathway and also working with Public Health Wales and Sport Wales to deliver national actions to increase levels of physical activity and to develop a well-being bond, which will be launched in the coming weeks. So, very timely.

Ie, yn wir, ar y mater hwnnw, bydd yr Aelod yn gwybod, oherwydd ei fod wedi bod yno yn ogystal â mi, bod nifer fawr o Aelodau'r Cynulliad o'r rhanbarth wedi cyfarfod â Virgin Media yr wythnos diwethaf i drafod y sefyllfa y maen nhw ynddi. Ni allaf ddweud bod y cyfarfod hwnnw yn gwbl gadarnhaol, ond ers hynny cafwyd trafodaethau cadarnhaol. Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori, y soniwyd amdano yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf, ddod i ben, a fydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, yn digwydd yr wythnos sy'n dechrau nawr—felly, ar ryw adeg yr wythnos hon bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—yna cytunwyd ar y Tasglu gan Virgin Media i fynd i gynorthwyo pobl sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo. Rydym wedi cael nifer fawr o drafodaethau cadarnhaol, fel Llywodraeth Cymru, â chyflogwyr eraill yn yr ardal a allai fod angen sgiliau'r bobl hynny a fydd o bosib yn colli eu swyddi gyda Virgin Media ac mae'r trafodaethau wedi bod yn mynd yn dda. Rwy'n falch o ddweud bod Virgin Media mewn gwirionedd wedi cytuno y bydd yn cydweithredu'n llwyr â'r tasglu, sy'n gam ymlaen sylweddol o'r lle'r oeddem ni o'r blaen. Rydym ni'n parhau i siarad â chyflogwyr mawr eraill yn yr ardal a allai fod angen y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddogion sydd wedi'u dadleoli. Mae'n flin iawn gennyf nad ystyriodd Virgin Media fod angen cysylltu â'r Llywodraeth yn gyntaf. Roeddech chi yn y cyfarfod yn ogystal â minnau; roedd y sefyllfa'n un rhwystredig iawn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi camu ymlaen ac yn barod i helpu unrhyw weithwyr sy'n colli eu swyddi o ganlyniad i'r gweithgarwch yno.

O ran y mater am iechyd y cyhoedd, mae ein cynigion i wella iechyd y cyhoedd yn bendant yn cynnwys y berthynas rhwng iechyd a ffordd o fyw. Mae hynny'n cynnwys pob un o'r camau a nodwyd gan yr Aelod, ac, yn wir, maen nhw wedi eu nodi yn ein rhaglen flaenllaw, 'Ffyniant i Bawb'. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno ein nodau a'n huchelgeisiau i hyrwyddo pwysau iachach mewn strategaeth sydd i ddod, y bydd ymgynghoriad arni yn nes ymlaen eleni. Bydd hynny'n cynnwys yr holl fyrddau iechyd lleol a'r partneriaid yn cyflawni yn erbyn y llwybr gordewdra yng Nghymru gyfan. Bydd hefyd yn cynnwys gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru i gyflawni camau gweithredu cenedlaethol i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ac i ddatblygu bond llesiant, a fydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf. Felly, mae hyn yn amserol iawn.

14:25

Could I call for two statements, or responses to two matters? The first on advance care planning: this is actually Dying Matters Week, from the 14 May to 20 May. Macmillan Cancer Support have published their report into advance care planning across the UK, including Wales, called 'Missed Opportunities', and they've asked me as chair of the cross-party group on hospices and palliative care to both raise this report and highlight the fact that this is Dying Matters Week in the Assembly this week.

They're urging the Welsh Government to honour its commitments, set primarily within its palliative and end-of-life care delivery plan, to support and roll out advance care planning and put the systems in place to ensure that advance care plans are acted upon as an important part of a person-centred health service, ensuring that people approaching the end of their lives receive the best care possible and that their wishes for death and dying are fulfilled.

Briefly, their report found that although almost a quarter of people with cancer in Wales have difficulty talking honestly about their feelings around cancer, more than three quarters of people with cancer in Wales have thought about the fact that they may die from the disease. However, in-depth conversations with health and social care professionals and people with cancer reveal there are a number of barriers preventing honest conversations about dying from taking place, not least the pressure to stay positive and support people to fight cancer even when they've received a terminal diagnosis. This, hopefully, might merit more than simply a response from yourself now, but a Welsh Government statement, given the importance of this matter to all of us, because it does affect all of us in our lives.

Secondly, and finally, could I call for a statement or even, dare I say, a debate in Welsh Government time on another equally important matter, and that's support to the deaf community and people with hearing loss in Wales, because 14 May to 21 May is also Deaf Awareness Week? Deaf Awareness Week aims to raise the awareness and challenges of deafness and hearing loss, ensure access for deaf people to information and services at first point of contact, promote equal access in health settings, particularly in reception areas, ensure accurate diagnosis and appropriate treatment, provide clear and concise information about treatment and health management, and engage with and involve local deaf communities on a regular basis—also to improve access to education and social care, ensure people have the access to information they need, advocate and inform government and the public at large about deafness and hearing loss, improve services, but, above all, raise the profile and importance of equality, accessibility and recognition by supporting deaf access and communications, employment, British Sign Language and the deaf Olympics, noting, for example—and I'll finish with this—that although a checklist developed as a practical supplement to the all-Wales standards for communication and information for people with sensory loss was sent to health boards and health establishments across Wales, deaf organisations in Wales report that many health boards and establishments have not taken this on as a way of tackling the inequalities faced by British Sign Language users in Wales. I hope you agree that that merits a more substantive response from the Welsh Government in this place. Thank you.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, neu ymatebion i ddau fater? Y cyntaf ar gynllunio gofal ymlaen llaw: yn wir, mae'n wythnos 'Dying Matters' rhwng 14 Mai a 20 Mai. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gynllunio gofal ymlaen llaw ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, o'r enw 'Colli Cyfle'. Maen nhw wedi gofyn i mi, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol, i godi ymwybyddiaeth o'r adroddiad hwn ac i dynnu sylw at y ffaith ei bod yn wythnos 'Dying Matters' yn y Cynulliad yr wythnos hon.

Maen nhw'n annog Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau, yn bennaf o fewn ei chynllun cyflenwi gofal lliniarol a diwedd oes, i gefnogi a chyflwyno cynllunio gofal ymlaen llaw a rhoi systemau ar waith i sicrhau y gweithredir ar gynlluniau gofal ymlaen llaw fel rhan bwysig o wasanaeth iechyd sy'n canolbwyntio ar y person, gan wneud yn siŵr bod pobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes yn cael y gofal gorau posib a bod eu dymuniadau ar gyfer marwolaeth a marw yn cael eu cyflawni.

Yn fyr, canfu'r adroddiad fod mwy na thri chwarter y bobl â chanser yng Nghymru wedi meddwl am y ffaith y gallent farw o'r clefyd, er bod bron i chwarter y bobl sydd â chanser yng Nghymru yn cael trafferth siarad yn onest am eu teimladau ynghylch canser. Fodd bynnag, mae sgyrsiau manwl gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a phobl â chanser yn datgelu bod nifer o rwystrau sy'n atal sgyrsiau gonest am farw rhag digwydd. Mae hyn yn cynnwys y pwysau ar bobl barhau i fod yn gadarnhaol a'u cefnogi i ymladd canser hyd yn oed ar ôl cael diagnosis terfynol. Gobeithio y bydd hyn yn haeddu mwy na dim ond ymateb gennych chi nawr, ond hefyd ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, o ystyried pwysigrwydd y mater hwn i bob un ohonom ni, gan ei fod yn effeithio ar bob un ohonom ni yn ein bywydau.

Yn ail, ac yn olaf,  a gaf i alw am ddatganiad neu hyd yn oed, os meiddiaf ddweud, ddadl yn amser Llywodraeth Cymru ar fater arall sydd yr un mor bwysig, a hwnnw yw cymorth i'r gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw yng Nghymru, oherwydd mae 14 i 21 Mai yw Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar hefyd? Nod Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar yw codi ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a cholli clyw a'u heriau, sicrhau bod gan bobl fyddar fynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar y prif bwynt cyswllt, hyrwyddo mynediad cyfartal mewn lleoliadau iechyd, yn enwedig mewn derbynfeydd, sicrhau bod diagnosis cywir a thriniaeth briodol, darparu gwybodaeth glir a chryno am driniaeth a rheoli iechyd, ac ymgysylltu â chymunedau o bobl fyddar lleol yn rheolaidd a'u cynnwys—hefyd, gwella mynediad at addysg a gofal cymdeithasol, sicrhau bod gan bobl fynediad at yr wybodaeth y maen ei hangen arnynt, eirioli a hysbysu'r llywodraeth a'r cyhoedd yn gyffredinol am fyddardod a cholli clyw, gwella gwasanaethau, ond, yn anad dim, godi proffil a phwysigrwydd cydraddoldeb, hygyrchedd a chydnabyddiaeth i bobl fyddar drwy gefnogi hygyrchedd a chyfathrebu, cyflogaeth, Iaith Arwyddion Prydain a Gemau Olympaidd i bobl fyddar, gan nodi, er enghraifft—a byddaf yn gorffen â hyn—er yr anfonwyd rhestr wirio, a ddatblygwyd i ategu safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd wedi colli cynneddf y synhwyrau, i fyrddau iechyd a sefydliadau iechyd ledled Cymru, mae sefydliadau pobl fyddar yng Nghymru yn dweud nad yw llawer o fyrddau iechyd a sefydliadau wedi mabwysiadu hyn fel ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hynny'n haeddu ymateb mwy sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn y lle hwn. Diolch.

Yes, on that last one, I've actually been, with my equalities hat on, having a series of discussions with a number of Cabinet colleagues, and had a very useful meeting with Mike Hedges AM on this as well about the services for people with hearing loss around a whole range of issues, including in education, in health settings, in general communications areas and so on. Actually, as part of my own brief with my equalities hat on, I hope to be at least including it as part of my statement, if not bringing forward a separate statement. So, we will have an opportunity before the end of the summer term in my portfolio to cover off some of those areas, because we've been working across Government. So, I entirely agree with the Member that it needs a cross-Government look, because it's a whole-of-life situation for many people. So, we will have that opportunity before the end of the summer term to do that. 

I was being indicated to by the Cabinet Secretary that we are already working very hard on the advance end-of-life care pathways and that we will be bringing forward a statement in due course, setting out what we're doing on that as well. 

Ie, ar yr un olaf, yn wir, gan wisgo fy het cydraddoldeb, rwyf wedi bod yn cael cyfres o drafodaethau gyda nifer o gyd-aelodau yn y Cabinet, a chefais gyfarfod defnyddiol iawn gyda Mike Hedges AC ar hyn a hefyd am y gwasanaethau ar gyfer pobl fyddar sy'n ymwneud ag ystod gyfan o faterion, gan gynnwys addysg, lleoliadau iechyd, meysydd cyfathrebu'n gyffredinol ac ati. Mewn gwirionedd, yn rhan o fy mriff fy hun, gan wisgo fy  het cydraddoldeb, rwy'n gobeithio y byddaf o leiaf yn ei gynnwys yn rhan o fy natganiad, os nad yn cyflwyno datganiad ar wahân. Felly, bydd gennym ni'r cyfle cyn diwedd tymor yr haf  i ymdrin â rhai o'r meysydd hynny yn fy mhortffolio i, oherwydd ein bod wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod bod angen cael golwg traws-lywodraethol ar hyn, gan ei bod yn sefyllfa gydol oes i lawer o bobl. Felly, bydd cyfle cyn diwedd tymor yr haf i wneud hynny.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi i mi ein bod ni eisoes yn gweithio'n galed iawn i ddatblygu'r llwybrau gofal diwedd oes ac y byddwn ni'n cyflwyno datganiad maes o law, gan nodi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar hynny hefyd.

14:30

Leader of the house, I bring two issues for your attention. Last night, I attended a packed public meeting in Cwmgwrach in the Neath valley—Jeremy Miles was also there—where universal opposition to a plan to build a garage complex in the village was voiced. Now, we've been lobbying and writing to the local authority for many months. Alternative plans are available. The original planning decision was passed last year, with few people even knowing about it. There's huge anger and concern locally in terms of what this Assembly can and cannot do. So, can we have a Government statement on any future changes in planning guidance that truly reflect the concerns of local residents in such matters, who cannot appeal, whereas the applicant can? 

My second issue involves Abertawe Bro Morgannwg health board. Back in March, I raised the fact that Abertawe Bro Morgannwg local health board had been under Welsh Government targeted intervention since September 2016. The concerns that existed at that time centred around unscheduled care, stroke and planned care, amongst others. There's still concern locally with regards to the delivery of national performance targets and ABMU's ability to deliver sustainable services in the long run. Back in March, I asked for the Cabinet Secretary for health to bring forward a debate with a particular focus on improvements against the targeted intervention priorities in ABMU. In response, you stated that the Cabinet Secretary would bring forward an end-of-year statement. Given that we are now post end of year, can you provide me with the details of when we'll get that opportunity to scrutinise the performance of ABMU, mindful that it is nearly two years since it was put into targeted intervention status by Welsh Government? Diolch. 

Arweinydd y tŷ, rwy'n cyflwyno dau fater i'ch sylw. Neithiwr, bûm mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn yng Nghwmgwrach yng Nghwm Nedd—roedd Jeremy Miles yno hefyd—lle y mynegwyd gwrthwynebiad unfrydol i gynllun i adeiladu garej yn y pentref. Nawr, rydym ni wedi lobïo ac ysgrifennu i'r awdurdod lleol ers misoedd lawer. Mae cynlluniau amgen ar gael. Pasiwyd y penderfyniad cynllunio gwreiddiol y llynedd, a dim ond ychydig o bobl oedd yn gwybod am hynny. Mae llawer o ddicter a phryder yn lleol o ran yr hyn a all y Cynulliad hwn ei wneud a'r hyn na all ei wneud. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Llywodraeth ar unrhyw newidiadau i ganllawiau cynllunio yn y dyfodol a fydd yn adlewyrchu'n wirioneddol bryderon am faterion o'r fath sydd gan drigolion lleol, na allan nhw apelio, tra gall yr ymgeisydd wneud hynny?

Mae fy ail fater yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg. Yn ôl ym mis Mawrth, mynegais y ffaith fod Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2016. Roedd y pryderon a oedd yn bodoli ar y pryd yn canolbwyntio ar ofal heb ei drefnu, gofal wedi'i gynllunio a strôc, ymysg pethau eraill. Mae pryderon o hyd yn lleol o ran cyflawni targedau perfformiad cenedlaethol a gallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy yn y tymor hir. Ym mis Mawrth, gofynnais i i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd gyflwyno dadl sy'n canolbwyntio'n benodol ar welliannau yn erbyn blaenoriaethau a dargedwyd gan yr ymyrraeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Mewn ymateb, dywedasoch y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad diwedd y flwyddyn. O ystyried ein bod erbyn hyn wedi pasio diwedd y flwyddyn, a wnewch chi roi manylion i mi o ran pryd y cawn y cyfle hwnnw i graffu ar berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, o gofio bod bron dwy flynedd ers iddo gael ei roi o dan ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru? Diolch.

On that, I understand that the Cabinet Secretary is bringing forward that statement shortly. So, you will have that opportunity. I'll also say that a large number of us who work in the ABMU area and represent people from that area have been having a series of meetings with the health board, both the chair and the chief executive. I know a number of other Assembly Members, and David Rees in particular, have been raising issues with the health board around some of those issues as well. So, the Cabinet Secretary is aware of all of those. 

In terms of the planning consent, I was aware that you and Jeremy Miles were at the packed public meeting. Obviously, we can't comment on individual planning matters, but there is an extant  planning consultation out on 'Planning Policy Wales', and that would be an appropriate point to put in anything that you think is missing from that, including some of the issues that are always raised with all of us around what people who oppose an application can do in the light of planning consent being granted when they're not very happy about it. And I'm sure, Presiding Officer, that that's something that all of us have in our postbags every day of the week. So, it's an appropriate time to put that into the consultation. 

Ar hynny, rwy'n deall y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno'r datganiad hwnnw cyn bo hir. Felly, byddwch yn cael y cyfle hwnnw. Fe wnaf i hefyd ddweud bod nifer fawr ohonom ni, sy'n gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac yn cynrychioli pobl o'r ardal honno, wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd â'r Bwrdd Iechyd, y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Rwy'n gwybod bod nifer o Aelodau eraill y Cynulliad, a David Rees yn arbennig, wedi bod yn codi materion gyda'r Bwrdd Iechyd ynghylch rhai o'r materion hynny hefyd. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r rheini i gyd.

O ran y caniatâd cynllunio, roeddwn i'n ymwybodol bod Jeremy Miles a chithau wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus gorlawn. Yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar faterion cynllunio unigol, ond mae ymgynghoriad cynllunio yn bodoli ar 'Bolisi Cynllunio Cymru', a byddai hynny'n bwynt priodol i gynnwys unrhyw beth y credwch chi sydd ar goll o hynny, gan gynnwys rhai o'r materion sydd bob amser yn cael eu codi gyda phob un ohonom ni ynghylch yr hyn y gall pobl sy'n gwrthwynebu cais ei wneud yng ngoleuni rhoi caniatâd cynllunio pan nad ydyn nhw'n hapus iawn am y peth. Ac rwy'n siŵr, Llywydd, fod hynny'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei gael yn ein sach bost bob dydd o'r wythnos. Felly, mae'n amser priodol i roi hynny yn yr ymgynghoriad.

Following on from the task and finish group review of breastfeeding support and practices in maternity and early years settings, which has just been published, would the leader of the house look for opportunities for us to highlight the importance of breastfeeding and to debate the issues raised in this document, as it is absolutely essential for the future health of our children that women are encouraged and supported to breastfeed? I think we're all aware that the breastfeeding rates have been static in Wales for a number of years. 

Yn dilyn adolygiad y grŵp gorchwyl a gorffen o gymorth bwydo ar y fron a'r arferion mewn lleoliadau mamolaeth a blynyddoedd cynnar, sydd newydd ei gyhoeddi, a fyddai arweinydd y tŷ yn edrych am gyfleoedd inni dynnu sylw at bwysigrwydd bwydo ar y fron ac i drafod y materion a godwyd yn y ddogfen hon, gan ei bod yn gwbl hanfodol i iechyd ein plant bod menywod yn cael eu hannog a'u cefnogi i fwydo ar y fron yn y dyfodol? Rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn ymwybodol bod y cyfraddau bwydo ar y fron wedi bod yn sefydlog yng Nghymru am nifer o flynyddoedd.

The Member raised a very important point, and again, in a meeting in my own constituency very recently, I was very moved to say that I was very disappointed that all of the experiences that I had in attempting to breastfeed my own children, some 30-odd years ago, were being experienced by young women today. So, that's not good enough. And there are a number of things we can do across the Government. It's not just about health, is it? It's about social acceptability and the ability of people to be able to be comfortable with what is, after all, a very natural function and all the rest of it. As you said, an expert group was set up to look at the issues and provide recommendations. The Cabinet Secretary did issue a written statement last week, and he is indicating that he would be more than happy to arrange for a meeting with one of the senior nursing officers within the chief nursing officer's office if Members want to discuss that more. And then, depending on the outcome of that, we can see what we can do to take it forward.

Cododd yr Aelod bwynt pwysig iawn, ac unwaith eto, mewn cyfarfod yn fy etholaeth i yn ddiweddar iawn, gyda thristwch y dywedaf fy mod i'n siomedig iawn bod menywod ifanc heddiw yn cael yr un profiadau â'r rhai a gefais i yn ceisio bwydo fy mhlant i fy hun ar y fron ryw 30 mlynedd yn ôl. Nid yw hynny'n ddigon da. Ac mae nifer o bethau y gallwn ni eu gwneud ar draws y Llywodraeth. Nid yw hyn yn ymwneud ag iechyd yn unig, yw e? Mae'n ymwneud â'r hyn sy'n dderbyniol yn gymdeithasol a gallu pobl i fod yn gyfforddus â'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn swyddogaeth naturiol iawn ac ati. Fel y dywedasoch, sefydlwyd grŵp o arbenigwyr i edrych ar y materion a rhoi argymhellion. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, ac mae'n nodi y byddai'n fwy na pharod i drefnu cyfarfod ag un o'r uwch swyddogion nyrsio o Swyddfa'r prif swyddog nyrsio pe bai'r Aelodau eisiau trafod hyn ymhellach. Ac yna, yn ddibynnol ar ganlyniad hynny, cawn weld beth y gallwn ei wneud i fwrw ymlaen ag ef.

14:35

Leader of the house, may I ask for a statement from the Cabinet Secretary for health on waiting times for heart bypass surgery in Wales? Official statistics show that patients were waiting an average of 79 days between April 2016 and May 2017 for surgery, compared to 43 days the previous year. The average wait for heart bypass in England was 51 days, 28 days fewer than in Wales. Please could we have a statement from the Cabinet Secretary on this unacceptable long wait for vital surgery? 

My second request to the finance Minister is: just before the Easter holidays, £6 million was given to Cardiff Airport. I'm pretty sure it's public funding going for good reasons, but I think we have a right to ask where this money was going, and in what direction, because the company, or the airport, in fact—Qatar came in earlier this month. So, for what purpose was the money injected, and how is profit-making business going to be improved in Cardiff Airport? Thank you.

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar amseroedd aros am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yng Nghymru? Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod cleifion wedi bod yn aros ar gyfer llawdriniaeth 79 diwrnod ar gyfartaledd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mai 2017, o gymharu â 43 diwrnod y flwyddyn flaenorol. Yr amser aros cyfartalog am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yn Lloegr oedd 51 diwrnod, 28 diwrnod yn llai nag yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar aros hir annerbyniol hwn am lawdriniaeth hanfodol?

Fy ail gais at y Gweinidog Cyllid yw: ychydig cyn gwyliau'r Pasg, rhoddwyd £6 miliwn i faes awyr Caerdydd. Rwy'n eithaf sicr mai cyhoeddus cyllid sy'n mynd am resymau da, ond rwy'n credu bod gennym ni'r hawl i ofyn ble roedd yr arian hwn yn mynd, ac i ba gyfeiriad, gan fod y cwmni, neu faes awyr, mewn gwirionedd—daeth Qatar yn gynharach y mis hwn. Felly, i ba ddiben roedd y chwistrelliad ariannol, a sut mae'r busnes sy'n gwneud elw yn mynd i gael ei wella ym Maes Awyr Caerdydd? Diolch.

The Member raises points that he obviously cares very much about, but there are appropriate moments to ask those questions—very specific questions—of various Cabinet Secretaries during oral Assembly questions, or, indeed, in written questions, and I don't think either of them warrants a statement from the Government. I would suggest the Member either puts them in as written questions or, indeed, raises them during oral Assembly questions with the relevant Cabinet Secretary, which is next week, in fact.

Mae'r Aelod yn codi pwyntiau ei fod yn amlwg yn teimlo yn agos at ei galon, ond mae adegau priodol i ofyn y cwestiynau hynny—cwestiynau penodol iawn—i Ysgrifenyddion Cabinet amrywiol yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad, neu, yn wir, mewn cwestiynau ysgrifenedig, a dydw i ddim yn meddwl bod y naill na'r llall ohonyn nhw'n haeddu datganiad gan y Llywodraeth. Byddwn yn awgrymu i'r Aelod naill ai eu rhoi fel cwestiynau ysgrifenedig neu, yn wir, eu codi yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad gyda'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol, sef yr wythnos nesaf, mewn gwirionedd.

Mae gen i ddau fater yr hoffwn i eu codi efo chi, os gwelwch yn dda. Y cyntaf: yn y cytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llafur, fe neilltuwyd £2 filiwn tuag at hyrwyddo cydweithio rhwng siroedd y gorllewin ar faterion strategol ieithyddol ac economaidd. Yn anffodus, mae yna ddryswch o hyd ynglŷn â pha Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun pwysig yma, neu o leiaf nid ydym yn gallu cael y wybodaeth honno. A fedrwch chi ysgrifennu ataf fi, tybed, efo eglurder ynglŷn â hynny? Mae gan Blaid Cymru gynllun sydd wedi cael ei ddatblygu efo arweinwyr llywodraeth leol, ac mae angen i hwn gael ei roi ar waith cyn gynted â phosib.

Yr ail beth ydy’r cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf bod awdurdod tân ac achub y gogledd yn wynebu toriadau cyllid sylweddol, a bod yna nifer o opsiynau wedi cael eu cyflwyno, yn cynnwys torri ar wasanaethau yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, rwy’n deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn â llywodraethiant ac ariannu, ac efallai byddai’n gwneud mwy o synnwyr i hwnnw ddigwydd yn gyntaf cyn bod unrhyw doriadau yn dod. Felly, a gawn ni ddatganiad gan eich Llywodraeth chi am ddyfodol y gwasanaethau tân ac achub ar draws Cymru, os gwelwch yn dda?

I have two issues I’d like to raise with you. The first: in the budget agreement between Plaid Cymru and Labour, £2 million was allocated to promote co-operation between western counties on strategic linguistic and economic issues. Unfortunately, there is still confusion as to which Cabinet Secretary is responsible for this important programme, or at least we can’t access that information. So, would you write to me in order to clarify that particular issue? Plaid Cymru does have a proposal that is well developed with local government leaders, and this needs to be implemented as soon as possible.

The second issue is the announcement last week that the fire and rescue authority in north Wales is facing substantial budgetary cuts. There are a number of options that have been presented, including cutting services in my own constituency. At the moment, I understand that there is a consultation ongoing on the governance and funding in this area, and it may make more sense for that to happen first before any cuts are made. So, could we have a statement from your Government on the future of fire and rescue services across Wales?

On the second one, it is absolutely right that we should have a consultation. There will be an opportunity to ask the Cabinet Secretary about that. This is a very specific concern that, Siân Gwenllian, you're raising, which I'm not sure I entirely caught. So, perhaps if you wouldn't mind writing with that very specific concern, we could address it more directly. But apologies; I'm not sure I quite caught the point you were making, other than the general point about it. So, perhaps you wouldn't mind writing with that specific.

In terms of the first, the Cabinet Secretary is indicating to me that he's more than happy to clarify what the arrangements for the budget settlement are.

Ar yr ail un, mae'n hollol iawn y dylem ni gael ymgynghoriad. Bydd cyfle i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Pryder penodol iawn yw'r hwn yr ydych chi, Siân Gwenllïan,yn ei godi, a dydw i ddim yn siŵr fy mod i wedi deall yn llwyr. Felly, efallai os na fyddai ots gennych chi i ysgrifennu gyda'r pryder penodol iawn hwnnw, gallem ni ymdrin â hyn yn fwy uniongyrchol. Ond ymddiheuriadau; Nid wyf yn siŵr y daliais y pwynt yr oeddech chi'n ei godi, heblaw'r pwynt cyffredinol am y peth. Felly, efallai na fyddai ots gennych chi i ysgrifennu am hyn yn benodol.

O ran y cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi i mi ei fod yn fwy na pharod i egluro beth yw'r trefniadau ar gyfer setliad y gyllideb.

This week is also mental health awareness week, and the focus of this year's campaign is stress. I am extremely proud to be wearing my green ribbon today in the Chamber in support of mental health awareness week. I want to begin by thanking all the Members from across the Chamber, and their support staff and staff from the Assembly, for joining me earlier outside on the Senedd steps for a photo in support of the campaign. Coming together to show support is so important, and it goes a long way in saying that it is okay not to be okay.

I have two things I'd like to raise in particular today. Firstly, will the leader of the house join me in paying tribute to those thousands of people who work for charities and organisations that help people with mental illness?

Finally, I want to take this time and opportunity to put on the record and inform Members and the wider general public that my family and I are very pleased to announce the first donation from the Carl Sargeant memorial fund. As this is mental health awareness week, we have decided to donate the money from the fund towards Cruse in north Wales. Cruse provides vital bereavement support, advice and information to children, young people and adults who need it when someone dies, and I know personally how important that support is. I hope that this donation will play some part in ensuring that organisations like Cruse and so many others can continue to offer the vital mental health support that is so, so important to people across north Wales and the whole of the UK, for those who desperately need it. Thank you.

Wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl yw'r wythnos hon hefyd a phrif bwyslais yr ymgyrch eleni yw straen. Rwy'n hynod falch o fod yn gwisgo fy rhuban gwyrdd heddiw yn y Siambr i gefnogi'r wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i'r holl aelodau o ar draws y Siambr, ac i'w staff cynorthwyol a staff y Cynulliad, am ymuno â mi y tu allan yn gynharach ar risiau'r Senedd am lun i gefnogi'r ymgyrch. Mae dod ynghyd i ddangos cefnogaeth mor bwysig, ac mae'n mynd yn bell yn dweud ei bod yn iawn i beidio â bod yn iawn.

Mae gennyf i ddau beth yr hoffwn eu codi heddiw yn enwedig. Yn gyntaf, a wnaiff Arweinydd y tŷ ymuno â mi i dalu teyrnged i'r miloedd o bobl sy'n gweithio i elusennau a mudiadau sy'n helpu pobl gyda salwch meddwl?

Yn olaf, hoffwn i gymryd amser ac achub ar y cyfle i gofnodi a rhoi gwybod i'r Aelodau ac i'r cyhoedd cyffredinol ehangach hwn yn gyhoeddus bod fy nheulu a minnau yn falch iawn o gyhoeddi y rhodd gyntaf gan Gronfa Goffa Carl Sargeant. Gan mai hon yw wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, rydym ni wedi penderfynu rhoi arian o'r Gronfa tuag at Cruse yng Ngogledd Cymru. Mae Cruse yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth hanfodol ar gyfer profedigaeth, i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd eu hangen pan fydd rhywun yn marw, ac rwy'n gwybod yn bersonol pa mor bwysig yw'r gefnogaeth honno. Rwy'n gobeithio y bydd y rhodd hon yn chwarae rhyw ran i sicrhau y gall sefydliadau fel Cruse a chynifer eraill barhau i gynnig y cymorth iechyd meddwl hanfodol sydd mor bwysig i bobl ledled Gogledd Cymru a'r DU gyfan, ar gyfer y rhai sydd ei angen yn daer. Diolch.

14:40

Of course I'm absolutely delighted to join with you in congratulating and being very grateful to all of the people who volunteer in mental health services across Wales, and indeed across the UK and the world. Of course, the great thing about that is that we know that volunteering also assists with your own mental health, so it is a great virtuous circle, which I'm very delighted to encourage and applaud. I'm very, very pleased to hear about the first donation from the Carl Sargeant memorial fund. I'm sure that the organisation will be delighted and I'm sure that your father would've been very delighted with it as well.

I was very pleased to be part of your photograph. I particularly chose this poster, Llywydd, that says, 'We're all different, accept and be proud of who you are rather than wishing you were more like someone else.' I'm very pleased to have that, because, of course, it goes alongside our This is Me campaign, which we're very keen on promoting and is very much about mental health awareness. It's also about lack of stereotyping, particularly gender stereotyping, but any kind of stereotyping, because that's also very important for mental health. It's extremely important that we all accept who we are and that everybody around us accepts who we are as well. So, I was very delighted to be part of that, Jack, and congratulations on that first donation.

Wrth gwrs fy mod i'n falch iawn o ymuno â chi i longyfarch a bod yn ddiolchgar iawn i'r holl bobl sy'n gwirfoddoli mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, ac yn wir ar draws y DU a'r byd. Wrth gwrs, y peth gwych am hynny yw ein bod yn gwybod bod gwirfoddoli hefyd o gymorth â'ch problemau iechyd meddwl eich hun, felly mae'n arbennig o rinweddol, ac rwy'n falch iawn o annog a chanmol. Rwy'n falch iawn o glywed am y rhodd gyntaf gan Gronfa Goffa Carl Sargeant. Rwy'n siŵr y bydd y sefydliad yn falch ac rwy'n siŵr y byddai eich tad wedi bod yn falch iawn o hyn hefyd.

Roeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'ch llun. Dewisais y poster hwn yn benodol, Llywydd, sy'n dweud, 'Rydym ni i gyd yn wahanol, derbyniwch a byddwch yn falch o bwy ydych chi, yn hytrach na dymuno bod yn fwy fel rhywun arall'. Rwy'n falch iawn o gael hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'n mynd ochr yn ochr â'n hymgyrch 'Dyma fi', a rydym ni'n awyddus iawn i'w hyrwyddo ac mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae a wnelo hefyd â pheidio â stereoteipio, yn enwedig stereoteipio o ran rhywedd, ond unrhyw fath o stereoteipio, oherwydd bod hynny hefyd yn bwysig iawn i iechyd meddwl. Mae'n bwysig iawn inni i gyd dderbyn pwy ydym ni a bod pawb o'n hamgylch yn derbyn pwy ydym ni hefyd. Felly, yr oeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o hynny, Jack, a llongyfarchiadau ar y rhodd gyntaf honno.

Can I concur with the sentiments of Jack Sargeant? I was pleased to attend the six-month memorial dinner last week. I'm pleased to hear that around £3,000 was raised at that dinner and I think that the decision to donate the first tranche of funds to the Cruse charity in north Wales is a very good one. I know that Carl would've been proud of your efforts in this regard, and also proud of the support he's had from Assembly Members.

Can I secondly say that yesterday, I had the pleasure of attending, along with the Minister for Culture, Tourism and Sport, who's deep in his e-mails over there—you got a name check—the launch of the Museum of the Moon exhibition at Tintern abbey? I can see you looking shocked—'What is this?' I felt the same until I went. It was an art exhibition from internationally acclaimed artist Luke Jerram—a really fantastic event, which had a 7m large moon suspended in the middle of Tintern abbey. At night, that's illuminated and provides an amazing spectacle for locals and also tourists. That's attracting a different type of tourist from across the world, as art exhibitions can do. So, I wonder if we could have a statement in the light of yesterday's event, from the Minister, as to how—don't worry, not in the immediate future, you've got time to think about it—we're going to use our great historic buildings, such as Tintern abbey, as venues for different types of events, to attract a different type of tourist, so that we make the very most of the culture and heritage we have in Wales, bringing together different spheres so that people from across the world can benefit from the best that Wales has to give.

A gaf i ymuno â sylwadau Jack Sargeant? Roeddwn i'n falch o fod yn y cinio coffáu chwe mis yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o glywed bod tua £3,000 wedi eu codi yn y cinio hwnnw, a chredaf fod y penderfyniad i roddi'r gyfran gyntaf o arian i'r elusen Cruse yn y gogledd yn un da iawn. Rwy'n gwybod y byddai Carl wedi ymfalchïo yn eich ymdrechion yn hyn o beth, a hefyd o'r gefnogaeth a ddaeth iddo gan Aelodau'r Cynulliad.

Yn ail, a gaf i ddweud y cefais y pleser ddoe o fod, ynghyd â'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sy'n ymfoddi yn ei negeseuon e-bost acw—cawsoch gwiriad enw—yn lansiad arddangosfa Amgueddfa'r Lleuad yn Abaty Tyndyrn? Gallaf i weld eich bod yn edrych wedi eich syfrdanu—'Beth yw hwn?'. Roeddwn yn teimlo yn yr un modd tan i mi fynd. Roedd yn arddangosfa gelf yr arlunydd Luke Jerram sydd wedi cael clod rhyngwladol—digwyddiad gwych iawn, ac roedd lleuad fawr 7m wedi ei hongian yng nghanol Abaty Tyndyrn. Yn ystod y nos, mae hon yn cael ei goleuo ac mae'n cynnig sioe anhygoel i bobl leol ac i ymwelwyr hefyd. Mae hynny'n denu math gwahanol o dwristiaid o ledled y byd, fel y gall arddangosfeydd celf ei wneud. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad yng ngoleuni'r digwyddiad ddoe, gan y Gweinidog, ynglŷn â sut—peidiwch â phoeni, nid yn y dyfodol agos, mae gennych chi amser i feddwl am y peth—rydym ni'n mynd i ddefnyddio ein hadeiladau hanesyddol mawr, megis Abaty Tyndyrn, fel lleoliadau ar gyfer gwahanol fathau o ddigwyddiadau i ddenu gwahanol fath o dwristiaid, fel ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y diwylliant a'r dreftadaeth sydd gennym ni yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd meysydd gwahanol fel y gall pobl o bob cwr o'r byd yn elwa o'r gorau y mae gan Gymru i'w gynnig.

I'm sure that the Member will be aware that it's very difficult to make sure that the Minister takes his correct share of Plenary time, so he'll be delighted to bring forward a statement as long as I can give him the space for it, I'm sure. I have to say, Llywydd, that he appears to me to have been doing a tour of places starting with 'T', because I'm aware of several others as well. I'm going to have to have a word with my own diary secretary about getting some better gigs for myself, for some of these cultural events.

But in all seriousness, it is, of course, the effective and creative use of our beautiful heritage spaces that does bring them to life and actually attracts different sorts of people attracted by different kinds of cultural events. It's always great to see an old building brought to life by something a little bit unexpected. I haven't seen the moon suspended from Tintern abbey. Perhaps I should make a pilgrimage to see it. But there are several old buildings in my own constituency where having an art exhibition inside them has really brought them to life in a different way, and it's brought aspects of the building to life in a way that, perhaps, you wouldn't have seen if you were used to the building, even if you used it a lot. So, I'm very happy to applaud those creative uses to highlight both the cultural and artistic merits of all of our things. I'm sure that the Minister will bring forward a statement as soon as I can get him time on the Plenary agenda to do so.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol ei bod yn anodd iawn i wneud yn siŵr fod y Gweinidog yn cymryd ei ran gywir o amser y Cyfarfod llawn, felly bydd yn falch iawn o gyflwyno datganiad cyhyd ag y gallaf i roi iddo'r amser ar ei gyfer, rwy'n siŵr. Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, ei bod yn ymddangos i mi i ei fod yn gwneud taith o amgylch lleoedd sy'n cychwyn gyda 'T ', oherwydd fy mod i'n ymwybodol o sawl arall hefyd. Bydd yn rhaid i mi gael gair gyda fy ysgrifennydd dyddiadur am gael rhai gigs gwell fy hun, am rai o'r digwyddiadau diwylliannol hyn.

Ond o ddifrif, wrth gwrs, y defnydd effeithiol a chreadigol o'n mannau treftadaeth hardd yw'r hyn sy'n dod â hwy i fywyd ac sy'n denu gwahanol fathau o bobl sy'n cael eu denu gan wahanol fathau o ddigwyddiadau diwylliannol mewn gwirionedd. Mae bob amser yn braf gweld hen adeilad dod yn fyw drwy rywbeth ychydig yn annisgwyl. Nid wyf wedi gweld y lleuad yn cael ei hongian yn Abaty Tyndyrn. Efallai y dylwn i wneud pererindod i'w gweld. Ond ceir nifer o hen adeiladau yn fy etholaeth i lle mae cael arddangosfa gelf y tu mewn iddynt wedi rhoi bywyd newydd iddynt yn wir mewn ffordd wahanol, ac wedi dwyn agweddau ar yr adeilad i fywyd mewn ffordd, efallai, na fyddech chi wedi'i gweld pe byddech chi wedi dod i arfer â'r adeilad, hyd yn oed pe byddech chi'n ei ddefnyddio llawer. Felly, rwy'n hapus iawn i ganmol y defnyddiau creadigol hynny i dynnu sylw at rinweddau artistig a diwylliannol ein holl bethau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad cyn gynted ag y gallaf sicrhau amser ar ei gyfer ar agenda'r Cyfarfod llawn i wneud hynny.

As outlined by my Plaid Cymru colleague a moment ago, of course, the North Wales Fire and Rescue Authority executive panel met yesterday to discuss cuts of £1.9 million to its budget to balance the books for the next financial year, and the proposals still include, of course, cuts to front-line services. Now, in practical terms, that could mean losing one of the two whole-time fire engines that we have at Wrexham. It could mean reducing services across other towns in north Wales—Colwyn Bay, Rhyl and further afield, of course—as well as reducing a large number of retained stations. Now, the threat to one of Wrexham's engines was beaten last year, effectively, through mass protest by people locally, and if similar proposals are brought forward, I'd imagine we'll see, and rightly so, the same reaction locally again. The Government itself is projecting steep increases in population over the coming years, but, of course, the funding for those services isn't reflecting that potential increase in demand as well.

Now, I know that the public services Secretary is hoping to have that discussion around the future of the fire services that we have in Wales, particularly in terms of accountability, but also we have to discuss funding sustainability for these services, because, whatever the method we choose, whether it's directly funding through the precept or whatever comes out of that discussion, we have to be clear that we mustn't lose these jobs, we mustn't lose these services. For those people who are still arguing in favour of austerity, they have to realise that this is the sharp end and these cuts cost lives. So, can we have a clear statement from the Secretary and this Welsh Government about where this service is going in years to come and how, as a Government, you can secure the sustainability of these essential fire and rescue services?

Fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru eiliad yn ôl, wrth gwrs, cyfarfu'r panel gweithredol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ddoe i drafod £1.9 miliwn o doriadau yn ei gyllideb i sicrhau bod y llyfrau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi eu mantoli, ac mae'r cynigion yn cynnwys eto, wrth gwrs, doriadau i'r gwasanaethau rheng flaen. Nawr, mewn termau ymarferol, gallai hynny olygu colli un o'r ddwy injan tân amser-cyflawn sydd gennym ni yn Wrecsam. Gallai olygu lleihau gwasanaethau ar draws trefi eraill yn y gogledd—Bae Colwyn, y Rhyl a thu hwnt, wrth gwrs—yn ogystal â lleihau nifer fawr o orsafoedd wrth gefn. Nawr, llwyddodd pobl leol drwy brotest mawr i guro'r bygythiad i un o injans Wrecsam y llynedd, yn effeithiol, ac os caiff cynigion tebyg eu cyflwyno, byddwn i'n dychmygu y byddwch chi'n gweld, a hynny'n briodol, yr un ymateb lleol unwaith eto. Mae'r Llywodraeth ei hun yn rhagweld cynnydd serth yn y boblogaeth dros y blynyddoedd i ddod, ond, wrth gwrs, nid yw cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny yn adlewyrchu'r cynnydd posibl yn y galw hefyd.

Nawr, rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros wasanaethau cyhoeddus yn gobeithio cael y drafodaeth honno ynghylch dyfodol y gwasanaethau tân sydd gennym ni yng Nghymru, yn enwedig o ran atebolrwydd, ond mae'n rhaid inni hefyd drafod cynaliadwyedd o ran ariannu ar gyfer y gwasanaethau hyn, oherwydd, pa bynnag ddull yr ydym yn ei ddewis, ai cyllid uniongyrchol drwy'r praesept neu beth bynnag a ddaw allan o'r drafodaeth hon, mae'n rhaid inni fod yn glir bod yn rhaid peidio â cholli'r swyddi hyn, rhaid i ni beidio â cholli'r gwasanaethau hyn. I'r bobl hynny sydd yn dal i fod yn dadlau o blaid cyni, mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli fod hyn yn y rheng flaen, ac mae'r toriadau hyn yn costio bywydau. Felly, a gawn ni ddatganiad clir gan yr Ysgrifennydd a'r Llywodraeth hon o ran lle mae'r gwasanaeth hwn yn mynd yn y blynyddoedd i ddod a sut, fel Llywodraeth, gallwch chi sicrhau'r cynaliadwyedd o'r gwasanaethau tân ac achub hanfodol hyn?

14:45

The Member makes a very important point, and, as we say all the time, it is impossible to have an austerity agenda without having real effects on people's lives. I've said many times in this Chamber that we're all faced with no good choice at all. We're not cutting things that we think aren't any good; we're cutting things that we know are important to people, because austerity is a political choice with which we do not agree and which has very serious consequences for public services. [Interruption.] It absolutely is. So, I absolutely hear what you say. You've made a very good point, and the Cabinet Secretary heard what you said as well and I'm sure will respond in due course.

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac, fel y dywedwn bob amser, mae'n amhosibl cael agenda cyni heb gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon nad ydym ni'n wynebu unrhyw ddewis da o gwbl. Nid ydym yn torri pethau ein bod yn credu nad ydyn nhw'n dda o gwbl; rydym ni'n torri pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod yn bwysig i bobl, oherwydd mai dewis gwleidyddol yw cyni ac nid ydym yn cytuno ag ef ac mae canlyniadau difrifol iawn i'r gwasanaethau cyhoeddus. [Torri ar draws.] Yn hollol. Felly, rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Rydych chi wedi gwneud pwynt da iawn, a chlywodd Ysgrifennydd y Cabinet yr hyn y gwnaethoch ei ddweud hefyd ac rwy'n siŵr y bydd yn ymateb maes o law.

It is a hard fact that the shrinkage of local government non-statutory services across the UK is happening due to the UK austerity agenda, but I'll leave that. I therefore wish us to ask for a statement to this place on the status and health of music support services across Wales and the subsidised instrumental tuition and incremental ensembles access that they provide. I would like to request that this statement includes an assessment of schools that currently do not have access to a music support service or are in the process of losing one, and an evaluation of the impact that the loss of a music support service has on the equality of access for poorer students to music performance education across Wales.

Mae'n ffaith bod crebachu gwasanaethau anstatudol Llywodraeth Leol ledled y DU yn digwydd oherwydd yr agenda cyni yn y DU, ond byddaf yn gadael hynny. Felly hoffwn i ofyn am ddatganiad i'r lle hwn ar statws ac iechyd y gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru a'r hyfforddiant offerynnol â chymhorthdal a'r mynediad cynyddol i ensembles a ddarperir ganddyn nhw. Hoffwn i ofyn i'r datganiad hwn gynnwys asesiad o ysgolion sydd ar hyn o bryd heb fynediad at wasanaeth cymorth cerddoriaeth neu sydd yn y broses o golli un, a gwerthusiad o'r effaith sydd gan ddiffyg gwasanaeth cymorth cerddoriaeth ar gydraddoldeb o ran mynediad at addysg perfformiad cerddorol i fyfyrwyr tlotach ledled Cymru.

The Member's raised this many times in the Chamber and clearly feels very passionate about it, and has brought a number of events to the Senedd, actually, demonstrating the importance of it. It's a conversation we've had many times across Government about how we can best support the music service, and I know it's an active consideration for several Cabinet Secretaries and Ministers. So, the Member can be assured that we take it very seriously indeed and it's something that we're in active consideration about.

Mae'r Aelod yn codi hyn droeon yn y Siambr ac yn amlwg mae'n teimlo'n gryf iawn dros hyn ac wedi dod â nifer o ddigwyddiadau i'r Senedd, mewn gwirionedd, sy'n dangos ei bwysigrwydd. Mae'n sgwrs yr ydym ni wedi cael sawl gwaith ar draws y Llywodraeth ynglŷn â sut orau y gallwn gefnogi'r gwasanaeth cerddoriaeth, ac rwy'n gwybod ei bod yn ystyriaeth weithredol ar gyfer nifer o Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion. Felly, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn ei gymryd o ddifrif iawn ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wrthi'n ei ystyried yn weithredol.

Thank you. I'd like to concur with the comments made by Jack Sargeant in relation to the importance of Mental Health Awareness Week and the fact that we can, where possible, work together in supporting one another. I think that was something you brought to the table, so, thank you, Jack, for that.

I wanted to expand on the comments made by Simon Thomas in relation to Palestine. I've had quite a lot of e-mails with regard to this. This is an issue that has really shocked our systems in relation to the violence. Fifty-eight people were killed in that protest. Today, the Scottish Parliament are having a debate on the future of Palestine, and we have had a consensus here in the past whereby most AMs have recognised that we need to have a state for it as a nation, and I wondered whether we could have another debate here in the National Assembly for Wales to take leadership on this issue, because it's clear that international law is being violated, and we cannot sit idly by. While we don't have powers over international affairs, it still means that we can take the moral high ground and that we can show leadership in this particular area. So, I would urge a debate on this issue as opposed to a statement, if that would be possible.

The second issue I wanted to raise here today was with regard to Resolven miners institute. Now, I know many AMs from across the party divide—again, a consensus-based approach here—have visited and have seen what they want to achieve there in relation to upgrading the miners institute. It's a vast building, but it could be a great resource for local people. But finance is always an issue, so I was wondering whether we could have a statement or a debate on support from the Welsh Government for industrial heritage to try and discuss some of these issues that challenge local people in relation to how they can build up their funds to make these particular amazing buildings viable again. They have cinema and theatre space, but it would cost some money to make that a reality. I know that some of these schemes have been successful in other parts of Wales, and we don't want to lose this heritage. We don't want that to be gone, as has been mentioned earlier in relation to Merthyr Tydfil. So, please, can we have a statement on the importance of industrial heritage? 

Diolch. Hoffwn i gytuno â'r sylwadau a wnaed gan Jack Sargeant ynglŷn â phwysigrwydd wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl a'r ffaith y gallwn ni, lle y bo'n bosibl, weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo ei gilydd. Rwy'n credu mai rhywbeth ddaeth at y bwrdd oddi wrthych chi, felly, diolch i chi, Jack, am hynny.

Roeddwn i eisiau ymhelaethu ar y sylwadau a wnaed gan Simon Thomas o ran Palesteina. Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost ynglŷn â hyn. Mae hwn yn fater a'n syfrdanodd yn wir oherwydd y trais mewn gwirionedd. Cafodd pum deg wyth o bobl eu lladd yn y brotest. Heddiw, mae Senedd yr Alban yn cael dadl ar ddyfodol Palestina, ac rydym ni wedi cael consensws yma yn y gorffennol lle mae'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad wedi cydnabod bod angen inni gael gwladwriaeth ar ei chyfer fel cenedl, ac yn meddwl tybed a allem ni gael dadl arall yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i roi arweiniad ar y mater hwn, oherwydd ei bod yn amlwg bod cyfraith ryngwladol yn cael ei thorri, ac ni allwn ni eistedd yn segur. Er nad oes gennym ni bwerau dros faterion rhyngwladol, mae dal yn golygu y gallwn gymryd y tir uchel moesol ac y gallwn ddangos arweiniad yn y maes penodol hwn. Felly, byddwn i'n annog dadl ar y mater hwn yn hytrach na datganiad, pe byddai hynny'n bosibl.

Roedd yr ail fater yr oeddwn i eisiau ei godi yma heddiw o ran sefydliad glowyr Resolfen. Nawr, rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau'r Cynulliad o bleidiau gwahanol—unwaith eto, ar sail dull consensws yma—wedi ymweld ag ef ac wedi gweld yr hyn y maen nhw eisiau ei gyflawni yno o ran uwchraddio sefydliad y glowyr. Mae'n adeilad anferth, ond gallai fod yn adnodd gwych i bobl leol. Ond mae cyllid bob amser yn broblem, felly roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad neu ddadl ar gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol i geisio trafod rhai o'r materion hyn sy'n her i bobl leol o ran sut y gallan nhw ddatblygu eu cronfeydd i wneud yr adeiladau anhygoel hyn yn benodol yn rhai hyfyw unwaith eto. Mae ganddyn nhw ofod i theatr a sinema, ond byddai'n costio rhywfaint o arian i wneud hynny'n realiti. Rwy'n gwybod bod rhai o'r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o Gymru, ac nid ydym eisiau colli'r dreftadaeth hon. Nid ydym eisiau i hynny fynd, fel y nodwyd yn gynharach ynghylch Merthyr Tudful. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad ar bwysigrwydd treftadaeth ddiwydiannol?

14:50

Yes. I think, on that second one, I've actually been there. It's a very beautiful building, absolutely. The Welsh Government has a number of schemes, including the potential for vouchers, community asset transfers and creative use of finance and so on, that can be brought to bear to save some of our industrial heritage. The Member will forgive me—I know it's in her region as well—but one of the examples that I'm particularly fond of at the moment is the Copperopolis development in Mike Hedges's constituency in Swansea, which brings alive much of the industrial heritage of the Swansea valley, which is a matter of great historical monument to the whole of Wales, but particularly to my own family as well.

So, it's great to see those, and it's lovely to see old buildings that were put together by the efforts of local working people very often brought back to life in the way, as I was just saying. So, I do think it's a very important matter. I will have some discussion amongst Cabinet Secretary colleagues and Ministers just to see how we can best highlight some of that. The Member makes a good point about how we highlight the various routes to save some of the industrial heritage and buildings, and there have been a number of issues raised—not least the land transaction tax, actually—that we can have a look at to see what we can do with unused buildings and so on, to encourage owners to bring them back into use. We all have a number of those in our regions and constituencies as well. So, I'll certainly take that forward and see what we can do to highlight it.

And, as I said on Gaza, words are just not enough to describe the horror that we saw unfolding there. As I said, it's such an immensely complex problem in the middle east, and we do seem to be in a particularly accelerating violent cycle at the moment, which is of some serious concern to all of us. As I said to Simon Thomas, I will discuss with the First Minister what we can best do to indicate this place's views on the subject.

Do. Rwy'n credu, ynglŷn â'r ail sylw, rydw i wedi bod yno mewn gwirionedd. Mae'n adeilad hardd iawn, yn wir. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau, gan gynnwys y posibilrwydd o roi talebau, trosglwyddo asedau cymunedol a defnyddio cyllid yn greadigol ac ati, y gellir eu defnyddio er mwyn achub peth o'n treftadaeth ddiwydiannol. Bydd yr Aelod yn maddau i mi—rwy'n gwybod ei fod yn ei rhanbarth hi hefyd—ond un o'r enghreifftiau yr wyf i'n arbennig o hoff ohonyn nhw ar hyn o bryd yw datblygiad Copperopolis yn etholaeth Mike Hedges yn Abertawe, sy'n dod â llawer o dreftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe yn fyw, sy'n fater o bwys hanesyddol mawr i Gymru gyfan, ond yn enwedig i fy nheulu fy hun hefyd. 

Felly, mae'n wych gweld y rheini, ac mae'n hyfryd gweld hen adeiladau a godwyd drwy ymdrechion pobl leol yn aml iawn yn cael eu hadfywio yn y ffordd honno, fel yr oeddwn i'n ei ddweud. Felly, rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Byddaf yn cael rhywfaint o drafodaethau ymysg cydweithwyr Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidogion dim ond i weld sut orau y gallwn ni amlygu elfennau o hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da ynglŷn â sut rydym ni'n tynnu sylw at y ffyrdd gwahanol o achub rhai elfennau o dreftadaeth ddiwydiannol ac adeiladau, a chyfeiriwyd at nifer o faterion—nid yn lleiaf y dreth trafodiad tir, mewn gwirionedd—y gallwn ni eu hystyried i weld beth y gallwn ni ei wneud gydag adeiladau segur ac ati, i annog perchnogion i'w defnyddio drachefn. Mae gan bob un ohonom ni nifer o'r rheini yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau hefyd. Felly, byddaf yn sicr yn ystyried hynny ac yn gweld beth allwn ni ei wneud i dynnu sylw ato.

Ac, fel y dywedais ynglŷn â Gaza, nid yw geiriau yn ddigon i ddisgrifio'r arswyd a welsom yn datblygu yno. Fel y dywedais, mae'n broblem hynod gymhleth yn y dwyrain canol, ac mae hi yn ymddangos ein bod mewn cylch arbennig o dreisgar ar hyn o bryd, a hwnnw'n cyflymu, sydd o bryder difrifol i bob un ohonom ni. Fel y dywedais wrth Simon Thomas, byddaf yn trafod gyda'r Prif Weinidog beth orau y gallwn ni ei wneud i ddangos barn y lle hwn ar y mater. 

Diolch i arweinydd y tŷ. 

Thank you, leader of the house.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
3. Legislative Consent Motion on the European Union (Withdrawal) Bill

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

The next item is the legislative consent motion on the European Union (Withdrawal) Bill. I call on the Cabinet Secretary for Finance to move the motion—Mark Drakeford.

Cynnig NDM6722 Carwyn Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU barhau i ystyried darpariaethau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

Motion NDM6722 Carwyn Jones

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 29.6, agrees that provisions in the European Union (Withdrawal) Bill in so far as they fall within or modify the legislative competence of the National Assembly for Wales should continue to be considered by the UK Parliament. 

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Diolch yn fawr, Llywydd. I move the motion, which proposes that the Assembly should give its consent to a parliamentary Bill making new provision on matters within and about the Assembly's devolved legislative competence. There is, of course, nothing unusual about that. The Assembly has been asked to do so over 100 times. Many long weeks and months have been spent in negotiating a new outcome to clause 11 of the original withdrawal Bill. I know, however, that there are other aspects of the Bill that are of concern to Members, and I will deal briefly with those aspects first. 

Many of the more objectionable elements in the original Bill—the omission of the charter of fundamental rights, the excessive Henry VIII powers and the inadequate provisions for parliamentary scrutiny of these powers, the risk to the environment, the labour market and consumer rights—have now been modified in the House of Lords and my party will defend every one of those changes when the Bill returns to the Commons. 

Directly in the devolution sphere, the Bill was also amended in the House of Lords to restrict the use of clause 7 powers, so that they will not now be able to be used to amend the Government of Wales Act, and the Bill was further amended to remove proposed restrictions on devolved Ministers in respect of retained direct EU law within devolved competence. But from the point of view of providing legislative consent, it is clause 11 that was at the core of our objections to the Bill when it was first published, and it is the amendments to that clause and the associated inter-governmental agreement that are at the heart of our consideration today.

Let me be clear, Llywydd, that the Bill to which the National Assembly is asked to give consent today provides that every one of the 64 areas of responsibility currently exercised through the European Union remains here in Wales. As the EAAL committee report into the second legislative consent memorandum published puts it,

'the default position is that the Assembly’s competence is untouched.'

On the day that the Bill becomes an Act of Parliament, that will be the position; every one of those 64 areas will be here. That's what you're being asked to vote in favour of today. Thereafter, the Bill provides that, by regulation, which, in consequence of the inter-governmental agreement, will be subject to this Assembly's consent, some aspects of some areas will continue to operate under the existing European Union rulebook—not to change the rules but to ensure that they continue as they are today, and to continue until a new rulebook can be agreed. Every time that happens, Llywydd, and a proposal made that existing European Union rules should remain in place, that will be subject to the consent of the National Assembly for Wales. That would mean that, on 24 separate occasions, this Assembly could be asked if it is prepared to give its consent to the temporary extension of the rules under which we currently operate. No wonder that the First Minister of Scotland summed it up in her letter to the Prime Minister in this way. She was referring to the work carried out in the Joint Ministerial Committee by David Lidington, Michael Russell on behalf of Scotland, and myself on behalf of Wales. Nicola Sturgeon says,

'We have made substantial progress in agreeing the areas where devolved competence intersects with EU law where common frameworks may be required and in agreeing that as we work through the detail of those frameworks, existing EU rules'—

existing rules, Llywydd—

'should be maintained on a temporary basis after withdrawal.'

In other words, nothing changes. As the First Minister of Scotland says, what we're agreeing is that current rules continue until we all agree that something better can be put in its place.

Llywydd, in the agreement we have reached, the regulation-making powers that will be used to put in place these new temporary arrangements will be subject to the Sewel convention so that the agreement provides for Parliament not to approve regulations unless the devolved legislatures and administrations have given their consent. Now, entirely in line with current conventions, should UK Ministers seek to move ahead with regulations in the event of a legislature withholding consent, then this agreement secures entirely new defences for devolution—defences that have never been here before. Because, if UK Ministers decided that they thought they would like to proceed in that way—and remember, it is not for UK Ministers to decide on whether or not they can proceed in that way—then the agreement secures the position that both Houses of Parliament separately will be asked to decide if the regulation should be made, and an affirmative vote will be required in both the Commons and the House of Lords—the House of Lords, where the Government has no majority, where it's just been defeated 14 separate times on its own withdrawal Bill. The House of Lords will be asked to decide whether or not the Government should go ahead. When it makes the decision on whether or not to go ahead, it will make that decision for the first time ever on the basis of even-handed information. It will have the UK Government's own account, but it will also have, for the first time, information provided independently by the devolved administrations.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig, sy'n cynnig y dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r Bil seneddol wneud darpariaeth newydd ar faterion o fewn ac ynglŷn â chymhwysedd deddfwriaethol datganoledig y Cynulliad. Nid oes, wrth gwrs, unrhyw beth anarferol am hynny. Gofynnwyd i'r Cynulliad wneud hynny dros 100 o weithiau. Treuliwyd llawer o wythnosau a misoedd hir yn negodi canlyniad newydd i gymal 11 o'r Bil ymadael gwreiddiol. Rwy'n gwybod, fodd bynnag, bod agweddau eraill ar y Bil sy'n peri pryder i'r Aelodau, a soniaf yn fyr am yr agweddau hynny yn gyntaf.

Mae llawer o'r elfennau mwy annerbyniol yn y Bil gwreiddiol—hepgor y siarter hawliau sylfaenol, gormod o bwerau Harri'r VIII a darpariaethau annigonol i'r Senedd allu craffu ar y pwerau hyn, y risg i'r amgylchedd, y farchnad lafur a hawliau defnyddwyr—bellach wedi eu haddasu yn Nhŷ'r Arglwyddi a bydd fy mhlaid yn amddiffyn pob un o'r newidiadau hynny pan fydd y Bil yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.

Yn uniongyrchol ym maes datganoli, roedd y Bil hefyd wedi ei ddiwygio yn Nhŷ'r Arglwyddi i gyfyngu ar y defnydd o bwerau cymal 7, fel na ellir bellach eu defnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, ac fe ddiwygiwyd y Bil ymhellach i ddileu cyfyngiadau arfaethedig ar Weinidogion datganoledig o ran cadw cyfraith uniongyrchol yr UE o fewn cymhwysedd datganoledig. Ond o safbwynt darparu cydsyniad deddfwriaethol, cymal 11 oedd wrth wraidd ein gwrthwynebiad i'r Bil pan gyhoeddwyd ef yn gyntaf, a'r gwelliannau i'r cymal hwnnw a'r cytundeb rhynglywodraethol cysylltiedig sydd wrth wraidd ein hystyriaeth heddiw.

Caniatewch imi fod yn glir, Llywydd, fod y Bil y gofynnir i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cydsyniad iddo heddiw yn darparu bod pob un o'r 64 maes cyfrifoldeb sydd ar hyn o bryd yn cael eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd yn parhau yma yng Nghymru. Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynglŷn â'r ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd,

'y sefyllfa ddiofyn yw na chyffyrddir â chymhwysedd y Cynulliad.'

Ar y diwrnod y daw'r Bil yn Ddeddf Seneddol, dyna fydd y sefyllfa; bydd pob un o'r 64 maes hwnnw yn y fan yma. Dyna beth y gofynnir ichi bleidleisio o'i blaid heddiw. Ar ôl hynny, mae'r Bil yn darparu, drwy reoliadau, a fydd, o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol, yn ddarostyngedig i gydsyniad y Cynulliad hwn, bydd rhai agweddau o rai meysydd yn parhau i weithredu o dan reolau presennol yr Undeb Ewropeaidd—i beidio â newid y rheolau ond i sicrhau eu bod yn parhau fel y maen nhw heddiw, ac i barhau hyd nes gellir cytuno ar reolau newydd. Bob tro y digwydd hynny, Llywydd, ac y gwneir cynnig y dylai rheolau presennol yr Undeb Ewropeaidd barhau i fod ar waith, bydd hynny yn ddibynnol ar gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddai hynny'n golygu, ar 24 achlysur unigol gwahanol, y gellid gofyn i'r Cynulliad hwn a yw'n barod i gydsynio i ymestyn dros dro y rheolau yr ydym ni ar hyn o bryd yn gweithredu o danynt. Does dim rhyfedd i Brif Weinidog yr Alban grynhoi hyn yn ei llythyr at Brif Weinidog y DU yn y modd hwn. Roedd yn cyfeirio at y gwaith a wnaed yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion gan David Lidington, Michael Russell ar ran yr Alban, a minnau ar ran Cymru. Dywed Nicola Sturgeon,

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth gytuno ar y meysydd lle mae cymhwysedd datganoledig yn dylanwadu ar gyfraith yr UE lle gallai fframweithiau cyffredin fod yn angenrheidiol ac yn cytuno ar hynny wrth inni weithio drwy fanylion y fframweithiau hynny, ac y dylid cynnal rheolau presennol yr UE—

rheolau presennol, Llywydd—

am gyfnod dros dro ar ôl ymadael.

Mewn geiriau eraill, does dim yn newid. Fel y dywed Prif Weinidog yr Alban, beth rydym ni'n cytuno yw bod rheolau cyfredol yn parhau hyd nes y bydd pob un ohonom ni'n cytuno y gellir eu disodli â rhywbeth gwell.

Llywydd, yn y cytundeb yr ydym ni wedi dod iddo, bydd y pwerau gwneud rheoliadau a gaiff eu defnyddio i roi'r trefniadau dros dro newydd hyn ar waith yn amodol ar Gonfensiwn Sewel fel bod y cytundeb yn golygu na all y Senedd gymeradwyo rheoliadau oni bai bod y deddfwrfeydd a'r gweinyddiaethau datganoledig wedi rhoi eu caniatâd. Nawr, yn gwbl unol â chonfensiynau presennol, pe byddai Gweinidogion y DU yn ceisio gweithredu'r rheoliadau os bydd deddfwrfa yn gwrthod caniatâd, yna mae'r cytundeb hwn yn sicrhau bod amddiffynfeydd newydd sbon ar gyfer datganoli—amddiffynfeydd sydd erioed wedi bodoli cyn hyn. Oherwydd, pe byddai Gweinidogion y DU yn penderfynu eu bod yn meddwl yr hoffent weithredu yn y modd hwnnw—a chofiwch, nid lle Gweinidogion y DU yw penderfynu a allan nhw weithredu yn y ffordd honno ai peidio—yna mae'r cytundeb yn sicrhau'r sefyllfa y gofynnir i'r ddau Dŷ Seneddol ar wahân a ddylid gwneud y rheoliad, a bydd angen pleidlais gadarnhaol yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ill dau—Tŷ'r Arglwyddi, lle nad oes mwyafrif gan y Llywodraeth, ble mae hi wedi cael ei threchu 14 gwaith ar ei Bil ymadael ei hun. Gofynnir i Dŷ'r Arglwyddi benderfynu a ddylai'r Llywodraeth fynd yn ei blaen ai peidio. Pan fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â gweithredu neu beidio, bydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw am y tro cyntaf erioed ar sail gwybodaeth ddiduedd. Bydd ganddo farn Llywodraeth y DU ei hun, ond bydd ganddo hefyd, am y tro cyntaf, wybodaeth a ddarperir yn annibynnol gan y gweinyddiaethau datganoledig.

14:55

I was following that closely, but maybe he can help me here, because everyone else, it would appear—as we heard from the leader of Plaid Cymru earlier—in your own party, the Scottish Labour Party, and the leader of the UK Labour Party, believes that the provisions that you've just set out are an affront to democracy and an affront to the principles of democratic devolution. Why are you right and they're wrong?

Roeddwn yn dilyn hynny yn agos, ond efallai y gall ef fy helpu i yma, oherwydd bod pawb arall, mae'n ymddangos—fel y clywsom ni gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach—yn eich plaid eich hun, Plaid Lafur yr Alban, ac arweinydd Plaid Lafur y DU, yn credu bod y darpariaethau hynny yr ydych chi newydd eu hamlinellu yn sarhad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar egwyddorion datganoli democrataidd. Pam ydych chi'n gywir a nhw'n anghywir?

What is it about devolution, Llywydd, that Plaid Cymru does not understand? [Interruption.] Where have they been? [Interruption.] Where have they been for the last 20 years? Scottish politicians make decisions based on what they believe to be right for Scotland. This Assembly makes decisions on what we believe is right for Wales. What is it about that simple proposition that Plaid Cymru find it so difficult to grasp?

Beth yw hi ynglŷn â datganoli, Llywydd, nad yw Plaid Cymru yn ei ddeall? [Torri ar draws.] Lle maen nhw wedi bod? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod wedi dros yr 20 mlynedd diwethaf? Mae gwleidyddion yr Alban yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn y mae'n nhw'n credu sy'n iawn ar gyfer yr Alban. Mae'r Cynulliad hwn yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn yr ydym ni'n credu sy'n iawn i Gymru. Beth yw hi ynglŷn â'r gosodiad syml hwnnw y mae Plaid Cymru yn ei chael hi mor anodd deall?

Will you take an intervention?

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Whilst the devolution settlement might be different for Scotland than it is for Wales, whilst there might be different questions of what to do with different powers in Scotland and in Wales, the principle is one and the same, and the principle here is that, in relation to Scotland, senior figures in your party, including your party leader, believe this is an affront to democracy, whereas in Wales for some reason it's not. It is one and the same in terms of the principle.

Er bod y setliad datganoli efallai yn wahanol i'r Alban ag ydyw ar gyfer Cymru, er efallai bod cwestiynau gwahanol o ran beth i'w wneud â phwerau gwahanol yn yr Alban ac yng Nghymru, yr un yw'r egwyddor, a'r egwyddor yma yw, o ran Yr Alban, mae pobl allweddol yn eich plaid, gan gynnwys arweinydd eich plaid, yn credu bod hyn yn sarhad ar ddemocratiaeth, ond yng Nghymru am ryw reswm nid yw. Yr un peth ydyw yn union o ran yr egwyddor.

15:00

It really is an abject failure of understanding, Llywydd. What happens in Scotland is for people in Scotland to comment upon, and it's for them to comment upon what is right for them in their circumstances. Scotland—where, let us not forget, a majority of the local population voted to remain in the European Union. Here in Wales, different considerations, different powers, different arrangements apply. We debate what is right for Wales, and the agreement that we bring forward is one that we know is right for devolution and right for our nation as well.

And let me clear up as well, Llywydd, if I could, once and for all, what 'consent' means in this context. Consent means that the Assembly has voted positively in favour of the draft regulations being put before Parliament. That is what consent means, and nothing else.

In a third defence, Llywydd, the UK Government has always previously claimed that the constraints envisaged in its original Bill would be temporary, but there was nothing in that Bill to substantiate that. Now, there are sunset clauses on the face of the Bill. Some have argued that these could be extended ad infinitum, but let me be clear again: this Bill simply does not allow for that to happen. The only way in which the sunset clauses could be extended would be by way of new parliamentary legislation, and that new parliamentary legislation would of course be subject to the Assembly's consent.

In a fourth development, the agreement gives an unequivocal guarantee that UK Ministers will not bring before Parliament any legislation for England making changes to retain EU law in framework areas. As the report of the Constitutional and Legislative Affairs Committee said, in its report, yesterday, this recognition of England in the agreement is 'constitutionally notable'. It is just one way, Llywydd, in which the agreement breaks new ground in defence of devolution and the future operation of the United Kingdom. A level playing field has been created, it applies to all administrations, and it is now in everybody's interests, as the First Minister said earlier this afternoon, to agree a new post-EU rulebook as quickly as possible.

Finally, the agreement makes clear that any new primary legislation establishing new UK frameworks will be negotiated, negotiated by all partners coming around the table on the basis of parity, and that the outcomes of such negotiations will themselves require the Assembly's legislative consent in accordance with normal principles.

Llywydd, I want to end by addressing some of the wider constitutional issues that the Bill draws to the surface. Many of the objections and criticisms I've heard in recent days and weeks have not really been about the Bill or the agreement at all. They've been about the Sewel convention itself, a convention that the CLAC report says that the force of it has been 'maintained and reaffirmed' as a result of this agreement.

I've also heard a lot of ill-informed criticism of the 'not normally' formulation in the agreement, as if by agreeing to that we've somehow 'sold out', as we're told, on devolution, in that offensive phrase. But the commitment 'not normally' to legislate without consent is in the Government of Wales Act, to which this Assembly gave its consent, and it's there in the Scotland Act too. Have we reached a moment where we need to move beyond Sewel and the 'not normally' formula? Well, I agree with the conclusion reached recently by Professor Michael Keating of University of Aberdeen, when he said that the Sewel convention

'has worked well for almost twenty 20 years',

but it was not designed to bear the burden that Brexit is now placing on it. That is why, in 'Brexit and Devolution', this Welsh Government argued for the creation of a new UK council of Ministers, which would be able to reach binding decisions that would be supported by a dispute resolution mechanism and an independent secretariat, and which would operate with far greater visibility to the public.

Llywydd, our ambitions for devolution are by no means exhausted by the agreement we have reached, but our objective from the beginning has been a withdrawal Bill that delivers stability and certainty for businesses and citizens about the rights, obligations and responsibilities that will exists at the point at which we leave the European Union. We have defended and entrenched our devolution settlement. We have provided for the successful operation of the United Kingdom after Brexit. We have delivered a good deal for the Assembly and a good deal for Wales. I'm proud to ask the Assembly to give its consent to this legislative consent motion this afternoon.

Mae hynny'n ddiffyg dealltwriaeth llwyr, Llywydd. Lle pobl yn Yr Alban yw rhoi sylwadau ar yr hyn sy'n digwydd yn Yr Alban, a'u lle nhw yw rhoi sylwadau ynglŷn â beth sy'n iawn iddyn nhw yn eu hamgylchiadau. Yr Alban—lle, gadewch i ni beidio ag anghofio, y pleidleisiodd mwyafrif y boblogaeth leol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yma yng Nghymru, mae ystyriaethau gwahanol, pwerau gwahanol, trefniadau gwahanol yn berthnasol. Rydym ni'n trafod beth sy'n iawn i Gymru, ac mae'r cytundeb a gyflwynwn yn un yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn ar gyfer datganoli ac yn iawn ar gyfer ein cenedl hefyd.

A chaniatewch i mi egluro hefyd, Llywydd, os caf i, unwaith ac am byth, beth mae 'cydsyniad' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae cydsyniad yn golygu bod y Cynulliad wedi pleidleisio yn gadarnhaol o blaid cyflwyno'r rheoliadau drafft gerbron y Senedd. Dyna ystyr cydsyniad, a dim byd arall.

Yn drydedd elfen o amddiffyniad, Llywydd, mae Llywodraeth y DU wastad wedi honni y byddai'r cyfyngiadau a ragwelwyd yn y Bil gwreiddiol yn rhai dros dro, ond nid oedd dim yn y Bil hwnnw i gadarnhau hynny. Bellach, mae yna gymalau machlud ar wyneb y Bil. Mae rhai wedi dadlau y gellid ymestyn y rhain yn ddi-ben-draw, ond caniatewch imi fod yn glir eto: nid yw'r Bil hwn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Yr unig ffordd y gellid ymestyn cymalau machlud fyddai drwy ddeddfwriaeth seneddol newydd, a byddai'r ddeddfwriaeth seneddol newydd honno wrth gwrs yn amodol ar ganiatâd y Cynulliad.

Mewn pedwerydd datblygiad, mae'r cytundeb yn rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn cyflwyno gerbron y Senedd unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Lloegr sy'n gwneud newidiadau i ddargadw cyfraith yr UE mewn meysydd fframwaith. Fel y dywedodd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn ei adroddiad, ddoe, mae'r gydnabyddiaeth hon o Loegr yn y cytundeb yn gyfansoddiadol nodedig. Mae'n un ffordd yn unig, Llywydd, o sut mae'r cytundeb yn torri tir newydd er mwyn amddiffyn datganoli a sut fydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn y dyfodol. Mae chwarae teg wedi ei chreu, mae'n berthnasol i'r holl weinyddiaethau, a bellach mae er budd pawb, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, i gytuno ar reolau newydd cyn gynted â phosib o ran yr hyn fydd yn digwydd ar ôl gadael yr UE.

Yn olaf, mae'r cytundeb yn ei gwneud hi'n glir y caiff unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol newydd sy'n sefydlu fframweithiau DU newydd eu negodi, eu negodi gyda phob partner yn dod ynghyd i drafod fel aelodau cydradd, ac y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar ganlyniadau negodiadau o'r fath yn unol ag egwyddorion arferol.

Llywydd, hoffwn orffen drwy fynd i'r afael â rhai o'r materion cyfansoddiadol ehangach y mae'r Bil yn eu hamlygu. Nid yw llawer o'r gwrthwynebiadau a'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu clywed yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf wedi bod ynghylch y Bil neu'r cytundeb o gwbl. Maen nhw wedi bod ynglŷn â Chonfensiwn Sewel ei hun, Confensiwn y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol bod grym hwnnw 'wedi cael ei gynnal a'i atgyfnerthu' o ganlyniad i'r cytundeb hwn.

Rwyf hefyd wedi clywed llawer o feirniadaeth anwybodus o'r fformiwleiddiad 'anarferol' yn y cytundeb, fel petai, drwy gytuno i hynny ein bod ni rywsut wedi 'bradychu', fel y dywedir wrthym ni, datganoli, yn yr ymadrodd sarhaus hwnnw. Ond mae'r ymrwymiad 'anarferol' i ddeddfu heb ganiatâd yn Neddf Llywodraeth Cymru, y rhoddodd y Cynulliad hwn ei gydsyniad iddo, ac yna mae yn Neddf Yr Alban hefyd. Ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen inni symud y tu hwnt i Sewel a'r fformiwla 'anarferol'? Wel, rwy'n cytuno â'r casgliad y daeth yr Athro Michael Keating, Prifysgol Aberdeen, iddo yn ddiweddar, pan ddywedodd bod Confensiwn Sewel

wedi gweithio'n dda ers bron i 20 ugain mlynedd,

ond ni chafodd ei gynllunio i ysgwyddo'r baich y mae Brexit bellach yn ei osod arno. Dyna pam, yn 'Brexit a Datganoli', y dadleuodd Llywodraeth Cymru dros greu cyngor newydd o Weinidogion ar gyfer y DU, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau terfynol gyda chefnogaeth dulliau datrys anghydfod ac ysgrifenyddiaeth annibynnol, ac a fyddai'n gweithredu llawer mwy yn llygad y cyhoedd.

Llywydd, ni roddwyd y farwol o bell ffordd i'n huchelgeisiau ar gyfer datganoli gan y cytundeb y daethpwyd iddo, ond ein nod o'r cychwyn oedd cael Bil ymadael sy'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau a dinasyddion ynglŷn â'r hawliau, y rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fydd yn bodoli ar yr adeg y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi amddiffyn ac atgyfnerthu ein setliad datganoli. Rydym ni wedi darparu ar gyfer gweithredu llwyddiannus y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Rydym ni wedi cyflawni bargen dda ar gyfer y Cynulliad a bargen dda i Gymru. Rwy'n falch o ofyn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn y prynhawn yma.

15:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees. 

I call on the Chair of the External Affairs and Additional Legislation Committee, David Rees. 

Diolch, Llywydd. The External Affairs and Additional Legislation Committee has been considering the legislative steps needed for Brexit since the autumn of 2016 and has considered the European Union (Withdrawal) Bill in detail. Yesterday, we published our third report in relation to the Bill, in preparation for the debate today. I hope Members have had a chance to look at it. In an earlier publication on the Bill, Members will recall that we set six objectives that we believed needed to be met to safeguard our devolution settlement and the rights of the Assembly. And I'll remind Members what they were: remove the clause 11 restriction on the devolution settlement; ensure the Welsh Ministers and the Assembly are responsible for correcting all aspects of EU-derived law in areas of devolved competence; ensure powers available to the Welsh Ministers under the Bill are strictly limited and far more tightly drawn than those currently set out in the Bill; prevent UK Ministers from amending aspects of EU-derived law that affect Wales unless reserved; prevent UK or Welsh Ministers amending the Government of Wales Act using delegated powers; and, finally, to ensure that the Assembly can set its own scrutiny arrangements.

Following the agreement between the Welsh and UK Governments on clause 11 of the Bill, as numbered on introduction to the House of Lords, and the associated amendments to the Bill that were made in the House of Lords, we have reflected on the progress that has been made against each of our six objectives. It is fair to observe that, in some areas, considerable progress has been made. It is equally fair to observe that our objectives have not been met in full in all areas. But can I also remind the house that we had objectives that went further than the Welsh Government's original views?

Objective 1 is at the heart of today's bid, which was to remove the clause 11 restriction on the devolution settlement. Considerable progress has been made towards meeting this objective when we look back at the starting point we faced when the Bill was introduced. The UK Government now accepts that it cannot place a blanket restriction on the Assembly’s legislative competence in areas where European policy frameworks currently exist, and there is a mechanism for ensuring the Assembly can consider whether it should give consent to any restrictions being temporarily placed on its competence. However, parliamentary sovereignty means that in circumstances where the Assembly has refused its consent, Parliament could still proceed to impose a restriction on our legislative competence. Additionally, the mechanism established by the recent amendments to the Bill placed few duties on the Welsh Ministers to facilitate Assembly consideration of the proposed restrictions or to communicate decisions of the Assembly. We took a view on how the Assembly could take steps to strengthen this aspect of the mechanism and I'll talk about that a little bit later.

Considerable progress has been made on the second objective. The prohibition, in the Bill as introduced, on Welsh Ministers modifying directly applicable EU law,which includes much of the law relating to the common agricultural policy and structural funds, was the biggest difference between the UK and Welsh Ministers' powers. This has been removed, subject to the new clause 11 restriction mechanism.

In terms of our third objective, we concluded that whilst it has not been met in full, we do recognise that ministerial powers have been more tightly drawn. However, they remain broad and the Bill delegates significant powers to the Executive, with limited controls.

Objective 4 has not been met, and we are particularly disappointed that no provision for Assembly consent has been made for circumstances where the UK Government wishes to use its regulation-making powers in Welsh devolved policy areas.

Whilst our fifth objective has not been met in full, significant progress towards protecting the Government of Wales Act has been made. However, concerns remain around the UK Government’s powers to implement the withdrawal agreement, and we must not lose sight of that fact.

And, finally, objective 6 was to ensure that the Assembly can set its own scrutiny arrangements.

I pay tribute to the important work the Constitutional and Legislative Affairs Committee has undertaken in this regard, and particularly the recommendations it made for the establishment of a sifting committee, which were endorsed by this Assembly. We believe that, in the circumstances, giving effect to the Assembly’s preferred scrutiny arrangements through amendments to the Bill offered a pragmatic compromise, but does not detract from our commitments to the principle behind our sixth objective. However, we are disappointed that the Welsh and UK Governments chose not to implement the full extent of the scrutiny arrangements agreed unanimously by this Assembly on 7 March, and expect our Business Committee to remedy this in its proposal for changes to Standing Orders.

From this assessment of our six objectives, you can see that the inter-governmental agreement and the amended Bill have provided a stronger position for the Assembly than under the Bill as originally drafted. But it is true to say that they do not remove entirely the risks we have previously highlighted. A significant task for this Assembly remains. And if consent is granted today, we in this Chamber must use the procedural routes available to us to ensure that we play our full part in the process of managing the Assembly’s legislative competence in the months and years to come.

In our report, we recommend that the Business Committee considers the case for revising Standing Orders to place additional duties on the Welsh Ministers: to ensure that the opportunity to scrutinise any proposed constraints on our legislative competence is maximised; that we are provided with at least the same level of information as Parliament in relation to this, and at the same time; and that the Welsh Ministers are required to communicate the Assembly’s decision on consent for temporary constraints on its legislative competence. Yesterday, in our committee meeting, the First Minister committed to delivering such issues on the above points, and I hope that the Cabinet Secretary will reaffirm those assurances to the Assembly this afternoon.

At the core of this inter-governmental agreement is an inter-parliamentary process. We also conclude in our report that strengthened communication between legislatures would wrap an additional level of assurance around the process, circumventing the need to rely solely on governmental sources of information. I intend to raise this for discussion at the next inter-parliamentary forum on Brexit.

Once the draft regulations proposing constraints on our legislative competence are laid for scrutiny, we need to ensure that we have the correct procedures in place to scrutinise them thoroughly. Without crossing into the important work the Constitutional and Legislative Affairs Committee is doing in this area, we believe that there will be a collective role for Assembly committees in scrutinising these draft regulations, if we are to bring the full range of technical and policy expertise to them. And with the Llywydd’s leave, we’ll perhaps discuss this at a future Chairs’ forum.

We shortly face a vote on one of the most significant decisions faced by the Assembly and in the Brexit process. I hope that throughout our consideration of the withdrawal Bill we have sought to ensure that the role of the Assembly and the powers devolved to Wales are protected in the Brexit process. We hope our report will assist Members in deciding whether or not to support the granting of legislative consent this afternoon. But whatever the outcome of today’s vote, we will, as a committee, continue to do all we can to protect Welsh interests in the Brexit process and to hold the Welsh Government to account for its actions.

Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn ystyried y camau deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer Brexit ers tymor yr hydref 2016 ac wedi ystyried Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn fanwl. Ddoe, gwnaethom ni gyhoeddi ein trydydd adroddiad ar y Bil, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw. Gobeithiaf fod Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno. Mewn cyhoeddiad cynharach ar y Bil, bydd yr Aelodau'n cofio y gwnaethom ni osod chwe amcan yr oedem ni'n credu bod angen eu bodloni er mwyn diogelu ein setliad datganoli a hawliau'r Cynulliad. Ac fe wnaf i atgoffa Aelodau o beth oedden nhw: dileu cyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli; sicrhau bod Gweinidogion Cymru a'r Cynulliad yn gyfrifol am gywiro pob agwedd o gyfraith sy'n deillio o'r UE mewn meysydd cymhwysedd datganoledig; sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil yn gyfyngedig iawn ac yn llawer llymach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil; atal Gweinidogion y DU a Chymru rhag diwygio agweddau ar gyfraith sy'n deillio o'r UE sy'n effeithio ar Gymru, oni bai eu bod wedi eu dargadw; atal Gweinidogion y DU rhag diwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig; ac, yn olaf, i sicrhau bod y Cynulliad yn gallu gwneud ei drefniadau craffu ei hun.

Yn sgil cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â chymal 11 o'r Bil, fel y'i rhifwyd pan gafodd ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi, a'r gwelliannau cysylltiedig i'r Bil a wnaed yn Nhŷ'r Arglwyddi, rydym ni wedi pwyso a mesur y cynnydd a wnaed o ran pob un o'r chwe amcan. Mae'n deg i ddweud, mewn rhai meysydd, bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae hi yr un mor deg dweud nad yw ein hamcanion ni wedi'u bodloni yn llawn ym mhob maes. Ond a gaf i hefyd atgoffa'r tŷ y bu gennym ni amcanion a aeth ymhellach na barn wreiddiol Llywodraeth Cymru?

Mae Amcan 1 yn greiddiol i gynnig heddiw, a oedd i gael gwared ar gyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran cyflawni'r amcan hwn wrth edrych yn ôl ar y man cychwyn oedd yn ein hwynebu pan gyflwynwyd y Bil. Mae Llywodraeth y DU bellach yn derbyn na all osod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad mewn meysydd lle mae fframweithiau polisi Ewropeaidd yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae dull ar gyfer sicrhau y gall y Cynulliad ystyried a ddylai roi cydsyniad i unrhyw gyfyngiadau a roddir dros dro ar ei gymhwysedd. Fodd bynnag, golyga sofraniaeth seneddol, mewn amgylchiadau lle mae'r Cynulliad wedi gwrthod ei gydsyniad, y gallai'r Senedd barhau i osod cyfyngiad ar ein cymhwysedd deddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y dull a sefydlwyd gan y gwelliannau diweddar i'r Bil lawer o ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru i hwyluso'r Cynulliad i ystyried y cyfyngiadau arfaethedig neu i gyfleu penderfyniadau y Cynulliad. Cawsom farn ynglŷn â beth y gallai'r Cynulliad ei wneud i gryfhau'r agwedd hon ar y dull ac fe wnaf i siarad am hynny ychydig yn ddiweddarach.

Gwnaed cynnydd sylweddol ar yr ail amcan. Y gwaharddiad hwn, yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, ar Weinidogion Cymru yn addasu cyfraith yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol, sy'n cynnwys llawer o'r gyfraith sy'n ymwneud â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r cronfeydd strwythurol, oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng pwerau Gweinidogion y DU a Chymru. Mae hwn wedi'i ddileu, yn amodol ar y dull newydd o ran cyfyngu ar gymal 11.

O ran ein trydydd amcan, daethom i'r casgliad er nad yw hynny wedi ei fodloni yn llawn, rydym ni yn cydnabod bod y pwerau Gweinidogol yn fwy cyfyng. Fodd bynnag, maen nhw'n parhau i fod yn eang ac mae'r Bil yn dirprwyo pwerau sylweddol i'r weithrediaeth, gyda rheolaethau cyfyngedig.

Ni chyflawnwyd amcan 4, ac rydym ni'n arbennig o siomedig nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad y Cynulliad wedi'i wneud ar gyfer amgylchiadau lle mae Llywodraeth y DU yn dymuno defnyddio ei bwerau mewn meysydd polisi sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Er nad yw ein pumed amcan wedi'i fodloni yn llawn, gwnaed cynnydd sylweddol o ran diogelu Deddf Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch pwerau Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb ymadael, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith honno.

Ac, yn olaf, diben amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei drefniadau craffu ei hun.

Talaf deyrnged i'r gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei wneud yn hyn o beth, ac yn arbennig yr argymhellion ar gyfer sefydlu pwyllgor sifftio, a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn. Rydym ni'n credu, yn yr amgylchiadau, bod gweithredu'r trefniadau craffu a ffefrir gan y Cynulliad drwy welliannau i'r Bil yn gyfaddawd ymarferol, ond nad yw'n amharu ar ein hymrwymiadau i egwyddor y chweched amcan. Fodd bynnag, rydym ni yn siomedig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â gweithredu holl ystod y trefniadau craffu y cytunwyd arnyn nhw yn unfrydol gan y Cynulliad hwn ar 7 Mawrth, ac yn disgwyl i'n Pwyllgor Busnes gywiro hyn yn ei gynnig i newid y Rheolau Sefydlog.

O'r asesiad hwn o'n chwe amcan, gallwch weld bod y cytundeb rhynglywodraethol a'r Bil diwygiedig wedi creu sefyllfa gryfach ar gyfer y Cynulliad nag o dan y Bil fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol. Ond mae hi yn wir i ddweud nad ydyn nhw yn dileu yn llwyr y peryglon a amlygwyd gennym ni o'r blaen. Erys tasg sylweddol ar gyfer y Cynulliad hwn. Ac os rhoddir caniatâd heddiw, bydd yn rhaid inni yn y Siambr hon ddefnyddio'r dulliau gweithdrefnol sydd ar gael inni er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan lawn yn y broses o reoli cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Yn ein hadroddiad, rydym ni yn argymell bod y Pwyllgor Busnes yn ystyried yr achos dros ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i osod dyletswyddau ychwanegol ar Weinidogion Cymru: i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfle i graffu ar unrhyw gyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig; y cawn ni o leiaf yr un maint o wybodaeth fel Senedd mewn ynglŷn â hyn, ac ar yr un pryd; a'i bod hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyfleu penderfyniad y Cynulliad ynglŷn â chydsyniad ar gyfer cyfyngiadau dros dro ar ei gymhwysedd deddfwriaethol. Ddoe, yn ein cyfarfod pwyllgor, ymrwymodd y Prif Weinidog i ddarparu materion o'r fath ar y pwyntiau uchod, a gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ailddatgan y sicrwydd hwnnw i'r Cynulliad y prynhawn yma.

Wrth wraidd y cytundeb rhynglywodraethol hwn mae broses rhyng-seneddol. Rydym ni hefyd yn dod i'r casgliad yn ein hadroddiad y byddai cyfathrebu cryfach rhwng deddfwrfeydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol ynghylch y broses, gan osgoi'r angen i ddibynnu ar ffynonellau llywodraethol o wybodaeth yn unig. Rwy'n bwriadu crybwyll y mater hwn ar gyfer y drafodaeth yn y fforwm rhyng-seneddol nesaf ynglŷn â Brexit.

Pan gyflwynir y rheoliadau drafft sy'n cynnig cyfyngiadau ar ein cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer craffu, mae angen inni sicrhau bod gennym ni'r gweithdrefnau cywir ar waith i graffu arnynt yn drylwyr. Heb ymyrryd yn y gwaith pwysig y mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei wneud yn y maes hwn, rydym ni'n credu y bydd swyddogaeth ar y cyd ar gyfer Pwyllgorau'r Cynulliad yn craffu ar y rheoliadau drafft hyn, os ydym ni'n mynd i arfer yr ystod lawn o arbenigedd technegol a pholisi wrth eu trin. A gyda chaniatâd y Llywydd, byddwn efallai yn trafod hyn yn un o fforymau Cadeiryddion y dyfodol.

Cyn hir bydd angen inni bleidleisio ar un o'r penderfyniadau mwyaf sylweddol i'r Cynulliad ei wynebu ac yn y broses Brexit. Gobeithio drwy gydol ein hystyriaeth o'r Bil ymadael ein bod ni wedi ceisio sicrhau y caiff swyddogaeth y Cynulliad a'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru eu hamddiffyn yn y broses Brexit. Rydym ni'n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn helpu Aelodau i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd deddfwriaethol y prynhawn yma yn cefnogi rhoi'r cydsyniad deddfwriaethol ai peidio. Ond beth bynnag yw canlyniad y bleidlais heddiw, byddwn, fel pwyllgor, yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i warchod buddiannau Cymru yn y broses Brexit ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei gweithredoedd.

15:10

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

I call on the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, Mick Antoniw.

Thank you, Llywydd. On 27 April 2018, the First Minister laid before the National Assembly the Welsh Government’s supplementary legislative consent memorandum—memorandum no. 2—on the Bill as presented to the House of Lords at First Reading. The supplementary legislative consent memorandum clarifies that the Welsh Government’s objections with the Bill as introduced related to four issues:

'all of which have been substantially addressed in the amendments made or proposed to the Bill or the Inter-governmental Agreement related to it'.

We took evidence from the Secretary of State for Wales on 16 April 2018 and from the Cabinet Secretary for Finance, pre-supplementary LCM, on 23 April, and again on 30 April, very shortly after the supplementary LCM had been laid. The evidence we heard informed our conclusions, and we made them in our report laid yesterday afternoon—the agreed report of the committee.

We welcome the progress made by the Welsh Government in negotiating with the UK Government the position regarding the powers to be exercised by the National Assembly following the UK’s withdrawal from the EU. As a consequence, the original clause 11 has been inverted so that powers over devolved policy will now lie with the National Assembly and in line with the devolution settlement currently in place.

We believe it is unfortunate that substantial effort on the part of both sides has been spent correcting the significant deficiencies in the Bill in respect of clause 11, now clause 15—a situation not dissimilar to our experience with the Wales Bill. These prolonged negotiations could, and should, have been avoided had the original drafting shown more respect for the role that devolution plays within the United Kingdom.

The amendments tabled by UK Ministers to clause 11 of the Bill indicated an important step forward and showed significant movement by the UK Government. We welcome the fact that the UK Government, in evidence to us, and in other places, has repeatedly emphasised how important the Sewel convention is and how it will continue to be respected, although we draw the Assembly’s attention to our observations on the new clause 15, following the completion on 8 May of the Report Stage in the House of Lords.

The inter-governmental agreement will test the notions of shared governance and trust. However, we acknowledge that it is a start towards a more respectful and workable inter-governmental relationship. We hope this progress will mean improved inter-governmental working and lead to the short and long-term reform that we recommended to the JMC in our report, ‘UK governance post-Brexit’. We are committed to keeping a watching brief on the implementation of the inter-governmental agreement, including its future application, interpretation and review.

There is still considerable uncertainty around common frameworks, and the terms of the inter-governmental agreement suggest that much remains to be decided. In considering the supplementary LCM we wish to draw to the National Assembly's attention the following points, which I will detail in turn.

Point 1: the convention about the UK Parliament legislating on devolved matters is set out in section 107(6) of the Government of Wales Act 2006, and specifically deals with 'legislating'. For that reason, the inter-governmental agreement—a political agreement—does not form part of the National Assembly’s legislative consent process.

Point 2: the inter-governmental agreement does not have a legal status and cannot bind future Welsh or UK Governments.

Point 3: the length of the proposed sunset provision for new clause 15 will allow restrictions and common frameworks to potentially extend beyond the life of the current Welsh and UK Governments.

Point 4: For Wales, temporary preservation of EU law will be given effect through regulations made under new clause 15 and Schedule 3 to the Bill. For England, temporary preservation will be given effect through the inter-governmental agreement. The recognition of England is constitutionally significant. Nevertheless, in the context of mutual respect and parity—

Diolch ichi, Llywydd. Ar 27 Ebrill 2018, cyflwynodd y Prif Weinidog gerbron y Cynulliad Cenedlaethol Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru—Memorandwm Rhif 2—ar y Bil fel y'i cyflwynwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar y darlleniad cyntaf. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol yn egluro fod gwrthwynebiadau Llywodraeth Cymru i'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn ymwneud â phedwar mater:

'yr aed i'r afael yn sylweddol â phob un ohonynt yn y gwelliannau a wnaed neu a gynigiwyd i'r Bil neu'r Cytundeb Rhynglywodraethol yn gysylltiedig ag ef'.

Cawsom dystiolaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 16 Ebrill 2018 a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyn-atodol, ar 23 Ebrill, ac eto ar 30 Ebrill, yn fuan iawn ar ôl cyflwyno'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn sail i'n casgliadau, a gwnaethom gasglu y rheini yn ein hadroddiad a gyflwynwyd brynhawn ddoe—adroddiad cytunedig y pwyllgor.

Rydym ni'n croesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y DU y sefyllfa o ran y pwerau i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yn sgil ymadawiad y DU o'r UE. O ganlyniad, mae cymal gwreiddiol 11 wedi'i wrthdroi fel mai'r Cynulliad Cenedlaethol bellach fydd gan y pwerau dros bolisi datganoledig ac y bydd y rheini yn unol â'r setliad datganoli sydd ar waith ar hyn o bryd.

Credwn ei bod hi'n anffodus y bu cryn ymdrech ar ran y naill ochr a'r llall i gywiro diffygion sylweddol yn y Bil o ran cymal 11, sef cymal 15 bellach—sefyllfa nid annhebyg i'n profiad gyda Bil Cymru. Dylid, a gellid, bod wedi osgoi'r negodiadau hirfaith hyn petai'r drafftio gwreiddiol wedi dangos mwy o barch i swyddogaeth datganoli yn y Deyrnas Unedig. Roedd y gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn nodi cam pwysig ymlaen ac yn dangos newid agwedd sylweddol gan Lywodraeth y DU.

Rydym ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU, mewn tystiolaeth i ni, ac mewn mannau eraill, dro ar ôl tro wedi pwysleisio pa mor bwysig yw Confensiwn Sewel a sut y bydd yn parhau i'w barchu, er ein bod yn tynnu sylw'r Cynulliad at ein harsylwadau ynglŷn â'r cymal 15 newydd, ar ôl cwblhau ar 8 Mai y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Bydd y cytundeb rhynglywodraethol yn profi'r syniadau o gyd-lywodraethu ac ymddiriedaeth. Fodd bynnag, rydym ni'n cydnabod ei fod yn gychwyn ar berthynas rynglywodraethol mwy parchus ac ymarferol. Rydym ni'n gobeithio y bydd y cynnydd hwn yn golygu gwell gweithio rhyng-lywodraethol ac yn arwain at y diwygio tymor byr a hirdymor a argymhellwyd gennym i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ein hadroddiad, 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd'. Rydym ni wedi ymrwymo i gadw golwg ar weithredu'r cytundeb rhynglywodraethol, gan gynnwys sut y caiff ei briodoli, ei ddehongli a'i adolygu yn y dyfodol.

Mae yna ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch fframweithiau cyffredin, ac mae telerau'r cytundeb rhynglywodraethol yn awgrymu bod llawer eto i'w benderfynu. Wrth ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyn-atodol, rydym ni eisiau tynnu sylw'r Cynulliad Cenedlaethol at y pwyntiau canlynol, y byddaf yn manylu arnyn nhw yn eu tro.

Pwynt 1: y confensiwn ynglŷn â Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig a nodir yn adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn ymdrin yn benodol â 'deddfu'. Am y rheswm hwnnw, nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol—cytundeb gwleidyddol—yn ffurfio rhan o broses cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwynt 2: nid oes statws cyfreithiol i'r cytundeb rhynglywodraethol ac ni all ymrwymo unrhyw lywodraeth a fydd gan Gymru neu'r DU yn y dyfodol. 

Pwynt 3: bydd hyd y ddarpariaeth machlud arfaethedig ar gyfer cymal newydd 15 yn caniatáu cyfyngiadau a fframweithiau cyffredin i ymestyn o bosib y tu hwnt i fywyd presennol Llywodraethau Cymru a'r DU.

Pwynt 4: Ar gyfer Cymru, bydd cadw cyfraith yr UE dros dro yn cael effaith drwy reoliadau a wneir o dan gymal newydd 15 ac Atodlen 3 i'r Bil. Ar gyfer Lloegr, bydd cadw dros dro yn cael effaith drwy'r cytundeb rhynglywodraethol. Mae cydnabod Lloegr yn gyfansoddiadol arwyddocaol. Serch hynny, yng nghyd-destun cydraddoldeb a pharch at ein gilydd—

15:15

Will you take an intervention? 

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

But in terms of—. There is no parity between the devolved nations and England in terms of legislating in devolved areas for England is under the inter-governmental agreement, which is political and not legal, whereas any legislation in devolved areas for Wales, Scotland and Northern Ireland is in legislation, so the treatment is different. 

Ond o ran—. Does dim cydraddoldeb rhwng y gwledydd datganoledig a Lloegr o ran deddfu. Yn y meysydd datganoledig ar gyfer Lloegr, mae hynny'n rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n wleidyddol ac nid yn gyfreithiol, tra bod unrhyw ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan o ddeddfwriaeth, felly mae'r driniaeth yn wahanol.

The treatment is different, but there is a clear convention and the whole agreement, and the whole arrangement sinks or swims on the implementation of that and the maintenance. If that were to fail, then it's very clear, as we discussed within committee, that there would indeed be a constitutional crisis. 

Nevertheless, in the context of mutual respect and parity between the nations of the UK, this difference of approach is also noted.

Point 5: the new clause 15 restrictions will apply until the National Assembly passes Acts that lift those restrictions. 

Point 6: the amendments to the Bill do not require the Welsh Ministers to lay before the National Assembly a copy of any draft clause 15 regulations on the day they receive them from the UK Ministers, even though the 40-day clock on making a consent decision will start on the day the Welsh Ministers receive them. We acknowledge that the Cabinet Secretary—and we put on record—has given an undertaking that the Welsh Government would lay them immediately if they were able to.

Point 7: in the event that the National Assembly actively refuses consent for any draft clause 15 regulations, UK Ministers will be able to lay those draft regulations before the UK Parliament for approval, with a statement prepared by the Welsh Ministers explaining why the National Assembly refused consent. It will then be for the House of Commons and the House of Lords to approve clause 15 regulations. Therefore, it will be for the UK Parliament to make a decision on whether the Sewel convention will be enforced.

Point 8: UK Ministers will report every three months on whether powers that impose restrictions on the National Assembly’s competence should be repealed. UK Ministers will send a copy of each report to the Welsh Ministers, but there is no requirement for the Welsh Ministers to subsequently lay the reports before the National Assembly.

And point 9: when restrictions on the National Assembly’s competence are lifted by the UK Government, the Bill does not require UK Ministers to notify the National Assembly or the Welsh Ministers.

I think those are the comments that summarise the key parts of the report, which, as I say, was an agreed report representing the position of the committee. Thank you, Llywydd.  

Mae'r driniaeth yn wahanol, ond mae confensiwn clir ac mae'r cytundeb cyfan, mae'r trefniant cyfan yn sefyll neu syrthio ar weithredu hynny a chynnal hynny. Pe bai hynny'n methu, yna mae'n glir iawn, fel y trafodwyd yn y Pwyllgor, y byddai argyfwng cyfansoddiadol yn wir.

Serch hynny, yng nghyd-destun cydraddoldeb rhwng gwledydd y DU a pharchu ei gilydd, nodir hefyd y gwahaniaeth hwn o ran sut yr eir ati. 

Pwynt 5: bydd cyfyngiadau y cymal 15 newydd yn berthnasol hyd nes fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio Deddfau yn diddymu'r cyfyngiadau hynny.

Pwynt 6: nid yw'r gwelliannau i'r Bil yn rhoi rheidrwydd ar i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gopi o unrhyw gymal drafft o reoliadau 15 ar y diwrnod y maent yn eu cael gan Weinidogion y DU, er y bydd yr amserlen 40 diwrnod o ran gwneud penderfyniad cydsynio yn dechrau ar y dydd y mae Gweinidogion Cymru yn eu derbyn. Rydym ni'n cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet—ac fe roesom ni hyn ar y cofnod—wedi rhoi addewid y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ar unwaith pe byddai'n gallu.

Pwynt 7: pe byddai Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw reoliad yng nghymal drafft 15, byddai Gweinidogion y DU yn gallu cyflwyno'r rheoliadau drafft hynny gerbron Senedd y DU i'w cymeradwyo, gyda datganiad wedi'i baratoi gan Weinidogion Cymru yn esbonio pam fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwrthod caniatâd. Lle Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi wedyn fydd cymeradwyo rheoliadau cymal 15. Felly, lle Senedd y DU fydd penderfynu a ddylid gorfodi Confensiwn Sewel ai peidio.

Pwynt 8: bydd Gweinidogion y DU yn adrodd bob tri mis ynghylch pa un ai a ddylid diddymu'r pwerau sy'n gosod cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd Gweinidogion y DU yn anfon copi o bob adroddiad at Weinidogion Cymru, ond nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru wedyn gyflwyno'r adroddiadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

A phwynt 9: pan ddiddymir y cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol gan Lywodraeth y DU, nid yw'r Bil yn rhoi rheidrwydd ar i Weinidogion y DU hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion Cymru.

Rwy'n credu mai dyna'r sylwadau sy'n crynhoi rhannau allweddol yr adroddiad, a oedd, fel y dywedaf, yn adroddiad cytunedig sy'n cynrychioli safbwynt y Pwyllgor. Diolch ichi, Llywydd.

I'm pleased to support the motion before the Assembly this afternoon. As the CLAC report notes, central to the recommendation to approve the LCM is the inter-governmental agreement, and I want to return to that later. This, together with the amendments to the original clause 11. As the CLAC report states: 

'The amendments tabled by UK Ministers to clause 11 of the Bill indicate an
important step forward and show significant movement by the UK Government.'

And CLAC also observed, and this has already been referred to, that 

'the force of the Sewel convention has become apparent during the Bill’s progress'.

I do believe genuinely that this whole process of difficult negotiation has been to the credit of the UK Government and also to the Welsh Government. This is what we expect in difficult constitutional areas, which many of us never wanted to occur and many of the challenges have been unanticipated. But there has clearly been constructive working on both sides and this has borne fruit.

It is clear to me that the Welsh Government secured an important and constitutionally significant concession from the UK Government on the way EU law is to be retained until frameworks for the UK are agreed. Let me again quote the CLAC report: 

'The current position whereby this temporary preservation will apply to the devolved institutions and England is a substantial development.'

I genuinely think the Welsh Government's negotiation here has been hugely significant and has obviously had an effect on the debate in Scotland. 

Immediately after the Brexit vote, which was a democratic mandate of great constitutional importance—I did not vote for it, but we cannot deny its importance—there was a strong consensus that UK frameworks would be needed when we left the EU. It seems to me that the need, overwhelmingly in the public interest, to construct frameworks has been the motivational principle driving the Welsh Government and the UK Government. Unfortunately, Plaid and the SNP have been driven by narrow political interests. On the one hand, they say we need frameworks, but on the other hand, Scotland, and presumably Wales, should have a veto.

It's appropriate to note here that the EU's frameworks do not operate on the basis of a national veto. They operate by negotiation, with an ability to use majority voting if necessary. Perhaps the public are well ahead of the nationalists. They realise the practical need for shared governance, relating to the environment and farming for instance. There seems little support in Scotland or Wales for the narrow nationalist agenda on the process of agreeing frameworks.

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor:

'Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Weinidogion y DU i gymal 11 o'r Bil yn gam pwysig ymlaen ac maent yn dangos bod Llywodraeth y DU wedi bod yn barod i newid cyfeiriad.'

A dywedodd y Pwyllgor hefyd, ac fe gyfeiriwyd at hyn eisoes, bod

'grym confensiwn Sewel wedi dod i'r amlwg wrth i'r Bil a'r trafodaethau cysylltiedig fynd yn eu blaen'.

Rwy'n wirioneddol gredu bod y broses hon o negodi anodd er clod i Lywodraeth y DU a hefyd i Lywodraeth Cymru. Dyma'r hyn a ddisgwyliwn mewn meysydd cyfansoddiadol anodd, nad oedd llawer ohonom ni fyth eisiau eu gweld yn digwydd a ble mae llawer o'r heriau wedi bod yn annisgwyl. Ond mae'n amlwg y bu gwaith adeiladol ar y ddwy ochr ac mae hyn wedi dwyn ffrwyth.

Mae'n amlwg i mi y sicrhaodd Llywodraeth Cymru gonsesiwn pwysig a chyfansoddiadol arwyddocaol gan Lywodraeth y DU o ran y ffordd y caiff cyfraith yr UE ei ddargadw hyd nes y cytunir ar fframweithiau ar gyfer y DU. Caniatewch imi ddyfynnu eto o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol:

'Mae'r sefyllfa bresennol, lle y cedwir cyfraith yr UE am y tro yn y sefydliadau datganoledig ac yn Lloegr, yn ddatblygiad arwyddocaol.'

Rwy'n wirioneddol gredu bod negodi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn wedi bod yn arwyddocaol iawn ac yn amlwg wedi cael effaith ar y ddadl yn yr Alban.

Yn union ar ôl y bleidlais Brexit, a oedd yn fandad democrataidd o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr—ni phleidleisiais i drosto, ond allwn ni ddim gwadu ei bwysigrwydd—cafwyd consensws cryf y byddai angen fframweithiau ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd pan fyddem yn gadael yr UE. Mae'n ymddangos i mi mai'r angen, er budd y cyhoedd i raddau helaeth iawn, i adeiladu fframweithiau oedd yr egwyddor ysgogol sydd wedi bod yn cymell Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn anffodus, buddiannau gwleidyddol cul fu cymhelliant Plaid Cymru a'r SNP. Ar yr un llaw, maen nhw'n dweud bod angen fframweithiau arnom ni, ond ar y llaw arall, y dylai'r Alban, a Chymru, yn ôl pob tebyg, gael pleidlais atal.

Mae'n briodol nodi yma nad yw fframweithiau yr UE yn gweithredu ar sail pleidlais atal genedlaethol. Maent yn gweithredu drwy negodi, gyda'r gallu i ddefnyddio pleidleisio mwyafrifol os oes angen. Efallai bod y cyhoedd ymhell ar y blaen i'r cenedlaetholwyr. Maen nhw'n sylweddoli bod angen ymarferol am gyd-lywodraethu, sy'n ymwneud â'r amgylchedd a ffermio er enghraifft. Ymddengys nad oes fawr o gefnogaeth yn yr Alban neu yng Nghymru ar gyfer yr agenda genedlaetholgar gul ynglŷn â'r broses o gytuno ar y fframweithiau.

15:20

Would the Member give way? 

A wnaiff yr Aelod ildio?

If this is really a roll-back of devolution, as Plaid and the SNP claim, the public seem very sanguine. I will give way. 

Os yw hyn yn wir yn gam yn ôl o ddatganoli, fel mae Plaid a'r SNP yn honni, mae'r cyhoedd yn ymddangos yn hyderus iawn. Fe wnaf ildio. 

I thank the Member. Can he name one occasion when any Member here has argued against a UK framework? 

Diolch i'r Aelod. A all grybwyll un achlysur pan fo unrhyw Aelod yma wedi dadlau yn erbyn fframwaith ar gyfer y DU?

Well, you see, that's the whole point, isn't it? You argue, 'Yes, we need them', but you won't agree any process or give reasonable consent to them being constructed. You want a national veto. You want to preserve what you see as your absolute sovereignty. 

Wel, dyna'r holl bwynt, welwch chi, ynte? Rydych chi'n dadlau, 'Oes, mae eu hangen nhw arnom ni', ond wnewch chi ddim cytuno ar unrhyw broses neu roi cydsyniad rhesymol i'w ffurfio. Rydych chi eisiau pleidlais atal genedlaethol. Rydych chi eisiau cadw'r hyn a welwch chi fel eich sofraniaeth absoliwt.

Will you take an intervention? 

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

There wouldn't have been an EU in the first place if that particular interpretation of sovereignty had not been reassessed. As Monnet said, we need to go through the barrier of narrow national sovereignty, and we need to create, in the UK, something analogous to the shared governance in the EU. Your approach is antithetical to that and that's the whole problem here this afternoon. 

Ni fyddai UE wedi bodoli yn y lle cyntaf oni ailaseswyd y dehongliad penodol hwnnw o sofraniaeth. Fel y dywedodd Monnet, mae angen inni oresgyn y rhwystr o sofraniaeth genedlaethol gul, ac mae angen inni greu, yn y DU, rhywbeth sy'n cyfateb i'r llywodraethiant cyffredin yn yr UE. Mae'r ffordd yr ydych chi'n mynd ati yn gwyrdroi hynny a dyna'r holl broblem yma y prynhawn yma.

Will you take an intervention?

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Okay, I'll take one more. 

Iawn, fe wnaf i dderbyn un yn rhagor.

Thank you for the intervention and for drawing attention to our narrow nationalism versus your wide nationalism, if that's the case. One thing that we certainly did propose was a disputes mechanism. You have a Council of Ministers on an EU level; we need a disputes mechanism on a UK level, which we don't have. 

Diolch ichi am yr ymyriad, ac am dynnu sylw at ein cenedlaetholdeb cul o'i gymharu â'ch cenedlaetholdeb eang, os mai dyna'r sefyllfa. Un peth y gwnaethom ni yn sicr ei gynnig oedd trefn anghydfodau. Mae gennych chi Gyngor Gweinidogion ar lefel yr UE; mae angen trefn anghydfodau arnom ni ar lefel y DU, ac nid oes gennym ni hynny.

Can I say, Rhun, I'm genuinely pleased that you've made that point because I want to now move to my conclusion, which I do think is an area, we may find, that more unites us?

As I said at the start, the inter-governmental agreement is really important. It's only the start, however, of our concept of shared governance and this does require an overhaul and it will be the ultimate test of whether these frameworks endure and work effectively. If they don't, then that unfortunately will undermine the integrity of the British constitution and the devolved settlement. So, I do partly agree with you that issues like how you resolve disputes is really, really important.

The overhaul of inter-governmental relations needs to be accompanied, Llywydd, by an overhaul of inter-parliamentary relations, because how we scrutinise this level of governance has been little discussed so far and that's going to be very, very important. One of the main reasons we got into a mess, in terms of what the public saw anyway, of deficient EU governance was there was a lack of parliamentary scrutiny, and we do not want to repeat those mistakes. And here I conclude by commending the CLAC report, 'UK governance post-Brexit'. I do urge everyone to vote for this most reasonable compromise and the motion before us.

A gaf i ddweud, Rhun, rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi gwneud y sylw hwnnw oherwydd rwyf eisiau symud yn awr at fy nghasgliad, sydd yn faes, rwy'n credu, efallai, y byddwn yn fwy unedig yn ei gylch?

Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn bwysig iawn. Dim ond y dechrau yw, fodd bynnag, o'n cysyniad o gyd-lywodraethu ac mae angen ailwampio hyn a dyna fydd y prawf eithaf p'un a yw'r fframweithiau hyn yn mynd i bara a gweithio'n effeithiol. Os nad ydynt, yna yn anffodus bydd hynny'n tanseilio dilysrwydd y cyfansoddiad Prydeinig a'r setliad datganoledig. Felly, rwyf yn rhannol gytuno â chi bod materion fel sut mae datrys anghydfodau yn wirioneddol, wirioneddol bwysig.

Wrth ailwampio cysylltiadau rhynglywodraethol, Llywydd, mae angen hefyd ailwampio'r cysylltiadau rhyng-seneddol, oherwydd prin iawn fu'r drafodaeth ynghylch sut yr ydym ni'n craffu ar y lefel hon o lywodraethu hyd yma ac mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn, iawn. Un o'r prif resymau yr aeth pethau yn draed moch, o ran yr hyn a welodd y cyhoedd beth bynnag, o ran llywodraethu diffygiol yr UE oedd diffyg craffu Seneddol, ac nid ydym ni eisiau ailadrodd y camgymeriadau hynny. A dyma ble rwy'n terfynu drwy ganmol adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, 'Llywodraethiant yn y DG ar ôl gadael yr Unedeb Ewropeaidd'. Rwyf yn annog pawb i bleidleisio o blaid y cyfaddawd mwyaf rhesymol hwn a'r cynnig sydd ger ein bron.

15:25

Today is about facts. There has been a lot of debate; there have been lots of accusations that we over here don't understand what's going on, but now the time for rhetoric is over. This is about a reasoned argument against a Bill that will weaken this Assembly. Llywydd, tonight, we'll see a Labour Government vote with the Tories and UKIP to support Westminster's EU withdrawal Bill, a Bill that is designed to take powers back under Westminster's control, and it's as simple as that. The body of evidence, public opinion and even their own party leader is against them.

We heard from the Chair of the committee who's just accepted that not a single measure of the tests set by the cross-party external affairs committee was met. Labour's own party leader called it a 'power grab', while the Conservative Prime Minister is praising their actions. Members opposite, I know that many of you believe in devolution and, for this reason, I'm appealing to you to take a stand today. Join us in defending Wales. Join us in standing up for devolution. If you take the party whip, if you follow your front bench, know that this institution will be weaker for it.

Llywydd, I know that through arduous discussions with Westminster, concessions have been achieved. This deal, however, does not deliver on the targets set out by Ministers themselves. In a lecture yesterday, the finance Secretary outlined in detail how the Joint Ministerial Committee is not fit for purpose, yet this deal commits us to using that very committee to protect our powers. The Assembly lawyers have highlighted the risk to devolution posed by this Bill, and the cross-party committees that took a look at these matters agree. Even last week, the environment Cabinet Secretary complained that Westminster had failed to consult her before publishing a new consultation. Westminster are breaking this agreement before it's even in force.

Llywydd, there will be heated contributions to this debate, I've no doubt, but I once again want to appeal to reason. If you believe in Wales, if you believe in devolution, if you believe that it is this Assembly and not Westminster that best serves our people, vote against this motion; vote for devolution; vote for Wales.

Mae heddiw'n ymwneud â ffeithiau. Bu llawer o drafod; bu llawer o gyhuddiadau nad ydym ni yma yn deall beth sy'n digwydd, ond mae'r amser am rethreg ar ben bellach. Mae a wnelo hyn â dadl resymol yn erbyn Bil a fydd yn gwanhau y Cynulliad hwn. Llywydd, heno, byddwn yn gweld Llywodraeth Lafur yn pleidleisio gyda'r Torïaid ac UKIP i gefnogi Bil ymadael yr EU San Steffan sydd wedi'i gynllunio i adfer pwerau o dan reolaeth San Steffan, ac mae mor syml â hynny. Mae'r corff o dystiolaeth, barn y cyhoedd a hyd yn oed arweinydd eu Plaid eu hunain yn eu herbyn.

Clywsom gan Gadeirydd y pwyllgor sydd newydd dderbyn na dderbyniwyd yr un mesur o'r profion a osodir gan y pwyllgor materion allanol trawsbleidiol. Dywedodd Arweinydd y Blaid Lafur ei hun ei fod yn ymgais i gipio grym, er bod y Prif Weinidog Ceidwadol yn canmol eu gweithredoedd. Aelodau gyferbyn, rwy'n gwybod fod llawer ohonoch chi'n credu mewn datganoli ac, am y rheswm hwn, rwy'n apelio arnoch chi i sefyll heddiw. Ymunwch â ni i amddiffyn Cymru. Ymunwch â ni i sefyll dros ddatganoli. Os ydych chi'n derbyn chwip y blaid, os ydych chi'n dilyn eich mainc flaen, credwch chi fi, bydd y sefydliad hwn yn wannach o'i herwydd.

Llywydd, rwy'n gwybod y sicrhawyd consesiynau drwy drafodaethau llafurus gyda San Steffan. Nid yw'r fargen hon, fodd bynnag, yn cyflawni'r targedau sydd wedi eu gosod gan Weinidogion eu hunain. Mewn darlith ddoe, a amlinellodd yr Ysgrifennydd cyllid yn fanwl sut nad yw Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn addas at y diben, eto mae'r fargen hon yn ein hymrwymo i ddefnyddio'r union bwyllgor hwnnw i ddiogelu ein pwerau. Mae cyfreithwyr y Cynulliad wedi amlygu'r risg i ddatganoli a achosir gan y Bil hwn, ac mae'r pwyllgorau trawsbleidiol a oedd yn edrych ar y materion hyn yn cytuno. Hyd yn oed yr wythnos diwethaf, cwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd fod San Steffan wedi methu ag ymgynghori â hi cyn cyhoeddi ymgynghoriad newydd. Mae San Steffan yn torri'r cytundeb hwn cyn ei fod hyd yn oed mewn grym.

Llywydd, bydd cyfraniadau angerddol i'r ddadl hon, does dim amheuaeth gennyf i, ond unwaith eto hoffwn apelio at reswm. Os ydych chi'n credu yng Nghymru, os ydych chi'n credu mewn datganoli, os ydych chi'n credu mai'r Cynulliad hwn ac nid San Steffan sy'n gwasanaethu ein pobl orau, pleidleisiwch yn erbyn y cynnig hwn; pleidleisiwch dros ddatganoli; pleidleisiwch dros Gymru.

I thought that the Cabinet Secretary for Finance made a powerful Unionist case for this legislative consent motion. And, of course, I understand where Plaid Cymru are coming from; they don't believe in the United Kingdom, so they therefore take the maximalist view that has been expressed, and Plaid are quite right to make the points that they have made with the force and vigour that we've come to accept. If I took their view of what nationalism meant for Wales, I would agree with them, but I don't; I'm a Unionist, and I accept the fundamental reality that was referred to by David Melding in his speech that this EU withdrawal Bill is consequent upon a decision of the people of the United Kingdom by referendum to leave the European Union, and I believe it's a trust that's been handed to us as legislators to deliver on the decision that they made. It is not for one constituent part of the United Kingdom to frustrate that process. Even in Scotland, where 62 per cent voted against Brexit, I don't believe it is constitutionally proper for them to stand in the way of the passage of the Bill.

I believe that the Welsh Government has played an extremely good hand in the course of the negotiations, and there's been, I think, a deepening of the whole devolution process—a deepening of understanding of the constitutional processes that were set in train 20 years ago. I believe it is regrettable that the United Kingdom Government was so far behind the tide of events in this respect that the whole argument about clause 11, as was, was allowed to develop as it did. I thought it showed a sort of shocking failure of understanding on the part of UK Ministers of the constitutional realities of modern life in Britain, and that's highly regrettable.

Roeddwn i'n credu y traddododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid araith unoliaethol rymus ar gyfer y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Ac, wrth gwrs, rwy'n deall safbwynt Plaid Cymru; nid ydynt yn credu yn y Deyrnas Unedig, felly maen nhw'n arddel y farn eithafol a fynegwyd, ac mae Plaid yn berffaith iawn i wneud y sylwadau y maen nhw wedi'u gwneud gyda'r grym a'r arddeliad yr ydym ni wedi dod i'w derbyn. Pe bawn i o'r un farn â nhw o ran beth mae cenedlaetholdeb yn ei olygu i Gymru, byddwn yn cytuno â nhw, ond dydw i ddim; rwy'n Unoliaethwr, ac rwy'n derbyn y realiti sylfaenol y cyfeiriodd David Meldin ato yn ei araith fod Bil ymadael yr UE yn ganlyniad i benderfyniad pobl y Deyrnas Unedig drwy gyfrwng refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, a chredaf ei bod hi'n ymddiriedaeth a roddwyd i ni fel deddfwyr i gyflawni'r penderfyniad a wnaed ganddynt. Nid lle un rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig yw rhwystro'r broses honno. Hyd yn oed yn yr Alban, lle pleidleisiodd 62 y cant yn erbyn Brexit, nid wyf yn credu ei bod hi'n gyfansoddiadol briodol iddyn nhw rwystro hynt y Bil.

Rwy'n credu y bu Llywodraeth Cymru yn dringar rhyfeddol yn ystod y trafodaethau, ac, rwy'n credu, bod yr holl broses ddatganoli wedi dyfnhau—dyfnhau dealltwriaeth o'r prosesau cyfansoddiadol a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl. Mae'n destun gofid rwy'n credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig mor ddi-ddeall o ddigwyddiadau yn hyn o beth fel y caniatawyd yr holl ddadl am gymal 11, fel yr oedd i ddatblygu fel y gwnaeth. Roeddwn yn credu ei fod yn dangos rhyw fath o fethiant syfrdanol o dealltwriaeth ar ran Gweinidogion y DU o realiti cyfansoddiadol bywyd modern ym Mhrydain, ac mae hynny'n anffodus iawn.

I believe also that Plaid Cymru have been quite right to draw attention to the deficiencies of the leader of the Labour Party in the United Kingdom in the course of the last few days, because what's happening in Scotland is that he is playing party games with the future of the United Kingdom, and I believe that that is a fundamentally irresponsible approach. And I'm sorry to have to say this, but I believe the grown-up and mature approach that we've had from Ministers in the Welsh Government shows how unfitted the leader of the party in the United Kingdom is for the office to which he aspires. 

Now, I'll say at once that I've got no more trust in Theresa May than Plaid Cymru have. She makes Ethelred the Unready look like a model of decisiveness. I wouldn't trust her word, not because I think she's a dishonest person, but I think that she is so hopelessly incompetent that she could make the opposite happen by accident. And I do believe that for a remainer to show her colours in the way that she has done over the last few weeks over the absurd proposal of some kind of a customs union, which isn't even on the table, and which nobody on either side of the argument over Brexit is prepared to give the time of day to, shows the problems that we're dealing with. 

But the fundamental reality is that we, in this Assembly, do not exercise any of the powers that are going to be affected by this Bill at the moment. The fundamental reality is that these powers are exercised by bodies that are far from Cardiff and over which we have no practical control, whether it's the European Commission, which has the power to legislate in itself without any democratic control by the Council of Ministers—. There's a huge corpus of EU regulation that simply spews out of the Commission and is rubber stamped on the spot. We will now have the opportunity to participate in the democratisation of huge portions of technical legislation in areas such as agriculture and the environment, in particular, which are of great importance to us here in Wales. 

This is a massive—this whole process—enlargement of the democratic process and an extension in practical terms of the powers of this Assembly. I think that is hugely important, and this is why I can't understand the paradox of the Plaid Cymru position, that they regard a power grab by Westminster of constitutional tools and legislative tools that currently we don't even possess to be of fundamental importance, but they show absolutely no fear at all of handing those over to a body based in Brussels or elsewhere in the European Union, where we have even less control over what goes on than we do at Westminster. So, that seems to me to be, in practical terms, a most unsupportable position to hold. If Wales were an independent country politically then their points would have some force. But, as we are not, and the Welsh people don't show any great predisposition to adopt the Plaid Cymru position on Wales's role within the United Kingdom, and are not likely to in the foreseeable future, I think the arguments that Plaid are advancing here are very, very far from being in the world of reality. 

So, consequently, I think it is very important that we do pass this legislative consent motion today, not just because it gives us the scope for increasing the powers of this Assembly, but, as part and parcel of this process—and I'm not sure that this point has been drawn out today, although it has on previous occasions when we've debated this topic—actually England is restricted now in many ways that it wasn't before as a result of this agreement, and that gives us the greatest possible assurance that the United Kingdom Government will want to conclude this transitionary period as quickly as it can, because I don't believe that the United Kingdom Government does want to have the legislative power for Wales in these devolved areas and that we can, I think, be as confident as we possibly can—. Even though I accept that this is not something in which the i's have been dotted and the t's crossed in legal form, I think it's inconceivable almost that the United Kingdom Government would want to resile at this stage from the devolution settlement, and, as Mick Antoniw pointed out in response to Dai Lloyd earlier on, there would be a fundamental constitutional crisis of great importance, where I think you would find that across this Chamber there would be, to all intents and purposes, unanimity in opposing such a venture. Therefore, I don't believe, personally, there is any constitutional risk in allowing this legislative consent motion to proceed; I believe there's every constitutional advantage and practical advantage for the people of Wales in doing so. 

Rwy'n credu hefyd y bu Plaid Cymru yn hollol gywir i dynnu sylw at ddiffygion arweinydd y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yw ei fod yn chwarae gemau parti gyda dyfodol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod hynny'n ymagwedd sylfaenol anghyfrifol. Ac mae'n ddrwg gennyf orfod dweud hyn, ond rwy'n credu bod agwedd aeddfed a hirben Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn dangos pa mor anaddas yw arweinydd y blaid yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y swyddogaeth y mae ef yn ymgyrraedd ati.

Nawr, byddwn yn dweud yn ddi-oed nad oes gennyf ronyn mwy o ymddiriedaeth yn Theresa May na sydd gan Blaid Cymru. Mae'n gwneud i Ethelred the Unready edrych yn batrwm o bendantrwydd. Fyddwn i ddim yn ymddiried yn ei gair, nid oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi'n berson anonest, ond oherwydd fy mod i'n credu ei bod hi mor anobeithiol o anghymwys fel y gallai wneud i'r gwrthwyneb ddigwydd trwy ddamwain. Ac rwyf yn credu, i rywun sy'n bleidiol dros aros fynegi ei safbwynt yn y ffordd y mae wedi'i wneud dros yr ychydig wythnosau diwethaf dros y cynnig hurt o ryw fath o undeb tollau, nad yw hyd yn oed o dan ystyriaeth, ac nad oes neb ar y naill ochr y ddadl na'r llall dros Brexit yn fodlon ei ystyried, yn dangos y problemau yr ydym ni'n ymdrin â nhw.

Ond y gwirionedd sylfaenol yw nad ydym ni, yn y Cynulliad hwn, yn gweithredu unrhyw un o'r pwerau y bydd y Bil hwn yn effeithio arnynt ar hyn o bryd. Y gwirionedd sylfaenol yw bod y pwerau hyn yn cael eu harfer gan gyrff sydd ymhell o Gaerdydd ac nad oes gennym ni unrhyw reolaeth ymarferol drostyn nhw, boed yn y Comisiwn Ewropeaidd, sydd â'r pŵer i ddeddfu ei hun heb unrhyw reolaeth ddemocrataidd gan Gyngor y Gweinidogion—. Mae corff enfawr o Reoliadau'r UE yn dylifo o'r Comisiwn ac yn cael sêl bendith yn y fan a'r lle. Bydd gennym yn awr y cyfle i fod yn rhan o ddemocrateiddio cyfran enfawr o ddeddfwriaeth dechnegol mewn meysydd fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd, yn arbennig, sydd o bwys mawr i ni yma yng Nghymru.

Mae hyn yn enfawr—yr holl broses hon—ehangu'r broses ddemocrataidd ac ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn yn ymarferol. Rwy'n credu bod hynny yn hynod o bwysig, a dyna pam na allaf i ddeall paradocs safbwynt Plaid Cymru, eu bod yn ystyried yr ymgais gan San Steffan o gipio grym ar ffurf dulliau cyfansoddiadol a dulliau deddfwriaethol nad ydym ni ar hyn o bryd hyd yn oed yn meddu arnyn nhw o bwys sylfaenol, ond does ganddyn nhw ddim pryder o gwbl trosglwyddo'r rheini i gorff seiliedig ym Mrwsel neu mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, lle mae gennym ni hyd yn oed llai o reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd na sydd gennym ni yn San Steffan. Felly, mae hynny'n ymddangos i mi i fod, yn ymarferol, yn safbwynt gwrthun iawn i'w choleddu. Pe bai Cymru yn wlad annibynnol yn wleidyddol byddai gan eu pwyntiau elfen o rym. Ond, oherwydd nad ydym ni, ac nad yw pobl Cymru yn dangos unrhyw duedd mawr at fabwysiadu safbwynt Plaid Cymru ynglŷn â lle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac yn annhebygol o wneud hynny yn y dyfodol rhagweladwy, rwy'n credu bod y dadleuon y mae Plaid yn eu hyrwyddo yma yn ymhell iawn, iawn o fod yn y byd go iawn.  

Felly, rwy'n credu, o ganlyniad, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni yn rhoi sêl ein bendith ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw, nid dim ond oherwydd ei fod yn rhoi'r cyfle inni gynyddu pwerau'r Cynulliad hwn, ond, fel rhan o'r broses hon—ac nid wyf yn siŵr a roddwyd sylw i'r pwynt hwn heddiw, er y gwnaed hynny ar achlysuron blaenorol pan rydym ni wedi trafod y pwnc hwn—mewn gwirionedd mae Lloegr yn gyfyngedig yn awr mewn sawl ffordd nad oedd o'r blaen o ganlyniad i'r cytundeb hwn, ac mae hynny'n rhoi y sicrwydd mwyaf posibl y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cwblhau'r cyfnod pontio hwn mor gyflym ag y gall, oherwydd nid wyf yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cael y pŵer deddfwriaethol i Gymru yn y meysydd datganoledig hyn ac y gallwn ni, rwy'n credu, fod mor hyderus ag y gallwn ni—. Er fy mod yn derbyn nad yw'n rhywbeth y rhoddwyd sylw i bob manylyn mewn ffurf gyfreithiol, rwy'n credu ei bod hi bron yn annirnadwy y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau cilio ar y cam hwn o'r setliad datganoli, ac, fel y dywedodd Mick Antoniw wrth ymateb i Dai Lloyd yn gynharach, byddai argyfwng cyfansoddiadol sylfaenol o bwys mawr, ble rwy'n credu y gwelech chi ar draws y Siambr hon fod, i bob pwrpas, unfrydedd yn gwrthwynebu'r fath fenter. Felly, nid wyf o'r farn, yn bersonol, bod unrhyw risg cyfansoddiadol yn caniatáu i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn fynd rhagddo; rwy'n credu bod pob mantais gyfansoddiadol a mantais ymarferol i bobl Cymru wrth wneud hynny.

15:35

I'd like to thank the Cabinet Secretary for bringing the LCM forward for debate this afternoon, and once again acknowledge the major gain that this agreement delivers for Wales and for the people we represent. Now, last night, I was fortunate to hear Mark Drakeford speak to a packed audience at Cardiff University on Brexit and devolution. He gave a formidable account, a formidable account, of Welsh Government and not just himself as the key Cabinet Secretary, the First Minister, all Cabinet Secretaries and Ministers, of their engagement in the Brexit process, but also focused on options, opportunities that we can consider that lie ahead through towards the transition period and beyond, but he delivered the message very clearly on his inter-governmental agreement, and, of course, was questioned on it, but was so clear. And we must make sure that we get this message over to the people that we represent, that all powers in our devolved policy areas will be held in Cardiff except those areas where UK frameworks are needed, and repeat the fact that the original clause 11 in the EU withdrawal Bill would have retained in Westminster all returning EU powers in devolved policy areas. We must show clearly what we have moved from, what this inter-governmental agreement has achieved. 

Fe hoffwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer dadl y prynhawn yma, ac unwaith eto cydnabod y cynnydd mawr y mae'r cytundeb hwn yn ei ddarparu ar gyfer Cymru ac i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Nawr, neithiwr, roeddwn yn ffodus i glywed Mark Drakeford yn annerch cynulleidfa fawr ym Mhrifysgol Caerdydd ynglŷn â Brexit a datganoli. Rhoddodd gyfrif aruthrol, cyfrif aruthrol, o Lywodraeth Cymru, nid yn unig o'i hun fel Prif Ysgrifennydd y Cabinet, y Prif Weinidog, holl Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion, o'u hymwneud â'r broses Brexit, ond hefyd fe ganolbwyntiodd ar ddewisiadau, y cyfleoedd y gallwn ni ystyried sydd o'n blaenau tuag at y cyfnod pontio a thu hwnt, ond fe gyflwynodd y neges yn glir iawn ar ei gytundeb rhynglywodraethol, ac, wrth gwrs, fe'i holwyd yn ei gylch, ond roedd mor glir. Ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cyfleu'r neges hon i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli, y caiff yr holl bwerau yn ein meysydd polisi datganoledig eu dal yng Nghaerdydd ac eithrio'r meysydd hynny ble mae angen fframweithiau ar gyfer y DU, ac ailadrodd y ffaith y byddai'r cymal 11 gwreiddiol ym Mil ymadael yr EU wedi cadw yn San Steffan yr holl bwerau fyddai'n dychwelyd o'r UE mewn meysydd polisi datganoledig. Mae'n rhaid inni ddangos yn glir y sefyllfa yr ydym ni wedi datblygu ohoni, beth mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwn wedi ei gyflawni. 

Will you give way? Thank you. 

What they're doing is taking powers from Brussels that ought to go to Scotland, Wales and the regions of England and instead hoarding them in Whitehall. That's totally unacceptable, and we've made that clear. Jeremy Corbyn: what have you got to say about that? 

A wnewch chi ildio? Diolch.

Beth maen nhw'n ei wneud yw cymryd pwerau o Frwsel a ddylai fynd i'r Alban, i Gymru a rhanbarthau Lloegr ac yn hytrach eu cronni yn Whitehall. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n glir. Jeremy Corbyn: beth sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny?

The powers are coming back to Cardiff; they're going to Edinburgh. Indeed, what is so important about this agreement is that it was developed over a long period of time with negotiations with the Scottish Government, with the Scottish Minister, acknowledged in terms of substantial progress by the First Minister of Scotland. And this agreement will deliver for the people of Scotland, not just for the people of Wales. It will deliver for the people of Scotland. It will ensure that those powers are retained in Cardiff and Edinburgh. So, securing this substantial agreement is a major achievement, but I think it now will enable the Welsh Government to constructively engage at inter-government level in the Brexit negotiations that lie ahead.

I also want to recognise the opportunities and responsibilities that we have as an Assembly as we move forward. We did conclude in our LCM report, and, of course, David Rees has spoken of this already, with a strong message from the EAAL Committee, a strong message to the UK Government, and that conclusion was that we hope that the UK Government will seek to engage meaningfully with the Assembly through its committees at an early stage when it comes to future Brexit legislation that affects Wales, and, in particular, the proposed withdrawal agreement and the implementation Bill. And that is what we must focus on. I do welcome the inter-parliamentary forum, and that's been mentioned by Mick Antoniw as well. It has given Wales a strong voice in Westminster and with the devolved administrations. I'm glad that that forum is there to ensure—. It will have a close watch on the delivery of this agreement, but also a close watch on those amendments that, of course, will now go back to the Commons, which we need to make sure are delivered and are supported by our parliamentary colleagues.

Now, Mark Drakeford has told our committee that the Welsh Government has had to prioritise 40 strands of Brexit negotiations, and it's vital that there is robust machinery to enable the Welsh Government to take this forward and to be held to account by this Assembly. There are areas where we can unite and should unite in this Chamber as we move from this LCM with a strengthened message from all parties that the UK Government must now deliver that more robust inter-governmental machinery, and, of course, we only have to turn to 'Securing Wales' Future', which Mark Drakeford mentioned more than once last night, and look at that section in 'Securing Wales' Future' on constitutional and devolved matters, and that section, which says, 

'Withdrawing from the EU is a major constitutional turning point for Wales and the UK as a whole.'

'The current inter-governmental machinery will no longer be fit-for-purpose and new ways of working—based on agreements freely entered into by the UK Government and the three devolved administrations and subject to independent arbitration—must be developed.'

Let's move forward together on that all-important objective. We do need a Council of Ministers, we do need a strengthed JMC machinery. And, Llywydd, we have an agreement that has forced the UK Government to respect devolution, that not only protects but entrenches devolution with entirely new defences, an agreement that has broken new constitutional ground, a remarkable achievement. Let's make sure we do share this good news as clearly as possible as much as necessary. Now, let's move on and engage fully in the next phase of the Brexit negotiations, in particular the withdrawal agreement and all Brexit forthcoming legislation.

Mae'r pwerau yn dod yn ôl i Gaerdydd; maen nhw yn mynd i Gaeredin. Yn wir, yr hyn sydd mor bwysig am y cytundeb hwn yw y cafodd ei ddatblygu dros gyfnod hir o amser gyda negodiadau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweinidog yr Alban, ac a gydnabuwyd o ran cynnydd sylweddol gan Brif Weinidog yr Alban. A bydd y cytundeb hwn yn darparu ar gyfer pobl yr Alban, nid yn unig ar gyfer pobl Cymru. Bydd yn darparu ar gyfer pobl yr Alban. Bydd yn sicrhau bod y pwerau hynny yn cael eu cadw yng Nghaerdydd a Chaeredin. Felly, mae sicrhau'r cytundeb sylweddol hwn yn gyflawniad mawr, ond rwy'n credu bellach y bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ymwneud yn adeiladol ar lefel rhyng-lywodraethol yn y negodiadau Brexit sydd o'n blaenau.

Hoffwn hefyd gydnabod y cyfleoedd a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni fel Cynulliad wrth inni symud ymlaen. Daethom i'r casgliad yn ein hadroddiad Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ac, wrth gwrs, mae David Rees wedi sôn am hyn eisoes, gyda neges gref gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, neges gref i Lywodraeth y DU, a chasgliad hwnnw oedd ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio ymwneud yn ystyrlon â'r Cynulliad drwy ei bwyllgorau ar gam cynnar o ran deddfwriaeth Brexit yn y dyfodol  sy'n effeithio ar Gymru, ac, yn arbennig, y cytundeb ymadael arfaethedig a gweithredu'r Bil. A dyna beth mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno. Rwyf yn croesawu y fforwm rhyng-seneddol, ac mae hynny wedi'i grybwyll gan Mick Antoniw hefyd. Mae wedi rhoi llais cryf i Gymru yn San Steffan a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Rwy'n falch bod fforwm hwnnw yn bodoli er mwyn sicrhau—. Bydd yn cadw golwg fanwl ar gyflawni'r cytundeb hwn, ond hefyd ar y gwelliannau hynny fydd, wrth gwrs, yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin, y mae angen inni wneud yn siŵr y cawn nhw eu gweithredu a'u cefnogi gan ein cyd-Aelodau Seneddol.

Bellach, mae Mark Drakeford wedi dweud wrth ein pwyllgor bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod blaenoriaethu 40 maes o negodiadau Brexit, ac mae'n hanfodol sicrhau bod peirianwaith cadarn i alluogi Llywodraeth Cymru i ganlyn arni gyda hyn ac i gael eu dwyn i gyfrif gan y Cynulliad hwn. Mae yna feysydd ble gallwn ni uno a ble dylem ni uno yn y Siambr hon wrth inni symud o'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn gyda neges gryfach gan bob plaid bod yn rhaid i Lywodraeth y DU bellach ddarparu'r prosesau rhynglywodraethol mwy cadarn hynny, ac, wrth gwrs, does ond angen inni droi at 'Diogelu Dyfodol Cymru', y soniodd Mark Drakeford amdano fwy nag unwaith neithiwr, ac edrych ar yr adran honno yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ynglŷn â materion cyfansoddiadol a datganoledig, a'r adran honno, sy'n dweud,

'Mae ymadael â’r UE yn drobwynt cyfansoddiadol sylweddol i Gymru a’r DU yn gyfan.'

'Ni fydd y system rynglywodraethol bresennol bellach yn addas i’r diben a bydd yn rhaid datblygu ffyrdd newydd o weithio‒ar sail cytundebau gwirfoddol rhwng Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, yn amodol ar gymodi annibynnol.'

Gadewch inni symud ymlaen gyda'n gilydd ar yr amcan hollbwysig hwnnw. Mae angen Cyngor y Gweinidogion arnom ni, mae angen peirianwaith cryfach o ran Y Cyd-bwyllgor gweinidogion. A, Llywydd, mae gennym ni gytundeb sydd wedi gorfodi Llywodraeth y DU i barchu datganoli, sydd nid yn unig yn diogelu ond yn arfogi datganoli ag amddiffynfeydd newydd sbon, cytundeb sydd wedi torri tir newydd cyfansoddiadol, tipyn o gamp. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu'r newyddion da hyn mor glir â phosib cymaint ag y bo angen. Nawr, gadewch i ni symud ymlaen ac ymwneud yn llawn yng ngham nesaf y trafodaethau Brexit, yn arbennig y cytundeb ymadael â phob deddfwriaeth sydd ar ddod ynglŷn â Brexit. 

15:40

Historians often say that British rule, while it often was unfair, was almost always polite, and here we are in this Welsh Parliament presented with a consent motion that, effectively, is asking for our consent to be removed.

We are joining a very select club of national Parliaments, if we pass this motion today, that have voluntarily decided to cede their own authority. You have to cast about and think of the Scottish Parliament in 1707, the Irish Parliament in 1800, for examples in history—albeit, of course, we are ceding our authority for a time-limited period in certain areas. But the principle is there. Now, I was expecting the former honourable Member to intervene on me, and say, 'Well, isn't that what we did with the European Communities Act?' And, indeed, it was echoed, really, in David Melding's point. But an essential difference was there: we were joining a community of equals, and through mechanisms like weighted voting, et cetera, then the interests of small nations in particular were protected. That isn't the case in this unitary state. Effectively, the dominance of one nation in these four islands, it's almost a kind of Bagehot-like part of the dignified constitution of the UK; it's a principle that underpins everything, and, actually, it's now written into statute. And therein lies the problem. Indeed, this debate actually has laid bare, hasn't it, the fractures, the fault lines, of what is an entirely imbalanced and unstable constitution in these islands.

What we're asking for is parity for this nation. That is surely a principle that we could all actually get behind. Now, of course, the constitution is where politics and law meet, and I think that the note that we got from the Assembly lawyers, it's incredible reading:

'The words "consent decision" suggest that the Minister can only lay the draft regulations before the UK Parliament if either the Assembly has consented to their making, or the Assembly has done nothing about them for 40 days. But this is misleading.'

Those are rare words coming from any lawyer because, of course, as we know, as indeed Nicola Sturgeon, who was quoted earlier, I believe—as she said, if we say 'yes', UK Ministers will take that as consent, if we say 'no', they will take that as consent, and, if we say nothing at all, they can take that as consent. It is heads they win and tails we lose.

Now, I've heard the argument that this is actually—[Interruption.] Yes, certainly.

Mae haneswyr yn dweud yn aml y bu rheolaeth Prydain, er y bu yn aml yn annheg, bron bob amser yn gwrtais, a dyma ni yn y Senedd hon, Senedd Cymru, yn cyflwyno cynnig cydsyniad sydd, yn ymarferol, yn gofyn i ddiddymu ein cydsyniad.

Rydym ni'n ymuno â chlwb dethol iawn o seneddau cenedlaethol, os derbyniwn y cynnig hwn heddiw, sydd wedi penderfynu'n wirfoddol i ildio eu hawdurdod eu hunain. Mae'n rhaid i chi bendroni ychydig a meddwl am Senedd yr Alban ym 1707, Senedd Iwerddon ym 1800, am enghreifftiau mewn hanes—er, wrth gwrs, rydym ni'n ildio ein hawdurdod am gyfnod cyfyngedig o amser mewn rhai meysydd. Ond yr un yw'r egwyddor. Nawr, roeddwn yn disgwyl i'r Aelod anrhydeddus a siaradodd yn flaenorol ymyrryd, a dweud, 'Wel, onid dyna a wnaethom ni gyda Deddf y Cymunedau Ewropeaidd?' Ac, yn wir, cafodd hynny ei adleisio, mewn gwirionedd, yn sylw David Melding. Ond roedd gwahaniaeth hanfodol: roeddem ni'n ymuno â chymuned o aelodau cydradd, a thrwy ddulliau fel pleidleisio wedi'i bwysoli, ac ati, yna cai buddiannau cenhedloedd bychain yn benodol eu diogelu. Dyw hynny ddim yn wir yn y wladwriaeth unedol hon. Yn ymarferol, goruchafiaeth un genedl yn y pedair ynys hon, mae bron iawn yn fath Bagehot-aidd o gyfansoddiad urddasol y DU; mae'n egwyddor sy'n sail i bopeth, ac, mewn gwirionedd, mae bellach wedi ei ysgrifennu i'r llyfr statud. A dyna ble mae'r broblem. Yn wir, mae'r ddadl hon mewn gwirionedd wedi dangos yn glir, onid yw, y toriadau, y diffygion, o'r hyn sy'n gyfansoddiad hollol anghytbwys ac ansefydlog yn yr ynysoedd hyn.

Yr hyn yr ydym ni'n gofyn amdano yw cydraddoldeb ar gyfer y genedl hon. Siawns fod honno yn egwyddor y gallai pob un ohonom ni mewn gwirionedd ei chefnogi. Nawr, wrth gwrs, y cyfansoddiad yw lle mae gwleidyddiaeth a'r gyfraith yn cyfarfod, ac rwy'n credu bod y nodyn a gawsom ni gan gyfreithwyr y Cynulliad, yn ddeunydd darllen anhygoel:

Mae'r geiriau "penderfyniad cydsynio" yn awgrymu y gall y Gweinidog dim ond gosod y rheoliadau drafft gerbron Senedd y DU os yw'r Cynulliad wedi cydsynio i'w gwneud, neu os nad yw'r Cynulliad wedi gwneud dim yn eu cylch am 40 diwrnod. Ond dywed fod hynny yn gamarweiniol.

Dyna eiriau anghyffredin o enau unrhyw gyfreithiwr oherwydd, wrth gwrs, fel y gwyddom ni, fel yn wir y gŵyr Nicola Sturgeon, a ddyfynnwyd yn gynharach, rwy'n credu—fel y dywedodd hi, os ydym ni'n yn dweud 'ie', bydd Gweinidogion y DU yn trin hynny fel cydsyniad, os dywedwn 'na', byddan nhw'n trin hynny fel caniatâd, ac os ydym ni'n dweud dim byd o gwbl, gallan nhw drin hynny fel caniatâd. Pen, ac maen nhw yn ennill, cynffon, ac rydym ni'n colli.

Nawr, rwyf wedi clywed y ddadl bod hyn mewn gwirionedd—[torri ar draws.] Cewch, yn sicr.

You're referring, of course, to the Assembly legal opinion. But, of course, in paragraph 15 of that, it says, 'The amendment has been described by some as defining the concept of consent as including refusal of consent.' The legal opinion actually says, 'In our view, this is not accurate.'

Rydych chi'n cyfeirio, wrth gwrs, at farn gyfreithiol y Cynulliad. Ond, wrth gwrs, ym mharagraff 15 o hynny, mae'n dweud bod gwelliant wedi ei ddisgrifio gan rai fel yr hyn sy'n diffinio'r cysyniad o gydsyniad gan gynnwys gwrthod caniatâd. Mae'r farn gyfreithiol mewn gwirionedd yn dweud, yn ein barn ni, nid yw hynny yn fanwl-gywir.

Yes, but it goes on to say—. There's another 10 paragraphs, by the way. It goes on to say, the key point remains

'the Assembly’s competence can be restricted without its consent.'

And that is the essential point in any democracy. I heard the Member say, 'Well, this is Sewel. This is Sewel.' Well, this is Sewel on steroids. This creates a legal pathway, a streamlined mechanism whereby the exception can become the rule if the politics of Westminster so decides. And that's the tragedy. That is the tragedy, you know. Thinking in particular of the words of Rhodri Morgan—his last words in this Chamber—when he talked about this National Assembly we built together, it will outlast us all, it will continue to develop and grow and serve the party of Wales, he was echoing the words of Henry Grattan, who actually created the legislative independence of the Irish Parliament and talked about a nation and a new character when they won their legislative independence:

'I hail her and, bowing to her august presence, I say, "esto perpetua"'—

it will continue. It didn't. It didn't. And therein lies the danger, because, if we pass this motion today, we are accepting the principle that this place is no longer sovereign.

Ydy, ond aiff ymlaen i ddweud—. Mae 10 paragraff arall, gyda llaw. Aiff ymlaen i ddweud, a dyma'r pwynt allweddol,

y gellir cyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad heb ei gydsyniad.

Dyna'r pwynt hanfodol mewn unrhyw ddemocratiaeth. Clywais yr Aelod yn dweud, 'Wel, Sewel yw hyn. Sewel yw hyn.' Wel, Sewel ar steroids yw hyn. Mae hyn yn creu llwybr cyfreithiol, dull symlach lle gall yr eithriad fod y rheol os bydd gwleidyddiaeth San Steffan yn penderfynu felly. A dyna'r drychineb. Dyna yw'r drychineb, wyddoch chi. Wrth feddwl yn benodol am eiriau Rhodri Morgan—ei eiriau olaf yn y Siambr hon—pan siaradodd am y Cynulliad Cenedlaethol hwn y gwnaethom ni ei adeiladu gyda'n gilydd, bydd yn fwy hirhoedlog na phob un ohonom ni, bydd yn parhau i ddatblygu a thyfu i wasanaethu Cymru, roedd yn adleisio geiriau Henry Grattan, a greodd mewn gwirionedd annibyniaeth ddeddfwriaethol Senedd Iwerddon ac a soniodd am genedl a chymeriad newydd pan fyddent yn ennill eu hannibyniaeth ddeddfwriaethol:

'Rwy'n ei chyfarch, ac, wrth ymgrymu i'w phresenoldeb mawreddog, rwy'n dweud, "esto perpetua"'—

Bydd yn parhau. Wnaeth o ddim. Wnaeth o ddim. A dyna ble mae'r perygl, oherwydd, os derbyniwn y cynnig hwn heddiw, rydym ni'n derbyn yr egwyddor nad yw'r lle hwn yn sofran mwyach.

15:45

Mark Reckless. [Interruption.] Mark Reckless.

Mark Rechless. [Torri ar draws.] Mark Reckless.

Diolch, Llywydd. I'm delighted to speak today in favour of the National Assembly for Wales giving our legislative consent to the European Union withdrawal Bill. This is, of course, the UK Government's legislative mechanism for leaving the EU with maximum certainty, continuity and control, and I'm delighted to support it.

Back at the first First Minister's questions after the summer, I was rather critical of the First Minister for the degree to which he had, I think, been palling up to the SNP Scottish Government over the summer. I questioned why he was working hand in glove with a Government that wanted to break up the United Kingdom and with a Government that was impeding our exit from the European Union. And he responded by saying that he was only doing so to the extent that we had a common interest in protecting the devolution settlement. Now, I was surprised by that, not least because the First Minister and Welsh Government had spent considerable time working with Plaid Cymru to come to a joint paper on what the objectives should be for the future migration or the future trade arrangements of the United Kingdom. I feared that the First Minister and the Welsh Government, potentially working with Plaid Cymru, would use this process of legislative consent to this Bill as a way to seek to impede the United Kingdom's withdrawal from the European Union. It has not done so. The First Minister has been as good as his word. The Welsh Government has succeeded far more than I would have expected in improving this Bill to protect the legitimate interests of our devolved settlement. And I think they deserve respect and congratulations for doing that.

Of course, some people have a different objective—one of staying in the European Union, even though the majority of people in Wales voted to leave, or the intention of being independent from the United Kingdom, even though only a tiny minority of people in Wales support that. And, of course, they will, therefore, oppose this, just as Nicola Sturgeon and the SNP will oppose it, because almost nothing would've settled what they were requesting, because their objective isn't to make this withdrawal from the European Union work while protecting the devolved settlement; it is to impede Brexit and to break up the United Kingdom. And of course—

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu siarad heddiw o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi ein cydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, dyma ddull deddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr UE yn y ffordd sy'n rhoi mwyaf o sicrwydd, parhad a'r rheolaeth, ac rwy'n falch iawn ei gefnogi.

Yn sesiwn gwestiynau cyntaf y Prif Weinidog ar ôl yr haf, roeddwn braidd yn feirniadol o'r Prif Weinidog o ran y graddau yr oedd wedi bod, yn fy marn i, yn closio at Lywodraeth SNP yr Alban dros yr haf. Holais pam roedd yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth sydd eisiau chwalu y Deyrnas Unedig a Llywodraeth sydd yn rhwystro ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd. Ac ymatebodd drwy ddweud ei fod dim ond yn gwneud hynny i'r graddau bod gennym ni ddiddordeb cyffredin yn amddiffyn y setliad datganoli. Nawr, cefais fy synnu gan hynny, nid yn lleiaf oherwydd bod y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi treulio llawer o amser yn gweithio gyda Phlaid Cymru i lunio papur ar y cyd ynglŷn â beth ddylai'r amcanion fod ar gyfer y mudo yn y dyfodol neu drefniadau masnach yn y dyfodol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Roeddwn yn ofni y byddai'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru, o bosib gan weithio gyda Phlaid Cymru, yn defnyddio proses cydsyniad deddfwriaethol y Bil hwn fel ffordd o geisio rhwystro ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw wedi gwneud hynny. Y Prif Weinidog wedi bod cystal â'i air. Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo llawer mwy nag y byddwn wedi disgwyl i wella'r Bil hwn i ddiogelu buddiannau cyfreithlon ein setliad datganoledig. Ac rwy'n credu eu bod yn haeddu parch a llongyfarchiadau am wneud hynny.

Wrth gwrs, mae gan rai pobl amcan gwahanol—un o aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael, neu'r bwriad o fod yn annibynnol oddi wrth y Deyrnas Unedig, er mai dim ond lleiafrif pitw o bobl yng Nghymru sy'n cefnogi hynny. Ac, wrth gwrs, byddan nhw, felly, yn gwrthwynebu hyn, yn union fel y bydd yr SNP a Nicola Sturgeon yn ei wrthwynebu, oherwydd byddai bron dim wedi setlo yr hyn y maen nhw'n gofyn amdano, oherwydd nid eu hamcan yw gwneud i'r ymadawiad hwn o'r Undeb Ewropeaidd weithio gan amddiffyn y setliad datganoledig; ond i rwystro Brexit a chwalu'r Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs—

Will you take an intervention?

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Thank you. Just on a basic point, will you understand that the purpose of Plaid Cymru is not to break up the United Kingdom? It's to build up Wales. 

Diolch. Dim ond ynglŷn â phwynt sylfaenol, a wnewch chi deall nad diben Plaid Cymru yw chwalu'r Deyrnas Unedig? Y diben yw adeiladu Cymru.

The purpose of Plaid Cymru is to bring about an independent Wales, breaking up the United Kingdom. I respect, but I do not agree with, your objective.

Returning to the legislative consent motion and what we are debating today, this Bill has been hugely improved by the efforts, yes, of Welsh Government, but also, I think, others, and I'd like to congratulate both Mark Isherwood and David Melding for how they have dealt with this issue, and actually the unity of this group in supporting and trying to improve this legislation while noting what others were doing, including the threat and the actuality of a continuity Bill. I think what Mick Antoniw said about how this would've been a much better process if, at the beginning of it, UK Ministers had shown, in how they drafted the initial Bill, an appropriate level of respect to the Welsh Assembly and the devolved settlement—that that would've been better. But it is the case that, with some exceptions, UK Ministers are not as knowledgeable—and it's not at the top of their mind through most of what they do—about  the mechanisms, the assumptions and the understandings, as well as the legal basis of the devolved settlement, as we in this Assembly are. But during this process, they have been educated on that. Damian Green and David Lidington in particular I think had reasonable knowledge to begin with, and that knowledge has become more expert as the process has gone on. I think, helped by Alun Cairns as Secretary of State, as well as by Andrew R.T. as leader of the Welsh Conservatives, many more Ministers at a UK level have come to appreciate and to understand the devolved settlement and how it functions. We now have a Bill that reflects and understands that in a way it didn't before.

When we talk about what a committee may have asked for before, it didn't ask for one of the things that, actually, the Welsh Government has succeeded in getting, and that is for the UK Government to commit not to legislate for England in these fields until there is an agreement on UK-wide frameworks, when England has 18 times the population of Wales. People often, with justice, complain about Wales not being treated with respect by the UK Government, but in this case the UK Government is binding, or at least giving a commitment to, itself in respect of England, the same as will be for Wales, as to what will actually happen, and there is a great motivation for everyone to agree on getting sensible frameworks up and running so we leave the European Union successfully, and go forward together as a United Kingdom.

Diben Plaid Cymru yw sefydlu Cymru annibynnol, gan chwalu'r Deyrnas Unedig. Rwy'n parchu, ond nid wyf yn cytuno â'ch amcan.

I ddychwelyd at y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae'r Bil hwn wedi gwella yn aruthrol drwy ymdrechion, ie, Llywodraeth Cymru, ond hefyd, rwy'n credu, rhai eraill, a hoffwn longyfarch Mark Isherwood a David Melding ynglŷn â sut maen nhw wedi ymdrin â'r mater hwn, ac mewn gwirionedd undod y grŵp hwn yn cefnogi ac yn ceisio gwella'r ddeddfwriaeth hon gan gydnabod beth mae eraill yn ei wneud, gan gynnwys bygythiad gwirioneddol Bil parhad. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw ynglŷn â sut y byddai hyn wedi bod yn llawer gwell proses petai, ar y dechrau, Gweinidogion y DU wedi dangos, o ran sut y gwnaethon nhw ddrafftio'r Bil cychwynnol, y parch priodol i Lywodraeth y Cynulliad a'r setliad datganoledig—byddai hynny wedi bod yn well. Ond y gwir amdani yw, gyda rhai eithriadau, nad yw Gweinidogion y DU mor wybodus—ac nid yw yn flaenllaw yn eu meddwl trwy'r rhan fwyaf o'r hyn a wnânt—am y dulliau, y rhagdybiaethau a'r dealltwriaethau, yn ogystal â sail gyfreithiol y setliad datganoledig, ag yr ydym ni yn y Cynulliad hwn. Ond yn ystod y broses hon, maen nhw wedi cael eu haddysgu ynglŷn â hynny. Roedd gan Damian Green a David Lidington yn arbennig rwy'n credu wybodaeth resymol ar ddechrau'r broses, ac mae'r wybodaeth honno wedi dod yn fwy arbenigol wrth i'r broses fynd rhagddi. Rwy'n credu, gyda chymorth gan Alun Cairns yn rhinwedd ei swyddogaeth yn Ysgrifennydd Gwladol, yn ogystal ag Andrew R.T. yn rhinwedd ei swyddogaeth yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae llawer mwy o Weinidogion y DU wedi dod i werthfawrogi ac i ddeall y setliad datganoli a'r modd y mae'n gweithredu. Bellach mae gennym ni Fil sy'n adlewyrchu ac yn deall hynny mewn ffordd nad oedd cyn hynny.

Pan soniwn ynglŷn â beth efallai y byddai pwyllgor wedi gofyn amdano yn flaenorol, ni ofynnodd am un o'r pethau hynny, mewn gwirionedd, y mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i'w gael, a hynny yw i Lywodraeth y DU ymrwymo i beidio â deddfu ar gyfer Lloegr yn y meysydd hyn hyd nes y ceir cytundeb ar y fframweithiau sy'n berthnasol i'r DU gyfan, pan mae gan Loegr 18 gwaith poblogaeth Cymru. Mae pobl yn aml, gyda chyfiawnhad, yn cwyno nad yw Gymru yn cael ei thrin â pharch gan Lywodraeth y DU, ond yn yr achos hwn mae Llywodraeth y DU yn rhwymo, neu o leiaf yn rhoi ymrwymiad, iddo'i hun o ran Lloegr, yr un ag a fydd yng Nghymru, ynghylch beth fydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac mae cymhelliant mawr i bawb gytuno ar sefydlu a gweithredu fframweithiau synhwyrol fel ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyddiannus, a symud ymlaen gyda'n gilydd fel Teyrnas Unedig.

15:50

Rydw i'n sefyll yma heddiw i ddatgan fy mod yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd gerbron. Rydw i'n ei erbyn o achos fe all agor y drws at danseilio'r Senedd genedlaethol yma. Dros ddwy flynedd yn ôl, mi gefais i'r wefr o ddod yma fel Aelod Cynulliad am y tro cyntaf i ymuno â'r egin Senedd hon. Wrth ddod yma, mi roeddwn i'n ymwybodol iawn o waith gwladgarwyr fu'n ymdrechu mor galed i sefydlu'r Cynulliad yma yn y lle cyntaf. Felly, mae heddiw yn ddiwrnod digalon imi.

Proses ydy datganoli. Mae sawl un wedi dweud hynny ar hyd y blynyddoedd, a hyd yma, fe gafwyd hanes o gynnydd a phroses o ddatblygu, tyfu ac aeddfedu. Mae pasio'r Bil yma heddiw yn gam yn ôl. Y cymal deddfwriaethol sy'n cynnwys y brawddegau am benderfyniad cydsyniad—rheini sy'n cyfrif heddiw, nid unrhyw gytundebau gwleidyddol. Mae'r cymal yma yn tanseilio, mae'r cymal yma'n mynd â ni nôl. Mae dwy flynedd yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ac rydw i'n ofni y bydd y wefr y gwnes i ei theimlo ddwy flynedd yn ôl wedi troi'n siom enbyd cyn diwedd y dydd.

I stand here today to state that I’m against this LCM that is before us, and against it because it could open the door to undermine the National Assembly. Over two years ago, I had the thrill of coming here as an Assembly Member for the first time to join with this Parliament, and in coming here I was very aware of the work of patriots who had been campaigning so hard to establish this Assembly in the first place. So, today is a very depressing day for me.

Devolution is a process. Many people have said that over the years. So far, we’ve had a story of progress and a process of development and growing and maturing. Passing this Bill today is a step backwards. The legislative clause that includes the sentences about the consent decision is what counts today, not any political agreements. This clause undermines, this clause takes us backwards. Two years is a long time in politics and I’m afraid that the thrill that I felt two years ago may become a huge disappointment before the end of the day.

I welcome the Welsh Labour Government's robust and highly proactive work in negotiating with the United Kingdom Government to stand up for Wales over the complex consequences of Britain's withdrawal, still to unfold, from the European Union. It is evidence, if any was needed, that the Welsh Labour Government stands up for Wales and Welsh interests within the fabric of our family of nations within the United Kingdom. As the First Minister said in the Chamber earlier today in First Minister's questions, much tribute needs to be paid to the expert negotiation skills of Mark Drakeford, and I wish to strongly echo the First Minister's praise.

Nationalists criticise this critical, important legislative consent motion—a good-deal motion—but let's be candid; the avowed aim is for an independent Wales that fundamentally breaks away from the United Kingdom, and I believe nothing less than this would ever please Plaid Cymru. If the Welsh public, in the expression to leave the European Union in 2016, and their expressed wish delivered in election after election and opinion poll after opinion poll, is for Wales to remain within the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, calling us unionists is not an insult on these benches. Indeed, it is an act of description of the majority of the Welsh people.

This historic and, let me say, hard-fought agreement—let's be under no illusion—that has led to this LCM means any changes to power held in Westminster would need the consent of all the devolved legislatures. Indeed, finance Secretary Mark Drakeford articulated Welsh Government, saying that the aim throughout these talks has been to protect devolution, to protect the economy of Wales and to protect the livelihoods of the Welsh people, and make sure laws and policy in areas that are currently devolved remain devolved. This has been successfully achieved with the Westminster UK Government fundamentally changed in its position, in clause 11 to clause 15, so that all powers and policy areas rest in Cardiff unless specified to be temporarily held by the UK Government. It is right to say that there is a factual element of 64 areas to come home to Wales that were previously held in Brussels. Surely this must be understood by Plaid Cymru.

Will the Cabinet Secretary and First Minister confirm for me, then, that these will be areas where we all agree that common UK-wide rules are needed for a functioning UK internal market—

Rwy'n croesawu gwaith cadarn a rhagweithiol iawn Llywodraeth Lafur Cymru yn negodi gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sefyll dros Gymru ynglŷn â chanlyniadau cymhleth ymadawiad Prydain, sydd eto i ddigwydd, o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n dystiolaeth, os oedd angen unrhyw dystiolaeth, bod Llywodraeth Lafur Cymru yn sefyll dros fuddiannau Cymru a Chymru o fewn adeiladwaith ein teulu o genhedloedd yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr yn gynharach heddiw yn y sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog, mae angen talu teyrnged arbennig i sgiliau negodi arbenigol Mark Drakeford, ac rwy'n dymuno ategu canmoliaeth y Prif Weinidog yn gryf. 

Mae cenedlaetholwyr yn beirniadu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hanfodol, pwysig hwn—cynnig sy'n fargen dda—ond gadewch inni fod yn onest; y nod addefedig yw ar gyfer Cymru annibynnol sydd yn y bôn yn ymadael â'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu na fyddai unrhyw beth llai na hynny fyth yn plesio Plaid Cymru. Os mai dymuniad pobl Cymru, yn y datganiad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, a'u dymuniad a fynegwyd mewn etholiad ar ôl etholiad a phôl piniwn ar ôl pôl piniwn, yw i Gymru aros o fewn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, nid sarhad yw ein galw yn unoliaethwyr ar y meinciau hyn. Yn wir, mae'n disgrifio mwyafrif pobl Cymru. 

Mae'r cytundeb hanesyddol hwn a, gadewch imi ddweud, un a frwydrwyd yn galed drosto—gadewch i ni beidio â bod o dan unrhyw gamargraff—wedi arwain at y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn golygu y byddai unrhyw newidiadau i rym yn San Steffan yn golygu y byddai angen caniatâd yr holl ddeddfwrfeydd datganoledig. Yn wir, mynegodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, farn Llywodra