National Assembly for Wales

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

24/04/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yr wythnos yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay. 

Gwasanaethau Dementia

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau dementia yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52037

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan wedi cwblhau ymgynghoriad yn ddiweddar ar ddatblygu tair canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal dementia yn ei ardal ac mae'n gweithio gyda'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol i weithredu'r cynllun gweithredu newydd ar ddementia.

Diolch, Prif Weinidog. Mae penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan i gau ward dementia St Pierre yn Ysbyty Cymuned Cas-Gwent wedi cael ei feirniadu'n hallt gan bobl â dementia a'u teuluoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ymddangos nawr y gallai'r penderfyniad wynebu her gyfreithiol gan Gyngor Sir Fynwy gan ei bod hi'n ymddangos bod dadl gref dros adolygiad barnwrol, a bydd cam o'r fath yn amlwg yn niweidiol â dweud y lleiaf i'r berthynas rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r bwrdd iechyd lleol am ei benderfyniad, ac a wnewch chi bwyso ar y bwrdd i ystyried gwrthdroi'r penderfyniad hwn, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon?

Wel, mater i'r bwrdd iechyd yw cynllunio a dylunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y boblogaeth. Nawr, wrth gwrs, fel y dywedodd yr Aelod, ceir pryderon ymhlith y cyhoedd oherwydd cau'r ward yng Nghas-gwent. Deallaf fod y cyngor iechyd cymuned wedi mynegi cefnogaeth gyffredinol o ran y model cymunedol. Rydym ni'n gwybod bod gwasanaethau cymunedol yn cynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau priodol ac amserol mor agos at eu cartrefi â phosibl. Mae'r bwrdd wedi cytuno ar £200,000 o refeniw cylchol pellach i barhau i ddatblygu gwasanaethau cymunedol yn Sir Fynwy i gydnabod effaith y newid hwn i'r gwasanaeth.

Nawr, cyn belled ag yr ydym ni fel Llywodraeth yn y cwestiwn, wrth gwrs, nod ein cynllun dementia yw cryfhau gwasanaethau yn y gymuned, i alluogi derbyniadau i'r ysbyty oherwydd dementia naill ai gael eu hosgoi, neu arwain at arhosiad byrrach.

Cefnogi Adeiladwyr Tai

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint? OAQ52054

Ceir nifer o gynhyrchion i gynorthwyo'r sector. Er enghraifft, drwy'r banc datblygu, mae cronfa datblygu eiddo Cymru yn cynnig cyfleoedd tai fforddiadwy i adeiladwyr cartrefi sy'n fusnesau bach a chanolig eu maint, ac mae ein rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai hefyd yn gweithio gyda chwmnïau bach i ddatblygu cymorth wedi'i dargedu.

Fy mhryder i yw bod y diwydiant adeiladu tai yn cael ei reoli gan nifer fach iawn o gwmnïau mawr iawn, sy'n creu cartél i bob pwrpas, yn cadw prisiau yn artiffisial o uchel, ac yn atal adeiladu'r llu o gartrefi fforddiadwy sydd eu hangen, gan nad yw o fudd iddynt fodloni galw yn yr hirdymor oherwydd y bydd hynny'n achosi prisiau i ostwng. Yr ateb, rwy'n credu, yw marchnad dai estynedig, lle gall busnesau bach lleol sy'n sensitif i anghenion eu cymunedau ffynnu a thyfu, ac rwy'n bwriadu cynnal grŵp trawsbleidiol yn ddiweddarach eleni i ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o hynny. Ond hoffwn wybod beth mwy all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddatblygu'r uchelgais hwnnw ac i dyfu'r sail adeiladu tai busnes bach hwnnw.

Wel, a gaf i dynnu sylw at ddau beth yn arbennig? Soniais am y rhaglen ymgysylltiad adeiladu tai. Nawr, rydym ni'n gweithio gyda datblygwyr preifat, gan gynnwys BBaChau, i ddeall ac, wrth gwrs, mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n eu hwynebu o ran adeiladu mwy o dai. Adlewyrchir y berthynas honno yn y cyhoeddiad diweddar i wneud cronfa datblygu eiddo Cymru bedair gwaith yn fwy, i £40 miliwn. Bydd hwnnw'n cael ei ailgylchu dros oes 15 mlynedd y cynllun presennol i fuddsoddiad amcangyfrifedig o £270 miliwn. Ond rydym hefyd eisiau cynorthwyo adeiladwyr lleol yn benodol i adeiladu'r cartrefi y mae pobl eu hangen trwy bartneriaeth newydd rhwng cynghorau'r Cymoedd a Banc Datblygu Cymru a fydd yn adeiladu ar y gronfa. I roi dim ond un enghraifft, mae menter ar waith yn Rhondda Cynon Taf i roi parseli bach o dir cyhoeddus ar gael ac felly, wrth gwrs, maen nhw'n fwy deniadol a hygyrch i ddatblygwyr sy'n BBaChau.

Prif Weinidog, yn ôl y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, gallai Llywodraeth Cymru gefnogi adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint trwy orfodi awdurdodau lleol i gyflymu'r cynnydd o ran darparu eu cynlluniau datblygu a'u cyflenwadau tir pum mlynedd. Datgelodd y gyd-astudiaeth o dir sydd ar gael ar gyfer tai mai dim ond chwech awdurdod lleol oedd â chyflenwad pum mlynedd o dir tai a oedd yn barod i'w ddatblygu er gwaethaf y ffaith fod hyn yn ofyniad polisi cynllunio allweddol gan Lywodraeth Cymru. Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn bodloni gofyniad eich Llywodraeth ac yn cynyddu'r safleoedd tai y gellir eu darparu sydd ar gael yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw bod â chynllun datblygu ar waith ac i fodloni'r gofynion o ran cyflenwad tai. Y broblem, wrth gwrs, yw os nad oes cynllun datblygu ar waith, yna nid oes unrhyw ganllawiau ar waith. Y broblem wedyn yw ei fod yn troi'n rhywbeth tebyg i ysgarmes wedyn. Nid yw hynny er budd neb. Mae dau beth, fodd bynnag, yn bwysig. Yn gyntaf oll, mae'n gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Nid yw ffiniau gwleidyddol artiffisial yn cael eu cydnabod gan y farchnad dai. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar y de-ddwyrain, ni allwn neilltuo trefniadau cynllunio ar sail ffiniau awdurdodau cynllunio lleol yn unig. Felly, bydd cydweithio yn arbennig o bwysig. Ond hefyd, wrth gwrs, i ddychwelyd at y pwynt a wneuthum yn flaenorol, un peth yw cael cyflenwad o dir ar gyfer y dyfodol, ond peth arall yw sicrhau bod y tir hwnnw ar gael mewn parseli sy'n ddigon deniadol i BBaChau allu cystadlu.

13:35

Jest yn parhau â'r thema yma, buaswn i eisiau gwybod a fyddai modd rhoi ffafriaeth bosibl i gwmnïau tai eco. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd angen edrych arno o ran cynaliadwyedd y farchnad ac o edrych i wneud ein tai yn fwy cynaliadwy. A oes modd i chi edrych i mewn i hyn fel Llywodraeth er mwyn sicrhau y byddai cynlluniau o'r fath yn cael rhyw fath o flaenoriaeth?

Diddorol. Fel rheol, wrth gwrs, yn y gorffennol, mae hwn wedi cael ei ddelio gyda rheoliadau adeiladu, ynglŷn â'r safonau sy'n cael eu mabwysiadu ynglŷn â thai yn y ffordd honno. Mae'r system gynllunio yn delio â'r ffordd y mae tir yn cael ei ddefnyddio ac nid beth sy'n digwydd ar y tir ynglŷn â safonau adeiladu unwaith mae tai yn cael eu hadeiladu. Ond, wrth ddweud hynny, rwy'n credu bod hynny'n syniad sydd yn werth ei ystyried, ac efallai os gallaf i ysgrifennu yn ôl at yr Aelod gyda mwy o fanylion, fe wnaf i hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn gyfarwydd â'r wireb fod pob bywyd gwleidyddol yn gorffen mewn methiant, oni bai ei fod yn cael ei atal hanner ffordd ar adeg hapus. A yw gyrfa wleidyddol y Prif Weinidog yn dal i fod hanner ffordd, ac a yw hon yn adeg hapus?

Wel, rwy'n credu bod arweinydd UKIP yn enghraifft o fywyd ar ôl marwolaeth mewn gwleidyddiaeth, er nad wyf i'n siŵr pa fath o fywyd gwleidyddol ydyw iddo fe. O'm safbwynt i, rwyf i wedi amlinellu amserlen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y wlad yn cael parhad, ac wrth gwrs mae'n bwysig bod popeth yn ei le i baratoi ar gyfer fy olynydd, pwy bynnag y gallai fod.

Wel, byddwn yn hiraethu ar ei ôl ar ôl iddo fynd. A hoffwn symud ymlaen nawr. Nid wyf i'n gwybod beth yw amcanion hirdymor y Prif Weinidog, a pha un a yw'n bwriadu sefyll i fod yn Aelod o'r Cynulliad yn etholiadau nesaf y Cynulliad ac, felly, i ba raddau y mae'n cynnal diddordeb ym mha un a fyddwn ni'n ehangu maint y sefydliad hwn ai peidio. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cychwyn ar ymarfer ymgynghori, nad yw ei ganlyniadau wedi eu cyhoeddi eto, ond does neb wir wedi canfod y teimlad ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, cyn belled ag y gwn i, ac felly mae UKIP wedi llenwi'r bwlch ac wedi cynnal arolwg barn, a gynhaliwyd gan Opinion Research, cwmni ymchwil i'r farchnad uchel ei barch. A gofynasom i'r cyhoedd, 'A ydych chi'n cefnogi cynnydd i nifer yr Aelodau Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, o 60 i 80 neu 90?' Dim ond 32 y cant o ymatebwyr oedd o blaid cynnydd, nid yw 42 y cant a 26 y cant yn gwybod. A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod hi'n iawn y dylem ni fwrw ymlaen â'r ymarfer hwn heb fynd â'r cyhoedd gyda ni?

Wel, fe gawn ni weld beth sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf o ran pa un a yw UKIP yn gywir yn eu dadansoddiad o farn y cyhoedd. Os yw'n dymuno gwybod fy nghynlluniau i ar ôl 2021, mae croeso iddo geisio ymuno â'r Blaid Lafur a dod i bwyllgor rheoli cyffredinol Plaid Lafur nesaf etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy'n siŵr y bydd yn ddoethach o ganlyniad i hynny.

A gaf i ddweud ei bod hi'n bwysig iawn bod y ddadl hon yn un synhwyrol ac nad yw'n cael ei hysgogi gan yr hyn a ystyrir yn hwylustod gwleidyddol? Rwyf i wedi bod yn y Cynulliad hwn ers 1999. Rwy'n cyfaddef mai dim ond ychydig dros flwyddyn wnes i ei dreulio ar y meinciau cefn, ond gwn fod pwysau a straen aruthrol ar aelodau'r meinciau cefn o bob plaid, gan ein bod ni wedi symud ymlaen o fod yn rhywbeth a oedd, i bob pwrpas, yn fath o gorff gweinyddol. Rwy'n cofio sefyll yn y fan yma—neu yn yr hen adeilad—a chyflwyno'r Gorchymyn tatws sy'n tarddu o'r Aifft a'r Gorchymyn gwyniaid rhy fach, ac roeddem ni'n harfer eu trafod. Nid oedd lefel y craffu yn agos at fod mor drylwyr ag y mae erbyn hyn o reidrwydd, ac mae'n rhaid adlewyrchu hynny, nid yn unig o ran arferion gweithio'r Aelodau, ond o ran nifer yr Aelodau, gan ein bod ni wedi datblygu ymhell y tu hwnt i'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi ym 1999, ac mae'n rhaid cael trafodaeth synhwyrol ynghylch beth yw'r nifer gywir o ACau. Rwy'n sylwi bod gan Ogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth ychydig dros hanner poblogaeth Cymru, 109, a bod gan yr Alban 129. Mae'n rhaid i ni edrych yn synhwyrol ac yn ofalus ar beth yw'r nifer cywir i'r Cynulliad.

Wel, clywaf yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, ein bod ni oll yn gorweithio, ond nid wyf i'n siŵr a yw hynny'n mynd i fod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd. Cyn sefydlu'r Cynulliad, wrth gwrs, roedd refferendwm, a cyn ei cynyddu pwerau'r Cynulliad, cynhaliwyd refferendwm yn 2011. Pam na ddylem ni gael refferendwm o ran a ddylid ehangu maint y Cynulliad ar yr achlysur hwn?

Wel, mae'r Aelod yn sôn am newidiadau cyfansoddiadol sylfaenol. Nid wyf i'n credu bod hwn yn un. Rwy'n meddwl ei bod hi'n berffaith bosibl i bleidiau ystyried hyn a mynd  a'u hachos i bobl Cymru drwy etholiad—os dyna'r hyn sydd ei angen—ond, yn sicr, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus am hyn bob amser ac ni fydd byth yn boblogaidd dweud wrth bobl, 'Gadewch i ni gael mwy o wleidyddion'. Gadewch i ni oll dderbyn hynny, ond rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ddadlau yn erbyn hynny trwy ddweud wrth bobl fod yn rhaid i ni gael y nifer gywir o bobl i wneud y gwaith yn iawn. Nid yw o fudd i neb cael Aelodau'r Cynulliad mewn sefyllfa lle efallai nad ydyn nhw'n gallu, yn y dyfodol, craffu yn y ffordd y byddent yn dymuno, ac mae honno'n sefyllfa y mae angen i ni ei hosgoi trwy ystyried y niferoedd a fyddai yn y corff hwn yn y blynyddoedd i ddod.

13:40

Diolch, Llywydd. Cyn fy nghwestiynau, hoffwn gydnabod y cyhoeddiad a wnaed gan y Prif Weinidog dros y penwythnos. Prif Weinidog, rydych chi wedi bod yn y swydd hon ers amser maith ac rydych chi wedi cael tymor hirfaith yn y Llywodraeth cyn dod yn Brif Weinidog, a gwn eich bod chi a minnau wedi cael ein hanghytundebau gwleidyddol, ac rwy'n siŵr y byddwn ni'n parhau i gael yr anghytundebau hynny, ond rwyf wir yn dymuno'r gorau i chi, a'ch teulu, ar gyfer y dyfodol.

Nawr, mae gennym ni amser i'ch dwyn i gyfrif o hyd, ac rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un yn disgwyl i ni roi'r gorau i hynny. Gyda hynny mewn golwg, a allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, faint o bobl yng Nghymru sydd wedi eu cyflogi ar gontract dim oriau? A yw wedi hynny cynyddu neu ostwng ers 2016?

Mae'n anodd iawn rhoi ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, nid yw'r sector preifat yn rhywbeth sy'n dod o dan ein rheolaeth, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud, er hynny, wrth gwrs, yw gwahardd contractau dim oriau yn y sector cyhoeddus, i bob pwrpas. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr o hyn, er enghraifft, yn y sector gofal. Mae'r sector gofal yn sector sylfaenol, cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, a byddwn yn defnyddio ein pwerau i'r eithaf—byddwn yn gwthio ffiniau ein pwerau—i wneud yn siŵr nad yw contractau dim oriau yno, cyn belled ag y mae'r sector cyhoeddus yn y cwestiwn. Mae gwaith i'w wneud, eto, o ran sicrhau bod cyrff sector cyhoeddus yn sicrhau nad oes unrhyw gontractau dim oriau ar waith pan eu bod yn is-gontractio, mae hwnnw'n faes y mae angen gwneud peth gwaith arno o hyd.

Wel, efallai y gallaf i eich helpu, Prif Weinidog. Yn ôl cyfran, mae mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU erbyn hyn. Os caf ei roi mewn ffordd arall, o dan Lywodraeth Lafur, mae mwy o bobl fesul pen o'r boblogaeth mewn gwaith dim oriau, ansefydlog nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. A allai'r Prif Weinidog gyfeirio'r 43,000 o bobl yng Nghymru sydd ar gontractau dim oriau at y man yng nghynllun gweithredu economaidd ei Lywodraeth lle mae strategaeth i atal yr arfer cyflogaeth gwrthun hwn?

Dau beth: yn gyntaf, bydd yn yn y contract economaidd. Bydd pwyslais trwm iawn ar gyflogaeth deg. Yn ail, fel y cyhoeddais ddydd Sadwrn, bydd comisiwn gwaith teg yn cael ei sefydlu. Swyddogaeth y comisiwn hwnnw fydd edrych ar holl ysgogiadau—rhai deddfwriaethol o bosibl, rhai ddim—er mwyn sicrhau, cyn belled ag y gallwn ni fynd o ran y pwerau sydd gennym, ein bod wir yn gwneud Cymru yn wlad gwaith teg.

Wrth gwrs, mae rhai pobl eisiau hyblygrwydd y math hwn o gyflogaeth, ond nid yw hynny'n wir i'r mwyafrif. A dweud y gwir, mae'n debyg bod Llafur wedi ymrwymo i roi terfyn ar eu defnydd. Nawr, gyda hyn mewn golwg, hoffwn eich cyfeirio at dudalen 45 o faniffesto etholiad 2017 y blaid Lafur. Ochr yn ochr â brolio am hanes, sy'n amlwg yn ffug, Llywodraeth Cymru o roi terfyn ar y defnydd o gontractau dim oriau, mae'n cynnwys ymrwymiad i ddeddfu yn eu herbyn. Gwyddom o draed moch cap cyflog y GIG bod gan y Llywodraeth hon dueddiad i wadu ei maniffesto ei hun. Felly, beth am y rhaglen lywodraethu? A dyfynnaf o dudalen 13 eich rhaglen lywodraethu, sy'n dweud y byddwch yn,

'cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau'.

Felly, gadewch i mi ofyn cwestiwn syml i chi, Prif Weinidog: a wnaethoch chi gamarwain pobl, neu ai anfedrusrwydd sydd wedi arwain Cymru i fod yn brifddinas contractau dim oriau y DU?

Pan ddaw i'r sector cyhoeddus, rydym ni wedi cyflawni. Rydym ni wedi sicrhau bod llawer llai o gontractau dim oriau. Rydym ni eisiau eu lleihau cymaint â phosibl o ran is-gontractwyr hefyd. Ond yr ail bwynt yw hyn: mae hi'n iawn i dynnu sylw at faniffesto etholiad cyffredinol 2017. Wrth gwrs, byddai hwnnw wedi defnyddio pwerau nad ydynt ar gael i ni fel sefydliad datganoledig neu Llywodraeth er mwyn bwrw ymlaen i greu gwlad gwaith teg ar draws y DU gyfan. Yn anffodus, ni welsom Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol bryd hynny, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn yr etholiad cyffredinol nesaf, y bydd gennym ni Brif Weinidog Llafur.

Diolch, Llywydd. A gaf i gytuno â sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn cydnabod y datganiad a wnaethoch i gynhadledd y Blaid Lafur, Prif Weinidog? Bydd amser i dalu teyrnged yn y Siambr hon i'ch cyfnod mewn bywyd a gwasanaeth cyhoeddus yn y fan yma fel Prif Weinidog a Gweinidog, ond, heb amheuaeth, yn amlwg, bydd hyn yn creu etholiad yn y Blaid Lafur nawr i ddod o hyd i olynydd i chi. Ond yn y cyfnod hwnnw y byddwch chi'n dal i fod yn Brif Weinidog, dymunaf y gorau posibl i chi, a gobeithiaf yn y pen draw y byddwch chi'n gallu cadw olwynion y Llywodraeth yn symud yn eu blaenau, oherwydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud droeon yn y lle hwn, efallai fy mod i'n anghytuno'n wleidyddol â chi a'r Aelodau ar y fainc flaen yna, ond mae 3 miliwn o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud mewn llu o wasanaethau cyhoeddus, ac yn y pen draw yn amlwg y gwasanaethau cyhoeddus hynny yw rhan bwysicaf yr hyn sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru.

Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, hoffwn ofyn i chi am y cynllun gweithredu economaidd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Un o elfennau allweddol o unrhyw gynllun gweithredu economaidd, does bosib, yw cynyddu cyflogau yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni'n gwybod bod gennym ni'r cyflogau isaf o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig—£498 yw'r cyflog net cyfartalog yma yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o £550. Rydym ni'n gwybod fel ffaith, ers dechrau datganoli—bod pecyn cyflog yng Nghymru £49 yn llai na phecyn cyflog yn yr Alban, a oedd, ar ddechrau datganoli, yn union yr un fath i weithiwr yng Nghymru a gweithiwr yn yr Alban. Pam, gyda 17,500 o eiriau yn y cynllun gweithredu economaidd, y cyfeirir at gyflogau ddim ond dwywaith os nad yw'n flaenoriaeth i'ch Llywodraeth wneud yn siŵr ein bod ni'n cau'r bwlch hwnnw i adfywio ein cymunedau yng Nghymru yn economaidd?

13:45

Wel, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i mi nodi, wrth gwrs, nad yw lleihau neu ddileu budd-daliadau mewn gwaith wedi helpu o ran cyflogau net pobl yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld yr effaith y mae hynny wedi ei chael. Nid ydym mewn sefyllfa mwyach, yn anffodus, o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU, lle gallwn ni ddweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd', a does bosib nad yw hynny'n anghymhelliad i bobl gael cyflogaeth.

Gofynnodd beth fyddwn ni'n ei wneud. Wel, ceir dau fater yma: yn gyntaf oll, gwaith teg—gwneud yn siŵr bod pobl yn cael cyflog diwrnod teg am ddiwrnod teg o waith, a dyna fydd cyfrifoldeb y Comisiwn Gwaith Teg. Ac, yn ail, cynhyrchiant: heb os, mae cynhyrchiant yn arwain at godi cyflogau pobl. Nawr, mae hon yn broblem i'r DU gyfan. Mae'n broblem y gwn sy'n fwy difrifol yng Nghymru, rwy'n derbyn hynny, ond mae'n fater y dylem ni i gyd ymdrechu i'w ddatrys. Pam, er enghraifft, mae gweithiwr yn yr Almaen yn cael llawer mwy allan o'r un peiriant nag y byddai gweithiwr yn y DU? Wel, mae hyfforddiant yn rhan ohono, pwyslais trwm ar hyfforddiant, pa un a yw'n hyfforddiant mewn swydd trwy gyflogwyr—mae Twf Swyddi Cymru yn enghraifft o hynny—hefyd, wrth gwrs, gweithio gyda'n colegau addysg bellach i wneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gynyddu eu hincwm personol, a dyna'r ffordd, i mi, ceisio cynyddu gwerth ychwanegol gros y pen.

Fel y dywedais, yn anffodus, dros yr 20 mlynedd, rydym ni wedi gweld y bwlch enfawr hwnnw'n agor rhwng gweithiwr yn yr Alban a gweithiwr yng Nghymru, ac yn amlwg, yn anffodus, mae Cymru yn aros ar waelod y tabl cynghrair pan ddaw i gyflogau. mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'r ateb a roesoch i mi yn rhoi llawer o ffydd i mi y bydd newid mor fawr â hynny erbyn dechrau'r 2020au, yn sicr, os nad canol y 2020au. Byddai'r arian hwnnw'n dod i mewn i gymunedau ar hyd a lled Cymru does bosib na fyddech hi'n cytuno yn adfywio'r cymunedau hynny, ac un elfen allweddol o weithgarwch economaidd yw adeiladu tai. Rydym ni wedi clywed eisoes gan yr Aelod dros Gaerffili am y pwysigrwydd o adeiladu tai. Cafwyd gostyngiad o 10 y cant i waith adeiladu tai yn Nghymru y llynedd. Nawr, os oes gennych chi gyflogau is, yna mae gennych chi alw isel am dai, oherwydd yn amlwg mae'n anodd dadlau'r achos economaidd i adeiladwyr tai fuddsoddi mewn ardaloedd. Felly, does bosib na allwch chi weld y cysylltiad. Pam nad yw'r cynllun gweithredu economaidd yn fwy rhagnodol o ran y cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo gwaith adeiladu tai yng Nghymru? Oherwydd, fel y dywedais, gwelsom ostyngiad o 10 y cant i waith adeiladu tai yma yng Nghymru dim ond y llynedd.

Wel, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos ein bod ni'n parhau, byddwn yn dadlau, i fod â thueddiad cadarnhaol o ran nifer y cartrefi sy'n cael eu cwblhau yng Nghymru, gyda data mis Hydref i fis Rhagfyr 2017 yn dangos cynnydd o 29 y cant o'r chwarter blaenorol. Yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2017, cwblhawyd cyfanswm o 6,885 o anheddau newydd. Mae hynny'n gynnydd o 4 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2016.

Beth ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth? Wel, yn gyntaf oll, wrth gwrs, sicrhau—[Torri ar draws.] Mae David Melding yn fywiog iawn heddiw, mae'n rhaid i mi ddweud. Rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid, wrth gwrs, i gyflawni yn erbyn ein hymrwymiad allweddol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ac, ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym ni Cymorth i Brynu—Cymru. Rydym ni'n gwybod bod hwnnw wedi ei sefydlu'n gadarn. Mae'n fuddsoddiad o £290 miliwn yn yr ail gam. Bydd hynny'n cefnogi'r gwaith o adeiladu dros 6,000 o gartrefi newydd erbyn 2021, gan helpu prynwyr tro cyntaf i gamu ar yr ysgol eiddo. Ac, wrth gwrs, y newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, byddan nhw'n helpu i ysgogi'r farchnad, yn enwedig i'r rheini sydd fwyaf mewn angen, sydd â'r incwm isaf. Rydym ni'n gweld, o'r ffigurau yr wyf i wedi eu rhoi eisoes, effaith gadarnhaol yr hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Mi fyddwn i'n falch iawn pe byddwn i'n gallu ymuno â chi trwy fod yn gadarnhaol am y ffigurau hynny, Prif Weinidog. Fel y nododd David Melding, mae angen 12,000 o dai y flwyddyn arnom ni i fodloni'r galw. Fel y dywedais, mae'r ffigurau—nid fy ffigurau i, ffigurau'r diwydiant—yn dangos gostyngiad o 10 y cant i waith adeiladu tai y llynedd. Rydych chi wedi cyfeirio at gyfyngiadau o ran cyflogau yma yng Nghymru. Ar ôl 20 mlynedd o'r Blaid Lafur mewn Llywodraeth, ni yw'r wlad â'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig o'n cymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae hwnnw'n hanes gwarthus. Un o'r pethau yr ydych chi wedi eu hyrwyddo yn ystod eich amser fel Prif Weinidog, yn amlwg, yw ffordd liniaru newydd yr M4, gan eich bod yn credu y bydd yn creu potensial economaidd mawr nid yn unig i'r de-ddwyrain, ond ar draws coridor cyfan y de. A allwch chi ddweud yn hyderus, gyda'r bwriad a gyhoeddwyd gennych chi ddydd Sadwrn, y bydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd rhagddi ar sail y gefnogaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi hyd yma—sef, parhau i gefnogi'r llwybr du—gan eich bod wedi nodi y bu hwnnw'n nod personol i chi ei gyflawni? Ac, gan ein bod ni'n gwybod erbyn hyn y bydd Prif Weinidog newydd, a allwch chi ddweud y bydd hynny yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru?

13:50

Nid wyf i'n credu fy mod i wedi mynegi ffafriaeth gref i'r naill lwybr na'r llall, ac ni allaf wneud hynny, gan mai fi fydd y sawl sy'n gwneud y penderfyniad terfynol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod problem. Gallwn i gyd weld beth yw'r broblem yn nhwnelau Bryn-glas, ac nid yw'r broblem honno'n un hawdd i'w datrys. Byddaf yn ystyried tystiolaeth yr arolygydd cynllunio ar ôl i mi gael y dystiolaeth honno. Ond nid yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae'n ymwneud â'r metro a gwneud yn siŵr bod trafnidiaeth gyhoeddus yn addas i'w ddiben. Rydym ni'n gwybod bod 11 miliwn o bobl yn mynd trwy orsaf Caerdydd Canolog bob blwyddyn. Mae'r nifer yn siŵr o gynyddu. Nid oes unrhyw ateb ar y ffyrdd i bobl sy'n dod o'r gogledd i Gaerdydd. Does dim—wyddoch chi, allwn ni ddim ehangu Ffordd y Gogledd. Bydd man tagfa ar yr A470 bob amser wrth i bobl ddod i mewn i Gaerdydd. Mae'r ateb i hynny yn amlochrog, i mi. Mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gwasanaethau amlach ar y rheilffyrdd presennol, gwell gwasanaethau, gwasanaethau fforddiadwy, rheilffyrdd newydd yn cael eu hagor, yn enwedig trwy reilffyrdd ysgafn, a hefyd, wrth gwrs, hyrwyddo teithio llesol. Gwn fod fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Lanelli yn mynd i bwysleisio hynny, ac mae'n hollol iawn i wneud hynny, gan fod gan Gaerdydd botensial mawr i sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio beiciau ac yn cerdded er mwyn cyrraedd y gwaith. Felly, ydy, mae ffyrdd yn bwysig, rydym ni'n gwybod hynny, ond felly hefyd y trenau, rheilffyrdd ysgafn a thrwm, ac wrth gwrs yr hyn a ystyriwyd yn draddodiadol fel hamdden gan rai, ond sy'n fath o drafnidiaeth mewn gwirionedd, sef beicio.

Perchnogaeth Gyhoeddus o Eiddo Manwerthu a Masnachol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berchnogaeth gyhoeddus o eiddo manwerthu a masnachol? OAQ52058

Nodir yr egwyddorion arweiniol ar gyfer perchnogaeth Llywodraeth Cymru o eiddo yn ein strategaeth rheoli asedau corfforaethol. Bydd gan gyrff cyhoeddus eraill eu strategaethau asedau perthnasol eu hunain. Wrth gwrs, ers dod â Maes Awyr Caerdydd yn ôl i berchnogaeth y Llywodraeth, bu'n llwyddiant rhyfeddol, ac edrychaf ymlaen at awyren gyntaf Qatar Airways yn cyrraedd yr wythnos nesaf.

Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y teithiau Qatar hynny yn cychwyn. Prif Weinidog, ar 11 Ebrill, dywedodd Ken Skates na fu unrhyw drafodiad yn gysylltiedig â gorsaf fysiau arfaethedig Caerdydd a fyddai'n creu rhwymedigaeth ar gyfer treth dir y dreth stamp na threth trafodiadau tir. Ac eto, ar 18 Ebrill, dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r safle yn ddiweddar gan Gyngor Caerdydd am £12 miliwn. A wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno, cyfnewid a chwblhau cytundeb mor fawr a chymhleth mewn llai nag wythnos, neu a yw rywsut wedi ceisio osgoi ei huwch-dreth ei hun o 6 y cant ar drafodiadau tir?

Na, ni chafwyd mantais dreth gennym o o ganlyniad i gwblhau'r trafodiad hwn o dan SDLT yn hytrach nag LTT. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny.

Ar yr un pwnc hwn, sy'n amlwg o ddiddordeb mawr i mi, a allwch chi esbonio pam y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd â'r bartneriaeth darparu'r metro arfaethedig hon, o gofio bod nifer fawr o gwmnïau masnachol wedi elwa ar adleoli i'r Sgwâr Canolog a byddwn i wedi disgwyl iddyn nhw wneud yr enillion cynllunio angenrheidiol i adeiladu'r orsaf fysiau yn rhan hanfodol o wneud hyn yn llwyddiant?

Bu'n rhaid i ni ymyrryd gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod y metro yn llwyddiannus. Mae gennym ni weledigaeth i'r safle o gwmpas Caerdydd Canolog ddod yn ganolfan drafnidiaeth integredig i ddarparu integreiddiad di-dor rhwng trenau, bysiau, coetsys a'r metro, gan ganiatáu mynediad rhwydd i gerddwyr a chyfleusterau storio i feicwyr, a chyfleusterau ar gyfer tacsis a cheir preifat wrth gwrs, gan ein bod ni'n gwybod mai canolfan drafnidiaeth integredig yw'r ffordd fwyaf effeithiol o lawer i sicrhau y bydd pobl yn defnyddio'r system yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n briodol i'r Llywodraeth gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu calon ein prifddinas er budd pobl Caerdydd ond, wrth gwrs, pobl sy'n byw ymhellach i ffwrdd ac yn gweithio yn y ddinas bob dydd hefyd.

Unigrwydd ac Unigedd Cymdeithasol

4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran atal unigrwydd ac unigedd cymdeithasol? OAQ52064

Byddwn yn cyflawni ein hymrwymiad o gynhyrchu strategaeth erbyn mis Mawrth 2019. Gan adeiladu ar waith ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i unigrwydd ac arwahanrwydd, rydym ni'n ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraethau'r Alban a'r DU, i'n helpu i bennu'r cyfeiriad a fydd yn ysgogi ein gwaith.

Diolch, Prif Weinidog. Gall unigrwydd ac arwahanrwydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Mae'n fater iechyd y cyhoedd arwyddocaol a gwyddom y gall fod mor niweidiol ag ysmygu 15 o sigaréts y dydd. Cynhaliais drafodaeth bwrdd crwn gydag Age Cymru yn fy etholaeth i fis diwethaf ynghylch mynd i'r afael ag unigrwydd, ac un enghraifft dda yw gwaith Ffrind i Mi ym Mwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan. Maen nhw'n gweithio i baru cartrefi gofal ac ysgolion, ac mae'r buddion yno yn amlwg i bawb eu gweld. Pa ran all Llywodraeth Cymru ei chwarae i gefnogi mentrau fel hyn, sy'n dod â phob cenhedlaeth ynghyd ac yn mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ledled Cymru?

13:55

Mae Ffrind i Mi yn brosiect ardderchog, wrth gwrs, a ddatblygwyd gan fwrdd Aneurin Bevan. Rydym ni'n gwybod, pan fo pobl yn unig, nad yw'n gwestiwn o'r ffaith nad oes ganddyn nhw gwmni a'r synnwyr o arwahanrwydd yn unig, ond mae'n effeithio ar iechyd pobl. Dyna pam, yn amlwg, fel bwrdd iechyd, y mae'n briodol cymryd rhan yn y gwaith o wneud yn siŵr bod unigrwydd fel mater yn cael sylw.

Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni wedi comisiynu gwaith ymchwil ar 23 Ebrill yn ystyried egwyddorion sylfaenol dulliau gwirfoddoli cymunedol cynaliadwy i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn. Nid dyma'r teitl mwyaf bachog a ddyfeisiwyd gan y Llywodraeth erioed, efallai—serch hynny, mae'n esbonio'r hyn y mae'n mynd i'w wneud. Mae hwnnw yno, wrth gwrs, i'n galluogi i ddarganfod beth yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael ag unigrwydd mewn gwirionedd, i wneud yn siŵr bod yr hyn a ddatblygir yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod mor effeithiol ag y gall fod.

Mae Ffrind i Mi, yn wir, yn ddatblygiad ardderchog, Prif Weinidog. Yn wir, y mis nesaf, byddwch yn cydnabod ac yn talu teyrnged i waith Mary Adams, sy'n un o'm hetholwyr i yn y gorllewin, am y gwaith y mae hi'n ei wneud drwy'r prosiect RotaKids a gefnogir gan y Clwb Rotari. Mae RotaKids yn treulio amser gyda phobl â dementia, gyda phobl sy'n dioddef o unigrwydd ac sy'n teimlo'n gwbl ar wahân, er mwyn dod â rhywfaint o'r rhyddhad hwnnw i rai o oriau eu diwrnodau.

Mae'r prosiectau hyn yn gwbl hanfodol, ac eto, yn yr adroddiad pwysig iawn hwnnw gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dim ond yn rhannol y derbyniodd y Llywodraeth un o'r argymhellion. Yr argymhelliad i ofyn am gyllid tair blynedd ar gyfer prosiectau fel hyn er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw gyfle i ymsefydlu yn y gymuned leol a dod yn hunan-gynhaliol oedd hwnnw. A wnewch chi weithio gyda'ch Ysgrifenyddion dros iechyd, gofal cymdeithasol a chyllid wrth i chi gynnal yr adolygiad hwn er mwyn sicrhau ein bod ni'n ystyried hyn, gan nad yw'r  holl brosiectau hyn yn werth dim os byddan nhw'n diflannu ar ôl blwyddyn? Mewn gwirionedd, maen nhw'n gadael trywydd gwirioneddol drist o bobl ar eu hôl, yr oedd ganddynt rywbeth ar un adeg ond na allant gael mynediad at wasanaeth hanfodol iawn mwyach.

Mae'n her mewn Llywodraeth i geisio darparu cyllid refeniw tair blynedd pan fo'n rhaid datblygu ein cyllideb ein hunain—o reidrwydd, oherwydd y grant bloc yr ydym ni'n ei gael—yn unol ag amserlen fyrrach yn aml. Mae honno'n broblem a fu gennym ni erioed—nid pwynt gwleidyddol yr wyf i'n ei wneud yw hwn—ond, serch hynny, mae hynny'n wir. Ond, ydym, cyn belled â phosibl, rydym ni'n ceisio sicrhau nad ydym yn gweld cyllid refeniw ar gyfer sefydliadau yn diflannu ar ôl cyfnod penodol o amser. Pan fo hynny'n digwydd, ac mae wedi digwydd, rydym ni'n ceisio gweithio gyda nhw—rydym ni'n eu hannog i weithio gyda ni i ystyried atebion ariannu cynaliadwy mewn mannau eraill. Gwn fod rhai sefydliadau fel Men's Sheds—ymwelais ag un yn eich etholaeth chi, a dweud y gwir, yn Noc Penfro—sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran mynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith dynion sydd wedi colli eu partneriaid.

Ie, dyna ydy'r pwynt sylfaenol yn deillio o'n hadroddiad ni fel pwyllgor iechyd. Yn bellach i'r esiamplau rŷm ni wedi'u clywed, sydd hefyd, wrth gwrs, yn mynd i fod yn fregus o ran ariannu tymor hir, ydych chi'n credu y dylech chi, fel Llywodraeth, fod yn rhoi mwy o eglurder a mwy o flaenoriaeth i'r pwynt sylfaenol yma—nid yn unig clodfori'r gwasanaeth ond hefyd dweud rhywbeth ynglŷn â'r sicrwydd tymor hir ariannol?

Ie, dyna beth yw'r broblem, onid yw e? Mewn sefyllfa lle mae maint yr arian yn cwympo bob blwyddyn, mae fe'n anodd rhoi unrhyw fath o addewid yn y ffordd yna achos y ffaith nad yw'n glir faint o arian fydd ar gael i'r Llywodraeth. Lle rŷm ni'n gallu gwneud hynny, rŷm ni'n ceisio gwneud hynny. Ond, i fod yn honest, mae fe'n anodd rhoi addewid yn y ffordd yna i bopeth, achos y ffaith rŷm ni'n gwybod bod y gyllideb yn cwympo o flwyddyn i flwyddyn.

Diwylliant y Gweithle yn Llywodraeth Cymru

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiwylliant y gweithle yn Llywodraeth Cymru? OAQ52056

Gwnaf. Yr Ysgrifennydd Parhaol sy'n gyfrifol am arwain a rheoli gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Rwy'n ei chynorthwyo i arwain diwylliant sy'n hyderus, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar gyflawni dros Gymru.

Prif Weinidog, rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi eich absenoldeb o'r ddadl ar yr ymchwiliad i ddatgeliadau answyddogol yr wythnos diwethaf. Er i chi dynnu'n ôl o'r her gyfreithiol i atal y ddadl, byddwn wedi meddwl y byddech chi wedi parchu sefydliad y Cynulliad hwn ac wedi bod yma i glywed y dadleuon a gyflwynwyd gan ACau.

Gwyddom eich bod wedi cael eich difeio yn adroddiad Hamilton a gyhoeddwyd yn hwyr ar nos Fawrth ar ôl y Cyfarfod Llawn, ond credaf fod angen i'r cyhoedd wybod pam na chafodd unrhyw diogelwch ei gynnig na'i roi i dystion, yn wahanol i'r ymchwiliad i ddatgeliadau answyddogol. A ydych chi wedi gweld, er enghraifft, adroddiadau'r BBC bod pobl yn ofni cyflwyno tystiolaeth gan eu bod nhw'n poeni am y sgil-effeithiau? Mae eich cyn-gydweithiwr—ac yn bendant yn gyn gyd-gydweithiwr erbyn hyn, rwy'n credu—Leighton Andrews, yn nodi yn ei sylwadau ar y mater bod

awyrgylch gwenwynig ar y Pumed Llawr a bod Mr Sargeant a rhai Gweinidogion eraill yn destun tanseilio personol parhaus.

Nawr, rwy'n cytuno, a gwelaf yr hyn sydd wedi cael ei ddweud o ran adroddiad Hamilton, ond onid ydych chi'n cytuno bod angen i newidiadau diwylliannol gael eu gwneud o fewn y Llywodraeth, ac a wnewch chi baratoi i fynd i'r afael â'r newidiadau hynny cyn i chi adael eich swydd?

14:00

Mae adroddiad Hamilton yn eglur. Nid wyf i'n bwriadu ymhelaethu ar yr hyn y mae'n ei ddweud, ac eithrio i ddweud, wrth gwrs, cyn belled ag y mae staff Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, bod hwnnw'n fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. A gallaf ddweud, yn ôl ein harolwg staff diweddaraf, bod 80 y cant o staff wedi rhoi sgôr cadarnhaol i'r sefydliad o ran cynhwysiant a thriniaeth deg—mae hynny 4 y cant yn uwch na meincnod gwasanaeth sifil y DU—ac mae 88 y cant o staff Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cael eu trin gyda pharch gan y rheini y maen nhw'n gweithio gyda nhw, 3 y cant yn uwch na meincnod gwasanaeth sifil y DU. Nawr, wrth gwrs, mae hynny'n dangos bod mwy o waith i'w wneud, a gwn fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn ymwybodol iawn o hynny.

Prif Weinidog, mae'n bwysig meithrin diwylliant priodol a'r diwylliant cywir o fewn Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn brydlon a bod pobl sy'n gweithio o fewn y Llywodraeth yn gohebu yn brydlon. Yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro i chi yr wythnos diwethaf, gallaf gadarnhau fy mod innau hefyd yn aros am ymateb i'm cais mynediad pwnc a gyflwynwyd i'r Llywodraeth ar 15 Mawrth ynghylch gwybodaeth y gofynnwyd amdano amdanaf i gan Lywodraeth Cymru i fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. O gofio pwysigrwydd meithrin diwylliant o atebolrwydd a pharch o fewn Llywodraeth Cymru, mae'n hanfodol yr ymdrinnir â materion fel hyn yn agored ac yn broffesiynol. A allwch chi roi awgrym i mi felly o bryd y byddaf yn derbyn ymateb i'm cais mynediad pwnc?

Cytunaf yn llwyr y dylem ni fod yn agored ac yn broffesiynol, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Nid yw'n rhywbeth yr wyf i wedi ymwneud ag ef yn uniongyrchol, fel y gall ef ei werthfawrogi, ond rwy'n gobeithio y bydd sefyllfa yn cael ei chyrraedd yn fuan pan fydd modd ateb y cwestiwn—ac mae'n rhaid ei ateb, rwy'n deall hynny.

Gwasanaeth Bysiau TrawsCymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i ehangu gwasanaeth bysiau TrawsCymru ymhellach? OAQ52055

Rydym ni’n dal i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol i ymchwilio i gyfleoedd i wella’r gwasanaethau TrawsCymru sy’n cael eu cynnig yn barod. Rydym ni hefyd yn awyddus i gyflwyno llwybrau newydd lle mae manteision strategol amlwg i gynnig gwasanaethau bysiau a choetsys pellter hir newydd.

Yn dilyn y cytundeb cyllideb, mi sicrhaodd Plaid Cymru £400,000 er mwyn uwchraddio rhwydwaith TrawsCymru o fws i goets, ac yn dilyn hynny mi ddechreuodd y gwasanaeth newydd o Aberystwyth i Gaerdydd wythnos diwethaf, gan sicrhau siwrnai mwy pleserus a chyflymach. Mae hyn, wrth gwrs, yn gam pwysig ymlaen yn y broses o greu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus sy'n ffit ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn ein cymunedau gwledig ni. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i edrych i mewn i ehangu'r gwasanaeth yma, a chynnig gwasanaethau coets a fydd ar gael i bobl yn fy etholaeth i a fyddai'n dymuno teithio ar fws cyfforddus i'r brifddinas ac i rannau eraill o Gymru?  

Wel, dau beth: yn gyntaf, ynglŷn â'r cwestiwn a ydym ni'n cynllunio i ehangu'r gwasanaeth, mae hynny yn iawn; rydym ni yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd er mwyn edrych ar lwybrau newydd, sef Bangor i'r Waun a Chroesoswallt, ac hefyd, er enghraifft, o Wrecsam i'r Drenewydd. Wrth gwrs, beth mae'n rhaid i ni ystyried yw ym mha ffordd mae'r gwasanaethau yna yn gallu cael eu defnyddio a'u rhedeg. Rwy'n falch iawn i weld coets yn mynd ar y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Aberystwyth, fel rhywun a oedd yn hen gyfarwydd â'r TrawsCambria flynyddoedd mawr yn ôl. Coets oedd hwnnw, ond coets heb dŷ bach, os cofiaf, ac roeddem yn gorfod stopio yn Abertawe am beth amser er mwyn i bobl fod yn gyfforddus. Felly, beth rydym yn ystyried yw ym mha ffordd y gallwn ni ehangu'r gwasanaeth, ac wedyn ym mha ffordd y gallwn ni yn y pen draw sicrhau bod y cerbydau sydd yn rhedeg y gwasanaeth yn cael eu gwella dros y blynyddoedd nesaf. 

A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad cost a budd o wasanaeth TrawsCymru, ac a gaf i ofyn i chi sut y mae nifer y teithwyr yn cymharu â gwasanaethau eraill sy'n cael cymhorthdal? A gaf i ofyn pa asesiad y gallwch chi ei wneud o'r arbrawf teithio ar ar y bws am ddim dros y penwythnos ar rwydwaith TrawsCymru?

Mae gwerthusiad yn cael ei gynnal. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, fodd bynnag, yw bod nifer y teithwyr yn cynyddu. Mae cyflwyno teithio am ddim wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran gwneud hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr Aelod yn rhoi'r argraff, yn y ffordd y gofynnodd y cwestiwn, nad yw o blaid rhwydwaith TrawsCymru. Bydd unrhyw rwydwaith pan fo'n cychwyn gyntaf yn cymryd rhywfaint o amser i ymsefydlu. Nid ydym ni erioed wedi cael rhwydwaith bysiau cenedlaethol go iawn. Hyd yn oed yn nyddiau'r TrawsCambria, roedd Caerdydd i Aberystwyth ac yna ymlaen i Fangor yn bodoli, ar ôl i'r rheini a oedd yn mynd yn eu blaenau i Fangor aros am awr yn Aberystwyth, ond roedd popeth arall yn weddol fyrdymor ac anghynaladwy. Rydym ni'n bwriadu cyflwyno rhwydwaith cynaliadwy hirdymor. Rydym ni'n gwybod bod cymunedau erbyn hyn sy'n cael gwasanaeth bws am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddant yn ei groesawu. Felly, rwy'n hapus â'r ffordd y mae rhwydwaith TrawsCymru yn perfformio ac, wrth gwrs, nifer y teithwyr o ran y cynnydd yr ydym ni wedi ei weld.

14:05
Diabetes Math 2

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y bobl yng Nghymru sydd â diabetes math 2? OAQ52022

Mae'r archwiliad diabetes cenedlaethol, sy'n rhan o'r rhaglen archwilio clinigol ar gyfer y GIG yng Nghymru, yn dynodi bod oddeutu 178,000 o bobl wedi eu cofrestru gyda diabetes math 2 yng Nghymru yn ystod blwyddyn adrodd 2016-17.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae genynnau yn chwarae rhan mewn diabetes math 2, ond mae dewisiadau o ran ffordd o fyw hefyd yn bwysig iawn. Er enghraifft, efallai y bydd gennych gellwyriad genynnol a allai eich gwneud yn agored i fath 2, ond os byddwch chi'n gofalu am eich corff efallai na fyddwch yn datblygu diabetes. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno wythnos atal genedlaethol ar gyfer diabetes math 2?

Gadewch i mi roi blas ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i'r Aelod. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd atal. Rydym ni'n ymwybodol o raglen GIG Lloegr. Nid ydym yn credu bod hyn yn iawn i Gymru, gan ein bod ni'n gwybod bod gordewdra yn ffactor risg ar gyfer nifer o glefydau, felly ni ellir cyfiawnhau dull clefyd-benodol. Gwyddom hefyd bod dadleuon ynghylch y sail dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd rhaglen atal diabetes. Mae angen i ni wneud rhywbeth, yn amlwg, felly mae angen dull ehangach ac amlweddog; rydym ni'n gwybod hynny. Felly, sut y bydd hynny'n cael ei wneud? Wel, nod y strategaeth ordewdra sydd ar y gweill fydd rhoi pwyslais cryf ar atal, a bydd hynny'n cynnwys archwilio sut y gallwn ni gyfleu negeseuon ar draws y boblogaeth—rwy'n credu ei bod hi'n ffordd well i ddweud, 'Sut gallwn ni ddweud wrth bobl', a dweud y gwir, yn hytrach na'i roi yn y modd hwnnw—drwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd, trwy ddarparu llwybrau gordewdra.

Prif Weinidog, clywsom yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar ddiabetes bod tua 100 o nyrsys diabetes newydd yn cael eu cyflwyno yn Lloegr. Nid oes gennym ni ddim un yma. Er, wrth gwrs, y rhoddir pympiau inswlin gan y GIG i bobl sydd â diabetes os byddant eu hangen ar frys, nid oes unrhyw sicrwydd heb y nyrsys arbenigol eu bod nhw'n cael eu defnyddio'n gywir. O gofio ein bod ni'n cael mwy o arian y pen yng Nghymru nag yn Lloegr, tybed pa ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno nyrsys diabetes yma. Yn amlwg, nid oes rhaid i ni wneud yn union yr un fath â Lloegr, ond hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd gennych eu bod wedi eu hystyried.

Wel, mae Diabetes Cymru yn aelodau o grŵp strategaeth gordewdra y prif swyddog meddygol, felly maen nhw'n gallu hysbysu'r Llywodraeth am yr hyn y maen nhw'n ei gredu yw'r ffordd orau o ymdrin â diabetes. Gallaf ddweud ein bod ni'n parhau i fuddsoddi'r symiau mwyaf erioed ym maes gofal diabetes, o £76 miliwn yn 2009-10 i fwy na £111 miliwn yn 2016-17. A dweud y gwir, amcangyfrifwyd bod tua 10 y cant o wariant y GIG yn cael ei wario ar drin diabetes. Amlinellir y ffordd ymlaen yn ein cynllun cyflawni ar gyfer diabetes. Diweddarwyd ac ailgyhoeddwyd hwnnw ym mis Rhagfyr y llynedd a bydd yn mynd â ni hyd at 2020.

Roeddwn i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gefnogi gwelliant Plaid Cymru i Fil iechyd y cyhoedd yn ddiweddar, sy'n golygu bod strategaeth i daclo gordewdra yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Rŵan, a ninnau'n gwybod bod gordewdra yn gallu arwain at diabetes math 2, a bod diabetes yn sugno gymaint o gyllid y gwasanaeth iechyd—gymaint â 10 y cant o'r holl arian sy'n cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd—a ydych chi fel Prif Weinidog yn cytuno bod buddsoddi symiau sylweddol o arian mewn atal gordewdra er mwyn atal llawer o achosion o ddiabetes math 2, llawer iawn mwy nag sy'n cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd, yn gwbl angenrheidiol er mwyn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd yn yr hirdymor? 

Wel, rwyf wedi sôn am y ffaith bod 10 y cant, fel y dywedodd e, o wariant yn mynd ar ddiabetes. Rŷm ni'n gwybod bod gordewdra—ac nid ydw i'n un sy'n siarad gydag unrhyw fath o brofiad ynglŷn â hyn, wrth gwrs—yn rhywbeth sydd yn effeithio ar glefyd y siwgr. Dyna pam rŷm ni'n datblygu strategaeth gordewdra genedlaethol. Ac wrth gwrs, mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sawl llwybr mewn lle yn barod—sef, wrth gwrs, llwybr gordewdra er mwyn cefnogi pobl er mwyn lleihau’r risg sydd gyda nhw o bethau fel diabetes.

14:10
Cefnogi Ysgolion Gwledig

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ysgolion gwledig yng Nghanol De Cymru? OAQ52019

Cynhaliwyd ymgynghoriad gennym yn ddiweddar ar gryfhau'r cod trefniadaeth ysgolion o ran rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Byddwn yn cyhoeddi ein hymateb yn ystod yr haf. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno grant ysgolion bach a gwledig newydd i annog arloesedd a chynorthwyo mwy o weithio ysgol i ysgol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r fformiwla sy'n sail i ariannu ysgolion, ac ysgolion gwledig yn arbennig, yn seiliedig ar elfen deneurwydd poblogaeth cyfrifiad 1991. Adolygwyd y fformiwla addysg arbennig ddiwethaf yn 2006 a diweddarwyd y fformiwla ysgolion cynradd ac uwchradd ddiwethaf yn 2003, Prif Weinidog. Pa bynnag ffordd yr edrychwch chi arni, bu amser maith ers y dyddiadau hynny. A ydych chi'n credu ei fod yn gam synhwyrol i'r Llywodraeth gynnal adolygiad o'r fformiwla ariannu hwn i'w wneud yn fwy cyfredol o ran ffigurau presennol a dyheadau presennol Llywodraeth Cymru?

Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei archwilio gyda'r awdurdodau addysg lleol ac yn rhywbeth a fyddai'n effeithio ar y grant cymorth refeniw. Mae profiad yn dweud wrthym ni bod pobl ar eu hennill ac ar eu colled pan fydd fformiwla yn cael ei newid. Nid yw hwnnw'n rheswm pam na ddylai newid, wrth gwrs, o reidrwydd, ond mater i awdurdodau lleol yn gyfunol yw penderfynu ar ddull cyffredin, er mwyn hysbysu'r Llywodraeth.

Prif Weinidog, rwy'n pryderu ynghylch y cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd yng ngorllewin y Fro, a fyddai'n arwain at gau Ysgol Gynradd Llancarfan. Dyfarnwyd bod yr ysgol yn 'dda' yn ei harolygiad diwethaf gan Estyn ac mae hi yn y categori melyn. Yn ôl adroddiad Estyn,

Mae'r adeiladau a'r safle yn cynnig amgylchedd dysgu ysgogol ac amrywiol

ac

mae'r disgyblion yn gwneud defnydd da o...ei mannau bywyd gwyllt a choediog.

Felly, Prif Weinidog, o ran y weithdrefn ymgynghori hon ar y cod trefniadaeth ysgolion yn ymwneud ag ysgolion bach a gwledig, nid wyf yn credu bod effaith y cynigion hyn ar gymuned wledig leol Llancarfan wedi cael eu cymryd i ystyriaeth, nac ychwaith safbwyntiau darpar rieni sydd wedi cysylltu â mi ac sy'n siomedig dros ben am y cynigion hyn. A allwch chi fy sicrhau y bydd cod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru yn cael ei barchu o ran pwysigrwydd yr ysgol hon?

Wel, wrth gwrs, awdurdodau lleol, fel y mae'r Aelod yn gwybod, sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol, ond, wrth gyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau sylweddol i ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â'r cod trefniadaeth ysgolion ac mae'n rhaid iddyn nhw gymryd amrywiaeth o ffactorau i ystyriaeth, a'r brif ystyriaeth yw buddiannau'r dysgwyr. Mae'r cod yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori, gan gynnig cyfle i bawb â buddiant i leisio eu barn ac i'w safbwyntiau gael eu hystyried.

Dinasoedd

9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd dinasoedd Cymru i ddatblygiad yr economi? OAQ52034

Mae ein strategaeth 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein camau gweithredu ar gyfer pob rhan o Gymru i gyfrannu at dwf economaidd ac elwa arno. Mae hynny'n amlwg yn cynnwys galluogi ein dinasoedd a'n trefi mawr i fod yn ysgogwyr twf sydd o fudd i'w rhanbarthau ehangach.

Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi ei awgrymu yn y fan yna—bod ein dinasoedd yn adnodd gwych sydd â chyfrifoldebau rhanbarthol a chenedlaethol. Ond, fel y gwyddoch, o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, nid oes unrhyw gynlluniau cynllunio rhanbarthol wedi cael eu cyflwyno ar sail wirfoddol eto. Rwy'n falch eich bod chi'n mynd i ymgynghori ar hyn a pha un a oes angen i ni gymryd camau mwy pendant. Tybed a allech chi roi syniad o feddylfryd y Llywodraeth.

Ein meddylfryd yw bod angen i awdurdodau lleol gydweithredu mwy i lunio cynlluniau datblygu rhanbarthol. Os na fydd hynny'n digwydd, yna bydd yn rhaid i ni ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf, ond byddem yn annog awdurdodau lleol i wneud hynny. Y gwir yw, wrth gwrs, bod ffiniau gwleidyddol yn gwbl aneffeithiol pan ddaw i'r ffordd y mae'r economi yn gweithio. Y gwir yw bod economïau llawer o awdurdodau lleol yn cydblethu'n anorfod â Chaerdydd. Rwyf i'n byw 20 milltir i ffwrdd o Gaerdydd, ond gwn fod llawer iawn, iawn o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd i weithio, ac mae'n gweithredu—. Er bod gan Ben-y-bont ar Ogwr ei heconomi ei hun a'i chyflogwyr ei hun, mae Caerdydd yn dal i fod yn ffynhonnell bwysig o waith. Rwyf i'n credu ein bod ni'n gwneud cam â'n cyhoedd os bydd awdurdodau lleol yn ystyried cynllunio a'r ffaith fod tai ar gael fel rhywbeth sy'n bodoli o fewn ffiniau eu hunain yn unig. Felly, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Os na fyddant yn gwneud hynny, yna yn amlwg bydd yn rhaid i ni gymryd camau i wneud y system gynllunio yn fwy effeithiol.

Cyfleoedd Cyfartal i Blant

10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal mewn bywyd? OAQ52061

14:15

Ein nod yn 'Ffyniant i bawb' yw cefnogi plant a phobl ifanc i fanteisio i'r eithaf ar eu potensial ac mae hynny'n golygu rhoi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd a'r cymorth sydd ei angen arnynt, a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i dyfu a chyflawni hyd eithaf eu gallu ac, wrth gwrs, o ran y sgiliau sydd ganddynt.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod pob plentyn yn haeddu gallu cymryd rhan yn gyfartal mewn gweithgareddau ar ôl ysgol a bod cost yn gysylltiedig â hyn yn aml, yn arbennig i deuluoedd tlotach, pan fo angen offer arbenigol a chyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, er enghraifft? Beth all y Llywodraeth ei wneud i roi cyfle cyfartal mewn bywyd i'r plant hynny?

Mae'n hynod bwysig ein bod mor hyblyg â phosibl wrth ddarparu cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r Ysgrifennydd addysg wrthi'n edrych ar gyflwyno grant gwell sy'n fwy addas ar gyfer anghenion teuluoedd na'r grant gwisg ysgol presennol, rhywbeth sy'n cefnogi gwell mynediad at weithgareddau'r cwricwlwm a chyfleoedd dysgu a allai beidio â bod ar gael i ddysgwyr fel arall oherwydd y gost. Felly, mae'n gwestiwn o ehangu a bod yn fwy hyblyg o ran yr hyn sydd wedi bod ar waith yn flaenorol i wneud yn siŵr nad yw plant yn colli cyfleoedd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymysg papurau'r cyfarfod, sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.

Arweinydd y Tŷ, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad brys ynglŷn â chynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin. Fel y byddwch yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, lansiodd bwrdd iechyd Hywel Dda ei gynlluniau newid gwasanaeth newydd, ac yn y tri opsiwn a gafodd eu cyhoeddi, bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei israddio o fod yn ysbyty cyffredinol i fod yn ysbyty cymunedol. Afraid dweud, bod y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yn Sir Benfro yn ffyrnig, gan fod yr ymgynghoriad hwn yn ei gwneud yn gwbl glir nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond wynebu israddio eu hysbyty lleol, gan nad oes unrhyw opsiwn arall. Yn wir, mae pobl mor flin bod dros 8,500 o bobl wedi llofnodi deiseb yn y 24 awr diwethaf, dan arweiniad un o fy etholwyr, Myles Bamford Lewis, i wrthdroi'r penderfyniad i israddio ysbyty Llwynhelyg.

Wrth gwrs, yn sgil penderfyniad y bwrdd iechyd, unwaith eto, bydd hyd yn oed mwy o gleifion yn Sir Benfro yn gorfod teithio ymhellach i gael gwasanaethau iechyd pwysig. Ac fel y cydnabu ymgynghoriad bwrdd iechyd, bydd hyn yn cael effaith ar gymunedau ledled Sir Benfro. Mae'r opsiynau hyn yn gwbl annerbyniol i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. Felly, mae'n bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno datganiad ar yr effaith y caiff y diffyg dewis a dewis amgen hyn ar bobl Sir Benfro, ac ar yr un pryd, gall gadarnhau, unwaith ac am byth, ar gofnod, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ar gael ar gyfer pob un o'r cynigion hyn. Os nad yw fforddiadwyedd unrhyw un o'r cynigion neu bob un ohonynt wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, beth yw pwrpas ymgynghori ar unrhyw newid yn y lle cyntaf?

Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu bod y cynigion trychinebus hyn gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ei gwneud yn eithaf clir ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn cyflwyno cynlluniau llawer mwy synhwyrol drwy fod yn deg i bobl Sir Benfro. Felly, a wnewch chi bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno datganiad yn amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin?

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed eich teimladau ar y pwnc sy'n amlwg yn dod o'r galon. Ymgynghoriad ydyw ac mae angen i ni aros am ganlyniad yr ymgynghoriad er mwyn cael pob barn cyn ymateb.

A gaf i ofyn am ddwy eitem, mewn gwirionedd? Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y cyhoeddiad mawr gan arweinydd y Blaid Lafur yn y gynhadledd dros y penwythnos? Rwy'n sôn am gyhoeddiad Jeremy Corbyn y cawn Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, wrth gwrs—roedd hynny'n newyddion gwych. Roedd yn garedig iawn iddo sôn am Ogledd Iwerddon—rwy'n credu bod Dydd San Padrig yn ŵyl banc eisoes yng Ngogledd Iwerddon, mewn gwirionedd, felly nid wyf yn credu bod angen inni ymgynghori ar hynny. Ond, unwaith eto, dyma enghraifft o Blaid Lafur y DU yn addo rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr. Felly, gallai Llywodraeth Cymru ddweud yn awr, 'Flwyddyn nesaf, 2019—yr ŵyl banc cyntaf erioed ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.' Gall wneud hynny yn awr. Felly, â phob parch i gynhadledd y Blaid Lafur, nid oes angen arweinydd yn Llundain yn dod i ddweud rhywbeth y gallwch ei wneud o fewn eich maes eich hun. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dweud sut y bydd y Dydd Gŵyl Dewi nesaf yn ŵyl banc yng Nghymru a sut yr ydych yn bwriadu cyflawni hynny, yn hytrach nag addewidion gwag ar gyfer penawdau mewn cynadleddau?

Nid llai difrifol, a gawn ni ddatganiad hefyd, neu, yn hytrach, esboniad gan y rheolwr busnes o'r camau nesaf ar gyfer sut y byddwn yn awr yn ymdrin â'r Bil Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? Deallaf fod Mike Russell, Gweinidog yr Alban, ar fin gwneud datganiad yn Senedd yr Alban y prynhawn yma ar drafodaethau ynghylch gwelliannau pwysig iawn hyn i gymal 11 o'r Bil. Ddoe, rwy'n credu dywedodd Mark Drakeford yn y pwyllgor nad ydym wedi cyrraedd cytundeb o hyd, ond bod y Llywodraeth yn dal i obeithio dod i gytundeb. Nid oes gennym gyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion wedi'i amserlennu yn awr—ymddengys ei fod wedi'i ohirio. Rydym yn cyrraedd diwedd pen y daith yn wirioneddol. Yr wythnos nesaf, bydd y Bil yn gorffen yn Nhŷ'r Arglwyddi. Hyd yn oed ar yr amserlen bresennol, bydd unrhyw welliannau i gymal 11 yn cael eu trafod ar y diwedd oll yn Nhŷ'r Arglwyddi, felly sut ydych chi'n bwriadu, fel rheolwr busnes, sicrhau bod y Cynulliad yn cael rhagrybudd amserol am welliannau o'r fath, fel ein bod ni'n gallu trafod goblygiadau gwelliannau o'r fath? Awgrymaf yn dyner i chi efallai na fydd yr hyn sy'n addas iawn i Lywodraeth Cymru yn addas i Senedd Cymru. Gallai Llywodraeth fod yn fodlon ag un trefniant, efallai na fydd y Senedd yn fodlon ag ef. A oes gennych gynlluniau wrth gefn, os oes angen, i fynd at y Llywydd i ailgynnull y Cynulliad hwn ar ddiwrnod gwahanol i'r arfer er mwyn caniatáu i ni ddyfarnu'n derfynol ar unrhyw welliannau y cytunir arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan?

14:20

O ran y pwynt cyntaf, hoffwn yn fawr iawn weld Llywodraeth Lafur yn y DU, ac, wrth gwrs, yr hyn a gawn wedyn fyddai gwrthdroi'r gyfres o bolisïau llymder ac adnewyddu trefniadau ariannu priodol ar gyfer Cymru, a byddai hyn, wrth gwrs, yn caniatáu i ni gyhoeddi gŵyl gyhoeddus. O dan yr amgylchiadau presennol wrth i filiynau o bunnoedd gael eu tynnu o gyllideb Llywodraeth Cymru, yn ôl unrhyw gymhariaeth wirioneddol â chyllidebau, nid yw hynny'n bosibl—o na fyddai hynny'n wir.

O ran y Bil ymadael â'r EU, mae negodiadau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar yr Undeb Ewropeaidd wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mercher nesaf. Os bydd unrhyw beth o bwys yn digwydd yn y cyfamser, byddwn, wrth gwrs, yn gofyn i'r Llywydd am ddatganiad neu ddull addas arall o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad. Ond rwyf i ar ddeall mai'r trefniadau presennol yw bod y JMC(EN) wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mercher nesaf.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sicrhau tegwch cymhariaeth prisiau rhwng Hinkley Point a morlyn llanw Bae Abertawe? Gan fod terfyn uchaf wedi'i roi ar gostau datgomisiynu a chostau storio datblygiad Hinkley Point, nid ydym cymharu tebyg â thebyg. Trwy bennu terfyn uchaf ar gostau adeiladu morlyn llanw Abertawe ar lefel lawer is na'r gost debygol, byddai'n llawer rhatach cynhyrchu trydan yno.

Ie, yn wir. Mae Mike Hedges yn gwneud pwynt hynod bwysig. Mae Llywodraeth y DU wedi dewis amddiffyn trethdalwyr rhag ysgwyddo holl gostau gwastraff a rhwymedigaethau datgomisiynu gweithfeydd ynni niwclear newydd drwy Ddeddf Ynni 2008. Rydym ni ar ddeall bod amcangyfrif cyfanswm y costau datgomisiynu yn y cynllun datgomisiynu a ariennir, gan gynnwys y gronfa wrth gefn, ryw £8.5 biliwn, ond o ystyried y costau sy'n gysylltiedig â'r mynegai, gall y costau gwirioneddol erbyn diwedd oes weithredol yr orsaf o 60 mlynedd fod mor uchel â £116 biliwn, ar ôl ystyried chwyddiant. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n chwarae teg. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng BEIS—yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol—y datblygwyr a Llywodraeth Cymru ynglŷn â materion technegol a chostau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â morlyn llanw Bae Abertawe, gan gynnwys ariannu'r prosiect i gynnwys costau cyfatebol eraill.

Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu eich bod wedi cael rhyw syniad o'r hyn yr wyf eisiau ei godi. Byddwch yn gwybod y cyhoeddodd y Gweinidog tai ddatganiad ysgrifenedig ar dai fforddiadwy ac asesu'r angen yn y dyfodol, ac felly'r targedau ar gyfer cyflenwi. Rwyf yn credu y dylid bod wedi cyflwyno rhywbeth o'r fath arwyddocâd aruthrol i'r Siambr hon ar ffurf datganiad llafar. Mae'n agor y posibilrwydd o newid enfawr yn y polisi, a byddwn i'n croesawu hynny, ond, fel y nodwyd yn glir yn sylw'r wasg a ddeilliodd o ymgyrch eang Llywodraeth Cymru i gyfleu ei neges—nid wyf yn eich beirniadu am hynny, ond, yn amlwg, roedd Llywodraeth Cymru yn sylweddoli pa mor sylweddol oedd y cam a gymerwyd ddoe, ac, a dweud y gwir, nid ydych yn trin y Siambr hon â'r parch y mae'n ei haeddu drwy ei gyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig.

Gallai fod wythnosau yn pasio cyn craffu ar hyn yn llawn, a ffurfio'r adolygiad mewn gwirionedd a'r grŵp a fydd yn cynnal yr adolygiad, a'r rhai a fydd yn rhan o'r grŵp hwnnw—mae arweinydd neu gadeirydd y grŵp hwnnw eisoes wedi'i ddewis gan y Gweinidog—ni chaiff ddim o hyn ei graffu'n gynnar yma, er gwaethaf y ffaith iddo fynd allan i'r byd a'r betws erbyn hyn drwy'r Western Mail a'r BBC. Rwyf yn gobeithio na fydd y math hwn o driniaeth wael yn digwydd eto. Os oes gennych ymgyrch wasg enfawr ar unrhyw gyhoeddiad, mae'n gwbl sicr y dylech chi wneud datganiad yma yn y Siambr.

14:25

Wel, mae'n ddrwg iawn gen i glywed bod yr Aelod yn teimlo felly. Mae'r Gweinidog yma yn gwrando ar ei farn. Mae ein safbwynt ni yn wahanol iawn i hynny. Rydym ni'n credu mai dechrau proses hir yw hyn. Bydd llawer o gyfleoedd i graffu ar y polisi ar ei hynt, gan gynnwys rheoleiddio a deddfwriaeth. Felly, mae'n ddrwg gen i ei fod yn teimlo fel hynny. Ni fwriedir unrhyw amharch i'r Siambr hon. Mae'r Gweinidog yma yn gwrando ar ei farn. Mae ein safbwynt ni yn wahanol iawn.

Arweinydd y Tŷ, byddwch yn ymwybodol bod y mater o oedi wrth drosglwyddo gofal yn un sydd wedi bod yn her gyson ar gyfer y Llywodraeth hon. Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, ar gyfer mis Mawrth, yn dangos bod 391 o gleifion yn dioddef oedi wrth drosglwyddo gofal, a bod oedi wrth drefnu gofal cymdeithasol yn rhan sylweddol o'r ffigur hwnnw. Nawr, rwy'n cofio degawd yn ôl roeddem yn ymdrin â ffigurau cyfrannedd tebyg iawn: 400 ar gyfartaledd. Felly, nid yw'r ffigurau wedi newid, o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, mewn degawd. I roi hynny mewn cyd-destun: ar bob dydd o'r wythnos, mae gennym yr hyn sy'n cyfateb i ddau ysbyty maint Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llawn cleifion sy'n feddygol iach i gael eu rhyddhau ond sy'n methu â symud o'u gwely yn yr ysbyty i'r cam adfer nesaf. Felly, o ran capasiti, mae hynny'n 12,000 o ddiwrnodau gwely bob mis ar goll o'r system. Felly, a fydd y Llywodraeth yn barod i gyflwyno dadl yn amlinellu'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r dagfa enfawr, systematig hon?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal yn is eleni nag y maent wedi bod yn y gorffennol ac, wrth gwrs, oherwydd polisi'r Llywodraeth hon i gyd-ariannu gofal cymdeithasol a'r GIG, mae gennym lawer iawn llai o broblemau yn hyn o beth nag a welwn mewn mannau eraill. Ond mae hon yn broblem i bob Llywodraeth orllewinol; nid yw'n broblem unigryw i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda iawn ar draws y GIG a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau bod y broblem yr is nag erioed eleni, a bod yr holl ysbytai yn parhau i weithio yn galed iawn i leihau'r broblem hon lle bo hynny'n bosibl.

Arweinydd y Tŷ, ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad ysgrifenedig ar gymorth ar gyfer y lluoedd arfog yng Nghymru. Mae'r datganiad yn gorffen trwy ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr angen i barhau i fuddsoddi yn y cymorth a roddir i gyn-filwyr ein lluoedd arfog a gwella'r cymorth hwnnw. Fodd bynnag, nid yw'n credu y byddai penodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru yn ychwanegu rhagor o fudd neu werth. Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu bod y mater hwn yn rhy bwysig i ymdrin ag ef mewn datganiad ysgrifenedig ar hyn o bryd. Felly gofynnaf ichi drefnu dadl yn amser Llywodraeth Cymru, neu o leiaf ddatganiad llafar, ar y ffordd orau y gallwn ddarparu gwasanaethau i'n cyn-filwyr, y mae arnom ddyled enfawr o ddiolch iddynt.

Cytunaf yn llwyr â'r Aelod fod arnom ddyled enfawr o ddiolch i'n cyn-filwyr. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus nodi ei farn ar y mater yn glir iawn ac, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn cael cyfleoedd i'w holi yn ystod ei amser cwestiynau ei hun, ynghylch unrhyw gamau pellach angenrheidiol. Ond hoffwn danlinellu'r hyn a ddywedodd, sef, wrth gwrs ein bod i gyd yn cydnabod bod arnom ddyled enfawr o ddiolch i'n cyn-filwyr, a ddylai gael y gwasanaethau gorau oll o ganlyniad i'w gwasanaeth.

Rwy'n sylweddoli nad yw bob tro yn bosibl darparu datganiadau i'r Cynulliad hwn, ond rwy'n credu o ran terfynu Cymunedau yn Gyntaf, fod hynny yn deilwng o ddatganiad yma, a chafodd ei dynnu allan unwaith eto yr wythnos diwethaf ar ôl inni adael y siambrau dadlau hyn i'n rhanbarthau neu ein pwyllgorau. Nawr, o ystyried bod hon yn rhaglen flaenllaw Llywodraeth Lafur mewn cysylltiad â lliniaru effeithiau tlodi, mae'r ffaith na chafwyd unrhyw esboniad ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf, nac unrhyw ddadansoddiad o'r hyn sydd wedi digwydd gyda Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol, neu unrhyw gydnabyddiaeth o'r ffaith bod 50,000 yn fwy o blant yn wynebu byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn hyn, yn rhywbeth yr wyf yn ei gael i fod braidd yn frawychus gan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad yma yn y Siambr hon, fel y gallwn ddeall, fel Aelodau Cynulliad, beth sy'n digwydd nesaf. Os bydd yn cael ei gynnwys yn y grant refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, sut y byddwn yn monitro hynny, a sut ydym ni'n sicrhau y bydd y bobl hynny y mae angen cefnogaeth arnynt fwyaf yn ei chael.

Ac mae fy ail gais am ddatganiad gan yr un Gweinidog ar y fframwaith troseddwyr a gyhoeddodd, eto yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall, os yw Llywodraeth Cymru yn oedi cynlluniau unrhyw garchar newydd, beth yw ystyr hynny o ran polisïau cyfiawnder troseddol ehangach y mae ef a'r Llywodraeth yn eu datblygu yn hyn o beth. Felly, hoffwn i weld y gallwn drafod hynny hefyd, er mwyn i ni, fel Aelodau Cynulliad, o bob rhan o'r Siambr, gyfrannu at y system cyfiawnder troseddol honno i Gymru.

14:30

O ran y cyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wrthi, mi wn, yn cael trafodaeth gymhleth â Llywodraeth y DU ynghylch polisi yr adran gyfiawnder yng Nghymru a'r rhyngweithio rhwng ei gwahanol rannau. Ac rwy'n siŵr pan fydd y trafodaethau hynny wedi cyrraedd y pwynt pan fydd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, y bydd yn hapus iawn i wneud hynny. Nid wyf yn credu ei fod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw ar hyn o bryd.

O ran dod â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, bu hon yn flwyddyn bontio, ac mae Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol iawn mai blwyddyn bontio oedd hi. Mae'r datganiad i ddiolch i'r rheini sydd wedi chwarae rhan wrth ddod â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben yn drefnus, a chadw ei gwaith gorau. Roedd pob un ohonom yn hynod o awyddus i weld hynny'n digwydd. Mae hyn yn rhan o raglen adnewyddu polisi ar gyfer Gweithredu yn Erbyn Tlodi, yng ngoleuni rhaglen gyni Llywodraeth y DU, ac mae wedi bod ar waith ers amser hir. Ac, mewn gwirionedd, mae llawer iawn o'u rhaglenni yn parhau ar ffurfiau eraill, megis y cynllun cyflogadwyedd ac ati. Ond nid yw'n syndod i'r Aelodau bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi bod trwy ei blwyddyn bontio a'i bod yn dod i ben.

Tybed a gaf i ofyn, mewn gwirionedd byddai datganiad ysgrifenedig yn well ar gyfer hyn mae'n debyg, naill ai gan yr Ysgrifennydd llywodraeth leol, neu, yn wir, gennych chi eich hun, i egluro'r sefyllfa o ran pwy sy'n gyfrifol am fonitro a datrys unrhyw broblemau yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ein hawdurdodau lleol. Rai wythnosau yn ôl, mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn llafar na lwyddwyd i'w gyrraedd, dywedwyd wrthyf, yma yn y Siambr, fod

'y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn arwain, monitro a rheoleiddio awdurdodau lleol yn rhan o'u dyletswydd'

ac wedyn yn cymryd unrhyw gamau gweithredu gyda chyflogwyr i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw. Pan ysgrifennais at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cadarnhawyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 ac ar gyfer y tair blynedd flaenorol, nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth o gwbl am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn unrhyw un o'r cynghorau yng Nghymru, ac yn wir nid oedd wedi cymryd unrhyw gamau i unioni unrhyw beth. Felly, tybed a wnewch chi egluro yn union pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r data, a'i ddadansoddi, oherwydd ymddengys i mi nad yw rhywun yn rhywle yn gwneud yr hyn y dylai fod yn ei wneud.

Ie, wel, mae hynny'n amserol iawn, fel y mae'n digwydd, oherwydd ein bod wedi cyhoeddi adolygiad cyflym o bolisïau sy'n canolbwyntio ar y rhywiau, a rhoddais y cylch gorchwyl ar gyfer hynny yn Llyfrgell yr Aelodau yr wythnos diwethaf. Felly, rydym yn gobeithio cyflwyno'r canlyniadau priodol cyntaf o hynny, gan gynnwys trefniadau amrywiol, lle bo angen, ar gyfer monitro a gwerthuso a dwyn pethau ymlaen, fel y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar draws holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys y sefydliad hwn. Felly, byddaf yn ystyried yr hyn y mae Suzy Davies newydd ei ddweud ac yn trafod â fy nghyd-Aelod yn y Cabinet beth fyddai'r trefniadau gorau ar gyfer adrodd am hynny yn rhan o'r adolygiad cyflym. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, bod y model gwerthuso bron cyn bwysiced â'r polisi a roddwn ar waith i'w ddwyn ymlaen. Felly, byddaf yn ystyried hynny, ac yn rhan o'r adborth ar yr adolygiad cyflym, gwnaf yn siŵr ei fod yn cael sylw.

A gawn ni ddatganiad ynghylch cynllun ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd? Roedd y ffordd yma i fod i agor yr haf yma, ac yn lle hynny, nid yw'r gwaith adeiladu ddim hyd yn oed wedi cychwyn. Mae hynny ddwy flynedd yn hwyr, ac, wrth gwrs, mae etholwyr yn fy ardal i yn mynd yn fwy a mwy rhwystredig ac mae rhai hyd yn oed yn dechrau amau a fydd y ffordd yma yn gweld golau dydd o gwbl. Felly, i dawelu pryderon, a gawn ni ddatganiad os gwelwch yn dda, un ai yn cyhoeddi'r amserlen, neu yn egluro natur yr oedi hollol annerbyniol sydd yn digwydd?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn ystyried y canfyddiadau a'r argymhellion o adroddiad yr arolygydd, yn dilyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus, cyn penderfynu ar hyn. Rydym yn cydnabod yr oedi a fu, ond cafwyd llawer iawn o ohebiaeth yn rhan o'r broses statudol ac mae wedi cymryd llawer mwy o amser na'r disgwyl i'w hystyried. Fodd bynnag, rydym yn dymuno gwneud yn siŵr ein bod yn cymryd yr amser sydd ei angen i sicrhau bod y dystiolaeth wedi ei gwerthuso'n llawn. Rydym yn deall yn llwyr bwysigrwydd y buddsoddiad mewn seilwaith yn y gogledd, ac rwy'n siŵr pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cael cyfle i ystyried yr holl argymhellion yn fanwl, y bydd yn cyflwyno datganiad ar y cynllun hwn.

14:35

A gaf i alw am dri datganiad, os gwelwch yn dda—y cyntaf ar ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghonwy a Sir Ddinbych? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol y cyhoeddwyd bod grŵp gorchwyl a gorffen wedi ei sefydlu ar gyfer y darn o ffordd sy'n arbennig o beryglus, o'r enw triongl Evo, sy'n croesi'r ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych yn fy etholaeth i. Mae'n 20 milltir o hyd, a chaiff ei hyrwyddo ar fforymau ar-lein a chylchgronau fel man lle dylai pobl yrru'n gyflym iawn a mwynhau'r wefr. Ond, yn anffodus, mae hyn wedi arwain at ddamweiniau difrifol, a nifer o farwolaethau ar y darn penodol hwnnw. Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod grŵp gorchwyl a gorffen wedi'i sefydlu, a gwnaed argymhelliad gan y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw i osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y llwybr. Roeddwn i'n siomedig iawn, yr wythnos diwethaf, i gael gwybod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fod Llywodraeth Cymru, ar ôl yr anogaeth i hyrwyddo cais camerâu cyflymder cyfartalog, wedi gwrthod y cais am gyllid i osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y llwybr. Felly, mae arnaf ofn fod gobeithion fy etholwyr o sefyllfa draffig ffyrdd fwy diogel yn y rhan honno o'r etholaeth wedi'u chwalu'n llwyr. Ac rwy'n credu bod esboniad yn ddyledus iddynt gan y Gweinidog, yn y Siambr hon, fel y gallwn wybod yn union pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cyllid i wneud eu haddewid o osod camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd y llwybr hwnnw yn bosibl. Rwy'n credu bod angen diweddariad arnom ar hynny, os gwelwch yn dda.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad priodol ar y rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio? Rwy'n deall bod dogfen ddrafft ar gael ar hyn o bryd, ar gyfer y cyfnod 2018-21, a'i bod yn cyfeirio at un lle yn fy etholaeth i—ardal Pen-sarn, ger Abergele—ond, yn anffodus, ymddengys ei bod wedi hepgor yn llwyr gymuned eithaf tlawd mewn lle o'r enw Sandy Cove, ar hyd y rhan honno o'r arfordir rhwng y Rhyl ac Abergele. Tybed a fydd cyfle, gan mai dogfen ddrafft yw hi, i gyflwyno deiseb yn gofyn i'r Llywodraeth adolygu'r sefyllfa, er mwyn cynnwys Sandy Cove, yn arbennig o gofio'r sefyllfa ddifrifol o ran ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.

Ac, yn olaf, o ystyried eich cyfrifoldeb dros gymunedau ffydd, arweinydd y tŷ, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei phen-blwydd yn gant a hanner? Roedd llawer o Aelodau'r Cynulliad yn bresennol yn y dathliadau, a gynhaliwyd draw yn y Pierhead y prynhawn yma, ac rwyf o'r farn y dylid cydnabod hynny yma yn y Siambr y prynhawn yma, gennych chi, yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog ar gyfer cymunedau ffydd. Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi cael effaith aruthrol, nid yn unig ar bobl Cymru, ond o amgylch y byd hefyd, trwy ei gweithgareddau cenhadol, ac rwy'n credu bod dyletswydd arnom i gydnabod y cyfraniad aruthrol a wnaed ganddynt.

Ydw, rwyf yn falch iawn o gydnabod y cyfraniad hwnnw, yn anad dim o ran fy mywyd i fy hun. Mae llawer o'r emynau rwy'n eu hadnabod ac yn dwlu arnynt yn sgil mynd i gapel Bedyddwyr gyda fy mam-gu, a chanu'n uchel, dair gwaith y Sul, pan oedd yn fraint i ni gael treulio diwrnod gyda hi. Mae gen i atgofion melys iawn o hynny. Ac, yn wir, rwy'n hapus iawn i gydnabod cyfraniad Undeb Bedyddwyr Cymru, ac, yn wir, bob un o'n cymunedau ffydd, i'r dreftadaeth ddiwylliannol a ffydd gyfoethog yr ydym yn falch iawn ohoni—a hynny'n briodol—yma yng Nghymru. Felly, rwy'n falch iawn o allu gwneud hynny; diolch ichi am y cyfle.

O ran y ddau arall, mae'r Aelod wedi nodi nifer o faterion penodol iawn, ac rwy'n credu mai eu trafod drwy lythyr rhyngddo ef ac Ysgrifennydd y Cabinet yw'r ffordd orau o ymdrin â'r materion hynny. Nid wyf yn ymwybodol o'r manylion, felly nid wyf mewn sefyllfa i ddweud y naill ffordd neu'r llall, ond, os nad yw hynny'n foddhaol, rwy'n siŵr y gallwn wneud rhywbeth drwy gyfrwng gwybodaeth i'r Senedd gyfan.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r newyddion sydd wedi dod i'r amlwg heddiw fod pres yr elusen Awyr Las yn talu am strategaeth ymgysylltu â staff Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n gwybod y bydd etholwyr yn y gogledd wedi eu synnu, ac yn wir wedi eu siomi, fod arian sy'n cael ei godi gan wirfoddolwyr, a gan grwpiau elusennol, yn cael ei wario ar waith y byddai rhywun yn disgwyl iddo fod yn waith creiddiol i'r bwrdd iechyd. Rwyf wedi edrych ar y strategaeth ymgysylltu yma, ac mae'n sôn am bethau fel helpu i greu gweledigaeth a chyfeiriad, sicrhau adborth i staff—wel mi fyddai unrhyw gorff cyhoeddus, mi fyddech chi'n disgwyl, yn cyflawni hynny yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Ond mae e hefyd, wrth gwrs, yn sôn am bethau fel cysylltu uwch-reolwyr ac arweinwyr y bwrdd â staff y rheng flaen, a dyna ni wedyn yn sylweddoli bod y pres yma, i bob pwrpas, yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r ymdrech i gael y bwrdd allan o fesurau arbennig. Mae lefel y gwariant hefyd yn mynd i beri syndod i nifer.

Rydym i gyd, wrth gwrs, yn gefnogol i'r £25,000 sydd wedi cael ei godi tuag at offer monitro'r galon; yr £20,000 ar gyfer offer ffisiotherapi; y £75,000 ar gyfer prynu wigiau i gleifion canser, ond rydym yn sôn fan hyn am £450,000. Rydym hefyd yn nodi, wrth gwrs, fod aelodau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymddiriedolwyr ar Awyr Las. Felly, rydw i'n teimlo bod angen datganiad gan y Gweinidog iechyd mewn ymateb i hyn. Ac a ydy Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yn iawn bod y bwrdd yn dibynnu ar bres elusennol, i bob pwrpas, i gael eu hunain allan o fesurau arbennig? 

14:40

Clywais i yr adroddiadau hyn ar y newyddion hefyd a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol ohonynt. Aeth y bwrdd i lawer o drafferth i ddweud eu bod o'r farn nad oeddent wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymchwilio i'r mater ac os oes unrhyw beth y mae angen ei ystyried, gwn y bydd yn gwneud hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaed yn gynharach gan Darren Millar ynghylch pen-blwydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn gant a hanner? Es i i'r digwyddiad hwnnw hefyd, ynghyd â llawer o Aelodau eraill y Cynulliad. Roedd yn llwyddiannus iawn a dymunwn y gorau iddynt.

Ar yr un pryd, cynhaliais i fy nigwyddiad fy hun i fyny'r grisiau yn yr Oriel ar gyfer Love Zimbabwe. Arweinydd y tŷ, mae bellach ryw bum mis ers ymddiswyddiad Robert Mugabe yn Zimbabwe. Mae'r wlad honno yn dal yn y broses—yn y dyddiau cynnar iawn—o adfer ei hun gyda chymorth cynifer o bobl â phosibl o weddill y byd. Mae canolbwynt gweithredu'r grŵp Love Zimbabwe wedi'i leoli yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, rwyf wrthi'n codi arian ac yn casglu llyfrau i gyflenwi llyfrgell yn Zimbabwe ac i geisio cael y wlad honno i symud i'r cyfeiriad y dylai fod wedi bod yn symud iddo dros flynyddoedd lawer, ond cafodd hynny wedi'i lesteirio. A wnewch chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi pobl Zimbabwe wrth iddynt geisio rhoi trefn ar eu bywydau ac adfer eu gwlad, a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod bod pobl Cymru a'r Cynulliad yn estyn eu cyfeillgarwch gwirioneddol iddynt?

Wel, yn wir. Mae'n ddrwg gen i na lwyddais i fod yn bresennol yn y digwyddiad, oherwydd byddwn i wedi hoffi bod yno yn fawr iawn. Wrth gwrs, rydym yn hynod falch o'n cysylltiadau ag Affrica ac o'r rhaglen Cymru o blaid Affrica. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw fanylion penodol am Zimbabwe, ond rwy'n fwy na pharod ymchwilio i hynny ar gyfer yr Aelod. Mae ein hymdrechion ar ran Affrica, drwy'r rhaglen Cymru o blaid Affrica, bob amser yn dod â manteision, nid yn unig i'r bobl yr ydym yn eu cynorthwyo yn Affrica i wneud pethau megis adeiladu ysgolion, cael cyfarpar cyfrifiadurol, llyfrgelloedd ac ati, ond mewn gwirionedd i gyfoethogi bywyd diwylliannol Cymru yn aruthrol drwy'r trafodaethau. Rwy'n ymwybodol iawn o lawer o raglenni o'r fath yn fy etholaeth i fy hun. Yn anffodus nid wyf yn gwybod y manylion am Zimbabwe, ond rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i'r mater ac ysgrifennu at yr Aelod yn unol â hynny.

Mae'n ddrwg gen i, ac yn olaf, yn olaf, oherwydd rydych chi i gyd yn ei wneud, felly gwnaf innau o'r gadair, ac yn olaf, yn olaf, Julie Morgan. [Chwerthin.]

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gwn y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o gerflun Millicent Fawcett sy'n cael ei ddadorchuddio yn Sgwâr y Senedd heddiw—yr un cerflun o fenyw sydd ymysg yr 11 cerflun o ddynion. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad am y cynlluniau i gael cerfluniau o ddwy fenyw yma yng Nghymru. Cyhoeddodd y Prif Weinidog hynny yn ei araith, a oedd i'w chroesawu'n fawr, ym Mhrifysgol Rhydychen. Felly, tybed a wnaiff arweinydd y tŷ roi mwy o fanylion am y cynllun hwn sydd i'w groesawu'n fawr.

Ydw. Rwy'n credu ei fod yn destun cywilydd mewn gwirionedd nad oes yno gerflun o Gymraes hanesyddol. Pan fo rhywun yn nodi hyn i chi mae'n dod yn hynod o amlwg, ond mae hynny'n hollol annerbyniol. Rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad ar nifer o faterion, gan gynnwys cerfluniau, placiau ac ati, yn ystod y tymor hwn—cyn toriad yr haf—a byddaf yn sicr yn falch iawn o gynnwys cynlluniau ar gyfer cerfluniau a nifer o osodiadau coffa parhaol eraill i wneud yn siŵr bod cyfraniad menywod Cymru i hanes diwylliannol Cymru, ac ymdrechion presennol ym meysydd diwylliannol, gwleidyddol, gwyddonol ac eraill, wedi'i nodi'n briodol yn ein hanes.

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Ansawdd Aer

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar ansawdd aer a galwaf ar y Gweinidog, Hannah Blythyn. 

Diolch. Rwy'n ymrwymedig i weithredu i leihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn cefnogi dyfodol iachach ar gyfer ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a'n gwlad. Mae'r mater hwn yn uchel ar agenda Aelodau'r Cynulliad, a hynny'n briodol, ac rwy'n croesawu'r consensws trawsbleidiol ar gyfer yr angen i yrru'r agenda hon ymlaen. Pan ddechreuais i yn y swydd hon, eglurais mai darparu aer glân i Gymru yw un o fy mhrif flaenoriaethau. Ers hynny, mae gwaith i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer yng Nghymru wedi casglu momentwm a chefnogaeth sylweddol ar draws y Llywodraeth. Rwy'n ymrwymedig i feithrin a chynnal y gweithredu hwn.

Mae ein dogfen polisi cynllunio cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru', wedi'i hailysgrifennu a'i hailstrwythuro o gwmpas egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddogfen ddiwygiedig yn cynnwys adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd erbyn hyn, ac mae'r ymgynghoriad hwn ar 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dod i ben ar 18 Mai.

Byddaf yn sefydlu rhaglen aer glân Cymru i ystyried tystiolaeth a datblygu a gweithredu camau sy'n ofynnol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a'r sectorau er mwyn sicrhau aer glân i Gymru. Ei nod gyntaf fydd cydymffurfio â rhwymedigaethau ansawdd aer deddfwriaethol presennol, ond ei ddiben ehangach yw lleihau baich ansawdd aer gwael ar iechyd dynol a'r amgylchedd. Gellir gwneud hyn drwy fesurau cynllunio, seilwaith, rheoleiddio a chyfathrebu. Os bydd y rhaglen yn nodi bylchau yn yr ysgogiadau angenrheidiol er mwyn gwneud y gwelliannau gofynnol i ansawdd aer, byddaf yn ceisio datblygu deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â hyn.

Un o elfennau craidd y rhaglen hon fydd cynllun aer glân Cymru, y byddaf yn ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd yn nodi sut y byddwn yn cyflawni gwelliannau yn ansawdd yr aer ac yn cefnogi ein nodau llesiant. Bydd yn nodi camau trawslywodraethol a sectoraidd sydd eu hangen i sicrhau aer glân yng Nghymru, ac amlygu mesurau cyfathrebu, ymgysylltu ac addysg i annog newid ymddygiad. Bydd hefyd yn cynnwys camau gweithredu i gryfhau rheoleiddio allyriadau o wahanol sectorau diwydiannol. Mae ardaloedd fel Port Talbot yn cyflwyno heriau penodol o ran y cyfraniad at ansawdd aer gwael gan lygredd diwydiannol. Rwyf wedi gofyn am ddiweddariad o'n cynllun gweithredu tymor byr ar gyfer Port Talbot i sicrhau ein bod yn cynnal y modd mwyaf effeithiol o leihau llygredd yn y rhanbarth.

Agwedd bwysig arall ar y rhaglen yw datblygu a sefydlu canolfan monitro ac asesu ansawdd aer ar gyfer Cymru yn 2019. Dywedais wrth y Cynulliad yn flaenorol bod y ganolfan hon yn cael ei sefydlu i sicrhau bod penderfyniadau ar fynd i'r afael â llygredd yr aer yn seiliedig ar dystiolaeth, a chaiff camau gweithredu cysylltiedig eu blaenoriaethu i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o ran iechyd a lles y cyhoedd.

Bydd ymgynghoriad ein fframwaith parth aer glân drafft ar gyfer Cymru yn cael ei lansio yfory. Y diffiniad o barth aer glân yw ardal ddaearyddol lle y gellir cymhwyso ystod o gamau gweithredu gyda'r nod o leihau yn sylweddol amlygiad y cyhoedd a'r amgylchedd i lygryddion yn yr aer. Mae'r fframwaith yn nodi ein hegwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru yn gyson, sut y dylid eu sefydlu a beth y dylent ei gyflawni i wella iechyd ein cymunedau. Nid oes gennym unrhyw barthau aer glân yng Nghymru ar hyn o bryd, ond gallai awdurdodau lleol eu cyflwyno i fynd i'r afael â gormodiant anghyfreithlon o allyriadau niweidiol. Pan fo tystiolaeth yn awgrymu y gallent sicrhau manteision iechyd sylweddol drwy sicrhau gostyngiadau effeithiol mewn llygredd yn yr aer, byddwn yn croesawu'r defnydd ohonynt.

Elfen allweddol o'r parthau aer glân fydd dull o reoli mynediad gan draffig i hybu gostyngiadau mewn lefelau traffig yn gyffredinol a chyfyngu ar y niwed a achosir i iechyd a'r amgylchedd gan y cerbydau sy'n weddill. Ni fydd hyn yn boblogaidd, ond mae'n rhaid inni greu newid mewn ymddygiad drwy annog dulliau teithio llai niweidiol. Mae'r model arfaethedig ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gerbydau penodol sy'n defnyddio'r ffyrdd fodloni safonau allyriadau diweddaraf Ewrop er mwyn gallu teithio o fewn ffiniau parth aer glân. Gellid cyflwyno hyn drwy gyflwyno cyfyngiadau mynediad ar gyfer y cerbydau sy'n llygru fwyaf, fel gwaharddiadau neu ffioedd.

Rwy'n cydnabod pryderon y gallai cyfyngiadau mynediad fod yn fwy o ergyd i'r rhai lleiaf abl i uwchraddio neu adnewyddu eu cerbydau ac efallai y bydd yn fwy anodd iddynt dalu unrhyw ffioedd mynediad y gellid eu cymhwyso. Mae'r fframwaith yn glir y dylid cynnal asesiad o effaith economaidd i werthuso effeithiau posibl a allai ddeillio o unrhyw gyfyngiadau a fydd yn gymwys mewn parth aer glân a phennu mesurau lliniaru posibl i gyfyngu ar unrhyw ganlyniadau negyddol. Dylai'r asesiad ystyried effaith bosibl lawn parth aer glân arfaethedig, ac rwy'n disgwyl iddynt bwyso a mesur y costau a'r manteision yn ofalus. Rhaid i unrhyw gamau a gymerir i fynd i'r afael â materion ansawdd aer fod yn gymesur ac yn unol â'n gofynion lles cenedlaethau'r dyfodol. Bydd angen hefyd i gyfyngiadau mynediad ar gerbydau fynd law yn llaw â gwelliannau i'r mynediad at foddau trafnidiaeth eraill, llai llygrol. Mae'r fframwaith yn hyrwyddo newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan leihau allyriadau a thagfeydd yn fawr nid yn unig yn y parth aer glân, ond ar ffyrdd cyfagos hefyd.

Mae ymgysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd a chymorth yn ganolog i lwyddiant y parthau aer glân. Byddwn yn datblygu mesurau cyfathrebu ac ymgysylltu i godi ymwybyddiaeth o'r problemau iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael i sicrhau bod y cyhoedd yn cael yr wybodaeth lawn ac yn deall y rhesymau dros weithredu. Gyda hyn mewn golwg, yfory byddaf yn lansio gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru, un newydd a gwell, a fydd yn rhoi mynediad dwyieithog i bawb at wybodaeth ynghylch ansawdd aer yng Nghymru. Bydd yn darparu gwybodaeth fyw ar lefelau cyfredol llygredd aer a'r lefelau a ragwelir ar gyfer eu hardal, yn ogystal â mynediad at ddata hanesyddol ar lygredd aer. Mae'r wefan newydd yn darparu deunyddiau addysgol, gemau ac offer newydd ar gyfer ysgolion a gwybodaeth cyngor iechyd well.

Yfory, byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymgynghoriad ar gynllun atodol Llywodraeth Cymru i gynllun y DU ar gyfer mynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid wrth ymyl y ffordd 2017. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau crynodiadau o nitrogen deuocsid o gwmpas ffyrdd lle mae'r lefelau yn uwch na'r terfynau cyfreithiol yn yr amser byrraf posibl.

Mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn nad oedd adran Cymru o gynllun 2017 yn bodloni gofynion y gyfarwyddeb ansawdd aer amgylchynol a rheoliadau cysylltiedig Cymru yn ystod adolygiad barnwrol yn gynharach eleni. Cyhoeddir yr ymgynghoriad hwn a'r cynllun cysylltiedig i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymwneud â chydymffurfio cyfreithiol yn unig. Mae'n ymwneud â chymryd camau i wella ansawdd yr aer i bawb yng Nghymru ar gyfer y gwelliannau iechyd y bydd hyn yn eu cyflawni ac oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Cyhoeddir cynllun terfynol fydd yn cydymffurfio erbyn 31 Gorffennaf 2018 yn unol ag achos llys.

Ar hyn o bryd mae'r allyriadau nitrogen deuocsid yng Nghaerdydd a Chaerffili—Hafodyrynys—ac mewn pum man arall ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru, yn uwch na chyfyngiadau cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd. Mae astudiaethau ar y gweill i nodi mesurau sy'n debygol o gyflawni cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl. Cyfrifoldeb uniongyrchol Llywodraeth Cymru yw gormodiannau ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Cyn cwblhau'r gwaith modelu manwl yn ystod yr haf, rydym yn cyflwyno mesurau cymedrol megis terfynau cyflymder 50 mya dros dro a marciau ffordd i hwyluso llif y traffig. Caiff y rhain eu gweithredu erbyn diwedd mis Mehefin ar y darn o'r ffordd lle mae'r lefelau nitrogen deuocsid yn uwch na therfynau'r gyfarwyddeb ym mhob un o'r lleoliadau canlynol: yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy; yr A483 ger Wrecsam; yr M4 rhwng Cyffyrdd 41 a 42; yr M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 yn ystod y nos, gan ddefnyddio'r seilwaith presennol i nodi terfyn cyflymder newidiol; a'r A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd. Rydym wedi sefydlu bod gan y camau gweithredu hyn y posibilrwydd o gyflawni'r gwelliannau mwyaf i ansawdd yr aer, a hynny ar unwaith.

Hoffwn sicrhau'r Aelodau ein bod, fel Llywodraeth, yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn. Rwy'n ymrwymo i sicrhau bod y camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun yn cael eu cyflawni er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau statudol yn yr amser cynharaf bosibl. Yn bwysicach na hynny, mae'r cynllun hwn yn ymwneud â gwneud y peth iawn ar gyfer ein hamgylchedd ac ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau a'n gwlad. Yn olaf, gallaf gadarnhau heddiw ddyraniad o dros £20 miliwn ar gyfer cronfa ansawdd aer hyd nes 2021 i helpu i gyflymu'r broses cydymffurfio â therfynau nitrogen deuocsid a gwella ansawdd aer yng Nghymru. Defnyddir hwn i ddarparu cymorth, arweiniad a chyllid parhaus i alluogi cynghorau i ddatblygu a gweithredu cynlluniau a chymryd camau i gydymffurfio cyn gynted â phosibl. Dechrau ein taith i sicrhau aer glân i Gymru, a chefnogi cenedl iach, yw'r camau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw. Ond dim ond y dechrau yw hyn. Ein huchelgais ar y cyd yw bod yn arweinydd ar gyfer aer glân yng Nghymru.

14:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond rydym wedi bod yn araf yn gweithredu. Bron i ddwy flynedd yn ôl roeddem yn edrych ar raglen amlinellol y Llywodraeth ar gyfer y Cynulliad hwn, ac ni allaf gofio a oedd cyfeiriad at ansawdd aer neu ei fod yn arwynebol yn unig, ond yn sicr doedden nhw ddim y math o ymrwymiadau yr ydym ni newydd eu clywed—bod angen inni fod yn arweinydd wrth ddatblygu amgylchedd aer glân. Felly, rwy'n croesawu hynny, ond roedd yn ymddangos bod yr Alban gryn dipyn ar y blaen inni gan fod ganddynt bedwar parth aer glân i'w sefydlu eleni. A bod yn deg, bu rhywfaint o ddryswch dros weithredu'r parthau aer glân a lle mae'r pŵer gwirioneddol. Ond bellach mae gennym ni eglurhad i weithredu, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru symud yn gyflym iawn ac, yn fy marn i, mae angen parthau aer glân arnom yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, ac o bosibl mewn ardaloedd eraill.

Mae angen inni fod yn ymwybodol iawn o fanteision y polisïau integredig hyn i wella ansawdd aer. Efallai y byddwch yn ymwybodol, yn Berlin, bod eu parth aer glân nhw, a lansiwyd yn 2008 ac a gafodd ei ymestyn yn 2010, wedi arwain at leihad mewn allyriadau a oedd hyd at 50 y cant yn is na'r duedd ddisgwyliedig. Mae hyn yn dangos beth y gallwn ni ei gyflawni. Felly, mae egni—os nad yw hwnnw'n orchymyn amhriodol ar hyn o bryd i'ch annog chi—yn briodol er mwyn gwella ansawdd ein haer.

A gaf i ddweud, yn ail, ar lansiad gwefan newydd Ansawdd Aer yng Nghymru, fod hynny'n rhywbeth sy'n gallu cynnwys y cyhoedd a sicrhau eich bod yn cael y cyfranogiad ehangach hwnnw? Un maes y mae Ceidwadwyr Cymru wedi bod yn bryderus iawn yn ei gylch yw casglu data yn agos iawn i'n hysgolion a'n meithrinfeydd yng Nghymru. Mae hwn yn faes y gallem ni, o bosibl, edrych arno bellach. Os caf neidio ymlaen at y ganolfan monitro ansawdd aer ar gyfer Cymru, mae'n ymddangos i mi y gellir cysylltu hon â'r wefan, yn sicr, a hefyd gallai'r ganolfan fod yn ffynhonnell addysgol allweddol ar gyfer ysgolion i ennyn diddordeb plant mewn mentrau i wella ansawdd aer. Mae prosiect o'r math hwn wedi bod yn digwydd yn Rhydychen ac wedi arwain at rai canlyniadau diddorol a chalonogol iawn. Ac mae angen y math hwnnw o ddychymyg arnom ni.

O ran tagfeydd ar y ffyrdd a chyfyngu ar y cerbydau sy'n llygru fwyaf, rwy'n credu bod angen inni wneud cynnydd yn y maes hwn. Ond, yn ein hardaloedd trefol, yn amlwg, rydym  i ryw raddau wedi ein cyfyngu gan hanes ac nid oes gennym, ar y cyfan, systemau trafnidiaeth gyhoeddus a diwylliant o gerdded mwy nag yr ydym ar hyn o bryd, ac mae angen newid hynny dros amser. Yn y cyfnod pontio hwn, mae angen inni fynd â phobl gyda ni oherwydd, yn anffodus, nid yw rhai pobl, ar hyn o bryd, yn gweld bod dewis amgen i'r car. Felly, rwy'n credu bod angen integreiddio systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithredu'n effeithiol a chyfyngiadau traffig priodol, parthau aer glân—mae angen integreiddio'r rhain i gyd mewn dull sy'n gweld gwelliant o ran trafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau teithio llesol eraill, fel strydoedd yng nghanol y ddinas yn ardaloedd i gerddwyr yn unig. Gallwn agor canolfannau hanesyddol ein dinasoedd i bobl unwaith eto a pheidio â'u cyfyngu, fel y maent yn aml, gan ormod o geir modur. Felly, ceir rhai posibiliadau gwirioneddol yma a fyddai'n gwneud yr amgylchedd yn llawer, llawer gwell.

O ran ymgynghoriad arall—. Mae yna lawer o ymgynghoriadau, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n symud ymlaen yn gyflym. Unwaith eto, mae fy ymadroddi yn anaddas. Ond o ran lleihau crynodiadau nitrogen deuocsid, mae'r effaith ar ansawdd aer amgylchol yn y fan yma yn enfawr, ac er nad oes gennym gynllun cydymffurfio ar hyn o bryd, a'ch bod chi eisiau cyflwyno un erbyn 31 Gorffennaf—yn amlwg dim ond pan weithredir y cynllun hwnnw y bydd mewn gwirionedd yn cael effaith ar bobl—rwy'n falch o weld bod rhai ffyrdd yn cael eu targedu, fel yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd yn fy rhanbarth i, sef y ffordd fwyaf llygredig yng Nghymru ar hyn o bryd. Ond, unwaith eto, mae hynny, credaf, yn cyfrannu at y pwyntiau a wneuthum am y broblem seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Felly, mae gennym lawer i'w wneud, ond, i'r graddau y mae wedi'i nodi heddiw, rwy'n croesawu'r cynnydd cymharol fach a gobeithiaf y byddwn yn awr yn gweld camau gweithredu cyn bo hir.

14:55

Diolch. Rwy'n croesawu cyfraniad yr Aelod, a hefyd, yn benodol, cyflwynodd nifer o awgrymiadau pwysig, a dyna pam, rwy'n credu, bod cymaint o gonsensws a bod hwn yn fater mor bwysig. Byddwn yn annog yr holl Aelodau i gyfrannu at y cynlluniau a'r ymgynghoriad i wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys pwysigrwydd ennill cefnogaeth pobl, fel y dywedwch chi yn gwbl briodol. Dyna pam rydym ni'n gweithio'n draws-lywodraethol, ac ar draws llywodraethau. Felly, awdurdodau lleol yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd, yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd. Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni eisiau annog pobl i wneud y newid moddol hwn, ond does dim diben gwneud hynny oni bai ein bod ni'n cydlynu hynny i wneud yn siŵr bod rhywle iddyn nhw symud iddo. Ac rwy'n credu eich bod chi'n gwbl gywir i gysylltu swyddogaeth technoleg ddigidol yn hyn a'r gwahaniaeth y gall ei wneud, o ran y wefan a'r asesiad cenedlaethol a'r ganolfan monitro. Ac rwy'n credu fy mod wedi sôn o'r blaen yn y lle hwn am swyddogaeth ysgolion ac addysg, ac rwy'n credu ein bod wedi trafod o'r blaen swyddogaeth eco-ysgolion a'r prosiectau monitro y bydd rhai ohonyn nhw'n eu cynnal. Os byddan nhw'n canfod lefelau gormodiant yn ymyl yr ysgol, yna gallan nhw feddwl am eu cynlluniau eu hunain ar gyfer sut mae mynd i'r afael â hynny, sy'n helpu â'r newid addysgol ac ymddygiadol hwnnw iddynt—ac yn annog rhieni ac oedolion i wneud yr un peth.

Rydym yn ystyried o ran parthau aer glân, ac rwy'n credu bod yr Aelod wedi sôn am hyn o'r blaen, o amgylch ysgolion hefyd a therfynau cyflymder. Ac yn yr ymgynghoriad, yn y fframwaith ar gyfer parthau aer glân, mae'r gallu yno, pe byddech chi'n dymuno, i ostwng terfynau cyflymder mewn ardaloedd penodol hefyd.

Rwy'n gwerthfawrogi bod y datganiad gan y Gweinidog heddiw yn gwneud mwy na dim ond ymateb i her ddeddfwriaethol, ond rwy'n credu—ac mae angen cofnodi hyn—ei bod hi'n warthus bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod cyrraedd y sefyllfa hon o ganlyniad i ymateb i achos Uchel Lys, ac mae wedi cymryd amser hir iawn oherwydd, flwyddyn yn ôl erbyn hyn, ceisiodd Plaid Cymru mewn gwirionedd ddiwygio Bil iechyd y cyhoedd i roi rhai o'r nodweddion hyn sydd erbyn hyn yng nghyhoeddiad y Gweinidog yn ein deddfwriaeth, mewn gwirionedd. A dyna'r peth cyntaf yr hoffwn i ei nodi sy'n dal ar goll o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw. Felly, mae Plaid Cymru, yn sicr, o'r farn bod angen Deddf aer glân, i bob pwrpas, erbyn hyn ar gyfer Cymru.

Mae angen inni edrych ar sut yr ydym ni'n gwahardd cerbydau nad ydynt yn rhai hybrid yn gynharach o lawer nag y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud—2042, rwy'n credu, yw'r dyddiad yn y fan yno. Hoffwn glywed beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl am hynny. Mae angen dyfeisiau monitro llygredd yr aer yn ein trefi a'n dinasoedd, yn enwedig y tu allan i ysgolion ac ysbytai, parthau aer glân, sydd wedi'u crybwyll, ond credaf fod angen sail gyfreithiol iddynt, ac, wrth gwrs, grymuso awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd ac annog traffig sy'n llygru llai, boed yn rheolaethau ar ddiwrnodau penodol neu i ardaloedd penodol. Nawr, ceir awgrym o'r rhain yn y datganiad, ond, er enghraifft, dydw i ddim yn gweld sut y gall awdurdodau lleol gyflwyno taliadau oni bai fod gennym ni sail ddeddfwriaethol i hynny ac oni bai bod y Cynulliad hwn wedi rhoi trosolwg o sut y dylai hynny weithio.

Felly, y cwestiwn cyntaf sydd gennyf i'w ofyn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, yw—wyddoch chi, mae hi yn sôn y byddai hi'n ceisio datblygu deddfwriaeth newydd, os bydd hi'n canfod bylchau. Wel, byddwn i'n dweud wrthi bod y bylchau i'w gweld. Mae'r bylchau yn glir ac mae'r bylchau yno yn ein methiant i ymdrin â'r broblem iechyd cyhoeddus hon sy'n achosi 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yng Nghymru. Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni ymrwymiad cadarnach oddi wrthych chi i ddatblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i ategu'r hyn a ddywedwch yn eich datganiad?

Yr ail fater yr hoffwn ei godi yw monitro ansawdd aer. Rydych chi wedi sôn am ganolfan asesu i Gymru; wrth gwrs, rydym ni'n croesawu'r datblygiad hwnnw. Fodd bynnag, a ydych chi'n argyhoeddedig ein bod ni'n monitro ansawdd aer ar hyn o bryd yn ddigonol yng Nghymru? Fy nealltwriaeth i, o ohebu ag awdurdodau lleol, o siarad ag ymgyrchwyr, yw nad yw llawer o'r hyn a elwir yn orsafoedd monitro yn ddyfeisiau monitro amser real o gwbl; maen nhw'n cymryd cyfartaledd dros gyfnod o amser, hyd yn oed dros fis. Nid yw llawer ohonyn nhw y tu allan i ysgolion, er enghraifft, yn monitro amser real rhwng hanner awr wedi wyth a naw o'r gloch pan fydd plant yn agored i'r llygryddion gwaethaf. Felly, a ydym ni'n deall maint y broblem hon, mewn gwirionedd? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad lle mae'r problemau—ffyrdd penodol, ardaloedd penodol. Rwy'n credu ei bod hi'n ddyfnach a chredaf ein bod yn gweld, mewn asthma a'r problemau anadlu a welwn yn ein plant ifanc, fod gennym ni broblem sylfaenol gyda hyn.

Felly, yr ail bwynt yw: a ydym ni'n mynd i wella ansawdd ein monitro aer, monitro amser real, a hynny'n gysylltiedig â gwefan? Unwaith eto, mae hynny'n ddatblygiad i'w groesawu, gwefan ar ei newydd wedd, ond gadewch inni ei gysylltu fel y gall pobl eu hunain weld, 'Os byddaf yn gyrru fy SUV i fy ysgol leol yn lle cerdded hanner milltir, dyma'r effaith y byddaf yn ei chael'. Mae angen inni ddechrau'r sgwrs honno yng Nghymru.

Rydych chi'n hollol gywir, wrth gwrs, i ddweud y gallai ymdrin ag ansawdd aer, yn enwedig yn ein trefi a'n dinasoedd, gael effaith anffodus ar y rhai sydd lleiaf abl i ddelio â chostau ceisio canfod math arall o drafnidiaeth ac ati. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael â'ch cydweithwyr, yn enwedig Ken Skates, wrth gwrs, ynglŷn â seilwaith bysiau? Gwnaeth y Sefydliad Bevan gynnig diddorol ychydig fisoedd yn ôl, mewn gwirionedd, na fyddai'n costio cymaint â hynny i fod â thrafnidiaeth am ddim ar fysiau yn ein dinasoedd, ac efallai y byddai hynny'n tynnu oddi ar y pethau llygredd aer. Ond mae angen meddwl yn radical, yn enwedig y defnydd o hydrogen bellach yn ein trefi a'n dinasoedd fel ffordd o wella ansawdd aer yn sicr. Gallech chi barhau i fod â chwestiwn ynghylch sut y caiff yr ynni ei roi i mewn i hydrogen o hyd, ond byddai ansawdd yr aer yn sicr yn gwella llawer drwy ddefnyddio hydrogen. A gwahardd cerbydau nwyddau trwm, yn enwedig o ganol ein dinasoedd a'n trefi ar adegau penodol—. Rwy'n credu bod y ffaith bod cerbydau nwyddau trwm yn teithio trwy ein trefi a'n dinasoedd ar yr un pryd ag y mae plant yn cerdded i'r ysgol—ac rydym ni eisiau iddyn nhw gerdded a beicio i'r ysgol—yn broblem benodol.

Y pedwerydd pwynt yr hoffwn ei wneud yw i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu ei mentrau eraill. Rwy'n sylweddoli nad yw rhai o'r rhain yn rhan o'ch cylch gwaith uniongyrchol chi, ond clywsom y dydd o'r blaen bod Aston Martin yn annhebygol, mewn gwirionedd, o ddatblygu cerbyd SUV trydan yng Nghymru. Mae'n codi'r cwestiwn o beth yn union y mae Aston Martin yn ei wneud yng Nghymru—a ydyn nhw'n datblygu'r dechnoleg fwyaf modern yma? TVR, eto a ddenwyd yma gan arian Llywodraeth Cymru, y £10 miliwn ar gyfer y ganolfan modurol ym Mlaenau Gwent—a yw hwnnw'n edrych ar drydan a hydrogen a cherbydau ôl-danwydd ffosil a thrafnidiaeth, neu a ydym ni'n defnyddio arian Llywodraeth Cymru i ymestyn y broblem sydd gennym ni eisoes yn ein trefi a'n dinasoedd? Rwy'n credu bod angen ateb hynny hefyd cyn y gallwn ni ddeall mewn gwirionedd a yw'r hyn yr ydych wedi'i nodi heddiw yn mynd i gael effaith wirioneddol. Rwy'n sylweddoli nad ydych chi'n rheoli'r rhai hynny yn uniongyrchol, ond mae'n rhaid i weddill y Llywodraeth sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi i wneud i hyn weithio. 

Ac yna cwestiwn olaf, os caf i, ynghylch y gronfa ansawdd aer, yr ydych chi wedi'i chyhoeddi heddiw. Unwaith eto, rwy'n croesawu bod cronfa ar gael. I fod yn glir, a yw honno dros ddwy neu dair blynedd ariannol? Oherwydd, pan rydych chi'n dweud 2018-21, gallai hynny fod yn ddwy flynedd neu'n dair blynedd ariannol. A sut fyddwch chi mewn gwirionedd yn gwneud hynny ar gael nawr, trwy awdurdodau lleol yn ôl bob tebyg—a yw'n broses o wneud cais? A ydych chi'n mynd i gyfarwyddo ar lefel strategol genedlaethol lle y mae angen i'r arian hwnnw fynd, neu a fyddwn ni'n gweld, yn anffodus—gallai ddigwydd—y bydd rhai awdurdodau mewn sefyllfa well i wneud cais amdano? Hoffwn i weld bod hyn, yn gryno, yn fformiwla sy'n seiliedig ar angen ac yn gronfa yn seiliedig ar angen sydd mewn gwirionedd yn ymdrin â'r rhannau mwyaf ofnadwy hynny o Gymru sy'n dioddef o lygredd aer ar hyn o bryd.

15:05

A gaf i ddiolch i chi am eich cwestiynau? Rwy'n gwybod fod hwn yn fater yr ydych chi'n angerddol iawn yn ei gylch ac mae eich plaid yn gefnogol iawn gweithredu drosto. O ran—dim ond y mater deddfwriaethol, nodais yn glir yn fy natganiad, a gobeithio y gallaf ei wneud yn glir eto, bod hyn yn bendant yn rhywbeth sydd ar y gweill, ac nid ei ohirio yw dweud hynny, ond mae hynny dim ond oherwydd fy mod eisiau gweld camau gweithredu yn awr. Credaf yn sicr ei fod yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno a'i ystyried wrth fwrw ymlaen. Credaf y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi hefyd y gall yr agenda ddeddfwriaethol fod yn eithaf llawn yn aml, ac ni fyddai aros am hynny pan gallem ni fod yn gweithredu y peth mwyaf cyfrifol i'w wneud, yn ôl bob tebyg, ond mae'n bendant yn rhywbeth sydd ar yr agenda. Gallem ni, mewn gwirionedd, pan fyddwn ni'n mynd i'r ail ymgynghoriad ar y cynllun ofyn: a yw pobl eisiau gweld Deddf aer glân yng Nghymru? Os felly, beth ddylai honno wneud a beth y maen nhw eisiau iddi gyflawni?

Rwy'n gobeithio nad yw'r Aelod yn gyrru'r SUV i'r ysgol—

Diolch i chi am wneud hynny'n glir. [Chwerthin.] Ond rydych chi yn llygad eich lle ynghylch pwysigrwydd—. Af yn ôl i'r hyn a ddywedodd David Melding am bwysigrwydd ennill cefnogaeth pobl, nad ydym ni'n cyflwyno pethau fel gostwng terfynau cyflymder dim ond i—. Credaf y byddai'r sylwadau—mae'n debyg y byddent ar Facebook neu fforwm Facebook—yn nodi y byddai hynny i godi refeniw drwy ddal pobl yn goryrru. Felly, rwy'n credu bod y rhan addysgol o hyn ac ennill cefnogaeth pobl mor bwysig, mewn gwirionedd, a swyddogaeth technoleg ddigidol eto i sefydlu hynny, bod hyn mewn gwirionedd oherwydd bod angen inni wneud hyn ar gyfer iechyd a lles pobl ac i fynd i'r afael â'r problemau materion iechyd ataliadwy yr ydym ni'n gwybod sy'n gysylltiedig â llygredd aer.

Fe wnaethoch chi sôn am bethau fel cerbydau hydrogen, cerbydau nwyddau trwm. Byddai'r parthau aer glân yn caniatáu i ni ystyried hynny yn y drylwyr, o ran gallu cyfyngu ar fynediad cerbydau nwyddau trwm ar adegau penodol ac edrych ar hynny, ond mae hynny yn amlwg ar gyfer pob lle yn unigol—beth bynnag y maen nhw'n ystyried sydd orau.

Rydych chi'n hollol gywir ynghylch pwysigrwydd gweithio ar draws y Llywodraeth ar hyn, oherwydd bod llawer o'r pethau hynny sy'n cael effaith fawr ar yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud ar ansawdd aer y tu allan i'r briff amgylcheddol, ond maen nhw'n cael effaith fawr ar ein hamgylchedd, a dyna pam, ar ein hymrwymiad traws-lywodraethol i ddatgarboneiddio, rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o ran edrych ar sut yr ydym ni'n defnyddio'r cynllun gweithredu economaidd a mentrau eraill, yn gweithio gyda'r sector trafnidiaeth gyhoeddus, i leihau allyriadau niweidiol o bethau fel tacsis a bysiau erbyn 2025. Ein huchelgais yw sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus niwtral o ran carbon erbyn y dyddiad hwn.

Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu ymrwymiad y Gweinidog i gymryd camau i leihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn cefnogi dyfodol iachach ar gyfer ein cymunedau, ein hamgylchedd naturiol a'n gwlad. Mae'r mater hwn yn uchel iawn ar fy agenda i hefyd, gan mai fi yw'r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe ac mae gennym ni broblemau mewn rhai o'n cymunedau, fel Hafod, lle mae cyfuniad o dopograffeg a thraffig yn arwain at ansawdd aer gwael iawn.

Ond rydym ni wedi bod yn y fan yma o'r blaen: dioddefodd Llundain yn y 1940au a'r 1950au o 'smog'—cyfuniad o fwg a niwl—a oedd yn lladd pobl. Gweithredwyd ynghylch hynny. Heddiw, rydym ni'n gwybod bod llygredd yn yr awyr agored yn lladd pobl drwy glefyd y galon a strôc—rydym ni'n gwybod hynny, ac mae taer angen gweithredu. Croesawaf, yn y parthau aer glân, y ceir dulliau o reoli mynediad traffig i hybu gostyngiad yn lefelau cyffredinol traffig a chyfyngu ar y niwed i'n hiechyd a'r amgylchedd a achosir gan y cerbydau sy'n weddill. Mae hyn yn rhywbeth y mae taer angen amdano yn nifer o'n cymunedau.

Mae gen i un cwestiwn, a chredaf y gall 'ie' neu 'na' ei ateb: a yw hyn yn golygu y gall awdurdodau lleol gyflwyno rheolau mynediad-yn-unig ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, yn enwedig y rhai hynny sy'n lorïau diesel?

Diolch ichi, Mike Hedges, am eich cyfraniad. Credaf inni godi'r materion yn ymwneud â Hafod a thopograffi a thraffig yr wythnos diwethaf, ar amser tebyg, yn y Siambr hon. O ran parthau aer glân, cynhwysir yr holl wybodaeth honno yn yr ymgynghoriad, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol fydd ystyried sut y gallan nhw gyfyngu ar fynediad y cerbydau mwyaf niweidiol i'r parthau aer glân hynny. Ond hefyd i wneud yn siŵr, fel y dywedais yn y datganiad, nad yw wedyn—i ystyried nad yw ond yn gwthio'r broblem llygredd i ffiniau'r parth hefyd. Felly, mae angen ystyried hyn i gyd yn ei gyfanrwydd.

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch am yr ymrwymiad yr ydych chi wedi'i amlinellu. Fel y mae David Melding a Simon Thomas wedi nodi, rydym wedi cael cryn frwydr i gyrraedd y pwynt hwn, ond o leiaf bellach bod rhai ymrwymiadau gan y Llywodraeth.

Nawr, rydym ni wedi cael trafodaethau pur helaeth yma yn y Siambr ar y pwnc hwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau gweld Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad yn gwneud eu gorau glas i wella ansawdd aer yng Nghymru, sy'n broblem fawr yn y rhan fwyaf o'n hardaloedd adeiledig trefol, a'r cwestiwn yw: pa gamau fydd yn effeithiol o ran cyflawni'r nod hwnnw? Nawr, mae llawer o lygredd aer, rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod, yn dod o ffyrdd. Mae un o'ch cynigion heddiw ar gyfer terfynau cyflymder 50 mya dros dro ar draffyrdd a chefnffyrdd. Dim ond mân bwynt, ond hoffwn nodi ichi enwi'r A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd fel un o'r parthau 50 mya arfaethedig. Wel, o'r hyn y mae defnyddwyr rheolaidd o'r ffordd yn ei ddweud wrthyf, mae eisoes yn barth 50 mya, ac wedi bod ers i waith ffordd gael ei wneud yno rai misoedd yn ôl. Felly, roeddwn i eisiau cyfleu'r wybodaeth honno. 

Ond pwynt pwysicach yw mai'r traffyrdd a'r cefnffyrdd hyn yw'r unig ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn eu rheoli. Mae'r rhan fwyaf o ffyrdd o dan reolaeth yr awdurdod lleol, ac mae'r rhain yn ffyrdd â cherddwyr arnynt; dydych chi ddim yn cael llawer o gerddwyr ar draffyrdd a chefnffyrdd mawr. Felly, wrth gwrs, yr hyn y mae angen ichi ei wneud wrth symud ymlaen yw cael rhywfaint o drafodaethau ystyrlon gyda chynghorau lleol ynghylch sut y maen nhw'n ymdrin â llygredd sy'n dod o'u ffyrdd, ac rwy'n credu mai dyma beth yr ydym ni wedi bod yn ei drafod, i ryw raddau, heddiw, sut yr ydych chi'n mynd i gyflawni hynny. Rwy'n credu bod angen arweiniad cryf arnom ni gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Rwy'n gwybod eich bod yn cynnig cronfa ansawdd aer, sy'n beth da, ond efallai y bydd angen ichi gynnwys canllawiau cadarn hefyd i sicrhau y cyflawnir y camau angenrheidiol yn effeithiol. Pa mor drylwyr fyddwch chi'n goruchwylio'r gronfa ansawdd aer fel y Gweinidog perthnasol?

Rydych chi'n dweud yr hoffech chi greu parthau aer glân a chyfyngu ar fynediad i'r parthau hyn drwy wahardd mathau penodol o gerbydau sy'n llygru, ac rwy'n credu bod hwn yn gam eithaf amlwg mewn sawl ffordd, ond, fel yr ydych chi'n ei gydnabod eich hun, bydd yna anawsterau mawr â hyn—anawsterau diwylliannol cymaint ag unrhyw beth arall. I edrych ar y mater yn fwy manwl, mae sawl person wedi sôn am gerbydau nwyddau trwm. Felly, un peth amlwg yw: pam mae gennym ni gerbydau nwyddau trwm yn mynd drwy ardaloedd preswyl? A ddylid caniatáu hyn? Felly, efallai bod angen edrych ar hynny. Ond mae'n rhaid inni edrych ar sgil-effeithiau posib cyflwyno parthau aer glân, oherwydd cawsom dystiolaeth wyddonol ddiweddar ynghylch beth sydd wedi digwydd yn Llundain ers cyflwyno'r parth tagfeydd 15 mlynedd yn ôl. Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos, mewn rhai ffyrdd, bod ansawdd yr aer wedi gwaethygu yn Llundain, mewn gwirionedd. Yn benodol, mae llygredd diesel wedi cynyddu 20 y cant. Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn traffig ar ffurf bysiau a thacsis sy'n cael eu pweru gan ddiesel.

Felly, ie, gallwch edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac rydych yn ei nodi yn y fan yma, ond mae angen i chi edrych ar yr allyriadau sy'n dod o drafnidiaeth gyhoeddus, rwy'n credu mai dyna rwyf yn ei ddweud. Felly, sut byddwch chi'n monitro'r fflydoedd o fysiau a thacsis trwyddedig sy'n gweithredu drwy'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru? Oherwydd bydd angen i chi ystyried hynny ac asesu elfennau llygredd hynny os ydych chi'n annog trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na defnyddio cerbydau preifat yn yr ardaloedd hyn.

Ond mae angen ichi wneud hynny i gyd yn gyntaf, rwy'n credu, ac, unwaith y bydd gennych chi'r mesurau hynny ar waith—ac mae Simon Thomas wedi sôn am y ddeddfwriaeth ychwanegol y gallai fod ei hangen—yna mae gennych chi'r dasg fawr sef y newid diwylliannol hwnnw o ddwyn perswâd ar bobl sy'n gyrru pan gallen nhw gerdded i adael y cerbydau a gwneud hynny. Ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd mae'n fath o gylch dieflig, oherwydd ni ellir dwyn perswâd ar bobl i adael eu cerbydau a cherdded i leoedd fel yr ysgol oherwydd bod y ffyrdd mor llygredig, pam fydden nhw eisiau gwneud hynny? Felly, mae angen ichi fynd i'r afael â'r cylch hwn ar ryw adeg, felly pob lwc ac mae gennyf ddiddordeb clywed eich atebion. Diolch.

15:10

Diolch i'r Aelod am ddymuno lwc dda i mi. I ymdrin â'r peth cyntaf o ran y terfyn cyflymder dros dro o 50 mya rhwng Glan-bad a Phontypridd, mae hynny o gylchfan Glan-bad ymlaen i gylchfan yr A4058 ym Mhontypridd; mae'n union 4.2 km. Felly, mae rhai o'r ardaloedd hyn mewn gwirionedd—yn arbennig yr un yr wyf fwyaf cyfarwydd ag ef, yng Nglannau Dyfrdwy—yn estyniad efallai o'r mannau y gallai ardaloedd 50 mya dros dro fod wedi bodoli cyn hynny.

Ymadweithio â chynghorau lleol: rhan allweddol o hyn yw—. Gallwn ni weithredu o ran y cefnffyrdd, ond y rhan allweddol o'r gallu i wneud hyn yw cynnig adnoddau yn ogystal â chanllawiau. Mae parthau aer glân mewn dinasoedd mawr fel Caerdydd yn ddewis yn hyn o beth, ac mewn lleoedd eraill lle y gallen nhw weithio orau ac y gallent fod yn ateb addas i'r problemau. Bydd y cynllun a'r rhaglen aer glân hefyd yn ceisio darganfod, trwy ein gwaith monitro, beth yw'r ateb gorau, beth sydd angen ei wneud mewn mannau penodol a'r hyn sy'n fwyaf addas yn y lleoedd hynny a beth yw'r broblem.

Rwy'n credu mai un dewis arall yn lle hynny, o ran ysgolion—ac rydych chi i gyd wedi crybwyll hynny heddiw—rwy'n credu y byddwn i'n mynd yn ôl i'r newid ymddygiadol hwn, a'r newid cenedliadol hwn ac ennill cefnogaeth y genhedlaeth iau o ran mynd i'r afael ag unrhyw lygredd a'i fonitro o amgylch ysgolion a dod hyd i'w hatebion eu hunain, boed hynny yn ymgyrchoedd newid ymddygiad fel bysiau cerdded, polisïau 'dim aros â'r injan yn rhedeg' y tu allan i'r ysgol, dod i'r ysgol ar sgwter neu ddefnyddio beiciau. Rwy'n awyddus iawn i gefnogi twf hynny o ran gwneud yn siŵr ein bod yn datblygu'r grym swnian hwnnw a dechrau—wyddoch chi, gweithredu nawr i fynd i'r afael â llygredd aer a phroblemau ansawdd yr aer ledled y wlad. Rwy'n credu ei bod hi'n allweddol iawn gwneud yn siŵr ein bod yn addysgu'r genhedlaeth nesaf yn enwedig i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol.

15:15

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn ac rwy'n falch iawn bod hyn yn flaenllaw ar ein hagenda. Rwy'n arbennig o bryderus am effaith llygredd aer ar blant, oherwydd bod tri o'r naw ysgol yng Nghaerdydd sydd wedi eu lleoli yn ymyl ffyrdd sydd â lefelau niweidiol o lygredd aer yn fy etholaeth i sef Gogledd Caerdydd: mae Ysgol Mynydd Bychan, Sant Joseff a Cathays i gyd o amgylch ardal Ffordd y Gogledd. Mae gen i bryder mawr ynghylch yr effaith ar iechyd plant yn yr ysgolion hynny, yn ogystal â'r plant yn yr holl ysgolion yng Nghaerdydd. Felly, hoffwn weld llawer mwy o ymdrech i wella ansawdd yr aer, yn enwedig o amgylch yr ysgolion. Soniodd yn ei hateb i'r cwestiwn diwethaf am rai o'r pethau y gellir eu gwneud o ran annog rhieni i beidio â defnyddio ceir—mynd ar sgwter ac ar y beic. Tybed a yw hi wedi ystyried strydoedd chwarae, lle caiff strydoedd eu cau am rai oriau neu ddyddiau fel bod plant yn rhydd o lygredd ac yn gallu chwarae.

A fyddai hi'n llongyfarch Cyngor Caerdydd am gynhyrchu Papur Gwyrdd trafnidiaeth ac aer glân Caerdydd, 'Newid sut rydym yn symud o gwmpas dinas sy’n tyfu'? Ceir llawer o awgrymiadau ynddo am yr hyn y gallem ni ei wneud yng Nghaerdydd, gan gydnabod ei bod yn gwbl allweddol. Tybed a yw hi wedi cael unrhyw gyswllt â Chyngor Caerdydd am y ddogfen hon. Rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi codi mewn sawl cwestiwn heddiw yw faint y gall awdurdodau lleol ei wneud eu hunain ar eu liwt eu hunain a faint o weithredu sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru. Felly, dydw i ddim yn gwybod a allai hi egluro hynny yn awr neu yn y dyfodol fel ein bod yn gwybod sut rydym ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd. Oherwydd mae yna lawer o bethau yn y ddogfen hon a allai drawsnewid ansawdd yr aer yng Nghaerdydd, ond fel y dywedaf, dydw i ddim yn gwybod faint y gallan nhw ei wneud eu hunain na faint y mae angen cymorth Llywodraeth Cymru arnynt.

Mae'r pwynt olaf a wnaethoch chi yn cyfeirio'n ôl i sut y mae hi'n gwbl allweddol, os ydym ni'n mynd i gyrraedd lle y mae angen inni fod a lle yr ydym ni eisiau bod yn hyn o beth, ein bod yn dod ynghyd ac yn cydweithio ar y mater. Roeddwn i'n hoffi'r syniad o strydoedd chwarae. Rwy'n credu ym mod i wedi gweld un yng Nghaerdydd cyn hyn ar y newyddion o ran cau'r strydoedd i draffig, ac mae hynny yn bendant yn rhywbeth y gallem ni o bosibl ei ystyried yn y dyfodol.

Ydw, rwyf yn fwy na pharod i longyfarch Cyngor Caerdydd ar eu papur trafnidiaeth ac aer glân. Rwyf wedi cael cyfarfodydd â swyddogion Cyngor Caerdydd ac mae fy swyddogion yn parhau i gysylltu â nhw. Rwy'n credu bod gennyf gyfarfod arall ynghylch y mater hwn yn fuan iawn, ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad wyf wedi cael cyfle i roi cynnig ar y beiciau newydd eto, felly rwy'n credu ar gyfer fy nghyfarfod nesaf ym Mharc Cathays efallai y byddaf yn rhoi cynnig ar hynny, nawr fod y tywydd yn gwella ychydig. Rwyf wedi ymrwymo i hynny nawr fy mod wedi'i roi ar y cofnod, on'd ydw i?

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn, mewn gwirionedd. Roeddwn i eisiau gofyn dau neu dri chwestiwn yn eithaf cyflym. Ym mis Tachwedd, fe wnaethoch chi ddweud bod arnoch chi eisiau gweithio a'r holl Lywodraeth a chydag awdurdodau lleol a'r holl adrannau. Roeddwn i eisiau eich holi chi ychydig am yr ymgynghoriad. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos y bydd yn ymgynghoriad ar-lein arferol, sy'n iawn, ond nid yw'r rhan fwyaf o'r bobl yr wyf i'n eu hadnabod yn byw eu bywydau ar-lein. A wnewch chi gadarnhau y byddwch chi'n cynnwys—gan feddwl am gwestiwn Julie—grwpiau a sefydliadau unigol, ac efallai pethau fel ysgolion a meithrinfeydd a chartrefi gofal yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy sefydliadau an-llywodraethol? Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd sampl yn unig—rwy'n gwerthfawrogi hynny—ond rwy'n credu y byddai rhywfaint o dystiolaeth uniongyrchol o'r lleoedd hyn yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.

Yn ail, fe wnaethoch chi sôn am Bort Talbot, sydd yn fy rhanbarth i, ac roeddwn i eisiau dweud nad Port Talbot a Chwm Afan yn unig y mae'r llygredd ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt; mae'n ymledu ar draws holl Fae Abertawe. Ar yr un pryd, mae gennym ni hefyd peth o'r llygredd traffig uchaf. Felly, a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd i mi y bydd y gwaith ar eich dau ddull o ymdrin â hyn—mewn rhannau penodol o Gymru lle y bo'n briodol—yn cael ei wneud ar yr un pryd neu gyda'i gilydd, yn hytrach nag fel dwy eitem ar wahân? Oherwydd mae'r peswch yn y bore yn beswch yn y bore; dydw i ddim yn poeni mewn gwirionedd o le y daw'r peswch.

Yn olaf, ynghylch Port Talbot—. O, mae'n ddrwg gen i, na, roedd gen i un arall i chi. Mae'n un cyflym iawn. Rwyf wedi sôn am 'nowcasters' wrthych chi cyn hyn. Nid wyf am sôn amdanyn nhw—heblaw fy mod newydd wneud. Yn y trefi y byddwn ni'n casglu llawer o'r wybodaeth ddefnyddiol yma, ac rwy'n sylwi y bydd y monitro ychwanegol yn digwydd ar ddarnau o fyrdd A. A wnewch chi egluro pam rydych chi wedi dewis darnau o ffyrdd A, a allai fod wedi'u llygru, ond efallai nad ydynt, mewn gwirionedd, yn teimlo mor llygredig, fel y dywedasoch chi, â bod yn agos at ysgol? Pam rydych chi wedi dewis blaenoriaethu'r rheini yn hytrach na rhai ardaloedd problemus mewn trefi?

Dim ond ar yr un pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, ar fater Port Talbot, pan gaewyd Cyffordd 41—rwy'n sylweddoli bod hynny cyn ichi ddod yma—gwnaethpwyd llawer o waith monitro ansawdd aer ar yr adeg honno a datgelwyd, er peth syndod imi, fod yr allyriadau ocsid nitrogen mewn gwirionedd islaw safonau Llywodraeth Cymru, gydag un eithriad. Unwaith eto, meddwl wyf i tybed pam rydych chi wedi dewis ymestyn yr elfen 50 mya yr M4. Dydw i ddim yn gwrthwynebu eich bod yn gwneud hynny, ond pam rydych chi wedi dewis y fan honno pan nad oedd lefelau'r ocsid nitrogen cynddrwg, mewn gwirionedd, ag y byddem wedi disgwyl, yn ôl pob tebyg? Gwnewch hynny, er hynny, os gwelwch yn dda. Diolch.

15:20

Diolch. A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwy'n gwybod fod gennych chi ddiddordeb mawr yn hyn fel yr Aelod Cynulliad rhanbarthol. Mae'r pwynt o ran yr ymgynghoriad a chysylltu ag unigolion fel cartrefi gofal ac ysgolion yn uniongyrchol yn bwynt da iawn, iawn, a byddaf yn ystyried hynny ac yn siarad â swyddogion ynghylch sut y gallwn ni wneud hynny.

Rydych chi'n hollol gywir o ran Port Talbot, bod dau linyn yn y fan honno o ran yr effaith ar ansawdd yr aer, a dyna pam yr wyf yn awyddus i edrych ar gynllun gweithredu Port Talbot ac mewn gwirionedd gwneud yn siŵr ei bod yn edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd. Ac mae angen inni fonitro i weld ble maen nhw'n rhy uchel a phryd y maen nhw'n digwydd. Yn ogystal â'r gwaith dur ei hun, mae gennych chi mewn gwirionedd yr holl ddiwydiant eraill o'i amgylch hefyd. Felly, rydych chi'n gywir ei fod yn sefyllfa wirioneddol gymhleth, integredig, ond nid oes unrhyw ddiben mynd i'r afael ag un heb y llall; mae angen inni fynd i'r afael â nhw gyda'i gilydd i wella ansawdd aer yn yr ardal.

Nid wyf yn gwbl siwr ynghylch y cwestiwn am ffyrdd A. Y rhai y rhestrais i yn y datganiad yw'r rhai y gwyddom ni bod y lefela'n uchel, a hefyd oherwydd eu bod yn gefnffyrdd a'n bod ni yn gyfrifol amdanyn nhw neu ein bod yn gallu gweithredu hynny fel Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae hi'n ei ddweud am ganol trefi. Dyna pam y mae angen inni edrych ar y rhaglen aer glân a'r cynllun aer glân a sut yr ydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i fynd i'r afael â hynny.

Rwy'n credu bod hwn yn ddatganiad pwysig iawn heddiw oherwydd y materion iechyd cyhoeddus a hefyd llygredd yn gyffredinol ac ansawdd ein hamgylchedd. Rwy'n gwybod fod Sefydliad Prydeinig y Galon wedi gwneud llawer o ymchwil, wedi gwario miliynau o bunnoedd, ar y cysylltiad rhwng llygredd aer a chlefyd y galon, ac maen nhw'n hollol glir bod hyn yn flaenoriaeth iddyn nhw. Mae llygredd aer yn yr awyr agored yn cyfrannu at filoedd o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn, fel y clywsom yn gynharach, a gall amlygiad hirdymor a byrdymor waethygu cyflyrau presennol ar y galon yn ogystal ag achosi rhai newydd ac, yn wir, mae risg mawr ar gyfer strôc hefyd. Maen nhw o'r farn bod trafnidiaeth ar y ffyrdd yn gwneud cyfraniad allweddol, fel yr ydym ni wedi ei glywed sawl gwaith eisoes. Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, rwy'n rhannu rhywfaint o'r rhwystredigaeth a'r diffyg amynedd y clywsom ni amdano yn gynharach o ran faint o amser y mae'n ei gymryd i ni ddangos arwyddion o fynd i'r afael â graddfa'r materion a'r angen i gymryd y camau angenrheidiol.

Felly, meddwl wyf i tybed a fydd y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn awr, Gweinidog, yn cynnwys croesgyfeiriadau at deithio llesol a systemau trafnidiaeth integredig, ac a fydd ystyriaeth i sefydlu parthau 20 mya rhagosodedig mewn ardaloedd trefol, o gofio bod hynny'n ei gwneud hi'n addas ar gyfer cerdded a beicio a chael pobl allan o'u ceir i chwarae ar y strydoedd a chreu yr ardaloedd hynny sy'n fwy addas i iechyd a'r amgylchedd. Efallai y gellid cael rhai cynlluniau mwy penodol, fel yr un sydd wedi ei awgrymu, rwy'n meddwl, ers cryn amser, o ran trosi i LPG ar gyfer fflydoedd tacsi, a fydd, rwy'n credu, yn talu am eu hunain o ran costau dros tua dwy flynedd, a chael effaith sylweddol ar lygredd aer yn ein trefi a'n dinasoedd. Ac yn yr un modd â bysiau a'u hallyriadau nhw.

A phlannu coed, Gweinidog, oherwydd rwy'n gwybod y dangoswyd mewn rhai astudiaethau y gall coed gymryd tua 50 y cant o'r deunydd gronynnol o'r aer. Rwy'n gwybod y bu llwyddiannau a methiannau o ran plannu coed yng Nghymru yn y gorffennol, ac weithiau mae'n ymwneud â'r math iawn o goed nad ydynt yn mynd yn fwy nag a ragwelwyd ac nad ydynt yn creu problemau â'r dail na ragwelwyd, oherwydd, yn eithaf aml, mae coed wedi'u plannu ac yna, pan fyddan nhw wedi tyfu i faint penodol, cânt eu codi a'u cymryd ymaith heb osod rhai eraill yn eu lle. Felly, tybed, pan rydych chi'n sôn am y gronfa ansawdd aer o £20 miliwn, y cymorth a'r arweiniad, a fydd honno'n mynd i'r afael â'r materion hyn? I ba raddau y bydd awdurdodau lleol yn cael cyfarwyddyd ac i ba raddau y bydd ganddynt ddisgresiwn eang?

15:25

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau. Rydych yn llygad eich lle ynghylch yr angen i groesgyfeirio ein huchelgeisiau a'n dyheadau o ran teithio llesol. Dyna pam y byddwn ond yn symud ymlaen yn y maes hwn os weithiwn ni ar draws y Llywodraeth. Dyna pam yr wyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau bod y dewisiadau eraill hynny ar gael, a phan fyddwn yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, y byddwn ni'n ystyried ein rhwymedigaethau o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd.

O ran sefydlu parth â chyflymder rhagosodedig o 20 mya mewn ardaloedd trefol, credaf yn sicr y gallai awdurdodau lleol edrych ar hynny fel rhan o'u parthau aer glân. Ond mae'r rhain i gyd yn bethau y mae angen inni edrych arnynt fel rhan o'r ganolfan monitro ac asesu ansawdd aer a hefyd fel rhan o gynllun a rhaglen aer glân y byddwn yn eu cyflwyno.

Ynghylch plannu coed, rydych chi'n berffaith iawn. Credaf mai'r ymadrodd oedd, 'Y coed iawn yn y lleoedd iawn'—a'u swyddogaeth o ran dal carbon hefyd. Credaf mai un o'r pethau i'w wneud ynghylch hynny yw dweud mai'r flaenoriaeth arall o fewn fy mhortffolio yw creu coetiroedd. Ac ydym, rydym yn gwybod, er mwyn bodloni ein huchelgeisiau yn y maes hwnnw, fod angen inni greu coetiroedd ar raddfa eang, heb anghofio bod mwy i hyn na chreu coetiroedd mawr ac ar raddfa eang yn unig. Mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'n hardaloedd trefol a'r ardaloedd o gwmpas ein trefi hefyd, a dyna swyddogaeth i'r gronfa seilwaith gwyrdd hefyd.

Diolch, mae gennyf bedwar siaradwr arall, ac os sylwch chi ar faint o'r gloch yw hi, byddwch yn gwybod bod hynny braidd yn amhosibl. Rwyf yn hapus i fynd dros amser, ond gawn ni osgoi areithiau hir? Os cafodd eich cwestiwn neu bwnc ei drafod eisoes, yna efallai gallwn feddwl am y cwestiynau hynny. Vikki Howells.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, nodaf eich sylwadau ynghylch y camau gweithredu uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Mae un o'r meysydd a grybwyllwyd, yr A470 rhwng Pontypridd a Glan-bad, yn ffordd gyswllt allweddol i gymudwyr yn fy etholaeth i. Mae llawer o drigolion eisoes wedi datgan eu pryderon wrthyf ynghylch tagfeydd yn yr ardal hon, felly pa waith monitro fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fydd mesurau megis parthau 50 mya dros dro yn cael effaith negyddol ar gymudwyr?

Yn ail, yr hyn sy'n allweddol yn eich datganiad yw annog newid arferion dinasyddion Cymru, ond i gyflawni hynny bydda'n rhaid inni roi polisïau ar waith i annog arferion llai niweidiol. Byddai hynny, rwy'n dadlau, yn gofyn am ddull traws-lywodraethol, er enghraifft gwella trafnidiaeth gyhoeddus fel na fydd raid i fy etholwyr i ddefnyddio'r A470 i gyrraedd Caerdydd, neu ansawdd yr aer o gwmpas ysgolion, er enghraifft. Felly, pa waith yr ydych chi'n ei wneud gyda'ch cydweithwyr i sicrhau'r dull traws-lywodraethol hwn?

Mae'r Aelod yn berffaith iawn o ran pwysigrwydd dull traws-Lywodraethol, ac roedd yna wên gam ar wynebau cyd-aelodau yma pan oeddech yn trafod canlyniad newid hwnnw am y dewis amgen, yna ni fyddai eich etholwyr yn gorfod eistedd yn y tagfeydd ar yr A470. Credaf imi ddweud mewn ymatebion blaenorol mai dyna pam yr wyf yn edrych yn fanwl iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar sut na allwn edrych ar y darlun cyfan yn unig o ran teithio llesol—. Os ydym am fynd i'r afael â phroblem ansawdd aer gwael mewn gwirionedd, mae'n rhaid i hynny fod yn ei le, felly, os ydym eisiau gweld newid mewn arferion; pobl i newid y ffordd y maen nhw'n teithio a'r ffordd y maen nhw'n mynd i'r gwaith, y ffordd y maen nhw'n mynd allan yn eu hamser hamdden, yna mae angen inni sicrhau bod gennym rywbeth gwell ar eu cyfer. Ynghylch yr A470—y canlyniadau anfwriadol a sut y caiff ei fonitro—bydd yn cael ei fonitro'n agos gan brofion ymyl y ffordd, a bydd y canlyniadau yn cael eu cynnwys mewn ymchwiliadau a modelu parhaus i sefydlu'r mesurau a fydd yn debygol o sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl. Felly, bydd modd monitro hynny'n agos i weld effeithiolrwydd y mesurau yn yr ardal.

15:30

Rwyf yn falch iawn o glywed bod gennym gefnogaeth drawsbleidiol i'r pwnc pwysig hwn, oherwydd pan fydd hi'n mynd yn anodd—a bydd hi'n mynd yn anodd—pan fyddwn yn dechrau cyflwyno mesurau mewn gwirionedd, gwyddom fod gennym bobl yn ein pleidiau ein hunain, ac yn wir yn y gymuned ehangach, sy'n dal i fyw yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, ac mae'n rhaid inni ddechrau gwneud i bobl sylweddoli bod diogelwch aer yr un mor bwysig â diogelwch ar y ffyrdd. Lleddir mwy o bobl gan lygredd aer na gyrwyr gwael, a'r bobl sydd fwyaf mewn perygl, wrth gwrs, yw plant â'u hysgyfaint ifanc. Felly, rwyf yn falch iawn o weld bod y Gweinidog yn lansio'r fframwaith parth aer glân yfory, oherwydd mae'n rhaid inni fwrw ymlaen a gwneud pethau yn hytrach na siarad amdanynt. Er enghraifft, ysgol gynradd Tredegarville, sydd gyferbyn ag Ysbyty Brenhinol Caerdydd, yn agos i Heol Casnewydd—mae hon, yn fy marn i, yn ardal a ddylai fod yn stryd chwarae neu stryd mynediad yn unig oherwydd bod lefel y llygredd sy'n effeithio ar y plant yn gwbl annerbyniol, ac mae ffordd arall ar gael i gerbydau. Felly, rwy'n gobeithio bod Cyngor Caerdydd am fod yn uchelgeisiol a dewr, yn ei weithredoedd ac nid gyda'i eiriau'n unig.

Mae'n anoddach gweld beth y gellir ei wneud ynglŷn â phlant Sant Pedr sydd mewn gwirionedd ar Heol Casnewydd, ond mae angen inni gyflwyno'r neges i rieni eu bod nhw'n creu mwy o risg i'w plant drwy eu danfon i'r ysgol mewn car na cherdded, neu ddefnyddio beic neu fws. Ni ellir ailadrodd hynny'n rhy aml, ond nid yw'n rhywbeth y mae rhieni yn ei gydnabod yn aml. Mae gennyf dri chwestiwn. [Torri ar draws.] Yn llythrennol, un llinell yr un [Chwerthin.] Mae cyfnewidfa Llanedeyrn ar yr A48 yn ardal arall sydd â phroblem. Ceir tair ysgol ac un feithrinfa gerllaw. Pwy ddylai weithredu, Cyngor Caerdydd neu Lywodraeth Cymru—? Hon yw'r gyfnewidfa ble mae'r ffordd i'r bae yn cysylltu â'r A48.

Yn ail, hoffwn weld ardoll ar ffioedd parcio ceir yng nghanol y ddinas. Eisoes mae gennym ddewisiadau eraill, sef—. Ceir oddeutu 1,000 o leoedd parcio ceir yng nghanol Dinas Caerdydd, a phetai ardoll gennym, byddem yn annog pobl i wneud y peth iawn, sef naill ai ddod ar y bws neu'r trên neu ddefnyddio cynllun parcio a theithio. A yw hynny'n rhywbeth sydd o fewn maes y cyngor sir?

Ac, yn drydydd, a fydd cynllun buddsoddi i arbed ar gael i awdurdodau lleol sydd eisiau glanhau eu bysiau?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Yn fy marn i, o ran pethau fel buddsoddi i arbed, cynllun aer glân a pharthau aer glân, credaf fod cyngor Caerdydd yn un o'r meysydd sydd wedi ei nodi yn un o ormodiant, ac fel y dywedais wrth eich cyd-Aelod Julie Morgan, rwyf i wedi bod yn cydweithio â chyngor Caerdydd, a bu swyddogion mewn cysylltiad agos â nhw, ynghylch hynny. Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y gellir eu hystyried yn rhan o'r cynllun a'r rhaglen wrth symud ymlaen, a pharthau aer glân.

Nid wyf yn wleidydd a fyddai'n hoffi dyfalu a gwneud pethau i fyny, felly ynglŷn â'r A48, byddaf yn cael eglurhad ynghylch hwnnw ichi ac yn dod nôl at yr Aelod. Credaf mai eich pwynt cyntaf yw'r pwysicaf o bell ffordd: mae ansawdd aer a mynd i'r afael â hynny cyn bwysiced â mynd i'r afael â diogelwch ar y ffyrdd. Ac, mewn gwirionedd, rhaid inni weithio ar draws y pleidiau, ac ar draws haenau o Lywodraeth, ac ar draws sefydliadau o fewn y gymuned. Fel y dywedais o'r blaen, rydym yn gostwng terfynau cyflymder, nid yn unig i gythruddo gyrwyr, nid i godi ffioedd na dim, nid i godi refeniw, mewn gwirionedd mae rheswm y tu ôl i hyn, a chredaf os byddai unrhyw awdurdod yn ystyried codi ffioedd, yn enwedig o fewn y parthau aer glân, yna byddem yn ystyried rhoi unrhyw elw tuag at fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

15:35

Er gwaethaf cyfraniad gwerthfawr uned gymorth asesu effaith ar iechyd Cymru i ymchwiliad cyhoeddus yr A494 Queensferry-Ewlo yn 2007, oherwydd y diffyg grym oedd ganddo, bu raid i minnau roi tystiolaeth ar ansawdd aer i'r ymchwiliad cyhoeddus. Derbyniwyd hyn gan yr arolygydd, a chyfrannodd y dystiolaeth at yr argymhelliad llwyddiannus na ddylai'r rhaglen honno neu'r cynnig hwnnw ar yr adeg honno ddigwydd. Sut y byddwch chi'n sicrhau, felly, y bydd eich canolfan newydd ar gyfer asesu a monitro ansawdd aer Cymru yn gweithio gydag uned gymorth asesu effaith ar iechyd Cymru, sydd â mwy o rym mewn amgylchiadau tebyg i allu cyflwyno sylwadau uniongyrchol, er enghraifft, yn ystod ymchwiliadau cyhoeddus?

Yn ail, ac yn olaf, clywsom gyfeiriad yn ystod y datganiad busnes at ffordd osgoi'r A487 Caernarfon-Bontnewydd. Sut y gallwch sicrhau, neu a wnewch chi sicrhau, fel rhan o ystyriaethau pellach Llywodraeth Cymru y cyfeiriwyd atynt yn gynharach, ynglŷn â llwybrau arfaethedig y ffordd osgoi hon, y bydd y dewis du, a gafodd gefnogaeth 75 y cant o'r cyhoedd yn yr ymgynghoriad yn 2011 o'i gymharu â 6 y cant o blaid y dewis melyn a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru—? Canfu cefnogwyr y dewis du y byddai 2,730 eiddo yn gweld gwelliant yn ansawdd yr aer, a 192 eiddo yn unig yn gweld dirywiad.

A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod o ogledd Cymru am ei gwestiynau a'i bwyntiau? Canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru —ffurfiwyd y Ganolfan i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch mynd i'r afael â llygredd yn seiliedig ar dystiolaeth ac y blaenoriaethir y camau cysylltiedig i sicrhau'r gorau ar gyfer iechyd a llesiant y cyhoedd, ac mae angen i hynny fod yn unol â'n rhwymedigaethau i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais ynglŷn â sicrhau ein bod yn gweithio'n draws-lywodraethol ar y pethau hyn. Wrth gyfeirio at ei gwestiwn ar Bontnewydd, cymeradwywyd ansawdd aer fel blaenoriaeth ac mewn gwirionedd mae'n sicrhau bod pob un ohonom yn gweithio—. Dyna pam yr wyf yn gweithio'n rheolaidd yn draws-lywodraethol, yn cysylltu â swyddogion ac ar lefel weinidogol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gweinidog, croesawaf eich datganiad heddiw, a diolch yn fawr iawn am eich diddordeb personol ac am yr ymroddiad a ddangosoch yn bersonol i sicrhau bod ansawdd aer Cymru yn gwella. Fel y gwyddoch, yn fy etholaeth i, Islwyn, ceir pryderon am effaith ansawdd aer ar ganlyniadau iechyd hefyd, ac rwyf wedi pwysleisio, Gweinidog, effaith hynny a phryderon grŵp trigolion Cwm Sirhywi isaf ynghylch allyriadau ocsidau nitrogen posibl i'r awyrgylch, ac mewn ardal sydd ymysg y 6 y cant uchaf o gymunedau iechyd gwael ar draws Cymru ac ymysg yr un y cant uchaf o ran achosion o ganser. Felly, gyda hyn mewn golwg, a'r pryderon amlwg a fynegwyd yn eang am ansawdd yr aer yn ffordd Hafodyrynys ger Crymlyn, ydy'r Gweinidog wedi ystyried gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau parth aer glân cyntaf Cymru?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes yr ydym wedi ei drafod o'r blaen ac rwy'n gyfarwydd â'ch pryderon. Heblaw am Gaerdydd, gwyddom fod Caerffili i Hafodyrynys yn ardal â gormodiant a chyflwynwyd cyfarwyddeb iddi i ddod i'n gweld ni, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda chyngor Caerffili. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ystyried sefydlu gweithgor o fewn yr ardal i edrych ar bryderon amrywiol y trigolion ac anawsterau yn arbennig o amgylch Hafodyrynys a'r gormodiannau sydd yno. Bydd y gweithgor yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a hefyd, gobeithio, Gyngor Caerffili. Rwy'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod wrth i bethau ddatblygu.

Diolch. Rwyf yn ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, am roi eiliad neu ddau imi, neu eiliad efallai i fod yn fwy cywir— [chwerthin.]—gair cyflym a chwestiwn yn unig ynglŷn â cherbydau trydan. Cawsom drafodaeth ar reoleiddio cerbydau a chyfyngu ar draffig a chyflwyno terfynau cyflymder fel pe bai dim bwriad gennym i ymdrin â'r nifer enfawr o gerbydau peiriant tanio mewnol. Yn Norwy, ym mis Rhagfyr, am y tro cyntaf roedd gwerthiant cerbydau trydan yn fwy na gwerthiant ceir gyda pheiriannau tanio mewnol, a dylem ni yma yng Nghymru anelu at hynny.

Nawr, mae cynhyrchwyr cerbydau trydan (EV) eraill ar gael, ond rwyf yn ddiolchgar iawn i Renault UK am fenthyg cerbyd trydan imi yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn i mi—gan gynnwys elfennau eraill o'm gwaith—deithio i lawr i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle byddaf yn cysylltu â'r pwyntiau trydanu newydd sydd yma, gobeithio, ym Mae Caerdydd. Ond a allwn ni gael sicrwydd, yn hytrach na llusgo'n traed, fel y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud, yn anffodus—rydych chi'n cael trafferth dal i fyny heb sôn am fod ar y blaen—y byddwn ni yng Nghymru yn ceisio ymuno â chwyldro'r unfed ganrif ar hugain ym maes y cerbydau trydan? Oherwydd edrychwch ar ddinasoedd fel Dundee, lle maen nhw led cae ar y blaen, edrychwch ar gymhellion y gellir eu cyflwyno—beth am barcio am ddim i bobl â cherbydau trydan? Beth am fynediad i leoedd i bobl â cherbydau trydan? Dylech gymell a gwneud cenhadaeth y Llywodraeth hon yn un ragweithiol i sicrhau nad y peiriant tanio mewnol yw dewis cyntaf pobl ond mai'r dewis hollol amlwg yw EV.

15:40

Rwy'n falch mai dim ond un eiliad oedd honna—fyddwn i ddim wedi dymuno gorfod rhoi mwy o eiliadau ichi [Chwerthin.] Gweinidog.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig o ran cymell pobl ac, mewn gwirionedd, ynglŷn â phwysigrwydd gweithio ochr yn ochr sy'n agored i ni, i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael i leihau allyriadau, lleihau cyflymderau heb edrych mewn gwirionedd ar sut y defnyddiwn dechnoleg fodern i gefnogi'r newid moddol mewn trafnidiaeth a cherbydau trydan. Edrychaf ymlaen at—rwy'n sicr bod yr Aelod yn mynd i gofnodi ei daith ar Twitter ac ar gyfryngau cymdeithasol i ni, a dymunaf bob lwc iddo.

4. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Henebion Hygyrch i Bawb

Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: henebion hygyrch i bawb. Galwaf—

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ein treftadaeth ni a’n diwylliant yn perthyn i ni i gyd, ac mae’n bleser gen i heddiw gael cyfle i sôn am y gwaith allweddol sy’n cael ei wneud i wella mynediad i’n henebion yma yng Nghymru. Mae ein tirweddau naturiol anhygoel a’n safleoedd gwych wedi cyfrannu’n helaeth at y lefelau gorau erioed o ymwelwyr dros y blynyddoedd diwethaf i safleoedd Cadw, sy’n dangos beth sydd gan y safleoedd trawiadol yma i’w cynnig.

Mae sicrhau bod safleoedd yn denu cynifer o bobl â phosib, yn ogystal â bod yn hygyrch, wedi bod yn flaenoriaeth wirioneddol i Lywodraeth Cymru a Cadw. Mae llawer o’n safleoedd wedi cymryd camau breision yn ddiweddar i wireddu hyn. O gastell Cricieth yn y gogledd-orllewin i Gastell Coch yma yn y de-ddwyrain, mae wedi bod yn bleser mawr i mi gael gweld rhai o’r gwelliannau yma fy hun. Mae’r gwelliannau yn amrywio o ganolfannau a golygfannau newydd i ymwelwyr i waith adnewyddu, gwell hygyrchedd ac arddangosfeydd blaengar, a hyn i gyd heb effeithio yn andwyol ar hynodrwydd yr adeiladau gwreiddiol.

Mae Cadw yn parhau â’i ymdrechion i wella, ehangu a chyflwyno cynlluniau a mentrau newydd er mwyn ennyn diddordeb pobl Cymru yn ein hanes a’u hannog i fwynhau a gwneud y mwyaf o’n henebion. Un enghraifft o hyn yw’r cynllun ymweliadau addysgol am ddim i safleoedd Cadw. Nid oes dim ffordd well o ennyn brwdfrydedd pobl ifanc na drwy weld ein hanes a’n hetifeddiaeth yn dod yn fyw. Mae’n bwysig ein bod ni yn annog cenedlaethau’r dyfodol i ymddiddori yn ein hetifeddiaeth, oherwydd, wedi’r cyfan, nhw fydd gwarcheidwaid ein treftadaeth yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn falch o ddweud y gall plant maeth a’r teuluoedd sy’n gofalu amdanyn nhw ymweld â phob un o’r henebion sydd yng ngofal Cadw am ddim, a hynny drwy bartneriaeth â Gweithredu dros Blant.

Mae'r cynllun bancio amser hefyd yn bartneriaeth hollbwysig sy’n galluogi gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni bancio amser, ac yn gweithio i gefnogi eu cymunedau lleol, i wario credyd a enillir drwy roi o’u hamser ar ymweliadau â phob un o’r henebion sydd yng ngofal Cadw. Rydym ni hefyd yn cynnal cynllun gwobrwyo Cadw, sef ymweliadau â chymorth sydd yn cael eu cynnig am ddim i sefydliadau sy’n gweithio gyda theuluoedd ac unigolion sydd ag anghenion cymhleth.

Ac rydw i yn falch iawn o docyn henebion newydd Cadw a fydd yn cynnig mynediad diderfyn i un safle. Mae’r tocyn yma yn rhan o’r gwaith o gynnig rhywbeth at ddant pawb. Rydym yn parhau i gynnig mynediad am ddim i ymwelwyr anabl a’u gofalwyr, plant o dan bump, ac ymwelwyr sy’n dod i ddigwyddiadau Drysau Agored.

Unwaith eto eleni, roedd mynediad am ddim i bob safle Cadw ar 1 Mawrth er mwyn dathlu Gŵyl Ddewi, gan gynnwys safleoedd poblogaidd iawn, fel cestyll Caernarfon, Caerffili a Chydweli—er ei bod hi wedi bod yn fwy o her eleni oherwydd yr eira.

Yn ogystal â chyflwyno cynlluniau i ehangu mynediad i safleoedd treftadaeth, fe fuddsoddwyd hefyd i wella hygyrchedd mewn nifer o safleoedd Cadw. Dros y blynyddoedd diwethaf mi gafodd pontydd eu gosod yng nghestyll Caernarfon a Harlech, y ddau yn rhan o safle treftadaeth y byd. Mae hyn yn cynnig ffordd arall o gyrraedd mynedfa’r ddau gastell yn lle’r grisiau, ac yn gwella hygyrchedd y safleoedd. Yn fwy diweddar, fe osodwyd lifft yng nghastell Cricieth, sy’n rhoi cyfle i fwy o ymwelwyr weld y deunydd dehongli a’r arddangosfeydd yn y ganolfan ymwelwyr newydd.

Wrth gwrs, mae rhoi cyfle i ymwelwyr ddeall a dysgu am yr adeiladau a’n hetifeddiaeth hanesyddol yr un mor bwysig ag ydy cynyddu’r cyfleoedd i ymweld. Mae Cadw’n gwneud hyn drwy ddehongli’r hanes ar ffurf straeon bachog a bywiog, sy’n cael eu cyflwyno mewn ffordd llawn dychymyg.

Ein nod ni yw rhoi profiadau mwy rhyngweithiol i ymwelwyr. Mae gwaith dehongli newydd yng nghastell Biwmares, er enghraifft, yn cynnig taith ddigidol gyda lluniau, testun a sain ar ffurf ap. Yng nghanolfan ymwelwyr castell Cricieth, mae yna ffilmiau clyweledol gyda sain ac isdeitlau dwyieithog, a gweithgareddau ymarferol rhyngweithiol. Mae ffilm arddangosfa ail-greu, sy’n defnyddio delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiaduron, yn cael ei dangos yn y ganolfan ymwelwyr, a thaith ddigidol o bethau diddorol a gyflwynir drwy ap Cadw, sydd ar gael i bawb, gan gynnwys y rheini na allant gyrraedd y rhannau mwy anodd eu cyrchu o'r castell ei hun.

Mae rhaglen Cadw o ddigwyddiadau cyffrous hefyd yn denu rhai pobl na fydden nhw ddim fel arfer yn ymweld â safleoedd hanesyddol. Mae Cadw yn cynnal mwy na 500 o ddigwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiadau ail-greu mawr, arddangosfeydd celf, sinemâu awyr agored a pherfformiadau byw, gan gynnwys theatr a bandiau roc. Fel rhan o’r digwyddiadau yma, roedd hi’n bleser mawr i mi fynd i gwrdd â'r dyn peiriant—y Man Engine—yn ddiweddar, yng ngweithiau dur hanesyddol Blaenafon.

Mae hefyd yn werth nodi bod cynllun Chwilio am Chwedlau 2017 Cadw wedi rhagori ar y llwyddiant ysgubol a gafwyd yn 2016, gan ddenu dros 132,000 o ymwelwyr i gwrdd â’r dreigiau ar eu taith o amgylch Cymru. Bob mis Medi, fel rhan o’r rhaglen Drysau Agored, mae cannoedd o leoliadau sydd fel arfer ar gau yn agor eu drysau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim. Yn ystod 2017, roedd hyn yn cynnwys 344 o leoliadau, lle croesawyd dros 44,000 o ymwelwyr.

Mae gan Cadw hefyd enw da o ran gweithio â phartneriaid i gynnal digwyddiadau sydd yn dod â’n hanes yn fyw i gymunedau. Mi fydd y berthynas yn parhau yn gryf ac yn cael ei hadeiladu ymhellach gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac aelodau'r bartneriaeth strategol Cymru Hanesyddol, gan gynnwys rhannu arferion gorau ym maes datblygiadau digidol, aelodaeth, arlwyo a manwerthu.

Rydym ni yn ffodus yng Nghymru fod gennym ni etifeddiaeth a hanes cyfoethog, ac er y gwaith da sy'n mynd rhagddo, mae'n rhaid inni barhau i annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau, deall a dysgu am ein hanes a’n henebion. Diolch yn fawr.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch hefyd am y datganiad yna.

Braf iawn, wrth gwrs, yw cael y fath grynhoad cadarnhaol o lwyddiannau Cadw yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae'n amlwg nad wyf i am ddweud fy mod yn anghytuno ag unrhyw un o'r cyfryw rai. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mewn llawer o'r achosion hyn, yn amlwg, ac roeddwn yn arbennig o falch o'r cyhoeddiad ynglŷn â theuluoedd maeth. Ac mewn gwirionedd, roeddwn i'n credu bod y cyflwyniad ar fancio amser yn un eithaf diddorol hefyd.

Roeddwn yn awyddus i ofyn ichi, er hynny—.  Cadw sy'n berchen ar y safleoedd hyn.  Rwyf ar fin pledio fy achos parhaus o ran Abaty Castell-nedd, wrth gwrs. Rwy'n gwybod na all neb fod ym mhobman, ond mae Castell-nedd yn ardal o dlodi mawr, ac ychydig a wnaed eto i fanteisio ar ei gallu i ennyn twristiaeth hefyd. Er bod mynediad am ddim i safleoedd mawr yn beth ardderchog, mewn gwirionedd mynediad am ddim sydd i Abaty Nedd i bob pwrpas am nad oes profiad ar gyfer ymwelwyr yno. Felly, pe byddech yn rhoi rhywfaint o'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny, byddai hynny'n dda iawn.

Byddwn wedi hoffi clywed ychydig mwy, hefyd, am sut mae mynediad i dreftadaeth—. Er ei fod yn ysbrydoli'r to iau, mae lle iddo hefyd yn y strategaeth ar gyfer yr economi leol, yn enwedig ar gyfer fy rhanbarth i, sy'n seiliedig ar sgiliau a thwristiaeth, i bob diben. Felly, pan fyddwn yn sôn am fynediad i safleoedd henebion, credaf fod angen inni sôn am fynediad i waith o ganlyniad i fynediad i henebion hefyd. Felly, ni wn a allech chi egluro rhywfaint imi am hynny.

Mae fy nghwestiwn nesaf yn ymwneud ag arian. Nid oes unrhyw gyfeiriad o gwbl at arian yn y datganiad hwn. Er fy mod yn cymeradwyo ymdrechion llwyddiannus iawn Cadw—hyd y gwn i—i godi arian drwy ei system codi tâl, nid wyf yn gweld yn eglur ai cylch rhinweddol yw hyn i raddau, ac a gaiff yr incwm sylfaenol hwn, ac yn wir yr incwm eilaidd a ddaw yn sgil ymwelwyr sy'n dod yno am ddim, eu hail-fuddsoddi yn nhrysorfa Cadw neu a ydyn nhw'n cael eu hail-fuddsoddi yn nhrysorfa gyffredinol Llywodraeth Cymru. Neu, os ydyn nhw'n cael eu hail-fuddsoddi yn Cadw, a ddefnyddir hynny fel rheswm gan y Llywodraeth i ostwng y swm a gaiff Cadw wedyn yn ganolog o'r gyllideb.

Yna, fy mhwynt olaf yw hyn: nid yw pob heneb, wrth gwrs, yn eiddo i Cadw. Gellid dadlau mai'r henebion sydd dan berchnogaeth yr awdurdodau lleol sydd angen y cymorth nawr. Oherwydd nid wyf wedi fy argyhoeddi, o ystyried y safleoedd Cadw yr wyf wedi ymweld â nhw, eu bod nhw'n dal i wneud eu gorau glas i hyrwyddo henebion eraill, neu safleoedd eraill o ddiddordeb, mewn gwirionedd, o fewn yr ardal gyfagos a allai fod yn eiddo i awdurdodau lleol, neu—ac rwy'n falch eich bod wedi nodi hynny yn eich araith, mewn gwirionedd—yn eiddo i'r gymuned neu o bosibl, hyd yn oed, yn eiddo i berchnogion preifat. Pan fo ymwelwyr yn ymweld ag ardal, ymweld ag ardal y maen nhw. Nid ydyn nhw o reidrwydd yn gwibio o un safle Cadw i'r llall ar gyrion Cymru. Felly, credaf y byddai'n fuddiol iawn pe byddech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar yr hyn a wna Cadw o ran mynediad i henebion nad ydyn nhw'n berchen arnynt.

Roeddwn am ddweud yn fyr hefyd, wrth gefnogi ac annog perchnogaeth gymunedol, y byddwn yn wir yn hoffi'n fawr clywed gennych am hynny ar wahân yn y dyfodol, oherwydd credaf ei fod yn syniad gwych. Diolch.

15:50

Diolch yn fawr. Diolch ichi am y cwestiynau hynny. O ran Abaty Castell-nedd, rwy'n hapus iawn i ymweld ag yno gyda chi, pe byddai hynny o fudd, ac yna cawn weld beth allwn ni ei wneud eto gyda'r safle arbennig hwnnw.

O ran yr effaith ar yr economi leol, mae gan Cadw brentisiaethau ac mae wedi datblygu hyfforddiant o bob math ar gyfer y sgiliau sydd yn werthfawr iawn yn ei olwg, fel yn wir y gwna Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yn ddiweddar cefais gyfle i gwrdd â'r prentisiaid amrywiol sydd wedi cael hyfforddiant ac wedi datblygu sgiliau, sy'n golygu bod y sgiliau sylweddol sydd gennym gydag adfer adeiladau treftadaeth ar gael nid yn unig i'r sector cyhoeddus, ond i Gymru'n fwy cyffredinol.

Nawr, o ran gwariant ac incwm Cadw, rwy'n sylwi bod gostyngiad sylweddol yn lefel y gwariant a ddyrannwyd i Cadw ac yr ymgymerodd Cadw ag ef yn ystod y cyfnod ers 2013  hyd at 2017. Ond bu cynnydd sylweddol yn yr incwm a gynhyrchwyd gan Cadw, o tua £4.8 miliwn hyd at £7 miliwn—£7.537 miliwn mewn gwirionedd —ar y cyfrif diwethaf. Mae'r ffigur sydd gennyf i yma, mewn gwirionedd, ar gyfer 2017. Nawr, mae incwm £7.5 miliwn Cadw yn incwm a enillwyd gan Cadw, a gallaf eich sicrhau chi nad yw'n arfer gennym ni, mewn adran fach berffaith, fel yr un sydd gennym ni, i rannu ein henillion â gweddill y Llywodraeth. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i ni roi elw Cadw yng nghoffrau cyffredinol y Llywodraeth, ond, mewn gwirionedd, bydd yn mynd yn ôl er mwyn sicrhau y caiff gwaith pellach ei wneud i adfer a chynnal a chadw treftadaeth. Diolch.

15:55

A allaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar henebion hygyrch i bawb? Nawr, wrth gwrs, nid yw hygyrchedd i henebion yn her newydd. Roedd cestyll y canol oesoedd yn naturiol wedi'u hadeiladu i atal hygyrchedd, ac wrth gwrs roedd e'n eithaf her i oroesi hynny, ac wedi costio'n ddrud ar y pryd i fynd i'r afael efo'r angen i atal pobl rhag mynd i mewn. Wrth gwrs, yn nodedig, cafodd Owain Glyndŵr ambell lwyddiant yn goroesi'r diffyg hygyrchedd i sawl castell yma yng Nghymru, yn naturiol yn adeiladu'r llwybr i waith y Gweinidog y dyddiau yma i wella hygyrchedd i'r cestyll canol oesoedd yna. Ond wrth gwrs, bu dro ar fyd, ac mae'r cestyll a fu'n gormesu nawr yn denu ymwelwyr. Y cwestiwn sy'n dilyn ydy: beth yn union ydych chi fel Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo gwir hanes gorthrymedig ein gwlad, yn fwy na dim ond annog pobl i edrych ar yr henebion yma drwy sbectol bensaernïol yn unig?

Yn nes ymlaen yn eich datganiad, rydych chi yn sôn am Chwilio am y Chwedlau 2017, ac wrth gwrs, wrth sôn am 'chwedlau 2017' rydw i'n cael fy atgoffa o'r foment pan gafodd rhywun y syniad gwych o gael modrwy haearn yng nghastell Fflint. Nid ydw i'n gwybod pa ddadansoddiad sydd wedi cael ei wneud o'r fenter yna, na phwy gafodd y syniad hurt yna yn y lle cyntaf. Rydych chi'n sôn, wrth ddod at ddiwedd eich datganiad yn fan hyn, ac rydw i'n cytuno efo chi, fod yn rhaid inni annog perchnogaeth gymunedol o'n henebion a'n treftadaeth er mwyn sicrhau eu dyfodol am flynyddoedd i ddod. 'Clywch, clywch', dywedwn i.

Ac wrth gwrs, mae enwau lleol lleoedd hanesyddol yn rhan allweddol o bwysig o'n treftadaeth. Yn wir, mae ein henwau hanesyddol yn eu hunain yn rhan o'r stori o hygyrchedd i henebion. Heb yr enw, lle ydych chi'n mynd? Wedi methiant fy Mesur i y llynedd yn y lle yma i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol, nid oes—fel rydych chi'n gwybod—diogelwch statudol i'n henwau lleoedd hanesyddol nawr. Yn wahanol, wrth gwrs, i bethau eraill: mae gan rai planhigion prin mwy o ddiogelwch nag ein henwau hanesyddol ar leoedd. Felly, pa gamau a ydych chi yn eu cymryd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymru? Diolch yn fawr.

Mae gyda ni gofrestr hirfaith o enwau hanesyddol sydd ar gael ar y we, fel y gŵyr yr Aelod. Fe benderfynwyd peidio â dilyn trywydd o ddeddfu ym maes enwau lleoedd, ond mae'r adnodd yna yn glir ar gael, ac yn wir, mae'r awydd i ddefnyddio enwau cynhenid neu enwau Cymraeg neu Geltaidd neu Ladin ar dir ac ar safleoedd ac ar drigiannau ac ar dai yng Nghymru wedi cynyddu, o'i gyferbynnu ag enwau Saesneg, er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond nid ydw i am fynd ar ôl y sgwarnog arbennig yna ymhellach, oherwydd trafod henebion yr ydwyf yn bennaf y prynhawn yma.

Y newyddion da ydy ein bod ni'n edrych ymlaen yn Cadw nid yn unig i gynnal y cestyll presennol, ond i dderbyn—mae'n debyg y bydd yn rhaid inni wneud cyfraniad tuag ato fo—perchnogaeth o ragor o gestyll yn y dyfodol, gan gynnwys castell a adeiladwyd gan Dafydd ap Gruffydd ap Llywelyn gydag incwm oddi wrth Frenin Lloegr ar y pryd. Ond wrth gwrs, yn ddiweddarach, fe wnaeth Dafydd ap Gruffydd ap Llewelyn ymlynu gyda'i frawd, ac yna fe ddaeth o y tywysog Cymreig cynhenid olaf i adeiladu cestyll yng Nghymru. Ein bwriad ni, felly, yw cynhyrchu deunydd arbennig ar gyfer ymwelwyr a fydd yn canolbwyntio ar yr henebion hanesyddol sydd wedi cael eu hadeiladu neu sydd wedi cael eu meddiannu a'u trigiannu am gyfnod sylweddol gan y tywysogion Cymreig. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn barod ynglŷn â chyfnod Owain Glyndŵr yng nghastell Harlech. Os nad ydych chi wedi cael cyfle i ymweld â'r castell hwnnw yn ddiweddar, ac yn arbennig â'r dehongliad a gynigir yno, mae'n ddehongliad cenedlaethol, fel y dylai fe fod, gan Lywodraeth Cymru, a gan Cadw ar ran Lywodraeth Cymru, o'r hyn sydd wedi digwydd.

Nid ydw i am wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd gyda Gweinidogion a oedd yn y swydd yma o'm mlaen i ac a wnaeth benderfyniadau, a phenderfyniadau a gafodd eu newid. Nid ydw i'n credu bod hynny yn briodol.

Ond a gaf i ddweud un gair arall am gastell Cricieth ac Owain Glyndŵr? Yn sicr, fe wnaeth Owain Glyndŵr lwyddo i losgi o leiaf rhai o'r cerrig yng nghastell Criccieth, ac roeddwn i'n cael y fraint o weld ôl y tân hwnnw yn ddiweddar. Rydw i'n siŵr y byddai fo'n cynnau tân hyd yn oed yng nghalon hen genedlaetholwr fel yr Aelod sydd wedi gofyn y cwestiwn.

16:00

Hoffwn i ddilyn hynny, fel y dechreuodd Dai Lloyd yn ei gwestiynau, drwy ofyn i'r Gweinidog a yw ef yn cytuno â mi nad rhywbeth y dylid ei ddarllen yw hanes ond y dylai gael ei brofi gan pob cenhedlaeth fel ei bod yn deall sut mae'n perthyn i ddilyniant hanes cenedl. Mae hynny'n gwbl hanfodol i lwyddiant unrhyw genedl. Fel yr ysgrifennodd Alexis de Tocqueville bron 200 mlynedd yn ôl, wrth i'r gorffennol beidio â thaflu ei oleuni ar y dyfodol, bydd meddwl dyn yn crwydro yn y tywyllwch. Gan hynny, iddyn nhw mae henebion cenedlaethol a hygyrchedd yn gwbl hanfodol i addysg unrhyw un diwylliedig, ond maen nhw hefyd yn hanfodol ar gyfer deall sut y mae'r genedl wedi datblygu fel y gwnaeth a sut yr ydym i gyd yn rhan o hynny.

Ac felly rwy'n falch iawn o groesawu llwyddiant Cadw a'i rhaglen o ddigwyddiadau a chanmol i ba raddau y mae Cadw wedi gallu poblogeiddio ei henebion a'i gweithgareddau drwy ail-greu sefyllfaoedd ac arddangosfeydd celf a pherfformiadau byw.  Pan oeddwn yn ifanc, roedd Hanes yn cael ei ddysgu fel rhyw fath o bwnc sych. Mae'n hanfodol ein bod yn symud oddi wrth hynny os ydym am ennyn diddordeb y genhedlaeth iau i ddeall pwysigrwydd y pethau hyn, nid yn unig ar gyfer y gwerth economaidd, er bod hynny'n hanfodol bwysig hefyd, fel y nododd Suzy Davies yn gynharach, ond bod y refeniw a godir yn cael ei godi at ddiben penodol, a hynny yw adfer yr henebion a etifeddwn o'r gorffennol i gyflwr gwell a hefyd eu gwneud yn fwy hygyrch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol nag yr oedden nhw yn achos ein cenhedlaeth ni.

Rwy'n sylweddoli y gallai fod ychydig yn rhy gynnar i'r Gweinidog wneud unrhyw sylwadau ar argymhellion y Pwyllgor Diwylliant yn ddiweddar iawn ar yr amgylchedd hanesyddol, ond mae'r cydweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn elfen bwysig iawn, yn fy marn i, o lwyddiant Cadw ar gyfer y dyfodol, i gynyddu ei refeniw a gwella ei offerynnau dehongli digidol a dulliau ledled y safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Felly, tybed a allai'r Gweinidog roi unrhyw diweddariad pellach ar yr hyn y mae Cadw yn bwriadu ei wneud yn hyn o beth.

Fy ail bwynt a'r olaf yw croesawu rhan olaf y datganiad, lle soniodd y Gweinidog am hanes Cadw o weithio gyda phartneriaid i gyflwyno digwyddiadau sy'n dod â hanes yn fyw i gymunedau a'i gadarnhad y bydd y cysylltiadau hyn yn parhau i gael eu harfer. Yn ein hadroddiad o'r pwyllgor diwylliant, yn argymhelliad 10, roeddem yn gofyn am amserlen glir o gynnydd, cerrig milltir eto i roi unrhyw arwydd o'r hyn allai'r cyfnodau amser a'r cerrig milltir mesuradwy fod heddiw neu yn y dyfodol agos.

Diolch, rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau hynny. Rwy'n dymuno dweud y byddaf yn ymateb yn fanwl i'r materion a godwyd yn adroddiad y pwyllgor a bydd ymateb llawn gan y Llywodraeth yn y ffordd arferol i'r argymhellion hynny. Byddai'n well gennyf ymdrin â hynny drwy'r ymateb penodol hwnnw. Ond byddwn yn hoffi manteisio ar rai o'r pwyntiau a ofynnodd er mwyn ymateb yn fwy penodol i un cwestiwn a ofynnodd Suzy Davies yn gynharach, sef yr hyn y mae Cadw yn ei wneud i hybu safleoedd nad ydynt yn perthyn i Cadw. Mae arddangosfeydd i'w cael, wrth gwrs, ac mae gwybodaeth yn cael ei gynhyrchu am safleoedd eraill ar holl safleoedd Cadw—atyniadau eraill sydd dan berchnogaeth breifat. Ceir trefniadau dwyochrog ar gyfer disgowntiau a hyrwyddo rhwng amgueddfeydd a chestyll. Ceir ymgyrch sy'n cydredeg hefyd, gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle gall ymwelwyr gael mynediad am hanner pris i safle Cadw neu safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth ymweld â dau safle ar yr un diwrnod a thalu'r pris mynediad llawn i un. Nawr, nid wyf yn siŵr a yw hynny wedi cael digon o gyhoeddusrwydd, ond mae hynny'n digwydd.

Mae safleoedd nad yw Cadw yn gofalu amdanyn nhw wedi'u cynnwys ym mapiau Cadw yn y gogledd a'r de. Dosberthir 60,000 o'r mapiau hyn mewn atyniadau amrywiol. Pan wyf i wedi cael cyfle i ymweld â chestyll sydd ym mherchnogaeth tirfeddianwyr, yn enwedig yn ddiweddar yn Sir Gaerfyrddin, gallaf ddweud mai'r un trefniant sy'n bodoli bob amser. Pan fydd Cadw yn helpu i hyrwyddo a chynghori ar gadwraeth adeiladau, a phan mae cyfle i godi tâl, neu bod cyfleuster am ran o'r tymor i godi tâl, yna yn gyffredinol bydd yr elw hwnnw yn cael ei rannu rhwng y tirfeddiannwr a Cadw —fel arfer bydd y gymhareb yn 60:40. Felly, dyna sut mae Cadw yn gweithredu law yn llaw â'r rhai sydd â chyfrifoldeb am atyniadau yn y sector preifat.

16:05
5. Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018

Eitem 5 yw Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018. Rwy'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM6705 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018. Mae Deddf yr Economi Ddigidol 2017, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2017, yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau cyhoeddus i rannu data gydag awdurdodau cyhoeddus eraill i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, nodi a gweithredu ar ddyledion sy'n ddyledus i'r sector cyhoeddus, a nodi a mynd i'r afael â thwyll yn erbyn y sector preifat. Er mwyn i gorff cyhoeddus allu arfer y pwerau newydd hyn, mae angen iddo fod yn benodol yn y ddeddfwriaeth. Ar gyfer y pwerau i gyflawni gwasanaethau cyhoeddus, bydd angen hefyd i gorff cyhoeddus gael ei enwi gerbron yr amcan polisi penodol, a fydd yn cael ei nodi yn y rheoliadau ar wahân.

Nid yw cyrff datganoledig Cymru ar hyn o bryd yn cael eu henwi yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017 ac ni allant wneud defnydd o unrhyw un o'r pwerau newydd. Mae Llywodraeth y DU yn paratoi i gyflwyno rheoliadau newydd, a fydd yn nodi'r cyntaf o bedwar amcan y pwerau i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: yn cefnogi'r unigolion a'r aelwydydd yr effeithir arnynt gan anfanteision lluosog, er enghraifft, anabledd, diweithdra, neu'r rhai sy'n gadael gofal; yn nodi a chefnogi unigolion ac aelwydydd a allai fod yn gymwys i gael cymorth dan gynllun dychwelyd setiau teledu; yn nodi a chefnogi unigolion ac aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd; ac yn nodi a chefnogi unigolion ac aelwydydd sy'n byw mewn tlodi dŵr.

Bydd y rheoliadau sy'n cael eu hystyried gan yr Aelodau heddiw yn sicrhau bod sefydliadau datganoledig Cymru yn gallu defnyddio'r pwerau newydd ochr yn ochr â'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Mae'n hanfodol bod ein cyrff cyhoeddus datganoledig yn alluog i ddefnyddio'r pwerau newydd hyn, ochr yn ochr â chyrff Saesnig a chyrff sydd heb eu datganoli, i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl. Mae rhannu data, pan wneir hynny'n ddiogel ac am y rhesymau cywir yn hollbwysig i alluogi gwasanaethau i integreiddio a chydweithio i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion. Os na all cyrff yng Nghymru gael y defnydd o'r pwerau hyn, bydd dinasyddion Cymru dan anfantais o ran tlodi dŵr a thanwydd.

Rydym wedi ymgynghori yn gyhoeddus ar y rheoliadau, ac, yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cydnabod y manteision cadarnhaol o gynnwys cyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac, yn wir, roedd llawer o ymatebwyr yn awyddus i fwy o gyrff cyhoeddus gael eu henwi. I'r dyfodol, bydd y Cynulliad hwn hefyd yn gallu pennu amcanion polisi newydd ar gyfer rhannu data ymhlith cyrff cyhoeddus datganoledig i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru. Rwy'n cymell yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn.

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr yn y ddadl, felly y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan hynny, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyn inni symud at y ddadl ar Gyfnod 3 Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), rwy'n bwriadu gohirio'r trafodion am 10 munud. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn inni ailgynnull, a byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon. Caiff yr eisteddiad ei ohirio nawr am 10 munud.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:09.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

16:15
Pwynt o Drefn

Cyn inni gychwyn ar Gyfnod 3 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), pwynt o drefn gan Simon Thomas. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n codi'r pwynt o drefn gan fod newyddion yn torri, ac rwy'n gofyn am eich cymorth, mewn ffordd, i weld a oes modd i'r Cynulliad drafod y newyddion yma. Y sefyllfa yw ei bod hi'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cytundeb gyda'r Blaid Geidwadol yn San Steffan ynglŷn â'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â'r pwerau fydd yn cael eu datganoli a'r pwerau fydd yn cael eu cadw yma. Rwy'n clywed y bydd cyfnod o saith mlynedd, neu bum mlynedd, pan fydd pwerau'n cael eu cadw yn San Steffan a ddim yn dod i'r Cynulliad. Nawr, efallai bod y cytundeb yma yn werthfawr i'r Llywodraeth, ond y safbwynt yr ydw i â diddordeb ynddo fe yw beth sydd gyda ni fel Aelodau Cynulliad i ddweud dros hyn. A oes yna rywun wedi gofyn i wneud datganiad brys, Llywydd, ynglŷn â'r materion hyn, neu a oes modd i Aelodau Cynulliad, fel finnau, ofyn am ddatganiad brys nawr neu ryw fath o eglurhad gan y Llywodraeth o beth yn union yw'r sefyllfa? 

16:20

Gan nad oes neb yn ymateb i'r pwynt o drefn yna, fe wnaf i ddweud wrthych chi, Simon Thomas, eich bod chi'n gwybod taw mater i'r Llywodraeth yw penderfynu ar faterion busnes y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn atebol i'r Cynulliad yma ac fy nymuniad i yw sicrhau ar bob cyfle fod datganiadau o bolisi mawr gan y Llywodraeth yn atebol ac yn cael eu cyflwyno i'r Cynulliad yma yn eu cyfanrwydd er mwyn caniatáu’r cwestiynau priodol a'r atebolrwydd priodol. Nid yw hynny wedi cael ei gynnig ar gyfer y prynhawn yma hyd yn hyn. Mae'n bosibl y daw hynny maes o law. 

7. Dadl Cyfnod 3 ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Fe wnawn ni nawr symud ymlaen i Gyfnod 3 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). 

Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4)

Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â chyfranogiad tenantiaid. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rwy'n galw ar y Gweinidog i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Rebecca Evans. 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rebecca Evans).

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol, ac i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n fanwl ar y Bil drwy gydol Cyfnod 1 a Chyfnod 2. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar ac i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth i'r Bil hyd yn hyn ar ei daith drwy'r Cynulliad.

Mae ymrwymiad y Llywodraeth i denantiaid wrth galon y rheoliad wedi'i wneud yn gwbl glir drwy gydol y broses graffu. Gobeithiaf ei bod hi'n amlwg nad yw'r Bil hwn yn gwneud dim i newid hyn, na'r disgwyliad rheoleiddiol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â thenantiaid a gwrando ar eu barn. Mae hwn yn ofyniad sylfaenol. Mae gofyn ar i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddangos bod tenantiaid yn rhan o lunio gwasanaethau a phenderfyniadau a bod gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn gwella. Nodir hyn yn safon perfformiad 2 a gyhoeddwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996. Ac, i gadarnhau yr hyn a ddywedais o'r blaen, byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi canllawiau statudol o dan adran 33B y Ddeddf Tai, a fydd yn rhoi disgwyliadau rheoleiddiol ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch amryw o faterion, gan gynnwys ymgynghori.

Fodd bynnag, ar ôl gwrando'n ofalus ar y dadleuon, rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i nodi'r darpariaethau ar gyfer ymgynghori â thenantiaid ar wyneb y Bil. Mae fy ngwelliant yn gwneud hyn. Mae'n nodi'r darpariaethau i'w gwneud hi'n ofynnol ymgynghori â thenantiaid pan fo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystyried newidiadau cyfansoddiadol penodol megis cyfuno neu uno gwirfoddol. Nid wyf i, fodd bynnag, yn bwriadu gosod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori mewn amgylchiadau lle credaf nad yw unrhyw ddyletswydd o'r fath yn briodol ac y byddai'n peri risg ychwanegol i denantiaid a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft pan fydd landlord cymdeithasol cofrestredig dan straen ariannol. Mae hyn oherwydd y gall newid strwythurol, fel y mae gwelliannau 3 a 4 yn eu cwmpasu, fod yn ffordd o ymdrin â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd dan straen ariannol neu sy'n wynebu posibilrwydd o fethdalu. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i'r landlord cymdeithasol cofrestredig a'r rheoleiddiwr allu gweithredu ar fyrder, mewn modd penodol iawn, i ymyrryd er mwyn amddiffyn tenantiaid. Hyd yn oed lle bo trefniadau gwirfoddol ar waith i ymdrin â straen ariannol, yn aml bydd nifer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth y landlord cymdeithasol cofrestredig—credydwyr, amserlenni ac ati—a fydd yn dylanwadu ar y cynigion a wneir gan landlord cymdeithasol cofrestredig ac a all gyfyngu ar ei allu i gynnal ymgynghoriad effeithiol sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Nid wyf, beth bynnag fo'r amgylchiadau, yn dweud y dylid celu pethau gan denantiaid wrth ystyried newidiadau o'r fath. Rwyf wedi nodi'n glir, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn anghytuno, bod yn rhaid cyfathrebu'n briodol gyda thenantiaid pan ystyrir y cynigion hyn a bydd y trefniadau cyfathrebu hynny'n destun trosolwg rheoleiddiol. Ond mae cyfathrebu yn wahanol i ymgynghori'n ffurfiol. Mae gan ddyletswydd i ymgynghori ystyr dealladwy penodol yn y gyfraith.

Nid yw fy ngwelliant chwaith yn cynnwys gofyniad ar gyfer ymgynghori os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn bwriadu newid o fod yn gymdeithas gofrestredig i fod yn gwmni, neu i'r gwrthwyneb. Yn yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn arwain at newid landlord y tenant, dim ond at newid yn ffurf gyfreithiol y landlord. Ar y llaw arall, effaith gwelliant 1A fyddai rhoi dyletswydd i gynnal ymgynghoriad pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig yn cynnig newid o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni. Rwy'n cydnabod y gall fod pryderon y gallai newid o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni olygu newid ethos i landlord cymdeithasol cofrestredig, ond mae trefniadau diogelu yn erbyn hyn. Mae rhaid i bob landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi cofrestru yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy'n gwmnïau, fod yn rhai nid-er-elw ac mae'n rhaid i'w dibenion gynnwys darparu, adeiladu, gwella neu reoli tai cymdeithasol. Caiff arallgyfeirio ei fonitro'n fanwl, ac felly hefyd sefydlu is-gwmnïau sydd heb eu cofrestru. Mewn gwirionedd, mae gwneud cynnydd gyda diben craidd y busnes yn ganolog i safon perfformiad 1 a bydd hyn yn destun trosolwg rheoleiddiol parhaus. 

Datblygwyd fy ngwelliant i fynd i'r afael â materion a drafodwyd yn ystod y broses graffu, gan ystyried gwybodaeth a phrofiad y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a'r dull o gyd-reoleiddio yr ydym ni yn ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Dyna'r ffordd fwyaf priodol o sicrhau yr ymgynghorir â thenantiaid pan fo newidiadau wedi eu cynllunio, gan ganiatáu hyblygrwydd i ymateb i sefyllfaoedd brys.

Cyfeiriodd David Melding at TPAS Cymru, y sefydliad sy'n cynrychioli tenantiaid, wrth siarad am ei welliant yng Nghyfnod 2. Fel y gallech ddisgwyl, mae swyddogion wedi trafod fy ngwelliant gyda TPAS Cymru, sydd, er eu bod yn croesawu'r cynnig i nodi'r darpariaethau ar gyfer ymgynghori ar wyneb y Bil, hefyd yn cydnabod na fydd hyn o bosib yn ymarferol bob amser mewn achosion lle mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dan straen ariannol neu mewn peryg o fethdalu. Rydym ni'n croesawu'r papur briffio a roddwyd i'r Cynulliad gan Gartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cefnogi fy ngwelliant i, gan gydnabod ei fod yn ymdrin â'r pryderon y cyfeiriwyd atyn nhw yng Nghyfnod 2, gan sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau ynghylch dyfodol eu landlord a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. Felly, mae gwelliannau 1A, 3 a 4 yn ddiangen. Mae fy ngwelliant o'r herwydd yn rhoi gofyniad priodol ar gyfer ymgynghori ond heb yr anawsterau gweithredol a fyddai'n codi pe derbynniwyd gwelliannau 3 a 4.

Mae gwelliannau 3 a 4 fel y'u drafftiwyd i bob pwrpas yn gosod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori cyn ymgymryd ag amrywiaeth eang o newidiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys y rhai a allai gael eu sbarduno gan yr angen i landlord cymdeithasol cofrestredig wneud trefniadau â'u credydwyr, neu cyn cymryd camau penodol sy'n ymwneud â methdalu, ac nad ydynt, fel y dywedais, yn ymarferol. Mae'r angen i allu ymyrryd a gweithredu pan fo hyfywedd landlord cymdeithasol cofrestredig yn y fantol yn fater a gydnabyddir yn yr Alban hefyd, lle gall y rheoleiddiwr, er enghraifft, eithrio Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'r gofyniad i ymgynghori â thenantiaid cyn iddo ddod yn is-gwmni o gorff arall os yw dod yn gwmni yn un o'r ffyrdd o osgoi methdalu.

At hyn, mae gwelliannau 3 a 4 yn ceisio annilysu penderfyniadau penodol. Efallai y bydd ganddynt ganlyniadau annisgwyl—er enghraifft, yn creu ansicrwydd ynghylch a all yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'r Cofrestrydd Cwmnïau gofrestru'r penderfyniadau hynny, neu a oes yn rhaid iddynt ystyried a yw landlord cymdeithasol cofrestredig wedi cynnal ymgynghoriad cyfreithlon. Felly argymhellaf fod yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 1 ac yn gwrthod gwelliannau 1A, 3 a 4 am y rhesymau yr wyf wedi'u hamlinellu.

16:25

Cyn imi roi sylw i'r grŵp cyntaf o welliannau ynglŷn â'r Bil hwn, a gaf i yn gyntaf oll ailadrodd y ffaith fod pob un o'm gwelliannau heddiw, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wedi deillio o argymhellion yr is-bwyllgor ar y Bil hwn neu o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol?

Er nad oes unrhyw amheuaeth bod amcanion y Bil hwn er budd y cyhoedd, o ystyried barn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae angen inni gadw mewn cof bod y Bil yn weithred sylweddol o ddadreoleiddio yn y sector tai ac, o ganlyniad, nodwyd yn adroddiad y ddau bwyllgor y byddai'n

gofyn am reoli risg diwyd a monitro effeithiol.

Oherwydd bod fy ngwelliannau'n deillio o drafodaethau'r pwyllgor trawsbleidiol ac o egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, y mae, unwaith eto, gefnogaeth drawsbleidiol iddynt, rwy'n credu ei bod hi'n werth cydnabod nad oes ar neb yma eisiau amharu ar neu arafu'r broses o ailddosbarthu. Mae a wnelo hyn â llunio cyfraith dda. Llywydd, a gaf i ddweud bod yr holl welliannau yr wyf wedi eu cyflwyno wedi cael cefnogaeth lawn cyfreithwyr y Comisiwn, ac wedi eu llunio'n fedrus ganddynt, a byddwn yn gwrthod unrhyw goel bod diffygion yn y gwelliannau hynny o safbwynt cyfreithiol?

Mae un o'r gwelliannau a gyflwynais gyda chefnogaeth Plaid Cymru yng Nghyfnod 2, yn wir, bellach wedi'i addasu gan Lywodraeth Cymru a'i drosi i'w diwyg eu hunain, ac mae'r gwelliant hwn yn sail i'r drafodaeth bellach yr ydym ni'n ei chael. Felly, dylwn groesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymateb. Nid yw'n gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn wreiddiol; mae wedi ymateb i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn gynharach yn y broses ddeddfwriaethol, a dylid, yn briodol, ei chanmol am hynny.

Felly, wedi dweud hynny, a chan gydnabod y bu mwy o gyfranogiad tenantiaid yn y broses hon, rwyf yn credu, o'i gymharu â'n gwelliannau, bod yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yn fersiwn wannach ac, rwy'n credu, mwy amwys, a dyna pam ein bod yn anghytuno yn y modd hwn. Rwyf yn awr yn bwriadu ceisio ymhelaethu fel y gall Aelodau wneud penderfyniad doeth.

Yng ngrŵp 1, diben gwelliannau 3 a 4 yw darparu ar gyfer proses ffurfiol o ran ymgynghoriad a chyfranogiad tenantiaid os yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cyfuno neu yn newid eu strwythurau mewn ffyrdd eraill. A chredaf ei bod yn briodol, pan rydym yn cyfeirio at y sefydliad masnachu, i gofio ei bod yn amlwg bod ganddynt ddiddordeb yn hyn, ac mae'n briodol inni glywed hynny. Ond pan fo'r Gweinidog yn dyfynnu trafodaethau a gafodd â gwahanol grwpiau sydd â diddordeb yn hyn, dydyn nhw ddim yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol. Maen nhw'n rhoi cyngor inni, wrth gwrs, ac mae'n bwysig inni fyfyrio yn ei gylch, ac felly yn sicr rwyf wedi edrych ar nodyn Tai Cymunedol Cymru yn yr ysbryd hwnnw. Maen nhw, drwy ganmol o ryw fath wrth fynd heibio, yn dweud eu bod yn croesawu'r

gwelliannau niferus a gyflwynwyd gennyf. 

Wel, mae'n rhaid imi ddweud fy mod o'r farn bod 'niferus',  yn golygu rhywbeth na ellid ei gyfrif, fel, ' Mae sêr niferus yn y bydysawd; ni ellir eu cyfrif.' Rwyf wedi cyflwyno 18 gwelliant. Rwy'n gobeithio nad yw'r Llywydd yn credu bod hynny'n rhy feichus. Sylwaf ar y gynghrair a ffurfiwyd rhwng y Llywodraeth a'r corff allweddol hwn, ac, wrth gwrs, nid yw hynny yn amhriodol mewn unrhyw fodd. Ond rwyf yn credu, o ddechrau'r Bil hwn, bod llawer o bobl wedi cymryd yn ganiataol ei bod yn dechnegol iawn, ac nad yw felly yn wirioneddol deilwng o graffu trwyadl a phroses briodol a deddfwriaethol lawn. Rwyf braidd yn siomedig, mewn rhai agweddau o leiaf, na welsom ni'r brwdfrydedd y gellid ei ddisgwyl. Mae'r gyfraith yn fater difrifol, ac mae dadreoleiddio, hyd yn oed pan orfodir hynny arnom ni a'i fod yn rhywbeth na allwn ei osgoi—cytunaf yn llwyr â hynny—yn gofyn am drylwyredd.

Felly, beth bynnag, mae gwelliannau 3 a 4 yn sicrhau bod unrhyw gyfuno neu newidiadau strwythurol eraill yn ddilys oni fydd y landlord cymdeithasol cofrestredig dan sylw wedi cynnal yn gyntaf ymgynghoriad y mae pob un o denantiaid y Gymdeithas wedi'u gwahodd i gymryd rhan ynddo. Mae'r gwelliannau hyn hefyd yn rhoi grym i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i nodi'r dulliau a'r amserlen sy'n berthnasol i unrhyw ymgynghoriad. Ac ni ellir gwneud y rheoliadau hyn oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i'r Cynulliad ei gymeradwyo, fel y gallwn ni gael rhywfaint o reolaeth a dylanwad ar natur y rheoliadau hynny.

Nawr, o'u cymharu â'r Bil yn yr Alban ar yr un mater â hwn yn union, mae'r gwelliannau hyn yn llai llym a chyfyng o ran cyfranogiad tenantiaid. Nid oeddwn eisiau cynnig pleidlais atal i denantiaid, fel, mewn gwirionedd, yn yr amgylchiadau, sy'n gallu digwydd yn yr Alban. Oherwydd mae materion ynghylch rheoli—hyd yn oed os ydyn nhw'n brin—amgylchiadau sydd o bosib yn rhai anodd iawn, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at rai o'r rhain fel pe byddent yn berthnasol i fy ngwelliannau i, er fy mod yn gwrthod hynny'n gryf iawn.

Felly, yn adrannau 6 a 7 o Fil yr Alban, mae'n rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â thenantiaid a chael eu cytundeb i ailstrwythuro mewn achosion lle byddai'r ailstrwythuro yn arwain at newid landlord ar gyfer y tenant neu'r landlord yn dod yn is-gwmni o gorff arall. Roedd hyn eisoes yn rhan o Fil yr Alban, fel y'i cyflwynwyd, felly mae'n amlwg i bawb, rwy'n tybio, sy'n gorfod gwneud hyn, yn ogystal â'r sefyllfa yn Lloegr, bod yn rhaid rhoi ystyriaeth lawn i hawliau ac amddiffyniadau tenantiaid wrth ailddosbarthu cymdeithasau tai, ac, yn amlwg, rwy'n ceisio rhoi ffurf lawnach o ddiogelwch i denantiaid, er nad yw mor gyfyng ag yn achos yr Alban. Felly, credaf mai'r lleiaf y dylem ei wneud yma yng Nghymru, yn y cyfnod hwn o ddiwygio, yw gwarantu bod gan denantiaid y cyfle i ymwneud a chymryd rhan, pan fo newid enfawr o'r fath yn digwydd o'u cwmpas o ran strwythur cyfansoddiadol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fel y dywedais yn y ddadl yng Nghyfnod 1, beth sy'n fwy grymus na rhoi datganiad fel hyn ar wyneb deddfwriaeth sylfaenol? Fel y dywedais, rydym wedi gwneud peth cynnydd, er nad cymaint ag y byddwn wedi ei ddymuno.  

Pan oeddem yn casglu tystiolaeth, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at hyn eisoes, roedd gennym, rwy'n credu, gefnogaeth gref TPAS Cymru, y corff tenantiaid. Rwy'n credu y cafwyd croeso mawr i hynny wrth ddatblygu syniadau'r is-bwyllgor a oedd yn ystyried hyn ac a ddarparodd eu hadroddiad. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth sy'n gwneud imi amau bod y pryderon hynny, mewn unrhyw fodd, yn amhriodol, a mynegodd TPAS Cymru eu barn drwy bwysleisio fod y ddeddfwriaeth yn bwysig iawn a, beth bynnag fydd yn digwydd, ni ddylai hynny atal y ddeddfwriaeth rhag cyrraedd y llyfr statud. Unwaith eto, dyna farn yr ydym ni i gyd yn ei goleddu.

Felly, mae'n fater o gydbwysedd, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael hynny'n gywir. Mae angen mwy o bwyslais ar gynnwys tenantiaid yn y penderfyniadau mawr sy'n digwydd o'u cwmpas. I bob pwrpas, y rhain yn eu bywydau a'u cartrefi, ac nid wyf yn credu ei bod yn ormod disgwyl i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o leiaf eu gwahodd i gynnig eu barn mewn ymgynghoriad.

Ar gyfer grŵp 1, nawr, mae'r Llywodraeth, fel y dywedais, wedi cydnabod y mater, ac wedi cyflwyno ei chynigion, ond rwyf eisoes wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fy mod yn credu bod ymateb y Llywodraeth yn fwy amwys o lawer na fy un i. Rwy'n credu bod eglurder mewn deddfwriaeth yn rhywbeth i'w groesawu. Felly, fy marn i yw, er fy mod yn croesawu'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud, rwy'n dal i gredu ei bod yn mynd ati mewn modd llugoer braidd ac nid wyf yn credu bod hynny'n ddigon da i ddiogelu tenantiaid. Mae geiriad gwelliant y Llywodraeth yn dweud bod

rhaid i gymdeithas hefyd roi datganiad i Weinidogion Cymru ynghylch yr ymgynghori a wnaeth y Gymdeithas gyda'i thenantiaid cyn pasio'r penderfyniad y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Eto, nid wyf yn credu bod hynny mor gadarn ag y dylem fod yn anelu ato. Mae braidd yn amwys ac, er nad yw'n arwynebol, teimlaf nad oes ganddo drylwyredd gwelliannau 3 a 4, yr wyf yn eu cynnig heddiw, i roi i Weinidogion Cymru yr hyblygrwydd i benderfynu ar ddull ac amserlen yr ymgynghori drwy gyfrwng rheoliadau y byddai gennym ni ryw ddylanwad drostynt. Byddai hynny'n sefyllfa gadarnach o lawer.

Felly, os caf i droi at y sylw, unwaith eto, y cyfeiriodd y Gweinidog ato—bod gwelliant wedi ei gyflwyno yn enw Nick Ramsay, sef gwelliant 1A, ac rwyf wedi cyflwyno hwn fel rhyw fath o bolisi yswiriant, rwy'n tybio, rhag ofn y byddai gwelliant 1 y Llywodraeth yn llwyddiannus. Ein barn ni yw bod yr eithriad ymgynghori ar gyfer amgylchiadau a nodir ym mhwynt (2B) y mae'r Llywodraeth yn ei gyflwyno, sef achos o drosglwyddo o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni, fel arfer dan orfodaeth ariannol—rydym ni o'r farn nad oes cyfiawnhad dros yr eithriad hwnnw.

Nawr, rydym ni wedi clywed llawer gan y Gweinidog am achosion o bwysau ariannol a bod yn rhaid symud yn gyflym neu mae'r holl beth yn dymchwel. Wel, gadewch imi ddweud bod y maes hwn yn dal i gael ei reoleiddio gan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, ac er mwyn i gymdeithas allu troi'n gwmni, mae gofyniad, na ellir ei osgoi, ar i'r gymdeithas yn gyntaf oll gynnal pleidlais ymysg aelodaeth y gymdeithas. Mae rhai amodau llym yn gysylltiedig â'r bleidlais hon, megis y gofyniad bod yn rhaid i 50 y cant o'r aelodau fod yn bresennol ac i o leiaf 75 y cant o'r rheini bleidleisio i drosi. Nawr, o'i gymharu â sefyllfaoedd eraill lle mae angen pleidleisiau aelodaeth, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod yr amodau hynny'n llym iawn. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw trosi yw newid sylweddol, byddwn yn anghytuno â hynny. Barn y Llywodraeth yw na fyddai hynny mewn gwirionedd nac yma nac acw iddyn nhw oherwydd nad yw eu landlord yn newid, dim ond natur cyfansoddiad y landlord. Wel, wyddoch chi, mae'r rheolau y mae gweithdrefn y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol yn seiliedig arnynt yn drylwyr ac arwyddocaol iawn. Os oes angen y cyfryw gefnogaeth gan yr Aelodau ar gyfer y newid hwnnw, pam nad yw'r tenantiaid yn cael unrhyw lais o gwbl? Yn ystod yr amser y mae'n rhaid bodloni gofynion y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol, mae digon o gyfle i gynnal ymgynghoriad. Credaf y gall fod yn rhesymol bod yr amgylchiadau yn dylanwadu ar union natur hyn, ac felly gallai'r Llywodraeth bennu sut y dylai hynny fod yn berthnasol.

Felly, rwy'n credu na ddylem gael ein twyllo y gallai newidiadau sylweddol iawn weithiau, hyd yn oed o dan orfodaeth ariannol, ddigwydd i strwythur yr hyn a oedd yn gymdeithas dai. Ac yn yr amgylchiadau hynny o ddadreoleiddio a newid, dylai fod yn ofynnol sicrhau diogelwch sylweddol i denantiaid, ac o leiaf rywfaint o ymgynghori. Felly, pe bai'r Cynulliad yn penderfynu cymeradwyo gwelliant 1 o eiddo'r Llywodraeth yn hytrach na gwelliannau 3 a 4 o'n heiddo ni, sy'n cynnig yr amddiffyniad priodol cynhwysfawr—pe byddech chi yn cymeradwyo gwelliant 1, rwy'n gobeithio y byddwch chi wedyn yn cymeradwyo gwelliant 1A o'n heiddo, sydd o leiaf yn sicrhau bod dull y Llywodraeth, yn gyfyngedig fel y mae, yn dal yn berthnasol i'r achosion hynny o newid sy'n gysylltiedig â sefyllfa ariannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gymdeithas ddod yn gwmni. Felly, felly rwy'n cynnig hynny. 

16:40

Bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac rydym ni'n bwriadu cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn ar y cam hwn. Ond hoffwn achub ar y cyfle i egluro beth yw ein dull ni o weithredu'r ddeddfwriaeth hon, fel y gwnaeth David Melding hefyd. Rydym wedi cefnogi egwyddor y ddeddfwriaeth, mewn ffordd bragmatig, ers iddi ddod yn amlwg y byddai penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol fel sefydliadau sector cyhoeddus yn cael effaith sylweddol ar allu'r sector i ariannu tai newydd. Ar y cynsail hwnnw, dylwn ddweud, yr ydym yn ei gefnogi. Ond yn yr un modd, mae wedi dod yn amlwg y gallai fod canlyniadau annisgwyl i'r ddeddfwriaeth hon a ddylai fod yn bryder i bawb ohonom, yn arbennig o ran cyfranogiad tenantiaid. Rydym wedi bod yn gyson ynghylch hyn o'r dechrau'n deg, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn ein gwelliannau ochr yn ochr â David Melding yng Nghyfnod 2, ac yn ein dogfen naratif ynghylch y Bil penodol hwn. Ceir nifer o enghreifftiau lle nad yw cyfranogiad tenantiaid wedi bodloni'r safon, hyd yn oed o fewn y deddfau presennol, heb sôn am beth allai ddigwydd yn sgil y ddeddfwriaeth hon—er enghraifft, y diffyg ymgynghori a fu pan ddaeth Tai Cantref dan reolaeth Tai Wales and West. Ac rydym ni wedi gweld rhywbeth tebyg yn digwydd o ran ailddosbarthu colegau addysg bellach lle, er enghraifft, mae Coleg Dinbych yn cau heb unrhyw ymgynghori ac mae hynny'n amharu'n fawr ar y myfyrwyr—rhywbeth nad yw ond yn bosib oherwydd ailddosbarthu. 

O ran y pwynt hwnnw—ac os caf ddatgan buddiant, gan fy mod yn aelod o Wales and West—o ran y ffaith i Wales and West gymryd Tai Cantref dan ei reolaeth, yn hynny o beth, ni fu unrhyw ymgynghori o gwbl gyda'r tenantiaid, fel y dywedwch, o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Creodd lawer iawn o anfodlonrwydd, sy'n dal i fodoli, gyda phobl yn ansicr ynghylch a yw'r landlord newydd hwn mewn gwirionedd yn atebol iddynt. Felly, mae'n newid diwylliant y berthynas rhwng tenantiaid a'r landlord os nad oes gennych chi gyfranogaeth lawn, a dyna pam fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar y gwelliannau hyn i weld ymhle y gallwn ni wella'r Bil hwn yn hynny o beth.

Ie, a dyna'n union pam yr ydym ni wedi codi pryderon ym mhob cyfnod, ac rwy'n credu bod hynny'n wir i ddweud ynglŷn â'n pryderon am y dyfodol, oherwydd os yw hynny'n digwydd nawr, sut allwn ni sicrhau drwy gyfrwng y Bil hwn nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol? Felly, byddwn yn gwrando'n ofalus ar ymateb y Llywodraeth i'r gwelliannau hyn, ond rydym ni ar hyn o bryd yn bwriadu hefyd gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Nick Ramsay a David Melding, i helpu i gryfhau'r amddiffyniad sydd ar gael i denantiaid pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn mynd drwy newidiadau mawr. Ac rwyf wedi bod yn gwrando ar y ddadl eisoes heddiw, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, fy mod yn gadarnach fy marn bod angen inni gyflwyno'r gwelliannau hyn, oherwydd mae'r rhain yn rhesymau sylfaenol, mewn gwirionedd, ynghylch sut y mae newidiadau'n digwydd. Os ceir argyfwng ariannol, neu os oes angen i sefydliad fynd i law'r derbynnydd, mae mwy o reswm, mewn gwirionedd, i ymgynghori, oherwydd gallai gael effaith andwyol ar y tenantiaid ac ar sut y maen nhw'n byw eu bywydau. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried ymhellach ar hyn o bryd ac yng nghyfnodau eraill y Bil. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd bod gan landlordiaid cymdeithasol berthynas unigryw a gwahanol â'u tenantiaid i landlordiaid eraill, ac mae'n gwbl briodol ymgynghori â thenantiaid ac mae'n hollbwysig gwrando arnynt.

Mae perygl y gall y Bil hwn arwain i bob pwrpas at landlordiaid cymdeithasol yn dod yn fwy tebyg i fentrau preifat—a gwnaed y sylw ynghylch dadreoleiddio eisoes—a gall arwain at gymdeithasau tai yn arallgyfeirio sut maen nhw'n adeiladu eu stoc, ac mae gwir angen inni gadw golwg ar hynny. Dyma pam fy mod i'n credu ei bod yn bwysig bod gennym ni fesurau diogelu yn y Bil hwn. Rwy'n sylweddoli bod corff annibynnol wrthi'n cynnal ymarferiad ynghylch rheoliadau tenantiaid a'u cyfranogiad. Ond rwy'n credu y byddai'n dda pe gallai'r Llywodraeth ddeall, pan ymwelais â— ac rwy'n siŵr bod Aelodau Cynulliad eraill wedi ymweld â—chymdeithasau tai a siarad â'u tenantiaid, mae arnyn nhw eisiau mwy o gysylltiad a mwy o rym, ac nid llai o gysylltiad a llai o rym. Os gallwn wneud unrhyw beth o fewn ein gallu o ran deddfwriaeth i wella hynny, yna nid wyf yn gweld hynny yn rhywbeth negyddol.

16:45

Roeddem ni, yn UKIP, yn hapus i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac, fel y dywedais yn y ddadl gynharach yn y fan yma, gwnaethom hynny oherwydd mae angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru. Effaith y Bil hwn fydd gwrthdroi ailddosbarthiad y cymdeithasau tai i fod yn gyrff cyhoeddus, gyda chanlyniadau a fyddai'n effeithio ar fenthyca yn y sector cyhoeddus. Felly, mae hynny'n amlwg er budd y cyhoedd, ac am y rheswm hwnnw mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil. 

Wedi dweud hynny, rydym yn awyddus bod hawliau tenantiaid cymdeithasau tai yn cael eu hamddiffyn. Credwn fod y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr heddiw yn gwella'r Bil. Maen nhw'n rhoi cyfle i denantiaid ymgysylltu a chael gwrandawiad pan fo eu landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu newidiadau mawr. Yng ngoleuni ein dadleuon diweddar yma yn y Siambr hon yn ymwneud â hawliau rhydd-ddeiliad a diwygiadau i lesddeiliadaeth, ac roedd UKIP yn gefnogol i'r ddau beth, gwelwn y gwelliannau hyn yn rhesymegol ac yn ymgais adeiladol i wella'r ddeddfwriaeth hon. Am y rheswm hwnnw, bydd UKIP yn cefnogi pob un o welliannau'r Ceidwadwyr heddiw.

O ran gwelliant y Llywodraeth—gwelliant 1—teimlwn ei fod braidd yn gyfyng, ac y gallai olygu dim llais i denantiaid pe byddai eu cymdeithas dai yn newid dwylo. Gwn, yn y Cyfnod Pwyllgor, fod y Gweinidog wedi dweud bod cyfathrebu priodol gyda thenantiaid,

yn y sefyllfaoedd hyn, yn rhan o'r canllawiau rheoleiddiol, ac y cedwir trosolwg rheoleiddiol o hynny.

Rydym yn derbyn y sylw hwnnw, ond ar y cyfan, byddai'n well gennym ni pe byddai hawliau tenantiaid yn yr amgylchiadau hynny yn cael eu rhoi yn y Bil yn hytrach na mewn canllawiau. Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 o eiddo'r Llywodraeth heddiw. Diolch yn fawr.

Rwy'n falch o gynnig gwelliant 1A—polisi yswiriant David Melding, i ddefnyddio'i eiriau ef. Byddai'n well gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, pe cai'r gwelliannau eraill eu pasio yn lle hynny. Ond fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau, os nad yw hynny'n digwydd, yna rydym ni yn credu bod cyfiawnhad o leiaf i wneud yn siŵr yr ymgynghorir yn benodol â phreswylwyr o ran y newid hwnnw rhwng cymdeithas gofrestredig a chwmni.

Gwrandewais yn astud ar sylwadau agoriadol y Gweinidog, ac fe wnaethoch ddefnyddio'r ymadrodd, 'rydym ni eisiau rhoi tenantiaid wrth wraidd y broses hon'—rhywbeth mewn gwirionedd yr ysgrifennais i lawr fy hun, ar fy nodiadau i fy hun yn fan hyn, cyn ichi ddweud hynny. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno mai dyna yw nod y ddeddfwriaeth hon. Rydym ni'n credu yma, fel y mae pethau ar hyn o bryd, os nad ydych chi'n derbyn ein gwelliannau, yna ni fydd y system mor gadarn ag y gallai fod. Fel y dywedodd David Melding, os ydych chi'n rhoi hyn ar wyneb y Bil, yna mae hynny'n rhoi sicrwydd i denantiaid cymdeithasau yr ymgynghorir yn llawn â nhw pan ac fel sy'n angenrheidiol. 

Fel y dywedodd Simon Thomas yn ei sylwadau, bu drwgdeimlad hyd yma oherwydd nid yw tenantiaid yn teimlo yr ymgynghorwyd â nhw o hyd pan fu newid diwylliannol yn y sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu eu cartref iddynt. Nid yw hynny wedi bod yn ddigon da yn y gorffennol. Rydym ni eisiau cefnu ar hynny, felly byddwn yn annog yr Aelodau, yn gyntaf oll, i gefnogi'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, ond os na ellir gwneud hynny, i gefnogi'r gwelliant hwn.