National Assembly for Wales

Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/02/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Nid yw Angela Burns yma i holi cwestiwn 1, ac felly, cwestiwn 2, David Rowlands.

Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OAQ51755].

Cyfraith Gynllunio

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symleiddio'r gyfraith gynllunio yng Nghymru i'w gwneud yn haws i'w deall? OAQ51744

Member
Lesley Griffiths AM 13:30:30
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch. Yr wythnos hon, cyhoeddais yr ymgynghoriad, 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd wedi'i ddiwygio'n llwyr i'w wneud yn symlach. Yn ychwanegol at hynny, rwyf wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith gynnal adolygiad o’r gyfraith gynllunio yng Nghymru i ddarparu argymhellion ar symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried deddfau cynllunio, ond oni fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod yn rhaid i symlrwydd fod yn elfen allweddol o ymagwedd y Llywodraeth tuag at unrhyw newidiadau i ddeddfau sy'n rheoli cynllunio, yn enwedig o gofio bod deddfau cynllunio yng Nghymru mor gymhleth ar hyn o bryd, a'i bod yn anodd eu dehongli weithiau, a bod y gwahaniaeth cynyddol rhwng deddfau cynllunio Cymru a Lloegr, efallai, yn gwaethygu'r sefyllfa?

Gall deddfwriaeth newydd a wneir yn y Cynulliad ac yn Senedd y DU fod yn berthnasol i Gymru yn unig, i Loegr yn unig neu i Gymru a Lloegr, ac mae hynny’n creu system gynllunio gymhleth iawn. A allwch roi sicrwydd inni, Weinidog y Cabinet, y byddwch chi’n yn ystyried y pryderon hyn pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth?

Yn sicr, credaf fod gwir angen symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio Cymru, ac yn sicr, o ran y papur cwmpasu a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith ym mis Gorffennaf 2016—credaf fod oddeutu 94 y cant o'r ymatebwyr wedi dweud yn glir fod angen ei symleiddio, felly yn sicr, ni fuaswn yn dadlau yn erbyn hynny.

Credaf, hefyd, ers i mi fod yn gyfrifol am y portffolio hwn, fod nifer fawr o randdeiliaid wedi dweud wrthyf eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn ymdopi gyda’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n gymhleth iawn. Felly, credaf fod yn rhaid i’r gwaith o symleiddio fod ar ben y rhestr.

Prynhawn da, Weinidog. Ar hyn o bryd, bydd caniatâd cynllunio fel arfer yn dod i ben oni bai bod gwaith datblygu yn dechrau o fewn tair blynedd. Gall awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad cwblhau sy'n nodi y bydd y caniatâd cynllunio yn dod i ben os bydd cyfnod penodedig arall yn dod i ben, ond nid oes ganddynt bŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygiad gael ei gwblhau. Dyna'r senario. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i symleiddio'r broses ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cwblhau drwy roi pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru nodi dyddiad ar gyfer cwblhau datblygiad? Diolch.

Nid yw hynny'n rhywbeth a wneuthum cyn yr ymgynghoriad a lansiais ddydd Llun. Felly, mewn perthynas â’r gyfraith gynllunio, sef y cwestiwn gwreiddiol, soniais fod gennym ddau ymgynghoriad ar waith ochr yn ochr â’i gilydd—ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith a’r un a lansiais ddydd Llun. Ac yn sicr, o fewn yr ymgynghoriad 'Polisi Cynllunio Cymru', mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd gennyf ynghylch eglurder y gyfraith gynllunio mewn perthynas ag amlfeddiannaeth a'r ffordd y mae hynny wedi cael effaith arbennig ar rannau o'm hetholaeth, yn enwedig Trefforest, lle mae cymunedau'n dechrau chwalu oherwydd y cynnydd sylweddol mewn tai amlfeddiannaeth. A allwch amlinellu beth yw'r safbwynt o ran tai amlfeddiannaeth a'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â chyflwyno sylwadau ar ran y cymunedau sydd dan fygythiad yn y ffordd honno?

Diolch. Ydw, rwy’n ymwybodol iawn o'ch pryderon ac rwy'n rhannu eich pryderon. Credaf inni gael cyfarfod adeiladol iawn gyda fy swyddogion sydd, fel y gwyddoch, yn dadansoddi'r apeliadau cynllunio a gyflwynwyd mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth ledled Cymru—ym mhob rhan o Gymru, rwy'n credu—i nodi a oes unrhyw faterion penodol y mae angen inni edrych arnynt.

Fe fyddwch yn ymwybodol mai cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid cyflwyno polisïau lleol er mwyn asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer tai amlfeddiannaeth, ar ôl iddynt ystyried costau a buddion pob cais unigol. Ac rwy’n deall bod cyngor Rhondda Cynon Taf wedi paratoi canllawiau cynllunio atodol drafft ar dai amlfeddiannaeth yn ddiweddar, a bod hynny’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi'n fawr iawn.

 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae ffigurau diweddaraf am y gweithlu amaethyddol gan yr ONS, sydd wedi'u cyhoeddi y mis yma, yn dangos bod 53,500 o weithwyr yn y sector yng Nghymru, a, gyda llai na 5 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol, mae yna 11.5 y cant o'r holl weithwyr amaethyddol yma yng Nghymru. Felly, mae'n deg i ddweud, rwy'n meddwl, wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, dyma enghraifft arall o sut y mae'r sector amaeth yn mynd i fod yn agored i newid yn sylweddol iawn, a dwywaith yn fwy tebyg, yn fras iawn, oherwydd y nifer yn y gweithlu sydd gyda ni. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet, felly, ein diweddaru ni ynglŷn â beth yw sefyllfa y trafodion bellach gyda'r Llywodraeth yn San Steffan, a'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ynglŷn â sefydlu fframwaith ar gyfer amaeth wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a sicrhau bod llais Cymru, a hawliau y gweithlu Cymreig, yn rhan o'r fframwaith hwnnw?

13:35

Diolch am eich cwestiwn, Simon. Fe fyddwch yn gwybod am ein cyfarfodydd pedairochrog. Nid ydym wedi cyfarfod ers cyn y Nadolig, ond byddwn yn cyfarfod wythnos i ddydd Llun, mewn gwirionedd, yma yng Nghaerdydd, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a hefyd, yn amlwg, fy swyddogion cyfatebol o’r Alban, ac yn ôl pob tebyg, yr Ysgrifennydd Parhaol o Ogledd Iwerddon. Mae’n amlwg fod gweithlu’n fater pwysig i'r sector amaethyddol, ac yn sicr, o ran y tair fferm ddiwethaf yr ymwelais â hwy dros y mis diwethaf, roedd gan bob un ohonynt nifer sylweddol o wladolion yr UE yn gweithio ar y fferm. Felly, gallwn weld pam y byddai’n broblem enfawr pe bai llai o allu gan ein ffermwyr, a'r sector amaethyddol, i gael gwladolion yr UE yn rhan o’r gweithlu.

Wel, rwy'n ddiolchgar am hynny. Wrth gwrs, mae'r mater o weithwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd yn fater o bryder, ond mae hefyd yn wir i ddweud y dylem ni ddefnyddio pob arf sydd gyda ni i helpu pobl ifanc yng Nghymru, er enghraifft, i lwyddo mewn amaeth. Rydych chi'n gwybod, wrth gwrs, ein bod ni wedi dod i gytundeb am £6 miliwn ar gyfer cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc, ac mae'r diddordeb yn y cynllun yma wedi bod yn syfrdanol a dweud y gwir, ac mae nifer y ffermwyr ifanc sydd wedi mynegi eu bod nhw'n awyddus iawn i fentro yn y maes yn galondid, achos dydw i ddim yn rhannu eu hysbrydoliaeth bob tro, o wynebu beth sydd gan Brexit. Ond rwy'n gweld bod pobl ifanc am fentro i mewn i amaeth ac rwyf eisiau i'r Llywodraeth gefnogi hynny gymaint ag sydd yn bosib. Rydych chi wedi dweud yn gyhoeddus eisoes eich bod chi'n gobeithio y bydd y cynllun ar amser ac yn mynd i gael ei gyhoeddi yn fuan iawn. A fedrwch chi ddiweddaru'r Cynulliad cyfan ynglŷn â beth rydych chi'n gobeithio ei gael allan o'r cynllun yma erbyn hyn, ac ym mha ffordd rydych chi'n gobeithio y bydd y cynllun ar gyfer ffermwyr ifanc yn cefnogi ac yn paratoi y gweithlu cyfan ar gyfer heriadau Brexit?

Diolch. Fel chi, Simon, mae'n galonogol iawn gweld pobl ifanc yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth, a chamu ymlaen, a bod yn gyfrifol am eu daliad eu hunain, er enghraifft. Ac fe fyddwch yn gwybod mai'r prif fater o ran y cynllun yw mai dyma'r tro cyntaf iddynt fod yn gyfrifol am eu daliad eu hunain. Felly, yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw rhoi—credaf ei fod yn swm sylweddol o arian—oddeutu £40,000, er mwyn galluogi hynny i ddigwydd. Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn y cynllun. Mae swyddogion yn dal i weithio ar y manylion penodol, felly ni allaf roi diweddariad ar hynny. Fodd bynnag, byddwn yn barod ar 1 Ebrill, ac rwy’n gwbl argyhoeddedig y byddwn yn barod ar 1 Ebrill. Ac yn amlwg, fe sonioch fod £6 miliwn ar gael, o gytundeb y gyllideb rhwng ein dwy blaid—£2 filiwn, ac yna £4 miliwn yn yr ail flwyddyn. Felly, rwy'n gwbl argyhoeddedig y byddwn yn gwario'r holl arian hwnnw, a phwy a ŵyr, efallai y bydd hyd yn oed mwy o ddiddordeb ynddo. Ond yn sicr, rwy’n awyddus i annog pobl ifanc i wneud cais amdano.

Diolch am hynny. Rwy'n edrych ymlaen at y cynllun yn cael ei lansio, wrth gwrs, ond rwy'n edrych ymlaen yn fwy fyth i weld, ymhen dwy flynedd, y bydd gyda ni bobl ifanc nawr yn gyfrifol am ddaliadau tir am y tro cyntaf, ac yn dangos y ffordd i ni ar gyfer amaeth ar gyfer y dyfodol. Rwy'n hyderus iawn bod y syniadau gan ffermwyr ifanc Cymru i wneud hynny.

Ond, fe wnaf i gloi ar agwedd arall o adael yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn wahanol yng Nghymru i'r hyn yw e dros y ffin yn Lloegr, neu dros y môr yn Iwerddon, achos rwy'n sôn am bysgodfeydd. Cyhoeddwyd adroddiad ar bysgodfeydd yng Nghymru ddoe gan Public Policy Institute Cymru. Mae hynny yn dangos, wrth gwrs, beth sy'n fwy pwysig i'r math o bysgotwyr sydd gyda ni yng Nghymru, sy'n dueddol o fod yn llai o faint, ac sy'n dueddol o bysgota am gregyn yn hytrach na physgod fel y cyfryw—eu bod nhw am gael mynediad i'r marchnadoedd Ewropeaidd yna, yn agored a di-dariff, yn hytrach nag efallai y berchnogaeth dros y moroedd sydd yn dueddol o fod wedi llywio'r drafodaeth ynglŷn ag, er enghraifft, CAF a'r polisïau Ewropeaidd.

Pan wnes i ymweld ag Aberdaugleddau, ges i fy nharo gan gymaint o brosesu a oedd yn digwydd yng Ngwlad Belg, ond roedd y bwyd môr yn cael ei hel a'i gasglu ym Mae Ceredigion, ac mae llawer yn cael ei gludo yn ôl ac ymlaen mewn loris drwy Gymru. Felly, beth fedrwch chi ei wneud fel Llywodraeth nawr i sicrhau bod mwy o brosesu'n digwydd yma yng Nghymru, a hefyd i sicrhau, serch hynny, ein bod ni'n dal i fod yn gallu gwerthu bwyd wedi'i brosesu, gyda gwerth ychwanegol, yn uniongyrchol i mewn i farchnadoedd sydd yn dal i fod yn bwysig i ni?

13:40

Ie. Y bore yma, cyfarfûm â chynrychiolwyr cymdeithas bysgota Cymru, ac ni fyddwch yn synnu wrth glywed bod parhau i fod yn ddi-dariff yn hynod bwysig iddynt. Byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ddoe ei fod wedi clywed, pan oedd yn Iwerddon ddydd Llun, am bum lori o bysgod na allent fynd allan o'r wlad, ac yn sicr, mae'r cynrychiolwyr y cyfarfûm â hwy y bore yma hyd yn oed yn fwy pryderus bellach y gallai’r sefyllfa honno godi hyd yn oed yn amlach yn y dyfodol ar ôl Brexit oni bai bod Llywodraeth y DU yn gwneud pethau'n gwbl gywir o'r cychwyn cyntaf. Felly, byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hyn gyda fy swyddogion cyfatebol, yn sicr gyda Llywodraeth y DU, a gwn, mewn perthynas â masnach a masnach ddi-dariff, y bydd Prif Weinidog Cymru, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn parhau â’r trafodaethau.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mai y llynedd, tynnais sylw at adroddiad y Groes Las, 'Unpicking the Knots', a ddywedai mai’r tro diwethaf i’r Llywodraeth gyflwyno cyfraith benodol i reoleiddio gwerthiant anifeiliaid anwes oedd 1951. O gofio bod yr oes wedi newid gryn dipyn ers Deddf Anifeiliaid Anwes 1951, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol, a chyflwyno deddfwriaeth newydd efallai i reoleiddio’r broses o werthu anifeiliaid anwes yma yng Nghymru?

Yn sicr, rydym yn edrych ar ba ddeddfwriaeth sydd ei hangen arnom mewn perthynas â lles anifeiliaid. Fe fyddwch yn gwybod bod llawer ohoni'n hen iawn, ac rydym yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â’r Bil lles anifeiliaid (dedfrydu a chydnabod ymdeimlad), er enghraifft. Ond mewn perthynas ag anifeiliaid anwes, rydym wedi bod yn edrych ar y cod ymarfer hefyd, a byddaf yn gwneud datganiad—ym mis Mawrth, rwy’n credu—ynglŷn â phecyn, naill ai o ddeddfwriaeth, mesurau neu drwyddedu sydd ei angen arnom mewn perthynas â lles anifeiliaid.

Wel, rwy'n falch o glywed y byddwch yn gwneud datganiad ar y mater penodol hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae un o'r materion anos y mae angen mynd i'r afael â hwy yn ymwneud â faint o weithgarwch didrwydded sy’n mynd rhagddo a'r cynnydd o ran gwerthu anifeiliaid ar-lein yng Nghymru. Mae natur anweledig y system fasnachu hon wedi golygu bod llawer o werthwyr ar-lein yn gallu osgoi deddfau bridio a gwerthu anifeiliaid anwes, ac yn anad dim, nid yw'n ystyried lles anifeiliaid. Felly, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu’r mater lles anifeiliaid hwn hyd yma, ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn ar frys?

Soniais y byddaf yn gwneud datganiad ym mis Mawrth, felly ni allaf roi diweddariad penodol i chi ar hyn o bryd. Nid nad yw hyn wedi bod yn flaenoriaeth, ond fe fyddwch yn gwybod bod yna lawer o flaenoriaethau, ac mae lles anifeiliaid yn uchel iawn, yn sicr, ar fy agenda i ac ar agenda Llywodraeth Cymru. Felly, mae swyddogion yn gweithio i gyflwyno pecyn o fesurau mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac fel y dywedais, byddaf yn gwneud datganiad yn y Siambr ym mis Mawrth.

Gwyddom eisoes fod awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd gorfodi rheoliadau ar siopau anifeiliaid anwes a bridwyr cŵn, ac felly efallai fod cyfle i Gymru arwain drwy ddatblygu system drwyddedu a chofrestru bwrpasol ar gyfer unrhyw un sy'n bridio neu'n gwerthu anifeiliaid, a fyddai'n cynnwys yr holl werthwyr, o siopau anifeiliaid anwes i fridwyr ar-lein. Felly, pan fyddwch yn gwneud y datganiad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf, a wnewch chi ymrwymo i feddwl o ddifrif am rinweddau system gofrestru a thrwyddedu bwrpasol ar gyfer bridwyr a gwerthwyr anifeiliaid anwes yng Nghymru?

Rwy'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw beth a fydd, yn amlwg, yn gwella safonau lles anifeiliaid. Nid yw awdurdodau lleol wedi lleisio'r pryder hwnnw’n benodol, ond unwaith eto, os oes gennych unrhyw wybodaeth benodol yr hoffech ei rhoi i mi, croeso i chi wneud hynny.

Diolch, Lywydd. Mae pysgodfeydd mewndirol a physgota dŵr croyw yn rhan bwysig o'r economi wledig. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amcangyfrif bod oddeutu 1,500 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu'n uniongyrchol arnynt. Er bod pob un ohonom yn bryderus ynglŷn â niferoedd eogiaid a sewin yn ein hafonydd yng Nghymru, tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth yw ei barn ynglŷn â chynigion Cyfoeth Naturiol Cymru i roi polisi dal a rhyddhau gorfodol ar waith am 10 mlynedd, yn ogystal â chyflwyno gwaharddiad cyffredinol ar enweirwyr rhag mynd ag unrhyw eogiaid y maent yn eu dal adref i’w bwyta. Mae'r gymuned enweirio yn bryderus iawn am hyn oherwydd, yn amlwg, mae dal pysgodyn a mynd ag ef adref yn rhan annatod o bysgota i lawer iawn o enweirwyr, ac yn rhan o fwynhad y gamp. Pe bai hyn yn arwain at rwystro pobl rhag dod i Gymru, yn enwedig i fwynhau pysgota yn ein hafonydd, mae’n bosibl y gallai hynny niweidio twristiaeth yng nghefn gwlad hefyd.

13:45

Rwy'n aros i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno eu hargymhellion, yn dilyn eu hymgynghoriad ar hyn. Rwy'n disgwyl hynny o fewn y deufis nesaf, yn ôl pob tebyg. Felly, ar hyn o bryd, ni allaf wneud sylwadau.

Iawn. Wel, rwy’n deall safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny. Ceir rhesymau amrywiol iawn dros y dirywiad mewn stociau pysgod yn ein hafonydd. Un ohonynt yw ysglyfaethu gan adar sy'n bwyta pysgod. Mae llawer iawn o dystiolaeth i'w chael bellach. Mae'r Ymddiriedolaeth Genweirio wedi cynhyrchu cronfa ddata, er enghraifft, o ysglyfaethwyr mewn mannau mewndirol. Mae'n debyg fod mulfrain, bellach, yn ffactor pwysig yn hyn o beth. Er mai adar y môr a ydynt yn y bôn, mae llawer ohonynt yn mynd â physgod o'n hafonydd a chredaf eu bod yn peri cryn fygythiad i eogiaid ifanc yn enwedig. Mae trwyddedau’n cael eu rhoi ar gyfer cael gwared ar ysglyfaethwyr, sy'n lleihau maint y broblem. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried ei gwneud yn haws i fod yn gymwys am y trwyddedau hyn. Bydd hyn yn ateb rhannol, o leiaf, i broblem gynyddol sydd gennym gyda'n hafonydd.

Unwaith eto, nid yw hwnnw'n fater sydd wedi'i ddwyn i fy sylw, ond byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, godi'r mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyfarfod nesaf.

Ac mae'n debyg mai'r broblem nad yw'r rhan fwyaf o bobl am ei thrafod yw graddau llygredd afonydd. Gwn fod hwn yn fater llawer mwy na stociau pysgod yn unig. Rydym wedi cael sawl dadl yma am gynigion ar gyfer parthau perygl nitradau ac ati, ond er nad oes unrhyw un yn gwadu bod gennym broblem gyda llygredd, mae gweithredu gwirfoddol yn mynd i'r afael â'r broblem honno, i raddau helaeth. Rydym wedi tynnu sylw yn y gorffennol at y cynlluniau yn Sir Benfro sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae llygredd yn lladd mwy o lawer o eogiaid a sewin bob blwyddyn nag y byddai'r argymhellion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer mesurau rheoli ar gamddefnyddio rhwydi a physgotwyr eogiaid a sewin môr yn eu hachub, ac felly mae hon yn broblem y dylid ei hystyried yn ei chyfanrwydd yn hytrach na'i phriodoli i'r naill achos dros un arall. Felly, wrth iddi ystyried cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru, gobeithiaf y bydd yn cyflwyno elfen o gymesuredd i'r argymhellion a gyflwynwyd ganddynt. Oherwydd ceir ymdeimlad fod Cyfoeth Naturiol Cymru, yng Nghymru, yn cynnig rhywbeth sy'n llawer mwy llym na'r hyn a fydd yn digwydd yn Lloegr, yn benodol. Felly, gan ddychwelyd at yr hyn y buom yn ei drafod yn gynharach, yng nghwestiwn Simon Thomas, ynghylch trafodaethau gyda'ch swyddog cyfatebol yn Lloegr ynglŷn â materion amaethyddol, mae angen inni fod yn ymwybodol yng Nghymru o'r sefyllfa mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a’r argymhellion ar gyfer gwella, sy'n cael eu cyflwyno gan Weinidogion eraill. Mae'n rhaid inni beidio â rhoi pysgotwyr yng Nghymru, yn arbennig, o dan anfantais ddiangen.

Credaf fod cymesuredd yn bwysig iawn mewn unrhyw gamau a gymerwch. Fe sonioch am weithredu gwirfoddol. Yn sicr, y rheswm pam y gwneuthum y datganiad a wneuthum ar Barthau Perygl Nitradau oedd oherwydd, er nad wyf yn credu bod y mathau presennol o gynlluniau gwirfoddol wedi gweithio yn y ffordd y byddem yn dymuno iddynt weithio—ac rydym wedi gweld cryn dipyn o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd, er enghraifft—rwy’n credu, os gallwch weithio gyda'r sector, fod hynny'n well o lawer na chyflwyno deddfwriaeth, a dyna pam y gwneuthum y datganiad a wneuthum. Ond unwaith eto, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd godi hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyfarfod rheolaidd nesaf.

Cwestiwn 3: nid yw Mark Reckless yn bresennol i ofyn cwestiwn 3. Dyma’r ail Aelod o fewn tri chwestiwn. Felly, a gaf i ofyn i’r rheolwyr busnes—ac un, yn enwedig, y prynhawn yma—sicrhau presenoldeb yr Aelodau sydd wedi datgan eu bwriad i ofyn cwestiynau yn y dyfodol, yna fe fyddaf i’n gwerthfawrogi hynny?

Ni ofynnwyd cwestiwn 3 [OAQ51764].

Mesuryddion Deallus

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae mesuryddion deallus yn ei chael ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ51750

13:50

Diolch. Mae mesuryddion deallus yn fater heb ei ddatganoli, ond rydym yn gweithio gyda Smart Energy GB ac Ofgem i sicrhau bod anghenion defnyddwyr Cymru yn cael eu hystyried wrth ddarparu mesuryddion deallus. O fewn y pwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, y ffordd fwyaf uniongyrchol y gallwn fynd i'r afael â thlodi tanwydd yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.

Bythefnos yn ôl, roeddwn gyda Nwy Prydain yn trafod y broses o ddarparu mesuryddion deallus yng Nghymru; bellach, mae 47,000 wedi'u gosod mewn cartrefi yng Nghanol De Cymru. Maent yn rhan o'r ateb. Yn amlwg, fel defnyddiwr mwy deallus, gallwch gadw golwg ar effaith eich defnydd o ynni. Wrth gwrs, ynghyd â gwell inswleiddio, gall hynny fod yn ffactor allweddol wrth leihau tlodi tanwydd. Felly, hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru, ynddi'i hun a chydag awdurdodau lleol, yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision mesuryddion deallus. Er nad ydych yn uniongyrchol gyfrifol am y rhaglen, mae gwybodaeth yn y lle cyntaf yn wirioneddol hanfodol i ddefnyddwyr.

Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Er ei fod yn fater a gedwir yn ôl, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Smart Meter GB. Yn amlwg, fe'u penodwyd gan Lywodraeth y DU i gyflwyno'r ymgyrch defnyddwyr—i hyrwyddo'r defnydd o fesuryddion deallus mewn adeiladau domestig ac annomestig.

Credaf mai'r un peth rwyf wedi'i ddysgu gan Smart Meter GB yw bod y mwyafrif helaeth o bobl sydd â mesurydd yn dod yn frwdfrydig iawn ynglŷn ag arbed ynni. Bydd y brwdfrydedd hwnnw'n parhau, gobeithio, felly credaf mai hwnnw yw'r peth mwyaf i mi ei ddysgu gan Smart Meter GB.

Ysgrifennydd y Cabinet, gall mesuryddion deallus fod yn offeryn hollbwysig i newid ymddygiad, gan ein galluogi i roi pris ar y golau sy'n cael ei adael ymlaen neu weld faint mae'n gostio i adael dyfais ar y modd segur. Fodd bynnag, gall mesuryddion deallus hŷn glymu cwsmeriaid at un cyflenwr gan eu bod yn ddiwerth wrth newid i gyflenwr newydd, ac yn aml, mae'n rhaid i gwsmeriaid dalu am fesurydd deallus newydd yn lle'r un twp. Mae Llywodraeth y DU wedi caniatáu i gwmnïau ynni barhau i osod mesuryddion cenhedlaeth gyntaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau mai dim ond mesuryddion manylebau technegol 2 ar gyfer offer mesur deallus y mae cwsmeriaid yng Nghymru yn eu derbyn?

Wel, nid yw hwnnw'n fater sydd wedi'i godi gyda mi, ond yn sicr, byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn nodi eich sylwadau a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn derbyn y mesuryddion mwyaf diweddar sydd ar gael.FootnoteLink

Datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri

5. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn dilyn y penderfyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi trwydded weithredu ar gyfer y datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri? OAQ51760

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi gwybod i ddatblygwr y safle biomas eu bod yn ystyried ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno asesiad o'r effaith amgylcheddol ochr yn ochr â'u cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd. Bydd unrhyw sylwadau a wneir ganddynt yn cael eu hystyried cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

Wel, rwy’n croesawu hynny. Credaf fod hynny'n dangos rhywfaint o gynnydd, ond a ydych hefyd yn croesawu, fel finnau, y datganiad ddoe gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei bod yn ystyried sut y caiff trwyddedau amgylcheddol eu rhoi yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae hi wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddangos sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei rhoi ar waith mewn perthynas â'r broses drwyddedu amgylcheddol. Bydd trigolion y Barri a'r Fro yn croesawu hyn, gan eu bod yn teimlo bod eu pryderon a'u tystiolaeth ar yr effaith ar iechyd y cyhoedd ac effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri, a adeiladwyd yng nghanol y Barri, yn agos at eu cartrefi, ysgolion, ysbytai a siopau, wedi cael eu hanwybyddu wrth roi trwydded.

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n deall pryderon y trigolion a'r Aelod, ac yn cydnabod y rhan y mae’r Aelod wedi ei chwarae’n gwneud sylwadau ar y mater hwn ar ran ei hetholwyr.

O ran y cyhoeddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae ein canllawiau yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn glir fod y Ddeddf yn cynnig cyfleoedd i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gellir cyflawni dyletswyddau mewn ffordd fwy integredig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn hyderus fod eu dyletswyddau statudol perthnasol yn cael eu cyflawni yn erbyn y meini prawf yn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Credaf ei bod yn deg dweud, ers imi gael fy ethol i'r sefydliad hwn, o safbwynt Bro Morgannwg, mai llosgydd y Barri, heb os, yw'r ymgyrch fwyaf wedi bod, ac ar draws y pleidiau gwleidyddol, hoffwn ychwanegu. Cymeradwyaf y gymuned o amgylch y llosgydd, a'r gymuned ehangach ym Mro Morgannwg, am y camau a gymerwyd ganddynt i ymladd yr ymgyrch hon. Ond mae yna broblem yn codi ynglŷn ag asesiadau o’r effaith amgylcheddol a'u haddasrwydd. A ydych wedi cael amser, ers ichi ddod yn Weinidog, i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd lle mae angen asesiadau o effaith amgylcheddol? A ydych yn credu bod y model y mae cyrff cyhoeddus yn enwedig, cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ei ddilyn ar hyn o bryd yn addas at y diben, gan gofio sylw comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth gwrs? Ond yn y pen draw, chi fel Llywodraeth a fydd yn pennu'r paramedrau ar gyfer y canllawiau i gyrff os ydynt yn rhoi asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar waith.

13:55

Diolch am eich cwestiwn. Gwn, hefyd, fod yr Aelod wedi bod yn uchel ei gloch mewn perthynas â'r mater hwn ac wedi gofyn nifer o gwestiynau o'r blaen ar ran trigolion ac etholwyr.

O ran yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, cyfeiria hyn at broses benodol i gydymffurfio â'r gyfarwyddeb AEA, felly pan fo'r AEA yn cael ei gymryd fel rhan o'r cais cynllunio, ac yn gweithredu fel ymgynghorai—[Anghlywadwy.]—mae'r pwynt amgylcheddol yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'n rhywbeth a fydd yn amlwg yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd hefyd.

Draenogod

6. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r adroddiad, The State of Britain's Hedgehogs Report 2018? OAQ51754

Diolch. Dylai'r gostyngiad parhaus yn niferoedd draenogod mewn ardaloedd gwledig yn y DU, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fod yn destun pryder i bob un ohonom. Bydd y canfyddiadau'n llywio'r broses o ddiweddaru'r cynllun gweithredu adfer natur i sicrhau ein bod yn cymryd camau priodol i gynorthwyo ein rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf, gan gynnwys draenogod.

Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i'r adroddiad a ddywedai fod cyrff cadwraeth yn anwybyddu'r ffeithiau o ran effaith moch daear ar niferoedd draenogod. Ni allaf lai na meddwl tybed a oedd hwnnw'n ddatganiad gwleidyddol gyda'r nod o gyfiawnhau difa moch daear. Nid oedd Undeb Amaethwyr Cymru yn teimlo y dylai arferion ffermio gael y rhan fwyaf o'r bai am y gostyngiad yn niferoedd draenogod, er y toreth o waith ymchwil sy’n dangos mai amaethyddiaeth a rheoli tir sy’n cael yr effaith unigol fwyaf ar fywyd gwyllt, gydag 84 y cant o dir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi ystyried ac asesu goblygiadau'r datganiad hwn gan Undeb Amaethwyr Cymru, sy'n beio moch daear am y dirywiad, a hefyd i edrych ar y broses o roi'r newidiadau ar waith, fel y mae'r sefydliadau cadwraeth, sy'n sôn yn glir am blaladdwyr, yn ei ddymuno?

Nid wyf yn cytuno â honiadau Undeb Amaethwyr Cymru. Yn sicr, pan fyddwch yn darllen yr adroddiad, ni chredaf mai dyna sy'n sefyll allan. Pan fyddwch yn darllen yr adroddiad, mae'n nodi nifer o resymau pam fod draenogod yn fwy prin mewn ardaloedd gwledig, ac mae hynny'n cynnwys dwysáu amaethyddiaeth, colli cynefin, darnio, cael eu lladd ar y ffyrdd, yn ogystal ag ysglyfaethu. Mae draenogod yn ysglyfaeth naturiol i foch daear, ac maent yn osgoi safleoedd lle y ceir niferoedd uchel iawn o foch daear. A chredaf hefyd fod yr adroddiad yn datgan y gallant gydfodoli—hynny yw, gall moch daear a draenogod gydfodoli mewn llawer o ardaloedd. Felly, credaf fod angen inni ddeall y cynefin yn well.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch fod Joyce Watson wedi gofyn y cwestiwn hwn. Mae hwn yn adroddiad rhagorol; mae'n werth ei ddarllen. Dysgais ambell i beth, er enghraifft y ffaith bod draenogod yn gaeafgysgu rhwng mis Tachwedd a chanol mis Mawrth, felly rydym ar ganol y cyfnod hwnnw o aeafgysgu ar hyn o bryd—beth oedd hynny ynglŷn ag Aelodau'r Cynulliad? [Chwerthin.] Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y Big Hedgehog Map, sy'n galluogi pobl i gofnodi ar-lein pan fyddant yn gweld draenog, er mwyn cyfrannu at waith ymchwil ar yr anifail. Sylwais, ym Mrynbuga, yn fy etholaeth i, mai dim ond wyth draenog a gofnodwyd. Felly, gobeithio y bydd hynny'n cynyddu gyda'r map hwn.

Gwn fod rhai mesurau diogelu cenedlaethol ac Ewropeaidd yn eu gwarchod, ond beth rydych yn ei wneud i roi cyhoeddusrwydd i ymgyrchoedd fel y Big Hedgehog Map, fel y gallwn ddeall ychydig yn fwy am yr anifail hwn a'i ddiogelu’n well yn y dyfodol?

Credaf ei fod yn ddefnyddiol iawn. Nid wyf wedi rhoi unrhyw gyhoeddusrwydd i hyn, felly rwyf innau hefyd yn falch iawn fod Joyce Watson wedi gofyn y cwestiwn hwn heddiw.

Credaf hefyd y bydd adroddiadau fel hwn yn gymorth, ar ôl Brexit, pan fyddwn yn edrych ar ein rhaglenni ac ar sut y byddwn yn hybu bioamrywiaeth, er enghraifft. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi'r adroddiad hwn.

Fel yr hyrwyddwr ar ran draenogod, rwy’n croesawu—[Torri ar draws.] Mae diddordeb Aelodau eraill yn ein cyfeillion pigog yn galonogol iawn. [Chwerthin.]

Roeddwn yn bryderus wrth ddarllen, yn yr adroddiad gan yr Hedgehog Preservation Society, am ddirywiad draenogod mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yng nghyswllt y defnydd o blaladdwyr. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod defnyddio data mawr a deallusrwydd artiffisial yn rhoi cyfle inni fod o gymorth yn y maes hwn? Drwy ddefnyddio'r technegau diweddaraf mewn amaethyddiaeth fanwl, gallwn raddnodi'n benodol faint o gemegion sy'n angenrheidiol wrth drin tir a chyfyngu ar gemegion a roddir yn y pridd, a bydd hynny'n arwain at effaith ganlyniadol fuddiol i ddraenogod. O gofio bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid cyflwyno strategaeth gan y Llywodraeth ar amaethyddiaeth fanwl, a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y cynnydd, os gwelwch yn dda?

14:00

Diolch. Yn sicr, Lee Waters yw'r hyrwyddwr draenogod. Gobeithiaf eich bod yn cofio mai chi oedd yr ail ddewis mewn gwirionedd, a fi oedd y cyntaf, ond penderfynais fod yn hyrwyddwr ar ran pob rhywogaeth. [Chwerthin.] Ond rydych yn hyrwyddwr gwych ar ran amaethyddiaeth fanwl hefyd, ac rydych yn fy mheledu’n aml â llawer o ymchwil da iawn a wnaed gennych yn y maes hwn.

Cyflwynwyd syniad gennym na fyddai gennym strategaeth benodol, ond yn amlwg, mae llawer iawn o waith y gallwn ei wneud mewn perthynas ag amaethyddiaeth fanwl, ac yn sicr ein polisi yw gostwng effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt a phlanhigion i'r lefel isaf bosibl, felly yn sicr, credaf y gellir defnyddio amaethyddiaeth fanwl yn y modd hwn. Unwaith eto, ar ôl Brexit, wrth inni gyflwyno ein polisi ffermio ar gyfer y dyfodol a'n holl bolisïau amgylcheddol eraill, credaf y bydd amaethyddiaeth fanwl yn gymorth mawr i ni.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r ffeithiau yn yr adroddiad yn glir iawn, sef mai pethau fel colli cynefin a ffermio dwys yw prif achos y gostyngiad. Gyda llaw, fy rhywogaeth i yw hebog Tonyrefail—mater arall yw hynny.

A gaf fi ddweud—? Un o'r pethau sy'n peri pryder i mi, fodd bynnag, yn natganiad Undeb Amaethwyr Cymru, yw'r ffaith bod ymgais, bron, i droi draenogod yn arfau fel y gellir eu beio am eu colledion o ganlyniad i foch daear; felly, defnyddio un rhywogaeth fel mecanwaith er mwyn ceisio ymosod ar rywogaeth arall, ac ati, ac mae'n rhaid i’n safbwynt arwain at ddifa moch daear, ac at amddiffyn draenogod eu hunain. Nid yw ymagwedd rannu a rheoli o'r math hwn yn dderbyniol.

Iawn, credaf fy mod wedi ateb eich cwestiwn, fwy neu lai, yn fy ateb i Joyce Watson. Credaf fod yr adroddiad yn dweud yn glir iawn pam fod draenogiaid yn fwy prin mewn ardaloedd gwledig, ac nid yw’n ganlyniad i un rheswm penodol yn unig. Rhoddais nifer o resymau ynglŷn â cholli cynefin, dwysáu amaethyddiaeth, er enghraifft, a hefyd lladd ar y ffyrdd. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn i bawb edrych ar yr adroddiad hwn yn ei gyfanrwydd, ac yn sicr, rwy'n anghytuno â'r hyn y mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi'i honni yma.

Y Sector Bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ51751

Diolch. Mae'r sector bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru yn parhau i dyfu ac i elwa'n sylweddol ar gyfres o raglenni Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cyswllt Ffermio a'r grantiau buddsoddi mewn busnesau bwyd. Roeddwn yn falch o gyhoeddi £3 miliwn o gyllid ar gyfer Sgiliau Bwyd Cymru yn y gynhadledd sgiliau bwyd a diod yng ngogledd Cymru ddydd Iau diwethaf.

Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dim ond 5 y cant o gig oen Cymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cig oen Cymru yng Nghymru a'r DU yn ehangach?

Rydym yn gwneud llawer iawn i hybu cig oen Cymru. Felly, rwyf wedi cael trafodaethau gydag archfarchnadoedd penodol, er enghraifft. Felly, dros y misoedd diwethaf yn unig—y chwe mis diwethaf yn ôl pob tebyg—mae llawer o archfarchnadoedd, gan gynnwys Asda ac Aldi, wedi dechrau gwerthu cig oen Cymru. Roedd archfarchnadoedd eraill yn gwneud hynny eisoes, ac yn sicr yn y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi, credaf y byddwn yn gweld rhagor o archfarchnadoedd yn sicrhau bod cig oen Cymru ar eu silffoedd.

Mae cyfleoedd sylweddol ar gael i'r sector bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru, gan gynnwys gwell cydweithio o ran y gadwyn gyflenwi a gwelliannau effeithlonrwydd cysylltiedig. Yn wir, mae brand Cymru yn cynrychioli cynnyrch ffres o’r safon uchaf ag iddo flas gwych, ansawdd glaswelltir Cymru, traddodiad y fferm deuluol, ymrwymiad pawb yn y gadwyn gyflenwi a lleoliad y lladd-dai a chyfleusterau prosesu yn agos at y mannau cynhyrchu. Pa gyfarfodydd a faint o gyfarfodydd rydych wedi'u cael gyda chynrychiolwyr proseswyr a manwerthwyr yn ogystal â ffermwyr, o ystyried pwysigrwydd ymgysylltu â gweithredwyr ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi mewn perthynas â'r materion hyn?

Rwyf wedi cael nifer sylweddol o gyfarfodydd gyda phob rhan o'r gadwyn fwyd—fel y dywedwch, nid yn unig gyda ffermwyr, ond gyda phroseswyr a chwmnïau penodol yn y gadwyn gyflenwi. Mae fy swyddogion yn parhau i gael cyfarfodydd o'r fath ar sail wythnosol, a soniais yn fy ateb cyntaf i Mandy Jones am y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd—unwaith eto, mae'r cyllid grant hwnnw yn cefnogi pobl yn y maes hwn.

Gwelais adroddiadau yn ddiweddar fod y cyrff lefi cig coch ym Mhrydain yn mynd i fod yn rhannu cronfa o £2 miliwn ar gyfer marchnata ac ymchwil tra bod datrysiad mwy hirdymor, efallai, i'r saga yma o'r lefi cig coch yn cael ei ddatrys o'r diwedd, gobeithio. Rwyf am wybod achos rwyf wedi bod yn codi hyn ers blynyddoedd mawr. Rwy'n siŵr mai chi yw'r pumed neu'r chweched Gweinidog neu Ysgrifennydd Cabinet sydd wedi bod yn ymrafael â'r anghyfiawnder yma o'r £1 miliwn sy'n cael ei golli i'r sector cig coch bob blwyddyn oherwydd y ffordd y mae'r lefi yn cael ei redeg. Pryd ydych chi'n meddwl, os mai mesur dros dro yw hwn, y byddwn ni'n cael datrysiad unwaith ac am byth i'r anghyfiawnder yma? A phryd, o'r diwedd, y gwelwn ni'r sector cig coch yng Nghymru yn derbyn yr arian sy'n ddyledus iddi?

14:05

Ie, mae'n rhywbeth y mae arnom angen ateb parhaol yn ei gylch. Gobeithiaf y daw'r un dros dro yn un parhaol yn fuan iawn—o fewn yr ychydig fisoedd nesaf, gobeithio. Dywedoch mai fi, fwy na thebyg, oedd y—credaf mai fi yw'r chweched Gweinidog â chyfrifoldeb, ac addewais i Dai Davies, cyn i'w gyfnod fel cadeirydd ddod i ben, y byddem yn datrys y mater. Fe lwyddasom ar sail dros dro, ond rydych yn llygad eich lle, mae'n rhywbeth sydd wedi bod o gwmpas ers gormod o amser ac mae angen ei ddatrys. Felly, byddaf yn parhau i gael trafodaethau ynglŷn â hyn gyda Gweinidogion eraill a gwn fod fy swyddogion yn parhau i gael cyfarfodydd ar lefel swyddogol hefyd.

Ymchwilio i Welyau Môr

8. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i ymchwilio i welyau môr oddi ar arfordir Cymru? OAQ51737

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith i ddeall moroedd Cymru, gan gynnwys gwely'r môr. Rwyf wedi gweld â'm llygaid fy hun y gwaith academaidd rhagorol ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor yn arbennig. Rydym yn parhau i ddatblygu dealltwriaeth dda o'n moroedd i alluogi datblygu cynaliadwy.

Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil Prifysgol Bangor, y Prince Madog, yw'r llong ymchwil gwely'r môr fwyaf yn y DU sy'n eiddo i brifysgol, ac mae'n allweddol i'n heconomi ac i'r gwaith o reoli pysgodfeydd wrth inni edrych at y dyfodol. Ond ni fydd yn cael ei ariannu wedi 2020. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, felly, i sicrhau cyllid hanfodol a chynaliadwy yn y dyfodol, ac i ymgorffori ymchwil gwely'r môr mewn cynllun cenedlaethol strategol?

Rwy'n ymwybodol fod Prifysgol Bangor yn awyddus i nodi gwaith gwyddonol strategol ar gyfer y Prince Madog yn y dyfodol. Mae'n fater masnachol ar gyfer y prifysgolion a sefydliadau eraill yn y consortiwm, felly ni allaf roi unrhyw sylw pellach.

Fel hyrwyddwr y morlo llwyd, mae'r holl siarad ar greigiau Rhosili am adroddiadau cyflwr safle dangosol diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar ardaloedd morol gwarchodedig. Mae'n debyg eu bod wedi tynnu sylw at ddiffyg hyder wrth bennu statws nodweddion gwarchodedig fel riffiau islanwol, gydag adroddiadau fod rhai mewn statws cadwraethol anffafriol. Felly, yn sgil hynny, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y gyllideb ychwanegol a ddyrannwyd i'r adran forol a physgodfeydd yn cael ei defnyddio i ariannu gwaith adfer a monitro mawr ei angen ar ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, a chadw fy morloi llwyd yn hapus? Diolch.

Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod morloi llwyd Dai Lloyd yn hapus. Ni allaf gadarnhau y bydd yr holl arian yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, ond rwy'n siŵr y bydd rhywfaint o'r arian yn mynd tuag at ddeall ein moroedd, ac wrth gwrs, yr ardaloedd morol gwarchodedig, sy'n bwysig iawn.

Gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y penderfyniad i ailagor y bysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion wedi'i wneud i raddau helaeth ar sail y gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor ar gyflwr gwely'r môr, a dywedasoch bryd hynny, rwy'n credu, y byddech yn awyddus i gynnal gwaith monitro parhaus mewn perthynas â chyflwr gwely'r môr er mwyn sicrhau na fyddai'r broses o ailagor y bysgodfa’n cael effaith andwyol a'i bod, fel y dywedasoch yn awr, yn ddatblygu cynaliadwy o ran ein moroedd a gwely’r môr. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y sefyllfa bellach mewn perthynas â’r bysgodfa honno, ac yn sgil y cwestiwn cynharach a ofynnais ynglŷn â physgod cregyn yn gyffredinol ym moroedd Cymru, beth yw ein sefyllfa bellach o ran sicrhau y gall y bysgodfa honno fod yn gynaliadwy ac y gall ddiwallu anghenion yr amgylchedd naturiol hefyd?

Soniais mewn ateb cynharach, nid i chi, fy mod wedi cyfarfod â chymdeithas bysgodfeydd Cymru y bore yma ynghylch monitro, ac ar y sail na allwch blesio pawb drwy'r amser, gallwch ddychmygu bod eu barn hwy’n wahanol. Mae'r gwaith monitro yn parhau i fynd rhagddo, ond os yw'r Aelod yn fodlon, fe ysgrifennaf ato gyda'r sefyllfa benodol ar hyn o bryd.

Mynediad Cymunedol at Fannau Gwyrdd

9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd? OAQ51743

Mae mannau gwyrdd a pharciau o ansawdd yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at y gwaith o leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £27.8 miliwn o gyllid cyfalaf o 2017 i gefnogi'r gwaith o ddatblygu seilwaith gwyrdd dros gyfnod o bedair blynedd.

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi gallu siarad yn y digwyddiad ar fannau cymunedol a gynhaliwyd gennyf yr wythnos o'r blaen. Clywsom yn y digwyddiad sut y gall mynediad i fannau gwyrdd cymunedol helpu i wella iechyd, lles a ffyniant, er bod rhai o'r rhwystrau i berchnogaeth gymunedol wedi eu nodi hefyd. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'w gwneud yn haws i gymunedau, nid yn unig i gael mynediad i fannau gwyrdd, ond i gymryd perchnogaeth gyfreithiol arnynt?

14:10

Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i ymuno â chi yn y digwyddiad, ac roedd yn braf clywed gennych wedyn. Un o'r pethau a greodd argraff arnaf yn y digwyddiad y soniasom amdano oedd y berchnogaeth emosiynol ar eich mannau gwyrdd lleol, ond wedyn sut y daw hynny'n berchnogaeth wirioneddol. Ac rydych yn llygad eich lle fod mynediad i fannau gwyrdd yn arwain at fanteision iechyd, economaidd a chymdeithasol ehangach; nid rhywbeth da i'r amgylchedd yn unig yw hyn. Felly, mae trosglwyddo asedau cymunedol yn darparu cyfleoedd i'r gymuned berchnogi a rheoli mannau gwyrdd. Mae canllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth a'r offer i grwpiau cymunedol allu cymryd perchnogaeth ar y mannau hyn, ac mae gwybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y gronfa cyfalaf seilwaith gwyrdd sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn cynorthwyo a chefnogi grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth ar fannau gwyrdd.

Weinidog, mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn argymell mwy o barthau 20 mya o amgylch mannau gwyrdd fel y gall plant gerdded, beicio a chwarae'n ddiogel, yn ogystal â gallu cyrraedd y mannau hynny’n fwy diogel. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â'r diffyg mynediad i fannau gwyrdd ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae arnom angen cynllun gweithredu i sicrhau bod gan blant fynediad i feysydd chwarae diogel.

Yn sicr. Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn a dilys iawn. Nid yw mannau gwyrdd yn ymwneud â diogelwch yn unig; mae mannau gwyrdd yn cynorthwyo i leihau llygredd aer a llygredd sŵn hefyd. Credaf ein bod yn bwrw ymlaen â'n strategaeth ansawdd aer ar hyn o bryd, felly efallai fod hynny'n rhywbeth y gallem fynd ar ei drywydd a'i ystyried yn y dyfodol.

'Polisi Cynllunio Cymru'

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bolisi Cynllunio Cymru? OAQ51767

Diolch. Ddydd Llun, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft cwbl ddiwygiedig o 'Polisi Cynllunio Cymru', sydd wedi'i alinio â nodau a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau er eraill ar y ddogfen a'r cyfraniad y gall ei wneud i'r broses o greu lleoedd.

Ac rwy’n croesawu’r adolygiad hwnnw ochr yn ochr â'r cwestiwn a ofynnodd David Rowlands ar y cychwyn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i gynllunio datblygu strategol, a ddarperir yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, i gynorthwyo i symud datblygiadau o'r ardaloedd gor-grynodedig o amgylch Caerdydd a'r M4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, gefnogi'r safbwynt fod angen i 'Polisi Cynllunio Cymru' adlewyrchu addasrwydd cynlluniau datblygu strategol yn hytrach na chynlluniau datblygu lleol, a bod angen i gynrychiolwyr etholedig awdurdodau lleol yn yr ardaloedd sydd wedi’u cynnwys mewn cynlluniau datblygu strategol weithio gyda'i gilydd a dangos eu cefnogaeth i ddatblygu cynaliadwy mwy gwasgaredig sy'n cyd-fynd â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol?

Diolch. Gwn y bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sgyrsiau rhyngom fy mod yn awyddus iawn i weld cynlluniau datblygu strategol. Ysgrifennais at bob awdurdod lleol ym mis Rhagfyr, yn eu gwahodd i ystyried sut y gallent weithio gyda'i gilydd ar gynlluniau datblygu strategol. Rwyf wedi cael rhai ymatebion, ac ynghylch cynlluniau datblygu ar y cyd hefyd, er nad yw pawb wedi ysgrifennu'n ôl eto. Rwyf hefyd wedi eu hatgoffa o'r angen i gynyddu'r cyflenwad tai, gan bwysleisio bod yn rhaid i dai newydd gyfrannu at y gwaith o greu cymunedau cydlynus. Nid ydym yn dymuno gweld effeithiau annerbyniol ar seilwaith cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ymddiheuro i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet am fethu fy nghwestiwn cynharach?

Ysgrifennydd y Cabinet, fel hyrwyddwr yr ystlum pedol mwyaf, a allwch roi sicrwydd i mi y bydd yr ymgynghoriad hwn ar y polisi cynllunio newydd i Gymru yn rhoi digon o bwyslais ar amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl heb atal unrhyw gynllunio angenrheidiol neu waith adnewyddu hen adeiladau? Ond mae angen inni edrych ar ôl ein ffrindiau llai o faint; nid oes ganddynt lais—mae angen inni fod yn llais iddynt.

Yn sicr, rwy'n cytuno â hynny, a hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei hymddiheuriad; mewn gwirionedd, cwestiwn i Weinidog yr amgylchedd ydoedd.

Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei ffurf drafft yn nodi bod y cysyniad o ddatblygu cynaliadwy wedi ei ehangu, wrth gwrs, o dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'i bod hi'n ofynnol i wella'r pedair agwedd ar lesiant—economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Ac, yn ogystal, mae'r Ddeddf wedi dod â saith nod llesiant ymlaen i helpu sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un weledigaeth o Gymru gynaliadwy. Mae'r iaith Gymraeg yn un o'r saith nod llesiant o dan y Ddeddf, a hefyd yn rhan o'r agwedd ddiwylliannol o lesiant. Pam felly nad ydy polisi cynllunio drafft y Llywodraeth yn cryfhau cyfrifoldebau awdurdodau cynllunio lleol wrth iddyn nhw ystyried y Gymraeg fel rhan o'u penderfyniadau cynllunio?

14:15

Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi edrych ar y nodyn cyngor technegol a oedd yn ymwneud yn benodol â'r iaith Gymraeg ac wedi ei gryfhau, ond rwy'n fwy na pharod i wrando ar unrhyw sylwadau sydd ganddi yn ei gylch—os teimlwch na chafodd ei atgyfnerthu mewn ffordd briodol yn eich tyb chi—wrth inni gynnal yr ymgynghoriad hwn ar bolisi cynllunio.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Y cwestiynau nesaf, felly, i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, a'r cwestiwn cyntaf—Russell George.

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd? OAQ51738

Mae strategaeth leoli'r Llywodraeth yn cynnal ein hymrwymiad i bresenoldeb Llywodraeth Cymru ledled Cymru, gan sicrhau ein bod yn optimeiddio effeithlonrwydd ein hystâd ac yn lleihau ein costau gweithredu a'n heffaith amgylcheddol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers ei chreu, mae swyddfeydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, ac mae rhywfaint o bryder wedi bod yn y gorffennol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd yn groes i'w hymrwymiad i leoli staff Llywodraeth Cymru yn y Drenewydd. Yn 2015, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Parhaol ar y pryd, Syr Derek Jones, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bresenoldeb hirdymor yn y Drenewydd, y tu hwnt i Mawrth 2020. Nawr, mae rhai datblygiadau wedi bod ers hynny, ac mae'r adeilad a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru ar y pryd wedi'i werthu. A allwch roi sicrwydd i mi fod hyn yn wir o hyd?

Yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrth yr Aelod yw bod yn rhaid i ni, mewn cyfnod lle mae cyllidebau o dan bwysau sylweddol iawn, adolygu ystâd Llywodraeth Cymru yn barhaus. Roedd gennym 75 eiddo yn 2010, ac mae gennym 28 eiddo bellach, ac mae hynny wedi rhyddhau arbedion sylweddol, sy'n ein galluogi i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig, fodd bynnag, i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb gwasgaredig, rhyng-gysylltiedig a hygyrch ledled Cymru.

Mae swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon ar werth, efo’r staff yn symud oddi yno cyn hir i swyddfeydd fydd ar les. Mae Caernarfon wedi gweld colli llawer mwy o staff Llywodraeth Cymru na’r cyfartaledd cenedlaethol dros y blynyddoedd. Beth nad ydw i’n ei ddeall ydy sut mae lleihau staff mewn ardal fel Caernarfon yn cyfrannu at nod cynllun gweithredu economaidd y Llywodraeth, sef model o ddatblygu economaidd, ac rydw i’n dyfynnu, 'sy’n canolbwyntio ar ranbarthau er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol o ran cyfoeth a chyfleoedd ledled Cymru.' Yr wythnos yma eto, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi tystiolaeth bod rhanbarth y de-ddwyrain yn cael tair gwaith cymaint o fuddsoddiad cyfalaf y pen gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â rhai rhanbarthau eraill—tystiolaeth yn seiliedig ar wybodaeth gan eich Llywodraeth chi.

Lywydd, mae'r Aelod yn gwbl iawn i barhau i ddadlau achos Caernarfon mewn perthynas â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yno. Gallaf roi sicrwydd iddi nad yw'r newidiadau presennol o ran presenoldeb Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn gyfystyr â symud o Gaernarfon. Mae'n golygu symud i eiddo newydd arall yn y dref yn noc Caernarfon, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau â'i hymrwymiad i'w phresenoldeb yn y dref.

Perthynas Cymru gyda'r UE yn y Dyfodol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhynglywodraethol diweddar am berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol? OAQ51758

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae cyfarfodydd diweddar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn fwy adeiladol nag o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r mecanweithiau'n ddiffygiol o hyd o ran eu cynllun a’u cyflawniad. Mae angen cymryd camau pellach i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried wrth lunio unrhyw berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y byddai wedi bod yn fwy defnyddiol i mi ofyn am weithgarwch mewnol Llywodraeth y DU, oherwydd hyd y gwelaf, ni allant gytuno ymysg eu hunain ar hyn o bryd ar natur ein perthynas gyda'r UE yn y dyfodol, felly mae'n anodd iawn gweld sut y gallant siarad yn gall gyda'r gwledydd datganoledig ynglŷn â hynny. Rydym wedi clywed sawl tro, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y cloc yn tician bellach mewn perthynas â thrafodaethau'r UE, ac mae arnaf ofn fod amser yn ein herbyn bellach os ydym yn dymuno sicrhau'r fargen orau ar gyfer Cymru a'r DU. O gofio nad yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion wedi cyfarfod ers mis Rhagfyr, ac nad ydynt yn darparu mecanwaith ar gyfer yr ymgysylltu difrifol sydd ei angen mewn perthynas â'r materion hyn, ac yn sgil y dadansoddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a sectorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac rwy'n gobeithio cael golwg arnynt ryw dro y prynhawn yma, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cael siâp ar bethau fel y gall y gwledydd datganoledig gael cyfle priodol i gynllunio ar gyfer canlyniadau'r negodiadau hyn gyda'r Undeb Ewropeaidd?

14:20

Lywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod nad yw'r materion heriol iawn sydd dan sylw wrth drafod dyfodol y DU y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd yn elwa o gwbl o anallu Llywodraeth y DU i drefnu ei hun mewn ffordd bwrpasol a dibynadwy. Pan fydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau'r UE yn cyfarfod y tro nesaf, bydd yn cael ei gadeirio gan ei bumed cadeirydd yn y 15 mis ers ei sefydlu. Nid yw'n syndod nad ydym wedi cyfarfod ers mis Rhagfyr pan ydym wedi cael newid arall yn y personél ar lefel uchaf y corff hwnnw. Felly, mae ymdrin â Llywodraeth y DU yn peri llawer o rwystredigaeth o ran y ffordd y maent yn cael trafferth darparu un llais cydlynol sy'n cynrychioli eu barn ynglŷn â'r pethau hyn, ac yna darparu'r math o arweiniad ymarferol y bydd ei angen wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle posibl, serch hynny, i chwarae rhan adeiladol ym mhob fforwm y cawn wahoddiad iddo ac ym mhob ymwneud rhyngom a Llywodraeth y DU.

Un peth a wyddom, Ysgrifennydd y Cabinet, yw y bydd ôl troed gweithgarwch diplomyddol ar draws yr Undeb Ewropeaidd yn newid o'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ac maent yn darparu mwy o adnoddau i’w gweithgaredd. Yn amlwg, mae'n hanfodol fod yr ôl troed newydd hwnnw yn cydnabod y cyd-destun datganoledig y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu ynddo, a hoffwn ddeall pa ryngweithio a wnaeth ei adran gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i sicrhau bod rôl gynrychioliadol Cymru o fewn yr ôl troed newydd yn cael ei chydnabod yn ddiplomyddol ac mor gryf â phosibl?

Lywydd, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cael ei chynrychioli o bryd i'w gilydd ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar y negodiadau Ewropeaidd, ac fel arfer caiff ei chynrychioli ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop. Mae hynny'n rhoi cyfle inni drafod y ffordd y bydd cynrychiolaeth ddiplomyddol yn cael ei threfnu ar ôl Brexit yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU. Rydym yn manteisio ar bob cyfle a gawn i sicrhau bod y cynrychiolwyr hynny’n ymwybodol o’r angen i bresenoldeb y DU fod yn wirioneddol gynrychioladol o'r Deyrnas Unedig gyfan, ac yn cynnig cymorth rheolaidd i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau, wrth iddi siarad ar ran y Deyrnas Unedig, ei bod yn ymwybodol o fuddiannau Cymru a'r cyfleoedd a fydd ar gael i Gymru ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y gallai fod yn barod i wrthdroi ei hymagwedd at y Bil Brexit wedi i bryderon dilys gael eu codi ynglŷn â San Steffan yn cipio pŵer, gan danseilio'r broses ddatganoli ac achosi argyfwng cyfansoddiadol. Nawr, mae Plaid Cymru yn croesawu'r tro pedol hwn a grybwyllwyd gan Lywodraeth San Steffan. Fodd bynnag, gwelwn dro ar ôl tro na ellir ymddiried yn San Steffan i gadw ei haddewidion. A allwch gadarnhau pa un a ydych wedi clywed unrhyw sôn am wrthdroi polisi o’r fath, ac ymhellach, a allwch ddweud wrthym sut y bwriadwch sicrhau eu bod yn cadw at eu gair, ac a oes gennych gynllun wrth gefn pe baent yn torri eu haddewidion?

Cytunaf yn llwyr â Leanne Wood fod yn rhaid inni gael mwy na geiriau cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cadw at yr addewidion a wnaethant, ac mae'n llygad ei lle wrth ddweud eu bod wedi gwneud addewidion clir iawn yn hyn o beth. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ar lawr Tŷ'r Cyffredin y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i unioni'r problemau yn y Bil ymadael yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, ac ni ddigwyddodd hynny. Mae’r addewid wedi cael ei ailadrodd, fodd bynnag, ar bapur ac ar lafar, y bydd hyn yn digwydd bellach yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd ddeuol yn hyn o beth. Byddwn yn gweithio gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, lle mae gennym gyfleoedd o fewn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i bwyso arnynt i gyflwyno gwelliant y gallem ei gefnogi, ac a allai arwain at gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Ond nid ydym wedi gweld unrhyw destun eto a fyddai'n rhoi sicrwydd inni y byddai hynny'n digwydd, a thra nad yw ar gael i ni, byddwn yn mynd ar drywydd gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn braf iawn gweld yr Arglwydd Dafydd Wigley mewn sesiwn friffio a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi bythefnos yn ôl. Roedd cryn ddiddordeb, Lywydd, ymhlith arglwyddi o bob plaid ac aelodau’r meinciau croes, yn yr achos a wnaethom ar y cyd ynghylch natur ddiffygiol y Bil ymadael a pham y bydd angen ei ddiwygio. Os na allwn gytuno ar welliant gyda Llywodraeth y DU, byddwn yn mynd ar drywydd ein gwelliant ein hunain yn Nhŷ'r Arglwyddi, a byddwn yn ceisio trechu'r Llywodraeth fel y gallwn ddiwygio'r Bil yn y modd angenrheidiol.

14:25

Ysgrifennydd y Cabinet, mae trafodaethau rhynglywodraethol yn amlwg yn hanfodol os ydym yn dymuno sicrhau'r fargen orau i Gymru, yn arbennig ar gyfer diwydiant. Fe fyddwch yn gwybod bod fy etholaeth i’n gartref i ardal fenter Glannau Dyfrdwy, ac yn gartref i lawer o gwmnïau, gan gynnwys Airbus a Toyota. Mae fy etholwyr yn dibynnu ar nifer o gwmnïau fel hyn, a rhai fel Tata Steel, am eu bywoliaeth a bywoliaeth eu plant. Gan fy mod wedi gweithio ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, rwyf innau’n gwybod pa mor bwysig yw hyn hefyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i mi fod y Llywodraeth hon yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn sicrhau'r fargen orau ar gyfer fy ardal a'r diwydiannau rydym yn dibynnu arnynt?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol—y cyntaf, rwy'n siŵr, o lawer y bydd yn eu gofyn i gynrychioli buddiannau hanfodol ei etholaeth? Ac mae'n llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Lannau Dyfrdwy gyfres o ddiwydiannau mawr sy'n dibynnu ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd am eu llwyddiant a'u ffordd bresennol o weithredu. Felly, rydym yn pwysleisio, fel y gwnawn bob amser ar Lywodraeth y DU, yr angen hanfodol i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, fel nad yw Airbus, er enghraifft, sy'n dibynnu ar y gallu i symud nwyddau ledled yr Undeb Ewropeaidd mewn modd di-dariff, yn cael eu rhwystro yn eu gallu i wneud hyn yn y dyfodol ac fel nad yw'n arwain at gwestiynau ynglŷn ag ai Cymru yw'r lle gorau ar gyfer y cwmni hwnnw yn y dyfodol. Nid yn unig y mae Airbus yn dibynnu ar allu i symud nwyddau’n rhydd, mae'n dibynnu ar allu pobl i symud yn rhydd hefyd—gallu pobl sy'n gweithredu ar draws ôl troed y cwmni hwnnw i symud i mewn ac allan o Gymru ar berwyl busnes y cwmni. Rydym yn gwneud y pwyntiau hyn yn rheolaidd ac yn benodol i Weinidogion y DU, ac mae’n braf iawn cael cefnogaeth yr Aelod y prynhawn yma gyda'n hymdrechion i wneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Yn ôl 'Datganiad polisi caffael Cymru', mae caffael cyhoeddus, pan caiff ei ddefnyddio'n effeithiol,

'yn arf strategol i ddarparu budd economaidd i bobl Cymru.'

Nid oes syndod, felly, bod y Llywodraeth, fel rŷch chi'n nodi yn eich strategaeth economaidd 'Ffyniant i Bawb' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ymdrechu i gynyddu lefel pryniant Cymreig gan y sector cyhoeddus er mwyn creu swyddi a helpu busnesau yng Nghymru. Felly, a gaf i ofyn a ydy'r canran o bryniant Cymreig gan y sector cyhoeddus yr ŷch chi yn uniongyrchol yn gyfrifol amdano yn mynd lan neu lawr?

Wel, fe allaf i ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e'n mynd lawr. Yn 2015-16, yn y flwyddyn ariannol honno, roedd 41 y cant o bryniant y gwasanaeth iechyd yn cael ei wneud yng Nghymru, yn ôl eich ystadegau chi, ond, erbyn y flwyddyn ganlynol, roedd y canran yma wedi disgyn i 39 y cant. Mewn ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eich bod yn ceisio arwain trwy esiampl. Ond, ers 2015-16, mae canran y pryniant Cymreig gan Lywodraeth Cymru eu hunain wedi disgyn o 44 y cant i 41 y cant yn y flwyddyn honno—yn y flwyddyn fwyaf cyfredol. Felly, a ydy Llywodraeth Cymru yn gallu gosod targed penodol ar gyfer lefel pryniant Cymreig gan Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd, a'i wneud e, er enghraifft, yn gydradd â llywodraeth leol, sy'n llwyddo i gyrraedd lefel o 59 y cant o wariant yn aros yng Nghymru? Pe byddech chi'n gwneud hynny, mi fyddai hynny yn arwain, yn syth bin, at £400 miliwn ychwanegol o wariant yn cael ei wneud trwy fusnesau yng Nghymru.

14:30

Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod, Lywydd: nid oes unrhyw wahaniaeth o gwbl rhyngom o ran ein huchelgais i weld canran y gwariant ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru sy'n mynd i gwmnïau Cymreig yn tyfu ac yn tyfu ar draws y gwahanol gyfleoedd sydd yno. Rydym yn adolygu dyfodol y polisi caffael yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni Brexit, i weld a fydd mwy o gyfleoedd i wneud hynny yn y dyfodol. Rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r grŵp o bobl sy'n gyfrifol am hynny, a'r grŵp rhanddeiliaid sy'n eu cynorthwyo, i edrych a fyddai targedau yn gymorth yn y broses honno. Mae ganddynt ran i'w chwarae, o bosibl, ond gwyddom eu bod yn gallu ystumio pethau hefyd. Felly, buaswn eisiau gwneud yn siŵr fod y syniad wedi cael ei ystyried yn drwyadl. Pe baent yn dod i'r casgliad ei bod yn ffordd ddefnyddiol o wella'r sefyllfa, yna dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud, felly buaswn, wrth gwrs, yn ystyried y cyngor hwnnw'n ddifrifol iawn.

Wel, buaswn i'n awgrymu y byddai'n fuddiol o leiaf i gael targed, a bod y lefel yn mynd lan; nid mynd i lawr fel y mae ar hyn o bryd.

Gadewch i ni droi at gwestiwn arall yr oedd Siân Gwenllian wedi cyfeirio ato fe, sef y lefel o fuddsoddiad rhanbarthol. Yn 'Ffyniant i Bawb', mae'r Llywodraeth yn amlinellu eich dyhead i sicrhau bod pob rhan o Gymru'n elwa o fuddsoddiad a thwf economaidd, ond mae'r ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gennych chi yn dangos bod gwariant y pen, o ran cyfalaf ac isadeiledd, er enghraifft, y flwyddyn nesaf yn ne-ddwyrain Cymru yn mynd i fod yn ddwywaith yn fwy na gogledd Cymru a thair gwaith yn fwy y pen na'r gorllewin a'r canolbarth. Mae'r anghyfartaledd yna yn gwbl warthus. Mae'n hollol groes, a dweud y gwir, i'r strategaeth honedig, 'Ffyniant i Bawb'. Efallai y dylid ailenwi'r strategaeth hwnnw yng ngwyneb y wybodaeth yma. A ydy'r Llywodraeth yn fodlon ymrwymo i sicrhau bod llythyr cylch gorchwyl comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau buddsoddiad mwy gwastad gan Lywodraeth Cymru ar draws Cymru?

Lywydd, nid daearyddiaeth yw’r egwyddor sy’n pennu ein rhaglen gyfalaf. Yr egwyddor sy’n pennu yw'r gwerth gorau am y buddsoddiadau rydym yn eu gwneud, ac mae buddsoddiadau gwerth gorau yn digwydd ledled Cymru ac mae'r cyfrannau o wariant cyfalaf mewn gwahanol rannau o Gymru yn newid dros amser, wrth i brosiectau gwahanol ddod i'r amlwg. Nid oes un rhan o Gymru yn cael ei gadael allan o'n rhaglen gyfalaf a byddwn yn parhau i fuddsoddi ar draws Cymru, ond nid ar sail ddaearyddol, nid ar y sail ein bod yn dweud bod yn rhaid i bawb gael yr un lefel o fuddsoddiad, oherwydd mae gan wahanol rannau o Gymru wahanol fathau o anghenion, a bydd y rhain yn newid dros amser, ac mae'n llawer pwysicach ein bod yn cydlynu gwariant cyfalaf yn ôl yr angen a gwerth gorau na'n bod yn glynu’n syml at ddaearyddiaeth.

Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf Ysgrifennydd y Cabinet at y cwestiynau a ofynnwyd eisoes gan yr Aelod blaenorol. Dyna'r broblem gyda dod yn ail, ynte, ond dyna ni—nid yn wleidyddol, hynny yw, yn y drefn heddiw rwy’n ei feddwl.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae caffael yn amlwg ar wefusau'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yn sgil cwymp Carillion, ac fe gafodd hwnnw effaith amlwg ar brosiectau a gwasanaethau ledled y DU, ond hefyd, i raddau llai, yng Nghymru. Mae Capita, y cwmni contractio gwaith allanol, hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cael anhawster yn ariannol. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o ymwneud Llywodraeth Cymru â Capita mewn perthynas â graddau'r contractau gyda hwy a'ch asesiad o'r risg a achosir gan y cytundebau hynny?

Lywydd, rydym yn gweithio'n ofalus gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â Carillion a Capita. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau nad ydynt yn sefydlu tîm gyda Capita yn y ffordd a wnaethant gyda Carillion, ond eu bod yn parhau i fonitro Capita yn agos iawn, ac mae Swyddfa'r Cabinet yn ymgysylltu'n agos â Capita i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol y mae'r cwmni yn eu hwynebu. Rydym wedi llunio trosolwg o wariant a'r gwasanaethau a ddarperir gan Capita yng Nghymru, ac rydym wedi rhannu hynny gyda Swyddfa'r Cabinet fel bod modd i’r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud yn y maes gael eu llywio'n llawn o gwmpas anghenion Cymru.

14:35

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gofyn nifer o gwestiynau ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru—rhai i chi, rhai i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi pum contract gyda Capita ar gyfer darparu gwasanaethau yng Nghymru. Deallaf hefyd nad oes unrhyw drafodaethau sylweddol wedi bod gyda Capita o fewn y chwe mis diwethaf. A ydych yn credu y byddai'n ddoeth i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ychydig mwy gyda Capita ar hyn o bryd? Rwy'n derbyn bod dimensiwn DU i hyn hefyd—ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y risg yn cael ei lliniaru gymaint â phosibl.

Gallaf sicrhau'r Aelod fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i wneud yn siŵr fod unrhyw gysylltiad yng Nghymru â Capita yn cael ei ddeall yn llawn, a lle byddai trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmni yn ddefnyddiol i reoli'r sefyllfa y maent yn ei hwynebu, byddem yn sicr yn agored i hynny. Nid yw Capita yn yr un sefyllfa â Carillion, cyn belled ag y gwyddom, ac mae'n bwysig ein bod yn cynnal ein perthynas â hwy mewn ffordd nad yw'n arwain at ofnau diangen heb ffeithiau’n sail iddynt.

Rwy'n gwerthfawrogi ateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r cwestiwn hwnnw. Wrth ofyn y cwestiwn, rwy'n ymwybodol fod yna wahaniaethau mawr, ond eto'i gyd rwy'n credu bod angen craffu ar y meysydd hynny. Mae Adam Price eisoes wedi crybwyll beirniadaeth Swyddfa Archwilio Cymru o weithdrefnau caffael diweddar. Mae eu cylch gwaith yma, yn amlwg, ond mae diffygion wedi bod gyda gweithdrefnau caffael ar draws y DU yn ogystal. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am yr adolygiad parhaus mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Adam. A allech roi mwy o fanylion i ni am yr adolygiad hwnnw, cyrhaeddiad yr adolygiad hwnnw, pa bryd rydych yn disgwyl i’r adroddiad gael ei gyflwyno, a newidiadau posibl y gellid eu gwneud, fel y gallwn sicrhau bod gweithdrefnau caffael Llywodraeth Cymru mor gadarn â phosibl?

Wel, Lywydd, mae'r adolygiad yn mynd rhagddo ers peth amser. Rwy’n disgwyl iddo ddod i ben yn ystod y flwyddyn galendr hon, yn ogystal â'r gwaith a wneir ar yr adolygiad o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei oruchwylio gan grŵp rhanddeiliaid, a fydd yn cael effaith sylweddol arno, a bydd y grŵp rhanddeiliaid hwnnw'n cynnwys y sefydliadau sy’n brif ddefnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Ond rwyf hefyd yn disgwyl y bydd yr adolygiad yn ystyried adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar gaffael cyhoeddus a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac rwyf hefyd yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gaffael yng Nghymru. Ac unwaith eto, rwy'n disgwyl y bydd casgliadau'r ymchwiliad hwnnw yn rhan o'r deunydd y bydd yr adolygiad yn ei ystyried wrth ddod i'w gasgliadau.

Rwy'n llawn gymeradwyo'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach wrth feirniadu Llywodraeth y DU a'r dryswch sydd i’w weld yn y Cabinet mewn perthynas â'i bolisi Brexit, yn bennaf oherwydd gweithgareddau rhai a ymgyrchodd yn gadarn dros aros yn yr UE fel Canghellor y Trysorlys sy'n ymddangos fel pe bai’n ceisio tanseilio'r broses gyfan yn rheolaidd. Ond wrth gwrs, gallai Llywodraeth Cymru helpu i gael y canlyniad gorau posibl o'r trafodaethau Brexit hyn pe bai'n barod i gydnabod mai'r ffordd orau o osgoi 'dim bargen' yw drwy baratoi ar ei gyfer, a'i gwneud yn glir ein bod yn gallu ymdopi â'r canlyniadau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o adroddiad y pwyllgor materion allanol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n gwneud nifer o argymhellion. Yn benodol, dywedodd fod ar Gymru angen

arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru o ran sut y dylent fod yn paratoi ar gyfer Brexit

a bod sectorau a sefydliadau yn troi at Lywodraeth Cymru am arweiniad, ac mae’n hanfodol eu bod yn gallu dechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE. Mae hyn wedi cael ei fynegi yn y ffordd fwyaf amhleidiol sy’n bosibl. Ac rwy'n ceisio gwneud hynny fy hun yn y cwestiwn hwn—annog a phwyso ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu safbwynt optimistaidd ynghylch y canlyniad y tu hwnt i Brexit. Hyd yn oed os na cheir bargen, bydd cyfleoedd yno, yn ogystal â heriau, a dylem roi sylw i'r rheini yn hytrach na rhygnu am y pethau negyddol byth a beunydd.

Wel, Lywydd, hyd yn oed wrth geisio ymateb i gywair y cwestiwn hwnnw, ni allaf osgoi dweud wrth yr Aelod fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Bydd canlyniad 'dim bargen' yn dilyn Brexit yn drychinebus i Gymru, ac nid oes unrhyw baratoi ar gyfer 'dim bargen'. Ac un o'r rhesymau pam fy mod bob amser yn dweud hynny yw oherwydd ei bod hi’n bwysig iawn ymwrthod â'r syniad bod 'dim bargen' yn ddim ond un digwyddiad arall y gallwch baratoi ar ei gyfer. Nid yw normaleiddio 'dim bargen' o fudd i neb yma yng Nghymru. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi ar gyfer yr holl ganlyniadau gwahanol posibl a all ddeillio o negodi. Bob tro rwy'n siarad â Gweinidogion y DU, maent yn pwysleisio’n bendant nad 'dim bargen' yw’r hyn y maent yn ei geisio, ac rwy'n eu cefnogi'n llawn yn yr uchelgais hwnnw.

14:40

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Llywodraeth Prydain yn gwneud ei gorau i sicrhau bargen gyda'r UE. Yr unig bobl sy'n chwarae gêm galed yn hyn i gyd yw'r Comisiwn Ewropeaidd eu hunain. Mae hyn yn rhan hanfodol o strategaeth negodi Monsieur Barnier, a byddai Michel Barnier wrth ei fodd yn clywed yr ymateb y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei roi i mi. Dyna'n union y mae eisiau i bobl y wlad hon ei ddweud—i ddangos, felly, y bydd y pwysau ar wneud yr hyn y mae'r UE ei eisiau yn hytrach na'r hyn y mae Llywodraeth Prydain ei eisiau. Wrth gwrs ein bod eisiau bargen masnach rydd gyda'r UE; byddem yn wallgof pe na byddem eisiau hynny ac mae pawb sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin yn pwyso am hynny. Ond ni fydd dweud 'Beth y mae'r UE ei eisiau o hyn' o hyd yn helpu ein safbwynt negodi. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, ar ran Llywodraeth Cymru, nid yn unig i ganolbwyntio ar y pethau negyddol a fydd yn digwydd os na fydd unrhyw fargen, oherwydd os na fydd bargen, ni fydd hynny o ganlyniad i ymdrechion Llywodraeth Prydain, bydd hynny oherwydd bod yr UE wedi rhoi ei flaenoriaethau gwleidyddol ei hun o flaen synnwyr cyffredin economaidd.

Lywydd, rwyf wedi colli cyfrif ar y nifer o weithiau rwyf wedi clywed yr Aelod yn rhoi sicrwydd i ni yn y Siambr y byddai'n hawdd cael bargen oherwydd y byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen a phawb arall yn yr Undeb Ewropeaidd mor daer i gael bargen fel y byddai'n bosibl cael un heb lawer o ymdrech o gwbl. Rwy'n ei gweld yn anodd iawn cysoni ei safbwyntiau yn y cyswllt hwnnw â'i awgrym y prynhawn yma fod y Comisiwn yn benderfynol, rywsut, o beidio â tharo bargen. Ni fyddwn yn cael bargen os ydym yn ystyried y Comisiwn a'r Undeb Ewropeaidd fel gelynion yn hyn oll. Mae gennym ddiddordeb ar y cyd mewn cael bargen, a chael y fargen orau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi beth y credwn fyddai'r fargen orau. Ac nid yw rhagdybio’n syml ein bod yn brwydro yn erbyn ein gilydd, lle bydd canlyniad da i un yn ganlyniad gwael i’r llall, yn ffordd o sicrhau’r manteision gorau i Gymru yn fy marn i.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod nad wyf yn gweld hyn fel gêm swm sero lle mae Prydain yn elwa ar draul yr UE. Rwyf bob amser wedi dweud yn glir fod bargen masnach rydd er budd y ddwy ochr, ac mewn gwirionedd, yn llawer mwy o fudd i'r UE, ar un ystyr, nag i’r DU oherwydd bod gennym ddiffyg masnach anferth o tua £80 biliwn y flwyddyn gyda'r UE. Ac o ran gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen, mae gennym ddiffyg masnach o €36 biliwn gyda'r Almaen. Wrth gwrs, mae'n sicr er budd cynhyrchwyr ceir yr Almaen ein bod yn taro bargen gyda hwy, oherwydd rydym yn prynu un o bob saith o'r holl geir a gynhyrchir yn yr Almaen. Ond os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn mynnu dweud 'O, wel, mae angen i ni ildio popeth y mae'r UE ei eisiau gennym er mwyn cael bargen masnach rydd', dyna'r ffordd orau i sicrhau nad ydym yn cael un.

Wel, rwy'n gwrthod iaith ildio popeth a'r dull y mae’r Aelod yn ei awgrymu. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi'r math o fargen rydym yn credu ei bod er budd gorau pobl a busnesau Cymru: bargen lle mae gennym fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, lle byddwn yn parhau mewn undeb dollau, lle bydd busnesau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a sefydliadau ymchwil Cymreig yn gallu parhau i recriwtio pobl rydym wedi bod yn ddigon ffodus i'w denu i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru, lle bydd dinasyddion Cymru yn parhau i fwynhau'r amddiffyniadau y maent wedi'u cael drwy'r Undeb Ewropeaidd, fel dinasyddion, fel gweithwyr, fel defnyddwyr, ac ym maes hawliau dynol hefyd. Mae yna farn gadarnhaol ynghylch y math o fargen rydym ei hangen gyda'r Undeb Ewropeaidd, un y credwn y byddai'n caniatáu i fusnesau Cymru a swyddi Cymru barhau i ffynnu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu mai dyna'r math o iaith sydd o fwyaf o gymorth i ni wrth geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU ac ar y Comisiwn wrth i’r negodiadau tra phwysig hyn gael eu cynnal.

Isadeiledd Trydan yn Ynys Môn

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y broses o ddatblygu isadeiledd trydan yn Ynys Môn? OAQ51763

Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried ein llesiant hirdymor. Bydd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei adolygu yn sgil y Ddeddf. Bydd yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer penderfyniadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion seilwaith trydan.

14:45

Diolch am yr ateb. Rydych chi'n cyfeirio at gyrff cyhoeddus yng Nghymru a'r dyletswyddau sydd arnyn nhw, ond, wrth gwrs, mae yna gyrff eraill yn gyhoeddus, yn lled gyhoeddus, neu â chysylltiadau cyhoeddus sy'n gweithredu yng Nghymru ac sy'n cael impact go iawn arnom ni. Mae'r Grid Cenedlaethol yn bwriadu codi cysylltiad trydan newydd ar draws Ynys Môn efo'r gost yn brif, os nad yr unig, ffactor, rydw i'n meddwl, mewn penderfynu sut gysylltiad i'w gael, a beth maen nhw am wneud, felly, ydy mynd am yr opsiwn rhataf, sef peilonau uwchben y ddaear yn hytrach na mynd o dan y ddaear neu o dan y môr, sef beth rydym ni yn Ynys Môn yn gofyn amdano fo. Rŵan, dyna—mynd dan y môr neu dan y tir—fyddai'n gwarchod buddiannau Ynys Môn rŵan, a chenedlaethau'r dyfodol yn Ynys Môn, ac mae gennym ni Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Rŵan, chi ydy'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros weithrediad y Ddeddf honno. A ydych chi'n barod i roi ymrwymiad i weithio efo fi ac eraill fel ymgyrchwyr yn erbyn peilonau i wthio ar y grid, ar Ofgem, ar Lywodraeth Prydain—a fydd yn gwneud y penderfyniad yn y pen draw—i sicrhau bod y cynllun cysylltu yma ddim ond yn gallu digwydd yn unol ag egwyddorion y darn pwysig yna o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei basio yn y lle yma? 

Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am beth ddywedodd e. Rydw i'n gwybod am y gwaith y mae e wedi'i wneud yng nghyd-destun yr ynys ar y pwnc yma. Rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio'n agosach gyda'r cyngor lleol ar y pethau mae ef wedi cyfeirio atyn nhw. Nawr, roeddwn i'n falch i weld y datganiad gyda'r National Grid. So, maen nhw wedi gwneud datganiad ar well-being ble maen nhw'n dweud, yng nghyd-destun y Ddeddf,

Er nad yw'r rhain yn cyflwyno gofynion penodol ar y Grid Cenedlaethol neu ddatblygiad llinellau trosglwyddo newydd, mae'r Grid Cenedlaethol yn credu bod amcanion y Ddeddf yn bwysig ac yn haeddu ystyriaeth.

Felly, mae'r Grid Cenedlaethol yn cydnabod effaith y Ddeddf i raddau. Mae'r Ddeddf yn rhwymol o ran y cyngor lleol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei ddylanwadu ganddi. Rwy'n clywed, wrth gwrs, yr hyn a ddywed yr Aelod am danddaearu a gosod peilonau uwchben y ddaear, a thanddaearu yw dewis cyntaf Llywodraeth Cymru, ond bydd angen cynnal trafodaethau, a bydd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn rhan ohonynt wrth i ni geisio sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i’r ynys tra'n lliniaru effeithiau'r datblygiadau hyn.

Ddydd Iau diwethaf, ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau â bwrdd ardal fenter Ynys Môn a chyfarfuom â chynrychiolwyr y bwrdd—cyngor Ynys Môn, Menter Môn, y trydydd sector, busnesau ac addysg—a dywedasant wrthym pa mor bwysig yw'r seilwaith trosglwyddo trydan sylweddol, nid yn unig i ddatblygu'r Wylfa Newydd, yr orsaf bŵer niwclear newydd, ond i ehangu porthladd Caergybi, argymhellion ar gyfer gwaith newydd i gynhyrchu ynni'r llanw ar y môr, ac yn y blaen. Pa ymgysylltiad rydych yn ei gael, felly, â bwrdd ardal fenter Ynys Môn i gael cyngor ar seilwaith trafnidiaeth trydan cynaliadwy yn y dyfodol, a sut y byddwch yn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu hynny'n aros ar agor yn y dyfodol yn dilyn y cyhoeddiad y bore yma y bydd bwrdd ardal fenter Ynys Môn yn cael ei uno ag un Eryri?

Wel, Lywydd, yn y bôn, materion ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw'r rhain yn hytrach na materion i mi fel Gweinidog cyllid, ond cytunaf gyda'r hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â'r angen am seilwaith trydan effeithlon a dibynadwy, nid yn unig ar gyfer datblygiad y Wylfa Newydd, ond ar gyfer agenda ehangach Ynys Môn fel ynys ynni. Gallaf ei sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'r buddiannau hanfodol ar yr ynys mewn perthynas â'r mater hwn a byddaf yn sicrhau fy mod yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at ei gwestiwn.

Cronfa Pontio'r UE

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro telerau ac amodau cronfa pontio'r UE o £50 miliwn? OAQ51762

14:50

Rydym yn datblygu gweithrediad manwl cronfa bontio’r UE mewn partneriaeth â busnesau yng Nghymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill, i'w helpu i baratoi ar gyfer Brexit. Roedd trafodaethau ynghylch telerau ac amodau posibl y gronfa yn eitem bwysig ar yr agenda yr wythnos diwethaf yng nghyfarfod y grŵp cynghori ar Ewrop.

Wel, rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad rhagweithiol Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol Cymru, nid yn unig gyda chyhoeddi cronfa bontio yr UE sy’n werth £50 miliwn, ond hefyd y buddsoddiad rhanbarthol a'r cynlluniau materion masnach. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn rhan o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sy'n darparu gwaith craffu adeiladol ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod trafodaethau Brexit. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos ddiwethaf, gofynnais, yn rhinwedd fy swydd fel aelod o'r pwyllgor hwnnw, am gael gweld y ddogfen, yr honnir iddi gael ei datgelu'n answyddogol, ar effaith Brexit ar yr economi. Gofynnwyd i ni fynd i adeilad Llywodraeth y DU ar wahân, nid ar ystâd y Cynulliad, a gwneud apwyntiad o ddetholiad o slotiau amser cyfyngedig a phenodol iawn er mwyn mynd i ystafell ddarllen wedi'i gwarchod. Deallaf fod gan y pwyllgorau Brexit yn y Senedd fynediad llawn at yr adroddiad hwn. Ni all hyn fod yn iawn. Nid yw estyniadau y tu hwnt i'r wythnos hon yn dderbyniol nac yn gyfleus. Rwy'n gwneud amser ar gyfer hyn yfory, ac mae’n mynd i fod yn eithriadol o anghyfleus. Dylid gwneud yr adroddiad yn gyhoeddus, nid yn unig ar ein cyfer ni, ond ar gyfer ein hetholwyr a'n rhanddeiliaid.

Ond yr hyn sy'n fwy pwysig yw'r hyn a ddywed yr adroddiad, ac rwy'n deall bod y dadansoddiad swyddogol hwn gan Lywodraeth y DU yn dangos y byddai Cymru'n dioddef gostyngiad o 9.5 y cant i gynnyrch domestig gros pe bai'r DU yn gadael yr UE heb fargen. At hynny, mae'r astudiaeth hefyd yn dangos y byddai Cymru yn dioddef gostyngiad o 5.5 y cant yn y cynnyrch domestig gros hyd yn oed pe bai'r DU yn gadael yr UE gyda bargen masnach rydd, ac y byddai gostyngiad o 1.5 y cant pe bai'r wlad yn aros yn y farchnad sengl. Deellir y bydd y colledion disgwyliedig yn para am gyfnod o 15 mlynedd. Felly, o ystyried y senarios twf isel hyn, yn ogystal â'r ansicrwydd cyfredol mewn perthynas â thelerau'r cyfnod pontio, a yw hyn wedi effeithio ar eich cynlluniau a'ch trefniadau ar gyfer cronfa bontio yr UE Llywodraeth Cymru?

Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd. Cawsom gwestiynau cynharach y prynhawn yma, Lywydd, am y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn trefnu ei hun mewn perthynas â mater Brexit. Byddai'r stori druenus am fynediad i’r Aelodau at adroddiadau yr honnir iddynt gael eu datgelu'n answyddogol wedi cywilyddio Clochemerle, heb sôn am Lywodraeth y DU. Rhannaf farn Anna Soubry, fy hun. [Torri ar draws.] Rhannaf farn Anna Soubry—yr Aelod Seneddol Ceidwadol a ddywedodd fod perfformiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater hwn yn chwerthinllyd. Mae'n trin y Senedd hon a'r Cynulliad hwn, a Senedd yr Alban, fel pe baem yn perthyn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rydym yn cael ein hebrwng i ystafelloedd cloëdig i edrych ar ddogfennau nad ydym yn cael gwneud nodiadau arnynt hyd yn oed, er bod aelodau o'r cyhoedd yn eu darllen ar y rhyngrwyd. Mae'n gwbl chwerthinllyd ac mae'n amharchus, ac nid yw'n ychwanegu at yr hyder fod Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau hyn.

Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am yr anghwrteisi o fod wedi methu cwestiwn yn y sesiwn flaenorol?

Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod gyda David Melding a Jane Hutt yn darllen yr adroddiadau hyn, ond efallai y gall ddweud wrthym hefyd a fydd yr adroddiad ar ddatgelu answyddogol neu fel arall ar yr ad-drefnu yn cael ei gyhoeddi, o ystyried ei ymrwymiad newydd i fod yn agored a thryloyw mewn bywyd cyhoeddus. A gaf fi hefyd ofyn iddo, pan fydd yn ystyried yr adroddiadau hyn gan Lywodraeth y DU, a fydd yn ystyried y ffaith mai'r daroganwyr sydd wedi ysgrifennu'r amcangyfrifon eithriadol o fawr hyn o golledion allbwn posibl, yw'r un rhai at ei gilydd a ddywedodd y byddai dirwasgiad ar unwaith pe baem yn pleidleisio i adael ar 23 Mehefin, ac y byddai 0.5 miliwn o swyddi’n cael eu colli ledled y DU, er mai’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod 0.5 miliwn o swyddi newydd wedi cael eu creu?

Wel, rwyf am wneud dau bwynt, Lywydd. Y cyntaf yw bod y bobl sydd wedi gwneud yr amcangyfrifon hyn yn bobl a gafodd eu dewis gan Llywodraeth y DU i wneud yr amcangyfrifon hyn. Nid grŵp o bobl ydynt sydd wedi dewis eu hunain at y diben hwn. Mae eich Llywodraeth wedi penderfynu mai hwy yw'r bobl orau i roi'r cyngor hwn iddynt. Wrth gwrs, pan fyddant yn rhoi cyngor nad ydych yn ei hoffi, rydych yn credu mai'r peth hawsaf i'w wneud yw lladd ar y bobl sy'n ei ddarparu.

Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud i'r Aelod yw hwn: mae'r polisi masnach a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar hefyd yn cynnwys amcangyfrifon o'r effaith y byddai gwahanol ffyrdd o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar economi Cymru, ac mae cyd-daro rhyfeddol rhwng ffigurau'r bobl sydd wedi ein cynghori ar gyfer cynhyrchu'r adroddiad hwnnw a ffigurau'r bobl a oedd yn cynghori Llywodraeth y DU. Nid wyf yn credu y gallwn ddiystyru'r ffigurau am nad ydym yn eu hoffi ac am nad ydynt yn cyd-fynd â'n safbwynt ni.

14:55
Treth Gwarediadau Tirlenwi

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r dreth gwarediadau tirlenwi? OAQ51740

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Daethpwyd i gytundeb gyda Llywodraeth y DU y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei gweithredu ar 1 Ebrill eleni. Mae nifer o safleoedd tirlenwi eisoes wedi gwneud cais i gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, ac mae'r adborth ar y broses gofrestru a'r canllawiau a gynhyrchwyd gan yr awdurdod wedi bod yn gadarnhaol.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ymddengys bod cyfle gwirioneddol yma i ddefnyddio hyn fel cynllun da iawn a fydd, gobeithio, yn gwrthbwyso i ryw raddau rhai o'r effeithiau negyddol posibl ar gymunedau sy'n byw o fewn pum milltir i safleoedd tirlenwi. Ond nid yw'n ymddangos bod llawer iawn o wybodaeth ar gael ar wahân i'r ffaith mai Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fydd yn ei weinyddu. Felly, a ydych yn bwriadu, neu a yw Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn bwriadu, rhoi gwybod i gymunedau a sefydliadau sut y gallant, yn gyntaf oll, ddeall y cynllun ac yna gwneud cais am unrhyw gymorth y gall y cymunedau hynny elwa arno, yn unol â'r dreth dirlenwi hon?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at y cynllun cymunedau yn y dreth gwarediadau tirlenwi? Mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru, ac roedd gan aelodau'r Pwyllgor Cyllid ddiddordeb arbennig ynddo. Y ffaith bod gennym barth pum milltir sydd bellach yn cynnwys gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn ogystal â safleoedd tirlenwi oedd un o'r newidiadau a wnaed i'r cynllun. Roedd ein cyd-Aelod, Mike Hedges, yn arbennig o ddylanwadol yn dadlau o blaid hynny, a gwn y bydd Joyce Watson yn arbennig o falch o wybod bod hynny'n golygu bod 16 o orsafoedd trosglwyddo gwastraff yn ei rhanbarth hi bellach, lle bydd cymunedau nad oedd yn gallu elwa o'r cynllun o gwbl yn flaenorol yn gallu elwa ohono bellach. Dewiswyd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fel y corff a fydd yn goruchwylio'r cynllun. Rydym yn disgwyl y bydd y ceisiadau cyntaf yn cyrraedd yn hwyr yn y gwanwyn eleni, a bydd cyfnod rhwng yn awr a hynny pan fyddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd o’r newydd i'r cynllun ac yn tynnu sylw grwpiau, a fyddai, o bosibl, yn dymuno gwneud cais o'r fath, at y tri diben hanfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa mor debygol yw hi y bydd y cyfraddau’n amrywio rhwng Cymru a Lloegr mewn gwirionedd? Neu a ydych yn teimlo y bydd problem y ffin bob amser yn anorchfygol o ran cael polisi mwy manwl a phenodol yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion ein hunain?

Wel, mae David Melding yn hollol gywir fod y ffin yn fater arwyddocaol iawn mewn perthynas â'r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae twristiaeth wastraff, rhywbeth y daeth rhai ohonom yn gyfarwydd ag ef yn ystod taith y Bil, yn risg wirioneddol, a dyna pam rwyf wedi dweud, wrth bennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y dreth hon, na fyddem yn amrywio oddi wrth y cyfraddau a'r bandiau dros y ffin am y ddwy flynedd gyntaf o leiaf. Rydym eisoes wedi amrywio, fodd bynnag, drwy bennu band 150 y cant ar gyfer gwarediadau heb awdurdod, ac nid yw hwnnw'n bodoli dros y ffin. Felly, mae rhywfaint o wahaniaethu yma eisoes ac rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn. Byddwn yn edrych i weld sut y mae'r dreth yn gweithredu yn ystod ei dwy flynedd gyntaf oherwydd bydd gennym yn awr, am y tro cyntaf, dystiolaeth fanwl am y ffordd y mae gwarediadau tirlenwi'n digwydd yng Nghymru. Wedyn, bydd cyfle i weld a oes modd cael rhywfaint o amrywio pwrpasol. Rwyf wedi dweud ers y cychwyn, ac rwyf am ei ddweud eto: nid wyf yn credu mewn amrywio er mwyn amrywio. Os yw'n addas i ni ac yn gwneud pethau mewn ffordd well i ni yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynny, ond byddwn yn aros i gael y dystiolaeth cyn gwneud penderfyniad o'r fath.

Ffordd Liniaru'r M4

6. Faint o gyllid ychwanegol sydd ei angen i dalu am ffordd liniaru'r M4? OAQ51757

Lywydd, ni fydd angen unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer cyfnod y gyllideb y mae'r cynlluniau cyfalaf wedi'u nodi ynddynt, ac ni fydd unrhyw arian yn cael ei ddyrannu hyd nes y cawn ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol.

15:00

Mae prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi nodi yn 'Sbarduno Economi Cymru' y gallai system drafnidiaeth integredig wedi'i chydlynu â chynlluniau defnydd tir fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth.

'Wrth wraidd y dyhead hwn y mae’r weledigaeth ar gyfer Metro sy’n darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, integredig, o ansawdd uchel yn cysylltu sawl dull teithio; sy’n cynnig gwasanaethau cyflym, aml a dibynadwy; sy’n cysylltu cymunedau â’i gilydd ac yn cefnogi datblygiad economaidd; i greu dinas-ranbarth deinamig, cynaliadwy a braf i fyw ynddo.'

Rwy'n dyfynnu hyn oherwydd nad oes unrhyw sôn o gwbl fod ffordd liniaru'r M4 yn cyfrannu at y weledigaeth honno. Rwy'n pryderu, gyda’r amcangyfrif o gost ffordd liniaru'r M4 yn cynyddu o hyd, pe bai'r gwaith yn mynd rhagddo, faint o derfyn benthyca cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru a fyddai'n cael ei lyncu gan y prosiect hwn? A beth, os unrhyw beth, fyddai ar ôl ar gyfer datblygu'r metro?

Wel, Lywydd, yn bersonol, nid wyf yn synnu nad oes cyfeiriad at ffordd liniaru'r M4 yn nogfen prifddinas-ranbarth Caerdydd, oherwydd mae ariannu'r metro yn elfen bwysig a phenodol o'r fargen honno mewn gwirionedd, ac mae'r arian sy'n sail iddi eisoes wedi cael ei neilltuo ar gyfer datblygu'r metro.

Gadewch i mi wneud y safbwynt yn glir o ran benthyca cyfalaf. Cafodd Llywodraeth Cymru gynnig mynediad cynnar at fenthyca, gyda'r benthyciad hwnnw’n amodol ar sicrhau ei fod ar gael ar gyfer yr M4. Fel y digwyddodd, ac fel yr eglurais wrth y Pwyllgor Cyllid y bore yma, nid wyf wedi bod angen defnyddio benthyciad ar gyfer costau cyfalaf yr M4. Yn y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi gallu talu'r costau drwy ddefnyddio cyfalaf confensiynol. Cafodd hynny i gyd ei oddiweddyd gan y fframwaith cyllidol, a lofnodwyd ym mis Rhagfyr 2016. Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu benthyg £125 miliwn yn 2018-19, a bydd hwnnw'n codi i £150 miliwn ar ôl hynny, hyd at gyfanswm o £1 biliwn. Ond nid yw'r benthyciad hwnnw wedi'i neilltuo ar gyfer yr M4. Bydd angen i Ysgrifenyddion Cyllid wneud penderfyniad bryd hynny ynghylch y cydbwysedd i’w daro rhwng cyfalaf confensiynol a benthyca ar gyfer yr M4, os yw'n digwydd, ac mae hynny'n ddibynnol, fel y dywedais, ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cwmni dadansoddi traffig INRIX yn amcangyfrif bod y tagfeydd traffig ar ein ffyrdd y llynedd wedi costio bron i £278 miliwn i economi Cymru, sy'n ffigur trawiadol. Mae tagfeydd yn costio £134 miliwn i Gaerdydd, £62 miliwn i Abertawe, a £44 miliwn i Gasnewydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y gost hon i economi Cymru yn cael ei hystyried wrth benderfynu ar ddyfodol ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn ardal Casnewydd? Diolch.

Mae sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth sy'n caniatáu i bobl a busnesau symud yn effeithiol ledled Cymru yn bwysig i'n dyfodol, wrth gwrs, ac dyna sydd wrth wraidd yr ymchwiliad cyhoeddus. Ai'r ateb o reidrwydd bob amser yw adeiladu mwy o ffyrdd? Wel, nid o reidrwydd wrth gwrs. Dyna pam rydym yn buddsoddi yn y metro, y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato. Felly, mae'r mater, wrth gwrs, yn un rydym yn ei gydnabod. Bydd yr atebion iddo yn lluosog ac yn amrywiol.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bargen ddinesig Bae Abertawe? OAQ51756

Mae'r ddinas-ranbarth yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i symud y fargen i'r cam nesaf. Cam cyflenwi yw hwnnw, a bydd yn datgloi arian y Llywodraeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cefnogi'r fargen ddinesig yn frwd, ac rwy'n credu y bydd budd gwirioneddol, nid yn unig yn yr 11 o brosiectau sydd wedi'u dewis i’w datblygu, ond yn yr hinsawdd economaidd y bydd y seilwaith yn ei chreu, a'r llu o brosiectau bach a phrosiectau amgen a all ddeillio ohoni.

Yn Sir Benfro, mae prosiect morol Doc Penfro wedi cael ei gynnig fel prosiect allweddol. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae mewnbwn y fargen ddinesig oddeutu £28 miliwn, gyda £24 miliwn yn dod o gronfeydd cyhoeddus eraill, a £24 miliwn arall o'r sector preifat. Ond os gwelwch yn dda, a wnewch chi gadarnhau i mi pa sefydliadau a fydd yn gyfrifol am dalu llog y benthyciadau hynny?

Wel, os wyf yn deall cwestiwn yr Aelod yn gywir, bydd y benthyciad yn cael ei dalu gan yr awdurdod lleol, oherwydd roedd benthyca darbodus bob amser yn rhan o'r cyfraniad roedd awdurdodau lleol yn mynd i’w wneud i'r fargen. Ar ôl cytuno’r fargen, ac ar ôl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU graffu ar yr wybodaeth ariannol yn ofalus iawn, cafodd gallu awdurdodau lleol i gefnogi'r cyfraniad y maent wedi ymrwymo i'w wneud i'r fargen ei archwilio'n ofalus. Rwy’n dal i fod yn awyddus iawn, fel hithau, rwy’n gwybod, i symud ymlaen i'r cam lle y gellir rhyddhau'r arian rwyf wedi'i neilltuo, a'r arian y gwn fod Llywodraeth y DU wedi'i neilltuo, i gefnogi prosiect morol Doc Penfro, ond hefyd y 10 prosiect arall sydd yn y fargen. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud yn siŵr eu bod mewn sefyllfa i gyflawni'r ymrwymiad a wnaethant mewn perthynas â chyllid pan lofnodwyd y cytundeb.

15:05

Yn naturiol, fel rŷch chi'n gwybod, fel rhan o'r fargen ddinesig, mae buddsoddiad y sector gyhoeddus, wrth gwrs, yn allweddol er mwyn sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol ar gael, a bod y prosiectau unigol, fel rydym ni wedi clywed, yn cael y cyfle gorau i lwyddo. Ar ôl dweud hynny, mae pawb yn ymwybodol bod buddsoddiad y sector breifat yn mynd i fod yn hollbwysig i lwyddiant y fargen ddinesig. Heb hyn, bydd y peth yn methu yn gyfan gwbl.

Felly, yn dilyn eich trafodaethau mwyaf diweddar, a allaf i ofyn pa mor ffyddiog ydych chi ar hyn o bryd fod y fargen ddinesig yn mynd i ddelifro'r buddsoddiad preifat angenrheidiol, a beth ydych chi'n gwneud fel Llywodraeth i gefnogi'r cynghorau lleol yma i gyrraedd y nod?

Llywydd, un o'r pethau a oedd ar wyneb y fargen ddinesig ym mae Abertawe oedd y cyfraniad sy'n mynd i ddod o'r sector breifat, a'r rôl roedd y sector breifat yn ei roi pan oedd y fargen yn cael ei chynllunio. Nawr, rydw i'n edrych ymlaen at apwyntiad y cadeirydd i'r economic strategy board, sy'n allweddol i'r fargen. Bydd y cadeirydd yna yn dod o'r sector breifat. So, mae yn hollol bwysig yn y fargen i dynnu mewn beth mae'r awdurdodau lleol yn gallu ei roi, beth rŷm ni'n gallu ei roi fel Llywodraeth, ond hefyd i ddefnyddio'r egni a phethau ar y tir y mae'r sector breifat yn gallu eu rhoi i'r fargen hefyd. Rydw i'n hyderus bod y diddordeb yna, a'n bod ni'n gallu defnyddio hynny i gael bargen sy'n mynd i lwyddo i bob rhan o dde-orllewin Cymru.

Yr un peth yr hoffwn ei ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet yw bod cefnogaeth drawsbleidiol aruthrol ymhlith pobl sy'n byw yn ninas-ranbarth bae Abertawe i wneud dinas-ranbarth bae Abertawe yn llwyddiant. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod yr holl arian a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru yn wreiddiol ar gyfer bargen ddinesig bae Abertawe yn parhau i fod ar gael ar gyfer bargen ddinesig bae Abertawe?

Rwy'n hapus iawn i roi sicrwydd i'r Aelod fod y £125.4 miliwn a roesom ar y bwrdd i gwblhau’r fargen yn dal i fod ar gael. Rwy'n ymrwymedig iawn, fel y dywedais wrth Angela Burns, i wneud popeth a allwn i helpu'r fargen i symud i'r cam nesaf fel y gellir rhoi'r arian sydd ar gael ar waith i gefnogi'r ymrwymiad y gwn ei fod yno ymhlith y boblogaeth leol i sicrhau bod y fargen hon yn llwyddiant.

Pwerau Benthyca

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwerau benthyca newydd Llywodraeth Cymru? OAQ51753

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae'r fframwaith cyllidol newydd yn sicrhau gwerth £1 biliwn o bwerau benthyca cyfalaf, fel rwyf wedi'i nodi gerbron y Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon. Fy mwriad bob tro yw manteisio i'r eithaf ar y mathau rhataf o gyfalaf cyn bwrw ymlaen i ddefnyddio mathau mwy cymhleth a chostus o fuddsoddiad.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r pwerau benthyca newydd sydd, fel y dywedwch, yn werth hyd at £1 biliwn, dan Ddeddf Cymru 2017, a fydd yn dod i rym mewn mater o wythnosau. Nawr, mae'n hanfodol wrth gwrs fod yr arian a'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio i hybu economi Cymru, ac yng ngogledd Cymru yn enwedig, mae hyn yn golygu sicrhau bod amseroedd teithio'n gyflymach ac yn fwy dibynadwy, yn enwedig o ran uwchraddio'r A55. A allwch fy nghynghori ynglŷn â pha sicrwydd rydych yn bwriadu ei roi i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol arfaethedig o ran eich ymrwymiadau i ddefnyddio'r pwerau benthyca ychwanegol i sicrhau bod mynediad at arian o'r fath yn cael ei ystyried fel rhan o'r cynlluniau seilwaith hirdymor a mawr eu hangen hyn yng Nghymru?

15:10

Rwy’n rhannu croeso'r Aelod i’r pwerau benthyca a fydd gennym. Fel y byddai hi’n ei nodi, mae’n rhaid ad-dalu arian a fenthycwyd. Felly, mae angen sicrhau cydbwysedd gofalus wrth fuddsoddi heddiw a bod yn hyderus y gallwn ad-dalu'r arian rydym wedi'i fenthyca yn y dyfodol. Ond rwy'n ei ystyried, fel yr oedd hi'n ei awgrymu rwy'n credu, yn fuddsoddiad yn nyfodol ein gwlad a'i llwyddiant economaidd. Rwyf wedi gwrando arni droeon yn dadlau dros fuddsoddi mewn materion trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Gwn y bydd hi wedi croesawu'r £250 miliwn y mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'w ddefnyddio i fynd i'r afael â thagfeydd ar goridor Glannau Dyfrdwy, ac mae camau eraill y mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a buddsoddi, yn eu cymryd i wneud yn siŵr fod yr A55 yn parhau i fod yn briffordd sy'n sbarduno ffyniant ar draws gogledd Cymru.

Mae benthyca, fel rydych newydd ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bob amser yn dod gyda chost, ond rydym ar hyn o bryd ar gyfraddau llog isel iawn ac felly mae yn awr yn amser anhygoel o dda i fenthyca, yn enwedig os gallwch fenthyca ar gyfraddau sefydlog gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried benthyca ar gyfer ein rhaglen adnewyddu ysbytai i dorri costau ym maes iechyd ar gyfer cynnal rhai o'r adeiladau sydd ganddynt?

Wel, Lywydd, un o'r pethau sy'n amlwg o'r cwestiynau rydym wedi'u cael y prynhawn yma yw'r ddealltwriaeth fod y benthyca rydym yn gallu ei wneud yn awr ar gael ar gyfer amrywiaeth o ddibenion posibl yma yng Nghymru. Gwn y bydd fy nghyd-Aelodau Cabinet yn dod ataf, bob un ohonynt, gyda chynlluniau gwerth chweil y maent eisiau bwrw ymlaen â hwy a buddsoddi ynddynt—seilwaith hanfodol a gwasanaethau cyhoeddus ac iechyd. Bydd y gallu i greu adeiladau yn y dyfodol sy’n gweithredu’n fwy effeithlon, rwy'n siŵr, ar y rhestr o argymhellion y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd eisiau ei chynnig i mi.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac i ofyn y cwestiwn, Simon Thomas.

Gwasanaethau plant ym Mhowys

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â gwasanaethau plant ym Mhowys yn sgil adroddiad gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am farwolaeth plentyn o dan ofal y Cyngor Sir? 142

Diolch, Simon. Cafodd bywyd y person ifanc hwn ei golli o dan yr amgylchiadau mwyaf trychinebus ac rwy'n credu y bydd cyhoeddi'r adolygiad yn amser anodd i'w deulu. Fel hwy, rydym yn disgwyl y bydd Powys yn cyflymu'r gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gofal a'r cymorth gorau'n cael eu darparu bob amser.

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac yn amlwg byddai pob un ohonom eisiau anfon ein cydymdeimlad at y rhieni maeth ac unrhyw un arall a gafodd eu heffeithio gan hyn. Mae'n amlwg o ddarllen adroddiad yr adolygiad ymarfer plant fod y plentyn wedi mynegi pryderon ac ansicrwydd mawr iawn ynglŷn â’i lwybr, ac un o'r pethau mwyaf sylfaenol ac annymunol i'w darllen yn yr adroddiad yw'r methiant i gyfathrebu rhwng plentyn, ei ofalwyr maeth a'r awdurdodau, nad oeddent, yn syml iawn, yn gwrando.

Os caf ofyn dau gwestiwn i'r Gweinidog. Yn gynharach y bore yma, cynhyrchodd ddatganiad ysgrifenedig ar wasanaethau plant ym Mhowys, a soniai am barhau i weithio gyda'r cyngor sir. Hoffwn ddeall a yw wedi ystyried adroddiad yr adolygiad wrth gyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwnnw, gan fod llawer o bobl ym Mhowys yn teimlo bod hwn yn arwydd arall fod pethau wedi dirywio i'r fath raddau yno fel bod angen ymyrraeth fwy uniongyrchol nag y mae'r Gweinidog wedi bod yn barod i'w wneud hyd yn hyn mewn gwirionedd, a gwn fy mod wedi trafod hyn gydag ef yn y gorffennol.

Yr ail elfen yr hoffwn ei holi amdani yw'r ffaith ei bod yn amlwg o ddarllen yr adroddiad fod y canllawiau ymarfer cenedlaethol sydd ganddo fel y Llywodraeth genedlaethol, 'Pan Fydda i'n Barod', sy'n sôn yn glir iawn am ganiatáu i rai pobl gymwys yn eu harddegau aros mewn gofal y tu hwnt i 18 oed os nad ydynt yn barod i adael gofal, ac sy'n sôn yn glir am eu rhoi yng nghanol cynlluniau gofal—ni chafodd y canllawiau arfer da eu dilyn yn yr achos hwn; ni roddwyd unrhyw ofal dyledus. Felly, pa sicrwydd y gall ei roi i bobl Powys yn awr ac i'r gymuned ehangach fod y canllawiau hyn, y cyhoeddwyd gennym eu bod ymysg canllawiau gorau’r byd ar gyfer plant mewn gofal, yn cael eu dilyn ym mhob rhan o Gymru mewn gwirionedd, yn enwedig ym Mhowys? Sut y gall roi sicrwydd o'r fath yn y dyfodol?

15:15

A gaf fi ddiolch i Simon am dynnu sylw at y mater hwn heddiw, ond hefyd am y cwestiynau perthnasol y mae wedi'u codi yn ei ffocws parhaus, a ffocws parhaus eraill, ar y materion pwysig iawn hyn? Gadewch i mi ymdrin â phob un o'r pwyntiau a gododd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i rieni'r gŵr ifanc am eu diwydrwydd yn pwyso am yr adolygiad ymarfer plant hwn. Roedd gwahanol ffyrdd o fwrw ymlaen â hyn; roeddent yn benderfynol o gael adolygiad ymarfer plant. Ac mae'r adolygiad ymarfer plant estynedig hwn yn gyfle da, nid yn unig i fyfyrio, ond i wneud yn siŵr fod y gwersi o'i fewn, ac mae wedi cyffwrdd â rhai ohonynt, wedi eu cynnwys yn awr o fewn y gwelliannau rydym eisoes yn ceisio eu sicrhau ym Mhowys, ar y cyd ag eraill sy'n eu cefnogi, er mwyn cyflawni mewn gwirionedd, ac nid cyflawni yn y tymor byr yn unig, ond yn y tymor canolig a'r tymor hir hefyd, fel eu bod yn rhwymol.

Cyfeiriodd at yr agwedd, y ffaith, fod lleisiau plant a phobl ifanc eu hunain, pa mor bwysig ydynt yn gyffredinol, ac mae hwnnw'n fater o egwyddor o fewn ein fframwaith statudol, ac eto roedd ar goll yn y fan hon. Mae hwnnw'n bwynt allweddol sy'n cael ei amlygu yn yr adolygiad a'r adroddiad hwn, a byddem yn disgwyl i Bowys fel rhan o'i chynllun gwella—mae eisoes yno—ddysgu gwersi o hyn yn unol â'u cynllun gwella, a gwneud yn siŵr fod hwnnw'n rhwymol fel bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Mae llais y plentyn yn allweddol i hyn. Mae Cadeirydd y pwyllgor sy'n eistedd wrth fy ymyl wedi ailadrodd hyn yng ngwaith ei phwyllgor o'r blaen, ac yn y blaen. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod hyn yn cael ei weithredu ar lawr gwlad ym mhob ymwneud â gweithwyr proffesiynol rheng flaen.

Roedd Simon yn cyfeirio at ddull 'Pan Fydda i'n Barod'—yr union bwynt hwnnw—fel bod pryderon a dyheadau pobl ifanc yn cael eu clywed, yn enwedig ar adeg gwneud cynlluniau pontio, a dangosir yn glir yn yr adroddiad nad oedd hynny'n wir. Ac yn drasig, gwyddom, pe bai pobl wedi gwrando ar hynny, efallai y gellid bod wedi osgoi'r sefyllfa drasig hon.

Yn wir, mae yna ddatganiad a gyhoeddwyd heddiw yn fy enw i ac enw fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddatganiadau yn dilyn cynlluniau gwella a chynlluniau gweithredu. Mae'r datganiad heddiw yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad, a buaswn yn annog yr Aelodau i edrych ar y cam nesaf o gymorth i Gyngor Sir Powys, a sefydlu bwrdd gwella a sicrwydd i oruchwylio a chydlynu'r gwaith gwella yng Nghyngor Sir Powys. Nid yw hyn yn tynnu oddi wrth y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Yr hyn a wna mewn gwirionedd yw adeiladu ar hynny. Wrth annog yr Aelodau i edrych arno, mae'n mynd yn ehangach i mewn i faes corfforaethol arweinyddiaeth a diwylliant Powys i wneud yn siŵr fod y rhain yn newidiadau sy'n rhwymo, ac nid yn unig yr adolygiad a'r adroddiad heddiw, sy'n mynd law yn llaw â chynlluniau gwella sydd eisoes ar waith, ond yr arweinyddiaeth gorfforaethol ehangach sydd angen ei hysgogi, gyda chymorth o fewn Powys, ac sydd angen rhwymo o ddifrif, fel ein bod yn lleihau'r posibilrwydd y bydd y math hwn o ddigwyddiad yn digwydd eto. Felly, rwy'n tynnu sylw at y datganiad hwnnw.

Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion sicrhau bod yr hyn sydd wedi'i ddysgu o'r adolygiad ymarfer plant hwn yn llywio gwaith parhaus grŵp cynghori'r Gweinidog, dan gadeiryddiaeth David Melding, ein cyd-Aelod, ar wella canlyniadau i blant, yn ogystal â chynghori gwaith parhaus Gofal Cymdeithasol Cymru a gwaith y byrddau diogelu plant eraill yng Nghymru. Yn rhy aml, rydym yn dweud bod yn rhaid i ni ddysgu gwersi o hyn. Wel, roedd rhai o'r gwersi hyn wedi'u dysgu eisoes—rhoesom y fframweithiau cywir ar waith, ac yn y blaen—yn awr, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu'n ddi-ffael ym mhob man.

Weinidog, mae'r achos trasig sydd wedi cael ei amlinellu heddiw, wrth gwrs, yn amlwg yn mynd yn ôl i 2015, cyn adroddiad yr arolwg safonau gofal critigol o wasanaethau plant a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. A fydd gwaith y bwrdd gwella gwasanaethau plant cyfredol yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn, a pha wersi y credwch eu bod wedi cael eu dysgu yn y cyd-destun ehangach? Ac a gaf fi ofyn hefyd, yng ngoleuni'r adroddiad hwn, a ydych yn credu bod yr awdurdod lleol angen rhagor o gymorth?

Ar y pwynt olaf—diolch am yr ymholiadau hynny—yn wir, os gallaf gyfeirio'r Aelod at y datganiad eithaf helaeth a wnaethom ar y cyd heddiw, oherwydd mae'n dangos y lefel uwch o ymgysylltiad sydd gennym yn awr yn uniongyrchol gyda Phowys ar lefel gorfforaethol, ar lefel ddiwylliannol ac ar lefel arweiniol, sy'n mynd y tu hwnt i wasanaethau cymdeithasol yn unig. Diolch i fy nghyd-Aelod am y ffordd bersonol iawn y mae ein swyddogion wedi mynd i'r afael â'r mater hwn, gan geisio helpu Powys i helpu ei hun a newid y sefyllfa. Cafwyd llawer iawn o gefnogaeth gan awdurdodau eraill eisoes, nid yn unig o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, ond o fewn y maes corfforaethol ehangach hefyd.

O ran sut y mae hyn yn bwydo i mewn i'r gwaith parhaus, wel, ydy, yn sicr. Yn unol â’r datganiadau blaenorol a wnaethom a'r hysbysiadau rhybuddio a gyhoeddwyd gennym, a'r camau gweithredu rydym wedi’u mynnu gan Bowys, tra'n rhoi cymorth iddynt yn ogystal, cymorth y maent wedi ei gymryd yn barod, rwy’n falch o ddweud fod hyn yn rhan o'r gwaith parhaus. Felly, mae'r holl gynlluniau gweithredu a nodir yma—. Os edrychwch ar y pedwar maes allweddol sydd wedi deillio o'r adroddiad hwn: cynlluniau pontio, gan gynnwys gwybodaeth am ddull 'Pan Fydda i'n Barod' a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer plant, pan nad yw'r awdurdod lleol yn rhannu cyfrifoldeb rhieni—mae hynny'n rhan ohono; yr uwchgyfeirio a'r her, sy'n cynnwys datblygu mecanweithiau sicrwydd ansawdd a gwybodaeth am berfformiad—mae hynny'n rhan o'r gwaith gwella parhaus; rhianta corfforaethol, gan gynnwys datblygu mecanweithiau sicrwydd ansawdd i fonitro effeithiolrwydd y polisi datrys gwahaniaethau proffesiynol, y defnydd o berfformiad amlasiantaethol, olrhain canlyniadau da i blant—mae hynny'n rhan o'r cynllun gwella; ac yn olaf, y pedwerydd pwynt allweddol, sef y pwynt allweddol ynghylch cyfranogiad a llais y plentyn. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o effeithiolrwydd eiriolaeth a gomisiynwyd yn rhanbarthol a sicrwydd gan y bwrdd diogelu rhanbarthol, CYSUR, a chan bartneriaid ynglŷn â sut y mae llais y plentyn yn dylanwadu ar eu gallu i sicrhau canlyniadau da i blant. Felly, mae hyn i gyd yn cydweddu'n fawr iawn â'r cynllun gwella sydd eisoes ar waith.

Fel rwy’n dweud, mae'r cyhoeddiad heddiw—y datganiad ar y cyd gennyf fi a fy nghyd-Aelod Cabinet—yn dangos y lefel uwch o ymgysylltiad â Phowys yn awr i sicrhau’r newid hwn mewn arweinyddiaeth a diwylliant a pherchnogaeth, nid yn unig yn y gwasanaethau cymdeithasol, ond ar draws Powys.

15:20

A gaf fi gefnogi Simon Thomas yn yr hyn a ddywedodd yn gynharach a chefnogi'r Gweinidog hefyd yn yr hyn y mae newydd ei ddweud ynglŷn â helpu Powys i helpu ei hun? Gwn o drafodaethau gydag ef, os nad yw hynny'n dwyn ffrwyth ymhen amser, y bydd yn rhoi camau llymach ar waith. Tybed a fyddai'n cytuno â mi mai un o nodweddion mwyaf gofidus yr achos hwn fel y mae'n ymddangos yn adroddiad yr adolygiad ymarfer plant yw ei fod yn dweud hyn,

ymddangosai mai’r her fwyaf arwyddocaol oedd y symlaf, sef cyfathrebu da a chynllunio cydlynol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o brofiadau byw bob dydd Plentyn A ac effaith sylweddol trawma difrifol plentyndod cynnar.

Ymddengys mai methiant i weithio mewn partneriaeth oedd hyn yn bennaf, ac mae'n peri gofid braidd fod gennym yr holl weithwyr proffesiynol hyn sy'n methu cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd, yn ôl pob golwg. Yn yr achos penodol hwn, roedd plentyn A yn huawdl iawn yn dweud wrthynt beth oedd ei anghenion, a’r anhawster oedd nad oedd y gweithwyr proffesiynol yn gallu cyfathrebu hynny ymysg ei gilydd. Nid oes neb yn bychanu anhawster y gwaith y mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn ei wneud, felly nid wyf am danseilio eu hyder neu eu hunan-barch, ond mae gwersi pwysig iawn sy'n rhaid eu dysgu gan bawb yn y gadwyn o awdurdod a arweiniodd at y canlyniad ofnadwy hwn.

Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw yn fwy manwl sut y mae'r gwelliant hwn mewn cyfathrebu o fewn yr awdurdod a rhwng gweithwyr proffesiynol gwahanol yn mynd i gael ei gyflawni.

Gwnaf, yn wir. Diolch, Neil. Rydych yn iawn i dynnu sylw at rai o rannau allweddol yr adroddiad sy'n dweud, er enghraifft, fod angen i weithwyr proffesiynol deimlo'n hyderus—teimlo'n hyderus—wrth weithio gyda rhieni sy'n cael eu hystyried yn heriol a dangos mwy o empathi wrth weithio gyda theuluoedd, fod angen i bob gweithiwr proffesiynol fod â’r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau a deddfwriaeth newydd, a gallu meddwl yn greadigol am gynllunio gyda ac ar gyfer plant yn eu gofal ac yn y blaen.

Mae hyn yn ymwneud ag arferion da, ac mae arferion da unigol ym Mhowys. Y broblem yw'r elfen hon rydym wedi’i gweld lle nad yw’n ymwneud yn syml ag arweinyddiaeth o fewn adran, mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth ar bob lefel, rhannu arferion gorau a lledaenu arferion gorau, a'r dull proffesiynol hwnnw. Mae’r sefyllfa’n newid bellach. Dyna pam yr ailgyhoeddwyd yr hysbysiad rhybuddio.

Nodwyd y gwelliant a oedd wedi cael ei wneud eisoes ar 15 Ionawr, gan gynnwys penodi arweinyddiaeth newydd, ar lefel dros dro, i rai swyddi allweddol. Ond mae mwy i'w wneud, a dyna pam nad ydym wedi diddymu’r hysbysiad rhybuddio, rydym wedi’i ymestyn ac wedi tynnu sylw at y cerrig milltir allweddol mewn mis, mewn tri mis, mewn chwe mis a thu hwnt. Mae ein cefnogaeth yn parhau i fod yn gadarn, ein hanogaeth i wneud yn well yn parhau i fod yn gadarn, ac rydym yn gweld y gwelliant. Pe bai unrhyw beth yn rhoi cysur i'r teulu a'r bobl a oedd yn adnabod y person ifanc hwn heddiw, rwy’n credu mai’r ffaith bod yr achos hwn wedi sbarduno gwelliant parhaus ym Mhowys fyddai hynny.

Mae'n werth ystyried nad diben adolygiad ymarfer plant yw bwrw bai. Y diben mewn gwirionedd yw dweud, 'Dyma lle y gallwch chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella, ac rydym yn disgwyl i hynny ddigwydd.' Felly, byddwn ni a CYSUR, a'r holl asiantaethau eraill a'r gefnogaeth gan gymheiriaid sydd eisoes ar waith, yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu hymgorffori a’n bod yn darparu'r hyder a'r wybodaeth y mae gweithwyr proffesiynol rheng flaen eu hangen i wneud eu gwaith yn dda, yn greadigol ac yn ddiogel, gan ofalu am ein pobl ifanc, gan roi’r cyfleoedd a'r dewisiadau cywir i'n pobl ifanc, ac nid eu gadael allan o'r sgwrs. Dyna y mae’r gwersi a ddysgwyd o hyn yn ei ddweud wrthym, a dyna pam y mae angen ei ymgorffori yn y cynllun gwella sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac er ein bod yn weddol hyderus ei fod yn cael ei gyflawni, mae ffordd bell i fynd o hyd.

15:25

Y peth cyntaf rwyf eisiau ei wneud yw cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan y trychineb hwn. Ond ymddengys i mi mai’r trychineb yn hyn oll—siaradodd Neil Hamilton am y gadwyn o ddigwyddiadau a sgyrsiau, ac rwy'n cytuno ag ef, oherwydd dylai fod wedi bod yn gylch. Roedd gennym gadwyn estynedig o unigolion yn siarad ar wahân, pan ddylent yn amlwg fod wedi’u cysylltu. Nid wyf yn gwybod am bobl eraill, ond rwy'n gwybod amdanaf fi fy hun: rwyf wedi cael llond bol ar siarad am adolygiadau achos lle mae pethau wedi mynd o chwith o ganlyniad i ddiffyg meddwl cydgysylltiedig—y geiriau allweddol hyn nad ydynt byth yn cyflawni unrhyw newid. Ac eto, fe fyddwn yn dysgu ohono. Wel, a fyddwn ni? Dyna'r cwestiwn rwy’n ei ofyn yma heddiw, oherwydd mae'n hynod boenus i ddarllen am ofid y person ifanc hwn, ac er iddo fynegi’r gofid hwnnw wrth rai unigolion, ni wnaeth neb erioed ymyrryd yn weithredol er lles gorau'r plentyn.

Rwy’n gwybod, yn y gorffennol—ac rwy'n llawn obeithio bod pethau wedi newid—pan ysgrifennais at gyngor Powys am fy mod yn poeni am deulu, ac wedi gofyn iddynt weithredu, dywedwyd wrthyf y byddai’n rhaid i mi ysgrifennu at yr aelod cabinet yn nodi fy mhryderon. Pwy yn y byd a glywodd y fath beth? Ysgrifennais yn ôl yn y modd cryfaf, gan ddweud, ‘Anghofiwch am hynny, a cheisiwch wneud rhywbeth.' Roedd yn rhaid i mi ysgrifennu’n ôl chwe mis yn ddiweddarach i ofyn am ateb. Felly, er y gall fod gennym lawer o ffydd yma, mae fy ffydd i wedi cael ei ymestyn i'r pen, a byddai wedi bod o gwmpas yr adeg hon. Rwy'n gweld eraill yn nodio i ddweud eu bod wedi cael yr un profiad.

Felly, fy nghwestiwn yma yw bod yn rhaid i ni fynd i mewn a sicrhau bod Powys yn dysgu'r gwersi hyn, a bod pawb arall yn eu dysgu hefyd, fel nad oes raid i ni ddarllen am unigolion ifanc, agored i niwed sy'n ofni camu i'r byd mawr ar eu pen eu hunain, nad oedd yn rhaid iddynt gamu i'r byd mawr ar eu pen eu hunain, oherwydd bod yna system ar waith a fyddai wedi eu cefnogi, system o’r enw, 'Pan Fydda i'n Barod'. Rwy’n credu y dylem wneud rhywbeth ynglŷn â hyn yn awr mewn gwirionedd. Rwyf wedi cael llond bol ar eistedd yma’n gwrando ar y methiannau, dro ar ôl tro.

 

15:30

Joyce, diolch yn fawr iawn. Rwy'n meddwl y byddai unrhyw Weinidog sy'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud, 'Gallwn ddiystyru y bydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto', yn Weinidog annoeth. Ond mae yn ein gallu, drwy'r negeseuon rydym newydd eu clywed, drwy'r fframweithiau rydym wedi'u gosod—a chofiwch ein bod yng Nghymru ar y blaen mewn rhai ffyrdd yma, oherwydd y modd rydym wedi mynd ati i ddiogelu gyda'r bwrdd cenedlaethol, gyda'r byrddau rhanbarthol, y fframwaith hwnnw o ddiogelu, gyda rhai o'r mentrau y soniwyd amdanynt a ddylai fod wedi'u hymgorffori yma mewn gwirionedd, a ddylai fod wedi'u cyflawni ar lawr gwlad. Gwrando ar bobl ifanc yw'r hyn a wnawn, dyna y mae—. Dyna'r fframwaith a roesom ar waith.

Ond rwy'n gobeithio y bydd pryderon Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr heddiw, wedi eu clywed ym Mhowys, ond hoffwn hefyd iddynt glywed nid yn unig staff rheng flaen da, ond hefyd y newidiadau y maent wedi bod yn eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf oherwydd parodrwydd y Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon i ymateb i'r her, gan annog, ond hefyd gan ddweud bod yna fesur wrth gefn yma os nad yw pethau'n gwella—y byddant yn gwella, ac rydym yn eu gweld yn digwydd ar lawr gwlad ym Mhowys yn awr.

Mae eich pwynt yn un da hefyd na ddylai'r gwersi o'r adolygiad ymarfer plant hwn, fel ar gyfer unrhyw adolygiad ymarfer plant, fod ar gyfer Powys yn unig, y dylent fod ar gyfer pawb, a dyna beth fydd yn mynd allan. Dyna'r neges o'r fan hon. Bydd yr adolygiad ymarfer plant hwn yn cael ei ledaenu nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, ond drwy'r bwrdd diogelu cenedlaethol, ar draws Cymru yn ogystal. Mae angen inni gadw'r ffocws ar ragoriaeth o fewn y gwasanaeth hwn, gwrando ar bobl ifanc, rhoi'r hyn y maent yn ei haeddu iddynt a'r hyn y maent ei angen a gwrando arnynt er mwyn gwneud hynny. Mae wedi methu ar y pwynt hwn. Mae'n drasiedi ei fod wedi methu, ac rwy'n meddwl bod lleisiau Aelodau'r Cynulliad heddiw yn dweud bod rhaid inni wneud popeth a allwn i arbed hyn rhag digwydd eto a'i fod o fewn ein pŵer ac annog y rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen i gael yr hyder a'r sgiliau a'r wybodaeth i wneud y penderfyniadau cywir ac i ymgysylltu â phobl ifanc—credaf fod hynny wedi cael ei gyfleu'n gryf iawn y prynhawn yma.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Llyr Gruffydd.

Rŷm ni'n gwybod bod y diwydiant papurau newydd yn gyffredinol yn crebachu'r dyddiau yma, a bod yna bryder am ddyfodol sawl teitl a bod llawer o bwyslais ar greu gwefannau newyddion hyperleol. Wel, mae yna ddwy ardal yng Nghymru sy'n dal i weld gwerth yn eu papurau lleol wythnosol, a’r rhain yn dangos bod newyddion print hyperleol yn dal i oroesi, ac, yn wir, yn dal i ffynnu. Mae’r Corwen Times a phapur Y Cyfnod, sy’n gwasanaethu ardaloedd Edeirnion a Meirionnydd, wedi dechrau ar gyfnod newydd yn eu hanes yr wythnos diwethaf—hanes sy'n mynd yn ôl i sefydlu Y Cyfnod ym 1934 ac wedyn y Corwen Times a'r Meirioneth Express, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall, yn dod i’r amlwg yn y 1950au.

Nawr, mi ddiflannodd teitl y Meirioneth Express yn 2013, wrth i’r tri phapur ddod i ben am gyfnod byr, ond, diolch i waith Mari Williams o Lanuwchllyn y daeth i’r adwy bryd hynny, fe atgyfodwyd y Corwen Times ac Y Cyfnod. Mae hithau, erbyn hyn, newydd drosglwyddo’r awenau i Siân Teleri, merch leol sydd yn gweld angen ond hefyd cyfle i ddatblygu’r papurau ymhellach.

Nid oes amheuaeth fod y Corwen Times ac Y Cyfnod yn cynnig gwasanaeth o bwys yn yr ardaloedd y maen nhw’n mynd i'w gwasanaethu, gyda miloedd o bobl yn eu darllen nhw’n wythnosol, ac yn cael eu cynhyrchu, gyda llaw, heb unrhyw gefnogaeth ariannol gyhoeddus.

Felly, wrth i ni weld y diwydiant newyddion print ar draws Cymru yn crebachu, roeddwn i am gymryd y cyfle i longyfarch Siân Teleri a thîm y Corwen Times ac Y Cyfnod am sicrhau dyfodol i bapur sydd wedi profi ac yn dal i brofi ei fod yn ganolog i’w cymunedau. Rydw i’n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno’r gorau am ddyfodol llewyrchus i’r ddau bapur hynny.

Diolch, Lywydd. Daeth ACau o bob plaid ynghyd heddiw mewn digwyddiad a drefnwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Fe'i cynhaliwyd i gefnogi ymgyrch Dangoswch y Cariad.

Rydym yn gwybod am risgiau newid hinsawdd i'r byd o'n cwmpas. Mae wedi effeithio ar ymddygiad, helaethrwydd a dosbarthiad pob math o fflora, ffawna a ffyngau ledled y byd, ond hefyd yma yng Nghymru. Ond nid yw'n rhy hwyr inni wneud gwahaniaeth gwirioneddol a gwarchod Cymru, a gweddill y byd, rhag newid yn yr hinsawdd, gan arsylwi a deall yr arwyddion a rhoi camau unioni ar waith. Mae Dangoswch y Cariad yn rhoi cyfle inni feddwl am y lleoedd, y rhywogaethau a'r cynefinoedd rydym yn eu caru ac yn dymuno'u diogelu. Mae'n ein helpu i ddathlu'r cynnydd sylweddol a wnaethom eisoes, gan roi cyfle inni hefyd ystyried y camau nesaf y gallwn eu cymryd i adeiladu dyfodol glân, diogel a chynaliadwy. Mae'r rheini ohonom sy'n hyrwyddwyr rhywogaethau wedi cael calonnau gwyrdd i'w gwisgo fel symbolau'r ymgyrch—arwyddlun addas iawn ar ddydd Sant Ffolant o bob diwrnod. Diolch i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar am eu llunio. Byddaf yn gwisgo fy un i gyda balchder fel hyrwyddwr rhywogaeth y troellwr mawr a hefyd i'n hatgoffa o effaith newid yn yr hinsawdd a'r rôl y gallaf fi a phob un ohonom ei chwarae i fynd i'r afael â hynny.

15:35

Câi Arthur Joseph Gould ei adnabod fel 'tywysog y tri chwarteri', a seren rygbi cyntaf Cymru. Cafodd Gould y llysenw 'Monkey' oherwydd ei hoffter o ddringo coed fel plentyn, a chwaraeai rygbi dros Glwb Rygbi Casnewydd, ei dref enedigol. Chwaraeodd ei gêm lawn gyntaf yn Rodney Parade ar 20 Hydref 1882. Yn y gêm honno, anwybyddodd sawl cyfarwyddyd gan ei gapten i gicio, a sgoriodd ddau gais. Aeth yn ei flaen i fod yn bêl-droediwr cyflawn, gan redeg 100 llath mewn 10.2 eiliad, a llwyddo i gicio â'r ddwy droed. Estynnodd gyrfa Gould dros 16 tymor. Chwaraeodd i Gasnewydd yn ystod tymor 'anorchfygol' 1892, a chwaraeodd 27 o weithiau dros Gymru. Ef oedd capten y tîm cenedlaethol 19 gwaith, gan gynnwys pan enillwyd y Goron Driphlyg yn 1893. Roedd Arthur mor boblogaidd yng Nghasnewydd fel bod y cefnogwyr yn benderfynol o'i anrhydeddu drwy gyflwyno gweithredoedd y tŷ roedd yn byw ynddo iddo—Thornbury ar Ffordd Llanthewy. Cawsant eu cyflwyno iddo i goffáu ei lwyddiannau gwych fel athletwr amryddawn, i gydnabod ei wasanaeth gwerthfawr i rygbi a'i fedr anghyffredin fel chwaraewr. Yr wythnos diwethaf, yn dilyn apêl ariannu torfol, gosodwyd plac glas ar Thornbury. Bydd hyn yn sicrhau y bydd Arthur 'Monkey' Gould yn cael ei gofio yn ei gartref yng Nghasnewydd a oedd mor annwyl iddo, ac mae'n dyst i 'dywysog y tri chwarteri'.

Cynigion i ethol Aelod i bwyllgorau

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelod i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelod i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio, ac rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol.

Cynnig NDM6659 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Dawn Bowden (Llafur).

Cynnig NDM6660 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Mick Antoniw (Llafur).

Cynnig NDM6661 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle of Lee Waters (Llafur).

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynigion, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rydw i'n galw ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6635 Dai Lloyd, David Melding, Nick Ramsay, Mike Hedges

Cefnogwyd gan Vikki Howells

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb eu mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol perthnasol.

2. Yn nodi bod nifer o ddatblygwyr heb adeiladu ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy.

3. Yn cydnabod bod gwendidau yn y broses o brynu tai nad yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr symiau dargadw ariannol digonol yn eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.

4. Yn cydnabod bod y prynwyr tai hynny yn aml yn wynebu gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er mwyn dod â ffyrdd at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol.

5. Yn nodi bod nifer o'r ffyrdd hyn yn parhau i fod heb eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer o flynyddoedd, weithiau yn fytholbarhaus.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gyda golwg ar ddatblygu gwelliannau i'r broses o brynu tai a mabwysiadu ffyrdd.

7. Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd, ac rydw i'n falch o agor y ddadl yma ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu.

Nawr, yn dilyn fy etholiad i Gyngor Sir Abertawe yn 1998, un o'r darnau cyntaf o waith achos y gwnes i eu derbyn oedd un yn ymwneud â heol oedd heb ei mabwysiadu, ym mhentref Waunarlwydd. Roedd y ffordd dan sylw yn llawn tyllau, yn anwastad, yn peri risg iechyd a diogelwch i'r rheini a oedd yn ei defnyddio, ac, yn y pen draw, yn tynnu oddi wrth harddwch yr ardal leol. Roedd y ffordd heb ei mabwysiadu ers degawdau, a byddai cerddwyr a cherbydau yn wynebu amser anodd wrth iddynt geisio symud ar ei hyd. Roedd y trigolion lleol ac ymwelwyr yn gwbl anfodlon, ac, 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r ffordd yn parhau heb ei mabwysiadu, ac maent yn parhau i fod yn anfodlon.

Nid yw'r ffordd yn Waunarlwydd, wrth gwrs, yn enghraifft unigryw. Trwy Gymru gyfan, ym mhob etholaeth, gwelwn enghraifft ar ôl enghraifft o'r ffyrdd hyn. Mae rhai o'r ffyrdd hyn yn hynafol, ac mae perchnogaeth o'r ffyrdd hŷn yn aml yn anhysbys. Yng Nghymru, gwelwyd llawer o'r ffyrdd yma yn cael eu datblygu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddarparwyd tir ar gyfer bythynnod glowyr o ystadau'r aristocratiaeth glo. Tai teras a adeiladwyd yn aml, gyda’r seilwaith lleiaf posib. Gyda gwladoli'r diwydiant, gwerthwyd rhai tai i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, ond nid oedd yr hyn a ddigwyddodd i'r tir rhyngddynt yn glir.

Pan ddinistriwyd y diwydiant glo yn y 1980au, daeth y materion perchnogaeth tir yma hyd yn oed yn fwy aneglur. Yn aml heb unrhyw oleuadau stryd, dim draeniad a dim wyneb ar y ffordd, mae'r ffyrdd hyn yn troi’n ardaloedd anhygyrch i drigolion oedrannus, yn enwedig yn ystod y nosweithiau a misoedd y gaeaf. Maen nhw hefyd yn anaddas ar gyfer plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig—ddim yn lle ar gyfer beic neu fwrdd sglefrio, neu'n lle diogel i gicio pêl. Yn ychwanegol i hyn, mae'r ffyrdd hyn hefyd yn gallu bod yn hollol anaddas ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys, fel ambiwlans neu injan dân, ac yn gallu creu straen ychwanegol wrth i’r gwasanaethau brys drial ymateb i argyfwng. Oherwydd eu cyflwr gwael, maent yn aml yn arwain at lefelau sylweddol o lythyrau, negeseuon e-bost a chysylltiadau ffôn rhwng trigolion a chynghorau sir ledled Cymru, yn aml yn mynd rownd mewn cylchoedd, a'r problemau yn parhau. 

Cyfrifoldeb perchennog y ffordd, os gellir eu canfod, yw ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, neu drigolion eiddo sy'n edrych dros y ffordd sydd heb ei mabwysiadu, yn aml heb unrhyw gymorth gan yr awdurdod lleol hyd yn oed os ydynt yn talu'r dreth gyngor lawn. Wrth gwrs, gellir mabwysiadu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, ar anogaeth naill ai awdurdod lleol neu'r ffryntiadau, ond fel arfer byddai awdurdodau lleol yn disgwyl i'r ffordd fod o safon briodol cyn y gellir ei mabwysiadu. O dan adran 236 o Ddeddf Priffyrdd 1980, caniateir i'r awdurdod lleol, er nad yw'n orfodol, i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'r gost o wella ffordd i safon fabwysiadwy. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw mai anaml y bydd awdurdodau lleol yn cychwyn y broses, ac yn yr amseroedd hyn o gyni ariannol, fe'i gwelir fel rhwymedigaeth y gallant wneud hebddi. Nid yw union faint y broblem yn hysbys mewn gwirionedd. Er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 gynnal cofrestr o ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt, nid oes gofyniad o'r fath i gadw cofrestr o ffyrdd heb eu mabwysiadu yn eu hardaloedd. Felly, mae'n anodd mesur maint y problemau. Daw'r data a ddyfynnir yn aml o nodyn llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn 2010 ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, sy'n datgan bod arolwg gan yr Adran Drafnidiaeth yn 1972 wedi canfod bod tua 40,000 o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr, sef tua 4,000 o milltir o ffyrdd ar y pryd. Nid y ffyrdd yn unig sydd wedi'u hesgeuluso, ond yr ystadegau hefyd.

Yn 2009, roedd Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y byddai'n costio £3 biliwn i sicrhau bod y ffyrdd hyn yn cyrraedd safonau mabwysiadwy. Yn ogystal â'r ffyrdd heb eu mabwysiadu hanesyddol hyn a archwiliwyd yn 1972, y realiti yw ein bod wedi gweld nifer sylweddol o ystadau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a gallwn oll gyfeirio at enghreifftiau yn ein hardaloedd lle mae datblygwyr naill ai wedi penderfynu peidio â chyflwyno ffyrdd i'w mabwysiadu, neu wedi mynd yn fethdalwyr, a lle mae'r ffyrdd dan sylw yn dal heb eu mabwysiadu am flynyddoedd bwygilydd ac yn aml mewn cyflwr gwael.

15:40

Mae gennyf yr ystadegau hynny o fy mlaen i hefyd, Dai Lloyd, ac fel y dywedwch, mae 1972 yn mynd yn ôl—wel, dyna pa bryd yr ymunasom â'r Undeb Ewropeaidd, onid e, neu tua'r adeg honno. A wnewch chi ategu fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau'n gyfredol fel y byddwn yn gwybod beth sy'n ein hwynebu yn y sefyllfa hon, ac yna gallwn symud ymlaen a chael trefn ar y ffyrdd hyn?

Yn hollol. Roeddwn yn dod at hynny fel rhan o'r alwad am dasglu yn nes ymlaen. Mae angen inni wybod yn union lle rydym arni yn awr. Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer yr ystadau newydd sy'n cael eu datblygu gydag aelwydydd wedyn yn ddarostyngedig i ffioedd rheoli blynyddol, weithiau'n gannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn ar ben eu biliau treth gyngor. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod nifer y ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru ar gynnydd. Efallai na allem roi ffigur cenedlaethol arno—rwy'n siŵr ein bod yn gweithio arno—ond gallwn i gyd weld y realiti ar lawr gwlad.

Gan na all preswylwyr droi at yr awdurdod lleol i gynnal eu ffyrdd, rhaid iddynt wneud hynny eu hunain. Bydd trigolion weithiau'n ffurfio cymdeithas, yn casglu cyfraniadau, yn trefnu gwaith cynnal a chadw ac yn ymdrin â materion eraill megis yswiriant, parcio, trin coed, hawliau tramwy ac ati. Daw hyn â  straen i brynwyr tai, trigolion lleol a chynrychiolwyr lleol, sy'n aml yn arwain at anghytundeb, tensiynau yn y gymuned, costau cyfreithiol a llawer o amser swyddogion awdurdodau lleol yn cael ei wastraffu'n mynd dros yr un dadleuon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rhaid bod ffordd well, ffordd symlach, ffordd decach.

Mae mater cyngor cyfreithiol yn un agwedd sy'n codi dro ar ôl tro. Clywn am enghreifftiau o ystadau tai newydd yn cael eu hadeiladu, y datblygwr yn mynd i ddwylo'r derbynnydd a'r trigolion yn cael eu gadael i dalu'r bil er mwyn gwella'r ffordd i safon fabwysiadwy. Yn aml iawn, mae'r symiau y mae'r cyfreithwyr wedi'u cadw at y diben hwn yn gwbl annigonol—ychydig gannoedd o bunnoedd yn unig, lle mae'r gost wirioneddol ar gyfer sicrhau bod y system garthffosiaeth, y ffyrdd a goleuadau yn cyrraedd safonau mabwysiadwy yn filoedd o bunnoedd. I lawer o deuluoedd ar incwm isel sydd wedi gwario'u cynilion ar brynu eu cartref cyntaf, dyma draul na allant ei dalu. Mae'n annheg, ac mae'n greulon. Pa gyngor sydd ar gael i gyfreithwyr i'w helpu i neilltuo lefelau digonol o symiau dargadw? Beth yn fwy y gall awdurdodau lleol ei wneud i wella'r sefyllfa? Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu'r proffesiwn cyfreithiol a chreu system deg a chyson yng Nghymru? Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y maes hwn o'r gyfraith yn cynhyrchu nifer fawr o ymholiadau gan etholwyr. Mae mabwysiadu ffyrdd yn fater datganoledig, felly mae gennym bŵer i sicrhau newid.

Mae angen inni ofyn rhai cwestiynau go sylfaenol i ni ein hunain y prynhawn yma. A ydym yn credu bod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol? A ydym yn credu y gallwn ddatblygu system well? A ydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i fynd i'r afael â'r broblem? Yr ateb i'r cwestiynau hynny, yn fy marn i, yw 'ydym', 'ydym' ac 'ydym'.

Felly, beth allwn ni ei wneud? A oes lle i newid deddfwriaeth i sicrhau bod mwy o ffyrdd yn cael eu mabwysiadu? A allwn ni edrych i sefydlu mecanweithiau cyllidol cenedlaethol, rhanbarthol neu leol a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol fabwysiadu ffyrdd? Beth am atebion ariannol arloesol—benthyciadau llog am ddim i breswylwyr sydd am fabwysiadu ffyrdd, sy'n daladwy dros y tymor hir, efallai? A oes lle i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n caniatáu i dir gerllaw’r ffyrdd yma gael ei werthu, gyda'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddod â’r ffyrdd hyn nôl at safonau mabwysiadu? A oes dyletswyddau ychwanegol y gellir eu rhoi ar awdurdodau lleol i fod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r mater yma? A allwn ni ddatblygu cynllun hirdymor, dros nifer o flynyddoedd, i leihau a dileu nifer y ffyrdd sydd eto heb eu mabwysiadu? Rydw i’n credu ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n mynd i’r afael â’r broblem yma, un sy’n wynebu trethdalwyr a thrigolion mewn nifer o’n cymunedau ni. Mae’r trigolion hynny yn haeddu cefnogaeth, nid difaterwch.

Mae’r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, yn cynnwys y bobl sy'n gallu cyfri faint o'r ffyrdd yma sydd heb eu mabwysiadu yn ein gwlad, gyda'r bwriad o ddatblygu gwelliannau i'r broses prynu tai a mabwysiadu ffyrdd. Rwy’n ffyddiog, trwy gyd-weithio, y gall y Cynulliad yma ddangos arweiniad clir ar y mater a datblygu rhaglen a fydd yn lleihau nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yma yng Nghymru. Mae rhaid i ni ddatblygu system sy’n well, system sydd yn symlach, a system sydd yn decach. Diolch yn fawr.

15:45

Gellir rhannu ffyrdd heb eu mabwysiadu yn dri chategori: ffyrdd heb wyneb arnynt—rwy'n credu bod Dai Lloyd wedi sôn yn fanwl iawn am y rheini—ffyrdd preifat â mynediad cyhoeddus y mae'r trigolion lleol wedi rhoi wyneb arnynt, ac mae'n debygol iawn nad yw pobl yn gwybod eu bod yn ffyrdd heb eu mabwysiadu; a'r hyn rwyf am ganolbwyntio arno yw ffyrdd mewn ystadau newydd nad ydynt wedi cael eu hadeiladu i safon a fyddai'n caniatáu i'r cyngor eu mabwysiadu, ac mae llawer o'r rheini'n digwydd ar hyn o bryd. Gwn fod Dai Lloyd wedi sôn am adeiladwyr yn mynd yn fethdalwyr; gwneir rhywfaint o hyn gan rai o'r adeiladwyr mwyaf ym Mhrydain. Maent yn adeiladu ystadau, ac nid ydynt yn eu hadeiladu i safon ddigon da o bell ffordd. Mae gennyf ystâd fawr a chymharol gefnog ger lle rwy'n byw, a bydd Dai Lloyd yn gwybod amdani, sef ystâd Ffordd Herbert Thomas, a arferai gael ei galw'n Brynheulog, lle mae llawer o ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rwy'n siŵr fod Dai Lloyd wedi cael llawer o lythyrau gan y trigolion ac wedi bod yn siarad â chymdeithas y trigolion. Rwyf i wedi gwneud hynny, ac rwy'n siŵr eu bod wedi cysylltu â'r Gweinidog hefyd. Rwyf am ganolbwyntio ar y grŵp hwn.

Bydd ffordd newydd yn cael ei hystyried gan y cyngor ar gyfer ei mabwysiadu ar yr amod fod rhyddeiliaid y tir yn pennu bod y ffordd yn briffordd gyhoeddus pan gaiff ei hadeiladu, o dan gytundeb adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980, a bod y meini prawf canlynol wedi'u bodloni: mae cyswllt uniongyrchol â'r rhwydwaith priffyrdd cyhoeddus cyfredol; mae'n rhaid ei bod o ddefnydd digonol i'r cyhoedd ac yn cynnig manteision cymunedol ehangach; bydd defnydd ehangach i'r ffyrdd a gynigir ar gyfer eu mabwysiadu na darparu mynediad at eu tai i unigolion yn unig; bydd y ffordd yn aros ar agor i'r cyhoedd fynd ar hyd-ddi bob amser pan gaiff ei mabwysiadu'n ffurfiol; gall cerddwyr a beiciau basio ar hyd y gerbytffordd a'r llwybrau troed yn ddiogel. A dyna'r darn hawdd. Os mai dyna fyddai'r ateb, ni fyddai unrhyw broblem o gwbl, ond y rhan nesaf yw'r darn sy'n eu rhwydo: mae dull cymeradwy o ddraenio dŵr wyneb oddi ar y gerbytffordd a llwybrau troed, rhaid i oleuadau stryd gydymffurfio â gofynion lleol presennol a safonau cenedlaethol, ac mae'r ffordd wedi'i hadeiladu i safon foddhaol. Ac rwy'n dweud wrthych, ni fuaswn yn gwybod, wrth gerdded ar hyd y ffordd, pa mor drwchus yw'r tarmac arni. Os gwelaf darmac arni, rwy'n cymryd ei bod hi'n iawn. Rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o bobl eraill nad ydynt yn beirianwyr sifil yn teimlo yr un fath yn union. A thelir symiau cynhaliaeth ohiriedig parhaus.

Ar gyfer pob ffordd a gynigir ar gyfer ei mabwysiadu, rhaid i'r datblygwyr sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â'r meini prawf uchod cyn ymgynghori â'r cynghorau. Nid yw cynghorau'n mabwysiadu pob ffordd newydd a adeiladir gan ddatblygwyr tai. Gall datblygwyr tai ddewis cadw eu ffyrdd newydd yn breifat os nad yw'r ffyrdd yn bodloni'r meini prawf uchod. Mae preswylwyr yn gweld ffordd darmac newydd ac yn credu y caiff ei mabwysiadu. Pam na fyddent? Fe fuaswn i. Nid ydynt yn gwybod a yw'r draeniad yn bodloni'r gofynion ai peidio. Nid ydynt yn gwybod a yw pyst goleuadau o'r uchder cywir yn y lleoedd cywir, gyda bylbiau o'r maint cywir, yn gallu dal bylbiau o'r maint cywir, yn effeithiol o ran trydan. Sut y byddent yn gwybod hynny? Ac nid oes ganddynt unrhyw syniad beth yw is-adeiledd y ffordd. Ni fydd llawer o drigolion ar ystadau newydd yn dod i wybod nad yw eu ffordd wedi'i mabwysiadu gan y cyngor hyd nes y bydd problem yn digwydd.

Yn aml, mae goleuadau stryd yn torri a byddant yn mynd yn syth at y cyngor a fydd yn dweud wrthynt, 'Nid ein cyfrifoldeb ydyw.' Dyma pryd y bydd trigolion dig yn cysylltu â'u cynghorwyr lleol yn gyntaf, yna eu Haelod Cynulliad ac ASau lleol. Mae hon yn dod yn fwy o broblem gan nad yw adeiladwyr tai mawr yn adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy. Rhaid mynd i'r afael â hyn. Mae arnaf ofn fod angen deddfwriaeth. Pan gyflwynir deddf cynllunio newydd, mae angen iddi ganiatáu i gynghorau osod amod cynllunio y bydd yr holl ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safonau mabwysiadwy ac y bydd ffyrdd yn cael eu hadeiladu i safon o dan gytundeb adran 38. Nid wyf yn credu bod pobl sy'n prynu tŷ ar ystâd newydd eisiau ffyrdd heb eu mabwysiadu. Yn wir, yn fy mhrofiad i, maent yn awyddus iawn i gael eu ffyrdd wedi'u mabwysiadu. Pam y byddent eisiau ffordd heb ei mabwysiadu? Pam y byddent eisiau ffordd lle maent yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw? Buaswn yn awgrymu na fyddai unrhyw berson synhwyrol eisiau prynu tŷ newydd ac yna edrych ar ôl y ffordd eu hunain. Os nad am unrhyw reswm arall, mae'n lleihau gwerth eiddo o'i ailwerthu.

Mae bob amser yn fy rhyfeddu, y gall cynllunwyr osod amodau'n nodi lliw brics, lliw fframiau ffenestri, ond ni allant bennu bod rhaid adeiladu'r ffordd i safonau mabwysiadwy. Rwy'n dweud wrthych yn awr, byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tŷ yn rhoi blaenoriaeth i ffordd o safon fabwysiadwy yn hytrach na lliw brics neu liw ffenestri. Mae hwn yn fater sy'n peri pryder i lawer o bobl. Pan fydd ffordd heb ei mabwysiadu, rhaid mynd drwy broses weddol hir i'w chael wedi'i mabwysiadu. Cynorthwyais etholwr i gael Bishop's Walk yn Nhreforys wedi'i mabwysiadu, a'r unig reswm y cafodd y gwaith ei gwblhau oedd oherwydd bod un preswylydd yn barod i arwain ar hynny a gwneud y gwaith—gweithio gyda'r cyfreithiwr, ac yn bwysicach, sefydlu cwmni. Hynny yw, mae'n broses hir. Nid, 'Annwyl Syr, os gwelwch yn dda a wnewch chi fabwysiadu ein ffordd?' yw hi. Mae'n broses eithaf hir, ac fe weithiodd yr holl breswylwyr gyda'i gilydd a chefnogi'r gwaith. Pe bai un preswylydd wedi gwrthwynebu, ni fyddai wedi cael ei mabwysiadu. Pe bai un preswylydd wedi bod yn amharod i dalu unrhyw ran o'r arian roedd ei angen, ni fyddai wedi'i mabwysiadu.

Dylai pob ystâd newydd gael ffyrdd wedi'u hadeiladu i safonau mabwysiadwy. Gan nad yw'r datblygwyr yn ei wneud o'u gwirfodd, buaswn yn annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i ddeddfu, fel rhan o'r Bil cynllunio newydd, er mwyn sicrhau bod yr holl ffyrdd a adeiladir yn cyrraedd safonau mabwysiadwy.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:50

Rwy'n credu ein bod wedi clywed dwy araith ragorol a oedd yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r mater, ac fe wnaethant hynny'n huawdl iawn yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu bod pawb ohonom wedi cael profiad o'r mater hwn ac mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n fawr ar ein hetholwyr. Mae'n effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd ac yn gallu eu gadael mewn sefyllfa fregus iawn yn ariannol. Fel eraill, rwyf wedi bod yn bryderus iawn ein bod yn aml ymhell o fod yn cyrraedd safonau arferion gorau o ran y ffordd y mae datblygwyr yn gadael ffyrdd mewn ystadau newydd. Mae gennym broblem hanesyddol, sy'n anos ymdrin â hi mae'n debyg, ond yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, pan ydym yn adeiladu niferoedd llai nag erioed o dai—mae'n ymddangos yn syfrdanol na allwn reoleiddio'r gweithgarwch hwnnw'n fwy effeithiol.

Rwy'n bryderus iawn am yr hyn sy'n digwydd pan fydd ffyrdd heb eu mabwysiadu. Os caf fanylu: caiff ffyrdd, ymylon glaswellt, palmentydd a meysydd chwarae eu cynnal a'u cadw gan y datblygwr ac fel arfer mae datblygwr yn is-gontractio'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd. Mae'r cwmnïau hyn yn trosglwyddo'r costau i berchnogion tai, i rydd-ddeiliaid a lesddeiliaid, drwy weithred drosglwyddo sy'n gosod dyletswydd ar berchennog y tŷ o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925—credaf fod hynny'n mynd â ni ymhellach yn ôl hyd yn oed na'r nodyn ymchwil o Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn 1972 [Chwerthin.] Deddf Cyfraith Eiddo 1925 sy'n llywodraethu'r arferion hyn, ac mae'n rhaid iddynt dalu am waith cynnal a chadw ar y tir. Yn aml cyfeirir at hyn fel tâl ystâd, tâl cymunedol—nid yw'n enw sy'n ennyn llawer iawn o hapusrwydd—neu dâl gwasanaeth, ac yn anffodus, nid yw'r arferion hyn ar drai. Rhannaf ddicter gwirioneddol Mike ynglŷn â'r ffaith bod hyn yn parhau yn awr.

Yn gyffredinol, rydym eisoes yn wynebu problemau o ran fforddiadwyedd tai. Hynny yw, mae hyd yn oed pobl mewn swyddi da ond heb fynediad at gyfoeth arall—neu gyfoeth—yn ei chael hi'n anodd prynu cartref, ac mae wynebu'r mathau hyn o ffioedd wedyn a—. Rhaid imi ddweud, ni fyddwn yn ystyried archwilio i weld a yw ffordd wedi ei hadeiladu i safonau derbyniol, wyddoch chi, ac erbyn i chi fynd o dan y ffordd a meddwl am y draenio a phopeth—dyletswyddau gofal y dylai'r system gynllunio allu eu sicrhau yw'r rhain, a dweud y gwir. Credaf mai dyna y dylem anelu tuag ato.

Mae rhai o'r cymalau beichus eraill ar y rhenti tir hyn yn syfrdanol—codi ffi am newid eiddo, cost am werthu'r eiddo hyd yn oed. Efallai fod rhai arferion yn debyg i'r hyn rydym yn ei brofi yn awr gyda'r argyfwng lesddaliad yn dod yn ôl, a datblygwyr weithiau'n gwerthu ar brydles, ac yna'n gwerthu'r lesddaliad ymlaen, a gwneud yr un peth gyda'r cwmnïau rheoli. Nid yw'n ofynnol iddynt gyhoeddi cyfrifon i'r trigolion a phrofi bod y gwaith y codir amdano yn cael ei wneud i safon briodol. Mae yna brinder tryloywder eithafol yn y maes hwn. Mae'n hen ffasiwn ac yn gwneud y perchnogion tai hyn yn agored i arferion sy'n eu cosbi mewn gwirionedd. Fel y dywedodd Mike, mae'r materion hyn wedi'u datganoli bellach, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac maent yn bethau y gallwn geisio mynd i'r afael â hwy.

Felly, os ydych yn bwriadu mynd i'r afael â'r maes hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf y gallwch ddibynnu ar gefnogaeth helaeth ar draws y Siambr, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi symud—. Clywsoch yr awgrym am gyfraith newydd, neu dasglu yn y lle cyntaf, fan lleiaf, i edrych ar y sefyllfa.

A gaf fi orffen gyda'r diffyg data? Dywedir wrthyf fod yna 92 km o briffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghaerdydd. Mae'n gwbl syfrdanol—[Torri ar draws.] Wel, dyna oedd eu dyfaliad gorau yn 2010. Felly, gall fod yn wahanol iawn bellach. Ond mewn gwirionedd, mae'r maes hwn yn galw am ddiwygio a dylem wneud hynny.

15:55

Rwy'n falch o gyfrannu'n fyr i'r ddadl hon. Nawr, nid wyf yn honni fod gennyf y math o wybodaeth fanwl a thechnegol a ddangoswyd gan rai o'n siaradwyr eraill y prynhawn yma, ond gwn fy mod wedi ymdrin â llif cyson iawn o gwynion am ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fy 19 mlynedd fel Aelod Cynulliad dros Dorfaen. Nawr, mewn rhai achosion, mae'r ffyrdd hyn wedi bod mewn cyflwr gwirioneddol druenus. Rai blynyddoedd yn ôl ymwelais â safle yn Brook Street, Pontrhydyrun yng Nghwmbrân, a gweld bod y ffordd mewn cyflwr mor wael ar ddiwrnod glawog fel bod hwyaden wedi mynd i nofio yn un o'r tyllau yn y ffordd. Prysuraf i ychwanegu nad oedd yn nodwedd dŵr roedd unrhyw un yn y stryd yn falch o'i gweld.

Nawr, rwy'n ymwybodol iawn o ba mor brin o arian yw fy awdurdod lleol. Gwn nad oes ganddynt adnoddau i ymdrin â'r broblem hon ledled y fwrdeistref, a gwn hefyd, yn y rhan fwyaf o achosion, nad oes gan fy etholwyr arian yn sbâr chwaith. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y syniad o dasglu i ddod â phawb at ei gilydd i edrych ar y mater hwn. Mae pawb ohonom yn gwybod ein bod mewn cyfnod anodd iawn gyda'n harian cyhoeddus yn sgil polisïau cyni, ond gobeithiaf y bydd dod â phobl at ei gilydd yn gyfle i edrych ar atebion arloesol, fel y rhai y cyfeiriodd Dai Lloyd atynt, ond eraill hefyd fel y modd y gall awdurdodau lleol ddod ynghyd i swmp brynu deunyddiau er mwyn gweithio gyda'i gilydd i wneud pethau. Rwy'n credu o ddifrif fod yn rhaid inni feddwl yn greadigol am hyn. Fel arall, bydd yn broblem a fydd gennym mewn 40 mlynedd arall, a bydd yr hwyaden yn dal i fod yno. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gyfrannu. Byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn.

Diolch yn fawr iawn i Dai Lloyd am ddod â’r ddadl yma gerbron. Dyma’r drydedd ddadl, rydw i'n credu, sydd wedi bod ar feysydd tebyg. Rydym wedi trafod inswleiddio waliau ceudod a’r defnydd o brydlesi, a rŵan hon heddiw. Maen nhw yn faterion sydd yn poeni ein hetholwyr ni, ac mae’n briodol iawn ein bod ni yn eu trafod nhw yma yn y Cynulliad, ac yn bwysicach, yn ceisio datrysiad ar gyfer y materion yma.

Rydw i’n mynd i sôn wrthych chi am un enghraifft yn fy etholaeth i sydd yn enghraifft berffaith, i ddweud gwir, o beth sydd o dan sylw y prynhawn yma. Mae stad Caeau Gleision, Rhiwlas yn stad o 80 o dai a gafodd eu hadeiladu rhwng 1975 a dechrau'r 1980au. Mae'r cul-de-sacs yna bellach mewn cyflwr trychinebus, a dweud y lleiaf. Nid wyf wedi gweld yr hwyaid yna eto, ond mae yna dyllau dŵr mawr yno, ac mae yna broblemau dybryd yno. Nid ydy'r ffyrdd na'r cul-de-sacs ar yr ystâd yma erioed wedi cael eu mabwysiadu gan yr awdurdod lleol, sef Cyngor Gwynedd, ac mae yna naw o'r cul-de-sacs yna ar yr ystâd. Dros amser, mae'r wyneb a osodwyd gan y datblygwr fwy neu lai wedi cael ei olchi ymaith, gan adael tyllau a phyllau o ddŵr, craig mewn rhannau, neu isadeiledd y ffordd. Dyna i gyd sydd ar ôl. O'r hyn rwyf yn ei ddeall hefyd, mae yna bibellau pitch fibre wedi cael eu gosod i gario dŵr wyneb i ffwrdd, a tra bod y fath yma o bibellau yn cael eu hargymell ar y pryd, maen nhw bellach wedi colli eu siâp, ac nid ydynt yn ffit i bwrpas. Maen nhw angen eu hadnewyddu.  

Mae yna unigolion o'r ystâd sydd wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem yma—wedi bod yn cysylltu efo'r cyngor sir, ac mae'r Aelod Seneddol a minnau fel yr Aelod Cynulliad wedi bod yn ceisio eu helpu nhw, ond yn anffodus, heb fawr o lwyddiant i gael y maen i'r wal hyd yma. Yr ymateb yr ydym yn ei gael gan Gyngor Gwynedd ydy nad ydy'r ffyrdd na'r cul-de-sacs wedi cael eu mabwysiadu, ac felly, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, nid ydyn nhw'n bwriadu gwneud dim byd am y sefyllfa. Erbyn hyn, oherwydd cyflwr y strydoedd yma, mae'r ystâd yn ei chyfanrwydd yn ymddangos yn flêr iawn, er gwaethaf y ffaith bod y trigolion yn ceisio eu gorau i gadw edrychiad eu tai mor dwt a thaclus â phosib.

Rydym ni yn yr etholaeth wedi ceisio gwneud ychydig o ymchwil i hyn i weld beth sy'n bosibl, ac wedi bod yn astudio llyfr gan yr awdur Andrew Barsby—llyfr o'r enw Private Roads. Mae hwn yn cynnwys nifer o awgrymiadau ynglŷn â sut y gall trigolion weithredu, ond mae o'n dibynnu, i raddau helaeth, ar gael perchnogaeth o'r ffordd dan sylw, sydd ddim yn broses hawdd bob tro. Mae datblygwyr yn diflannu, ac mae o'n gallu bod yn broses ddrud iawn hefyd i unigolion, wrth gwrs. Yn ôl y llyfr Private Roads, os nad yw'n bosibl cael perchnogaeth o'r ffordd arbennig, mae modd i drigolion lleol wella cyflwr y ffordd, ond maen nhw'n rhedeg y risg o gael eu herlyn ar sail tresmasu anghyfreithlon.

Felly, mae'n sefyllfa anodd, ac rwy'n croesawu'r cynigion fan hyn, yn enwedig y syniad o sefydlu tasglu a chael rhaglen waith bwrpasol, fel ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r broblem yma yn wirioneddol a thaclo rhywbeth sydd yn digwydd ymhob etholaeth, y buaswn i'n tybio. Diolch yn fawr.  

16:00

Mae llawer o'r pwyntiau rwyf yn eu gwneud eisoes wedi'u gwneud gan gyfranwyr eraill i'r ddadl hon, ond nid wyf am wneud unrhyw esgusodion dros eu hailadrodd oherwydd nid wyf yn meddwl fod modd ailadrodd y dadleuon hyn yn rhy aml. Fel llawer o bobl eraill, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi mewn perthynas â'r materion a godwyd yn y cynnig hwn, materion sydd, mewn rhai amgylchiadau, yn arwain at broblemau iechyd yn sgil pryderon ynghylch y problemau ariannol sy'n ymwneud â ffyrdd heb eu mabwysiadu. Felly, mae UKIP yn cytuno'n fras â'r holl bwyntiau sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig hwn a byddai'n cefnogi'r galwadau ar Lywodraeth Cymru ym mhwynt 6.

Fodd bynnag, oni ellid negyddu'r holl bwyntiau a phroblemau a nodir yn y cynnig yn y dyfodol drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar fod datblygwyr yn contractio i ddarparu ffyrdd i safonau mabwysiadwy?

 

Dyna y gofynnais amdano oherwydd, ar hyn o bryd, ni allant wneud hynny'n amod ar gyfer rhoi caniatâd cynllunio.

Wel, diolch i chi am hynny, Mike.

Ond byddai methiant dilynol i ddarparu ffyrdd o'r fath yn golygu eu bod yn torri contract ac yn agored i gosbau masnachol. Efallai y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar allu rhoi'r pŵer hwnnw i awdurdodau lleol yn y dyfodol. O ran esgeulustod hanesyddol mewn perthynas â ffyrdd heb eu mabwysiadu, mae arnaf ofn na fydd awdurdodau lleol yn ystyried hon yn flaenoriaeth uchel. Mae Lynne Neagle wedi gwneud y pwynt, yn amlwg, eu bod o dan fesurau cyni mawr a gallai fod costau sylweddol ynghlwm wrth sicrhau bod ffyrdd o safon fabwysiadwy. Ac wrth gwrs, bydd ffordd a fabwysiadwyd yn straen pellach a pharhaus ar eu hadnoddau. Felly byddai'n ymddangos mai gan Lywodraeth Cymru'n unig y byddai'r arian angenrheidiol i gyflawni'r gwelliannau neu'r atgyweiriadau hyn, ond a oes ewyllys i wneud hynny?

16:05

Diolch, Lee. [Chwerthin.] Rwy'n falch o gael siarad â Lee Waters a gweddill y Cynulliad yn ogystal.

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Mae ffyrdd yn fater sy'n agos at fy nghalon, pa un a wyf yn eu cefnogi neu'n eu gwrthwynebu, gyda rhai o fy nghyd-Aelodau weithiau. Ac wrth wraidd y cynnig hwn mae'r ffaith, pan fyddwch yn gadael lonydd prysur ein traffyrdd a'n ffyrdd A a ffyrdd B, mae llawer o'n ffyrdd gwledig a hefyd, fel y clywsom, ein ffyrdd trefol ymhell islaw'r safon y byddem yn ei disgwyl, ac mae llawer o siaradwyr eisoes wedi siarad am y problemau hynny.

Roeddwn yn edrych ar wefan y Resident Adoption Action Group, sy'n amlinellu rhai o'r materion sy'n effeithio ar ein ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys y ffaith na chynhelir archwiliadau iechyd a diogelwch rheolaidd i sicrhau bod y ffyrdd yn cael eu cadw'n ddiogel. Ac mae hon yn broblem genedlaethol, mae defnyddwyr ffyrdd di-rif yn rheolaidd yn gyrru ar ffyrdd anniogel a heb eu rheoleiddio. Fel y soniodd Mike Hedges a siaradwyr eraill, gall datblygwyr arbed miloedd yn aml drwy osgoi'r cytundebau cyfreithiol sy'n trosglwyddo'r ffyrdd i reolaeth yr awdurdod lleol—mater heb unrhyw sgil-effeithiau i'r datblygwyr hynny yn ôl pob golwg. Ac rwy'n cefnogi galwad Mike Hedges ac eraill i roi hyn ar sail statudol o bosibl i wneud yn siŵr fod mabwysiadu ffyrdd yn rhan o'r broses gynllunio honno ar y cychwyn.

Yn amlwg, mae angen inni wneud ffyrdd heb eu mabwysiadu yn flaenoriaeth, ac er mwyn gwneud hynny'n llawn, rydym angen ystadegau cyfredol. Rwy'n dal i chwerthin am y modd y soniodd Dai Lloyd am arolwg yr Adran Drafnidiaeth yn 1972 a ganfu fod oddeutu 40,000 o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr. Credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai gennym ystadegau ar gyfer Cymru. Felly, rwy'n cefnogi'r alwad am dasglu ac yn gofyn i Ysgrifennydd yr economi a seilwaith i edrych ar gael ystadegau cyfredol ar y seilwaith hwnnw.

Credaf fod yna olau ar ben draw'r twnnel hwn—maddeuwch y chwarae ar eiriau—ac os edrychwn yn ôl drwy hanes, fel y gwnaeth David Melding, mae rheswm da i fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Mewn gwirionedd, nid oedd ffyrdd yn y DU yn cael eu dosbarthu o gwbl tan y 1920au, ac ni chafodd y dosbarthiad ei dacluso tan y 1930au. Yn y dyddiau hynny, byddent yn cynnal ailasesiad treigl blynyddol o ddosbarthiad ffyrdd—ac mae'n debyg ei fod yn llawer mwy cyfredol nag y bu ers 1972, ond roeddent yn cydnabod pwysigrwydd strwythur ffyrdd da. Ac ar ddechrau'r ail ryfel byd, roedd y rhwydwaith ffyrdd mewn cyflwr gwael, ac ar ôl y rhyfel honno, roedd hi'n glir fod rhywbeth—[Torri ar draws.] Llywodraeth Dorïaidd—peidiwch â bod mor hunandybus. [Chwerthin.] Ar ôl yr ail ryfel byd, roedd hi'n amlwg fod angen gwneud rhywbeth, a chafwyd y rhaglen adeiladu ffyrdd a gwelliannau ffyrdd sydd wedi bod yn digwydd ers hynny. Ond drwy gydol yr amser, o dan Lywodraethau Llafur a Llywodraethau Ceidwadol a llywodraethau clymblaid, ni aethpwyd i'r afael â mater ffyrdd heb eu mabwysiadu, ac efallai mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd y teimlid ei fod yn fater rhy anodd ymdrin ag ef, neu'n haws ei anwybyddu, ac nid oedd yn angenrheidiol i seilwaith cenedlaethol y wlad. Ond wrth gwrs, fe wyddom bellach fod llawer o'r ffyrdd hyn yn gwbl anaddas ar gyfer cerbydau brys—ac roeddwn yn edrych ar achos yn ddiweddar pan aeth ambiwlans yn sownd mewn twll ar un o'r ffyrdd hyn yn ôl yn 2014—ond wrth gwrs, nid yw'r arwynebau ffordd hynny'n addas hyd yn oed ar gyfer cerbydau modur modern o unrhyw safon. Felly, mae hon yn broblem sydd wedi bodoli ers llawer gormod o amser.

Rwy'n falch fod Dai Lloyd wedi gofyn imi gefnogi'r cynnig. Credaf y ceir cytundeb cyffredinol yn y Siambr hon bellach fod angen gwneud rhywbeth. Felly, gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith o wneud hynny, gadewch i ni gael arolwg priodol, cael y tasglu ar ei draed, cael arolwg i weld beth yn union rydym yn ymdrin ag ef, ac yna sicrhau bod ein holl ffyrdd yn cyrraedd safon foddhaol fel y gall modurwyr a cherbydau brys yrru ar ffyrdd diogel.

Mae yna ystâd yn fy etholaeth a adeiladwyd yn y 1970au: mae'r ffyrdd yn fawr, mae digon o le i barcio, gerddi mawr, a thai mawr. Ac mae'n drawiadol pan fyddwch yn ymweld â'r tai newydd a adeiladwyd yn ystod y degawd diwethaf, yr ystadau newydd a adeiladwyd yn ystod y degawd diwethaf, mae'r tai wedi'u gwasgu i mewn, mae'n aneglur pa stryd yw pa stryd, a chaiff pawb eu gwasgu at ei gilydd ac mae'r ffyrdd heb eu mabwysiadu. Rydym wedi cymryd camau tuag yn ôl yn y 10 mlynedd diwethaf, a chredaf fod rhan ohono'n deillio o'r ffaith fod y pedwar datblygwr tai mawr, neu'r chwech datblygwr tai mawr, yn manteisio ar y prinder tai, a ganddynt hwy y mae'r pŵer i gyd yn yr amgylchiadau hyn. Nid yw hynny'n ddigon da, a chredaf fod hwn yn gyfle i wneud rhywbeth yn ei gylch. Nid wyf am ailadrodd araith Dai Lloyd, araith David Melding ac araith Mike Hedges—roedd fy araith yn gyfuniad o'r tri. Felly, nid wyf am ailadrodd popeth sydd wedi'i ddweud, ond fe af i'r afael â rhai o'r pethau hynny.

Mabwysiadu ffyrdd: yn hollol. Rwyf wedi gwirio'r ystadegau a cheir un stryd breifat heb ei mabwysiadu—hynny yw, stryd gydag un pwynt mynediad—ym mwrdeistref Caerffili. Ceir saith o lonydd cefn sydd heb eu mabwysiadu. Ond mae yna 15 o ddatblygiadau newydd sydd heb eu mabwysiadu, a'r hyn sy'n digwydd—. Rwy'n mynd i enwi ystadau Castle Reach a Kingsmead, oherwydd rwyf wedi bod yn ceisio datrys problem y band eang yno. Euthum yno i ddosbarthu llythyr i bob tŷ am y band eang a bu bron i mi droi fy ffêr ar y tyllau sydd yn y ffyrdd ar yr ystâd honno sydd heb ei mabwysiadu. Nid yw'n ddigon da. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr sy'n teimlo'n gryf iawn am hyn. Ac mae'r ystâd yn dal i gael ei hadeiladu. Mae pobl wedi bod yn byw yno ers dwy flynedd. Mae'r ystâd yn dal i gael ei hadeiladu. Pryd y maent yn mynd i orffen? Maent yn oedi fel na fydd yn rhaid iddynt gwblhau'r ffyrdd a'r seilwaith. Nid yw'n ddigon da.

Cefais gyfarfod yng Nghwm Calon ar ben arall fy etholaeth, sef ystâd wedi'i chwblhau gyda'r rhan fwyaf o'r ffyrdd wedi'u mabwysiadu, ond mae rhai'n dal heb eu mabwysiadu. Mae'r trigolion yno'n talu i gwmni rheoli'r ystâd. Gwaeddais y gair 'extorionate' pan ddywedwyd hynny, a dywedodd Michelle Brown nad oedd yn hynny. Wel, mewn gwirionedd, nid wyf yn credu ei fod yn rhy bell o'r gwir, i fod yn onest gyda chi. Ysgrifennodd y trigolion yng Nghwm Calon at gwmni rheoli'r ystâd. Cafodd un preswylydd ymateb gan gwmni rheoli'r ystâd. 'Gyda pharch', dywedodd mewn e-bost, 'gwnewch rywbeth gyda'ch bywyd'. Dyna a ddaeth gan gwmni rheoli'r ystâd i breswylydd ar ystâd Cwm Calon. Hollol warthus.

Nawr, byddaf yn ceisio cael cyfarfod gyda'r datblygwr a chwmni rheoli'r ystâd i edrych i weld beth arall y gallant ei wneud i gwblhau'r gwaith y dylent fod yn ei wneud o ganlyniad i'r taliadau misol y mae pobl yn eu gwneud ar yr ystâd honno.

16:10