Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Culture, Welsh Language and Communications Committee - Fifth Senedd

26/02/2020

Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol

Committee Members in Attendance

Bethan Sayed
Carwyn Jones
David Melding
Helen Mary Jones
John Griffiths
Mick Antoniw

Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol

Senedd Officials in Attendance

Angharad Roche Dirprwy Glerc
Deputy Clerk
Manon George Clerc
Clerk
Martha Da Gama Howells Ail Glerc
Second Clerk
Robin Wilkinson Ymchwilydd
Researcher

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.

Dechreuodd y cyfarfod am 09:34.

The meeting began at 09:34.

1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1. Introductions, apologies, substitutions and declarations of interest

Diolch a chroeso i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Eitem 1 ar yr agenda: cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi cael unrhyw fath o ymddiheuriadau, ond bydd rhai o'r Aelodau bach yn hwyr.

Good morning and welcome to the Culture, Welsh Language and Communications Committee. Item 1 is apologies, substitutions and declarations of interest. I don't think that I've received any apologies for this morning's meeting, but some Members may be a little late.

2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro
2. Motion to elect a temporary Chair under Standing Order 17.22

Eitem 2: cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro. Fel y gwyddoch, byddaf i'n cychwyn fy nghyfnod mamolaeth yn fuan, a hwn fydd fy nghyfarfod ffurfiol olaf am y tro. Felly, hoffwn wneud cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfnod y byddaf ar fy absenoldeb mamolaeth. A yw pawb felly'n hapus i ethol Helen Mary Jones, Aelod Cynulliad fel Cadeirydd dros dro?

Item 2: a motion under Standing Order 17.22 to elect a temporary Chair. As you know, I will soon be starting my maternity leave and this will be my last formal meeting for the time being. So, I'd like to propose a motion under Standing Order 17.22 to elect a temporary Chair for the duration of my maternity leave. Is everyone, therefore, content to elect Helen Mary Jones AM as temporary Chair?

09:35

Grêt. Diolch yn fawr, Helen, am gytuno gwneud hynny.

Great. Thank you, Helen, for agreeing to undertake those responsibilities.

Penodwyd Helen Mary Jones yn Gadeirydd dros dro.

Helen Mary Jones was appointed temporary Chair.

Hefyd, hoffwn i jest ddiolch i chi gyd am—. Wel, nid dim ond yr Aelodau Cynulliad sydd yma ond Aelodau Cynulliad eraill sydd wedi cyfrannu hefyd at waith y pwyllgor ers i ni gychwyn ac i'r rhanddeiliaid sydd wedi dod i mewn ger ein bron ar nifer o adegau. Dwi wedi cael pleser mawr yn cadeirio pwyllgor hollol newydd gydag agenda hollol newydd, a dwi'n credu ein bod ni wedi gwthio'r agenda ar nifer o bethau gwahanol, megis darlledu, yn sicr.

Dŷn ni wedi cael Lord Hall i mewn i'r pwyllgor ar nifer o adegau ac mae pethau wedi symud yn hynny o beth gyda'r BBC. O ran ffilm, dŷn ni wedi gwneud lot o gynigion positif i'r byd ffilm sydd yn newid sgôp yr hyn sydd yn digwydd yma yng Nghymru. Hefyd, nawr, gyda'r byd cerddoriaeth, dwi'n credu bod pobl newydd sydd byth wedi dod i mewn i'r Cynulliad yma wedi gallu rhoi tystiolaeth ger ein bron—dim yr usual suspects, fel petai. Felly, dwi'n rili ddiolchgar i fod wedi gallu gwneud hyn. Yn sicr, dwi'n gobeithio bydd Helen yn mwynhau cymaint â fi. Mae'n gymaint o privilege—beth yw'r gair yn Gymraeg?

I would also like to thank you all, not just the Assembly Members in attendance, but other Assembly Members who have contributed to the committee's work since we began and to the stakeholders who have joined us on so many occasions. It's been a huge pleasure chairing an entirely new committee with an entirely new agenda, and I think that we have pushed the agenda in a number of different areas, such as broadcasting, for example.

We've had Lord Hall in this committee on a number of occasions. Things have moved with the BBC. In terms of film, we have made a number of positive proposals, which will change the scope of what's happening in Wales. And also, in terms of music, I think new people who have never been into this Assembly have been able to provide evidence to us—not the usual suspects. So, I'm extremely grateful to have been able to do this and I do hope that Helen will enjoy the role as much as I have. It is a real privilege—. What's the word in Welsh?

Braint i'w wneud ef. Ond dwi'n hyderus y bydd Helen yn gwneud gwaith clodwiw tra fy mod i'n gwneud pethau eraill—sydd hefyd yn bwysig iawn. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau.

Yes. It's been a real privilege. But I'm also confident that Helen will do excellent work whilst I am otherwise detained, doing things that are also important, of course. So, thank you very much to everyone for their contributions.

3. Papurau i’w nodi
3. Paper(s) to note

Symudwn ymlaen, wedyn, at eitem 3—3.1: mae llythyr gan Active Music Services at y Gweinidog Addysg, ac hefyd mae ateb gennym ni gan yr heddlu ynglŷn â cherddoriaeth fyw a'r system trwyddedau. Ydy pawb yn hapus i nodi'r papurau penodol hynny? 

Moving on to item 3—3.1: a letter from Active Music Services to the Minister for Education. There's also a response from the police on live music and licensing. Is everyone content to note those papers?

4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4. Motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of the meeting

Cynnig:

bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

Motion:

that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(vi).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Wedyn, symudwn at eitem 4: cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Ydy pawb yn hapus gyda hynny?

That brings us to item 4: a motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of the meeting. Is everyone content?

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 09:37.

Motion agreed.

The public part of the meeting ended at 09:37.