Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/05/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mike Hedges.

Contractau'r Sector Cyhoeddus

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ53883

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae arloesi mewn contractau sector cyhoeddus yn cael effaith gadarnhaol yng Nghymru. Mae nifer y contractau a ddyfarnwyd drwy GwerthwchiGymru i gyflenwyr yng Nghymru yn 2018-19 wedi mwy na threblu ers 2014-15 ac mae'n 84 y cant erbyn hyn, o'i gymharu â gwaelodlin o 25 y cant.

Wnaf i ddim gofyn y cwestiwn o ba un a yw hynny mewn termau arian parod neu o ran cyfaint, ond y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw fy mod i'n credu os ydych chi eisiau rhoi contractau i gwmnïau lleol llai o faint, yna mae angen i faint y contract fod yn ddigon bach i gwmni lleol dendro. Os yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwnnw, a all ef amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod contractau'n cael eu hysgrifennu yn y fath fodd fel y gall y cwmnïau bach hyn dendro? Os yw'n anghytuno, a all ef amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod cwmnïau lleol, llai yn gallu tendro am gontractau?

Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn atodol yna. Rwy'n cytuno â'i osodiad cyntaf, ond, wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i gontractau gael eu rhannu. Dyna'r hyn y mae'r canllaw ceisiadau ar y cyd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei lunio yn cynghori i gontractau mawr ei wneud, rhannu'r contractau hynny, ac, ar hyn o bryd, roedd 31 y cant o'r holl gontractau a hysbysebwyd ar GwerthwchiGymru y llynedd yn addas ar gyfer ceisiadau ar y cyd yn y modd hwnnw. Felly, er bod contractau mawr, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am eu rhannu fel y gallant fod yn ddigon bach i gwmnïau lleol dendro.

Wrth gwrs, mae llawer o gontractau sector cyhoeddus, Llywydd, islaw lefel Cyfnodolyn Swyddogol y Gymuned Ewropeaidd beth bynnag, a lefel yr OJEC yw lle yr anogir cynigion ar y cyd. Rydym ni'n ei gwneud yn ofynnol i bob contract gwerth dros £25,000 gael ei hysbysebu ar GwerthwchiGymru. Mae wyth deg y cant o'r holl gontractau hynny o dan y lefel OJEC, ac mae'r contractau hynny yn fwy deniadol i gwmnïau sy'n llai ac yn lleol. Wrth gwrs, rydym ni'n awyddus i gefnogi cwmnïau mawr Cymru hefyd. Yn y sector adeiladu, dyfarnwyd 76 y cant o gontractau neu fframweithiau o fwy na £0.25 miliwn neu fwy i gontractwyr o Gymru y llynedd.

Mae Mike Hedges fwy neu lai wedi gofyn fy nghwestiwn atodol i air am air, felly rwy'n meddwl ar fy nhraed. Ond os caf i ddefnyddio rhywfaint o brofiad personol—mae honno bob amser yn ffordd dda allan o'r problemau hyn—ychydig flynyddoedd yn ôl, cysylltodd prif swyddog gweithredol cwmni peirianneg bach yng Nghas-gwent â mi gan ddweud ei fod o'r farn bod system ffurflen gaffael Llywodraeth Cymru yn llawer haws ei llenwi na thros y ffin, a oedd yn glod i Lywodraeth Cymru, ond ar yr un pryd dywedodd ei bod yn fwy anodd i fusnesau llai, ar yr adeg honno o leiaf, gaffael y gwaith, ac roedden nhw'n aml yn mynd i gwmnïau mwy a oedd yn gallu gwneud cynigion mwy cystadleuol ymlaen llaw ar y cychwyn, na fyddent o reidrwydd wedi digwydd ymhellach i lawr. Felly, roedd ef yn gweithio yn Henffordd ac yn caffael yno.

Nid wyf i wedi cyfeirio ato gan ddefnyddio ei enw, ond gallaf gael yr ohebiaeth a gefais gyda'r gŵr bonheddig hwnnw i chi rywbryd eto. Ond ers i mi gael yr ohebiaeth honno, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i'w gwneud yn haws o lawer, yn unol â chwestiwn Mike Hedges, i gwmnïau bach gael mynediad at gyfleoedd caffael yng Nghymru?

Diolchaf i Nick Ramsay am y cwestiwn yna. Gwnaed ymdrechion nid yn unig i wneud y system yn haws i'w defnyddio, ond i wneud yn siŵr ei bod yn system fwy effeithiol fel bod cwmnïau bach yng Nghymru, yn enwedig pan eu bod yn gweithio gyda chwmnïau eraill mewn contract a rennir, yn gallu ennill gwaith yma yng Nghymru. Byddai gen i ddiddordeb, wrth gwrs, mewn gweld yr ohebiaeth y cyfeiriodd ef ati. Ond er mwyn rhoi gwahanol enghraifft i'r aelod o'r ffordd y mae pethau wedi newid, rydym ni yn y broses derfynol o osod contract fframwaith newydd ar gyfer athrawon cyflenwi yma yng Nghymru. Rydym ni wedi symud o gael un cyflenwr yn unig ar y contract hwnnw i gael mwy nag 20 o gontractwyr llawer llai erbyn hyn, pob un ohonyn nhw yn gallu cystadlu a chynnig gwasanaeth mewn ysgolion, a chaiff mwyafrif y contractau hynny eu gosod gyda chyflenwyr bach yng Nghymru.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghymoedd De Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfleoedd trafnidiaeth gyhoeddus yng nghymoedd de Cymru? OAQ53886

Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus y mae cynigion y Papur Gwyn, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', a fydd yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i hwyluso system drafnidiaeth integredig well yma yng Nghymru. Mae gennym ni ein buddsoddiad hirdymor mewn trafnidiaeth gyhoeddus sy'n dechrau gyda metro de Cymru, ac yng nghymoedd y de yn benodol, wrth gwrs, mae gennym ni waith tasglu'r Cymoedd.

13:35

Diolch, Prif Weinidog. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gweld y cyhoeddiad am y cynllun arbrofol gwasanaeth bysiau y tu allan i oriau arferol o gwm Rhondda yn rhan o fenter tasglu'r Cymoedd, a gwn fod llawer o'm cyd-aelodau o'r Cymoedd yr un mor frwdfrydig i ddarllen am hynny. Rydym ni'n gwybod nad yw'r amserlenni presennol yn diwallu anghenion gweithwyr shifft, a all fod mor bwysig i fynd i'r afael â thlodi, ac mewn cymunedau sydd bellaf oddi wrth y rheilffyrdd, darpariaeth bysiau mewn gwirionedd yw'r arf allweddol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai'r fenter hon wneud cymaint o wahaniaeth i gymunedau fel fy un i. A oes unrhyw gynlluniau i ehangu'r arbrawf hwn?

Llywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn ychwanegol yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi mai'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yn y fan yma yw darparu trafnidiaeth fwy hyblyg sy'n cael ei harwain gan alw, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle mai'r rhwydwaith bysiau yw'r prif ddarparwr o ran trafnidiaeth gyhoeddus a lle ceir anghenion gwaith shifft nad yw'r brif amserlen yn eu diwallu yn aml. Mae Vikki Howells yn iawn i ddweud y bydd blwyddyn gyntaf yr arbrawf yn gweithredu yng nghwm Rhondda—trefi fel Maerdy, Glynrhedynog a Blaenllechau. Ac yno, bydd cysylltiadau drwy'r gwasanaeth newydd hwn naill ai i'r dwyrain i Drefforest a Nantgarw neu i'r gorllewin tuag at Bont-y-clun a Llantrisant. Bydd yr arbrawf hwnnw yn para am flwyddyn, ond mae dewis ar gyfer cael ail flwyddyn, a gwn y bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn falch iawn o drafod gyda chi pa bosibiliadau a allai fodoli i gynnwys ardal ddaearyddol ehangach wrth i ni ddod yn ymwybodol o'r profiad hwnnw yn y flwyddyn gyntaf.

Fel defnyddiwr rheolaidd o reilffyrdd y Cymoedd o'r Rhondda, rwy'n un o'r miloedd o deithwyr sy'n cael eu digalonni, eu llesteirio, eu gwasgu ac yn teimlo nad ydyn nhw'n cael gwerth am arian yn rheolaidd. Mae gorlenwi wedi dod yn fater diogelwch pwysig nid yn unig i gymudwyr, ond hefyd i staff sy'n dioddef dicter y teithwyr, yn enwedig pan fydd pobl yn cael eu gorfodi i ddioddef amodau cyfyng. Ar ran y staff, ac rwyf i wedi cael sylwadau ganddyn nhw, ac ar ran y nifer fawr o bobl sy'n defnyddio'r trenau bob dydd, hoffwn wybod pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld mwy o gerbydau—cerbydau newydd—ar reilffordd Treherbert? A hoffwn wybod hefyd pa un a oes unrhyw wirionedd yn yr hyn a ddywedodd aelod o staff Trafnidiaeth Cymru wrthyf i na fydd toiledau yn y cerbydau newydd?

Wel, Llywydd, gan ein bod ni'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud y bydd y fasnachfraint newydd yn darparu 285 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru bob dydd yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sul erbyn Rhagfyr 2023, a 294 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru erbyn Rhagfyr 2019. Hyd y gwn i, bydd cyfleusterau modern a chyfredol gan gynnwys cyfleusterau toiled yn y cerbydau newydd yr ydym ni'n eu caffael, wrth gwrs, ond hefyd Wi-Fi a phethau eraill y mae gan bobl sy'n teithio mewn system reilffyrdd fodern yr hawl i'w disgwyl.FootnoteLink

Byddwch yn cytuno â mi, rwy'n siŵr, bod cynllun metro de Cymru yn gwbl hanfodol i gysylltu ein cymunedau yng nghymoedd y de gyda chyfleoedd swyddi a thwf prifddinas-ranbarth ehangach Caerdydd. A allwch chi ddweud wrthym ni felly, Prif Weinidog, sut y mae'r gwaith o ddarparu'r ddau brosiect pwysig hyn yn cael ei gydgysylltu, yn enwedig o ran datblygiad prosiect y metro yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, rwy'n yn sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Russell George. Holl bwrpas y metro a'r gwelliannau yr ydym ni'n ceisio eu gwneud mewn gwasanaethau cyhoeddus yw y byddan nhw'n caniatáu i bobl symud yn rhydd ar draws economi de Cymru, gan ganiatáu i fusnesau symud i fannau lle ceir poblogaethau crefftus a all eu galluogi i ffynnu a chaniatáu i bobl symud yn hawdd i'r mannau lle gellir dod o hyd i gyflogaeth. Diben ein Papur Gwyn yw nodi ffurf o allu rheoleiddio gwasanaethau bysiau yn y dyfodol sy'n golygu y gellir eu rhedeg er budd y cyhoedd, ac yn y modd hwnnw byddwn yn gallu dod â'r ddau edefyn hynny at ei gilydd: y buddsoddiad cyhoeddus yr ydym ni'n ei wneud yn y metro—buddsoddiad mawr—ond hefyd ffordd o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau sy'n golygu bod gennym ni system drafnidiaeth wirioneddol integredig ar draws de Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, a yw lefelau carbon deuocsid yng Nghymru yn gostwng yn ddigon cyflym?

13:40

Mae lefelau carbon deuocsid yng Nghymru yn gostwng. Mae gennym ni gynlluniau a gyflwynwyd ac amserlenni a gyflwynwyd y byddwn ni'n parhau i'w hadolygu a'u cadw'n gyfredol. Rydym ni'n ystyried cyngor y pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd yng ngoleuni cytundeb Paris, ac, fel yr ydych chi wedi ei weld, mae'n awgrymu ein bod ni angen gostyngiad o 95 y cant i allyriadau o fewn 30 mlynedd. Roedd y cyngor, Llywydd, yn fanwl. Roedd dros 300 o dudalennau o gyngor. Mae'n iawn ein bod ni'n cymryd amser i'w ystyried, ond ein hymateb cyntaf i'r cyngor yw bod gostyngiadau o'r math hwnnw dros y cyfnod amser hwnnw yn angenrheidiol ac yn gyraeddadwy yng Nghymru.

Wel, yn amlwg, Prif Weinidog, nid yw allyriadau yn gostwng yn ddigon cyflym, ac mae'n amheus a fydd eich Llywodraeth yn cyrraedd y targed o ostyngiad o 27 y cant erbyn 2020, o gofio mai dim ond gostyngiad o 14 y cant a gyflawnwyd hyd yn hyn. Nawr, ers 2014, mae nifer amcangyfrifedig y marwolaethau yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gysylltiedig â llygredd aer, mewn gwirionedd wedi cynyddu o 1,320 yn 2014 i fwy na 2,000 yn 2017. Mewn dadl ddiweddar, dywedodd cyn-Weinidog yr amgylchedd bod y posibilrwydd o Ddeddf aer glân ar y bwrdd mewn gwirionedd er mwyn llenwi'r bylchau mewn deddfwriaeth. Nawr, nododd yr Athro Lewis o Brifysgol Abertawe bod y broses o gasglu gwybodaeth am lygredd aer yn anghyson a bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y data a gesglir yn gywir ac yn gynrychioliadol o Gymru gyfan, oherwydd gall methu data hanfodol arwain at anwybyddu ac anghofio ardaloedd. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa, a ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, ei bod hi'n amser nawr i ni gyflwyno Deddf aer glân, safoni'r broses o gasglu data a rhoi terfyn ar yr argyfwng iechyd y cyhoedd hwn?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae Paul Davies wedi ei ddweud am bwysigrwydd aer glân. Ddegawd ymlaen o bryd y dechreuodd y ddadl hon, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn fwy ymwybodol heddiw o'r effaith y gall llygredd aer ei chael ar iechyd y cyhoedd a'i effaith ar gyflyrau iechyd eraill. Felly, hoffwn gytuno ag ef am ddifrifoldeb y mater. Gallaf ddweud wrtho fy mod i eisoes wedi cael trafodaethau gyda Lesley Griffiths, fy nghyd-Weinidog, am Ddeddf aer glân, ac mae'r gwaith paratoi y tu mewn i Lywodraeth Cymru wedi dechrau meddwl am sut y gellid datblygu Deddf o'r fath. Wrth gwrs, byddwn ni eisiau siarad â'r holl arbenigwyr hynny a'r grwpiau buddiant hynny a fyddai'n dymuno cyfrannu at Ddeddf o'r fath, a byddai cael gwell data, cael data y gellir eu cymharu'n gywir, cael data sy'n caniatáu i chi olrhain newidiadau dros amser yn rhan angenrheidiol o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth y gallem ni ei gyflwyno.

Wel, Prif Weinidog, rwy'n falch eich bod chi'n ystyried Deddf aer glân o ddifrif, ond byddwn yn awgrymu fy mod i'n meddwl ei bod hi'n bwysig nawr eich bod chi'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno er mwyn mynd i'r afael â'r mater pwysig iawn hwn. Nawr, mae eich Llywodraeth wedi gosod targedau i haneru allyriadau carbon 2005 erbyn 2030, ond, yn amlwg, nid oes digon o gynnydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd y targed penodol hwn, gan fod ffigurau gan Bwyllgor y DU ar y newid yn yr hinsawdd yn dangos bod allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu gan 5 y cant yng Nghymru rhwng 2015 a 2016, o'i gymharu â gostyngiad o 11 y cant yn yr Alban. Nid yw llygredd aer wedi'i gyfyngu i'r ardaloedd targed yn unig. Yn Lloegr a'r Alban, mae cynnydd, yn amlwg, yn cael ei wneud gan ddilyn esiampl Berlin, wrth i ddinasoedd sy'n cynnwys Leeds a Birmingham gyflwyno cynlluniau ar gyfer parthau aer glân. Nawr, fel y gwyddoch, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi galw am i'r parthau hyn gael eu cyflwyno yn Wrecsam, Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, ac mae'n siomedig bod Caerdydd wedi troi ei chefn ar ei chynlluniau ar gyfer parth. Mae hyn er gwaethaf y ffaith yr aethpwyd â Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys y llynedd ynghylch ei methiant i gyflwyno cynllun cadarn i wella ansawdd aer. Felly, Prif Weinidog, ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r gronfa ansawdd aer y llynedd, pa gynnydd sydd wedi ei wneud ar wella lefelau nitrogen deuocsid yn y pum ardal ffyrdd targed, a pha gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan hefyd ac yn mynd i'r afael â llygredd aer yn eu hardaloedd eu hunain?

Llywydd, anghofiodd yr Aelod ddweud wrth y Siambr mai Llywodraeth y DU, wrth gwrs, a gafodd ei chymryd i'r Goruchaf Lys ynghylch y mater hwn oherwydd tor-cyfraith yn ymwneud â chyfraith Ewrop, ac roedd Llywodraeth Cymru yno oherwydd ein bod ni'n rhan o'r system honno yn y DU. Ond ni soniodd mai Llywodraeth y DU oedd yn y doc yn bennaf ar y diwrnod hwnnw. Nawr, fel mae'n digwydd, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae wedi ei ddweud, ac rwy'n rhannu'r uchelgeisiau a gyflwynwyd ganddo i sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy i sicrhau ein bod ni'n gadael etifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol o aer nad yw'n llygredig nad yw'n achosi'r anawsterau yr ydym ni'n fwy effro i'w creu erbyn hyn. O ran y pum ardal a nodwyd ganddo, mae gennym ni drefniadau monitro newydd ar waith yno. Maen nhw'n fwy sensitif i lefelau nitrogen deuocsid. Bydd yn fis Medi cyn i ni gael set ddata o'r math a argymhellwyd ganddo yn ei gwestiwn cynharach—dibynadwy a thros gyfnod o amser—a byddwn yn gwybod, ym mis Medi, canlyniad y monitro ychwanegol hwnnw. O ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gydag awdurdodau lleol, rydym ni'n cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol wrth gwrs, gan gynnwys Caerdydd, i sicrhau bod y camau y gallan nhw eu cymryd a'r camau y gallwn ni eu cymryd gyda'n gilydd yn cefnogi'r uchelgais a gyflwynwyd gan Paul Davies y prynhawn yma.

13:45

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae disgwyliad oes yng Nghymru yn gostwng yn gynt nag mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Ni yw'r unig wlad yn yr ynysoedd hyn lle mae tlodi plant yn cynyddu, ac yn nhri mis cyntaf eleni, ni oedd yr unig ran o'r DU lle y cynyddodd diweithdra. Fis yn ôl, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Plaid Lafur Cymru bod

Cymru mewn sefyllfa well nag unrhyw ran arall o'r DU i ymdrin â Brexit.

Sut gall hynny fod yn wir pan fo Cymru, o dan eich arweinyddiaeth chi, yn gwneud mor wael hyd yn oed cyn i Brexit ddechrau?

Wel, Llywydd, nid oes gan yr Aelod fyth air da i'w ddweud dros Gymru. Nid yw byth yn colli cyfle i ddewis yr ystadegau mwyaf digalon y gall ddod o hyd iddyn nhw ac yna bychanu Cymru. Nid yn y Siambr hon yn unig y mae'n gwneud hyn; mae'n manteisio ar y cyfleoedd sydd ganddo i wneud hynny pan fydd ar gyfryngau darlledu cenedlaethol hefyd, ond ar yr ochr hon o'r Siambr rydym ni'n gwneud ein gorau i ganu clodydd Cymru. Rydym ni'n gwneud ein gorau i ddenu busnesau i ddod i Gymru. Nid yw ef byth yn colli cyfle i bortreadu Cymru fel y lle mwyaf digalon y mae wedi ei weld erioed. Mae'n gwneud hynny hyd yn oed pan nad yw'r ffigurau'n berthnasol o gwbl i'r hyn y mae'n ei ddweud. A phan fydd y Blaid Lafur, y mae ganddo ddiddordeb obsesiynol ynddi, Llywydd—rwyf i wedi cynnig anfon ceisiadau aelodaeth ato yn y gorffennol o ystyried pa mor aml ar lawr y Siambr y mae eisiau gofyn cwestiynau i mi am yr hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei wneud. Yn ein cynhadledd, cyflwynwyd prosbectws ar gyfer Cymru gennym sy'n cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol, ond sy'n dangos y ffordd y gallwn ni greu, hyd yn oed o dan amgylchiadau Brexit, economi sy'n ffynnu ac y gallwn ni greu cymdeithas lle mae pobl yn cael cyfleoedd i ffynnu. A byddai'n braf pe byddai'r Aelod, am unwaith, wrth ofyn cwestiynau yn y fan yma, yn rhoi ei ysgwydd wrth yr olwyn honno yn hytrach na cheisio'n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd o fychanu Cymru.

Prif Weinidog, rydych chi'n aml yn hoff o ddweud pa mor siomedig ydych chi ynof i, ac mae'n rhaid i mi ddweud, ar sail y perfformiad yna, nid yw hanner mor siomedig ag yr wyf i ynoch chi. Yr wythnos hon, cyfeiriodd Hywel Ceri Jones, sydd wedi bod yn gynghorydd i'ch Llywodraeth, at y ffaith bod arweinydd eich plaid wedi bod yn fwriadol amwys o ran y cwestiwn o ail bleidlais gyhoeddus ar aelodaeth o'r UE fel ei reswm dros adael Llafur ac ymuno â Phlaid Cymru. O gofio mai Hywel oedd sylfaenydd rhaglen Erasmus, efallai ei bod yn addas i atgoffa ein hunain o eiriau'r dyn mawr ei hun pan ddywedodd, 'Gwirionedd yw gostyngeiddrwydd.' Felly, yn yr ysbryd hwnnw, cyn i ddegau—[Torri ar draws.] Cyn i ddegau o filoedd—[Torri ar draws.] Efallai eich bod chi'n chwerthin nawr; nid wyf i'n credu y byddwch chi'n chwerthin ddydd Sul. Felly, yn yr ysbryd hwnnw, cyn i ddegau o filoedd o gefnogwyr Llafur ddilyn Hywel gan droi eu cefnau arnoch chi yn y blwch pleidleisio, pam na wnewch chi gyfaddef yn ostyngedig, Prif Weinidog, o ran y cwestiwn o ail refferendwm, eich bod chi, trwy ddilyn yn slafaidd safbwynt Llafur Prydain—neu yn hytrach, yn absenoldeb un—wedi gwneud y penderfyniad anghywir?

Wel, efallai mai gwirionedd yw gostyngeiddrwydd, Llywydd, ond nid yw eironi wedi diflannu yn sicr. Os bu unigolyn erioed a ddylai fod wedi osgoi hwnna fel slogan, rwy'n credu ein bod ni wedi clywed ganddo ddwywaith y prynhawn yma erbyn hyn. Mae safbwynt fy mhlaid o ran ail refferendwm yn un sy'n adlewyrchu cymhlethdod y sefyllfa sy'n wynebu pobl Prydain. Mae'r diwrnod ar ddod, Llywydd, pan fydd yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin, sef lle y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud wedi'r cyfan, gydio yn y mater hwnnw a phenderfynu'n derfynol pa un a yw'n barod i ofyn i bobl y Deyrnas Unedig bleidleisio ar y mater hwn eto. Credaf fod y diwrnod hwnnw'n dod yn gyflym iawn.

13:50

Mae dau arolwg barn yn y tri diwrnod diwethaf wedi rhoi eich plaid chi yn y trydydd safle yn yr etholiadau Ewropeaidd. Mae un wedi eich rhoi chi'n drydydd mewn etholiadau i'r Senedd hon ar y rhestr ranbarthol. Os byddwch chi'n dod yn drydydd ddydd Iau, dyma fydd y tro cyntaf i hyn ddigwydd i'r Blaid Lafur mewn etholiad Cymru gyfan ers blwyddyn sefydlu'r Blaid Lafur yn 1900, pan etholwyd Keir Hardie yn AS dros Ferthyr Tudful. A ydych chi'n teimlo rhyw synnwyr o gyfrifoldeb personol am y dyfnderoedd y mae eich plaid wedi plymio iddynt? Mae'n siŵr y bydd rhai yn gweld eich teyrngarwch personol i Jeremy Corbyn fel priodwedd clodwiw, ond bydd llawer mwy o'r farn ei fod ar draul teyrngarwch mwy, sef i bobl Cymru. Felly, i ddyfynnu ymadrodd arall y dylech chi fod yn gyfarwydd ag ef, gan mai chi wnaeth ei lunio, onid oedd hon efallai'n adeg am ddiferyn neu ddau o ddŵr coch clir?

Llywydd, mae fy niddordebau i bob amser yn ymwneud â'r hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru. Rwy'n treulio pob dydd sydd gennyf i geisio gwneud popeth y gallaf i sicrhau bod dyfodol pobl yng Nghymru yn cael ei ddiogelu, a bod y rhagolygon gorau ar gael iddyn nhw. Rwy'n gwneud hynny, byddaf yn parhau i wneud hynny, a phan ddaw'r amser, byddaf yn cael fy meirniadu fel unrhyw un arall yn y Siambr hon, yn erbyn yr ymdrechion a llwyddiant yr ymdrechion hynny, pan ddaw pobl i wneud y dewis y byddan nhw'n ei wneud ynghylch pwy ddylai fod wrth y llyw yn y Siambr hon.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm? [Torri ar draws.] Addawsoch y byddech chi'n gwneud hynny. [Torri ar draws.]

Ni all y Prif Weinidog glywed y cwestiwn sy'n cael ei ofyn. A allwn ni gael ychydig o dawelwch i glywed y cwestiwn, os gwelwch yn dda?

Prif Weinidog, a ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm? Addawsoch y byddech chi'n gwneud hynny, ond nid yw'n eglur eich bod chi. A wnaiff eich plaid ganiatáu i ni adael, neu a ydych chi eisiau ein gwneud ni aros? A ydych chi'n cytuno â'ch Gweinidog Brexit pan ddywedodd fod yn rhaid i'ch Llywodraeth gydbwyso'r penderfyniad a wnaeth pobl Cymru yn y refferendwm gyda'i ddealltwriaeth well ef o'r hyn y mae'n ei ddweud sydd er eu lles? Prif Weinidog, rydych chi'n wynebu eich prawf etholiadol cyntaf ddydd Iau, ond nid oes neb yn gwybod lle'r ydych chi'n sefyll ar Brexit neu pa un a ddylid gwneud i bobl bleidleisio eto. Pwy ydych chi'n disgwyl y bydd yn cael mandad gan bobl Cymru?

Llywydd, mae'n amlwg ei bod hi'n brynhawn am eironi ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Aelod yn gofyn i mi am barch a mandad. Dyma rywun y rhannais lwyfan ag ef yn ystod y cyfnod cyn etholiad diwethaf y Cynulliad pan anogodd y gynulleidfa o'n blaenau i gefnogi Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig. Cyn gynted ag iddo gyrraedd yma ar sail y tocyn hwnnw, fe hedfanodd ar draws i ochr arall y Siambr i fod yn gyw cog yn nyth y Blaid Geidwadol. Nawr mae'r aderyn wedi hedfan eto. Nid yw'r math hwn o ymagwedd beripatetig at wleidyddiaeth yn un sy'n golygu, yn fy marn i, ei fod mewn unrhyw sefyllfa i ofyn cwestiynau i bobl eraill yn y Siambr hon am barchu mandadau democrataidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi parchu canlyniad y refferendwm erioed. Rydym ni wedi cydnabod o'r cychwyn y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio, ac rydym ni wedi canolbwyntio, fel yr ydym ni wedi ei ddweud gynifer o weithiau, ar ffurf yn hytrach na ffaith Brexit. Wrth gwrs roedd y Gweinidog Brexit yn iawn i ddweud bod yn rhaid i ni gydbwyso'r hyn a ddywedodd pobl yn y refferendwm hwnnw yn erbyn y niwed yr ydym ni'n gwybod fyddai'n dod i Gymru o'r math o Brexit y mae ef a'i blaid yn ei hyrwyddo erbyn hyn.

Mae'r Prif Weinidog yn credu ei fod yn gwybod yn well na phobl Cymru. Prif Weinidog, rwyf i wedi cefnogi Brexit yn gyson. Yn anffodus, dywedodd pob plaid eu bod yn mynd i barchu canlyniad y refferendwm. Yn anffodus, rydych chi'n gwneud popeth ond hynny. Rydych chi'n honni eich bod chi wedi parchu'r canlyniad o'r cychwyn, ond nid yw hynny'n wir. Cyhoeddwyd Papur Gwyn gennych yr oeddech wedi ei gytuno gyda Phlaid Cymru—sydd â llawer iawn i'w ddweud am bwy fydd yn dod yn drydydd ddydd Iau, ond ychydig iawn i'w ddweud am bwy allai ddod yn gyntaf—ac roedd yr hyn a ddywedasant gyda chi yn Brexit mewn enw yn unig, ond roeddech chi'n dal i ddweud eich bod chi eisiau parchu'r canlyniad a sicrhau'r Brexit hwnnw, er ei fod mewn enw yn unig.

Ers hynny, cyn gynted ag yr oeddech chi'n meddwl y gallech chi wneud hynny, dechreuasoch symud eich polisi i ddweud y dylid gorfodi pobl Cymru i bleidleisio eto, gan eu bod wedi gwneud camgymeriad. Nawr, efallai na ddywedasoch chi hynny mor eglur ag y gwnaeth Adam Price, neu mor eglur ag y gwnaeth Kirsty Williams, ac mae'n bosibl y gallai llawer o'r pleidleiswyr Llafur a bleidleisiodd i aros bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru ddydd Iau o ganlyniad, ond mae'r bobl yr wyf i'n siarad â nhw yn clywed eich bod chi'n dweud, 'Roedden nhw'n anghywir—mae angen iddyn nhw bleidleisio eto', gan mai chi sy'n gwybod orau. Addawsoch weithredu'r canlyniad, addawsoch ei barchu. Rydych chi'n gwneud popeth ond hynny. A ydych chi'n deall pam mae hi'n amser bellach i newid gwleidyddiaeth am byth?

13:55

Rwy'n credu fy mod i wedi clywed yr Aelod yn defnyddio'r gair 'cysondeb' yn rhan gyntaf ei gwestiwn. Perfformiad pantomeim sy'n cael ei gynnig i ni, ond y broblem, Llywydd, yw bod yr Aelod yn llawer mwy na dihiryn pantomeim, a byddai'r prosbectws y mae'n ei gynnig i bobl yng Nghymru, heb os nac oni bai, yn peri i bobl Cymru fod yn waeth eu byd yn y dyfodol. Byddai eu diogelwch yn cael ei danseilio, byddai eu dylanwad yn y byd yn lleihau. Rwy'n falch o'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ni gyda Phlaid Cymru gan ei fod wedi sefyll prawf amser. Ac yn wahanol i grwydradau’r aelod o amgylch y Siambr hon, mae'r pethau a ddywedasom bryd hynny am aelodaeth o undeb tollau, cyfranogiad llawn a dilyffethair mewn marchnad sengl, ymagwedd synhwyrol at fudo nad yw'n niweidio busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus—dyna'r pethau sydd wedi sefyll prawf amser. Dyna'r pethau sydd wedi bod yn gyson drwy gydol y ddadl hon. Ac efallai ei fod yn fwy cymhleth nag yr hoffai'r aelod ei gyfaddef, ond dyna'r pethau y byddwn ni'n parhau i'w cyfrannu at y ddadl hon. Dyna ein cysondeb, ac rwy'n credu ei fod yn gysondeb y bydd pobl yng Nghymru yn dod i'w gydnabod.

Creu Llywodraeth Ffeministaidd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at greu llywodraeth ffeministaidd yng Nghymru? OAQ53882

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyflwynodd Jane Hutt ein huchelgais ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb canlyniadau i bawb. Datblygwyd y datganiad yn rhan o adolygiad cydraddoldeb rhywiol, wrth gwrs, a sefydlwyd gan Carwyn Jones ym mis Mawrth 2018.

Croesawaf fenter y gŵr bonheddig hwnnw. Diolch am hynna, Prif Weinidog. A gaf i ofyn i chi amlinellu pa newidiadau eraill ydych chi'n ei gredu fydd eu hangen yn y dyfodol i wireddu ein huchelgais ar y cyd o gydraddoldeb gwirioneddol yng Nghymru?

Diolchaf i Carwyn am y cwestiwn atodol yna. Mae yn llygad ei le; uchelgais graidd y Llywodraeth hon yw creu Cymru sy'n fwy cyfartal. Llywydd, soniaf am dair ffordd gryno yn unig y bydd y newidiadau hynny yn y dyfodol yn cael eu llunio.

Yn gyntaf oll, gwn y bydd yr Aelod wedi gweld adroddiad y comisiwn gwaith teg—menter arall a sefydlwyd ganddo. Bydd wedi gweld ei adroddiad ardderchog. Bydd yn gwybod bod Julie James eisoes wedi derbyn chwe chynnig allweddol yr adroddiad hwnnw, a chawsom drafodaethau yn ystod wythnos diwethaf a'r wythnos hon ynghylch sut y byddwn ni'n sefydlu swyddfa gwaith teg o fewn y Llywodraeth yma yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r agenda honno.

Yn ail, fel y mae'r Aelod yn gwybod, disgwylir cam 2 yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mis Gorffennaf eleni. Bydd yn darparu adroddiad a map ffordd. Ac mae'r map ffordd hwnnw'n wirioneddol bwysig yn y modd y dywedodd y cyn Brif Weinidog, i roi syniad i ni o'r newidiadau hynny y bydd eu hangen i sicrhau'r Gymru fwy cyfartal honno.

Ac yn drydydd, Llywydd, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, rydym ni wedi gwneud ymrwymiad i ddeddfu Rhan 1 Deddf Cydraddoldeb 2010—y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—oherwydd, yn y pen draw, perthynas pobl â'r economi sy'n rhoi'r cyfle mwyaf sylfaenol iddyn nhw mewn bywyd, ac mae hon yn Llywodraeth sy'n benderfynol y bydd pobl yng Nghymru yn cael y cyfleoedd hynny yn deg ac yn gyfartal ar draws ein cenedl gyfan.

Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod yn eithaf dewr i'r cyn Brif Weinidog godi'r cwestiwn hwn. Ar adeg ei ymadawiad, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Llywodraeth wedi cynyddu unwaith eto ac, wrth gwrs, dyma—beth gallaf i ei alw—asesiad Chwarae Teg o'r gwaith yr oedd wedi ei wneud yn yr wyth mlynedd o fod mewn grym: dylai deddfwriaeth a fframweithiau cyfredol, fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, y dyletswyddau cydraddoldeb rhywiol, a'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i gydraddoldeb, a oedd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006—

'sicrhau y caiff y broses o ystyried rhywedd a chydraddoldeb, yn fwy cyffredinol, ei hymgorffori yng nghanol prosesau llunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, cyfyngedig yw effaith y fframwaith hwn hyd yma, oherwydd heriau o ran integreiddio a gweithredu.'

Clywais yr hyn a ddywedasoch am yr hyn sy'n digwydd o fewn y Llywodraeth, ond mae gweithredu yn bwysig pan ddaw i bolisi, a hoffwn wybod beth yw eich gweledigaeth ar gyfer hyn. A dweud y gwir, rwyf i eisiau gwybod pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pob bwriad da sy'n cael ei gyflwyno i ddeddfwriaeth a pholisi yn digwydd mewn gwirionedd ac yn cael y canlyniadau yr ydych chi'n bwriadu iddyn nhw eu cael.

14:00

Llywydd, bydd yr Aelod yn croesawu, rwy'n siŵr, y ffaith bod y ffigurau diweddaraf ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos ei fod yn disgyn, nid codi, yng Nghymru. Gostyngodd o 16 y cant yn 2016 i 15 y cant yn 2017 i 14 y cant yn 2018. Llawer rhy fawr, wrth gwrs, ond, yn wahanol i'r ffordd y dechreuodd ei chwestiwn, mae'r ffigurau hynny'n mynd i'r cyfeiriad iawn a gwn y bydd hi'n awyddus i'w cefnogi nhw i ostwng ymhellach ac yn gyflymach fyth.

Gofynnodd am rai manylion penodol, pethau yr ydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru. Unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd hi'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu absenoldeb â thâl i ddioddefwyr cam-drin domestig, fel y'i sefydlwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a'n bod ni'n cymryd camau i sicrhau bod mwy o ymwybyddiaeth o'r hawl hwnnw a'i fod yn cael ei hysbysebu'n well ymhlith staff, a'n bod ni'n ei drafod gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur gan ein bod ni eisiau sicrhau, y tu hwnt i'r Cynulliad, bod absenoldeb â thâl ar gael yn ehangach yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Ac rydym ni eisiau mynd y tu hwnt i hynny hefyd, felly byddwn yn trafod gyda'n partneriaid cymdeithasol ffyrdd y mae mathau eraill o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y gweithle yn cael eu cydnabod, bod rheolwyr yn cael eu hyfforddi'n briodol i allu adnabod yr arwyddion, eu bod yn gwybod sut y gallan nhw gyfeirio pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, a bod y costau sy'n gysylltiedig â hynny i gyd yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr yma yng Nghymru yn rhan o'n hymdrech i greu'r Gymru fwy cyfartal honno y soniodd y cyn Brif Weinidog amdani yn ei gwestiwn cyntaf.

Gwerslyfrau Adolygu

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwerslyfrau adolygu yn ein hysgolion? OAQ53909

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gwerslyfrau adolygu yn cael eu cynhyrchu gan gyhoeddwyr masnachol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â CBAC i gyfieithu’r llyfrau hyn i’r Gymraeg. Mae rhestr o’r deunydd sydd ar gael yn cael ei dosbarthu i’r ysgolion.

Mi fydd rowlio allan y cwricwlwm newydd yn gyfle gwych ar gyfer cyhoeddi'r holl ddeunyddiau perthnasol yn y ddwy iaith o'r cychwyn cyntaf, yn wahanol i fel y mae'r sefyllfa ar hyn o bryd, ond mae'r cloc yn tician efo hynny. Mae yna rai yn pryderu na fydd yna ddim digon o amser ar gyfer diffinio'r anghenion, gweinyddu tendrau, comisiynu, awduro, treialu, dylunio, cyfieithu a chyhoeddi yn y ddwy iaith ar yr un un pryd. A wnewch chi heddiw felly roi sicrwydd y bydd eich Llywodraeth chi yn cynllunio'n ofalus er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gwerslyfrau ac adnoddau ar gael ar yr un pryd yn y ddwy iaith fel na fydd disgyblion sydd yn dymuno gwneud eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg dan anfantais i'r dyfodol?

Diolch i Siân Gwenllian am hynny. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â'r sylwadau y mae hi wedi'u rhoi i ni. Nid yw'n dderbyniol i fi os nad oes gwerslyfrau adolygu ar gael mewn pryd i'r rhai sy'n cymryd arholiadau drwy'r iaith Gymraeg, fel rŷn ni wedi clywed dros yr wythnos diwethaf. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle newydd i ni gynllunio am y dyfodol. I fod yn glir, pan fydd y cwricwlwm yn cael ei rowlio allan ledled Cymru, byddwn ni'n ei wneud e mewn ffordd fel y bydd y pethau sy'n bwysig i blant yn yr ysgolion ar gael ar yr un pryd. Dyna pam rŷn ni'n gwneud y gwaith yn y ffordd rŷn ni'n ei wneud e. So, ni'n dechrau gyda'r plant ifanc, a bydd y cwricwlwm newydd yn tyfu, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna pam rŷn ni'n hyderus rŷn ni'n gallu gwneud pethau yn y ffordd y mae Siân Gwenllian wedi ei hawgrymu y prynhawn yma, a dwi'n gwybod bod grŵp newydd gan y Gweinidog sy'n ein helpu ni i gynllunio, i baratoi ac i wneud y pethau pwysig y mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio atynt y prynhawn yma.

14:05

Cwestiwn 5. Na, mae'n ddrwg gen i: Darren Millar. 

Sut gallwn i anghofio amdanoch chi, Darren? [Chwerthin.]

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant i bawb yn yr arholiadau TGAU, sydd yn digwydd ar hyn o bryd—yn enwedig, fy mab fy hun, sy'n sefyll ei arholiadau TGAU eleni.

Byddwch yn ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cyhoeddi adroddiad y llynedd ar y gwerslyfrau a oedd ar gael—neu a ddylwn i ddweud y gwerslyfrau nad oeddent ar gael—bryd hynny. A chawsom ein sicrhau fel Cynulliad bod gwersi wedi cael eu dysgu o'r camgymeriadau a wnaed ynghylch gwerslyfrau a llyfrau adolygu sydd ar gael, ac eto dim ond yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, clywsom, fel yr ydym ni eisoes wedi ei ddweud yn y Siambr y prynhawn yma, bod dau gwrs yn arbennig nad oedd canllawiau adolygu Cymraeg ar gael ar eu cyfer. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth yn eu cael gyda Cymwysterau Cymru i wneud yn siŵr na fydd y bobl ifanc hynny na chawsant y canllawiau adolygu y dylen nhw fod wedi eu cael mewn da bryd i baratoi ar gyfer yr arholiadau eleni yn cael tanseilio eu cyfleoedd i gael y graddau gorau? A sut gwnaiff Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei osgoi unwaith ac am byth yn y dyfodol, fel nad ydym yn cael ein hunain i'r math hwn o bicil a welwyd ddwy flynedd yn olynol erbyn hyn, ac sy'n gwbl annerbyniol?

Llywydd, a gaf i ddechrau drwy ddymuno'r gorau, yn wir, i'r holl bobl ifanc hynny sy'n sefyll arholiadau? Cefais y pleser o gwrdd â mab Darren pan oedd yn bresennol gyda'r ddau ohonom ni mewn digwyddiad rhoi organau yn ystod hynt y Bil gerbron y Cynulliad, felly dymunaf yn dda iddo ef yn arbennig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion gwirioneddol, Llywydd, i gywiro methiant y farchnad yn y maes hwn, oherwydd dyna yr ydym ni'n ei wneud. Nid ydym yn gwario unrhyw arian i gefnogi gwerslyfrau Saesneg; rydym ni'n darparu dros £3 miliwn y flwyddyn i gefnogi'r ddarpariaeth o adnoddau i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg yn y modd hwn, ac rydym ni wedi cynyddu'r cyllid grant hwn eleni. Gwn fod y Gweinidog wedi ysgrifennu at Siân Gwenllian heddiw i gadarnhau y byddwn ni'n darparu £1.25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, ac y bydd hynny'n caniatáu i 50 o deitlau newydd eraill gael eu darparu i gefnogi cymwysterau, yn ogystal â'r 40 o deitlau newydd a gyhoeddwyd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda'r chwaraewyr yn y maes i geisio cyflymu'r gwaith o gyfieithu'r gweithiau hyn ac i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd yn brydlon.

Nid mater i'r Llywodraeth, rwy'n credu, Llywydd, yw ymyrryd yn y ffordd y caiff arholiadau eu cynnal na'u hasesu, ond mae'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud am yr angen i sicrhau bod pobl ifanc sy'n sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael yr un cyfleoedd i astudio ar eu cyfer, i gael canllawiau adolygu, ac yn y blaen, yn un yr ydym ni'n cytuno'n llwyr ag ef. Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle newydd i ni, fel yr awgrymodd Siân, i sicrhau bod yr adnoddau hynny'n codi o flwyddyn i flwyddyn ochr yn ochr â chyflwyno'r cwricwlwm, ac rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Cynnig Gofal Plant

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cynnig gofal plant a gaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru? OAQ53887

Llywydd, rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr bod y cynnig gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth ar gael yn awr i rieni ledled Cymru gyfan erbyn hyn, ac mae hynny flwyddyn yn gynharach na'r hyn a drefnwyd yn wreiddiol.

Rwy'n croesawu'r newyddion hynny a'r ffaith ein bod ni wedi cael darpariaeth y cynnig gofal plant uchelgeisiol ac arloesol iawn hwn y mae fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, yn bwrw ymlaen ag ef yn fedrus iawn, nid yn unig yn brydlon, ond yn unol â'r gyllideb hefyd.

Ond, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ei Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â swyddogion ac aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd yn draddodiadol, yn hanesyddol, wedi gor-ddarparu'r cyfnod sylfaen gan 25 neu 30 awr yr wythnos, am gost fawr, ond yn fwriadol er mwyn bod o fudd i fywydau pobl ifanc, i weld sut y gallwn ni wneud i hyn weithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd? Ac a gaf i ofyn hefyd beth sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r ystyriaethau tymor hwy—tymor canolig i dymor hwy—o system fwy cydgysylltiedig a mwy cynhwysfawr o ofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar, sy'n briodol i bob oedran unigol? Ni allwn wneud hynny dros nos, ond hyrwyddais hyn pan oeddwn i mewn Llywodraeth, a byddaf yn parhau i'w hyrwyddo gan fy mod i'n credu mai dyma'r hyn y dylai Cymru fod yn ei wneud yn yr hirdymor.

Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau ychwanegol yna. Llywydd, ar fater Pen-y-bont ar Ogwr, bydd Huw Irranca-Davies yn falch o wybod bod cyfarfod yn y dyddiadur eisoes i Julie Morgan gyfarfod ag arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, gan ei fod yn fater cymhleth, a gwn fod y Gweinidog yn teimlo y byddai'n well archwilio'r cymhlethdodau hynny wyneb yn wyneb. Mae'r cyfnod sylfaen yn gynnig cyffredinol ac mae'r cynnig gofal plant yn gynnig wedi'i dargedu—mae'r ffordd yr ydym ni'n eu dwyn ynghyd yn fater y gellir ei drafod orau o ran y manylion cymhleth hynny mewn cyfarfod wyneb yn wyneb.

Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies am yr uchelgais hirdymor i sicrhau bod gennym ni brofiadau o ansawdd uchel ac ysgogol mewn lleoliadau gofal a lleoliadau dysgu. Dyma pam yr ydym ni wedi darparu £60 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol a fydd yn mynd i 115 o leoliadau gofal plant. Mae cydleoli'r cyfnod sylfaen a darpariaeth y cynnig gofal plant ychwanegol yn gwbl ganolog i'r hyn y mae'r £60 miliwn i fod i'w gyflawni, fel bod gennym ni ofal plant a dysgu blynyddoedd cynnar fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch mewn modd sy'n dod â'r ddau beth hynny at ei gilydd mewn modd grymus.

14:10

Rydym ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, wedi dilyn addewid maniffesto grŵp Ceidwadwyr y Cynulliad i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio. Yn wir, dylai hyn fod yn helpu rhieni ledled Cymru i fforddio cymorth ac iddyn nhw fod yn hyderus y gallan nhw aros mewn gwaith.

Fel y bydd Huw Irranca-Davies AC yn gwybod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fodd bynnag, wrth gymryd tystiolaeth, bu rhywfaint o siom ynghylch y nifer sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant a phryder ynghylch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi egluro pa gamau yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â hyn a sicrhau bod rhieni ledled Cymru yn ymwybodol o'r gofal plant rhad ac am ddim y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael?

Wel, Llywydd, erbyn mis Mawrth eleni, roedd dros 11,000 o blant eisoes yn elwa ar y cynnig, roedd dros 1,700 o ddarparwyr gofal plant yn cymryd rhan ynddo ledled Cymru ac roedd 30 y cant o'r plant a oedd yn cymryd rhan ynddo yn cael eu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob un o'r rheini yn ymddangos i mi fel sylfeini cadarn iawn y gallwn ni barhau i wneud yn siŵr ar eu sail, gyda chyflwyniad cynnar ar gael ledled Cymru, ein bod ni'n hysbysebu'r cynnig; bod y cyfleusterau yno gennym ni drwy'r £60 miliwn a mentrau eraill i sicrhau bod cynnig ar gael y mae rhieni eisiau manteisio arno; a'n bod ni'n parhau i ddysgu o brofiadau byw rhieni sy'n manteisio ar y cynnig eisoes. Edrychaf ymlaen, yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn, at weld mwy o blant, mwy o ddarparwyr a gofal mwy integredig i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn llwyddiant sylweddol iawn.

Gwella Tir Amaethyddol

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella tir amaethyddol yng Nghymru? OAQ53928

Llywydd, mae 'Brexit a'n tir' yn cyflwyno cynigion Llywodraeth Cymru i gynorthwyo ffermwyr Cymru i sicrhau buddiannau o'n tir mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae hynny'n cynnwys cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth.

Prif Weinidog, mae cynllun datblygu lleol Llafur yn concritio a difetha erwau o'r tir amaeth gorau yng Ngorllewin Caerdydd. Pan ddywedasom gyntaf bod hyn yn mynd i ddigwydd, dywedasoch bod ein codi bwganod yn 'gywilyddus'—o WalesOnline.

Mae gennym ni sefyllfa erbyn hyn lle mae cwmni cyfoethog Earl of Plymouth Estates Limited yn ceisio taflu pobl oddi ar y tir y maen nhw wedi ei ffermio am genedlaethau. Nid yn unig y bydd teulu Rees ar fferm Maes y Llech yn colli eu bywoliaeth, byddan nhw hefyd yn colli eu cartref. Un cwestiwn fyddai a ydych chi wedi helpu'r teulu Rees ai peidio. Gan eich bod chi'n dewis peidio ag ateb cwestiynau, rhoddaf yr ateb i chi fy hun: nid ydych chi wedi gwneud unrhyw beth. Felly, y cwestiwn yw: a wnewch chi, yn gyntaf, ymddiheuro i'r teulu Rees am eu camarwain drwy ddweud na fyddai adeiladu ar y caeau? A wnewch chi ymddiheuro, yn ail, i'r teulu Rees am beidio â'u helpu? Yn drydydd, a wnewch chi ymrwymo i gynorthwyo'r teulu Rees i aros ar y tir y mae'r teulu wedi ei ffermio am genedlaethau?

Llywydd, rwy'n cytuno bod codi bwganod yn gywilyddus, ac mae'n gywilyddus pan gaiff ei ailadrodd yn y Siambr. Nid oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth am y gwaith a wneir gydag unigolion, ac ni ddylai ychwaith. Pam y mae e'n credu ei fod mewn sefyllfa i ddefnyddio data pobl unigol i wneud sylwadau ar lawr y Cynulliad hwn? [Torri ar draws.]

14:15

Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn. [Torri ar draws.] Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn.

Llywydd, dywedaf eto: pam y mae'r Aelod yn credu bod ganddo fynediad at ddata a ddelir gan bobl eraill? Mae gan Lywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddiwygio tenantiaethau amaethyddol, efallai fod yr Aelod yn gwybod amdano. Mae ar agor am 12 wythnos. Bydd yn cau ar 2 Gorffennaf. Bydd yn ystyried newidiadau i reoliadau ym maes tenantiaethau amaethyddol. Bydd yn ceisio diweddaru Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 a Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 er mwyn sicrhau, pan fo gan bobl hawliau y mae angen eu cynnal o dan y gyfraith, bod y gyfraith yng Nghymru mewn cyflwr addas i hynny ddigwydd.

Prif Weinidog, mae'n amlwg bod y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir'. Mae'n hollbwysig, os ydym ni'n mynd i ddiogelu tir amaethyddol, bod yr un pwys yn cael ei neilltuo i gadwraeth ag i gynhyrchiant y tir hwnnw i gynhyrchu ein bwyd. A allwch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y ddwy agwedd fel rhai pwysig yn y dyfodol er mwyn cynnal ansawdd tir amaethyddol Cymru a hyfywedd economi wledig Cymru?

Rwy'n hapus iawn i gadarnhau yn union hynny. Llywydd, mae 'Brexit a'n tir' yn cyflwyno dyfodol ar gyfer ffermio yng Nghymru lle mae cynhyrchu bwyd yn parhau'n rhan ganolog o'r hyn y mae ffermwyr yn ei wneud, ond sydd hefyd yn gwobrwyo ffermwyr am gynhyrchu nwyddau cyhoeddus. Mae'r gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud i warchod ein hamgylchedd, i wella tir amaethyddol, i wella ansawdd dŵr, i leihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr—mae'r rheini i gyd yn bethau y bydd dyfodol ffermio yn dibynnu arnyn nhw, ac mae dal y ddau beth hynny gyda'i gilydd yn rhan o'r hyn yr aeth 'Brexit a'n tir' ati i'w wneud. Bydd Andrew Davies yn gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddiad pellach cyn y Sioe Frenhinol eleni, ac edrychwn ymlaen at gael yr ymgysylltiad agos iawn a manwl a gawsom gydag undebau'r ffermwyr, a chyda buddiannau ffermio eraill, wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynigion hyn.

Gwella'r Amgylchedd

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r amgylchedd yng Nghymru? OAQ53929

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol os byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar yr un pryd, rydym ni'n adnewyddu ein cynllun gweithredu ar adfer natur i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ac yn adolygu brys y camau gweithredu yn ein cynllun carbon isel yng ngoleuni'r datganiad o argyfwng hinsawdd.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion bod Cyngor Sir Fynwy wedi ymuno â Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf i ddatgan ei argyfwng newid yn yr hinsawdd ei hun, ond, fel y dywedais wrth Weinidog yr amgylchedd yr wythnos diwethaf, mae datgan argyfwng yn un peth, ond mae angen i chi weld mewn gwirionedd—ni wnaf i ddefnyddio'r gair 'concrit' yn yr ateb; byddai hynny'n amhriodol—camau cadarnhaol ar lawr gwlad. Mae seilwaith gwefru trydan ar gyfer ceir yn un ffordd gadarnhaol o wneud hyn. Ychydig iawn o bwyntiau gwefru sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn fy ardal i, mae'r prif un yng ngwasanaethau Magwyr yn ardal sir Fynwy, yn ardal John Griffiths. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol fel sir Fynwy ac eraill i ddatblygu'r seilwaith gwefru trydan hwnnw?

Llywydd, rydym ni wedi rhoi £2 filiwn i mewn i hyn yn rhan o'n cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru. Defnyddiwyd yr arian hwnnw mewn ffyrdd sy'n caniatáu i awdurdodau lleol dynnu arian i lawr o gronfa Llywodraeth y DU, felly rydym ni'n cael gwerth llawer mwy na £2 filiwn o fudd ohono. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynyddu nifer y pwyntiau gwefru sydd ganddyn nhw ar gael. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir Fynwy.

Gofynnodd yr Aelod am bethau penodol y gallwn ni eu gwneud o ran argyfwng hinsawdd. Gwn ei fod yn nigwyddiad Sir Fynwy Cyfeillgar i Wenyn dros y penwythnos, pan lansiwyd prosiect Llywodraeth Cymru, Natur Wyllt—dros £45,000 yn canolbwyntio ar dref Trefynwy i gymryd camau penodol yn ymwneud â phryfed peillio, ac mae hynny i gyd yn rhan o batrwm gweithredu ehangach y mae angen i ni ei gymryd ym maes hinsawdd.

Brexit

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit? OAQ53930

Llywydd, rydym ni'n parhau i gael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â Brexit. Yn dilyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) a gynhaliwyd ar 9 Mai, cyfarfu Jeremy Miles â Stephen Barclay, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE, a chyfarfu Eluned Morgan â Liam Fox, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Masnach Ryngwladol. Cynhaliwyd y ddau gyfarfod hynny yr wythnos diwethaf a chynhaliwyd y ddau gyfarfod hynny yng Nghaerdydd.

14:20

Pan gytunodd ein partneriaid Ewropeaidd i ymestyn y dyddiad terfyn Brexit ddeufis yn ôl, roedd y neges gan Jean-Claude Juncker yn glir iawn: peidiwch â'i wastraffu'r tro hwn. Ers hynny, rydym wedi cael chwe wythnos o drafodaethau ofer rhwng y Ceidwadwyr a Llafur, ac yn awr, mewn gweithred ddigyfaddawd o ail-syllu ar eu hunain, mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan ar fin cychwyn cystadleuaeth arweinyddiaeth, gan brofi'r hyn y mae llawer ohonom wedi ei wybod ar hyd yr amser, fod Brexit iddynt hwy'n golygu'r hyn sydd orau i'w plaid hwy ac nid yr hyn sydd orau i'r wlad.

Yn y cyfamser, mae cwmnïau gweithgynhyrchu yn fy etholaeth i yn dal i fyw gydag ansicrwydd Brexit bob dydd. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi ein bod bellach bron a chyrraedd pen ein tennyn ar y mater hwn a'i bod yn dod yn fwyfwy amlwg mai'r unig ffordd realistig o ddatrys y cyfyngder hwn yw drwy fynd yn ôl at y bobl a chael pleidlais arall? Ac a fyddech yn cytuno â mi nad oes gan hyn ddim i'w wneud ag amharchu barn y bobl, fel y mae Mark Reckless wedi ceisio ei honni. Mae a wnelo hyn â rhoi cyfle i bawb gael rhoi'r gair olaf ar fargen a fyddai'n effeithio arnom am flynyddoedd i ddod unwaith y byddwn yn gwybod sut fargen fydd honno. Mae hyn yn ymwneud â gwrando ar y bobl.

Diolch i Lynne Neagle am hynny. Cytunaf â hi fod y rhagolygon ar gyfer Brexit yn llwm, yn yr ystyr ei bod yn ymddangos bellach, ar ôl sicrhau estyniad gan yr Undeb Ewropeaidd, fod Prif Weinidog y DU yn benderfynol o roi ei bargen aflwyddiannus yn ôl gerbron Tŷ'r Cyffredin eto, heb ddim gobaith o gwbl iddo lwyddo, hyd y gwelaf i. Wedyn bydd oddeutu tri mis o ornest arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol lle bydd yn amhosibl gwneud unrhyw fusnes synhwyrol yn y Llywodraeth.

Mater i Dŷ'r Cyffredin, mewn gwirionedd, yw cymryd rheolaeth o'r pwnc hwn a rhoi cynnig priodol gerbron Tŷ'r Cyffredin ynghylch ail bleidlais, fel y gallwn gael penderfyniad ar hynny'n fuan, os yw hynny i ddigwydd, fel y gellir gwneud paratoadau yn ystod y cyfnod hwnnw sydd gennym ar ôl. Nawr, mater i Dŷ'r Cyffredin yw gwneud y penderfyniad hwnnw, ond mae'r diwrnod yn dod pan fydd yn rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw mewn gwirionedd. Os caiff ei wneud, os mai dyna y mae'r Tŷ'r Cyffredin yn ei benderfynu gan nad oes unrhyw ffordd arall drwy'r cyfyngder hwn, yna, wrth gwrs, nid yw'n esgeulustod democrataidd i ddychwelyd at bobl a gofyn iddynt am ail farn. Ni allai dim fod yn fwy hurt mewn lle fel hyn, lle y mae'n rhaid i bob un ohonom wynebu penderfyniad democrataidd rheolaidd fel rhan o'n bywydau gwleidyddol, i awgrymu bod mynd yn ôl at bobl a gofyn iddynt am eu barn yn rhywbeth heblaw parchu'r cynnig democrataidd sylfaenol hwnnw. Cawn weld—mater i Dŷ'r Cyffredin yw gwneud y penderfyniad hwnnw. Os penderfynant—fel yr ydym wedi'i ddweud yma lawer gwaith, os yw'r cynnig hwnnw'n cael ei roi'n ôl o flaen y bobl yma yng Nghymru, cyngor Llywodraeth Cymru fydd, fel y bu erioed, y bydd yn well sicrhau dyfodol Cymru drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed. 

Y Cwest i Farwolaeth Carl Sargeant

1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r gwariant hyd yma gan adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i'r adolygiad barnwrol o benderfyniadau'r crwner mewn perthynas â'r cwest i farwolaeth Carl Sargeant? OAQ53900

Cyfanswm y gwariant yr oedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei dalu yn gysylltiedig â'r adolygiad barnwrol o benderfyniad y crwner, gan gynnwys costau'r Prif Gwnsler, oedd £18,732.18.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, ac rwy'n falch fy mod wedi gallu cael ateb ar lawr y Siambr gan fy mod wedi anfon cais rhyddid gwybodaeth, a bryd hynny dywedwyd wrthyf, ar 1 Mai, nad oedd yna unrhyw wybodaeth ar gael ac na neilltuwyd cyllidebau ar gyfer y dibenion penodol hyn. Felly, a gaf i ofyn a fydd unrhyw wariant ychwanegol yn y cyswllt hwn a beth fyddai hynny, ac os bydd aelod o'r Cynulliad yn ysgrifennu gyda'r cais arbennig hwnnw yn y dyfodol y byddwn yn gallu cael ateb a fydd yn agored ac yn dryloyw yn hytrach nag un nad oedd yn agored a thryloyw?

Wel, rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn teimlo bod fy ymateb heddiw wedi bod yn agored ac yn dryloyw o ran rhoi'r union ffigwr. Nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau ar y cais rhyddid gwybodaeth penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Dydw i ddim yn rhagweld y bydd costau sylweddol eraill yn codi. Gwnaed y costau hyn gyda'r bwriad o leihau'r costau hynny, ac felly, er i gwnsler arweiniol gael ei chadw, cyfarwyddwyd hi gan adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac fe fydd hyn wedi cael yr effaith o gadw'r costau hynny mor isel â phosibl.

14:25

Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi cael rhywfaint o ohebiaeth gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch y defnydd o drawsgrifiad o'r cwest ac, yn arbennig, cynghorwyr arbennig yn cyfarwyddo gweision sifil i edrych ar ddyddiaduron. Nawr, fy nealltwriaeth i, ac rwyf wedi cael cadarnhad o hynny gan y crwner, oedd na ddylid bod wedi defnyddio'r trawsgrifiad, heblaw at y diben penodol y gofynnwyd amdano. Yn amlwg, nid yr ohebiaeth ataf i oedd y diben y gofynnwyd amdano. A ydych yn credu, felly, pe bai'r trawsgrifiad hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n anghywir, fod yr Ysgrifennydd Parhaol mewn perygl o fod mewn dirmyg llys?

Wel, dydw i ddim yn gyfarwydd â'r ohebiaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn ei gwestiwn, ond rwy'n hapus i ystyried y mater.

Creu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am effaith bosibl creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru ar gyfreithwyr Cymru? OAQ53897

Rydym ni'n aros am ganlyniad y comisiwn cyfiawnder, ond mae Llywodraeth Cymru o blaid creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru am lawer o resymau, yn gyfansoddiadol ac yn ymarferol. Rydym o'r farn hefyd y byddai awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru o fudd i gyfreithwyr Cymru neu, o leiaf, y byddai'n cael effaith niwtral.

Diolch. Ni all neb ohonom wadu datblygiad cyfraith Cymru a rhan gynyddol Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddarparu cyfiawnder yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn adolygu'r system ac yn ystyried creu gweledigaeth hirdymor. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr, fodd bynnag, wedi cyflwyno ei argymhelliad i'r Comisiwn yn ddiweddar. Yn hyn o beth, maen nhw wedi nodi y gallai gwahanu Cymru'n llwyr oddi wrth yr awdurdodaeth sengl bresennol wanhau awdurdodaeth Cymru a Lloegr a chyfyngu ar allu cyfreithwyr i gynnal y lefel bresennol o weithgarwch gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Yn wir, eglurir

'y gallai Cymru gael ei gweld fel lle anodd i weithredu busnes.'

Eu geiriau nhw, nid fy rhai i yw'r rhain. Gyda buddiannau dyfodol tua 450 o gwmnïau cyfreithiol a 4,000 o fyfyrwyr y gyfraith yma—[Torri ar draws.] A wnewch chi roi sicrwydd inni fod ateb awdurdodaethol yn cael ei archwilio yn ogystal â mynd ar drywydd gwahanu awdurdodaethol llwyr yn unig?

Nid wyf yn gwbl glir ynghylch y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud yn ei chwestiwn olaf, ond mae cyflwyniad Cymdeithas y Cyfreithwyr, fel yr wyf yn siŵr y bydd yn gwybod, yn cynrychioli, fe gredaf, esblygiad o'u safle. Er ei fod, efallai'n nodi rhai o'r pryderon sy'n hawdd iawn i'w deall yn gysylltiedig â'r mater awdurdodaethol a bodolaeth awdurdodaeth ar wahân yn benodol, fy nealltwriaeth i ohono yw ei fod fwy na thebyg yn symud ymhellach tuag at ddealltwriaeth o rai o'r manteision a chydnabyddiaeth o rai o'r manteision y gallai'r gyfres yna o drefniadau ddod yn ei sgil. Byddwn yn cytuno â'r argymhelliad y maen nhw'n ei wneud yn eu cyflwyniad i'r Comisiwn, sef y dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth ddatblygu ateb awdurdodaethol i gynnwys cyfraith Cymru ac anghenion penodol Cymru. Mae'n mynd yn ei flaen i sôn am wneud hynny heb greu rhwystrau ac, yn amlwg, byddem yn dymuno ategu hynny hefyd.

Cyflwynwyd argymhelliad gan gynghorwyr y Bar, fel yr wyf yn siŵr y bydd yn ymwybodol, yng Nghymru—cylchdaith Cymru a Chaer, yn wir—oedd hefyd yn gefnogol iawn i'r safbwynt yr ydym wedi'i argymell cyn y comisiwn cyfiawnder. Y pwynt ynglŷn â'r rhwystrau, sy'n sail i'r pwynt yn ei chwestiwn—nid oes angen i'r un o'r trafodaethau awdurdodaeth hyn gymryd yn ganiataol y byddai cymhwyster deuol yn broblem. Yn wir, byddai hynny, yn fy marn i, yn fantais i gyfreithwyr sy'n ymarfer yng Nghymru, y gallu i ddweud eu bod yn gymwys yng nghyfraith Lloegr ac yng nghyfraith Cymru. Mae cyfreithwyr yn aml yn ystyried bod cymhwyster deuol yn fantais. Ond mae hi'n gwneud pwyntiau y mae gwir angen mynd i'r afael â nhw. Rwyf wedi comisiynu adolygiad o sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol i sicrhau ei fod yn parhau'n sector cadarn ac yn datblygu i fod yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol, a byddaf yn falch o gyhoeddi hynny maes o law pan fydd yn adrodd.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Cwnsler Cyffredinol, am eich ateb i'r cwestiwn gwreiddiol. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn gweld creu awdurdodaeth i Gymru er mwyn gallu sefydlu setliad cydlynol a sefydlog yn y wlad hon. Byddwch wedi gweld adroddiad pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin ar faterion Cymreig, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, a hefyd gyhoeddiadau'n ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol y gwasanaeth prawf. Mae'r materion hyn i gyd, wrth gwrs, yn feysydd lle mae anhawster aruthrol yn cael ei achosi drwy gael yr awdurdodaeth bresennol rhwng Cymru a Lloegr, a lle mae pobl yn dioddef yn y wlad hon o ganlyniad i'r sefyllfa honno.

Fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma yw bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno ei barn i gomisiwn Thomas: a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw dystiolaeth ychwanegol i'r comisiwn, neu a yw Llywodraeth Cymru yn glynu wrth y dystiolaeth a roddwyd gennyf i, ac, ar y pryd, ef ei hun, a chyn Brif Weinidog Cymru?

14:30

Wel, mae'r ddau gynnig hynny'n wir. Mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu rhagor o dystiolaeth. Rwyf i fy hun, er enghraifft, wedi bod i Ogledd Iwerddon ac i'r Alban i edrych ar sut mae pethau'n gweithio yno. Mae rhai o'r nodweddion y byddai'n rhaid inni ddelio â nhw efallai mewn setliad yn y dyfodol yma yn rhai sydd eisoes yn rhan o fywyd bob dydd ymarferwyr cyfreithiol yng Ngogledd Iwerddon. Felly, bydd posibilrwydd o ragor o dystiolaeth, ond ar hyn o bryd, rydym yn cadw at dystiolaeth Llywodraeth Cymru.

Gorfodi Deddfwriaeth

3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o orfodi deddfwriaeth ledled Cymru? OAQ53896

Mae'r cyfrifoldeb am weithredu i orfodi deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru drwy'r system gyfiawnder yn gorwedd yn bennaf gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o asiantaethau. Dull Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo newid mewn ymddygiad a chydweithio yn hytrach na throseddoli, a hoffem ddilyn y dull hwn drwy system cyfiawnder ddatganoledig.

Iawn, diolch. Wel, un ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gydymffurfio â deddfwriaeth forol â physgodfeydd yw drwy ddefnyddio llongau patrolio pysgodfeydd. Nawr, rwyf wedi bod yn cynnal ymchwiliad ar ran rhai etholwyr a gododd hyn gyda mi i weithgareddau'r rhai a angorwyd yn Aberconwy rhwng Ionawr 2017 a Chwefror 2019. Yr hyn yr wyf wedi'i ganfod yw bod y llongau patrolio pysgodfeydd yr Aegis, y Cranogwen a'r Lady Megan wedi dod ar draws cyfanswm o 108 o longau, sy'n cyfateb i tua un yr wythnos. Yn fwy na hynny, dim ond cyfanswm o bum torcyfraith a ganfuwyd, ac o ganlyniad ni chafodd unrhyw ddirwyon eu codi yn ystod y cyfnod 26 mis hwn. Nawr, wrth ystyried yr ystadegau ofnadwy hynny ar orfodi ac erlyn, ac o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.6 miliwn mewn llong patrolio pysgodfeydd newydd, mae trethdalwyr a physgotwyr lleol yn haeddu atebion ynglŷn â beth yn union sy'n digwydd. A wnewch gynnal adolygiad o weithgareddau'r llongau patrolio pysgodfeydd fel modd o orfodi deddfwriaeth, ac, yn gyffredinol, ac ymhellach, a fyddech chi'n ystyried lle y mae deddfwriaeth ar waith, lle y mae angen gorfodi, a lle y torrir y ddeddfwriaeth, ac mewn gwirionedd sicrhau, lle mae angen erlyniadau, eu bod yn cael eu cyflawni?

Rwy'n synnu o glywed yr Aelod yn beirniadu ein hymagwedd tuag at geisio gorfodi'r rheoliadau yr ydym yn gyfrifol am eu gorfodi. Byddwn wedi gobeithio y byddai wedi cefnogi'r Llywodraeth i orfodi'n ymarferol ac yn rhagweithiol y rheoliadau yr ydym yn gyfrifol am eu gorfodi yma yng Nghymru. Ac rwy'n meddwl bod buddsoddi mewn llongau patrolio pysgodfeydd yn fuddsoddiad synhwyrol iawn ar ran Llywodraeth Cymru, a byddant yn brysurach o ganlyniad i Brexit, os caf i gyfeirio hynny at yr Aelod.

Ers imi ddod yn Gwnsler Cyffredinol, rwyf wedi bod yn glir bod y gwaith sy'n ymwneud â gorfodi pysgodfeydd yn arbennig yn flaenoriaeth, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyfreithwyr i ganfod beth yw cyflwr yr holl erlyniadau sydd gennym yn gysylltiedig â thorri gweithrediadau ledled Cymru. Holl bwynt hynny yw cynnal momentwm a sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn gallu diystyru'r rheoliadau sy'n berthnasol ac sydd yno i ddiogelu stociau o welyau pysgod cregyn ac ati sy'n aml yn sensitif iawn, a chynefinoedd morol eraill, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw'n ddifrifol iawn.

Cwnsler Cyffredinol, a wyddoch chi am unrhyw swyddog cyfreithiol arall sydd wedi cefnogi newid rheolau a orfodwyd o dan ddeddfwriaeth i ôl-weithredu i wahardd grŵp gwleidyddol nad yw'n eu hoffi?

14:35

Dydw i ddim yn ymwybodol o ddiben cwestiwn yr Aelod.

Gwneud Oedrannau Pensiwn Menywod yn Gyfartal

4. Sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo yn yr adolygiad barnwrol o faterion sy'n codi o bolisi Llywodraeth y DU o ran gwneud oedrannau pensiwn menywod yn gyfartal ac effaith y newidiadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au? OAQ53905

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei phryderon yn gyson wrth Lywodraeth y DU ynghylch menywod lle mae oedran derbyn eu pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb eu hysbysu'n effeithiol nac yn ddigonol. Fodd bynnag, nid yw pensiynau'r wladwriaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac felly cyfyngir ar bwerau Gweinidogion Cymru yn hynny o beth.

Rwy'n deall y cyfyngiadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu nodi, ond yn y cyfarfod llawn ar 20 Mawrth cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi ymgyrchwyr pensiwn y wladwriaeth, sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth, llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi ac wedi cysylltu'n uniongyrchol â mi. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip hefyd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn gysylltiedig â'r ymgyfreitha yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y cam-drafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au. Ac mae dyddiad gwrandawiad yr Uchel Lys ar gyfer yr adolygiad barnwrol yn prysur agosáu erbyn hyn, gan ei fod yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 Mehefin a dydd Iau 6 Mehefin. Gwerthfawrogaf yr hyn a ddywed fod pensiynau'n fater a gadwyd yn ôl, ond rydym wedi gwneud ymrwymiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i'r ymgyrchwyr hynny. Felly, a all ef fodloni'r Siambr hon fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau a drafodwyd gennym ar 20 Mawrth ac wedi rhoi pwysau arnynt ers hynny?

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, a gwn fod hwn yn fater y bu'n ymgyrchu yn ei erbyn yn ei etholaeth a'i fod mewn cysylltiad agos â'i grŵp menywod 1950au lleol. Mae'n iawn wrth ddweud bod y Dirprwy Weinidog, yn y ddadl ar 20 Mawrth, wedi awgrymu dull gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Fel y dywed, mae'r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd ar gyfer yr adolygiad barnwrol hwnnw a bydd y gwrandawiad yn cael ei glywed ar y pumed a'r chweched.

Nid yw'r pwerau sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu ymyrryd yn y set benodol hon o amgylchiadau, yn anffodus. Dyna asesiad yr wyf wedi'i wneud wedi hynny, o ystyried y sylwadau a wnaeth y Gweinidog yn y Siambr. Fodd bynnag, yn dilyn hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwysleisio ei phryderon ynghylch ymagwedd Llywodraeth y DU, ac mae'n cloi drwy bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i liniaru'r effeithiau negyddol y mae'r menywod yn eu hwynebu heb fod bai arnyn nhw. Hefyd, bod angen mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn benodol gan yr Athro Alston a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod, ac mae'r llythyr hwnnw wedi'i anfon i ddilyn yr ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog yn y Siambr.

A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb i Hefin David? Rwy'n siŵr y bydd yn deall y bydd llawer iawn o fenywod yn y categori hwn a fydd yn siomedig o glywed nad oes ganddo—. A rhaid inni gymryd ei air, Llywydd, ei fod wedi ystyried a oedd modd cymryd unrhyw gamau. Wrth gwrs, mae'r menywod sy'n cyflwyno'r achos yn optimistaidd ynglŷn â chanlyniad cadarnhaol posibl. Os byddant yn llwyddiannus, yna, wrth gwrs, bydd apêl.

A gaf i bwyso ar y Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru i edrych eto i weld a oes rhyw ffordd, os bydd apêl—? Mae'n rhy hwyr yn awr rwy'n meddwl i wneud unrhyw sylwadau yng nghyd-destun gwrandawiad yr adolygiad barnwrol ei hun, ond, os bydd apêl, byddwn yn cyflwyno i'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru, er enghraifft, fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb sylweddol yn y maes hwn, gan fod economi Cymru wedi colli miliynau o bunnoedd, gan nad oedd yr arian hwnnw gan y menywod hynny i'w wario yn eu cymunedau lleol. Felly, a gaf i annog y Cwnsler Cyffredinol heddiw, gan fynegi gofid i'm hetholwyr i a rhai Hefin a llawer o bobl eraill y gwn y byddant wedi bod mewn cysylltiad â ni—? Cefais lythyr heddiw gan wraig a oedd yn gorfod colli ei chartref—yn gorfod gwerthu ei chartref—am na allai fforddio parhau â'i thaliadau ac na allai fforddio talu'r biliau. A gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a fydd, os bydd apêl, yn edrych eto ac yn gofyn am gyngor pellach ynghylch a yw'r hyn a gredaf i sy'n wir, sef camweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan ystyried y golled i economi Cymru—? O ystyried y golled bosibl honno, byddwn yn awgrymu y gallai bod achos perthnasol i Lywodraeth Cymru wrthwynebu apêl os pleidleisir o blaid y menywod yr wythnos ar ôl nesaf. Rwy'n sylweddoli bod hon yn sefyllfa sensitif iawn, gan nad yw'r mater wedi'i ddatganoli, ond, ar y llaw arall, os bu camweinyddu, mae'r camweinyddu hwn wedi cael effeithiau trychinebus, nid yn unig ar y menywod unigol hynny, ond hefyd ar y cymunedau lle nad oedd gan y menywod hynny incwm i'w wario.  

14:40

Wel, diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn atodol. Mae'n nodi yn ei chwestiwn rai o ganlyniadau trasig gweithredoedd Llywodraeth y DU ym mywydau'r menywod hyn, ac rydym i gyd yn uniaethu â'r sylwadau y mae'n eu gwneud yn ei chwestiwn. O ran y pwynt ynglŷn â'm pwerau i i ymyrryd a phwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd, dyna'r math o beth yr wyf i, wrth gwrs, yn dal i'w ystyried yn barhaus, a bydd hynny'n berthnasol yn yr achos hwn fel yn unrhyw un arall.

Llysoedd Teulu

5. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch llysoedd teulu i sicrhau eu bod yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth weithio gyda phlant yng Nghymru? OAQ53906

Drwy'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru sy'n darparu'r gwasanaeth cynghori llysoedd teulu yng Nghymru, a thrwy ei ymgysylltiad â'r bwrdd cyfiawnder teuluol, bydd Gweinidogion Cymru'n hyrwyddo'r buddiannau gorau ynghyd â hawliau plant sy'n cymryd rhan mewn achosion teuluol o ddydd i ddydd neu sy'n cael eu heffeithio ganddynt.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi derbyn nifer o achosion unigol a oedd yn peri pryder imi drwy waith achos, gan gynnwys swyddog o CAFCASS yn dweud wrth blentyn ifanc, 'Rwyt ti yn sylweddoli, os nad yw mami eisiau i chi gael gweld dadi, y gallai mami fynd i'r carchar?' Dyna'r union eiriau, ac mae gennyf ganiatâd y sawl yr effeithiwyd arno i wneud y sylw hwnnw. Rwy'n credu bod Aelodau eraill—rwy'n ymwybodol o sgyrsiau eraill—wedi cael achosion pryderus iawn lle, er enghraifft, y caniatawyd i gyflawnwyr trais domestig barhau i weld eu plant. Nawr, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gorchymyn adolygiad, heddiw, rwy'n credu, o'r llysoedd teulu, gyda'r bwriad o sicrhau, ymhlith pethau eraill, fod lleisiau plant yn cael eu clywed yn briodol yn y trafodaethau. Wrth gwrs, mae gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn sydd er lles pennaf y plentyn a'r hyn y gall y plentyn ei ddweud ei fod yn ei ddymuno, ac nid oes neb yn gwadu nad oes yn rhaid i swyddogion CAFCASS wneud rhai penderfyniadau anodd iawn yn hynny o beth, ond a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw i weld a oes sylwadau y gall eu gwneud ar ran Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr adolygiad hwn? Oherwydd, wrth gwrs, mae gennym ddyletswydd arbennig yma i sicrhau, pan fydd plant yng Nghymru yn delio â'r byd swyddogol, hyd yn oed os nad yw'n swyddogol o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, bod hawliau'r plant hynny'n cael eu parchu, ac yn enwedig yr hawl i gael eu cadw'n ddiogel a'r hawl i gael eu clywed mewn materion sy'n effeithio arnynt.

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw? Mae hwn yn fater pwysig iawn ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i lansio adolygiad o'r ffordd yr ymdrinnir â phlant yn y llysoedd teulu. Credaf fod bwriad i'r adolygiad barhau am dri neu bedwar mis ac mae'r alwad am dystiolaeth, rwy'n credu, yn yr arfaeth yn gysylltiedig â hynny. Rwyf wedi cael sgwrs ragarweiniol gyda'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r ffordd orau y gallwn ymgysylltu â'r adolygiad hwnnw, a byddwn yn dilyn hynny gyda thrafodaeth fwy sylweddol yn y dyddiau nesaf.

Bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, fod Adran 1 Deddf Plant 1989 yn cynnwys gofyniad mai lles y plentyn yw prif gonsyrn y llys ac y dylai penderfyniadau a wneir gan y llys ystyried deddfwriaeth hawliau dynol. Un o'r agweddau hollbwysig y credaf y gallai'r adolygiad fynd i'r afael â hi yw mater rheolau trefniadaeth teulu yn y llys a sut y maen nhw'n yn gweithio a sut y gellir eu hatgyfnerthu er mwyn amddiffyn plant yn well rhag y mathau o benderfyniadau yr ymddengys i'w hetholwr gael profiad uniongyrchol ohono, yn anffodus.

Mae cynrychiolydd a benodwyd gan gyfarwyddwr CAFCASS Cymru yn eistedd ar y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Teulu sy'n gyfrifol am ddatblygu a dyfeisio'r rheolau arferion a gweithdrefnau hynny, ond, fel y dywedais, byddaf yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau hynny gyda'r Dirprwy Weinidog i sicrhau'r ffordd orau y gallwn gyfrannu at yr adolygiad hwnnw ac adlewyrchu'r pryderon sydd gennym yn y Siambr hon. Maen nhw'n bryderon sydd wedi'u hen sefydlu, o gofio ein pwyslais yma yn y Llywodraeth ac yn y Cynulliad ar gynnal hawliau plant ym mhob ffordd.

Confensiynau Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig

6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar ynghylch ymgorffori confensiynau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru? OAQ53907

Mae grŵp rhanddeiliaid wedi'i sefydlu i ystyried y ffordd orau o blethu deddfwriaeth newydd i dapestri cyfreithiol unigryw Cymru ar gyfer diogelu hawliau dynol. Er enghraifft, fel y dengys Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a'n hymrwymiad i gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldebau 2010, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i ddod â hawliau adref.

Rwy'n sylweddoli, Llywydd, fy mod i wedi bod ar fy nhraed gryn dipyn yn ystod y munudau diwethaf, a gallaf ddeall yn llwyr y gallai rhywun fod wedi colli trac.

14:45

Chi neu fi, Helen Mary? Pwy sydd wedi colli golwg ar bethau?

Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb ac mae'n gadarnhaol clywed bod y gwaith yn mynd rhagddo. Wrth gwrs, mae'r penderfyniad i ohirio Brexit yn rhoi ychydig bach o amser inni ystyried ymhellach yr heriau a fydd, o bosibl yn cael eu gosod ger ein bron o ran colli'r diogelwch y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei roi i ni ynghylch gorfodi rhai agweddau ar ddeddfwriaeth hawliau dynol. Ond fel y cyfeiriodd Lynne Neagle ato mewn cwestiwn cynharach i'r Prif Weinidog, bydd y misoedd ychwanegol hyn yn mynd heibio'n gyflym iawn. Felly gofynnaf am sicrwydd gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw ei fod ef a'r Llywodraeth, yng nghanol y llu o faterion—materion tymor byrrach—y maent yn gorfod eu hwynebu o ran deddfwriaeth Brexit, yn ymrwymo yn y tymor hwy i fwrw golwg ddifrifol ar ymgorffori'r confensiynau yng nghyfraith Cymru a'r ffordd orau o wneud hynny heb iddynt fynd ar goll?

Wel, rwy'n hapus i dawelu meddwl yr Aelod. Mae hon yn drafodaeth fyw yn y Llywodraeth. Fel y soniais, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn adran 1 y Ddeddf Cydraddoldeb, ynghyd â gwaith yr adolygiad o gydraddoldeb rhywiol, dan arweiniad Dr Alison Parken, a bodolaeth, yn amlwg, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn darparu'r cyd-destun ar gyfer ystyried y mathau o faterion y credaf ei bod yn ymwybodol, yn sgil ein trafodaethau blaenorol, fy mod innau hefyd yn rhoi pwys mawr arnynt, fel y mae'r Llywodraeth yn gyffredinol.

Un o'r agweddau hollbwysig o adael yr Undeb Ewropeaidd yw colli mynediad i Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi dod â manteision mawr i'r DU. Byddwn yn ceisio sicrhau y gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw pobl yng Nghymru yn colli hawliau nad oeddent yn sicr wedi pleidleisio i'w colli yn ystod y refferendwm yn 2016.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ddiddymu'r datganiad yfory gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn gyntaf ar ddiagnosis a rheoli canser y prostad yng Nghymru? Ddeuddeg diwrnod yn ôl, diweddarodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu NICE, eu canllawiau ar gyfer diagnosis a rheoli canser y prostad yng Nghymru a Lloegr, gan argymell, ymysg pethau eraill, y dylid cynnig gwyliadwriaeth weithredol fel dewis sylfaenol ar gyfer dynion â chanser y prostad cyfyngedig risg isel. Ac mae'r canllawiau a ddiweddarwyd yn ddiweddar yn cynnwys y datganiad y dylid cynnig delweddu atseiniol magnetig amlbarametrig i ddynion, neu sganiau mpMRI, cyn biopsi os oes amheuaeth fod ganddynt ganser y prostad cyfyngedig.

Dywedodd Prostate Cancer UK y dylai'r dechneg ddiagnostig arloesol hon fod ar gael ym mhob rhan o Gymru yn y dyfodol, gan roi terfyn ar yr amrywiaeth bresennol o ran cael gafael ar wasanaethau, sydd wedi golygu bod rhai dynion wedi talu'n breifat am sganiau. Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd y GIG yn Lloegr ei fod yn lansio gwasanaeth un stop gan ddefnyddio technegau MRI i gael diagnosis amserol yn Lloegr. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd NICE ganllawiau drafft newydd yn argymell rhagfiopsi mpMRI pan yr amheuir canser y prostad. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy'n eistedd ar y dde i chi—Mr Gething—at Aelodau'r Cynulliad i ddweud ei fod wedi gofyn i bob bwrdd iechyd gydweithio â Bwrdd Wroleg Cymru i sicrhau bod ganddynt gynlluniau gweithredu llawn. Yn yr un llythyr, dywedodd fod byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod, ar hyn o bryd, yn darparu gofal yn unol â'r canllawiau cyfredol. Fodd bynnag, pan gefais i gyfarfod, ynghyd â chlaf, â Betsi Cadwaladr fis Rhagfyr diwethaf cafwyd ymddiheuriad ffurfiol ganddynt am beidio â darparu gofal a oedd yn unol â chanllawiau NICE ar gyfer y mpMRI ôl-fiopsi a chadarnhau y byddent yn ad-dalu'r dynion a oedd wedi talu yn unol â hynny.

Fel y dywed Prostate Cancer, mae mpMRI yn chwyldroi diagnosis o ganser y prostad. Dylai Llywodraeth Cymru felly ymateb i'w galwadau nhw ac eraill, gan gynnwys Gofal Canser Tenovus, i Lywodraeth Cymru sicrhau bod mpMRI bellach ar gael ledled Cymru. Er i Mr Gething ddweud wrth y Cynulliad ym mis Mawrth y bydd yn disgwyl, pan fydd NICE yn argymell mpMRI rhagfiopsi, fod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn diwygio'u llwybrau yn unol â hynny, rhaid iddo felly fynd gam ymhellach a sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Felly galwaf am ddatganiad ar fater sydd wedi mynd â llawer o amser y Siambr hon ac sydd wedi ysgogi nifer o faterion.

Byddwn, yn union fel y mae eich cais amdano wedi mynd â llawer o amser yn y Siambr hon. A allwch ddod at yr ail un a'i wneud mor gyflym ag y gallwch chi, gan fod gennyf lawer iawn o siaradwyr, sydd hefyd yn dymuno cymryd rhan, gan gynnwys rhai o'ch grŵp chi eich hun?

14:50

Diolch am eich dyfalbarhad. Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu cyfiawnder ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n wynebu erlyniad a'u hymgysylltiad, os o gwbl, â Llywodraeth y DU, ynglŷn â hyn? Y penwythnos hwn, gorymdeithiodd cannoedd o brotestwyr drwy Gaerdydd i gefnogi cyn-filwyr sy'n cael eu herlyn am droseddau hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon, gan gyd-fynd â phrotestiadau gan gyn-filwyr ledled y DU. Yn 2014, darganfuwyd bod Llywodraeth Mr Blair wedi gwneud bargen gudd fel rhan o drafodaethau dydd Gwener y Groglith, pan anfonwyd llythyrau at aelodau hysbys o'r IRA a oedd yn ymwneud â therfysgaeth, gan roi sicrwydd iddynt na fyddent yn cael eu herlyn yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Penny Mordaunt, gynlluniau ar gyfer deddfwriaeth i roi amddiffyniad cryfach i gyn-filwyr yn Iran ac Affganistan rhag ymchwiliadau mynych i gyhuddiadau hanesyddol. Dywedodd hefyd, er na fyddai hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon, ei bod yn bwriadu dod o hyd i ffordd y gellid eu hamddiffyn mewn modd tebyg—a dof i ben yma—gan ddweud bod ymwneud â thriniaeth cyn-filwyr Gogledd Iwerddon yn flaenoriaeth bersonol iddi. A yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd safbwynt ar hyn, ac a fydd yn gwneud hynny, o gofio'r protestiadau yng Nghaerdydd a'r effaith ar lawer o bobl sy'n byw yng Nghymru, a pha ddeialog  y mae wedi'i chael, os o gwbl, â Llywodraeth y DU?

Rwyf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw ynglŷn â'ch cwestiwn cyntaf, sy'n ymwneud â chanser y prostad. Wrth gwrs, dylai cleifion allu cael ymchwiliadau ar gyfer canser yn unol â chanllawiau cenedlaethol, a dylid cyflawni hyn yn gyson ledled Cymru. Soniodd Mark Isherwood fod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar ddiagnosis a thriniaeth canser y prostad ar 9 Mai. Mae disgwyl i fyrddau iechyd nad ydynt eto yn darparu gofal yn unol â'r canllawiau hyn  gyflwyno eu cynlluniau gweithredu i Lywodraeth Cymru erbyn 3 Mehefin. Yna bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â byrddau iechyd ar 19 Mehefin i adolygu'r cynlluniau hyn, a bydd amserlenni gweithredu yn dibynnu ar gynnwys y cynlluniau hynny.

Nid yw'r mater sy'n ymwneud â chyn-filwyr y lluoedd arfog yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, felly awgrymaf y dylai'r Aelod godi'r mater â'r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU.

Trefnydd, nos Wener ddiwethaf, fe wnes i fynychu cyfarfod cyhoeddus yng Nghwmllynfell, yng Nghastell-nedd Port Talbot, gydag Aelodau eraill yma, a oedd yn trafod cau syrjeri feddygol y pentref, penderfyniad a fydd yn cael ei wneud yn y pen draw gan fwrdd iechyd bae Abertawe. Nawr, er bod y feddygfa wedi ei lleoli yng Nghwmllynfell, mae'n rhan o bartneriaeth Aman Tawe, sy'n gwasanaethu poblogaeth o siroedd Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Phowys, ac yn cwmpasu tri bwrdd iechyd, sef Hywel Dda, bae Abertawe a Phowys. Mae'n amlwg nad yw pobl yng Nghwmllynfell eisiau colli eu syrjeri leol, gyda llawer yn poeni am y diffyg trafnidiaeth sydd ar gael i gyrraedd lleoliadau eraill fel Ystalyfera a Phontardawe. Nawr, mae yna boblogaeth ddwys yn yr ardal gymharol wledig yma, sef tua 11,000 o bobl o Gwmtwrch, Ystradowen, Cwmllynfell i Wauncaegurwen a Brynaman, sydd filltiroedd i ffwrdd o unrhyw ganolfannau poblogaeth trefol. Er bydd bwrdd iechyd bae Abertawe'n gwneud y penderfyniad terfynol, yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg yw bod angen i'r penderfyniad yma gael mewnbwn pob un o'r tri bwrdd iechyd. A fyddai Llywodraeth Cymru felly yn fodlon gwneud datganiad ar y mater yma ac adolygu'r broses o benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd cynradd pan fo'r gwasanaethau hynny yn cael eu darparu ar draws mwy nag un bwrdd iechyd, yn enwedig lle mae'r lleoliad dan sylw, fel yn fan hyn, gyda nifer uchel iawn o drigolion ond yn bell o bob man arall, yn y tri bwrdd iechyd? Diolch.

Diolch yn fawr am godi'r mater hwn, a gofynnaf i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch ynghylch dull gweithredu Llywodraeth Cymru a'r cyngor a'r arweiniad yr ydym ni'n eu rhoi o ran darpariaeth iechyd sy'n croesi ffiniau, er y byddwch yn gwerthfawrogi na fyddem ni, ar hyn o bryd, yn gallu rhoi sylwadau ar yr enghraifft benodol a roddwyd gennych.FootnoteLink

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, fel y gŵyr y rheolwr busnes, ym Mai 2018 cyhoeddwyd bod Canolfan Virgin Media yn Abertawe yn cau. Fis Awst diwethaf, dywedodd Virgin Media y byddai safle Llansamlet yn cau erbyn Gorffennaf 2019. Dywedodd Virgin Media ar y pryd,

'Byddwn yn cyfarfod â thasglu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y dyfodol agos, yn ogystal â chyflogwyr eraill yn yr ardal, er mwyn nodi cyfleoedd eraill ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn.'

A gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am waith y tasglu ac am nifer y gweithwyr sydd wedi dod o hyd i waith arall?

Yn ail, a gaf i ofyn ynghylch Dawnus? Rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu pa gefnogaeth sydd wedi cael ei rhoi i staff a gollodd eu swyddi ar ôl i Dawnus gau, sy'n effeithio ar eich etholwyr chi gymaint ag y mae'n effeithio ar fy etholwyr i. Pa gymorth pellach fydd yn cael ei ddarparu a, hefyd, faint o gyn-weithwyr Dawnus sydd wedi dod o hyd i waith arall?

14:55

Diolch i Mike Hedges am godi'r mater hwn a'r pryder y mae wedi'i ddangos ers tro am y gweithwyr yn Virgin a Dawnus. O ran Virgin, gallaf ddweud, ers cyhoeddi y byddai'n cau, fod gweithwyr Virgin Media wedi cael cefnogaeth gan Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru a'r rhaglen ReAct. Mae'r cymorth wedi cynnwys cyngor gyrfaoedd, cymorth ailhyfforddi a'r ffeiriau swyddi y cyfeiriodd Mike Hedges atynt. Hyd yma, o'r 192 o bobl a adawodd, mae 92 y cant wedi cael eu hadleoli'n llwyddiannus fel rhan o'r rhaglen all-leoli, y rhan fwyaf ohonynt wedi bod drwy'r ffeiriau swyddi hynny, ac mae saith unigolyn wedi trosglwyddo i swyddi eraill yn Virgin Media. O ran ReAct, mae 44 o grantiau hyfforddiant galwedigaethol wedi'u dyfarnu, ac mae dau gwmni wedi cael cymorthdaliadau cyflogau mewn cysylltiad â gweithwyr Virgin Media, a bydd cyfres arall o ffeiriau swyddi yn ystod ail wythnos mis Mehefin, cyn bo hir.

O ran Dawnus, gan weithio gyda'r derbynnydd swyddogol, mae'r tasglu wedi nodi 430 o gyn-gyflogeion uniongyrchol y busnes a'r rhai sydd â chyfeiriadau yng Nghymru. Mae'r staff yng Nghymru yr effeithiwyd arnyn nhw wedi cael yr wybodaeth berthnasol am ddiswyddo, ac maen nhw hefyd wedi cael cyngor ar sut i gael gafael ar gymorth gan raglen ReAct Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru a Chanolfan Byd Gwaith DWP. Felly, mae'r math o gymorth a oedd ar gael yn amrywio o gyngor ymarferol ac arweiniad ar ysgrifennu CV i gymorthdaliadau hyfforddiant galwedigaethol a hefyd gymhorthdal cyflog i gyflogwyr sy'n recriwtio staff a ddadleolwyd. Mae'r tasglu hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu i sicrhau bod prentisiaid yr effeithiwyd arnyn nhw yn cael lleoliadau newydd gyda chyflogwyr, lle bo'n briodol, i gwblhau eu hyfforddiant a hefyd i ddod o hyd i gyflogaeth hirdymor.

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth, os gwelwch yn dda, o ran y rhwydwaith trenau a'r broses o gyflwyno'r gwasanaeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymgymryd ag ef ledled Cymru? Sylweddolaf mai dim ond ym mis Hydref y cymerwyd y fasnachfraint, ond, yn ei dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi a Thrafnidiaeth, dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, y byddai llawer o newidiadau ym mis Mai eleni y byddai'r teithwyr yn dechrau eu mwynhau. Gwyddom, eleni, er enghraifft, y bydd 160 o gerbydau newydd yn dod ar y rhwydwaith, ac eto bydd 89 yn cael eu tynnu oddi arnynt, a gall unrhyw un sy'n edrych ar y cyfryngau cymdeithasol y bore yma weld y cerbydau gorlawn sydd yn dal i fodoli ar y rhwydwaith. Rwy'n gwerthfawrogi bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud eu gorau o fewn amgylchiadau anodd. Ond byddai deall llinell amser y cyflwyniadau hyn, yn enwedig yn ystod y 12 mis nesaf, i'w groesawu'n fawr, yn sicr gan yr Aelod hwn ac rwy'n siŵr Aelodau eraill, fel y gallwn ohebu â'n hetholwyr. A dweud yn gibddall mai 2022 yw'r eiliad ewreka, oherwydd ymddengys mai dyna pryd y bydd llawer o gerbydau newydd yn cyrraedd, yn wir nid ydynt yn mynd i ddenu rhyw lawer o glod gan aelodau'r cyhoedd sy'n teithio ar hyn o bryd. Felly, pe bai modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion a gyflwynwyd gerbron Pwyllgor yr Economi a Thrafnidiaeth a lle'r ydym ni arni â'r cynigion hynny, credaf y byddai hynny i'w groesawu'n fawr.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf yn cydnabod bod diddordeb enfawr o ran Trafnidiaeth Cymru, a gofynnaf i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth ystyried pryd fyddai'r amser gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Cyfeiriaf at ddatganiad y mae Ken Skates yn ei wneud y prynhawn yma, ar y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru, a fydd yn sicr yn gyfle i'r Aelodau sydd â diddordeb yn y maes hwn ofyn rhai cwestiynau sy'n ymwneud yn benodol â'r rhan honno o'r agenda.

Yn yr amseroedd gwleidyddol cecrus hyn, mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn rhywbeth sy'n gallu uno bron pob un Aelod Cynulliad. Bydd cyrraedd y targed hwn yn cymryd llawer o ymdrech a phenderfyniad dros nifer o wahanol feysydd, ac mae cyrsiau Cymraeg i oedolion yn elfen hollbwysig. Yn anffodus, nid yw dysgu Cymraeg yn cael ei drin yr un fath â chyrsiau dysgu Saesneg, gan fod cyrsiau Saesneg wedi'u heithrio o TAW, ond nid felly y cyrsiau Cymraeg. Mae hyn yn amlwg yn annheg iawn.

Roeddwn i'n falch o weld bod yr anghyfiawnder hwn yn ennyn sylw a chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan Aelodau Torïaidd a Llafur y Senedd hon, gan gynnwys y Gweinidog. Felly, a allwn ni sefyll ynghyd i lobïo Trysorlys y DU, drwy'r Gweinidog, i gywiro'r anghysondeb hwn fel y gall cyrsiau dysgu Cymraeg gael eu heithrio rhag TAW yn yr un modd a'u cymheiriaid Saesneg?

Rwyf am godi mater canser y coluddyn. Mae ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd dros gyfnod o ddegawd wedi darganfod cynnydd sydyn yn y math hwn o ganser ymhlith pobl iau. Rydym i gyd ar feinciau Plaid Cymru yn gwybod yn iawn am effaith ddinistriol y duedd bryderus hon. Mae'r arbenigwyr bellach yn galw am ostwng yr oedran sgrinio i 45. Nid yw Cymru yn sgrinio ar gyfer canser y coluddyn nes bydd pobl yn cyrraedd 60 oed. Gwn fod cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod Cymru'n cyd-fynd â'r Alban, lle mae pobl yn cael eu sgrinio pan fyddant yn cyrraedd 50 oed, ond ni fydd hyn yn digwydd tan 2023. Felly, a all y Llywodraeth hon symud y targed hwnnw ymlaen, ac ystyried gostwng yr oedran sgrinio i gydymffurfio â'r cyngor meddygol diweddaraf?

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch am godi'r ddau fater hyn. Yn sicr, nid mater i Lywodraeth Cymru yw pennu cyfraddau TAW, ond roeddem ni yr un mor bryderus â chi pan dynnwyd ein sylw at y ffaith bod eithriad TAW ar gael ar gyfer cyrsiau Saesneg fel iaith dramor sy'n cael eu darparu ar sail fasnachol. Nid yw'r un eithriad yn bodoli ar gyfer cyrsiau iaith Gymraeg, a dyna pam yr ysgrifennais at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys yn nodi y dylid cael chwarae teg i'r iaith Gymraeg, fel iaith swyddogol y DU, a dylai'r un eithriad TAW fod ar waith o ran y Gymraeg. Mae'n amlwg bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn; credaf fod croeso mawr i hynny.

O ran yr oedrannau sgrinio ar gyfer canser y coluddyn, gofynnaf i'r Gweinidog iechyd ysgrifennu atoch gyda'r cynnydd diweddaraf, yn sicr, o ran y pwynt cyntaf, symud tuag at ostwng yr oedran hwnnw i 50, ond yna gyda'r wybodaeth am gynlluniau ehangach ar gyfer y cyfnod tymor hwy o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r agenda sgrinio am ganser y coluddyn, yn enwedig o ran cynyddu ein capasiti er mwyn cynnal y profion hynny.FootnoteLink

Mae'r Brifysgol Agored yn enghraifft o'r hyn y gall Prif Weinidog ei gyflawni os bydd yn mynd ar drywydd rhywbeth yn gwbl benderfynol. Llywodraeth Harold Wilson a luniodd 'Prifysgol yr awyr'. Fe'i cyflwynwyd ym 1969, ac mae'n agosáu, eleni, at ei hanner canmlwyddiant fel y Brifysgol Agored. Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig dysgu o bell i tua 9,000 o bobl yng Nghymru, ac mae dros 200,000 o fyfyrwyr yng Nghymru wedi astudio gyda'r Brifysgol Agored ers 1969, ac mae tri chwarter o'r myfyrwyr yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan amser wrth iddyn nhw astudio. Mae bron 40 y cant o fyfyrwyr yr Brifysgol Agored yn dechrau astudio heb feini prawf mynediad safonol y brifysgol, ac mae dros 40 y cant yn dod o ardaloedd ehangu mynediad. Mae'r diwygiadau Diamond a gyflwynwyd gan y Llywodraeth i gynyddu hyblygrwydd darpariaeth wedi creu ton o fyfyrwyr rhan-amser yng Nghymru. Nid yw hyn wedi digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, a chredaf ei bod yn amserol, felly, inni siarad am y cam nesaf. Felly, a fyddai'r Llywodraeth, yn amser y Llywodraeth, yn gallu cael dadl ar sut y gall addysg uwch ran-amser ddarparu mwy o brentisiaethau gradd a mynd i'r afael â'r prinder sgiliau y byddwn yn ei wynebu yn y dyfodol, gan gyfeirio'n benodol at y math rhan-amser hwnnw o astudiaeth sy'n cael ei gefnogi gan Brifysgol yr awyr, y Brifysgol Agored?

Diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle i ni ganmol a diolch i'r Brifysgol Agored am y gwaith y mae wedi'i wneud yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, a'r gwaith pwysig y mae wedi'i wneud o ran ymestyn cyfleoedd i bobl ddysgu ac ennill cymwysterau. Mae'r Gweinidog Addysg yma, felly bydd hi wedi clywed eich cais am gyfle i drafod pwysigrwydd addysg uwch ran-amser, yn enwedig o ran graddau ar gyfer prentisiaethau lefel uwch.

Hoffwn alw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ddiwedd yr wythnos diwethaf, cawsom wybod mai'r syniadaeth wyddonol ddiweddaraf yw bod llygredd aer yn treiddio i bob organ yn ein cyrff, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei alw'n argyfwng llygredd aer. Roeddwn i'n falch iawn o glywed bod y Blaid Geidwadol yn cefnogi'r alwad am barth awyr glân yng Nghaerdydd, yn ogystal ag yn Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, a byddaf yn sicrhau bod arweinydd cyngor Caerdydd yn ymwybodol o hynny. Yn dilyn y camau y mae'n rhaid i Gyngor Caerdydd eu cymryd i amddiffyn ei ddinasyddion, yn seiliedig ar ymchwil helaeth gan Lywodraeth y DU sy'n dangos mai atal cerbydau sy'n llygru rhag mynd i ganol dinasoedd a threfi yw'r ffordd fwyaf cost effeithiol o leihau llygredd nitrogen deuocsid, a gawn ni, yng ngoleuni'r syniadaeth wyddonol ddiweddaraf ar y mater hwn, gael datganiad gan y Gweinidog iechyd am yr hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r camau y mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus eu cymryd i'n diogelu ni i gyd? Er enghraifft, mae annog mwy o gerdded a beicio ar gyfer teithiau byr yn un o'r gofynion y mae'r gwyddonwyr yn galw amdanynt.

Yn ail, ac o ran hyn, aeth Julie Morgan a minnau, ymysg cynrychiolwyr etholedig eraill o Gaerdydd a Chasnewydd, ar daith bws dirgel ddydd Gwener ar fws trydan, a oedd yn gwbl wych, gyda'r holl wi-fi diweddaraf, ac yn gyfforddus iawn—yn hollol groes i'r ddelwedd sydd gan deithio ar fysiau. Mae Caerdydd bellach yn ystyried caffael niferoedd mawr o'r bysiau penodol hyn, sy'n cael eu cynhyrchu yn Scarborough mewn partneriaeth â BYD, sydd wedi'i leoli yn Tsieina. Mae'n gyffrous iawn, gan eu bod wedi ennill gwobr gan Lywodraeth Cymru i lanhau eu trafnidiaeth gyhoeddus—gyda £5.7 miliwn yn dod gan Lywodraeth Cymru. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd i gyflwyno bysiau trydan ledled ein dinasoedd yng Nghymru, nid yng Nghaerdydd yn unig. Diolch yn fawr iawn.

15:05

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd datganiad am aer glân yn cael ei wneud cyn toriad yr haf. Gwn y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn gwneud y datganiad hwnnw. Rwy'n clywed eich bod yn pryderu'n benodol ynghylch pa gyfraniad y gall Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r agenda iechyd ei wneud i hynny, felly byddaf yn gwneud yn siŵr bod y datganiad, yn amlwg, yn cael mewnbwn llawn cyd-Weinidogion ar draws y Llywodraeth.

O ran mater y bysiau trydan, yn sicr, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hynny. Ond gallaf ddweud ein bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn ddiweddar gyda chynigion ar gyfer gwasanaethau bysiau allyriadau isel y DU. Felly, cafodd Cyngor Dinas Caerdydd grant o £5.6 miliwn, cafodd Stagecoach De Cymru £2.8 miliwn a chafodd Trafnidiaeth Casnewydd £1 miliwn i ddatblygu eu gwasanaethau gan ddefnyddio bysiau trydan.

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am dreftadaeth ar adeiladau crefyddol Cymru? Darllenais gyda siom yn y cyfryngau dros y penwythnos am y defnydd amgen posibl o'r eglwys Norwyaidd yma ym Mae Caerdydd, sydd, wrth gwrs, yn eglwys hanesyddol, nid yn unig i'r gymuned Norwyaidd, ond hefyd yn rhyngwladol. Dyma'r eglwys Norwyaidd hynaf, mewn gwirionedd, y tu allan i Norwy, ac mae'n rhan amlwg iawn o fywyd yn y Bae, fel y gŵyr holl Aelodau'r Cynulliad. Deallaf fod cyngor Caerdydd yn ceisio gwneud y lleoliad yn fwy hyfyw yn fasnachol, ond rwy'n pryderu bod yn rhaid gwneud hynny mewn ffordd sensitif iawn, er mwyn diogelu'r hyn sy'n rhan anhygoel o bwysig o dreftadaeth Gristnogol Cymru. Tybed a gawn ni ddatganiad ynglŷn â pha waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda Cadw ac eraill i sicrhau bod adeiladau fel hyn yn cael eu rhestru—oherwydd rwy'n deall nad yw'r Eglwys Norwyaidd yn adeilad rhestredig eto, ac rwy'n rhyfeddu at hynny—er mwyn gwneud siŵr y gallwn ni ddiogelu'r mathau hyn o leoedd i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ddiwylliant a threftadaeth yma yn y Siambr i glywed eich cyfraniad, ac rydych chi yn llygad eich lle bod yr eglwys Norwyaidd yn rhan ganolog a phwysig iawn o fywyd yma ym Mae Caerdydd. Fe wnaf ofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddull Llywodraeth Cymru a Cadw o ddiogelu adeiladau sydd o ddiddordeb a threftadaeth grefyddol benodol yng Nghymru.

Trefnydd, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi pryderon fy etholwyr yn y Siambr hon ynglŷn â'r camau unioni a'r cymorth y maen nhw'n chwilio amdanynt o ganlyniad i ddeunydd inswleiddio waliau dwbl sy'n ddiffygiol. Mae'r deunydd inswleiddio waliau dwbl hwnnw wedi'i osod o dan grantiau Llywodraeth Cymru yn aml iawn, ac mae wedi'i warantu gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Yn aml iawn, mae'r etholwyr hynny wedi cysylltu â'r Asiantaeth ac wedi cael ymatebion sy'n herio'r haeriad bod yr inswleiddio waliau dwbl yn ddiffygiol, a throsglwyddo'r bai i berchennog yr eiddo. Nawr, ni all llawer o'r unigolion hynny fforddio'r camau unioni sydd eu hangen. O ganlyniad, mae hyn yn amlwg yn gwestiwn o beth y mae'r Asiantaeth yn mynd i'w wneud ynglŷn â hyn.

Y tro diwethaf imi godi'r mater, ysgrifennodd y prif weithredwr ataf yn dweud y byddai'n hapus i wrando ar bryderon yr etholwyr, a bydd yn cael ambell lythyr oddi wrthyf i mewn ymateb i hynny. Ond prosiectau Llywodraeth Cymru oedden nhw, ac maen nhw wedi'u gwarantu gan yr Asiantaeth, ac rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru wedi'u cefnogi. Felly, hoffwn gael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn y cwestiwn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros yr unigolion hyn, oherwydd yn aml iawn ni ddylai'r unigolion hyn fod yn y sefyllfa o orfod dod i'm gweld i. Dylai'r camau unioni fod wedi'i gwneud gan y gwarantwr tanysgrifennu. Ac os nad y nhw, Llywodraeth Cymru o bosibl, a ariannodd y gwaith gwreiddiol yn y lle cyntaf.

Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu unigolion sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon? Yn y pen draw, maen nhw'n brwydro gyda'r asiantaeth i ddweud beth sydd, mewn gwirionedd, wedi mynd o'i le. Mae'r asiantaeth yn aml yn dweud bod y wal wedi torri ac mai'r cladin sydd ar fai, ac nad y deunydd inswleiddio waliau dwbl sydd ar fai, i ddechrau, pan fo arolwg yn dangos bod hynny'n anghywir, ac mai'r deunydd insiwleiddio waliau dwbl sydd ar fai. Ond, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru a ariannodd y prosiect yn y lle cyntaf. A gawn ni ddatganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r unigolion hynny i sicrhau eu bod yn cael y camau unioni, eu bod yn cael eu deunydd insiwleiddio waliau dwbl wedi'i drwsio a'i atgyweirio, ac nad oes raid iddyn nhw ddod o hyd i filoedd o bunnau nad oes ganddyn nhw?

15:10

Unwaith eto, mae Gweinidog yr amgylchedd wedi bod yma i glywed eich cyfraniad a'r disgrifiad o'r heriau a'r problemau y mae eich etholwyr chi ac eraill wedi'u hwynebu o ran gwaith inswleiddio waliau dwbl. A gaf i ofyn i chi ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog gyda gwybodaeth am achosion penodol yr ydych yn pryderu yn eu cylch? Rwy'n siŵr y bydd yn ymateb.

Cefais adroddiad blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer Cymru yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu'r diweddariad hwnnw. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Care After Combat. Cefais gyfarfod â nhw yn fy swyddfa. Mae ganddyn nhw weithrediadau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, ac maen nhw'n mynd i garchardai ac maen nhw, mewn gwirionedd, yn arbed miliynau o bunnoedd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda chyn-filwyr sy'n garcharorion ar hyn o bryd. Felly, roeddwn braidd yn siomedig na chafwyd dim cydnabyddiaeth yn yr adroddiad blynyddol penodol hwn o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda Care After Combat ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon cwrdd â'r elusen, gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol, i weld sut y gallan nhw eu cynorthwyo yn eu gwaith yn y dyfodol yma yng Nghymru.

Roedd fy ail gwestiwn yn ymwneud ag a gawn ni ddatganiad am unrhyw gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran aflonyddu ar y strydoedd a brofir gan ferched. Rwy'n gwybod bod yr ymgyrchwyr wedi gofyn am gyfeiriadau penodol o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn ôl a dweud bod y Ddeddf trais yn erbyn menywod yn cwmpasu pob elfen o aflonyddu. Ond nid yw hynny'n egluro i ni beth yn union sy'n digwydd o ran aflonyddu ar y stryd. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, gan fod hon yn duedd sy'n cynyddu, yn anffodus, ar ein strydoedd yma yng Nghymru?

O ran eich cwestiwn cyntaf, a oedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod y gwaith y mae Care after Combat yn ei wneud gydag unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, gwn fod gan Lywodraeth Cymru berthynas â'r sefydliad ers amser maith. Fe wnes i gwrdd â nhw yn fy swyddogaeth flaenorol pan oeddwn yn gyfrifol am dai, i drafod y ffordd orau y gallem atal pobl sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn flaenorol rhag bod yn ddigartref. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfarfod yn fwy diweddar â chynrychiolwyr Care after Combat a bod deialog yn parhau â'r sefydliad hwnnw.

Gan symud ymlaen at fater aflonyddu ar y stryd, mae'n amlwg ei fod yn rhywbeth sy'n peri pryder i bob un ohonom ni. O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae rhan o'r ffordd y byddwn yn atal hyn rhag digwydd, mewn gwirionedd, yn ymwneud â herio'r mathau hynny o feddylfryd lle mae pobl yn credu ei bod yn briodol i aflonyddu—menywod fel arfer—yn y stryd. Rydym yn gwneud hynny drwy ymgyrchoedd fel Paid Cadw'n Dawel, ac mae hynny'n dangos effaith bositif cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr. Hefyd mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy Dyma fi, sy'n herio stereoteipiau rhyw. Ac eto, mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion gyda phlant a phobl ifanc i'w helpu i ddatblygu ymdeimlad cryf o gydberthnasau iach a dealltwriaeth gref o'r hyn a ddisgwylir ganddynt a'r hyn y dylen nhw allu ei ddisgwyl gan bobl eraill.

A gaf i ofyn am un ddadl? Rwy'n gwybod ein bod wedi cael dadl ar rygbi'n ddiweddar, a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar y lefel ranbarthol. Ond hoffwn ofyn am ddadl ar ryw bwynt ar rygbi cymuned a rygbi ar lawr gwlad. Byddai hyn wedyn yn ein galluogi ni i sôn am yr heriau, ond hefyd am y llwyddiannau, nid lleiaf y penwythnos diwethaf, pan gafodd y Maesteg 7777s, yr Hen Blwyf, yr wyf yn falch o fod yn llywydd arnyn nhw, ddyrchafiad i'r gynghrair nesaf uwchben, a phan gafodd Nantyffyllon ar yr un diwrnod ddyrchafiad—roedd fy mab yn chwarae iddyn nhw hefyd, mae'n rhaid imi ddweud—cawson nhw ddyrchafiad ac ennill cystadleuaeth y Bêl Arian o holl dimau Cymru. Dyma ddau dîm lleol yn y Cymoedd sydd â phedigri rhagorol, hyrwyddwyr gwirioneddol ar lawr gwlad. A'r Valley Ravens, sy'n gwneud cymaint â rygbi bach ac iau yng nghymoedd Ogwr a Garw, lle'r oedd yn edrych fel pe bai ar ei liniau ar un adeg, ond maen nhw wedi'i adeiladu'n ôl i fyny. Hefyd hoffwn dalu teyrnged i rai o hyrwyddwyr rygbi cymunedol ar lawr gwlad sydd wedi gwasanaethu hiraf—pobl fel Mr Leighton Williams, ysgrifennydd hir ei wasanaeth i Glwb Rygbi Bro Ogwr, a fu farw, yn anffodus, yn ddiweddar iawn ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o wasanaeth.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar gynnydd y Llywodraeth ar y ffrydiau gwaith sydd wedi llifo o waith tasglu'r Cymoedd? Rwy'n credu y byddai rhai ohonom ni yn arbennig yn hoffi siarad o blaid y cynigion yn y fan honno ynghylch parc rhanbarthol. Yn wir, mae'n debyg y byddem yn hoffi iddo fynd ymhellach a chael rhyw fath o ddynodiad cenedlaethol ac ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud o safbwynt heriau bioamrywiaeth—gan ein bod ni newydd ddatgan argyfwng hinsawdd—a'r hyn y gallai hynny ei gyfrannu pe byddai gwir uchelgais a graddfa y tu ôl iddo. A hoffwn hefyd sôn, yn ffrydiau tasglu'r Cymoedd, am y modd y gallai'r cynllun peilot gwych ar drafnidiaeth bws, sydd bellach yn ystyried danfon pobl i lawr ar fws i Drefforest a Llantrisant, y tu allan i'w horiau gwaith arferol, ac ymestyn hynny'n gyflym i ardaloedd eraill fel Gilfach a chymoedd Garw ac Ogwr hefyd. Felly, byddai datganiad ar hynny a dadl am rygbi cymunedol ar lawr gwlad yn dderbyniol iawn.  

15:15

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater am rygbi ar lawr gwlad ac, wrth gwrs, bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon cymunedol wedi clywed eich cais am y ddadl honno. Rwy'n gwybod bod gan ein cyd-Aelod Jayne Bryant gwestiwn yn benodol am bwysigrwydd chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol yn y Siambr yfory, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r ddau ohonoch chi yn ei hyrwyddo'n rheolaidd iawn.

O ran tasglu'r Cymoedd, gallaf gadarnhau bod bwriad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gyflwyno datganiad i'r Cynulliad ar dasglu'r Cymoedd, ond, yn y cyfamser, gallaf roi diweddariad byr ar Barc Rhanbarthol y Cymoedd. Ar 10 Mai cyflwynodd y safleoedd a nodwyd fel pyrth darganfod ar gyfer Parc Rhanbarthol geisiadau am arian cyfalaf o'r gronfa gwerth £7 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer 2019-20—felly, £3.5 miliwn ac, yn 2021, £3.5 miliwn arall—ac mae swyddogion wrthi'n gweithio drwy'r grantiau hynny ar hyn o bryd ac yn asesu'r ceisiadau, a chaiff y penderfyniadau ar y buddsoddiad eu gwneud ym mis Mehefin, gobeithio.

Trefnydd, hoffwn ofyn am dri datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog Cyllid ar y paratoadau i greu treth ar dir gwag. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi'i groesawu, gan y gallai fod yn sbardun allweddol i fynd i'r afael â bancio tir, hybu adfywio a lles cymunedol, felly tybed sut mae cynlluniau ar gyfer hyn yn mynd rhagddynt.

Yn ail, byddwn yn croesawu datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r ystadegau tlodi plant a ryddhawyd yr wythnos diwethaf. Nid oeddwn yn hapus iawn i weld ward yn fy etholaeth i ar frig y rhestr o ardaloedd â'r tlodi plant uchaf. Rwy'n cyfarfod â'r glymblaid Dileu Tlodi Plant cyn bo hir, ac rwy'n nodi, er bod llawer o ymyriadau ar waith gan Lywodraeth Cymru, nad yw'r prif ysgogiadau y maen nhw wedi'u nodi wedi'u datganoli. Gallai datganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth fod yn gyfle i ystyried y sefyllfa bwysig iawn hon.

Yn olaf, byddwn yn croesawu datganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar y gronfa ffyniant gyffredin. Rydym i gyd yn gwybod am yr addewidion a wnaed dair blynedd yn ôl, na fyddai Cymru ar ei cholled ar ôl Brexit. Ond mae llawer o bobl yn pryderu'n fawr am ddyfodol y gronfa ffyniant gyffredin a sut y bydd yn gweithredu, yn enwedig o ystyried bod Cymru wedi bod yn fuddiolwr net o'r UE dros yr holl flynyddoedd hyn. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol wedi clywed rhywfaint o dystiolaeth sy'n peri gofid mawr nad ydym yn nes at weld sut y bydd unrhyw gronfa ffyniant gyffredin yn gweithredu. Felly, a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod ymateb i hyn?

Diolch yn fawr iawn. O ran eich ymholiad cyntaf, a oedd yn ymwneud â statws y gwaith ar dreth ar dir gwag, rydym ar hyn o bryd yn trafod datganoli cymhwysedd gyda Thrysorlys ei Mawrhydi, ac nid yw amserlenni'r broses hon yn gyfan gwbl o fewn gallu Llywodraeth Cymru na'r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd y pwerau'n cael eu datganoli eleni ac y cytunir ar amserlen yn rhan o'r trafodaethau swyddogol sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd.

O ran tlodi plant, rydym yn gyfarwydd ag adroddiad y glymblaid Dileu Tlodi Plant ac nid ydym yn synnu at yr hyn sydd ynddo, gan gynnwys y cynnydd a nodir yn lefelau tlodi plant yng Nghymru. Mae dadansoddiadau gan amrywiaeth o sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Sefydliad Joseph Rowntree, i gyd wedi rhagweld cynnydd sylweddol yn lefelau tlodi, gan gynnwys tlodi plant, yn y blynyddoedd sydd i ddod o ganlyniad uniongyrchol i ddiwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU. Caiff hyn effaith anghymesur ar y grwpiau agored i niwed hynny sydd a llai o allu i reoli'r newidiadau—mae hyn yn cynnwys teuluoedd â phlant ac aelwydydd un rhiant. Wrth gwrs, mae'r terfyn dau blentyn a rhewi'r budd-daliadau oedran gweithio yn arbennig o niweidiol. Felly, fel yr wyf yn dweud, rydym yn ymwybodol o'r adroddiad a bydd yn sicr yn ein llywio ac yn ein herio ni, a bydd yn ein helpu ni gyda'n meddylfryd o ran sut y byddwn yn ymateb neu yn parhau i ymateb i'r her hon. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am dlodi plant—y Gweinidog llywodraeth leol a thai—yn ymwybodol iawn o'r adroddiad.

Roedd eich cais olaf am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y gronfa ffyniant gyffredin. Gwnaed achos grymus tebyg o blaid hynny gan ein cyd-Aelod David Rees yn ystod y cyfarfod llawn yr wythnos diwethaf, ac rwy'n fwy na pharod i gyflwyno'r ddadl honno yn ystod yr wythnosau nesaf.

15:20

Rwy'n gallu gweld ein bod ni'n brin o amser, felly fe wnaf fy nghais ar unwaith. A gaf i ofyn am ddatganiad yn dilyn adroddiad gan Gomisiynydd Plant Lloegr, sydd wedi canfod bod cannoedd o blant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu'n cael eu derbyn i ysbytai iechyd meddwl lle y gallant ddioddef methiannau ofnadwy o ran gofal? Er bod yr adroddiad hwnnw'n canolbwyntio ar Loegr, mae angen inni sicrhau nad yw hyn yn digwydd yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol, fel y rheini sydd newydd ddod i mewn i'r oriel y prynhawn yma.

Canfu'r adroddiad hwnnw dystiolaeth frawychus o arferion gwael a chyfyngol, fel y defnydd o gyffuriau lleddfol, gwahanu a rhwystro corfforol. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys, ar lafar neu yn ysgrifenedig, gan y Gweinidog iechyd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, dim ond i sicrhau tawelwch meddwl i bob un ohonom yma fod ein hetholwyr—cenedlaethau'r dyfodol Cymru—yn cael eu trin yn effeithiol ac yn dda?

Diolch am godi'r mater penodol hwn sydd, yn amlwg, yn destun pryder. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog dros iechyd ysgrifennu atoch i roi'r sicrwydd a'r tawelwch meddwl yr ydych chi'n chwilio amdano o ran dull Llywodraeth Cymru o gefnogi plant ac iechyd meddwl pobl ifanc.

Rydym yn cymryd agwedd eang tuag at wella iechyd meddwl pobl ifanc, o atal ac ymyrryd yn gynnar i wella mynediad i wasanaethau arbenigol, ac rydym wedi ymrwymo £7.1 miliwn ychwanegol eleni i gefnogi hyn. Wrth gwrs, mae gennym ein rhaglen Plentyn Iach Cymru a'n buddsoddiad mewn gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sy'n rhan o'r pwyslais ar ein cymorth i'r blynyddoedd cynnar. Bydd y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog Addysg yn rhoi tystiolaeth ar y cyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ôl y toriad, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn dangos y dull gweithredu Llywodraeth gyfan yr ydym yn ei mabwysiadu yma.

Ond, o ran gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed, rydym yn disgwyl i 80 y cant o blant gael eu gweld o fewn y targed o 28 diwrnod o gael eu hatgyfeirio. Er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd yn gallu cyrraedd y targed hwnnw'n gyson, o fis Mawrth 2018, rydym wedi darparu £300,000 ychwanegol i wella mynediad drwy gynnal sesiynau clinig ychwanegol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae perfformiad wedi gwella'n sylweddol, ac mae llai o bobl ifanc yn gorfod aros am amser hir i gael cymorth, ond, yn amlwg, mae pawb ohonom yn gwybod bod llawer mwy i'w wneud yn y maes hwn.

Gyda chymaint o blant yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, safleoedd hapchwarae a negeseua, mae plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad cynyddol â'r bygythiad o gam-drin neu gamfanteisio gan oedolion a'u cyfoedion. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod plant a phobl ifanc yn treulio 15 awr ar gyfartaledd ar-lein bob wythnos, ac roedd 70 y cant o'r troseddau a gofnodwyd o gyfathrebu rhywiol â phlentyn yng Nghymru a Lloegr yn 2017-18 yn digwydd ar Facebook, Snapchat neu Instagram.

Rydym yn gwybod bod pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i dargedu nifer sylweddol o blant, ac mae mathau newydd o dechnoleg wedi cynnig cyfleoedd i'r camdrinwyr reoli a gorfodi plant i gymryd rhan mewn dulliau mwy eithafol o gam-drin.

Yr wythnos diwethaf, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar atal cam-drin plant yn rhywiol, yr wyf yn gadeirydd arno, clywsom yn uniongyrchol gan berson ifanc am ei brofiadau o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a'r effeithiau parhaol a gafodd hynny. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar y pryd a phan fyddan nhw'n ceisio ymdrin â'u profiadau yn nes ymlaen mewn bywyd.

Rwyf wedi cyflwyno datganiad barn ar fynd i'r afael â cham-drin ar-lein a byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi hyn. Hoffwn ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth ar y camau y gall y Llywodraeth eu cymryd i gadw plant a phobl ifanc yn fwy diogel ar-lein.

15:25

Diolch i chi am godi mater sy'n bwysig tu hwnt. Gall y rhyngrwyd fod yn lle hyfryd iawn, ond ar yr un pryd ceir cilfachau tywyll lle mae peryglon difrifol i blant a phobl ifanc yn llechu. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio i amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein, ond ein bod ni'n eu helpu nhw hefyd i'w harfogi eu hunain â'r galluoedd y mae'n rhaid i bobl ifanc eu cael mewn gwirionedd i wynebu'r mathau o heriau na wnaethom ni erioed eu hwynebu nhw pan oeddem ni'n llawer iau. Ond fe wnaf ofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am addysg i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am waith Llywodraeth Cymru mewn maes sy'n bwysig tu hwnt.

Fe hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i longyfarch Jess Fishlock. Fe enillodd hi fedal fuddugol yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA i Fenywod yn chwarae i Lyon yn erbyn Barcelona. Dim ond pum pêl-droediwr arall sydd yng Nghymru—fe gafodd hi ei geni yng Nghaerdydd—ond nid oes ond pum pêl-droediwr arall yng Nghymru sydd wedi ennill y fath anrhydedd ar lefel mor elitaidd. A minnau'n un sy'n hoff iawn o bêl-droed, ac yn un sydd wedi chwarae pêl-droed o oedran ifanc iawn pan oeddwn i'n iau, mae'n ysbrydoli rhywun i weld menywod yn gwneud cystal mewn pêl-droed yng Nghymru nawr—y tîm cenedlaethol. Ac mae gweld pobl fel Jess Fishlock, mae'n beth gwych ei bod hi'n ysgogi pobl ifanc i chwarae'r gêm. Ac mi fydda i'n dweud gair bach am Glwb Pêl-droed Merched Iau'r Tyllgoed, a enillodd y gynghrair dan 12 yn lleol hefyd. Maen nhw'n dîm ardderchog ac fe fyddai'n wych pe gallech chi longyfarch Jess yn ffurfiol yn y Siambr hon ar ran pawb sydd yma. Diolch yn fawr.

Diolch i chi am godi'r mater hwn ac, wrth gwrs, fe fyddwn i wrth fy modd i longyfarch Jess Fishlock ar ei champ fawr, a'r ffordd y mae hi wedi ennill ei lle o ran bod yn ysbrydoliaeth wirioneddol i bobl ifanc, a menywod ifanc a merched ifanc yn arbennig. Mae pêl-droed yn un o'r chwaraeon sy'n tyfu'n fwyaf cyflym ymhlith merched ifanc, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu'n wirioneddol. Ynghyd â llongyfarch Jess Fishlock, mae'n amlwg ein bod ni am longyfarch merched y Tyllgoed am eu buddugoliaeth o dan 12 hefyd. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n dweud hynny wrthyn nhw.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Glasbrintiau Cyfiawnder

Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â glasbrintiau cyfiawnder, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Yn aml, bydd pobl sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn bobl sydd ymhlith y mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas. Yn rhy aml o lawer, mae pobl yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod nhw wedi cael cam yn gynharach yn eu bywydau, gan ddioddef nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau, bydd y profiadau hyn yn parhau ymhell i'w bywydau yn oedolion.

Roedd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar ddechrau'r flwyddyn yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Helpodd yr adroddiad ni i weld darlun llawer cliriach o ddedfrydu a chadw yn y ddalfa yng Nghymru, ac mae hyn yn dylanwadu eisoes ar ein gwaith ar hyn o bryd ac i'r dyfodol o ran troseddu. Yng Nghymru, rydym ni mewn sefyllfa ddelfrydol, yn sgil ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i ganolbwyntio ar yr hyn sydd wrth wraidd troseddu a rhoi blaenoriaeth i atal hynny drwy gydweithio, integreiddio a chynllunio hirdymor.

Mae'r glasbrintiau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a throseddau gan fenywod sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn amlinellu ein dull ni o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio yn amlwg ar ymyrraeth gynnar ac atal, yn un sy'n canolbwyntio ar y ffordd yr ydym ni'n rhoi cymorth ar gyfer cyfeirio pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf, ond hefyd yn un sy'n mabwysiadu ymagwedd sy'n gyfannol ac yn pwysleisio adsefydlu i'r rhai sy'n llithro drwy'r rhwyd honno. Fe hoffwn i ddiolch i'm rhagflaenydd, Alun Davies, am y gwaith a wnaeth ef i ddod â ni i'r pwynt sylweddol hwn o gynnydd.

Fe hoffwn i gydnabod hefyd waith comisiwn Thomas, sydd yn ystyried sut y bydd y system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld adroddiad Arglwydd Thomas, y dylem ei gael yn ystod yr hydref eleni, a byddwn, wrth gwrs, yn cynnwys y gwaith pwysig hwnnw yn ein gwaith ar y glasbrintiau wrth symud ymlaen.

Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system gyfiawnder yng Nghymru, ceir cyswllt anorfod rhwng darparu gwasanaethau cyfiawnder a gwasanaethau datganoledig—gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, addysg, dysgu a sgiliau, a thai. Mae'r gwasanaethau hyn i gyd â rhan hanfodol bwysig o ran atal troseddu, ond o ran adsefydlu troseddwyr hefyd. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am ailwladoli'r gwasanaeth prawf. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, a fydd yn digwydd cyn diwedd eleni.

Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i sicrhau dull cydweithredol o ymdrin â throseddu a chyfiawnder. Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar y ddarpariaeth o garchardai yng Nghymru yn amserol iawn. Rydym ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r glasbrintiau, gan ystyried y materion sy'n deillio o'r adroddiad sy'n ymwneud â'n cyfrifoldebau ni. Roeddwn i hefyd yn croesawu adolygiad David Hanson o addysg i droseddwyr yng Nghymru, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaethau Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi ar yr argymhellion ac yn ceisio gwneud gwelliannau yn y meysydd hynny.  

Rydym ni'n gweithio ar y cyd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau gwelliannau mewn nifer o feysydd, er enghraifft drwy ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a lles mewn carchardai a'r concordat ar argyfwng iechyd meddwl, a'r glasbrintiau cyfiawnder. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gydag Edward Argar, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y cyn Weinidog Carchardai, Rory Stewart, a'r Gweinidog Plismona, Nick Hurd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd wrth inni symud ymlaen i gyfnod cyflawni'r gwaith pwysig hwn.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd swyddogion o blith llawer o adrannau o fewn Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau i weithio gyda'i gilydd gydag amrywiaeth o randdeiliaid ym meysydd cyfiawnder, iechyd ac addysg. Bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn yn gyfle i ddatblygu ein dulliau newydd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid a throseddau menywod ymhellach ac yn edrych ar farn rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig.

Rwy'n ddiolchgar i Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru am ei waith ac am ei gefnogaeth wrth ddatblygu'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sy'n adeiladu ar themâu allweddol yn adolygiad Charlie Taylor o system cyfiawnder ieuenctid Cymru a Lloegr, ond yn canolbwyntio ar y system a'r gefnogaeth a roddir yng Nghymru.

Er bod nifer y bobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa wedi gostwng yn sylweddol, mae llawer yn y ddalfa ymhell o'u cartrefi, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn nodi ymrwymiad i weithredu sut y gall gwasanaethau datganoledig ac annatganoledig gydweithio i wireddu hawliau i blant a datblygu system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru sy'n seiliedig ar egwyddorion sy'n seiliedig ar hawliau.

Mae'r dystiolaeth gynyddol o ran effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—ACEs—yn elfen allweddol yn null gweithredu Llywodraeth Cymru o weithredu. Mae'n seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal, sy'n nodwedd allweddol o'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy hyrwyddo'r grant ymgysylltiad cadarnhaol â phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, eisoes yn cynnig cymorth ataliol a dargyfeiriol i bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru.

Fel yr amlinellwyd yn y cynllun gweithredu, ein dyhead ni yw datblygu system cyfiawnder ieuenctid sy'n trin plant gyda thegwch a pharch. Ein nod yw helpu i leihau niferoedd y plant sydd yn y system drwy ddargyfeirio ac ataliaeth effeithiol, a thrwy fynd i'r afael â'r gwendidau sy'n arwain yn aml at drosedd.

Mae'r glasbrint troseddau menywod yn mynd i'r afael â mater menywod a'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cefnogi'r egwyddorion a nodwyd yn adroddiad pwysig Barwnes Jean Corston ar y mater hwn yn fawr iawn. Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers adolygiad Barwnes Corston, ond mae'r egwyddorion sydd ynddo'r un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw bryd hynny. Mae'n amlwg bod menywod yn cael eu hanfon i'r carchar yn aml am droseddau diannod lefel isel. Mae'r defnydd o ddedfrydau carchar tymor byr i fenywod, a dynion hefyd, nad ydyn nhw wedi cyflawni troseddau difrifol yn gallu cael effaith drychinebus arnyn nhw a'u teuluoedd. Nid yw carcharu am amser byr yn caniatáu adsefydlu yn ei ystyr lawnaf. Yn aml, nid yw'r rhai sy'n cael dedfryd o garchariad byrdymor yno'n ddigon hir i allu cwblhau rhaglenni sydd wedi eu cynllunio i gyflawni adsefydlu.

Mae angen datrysiad brys ar gyfer menywod sy'n troseddu yng Nghymru. Mae tua 250 o fenywod o Gymru mewn carchar yn Lloegr ar hyn o bryd. Mae'r materion sy'n gysylltiedig â bod ymhell o gartref, sy'n wynebu troseddwyr sy'n fenywod o Gymru a'u teuluoedd, yn sylweddol, ac yn bryder gwirioneddol o ran yr effaith ar blant yn benodol, ond o ran adsefydlu'r troseddwr hefyd.

Rwyf wrthi gyda Llywodraeth y DU yn ystyried dewisiadau ar gyfer lleoliad y canolfannau preswyl newydd arfaethedig i droseddwyr benywaidd, a goblygiadau hynny. Rwyf wedi dadlau eisoes o blaid lleoli o leiaf un o'r rhain yng Nghymru, fel y gall y menywod fod mewn amgylchedd sy'n cefnogi eu hanghenion nhw, gan gynnwys adsefydlu a'r gallu i barhau i gysylltu â theulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Roeddwn yn falch o weld bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ddarpariaeth carchardai yng Nghymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer grwpiau penodol o bobl fel troseddwyr benywaidd ac wedi gwneud argymhellion penodol ar gyfer sefydlu canolfannau preswyl i fenywod yng Nghymru. Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid, yn enwedig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM am ei waith gyda ni wrth ddatblygu'r glasbrint ar gyfer troseddu gan fenywod.

Mae'r glasbrintiau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn nodi ein dyheadau allweddol ar gyfer menywod a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sy'n wynebu perygl o hynny, a'r egwyddorion arweiniol yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno'r newidiadau hyn yn eu sgil. Ynghyd â'r glasbrintiau, rwy'n cyhoeddi hefyd gynlluniau gweithredu sy'n tynnu sylw'n glir ac yn gryno at y materion a'r argymhellion ar gyfer pob ardal, gan ddangos, yn bwysig iawn, y gwaith yr ydym yn ei wneud eisoes. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn ffurfio sail ar gyfer cynllun gweithredu cadarn yn ystod y Cynulliad hwn a thu hwnt. Dros y misoedd nesaf, bydd pob un o'r argymhellion hyn yn cael eu hystyried ymhellach, gan gynnwys asesiad llawn o effeithiau ac ymarferoldeb y cynigion.

15:35

Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei chyfarfod a'i chyfarfod briffio cyn hynny ar y glasbrintiau cyfiawnder hyn ar gyfiawnder ieuenctid a throseddu ymhlith menywod y bore yma. O ystyried y materion hyn, yn ogystal â throseddu ehangach, mae'n iawn inni ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Fel y clywsom gan y Dirprwy Weinidog, canfu adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Ionawr, 'Sentencing and Immediate Custody in Wales: A Factfile', mai gan Gymru mae'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Canfu hefyd, er bod nifer y dedfrydau o garchar wedi codi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, eu bod wedi gostwng 16 y cant yn Lloegr. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau gwelliannau a'r agwedd gydweithredol tuag at droseddu a chyfiawnder.

Pan oeddem ni'n trafod y broses o ddiwygio'r gwasanaeth prawf yma fis Hydref diwethaf, nodais fy mod i, fis Awst diwethaf, yn bresennol yn y cyfarfod i gysylltu â rhanddeiliaid yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru i drafod dyfodol y gwasanaethau prawf yng Nghymru a'r cynigion a geir yn y papur ymgynghori, 'Cryfhau'r Gwasanaeth Prawf, Meithrin Hyder'. Clywsom mai'r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt yng Nghymru yw y bydd yr holl wasanaethau rheoli troseddwyr, o 2020, yn aros gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, ac y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru yn archwilio'r dewisiadau ar gyfer comisiynu adsefydlu gwasanaethau, fel ymyriadau a thalu'n ôl i'r gymuned.

Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at ymateb Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yr wythnos diwethaf i'r ymgynghoriad, ar 'Gryfhau'r Gwasanaeth Prawf, Meithrin Hyder', a oedd yn cadarnhau y bydd gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, yn y dyfodol, gyfrifoldeb am reoli'r holl droseddwyr ar orchymyn cymunedol neu drwydded wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar. Mae hefyd yn cadarnhau, fel y gwyddom ni, fod gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol o ran materion datganoledig, gan gynnwys iechyd, tai, lles cymdeithasol ac addysg, ac mae hyn yn creu gwahanol dirwedd i'r gwasanaethau prawf yng Nghymru. Sut, felly, y mae'r Dirprwy Weinidog yn ymateb i'r datganiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn yr ymateb hwn eu bod nhw'n bwriadu darparu gwasanaethau ac ymyriadau ychwanegol i'w rhoi ar dendr i alluogi i amrywiaeth o ddarparwyr a sefydliadau sector gwirfoddol gystadlu i'w cyflenwi? Yn amlwg iawn, mae ganddyn nhw'r arbenigedd a'r cysylltedd ar lawr gwlad i gyflawni'r gwaith atal ac ymyrryd yn gynnar hwnnw.

Rydych chi'n dweud bod angen ateb ar frys i fenywod sy'n troseddu yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Rydych chi'n cyfeirio at fenywod sy'n cael eu cadw mewn carchar yn Lloegr ar hyn o bryd—tua 250 ohonyn nhw. Rydych chi'n cyfeirio at y problemau sylweddol sy'n gysylltiedig â bod ymhell o gartref sy'n wynebu merched sy'n troseddu yng Nghymru a'u teuluoedd. Ond, wrth gwrs, nid yw gweithgarwch troseddol bob amser yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol, ac mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, 90 y cant o fewn 50 milltir. Dim ond 40 milltir o'm cartref i yng ngogledd Cymru y mae Styal, ond byddai canolfan i fenywod neu garchar yn y canolbarth neu'r de yn golygu y byddai'r datgysylltiad yn fwy o lawer oddi wrth eu teuluoedd. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn ystyried y gallwn sicrhau y gall y gwasanaethau datganoledig gyrraedd troseddwyr sy'n byw yn agos at garchar Styal neu garchardai eraill lle cedwir troseddwyr benywaidd o Gymru ar hyn o bryd, ynghyd â'r diwygiadau ehangach, yr wyf yn ei chefnogi wrth iddi geisio gwneud hynny?

Fel yr oeddech chi'n dweud, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod carchardai cymunedol i fenywod, a bydd yn treialu pum canolfan breswyl, yn hytrach, i helpu troseddwyr benywaidd gyda materion fel dod o hyd i waith ac adsefydlu ar gyfer cyffuriau ledled Cymru a Lloegr. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn ystyried gwahardd dedfrydau byrdymor o garchar yng Nghymru a Lloegr. Cydnabyddir bod y rhain yn llai effeithiol na chosbau cymunedol o ran lleihau aildroseddu.

Roeddech chi'n cyfeirio at adroddiad yr wythnos diwethaf ar y ddarpariaeth o garchardai yng Nghymru gan y Pwyllgor Materion Cymreig. Sut ydych chi'n ymateb, o gofio yn eich datganiad eich bod o'r farn y dylem gael o leiaf un ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru, i alwad y Pwyllgor Materion Cymreig am sefydlu canolfannau preswyl i fenywod yn y gogledd a'r de er mwyn galluogi troseddwyr o Gymru gael bod yn nes adref?

Rydych chi'n cyfeirio at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod—ACEs. Sut, unwaith eto, yr ydych chi'n ymateb i'r datganiad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â gangiau yn sefydliad troseddwyr ifanc ei Mawrhydi y Parc, gan gynnwys ystyried cyflwyno unedau carcharu llai o faint er mwyn gosod pobl iau yn nes adref? Roeddwn i'n sôn y bore yma yn ein cyfarfod ni am gartref troseddwyr ifanc Castell-nedd, yr ymwelais ag ef sawl blwyddyn yn ôl yn rhan o ymchwiliad gan bwyllgor. Dywedodd seiciatrydd plant y sefydliad hwnnw wrthyf fod nifer fawr o bobl ifanc a oedd wedi troseddu yn cyrraedd yno dan feddyginiaeth a dim ond pan lwyddwyd i'w gwella, a'u tynnu nhw oddi ar y feddyginiaeth, yr oedd modd dechrau gweithredu'r ymyrraeth gynnar ac atal nad oedd wedi digwydd cyn i'r troseddau gael eu cyflawni. Pa gamau yr ydych chi'n eu cynnig neu y byddwch chi'n eu hystyried i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â hynny a chanfod a yw'r broblem honno'n bodoli o hyd, a sut y gallwn ni gael mwy o sicrwydd nad yw'r bobl ifanc hynny'n cael eu trin â chyffuriau yn unig yn y dyfodol?

Yn olaf, gan fynd yn ôl at y cwestiwn am gomisiynu gwasanaethau trydydd sector, soniais y bore yma hefyd am enghraifft o elusen yr wyf wedi mynd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i'w chyfarfod yn ystod y digwyddiad ymgynghori, neu'n fuan wedi hynny, yn Wrecsam y llynedd. Mae'r elusen hon yn gweithio'n benodol gyda'r grwpiau hyn o bobl ifanc ac yn gwneud gwaith rhagorol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yn y gogledd ar hyn o bryd a chawsant le ar eu stondin hyd yn oed yn Sioe Frenhinol Cymru llynedd. Roedd hon yn enghraifft o sut y gallwn ni ymestyn at yr arbenigedd sydd yn bodoli o fewn cymuned Cymru ond nad yw'n gallu darparu ar hyn o bryd y gwasanaethau y mae'n ceisio eu darparu o ran atal troseddu ymhlith ieuenctid a chynorthwyo pobl ifanc oddi ar y llwybr hwnnw mewn bywyd. Diolch.

15:40

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood. Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Ac a gaf i roi cydnabyddiaeth i chi am eich profiad a'ch diddordeb yn y maes hwn? A dweud y gwir, rwy'n gwybod, Mark, eich bod wedi cymryd rhan mewn ymchwiliadau pwyllgor blaenorol yn y Cynulliad hwn ac mae gennych chi ddiddordeb mawr, wrth gwrs, yn eich rhanbarth chi o ran y gwasanaethau hyn. Credaf fod eich sylw ar ganfyddiadau Canolfan Llywodraethiant Cymru yn allweddol i fynd i'r afael â'r materion hyn a'n galluogi ni i edrych hefyd ar faterion lle'r ydym ni'n chwilio am fwy o gymorth i ddeall natur yr angen, er enghraifft, am wybodaeth sy'n fwy data benodol cyn belled fel y mae angen hynny ar Gymru, o ran y system cyfiawnder troseddol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i, wrth gwrs, wedi ei drafod gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ond mae tystiolaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru yn allweddol ar gyfer ein helpu ni i symud ymlaen i ddatblygu'r glasbrintiau hyn.

Rydym yn croesawu'r cynigion ar gyfer y gwasanaeth prawf yn y dyfodol. Fe'u cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ond yn amlwg roedd gennym ni eisoes, fel yr oeddech chi'n dweud, gynigion penodol ar gyfer Cymru, a oedd yn tynnu sylw at y tirlun deddfwriaethol a pholisi Cymru ei hunan a'r gwahanol drefniadau partneriaeth sy'n bodoli yng Nghymru. Siaradais â'r Gweinidog newydd, Robert Buckland, ddoe ac roedd ef yn cydnabod bod cyfle gennym yma yng Nghymru i wneud pethau mewn ffordd amgen drwy gynllunio system brawf well, sy'n addas at y diben, sy'n gweithio i bobl Cymru. Oedd, roedd y cyhoeddiad yn cynnwys y ffaith y gellid cael swyddogaeth barhaus i'r sector gwirfoddol a phreifat wrth ddarparu gwaith di-dâl a rhaglenni achrededig. Mae hwnnw'n rhywbeth y byddem yn dymuno ei drafod o ran yr hyn y byddai'n ei olygu. Rwy'n gwybod bod yna bryderon am hynny oherwydd bydd yn rhaid i'r ailuno fod yn ailuno sy'n gyfle gwirioneddol i'r gwasanaeth prawf a gweithwyr prawf proffesiynol i anwesu eu gwaith unwaith eto, yn enwedig yn y gwasanaeth cyhoeddus hwn.

Rwyf o'r farn eich bod chi'n codi materion allweddol hefyd am effaith ac effeithiolrwydd gwasanaethau datganoledig o ran cyrraedd, er enghraifft, fenywod yng ngharchar Styal. Byddaf yn ymweld ag Eastwood Park yr wythnos nesaf, lle gwyddom fod y cyrhaeddiad, eto o ran gwasanaethau datganoledig a chyswllt, a'r ffaith, wrth gwrs, fod gan lawer o'r menywod hynny, yn Styal ac Eastwood Park, deuluoedd ac amgylchiadau, ac mae'r cysylltiad a'r ymgysylltiad â'u cartrefi a'u cymunedau yn hollbwysig—. Byddaf yn pwyso a mesur pa mor effeithiol yw'r gwasanaethau datganoledig hynny. Nid yn unig y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, wrth gwrs; addysg, sgiliau, dysgu, tai—mae'r rhain yn hanfodol.

Rwy'n croesawu'r ffaith hefyd eich bod chi'n cydnabod galwad y Pwyllgor Materion Cymreig am o leiaf un—un yn y gogledd ac un yn y de, rwy'n credu mai hynny y maen nhw'n ei ddweud—ganolfan breswyl i fenywod. Rwyf wedi dweud yn fy natganiad y byddwn yn hoffi gweld o leiaf un ganolfan. Mae'n amlwg eu bod nhw'n awgrymu y gellid cael pum canolfan breswyl i fenywod. Yr hyn sy'n bwysig iawn hefyd yw y gallwn ni gael dylanwad ar natur a chwmpas y canolfannau hynny. Rydym eisoes yn cynnal gweithdai rhwng Llywodraeth Cymru, swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r partneriaid hynny a fydd yn cael dylanwad ac yn gallu llunio'r canolfannau hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddiad buan ar hyn o ran bwrw ymlaen.

Mae eich pwyntiau am gyfiawnder ieuenctid yn bwysig hefyd. Rwy'n meddwl am Hillside, wrth gwrs— ac roeddech chi'n sôn am Hillside—byddai'n rhaid imi ddweud bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolygiad dilynol o gartref plant diogel Hillside ac wedi canfod bod y cyfleuster yn cydymffurfio erbyn hyn ym mhob maes. Mae Gwasanaeth Dalfa'r Ifanc wedi gosod safonau ar gyfer gwelliant i reolwyr Hillside, a bydd yn rhaid gweithredu'r rhain hefyd. Wrth gwrs, roedd gwelliannau yn ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a bydd Gwasanaeth Dalfa'r Ifanc yn monitro cynnydd yn ôl y safonau hynny.

Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi am gyrff trydydd sector sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac fe wnaethoch chi grybwyll y rhain gyda mi'n gynharach, sydd â rhan wirioneddol yn y dargyfeirio, yr atal, a'r ymgysylltu, sydd, wrth gwrs, yn cydnabod effaith ACEs ar fywydau pobl ifanc—. Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r grant o hybu ymgysylltiad cadarnhaol â phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Mae'n cynnig y math hwnnw o gymorth ataliol a dargyfeiriol i bobl ifanc sydd mewn perygl, ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cydnabod y sefydliadau trydydd sector hynny fel y gwnaethoch chi heddiw.

15:45

Rwy'n croesawu'r bwriad i wrthdroi preifateiddio'r gwasanaeth prawf. Beirniadwyd yn eang y fenter gwneud arian hon a rhybuddiwyd yn ei herbyn yn y lle cyntaf. Ond bydd y sector preifat yn parhau i fod yn rhan o'r gwasanaeth prawf; dim ond 80 y cant o'r gwaith prawf a gaiff ei dynnu'n ôl o breifateiddio. Nawr, mae Napo wedi codi pryderon bod y ddarpariaeth o waith di-dâl a rhaglenni achrededig yn dal i ddod o dan y system a breifateiddiwyd, ac rwyf innau'n rhannu eu pryderon nhw am hynny. Mae Napo wedi dweud:

Mae'n amlwg ein bod ni'n siomedig y bwriedir cadw rhywfaint o waith prawf yn y sector preifat. Bydd Napo yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod yr holl wasanaethau hyn a'n haelodau ni sy'n eu darparu, yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r sector cyhoeddus yn y pen draw ac y byddwn ni'n dwysáu ein hymdrechion i sicrhau cydraddoldeb cyflog i bob aelod o staff prawf.

A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai datganoli'r cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol yn caniatáu inni fynd â'r mater hwn oddi ar ddwylo'r Torïaid am byth a gweithredu system sy'n lleihau troseddu mewn ffordd briodol yn ogystal â diogelu cymunedau rhag troseddwyr sy'n achosi niwed? Ac a yw hi'n cytuno y dylai gwaith di-dâl a gwaith grŵp fod yn rhan o wasanaeth prawf cyhoeddus unedig?

Rwy'n falch o weld bod y syniad o garchar i fenywod yng Nghymru wedi cael ei ddiystyru. Yn hytrach, mae'r alwad am fwy o ddulliau cymunedol yn hyglyw ledled y sector. Mae elusen Women in Prison yn dweud bod carchar i fenywod yn atgyfnerthu trawma, yn achosi problemau iechyd meddwl ac yn cynyddu'r perygl o hunan-niweidio, tra bod Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn dweud bod menywod sy'n cael eu rhyddhau o garchar yn fwy tebygol o aildroseddu na'r rhai sy'n cael dedfrydau cymunedol. Dywed Peter Clarke, Prif Arolygydd Carchardai EM, fod pellter o'r cartref a'r teulu yn waeth i garcharorion benywaidd ac, felly, gallai cyfleuster neu gyfleusterau cymunedol llai olygu canlyniadau gwell.

Yn amlwg, ceir achos cryf iawn dros ganolfannau preswyl newydd yng Nghymru i droseddwyr sy'n fenywod. Mae strategaeth troseddwyr benywaidd y Llywodraeth wedi galw am 10 canolfan i fenywod, ond dim ond un o'r rhain sydd i fod yng Nghymru, ac mae'r Pwyllgor Materion Cymreig, y gwnaeth fy nghydweithwyr Liz Saville Roberts a Ben Lake gyfraniad iddo, wedi argymell bod angen dwy yng Nghymru—un yn y gogledd ac un yn y de. Ni fyddai un ganolfan yn unig yng Nghymru yn ddigon da. Bydd yn rhaid cael darpariaeth mewn dwy ran o'r wlad i liniaru'r problemau sydd gennym ar hyn o bryd o ran pellter.

Felly, pa ymdrechion yr ydych yn eu gwneud gyda Llywodraeth y DU i bwysleisio argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid cael o leiaf dwy ganolfan yng Nghymru? A beth allwch chi ei wneud ynglŷn â'r broblem a godwyd gyda mi'r wythnos diwethaf gan un o'r troseddwyr benywaidd, y gwnaeth ein pwyllgor gyfarfod â nhw yng Ngharchar Eastwood Park yr wythnos diwethaf fel rhan o ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal, lle mae diffyg llety cymeradwy i fenywod yn golygu nad oes modd rhyddhau rhai carcharorion ar dag, tra gall eraill sydd â chyfeiriad cartref gael eu rhyddhau? Beth allwch chi ei wneud ynghylch llety cymeradwy i droseddwyr sy'n fenywod?

Er ei bod yn bwysig ystyried ble a sut i ymdrin orau â throseddwyr benywaidd, mae'n bwysig hefyd canolbwyntio'r ddadl ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n achosi troseddu. Mae angen gwneud mwy i ystyried yn ddifrifol y canlyniadau cymdeithasol, teuluol a phersonol o roi menywod mewn carchar, ond, at hyn, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael o ddifrif â chanlyniadau ac effaith dedfryd o garchar wedi rhyddhau, ac mae hynny'n gymwys i bawb, nid dim ond i fenywod sy'n garcharorion.

Mae troseddwyr ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl, digartrefedd ac aildroseddu i gyd yn sgil-gynhyrchion mynd i mewn i'r system carchardai oni bai bod gennym gynlluniau ar waith i gefnogi'r bobl hyn. Mae angen cwnsela digonol ar gyfer profiadau andwyol yn ystod plentyndod er mwyn gwrthweithio effeithiau trawmatig ar y teulu, mae angen gwasanaethau iechyd tu mewn a thu allan i'r carchar i fynd i'r afael â dibyniaeth a materion iechyd meddwl, ac mae angen tai a blaenoriaethu priodol er mwyn ymladd digartrefedd. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym beth ellir ei wneud i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn gyntaf oll pan fyddan nhw'n digwydd yn ystod plentyndod, ac, yn ail, beth ellir ei wneud i helpu oedolion sydd wedi goroesi eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? Bydd ymdrin â'r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sicr o leihau troseddu. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw?

15:50

Diolch yn fawr iawn i chi, Leanne Wood. Mae'n amlwg eich bod yn siarad o brofiad, gan ddod i'r Cynulliad hwn gyda'r profiad hwnnw ac yn llefaru am y materion hyn o ran cyfiawnder, ac yn cydnabod hefyd fod y pwyntiau a wnaethoch chi heddiw yn ddilys iawn o ran sut yr ydym yn bwrw ymlaen i weithredu'r glasbrintiau hyn. Rwyf i hefyd, o ran y gwasanaeth prawf a'r ffaith y cafwyd croeso cyffredinol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, pan gyhoeddwyd hynny yn gynharach, yn cydnabod y ffaith y codwyd pryderon  hefyd ynghylch y modd y byddai hynny'n mynd rhagddo o ran rhai o'r cyfrifoldebau a fyddai'n aros gyda'r sector preifat a'r trydydd sector, a siaradais â Napo ynglŷn â hynny hefyd. Ond rwy'n credu bod y newidiadau arfaethedig yn gyfle gwirioneddol i ailedrych ar y llwybr cenedlaethol ac ystyried ailedrych ar yr holl wasanaeth Drwy'r Giât yng Nghymru i ganiatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn gwasanaethau, a gallant fod yn wirfoddol ac yn statudol. Ond byddaf yn cyfarfod â Napo eto, a'r gwasanaeth carchardai a phrawf, i edrych ar y modd y gallwn ni ddatblygu'r dull pwrpasol hwn yng Nghymru.

Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig hefyd o ran ein cyfiawnder troseddol. Amlinellodd y Prif Weinidog dri maes y dylem ddechrau canolbwyntio arnyn nhw o ran trosedd a chyfiawnder, gyda datganoli'r system cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf i Gymru a phwerau newydd o ran troseddwyr sy'n fenywod. Gwyddom mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd, ond mae llawer o'r gwasanaethau y mae eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, felly edrychwn ymlaen at ymateb comisiwn Thomas. Mae'r ffaith i hwnnw gael ei sefydlu ym mis Medi 2017, gan gasglu tystiolaeth drwy gydol y llynedd, a'i gadeirio, wrth gwrs, gan gyn-Arglwydd Brif Ustus John Thomas—cafwyd 150 o gyflwyniadau gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol. Felly, bydd hwnnw'n hollbwysig pan fyddwn ni'n cael yr adroddiad hwn ym mis Medi o ran bwrw ymlaen â hyn.

Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi am droseddu ymhlith menywod yn allweddol. Rwyf i'n pwyso am fwy nag un ganolfan yng Nghymru. Eglurais i hynny yn fy natganiad a chredaf fod y canolfannau hynny wedi llwyddo i ddiwallu anghenion Cymru. Fel yr wyf wedi ei ddisgrifio eisoes, byddaf yn cwrdd â throseddwyr benywaidd yn fuan pan fyddaf yn ymweld ag Eastwood, a byddaf i'n ymchwilio i'r mater hwnnw o ran adeiladau cymeradwy i gartrefu troseddwyr sy'n fenywod. Ond credaf ei bod yn ddiddorol pan edrychwn ar y math o fodelau sy'n cael eu hystyried o ran canolfannau preswyl i fenywod, oherwydd mae cynigion wedi cael eu gwneud eisoes. Ceir, er enghraifft, batrymau gydag uned ar wahân, lle mae menywod sydd ar drothwy carchariad, sydd o bosib yn ei chael hi'n anodd cydymffurfio â gorchymyn cymunedol, mewn perygl o gael dedfryd o garchar—y bydden nhw'n cael eu hatgyfeirio drwy orchymyn cymunedol gydag amodau ynghlwm wrth y ganolfan, wedi eu cyfeirio gan y gwasanaeth prawf ar drwydded.

Ceir hefyd y patrwm 'hub-and-spoke', fel y'i gelwir, dedfryd i orchymyn cymunedol dan amodau sydd ynghlwm wrth y ganolfan, patrwm cymorth graddol a fydd hefyd—nid yn unig yn nhermau amodau gorchymyn cymunedol, ond gorchmynion cymunedol eraill a dedfryd ohiriedig, a gyfeirir gan wasanaethau prawf ar drwydded. Felly, mae ystod eang o faterion a dewisiadau yn cael eu hystyried o ran potensial y canolfannau hyn i fenywod.

Mae angen inni sicrhau ein bod ni'n edrych ar y materion ehangach hynny o ran natur ataliol y gwaith yr ydym yn ei wneud—lle mae'r cyfrifoldebau datganoledig gennym—o ran y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r ffaith bod hyn yn ymwneud ag ymyrryd ac atal ar gam cynnar.

15:55

A gaf i ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf i'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma a chyhoeddiad y glasbrintiau hyn? Fe ddylwn i ddweud hefyd fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei geiriau caredig yn ei datganiad. Mae methiant y system cyfiawnder troseddol i roi ystyriaeth briodol i'r setliad datganoledig a rhoi sylw priodol iddo bron iawn yn warthus. Ffaith drist yw mai rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein gwlad sy'n talu'r pris mwyaf am y gwarth hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi sylw priodol iddo yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddi'r glasbrintiau hyn yn sicrhau bod y ddadl honno'n digwydd.

Rwy'n croesawu'r pwyntiau hefyd a wnaeth y Gweinidog ynglŷn â'r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf am ddyfodol y gwasanaeth prawf. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r beirniadaethau o hynny a wnaeth Leanne Wood y prynhawn yma. Rwyf i o'r farn ei bod hi yn llygad ei lle, a'r hyn y byddem i gyd yn hoffi ei weld, rwy'n credu, ar wahanol ochrau i'r Siambr hon, yw dychwelyd at ddarpariaeth gyhoeddus safonol a rheolaeth gyhoeddus o'r gwasanaeth hwnnw i sicrhau bod anghenion y troseddwr a'r gymuned yn dod yn gyntaf ac nad ydym ni'n dilyn y llwybr, yn anfwriadol, o wneud elw preifat yn ffactor ysgogol i gyflenwad y gwasanaeth hwnnw.

Fel eraill y prynhawn yma, rwyf innau wedi darllen adroddiad Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin gyda diddordeb mawr. Roedd y pwyllgor dethol wedi gallu nodi'r holl broblemau sy'n wynebu'r gwasanaethau, ond yn anffodus nid oedd yn gallu cytuno ar unrhyw ddatrysiadau i'r problemau hynny. Pethau felly yw pwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni'r prynhawn yma i ddeall bod nodi'r problemau yn gam cyntaf, ond ein gwaith ni, ac yn sicr eich gwaith chi, Gweinidog, fel Llywodraeth, yw dod o hyd i'r atebion hynny.

Rwy'n gobeithio y gallwn ni symud yn gyflym, yn gyntaf i sefydlu system i ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o fod yn y gyfundrefn honno. Mae hynny'n golygu y bydd angen inni droi at y polisi dedfrydu hefyd. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, eich bod chi wedi cael cyfle i drafod y materion hyn gyda'r farnwriaeth i sicrhau bod polisi dedfrydu yn ystyried datblygiad polisi yn fwy eang yn y maes hwn, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dadlau ein hachos. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wneir am ganolfan i fenywod sy'n lleol i fenywod mewn gwahanol ranbarthau o'r wlad, ac mae hynny'n dadlau o blaid mwy nag un ganolfan ac nid dim ond un ganolfan sydd wedi cael ei hadeiladu er hwylustod i'r gwasanaeth ei hun ac nid er hwylustod y bobl a fydd yn derbyn y gwasanaeth hwnnw.

Ac rwy'n gobeithio hefyd, Gweinidog, y gallwn ni gytuno y bydd y ganolfan hon i fenywod yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth y trafodaethau am garchar i fenywod, a gafwyd yn y gorffennol. Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau y bydd canolfan i fenywod yn sefydliad cwbl wahanol a'i fod yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, a'r gwasanaethau a ddarperir yno'n cael eu darparu ar gyfer menywod fel unigolion a hefyd ar gyfer plant ac ar gyfer menywod yn benteuluoedd, a'n bod ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, nid mewn ffordd sy'n cosbi'n unig, ond mewn ffordd sy'n eu galluogi i gyrraedd eu potensial a chael byw fel y bydden nhw'n dymuno byw.

O ran pobl ifanc, rwyf i o'r farn bod y ffordd yr ydym ni'n trin plant a phobl ifanc ynddi heddiw yn gwbl drychinebus. Mae'r ganolfan i droseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc yn cael ei staffio gan bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i wneud eu gorau glas er mwyn y bobl sydd yno. Ond gwyddom fod angen cyfleusterau penodol ar gyfer pobl ifanc, ac mae angen sicrhau hefyd bod y bobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol heddiw yn cael cyfle i greu bywydau fydd yn wahanol yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu hyfforddiant ac addysg sy'n eu galluogi nhw i wneud hynny.

Yn olaf, gadewch i mi ddweud hyn, Gweinidog: roeddwn i'n falch iawn o glywed y datganiad a wnaethoch chi'n gynharach, ond hefyd eich ymrwymiad i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Rydym yn y sefyllfa hurt heddiw lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu cyflawni ei pholisi ei hun yng Nghymru, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni ei pholisi hithau ychwaith. Felly, mae gennym ddwy Lywodraeth nad ydyn nhw'n gallu cyflwyno polisi mewn un maes. Mae hi'n hen bryd—ac mae hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd cyfrifoldeb am hyn—i bobl Cymru gael eu gwasanaethu yn dda gan y rhai a etholwyd i wneud penderfyniadau ar y materion hyn. Mae'r methiant i fynd i'r afael â datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn gerydd sefydlog i'r seneddau ar hyn o bryd. Y bobl sy'n dioddef canlyniadau hynny yw'r bobl sydd, yn fwyaf tebyg, yn lleiaf galluog i beri i newid ddigwydd. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Gweinidogion y DU, y byddwch chi'n ei gwneud hi'n gwbl glir iddyn nhw mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod gennym ni system sy'n addas at y diben, ac mae hynny'n golygu datganoli'r system yn ei chyfanrwydd i ganiatáu i ni ddilyn y polisi cyfannol yr ydym ni ac eraill yn awyddus i'w weld yn cael ei gyflawni er mwyn pobl y wlad hon.

16:00

Rwy'n diolch yn fawr iawn i Alun Davies am ei gwestiynau ac am ei ymrwymiad parhaus i symud ymlaen. Rwyf wedi rhoi teyrnged i'r gwaith y gwnaethoch chi ymgymryd ag ef. Rwy'n cofio bob amser i Alun Davies ddangos ei ymrwymiad i'r maes polisi hwn, a'i ymrwymiad ef i'r maes polisi hwn sydd wedi helpu i ddod â ni i'r fan lle gallaf i nid yn unig gyhoeddi glasbrintiau ar gyfer pobl ifanc, cyfiawnder ieuenctid a throseddu gan fenywod, ond y cynlluniau gweithredu hefyd. Credaf mai dyna'r hyn y byddech chi wedi dymuno ei weld gennyf fi fel eich olynydd—sef,, mewn gwirionedd, bod a wnelo hyn â gweithredu.

Cyhoeddais y cynlluniau gweithredu hynny er mwyn i chi, Aelodau'r Cynulliad— a byddwn yn gobeithio bwrw ymlaen â hyn o ran craffu a chyfle gyda'n partneriaid i weld sut mae hyn—. Mae'n rhaid i hyn gael ei gyflawni. Wrth gwrs, mae'n golygu ymrwymiadau gweinidogol ledled Llywodraeth Cymru o ran iechyd, gofal cymdeithasol, tai, dysgu, addysg—mae rhan i bob un ohonyn nhw—a'n partneriaid hefyd. Rwy'n falch iawn bod y comisiynydd plant, er enghraifft—rwyf i wedi cwrdd â hi i siarad am y glasbrint cyfiawnder ieuenctid—yn rhagweld ymgysylltu â hynny o ran bwrw ymlaen â hyn.

Ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ystyried sut y gall canolfannau preswyl i fenywod ddiwallu'r anghenion—nid yn unig ddiwallu anghenion y menywod yn y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, ond hefyd bod y gwasanaethau datganoledig yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw yn chwarae rhan gyflawn a phwysig.

Rydych chi'n gwneud pwyntiau allweddol ynglŷn â chyfiawnder ieuenctid. Mae dedfrydau cymunedol nad ydyn nhw'n rhai gwarchodol yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau sydd wedi cael datganoli, nid yn unig o ran gwasanaethau troseddau ieuenctid a menywod—ac mae'n rhaid inni edrych ar faterion dedfrydu, a ddaeth yn amlwg iawn yn adroddiad canolfan llywodraethiant Prifysgol Caerdydd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith a gaiff dedfrydau tymor byr ar ddarpariaeth unrhyw wasanaethau ailsefydlu sy'n ystyrlon—er enghraifft, ceir problemau arbennig yng ngharchar Caerdydd—ond gan gydnabod hefyd, o ran cyfiawnder ieuenctid, y ffaith bod gennym ran mor allweddol i'w chwarae.

Mae hyn yn rhannol er mwyn ymateb hefyd i'r cwestiynau blaenorol gan Leanne Wood am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i roi ar waith y modelau gwasanaeth a amlinellir yn y glasbrint. Mae potensial i sicrhau gostyngiad mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ogystal â chreu dulliau ataliol grymus ac arloesol. Felly, mae gennym gymaint o fewn ein pwerau a'n cyfrifoldebau ni. A dyna pam yr wyf yn edrych ymlaen at yr argymhellion a fydd, mi gredaf, yn y maes hwn, yn cael eu cyflwyno gan gomisiwn Thomas o ran gweithredu'r system gyfiawnder yng Nghymru i'r dyfodol.

Rwy'n falch iawn nad yw eich datganiad chi'n colli golwg ar adroddiad Corston a'i drywydd arloesol. Cyhoeddwyd adroddiad Jean Corston 12 mlynedd yn ôl, ac ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn. Mae angen i ni ein hatgoffa ein hunain mai'r hyn a ddywedodd Corston oedd mai dim ond y menywod hynny sy'n achos perygl i'r gymuned sydd angen eu carcharu, a chan hynny nid oes angen carchar i fenywod arnom ni yng Nghymru, gan y byddai cyn lleied ohonyn nhw na fyddai modd cyfiawnhau hynny. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw ychydig mwy am swyddogaeth canolfannau i fenywod, gan fod Llywodraeth y DU yn sôn am bump. Wel, nid ydym ni'n dymuno cael canolfannau menywod enfawr. Fe fyddem ni'n hoffi rhai sy'n galluogi i gymuned fechan o bobl ganolbwyntio ar adsefydlu ar gyfer bod yn gweithio ar y broses honno. Nid oes angen dim ond un arnom ni i Gymru, neu ddau; mae angen sawl un arnom ni, tra bod menywod yn cael eu sugno i mewn i'r system cyfiawnder troseddol o hyd. Ond mae'n amlwg bod angen cynlluniau peilot arnom ni i sicrhau ein bod ni'n gwybod pa batrwm sy'n gweithio orau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Yn amlwg, fe fyddai'n rhaid i fenyw sydd, er enghraifft, yn gaeth i ddibyniaeth ac sy'n cael ei sugno'n ôl i gangiau troseddwyr i werthu cyffuriau gael ei symud oddi wrth ddylanwad y criw hwnnw, fel arall fe fydd hi'n anodd iawn iddi gefnu ar hynny. Felly, gallai canolfan i fenywod gryn bellter i ffwrdd fod â rhan bwysig iawn yn hynny.

Ond yr hyn yr wyf i am ganolbwyntio arno yw rhan plant. Rydych chi wedi sôn eisoes am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwyddom fod plant carcharorion yn llawer mwy tebygol na neb arall o'u cael eu hunain yn y system cyfiawnder troseddol, oherwydd yr effaith ofnadwy y mae cael rhiant yn y carchar yn ei chael ar eu cyfleoedd nhw mewn bywyd. Felly, fe hoffwn i ddeall ychydig yn well pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi yn yr adolygiad hwn o adroddiad Arglwydd Farmer nid trwy ddim ond edrych ar y berthynas rhwng menywod a chadw cysylltiad â'u plant, ond, mewn rhai amgylchiadau, galluogi plant i fyw gyda'u mamau, nid dim ond rhwng eu geni a 18 mis, sef yr hyn sy'n bosibl ar hyn o bryd yn y system garchardai. Does dim rheswm pam na allai plant fyw gyda'u mam a mynd i'r ysgol a'r coleg a gweithio yn y ffordd arferol, dan yr amgylchiadau cywir, lle na fo'r menywod eraill yn y ganolfan yn fygythiad corfforol a threisgar i'r plant hynny.

Ond fe hoffwn i wybod ychydig bach mwy am ba mor radical y byddwn yn gallu bod o ran archwilio'r cynlluniau peilot yn y canolfannau i fenywod a sut y gallwn ni gael penderfyniad ynghylch lleoliad y ganolfan neu'r canolfannau menywod cyntaf yng Nghymru, cyn i ni weld y chwrligwgan cyson o Weinidogion carchardai. Hynny yw, roedd Rory Stewart yn Weinidog carchardai effeithiol iawn ac yn mynd i'r afael â materion gwirioneddol bwysig, fel swyddogion carchardai yn gwerthu cyffuriau mewn carchardai, ond sut allwn ni gyfnerthu'r gwaith da a wnaethpwyd os na bydd unrhyw Weinidog carchardai yn para'n hir iawn o gwbl? Ac yng nghyd-destun y gystadleuaeth am arweinydd sydd ar fin digwydd ymhlith y blaid Dorïaidd ar gyfer y Prif Weinidog nesaf, sut allwn ni ddechrau sefydlu'r ganolfan gyntaf i fenywod fel y gallwn ni gael gweld beth sy'n gweithio, beth sy'n gweithio i fenywod, a beth sy'n gweithio i blant ar gyfer lleihau'r lefel echrydus o lithro'n ôl i droseddu sydd gennym ni?

16:05

Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau a'r cwestiynau hollbwysig hynny. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at adroddiad arloesol Jean Corston 12 mlynedd yn ôl ar y mater hwn, ynglŷn â pha mor agored i niwed y mae menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rydych chi a Julie Morgan a Julie James, ac eraill ar draws y Siambr—Leanne Wood ac eraill—wedi codi'r materion hyn o ran sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn—a gyda chefnogaeth Alun pan oedd yntau yn y swydd weinidogol hefyd. Mae gormod o fenywod wedi cael eu hanfon i'r carchar, yn aml am y troseddau diannod lefel isel hynny. Mae effaith carcharu, fel y dywedais, wedi bod yn drychinebus iddyn nhw a'u teuluoedd, ac nid yw'n cyflawni dim o ran triniaeth, adsefydlu nac unrhyw-. Mae gwaith yn cael ei wneud-gan Lywodraeth y DU-i leihau nifer y menywod sydd yn y ddalfa am lai na 12 mis.

Ond heb y cyfleuster newydd o ganolfannau preswyl i fenywod, bydd tua 175 o fenywod o hyd ar unrhyw amser yn garcharorion am 12 mis, i ffwrdd o'u teuluoedd a'u cymunedau. Felly, mae'n rhaid i hyn ddod i ben, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd y cyfrifoldeb hwn bellach gyda'n pwerau ni a chyda'r glasbrintiau hyn heddiw, ac mewn cynlluniau gweithredu, sydd mewn gwirionedd wedi cael eu cefnogi nawr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Felly, dyma'r amser i wneud hyn, ni waeth beth fydd gwleidyddiaeth y dyfodol. Nawr yw'r amser i afael ynddi. Felly, mae'r ymateb, yn fy marn ni, ar draws y Siambr gan Aelodau Cynulliad yn werthfawr iawn o ran y neges y bydda i'n mynd â hi'n ôl at Weinidogion yn Llywodraeth y DU.

Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am adroddiad Arglwydd Farmer o ran plant, oherwydd rydym ni'n ystyried canolfannau preswyl i fenywod, ac rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar bwy all fod yn briodol ac yn gymwys ar gyfer y canolfannau hynny, ac mae angen i ni gyd-gynhyrchu i edrych ar—er enghraifft, rydym wedi cydweithio'n agos iawn â grŵp Menywod mewn Cyfiawnder Cymru a'u cyfraniad parhaus. Mae hwnnw'n cael ei gyd-gadeirio gan Ddirprwy Gomisiynydd yr heddlu a throseddu Heddlu De Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru. Ond hefyd, yn amlwg, rydym wedi gweithio gyda grwpiau ymgyrchu sy'n ymwneud â'r mater hwn, yn enwedig wrth fwrw ymlaen.

Mae'r Arglwydd Farmer wedi bod yn adolygu sut y gallwn ni gefnogi dynion yn y carchar yng Nghymru a Lloegr i ymgysylltu â'u teuluoedd er mwyn lleihau aildroseddu. Ond gofynnwyd iddo wneud darn pellach o waith a fydd yn ystyried a ellid addasu, ac ym mha fodd, pob un o argymhellion yr adolygiad ar gyfer troseddwyr benywaidd hefyd. Roedd hynny'n canolbwyntio ar ddynion yn y carchar yn wreiddiol, ond gofynnwyd i Arglwydd Farmer ehangu ei gylch gwaith a gwneud argymhellion ychwanegol ar gyfer menywod sydd ar ddedfrydau cymunedol a menywod yn y gymuned ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau. Felly, byddaf i'n parhau gyda hyn o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i blant. Yn fy marn i, nid oes raid inni fod yn ddeddfol ynghylch y pwynt hwn am batrymau posibl o ganolfannau preswyl i fenywod. Ond mae'n rhaid inni fod yn eglur iawn ynglŷn â'r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran cyswllt â phlant a chyda phlant o ran y canolfannau preswyl hynny i fenywod. Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau hynny.

16:10
5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r Ganolfan Fyd-eang ar Ragoriaeth Rheilffyrdd Cymru. Galwaf ar Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Mehefin 2018, dywedais wrth yr Aelodau fod yr achos strategol amlinellol dros gael canolfan fyd-eang o ragoriaeth rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gymeradwyo, ynghyd â chyllid ar gyfer datblygu prosiectau yn y cam nesaf. Hoffwn yn awr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sylweddol a fu hyd yn hyn. Rwy'n falch o ddweud y bydd sesiwn friffio dechnegol i Aelodau yn ystafell gynadledda B ar ddiwedd y datganiad hwn.

Yn unol â'r agwedd newydd tuag at ddatblygu economaidd y mae ein cynllun gweithredu economaidd yn ei nodi, mae'r prosiect hwn yn mynd â ni i gyfeiriad newydd iawn. Yn hytrach nag ymateb i anghenion busnesau unigol, mae hyn yn ateb i broblem ar draws y diwydiant. Fel yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch a gyda'r sefydliad ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd, fy nod yw creu cyfleuster a fydd yn denu hoelion wyth byd busnes ac yn eu hannog i fwrw gwreiddiau dwfn a gwerthfawr yma yng Nghymru.    

Fel yn achos yr enghreifftiau eraill yr wyf i wedi'u rhoi, dechreuwyd y prosiect hwn mewn ymateb i'r galw clir gan y diwydiant. Yn wir, mae'r angen am gyfleuster profi deinamig o safon fyd-eang i'r diwydiant rheilffyrdd, wedi ei leoli yn y Deyrnas Unedig, wedi cael ei drafod ers 15 mlynedd o leiaf, ond yn anffodus, ni fu fawr ddim datblygiad. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu na fu cynnydd am o leiaf dri rheswm: yn gyntaf, diffyg arweinyddiaeth, diffyg safle mawr iawn gyda'r caniatâd priodol, ac yn drydydd, anawsterau a chymhlethdod cynhenid datblygu achos busnes argyhoeddiadol mewn maes lle mae cymaint o wahanol randdeiliaid.  

Mae ein hymateb i'r heriau hyn wedi dangos arweinyddiaeth glir ac effeithiol, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol mewn llai na 12 mis drwy ddatblygu prosiect credadwy y gellir ei gyflawni, lleihau'r peryglon sydd ynghlwm â'r cyfle, a gosod y sylfeini ar gyfer cynnig y gellir buddsoddi ynddo mewn partneriaeth â diwydiant. Wrth gwrs, mae llawer i'w wneud eto.

Mae ein prosiect bellach yn canolbwyntio'n llawn ar y safle a ffefrir yng Nghwm Dulais, sef Onllwyn/Nant Helen, ac mae wedi bod drwy sawl cam peirianyddol yn ystod y misoedd diwethaf i lywio'r prif gynllun sy'n datblygu. Mae'r cynigion presennol, a fydd yn destun ymchwil, astudiaethau asesu effaith amgylcheddol ac ymgynghori pellach, yn cynnwys: oddeutu 7 cilomedr o drac prawf wedi'i drydaneiddio, gan roi uchafswm cyflymder llinell o 110 mya; cyfleuster profi seilwaith ar wahân ac unigryw sy'n cynnwys llwyfan a gorsaf; cyfleuster cynnal a chadw mawr gyda chyfarpar; storfeydd diogel ar gyfer 400 o gerbydau rheilffordd; cyfleuster dadgomisiynu; a chanolfan ymchwil a datblygu ac addysg, a fydd yn cynnwys labordai, gofod swyddfa a chyfleusterau hyfforddi mewn awyrgylch byrlymus ar wahan i'r rhwydwaith gweithredol.

Er y gallai dull gweithredu fesul cam fod yn ddewis doeth maes o law, gyda rhai o'r nifer o elfennau integredig yn cael eu darparu ar amserlen fwy datblygedig nag eraill, byddai'r cyfleuster hwn gwerth oddeutu £100 miliwn yn cyflogi tua 400 o bobl yn ystod y cyfnod adeiladu, a thros 150 o bobl yn barhaol pan fydd yn gwbl weithredol ym mhob agwedd. Mae'n werth nodi, Dirprwy Lywydd, bod prif gyfleuster profion yr Almaen, er iddi gael ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl, bellach yn cyflogi 500 o staff parhaol a 100 o beirianwyr achlysurol eraill sy'n gweithio ar brosiectau penodol. Yn gryno, mae'r gallu sbarduno ychwanegol a'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol yn sylweddol.

Rwyf wedi dweud erioed y bydd angen partneriaid cryf yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gyflwyno'r prosiect hwn, ac fe hoffwn i gyfeirio at y ddau ohonyn nhw heddiw. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y berthynas waith anffurfiol gref a chefnogol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol cyfagos Powys a Chastell-nedd Port Talbot wedi'i ffurfioli mewn cytundeb menter ar y cyd. Mae'r diben yn glir: gweithio mewn partneriaeth i ddarparu dyfodol y tu hwnt i waith glo a fyddai'n fodd o adfer y safle yn briodol—gofyniad statudol a oruchwylir gan Lywodraeth Leol—ynghyd â safle a gaffaelir yn y pen draw ar y sail y caiff ei baratoi'n addas ar gyfer adeiladu cyfleuster profi. Bydd hyn yn amlwg yn gofyn am ffordd ymlaen y cytunwyd arni gyda'r tirfeddiannwr presennol, Celtic Energy. Mae trafodaethau technegol cychwynnol ar y gweill, a dywedwyd wrthyf fod y trafodaethau hynny'n gadarnhaol ac yn adeiladol ar bob ochr.

Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn JVA hefyd yn cydweithio i ddatblygu a chyflwyno cais cynllunio ffurfiol ar gyfer y prosiect. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud eisoes, ac mae arolygon o'r effaith amgylcheddol wedi'u comisiynu. Rwyf wedi cael gwybod y dylai cais cynllunio ffurfiol fod yn barod i'w gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon neu'n gynnar yn 2020. Byddwn, wrth gwrs, yn ymgynghori'n eang â'r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill ar y cynigion cyn cyflwyno'r cais cynllunio.

Hoffwn ddiolch i'r awdurdodau lleol yr ydym ni'n cydweithio â nhw am eu hymdrechion hyd yma, a'u hannog i ddyblu eu hymdrechion, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru drwy'r cam nesaf yn y gwaith o ddatblygu'r prosiect.

Mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus mae diddordeb a chefnogaeth sylweddol i'n cynlluniau prosiect. Er enghraifft, yn Network Rail, mae'r gallu i brofi seilwaith y gellid ei ddarparu yng Nghymru yn agwedd arbennig ar drafodaethau cadarnhaol a pharhaus. Hoffwn nodi bod gan Network Rail raglen ymchwil a datblygu sylweddol ar y gweill rhwng 2019 a 2024, ac rydym ni'n ceisio ymgysylltu â Network Rail i ddod â rhan sylweddol o'r rhaglen honno yn rhan o'r ganolfan ragoriaeth.

Rwyf hefyd yn falch o nodi bod Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Rheilffyrdd y DU ac Innovate UK yn awyddus i weld ein huchelgais yn cael ei gwireddu, gyda chyfleoedd yma i gydweithio a chyd-ymwneud â phrifysgolion yng Nghymru a'r DU ehangach mewn modd fydd yn dwyn ffrwyth sylweddol. 

Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, a hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn gofyn am eu cefnogaeth. Mae'r ganolfan ragoriaeth yn cyd-fynd yn agos ag amcanion polisi Llywodraeth y DU yn ogystal â rhai Llywodraeth Cymru, yn enwedig nodau'r 'Strategaeth Ddiwydiannol: Bargen y Sector Rheilffyrdd', a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n anelu at:

'trawsnewid y sector rheilffyrdd drwy fynd ati i gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol, hybu cynhyrchiant, gwella'r gwasanaeth a dderbynnir gan y rhai sy'n defnyddio ein rheilffyrdd a meithrin sgiliau gweithlu'r DU er mwyn manteisio ar y cyfleoedd hynny'.

Dyma'n union yr hyn y bydd y ganolfan ragoriaeth yn ei wneud, a'r diwydiant rheilffyrdd sy'n dweud hynny.

Drwy gydol 2019, mae tîm y prosiect hefyd wedi bod yn rhan o broses eang o ymgysylltu â'r diwydiant preifat a chynnal profion marchnad cychwynnol. Mae'r ymateb gan y diwydiant rheilffyrdd wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Mae nifer o gwmnïau rheilffyrdd mawr, yn y DU ac yn rhyngwladol, wedi mynegi cryn ddiddordeb mewn ymuno â'r bartneriaeth a'r prosiect fel partneriaid neu fel buddsoddwyr. Ni fydd y prosiect hwn yn cael ei wireddu heb geisio cydweithio mewn difrif calon gyda'r diwydiant. Mae swyddogion bellach yn ystyried y ffordd fwyaf priodol o ffurfioli dull o gydweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd yn ei gyfanrwydd a fydd yn galluogi'r prosiect i fanteisio ar yr arbenigedd gorau sydd ar gael.

Y pwyslais yn y lle cyntaf fydd y dasg angenrheidiol o fireinio ymhellach y pwyslais o gael achos busnes creiddiol a sicrhau yr achubir ar bob cyfle yn effeithiol. Os ydym yn llwyddiannus yn yr ymdrech hon, ac nid oed unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd, bydd yr agweddau ariannol, masnachol, cyfalaf a gweithredol yn cael eu diffinio'n glir a, gobeithio, yn argyhoeddi.

Felly, mae fy neges i'r diwydiant rheilffyrdd a'n holl randdeiliaid heddiw yn un syml. Diolch am eich ymwneud cadarnhaol hyd yn hyn. Cytunwch â mi nawr y dylai'r blynyddoedd di-ri o drafodaethau di-ben-draw ddod i ben gyda hyn. Mae'n bryd symud y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol o gyboli a bodloni ar bethau. Cael canolfan rhagoriaeth rheilffyrdd byd-eang yma yng Nghymru yw'r cyfle gorau mewn cenhedlaeth i sicrhau ased rhyngwladol yma yn y DU a fydd yn sicrhau manteision enfawr i'r diwydiant rheilffyrdd am ddegawdau i ddod. Yn bwysig iawn, i bobl Cymru, mae hwn yn gyfle i greu swyddi o ansawdd uchel ac i adfywio'r economi leol. Parhewch i weithio gyda ni a gadewch i ni gyflawni hyn gyda'n gilydd.

16:20

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Cytunaf â chi ei fod yn brosiect uchelgeisiol, a fydd, rwy'n credu, yn creu adnodd rhagorol i'r diwydiant rheilffyrdd yma yng Nghymru ac yn cyfrannu at bwysigrwydd economaidd diwydiant rheilffyrdd y DU, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit, o ystyried y ffaith bod y prif gyfleusterau Ewropeaidd ar gyfer profi seilwaith a cherbydau ar y cyfandir.  

Rwy'n arbennig o falch bod fy sir fy hun, Powys, yn cydweithio ar y prosiect hwn, gyda Chastell-nedd Port Talbot yn bartneriaid hefyd. Darparwyd datganiad ysgrifenedig gennych chi am hyn y llynedd. A gaf i ofyn pa gynnydd a fu gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ac i gryfhau gwaith academaidd, ymchwil a datblygu yma yng Nghymru? Yn ail, fe wnaethoch chi ddweud eich bod am ystyried ymhellach sefydlu rhaglen ymchwil a chreu cadair newydd ar gyfer arloesi ym maes peirianneg rheilffyrdd mewn partneriaeth â'n prifysgolion yng Nghymru a phrifysgolion eraill ledled y DU, felly byddwn yn ddiolchgar clywed am y cynnydd a fu yn hynny o beth.  

O ran y cam nesaf ar ddatblygu achosion busnes, a gaf i ofyn am ragor o wybodaeth am ganfyddiadau'r achos busnes sy'n cael ei ddatblygu a'r amserlen ar gyfer cyhoeddi hynny? A allech chi hefyd ddarparu manylion am faint y buddsoddiad, ffynonellau cyllid y sector cyhoeddus a phreifat, a gwybodaeth am bartneriaid y sector cyhoeddus a'r diwydiant rheilffyrdd a fydd yn rhan o'r ganolfan ac sy'n gysylltiedig â hi? Sylwais ichi grybwyll yn eich datganiad fod nifer o gwmnïau rheilffyrdd mawr wedi mynegi cryn ddiddordeb mewn ymuno â'r prosiect fel partneriaid neu fuddsoddwyr. Felly, efallai y gallech chi ddweud ychydig yn fwy am hynny.

Ac yn olaf, a allech chi ymhelaethu ynghylch beth fydd y manteision economaidd cymdeithasol ehangach a ddisgwylir ar gyfer yr ardal a sut mae'r cynigion hynny'n berthnasol i feysydd polisi ehangach fel sgiliau, y cynllun gweithredu economaidd ac adfywio?

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am ei gefnogaeth a'i anogaeth o ran y prosiect pwysig hwn? Rwy'n credu, mae'n deg dweud, bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r prosiect, ac mae cryn gyffro drwy'r Siambr ac yn wir yn y rhanbarth a fydd yn elwa o'r ganolfan ragoriaeth hon a fydd gyda'r gorau yn y byd.

Soniodd Russell am y canolfannau Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae dau gyfleuster prawf, yn y Weriniaeth Tsiec ac yn yr Almaen ar hyn o bryd. Mae'r ddau wedi bodoli am gyfnod sylweddol. Mae'r diwydiant ledled Ewrop, ond yn enwedig yn y DU, wedi dweud mai dyma'r adeg i ddatblygu cyfleuster newydd, ac mae'r safle a ddynodwyd gennym ni yng Nghymru yn gwbl addas i'r hyn a fydd y gyntaf o'i math yn y DU ac, yn ôl pob tebyg, y cyfleuster gorau o'i fath yn Ewrop, o bosib ar y blaned.

Rydym ni eisoes wedi buddsoddi £1 miliwn i ddatblygu'r cynigion. Byddwn yn gwneud cynnydd pellach yn rhan o'r cam nesaf i asesu faint y bydd y sector preifat yn ei fuddsoddi, ond ar sail ein profion marchnad cychwynnol hyd yma, credwn y bydd holl gost adeiladu'r prosiect yn dod o'r sector ei hun. Yn amlwg, bydd sefydliadau academaidd yn dangos diddordeb, a bydd creu cadair peirianneg rheilffyrdd yn rhan o elfen ymchwil a datblygu'r prosiect a amlinellais yn fy natganiad.

Gobeithio, yn ystod y sesiwn friffio sydd i ddilyn, y caiff canfyddiadau'r achos busnes amlinellol eu rhannu gydag Aelodau, ond byddaf wrth gwrs yn dilyn hyn gyda rhagor o fanylion maes o law.

A holodd Russell George hefyd am fuddion cymdeithasol ac economaidd ehangach y prosiect hwn a sut mae'n cyd-fynd yn dda â'r cynllun gweithredu economaidd a chyda'n polisi sgiliau. Wel, yn gyntaf oll, gyda'r cynllun gweithredu economaidd, rydym ni wedi symud oddi wrth y pwyslais ar gymorth busnes unigol i edrych ar sut y gallwn ni greu ffyrdd o ddenu buddsoddiad a chyfleusterau sy'n atebion anghenion y diwydiant cyfan. Cyfeiriais at y sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd-ddwyrain, a fydd yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gyfansoddion a deunyddiau ysgafn ar gyfer y sectorau awyrofod a modurol. Dyna ichi M-SParc hefyd, sy'n cefnogi dyheadau'r ymgyrch Ynys Ynni ar Ynys Môn. Mae'r sefydliad ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y clwstwr yn enghraifft arall yn y de-ddwyrain. Gallwn grybwyll hefyd y cyfleuster ymchwil a datblygu dur ym Mae Abertawe, a chyfleuster arall o bwys sydd i'w chwblhau yn fuan iawn yw'r ganolfan gynadledda ryngwladol. Ac, wrth gwrs, o ran y diwydiannau creadigol, roeddem yn cefnogi datblygiad Wolf Studios, sydd eto'n un o'r cyfleusterau gorau o'i fath ar gyfer y sector arbennig hwnnw.

Mae'r cyfleusterau atyniadol hyn wedi'u cynllunio i greu buddsoddiad tymor hir yng Nghymru. Fe'u cynlluniwyd i asio'n berffaith â strategaeth ddiwydiannol y DU yn ogystal â'n polisi sgiliau. Ac, o fewn y tri rhanbarth sy'n llunio adroddiadau blynyddol partneriaethau sgiliau rhanbarthol, mae angen sicrhau bod y llif o ddarpariaeth sgiliau yn cefnogi'r prosiectau atynu hyn. Felly, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, byddwn yn disgwyl i'r cynllun sgiliau blynyddol ar gyfer y rhanbarth a fydd yn elwa fwyaf o'r ymyriad hwn roi sylw i'r angen i sicrhau bod cynifer o bobl yn y rhanbarth hwnnw â phosib wedi dysgu'r sgiliau i weithio yn y cyfleuster prawf.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn werth dweud, er ein bod ni wedi amcangyfrif y bydd oddeutu 150 o swyddi parhaol, fod y nifer yn fwy o lawer yn yr Almaen, ac y bydd nifer sylweddol iawn hefyd, rydym ni'n disgwyl y bydd—cannoedd—o is-gontractwyr, gweithwyr allanol ac arbenigwyr y diwydiant yn mynychu'r safle yn rheolaidd iawn, a bydd hynny yn ei dro yn cefnogi datblygiad yr economi ymwelwyr, sydd wrth gwrs yn bwysig iawn i'r ddwy ardal awdurdod lleol sydd wedi ffurfio'r cytundeb cyd-fenter â Llywodraeth Cymru.

16:25

A allaf i groesawu'r datganiad yma ac a allaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am wneud y datganiad, a hefyd croesawu'r weledigaeth ehangach sydd yma o gael canolfan rhagoriaeth rheilffyrdd yma yng Nghymru? A dŷn ni yn sôn am botensial o fuddsoddiad enfawr yn fan hyn, os am wireddu'r dyhead yna, ac mae'r weledigaeth yna i'w chroesawu'n fawr iawn, achos dŷn ni'n sôn am Onllwyn yn fan hyn, yr Onllwyn ar dop dyffryn Dulais yn fanna, ac mae gwir angen buddsoddiad ac mae gwir angen y swyddi. Felly, yn nhermau materion craffu rŵan—a dwi'n sylweddoli bod yna gyfarfodydd i ddilyn a fydd yn olrhain manylion y prosiect yma i ni fel Aelodau'r Cynulliad, ond yn nhermau ymateb, ac yn nhermau craffu bras nawr ar y datganiad rŷch chi wedi'i gyhoeddi y prynhawn yma, a allwch chi amlinellu rhagor o fanylion ariannol? Hynny yw, yn y bôn, faint o'r risg ariannol ydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn ei rhoi i hyn? Faint o'r arian rydych chi'n gallu ei gyhoeddi heddiw fydd yn dod yn uniongyrchol o goffrau Llywodraeth Cymru i hyn? Dyna'r cwestiwn cyntaf.

Yn nhermau'r posibilrwydd efo Brexit o adael Ewrop heb ddim cytundeb o gwbl, ac yn dilyn y cwestiynau dŷch chi wedi'u cael eisoes gan Russell George, wrth gwrs, mae yna bartneriaeth yn fan hyn efo gwledydd ar gyfandir Ewrop. Pa fath o sgil-effeithiau ydych chi'n eu rhagweld, os bydd yna adael Ewrop heb ddim cytundeb o gwbl, ar y weledigaeth fawr yma o'n blaenau ni y prynhawn yma?

Wrth gwrs, dŷn ni yn croesawu buddsoddiad, achos cefndir hyn i gyd, fel dŷch chi'n gwybod, achos rŷch chi wedi olrhain rhai o'r ffigurau yma eich hunan, ydy'r diffyg buddsoddiad ariannol yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru dros y blynyddoedd—mae'r Gweinidog yn gyfarwydd iawn efo hyn. Yn enwedig rhwng 2011 a 2016, fe wnaeth rheilffyrdd Cymru dderbyn dim ond 1 y cant o'r cyllid i wella'r rheilffyrdd, er bod rheilffyrdd Cymru yn ffurfio 11 y cant o rwydwaith y Deyrnas Unedig. Hynny yw, yn y bum mlynedd yna, dim ond £198 miliwn allan o gyllideb o £12.2 biliwn—dim ond y £198 miliwn yna wnaeth rheilffyrdd Cymru dderbyn dros y bum mlynedd. Mae'r sefyllfa yna yn echrydus o wael.

Wrth gwrs, hefyd yn y cyfnod hwnnw roedd rheilffyrdd Cymru wedi cael eu tan-ariannu gan £1 biliwn, tra bod yna buddsoddi llawer mwy yn ardaloedd Lloegr—er enghraifft, £30 biliwn ar Crossrail 2 ac yn y blaen. Mae'n wir i ddweud, pe bai gwariant y pen yng Nghymru ar y rheilffyrdd yn cyd-fynd â gwariant y pen ar y rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Lloegr, byddai £5.6 biliwn ychwanegol wedi'i fuddsoddi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol y Deyrnas Unedig.

Felly, mae yna golled mewn buddsoddiad ariannol i'w wneud i fyny amdano fe, felly os ydyn ni'n gallu sicrhau canran o beth dŷn ni wedi colli allan arno fe, fel gwlad, dros y blynyddoedd diwethaf yma fel buddsoddiad i'n rheilffyrdd, bydd hynny i'w groesawu. Dyna pam, fel plaid, dŷn ni yn croesawu'r datblygiad yma, achos dŷn ni'n ei weld o fel buddsoddiad positif yn ein rheilffyrdd ni ac yn ein trenau ni, ond yn benodol yn ein rheilffyrdd ni—ein rheilffyrdd ni sydd wedi gorfod dioddef tanwariant ers blynyddoedd maith. Diolch yn fawr.

16:30

Diolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau a'i gyfraniad. Mae hi, wrth gwrs, yn weledigaeth feiddgar iawn—mae gennym ni uchelgeisiau sylweddol ar gyfer y sector rheilffyrdd yng Nghymru, ynghyd â'r daith o £5 biliwn yr ydym ni wedi dechrau arni gyda Trafnidiaeth Cymru, gan gyflwyno masnachfraint newydd ar gyfer Cymru a'r gororau, a'r rhaglen metro enfawr a thrawsnewidiol yn y de-ddwyrain, ynghyd â'r sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch a fydd yn rhoi hwb o £4 biliwn i werth ychwanegol crynswth economi Cymru, ac ar y cyd â datblygiad y ganolfan gynadledda ryngwladol a llawer o ddatblygiadau atyniadol eraill sydd naill ai'n cael eu darparu neu eu cynllunio. Rydym ni'n credu ein bod yn cyflawni amcanion y cynllun gweithredu economaidd, sy'n ymwneud â chreu'r amgylchiadau, y cyfleusterau a'r cyfleoedd i gymell y sector preifat i fuddsoddi cymaint â phosib mewn cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy hirdymor yng Nghymru. 

Gofynnodd Dai Lloyd y cwestiwn pwysig iawn am y gofyniad ariannol a'r risg ariannol i'r trethdalwr, i bwrs y wlad. Hoffwn petai'r Gweinidog Cyllid yma i allu fy nghlywed yn dweud hyn yn glir iawn, ond nid wyf yn disgwyl i'r trethdalwr dalu am y cyfleuster enfawr hwn—y cyfleuster trawsnewidiol hwn. Ar sail yr holl brofion marchnad cychwynnol yr ydym ni wedi eu gwneud hyd yn hyn mentrwn ddweud yn hyderus y bydd hwn yn gyfleuster y bydd y sector ei hun yn talu amdano. Wedi dweud hynny, mae Dai Lloyd yn gywir i nodi'r perygl o Brexit heb gytundeb. Byddai Brexit heb gytundeb, wrth gwrs, yn creu anawsterau o ran gallu cael cerbydau o gyfandir Ewrop yma ac yn ôl yn gyflym. Fodd bynnag, mae galw mawr am gyfleusterau o'r math hwn ledled yr Undeb Ewropeaidd ac, at hynny, mae digon o alw yn y sector Prydeinig, y farchnad Brydeinig ei hun, i gyfiawnhau creu cyfleuster profi o'r maint hwn. Ac felly rwy'n ffyddiog y bydd yn llwyddo, waeth beth fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf.

Mae Dai Lloyd yn gywir hefyd i fyfyrio ar yr hyn a allasai fod pe byddai Cymru wedi cael yr hyn y dylai hi fod wedi elwa arno o ran y seilwaith rheilffyrdd, ac mae £1 biliwn yn ffigur arwyddocaol iawn, buddsoddiad enfawr y gellid ac y dylid bod wedi'i wneud yn nhraciau rheilffyrdd, gorsafoedd a chroesfannau ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau. Dyna pam fy mod i'n gobeithio y bydd yr Ysgrifenyddion Gwladol dros drafnidiaeth a strategaeth busnes a diwydiant yn cydnabod o ddifrif manteision lleoli'r cyfleuster arbennig hwn yng Nghymru, ac yn ei dro, ac wrth wneud hynny, yn sicrhau y bydd y cyfleuster arbennig hwn yn elwa o gytundeb y sector rheilffyrdd, ac y bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi hynny drwy sicrhau bod cyllid arloesi'n cael ei gyfeirio tuag ato. 

16:35

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac rwy'n croesawu yn fawr y weledigaeth ar gyfer y ganolfan newydd ym mhen uchaf Cwm Dulais, fel y dywedodd Dai Lloyd, ardal sydd, yn amlwg, â hanes o fwyngloddio ac sydd bellach yn ystyried datblygu cyfeiriad newydd yr hoffech chi fynd iddi yn fy etholaeth gyfagos yng Nghastell-nedd?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at rai pwyntiau rwy'n credu, yr hoffwn i sôn wrthych chi yn eu cylch, ac rwy'n croesawu gweledigaeth cynghorau Castell-nedd Port Talbot a Phowys hefyd wrth gydnabod y cyfleoedd a ddaw yn sgil prosiect o'r fath, a bydd cydweithio yn hyn o beth yn hollbwysig yn y dyfodol, ac rwy'n falch iawn eu bod wedi ymuno â Llywodraeth Cymru mewn cytundeb ar y cyd. Y cwestiynau yr hoffwn i eu holi: fe wnaethoch chi sôn am brifysgolion—pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda phrifysgolion er mwyn iddyn nhw fod yn ymwybodol ac fel y byddant yn cymryd rhan yn y gwaith datblygu a'r agweddau ymchwil y mae hyn yn eu cynnig? Oherwydd os ydych chi'n sôn am gadair, mae'n gyfle ledled y Deyrnas Unedig i'r prifysgolion hynny, ond a ydych chi wedi cael trafodaethau gyda phrifysgolion Cymru a'r DU o ran y cyfleoedd?  

A ydych chi wedi edrych ar gyllid ymchwil y DU? Rydych chi'n sôn am ariannu ymchwil arloesol yn y DU, ac yn amlwg bydd yn rhaid i'r DU roi rhywfaint o arian at hyn—nid wyf yn sôn am gyllid yr UE yn awr; rwy'n sôn am ariannu arloesi yn y DU—i edrych ar sut maen nhw'n mynd i ystyried y cyfle hwn, fel y gallan nhw fuddsoddi mewn gwirionedd yn hyn?

Mae sôn am Network Rail yma, ac rydych chi eisiau i Network Rail edrych mewn gwirionedd ar eu rhaglen a sut y gallwn ni fod yn rhan o hynny. Faint o drafodaeth a fu o ran sut y bydd Network Rail yn ystyried cymryd rhan yn y prosiect hwn? Ac a ydyn nhw'n mynd i ymrwymo eu hunain ar ryw adeg i ddweud mewn gwirionedd, 'byddwn, byddwn yn defnyddio'r ganolfan hon yn rhan o'n rhaglen hefyd'? Mae hynny'n mynd i fod yn hollbwysig, rwy'n credu, i'r dyfodol.

Hoffwn ofyn hefyd am fesur rheilffyrdd. Rydym ni i gyd yn meddwl mai un trac yw'r rheilffordd, ond, mewn gwirionedd, mae sawl mesur ar gael. A fydd y ganolfan yn edrych ar sawl mesur neu fesur unigol? A yw'n mynd i ystyried cludo nwyddau yn ogystal â theithwyr? A yw'n mynd i ystyried rheilffyrdd o wahanol fesuriadau, oherwydd os ydych chi'n mynd i ddenu buddsoddiad Ewropeaidd a chwmnïau o Ewrop, efallai y bydd angen ichi edrych ar wahanol fesuriadau i ddiwallu eu hanghenion hwythau hefyd? Felly, a fydd y ganolfan yn gwahaniaethu o ran y mesur a ddefnyddir, ac, o ganlyniad, a ydych chi wedi meddwl am hynny yn y cais cynllunio? Mae'n iawn dweud ein bod ni'n mynd i gael cais cynllunio, ond beth yw'r diben? Ai ar gyfer y trac yn unig y mae, ai ar gyfer y seilwaith cyfan, ai ar gyfer y ganolfan gynnal a chadw? A fydd y cais cynllunio yn un cyfan, neu a fydd yn dameidiog yn yr ystyr hwnnw hefyd?

Ac yn olaf, a thynnodd Russell sylw at hyn, ac rwy'n credu ei fod yn bwysig—yr agenda sgiliau. Bydd hyn, os bydd yn llwyddiannus ac yn gweithio, fel y gwnaethoch chi ddweud, yn creu 150 o swyddi parhaol yn y lle cyntaf, swyddi medrus iawn, y bydd rhai ohonyn nhw, ac, fel y gwnaethoch chi ddweud, mae gan y canolfannau cyffelyb yn Ewrop hyd at oddeutu 400. Byddan nhw eisiau cael cyfleuster mwy newydd; os oes un newydd sbon o fewn cyrraedd iddyn nhw, byddant yn rhoi ystyriaeth i hynny. Felly, yn y pen draw fe allem ni weld tipyn o ehangu o ganlyniad i hyn. A ydych chi wedi rhoi cynlluniau ar waith i ddatblygu sgiliau'r gweithlu presennol yn yr ardal, a hefyd y sgiliau i raddedigion mewn prifysgolion a fydd yn rhan o'r cynllun hwn, er mwyn sicrhau y gallwn ni nid yn unig gael cyfleusterau, ond y gallwn ni gael y bobl a fydd mewn gwirionedd yn gweithio yno?

A gaf i ddiolch i David Rees am ei gwestiynau ac, unwaith eto, am ei gefnogaeth i'r prosiect hwn hefyd, a fydd yn dod â manteision aruthrol i Gwm Dulais? Bydd yn trawsnewid cyfleoedd i lawer o bobl, yn ifanc a heb fod mor ifanc, yng Nghwm Dulais, sy'n chwilio am swyddi o safon uchel sy'n talu cyflogau da. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd rhwng cynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru. Nid dyma'r unig fenter ar y cyd ac nid dyma'r unig bartneriaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol ledled Cymru—mae llawer o bartneriaethau eraill, fel y bartneriaeth sy'n ymwneud â gorsaf fysiau Caerdydd, y bartneriaeth yng Nghasnewydd, lle bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector preifat ar y ganolfan gynadledda ryngwladol, a'r bartneriaeth yr ydym ni wedi gallu ei ffurfio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghylch y gyfnewidfa drafnidiaeth yn Wrecsam. Rwy'n awyddus, lle bynnag a phryd bynnag y bydd hynny'n bosib, i gydweithio ar greu cyfleusterau a chyfleoedd a sicrhau ein bod yn cynllunio'r amgylchiadau lle gall busnesau ffynnu gyda'i gilydd. Mae'r brwdfrydedd a ddangoswyd gan Gastell-nedd Port Talbot a Phowys wedi creu argraff anhygoel arnaf.

Eisoes, mae'r sector yn cydweithio'n agos iawn â llawer o brifysgolion ledled y DU ac mae trafodaethau ar y gweill rhwng y sector a phrifysgolion ynghylch sut y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ymchwil, datblygu ac arloesi yn y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, oherwydd agosatrwydd Prifysgol Abertawe at y lleoliad penodol hwn, rwy'n credu y bydd manteision enfawr i'r sefydliad hwnnw. Ond ni fydd yn gyfyngedig i Brifysgol Abertawe yn unig. Mae arnaf eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn denu'r gorau a'r mwyaf disglair ond ein bod hefyd yn creu cynifer o gyfleoedd ar gyfer ein prifysgolion ein hunain, ac mae'n rhaid dweud hefyd, ar gyfer ein sefydliadau addysg bellach a'r cyrff hynny sy'n cynnig cynlluniau dysgu sy'n seiliedig ar waith. Rwy'n credu y bydd hi'n gwbl hanfodol i'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn y rhanbarth ystyried y prosiect penodol hwn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau y gall digonedd o bobl fedrus ei wasanaethu ac, yn wir, yn elwa ohono.  

Hoffwn gyfeirio Dai Rees at fy natganiad o ran y gwaith gydag Innovate UK a Network Rail, ond y cam nesaf fydd cynnal dadansoddiad hyfywedd o brosiectau technegol gyda'r diwydiant rheilffyrdd yn ei gyfanrwydd. Dyma'r ymarferiad a fydd, os yw'n llwyddiannus—ac mae pob argoel hyd yma'n dangos y bydd yn llwyddiannus—yn gwneud yr achos buddsoddi yn un grymus iawn yn wir. Rydym ni ar hyn o bryd yn ceisio cyngor cyfreithiol ar y dewisiadau caffael ar gyfer y gwaith dadansoddi hwn. Dylid dweud hefyd, Dirprwy Lywydd, fod potensial y prosiect hwn i greu swyddi cynaliadwy mewn ar hen safle glo yn hynod o ddeniadol. Ond dydym ni ddim yn mynd i orffwys ar ein rhwyfau a disgwyl i'r cyhoedd ei gefnogi'n ddifeddwl. Yn wir, bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys ymgynghori manwl ar bob agwedd ar y prosiectau—yr agweddau hynny a nododd David Rees—y cyfleusterau, y trac ei hun, y cyfleoedd ymchwil a datblygu, y ganolfan a fydd yn sicrhau y caiff cyfleusterau addysg eu creu. Ac felly, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol yn ogystal â gyda'r grŵp adfywio lleol a'r gymuned leol, i sicrhau bod pawb yn gwbl ffafriol a chefnogol o'r ymyrraeth benodol hon.

Ac yna, mae cwmpas yr hyn y mae'n ei gynnig—holodd Dai Rees am fesuriadau'r trac ac am gludo nwyddau—wel, bydd cwmpas yr hyn y bydd yn ei gynnig yn dibynnu ar faint o ddiddordeb fydd gan y diwydiant rheilffyrdd ei hun. Ond rwy'n benderfynol o sicrhau, pan fyddwn ni'n cyflwyno'r cais cynllunio ar ddiwedd y flwyddyn hon neu ddechrau 2020, y bydd yn cynnwys yr holl elfennau yr wyf i wedi'u nodi yn fy natganiad ac y gobeithiaf y bydd yr holl Aelodau'n manteisio ar y cyfle i gael rhagor o wybodaeth amdanynt ar ôl y datganiad hwn.

16:40

Rwy'n ategu'r gefnogaeth drawsbleidiol ac, yn wir, y brwdfrydedd a'r cyffro ar gyfer y prosiect hwn. A gaf i ofyn i'r Gweinidog fod ychydig yn gliriach ynghylch pwy sy'n bwrw ymlaen â hyn? Mae gennym ni'r fenter hon ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r ddau gyngor lleol, sy'n gadarnhaol iawn. Fe wnaethoch chi sôn gynnau am gyflwyno'r cais cynllunio—a allaf i gasglu o hynny mai'r cyd-fenter a fydd yn gwneud y cais cynllunio hwnnw? Pwy yn y sector fydd yn rhan o hynny? Mae'n wych clywed y byddant yn ei ariannu, ond, pan fydd y Gweinidog yn siarad am y sector, wn i ddim a yw hynny'n golygu Network Rail, Trafnidiaeth Cymru, cwmni trenau, neu eraill sy'n gysylltiedig â hynny. Pwy mae'n disgwyl iddo dalu am hyn? Ac hefyd—ac, o ran hyn, rwy'n llwyr ddeall os yw sensitifrwydd masnachol yn ei atal rhag dweud popeth y mae'n ei wybod efallai, ond beth yw rhan y tirfeddiannwr presennol, sef Celtic Energy, rwy'n credu? A ydych chi'n disgwyl iddyn nhw barhau'n bartner tymor hir yn y prosiect, neu a yw'n debygol, ar ryw adeg, y bydd rhywun arall yn prynu'r tir ac yn bwrw ymlaen â hyn?

Yn olaf, rydych chi'n dweud bod yna gyfleuster profi yn yr Almaen ar hyn o bryd, ond does gennym ni ddim byd tebyg i hyn yn y DU. I'r graddau bod angen profion, cymeraf fod rhywfaint o hynny wedi bod yn digwydd yn yr Almaen a allai ddigwydd fel arall yn y DU, ond a yw hefyd yn wir fod angen cynnal profion yn awr ar linellau byw a allai fod yn digwydd fel arall ar y trac 7 cilomedr hwn, ac a fyddwn ni o leiaf ar y cyrion yn gallu edrych ymlaen at ychydig llai o aflonyddwch peirianyddol pan fydd y cyfleuster hwn gennym ni, os bydd yn gweld golau dydd?

16:45

Wel, mae Mark Reckless yn hollol gywir y gall profion rheilffyrdd fyw fod yn drafferthus ac felly mae cael cyfleuster prawf 7 km, y gellir profi trenau i hyd at gyflymder o 120 milltir yr awr arno, yn ddymunol dros ben, nid i'r gweithredwyr a'r gweithgynhyrchwyr yn unig ond hefyd i deithwyr. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru a minnau, y Gweinidog sy'n gyfrifol, wedi bod yn meithrin y prosiect arbennig hwn, ond bellach rydym ni wedi ffurfio'r cytundeb cyd-fenter â Phowys a Chastell-nedd Port Talbot ac, yn gyfochrog â hynny, byddwn yn gweithio ar y cyd â'r tirfeddiannwr presennol, Celtic Energy, i sicrhau'r holl ddewisiadau angenrheidiol, yr holl ffurflenni tir a'r caniatâd angenrheidiol er mwyn caniatáu i'r prosiect rheilffyrdd fynd yn ei flaen yn brydlon. Ac felly, o'r dyddiad hwn ymlaen, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth lawn.

O ran y sector—ac wrth hynny rwy'n golygu ein bod ni wedi ymgysylltu'n helaeth â gweithredwyr rhwydwaith, â gweithgynhyrchwyr cerbydau, â gweithredwyr cerbydau—ar hyn o bryd mae'r gost o anfon cerbydau o un wlad Ewropeaidd i'r Weriniaeth Tsiec neu'r Almaen yn sylweddol iawn, a gall gostio degau o filoedd o bunnoedd dim ond i anfon trên, cerbyd, o Sbaen i'r Almaen. Gyda'r cyfle, er enghraifft, i CAF, a leolir yng Nghasnewydd, i ddefnyddio cyfleuster nid nepell i lawr y rheilffordd i'r gorllewin, gallem weld manteision economaidd enfawr i'r gweithgynhyrchwyr arbennig hynny hefyd gan y bydd yr arbedion iddyn nhw yn sylweddol yn wir. A dyna pam ein bod ni'n credu, yn y farchnad Brydeinig yn unig, fod cefnogaeth enfawr a digonol i'r prosiect fynd yn ei flaen, ond byddai'r hwb ychwanegol o allu denu gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr o bob cwr o Ewrop yn rhywbeth, rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn ei groesawu.

Yn y dyfodol, o ran perchenogaeth yr ased, wel, bydd hynny'n cael ei bennu drwy'r cytundeb cyd-fenter law yn llaw â'r rhai a fydd yn talu amdano, a'r rhai a fydd yn talu amdano fydd gweithgynhyrchwyr a gweithredwyr y diwydiant eu hunain.

6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gynllun y Grŵp Arbenigwyr ar Ddiogelwch Adeiladau

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—ymateb Llywodraeth Cymru i gynllun y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau—a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n bwriadu bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol o waith i wella diogelwch trigolion sy'n byw mewn adeiladau risg uwch yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru enw da o ran hybu diogelwch tân. Dirprwy Lywydd, fel y gwyddoch chi'n sicr, ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i fynnu cael chwistrellwyr dŵr mewn pob tŷ a fflat newydd eu hadeiladu a'u haddasu. Rwyf eisiau sicrhau ein bod yn datblygu'r sail gref hon a bod Cymru yn parhau i fod yn arweinydd o ran cadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.

Fel y dywedais dro ar ôl tro, fodd bynnag, ni ddylid llaesu dwylo. Mae hyn ar flaen fy meddwl wrth ymateb i gynllun y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn holl argymhellion y grŵp arbenigwyr mewn egwyddor. Byddwn yn gweithio nawr i ymdrin â nhw cyn gynted ag y gallwn ni, ond ni fyddwn yn rhuthro'r gwaith pwysig hwn. Fel y mae'r grŵp arbenigwyr wedi dweud yn ei gynllun, mae angen dull ystyriol a chydlynol a bydd yn cymryd amser i wneud hyn yn iawn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â rhaglen gynhwysfawr o waith i ddiwygio'r system reoleiddio o ran adeiladau risg uwch yng Nghymru. Caiff hyn ei gyflwyno fesul cam dros y tymor Cynulliad hwn a'r un nesaf. Byddaf yn sefydlu amserlenni ymestynnol ac amcanion clir fel canllaw i Lywodraeth Cymru a'n rhanddeiliaid o ran sut y dylen nhw fynd ati. 

Yn y lle cyntaf, byddwn yn sicrhau gwelliannau ar unwaith. Cyn y diwygio a fydd yn fwy pellgyrhaeddol, byddwn yn canolbwyntio ar greu newid mewn diwylliant a gwneud i'n prosesau presennol weithio'n fwy effeithiol i sicrhau diogelwch preswylwyr. Byddwn yn cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol i gefnogi hyn lle bo angen. Rwyf eisoes wedi nodi fy mod yn bwriadu cyflwyno gwelliannau i'r rheoliadau adeiladu er mwyn gwahardd defnyddio deunydd gorchuddio llosgadwy erbyn diwedd yr haf. Rwyf hefyd yn awyddus, fel y dywedais fis diwethaf, i hybu ôl-osod systemau chwistrellu dŵr. Gwyddom fod systemau o'r fath ymhlith y mesurau mwyaf effeithiol i atal marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod eu presenoldeb yn lleihau'r gost a'r difrod a achosir gan dân yn sylweddol. Felly, nid yn unig bod rheidrwydd moesol ar berchnogion adeiladau i osod chwistrellwyr, ond mae rhesymau masnachol cadarn dros wneud hynny hefyd.

Byddwn yn sicrhau bod y neges hon yn cael ei chlywed yn glir yn ystod y misoedd nesaf. Er mwyn ystyried datblygiadau yn y farchnad, byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer systemau chwistrellu niwl dŵr. Byddwn hefyd yn ail-lansio'r 'Canllaw i Ddeiliaid Tai ar Systemau Chwistrellu', a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2015, yn yr hydref. Ar y cyd â'r gwasanaeth tân ac achub, byddwn yn bwrw ymlaen ag ymgyrch wedi'i thargedu i godi ymwybyddiaeth o'r canllawiau hyn ac i annog ôl-osod systemau chwistrellu mewn adeiladau uchel iawn yn y sector preifat. Ar yr un pryd, byddwn hefyd yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddatblygu'r cynnydd cadarn a wnaed hyd yn hyn o ran gosod chwistrellwyr mewn adeiladau uchel iawn yn y sector cymdeithasol.

Byddaf hefyd yn cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth bresennol i wneud awdurdodau tân ac achub yn gyrff ymgynghori statudol yn y broses gynllunio. Mae hwn yn gam pwysig o ran rheoli newidiadau mewn lefelau risg tân lleol. Gan fod pob cais cynllunio sylweddol yn codi materion fel mynediad ar gyfer peiriannau tân, bydd ein cynigion yn mynd llawer ymhellach nag adeiladau uchel iawn, a bwriadaf ymgynghori ar y manylion yn ddiweddarach eleni. Bydd y newid uchelgeisiol hwn yn sefydlu'r egwyddor o gydweithio rheoleiddiol rhwng awdurdodau lleol a'r gwasanaeth tân ac achub, a fydd yn nodweddu'r system newydd yng Nghymru.

Yn ogystal â'r newidiadau hyn, byddwn yn datblygu pecyn uchelgeisiol o ddiwygiadau rheoleiddiol ar gyfer y dyfodol. Mae fy swyddogion yn sefydlu dwy ffrwd waith, a fydd yn cynnwys aelodau o'r grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau yn ogystal ag ymarferwyr eraill o Gymru a thu hwnt. Bydd un ffrwd waith yn ystyried y cyfnod dylunio ac adeiladu. Un o'r tasgau allweddol sy'n wynebu'r ffrwd waith hon fydd mireinio ac arbrofi gyda phroses rheoli adeiladu hollol newydd ar gyfer adeiladau risg uwch. Bydd hyn yn adeiladu ar yr egwyddorion a amlinellir yng nghynllun y grŵp arbenigol. Mae hyn yn cynnwys yr angen am drefn arolygu fwy cadarn, pwyntiau atal, a rhan ganolog y gwasanaeth tân ac achub mewn cyfnodau allweddol. Bydd y ffrwd waith hefyd yn cyfrannu at gynigion deddfwriaethol cynhwysfawr i ddiffinio swyddogaethau a chyfrifoldebau deiliaid dyletswydd i unioni'r diffyg atebolrwydd clir am ganlyniadau diogelwch yn y system bresennol. Mae'r rhain yn debygol o adlewyrchu gofynion Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, sydd wedi trawsnewid iechyd a diogelwch yn y diwydiant adeiladu.

Bydd y ffrwd waith arall yn canolbwyntio ar reoli a rheoleiddio diogelwch tân mewn adeiladau risg uwch pan fydd pobl ynddynt. Unwaith eto, bydd y ffrwd waith hon yn llunio swyddogaethau clir i ddeiliaid dyletswydd. Byddai hefyd yn ystyried ffurf deddfwriaeth i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân presennol, a gynlluniwyd yn bennaf ar gyfer gweithleoedd ac nad yw'n diogelu anheddau preifat yn ddigonol. O gofio y bydd hyn yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol, mae'n annhebygol y byddwn yn gallu cwblhau'r gwaith hwn yn ystod y tymor Cynulliad presennol. Lle bo'n bosib, fodd bynnag, byddwn yn defnyddio ein pwerau presennol i wneud rheoliadau o dan y Gorchymyn a chyhoeddi canllawiau fel mesurau dros dro. Un o gryfderau dull gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yn hyn yw ein gallu i gysylltu gwahanol gyfnodau o gylch bywyd yr adeilad gyda'i gilydd. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad cynnar i ddiwygio neu ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân fel elfen allweddol o'n pecyn diwygio.

Bydd ffrwd waith y cyfnod meddiant hefyd yn ystyried sut i wella swyddogaeth preswylwyr drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn derbyn gwybodaeth glir am ddiogelwch tân yn eu hadeilad. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn gyda Chartrefi Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â'u cymdeithasau tai sy'n aelodau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid yn y sectorau cymdeithasol a phreifat i sicrhau bod yr arferion gorau a nodwyd yn cael eu hymgorffori mor eang â phosib.

Byddwn hefyd yn mynd i'r afael â materion o arwyddocâd cyffredinol sy'n cynnwys holl gylch bywyd yr adeilad. Un agwedd hanfodol ar gyfnod gwaith cychwynnol Llywodraeth Cymru fydd diffinio'r ystod o adeiladau o fewn y cwmpas diwygio. Mae'r grŵp arbenigol wedi ei gwneud hi'n glir nad yw'r trothwy uchder o 30m a gynigiwyd gan y Fonesig Judith Hackitt yn ei hadolygiad yn ddigon manwl yn y cyd-destun Cymreig. Cytunaf y gallwn ni ac y dylem ni fynd ymhellach o ran dod ag adeiladau ychwanegol o fewn y cwmpas. Am y rheswm hwn, byddwn yn ystyried cynigion arfaethedig Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân mewn cysylltiad â matrics risg adeiladu. Byddwn hefyd yn comisiynu ein hymchwil ein hunain i'r ystod lawn o oblygiadau pob un o'r dewisiadau arfaethedig a gyflwynwyd gan y grŵp arbenigol yn ei gynllun. Roedd y rhain yn cynnwys trothwyon uchder naill ai o 18m neu 11m, yn ogystal â'r posibilrwydd o gynnwys adeiladau ychwanegol ar sail ffactorau risg yn hytrach nag uchder.

Mae hi yn bwysig ein bod yn gwneud penderfyniad ystyriol sy'n cydbwyso cymesuredd â'r angen i sicrhau diogelwch preswylwyr. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn gyflym a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pendant ar gynnig ar gyfer adeiladau a fydd o fewn y cwmpas yn yr hydref. Rwy'n glir, fodd bynnag, na fydd y trothwy yn uwch na 18m. Byddwn yn ymgynghori ar gwestiwn yr adeiladau o fewn y cwmpas, ynghyd ag ystod eang o gynigion manwl eraill ar gyfer diwygio, yn haf 2020. Bydd hyn gyda'r bwriad o gael deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad nesaf.

Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn uchelgeisiol ac yn bellgyrhaeddol. Bydd yn nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau diamwys ar gyfer deiliaid dyletswydd drwy gydol oes yr adeilad. Bydd yn gwneud gwiriadau diogelwch tân cadarn yn orfodol. Bydd yn sefydlu system newydd o oruchwylio a gorfodi i wrthdroi'r ras i'r gwaelod ac annog canlyniadau diogelwch gwell a fydd yn berthnasol yn ystod y gwaith dylunio, adeiladu, adnewyddu a meddiant parhaus.

Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, mae'n hanfodol ein bod yn cydbwyso ymdeimlad priodol o frys â'r angen i gael y pecyn diwygio cymhleth a pharhaus hwn yn hollol gywir. Bydd dull Llywodraeth Cymru o weithredu fesul cam yn sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir. Ni fyddwn yn cyfaddawdu o ran cyflenwi effeithiol er mwyn atebion cyflym y byddwn yn ddiweddarach yn gweld eu bod wedi methu â sicrhau'r newid sydd ei angen. Yn ei gynllun, nododd y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau achos clir dros newid mesurau dros dro yn gyflym a dros ddiwygio rheoleiddio uchelgeisiol yn y tymor hwy. Dyma'n union sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati er mwyn gwella diogelwch adeiladau preswyl risg uwch a'r rhai sy'n byw ynddyn nhw. Diolch.

16:55

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am wneud ei datganiad? Rwyf ychydig yn siomedig; rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn onest am hyn, o gofio ein bod wedi cael datganiad cynharach, yr un ym mis Mawrth, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai mwy o frys a phwrpas yn natganiad mis Mai, a addawyd yn y datganiad cynharach.

Ar hyn o bryd, gwyddom fod y Llywodraeth yn derbyn yr holl argymhellion yn adroddiad y grŵp arbenigol mewn egwyddor. Addawyd ymateb manwl inni ym mis Mai, a chredaf fod dweud y derbynnir yr argymhellion mewn egwyddor efallai ychydig yn siomedig. Roeddwn yn gobeithio y byddai gennym ni rywbeth tebyg efallai i'r naratif sydd gennym ni pan fydd Llywodraeth Cymru'n ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Cynulliad, fel ein bod yn gwybod pa rai sydd ar fin cael eu derbyn yn ymarferol ac wedyn y rhai sydd mewn egwyddor ond a fydd yn cael eu diwygio'n sylweddol, fel arfer, gan y Llywodraeth. Felly, dyna'r peth cyntaf yr wyf eisiau ei ddweud.

Ym mis Mawrth, addawodd y Gweinidog hefyd gynllun prosiect clir, ac roedd hynny i fod i gael ei gyflwyno heddiw, ond nid wyf yn credu, heb yr ymateb clir hwnnw i argymhellion adroddiad y grŵp arbenigwyr y gallwch chi gael rhywbeth sy'n gyfystyr â chynllun cyflenwi o'r fath. Rwy'n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran y manylion am y camau nesaf. Er enghraifft, rwyf yn croesawu'r ffaith na fydd y trothwy uchder yn uwch na 18m. Credaf fod hwnnw'n ddatganiad defnyddiol iawn a chredaf y bydd yn un calonogol, ac mae'n un yr ydym yn ei gefnogi.

Cam arall yr wyf yn ei groesawu yw gwneud yr awdurdodau tân ac achub yn gyrff ymgynghori yn y broses gynllunio. Fodd bynnag, fel yr awgrymais yn gynharach, mae llai o gynnydd mewn meysydd eraill—er enghraifft, hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu. Nid yw'r Gweinidog wedi gwneud llawer mwy nag ailadrodd yr hyn a ddywedodd ym mis Mawrth. Nid wyf yn credu ei fod yn wirioneddol yn gynllun prosiect clir i ddweud, ynghylch chwistrellwyr dŵr, y bydd 'Canllaw i Ddeiliad Tai ar Systemau Chwistrellu', a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2015, yn cael ei ail-lansio. Roeddwn i wir yn disgwyl mwy erbyn hyn.

Dywedais yn fy ymateb i ddatganiad mis Mawrth fod angen inni gynnwys trigolion yn llawnach ac yn fwy effeithiol. Ac er fy mod yn falch y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chartrefi Cymunedol Cymru i, a dyfynnaf,

ystyried sut i wella swyddogaeth preswylwyr drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed—

diwedd y dyfyniad—roeddwn wedi disgwyl rhywbeth ychydig yn fwy pendant ac yn sicr yn gynt.

Bydd llawer o'r gwaith angenrheidiol i weithredu argymhellion y grŵp arbenigol, o leiaf y rhai y byddwn ni'n clywed iddyn nhw gael eu derbyn yn ymarferol, yn gyfrifoldeb y ddwy ffrwd waith, fel y nododd y Gweinidog. Ac rwy'n sylweddoli bod angen ystyried materion yn ofalus ac yn llawn. Fodd bynnag, mae hefyd angen gweithredu'n gyflym a rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ddiogelwch tân. Yn wir, dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad ym mis Mawrth—a dyfynnaf eto nawr—y byddai:

cynllun prosiect, gydag amserlenni clir.

Wel, yr unig amserlen glir y gallaf ei gweld yn y datganiad hwn yw'r addewid o ymgynghoriad yn yr haf, sef 2020. Mae hynny'n addewid o ymgynghoriad mewn blwyddyn o nawr felly. Nid canlyniad ymgynghoriad mewn blwyddyn yw hwn, ond cychwyn ymgynghoriad mewn blwyddyn, a hynny gyda'r bwriad—bwriad—o ddeddfu yn y tymor Cynulliad nesaf.

Rhaid inni fod yn agored yn hyn o beth: mae hyn yn araf, ac yn fy marn i, mae'n debycach i'r broses ddeddfwriaethol drefnus a fyddai gan Lywodraeth mewn unrhyw faes polisi cyhoeddus y mae angen ei diweddaru a'i diwygio, a heb faterion tyngedfennol o berygl ynddi, fel sydd gennym ni, mae arnaf ofn, ar hyn o bryd mewn rhai agweddau ar ddiogelwch tân, yn enwedig mewn cysylltiad ag adeiladau uchel iawn. Mae angen inni weithredu'n gyflymach fel y gallwn ni weithredu ar sail gadarn y dystiolaeth y mae adolygiad Hackitt ac argymhellion y grŵp arbenigol hwn wedi'i datblygu.

A gaf i ddweud—? Os byddwch yn gweithredu yn gyflymach, mae gennym ni ddwy flynedd o hyd o'r tymor Cynulliad hwn. Rwy'n gwybod y bydd ein grŵp yn gweithio'n llawn gyda chi ar hynny, ac rwy'n siŵr y byddai'r grwpiau eraill yn y Cynulliad hwn yn gwneud yr un peth. Fe allwn ni weithredu'n gyflymach; rwyf yn eich annog chi i wneud hynny.

17:00

Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed David Melding, ac wrth gwrs mae temtasiwn inni fod eisiau gwneud hyn yn gyflym, oherwydd ein bod ni i gyd yn deall y perygl, os mynnwch chi, ac yn amlwg nid ydym ni eisiau gweld ailadrodd dim o'r drasiedi a welsom ni yn Grenfell. Bydd unrhyw un sydd wedi gweld unrhyw rai o Aelodau'r grŵp Justice4Grenfell yn siarad wedi clywed eu ple o'r galon. Ond un o'r pledion eraill sydd ganddyn nhw hefyd yw inni wella'r system ar gyfer y tymor hwy a bod llais y tenant yn amlwg iawn ac yn ganolog i hynny, felly mae ychydig o wrthdaro o safbwynt rhuthro a hefyd sicrhau bod hynny ar waith. Ond rwyf yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.

Byddaf yn fwy na pharod i anfon y cynllun prosiect manwl sydd gennym ni hyd yma i egluro'r camau penodol sydd â dyddiadau ynghlwm wrthynt, ynghyd â'r pwyntiau a ragwelir ar gyfer dogfennau allweddol. Rwy'n pwysleisio nad yw'n gynllun prosiect cyflawn, ond rwy'n hapus iawn i'w rannu fel y mae nawr ac wrth iddo gael ei gyflwyno. Rydym ni eisiau bod mor agored a thryloyw â phosib. Clywaf ei gynnig i weithio ar draws y Siambr; rwy'n siŵr na fydd problem ynghylch hynny. Mae'n fater o fod yn hollol sicr i ble'r ydym ni eisiau mynd. Mae rhai pethau yr ydym yn dal i fod yn awyddus i'w rhoi ar waith cyn inni fynd amdani, a byddan nhw'n gyfuniad o bethau y gallwn eu gwneud yn ystod y tymor Cynulliad hwn: cyfres o reoliadau eilaidd ac ati a fydd yn gweithio ar unwaith, a rhai canllawiau wedi'u hailgyflwyno, sy'n amlwg yn cael eu diweddaru yn hytrach na'u hailgyhoeddi'n unig, fel bod ganddyn nhw'r pethau angenrheidiol ynddyn nhw.

Ond mae rhai pethau sy'n gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol eithaf sylweddol, ac os gallwn ni ei phasio yn ystod y tymor Cynulliad hwn, fe wnawn ni'n bendant, ond nid wyf yn credu ei bod yn ddeddfwriaeth ddadleuol yn yr ystyr ei bod yn dibynnu ar fandad gwleidyddol i'w phasio. Rwyf yn credu y bydd cydsyniad iddi ar draws y Siambr ac, ni waeth beth fydd cydbwysedd pleidiau'r Cynulliad nesaf, bydd yn rhywbeth y bydd pwy bynnag fydd yn llywodraethu eisiau bwrw ymlaen â hi, a hoffem ni ei chael hi mor agos at ei chwblhau ag y gallwn ni. Os gallwn ei chael, yna gwych. Rwyf dim ond yn dweud nad wyf yn gallu addo hynny ar hyn o bryd, oherwydd bod llawer o waith i'w wneud rhwng nawr a'r adeg pan fyddem ni mewn sefyllfa i anfon cyfarwyddiadau polisi at y cyfreithwyr i'w drafftio, er enghraifft.

Felly, rydym yn mynd mor gyflym ag y credwn ni sy'n ddiogel i gael y system yn iawn, ond rwy'n rhannu ei rwystredigaeth ynglŷn â'r amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny. Rwy'n hapus i rannu'r cynllun prosiect manwl sydd gennym ni hyd yn hyn, a, Dirprwy Lywydd, i ddiweddaru pob Aelod ynglŷn â hynny wrth inni symud ymlaen.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw a chroesawu hynny, a hefyd gwaith y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau? Yn amlwg, mae'r pwyllgor yr wyf yn gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wedi bod â diddordeb mawr yn y materion hyn, sy'n faterion brys a difrifol iawn, fel yr ydym ni eisoes wedi trafod heddiw. Mae'n fater o ddiogelwch mewn gwirionedd, ac yn amlwg, mae hynny o'r pwys mwyaf—diogelwch trigolion mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru. Mae'n fater o sicrhau cydbwysedd, derbyniaf hynny, gan fod angen mynd i'r afael â'r materion difrifol iawn hyn ar frys, ond, ar yr un pryd, sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn. Yn wir, bydd cyfuniad o waith tymor byr, tymor canolig a thymor hwy, rwy'n siŵr.

Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd David Melding, yn wir, sef, yn ôl ym mis Ebrill, Gweinidog, fe wnaethoch chi ddatganiad am gyhoeddi'r cynllun—y byddech yn rhoi amser i ystyried argymhellion y grŵp ac yna yn rhannu ymateb gyda'r Cynulliad ym mis Mai, ac y byddai cynllun prosiect clir fel rhan o hynny, yn pennu blaenoriaethau ac amserlenni ar gyfer y camau nesaf. Felly, mae'n siomedig braidd heddiw nad ydym ni mewn sefyllfa i gael yr eglurder hwnnw. Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud o ran rhannu cynnwys yr hyn y penderfynwyd arno hyd yma. Byddai hynny i'w groesawu. Ond o gofio bod disgwyliad am hyn, mae hi braidd yn siomedig nad ydym ni yn y sefyllfa honno heddiw. Os oes mwy y gallwch chi ei ddweud o ran beth sydd wedi newid rhwng nawr a'r adeg honno i arwain at y sefyllfa honno, byddwn yn ddiolchgar am hynny.

Ers 2017, fel pwyllgor, rydym ni wedi bod yn galw am newid i'r rheoliadau diogelwch tân, ac yn benodol am ddiwygio Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Byddai'r ddeddfwriaeth newydd hon i osod safonau ar gyfer pobl sy'n cynnal asesiadau risg o dân a drafodwyd gennym ni yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r asesiadau hynny gael eu cynnal bob blwyddyn ac yn egluro bod y drysau tân sy'n gweithredu fel drysau blaen ardaloedd cyffredin felly o fewn cwmpas y Gorchymyn. Mae'r rheini'n bwyntiau a wnaethom ni fel pwyllgor—ein bod ni eisiau gweld y materion hynny'n cael sylw a'r ddeddfwriaeth yn cael ei diwygio yn ystod y tymor Cynulliad presennol hwn. Felly, mae hynny, rwy'n credu, yn ymwneud â'r cydbwysedd priodol hwnnw rhwng brys a'i wneud yn iawn. Ac, wrth gwrs, argymhellodd y grŵp arbenigwyr ar ddiogelwch adeiladau hefyd ddeddfwriaeth i ddisodli'r Gorchymyn diogelwch tân. Felly, er fy mod yn falch bod ymrwymiad gan y Llywodraeth, Gweinidog, i roi'r ddeddfwriaeth newydd honno ar waith, unwaith eto rwy'n siomedig na fydd hynny'n digwydd yn y tymor Cynulliad hwn, gan fod hynny'n golygu o leiaf dwy flynedd arall, mewn gwirionedd, o aros, cyn i'r ddeddfwriaeth bwysig honno gael ei chyflwyno, a hyd yn oed yn hirach cyn ei gweithredu. Roedd y pwyllgor, mi gredaf, yn gwbl glir bod y materion y byddai'n ymdrin â hwy yn rhy bwysig, a dweud y gwir, i fod yn destun unrhyw oedi diangen. Felly, byddwn yn eich annog, fel y credaf y gwnaeth David Melding, i ailfeddwl ynghylch y materion hynny a'r blaenoriaethu a'r brys sydd eu hangen arnynt.

O ran rheoli adeiladu, ac, unwaith eto, y fframwaith rheoleiddio priodol a'r newidiadau angenrheidiol, roeddem yn glir iawn, rwy'n gobeithio, ac yn awyddus, mai dim ond arolygwyr rheoli adeiladu awdurdodau lleol a ddylai weithredu yn y dull rheoleiddio hwnnw ar gyfer adeiladau preswyl uchel iawn, a nodwn ein syniadau a'n tystiolaeth ar gyfer hynny, a gwn ichi eu gwrthod ar y pryd. Ond fe wnaethoch chi ddweud y byddech yn ystyried capasiti a chymhwysedd a'r materion cyffredinol hynny wrth i gynigion gael eu datblygu ar gyfer y sector. Felly, tybed nawr, o ran nad yw'r cynllun yn gwneud argymhelliad penodol ynghylch hyn—yr argymhelliad a wnaeth y pwyllgor—a fyddech yn ystyried a oes digon o gapasiti yn y sector rheoli adeiladu i ddarparu unrhyw system newydd, ac a ddylai hynny gynnwys ystyried swyddogaeth arolygwyr cymeradwy yn y modd y mae'r pwyllgor wedi awgrymu. Felly, pe byddech chi'n dweud ychydig mwy am hynny, byddwn, unwaith eto, yn ddiolchgar iawn. Ac, wrth gwrs, mae rheoleiddio asiantau sy'n rheoli adeiladau preswyl uchel iawn yn fater arall a ddaw o dan yr ystyriaeth o reoleiddio a newidiadau sydd i'w gwneud. Tybed a wnewch chi, unwaith eto, ddweud ychydig mwy am yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud—pennu'r broses cyn belled â bod hynny yn y cwestiwn.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, o ran y cynllun eto ac ôl-osod chwistrellwyr dŵr, rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, am yr amlinelliad a wnaethoch chi'n gynharach o ran camau i annog a hybu'r ôl-osod hwnnw, ond eto, fel yr awgrymodd David Melding, rwy'n teimlo bod angen inni glywed ychydig mwy, a chael ychydig bach mwy o ffydd a manylion o ran sut y bydd cynnydd angenrheidiol yn cael ei gyflawni.

17:10

Nid wyf eisiau i chi feddwl oherwydd fy mod yn dweud ein bod yn derbyn yr argymhellion mewn egwyddor ei fod yn ffordd wenieithus o ddweud ein bod yn deall yr hyn y maen nhw'n ei ddweud ond rydym ni'n mynd i wneud rhywbeth gwahanol. Yr hyn a olygwn wrth hynny yw nad ydym ni hyd yn hyn wedi cael digon o amser i ystyried yn fanwl y cynllun o weithredu'r argymhellion. I fod yn glir, nid ydym yn dweud bod rhyw broblem sylfaenol ynghylch unrhyw un ohonyn nhw. Mae'n ymwneud â chyfres gymhleth iawn o bethau y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw er mwyn gwneud hynny.

Fel y dywedais, rydym ni eisiau sicrhau bod y system yn cydweithio'n drwyadl, yn gydlynol ac yn briodol. Rydym ni'n gwneud hynny ar draws tair set o reolyddion, ac mae gennyf i'r rhan fwyaf o'r rheiny yn fy mhortffolio. Mae adolygiad Hackitt yn Lloegr yn argymell, er enghraifft, rheoleiddiwr cyfun ar y cyd. Nid ydym yn credu mai dyna'r ateb cywir i Gymru gan fod hynny'n rhoi haen arall o fiwrocratiaeth mewn system sydd eisoes yn fiwrocrataidd iawn. Felly, er enghraifft, rydym ni'n ceisio canfod a oes unrhyw ddulliau eraill ar gyfer tynnu'r rheolyddion at ei gilydd yn hyn o beth yn hytrach na chreu haen arall o reoleiddio ar gyfer rhywbeth penodol. Felly, dyna un enghraifft yn unig o le'r ydym ni'n ceisio gweithio drwy'r argymhellion. Felly, nid yw'n golygu nad ydym yn ei derbyn, ond weithiau mae'n anghymesur â lefel y risg yma yng Nghymru. Felly, rydym yn ceisio cael y cymesuredd yn iawn. Rwyf dim ond yn defnyddio hynny fel un enghraifft o'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud o safbwynt hynny.

Y Gorchymyn diogelwch tân—mae cryn dipyn o bethau y gallwn eu gwneud nad ydyn nhw'n ddeddfwriaeth sylfaenol, felly, byddwn yn mynd ati'n gyflym i wneud y pethau hynny, a bydd hynny'n cynnwys offerynnau statudol i roi rhywfaint o hynny ar waith yn syth, a byddwn yn ymgynghori ar y Gorchymyn cyffredinol newydd. Felly, efallai y gallwn ei phasio yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Nid wyf yn addo y gallwn ni wneud hynny, gan nad wyf i mewn sefyllfa i allu gwneud hynny. Os gallwn ni fynd yn gyflymach na hynny oherwydd iddi ymddangos nad yw'n ddadleuol o gwbl, yna gwych. Ar hyn o bryd, mae cryn nifer o wahanol safbwyntiau yn y sector, ac er bod pawb yn awyddus iddi gael ei phasio, nid yw'n ymddangos i mi fod yna gytundeb eang ynghylch sut i gyflawni hyn. Felly mae'n rhaid inni gael cydsyniad, neu o leiaf ddeall beth yw safbwynt pawb.

Felly, er ein bod i gyd yn cytuno bod angen gwneud hyn yn gyflym, rydym ni hefyd, fe gredaf, yn cytuno â'r angen i wneud hynny'n iawn. Fel rwyf yn dweud, rydym ni o'r un farn gyffredin ynglŷn â'r angen i wneud hyn, ond nid, yn anffodus, o'r un farn ynghylch beth yn union yw'r hyn sydd angen ei wneud. Wrth ichi ddechrau manylu, fe welwch chi fod safbwyntiau gwahanol gan y gwahanol reoleiddwyr a'r rhanddeiliaid amrywiol y mae angen inni weithio arnyn nhw er mwyn cael hynny'n iawn. Ac mae un o'r rheiny yn ymwneud â materion rheoli adeiladu, felly rwy'n derbyn safbwynt y pwyllgor yn llwyr—mae'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni eisiau edrych arno, ond mae problemau gwirioneddol yn ymwneud â chapasiti mewn Llywodraeth Leol ynghylch hynny. Yr hyn y byddem ni yn ei wneud ynglŷn â'r sefyllfa bresennol lle maen nhw'n gwerthu gwasanaethau ar y naill law ac yn rheoleiddio ar y llaw arall—mae nifer o faterion pwysig i ymdrin â nhw, a byddwn yn ymdrin â nhw, a deuwn i'r casgliad sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr y bydd y gyfundrefn yn gadarn. Rwy'n deall yn iawn yr hyn yr oedd y pwyllgor yn ceisio'i gyflawni drwy hynny, oherwydd ei bod yn amlwg bod gwrthdaro rhwng bod yn arolygydd wrth i'r adeilad gael ei adeiladu ac wedyn bod yn rheoleiddiwr hefyd. Mae gwrthdaro amlwg, ond mae'r ffordd y byddwn yn ymdrin â'r gwrthdaro hwnnw a pha broses y byddwn yn ei rhoi ar waith yn gwestiwn arall yn llwyr, ac mae nifer o ffyrdd o wneud hynny y mae angen inni eu gweithredu. Felly, rwy'n deall y pwynt, ond eto, nid wyf mewn sefyllfa i allu dod i'r casgliad hwnnw.

Rwyf innau hefyd yn siomedig nad ydym ni. Mae tua saith wythnos, rwy'n credu, ers imi wneud y datganiad. Mae'n cymryd mwy o amser inni gael consensws ar rai o'r pethau hyn nag y byddem ni wedi ei dybio efallai, ac mae rhywfaint ohono'n fwy cynhennus nag y byddem wedi ei dybio efallai. Os ydych yn cofio'r cynllun—ac rwy'n wirion i beidio â dod â chopi gyda mi—roedd tri neu bedwar 'pwynt atal' ynddo y mae angen inni feddwl amdanyn nhw, ac fel y dywedais, rydym ni wedi sefydlu'r gwahanol ffrydiau gwaith er mwyn ymdrin â rhai o'r anghydfodau hynny. Mae'r un peth yn wir am asiantwyr. Mae sgwrs i'w chael o hyd am wrthdaro buddiannau, a sut y maen nhw'n gweithio, a beth yw'r deiliaid dyletswydd y soniais amdanyn nhw yn fy natganiad, a beth yw dyletswyddau'r deiliaid dyletswydd, a sut y maen nhw'n gweithredu. Felly, mae'r pethau hynny'n cael sylw, ond nid ydym ni wedi dod i'r sefyllfa i roi'r cyfarwyddiadau polisi i'r cyfreithwyr ar gyfer drafftio'r ddeddfwriaeth. Mae angen inni gyrraedd y cam hwnnw ar gyfer hynny.

O ran ôl-osod chwistrellwyr dŵr, unwaith eto, rydym yn trafod hynny: sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd gymesur, sut y gallwn ni wneud cyllid ar gael ar gyfer hynny, sut olwg fydd ar adeiladau risg uwch, a sut olwg fydd ar yr amserlen. Yn ddelfrydol, wrth gwrs, byddem yn hoffi i bob adeilad gael chwistrellwyr ynddo. Dim ond i fod yn glir: dyna fyddai'n ddelfrydol. Mae'n fater o sut y gallwn ni gyrraedd y fan honno a sut yr ydym yn ariannu hynny. Felly, yn amlwg, byddwn yn edrych ar hynny ar gyfer gwahanol sectorau ledled Cymru. Bydd atebion gwahanol ar gyfer tai cymdeithasol o gymharu â'r sector rhentu preifat, er enghraifft, ac mae angen inni gael mynediad at hynny. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn yr un lle—mae'n ymwneud â cheisio cyrraedd y nod gyda'r casgliadau cywir, fel ein bod yn cael system gadarn yng Nghymru lle na fydd canlyniadau annisgwyl unwaith eto, pan fo pobl yn colli eu bywydau oherwydd nad ydym ni wedi gallu ystyried y system yn fanwl.

17:15

Rwy'n croesawu yn fawr iawn ddatganiad y Llywodraeth heddiw, ac a gaf i ddweud y byddaf yn osgoi dweud unrhyw beth y mae John Griffiths a David Melding wedi'i ddweud hyd yn hyn, ond rwy'n cytuno â phopeth y mae'r ddau ohonyn nhw wedi'i ddweud? Y lleiaf y dylem ei ddisgwyl gan annedd yw ei bod yn ddiogel rhag y gwynt, yn dal dŵr ac yn bwysicach oll, yn ddiogel. Rwy'n credu mai dyna'r hyn y mae'n rhaid i bob un ohonom ei ddisgwyl.

Mae gan Lywodraeth Cymru enw da am hyrwyddo diogelwch tân. Ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i'w gwneud hi'n ofynnol cael system chwistrellu mewn pob tŷ a fflat a gaiff ei adeiladu o'r newydd a'i addasu. Nid oes angen imi ddweud wrthych chi, Dirprwy Lywydd, am wrthwynebiad rhai adeiladwyr yn dweud y bydd yn ei gwneud hi'n amhosib, ac rwy'n credu bod y gwrthwynebiad hwnnw wedi diflannu erbyn hyn oherwydd rwy'n credu eu bod wedi sylweddoli ei bod hi'n bwysig a'i bod yn cadw pobl yn fyw. Rwy'n cefnogi polisi'r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn datblygu'r sylfaen gref hon a bod Cymru'n parhau i arwain y ffordd o ran cadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn derbyn holl argymhellion yr arbenigwyr mewn egwyddor. Y broblem wrth dderbyn pethau mewn egwyddor yw bod 'mewn egwyddor', i lawer ohonom ni sydd wedi eistedd yma ers sawl blwyddyn, wedi tueddu i olygu nad yw'r Llywodraeth yn mynd i wneud unrhyw beth am yr hyn a argymhellir mewn gwirionedd, ond nid ydynt yn barod i ddadlau am y peth. Dyna mewn gwirionedd fu ystyr 'mewn egwyddor' dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, gobeithio bod eich 'mewn egwyddor' chi yn golygu eich bod yn derbyn mewn egwyddor eich bod yn mynd i ddod o hyd i ffordd o'i gyflawni mewn gwirionedd, yn hytrach na gwenu arnom ni neu wenu arnyn nhw a dweud, 'Mae hynny'n wych, ond wnawn ni ddim byd mewn gwirionedd.' Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a wnewch chi ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd—nid wyf i'n disgwyl ar lafar, ond yn ysgrifenedig—a rhoi gwybod i'r Cynulliad pa un o'r rheini sydd wedi symud o fod mewn egwyddor i gael ei weithredu? Fyddwn i ddim yn disgwyl i chi ddod a dweud wrthym ni bob tro, ond nid yw datganiad ysgrifenedig ar hynny yn gofyn gormod yn fy marn i.

Rwy'n sylwi y gwnaethoch chi ddweud, fel y gwnaethoch chi fis diwethaf, y byddwch yn hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu. Gwn fod nifer o bobl yn y sector preifat, sydd hefyd yn cynnwys rhai pobl sy'n berchen ar adeiladau, sy'n ei chael hi'n anhygoel o ddrud gorfod gwneud hynny. A fydd unrhyw gyfalaf trafodiadau yn cael ei ddefnyddio i gefnogi hyn trwy fenthyciadau ar gyfer fflatiau preifat a phobl sy'n berchen ar adeiladau? Oherwydd fy nealltwriaeth i o gyfalaf trafodiadau—ac rwy'n derbyn eich bod chi fwy na thebyg yn gwybod mwy na fi amdano—yw ei fod ar gael i'w ddefnyddio gan y sector preifat yn unig, ac felly byddwn i'n meddwl y byddai hyn yn ddefnydd da ohono.

O ran y pwynt 'mewn egwyddor', fe wnes i'r pwynt yn gynharach, nid ydym yn dweud, 'Diolch yn fawr iawn; rydym ni'n cytuno â chi mewn ffordd, ond rydym ni am ei wneud yn wahanol.' Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yw ein bod yn derbyn yr holl argymhellion ac rydym yn gweithio trwy gynllun manwl i adrodd yn ôl—rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny—ar bob un i sicrhau ein bod yn gwybod yn union beth yr ydym yn mynd i'w wneud er mwyn gweithredu pob un, ac nid ydym mewn sefyllfa eto i allu dweud hynny.

Fel y dywedais, rwy'n hapus i rannu'r hyn sydd gennym ni o ran cynllun prosiect ar hyn o bryd. Mae'n cynnwys rhai manylion; nid oes cymaint o fanylion ynddo ag y byddwn i'n dymuno. Ac yna wrth i'r cynllun prosiect hwnnw gael ei ddatblygu, rwy'n fwy na pharod i'w roi yn y Llyfrgell yn rheolaidd a rhoi gwybod i'r Aelodau fy mod i wedi gwneud hynny er mwyn i bobl allu ei ddilyn. Rwyf yn bwriadu dod yn ôl â datganiad llafar tua mis Hydref i ymhelaethu ar hyn, ac rwy'n gobeithio wedyn y byddaf i'n gallu dweud rhywbeth mwy am yr is-ddeddfwriaeth yr ydym yn gallu ei gwneud, sut bethau fydd y rheoliadau, a sut bethau fydd y canllawiau a gaiff eu hailgyhoeddi. Felly, rwy'n cynnig yn llwyr y dylid rhoi'r holl wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Rydym yn edrych i weld pa gyllid benthyciad a all fod ar gael mewn rhai sectorau, oherwydd bod cwestiwn ynghylch ôl-osod—sut allwn ni fforddio'r ôl-osod? Ac mae'n rhaid imi ddweud, nid yw hyn ar gyfer systemau chwistrellu yn unig—mae yna rhestr gyfan o bethau eraill fel drysau tân a chladin deunydd cyfansawdd nad yw'n alwminiwm, a phob math o bethau eraill y mae angen eu hôl-osod ac y mae angen i ni ddod o hyd i atebion ar eu cyfer. Felly, mae yna bethau cymhleth iawn yn hynny o beth. Mae yna'r broblem uniongyrchol o gladin ACM, yr ydym ni wedi mynd i'r afael ag ef, ond mae yna feysydd eraill lle ceir problemau cymhleth o ran gallu drysau tân i ddal tân yn ôl mewn gwirionedd, y diogelwch sy'n gysylltiedig â hynny, ac yn y blaen, ac mae angen inni weithio trwy'r rhain. Mae angen inni gael cynigion priodol ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud gyda hynny.

Ac fel y dywedais wrth ymateb i John Griffiths, mae yna drefniadau cymhleth o ran rheoleiddio hyn. Pwy all weithredu? Pwy fydd deiliaid y ddyletswydd? Sut beth fydd y ddyletswydd honno y bydd angen inni ei rhoi ar waith cyn y gallwn ni ddeddfu? Mae'r pethau hyn yn gymhleth iawn. Mae'r cynllun yn gweithio, ond mae nifer o gamau penderfynu ar hyd y ffordd honno y mae angen inni weithio arnyn nhw. Bob tro y byddwn yn gwneud un o'r penderfyniadau hynny, mae'n effeithio ar y gweddill, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad ydym yn creu canlyniadau anfwriadol wrth i ni wneud hynny. 

Felly, er enghraifft, pe byddem ni'n dweud mai rheolaeth adeiladu yw'r rheoleiddiwr yn yr awdurdod lleol, a ydym ni i gael gwared ar eu gallu i werthu'r gwasanaeth rheolaeth adeiladu a chael ffrwd refeniw o hynny? Os ydym am wneud hynny, sut byddan nhw'n ariannu'r gwasanaethau rheoleiddio rheolaeth adeiladu? Felly, mae rhai problemau gwirioneddol yma wrth wneud penderfyniad sy'n ymddangos yn syml ond sydd, mewn gwirionedd, â phob math o oblygiadau yn gysylltiedig ag ef.

17:20

A gaf i ofyn un cwestiwn, os caf i? Wrth ystyried hyn, sut ydych chi wedi ystyried adroddiad 2012 y sefydliad ymchwil adeiladu am ddadansoddiad cost a budd systemau chwistrellu preswyl, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, a oedd yn ailadrodd canfyddiadau'r adroddiad cyfatebol o 2002 i'r Dirprwy Brif Weinidog yn y DU, sef er nad oedd systemau chwistrellu yn effeithiol mewn tai deulawr, y bydden nhw'n effeithiol mewn cartrefi gofal preswyl, llawer o fflatiau pwrpasol a blociau mwy o fflatiau wedi'u trosi a thai un ystafell traddodiadol amlfeddiannaeth gydag o leiaf chwe uned un ystafell? Roedd hynny sawl blwyddyn yn ôl, yn ailadrodd adroddiad o 17 mlynedd yn ôl.

Nid wyf i'n anghytuno â hynny. Fel yr ydym wedi'i ddweud, rydym yn rhoi ymrwymiad wrth adeiladu o'r newydd, y broblem fawr i ni yw sut ar y ddaear y gallwn ni sicrhau bod yr ôl-osodiadau yn digwydd. Felly, nid oes neb yn dadlau y dylid ei wneud, mae'n fater o sut ar y ddaear ydym ni'n gwneud hynny. Y peth arall yw bod y dechnoleg yn newid drwy'r amser, felly ni fyddai system chwistrellu yn 2002 wedi edrych dim byd tebyg i'r systemau tarth sydd gennych chi nawr. Byddai hynny wedi trochi popeth mewn dŵr gwlyb sop ac ni fyddai perchnogion cartrefi wedi bod yn hapus. Mae'r systemau tarth sydd gennym ni yn awr yn llawer mwy effeithiol ac yn achosi llawer llai o ddifrod i eiddo deiliaid tai. Felly, mae ganddyn nhw lawer o fuddion cydamserol: maen nhw'n achub eich bywyd; maen nhw hefyd yn atal eich asedau rhag cael eu dinistrio, neu i raddau helaeth. Ac maen nhw o bell, bell ffordd yn llawer gwell na bod y gwasanaeth tân yn dod i'r tŷ ac yn trochi pob dim ynddo â phibell pwysedd uchel, a fydd yn sicr o ddiffodd eich tân ond a fydd hefyd yn gwneud eich ased yn ddiwerth i bob pwrpas. Felly, mae llawer o bethau i'w hystyried yma. Ac wrth i bob sector edrych ar ei asedau a sut y mae'n dymuno eu cadw, mae'n dod i gasgliad ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hynny.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwneud hyn ar y cyd â nifer o adolygiadau eraill hefyd. Rydym ar fin cael adolygiad yn ôl ar ddatgarboneiddio ein stoc dai bresennol, a fydd yn cael effaith fawr ar ôl-osodiadau eraill. Felly, mae angen inni eu cyfuno fel nad ydym yn gofyn i unrhyw sector wneud cyfres o dri neu bedwar ôl-osodiad yn olynol wrth i ddeddfwriaeth wahanol gael ei chyflwyno. Felly, mae angen inni gofio, os ydych am ôl-osod annedd, y byddwch chi eisiau gwneud popeth ar yr un pryd a pheidio â gwneud hynny bob yn dipyn. Felly, rwy'n derbyn pwynt Mark Isherwood. Mae'r pethau hyn wedi eu trafod eisoes. Nid oes neb yn dadlau bod angen i ni wneud hyn. Ond rydym yn sôn am beth yw'r ffordd orau o gael y system orau bosib yng Nghymru a fydd yn para i'r dyfodol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ni ches i'r cyfle pan wnaethom ni drafod y mater hwn ddiwethaf ym mis Mawrth i longyfarch y Dirprwy Lywydd ar goedd yn bersonol am y ffordd y bu'n arwain ar yr agenda hon trwy ei deddfwriaeth Aelod preifat. Mae hi'n troi ei llygaid arnaf i oherwydd ei bod hi wedi blino ar bawb yn ei llongyfarch am hyn, ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn rhywbeth na ddylem ni ei anghofio—mai unigolion sydd â gwybodaeth bersonol gref iawn sydd wedi ein galluogi mewn gwirionedd i achub y blaen ar hyn rywfaint yma.

Hoffwn ategu rhai o'r pryderon y mae Aelodau eraill wedi'u crybwyll. Roeddwn yn cytuno gyda Mike Hedges ynglŷn â'r holl beth 'mewn egwyddor', ond rwyf i wedi clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ac yn hyn o beth, rydym wedi ein calonogi. Os caf i ategu hefyd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud ynghylch ymrwymo i hyn os oes unrhyw ffordd y gallwn ni eich helpu i gyflymu hyn, Gweinidog. Rydym yn sylweddoli wrth gwrs fod hwn yn fater cymhleth iawn, ond mae'n debyg y byddwn i'n dweud y byddwn yn cyrraedd sefyllfa pan nad yw'n bosib cael consensws ac y bydd yn rhaid dweud wrth rai pobl fel y mae hi. Ni allwch chi o reidrwydd ddisgwyl i dyrcwn bleidleisio dros y Nadolig, felly bydd adegau, gyda rhai pobl, rhai sectorau a rhai rhannau o rai sectorau pan fydd yn rhaid ichi wneud hynny. Rydym yn rhoi'r sicrwydd ichi o'r ochr hon i'r Siambr y cewch chi ein cefnogaeth ni i wneud hynny.

Mae nifer o'r sylwadau penodol yr oeddwn i'n dymuno'u gwneud eisoes wedi eu crybwyll, ond a gaf i ddychwelyd i'r mater yn gyflym o ran ôl-osod system chwistrellu. Rydym yn sylweddoli'n llwyr yr angen am ymgyrch, am argyhoeddi, ond a fydd y Gweinidog yn rhoi unrhyw ystyriaeth i wneud hyn yn orfodol yn y pen draw? Rwy'n sylweddoli ei fod yn gymhleth, rwy'n sylweddoli y bydd yn cymryd amser, ac nid oes neb yn tanbrisio'r costau dan sylw, ac rwyf i wedi bod yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud bod rhywfaint o ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut y gellid cyflwyno rhywfaint o gyllid. Ond, yn y pen draw, efallai y bydd pobl na fyddan nhw'n manteisio ar yr holl gyfleoedd gwirfoddol hynny ac, o'n rhan ni, fe hoffem ni weld y Llywodraeth yn y pen draw, fel ail neu drydydd cam efallai, yn ystyried deddfwriaeth os bydd angen hynny.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud yn ei datganiad ynglŷn â llais y trigolion, ac yn falch iawn o weld y gwaith gyda'r sector tai cymdeithasol yn arbennig. Fodd bynnag, fy mhryder i yw nad y landlordiaid da yw'r rhai y mae angen i ni eu cael yn gweithio ar hyn bob amser. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Gweinidog a fydd hi'n ystyried gwneud y broses yn orfodol ar ryw bryd. Rydym yn gwybod y gellid bod wedi osgoi trychineb erchyll Grenfell pe byddai rhywun wedi gwrando ar y trigolion yn gynt, ac nid y landlordiaid da a'r landlordiaid cymdeithasol fydd angen i ni eu hystyried yn hyn o beth o reidrwydd.

Rydym yn croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y gwasanaeth tân ac achub wedi'i groesawu yn gorff ymgynghori statudol yn y broses gynllunio, ond ai bwriad y Gweinidog yw y bydd hynny'n cael ei ategu trwy wneud diogelwch tân yn un rheswm sylweddol, o bosib, dros wrthod cynllunio? Oherwydd un peth yw bod yn ymgynghorai statudol, ond mae wedyn yn gwestiwn o faint o bwyslais a roddir ar yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n digwydd.

Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth y gellid ei wneud—. Wrth i'r broses gynllunio hon fynd rhagddi, wrth gwrs bydd rhai datblygiadau eithaf mawr o bosib sy'n digwydd cyn y gall hynny fod yn orfodol. Felly, a oes unrhyw beth y gall y Gweinidog ei wneud, trwy weithio gydag awdurdodau lleol, efallai, i geisio annog datblygwyr i gael cyngor y gwasanaeth tân ac achub yn rhan o'r broses gynllunio, hyd yn oed os bydd yn amlwg yn cymryd cryn amser i ddeddfu?

Yn olaf, fe hoffem ni ddweud pa mor falch ydym ni fod y Gweinidog yn gweithredu'n gyflym i wahardd cladin a all losgi. Mae gennych chi, wrth gwrs, ein cefnogaeth lwyr yn hynny o beth, Gweinidog. Mae hon yn agenda mor bwysig. Rwy'n credu fy mod i wedi clywed popeth yr ydych wedi'i ddweud wrth David Melding, wrth John Griffiths ac wrth eraill am yr angen i wneud hyn yn iawn, ond rwy'n credu o'n rhan ni, yr hoffem ni ddweud bod angen i ni wneud y gwaith hefyd.

17:25

Ie, dydw i ddim yn anghytuno ag unrhyw beth y mae Helen Mary newydd ei ddweud. Rwyf i eisiau sicrhau'r Aelodau bod ein gwybodaeth yn dangos inni fod pob adeilad preswyl uchel iawn yn sector tai cymdeithasol Cymru â systemau chwistrellu wedi'u gosod, bod cynlluniau ar waith i'w hôl-osod neu eu bod yn y broses o'u hôl-osod. Felly, rydym ni'n gwybod bod y rheini i gyd wedi'u cynllunio.

Fodd bynnag, mae gennym lawer i'w wneud yn y sector preifat, lle mae'r ffigurau'n is. Mae gennym nifer o gamau yr ydym ni'n eu datblygu, a bydd rhai o'r pethau yr ydych chi'n eu hamlinellu yn eich cyfraniad yn rhai o'r pethau y gallwn ni eu gwneud heb greu deddfwriaeth. Felly, addasu 'Polisi Cynllunio Cymru', er enghraifft, rhai o'r offerynnau statudol y gallwn ni eu rhoi ar waith, canllawiau—gorfodol neu fel arall—gallwn ni wneud y rheini'n gyflymach. Yr hyn y mae angen inni fod yn glir yn ei gylch, serch hynny, yw beth ydyw. Felly, nes ein bod ni wedi gweithio gyda'r grŵp arbenigol a'r cynghorwyr amrywiol a'r rheoleiddwyr, i nodi beth yn union yr ydym yn gofyn i bobl ei wneud, yna ni allwn ni wneud hynny. Ac mae hynny'n cymryd ychydig mwy o amser nag y byddem ni'n ei hoffi, ond rydym yn benderfynol iawn o'i wneud yn iawn.

Ac, i ddefnyddio'r enghraifft yr wyf i wedi'i defnyddio sawl gwaith yn barod, rheoli adeiladu, er enghraifft—a dim ond enghraifft ydyw, peidiwch â meddwl ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad hwn, ond pe byddem ni'n penderfynu mai rheolaeth adeiladu awdurdod lleol fyddai'r rheoleiddiwr, yna sut y byddem ni'n eu digolledu am golli'r incwm sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd o ganlyniad i werthu gwasanaethau rheoli adeiladu? A pha systemau y byddem ni'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod ganddyn nhw'r hawl i fynd yno yn ystod yr adeiladu, yn ystod y gwaith gosod ac yna yn ystod y cyfnod meddiannu i sicrhau bod hynny wedi gweithio? Ac ni wn i fanylion hynny eto, felly nid ydym ni mewn sefyllfa i wneud y penderfyniadau hynny. A dim ond un enghraifft yw hynny o'r llu ohonyn nhw y mae'n rhaid inni eu gwneud. Ond, ie, mewn egwyddor, byddwn yn newid y canllawiau cynllunio fel y bo angen.

Fel dywedais i, rydym ni'n eu gwneud yn ymgyngoreion statudol, a bydd hynny'n ei wneud yn ystyriaeth gynllunio berthnasol, ar gyfer pethau fel hylosgedd yr adeilad ei hun ond hefyd mynediad ar gyfer cerbydau tân a phethau eraill sy'n bwysig iawn o ran diogelwch tân cyffredinol.

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ieithoedd Cynhenid

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol ar flwyddyn ryngwladol ieithoedd brodorol y Cenhedloedd Unedig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, Eluned Morgan.

Member
Eluned Morgan 17:29:27
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch yn fawr. Yn 2016, penderfynodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y dylai 2019 fod yn Flwyddyn Ryngwladol ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Dŷn ni i gyd yn gyfarwydd ag arfer y Cenhedloedd Unedig o dynnu sylw’r byd at faterion o bwys. Dwi'n falch, felly, o’r cyfle i roi gwybod i’r Cynulliad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi’r flwyddyn.

Mae yna dair amcan gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y flwyddyn. Y cyntaf yw rhoi ffocws byd-eang ar yr heriau sy’n wynebu ieithoedd brodorol a thanlinellu eu harwyddocâd i ddatblygu cynaliadwy, cymodi, datblygu llywodraethiant da ac annog heddwch. Yn ail mae dod o hyd i gamau pendant i wella sefyllfa’r ieithoedd. Ac, yn drydydd, mae cynyddu gallu sefydliadau sy’n cefnogi ac yn hybu ieithoedd a rhoi help i warchod hawliau siaradwyr yr ieithoedd hynny. Mae UNESCO wedi cymryd yr awenau ar gydlynu’r flwyddyn ar ran y Cenhedloedd Unedig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:30

Mae hi’n werth cofio bod y Gymraeg mewn sefyllfa gryfach na nifer o ieithoedd ar draws y byd. Mae’n destun pryder nodi bod cymaint o ieithoedd yn y byd yn wynebu heriau. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod un iaith yn marw bob yn ail wythnos, ac ar y raddfa hon bydd tua hanner o’r 7,000 o ieithoedd yn y byd heddiw yn debygol o ddiflannu yn ystod y 100 mlynedd nesaf. Wrth feddwl am yr ystadegau hyn, rhaid cofio bod ieithoedd yn perthyn i bobl a chymunedau, a’u bod yn llawer mwy na jest modd o gyfathrebu—maen nhw'n rhan o gyfoeth ac amrywiaeth diwylliannol sy'n perthyn i'r byd.

Mae’r flwyddyn hon yn rhoi cyfle i ni, fel gwlad sydd wedi gweld adfywiad yn yr ymdrech i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, i ddangos i eraill yr ymdrechion rŷm ni’n eu gwneud ac i adrodd ein stori ni ynghylch sut ydym ni'n mynd ati i gynllunio’n ieithyddol yma yng Nghymru. Mae’r flwyddyn hefyd yn rhoi cyfle i ni rannu ein harbenigedd a’n profiad. Mae hefyd yn gyfle i ni ddysgu o brofiad gwledydd eraill a chreu cysylltiadau rhyngwladol newydd.

Ond, yn bennaf oll, dwi'n awyddus iawn i ddangos i’r byd fod ein gweledigaeth ni ar gyfer y Gymraeg yn un sy'n gynhwysol ac yn eang. Hynny yw, nid jest gwarchod y Gymraeg a’i diwylliant yn unig rŷm ni eisiau ei wneud, ond cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, rhoi lle i’r diwylliant esblygu a chroesawu pobl newydd i’r Gymraeg.

Felly, ein hamcanion ni fel Llywodraeth wrth gymryd rhan yn y flwyddyn yma yw rhoi platfform i ni fel gwlad allu, yn gyntaf, godi proffil Cymru yn rhyngwladol fel gwlad ddwyieithog, a chodi proffil Cymru, yn dilyn Brexit, ymhlith sefydliadau a rhwydweithiau rhyngwladol a byd-eang; yn ail, dathlu hanes a diwylliant y Gymraeg yn rhyngwladol; ac, yn drydydd, atgyfnerthu Cymru fel un o’r gwledydd arweiniol o safbwynt cynllunio ieithyddol, ac i ddysgu, hefyd, gan eraill.

Drwy hyn oll, fy mwriad yw cyfrannu tuag at wireddu elfen hollbwysig o’n strategaeth Cymraeg 2050, sef creu amodau ffafriol i ni allu cyrraedd miliwn o siaradwyr a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Un elfen bwysig ar gyfer creu amodau ffafriol yw codi ymwybyddiaeth a meithrin balchder yng Nghymru o le’r Gymraeg yn y byd ymhlith teulu o ieithoedd. Fel mae 'Cymraeg 2050' yn ei ddweud, rŷm ni am

'sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’n hymdrechion i greu pontydd rhwng Cymru a’r byd a’i gwneud yn gyfrwng i groesawu a chymhathu pobl sy’n symud i Gymru.'

Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, rwy’n gweld cyfle arbennig i ddod â’r ddwy agwedd yma ar fy mhortffolio i at ei gilydd. Rwy’n sicr y gall y Gymraeg elwa ar gael proffil uwch yn rhyngwladol, a dwi hefyd yn meddwl y gall Cymru elwa ar y ffaith ein bod ni yn wlad ddwyieithog, fel y soniais i ym Manc y Byd yn Washington yn ddiweddar.

Mae’n amlwg i mi fod ein dwyieithrwydd byw yn bwynt gwerthu unigryw i ni—ei bod yn USP i ni. Er bod ieithoedd lleiafrifol yn bodoli ochr yn ochr â’r Saesneg ym Mhrydain ac Iwerddon—ac rŷm ni'n cydweithio’n agos â’r Llywodraethau hynny drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig—mae’n amlwg bod sefyllfa’r Gymraeg yn wahanol.

Y cwestiwn, wedyn, yw: sut gallwn ni fanteisio ar y pwynt gwerthu unigryw hynny? Oes cyfleoedd economaidd yn codi o’r ffaith bod gyda ni weithlu dwyieithog yma? Oes modd i ni ddatblygu marchnad fel man profi—test bed—ar gyfer datblygu meddalwedd dwyieithog ac amlieithog, gan fod y Gymraeg yn cyd-fyw â’r Saesneg? Dyma sy’n sail i’r cynllun gweithredu ar gyfer technoleg a'r Gymraeg.

Elfen arall o fy uchelgais yw defnyddio’r flwyddyn fel modd o ddatblygu Cymru fel pencampwr ieithoedd lleiafrifol, trwy rannu profiad ac arfer da â gwledydd eraill. Byddwn ni'n gwneud mwy i ddathlu’r gwaith sy’n digwydd yng Nghymru i hyrwyddo’r Gymraeg. Rŷm ni eisoes yn aelod o wahanol rwydweithiau cynllunio ieithyddol rhyngwladol, fel y rhwydwaith i hybu amrywiaeth ieithyddol—yr NPLD—a Chyngor Prydeinig-Gwyddelig. Ond dwi’n awyddus i adeiladu ar hyn. Pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, trefnodd Llywodraeth Cymru seminar yn y Cenhedloedd Unedig gyda chynrychiolwyr o Quebec, Gwlad y Basg a Fflandrys. Roedd gwir ddiddordeb ganddyn nhw i ddysgu o'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, a dwi’n siŵr bod modd i ni hefyd barhau i ddysgu o brofiadau gwledydd eraill.

Dwi’n credu bod gyda ni stori dda i’w hadrodd ynghylch sut rŷm ni eisoes wedi datblygu fel gwlad, trwy addysg drochi, trwy addysg feithrin, cynllunio ieithyddol ar lawr gwlad, statws y Gymraeg, a’r gwaith hybu sy’n digwydd gyda busnesau, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, mae gyda ni artistiaid amryddawn yng Nghymru sy’n perfformio yn y Gymraeg. Mae ein hartistiaid ni yn cael mwy a mwy o gyfleoedd i berfformio yn Gymraeg ar draws y byd. Dyna oedd thema symposiwm Mamiaith a gynhaliwyd ym Methesda ym mis Ebrill gan ein partneriaid yn y flwyddyn ryngwladol yma, UNESCO. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r bardd cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am ei gerdd 'Lleisio (Voicing)' a luniodd i nodi’r flwyddyn.

Yn gynharach eleni, dathlwyd Dydd Miwisg Cymru drwy ffrydio gig a gynhaliwyd yma yn y Senedd—a diolch yn fawr i'r Llywydd am ganiatáu hynny—yn fyw ar draws y byd. Hefyd, ddydd Gwener diwethaf yn Llundain, dangosodd pobl ifanc Cymru bod modd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg i leisio neges gyfoes ynghylch lleihau troseddu â chyllyll, sef neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd eleni.

Bydd rhagor yn digwydd i nodi’r flwyddyn dros y misoedd nesaf, gan gynnwys partneriaeth ryngwladol gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol gydag Iwerddon a chwmni Fidget Feet, a digwyddiad i gloi a chloriannu’r flwyddyn. 

Dwi’n awyddus i sicrhau bod y flwyddyn yn fan cychwyn ar gyfer cryfhau troedle’r Gymraeg yn rhyngwladol a chyfrannu ein harbenigedd, ein profiad a’n gweledigaeth i helpu ieithoedd ar draws y byd.

17:35

Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad. Allaf i jest gofyn i ddechrau—? 

Fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad, os wyf yn deall hyn yn iawn, mai UNESCO yw'r corff arweiniol ar gyfer cyd-gysylltu'r flwyddyn ar ran y Cenhedloedd Unedig.

Ydy hynny'n iawn? 

Wel, ar ôl cael cipolwg sydyn ar eu gwefan cyn dod yma, sylweddolais eu bod yn trefnu pum digwyddiad yng Nghymru. Dydw i ddim yn siŵr a yw hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ond tybed a gaf i erfyn arnoch chi ar y dechrau yma i gysylltu â phwy bynnag sy'n gyfrifol am eu gwefan i egluro o’r pum lle hyn y maen nhw wedi’u rhoi ar eu map o Gymru, nad yw pedwar ohonyn nhw yng Nghaerdydd fel y maen nhw i fod ac, i bob golwg, mae Ynys Manaw yn agos i Gaergybi. Felly, rwy’n credu bod angen ychydig o arweiniad a chymorth ar y Cenhedloedd Unedig.

Ond y rheswm dros grybwyll hynny yw oherwydd mai un o'r cwestiynau y dylem ni fod yn ei ofyn yw a yw'r Cenhedloedd Unedig yn rhoi unrhyw arian naill ai i Lywodraeth Cymru neu i unrhyw sefydliad arall yn uniongyrchol i helpu gyda hyn, oherwydd mae’r tri amcan a amlinellwyd gennych chi yn eich datganiad yn rhai eithaf pwysig, yn enwedig y trydydd ohonyn nhw, sef cynyddu capasiti’r holl randdeiliaid sy'n cefnogi ac yn hybu ieithoedd brodorol ac yn diogelu hawliau pobl sy'n defnyddio'r ieithoedd hynny. Ac felly, mae rhai cwestiynau amlwg i mi ynghylch a ydyn nhw'n eich helpu chi'n ariannol i, wn i ddim, gefnogi'r mentrau iaith, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, efallai, neu, yn arbennig o bwysig i mi, y prosiect Iaith Gwaith. Oherwydd rwy'n sylweddoli bod rhywfaint o arian wedi mynd tuag at y sefydliadau hyn hyd yn hyn, ond rwy'n credu y gallen nhw bob amser wneud ag ychydig mwy os ydyn nhw'n mynd i gyflawni nid yn unig nodau strategol Llywodraeth Cymru, ond hefyd amcanion y Cenhedloedd Unedig.

Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn yr oeddech yn ei ddweud bod Cymru'n genedl y gallai eraill ei dilyn o ran cynllunio ieithyddol. Rwy'n credu y gallwn ni fod yn onest yn y fan hyn a dweud nad yw wedi bod llwyddiannus iawn bob amser. Rwy'n meddwl am y cenedlaethau cynnar hynny, ar ôl datganoli, y bu'n rhaid iddyn nhw fodloni eu hunain â hanner TGAU yn y Gymraeg. Wyddoch chi, rydym ni wedi bod trwy gyfnod braidd yn anodd o ran penderfynu a ddylem ni gadw Comisiynydd y Gymraeg, er enghraifft. O ran y fersiynau cynnar o'r cynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg—wyddoch chi, roedd rhai amheuon am y rheini, yn bennaf oherwydd, wrth gwrs, nad oedd sail statudol i gyflawni unrhyw beth yn y cynlluniau strategol hynny mewn gwirionedd. Ond mae pethau wedi symud ymlaen. Efallai ein bod wedi dysgu oddi wrth wledydd eraill ein hunain, fel y gwnaethoch chi ddweud ein bod ni. Yn wir, am Gomisiynydd y Gymraeg yr wyf i'n meddwl amdano yn y fan hyn: nid oes cymaint â hynny o amser wedi mynd heibio ers i Gaerdydd gynnal cyfarfod o gomisiynwyr iaith o bob cwr o'r byd ac rwy'n credu bod hynny wedi atgyfnerthu—dydw i ddim yn gwybod beth yw barn yr Aelodau eraill ar hyn—ond wedi atgyfnerthu pa mor bwysig yw'r swyddogaeth honno yma yng Nghymru.

Rwy'n credu i chi sôn hefyd eich bod chi eisiau defnyddio hwn fel cyfle i atgyfnerthu neges yr ydym ni, rwy'n credu, yn ei chyflwyno ar hyn o bryd, sef bod Cymru yn lle i ddiwylliant esblygu ac i bobl newydd gael eu cyflwyno i'r iaith. Ac rydym ni yn ystyried cwricwlwm newydd i Gymru—gallaf weld yr holl uchelgais sydd ynddo ar gyfer yr iaith a chontinwwm Cymraeg, ond, wrth gwrs, rydym ni ar gam cynnar iawn o ran gweld sut beth fydd hynny mewn bywyd go iawn. Ond tybed a allwch chi roi ychydig o wybodaeth i ni, yn eich ymateb i'r cwestiynau hyn, ynglŷn â sut yr ydym ni'n cyrraedd y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—mae'n ddrwg gen i eu homogeneiddio yn y ffordd honno. Ond, wrth gwrs, mae'r holl bobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru wedi bod â Chymraeg yn eu meysydd llafur ers amser maith iawn, ond rwy'n credu ei bod hi'n weddol amlwg nad yw'r cyfleoedd i bobl ifanc mewn rhai rhannau o Abertawe, er enghraifft—nad ydyn nhw o bosib yn cael y cyfle i ymarfer eu Cymraeg. Wrth gwrs, yn rhai o'r aelwydydd hyn, maen nhw eisoes yn siarad dwy iaith. Maen nhw ar y blaen, mewn gwirionedd, wrth siarad trydedd iaith, felly efallai y gallwch chi ddweud ychydig wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hynny.

Rwy'n sylwi hefyd ar y wefan UNESCO, ym Mhrydain, bod gwaith priodol ar gyfer y flwyddyn hon o ieithoedd brodorol, yn cynnwys digwyddiad, ym Manceinion, sy'n trafod Sbaeneg Lladin-Americanaidd; yn Leeds, mae yna ddigwyddiadau yn ymwneud ag is-gyfandir India a'u hieithoedd; ac yng Nghaeredin, yn rhyfedd iawn, mae ganddyn nhw ddigwyddiad yn cefnogi'r Ffrangeg, a doeddwn i ddim yn credu ei bod hi'n gynhenid i'r Alban, ond dyna chi. Fy nghwestiwn, mae'n debyg, yw: a ydym ni'n edrych y tu hwnt i'r Gymraeg pan fyddwn ni'n ystyried achub ar gyfleoedd o'r flwyddyn benodol hon? Ac rwy'n meddwl am Iaith Arwyddion Prydain yn arbennig, oherwydd byddwn i'n dweud bod yna ddadl bod honno'n iaith frodorol i Gymru ac mae hi wedi'i chodi ar lawr y Siambr hon nifer o weithiau.

Yn gyflym iawn, felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig wrthym ni am sail cynllun gweithredu technoleg y Gymraeg a sut ydych chi'n credu y gallai hwnnw gael ei ymwreiddio mewn cynlluniau fel Technocamps a Gwyddoniaeth i Ysgolion, sy'n amlwg yn gynlluniau sy'n annog disgyblion i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a fydd yn eithaf pwysig i'n heconomi yn gyffredinol?

Ond hefyd, o ran fy mhwynt olaf, sy'n bwynt yr wyf yn cytuno'n llwyr â chi arno, sef defnyddio ein hunaniaeth fel cenedl ddwyieithog i fanteisio'n economaidd yn ogystal ag yn ddiwylliannol mewn cyd-destun byd-eang. Mae'r ffaith mai Cymru yw'r unig ran o'r DU sy'n gallu dweud, 'Rydych chi'n rhydd i weithredu yn y fan yma mewn cyfrwng heblaw am Saesneg' yn beth gwych i'w hyrwyddo, yn fy marn i. Ond yr hyn y byddwn i'n eich annog i'w wneud yw ystyried sut y gallem ni wneud hwnnw'n gynnig o ran creu Cymru dairieithog a gweithio gyda'r Gweinidog Addysg ar sicrhau lle i ieithoedd tramor modern yn y cwricwlwm newydd. Oherwydd, ar hyn o bryd, fel y gwyddoch chi, nid yw'n cael blaenoriaeth uchel iawn. Rwy'n bryderus iawn bod y gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn diflannu, ac er fy mod i'n siŵr y byddai gennym ni i gyd uchelgais gweld hynny yn y cwricwlwm cenedlaethol, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni bobl sy'n gallu ei ddarparu. Nid yw hynny'n gyfystyr â dweud bod y Gymraeg ac ieithoedd tramor modern yr un fath nac y dylent gael yr un flaenoriaeth, ond os mai dyna fydd ein modd o werthu Cymru, byddai'n well inni wneud hynny'n dda iawn. Diolch yn fawr.

17:40

Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Mae yna amryw o gwestiynau, lot fawr o gwestiynau, a diolch yn fawr am yr holl ymchwil rŷch chi wedi'i wneud ar y mater yma. Yn anffodus, dyw UNESCO ddim wedi rhoi arian i ni; yn wir, mae'n rhaid i ni gyfrannu i'r pot er mwyn bod yn rhan o hwn. A beth sydd wedi digwydd yw bod Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi rhoi cynnig o £50,000 er mwyn i ni allu gwneud rhai o'r gweithiau a'r projectau rŷm ni'n gobeithio eu gwneud yn ystod y flwyddyn. Felly, mae yna ambell i brosiect; eisoes dwi wedi sôn am yr un oedd ym Methesda ac rŷn ni’n gobeithio canolbwyntio ar un arall ddiwedd y flwyddyn. Felly, mae pethau’n digwydd, ond, wrth gwrs, mae yna wastad prinder arian. Dwi yn gweld hwn fel cyfle i ni lansio a sicrhau bod y byd yn gwybod amdanom ni.

Rŷch chi hefyd wedi sôn am ba mor—ydyn ni mewn sefyllfa dda, fel gwlad? Pa mor hyderus dŷn ni, a ble dŷn ni, yn ieithyddol? Wel, yn ddiweddar, gwnes i wrando ar ddyn yn canu ym Methesda—dim ond 100 o bobl yn y byd sy’n siarad ei iaith ef, felly, pan ŷch chi’n ystyried pa mor fregus yw rhai o’r ieithoedd eraill, dwi yn meddwl bod rhywbeth gyda ni i gynnig. Felly, dwi yn meddwl bod hwn yn gyfle i ni roi nôl i’r byd, a dyna sy’n bwysig i fi—ein bod ni’n gallu cynnig rhywbeth i’r byd, a’n bod ni wedi cael adfywiad, ein bod ni’n keen ofnadwy i weld y symudiad yma tuag at filiwn o siaradwyr. Wel, dyw hwnna ddim yn rhywbeth mae lot o lefydd eraill yn ystyried yn bosibl. Mae’r ffaith ein bod ni’n cymryd camau i wireddu hynny’n rhywbeth rŷn ni’n gobeithio y gallwn ni estyn a rhannu gyda’r byd.

O ran croesawu pobl i Gymru, dwi yn meddwl ei bod hi’n bwysig—y ffaith ein bod ni eisiau gweld Cymraeg yn bod yn fater sy’n gynhwysol y mae pob un yn gallu ymwneud â hi. Rŷn ni wedi—. Wrth gwrs, mae gyda ni canolfannau trochi i bobl sy’n dod i mewn i’r wlad i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymgymryd â dysgu’r iaith, ac rŷn ni wedi cael prosiectau i dargedu rhai ardaloedd, yn arbennig lle mae yna bobl liw yn byw. Mae Caerdydd wedi gwneud lot o waith ar hyn; mae yna ysgol newydd, fel rŷch chi’n gwybod, yn y bae, a hefyd yng Nghasnewydd; mae lot o waith wedi’i wneud yn y ddwy ardal yna, yn arbennig.

Dŷn ni ddim wedi ystyried gwneud sign language yn ystod y flwyddyn yma, ond beth sydd yn bwysig, dwi’n meddwl, o ran y dechnoleg a’r cynllun technoleg, yw bod pobl yn deall bod yna gyfle iddyn nhw hefyd ein helpu ni gyda datblygiad technoleg yn Gymraeg. Mae’n bwysig bod pobl yn ymgymryd â ac yn cymryd mantais o’r ffaith eu bod nhw hefyd yn gallu rhoi’u llais nhw, achos mae’n rhaid inni adeiladu portffolio o bobl yn siarad fel ein bod ni’n gallu defnyddio technoleg lle rŷch chi’n siarad i mewn i beiriant a’u bod nhw’n deall beth rŷch chi’n ei ddweud ac yn gallu siarad nôl â chi. Mae hwnna’n fwy cymhleth lle mae yna iaith leiafrifol.

Mae’r ffaith ein bod ni’n wlad ddwyieithog yn unigryw, a dwi hefyd yn poeni am ieithoedd modern yn y cwricwlwm newydd, ond mae hwnna’n rhywbeth dwi’n gwybod bod Kirsty’n ystyried a bod global responsibility yn rhan ganolog o’r cynllun newydd yma.

17:45

Diolch yn fawr am eich datganiad chi. Fel arfer, mae’n rhaid imi ofyn faint o sylwedd sydd i’r geiriau sydd yn y datganiad. Gaf i eich atgoffa chi o rai o ddigwyddiadau diweddar y Llywodraeth yma o ran y Gymraeg? Ymyrraeth gan is-Weinidog ym mhroses gyflogaeth y Llyfrgell Genedlaethol, ble ceisiodd sicrhau na fyddai’r swydd yn mynd i siaradwr Cymraeg; sylwad absẃrd gennych chi, y Gweinidog dros y Gymraeg, a dwi’n dyfynnu, y byddai Cartrefi Cymunedol Gwynedd mewn perygl o ddisgrimineiddio pe byddan nhw’n rhoi’r Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer eu swyddi—ymyrraeth a sylwadau sy’n ddilornus o’r Gymraeg, sydd hefyd yn mynd yn hollol groes i’ch strategaeth chi’ch hun o ran y Gymraeg yn y gweithlu, a sylwadau sy’n gwneud imi wrando ar eich datganiad chi heddiw efo pinsiad mawr iawn o halen. Ac rydych chi wedi sôn y prynhawn yma am bwysigrwydd canolfannau trochi, ond yn torri’r grant sydd i'w cynnal nhw, felly mae’r pinsiad o halen yma’n mynd yn fwy.

Dwi’n nodi bod tri amcan ar gyfer y Flwyddyn Ryngwladol ar gyfer Ieithoedd Brodorol, ac mai’r olaf o’r rhain ydy rhoi help i warchod hawliau siaradwyr yr ieithoedd hynny. Rydym ni’n hynod o lwcus yng Nghymru: cenedl fechan, ddi-wladwriaeth, ond mae gennym ni ddeddfwriaeth ar waith er mwyn gwneud yn union hynny, er mwyn diogelu’n hawliau ni—yn wahanol, yn anffodus, i’r sefyllfa efo ieithoedd lleiafrifol mewn llawer o wledydd ar draws y byd. Yn 2011, fe basiwyd Deddf arwyddocaol a phwysig dan arweiniad Plaid Cymru, a chyn-Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones. Mae'r Ddeddf honno'n rhoi statws swyddogol gydradd i'r Gymraeg yn y sector gyhoeddus, ond mae'r Llywodraeth wedi bod yn araf iawn yn gweithredu'r Ddeddf, ac, yn anffodus, mae llawer iawn o waith i'w wneud o ran gosod safonau. Does yna ddim esboniad o ran yr oedi gyda gosod safonau cymdeithasau tai, dŵr, cwmnïau post, bysiau, trenau, rheilffyrdd, nwy a thrydan, telathrebu.

Felly, hoffwn i ofyn heddiw, eto, ac yng ngoleuni amcan 3 y flwyddyn ryngwladol yma ynglŷn â hawliau: beth ydy'r amserlen ar gyfer symud ymlaen efo'r holl safonau sydd angen eu gosod? Mae hi'n wyth mlynedd ers pasio'r Ddeddf arloesol yma. Yng nghysgod Brexit a thwf y dde eithafol, mae angen i ni, yn fwy nag erioed, warchod hawliau ieithyddol pobl Cymru.

Ond, er mor angenrheidiol ydy hawliau unigolion i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen mynd ymhellach o lawer na hyn. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod yn llawn fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, yn iaith fyw ddydd-i-ddydd mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, yn benodol yn y gorllewin, neu ardal Arfor, sef Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin a rhai o'r ardaloedd cyfagos. Mae llawer o drigolion y bröydd hyn yn byw eu bywydau'n naturiol drwy'r Gymraeg, a dwi'n meddwl weithiau fod yna ddiffyg dealltwriaeth gwaelodol ynglŷn â hyn. Dim rhywbeth artiffisial ydy'r Gymraeg yn fy mywyd i yn Arfon, ond elfen gwbl naturiol o fy mywyd teuluol, cymdeithasol a chymunedol, ac mae angen pwyslais ar yr elfen gymunedol yma o'r Gymraeg yn ogystal â'r pwyslais ar hawliau unigol.

Mae ardal Arfor ymhlith y tlotaf yn Ewrop, ac mae pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal am waith, gan wanio'r Gymraeg a'r gwead cymunedol ieithyddol. Mi hoffwn i wybod beth ydy eich polisïau chi ynglŷn â datblygu nid yn unig y Gymraeg, ond yr economi, y gwasanaethau cyhoeddus, polisïau tai a chynllunio pwrpasol, trafnidiaeth ac yn y blaen. Beth ydy cynlluniau'ch Llywodraeth chi ar gyfer datblygu strategaeth benodol, ranbarthol ar gyfer yr ardal yma? 'Heb waith, heb iaith', meddai'r dywediad. Beth yn union ydy eich cynlluniau chi yn sgil hyn i gyd?

Ac, os ydym ni o ddifrif am gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol yn ein bröydd Cymraeg, mae angen i ni sicrhau bod yna swyddi o safon uchel yn y gorllewin fel bod pobl ifanc yn gallu aros yn eu cymunedau os maen nhw'n dymuno gwneud hynny, ac mi ellid dechrau drwy sbïo ar swyddi'r Llywodraeth ei hun. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy: pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i adleoli swyddi neu i leoli unrhyw swyddi newydd sydd yn dod yn uniongyrchol dan reolaeth eich Llywodraeth eich hun—pa gynlluniau sydd yna i leoli'r swyddi yma yn ardal Arfor? Arfor, nid Arfon.

17:50

Arfor, ocê. Wel, diolch yn fawr. Mae'n rili drist. Dwi'n meddwl bod yna gyfle fan hyn i ni ymfalchïo, i ni ddweud yr hanes wrth y byd, a beth sy'n drist yw eich bod chi wedi trafod fan hyn y problemau sydd gyda ni, a dyma'r cyfle sydd gyda ni. Mae cymaint o bethau dylen ni fod yn browd ohono, dwi'n meddwl, ac mae e'n rili drist, unwaith eto, beth sydd wedi digwydd yw canolbwyntio ar y pethau negyddol.

Mae'n rhaid i ni roi rhywbeth nôl i'r byd. Dwi'n meddwl bod hwnna'n hollbwysig. Mae hawliau yn y wlad yma wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd. Mae hwnna'n rhywbeth gallwn ni ddangos i'r byd: beth sydd wedi ei newid. Mae'r safonau rŷn ni wedi dod mewn â nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac rŷn ni wedi cael trafodaethau'n ddiweddar gyda'r fforymau rheoleiddio, er enghraifft, yn yr adran iechyd, i weld beth allwn ni ei wneud nawr, ac mae'r broses yna'n symud ymlaen. Dwi'n meddwl hefyd fod yna ymwybyddiaeth bod y Gymraeg yn iaith fyw yn ein hardaloedd, yn arbennig yn y gorllewin, ond mae'n rhaid i ni fynd cam ymhellach na diogelu'r Gymraeg yn y cymunedau hynny. Ein gweledigaeth ni yw i ehangu ac i gael miliwn o siaradwyr. Allwch chi ddim â gwneud hwnna jest wrth fod yn Arfor neu Arfon. Beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n ehangu’r posibiliadau a sicrhau ein bod ni’n cael mwy o ddysgwyr ar draws ein gwlad. 

A beth yw’n gobaith ni nawr, wrth gwrs—ac mae’n bwysig, rŷch chi’n iawn, ein bod ni—. Mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar yr economi. Dyw Brexit ddim yn mynd i helpu yn y cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith. Dyw hwnna ddim yn mynd i helpu o gwbl, a dyna un o’r rhesymau pam byddwn ni'n cynnal symposiwm ar yr economi, yn edrych ar yr iaith Gymraeg, yn yr hydref yn y gorllewin. 

A hefyd dwi yn meddwl ei fod e’n bwysig i bwysleisio bod lot o swyddi eisoes wedi symud mas o Gaerdydd. Mae Llandudno—mae lot mawr o siaradwyr Cymraeg yn ein hadrannau yn Llandudno; lot mawr wedi symud mas i Aberystwyth eisoes. Ac felly dwi yn meddwl ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ceisio sicrhau ein bod ni’n lledaenu’r gwaith o reoleiddio Cymru ar draws y wlad.

17:55

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol yn rhoi'r cyfle inni nid yn unig i ddathlu'r ffaith bod dros 5,000 o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad ledled y byd, ond hefyd i weithio gyda'n gilydd i arbed yr ieithoedd hynny rhag diflannu. Mae ffrind da i mi, Mohammed Sarul Islam, wedi gweithio'n ddiflino dros y ddegawd ddiwethaf i sicrhau cofeb mamiaith ryngwladol yma yng Nghaerdydd. Mae'r ffaith i'r gofeb gael ei gorffen yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol yn deyrnged deilwng i waith caled Sarul ac aelodau eraill y pwyllgor. Mae Caerdydd yn ddinas amlieithog ac yn gartref teilwng i gofeb sy'n dathlu'r ieithoedd y byd. Ond, fel y mae'r Gweinidog yn ei nodi'n gwbl briodol, mae llawer o'r ieithoedd hynny o dan fygythiad. Yn ôl y prosiect ieithoedd sydd mewn perygl, mae 3,423 o ieithoedd yn wynebu difodiant, ac mae'r Gymraeg ar y rhestr sydd mewn perygl.

Gweinidog, pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth chi wedi'u cael gyda'r Sefydliad Ieithoedd Brodorol ynghylch sut i rannu arferion gorau a chydweithio i ddiogelu'r holl ieithoedd sydd mewn perygl? Mae'r rhyngrwyd yn fygythiad i ieithoedd brodorol, ond mae technoleg hefyd yn allweddol i ddiogelu ieithoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gweinidog, mae llawer o brosiectau ffynhonnell agored yn bodoli i sicrhau, o system weithredu i gleient e-bost, bod eich dewis iaith yn cael ei gefnogi. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gwneud mwy o ddefnydd o feddalwedd o'r fath? Mae technoleg ffynhonnell agored hefyd yn arwain y ffordd o ran sicrhau cymorth gan gynorthwywyr digidol mewn ieithoedd brodorol. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda sefydliad Mozilla am y prosiect Llais Cyffredin a sut y gall eich Llywodraeth gyfrannu at dwf y Gymraeg yn y maes digidol?

Ac, yn olaf, Gweinidog, un o'r bygythiadau mwyaf i ieithoedd brodorol yw bod pobl frodorol yn colli tir. Mae newid yn yr hinsawdd a lefelau'r môr yn codi yn bygwth pobloedd brodorol ym mhobman. Yn y degawdau nesaf, gallai mudo oherwydd yr hinsawdd arwain at golli llawer o ieithoedd. Gweinidog, beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau nad yw ein heffaith ar yr hinsawdd fyd-eang yn bygwth pobloedd brodorol ledled y byd? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod rhai o'r geiriau a ddywedwyd yn y fan honno i'w croesawu'n fawr: y ffaith bod sensitifrwydd tuag at ieithoedd brodorol, bod dealltwriaeth o'r ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn mynd i effeithio ar leoedd yn y byd ac y bydd yna bwysau a, mewn gwirionedd, bod hynny'n debygol o arwain at ragor o symud. Y broblem yw bod nifer fawr o aelodau'r blaid y mae hi bellach yn perthyn iddi mewn gwirionedd yn gwrthod y pethau hyn, a'u bod mewn gwirionedd wedi bod mewn sefyllfa i hybu a gwaethygu'r tensiynau, yn enwedig yn erbyn pobl sy'n siarad ieithoedd lleiafrifol. Ac mae'n wirioneddol drist, oherwydd rwy'n gwybod nad yw'r Aelod ei hun yn y categori hwnnw, ond mae llawer iawn o bobl yn y blaid honno sy'n arddel y safbwynt hwnnw, ac mae'n wirioneddol drist gweld y sefyllfa honno. Rwy'n credu bod yn rhaid cael dealltwriaeth, fel plaid wleidyddol—fel plaid wleidyddol—nad dyna'r farn a rennir gan lawer iawn o bobl sydd erbyn hyn yn dilyn yr arweiniad yr ydym yn ei weld gan Nigel Farage.

O ran cynllun technoleg y Gymraeg, rwy'n falch iawn eich bod yn siarad am dechnoleg ffynhonnell agored. Mae'n agwedd bwysig iawn yr ydym ni'n ceisio'i datblygu mewn gwirionedd. Rydym ni'n cydweithio'n agos iawn â Mozilla, y sefydliad, wrth ddatblygu'r prosiect Llais Cyffredin hwn. Felly, os yw unrhyw un yn siarad Cymraeg, yna byddem yn gofyn i chi ychwanegu pum brawddeg o'ch llais i'r rhwydwaith cymhleth yr ydym ni'n ceisio ei ddatblygu fel bod gennym ni sylfaen o siaradwyr i'w defnyddio i wneud yn siŵr ein bod yn gallu defnyddio'r dechnoleg llais hon yn y dyfodol.

18:00
8. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Masnach

A dyma ni'n dod i'r eitem nesaf, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur Masnach, a dwi'n galw ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i wneud y cynnig—Eluned Morgan.

Cynnig NDM7052 Eluned Morgan

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai'r darpariaethau yn y Bil Masnach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried ymhellach gan Senedd y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Eluned Morgan 18:01:07
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n cyflwyno'r cynnig.

Yr hyn yr ydym ni'n ei drafod yn y ddadl hon yw memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Bil Masnach, Bil y bydd angen ei sefydlu er mwyn sicrhau y gallwn ni barhau i fasnachu â chenhedloedd ledled y byd ar ôl Brexit. Mesur gan Lywodraeth y DU yw'r Bil, wrth gwrs, ond, fel y mae Llywodraeth y DU yn dysgu'n gyflym, pan fyddant yn trafod bargeinion masnach yn y dyfodol—rhywbeth nad yw'r DU wedi ei wneud am bron i 40 mlynedd—byddant yn tramgwyddo yn ein herbyn ni a'n pwerau yma yng Nghynulliad Cymru, felly mae'n gwneud synnwyr iddyn nhw ofyn am ein caniatâd pan eu bod nhw'n bwriadu negodi ar faterion y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol amdanynt.

Felly, ychydig dros ddau fis yn ôl, cytunodd y Cynulliad y dylid pasio memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach. Nawr, ar y pryd, ymddangosai fel pe byddai'r Bil yn dod i ddiwedd y daith ddeddfwriaethol honno, ond ers hynny, diwygiwyd y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi, a byddai natur o leiaf un o'r gwelliannau hyn wedi ei gwneud hi'n ofynnol i ni gyflwyno cynnig deddfwriaeth cydsyniad atodol i'r Senedd. Ond, gan ei bod hi'n ymddangos y gallai'r Bil fynd yn ôl ac ymlaen, neu i Dŷ'r Cyffredin orfod ystyried gwelliant Tŷ'r Arglwyddi, roedd hi'n edrych ar un adeg fel pe na byddai digon o amser i gynnal dadl bellach yma yn y Cynulliad. Ond, fel y gwyddom ni, mae'r Bil Masnach wedi bod yn gogr-droi yn Nhŷ'r Arglwyddi bellach ers cryn dipyn o amser ac felly mae wedi rhoi'r cyfle i ni ymgynghori â'r Cynulliad ar y newidiadau arfaethedig sy'n cael eu hawgrymu.

Nawr, mae hanes y Bil yma yn dangos y pwynt a wnaed gan y Prif Weinidog yng Nghymru am ba mor annigonol yw'r trefniadau ar gyfer delio â chydsyniad deddfwriaethol yn y broses o basio deddfwriaeth San Steffan. Yn ei araith fis Medi diwethaf, galwodd y Prif Weinidog blaenorol i'r broses seneddol gael ei ailddiwygio i sicrhau cyfnod clir yn ystod camau olaf unrhyw Fil o San Steffan sy'n sefyll ar draed datganoli. A'r penderfyniadau hyn, dylen nhw gael eu hystyried yn fanwl hefyd gan y Senedd yn y Deyrnas Unedig.

Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am yr holl newidiadau a wnaed i'r Bil wrth iddo fynd rhagddo. Fodd bynnag, gan y bu oedi pellach ar y Bil, yn ôl pob tebyg oherwydd pryder y Llywodraeth na fydd yn gallu perswadio Tŷ'r Cyffredin i wrthdroi'r gwelliant a fyddai'n ei rwymo i drafod undeb tollau parhaol, rwy'n falch bod y Cynulliad wedi gallu amserlennu'r ddadl hon. Er fy mod i'n sylweddoli na fu amser i graffu ar y Bil, rwy'n ddiolchgar am gael cyfle i egluro mwy am y gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers ein dadl ddiwethaf ar gydsyniad deddfwriaethol.

Felly, ers y cyflwyniad yn ôl yn 2017, mae'r Bil wedi cael dau gylch craffu, ac rydych chi, yn y Siambr hon, eisoes wedi cael cyfle i drafod y darpariaethau yn y Bil sydd o fewn ein cymhwysedd. Am y rheswm hwn, nid wyf i yma heddiw i drafod y darpariaethau niferus yn y Bil sydd o fewn ein cymhwysedd, oherwydd bod y rheini eisoes wedi derbyn cydsyniad. Y rheswm dros y ddadl heddiw a'r rheswm pam y cyflwynais femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol arall yw bod un o'r gwelliannau a gynigir i'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn.

Nawr, nid yw'r gwelliant hwn yn arbennig o sylweddol, ac nid wyf yn disgwyl iddo fod yn arbennig o ddadleuol ychwaith. Fodd bynnag, mae o fewn cymhwysedd, ac felly dylai'r Cynulliad hwn ei ystyried ac, rwy'n credu, rhoi ei gydsyniad iddo. Un o effeithiau'r gwelliant dan sylw yw diddymu'r gofyniad blaenorol i Weinidogion Cymru ymgynghori â Llywodraeth y DU cyn gwneud rheoliadau o dan y Bil Masnach, os gallai Gweinidogion Cymru wneud yr un peth mewn rheoliadau o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur heb fod angen ymgynghoriad. Mae hyn i bob pwrpas yn ehangu pwerau datganoledig o dan y Bil, felly, mewn egwyddor, mae hynny'n golygu llai o gyfyngu ar bwerau datganoledig. Dyma'r unig welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi sydd wedi ei wneud yn y Mesur Seneddol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Credaf ei fod yn cynrychioli newid synhwyrol a phriodol, na ddylai fod gan y Cynulliad unrhyw bryderon yn ei gylch. Felly, rwy'n argymell y dylid caniatáu cydsyniad iddo.

Yn fwy cyffredinol, er nad oes sicrwydd y bydd y gwelliant mwy dadleuol yn ymwneud ag undeb tollau yn cael ei wrthdroi gan Dŷ'r Cyffredin, ac er nad yw hyn yn amodol ar y gofyniad am gydsyniad deddfwriaethol, rwy'n gobeithio yr hoffai Aelodau'n ddatgan eu cefnogaeth i'r nod hwn, sydd wrth gwrs yn gwbl unol â safbwynt cyson y Cynulliad ynglŷn â Brexit. Rydym yn disgwyl i'r Bil ddechrau ar daith yn ôl ac ymlaen yn fuan iawn. Bydd fy swyddogion yn parhau i gadw golwg ar unrhyw newidiadau pellach a wneir i'r Bil, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi gwybod i chi os bydd newidiadau pellach yn gofyn am gydsyniad y Cynulliad hwn.

18:05

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Lywydd. Rwy'n adrodd ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac, wrth gwrs, rwy'n canmol Aelodau'r Cynulliad sydd wedi aros yma mor amyneddgar y prynhawn yma am fy adroddiad.

Fe wnaethom ni adrodd ar femorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r Bil Masnach ym mis Mawrth 2018. Ym mis Hydref y flwyddyn honno, cyflwynwyd adroddiad gennym ni ar y rheoliadau i'w gwneud o dan y Bil. Fe wnaethom ni ystyried Memorandwm Rhif 2 ym mis Mawrth eleni, ac er nad oeddem ni mewn sefyllfa i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog, oherwydd yr amserlenni caeth, fe wnaethom ni lunio adroddiad a siaradais yn y ddadl ar y memorandwm hwnnw.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am ddod â'r cynnig hwn gerbron ynglŷn â Memorandwm Rhif 3, yn dilyn llythyr gan David Rees yn rhinwedd ei swyddogaeth o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nid ydym ni wedi bod mewn sefyllfa i dderbyn tystiolaeth gan y Gweinidog ar femorandwm Rhif 3, nac i lunio adroddiad, unwaith eto oherwydd yr amserlenni dan sylw. Fodd bynnag, fe hoffwn i wneud sawl sylw, a gwnaed rhai ohonyn nhw yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2 ac sy'n dal i fod yn berthnasol.

Yn gyntaf, diolch i'r Gweinidog am ei llythyr dyddiedig 25 Ebrill, pryd yr ymatebodd i nifer o'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ar yr ail femorandwm. Er fy mod i'n croesawu'r wybodaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi ynghylch yr ymrwymiadau sydd wedi eu sicrhau o ran y blychau dogfennau, tynnaf sylw'r Cynulliad eto at y pryderon sydd gan y pwyllgor ynghylch y modd y caiff confensiwn Sewel ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydym ni'n dal i fod o'r farn bod angen egluro i ba raddau y gellir dibynnu ar y confensiwn i ddiogelu cymwyseddau datganoledig. O dan yr amgylchiadau, byddwn yn dal i groesawu eglurhad gan y Gweinidog ynghylch pa un a oes unrhyw eithriadau i'r ymrwymiad na fydd Gweinidogion Llywodraeth y DU fel arfer yn defnyddio'r pwerau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

Yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2, fe wnaethom ni argymell y dylid diwygio Rheol Sefydlog 30C i fod yn berthnasol i'r Bil Masnach ar ôl iddo ddod yn ddeddfwriaeth, ac, yn ei llythyr atom ni, mae'r Gweinidog wedi dweud wrthym ni ei bod yn credu bod angen adolygu Rheol Sefydlog 30C yn yn hytrach  hynny. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi eglurhad pellach dim ond ar y pwynt hwn.

Drwy gydol ein gwaith o graffu ar y Bil Masnach, rydym ni wedi mynegi pryderon ynghylch cwmpas y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil. Ein prif bryder yw bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rwy'n achub ar y cyfle eto i ailddatgan yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol gael ei addasu gan reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU, ac er y cafwyd sicrwydd na chaiff pwerau gwneud rheoliadau eu defnyddio i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, nid yw'r sicrwydd hwnnw, wrth gwrs, yn rhwymo mewn cyfraith, sy'n amlwg yn peri pryder.

Ar 30 Ebrill 2019, ac yn unol ag un o'n hargymhellion, cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn ag Awdurdod Rhwymedïau Masnach y DU, a sylwaf fod y Gweinidog wedi dweud ei bod wedi cael nifer o ymrwymiadau anneddfwriaethol gan Lywodraeth y DU ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhyngweithio â'r awdurdod. Hefyd, mae hi wedi dweud ei bod hi'n falch â'r cynnydd a wnaed a'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi. Fodd bynnag, byddwn yn awgrymu'n barchus nad yw'r broses a sicrhawyd sy'n golygu y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar argymhellion yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach ar yr un pryd ag ymgynghori ag adrannau Llywodraeth y DU yn parchu Llywodraeth Cymru fel adain weithredol gwlad ddatganoledig.

Dyna fy sylwadau i. Diolch, Llywydd.  

18:10

Ar y meinciau hyn, dŷn ni'n poeni'n ddirfawr am y Bil Masnach yn gyffredinol a'r posibiliadau eang a dinistriol o gael cytundebau masnach newydd efo gwledydd fel Unol Daleithiau America, a all danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus yn gyfan gwbl a'r bwydydd dŷn ni'n eu bwyta bob dydd; Duw a ŵyr beth fyddan nhw'n edrych fel. Dŷn ni hefyd yn poeni am golli pwerau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i fan hyn ers 20 mlynedd. Dyna'r pryder am ddyfodol confensiwn Sewel, fel dŷn ni i gyd wedi gwyntyllu eisoes yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mae'r Cadeirydd newydd ei wyntyllu eto. Dŷn ni'n poeni hefyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn anwybyddu Cymru ac yn anwybyddu Llywodraeth Cymru yn feunyddiol yn y trafodaethau Brexit, ac, o ran craffu yn y ddeddfwrfa yma, dŷn ni hefyd yn poeni bod pwerau yn cael eu sugno o'r Senedd yma yn gyffredinol i Lywodraeth Cymru, ac yn ogystal fod pwerau yn cael eu sugno o fan hyn ar draws yr M4 i San Steffan. Dŷn ni'n colli pwerau o'r ddwy ochr—o'r ddeddfwrfa ei hun i'r Llywodraeth fan hyn, ac o'r Llywodraeth yn fan hyn i San Steffan.

Nawr, fe wnaeth Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol am bedwar rheswm penodol y diwrnod hynny, ac nid oes unrhyw un o'r rhain wedi newid yn sgil y gwelliannau a gymeradwywyd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae'r gwelliant a basiwyd yn cael gwared â'r angen i Weinidogion Cymru gael caniatâd Gweinidogion San Steffan cyn gwneud rheoliadau dan y Bil Masnach, ond nid yw'n gwireddu'r hyn y mae Plaid Cymru wedi galw amdano, sef sicrhau rôl i'r Senedd hon wrth weithredu pwerau o'r fath. Mae ein pryder ynghylch yr effaith ar gonfensiwn Sewel yn parhau, ein pryder ynghylch y posibiliad y bydd y terfyn amser y bydd y pwerau yn weithredol yn cael ei ymestyn yn ddi-dor yn parhau, ac mae ein pryder bod diffyg manylder ynghylch sut y bydd yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach yn gweithredu yn parhau. Dŷn ni ddim felly mewn sefyllfa i allu cymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw a byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig.

Dechreuaf fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r Gweinidog am osod yr ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ac am gyflwyno'r cynnig yr ydym ni'n ei drafod heddiw. Fel y gŵyr y Gweinidog, ac fel mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei nodi, mae hyn mewn gwirionedd yn deillio o ohebiaeth gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu trafod ac ystyried y cwestiwn ynghylch cydsyniad ar gyfer darpariaethau a ychwanegwyd i'r Bil Masnach gan welliant yn hwyr yn y dydd ym mhroses graffu San Steffan. Ceisiaf osgoi ailadrodd unrhyw beth y mae fy nghyd-Aelod Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi'i ddweud, oherwydd mae gennym ni farn debyg iawn yn ein pwyllgor ni i'w bwyllgor ef. Ond rwyf eisiau atgoffa'r Aelodau mai dyma'r ail dro yn ystod y broses Brexit pan fo darpariaethau newydd wedi'u hychwanegu mewn Mesur yn San Steffan ar yr unfed awr ar ddeg sydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn. Rydym ni'n gresynwn nad oeddem ni'n gallu ystyried rhoi ein cydsyniad ynglŷn â'r enghraifft gyntaf o'r fath, a oedd ar ddiwedd taith Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) drwy'r Senedd, ond rwy'n falch ein bod ni'n gallu gwneud hynny heddiw a bod gennym ni gyfle gwirioneddol i drafod y gwelliannau i'r Bil masnach. Rwyf yn derbyn safbwynt y Gweinidog ein bod ni wedi rhoi cydsyniad i'r agweddau blaenorol ac felly y dylem ni yn dechnegol fod yn edrych ar y gwelliannau a ychwanegwyd gan Dŷ'r Arglwyddi yn y Mesur hwnnw.

Ond mae'n rhaid rhoi sylw manylach i ba mor ymarferol yw ystyried materion sy'n ymwneud â chydsyniad deddfwriaethol sy'n codi ar ddiwedd proses graffu Bil San Steffan. Mae'n fy nharo i fod hyn yn wendid yn y trefniadau presennol, yn enwedig, fel y mae'r Gweinidog wedi casglu, pan fyddwn ni mewn sefyllfa lle mae pethau'n mynd hwnt ac yma, lle mae pethau'n mynd yn ôl ac ymlaen fel io-io. Ni wyddom ni beth fydd terfyn pethau, ond mae angen i ni edrych ym mha le y mae'r broses graffu ar gyfer y Cynulliad hwn os caiff gwelliannau ychwanegol eu gwneud a'u cymeradwyo ar ôl i ni gydsynio â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Mae holl broses Brexit mewn gwirionedd wedi dangos i ni y gwendidau yn y broses graffu bresennol.

Nawr, ystyriodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ddoe, ac er inni glywed y prynhawn yma gan y Gweinidog am fanylion y gwelliant hwnnw a wnaethpwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, gyda'r amserlenni a ganiateir i ni, yn amlwg nid ydym ni wedi gallu darparu adroddiad ar ein hystyriaeth, ond rydym ni'n fodlon dweud nad oes unrhyw bwyntiau craffu sylweddol pellach inni graffu arnyn nhw yn seiliedig ar y gwelliant a ystyriwyd gennym ni.

Fe hoffwn i gloi drwy ddiolch i'r Gweinidog unwaith eto am osod y memorandwm. Mae'n bwysig bod y sefydliad hwn yn cael cyfle i drafod gwelliannau atodol i femoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym ni eisoes wedi rhoi cydsyniad iddyn nhw. Oherwydd fel arall, nid ydym ni'n cael cyfle i wneud sylwadau ar rywbeth a fydd yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r camau gweithredu yr un mor bwysig o ran yr egwyddor o gynnal y confensiwn cydsyniad hwnnw ag ydyw o ran manylion y gwelliannau a arweiniodd at y ddadl hon. Felly, os gwelwch yn dda, pa bryd bynnag y gallwn ni, gadewch inni barhau i osod memoranda atodol, ond efallai, fel Cynulliad, bod angen inni gyflwyno sylwadau i San Steffan i edrych ar y broses, er mwyn inni gael y cyfle hwnnw hyd yn oed yn fwy.

18:15
Member
Eluned Morgan 18:15:48
Minister for International Relations and the Welsh Language

Diolch yn fawr. Byddwn wrth fy modd yn ailagor y ddadl a thrafod confensiwn Sewel a'r rhyngweithio gyda Llywodraeth y DU a'r rhwymedïau masnachol a pham y dylem ni gefnogi undeb tollau. Nid dyna'r hyn yr ydym ni yma i'w drafod heddiw mewn gwirionedd. Rydym ni eisoes wedi pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Masnach a oedd yn cyfeirio at agweddau a oedd wedi'u datganoli i Gymru. Rwy'n methu'n lân â deall pam na fyddai Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliant hwn. Mae hyn yn ehangu pwerau'r Cynulliad. Beth bynnag am hynny, rwy'n gweld hynny'n rhyfedd iawn, ac mae'n amlwg bod—

Wel, gadewch i mi eich helpu, Gweinidog. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. [Chwerthin.]

A allwch chi gadarnhau, felly, na fydd unrhyw golli pwerau o'r Cynulliad hwn o ran ein gallu i graffu os byddwn ni'n pasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn? Oherwydd rwy'n credu y bydd. Dyna pam yr ydym ni yn ei erbyn.

Na fydd, ni fydd unrhyw golled o gwbl. Mewn gwirionedd, mae gennym ni fwy o bwerau o ganlyniad i'r gwelliant hwn. Ac felly, dyna pam—

Na, na—rwy'n credu, os ydych chi'n edrych arno fel Cynulliad, fe welwch chi fod mwy o bwerau o ganlyniad i'r gwelliant hwn. Felly, credaf fod anghysondeb o ran dull gweithredu Plaid Cymru.

Rwy'n cytuno â Chadeirydd y pwyllgor materion allanol nad yw'r broses yn dderbyniol o gwbl. Os oes gennym ni broses lle mae gwelliannau newydd yn cael eu cyflwyno, nid oes cyfleoedd i ni eu hailystyried. Ond mae cyfle yn yr achos hwn. Oherwydd y bu oedi hir iawn ar hyn, rydym ni wedi gallu gwneud sylwadau. Nid dyna fydd y sefyllfa fel arfer. Felly, mae angen i ni gael system well o allu monitro, asesu, ac er mwyn i chi, y Cynulliad, allu ein dwyn ni'r Llywodraeth i gyfrif hefyd o ran unrhyw newidiadau y byddem ni'n cytuno iddyn nhw. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno â'r gwelliant hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ehangu pwerau'r Cynulliad.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio, felly, y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu’r gloch, dwi'n symud yn syth i’r bleidlais.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, dyma'r bleidlais ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar y Mesur masnach. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Eluned Morgan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn. 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Masnach: O blaid: 37, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.