Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/07/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Cyn dechrau ar fusnes y prynhawn yma, dwi eisiau nodi'r newyddion a ddaeth dros y penwythnos am farwolaeth y cyn-Aelod Rod Richards. Ef oedd arweinydd cyntaf grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad yma, yn dilyn tymor yn San Steffan hefyd fel Aelod Seneddol Gogledd-orllewin Clwyd. Cafodd hefyd y fraint o fod yr Aelod Cynulliad cyntaf erioed i dyngu llw yn y Senedd yma. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn dymuno ymestyn pob cydymdeimlad i deulu a chyfeillion Rod Richards yn y cyfnod anodd yma. Diolch.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau, felly, i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.

Recriwtio Gweithwyr Medrus

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu recriwtio'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt? OAQ54239

Llywydd, byddwn yn darparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Byddwn yn defnyddio ein rhaglen sgiliau hyblyg i gefnogi busnesau, a byddwn yn parhau i wrthwynebu polisïau ymfudo gan Lywodraeth y DU a fyddai'n atal y busnesau hynny rhag cael gafael ar y gweithwyr crefftus sydd eu hangen arnyn nhw.

Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae baromedr busnes y Brifysgol Agored, sy'n monitro tirlun sgiliau'r DU, yn dangos bod 92 y cant o'r sefydliadau a arolygwyd yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i weithwyr sydd â'r sgiliau cywir. Dywedodd dros 50 y cant bod eu sefydliad wedi ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r prinder sgiliau, ac mae 64 y cant yn cael trafferth o ran penodi i swyddi rheoli neu arweinyddiaeth. Maen nhw'n rhagweld bod y prinder bellach yn costio £355 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i sefydliadau yma yng Nghymru mewn ffioedd recriwtio, cyflogau uwch, staff dros dro, a hyfforddiant i weithwyr a benodir ar lefel is na fwriadwyd. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd, yng ngoleuni'r adroddiad hwn, i helpu sefydliadau Cymru i lenwi'r bwlch rhwng y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw a'r sgiliau sydd ar gael yn y farchnad lafur yng Nghymru? Diolch.

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno wrth gwrs—pwysigrwydd y camau y gall Llywodraeth eu cymryd i wneud yn siŵr bod gan wasanaethau cyhoeddus, busnesau, y llafur crefftus sydd ei angen arnynt. Dyna pam mae'r camau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cymryd wedi arwain, rhwng 2011 a 2018, i ganran yr oedolion o oedran gweithio yng Nghymru nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau ostwng o 12 y cant i 8 y cant, ac, yn ystod yr un cyfnod, i ganran yr oedolion sy'n gweithio sydd â chymhwyster ar lefel sgiliau uwch godi o 32 y cant i 38 y cant. Dyna pam mae gennym ni ein hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Dyna pam yr ydym ni'n symud ein polisi yn y maes prentisiaeth, i roi pwyslais newydd ar sgiliau lefel uwch. Mae llawer y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ac y bydd yn parhau i'w wneud. Ond mae'n rhaid i'r Aelod hefyd wynebu'r ffeithiau bod busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a phrifysgolion yng Nghymru yn dibynnu ar ein gallu i recriwtio pobl o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd, ac o rannau eraill o'r byd, i ddod i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru. Nid yn unig y bydd Brexit yn rhwystr i hynny, ond bydd y polisïau y mae ei Lywodraeth ef yn ei dilyn o ran ymfudo yn gwneud yr anawsterau hynny yn fwy fyth, a dyna pam y byddwn ni'n gwrthwynebu'r syniadau hynny mor egnïol ag y gallwn ni.

Prif Weinidog, yn sgil lansiad diweddar digwyddiad uwchsgilio yn y gwaith yng Ngholeg Merthyr, cefais y cyfle i drafod â nhw pwysigrwydd sgiliau a phrentisiaethau i fusnesau bach a chanolig eu maint yn yr etholaeth. Ac, o'r hyn a glywais, mae'n ymddangos efallai fod rhywfaint o amharodrwydd ar ran rhai BBaChau i fanteisio ar y cynlluniau prentisiaeth, o bosibl oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, neu bryder ynghylch cyflogi pobl yn y ffordd honno oherwydd yr hyn y gallen nhw ei ystyried yn fiwrocratiaeth neu'n gyfrifoldeb beichus. Felly, hoffwn wybod beth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog mwy o gyflogwyr BBaChau yn arbennig i fanteisio ar gyfleoedd prentisiaeth yn y sector hanfodol hwn mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni.

Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am hynna. Hoffwn longyfarch Coleg Merthyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwn. Un o lwyddiannau mawr datganoli, Coleg Merthyr, o ran ei ddatblygiad yn ystod y cyfnod ers 1999. Ac yn sicr yn rhannol o ganlyniad i'r mathau o ddigwyddiadau a grybwyllwyd gan Dawn Bowden, ac yna nodwyd eisoes bod 57 y cant o'r rhai sy'n dechrau ar brentisiaethau yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni gyda menter fach neu ganolig ei maint, a bod 57 y cant yn cymharu gyda 51 y cant ar draws Cymru gyfan. Felly, mae'n amlwg bod gwaith da eisoes yn cael ei wneud yn etholaeth yr Aelod. Ond mae hi'n iawn, wrth gwrs, y gall y cyfrifoldeb o gyflogi prentis ymddangos yn anodd i gwmni bach iawn, a dyna pam yr ydym ni wedi datblygu'r syniad o rannu prentisiaethau yng Nghymru, lle gall cyflogwyr, yn enwedig cyflogwyr bach, rannu prentis a rhannu'r cyfrifoldeb a'r gwaith gweinyddol sy'n mynd law yn llaw â hynny. Mae prosiect Aspire ym Merthyr Tudful yn un o'r cynlluniau hynny. Mae wedi bod yn llwyddiant eisoes ac mae mwy o lwyddiant i ddod. Rwy'n deall bod digwyddiad dathlu ar y gweill ar gyfer prosiect Aspire yn yr hydref y bydd fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, yn bresennol ynddo, a bydd yn gyfle i ddathlu'r llwyddiant a gafwyd eisoes yn etholaeth Merthyr a Rhymni ac i dynnu sylw at y cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yn y maes prentisiaethau yn yr union fodd a awgrymwyd gan Dawn Bowden.

13:35
Hawliau Plant

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo dull o weithredu hawliau plant wrth weithio gyda chyrff sydd heb eu datganoli? OAQ54290

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob corff cyhoeddus i fabwysiadu dull hawliau plant wrth wneud eu gwaith. Rydym ni'n barod i gefnogi unrhyw gorff nad yw wedi'i ddatganoli drwy wybodaeth a hyfforddiant cynhwysfawr.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am ei ateb. Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd yr wythnos diwethaf o'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a merched a'r grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn plant, gan edrych ar y llysoedd teulu a'r gwaith y mae CAFCASS yn ei wneud. Roedd yn galonogol iawn clywed sut y mae CAFCASS Cymru yn dechrau mabwysiadu dull sy'n llawer mwy seiliedig ar hawliau plant o ran y ffordd y maen nhw'n ymdrin â pharatoi adroddiadau ar gyfer llysoedd teulu. Fodd bynnag, roedd yn peri pryder mawr clywed gan fenywod y mae eu teuluoedd wedi cael y profiad hwnnw i'r graddau y mae'r llysoedd teulu weithiau yn anwybyddu cyngor CAFCASS, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n deall pa mor bwysig yw llais y plentyn wrth benderfynu ar faterion yn ymwneud, er enghraifft, â gwarchodaeth, gyda phlant yn aml iawn yn cael eu holi am eu safbwyntiau, eu safbwyntiau, o'i safbwynt nhw, yn cael eu hanwybyddu, er, wrth gwrs, efallai nad yr hyn y mae'r plentyn ei eisiau yw'r peth gorau i'r plentyn bob tro. Mynegwyd rhai pryderon gwirioneddol yn yr ystafell honno gan weithwyr proffesiynol a chan fenywod hefyd nad yw'r gwasanaeth llysoedd teulu wir yn deall effaith trais domestig ar blant a sut y dylid annog plant i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn effeithiol. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog heddiw i wneud mwy o waith gyda'r Cwnsler Cyffredinol i geisio sicrhau bod y dull priodol y mae CAFCASS Cymru yn dechrau ei ddilyn o ran profiad plant sy'n dioddef cam-drin domestig hefyd yn cael ei adlewyrchu a bod y llysoedd teulu yn llawer mwy ymwybodol o effaith hirdymor cam-drin domestig ar blant a sut y gallan nhw fynegi eu safbwyntiau?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am y pwyntiau pwysig iawn yna? Mae gweithrediad y llysoedd teulu yng Nghymru yn rhywbeth yr ydym ni'n cymryd diddordeb ynddo yn y fan yma, a hynny'n gwbl briodol. Fy nealltwriaeth i yw bod y comisiwn cyfiawnder, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas, wedi cymryd diddordeb cynyddol yn ei waith yng ngweithrediad y llysoedd teulu ac y gallwn ddisgwyl i'r adroddiad, yr ydym ni'n ei ddisgwyl yn yr hydref, roi rhywfaint o gyngor i ni ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llysoedd teulu yma yng Nghymru. Gwn y bydd Helen Mary yn ymwybodol o'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad o'r system cyfiawnder teuluol yn ddiweddar, ac ni fu gan y panel a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynrychiolydd o Gymru arno. Felly, rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ei annog i ddatrys y bwlch hwnnw gan fod agweddau ar y setliad datganoledig sy'n golygu bod yn rhaid i waith y llysoedd teulu yn uniongyrchol ddibynnu ar faterion sydd wedi eu datganoli yma yng Nghymru, gan gynnwys CAFCASS Cymru, ac mae'n iawn y dylai'r adolygiad hwnnw gael ei hysbysu'n briodol gan yr holl waith sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Rwy'n hapus iawn i siarad â'r Cwnsler Cyffredinol. Hoffwn roi sicrwydd iddi bod camau eisoes yn cael eu cymryd i sicrhau bod ein dull hawliau plant yn cael ei gyfleu'n llawn i gyrff nad ydyn nhw wedi eu datganoli pan eu bod yn gweithredu yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant' yn cynnwys yr angen i wella galluoedd plant fel unigolion fel eu bod yn gallu manteisio'n well ar eu hawliau eu hunain. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys erthygl 3 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n datgan bod yn rhaid i fudd pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a gweithred sy'n effeithio ar blant. Nawr, fel Aelodau, rydym ni i gyd wedi derbyn e-bost gan y Cross Keys Silver Band am y gyfraith sy'n gofyn am drwydded ar gyfer perfformwyr sy'n blant. Yn lleol, mae hyn yn effeithio ar fandiau cerddorol lleol sydd hefyd wedi cysylltu â mi, ac mae nifer o rieni wedi cysylltu â mi hefyd, yn bryderus iawn. Nawr, ymateb eich Llywodraeth Cymru yw cysylltu ag awdurdodau lleol i nodi pa un a ellir gwneud mwy i wneud y broses yn fwy cyson heb beryglu diogelwch y plentyn. Mae'n amlwg bod hyn i'w groesawu, ond mae'n wir y byddai gofynion y drwydded, mewn gwirionedd, yn gryn rwystr i blant ymuno â'r bandiau hyn. Felly, a wnewch chi ystyried effaith y drwydded bresennol ar hawliau plant ac, wrth wneud hynny, pa un a yw sefydliadau fel bandiau pres, sy'n gwella'r manteision bywyd i'n pobl iau, pa un a ellid cael dull sy'n defnyddio synnwyr cyffredin ond sy'n cadw ein plant yn ddiogel ar yr un pryd?

13:40

Diolchaf i Janet am y cwestiwn yna ac am dynnu sylw at ddogfen 'Y Ffordd Gywir' y comisiynydd plant. Credaf ei bod yn cynnig fframwaith defnyddiol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wreiddio hawliau plant yn y ffordd y maen nhw'n mynd ati i gyflawni eu cyfrifoldebau. Rwy'n effro i'r pwynt y mae'n ei wneud am fandiau pres. Rwyf i eisoes wedi cael cyfle i'w drafod gyda'r Gweinidog Addysg. Mae'n fater o sicrhau'r cydbwysedd cywir yn y ffordd y gwnaeth y holwr ei roi. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn cael eu hamddiffyn yn iawn, bod y ddarpariaeth gywir ar waith, pan fydd plant yn cael eu rhoi i ofal unrhyw sefydliad, y gall rhieni fod yn ffyddiog y bydd y plant hynny'n ddiogel ac y gofelir amdanyn nhw'n briodol. Ond mae angen iddo fod yn gymesur â'r dasg sydd dan sylw.

Mae bandiau pres yn chwarae rhan bwysig iawn mewn cymaint o gymunedau yma yng Nghymru, ac mae plant sy'n cymryd rhan ynddyn nhw yn cael profiad gwych o ganlyniad. Nid oes dim y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud yn ymwneud â gosod rhwystrau ychwanegol ar lwybr cyfranogiad plant. Dyna pam yr ydym ni eisiau sicrhau ein bod ni wedi dysgu gan awdurdodau lleol, a byddwn yn sicr yn cadw llygad manwl ar y trefniadau i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwneud yr hyn yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei wneud—i helpu i gadw plant yn ddiogel—ac nad ydyn nhw yn gwneud yr hyn nad ydym ni eisiau iddyn nhw ei wneud, sef bod yn rhwystr i blant rhag cymryd rhan mewn rhan mor gyfoethog o dreftadaeth Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar 6 Rhagfyr 2017, gwnaethoch ddatganiad ysgrifenedig ar gyfrifon banc prosiectau, a gynlluniwyd i atal isgontractwyr llai rhag colli arian pan fydd cwmnïau mwy yn mynd i'r wal. Fe ddywedasoch,

'O 1 Ionawr 2018 bydd yn ofynnol i gyfrifon banc prosiectau gael ei ddefnyddio, oni bai bod rheswm cryf dros beidio â gwneud hynny, ar yr holl gontractau adeiladu a seilwaith sy'n cael eu hariannu'n gonfensiynol, a chontractau gwasanaeth sy'n cael eu hariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru gyda gwerth o £2m neu'n uwch ac sy'n cael eu cyflenwi gan Lywodraeth Cymru.'

Ers 1 Ionawr 2018, ariannwyd 32 o brosiectau adeiladu gwerth dros £2 filiwn yn llawn neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Faint o'r rheini sydd wedi defnyddio cyfrifon banc prosiectau fel y gwnaethoch chi ei addo'n bersonol?

Wel, byddwn yn disgwyl i bob un ohonyn nhw ddefnyddio cyfrifon banc prosiectau ar y telerau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dim un ohonyn nhw yw'r ateb. Dim un ohonyn nhw. A dweud y gwir, eich Llywodraeth eich hun a ymatebodd i gais rhyddid gwybodaeth ddoe. Nid oes yr un o'r 32 o brosiectau hynny wedi defnyddio cyfrifon banc prosiectau mewn gwirionedd, er gwaethaf yr hyn yr ydych chi wedi ei addo. Mae hynny'n llawer o resymau cryf, mae'n rhaid.

Mae methu â chyflawni ymrwymiadau o'r fath yn golygu nid yn unig niweidio eich enw da chi, Prif Weinidog, neu enw da eich Llywodraeth, ond mae'n erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ei hun. Nawr, yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur ym mis Ebrill, dywedasoch,

byddwn yn rhoi terfyn ar yr arfer diraddiol o droi pobl allan heb fai i'r bobl hynny sy'n byw yn y sector rhentu preifat,

ac eto, yr wythnos diwethaf, lansiodd eich Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ymgynghoriad ar ymestyn y cyfnod rhybudd ar droi pobl allan heb fai o ddau fis i chwech. Ai dyna'r hyn yr oeddech chi'n ei olygu pan ddywedasoch y byddech chi'n rhoi terfyn ar droi pobl allan heb fai?

Wel, Llywydd, ar y pwynt cyntaf y mae'r Aelod yn ei wneud, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ymchwilio i'r mater hwnnw ac yna byddwn yn gwneud yn siŵr bod y ffeithiau llawn yn hysbys i Aelodau'r Cynulliad.

O ran yr ail bwynt, bydd yn gwybod ein bod ni mewn sefyllfa erbyn hyn i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a basiwyd ar lawr y Cynulliad hwn yn 2016, a bydd hynny'n caniatáu i ni weithredu adran 173 y Ddeddf honno, gan ddileu troi pobl allan heb fai adran 21. Bydd yr ymgynghoriad a lansiwyd yr wythnos diwethaf yn rhan o'n cynllun gweithredu. Bydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth o ran troi pobl allan heb fai yma yng Nghymru a byddwn yn monitro'n ofalus iawn gweithrediad y gyfraith newydd y byddwn ni'n ei chyflwyno i weld ei bod yn gwneud popeth yr ydym ni eisiau iddi ei wneud. Os oes camau pellach y mae angen i ni eu cymryd y tu hwnt i'r gyfraith a basiwyd yn y Cynulliad hwn dim ond tair blynedd yn ôl, yna, wrth gwrs, byddwn yn ystyried hynny, ond ni ddylai neb esgus nad yw'r camau yr ydym ni bellach wedi ymrwymo i'w cymryd yn gwneud cam sylweddol iawn ymlaen yn ein penderfyniad na ddylai troi pobl allan heb fai fod yn rhan o'r dirwedd rhentu preifat yma yng Nghymru.

13:45

Nid dyna yr ydych chi'n ei wneud. Hynny yw, cyflwynodd eich Gweinidog tai araith yn Shelter, lle dywedodd nad ydych chi'n rhoi terfyn arnyn nhw'n llwyr ac nad oeddech chi eisiau i'r perffaith fod yn ddiwedd ar y da. Pam na wnaethoch chi ddweud hynny yn eich cynhadledd?

Nawr, yr addewid mwyaf, mae'n debyg, yr ydym ni'n ei wneud fel cynrychiolwyr cyhoeddus yw peidio â gwastraffu arian cyhoeddus. Mae eich Llywodraeth chi wedi gwario £9 miliwn ar drac rasio a £123 miliwn ar ffordd na fydd byth yn cael ei hadeiladu, ond efallai mai'r achos mwyaf rhyfedd o afradlonedd yw'r un yn ymwneud â ffotograff o Dylan Thomas. Saith mlynedd yn ôl, cysylltodd perchennog yr hawlfraint â Croeso Cymru, a oedd yn defnyddio'r llun i hyrwyddo canmlwyddiant geni'r bardd, gan ofyn iddo gael ei dynnu i lawr. Ddiwrnod yn ddiweddarach, dywedwyd wrtho bod y llun wedi cael ei ddileu ac na fyddai'n cael ei ddefnyddio eto. Serch hynny, aeth Croeso Cymru ymlaen i ddefnyddio'r llun ar-lein ac mewn print, ac o ganlyniad, cymerodd perchennog yr hawlfraint gamau cyfreithiol am dorri hawlfraint. Hyd yn hyn, rydych chi wedi gwario dros £800,000 ar achosion cyfreithiol yn y DU a ledled y byd, gan gynnwys dros £1,600 yn hedfan dau o'ch prif swyddogion twristiaeth i wrandawiad yn yr Iseldiroedd. Bydd y Bil yn cyrraedd £1 filiwn cyn bo hir, wrth i chi barhau i apelio yn erbyn y dyfarniadau yn eich erbyn. Bydd hyn bron cymaint â'r hyn a wariwyd bum mlynedd yn ôl ar holl ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Sut gallwch chi gyfiawnhau'r gwastraff hwn o arian, amser ac egni eich swyddogion, neu ai'r gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth Cymru ddim byd gwell i'w wneud?

Wel, Llywydd, nid oes gan yr Aelod unrhyw syniad o gwbl o'r cymhlethdodau sydd y tu ôl i'r achos hwn. Mae'n gafael mewn pennawd ac yn gwneud honiad ar lawr y Cynulliad, na fyddai yn ei wneud, pe byddai wedi trafferthu i feistroli manylion yr hyn sydd y tu ôl i'r achos hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gorfod amddiffyn gweithredoedd mewn llysoedd ar draws y byd gan unigolyn sy'n benderfynol o fynd ar drywydd nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond dinasyddion unigol Cymru yn y ffordd fwyaf annifyr, yn fy marn i. Ni fyddwn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Rwyf i'n gresynu at y costau, wrth gwrs fy mod i, ond rydym ni'n amddiffyn egwyddor wirioneddol bwysig ac rydym ni'n amddiffyn dinasyddion Cymru yn y fan yma hefyd. Pe byddai wedi deall manylion yr achos, ni fyddai wedi dweud yr hyn y mae wedi ei ddweud yn y fan yma y prynhawn yma.

Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn cyntaf heddiw, gyda'ch goddefgarwch, Llywydd, hoffwn innau hefyd anfon fy nghydymdeimlad at deulu Rod Richards. Mae ei gyfeillion a'i deulu wedi sôn am ei ffraethineb cyflym, ei garedigrwydd a'i gariad, ac mae ei gydweithwyr wedi parhau i edmygu ei sgiliau fel gwleidydd, ac roedd ei angerdd at wleidyddiaeth a'r hyn yr oedd yn credu ynddo yn eglur i bawb ei weld. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i deulu ar yr adeg anodd iawn hon.

Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth yn agored ac yn dryloyw?

Llywydd, cyn i mi ateb y cwestiwn yna, a gaf i gydnabod yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud am Rod Richards, a dweud fy mod innau'n falch o fod wedi cael y cyfle dros y penwythnos i fynegi fy nghydymdeimlad ag aelodau o'i deulu hefyd?

A, Llywydd, wrth gwrs, nod y Llywodraeth hon yw cynnal y safonau uchaf o ran bod yn agored ac yn dryloyw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud.

Prif Weinidog, mewn trafodaeth flaenorol yn y Siambr hon, dywedasoch bod gwybodaeth ar gael dim ond oherwydd bod eich Llywodraeth yn ei chyhoeddi, er hynny, yn ystod yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid gorfodi dau adroddiad allan o'ch Llywodraeth—yr adroddiad ar kukd.com a'r ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol ynghylch diswyddo Carl Sargeant. Mae'r ddau adroddiad hyn yn eithriadol o ddifrifol, ac eto, mae llawer o bobl yn cwestiynu lefel y craffu y gallan nhw ei chael, gan fod diffyg manylion yn y ddau. Mae'n warthus mai prin 350 o eiriau o hyd oedd yr adroddiad ar ddiswyddo Carl Sargeant, a arweiniodd at ei farwolaeth. Dyma'r achos byrraf o wyngalchu mewn hanes, Prif Weinidog. Nawr, yn yr adroddiad hwnnw, defnyddiodd y prif swyddog diogelwch eiriau allweddol i chwilio blychau post a adferwyd y rhai a oedd yn gwybod ymlaen llaw am yr ad-drefnu. Beth oedd y geiriau allweddol hynny a sut gallwn ni fod yn ffyddiog eu bod wedi dod o hyd i'r negeseuon e-bost cywir? Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud, yn dilyn holiadur, pan oedd angen, y dilynwyd hyn gan gyfweliad neu gyfweliadau. A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, faint o bobl a gyfwelwyd, ac a gyfwelwyd yr holl staff a oedd â gwybodaeth ymlaen llaw ar sail un i un? Daw'r adroddiad i'r casgliad bod pob datgeliad gan Lywodraeth Cymru yn ddatgeliad awdurdodedig. A allwch chi ddweud wrthym ni pwy wnaeth awdurdodi'r datgeliadau hynny?

13:50

Llywydd, i ateb cwestiwn cyntaf yr Aelod, rhoddais sicrwydd ar lawr y Cynulliad hwn y byddem ni'n cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, ac mae'r adroddiad hwnnw ar gael i graffu arno erbyn hyn. O ran adroddiad yr ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol, nid fy lle i yw gwybod yr atebion i'r cwestiynau y mae'r Aelod wedi eu gofyn. Nid oedd hwn yn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Weinidogion, fe'i cynhaliwyd yn y modd y bwriedir i adroddiadau ar ymchwiliadau i ddatgeliadau answyddogol gael eu cynnal, ac mae Swyddfa'r Cabinet wedi cymeradwyo'r modd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw. Nid fy lle i yw ymyrryd mewn unrhyw ffordd o gwbl yn y ffordd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw. Nid fy lle i yw gwybod pwy, ble, pryd, pam a beth; byddai hynny'n ymyrryd ag annibyniaeth y broses ymchwilio.

Ar lawr y Cynulliad hwn, cyn y Pasg, gwnaed ceisiadau i mi gyhoeddi'r adroddiad ar yr ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol. Meddyliais yn ofalus iawn am y ceisiadau hynny, oherwydd nid yw adroddiadau ar ymchwiliadau i ddatgeliad, yn ôl confensiwn, byth yn cael eu cyhoeddi. Nid ydyn nhw byth yn cael eu cyhoeddi gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan, er enghraifft, ond, ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r mater, penderfynais fod y rhain yn gyfres o amgylchiadau unigryw, ac felly roedd yn deilwng cyhoeddi'r adroddiad. Yn fwriadol iawn, Llywydd, ni ddarllenais yr adroddiad ar yr ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol cyn iddo gael ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, gan nad oeddwn i eisiau i'm penderfyniad ynghylch cyhoeddi fod yn ddim i'w wneud â'i gynnwys. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd gwneud y penderfyniad ar sail rhinweddau'r ddadl bod budd cyhoeddus i'w gyhoeddi. Mae'r adroddiad hwnnw wedi ei gyhoeddi erbyn hyn, yn y modd yr addewais, ac nid oes gen i unrhyw beth arall i'w ychwanegu ato.

Mae'r ail adroddiad, os gellir ei alw'n hynny, ar kukd.com yn hwy na'r ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol, yn syfrdanol, gan gyrraedd ychydig dros 500 o eiriau, ond mae'n fwy o linell amser o'r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd. Nid yw'n cynnwys unrhyw fanylion, dim manylion penodol am yr honiadau sydd wedi dod i law a dim gwybodaeth am y gwahanol ymchwiliadau a gynhaliwyd yn fewnol. Prif Weinidog, rwy'n pryderu ei bod hi wedi cymryd bron i 18 mis i'r heddlu gadarnhau nad oedden nhw'n bwriadu mynd ar drywydd yr achos. Pa wybodaeth wnaeth y tîm archwilio mewnol ei ddarganfod a oedd yn cyfiawnhau cyfeirio'r ffeil honno at yr heddlu? Ac yn olaf, Prif Weinidog, ar 14 Mai, pan godais i y mater hwn gyda chi gyntaf, dywedasoch fod

'wrth gwrs—rydym ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi o'r profiadau hynny'.

O'r adroddiad hwn, Prif Weinidog, pa wersi allwch chi eu dysgu, ac a ydych chi'n credu bod yr adroddiad hwn yn cynrychioli'r lefel briodol o graffu, a faint o arian sydd wedi ei ad-dalu gan kukd.com erbyn hyn?

Wel, Llywydd, mae gweithdrefnau archwilio mewnol bob amser yn cael eu cynllunio i lunio barn ynghylch pa un a ddylai'r hyn y gallai fod wedi digwydd fod o ddiddordeb i'r heddlu ai peidio. Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr aelod ynghylch faint o amser y mae'n ei gymryd weithiau i'r heddlu gyflawni eu hymholiadau ac i benderfynu a ydyn nhw'n dymuno cyflwyno erlyniadau ai peidio. Ond dyna'r berthynas gywir. Mae'r archwiliad mewnol yn penderfynu ar ba un a oes achos i'w archwilio, ac yna mae'r awdurdodau erlyn yn dod i'w casgliad ar wahân eu hunain ynghylch pa un a ddylid cymryd camau o natur droseddol ai peidio, a dyna'r hyn ddigwyddodd yn yr achos hwn. Rwy'n gresynu rhai o'r oediadau y mae'n ymddangos sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o achosion, ond dyna'r ffordd iawn i'r pethau hyn ddigwydd.

Mae craffu ar benderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn digwydd drwy'r amser. Mae'n rhan o'r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud. Ceir her fewnol iddyn nhw bob amser, ceir cwestiynau sy'n cael eu gofyn bob amser, a phan fydd penderfyniad yn cael ei wneud, bydd craffu ar y broses o weithredu'r penderfyniad hwnnw bob amser. Mewn achosion lle caiff buddsoddiadau eu gwneud ac nad yw pethau'n digwydd fel yr oeddem ni wedi ei obeithio, yna, wrth gwrs, rydym ni'n mynd y tu hwnt i hynny, a dyna'r ydym ni wedi ei wneud yn yr achos hwn a dyna pam y gwrandewais i yn astud ar yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid wrthyf rai wythnosau yn ôl , ac mae'r adroddiad ar gael i bobl ei weld erbyn hyn. Byddwn yn parhau i ddysgu'r gwersi o'r holl brofiadau hyn, fel y byddai unrhyw Lywodraeth call yn ei wneud. Mae cyhoeddi'r adroddiad yn rhan o hynny, ond ceir yr holl ffyrdd arferol y mae Llywodraeth yn asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y penderfyniadau yr ydym ni wedi eu gwneud hefyd, ac yn ceisio cywiro unrhyw ddiffygion a amlygir pan fydd gennym ni adroddiadau o'r math hwn.

13:55

Prif Weinidog, fe wnaethoch sôn yr wythnos diwethaf am eich awydd i gychwyn rhan gyntaf Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, felly byddaf yn eich holi yr wythnos hon am adran 20 ac Atodlen 2 y deddf honno. Maen nhw'n darparu ar gyfer ymchwiliad statudol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol pan gredir bod sefydliad wedi gwahaniaethu yn anghyfreithlon yn erbyn pobl oherwydd eu hethnigrwydd a'u credoau crefyddol. Mae wedi digwydd unwaith o'r blaen ym myd gwleidyddiaeth i'r BNP. A yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn iawn nawr i ymchwilio i'r Blaid Lafur, ac a ydych chi'n cytuno ag Alun Davies pan ddywed fod ganddo gywilydd mawr o'r hyn mae eich plaid wedi datblygu i fod erbyn hyn?

Llywydd, gadewch i mi ymdrin â'r mater o sylwedd, yn hytrach na'r rhai ymylol, yn gyntaf. Mae'r prif fater yn ymwneud â gwrth-Semitiaeth, a dywedaf eto yma ar lawr y Cynulliad, fel yr wyf i wedi ei ddweud yn rheolaidd pryd bynnag yr wyf i wedi cael y cyfle, nad oes gan wrth-Semitiaeth unrhyw ran yn y Blaid Lafur yng Nghymru nac unrhyw ran ym mywyd Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda mudiadau Iddewig i wneud yn siŵr bod y cyfraniad y mae cymunedau Iddewig wedi ei wneud i Gymru yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn briodol, a phan geir enghreifftiau o wrth-Semitiaeth o unrhyw fath, yna mae'n rhaid ymdrin â'r rheini, ac ymdrin â nhw'n gyflym.

Mae'r Aelod yn gofyn i mi am ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a bydd yn falch o wybod, rwy'n siŵr, nad yw Plaid Lafur Cymru yn rhan o gwmpas yr ymchwiliad hwnnw.

Diolch am yr ateb yna. Tybed pam y credir nad yw hynny o fewn y cwmpas. Dywedodd un aelod o staff Llafur a siaradodd yn ddewr â BBC Panorama bod ymchwilwyr yn cael eu tanseilio, pan roddwyd achosion iddynt, gan bobl a oedd eisiau bod yn drugarog o ran gwrth-Semitiaeth, ac yna cymerwyd yr achosion hynny i ffwrdd oddi arnynt. Yn aml, pobl o swyddfa Jeremy Corbyn oedd y rheini, ond onid dyma a wnaethoch chithau hefyd, Prif Weinidog? Rwy'n clywed y cyn Brif Weinidog yn mwmian, ond pan wnaeth un o'ch Aelodau Cynulliad yr hyn a ystyriwyd yn eang yn sylwadau gwrth-Semitaidd, cafodd ei gwahardd o'ch grŵp ac atgyfeiriodd eich rhagflaenydd hi i'r Blaid Lafur ar gyfer ymchwiliad. Ac eto, yn ôl The Jewish Chronicle, ar ôl i chi gymryd yr awenau fel Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu:

Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r ffaith nad oedd Llafur y DU wedi cwblhau eu hymchwiliad i'w sylwadau eto,

oherwydd, ac rwy'n dyfynnu,

efallai ei bod hi wedi bod braidd yn wirion,

ond ein 'Jenny ni' oedd hon. Parhaodd The Jewish Chronicle:

Roedd yn ymddangos bod Mark (Drakeford) a'r grŵp cyfan bron, heblaw Alun, Lynne a Vaughan yn benderfynol o'i chefnogi cyn gynted ag y gallent.

Prif Weinidog, mae nifer o'ch ACau yn gwrthwynebu penodi Jeremy Corbyn fel eich arweinydd, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n rhy awyddus iddo ddod yn Brif Weinidog, ond roeddech chi'n un o'i gefnogwyr gwreiddiol. A oeddech chi'n gwybod bryd hynny ei fod wedi cwyno pan dynnodd ei gyngor furlun gwrth-Semitaidd gwrthun i lawr? A ydych chi'n cytuno ag ef fod llyfr gwrth-Semitaidd Hobson, Imperialism, yn 'wych'? A beth ydych chi'n ei gredu yr oedd Jeremy Corbyn yn ei olygu pan ddywedodd nad yw Seioniaid yn deall eironi Seisnig? Prif Weinidog, am faint yn rhagor y gwnewch chi a'ch plaid a'ch Llywodraeth oddef yr hyn y mae eich dirprwy arweinydd yn ei ddisgrifio'n briodol fel hiliaeth gwrth-Iddewig?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n mynd i gael fy nenu i ateb cwestiynau nad oes ganddyn nhw ddim i'w wneud â'm cyfrifoldebau ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rwyf i wedi cyflwyno yn y fan yma fy safbwyntiau ar wrth-Semitiaeth a'r ffordd yr ymdrinnir â'r materion hyn yma yng Nghymru. Ni fydd dim yn fy ngwyro oddi wrth sefyll yn erbyn y gwerthoedd hynny a'r egwyddorion hynny, ac ni fydd unrhyw beth y mae'r Aelod yn dymuno fy nhynnu i mewn iddo yn cael ei ddefnyddio i geisio fy ngwyro o'm penderfyniad bod hawliau pob cymuned yma yng Nghymru yn cael eu parchu. O ble bynnag y maen nhw'n dod, beth bynnag fo'u treftadaeth, bydd eu cyfraniad yma yng Nghymru yn cael ei werthfawrogi, ei gydnabod a'i ddathlu, a dyna'r math o ddiwylliant yr wyf i eisiau ei weld, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, ar draws ein gwlad gyfan.

Atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru? OAQ54256

Diolchaf i'r aelod yna am y cwestiwn yna. Mae byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru yn gyrff statudol, ac maen nhw'n atebol am gynllunio, darparu a gwella'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu.  Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r fframweithiau a'r gofynion y maen nhw'n gweithredu yn eu herbyn.

14:00

Prif Weinidog, mae'r sgandalau yng ngofal cleifion oedrannus ar ward Tawel Fan yn y gogledd ac yng ngofal mamau a babanod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn y de wedi amlygu, rwy'n credu, rhai gwendidau difrifol iawn yn y trefniadau atebolrwydd yn GIG Cymru. Mae'r ffaith nad oes unrhyw berson wedi ei ddiswyddo am y methiannau difrifol mewn gofal a amlygwyd yn yr ysbytai dan sylw yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. Mae'n anghyfiawnder, ac mae'n ychwanegu halen at friw teuluoedd ac anwyliaid y rhai yr effeithiwyd arnynt. Pryd wnaiff eich Llywodraeth chi fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd hwn yn ein GIG Cymru, ac a wnewch chi, fel cyn Weinidog iechyd—ac, yn wir, eich Gweinidog iechyd presennol—dderbyn bod gennych chi gyfrifoldeb i weithredu er mwyn sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd yn GIG Cymru a bod pobl yn talu pris pan eu bod yn gyfrifol am bethau sy'n mynd o chwith?

Wel, Llywydd, hoffwn gofnodi'r ffaith bod gan ein holl fyrddau yng Nghymru, o ran atebolrwydd, reolau sefydlog enghreifftiol, mae gan bob un ohonyn nhw gyfarwyddiadau ariannol sefydlog, mae gan bob un ohonyn nhw god ymddygiad ac mae gan bob un ohonyn nhw god atebolrwydd. Felly, mae atebolrwydd yn GIG Cymru yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o ddiwylliant y gwasanaeth ers ei sefydlu, ac mae wedi ei atgyfnerthu ymhellach yn ystod y cyfnod datganoli. Ceir cyfnod pellach nawr pryd y gall Aelodau ymgysylltu â'r agenda hon.

Mae'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) gerbron y Cynulliad. Bydd yn caniatáu i unrhyw Aelod sydd â chynigion i'w gwneud a all fynd i'r afael â diffygion fel y maen nhw'n eu gweld yn y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu i gyflwyno'r syniadau hynny fel y gellir eu hadrodd gerbron y pwyllgor craffu. Ond gadewch i mi ddweud hyn, Llywydd: nid yw gwleidyddion yn diswyddo gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid dyna'r ffordd y mae'r system yn gweithredu, ac ni ddylai ychwaith. Pan fydd pethau'n mynd o chwith a phan fo pobl yn gwneud camgymeriadau—a gwaeth na chamgymeriadau weithiau—yna ceir system o atebolrwydd drwy sefydliadau proffesiynol a chyfraith cyflogaeth, ac mae angen i honno fod yn effeithiol. Ond nid ydym ni'n gwneud y penderfyniadau hynny ar lawr y Cynulliad hwn—ac ni ddylen ni ychwaith.

Prif Weinidog, cafwyd nifer frawychus o farwolaethau a nifer fawr o gleifion a ddioddefodd niwed difrifol o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfiad o ran diogelwch cleifion yn ein GIG dros y 12 mis diwethaf. Digwyddodd dwy ran o dair o'r marwolaethau a 58 y cant o'r niwed difrifol yn Betsi Cadwaladr. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod hyn yn annerbyniol. Felly, Prif Weinidog, beth sydd o'i le ar y diwylliant yn y Bwrdd Iechyd hwn, sy'n cael ei redeg gan eich Llywodraeth chi? A ydych chi'n derbyn bod problem o ran sut y mae ein GIG yn gweithredu, ac a wnewch chi gefnogi Bil Helen Mary nawr i wella atebolrwydd y GIG?

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud camgymeriad sylfaenol, rwy'n credu, wrth ddehongli adroddiadau am ddigwyddiadau difrifol fel tystiolaeth bod hyn yn golygu bod popeth yn mynd o chwith. Rydym ni wedi cael y ddadl hon ers blynyddoedd yn y Cynulliad hwn. Rwy'n ei chofio'n dda iawn dros yr ymgyrch 1000 o Fywydau, a lansiwyd bron i ddegawd yn ôl, pan ein bod ni wedi dweud yn gyson ein bod ni eisiau diwylliant yn GIG Cymru, lle, os byddwch chi'n gweld rhywbeth sydd wedi mynd o'i le, yna rydych chi'n hysbysu amdano ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n dysgu o'r profiad hwnnw. Nid yw'n golygu o gwbl bod y digwyddiadau hynny wedi gwneud niwed gwirioneddol. Mae'n golygu bod y risg o niwed wedi ei nodi. Ac, mewn diwylliant o ddysgu, mae pobl yn cael eu hannog i ddod ymlaen, hysbysu amdano a rhannu hynny ymhlith eu cydweithwyr.

Os bydd gennym ni bobl, bob tro y bydd y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, yn dweud, 'O, mae hyn yn golygu bod pobl mewn perygl yn GIG Cymru,' y cwbl y byddwn ni'n ei wneud yw perswadio pobl i beidio â chymryd y camau hynny—yn union i'r gwrthwyneb i'r math o ddiwylliant yr ydym ni wedi gweithio, yn fy marn i, ar draws sawl rhan o'r Cynulliad hwn, i geisio ei gyflwyno. Dylid canmol y ffaith bod rhai byrddau iechyd yn well yn hyn o beth ac wedi perswadio mwy o bobl i ymrwymo i'r diwylliant hwnnw, ac nid ceisio dweud mai nhw yw'r gwaethaf oll. Rwyf i eisiau GIG lle mae pobl yn ffyddiog, os oes pethau y maen nhw eisiau tynnu sylw atynt, y byddan nhw'n gwybod bod hynny'n rhan o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i gwobrwyo, ac yna, pan gawn ni ffigurau sy'n dangos hynny, dylem ni i gyd fod yn barod i ddweud bod hynny'n dystiolaeth o sefydliad sy'n dysgu ac yn benderfynol o wneud pethau'n well, nid tystiolaeth o sefydliad sydd bob amser yn gwneud pethau yn anghywir.

14:05
Polisi Tai

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi tai Llywodraeth Cymru? OAQ54246

Llywydd, ein huchelgais yw i bawb gael cartref gweddus sy'n fforddiadwy ac yn ddiogel. Dyna pam yr ydym ni'n mynd i'r afael â digartrefedd o bob math, yn darparu cymorth i helpu aelwydydd i gynnal eu tenantiaethau ac wedi ymrwymo i adeiladu tai cymdeithasol helaeth yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn broblemau mawr, ac yn amlwg mae llawer o flynyddoedd o gyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cael effaith ddifrifol ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar bobl agored i niwed yn ein cymunedau. Ac mae'n effaith gyfunol o flwyddyn i flwyddyn, felly, wrth geisio gwrthsefyll hynny, rwy'n credu bod polisi Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn rhan bwysig o'r dull angenrheidiol a chywir, ac rwy'n credu bod yr ardaloedd arbrawf i'w croesawu'n fawr. Ond mae angen i ni sicrhau bod y llety priodol ar gael ledled Cymru gyfan os yw Tai yn Gyntaf yn mynd i gael ei gyflwyno ar hyd a lled ein gwlad. Felly, tybed a allech chi gynnig unrhyw sicrwydd y bydd y llety angenrheidiol hwnnw ar gael ledled Cymru, ac, os felly, pryd y bydd ar gael.

Wel, Llywydd, hoffwn i ddiolch i John Griffiths am gwestiwn pwysig. Mae e'n iawn i ddweud nad oes unrhyw arwydd mwy amlwg o effaith degawd o gyni cyllidol na'r digartrefedd ar y stryd yr ydym ni'n ei weld heddiw, ac na welwyd o gwbl yn gynharach yn fy mywyd. Dyna pam yr ydym ni'n cyfrannu £20 miliwn yn fwy at wasanaethau tai i'r digartref eleni yn unig. Dyna pam mae'r Gweinidog tai wedi comisiynu prif swyddog yr elusen Crisis i gadeirio grŵp sy'n edrych ar y gwasanaethau y byddwn ni'n eu darparu yng Nghymru wrth i ni symud i ail hanner y flwyddyn hon. Ein huchelgais, fel y mae'r Aelod yn gwybod, yw, lle mae digartrefedd yn digwydd, y dylai fod yn brin, y dylai fod yn fyr, ac na ddylai fod yn ailadroddus, ac mae Tai yn Gyntaf yn rhan bwysig iawn o hynny. Dyna pam y cyfrannwyd £1.6 miliwn yn benodol gennym ni at y fenter honno yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac, fel y dywedodd John Griffiths yn ei gwestiwn atodol, mae angen dau beth ar y model Tai yn Gyntaf. Wrth gwrs, mae angen llety, ac mae llety o dan bwysau difrifol ledled Cymru, ond mae angen gwasanaethau hefyd. Mae'r bobl sy'n cael eu lleoli, yn y model Tai yn Gyntaf, yn uniongyrchol i lety, yn aml yn bobl a fydd angen cymorth i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymgartrefu ac yna cynnal y tenantiaethau a fydd ar gael iddyn nhw, a dyna'r model yr ydym ni'n ei ddatblygu yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae gan bolisi tai ran allweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddoe y bydd yn diwygio rheoliadau adeiladu fel y bydd gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol yn ofynnol ym mhob datblygiad tai newydd. Efallai y byddwch chi wedi sylweddoli, pan gyhoeddodd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ei strategaeth dai, mai hwn oedd un o'r pethau y gwnaethom ni annog Llywodraeth Cymru i'w wneud. Rydych chi wedi cael peth amser i feddwl am hyn, ac yn amlwg nawr gallech chi efelychu'r hyn sy'n mynd i ddigwydd yn Lloegr, sef y Llywodraeth gyntaf, rwy'n deall, i gyflwyno'r polisi hwn. Ond a ydych chi'n croesawu'r fenter hon, ac a fyddwch chi'n ystyried o ddifrif cyflwyno'r diwygiad hwnnw i'r rheoliadau adeiladu yng Nghymru hefyd?

Diolchaf i David Melding am hynna, ac, i gytuno â'i bwynt agoriadol bod cysylltiad agos iawn rhwng polisi tai a'r newid yn yr hinsawdd, ein bod ni'n gwybod y bydd angen rhaglen ôl-osod fawr arnom ni yma yng Nghymru i sicrhau bod tai a adeiladwyd mewn cenhedlaeth flaenorol yn addas ar gyfer yr heriau datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd sy'n ein hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio rhywfaint o'r £2 filiwn a gytunwyd gyda Phlaid Cymru yn rhan o gytundeb cyllideb cynharach, wedi bod yn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cyhoeddus yng Nghymru. Rydym ni wedi cyrraedd 800 y mis hwn. Roedd gennym ni 670 mor ddiweddar â mis Ebrill, felly mae'r nifer yn cynyddu—nid mor gyflym ag yr hoffem ni, ond mae'n bendant yn cynyddu. Ond mae'r pwynt y mae David Melding yn ei wneud yn gywir—mae'r rhan fwyaf o wefru yn dal i ddigwydd yn ddomestig yng nghartrefi pobl eu hunain a bydd angen i'r cartrefi yr ydym ni'n eu hadeiladu ar gyfer y dyfodol fod â'r offer i wneud yn siŵr eu bod yn barod i gynnig y cyfleuster hwn i bobl, ac rydym ni'n cymryd camau i fwrw ymlaen â'r agenda honno a byddwn yn edrych yn ofalus i weld yr hyn a gyhoeddwyd ddoe.

14:10
Cefnogi Gofalwyr

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr? OAQ54291

Diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn torri tir newydd gan ei bod yn rhoi'r un hawl i gymorth i ofalwyr â'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanynt. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi adnoddau sylweddol, gan gynnwys drwy'r gronfa gofal integredig, i gefnogi llesiant gofalwyr.

Diolch, Prif Weinidog. Mae grwpiau gofalwyr yn amhrisiadwy i lawer, a dywedodd un o'm hetholwyr, Chris Kemp-Philp, wrth ddigwyddiad diweddar yma yn y Senedd bod Fforwm Gofalwyr Casnewydd wedi achub ei bywyd, a'i fod fel cael ail deulu cefnogol. Yr wythnos diwethaf, daeth Chris ac aelodau eraill o Fforwm Gofalwyr Casnewydd i'r oriel gyhoeddus i wylio fy nadl fer ar ofalu am ein gofalwyr. Mae'r fforwm yn rhwydwaith cymorth hanfodol i ofalwyr sy'n oedolion, pobl y mae eu cyfraniad i gymdeithas yn aml yn cael ei anwybyddu. Nid oes unrhyw amheuaeth na fyddem ni'n gallu gwneud heb ofalwyr. Yn anffodus, mae llawer ohonyn nhw yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol, ac roedd hynny'n amlwg i mi pan ymwelais â nhw ddoe yng Nghasnewydd i drafod gofalwyr. Rydym ni'n gwybod bod amcangyfrifon o niferoedd gofalwyr yn rhy isel a'u bod yn tyfu. Mae'r 16,000 o ofalwyr yng Nghasnewydd yn wynebu problemau tebyg i'r 370,000 o ofalwyr ledled Cymru. Mae seibiant yn hanfodol i osgoi chwalfa gofal. Mae gostyngiadau i becynnau seibiant yn cael effaith aruthrol ar ofalwyr. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gofalwyr yn cael y gofal seibiant cywir sydd ei angen arnynt?

A gaf i ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn yna ac am y gwaith y mae hi'n ei wneud i sicrhau ein bod ni'n parhau, ar lawr y Cynulliad hwn, fel yr ydym ni wedi ei wneud, rwy'n credu, ers blynyddoedd lawer, i gael anghenion a buddiannau gofalwyr yn gadarn o'n blaenau? Roedd yn wych gweld Fforwm Gofalwyr Casnewydd yma yn yr oriel yn gwrando ar y ddadl fer yr wythnos diwethaf.

Wrth gwrs, mae gofal seibiant yn bwysig iawn, i ofalwyr, ond hefyd i'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi arian yn uniongyrchol yn nwylo awdurdodau lleol—£3 miliwn o arian Llywodraeth Cymru—i gefnogi gofalwyr yn y ffordd honno. Mae'n wir hefyd, Llywydd, rwy'n credu, bod dadl newydd yn digwydd ledled Cymru am ffurf gofal seibiant, ac am arloesi yn y modd y darperir seibiant—'ailystyried seibiant', rwy'n credu yw'r slogan a ddefnyddir gan y bobl hynny sy'n rhan o'r drafodaeth honno, ac rydym ni eisiau bod yn rhan o hynny yn y fan yma drwy grŵp cynghori'r gweinidog ar ofalwyr. Rydych chi'n ei weld, Llywydd, rwy'n credu, yn y gronfa gofal integredig yn arbennig; rhoddir £15 miliwn o'r gronfa honno o'r neilltu yn benodol i ddarparu ar gyfer anghenion pobl yn y gymuned, ac mae cymorth uniongyrchol i ofalwyr yn rhan o'r pecyn £15 miliwn hwnnw—edrych ar ffyrdd newydd o allu gwneud pethau, cydnabod pwysigrwydd gofal seibiant, ac yn hollbwysig, gweithio gyda grwpiau gofalwyr o'r math a geir yng Nghasnewydd i wneud yn siŵr bod gwasanaethau diwygiedig y dyfodol wedi eu cyd-gynhyrchu mewn gwirionedd, gan ddysgu oddi wrth y rhai sy'n elwa arnynt ac yr ydym ni'n dibynnu cymaint ar eu hymdrechion gwirfoddol.

Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ddiwedd mis Mawrth.Roedd hwn yn dweud,

'er y gall y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig weithio gyda rhieni a gofalwyr ni all weithio'n uniongyrchol gyda phlant',

gan ddibynnu o ganlyniad ar wasanaethau addysg i roi cymorth yn dilyn diagnosis, ond, a dyfynnaf,

'ceir gwendidau parhaus o ran darpariaeth addysg i blant ag awtistiaeth'

a

'pryderon hefyd bod hyn yn golygu mai prin yw'r cymorth i rieni yn y cartref'.

Roedd ymatebion i'w harolwg gan rieni a gofalwyr yn awgrymu bod bylchau a gwendidau parhaus o ran cymorth ar ôl diagnosis, gyda bron i hanner yn dweud nad oedden nhw wedi cael unrhyw gymorth ar ôl cael diagnosis. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r pryder a godwyd gyda mi gan elusen sy'n cynorthwyo plant o deuluoedd yn y gogledd—plant ag awtistiaeth mewn teuluoedd yn y gogledd—bod yn rhaid i ofalwyr roi'r gorau i'w gyrfaoedd a'u gwaith llawn amser yn aml oherwydd cyfrifoldebau gofalu hirdymor a straen teuluol, gyda phryderon ariannol a achosir yn ychwanegu at straen amgylchedd teuluol sydd eisoes yn llawn straen?

Wel, Llywydd, mae'n debyg fy mod i'n ymateb mewn dwy ffordd: yn gyntaf oll drwy gydnabod yr hyn yr ydym ni'n ei wybod am yr effaith y mae gofalu am blentyn ag unrhyw fath o anabledd neu angen arbennig yn ei chael ar fywyd teuluol, a sefydlu'r gwasanaethau yr ydym ni'n gwybod sydd eu hangen i helpu'r teuluoedd hynny i barhau i wneud y peth y maen nhw bron bob amser eisiau ei wneud fwyaf, sef parhau i ofalu am y plentyn hwnnw. Yr ail beth, felly, yw adleisio'r hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad y dyfynnodd yr Aelod ohono, oherwydd yr hyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddweud yw bod angen gwasanaeth arnom ni ar gyfer y plant hynny a'r teuluoedd hynny sy'n tynnu ynghyd y cyfraniad y mae'r holl wasanaethau yn ei wneud—y cyfraniad gan y gwasanaeth iechyd, y cyfraniad gan wasanaethau cymdeithasol, y cyfraniad gan y gwasanaeth addysg hefyd. Yn ganolog i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a basiwyd ar lawr y Cynulliad hwn ac a gaiff ei gweithredu o fis Medi y flwyddyn nesaf, gydag £20 miliwn i gynorthwyo paratoadau ar ei chyfer, y mae'r syniad hwnnw o'r plentyn yn ganolog i'r holl benderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Felly, mae'r uchelgeisiau yn yr adroddiad y dyfynnodd Mark Isherwood ohono yn uchelgeisiau yr ydym ni'n eu rhannu, ac mae'r camau yr ydym ni wedi eu cymryd i greu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig, i sefydlu gwasanaeth datblygiad gwybyddol i bobl ifanc ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed, i ddiwygio'r ffordd y mae gwasanaethau addysg yn ymateb i bobl ifanc ag anghenion arbennig—mae hynny i gyd yn rhan o'n penderfyniad i dynnu'r gwasanaethau hynny ynghyd o amgylch y teulu a'u cefnogi yn y gwaith hanfodol y maen nhw'n ei wneud.

14:15
Ffigurau Cyflogaeth

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffigurau cyflogaeth Llywodraeth Cymru? OAQ54270

Ddiwedd mis Mehefin, roedd Llywodraeth Cymru yn cyflogi nifer staff cyfwerth â 5,251 o staff llawn amser. Cyhoeddir ffigurau ar nifer y staff a gyflogir yn gyfnodol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond wrth ateb cwestiwn tebyg a ofynnais yr wythnos diwethaf, dywedasoch fod gan Gymru lefelau cyflogaeth uwch nag erioed, y diweithdra isaf erioed a'r nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith. Er fy mod i'n croesawu'r sylwadau hyn fel ag y maen nhw, pan wnaethom ni ddadansoddi'r ffigurau y tu ôl i'ch datganiad, mae'n ymddangos nad yw'r darlun mor gadarnhaol â'r hyn yr ydych chi'n ei honni yn wreiddiol. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r swyddi newydd sy'n cael eu creu naill ai yn y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector. Ac, unwaith eto, os byddwn ni'n dadansoddi'r rhai sy'n cael eu creu yn y sector preifat, rydym ni'n gweld mai naill ai gweithwyr asiantaeth neu, yn waeth fyth, gweithwyr contractau dim oriau ydyn nhw. Bu anghydbwysedd yng Nghymru ers amser maith o ran bod y sector cyhoeddus yn llawer rhy fawr i'r sector preifat ei gynnal. A allai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa fesurau y mae'n eu rhoi ar waith i unioni'r orddibyniaeth hon ar dwf gweithlu'r sector cyhoeddus ac i gynyddu swyddi da, sy'n talu'n dda, yn y sector preifat?

Wel, Llywydd, ni wnaf i ymuno yn yr hen fantra hwn o 'preifat da, cyhoeddus drwg'. Nid yw'n wir ac ni fu ganddo hygrededd yma yng Nghymru nac ar lawr y Cynulliad hwn erioed. Ond mae'r Aelod yn ffeithiol anghywir beth bynnag. Mae'r twf mewn cyflogaeth yng Nghymru yn dod i raddau llawer mwy o gyflogaeth yn y sector preifat nag y mae o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus. Mae'n gwbl anghywir yn yr hyn y mae wedi ei ddweud yn y fan yma y prynhawn yma. Dyna o ble mae'r twf mewn cyflogaeth yng Nghymru wedi dod. Mae hefyd yn anghywir wrth ailadrodd yr hen honiad blinedig hwnnw nad yw'r swyddi sy'n cael eu creu yng Nghymru yn swyddi gwerth eu cael. Mae mwy na hanner y swyddi a grëwyd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf wedi bod yn y tri dosbarth galwedigaethol uchaf. Felly, mae'r syniadau hen a blinedig dros ben hyn bod economi Cymru wedi ei gorbwyso o blaid y sector cyhoeddus—nid yw hynny'n wir. Mae gennym ni sector cyhoeddus bywiog sy'n gweithredu o amgylch gweithgarwch sector preifat, ac mae mwy o dwf mewn swyddi preifat na swyddi cyhoeddus. Mae'r swyddi sy'n cael eu creu wedi eu canolbwyntio ymhlith swyddi sy'n talu'n well, nid y swyddi sy'n talu waethaf. Dyna wirionedd economi Cymru, ac nid yw'r darlun truenus y mae ef yn ei gyfleu ohoni yn wir o gwbl.

Yn y Rhondda, lle mae gennym ni broblem ystyfnig gyda thangyflogaeth yn ogystal â diweithdra, mae cwmni cydweithredol newydd ei ffurfio o weithwyr dillad medrus iawn, a gyflogwyd gynt gan Burberry, sy'n gobeithio gwneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Arweiniwyd y grŵp hwn i gredu y byddai arian Llywodraeth Cymru ar gael iddyn nhw ar gyfer buddsoddiad cyfalaf fel y gallen nhw sefydlu ac, fel archeb cyntaf, gwneud y gwisgoedd presennol a newydd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Cafodd y cynnig hwn gefnogaeth undeb yr RMT yng Nghymru, ond am ryw reswm mae Llywodraeth Cymru wedi oeri'n sydyn. Roedd y cyfnod oeri hwn yn cyd-daro ag ymrwymo tua £1.5 miliwn i Lynebwy, lle nad oes unrhyw weithwyr â'r sgiliau penodol hyn. Mae cwmni cydweithredol Burberry Treorci wedi cael gwybod y gallai fod rhywfaint o arian ar gael iddyn nhw yn y dyfodol o hyd, ond nid oes unrhyw addewidion ac nid oes unrhyw sicrwydd. Ar ôl y brwdfrydedd cychwynnol, mae'r bobl hyn wedi cael eu gadael yn y tywyllwch. Prif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r cwmni cydweithredol hwn ynghylch cyllid a chontractau yn y dyfodol? A wnewch chi a Gweinidog yr economi gytuno i gyfarfod â'r cwmni cydweithredol hwn cyn gynted â phosibl er mwyn gwireddu eu gobeithion realistig? Rwy'n argyhoeddedig y gallai hwn nid yn unig fod yn gyfle cyffrous i'r Rhondda, ond y gallai yn y dyfodol hefyd gyfrannu'n helaeth at economi Cymru a bod yn gyflogwr tra sylweddol yn y pen draw. Felly, a wnewch chi adfywio eich brwdfrydedd gwreiddiol tuag at y prosiect hwn?

14:20

Llywydd, rwy'n ymwybodol o syniad cydweithredol y gweithwyr dillad, ac rwy'n adnabod rhai o'r bobl sydd wedi bod wrth wraidd datblygu'r syniad. Felly, mae'r achos cadarnhaol drosto yn un yr wyf i'n credu bod yr Aelod yn ei wneud yn briodol. Rwy'n credu ei bod hi'n drueni ei bod hi'n mynd ymlaen wedyn i geisio gwahanu pobl sydd dan anfantais drwy geisio gwneud cyferbyniad rhwng un rhan o Gymru a rhan arall. Nid dyna'r ffordd o ddatblygu cefnogaeth i'r syniad hwn. Nid wyf i'n ymwybodol fy hun yn uniongyrchol o unrhyw oeri ar ran Llywodraeth Cymru yn ein cefnogaeth i'r syniad o gwmni cydweithredol y gweithwyr dillad. Byddaf yn cael trafodaethau pellach gyda chyd-Weinidogion, wrth gwrs, er mwyn cael gwybod beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn ag ef. Os yw'r cynllun yn werth ei gefnogi, byddwn yn sicr eisiau ei gefnogi, ac ni fyddwn yn ei gefnogi ar y sail ei bod yn gystadleuaeth rhwng y gweithwyr hynny a gweithwyr mewn mannau eraill yng Nghymru.

Y Tasglu ar Waith Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau tasglu Llywodraeth Cymru ar waith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OAQ54247

Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn. Mae’r tasglu yn rhoi blaenoriaeth i bobl, potensial a llefydd—cefnogi gweithwyr a’u teuluoedd, canfod cyfleoedd economaidd newydd, ac adeiladu cadernid economaidd a chymdeithasol cymuned Pen-y-bont yn arbennig.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. O ran tasglu Pen-y-bont ar Ogwr, yn amlwg, fel y soniais ddydd Gwener yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, mae'r awyrgylch yn ymddangos yn un o dderbyn, yn rhannol, y ffaith nad yw Ford yn mynd i chwarae rhan ar safle Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol. Awgrymwyd gennych yn un o'ch atebion ddydd Gwener bod y Llywodraeth yn mynd ar drywydd 17 o gyfleoedd eraill ar gyfer y safle, gan gynnwys Ineos ac Aston Martin yn buddsoddi yn yr ardal. Yn ddealladwy, mae ansicrwydd a phryder yn parhau yn lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr—a de Cymru gyfan, mewn gwirionedd; nid mater i Ben-y-bont ar Ogwr yn unig sydd gennym ni yn y fan yma, gan fy mod i'n adnabod pobl yn Abertawe sy'n gweithio yng ngwaith Ford. Felly, pryd ydych chi'n disgwyl y byddwch chi'n darparu unrhyw ddiweddariadau neu gyhoeddiadau ar gynlluniau ar gyfer yr ardal yn y dyfodol, a chyda thoriad yr haf bron wedi cyrraedd, a wnewch chi ymrwymo i'n hysbysu am ddatblygiadau fel Aelodau Cynulliad?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac am y drafodaeth a gawsom yn y pwyllgor craffu yn Wrecsam ddydd Gwener. Rwy'n deall y pwynt a wnaeth bryd hynny a heddiw ynghylch synnwyr o dderbyn y sefyllfa, ond dim ond i fod yn gwbl eglur, Llywydd, nid dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Roedd gan Ford weithlu hynod fedrus, ymroddedig a ffyddlon ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn deyrngar i Ford ers 40 mlynedd. Mae dinasyddion Cymru a dinasyddion y DU wedi bod yn deyrngar i Ford wrth brynu eu cynhyrchion a'u gwneud y cynhyrchion mwyaf llwyddiannus yn y farchnad geir. Ac mae'r trethdalwr wedi bod yn deyrngar i Ford dros y cyfnod hwnnw gan roi dros £140 miliwn iddo. Rydym ni'n dweud wrth y cwmni: mae'n amser ad-dalu'r teyrngarwch hwnnw. Ac nid ydym ni wedi cefnu—yn sicr heb gefnu—ar y gred y dylid perswadio Ford, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i aros ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae hynny'n dal ar frig ein hagenda. Ond mae'n rhaid i ni baratoi, fel y cydnabu'r Aelod yn y drafodaeth a gawsom ddydd Gwener, yn erbyn posibiliadau eraill. Mae'r datganiadau eraill o ddiddordeb o 17 ffynhonnell arall o ran dod â gwaith i'r safle hwnnw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhan o'r ymdrech yr ydym ni'n ei gwneud i sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei hyrwyddo a'i ddeall fel lle ardderchog i ddod i gyflawni busnes ynddo. Rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i'r Aelod, wrth i bethau ddatblygu, ac yn enwedig os byddan nhw'n datblygu yn ystod y toriad, wrth gwrs y byddwn ni'n gwneud yn siŵr trwy ddatganiadau ysgrifenedig a dulliau eraill bod yr Aelodau yma yn cael eu hysbysu'n drylwyr. Oherwydd mae Dr Lloyd yn hollol gywir, Llywydd, fod llawer o etholaethau ar draws de Cymru, gan gynnwys fy un i, lle ceir pobl sy'n gweithio yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae diddordeb cyffredin mewn sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud popeth y gallwn ni i gadw diddordeb yn y datblygiadau a chefnogi'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i ddod o hyd i ddyfodol llwyddiannus i'r teuluoedd hynny.

14:25
Lobïwyr Proffesiynol

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng ei swydd a lobïwyr proffesiynol? OAQ54265

Llywydd, mae'r rheolau o ran perthynas gweinidogion gyda lobïwyr proffesiynol wedi eu nodi yng nghod y gweinidogion.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth arweinydd yr wrthblaid ynglŷn â'r ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol. Ond mae'n bwysig pan ddaw'n fater o ad-drefnu'r Cabinet, yr ydych chi a'ch swyddfa yn llwyr gyfrifol amdano, bod cyfrinachedd. Tynnodd Ysgrifennydd yr economi sylw at hynny ddoe mewn sylwadau a wnaeth. Ceir argraff—pa un a yw'n gywir neu'n anghywir—bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ymhlith rhai lobïwyr eu bod wedi cael eu hysbysu am yr hyn a allai fod wedi digwydd yn y Llywodraeth ddiwethaf—[Torri ar draws.] Gallaf glywed unwaith eto y cyn Brif Weinidog yn grwgnach—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi geisio gweiddi ar fy nhraws y tro diwethaf, cyn Brif Weinidog—[Torri ar draws.] Ni wnewch chi fy nhawelu—

Ni wnewch chi fy nhawelu ar hyn, Prif Weinidog. Ac yn gwbl amlwg, mae'r ymchwiliad i'r datgeliad answyddogol yn amlygu bod tystiolaeth o rannu awdurdodedig. Mae yno. Efallai mai dim ond 330 o eiriau yw ef, cyn Brif Weinidog, ond mae yno. Ac os ydych chi eisiau ei drafod, byddaf yn falch o'i drafod gyda chi—

Mae angen i chi gyfeirio eich cwestiwn at y Prif Weinidog.

Byddaf yn falch o gyfeirio at y Prif Weinidog presennol, gan fod y cwestiwn ar ei gyfer ef. Beth ydych chi wedi ei ddysgu, Prif Weinidog, o ad-drefniad blaenorol y Cabinet, a arweiniodd at ganlyniadau mor drasig, a pha fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith a fydd yn rhoi'r cyfrinachedd hwnnw i Weinidogion, y tynnodd Ysgrifennydd yr economi sylw ato yn ei sylwadau ddoe, y mae Gweinidogion y Cabinet yn ei haeddu pan fydd ad-drefnu yn digwydd?

Wel, Llywydd, bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod bod y crwner wedi gofyn cyfres o gwestiynau i mi ynglŷn â'r trefniadau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu yn y Cabinet yn y fan yma yn Llywodraeth Cymru, a gwneuthum ddatganiad i'r crwner yn nodi'r trefniadau y byddwn i'n bwriadu eu rhoi ar waith, a darllenwyd y datganiad hwnnw i mewn i gofnod gwrandawiadau'r crwner ac mae ar gael i'r holl Aelodau. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod bod y crwner wedi gwneud penderfyniad i gyhoeddi adroddiad ar atal marwolaethau yn y dyfodol lle mae'n chwilio am ragor o fanylion am sut y mae ad-drefniadau yn cael eu cynnal mewn Llywodraeth a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n rhan ohonyn nhw. Mae gan y Llywodraeth 56 diwrnod, fel sy'n wir gydag unrhyw adroddiad ar atal marwolaethau yn y dyfodol, i ymateb i'r cwestiynau a ofynnwyd gan y crwner. Byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r cwestiynau hynny. Byddaf yn ymateb yn llawn iddyn nhw, a byddaf yn cymryd yr amser sydd ei angen ac a ganiateir yn y cyd-destun atal marwolaethau yn y dyfodol i ddod i'r casgliadau hynny. Pan fyddaf yn gwneud fy nghyflwyniad pellach i'r crwner, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y cyflwyniad hwnnw'n cael ei gyhoeddi ac ar gael i'r holl Aelodau.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Y cwestiynau nesaf, felly, yw’r cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54288

Yn gynharach heddiw cyhoeddais adroddiad ar gyfraniad Cymru at ymdrechion byd-eang i weddnewid y byd ar gyfer pobl, y blaned a ffyniant. Roedd hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth ysgogi'r newid hwn yng Nghymru a thu hwnt.

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod nifer y tafarndai ledled Cymru yn gostwng. Yn aml iawn, wrth gwrs, mae'r dafarn leol yn gweithredu fel canolfan gymunedol, lle i bobl gyfarfod a chael sgwrs. Gall swyddogaeth y dafarn leol fod yn ganolog yn aml o ran mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac o ran creu cymunedau cynaliadwy, cydlynol yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Nawr, pan fydd tafarndai'n cau ac yn newid eu defnydd, yn aml at ddibenion preswyl, fel y gwelir gyda thafarn bresennol yn Resolfen, yng nghwm Nedd, mae'r gymuned yn colli ased. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo nawr i edrych ar ddiogelu tafarndai a bwytai, trwy roi cyfle i gymunedau lleol eu cofrestru fel asedau o werth cymunedol, fel sy'n digwydd yn Lloegr, a rhoi cyfle i'r cymunedau hyn gadw'r tafarndai hyn ar agor fel cyfleusterau cymunedol?

14:30

Diolch yn fawr, Dai Lloyd. Myfyrdod diddorol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Wrth gwrs, mae colli tafarndai yn aml wedi arwain at golli cyfleusterau cymunedol, ac yn wir mae llawer o dafarndai wedi—mae gennyf dafarn yn fy etholaeth fy hun sydd wedi llwyddo, drwy ymdrech gymunedol, i aros ar agor fel canolbwynt pwysig iawn ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Ond rwy'n credu y byddwn ni'n sicr yn ymchwilio i'r mater, o ran statws y tafarndai hynny. Rwy'n siŵr bod hyn yn dibynnu ar berchnogaeth, o ran yr adeilad, a rhan y bragdy ynddo. Ond yn sicr, rwy'n credu mai'r pwynt yw bod angen i ni ystyried ein holl gyfleusterau cymunedol, ystyried trosglwyddo asedau cymunedol, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac edrych, er enghraifft, ar gyfleoedd o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr wedi gweld fy natganiad ysgrifenedig heddiw, yn dangos sut yr ydym ni wedi buddsoddi mewn nifer o brosiectau cymunedol y gallant hefyd helpu i leihau unigrwydd a sicrhau bod lles yn ein cymunedau.

Mae gan y Ddeddf y nod clodwiw o gyflawni saith nod llesiant ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys, wrth gwrs, Cymru o gymunedau cydlynus, sy'n golygu y dylem ni fod â chymunedau sydd â chysylltiadau da. Yn allweddol i hyn, wrth gwrs, mae cludiant cyhoeddus. Er hynny, rwyf i wedi canfod fy hun yn brwydro tair ymgyrch fawr i achub ein gwasanaethau bysiau yn Aberconwy. Felly mae'n ymddangos bod y gogledd mewn gwirionedd yn camu'n bellach o fod â chymuned gydlynus. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn cludiant cyhoeddus. Ceir ffeithiau deifiol yn yr adroddiad a gyhoeddodd hi fis diwethaf, gan gynnwys bod gwariant fesul pen ar drafnidiaeth yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. A wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod mwy o arian ar gael, fel y gallwn ni gyrraedd nod Deddf cenedlaethau'r dyfodol, fel y gallwn ni sicrhau cymunedau cydlynus, ac felly, ar yr un pryd, byddwn yn achub ein rhwydweithiau bysiau lleol, y mae dirfawr angen amdanynt, ond a werthfawrogir yn fawr gan ein cymunedau lleol?

Wel, nid wyf i'n anghytuno o gwbl â Janet Finch-Saunders am bwysigrwydd ein system cludiant cyhoeddus. Roeddwn yn gresynu'n fawr at ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau pan oeddwn yn gyn-gynghorydd, a gallwn ni weld yr anhrefn y mae hynny wedi'i achosi—dim cyfeiriad strategol, awdurdodau lleol yn ceisio cyflawni eu swyddogaeth, gan sicrhau'n arbennig fod rhai o'n cwmnïau bysiau, fel Caerdydd a Chasnewydd, er enghraifft, wedi gallu cadw eu gwasanaethau bysiau. Mae'n bwysig bob tro yr ydych chi'n cymryd rhan mewn ymgyrch i achub gwasanaeth, bod yn rhaid i chi hefyd gydnabod bod hyn yn ymwneud â blaenoriaethau. Bob tro y mae Ceidwadwr Cymreig yn dweud, 'A allwch chi roi mwy o arian yn hyn?', byddwn i'n dweud, 'Wel, beth ydych chi'n ei ofyn i'ch Llywodraeth chi yn San Steffan ar ôl 10 mlynedd o gyni?', ac, 'o ble y byddech chi'n cymryd yr arian, Janet Finch-Saunders, er mwyn rhoi mwy o arian i'n gwasanaethau bysiau?' Nawr, rwy'n gwybod bod Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi gwneud gwaith defnyddiol iawn o ran ein trefniadau system drafnidiaeth, ac wedi cyfrannu, yn benodol, er enghraifft, at ystyriaethau WelTAG, yn ogystal â pholisi cynllunio. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweld bod ein gwasanaethau bysiau yn rhan o gymunedau cydlynus, wrth ddarparu mynediad i'n cymunedau at waith, at hamdden, ac i frwydro yn erbyn unigrwydd.

Hyrwyddo Cydraddoldeb

2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb yn Nwyrain De Cymru? OAQ54283

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu cymdeithas lle y gwerthfawrogir ac y perchir amrywiaeth, lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn, a chymdeithas lle gall pawb gymryd rhan, ffynnu, a chael y cyfle i gyflawni eu potensial, ledled Cymru gyfan.

Diolch am eich ymateb. Efallai eich bod yn ymwybodol bod y penderfyniad i gau canolfan hamdden Pontllanfraith wedi ei wrthdroi'n ddiweddar, ar y sail bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ystyried effaith y cau ar bobl ddifreintiedig yn yr ardal yn rhan o'i ddyletswydd cydraddoldeb. Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno bod y cyngor wedi methu yn ei ddyletswyddau ar gyfer pobl ddifreintiedig yn hyn o beth, ac a allwch chi ddweud wrthym ni sut y mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydymffurfio â'u dyletswyddau yn gysylltiedig â chydraddoldeb yn y dyfodol?

Mae pwynt ehangach i'w ystyried yn y fan yma hefyd, sef bod anghenion pobl sy'n agored i niwed yn cael eu hesgeuluso'n rhy aml oherwydd nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed ac oherwydd pwysau a achosir gan gyni. Mae'n rhy hawdd iddyn nhw ddisgyn i'r bylchau mewn gwasanaethau pan na eir ar drywydd atgyfeiriadau a phan nad yw gwasanaethau'n siarad â'i gilydd. Pan fo pobl yn agored i niwed, boed nhw'n dioddef camdriniaeth, yn bobl sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau, pobl sy'n ddigartref neu'n gyn-filwyr y lluoedd arfog, mae'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau llwybrau atgyfeirio i bobl yn y sefyllfaoedd ansicr hyn er mwyn lleihau nifer yr achosion sy'n diflannu oddi ar y llyfrau?

14:35

Wel, rwy'n falch eich bod chithau hefyd, Delyth, yn cydnabod effaith cyni. Wrth gwrs, mae hynny'n cael effaith enfawr o ran gallu awdurdodau lleol nid yn unig i gynnal gwasanaethau hanfodol fel ein gwasanaethau hamdden, ond hefyd o ran cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu eich bod yn codi materion pwysig am gydraddoldeb a hawliau dynol oherwydd mae gennym ni gynllun cydraddoldeb strategol sy'n edrych tuag at ganlyniadau. Mae'n ymwneud â'r canlyniadau cydraddoldeb y mae angen i ni eu cyflawni. Ond hefyd mae gennym ddyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus y mae'n rhaid i bob awdurdod lleol hefyd eu hystyried a chydymffurfio â hwy, ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n ceisio cryfhau canlyniad y dyletswyddau hynny ar awdurdodau lleol oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn diwallu anghenion ein pobl mwyaf agored i niwed, ond yn enwedig y rhai hynny â nodweddion gwarchodedig. Felly, mae hwn yn fater lle mae'n rhaid inni, wrth gwrs, weithio ar y cyd â'n hawdurdodau lleol, gan gydnabod y pwysau sydd arnyn nhw, ond hefyd sicrhau bod lleisiau pobl, yn enwedig y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed, yn cael eu clywed.

Dirprwy Weinidog, o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae'n ffaith nad yw menywod yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn lleoliadau prentisiaethau mewn diwydiannau sy'n talu'n well yng Nghymru. Yn 2016-17, mewn rhaglenni adeiladu a pheirianneg, dim ond 360 o brentisiaid oedd yn fenywod o'u cymharu ag 8,330. Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda'i chydweithwyr i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau drwy annog mwy o fenywod i gymryd prentisiaethau yn y busnesau a'r sectorau hyn? Rydych chi newydd sôn am y canlyniad yn eich plaid chi, ond beth yw'r ddyletswydd? Nid ydych chi wedi cyflawni'r ddyletswydd i wneud yn siŵr bod cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector cyflog yn cael ei gyflawni gan y Blaid Lafur.

Yn amlwg, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu'r dyletswyddau penodol hynny i sicrhau ein bod yn amddiffyn pawb rhag gwahaniaethu ac mae hynny yn arbennig yn cynnwys mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae'n gyfrifoldeb ar—. Mae'r dyletswyddau penodol sydd o dan y Ddeddf yn sicrhau bod yn rhaid i ni edrych ar y dyletswyddau penodol hynny yn enwedig y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ond fe fyddwn i'n dweud hefyd bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhywbeth sy'n ymwneud â sicrhau bod gennym ni'r data am y gwahaniaethau mewn cyflog rhwng y rhywiau, a bod gennym gynllun gweithredu ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ac rwy'n credu hefyd bod yn rhaid i ni gydnabod y ceir hefyd fylchau cyflog y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw o ran ethnigrwydd ac anabledd, ac rydym ni'n ystyried ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r rheini hefyd. Ond mae'n bwysig bod ein dyletswyddau sy'n benodol i Gymru o ran y Ddeddf cydraddoldeb yno i sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r materion hyn, bod gennym ni asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, bod gennym ni gydraddoldeb yn yr wybodaeth am gyflogaeth, a'n bod yn ei chyhoeddi. Ac fe gwrddais i â'r holl awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf i bwysleisio pwysigrwydd y ddyletswydd honno a'r cyfrifoldeb hwnnw.

Cynyddu Amrywiaeth mewn Swyddi Etholedig

3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gynyddu amrywiaeth mewn swyddi etholedig? OAQ54253

Cyhoeddwyd adroddiad ar fenter amrywiaeth a democratiaeth Llywodraeth Cymru ar 26 Mehefin. Bydd cam pellach o'r prosiect yn cychwyn yn fuan a bydd yn ategu'r gwaith cynharach hwnnw cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna? Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd—er ei fod yn araf—ar draws nifer fawr o feysydd fel ASau, ACau, a hyd yn oed cynghorwyr. Rhywbeth sy'n peri pryder i mi yw ein bod wedi cael saith comisiynydd heddlu a throseddu, nid oes yr un ohonyn nhw wedi bod yn fenyw, nid oes yr un ohonyn nhw wedi bod o leiafrif ethnig, a'r sefyllfa i raddau helaeth yw bod pobl yn edrych ar hyn ac yn gweld ei bod yn bosibl mai dim ond pobl o fath penodol sy'n cael sefyll i fod yn gomisiynwyr heddlu a throseddu. Beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod gennym ni well cymysgedd ymhlith y comisiynwyr heddlu a throseddu?

14:40

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cydnabod bod cryn ffordd i fynd gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae rhai o'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi penodi dirprwyon sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, ac mae hyn wedi bod yn gam cadarnhaol iawn. Ond, wrth gwrs, fel pob swydd etholedig, pleidiau gwleidyddol sydd angen ymdrechu i sicrhau eu bod yn annog ac yn cefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol i gyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddi hyn. Wrth gwrs, nid yw'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi'u datganoli, ond fe ofynnaf i swyddogion godi'r pryderon hyn mewn sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU ar faterion etholiadol.

Efallai eich bod yn cofio, wrth gwrs, ymgyrch y Fonesig Rosemary Butler i geisio annog mwy o fenywod i fywyd cyhoeddus, felly, y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd ac nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd â stori dda i'w hadrodd am ddechrau cynnydd, o leiaf.

Rwyf i newydd ddod yn ôl o sesiwn olaf rhaglen ymgysylltu pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, sy'n cael ei rhedeg gan Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Rwy'n gwybod eich bod chi'n fentor yn y fan honno hefyd. Mae'n rhoi boddhad mawr i fentoriaid a'r rhai sy'n cael eu mentora fel ei gilydd, ac mae'n dangos yr arwyddion cynnar o fod yn effeithiol hefyd. Fel y gwyddoch, mae nifer o sefydliadau'n gweithio yn y maes hwn ar hyn o bryd, felly a wnewch chi ddweud wrthyf sut y gallwch chi, Dirprwy Weinidog, ddefnyddio eich cyllideb i gefnogi a hyrwyddo rhaglenni penodol y sefydliadau hynny a rhai eraill tebyg iddyn nhw?

Rwyf innau hefyd, Suzy Davies, yn croesawu rhaglen ymgysylltu â mentora pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, ac rwyf i wedi cael fy ysbrydoli gan y mentoreion ac rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, ac eraill sydd wedi cymryd rhan yn hynny, sydd hefyd yn frwd. Rwy'n credu efallai eich bod chi, Suzy Davies, yn fentor yn rhaglen fentora Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, fel y mae eraill ar draws y Siambr hon. Rydym ni'n ystyried hyn yn swyddogaeth allweddol o ran cefnogi'r trefniadau mentora hynny o ran datblygu amrywiaeth yn y dyfodol ym mhob penodiad cyhoeddus ac, yn wir, o ran mentoreion yn ystyried y posibilrwydd o fod mewn swydd etholedig hefyd.

Mae gennym ni, wrth gwrs, raglen amrywiaeth mewn democratiaeth yr ydym yn bwrw ymlaen â hi o ran llywodraeth leol, ac rwy'n credu bod honno wedi'i hadlewyrchu yn y ddadl a gawsom ni yn ddiweddar iawn. Ond hefyd, mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith yr wyf i'n ei wneud o ran penodiadau cyhoeddus. Ac rydym ni'n ystyried y ffyrdd y gall y rhaglenni mentora chwarae rhan bwysig wrth annog ymgeiswyr ac ystyried, wrth gwrs, y gefnogaeth i'r sefydliadau hynny. Mae'r ddau sefydliad hynny, mewn gwirionedd, eisoes yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ond yn ystyried yn benodol effaith y rhaglenni mentora hynny.

Deddf Cydraddoldeb 2010

4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru? OAQ54259

Yr wythnos diwethaf, roedd symposiwm yr oeddwn yn bresennol ynddo, a drefnwyd gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn archwilio sut y gellid cryfhau'r rheoliadau penodol i Gymru ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Rydym ni hefyd yn cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, Rhan 1 o'r Ddeddf cydraddoldeb.

Diolch am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru sicrhau bod addasiadau rhesymol ar gael ar gyfer pobl anabl yn dilyn y Ddeddf. Nawr, addasiad rhesymol ar drên lle gallech chi fod yn eistedd am dros dair awr rhwng Aberystwyth a Birmingham International, yn syml, wrth gwrs, yw toiled i'r anabl sydd wedi'i gynllunio'n briodol. Mae'n wir ar hyn o bryd bod llawer o bobl anabl nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r cyfleuster hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod hynny'n gwbl annerbyniol.

Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o glywed y bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn ysgrifennu at Trafnidiaeth Cymru ar y mater hwn, ond tybed a wnewch chi ychwanegu eich pwysau chi i hyn, Gweinidog, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am weithredu Deddf Cydraddoldeb 2010, i sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i unioni'r sefyllfa hon ar y cyfle cyntaf.

Yn sicr, Russell George, byddaf yn cefnogi'r Gweinidog trafnidiaeth o ran hygyrchedd, nid yn unig o ran y gwasanaeth arbennig hwnnw, ond o ran y cyfleoedd sydd gan Trafnidiaeth Cymru i wella hygyrchedd. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni hefyd y cyfle gyda'r cerbydau newydd i fod yn drawsffurfiol iawn yn y modd yr ydym ni'n cyflawni hynny.

Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arweiniad sylweddol iawn o ran cytuno i weithredu adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bu ymgyrch ers blynyddoedd lawer i geisio sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu gyda Lloegr ac rydym ni'n dal i aros amdano. Tybed a allech chi amlinellu i ba raddau y bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wrth wraidd polisi Llywodraeth Cymru, o gofio nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi ar hyn o bryd, sy'n byw mewn telerau ac amodau gwael, ond hefyd yr anghydraddoldeb sy'n codi yn y grŵp hwnnw o bobl hefyd.

14:45

Diolch i Mick Antoniw am y cwestiwn atodol yna, oherwydd fe'i crybwyllwyd, fel y gwyddoch chi, yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog yn y datganiad partneriaeth gymdeithasol y byddem ni'n gweithredu Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010—y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mewn gwirionedd, mae hyn yn flaenoriaeth i mi. O ran bwrw ymlaen â hyn, ei weithredu erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon yw ein targed. Rwy'n cyfarfod yfory gyda sefydliadau i ystyried y ffyrdd y mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn cyd-fynd â chyfrifoldebau a dyletswyddau deddfwriaethol eraill Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol (Cymru) 2015, ond gan ystyried ble y gallwn ni gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, ac mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn rhan o hynny. Ond rwy'n credu mai'r pwynt allweddol yw mai canllawiau newydd fydd y rhain a fydd yn sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r anfantais gymdeithasol yn ein cymunedau. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus Cymru wneud penderfyniadau—mae hyn yn mynd yn ôl at gwestiwn Delyth yn gynharach—sef mynd i'r afael â chanlyniadau anghyfartal a achosir gan anfantais economaidd-gymdeithasol. Ac mae hynny wedi bod ar goll o'r pecyn cymorth sydd gennym ni i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ac i wneud yn siŵr ei fod yn rhan o ddyletswyddau ein cyrff cyhoeddus.

Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cedlaethau'r Dyfodol? OAQ54292

Mae'r comisiynydd yn darparu cymorth a her i Lywodraeth Cymru ar amrywiaeth o feysydd polisi, yn enwedig y rhai sy'n adlewyrchu ei blaenoriaethau hi.

Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Rwy'n cymryd yn ganiataol eich bod chi a'r Llywodraeth yn falch iawn o'r ymateb gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol pan benderfynasoch chi wrthod ffordd liniaru'r M4 ar y sail y byddai'n dinistrio safleoedd am byth na ddylem ni, fel un genhedlaeth, fod yn amddifadu nifer dirifedi o genedlaethau'r dyfodol ohonynt. Mae troi tirwedd hanesyddol, hynafol yn goncrid yn weithred un ffordd ac nid oes unrhyw wrthdroi nac atgyweirio. Felly, tybed a yw awydd eich Llywodraeth i chwalu darn o goetir gwlyb prin, gan ddinistrio rhan fawr ohono ac atal ein cenhedlaeth ni a phob cenhedlaeth sy'n dilyn rhag mwynhau'r prinder hwnnw yn enw ffordd liniaru'r llwybr coch yn Sir y Fflint, wedi cael cymeradwyaeth y comisiynydd. A yw eich Llywodraeth wedi gofyn i'r comisiynydd am ei barn ac, os felly, beth oedd ei hateb, os gwelwch yn dda?

Mae hwn yn fater sydd eisoes wedi'i ystyried, wrth gwrs, o ran y llwybr coch, nid yn unig gan y Pwyllgor Deisebau, ond mewn ymateb gan y Gweinidog trafnidiaeth. Fe wnaethom gyhoeddi'r dewis coch fel llwybr a ffefrir i ddatrys tagfeydd traffig yng nghoridor Sir y Fflint ym mis Medi 2017, ac rydym ni hefyd yn bwrw ymlaen â'r camau nesaf o benodi cynghorwyr technegol i ddatblygu dyluniad rhagarweiniol ar y llwybr hwn. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod hyn—ystyriaeth ohono—yn ffurfio rhan o'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, ac mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel y dywedais i yn gynharach y prynhawn yma, i ddiweddaru WelTAG er mwyn ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gwella Hawliau Dynol

6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hawliau dynol yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ54258

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i archwilio'r camau y mae angen eu cymryd i ddiogelu a hybu hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'r adolygiad o gydraddoldeb rhywiol, y fframwaith presennol a ddarperir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diolch, Dirprwy Weinidog. Roedd gen i ddiddordeb yn ddiweddar mewn darllen cerdyn sgorio archfarchnad Oxfam. Mae'r ymgyrch honno'n dadansoddi pa mor dda y mae archfarchnadoedd yn hybu hawliau dynol yn eu cadwyni bwyd. Mae'r darlun yn un cymysg iawn, er enghraifft, ceir cynnydd da gan Aldi, sy'n cyferbynnu â chadwyni eraill na chafodd unrhyw sgôr o gwbl am sicrhau bod gweithwyr benywaidd yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu diogelu nid yn unig yma yng Nghymru, ond drwy'r cadwyni cyflenwi i gyd?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna, y mae hi eisoes wedi'i godi. Mae'n un pwysig i ailadrodd ymateb Llywodraeth Cymru iddo. Rydym ni wedi cyflwyno dulliau o sbarduno a chefnogi ein gwaith gyda chyflogwyr cyfrifol drwy'r contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol, ond hefyd gan dderbyn argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg, gan weithio ar draws y Llywodraeth gyda phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ar eu gweithrediad. Ac mae'n ddefnyddiol iawn bod yr Aelod wedi amlygu arfer da eisoes, oherwydd gall hynny fod o fantais i ni o ran sbarduno gwell arferion gyda chyflenwyr eraill.

14:50
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eiterm nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.

Diolch, LLywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Nid oes cynigion wedi'u cyflwyno ar gyfer y ddadl arfaethedig ar adroddiadau'r Pwyllgor Safonau, felly ni fydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Mae bron i 25 y cant o holl Aelodau'r Cynulliad wedi gofyn am gael siarad a gofyn cwestiwn i'r Trefnydd. Byddaf yn ceisio gofyn i gynifer â phosibl ohonoch gyfrannu, ond os oes gennych dri neu bedwar cais o'ch blaen, dim ond yr un uchaf fyddwch yn cael ei ofyn, felly dewiswch yn dda. Suzy Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Iawn, fe ddewisaf yr un yma. [Chwerthin.] Fel y gwyddoch, Trefnydd, mae rhywfaint o ddiddordeb wedi ei adfywio ym morlyn llanw Bae Abertawe, yn enwedig yn y ffyrdd gwahanol i symud ymlaen ac i'r syniad gwych hwn fynd rhagddo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae un ohonynt, wrth gwrs, yn seiliedig ar rag-werthiant, felly mae'r pris streic yn mynd yn llai perthnasol, fel mater o ddiddordeb i'r cyhoedd. A wnaiff Llywodraeth Cymru wneud datganiad ar ei safbwynt presennol ynghylch y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gadarnhau'n benodol os yw'r £200 miliwn a addawyd ar gyfer y morlyn gwreiddiol yn dal i fod ar y bwrdd. Hefyd, beth yw barn y llywodraeth ar ba mor gyflym y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio datrys mater trwyddedau morol? Diolch.

Diolch am godi'r mater hwn, ac rwy'n arbennig o falch bod dewisiadau'n parhau i fod ar y Bwrdd o ran sut y gellid bwrw ymlaen â morlyn llanw Bae Abertawe. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar i bawb sy'n gweithio'n galed iawn i wneud y syniadau hynny'n fwy cadarn. Yn sicr, pan gyflwynir cynigion gerbron Llywodraeth Cymru, gallaf gadarnhau bod posibilrwydd y bydd y buddsoddiad o £200 miliwn hwnnw'n dal i fod ar y bwrdd. Yn amlwg, bydd yn dibynnu ar y prosiect a gaiff ei gyflwyno, ond yn sicr mae'n parhau i aros yn ein cronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd, ac os a phan fydd gwybodaeth bellach, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn awyddus iawn i'w rannu â chi.

Roeddwn am ofyn a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot ynglŷn â'r penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Godre'r Graig ar ôl i adroddiad Partneriaeth Gwyddor y Ddaear nodi y byddai risg lefel ganolig o dirlithriad. Gwn fod pobl leol yno wedi dychryn o bosibl, ac er bod yr adroddiad yn dweud nad yw'r mynydd wedi symud, mae'r ysgol wedi cau, ac maen nhw'n teimlo bod llawer o sylw yn y cyfryngau wedi eu gwneud yn bryderus iawn yn wir. Felly, rwyf am ddeall pa sgyrsiau yr ydych yn eu cael gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot am hyn, oherwydd mae'r ysgol bellach wedi cau ac ni wyddom a fydd yn cael ei hailagor ym mis Medi, ac a allwn ddeall gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig neu'r Gweinidog perthnasol, pa drafodion yr ydych yn eu cael ynglŷn â'r mater penodol hwnnw.

Rwy'n hepgor fy ail fater, a'r trydydd un yw mater yr ydych wedi fy nghlywed yn ei godi yma bob wythnos, sef fy mod eisiau deall pryd yr ydych yn mynd i wneud cyhoeddiad am yr adolygiad o anhwylderau bwyta yma yng Nghymru. Rwy'n drist i ddweud nad ydym eto wedi cael y cyhoeddiad hwnnw gan y Gweinidog iechyd, ac mae pobl yn dechrau colli amynedd gyda Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn. Mae pobl wedi cymryd rhan yn ddidwyll yn yr ymgynghoriad. Roeddent yn awyddus iawn i weld gwasanaethau da ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y gwasanaethau hynny yma yng Nghymru. Yn wir, nid oeddwn eisiau gweld datganiad ysgrifenedig wedi'i anfon allan ddydd Gwener ar ôl i bawb fynd ar gyfer y toriad, ond o bosibl, gallai hynny ddigwydd. A gawn ni gyhoeddiad ar yr adolygiad o'r fframwaith anhwylderau bwyta?

Diolch i Bethan Jenkins, a gwn am ei diddordeb cryf ym mater anhwylderau bwyta, yn enwedig ei hawydd i weld yr adroddiad yn cael ei gyflwyno. Fel y crybwyllais yr wythnos diwethaf, rwyf yn credu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol wedi cael yr adroddiad hwnnw, ac mae'n adroddiad hir a chymhleth. Deallaf ei fod wedi cwrdd â swyddogion i'w drafod, ac rwy'n gobeithio y bydd diweddariad ar gyfer Aelodau cyn bo hir.

Fe gadwaf i fy nghwestiwn yn fyr hefyd, Gweinidog. Gyda llaw, ni wnaethoch ateb y cwestiwn am Ysgol Godre'r Graig, sy'n bwysig yn fy marn i, oherwydd yr wyf hefyd yn gobeithio y byddwch yn llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am gymryd camau pendant, gan nad oes neb eisiau rhoi eu plentyn mewn perygl, ac roedd yr adroddiad hwn wedi nodi risg yr oedd yn rhaid mynd i'r afael â hi'n gyflym iawn.

Ond mae fy nghwestiwn arall mewn gwirionedd ynglŷn â gofalwyr, a gofalwyr ifanc yn arbennig. Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi gwneud gwaith ynglŷn â gofalwyr ifanc, ond yn anffodus, oherwydd ein bod eisiau cael pethau'n iawn, ni fyddwn yn cael yr adroddiad tan yr hydref. Mae'r Ymddiriedolaeth i Ofalwyr wedi bod mewn cysylltiad, gan esbonio eu pryder dwys am yr oedi gan Lywodraeth Cymru o ran trafod y rhan y mae hi i'w chwarae o ran y cerdyn adnabod gofalwyr ifanc y gellid ei ddefnyddio. A wnewch chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog, efallai, greu datganiad ysgrifenedig, yn ystod y toriad, am ofalwyr ifanc, sy'n gadael yr ysgol yr wythnos hon am chwe wythnos—nid am seibiant, ond am chwe wythnos o ofalu am bwy bynnag y maen nhw'n gofalu. Mae'n parhau—ac fe fyddant yn mynd yn ôl i amgylchedd addysg ym mis Medi, o bosibl, ac nid ydynt yn gwybod eto a fydd system cardiau adnabod Llywodraeth Cymru ar waith i'w helpu? Felly, a wnewch chi ofyn am ddatganiad i ddweud wrthym beth yn union yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ac amserlen o ran pryd y byddant yn gweithredu'r cynlluniau hynny?

14:55

Diolch i chi, David Rees, ac ymddiheuriadau, Bethan, am beidio ymdrin â mater Ysgol Gynradd Godre'r Graig. Gallaf gadarnhau ein bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Cyngor i fonitro'r sefyllfa ac y byddwn yn cynnig ein cefnogaeth lawn os bydd ei angen. Ond, yn bendant, fel y dywed David Rees, diogelwch y disgyblion ddylai ddod yn gyntaf. Ond byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r ddau aelod o ran unrhyw drafodaethau yr ydym wedi eu cael.

Mae gan y mater cerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc y potensial o fod yn ddatblygiad cyffrous iawn, a gwn fod cefnogaeth sylweddol iddo ymysg awdurdodau lleol. Gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â swyddogion o awdurdodau lleol Cymru'r wythnos diwethaf i weithio ar gynllun gweithredu ar ei gyfer. Yn amlwg, mae nifer o gynlluniau lleol eisoes ar waith, felly mae'n bwysig gweithredu cynllun cenedlaethol mewn ffordd sy'n ategu'r hyn sydd eisoes ar waith, yn hytrach na chymhlethu pethau ymhellach i ofalwyr ifanc. Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith wrth i'r gweithredu fynd rhagddo.

[Anghlywadwy.]—i wneud ychydig o ddatganiadau. Mae un yn ymwneud â'r amser aros am ambiwlansys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sy'n mynd y tu hwnt i saith awr, hyd at ddeuddeg awr, sy'n gwbl annerbyniol. A wnaiff y Gweinidog iechyd wneud datganiad?

A'r ail un, Gweinidog, a wnewch chi ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg? Y bobl sy'n cael prentisiaethau ar ôl eu tair blynedd o hyfforddiant coleg neu eu dysgu—. Ar ôl dwy flynedd, os ânt am brentisiaeth, maen nhw'n cael yr arian. Ar ôl cwblhau'r tair blynedd, does dim cyllid ar gael.

Ac yn olaf, a wnewch chi roi gwerthfawrogiad mawr i dîm criced Cymru a Lloegr? Enillon nhw Gwpan y Byd y penwythnos diwethaf, a byddem ni'n ddiolchgar—[Torri ar draws.] Byddem yn ddiolchgar pe baem yn sefydlu ein tîm criced 20 pelawd ein hunain yng Nghymru. Diolch.

Felly, fe ddechreuaf gyda'r mater mwyaf dadleuol a chyflwyno fy llongyfarchiadau i dîm criced Cymru a Lloegr am y llwyddiant rhagorol.

O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, os oes enghreifftiau penodol y mae gennych bryderon yn eu cylch mewn ysbytai penodol. Ond mae'n werth cofio bod YGAC wedi cyrraedd y targed amser ymateb ambiwlansys am yr ail fis a deugain yn olynol, er gwaethaf y nifer cynyddol o alwadau, gyda pherfformiad ar alwadau coch uwchlaw 70 y cant am y pedwerydd mis ar ddeg yn olynol. Felly, mae'n sicr bod llawer o gynnydd yn digwydd yn y maes hwnnw, ond rwy'n deall, os ydych chi'n un o'r cleifion sy'n aros yn hirach nag y byddai unrhyw un ohonom yn ei ystyried yn dderbyniol, yna mae'n amlwg bod hynny'n peri gofid mawr. Felly, os oes gennych ddigwyddiadau penodol, byddwn yn eich annog i'w codi gyda'r Bwrdd Iechyd, ond hefyd yn gwneud y Gweinidog iechyd yn ymwybodol ohonyn nhw.

Ac ar fater prentisiaethau, a allaf eich annog i ysgrifennu at Kirsty Williams, a gwn y bydd yn rhoi ymateb ichi cyn inni ddod yn ôl?

A gaf fi yn gyntaf oll gefnogi galwad Bethan Sayed a David Rees ynghylch cau Ysgol Godre'r Graig ac yn benodol pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gyngor Castell-nedd Port Talbot? Yn amlwg, mae'n achosi rhywfaint o gyffro mewn rhai cylchoedd. Pa gymorth ariannol sydd ar gael yn uniongyrchol yn y sefyllfa ryfeddol hon o gau ysgol ar frys?

A'm rhan fwyaf sylweddol yw y byddwn yn ddiolchgar pe gallech gyflwyno camau gorfodi rheoli plâu yng Nghymru, oherwydd, yn lleol yn ardal Mayals yn Abertawe, mae trigolion yn teimlo'n rhwystredig iawn am fod rhai o'u cymdogion yn bwydo'r gwylanod yn eu cartrefi. O ganlyniad, bu cynnydd aruthrol yn y nifer o wylanod gan arwain at broblemau enfawr yn lleol, gan gynnwys gwylanod yn ymosod ar drigolion, plant ac anifeiliaid anwes bob awr o'r dydd a'r nos. Erbyn hyn, mae trigolion yn siomedig nad yw Cyngor Abertawe wedi cymryd unrhyw gamau yn erbyn y trigolion hyn sy'n bwydo'r gwylanod a denu'r gwylanod i'r ardal. Nawr, rydym yn gwybod bod hyn yn broblem mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd safiad caled wrth geisio lliniaru'r broblem. Os yw pobl yn bwydo'r gwylanod yno, hyd yn oed yn eu cartrefi eu hunain, gallant ddisgwyl cael llythyr yn eu rhybuddio y bydd canlyniadau cyfreithiol. A yw'n bosibl, felly, cyflwyno hysbysiad cyfreithiol yn mynnu bod pobl yn rhoi'r gorau iddi? Mae'n bosibl, ond nid yw'n digwydd ym mhobman—bwydo'r gwylanod? Mae'n ymagwedd anghyson. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo felly i ymchwilio i'r mater hwn a chyhoeddi canllawiau cyson i awdurdodau lleol?

15:00

Diolch ichi, ac o ystyried faint o ddiddordeb sydd ym materion Godre'r Graig, credaf efallai y byddai llythyr at yr holl Aelodau'n fwy priodol nag i'r Aelodau sydd wedi'i godi yn y Siambr y prynhawn yma'n unig.

Ar fater rheoli plâu, rwy'n gyfarwydd â'r sefyllfa ym Mayals. Rwyf innau hefyd wedi cael yr un sylwadau â chi. Mae Gweinidog yr  Amgylchedd wedi bod yma i glywed y drafodaeth, a gwn y bydd yn edrych yn ofalus ar y gwahanol ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn ymdrin â'r mater. Rydych chi wedi rhoi enghraifft o Sir Ddinbych. Gwn fod Conwy hefyd yn gweithredu'n fwy llym. Bydd y Gweinidog yn edrych ar y gwahanol ddulliau y mae awdurdodau lleol yn eu dilyn i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â llosgi. Byddai llawer ohonom ar draws y Siambr yn hoffi gweld diwedd ar losgi anfeddygol. Y llynedd, rhybuddiodd prif gynghorydd gwyddonol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Athro Syr Ian Boyd, y byddai buddsoddiad pellach mewn gweithfeydd ynni o wastraff yn arafu cyfraddau ailgylchu'r DU. Un ffordd o ddileu'r gwerth mewn deunyddiau yn gyflym yw ei roi mewn llosgydd. A yw'r Llywodraeth yn cytuno â'r safbwynt hwnnw, ac a fyddant yn cymryd camau?

Hefyd, yn fyr iawn, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog cyllid ar gyfalaf trafodion? Byddwn yn gobeithio y gallem gael hynny unwaith y flwyddyn, oherwydd bod dros £1 biliwn yn y trafodiad cyfalaf hwnnw, a chredaf fod gennym ni, y Cynulliad, hawl i wybod sut mae'n cael ei wario a sut mae'n cael ei ad-dalu.

Diolch, Mike, am godi mater cyfalaf trafodion ariannol, a gwn iddo grybwyll hynny hefyd yn ein dadl ar y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf. Nid yw Llywodraeth Cymru'n croesawu'r cyfyngiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu rhoi ar ein cyllideb cyfalaf drwy ddefnyddio FTs. Rydym yn ymrwymo, fodd bynnag, i ddefnyddio'r cyllid i fuddsoddi mewn seilwaith ac i hybu twf economaidd yn y tymor hir.

Fel rhan o ddogfennaeth y gyllideb, rydym wedi ymrwymo i ddarparu manylion llawn ynglŷn â sut y defnyddir FTs. Gan adeiladu ar y wybodaeth a roddwyd i chi o'r blaen gan fy rhagflaenydd, byddaf yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Ond gallaf gadarnhau ein bod yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd arloesol—cyllid, er enghraifft, ar gyfer ein cynllun tir ar gyfer tai; cyllid ar gyfer cynlluniau benthyciadau canol trefi a chronfeydd eiddo; Twf Gwyrdd Cymru a'r seilwaith gwyrdd. Mae'r prosiectau sydd wedi elwa arno dros amser yn cynnwys ffordd gyswllt ardal adfywio strategol Ynys y Barri, Maes Awyr Caerdydd ac awyrennu. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi lansio ein cronfa safleoedd sydd wedi'u gohirio. Felly, rydym yn chwilio am ffyrdd arloesol o ddefnyddio'r cyllid ac rwy'n edrych ymlaen at drafodaeth bellach yn y Pwyllgor Cyllid yfory, lle byddwn yn ystyried cyllid cyfalaf.

Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am losgi. Gwn fod gweithfeydd llosgi'n destun gofynion amddiffynnol llym y gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn darparu rhagor o wybodaeth am y cwestiynau penodol a godwyd.

Galwaf am ddatganiad ynglŷn â'r ymgyrch Lleoedd Newid ar gyfer toiledau Lleoedd Newid. Lansiwyd hwn yn 2006, ond ddydd Gwener diwethaf, am yr eildro, euthum i gyfarfod grŵp llywio Lleoedd Newid a gynhaliwyd yn Shotton, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â Lleoedd Newid i siroedd y gogledd-ddwyrain, gan ddechrau gobeithio gyda thref yr Wyddgrug. Caiff ei gadeirio gan Kim Edwards, sydd â'r cyflwr Friedreich Ataxia. Dywedodd, o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol o ddiffyg cyfleusterau cyfredol, nad yw pobl ag anabledd yn mynd allan. Mae darparu lle newid priodol yn darparu'r holl le ac offer, megis teclyn codi a gwely newid, ymysg eitemau eraill, sydd eu hangen i osgoi newid pobl ar lawr aflan, peidio newid o gwbl, neu hyd yn oed peidio â mynd allan i'r gymuned yn y lle cyntaf. Rwy'n gwybod fod 16 mlynedd ers imi glywed y mater hwn yn cael ei godi yn y Siambr hon am y tro cyntaf, ac eto mae pobl fel Kim, heddiw—16 mlynedd yn ddiweddarach—yn dal yn gorfod ymgyrchu dros hyn. Byddwn i'n galw am ddatganiad neu hyd yn oed ddadl y tymor nesaf ar y mater hwn.

A oes modd i mi gael ail eitem ai peidio?

Yn fyr iawn, ynglŷn â'r corff llais pobl newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, efallai eich bod yn ymwybodol bod y cynghorau iechyd cymuned presennol wedi galw am i'r corff hwnnw fod yn annibynnol ac yn wirioneddol gryfach. Fodd bynnag, ar 3 Gorffennaf, dywedodd y Gweinidog iechyd wrth y Pwyllgor Cyllid y bydd y corff newydd yn:

rheoli ei dynged ei hun a chael annibyniaeth llawer mwy dilys mewn ffordd nad oes gan Gynghorau Iechyd Cymuned ar hyn o bryd. Ac rwy'n penodi llawer iawn o bobl i fyrddau Cynghorau Iechyd Cymuned lleol a rhanbarthol, nad yw, unwaith eto, yn gwneud synnwyr yn fy marn i.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos ei fod wedi anghofio y byddant yn penodi holl aelodau'r bwrdd llais newydd i ddinasyddion, er mai dim ond hanner aelodau'r cyngor iechyd cymuned presennol y bydd ef yn eu penodi, gyda'r gweddill yn cael eu penodi gan y trydydd sector ac awdurdodau lleol. Yn sicr, mae'n rhaid i annibyniaeth olygu hynny'n union.

15:05

O ran y corff newydd a fydd yn cymryd lle cynghorau iechyd cymuned, wrth gwrs bydd gan y Cynulliad cyfan ddigon o gyfle i ymchwilio i hyn ymhellach ac i drafod y mater, ac yn sicr bydd cyfleoedd yng Nghyfnod 2 a Chyfnod 3 i ddiwygio'r ddeddfwriaeth, felly byddwn yn annog Aelodau i ymgysylltu'n llawn â'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth.

O ran y cais am ddadl ar Leoedd Newid, neu'n sicr ddiweddariad arno, rwy'n cydnabod yn llwyr mor bwysig yw cyfleusterau toiledau hygyrch o ran helpu pobl i gael mynediad i'w cymunedau a rhoi urddas i bobl pan fyddan nhw'n mynd allan. Byddaf yn canfod y sefyllfa ddiweddaraf o ran nifer y toiledau y gwyddom amdanyn nhw, a sut mae awdurdodau lleol, busnesau ac eraill yn ceisio sicrhau bod cyfleusterau toiledau yn fwy hygyrch, ond yn enwedig o ran Lleoedd Newid, sydd, fel yr wyf yn gwybod, yn darparu rhai teclynnau ychwanegol ac yn y blaen.

Hoffwn ofyn i'r Trefnydd yn gyntaf am gynllun tymor hirach i ofyn a fydd y Gweinidog iechyd yn cyflwyno datganiad llafar i'r Siambr hon yn yr hydref am gynnydd y broses oruchwylio annibynnol yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo ac rwy'n siŵr y byddai'r holl Aelodau'n cytuno â mi, am y diweddariad ysgrifenedig cynhwysfawr a gawsom heddiw, ond rwy'n siŵr nad fi fydd yr unig Aelod a fyddai'n croesawu'r cyfle i allu holi'r Gweinidog o ganlyniad i'r datganiad ar y cynnydd sydd wedi'i gyflawni pan ddaw'r hydref pryd bydd y gwaith wedi datblygu ymhellach.

Hoffwn wneud cais hefyd bod y Trefnydd yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad am dryloywder ac atebolrwydd yn y broses penodiadau cyhoeddus. Mae hyn yng ngoleuni datganiad a wnaeth y Dirprwy Weinidog ar 6 Mehefin lle y nododd yn glir y broses benodi ar gyfer cadeirydd bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, a gwnaed hynny mewn datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad hwn gyda chefndir manwl yr aelodau oedd wedi cael eu penodi. Nawr, mae hyn mewn cyferbyniad â phenodi cadeirydd newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, lle gwnaed datganiad i'r wasg ond ni chafwyd datganiad manwl i'r Siambr hon yn nodi cymwysterau'r person a oedd wedi'i benodi. Nawr, mae'n ddiddorol bod yr un unigolyn yn gysylltiedig â'r ddau benodiad hynny, a chredaf y byddai'n ddefnyddiol i'r Siambr hon, Llywydd, inni ddeall pryd y gallwn ddisgwyl adroddiad manwl i'r Siambr hon am brosesau'r penodiadau cyhoeddus hynny. Neu a oes disgwyl inni ddysgu am yr hyn sydd yn benodiad mawr iawn, yn sicr ar gyfer fy etholaeth i yn y gorllewin, o ddatganiad i'r wasg, a hynny heb fod manylion ar gael am gymwysterau a phrofiad yr unigolyn hwnnw. Nid wyf am enwi'r unigolyn dan sylw, Llywydd, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog iechyd a'r Trefnydd hefyd yn gwybod am bwy yr ydym yn siarad. Codwyd pryderon gyda mi ynghylch hanes blaenorol yr unigolyn hwnnw mewn lleoedd blaenorol, a byddai'n fuddiol inni allu gweld ar ba sail y mae wedi'i phenodi i fwrdd Hywel Dda, yn union fel y gwelsom ar ba sail y mae'r aelodau ar gyfer bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru wedi eu penodi.

Ar yr ail bwynt hwnnw, rhoddaf ystyriaeth o ddifrif i'r modd y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud y cyhoeddiadau hyn mewn ffordd gyson ar draws y Llywodraeth, ac mewn modd tryloyw, a rhoi cyfle i Aelodau a phartïon eraill sydd â diddordeb, ddod o hyd i ychydig mwy am y bobl sy'n cael eu penodi i fyrddau a sefydliadau, er mwyn cael syniad o bwy ydyn nhw a beth yw eu cymwysterau. Felly, byddaf yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut y gallwn sicrhau mwy o gysondeb.

Mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad heddiw, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y materion yng Nghwm Taf, wedi dweud y byddai'n awyddus i ddarparu diweddariad pellach maes o law. Wrth i ni ddechrau symud tuag at y tymor nesaf, yn amlwg byddwn ni'n ystyried y cydbwysedd busnes i'w ddwyn ymlaen, a bydd y cais a wnaed heddiw, ac yn yr wythnosau diwethaf, i gyd yn rhan o hynny.

Datganaf fuddiant fel cynghorydd yng Nghaerdydd. Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth am gwmnïau preifat sy'n rhedeg cartrefi gofal plant yng Nghymru. Nid ydyn nhw'n caniatáu i gynghorwyr, nac i rieni yn wir, gael mynediad i'r cartrefi hynny i ymweld â nhw. Mae hyn wedi digwydd mewn un achos yn benodol yr wyf yn ymdrin ag ef lle mae plentyn wedi honni ei fod wedi cael ei gam-drin mewn gofal yn barhaus—yn barhaus—ac ni chaniateir i gynghorwyr na rhieni ymweld â'r cartref. Roedd problem wedi codi pan aethpwyd â'r plentyn i'r ysbyty, a'r unig wybodaeth a roddwyd i'r rhieni, sydd â chyfrifoldeb rhiant, oedd bod gwaed dan sylw. Dim byd arall—ni roddwyd rhagor o wybodaeth. Mae'r cwmnïau preifat hyn yn gwneud ffortiwn oddi wrth y plant hyn, ac mae'r plentyn hwn yng ngofal Cyngor Caerdydd, ac yn syml, rwyf am gael gwybod sut y gall y cwmnïau preifat hyn ymddwyn fel hyn a pheidio â chaniatáu ymweliadau a pheidio â rhoi gwybodaeth sylfaenol am gyflwr y plant yn eu gofal.

15:10

A allaf eich annog i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth, o ran swyddogaeth a chyfrifoldebau cwmnïau preifat sy'n darparu gofal, o ran y mynediad y dylen nhw ei roi i'r rhai sydd â diddordeb er mwyn cyfarfod â phlant a siarad â nhw? Nid wyf yn gyfarwydd â'r achos ond os ysgrifennwch at y Gweinidog, bydd hi'n gallu rhoi mwy o gyngor, efallai.

Diolch ichi, Llywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, a byddaf yn gryno iawn? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ffliw ceffylau sydd, fel y gwyddom, o amgylch Cymru ac o amgylch rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae llawer o sioeau haf eisoes wedi cyhoeddi mai anifeiliaid sydd wedi eu brechu yn unig fydd yn bresennol yn eu sioe haf. Byddai'n dda cael deall sut mae'r prif swyddog milfeddygol yn argymell camau gweithredu penodol i Lywodraeth Cymru, a pha gynnydd sy'n cael ei wneud, wrth gwrs, i reoli'r achosion hyn—achosion difrifol iawn. Ac os nad oes gwybodaeth berthnasol ar hyn o bryd, o gofio ein bod ar fin dechrau toriad yr haf, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth ymrwymo i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd fel bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r modd y mae'r achos hwn yn cael ei reoli yma yng Nghymru?

Yn ail, ar ddechrau'r tymor hwn neu ar ddiwedd y tymor diwethaf, cafwyd diweddariad ar foeler biomas y Barri neu'r llosgydd— galwch ef yr hyn a fynnwch. Hyd yma, rwy'n credu nad oes fawr ddim cynnydd wedi bod ers y diweddariad hwnnw. Roedd beth amser yn ôl—Chwefror 2018, a bydd y Trefnydd yn ymwybodol o'r amseroedd pryd y codais hyn—pan ymrwymodd y Llywodraeth i ymrwymo i sicrhau bod asesiad o'r effaith amgylcheddol ar gael. Rwy'n credu mai'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol—Hannah Blythyn—gallaf werthfawrogi—rwy'n eich gweld yn edrych o gwmpas y fainc flaen yna. Byddai'n dda deall, yn enwedig gan ein bod yn mynd at y toriad: a oes unrhyw ddiweddariad ar y pwyntiau gweithredu a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ei llythyr? Un peth y tynnwyd sylw ato yn y llythyr hwnnw oedd torri polisi cynllunio. Byddai'n dda deall pa ryngweithio sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r adran gynllunio leol—datganaf fuddiant fel cynghorydd ym Mro Morgannwg, ac yn amlwg, Bro Morgannwg yw'r awdurdod cynllunio yn yr achos penodol hwn. Felly, byddai unrhyw ddiweddariad yn cael ei groesawu'n fawr.

Ac yn drydydd, mae'n bwysig deall pa ddeialog y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael ynglŷn â'r protestiadau yng nghanol Caerdydd. Rwy'n gwerthfawrogi nad ydych yn uniongyrchol gyfrifol ar hyn o bryd, gan mai mater i'r awdurdod lleol ac i'r heddlu ydyw, ond mae busnesau ac unigolion wedi dioddef cryn anghyfleustra oherwydd parhad y brotest. Mae gan bawb hawl i brotestio, ac mae hawl gan bawb i ddod â materion i'n sylw ac i sylw'r cyhoedd, ond mae llawer o fusnesau yn arbennig yn teimlo'n ddig bod hyn wedi amharu'n fawr ar eu masnachu arferol heb unrhyw derfyn mewn golwg, a byddwn yn ddiolchgar o gael unrhyw ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid eraill i fynd i'r afael â phryderon y protestwyr ac yn y pen draw i weithio gydag awdurdodau eraill i ddod â bywyd normal yn ôl i ganol Caerdydd fel y gall y Llywodraeth fynd i'r afael â'u pryderon, ond hefyd y gall y rhai sydd â busnesau a'r rheini sydd angen mynd i'w gwaith bob dydd fod yn hyderus y bydd y tarfu hwn yn dod i ben.

Diolch ichi am godi'r materion yna. Mewn cysylltiad â'r cyntaf: wrth gwrs, mae ffliw ceffylau yn gyflwr anhysbysadwy ac endemig yn y Deyrnas Unedig. Mae'r clefyd fel arfer yn ysgafn ac yn hunan-gyfyngol, ond gall hefyd fod yn brif achos clefyd anadlol mewn ceffylau. Gallaf gadarnhau bod y prif swyddog milfeddygol wedi bod yn rhoi cyngor a'n bod yn cynnal trafodaethau parhaus gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, er enghraifft, ac yn croesawu eu penderfyniad cyfrifol fod pob ceffyl sy'n mynd i Sioe Frenhinol Cymru eleni i gael ei frechu'n briodol rhag ffliw ceffylau. Os hoffai etholwyr neu bartïon â diddordeb gael gwybodaeth, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu, neu fe allen nhw ofyn am wybodaeth gan eu milfeddyg lleol hefyd.

O ran boeler biomas y Barri, mae arnaf ofn nad oes gennyf unrhyw wybodaeth i chi heddiw, ond cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth, byddwn yn darparu hynny i chi, hyd yn oed os yw hynny yn ystod y toriad.

Ac ar fater y brotest yng Nghaerdydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau. Mater i Gyngor Caerdydd ydyw mewn gwirionedd, er ein bod, wrth gwrs, yn ymwneud yn helaeth â sylwedd y mater, wedi inni ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar a chyhoeddi ein cynllun cyflawni carbon isel, gan nodi'r camau a'r blaenoriaethau y byddwn yn eu cymryd i fynd  i'r afael â'r mater hwn.

Diolch yn fawr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gais am ddadl ar ddeintyddiaeth ac, mewn ymateb, fe ddywedoch chi y gall y Gweinidog iechyd ystyried hynny. Gaf i hefyd ategu'r alwad am ddadl ar ddeintyddiaeth, os gwelwch yn dda, a hynny'n gynnar yn y tymor newydd? A gaf i jest esbonio pam? Mae'r sefyllfa ddeintyddol yn fy etholaeth i yn ddifrifol iawn. Does dim un practis yn Arfon yn derbyn cleifion newydd ar yr NHS, dim un yn derbyn oedolion, dim un yn derbyn plant, dim un yn derbyn plant a phobl ifanc efo anableddau dysgu. Dydy fy etholaeth i ddim yn eithriad. Mae yna wyth, o leiaf, o rai eraill mewn sefyllfa debyg. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn dderbyniol ac mae angen gweithredu ar frys o ran y cytundeb a'r cap, ac mae argymhellion y pwyllgor iechyd angen eu hystyried o ddifrif. Ac, fel ateb tymor hir, mae angen i'r Llywodraeth edrych ar hyfforddi deintyddion yn y gogledd, ym Mangor, gan adeiladu ar yr hyfforddiant meddygol sy'n cychwyn yno ym mis Medi. Felly, buaswn i'n croesawu dadl er mwyn inni wyntyllu'r holl broblemau sydd yna o gwmpas deintyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. 

15:15

Wel, gallaf gadarnhau y bydd dadl ar 'Cynllun Gwên: 10 mlynedd o wella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru' ar y diwrnod cyntaf yn ôl ym mis Medi, felly gallai hynny fod yn gyfle, o leiaf, i gydweithwyr grybwyll materion sy'n ymwneud yn benodol ag iechyd y geg ymhlith plant, ond, yn amlwg, yn gyfle i grybwyll eu diddordebau a'u pryderon ehangach.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn y datganiad deddfwriaethol yma, byddaf yn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y Biliau byddwn yn eu cyflwyno yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn. Ein bwriad yw helpu creu Cymru fwy cyfartal, wedi'i seilio ar gyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Fe fyddwn yn gyrru ymlaen gyda mesurau pwysig ym meysydd addysg, tai a thrafnidiaeth, a fydd yn sbarduno gwelliannau ledled Cymru. Fe fyddwn yn cryfhau llywodraeth leol ac yn amddiffyn hawliau plant. Ar yr un pryd, fe fyddwn yn parhau i fwrw ymlaen gyda chynlluniau a fydd yn hanfodol os byddwn yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Llywydd, yn ystod y 12 mis diwethaf, drwy ymdrechion y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, rydym ni wedi cyflwyno, ystyried a phasio swm digyffelyb o ddeddfwriaeth, gan gynnwys mwy na 150 o offerynnau statudol a oedd eu hangen i gywiro'r llyfr statud o ystyried y posibilrwydd y byddai'r DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 29 Mawrth eleni. Roedd angen llawer iawn o ymdrech ar ran Llywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau Cynulliad i gwblhau'r rhaglen waith hon mewn pryd, ac rwyf eisiau diolch ar goedd i'r holl swyddogion, Aelodau a phwyllgorau a wnaeth hynny'n bosib.

Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn cael miloedd o bwerau a swyddogaethau newydd mewn meysydd polisi a oedd gynt yn cael eu pennu gan gyfreithiau'r UE. Ac mae hynny'n golygu, Llywydd, nad yw'r effaith o adael yr Undeb Ewropeaidd ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ar ben eto. Mae'r cwestiwn sy'n parhau ynglŷn â sut y bydd y DU yn ymadael â'r UE yn golygu na all neb ragweld gydag unrhyw sicrwydd beth fydd yn digwydd yn yr hydref ac a oes angen deddfwriaeth ychwanegol efallai, a pha fath. Fodd bynnag, rydym ni wedi gallu asesu a ydym ni bellach mewn sefyllfa i gyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru a Bil llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn y tymor hwn, os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym ni wedi ymgynghori ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu yng nghyd-destun Brexit. Rydym ni'n parhau'n ymrwymedig i ddeddfu er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion a fydd yn dod i'r amlwg o ran egwyddorion a llywodraethu pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae hwn yn parhau i fod yn fater cymhleth ac rydym ni wrthi'n trafod â gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig ynghylch sut y gallwn ni weithio ar y cyd i sicrhau dull gweithredu cydlynol a byddwn yn parhau i adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i'r darlun sy'n datblygu ddod yn gliriach.

O ran Bil amaethyddiaeth i Gymru, mae'r oedi wrth ddatrys Brexit yn golygu y byddwn ni nawr yn canolbwyntio ar baratoi Bil o'r fath yn y tymor Cynulliad hwn i'w gyflwyno yn y tymor nesaf. Bydd hwn yn gyfle i fod yn uchelgeisiol ac yn eang, gan fynd ymhellach na dim ond cyfyngu deddfwriaeth i gynlluniau cymorth fferm i edrych ar faterion ehangach fel hawliau ffermwyr tenant. Lansiodd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yr wythnos diwethaf. Mae'n cyflwyno cynigion uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys talu ffermwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau a dal carbon. Edrychaf ymlaen at y sgyrsiau a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru mewn sioeau amaethyddol ac mewn lleoliadau eraill yn ystod yr haf hwn. Gan ddefnyddio canlyniadau'r ymgynghoriad hwn, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn i fraenaru'r tir ar gyfer deddfwriaeth.

Llywydd, tra buom ni'n paratoi ar gyfer Brexit, rydym ni wedi parhau i ddeddfu ar gyfer materion domestig pwysig, gan sicrhau'r fframwaith gweinyddol ar gyfer ein cynnig gofal plant i ddarparu cymorth y mae ei ddirfawr angen i deuluoedd sy'n gweithio, a sefydlu isafswm pris yr uned am alcohol, i'w gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn plant drwy ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol—Bil y mae pwyllgorau yma yn craffu arno ar hyn o bryd—ac wedi cyflwyno Bil i sicrhau diwygiadau allweddol i'r system iechyd a gofal.

Yn ddiweddarach heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn pasio Bil Deddfwriaeth (Cymru), y Bil cyntaf o'i fath yng Nghymru, a fydd yn cefnogi sut y caiff ddeddfwriaeth Cymru ei dehongli ac yn gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf hefyd wedi bod yn nodedig am ddeddfwriaeth a hyrwyddir yma heblaw gan Lywodraeth Cymru. Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 oedd y Bil pwyllgor cyntaf i gael Cydsyniad Brenhinol ers i'r Cynulliad hwn ennill pwerau deddfu llawn. Mae Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y Llywydd ei hun wedi cyrraedd ei gamau diwygio. Bydd ganddo oblygiadau pellgyrhaeddol i'r sefydliad hwn ac i bobl ifanc ledled Cymru, gan ei fod yn ymestyn yr etholfraint yn etholiadau'r Cynulliad i rai 16 a 17 oed.

Gan droi, Llywydd, nawr at y flwyddyn sydd i ddod, bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol yn rhan o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno. Bydd y Bil hwnnw hefyd yn cryfhau democratiaeth, atebolrwydd a pherfformiad awdurdodau lleol, a bydd yn sefydlu dull cyson ar gyfer cydweithredu a chydweithio, gan gynnwys trefniadau ar gyfer trafnidiaeth. Bydd hyn yn grymuso awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o ansawdd uchel ar gyfer a gyda'r cymunedau lleol y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Llywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno Bil indemniad meddygon teulu yn ystod y flwyddyn nesaf hon i ategu'r cynllun presennol, a gyflwynwyd ym mis Ebrill. Bydd y Bil yn sicrhau bod yr holl hawliadau am esgeulustod clinigol, pryd bynnag yr adroddwyd amdanyn nhw neu y bu iddyn nhw ddigwydd, yn dod o dan ein cynllun atebolrwydd.

Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi gwneud sawl peth pwysig i wella'r sector rhentu preifat a'i wneud yn ddewis cadarnhaol i denantiaid. Caiff ffioedd annheg a godir gan asiantau gosod eu gwahardd o fis Medi ymlaen o ganlyniad i gyfraith a basiwyd yma. Ac rwy'n falch o gael dweud y prynhawn yma, Llywydd, y gallwn ni nawr fwrw ymlaen â gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn sicrhau bod tenantiaid yn gallu manteisio ar ystod eang o fuddion, gan gynnwys amddiffyniad rhag cael eu troi allan er mwyn dial. 

Ond mae mwy y gallwn ni ac y byddwn ni yn ei wneud, gan gynnwys ymateb i'r pryderon cyffredinol am droi allan heb fai. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd ymgynghoriad gennym ni yn nodi cyfres o gynigion i ymestyn y cyfnod rhybudd y byddai'n rhaid i landlordiaid ei roi cyn y gallan nhw feddiannu eiddo. Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, rydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn i fynd i'r afael â'r mater o droi allan heb fai.

Llywydd, byddwn yn cyflwyno Bil trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y tymor hwn o'r Cynulliad, gan adeiladu ar y cynigion yn y Papur Gwyn 'gwella trafnidiaeth gyhoeddus'. Bydd y Bil hwn yn rhan allweddol o'r diwygiadau ehangach i wasanaethau bysiau yma yng Nghymru a bydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n wirioneddol integredig, wedi'i gynllunio a'i ddarparu er budd y cyhoedd, ac sy'n diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio. Roedd y Papur Gwyn hefyd yn gofyn am farn pobl am gyfres o gynigion i foderneiddio'r system drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat er mwyn ymateb i'r farchnad hon sy'n prysur newid. Cafodd agweddau ar y cynigion hynny gefnogaeth glir, ond fe wnaethon nhw hefyd esgor ar syniadau, gan y diwydiant, gan undebau llafur, gan awdurdodau lleol, i wneud mwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant. Mae'r syniadau pellach hyn, ynghyd â datblygiadau ar lefel y DU, wedi ein harwain at y casgliad y dylid cymryd mwy o amser i benderfynu'n derfynol sut byddwn ni'n mynd i'r afael â thacsis a cherbydau hurio preifat. Caiff deddfwriaeth ar yr agweddau hyn ar y Papur Gwyn ei chyflwyno nawr ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddiwygio a gwella addysg yng Nghymru. Rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ein hagenda ddiwygio uchelgeisiol. Rydym ni wedi newid y system ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ac wedi cyflwyno'r pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i israddedigion, graddedigion a myfyrwyr rhan-amser. Rydym ni wedi newid y gyfraith i gyflwyno system addysg a chymorth newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol hyd at 25 oed. Rydym ni wedi diwygio hyfforddiant athrawon, ac rydym ni wedi cyflawni'r rhaglen fuddsoddi fwyaf uchelgeisiol yn ein hysgolion a'n colegau ers dros 50 mlynedd. Yn rhan o'r agenda ddiwygio hon, rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu ein cwricwlwm newydd arloesol, a gaiff ei gyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru o fis Medi 2022. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, byddwn nawr yn cyflwyno Bil cwricwlwm ac asesu i nodi mewn statud yr egwyddorion, y rhyddid a'r strwythurau ar gyfer y cwricwlwm uchelgeisiol, newydd hwnnw.

Ac, mewn Bil ar wahân, Llywydd, byddwn hefyd yn deddfu i sefydlu'r comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol, i ddisodli'r cyngor cyllido addysg uwch yma yng Nghymru. Bydd y comisiwn yn cryfhau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol, bydd yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysg, a bydd yn darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sydd mewn sefyllfa well i ddod â'r sector at ei gilydd i ddarparu gwir ddysgu a sgiliau gydol oes ar gyfer pobl Cymru.

Llywydd, fel y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol drwy gyflwyno Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn i ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol yn y gyfraith a sicrhau ei bod hi'n amlwg bod modd gorfodi cytundebau a wneir mewn partneriaeth gymdeithasol.

Y rhain yw'r uchelgeisiau deddfwriaethol y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cadarnhau ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.

Llywydd, i gloi, fe fydd y cynlluniau hyn yn cyflwyno gwelliannau positif a blaengar ar gyfer pobl Cymru. Mae rhaglen y Llywodraeth yn dangos ein bod yn benderfynol o yrru ymlaen gyda newidiadau uchelgeisiol hyd ddiwedd y Cynulliad hwn, er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n ein hwynebu. Rwy’n cymeradwyo’r rhaglen ddeddfwriaethol hon i’r Cynulliad. Diolch yn fawr.

15:25

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod? Heddiw, mae wedi cyhoeddi mwy o'r un peth gan y Llywodraeth Lafur flinedig hon yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddodd y cyn Brif Weinidog amrywiaeth o Filiau newydd, a ble'r ydym ni arni o ran y rhain? Croesewir y gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau gan y mwyafrif yn y Siambr hon, ond pam mae hi wedi cymryd cyhyd i'w weithredu? Arferai Cymru arwain y DU, os nad y byd, ar les anifeiliaid, ac eto ar y mater hwn, ac eraill, rydym ni y tu ôl i'r Alban ac yn awr Lloegr.

A chyda'r newidiadau arfaethedig i'r cynghorau iechyd cymuned, mae'n nodweddiadol o'r Llywodraeth hon, pan na fydd rhywbeth yn mynd yn iawn, pan fydd pobl yn dechrau ei dwyn i gyfrif am ei methiannau, mai hi naill ai'n cael gwared ar y targed neu'n diddymu'r sefydliad sy'n meiddio codi llais dros unigolion. Ac rwy'n dweud wrth y Prif Weinidog: mae angen inni hybu atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd, nid cuddio methiannau.

Nawr, roedd hi'n siomedig dros ben i mi a'r miloedd o bobl yng Nghymru sydd ag awtistiaeth neu sy'n gofalu am eu hanwyliaid sydd ag awtistiaeth, fod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y Bil awtistiaeth, a fyddai wedi rhoi llawer o gymorth i'r teuluoedd hynny ar adeg pan fo arnyn nhw angen hynny fwyaf. Ac rwy'n annog y Llywodraeth i ailedrych ar gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn.

I droi at y Biliau newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae'n dda gweld y Prif Weinidog yn cymryd yr arferion gorau o Ddeddf Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth y DU 2017 yn ei fesur trafnidiaeth gyhoeddus arfaethedig drwy ryddfreinio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Fodd bynnag, beth a wnaiff Llywodraeth Cymru i gefnogi, er enghraifft, y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau ar gyfer pobl ifanc, a sut y bydd yn cefnogi cwmnïau bysiau bach a chanolig eu maint drwy'r ddeddfwriaeth benodol hon? Hefyd, sut fydd gwasanaethau bysiau a arweinir gan gymunedau, sydd hefyd yn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn cyd-fynd â'r cynigion i awdurdodau lleol ryddfreinio neu redeg gwasanaethau bysiau yn uniongyrchol?

Nawr, realiti llym camreoli'r Llywodraeth o ran y GIG yng Nghymru yw bod cleifion a staff sy'n gweithio'n galed yn talu'r pris. Mae'n annerbyniol bod bron i un o bob dau glaf yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad cyfleus â'u meddyg teulu, a hyn gan Lywodraeth a ymgyrchodd i wneud gwasanaethau meddygon teulu yn llawer mwy hygyrch. O gofio'r ffars ym mis Ebrill, pan adawyd meddygon teulu yn nhir neb ar ôl i'r Gweinidog iechyd dorri mwy na £11 miliwn o gyfanswm indemniad meddygon teulu yn gwbl unochrog i gyflawni'r cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth, sut fydd ei Lywodraeth yn ceisio gwrthdroi camgymeriadau o'r fath drwy'r cynnig deddfwriaethol penodol hwn? A ymgynghorwyd â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol cyn cyhoeddi'r Bil hwn heddiw?

Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw raglen ddeddfwriaethol yn gyflawn heb sôn am ddiwygio llywodraeth leol, gan fod ganddi'r potensial unwaith eto i adael cynghorau, staff, a'r rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau lleol yn nhir neb eto. Cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fis diwethaf y byddai argymhellion gan y gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol yn cael eu cynnwys yn y Bil, yn enwedig uno gwirfoddol awdurdodau lleol. Sut ellir sicrhau'r Cynulliad hwn na fyddai unrhyw gynnig gan awdurdodau lleol yn dibynnu ar fympwy'r Gweinidog Llywodraeth Leol, fel y ddigwyddodd yn ôl yn 2015?

O gofio'r protestiadau parhaus heddiw yn ein prifddinas, mae'n siomedig nad yw ei Lywodraeth yn cyflwyno unrhyw fesur sy'n ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn syndod, oherwydd mae'n ymddangos y bu i'w Weinidog ddatgan hynny yn y wasg yn gyntaf cyn rhoi'r newyddion diweddaraf iddo yn ystod unrhyw fater arall yn y Cabinet. Mae hwn yn fater difrifol y mae angen ei ystyried o ddifrif, ac yn amlwg mae'n rhaid inni dreulio amser yn trafod y mater hwn ac yna mynd ati'n bendant i weithio tuag at Gymru ddi-garbon. Byddai rhai pobl yn awgrymu bod y Llywodraeth hon yn esgus cefnogi eu pryderon ynglŷn â'r amgylchedd, oherwydd pe bai ei Lywodraeth o ddifrif, yna siawns na fyddai'n cyflwyno deddfwriaeth benodol cyn gynted ag y bo modd.

Nawr, rwy'n siomedig o hyd bod y Llywodraeth hon wedi penderfynu peidio â chyflwyno cynigion pendant i wahardd plastigau untro yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, neu hyd yn oed gadarnhau a fydd yn cyflwyno gwaharddiad yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac a fydd yn ceisio creu cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yn rhan o hynny yn y dyfodol?

Felly, i gloi, Llywydd, edrychaf ymlaen at graffu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Byddwn ni fel gwrthblaid yn gweithio'n agored ac yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pan gredwn ni ei bod hi'n gwneud y peth cywir, a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau yn y ffordd orau bosib er mwyn cynhyrchu deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhoi amser i fyfyrio dros yr haf ar y polisïau sydd eu hangen ar Gymru i'n gwneud yn genedl arloesol, yn genedl sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ac a fydd, ar ôl 20 mlynedd o Lafur Cymru, yn dechrau cyflawni o'r diwedd ar gyfer pobl Cymru.

15:35

Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Ceisiaf ateb y cwestiynau a ofynnodd ynddyn nhw.

Bydd y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yng nghyswllt gwasanaethau bysiau yn cael ei chynllunio i wrthdroi'r difrod a wneir i wasanaethau bysiau yng Nghymru gan y polisïau dadreoleiddio a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth yntau. Dyna beth yw gwraidd y problemau gwasanaethau bysiau. Mae'n deillio o wrthod rhoi pwerau i awdurdodau lleol allu gweithredu'n bwrpasol er budd y cyhoedd, er gwaetha'r ffaith bod mwyafrif helaeth y refeniw a dderbynnir gan gwmnïau bysiau yng Nghymru'n dod mewn un ffordd neu'r llall yn uniongyrchol o'r pwrs cyhoeddus. Ac mae yn llygad ei le y dylai'r cyhoedd fod yn ffyddiog bod yr arian y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddefnyddio er budd y cyhoedd. Dyna'r hyn y bydd ein Bil yn ei sicrhau a bydd yn gwneud hynny ar y cyd â'r pethau eraill yr ydym ni eisoes yn eu gwneud: ehangu teithio drwy gymhorthdal ar fysiau i bobl ifanc a braenaru'r tir ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau drwy gael gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw yn gweithredu mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys darparu gwasanaethau newydd yn ardal Cymoedd y De.

O ran meddygon teulu, sylwaf i'r Aelod fethu â chyfeirio at y gyfradd fodlonrwydd o 93 y cant y mae pobl yng Nghymru'n ei fynegi o ran eu gwasanaethau meddygon teulu. Ac, wrth gwrs, mae'r cynigion yr ydym ni'n eu cyflwyno o ran atebolrwydd yn deillio o'n trafodaethau gyda'r proffesiwn a chyda'r undebau amddiffyn meddygol. Ac, wrth gwrs, mae'r materion cytundebol y cyfeiriodd atyn nhw bellach wedi'u datrys yma yng Nghymru. Rydym ni wedi dod i gytundeb â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru ar ddiwygio contractau dros y 12 mis nesaf ac mae'r cytundebau hynny'n amlwg yn well na'r fargen a gafodd ei tharo ar gyfer meddygon teulu gan ei Lywodraeth yntau ar draws ein ffin—a dyna farn y proffesiwn.

O ran y Bil Llywodraeth Leol, wel, bydd y Bil yma i Aelodau graffu arno. Pan ddywedwn ni 'uno gwirfoddol', mae'r gair 'gwirfoddol' yn golygu hynny'n union a bydd yr Aelod yn gallu gweld hynny pan gaiff y Bil ei gyhoeddi.

O ran argyfwng hinsawdd, yna dim ond un o'r ystod eang o'r pethau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud i wireddu ein hymateb i effaith newid yn yr hinsawdd ar ein planed yw deddfwriaeth. Dyma, Llywydd, dim ond tri o'r pethau y byddwn yn eu gwneud ac maen nhw'n dangos ehangder yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon. Ym maes trafnidiaeth, byddwn yn bwrw ymlaen dros y 12 mis nesaf gyda'n penderfyniad mai cael parthau 20 milltir yr awr ddylai fod yn arferol mewn ardaloedd trefol gyda'r holl effaith a gaiff hynny nid yn unig ar yr hinsawdd ond gyda phob mantais arall a ddaw yn ei sgil o ran cymunedau cysylltiedig. Byddwn yn cyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol, oherwydd gwyddom fod llygredd yn y diwydiant amaethyddol yn niweidio ein hamgylchedd yn uniongyrchol yn union fel y mae'n niweidio enw da'r diwydiant amaethyddol yn uniongyrchol. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar ffurf rheoliadau i ymdrin â hynny yn ystod y 12 mis nesaf. Erbyn diwedd y 12 mis nesaf, Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru wedi plannu'r filiynfed goeden o'r coed y byddwn wedi'u plannu yn Uganda ar ran pobl Cymru. Byddwn yn creu coedwig yn Uganda ddwywaith maint arwynebedd Cymru gan weithio gyda'n partneriaid yno yn y rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mae hynny'n rhan o'n hymrwymiad nid yn unig i bobl yr ardal honno ond i'r cyfrifoldeb sydd arnom ni yn fyd-eang o ran yr argyfwng hinsawdd. Yr holl bethau hynny—a dim ond tair enghraifft yw hynny; mae llawer mwy y gallwn fod wedi dweud wrth yr Aelod y prynhawn yma i ddangos y pethau yr ydym ni'n eu gwneud. A gyda llaw, Llywydd, dydw i ddim yn credu i mi glywed un cynnig deddfwriaethol gan yr wrthblaid y bydden nhw wedi'i gyflwyno yng nghyfnod olaf y Cynulliad hwn.

Yn olaf, o ran plastigau untro, Llywydd—[Torri ar draws.] Mae'n rhy hwyr iddyn nhw ddechrau mwmian y syniadau hyn nawr. Cafodd arweinydd yr wrthblaid ddigon o gyfle i'w cyflwyno gerbron y Cynulliad ac ni allent ddod o hyd i eiliad i gyfeirio atynt. O ran plastigau, buom yn gweithio gyda'i Lywodraeth, buom yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gydag ymgynghoriad y Trysorlys ar gynigion i ddefnyddio mesurau treth i ymdrin â phlastigau. Ac rydym ni wedi cytuno â'r Trysorlys ar y gyfres gyfyngedig o syniadau y maen nhw wedi'u cyflwyno. Yma, rydym ni wedi cyflwyno ein cynigion ein hunain ar gyfer ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mai eleni; rydym ni'n ystyried yr ymatebion. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny cyn bo hir, ac yna byddwn yn parhau i weithio ar y cyd ag eraill i gyflwyno mesurau trethu newydd.

15:40

Mae yna elfennau, wrth gwrs, yn y datganiad a'r rhaglen ddeddfwriaethol mae’r Prif Weinidog wedi’i chyhoeddi'r prynhawn yma i’w croesawu. Dŷn ni eisoes wedi datgan ein cefnogaeth i’r egwyddor o gofleidio'r model o bartneriaeth gymdeithasol fydd ynghlwm wrth y Bil mae’r Prif Weinidog wedi cyfeirio ato.

Dŷn ni hefyd yn croesawu'r symudiad tuag at ailreoleiddio, i bob pwrpas, y sector bysiau. Dŷn ni’n cyd-fynd o ran y dadansoddiad o’r difrod a wnaethpwyd wrth ddadreoleiddio yn ystod y 1980au, ac mae symud, felly, i’r cyfeiriad arall, dwi’n credu, yn gam ymlaen. Gaf i ofyn, gan fod y sector yma yn un sydd yn mynd trwy ailstrwythuro dybryd, heriol ar hyn o bryd am amryw o resymau, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni ddim yn aros am y pwerau deddfwriaethol hynny, neu’r pwerau statudol hynny? Er enghraifft, gwnes i godi’r sefyllfa gyda’r Prif Weinidog rai wythnosau’n ôl o ran First Cymru, a’r cyfle, efallai—mae’n fygythiad ond hefyd yn gyfle—i ni sicrhau ein bod ni ddim yn gweld erydu’r gwasanaeth ar draws rhannau helaeth o dde-orllewin Cymru ac ar draws Cymru. Mi oedd e wedi sôn y byddai fe’n cael gair gyda’i Weinidog llywodraeth leol er mwyn cael trafodaeth gyda dinas Abertawe yn y lle cyntaf.

O ran tacsis, unwaith eto, mae e’n sector—. Dwi’n credu bod y Prif Weinidog yn ei ddatganiad wedi cydnabod ei fod e'n sector sydd hyd yn oed yn mynd trwy fwy o ailstrwythuro, oherwydd, wrth gwrs, y bygythiad neu’r her o’r economi gig ac yn y blaen, ac efallai dyna yw'r gyriant ar gyfer y syniadau sydd wedi dod o wahanol randdeiliaid. Dwi'n siomedig ein bod ni’n oedi oherwydd, hynny yw, mae’r tirwedd yma yn mynd i edrych yn wahanol mewn dwy neu dair blynedd. Roedd e’n edrych yn wahanol ddwy neu dair blynedd yn ôl, felly allwn ni fforddio, a dweud y gwir, colli’r cyfle er mwyn sicrhau ein bod ni’n gosod y sector yna ar dir teg a gwastad?

Mae yna bethau i’w croesawu hefyd o’r Deddfau sydd wedi’u gohirio. Dŷn ni’n croesawu’r penderfyniad i bwyllo o ran y Bil amaeth. Dyna dŷn ni’n gyson wedi'i ddweud ym Mhlaid Cymru, ac mae hwnna’n rhoi cyfle, dwi’n credu, nawr i ni bwyso a mesur a datblygu fframwaith fydd yn gosod sylfaen ar gyfer y dyfodol hirbell.

Mae yna bethau ar goll. Dwi ddim yn gallu gweld cyfeiriad at, er enghraifft, Ddeddf awyr glân. Dwi ddim wedi darllen maniffesto’r Prif Weinidog fel arweinydd y Blaid Lafur o glawr i glawr, ond dwi’n credu bod hwnna’n elfen yn y rhaglen roeddech chi wedi’i chyflwyno—hynny yw, Deddf fyddai, wrth gwrs, er enghraifft, yn rhoi hawl statudol i anadlu, yn gosod cyfrifoldeb, neu’n rhoi canllawiau’r WHO ar ryw fath o sail statudol ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod bod yna broblem ddybryd gyda ni ar draws Cymru, felly mae hwn yn rhywbeth lle mae angen symud ymlaen. Ond buaswn i'n dal yn pwyso ar y Llywodraeth, a dweud y gwir, i ailfeddwl ynglŷn â pheidio deddfu ar hyn o bryd.

Mi oeddech chi hefyd wedi crybwyll, neu wedi ymrwymo, a dweud y gwir, i estyn y gwaharddiad ar ysmygu, os dwi'n cofio'n iawn, i fannau awyr agored yng nghanol dinasoedd a threfi. Ydy hwnna'n dal yn fwriad gennych chi a gan y Llywodraeth, a phryd ydych chi'n bwriadu deddfu i'r cyfeiriad hwnnw?

O ran TERCW—nid wyf yn gwybod beth yw'r acronym Cymraeg eto—mae yn wir, rwy'n credu, fod y corff yma, nid yn unig yn mynd i fod yn gyfrifol am addysg trydyddol ac ymchwil, ond mae hefyd yn mynd i fod yn gyfrifol am arloesi yn yr ystyr eang. Ac rwy'n credu, os dwi'n cofio'n iawn, y bwriad yw i ffurfio is-bwyllgor a fydd yn benodol yn gyfrifol am arloesi ac ymchwil. Onid oes peryg, Brif Weinidog, yn hynny o beth, oherwydd bod arloesedd, wrth gwrs, yn dibynnu ar ymchwil o'r sector addysg uwch, ac yn y blaen, ond mae hwnna dim ond yn cynrychioli un dimensiwn o arloesedd? Mae'r dimensiwn busnes hefyd, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac mi oedd yna argymhelliad gan yr Athro Kevin Morgan, sydd yn arbenigwr byd-eang ym maes arloesedd, y dylid, yn hytrach, creu corff arloesedd cenedlaethol ar y model Scandinafaidd. Nid dyna, wrth gwrs, sydd ynghlwm wrth yr argymhellion rydych chi yn eu gweithredu, ond ydy hwnna'n dal yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer y Ddeddf rŷch chi'n mynd i gyhoeddi?

Ac yn olaf, mae yna gyfeiriad yn eich datganiad tuag at gyfyngiadau deddfwriaethol—'legislative constraints'. Beth yn union yw'r cyfyngiadau hynny? Ife nifer yr Aelodau, yr amser yn ystod yr wythnos yn y Senedd, sy'n mynd â ni nôl i'r ddadl gawsom ni wythnos diwethaf? Ydy e'n ymwneud â'r nifer o weision sifil sydd gyda chi? A allwch chi roi ryw fath o syniad i ni ble mae'r esgid yn gwasgu, a beth y gellir ei wneud? Wrth gwrs, roedd un awgrym go bendant gyda ni wythnos diwethaf ynglŷn ag un elfen o'r broblem yma, ond beth arall y gellir ei wneud, achos os ydy'r cyfyngiadau yma yn golygu bod yna syniadau da ar gyfer Deddfau ddim yn gallu mynd rhagddi, wrth gwrs, rŷn ni gyd ar ein colled oherwydd hynny?

15:45

Diolch yn fawr i Adam Price am ei gyfraniad y prynhawn yma, a diolch iddo fe am beth ddywedodd e am gefnogaeth Plaid Cymru i'r Bil rŷn ni'n mynd i fwrw ymlaen i gyflwyno ar y bartneriaeth gymdeithasol—a dwi'n edrych ymlaen at y drafodaeth honno—ac am beth ddywedodd e am ailreoli bysiau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae heriau yn wynebu'r sector. Dydyn ni ddim jest yn mynd i aros am y pwerau newydd. Mae lot o bethau yn cael eu gwneud yn barod yng Nghymru. Dwi'n croesawu'r ffaith bod 50 o fysys electrig newydd yn mynd i gael eu cyflwyno yng Nghymru dros y misoedd nesaf, a, fel dywedais i yn y cwestiynau i Paul Davies, mae pethau rŷn ni'n eu gwneud yn barod gyda'r pwerau sydd gyda ni i ymestyn pethau, i dynnu pobl ifanc i mewn i ddefnyddio'r bysiau hefyd. 

Ar ochr tacsis, wrth gwrs, mae pethau yn symud yn gyflym. Mae pethau yn newid yn y byd tu fas i'r byd tacsis. A'r pwynt ar y gig economy, ac yn y blaen, roedd yr undebau wedi codi y pwyntiau yna gyda ni, a dyna un o'r rhesymau pam rŷn ni eisiau ailfeddwl ac ailystyried y syniadau newydd sydd wedi dod i mewn. Dwi eisiau dweud, Llywydd, ein bod ni yn mynd i baratoi pecyn o bethau rŷn ni'n gallu gwneud nawr gyda'r pwerau sydd gyda ni ar hyn o bryd i ymateb i rai o'r pethau sydd wedi codi yn y drafodaeth ar y Papur Gwyn.

Ar y Bil amaeth, nawr, dros yr haf, rŷn ni'n mynd i siarad ledled Cymru ar y papur newydd mae Lesley Griffiths wedi'i gyflwyno, ac wrth gwrs, fel rŷm ni wedi meddwl am y Papur Gwyn cyntaf, i feddwl am bethau mae pobl yn y maes yn mynd i ddweud wrthym ni. Rŷm ni’n hyderus bydd pwerau gyda ni o dan y Bil sy’n mynd drwy Dŷ’r Cyffredin i ddelio â’r sefyllfa os ydym ni’n ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ond rŷm ni eisiau dod ymlaen â’r Bil sydd jest mewn perthynas â ni yma yng Nghymru, ac rŷm ni’n dal eisiau paratoi am hwnna a chyhoeddi Papur Gwyn arall cyn diwedd y tymor hwn i baratoi am y dyfodol.

Yn y maes awyr glân, rŷm ni’n mynd i gyhoeddi cynllun awyr glân yn yr hydref a bydd hwnna’n paratoi’r tir am ddeddfu yn y maes yna yn y dyfodol. Yn y maes ysmygu, rŷm ni’n mynd i ddod ymlaen â rheoliadau i ymestyn rheoliadau ble rŷm ni’n gallu rheoli pobl yn ysmygu, a gwneud mwy yn y maes yna. A bydd hwnna’n arwain at bethau eraill, fel yr ydym ni wedi sôn amdanynt yn barod.

Jest am funud, Llywydd, i ddweud gair yn fwy am y tertiary education and training Bill—dwi ddim cweit yn siŵr beth yw e yn Gymraeg, dwi’n ymddiheuro—ond jest i esbonio’r cefndir i bobl unwaith eto.

Bydd yr Aelodau'n gwybod ei fod yn gynnyrch adolygiad Hazelkorn. Argymhellodd y dylid sefydlu un awdurdod trosolwg a chydlynu rheoleiddiol ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol, a bwriadwn i'r Comisiwn ddod ag ystod o swyddogaethau a ffrydiau cyllido sydd ar hyn o bryd yn wahanol, at ei gilydd a darparu cenhadaeth ddinesig dryloyw i'r sector, gan ei fod yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau, addysg chweched dosbarth ac ymchwil ac, fel y dywedodd Adam Price, arloesi yma yng Nghymru. Ein huchelgais yn llwyr yw ein bod yn cynhyrchu un sector cydweithredol sydd yn uchelgeisiol ac arloesol, a bydd y Gweinidog wedi clywed y sylwadau a wnaed gan Adam Price yma y prynhawn yma, ac mae'n siŵr y cânt eu trafod ymhellach yn ystod hynt y Bil.

O ran cyfyngiadau ar ein gallu deddfwriaethol, Llywydd, y cyfyngiad mwyaf yr ydym ni'n ei wynebu yw Brexit a sut mae eisoes wedi effeithio ar y Cynulliad hwn. Cyhoeddwyd 130 o ddatganiadau ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag offerynnau statudol yn unig yn ystod eu hynt drwy'r Cynulliad hwn. Rydym ni wedi cael y dadleuon niferus hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dadansoddi'r weithdrefn negyddol a chadarnhaol a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad hwn gyflawni ei swyddogaeth graffu. Mae wedi bod yn gyfyngiad enfawr ar ein gallu i roi sylw i rai blaenoriaethau deddfwriaethol eraill yr hoffem ni fod wedi'u cyflwyno ac nid yw wedi dod i ben eto. Rwy'n credu fy mod i wedi cyhoeddi rhaglen y prynhawn yma a fydd yn rhoi pwysau enfawr ar Aelodau'r Cynulliad yma mewn pwyllgorau ac ar lawr y Cynulliad, oherwydd y swmp uchelgeisiol o ddeddfwriaeth yr ydym ni eisiau ei gwblhau yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.

Ond dim ond eisiau manteisio yr wyf i ar sylw a wnaeth Adam Price i ddweud bod angen, i ryw raddau, adolygu hyn i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth y bydd yn rhaid inni ei chyflwyno mewn argyfwng efallai, pe bai'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddisymwth mewn modd yr ydym ni'n dweud yn bendant bod yn rhaid ei osgoi, ac a fydd wedyn yn arwain at ganlyniadau annisgwyl y bydd angen ymateb deddfwriaethol iddynt. Mae cyfyngiadau eraill, wrth gwrs, o ran a fydd arbenigedd ar gael, a fydd amser pwyllgorau ar gael, amserlenni'r Cynulliad hwn ei hun, ond Brexit yw'r cyfyngiad unigol mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu dros y 12 mis diwethaf a rhagwelaf y bydd yn parhau i fod yn gyfyngiad dros y 12 mis nesaf hefyd.

15:55

Dechreuodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy ddweud:

'Yn y datganiad deddfwriaethol hwn, byddaf yn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y Biliau byddwn yn eu cyflwyno yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn.'

Credaf ei fod tua hanner ffordd drwy'r datganiad cyn inni glywed ynghylch hynny. Clywsom o'r blaen am yr hyn a ddigwyddodd neu'r hyn yr oedd eraill yn ei wneud neu pam na fyddech yn gwneud gwahanol bethau, ac ynglŷn â'r rheini, fe wnaethoch chi ddweud ein bod:

'wedi gallu asesu a ydym ni bellach mewn sefyllfa i gyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru a Bil llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn y tymor hwn'.

Rwy'n glir o'ch datganiad ac, yn wir, o'r rhagfriff arno—nid wyf yn cwyno am hynny—ond a yw'n amlwg nad yw Bil amaethyddiaeth Cymru yn mynd yn ei flaen. Fodd bynnag, rydych chi'n dweud, o ran egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu:

'Mae hwn yn parhau i fod yn fater cymhleth ac rydym ni'n trafod yn barhaus â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau eraill ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hyn'.

A yw hynny'n golygu 'na'?  A yw hi'n bendant na fydd y Bil hwnnw'n gweld golau dydd?

O ran y Bil amaethyddol, rydych chi'n sôn am edrych ar:

'materion megis hawliau ffermwyr tenant'.

Ond ni chaiff y Bil hwn mo'i gyflwyno tan y Cynulliad nesaf, a meddyliais, o'ch trafodaethau gyda Neil McEvoy o'r blaen, eich bod eisoes yn gweithredu yn y maes hwn. A allech chi egluro?

O ran y materion newid yn yr hinsawdd, gwnaeth Paul Davies, roeddwn yn credu, gwynion teg iawn am y ffordd yr ymdriniwyd â nhw yng Nghymru—eitem o unrhyw fater arall ar ôl datganiad i'r wasg a oedd eisoes wedi'i gyhoeddi. Ond ni ddywedodd unrhyw beth am y ffordd yr ymdriniwyd ag ef yn San Steffan, lle rhoddodd Llywodraeth Geidwadol y DU 90 munud o amser Seneddol i offeryn statudol na chafwyd hyd yn oed bleidlais arno, ac ar y sail honno, newid targed o 80 y cant o leihad erbyn 2050, a oedd yn dod beth ffordd i gael cefnogaeth y cyhoedd a rhywfaint o gonsensws, o leiaf, o'i gymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi, i rywbeth yr ofnaf na fydd yn cynnwys hynny. Ac mae'r Trysorlys ac eraill yn Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif costau o rhwng £50 biliwn a £70 biliwn y flwyddyn. Ni chawsant hyd yn oed eu trafod yn San Steffan, heb sôn am bleidleisio arnynt, a phan fyddwn yn sôn yma, ar gyfer Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cyfrifo y bydd y gost tua £1 biliwn neu oddeutu hynny i gyllideb Llywodraeth Cymru, rydych chi i gyd yn codi'ch dwylo ac yn dweud, 'does dim posib y gallwch chi wneud hynny,' gan honni ei fod yn gymaint o flaenoriaeth. Wyddoch chi, pa un ydyw?

Tybed, gyda'r datganiad hwn, a fu unrhyw gynnydd. Rydych chi'n sôn am:

'talu ffermwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau a dal carbon'.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn hoffi dweud ei bod yn cael £680 miliwn y flwyddyn i Gymru—rwy'n credu mai dyma'r ffigur a roesoch chi—gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae llawer o hynny'n mynd i amaethyddiaeth. A ydych chi'n dweud bod cyfran, ac os felly, faint yw'r gyfran o'r arian hwnnw a gaiff ei newid o'i roi i ffermwyr ar sail perchnogaeth eu tir, cyhyd â'u bod yn ffermio'n weithredol i ryw raddau, i ddweud nad ydyn nhw ond yn mynd i'w gael i'w digolledu am y pethau a fydd yn costio iddyn nhw, fel storio hinsoddol neu gamau gweithredu eraill yn hynny o beth? A oes newid polisi yn hynny o beth a pha mor bell ydym ni o gael y £1 biliwn hwn y mae ei angen arnom ni i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan? O ble geir yr arian hwnnw?

Fe wnaethoch chi sôn o ran gofal plant:

'rydym ni wedi parhau i ddeddfu ar gyfer materion domestig pwysig, gan sicrhau'r fframwaith gweinyddol ar gyfer ein cynnig gofal plant i ddarparu cymorth y mae ei ddirfawr angen i deuluoedd sy'n gweithio'.

Dydych chi ddim yn mynd y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth. Rydych chi wedi cyflawni hyn yn gynnar mewn gwirionedd. Roedd gennych chi hynny yn y maniffesto Llafur, ac yn y maes hwn, rydych chi wedi bod cystal â'ch gair. Fe wnaethoch chi ddweud y byddai cynnig gofal plant penodol yn hytrach nag un cyffredinol ar gael i rieni sy'n gweithio, ac rydych chi wedi mynd ati i'w ddarparu, ac rydych chi wedi gwneud hynny'n gynnar. O'r blaen, roedd y system gofal plant yng Nghymru yn ffafrio, mewn cymhariaeth, y sector cyhoeddus, o leiaf o gymharu â Lloegr. Ac eto, y cynllun hwn, wyddoch chi, nid yw'n caniatáu ychwanegu ato, ond yn ei hanfod mae'n gynllun talebau, lle rhoddir yr arian i'r rhiant ddewis pa ddarparwr gofal plant i'w ddefnyddio, ac mae cydraddoldeb rhwng y sector cyhoeddus a'r sectorau preifat. Mae hynny'n rhywbeth yr ydych chi wedi'i gyflawni mewn gwirionedd, a hoffwn i, o leiaf, eich canmol am hynny.

Y Bil indemniad meddygon teulu, unwaith eto, rwy'n gwybod bod meddygon teulu wedi bod yn pwyso'n galed iawn am hyn ac roeddent yn pryderu na fu unrhyw gynnydd yn ei gylch. Mae cynnydd bellach, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol i'r Llywodraeth weithredu yn y maes hwn.

O ran y Bil trafnidiaeth gyhoeddus, mae gennym ni feddwl agored ar y meinciau hyn ynghylch beth yw'r model gorau ar gyfer darparu cludiant bysiau. Nid ydym ni wedi'n hargyhoeddi bod y dadreoleiddio a welsom ni y tu allan i Lundain ers y 1980au wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rydym ni'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol roi cynnig ar fasnachfreinio, i roi cynnig ar ddarparu'n uniongyrchol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai'n fanteisiol pe bai—? Rwy'n credu bod modd taro bargen o ran annog gweithio rhanbarthol lle mae ei angen, ond hefyd, a fyddai'n fanteisiol pe baem yn gweld rhai awdurdodau lleol neu rai rhanbarthau, o leiaf, yn mynd ati mewn ffordd wahanol, fel y caem ni rywfaint o dystiolaeth bellach o'r hyn sy'n gweithio, a gweld pa ddulliau sy'n fwy llwyddiannus wrth ymdrin â'r hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau yn y maes hwn?

Nid yw'n sôn am y cyd-awdurdodau trafnidiaeth, ac un maes lle'r oedd llawer o feirniadu ar y Papur Gwyn oedd ynghylch y cyd-awdurdodau trafnidiaeth, ac yn enwedig cael rhai rhanbarthol, ac yna cael un cenedlaethol. Ac er fy mod i'n credu bod yr Aelodau'n awyddus i roi hwb i Drafnidiaeth Cymru gan ddeall ei fod yn gwmni preifat yn y modd yr oedd yn gweithredu, beth yw diben y cyd-awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol a chenedlaethol hyn, ac onid oes perygl o ddyblygu? Pa benderfyniad sydd wedi'i wneud o ran sut y byddwn yn deddfu yn y maes hwn?

Ac yna mae gennym ni'r Bil cwricwlwm ac asesu, a'r bartneriaeth gymdeithasol. Credaf wythnos neu ddwy yn ôl y clywsom gan y Prif Weinidog am ei frwdfrydedd dros sosialaeth mewn un cymal drwy gychwyn y rhan hon o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Rwy'n pryderu am yr elfen asesu yn benodol yn y Bil Addysg. Mae'n sôn am ryddid, ond ai ystyr hynny fydd na chaiff ysgolion eu dwyn i gyfrif? Beth sy'n cael ei ddileu o ran asesu ac atebolrwydd ar gyfer ysgolion? Ac a yw'r Prif Weinidog yn dweud, yn ogystal â sosialaeth mewn un cymal, os ydych chi eisiau bwrw ati i geisio gweithredu sosialaeth, efallai mai'r peth cyntaf y mae sosialwyr yn ei wneud yw atal mesur pethau fel na ellir eu gweld yn methu?

16:00

Llywydd, ceisiaf ymateb i nifer o'r sylwadau a wnaed. Nid wyf yn credu ei bod hi'n bosib deall rhaglen ddeddfwriaethol y flwyddyn nesaf heb ystyried y mesurau sydd eisoes ar y gweill a'r baich gwaith y mae'r Cynulliad hwn yn ei ysgwyddo er mwyn eu cwblhau, a dyna'r hyn yr oeddwn yn ceisio ei wneud yn fy natganiad.

O ran y Bil amaethyddiaeth, byddwn yn parhau i ymgynghori, nawr, dros yr haf, ar y cynigion a amlinellwyd gan fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yr wythnos diwethaf. Ein nod yw gwobrwyo ffermwyr gweithredol am ddau ddiben hanfodol: am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac am gyflenwi'r nwyddau cyhoeddus hynny na fyddai ffermwyr, heb gymorth o bwrs y wlad, yn gallu eu cyflenwi fel arall. Ein nod yn awr yw dod â hynny ynghyd mewn un cynllun ffermio cynaliadwy. Nawr, rwy'n credu bod yr undebau ffermio wedi croesawu hynny'n gyffredinol, ac rwy'n credu eu bod o'r farn fod hynny'n ymateb diffuant i'r pryderon a grybwyllwyd ganddyn nhw yn ystod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' ynghylch cael dau gynllun ar wahân, lle'r ydym ni mewn gwirionedd eisiau darparu un incwm fferm cynaliadwy i'r ffermwyr hynny sy'n ffermwyr gweithredol, fel nad ydyn nhw ond yn cael eu gwobrwyo ar sail faint o dir sydd ganddyn nhw, pa un a ydyn nhw'n gwneud unrhyw beth gydag ef ai peidio, ac rwy'n credu eto bod hynny'n rhywbeth y mae'r diwydiant yn ei groesawu, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud yn ein diwydiant amaethyddol, yr ydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn parhau i'w wneud, yn fuddsoddiad lle y bydd y cyhoedd yn gweld elw ar y dibenion amgylcheddol hynny y soniodd yr Aelod amdanynt.

Mae'r Bil indemniad meddygon teulu yn enghraifft dda iawn o sut, pan fydd llywodraethau'n gweithredu ar ran grŵp ar y cyd, y gallwn ni roi grym y Llywodraeth y tu ôl i angen gwirioneddol bwysig mewn galwedigaeth. Gallwn ei ddisgrifio fel ateb sosialaidd i'r hyn a oedd fel arall yn fethiant yn y farchnad, ac nid wyf yn credu y byddwn i yn cyfeiliorni llawer wrth ddweud hynny. Yr wythnos diwethaf, diolchais i'r Aelod am ei gymeradwyaeth hael i'n partneriaeth gymdeithasol fel 'sosialaeth mewn un cymal', ond mae wedi bod yn ddigon da i ailadrodd hynny y prynhawn yma.

O ran cludiant bysiau, credaf y byddem ni'n mynd ymhellach na dweud nad yw dadreoleiddio wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwy'n credu ein bod wedi gweld dadreoleiddio yn difrodi gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Gwelwn gystadleuaeth am y nifer cymharol fach honno o lwybrau proffidiol, ac felly mae arian yn cael ei sugno o allu awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau bysiau ar lwybrau na fyddan nhw byth yn goroesi ar sail gwbl fasnachol. Rydym ni eisiau gallu osgoi'r gystadleuaeth wastraffus honno drwy roi i awdurdodau lleol y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu gwasanaeth bws wedi'i gynllunio sy'n cyflawni er lles y cyhoedd yn ehangach. Sut y byddant yn gwneud hynny—nid wyf yn credu bod gennym ni wrthwynebiad i'r syniad y bydd awdurdodau lleol yn cyflwyno gwahanol ddulliau gweithredu, ond credwn y dylai'r gwahanol ddulliau gweithredu hynny gael eu mapio'n rhanbarthol. Gallaf weld yn llwyr pam y byddai ymagwedd ranbarthol at wasanaethau bysiau yn y de-orllewin yn wahanol i ddull rhanbarthol yn ardal Gwent. Felly, nid anhawster gyda gwahaniaethu yw hynny, ond teimlad nad yw gwasanaethau bysiau yn gweithredu yn unol â ffiniau awdurdodau lleol. I gynllunio llwybr bysiau, mae angen i chi allu cynllunio sut mae'r llwybr bws hwnnw'n gweithredu ar draws y ffin, nid o fewn awdurdod lleol yn unig. Dyna pam, yn ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth bysiau ac yn ein cynigion ar gyfer llywodraeth leol, y byddwn yn dod â chyfres o gynigion at ei gilydd i gefnogi datblygu a darparu gwasanaethau bysiau'n rhanbarthol, oherwydd credwn mai hynny yn syml sy'n gwneud fwyaf o synnwyr, yn y ffordd y mae'r diwydiant yn gweithredu ar lawr gwlad.

16:05

Prif Weinidog, cyfyngaf fy sylwadau, rwy'n credu, i'r cyfeiriadau at y rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol sy'n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, oherwydd credaf y gallai hyn fod yn un o'r rhannau a ddiystyrir fwyaf o'r hyn sydd, yn fy marn i, yn agenda flaengar iawn ei gweledigaeth. Un o brif amcanion unrhyw Lywodraeth yw lles ei phobl. Yng Nghymru, mae diweithdra wedi gostwng o 7.7 y cant wyth mlynedd yn ôl i 4.4 y cant erbyn hyn, i rai o'r lefelau isaf yr ydym ni wedi'u cael ers cenedlaethau. Eto i gyd, mae lefel tlodi mewn gwaith yn aros yr un fath. Mae'n rhaid ei bod hi'n hanfodol i unrhyw gymdeithas, os bydd rhywun yn gwneud wythnos dda o waith, y dylent fod â hawl i safon byw weddus ac y dylent fod â hawl i gael safon resymol ar gyfer eu teuluoedd hefyd.

Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn dweud bod trafod a thegwch wrth wraidd bargeinio torfol ac yn helpu i adeiladu cymdeithasau sefydlog a boddhaol, ac y gall cydfargeinio greu economi decach. Rwyf eisiau croesawu'r rhan benodol honno o'r rhaglen ddeddfwriaethol, ond hefyd i ddweud ar goedd pa mor bwysig yw hyn mewn gwirionedd yn economaidd-gymdeithasol. Mae hon yn ddeddfwriaeth sydd â gweledigaeth, a hefyd yn ddeddfwriaeth a gaiff ei chydnabod ledled y DU ac, yn wir, y tu hwnt fel rhywbeth sy'n sylfaenol i un o'r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu yn ein cymdeithas, sef anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Felly, rwy'n croesawu hynny. Tybed a wnewch chi roi syniad inni o'r amserlen ar gyfer proses y ddeddfwriaeth hon. Y tu hwnt i hynny, rwy'n credu y bydd hyn efallai yn dod yn un o'r perlau yng nghoron rhaglen ddeddfwriaethol Llafur Cymru.

Diolch i Mick Antoniw am hynny. Mae'n gywir yn dweud na threuliais lawer o amser ar y cynigion ar gyfer partneriaeth gymdeithasol yn y datganiad heddiw, Llywydd, yn bennaf am imi gael cyfle ar lawr y Cynulliad yr wythnos diwethaf i wneud datganiad yn benodol ar y mater hwnnw ac i ateb cwestiynau gan Aelodau bryd hynny. Yr hyn sydd wrth wraidd ein huchelgeisiau mewn partneriaeth gymdeithasol yw creu'r hyn y mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol (Cymru) yn ein hymrwymo iddo, sef creu Cymru sy'n fwy cyfartal. Nid dim ond y Sefydliad Llafur Rhyngwladol sy'n nodi bod cymdeithasau mwy cyfartal yn gwneud yn well yn economaidd. Dyna gasgliad Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol hefyd. Ac mae'r ddau'n dweud bod cymdeithasau mwy cyfartal gydag economïau mwy llwyddiannus yn cael eu creu pan fydd gweithwyr yn cael cyfran deg o gynnyrch yr economi honno, a'r cydfargeinio drwy Undebau Llafur yw'r ffordd y mae pobl yn dod at ei gilydd i sicrhau'r gyfran decach honno. Felly, bydd ein Bil partneriaeth gymdeithasol yn Fil gwaith teg hefyd, oherwydd mae hynny heb os nac oni bai yn rhan o'n huchelgais i greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Diolch i Mick Antoniw am yr hyn a ddywedodd am y diddordeb yn y Bil, sydd, rwy'n gwybod, y tu hwnt i Gymru. Dywedais yn y fan yma yr wythnos diwethaf y byddwn, ar y diwrnod canlynol, dydd Mercher yr wythnos diwethaf, yn cwrdd â'r partneriaid cymdeithasol, ac y byddem yn gweithio gyda'n gilydd ar ffurf partneriaeth gymdeithasol i gynllunio'r cynnydd o ran cyflwyno'r Bil ar lawr y Cynulliad. Rwy'n hapus i adrodd y prynhawn yma, Llywydd, bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd, ei fod yn gyfarfod cynhyrchiol, y byddem yn cydweithio ar yr agenda partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys paratoi ar gyfer y Bil, a'n bod yn parhau, fel Llywodraeth, yn ymrwymedig i'w gyflwyno ac i'w hynt yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.

Efallai y gallaf wahodd y Prif Weinidog, yn gyntaf oll, i gynnal dadl efallai ar ein rhaglen ddeddfwriaethol rywbryd, dim ond i brofi bod un mewn gwirionedd, ac wrth gwrs mae sawl cyhoeddiad polisi wedi bod ers hynny.  

Diolch ichi am eich datganiad, fodd bynnag. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud

'Fe fyddwn yn gyrru ymlaen gyda mesurau pwysig ym meysydd addysg...a thrafnidiaeth'. 

Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf yw pam nad ydych chi'n cyflwyno Deddf newydd i ddisodli'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sydd wedi chwythu ei blwc, yn anad dim er mwyn diogelu amcanion eich strategaeth ar gyfer cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nad yw wedi ei adlewyrchu mewn mannau eraill yn y cyhoeddiad yr ydych chi wedi'i wneud heddiw. Ond o leiaf byddai hynny'n un ffordd o sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob oedran.

Diolch am gydnabod gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eich datganiad, a'i waith ar offerynnau statudol, ond gobeithiaf eich bod yn cydnabod hefyd y rhwystredigaeth a leisiwyd gan y pwyllgor hwnnw o ran y diffyg cyfle i graffu yn ystod y broses honno yn ystod hanes offeryn statudol Brexit. Ni fydd hynny, gobeithio, yn ymdreiddio i unrhyw brosesau pellach y gallem ddod ar eu traws pan ddaw'n fater o allu craffu.

Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'n siomedig gyda'r oedi yn y Bil amaethyddiaeth a fydd yn cael ei lunio yma yng Nghymru. Nid wyf eisiau trafod hynny'n benodol, ond cofiwch, Aelodau, y cyflwynwyd hynny inni fel rheswm dros dderbyn y Bil cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y pryd, pan fydd deddfwriaeth sylfaenol bob amser yn well. Nawr, mae deddfwriaeth sylfaenol yn well, ond mae angen iddi fod yn swyddogaethol, felly a wnewch chi roi syniad inni, Prif Weinidog, o ba mor 'fframweithiol' y mae eich deddfwriaeth sylfaenol yn debygol o fod o ran cymeriad? Rydym ni eisoes wedi gorfod ymdrin â chryn dipyn o Filiau diffygiol yn y Cynulliad hwn, felly rwy'n edrych am sicrwydd yr ymchwilir yn drwyadl i bob Bil ymlaen llaw gydag eglurder llwyr ar gysyniadau allweddol, canlyniadau disgwyliedig a gweithredu, gyda dim ond materion technegol gwirioneddol yn cael eu cyfeirio at is-ddeddfwriaeth. Roedd hi'n hurt fod yr isafswm pris alcohol ar goll o'r Bil isafswm pris alcohol, ac ni ddylai Aelodau fod yn barod i dderbyn deddfwriaeth mor annatblygedig o'r fath yn y dyfodol.

Gobeithio na welwn ni ddim byd tebyg yn y Bil cwricwlwm ac asesu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhai pryderon gweddilliol o hyd ynglŷn â sut i droi'r maes profiad dysgu yn brofiad addysgu go iawn, felly byddai gennyf i ddiddordeb os oes gennych chi unrhyw fanylion am sut yr eir i'r afael â hynny yn y Bil hwnnw. Bwriad y ddeddfwriaeth hon yw galluogi newid enfawr sydd wedi'i anelu at ddiddymu neu o leiaf at wyrdroi'r hanes diweddar o dangyflawni, ac rydym ni'n cydnabod bod angen i rywbeth newid, ond ar y ddeddfwriaeth hon byddwn yn effro iawn i'r ffaith ei bod hi'n gwbl hanfodol peidio rhoi cyfle i gelu pethau neu i guddio. Felly, a fydd y Bil yn nodi sut y caiff ysgolion eu dwyn i gyfrif?

Ac yna, yn olaf, Prif Weinidog—a diolch, Llywydd—am y ddau Fil Addysg, ond am bob Bil, mewn gwirionedd: Biliau drafft. Rydym ni'n hoffi'r rheini yn y Cynulliad hwn, felly a wnewch chi gadarnhau mai'r peth arferol nawr yw inni dderbyn mesurau drafft i graffu arnyn nhw cyn cyflwyno papurau gwyrdd yn ffurfiol? Diolch.

16:10

Llywydd, hoffwn ddiolch i Suzy Davies am hynna. Edrychaf ymlaen at weld y Blaid Geidwadol yma'n defnyddio un o'r dadleuon niferus y mae'n eu cael yn y fan yma yn ei hamser ei hun i gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol y mae'n dweud y byddai'n ei chyflwyno pe bai mewn sefyllfa mor annhebygol erioed i wneud hynny yma yng Nghymru. Byddai'n ddadl fer, rwy'n deall hynny, ond edrychwn ymlaen at ei chael.

Rwy'n deall y pwyntiau y mae Suzy Davies wedi'u gwneud am y tensiwn rhwng yr angen i graffu'n briodol yn y fan yma a pha mor gyflym yr oeddem yn gorfod ymdrin â swmp y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit. Rhan o'r rhwystredigaeth oedd bod yn rhaid inni gyflwyno ein hofferynnau statudol ar ôl sefydlu offerynnau statudol Llywodraeth y DU, oherwydd yn aml roedd yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn dibynnu ar yr hyn yr oedden nhw yn ei wneud yn gyntaf, ac roedd yr oedi wrth gyflwyno eu hofferynnau statudol nhw yn cael effaith ganlyniadol ar yr hyn y byddem yn ei wneud yn y fan yma. Mae hynny'n bendant yn wir yng nghyswllt y Bil amaethyddiaeth. Pan oedd disgwyl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, gyda mwy na dwy flynedd o dymor y Cynulliad hwn ar ôl, roeddem yn ffyddiog y byddem wedi cael popeth yn ei le yr oedd ei angen arnom ni i gyflwyno ein Bil amaethyddiaeth ein hunain. Yn sicr, nid yw hynny'n wir nawr. Efallai y byddwn yn gadael ar 31 Hydref—pwy a ŵyr? Rydym ni'n gobeithio na fyddwn ni, wrth gwrs, ond hyd yn oed os gwnawn ni hynny, mae'r amser a fyddai ar ôl yn y tymor Cynulliad hwn yn golygu nad yw'n ymarferol, fel yr oeddem ni'n credu y byddai hi cyn i gynllun gwreiddiol Llywodraeth y DU fynd i'r gwellt, pan oeddem yn credu y byddem yn gallu gwneud hynny.

Rwy'n cydnabod y tensiwn, wrth gwrs, rhwng yr hyn sy'n mynd ar wyneb y Bil a'r hyn yr ydym yn ei adael i is-ddeddfwriaeth. Ac mae'n siŵr y byddwn yn trafod hynny, y cydbwysedd, gyda'r holl Filiau a gyflwynir gennym ni. Ond mae'r enghraifft y dewisodd yr Aelod ddal sylw arni yn dangos pam nad yw rhai o'r honiadau a wneir am yr angen i bethau fod ar wyneb y Bil yn synhwyrol. Yn fy marn i, byddai wedi bod yn gwbl hurt i roi pris uned o alcohol ar wyneb y Bil, oherwydd bob tro y byddai angen i chi ei newid, byddai wedi bod angen deddfwriaeth sylfaenol o'r newydd. Dyna fyddai—[Torri ar draws.] Wel, mae David Melding yn dweud wrthyf, 'na, ni fyddai'. David, mae Suzy Davies yn gweiddi arnaf, 'byddai'. Felly, rwy'n credu efallai y dylech chi eich dau gael sgwrs yn gyntaf. Mae rhai pethau wedi eu cynnwys yn briodol mewn is-ddeddfwriaeth, y creffir arni ar lawr y Cynulliad hwn, a manylion o'r math hwnnw, pan fydd prisiau'n newid, yn anochel, dros amser—nid oedd ei roi ar wyneb y Bil, yn fy marn i, y math o fanylder sy'n perthyn i hynny. Mae'n iawn—[Torri ar draws.] Cyflwynir hynny'n briodol drwy reoleiddio, ac fe greffir ar reoleiddio'n briodol ar lawr y Cynulliad hwn. Felly, rwy'n gweld y bydd hon yn ddadl y byddwn yn parhau â hi gyda chyflwyno pob Bil. Ond rwyf eisiau cydnabod ei bod yn ddadl briodol, dadl briodol, ac rwy'n cydnabod y bydd yn rhaid i ni ei chael bob tro o ran yr hyn sy'n briodol ar wyneb y Bil a'r hyn sy'n cael ei adael yn briodol i reoleiddio, hyd yn oed pan fyddwn yn anghytuno ynglŷn â ble y gellid tynnu'r llinell.

O ran y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn ag atebolrwydd, rwy'n wirioneddol gredu bod hwn yn fater cynhennus arall yn y Cynulliad. Y diwylliant yr ydym eisiau ei greu yn ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o gryn ymddiriedaeth, lle'r ydym ni'n cydnabod arbenigedd proffesiynol pobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn, ac yn gweithio gyda nhw i greu'r canlyniadau yr ydym ni eisiau eu gweld. Does arnaf i ddim eisiau diwylliant o ddrwgdybiaeth, a dyna'r hyn y clywais yr Aelod yn ei amlinellu—mai ymdeimlad o atebolrwydd yw bob amser bod yn amheus o'r hyn y mae pobl yn ei wneud yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan deimlo bob amser llygaid Llywodraeth Cymru arnyn nhw yn gwylio popeth y maen nhw'n ei wneud. Nid dyna'r hyn rwy'n ei ystyried yn atebolrwydd, ac yn sicr nid wyf yn credu ei fod yn cynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus da.

16:15

Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i groesawu'r ffaith dyw y Llywodraeth nawr ddim yn mynd i ddod â Bil amaeth i Gymru cyn yr etholiad nesaf? Mae'n sicr yn rhywbeth dwi a Phlaid Cymru wedi bod yn dadlau drosto fe yn yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Dwi yn teimlo y dylem ni fod yn aros i weld beth yw'r tirlun masnachu ôl-Brexit rŷm ni'n ei wynebu—hynny yw, pa fynediad fydd gan ffermwyr Cymru i farchnadoedd, a fydd y lefel o dariffau yn llethu'r diwydiant, ac, yn wir, faint o gyllid fydd ar gael trwy Lywodraeth Prydain, neu o Lywodraeth Prydain drwy Lywodraeth Cymru, i gefnogi'r sector yng Nghymru—cyn ein bod ni'n bwrw ymlaen i weithredu yn derfynol unrhyw argymhellion fydd yn dod allan o'r ymgynghoriad sydd newydd gychwyn. Dyw cyflwyno newidiadau fel hyn ddim yn rhywbeth rŷch chi'n ei wneud ar chwarae bach—rŷch chi'n ymwybodol o hynny. Unwaith mewn cenhedlaeth mae newidiadau mor bellgyrhaeddol yn gallu cael eu cyflwyno, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n troi pob carreg ac yn gwyntyllu pob opsiwn yn llawn cyn bwrw ymlaen. Roeddwn i wastad yn teimlo bod amserlen y Llywodraeth yn afrealistig, a dwi'n falch bod y Llywodraeth bellach wedi cydnabod hynny o safbwynt deddfwriaeth Gymreig.

Nawr, mae'r ymgynghoriad presennol, wrth gwrs, yn cau ddiwrnod cyn y gall Brexit fod yn digwydd, ar ddiwedd Hydref. Wedyn mae angen ystyried yr opsiynau a'r ymatebion. Wedyn, wrth gwrs, mae angen mynd ati i gynnal asesiadau effaith a modelu impact cynigion y Llywodraeth ar y sector. Wedyn, mae angen dylunio rhaglenni gyda'r sector, wedyn creu'r ddeddfwriaeth. Felly, roedd hi wastad yn uchelgeisiol i wneud hyn i gyd cyn 2021. Ond yr hyn liciwn i ei ofyn ynghylch hyn yn benodol yw: nawr bod mwy o amser, os liciwch chi, o fewn yr amserlen, gan dyw'r Ddeddf ei hunan ddim yn mynd i gael ei chyflwyno cyn yr etholiad nesaf, allwch chi gadarnhau i ni na fydd Llywodraeth Cymru yn cario allan yr impact assessments a'r modelu ar y sector tan ein bod ni'n gwybod sut beth fydd canlyniad Brexit? Oherwydd fe ddwedoch chi eich hun rhai munudau’n ôl ynglŷn â'r unforeseen consequences a'n bod ni'n mynd i diroedd rŷm ni ddim yn gallu dychmygu, efallai, ble fyddwn ni. Y realiti yw, os fyddwch chi wedi gwneud yr impact assessments a'r modelu cyn bod Brexit yn digwydd, wel, mae'n gynamserol, oherwydd dŷn ni ddim yn gwybod a fydd y cyd-destun yn adlewyrchu efallai lle fyddwn ni ar ôl Brexit.

Rwyf wedi drysu braidd o ran y ddeddfwriaeth egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu. Crybwyllwyd hyn yn gynharach. Rwyf braidd yn siomedig, rwy'n credu—na, rwyf yn siomedig—fod Llywodraeth Cymru'n ymddangos yn dawedog neu'n annhebygol o geisio cyflwyno deddfwriaeth benodol ar lywodraethu amgylcheddol i Gymru. Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu efallai y buoch yn disgwyl i Lywodraeth y DU wneud hynny ar eich rhan, i ddechrau. Wrth gwrs, mae hynny'n mynd yn groes i'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei glywed gan y Llywodraeth hyd yn hyn, oherwydd rydym ni wedi cael gwybod bod y sefyllfa o ran polisi amgylcheddol yng Nghymru yn wahanol iawn, iawn, yn dra gwahanol—mae'r ddeddfwriaeth a'r dyletswyddau sydd gennym ni sy'n deillio o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn rhoi Cymru mewn lle tra gwahanol i weddill y DU, ac yn arbennig i Loegr, yn yr hyn sydd ei angen arnom ni o ran egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu ac mewn unrhyw ddulliau atebolrwydd ar ôl Brexit.

Nawr, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cofio y cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu yn ateb pwrpasol yng Nghymru i anghenion Cymru. Mae eich Llywodraeth eich hun ar hyn o bryd yn ystyried cael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru oherwydd yr ymwahanu polisi rhwng Cymru a Lloegr sy'n golygu bod angen corff Cymreig unigryw. Fy mhryder i yw bod atodi Cymru mewn modd ôl-weithredol i ddeddfwriaeth y DU ynglŷn â, neu gynigion ynglŷn â swyddfa gwarchod yr amgylchedd yn mynd yn groes, yn amlwg, i hynny. Gallaf ddeall y rhesymeg dros gael corff llywodraethu i'r DU gyfan, gan efelychu, i bob pwrpas, yr hyn sydd gennym ni eisoes ar lefel yr UE—ac mae gennyf rywbeth i'w ddweud am hynny hefyd, fel y gallwch chi ddychmygu—ond nid wyf yn argyhoeddedig y byddai'r math hwnnw o ymagwedd yn seiliedig ar bartneriaeth gydradd ac, wrth gwrs, byddai'n golygu bod angen i bob gweinyddiaeth ddatganoledig ddod ynghyd i drafod. Ac, o'm dealltwriaeth i, nid oes awydd am hynny yn yr Alban ar hyn o bryd. Felly, mae'n debygol y bydd gennym ni gorff ar gyfer Cymru a Lloegr yn y diwedd, ac mae RSPB Cymru a sefydliadau eraill wedi ei gwneud hi'n glir mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Amgylchedd mai dyna fyddai'r sefyllfa waethaf i fod ynddi, oherwydd, fel y gwelsom ni mewn cyd-destunau eraill, eu pryder nhw yw y byddem yn debygol o weld canolbwyntio gwaith ble mae'r mwyaf o adnoddau ac, yn eu geiriau nhw, mae hynny'n fwyaf tebygol o fod yn Lloegr. Felly, a ydych chi'n cydnabod y risg honno, pe baem ni'n cael corff i Gymru a Lloegr yn y diwedd? Ac a fydd unrhyw drefniant hwyr gyda Lloegr—oherwydd, wrth gwrs, mae deddfwriaeth y DU eisoes ar ei hynt drwy San Steffan—yn parchu datganoli a chyfraith bresennol Cymru mewn difrif, ac onid oes peryg y cawn ni yn y pen draw, felly, y ddarpariaeth fwyaf sylfaenol bosib?

16:20

Wel, diolch i Llyr Huws Gruffydd am beth ddywedodd e am y Bil amaeth. Wrth gwrs, roeddwn ni eisiau bwrw ymlaen gyda Bil amaeth yn y tymor hwn. Y broblem yw nid beth roeddwn ni eisiau ei wneud; y broblem yw gydag amserlen Brexit ei hunan. Yn y cyd-destun newydd, dwi'n cytuno â beth roedd Llyr yn ei ddweud: does dim digon o wybodaeth gyda ni nawr i ddeddfu yn y tymor hwn, a fydd dim digon o wybodaeth gyda ni hefyd yn y cyd-destun Brexit newydd. Dyna pam rŷn ni wedi gwneud y penderfyniad i ddod ymlaen â'r Papur Gwyn. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n mynd i weithio'n galed gyda'r sector i dynnu pethau i mewn o'r sector cyn diwedd mis Hydref ac ailweithio gyda nhw ar ôl diwedd mis Hydref hefyd, pan fyddwn ni wedi tynnu popeth i mewn. 

Nid yw'n fater o gamu'n ôl o'r uchelgais, Llywydd, oherwydd rydym ni o ddifrif ynglŷn â'n huchelgais ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru, ac mae'r newidiadau yr ydym ni eisiau eu cyflwyno yn fy marn i yn cyfateb i rai'r bobl uchelgeisiol hynny yn y sector. Ni allwn ni wneud asesiadau effaith heb wybod beth yw'r gyllideb. Mae'r Aelod yn gywir ynglŷn â hynny, ac ni fyddwn yn bwrw ymlaen â nhw nes byddwn yn fwy clir ynglŷn â'r gyllideb yr ydym ni'n gweithio ynddi.

O ran y diffygion yn yr egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu, am eiliad daeth geiriau Mark Isherwood yn ôl ataf: 'sut ydych chi'n ateb 'un dryslyd' o'r gogledd, sydd wedi dweud wrthyf—?' Wel, ceisiaf egluro unrhyw ddryswch drwy fod yn glir: rydym ni yn bwriadu deddfu yn y maes hwn yma, ydym. Nid ydym yn credu y byddwn ni'n gallu dibynnu'n llwyr ar ddeddfwriaeth mewn mannau eraill. Ni fyddai'n dderbyniol i ni nac i Lywodraeth yr Alban gael corff trosolwg yn Lloegr yn gweithredu ar lefel y DU gyfan. Rydym ni'n dal i drafod yn helaeth gyda'r holl weinyddiaethau, nid dim ond Llywodraeth y DU, ond Llywodraeth yr Alban hefyd, ynglŷn â lle bydd y bylchau'n dod i'r amlwg o'r diwedd mewn perthynas â llywodraethu ac egwyddorion. Dyna pam nad oedd hi'n bosib y prynhawn yma, Llywydd, i fod yn sicr ynghylch pryd y byddai'r ddeddfwriaeth yn digwydd. Ond, os nad oedd yn glir yn yr hyn y dywedais ein bod yn bwriadu deddfu yn ei gylch, rwy'n hapus i gadarnhau hynny wrth ateb cwestiwn Llyr.

16:25

Rydych chi'n garedig iawn, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma, ac rwyf eisiau croesawu'r datganiad hwnnw, yn enwedig y pwyslais ar gydraddoldeb, sydd wedi bod yn rhan o hynny i gyd.

Mae'n bwysig, rwy'n credu, pan fydd San Steffan yn penderfynu a all hyd yn oed eistedd neu beidio yn yr hydref, pa un a ganiateir i Aelodau Seneddol eistedd yn eu Siambr eu hunain a thrin a thrafod y materion sy'n ein hwynebu yn Deyrnas Unedig, ein bod ni yn y Senedd hon yn canolbwyntio ar sut yr ydym ni'n mynd i wella bywydau'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli.

Rwyf eisiau croesawu'n arbennig y datganiad am ddeddfwriaeth ar reoleiddio gwasanaethau bysiau. Mae hyn yn rhywbeth y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod wedi ei gyflwyno i'r Siambr ar sawl achlysur, ac sy'n cael effaith sylweddol ar bobl Blaenau Gwent, ac mae'n rhywbeth a gaiff groeso cynnes iawn ym mhob rhan o Gymru.  

Rwyf hefyd eisiau croesawu'r cadarnhad bod y Llywodraeth yn mynd rhagddo i ddeddfu i ostwng y fasnachfraint mewn etholiadau llywodraeth leol. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae cefnogaeth gref iawn iddo drwy'r Siambr gyfan. Gobeithio y bydd y Prif Weinidog hefyd yn gallu cadarnhau y caiff y newid hwnnw yn y fasnachfraint hefyd yn ei ymestyn i garcharorion ar ddedfrydau tymor byr o leiaf.  

Rwyf hefyd eisiau croesawu'r diwygiadau radical parhaus i addysg. Mae hyn yn rhywbeth a fydd, unwaith eto, yn cael croeso cynnes ym Mlaenau Gwent, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod ei fod yn rhoi nod o radicaliaeth ar y Llywodraeth hon.

Mae rhai meysydd, Prif Weinidog, lle mae gennyf rai pryderon. Byddwch yn ymwybodol fy mod yn bryderus iawn bod y Llywodraeth bellach wedi penderfynu peidio â pharhau â'r holl ddeddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb, yna mae'n amlwg bod bwlch amlwg mewn deddfwriaeth gydraddoldeb i'r rheini ohonom ni sy'n defnyddio'r Gymraeg. Nid wyf yn deall sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni ei hamcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg heb fframwaith statudol i weithredu oddi mewn iddo. Os na cheir hynny cyn yr etholiad nesaf, rwy'n pryderu o ddifrif a fydd modd cyflawni'r targed hwnnw. 

Yn ail, ni fydd y Prif Weinidog yn synnu o glywed fy mod yn hynod siomedig nad yw'n bwrw ymlaen i ad-drefnu llywodraeth leol. Roedd hwn yn un o ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru. Cafodd pob aelod o blaid Lafur Cymru yn y Siambr hon ei ethol, fel finnau, gydag ymrwymiad cadarn i hyn yn rhan o'n maniffesto. Felly, mae cefnu ar yr ymrwymiad maniffesto hwnnw yn rhywbeth yr wyf yn siomedig iawn yn ei gylch. Rwyf eisiau gweld—[Torri ar draws.] Rwyf eisiau gweld—. Pan soniwn am gydraddoldeb, rwyf eisiau gweld cydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau hefyd. Rydym ar fin clywed datganiad gan y Gweinidog cyllid ynglŷn â gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Gwyddom na allwn ni barhau â strwythur llywodraethu yng Nghymru a roddwyd ar waith gan John Redwood. Felly, rwy'n siomedig ynghylch hynny.

Fe hoffwn i gwblhau fy nghwestiynau i chi, Prif Weinidog, drwy ailadrodd rhai sylwadau a wnaed eisoes am y meysydd hynny o ddeddfwriaeth y gallai ymadael â'r UE effeithio arnyn nhw. Rwy'n cydnabod ac yn derbyn y sicrwydd a roddwyd ynglŷn â meysydd megis pysgodfeydd, amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Fodd bynnag, byddwn yn bryderus iawn pe bai San Steffan yn deddfu ynglŷn ag unrhyw rai o'r meysydd hyn. Nid yw hyn yn fater o gyfleustra deddfwriaethol nac yn fater sy'n gysylltiedig ag adnoddau; mae'n hanfodol inni fod deddfwriaeth gadarn i Gymru ar waith, y deddfir ynglŷn â nhw yn y fan yma, a fydd yn galluogi naill ai'r Cynulliad hwn neu Gynulliad yn y dyfodol i sicrhau bod y mesurau a roddir ar waith yn cael eu cefnogi gan bobl Cymru, a'r bobl sy'n eistedd yma yn eu cynrychioli fydd yn deddfu ynglŷn â nhw. 

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Byddaf yn ymdrin â nhw o chwith, os caf i. Rwy'n credu ei fod wedi disgrifio dull Llywodraeth Cymru o weithredu'n gwbl gywir mewn cysylltiad â deddfwriaeth yr UE. Bydd rhai adegau pan fydd rhaid inni ddibynnu, am resymau ymarferol llwyr, mewn modd trosiannol ar bwerau a grëir yn neddfwriaeth y DU, ond nid yw hynny ond yn llwybr at gyflwyno deddfwriaeth ar lawr y Cynulliad hwn, nid yn unig o ran amaethyddiaeth, ond o ran pysgodfeydd hefyd. O ran pysgodfeydd yn arbennig, mae'n bwysig aros hyd nes y caiff deddfwriaeth y DU ei rhoi ar waith, oherwydd bydd yn ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn yn sylweddol iawn o ran pysgodfeydd, a byddwn eisiau cyflwyno Bil pysgodfeydd a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad ystyried a deddfu mewn ystod o bwerau newydd a fydd gennym ni. Ond dyna'n union yw ein bwriad.

16:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n clywed, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am ad-drefnu llywodraeth leol. Mae ei farn ef yn hysbys iawn ar lawr y Cynulliad, er, byddai'n rhaid imi ddweud, rwy'n ofni, efallai nad yw'r farn honno mor gyffredin ag y byddai wedi gobeithio ar un adeg. Ni fydd ein Bil ni yn gadael llywodraeth leol gyda dulliau llywodraethu John Redwood. Bydd yn cynnig ffyrdd newydd a radical i awdurdodau lleol allu ymarfer pwerau newydd ac fe fyddan nhw'n gallu gweithredu gyda'i gilydd mewn ffordd statudol i gyflawni swyddogaethau ar y sail ranbarthol honno.

O ran yr iaith Gymraeg, mae gennym, fel y gŵyr, chwe chyfres o reoliadau sy'n cwmpasu 120 o wahanol gyrff eisoes, ac mae'r safonau a gyflwynir ynddynt, a'r gydymffurfiaeth â'r rhain, yn cael eu monitro gan Gomisiynydd y Gymraeg. Nid y neges a glywaf i, wrth siarad â phobl, yw bod angen i'r safonau fod yn brif ganolbwynt ein sylw ni, ond yn hytrach sut y cânt eu gweithredu a'u defnyddio—y defnydd o wasanaethau gan bobl sy'n siarad Cymraeg, drwy eu dewis iaith, ac annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Nawr, wrth gyhoeddi'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Bil y Gymraeg, cyhoeddodd Eluned Morgan y byddai'r rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd yn ailgychwyn, a'r cam nesaf ar y daith honno fydd cyflwyno safonau newydd ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd ac ar gyfer y cwmnïau dŵr yng Nghymru. Felly, yn sicr, nid mater o wneud dim byd ynglŷn â'r Gymraeg yw hyn. Ein hymrwymiad ni, a gwn fod yr Aelod yn daer o'i blaid hefyd, yw cyflawni ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd am natur radical ein diwygiadau addysg, am ein penderfyniad i fwrw ati i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 oed ac, yn wir, i bobl o rannau eraill o'r byd sy'n byw yn ardaloedd ein hawdurdodau lleol ac sydd â rhan yn nyfodol yr awdurdodau lleol hynny.

Mae'r Aelod yn llygad ei le i nodi gwasanaethau bysiau yn fater o gydraddoldeb. Mae'n wir; fe wyddom, pan soniwn am y gwasanaethau trên ar lawr y Cynulliad, y ceir llawer o gyffro yn aml ynglŷn â hynny. Nid yw'r gwasanaethau bysiau yn denu'r un math o sylw gan y cyhoedd, ac eto i gyd, mae llawer mwy o bobl yn defnyddio'r bysiau, yn enwedig y bobl yr oedd ef yn sôn amdanyn nhw yn ei gyfraniad. Dyna pam yr ydym wedi penderfynu canolbwyntio yn ddiamwys ar reoleiddio'r bysiau yn ystod y tymor Cynulliad hwn, oherwydd, fel y dywedodd Alun Davies, dyma'r edefyn sy'n rhedeg drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'n rhoi cydraddoldeb ar y blaen, yn ganolog, ac wrth wraidd popeth y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno ei wneud yma yng Nghymru.  

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru

Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd am Ragolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Dirprwy Lywydd, yn ddiamau mae Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus, sydd mor werthfawr yn ein golwg ni, yn wynebu heriau mawr wrth inni edrych tua'r dyfodol. Mae'n ymddangos mai'r unig beth y mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio arno yw ethol arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ac, o ganlyniad i hynny, Brif Weinidog newydd. Rydym ni i gyd wedi clywed y ddau ymgeisydd yn gwneud addewidion mawr o ran treth a gwariant. Ond, fel mae pethau'n sefyll, ychydig iawn yr ydym yn ei wybod am ba bolisi cyllidol y bydd Prif Weinidog newydd—a Changhellor newydd yn sicr ddigon—yn ei ddilyn. Yn ogystal â'r ansicrwydd cynyddol ynglŷn â Brexit, mae'r diffyg eglurder hwn ynghylch rhagolygon cyllidol y DU yn golygu her hollol newydd i ni wrth ddatblygu cynlluniau gwariant ar gyfer y dyfodol. Er gwaethaf hyn, rwyf wedi ymrwymo i rannu cymaint o wybodaeth â phosibl â rhanddeiliaid i lywio eu gwaith cynllunio nhw yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn wynebu bygythiadau deublyg rhaglen Llywodraeth y DU o gyni a Brexit 'heb gytundeb'. Gallai'r rhain wneud niwed mawr i fuddiannau Cymru. Rydym ni nawr yn y nawfed flwyddyn o gyni ac mae Cymru yn dioddef yn sgil canlyniadau niweidiol polisïau'r Torïaid. Rydym wedi dweud ers tro byd mai dewis gwleidyddol yw parhau â chyni. Mae'n ffaith, er gwaethaf twf araf iawn, fod derbyniadau treth yn fwy na digon i gwrdd â gwariant cyhoeddus cyfredol. Beth sydd gennym ni i'w ddangos am bron degawd o gyni? Nid yw cynhyrchiant y DU fawr ddim yn uwch na'r lefelau cyn y dirwasgiad ac mae cyflogau, wedi eu haddasu ar gyfer chwyddiant, yn parhau yn is na lefelau 2010. Mae'r twf mewn derbyniadau treth wedi bod yn araf iawn, gan leihau'r adnoddau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Yng Nghymru, pe byddai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi aros yn gyfartal â'r twf mewn cynnyrch domestig gros ers 2010-11, eleni fe fyddai gan Lywodraeth Cymru £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario. I roi hynny yn ei gyd-destun, fe fyddai wedi cynyddu ein cyllideb ni  bron 25 y cant.   

Naratif Llywodraeth y DU yw bod cyni'n dod i ben. Gwahanol iawn yw'r gwirionedd. Hyd yn oed o ystyried y cynnydd a gyhoeddwyd mewn gwariant ar iechyd, bydd gwariant mewn termau real ar wasanaethau cyhoeddus fesul pen ledled y DU tua 10 y cant yn is yn 2023-24 nag yn 2009-10. Peidied neb â chamgymryd, mae'r DU yn parhau i fod yn dynn yng ngafael cyni. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r cyllid sydd ar gael. Ond y gwir plaen yw, oni bai fod Llywodraeth y DU yn cymryd camau i roi terfyn ar gyni, bydd diogelu iechyd yn golygu dewisiadau anodd dros ben i feysydd hanfodol eraill o wasanaethau cyhoeddus.

Ar sail y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn natganiad y gwanwyn ym mis Mawrth eleni, rydym ni'n amcangyfrif, os yw'r cynnydd yng nghyllideb adnoddau Cymru yn unol â therfynau gwariant adrannol adnoddau'r DU a thwf y GIG yn Lloegr yn cynyddu'n gyfatebol yng Nghymru, yna byddai gweddill cyllideb Cymru yn gostwng tuag un y cant mewn termau real rhwng 2019-20 a 2020-21. Byddai hynny'n rhoi mwy o bwysau eto ar ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd, sy'n parhau i wynebu chwyddiant cynyddol a chostau cyflog a phensiwn sydd heb eu hariannu.

Ond y gwirionedd arswydus yw y gallai'r cyd-destun gwariant cyhoeddus waethygu eto. Mae'n werth cofio bod datganiad y gwanwyn yn rhagweld Brexit gweddol hynaws. Mae'n anghredadwy nad oes unrhyw eglurder o hyd ynghylch sut y bydd y DU yn gadael yr UE a beth ddaw yn y dyfodol. Bydd y blynyddoedd nesaf hyn yn dibynnu ar unrhyw gytundeb Brexit ac unrhyw drefniadau o ran pontio. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhagdybio y bydd yna gytundeb Brexit.

Mae Cymru yn cael tua £680 miliwn yn flynyddol o gronfeydd yr UE, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y byddwn ni'n disgwyl i'r Trysorlys gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol ar ôl Brexit. Ar hyn o bryd, nid yw'r ymgynghoriad ar gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig Llywodraeth y DU, sy'n bygwth dwyn llawer o rym oddi wrth Gymru, wedi dechrau hyd yn oed. Byddwn ni'n dal i fynnu bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid na fyddwn ni'n cael ein gadael yn waeth ein byd. Mae ein neges ni'n glir: heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym.

Rydym ni eisoes yn gweld effaith ansicrwydd Brexit ar ein heconomi. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Banc Lloegr, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol i gyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod ansicrwydd Brexit wedi gwthio'r economi ar lwybr twf sydd hyd yn oed yn is. Cafwyd llai o fuddsoddiad mewn busnes ym mhob chwarter y llynedd—datblygiad hollol newydd y tu allan i ddirwasgiad. Gostyngodd y cynnydd domestig gros 0.4 y cant ym mis Ebrill o'i gymharu â mis Mawrth. Byddai Brexit didrefn yn peryglu dirwasgiad yn y byrdymor.

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi hefyd bod y colledion o ran refeniw treth, yn sgil twf arafach, yn gwrthbwyso unrhyw arbedion sy'n deillio o lai o gyfraniadau at gyllideb yr UE. Nid mater o ystadegau economaidd haniaethol yn unig mo hwn. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu y gallai pob unigolyn yng Nghymru fod ymhell dros £1,000 y pen ar ei golled bob blwyddyn nag y byddai fel arall dros yr hirdymor. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cyflogau is, rhagolygon gwaeth am swyddi a gwasanaethau cyhoeddus tlotach o ganlyniad i refeniw treth gwannach. Mae'r ansicrwydd hwn yn niweidio'r economi ac yn effeithio'n uniongyrchol ar ein gallu ni i gynllunio a darparu'r sicrwydd yn y tymor hwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Rydym yn cychwyn y flwyddyn hon gyda setliad refeniw cyfredol nad yw'n gallu ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn gyfredol, 2019-20, a chyllideb gyfalaf nad yw'n ymestyn ond hyd at 2020-21. Yn seiliedig ar bolisi cyfredol, ni allwn ond tybio na fydd effaith net twf mewn refeniw trethi datganoledig a thwf yn yr addasiad i'r grant bloc rhwng 2019-20 a 2020-21 yn cael effaith sylweddol ar dwf sefyllfa gyllidebol gyffredinol Llywodraeth Cymru rhwng y ddwy flwyddyn.

Mae cyflogau'r sector cyhoeddus yn cyfrif am oddeutu 50 y cant o wariant Llywodraeth Cymru. Felly, mae datblygiadau sy'n effeithio ar filiau cyflog y sector cyhoeddus yn allweddol wrth ddatblygu cynlluniau gwariant. Mae polisi cyni Llywodraeth y DU wedi arwain at gyfnod hir o gyfyngu ar gyflogau sector cyhoeddus ers 2010. Er bod hyn wedi helpu i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf cyni, rydym ni o'r farn y dylai gweision cyhoeddus gael eu gwobrwyo yn briodol am y gwaith pwysig ac anodd y maen nhw'n ei wneud. Ar ôl gweld Llywodraeth y DU yn cytuno ar gyflogau athrawon a chytundebau cyflog tair blynedd 'Agenda ar gyfer Newid' y GIG, rydym ni nawr yn disgwyl y bydd y cyflog fesul pen yn codi'n gyflymach yn ystod y blynyddoedd nesaf, ond bydd hyn hefyd yn golygu bil cyflogau sy'n cynyddu. Ynghyd â chostau pensiwn uwch ar adeg pan nad yw cyllidebau'n codi, bydd talu am y costau hyn yn arbennig o anodd.

Ar ôl i Lywodraeth y DU ddatgan yn hyderus y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd drwy adolygiad cynhwysfawr o wariant, mae'n dweud bellach ei bod yn fwyfwy tebygol ar hyn o bryd, oherwydd yr anhrefn a greodd, y caiff ei gorfodi i lusgo ei thraed a chyflwyno cynlluniau refeniw am flwyddyn yn unig. Rydym ni bob amser wedi ceisio darparu'r sicrwydd cynharaf posibl o ran cyllidebau er mwyn ein partneriaid. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau busnes a chyllid i ddweud bod yr ansicrwydd hwn wedi'n gadael ni heb unrhyw ddewis ond cynllunio ar y sail y byddwn ni'n cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth. Er y gallai hon fod yn amserlen arferol i gyllideb yn yr Alban, rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd yr amserlen hon yn ei chael ar y Cynulliad a'n partneriaid ni. Mae'n dal i fod yn bosib y gallai Llywodraeth y DU gyhoeddi cyllideb gynharach, ac os digwydd hynny byddaf yn ceisio cyflwyno amserlen ein cyllideb mor gynnar â phosibl, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Pwyllgor Busnes ar hyn.

Rydym ni'n benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym yn cael yr effaith fwyaf bosib. Rydym yn canolbwyntio ein paratoadau cyllideb ar ein wyth maes blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Mae'r meysydd blaenoriaeth hyn yn integreiddio gweithgarwch ledled y Llywodraeth yn y meysydd y gallwn ni gael y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor. Yn rhan o'r gwaith hwn, byddaf i'n mynd ar ymweliadau yn ystod yr haf i gael cipolwg ar yr heriau a'r cyfleoedd y mae partneriaid ehangach yn eu gweld ym mhob un o'r wyth maes hyn. Felly, i gloi, mae ein Llywodraeth ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei gallu i ateb yr heriau gwirioneddol sy'n ein hwynebu heddiw ac yn y dyfodol.

16:40

Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf i'n hollol siŵr ble i ddechrau gyda'r datganiad hwn heddiw. Yn ei gyfraniad blaenorol i'r datganiad blaenorol, roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies—. Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n mynd i gyfrannu i'r datganiad hwn, Alun, ond roeddech chi'n sôn eich bod chi'n edrych ymlaen at glywed am ymrwymiadau o ran gwariant. Nid wyf i'n siŵr ein bod wedi clywed rhyw lawer am unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant gan Lywodraeth Cymru yn y datganiad hwn, ond wedi dweud hynny roedd yn dilyn ymlaen o'r datganiad blaenorol ar flaenoriaethau.

Mae'r gwyliau gwirion wedi dechrau'n gynnar eleni, mae'n amlwg. Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw ei bod hi'n siomedig fod y datganiad hwn yn brin o naws adeiladol ac arlliw cadarnhaol arferol y Gweinidog. Roedd y datganiad hwn yn ymwneud yn fwy â lladd ar Lywodraeth y DU yn hytrach na chyflwyno'r weledigaeth gadarnhaol honno gan Lywodraeth Cymru y carai pob un ohonom ni yn y Siambr hon ei gweld, y byddai'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn hoffi ei gweld, ac, wrth gwrs , yr hoffai'r cyhoedd ei gweld. Rwyf i o'r farn, yn y cyswllt hwn, ei fod wedi bod yn gyfle a gollwyd. Yn wir, dim ond hanner ffordd drwy'r datganiad—rwy'n diolch i'r Gweinidog am gael gweld y datganiad ymlaen llaw—ond dim ond hanner ffordd drwy'r datganiad y clywsom ni am gronfeydd strwythurol yr UE, sydd wedi bod mor bwysig i economi Cymru dros gynifer o flynyddoedd. Yn wir, dim ond ar ddiwedd eich araith y gwnaethoch chi gyfeirio at y blaenoriaethau, ond mewn ystyr gyffredinol iawn wrth sôn am fynd allan at randdeiliaid. O ran,

Mae ein neges ni'n glir: heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym,

Wel, mae'n swnio ychydig fel nofel gan Jeffrey Archer, ond byddwn i'n dweud fy mod i fy hunan yn cytuno â'r farn hon. Rwy'n credu y byddai llawer o'r Aelodau yma yn cytuno nad ydym ni'n awyddus i weld un geiniog yn cael ei cholli, ac rydym wedi datgan hynny dros nifer o fisoedd a blynyddoedd erbyn hyn. Ond rwy'n credu bod y neges wedi mynd ar goll, gwaetha'r modd, yn yr holl ladd a fu'n ehangach ar Lywodraeth y DU.

Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau ac mae Llywodraeth y DU ymhell o fod yn ddi-fai yn hyn o beth. Ond yn hytrach na beio Llywodraeth y DU yn gyson am naw mlynedd o gyni, Gweinidog, a ydych chi wedi ystyried rhoi ychydig, o leiaf, o'r bai ar Lywodraeth Lafur flaenorol y DU a aeth i ddyledion yn llawer rhy gyflym ac a aeth yn llawer rhy drwm i'r dyledion hynny? Ac efallai—roeddwn i'n arfer dweud hyn wrth y Gweinidog Cyllid blaenorol—pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhedeg pethau bryd hynny yn hytrach na'ch perthnasau yn y Blaid Lafur yn San Steffan, efallai y byddem wedi bod mewn sefyllfa ychydig yn well. Ond rwyf am roi mantais yr amheuaeth i chi. Yn anffodus, nid oeddech chi'n rhedeg pethau bryd hynny, ac fe welwn ni nawr ganlyniad yr oferedd.

Gan droi at rai o'r manylion a oedd ar gael am y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn natganiad y gwanwyn, roeddech chi'n dweud,

os yw'r cynnydd yng nghyllideb adnoddau Cymru yn unol â therfynau gwariant adrannol adnoddau'r DU a thwf y GIG yn Lloegr yn cynyddu'n gyfatebol yng Nghymru, yna byddai gweddill cyllideb Cymru yn gostwng tuag un y cant mewn termau real rhwng 2019-20 a 2020-21.

A yw honno'n ffordd o ddweud nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gyfateb y cynnydd o ran cyllid â'r GIG yn Lloegr? Oherwydd os felly—ac rwy'n cydnabod eich bod chi'n dweud, hefyd, y byddai hynny'n arwain at ostyngiadau mewn cyllidebau eraill—ond os yw hynny'n wir, rwy'n credu bod angen inni fod yn agored gyda'r cyhoedd nad yw cyllideb y GIG yng Nghymru yn cael ei diogelu yn y ffordd y mae rhai pobl yn tybio ei bod hi. A'r diogelwch hwnnw, yn wir, y bu Ceidwadwyr Cymru yn dadlau o'i blaid yn ôl yn 2011, na ddigwyddodd bryd hynny mewn termau real. Fe ddigwyddodd o ran arian parod, ond nid mewn termau real, a chredaf ein bod ni'n dal ar ei hôl hi yma yng Nghymru yn sgil y camgymeriadau a wnaed bryd hynny.

O ran amserlen y gyllideb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod cyllidebau tair blynedd a bennir drwy adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddymunol, ac mae'n drueni nad yw Llywodraeth y DU yn teimlo y gall eu cyflwyno nhw ar hyn o bryd. Hoffwn i dynnu sylw at y ffaith mai Llywodraeth bresennol y DU oedd yn dyheu am wneud hynny o leiaf. Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, ac fel y gwyddom ni yn y Pwyllgor Cyllid, nid yw cyllidebau tair blynedd yn hawdd eu cyflawni. Hoffwn i ofyn i chi: a ydych yn hyderus eich bod chi'n rhoi'r math o sefydlogrwydd tymor canolig y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ei ddeisyfu, ac a ydych chi'n obeithiol o symud tuag at ymrwymo i gyllidebau tair blynedd?

O'r diwedd fe wnaethoch chi sôn am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth gloi eich cyfraniad. Tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o fanylion inni am hynny, a hefyd am eich ymweliadau arfaethedig dros yr haf y cyfeiriwyd atynt. Mae'n fy atgoffa i ryw ychydig o daith cyllideb Jane Hutt y cyn Weinidog Cyllid. Mae Alun Davies yn cofio, ac mae'r emeritws hwn yn cofio taith cyllideb nifer o flynyddoedd yn ôl, pan aeth allan ac ymweld â rhanddeiliaid mewn llawer man yng Nghymru—taith gynhwysfawr iawn, mewn gwirionedd. Rwy'n cofio ei bod wedi dod i fy—rwy'n credu iddi fynd i bobman, mewn gwirionedd, ond mae Jane Hutt, fel y gwyddoch, yn ddiwyd iawn yn hynny o beth. Ai eich bwriad chi yw ailgynnau ysbryd y daith honno? Pa randdeiliaid yr ydych yn bwriadu cwrdd â nhw? A fydd hynny'n golygu, os goddefir yr ymadrodd, 'yr un hen rai', ynteu a ydych chi'n bwriadu mynd allan ac efallai gymryd rhywfaint o dystiolaeth gan randdeiliaid nad ydym yn ymwneud â nhw fel arfer? Byddai hynny'n golygu y byddem yn gweld dros y misoedd nesaf rywbeth y credaf yr hoffai pob Aelod Cynulliad yma ei weld, sef cyllideb sy'n wirioneddol yn adlewyrchu nid yn unig fuddiannau Aelodau'r Cynulliad yma, ond buddiannau pobl Cymru, ac sydd o fudd, yn wir, i economi Cymru yn y dyfodol?

16:45

Diolch. Rwy'n falch o'r cyfle i ymateb i'r sylwadau hynny. Ni wnaed ymrwymiadau o ran gwariant yn y datganiad hwn heddiw oherwydd nid gwneud ymrwymiadau o ran gwariant oedd ei ddiben, y bwriad oedd amlinellu'r rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y dyfodol yng Nghymru ymlaen llaw, ac yna, gyflwyno ymrwymiadau o fewn y cyfyngiadau a fydd arnom ni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael y cyfle hwn i egluro'r sefyllfa oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn amser inni ddeall beth yw realiti'r anawsterau yr ydym ni'n eu hwynebu. Felly, nid oedd unrhyw newyddion da yn y datganiad; cyfres o ffeithiau sy'n annymunol iawn yng ngolwg llawer ohonom ni, ond maen nhw'n adlewyrchu'r sefyllfa yr ydym ynddi.

Ar sail debyg am debyg, mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real erbyn hyn nag yr oedd yn 2010-11. Dewis gwleidyddol yw hwn; dyma ddewis a wnaeth Llywodraeth y DU o ran cyni, ac rwy'n credu bod yr hawl gennym i dynnu sylw at hynny. Felly, pan fydd pobl yn gofyn imi, 'A gawn ni arian ychwanegol ar gyfer hyn, a'r llall, a'r un arall?', mae angen imi gael gwybod o ble y daw gan nad oes modd cael sgwrs gytbwys nad yw'n cynnwys hynny.

Ond yna gan edrych ymlaen, mae'n amser anodd dros ben: dangosodd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a baratowyd ar gyfer datganiad y gwanwyn y bydd y twf yn parhau i fod yn siomedig am y pum mlynedd nesaf. Disgwylir i'r cynnyrch domestig gros fesul pen gynyddu ar gyfradd flynyddol gyfartalog o 1 y cant o'i gymharu â chyfradd gyfartalog hirdymor o 2.4 y cant. Mae Banc Lloegr wedi darparu rhagolwg diweddar ar gyfer yr economi ym mis Mai sy'n canolbwyntio'n fwy ar y dyfodol agos, ac mae'r rhain yn dweud, dros y 12 mis nesaf, mai cynnydd cymedrol yn unig yr ydym yn ei ddisgwyl o ran cynnyrch domestig gros, sef 1.5 y cant. Ac mae'r ddwy gyfres o ragolygon, fel ei gilydd,  yn gwneud hynny yng nghyd-destun modelu ar gyfer Brexit trefnus. Felly rwy'n credu bod gwir angen inni gael gafael dda ar ba mor ddifrifol yw'r sefyllfa hon a maint y penderfyniadau anodd sy'n ein hwynebu ni.

O ran sefydlogrwydd, byddwn wrth fy modd o allu rhoi sefydlogrwydd i sefydliadau. Rwyf wedi cwrdd â rhwydwaith y trydydd sector ac rwy'n cyfarfod, ynghyd â'm cyd-Aelod Julie James, gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol yn rheolaidd. Byddem yn falch iawn o allu rhoi rhyw fath o sicrwydd i'r sefydliadau hynny, ond yn anffodus, y cwbl sydd gennym ni yw ansicrwydd ar hyn o bryd. Felly, nid oes gennym ni gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y dywedais i yn fy natganiad, bu'n rhaid imi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Cyllid i ddangos nad oes gennym unrhyw ddewis ond cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth—a'r amgylchiadau fel ag y maen nhw. Dyna'r dyddiadau diweddaraf un y gallwn ni wneud hynny ac mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol imi roi gwybod i'r Pwyllgor Cyllid pryd y byddwn ni'n cyhoeddi'r dogfennau hynny.

Rwy'n credu, wrth symud ymlaen, y byddai rhyw fath o sicrwydd gan Lywodraeth y DU i'w groesawu'n fawr. Ond rwy'n fwyfwy argyhoeddedig y byddwn ni'n edrych ar gyllideb dreigl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Awgrymodd y ddau ymgeisydd am y Brifweinidogaeth y gallen nhw gyflwyno cyllideb ym mis Medi, felly byddwn ni'n edrych yn eiddgar ar hynny. A fyddai honno'n gyllideb sy'n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni o ran y tymor hwy neu beidio, neu a fyddai'n rhyw fath o gyllideb etholiad gyda rhoddion i'r rhai sy'n talu trethi uchel, fel yr awgrymodd rhai o'r ymgeiswyr, fe gawn ni weld, ond mae'n annhebygol iawn y byddai o unrhyw fudd i Gymru yng nghyd-destun gweld diwedd ar gyni.  

16:50

Nid wyf yn rhannu barn hwyliog Nick Ramsay, ar hyn o bryd, mae'n rhaid imi ddweud; rwy'n credu bod cyni'n achosi pob math o broblemau a niwed difesur i unigolion a chymunedau, ac erydiad y gefnogaeth a'r gwasanaethau i bobl ledled Cymru, ac, wrth gwrs, nid oes llawer o obaith y bydd newid yn hynny o beth. Ym mis Mai, ysgrifennodd Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mewn adroddiad, ac rwy'n dyfynnu:

Byddai gadael yr UE yn debygol o gynyddu benthyciadau rhwng £20 a £40 biliwn yn 2019-20. Byddai cyrraedd balans y gyllideb o'r fan honno... yn gofyn am flwyddyn neu ddwy arall o galedi ar y cyfraddau presennol o doriadau gwariant.

Felly, nid yw'r rhagolygon cystal ag y byddai rhai pobl yn dymuno iddyn nhw fod. Ac wrth gwrs, at hynny gallwn ychwanegu'r pryderon ynghylch a fydd Cymru yn cael arian gan Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i'r hyn yr ydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Hynny yw, fe wnaethon nhw addewidion ynghylch pensiynau, a thynnwyd sylw at hyn fel rhywbeth a oedd yn gamarweiniol, oherwydd ni chawsom yr arian ar ddiwedd y dydd. Felly, mae yna bryderon gwirioneddol, ond, wrth gwrs, nid oes angen imi gael clywed gan y Gweinidog am y problemau; rwy'n gwybod am y problemau. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w wybod yw beth yr ydych chi'n ei wneud i ymdrin â rhai o'r materion hynny a mynd i'r afael â nhw. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael â Llywodraeth y DU o ran cyllido yn y dyfodol? Gwyddom am yr amwysedd neu'r ymgais i osgoi ymrwymo i dalu i'r gronfa ffyniant gyffredin. Wel, beth ydych chi'n ei wneud, felly, i sicrhau ein bod ni'n cael rhyw fath o eglurder?

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros faterion gwledig, wrthym ychydig wythnosau yn ôl nad oedd ganddi syniad faint o arian yr oedd hi'n mynd i'w gael, os unrhyw arian o gwbl, yn achos Brexit 'heb gytundeb'. Felly, mae eisiau sicrwydd arnom oddi wrthych chi, fel Gweinidog, eich bod chi'n arwain y gad o'r tu blaen ac nid yn codi eich ysgwyddau a dweud, 'Wel, nid ydym yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ac mae popeth yn y tywyllwch.' Rwy'n credu bod angen inni glywed, mewn gwirionedd, eich bod chi'n mynd â'r frwydr at Lywodraeth y DU.

Nawr, mae sylwadau diweddar Boris Johnson ynghylch yr hyn yr hoffai ef ei wneud gydag arian sy'n cael ei wario yng Nghymru yn destun pryder hefyd, wrth gwrs, a hoffwn i wybod beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod unrhyw wariant ar seilwaith Llywodraeth y DU yn ategu blaenoriaethau Cymru. Oherwydd mae perygl y byddwn ni, yn y pen draw, yn cael rhyw fath o ymhonni ariannol digyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ceisio rhagori ar ei gilydd heb fod yn gydgysylltiedig, ac mae angen inni wneud yn siŵr eich bod chi'n gweithio'n gydlynus i gael y gwerth gorau am ein harian.

Gan ganolbwyntio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ryddhau ei chyllideb ei hun, wrth gwrs, roeddem ni'n gobeithio gweld ychydig mwy o newid pendant o ran ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd yn flaenorol. Rwy'n deall mai ymarfer tacluso yw hwn, neu dyna mae pobl yn ei ddweud wrthym ni. Felly rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb nesaf a fydd yn ymddangos rywbryd yn yr hydref yn dangos newid amlwg o ran adnoddau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nid ydym wedi gweld unrhyw gostau o ran cynllun cyflawni carbon isel y Llywodraeth, wrth gwrs. O gofio bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi gwneud rhywfaint o waith ar gyllideb y llynedd, gan nodi mai dim ond 1 y cant o'r gyllideb honno a glustnodwyd mewn gwirionedd ar gyfer gweithredu uniongyrchol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, tybed a fyddwn ni'n gweld, fel y dywedais i, unrhyw newid sylweddol o ran adnoddau tuag at ddatgarboneiddio hefyd. Hoffwn i glywed beth yw eich cynlluniau chi yn hynny o beth.

Hoffwn i ofyn hefyd am gyllidebau amlflwydd. Rwy'n gwybod nad oes gan Lywodraeth Cymru y moethusrwydd hwnnw sydd gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweld yn yr Alban fod y Llywodraeth yno yn cynnwys agweddau ar gyllidebau amlflwydd yn eu cyllidebau. Yn fwy diweddar, roedden nhw'n cynnwys dyraniadau aml-flwyddyn ar gyfer dysgu cynnar a gofal plant a chysylltedd digidol, felly hoffwn i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori elfennau o gyllidebu amlflwydd yn eich cyllideb nesaf, er, wrth gwrs, eich bod chi'n gwneud hynny mewn amgylchiadau anodd iawn.

Yn olaf, rydych chi'n dweud yn eich datganiad y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i chi o ran cyllid. Wel, yr hyn yr wyf i am ei wybod yw sut y bydd eich cyllideb chi'n ymdrin ymhellach â dull ataliol, oherwydd, unwaith eto, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi tynnu sylw at y modd y mae 94 y cant o wariant y GIG yng Nghymru yn mynd ar wasanaethau aciwt a thrydyddol. Felly, a ydym ni'n mynd i weld hynny'n dechrau newid wrth ichi roi'r pwyslais y dywedwch wrthym ni eich bod yn awyddus i'w roi ar y dull ataliol?

Wrth gwrs, y dull ataliol mwyaf, mae'n debyg, yw buddsoddi mwy mewn addysg, gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu magu'n fwy ymwybodol o bwysigrwydd eu lles eu hunain, o ffyrdd o fyw iachach, a bod yn ddinasyddion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a deall pa effaith amgylcheddol y gallai eu gweithredoedd nhw ei chael. Felly, pryd wnaiff Llywodraeth Cymru wynebu'r argyfwng ariannu yn ein hysgolion, ac a wnewch chi sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen i allu cyflawni'r canlyniadau hynny y mae pawb ohonom ni'n dymuno eu gweld?

16:55

Rwy'n diolch i Llŷr Gruffydd am y sylwadau hynny. Y pwynt cyntaf a wnaeth ef oedd: a ydym ni'n mynd â'r frwydr at Lywodraeth y DU? Wel, ydym, es i â'r frwydr at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o EUExTP, sef y pwyllgor paratoi ar gyfer masnach ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n is-bwyllgor i Gabinet y DU, y mae gan Lywodraeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig yr hawl i'w fynychu. Felly, fe wnes i'r pwyntiau yn y cyfarfodydd hynny nad ydym ni, mewn gwirionedd, wedi cael sgwrs eto o ran pa gyllid a allai ddod i Gymru pe byddai Brexit 'heb gytundeb'. Fe wnes i'r pwynt ei bod hi'n anfoddhaol iawn ein bod ni'n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o gael Brexit 'heb gytundeb' heb gael y sgyrsiau hynny na sicrwydd gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth. Felly, nid yw Llywodraeth y DU yn y tywyllwch ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwnnw.

Wrth gwrs, rydym bob amser yn mynd i'r cyfarfodydd hyn ac yn dadlau achos Cymru drwy'r cyfan. Y gronfa ffyniant gyffredin, er enghraifft. Rwyf wedi codi'r achos hwnnw eto gyda James Brokenshire ar ôl y bleidlais unfrydol a gawsom ni yma yn y Cynulliad pan gafwyd cefnogaeth pawb i'r cynnig, a gyflwynwyd ar y cyd gan dair o'n pleidiau, a ddywedodd nad oeddem eisiau cael yr un geiniog yn llai, a bod yn rhaid inni sicrhau nad oedd y gronfa ffyniant gyffredin yn gyfle i lithro'n ôl oddi wrth y setliad datganoli, ac y dylai penderfyniadau ar y gronfa honno gael eu gwneud yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o waith wedi digwydd dros y 18 mis diwethaf a fyddai'n nodi'n eglur iawn beth fyddai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol cyllid rhanbarthol. Felly, byddem ni'n edrych ar fframweithiau aml-flwyddyn, byddem ni'n edrych ar y cyfle mwy eang i weld cymunedau yn rhoi eu barn o ran cyfeiriad y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynghylch y cronfeydd rhanbarthol hynny. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn yn y dogfennau a gyhoeddwyd gennym ac yn y gwaith y mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn ei wneud yn y grŵp sy'n edrych ar ddyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru hefyd.

O ran sylwadau Boris Johnson, fe ddywedodd ef na fyddai gennym ni lai o arian, felly rydym ni'n croesawu hynny, ond fe ddywedodd bryd hynny hefyd y byddai cyllid rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit yn elwa ar ddylanwad y Ceidwadwyr o ran gwerth am arian. Wel, wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych ar ddylanwad y Ceidwadwyr a gwerth am arian, ac wedi ystyried un o'r cronfeydd y maen nhw wedi ei gweinyddu yn lleol, ac fe gafwyd nad oedd unrhyw ganlyniadau gwirioneddol i'r cyllid hwnnw. Felly, nid wyf i'n credu y gallwn ni ddysgu oddi wrth y Ceidwadwyr am faterion gwerth am arian.

Mae problem argyfwng yr hinsawdd yn fyw iawn ac yn real iawn i bawb ohonom. Rydym yn cael y trafodaethau hyn ar hyn o bryd, wrth ddechrau ystyried y paratoadau ar gyfer ein cyllideb nesaf. Ond peidied neb â dychmygu nad oes gwaith da wedi cael ei wneud yn y maes hwn ers blynyddoedd. Felly, erbyn diwedd y tymor Llywodraeth hwn, rydym yn disgwyl y bydd bron £70 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ynni yn y sector cyhoeddus, gyda'r disgwyliad o £650 miliwn o arbedion ariannol ar ynni, ac rydym yn disgwyl 2.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn llai o allyriadau dros gyfnod yr asedau hynny. Rydym eisoes yn ystyried effaith carbon wrth ddyrannu cyllid cyfalaf, ac roedd hwn yn ffactor allweddol, er enghraifft, pan fuddsoddwyd £50 miliwn i ddatblygu gorsaf drenau newydd yn Llanwern, ynghyd â chyfleusterau parcio a theithio helaeth a gwelliannau i'r lein. Ac fel rhan o'n hadolygiad hanner ffordd o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, rydym wedi rhoi £60 miliwn dros dair blynedd i raglen gyfalaf Cymru gyfan y GIG, gan gynnwys cymorth i ddisodli'r fflyd o ambiwlansys â modelau carbon is mwy cyfoes. Felly, nid yw'n fater o ddeffro'n sydyn un diwrnod a sylweddoli bod yr amgylchedd yn bwysig. Mae hyn wedi bod wrth galon holl waith y Llywodraeth hon, ac rydym yn cydnabod bod angen inni, o fewn cyd-destun yr argyfwng, gynyddu ein huchelgeisiau a symud ymlaen â hynny.

Yr agenda ataliol—buom yn gweithio'n agos iawn gyda chomisiynydd lles cenedlaethau'r dyfodol i gytuno ar ddiffiniad o 'atal', sef yr un yr ydym ni'n ei ddefnyddio ledled y Llywodraeth erbyn hyn, ac, yn amlwg, rydym ni'n awyddus i weld mwy o fuddsoddi mewn atal, oherwydd yn amlwg, mae arbedion iddo yn y tymor hwy. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes gennym ni yr achosion acíwt i ymdrin â nhw hefyd. Mae gwaith da yn digwydd yn swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o ran datblygu'r dull hwnnw o wirio'r daith yr ydym ni wedi bod yn siarad amdani, sy'n dangos sut y byddwn ni'n ymgorffori deddf cenedlaethau'r dyfodol yn well ym mhob un o'n penderfyniadau ynglŷn â chyllideb a'n dulliau o wneud penderfyniadau. Soniwyd yn gynharach heddiw am adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, lle awgrymodd £1 biliwn o gyllid ar gyfer yr hyn y byddai hi'n ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y gyllideb nesaf. Nawr, mae hwnnw'n gyfraniad defnyddiol iawn i'r drafodaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi i drafod hynny ymhellach. Rwyf i o'r farn mai'r her i'r comisiynydd, a'r her a roddaf i'r holl Aelodau a phawb arall yr wyf yn cael trafodaethau â nhw ynglŷn â'r gyllideb, yw os ydym ni'n gofyn am gyllid ychwanegol mewn un man, yna bydd yn rhaid inni gael gwybod ymhle y byddwn i'n dadfuddsoddi mewn ymateb i hynny. Rwyf hefyd yn awyddus i ddeall y manylion yn union o ran yr allyriadau carbon y byddem ni'n disgwyl eu gweld o ganlyniad i'r mesurau hynny yn y cynllun 10 pwynt a gynhyrchodd y comisiynydd, ond rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau manylach hynny gyda hi'n fuan.

17:00

Hoffwn i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, sy'n rhoi rhybudd plaen i ni am yr heriau sydd o'n blaenau, yr heriau sy'n cael eu gwaethygu gan bolisïau economaidd aflwyddiannus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i'n croesawu eich sylwadau ar yr ormodiaith beryglus a glywsom ni gan y ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Rydych chi wedi cyfeirio at rywfaint o hynny yn eich atebion i'r Aelodau eraill, ond hoffwn i ofyn i chi yn benodol a ydych chi'n cytuno â mi mai'r dystiolaeth, er enghraifft, o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yw bod cynigion Boris Johnson ar dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol mewn gwirionedd am sicrhau'r budd mwyaf i'r rhai ar yr incwm uchaf yn y gymdeithas, ac a ydych chi'n cytuno â mi, hefyd, y byddai hyn yn gweld cwtogi pellach ar yr arian sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus ledled y DU, ac, wrth gwrs, yma yng Nghymru?

Gweinidog, rydych chi wedi egluro inni fod ansicrwydd mawr ynglŷn â chynlluniau gwariant yn y dyfodol, ac mae'r ansicrwydd hwn yn amlwg yn cael ei waethygu yn niffyg adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gyda hynny mewn golwg, sut yn union y mae hynny'n effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio ar y cyd â phartneriaid mewn Llywodraeth Leol, busnes a'r trydydd sector?

Rwy'n diolch i Vikki Howells am godi'r pwyntiau hyn, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth nad yw rhai o'r polisïau na'r cynigion a gyflwynwyd gan y ddau Brif Weinidog newydd posibl yn sicr yn flaengar iawn, ac yn sicr bydden nhw o fudd i'r cyfoethogion, ac nid ydynt yn cynnig dim i bobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Ond mae'n debyg iawn mai dyna yw'r sefyllfa yn yr ystyr eu bod nhw'n ceisio tynnu sylw at eu hunain. Nid oes angen iddyn nhw ond bodloni nifer fechan o bobl sy'n aelodau o'r Blaid Geidwadol i allu cerdded i mewn i rif 10. Ac, yn amlwg, nid yw bod yn flaengar a cheisio cyflwyno polisïau a fydd yn cefnogi'r bobl sydd dan y pwysau mwyaf, mewn cyfnod anodd, ac sy'n dwyn baich cyni, yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Rydym ni'n ceisio modelau ar hyd gwahanol lwybrau, gan edrych ar bethau a allai ddigwydd fel y gallwn ni gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru. Felly, nid ydym yn disgwyl gwybod beth yw cwantwm ein cyllidebau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond rydym yn edrych ar wahanol senarios, ac maen nhw'n amrywio o rai amodau sy'n ffafriol i amodau sy'n achosi llawer o bwysau. Ac mae un o'r rhai yr ydym ni'n eu modelu yn ymwneud â pharatoi ar gyfer ymadawiad 'heb gytundeb' â'r Undeb Ewropeaidd. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd ein dadansoddiad economaidd diweddaraf o gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â'r UE, ac fe dynnodd hynny sylw, yn y sefyllfa waethaf un, at gynnyrch domestig gros sydd efallai rhwng 7.75 y cant a 10 y cant yn is nag yr oedd ym mis Mai 2016 erbyn diwedd 2023, os digwydd Brexit anffafriol. Mae hwn yn lleihad mwy difrifol nag a welwyd yn ystod y dirwasgiad a ddechreuodd yn 2008. Mae dadansoddiadau dilynol gan y banc yn awgrymu y gallai paratoi mesurau lliniaru addas osgoi'r effaith waethaf, i ryw raddau, ond byddai hwnnw'n dal i fod yn debyg o ran ei faint i'r dirwasgiad diwethaf. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n modelu pob math o ganlyniadau posibl, ac yn sicr yn edrych yn ofalus iawn ar yr effaith y gallai'r addewidion amrywiol a wneir gan yr ymgeiswyr Ceidwadol am y Brifweinidogaeth ei chael ar Gymru.

Mae Vikki Howells yn iawn i nodi'r ffaith nad oes gennym adolygiad cynhwysfawr o wariant ac nad oes gennym gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny mewn gwirionedd sydd wrth wraidd y diffyg eglurder sydd gennym ni. Felly, pe byddem yn gweld cyllideb dreigl yn cael ei chyflwyno am flwyddyn heb yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y  flwyddyn, er enghraifft, byddai hynny'n golygu, ar sail debyg am debyg, y byddai awdurdodau lleol £111 miliwn ar eu colled. Felly, rwyf i o'r farn fod yr heriau sy'n ein hwynebu yn rhai enbydus iawn, ac mae diffyg gwybodaeth yn gwneud pethau'n anodd.

17:05

Pan oeddwn i'n cynllunio ar gyfer busnes yr wythnos hon, rwy'n credu mai dydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd hi, roeddwn i'n edrych drwy rywfaint o'r hyn y byddem yn ei wneud ac fe welais i'r datganiad hwn, 'Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru', ac roeddwn i'n llawn cyffro. Credais y byddem yn edrych ar rai o'r materion pwysig, hirdymor sy'n effeithio ar wariant cyhoeddus yng Nghymru: demograffeg Cymru, y boblogaeth sy'n heneiddio, effaith colli'r to iau i Loegr. Beth allwn ni ei wneud i gadw mwy o'r bobl iau sy'n cynhyrchu trethi yn ein heconomi ni, yn enwedig pan mae gennym  gyfraddau treth incwm i Gymru nawr? Pam mae ein poblogaeth ni'n heneiddio cymaint, o'i chymharu â Lloegr? A oes gennym ni'r ysgogiadau, ac a fyddwn ni'n ystyried defnyddio unrhyw rai o'r ysgogiadau hynny i effeithio ar y ddemograffeg, hyd yn oed ar yr ymylon, efallai? Beth yw'r heriau hynny? Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer hyn? Ond yn hytrach, dyma'r hyn gawsom ni. Hynny yw, yr holl gwyno. Rydym newydd gael lliaws o gwynion. Wrth edrych ymlaen degawd, rydym fel pe baem yn mynd yn ôl degawd, a'r cyfan a gawsom oedd cwyno diflas am gyni. Fe glywsom ni fod gan Lywodraeth y DU raglen barhaus o gyni, mai naratif Llywodraeth y DU oedd bod cyni'n dod i ben, a bod y gwirionedd yn wahanol iawn. Ac yna rydych chi'n rhoi'r pleser inni o'r gymhariaeth rhwng 2023—wel, mae hynny'n edrych ymlaen o leiaf. Ond rydych chi'n mynd yn ôl i 2009-10. Hynny yw, beth sydd a wnelo hynny â chyni'n dod i ben? Yn sicr, yr hyn sy'n bwysig, o leiaf yn hyn o beth, yw: beth yw'r gyllideb eleni o'i chymharu â'r llynedd? Sut y gallai fod y flwyddyn nesaf o'i chymharu â'r flwyddyn hon? A oes yna duedd ar gyfer newid? A ydym mewn gwirionedd yn mynd i ddechrau cael ychydig mwy o arian eto? Ac eto i gyd, y cyfan yr ydych chi'n sôn amdano yw cyni, ac ni chredaf fod hynny'n ddefnyddiol iawn. [Torri ar draws.] Wel, os hoffech edrych ar fy nghofnod pleidleisio, fe welwch fod rhai ohonyn nhw na wnes i bleidleisio o'u plaid.

Ond, hynny yw, gadewch i ni—. Un peth da os daw Boris i mewn yw y ceir rhywfaint o optimistiaeth, o bosib. Dyna un peth y gallwch ei ddweud o'i blaid ef. Boed hynny ar sail gadarn neu beidio, fe gawn ni weld. Ni fynegwyd unrhyw beth cadarnhaol, i mi ei gofio o leiaf, yn y datganiad hwnnw. Y bore yma, ydych chi wedi edrych ar y ffigurau economaidd a gyhoeddwyd heddiw? Saith deg a chwech y cant mewn cyflogaeth ledled y DU—y mwyaf erioed. Ni welwyd erioed gyflogaeth ar y raddfa honno o'r blaen. Ac mae cyflogau yn codi 3.6 y cant o flwyddyn i flwyddyn. Mae hynny'n fwy nag yr ydym ni wedi ei weld—yn sylweddol fwy nag yr ydym wedi ei weld—ers y degawd diwethaf. Mewn termau gwirioneddol, y cynnydd yna o 3.6 y cant, chwyddiant ar 2 y cant—. Rydym ni'n gweld cyflogau gwirioneddol yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn rhwng 1.5 a 2 y cant nawr, ac eto rydym ni'n dal i weld mwy o gyflogaeth yn cael ei greu ar ben hynny. Felly, os edrychwch chi ar greu swyddi yn agos at 1 y cant o hyd, o flwyddyn i flwyddyn, a'r twf cyflog gwirioneddol o 1.5 i 2 y cant ar ben hynny hefyd, fe allech chi fod yn edrych ar dwf mewn incwm cyflogaeth yn y flwyddyn sydd i ddod o 2.5 i 3 y cant mewn termau real. Siawns nad yw hynny'n rhoi'r cyfle i gynnyrch domestig gros siomi ar yr ochr orau, o'i gymharu â rhai o'r rhagolygon digalon yr ydych chi wedi bod yn sôn amdanyn nhw. Rydym hefyd wedi gweld, o leiaf ar lefel y DU—nid ydych chi'n rhoi'r rhifau inni yma—rai pethau annisgwyl yn dod i'r wyneb o ran sut y mae niferoedd benthyca wedi bod yn dod i mewn. Un o'r prif ffactorau sy'n ysgogi'r niferoedd benthyca hynny yw'r incwm cyflogaeth hwnnw. Mae'n hynod bwysig i'r dreth a gesglir, ac mae rhai o'r meysydd—yr unig rai yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw—lle mae'r economi yn siomedig, er enghraifft buddsoddiad, yn rhai nad ydyn nhw'n feysydd lle cesglir llawer iawn o dreth. Os oes gennych chi lefel benodol o gynnyrch domestig gros, os ydych chi'n gweld symudiad i ffwrdd oddi wrth fuddsoddiad tuag at incwm cyflogaeth, o leiaf yn y byrdymor mae effaith ariannol hynny'n beth cadarnhaol iawn, oherwydd eich bod chi'n casglu mwy o dreth yn ei sgil. Ni chlywsom ddim am hynny o gwbl, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy siomi â'r agwedd honno.

Mae gennych chi'r teitl hwn sy'n dwyn Jeffrey Archer i gof, fel yr awgrymodd Nick Ramsay—heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym—ac, unwaith eto, mae eich pwyslais chi ar yr anfanteision. Fe allech chi fod o leiaf wedi gwrando ar eich Prif Weinidog yn y datganiad blaenorol. Roedd ef yn llawer mwy cadarnhaol. Fe ddywedodd ef y byddwn ni'n etifeddu miloedd o bwerau a swyddogaethau newydd mewn meysydd polisi a oedd yn cael eu pennu gan gyfreithiau'r UE yn y gorffennol. Siawns nad yw hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Mae'n amlwg bod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac eraill ynghylch sut yn union y bydd y gronfa ffyniant a rennir yn gweithio. Nawr, dywedodd Boris fod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4, a dywedodd y bydd gan Weinidogion Ceidwadol ddylanwad mawr ar sut y caiff yr arian ei wario,. Felly rwy'n casglu o hynny y gallai Llywodraeth y DU fod yn cynnig talu am ffordd liniaru'r M4, neu o leiaf am gyfran sylweddol ohoni. Nawr, yn sicr, o ystyried yr effaith y gallai hynny ei chael ar hybu ein heconomi ni, a helpu pobl ifanc i aros yng Nghymru—pa ffordd well i hybu ffyniant a rennir nag ariannu ffordd liniaru'r M4?

Onid yw hi'n amser i'r Gweinidog ddechrau edrych ar yr hyn sy'n gadarnhaol, neu rai o leiaf o'r elfennau cadarnhaol? Rwy'n ddigon hapus i gynllunio ar gyfer senarios sy'n llai cadarnhaol, ond mae'r niferoedd o Fanc Lloegr a ddyfynnodd—y senario gwaethaf posib i ddechrau, a chawsant eu diystyru erbyn hyn gan eu bod nhw'n hurt. Maen nhw'n seiliedig ar y dybiaeth nad yw pobl yn ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau economaidd, ond y maen nhw'n ymateb, a dyna sy'n ysgogi cynnydd y ddynoliaeth. Felly, gadewch inni gael tamaid bach o optimistiaeth.

17:10

Nid wyf i am honni fod yna newyddion da o ran cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Tair ffaith yn unig o gyfraniad Mark Reckless—wel, un o'm datganiad i, a dau o'i gyfraniad ef. Y ffaith o'm datganiad i yw bod 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd ar gyflogau. Mae Mark Reckless yn dweud wrthym fod cyflogau'n codi flwyddyn ar ôl blwyddyn; mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly gadawaf i Mark Reckless ymdrin â'r fathemateg o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran y pwysau ar Lywodraeth Cymru a'r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni eu hwynebu.

Mae'r prif economegydd wedi darparu ei adroddiad, fel y bydd yn ei wneud eto yn yr hydref eleni, a byddwn ni'n ei gyhoeddi ar y cyd â'n cyllideb ddrafft. Mae e'n edrych i'r tymor hirach. Mae'r adroddiad diweddaraf yn cynnwys amrywiaeth o gasgliadau pwysig, gan gynnwys bod Brexit yn parhau i bwyso ar ragolygon twf ar gyfer Cymru a'r DU yn gyffredinol. Bydd difrifoldeb yr effaith yn dibynnu ar y ffurf y bydd Brexit yn ei gymryd, a'r dryswch sy'n gysylltiedig â'r broses  ymadael, ac mae'n debygol y caiff Cymru ei tharo'n anghymesur gan Brexit caled. Mae gwaith dadansoddiadol a wnaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu y dylai'r dybiaeth o gyfnod hir o gyfyngiadau cyllidol aros yn senario craidd, canolog, ac o dan y senario is, sydd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad, ni fyddai Llywodraeth Cymru ond yn adennill hyd at ei lefel yn 2010-11 erbyn diwedd y degawd nesaf. Felly, mae hynny'n edrych ymhellach ac, unwaith eto, nid oes llawer i fod yn arbennig o hapus yn ei gylch o ran hynny ychwaith. Felly, mae'n ddrwg gennyf os yw'r Aelod yn ystyried fod hyn yn gwynfanllyd, ond, yn anffodus, rhannu ffeithiau a wnaf i â chydweithwyr ac rwyf o'r farn y byddan nhw o gymorth inni yn ein trafodaethau wrth bennu ein cyllideb arfaethedig.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n dal i fod yn gwbl sicr fod cyni yn gymhelliant gwleidyddol i guddio ymosodiad ideolegol ar y wladwriaeth a'r sector cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol y DU, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am ddweud hynny. Mae'n hollbwysig i'r cyd-destun a'r rhagolygon i Gymru a phobl Cymru, sef y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed. Ac rwy'n ofni bod y grŵp yn y Cynulliad sydd gyferbyn yn perthyn i deulu Torïaid y DU, er eu bod nhw'n ceisio ymbellhau oddi wrtho fel rhyw berthynas sydd ychydig yn eiddil a sigledig nad yw mewn gwirionedd eisiau gwneud unrhyw beth gydag ef o bryd i'w gilydd. Felly, Gweinidog, rwyf wedi clywed bod meinciau'r Torïaid yn dweud fy mod i'n sôn llawer am gyni, ac mae hynny oherwydd ei fod yn fy ngwylltio i. Nid wyf yn mynd i ymddiheuro am hynny ychwaith. A minnau'n Aelod Cynulliad dros Islwyn, byddaf yn parhau i sôn am gyni.

Rwy'n gynyddol bryderus bod y sefyllfa, er hynny, yn cael ei gwneud yn llawer gwaeth, fel y dywedodd y Gweinidog, oherwydd diffyg parhaol yr adolygiad cynhwysfawr o wariant gan Lywodraeth y DU, y diffyg eglurder sy'n gwneud cynllunio bron yn amhosibl, a bod hyn yn dwysáu'r effaith a gaiff y cyni parhaol. Mae hyn yn ychwanegu at y toriadau i Gymru, ac nid yw hyd yn oed yn rhoi sylw i'r chwalfa economaidd a'r niwed y gallai Brexit 'heb gytundeb' eu hachosi, materion nad ydynt, i bob golwg, yn cael sylw gan rai yn y Siambr hon. Felly, Gweinidog, a wnewch chi nodi ymhellach eich barn chi ar sut y mae effaith gronnol y cyfyngiadau hyn yn effeithio ar ein gallu ni i weithredu, er gwaethaf y rhaglen ddeddfwriaeth sy'n hynod uchelgeisiol ac arloesol?

17:15

Diolch i Rhianon Passmore am nodi'r amgylchiadau heriol yr ydym ni ynddynt, ond rwyf am bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi ar gyfer Brexit, ar ba ffurf bynnag, ac yn ceisio cymryd pa gamau lliniaru bynnag y gallwn. Felly, fe gofiwch imi gyhoeddi pecyn buddsoddi cyfalaf yn ddiweddar. Roedd hwn yn gyfran gyntaf o becyn ysgogi gwerth £85 miliwn: buddsoddwyd £50 miliwn o'r arian hwnnw mewn tai cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 650 o dai fforddiadwy ledled Cymru, a allai greu cyflogaeth ar gyfer hyd at 1,000 o bobl am flwyddyn; £5 miliwn wedi'i ddyrannu i gynnal a chadw rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau rhwydweithiau ffyrdd cadarn a dibynadwy sydd â chysylltiadau da ym mhob rhan o Gymru; a dyrannwyd £10 miliwn i gronfa dyfodol yr economi er mwyn helpu i gyflawni'r cynllun gweithredu economaidd. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i hybu cydnerthedd a chynaliadwyedd busnesau yng Nghymru ac yn annog mewnfuddsoddiad mewn amgylchedd ôl-Brexit. Ac yna roedd £20 miliwn ychwanegol ar gyfer cyllid cyfalaf Llywodraeth Leol, a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Felly, rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, ac yn fuan byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynghylch cyllid pellach a fydd ar gael drwy gronfa bontio'r UE, y bydd cydweithwyr yn cofio iddo fod yn £50 miliwn sy'n anelu at helpu busnesau, sefydliadau a chymdeithas Cymru i bontio drwy'r broses Brexit. Erbyn hyn dyrannwyd dros £35 miliwn o hwnnw ond, fel y dywedais, rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda chydweithwyr ynglŷn â sut y gallwn ni wneud y gorau o'r cyllid sydd ar gael yno. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n eithriadol o galed dan amgylchiadau anodd i roi cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i fusnes a chymaint o gymorth ag y gallwn ni i'n cymunedau.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhaid imi ddweud, mae hwn wedi bod yn ddatganiad siomedig, braidd, Gweinidog. Gwyddom i gyd fod polisi cyni Llywodraeth y DU wedi bod yn drychinebus i Gymru—mae wedi bod yn drychineb i wariant cyhoeddus—ac rydym ni i gyd yn gwybod ei fod wedi cael effaith ar bobl ledled y wlad hon hefyd, a phobl y mae'r Gweinidog a minnau'n eu cynrychioli. Fodd bynnag, yr hyn nad ydym yn ei wybod, ac, yn anffodus, yr hyn nad ydym yn dal i'w wybod, yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn  bwriadu gwneud ynglŷn â hyn. Beth yw ymateb y Llywodraeth? Rydym ni'n disgwyl mwy gan y Llywodraeth, a chredaf fod gennym ni bob hawl i ddisgwyl mwy gan y Llywodraeth na dim ond tynnu ystumiau ar y gwrthbleidiau yma, y Llywodraeth yn San Steffan, ac areithiau yn condemnio'r Torïaid. Yn sicr, mae pobl yn fy etholaeth i eisiau gwybod pam yr ydym ni'n ethol pobl i ddod yma. Rydym ni eisiau cael mwy nag areithiau; rydym eisiau cael mwy na phenderfyniadau.

Rwyf i'n cydnabod y niferoedd y cyfeiriodd hi atyn nhw y prynhawn yma o ran Brexit, ond mae hynny, wrth gwrs, yn atgyfnerthu'r galw a'r angen i weithredu a dull o weithredu gan y Llywodraeth sy'n mynd y tu hwnt i rethreg. Nid ydym yn gwybod dim am y sylfaen drethi sy'n datblygu. Nid ydym yn gwybod dim am ddull Llywodraeth Cymru o fynd ati i erydu'r sylfaen drethi honno o bosib. Nid ydym yn gwybod dim am y dull o weithredu polisi trethiant. Nid ydym yn gwybod dim am ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca. Ac nid ydym yn gwybod dim am sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl defnyddio cronfa wrth gefn Cymru. Mae gwariant cyhoeddus wedi'i leoli yma yn ogystal ag yn San Steffan bellach ac, fel rhywun sydd wedi ymgyrchu dros ddatganoli ar hyd ei oes fel oedolyn ac wedi ymgyrchu dros gael cyfrifoldeb yn y lle hwn ac nid ar ben arall yr M4 yn unig, mae'n hynod siomedig mai ymateb y Llywodraeth i'r heriau hyn yw beio rhywun arall yn rhywle arall. Mae'n rhaid inni gymryd cyfrifoldeb am y materion hyn yma hefyd.

Gweinidog, clywsom gan y Prif Weinidog mewn datganiad yn gynharach y prynhawn yma nad yw'n bwriadu bwrw ymlaen â'n hymrwymiad yn y maniffesto ar ddiwygio llywodraeth leol. Felly, a ninnau wedi cael ein gadael â model Redwood, llywodraethu cyn datganoli mewn gwlad sydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth, mae gennym nawr y posibilrwydd o wario mwy ar weinyddu system lywodraethu nad oedd yn gweithio pan oedd mwy o arian ar gael i ni yn ystod Llywodraethau Blair yn Llundain. Ac mae hyn yn gofyn am fwy gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i eisiau i Lywodraeth Cymru ystyried o ddifrif sut, felly, yn y cyd-destun hwn, yr ydym ni'n mynd i ddiogelu gwasanaethau craidd. A ydym ni'n mynd i ddweud—defnyddiaf hyn fel enghraifft, Gweinidog—ein bod yn mynd i ariannu ysgolion yn uniongyrchol, y byddwn ni'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru, neu y byddwn ni'n ariannu ysgolion drwy'r consortia? Oherwydd mae'n fy nychryn bod gennym agenda ddiwygio radical ar gyfer addysg, ond nid oes gennym ni'r arian i dalu athrawon na chynorthwywyr addysgu na staff cynorthwyol mewn ysgolion i gyflawni'r pethau hanfodol.

Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn ddigon pell yn y dyfodol i feio'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwy'n derbyn yn llwyr y dadleuon am gyni, wrth gwrs fy mod i; rwyf wedi gwneud areithiau tebyg i'r Gweinidog yn y gorffennol. Ond byddwn yn dweud wrth y Gweinidog, o ran y dyfodol, pan ddaw hi 'nôl o'i thaith cyllideb dros yr haf, rwy'n credu y bydd y Siambr hon yn disgwyl llawer mwy ganddi nag ymosodiad ar Lywodraeth Geidwadol sy'n methu.  

17:20

Felly, gwn y byddai Alun Davies wedi darllen â diddordeb y 'Cynllun gwaith polisi treth 2019' a gyhoeddais i fis Chwefror eleni ac y bydd ganddo rai cwestiynau manwl imi ar hwnnw. Ac roedd hwnnw'n nodi'r rhaglen waith ac ymchwil y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn 2019, gan adeiladu ar ganfyddiadau cynllun gwaith y llynedd, wrth gwrs. Mae'r polisi hwnnw'n nodi ein prif feysydd diddordeb ac mae'n bodoli er mwyn i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb weld yr hyn yr ydym ni'n ei archwilio. Gallant ofyn cwestiynau a chyfrannu eu barn, eu gwybodaeth a'u profiadau i lywio ein syniadau. Ac wrth gwrs, pan gyhoeddais hwnnw, gwahoddais i bawb i ymwneud â'r cynllun gwaith polisi treth hwnnw.

Bydd hefyd yn gyfarwydd, rwy'n siŵr, â'r gwaith ymchwil a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar dyfu ein sylfaen drethi yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n canolbwyntio arno'n bendant. Wrth gwrs, ni fydd rhai o'r addewidion polisi a wnaed gan ymgeiswyr am y Brifweinidogaeth yn ein helpu ni i gynyddu ein sylfaen drethi yma yng Nghymru, ond mae ein ffocws ni'n gysylltiedig iawn â'n fframwaith datblygu cenedlaethol newydd, y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei gyhoeddi'n fuan. Ac mae hynny'n nodi sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni i sicrhau ein bod yn annog pobl i ddod i Gymru, pobl sy'n dod yma oherwydd eu bod yn gallu gwneud hynny gan eu bod yn gwybod bod Cymru yn lle da i wneud busnes, yn lle da i sefydlu busnes, ac yn lle da i greu swyddi, a fydd yn helpu pobl i wneud y gorau o'u potensial incwm eu hunain.   

Rydym hefyd yn gweithio i ddatblygu cyfrifon dysgu personol, er enghraifft. Mae hyn yn rhan o'n proses gyllidebol, ac rwy'n cynnal adolygiad rhywedd ohono. Bydd y cyfrifon dysgu personol hynny ar gael i unigolion sydd mewn swyddi â chyflogau a sgiliau cymharol isel, ar hyn o bryd, a'u bod eisiau symud ymlaen o ddifrif, ac eisiau ennill rhai sgiliau a bod ag uchelgais i symud i swyddi sy'n talu'n uwch. Mae'r rhain yn gynlluniau peilot yr ydym ni'n eu hystyried o bersbectif dull cyllidebu ar sail rhywedd. Ac mae hwnnw'n ddull gweithredu newydd i ni, yr ydym yn ei ddysgu gan Wlad yr Iâ, sydd wedi bod yn gweithio ar ei dull cyllidebu ar sail rhyw ers saith mlynedd, ac rydym ni'n awyddus i weld sut y gallwn ni ddatblygu hynny yng Nghymru.  

Yn sicr, rwyf wedi siarad o'r blaen mewn pwyllgor gyda'r Aelod am ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca. Rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaethau pellach yn y pwyllgor yfory, lle byddwn ni'n edrych ar gyllid cyfalaf. Ond, yn gyffredinol, byddwn bob amser yn ceisio defnyddio cyfalaf confensiynol yn gyntaf, gan gynnwys cyfalaf trafodion ariannol, gan mai dyna'r math rhataf o gyfalaf, ac yna byddwn yn ystyried modelau ariannu mwy arloesol, megis y model buddsoddi cydfuddiannol. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig achub ar y cyfle hwn, wrth inni symud at y toriad, i nodi heriau a difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu, gyda'r bwriad o gael y trafodaethau hynny, yn ystod taith y gyllideb, lle byddaf i'n cysylltu â sefydliadau, ond hefyd â chyd-Aelodau yn y Cynulliad. Ac rwy'n awyddus iawn i wybod mwy am y gwaith y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei wneud yn ei gyfarfodydd cyllideb bord gron, a chlywed blaenoriaethau pobl Cymru drwy'r fforwm penodol hwnnw.  

17:25
5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Parodrwydd am Brexit

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar barodrwydd am Brexit—parodrwydd, parodrwydd—rwy'n credu mai 'parodrwydd' yw e? Ie. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn cael munud fach yn y fan yna. Felly, a gaf i alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Erbyn wythnos nesaf, bydd yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ar ben, a byddwn ni'n gwybod pwy yw'r Prif Weinidog nesaf. Rŷn ni i gyd wedi bod yn gwylio'r ymgyrch sydd wedi bod yn ras i weld pwy sy'n gallu swnio fwyaf caled wrth siarad am ddim cytundeb. Mae'r gystadleuaeth hon am y swydd uchaf wedi canolbwyntio ar anghenion y Blaid Geidwadol yn hytrach nag anghenion y wlad. Mae'n ddadl sydd wedi anghofio bod y ffordd mae'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith ar fywydau a bywoliaeth pobl yn y byd go iawn.

Mae'n ymddangos mai'r disgwyliad yw y bydd y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag fydd e, yn gallu mynd i Frwsel ac ail-negodi cytundeb mewn mater o wythnosau. Fodd bynnag, mae Jeremy Hunt a Boris Johnson fel ei gilydd yn anwybyddu'r ffaith bod yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud dro ar ôl tro na fyddan nhw'n ail-negodi’r cytundeb ymadael, a does dim ateb technegol hud ar gael i sicrhau bod nwyddau yn gallu symud yn ddi-drafferth ar ynys Iwerddon.

Maen nhw'n anghofio hefyd, er bod Brexit yn her sylweddol i'r Undeb Ewropeaidd, nid yw yn dyngedfennol. Mae digon ar blât y 27 gwlad wrth iddyn nhw fynd ati i sefydlu Comisiwn newydd, dewis pobl ar gyfer uwch swyddi eraill, a datblygu rhaglen bolisi pum mlynedd a chyllideb saith mlynedd.   

Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rydym yn ôl yn ceisio gwneud yr amhosib. Mae gennym ni sefyllfa lle mae tawelu llid cefnogwyr y Torïaid ar lawr gwlad yn cael blaenoriaeth dros realiti'r trafodaethau â'r Undeb Ewropeaidd. Mae cael cefnogaeth y Brexitwyr digyfaddawd wedi cael ei wneud yn brif flaenoriaeth, ac nid y budd cenedlaethol.

Canlyniad enbyd yr holl ffactorau hyn yw bod cwympo allan o'r UE heb gytundeb yn bosibilrwydd real iawn. Yn fwriadol neu'n ddiofyn, ofnaf y bydd Prif Weinidog nesaf y Ceidwadwyr yn mynd â'r DU i gyfeiriad gadael heb gytundeb, ac rydym ni wedi dweud erioed y byddai hyn yn drychinebus i'r DU gyfan, ond yn arbennig i Gymru. Ac nid ni yw'r unig rai sy'n dweud hyn. Dylai'r rhestr o fusnesau sy'n mynegi pryderon difrifol ynghylch gadael heb gytundeb sobri unrhyw un. Ac mae mwy a mwy o arbenigwyr yn tynnu sylw at y cymhlethdod ychwanegol y mae dyddiad ymadael ym mis Hydref yn ei greu. Gadewch i mi ddewis rhai enghreifftiau'n unig i chi. Mae Prif Weithredwr Tesco wedi dweud y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31 Hydref arwain at broblemau ynghylch stocio siopau, gyda llai o le i storio stoc o ystyried y cyfnod cyn y Nadolig nag a oedd ym mis Mawrth. O ganlyniad, dywedodd y byddai'n anoddach i fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr adeiladu stociau o nwyddau, gan ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd mwy o silffoedd gwag.

Mae Prif Weithredwr Sainsbury's wedi rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb ar 31 Hydref darfu'n sylweddol ar y cyflenwad o fwyd, teganau a nwyddau trydanol i'r DU cyn cyfnod y Nadolig, gan ddweud gallai unrhyw oedi ym mhorthladdoedd Prydain fod yn drafferthus iawn i'n busnes. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud ei bod hi'n destun pryder bod gadael heb gytundeb yn cael ei gyflwyno fel sefyllfa gredadwy gan lunwyr polisi a'n harweinwyr, ac mae wedi rhybuddio y gallai arwain at ladd defaid ar raddfa fawr. Rwy'n cytuno'n llwyr na ddylid ystyried gadel heb gytundeb yn sefyllfa gredadwy. Mae normaleiddio gadael heb gytundeb, mae'r syniad ei fod yn ddewis rhesymol, yn wyneb tystiolaeth gref i'r gwrthwyneb, yn rhyfeddol.

Mae Make UK, sy'n cynrychioli cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg, yn dweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gwleidyddion yn sôn yn gynyddol am y posibilrwydd o adael heb gytundeb, a chwmnïau Prydeinig yn colli cwsmeriaid dramor a phobl Prydain yn colli swyddi mewn cwmnïau Prydeinig.

Yng Nghymru, rydym ni eisoes wedi gweld effaith y colli hyder hwn yn y Deyrnas Unedig. Yn y sector modurol yn unig, rydym ni wedi gweld effaith ddinistriol colli swyddi a'r cyhoeddiadau ynghylch cau canolfannau Schaeffer, Calsonic a Ford, tra bo mwy na 2,000 o swyddi cadwyn gyflenwi yng Nghymru mewn perygl o ganlyniad i benderfyniad Honda i gau ei ffatri yn Swindon. Mae ansicrwydd parhaus Brexit yn niweidio'r economi ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gwrthod ymadawiad heb gytundeb. Mae unrhyw olwg resymegol ar y ffeithiau caled am oblygiadau ymadawiad heb gytundeb yn dangos y bydd hyn yn drychinebus. Yn ystod y ddadl ar y refferendwm dair blynedd yn ôl, ni chafodd ymadael heb gytundeb ei chyflwyno fel dewis dichonadwy. Mynediad at y farchnad sengl a masnach ddi-dor gyda'r UE a addawyd gan y rhai a oedd yn cefnogi 'gadael'. Yn syml, nid oes mandad ar gyfer ymadael heb gytundeb. Ac nid yw holi barn 160,000 o aelodau'r Blaid Geidwadol yn fandad cenedlaethol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd a fydd yn mynd â'r economi i'r gwellt. Ni fyddwn yn sefyll o'r neilltu a gwylio hyn yn digwydd.

Mae angen i'r bobl benderfynu ar y ffordd ymlaen nawr. Fel y cytunwyd yn y Siambr hon, rydym yn galw am ail refferendwm i osod mandad newydd. Mae'r holl dystiolaeth a welsom ni yn atgyfnerthu ein barn mai gweld y DU yn aros yn yr UE fydd yn rhoi'r manteision gorau i obeithion dyfodol pawb yn y Deyrnas Unedig. Fel y gwnaethom ni yn 2016, byddwn yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd a byddwn yn cefnogi pob ymdrech i weithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni'r nod hwnnw. At hynny, rwyf eisiau bod yn glir iawn, pe bai Prif Weinidog newydd Prydain yn galw etholiad cyffredinol brys mewn ymdrech daer i sicrhau na fydd y Senedd yn atal Brexit heb gytundeb a cheisio mandad cyhoeddus ar gyfer cam trychinebus o'r fath, y gwnawn bopeth a allwn ni i berswadio Plaid Lafur y Deyrnas Unedig i fabwysiadu ymrwymiad maniffesto y byddai Llywodraeth newydd dan arweiniad Llafur yn canslo Brexit yn llwyr.

Llywydd, gan ein bod yn wynebu'r risg gynyddol o ymadael heb gytundeb, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wneud popeth yn ein gallu i baratoi ar gyfer yr effaith eang a difrifol y byddai gadael heb gytundeb yn ei hachosi. Ers cytuno ar yr estyniad ym mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn manteisio ar y cyfle i adolygu'r paratoadau ar gyfer ymadael heb gytundeb yr ydym ni wedi'u gwneud ac i ystyried y ffordd orau o adeiladu ar yr holl waith gwerthfawr a wnaed ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt i sicrhau bod ein paratoadau mor gadarn â phosib. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys ystyried cymhlethdodau ychwanegol ymadael heb gytundeb yn yr hydref yr wyf eisoes wedi'u crybwyll. Bydd trafodaethau pellach—gan gynnwys yr wythnos nesaf yn Sioe Frenhinol Cymru, er enghraifft—gyda sectorau perthnasol yn caniatáu i bwyslais ychwanegol gael ei roi ar faterion sy'n ymwneud â gofod warysau, symud nwyddau, a'r sector cludo nwyddau. Mae hefyd yn golygu ystyried effeithiau byrdymor a hirdymor ymadael heb gytundeb.

Mae ansicrwydd mawr o hyd ynghylch yr effeithiau tebygol yn y tymor byr. Yma, ofnaf na fydd y naratif digyfaddawd, a nodweddir gan honiadau y bydd y DU yn cefnu ar ymrwymiadau ariannol, dim ond yn caledu unrhyw ymateb gan yr UE27. Bydd llawer o'r canlyniadau tymor byr sy'n deillio o ymadael heb gytundeb allan o'n rheolaeth uniongyrchol ni, a dyna pam mae angen i'n paratoadau ynglŷn ag ymadael heb gytundeb fod yn drwyadl ac yn hyblyg i ymateb i'r hinsawdd busnes gyfnewidiol. Gan ddefnyddio ein profiad o fis Mawrth a mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn ystyried yn benodol sut i gefnogi busnesau a phobl i gymryd camau pellach, lle bo modd, i baratoi ar gyfer goblygiadau posib ymadael heb gytundeb. Un o'n prif ystyriaethau o baratoadau'r gwanwyn, lle byddai systemau gweithredol newydd yn cael eu rhoi ar waith—er enghraifft, mewn cysylltiad ag agweddau sy'n ymwneud â mewnforio ac allforio nwyddau—yw bod angen i fusnesau fod yn ymwybodol o'r trefniadau newydd hynny a bod yn barod i'w defnyddio. Mae mwy i Lywodraeth y DU, sydd â'r prif gyfrifoldeb dros lawer o'r systemau hyn ar lefel y DU—mae angen iddyn nhw wneud mwy yn hyn o beth, ond yn yr un modd rydym ni'n benderfynol o wneud yr hyn a allwn ni i gefnogi busnesau yng Nghymru.

Mae fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi nodi mesurau i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r rhain yn cynnwys pum cam gweithredu syml a rhad i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, ac maen nhw wedi'u hamlinellu ar ein gwefan Paratoi Cymru. Maen nhw'n ymwneud â'r ffaith ei bod hi'n bwysig i fewnforwyr ac allforwyr gael rhif cofrestru ac adnabod gweithredwr economaidd; bod y rhai sy'n trosglwyddo data personol i'r DU yn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â rheoliadau GDPR; bod y rhai sy'n cyflogi dinasyddion yr UE yn annog staff i wneud cais iddyn nhw gael aros yng Nghymru drwy gynllun statws preswylydd sefydlog yr UE; bod gweithgynhyrchwyr yn gwirio gofynion rheoleiddio ar gyfer marchnadoedd y DU a'r UE ar gyfer labelu, cymeradwyo a phrofi; a bod pob busnes sy'n ymweld â phorth Brexit Busnes Cymru yn asesu pa mor barod ydyn nhw ac yn cael cyngor arbenigol manwl. Rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar gapasiti Banc Datblygu Cymru i gynghori a chefnogi nifer mwy o lawer o fusnesau, gyda'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn seiliedig ar gymaint o wybodaeth ag y gallwn ei chasglu ynglŷn â gwendidau sectoraidd a daearyddol posibl.

Yn ogystal â chymorth i fusnesau, rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar gymorth i bobl a chymunedau, ac ar y thema hon rydym ni wedi cyhoeddi pecyn cymorth yn ddiweddar i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit ac i barhau i fyw a gweithio yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys cymorth gyda cheisiadau a chyngor ar faterion lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle drwy rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru; gwasanaeth cyngor ar fewnfudo sy'n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, a ddarperir gan arbenigwyr cyfreithiol mewnfudo; darparu mwy o ganolfannau cymorth digidol yng Nghymru i helpu'r rhai sydd heb y gallu digidol i wneud cais am statws preswylydd sefydlog; a gweithio gydag amrywiaeth o elusennau a phartneriaid ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r angen i wneud cais am statws preswylydd sefydlog ymysg pobl sy'n anodd eu cyrraedd ac sy'n agored i niwed.

Yn ogystal â hyn, rydym ni wedi nodi, law yn llaw â Llywodraeth y DU, camau deddfwriaethol pellach, drwy offerynnau statudol, a fydd naill ai'n angenrheidiol neu'n ddymunol o ganlyniad i ymestyn amserlen Erthygl 50. Byddaf yn sicrhau bod paratoadau Llywodraeth Cymru yn parhau dros yr haf er mwyn i ni fod mewn sefyllfa mor gryf ag sy'n bosib ym mis Hydref. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddiadau pellach maes o law ar fesurau cymorth ychwanegol i bobl, cymunedau a busnesau drwy brosiectau a ariennir drwy gronfa bontio'r UE. Ond byddwn hefyd yn parhau i ddadlau gyda'n holl egni y byddai cael canlyniad o ymadael heb gytundeb a'r niwed y byddai'n ei achosi i fywydau a bywoliaeth pobl yn golygu methiant hollol afresymol ar ran Llywodraeth y DU ac mae'n rhaid ei osgoi.

Llywydd, bydd y Prif Weinidog newydd yn wynebu'r un rhifyddeg Seneddol â Theresa May. Bydd anghytundeb yn parhau yn Nhŷ'r Cyffredin, ac erbyn hyn rydym ni bron yn sicr yn wynebu dewis uniongyrchol rhwng ymadael heb gytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r amser wedi dod i roi'r penderfyniad yn ôl yn nwylo'r bobl a bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Byddai'n warthus i unrhyw Lywodraeth dynnu'r DU allan o'r UE heb gytundeb—fel gweithred fwriadol neu oherwydd diffyg gweithredu—heb ofyn am fandad penodol i wneud hynny.

17:35

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu y byddai'r cyfan ar barodrwydd ar gyfer Brexit, ond roedd cyfran dda ohono, er hynny, yn ymddangos fel petai fwy ynghylch yr ornest arweinyddiaeth yn y Blaid Geidwadol. Rwy'n credu hefyd ei bod yn drueni mawr bod y Blaid Lafur yma yng Nghymru wedi cefnu ar ei sefyllfa flaenorol o barchu democratiaeth. Cyn y bleidlais ym mis Mehefin 2016, gwnaeth eich plaid hi'n gwbl glir y byddech yn parchu canlyniad y bleidlais honno. Yn syth ar ôl y bleidlais, fe wnaethoch chi ddweud y byddech yn parchu canlyniad y bleidlais honno. Cafodd eich ASau—pob un AS Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw—eu hethol ar faniffesto a ddywedodd y byddent yn parchu canlyniad y refferendwm. Ac eto, yn ddiweddar, yn enwedig yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld eich plaid yn newid ei chân mewn ffordd ryfeddol, nid yn unig yn galw am ail refferendwm, ond yn mynd ymhellach na dim ond galw am ail refferendwm, gan ddweud wedyn hefyd eich bod am ymgyrchu i aros os cynhelir ail refferendwm. A heddiw, rydych chi wedi mynd hyd yn oed ymhellach, oherwydd yr hyn a ddywedoch chi oedd petai etholiad cyffredinol brys, y byddech chi eisiau ymrwymiad maniffesto i ganslo Brexit yn gyfan gwbl. Wel, sut mae hynny'n parchu democratiaeth? Rydych chi'n dweud nad oes mandad i gyflawni Brexit, ac eto rydym ni wedi cael refferendwm ac rydym ni wedi cael ymrwymiadau ym maniffestos pleidiau gan y ddwy brif blaid wleidyddol sydd wedi dweud y bydden nhw'n yn ei gyflawni. Mae mandad i gyflawni Brexit. Yn sicr, nid oes mandad i'w ddiddymu, sef yr hyn yr ydych chi a'ch plaid eisiau ei wneud. Rwy'n credu ei bod hi'n eironig, a dweud y gwir, ein bod ni yn y sefyllfa honno.

Fe wnaethoch chi ddyfynnu rhestr o gwmnïau a sefydliadau sy'n dweud eu bod nhw'n pryderu am Brexit heb gytundeb. Dywedodd yr un sefydliadau wrthych chi a'ch plaid am gefnogi cytundeb ymadael Prif Weinidog y DU. Nid oeddech chi eisiau gwrando arnyn nhw bryd hynny, nac oeddech? Dyna'r cytundeb sydd wedi cael ei negodi gyda'r UE. Dyna'r cytundeb yr ydych chi'n dweud eich hunain nad oes unrhyw obaith ei newid. Felly, mae'r dewis rhwng y cytundeb ymadael presennol neu ddim cytundeb o gwbl. Ac eto rydych chi'n dal i wrthod cefnogi'r cytundeb penodol hwnnw. Felly, ni allwch chi gael y cyfan. Ni allwch chi ddweud ein bod ni, y Blaid Geidwadol, yn gwthio'r wlad i sefyllfa o Brexit heb gytundeb. Eich plaid chi yw'r un sydd wedi ein gwthio'n nes at sefyllfa o Brexit heb gytundeb. Dyna'r gwirionedd. Pa un ai Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Sainsbury's, Tesco, cymdeithas gweithgynhyrchwyr moduron neu Make UK, roedd pob un ohonyn nhw'n cefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog. Fe wnaethoch chi eu hanwybyddu bryd hynny a nawr rydych chi'n eu dyfynnu'n ddetholus.

Os gaf i ofyn ambell gwestiwn am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cymorth yr ydych chi'n ei ddarparu i fusnesau. Nawr, mae llawer o'r cymorth hwnnw ar gael, wrth gwrs, dim ond drwy wefannau. Efallai nad ydych chi'n gwybod hyn, wrth gwrs, gan nad oes llawer ohonoch chi wedi bod mewn busnes, ond mae pobl fusnes yn hynod o brysur. Mae ganddyn nhw eu busnesau i'w rhedeg o ddydd i ddydd. Ni allwch chi ddisgwyl i bob un person yn y wlad sy'n rhedeg busnes bach ofyn am wybodaeth ar Google er mwyn dod o hyd i'ch gwefan rywle ar dudalen 27 y canlyniadau chwilio er mwyn cael y cyngor y gallai fod ei angen arnyn nhw. Felly, a gaf i ofyn: pa gamau pellach ydych chi'n eu cymryd i sicrhau eich bod chi'n cyfathrebu â'r bobl hynny mewn busnesau bach ledled Cymru i wneud yn siŵr bod y cyngor ganddyn nhw ar flaenau eu bysedd er mwyn iddyn nhw wybod beth yn union i'w wneud i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, petai hynny'n digwydd mewn gwirionedd?

Rydym ni'n gwybod mai un o'r pethau yr ydych chi hefyd wedi'u rhoi ar waith yw cronfa cydnerthedd Brexit, rhywbeth yr ydym ni'n ei chroesawu. Er ei fod yn swm eithaf pitw—llai na £3 miliwn, rwy'n credu, yn gyfan gwbl—o ran cronfa cydnerthedd Brexit, y dafell yr ydych chi wedi ei thorri ar gyfer arian cyfatebol i fusnesau i baratoi ar gyfer Brexit. Nawr, gwyddom o'r atebion yn y Siambr hon ar 10 Gorffennaf fod gormod o geisiadau am y gronfa honno. Gwyddom fod mwy o geisiadau'n dod i mewn nag y mae'r Llywodraeth yn gallu eu cefnogi. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni faint yn union o geisiadau a gyflwynwyd, faint sydd wedi'u gwrthod, a beth ydych chi'n yn ei wneud er mwyn cynyddu gallu'r gronfa honno i gefnogi busnesau i bontio o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys Brexit heb gytundeb?

A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd—? Rydych chi wedi sôn am y ffaith bod angen i ni weithredu'n gyflym er mwyn paratoi pobl ar gyfer Brexit Calan Gaeaf, ac eto y gwir amdani yw eich bod yn dal i eistedd ar gronfeydd y gallech fod yn eu gwario er mwyn helpu pobl i baratoi. Rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i wneud mwy o gyhoeddiadau dros yr haf. Wel, hwrê, byddwn ni hyd yn oed yn nes at 31 Hydref wedyn, oni fyddwn ni? Ac ni fydd pobl yn cael y cyfle i allu ei wario'n iawn er mwyn iddyn nhw allu paratoi. Mae angen ichi roi'r arian hwn i bobl a chyflwyno'r arian hwn i'r sector cyhoeddus hefyd i baratoi nawr, nid aros am ychydig o wythnosau eto er mwyn bod yn llygad y cyhoedd dros gyfnod toriad yr haf.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at gamau deddfwriaethol a allai fod yn angenrheidiol ac rydych chi'n dweud eich bod wedi cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am hynny, ond nid ydych chi wedi taflu unrhyw oleuni ar beth yw'r camau deddfwriaethol hynny na'r amserlen. Ni allaf weld dim ar hyn o bryd ar amserlen gwaith yn y dyfodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn i fwrw ymlaen ag unrhyw gamau deddfwriaethol ychwanegol, felly efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni beth yn union yw'r camau deddfwriaethol hynny mewn gwirionedd, oherwydd credaf y byddai o ddiddordeb i bobl sy'n gwylio'r datganiad penodol hwn.

A wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd, o ran cronfa bontio'r UE, a ydych chi'n bwriadu cynyddu honno? Felly, os cawn ein hunain mewn sefyllfa lle mae Brexit heb gytundeb yn debygol—a gadewch i mi fod yn glir, byddai'n well gan fy mhlaid i gael cytundeb sy'n dda i'r DU, yn dda i Gymru, ac yn dda i'r UE—ond os na fyddwn ni yn y sefyllfa honno oherwydd anhyblygrwydd yr UE, yna hoffwn wybod beth ydych chi'n mynd i'w wneud o ran y gronfa honno er mwyn cynyddu ei heffaith a sicrhau bod Cymru yn cael ei pharatoi yn y ffordd orau bosib ym mhob sector—y trydydd sector, y sector cyhoeddus, a'r sector preifat—fel y gallwn ni wneud llwyddiant o beth bynnag sydd o'n blaenau.

17:40

Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'n rhygnu ar yr un hen dant bod angen i ni barchu canlyniad refferendwm 2016. Mae'n gwybod yn iawn, wrth gwrs, ein bod ni ar y meinciau hyn wedi ceisio dod o hyd i fath o Brexit a oedd yn cyflawni'r cyfarwyddyd yn 2016 gan leihau'r niwed i economi Cymru. Roedd yn fath o Brexit nad oedd ganddo ef na'i blaid ddiddordeb ynddi wrth iddyn nhw ruthro'n bendramwnwgl tuag at eu fersiwn nhw o Brexit a ysbrydolir gan ideoleg. Ni wnaethon nhw ddangos unrhyw ddiddordeb mewn lles busnesau, sefydliadau nac unigolion Cymru y mae'n honni ei fod mor ofalus ohonyn nhw yma heddiw. Gadewch imi ddweud wrthych chi mai'r hyn nad yw'n parchu canlyniad refferendwm 2016 yw Brexit heb gytundeb, rhywbeth na ddadleuodd neb drosto ac fe wnaeth pobl ar y meinciau acw ac eraill bwynt penodol o esbonio i bobl pa mor syml fyddai cytundeb. Nid oes mandad yng nghanlyniad 2016 ar gyfer y camau y mae'n berffaith barod i'w goddef yn y Siambr hon heddiw.

Mae'n gofyn beth ydym ni'n ei wneud i gefnogi busnesau. Rwy'n derbyn y pwynt. Treuliais 20 mlynedd, rwy'n credu, cyn cael fy ethol, yn gweithio yn y sector preifat, felly rwy'n deall, o leiaf gymaint â neb ar y meinciau acw, sut deimlad yw gweithio i fusnes. A gadewch imi ddweud wrthych chi, rwy'n deall yn iawn, yn enwedig o ran busnesau bach, nad oes y gallu ganddyn nhw i dreulio amser yn meddwl ac yn cynllunio ar gyfer pob ystod o bosibiliadau. Mae hynny'n bryder sylweddol inni, ac rydym ni'n gwneud popeth a allwn ni drwy'r Ffederasiwn Busnesau Bach a thrwy'r siambrau masnach i geisio hyrwyddo'r adnoddau yr ydym ni'n eu cyflwyno.

Byddaf yn dweud wrtho fod cronfa cydnerthedd Brexit yn llawer mwy na'r ffigurau a roddodd gynnau; rydym ni'n edrych ar ffigurau o tua £9 miliwn, ac mewn gwirionedd mae llawer o alw am y gronfa honno, yn hollol, fel y byddem yn disgwyl. A byddwn yn parhau i adolygu faint o gyllid y gallwn ni ei ddarparu i gefnogi busnesau, ond rydym ni wedi darparu—a chredaf mai ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi gwneud hyn—drwy gronfa bontio'r UE, ffynhonnell gyllid i gefnogi busnesau a sefydliadau eraill drwy'r dyfroedd tymhestlog y byddant yn anochel yn eu hwynebu.

O'r gronfa £50 miliwn, rydym ni eisoes wedi ymrwymo swm o tua £35 miliwn i £36 miliwn. Mae cynigion eraill yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd yntau, rwy'n siŵr, eisiau gwybod ein bod yn gwerthuso'r cynigion hynny'n ofalus er mwyn sicrhau gwerth am arian ac atebolrwydd cyhoeddus priodol. Ac mae'n gywir i ddweud ei bod hi'n bwysig inni ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd mor amserol â phosib. Rwy'n tynnu sylw at y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Cyllid, y cyfeiriodd hi ato yn ei datganiad ychydig funudau'n ôl, am y £85 miliwn a ymrwymwyd fel modd i ysgogi'r economi i ymdrin ag effeithiau niweidiol posib y math o Brexit y mae ef ac eraill yn berffaith fodlon ei ystyried.

O ran deddfwriaeth, soniais yn fy natganiad mai offerynnau statudol oedd y ddeddfwriaeth yr oeddwn yn cyfeirio ati. Yn amlwg, mae ehangu cyfnod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod yn edrych ar ddeddfwriaethau eraill yn mynd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn ceisio cywiro offerynnau statudol ac mae gwelliannau eraill y mae angen inni eu gwneud i fynd i'r afael â'r adeg gadael gohiriedig. Ymdrinnir â hwy o ran craffu yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnyn nhw gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Rheolau Sefydlog y Cynulliad.

17:45

A gaf i atgoffa siaradwyr ein bod wedi cael un cwestiwn a datganiad a'n bod ni hanner ffordd drwy'r amser a ddynodwyd? Felly—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn crybwyll unrhyw un, dim ond dweud wrth bobl bod gennyf i nifer o siaradwyr sy'n dymuno siarad, felly a allwn ni gadw hynny mewn cof? Delyth Jewell.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Tybed a allem ni gymryd ennyd i fyfyrio ar y sefyllfa anffodus a rhyfedd yr ydym ni ynddi. Rydym ni'n sôn am barodrwydd ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd o ran Brexit, a bydd pob un o'r rhain yn golygu y byddwn yn waeth ein byd nag yr ydym ni nawr. Yn syml rydym ni'n paratoi'n i leihau'r niwed yr ydym yn ei achosi i ni ein hunain. Croesawaf lawer o baratoadau Llywodraeth Cymru, ond mae'n sefyllfa ryfedd yn wir, gan fod paratoi fel arfer yn golygu cynllunio ar gyfer digwyddiad penodol, ond yn lle hynny, mae Llywodraethau yn cael eu gorfodi i ddyrannu adnoddau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd gan wybod y bydd rhywfaint yn cael ei wastraffu.

Mae'r Gweinidog yn sôn am wneud yr amhosib. Mae'n addas, oherwydd mae'n ymddangos ein bod ni mewn byd sydd a'i wyneb i waered, nid yn unig oherwydd ein bod ni'n paratoi am rywbeth na allwn ni ei ragweld, ond hefyd oherwydd bod pob penderfyniad a wneir gan y rhai sydd mewn grym yn San Steffan i'w weld yn awdurdod ar gyfer rhywbeth arall. Galwyd y refferendwm yn 2016 fel ymgais gan David Cameron i dawelu adain Ewrosgeptig ei blaid. Pleidleisiodd pobl yn rhannol ar sail anwiredd, a nawr, bydd polisi tebygol Llywodraeth y DU, o dan Boris Johnson neu Jeremy Hunt, yn cael ei ddylunio i apelio at lai na 160,000 o aelodau'r Blaid Geidwadol a fydd yn ethol ein Prif Weinidog nesaf. Mae cadw'r Blaid Geidwadol gyda'i gilydd wedi dod yn ddrama a berfformiwyd ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai y gallwn ddweud, 'As flies to wanton Tories are we in this scenario, they play us for their sport', ond rwy'n gwybod fy Shakespeare, ac nid wyf yn credu y bydd y naill ymgeisydd na'r llall yn datblygu i fod yn gymeriad diwygiedig, rhadlon megis y Brenin Llyr ar ddiwedd y gystadleuaeth hon.

Fel rwyf wedi'i ddweud, rwy'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer ymadawiad trychinebus heb gytundeb—a bydd hynny'n drychinebus—a hoffwn ddiolch i swyddogion sy'n gweithio mor galed ar hyn yn y cefndir. Mae Brexit wedi gwastraffu amser, adnoddau a chyfleoedd anhygoel. Yn ôl adroddiad diweddar gan S&P Global, mae Brexit wedi costio £66 biliwn i economi Prydain mewn ychydig llai na thair blynedd. Dyna £1,000 y pen—nid yw wedi digwydd eto—oherwydd diffyg twf a fyddai wedi'i ddisgwyl fel arall, ar ben yr arian a wariwyd yn uniongyrchol ar baratoi. Byd a'i wyneb i waered yn wir.

O ran y paratoadau ariannol ar gyfer ymadael heb gytundeb, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw gynnydd a wnaed o ran ceisio sicrhau cyllid ychwanegol i Gymru petai Brexit heb gytundeb yn cael ei orfodi arnom ni. Pa gynnydd a fu gyda'r trafodaethau a faint ydych chi'n gobeithio ei sicrhau? O ran yr amser sydd gennym ni ar ôl cyn y dyddiad ymadael presennol ar Galan Gaeaf, a wnaiff y Gweinidog roi ei ddehongliad cyfreithiol o'r hyn a fyddai'n digwydd pe na bai'r holl ddeddfwriaeth Brexit berthnasol yn cael ei phasio mewn pryd? Os cawn ein hunain â llyfr statud aneglur neu un yn llawn bylchau, sut bydd hyn yn effeithio ar allu'r lle hwn i weithredu?

Hoffwn groesawu camau i gefnogi dinasyddion yr UE. Mae un o'm hetholwyr sy'n ddinesydd yr UE wedi bod yn byw yn y DU ers 50 mlynedd, ac mae'n bryderus iawn erbyn hyn gan iddi adael i'w phasbort, nad oedd yn un y DU, ddod i ben yn y 1980au ac nid yw'n gallu talu am ddinasyddiaeth y DU. Mae bywydau pobl go iawn yn cael eu troi wyneb i waered, o ddydd i ddydd, gan yr ansicrwydd hwn; mae croeso mawr i unrhyw beth y gallwn ei wneud i'w helpu. Felly, a fyddai'r Gweinidog cystal â rhoi ychydig o fanylion ynghylch sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymestyn at y bobl hynny i gynnig cymorth?

Yn olaf, Gweinidog, rydych yn dweud yn eich datganiad, petai etholiad cyffredinol brys yn digwydd;

gwnawn bopeth a allwn ni i ddarbwyllo Plaid Lafur y DU

i ddiddymu Brexit yn gyfan gwbl. A wnewch chi egluro pwy yw 'ni' yn yr achos hwn? Ai dyna'r Llywodraeth glymblaid Llafur-Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ynteu a yw hyn yn cyfeirio at Lafur Cymru? Mae Llafur y DU wedi datgan yn glir ei bod o blaid refferendwm, cyn belled ag nad yw mewn sefyllfa i gyflawni hynny, ac y bydd yn cyflawni Brexit os ydy hi mewn Llywodraeth. Felly, os bydd eich ymdrechion i newid y sefyllfa honno yn methu, a fydd Llafur Cymru yn sefyll ar faniffesto gwahanol i Lafur y DU, ac os felly, a fyddech yn cymeradwyo torri'n rhydd i fod yn endid ar wahân, fel y gall eich ASau fod o dan chwip gwahanol yn San Steffan, neu a fydd gennym ni sefyllfa lle bydd polisi Llywodraeth Lafur Cymru yn groes i faniffesto'r Blaid Lafur? Rwy'n gofyn am eglurder yn y cyfnod cythryblus hwn.

17:50

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Ceisiaf ymdrin â nhw'n gryno o ystyried cyfarwyddyd y Dirprwy Lywydd. O ran ymrwymiad cyllid brys gan Lywodraeth y DU, nid oes dim ymrwymiad o symiau penodol o arian wedi'i wneud gan y Trysorlys yn y cyd-destun penodol hwnnw. Bydd hi'n gwybod bod y Gweinidog Cyllid wedi bod yn glir iawn, yn enwedig yn yr amgylchiadau y bydd Brexit heb gytundeb, y byddem mewn sefyllfa lle byddai arnom ni angen cymorth ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y DU i wneud iawn am y sefyllfa honno ac i ariannu'r canlyniadau. O ran gwarant Llywodraeth y DU, er enghraifft, mewn cysylltiad â ffrydiau ariannu Ewropeaidd, mae pryder bod hynny'n gulach nag yr oeddem ni wedi deall y byddai o'r blaen, a chredaf fod cwestiynau hefyd yn parhau ynghylch pryd y byddai ar gael mewn rhai amgylchiadau. Felly, ni cheir yr eglurder y byddai hi neu fi neu eraill yn y Siambr hon yn dymuno'i weld mewn cysylltiad ag ymrwymiad ariannol Llywodraeth y DU yn y cyd-destun penodol hwnnw.

Gofynnodd am hynt y ddeddfwriaeth. Yn sicr, o ran yr is-ddeddfwriaeth a'r rhaglen offerynnau statudol yr ydym ni wedi bod yn ymgymryd â hi yma ers amser maith nawr, diben hynny yw sicrhau bod y llyfr statud i Gymru, os gallaf ddefnyddio'r term hwnnw, yn gallu parhau mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ar ôl trosi cyfraith yr UE i'n cyfraith yma yng Nghymru. Fel rwyf wedi'i grybwyll yn y gorffennol, rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr o ran hynny ac rwy'n fodlon y byddai'r llyfr statud yn adlewyrchu sefyllfa cyfraith yr UE ar yr adeg y byddem yn ymadael.

O ran deddfwriaeth sylfaenol, wrth gwrs, mae rhai o'r Biliau'n dal i fod mewn gwahanol gamau yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen pasio rhai o'r Biliau hynny er mwyn inni gael pwerau penodol, yn enwedig ym maes amaethyddiaeth, gan adlewyrchu'r drafodaeth a gawsom ni yn y Siambr yn gynharach heddiw. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad yn gynharach, bydd yn rhaid inni fod yn effro i oblygiadau posib Brexit anodd neu heb gytundeb a'r effaith y gallai hynny ei chael drwy greu'r angen yma am ddeddfwriaeth na ellir ei rhagweld ar hyn o bryd, i ymdrin â rhai o'r canlyniadau hynny.

O ran—. Rwy'n credu ei bod yn gofyn cwestiwn i mi am gymorth i ddinasyddion yr UE sy'n byw yma yng Nghymru, neu ddinasyddion a anwyd mewn rhannau eraill o'r UE, dylwn i ddweud. Mae cymorth amrywiol ar gael yn ymwneud â chyngor ar gyfraith mewnfudo, ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran egluro hawliau dinasyddion yr UE sydd â hawl i ymgartrefu yma yng Nghymru. Mae pecyn cymorth hefyd ar gael i ddeall ystod ehangach o hawliau dinasyddion yr UE yma yng Nghymru, ac mae gwaith ar y gweill hefyd i geisio ymestyn nifer y canolfannau cymorth digidol i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n gallu gwneud cais ar-lein yn hawdd eu hunain. Felly, mae amrywiaeth o wahanol fesurau o gymorth yr ydym yn sicrhau y byddant ar gael.

O ran ei sylw olaf, rwy'n mynd i ymwrthod â'r demtasiwn i drafod trefniadau cyfansoddiadol fy mhlaid yn fanwl. Digon yw dweud, wrth sefyll yma yn wleidydd Llafur Cymru, nid wyf yn credu y gallwn i fod yn gliriach ynghylch ein safbwynt ni.

17:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi dweud yn aml ein bod yn ei glywed o hyd, ond mae'n bwysig ein bod yn parhau i gael y newyddion diweddaraf, yn enwedig mewn byd lle nad yw'r hyn a ddywedwyd ddoe yn ddilys mwyach heddiw, ac mae'n anwadal iawn—nid yn hollol wyneb i waered, ond yn symud yn gyflym iawn, gan newid yn gyflym iawn—ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r ffaith nad yw'r sylwadau a wnaed gan y ddau ymgeisydd yn helpu'r sefyllfa honno. Ddoe ddiwethaf, roedd Boris Johnson yn dweud yn glir ei fod, mewn gwirionedd, am i'r backstop gael ei ddileu'n llwyr, felly mae wedi newid ei safbwynt hyd yn oed ar hynny nawr. Ar un adeg 'aildrafod' oedd popeth; nawr 'diddymu' yw hi, ac rydym ni i gyd yn gwybod bod yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud yn bendant nad yw hynny'n mynd i ddigwydd, felly rydym yn anelu am sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ac rwy'n credu ei fod yn ceisio dod o hyd i esgus i gyfiawnhau ei sefyllfa o ymadael heb gytundeb ar 31 Hydref. Os felly, mae angen inni baratoi ar ei gyfer, oherwydd mae'n amlwg bod rhai materion difrifol y mae'n rhaid i Gymru roi sylw iddyn nhw ar y mater hwnnw.

Mae'n debyg fy mod eisiau gofyn rhai o'm cwestiynau gan ganolbwyntio ar y parodrwydd hwnnw'n llythrennol, gan eich bod wedi tynnu sylw yn eich datganiad at y sefyllfaoedd yr ydym ni'n gweithredu ynddyn nhw, y cyd-destun yr ydym ni ynddo, ac yna symud ymlaen at rai o'r materion yr ydych chi wedi ymdrin â nhw. Ond a gaf i siarad am drwyddedau cludo nwyddau a thrwyddedau cerbydau trymion, er enghraifft? Mae'n un o'r meysydd yr ydym ni wedi siarad amdano o' r blaen. Mae gennym ni lawer o gwmnïau logisteg yng Nghymru; bydd nifer cyfyngedig o drwyddedau ar gael, ac mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gallem fod yn wynebu sefyllfa heriol iawn i'r cwmnïau hynny. Pa drafodaethau a ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyrannu trwyddedau i gwmnïau o Gymru, er mwyn sicrhau y gallan nhw weithredu petai sefyllfa o ymadael heb gytundeb ar 1 Tachwedd? Hefyd, pa drafodaethau a ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r porthladdoedd? Oherwydd, unwaith eto, os bydd hynny'n digwydd, byddwn mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid i ni gael rheolaethau ffiniau a rheolaethau rheoleiddiol yn ein porthladdoedd, i edrych ar y sefyllfaoedd. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am rai o'r cyfrifoldebau hynny; maen nhw'n gyfrifoldebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac eto, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y porthladdoedd, felly pa drafodaethau ydych chi'n eu cael i sicrhau ein bod yn y sefyllfa honno lle nad oes rhaid i ni wynebu problem am nad yw wedi cael ei ystyried?

Soniaf am gyfreithlondeb hynny, oherwydd fe wnaethoch chi sôn nawr am y ddeddfwriaeth frys efallai y bydd angen ei chyflwyno. A ydych chi wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o ran pa fathau a pha feysydd y byddwch yn edrych arnyn nhw? Oherwydd roeddech chi'n dweud bod angen i ni fod yn ymwybodol ohono, ond mae a wnelo hynny nid dim ond â bod yn ymwybodol ohono; mae angen inni fod yn barod amdano. Felly, ar ba feysydd ydych chi'n edrych arnyn nhw nawr, ac a ydych chi'n edrych ar y meysydd hynny fel y byddwch, pan ddown yn ôl ar ôl toriad yr haf, yn gallu dweud wrthym ni'n union ym mha feysydd y credwch y bydd angen deddfwriaeth frys os byddwn yn y sefyllfa honno?

Hefyd, a wnewch chi drafod y warysau? Dywedwyd wrthym ni—mae eich datganiad yn amlygu'r pwynt yn glir—fod y mater yn ymwneud â warysau yn mynd i fod yn ddadleuol, oherwydd bod busnesau eisiau parhau i weithredu o dan eu rheoliadau busnes arferol. Mae hynny'n golygu y byddan nhw eisiau cael eu safleoedd warws ar gyfer eu busnesau eu hunain. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi edrych ar warysau cyn 29 Mawrth. Beth yw'r sefyllfa o ran warysau rheweiddiedig ar gyfer meddyginiaethau, os oes angen hynny? Beth yw'r sefyllfa o ran warysau eraill, os oes angen hynny, oherwydd rydych chi bellach mewn cystadleuaeth â sefydliadau mawr sydd eisiau gofod warysau? Felly, unwaith eto, a ydych chi wedi symud tuag at y maes hwnnw eto?

Hoffwn wybod hefyd a ydych chi wedi trafod unrhyw un o'r materion hyn gyda swyddogion yr UE a chenhedloedd a rhanbarthau eraill ledled yr UE, oherwydd fel cenedl cawsom lawer o femoranda o ddealltwriaeth a chytundebau â rhanbarthau a chenhedloedd eraill, a byddwn eisiau gweithio gyda'r rheini yn y sefyllfa pan fyddwn yn gadael yr UE heb gytundeb. Felly, dechreuais gael trafodaethau gyda'r gwledydd hynny i weld sut y gallan nhw ein helpu ni hefyd oherwydd y byddan nhw, yn dechnegol, ar ochr arall y ddadl. Hefyd, a ydych yn cytuno â mi—rwyf wedi blino, wedi blino'n lân clywed Aelodau'n dal i ddweud 'anhyblygrwydd yr UE'—nid anhyblygrwydd yr UE ydyw; yr hyn ydyw yw methiant y Llywodraeth yn San Steffan i fynd i'r afael â'r gwir ateb? Mae'n bryd iddyn nhw ledaenu'r neges honno mewn gwirionedd. Nid anhyblygrwydd yr UE ydyw ond anallu'r Ceidwadwyr sydd wedi ein harwain at y sefyllfa hon, ac mae angen inni sicrhau bod y neges honno'n glir ac yn groch ar draws y wlad, oherwydd nhw sy'n ein dal yn ôl. Y ddau ymgeisydd blaenllaw ar hyn o bryd yw dau o hyrwyddwyr mwyaf y methiant hwnnw heddiw.

18:00

Diolch i David Rees am ei gwestiynau. Byddaf yn ymdrin â nhw yn eu tro. O ran cludo nwyddau a thrwyddedu, rydym mewn cysylltiad agos, yn amlwg, â'r Gymdeithas Cludiant Ffyrdd a'r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau o ran y materion y byddant yn eu hwynebu, yma yng Nghymru a hefyd, wrth gwrs, ymhellach i ffwrdd. Gallai effaith hwn a fyddai'n cael ei deimlo ledled y DU effeithio ar lwybrau cludo nwyddau economi Cymru ar draws y ffin. Rydym ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â hyn. Rwy'n gwybod ei fod yn ymwybodol y gallai troi at y system drwyddedu ryngwladol osod cyfyngiadau llym, yn ymarferol, ar allu gweithredwyr i symud nwyddau ar draws ffiniau'r DU a'r UE. Bydd yn gwybod, rwy'n credu, bod yr UE wedi cytuno ar ateb dros dro pe baem yn gadael heb gytundeb, fel y byddai nwyddau'n dal yn gallu symud ar draws y ffin ar sail cyd-gydnabyddiaeth, ond mae hynny'n ymestyn hyd ddiwedd y flwyddyn galendr hon. Fel y deallaf heddiw, nid yw hynny wedi'i ymestyn i adlewyrchu'r dyddiad gadael ym mis Hydref, felly rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ynghylch pa ymateb sydd ei angen o ran hynny.

O ran porthladdoedd, bydd yn cofio, rwy'n credu, y datganiad a wnaeth Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ym mis Ebrill ynglŷn â'r trefniadau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw ynghylch Caergybi i sefydlu'r capasiti ychwanegol ar safle Road King ac, yn wir, Parc Cybi. Mae'r trefniadau hynny yn parhau i fod yn bosib ar gyfer Brexit hwyrach, ac yn barod i'w defnyddio, pe bai angen. Nid dyna'r disgwyliad presennol, ond maen nhw yno wrth gefn pe bai eu hangen.

O ran capasiti warws, o ran y cyflenwad bwyd yn benodol, fel y gŵyr, rwy'n credu, mae Llywodraeth y DU yn arwain ar fater cyflenwi bwyd ar draws y DU, er yn amlwg rydym ni'n cyfrannu at hynny fel Llywodraeth. Maen nhw'n edrych ar gapasiti warysau o ran storio oer ac yn y blaen. Bydd hefyd yn gwybod, rwy'n credu, bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael ar gyfer storio oer yng Nghymru drwy'r sector preifat. Yn ogystal â hynny, mewn cyd-destun ar wahân i fwyd, mae gennym ni nawr y capasiti yn y warws sydd gennym ni bellach yn y de i'n galluogi ni i storio dyfeisiau meddygol a dyfeisiau gofal cymdeithasol, gan ein galluogi i stocio eitemau na fyddem efallai'n teimlo bod angen eu stocio, yng nghyd-destun sicrhau cyflenwadau i'r GIG a'r sector gofal. Ond mae'n amlwg yn fater sydd â chyfres wahanol o ystyriaethau ar adeg yr ymadael ym mis Hydref o gymharu â'r gwanwyn oherwydd y pwysau ar warysau oherwydd y stoc cyn y Nadolig ac ati.

O ran deddfwriaeth frys, hoffwn dawelu meddwl yr Aelod bod hwn yn fater sy'n cael ei adolygu'n barhaus gan gyfreithwyr sy'n edrych ar hynt deddfwriaeth. Ond, yn amlwg, fel rwy'n gwybod fod ei gwestiwn yn ei awgrymu, nid yw'n bosib bod yn bendant ynghylch beth, os unrhyw beth, a allai fod ei angen nes ein bod yn gwybod beth yw'r sail dros ymadael. Ond mae honno'n sefyllfa sy'n cael ei hadolygu'n fanwl.

Roedd ei gwestiwn olaf, mi gredaf, yn ymwneud ag ymgysylltu â'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd mewn cysylltiad â hyn. Bydd yn gwybod y bu'r Prif Weinidog ym Mrwsel ychydig wythnosau'n ôl, a bod cyswllt swyddogol yn parhau â phartneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn iddyn nhw ddeall safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.    

18:05

Wel, diolch Gweinidog Brexit, am ddatganiad Nostradamus arall ynghylch Brexit. Er ein bod ni ym Mhlaid Brexit yn deall ei bod hi'n ddoeth gwneud paratoadau ar gyfer pob sefyllfa o ran ein hymadawiad â'r UE, gan gynnwys Brexit heb gytundeb, a ellir dweud bod y paratoadau hynny mewn gwirionedd yn ddoeth os ydyn nhw'n seiliedig ar ragfynegiadau gwyllt ynghylch yr honiad y byddai ymadawiad heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus, yn enwedig i economi Cymru? Mae'n ymddangos bod codi bwganod yn dal i ddigwydd heb unrhyw sylwedd yn y casgliadau sy'n cael eu llunio. Mae bron pob darn o dystiolaeth a luniwyd yn eich datganiad yn ailadrodd y dadleuon a ddefnyddiwyd yn ein herbyn am beidio â manteisio ar yr ewro. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor gwbl ffug oedd y rhagfynegiadau hynny. Nodaf y sylwadau ynglŷn â'r Blaid Dorïaidd yn tawelu llid ei haelodau ar lawr gwlad, ond siawns na ellir dweud bod gan Corbyn yr un obsesiwn i dawelu llid y chwith ffasgaidd yn y Blaid Lafur. Rydych yn dweud nad oes mandad ar gyfer Brexit heb gytundeb. Wel, rydym newydd gael etholiad Ewropeaidd, a rhag ofn nad oeddech yn deall, mae'r enw Brexit yn rhoi syniad o'r hyn y mae'r blaid a enillodd yr etholiad hwnnw mewn gwirionedd yn sefyll drosto, ac roeddem yn glir iawn ynghylch y ffaith y byddem yn cytuno ar Brexit heb gytundeb.

Gadewch i ni edrych ar rai agweddau cadarnhaol sefyllfa o ymadael heb gytundeb. Byddai Brexit heb gytundeb yn golygu nad ydym yn talu'r £39 biliwn a ystyrir ei dalu ar hyn o bryd. Petai Brexit heb gytundeb yn digwydd, byddai'n golygu y gellid defnyddio'r arian hwn i roi cymorth ariannol i'n diwydiannau ein hunain, nid y rhai ar y cyfandir, hyd oni chanfyddir marchnadoedd newydd, mwy proffidiol. Byddai hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ein diwydiant ffermio, ac, yn wir, byddai rhoi cymhorthdal i'r diwydiant ffermio yng Nghymru yn gyfran fach iawn o gyfanswm yr arian sy'n cael ei arbed o ganlyniad i'r ffaith nad ydym ni'n perthyn i lanast Brwsel. Rydych yn honni bod colli swyddi yn Ford, Schaeffler a Calsonic yn ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit, ond ansicrwydd sy'n deillio o amharodrwydd pobl o blaid aros i dderbyn pleidlais ddemocrataidd pobl Prydain ydyw. Rydych wrth gwrs yn gyfleus, yn anghofio penderfyniad Bosch i symud ei ffatri o Feisgyn i Hwngari, gyda chymorth grantiau Ewropeaidd, gyda cholled o 900 o swyddi medrus, a oedd yn talu'n dda.

Rhaid inni gofio nad oes gan 95 y cant o fusnesau Cymru ddim byd i'w wneud o gwbl ag allforio, a chanran lai fyth sy'n ymwneud ag allforio i'r UE, ac eto mae cost sylweddol i bob busnes sy'n cydymffurfio â rheolau a rheoliadau'r UE. Gallai gadael yr UE roi hwb i fusnesau Prydeinig a Chymreig drwy roi mwy o ryddid iddyn nhw gynhyrchu.

Efallai y dylem ni ystyried diwydiant pysgota Prydain. Ar yr union foment hon, mae 84 o longau treillio'r Iseldiroedd yn defnyddio'r dechneg bysgota parlysu electronig yn yr hyn a fydd dyfroedd Prydain ar ôl Brexit. Mae'r dull hwn o bysgota'n cael effaith drychinebus ar boblogaethau cramenogion a physgod. Dywedir eu bod yn anwybyddu rheolau'r UE drwy honni eu bod yn gychod gwyddonol. Yn wir, mae dyfroedd pysgota Prydain wedi cael eu hysbeilio gan longau tramor am yn agos at hanner canrif. Naw wfft i ddeddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd sydd wedi'i chanmol mor aml. Gyda llaw, mae ein llongau treillio Prydeinig yn cael eu gwahardd mewn gwirionedd rhag pysgota ym Môr y Canoldir.

Os ydym ni o ddifrif ynghylch paratoi ar gyfer sefyllfa o ymadael heb gytundeb, ni ddylem fod yn ei ddefnyddio'n arf i godi bwganod. Mae'n bosib y bydd rhai anfanteision o adael yr UE, ond mae pob economegydd diduedd yn rhagweld mai rhywbeth tymor byr yn unig yw hyn. Mae'r DU wedi profi dro ar ôl tro fod ganddi sylfaen economaidd hynod o gydnerth. Ni ddylem ni ofni Brexit, pa bynnag ffurf y bydd ganddo. Gwell sefyllfa o ymadael heb gytundeb na'r hyn y mae rhai aelodau o'r Cynulliad hwn yn ei ystyried neu, yn waeth fyth, yr oedd gan Theresa May ei bryd arno.

Nid wyf yn credu imi glywed cwestiwn. Ni chlywais gwestiwn gan yr Aelod. Mae'n ddatganiad ac roedd i fod i gael cyflwyniad a chwestiwn. Ni chlywais unrhyw gwestiynau, nid wyf yn credu.

Credaf iddo ofyn a ellid dweud bod trefniadau Llywodraeth Cymru yn ddoeth, a'r ateb yw 'gellid'.

18:10

Diolch. Cyrhaeddodd allforion o Brydain y lefel uchaf erioed yn 2018 ac maen nhw wedi parhau i gynyddu ers hynny, sef cyfanswm o dros £647 biliwn yn y 12 mis hyd at fis Mai eleni, ac mae mewnforwyr nwyddau o'r DU sy'n tyfu gyflymaf, ar y cyfan o'r tu allan i Ewrop. Y DU yw prif gyrchfan Ewrop o hyd ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor, a'r drydedd uchaf yn fyd-eang ar ôl yr Unol Daleithiau a Tsieina. Ac, wrth gwrs, fis Mawrth, dywedodd Mr Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, ym mhob senario, fod parchu cytundeb Gwener y Groglith yn golygu atal ailosod y ffin galed rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Gwyddom ni fod 75 y cant o allforion Cymru yn mynd i weddill y DU, a dim ond 15 y cant i'r UE. A phan ddywedodd swyddogion a oedd yn cynrychioli talaith Bremen yn yr Almaen wrth y pwyllgor materion allanol fod 10 i 15 y cant o gynnyrch domestig gros yr Almaen yn dod i'r DU, maent yn ei gyflwyno fel ei fod yn agored i farchnad y DU. Felly, mae rhywfaint o gyfatebiaeth rhwng y risgiau o beidio â dod i gytundeb ar y ddwy ochr o'r hyn a fydd, gobeithio, yn gyfeillgarwch parhaus agos iawn.

Ddoe, cyhoeddodd eich cydweithiwr, Gweinidog yr economi, ddatganiad ar effeithiau Brexit ar economi Cymru, gan gyfeirio at ddau grŵp pedair ochrog a sefydlwyd, gyda chyd-Weinidogion o Lywodraeth y DU a gweinyddiaethau eraill sydd wedi'u datganoli. Roedd un yn canolbwyntio ar fusnes a diwydiant, a dywedodd ef fod y cyfarfod cyntaf ar fusnes a diwydiant wedi bod yn gadarnhaol. Wel, mae yna drafodaethau paratoadol yn mynd rhagddynt rhwng swyddogion San Steffan a swyddogion yr UE fel y gall y Prif Weinidog newydd fwrw ati ar unwaith i ddeall o'r ddwy ochr lle y gallai fod hyblygrwydd rhwng nawr a diwedd mis Hydref. Mae hynny'n digwydd. Pa ymgysylltiad cadarnhaol felly—yn ysbryd datganiad Mr Skates ddoe—y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael â'r broses honno, fel y bydd, yn ystod y cam paratoadol hwn, gyda'r amcan o gael cytundeb er lles yr economïau naill ochr y dŵr—? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â hynny?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Fy ddywedaf i, er hynny, nad wyf yn rhannu ei farn optimistaidd ar ragolygon masnach y DU y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd—mae £3 o bob £4 y mae busnesau Cymru yn eu hennill o allforion yn cael eu hennill drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu bod taflu hynny i ffwrdd yn beryglus i ni, ac yn llawer pwysicach, yn beryglus i'r busnesau hynny sy'n troi atom ni ac sy'n troi at y Senedd i warchod eu buddiannau.

Mae'n sôn am y trafodaethau ynglŷn â threfniadau masnach y dyfodol. Rwy'n credu y bydd yn cofio mai un o'r pwyntiau yr ydym ni wedi'i bwysleisio'n rheolaidd gyda Llywodraeth y DU yw y dylai Llywodraeth Cymru gymryd rhan wrth baratoi mandadau negodi ar gyfer trafodaethau rhyngwladol. Mae hwn yn gam ymarferol fel bod safbwyntiau negodi'r DU yn ennyn hygrededd, lle mae angen i Lywodraeth Cymru eu gweithredu yng Nghymru, ond hefyd bydd hynny i barchu ffin ddatganoli. Ac er ein bod wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran hynny, rydym ni'n bell iawn o weld Llywodraeth y DU yn cyflawni'r rhwymedigaeth arbennig honno yr ydym ni'n ei cheisio ganddyn nhw, a byddwn i'n ei annog ef i wneud popeth o fewn ei allu i geisio argyhoeddi ei gymheiriaid yn San Steffan o rinwedd ein sefyllfa.

6. Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7120 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o gyflwyno Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei waith yn ystyried y Rheoliadau hyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adrannau 8(5)(b), 33(1)(b) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017. Mae'n ymwneud â gwelliannau i weithredu rhyddhad adfer safleoedd a rhyddhad chwarel. Bydd rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o 'waith adfer' i'w gwneud yn glir bod modd trin gwaith adfer sy'n cael ei wneud ar safle gwaredu tirlenwi nad yw wedi'i gapio fel gwaith adfer at ddibenion y Ddeddf. Mae cap yn haen ffisegol o warchodaeth y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy ei ofynion trwyddedu, yn ei gwneud yn ofynnol i safle weithredu er mwyn cadw a gwahanu'r gwastraff o waith adfer.

Ers dod yn weithredol ym mis Ebrill 2018, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi dod yn ymwybodol y gall fod safleoedd tirlenwi yng Nghymru, a elwir yn safleoedd anadweithiol, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn iddynt osod cap wedi'i beiriannu ar ddiwedd y gwaith gwaredu. Mae hyn oherwydd y risg amgylcheddol isel y mae'r gwarediadau'n sy'n digwydd yno yn ei achosi. Canlyniad y diwygiad arfaethedig yw y daw pob safle tirlenwi, o bosibl, yn gymwys i hawlio rhyddhad adfer safle, gan gynnwys safleoedd tirlenwi anadweithiol.

Bydd rheoliad 3 yn diwygio'r rhyddhad ar gyfer ail-lenwi chwareli neu byllau glo brig. Mae'r diwygiad arfaethedig yn ehangu maint y rhyddhad ychydig er mwyn caniatáu i gymysgeddau o ddeunydd cymwys, ac eithrio gronynnau mân, gael eu dyddodi, yn ogystal â deunydd cymwys yn unig. Mae hyn yn cydnabod, mewn llawer o achosion, y gall deunydd cymhwysol gynnwys ychydig bach ac atodol o ddeunydd nad yw'n gymwys ac sydd o risg isel i'r amgylchedd. Mae'n sicrhau bod ACC yn gallu gweithredu'r rhyddhad mewn ffordd ymarferol a chymesur, heb erydu'r paramedrau clir ac egwyddorion sylfaenol y rhyddhad hwn.

Er bod y rhain yn fân ddiwygiadau, mae'r rheoliadau hyn yn enghraifft o'n hymatebolrwydd i arfer gweithredol. Bydd y rheoliadau diwygiedig yn helpu i sicrhau bod y rhyddhad ar gyfer adfer safleoedd ac ail-lenwi chwareli yn gweithredu mewn modd sy'n ystyried y cyd-destun cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn.  

18:15

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriodd y pwyllgor y rheoliadau hyn yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf 2019 ac adroddwyd un pwynt rhinweddau i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.3(i). Telir trethi datganoledig i Gronfa Gyfunol Cymru, yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, sy'n nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu'r symiau sy'n cael eu casglu wrth arfer ei swyddogaethau i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r rhyddhad sydd ar gael o ran treth gwarediadau tirlenwi, ac felly gall o reidrwydd effeithio ar y derbyniadau treth a gesglir ac a delir i Gronfa Gyfunol Cymru. Nid yw'r memorandwm esboniadol yn rhoi amcangyfrif o'r gostyngiad yn y derbyniadau treth a ddisgwylir o ganlyniad i'r newidiadau a wneir gan y rheoliadau hyn. Fe wnaethom ni godi'r mater hwn ac, yn ei hymateb i ni, a nodwyd gennym yn ein cyfarfod, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw effaith refeniw bosibl o ganlyniad i'r diwygiadau hyn yn debygol o fod yn ddibwys. Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd y bydd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cyd-fynd â sefyllfa bresennol Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac, felly, ni fyddai'n cael fawr ddim effaith ar refeniw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ni ragwelir y byddai'r naill neu'r llall o'r diwygiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar refeniw treth. Y gobaith yw, er hyn, y byddai'r gwelliannau'n gwneud y broses o weinyddu'r dreth gwarediadau tirlenwi yn haws ac yn decach, ac felly'n cael effaith gadarnhaol ar waith risg treth ACC yn y meysydd hyn.

Ar gyfer y rhyddhad am ail-lenwi chwareli a phyllau glo brig, nid ydym yn rhagweld y bydd y newid hwn o fudd i unrhyw safleoedd heblaw am y rhai sy'n hawlio rhyddhad chwarel ar hyn o bryd. Ac mae'r newid hwn yn fwy i sicrhau y caiff deddfwriaeth ac arfer eu halinio o ran y deunydd sy'n mynd i mewn i'r chwarel. Bydd ein deddfwriaeth ddiwygiedig yn cyd-fynd â sefyllfa bresennol Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, ac felly byddem yn disgwyl effaith fach iawn ar refeniw.

A bydd y newid i'r diffiniad o 'waith adfer safle' yn golygu y gall safleoedd anadweithiol yng Nghymru allu hawlio rhyddhad adfer safle, hyd yn oed os nad oes ganddynt gap. Byddai llawer o'r safleoedd hynny wedi gallu hawlio rhyddhad chwarel ar y rhan fwyaf o'r gwaith adfer beth bynnag, felly mae hyn yn gwrthbwyso'r effaith refeniw bosibl.

Rwy'n diolch i'r pwyllgor am ei waith ac, er yn syml, mae'r rheoliadau hyn yn ceisio sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ymarferol i'w gweithredu ac yn rhoi canlyniad teg a chyson i weithredwyr safleoedd tirlenwi.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019

Eitem 7 yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7121 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig.

Cyflwynwyd cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr 2019 a daeth yn gwbl weithredol ledled y DU ar 30 Mawrth 2019. Mae'r bwlch a grëwyd gan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE yn berthnasol i unigolion sy'n anghymwys i gael cymorth tai ar hyn o bryd oherwydd mai dim ond un o'r hawliau i breswylio sydd wedi'u rhestru yn rheoliad 6 o'r rheoliadau cyfredol sydd ganddynt, ac a fydd yn cael caniatâd cyfyngedig i aros o dan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE. Os yw unigolyn o'r fath yn cael caniatâd cyfyngedig i aros o dan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE, bydd ganddo hawl ychwanegol i breswylio, a fydd yn ei wneud yn gymwys i gael llety neu gymorth tai. Nid yw hyn yn un o ganlyniadau bwriadol cynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE. Enghraifft o unigolyn o'r fath fyddai rhywun o un o'r gwledydd o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd y mae ei hawl i breswylio ond yn deillio o'i statws fel ceisiwr gwaith.

Ni fyddai gan unigolyn yn y sefyllfa honno hawl i gael cymorth tai ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os yw'r unigolyn hwnnw'n llwyddo i wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog o dan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE, bydd ganddo hawl ychwanegol i breswylio yn y DU. O dan y rheoliadau fel y maen nhw wedi'u drafftio ar hyn o bryd, byddai gan y person hwnnw hawl i gael cynnig cymorth tai, ac felly'n cael hawl na fyddai wedi bod ar gael iddo cyn cyflwyno cynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE.

Ni fyddai gan bobl sy'n gymwys i gael cymorth tai yn sgil y bwlch a grëwyd gan gynllun preswylio'n sefydlog dinasyddion yr UE hawl i gael budd-dal tai i dalu eu rhent. Byddai hyn yn golygu y gallai'r unigolion hynny sy'n mynd yn ddibynnol ar fudd-daliadau i dalu eu rhent fynd i ôl-ddyledion rhent. Gwnaeth Llywodraeth y DU y gwelliant hwn i gau'r bwlch hwn fis Mai eleni.

Yn ogystal â'r gwelliant hwnnw, ym mis Gorffennaf 2018 a Thachwedd 2018, ymestynnodd Llywodraeth y DU y cymhwysedd ar gyfer cymorth tai i nifer benodol o blant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid o wledydd eraill yn Ewrop, a'r rhai a drosglwyddwyd o wersylloedd ffoaduriaid Calais. Mae'r rheoliadau diwygiedig hyn hefyd yn darparu ar gyfer y gwelliant hwn er mwyn ymestyn y cymhwystra i'r grwpiau hynny.  

Bydd cau'r bwlch yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn unol â gwledydd eraill y DU. Mae angen diwygiadau tebyg i'r un set o reoliadau hefyd o ran cymhwysedd ar gyfer dyrannu tai. Mae'r pwerau i ddiwygio darpariaethau'r rheoliadau i ymdrin â chymhwysedd ar gyfer dyrannu tai wedi'u cynnwys yn Neddf Tai 1996. Mae'r Ddeddf honno'n darparu bod y diwygiadau hynny i'w gwneud drwy'r weithdrefn negyddol.

Gosodwyd y diwygiadau hyn ar 25 Mehefin a byddant yn dod i rym ar 19 Gorffennaf, sef y dyddiad yr ydym ni'n bwriadu i'r rheoliadau cadarnhaol hyn ddod i rym hefyd. Mae'r gwelliannau hyn yn dechnegol eu natur, ac rwyf i eisiau sicrhau'r Aelodau y bydd fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn.  

18:20

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch. Unwaith eto, fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 8 Gorffennaf 2019. Fe wnaethom ni nodi bod y rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014, sydd â'r swyddogaeth o ragnodi'r dosbarthiadau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy'n gymwys i gael cymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn ogystal â'r dosbarthiadau o bobl o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy'n anghymwys i gael cymorth tai o dan y Ddeddf honno.

Effaith y diwygiad i reoliad 5 o Reoliadau 2014 yw gwneud plant penodedig ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid sydd â'r hawl i gael eu hadleoli ac i gael cymorth, a phobl benodedig sydd wedi cael caniatâd Calais i aros sy'n gymwys i gael cymorth tai, yn ddarostyngedig i rai amodau eraill sy'n ymwneud â phreswyliaeth.

Effaith y diwygiad i reoliad 6 o reoliadau 2014 yw cynnal y status quo. Pan fo personau penodedig sydd â hawl i breswylio yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon hefyd yn cael caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i neu i aros yn y DU yn unol ag atodiad EU o'r rheolau mewnfudo, o dan gynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hyn yn effeithio ar eu cymhwysedd. Hynny yw, nid ydynt yn cael eu gwneud yn gymwys ar gyfer cymorth tai drwy fod wedi cael caniatâd cyfyngedig i aros o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Nid wnaethom adrodd am unrhyw faterion i'r Cynulliad o dan Reolau Sefydlog 21.2 neu 21.3. Fodd bynnag, er ein bod yn cydnabod nad ydym ni'n bwyllgor polisi penodol ar y mater hwn, ac nad yw'r rheoliadau yn gweithredu unrhyw newidiadau ym mholisi Llywodraeth Cymru, roeddem ni o'r farn bod angen manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y pynciau difrifol, fel hwn, sydd yn aml yn cael eu trin drwy is-ddeddfwriaeth. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Mick Antoniw am y sylwadau hynny.

Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y DU yn gallu cael gafael ar gymorth tai a digartrefedd os oes angen iddyn nhw wneud hynny, yn enwedig pan fu'n rhaid iddynt ffoi o'u gwlad enedigol a'u bod wedi dioddef cythrwfl a straen rhyfel a gwrthdaro.

O ran dinasyddion yr AEE sy'n cael caniatâd i aros yn y DU, mae angen gwahaniaethu rhwng y rhai sy'n cael statws sefydlog a'r rheini a gafodd statws preswylydd cyn-sefydlog, fel y mae ar hyn o bryd. Mae'r diwygiadau hyn yn sicrhau bod y gwahaniaeth yn parhau i fod ar waith. Rwy'n annog yr Aelodau, felly, i gymeradwyo'r rheoliadau. Diolch.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)

Eitem 8 yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7122 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro'r cefndir i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ac am yr adroddiad y mae wedi'i lunio. Mae'r Pwyllgor o'r farn nad oes unrhyw rwystr i'r Cynulliad gytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) ar 18 Mehefin. Mae hwn yn Fil byr, un pwrpas, a fydd yn lleihau'r rhwymedigaeth ardrethi ar gyfer toiledau cyhoeddus annibynnol i ddim o 1 Ebrill 2020.

Mae'r darpariaethau'n berthnasol i bob toiled cyhoeddus annibynnol sydd ar gael i'w ddefnyddio gan y cyhoedd, waeth pwy sy'n berchen ar y cyfleusterau neu'n eu defnyddio. Gan y bydd hyn yn cyfrannu at ein hamcanion iechyd cyhoeddus yng Nghymru, cafodd darpariaethau i Gymru eu cynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno. Rwy'n credu bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, gan nad oes cyfrwng deddfwriaethol addas ar gael i wneud y newidiadau hyn yng Nghymru mewn pryd i'w gweithredu o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, rwy'n fodlon y dylai'r darpariaethau hyn gael eu gwneud mewn Bil sy'n cynnwys Cymru a Lloegr. Felly, rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn i'r Cynulliad ei gymeradwyo.

18:25

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr. Felly, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Symudwn yn awr at eitem 9, sef dadl ar Gyfnod 4 Bil Deddfwriaeth (Cymru), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.

Cynnig NDM7123 Jeremy Miles

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Deddfwriaeth (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er bod y Bil hwn yn un technegol—mae’n gyfraith am y gyfraith—mae hefyd yn Fil pwysig. Pwrpas y Bil ydy gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch ac i greu deddfwriaeth sydd yn eglur a chyson ac sydd hefyd yn cydlynu gyda’i gilydd. Mae’n Fil sydd ar yr un llaw yn edrych tuag at y dyfodol, dyfodol lle byddwn ni’n dod â threfn i’n llyfr statud hirfawr a chymhleth, wrth greu corff o gyfraith sydd yn glir, yn gynhwysfawr, yn Gymreig ac yn Gymraeg.

Ar sail yr oblygiadau yn Rhan 1 o’r Bil, byddwn yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth ac yn creu codau dwyieithog. Bydd hyn yn galluogi pobl Cymru i wybod ymhle mae deddfwriaeth sydd yn gymwys iddyn nhw, ac i ddeall beth yw ei effaith. Mae e hefyd yn Fil sy’n gosod rheolau diofyn, rheolau wrth gefn, i bob pwrpas, sydd yn galluogi i ddeddfwriaeth fod yn fwy cryno. Rheolau ydy’r rhain nid am gynnwys unrhyw ddeddfiad, ond am weithrediad y ddeddfwriaeth ei hun—rheolau sy’n cael eu pennu unwaith fel nad oes angen eu pennu eto, os nad oes rhaid. Mae’n creu cyfundrefn o’r fath fydd yn gymwys i bob deddfiad a wneir yng Nghymru wedi i Ran 2 o’r Bil ddod i rym.

Yn dilyn yr un thema, mae Rhan 3 hefyd yn gwneud newidiadau a fydd yn hwyluso’r broses o greu is-ddeddfwriaeth, ac yn ein galluogi i fewnosod dyddiadau clir mewn deddfwriaeth wedi iddo gael ei basio, yn lle’r disgrifiadau o ddyddiadau sy’n gorfod cael eu defnyddio cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Pethau bychain ond effeithiol.

Mae’r Cynulliad hwn wedi ymateb yn bositif iawn i’r Bil ac wedi ei wella mewn ffordd adeiladol. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am hynny, ac yn enwedig i aelodau’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol sydd wedi bod mor effeithiol wrth graffu ac wrth gynnig gwelliannau. Diolch hefyd i’r Pwyllgor Cyllid am ystyried yr oblygiadau ariannol.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn hefyd i’r rhanddeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses. Mae hon wedi bod yn daith hir, a ddechreuodd gyda chyhoeddi dogfen ymgynghori ar yr egwyddorion ym mis Mehefin 2017, cyn inni ymgynghori ar Fil drafft ym mis Mawrth 2018. Mae wedi bod yn bleser i drafod y Bil yn Aberystwyth, yn Abertawe, Bangor, Dulyn a Llundain, yn ogystal ag yma yng Nghaerdydd, wrth gwrs. Hoffwn gydnabod hefyd gyfraniad y rhai a fu ar y daith cyn i mi ddechrau—ein cyn-Gwnsleriaid Cyffredinol, Theo Huckle a Mick Antoniw.

Er taw Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn arwain y ffordd, a bydd yn arwain yn y dyfodol, mae hwn yn fater sydd o bwys i ni i gyd, ac mae angen inni gydweithio er mwyn datblygu llyfr statud hygyrch a modern i Gymru. Rwy’n falch iawn, felly, fod y Bil wedi derbyn cefnogaeth ar draws y Siambr, cefnogaeth sydd wedi cael ei atsain gan gymdeithas ddinesig yma yng Nghymru.

Megis dechrau yw’r gwaith ar godeiddio cyfraith Cymru; siwrnai hirfaith fydd hon gyda llawer i’w wneud. Ond deuparth gwaith yw ei ddechrau. Mae’r Bil yn arwydd o aeddfedrwydd ein deddfwrfa ac o ddatblygiad cyfraith Cymru, ond hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr i chi unwaith eto am eich cefnogaeth.

A gaf i ddweud 'diolch' wrth bawb a fu'n rhan o'r gwaith o baratoi'r Bil hwn a'i basio drwy'r lle hwn? Ac a gaf i groesawu yn arbennig, unwaith eto, barch y Cwnsler Cyffredinol tuag at y broses seneddol a'i barodrwydd i ymwneud yn uniongyrchol ag Aelodau'r Cynulliad, nid yn unig yn y pwyllgor ond y tu allan hefyd, a chaniatáu inni gael rhywfaint o ddylanwad gweladwy dros y broses honno? Wrth gefnogi'r cynnig, ein prif bwynt, Cwnsler Cyffredinol, ar hyn o bryd, yw tynnu eich sylw at sut y bydd yn edrych yn y dyfodol, at y dyfodol hwnnw yr oeddech chi'n sôn amdano—yr adolygiadau o gynnydd hynny a'n dylanwad drostynt. Ac, unwaith eto, diolch i chi am eich llythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch hynny. Yn anochel, byddwn yn edrych ar effeithiolrwydd a gwerth am arian, a hyd yn oed yn edrych yn ôl, efallai, ar rai o argymhellion y Pwyllgor Cyllid o ran adnoddau a goblygiadau ariannol amcanion y Bil. Ac, wrth gwrs, byddwn ni'n ystyried dealltwriaeth a defnydd y cyhoedd o gyfraith wedi'i chydgrynhoi a'i chodeiddio ychydig yn nes ymlaen pan fydd wedi cael cyfle i ymwreiddio.

Rwy'n gobeithio, Cwnsler Cyffredinol, y byddwch chi hefyd yn derbyn bod hygyrchedd yn cynnwys hygyrchedd ar gyfer ACau ac i ystyried efallai gwell ffyrdd o ddod ag is-ddeddfwriaeth gweithdrefn negyddol i sylw Aelodau'r Cynulliad, gan gadw mewn cof yr ystyrir ein bod yn cydsynio i honno, felly mae bob amser yn dda o leiaf i allu gwybod ei bod yn bodoli. Diolch.

18:30

A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei harsylwadau a'i hymrwymiad i'r prosiect cyfredol, y mae'r Bil yn garreg sylfaen iddo mewn sawl ffordd? Felly, diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr.

Diolch. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, ac felly rwy'n gohirio'r pleidleisio ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n credu ein bod ni wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Nac oes. Iawn.

10. Cyfnod Pleidleisio

Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles ar Gyfnod 4 Bil Deddfwriaeth (Cymru). Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 49, neb wedi ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae Cyfnod 4 Bil Deddfwriaeth (Cymru) wedi'i basio.

NDM7123 - Dadl ar Gyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Cymru): O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:32.