Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

04/06/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhianon Passmore. 

Cynorthwyo Busnesau yn Islwyn

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo busnesau yn Islwyn i baratoi at y dyfodol? OAQ53976

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar draws meysydd portffolio, er enghraifft, trwy wasanaethau a ddarperir gan Busnes Cymru, y banc datblygu a chronfa dyfodol yr economi. Hefyd, bydd ein strategaeth ryngwladol yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi masnach gyda'n cymdogion agosaf a chyda'r byd ehangach.

Prif Weinidog, diolch. Mae dros 200 o fusnesau yng Nghymru wedi ymuno â chontract economaidd Llywodraeth Cymru yn ei flwyddyn gyntaf. Cynlluniwyd y contract economaidd gyda'r bwriad penodol i Lywodraeth Cymru ddatblygu perthynas newydd a chryfach â busnesau i ysgogi a meithrin twf cynhwysol ac ymddygiadau busnes cyfrifol. Prif Weinidog, onid yw hwn yn brawf dramatig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn blaenoriaethu twf, yn cefnogi busnesau, ac yn sicrhau, mewn cymunedau ledled Cymru, fel yn Islwyn, bod busnes yn cael ei gefnogi ar gyfer yr heriau sylweddol iawn sydd o'n blaenau? Pa fesurau eraill, felly, y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn eu hystyried wrth i'r contract economaidd symud ymlaen?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau ychwanegol yna, a diolch iddi am yr hyn y mae hi wedi ei ddweud am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yma yng Nghymru, cefnogaeth yr ydym ni'n benderfynol o barhau i'w ddarparu? Dyna pam mae Cymru wedi bod yn un o'r rhannau o'r Deyrnas Unedig sy'n tyfu gyflymaf. Mae gennym ni'r nifer fwyaf o fentrau gweithredol ers i gofnodion cymaradwy ddechrau. Mae'r gyfradd cychwyn busnesau yng Nghymru yr uchaf ym mhedair gwlad y DU. Mae'r gyfradd oroesi am bum mlynedd, a chyfradd goroesi am flwyddyn busnesau newydd Cymru yn fwy na'r cyfraddau goroesi ledled y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n tystio i gydnerthedd y sector busnes yma yng Nghymru ac i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector hwnnw i sicrhau dyfodol llwyddiannus.

Cyn belled ag y mae'r contract economaidd yn y cwestiwn, rydym ni'n ymestyn ei gyrhaeddiad erbyn hyn. Mae'n cael ei gynnwys mewn llythyrau cylch gorchwyl yr ydym ni'n eu darparu, er enghraifft, i'r amgueddfa genedlaethol, i'r llyfrgell genedlaethol a Thrafnidiaeth Cymru, ac rydym ni'n bwriadu cymhwyso'r model contract economaidd i gronfa buddsoddi mewn twristiaeth newydd Cymru gwerth £50 miliwn yr ydym ni'n ei chyflwyno mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru—enghreifftiau eraill, Llywydd, o'r ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn parhau i weithio'n gadarnhaol gyda busnesau ledled Cymru gyfan.

Prif Weinidog, y llynedd, gwelwyd y cynnydd mwyaf i werth allforion yng Nghymru—£17.2 biliwn, gyda chynnydd o 4.2 y cant o'i gymharu â 2017. Cynyddodd allforion i wledydd yr UE gan 5.6 y cant—ychydig dros £0.5 biliwn—o'i gymharu â chynnydd o ychydig dros 2 y cant i wledydd nad ydynt yn yr UE. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan gwmnïau yn Islwyn, ac yng ngweddill Cymru, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir ar ôl Brexit i fasnachu gyda gweddill y byd?

Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y llwyddiant a gafwyd yn economi Cymru o ran allforion, llwyddiant yr ydym ni'n awyddus iawn i adeiladu arno ymhellach. Rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelod fy mod i wedi cyfarfod ddoe, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Eluned Morgan, â llysgennad Japan, a oedd yn ymweld â Chaerdydd ddoe. Mae ef wedi bod yng Nghymru eto heddiw. Roedd yma i wneud yn siŵr bod gennym ni'r berthynas agosaf rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth Japan wrth i ni symud tuag at Gwpan Rygbi'r Byd, er mwyn sicrhau bod busnesau Cymru mewn sefyllfa gystal â phosibl i fanteisio ar y llwyfan y bydd cwpan y byd yn ei gynnig, pan fydd gwybodaeth am Gymru ar lefel uwch o ganlyniad i amlygiad trwy chwaraeon nag a fyddai wedi bod fel arall. A byddwn yn parhau i weithio, drwy'r llysgennad a thrwy ein cysylltiadau â Llywodraeth Japan, i wneud yn siŵr bod busnesau Cymru ac allforwyr Cymru yn gwbl barod i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.

Yr Argyfwng Newid Hinsawdd

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r cabinet yn dilyn y datganiad am yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ53936

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cydweithwyr yn y Cabinet yn trafod yn barhaus camau i leihau allyriadau a darparu cynllun carbon isel Cymru. Rhoddwyd trefniadau newydd ar waith i ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn y cylch cyllideb presennol.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Croesawaf y datganiad o argyfwng newid yn yr hinsawdd. Credaf mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'n debyg fy mod i mewn lleiafrif ond rwy'n credu mai dyma, yn sicr, yw'r mater pwysicaf. A wnaiff y Prif Weinidog lunio map ffordd o gamau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru? Gallai hyn gynnwys pethau fel y targed plannu coed blynyddol, a tharged blynyddol ar gyfer gwella'r cartref, gan wneud tai yn allyrwyr dim carbon neu'n rhai isel iawn.

13:35

Diolchaf i Mike Hedges am y sylwadau yna. Nid wyf i'n credu ei fod yn unig iawn o ran ei farn mai'r newid yn yr hinsawdd yw un o'r prif heriau sy'n wynebu dynolryw ledled y byd. Rydym ni eisoes wedi nodi cyfres o gamau ymarferol yn y cynllun carbon isel, ac maen nhw'n adeiladu hefyd ar bethau y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu gwneud. Rydym ni wedi lleihau allyriadau o'n hystâd weinyddol gan 57 y cant, yn erbyn llinell sylfaen, ac rydym ni eisoes wedi rhagori ar ein targedau ar gyfer 2020. Ac yn yr effaith gyfunol honno o'r llu o bethau y mae llywodraethau yn eu gwneud y byddwn ni'n cael yr effaith yr ydym ni'n dymuno ei chael. Felly, dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd y £13.5 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn 111 o gerbydau newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, ac mae paneli solar wedi eu gosod ar 33 o'r cerbydau nad ydyn nhw'n rhai ar gyfer achosion brys y byddwn ni'n eu prynu er mwyn gallu troi golau'r haul yn drydan. Os ydym ni'n mynd i lwyddo, yna mae angen gweithredu y tu hwnt i'r Llywodraeth arnom ni hefyd. A gwn y bydd Mike Hedges yn ymwybodol iawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Abertawe, trwy gynllun ynni a menter cymunedol Abertawe, sy'n gwneud gwaith lleol yn y maes hwnnw, yn enwedig ym meysydd tlodi tanwydd, i wneud yn siŵr nad yw'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd â'r lleiaf o allu i dalu'r gost. Mae'r cynllun gweithredu carbon isel, Llywydd, yn darparu £4 miliwn o fuddsoddiad newydd yn y gweithgareddau lleol hynny a fydd, ynghyd â'r pethau y gall Llywodraeth eu gwneud, yn gwneud gwahaniaeth ym mhob rhan o Gymru. Ac mae map ffordd sy'n tynnu'r holl bethau hynny at ei gilydd yn sicr ym meddwl Llywodraeth Cymru wrth i ni fynd i'r afael â'r broblem yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n ei hwynebu.

Prif Weinidog,  galwais ar eich Gweinidog yr amgylchedd ym mis Mawrth i ystyried, ynghyd â gweddill eich Cabinet, y rhesymau amgylcheddol, yn ogystal â'r rhesymau economaidd, dros gynorthwyo Tata Steel i greu ei gyflenwad ynni lleol ei hun, trwy orsaf bŵer o'r radd flaenaf arfaethedig. Ar y pryd, dywedwyd wrthyf y byddai Gweinidog yr amgylchedd a Gweinidog yr economi yn cael cyfarfod ar y cyd gyda Tata yn ystod y mis neu ddau nesaf. Mae hynny dri mis yn ôl erbyn hyn, felly roeddwn i'n meddwl tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd ar hynny a rhoi gwybod i ni sut mae pethau'n mynd.

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn ac am y pwyslais y mae'r Aelod yn ei roi ar faterion amgylcheddol. Gwn fod fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi bod yn trafod y mater hwnnw ymhellach gyda Tata. Roeddwn i fy hun yn Tata ychydig cyn hanner tymor, yn cyfarfod ag uwch swyddogion gweithredol yno. Codasant gyda mi unwaith eto, Llywydd, y pris uchel am ynni y mae'n rhaid iddyn nhw ei brynu a methiant Llywodraeth y DU i weithredu ar gostau uchel i ddiwydiannau sydd â defnydd dwys o ynni. Mae'n rhan o'r rheswm pam y maen nhw mor benderfynol o ddatblygu eu cyflenwadau pŵer eu hunain, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o'r bwriad hwnnw, o ran y cyngor yr ydym ni'n ei roi i Tata ond hefyd wrth drafod ffyrdd y gallwn ni wneud cyfraniad ariannol at y datblygiad hwnnw.

Mi ddywedoch chi yn eich ateb cychwynnol fod yna drafodaeth barhaus rhyngoch chi a Gweinidogion eich Cabinet chi ar y mater yma. Wrth gwrs, holl fwriad datgan argyfwng hinsawdd yw er mwyn newid gêr ac er mwyn sicrhau bod mwy yn digwydd. Felly, ga'i ofyn pa orchymyn, neu instruction, ŷch chi wedi ei roi i'ch Gweinidogion chi ynglŷn â sut mae datgan argyfwng hinsawdd yn mynd i newid eu blaenoriaethau nhw? Ac a fydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn diwygio llythyrau cylch gorchwyl—remit letters—i gyrff cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng yma?

Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ac am yr awgrym hefyd. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, rŷm ni wedi newid y ffordd rŷm ni'n mynd at y broses o greu'r cyllid am y flwyddyn nesaf yn fewnol, a rhoi mwy o bwyslais ar bethau rŷm ni'n gallu eu gwneud ar draws y Llywodraeth i gyd, pan fyddwn ni'n siarad am ddatgarboneiddio a phethau yn yr un maes. Felly, rŷm ni wedi newid y ffordd rŷm ni'n mynd ati. A phwrpas gwneud hynny yw i gasglu mwy o syniadau a newid y pethau rŷm ni'n eu gwneud ar draws y Llywodraeth, a, gydag unrhyw syniadau, fel yr un roedd e wedi'i awgrymu'r prynhawn yma, wrth gwrs, rŷn ni'n agored i feddwl a thrafod syniadau fel yna. 

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yng nghanol eich ymgodymu â'r penderfyniad ynghylch ffordd liniaru'r M4 a'i oblygiadau i fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a ydych chi wedi cael eich hysbysu bod First Group sydd wedi'i leoli yn Aberdeen ar fin ymddihatru o'i weithrediadau bysus yn y DU, gan gynnwys yn Abertawe, lle mae ei is-gwmni, First Cymru, yn rhedeg y gwasanaeth bws lleol sydd hefyd yn ymestyn i'r dwyrain i Ben-y-bont ar Ogwr ac i'r gorllewin i Ddinbych-y-pysgod ac, wrth gwrs, yn genedlaethol trwy wasanaeth TrawsCymru hefyd?

Llywydd, roeddwn i'n ymwybodol o'r adroddiadau a wnaed ar y mater hwnnw. Dyna'n union pam yr ydym ni wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol ac i eraill, sicrhau y gellir gwneud y lefel sylweddol iawn o fuddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei wneud mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru mewn ffordd sy'n gwasanaethu budd y cyhoedd. Edrychaf ymlaen at weld y ddeddfwriaeth honno'n cael ei rhoi gerbron y Cynulliad hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn galendr hon, ac at y broses o graffu a fydd yn gysylltiedig â hi wedyn.

Rydym ni, ar yr ochr hon, wrth gwrs, yn croesawu symudiadau tuag at ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau. Yn y cyfamser, roeddwn i'n meddwl tybed a hoffai'r Prif Weinidog ddweud pa un a allai caffael First Cymru fod yn gyfle gwych i Abertawe ddilyn modelau Bws Caerdydd a Bws Casnewydd, ac yn wir gallech chi ddweud bod tebygrwydd â'r sefyllfa ym Maes Awyr Caerdydd, o ran dangos sut y gall darpariaeth dda o wasanaethau cyhoeddus gynhyrchu adenillion i'r trethdalwr yn hytrach nag elw i'r cyfranddaliwr. Yn gwbl briodol, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal tuag at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru trwy gynnig tocynnau mantais i ddeiliaid pasys bws, ond, ac eithrio yng Nghaerdydd a Chasnewydd, mae cyfran o gyllid pasys bws Llywodraeth Cymru yn mynd i elw cwmnïau sector preifat yn Lloegr, yr Alban, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a Singapôr. Oni fyddai'n llawer gwell pe byddai'r arian hwn yn cael ei ailgylchu yng Nghymru trwy gymryd gweithrediadau bysiau, fel First Cymru, nawr ei fod ar werth, i berchnogaeth gyhoeddus? Ac a fyddech chi hefyd yn cytuno bod y cyfle i ddod â First Cymru i berchenogaeth gyhoeddus yn tanlinellu'r cyfeiriad y dylem ni fod yn ei ddilyn wrth symud ymlaen tuag at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig Cymru gyfan wedi ei gydgysylltu trwy Drafnidiaeth Cymru?

Wel, diolchaf i Adam Price am yr ail gwestiwn yna ac i gytuno â llawer o'r dadansoddiad a wnaeth, sy'n gyson iawn â'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar ail-reoleiddio bysiau a'r rhesymau pam yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno'r cynigion hynny. Rwy'n gyfarwydd iawn, Llywydd, â model Caerdydd a'r ffaith bod Casnewydd wedi llwyddo i gadw perchenogaeth gyhoeddus ar ei gwasanaeth bysiau. Mae hyn wedi bod yn nannedd gwrthwynebiad gan Lywodraeth y DU—eu penderfyniad ideolegol nhw y dylai awdurdodau lleol ymddihatru eu hunain o wasanaethau y maen nhw'n eu rhedeg ar ran y cyhoedd—a bwriad ein Papur Gwyn yw defnyddio pwerau sydd gennym ni i wrthdroi'r duedd honno yma yng Nghymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei lle a bydd wedi clywed y pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud am y camau y gallai Abertawe eu cymryd yn uniongyrchol, a gwn y bydd yn gallu trafod y posibiliadau hynny gydag arweinydd y cyngor yn Abertawe i weld pa archwaeth sy'n bodoli naill ai i symud o flaen y ddeddfwriaeth yr ydym ni'n bwriadu ei chyflwyno, neu a fydd y ddeddfwriaeth y byddwn ni'n ei darparu yn cynnig gwell llwyfan i'r awdurdod lleol hwnnw ac eraill symud i'r cyfeiriad y credaf sy'n gyffredin rhyngom ni.

Rwy'n croesawu hynny. A gaf i annog Llywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol hefyd i weld a oes posibilrwydd y gallai gymryd cyfran? Bydd rhai ohonom ni, wrth gwrs, yn cofio Trafnidiaeth De Cymru. Mae ganddo ddepo o hyd ym mhentref Tŷ-croes, y mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau yn ei adnabod yn dda iawn. Felly, mae cyfle yn y fan yma.

Yn olaf, soniais am Faes Awyr Caerdydd, sy'n esiampl dda, rwy'n credu, o pam y gall y math hwn o ddull fod yn llwyddiannus. Serch hynny, roeddwn i braidd yn bryderus ynghylch y dystiolaeth a gawsom ni gan y maes awyr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn nodi eu cred bod angen iddyn nhw gymryd neu fod angen i Lywodraeth Cymru werthu rhan o'i chyfran yn y maes awyr er mwyn iddyn nhw sicrhau'r buddsoddiad sy'n angenrheidiol. A all y Prif Weinidog ddweud ai dyna yw safbwynt polisi Llywodraeth Cymru? A ydych chi'n agored i werthu rhan o'ch cyfran? Ac a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n ymwybodol o unrhyw drafodaethau, neu beth fyddai eich safbwynt pe byddai'r gyfran honno'n cael ei gwerthu i gronfa gyfoeth sofran gwlad a oedd â hanes amheus o ran hawliau dynol?

13:45

Llywydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru bolisi presennol o werthu rhan o'n cyfran yn y maes awyr. Rwy'n deall y pwyntiau y mae'r maes awyr yn eu gwneud am yr angen am gyfalaf i'w gynorthwyo i ehangu a datblygu ymhellach, a hyd yma rydym ni bob amser wedi gallu cefnogi'r maes awyr yn ei uchelgeisiau trwy Fanc Datblygu Cymru ac offerynnau eraill sydd gennym ni yn ein dwylo ein hunain. Credaf fod hynny wedi gwasanaethu'r maes awyr yn dda, ac ni welaf unrhyw reswm dros wyro oddi wrth y model hwnnw.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi esbonio'r gostyngiad parhaus i nifer yr ymgeiswyr i fod yn athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru o dan eich Llywodraeth, a pham y methwyd â chyrraedd y targedau recriwtio yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf?

Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n ymwybodol o'r ffigurau diweddaraf o ran hyfforddiant cychwynnol athrawon. Rydym ni'n parhau i ddiwygio rhannau o'r cynnig yr ydym ni'n ei wneud i bobl yng Nghymru i geisio denu mwy o bobl i'r proffesiwn, ac yn enwedig i feysydd lle mae prinder. Rydym ni'n parhau i recriwtio'n llwyddiannus iawn ar lefel gynradd. Mae rhagor y mae angen i ni ei wneud, yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ac o ran addysgu'r Gymraeg, i sicrhau ein bod ni'n recriwtio'r bobl y byddwn ni eu hangen ar gyfer y dyfodol. Rydym ni'n cynnig pecyn hael iawn o gymorth i bobl sy'n cynnig eu hunain ar gyfer hyfforddiant athrawon yn y ffordd honno. Yr hyn na fyddwn ni'n ei wneud, Llywydd, yw gostwng y safonau yr ydym ni'n eu disgwyl gan bobl sy'n dod i mewn i'r proffesiwn, a byddwn yn parhau i raddnodi ein cynnig i sicrhau bod gennym ni gyflenwad o athrawon sydd eu hangen yng Nghymru, ac o'r safon sydd ei hangen arnom hefyd.

Prif Weinidog, mae'r ffigurau hyn yn peri pryder mawr iawn, gan fod nifer y rhai sy'n hyfforddi i addysgu ar lefel uwchradd 40 y cant yn is na'r targed, tra bod nifer y myfyrwyr a oedd yn dilyn cyrsiau lefel cynradd 11 y cant yn is na'r targed. Mae hyn yn golygu bod 370 yn llai o fyfyrwyr wedi ennill statws athro cymwysedig yn 2017-18 o'i gymharu â phedair blynedd yn ôl, ac rydym ni hefyd wedi gweld nifer yr athrawon dan hyfforddiant newydd o Gymru ar gyrsiau ysgolion uwchradd yng Nghymru yn gostwng gan 37 y cant dros y pedair blynedd diwethaf, tra bod y nifer sy'n dechrau hyfforddi yn Lloegr mewn gwirionedd wedi cynyddu gan 34 y cant. Yn wir, mae nifer y myfyrwyr o Loegr sy'n dod i hyfforddi yma hefyd wedi gostwng gan dros hanner. Yr hyn y mae hyn yn ei amlygu, Prif Weinidog, yw patrwm. Mae eich Llywodraeth wedi profi nad yw'n gallu recriwtio athrawon ar gyfer y genhedlaeth nesaf o blant ysgol Cymru, nad yw'n gallu perswadio cronfa dalent Cymru i hyfforddi yma, ac yn ddi-glem o ran gwneud Cymru yn lle deniadol i eraill ddod i hyfforddi yma. Felly, a allwch chi roi un enghraifft benodol i'r Cynulliad hwn o bolisi gweithredol ar gyfer gwrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder, y mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi llywyddu drosti?

Wel, rwy'n gwrthod yn llwyr y disgrifiad hyperbolig y mae'r Aelod wedi ei gynnig i ni—[Torri ar draws.] Mae ffeithiau yn un peth; mae eu dehongli a'u disgrifio yn un arall. Y disgrifiad ohonynt yr wyf i'n anghytuno'n helaeth ag ef yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod.

Gadewch i mi roi ei un enghraifft iddo: byddwn yn ymestyn hyfforddiant athrawon yng Nghymru trwy lwybrau rhan-amser newydd, gyda chymorth gan y Llywodraeth Cymru hon i fyfyrwyr mewn addysg uwch. Oherwydd ein bod ni eisiau dod ag amrywiaeth ehangach o bobl i'r proffesiwn addysgu, ac rydym ni eisiau pobl sydd â phrofiad mewn rhannau eraill o'r gweithlu sydd wedyn, ar yr adeg honno yn eu gyrfaoedd, yn barod i feddwl am wneud addysgu yn rhywbeth y bydden nhw yn ei gynnig yn y dyfodol. Yn aml, nid ydyn nhw mewn sefyllfa i droi eu cefnau ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud a hyfforddi ar sail llawn amser i addysgu, ond mae llwybrau rhan-amser, wedi eu cefnogi trwy waith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r Brifysgol Agored ac eraill, yn agor y posibiliadau hynny i recriwtiaid newydd yma yng Nghymru ac mae honno, rwy'n credu, yn enghraifft eglur a phenodol iawn o ddull arloesol o recriwtio yn y maes hwn.

Prif Weinidog, ddylech chi ddim diystyru'r ffigurau hyn. Mae'r ffigurau hyn yn peri pryder mawr iawn, ac mae'n hen bryd i'ch Llywodraeth ddechrau mynd i'r afael â'r materion hyn.

Nawr, yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y targed uchelgeisiol o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. I gyflawni hyn, bydd rhaid recriwtio llawer mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg ac athrawon sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg. Yn anffodus, mae'r nifer o fyfyrwyr sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg ar ei isaf am ddegawd, gyda dim ond 10 y cant o ymgeiswyr yn gallu gwneud hynny. Ac ar ben hynny, o'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, doedd dros draean o'r rhain ddim yn hyfforddi i ddysgu drwy'r Gymraeg.

O ystyried y ffactorau yma, dwi'n pryderu y byddwn ni ddim yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu nawr. Yn sicr mae'n rhaid i chi fod yn fwy uchelgeisiol i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn fodlon dysgu'r Gymraeg drwy strategaeth gredadwy. Pa obaith sydd gyda ni o gyrraedd y targed yma os nad ydym ni'n mynd yn y cyfeiriad iawn fel y mae hi? Felly, beth ydych chi yn mynd i'w wneud i wrthdroi'r sefyllfa yma i sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn cael eu hannog i ddysgu drwy'r Gymraeg?

13:50

Wel, i ddechrau, a gaf i gytuno gyda beth mae'r Aelod wedi'i ddweud am bwysigrwydd paratoi pobl ifanc trwy ein hysgolion ni os ŷm ni'n mynd i gyrraedd at y targed uchelgeisiol sydd gyda ni? Dyna pam rŷn ni'n gwneud mwy yn ein hysgolion ar lefel A, i gael mwy o fyfyrwyr i astudio ar lefel A a thynnu mwy o bobl i mewn i addysg bellach ac addysg uwch sy'n defnyddio Cymraeg trwy'r broses o gael addysg.

Es i i'r Urdd, fel dwi'n siŵr y gwnaeth lot Aelodau eraill yma, yr wythnos diwethaf, a chwrddais i â nifer fawr o bobl ifanc sy'n defnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol ac ym mhethau bob dydd, ac yn mwynhau defnyddio'r Gymraeg yn yr Eisteddfod, a siarad gyda lot o bobl eraill oedd jest lawr yn y Bae—jest wedi dod i lawr i ymlacio—ac esbonio beth maen nhw'n ei wneud, a threial creu ysbryd gyda phobl eraill i'n cefnogi ni ar y daith rŷn ni eisiau ei gwneud.

So, dwi'n dal i fod yn hyderus, os ŷm ni'n gweithio gyda'n gilydd, rŷn ni'n gallu cyrraedd at filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rŷn ni'n gwneud popeth ni'n gallu ei wneud fel Llywodraeth, yn y maes addysg a thu fas i addysg hefyd, i gefnogi'r targed uchelgeisiol hwn.

Prif Weinidog, roeddech chi'n arfer dweud y byddech chi'n parchu canlyniad y refferendwm, ond nid ydych chi'n gwneud hynny nawr, ydych chi? Ar ôl arwain y Blaid Lafur yng Nghymru i'w chrasfa waethaf ers dros 100 mlynedd, rydych chi'n dweud wrth y pleidleiswyr eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad. Rydych chi'n arwain sefydliad sy'n dymuno aros yn yr UE ac yn dweud wrth bobl Cymru, yng ngeiriau un AC, eu bod nhw'n anwybodus a bod yn rhaid iddyn nhw bleidleisio eto. Prif Weinidog, pryd wnaethoch chi roi'r gorau i gredu mewn democratiaeth?

Wel, Llywydd, rwy'n gwrthod yn llwyr yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Dilynodd y Llywodraeth hon, yn ystod y misoedd hir yn dilyn y refferendwm, ddau drywydd gweithredu a gymeradwywyd yma ar lawr y Cynulliad ar 30 Ionawr pan wnaethom ni bleidleisio ar y ddau gynnig hynny. Y cyntaf oedd ein bod ni'n credu o'r cychwyn y gellid dod i gytundeb a fyddai'n caniatáu i'r wlad hon adael yr Undeb Ewropeaidd heb i hynny niweidio ein heconomi a'n swyddi. Nodwyd hynny gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rydym ni wedi defnyddio pob cyfle yr ydym ni wedi ei gael, yn aml iawn gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban, i hyrwyddo'r math hwnnw o Brexit.

Mae'n amlwg i mi bod y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn golygu ei bod bellach yn amhosibl dod i gytundeb o'r fath, gan fod y gystadleuaeth rhwng ymgeiswyr sy'n ceisio dadwneud ei gilydd trwy ddatgan ffurfiau caletach a chaletach o Brexit, ac mae hynny'n golygu bod yr ymdrechion hynny a wnaed gennym ni, a wnaed gennym ni yn gwbl ddidwyll, a wnaed gennym ni am gyhyd ag y gallem, ac maen nhw wedi cyrraedd y pwynt lle nad oes modd eu dilyn yn gredadwy mwyach. O dan yr amgylchiadau hynny, yr hyn yr wyf i wedi ei wneud yw mynegi'r safbwynt y cytunwyd arno ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn—sef pe na byddem ni'n gallu gweld ffordd o sicrhau'r ffurf honno o Brexit, yna byddai'n rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf. Dyna'r sefyllfa yr ydym ni wedi ei chyrraedd. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu nawr i sicrhau'r sefyllfa honno. Ac fe wnaf i ei ddweud eto er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth na fydd cyngor Llywodraeth Cymru, pe byddai ail gyfle i bobl bleidleisio ar gynnig o'r fath, wedi newid o'r cyngor a roesom yn y cyfnod cyn refferendwm 2016—sef bod dyfodol Cymru yn cael ei ddiogelu'n well trwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

13:55

Prif Weinidog, nid yw hynny'n esbonio pam y dywedasoch un peth cyn yr etholiad Ewropeaidd ac un arall ar ôl hynny. Rydych chi'n awgrymu nawr bod cymaint mwy o siawns o gael sefyllfa dim cytundeb fel y bu'n rhaid i chi newid eich polisi a dweud eich bod chi'n cefnogi refferendwm beth bynnag, ond nid dyna'r hyn a ddywedasoch cyn yr etholiad, nage? Rydych chi'n dweud wrthym ni bod cymaint mwy o siawns o ddim cytundeb—daethoch i'r pwyllgor Brexit ar 7 Ionawr ac eto ar 25 Mawrth i siarad am ddim cytundeb; dim ond unwaith yr ydych chi wedi bod yno ers hynny. Daethoch i'r Siambr hon ar 22 Ionawr, 19 Chwefror ac eto ar 19 Mawrth i siarad am ddim cytundeb, ond nid ydych chi wedi dod i'r Siambr hon ers hynny. Ar 5 Mawrth, cawsoch y ddadl honno, i ddiystyru dim cytundeb yn ôl pob sôn. Hyd yn oed ar 21 Ionawr, cawsoch ddiwrnod 'dim cytundeb' a chafodd holl fusnes y Llywodraeth ei ganslo gennych ar gyfer y diwrnod cyfan a rhoesoch ddatganiad eich hunan a chyflwyno pob Gweinidog i ddweud wrthym ni am ddim cytundeb, ond ni fu dim o hynny ers hynny. Oherwydd y gwirionedd yw nad yw pethau wedi newid, ac eithrio'r hyn a ddigwyddodd i'ch plaid chi yn yr etholiad Ewropeaidd hwnnw.

Rydych chi'n sôn am broses etholiad y Ceidwadwyr, y mae gennych chi gymaint o ddiddordeb ynddi, y bydd ethol arweinydd Ceidwadol newydd yn newid hynny i gyd, ei fod yn cael gwared ar y siawns o gytundeb wedi ei gytuno ac yn cynyddu'n aruthrol y siawns o adael 'heb gytundeb'. A yw ef wedi bod yn dilyn yr un ymgyrch arweinyddiaeth Geidwadol â mi? O'r tri ymgeisydd sy'n ffefrynnau, mae un ohonyn nhw, Jeremy Hunt, wedi dweud y byddai dim cytundeb yn hunanladdiad gwleidyddol ac ni fyddai'n mynd ar drywydd hynny. Mae un arall, Michael Gove, wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu dim cytundeb gymaint, fel ei fod yn barod i aros yn yr UE tan ddiwedd 2020 o leiaf. Felly, ceir un o'r ymgeiswyr sy'n ffefrynnau, Boris, sydd wedi dweud ei fod yn cefnogi dim cytundeb os na chaiff gytundeb erbyn 31 Hydref. A ydych chi'n credu Boris? Oes gennych chi ffydd ym mhopeth y mae e'n ei ddweud? A ydych chi'n credu bod mwy o wirionedd o gwbl yn yr hyn y mae'n ei ddweud nawr nag a oedd yn yr hyn a ddywedodd Theresa May 100 gwaith ynghylch gadael ar 29 Mawrth? Onid yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi wedi dweud un peth cyn yr etholiad, un arall wedyn, ac nad yw'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am ddim cytundeb, yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am barchu canlyniad y refferendwm, yn ddim mwy ystyrlon na'ch ymrwymiad maniffesto i ddarparu ffordd liniaru i'r M4?

Wel, Llywydd, rwyf i wedi arfer â'r ffaith mai theatr yw gwleidyddiaeth, er ei bod yn llawer iawn mwy ar ffurf pantomeim nag unrhyw ffurf arall. Cynigiais ateb priodol i'r Aelod i'w gwestiwn cyntaf. Nid yw'n cymryd unrhyw sylw o gwbl o'r ateb ac roedd yn well ganddo gynnig ei bregeth a baratowyd ymlaen llaw i ni. 'Does dim wedi newid', meddai, ac ysgrifennais hynny i lawr, ar un adeg. Wrth gwrs, mae ef wedi newid. Mae ef wedi newid ei blaid nifer o weithiau, rwy'n credu, dros y cyfnod a amlinellwyd ganddo.

Mae'r perygl o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, Llywydd, wedi cryfhau'n aruthrol o ganlyniad i'r etholiad o fewn y Blaid Geidwadol, gan fod yr ymgeiswyr yno'n gwybod bod yr etholaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei bodloni o fewn y blaid honno yn etholaeth sy'n mynnu eu bod nhw'n dweud y byddan y byddan nhw'n gadael yr Undeb Ewropeaidd a'i adael heb gytundeb o gwbl os bydd angen. Mae hynny'n drychinebus o safbwynt Cymru. Yn anffodus, yn fy marn i, mae'r gallu i geisio llunio gwahanol gytundeb wedi diflannu o dan yr amgylchiadau hynny. O dan yr amgylchiadau hynny, ailadroddaf yn syml y safbwynt y cytunwyd arno ar lawr y Cynulliad hwn—sef os na allwn ni ddod i gytundeb o'r math hwnnw, yna mae'n rhaid i ni fynd yn ôl at y bobl. Dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Nid ydym ni'n fodlon sefyll o'r neilltu—nid ydym ni'n fodlon sefyll yn ddidaro a chaniatáu i'r aelod ac eraill tebyg iddo dynnu'r wlad hon allan o'r Undeb Ewropeaidd ar delerau a fyddai'n gwneud cymaint o niwed i deuluoedd, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, prifysgolion, ar hyd a lled Cymru. Efallai ei fod ef yn fodlon ein taflu ni dros ymyl y clogwyn, ond yn sicr ni fyddwn ni yno i ymuno ag ef.

Cyllid ar gyfer Seilwaith Rheilffordd

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer seilwaith rheilffordd yng Nghymru? OAQ53937

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd ac mae cyflawniad y cyfrifoldeb hwnnw yn dal i fod yn druenus o annigonol yng Nghymru. Mae adolygiad Williams o reilffyrdd Prydain yn cynnig cyfle i sicrhau datganoli pwerau a chyllid angenrheidiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

14:00

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf a hanesyddol pan ddaw hi'n fater o drafnidiaeth trenau yng Nghymru, gan agor rheilffyrdd newydd, agor gorsafoedd newydd, buddsoddi mewn cerbydau, trydaneiddio rhai o'r rheilffyrdd ac, wrth gwrs, y systemau metro—mwy nag un, wrth gwrs—ledled Cymru. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu, Prif Weinidog, onid yw, â Llywodraeth y DU, a addawodd drydaneiddio'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac yna cefnu ar yr addewid hwnnw? A gawn ni nodi hefyd, Prif Weinidog, er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n cael cyfran bitw o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd—1 y cant o'r gyllideb gyfan—bod Llywodraeth y DU wedi methu droeon—droeon—â chydsynio i ddatganoli pwerau a'r gyllideb ar gyfer rheilffyrdd, ac nid oes dim wedi ei gynllunio gan Lywodraeth y DU ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog? Prif Weinidog, onid yw'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i bobl Cymru, tra bod Llywodraeth y DU, trwy fethu â buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, wedi siomi Cymru?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae ei ddiddordeb eu hun mewn rheilffyrdd yng Nghymru, a'i ymrwymiad iddyn nhw, yn hysbys o amgylch y Siambr ac fe ddangoswyd hyn yn eglur iawn yn ystod y cyfnod yr oedd yn Brif Weinidog yn y fan yma. Mae e'n iawn, wrth gwrs—mae gennym ni 11 y cant o hyd llwybrau Network Rail yma yng Nghymru ac mae gennym ni oddeutu 2 y cant o arian yn cael ei wario ar welliannau i'r rhwydwaith yma. Nawr, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Mr Grayling, pan gyhoeddodd na fyddai'n bwrw ymlaen ag ymrwymiad maniffesto ei blaid i drydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe, bod pum gwahanol achos busnes y byddai'n bwrw ymlaen â nhw erbyn hyn—achos busnes, fel y dywedodd Carwyn Jones, i wella gorsaf reilffordd Caerdydd, i gael gorsafoedd ychwanegol o amgylch Abertawe, i gael amseroedd teithio gwell rhwng de a gogledd Cymru ac ar draws ein ffin i Loegr. Hyd yn hyn, Llywydd, ni welwyd unrhyw un o'r achosion busnes hynny a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar adeg canslo trydaneiddio—mae hynny bron i ddwy flynedd yn ôl—ni welwyd unrhyw un o'r achosion busnes hynny, ni ymrwymwyd yr un geiniog o gyllid ac nid oes unrhyw eglurder o gwbl ynghylch y camau nesaf na'r amserlenni i wireddu'r ail gyfres honno o ymrwymiadau. Does dim rhyfedd bod yr Aelod yn tynnu sylw at y gwrthgyferbyniad rhwng y pethau a wnaed yma yng Nghymru i gefnogi ein rheilffyrdd a'r methiant llwyr ar ran Llywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau—cyfrifoldebau y mae wedi eu haddo, cyfrifoldebau sy'n ddyledus ganddi i bobl yng Nghymru.

Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, o weld, o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU yn y rhwydwaith rheilffyrdd, ailsefydlu cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr trwy dro Halton—[Torri ar draws.] Trwy dro Halton. Mae hyn wedi bod yn rhywbeth yr wyf i wedi ei hyrwyddo ers tro byd yn y Siambr hon, gan godi cwestiynau am y mater yn gyntaf gyda'r Prif Weinidog blaenorol dros ddegawd yn ôl. Nawr, mae'r cysylltiadau rheilffordd hynny'n eithriadol o bwysig i bobl y gogledd, ond un drychineb yw nad oes cyswllt rheilffordd uniongyrchol o hyd ar hyn o bryd ar gyfer morlin gogledd Cymru i mewn i Lerpwl, er gwaethaf y ffaith bod y cyswllt rheilffordd ar gael erbyn hyn. Nawr, rwy'n deall bod cynlluniau i ailgyflwyno un, ond maen nhw gryn amser i ffwrdd ac mae dal i fod angen newid trenau yng Nghaer ar hyn o bryd ac, yn anffodus, nid yw'r amserlenni yn cyfateb yn dda i sicrhau amser rhesymol i bobl allu cymudo yn ôl ac ymlaen i Lerpwl am ba bynnag ddiben y gallai fod arnyn nhw angen gwneud hynny. Felly, a gaf i erfyn arnoch chi i siarad â Trafnidiaeth Cymru er mwyn ystyried eu trefniadau amserlennu, cyn ailgyflwyno'r cyswllt rheilffordd uniongyrchol rhwng morlin y gogledd a Lerpwl, er mwyn cael yr amseroedd cysylltu hynny'n iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o Lerpwl yn gyflym?

A gaf i ymuno â'r aelod i groesawu'r gwasanaethau newydd rhwng gogledd Cymru a Lerpwl—canlyniad y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru trwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau bod hynny'n digwydd? Wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn i gyfeirio at yr anawsterau amserlennu yng Nghaer, ond nid yw record Chris Grayling ar amserlennu yn un sy'n rhoi llawer iawn o ffydd i ni y bydd y broblem honno'n cael ei datrys yn hawdd drwy apelio iddo. Yn ddiweddar, llofnodwyd memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Transport for the North. Bydd hynny'n sicr yn helpu i ddatrys rhai o'r rhwystrau i'r penderfyniad sydd gennym ni i gael teithio uniongyrchol ar y trên rhwng gogledd Cymru a Lerpwl, ac mae'r cerbydau gennym yn barod ar gyfer gwneud hynny. A, phan fydd gennym ni'r cydweithrediad sydd ei angen arnom ni gan Lywodraeth y DU, byddwn yn ceisio datrys y problemau sydd yn eu dwylo nhw sy'n rhwystro hyn rhag cael ei gyflawni.

14:05
Yr Arolwg Seismig Arfaethedig o Fae Ceredigion

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arolwg seismig arfaethedig o Fae Ceredigion? OAQ53975

Diolchaf i Joyce Watson am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu echdynnu a defnyddio pob tanwydd ffosil. Mae ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gosod tanwyddau ffosil ar waelod yr hierarchaeth ynni yma yng Nghymru. Mae hynny i gyd yn berthnasol i weithgarwch yn sianel San Siôr ac mewn mannau eraill o gwmpas arfordir Cymru.

Rwy'n falch iawn o glywed hynny, ac rwyf yr un mor falch o glywed bod y gweithgarwch arfaethedig hwn wedi ei wahardd erbyn hyn. Ond bydd y 7,000 o bobl sydd wedi llofnodi deiseb a oedd yn gwrthwynebu hyn yr un mor falch o glywed hynny, ac ysgrifennais at y Weinidog yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig am hyn ym mis Mai. Ond rwy'n meddwl—. Ac roeddwn i'n mynd i ofyn, ond rydych eisoes wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn i, am rywfaint o eglurder ynghylch ein safbwynt ar arolygon o'r fath, yn yr un modd ag y gwnaethom ein safbwynt yn gwbl eglur wrth ymdrin â ffracio. Felly, gallaf erbyn hyn, diolch i'r ffaith i chi achub y blaen ar fy nghwestiwn, ysgrifennu yn ôl at y bobl sydd wedi bod yn ysgrifennu ataf i wneud hynny'n gwbl eglur, ein bod ni'n gwrthwynebu unrhyw weithgarwch o'r fath, yn enwedig yn y dyfroedd hyn, lle maen nhw'n ardaloedd gwarchodedig morol ac yn cynnal y bywyd gwyllt sy'n byw ynddyn nhw.

A gaf i ddiolch i Joyce Watson am y diddordeb cyson y mae hi wedi ei gymryd yn y mater hwn, a'r ffordd y mae hi wedi hysbysu Gweinidogion Cymru am bryderon lleol? Rwy'n falch o fod wedi gallu egluro safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n anochel, Llywydd, ac yn briodol bod ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio yn golygu bod yn rhaid i danwyddau ffosil fod ar waelod yr hierarchaeth ynni yma yng Nghymru, yn hytrach na fel ag y mae ym mholisi Llywodraeth y DU, sef sicrhau bod cymaint â phosibl o olew a nwy yn cael ei adfer o silff gyfandirol y DU, gan gynnwys Cymru. Yn wir, mae wedi cyflwyno rhwymedigaeth statudol ar yr Awdurdod Olew a Nwy i gyflawni yn union hynny. Nawr, nid dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae buddiannau mwy nag un Llywodraeth ar waith o ran arolygon seismig arfaethedig o ardal bae Ceredigion a sianel San Siôr, ond mae ein safbwynt ni, rwy'n credu, mor eglur ag y gall fod, ac rwy'n falch iawn o fod wedi gallu ei roi ar y cofnod unwaith eto y prynhawn yma.

Wrth gwrs, ar yr ochr hon i'r Siambr, rydym ni'n falch iawn yn wir bod y cwmni wedi gohirio ei gais ar yr adeg hon, ond credaf ei bod hi'n bwysig pwysleisio mai ein dealltwriaeth ni yw ei fod wedi ei ohirio, yn hytrach na'i roi o'r neilltu yn gyfan gwbl. Nid oes yr un ohonom, rwy'n credu, eisiau gweld y profion hyn ym mae Ceredigion. Nawr, mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod ef a'i Lywodraeth yn gwrthwynebu'n llwyr unrhyw gynigion i archwilio'r posibilrwydd o gloddio am nwy neu olew yn yr ardal hon. Fodd bynnag, ein dealltwriaeth ni yw bod Eni, y cwmni, wedi cyfiawnhau ei gais yn rhannol ar sail cynllun morol drafft Cymru, sy'n dweud yn benodol, a dyfynnaf:

'Anogir cyflwyno cynigion sy’n mwyhau’r cyflenwad hirdymor o olew a nwy'.

Nawr, yn amlwg, cynllun drafft yw hwn fel y mae ar hyn o bryd, ond gofynnaf i'r Prif Weinidog, yng ngoleuni'r hyn y mae wedi ei ddweud y prynhawn yma, ac yng ngoleuni datganiad yr argyfwng newid yn yr hinsawdd, ymrwymo gyda'i Weinidogion i adolygu'r cynllun morol drafft i gael gwared ar unrhyw gymalau y gallai cwmnïau yn y dyfodol eu defnyddio, hyd yn oed os ydyn nhw yn dyfynnu'r cymalau hynny allan o'u cyd-destun o bosibl, fel y maen nhw wedi ei wneud yn yr achos hwn efallai—y dylid cael gwared ar unrhyw gymalau y gellid ystyried eu bod yn annog cloddio, a bod ymrwymiad eglur i annog pobl i beidio â chloddio yn unrhyw ran o amgylchedd morol Cymru wedi ei gynnwys, wedi ei gynnwys yn gadarn, o fewn y cynllun hwnnw pan fydd wedi ei gwblhau.

14:10

Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau yna ac am y modd â chafeat y dyfynnodd yr hyn yr oedd y cwmni wedi ei ddweud. Roedd yn iawn yn yr hyn a ddywedodd, ein bod ni wedi cyhoeddi cynllun drafft, bod ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynllun drafft hwnnw, a gwn y bydd yr Aelodau yn edrych ymlaen at weld y ffordd y bydd y cynllun terfynol, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn cymryd i ystyriaeth safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad a datblygiadau sydd wedi digwydd yn y cyfamser.

Tai Fforddiadwy

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu tai fforddiadwy ar ystadau preswyl newydd sy'n cael eu hadeiladu? OAQ53971

Llywydd, mae cynyddu nifer y tai fforddiadwy yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon. Mae ein polisi cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol, drwy eu polisïau cynllun datblygu, sicrhau'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion eu cymunedau.

Y broblem yw nad yw yn nwylo awdurdodau cynllunio, yn aml, i ddarparu'r lefel honno o dai fforddiadwy. Rhoddodd datblygiad a gymeradwywyd yn ddiweddar ar safle hen glwb golff Parc Virginia yng Nghaerffili 350 o dai trwy bwyllgor cynllunio, a dim ond 7 y cant ohonyn nhw—7 y cant—yn rhai fforddiadwy, ac mae'r datblygwyr yn lleihau eu darpariaeth fforddiadwyedd yn barhaus drwy gydol y broses gynllunio. Mae Parc Virginia yng Nghaerffili yn nodweddiadol o system yr wyf i wedi bod yn ei chodi ers i mi gael fy ethol gyntaf i'r Cynulliad hwn. Mae polisi cynllunio presennol yn rhoi gormod o ryddid i ddatblygwyr adeiladu cartrefi o fath uwchraddol sy'n rhy ddrud i lawer o bobl o leol ac nad ydyn nhw yn galluogi pobl i brynu eiddo fforddiadwy. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen i ddatblygiadau tai newydd fod â gofynion llawer mwy llym ar gyfer tai fforddiadwy gwirioneddol a bod yn rhaid—yn rhaid—i ddatblygwyr preifat gael eu dwyn i gyfrif am hynny?

Wel, diolchaf i Hefin David am hynna ac rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn y mae wedi ei ddweud yn ei ddadansoddiad o'r ffordd y gellir camddefnyddio'r system bresennol i sicrhau canlyniadau na fwriedir i'r system eu sicrhau. Dyna'n sicr pam yr ydym ni wedi cyflwyno newidiadau eisoes yn 'Polisi Cynllunio Cymru' a fydd yn lleihau'r cyfle i ailnegodi ar dai fforddiadwy pan gytunwyd ar hynny rhwng awdurdod lleol a datblygwr. Pan fyddwn ni'n gweld y cytundebau hynny'n cael eu taro, rydym ni'n disgwyl gweld y cytundebau hynny'n cael eu hanrhydeddu. Ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru', fel y dywedaf, yn lleihau'r cyfle i ddatblygwyr ddod yn ôl at y bwrdd a cheisio ailnegodi. Yn fuan, byddwn yn cyhoeddi fframwaith datblygu cenedlaethol Cymru. Bydd hwnnw'n cynnwys camau pellach y gallwn ni eu cymryd i sicrhau bod ein system yn cefnogi ein huchelgeisiau i dai fforddiadwy gael eu hadeiladu ym mhob rhan o Gymru, yn y mannau lle mae fwyaf eu hangen, mewn niferoedd sy'n helpu i fodloni'r galw am dai fforddiadwy ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n dangos gwaith partneriaeth gwirioneddol rhwng awdurdodau lleol sy'n cyflawni eu cyfrifoldebau a'r datblygwyr y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw i'r tai hynny gael eu hadeiladu.

Mae gen i broblem gyda'r term 'tai fforddiadwy', oherwydd gall hynny fod yn gamarweiniol. Mae tai fforddiadwy yng nghyd-destun nodyn cyngor technegol 2 yn cynnwys cartrefi y mae pobl yn berchen arnyn nhw trwy gynlluniau rhannu ecwiti, gan gynnwys Cymorth i Brynu. Ers etholiad 2016, gwerthwyd 40 y cant o'r 3,458 o gartrefi a werthwyd trwy Cymorth i Brynu am fwy na £200,000. Nid yw hynny'n fforddiadwy o safbwynt y rhan fwyaf o bobl. Mae angen i ni gallio ynghylch yr argyfwng tai sy'n atal llawer o bobl ifanc rhag ymuno â'r ysgol eiddo ac yn gorfodi llawer ohonyn nhw i adael y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt gan na allan nhw fforddio prynu tŷ yno mwyach. Mewn papur tai a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru yn gynharach eleni, cynigiais y dylid gosod targed o 20,000 o gartrefi tai cymdeithasol newydd ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth Plaid Cymru. Mae'r farchnad yn siomi gormod o bobl. Prif Weinidog, ni all, ac ni ddylai, Cymru orfod aros tan 2021 i'r argyfwng tai gael ei leddfu. A wnewch chi roi addewid i gyd-fynd â'n huchelgais a'n penderfyniad i ddarparu tai sydd o fewn cyrraedd gwirioneddol i'r rhai sydd wedi eu prisio allan o'r farchnad ar hyn o bryd?

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno bod problem gyda'r term 'tai fforddiadwy'. Nid wyf i'n cytuno'n llwyr â'r Aelod am yr hyn y mae hi wedi ei ddweud am Cymorth i Brynu, sydd wedi bod o gymorth gwirioneddol i lawer o deuluoedd ifanc yng Nghymru gael tai na fyddent wedi bod ar gael iddyn nhw fel arall. Ond mae rhenti tai fforddiadwy yn 80 y cant o gyfraddau'r farchnad, ac, i lawer o bobl, gan gynnwys pobl sy'n ymuno â phroffesiynau fel addysgu a nyrsio, nid yw 80 y cant o renti'r farchnad mewn rhai rhannau o Gymru yn wirioneddol fforddiadwy. Dyma pam mae mwyafrif helaeth y tai yr ydym ni'n eu hadeiladu yn rhan o'n 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn ar gyfradd rhenti cymdeithasol yn hytrach na rhenti fforddiadwy mewn gwirionedd. Felly, mae hynny oddeutu 50 y cant o gyfraddau'r farchnad, sy'n wirioneddol, felly, yng nghylch fforddiadwyedd pobl yn yr amgylchiadau hynny. Rwyf i eisiau i'n polisi tai fod yn uchelgeisiol. Rwyf i eisiau iddo ganolbwyntio ar y bobl hynny sydd fwyaf angen cymorth yn y farchnad dai. Rydym ni'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd y targed yr ydym ni wedi ei osod yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac yna byddwn yn edrych i weld pa gynnig y byddem ni'n ei wneud i bobl Cymru pe byddem ni mewn Llywodraeth yn y Cynulliad nesaf.

14:15
Y Cynllun Arbed yn Arfon

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon? OAQ53965

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Yn ystod cyfnod Arbed 2, cafodd cynlluniau eu cwblhau yn ardal Arfon. Mae trafodaethau’n parhau gyda chyngor sir Gwynedd i edrych ar gynlluniau posibl eraill yn ystod Arbed 3.

Mae etholwyr o Garmel, Deiniolen, y Fron a Dinorwig yn mynegi pryder am safon y gwaith a wnaed o dan y cynllun Arbed roeddech chi’n sôn amdano fo bedair blynedd yn ôl: cladin allanol heb ei osod yn gywir ac felly’n achosi problemau tamprwydd, peipiau draenio diffygiol, waliau wedi cracio, render wedi cracio, plastr tu mewn i’r tŷ wedi cracio yn dilyn y gwaith, difrod wedi’i wneud i’r toeau, afliwiad o’r cladin allanol. Rydw i wedi bod yn gohebu efo’r Gweinidog amgylchedd am hyn, ond mae’r diffygion yn parhau. A wnaiff eich Llywodraeth chi ailedrych ar y sefyllfa a chynnal adroddiad annibynnol i edrych ar safon y gwaith ac, yn bwysicach, i argymell beth all y Llywodraeth ei wneud i helpu fy etholwyr i?

Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn yna. Dwi’n ymwybodol o’r materion mae’r Aelod yn cyfeirio atynt, a hefyd ei gohebiaeth â Lesley Griffiths ar ran ei hetholwyr. Bydd hi’n gwybod mai casgliad yr adolygiad annibynnol diweddar o’r gwaith a gyflawnwyd yn flaenorol drwy Arbed yn Arfon yw nad methiannau o ran y cynllun oedd yn gyfrifol am rai o’r pethau maen nhw wedi cwyno amdanynt. Dwi wedi darllen yr adroddiad annibynnol yn bersonol hefyd i weld beth roedden nhw’n ei ddweud. Nawr, dwi’n gwybod nad oedd rhai o’r pethau mae pobl wedi cwyno amdanynt o fewn cwmpas yr adolygiad annibynnol dŷn ni wedi cael ar hyn o bryd, ac mae swyddogion yn ystyried nawr os oes rhai pethau eraill y bydd rhaid i ni gael cyngor annibynnol arnynt. So, diolch am godi'r pwyntiau yna; rŷm ni’n dal i fod yn eu hystyried nhw tu fewn y Llywodraeth.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys? OAQ53943

Llywydd, ar 8 Mai cyhoeddodd y Gweinidog iechyd £2.554 miliwn o gyllid newydd ar gyfer rhaglen lesiant gogledd Powys. Dim ond un enghraifft yw honno o'r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'n fawr y bwriad i adeiladu cyfleuster gofal iechyd yng ngogledd Powys, sydd bron yn sicr o gael ei leoli yn y Drenewydd. Mae'r swm cychwynnol y soniasoch amdano, wrth gwrs, ar gyfer y camau cychwynnol yn unig, ond bydd y swm llawn, wrth gwrs, 10 gwaith yn fwy er mwyn i'r prosiect hwnnw fynd yn ei flaen. A oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud ar hyn o bryd i roi sicrwydd y bydd rhagor o arian cyfalaf yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod y cyfleuster hwn yn cael ei wireddu? Ac yn ail, hyd yn oed os bydd y prosiect hwn yn symud yn weddol gyflym, bydd rhai blynyddoedd tan y bydd y cyfleuster hwnnw ar waith. Yn y cyfamser, ceir pryderon ynghylch cynaliadwyedd y feddygfa a gwasanaethau iechyd ehangach yn y Drenewydd hefyd. Beth ellir ei roi ar waith yn y cyfamser yn y byrdymor a'r tymor canolig?

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, pryd bynnag y bydd y Llywodraeth yn darparu cyllid o gronfa trawsnewid Llywodraeth Cymru, bod cwestiynau y mae'n rhaid eu hystyried o ran cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaethau hynny, ac mae'r dadleuon cynaliadwyedd hynny yn sicr yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau sy'n arwain at y buddsoddiad hwnnw yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n deall y rheswm pam mae pobl yn gofyn y cwestiynau hynny, ond hoffwn roi sicrwydd i'r Aelod bod y cwestiynau hynny'n cael eu harchwilio yn rhan o'r penderfyniadau sydd wedi arwain at y buddsoddiad hwn yn y lle cyntaf. Ni fyddem yn gwneud y buddsoddiad pe na byddem ni'n credu y byddai'n sicrhau newid cynaliadwy a gwasanaethau newydd cynaliadwy yn y meysydd yr ydym ni'n buddsoddi ynddyn nhw.

Mae'r Aelod yn gwybod y bu'n rhaid i fwrdd iechyd lleol Powys weithio ar gyfres o broblemau lle mae gwasanaethau meddygon teulu wedi cael eu newid yn yr ardal. Rwy'n credu bod ganddyn nhw hanes clodwiw iawn o ailddyfeisio gwasanaethau gofal sylfaenol pan fo'r amrywiaeth ehangach honno o weithwyr proffesiynol yn dod ynghyd o dan arweinyddiaeth meddygon teulu i wneud yn siŵr bod pobl sy'n mynd trwy ddrws practis yn mynd yn syth at y person sydd fwyaf tebygol o allu ymateb i'w angen, boed hwnnw'n fferyllydd, yn ffisiotherapydd, yn therapydd galwedigaethol, beth bynnag y gall y tîm ehangach hwnnw ei ddarparu. Mae'r profiad hwnnw a'r arbenigedd hwnnw yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer materion ym Mhowys lle mae angen newid yn y ddarpariaeth o ofal sylfaenol.

14:20
Pleidlais y Bobl ar Brexit

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gefnogaeth i bleidlais y bobl ar Brexit? OAQ53978

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Fel y dywedais yn gynharach, Lywydd, mae cystadleuaeth rhwng ymgeiswyr i arwain y Blaid Geidwadol yn golygu bod y cyd-destun wedi newid o ran y polisi y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ei ddilyn. O dan yr amgylchiadau hyn, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, a bleidleisiodd ar 30 Ionawr mai'r unig ddewis yw rhoi'r penderfyniad yn ôl i'r bobl, yn gweld mai dyna'r sefyllfa yr ydym wedi'i chyrraedd erbyn hyn, ac rwyf i wedi ailddatgan fy nghefnogaeth i safbwynt y Cynulliad Cenedlaethol.

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod bod llawer ohonom ni o bob rhan o'r Cynulliad yn croesawu'n fawr eich cyhoeddiad o gefnogaeth i bleidlais y bobl, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod bod angen eglurder llwyr a'i bod yn hanfodol eich bod chi a'ch holl gynrychiolwyr mewn unrhyw fforwm, gan gynnwys y Blaid Lafur, yn hollol glir? Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n cefnogi pleidlais y bobl o dan bob amgylchiad, ac y byddwch yn ymgyrchu ac yn pwyso i gael pleidlais ar bob cyfle, a phan fydd y bleidlais y bobl honno yn dod, mai chi fydd y prif lais yng Nghymru o blaid i ni aros yn yr UE?

Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am iddi croesawu fy nghadarnhad o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi—sef gyda'r posibilrwydd o gytundeb wedi diflannu, yna rhoi'r dewis yn ôl i'r bobl, fel y dywedodd y Cynulliad hwn, yw'r unig ddewis. Yn y cyfamser, rwyf eisiau ei sicrhau bod y Llywodraeth wedi mynd ati i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer refferendwm o'r fath, a thynnwyd sylw at hynny hefyd yn y ddadl honno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles wedi trafod hyn ar dri gwahanol achlysur erbyn hyn gyda David Lidington, gan bwyso arno i gymryd y camau y mae angen i Lywodraeth y DU eu cymryd er mwyn sicrhau y gall refferendwm fod yn bosibilrwydd ymarferol. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos hwnnw iddo, a rhoddaf sicrwydd y mae hi'n chwilio amdano sef, os caiff refferendwm ei gynnal, y bydd y Llywodraeth hon yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd Aelodau'r Llywodraeth yno gydag eraill yn dadlau dros hynny a cheisio argyhoeddi pobl yng Nghymru bod eu dyfodol wedi'i sicrhau'n well o wneud hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans. 

Diolch, Lywydd. Mae ychydig o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad yn fuan ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac ar ôl hynny bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Brexit. O ganlyniad, mae'r datganiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru wedi'i ohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran gofal hosbis i blant yma yng Nghymru? Mae'n bosibl iawn bod y rheolwr busnes yn ymwybodol bod adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o'r enw 'Sut mae gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion pobl ifanc?' ac yn yr adroddiad hwnnw gwnaeth argymhelliad clir iawn bod angen i Lywodraeth Cymru asesu unrhyw alw heb ei ddiwallu am wasanaethau gofal lliniarol i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni ddeall yr amserlenni ar gyfer cyflawni'r gwaith hwnnw, er mwyn sicrhau y gall ein hetholwyr gael gafael ar y gofal lliniarol pwysig iawn y mae blant a phobl ifanc weithiau, yn anffodus, ei angen. Mae gennym ni rai hosbisau plant rhagorol yma yng Nghymru gyda hosbisau plant Tŷ Gobaith yn y gogledd a Thŷ Hafan yma yn y de. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod ganddyn nhw'r gallu i ymdrin â'r plant o Gymru sydd angen y math hwnnw o ofal a chymorth. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe byddai modd cael datganiad ar hynny.

14:25

Diolch yn fawr iawn am gyflwyno'r cais yna am ddatganiad heddiw. Rwy'n cytuno â chi fod gennym ni ddarpariaeth ragorol yma yng Nghymru. Ond mae'n bwysig ein bod yn ymwybodol o ba un a oes galw heb ei ddiwallu am ofal lliniarol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, felly gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd, yn y lle cyntaf, archwilio hynny yng nghyd-destun yr adroddiad yr ydych wedi cyfeirio ato ac ysgrifennu atoch chi gyda diweddariad.

Trefnydd, efallai eich bod chi'n ymwybodol o'r dadlau sydd wedi codi yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru o ran penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynnu bod murlun 'Cofiwch Dryweryn' ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei dynnu ymaith. Mae llawer iawn o ddiddordeb cyhoeddus wedi dod yn sgil penderfyniad y Cyngor i gymryd camau yn erbyn perchennog yr eiddo. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn gweld y camau y mae'r Cyngor yn eu cymryd yn afresymol, o ystyried bod dwsinau o gopïau o'r murlun wedi eu hatgynhyrchu ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf mewn ymateb i fandaliaeth gywilyddus y murlun 'Cofiwch Dryweryn' gwreiddiol ger Llanrhystud yng Ngheredigion. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cydnabod bod boddi Capel Celyn yng Ngwynedd yn 1965 yn ddigwyddiad allweddol yn hanes Cymru. Yr hyn y mae'r murluniau sydd wedi'u paentio ar hyd a lled Cymru yn ystod y misoedd diwethaf yn ei wneud yw adlewyrchu cryfder y teimlad sy'n parhau i fodoli.

Yr hyn sy'n nodedig yw ei bod yn ymddangos mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sy'n mynnu bod angen cais cynllunio ar gyfer murlun 'Cofiwch Dryweryn'. Credaf fod hyn yn ymwneud â'r ffaith bod y Cyngor wedi camddehongli'r ddeddfwriaeth yn llwyr. Nid wyf yn credu y gellir galw'r murlun yn hysbyseb; dim ond nodi digwyddiad hanesyddol y mae'n ei wneud. Mae'n ymddangos bod safbwyntiau awdurdodau lleol eraill yn cefnogi'r farn honno—ei fod yn nodi digwyddiad hanesyddol ac nad hysbyseb ydyw. Yn wir, dim ond y llynedd y gwnaeth yr arlunydd enwog Banksy baentio ar wal garej ym Mhort Talbot. Nid wyf i'n cofio Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn mynnu bod Banksy yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Os ydyw wedi gwneud hynny, mae'n dal i aros—yn disgwyl penderfyniad ôl-weithredol. Yng ngoleuni'r uchod, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn iddo ailystyried ei safbwynt ynghylch y murlun. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymuno â mi i gondemnio'r camau hyn gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac a ydych chi'n barod i wneud datganiad i'r perwyl hwnnw?

Diolch ichi am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, byddwch yn cofio fy mod i wedi gallu manteisio ar y cyfle mewn datganiad busnes blaenorol i resynu am y fandaliaeth ddifeddwl a disynnwyr i'r gofeb wreiddiol. Mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb am gynllunio wedi dweud wrthyf y byddai'n ddiolchgar pe byddech chi'n ysgrifennu ati gyda manylion yr achos penodol hwn fel y gall hi ymchwilio i'r mater o ran dehongli'r ddeddfwriaeth.

Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch recriwtio athrawon yng Nghymru os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei tharged ei hun ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd newydd dan hyfforddiant gan 40 y cant. Methwyd y targed ar gyfer hyfforddeion mewn ysgolion cynradd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Hefyd, mae'r ffigurau'n dangos bod Cymru'n mynd yn rhanbarth llai deniadol i raddedigion ifanc hyfforddi yno, a bu gostyngiad o fwy na hanner yn nifer y myfyrwyr o Loegr  yn ystod y pum mlynedd diwethaf. A allwn ni gael datganiad ynghylch yr argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon yng Nghymru os gwelwch yn dda?

Ar gyfer fy ail ddatganiad, Weinidog, hoffwn ofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a all ef neu hi wneud datganiad am yr amseru casglu biniau. Oherwydd yng Nghasnewydd, mae'r orsaf reilffordd yn union yng nghanol y dref ac mae'r strydoedd i gyd yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw. Yn y bore, mae'n sefyllfa wael iawn  pan fydd pobl eisiau dod ac mae'r casglwyr biniau yn union yn y canol ac mae pobl yn ffurfio ciw. Yn hytrach nag ar yr heolydd bach mae hyn ar y prif strydoedd, felly mae'n cymryd cryn amser i fynd naill ai'r orsaf neu i'r gwaith. Felly, hoffwn gael datganiad gan y Gweinidog ar y mater hwnnw, os gwelwch yn dda.

Diolch am eich cais am ddau ddatganiad. Roedd y cyntaf yn ymwneud â recriwtio athrawon ac, wrth gwrs, fe wnaeth eich arweinydd ofyn nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog am recriwtio athrawon yn ystod y cyfarfod llawn yn gynharach heddiw. Ond mae'r Gweinidog addysg hefyd wedi nodi y byddai'n hapus i gael cwestiynau ar y pwnc hwnnw yn ystod ei sesiwn cwestiynau hi, a bydd hynny yn digwydd yfory.

Mae'n rhaid bod ateb call i'r mater o gasglu biniau, ond, yn y lle cyntaf, byddwn yn awgrymu trafodaeth—. O ran y mater o amseru casglu biniau, efallai mai trafod â'r Cyngor yn y lle cyntaf fyddai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen.

14:30

Rwyf i am godi cyflwr gwasanaethau bysiau yn y Rhondda. Rwyf i wedi cael nifer o sylwadau gan etholwyr ynghylch y dirywiad yn amlder ac ansawdd y gwasanaeth. Mae llawer o'r bysiau Stagecoach aur modern wedi cael eu disodli gan fodelau hŷn a llai o faint mewn llawer o achosion, ac rwyf i wedi cael gwybod bod y bysiau hyn wedi cael eu hailddosbarthu i lwybrau Coed-duon, Casnewydd a Chaerdydd. Mae rhai llwybrau poblogaidd hefyd yn dioddef gwasanaeth llai aml, gan arwain at broblemau o ran mynd ar y bws, heb sôn am ddod o hyd i sedd. Gallaf roi digon o enghreifftiau i chi o gwynion yr wyf i wedi'u cael, ond roedd un yn dweud, '

Rwy'n gyrru i bobman, yn bennaf oherwydd bod yr amseroedd aros am gludiant cyhoeddus yn gyffredinol warthus. Nid yw cost tocyn yn werth aros am fysiau. Pe byddai trenau a bysiau yn amlach ac yn rhatach, yna 100 y cant byddwn yn eu defnyddio'n amlach.

Rwyf i'n cymeradwyo'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r llwybr du costus ar gyfer yr M4, os nad y gost a'r rigmarôl a fu i gyrraedd y fan hon. Fodd bynnag, os ydym ni'n mynd i wneud Cymru'n lanach, yn wyrddach ac yn fwy ffyniannus, sef y wlad yr ydym ni i gyd yn ymwybodol y gall hi fod, yna mae angen cynllun radical i wella cludiant cyhoeddus. Mae angen i'r Llywodraeth hon wneud ymdrech i gael gwared ar y car. A all y Llywodraeth felly gyhoeddi datganiad ar ei chynlluniau i wella cludiant cyhoeddus yng Nghymru, ac yn benodol sut y bydd yn unioni'r problemau hyn yr wyf i wedi cyfeirio atynt yn y Rhondda?

Cefais wybod yr wythnos diwethaf am y penderfyniad i oedi'r broses o ganoli gwasanaethau pediatrig ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf. Byddai'r penderfyniad hwn, a gefnogwyd gan y Llywodraeth Lafur hon, wedi gweld gwasanaethau dan arweiniad ymgynghorwyr yn cael eu symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, ac wedi'u canoli yn ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr. I mi, a'r miloedd o bobl eraill a orymdeithiodd ac a ymgyrchodd yn erbyn y cynlluniau hynny am flynyddoedd lawer, roedd hyn yn newyddion calonogol iawn. Er nad yw canoli gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf wedi bod yn llwyr gyfrifol am y methiannau a welwyd yno, prin ei fod wedi helpu'r mater.

Hoffwn i'r Llywodraeth  gydnabod yn awr nad canoli gwasanaethau yw'r ateb i'r argyfwng recriwtio. Recriwtio rhagweithiol a darparu mwy o leoedd hyfforddi yw'r ateb. Dyma'r hyn y bu Plaid Cymru yn galw amdano ers talwm. A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am ei chynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio os gwelwch yn dda?

Diolch i chi am godi'r materion hyn. Roedd y cyntaf yn adlewyrchu pryderon eich etholwyr ynglŷn â'u profiad o wasanaethau bysiau yn y Rhondda, yn enwedig o ran amlder ac ansawdd y gwasanaeth. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ymgynghoriad yn ddiweddar ar gynlluniau eithaf radical ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac rydym ni'n hynod uchelgeisiol ynghylch yr hyn y gallai gwasanaethau bws eu darparu o ran cludiant cyhoeddus, ochr yn ochr â'r holl waith yr ydym ni'n ei wneud drwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac yn y blaen. Ond rydych chi'n dweud bod llawer o etholwyr wedi cysylltu â chi, felly byddwn yn sicr yn eich annog i rannu'r profiadau unigol hynny gyda Gweinidog yr economi, sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriad ar wasanaethau bysiau, er mwyn iddo allu eu hystyried yn rhan o hynny.

Mae'r Gweinidog iechyd wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i Aelodau ynglŷn â gwasanaethau pediatrig Cwm Taf, a'r gwasanaethau mamolaeth yn enwedig, fe ddylwn ddweud. Ac yn ddiweddar, rhoddodd ddiweddariad llafar i'r Cynulliad ar y rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', a wnaeth gynnig cyfle i Aelodau drafod yn fanwl yr heriau recriwtio yn y GIG.

Ychydig wythnosau yn ôl, cafwyd bwletin undeb llafur yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch y posibilrwydd o weithredu streic posibl os bydd cynlluniau, fel y maen nhw'n eu deall, yn mynd rhagddynt i dorri dwy ran o dair o'r swyddi yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd toriadau, ac oherwydd newidiadau yn Ford ar lefel y DU ac ar lefel Ewropeaidd. Deallaf y bydd cyfarfod rheoli Ford ar y lefel uchaf ym mis Mehefin—y mis hwn—ac roeddwn i eisiau ddeall beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud (a) i gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw, a (b) i warchod a diogelu'r swyddi yn Ford. Mae cryn dipyn o weithwyr yn y ffatri yn cysylltu â mi yn pryderu am y dyfodol, o ystyried mai hwn yw un o gyflogwyr mwyaf Cymru. Felly, hoffwn gael diweddariad ar frys ynglŷn â'r safbwynt y mae Llywodraeth Cymru yn ei gymryd yng nghyswllt y swyddi penodol hynny yn Ford.

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â rhywbeth sydd wedi cael ei ddwyn i'm sylw dros y penwythnos, am fenyw o Abertawe sy'n geisydd lloches/ffoadur. Mewn gwirionedd, nid oedd yn ymwybodol o'i statws ei hun gan nad oedd ei gŵr yn fodlon dweud wrthi. Cafodd ei churo dros y penwythnos, ac aeth at yr heddlu a'r gwasanaethau cam-drin domestig, ond dywedwyd wrthi, oherwydd nad oedd ganddi unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus, na allai gael unrhyw gefnogaeth. Felly rwyf wedi bod yn ceisio ei helpu dros y dyddiau diwethaf i gael hostel, i gael gafael ar unrhyw le i gael cymorth, oherwydd ni allai fynd yn ôl i'r berthynas gamdriniol hon. Ac, i mi, roedd yn ymwneud  â'r ffaith bod yn rhaid iddi ddiffinio ei hun cyn y gallai gael unrhyw gymorth. Doedd hi ddim yn ymwybodol o'i statws mewn gwirionedd, gan nad oedd ei gŵr, gan ei fod yn ei cham-drin, yn dweud wrthi. Felly, beth allwn ni ei wneud i sicrhau mai'r peth cyntaf y byddwn ni'n ei ystyried, os yw menyw yn cael ei cham-drin, yw ei helpu, a pheidio â meddwl am faint o arian sydd ganddi, o ba wlad y mae hi'n dod, beth yw ei statws, fel nad yw'r fenyw honno'n mynd yn ôl i berthynas gamdriniol? Hoffwn gael datganiad yn benodol am y grŵp bach hwn o bobl, mewn gwirionedd, y mae angen cymorth arnynt o ran lloches, hostel, pan nad ydynt hyd yn oed yn gwybod beth yw eu statws.

14:35

Mae gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip gyfrifoldeb dros y gefnogaeth y gallwn ni ei chynnig i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru, a hefyd y mater o fynd i'r afael â thrais yn y cartref. Felly, credaf y bydd hi mewn sefyllfa dda iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran sut y gall y ddau ddarn hyn o waith gyd-fynd yn ddi-dor, fel nad ydym yn rhoi pobl fel y fenyw yr ydych chi'n ei disgrifio mewn sefyllfa mor ofnadwy, pan mai'r unig ddewis sydd yn agored iddyn nhw, efallai, yw dychwelyd at bartner sy'n eu cam-drin.FootnoteLink Mae gennym ddatganiad yr wythnos nesaf ar y genedl noddfa, felly gallai hwn fod yn gyfle i godi'r achos penodol hwn ar lawr y Cynulliad gyda'r Gweinidog dan sylw.

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cadarnhau ein bod mewn cysylltiad rheolaidd â Ford, ond byddaf yn gofyn iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau diweddaraf a gafwyd.

Gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn ymwybodol bod nifer fawr o ddinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd wedi methu pleidleisio yn ystod yr etholiad Ewropeaidd diweddar. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun gofid i bob un ohonom ni. Rwy'n gwybod bod o leiaf 3,500 wedi gwneud cwyn swyddogol, ar draws y Deyrnas Unedig, eu bod nhw wedi cyrraedd yr orsaf bleidleisio ac wedi cael eu gwrthod. Bydd yna nifer mwy na hynny, wrth gwrs, ddim wedi gwneud cwyn swyddogol, a bydd yna mwy eto byddai ddim wedi derbyn y gwaith papur perthnasol cyn hyd yn oed cyrraedd y blychau pleidleisio. Dyw hi ddim yn broblem newydd—mi oedd yna broblemau yn 2014, ond wrth gwrs roedden nhw'n llawer, llawer gwaeth y tro hwn.

Camau syml a fyddai fod wedi gallu cael eu mabwysiadu fyddai cysylltu'n uniongyrchol drwy lythyr ac e-bost â'r etholwyr hynny—fel roedd rhai awdurdodau lleol wedi ei wneud, gyda llaw—ond hefyd gynnig y ffurflenni UC1 a oedd yn rhaid eu llenwi er mwyn datgan eich bod chi'n pleidleisio yma, ac nid mewn gwlad arall, nid yn unig ar-lein ond yn y gorsafoedd pleidleisio, lle y byddai modd eu llenwi nhw yn y fan a'r lle. Dau gam syml a fyddai, dwi'n credu, wedi achub camwedd eithriadol a wynebodd nifer o'r etholwyr hynny. Felly, gaf i ofyn, mewn datganiad, i'r Llywodraeth ei gwneud hi'n glir pa gyswllt rŷch chi wedi ei gael â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac ag awdurdodau lleol, er mwyn mynegi'r consýrn y mae nifer ohonom ni'n ei deimlo ynglŷn â'r anghyfiawnder yma i'r rhai a gafodd eu gwrthod o safbwynt eu pleidlais, ac er mwyn sicrhau na fydd hynny yn digwydd eto?

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os caf i? Mae llawer ohonom ni'n pryderu fwyfwy am y preifateiddio graddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rwy'n poeni'n arbennig am y sefyllfa ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn fy rhanbarth i, yng Ngogledd Cymru, sydd, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth Lafur hon ar hyn o bryd. Y llynedd, rwy'n siŵr y cofiwch, ymgyrchodd llawer ohonom ni i atal preifateiddio gwasanaethau dialysis yn Wrecsam a'r Trallwng, lle'r oedd hyd yn oed cynnig i drosglwyddo staff y GIG i'r sector preifat. Nawr, rwyf fi, undebau llafur ac eraill wedi llwyddo yn yr ymgyrch honno, ond nawr rydym ni'n clywed bod y Bwrdd Iechyd yn troi at gwmnïau preifat i gynnal fferyllfeydd ysbytai, yn Ysbyty Wrecsam, yng Nglan Clwyd, ac yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor hefyd.

Wrth gwrs, mae'n ymddangos bod Llafur yn daer yn erbyn preifateiddio gwasanaethau iechyd yn Lloegr, ond nid yw'n ymddangos ei bod yn poeni llawer am ganlyniad tebyg sy'n dod i'r amlwg yma yng Nghymru. Rwy'n cytuno â'r undebau llafur, fel Unison, nad oes lle i gwmnïau preifat o fewn y mathau hyn o wasanaethau yng Nghymru. Yng ngoleuni'r duedd barhaus yr ydym ni'n ei gweld, o ran preifateiddio gwasanaethau ledled Gogledd Cymru, credaf fod angen i'r Llywodraeth wneud datganiad clir ynghylch rhoi gwasanaethau'r GIG ar gontract allanol, er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein gwasanaethau GIG rhag ysglyfaethwyr y sector preifat.

14:40

Gallaf roi datganiad clir nawr ein bod ni'n gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw breifateiddio ar y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, ac rydym ni'n gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw awgrym, er enghraifft, y dylid cael cytundeb ag Unol Daleithiau America a allai fod yn gwerthu rhannau o'n GIG ni yma yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud y pwyntiau hynny.

O ran pleidleisiau i ddinasyddion yr UE, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd arolwg y Comisiwn Etholiadol yn ei ddweud ac mae Bwrdd Cydgysylltu Etholiadol Cymru â rhan yn y gwaith hwnnw. Bydd hynny'n  gyfle i gyflwyno'r achosion hynny ar ran dinasyddion yr UE sydd wedi eu lleoli yma yng Nghymru na chafodd gyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwnnw.

Diolch, Llywydd. Cais sydd gen i am ddadl yn amser y Llywodraeth, a hynny wrth inni aros yn fan hyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog ar y penderfyniad ynglŷn â'r M4 yn ardal Casnewydd. Does yna ddim amheuaeth gen i y bydd safbwyntiau cryf yn cael eu gwyntyllu yn ystod y tri chwarter awr neu'r ychydig mwy a fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer hynny heddiw a'r dadleuon ar y ddwy ochr, dwi'n siwr. Ond feiddiwn i awgrymu bod yna ragor i'w ddweud nag all gael ei ddweud mewn ymateb i ddatganiad gan y Llywodraeth heddiw? Felly, mi hoffwn i wneud cais am ddadl, a dadl sylweddol, yn amser y Llywodraeth, o bosib hyd yn oed dros ddau ddiwrnod, ynglŷn â beth yn union ydy goblygiadau'r penderfyniad yma, a beth ydy'r camau sydd angen i ni eu cymryd fel sefydliad, y Llywodraeth yma a ni fel cenedl, wrth inni symud ymlaen o'r pwynt hwn mewn amser. Dwi'n meddwl bod hwn wedi bod yn un o'r testunau gwleidyddol pwysicaf i ni ei drafod mewn blynyddoedd diweddar, ond dwi'n credu yn wyneb hynny fod angen sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo yma yn ein Senedd genedlaethol ni i gael y drafodaeth bwysig yma wrth inni wynebu'r camau nesaf. 

Wel, mae adroddiad yr arolygydd yn hir iawn ac yn fanwl iawn, fel y llythyr penderfyniad, ac mae'n bwysig iawn i'r Aelodau gael cyfle i ddarllen y ddwy ddogfen a'u hystyried yn llawn cyn trefnu dadl yn amser y Llywodraeth. Ond fe fyddwn ni'n cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth yn ystod yr wythnosau nesaf, wedi i'r Aelodau gael cyfle i ystyried yn llawn yr wybodaeth sydd wedi ei chyflwyno heddiw.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Ac felly dyma ni yn cyrraedd y datganiad gan y Prif Weinidog ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig i'r Aelodau yn gynharach heddiw, a chyhoeddiad yr adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus i goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, gallaf yn awr roi manylion pellach am fy mhenderfyniad ar y ffordd liniaru arfaethedig i'r M4, a'r camau nesaf i liniaru tagfeydd traffig ar yr M4 bresennol.

Ers diwedd mis Chwefror, rwyf wedi ystyried yr adroddiad ac argymhellion yr ymchwiliad cyhoeddus i goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn ofalus iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r adroddiad yn ddogfen swmpus iawn ac yn adlewyrchu'r gwaith a ymgymerwyd gan yr arolygydd rhwng mis Chwefror 2017 a mis Medi 2018, a'r cannoedd ar gannoedd o gyflwyniadau ysgrifenedig a wnaed i'r ymchwiliad hwnnw. Mae'r penderfyniad a ddylid cyflawni'r Cynlluniau a'r Gorchmynion sy'n angenrheidiol i weithrediad y prosiect yn gyfrifoldeb i mi, fel Prif Weinidog, ac i neb arall.

Mae'n rhaid i'm penderfyniad i adlewyrchu'r cyd-destun y caiff ei wneud ynddo, Llywydd. Rydym yn dal i fod yn ddwfn iawn ynghanol y cyfnod hwyaf a dyfnaf o gyni yn oes unrhyw un ohonom ni. Gwelwyd ein cyllidebau cyfalaf yn cael eu torri'n gyson ers 2010. Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau'n ymgodymu'n ddyddiol â chydbwyso goblygiadau ariannol ein blaenoriaethau buddsoddi yn y Llywodraeth.

Llywydd, fe wnaeth y Cabinet gyfarfod ddiwedd mis Ebrill i drafod y sefyllfa ariannol gyffredinol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, a'r anghenion o ran gwario cyfalaf yn y blynyddoedd nesaf ym mhob un portffolio, er mwyn rhoi ystyriaeth ofalus i'n blaenraglen gyfalaf. Daeth y Cabinet i'r casgliad y byddai'r lefel sylweddol o wariant sydd ei angen i gyflawni prosiect yr M4 yn cael effaith annerbyniol ar ein blaenoriaethau eraill mewn meysydd fel trafnidiaeth gyhoeddus, iechyd, addysg a thai. Fe wnaeth y Cabinet hynny, fel y dywedais, gan osod y penderfyniadau buddsoddi cyfalaf hynny yn y cyd-destun ariannol ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu.

Llywydd, penderfyniad yw hwn a wneir pan mae'r ansicrwydd mwyaf ynglŷn â'n dyfodol ariannol. Mae cyni na welwyd ei debyg o'r blaen ym maes cyllid cyhoeddus yn cyfuno â diffyg eglurder llwyr o ran ein cyllidebau cyfalaf am y blynyddoedd i ddod, a gwaethygir hynny gan yr ansicrwydd ynghylch Brexit, er ein bod ni'n gwybod y gallai diffyg cynnydd Llywodraeth y DU o ran cyflwyno adolygiad cynhwysfawr o wariant weld cyllideb Llywodraeth Cymru yn llai hyd yn oed yn y dyfodol nag y mae heddiw.

Mae goblygiadau sylweddol a phenodol i'r sefyllfa ariannol hon o ran arfer fy mhwerau i wneud y gorchmynion prynu gorfodol sy'n angenrheidiol i'r prosiect fynd rhagddo. Yn hyn o beth, a chyn penderfynu cyflawni unrhyw orchmynion prynu gorfodol, mae'n ofynnol imi fod yn sicr bod angen pendant am orchmynion o'r fath a bod yn rhaid iddyn nhw fod er budd y cyhoedd, a bod yn rhaid iddyn nhw, gyda'i gilydd, gyfiawnhau ymyrryd â hawliau dynol y rhai sydd â buddiant yn y tir sydd ei angen ar gyfer y prosiect. Mae'n rhaid imi gael fy modloni y byddai'r adnoddau angenrheidiol i gyflawni'r prosiect ar gael o fewn amserlen resymol ac nad yw'r prosiect yn debygol o gael ei atal gan unrhyw rwystr arall i'w weithrediad. Llywydd, deuthum i'r casgliad bod y sefyllfa ariannol yn golygu na allaf fod yn sicr y caf arfer fy mhwerau i roi gorchmynion prynu gorfodol o ran y prosiect, gan nad wyf wedi fy modloni y gellir gweithredu'r prosiect mewn dyfodol y gellir ei ragweld, o ystyried y cyfnod hir o ansicrwydd ariannol sy'n ein hwynebu.

Nawr, Llywydd, yng ngoleuni'r casgliad hwn, nid oes angen imi fynd ymlaen i ystyried a yw manteision y prosiect yn goresgyn ei anfanteision ac a wyf i'n cytuno â chasgliadau cyffredinol yr arolygydd o ran lleoliad y man canol rhwng y manteision a'r anfanteision. Serch hynny, rwyf wedi mynd ati, fel y dywedodd yr arolygydd, drwy roi sylw, fel y gwnaiff ef ym mharagraff 8.481 ei adroddiad, i'r buddiannau cryf a chystadleuol sydd ar waith yma, a'r cwestiwn o ble y dylai'r cydbwysedd rhwng y buddiannau cystadleuol hynny sefyll. Felly, rwyf wedi ystyried y manteision a'r anfanteision a nodwyd gan yr arolygydd, a deuthum i'r casgliad, hyd yn oed heb ystyried safbwynt y Cabinet ynglŷn ag ariannu, a hyd yn oed pe byddai'n debygol, ar y sail honno, y câi'r prosiect ei weithredu arno, y byddwn i, beth bynnag am hynny, wedi penderfynu peidio â chyflawni'r cynlluniau na'r gorchmynion.

Rwy'n cydnabod casgliadau'r arolygydd o ran manteision ac anfanteision y prosiect. Fodd bynnag, rwyf yn rhoi mwy o bwys na'r arolygydd ar yr effeithiau andwyol y byddai'r prosiect yn eu cael ar yr amgylchedd ac ecoleg. Yn benodol, rwy'n rhoi pwys mawr iawn ar y ffaith y byddai'r prosiect yn cael effaith andwyol sylweddol ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar wastadeddau Gwent a'u rhwydwaith a'u bywyd gwyllt, ac ar rywogaethau eraill, ac effaith andwyol barhaol ar dirwedd hanesyddol wastadeddau Gwent. O ganlyniad, yn fy marn i, mae effeithiau anffafriol y prosiect ar yr amgylchedd, o'u cymryd ynghyd â'r anfanteision eraill, yn gorlethu ei fanteision. Wrth bwyso a mesur y 'buddiannau cryf a chystadleuol', geiriau'r arolygydd, mae fy nyfarniad ynghylch lle mae'r cydbwysedd rhwng y buddiannau cystadleuol hynny'n gorwedd yn y pen draw yn wahanol i'w farn ef. Am y rhesymau ychwanegol hyn, ar wahân i'r rhesymau ar sail cyllid, nid wyf o'r farn y ceir achos cryf o ran budd y cyhoedd o blaid difeddiannu'r tir sy'n ddarostyngedig i'r gorchmynion prynu gorfodol, ac nid wyf o'r farn y byddai'n briodol nac yn fanteisiol cyflawni cynlluniau a gorchmynion eraill.

Llywydd, yn union fel y bu'n rhaid i'm penderfyniad ystyried y cyd-destun ariannol diweddaraf a'r newid sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i ddatrysiadau i broblemau tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn y dyfodol adlewyrchu'r sialensiau amgylcheddol diweddaraf sy'n ein hwynebu fel cenedl. Mae dau adroddiad sylweddol diweddar wedi tynnu sylw at wahanol agweddau ar yr heriau hyn. Y cyntaf yw adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, 'Net Zero', sy'n argymell nod newydd o 95 y cant ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru erbyn 2050. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru, gan gydnabod maint a brys y bygythiad, wedi datgan argyfwng ar yr hinsawdd. Yn ail, fis diwethaf, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig ei asesiad byd-eang ar fioamrywiaeth. Roedd yr adroddiad hwnnw'n nodi maint yr effaith y mae gweithgarwch a datblygiad dynol yn ei chael ar rywogaethau, a'r bygythiad y mae datblygiad pellach yn debygol o'i achosi i ecosystemau ledled y byd. Llywydd, mae canfyddiadau'r adroddiad hwnnw'r un mor berthnasol i ni yma yng Nghymru.

Nawr, Llywydd, rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod barn gref ar ddwy ochr y ddadl ynglŷn â'r prosiect hwn. Ond mae yna gonsensws, a chonsensws yr wyf i'n ei rannu, fod yn rhaid mynd i'r afael â phroblemau o ran capasiti, cydnerthedd a'r amgylchedd ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac y bydd angen cymysgedd o atebion lleol a rhanbarthol i fynd i'r afael â nhw. Yng ngoleuni'r cyfyngiadau ar gyllid a'r effeithiau amgylcheddol sydd wedi arwain at fy mhenderfyniad ar y gorchmynion, mae'n bwysig bod y materion hynny'n cael sylw ar y cyd ar hyn o bryd, a bod gan leisiau ar y naill ochr a'r llall y cyfle i weithio ar y ffordd ymlaen gyda'i gilydd. Yn y cyd-destun hwn yr wyf i'n cyhoeddi comisiwn newydd heddiw a gaiff ei benodi—comisiwn o arbenigwyr trafnidiaeth sy'n gyfrifol am adolygu'r dystiolaeth a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch atebion amgen i'r problemau a wynebir ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Fe all yr awgrymiadau hynny gynnwys technolegau arloesol a mesurau eraill i fynd i'r afael â'r problemau cyfredol hynny.

Bydd y comisiwn yn cael ei dywys gan ein huchelgais cyffredinol ni i ddatblygu system drafnidiaeth o ansawdd uchel, sy'n aml-foddol, yn integredig ac yn garbon isel, ac yng nghyd-destun heriau mawr newid hinsawdd a bioamrywiaeth yr wyf i wedi eu nodi eisoes. Bydd y comisiwn yn cynnwys  amrywiaeth o arbenigedd, a chaiff ei gefnogi yn ei waith gan dîm penodedig o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwneud cyhoeddiadau pellach am y comisiwn, gan gynnwys amserlenni—gan wneud y cyhoeddiadau hynny yfory i'r Cynulliad. Cyn gwaith y comisiwn, bydd y Gweinidog yn gweithredu cyfres o ymyriadau wedi eu hanelu ar fyrder i liniaru tagfeydd ar yr M4, er enghraifft camau i hwyluso'r broses o symud cerbydau sy'n peri rhwystrau, patrolau gwell o swyddogion traffig, gwybodaeth fyw am deithiau i helpu gyrwyr i wneud dewisiadau teithio gwell, ac ymgyrch i newid ymddygiad gyrwyr a lleihau damweiniau a digwyddiadau a gwneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar y lonydd ar hyn o bryd.

Llywydd, mae trafnidiaeth yn faes, fel y clywsom yn y cwestiwn a ofynnwyd imi gan y cyn Brif Weinidog, lle mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol i'r dyfodol, o'r cynllun £5 biliwn a ddatblygwyd trwy Trafnidiaeth i Gymru i'r fasnachfraint reilffyrdd newydd a'r metro, i ddeddfwriaeth o bwys i wella gwasanaethau bysiau, i'r buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed mewn teithio llesol ledled Cymru.

Mae datrys y problemau tagfeydd o amgylch yr M4 yn rhan bwysig o'r cynlluniau hynny. Ond fel y gwelwn o adroddiad yr arolygydd, nid oes atebion hawdd heb unrhyw wrthwynebiad. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull cynhwysol a chydweithredol o ddod o hyd i atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy o fewn yr amserlenni byrraf posibl, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill i wireddu'r uchelgais hwnnw.

14:50

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi ei ddweud ers llawer blwyddyn, mae'r tagfeydd hyn ar yr M4 yn tagu economi Cymru. Rydym wedi gweld cynnydd o 10 y cant yn llif y traffig o ganlyniad i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren, diolch i Lywodraeth y DU, ac felly mae angen datrysiad nawr yn fwy nag erioed. Gwyddom fod £31 miliwn yn cael ei golli gan fodurwyr yn unig ar y darn hwnnw o ffordd yn flynyddol. Nawr, mae pobl wedi bod yn sôn am yr angen am ddatrysiad i'r M4 ers degawdau, ac nid ydym wedi symud ymlaen o gwbl. Mewn gwirionedd, soniwyd gyntaf am ddatrysiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, William Hague, ar ddiwedd y 1990au ac, yn amlwg, dylai'r broblem hon fod wedi cael ei datrys 15 mlynedd o bosib yn defnyddio cyni fel rheswm dros wrthod y prosiect hwn. Yn amlwg, mae un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru wedi methu â mynd i'r afael â'r mater hwn. Mae angen llai o'ch tin-droi chi a mwy o weithredu i ddatrys yr heriau sy'n wynebu'r Gymru gyfoes, a'r hyn a welsom ni heddiw oedd mwy o din-droi a gohirio datrysiad.

Nawr, heddiw, Prif Weinidog, rydych chi'n dweud nad yw'r prosiect hwn bellach yn fforddiadwy. Er hynny, fe wnaethoch chi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys y llynedd yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog cyllid ar y pryd yn gofyn am fwy o arian i gyflawni'r cynllun hwn. Yn y llythyr roedd hi'n amlwg eich bod yn credu bryd hynny fod modd cyflawni'r cynllun hwn, oherwydd dyma fe'r llythyr a dyma'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud, ac rwy'n dyfynnu:

Byddaf i'n gofyn am gynnydd yn nherfynau benthyca blynyddol a chyfanredol Llywodraeth Cymru wrth inni symud tuag at yr Adolygiad o Wariant nesaf er mwyn i ni allu cyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer Cymru, gan gynnwys prosiect yr M4.

Felly, beth sydd wedi newid erbyn hyn, Prif Weinidog, ac a ydych chi'n derbyn bod pobl Casnewydd wedi cael eu bradychu? Oherwydd yn ystod isetholiad Gorllewin Casnewydd, roeddech chi allan yn ymgyrchu gydag ymgeisydd, sef yr AS nawr, a oedd yn addo cwblhau ffordd liniaru'r M4.

Prif Weinidog, rydych chi wedi cyhoeddi'r bore 'ma adroddiad yr arolygydd i ni'r Aelodau gael craffu arno. Eto i gyd, rydych chi wedi cael misoedd i ystyried hyn. Mae hwn wedi bod ar eich desg ers dechrau'r flwyddyn. Pam ar y ddaear na wnaethoch chi gyhoeddi'r adroddiad hwn yn gynharach fel y gallai rhanddeiliaid a'r cyhoedd mewn gwirionedd graffu ar argymhellion yr arolygydd? Rydych chi wedi cael chwe mis i edrych ar yr adroddiad hwn. Ni chawsom ni na'r cyhoedd yng Nghymru ond ychydig oriau i edrych arno. Fe ddylid fod wedi cyhoeddi'r adroddiad hwn amser maith yn ôl, a dim ond enghraifft arall yw hon o'ch Llywodraeth chi yn methu â bod yn agored a thryloyw gyda phobl Cymru.

Gadewch i mi eich atgoffa chi, Prif Weinidog, yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud wrthym. Mae'n dweud bod yr arolygydd yn edrych ar gynnig eich Llywodraeth chi eich hun. Roeddech chi'n rhan o'r Cabinet a gytunodd i gostio'r ymchwiliad arbennig hwn. A ydych chi'n credu nawr felly bod y £44 miliwn a gafodd ei wario ar y prosiect hwn wedi bod yn werth chweil? Chi oedd y Gweinidog cyllid a roddodd sêl ei fendith ar hyn, ac mae'n gwbl glir i mi fod degau o filiynau o bunnoedd bellach wedi cael eu gwastraffu ar y cynllun arbennig hwn.

Prif Weinidog, fe gawsom ni ein sicrhau gan gyn-arweinydd y tŷ ym mis Rhagfyr y llynedd y byddem ni'r Aelodau yn cael pleidlais rwymol ar y mater pwysig iawn hwn. Gan eich bod eisoes wedi gwneud y penderfyniad, mae'n ymddangos erbyn hyn na fydd pleidlais yn digwydd, ac felly a wnewch chi ymddiheuro nawr i'r Siambr hon ar ran eich Llywodraeth chi am dorri'r addewid arbennig hon?

Rydych chi wedi egluro yn eich datganiad y prynhawn yma eich bod unwaith eto yn dymuno gohirio'r penderfyniad hwn drwy geisio sefydlu comisiwn i edrych ar atebion amgen. Rydych chi'n dweud y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir. A allwch chi felly roi syniad inni pa bryd fydd y Gweinidog yn gwneud y cyhoeddiadau pellach hyn? Pa amserlenni y byddwch yn eu pennu i'r Comisiwn ar gyfer adrodd ar eu canfyddiadau?

Yn eich datganiad rydych chi'n dweud wrthym hefyd y bydd y Gweinidog yn gweithredu cyfres o ymyriadau sydd i'w hanelu ar fyrder i liniaru tagfeydd ar yr M4 yn y cyfnod cyfamserol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, Prif Weinidog, mai atebion dros dro yn unig yw'r rhain. Yr hyn y mae pobl yn awyddus i'w weld yw ateb priodol i'r broblem enfawr hon. Ym maniffesto etholiad Plaid Lafur Cymru yn 2016, roedd ymrwymiad yn y ddogfen honno i gael ffordd liniaru i'r M4. O ystyried sefydlu'r comisiwn hwn, a ydych chi felly'n derbyn na fyddwch yn cyflawni'r addewid honno mwyach yn y pumed Cynulliad hwn? Ac yn olaf, Prif Weinidog, bydd busnesau, cymudwyr a thrigolion yn y De yn siomedig iawn heddiw oherwydd penderfyniad eich Llywodraeth chi ac, yn anffodus, bydd y dagfa ar economi Cymru yn amlwg yn parhau.

14:55

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am rai o'r sylwadau yna. Gadewch imi ymdrin â nifer fechan ohonyn nhw'n uniongyrchol. Nid yw'r adroddiad, sydd gennyf i fan hyn, wedi bod yn casglu llwch ar fy nesg i drwy'r misoedd hyn. Rwyf wedi treulio oriau lawer iawn yn darllen yr adroddiad ac yn cael cyngor arno, oherwydd dyna oedd yr adroddiad hwn yn ei deilyngu. Nid oedd yn ofynnol ei gyhoeddi i'r cyhoedd heb y cyngor cyfreithiol a pholisi angenrheidiol a oedd yn cyd-fynd ag ef. Bydd ar gael i unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n dymuno ei ddarllen. Ond roedd y penderfyniad yr oedd yn rhaid imi ei wneud yn gofyn nid yn unig am ddarllen yr adroddiad yn drylwyr iawn, a mwy nag un darlleniad manwl ohono hefyd, ond hefyd yn gofyn am gyngor eang—cyngor cyfreithiol a pholisi—er mwyn gwneud y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw. Ni chafwyd oedi hir. Mae'r penderfyniad hwn, fel yr addewais, wedi cael y lefel o ganolbwyntio a'r ystyriaeth yr oedd penderfyniad o'r math hwn yn ei deilyngu, a dyna'r hyn a gafodd.

Mae'r Aelod yn cyfeiliorni hefyd, Llywydd, wrth awgrymu bod materion yn cael eu gwthio i'r dyfodol pell. Gofynnodd pryd y byddai fy nghydweithiwr, Ken Skates, yn gwneud datganiad. Yfory fydd hynny. Bydd yn ei wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Bydd yn nodi'r cylch gwaith byrdymor y byddwn yn ei roi i'r comisiwn i gyflwyno'r gyfres gyntaf o gynigion uniongyrchol y gellir eu rhoi ar waith i ddechrau lliniaru'r problemau ar yr M4.

Dechreuodd yr Aelod drwy ddweud bod angen gweithredu nawr yn fwy nag erioed ynglŷn â'r sefyllfa yng Nghasnewydd—bod angen 'nawr', dyna ddywedodd. Ni fyddai ffordd liniaru'r M4 yn golygu unrhyw ryddhad o gwbl am bum mlynedd o leiaf. A dywedodd wrthyf y bydd y problemau hynny'n gwaethygu yn y cyfamser. Rwy'n cydnabod arwyddocâd y problemau hynny, a dyna pam y byddwn ni'n cymryd camau i liniaru'r broblem yn gynt o lawer nag y byddai'r ffordd liniaru wedi gwneud. A byddwn yn dechrau ar y gwaith hwnnw ar ein hunion.

O ran yr arian a wariwyd ar baratoi'r adroddiad a chynnal ymchwiliad cyhoeddus, a sicrhau bod y cannoedd o bobl hynny a roddodd eu barn nhw i'r ymchwiliad ac a gymerodd ran yn y trafodion hyn dan sylw, rwyf i o'r farn bod y gwariant yn gymesur â'r dasg gysylltiedig. A chredaf ei bod hi'n iawn, pan oedd penderfyniad mor ddadleuol â hwn i'w wneud, ein bod ni'n sicrhau bod yr holl gyfleoedd hynny ar gael i bobl fynegi eu barn a'u bod nhw'n cael yr ystyriaeth briodol. Fel Gweinidog cyllid, roedd yn rhaid imi gael fy modloni bod y gwariant hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n iawn. Rwy'n credu i hynny ddigwydd. Dyna yw'r pris am fyw mewn gwlad ddemocrataidd. Dyna yw cost cael proses wirioneddol agored lle gall pobl gyfrannu, gwybod y caiff hynny ei glywed, a gwybod y bydd canlyniadau hynny'n cael yr ystyriaeth briodol.

Yn olaf, at y pwynt a wnaeth yr Aelod am y dagfa ar economi Cymru—nid yw dyfodol ein heconomi ni, Llywydd, yn dibynnu ar un darn o ffordd. Mae dyfodol yr economi yn dibynnu ar yr holl fesurau hynny a gafodd eu trafod yn gynharach yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog. Maen nhw wedi arwain at economi yng Nghymru, fel y dywedais i bryd hynny, lle mae gennym gyfradd well o dwf mewn busnes nag unman arall yn y Deyrnas Unedig, lle mae'r busnesau hynny'n para am yn hirach ar ôl blwyddyn a phum mlynedd nag y maen nhw ledled y Deyrnas Unedig gyfan, a lle mae gennym fwy o fentrau sy'n hyfyw ac yn ffynnu yng Nghymru heddiw nag ar unrhyw bryd arall yn y gorffennol. Dyna yw cyflwr economi Cymru, ac mae'n dibynnu ar lawer mwy nag un weithred o'r fath ac yn y modd a ddisgrifiwyd ganddo ef.

15:00

Pan fydd Llywodraeth yn gwneud camgymeriad, yn cwympo ar ei bai ac yn ymdrechu i unioni'r cam, efallai mai fy magwraeth i yn yr ysgol Sul yw hyn, ond yr ymateb priodol yn y lle cyntaf, yn fy marn i, yw llawenydd am y pechadur sy'n edifarhau am ei bechodau. A bydd llawer o bobl ledled Cymru yn dweud 'haleliwia' mewn ymateb i'r tro pedol hwn, fel yr oedd i'r tro pedol yr wythnos diwethaf. Ac mae'n bleser gennyf ychwanegu Amen ar yr ochr hon oherwydd y penderfyniad a wnaed heddiw.

Rydym wedi dweud dro ar ôl tro mewn ymateb i'r cwestiwn hwn fod y llwybr du fel y'i cynigiwyd yn ddinistriol o safbwynt amgylcheddol ac na ellir ei gyfiawnhau yn ariannol. Credaf fod y ddau bwynt wedi cael eu cadarnhau, mewn gwirionedd, yn y datganiad yr ydym wedi ei glywed gan y Prif Weinidog. Mae'n ddinistriol yn ariannol am y rhesymau a nodwyd yn glir iawn gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei thystiolaeth hi i'r ymchwiliad cyhoeddus ei hun; ni ellir ei gyfiawnhau yn ariannol oherwydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, byddai wedi tynnu cyfran mor fawr o'r pwerau benthyca cyfyngedig sydd gennym ni a'r arian buddsoddi cyfalaf prin sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Mae eisiau, rwy'n credu, talu teyrnged i'r ymgyrchwyr, onid oes e, yn lleol ac yn genedlaethol, a oedd yn ymbil ar y Llywodraeth i amddiffyn un o drysorau mwyaf Cymru, sef gwastadeddau Gwent? Buaswn i'n hoffi petasai'r Prif Weinidog yn gallu dweud ychydig bach mwy am rôl y datganiad pwysig arwyddocaol—mwy arwyddocaol fyth nawr—o ran yr argyfwng hinsawdd, o gofio am rôl pobl ifanc yn arbennig, yn fyd-eang ac yng Nghymru, yn galw ar i'r Llywodraeth wneud y datganiad yma. Ac a ydyw e'n wir i ddweud, nid yn unig, felly, taw ni oedd y wlad gyntaf i wneud y datganiad hynny, ond y wlad gyntaf lle mae'r datganiad yn amlwg wedi cael effaith sylweddol ar benderfyniad polisi o bwys a fydd yn effeithio yn arbennig, yn fwy nag unrhyw un arall, wrth gwrs, ar yr union bobl ifanc a oedd yn ymgyrchu dros y penderfyniad rŷn ni wedi gweld heddiw?

Wrth gwrs, rwy'n credu y byddai'r Prif Weinidog yn derbyn, ar ein hochr ni, yn naturiol, y byddem ni wedi hoffi i'r penderfyniad hwn gael ei wneud yn gynharach. Mae'n amlwg bod cost o ran cyfle yn y fan hon, yn ariannol. Efallai y gallai'r Prif Weinidog roi inni, mewn gwirionedd, yr amcangyfrif llawn ar gyfer y gost i bwrs y wlad, gan gynnwys yr ymchwiliad ei hun, y costau o ran modelu traffig, tirfesur, dylunio a chyngor cyfreithiol. Ond gallai'r costau o ran cyfle fod wedi bod yn fwy byth o ran yr amser a gollwyd—yr wyth mlynedd ers i'ch rhagflaenydd chi ein harwain ar hyd y trywydd hwn, nad aeth i'r unlle yn y diwedd, a siarad yn blaen—a allai fod wedi cael ei fuddsoddi, o ran yr ynni, yr ymdrech, i system drafnidiaeth gyhoeddus integredig sydd ei hangen yn ddybryd ar Gymru. Yn amlwg, rydym yn arbennig o ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu Casnewydd—un o ddinasoedd y DU sy'n fwyaf dibynnol ar geir—ond mae hefyd yn wir, wrth gwrs, fod angen gweledigaeth ar gyfer Cymru gyfan arnom ni.

Unwaith eto, ac rwy'n golygu hyn yn yr ystyr gorau posibl, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd amgen, yn sicr, o wneud y penderfyniadau hyn. Ceir clefyd ym Mhrydain, ac mae gennym ni fersiwn ohono yng Nghymru, lle mae costau prosiectau buddsoddi mewn seilwaith ar gynnydd—rydym wedi gweld y chwyddiant yn yr achos hwn—mae'r amser a gymerir i wneud penderfyniadau yn mynd yn hirach byth ac, o ganlyniad i hynny, y drydedd elfen, wrth gwrs, yw bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses o wneud y penderfyniadau hyn yn cael ei herydu. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid dweud y bydd llawer o bobl wedi bod â disgwyliad, o ystyried eu bod wedi gweld yr addewid honno ym maniffesto Llafur, a bod hynny bellach, wrth gwrs, wedi ei chwalu, ac mae'n rhaid cael ymateb i hynny hefyd.

Yn olaf, sefydlu comisiwn arbenigol—sefydlu pwyllgor arferai fod yn ymateb i unrhyw broblem yng Nghymru. Rydym wedi mynd un cam ymhellach—rydym yn sefydlu comisiynau nawr. Pam sefydlu comisiwn arbenigol a ninnau newydd greu comisiwn seilwaith cenedlaethol annibynnol yn benodol i'n helpu i wneud penderfyniadau amgen mewn ffordd sy'n fwy ystwyth a deheuig? Pam creu comisiwn arall pan fo gennym ni un yn barod? Efallai y gallai'r Prif Weinidog ymdrin â'r cwestiwn hwnnw.

15:05

Llywydd, fe hoffwn i ddiolch i Adam Price am y sylwadau yna. Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud fy mod am roi teyrnged i bawb a roddodd o'u hamser a'u harbenigedd i'r ymchwiliad cyhoeddus o safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â'r ddadl. Wrth gwrs, fe fydd yna grwpiau sydd yn teimlo bod eu barn nhw wedi dod i'r amlwg yn y penderfyniad terfynol, ac fel y dywedodd Adam Price, mae llawer o bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad cyhoeddus yn gwneud y pwyntiau amgylcheddol hynny, ond yn yr un modd roedd yna bobl ymroddedig yn dadlau fel arall, a roddodd o'u hamser a mynd i drafferth fawr i gyflwyno'r safbwyntiau hynny i'r ymchwiliad. Rhoddaf deyrnged i bawb sydd wedi teimlo cymaint o ysgogiad i gymryd rhan yn y penderfyniadau cyhoeddus tra phwysig hyn yng Nghymru fel eu bod yn mynd i'r drafferth i ddod a chynhyrchu dogfennau sy'n dadlau eu hachos, o bob ochr i'r ddadl.

Nid wyf i'n derbyn, Llywydd, yr hyn a ddywedodd Adam Price yn ei ragymadrodd. Pan ystyriwyd y cynnig unwaith eto yn ôl yn 2014, roedd y cyd-destun yn wahanol iawn, a cheisiais nodi hynny yn fy natganiad agoriadol. Yn 2014, nid oeddem erioed wedi clywed am Brexit. Yn 2014, roedd gan Lywodraeth Cymru gyllideb a oedd yn para nid yn unig am weddill tymor y Cynulliad hwnnw, ond hyd at dymor y Cynulliad wedyn, ac roedd gennym Ganghellor y Trysorlys a roddodd sicrwydd inni y byddai'r cyni'n dod i ben yn 2015. Yn y cyd-destun ariannol hwnnw, y penderfyniad cywir oedd ymchwilio i ffordd liniaru'r M4. Y cyd-destun sydd wedi newid ac sy'n golygu fy mod i wedi dod i benderfyniad gwahanol heddiw.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi llaesu dwylo, heb fuddsoddi yn yr holl bethau eraill hynny yr ydym ni'n gwybod am yr angen amdanyn nhw yn ein seilwaith trafnidiaeth: mae cynnig y metro ar gyfer y de wedi cael ei ddatblygu yn ystod y cyfnod yr ydym ni'n sôn amdano, ers 2014; datblygwyd y syniadau o ran bysiau y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw'n gynharach y prynhawn yma yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd. Felly, nid ydym wedi llaesu dwylo a gwneud dim o ran yr agenda ehangach honno ar gyfer seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus tra'r oedd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo. Ac rydym mewn sefyllfa well o lawer heddiw nag y buasem ni heb yr holl waith hwnnw sy'n digwydd.

Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod am ffyrdd gwell o wneud penderfyniadau, a chredaf ei fod ef yn gwneud pwynt pwysig yn hynny o beth. Y benbleth, y gwn y bydd ef yn ei chydnabod, gyda phenderfyniad anodd iawn, yw bod cymaint o safbwyntiau cryf a chymaint o safbwyntiau gwrthgyferbyniol, a bod rhaid sicrhau bod y broses yn wirioneddol agored fel bod pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu cyfle a'u tro i leisio eu barn. Mae hynny wrth gwrs wedi effeithio ar ba mor gyflym y gellir gwneud penderfyniadau. Nawr, rwy'n credu ei fod ef yn iawn y dylem ni feddwl gyda'n gilydd a oes ffyrdd amgen o wneud y pethau hyn yn y dyfodol. Ond y ffordd i beidio â gwneud hynny, yn fy marn i, yw peidio rhoi cyfle i'r cyhoedd gael mynegi eu barn nhw—ac rwy'n gwybod nad oeddech chi'n awgrymu hynny o gwbl. Dim ond tynnu sylw ydw i at y ffaith honno, sef os ydych chi'n dymuno cynnwys y cyhoedd, fod hynny'n cymryd amser, ac mae bod yn bwyllog yn un o'r pethau sy'n arafu penderfyniadau ac yn rhwystro gwneud y pethau hyn mewn ffordd sydd mor amserol ag yr hoffem ni.

Yn olaf, ynglŷn â'r pwynt a wnaeth Adam Price am y comisiwn seilwaith cenedlaethol—wrth gwrs, fe wnaethom ni ystyried yn ofalus ai hwnnw oedd y grŵp priodol i droi ato i gael y cyngor yr oedd ei angen arnom, ond, mewn gwirionedd, swydd wahanol yw honno. Mae'r comisiwn seilwaith yno i feddwl yn y tymor hir, i feddwl dros orwel o 30 mlynedd, i'n cynghori ar anghenion hirdymor economi Cymru ac ar wasanaethau cyhoeddus. Yr hyn y bydd y grŵp arbenigol hwn yn ei wneud yw canolbwyntio ar unwaith ar y 28 o syniadau amrywiol eraill y mae'r arolygydd yn adrodd amdanynt a oedd un ddulliau amgen i ffordd liniaru'r M4, ac ar gyfres bellach o syniadau a ddaeth i'r amlwg ers i'r arolygydd gwblhau ei wrandawiadau, sy'n ffyrdd ymarferol y gellir mynd i'r afael â'r problemau gyda'r M4 yn y presennol. Mae hwn yn llawer mwy cyfyngedig, mae'n fyrrach o lawer, ac yn gyngor llawer mwy penodol sydd ei angen arnom ni. Nid trwy'r comisiwn seilwaith y byddai'r ffordd orau o gael y cyngor hwnnw oherwydd, yn wahanol i'r awgrym a wnaeth arweinydd yr wrthblaid, nid wyf eisiau gweld hyn yn cymryd eiliad yn hirach na'r hyn sydd raid i ddechrau gwneud gwahaniaeth i bobl Casnewydd o ran y problemau y maen nhw'n eu hwynebu o amgylch yr M4 heddiw.  

15:15

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Mae'r broses sydd wedi arwain at heddiw wedi cymryd blynyddoedd, wedi costio miliynau o bunnoedd ac wedi creu llawer o ansicrwydd i drigolion a busnesau lleol. Heddiw, mae gennym benderfyniad. Mae'n siomedig iawn ac yn ergyd fawr i Gasnewydd. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r arolygydd annibynnol a fu'n arwain yr ymchwiliad cyhoeddus a barodd flwyddyn ac i holl aelodau'r cyhoedd a roddodd dystiolaeth iddo. Edrychodd yr arolygydd a'i dîm ar dros 100 o atebion, gan gynnwys y dewis o wneud dim.

Er fy mod yn parchu gwrthwynebiadau'r ecolegwyr, bydd llawer yn dod i'r casgliad y bydd y penderfyniad hwn yn condemnio Casnewydd i ddegawdau eto o dagfeydd trwm, traffig yn sefyllian a nwyon gwenwynig. Nid yw'r ffordd bresennol yn addas at y diben ac ni chafodd erioed ei chynllunio i fod yn draffordd. Mae traffig sy'n llonydd yn llygru mwy na thraffig sy'n llifo, ac mae tagfeydd parhaus yn golygu bod nwyon gwenwynig ar y rhan hon o'r draffordd a'r ardaloedd preswyl cyfagos yn beryglus o uchel.

Nid traffig lleol yw'r mwyafrif helaeth o draffig yr M4. Mae amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun yn awgrymu y byddai dyblu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd ond yn cael gwared ar 6 y cant o draffig yr M4. Mewn cyferbyniad, mae swm y traffig sy'n dod dros bont Hafren wedi codi 10 y cant ers i'r tollau gael eu diddymu. Sut fydd y comisiwn yn ystyried y traffig sy'n teithio o Loegr?

Bob tro y bydd digwyddiad neu ddamwain neu dagfeydd difrifol wrth dwneli Bryn-glas, caiff traffig y draffordd ei wthio ar y ffyrdd lleol, yn nes at gartrefi ac ysgolion. Mae hyn yn creu tagfeydd, yn tagu'r ddinas ac yn atal bysiau rhag rhedeg yn brydlon. Er bod tagfeydd yn rhwystr mawr i dwf economaidd yn y de, mae pobl Casnewydd hefyd yn dioddef o ganlyniad i hynny. Rwyf wedi dweud erioed nad yw gwneud dim yn ddewis o gwbl. Rhaid peidio â chyfyngu'r broblem sy'n ymwneud â thwneli Bryn-glas i'r blwch 'rhy anodd'—nid yw hynny'n gwneud y tro. Ni allwn fynd yn ôl i'r man cychwyn. Mae'n rhaid dod o hyd i ateb cynaliadwy ac mae'n rhaid dod o hyd iddo'n gyflym.

Rwyf eisoes wedi clywed pobl yn awgrymu amrywiaeth eang o wahanol brosiectau ledled Cymru. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i mi y bydd yr arian a neilltuir ar gyfer ateb y broblem benodol hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hynny'n union—i ddatrys y llygredd a'r tagfeydd hirsefydlog a achosir gan yr M4 yn rhedeg drwy Gasnewydd?

Yn olaf, bydd pobl Casnewydd wedi gweld llawer o adolygiadau yn mynd ac yn dod. Mae'n hanfodol bod y comisiwn yn ystyried nid yn unig farn yr ychydig rai—mae'n rhaid iddo gynnwys y bobl yr effeithir yn wirioneddol ar eu bywydau bod dydd. Beth allwch chi ei ddweud wrthynt i'w sicrhau y bydd y comisiwn hwn yn adrodd ar amser ac yn ymdrin â'r problemau unwaith ac am byth?  

Llywydd, rwy'n diolch i Jayne Bryant am yr oriau lawer o sylw y mae hi wedi eu rhoi i'r mater hwn, am y llu o gyfarfodydd yr wyf wedi eu cael gyda hi yn ystod y misoedd cyn i mi ddod yn Brif Weinidog, wrth iddi geisio canfod atebion i'r problemau yng nghyffiniau Casnewydd. Mae hi wedi bod yn gwbl gydwybodol yn gwneud hynny, ac rwy'n awyddus i roi sicrwydd iddi hi, wrth ddod i'm penderfyniad heddiw ac wrth ei fynegi yn y ffordd y gwneuthum, fy mod yn gwbl benderfynol y byddwn yn dangos i bobl Casnewydd fod yn bethau y gellir eu gwneud yn y presennol, ymhell cyn y byddai unrhyw ryddhad yn dod yn sgil ffordd liniaru, i gael effaith ar y problemau y maen nhw'n eu hwynebu.

Weithiau, Llywydd, disgrifir y ffordd liniaru yn ateb i lawer o broblemau. Fe ddarllenais i'n ofalus iawn, a rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pethau a ddywedodd yr arolygydd am ansawdd yr aer o amgylch Casnewydd, ond pan gaiff yr Aelodau gyfle i'w ddarllen fe fyddan nhw'n gweld, er bod yr arolygydd wedi canfod y byddai ansawdd aer wedi gwella mewn 30,000 o dai, roedd ef yn canfod hefyd mai dibwys neu ychydig iawn fyddai'r effaith ar 29,500 o'r tai hynny, a dim ond 12 o'r 30,000 eiddo hynny a fyddai'n gweld effaith fawr ar ansawdd yr aer. Felly, mae'r materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer yn bwysig iawn. Rydym yn fwy ymwybodol o'r rhain heddiw nag yr oeddem hyd yn oed bum mlynedd yn ôl, ond gwelwyd nad oedd ffordd liniaru'r M4 yn ateb i'r problemau ansawdd aer a wynebir gan bobl Casnewydd, a chredaf fod yna atebion eraill a fydd o fwy o fudd iddyn nhw.

Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant am dynnu sylw at ddigwyddiadau a damweiniau, oherwydd yr wyf i wedi nodi yn fy natganiad y pethau y credwn y gallwn ni eu gwneud nhw ar unwaith i ymdrin yn gynt ag unrhyw ddamwain sy'n digwydd, yn enwedig o amgylch twnnel Bryn-glas, oherwydd, os cawn ni fwy o batrolau, mwy o bresenoldeb yr heddlu, trefniadau eraill ar gyfer clirio damweiniau oddi ar y draffordd fel y gellir ymateb iddyn nhw'n briodol ac ymchwilio iddyn nhw, yna ni cheir peth o'r oedi hirfaith sy'n digwydd fel arall, a bydd y draffordd yn cael ei hadfer i weithredu'n briodol heb yr effaith ar ardaloedd cyfagos y cyfeiriodd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ati.

Gadewch i mi ymdrin â mater arian, oherwydd yr wyf i eisoes wedi dweud yn fy nhrafodaethau â rhai o'r bobl a fydd yn ffurfio'r comisiwn y byddan nhw'n alluog i gael yr alwad gyntaf am yr arian a fyddai wedi ei neilltuo fel arall ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Ac roeddwn i'n awyddus i roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw y bydd yr adnoddau ar gael, pan fydd syniadau ymarferol ganddyn nhw, i roi'r syniadau hynny ar waith. Rwyf i wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw iddyn nhw'n barod; rwy'n falch iawn o'i ailadrodd eto'r prynhawn yma. Pan fydd Ken Skates yn gwneud ei ddatganiad yfory, bydd ganddo ef fwy i'w ddweud am y ffordd y bydd y comisiwn yn gweithredu, ei ddulliau o weithio, a sut y bydd hynny'n sicrhau bod lleisiau pobl leol ac eraill yn cael eu clywed yn y penderfyniadau a wneir. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn awyddus i ofyn cwestiynau ond hefyd i groesawu'r hyn a fydd yn cael ei ddweud yn y cyswllt hwnnw hefyd.    

15:20

Mae'r penderfyniad hwn yn un gresynus iawn yn ein golwg ni. Wrth i'r Prif Weinidog glochdar, yn ofalus ei ddewis, am economi Cymru nawr, ni chyfeiriodd at y ffaith mai yng Nghymru y ceir y cyflogau isaf ym mhob un o wledydd a rhanbarthau'r DU. Roedd ganddo'r cyfle heddiw i wneud rhywbeth i leddfu'r gwasgbwynt sy'n tagu dwy ran o dair o economi Cymru sy'n dibynnu, i ryw raddau, ar yr M4 i gael ei chynnyrch i'r farchnad. A yw'n credu mewn gwirionedd bod dweud ei fod yn mynd i wneud rhywbeth i hwyluso'r gwaith o ymdrin â damweiniau a dysgu mwy i bobl am sut i osgoi damweiniau, neu sefydlu comisiwn arall—bod hynny'n ymateb digonol i faint y broblem? Rwy'n croesawu iddo ddweud y bydd yn gwrando ar bob llais, ac rwy'n gobeithio y bydd, fel rhan o hynny, yn gwrando ar David Rowlands, ein llefarydd ni, am y gwaith manwl y mae ef wedi ei wneud yn hyn o beth.

Y llythyr penderfyniad—rydych chi'n dweud ym mharagraff 4.3 fod yna naw mater yr oeddech chi'n eu hystyried. Rydych chi'n sôn wedyn am dri mater arall ym mharagraff 4.4. Tybed a gaf i ofyn: a oes dogfen arall y rhoesoch chi sylw iddi o gwbl, a maniffesto'r Blaid Lafur yw'r ddogfen honno, a oedd yn dweud, 'Fe fyddwn ni'n cwblhau ffordd liniaru'r M4'. Nawr, rydych chi'n dweud ar ddiwedd eich llythyr  penderfyniad—[Torri ar draws.] Rydych chi'n dweud ar ddiwedd eich llythyr penderfyniad:

'Dim ond trwy wneud cais am adolygiad barnwrol y ceir herio fy mhenderfyniadau.'

Prif Weinidog, onid ydych chi'n credu y gallai eich penderfyniad chi fod yn rhywbeth y gallai pleidleiswyr fod â barn amdano, o ystyried yr addewid glir iawn a wnaethoch chi yn eich maniffesto, yr ydych chi wedi ei thorri erbyn hyn?

Nawr, rydych chi'n sôn am yr amserlen, Prif Weinidog. Rydych chi'n dweud, yn 2014, nad oedd neb wedi meddwl am Brexit. Yn Ionawr 2014 y gwnaeth David Cameron draddodi ei araith Bloomberg yn dweud y byddai refferendwm ar aros neu adael. Rydych chi'n sôn am y llinell amser. Yr arolygwr druan, roedd yno rhwng Chwefror 2017 a Medi 2018. Roedd ganddo 83 o ddiwrnodau yn eistedd ac yn gwrando ar dystiolaeth. Dywedwyd wrtho gan Lywodraeth Cymru—y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y Gweinidog cyllid, Mark Drakeford—y byddai'r arian ar gael i ariannu hyn. Cyflawnodd yr holl waith ar y sail honno—gwariodd 44 miliwn o bunnoedd ar y sail honno—eto i gyd, dywedwyd wrthoch, nid cyn 29 o fis Ebrill, fod hynny, yn wir, yn gwbl anghywir. Felly, Prif Weinidog, yn ôl eich tystiolaeth chi, fe wnaethoch dreulio tri mis yn edrych ar yr adroddiad hwn, yn gwneud yr holl waith hwn, gan roi ystyriaeth anhygoel iddo mewn manylder rhyfeddol. Ond yna ar 29 Ebrill aeth y cyfan yn ofer gan fod eich Cabinet wedi dweud wrthoch nad yw'r arian ar gael. A yw honno'n sail gredadwy mewn gwirionedd? A ydym ni i gredu o ddifrif eich bod wedi bwrw ymlaen ar y sail honno?

Yn olaf, hoffwn dynnu rhywfaint o sylw at yr anghysondeb rhwng eich llythyr penderfyniad a'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud gynnau. Mae eich llythyr penderfyniad yn sôn am un ffactor amgylcheddol yn unig, sef gwastadeddau Gwent—dim ond 2 y cant o'r gwastadeddau sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y ffordd. Rydych chi'n rhoi pwyslais a barn mor wahanol arno, o'i gymharu â'r arolygydd, o ran mai hyn sy'n ei ysgogi. Ond yr hyn a wnaethoch ei ddweud yn eich datganiad nawr oedd, 'O, y pwyllgor ar newid hinsawdd oedd hynny, Net Zero oedd hynny'—roedd hynny oherwydd eich bod wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, er i chi ddweud wrthym ni'r tro diwethaf mai datganiad yn unig oedd hyn ac na fyddai'n arwain at newid polisi. Pam ydych chi'n rhoi cymaint o bwyslais ar newid hinsawdd yn eich datganiad heddiw ond nid yn yr hysbysiad o'ch penderfyniad? A pha effaith a gaiff ar yr hinsawdd pan fo'r niferoedd enfawr hyn o gerbydau mewn tagfeydd yn pwmpio carbon deuocsid ac allyriadau eraill, a fyddai gryn dipyn yn llai pe bai'r ceir hynny'n symud yn hytrach nag yn aros yno gyda'u peiriannau ymlaen?

Ac yn olaf, beth am bobl Casnewydd sy'n dioddef y llygredd aer hwnnw, y gronynnau a'r nitrogen deuocsid gerllaw'r twneli hynny, sy'n mynd yn waeth ac yn waeth, ynghyd â'r gwasgbwynt hwn sy'n mynd yn waeth ac yn waeth i economi Cymru?

15:25

Wel, codwyd nifer o faterion, rwy'n amau, yma, Llywydd. Rwyf i am roi cynnig ar ateb rhai ohonyn nhw. Nid wyf i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ynglŷn â bod hwn yn fater mor ganolog o ran yr holl bethau eraill y gellir eu gwneud i gefnogi economi Cymru ac sy'n parhau i wneud hynny heddiw. Os oes gwaith manwl y gellir ei roi gerbron, yna wrth gwrs fe fydden ni'n barod i feddwl am hynny a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ystyriaeth briodol. Nid wyf i'n credu y gallaf ddweud dim wrth yr Aelod ar fater maniffestos. O leiaf roedd gan fy mhlaid i faniffesto. Ac yn ôl yr hyn a gofiaf—nid wyf i'n ddarllenwr brwd o'i waith ef yn y maes hwn ond mae rhyw gof gennyf i fod maniffesto UKIP, a oedd yn un o'r sawl peth y mae ef wedi sefyll arno, yn hollol yn erbyn y llwybr du. Felly, nid wyf i'n credu bod gennym ni lawer i'w ddysgu ganddo ef ar sail hynny.

Llywydd, fe ddylwn i fod wedi dweud yn gynharach, felly rwy'n ymddiheuro na wnes i ddim—roeddwn i wedi bwriadu dweud hyn wrth ateb y cwestiwn gan Jayne Bryant, ond wrth gwrs roeddwn i'n awyddus i roi teyrnged i waith yr arolygydd a'i dîm. Bydd rhai aelodau yn y Siambr yn gwybod bod yr arolygydd, yn y cyfnod ers cyhoeddi'r adroddiad, wedi ymadael â'r byd hwn. Felly, roeddwn i'n arbennig o awyddus i wneud yn siŵr fy mod i'n achub ar y cyfle i nodi fy ngwerthfawrogiad o'r gwaith manwl iawn a wnaeth ef a'i dîm ac a arweiniodd at yr adroddiad. Felly, diolch am y cyfle i roi hynny ar gofnod.

Aeth yr arolygydd yn ei flaen ar y sail y byddai'r cynllun yn fforddiadwy. Fe ddywed nad mater iddo ef yw ymdrin â hynny. Fe gymerodd yn ganiataol bod y cynllun yn fforddiadwy. Dyna'r hyn y dylai ef fod wedi ei wneud ac nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad o gwbl ei fod wedi penderfynu nad mater iddo ef ei ddatrys oedd hynny. Mater i Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, yw materion sy'n ymwneud ag ariannu, ac fel y dywedais wrth wneud fy natganiad, fy mhenderfyniad i oedd hynny ac, yn ôl y gyfraith, fi yn unig. Cefais fy nghyfarwyddo gan farn y Cabinet ar y mater hwn ond fy mhenderfyniad i oedd yr un terfynol. Dyna sut y digwyddodd hyn.

O ran gwastadeddau Gwent, mae'r arolygydd yn nodi'n glir yn ei adroddiad—'Nid oes unrhyw amheuaeth', meddai ym mharagraff 8.490,

'y byddai’r cynllun yn cael effaith niweidiol sylweddol ar dirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent ac, er y gellir cynnal rhywfaint o archwilio a gwaith dehongli archaeolegol, ni ellir lliniaru’r effaith honno. Mae'n rhaid i hyn bwyso yn erbyn y cynllun'—

meddai'r arolygydd—

'ac rwy'n cytuno â'r consensws y byddai'r effaith leol yn ddifrifol'.

Llywydd, nid yw agwedd yr arolygydd ddim byd tebyg i agwedd ddi-hid yr Aelod tuag at effaith y cynllun ar wastadeddau Gwent. Mae ef yn cloriannu hyn yn ofalus iawn. Mae'n cyfeirio at effeithiau amgylcheddol cronnol y cynllun. Mae'n edrych ar ei effaith ar fioamrywiaeth ac ar gydnerthedd ecosystemau. Wedi pwyso a mesur, fe ddaw ef i'r casgliad y dylai'r ffordd fynd yn ei blaen. Ond ni ddylai neb gredu yn y fan hon bod yr arolygydd, yn syml, yn wfftio'r effaith amgylcheddol fel y gwnaeth yr Aelod. Mae ei adroddiad ef o safon wahanol iawn i'r ddadl a glywsom ni funud yn ôl.  

15:30

Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'ch penderfyniad, ac rwyf wedi arddel y farn honno ers tro. Ond deallaf iddo fod yn benderfyniad anodd iawn ichi ei wneud, gyda dadleuon cryf iawn ar y ddwy ochr. Mae hyn hefyd yn egluro'r ffaith fod gen i a Jayne, er ein bod yn cytuno'n llwyr ar raddfa a difrifoldeb y problemau, safbwyntiau gwahanol ynghylch yr ateb gorau, serch hynny. Ond mae dadleuon cryf iawn ar y ddwy ochr ac rwy'n deall hynny'n iawn.  

Ond rwy'n cytuno bod yr ystyriaethau amgylcheddol, gwerth mawr gwastadeddau Gwent, sy'n amgylchedd unigryw a hanesyddol, gyda gwerth ecolegol hollbwysig—yn wir, mewn dadl fer yn ddiweddar, cyfeiriais at hanes gwastadeddau Gwent yma yn y Siambr hon. Yn wir, mae gwerth gwastadeddau Gwent, a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, yn golygu bod angen meddylfryd newydd, mwy o ddychymyg a ffyrdd newydd o wynebu'r broblem hon, a hefyd, mae'r gost yn amlwg yn anhawster gwirioneddol wrth fwrw ymlaen â ffordd o'r maint hwn. Gwn fod llawer o bobl yn credu y byddai'r gost yn y pen draw wedi mynd y tu hwnt i £2 biliwn, ond os yw pobl yn arddel y farn honno, neu'n credu y byddai wedi bod oddeutu £1.5 biliwn, mae'n swm mawr iawn o arian, y gellid ei ddefnyddio mewn ffyrdd llawer gwell yn fy marn i.

Hoffwn ichi gytuno—credaf eich bod wedi gwneud hyn eisoes, Prif Weinidog, ond yn sicr hoffwn wneud y pwynt—y bydd yn rhaid defnyddio £1 biliwn o'r benthyciad sydd ar gael, efallai, ar gyfer y coridor M4  hwnnw o amgylch Casnewydd, lle mae'r problemau mor ddifrifol a dwys. Ac, rwy'n credu, gyda'r disgwyliad sydd wedi ei greu o gwmpas hanes y cynnig am ffordd liniaru'r M4, mae gan y bobl leol ddisgwyliadau uchel iawn y bydd hynny'n digwydd. Hoffwn ategu hefyd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Jayne am yr angen i sicrhau bod pobl Casnewydd yn cael eu cynrychioli'n briodol yn y broses sydd bellach yn mynd i ddigwydd o amgylch y comisiwn. A byddwn yn dweud bod yn rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd gael swyddogaeth gref iawn o ran y Comisiwn, gan ei bod yn sicr y bydd gofyn iddynt gyflawni llawer o'r camau y bydd eu hangen i fwrw ymlaen â'r dull amgen.  

Prif Weinidog, a allech roi sicrwydd pellach hefyd o ran yr angen i gymryd camau cyflym iawn i ymdrin â phroblemau'r presennol? Gwn eich bod eisoes wedi mynd i'r afael â hyn, ond roeddech yn llygad eich lle yn dweud y byddai'n o leiaf tua phum mlynedd cyn y byddai ffordd liniaru'r M4 yn weithredol, ac yn amlwg mae angen inni wneud llawer i ymdrin â'r problemau yn y tymor byr iawn. A rhaid i hynny fod yn flaenaf, fe gredaf, yng ngwaith y comisiwn, ac mae angen i lawer ddigwydd cyn i'r comisiwn ddechrau ar ei waith hyd yn oed. Rwy'n gobeithio y gwelwn y lefel honno o frys ac amseroldeb.  

A gaf i ddweud hefyd fod llawer o'r materion, wrth gwrs, yn effeithio ar ardal Cyngor Sir Fynwy, Dwyrain Casnewydd, yn fy etholaeth i? Credaf ein bod yn ffodus o gael cymunedau yno sydd mewn gwirionedd yn cyflwyno atebion posibl i'r problemau sy'n ein hwynebu, gan gynnwys y rheini ym Magwyr a Gwndy, sy'n cynnig gorsaf drên newydd. Maent wedi bod yn mynd drwy broses y DU  ynglŷn â chronfa gorsafoedd newydd, ac maent yn gobeithio, ar hyn o bryd, y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol i'r £80,000 sydd ar gael gan Gyngor Sir Fynwy i fwrw ymlaen â cham nesaf y broses honno o wneud cais i orsafoedd newydd Cronfa'r DU. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn defnyddio'r dychymyg, yr egni a'r syniadau hynny gan gymunedau lleol i fynd i'r afael â'r problemau real iawn hyn.  

Yn olaf, Prif Weinidog, tybed a allech ddweud unrhyw beth am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd credaf fod llawer o bobl yn ystyried y penderfyniad hwn yn brawf pwysig o'r ddeddfwriaeth honno, ac a fyddem yn gweld dull newydd iawn o weithredu gan Lywodraeth Cymru. Tybed a allech ddweud rhywbeth am arwyddocâd y ddeddfwriaeth honno wrth ichi ddod i'r penderfyniad a wnaethoch.    

Llywydd, diolch i John Griffiths. Ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r pethau a ddywedais eisoes mewn cysylltiad â gweithredu'n gyflym a'r angen am atebion newydd llawn dychymyg. Ceisiaf ymateb i'r pwyntiau newydd y mae John wedi'u gwneud. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith, yn ogystal â phryder am gostau disgwyliedig cyfredol unrhyw ffordd liniaru, fod yn rhaid inni feddwl sut y gallai'r costau hynny gynyddu yn y dyfodol. Ar gyfartaledd, mae cost cynlluniau o'r math hwn ar draws y Deyrnas Unedig wedi cynyddu 20 y cant, ac mae llawer o enghreifftiau sy'n llawer gwaeth na hynny, wrth gwrs. Rydych yn siŵr o gymryd y math hwnnw o dystiolaeth i ystyriaeth yn y cefndir wrth asesu fforddiadwyedd.

Dywedaf eto, pan gynigiwyd y cynllun gyntaf, fel yr eglurwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd ar sawl achlysur yma yn y Siambr, mai ar y sail y byddai ffrwd newydd o gyllid—pwerau benthyca nad oeddent erioed wedi bod ar gael o'r blaen i'r Cynulliad hwn— yn ddigonol i dalu'r costau dan sylw, ac na fyddai angen, felly, dargyfeirio arian i ffwrdd oddi wrth flaenoriaethau eraill y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn y meysydd pwysig hynny, sef iechyd, tai ac addysg, ac yn y blaen. Ond rwyf wedi egluro wrth y bobl a fydd yn gysylltiedig â'r comisiwn, y bydd eu gwaith nhw'n cael manteisio ar yr arian a fuasai ar gael ar gyfer ffordd liniaru, ac y byddant yn gallu bwrw ymlaen â syniadau fel y rhai a gyflwynwyd gan gynghorau cymuned yn ardal Sir Fynwy. Byddant yn gallu defnyddio'r arian hwnnw i roi sylwedd i'w gwaith.

Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am gyfraniad Cyngor Dinas Casnewydd, ac rwyf wedi siarad eisoes gydag arweinydd Cyngor Casnewydd heddiw. Siaredais ag amryw o unigolion eraill sydd â diddordeb uniongyrchol ynddo. Mae fy nghyd-aelod Ken Skates wedi siarad â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach a buddiannau busnes eraill, a byddaf yn cwrdd â nhw yr wythnos nesaf. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan bawb sydd â diddordeb yn y penderfyniad gyswllt uniongyrchol â Llywodraeth Cymru.

Mae'r Aelod wedi fy holi am ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n dymuno egluro, Llywydd, fy mod wedi darllen yn ofalus iawn y dystiolaeth a roddwyd gan y Comisiynydd, a darllenais yn ofalus iawn y modd yr ymatebodd Cwnsler y Frenhines, ar ran Llywodraeth Cymru, i'w dehongliad hi o'r Ddeddf. Yn fy marn i, nid darlleniad o'r Ddeddf oedd yr hyn a glywais i'n cael ei fynegi ar lawr y Cynulliad hwn, sef bod yn rhaid i gynigion ar gyfer datblygu fodloni pob un o'r saith nod a'r holl amcanion llesiant, a bod yn rhaid iddynt wneud hynny'n gyfartal ar draws yr holl nodau a'r amcanion. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn anochel, mewn unrhyw gynllun datblygu, y bydd rhywfaint o gydbwysedd rhwng y gwahanol nodau a'r amcanion y mae'r Ddeddf yn eu cyflwyno. Nid oeddwn wedi anghydweld â barn yr arolygydd, felly, fod gofynion y Ddeddf wedi cael eu cynrychioli'n deg gan Lywodraeth Cymru yn y modd y cyflwynodd ei thystiolaeth ar y Ddeddf i'r arolygydd.

15:35

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru, heddiw fod hwn yn ddiwrnod tywyll i economi Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith ein bod wedi cael degawdau o drafod, dros £40 miliwn wedi'i wario, ac nad oes yr un broblem wedi cael ei datrys hyd yn hyn. Fe ddywed ymhellach y bydd twf economaidd yn cael ei lethu, y bydd hyder yn y rhanbarth yn gwanhau, ac y bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi. Dyna farn arweinwyr busnes ledled Cymru. Nawr, rydych wedi sôn heddiw, Prif Weinidog, am broses wirioneddol agored. Rydych wedi crybwyll y geiriau, 'Dyma bris byw mewn democratiaeth'. Ond, ar yr un pryd, rydych wedi mynd ati i atal craffu cyhoeddus gyda'r penderfyniad i atal yr adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus. Ac rydych wedi sôn eich bod wedi bod yn bodio drwy'r tudalennau hynny am fisoedd; nid ydym ni wedi cael y cyfle—nid yw ACau eraill wedi cael y cyfle i edrych ar yr adroddiad hwnnw. A gaf i ofyn ichi egluro, Prif Weinidog, pam na allech chi gyhoeddi'r adroddiad hwnnw heb y cyngor cyfreithiol sydd ynghlwm wrtho?

Rydych yn dweud bod cost y prosiect a'r gofynion posibl ar gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn golygu nad ydych mewn sefyllfa i ddarparu cyllid ar gyfer y prosiect hwn. Daeth yr arolygydd i'r casgliad y byddai'r prosiect, wrth gwrs, yn golygu gwerth cadarn am arian ac yn cynnig manteision sylweddol. Rhoddodd eich economegydd eich hun yng Nghymru dystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus fod gan y prosiect gymhareb cost a budd o 2.0:2.2, gyda buddiannau economaidd o £2,12 biliwn. Felly, ydych chi ddim yn derbyn barn swyddogion Llywodraeth Cymru a'r rhai sy'n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru a wnaeth yr achos hwn i'r ymchwiliad cyhoeddus ar eich rhan? Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth yn 2016 y byddai'r darn newydd o'r M4 yn cael ei agor erbyn tymor yr hydref 2021. Roedd adeiladu'r ffordd ym maniffesto etholiadol y Blaid Lafur. Roedd yn addewid yn eich maniffesto yn 2016. Mae arweinydd yr wrthblaid ac aelodau eraill wedi gofyn y cwestiwn hwn: a ydych yn cydnabod bod yr addewid hwn wedi'i dorri'n llwyr erbyn hyn?

Hefyd, rydych wedi dweud y bydd y comisiwn arbenigol, fel y'i gelwir, yn cael ei benodi nawr. Wel, beth oedd pwrpas ymchwiliad cyhoeddus a gymerodd ddwy flynedd ac a gostiodd £44 miliwn i drethdalwyr Cymru os na chafodd yr holl ddewisiadau eu trafod yn fanwl yn yr ymchwiliad hwnnw? Mae Jayne Bryant wedi dweud nad oes modd inni fynd yn ôl i'r dechrau eto. Wel, dyna'n union y mae'r comisiwn hwn yn ei wneud, mae'n mynd yn ôl i'r dechrau. Dyna mae'r comisiwn yn ei wneud. Ac, yn olaf, roeddwn yn y Siambr hon pan ymrwymodd cyn arweinydd y tŷ—fe ymrwymodd—i gynnal pleidlais rwymol. Mae arweinydd yr wrthblaid wedi gofyn y cwestiwn. Nid ydych chi, Prif Weinidog, wedi'i ateb. A wnewch chi ateb y cwestiwn ynglŷn â'r bleidlais rwymol a addawyd i'r Siambr hon nawr?  

15:40

Llywydd, credaf fod yr Aelod yn anghywir am nifer o bethau yma . Rwy'n credu ei fod yn dangos rhyw gymaint o wamalrwydd anweddus wrth awgrymu mai bodio drwy'r adroddiad wnes i. Gadewch imi ddweud yn bendant wrtho fy mod wedi darllen yr adroddiad hwn o glawr i glawr—[Torri ar draws.] Rwy'n credu fy mod wedi eich clywed y tro cyntaf, does dim angen ail ddarn o gyngor arnaf i. A gadewch i mi fod yn glir wrthoch mai fi sy'n gwneud y penderfyniadau yma. Dyna sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Dyna pam rwyf i wedi gweld yr adroddiad ac rydych chi'n ei weld nawr, oherwydd fi sy'n gwneud y penderfyniadau ac nid Aelodau'r Cynulliad yn gyffredinol, waeth pa mor gryf fo'ch barn. Dyna sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a dyna'r cyfrifoldeb yr wyf wedi'i gyflawni.

Wrth gwrs, dydych chi ddim yn gweld y cyngor cyfreithiol. Mae aelodau'r Siambr yn sicr yn deall hyn. Gofynasoch imi pam nad wyf yn cyhoeddi'r cyngor cyfreithiol. Fe'ch clywais yn gofyn i mi. Ac nid wyf yn cyhoeddi'r cyngor cyfreithiol, oherwydd bod confensiynau Llywodraeth, fel y gŵyr ef yn iawn, yn golygu bod y cyngor cyfreithiol hwnnw yn gyngor breintiedig sydd ar gael i Weinidogion, ac felly y bu, yn yr un modd na fyddai Gweinidogion yn ei Lywodraeth ef yn y Deyrnas Unedig byth yn cytuno i gyhoeddi cyngor cyfreithiol o dan yr amgylchiadau hynny. Felly, rwy'n dangos parch dyledus iddo wrth ateb y cwestiynau a ofynnodd. Efallai y byddai wedi dymuno gofyn cwestiynau eraill imi, ond ni wnaeth hynny, ac rwyf i wedi ateb y rhai a ofynnodd ef.    

Rydym wedi trafod y cwestiwn maniffesto nifer o weithiau. Mae gennyf gopi yma o faniffesto'r Blaid Geidwadol yn yr un etholiad. Ar dudalen 9, mae'n ymrwymo ei blaid i drydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe—[Torri ar draws.] Ar dudalen 35, mae'n ymrwymo ei blaid i ariannu morlyn llanw yn Abertawe—[Torri ar draws.] Lluniwyd y maniffesto a luniwyd gennym dan yr amgylchiadau a ddisgrifiais. Mae'r cyd-destun wedi newid, a dyna pam mae'r penderfyniad wedi newid yn y cyd-destun cyfnewidiol hwnnw.

O ran pleidlais, clywsoch arweinydd y tŷ yn gynharach y prynhawn yma yn dweud y bydd dadl yn y Cynulliad hwn. A phe bai'r penderfyniad wedi mynd rhagddo ar y ffordd liniaru, byddai pleidlais rwymol wedi bod, oherwydd byddai wedi dod ar y gyllideb a roddir gerbron y Cynulliad hwn bob blwyddyn, gan y byddai'r penderfyniad i fynd ymlaen wedi ymrwymo arian, ac mae'r Llywodraeth yn gorfod gwario arian pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn pleidleisio o blaid darparu'r arian hwnnw i'r Llywodraeth. Felly, byddai pleidlais rwymol wedi digwydd yn yr amgylchiadau hynny. Nawr, fe fydd dadl, a bydd cyfle i'r Aelodau yma wneud yr holl bwyntiau y maent am eu gwneud.

Ac yn hollol sicr, Llywydd, nid yw'r penderfyniad hwn yn ymwneud â mynd yn ôl i'r cychwyn cyntaf. Mae'n ymwneud â darn o waith cyflym gan gomisiwn arbenigol a fydd yn cyflwyno cynigion ymarferol i ddatrys rhai o'r problemau a wynebir gan drigolion Casnewydd yn 2019 a 2020, nid flynyddoedd lawer yn y dyfodol pan fydd y ffordd wedi'i hadeiladu efallai yn y pen draw ac ar agor i draffig.  

Bellach, rydym dros yr amser a neilltuwyd gan y Llywodraeth ar gyfer y datganiad hwn yn eithaf sylweddol, ac mae gennyf lawer o siaradwyr sydd heb ofyn eu cwestiwn eto. Ac fel y mae'r Llywodraeth wedi dweud, bydd dadl eto ar y mater hwn, ond rwy'n mynd i ganiatáu cwestiynau byr gan weddill yr Aelodau sy'n dymuno cyfrannu. Fe'ch heriaf yn gyntaf ar hynny, Mike Hedges.

15:45

A gaf i groesawu'r penderfyniad? Mae angen mynd i'r afael â'r problemau traffig o amgylch Casnewydd ar adegau brig, ond mae'r M25 yn enghraifft inni o'r hyn sy'n digwydd gyda ffyrdd newydd: yn gyntaf oll mae'n cael ei adeiladu, yna ei ledu, yna ei droi i'r hyn a ddisgrifiwyd gan bobl fel y maes parcio mwyaf yng Ngorllewin Ewrop. Hoffwn gyflwyno rhai awgrymiadau ynghylch yr hyn y gellir ei wneud. Gellid rhoi arwyddion ar gyfer Blaenau'r Cymoedd i'r rhai ohonom sy'n dod o'r Gogledd a'r Canolbarth ac sy'n dymuno mynd i'r gorllewin i Bort Talbot. Rwyf i wedi dweud hyn ers i Edwina Hart fod yn Weinidog yma. Gellid defnyddio'r lôn allanol ar y M4 ar gyfer traffig trwodd yn unig, felly byddai'r traffig lleol yn aros yn y lôn  fewnol, y traffig trwodd yn mynd i'r lôn allanol, oni bai bod yna ddamwain. Pam na allwn ni wahanu amseroedd dechrau'r sector cyhoeddus, fel na fyddai pawb ar y ffordd honno rhwng 8 a 9 bob bore, sef adeg y problemau, a rhwng 5 a 6? Y bore yma, am 11:30, nid oedd problemau traffig yno. Yn olaf, a allwn ni ystyried cau rhai o gyffyrdd yr M4, oherwydd mae hynny mewn gwirionedd—? Os ydych eisiau gwybod pam mae gennych broblem, mae gennych ormod o gyffyrdd yn agos at ei gilydd ar draffyrdd dwy lôn. Mae hynny'n rhoi problem ichi.

Diolch i'r Aelod am yr awgrymiadau hynny. Nid oes amheuaeth gennyf fod rhai o'i awgrymiadau'n fwy derbyniol nag eraill. Ond yr hyn y maent yn ei ddangos yw nad oes prinder syniadau ymarferol y bydd y comisiwn yn gallu eu hystyried, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am roi ei syniadau gerbron y Cynulliad heddiw.

Rwyf wedi bod yn ceisio lleihau'r traffig ar y A40 rhwng Rhaglan a'r Castell, ond gwelaf fod Mike Hedges yn awyddus i'w gynyddu, ond dyna ni. Dau gwestiwn cyflym, os caf, Llywydd. Yn gyntaf, fel y clywsom yn gynharach, mae swm sylweddol o arian eisoes wedi'i wario ar ffordd liniaru'r M4 hyd yn hyn o ran cwmpasu'r prosiect a chaffael tir hefyd—credaf ei fod tua £40 miliwn. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni—. Wel, o ran y tir a brynwyd, credaf ichi ddweud yn gynharach nad oeddech yn gallu edrych ar lwybrau eraill, ond yn amlwg mae tir wedi cael ei brynu, felly beth sydd yn mynd i gael ei wneud i geisio lliniaru'r effaith ar y trethdalwr?

Yn ail, roedd y ffordd yn mynd i gostio £1.4 biliwn. Gan fod y cynllun wedi'i roi o'r neilltu bellach, a gaf i erfyn arnoch i edrych ar frys ar brosiectau seilwaith eraill yn y De-ddwyrain ac yn y De ac, yn wir, ledled Cymru—prosiectau megis ffordd osgoi arfaethedig Cas-gwent yn fy ardal i? Mae tagfeydd mawr yng Nghas-gwent. Os nad yw pobl o gwmpas Casnewydd yn mynd i gael rhyddhad o'r M4, credaf o leiaf y gall fy etholwyr i a threfi eraill yng Nghymru gael rhywfaint o fudd. Ac yn olaf, Llywydd, ychydig yn nes adref, mae cyswllt y bae dwyreiniol yn anorffenedig ac, fel y gwyddom, nid yr M4 yn unig sy'n achosi tagfeydd; mae llawer o draffig yn pentyrru ar yr A48M gan nad oes unman iddo fynd oherwydd nad yw'r cyswllt dwyreiniol hwnnw wedi'i gwblhau. Rwy'n gwybod bod hynny'n aruthrol o ddrud, ond efallai gyda'r arian fydd ar gael am nad ydym wedi cael yr M4 yn awr, y gallai Llywodraeth Cymru edrych ar rai o'r cynlluniau eraill y gellid eu datblygu i helpu bywyd yng Nghymru.

Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn hynny. Mae'r tir sydd bellach yn eiddo i Lywodraeth Cymru yn ffurfio rhan o'r asedau cyhoeddus yma yng Nghymru a phan fydd yr asedau hynny'n cael eu gwireddu, yna, wrth gwrs, bydd yr arian hwnnw'n mynd yn ôl i'r pwrs cyhoeddus.

Llywydd, gwneuthum gyfrifiad byr fy hun o'r holl bosibiliadau newydd gwahanol ar gyfer gwariant cyfalaf cyhoeddus a roddwyd imi gan Aelodau o amgylch y Siambr yn ystod yr amser y bûm yn Brif Weinidog. Daeth i dros £2.2 biliwn. Mae'r Aelod dros Gasnewydd yn ymddangos lawer gwaith ar y rhestr hon. Nid wyf yn awgrymu am funud nad yw'r syniadau y mae ef ac aelodau eraill wedi eu cyflwyno yn syniadau da, ond credaf fod y pwynt a wna yn un pwysig—fod yna ddewisiadau a wynebir mewn Llywodraeth rhwng defnyddio'r adnoddau sydd gennych at un pwrpas neu'i gilydd. Rwyf wedi dweud eto mai ar gyfer Casnewydd y bydd yr alwad gyntaf ar yr arian hwn ac ar gyfer ymdrin â'r materion traffig yno. Ond mae'r rhestr faith hon o bosibiliadau eraill ar fy nesg bob amser, ac mae eiriolaeth yr Aelod dros Drefynwy o welliannau o gwmpas Cas-gwent, Trefynwy, Rhaglan ac eraill i gyd yn gadarn ar y rhestr hon, gallaf ei sicrhau.

Diolch, Llywydd, ac rwyf yn gwerthfawrogi eich amynedd yn caniatáu amser ychwanegol inni. Yn anffodus, alla i ddim siarad mor gyflym â'm cyfaill da Mr Ramsay draw acw. [Chwerthin.] Prif Weinidog, credaf o ran  eich penderfyniad heddiw, y bydd hanes yn edrych yn ôl ac y bydd cenedlaethau i ddod yn edrych yn ôl ac yn barnu eich bod wedi gwneud y penderfyniad cywir, felly rwy'n eich canmol am hynny.

Roedd gennyf dri chwestiwn heddiw. Tynnwyd sylw at un gan John Griffiths, fy nghyd-Aelod, am y ffaith bod hwn yn brawf mawr ar ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ond gadawaf hynny am y tro. Yn gyntaf, Prif Weinidog, o ran y teimlad o raniad rhwng y Gogledd a'r De, a fyddech yn cytuno â mi bod angen inni ddefnyddio'r holl bwerau benthyca sydd gennym ar amrywiaeth o brosiectau ledled Cymru gyfan, ym mhob cwr o Gymru, er mwyn gwella lles yr holl bobl yr ydym yn eu cynrychioli yng Nghymru? Ac, yn olaf, Prif Weinidog, a ydych yn cytuno â mi mai datgan argyfwng hinsawdd oedd y peth cywir i'w wneud, ac o ganlyniad, ni fyddai wedi bod er budd ein planed i fwrw ymlaen â'r math hwn o brosiect?

15:50

Llywydd, diolch i Jack Sargeant am y pwyntiau hynny. Gallaf ei sicrhau ein bod yn bwriadu defnyddio'r capasiti benthyca sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i'r graddau mwyaf. A gaf i dynnu sylw'r Aelodau—fel yr wyf wedi gwneud yn weddol aml mewn trafodaethau gydag arweinydd Plaid Cymru—fod pob £20 miliwn yr ydym yn ei fenthyg at ddibenion cyfalaf yn costio £1 miliwn i ni mewn refeniw, ac mewn cyfnod pan fo refeniw yn arbennig o brin rhaid ystyried hyn hefyd, ond mae cynlluniau cyllideb Llywodraeth Cymru yn caniatáu inni ddefnyddio'r holl fenthyciadau sydd ar gael i ni? Ac wrth gwrs, mae'r pwynt y mae Jack Sargeant yn ei wneud yn cael ei adleisio yn yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay. Rwyf wedi ailadrodd fy ymrwymiad i Gasnewydd ac i sicrhau bod ei anghenion ar frig y rhestr am arian, ond mae gan bob rhan o Gymru ei hanghenion; mae gan bob rhan o Gymru faterion trafnidiaeth y maent yn eu hwynebu; mae angen buddsoddi mewn addysg, mewn tai, yn y gwasanaethau iechyd ym mhob rhan o Gymru. A gwn, o amgylch y Siambr ac yn y sylwadau a gafodd yr arolygydd, fod pryderon ynghylch y maint o fuddsoddiad a oedd yn cael ei ganolbwyntio mewn un prosiect ac mewn un rhan o Gymru. Felly, rwy'n deall y pwynt sy'n cael ei wneud. I mi, nid yw hynny'n tynnu oddi ar yr angen i ddatrys y problemau y sefydlwyd yr adroddiad i ymchwilio iddynt.

A chyn belled ag y mae argyfwng hinsawdd yn y cwestiwn, fel y dywedais yn fy natganiad, mae hynny'n sicr yn fater i'r comisiwn, i lunio'i gynigion yn y cyd-destun newydd a roddir gan argyfwng yr hinsawdd, adroddiad CCC y DU, a gwaith y Cenhedloedd Unedig yng nghyswllt yr effaith amgylcheddol.

Prif Weinidog, mae'n ddiwrnod trist iawn. Nid fi sy'n dweud hyn; ond Cydffederasiwn Diwydiant Prydain—y mae eich Gweinidog newydd gwrdd â nhw, fel y dywedasoch yn gynharach. Dyma eu dyfyniad ar y BBC. Mae'n ddiwrnod trist i'r rheini sydd eisiau gweld dileu rhwystrau sylweddol i dwf economaidd yng Nghymru; yn ddiwrnod trist i'r busnesau hynny sy'n wynebu costau uwch pan fydd tagfeydd yn achosi oedi i'w lorïau. Mae'n ddiwrnod trist i gymudwyr, i dwristiaid sy'n dod mewn niferoedd eithaf mawr ar ôl dileu tollau Pont Hafren, fel y cafodd ei grybwyll yn gynharach, a'r ffaith bod modurwyr eraill yn gorfod dioddef rhwystredigaeth ac oedi wrth deithio i'r De ac i Gymru. Mae'n ddiwrnod trist i'r rhai sy'n pryderu am effaith y lefel gynyddol o lygredd aer a achosir gan dagfeydd traffig o amgylch Casnewydd ar ein hamgylchedd.

Prif Weinidog, rwyf wedi bod yn byw yng Nghasnewydd ers 50 mlynedd; rwy'n gwybod hyn yn iawn. Nid oes neb wedi sôn eto am y gwasanaethau brys, yr heddlu, ambiwlansys a'r Brigadau Tân, eu cyfraniad nhw, eu barn nhw, na faint y mae'n ei gostio bob blwyddyn am y marwolaethau hyn, yn enwedig o Gylchfan Coldra hyd at Gylchfan Tredegar, gan fod yr ychydig gyffyrdd yng Nghasnewydd mor beryglus, yn enwedig gyda'r terfynau cyflymder a'r camerâu yno. Mae un camera yn gwneud mwy o arian nag unrhyw gamera arall yn y Deyrnas Unedig. Dyna a ddywedwyd wrthyf.

Prif Weinidog, hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau. Beth yw'r dewis arall? Mae tagfeydd—mae gennym broblem tagfeydd ddifrifol yng Nghymru. Clywsoch lawer o siaradwyr yma'n gynharach. Mae'r ganolfan gynadledda bron wedi cael ei hadeiladu yn y Celtic Manor. Mae'r ganolfan gynadledda honno ei hun yn mynd i gynnwys mwy na 5,000 o bobl ar benwythnosau. Wrth inni siarad, mae gêm ryngwladol Affganistan a Sri Lanka yn digwydd yng Nghaerdydd. Maen nhw'n ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, ac mae digwyddiadau eraill hefyd. Mae traffig yn cynyddu'n drybeilig ar y M4 bob blwyddyn. Felly, a oes modd gwneud rhywbeth?

Nid wyf yn dweud eich bod wedi gwrthod y llwybr du hwn. Rwy'n dweud —. Am y 10 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gwrando ar ddadleuon a chwestiynau gyda'r Prif Weinidog drwy'r amser—yn codi gobeithion, ond nid oes unrhyw beth wedi digwydd. Rydych yn awr yn galw comisiwn. A ydych wedi rhoi amserlen ar gyfer hynny? Beth fydd y gost? Yr arian; faint o arian fydd yn cael ei wastraffu? Ac rydym nawr yn cystadlu gyda'r byd. Mewn cwestiwn blaenorol soniasoch ein bod mewn sefyllfa wych o ran ein heconomi. Mae mwy o incwm yn ymwneud ag allforio yn hytrach na'n cyllideb ni yn y Siambr hon. Felly, Prif Weinidog, a allech chi wneud rhywbeth? Os oes ewyllys, yna mae gobaith cyflawni. Mae angen inni ehangu'r ffordd o amgylch Casnewydd er mwyn sicrhau bod llif y traffig hwn yn gwella a'i fod yn mynd drwy Gymru—y dinasoedd gwahanol. Soniodd ein harweinydd ei fod fel rotor ar ein llestr gwaed. Mae angen inni ehangu ac mae angen inni wneud hynny cyn gynted â phosib. Diolch.

15:55

Llywydd, bydd Ken Skates yn nodi'r amserlenni ar gyfer y confensiwn yfory. Yn fy natganiad, rwy'n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd ar unwaith mewn cysylltiad â gwella cyfradd y damweiniau a'r digwyddiadau ar yr M4. Gadewch imi ddweud, Llywydd, oherwydd mae'n debyg nad wyf wedi cael cyfle i wneud hyn hyd yn hyn y prynhawn yma, gymaint y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r berthynas sydd gennym â'r CBI a sefydliadau busnes eraill yma yng Nghymru; ein perthynas agos wrth gydweithio dros BREXIT a materion pwysig eraill; a'r ffaith y byddaf yn cyfarfod â nhw'n uniongyrchol yr wythnos nesaf i wneud yn siŵr fy mod yn cael y sgwrs honno gyda nhw. Gofynnodd yr Aelod inni weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion i broblemau'r M4, a dyna'n union yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud.

Ar ran trigolion Canol Caerdydd, hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ystyriaeth ofalus a roddodd i'r dystiolaeth a'r materion cymhleth cysylltiedig. Gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn, yng ngoleuni adroddiad CCC y DU ar sicrhau dim allyriadau net ac asesiad bioamrywiaeth fyd-eang y Cenhedloedd Unedig, fod angen inni newid ein meddwl pan fydd y ffeithiau'n newid.

Ni fyddai o leiaf chwarter a hyd at hanner y cymunedau a gynrychiolaf i wedi cael unrhyw fudd o gwbl o ffordd liniaru'r M4 a llawer o effaith negyddol. Y rheswm am hynny yw nad oes ganddynt geir ac felly ni fyddent yn gallu defnyddio'r M4. Yn hytrach, byddent wedi cael mwy o dagfeydd oherwydd gwyddom, drwy ddadansoddi'r data ynghylch y traffig sy'n rhedeg rhwng Dwyrain a Gorllewin Caerdydd, fod 40 y cant o'r traffig hwnnw mewn gwirionedd yn mynd i Gaerdydd. Felly, mae'r rhan fwyaf o ranbarthau dinesig ledled y DU wedi buddsoddi'n helaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus integredig, a chan fod yr ymchwiliad cyhoeddus hwn bellach wedi dod i ben gyda phenderfyniad y Prif Weinidog, gobeithiaf y gwelwn ddatblygiad llawer ehangach ar y system drafnidiaeth integredig y mae arnom ei hangen yn awr ar frys.

Felly, croesawaf ymrwymiadau'r Prif Weinidog i sicrhau y bydd arbenigwyr ar drafnidiaeth yn dod o hyd i atebion buan i broblem tagfeydd o amgylch Casnewydd ac y bydd hyn yn cael blaenoriaeth o ran yr arian sy'n mynd i gael ei ryddhau oherwydd mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwario gwerth am arian. Gwyddom fod llinell reilffordd, fesul cilomedr, yn costio tua'r un faint â thraffordd ond mae'n cario rhwng wyth ac 20 gwaith yn fwy o bobl. Sylweddolaf fod rheilffyrdd yn cymryd amser i gael eu had-drefnu, ond mae angen inni wneud gwell defnydd o'r ffyrdd presennol yn gyflymach. Mae gan draffyrdd eraill ym Mhrydain lonydd bysiau penodedig mewn ardaloedd trefol, a gobeithio y bydd yr arbenigwyr yn ystyried hynny.

Mae prif lwybrau  eraill i mewn i ddinasoedd fel Bryste yn cyfyngu ar y defnydd o un lôn gyda blaenoriaeth i gerbydau sydd ag o leiaf dau berson ynddynt, sydd, wrth gwrs, yn annog rhannu ceir. A sylwaf fod Tudalen 58 o adroddiad yr arolygydd yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio data ffonau symudol i lywio'r rhagamcanion traffig sydd o'n blaenau. Rwy'n gobeithio, felly, y gallwn gomisiynu rhyw hanner dwsin i ddwsin o fysiau trydan cyflym y gwyddom sydd ar gael bellach er mwyn sicrhau bod y sawl sydd fel arfer yn teithio ar y lonydd i gyrraedd y gwaith ac yn achosi tagfeydd ar yr M4 ar hyn o bryd yn gallu teithio ar fws cyflym yn lle hynny.

Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am gydnabod cymhlethdod y penderfyniad. Rwy'n cytuno â hi fod mwy o waith y gallwn ei wneud o ran data a defnyddio data, a byddai hynny'n caniatáu inni wneud rhywfaint o'r gwaith manwl a fyddai'n angenrheidiol i ategu rhai o'r cynigion amgen. Ac rwy'n diolch i Jenny Rathbone, fel y gwnes i Aelodau eraill o gwmpas y Siambr, am fod yn barod i gyflwyno'r syniadau amgen hynny, fel y gall gwaith y comisiwn ddechrau ar unwaith, drwy dynnu ar yr ystod o bosibiliadau sydd wedi'u nodi yma, yn ogystal â'r rhai a drafodwyd o flaen yr ymchwiliad cyhoeddus.

16:00

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel Aelodau eraill y prynhawn yma, Prif Weinidog, hoffwn groesawu eich datganiad heddiw a chroesawu'r penderfyniad. Credaf fod llawer ohonom ni wedi bod yn bryderus iawn am y cynigion o lwybr du ers blynyddoedd lawer, am nifer o resymau gwahanol. Roedd a wnelo fy mhryderon fy hun nid yn unig â'r effeithiau amgylcheddol, a fyddai wedi bod yn eithaf erchyll ar draws gwastadeddau Gwent, ond hefyd ar yr ystod gul iawn o fuddion economaidd. Pan ddarllenais am ddadansoddiad economaidd Llywodraeth Cymru o'r llwybr du ychydig flynyddoedd yn ôl bellach, roedd hi'n amlwg iawn, iawn, fod y manteision economaidd wedi'u cyfyngu i lain gymharol gul ar draws yr M4 ei hun ac na fyddai'n dod ag unrhyw fanteision economaidd ehangach i'r rhanbarthau yn gyffredinol. Yn wir, o'm darlleniad i o'r dadansoddiad economaidd, byddai Bryste'n elwa mwy na Blaenau Gwent o'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.

Nawr, yr hyn rwy'n awyddus i'w ddeall y prynhawn yma, Prif Weinidog, yw: wrth symud ymlaen, yn sicr mae angen inni symud ymlaen ar frys a gosod tempo cyflym iawn ar gyfer symud ymlaen gydag atebion eraill. A allwn ni sicrhau bod y manteision economaidd, y manteision economaidd ehangach, hefyd yn cael eu hystyried wrth asesu dewisiadau amgen i'r llwybr du? Mae hi yn bwysig, ac rydym ni wedi gweld hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gwahaniaeth gwirioneddol mewn cyfraddau gweithgarwch economaidd rhwng Cymoedd Morgannwg a Chymoedd Gwent, lle mae Cymoedd Morgannwg wedi elwa ar Gaerdydd a llwyddiant Caerdydd fel sbardun economaidd i dwf, a lle mae Cymoedd Gwent wedi gweld lefelau cyfyngedig iawn o dwf o ganlyniad i faterion yn ymwneud â seilwaith a materion eraill o amgylch Casnewydd a rhannau o goridor yr M4. Os ydym yn mynd i fuddsoddi—ac rwyf yn gobeithio y byddwn yn buddsoddi'r gyllideb lawn yn y rhanbarth hwn—yna mae'n bwysig inni gael y budd mwyaf posib i'r nifer fwyaf o bobl o ganlyniad i'r buddsoddiad hwnnw. Felly, wrth wneud penderfyniadau, Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch chi a Gweinidog yr Economi yn ystyried effeithiau economaidd y buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn y seilwaith hwn.

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod, oherwydd mae wedi gwneud sylw nad yw wedi ei wneud fel arall yn y drafodaeth ac mae'n un pwysig? Rwy'n cytuno ag ef—credaf y bydd y buddsoddiad a wneir o amgylch Casnewydd yn dal i fod, gyda'r mesurau lliniaru eraill hyn, yn un o'r buddsoddiadau mwyaf i ddatrys problem sydd wedi wynebu unrhyw ran o Gymru, ac mae'n gwbl briodol bod yn rhaid cael y budd economaidd ehangaf posib o'r buddsoddiad sylweddol hwnnw a wneir. A bydd y Comisiwn yn sicr yn edrych ar effeithiau ehangach y gwahanol gynigion buddsoddi y bydd yn eu cyflwyno i'r Llywodraeth. Bydd yn gwneud hynny nawr o fewn dull datblygu economaidd rhanbarthol a ddatblygwyd gennym ni yma yng Nghymru a fydd, fe gredaf, yn helpu i ateb y cwestiwn a holodd yr Aelod ynghylch sut y bydd yr arian a werir ar y pwynt hwnnw o amgylch Casnewydd yn cael y budd economi ehangach yna ymhellach i fyny ardal Gwent. A dyna pam, o amgylch bwrdd y Comisiwn, y bydd gennym ni leisiau a fydd yn helpu i sicrhau y ceir yr union fudd ehangach hwnnw o'r buddsoddiad sylweddol iawn a gaiff ei wneud nawr.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit. Dwi'n galw ar y Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Diolch, Llywydd. Ddiwedd fis Ebrill, wnes i ddatganiad yn croesawu penderfyniad y cyfarfod eithriadol o'r Cyngor Ewropeaidd i gytuno ar estyniad i erthygl 50. Fel sawl un arall, roeddwn i'n teimlo rhyddhad fod y penderfyniad wedi ei atal, am y tro, o leiaf, y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb a'r anhrefn a ddeuai yn ei sgil. Ond roeddwn i'n glir iawn hefyd, er bod yr estyniad i erthygl 50 i'w groesawu, fod peryglon sylweddol ynghlwm wrth hynny. Soniais i am y risg na fyddem ni, yn ystod y chwe mis hynny, yn gweld camau pendant ymlaen, ond yn hytrach y byddai'r Senedd yn San Steffan yn parhau i droi yn ei hunfan. Erbyn heddiw, y gwir digalon amdani yw bod yr ofnau hynny wedi eu gwireddu. Mewn ychydig wythnosau, mae fel petai popeth wedi newid.

16:05

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'r negodiadau rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid wedi methu, wedi'u dinistrio gan yr ymgiprys am amlygrwydd gan y rhai sy'n dyheu am arwain y Ceidwadwyr, ac fe wyddom ni nad oes unrhyw awydd yn y Blaid Geidwadol seneddol am y fath o Brexit y buom ni'n ei hybu'n gyson, un sy'n galw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau.

Mae'r Prif Weinidog yn rhoi'r gorau iddi ac mae ei chytundeb yn deilchion. Mae'n ymddangos yn anochel, o gofio'r broses ryfedd a'r etholwyr cwbl anghynrychioladol a fydd yn rhoi ei holynydd inni, y bydd gennym ni Brif Weinidog ym mis Gorffennaf a fydd yn mynnu, mewn sioe o ryfyg, os dim byd arall, y bydd y 27 aelod o'r UE yn ailagor eu trafodaethau ar y cytundeb ymadael. Caiff hyn ei wrthod, a bydd y Llywodraeth yn paratoi'r ffordd ar gyfer cael Brexit heb gytundeb. Llywydd, mae'n anhygoel y gallai Prif Weinidog newydd, heb fandad cyhoeddus, fod yn barod i lywyddu dros y DU yn chwalu o'r UE heb gytundeb. Ond mae'n amlwg hefyd nad oes consensws cenedlaethol ynghylch y ffordd ymlaen ac ychydig o gefnogaeth i Brexit meddal fel ffordd o wneud yr hyn sy'n amhosibl ei gyflawni. Fe wnaethom ni geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 gyda'r math lleiaf niweidiol o Brexit, ond mae'r ymdrech honno bellach wedi cyrraedd pen y ffordd.

Mae'r etholiadau Ewropeaidd wedi dangos bod yr etholwyr yn rhanedig iawn o hyd, ac, yn wir, bod y rhaniad wedi ymledu, gyda llawer o'r rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit yn refferendwm 2016 bellach yn cefnogi dim cytundeb, a llawer, mwyafrif mae'n debyg, eisiau inni aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn wyneb y math hwn o ddewis deuaidd, rydym ni'n glir, bron dair blynedd ar ôl y refferendwm, a mwy na dwy flynedd ar ôl inni gyflwyno 'Diogelu Dyfodol Cymru', fod yn rhaid i ni fel Llywodraeth gydnabod y gwirioneddau hyn a newid cwrs.

Wrth wneud hynny, nid ydym ni'n ymddiheuro o gwbl am y polisi a gyflwynwyd gennym ni a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017. Roedd yn ymgais onest i gyfleu ffordd o barchu canlyniad y refferendwm heb chwalu'r economi, gan gydnabod y byddai'r cwymp economaidd yn sgil Brexit caled dim ond yn dwysáu, yn hytrach na datrys, y problemau a achoswyd gan gyni—y cyni a fu, gyda'r ymdeimlad o gael eich eithrio, a chwaraeodd ran mor fawr yn cymell pobl i bleidleisio 'gadael' mewn cymunedau ledled Cymru.

Wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, roeddem yn glir na fyddai unrhyw fath o Brexit gystal ar gyfer swyddi a bywoliaethau pobl Cymru ag aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac roeddem ni hefyd yn glir bod angen cyfaddawd rhwng dylanwad gwleidyddol a ffyniant economaidd er mwyn cyflawni Brexit. Ond mae amser wedi treiglo, mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu mwy na dwy flynedd yn ceisio ac yn methu llunio cytundeb a allai guddio'r gwrthddywediadau cynhenid a nodwyd yn safbwyntiau digyfaddawd y Prif Weinidog. Mae'r ansicrwydd parhaus yn anghynaliadwy. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud bod y sefyllfa wleidyddol bresennol o ran gadael yr UE yn drychineb sy'n gwasgu ar fusnesau yn y DU, gyda hyder buddsoddwyr ar ei isaf ers y chwalfa ariannol ddegawd yn ôl. Nid rhyw ddadl haniaethol yw hon; mae effeithiau gwirioneddol i bobl Cymru, gyda cholli cyfleoedd a swyddi.  

Felly, fel Llywodraeth, byddwn yn awr yn ymgyrchu i aros yn yr UE. Ac er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, dylai Senedd San Steffan nawr ddangos y dewrder i gyfaddef ei bod mewn merddwr a deddfu ar gyfer refferendwm, gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Rydym ni wedi bod yn galw ers misoedd ar i Lywodraeth y DU wneud paratoadau rhag ofn y byddai angen refferendwm. Nawr rhaid i'r Senedd wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

Gadewch imi fod yn hollol glir: bydd unrhyw gytundeb yn gofyn am fandad newydd gan yr etholwyr, ac mae'n rhaid i'r angen am adael heb gytundeb gael un hefyd. Ac, wrth gwrs, rhaid i unrhyw refferendwm gynnwys aros yn yr UE fel dewis. Rydym ni bob amser wedi dadlau bod perygl y bydd cynnal refferendwm arall yn atgyfnerthu rhaniadau, ond mae'r etholiadau Ewropeaidd wedi dangos bod unrhyw gred bod y wlad wedi dod ynghyd yn gwbl ledrithiol. Ac, wrth gwrs, mae siawns y gallai ail refferendwm arwain at yr un canlyniad â'r cyntaf. Ond byddwn yn ymgyrchu i aros, a byddwn yn gweithio gyda'r rheini yn y Siambr hon a'r tu allan sy'n rhannu'r farn honno.

Yn y cyfamser, rhaid inni barhau â'n paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb ddiwedd mis Hydref. Ers cytuno ar yr estyniad ym mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn achub ar y cyfle i adolygu'r paratoadau a wnaethom ni wrth i'r dyddiad ymadael disgwyliedig agosáu ym mis Ebrill. Mae'n bwysig ein bod yn pwyso a mesur ac yn ystyried y ffordd orau o adeiladu ar yr holl waith gwerthfawr sy'n cael ei wneud ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt. Mae'n parhau'n wir nad oes modd lliniaru'n llawn ar effeithiau gadael heb gytundeb ar Gymru, naill ai yn y tymor byr neu yn yr hirdymor. Nid oes unrhyw fesur a allai wrthweithio'n llwyr effeithiau dechrau masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae gosod tariffau a'r potensial ar gyfer oedi a rhwystrau mewn porthladdoedd oherwydd gwiriadau tollau yn ganlyniad anochel o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Cyfaddefodd papur Llywodraeth y DU ei hun ym mis Chwefror eleni, a oedd yn nodi'r goblygiadau i fusnes a masnach o adael yr UE heb gytundeb, y byddai economi'r DU yn 6.3 i 9 y cant yn llai yn y tymor hir mewn sefyllfa o 'ddim cytundeb' nag y byddai wedi bod fel arall o'i gymharu â heddiw. Yn frawychus, yng Nghymru, byddai'n 8.1 y cant yn llai. Mae arbenigwyr gorfodi'r gyfraith wedi'i gwneud hi'n glir y bydd y DU yn lle llai diogel os bydd y DU yn gadael heb gytundeb.

Felly, rydym ni eisiau sicrhau bod ein paratoadau mor gadarn â phosib. Yn gyffredinol, rwy'n falch o ddweud bod myfyrdodau ar baratoadau blaenorol yn gadarnhaol. Roedd gennym ni strwythurau llywodraethu cadarn ar waith a oedd yn darparu gwaith cydgysylltu a gwneud penderfyniadau effeithiol. Sefydlwyd strwythurau cadarn gennym ni ar gyfer ymgysylltu â'r sector cyhoeddus ehangach—yn wir, nododd Swyddfa Archwilio Cymru yn ei hadroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi darparu arweiniad yn y maes hwn. Lle bu'n rhaid gwario ar y posibilrwydd o adael heb gytundeb, rydym ni wedi ceisio sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y bu hynny yn unol â'r nodau strategol ehangach ac, yn ddelfrydol, y byddai'n fuddiol os na fyddai cytundeb, neu fel arall.

Rydym ni wedi cyflwyno ein meddyliau i Lywodraeth y DU o ran paratoadau ar gyfer y DU gyfan. Er i ni weld gwelliannau o ran rhannu gwybodaeth a'r un math o gydgysylltu canolog a oedd gennym ni yng Nghymru, daeth yn rhy hwyr. Mae hefyd yn bwysig nad yw'r perthnasau a'r strwythurau a grëwyd yn dirywio. Felly, gan adeiladu ar y sylwadau hyn, rydym ni'n ailedrych ar ein gwaith cynllunio a'n paratoadau er mwyn sicrhau eu bod mor gadarn â phosib, gan ystyried, yn benodol, a oes angen i unrhyw un o'n tybiaethau sylfaenol newid. Er enghraifft, rydym ni wedi bod yn ystyried goblygiadau dyddiad ymadael posib yn yr hydref yn lle'r gwanwyn, fel y gwahanol batrymau o fewnforion ac allforion a'r capasiti storio sydd ar gael.

Iechyd a lles pobl Cymru yw ein prif flaenoriaeth o hyd a byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael a bod cyflenwadau bwyd yn ddiogel. Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau ym mhob sector o'r economi drwy'r cyngor a roddir gan borth Brexit Busnes Cymru a chymorth ariannol drwy gronfa cydnerthedd busnesau Brexit, cronfa dyfodol yr economi a Banc Datblygu Cymru. A byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU fel na fydd Cymru'n colli ceiniog o gyllid.

Rydym yn dal i gael cydbwysedd er mwyn sicrhau ein bod yn dyrannu adnoddau ar baratoadau 'dim cytundeb' yn briodol ac yn gymesur, gan barhau i gyflawni blaenoriaethau eraill a hefyd i baratoi i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu hystyried mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond gyda'r cyfyngder Seneddol presennol, diffyg unrhyw gonsensws ynglŷn â ffordd ymlaen, a'r posibilrwydd y bydd Brexitwr digyfaddawd yn arwain y Blaid Geidwadol a'r wlad, mae'r bygythiad o ddim cytundeb yn dal yn real iawn, ac felly mae'n rhaid i ni baratoi ar ei gyfer.

Dirprwy Lywydd, byddwn yn annog pob busnes a sefydliad ledled Cymru i wneud yr un fath. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod yn llawn yr her o neilltuo adnoddau prin i gynllunio ar gyfer rhywbeth na fydd o bosib yn digwydd, ond mae'r risg o anwybyddu bygythiad dim cytundeb yn fawr iawn. Yn syml, nid yw'n ddigon i fanteisio nawr ar y posibilrwydd y bydd y Senedd neu'r UE yn rhoi terfyn arno ar y funud olaf, unwaith eto. Rydym ni'n darparu cyngor ac arweiniad drwy ein gwefan—Paratoi Cymru—sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda chefnogaeth i bobl Cymru. Gall busnesau gael cymorth ariannol a chyngor am fasnachu drwy gyfnodau ansicr ar wefan Busnes Cymru, gan gynnwys y Porth Brexit, a thrwy Fanc Datblygu Cymru. Rydym ni bellach wedi nodi nifer o gamau syml, cost-isel i helpu busnesau i baratoi am Brexit 'dim cytundeb' ac a fydd yn ddefnyddiol i'w busnesau beth bynnag, ac mae'r manylion hynny ar gael yn awr ar Paratoi Cymru.

Dirprwy Lywydd, rydym ni'n wynebu'r bygythiad gwirioneddol a pharhaus o Brexit anhrefnus. Yn erbyn cefndir o ansicrwydd gwirioneddol, rydym ni'n gweithredu lle mae gennym ni'r gallu i sicrhau bod Cymru'n barod. Fel Llywodraeth gyfrifol, diogelu buddiannau pobl Cymru fydd ein prif flaenoriaeth bob amser.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig gyda llawer o'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud. Roedd llawer o feirniadu ar y Blaid Geidwadol, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn blaid sydd wedi ceisio, gymaint ag y gall, gyflawni Brexit ac sydd wedi llywio cytundeb ymadael drwy Dŷ'r Cyffredin. Rydych chi wedi dweud nad ydych chi'n hoffi'r ffaith bod ansicrwydd ac anghytundeb llwyr, ond, ar bob cyfle a gafwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i bleidleisio dros gytundeb ymadael a fyddai'n atal Brexit anhrefnus a dryslyd, mae'r Blaid Lafur wedi pleidleisio yn ei erbyn. Mae 90 y cant o Aelodau Seneddol Ceidwadol—[Torri ar draws.] Mae 90 y cant o ASau Ceidwadol bob amser wedi pleidleisio o blaid y cytundeb ymadael hwnnw, yn wahanol i 100 y cant, neu bron i 100 y cant, o'r ASau Llafur, sydd wedi pleidleisio yn erbyn. Felly, roedd gennych chi fodd fel plaid i gyflwyno Brexit gyda chytundeb sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n eithaf rhyfeddol, yn sgil canlyniadau etholiad yr UE, a welodd draean o'r bleidlais—gan gynnwys rhai o'n pleidleisiau ni, a llawer o'ch pleidleisiau chi hefyd—yn llithro i'r Blaid Brexit, sy'n amlwg eisiau cyflawni Brexit—.

Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich datganiad at y ffaith bod llawer o'r rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit yn 2016 bellach yn cefnogi 'dim cytundeb' a llawer, a mwyafrif mae'n debyg, yn dymuno aros, a bod rhai pobl wedi newid eu barn. Yn fy mhrofiad i, mae'r rhan fwyaf o bobl wedi newid eu barn i'r gwrthwyneb, gan eu bod yn parchu democratiaeth, yn wahanol i'r hyn a ymddengys i mi, Llywodraeth Cymru. Y ffaith yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, mewn refferendwm. Cafwyd dadl. Roeddwn yn pryderu weithiau am ansawdd y ddadl honno ar y ddwy ochr iddi, ond, ar ddiwedd y ddadl honno—ar ddiwedd y ddadl honno—pleidleisiodd pobl Cymru o blaid gadael. A does dim un refferendwm wedi bod, erioed, yn hanes ein cenedl, lle nad yw canlyniad y refferendwm hwnnw wedi ei weithredu. Ac rwy'n credu mai ein dyletswydd ni fel gwleidyddion yw gwrando ar y cyhoedd pan fyddwn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddweud eu dweud, ac i roi canlyniad y pleidleisiau hynny ar waith.  

Nawr, roeddech chi'n cyfeirio hefyd yn eich datganiad at y ffaith bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi mynegi pryder y gallem ni fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Ymddengys eich bod yn gwrando ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain pan fydd hynny'n gyfleus i chi, ac yn eu hanwybyddu pan nad yw hynny'n gyfleus i chi, fel y gwelsom ni gyda ffordd liniaru'r M4 heddiw, ac, yn wir, o ran eu barn ar y cytundeb ymadael, oherwydd, wrth gwrs, roedden nhw'n cefnogi'r cytundeb ymadael y pleidleisiodd pob un ohonoch chi yn ei erbyn. Felly, ni allwch ei chael chi bob ffordd, drwy ddyfynnu unigolion mewn modd dethol pan fu eu barn yn eithaf clir ynghylch cytundeb ymadael y Prif Weinidog, gan fod ganddyn nhw farn glir iawn, a hynny oedd cefnogi'r cytundeb hwnnw er mwyn osgoi Brexit afreolus.

Nawr, gadewch imi ei gwneud hi'n gwbl glir ein bod ni, ein meinciau ni, eisiau cytundeb. Rydym ni eisiau cytundeb da. Ond, os nad oes modd sicrhau hynny, yna rydym ni'n barod i gefnogi sefyllfa o 'ddim cytundeb', oherwydd mae'n rhaid i ni fod yn barod i gerdded ymaith—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i chi fod yn barod i gerdded ymaith os nad yw'r cytundeb yn ddigon da. Nawr, mae'n gwbl glir—[Torri ar draws.] Mae'n gwbl glir na all y cytundeb presennol, sef y cytundeb ymadael ar hyn o bryd, ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae wedi cael ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin ar sawl achlysur. Felly, ni all gael mwyafrif yn ei ffurf bresennol, a phwy a ŵyr beth fyddai'r sefyllfa ar ôl cael Prif Weinidog newydd. Ond mae un peth yn sicr, a hynny yw bod yn rhaid i ni barchu'r canlyniad o ran y refferendwm.

Nawr, roeddwn yn falch o un rhan o'ch datganiad, a hynny oedd y diwedd—nid yn unig wrth ichi derfynu'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond o ran y ffaith eich bod yn cyfeirio at rai o'r pethau cyfrifol yr ydych chi'n eu gwneud fel Llywodraeth er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Nawr, fel y dywedais, nid wyf eisiau gweld Brexit heb gytundeb, byddai'n well o lawer gennyf pe bai gennym ni gytundeb masnach da gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond ymddengys i mi fod llawer o anhyblygrwydd ar ochr Ewropeaidd y ddadl, lle nad yw pobl yn awyddus i roi cytundeb da inni, ac efallai'n wir y bydd hynny'n arwain at ein hymadawiad â'r UE heb un.

Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau bod gennym ni rai paratoadau priodol ar waith yn amlwg. Ac rwy'n falch o weld eich bod yn llawer mwy o ddifrif ynghylch y risg yna ac y buoch chi ers dechrau'r flwyddyn hon yn paratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Nawr, a gaf i ofyn—? Rydych chi wedi neilltuo arian yn y gorffennol i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, gan gynnwys prosiectau a gweithgareddau amrywiol sy'n ymwneud â'r Llywodraeth. A gaf i ofyn ichi a ydych yn mynd i gynyddu'r swm hwnnw, o gofio'r dyddiad 31 Hydref sy'n prysur agosáu, ac, os felly, pa weithgaredd ydych chi'n disgwyl ei ariannu ohono? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn deall yn fwy manwl pa weithgaredd rydych chi eisiau ei hybu.

A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd: o ran y prosiectau sydd eisoes wedi'u hariannu o ganlyniad i gyllid pontio'r UE, o ran y bobl sydd mewn gwirionedd yn manteisio ar yr arian hwnnw, a oes gennych chi ddosbarthiad daearyddol yng Nghymru lle y gallwch chi fapio'n union y diddordeb a'r ymgysylltu? Oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n fy mhoeni i yw, os oes Brexit heb gytundeb—ac, fel y dywedaf, rwyf eisiau osgoi hynny, ond, os oes, mae angen inni sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob diwydiant yng Nghymru yn barod am y posibilrwydd a'r tebygolrwydd hwnnw. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny'n benodol.

Croesawaf yr hyn a wnaethoch chi ei ddweud, fel y dywedais, am yr amrywiaeth o weithgareddau sy'n digwydd a'r paratoadau difrifol sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd, ond mae'n ofid imi eich bod mewn plaid yn awr sydd yn cefnogi ail refferendwm, sy'n sôn am ymgyrchu dros aros yn y refferendwm hwnnw, ac anwybyddu, i bob pwrpas, canlyniad y bleidlais gyntaf. Rwy'n dweud wrthych chi eich bod yn blaid sydd yn gyson yn y gorffennol wedi gweithredu canlyniad refferenda pa un a ydych chi wedi hoffi'r canlyniad ai peidio, ac rydych wedi bod ar wahanol ochrau i refferenda: wedi ennill rhai, ac wedi colli rhai, yn hanesyddol. Beth sydd mor wahanol am hwn? Nid wyf yn deall.

16:20

Diolch yn fawr i'r Aelod am rai o'r cwestiynau hynny. Dechreuodd drwy roi'r bai, os mynnwch chi, am y chwalfa yn y trafodaethau Seneddol a'r methiant i sicrhau consensws Seneddol. Rwy'n credu—ac nid wyf yn ceisio diystyru canlyniadau fy mhlaid fy hun yn yr etholiadau Ewropeaidd, ond credaf fod yr etholwyr ledled y DU wedi bod yn glir iawn eu barn ynghylch pwy sy'n bennaf gyfrifol am hynny, ac maen nhw'n iawn i roi'r bai ar y Blaid Geidwadol.

Rydym ni wedi ymrwymo tan y funud olaf mewn ymdrech i geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 â'r math o Brexit y credwn oedd y ffurf leiaf niweidiol o Brexit er budd Cymru. Rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod yn credu bod unrhyw fersiwn o Brexit yn llai er budd Cymru nag aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Methwyd ag ennill y ddadl honno yn 2016, ond rydym ni wedi ymdrechu yn y cyfnod ers hynny i geisio sicrhau consensws ar gyfer llwybr drwy hynny. Ac o'r dechrau'n llwyr, anhyblygrwydd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan a Theresa May wrth geisio, o'r dechrau—a oedd yn gyfrifoldeb ar arweinyddiaeth ar draws y DU—sydd wedi methu ag adeiladu'r consensws hwnnw, er mor anodd fyddai hynny wedi bod, ar draws y Senedd. Methodd â cheisio hynny, heb sôn am gyflawni hynny. Felly, nid wyf yn derbyn unrhyw wersi gan y Blaid Geidwadol am geisio ymgysylltu mewn modd creadigol ac adeiladol yn y broses hon. Rwy'n gwbl glir ynghylch pwy sydd ar fai, a hynny yw Llywodraeth y DU a Theresa May fel Prif Weinidog.  

Mae'n sôn am fod yn barod i gefnogi sefyllfa o 'ddim cytundeb'; Rwyf eisiau bod yn glir iawn, os ydym yn cyrraedd sefyllfa o 'ddim cytundeb' a'n bod yn gweld y difrod yn ymledu ledled Cymru, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn glir iawn mai dyna fydd yn digwydd, cofir y datganiad hwnnw, fod y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad yma yn barod i oddef canlyniad o 'ddim cytundeb' i Gymru—nad oes mandad ar ei gyfer, gyda llaw, ac nad oes mandad gan Brif Weinidog newydd y Ceidwadwyr sy'n dewis mynd ar drywydd y llwybr hwnnw. Ac rwy'n gwybod, mewn cyd-destunau eraill, ei fod wedi galw am etholiadau cyffredinol pan fu newidiadau o ran arweinyddiaeth genedlaethol, felly rwy'n tybio yn y cyd-destun hwn y bydd yn galw am etholiad cyffredinol pan etholir Prif Weinidog newydd yn Senedd San Steffan.

Rydym ni wedi ceisio drwy'r amser—. Mae'n sôn am wrando ar y cyhoedd; mae hynny oherwydd ein bod wedi gweld methiant i gysoni'r ddwy egwyddor hynny yr ydym yn eu dweud heddiw, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, ein bod yn galw am refferendwm er mwyn i'r bobl allu rhoi eu barn ar sut i ddatrys hyn a byddwn yn gwrando ar y bobl a chymryd eu barn o ran sut orau i ddatrys y sefyllfa hon.  

Fe wnaethoch chi fy holi am y paratoadau. Fe wnaethoch chi fy holi am y paratoadau. Wel, byddwch yn gwybod ein bod wedi gwario—. O gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, rydym ni wedi dyrannu, o'r £50 miliwn a glustnodwyd ar gyfer hynny, tua £34 miliwn yn barod, ac mae trafodaethau ar y gweill ynglŷn â'r modd y mae gweddill y gronfa honno a'r mathau o fuddsoddiadau a allai gael eu gwneud gyda hi. Yn amlwg, un o'r materion yw sicrhau ein bod yn ei ddyrannu yn erbyn amrywiaeth o sefyllfaoedd Brexit. Ar hyn o bryd, credwn fod y perygl o Brexit heb gytundeb yn debygol iawn, ac felly, yn y sefyllfa honno, mae'n amlwg y canolbwyntir ar hynny, ond rydym ni'n ystyried cwantwm y gronfa honno ar hyn o bryd.  

O ran y pwynt a wnaethoch chi am ddosbarthiad daearyddol, mae nifer o'r buddsoddiadau o'r gronfa honno wedi bod ar sail Cymru gyfan. Felly, er enghraifft, yn fwyaf diweddar, efallai—neu un o'r dyraniadau diweddaraf yw £1.4 miliwn ychwanegol, rwy'n credu, i awdurdodau lleol ledled Cymru i alluogi pob awdurdod lleol i recriwtio swyddog Brexit penodol i gydlynu gweithgarwch lleol. Ond mae arian ychwanegol ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Bu buddsoddiadau yn y sector cig coch, er enghraifft, gan feincnodi gweithgarwch ledled Cymru yn y sector hwnnw. Ac anogwn geisiadau i'r gronfa honno o bob rhan o Gymru. Rydym ni wedi ceisio rheoli'r Gronfa mewn ffordd lle nad oes llawer o fiwrocratiaeth, a byddem yn annog ceisiadau, wrth gwrs, o bob rhan o Gymru. Ac yn arbennig y gronfa gydnerthedd Brexit bwrpasol, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn—rydym yn annog ceisiadau gan fusnesau ym mhob rhan o Gymru i'r gronfa honno. Rydym ni'n cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod pob rhan o Gymru yn ymgysylltu â hynny ac yn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sy'n briodol.  

16:25

Rwy'n falch o groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi newid eich polisi. Dyw e ddim yn reaffirmation, fel yr oedd y Prif Weinidog yn ei ddweud yn gynharach, mae yn newid polisi ar yr angen i gynnal refferendwm er mwyn rhoi'r penderfyniad terfynol am ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn nwylo'r bobl. Dwi ddim yn sicr faint o weithiau rydym wedi trafod y mater yn y Siambr hon gyda'r Llywodraeth yn mynnu bod Brexit synhwyrol yn parhau i fod yn bosib, ond o leiaf nawr, diolch i ganlyniad yr etholiad Ewropeaidd, efallai, rydych wedi dod i'r casgliad y daeth Plaid Cymru iddo amser maith yn ôl, sef mai refferendwm yw'r unig fodd o ddatgloi'r cwlwm Brexit. 

Rwy'n cytuno â'r hyn rydych wedi ei ddweud ynghylch pa mor briodol ac adeiladol oedd cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn 2017, a hoffwn roi teyrnged i waith ardderchog fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, wrth ei lunio ar y cyd gyda'ch Llywodraeth. Ond daeth hi'n amlwg yn fuan iawn i ni nad oedd modd rhesymu gyda'r Llywodraeth Brydeinig, oedd yn gwrthod yn lân â gwrando ar lais Cymru. Felly, doedd dim dewis wedyn ond ceisio am bleidlais gyhoeddus. Hoffwn ofyn felly: yn sgil eich tro pedol, pa gamau gweithredol y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd nawr er mwyn gwireddu'r amcan hwn? Pa gamau byddwch chi'n eu cymryd er mwyn rhoi'r trefniadau mewn lle er mwyn cynnal refferendwm? Sut y byddwch yn mynd ati i ymgyrchu er mwyn sicrhau refferendwm ac yna ei ennill ar yr ochr 'aros', a pha bwysau y byddwch yn ei roi ar y Blaid Lafur ganolog, sydd yn parhau i wrthod datgan polisi clir?

Yn amlwg, dim ond un cam o'r darlun yw'r refferendwm ei hun. Mae gwaith mawr angen ei wneud er mwyn dod â chymdeithas yn ôl ynghyd er mwyn dechrau ailintegreiddio ein cymunedau a lleddfu'r rhaniadau sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Pa gynlluniau sydd gennych mewn cysylltiad â hyn?

Hoffwn ofyn yn ogystal am fanylion ynghylch y broses o sut wnaeth y Llywodraeth newid y polisi. Pryd gafodd y penderfyniad ei wneud yn union? Ai cyn pleidlais yr etholiad, cyn i ganlyniadau'r etholiad gael eu cyhoeddi neu wedyn? Beth oedd y broses oedd yn cael ei dilyn? Rwy'n gofyn er budd tryloywder i geisio deall sut mae'r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau mawr fel hyn.

Yn olaf, rwyf eisiau gofyn i chi am eglurder ynglŷn â rhywbeth wnaethoch chi ddweud yn y cyfarfod o'r pwyllgor materion allanol ddoe. Wrth drafod yr anghytundeb rhwng eich Llywodraeth chi a Llywodraeth Prydain ar state aid, fe ddywedoch, ac rwy'n dyfynnu,

Mae gennym ni farn gyffredin ynglŷn â sut y dylai cymorth gwladwriaethol weithio.

—shared view, hynny yw, gyda Llywodraeth San Steffan.

Mae Plaid Cymru yn cytuno bod state aid yn fater datganoledig, gan ei fod ddim wedi ei restru yn Neddf Cymru fel pŵer sydd wedi ei gadw yn ôl. Ond, allwch chi esbonio sut mae'ch Llywodraeth chi, dan arweinyddiaeth sosialydd, yn rhannu gweledigaeth â Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ynglŷn â sut ddylai state aid weithio? Pam nad ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r gallu i gefnogi diwydiannau allai fod mewn peryg yn sgil Brexit heb gytundeb, er enghraifft? Rwy'n pryderu'n enwedig am y diwydiant dur, sy'n wynebu corwynt o ansicrwydd yn sgil Brexit, newidiadau mawr o ganlyniad i'r farchnad ansefydlog a'r rhyfel masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina. Mewn erthygl yn The Guardian yn ddiweddar, dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Prydain heb gynnig unrhyw gefnogaeth i'n diwydiant dur. Sut, felly, allwch chi ddweud eich bod yn cytuno â'i gweledigaeth yn y maes hwn?

16:30

Rwy'n diolch i'r Aelod am y sawl cwestiwn sydd wedi bod ynghlwm wrth y cyfraniad hwnnw. A gaf i esbonio yn gyntaf, felly, o ran y polisi o blaid refferendwm, mai nid y canlyniadau etholiadol oedd yr unig ffactor yn hyn o beth, wrth gwrs? Gwnaeth y Prif Weinidog, yma yn y Siambr, ryw 10 diwrnod neu wythnos cyn yr etholiad, sôn bod yr amser yn dod yn fuan i edrych ar y cwestiwn o refferendwm arall. Roedd y trafodaethau rhwng y meinciau blaen yn mynd rhagddyn nhw ar hynny o bryd, a daeth yn eglur erbyn canol mis Mai, wrth gwrs, fod y rheini ddim yn mynd i ddwyn ffrwyth—roedd hynny'n ffactor pwysig iawn oherwydd dyna'r broses fwyaf tebygol o arwain at ryw fath o gytundeb tuag at Brexit meddal.

Wedyn, y bore ar ôl yr etholiad, cyn bod y canlyniadau yn dod allan, gwnaeth Theresa May, wrth gwrs, benderfynu ei bod hi'n mynd i ymddiswyddo fel Prif Weinidog. Wel, er mor anodd yr oedd e wedi bod i geisio dod i gytundeb â Theresa May fel Prif Weinidog ar y math o Brexit yr ŷm ni wedi bod yn galw amdano fe fan hyn, byddai'n llawer anoddach gwneud hynny gydag unrhyw un o'r bobl fyddai'n dod ar ei hôl hi, felly roedd yn hollol amlwg, yn sgil y ffactorau hynny gyda'i gilydd, fod y cwestiwn o sicrhau cytundeb i fersiwn o Brexit sy'n cael ei disgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—bod y cwestiwn o sicrhau hynny bellach wedi dod i ben y daith.

Felly, yn sgil hynny, gan fod y Senedd hon ei hun wedi penderfynu—a phlaid yr Aelod hefyd—wedi cefnogi ar fwy nag achlysur cynigion a oedd yn rhoi refferendwm fel un opsiwn, roedd hi'n bwysig, wedyn, ein bod ni'n cydnabod pwysau'r polisi hwnnw a galw am refferendwm. Rŷm ni wedi bod yn glir, wrth gwrs, ers y cychwyn cyntaf y byddem ni'n ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, fel y gwnaethon ni y tro diwethaf, a'n bod ni'n barod i wneud hynny gyda phleidiau eraill, i ateb ei chwestiwn hi, i sicrhau'r canlyniad hwnnw os daw cyfle eto i wneud hynny.

A gaf i jest wneud un pwynt am y cwestiwn yma o ymroddiad Plaid Cymru i refferendwm? Dyw e ddim yn wir i ddweud bod hyn wedi bod yn benderfyniad cynnar iawn. Digwyddodd hyn, yn fy nghof i, pan newidiwyd yr arweinyddiaeth o Leanne Wood i Adam Price. Mae'n beth perffaith deg i ddigwydd yn sgil hynny, ond dwi ddim yn credu mai dadansoddiad cynnar iawn oedd hyn—bod 'Diogelu Dyfodol Cymru' ddim yn mynd i ddod i law. Fe wnaeth ein dwy blaid ni gydweithio am gyfnod sylweddol wedi hynny i geisio gwireddu egwyddorion, fel y gwnaeth hi gydnabod, y gwnaeth Steffan Lewis gymaint i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w disgrifio. 

O ran y broses, felly, o fynd ati i drefnu refferendwm, ar y cyfan, fel bydd yr Aelod yn gwybod, gyda Llywodraeth San Steffan mae'r cyfrifoldeb i ddodi'r etholiadau hynny ar y ffordd. Rwyf fi, yn yr wythnosau diwethaf, ac mae'r Prif Weinidog hefyd, wedi parhau i wthio hynny. Fe wnes i hynny yng nghanol mis Ebrill gyda David Lidington, ganol mis Mai gydag e, ac wedyn eto ddiwedd mis diwethaf gyda Stephen Barclay pan ddaeth e yma i Gaerdydd. Mae amryw o gamau yn y ddeddfwriaeth berthnasol sydd angen eu cymryd cyn bod y mesurau yma'n gallu cael eu cymryd. O ran ein gwaith ni yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog ers amser wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn iddi hi sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i alluogi ni yma i fod yn barod ar gyfer hynny. Y math o gamau sydd ynghlwm yn hynny yw delio gyda'r registration officers ar lefel leol, a chysidro p'un a oes angen canllawiau gwahanol ar gyfer gweinyddiaeth Llywodraeth yn ystod y cyfnod refferendwm. Felly, mae'r camau penodol hynny yn mynd rhagddyn nhw.

Fe wnaeth hi ofyn i fi beth oedd y cyfle i gael perswâd ar y Blaid Lafur yn ganolog. Wrth gwrs, rŷm ni wedi bod yn gyson yn dadlau yn ein plaid ni beth rŷm ni'n credu sy'n fuddiannau gorau Cymru, y math o Brexit roeddem ni'n credu efallai fyddai gobaith ei gael, ac mae'n amlwg nawr bod yna ddim gobaith cael hynny. Ac mae'r Prif Weinidog yma hefyd wedi bod yn dadlau'r achos dros refferendwm gyda'r Blaid Lafur yn ganolog. Ond gaf fi fod yn berffaith glir? Fy mwriad i a'r peth rydw i yn atebol yma amdano yn sefyll yma heddiw, a'r Gweinidogion eraill, yw beth yw barn Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru ar y materion hyn. Ar ddiwedd y dydd, fel sydd wedi dod yn glir yn ystod yr wythnos diwethaf, pan rŷm ni'n credu bod angen gwneud rhywbeth sydd yn wahanol ond ym muddiannau Cymru, rŷm ni'n mynd i wneud hynny. Ac felly, rŷm ni'n glir yn ein barn bod angen refferendwm arnom ni yma i ateb y sefyllfa rŷm ni ynddi ar hyn o bryd.

Jest i glirio'r cwestiwn yma ar gyfer state aid, mae'r Aelod yn glir, rwy'n credu, ei bod hi eisiau cael perthynas agos gyda'r farchnad sengl. Er mwyn sicrhau hynny, rwy'n dweud bod angen cael yr un trefniadau state aid. Mae'n rhaid cael llawr cyson ar gyfer y pethau yma ar draws marchnadoedd rŷm ni eisiau gwerthu i mewn iddyn nhw a masnachu gyda nhw, a dyna oedd yr egwyddor sydd wedi cael ei rhannu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod yr egwyddor honno yn cael ei rhannu hefyd gan Blaid Cymru. Mae'n berffaith glir bod mwy o hyblygrwydd mewn materion state aid na sydd yn ymddangos bod y Llywodraeth wedi eu cymryd i ystyriaeth hyd yn hyn, ac felly yn y dyfodol gobeithio bydd mwy o ystyriaeth o'r mathau yna o bethau yn digwydd. Ond yr egwyddor rŷm ni'n ymroi iddi fan hyn, ac rwy'n credu bod ei phlaid hi hefyd yn ymroi iddi, yw bod angen level playing field ar gyfer y mathau yma o bethau ar gyfer y marchnadoedd Ewropeaidd y byddem ni'n bwriadu ac yn dymuno gallu masnachu gyda nhw ymhell i mewn i'r dyfodol.   

16:35

Gaf fi hefyd groesawu y datganiad rydym ni wedi'i glywed y prynhawn yma? Dwi'n credu bod yna groeso wedi bod efallai ym mhob un rhan o'r Siambr, ond yn bendant ar y meinciau yma mae yna groeso gwresog i hynny. Rydym ni'n falch hefyd gyda'r tôn rydych chi wedi bod yn ei ddefnyddio y prynhawn yma, Weinidog. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn arwain ar hyn, a ddim jest yn ymateb i beth rydym ni'n ei glywed a beth rydym ni'n ei weld fel mae digwyddiadau yn digwydd.

Gaf fi ofyn i chi tri pheth? Yn gyntaf, rydych chi wedi dweud wrth ateb cwestiynau eraill sut rydych chi'n bwriadu gweithredu y polisi yma, sut rydych chi am fynd ati i wneud hynny. Gaf fi gadarnhau bod hyn yn mynd i fod yn destun trafod yn y cyfarfodydd rydych chi'n mynd i gael gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig—ac hefyd os ydych chi wedi trafod hyn gyda Gweinidogion yn yr Alban hefyd? Achos dwi yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ehangu y drafodaeth ar y refferendwm a sut rydym ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu creu tempo i wneud hynny.

Gaf fi ofyn i chi hefyd beth ydy statws y Papur Gwyn? Rydych chi wedi trafod y Papur Gwyn yn barod y prynhawn yma, a rydych chi wedi sôn amdano fe yn y datganiad rydych chi wedi ei wneud. Beth yw statws y Papur Gwyn nawr? Ydy'r Papur Gwyn dal i fod yno fel amcan polisi o ryw fath? Ydy e dal yn aros fel polisi Llywodraeth Cymru? Ac ydych chi dal yn mynd i ddadlau dros yr amcanion sydd gyda ni yn y Papur Gwyn hynny?

Ac yn olaf, y cwestiwn arall liciwn i ofyn i chi, Weinidog, yw hyn. Dŷn ni'n gwybod, a dwi'n gwybod, fel un sy'n cynrychioli Blaenau Gwent, fod y rhesymau mae pobl wedi pleidleisio, yn y refferendwm blaenorol ac mewn etholiadau blaenorol, dros Brexit yn aml iawn ddim yn ymwneud â Brexit ac yn ymwneud â lot fawr o bethau eraill. Dŷn ni wedi'u trafod hyn fan hyn o'r blaen. Oes yna ffordd i Lywodraeth Cymru hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu cyfathrebu negeseuon clir am Brexit a'r impact mae hynny'n mynd i'w gael ar gymunedau sydd yn economaidd fregus fel Blaenau Gwent, a hefyd sicrhau fod yna neges glir am y difrod mae Brexit yn gallu ei wneud i gymunedau megis Blaenau Gwent, a bod hynny yn dod o Lywodraeth Cymru? Diolch yn fawr. 

16:40

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae yna dri phrif gwestiwn wnaeth e ofyn. O ran y cwestiwn cyntaf ynglŷn â bod hyn yn mynd i fod yn destun trafod gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig, gallaf i gadarnhau bod hynny yn wir. Wrth gwrs, fel gwnes i sôn gynnau, rŷm ni wedi bod yn codi'r cwestiwn yma ond byddwn ni'n parhau i wneud hynny ac yn parhau i bwyso am gamau penodol i gael eu cymryd. Mae hyn wedi bod yn destun trafod ers amser gyda Llywodraeth yr Alban. Mae'r berthynas honno—roedd yr Aelod yn sôn am bwysigrwydd cydweithio—rŷm ni'n gweld yn y Siambr yma lle rŷm ni wedi llwyddo. Rŷm ni wedi cydweithio, yn fwyaf penodol, rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, er enghraifft yn y ddogfen Papur Gwyn. Hefyd, mae cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban—mae'r cydweithio hynny wedi bod yn ffactor bwysig yn y caffaeliadau rŷn ni wedi llwyddo eu cael ar hyd siwrnai sydd wedi bod yn dymhestlog iawn ers refferendwm 2016.

O ran cynnwys y Papur Gwyn, wel, petai hi'n bosibl cael cytundeb allan yn San Steffan, dyna'r math o gytundeb y buaswn i dal yn moyn ei weld, rwy'n credu, ond dŷn ni ddim yn credu bod hynny'n bosib. A jest i fod yn glir, dwy ddim yn gweld hynny fel rhywbeth sydd yn wahanol i gael refferendwm. Rŷm ni wedi bod yn glir bod angen refferendwm ar unrhyw fath o ddêl yn hyn o beth. Felly, dwi ddim yn moyn i hynny gael ei gamddeall. Ond, petai dêl yn bosib, wel, yn sicr dyna dal y math o ddêl, o'n safbwynt ni, fyddai'r math orau i ni allu llwyddo ei chael. Ond mae'r posibilrwydd o hynny, yn ein barn ni, yn sgil yr etholiadau ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, yn benodol—does dim posibilrwydd realistig o hynny yn fy nadansoddiad i'n bersonol.

O ran y cwestiwn olaf wnaeth yr Aelod ei godi, rwy'n credu bod hyn yn mynd i galon y cwestiwn, achos rŷm ni wedi bod yn trafod perthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd am dair blynedd, ac mae pob eiliad o'r amser rŷm ni wedi bod yn trafod hynny yn eiliad y gallem ni wedi bod yn trafod pethau oedd yn wir wrth wraidd y penderfyniadau wnaeth pobl eu gwneud i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd: cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gwasgedd a phwysau ar y gwasanaethau cyhoeddus ac ati. Rwy'n credu, pan allwn ni gyfathrebu'n uniongyrchol gyda phobl ac esbonio, er enghraifft, fod pleidlais ar gyfer Plaid Brexit yn golygu pleidlais ar gyfer dodi'r NHS ar y bwrdd ar gyfer trafod hynny mewn cyd-destun masnachol gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau—dyna y math o bolisïau sydd wrth wraidd y blaid tu cefn i mi fan hyn, nid cwestiwn o berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd. Man cychwyn yw hyn ar fath o Gymru a math o Brydain byddai neb ar y meinciau hyn yn moyn eu gweld ac sydd yn tanseilio y cymunedau rŷm ni'n eu cynrychioli. 

Wrth gwrs, yr UE a soniodd am y GIG yn ei drafodaethau ynglŷn â'r Bartneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd. Ond os caf i geisio canfod ychydig o dir cyffredin gyda'r Gweinidog, o ran y paratoadau 'dim cytundeb', a welais, o ran gwybodaeth ac eglurhad y Gweinidog, drwy fy aelodaeth o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, credaf ei bod hi'n dda bod Gweinidogion wedi ceisio gwario arian, lle bo hynny'n bosib, mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi amcanion eraill. Credaf fod Gweinidogion hefyd wedi cael rhywfaint o lwyddiant, o safbwynt Cymru, o ran gwella'r cyfathrebu â Llywodraeth y DU, a oedd yn wael i ddechrau ond sydd wedi gwella o leiaf i ryw raddau. Rwy'n credu pan fydd rhywun yn cymharu'r paratoadau 'dim cytundeb'—yn sicr, mae'r Gweinidogion yma wedi wynebu llai o heriau cyfreithiol llwyddiannus na Gweinidogion y DU o ran rhai o'u paratoadau a hoffwn gydnabod hynny.

Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru sy'n dweud eu bod wedi rhoi arweiniad, ac rwy'n siŵr ei fod yn hoffi cyfeirio at hynny. Cyfeiria hefyd at lywodraethu cadarn y rhaglen a strwythurau cadarn. A allai egluro: a yw'n cyfeirio yno hefyd at Swyddfa Archwilio Cymru neu, o ran y darnau hynny, a yw'n fwy o achos o farcio ei waith cartref ei hun?

Y rhan a welsom ni—rwyf yn cael y diffyg hwn yn hollol ryfeddol. Mae pobl nad ydyn nhw yn ei swigen yn gwrando arno'n dweud bod angen refferendwm ac, 'wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw refferendwm gynnwys aros yn yr UE fel dewis', fel pe na baem ni wedi cael refferendwm lai na thair blynedd yn ôl, yr addawodd y byddai'n parchu ei ganlyniad ond y mae nawr yn gwneud y gwrthwyneb. Wyddoch chi, mae'n dadlau rhyw fymryn gyda Phlaid Cymru am yr hyn a addawsant yn gynharach, ond y ffaith yw eu bod ill dau wedi addo parchu canlyniad y refferendwm, ac nid yw'r ddau ohonyn nhw yn parchu canlyniad y refferendwm ac maen nhw'n dweud wrth bobl bod angen iddyn nhw bleidleisio eto, fel petai hynny'n mynd i ddatrys rhaniadau yn ein cymdeithas. Fe wnaethom ni benderfyniad; rydych chi'n gwrthod ei weithredu. Os gofynnwch i'r bobl bleidleisio eto, pam fydden nhw'n disgwyl ichi ei weithredu fwy y tro nesaf nag a wnaethoch chi'r tro hwn? Ac mae'n bosib eich bod yn sylwi mai Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb penodol am hyn.

Rydym ni wedi clywed un wyneb o'r Blaid Geidwadol yn siarad heddiw, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Darren wedi'i ddweud. Fodd bynnag, tybed beth yw asesiad y Gweinidog o'r tebygolrwydd y byddwn yn gadael heb unrhyw gytundeb ar 31 Hydref a sut y mae hynny'n cymharu â'r tebygolrwydd yr oedd wedi'i asesu cyn hynny o'n hymadawiad ar 29 Mawrth, oherwydd mae penderfyniadau gwirioneddol anodd ynglŷn â gwario yn dilyn ei ddyfarniad. Mae ar Brif Weinidog Cymru eisiau i ni gredu bod popeth wedi newid ac y byddwn ni bellach yn bendant yn gadael heb gytundeb, neu bron yn sicr neu'n debygol iawn, fel y dywedodd y Gweinidog. Ond, mewn gwirionedd, y gwir amdani am y gystadleuaeth hon am arweinydd y Ceidwadwyr yw bod gennym ni Michael Gove yn dweud, 'o, gadewch inni aros i mewn hyd at o leiaf ddiwedd 2020', Jeremy Hunt yn dweud mai hunanladdiad gwleidyddol fyddai peidio â chael cytundeb, ac ni wn i a yw'r Gweinidog yn rhoi mwy o bwyslais ar addewidion Boris Johnson nag ydw i, ond mae'n dweud y byddwn ni'n gadael gyda chytundeb neu heb gytundeb, ond dyna'r hyn a ddywedodd oddeutu 500 o ASau pan fu iddyn nhw bleidleisio dros Erthygl 50. Dyma a ddywedodd Theresa May dros 100 o weithiau. Pa mor debygol y mae'n credu yw hi mewn gwirionedd y bydd hynny'n digwydd pan fydd yn estyn i bocedi'r trethdalwyr ac yn ceisio gwneud penderfyniadau synhwyrol ynghylch ble i wario'r arian wrth gefn hwnnw wrth baratoi?

Dywedodd yn gynharach yn ei ddatganiad—. A wn i ddim sut mae'n dirnad y sefyllfa hon, ynghyd ag Alun Davies; maen nhw'n gwybod llawer mwy ynghylch sut y mae pobl yn pleidleisio na'r bobl hynny eu hunain. Efallai ei fod yn rhyw fath o ymwybyddiaeth ffug: 'Wrth gwrs, nid oedd a wnelo refferendwm yr UE ddim â'r UE; roedd y cyfan yn ymwneud â chyni. Wyddoch chi, mae hynny'n gyfleus iawn i chi, ond sut ydych chi'n gwybod hynny? Rydych chi'n dweud heddiw fod yr etholiad Ewropeaidd wedi dangos ei bod hi'n debygol bod y mwyafrif yn dymuno inni aros yn yr UE. Ym mha fodd unochrog ydych chi'n dirnad hynny? A'r hyn yr ydych chi'n ei wneud yw adio pleidleisiau'r collwyr a dweud wrthyn nhw yr hyn y maen nhw i gyd yn ei feddwl? A yw'r Gweinidog mewn gwirionedd yn ymwybodol y bu pôl piniwn ynglŷn â gadael pryd holwyd sampl cynrychioliadol o 10,000 o bleidleiswyr a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, gan ofyn iddyn nhw sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm, a dywedodd 45 y cant eu bod wedi pleidleisio i adael, dywedodd 50 y cant eu bod wedi pleidleisio i aros—sy'n awgrymu bod y ganran a bleidleisiodd yn uwch ymhlith y rhai oedd eisiau aros—ond er gwaethaf hynny, dywedodd yr arolwg barn hwnnw y byddai 46 y cant nawr yn pleidleisio i aros, tra byddai 50 y cant yn pleidleisio i adael?

Yn olaf, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog: rydym ni wedi clywed yr hyn sydd gan Darren i'w ddweud, ond dywedodd un o hoelion wyth yr ymgyrch aros, pan bleidleisiodd pobl dros y Blaid Brexit—a Nick Ramsay oedd hwn, yr Aelod Cynulliad dros Drefynwy—ei fod yn adlewyrchu anwybodaeth pleidleiswyr yng Nghymru; a yw'r Gweinidog yn cytuno ag ef?

16:45

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran paratoadau, roeddwn yn meddwl ein bod wedi cael dechrau da, nes iddo ofyn i mi a oeddwn yn marcio fy ngwaith cartref fy hun. I fod yn glir, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn gwbl addas a phriodol i Lywodraeth yn y sefyllfa hon. Felly, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhoi'r adroddiad y mae'n ymwybodol ohono ac y mae'r Aelodau i gyd yn gwybod amdano, ond, fel y bûm yn glir iawn yn ei gylch, rydym ni wedi cynnal ymarfer ar wahân i ganfod a ydym ni'n fodlon â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, a dyna oedd cynnwys fy natganiad. Mae Llywodraeth y DU, yn gwbl briodol, yn gwneud ei hymarfer ei hun. Mae'n amserlen sydd ychydig yn hwy na'n hamserlen ni, a byddwn yn dwyn hynny i gyd at ei gilydd, sef yr union beth y dylem fod yn ei wneud fel Llywodraeth gyfrifol, felly nid ymddiheuraf am hynny. Mae'r dyfarniadau yn yr araith hon yn adlewyrchu fy nealltwriaeth o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw, ond byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law i'r Siambr ynglŷn â hynny.

Mae'n sôn am barchu'r refferendwm. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: rydym ni wedi ceisio gwneud hynny. Rydym ni wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn ceisio gwneud hynny, ac rwyf wedi ei gwneud hi'n glir iawn heddiw ein bod yn teimlo nad yw rhyw fath o Brexit nad yw'n ddinistriol i Gymru, ond sy'n cydnabod y refferendwm hwnnw—. Rydym ni wedi cyrraedd pen y daith gyda'r trafodaethau hynny. Ac mae'n eistedd yn y fan yna—. Mae'n lladmerydd Brexit heb gytundeb, er mwyn y nefoedd: Brexit sydd heb fandad o gwbl. Ni wyntyllwyd dim o hynny yn ymgyrch y refferendwm yn 2016. Cawsom wybod i'r gwrthwyneb yn llwyr: y byddai cael cytundeb y peth hawsaf yn y byd, ac yn sicr mae hynny wedi'i wyrdroi'n weledigaeth bod hynny'n gymeradwyaeth i Brexit heb gytundeb. Y methiant i gyflwyno unrhyw ddewis arall yw'r union reswm pam ein bod yn argymell refferendwm ar hyn o bryd oherwydd ein bod yn gwybod bod Brexit heb gytundeb mor drychinebus i Gymru.

Yn y cwestiwn a ofynnodd i'r Prif Weinidog yn gynharach, roedd yn sôn am gyflogau isel yng Nghymru. Byddai'r Brexit heb gytundeb y mae'n ei argymell yn arwain at £2,000 yn llai o incwm i bobl yng Nghymru. Mae'n debyg nad yw hynny'n fawr iawn i ddyn sydd ganddo fodd fel yntau, ond y bobl y bu'n taflu llwch i'w llygaid ers—. [Torri ar draws.] Yn sicr, nid yw'r math hwnnw o Brexit y mae'n ei gymell o fudd i Gymru, ac os cawn y math hwnnw o Brexit yn y pen draw, mae angen i bobl gofio pwy oedd yn eiriol dros y math hwnnw o Brexit.

O ran y tybiaethau cynllunio, mae risg gynyddol, sylweddol iawn o adael heb gytundeb, a dyna'r sail yr ydym ni'n dyrannu ein hadnoddau arni ac yn gwneud y paratoadau yr ydym yn eu gwneud. Mae arnaf ofn dweud bod awgrym o ddifaterwch, mae arnaf ofn, yng nghwestiwn yr Aelod. Oeddem, fe roeddem yn gweithio tuag at 29 Mawrth; oeddem, roeddem yn gweithio tuag at 12 Ebrill; a nawr rydym ni'n gweithio tuag at 31 Hydref. Nid ydym ni eisiau bod yn y sefyllfa hon, ond rydym ni'n gwneud y tybiaethau cynllunio gorau yn seiliedig ar yr amgylchiadau yr ydym ni'n cael ein hunain ynddyn nhw. A byddai'n dda, rwy'n credu, pe byddai'n cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud yn y Llywodraeth i baratoi'n ddigonol ac yn briodol, a chydnabod bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn rhai sy'n cydbwyso'r pwysau a wynebwn ni o 'ddim cytundeb' â cheisio sicrhau y gall buddiannau Cymru gael eu diogelu hyd y gellir mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol y gallem ni eu cael gyda'r Undeb Ewropeaidd.

16:50

Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog Brexit.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sef y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. Roedd y pryderon sylweddol ar y pryd yn ymwneud ag arwain a llywodraethu, gwasanaethau mamolaeth, iechyd meddwl, ailgysylltu â'r gwasanaethau cyhoeddus a gofal sylfaenol y tu allan i oriau.

Gwnaed cynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn. Cafodd gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau eu his-gyfeirio ac nid ydyn nhw bellach yn destun mesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd wedi bodloni nifer o'r disgwyliadau a nodwyd yn y fframwaith gwella mesurau arbennig sydd i'w gyflawni erbyn mis Ebrill eleni. Bu gwelliannau o ran prosesau llywodraethu ac ansawdd, arweinyddiaeth y bwrdd, gwasanaethau iechyd meddwl, ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth, a sicrhau oriau cynaliadwy mewn ymarfer cyffredinol.

Mae David Jenkins, yr ymgynghorydd annibynnol i'r bwrdd, wedi rhoi sicrwydd bod gwaith y bwrdd yn goruchwylio ac yn craffu ar y ddarpariaeth a'r perfformiad wedi gwella'n sylweddol. Dywed hefyd fod y bwrdd bellach yn gosod disgwyliadau clir ac yn herio'n adeiladol. Mae'r cadeirydd wedi dod â chymhelliant newydd gyda chyfranogiad mwy gweithredol ac adeiladol mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth.

Mae gwella ansawdd wedi bod yn sbardun allweddol i'r bwrdd iechyd dan arweiniad clinigol y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth. Mae data sy'n ymwneud â phryderon bellach ar gael ar gyfer wardiau unigol yn dilyn cyflwyno'r dangosfwrdd niwed ac uwchgynadleddau niwed i hybu dysgu a rennir. Bu gwelliannau sylweddol hefyd yng nghyfraddau heintiau, gan gynnwys gostyngiad o fwy na 50 y cant mewn cyfraddau MRSA.

Roeddwn yn falch o weld bod adroddiadau diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar iechyd meddwl, ynghyd ag adborth gan Emrys Elias, y cynghorydd annibynnol ar wasanaethau iechyd meddwl, wedi rhoi sicrwydd annibynnol bod gwelliannau wedi'u gwneud i ansawdd y gofal a ddarperir, i ymrwymiad y staff, ac i fynediad i gleifion.

Fel pob bwrdd iechyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio â phartneriaid drwy glystyrau gofal sylfaenol lleol i weddnewid gwasanaethau lleol. Mae'r bwrdd iechyd yn gwneud yn dda gyda llai o ymddiswyddiadau mewn practisau meddygon teulu, practisau meddygon teulu a reolir yn dychwelyd at gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac mae pob swydd dan hyfforddiant i feddygon teulu yn y gogledd yn llawn am y tro cyntaf.

Canfuwyd o'r trosolwg mesurau arbennig, fodd bynnag, bod pryderon eraill drwy'r system gyfan o ran cyflawni'r cynnydd sydd ei angen ym maes cyllid, cynllunio a pherfformiad amser aros. Nid yw'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith yn y meysydd hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn wynebu her ariannol sylweddol, ond mae cyfleoedd hefyd i wella ei sefyllfa ariannol. Cefnogwyd hyn gan asesiadau lleol o gyfleoedd ariannol a meincnodi. Yn 2013, canfuwyd o waith meincnodi gan Deloitte bod modd gwneud arbedion effeithlonrwydd o rhwng £85,000,000 a £125,000,000. Amcangyfrifwyd o waith meincnodi mewnol pellach yn 2017 ei bod hi'n bosib arbed mwy fyth. Nid yw'n dderbyniol o gwbl na wnaed fawr ddim cynnydd, os o gwbl, o ran manteisio ar y cyfleoedd hyn.

Er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol, rwyf wedi cytuno i roi cymorth i PricewaterhouseCoopers weithio gyda'r bwrdd iechyd yn ystod chwarter cyntaf eleni i wella'r ffordd y mae'n cynllunio ac yn gweithio i sicrhau gwelliant ariannol cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan y bwrdd gynllun mwy cadarn ar gyfer 2019-20 a sail ar gyfer cynllunio ariannol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd yn cydnabod yr angen am arbenigedd ychwanegol o ran newid, a hynny o safon uchel, ac mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn.

Bydd llwyddiant y bwrdd iechyd yn y dyfodol y tu hwnt i fesurau arbennig wrth ddarparu gwasanaethau amserol o ansawdd uchel o fewn yr adnoddau sydd ar gael yn dibynnu ar ei allu i ddatblygu strategaeth glinigol gynaliadwy. Mae angen strategaeth glir i ategu gweledigaeth ehangach y bwrdd i ddarparu gofal yn agosach at y cartref gan ganolbwyntio mwy ar wella iechyd a lles y boblogaeth. Dyma hefyd yw barn glir Swyddfa Archwilio Cymru. Heb strategaeth glinigol briodol, bydd y bwrdd yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael yn gynaliadwy â'i berfformiad gwael o ran gofal wedi'i gynllunio a heb ei drefnu. Mae hefyd yn debygol o barhau'n orddibynnol ar staff locwm ac asiantaeth wrth geisio cynnal gwasanaethau, ac mae ansawdd gwasanaeth cysylltiedig a goblygiadau cost yn gysylltiedig â hynny. 

Wrth i'r strategaeth gwasanaethau clinigol gael ei datblygu, byddaf yn darparu cymorth mwy penodol er mwyn sicrhau cynnydd mewn amseroedd aros, yn enwedig ym maes orthopedeg, wroleg, endosgopi a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed. Er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn gwasanaethau orthopedig, rwyf wedi gofyn i brif weithredwr y GIG ymyrryd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd. Rhoddir cymorth i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhyrysgerbydol cymunedol, i gynyddu nifer yr ymgynghorwyr orthopedig gyda chwe swydd arall, ac i gwblhau'r broses ddylunio a chaffael cyfalaf ar gyfer y cynlluniau cyfalaf yn y tri phrif ysbyty.

Mae'r arian rheolaidd ychwanegol a gyhoeddais fis Gorffennaf diwethaf wedi cefnogi mwy o gapasiti, gallu a chydnerthedd yn y tri phrif ysbyty. Disgwyliaf i'r cylchoedd gwella 90 diwrnod mewn gofal heb ei drefnu barhau i wella llif cleifion a dechrau dangos effaith gadarnhaol barhaus ar dargedau eraill gofal heb ei drefnu.

Disgwyliaf weld gweithredu a chynnydd sylweddol o ran y pryderon sy'n weddill er mwyn sicrhau pobl yn y gogledd bod y pwyslais yn parhau ar wneud y gwelliannau y mae eu hangen y tu hwnt i fesurau arbennig.

16:55

Mae'r datganiad hwn yn sioc i mi, mewn gwirionedd. Pan ddarllenwch ef, pe bai hwn yn fwrdd iechyd a oedd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig nawr, neu a oedd wedi bod mewn mesurau arbennig am chwech neu wyth mis, gallwn dderbyn llawer o'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ei fod yn dal i fod yn waith sy'n mynd rhagddo, ond rydym ni'n sôn am bedair blynedd hir.

Roedd gennyf i restr fach neis o bethau yr oeddwn yn mynd i ofyn i chi ynglŷn â'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud, neu'r hyn y dylech chi fod yn ei wneud ym mwrdd Betsi Cadwaladr, ond neidiodd un sylw cwbl frawychus allan o'ch datganiad: 'heb strategaeth glinigol briodol'. Byddwn i'n credu mai dyna'n union yw gwaith craidd bwrdd iechyd: bod â strategaeth glinigol sy'n darparu ar gyfer ei gleifion, sy'n cyflawni ar gyfer ei ardaloedd, sy'n galluogi ei staff i wneud y gwaith y maen nhw wedi eu hyfforddi i'w wneud ac yn dymuno'i wneud. I chi sefyll yma, Gweinidog, ar ôl pedair blynedd a dweud nad oes gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr strategaeth glinigol gadarn a chytûn o hyd, mae'n wirioneddol frawychus. Ac, felly, nid wyf yn synnu nad yw'r llu o welliannau eraill y mae'r bwrdd iechyd hwn yn ceisio eu gweithredu ac sydd angen eu gweithredu wedi cael eu gweithredu, oherwydd os nad oes gennych chi gynllun, nid ydych chi'n gwybod i ble'r ydych chi'n mynd, nid ydych chi'n gwybod o ble'r ydych chi wedi dod ac, yn anad dim, nid ydych chi'n gwybod a ydych chi wedi cyflawni'r nodau yr oeddech chi wedi'u bwriadu eu cyflawni. Felly, mae hyn yn gwbl frawychus a hoffwn gael llawer mwy o fanylion gennych chi am y strategaeth gwasanaethau clinigol yma, ynglŷn â phwy sy'n mynd i'w rhoi at ei gilydd, pryd fyddech yn gobeithio y caiff ei gweithredu mewn gwirionedd—ac rwyf yn golygu mewn gwirionedd—nid yr amserlenni, a sut ydych chi'n mynd i sicrhau ei bod hi'n strategaeth glinigol sy'n addas i bobl y gogledd. 

Y sylw arall rydych chi'n ei wneud yw, o'r diwedd—ac rwyf wedi sôn am hyn wrthych chi, a gallwn edrych ar y cofnod fel eich bod yn gwybod ei fod yno—rwyf wedi sôn wrthych chi lawer, lawer gwaith fod trawsnewid yn sgìl, nid gwyddoniaeth ydyw, nid celfyddyd ydyw, mae'n sgìl rheoli absoliwt, ac i wir drawsnewid rhywbeth sydd mewn trafferthion, fel y sefydliad hwn, mae angen bobl newydd, ac rwyf wedi gofyn ichi dro ar ôl tro: pryd ydych chi'n mynd i gael pobl newydd? Rwyf yn falch o glywed eich bod bellach yn bwriadu cyflwyno sefydliad allanol i helpu'r bwrdd iechyd hwn, ond, unwaith eto, mae'n bedair blynedd yn rhy hwyr ac, a bod yn blwmp ac yn blaen, byddwn i wedi credu y byddai ychydig bach o wyleidd-dra ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch y sefydliad cythryblus hwn wedi bod yn fuddiol iawn. 

Mae gennyf ychydig o gwestiynau ychwanegol cyflym iawn i'w gofyn, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yr haf diwethaf, fe wnaethoch chi gyhoeddi fframwaith gwella mesurau arbennig a oedd yn nodi cerrig milltir i'r bwrdd eu cyrraedd erbyn mis Medi 2019. Nawr, a ydych chi'n wirioneddol ffyddiog bod y rhain wedi'u cyflawni, neu eu bod wedi cyrraedd y camau olaf, neu a oes rhaid inni aros am y strategaeth gwasanaethau clinigol yma? Pa gynnydd mae'r bwrdd wedi'i wneud o ran gweithredu adolygiadau Ockenden a'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol y llynedd, a pha mor ffyddiog ydych chi fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi gwella, oherwydd rwy'n sylwi bod eich datganiad yn sôn am CAMHS, ond nid yw'n sôn mewn gwirionedd am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion? Rydych chi wedi sôn am brofiadau GIG Lloegr gydag ymddiriedolaethau mewn mesurau arbennig o'r blaen—pa arferion gorau ydych chi wedi ystyried eu cyflwyno i helpu i ddatblygu'r ymddiriedolaeth hon?

Ac, yn olaf, mae gennyf lawer o gwestiynau, ond rwy'n ymwybodol iawn bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig yr wythnos diwethaf i sôn am bedwaredd flwyddyn Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yfory—felly nid wyf yn synnu am wn i, fod y datganiad hwn wedi ymddangos yn hollol annisgwyl—ond, unwaith eto, yn eich datganiad, rydych chi'n sôn eich bod wedi atal colledion o ran meddygon teulu. Ond gadewch i ni fod yn glir iawn: prin iawn yw'r meddygon teulu sydd bellach ar ôl yn y gogledd. Beth ydych chi'n ei gredu y mae'r polisi 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ei gyflawni yno? A ydych chi'n credu ei fod yn ateb y galw hwnnw, yn enwedig gan fod gormod o geisiadau am leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu erbyn hyn? Ac a ydych chi'n credu, o gofio bod gennym ni'r fath brinder o feddygon teulu—mae prinder gwirioneddol meddygon teulu yn y gogledd—ac a ydych chi'n ffyddiog y bydd gofal y tu allan i oriau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn addas i'r diben yn y blynyddoedd i ddod? Cadwaf tan brynhawn yfory weddill y sylwadau sydd gennyf ar y datganiad hwn ac ynglŷn â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gyffredinol ac ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r bwrdd iechyd hwn sy'n perfformio mor wael.

17:00

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Mae'n dda eich gweld yn ôl yn y Siambr, Angela; rydym ni wedi gweld eich colli chi. Dylwn i dynnu sylw at y ffaith—ac ni fuoch chi yma ers tro, ac rwy'n falch iawn o'ch gweld yn ôl—mae'r ffaith y byddwn i'n gwneud datganiad heddiw wedi bod yn y datganiad busnes ers rhai wythnosau; nid yw wedi cael ei gynhyrchu fel ymgais strategol i geisio tanseilio dadl yfory, ac mae'n gwbl briodol i'r Llywodraeth wneud datganiad yn ystod wythnos pedwaredd flwyddyn y bwrdd iechyd hwn yn cael ei roi mewn mesurau arbennig. Mae'n gyfnod o amser anarferol. Roedd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Medway yn Lloegr mewn mesurau arbennig am ychydig llai na phedair blynedd, roedd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Barts yn Lloegr mewn mesurau arbennig am ychydig dros bedair blynedd ar sail ansawdd ac mae'n dal i fod mewn mesurau arbennig am resymau ariannol. Felly, mae'n anarferol yn y DU, ac nid ydym ni erioed wedi ceisio cuddio rhag y ffaith honno. Rwyf wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n dweud eto ar y dechrau, cyn ymdrin â'r sylwadau a wnaethoch chi—i ddod allan o fesurau arbennig, mae'r Bwrdd Iechyd yn gorfod dangos nid yn unig y cynnydd, ond dangos rhywfaint o ffydd yn ei allu i barhau â'r cynnydd hwnnw a pharhau i wella. Ac mae'r fframwaith yr wyf wedi'i nodi o'r blaen wedi'i gynllunio i ddangos yn glir ar ba feysydd y mae angen gwelliant, ac i ddangos cynnydd gwirioneddol a chynaliadwy. Ond mae annibyniaeth y cyngor a gaf i cyn i mi orfod gwneud dewis wedyn—nid dewis rhywun arall mohono; fy newis i ydyw o hyd—mae'n dod o'r broses deirochrog honno sy'n cynnwys Prif Weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae'r sylwadau yr wyf wedi'u gwneud ar y cynnydd a fu yn dod o'r ffynonellau annibynnol o amgylch y bwrdd, nid y bwrdd yn marcio ei waith cartref ei hun. Felly, mae'r sylwadau rydych chi'n eu gwneud am wasanaethau iechyd meddwl a'r gwasanaeth y tu allan i oriau—nid yw'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn destun mesurau arbennig bellach oherwydd y cyngor a gawsom ni ynghylch y gwelliant parhaus sydd wedi'i wneud. Yn wir, mae'r sylwadau a wneuthum yn fy natganiad, nid yn unig am CAMHS ond am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion—eto mae hyn yn deillio o'r adborth gan gynghrair Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a hefyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a nodais hynny yn fy natganiad hefyd.

O ran eich sylw ehangach ynghylch pryd y byddwn yn gweld y cynnydd, wel, mewn gwirionedd ni allaf ddweud wrthych chi yn awr beth yw sefyllfa'r bwrdd, gan fy mod yn aros tan dymor yr hydref 2019 i weld faint o gynnydd a wnaed o safbwynt y fframwaith. Dyna a ddywedais i—y byddwn i'n dyfarnu ar y gwaith y maen nhw wedi'i wneud, ond, yn amlwg, bydd y cynnydd a wnaethant yn ystod y cyfnod hwnnw'n cael ei ystyried pan gynhelir y cyfarfod uwch gyfeirio teirochrog yn ystod ei amserlen arferol dros yr haf.

Nawr, pan ddaw'n fater o arweinyddiaeth, bu newid sylweddol yn y tîm gweithredol, ac yn wir yn aelodau'r bwrdd annibynnol, ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi mesurau arbennig. Mae'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn wahanol, ac rwy'n credu bod chwe aelod annibynnol gwahanol ac wyth aelod gweithredol gwahanol. Felly, mae wedi bod yn drawsnewid go iawn. Rydym ni bellach wedi gweld bod y cyfarwyddwr cyllid wedi gadael y sefydliad. Rydym ni'n recriwtio cyfarwyddwr meddygol newydd, ac mae honno'n swydd allweddol, mewn gwirionedd, y gallu i ymdrin â'r strategaeth gwasanaethau clinigol. Oherwydd, mewn gwirionedd, yn y gorllewin, yr hyn a welsom ni yw nad yw cael strategaeth yn rhywbeth a wneir mewn ffordd gyflym a rhwydd—mae'n rhaid i'r staff a'r cyhoedd eich cefnogi chi, a hyd yn oed wedyn, gyda llawer o fuddsoddiad ac amser i wneud hynny, mae'n rhywbeth sy'n parhau i fod yn ddadleuol, pan fydd gan bobl farn bob amser ynghylch a ydyn nhw eisiau gweld hynny'n digwydd, oherwydd bod gofyn ichi edrych ar y ffordd yr ydych chi'n darparu gwasanaethau nawr a'r ffordd yr ydych chi eisiau darparu gwasanaethau yn y dyfodol, ac mae hynny'n gofyn am newid a diwygio. Ond heb hynny, dim ond o flwyddyn i flwyddyn y bydd y bwrdd yn gallu parhau, felly mae angen iddyn nhw wneud cynnydd tuag at nod tymor hwy hynny. Ond o ran y cynnydd y mae angen iddyn nhw ei wneud nawr—o ran newid, rydym ni'n gobeithio cael pobl newydd. Dyna'r hyn a nodais yn fy natganiad. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi datgan ei farn yn glir, ac, yn wir, mae'n gyd-ddigwyddiad ffodus o ran y sefyllfa y mae'r Llywodraeth a'r Bwrdd Iechyd eisoes ynddi. Roedd y cadeirydd wedi cydnabod hynny eisoes. Cafwyd sgyrsiau â'r Llywodraeth ynghylch gwella'r swyddogaeth newid, cael cefnogaeth cynghorwyr allanol i wneud hynny, ac mae argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ategu'r angen i wneud hynny.

Roedd eich sylw olaf yn ymwneud â meddygon teulu yn y gogledd. Bydd gennyf i fwy i'w ddweud yn gyffredinol am feddygon teulu a'n gallu ni i hyfforddi a recriwtio meddygon teulu ym mhob rhan o Gymru, ond mae'r darlun yn llawer mwy cadarnhaol yn y gogledd. Rydym ni nid yn unig wedi llenwi pob un o'r tri chynllun hyfforddi yn y gogledd—rydym ni wedi gorlenwi dau o'r rheini, ac rwyf wedi cyhoeddi'n gynharach eleni bod modd cael 24 o leoedd ychwanegol ledled Cymru. Rwy'n bwriadu ail-bwysleisio ein huchelgeisiau a'n gallu i hyfforddi meddygon teulu yma yng Nghymru, yn dilyn cyngor a gawsom ni gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ond rwy'n gwneud datganiad ar hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn toriad yr haf.

17:05

Fe hoffwn i hefyd ddechrau, fel y mae'r Gweinidog wedi'i wneud, drwy groesawu Angela Burns yn ôl i'r Siambr. Rydym ni'n sicr wedi colli ei chyfraniad yma ac ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n braf eich gweld yn edrych mor dda.

Dechreuaf drwy ategu llawer o'r hyn a ddywedodd Angela yn ei sylwadau agoriadol; does dim angen i mi eu hailadrodd nhw. Ond rwyf yn synnu braidd fod y Gweinidog, yn ei ymateb iddi, yn cyfeirio at enghreifftiau o sefydliadau iechyd yn Lloegr sy'n parhau i fod mewn mesurau arbennig am amser hir iawn. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gennym ni system wahanol iawn yma yng Nghymru, system y credaf y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, mae'n debyg, y dylai fod yn well, a system sy'n sicr yn rhoi llawer mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros sefydliadau iechyd yng Nghymru na'r hyn sydd gan Lywodraeth Lloegr dros sefydliadau yn Lloegr. Felly, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog nad yw'n fawr o gysur i mi, mae arnaf ofn, iddo ddweud wrthyf fod sefydliadau yn Lloegr yn gwneud yr un mor wael o dan Weinidogion Ceidwadol yn eu hymgais i wella, ag y mae Bwrdd Betsi Cadwaladr yn ei wneud neu'n peidio â'i wneud oddi tano ef.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle y bydd gennym ni i drafod y materion hyn yn fwy manwl o dan y cynnig y mae'r Ceidwadwyr wedi ei gyflwyno ar gyfer yfory. Un neu ddau beth yr hoffwn i holi'r Gweinidog yn eu cylch—ni fyddwn o reidrwydd yn disgwyl iddo gael y ffeithiau ar flaenau ei fysedd heddiw, mewn datganiad eithaf cyffredinol, ond byddwn yn ddiolchgar pe bai modd efallai, cyfeirio'n ôl at rai o'r pwyntiau hynny pan fydd yn ymateb yn nadl y Ceidwadwyr yfory.

Rwy'n mynd i strwythuro fy nghwestiynau mor gryno ag y gallaf, Dirprwy Lywydd, gan fy mod yn ymwybodol ein bod wedi cael prynhawn hir yn barod, o gwmpas y pum nod, y pum mater, a roddodd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, a'r cyntaf o'r rheini yw llywodraethu ac arwain. Tybed a yw'r Gweinidog yr un mor bryderus â minnau bod materion ariannol, hyd yma, yn dal mewn sefyllfa mor ddifrifol ac, fe ddywedwn i, yn drychinebus yn y bwrdd. Clywaf yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am yr hyn y mae ef a'i swyddogion yn ei wneud i geisio gwella hyn, ond, bedair blynedd yn ddiweddarach rwy'n pryderu oherwydd mae'n rhaid bod y problemau wedi'u gwreiddio'n eithaf dwfn os nad yw wedi llwyddo i'w gwella erbyn hyn. Yn benodol, hoffwn wybod ychydig mwy am gost hyn i gyd, ac yn enwedig ymyriad PricewaterhouseCoopers. Croesawaf y ffaith ei fod yn dod ag arbenigedd allanol i mewn os yw hynny'n angenrheidiol, ond ni fydd hynny, wrth gwrs, o reidrwydd yn sicrhau newid cynaliadwy oni wneir rhywbeth ar yr un pryd i gynyddu'r capasiti ariannol a'r gallu i gynllunio'n ariannol o fewn y bwrdd ei hun. Felly, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar o glywed gan y Gweinidog beth mae ef a'i swyddogion yn ei wneud i sicrhau y caiff y capasiti ariannol hwnnw ei ddatblygu, nid yn unig ar y brig lle mae'n amlwg yn hollbwysig, ond ymhellach i lawr y bwrdd iechyd lle mae pobl yn gyfrifol am unedau llai, oherwydd yn ôl y dywediad, diwedd y gân yw'r geiniog. Ac yn achos Betsi Cadwaladr, oni bai y gellir datrys y problemau ariannol, bydd materion eraill yn parhau i fod yn her wirioneddol. Rwy'n cytuno â phopeth y mae Angela Burns wedi'i ddweud am yr angen am gynllun, ond, unwaith eto, gallwn ddychwelyd at hynny yfory.

Felly, trof yn fyr at iechyd meddwl. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol, oherwydd gohebiaeth yr wyf wedi'i rhannu ag ef, am rai pryderon gwirioneddol sy'n dal i gael eu dwyn i'm sylw gan etholwyr sy'n byw yn ardal Betsi Cadwaladr ynghylch agweddau ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Mae'n sôn am rai gwelliannau clir. Rhoddwyd sicrwydd annibynnol iddo y bu gwelliannau clir o ran ansawdd y gofal a ddarperir, ymrwymiad i staff a mynediad i gleifion. Rwy'n mawr obeithio ei fod yn gywir ynglŷn â hyn. Mae rhywfaint o'r dystiolaeth a ddaeth i'm rhan, er yn anecdotaidd, yn awgrymu nad yw efallai'n gwbl gywir ynghylch hynny, ac felly byddwn yn ddiolchgar petai'r Gweinidog yn dweud wrthym ni heddiw neu yfory: beth yw'r matricsau sy'n cael eu defnyddio i farnu'r gwelliannau hynny? Beth yw'r llinell sylfaen? Sut ydym ni'n barnu'r gwelliant hwnnw? A ble mae llais—wrth wneud dyfarniadau ynglŷn â'r gwelliant hwnnw—y cleifion, teuluoedd a gofalwyr cleifion? Rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol.

Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad fod rhagor o waith i'w wneud ynghylch mynediad at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, ac, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar am rai manylion, naill ai heddiw neu yfory, am beth yn union yw'r gwelliannau hynny, oherwydd, unwaith eto, yn sicr, mae llwyth achosion fy etholaeth yn awgrymu bod problemau ofnadwy o ran mynediad, ac mae gennyf bryder penodol ynglŷn â gallu defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n gwbl hanfodol yn y maes hwn. Ac nid yw hynny'n ymwneud â hawl person i gael gwasanaethau yn ei iaith ei hun yn unig, ond gwyddom fod pobl yn fwy tebygol o wella, yn enwedig o ran meysydd iechyd meddwl, os yw'r gwasanaethau hynny ar gael iddyn nhw.

Rwyf eisiau cyfeirio nawr at nod 4—y gwasanaethau meddygon teulu a'r ddarpariaeth y tu allan i oriau—mae'n dda clywed bod y Gweinidog yn ffyddiog ei fod wedi gallu is-gyfeirio'r rheini. Unwaith eto, rwy'n ategu rhai o'r pryderon y mae Angela Burns wedi sôn amdanyn nhw am y proffil tymor hir, ond mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud, wrth gwrs, am y mater yn ymwneud â lleoedd hyfforddi ac mae hynny'n gadarnhaol iawn i'w glywed. Tybed, o gofio nad ydym ni wedi gallu dod o hyd i unrhyw ystadegau cyhoeddus a gyhoeddwyd ynghylch pa mor hawdd yw cael gwasanaethau y tu allan i oriau—ac mae'n bosib bod fy ymchwil yn y maes hwn wedi bod yn annigonol—a wnaiff y Gweinidog roi gwybodaeth fanylach inni ynghylch sut ac ar ba sail y mae'n ffyddiog, mewn gwirionedd, fod y ddarpariaeth y tu allan i oriau wedi gwella, oherwydd rydym ni'n amlwg yn gwybod bod y sgil-effaith ar ofal eilaidd, os nad yw'r gwasanaeth gofal sylfaenol y tu allan i oriau yn gynaliadwy, yn ddifrifol.

Hoffwn, felly, yn y cyd-destun hwnnw, gyfeirio'n fyr at y gwahaniaeth mewn perfformiad o ran gofal brys yn yr ysbytai ar draws yr ardal. A yw'r Gweinidog yn ffyddiog bod y gwahaniaethau hynny'n cael sylw effeithiol gan y bwrdd nawr, ac a wnaiff ddweud ychydig mwy wrthym ni am y ffordd y mae hynny'n digwydd a phryd y byddai'n disgwyl gweld yr ysbytai eraill yn yr ardal yn cyrraedd safon Ysbyty Gwynedd?

Ac, yn olaf, o ran y pumed nod, a oedd, wrth gwrs, ynglŷn ag adfer ffydd y boblogaeth leol—rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn fy marn i fel un o gynrychiolwyr y boblogaeth leol bod problemau gwirioneddol o hyd o ran ffydd. Ac un mater sydd o bryder arbennig i mi yw fy etholwyr yng ngorllewin yr ardal sy'n teimlo nad yw'r bwrdd presennol yn deall eu cymunedau, nad yw'n siarad dros eu cymunedau, yn llythrennol, nid yw'n siarad eu hiaith, ac mae hynny'n bwysig ynddo'i hun. A phan fo gwasanaethau'n cael eu 'rhesymoli', maen nhw'n cael eu rhesymoli ar sail lleoliad yr ysbytai, nid ar ddaearyddiaeth y gymuned gyfan. Hoffwn ofyn, yn ddiffuant iawn, ar i'r Gweinidog gael rhywfaint o drafodaethau, neu'n briodol, i'w swyddogion gael rhywfaint o drafodaethau, i sicrhau pan fydd gwasanaethau, gwasanaethau wedi eu cynllunio—. Gwasanaethau—. Pan fydd cynlluniau i newid gwasanaethau—mae hi wedi bod yn brynhawn hir, Dirprwy Lywydd. Pan fydd cynlluniau'n cael eu hystyried gan y bwrdd, y bydd yn ystyried daearyddiaeth gyfan y rhanbarth ac nid dim ond lleoliad ysbytai yn y rhanbarth. Oherwydd bod ymdeimlad, a dydw i ddim yn dweud y gellir cyfiawnhau hyn, ond mae'n ymddangos yn glir i mi pan fyddaf yn y rhan honno o'm rhanbarth, pan fyddwn yn sôn am symud gwasanaethau, ein bod yn eu symud i fan canolog o ran lleoliad yr ysbytai, nid man canolog o ran ble mae'r bobl yn byw. Ac o ran adfer y ffydd honno, Gweinidog, a oedd yn un o'ch nodau wrth i chi roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig—o ran adfer y ffydd honno yng ngorllewin y rhanbarth, mae'n gwbl hanfodol bod angen i'r bobl hynny gael ymdeimlad bod y bwrdd a chithau yn deall daearyddiaeth yr ardal yn ddigon da i wybod bod pellter mawr iawn, iawn, rhwng Dolgellau a Wrecsam. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:15

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu y bu ychydig o gamddealltwriaeth ar y dechrau ynghylch y sylwadau yr oeddwn yn eu gwneud am y pedair blynedd. Roeddwn yn gwneud y pwynt ei fod yn gyfnod anarferol o hir i fod mewn mesurau arbennig. Rwy'n rhoi dwy a dim ond dwy enghraifft o sefydliadau iechyd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig am gyfnod tebyg. Nid yw'n rhywbeth anrhydeddus; mae'n arwydd o ba mor anarferol yw bod mewn mesurau arbennig am gyfnod fel hwn.

O ran y sylwadau am y gwahanol feysydd a barodd i'r bwrdd iechyd fynd i mewn i fesurau arbennig, rwy'n credu na allwn ni wadu y bu gwelliant sylweddol o ran arwain a llywodraethu. Nid fy marn i yn rhinwedd fy swydd weinidogol yn unig yw hon, nid dim ond barn a roddwyd gan David Jenkins yn ei waith ynghylch y bwrdd ydyw, ond y farn a gawn ni hefyd gan sylwebyddion annibynnol, gan bartneriaid, barn yn sgil ymgysylltu â'r bwrdd iechyd, ac nid oes a wnelo hynny dim ond â'r ysgogiad newydd y mae'r cadeirydd newydd wedi'i ddarparu, er y bu hynny yn gam ymlaen gweladwy iawn o ran arweinyddiaeth y sefydliad, ond mae'n ymwneud â chraffu gweladwy yn y sefydliad ar ddewisiadau wrth wneud penderfyniadau, ac mae hynny'n sylfaen dda er mwyn iddyn nhw symud ymlaen.

Dydw i ddim yn credu bod cysylltiad uniongyrchol o reidrwydd rhwng arwain a llywodraethu a heriau ariannol. Mae'r cynnydd a welwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at rywfaint o'r perfformiad annerbyniol yn swyddogaeth gyllid y bwrdd iechyd, ac rwy'n chwilio am fwy o waith i'w wneud o ran y swyddogaeth gyllid, dyna pam fy mod i wedi cefnogi cais y cadeirydd am y gwaith ychwanegol yn gysylltiedig â PricewaterhouseCoopers, ond dyna pam hefyd fod uned cyflawni cyllid y GIG yn ymgysylltu ac yn ymwneud â'r bwrdd hefyd. Felly, nid ymagwedd 'laissez faire' mohoni, ewch ati i wneud iddo weithio, ond rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd fynd ati mewn ffordd wahanol a sicrhau canlyniadau gwahanol o ran swyddogaeth cyllid. Nid oedd hynny'n dderbyniol. Hwn oedd yr unig fwrdd yng Nghymru nad oedd yn gallu gweithredu o fewn ei gyfanswm rheoli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwariodd fwy na hynny. Rwy'n disgwyl iddo wneud cynnydd fel y bydd yn gweithredu o fewn y cyfanswm rheoli eleni. Rwyf wedyn yn disgwyl iddo symud ymlaen i sefyllfa lle mae'n torri'r siwt yn ôl y brethyn ac nid yn byw mewn diffyg sy'n cael ei oddef. 

O ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl—unwaith eto, daw hyn yn uniongyrchol o waith y mae'r Arolygiaeth Gofal Iechyd wedi ei wneud, mae'n dod o waith yr ymgynghorydd annibynnol, Emrys Elias, y cyfeiriais ato yn fy natganiad—bu gwelliant gwirioneddol o ran amseroedd mynediad yn CAMHS a gwasanaethau i oedolion. Nid yw hynny'n golygu bod y gwasanaeth yn berffaith. Nid yw'n golygu na welwch chi nac unrhyw gynrychiolydd arall yn y gogledd bobl yn dod atoch chi gyda straeon dilys am y ffaith eu bod yn dal i aros yn rhy hir. Ond mae'n dangos bod gwelliant gwirioneddol yn cael ei wneud, ac mae angen gwneud mwy o hyd, ond mae maint hwnnw wedi lleihau'n sylweddol dros y cyfnod mewn mesurau arbennig. Yn wir, mae'r bwrdd iechyd wedi cael rhywfaint o ganmoliaeth am y ffordd y mae wedi cynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o ail-drefnu'r strategaeth iechyd meddwl mewn ffordd na ddigwyddodd yn y gorffennol. Mae hynny'n rhan o'r sylfaen rwy'n credu a fydd yn sail dda ar gyfer gwella'r gwasanaethau iechyd meddwl ymhellach.

O ran y ddarpariaeth y tu allan i oriau, cafodd ei isgyfeirio gryn amser yn ôl erbyn hyn. Yn wir, cyn i chi ddychwelyd i'r Cynulliad, roedd gwasanaethau y tu allan i oriau yn cael eu hisgyferio fel pryder ac maen nhw'n gydradd â gwasanaethau eraill ar draws gweddill Cymru. Rwyf mewn gwirionedd yn edrych ar y broses o ehangu'r gwasanaeth 111 yn rhan o'n gwasanaethau y tu allan i oriau, a hefyd y rhan y gall hynny ei chwarae fel model ar gyfer rhai o'n gwasanaethau yn ystod oriau hefyd. Felly, rydym ni'n bwriadu trawsnewid a newid y ffordd y mae'r rhan honno o'n system yn gweithio mewn gwirionedd, nid yn unig yn y gogledd ond y tu hwnt i hynny hefyd.

O ran gofal heb ei drefnu, y cylchoedd gwella 90-dydd yw'r prif ddull o wella sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn y bwrdd iechyd. Mae wedi sefydlogi; yn wir, bu rhywfaint o welliant, ond mewn gwirionedd yr her dros y chwarter nesaf yw gweld llawer mwy o welliant, oherwydd pe bai pob rhan o'r bwrdd iechyd yn perfformio ar yr un lefel ag Ysbyty Gwynedd, byddai hynny'n welliant sylweddol i sefyllfa'r bwrdd iechyd ar y cyfan nawr. Ond, mewn gwirionedd, mae angen i'r holl sefydliad symud ymhellach a thu hwnt i hynny hefyd. Mae a wnelo hynny'n rhannol â modelau a ffyrdd o weithio, mae'n ymwneud â'r arweinyddiaeth glinigol, ond mae hefyd yn ymwneud â'r gwasanaethau y tu allan i adrannau achosion brys hefyd, a'r cysylltiad â gofal cymdeithasol a'r cyswllt ar draws y system gyfan ac mewn gwirionedd mae'r gweithio mewn partneriaeth sydd wedi gwella yn darparu sail lawer gwell er mwyn gwneud hynny hefyd.

O ran eich pwynt am ddaearyddiaeth y gogledd, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn o ddaearyddiaeth y gogledd ers cryn amser. Pan oeddwn yn fachgen, yn mynd i wahanol rannau o Gymru ar wyliau, roedd fy nhad yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gweld gwahanol rannau o'r wlad. Mae gennym y benbleth hon nid yn unig yn y gogledd ond ledled y wlad. Ac os meddyliwch chi am y mesurau arolwg Seneddol, bydd rhai gwasanaethau'n arbenigol a dwys, a byddwn yn gofyn i bobl deithio ymhellach i gael gofal gwell. Y sefyllfa gyfatebol, serch hynny, yw y bydd gennym ni fwy o wasanaethau'n cael eu darparu mewn lleoliad mwy lleol hefyd. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid inni fuddsoddi yn y lleoliadau lleol hynny. Felly, yn ddiweddar, rydym ni wedi buddsoddi mewn modelau gofal newydd gyda chyfalaf sylweddol. Yn Alltwen, yn Nhywyn a Blaenau Ffestiniog, fel enghreifftiau, rydym ni'n darparu gwahanol wasanaethau mewn ffordd wahanol, fodern er mwyn darparu gofal iechyd. Felly, byddwch yn gweld y ddau beth hynny'n digwydd yn y gogledd ac ar draws gweddill Cymru i ddarparu mwy o ofal yn agosach at adref, ond, i rai gwasanaethau, byddant yn arbenigol a byddant yn darparu gofal gwell mewn llai o ganolfannau.

17:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Angela, Croeso'n ôl hefyd. Rydym ni wedi gweld eich eisiau. Mae'n wych eich gweld chi. 

Gweinidog, rydym yn haeddiannol falch o'r GIG. Mae llawer o wledydd eraill yn eiddigeddus ohonom gan fod gennym ni wasanaeth iechyd sydd am ddim. Mae'n flin gennyf i sefyll yma heddiw unwaith eto yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb pennaf i oruchwylio darpariaeth a pherfformiad y GIG. Ond yn achos Betsi, mae'n fwy na hyn. Ar ran Llywodraeth Cymru, rydych chi, Gweinidog, wedi ymgymryd â'r gwaith o redeg rhai agweddau ar waith y bwrdd iechyd drwy fesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn bodolaeth am 10 mlynedd yn unig, felly mae hynny'n golygu nad yw wedi bod yn perfformio yn ôl y disgwyl am o leiaf 40 y cant o'i fywyd, felly ymddengys i mi fod mesurau arbennig yn debycach i drefn arferol pethau. Croesawaf y meysydd sydd wedi gwella yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, ar ôl pedair blynedd, siawns na ddylid cael rhyw fath o ddyddiad terfyn ar gyfer dod â mesurau arbennig i ben. Mae'r datganiad heddiw yn swnio ac yn teimlo'n debyg iawn i'r datganiad diwethaf a wnaethoch chi, a'r un cyn hynny, a'r un cyn hynny. Rydym ni'n mynd at wraidd hyn nawr. Mae gennyf ddiddordeb cael gwybod pryd y byddwch chi'n cymryd camau pendant a chadarnhaol i sicrhau bod newid gwirioneddol yn digwydd.

Nid yw'r datganiad hwn yn cyfeirio at yr argyfwng recriwtio sy'n peri pryder mawr i weithwyr meddygol proffesiynol a gweithwyr cymorth yn y rhanbarth. A tybed pa ddadansoddiad ydych chi wedi'i wneud o effaith y penawdau ynghylch y gwasanaeth iechyd yn y gogledd o ran recriwtio. Credaf fod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y gwersi llywodraethu a ddysgwyd yn peri pryder mawr, oherwydd mae hi'n ymddangos i mi, er gwaethaf nifer o ymholiadau dros y degawdau, nad yw gwersi'n cael eu dysgu mewn gwirionedd. Yn fwy na dim, rwy'n pryderu am gost ddynol her y bwrdd iechyd hwn. Mae miloedd o bobl, yn llythrennol, yn aros yn llawer rhy hir am lawdriniaeth, yn llawer hwy na'r amserau targed, tra bod eu hiechyd (1) yn dirywio ymhellach fyth, (2) maen nhw mewn poen, (3) nid ydyn nhw'n gallu gweithio, a (4) nid ydyn nhw'n gallu gofalu am eu teuluoedd. Os gwelwch yn dda, Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i ac wrthyn nhw sut y gallan nhw gael cysur o'r datganiad hwn a bod â ffydd yn eich stiwardiaeth dros GIG Cymru.  

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf eisiau sicrhau nid yn unig yr aelod ond y cyhoedd yn gyffredinol nad mesurau arbennig yw trefn arferol pethau. Mae hyn yn ymwneud â gweld y bwrdd iechyd yn gwella ac yn symud y tu hwnt i fesurau arbennig. Ac, fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, dydw i ddim yn mynd i osod terfyn amser artiffisial ar gyfer dod â'r mesurau arbennig i ben. Byddai hynny'n weithred gyfleus i mi ond yn gwbl anghywir ar gyfer y cyhoedd a'n staff. Mae rhaid i'r broses o ddod allan o fesurau arbennig ddigwydd ar sail cyngor sy'n fy ngalluogi i ddweud mai dyna'r peth priodol i'w wneud i'r sefydliad. Mae'r cyngor hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn bwysig iawn, neu fel arall byddai ein proses uwchgyfeirio yn ddiystyr, ac yn ymwneud â chyfleustra gweithredu i wleidyddion ynghylch cylchoedd etholiadau yn hytrach na'r hyn sy'n briodol i'w wneud ar gyfer y gwasanaeth a'r peth priodol i'w wneud ar gyfer y cyhoedd.

O ran yr heriau recriwtio yr ydym ni'n eu hwynebu, rwyf wedi sôn am nifer o'r rhain yn y datganiad ac yn y sgwrs a gefais gydag Angela Burns am niferoedd meddygon teulu a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud. Mae llwyddiant 'Hyfforddi, Gweithio, Byw', o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU o ran niferoedd meddygon teulu yn gadarnhaol iawn i ni hefyd. Mae'r ffaith ein bod yn gweld nifer o'r practisau hynny sy'n cael eu rheoli, sydd bellach yn barod i fynd yn ôl i fod yn fodelau contractwyr annibynnol hefyd, yn gadarnhaol iawn—y ffaith ein bod yn cynnal ymgyrch recriwtio o ran fferylliaeth, o ran nyrsys ac o ran therapyddion fel rhan o'r proffesiynau perthynol i iechyd hefyd, felly rydym ni'n weithgar yn recriwtio pobl, yn ogystal â'r buddsoddiad rydym ni'n parhau i'w wneud o ran hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yma yng Nghymru.

Ar adeg heriol, rydym ni'n parhau i fuddsoddi mwy mewn hyfforddi nid yn unig meddygon, gyda lleoedd hyfforddi ychwanegol yn y gogledd hefyd, ond hefyd o ran proffesiynau gofal iechyd eraill. Felly, credaf fod gennym ni lawer i'w ddweud, ac yn y datganiad, wrth gwrs, amlinellais y gwaith ychwanegol sy'n cael ei wneud ym maes orthopedeg—y chwe swydd ychwanegol yr ydym ni'n eu hariannu, y gwaith rydym ni'n ei wneud i sicrhau bod cynllun ar gael ac nid dim ond aros am fuddiannau cystadleuol yn y gogledd i lunio cynllun ar ryw adeg ymhell yn y dyfodol.

Felly, mae ymyrryd yn digwydd. Mae mwy wedi digwydd oherwydd ein hymyrraeth, ac edrychaf ymlaen at weld mwy yn digwydd yn gynt, oherwydd fy uchelgais yw i'r bwrdd iechyd hwn ddod allan o fesurau arbennig gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud, gan ei fod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a pharhaus gyda, ac ar gyfer ei staff a gyda, ac ar gyfer pobl y gogledd y mae'n eu gwasanaethu.

17:25

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Rhannaf eich uchelgais. Rwyf eisiau i hwn fod yn fwrdd iechyd sydd wedi newid o ran ei berfformiad ac i fod y bwrdd iechyd sy'n perfformio orau yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU gyfan, os oes modd o gwbl, yn hytrach na bod, oherwydd llawer o bethau—nid popeth, ond llawer o bethau—yn gyson ar waelod tabl cynghrair y DU, ac yn sicr ar waelod tabl cynghrair Cymru.

Byddwn yn gofyn y cwestiwn sylfaenol hwn i chi, serch hynny, a chredaf ei fod yn un y mae llawer o bobl yn ei ofyn i mi, nawr, a hwnnw yw: mesurau arbennig—a yw'n gymorth ynteu'n rhwystr? Oherwydd nid wyf yn siŵr a yw'r trefniadau mesurau arbennig yng Nghymru, sy'n wahanol i'r rhai dros y ffin yn Lloegr, yn gweithio'n dda. Rwy'n credu—wyddoch chi, yr wybodaeth a'r adborth a gaf i gan glinigwyr, gan gyfarwyddwyr anweithredol ac eraill, yw, weithiau, oherwydd y trefniadau mesurau arbennig hynny, ei bod hi'n cymryd amser hir i gael penderfyniadau drwy'r bwrdd iechyd pan, weithiau, fod angen gweithredu'n gyflym er mwyn rhoi trefn ar bethau.

Roeddwn yn falch o'ch clywed yn cyfeirio at y ffaith eich bod wedi cymeradwyo'r buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhyrysgerbydol cymunedol yn ddiweddar, cynnydd yn nifer yr ymgynghorwyr orthopedig a rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf yn y maes hwnnw. Ond mae wedi cymryd dros 18 mis i'r rhaglen gyfalaf honno gael ei chymeradwyo gennych chi, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog, ac nid wyf yn gwybod a yw hynny'n broblem gan nad yw eich swyddogion wedi dwyn y mater i'ch sylw yn ddigonol—nid oes syniad gennyf sut y mae eich systemau'n gweithio yn y Llywodraeth. Ond mae wedi cymryd llawer iawn o amser. Ac, wrth gwrs, gwyddom fod mater y chwe meddyg ymgynghorol orthopedig yn bennaf oherwydd yr amgylchiadau trasig a arweiniodd at orchymyn i atal marwolaethau pellach o dan reoliad 28 yng nghyswllt achos Megan Lloyd-Williams—gwraig 77 oed o Sir y Fflint a dorrodd glun ym mis Medi'r llynedd ac yn anffodus bu farw a phetai hi wedi cael gofal iechyd o'r safon y dylid fod wedi ei ddarparu yna ni fyddai wedi marw.

Mae'n destun pryder i mi ei bod yn cymryd digwyddiad o'r fath—digwyddiad na ddylai fyth fod wedi digwydd—gyda thrychineb mewn teulu a gwraig yn colli ei bywyd i wneud i bobl lofnodi yn y man priodol fel y gall y cynlluniau ar gyfer gwella gael y cyllid sydd ei angen. Mae'n bryder i mi, er enghraifft, bod y gronfa ddata genedlaethol ar dorri clun yn rhoi Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd—ac fe'ch clywais yn dweud y dylem ddyheu i fod cystal ag Ysbyty Gwynedd ym mhob agwedd, ond mae'n rhoi'r ysbyty hwnnw hefyd, a Wrecsam Maelor, yn y 10 uchaf o ysbytai sy'n perfformio waethaf ar y gronfa ddata honno yn y DU gyfan, allan o 176 o ysbytai. Mae hynny'n fy mhoeni, ac rwyf eisiau gweld y sefyllfa hon yn newid.

Nawr, cafwyd rhywfaint o gynnydd; rwy'n cydnabod hynny. Cafwyd cynnydd mewn gwasanaethau mamolaeth, yn bennaf oherwydd i 10,000 o bobl orymdeithio ar y strydoedd yn y Rhyl—gan cynnwys y Dirprwy Lywydd a minnau—i ymgyrchu dros uned gofal arbennig newydd i fabanod yn y gogledd. Rwy'n falch iawn ein bod wedi sicrhau'r buddsoddiad hwnnw—dyna oedd y penderfyniad cywir, a chefnogais y Prif Weinidog yn llawn am wneud y penderfyniad hwnnw.

Rwy'n cydnabod y bu rhywfaint o welliant ym maes meddygon teulu hefyd. Rwyf wedi'i weld yn o ran nad yw rhai o'r practisau hynny a oedd mewn peryg mewn peryg mwyach. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni o hyd nifer o bractisau meddygon teulu sydd wedi cau eu drysau unwaith ac am byth; mae degau o filoedd o gleifion yn gorfod wynebu'r drafferth o gofrestru gyda meddygon teulu newydd neu'n cael eu trosglwyddo i feddygon teulu newydd. Ac er fy mod yn derbyn bod rhai yn dod yn ôl i faes ymarfer cyffredinol, yn hytrach na chael eu rheoli gan y bwrdd iechyd, y ffaith yw bod gan Betsi fwy o gyfleusterau meddygon teulu y mae'r bwrdd iechyd yn eu rheoli nag unrhyw ran arall o'r wlad, ac mae hynny'n dal i fy mhoeni.

Bûm ar ymweliad ag Ysbyty Maelor Wrecsam ddoe i ymweld â'r adran achosion brys, ac mae'n rhaid imi ddweud na welwch chi dîm mwy ymroddedig yn ein hysbytai. Ond roedden nhw'n dweud wrthyf i am rywfaint o'r pwysau. Pan gyrhaeddais i yno, 10.30 yn y bore, roedd yr arhosiad hiraf yn yr adran honno yn 11.5 awr, ac erbyn i mi adael roedd yn 3.5 awr oherwydd gwaith caled pobl yn ceisio gwneud yn siŵr bod y llif drwy'r ysbyty yn dderbyniol. Ond roedd clywed am rai o'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, a dynnwyd o'r rhaglen mesurau arbennig, yn peri pryder imi gan fod bylchau o hyd mewn rotâu yn rhannau o'r gogledd. Nawr, nid yw hynny'n dderbyniol. Ni allaf ddeall sut rydych chi'n gallu bod mor ddidaro ynglŷn â sefyllfa'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, a hwythau'n dweud wrthyf fi, y staff rheng flaen, fod bylchau yn rotâu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae hynny'n fy mhoeni.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y newid ar frig y sefydliad, a bu llawer o newid, ond mae'n ymddangos i mi mai trobwll parhaus ydyw. Rydych yn gwybod bod y Cyfarwyddwr Cyllid yn gadael, mae'r Cyfarwyddwr Meddygol hefyd yn y broses o adael y sefydliad. Cawsom wybod gennych mewn datganiad yn y Siambr hon y llynedd fod cyfarwyddwr newid wedi'i benodi. Wrth gwrs, roedd yn un o gyn-brif weithredwyr dros dro'r sefydliad, ac yn ystod cyfnod y cyfarwyddwr hwnnw y cawsom ni lawer o'r llanast hwn yr ydym ni'n ceisio cael trefn arno. Fe wnaethom ni ddweud mai hwn oedd y person anghywir ar gyfer y swydd ar y pryd—

17:30

A ydych chi'n dod i'r diwedd? Oherwydd chi yw'r ail siaradwr ac rydych chi wedi cael mwy na phum munud.

Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael rhywfaint o ffydd, gan ein bod eisiau rhoi ffydd i'n hetholwyr, bod pobl ar gael sydd â'r gallu i weddnewid y sefydliad, a bod gan eich adran y gallu ynddi i achosi'r math o weddnewidiad yn y sefydliad hwn sydd ei angen. Gallwn i sôn am lawer o agweddau eraill—

Na, dydw i ddim yn credu y byddwch chi. Dydw i ddim yn credu y byddwch chi.

Rwy'n derbyn hynny. Rwy'n gwybod bod amser o hyd ar y cloc. Ond byddwn yn eich annog ac yn erfyn arnoch i edrych ar eich systemau a'ch trefniadau mewnol yn Llywodraeth Cymru, gan nad wyf yn siŵr—rwy'n credu eu bod yn rhan o'r broblem nawr. Dydw i ddim yn credu eu bod yn rhan o'r ateb.

Gweinidog, mae gennych chi lai na phum munud i ymateb, oherwydd byddaf yn eich atal ar 45.

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Ceisiaf ymdrin â phob un o sylwadau a chwestiynau Darren yn yr amser a neilltuwyd, Dirprwy Lywydd.

Dywedaf yn garedig iawn fod y cysylltiad â marwolaeth anffodus y claf a ddisgrifiodd a'r chwe swydd ychwanegol—ni ellir gwneud cysylltiad uniongyrchol fel ceisia'r Aelod ei wneud. Ers fy nghyfnod i ar ddechrau'r tymor hwn fel Aelod Cabinet dros iechyd, rwyf wedi cael trafodaethau gyda llawfeddygon orthopedig mewn grwpiau amrywiol a chystadleuol yn y tri safle, gan ddod â hwy ynghyd gyda'r bwrdd iechyd i edrych ar gynllun priodol ar gyfer orthopedeg. Yr her yw cyrraedd y pwynt lle gallwn ni gefnogi cynllun i fuddsoddi yn y gwasanaeth y mae'r holl safleoedd yn cytuno ag ef mewn gwirionedd. Erbyn hyn rydym ni mewn gwell sefyllfa, a dyna pam ein bod ni'n gallu darparu mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth hwnnw. Rydym ni'n cydnabod bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

Ac mae dewisiadau cyfalaf yn cymryd amser—y broses y mae angen inni fynd drwyddi i sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y rhan gywir o'r gwasanaeth—ac mae'n rhan o'm rhwystredigaeth i nad ydym yn gallu gwneud hynny'n gynt. A dweud y gwir, dydw i ddim yn credu bod mesurau arbennig yn ateb ar gyfer oedi mewn dewisiadau cyfalaf; mae'n ymwneud â'r ffaith fod y bwrdd iechyd yn glir o ran y dewisiadau y mae angen iddo eu gwneud ochr yn ochr â'i staff, i gael cytundeb ar yr hyn y gallai ac y dylai fuddsoddi ynddo. Ac rwy'n awyddus i sicrhau bod mesurau arbennig yn gymorth i wneud hynny, nid yn rhwystr, oherwydd rhan o'r her yw pa un a yw sefydliad yn teimlo y gall wneud dewisiadau y gallai ac y dylai eu gwneud mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rhan o'r her ynghylch cael goruchwyliaeth y mesurau arbennig i sicrhau eu bod yn parhau i wneud dewisiadau.

O ran eich sylw am famolaeth, mae'r buddsoddiad yn y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig wrth gwrs yn cael ei groesawu, ond mewn gwirionedd, y rheswm pam y daeth gwasanaethau mamolaeth allan o fesurau arbennig oedd oherwydd newid diwylliannol sylweddol yn y ffordd yr oedd yr adran honno'n gweithredu—newid yn yr arweinyddiaeth ar lefel bydwreigiaeth, yn arbennig, a newid yn y ffordd yr oedd staff yn gweithio gyda'i gilydd mewn gwirionedd. Dyna oedd y ffactor pwysicaf o ran gwella gwasanaethau mamolaeth ledled y gogledd. Mae'r newid hwnnw wedi'i gynnal hefyd, ac mae hynny'n gadarnhaol iawn ac mae'n dangos i'r sefydliad ei fod wedi ac yn gallu gwella gwasanaethau a chynnal y gwelliant hwnnw fel bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac, mewn gwirionedd, bod y cleifion, y bobl y maen nhw'n gofalu gyda nhw ac amdanyn nhw, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael gwell gofal o ganlyniad.

O ran eich sylwadau am ymarfer cyffredinol, hoffwn eich atgoffa eto nad oes neb wedi cael ei adael heb feddyg teulu, a bron yn ddieithriad, mae'r gofal yn cael ei ddarparu ar y dechrau o'r un lle y maen nhw wedi arfer ag ef. Fodd bynnag, byddwn yn gweld newid yn y ffordd y caiff ymarfer cyffredinol ei gyflwyno. Bydd yn golygu y bydd gennym ni grwpiau mwy o feddygon teulu, meddygon teulu eraill yn gweithio i feddygon teulu eraill, yn yr un ffordd yn union ag y mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cael eu cyflogi gan gyfreithwyr eraill mewn cwmnïau cyfreithiol. Ond rwy'n credu bod angen i ni hefyd weld hynny fel rhywbeth cadarnhaol, symud pobl i fan lle bydd eu gofal yn cael ei ddarparu mewn cymuned leol ond mewn lleoliad sydd wedi'i adeiladu i'r diben ac sy'n addas i'r diben. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fuddsoddi yn yr ystad gofal sylfaenol ledled Cymru.

Ac rwy'n falch eich bod wedi ymweld ag adran achosion brys Wrecsam, gan eu bod yn grŵp ymroddedig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymdrechu ac yn ymdopi â'r heriau gwirioneddol sy'n dod i'w rhan. Mae'n llawer haws bod yn wleidydd, a dweud y gwir, hyd yn oed yn y swydd hon, nag ydyw i fynd a gweithio mewn adran achosion brys mewn unrhyw un o'n hysbytai mewn unrhyw ran o'r DU, nid dim ond yng Nghymru. Ac mae hynny mewn difrif yn amlygu'r heriau ar draws ein system gyfan, nid yn unig o ran pobl sy'n cyrraedd yr ysbyty. Dyna pam fy mod yn rhoi cymaint o bwyslais, yn y sgyrsiau a gefais gyda phartneriaid ledled y gogledd, ar oedi wrth drosglwyddo gofal, ar hynny fel arwydd o lwyddiant y system gyfan, iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, a pham fod angen inni ddiwygio ac ailstrwythuro gofal sylfaenol i wneud yn siŵr bod gennym ni fwy o gapasiti y tu allan i'r ysbyty, fel nad oes angen i bobl fynd yno yn ddiangen. Credaf y bydd hynny'n gwella'n sylweddol y ffordd y mae pobl yn darparu gofal ac, mewn gwirionedd, y ffordd y gall pobl ymfalchïo yn y gofal y maen nhw'n ei ddarparu, a bod pobl yn dal i werthfawrogi a bod â ffydd a hyder gwirioneddol yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac edrychaf ymlaen at weld y bwrdd iechyd yn y gogledd yn dod allan o fesurau arbennig ac yn parhau i ddangos ei fod yn haeddu ffydd a chefnogaeth y cyhoedd, a'i fod yn wasanaeth y dylai pob un ohonom ni yma ymfalchïo ynddo.  

17:35
6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Brexit a'n Tir

Mae eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 'Brexit a'n tir'. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru un o'i hymgynghoriadau mwyaf ym maes amaethyddiaeth. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth. O ystyried pwysigrwydd ffermio yng Nghymru, nid yw'n syndod bod y drafodaeth yn un sylweddol. Roedd y safbwyntiau a fynegwyd gan yr ymatebwyr yn gryf ac yn bellgyrhaeddol. Er gwaethaf hyn, cytunodd y mwyafrif helaeth y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi ffermwyr a thir Cymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymateb polisi Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi ystyried y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion yn ofalus ac wedi gwneud nifer o newidiadau i'r cynigion polisi yng ngoleuni'r ymgynghoriad, a byddan nhw'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad arfaethedig ym mis Gorffennaf.

Mae aelodaeth o'r UE yn golygu bod ein ffermwyr a'u cadwyni cyflenwi ar hyn o bryd yn elwa o gael mynediad i farchnad fawr, ddirwystr heb dariffau. Mae cysylltiadau masnachu'r DU yn parhau i fod yn aneglur. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg yw y bydd ffermwyr yn wynebu heriau newydd wrth weithredu y tu allan i'r UE. Bydd angen i fusnesau fferm fod yn fwy cadarn. Ar ôl Brexit, mae gennym ni gyfle i roi system o gymorth a ddyluniwyd yng Nghymru ar waith. Y man cychwyn yw ein rhwymedigaethau sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n rhoi dyletswydd amlochrog ar Lywodraeth Cymru i sicrhau datblygiad cynaliadwy i wella lles amgylchedd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Yn ogystal, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cyflwyno cyfres bellach o egwyddorion a dyletswyddau a gynlluniwyd i gefnogi'r gwaith o reoli adnoddau naturiol a bioamrywiaeth yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae'n dilyn y bydd yn rhaid i gynaliadwyedd fod wrth wraidd polisi cefnogi ffermydd Cymru.

Mae'r amcanion llesiant a gaiff eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn arbennig o berthnasol i ffermio, o gofio ei swyddogaeth allweddol yn ein hamgylchedd, ein heconomi wledig a'n cymunedau, ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw'r cynllun taliadau sylfaenol yn datblygu'r amcanion hyn mewn ffyrdd allweddol. Nid yw'n ddigon i wella'r amgylchedd, nid yw'n dangos cymhelliant i wella ac nid yw wedi'i dargedu'n dda. Drwy gydol yr ymgynghoriad, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru nad oedd cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn, oherwydd bod y DU wedi penderfynu gadael yr UE a'i bolisi amaethyddol cyffredin, a goblygiadau uniongyrchol hynny yw y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru yn dod i ben. Er mwyn penderfynu beth ddylai ei ddisodli, mae angen i ni feddwl am ein rhwymedigaethau a'r cyd-destun economaidd newydd. Ni chaiff unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau'r dyfodol eu gwneud heb ymgynghori pellach ac asesiad o effaith. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r ansicrwydd sylweddol a pharhaus ynghylch natur Brexit.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw cymorth incwm cyffredinol nad yw'n gysylltiedig â chanlyniadau yn ffordd effeithiol o gefnogi ffermwyr. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu troi oddi wrth gynllun cymorth incwm cyffredinol sy'n seiliedig ar dir dan reolaeth i system newydd o daliadau sy'n targedu canlyniadau, a bydd hyn yn destun ymgynghoriad pellach ym mis Gorffennaf.

17:40

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ar sail yr adborth i'r ymgynghoriad, ac sy'n dod o fframwaith deddfwriaethol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig mynd ati i gyflawni amcan o reoli tir yn gynaliadwy, sy'n cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol â'n rhwymedigaethau i'r genhedlaeth nesaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ffermwyr y dyfodol yng Nghymru.

Mae cynhyrchu bwyd yn elfen hanfodol o reoli tir yn gynaliadwy. Bydd dull cynaliadwy yn ei gwneud yn bosibl i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus o ganlyniad i gynhyrchu bwyd. Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn cynnig cyfuno'r cynlluniau ar gyfer cadernid economaidd a nwyddau cyhoeddus a gynigir yn 'Brexit a'n tir' yn un cynllun ffermio cynaliadwy. Byddai un cynllun yn caniatáu i ni archwilio cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu ni i ddod o hyd i sefyllfa lle mae popeth ar eu hennill—pethau sy'n dda i fwyd ac i'r amgylchedd. Rydym yn cynnig y dylai cynllun ffermio cynaliadwy ddarparu taliadau blynyddol i ffermwyr yn gyfnewid am y canlyniadau nwyddau cyhoeddus a gyflawnir ar eu ffermydd. Rydym yn cynnig bod taliadau'n cael eu targedu at ganlyniadau penodol. Gallai hyn fod yn ddull pwerus o lwyddo yn erbyn ein hymrwymiadau amgylcheddol, gan gynnwys gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, cyrraedd ein cyllidebau carbon a chyrraedd ein targedau aer glân. Mae'n anodd gweld sut y gallwn fynd i'r afael â'r ymrwymiadau hyn yn ystyrlon ac yn effeithlon heb weithredu ar draws yr 80 y cant o dir Cymru sy'n cael ei reoli gan ffermwyr.

Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym wedi canfod bod cynhyrchu bwyd a chynhyrchu nwyddau cyhoeddus yn atgyfnerthu ei gilydd yn hytrach na'u bod ar wahân. Mewn llawer o achosion, gall yr un weithred, a gaiff ei gwneud yn y ffordd gywir, gyfrannu at gynhyrchu bwyd a chynhyrchu canlyniadau nwyddau cyhoeddus, ac rydym eisiau talu am y canlyniadau hyn. Mae sawl ffordd y gall ffermwr wella ansawdd yr aer drwy gynhyrchu bwyd: rheoli pridd, hwsmonaeth anifeiliaid a defnydd o faethynnau wedi'u targedu yw tair ffordd bosibl o wneud hynny. Drwy gynhyrchu bwyd yn y ffordd hon, gallwn ni sicrhau manteision i'r ffermwr, yr amgylchedd a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Byddai talu am ganlyniadau nwyddau cyhoeddus drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o ffermydd y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn hanfodol bwysig, oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud gyda Chynllun y Taliad Sylfaenol presennol. Yn ogystal â'r taliadau blynyddol, byddem ni'n cynnig darparu buddsoddiad, cyngor a hyfforddiant i gefnogi datblygiad busnesau ffermydd. Amcan y mesurau hyn fyddai gwella proffidioldeb y ffermydd. Mae ein ffermwyr yn wynebu heriau sylweddol ac rwy'n deall pryderon a godwyd yn llawer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r cynigion diwygiedig hyn wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â llawer o'r pryderon a godwyd.

Cyn y gallwn fynd yn ein blaenau, mae angen i nifer o bethau ddigwydd. Yn gyntaf, mae angen cyllideb y cytunwyd arni. Er bod Llywodraeth y DU wedi addo cynnal lefelau arian parod cyllid amaethyddol tan 2022, nid oes sicrwydd ynghylch beth fydd yn digwydd wedyn. Mae'n rhaid inni barhau i fynnu bod Cymru'n cael ei chyfran bresennol. Bydd y cyllid hwn yn penderfynu faint o arian y gallwn ei dalu i ffermwyr. Yn ail, mae angen ymgynghoriad pellach ar ein cynigion arnom ni i'n galluogi ni i ystyried elfennau ymarferol cynllun ffermio cynaliadwy a sicrhau bod y weinyddiaeth yn ymarferol i'w gweithredu. Yn drydydd, mae angen inni ymgymryd ag asesiad effaith llawn. Rydym ni'n datblygu gallu a fydd, pan y bydd y gyllideb yn hysbys, yn ein galluogi i amcangyfrif yr effaith ar wahanol fathau o ffermydd ledled Cymru.

Ni allwn symud ymlaen tan bod hyn i gyd ar waith. Mae maint yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'n hymadawiad o'r UE ond wedi cynyddu, ac ni allwn wneud penderfyniadau ar yr amserlen bontio heb wybod mwy yn gyntaf. Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisïau, ffermwyr yn unig a all sicrhau newid gwirioneddol ar ein tir. Felly, rwyf am barhau i weithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid o bob safbwynt ar sut i droi ein cynigion yn realiti ymarferol. Gan adlewyrchu hyn, yn dilyn cyhoeddi'r ymgynghoriad nesaf, rwy'n bwriadu lansio proses i gyd-gynllunio ein cynigion, gan gynnwys ffermwyr ac eraill wrth gynllunio'r agweddau ymarferol, cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu ar y ffordd ymlaen.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto am y cyfraniadau ymgynghori a gafwyd. Bydd cynigion polisi yn y dyfodol yn well oherwydd y rhain, a gyda'n gilydd gallwn weithio i helpu ffermwyr i ffynnu, gwireddu gwerth tir Cymru, a sicrhau sector amaethyddol ffyniannus, cadarn yng Nghymru.

17:45

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, a thôn y datganiad yn benodol. Rwy'n cofio ymateb i un o'r datganiadau cynharach, a oedd yn sôn am 'reolwyr tir' a wnaeth, i raddau, ddileu'r gymuned ffermio, ac nid wyf yn credu mai dyna oedd bwriad y Gweinidog, ond mae'r iaith, yn sicr, yn y datganiad y prynhawn yma yn llawer mwy defnyddiol, byddwn yn awgrymu, i roi hyder i sector sy'n amlwg yn poeni am y dyfodol, gyda newid mor radical. Ac, mewn rhai ffyrdd, rwy'n credu bod gennych chi un o'r swyddi mwyaf cyffrous yn y Llywodraeth, wir, oherwydd bod gennych chi y gallu i lunio pecyn o fesurau a fydd yn diffinio cefn gwlad a'r economi wledig am genhedlaeth neu ddwy ac mae hynny'n gyfrifoldeb enfawr ond yn gyfle anferthol hefyd. Am y tro cyntaf mewn dros 45, 50 o flynyddoedd, byddwn ni'n gallu teilwra cefnogaeth amaethyddol a gwledig i anghenion a gofynion Cymru wrth inni gamu ymhellach i'r unfed ganrif ar hugain, ac mae hynny'n gyfle anferthol inni ei ystyried.

Un peth rwy'n credu, yn amlwg, sy'n anffodus yw'r ansicrwydd ynghylch y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd, ond mae'n ffaith, pe bai'r cytundeb wedi mynd drwodd yn San Steffan, y byddai llawer o'r ansicrwydd hwnnw wedi'i ddileu ac, yn amlwg, mae'n werth nodi bod yr undebau ffermio'n cefnogi'r cytundeb a gyflwynwyd, a gallem yn awr fod yn symud tuag at ymdrin â rhai o'r pryderon yr ydych chi wedi tynnu sylw atynt yn y datganiad hwn, ynghylch modelu, sy'n sylw nad yw'n annheg yn fy marn i. O ystyried y math hwn o newid dramatig mewn cefnogaeth—ac mae'r Gweinidog yn cyffwrdd â'r modelu y mae eisiau ei wneud—ydy hi'n gallu sôn am sut y bydd hi'n bwrw ymlaen â hynny? Rwy'n sylweddoli bod hynny'n anodd, heb wybod cwantwm yr arian sydd ar gael, a bydd hynny'n dibynnu ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, ond mae'n rhaid bod rhywfaint o feddwl yn mynd rhagddo yn yr adran i ddeall sut y caiff yr effeithiau hyn eu hasesu a sut y bydd yr asesiadau effaith yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw yn cael eu rhoi ar waith, oherwydd mae'n bwysig iawn pan fo newid mor sylfaenol i'r pecyn cymorth sydd ar gael i amaethyddiaeth yn digwydd eich bod chi'n deall yn gyfan gwbl yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud.

Rwy'n credu bod dod â'r ddau gynllun o dan yr un to yn fuddiol, o bosibl, ond mae yna berygl gwirioneddol, os nad yw wedi ei ddyfeisio'n ofalus ac ar y cyd â'r sector, y bydd gennych chi gynllun sy'n ceisio bod yn bopeth i bawb ac yn methu â chyflawni unrhyw amcanion yr ydych wedi'u pennu. Ac felly, unwaith eto, byddwn yn gwerthfawrogi deall yr hyn a arweiniodd at eich penderfyniad ynghylch dod â'r ddau gynllun hynny i mewn i'r un maes, a gafodd ei gyhoeddi gennych chi y prynhawn yma, oherwydd yn eich datganiad cynharach, roeddech chi'n glir iawn eich bod eisiau creu'r ddwy ffrwd hon ac roedden nhw'n cystadlu i gyflwyno manteision gwahanol er lles y cyhoedd.

A'r pwynt arall yr ydych chi'n ei wneud yn y datganiad, sydd hefyd i'w groesawu y prynhawn yma, yw'r cysylltiad pwysig hwnnw rhwng bwyd a'r amgylchedd. Ni ddylem ni gystadlu yn erbyn y ddau. Mewn gwirionedd, mae'r ddau yn ategu ei gilydd, ac os caiff ei wneud yn gywir, yna mae'n amlwg y gall y ddwy agwedd elwa ar unrhyw gynllun a gyflwynir gennych chi. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad i'w groesawu yn yr hyn yr ydych wedi'i amlinellu yn eich datganiad y prynhawn yma.

Hoffwn ddeall hefyd bod y Prif Weinidog blaenorol, ac rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud bod y Prif Weinidog presennol, wedi nodi y bydd unrhyw arian a gaiff ei ddyrannu i gynlluniau cymorth gwledig a chymorth amaethyddol yn cael ei drosglwyddo i'ch adran chi os daw i lawr o Whitehall. Ai dyna bolisi cyfredol y Llywodraeth? Rwy'n sylweddoli mai tan 2021 yn unig y mae mandad y Llywodraeth hon yn parhau. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo tan 2022, ond yr wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol deall bod yr ymrwymiad hwnnw'n dal i fodoli a'i fod yn dal yn weithredol, o gofio, yn amlwg, am y cyfyngiadau y gallai hynny eu gosod os bydd arian yn mynd i adrannau eraill.

Hoffwn hefyd ddeall, yn y paragraff olaf ond un, am y gweithgor hwn—gallwch ei alw yr hyn y mynnwch—yr ydych chi'n mynd i'w greu i geisio dod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd i wireddu'r cynigion o'r cam ymgynghori nesaf. Rwy'n credu mai'r geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio oedd 'cyd-gynllunio ein cynigion'. Nawr, mae hynny'n swnio'n dda iawn wedi'i ysgrifennu yma. Mae'n amlwg eich bod chi wedi rhoi ystyriaeth i hynny, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn deall sut y byddai'r cyd-gynllun hwnnw'n cyflwyno'r cynigion hynny oherwydd rydym yn edrych ar ddyddiad yn 2021 i'r cynllun presennol i ddod i ben ac i'r cynllun newydd gael ei roi ar waith. Mae hynny, gyda phob ewyllys da yn y byd, tua 18 mis i ffwrdd yn unig. Mae gan yr adran lawer i'w wneud yn yr amserlen dynn honno. Felly, a allwch chi roi dealltwriaeth i ni o'r modd y gwneir y gwaith hwn, pryd fyddech chi'n gobeithio bod mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion manwl, fel y gallwn ni ddeall yn union pan fydd y cynigion hynny'n cael eu rhoi ar waith y byddan nhw'n ddichonadwy, yn apelgar, yn bwysig, i ffermwyr ymrwymo iddyn nhw, ac yn anad dim y byddan nhw'n darparu'r sefydlogrwydd hwnnw yr ydych yn sôn amdano yn eich datganiad, sy'n bwysig i'r genhedlaeth bresennol o ffermwyr, ond sy'n bwysig i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr?

Diolch ichi, Andrew, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: rwy'n credu bod gennyf i'r swydd fwyaf cyffrous yn y Llywodraeth, ac rydych chi yn llygad eich lle, dyma'r tro cyntaf ers 45 mlynedd inni allu gwneud hyn, a dyna pam mae angen inni gael y polisi amaethyddol a'r polisi cymorth yn hollol gywir. Ni chaf i fy mrysio. Dydw i ddim wedi bod mor gynnar ag y buaswn wedi hoffi gyda'r datganiad hwn. Roeddwn wedi gofyn i'r datganiad hwn gael ei gyflwyno ryw dair neu bedair wythnos yn ôl. Yna, yn amlwg, bu'n rhaid i ni gymryd rhan yn yr etholiadau Ewropeaidd, felly cawsom y cyfnod purdah. Felly, dyma'r tro cyntaf i mi allu ei gyflwyno, a oedd yn bwysig iawn oherwydd fy mod eisiau cyflwyno'r ail ymgynghoriad—rydym yn ei alw'n 'Brexit a'n tir 2'; nid hwnnw fydd y teitl yn y pen draw, ond dyna'r teitl dros dro—cyn Sioe Frenhinol Cymru, i wneud yr un peth ag a wnaethom ni y llynedd gyda 'Brexit a'n tir', pan gawsom ni'r ymgynghoriad hir hwnnw o 16 wythnos. Rwy'n bwriadu gwneud yr un peth gyda'r ail ymgynghoriad, ond ei lansio cyn Sioe Frenhinol Cymru a sioeau amaethyddol yr haf gan mai dyna'r adeg yr wyf yn credu y gallwn ni i gyd gael sgyrsiau dwys ac ystyrlon iawn gyda llawer o'n rhanddeiliaid. Ond rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni gael hyn yn iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.

Gobeithiaf ei bod yn glir iawn i bawb, i Aelodau yn y Siambr ac i'n rhanddeiliaid, ein bod wedi gwrando ac rydym ni wedi nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Roeddwn i eisiau ei gwneud yn glir iawn y llynedd ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon, a gobeithio y gwerthfawrogir ein bod wedi newid nifer o'r cynigion. Roeddech wedi sôn am beidio â defnyddio'r term 'rheolwr tir' mwyach; ffermwyr yw ffermwyr. Dywedon nhw wrthyf eu bod yn dymuno cael eu galw'n ffermwyr. Mae rhai ffermwyr yn dymuno cael eu galw'n gynhyrchwyr bwyd, ac eraill ddim, ond yn gyffredinol rwy'n credu bod ffermwyr eisiau cael eu galw'n ffermwyr, ac, yn amlwg, mae yna reolwyr tir sy'n cynnwys ein coedwigwyr, ein contractwyr, a byddwn yn defnyddio'r term hwnnw hefyd.

Fe wnaethoch chi ofyn rhai cwestiynau penodol am y ddau gynllun. Felly, yr hyn a ddywedais yn glir iawn y tro diwethaf oedd y byddem ni'n rhoi terfyn ar gynllun y taliad sylfaenol, a byddai gennym y ddau gynllun ac roedd y ffordd y cawsant eu llunio yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Unwaith eto, yr hyn a nodwyd oedd yr ystyrir y byddai'n well cael polisi integredig. Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle pan rydych yn sôn am gynhyrchu bwyd, a dywedais hynny yn y datganiad y prynhawn yma: gallan nhw fod yn gefn i'w gilydd, nid oes rhaid i un ohonyn nhw fod ar draul y llall. Ac ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd gyda'r nwyddau cyhoeddus hynny ond dydyn nhw ddim yn cael eu talu er lles y cyhoedd, ac rydym ni eisiau newid hynny a sicrhau eu bod nhw yn cael eu talu am hynny.

Dydw i ddim yn credu i mi ddefnyddio'r term 'gweithgor'. Yr hyn a ddywedais oedd ein bod yn dymuno cynllunio'r polisi ar y cyd wrth symud ymlaen. Ac, unwaith eto, mae undebau'r ffermwyr yn benodol a rhai o'r sefydliadau amgylcheddol wedi datgan yn glir eu bod yn dymuno parhau i gydweithio'n agos â ni ar hynny. Byddwch yn ymwybodol, yn syth ar ôl canlyniad y refferendwm dair blynedd yn ôl, fy mod wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid Brexit y Gweinidog—y grŵp bord gron. Mae hwnnw'n cwrdd yn rheolaidd. Bydd yn parhau i gwrdd. Rwyf wedi ei wneud yn glir iawn iddynt fod yn dal angen eu cyngor arnaf ac iddyn nhw fod yn gyfeillion beirniadol, ac maen nhw'n barod iawn i wneud hynny.

Maes arall lle y byddwn eisiau gweld y cyd-ddylunio hwnnw'n mynd yn ei flaen—. Soniais y bydd yr ymgynghoriad, fwy na thebyg, yn cael ei lansio ddechrau mis Gorffennaf, ac yna, yn fuan wedi hynny, bydd angen inni ystyried sut yr ydym ni am wneud y cyd-gynllunio hwnnw. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio y cawsom ni lawer o sesiynau ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill y llynedd, pan aeth swyddogion i mewn i ystafell, gofynnwyd llawer o gwestiynau iddyn nhw, ac fe wnaethon nhw glywed llawer o sylwadau. Dydw i ddim eisiau gweld hynny gyda'r ail ymgynghoriad; rwy'n credu y bydd yn llawer mwy o weithdy, lle bydd yn rhaid i bawb weithio'n galed iawn, a bydd gennym ni ddiddordeb mawr yn syniadau pawb. Felly, dyna'r math o syniadau cynnar sydd gennyf ynghylch hynny.

Roeddech chi wedi gofyn am yr amserlen, felly soniais y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal, gobeithio, ddechrau Gorffennaf, yn sicr cyn Sioe Frenhinol Cymru. Bydd yn cael ei gynnal eto am 16 wythnos. Rwy'n hoffi'r cyfnod ymgynghori hir hwnnw, yn enwedig dros yr haf, felly mae'n debyg y bydd yn ddiwedd mis Hydref. Byddwn wedi dechrau edrych ar y cyd-gynllunio yn ystod y cyfnod hwnnw. Unwaith eto, mae gennym ni sefydliad annibynnol yn ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad y llynedd. Rwy'n tybio y byddem ni'n gwneud yr un fath eleni, a fydd, mae'n debyg, yn adrodd i ni yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, dyna'r math o amserlen yr wyf i'n ei hystyried.

Mae wedi bod yn anodd iawn cynnal asesiad effaith am y rhesymau a amlinellais yn y datganiad llafar, ond bydd yr Aelodau heddiw wedi gweld y ddogfen hon, 'Amaethyddiaeth yng Nghymru'. Dyna ddechrau, os mynnwch chi, yr asesiad effaith. Mae hyn yn ychwanegu at y gallu i wneud y gwaith modelu a'r asesiadau effaith wrth symud ymlaen.

Fe wnaethoch chi ofyn am gyllid. Fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yr arian gennym tan 2022. Dywedodd y Llywodraeth hon y byddai'n neilltuo—gwnaeth y Prif Weinidog blaenorol a gwnaeth y Prif Weinidog presennol hynny mewn swydd flaenorol hefyd—a hyd y gwn i, nid yw hynny wedi newid, ond nid ydym ni'n gwybod beth yw'r gyllideb. Ar hyn o bryd, mae'n sero, felly nid yw neilltuo dim yn mynd i fod o gymorth mawr i unrhyw un. Ond, yn realistig, mae angen i ni sicrhau nad ydym ni'n colli ceiniog. Dywedwyd wrthym ni na fyddem ni, fel y gwyddoch chi, ac yn sicr rydym ni'n eu dal at hynny ac at yr addewid hwnnw.

17:55

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, mi fydd angen edrych mewn manylder ar y dogfennau atodol sydd hefyd wedi cael eu cyhoeddi heddiw cyn ein bod ni'n gallu dod i gasgliad llawn ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'r Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw. Yn amlwg, mi fydd llawer o'r manylion yn yr ymgynghoriad fydd yn ymddangos mis nesaf, felly mi edrychwn ni ymlaen i weld hwnnw.

Ar y wyneb, dwi'n meddwl bod tôn y datganiad yma yn taro cywair tipyn mwy adeiladol na'r hyn rŷm ni wedi'i gael yn y gorffennol. Dwi'n cyfeirio'n benodol at y ffaith eich bod chi'n dweud y byddwch chi'n cyd-gynllunio—yn 'co-design-io'—agweddau ymarferol y cynllun. Mae'n biti ein bod ni ddim wedi cael co-design o'r polisi o'r cychwyn cyntaf efallai, ond mae'r ffaith bod hynny am ddigwydd nawr, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad iawn.

Byddwn i yn gwerthfawrogi, efallai, gwell eglurder y prynhawn yma oddi wrthych chi, er enghraifft, ynglŷn ag unrhyw ymrwymiad o safbwynt ffermwyr gweithredol—active farmers. Mae yna ryw linell yn un o'r dogfennau atodol sy'n dweud y bydd mwy o bwyslais arnyn nhw. Allwch chi gadarnhau i ni mai dim ond ffermwyr gweithredol a fydd yn cael mynediad i'r gefnogaeth rŷm ni'n sôn amdani o dan unrhyw gynllun newydd? Mae'r effaith mae hyn yn mynd i'w gael ar denantiaid hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolog i lawer o'r ymatebion, ac mae yna gyfeiriad at hynny hefyd, felly a allwch chi gadarnhau i ni fan hyn y prynhawn yma y bydd tenantiaid yn cael mynediad at bob ffynhonnell o gefnogaeth a fydd yn cael ei darparu gan y cynllun?

Rŷch chi'n cydnabod, wrth gwrs, fod yna ansicrwydd yn deillio o beth fydd yn dod yn sgil Brexit, ond rŷch chi ddim ond yn cydnabod hwnna yn eich datganiad mewn perthynas â'r amserlen. Nawr, does bosib bod yr holl ddryswch o gwmpas Brexit yn tanseilio unrhyw waith y byddwch chi'n ei wneud dros y misoedd nesaf, oherwydd tan i ni wybod beth yw canlyniad Brexit, yna dŷn ni ddim yn gwybod, yn ei hanfod, pa fath o dirlun neu ba fath o gyd-destun y bydd y diwydiant amaeth yng Nghymru'n gweithredu oddi fewn iddo fe. Felly, mi fydd hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn, iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau newydd yn rhai cywir, yn rhai addas, yn rhai a fydd yn ymateb i anghenion y sector. Felly, dwi yn poeni. Rŷch chi'n dweud ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ei gael e'n iawn, ond ar y llaw arall wedyn, rŷch chi'n dweud bod yna gymaint o bethau dydyn ni ddim yn gwybod. Dwi yn stryglo i roi'r ddau beth yna at ei gilydd a chael hyder y bydd y broses yma'n arwain at ganlyniad a fydd yn un a fydd o fudd i'r sector yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn newid sydd ddim yn digwydd ar chwarae bach. Un waith rŷm ni'n cael cyfle mewn cenhedlaeth i wneud newid fel hwn, fel rŷch chi wedi cydnabod, ac os ŷm ni'n ei gael e'n anghywir, mae'r canlyniadau'n mynd i fod yn ddifrifol eithriadol.

Ychydig funudau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni o ran penderfyniad yr M4, a dyfynnaf o'i ddatganiad,  

Llywydd, penderfyniad yw hwn a wneir pan mae'r ansicrwydd mwyaf ynglŷn â'n dyfodol ariannol. Mae cyni na welwyd ei debyg o'r blaen ym maes cyllid cyhoeddus yn cyfuno â diffyg eglurder llwyr o ran ein cyllidebau cyfalaf am y blynyddoedd i ddod, a gwaethygir hynny gan yr ansicrwydd ynghylch Brexit.

Nawr, dyma un o'r rhesymau pam y mae wedi penderfynu peidio mynd ar drywydd yr M4. Wel, os yw'n berthnasol i'r M4, siawns ei fod yn fwy perthnasol byth o ran yr effaith y bydd Brexit yn ei chael ar y sector amaethyddol.

Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen ac rwy'n mynd i ddweud hynny eto: mae angen sefydlogrwydd ar ffermwyr Cymru. Mae angen sefydlogrwydd, sicrwydd a chysondeb arnyn nhw, ac mae dechrau, fel yr ydych chi'n bwriadu ei wneud, ar y model hwn nad yw wedi'i dreialu erioed o'r blaen yn risg enfawr. Dim ond chi a Michael Gove sy'n cerdded i ffwrdd gyda'ch gilydd i'r cyfeiriad hwn nawr. Mae Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r 27 gwlad yng ngweddill yr UE, maen nhw i gyd yn aros gyda'r drefn bresennol, dydyn nhw ddim yn cymryd risg â dyfodol ein ffermydd teuluol a dyfodol ein heconomi wledig. Nawr, dydw i ddim yn gwrthwynebu newid, ond mae cyflwyno'r newidiadau hyn ar yr adeg arbennig hon, yn fy marn i, yn ormod o risg.

A fedrwch chi ddweud wrthym ni beth fydd yr amodau masnachu i ffermwyr Cymru ymhen chwe mis? Wn i ddim beth fyddan nhw; dydw i ddim yn credu y gwyddoch chi beth ydyn nhw. A fyddwn ni'n wynebu tariffau andwyol? A fyddwn ni'n wynebu mewnforion enfawr o fwyd rhad? Dydyn ni ddim yn gwybod. Felly, sut y gallwn ni ddylunio rhaglen heb wybod rhai o'r atebion hyn? Dywedoch chi hynny eich hun—nid oes syniad gennych â pha gyllideb y bydd angen i chi weithio, felly sut y gallwch chi gynllunio cynllun heb wybod faint o gyllideb a fydd ar gael ichi? Ydyn, mae pobl wedi gwneud addewidion, ond mae rhai o'r union bobl hynny nawr yn cael eu gwysio gan lysoedd i ddod i ateb cyhuddiadau o gamarwain pobl. Felly, dydw i ddim yn cymryd y bobl hyn ar eu gair.

Felly, dydych chi ddim yn gwybod. Ac, wrth gwrs, os nad yw Michael Gove yn hoffi'ch cynigion, neu o leiaf os na allwch chi gytuno ar gonsensws gydag ef ar rwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd, yna gall ef dynnu'n ôl ei gefnogaeth a gall ef rwystro unrhyw gynigion y dymunwch chi eu gwneud. Felly, gyda'r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, Gweinidog, bod cael gwared ar yr elfen taliad sylfaenol yn golygu, yn y bôn, eich bod yn gwthio amaethyddiaeth Cymru yn ddall, oddi ar glogwyn. Dyna yw fy mhryder, a dyna'r realiti yr ydym ni'n ei wynebu yma.

Oes, mae angen i ni gael pethau'n iawn, felly pam ddylem ni fwrw ymlaen cyn ein bod yn gwybod pa ffurf fydd ar Brexit? Oni ddylai natur Brexit ddylanwadu ar natur y gefnogaeth a gaiff y sector mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol. Sut y gallwch chi ymgymryd ag unrhyw asesiadau effaith a modelu ystyrlon pan na allwch chi ateb unrhyw un o'r cwestiynau hynny a ofynnais ichi funudau'n ôl? Bydd y sefyllfa'n newid ymhen chwe mis, ac o bosibl yn newid eto wedi hynny. Mae gormod yn y fantol i weithio'n ddall ar hyn. Bydd penderfyniadau anghywir yn golygu colli bywoliaeth, byddant yn golygu cost gymdeithasol, cost economaidd, ac yn y pen draw bydd colli pobl ar y tir yn cael yr effaith amgylcheddol honno a fydd yn mynd â chi ymhellach o'r lle yr ydych eisiau ei gyrraedd a pheidio â chyflawni rhai o'r nodau yr ydym ni i gyd yn dyheu amdanyn nhw yn y Cynulliad hwn.

18:00

Diolch, Llyr. Mae'n debyg y dylwn i ddweud, i baratoi pawb, y bydd yr ymgynghoriad y byddwn ni'n ei gyflwyno ym mis Gorffennaf—dywedasoch chi eich bod yn edrych ymlaen at ei gael—yn fanwl iawn. Mae'n debyg y bydd ddwywaith maint 'Brexit a'n tir', felly rhywfaint o rybudd iechyd yn y fan yna, oherwydd y mae'n mynd i fod mor fanwl.

Rwy'n credu fy mod i wastad wedi cyd-gynllunio. Holl bwynt cynnal y bwrdd crwn Brexit oedd gwneud hynny, ac yn sicr yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' a gyflwynwyd gennym y llynedd—. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl sy'n eistedd ar y grŵp rhanddeiliaid hwnnw wedi dweud y gallen nhw weld canlyniad ein trafodaethau yn y ddogfen honno. Felly, rwy'n credu fy mod i wastad wedi bod yn awyddus iawn i gyd-gynllunio, ond yn sicr, o'r trafodaethau yr wyf i wedi'u cael gyda'r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill, maen nhw mor awyddus i weithio gyda ni. Fel rwy'n dweud, rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymatebion a gawsom, ac yn sicr y cymorth y maen nhw yn ei roi i ni i wneud hynny. Felly, nodais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies yr amserlen yr ydym yn ei hystyried i wneud hynny.

Fe wnaethoch chi grybwyll dau air perthnasol iawn—ffermwyr gweithredol. Roedd hynny'n amlwg iawn yn y sgwrs a'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom. Mae'n ymwneud â defnydd tir; nid yw'n ymwneud â thir sy'n eiddo iddynt, a gallaf gadarnhau'n llwyr mai dyna yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Oherwydd nid dyna a wnaeth y cynllun taliad sylfaenol. Felly, wrth sefydlu'r cynllun newydd a'r polisi cymorth newydd, mae'n rhaid i hynny fod yn ganolog iddo.

Soniasoch chi'n benodol am ffermwyr tenant, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ffermwyr tenant. Rwyf wedi gwneud ymdrech benodol i ymweld â llawer o ffermwyr tenant yn ystod y tair blynedd yr wyf wedi bod yn y swydd. Rwy'n credu'n gryf na ddylen nhw fod o dan anfantais wrth gael gafael ar gynlluniau am nad ydyn nhw'n berchen ar y tir y maen nhw'n ei ffermio, ac roedd yr ymatebion, rwy'n credu, i 'Brexit a'n tir' yn adleisio'r farn honno'n llwyr. Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch diwygio tenantiaethau. Mae hwnnw'n cau ar 2 Gorffennaf, ac mae'r ymgynghoriad hwnnw'n cynnwys cynigion i alluogi ffermwyr tenant i gael gafael ar gynlluniau amaethyddol a rheoli tir newydd. Felly, bydd gennyf yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw yn ogystal â'r ymgynghoriad sydd ar y gweill, oherwydd rwy'n credu y bydd angen ystyried yr ymatebion i'r ddau yn eu cyfanrwydd, wrth symud ymlaen.

Rydych chi'n sôn am ansicrwydd Brexit, ac roeddwn yn dweud wrth swyddogion y bore yma ei bod yn ymddangos bod popeth a allai fod wedi mynd yn ein herbyn wedi mynd yn ein herbyn ers inni gael yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Ni fydd yr ymgynghoriad yr wyf yn ei gyflwyno ym mis Gorffennaf yn gorffen tan ddiwedd mis Hydref. Gobeithio erbyn hynny y bydd yn llawer cliriach inni. Ond allwn ni ddim eistedd a gwneud dim byd ac aros. Rydym ni'n gwybod ein bod yn ymadael ag Ewrop ac rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni fod â'r polisi hwnnw. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Lywodraeth y Deyrnas Unedig a ninnau'n cerdded i ffwrdd law yn llaw. Os edrychwch chi, Llywodraeth yr Alban—. Dim ond trefniant dros dro ydyw. Nid yw Gogledd Iwerddon wedi gallu llunio polisi, yn amlwg, oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw Weinidogion ar hyn o bryd. Os edrychwch chi ar y 27 o wledydd y cyfeiriasoch chi atyn nhw sy'n aros yn y PAC, bydd y PAC yn cael ei ddiwygio. Ac os edrychwch chi ar y cyfeiriad y mae'n ymddangos y mae'n mynd iddo , mae'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud o ran rheoli cynaliadwy, nwyddau cyhoeddus, gwella ansawdd dŵr, i gyd yn rhan o'r diwygiadau i'r PAC. Felly, dydw i ddim yn credu y bydd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn wahanol yn y modd yr ydych chi'n ei awgrymu. Dim ond—rwy'n dweud 'dim ond'—63 y cant o ffermwyr sy'n defnyddio'r cynllun taliad sylfaenol. Efallai na fydd pawb yn dymuno bod yn rhan o'r cynllun hwn. Cynllun gwirfoddol ydyw, yn amlwg, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ei gael yn iawn.

Rydych chi'n iawn—fedrwn ni ddim—. Byddaf yn eu dal at eu haddewid, ond mae'n anodd iawn credu popeth a glywch. Fodd bynnag, ni allaf ddychmygu adeg pan na fyddai Llywodraeth y DU yn dymuno cefnogi ffermwyr ac ni fydden nhw'n dymuno i'r arian hwnnw ddod atom ni er mwyn inni allu penderfynu sut i'w ddefnyddio er lles ein ffermwyr ein hunain yng Nghymru.

18:05

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog. Gallwn ni i gyd gytuno bod hwn yn gyfnod anodd iawn i ffermwyr, yn union fel y mae i bob busnes, ond rwy'n synnu bod Llyr Griffiths yn mynnu sefydlogrwydd, cysondeb, a pharhad. Rwy'n credu ei bod yn amhosibl cyflawni hynny yng nghyd-destun adroddiad 'Net Zero' Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n mynnu ein bod yn mynd am ostyngiad o 95 y cant yn ein hallyriadau. Mae'n rhaid inni weld popeth yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd yr ydym wedi'i ddatgan.

Rwy'n cytuno ei bod yn anodd iawn gwybod am ein perthynas ag Ewrop ac mae'n amhosibl dyfalu beth fydd yn digwydd nesaf, ond rwy'n credu eich bod yn iawn yn eich datganiad i ddweud ei bod yn ddoeth cynllunio ar gyfer yr heriau o weithredu y tu allan i'r UE, p'un a ydym ni ynddo ai peidio, oherwydd rydym ni eisiau i'n ffermwyr fod yn uchelgeisiol ac i fod yn allforio i weddill y byd yn ogystal â chynhyrchu mwy o gynnyrch ffres i bobl Cymru. Felly, dyna'r ffordd y dehonglais i hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n sail gadarn iawn.

O ran y datblygiad cynaliadwy y bydd yn rhaid inni ei gael wrth symud ymlaen, rwy'n cefnogi eich taliadau wedi'u targedu at y canlyniadau oherwydd nid oes pwynt talu pobl am gydnerthedd economaidd ar y naill law ac wedyn gorfod eu talu gyda'r llall i unioni'r niwed amgylcheddol y gallen nhw fod wedi'i wneud â'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Felly, rwy'n credu bod dod â nhw at ei gilydd yn syniad rhagorol, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr.

Yn amlwg, rwyf wedi canolbwyntio'n ddiweddar ar geisio gwella faint o fwyd ffres sy'n dod i'r ysgolion, oherwydd os ydym ni o ddifrif am gyflawni'r rhaglen bwyta'n iach, mae angen inni allu cael gafael ar lysiau a ffrwythau'n lleol. Ni allwn ni wneud hynny os nad oes gennym ni'r ffermwyr i gynhyrchu'r nwyddau i'n galluogi ni i wneud hynny. Rwy'n cofio rhaglen Gareth Wyn Jones ar y teledu lle cafodd drafferth i ddod o hyd i fwyd yn lleol pan oedd yn ceisio cynhyrchu pryd o fwyd i blant yn Nhreganna. Felly, hoffwn wybod beth yw ein strategaeth ar gynyddu garddwriaeth yng Nghymru, a fu'n faes a esgeuluswyd, gan fod garddwriaeth fel arfer yn digwydd ar barseli bach o dir, nad ydynt wedi bod yn gymwys ar gyfer rhaglen y PAC, sy'n gofyn ichi fod ag o leiaf 8 hectar, rwy'n credu. Yn amlwg, gallwch chi fod â busnes llwyddiannus iawn ar lai nag 8 hectar.

Nawr, gan edrych i weld a oes gennym ni'r garddwriaethwyr y mae eu hangen arnom i allu cefnogi ein ffermwyr i ddatblygu mewn meysydd newydd, o ystyried y gallai'r diwydiant cig oen droi'n faes gwael iawn yn y dyfodol os bydd pethau'n mynd o chwith yn ddifrifol gyda Brexit, mae'n ofid imi weld bod StatsCymru yn dweud wrthym mai dim ond 45 o brentisiaethau garddwriaeth a ddechreuwyd yn 2015-16, 40 yn 2016-17, 40 yn 2017-18, a hyd yn hyn eleni—oherwydd bod y flwyddyn yn mynd hyd at 31 Gorffennaf—dim ond 30. Ac oedran cyfartalog garddwriaethwyr yw 55, sydd hyd yn oed yn hŷn nag oedran cyfartalog ffermwyr, yn gyffredinol. Felly, tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru, o fewn fframwaith y cynlluniau newydd sydd gennych chi ar gyfer datblygiad cynaliadwy ym maes amaeth, yn gallu annog mwy o bobl i gynhyrchu ar gyfer eu marchnadoedd lleol, nid ar gyfer allforio'n unig, o gofio bod y farchnad allforio yn llawer mwy ansicr.  

18:10

Diolch. Mae Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn. Roeddwn i'n darllen y diwrnod o'r blaen fod cynnyrch cartref y DU ym maes llysiau wedi cyfrannu 73 y cant i gyfanswm y cyflenwad ym 1995, ac mae bellach wedi gostwng i ryw 54 y cant. Felly, gallwch chi weld bod cyfle gwirioneddol yn y fan honno, ac yn sicr mae arnom ni eisiau i bob math o ffermwr allu manteisio ar y cynllun. Felly, os oes gennym ni ffermwr garddwriaethol sy'n dymuno ymuno, mae hynny'n ardderchog. Hefyd, os oes gennym ni ffermwr da byw sydd am gael cymorth i fynd i faes garddwriaeth, mae hynny hefyd i'w groesawu. Byddem yn cefnogi'r naill a'r llall.

Yn amlwg, mae'r dirywiad a grybwyllais yng nghynhyrchiad y DU wedi cynyddu ein dibyniaeth ar fewnforion. Byddwch wedi fy nghlywed i a'r Prif Weinidog yn dweud, os byddwn yn ymadael 'heb gytundeb', mai un o'r pethau yr effeithir arnyn nhw yw cynnyrch ffres, yn ein tyb ni, yn dod o Ewrop. Felly, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yn y fan yna, ac, unwaith eto, rwy'n credu bod caffael yn faes lle gallwn ni sicrhau mewn gwirionedd fod ein gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cynnyrch o Gymru. Nid yw sector garddwriaethol Cymru ond yn cynrychioli tua 0.1 y cant o'r arwynebedd amaethyddol a ddefnyddir, felly mae yna gapasiti enfawr ar gyfer cynnydd yn fan honno. Rydym yn sicr wedi helpu i gefnogi'r sector.

Fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau, ac mae'r nifer wedi gostwng. Yn sicr, caf drafodaeth gyda Kirsty Williams ynglŷn â hynny. Ond, hefyd, un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw gwella ein gallu i fapio dosbarthiad tir amaethyddol, fel y bydd pobl yn gwybod lle y mae'r ardal orau ar gyfer cynnyrch a chnydau penodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny hefyd o gymorth i ffermwr da byw os yw am wella'i gynnyrch yn y ffordd honno ar gyfer garddwriaeth.

Mae gennym ni hefyd Cyswllt Ffermio, yr ydych chi'n ymwybodol ohono, sydd hefyd yn hyrwyddo gweithgarwch arallgyfeirio ymarferol i dyfwyr presennol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn croesawu twf ynddo.

Rwy'n croesawu’r datganiad yma heddiw. Mae ambell beth—. Rwy'n ceisio dewis pethau nad yw eraill wedi sôn amdanynt. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod y bydd heriau newydd. Nid ydym yn gwybod beth ydyn nhw—nid oes neb yma'n gwybod beth ydyn nhw—ond yr ydym ni i gyd yn cydnabod y bydd arian yn agwedd allweddol ar gyflawni unrhyw beth, beth bynnag y bydd hwnnw.

Gwyddom hefyd fod newidiadau sy'n digwydd na allwn ni eu rheoli, bod y patrymau tywydd yn newid braidd yn ddramatig ar draws y byd, nid yma yn unig. Felly, mae'r newid yn yr hinsawdd yn digwydd a bydd yr hyn y gallem ni ddefnyddio ein tir ar ei gyfer yn newid hefyd. Rwy'n credu mai'r peth arall sy'n digwydd yw bod diet pobl yn newid, ac nid yw'r hyn y maen nhw'n dewis ei fwyta o reidrwydd yn golygu'r cig coch yr ydym ni'n ei gynhyrchu mwyach. Felly, er bod angen inni ystyried hynny wrth symud ymlaen, byddwn yn gofyn inni archwilio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd gyda'n tir, yn enwedig ym maes amaeth, oherwydd rwy'n sylwi mai un o'r meysydd allweddol yr ydych chi'n bwriadu ei gefnogi yw gwella cynhyrchiant. Hoffwn ddeall beth yn union y mae hynny'n ei olygu, oherwydd os ydym ni'n sôn am gynhyrchu mwy o gig coch, mwy o gynhyrchion llaeth, sy'n golygu ffermio dwys, yna mae hynny hefyd yn mynd i gymryd mwy o dir. Ac fel yr wyf newydd ei ddweud, mae patrymau tywydd yn newid, ac yn barod eleni rydym ni wedi gweld rhai trafferthion o ran bwydo'r nifer fwy o dda byw. Felly, rydym ni'n rhoi, neu gallem ni fod yn rhoi pwysau diangen ar y tir sydd gennym ni os nad ydym ni'n ystyried yr agweddau hynny.

Mae'n ymwneud hefyd â defnydd tir, nid ffermio yn unig. Felly, rwyf eisiau dod â'r ddadl i feysydd eraill, ac yn enwedig pan fyddwn ni'n edrych ar reoli perygl llifogydd. Rwy'n falch iawn o weld bod sôn am hynny yma, ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o fanylion am hynny. Ond rwy'n credu, unwaith eto, wyddoch chi, mae'n dweud 'ein tir', felly os ydym ni'n sôn am atal llifogydd, ni all fod yn dir amaethyddol yn unig, mae'n rhaid iddo fod yn ddefnydd tir yn gyfan gwbl. Felly, mae'n rhaid osgoi hynny, pan fyddwn yn adeiladu ystadau tai—. Mae'n rhaid bod hynny'n wir am ddefnydd tir. Cyn i ni roi tŷ ar unrhyw dir, byddai wedi bod yn fan gwyrdd. Byddai wedi amsugno a chadw'r holl ddŵr yn ei le. Ac ni allwn ni barhau â'r cyfan drwy ddraenio. Ac rwy'n gwybod bod gennym ni systemau draenio cynaliadwy.

Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y camau nesaf, ond dim ond ceisio ei ehangu yr wyf. Ac felly pan rydym ni'n siarad am ddefnydd tir, fyddwch chi ddim yn synnu fy mod i'n falch iawn o weld bod parthau perygl nitradau i'w cael yma, oherwydd bydd y ffordd yr ydym yn defnyddio'r tir, neu'r ffordd yr ydym yn camddefnyddio'r tir, yn dod i'r afonydd yn y pen draw. Rydym ni wedi gweld yr wythnos hon—yr wythnos hon yn unig— pysgod marw yn arnofio, unwaith eto, ar hyd yr afonydd lle'r wyf i'n byw. Nawr, dyna'r dystiolaeth y gallwn ni ei gweld. Yr hyn na allwn ni ei weld yw eu bod yn llwyr ddinistrio'r afon oddi tano. Os yw'r pysgod yn marw, mae popeth arall yn marw hefyd. Felly, unwaith eto, rwy'n mynd i gysylltu hynny â ffermio dwys. Rwyf eisiau bod yn ofalus nad ydym ni'n symud ymlaen mewn sefyllfa lle (a) ein bod yn defnyddio tir di-ben-draw i gynhyrchu cig coch y mae llai o bobl ei eisiau, ond ein bod ni hefyd yn cynhyrchu mwy o slyri ac nid ydym ni, mae'n ymddangos, mewn rhai achosion, yn ofalus wrth drin hwnnw nac wrth arolygu'r ffordd y caiff ei drin, felly mae'n llygru'r afon mewn gwirionedd.

18:15

Diolch, Joyce Watson, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Nid wyf wedi cwrdd â ffermwr nad yw'n cymryd ei gyfrifoldebau amgylcheddol yn ddifrifol iawn. Yr wythnos hon, mae NFU Cymru yn cynnal cynhadledd, na allaf fynd iddi yn anffodus, i ganolbwyntio ar yr amgylchedd. Ac, yn sicr, cyhoeddodd yr NFU eu bod am fod yn garbon niwtral erbyn 2040, ac rwy'n credu bod gennym ni ein tirweddau prydferth felly yn sgil ffermio. Fodd bynnag, mae gennym ni broblem gyda llygredd amaethyddol, ac unwaith eto, mae ffermwyr yn derbyn bod ganddynt ran i'w chwarae yn hynny, a byddwch chi'n ymwybodol bod y rheoliadau newydd yn dod i rym yn 2020.

Rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch chi am berygl llifogydd yn wirioneddol bwysig ac, unwaith eto, hoffwn weld llai o gynlluniau llifogydd concrid a defnyddio ein hadnoddau naturiol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni yn sicr ei ystyried. Coetir, hefyd—mae hynny'n amlwg yn ddefnydd da iawn o dir. Ac er y bydd plannu coed yn elfen wirfoddol o unrhyw gynllun, rwy'n credu, unwaith eto, y bydd plannu coed o fudd economaidd i rai ffermydd. Byddai hynny'n rhoi gwell cysgod, er enghraifft. Yn sicr, gallai roi rhwystrau bioddiogelwch i wella cynhyrchu da byw. Felly, rwy'n credu bod edrych ar sut y gallwn ni eu gwneud yn fwy cynhyrchiol a chydnerth yn rhan o'r cynllun. Nid oes ond yn rhaid edrych ar y llynedd a'r tywydd a gawsom y llynedd. Cawsom wanwyn gwlyb iawn, eira trwm ar brydiau, cawsom haf hir, poeth, cawsom stormydd yn yr hydref a chawsom aeaf mwyn. Felly, gallwch chi weld pam mae angen i ni helpu busnesau fferm i fod yn gydnerth, ac, yn amlwg, nid oedd y cynllun taliad sylfaenol yn gwneud hynny ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn hollol iawn.

Fe wnaethoch chi sôn am systemau draenio cynaliadwy, ac roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r rheoliad hwnnw'n gynharach yn y flwyddyn i'w wneud yn orfodol. Rwy'n credu bod hynny hefyd yn bwysig iawn yn gysylltiedig â'r hyn yr oeddech chi'n sôn amdano: tai.

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Raglen Weithredu Adolygiad Amber

Daw hynny â ni at eitem 7.

A hwnna yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y diweddariad ar raglen weithredu adolygiad amber. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Diolch, Llywydd. Chwe mis ers cyhoeddi'r adolygiad oren, mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am weithredu argymhellion yr adolygiad.

Gwnaeth yr adolygiad naw argymhelliad a nododd nifer o feysydd lle'r oedd angen rhagor o waith er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o'r heriau a'r cyfleoedd i wella ymatebion i alwadau yn y categori oren. Er mwyn sicrhau bod y gwaith o gyflawni argymhellion yr adolygiad yn cael ei wneud yn bwrpasol ac yn gyflym, mae prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans wedi sefydlu rhaglen weithredu adolygiad oren am flwyddyn. Cefnogir hon gan fwrdd y rhaglen, yn cynnwys cynrychiolaeth o'r uned gomisiynu gydweithredol genedlaethol, Gwasanaeth ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd bwrdd y rhaglen yn rheoli ac yn monitro gweithredu argymhellion yr adolygiad.

Er mai dim ond chwe mis sydd ers dechrau'r rhaglen, mae'n rhoi hwb i mi i nodi gwelliant yn yr amser ymateb nodweddiadol i gleifion yn y categori oren. Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos gwelliant yn yr amser ymateb nodweddiadol yn ystod pob mis rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Mawrth eleni o'i gymharu â'r un cyfnod yn y gaeaf blaenorol.

Gwelwyd lleihad yn nifer yr arosiadau rhy hir a ganfuwyd gan y tîm adolygu, ond mae llawer o waith i'w wneud eto i ddileu amseroedd aros annerbyniol o hir ar gyfer rhai cleifion. Mae hwn yn destun pwyslais sylweddol drwy'r rhaglen hon. Rwy'n disgwyl gweld y bwrdd rhaglen yn cytuno ar gynllun gwella erbyn diwedd y mis hwn i roi sylw i'r arosiadau hir sy'n weddill.

Mae amseroedd ymateb nodweddiadol i alwadau oren mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd yn gadarnhaol iawn ac yn arwain at brofiad da i gleifion a chanlyniad clinigol. Er enghraifft, yr amser ymateb nodweddiadol i alwadau oren ym mis Mawrth 2019—ar anterth pwysau'r gaeaf hwn—oedd 18 munud yn unig ym Mhowys, ac 20 munud yn y gogledd. Fodd bynnag, mae amrywiadau lleol o hyd, ac er bod amserau ymateb i alwadau oren yn ardal Bae Abertawe wedi gwella o gymharu â'r llynedd, mae heriau parhaus yn cael eu hachosi gan oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ambiwlansys ar safle Treforys.

I gydnabod yr her hon, rwyf wedi cyfarwyddo prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans i roi pwyslais uniongyrchol a phenodol ar gyflawni gwelliannau yn y safle hwn. Mae cyfres o gamau gweithredu newydd wedi'u cytuno gyda thimau clinigol lleol. Mae'r datblygiadau arloesol hyn yn cael eu cyflawni ochr yn ochr â chamau gweithredu ehangach y system gyfan yn yr ardal i wella gofal cymunedol ac i alluogi pobl i adael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod. Fe fyddwn, wrth gwrs, yn monitro'r sefyllfa'n ofalus.

Bydd yr Aelodau'n cofio mai un o egwyddorion canolog yr adolygiad oren oedd yr angen i ganolbwyntio ar grwpiau penodol o gleifion er mwyn gwella profiad. Roedd hyn yn cynnwys pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, sy'n fwy agored i gael codwm oherwydd eu bod yn eiddil neu oherwydd cymhlethdod eu cyflyrau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1 miliwn ar gyfer prynu cyfarpar codi modern ym mron pob cartref gofal yng Nghymru, y profwyd ei fod yn cefnogi profiad cleifion ac, os yw'n bosibl, yn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn deall mai dim ond pedwar cartref gofal yng Nghymru sydd heb yr offer codi cyfoes hwn erbyn hyn.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer gwasanaeth ymateb cynorthwywyr cwympiadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Prif amcan y prosiect hwn yw gwella profiad cleifion i bobl sydd wedi cwympo, ond sydd heb gael eu hanafu neu sydd â mân anafiadau, gan sicrhau eu bod yn derbyn ymateb prydlon ac i arbed yr angen i'w derbyn i'r ysbyty yn ddiangen. Mae unedau cynorthwywyr cwympiadau wedi eu defnyddio i fynychu amrywiaeth o alwadau yn y categorïau oren a gwyrdd sy'n cynnwys pobl sydd wedi cwympo neu faterion eraill sy'n ymwneud â lles. Ers 1 Rhagfyr 2018, mae unedau cynorthwywyr cwympiadau wedi ymateb i bron i 1,800 o bobl, gydag amser ymateb cyfartalog o ddim ond 24 munud.

Ers mis Tachwedd 2018, rwyf wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i wasanaeth ambiwlans Cymru sydd wedi'i ganiatáu i recriwtio 16 o glinigwyr ychwanegol i weithio ar ei ddesg cymorth clinigol. Mae dros 80 y cant o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol hyn yn nyrsys. Maen nhw'n dod â'u profiad a'u harbenigedd i wella cymysgedd sgiliau a chapasiti'r gwasanaeth. Recriwtiwyd mwy o uwch glinigwyr hefyd i ymgymryd â swyddogaethau goruchwylio.

O ganlyniad i'r gwelliant hwn i swyddogaeth y ddesg cymorth clinigol, llwyddodd gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddatrys dros 16,000 o alwadau dros y ffôn rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Mawrth 2019. Mae hyn wedi golygu bod miloedd o bobl yn cael eu trin yn y gymuned heb fod angen mynd â nhw i ysbyty. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru ar hyn o bryd yn ystyried y lefelau staffio gorau posibl i'w alluogi i ymdrin â hyd at 12 y cant o gleifion dros y ffôn.

Er i'r adolygiad ganfod bod y mwyafrif clir o bobl yn teimlo bod cael yr ymateb gorau i'w cyflwr yn bwysicach, hyd yn oed os nad dyma'r ymateb cyflymaf, cydnabuwyd y gall aros am ambiwlans fod yn amser pryderus i gleifion a'u teuluoedd. Er mwyn gwella'r dewis i gleifion a lleihau pryderon cleifion, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cyflwyno sgript newydd ar gyfer y rhai sy'n derbyn galwadau ar adegau o alw uchel i helpu i roi syniad i alwyr pa mor hir y gallant ddisgwyl aros cyn cael ymateb.

Bydd y defnydd o'r sgript newydd yn cael ei fonitro a'i adolygu gyda'r bwriad o'i gyflwyno'n ehangach. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn ategu ei ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i gleifion. Mae tîm y rhaglen hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau iechyd cymuned, y Gymdeithas Strôc a'i grwpiau cleifion lleol, a phartneriaid GIG Cymru i ddatblygu mesurau sy'n rhoi mwy o gyd-destun i amseroedd ymateb ambiwlansys i bobl sy'n cael strôc. Rwy'n disgwyl i'r rhain fod ar gael ar gyfer gaeaf 2019-20. Bydd unrhyw fesurau a ddatblygir yn cael eu cynllunio i'w hadrodd i'r cyhoedd.

Atgyfnerthodd yr adolygiad oren fod yn rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans sicrhau bod yr adnoddau sydd wedi'u cynllunio yn ddigonol i ateb y galw disgwyliedig. Mae'r ymddiriedolaeth wedi comisiynu adolygiad o gapasiti a galw i lywio'r gwaith o gyflunio adnoddau a staffio ledled Cymru yn y dyfodol, ac i wella cydnerthedd gwasanaethau yn ystod cyfnodau o alw uchel. Disgwylir i'r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi eleni, a chaiff ei ystyried yng nghyfarfod y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys ym mis Hydref.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cynnal ymarfer mapio i ddangos pa wasanaethau sydd ar gael ledled Cymru. Dylai hyn helpu i nodi lle y ceir gwasanaethau y gellid ac y dylid eu gweithredu i gefnogi gwaith ar osgoi derbyn i ysbytai. Rwy'n disgwyl i'r ymarfer mapio hwn fod yn gatalydd ar gyfer mwy o gysondeb o ran llwybrau gofal ledled Cymru.

Mae'n amlwg bod rhagor o waith i'w wneud o hyd i helpu i gyflawni argymhellion yr adolygiad oren. Fodd bynnag, mae camau cynnar wedi'u cymryd i leihau amserau ymateb nodweddiadol i alwadau oren, i leihau amseroedd aros rhy hir i gleifion, ac i wella'r profiad i rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau.

Byddaf, wrth gwrs, yn hapus i roi diweddariad pellach i'r Aelodau yn yr Hydref.

18:25

Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad heddiw am yr adolygiad oren, sy'n dangos gwelliannau cadarnhaol yn fy marn i. Rydym wedi edrych ar hyn o'r blaen, dros y misoedd diwethaf. Mae gennyf rai cwestiynau ac, wrth gwrs, nid ydym ni byth yn mynd i allu trafod yr adroddiad oren heb grybwyll yr hyn sy'n digwydd i bobl sy'n dioddef strôc.

Nawr, rydych chi eisoes wedi sôn eich bod yn gweithio gyda'r gwahanol sefydliadau a'r gwasanaeth ambiwlans i ystyried hynny, ond rwy'n credu mai fy mhryder i yw hyn: rwy'n cofio'n glir cyfarfod a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru a gyda llefaryddion y gwrthbleidiau, tua thair blynedd yn ôl, i drafod, pryd y gwnaed y newidiadau i'r meini prawf coch, oren a gwyrdd gyntaf. Ac roedd yr holl sôn am lwybrau clinigol, a pha mor anhygoel o bwysig oedd hi, pe byddai rhywun yn cael strôc, na fyddai angen iddo fynd i'r categori coch oherwydd y byddai'n gallu dilyn llwybr clinigol a fyddai'n dod ag ef yn syth at y drws neu at y gwely lle'r oedd angen iddo fod er mwyn goroesi strôc—ac nid dim ond i'w oroesi, ond i'w oroesi'n dda, sy'n bwynt pwysig iawn, rwy'n credu, i'w wneud.

Eto i gyd, pan fyddaf yn siarad â staff ambiwlans a'r gwasanaeth ambiwlans, maen nhw'n dweud nad yw'r llwybrau clinigol hyn yn bodoli o hyd, mewn gwirionedd. Mae staff yn dweud wrthyf o hyd eu bod yn mynd â rhywun yn y pen draw, eu bod yn dal i fynd drwy'r adran achosion brys neu'r uned derbyniadau critigol, a'u bod yn dal heb ddatblygu'r llwybrau i'w cael i'r lle iawn yn ddigon cyflym. Felly, roeddwn i eisiau gofyn ichi efallai roi ychydig mwy o esboniad am yr adolygiad hwn, ynglŷn â sut y bydd yn cael ei ddehongli. Ac a fyddwch chi'n rhoi eich ffydd yn y Gymdeithas Strôc, sydd bellach yn gofyn i Gymru ddatblygu'r dull a ddefnyddir gan y GIG yn Lloegr, lle bydd system newydd yn eich tracio chi o'r alwad gyntaf i'r gwasanaeth 999 i gael y driniaeth briodol, a gosod targed i hynny? Oherwydd, rwy'n credu, os nad ydym ni byth yn mynd i roi pobl sy'n dioddef strôc yn y categori coch hwnnw, neu os nad ydych chi byth yn mynd i'w rhoi yn y categori hwnnw, mae'n rhaid bod yna sefyllfa wrth gefn sy'n eu diogelu, oherwydd fe wnes i'r pwynt yn gynharach—ac rwy'n mynd i'w ddweud eto, oherwydd rwy'n credu ei fod yn hanfodol—nid yw goroesi'n ddigon da, ond mae'n rhaid i ni ei oroesi'n dda.

Ac, wrth gwrs, nid dim ond strôc sydd â llwybrau clinigol; mae nifer o feysydd clir iawn lle y gall pobl sydd ar ymateb oren fynd drwy lwybr clinigol yn syth i'r man lle y mae angen iddyn nhw fod, yn hytrach na thagu ein hadrannau brys sydd eisoes o dan bwysau. A oes gennych chi farn ynghylch pryd y bydd y llwybrau clinigol hyn yn dwyn ffrwyth o'r diwedd—cawsant eu trafod dair blynedd yn ôl—a sut y cânt eu nodi? A, choeliwch fi, Gweinidog, rwyf wedi cyflwyno rhai ceisiadau rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd, i wasanaeth ambiwlans Cymru a rhai cwestiynau cyffredin i chi er mwyn ceisio mynd at wraidd y mater hwn, ac ni all neb, neb o gwbl, fynd at wraidd y mater. Felly, rwy'n credu nad yw'r wybodaeth ar gael, a hoffwn gael sicrwydd gennych y gallwch chi wneud rhywbeth ynghylch hyn, i sicrhau cysondeb ac ansawdd yn y gallu i gael gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru ar gyfer pobl yr adolygiad oren sy'n mynd drwy lwybrau clinigol. Mae eich datganiad yn crybwyll yn fyr iawn, iawn y ffaith ein bod yn mynd i fod yn gwneud ymarfer mapio i edrych ar adnoddau ac i ystyried materion eraill er mwyn, yn y bôn, os mynnwch chi, ddiogelu gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer y dyfodol wrth symud ymlaen. Roeddwn i'n synnu'n fawr na wnaethoch chi sôn ryw lawer am y staff yn hyn o beth, oherwydd, wrth gwrs, boed yn goch, yn oren neu'n wyrdd, mae angen i'r staff fod yno i wneud y gwaith ac mae salwch staff yn un o'r pwysau mwyaf ar Ymddiriedolaeth y GIG. Chwe mis yn ôl gwnaethoch ddweud eich bod yn disgwyl i Ymddiriedolaeth y GIG weithio gyda phartneriaid i gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael â hyn, ac eto mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 1 y cant arall mewn absenoldeb oherwydd salwch, sy'n llawer mwy na nifer absenoldebau byrddau'r GIG. Felly, pa mor gyflym y byddech chi'n disgwyl gweld newidiadau o ran rheoli absenoldebau staff? Pa mor gyflym y byddech chi'n disgwyl gweld cymorth yn cael ei roi i'r gweithlu ambiwlans i'w ddefnyddio i ostwng y gyfradd absenoldeb? A wnewch chi amlinellu'r rhwystrau i ymdrin yn gyflym â'r rhesymau sydd y tu ôl i gyfraddau uchel o absenoldeb staff yn yr ymddiriedolaeth? Ac a fyddwch chi'n gallu rhoi syniad inni pryd y gallech chi ddod yn ôl atom ni â newyddion cadarnhaol am y mater penodol hwn?

Yn olaf, gwn nad yw'n gyfan gwbl o fewn cylch gwaith yr adolygiad oren yn unig, ond ni allwn siarad am y ffordd yr ydym ni'n darparu gofal coch, gofal oren a gofal gwyrdd o ansawdd da gan wasanaeth ambiwlans Cymru heb grybwyll yr amseroedd aros a welwn yn ein hadrannau achosion brys. Mae criwiau ambiwlans yn dal i nodi oedi sylweddol o ran trosglwyddo cleifion i'r ysbyty. Hoffwn wybod, Gweinidog, pa strategaeth yr ydych chi'n ei defnyddio i sicrhau bod byrddau iechyd a'r ymddiriedolaeth yn gweithredu'r camau ar unwaith yr oeddech chi'n eu disgwyl chwe mis yn ôl. Rydym ni eisoes yn gwybod ein bod ni'n colli miloedd ar filoedd ar filoedd o oriau staff i'r broses o drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Heno, bydd ITV Cymru yn darlledu adroddiad bod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn colli'r hyn sy'n cyfateb i 15 o shifftiau ambiwlans llawn y dydd y tu allan i adrannau achosion brys, a bod criwiau wedi treulio 65,000 o oriau yn 2018 yn aros i ollwng cleifion mewn ysbytai, ac rydym yn clywed hanesion am gleifion sydd ar alwad oren yn cyrraedd yr ysbyty o'r diwedd, yn cael eu derbyn i gael triniaeth ac yna'n cael eu rhoi yn ôl yn yr ambiwlans gan nad oes unman arall iddyn nhw fynd. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn gwybod beth fyddech chi'n gallu ei wneud i geisio cywasgu'r amser hwnnw. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad am y ffaith eich bod yn teimlo bod hyn yn gwella, ond mae arnaf ofn nad yw'r ystadegau'n cadarnhau'r haeriad hwnnw'n dda iawn.

18:30

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt olaf, a dweud y gwir, gan ei fod yn dilyn ymlaen o rai o'r sgyrsiau a gawsom yn gynharach yn fwy cyffredinol am ein system gyfan, oherwydd bod yr oriau coll yn effeithio ar y staff a'r claf, maen nhw'n effeithio ar y gymuned, gan fod y perygl sy'n cael ei reoli os caiff ambiwlans ei ddal ar safle ysbyty yn golygu na fydd perygl posibl yn y gymuned lle gallai'r criw hwnnw o barafeddygon fod yn mynd iddo, yn cael ei reoli, ond mae hefyd yn ymwneud â bod pobl yn y lle anghywir yn aros mewn adrannau achosion brys nad ydynt yn gallu mynd i mewn i welyau os oes angen iddyn nhw fynd i mewn i welyau neu allu cael eu rhyddhau. Ac felly mae gennym ni nifer o bobl sy'n iach yn feddygol ar unrhyw adeg ym mhob un o'n hysbytai mawr, a dyna pam fy mod yn canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, gan fynd yn ôl at y rhan o'r pwynt o gynnal adolygiad seneddol sy'n cwmpasu iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y cylch diweddar o gyfarfodydd yr wyf i'n eu cynnal gyda phartneriaid iechyd a llywodraeth leol, bu pwyslais gwirioneddol ar oedi wrth drosglwyddo gofal. Ond, ar y pwynt hwnnw, dim ond rhan o'r system yw drws ffrynt ysbyty, ac, mewn gwirionedd, heb y cysylltiad â gofal cymdeithasol, ni fyddwn yn gweld y llif y mae ei angen arnom, ac felly nid yw'r rhwystredigaethau dealladwy iawn sydd gan y staff, p'un a ydyn nhw mewn adran achosion brys neu ambiwlans, ac sydd gan y cleifion eu hunain—nid yw'n mynd i gael ei wireddu.

Nawr, rydym wedi gweld cynnydd. Felly, mae'r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi symud ymlaen yn gadarnhaol ac maen nhw'n dal ar lefel isel yn hanesyddol, sy'n wrthgyferbyniad da i'r sefyllfa yn Lloegr, ond mae'r cynnydd a wnaed gennym ers cyflwyno'r model newydd mewn gwasanaethau ambiwlans wedi arafu, ac rwyf eisiau gweld cynnydd pellach yn cael ei wneud ar oriau coll, ond ni fydd hynny'n digwydd oni bai bod pwyslais ar y system gyfan, oherwydd fel arall byddwn ni ond yn symud y broblem o'r naill ran i'r llall, ac, os byddwn yn cynnwys capasiti ychwanegol mewn un rhan o'r system honno heb ddeall, mewn gwirionedd, y llif drwyddi, byddwn ni ond yn cronni pobl mewn rhan wahanol o'r system. Felly, mae'n rhan o'r rheswm pam fy mod wedi cymryd yr amser nid yn unig, flwyddyn ar ôl 'Cymru Iachach', i fynd i adolygu cynnydd yn fwy cyffredinol, ond rwyf eisiau edrych eto ar iechyd y system gyfan, oherwydd fel arall ni fyddwn yn ateb y broblem yn iawn mewn modd sy'n gwbl gynaliadwy.

O ran eich pwynt am staff, mewn gwirionedd, gwnaed cynnydd o ran absenoldeb salwch yn y bwrdd iechyd; bu gostyngiad dros y chwe mis diwethaf mewn cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch—o fewn yr ymddiriedolaeth ambiwlans, yn hytrach. Yr her, serch hynny, yw sicrhau bod hynny'n cael ei gynnal, oherwydd mae gan y gwasanaeth ambiwlans y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch uchaf o unrhyw ran o deulu'r GIG, fel y gwyddoch chi ac fel yr ydych chi wedi'i nodi'n rheolaidd o bryd i'w gilydd. Mae'n rhannol yn ymwneud ag iechyd meddwl ac absenoldebau sy'n gysylltiedig â straen. Mae hefyd yn ymwneud ag absenoldeb yn sgil anhwylderau cyhyrysgerbydol, fel un o'r ddwy ran fwyaf o hynny. Rydym ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn y gwasanaeth ambiwlans o ran lleihau absenoldebau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ond nid ydym wedi gweld y math o ostyngiad yr ydym ni eisiau ei weld ar absenoldebau sy'n gysylltiedig ag anhwylderau cyhyrysgerbydol. Felly, mae hynny'n ein helpu i wybod bod y cyflogwr yn gwybod am y maes y mae angen iddo fynd iddo i weld gwelliant pellach, oherwydd bu gwelliant o fwy na chanran o ran y gyfradd absenoldeb, ond mae ar gyfradd sylweddol uwch o hyd na chyfartaledd GIG Cymru.   

Ynglŷn â'ch pwynt am ofal strôc—ac, unwaith eto, mae'n rhan o'r system, nid y stori gyfan, ac rwy'n credu ei bod yn deg y ffordd y gwnaethoch chi ofyn y cwestiwn am y llwybrau clinigol. Maen nhw'n ymwneud â mwy na'r hyn sy'n digwydd pan fydd rhywun yn cael ei gludo gan griw o barafeddygon i ran o'r system ysbytai; mae'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd drwy ein system gyfan. Felly, mae'r archwiliadau staff, yr wyf yn cymryd diddordeb cyson ynddyn nhw, yn dweud wrthym ni pa un a yw pobl yn cael eu derbyn i'r rhan iawn o'n system, pa mor gyflym y cânt eu gweld pan fyddan nhw yno, ond hefyd y pwyslais y bydd angen inni ei gael ar adolygu rhai o'r mesurau hynny ynglŷn â pha mor gyflym y mae pobl yn cael gwasanaethau adsefydlu. Mae hynny'n rhan allweddol o fyw trwy strôc a byw'n dda ar ôl cael strôc hefyd.

Ac, yn y datganiad, rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu mesurau ac adrodd arnyn nhw'n gyhoeddus i ddeall bod rhan ambiwlans yr hafaliad hwnnw'n gwneud ei waith yn iawn, a bydd hynny wedyn yn cyfrannu at yr archwiliad staff ehangach y byddwn yn ei gyhoeddi ar y cyd â Choleg Brenhinol y Meddygon i ddweud wrthym am y gofal sy'n cael ei ddarparu yn ein hysbytai ac, yn hollbwysig, am y buddsoddiad pellach rwy'n siŵr bod angen inni ei wneud hefyd mewn gwasanaethau adsefydlu.    

18:35

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae'n dda gweld rhywfaint o gynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud, ac rwy'n siŵr yr hoffem ni i gyd longyfarch y staff sydd wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni hyn. Mae'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddisgwyl ganddyn nhw yn eithaf heriol ac rwy'n credu y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn bod rhywfaint o gynnydd cadarnhaol yn bendant.

Ychydig o gwestiynau penodol. Mae'r datganiad yn dangos gwelliant mewn amseroedd aros am alwadau oren o gymharu'r gaeaf diwethaf â'r gaeaf hwn, ond nid ydym ni'n cymharu tebyg â'i debyg, oherwydd, o ran y pwysau ac o ran natur y tywydd, cawsom aeaf oer iawn y gaeaf cyn yr un diwethaf, a gaeaf heb fod mor oer ac efallai ddim cymaint o bwysau y gaeaf cynt. Felly, hoffwn ofyn am sicrwydd gan y Gweinidog y bydd yn parhau i adolygu hyn, ac i sicrhau, wrth gymharu'r perfformiadau hynny o ran ymatebion nad yw'n cymharu orenau ag afalau, ein bod yn cymharu'r un peth dros gyfnod hirach o amser. Ac rwy'n siŵr, Llywydd, mai dyna fyddai ei fwriad, ac nid ydym ni ond yn sôn am gyfnod byr o amser yn y fan hyn, wrth gwrs.

Mae'r Gweinidog yn sôn am brynu offer codi modern ar gyfer cartrefi gofal. Rwy'n falch iawn o weld bod cymaint o gynnydd yn cael ei wneud. Dywed y Gweinidog ei fod yn deall mai dim ond pedwar cartref gofal sydd ar ôl nad oes ganddyn nhw'r cyfarpar hwnnw; hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â thrylwyredd natur y ddealltwriaeth honno, ac a oes yna gynlluniau—. A oes rhesymau penodol pam nad yw'r pedwar cartref hynny wedi gallu manteisio ar y cyfle hwn sydd wedi ei gynnig? A yw'n rhywbeth—? Oherwydd, mewn rhai adeiladau, gallai fod yn ymwneud â natur yr adeiladau—efallai nad yw'n ymarferol bosibl—neu a oes cynlluniau i lenwi'r bwlch hwnnw? Oherwydd, os oes, rwy'n credu y byddai hynny'n rhywbeth y gallai'r gwasanaeth a Llywodraeth Cymru fod yn falch iawn ohono, i fod wedi gwneud y buddsoddiad hwnnw—nid buddsoddiad anferth o ystyried, ond, fel y dywedodd y Gweinidog yn gywir, un a all wneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau'r cleifion unigol penodol hynny.

Rwy'n falch iawn o weld yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am nifer y galwadau—16,000 o alwadau, rwy'n credu—sydd wedi gallu cael eu datrys o'r ddesg, fel nad yw pobl wedi gorfod mynd i wasanaethau ysbyty a heb orfod cael ambiwlans o gwbl. Ond hoffwn hefyd roi hynny gyda'r pwyntiau a godwyd gan y Gweinidog ynglŷn â'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd, a'r pwynt ei fod yn dweud bod y mwyafrif o bobl yn teimlo bod cael yr ymateb gorau i'w cyflwr yn bwysicach, hyd yn oed os nad hwnnw oedd yr ymateb cyflymaf. Hoffwn yn awr ofyn i'r Gweinidog pa waith penodol sy'n cael ei wneud i fonitro sut y mae rhai o'r 16,000 o gleifion hynny na chafodd gyfle i weld ambiwlans, pan yr oedden nhw efallai wedi gwneud galwad, a'u bod wedi gwneud yr alwad honno yn y lle cyntaf gan feddwl mai ambiwlans oedd ei angen arnyn nhw—. Oherwydd os yw hynny—o'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym ni heddiw am yr hyn a fu'n ymateb cadarnhaol yn gyffredinol—yn cael ei adlewyrchu yn y grŵp hwnnw, rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn o ran tawelu meddyliau'r cyhoedd, pan fyddan nhw'n cael galwad yn ôl a chanlyniad yr alwad honno yw nad oes angen ambiwlans—. Rwy'n credu os yw hynny'n adborth da gan y grŵp hwnnw o gleifion—ac wrth gwrs, mae hynny'n llawer o gleifion, felly byddan nhw'n siarad â chymdogion ac yn y blaen—os ydyn nhw'n fodlon ar y rhan honno o'u profiad, rwy'n credu y bydd hynny o gymorth i gyflwyno rhagor o arloesi a fydd yn arbed pobl rhag mynd i'r ysbyty, sef y lle olaf y mae rhywun eisiau bod os oes modd osgoi hynny.

Fy mhwynt olaf—hoffwn ddychwelyd at y materion a gododd Angela Burns ynglŷn â strôc. Nawr, mae'n wir, wrth gwrs, fod y llwybr cyfan yn bwysig, hyd at y broses adsefydlu a gaiff pobl, ond bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn bod y Gymdeithas Strôc, sy'n siarad, yn bwysig iawn, dros gleifion a'u teuluoedd, yn dal i alw am fesur cyfnod cyfan, sef o'r adeg pan wneir yr alwad. Ac rwy'n credu y dylem ni fod—. Maen nhw'n rhesymol iawn, dydyn nhw ddim yn gofyn am roi strôc yn y categori coch, maen nhw'n deall ei fod yn wahanol. Y cyfnod cyfan hwnnw—. Ac maen nhw'n cyfeirio'n benodol, fel y gŵyr y Gweinidog, at y cyfnod o'r adeg y gwneir yr alwad i'r adeg y mae'r claf yn y gwely priodol yn yr ysbyty yn cael ei drin.

Mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y ffaith bod tîm y rhaglen yn parhau i weithio mewn partneriaeth, yn sôn am fesurau a gaiff eu datblygu, eu dylunio, i'w hadrodd i'r cyhoedd—yn falch iawn o glywed hynny. A wnaiff ef gadarnhau heddiw y bydd yn ystyried, yn y broses honno, a ddylai un o'r mesurau hynny fod yn fath o ddull gweithredu ar gyfer y cyfnod cyfan y mae'r Gymdeithas Strôc yn ei gefnogi? Nid wyf yn disgwyl, Llywydd, ei fod yn gallu gwneud yr ymrwymiad hwnnw heddiw, oherwydd byddai hynny'n rhagweld y gwaith y mae wedi'i sefydlu, ond a gaf i ofyn a yw'n bosibl iddo gadarnhau heddiw y posibilrwydd bod y mesur cyfnod cyfan hwnnw yn rhan o'r drafodaeth drwy'r broses a amlinellwyd ganddo?

18:40

O ran y pwynt olaf, wrth gwrs rwy'n disgwyl y bydd y Gymdeithas Strôc, wrth weithio mewn partneriaeth â theulu'r GIG, yn cyflwyno'r math o fesurau y maen nhw eisiau eu gweld. Dyna'r holl bwynt o'u cael i gymryd rhan yn y sgwrs, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cyflwyno eu safbwynt a bod gennym rywbeth sy'n ddefnyddiol yn y pen draw yn hytrach na mesur proses arall nad yw'n dweud llawer o werth wrth bobl o gwbl. Rydym ni wedi llwyddo i fod â llawer o fesurau proses yn y system gofal iechyd ac rwy'n awyddus nad ydym yn cyflwyno mesur proses arall sy'n cyfrif nifer neu weithgaredd ond nad yw'n dweud rhywbeth defnyddiol wrthym.

Ar eich pwynt arall ynglŷn â chymharu tebyg â'i debyg, gallaf gadarnhau ein bod yn cymharu tebyg â'i debyg. Rydym ni'n edrych ar nifer y galwadau, ac yn arbennig yn y categori oren mae'n werth nodi ein bod wedi derbyn 10 y cant yn fwy o alwadau ym mis Ebrill eleni nag ym mis Ebrill y llynedd. Felly, mewn gwirionedd mae cryn dipyn o weithgarwch yn digwydd ac mae hynny'n bendant yn effeithio ar alwadau yn y categori oren.

O ran y pwynt am yr ymateb gan y pedwar cartref gofal, gofynnais ynghylch y cwestiwn penodol hwn cyn gwneud y datganiad, ynglŷn â pham nad oedd pedwar cartref gofal wedi ymateb, ac mae'n fater o gyswllt yn unig—felly, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cysylltu ac wedi'i gwneud yn glir bod y cynnig ar gael i'r cartrefi gofal hynny nad oes ganddyn nhw offer codi modern, cyfoes, ac mae'n ymwneud yn syml ag ymateb y cartrefi hynny. Ond nid yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhoi'r gorau iddi ac maen nhw'n parhau i geisio cysylltu â'r cartrefi hynny. Pe byddem ni wedyn yn gallu dweud bod gennym ni gwmpas cyflawn byddai hynny'n beth cadarnhaol iawn i'w ddweud. Ond, o fewn y cartrefi gofal yng Nghymru, mae bod â dim ond pedwar ohonyn nhw yn arwydd o gyflawniad sylweddol ynddo'i hun.

Ac ar eich pwynt olaf, rwy'n credu, o'r pedwar pwynt y credaf i chi ofyn amdanyn nhw, o ran profiad cleifion, mae'n rhywbeth y mae gan brif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans wir ddiddordeb ynddo, o ran deall, yn yr holl fesurau y mae wedi'u hystyried ers inni gyflwyno'r model ymateb clinigol newydd, gyfoeth y data sydd ar gael i ddeall nid yn unig effaith y gwaith y mae ein staff yn ei wneud ar ganlyniadau a phrofiad ond wedyn i sicrhau eich bod yn nodi profiad y claf ei hun yn iawn. Felly, gallwch ddisgwyl gweld hynny, ac rwy'n disgwyl pan ddaw amser y bwrdd rhaglen i ben y byddwn yn deall mwy am farn y bobl sydd wedi derbyn y gwasanaeth ac sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth mewn gwirionedd, pan un a ydyn nhw wedi eu cludo i le arall i gael gofal iechyd, neu yn wir a ydyn nhw wedi gallu gwneud hynny yn eu cartrefi eu hunain.  

Gweinidog, a gaf i ofyn pam ein bod ni'n dal i fod yn y sefyllfa eithaf chwerthinllyd hon lle nad yw cyd-ymatebwyr y gwasanaeth tân yn cael eu galw allan i ddigwyddiadau oren, a hwythau wrth gwrs yn gallu atal y galwadau hynny rhag dwysáu'n alwadau statws coch drwy oedi, neu, mewn rhai achosion, dileu'r angen i gael ambiwlans neu ysbyty o gwbl? Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw'r frwydr hon ynghylch pwy sy'n talu am y galwadau yn rheswm digon da dros wrthod ymateb cyflym i'r etholwyr hyn er mwyn eu cael i ddiogelwch ac allan o boen. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf i pa gyfleoedd y mae'r rhaglen weithredu wedi'u canfod ar gyfer defnyddio cyd-ymatebwyr yn effeithiol i—rwy'n dyfynnu—'wella profiad a chanlyniadau clinigol' i'r rhai hynny a nodir yn rhai a elwir yn alwadau oren, a pham mai dim ond nawr y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cynnal ymarfer mapio ynghylch ble mae gwasanaethau ac adolygu capasiti a galw, yn enwedig gan fod cyd-ymatebwyr, drwy gydol yr amser yr wyf i wedi bod yn Aelod Cynulliad, wedi bod ar gael i lenwi bylchau?

18:45

Dydw i ddim yn credu bod yr adolygiad o gapasiti a galw, nac yn wir yr ymarfer mapio, yn ymwneud yn gyfan gwbl â chyd-ymatebwyr o gwbl, mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud â deall yn iawn ar draws y gwasanaeth cyfan, ar ôl cyflwyno model ymateb clinigol newydd, ar ôl bod ag amrywiaeth o ddulliau i ystyried treialu gwahanol ffyrdd o redeg y gwasanaeth—deall yr hyn sy'n bodoli mewn gwahanol rannau o'r wlad, a beth sydd â'r dystiolaeth orau i lwyddo mewn gwirionedd. Nawr, mae'n ddigon posibl y bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â gwneud gwell defnydd o gyd-ymatebwyr cymunedol a sefydliadau eraill. Rydym ni'n ystyried yr uned cwympiadau y soniais amdani yn y datganiad hefyd. Mae cynlluniau treialu  wedi bod yn ystyried gwahanol fodelau i ddarparu gwasanaeth cwympiadau. Felly, mae'n ymwneud â deall ble mae'r dystiolaeth a sut mae cael mwy o gysondeb. A gallai'r gwasanaeth tân ac achub fod yn rhan o hynny, ond nid yw hyn yn ymwneud â diffyg parodrwydd neu ddiffyg awydd i fod eisiau perthynas â'r gwasanaeth tân ac achub. Mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n gwneud y defnydd gorau o sgiliau a gallu pobl, o ran gwerth i bwrs y wlad a deall beth yw'r map swyddogaethau a'r gallu cytundebol i ddefnyddio staff tân ac achub mewn ffordd wahanol. Oherwydd mae gwahaniaeth barn â chynrychiolwyr y gweithlu yn y gwasanaeth tân ac achub ynghylch a yw eu swyddogaethau a'u cyfrifoldebau cytundebol yn golygu y gallai ac y dylai fod yn ofynnol iddyn nhw weithredu yn y modd hwn. Nawr, rydym yn agored, o safbwynt iechyd, i fod â phartneriaeth briodol â'r gwasanaeth tân ac achub, i ddeall cost hynny a gwerth hynny, yn bwysicach fyth, ond mae angen rhywfaint o gynnydd ar yr ochr tân ac achub hefyd. Rwy'n credu, yn bersonol, y byddai o gymorth i gryfhau a chynnal niferoedd y staff yn y gwasanaeth tân ac achub, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni barchu'r ffaith bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda chynrychiolwyr yn y gweithlu, yn ogystal â'n dealltwriaeth o sut y caiff gwerth cyhoeddus ei ddefnyddio'n briodol.

8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Yr eitem nesaf yw eitem 8, ond mae'r eitem yma wedi ei gohirio tan 11 Mehefin, sy'n dod â ni at ddiwedd ein trafodion am y prynhawn yma.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:47.