Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

27/03/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Iawndal Ariannol i Bysgotwyr Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o iawndal ariannol sydd wedi'i roi i bysgotwyr Cymru dros y pum mlynedd diwethaf o dan gronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop ar gyfer potiau pysgota newydd? OAQ53661

Diolch. Nid yw cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn darparu iawndal ariannol. O dan erthygl 38 o'r gronfa, gall pysgotwyr wneud cais am grantiau ar gyfer buddsoddi ar raddfa fach mewn offer dethol, gan gynnwys potiau pysgota. Nifer fach o geisiadau yn unig sydd wedi dod i law hyd yma. Mae'r rhain yn aros am gymeradwyaeth derfynol.

O'r gorau. Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Ond mae 90 y cant o'r pysgodfeydd yng Nghymru yn bysgota potiau ac fel pob math arall o offer pysgota, gall potiau pysgota gael eu colli yn y môr a gallant barhau i ddal rhywogaethau targed a rhywogaethau nad ydynt yn rhai targed heb unrhyw obaith o gael eu hadfer, rhywbeth a elwir yn bysgota anfwriadol. Ar hyn o bryd gwneir y rhan fwyaf o botiau pysgota â chortynnau plastig, ac nid yw'n fioddiraddiadwy ac mae'n aros yn y môr am filoedd o flynyddoedd. Hefyd, nid oes hatshus dianc ar y mwyafrif o'r potiau a fyddai'n galluogi'r ddalfa i ddianc ar ôl amser penodol pe bai'r pot yn cael ei golli, a phan nodir bod potiau pysgota wedi'u colli, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, gall y pysgotwyr wneud cais am iawndal.

Weinidog, a fyddech yn ystyried gweithredu amod bod potiau newydd y telir amdanynt allan o arian Llywodraeth Cymru neu arian o gronfa gyhoeddus yn cael eu gwneud o ddeunydd bioddiraddiadwy a bod ganddynt hatshus dianc fel nad ydynt yn cael cymaint o effaith ar ecosystem y môr, ac a fyddech hefyd yn ystyried cyflwyno system dagio sy'n ei gwneud hi'n bosibl adfer y potiau coll hyn?

Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, nid ydym yn darparu iawndal ariannol o'r gronfa, ond fe wnaethom sefydlu grant adnewyddu potiau pysgod cregyn yn ôl yn 2013-14 ar ôl y stormydd gaeafol hynny. Sefydlwyd hynny gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pysgotwyr i gael offer newydd yn lle'r hyn a gollwyd. Nid oes unrhyw botiau wedi'u prynu o dan gronfa'r môr a physgodfeydd ar hyn o bryd. Bydd gwiriadau priodol yn cael eu rhoi ar waith i gadarnhau addasrwydd unrhyw offer newydd, ond credaf y dylid canolbwyntio ar hatshus dianc. Rwy'n meddwl bod hynny'n wirioneddol bwysig, ac yn sicr gallwn edrych ar fesurau cynaliadwyedd eraill, yn hytrach na'r deunydd a ddefnyddir wrth greu'r offer. Ond yn amlwg rydym newydd ddechrau ymgynghori ar 'Brexit a'n moroedd', a chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallem edrych arno mewn polisi pysgodfeydd yn y dyfodol.

Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig fod cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer diwydiant pysgota Cymru yn cyrraedd pysgotwyr Cymru mewn gwirionedd. Felly, mae'n hanfodol fod unrhyw gyrff sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar ran diwydiant pysgota Cymru yn awr neu yn y dyfodol, yn dryloyw ac yn glir yn y ffordd y maent yn gwario arian. Yn yr amgylchiadau hyn, a allai'r Gweinidog ddweud wrthym pa fesurau y mae wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod arian trethdalwyr a roddir i sefydliadau yn gwbl dryloyw? A all ddweud wrthym sut y mae ei hadran yn mynd ati i sicrhau diwydrwydd dyledus pan ddarperir arian i sefydliadau o'r fath?

Mae'r holl arian yn y ffordd a awgrymwch yn hollol dryloyw, a gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru yn arbennig. Gallaf yn bendant eich sicrhau fod yr holl arian yn dryloyw. Mae Cymdeithas Pysgotwyr Cymru yn cydymffurfio'n llwyr â'r holl faterion monitro. Rwy'n gwrthwynebu'n llwyr yr hyn a roddwyd ar Twitter heb fod yn hir yn ôl ac rwy'n gweithredu mewn perthynas â'r honiadau hynny. Mae monitro trwyadl tu hwnt yn digwydd, ac nid oes ond angen i chi fynd i Dŷ'r Cwmnïau i weld bod yr holl wybodaeth yno.

Dyfodol Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru? OAQ53653

Diolch. Fel y nodir yn y cynllun gweithredu ar adfer natur, mae ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol yn allweddol i'n cyfres o safleoedd gwarchodedig ar gyfer cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â bioamrywiaeth. Maent yn allweddol i gydnerthedd rhwydweithiau ecolegol, diogelu rhywogaethau a chynefinoedd, a darparu manteision enfawr i'n lles yng Nghymru.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog, a nodaf y gair allweddol a ddefnyddioch—'craidd' i'ch polisïau. Ond efallai fod llawer o'r Aelodau—yr holl Aelodau rwy'n credu—wedi derbyn y llythyr gan gyn-gyflogeion sydd wedi ymddeol o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill sydd â diddordeb yn y maes penodol hwn, sy'n tynnu sylw at yr hyn y credant sy'n ddiffyg hyder yn y modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru, ac yn cwestiynu'r hyfywedd yn y dyfodol oni bai bod yna newid cyfeiriad. A ydych yn rhannu'r pryderon y mae'r cyn-aelodau hyn o staff uwch sydd wedi ymddeol o sefydliadau natur amrywiol wedi tynnu sylw atynt? Credaf fod y Gweinidog wedi cael copi o'r llythyr. Ac os ydych yn rhannu'r pryderon hynny, a fyddwch yn eu dwyn i sylw Cyfoeth Naturiol Cymru yn uniongyrchol, ac a oes gennych unrhyw adborth y gallwch ei roi inni fel Aelodau, y gallwn gael hyder y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i feirniadaeth o'r fath?

13:35

Cefais gopi o'r ohebiaeth, a ddoe, rwy'n credu, ysgrifennais yn ôl at y dyn a luniodd y llythyr gwreiddiol. Nodais y pryderon; ni fuaswn yn dweud fy mod yn eu rhannu. Fodd bynnag, pan fydd rhywun yn ysgrifennu ataf yn nodi pryderon o'r fath, rwyf bob amser yn gofyn i fy swyddogion edrych arnynt ar fy rhan i ddechrau, felly byddant yn trafod y pwyntiau a gododd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac yn sicr, os oes unrhyw bryderon y credaf fod angen imi fynd i'r afael â hwy, byddaf yn eu dwyn i sylw cadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd. Yn amlwg, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli ein gwarchodfeydd natur cenedlaethol. Unwaith eto, rwy'n credu eu bod yn dryloyw iawn o ran sut y maent yn eu rheoli. Credaf hefyd eu bod yn nodi'n glir yn eu strategaethau sut y gallant wella'r gwaith o'u rheoli. Felly, byddaf yn cadw llygad agos iawn ar hyn, ac os teimlaf reidrwydd i roi camau ar waith, byddaf yn gwneud hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Diolch, Lywydd. Nôl ar 7 Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, Weinidog, pan glywon ni y newyddion bod Arolygiaeth Gynllunio Lloegr a Chymru yn bwriadu cael gwared â rôl cyfarwyddwr gweithredol Cymru, fe gytunoch chi â fi ei bod hi'n hen bryd i ni gael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru. Rwy'n credu mai 'nawr yw'r amser' yw'r hyn ddywedoch chi fan hyn yn y Siambr. Ers hynny, allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau rŷch chi wedi eu cymryd i wireddu bwriad Llywodraeth Cymru i greu arolygiaeth annibynnol i Gymru?

Wel, yn amlwg, nid wyf wedi bod yn gyfrifol am gynllunio ers i'r Llywodraeth newydd ddod i fodolaeth ddechrau mis Rhagfyr. Perthyn i bortffolio Julie James y mae hynny bellach.

Wel, allwch chi gadarnhau, felly, mai dyna yw polisi'r Llywodraeth yn dal i fod? Oherwydd chi oedd y Gweinidog ar y pryd, a byddwn i yn gobeithio bod ymrwymiadau a wnaethoch chi yn rhai y byddai'r Llywodraeth yn ymlynu atyn nhw. Felly, byddwn i'n hoffi clywed hynny fel ateb i'r cwestiwn yma.

Maes arall, wrth gwrs, lle mae angen i Gymru gael mwy o ddylanwad a mwy o afael ar ei dyfodol ei hunan, yn fy marn i, yw ynni, a byddwn i'n wastad yn galw am ddatganoli mwy o bwerau. Ond fe gyhoeddwyd adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn ddiweddar, ar ailegnïo Cymru, ac, yn fy marn i, mae hwn yn cynnig sail gadarn ar gyfer datblygu polisi ynni sy'n addas i bwrpas fan hyn yng Nghymru. Dwi'n croesawu yn enwedig y pwyslais ar berchnogaeth gymunedol fel rhywbeth arbennig o bositif, a dwi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn dweud, erbyn 2020, eich bod chi am i brosiectau adnewyddadwy newydd gael elfen o berchnogaeth leol. Wel, wrth gwrs, mae galwad fan hyn, yn yr adroddiad yma, i bob cynllun dros 5 MW gael rhwng 5 y cant a 33 y cant o berchnogaeth leol. Felly, byddwn i yn gofyn a ydy hwnna yn rhywbeth y byddai'r Llywodraeth yn barod i'w fabwysiadu. Ac, yn ehangach wrth gwrs, pa elfennau eraill o'r adroddiad yma sy'n apelio atoch chi, a sut ydych chi, yn wir, yn mynd i fynd ati i sicrhau bod elfennau o'r adroddiad yn cael eu gwireddu?

Os caf fynd at y pwynt cyntaf, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw newid yn y polisi, ond byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, Julie James, ysgrifennu atoch i roi'r sicrwydd hwnnw ichi.

Mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, bydd Llyr Huws Gruffydd yn ymwybodol iawn o'r targedau a bennwyd gennyf ar gyfer ynni adnewyddadwy 12 mis i fis Rhagfyr diwethaf, ac yn amlwg, mae perchnogaeth gymunedol yn chwarae rhan enfawr yn hynny. Rwy'n hapus iawn gyda nifer o'r prosiectau a roddwyd ar waith ers i mi fod yn y portffolio. Yn amlwg, os ydym am gyrraedd ein targedau, mae perchnogaeth ynni cymunedol yn elfen enfawr i'w chwarae. Ac rwyf wedi bod yn awyddus iawn i weld swyddogion yn gweithio gyda grwpiau, oherwydd mae'n bwysig fod rhywun i ddal eu llaw—mae mwy o angen hynny ar rai cymunedau nag eraill—ond credaf y dylai'r cyngor fod yno. Rwy'n ymwybodol o adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, ac rwy'n sicr yn edrych ar beth y gallwn ei ddefnyddio ohono i'n helpu i gyrraedd ein targedau.

Wel, byddwn i'n gofyn i chi wneud mwy na dim ond pigo mas elfennau; byddwn i'n awyddus i weld hwn yn ffurfio sail ar gyfer polisi ynni llawer mwy uchelgeisiol a radical efallai na'r hyn dŷn ni wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Ac yn yr ysbryd yna, byddwn i'n awyddus i chi fel Gweinidog fod yn arwain o'r blaen ar geisio mynd ati i weithredu llawer o beth sydd yn hwn. Oherwydd dwi'n grediniol bod yna gonsensws yn bodoli ar draws y pleidiau i ni fynd ymhellach nag y mae'r Llywodraeth wedi ei ddatgan y mae hi am fynd ar hyn o bryd. A dwi hefyd yn teimlo bod hwn yn cynnig y cynsail i ni wneud hynny. Felly, yn yr ysbryd hynny, a fyddech chi'n barod, fel dwi'n dweud, i arwain o'r blaen drwy efallai wahodd y pleidiau i ddod at ei gilydd i drafod y polisi ynni yng nghyd-destun yr adroddiad yma a'r sector ehangach, oherwydd rŷn ni wedi gweld adroddiadau fel hyn yn dod ac yn mynd? Hynny yw, dwi'n gwybod am adroddiadau gan bwyllgor amgylchedd y Cynulliad diwethaf— 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru', er enghraifft—sydd yn hel llwch. Dwi ddim eisiau gweld adroddiad yr IWA yn dioddef o'r un dynged. Ac felly, ar eich ysgwyddau chi, fel Gweinidog, dwi'n meddwl y mae'r cyfrifoldeb nawr i sicrhau bod llawer o beth sydd yn hwn yn cael ei wireddu, a dwi'n cynnig i chi gydweithrediad er mwyn trio symud ar hyd y llinellau yna.

13:40

Wel, rwyf bob amser yn hapus iawn i gydweithio. Nid wyf yn meddu ar bob un o'r syniadau da; nid oes neb. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cydweithio, ac yn sicr, rwyf wedi gweithio gyda chi a'ch rhagflaenydd ar y mater hwn. Credaf ein bod wedi dangos arweiniad a chredaf—. Pan eisteddais i lawr gyda swyddogion a rhanddeiliaid eraill er mwyn cyflwyno'r targedau hynny, cafwyd ychydig o godi aeliau ein bod yn rhy uchelgeisiol, ond credaf mai'r peth pwysicaf ynglŷn â thargedau yw (1) eu bod yn cael eu cyrraedd a (2) eu bod yn realistig. Nid ydych eisiau gosod targedau nad ydych yn mynd i'w cyrraedd. Ond wrth gwrs, targedau'n unig ydynt; gallwn ragori arnynt wrth gwrs.

Bellach mae gennym dros 67,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy ledled Cymru, sydd, unwaith eto, yn dangos o ddifrif sut rydym yn annog y prosiectau hyn. Unwaith eto, rydym yn darparu cyllid ac rydym yn darparu cyngor, ond rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi unrhyw bryd a gweld beth y gallwn ei wneud.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, rydych wedi cyflwyno'r cynigion ar gyfer rheoliadau newydd i leihau llygredd dŵr. Yn amlwg, mae pawb ohonom am weld amgylchedd gwell ac amgylchedd glanach. Mewn gwirionedd mae'r rheoliadau newydd hyn yn gopi union o'r rheoliadau parthau perygl nitradau, a chânt eu cymhwyso ar draws Cymru gyfan os cânt eu gweithredu. Pa asesiad a wnaethoch o'r effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol drwy unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol y gallech fod wedi'i gyflawni hyd yma?

Ar hyn o bryd rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Nid wyf yn derbyn mai copi union ydynt. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith manwl a wneuthum yn enwedig gydag undebau ffermwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn cyflwyno dull gwirfoddol o weithredu. Roeddwn yn awyddus iawn i gael dull gwirfoddol o weithredu ar y cychwyn. Yn anffodus, y llynedd, gwelsom gynnydd o oddeutu 200 y cant yn nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol, a chredaf fod hynny'n annerbyniol.FootnoteLink Credaf y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn cytuno ei fod yn annerbyniol a bod rhaid inni wneud mwy. Felly, yn anffodus, bu'n rhaid imi gyflwyno cynlluniau i roi'r rheoliadau newydd ar waith. Rwy'n dal i fod yn awyddus iawn i weithio gyda rhanddeiliaid a'r undebau ffermio—gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn enwedig. Mae yna bobl o'r NFU rwy'n parhau i weithio gyda hwy i weld beth arall y gallwn ei wneud. Ond credaf fod nifer y digwyddiadau llygredd mawr a welsom yn niweidio ein henw da yn fawr a chredaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno â hynny.

Ond mae'n peri pryder na wnaed unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol cyn i chi gyflwyno'r cynigion hyn, oherwydd does bosib na ddylid gwneud hynny i asesu, fel y dywedais wrthych yn gynharach, yr effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a allai fod i'r cynigion hyn. Ac mae'n frawychus iawn na chynhaliwyd unrhyw asesiad effaith, gan y gallai hyn gau llawer o fusnesau gwledig sy'n hyfyw ar hyn o bryd ac sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth ac yn cynhyrchu bwyd o safon uchel. Felly, mae'n siomedig iawn. Sut y gallwch amddiffyn y safbwynt hwnnw, Weinidog—na wnaethpwyd yr asesiad effaith rheoleiddiol cyn ichi wneud y cyhoeddiad?

Fel y dywedaf, gwnaed llawer iawn o asesu effaith. Cawsom ymgynghoriadau helaeth. Cefais fy nghyhuddo o beidio â chynnal ymgynghoriad. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyn i mi gael y portffolio yn 2016. Roeddwn am weithio i geisio canfod dull gwirfoddol o weithredu. Dyna oedd fy mlaenoriaeth yn bendant, ond ni allwn eistedd yn ôl a gwylio'r cynnydd yn nifer y digwyddiadau llygredd mawr. Bob penwythnos, roeddwn yn cael nifer o e-byst, fel Aelodau eraill, gyda lluniau o'r digwyddiadau hyn. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i geisio canfod ffordd ymlaen. Nid oeddwn am gyflwyno rheoliadau mor llym ag y bu'n rhaid i ni, ond yn anffodus, oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau, bu'n rhaid i mi wneud hynny.

Yn anffodus, mae'n ymddangos mai rheoleiddio drwy e-bost yw hyn, i fod yn onest, gyda stori i'r wasg, yn hytrach nag asesiad priodol, oherwydd yn amlwg, roedd y Llywodraeth, er clod iddi, wedi bod yn gweithio gyda'r diwydiant ac wedi nodi eu bod wedi cyrraedd trefniant boddhaol gyda'r diwydiant ynglŷn â sut y byddai dull gwirfoddol yn gweddu orau er mwyn mynd i'r afael â'r digwyddiadau llygredd hyn. Rwy'n derbyn y pwynt fod angen inni weithredu, ac mae'r diwydiant ei hun yn derbyn y pwynt hwnnw. Ond os ewch â hynny gam ymhellach a'ch bod yn eu gweithredu ar draws y wlad—ac maent yn gopi perffaith bron o reoliadau'r parthau perygl nitradau—pan oedd rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, megis Gogledd Iwerddon, wedi cyflwyno mesurau tebyg 10 mlynedd yn ôl—roedd pecyn cynhwysfawr o gymorth i ganiatáu i'r diwydiant wneud y newid hwnnw 60 y cant o gymorth gan y weinyddiaeth benodol honno yng Ngogledd Iwerddon—rhaid inni hefyd wneud yn siŵr fod y system gynllunio yn gweithio ar y cyd ac nad yw'n rhwystro'r gwelliannau hyn mewn gwirionedd. Felly, gan dderbyn y byddwch yn cyflwyno'r rheoliadau hyn, sut y byddwch yn ceisio gwneud yn siŵr fod y system gynllunio yn gweithio gyda'r diwydiant a'r rheoliadau newydd, ac yn bwysicach, fod yna gefnogaeth yno i wneud y newid y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi'i gyflwyno i helpu eu diwydiannau amaethyddol hwy?

13:45

Yn sicr nid oes unrhyw bolisi'n cael ei wneud drwy e-bost. Y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud yw bod y digwyddiadau llygredd hyn yn weladwy iawn, felly mae cael ffotograffau wedi'u hanfon atoch—ac rwy'n siŵr eich bod wedi eu cael; gwn fod undebau'r ffermwyr yn eu cael ac rwy'n gweld pwy sy'n cael eu copïo i mewn i'r negeseuon e-bost, felly gwn fod nifer o bobl yn y Siambr, mae'n debyg, wedi eu gweld—. Mae'n beth gweladwy iawn, ac mae'n niweidiol, ac yn enwedig—wyddoch chi, ar ôl Brexit, mae'n mynd i fod yn fwy niweidiol hyd yn oed. Ac rwy'n credu—. Bydd yn effeithio ar y gwaith sydd gennym ar y gweill, er enghraifft ar werthoedd brand cynaliadwy ar gyfer cynhyrchion Cymru, felly mae angen ei ddatrys ac mae angen ei ddatrys yn awr.

Mewn perthynas â chymorth, dywedais o'r dechrau un y buaswn yn hapus i ddarparu cymorth ariannol. Yr hyn nad wyf yn hapus i'w wneud yw i bobl sicrhau bod eu pyllau slyri yn cydymffurfio â'r gofyniad cyfreithiol. Dylai hynny fod wedi'i wneud beth bynnag. Ond os ydym yn cyflwyno'r rheoliadau hyn, rwy'n derbyn y byddai'n rhaid inni ddarparu rhyw fath o gymorth ariannol ac yn sicr byddaf yn parhau i edrych ar yr hyn y byddwn yn ei gyflwyno. Ond fel y dywedaf, rwy'n awyddus iawn i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid i weld a allwn gael dull gwirfoddol o weithredu ochr yn ochr â diwygio rheoleiddiol.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fis Gorffennaf diwethaf, deuthum â mater lladd heb stynio i sylw'r Gweinidog ac yn arbennig, sylwadau a wnaed iddi gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain, a dywedodd ei bod wedi cael trafodaeth â hwy ychydig wythnosau'n ôl a'i bod wedi gofyn i swyddogion edrych ar y wybodaeth yr oeddent wedi'i chyflwyno yn fanwl. Mae naw mis ers y cyfarfodydd hynny. Tybed a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, ac a yw hi wedi dod i unrhyw gasgliadau.

Cefais gyfarfod gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd heb fod yn bell yn ôl—cyn y Nadolig efallai—i drafod yr adroddiad diweddar ar ddulliau lladd a gynhaliwyd ganddynt i ganfod beth oedd y sefyllfa bresennol rhwng y diwydiant a darparu'r wybodaeth roeddent ei hangen i ddefnyddwyr allu gwneud dewisiadau gwybodus drwy drefniadau gwirfoddol. Ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa'n dal yr un fath: nid oes unrhyw ladd-dai cig coch yn lladd heb stynio yng Nghymru.

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Gweinidog newydd ei wneud, ond yn ddiweddar cefais brofiad annifyr o wylio ffilm o ladd-dy nad oedd yn stynio cyn lladd yn Lloegr, gyda lluniau erchyll o anifeiliaid yn cael eu cam-drin—eu cicio, eu trywanu, eu bygwth—cyn cael eu lladd yn y pen draw yn y ffordd fwyaf barbaraidd heb eu stynio. Nawr, cafodd hynny ei ddal ar deledu cylch cyfyng, felly roeddem yn gallu dod i wybod amdano. Ac er bod pobl yn dweud wrthym nad oes lladd-dai sy'n lladd heb stynio yng Nghymru, nid oes gennym deledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy ac mae'n bosibl fod golygfeydd o'r fath yn digwydd yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog roi camau ar waith yn awr i sicrhau bod teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ym mhob lladd-dy yng Nghymru?

Wel, yn amlwg, fe gyfeirioch chi at ladd-dy yn Lloegr. Mae gennym rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd yng Nghymru. Mae gennym reoliadau llym iawn. Mae yna nifer o fesurau rheoli yn ein holl ladd-dai; mae milfeddyg yn bresennol ym mhob lladd-dy. Mae gan y mwyafrif—pob lladd-dy mawr yng Nghymru yn sicr—deledu cylch cyfyng. Rwy'n edrych, ac rwyf wedi darparu arian i rai o'r rhai llai sydd heb deledu cylch cyfyng ac sy'n dymuno ei gael. Ymwelais â lladd-dy bach yn etholaeth y Llywydd yr haf diwethaf i weld y safonau drosof fy hun, a hoffwn ailadrodd bod gennym rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yng Nghymru. A gallaf ddweud wrthych, gyda'r archwiliadau eraill, nad oes angen teledu cylch cyfyng arnoch i wybod nad yw hynny'n digwydd yng Nghymru.

Nid wyf yn gwneud cyhuddiadau yn erbyn unrhyw weithredwyr lladd-dai yng Nghymru, ond rwy'n dweud, fel mesur rhagofalus, y byddai'n ddoeth symud tuag at sefyllfa lle mae gennym systemau teledu cylch cyfyng ac felly, fod tystiolaeth ddiymwad os yw anifeiliaid yn cael eu cam-drin, a dyna fesur rhagofal elfennol. Dywed y Gweinidog wrthyf yn aml pan fyddaf yn gofyn iddi ynglŷn â materion yn ymwneud â chynhesu byd-eang ei bod am i Gymru arwain y byd, er nad oes neb, mewn gwirionedd, yn dilyn. Ac er y gallem fabwysiadu'r safbwynt nad oes gennym broblem cam-drin anifeiliaid mewn lladd-dai ar hyn o bryd yng Nghymru, byddai'n ddoeth inni orfodi a darparu'r modd i gydymffurfio â gorfodaeth o'r fath i ladd-dai ddarparu cofnod o'r hyn sy'n digwydd yn y lleoedd hynny, fel y gall y cyhoedd yn gyffredinol, sy'n bryderus iawn ynghylch materion lles anifeiliaid mewn perthynas â lladd heb stynio, gael tawelwch meddwl ar gyfer y dyfodol y gellir ei ragweld—am byth, yn wir—na fyddwn ac na allwn ddatblygu problem o'r fath yng Nghymru.

13:50

Fel y dywedaf, ychydig iawn o ladd-dai yng Nghymru sydd heb deledu cylch cyfyng. Fe ddarparais arian. Yn sicr rydym yn edrych i weld a ddylem ei wneud yn orfodol; mae hynny'n rhywbeth rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Credaf fod y diwydiant ei hun wedi arwain yn y maes hwn, ac maent yn cyhoeddi canllawiau helaeth ar arferion da, ar ddiogelu lles anifeiliaid ar adeg eu lladd. Mae'r wybodaeth honno ar gael ar-lein, felly os oes unrhyw aelod o'r cyhoedd am ei weld, mae ar gael ar-lein.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

3. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch buddiannau amgylcheddol posibl datblygu morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ53658

Diolch. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am drwyddedu morol, ni allaf gynnig sylwadau ar brosiectau penodol, gan y gallai hynny niweidio fy rôl. Bydd cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gosod polisi ar gyfer datblygu ein moroedd yn gynaliadwy, ac mae wedi'i lywio gan asesiad cynaliadwyedd.

Weinidog, yn dilyn cyhoeddiad siomedig gan Lywodraeth y DU y llynedd i beidio â buddsoddi ym morlyn llanw bae Abertawe, mae'r cwmni sydd wrth wraidd y datblygiad wedi bod yn gweithio i edrych ar fodelau cyflawni gwahanol, yn ogystal â gwneud newidiadau i'r cynnig ei hun. Amcangyfrifir bod ychwanegu paneli solar arnofiol i'r morlyn, er enghraifft, yn cynyddu cynhyrchiant ynni'r cynllun o 572 GWh i tua 770 GWh. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol yn gyhoeddus o'r blaen ac yn barod i fuddsoddi yn y cynllun, ni wnaeth unrhyw sylw yn ddiweddar. A wnewch chi amlinellu i'r Siambr pa gamau rydych wedi bod yn eu cymryd dros y misoedd diwethaf i sicrhau y gellir cyflawni'r prosiect arloesol hwn ac y gellir cyflawni'r manteision amgylcheddol ac economaidd yn lleol?

Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr uwchgynhadledd ynni morol wedi'i chynnal fis Ionawr diwethaf—yn Abertawe rwy'n credu— ac wrth agor yr uwchgynhadledd honno, soniodd y Prif Weinidog am gefnogaeth y Llywodraeth i ddatblygu sector ynni morol cynaliadwy yma yng Nghymru, ac yn sicr, mae angen inni edrych ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, gwn fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ddwy waith, at Greg Clark, yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector ynni morol i'r DU, ac yn enwedig i Gymru, ac yn gofyn i'r DU ddarparu llwybr clir iawn i'r farchnad ar gyfer ynni morol. Credaf ei bod hi'n amlwg fod diffyg strategaeth Llywodraeth y DU mewn perthynas â morlynnoedd llanw ac ynni'r llanw yn rhwystr. Ceir adroddiad yn deillio o'r uwchgynhadledd ar gyfer Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd mis Ebrill rwy'n credu, ac yn sicr byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod ar gael i'r cyhoedd, a chredaf ei bod hi'n bwysig iawn inni edrych ar y technolegau sy'n datblygu, yn enwedig mewn perthynas ag ynni'r môr yng Nghymru. Rydym yn gefnogol iawn i fanteision economaidd morlynnoedd llanw, fel y dywedoch, a'r cyfleoedd i dyfu diwydiant morol hyfyw, a dyna pam yr oeddwn yn awyddus iawn i gael cynllun morol cenedlaethol.

Wel, credaf y byddem oll yn awyddus i glywed am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â morlyn llanw bae Abertawe—roedd hi'n wirioneddol ddiddorol clywed beth oedd gan Dai Lloyd i'w ddweud yno. Ond un o'r pethau sy'n parhau i fod yn anodd, wrth gwrs, yw cost yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn—y darpar forlyn—sy'n ystyriaeth berthnasol ar adeg pan fo Tata Steel, er enghraifft, yn cystadlu mewn amgylchedd byd-eang, lle mae cost ynni yn Ffrainc a'r Almaen, er enghraifft, yn rhan fechan iawn o'r hyn sy'n rhaid iddynt ei wario yma. Mae Tata'n gobeithio lleihau eu costau ynni, yn ogystal a'u heffaith amgylcheddol, drwy gynyddu capasiti eu cynhyrchiant pŵer eu hunain, ac mae ynni rhatach iddynt, wrth gwrs, yn golygu mwy o arian i fynd i'r afael â'r llygredd y maent yn ei gynhyrchu o ongl wahanol. A fyddech yn barod i bwysleisio yn y Cabinet fod yna resymau amgylcheddol yn ogystal â rhai economaidd dros wireddu uchelgeisiau Tata ar gyfer eu gwaith pŵer? Diolch.

Ie. Nid wyf yn meddwl bod angen imi bwysleisio'r pwynt. Yn sicr, rwy'n credu bod fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol o hynny, ac rwy'n credu fy mod i a Ken Skates yn mynd ar ymweliad ar y cyd â Tata ynglŷn â'r union fater hwn o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.

Cytunaf â phopeth y mae Suzy Davies newydd ei ddweud. Ond y cwestiwn rwyf am ei ofyn yw hwn: mae pawb ohonom yn derbyn bod y morlyn llanw yn brosiect buddiol mewn gwirionedd ac mae'r pethau a ddaw yn ei sgil a'r buddion a ddaw yn ei sgil yn rhywbeth y mae pawb ohonom am ei weld. Ond yn ogystal â manteision amgylcheddol, ceir heriau amgylcheddol, ac un ohonynt yn amlwg yw'r effaith ar bysgod. Nawr, gwn fod gan y cyrff pysgota yn fy ardal i a'r morlyn llanw eu hunain ddau fodel pysgota a oedd yn wahanol iawn ac yn eithaf pell oddi wrth ei gilydd. Pa gynnydd a wnaethpwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar edrych ar y modelau pysgota hynny? Oherwydd, os daw'n ôl i'r amlwg, nid ydym am i hynny gael ei weld fel canlyniad i beidio â bod wedi rhoi sylw i hyn ar yr adeg hon.

13:55

Na. Yn amlwg, roedd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo pan oedd morlyn llanw bae Abertawe dan ystyriaeth fel cynllun gan Lywodraeth y DU. Nid wyf yn ymwybodol o ba waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond rydych yn llygad eich lle: pe bai prosiect arall yn cael ei gyflwyno, byddai angen inni wybod pa fodel oedd yn darparu'r wybodaeth gywir. Felly, buaswn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo.FootnoteLink

Y Sector Coedwigaeth

4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu sector coedwigaeth sy'n economaidd lewyrchus yng Nghymru? OAQ53652

Diolch. Roedd fy natganiad ar 12 Mawrth yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r sector coedwigaeth. Yn ddiweddar, rydym wedi ymrwymo £2 filiwn ar gyfer cylch arall o'r cynllun buddsoddi mewn busnesau pren. Mae'r cynllun yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau sy'n ychwanegu gwerth i goedwigoedd ar gyfer gweithgareddau rheoli coetiroedd, cynaeafu a phrosesu pren.

Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Un o'r pwyntiau a roddais i chi yn y datganiad a wnaethoch yn ddiweddar oedd y gallu hwn i beidio â chael cyfnodau yn y rownd geisiadau ar gyfer Glastir a chael cyfnod agored yn unig lle gallai pobl wneud cais am gymorth i blannu coedwigoedd newydd drwy gydol y flwyddyn. A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn? Oherwydd roedd yn faes na chyffyrddwyd arno mewn ymateb gennych chi yn y datganiad hwnnw, ac mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi gwneud hyn a bu'n effeithiol iawn wrth ddatblygu'r sector coedwigaeth yn y rhannau hynny. Felly, a allech roi syniad inni heddiw: a ydych yn bwriadu cefnogi cael gwared ar y cyfnod ymgeisio yn y modd hwn a chael ceisiadau drwy gydol y flwyddyn?

Mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n hapus iawn i'w ystyried. Roeddwn yn meddwl fy mod wedi dweud hynny yn y datganiad. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn fod angen inni gefnogi'r sector coedwigaeth mewn ffordd fwy arloesol o bosibl, ac mae'n sicr yn rhywbeth y buaswn yn hapus i'w wneud. Ond mae gennym rownd gyllido newydd ar gyfer adfer coed Glastir yn agor ddydd Llun, a bydd mwy o fanylion ynghylch lefelau cyllid yn cael eu cyhoeddi ar 1 Ebrill. Hefyd, bydd rownd gyllido newydd ar gyfer creu coetiroedd Glastir. Felly, rydym wedi ymrwymo i'r ddau hynny, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn hapus iawn i edrych arno.FootnoteLink

Safonau Amgylcheddol ar ôl Brexit

5. Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hybu'r safonau amgylcheddol uchaf ar ôl Brexit? OAQ53656

Diolch. Rwy'n ymrwymedig i sicrhau na fydd unrhyw gamu'n ôl yn y safonau amgylcheddol o ganlyniad i Brexit. Rwyf am i Gymru gynnal ein safonau presennol, ac adeiladu arnynt hefyd. Yr wythnos diwethaf, lansiais ein hymgynghoriad ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu ar ôl Brexit, i ddod i ben ar 9 Mehefin.

Credaf ein bod yn croesawu'n fawr y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym fesurau diogelu cadarn ar waith a'n bod yn gwella'r mesurau diogelu hynny ar ôl Brexit mewn gwirionedd. Ond wrth inni siarad heddiw, nodwn fod yna bobl ifanc i fyny yn yr oriel yn edrych i lawr ar ein trafodion, ac iddynt hwy, peth o'r amddiffyniad mewn mesurau diogelu ar gyfer ein hamgylchedd naturiol fydd gallu dinasyddion i herio Llywodraethau—Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac eraill. Ar hyn o bryd, mae gennym y gallu hwnnw, fel y gwelsom drwy sefydliadau fel Client Earth, sy'n herio nid yn unig Llywodraeth y DU, ond Llywodraethau yn yr Eidal a Hwngari a mannau eraill hefyd, o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Felly, a allwn ddweud yn bendant ar hyn o bryd, Weinidog, y bydd dinasyddion a sefydliadau dinasyddion yn dal i allu herio Llywodraethau pan na fyddant yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau amgylcheddol?

Gallwn. Credaf fod ychydig bach o wybodaeth anghywir wedi'i rhoi. Yn amlwg, pan fyddwn yn gadael yr UE, ni fydd gan ddinasyddion y DU fynediad mwyach at weithdrefn gwyno'r dinasyddion, sy'n galluogi Comisiwn yr UE, fel y dywedwch, i weithredu ar eu rhan, gan gynnwys y gallu i gyfeirio achosion at Lys Cyfiawnder Ewrop. Fodd bynnag, gallant fynd â'u cwynion wrth gwrs at gyrff fel yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus ac at y Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac maent eisoes yn derbyn cwynion gan ddinasyddion. Ond credaf ei bod hi'n bwysig tu hwnt nad yw ein hawliau sy'n deillio ar hyn o bryd o'n haelodaeth o'r UE yn cael eu gwanhau. Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi ein hymgynghoriad ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol wedi inni adael yr UE. Rwy'n gofyn am farn ar beth y dylai corff goruchwylio allu ei wneud, ac mae'n bwysig iawn fod pobl yn cyfrannu at hynny. Felly, rwy'n annog Aelodau a'u hetholwyr i wneud hynny. Credaf fod angen inni wybod a ddylai corff allu cynnal ymchwiliadau, pa wybodaeth y byddai ei hangen arnynt pe baent yn gwneud hynny, asesu dilysrwydd cwynion, meddu ar y gallu i weithredu mewn achosion priodol, a gwneud argymhellion yn deillio o'u canfyddiadau. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni sicrhau nad oes unrhyw fwlch ar ôl gadael yr UE.

14:00

Weinidog, gwyddom y bydd cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn Lloegr, ac mae'r Bil amgylchedd drafft yn cynnwys cynigion ar gyfer swyddfa diogelu'r amgylchedd, rhywbeth y byddai gan ddinasyddion, mae'n debyg, hawl i’w gael—ac efallai fod hyn yn cyfateb i'r Comisiwn yn dadlau achos y dinesydd, sef pam, wrth gwrs, fod y math hwnnw o fynediad cyflym iawn at wasanaethau cyfreithiol mor effeithiol. Rydych wedi penderfynu ar ymgynghoriad, a tybed—ond rydych wedi dweud nad ydych, ar hyn o bryd, yn ffafrio dull gweithredu Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, a tybed a oes angen i chi ailfeddwl am y cwestiwn hwn ynglŷn â chorff gorfodi sy'n gallu mynd i’r afael â chwynion a gyflwynir iddo gan y dinesydd, yn hytrach na rhoi cyngor iddynt ynglŷn â dwyn achos llys. Nid yw'n hawdd i'r dinesydd wneud hynny mewn gwirionedd, ac mae sawl corff wedi dweud wrthym mai dyma sy'n allweddol i gadernid rheoliadau cyfredol yr UE.

Yn amlwg, bydd yr ymgynghoriad yn llywio’r polisi yn y dyfodol. Credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym fwlch llywodraethu gwahanol i Loegr. Felly, mae gennym Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwyf wedi cael rhywfaint o drafodaethau gyda Gweinidogion Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y mater hwn, ac yn sicr, os ydym o’r farn fod angen i ni edrych ar hyn ar ôl yr ymgynghoriad, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny. Mae'n hanfodol, fel y dywedais yn fy ateb i Huw Irranca-Davies, nad ydym yn gweld gwanhau o'r fath, nid yn unig yn ein safonau, ond yn ein hawliau hefyd.

Y Cynllun Gweithredu Adfer Natur

6. Sut y bydd cynllun gweithredu adfer natur arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rheoliadau strategaeth forol y DU? OAQ53648

Diolch. Y cynllun gweithredu adfer natur yw ein strategaeth fioamrywiaeth genedlaethol ar gyfer tir a môr, ac mae'n nodi ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yng Nghymru. Mae ei chwe amcan yn cefnogi strategaeth forol y DU a'n hamcanion i sicrhau a chynnal statws amgylcheddol da ein dyfroedd.

Weinidog, o gofio y bydd yr ymgynghoriad sydd ar y ffordd ar strategaeth forol y DU yn dangos nad yw'r DU wedi cyrraedd ei tharged 2020 i sicrhau statws amgylcheddol da ar gyfer y rhan fwyaf o'r 14 o ddisgrifyddion, nac unrhyw un o'r disgrifyddion sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, pa gamau y bydd Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad ydym yn y sefyllfa hon eto yn 2030?

Diolch yn fawr. Rwy'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni’r rhaglen drylwyr o fesurau a gyhoeddwyd yn ôl yn 2015 fel y maent yn berthnasol i Gymru, i barhau i weithio tuag at gyflawni a chynnal statws amgylcheddol da. Mae Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel gwlad sydd ar y blaen oherwydd ein dulliau o weithredu polisi a deddfwriaeth. Mae'r dulliau hynny'n canolbwyntio ar adeiladu a gwella ecosystemau cydnerth.

Rydym yn rhoi nifer o gamau cadarnhaol ar waith i gyflawni hyn. Rydym yn cefnogi’r gwaith o sicrhau strategaeth forol y DU, fel y dywedais. Rydym yn ymgorffori darpariaeth ar gyfer cydnerthedd bioamrywiaeth ac ecosystemau ar draws portffolios, gan gynnwys drwy'r polisi cenedlaethol ar adnoddau. Yn amlwg, cawsom ein cynllun morol drafft cyntaf, sy'n nodi hynny hefyd. Mae gennym y fframwaith rheoli rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig ar gyfer 2018-23, a’r gwaith o roi'r cynlluniau gweithredu blynyddol cysylltiedig ar waith, gan weithio unwaith eto gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod ein rhwydwaith helaeth o ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu rheoli'n effeithiol, ac mae hynny'n bwysig iawn ac yn parhau i gyfrannu at gadwraeth, gwellhad a chydnerthedd yr ardal forol. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gwblhau'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yn nyfroedd Cymru, ac fel rhan o’r prosiect parhaus i asesu gweithgareddau pysgota Cymru, rydym yn datblygu cynigion rheoli ar gyfer y gweithgareddau pysgota a asesir fel y rhai â'r potensial mwyaf i effeithio ar nodweddion safleoedd.

Weinidog, yn 2017, cynhyrchodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol adroddiad 'Glanhau Traethau Prydain'. Dangosodd yr adroddiad hwn fod dros 670 darn o sbwriel wedi eu casglu dros bob 100m o draeth yng Nghymru, cynnydd o 11 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae sbwriel o'n traethau ac yn ein moroedd yn cynyddu. Mae hefyd yn bygwth maglu, mygu a lladd ein bywyd gwyllt morol o dipyn i beth. Weinidog, pa gynnydd a wnaed ar ddatblygu strategaeth i atal a lleihau llygredd yn ein hamgylchedd morol yn unol â gofyniadau rheoliadau strategaeth forol y Deyrnas Unedig yng Nghymru?

Wel, yn amlwg, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb mewn perthynas â sbwriel, nid yn unig ar ein traethau ac yn ein moroedd, ond ar ein tir hefyd. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cynllun a'r strategaeth ar gyfer sbwriel morol a gawsom yn ôl yn 2016, rwy'n credu, ac yn amlwg, rydym yn gwneud cynnydd. Credaf hefyd fod y gwaith a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, mewn perthynas â lleihau deunydd pacio yn bwysig iawn hefyd.

14:05
Gwarchod Rhywogaethau sydd o dan Fygythiad

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i warchod rhywogaethau sydd o dan fygythiad yng Nghymru? OAQ53645

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a gwella poblogaethau o rywogaethau Cymreig drwy'r cynllun gweithredu adfer natur. Mae'n rhaid i ni barhau â'n gwaith i gynyddu cydnerthedd ein cefn gwlad er mwyn cynorthwyo ein rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf i oroesi.

Diolch. Wel, mae'r gylfinir wedi'i restru fel rhywogaeth sy'n agos at fod dan fygythiad yn fyd-eang ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau dan fygythiad, ac mae ar y rhestr goch o adar sy'n destun pryder cadwraethol yn y DU. Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod adroddiad 'State of Birds in Wales 2018' wedi nodi bod mwy na thri chwarter poblogaeth y gylfinir yng Nghymru wedi diflannu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'n debyg y byddant yn diflannu’n gyfan gwbl o dirwedd Cymru fel rhywogaeth sy'n bridio'n rheolaidd o fewn 20 mlynedd heb gamau cadwraeth brys. Fodd bynnag, fe glywsom yr wythnos diwethaf fod y ddau gais sy'n cydweithredu ar gyfer y gylfinir gan yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Adareg Prydain am grant Llywodraeth Cymru ar gyfer galluogi adnoddau naturiol a llesiant yng Nghymru wedi bod yn aflwyddiannus. Wel, fel hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir yng Nghymru, rwy'n gweithio'n agos gyda Gylfinir Cymru—cynghrair y gylfinir yng Nghymru—a rhannaf eu pryderon ynglŷn â dyfodol yr aderyn. Pa ystyriaeth, felly, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddarparu cymorth brys i fesurau cadwraeth ar gyfer y gylfinir fel na fyddwn yn colli'r rhywogaeth hon am byth?

Diolch. Rwy'n ymwybodol eich bod yn hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir a'r gwaith a wnewch. Efallai fod Mark Isherwood yn ymwybodol o brosiect dyffryn Camlad ym Mhowys a ariannwyd drwy ein cynllun rheoli cynaliadwy, sy'n waith cydweithredol o dan arweiniad ffermwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith o adfer cynefinoedd glaswelltir gwlyb traddodiadol yr iseldir. Ac mae hynny'n darparu ecosystem iach a gwydn i helpu adar sy'n nythu ar y ddaear, ac mae'r gylfinir yn rhywogaeth ddangosol ar gyfer pennu llwyddiant y prosiect hwnnw. Mae gennym grantiau hefyd ar gyfer galluogi adnoddau naturiol a llesiant yng Nghymru, ac mae dau o'r ceisiadau a gawsom yn ymwneud yn benodol â gweithgarwch cadwraeth mewn perthynas â'r gylfinir. Yn anffodus, nid oeddent yn cyrraedd y trothwy isaf ar gyfer cyllid ar hyn o bryd, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda'r ymgeiswyr i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo, gan fy mod yn cydnabod bod angen inni wneud gwaith gweithredol iawn yn y maes hwn.

Rhywogaethau Planhigion nad ydynt yn Gynhenid

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru? OAQ53646

Diolch. Rwy'n sylweddoli bod rhywogaethau goresgynnol estron yn parhau i gael effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Rwy'n cefnogi nifer o fentrau y mae ein partneriaid yn rhan ohonynt a gynlluniwyd i leihau effaith y rhywogaethau hyn a'u rheoli neu eu dileu.

A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae Abertawe wedi'i disgrifio fel prifddinas clymog Prydain. Ac er bod gennym rywogaethau estron eraill, fel Jac y Neidiwr, clymog yw'r broblem fawr. A all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y defnydd o ysglyfaethwr naturiol, sy'n cael ei dreialu ar nifer o safleoedd, yn ogystal â'r defnydd o blaladdwyr sy'n cael eu datblygu ym Mhrifysgol Abertawe?

Diolch. Rwy'n ymwybodol—rydym wedi cael llawer iawn o ohebiaeth, ac yn y Siambr hon hefyd, ynghylch y mater hwn. Mae sefydlu'r llysleuen wedi bod yn anodd oherwydd pwysau gaeafu yn ogystal ag ysglyfaethu. Rydym wedi cael saith mlynedd o dreialon, ac ni cheir unrhyw dystiolaeth amlwg i awgrymu effaith negyddol ar glymog Japan. Felly, mae'r treialon wedi'u hatal dros dro yng Nghymru wrth i'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol gynnal ymchwiliadau pellach ar sefydlu.

O ran defnyddio plaladdwyr, mae ymchwilwyr wedi dod i'r casgliad mai glyffosad yw'r unig chwynladdwr systemig sy'n llwyddiannus ar gyfer trin clymog ar hyn o bryd, ac unwaith eto, dywed yr ymchwilwyr nad oes modd ei ddileu yn y tymor byr, ond gellir ei reoli os ydych yn defnyddio'r symiau gofynnol am dair blynedd, fel y nodir yn eu hymchwil.

Soniodd Mike Hedges am y defnydd o ysglyfaethwyr naturiol i gael gwared ar rywogaethau megis clymog. Weinidog, os caf ystyried hyn o ongl ychydig yn wahanol, mae rhywogaethau cynhenid ac estron, o bosibl, yn amgylcheddau da ar gyfer bywyd gwyllt, pwynt a wneir ar wefan Bee Friendly Monmouthshire. Mae prosiect asedau naturiol Sir Fynwy yn gydweithrediad rhwng Ymddiriedolaeth Natur Gwent a Chyngor Sir Fynwy, ac yn cynnig cyngor a rhywfaint o arian grant i gynnal a gwella safleoedd bywyd gwyllt lleol o'r fath a helpu gyda rheolaeth amgylcheddol. Ariennir y gwaith hwnnw’n rhannol gan gronfa amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig. Os a phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a yw eich adran wedi ystyried unrhyw lwybrau posibl y gall y gronfa hon eu defnyddio i geisio parhau â'r frwydr yn erbyn rhywogaethau estron nad oes croeso iddynt a chefnogi bywyd gwyllt ledled Cymru?

14:10

Wel, do, dywedodd Llywodraeth y DU wrthym na fyddem yn colli ceiniog pe byddem yn gadael yr UE, felly rydym yn eu dal at eu gair. Ond credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig: nid yw pob rhywogaeth estron yn fygythiad i'n hiechyd, ein heconomi a'n hamgylchedd a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni ganolbwyntio ar y rhywogaethau estron goresgynnol oherwydd, fel y dywedwch, ceir meysydd eraill sydd eu hangen arnom i hyrwyddo bioamrywiaeth.

Rheoli Lefelau Dŵr yng Nghronfa Ddŵr Clywedog a Llyn Efyrnwy

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Clywedog a Llyn Efyrnwy? OAQ53657

Mae'r protocol rheoli cronfeydd dŵr rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Hafren Dyfrdwy yn darparu set fanwl o reolau ar reoli lefelau dŵr. Mae grŵp cyswllt Efyrnwy a Chlywedog yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod unrhyw faterion ac i esbonio penderfyniadau'n ymwneud â’r gwaith o reoli'r gronfa dŵr.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio imi ofyn i'r Trefnydd yr wythnos diwethaf am ddatganiad ynglŷn â rheoli argaeau ledled Cymru, gan y ceir pryder ynglŷn â llifogydd i lawr yr afon o gronfa ddŵr Clywedog a Llyn Efyrnwy. Mae'r ddau argae, ar brydiau yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi bod yn gorlifo, a dywed CNC fod hwn yn fesur rheoledig sydd wedi’i brosesu, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n lleddfu pryderon tirfeddianwyr i lawr yr afon y mae eu tir yn cael ei effeithio'n sylweddol. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu a ydych wedi cael trafodaethau gyda CNC o ran rheoli argaeau yng Nghymru, yn enwedig Llyn Efyrnwy a chronfa ddŵr Clywedog i weld a oes angen diweddaru'r prosesau rheoli hynny.

Diolch. Yn sicr, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â chronfa ddŵr Clywedog. Rwy'n ymwybodol eu bod wedi ychwanegu medrydd lefel dŵr yn nghronfa ddŵr Clywedog er mwyn ei gwneud yn haws o lawer i'r cyhoedd, er enghraifft, allu monitro’r hyn sy’n digwydd. Gwn ei fod ar gael ar eu gwefan. Gwn fod Hafren Dyfrdwy—rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda hwy ynghylch argaeau a chronfeydd dŵr—yn bwriadu buddsoddi £7.1 miliwn i ddiogelu a chynnal a chadw cronfeydd dŵr ac argaeau ar draws eu rhanbarth dros—hyd at 2025, rwy’n credu. Yn amlwg, fel y dywedwch, caiff y broses o ryddhau dŵr o gronfa ddŵr Clywedog ei rheoli drwy gytundeb tairochrog rhwng CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a Hafren Dyfrdwy, ac fel rhan o'r protocol rheoli, mae’n rhaid i’r broses o ryddhau dŵr o gronfeydd dŵr gydymffurfio â set fanwl o reolau, ac maent yn angenrheidiol er mwyn sicrhau na cheir unrhyw effaith niweidiol i lawr yr afon.

Rwy'n ymwybodol—. Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan eich etholwyr, a gwn eich bod chi hefyd yn ymwybodol ohoni, ac anfonais ymateb manwl atynt tua diwedd y llynedd, ond credaf ei bod yn bwysig iawn fod y sefydliadau hyn yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl i'r cyhoedd.

Lleoliad ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgynghoriad presennol y corff Radioactive Waste Management o ran lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol? OAQ53642

Cynhaliodd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ar eu proses o werthuso safle ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol. Cafwyd wyth digwyddiad yn Lloegr a dau yng Nghymru. Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghymru drwy weminar.

Wel, mi gafodd y cyntaf o'r ymgynghoriadau cyhoeddus yna ei gynnal yn gyhoeddus, ond, wrth gwrs, mi ddatganwyd cryn wrthwynebiad i'r syniad o gael claddfa gwastraff ymbelydrol yn hwnnw yn Abertawe, wedyn mi newidiwyd i gael webinar yn hytrach na'r cyfarfod cyhoeddus oedd i fod i ddigwydd yn Llandudno. Mae yna rhai, yn sicr, yn fy etholaeth i wedi codi pryderon bod yna ymdrech yma gan RWM i symud tuag at fod yn llai agored yn ei ymgynghoriad. 

Rŵan, mae gen i bryderon ynglŷn â sawl elfen o'r ymgynghoriad yma gan RWM. Un o'r rhai sy'n fy mhoeni yn fawr ydy bod modd i un tirfeddiannwr neu un busnes hyd yn oed wneud cais i ddatgan diddordeb mewn dechrau ymgynghori ar ddarparu safle ar gyfer man claddu gwastraff ymbelydrol. Dwi'n meddwl bod hynny'n gwbl annerbyniol, yn enwedig yn y cyd-destun lle mae awdurdodau lleol cyfan efallai eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n dymuno edrych ar bosibiliadau yn eu hardaloedd nhw, fel y mae cyngor Ynys Môn wedi ei wneud. A ydych chi'n cytuno efo fi, os ydy cyngor yn dweud, 'Dim claddfa yn ein hardal ni', dyna ddylai fod ei diwedd hi? Ac ydych chi'n cytuno efo fi y dylai cynghorau yng Nghymru fod yn datgan hynny'n glir rhwng rŵan a diwedd yr ymgynghoriad ar 14 Ebrill, nad ydyn ni'n croesawu claddfa ddaearegol barhaol yma yng Nghymru? 

14:15

Yn sicr, os yw cyngor yn mynegi hyn, credaf y dylai Rheoli Gwastraff Ymbelydrol ei gymryd fel y'i darllenwyd. Hoffwn ddweud yn glir iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd neu gymunedau yng Nghymru lle gellid gosod cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny. Mae ein polisi'n glir iawn: ni ellir adeiladu cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru oni bai fod cymuned yn barod i'w groesawu.

Fe'm dychrynwyd pan glywais fod Abertawe, fel y clywsom, yn un o'r ardaloedd a ystyriwyd gan y cwmni hwn, ac fel sawl un arall, rwyf wedi cyfleu fy nheimladau ynglŷn â hynny yn glir yn yr ymgynghoriad. Fe ailadroddoch chi eto heddiw fod hwn yn fater i gymunedau lleol wneud penderfyniad yn ei gylch, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad a gawsom, ond a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud unrhyw gyfraniad i'r ymgynghoriad ei hun? Ac os nad yw, am ba resymau bynnag, a wnewch chi gadarnhau y byddai Aelodau unigol o'r Llywodraeth hon sy'n digwydd bod yn rhan o'r Llywodraeth, ond sy'n cynrychioli ardaloedd o gwmpas Abertawe, yn rhydd yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau Cynulliad i ymateb i unrhyw ymgynghoriad o'r fath?

Ni fyddaf yn cyflwyno ymateb. Fodd bynnag, cyfarfûm â Rheoli Gwastraff Ymbelydrol i sicrhau bod y pwyntiau a godwyd gan Rhun ap Iorwerth yn cael eu hystyried. Roeddwn yn teimlo hefyd, gan eu bod wedi newid yr un yn Abertawe i fod yn weminar, y dylai'r un yn Llandudno fod yn weminar hefyd. Fel gogleddwraig, rwy'n ymwybodol iawn fod y gogleddwyr am gael eu trin yr un fath â phobl y de, felly gwneuthum y pwynt hwnnw iddynt. Nid wyf yn siŵr a oeddent yn meddwl fy mod yn bod braidd yn smala, ond roeddwn yn credu o ddifrif fod hynny'n bwysig iawn, fod pawb yn cael eu trin yr un fath.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, a'r cwestiwn gan Helen Mary Jones. 

Hybu Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

1. Pa adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i hybu amrywiaeth mewn llywodraeth leol? OAQ53663

Rydym yn hybu pwysigrwydd amrywiaeth drwy ein menter Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Bydd gwerthusiad o'r gwaith a wnaed hyd yma ar gael cyn bo hir. Bydd cam arall o'r prosiect yn dechrau'n ddiweddarach eleni, gan adeiladu ar y gwaith cynharach cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.

Rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb.

Weinidog, rwyf wedi bod yn edrych ar y datganiadau cydraddoldeb cyfreithiol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Deuthum i'r casgliad fod llawer ohonynt—ac nid wyf am enwi a chodi cywilydd ar neb yma, gan y credaf y byddai hynny'n annheg iawn, ond byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog gyda'r pryderon penodol. Rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw llawer ohonynt wedi cael eu diweddaru ers peth amser—ac unwaith eto, nid wyf am ddweud faint o flynyddoedd gan y byddai hynny'n ei gwneud hi'n bosibl eu hadnabod—ac mae pump ohonynt yn defnyddio ieithwedd yn gyson yn eu datganiadau cydraddoldeb nad yw'n gydnaws â Deddf Cydraddoldeb 2010, yn benodol wrth  gyfuno gwahaniaethu ar sail rhyw â gwahaniaethu ar sail rhywedd. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn unrhyw help o gwbl wrth geisio mynd i'r afael â gwahaniaethu rhwng menywod a dynion, ac yn sicr, nid yw'r ffaith bod yr iaith yn ddryslyd o gymorth i'r gymuned traws chwaith.

Pan drafodaf y pryderon yn uniongyrchol gyda'r awdurdodau lleol hynny, dywedant wrthyf eu bod yn brin o adnoddau a sgiliau. Nawr, nid wyf yn dweud am eiliad, Lywydd, fy mod yn derbyn bod hynny'n wir, ond os ysgrifennaf at y Dirprwy Weinidog yn nodi fy mhryderon penodol, a gaf fi ofyn iddi eu codi gyda'r awdurdodau lleol hynny, gan ei bod yn gwbl hanfodol, yn eu datganiadau cyfreithiol rwymol, eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn defnyddio'r iaith gywir? Ac efallai y gall eu cywiro yn breifat o ran yr honiad nad oes digon o adnoddau ar gael iddynt i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog a minnau'n fwy na pharod i'w goleuo ynghylch yr adnoddau a'r hyn y dylent fod yn ei wneud. Felly, os hoffech ysgrifennu ataf ynglŷn â'r awdurdodau penodol ac amlinellu beth yw'r pryderon, gan y gwyddom ei bod yn anhygoel o bwysig, os ydym am i'n cynghorau a'n cymunedau adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir ganddynt, eu bod yn gwneud pethau'n iawn yn ymarferol yn ogystal ag o ran polisi.

Cwestiwn da iawn, ac mae'n hanfodol fod derbyn a hyrwyddo amrywiaeth yn ganolog i lywodraeth leol yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir rhwystr mawr i hyn, a chredaf fod ein Prif Weinidog yn ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol wedi ceisio mynd i'r afael ag ef: y ffaith na all pobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol sefyll i gael eu hethol yn gynghorwyr sir. Felly, mae gennym etholwyr sy'n athrawon, cogyddion ysgol, hyfforddwyr nofio—mae llawer iawn o rolau bellach mewn awdurdod lleol sy'n eu hatal rhag sefyll etholiad awdurdod lleol. A byddai angen iddynt ymddiswyddo o'u gwaith er mwyn gwneud hynny, wyddoch chi—. [Torri ar draws.]

Parhewch. Peidiwch â chymryd sylw o eraill sy'n ceisio gwneud sylwadau oddi ar eu heistedd.

14:20

Diolch. Nawr, yn 2017, cynhaliodd Mark Drakeford AC ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol mewn llywodraeth leol, ac roedd adran 6 yn gofyn a ddylai unrhyw aelod o staff cyngor o dan y lefel uwch allu sefyll i gael eu hethol i'w hawdurdod eu hunain, ac roedd 61 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent. Felly, o gofio bod y cyn-Weinidog llywodraeth leol, Mark Drakeford, wedi cychwyn pethau yn hyn o beth, ac o fy sgyrsiau gydag ef, roedd yn eithaf cefnogol i hyn mewn gwirionedd, pa drafodaethau a gynhaliwyd yn ddiweddar ynglŷn â chyflwyno rhyw fath o ddeddfwriaeth gadarnhaol fel nad yw pobl o bob cefndir, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r rolau amrywiol sydd ganddynt, yn cael eu hatal rhag sefyll i gael eu hethol i awdurdodau lleol?

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Credaf eich bod yn codi pwynt dilys iawn ynglŷn â'r cyfraniad sydd gan bobl sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i'r awdurdod lleol i'w wneud i ddemocratiaeth leol mewn llywodraeth leol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y byddwn yn cyflwyno Bil llywodraeth leol ac etholiadau (Cymru) yn ddiweddarach eleni, a gobeithiwn gymryd camau drwy hynny i fynd i'r afael ag anomaledd y ffaith nad yw pobl sy'n gweithio mewn llywodraeth leol, yn y rolau a restrwyd gennych, yn gallu sefyll i gael eu hethol i wasanaethu eu cymunedau.

Tai Cymdeithasol

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu'r angen am dai cymdeithasol? OAQ53666

Diolch am y cwestiwn. Mae cyflenwad cynyddol o dai rhent cymdeithasol yn hanfodol. Byddwn yn cyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, a bydd y mwyafrif o'r cartrefi hyn yn dai cymdeithasol i'w rhentu. Byddaf yn mynd gam ymhellach ac yn cefnogi cynghorau i fanteisio ar yr amodau newydd i adeiladu tai cyngor newydd ar raddfa fawr ac yn gyflym.

Weinidog, mae'r ddwy ohonom yn cytuno bod angen llawer mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru, ond nid y cartrefi newydd yn unig sy'n bwysig; mae a wnelo â'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n amgylchynu'r cymunedau rydym yn eu creu, ac mae cyni yn peri problemau difrifol i awdurdodau lleol rhag gallu gwneud hynny—gymaint felly fel bod llawer o gyfleusterau newydd fel meysydd chwarae yn cael eu hadeiladu drwy gytundebau adran 106 yn unig. Y penwythnos hwn, rydym wedi gweld gwendidau dull gweithredu o'r fath, gyda'r newyddion fod datblygiad tai yn ne Llundain wedi atal plant o adran tai cymdeithasol y datblygiad rhag defnyddio'r maes chwarae a ddarparwyd drwy adeiladu gwrych na ellir ei groesi. Wrth wadu cyfrifoldeb, mae'r awdurdod lleol wedi dweud nad oes unrhyw beth o'i le ar y man llawer llai o faint, gan ei fod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol ar gyfer meysydd chwarae. Dywedodd y datblygwr nad yw tenantiaid tai cymdeithasol yn talu costau cynhaliaeth ac felly na ddylai eu plant ddefnyddio'r maes chwarae mwy o faint. Sut y gwnaethom ganiatáu i'n sgwrs wleidyddol ynghylch tai cymdeithasol ddisgyn i lefel mor druenus? A wnewch chi ymchwilio i weld a oes pethau tebyg yn digwydd yng Nghymru?

Rwy'n rhannu dicter yr Aelod ynghylch ymddygiad o'r fath yn llwyr. Rwy'n hyderus nad yw'r fath beth yn digwydd yng Nghymru, ond fe atgyfnerthaf ein hymdrechion i sicrhau nad yw'n digwydd. Yn ddiweddar, rydym wedi newid 'Polisi Cynllunio Cymru' i ailbwysleisio'r angen i greu lleoedd, cymunedau, cymunedau cynaliadwy, ar gyfer dinasyddion Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys set gynaliadwy o dai a'r cyfleusterau â ddaw gyda hynny. Felly, rydym yn gobeithio gweithio gydag awdurdodau lleol, gan fod Llywodraeth y DU wedi gweld synnwyr ac wedi cael gwared ar y cap oddi ar y cyfrif refeniw tai. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ystyried sut y gallant ddefnyddio eu pwerau newydd i'r eithaf er mwyn sicrhau eu bod yn adeiladu ar gyfer cymunedau cynaliadwy'r dyfodol, ar y cyd â'n cwmnïau adeiladu bach a chanolig, ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n llunwyr lleoedd yn gyffredinol yn ein cymdeithas.

Weinidog, rwy'n eich cymeradwyo am siarad am gymunedau cynaliadwy yn hytrach na thai cynaliadwy a thai fforddiadwy yn unig. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Leanne Wood, a defnyddiodd enghraifft dda fod angen inni sicrhau, oes, fod angen tai cymdeithasol newydd arnom, tai fforddiadwy newydd, ond mae angen cynaliadwyedd mewn perthynas â hynny. Gyda hynny mewn golwg, ceir pwysau mawr ar awdurdodau lleol yng Nghymru, yn enwedig awdurdodau gwledig, i roi caniatâd ar gyfer ardaloedd sy'n aml y tu allan i gwmpas y cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd, ardaloedd nad ydynt yn cael eu cynnal yn iawn naill ai gan wasanaethau na chysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy. Felly, beth rydych yn ei wneud fel Gweinidog i sicrhau, pan ystyrir ceisiadau gan awdurdodau lleol, nad ydynt yn cael eu derbyn oni bai eu bod yn bodloni meini prawf deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac yn darparu'r cynaliadwyedd go iawn hwnnw, yr ysbryd cymunedol go iawn hwnnw y mae angen inni ei gynhyrchu mewn pentrefi a threfi ledled Cymru?

Ie. Ailgyhoeddwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gan fy rhagflaenydd yn y portffolio cynllunio, Lesley Griffiths, tuag at ddiwedd y llynedd, ac mae'r ddogfen honno wedi'i hailysgrifennu drwyddi draw—nid diweddariad yn unig mohoni. Mae'r ddogfen honno'n gwneud ymdrech arbennig i bwysleisio pwysigrwydd adeiladu cymunedol, creu lleoedd, yn y system gynllunio ac yng nghynllun datblygu lleol unrhyw awdurdod lleol. Dylai fod gan awdurdodau lleol gynllun datblygu lleol ar waith sy'n gadarn, sy'n nodi eu hanghenion tai, a dylent allu glynu at hynny yn eu pwyllgorau, er mwyn sicrhau, os gwneir cynigion datblygu hapfasnachol y tu allan i'r CDLl, y gallant wrthsefyll hynny'n gadarn. Nid oes gennym set gyflawn o gynlluniau datblygu lleol ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn annog awdurdodau lleol naill ai i sicrhau bod ganddynt gynllun datblygu lleol ar waith pan nad oes un ganddynt, neu i'w hadolygu a'u diweddaru pan fo un ar waith ganddynt ond nad yw'n gwbl gyfoes, i'r diben a nodwyd gan Nick Ramsay, fel y gallant fod yn gadarn wrth amddiffyn penderfyniadau i beidio â chaniatáu datblygu hapfasnachol y tu allan i broses y CDLl.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Wel, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub yng Nghymru, rydych wedi etifeddu'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 'Ddiwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru' fis Tachwedd diwethaf, gyda'r ymgynghoriad yn cau ar 5 Chwefror. Fel y dywed ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,

Mae parch mawr i'r gwasanaethau tân ac achub. Afraid dweud, felly, y byddai unrhyw gynigion i newid y ffordd y caiff awdurdodau tân ac achub eu strwythuro, eu hariannu neu eu gweithredu yn bwysig iawn, nid yn unig i'r awdurdodau eu hunain, ond hefyd i'r nifer o sefydliadau, cymunedau, grwpiau ac unigolion sy'n dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau.

Sut, felly, yr ymatebwch i'r datganiad hwn?

O gofio bod achos Llywodraeth Cymru dros newid yn seiliedig ar gred na fydd y trefniadau sydd wedi cynhyrchu canlyniadau rhagorol yn y gorffennol yn effeithiol yn y dyfodol, ychydig iawn sydd yn y Papur Gwyn i gadarnhau'r gred honno. Nid oes unrhyw beth, er enghraifft, i ddangos bod y trefniadau presennol yn dechrau peri i safonau ddirywio neu i berfformiad waethygu, neu fod ganddynt lai o allu i ymdopi â heriau, arloesi neu newid nag a oedd ganddynt pan gawsant eu sefydlu yn 1996.

Rydym wedi cynnal ymgynghoriad, fel y dywedodd yr Aelod yn gwbl gywir. Rydym wedi cael nifer fawr o ymatebion. Rydym yn ystyried yr ymatebion hynny'n ofalus. Mae'n ymgynghoriad cyffredinol. Ar ôl inni ddadansoddi'r ymatebion yn drwyadl, bydd modd imi ddweud wrth yr Aelod a'r Aelodau yn gyffredinol sut y byddwn yn symud ymlaen ar hyn, ond rwyf wedi cyfarfod â'r prif swyddogion tân a'u cadeiryddion yn ddiweddar iawn, ac wedi pwysleisio'r ffaith ei fod yn ymgynghoriad llawn a dilys. Mae gennyf gryn diddordeb mewn gweld y dadansoddiad o'r ymatebion y maent wedi'u darparu, ac yng ngoleuni'r ymatebion hynny, bydd modd imi ateb yr Aelod ynglŷn â sut rydym yn symud y gwasanaeth hwn yn ei flaen.

Wel, roeddent yn dweud hefyd mai'r amcan arfaethedig, yn rhyfedd braidd, yw ceisio gwarchod safonau uchel presennol y gwasanaethau tân ac achub drwy ddiwygio'r trefniadau a gynhyrchodd y safonau hynny. Ceir diffyg cysondeb yn y Papur Gwyn yn yr ystyr ei fod yn cynnig atebion i broblemau y mae'n derbyn nad ydynt yn bodoli, ac mae'r Papur Gwyn yn cyfeirio at ganfyddiad nad yw awdurdodau tân ac achub yn atebol. A ydych chi felly o leiaf yn cydymdeimlo â'r datganiad hwn?

O ran atebolrwydd cyhoeddus, nid ydym yn derbyn bod awdurdodau tân ac achub yn anatebol. Mae ein cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd a bellach yn cael eu gweddarlledu fel y gellir eu gwylio o bell, caiff gwariant a chynlluniau eraill eu cyhoeddi'n flynyddol, ceir cyfleusterau i bobl wneud ceisiadau o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth, ac mae'r gwasanaeth yn gwneud ymdrech arbennig i gyfarfod â grwpiau cynrychiadol ac i gymryd rhan weithredol mewn gwaith cydweithredol gyda sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol cyhoeddus eraill.

Ac mae'n cyfeirio at y ffaith bod gwybodaeth ariannol yn hygyrch ac ati. Rwy'n derbyn na allwch ragfynegi eich ymateb i'r ymgynghoriad, ond a ydych o leiaf yn cydymdeimlo â'r pryderon a godir yma?

Mae newid yn anodd i bawb. Cawsom drafodaeth dda iawn, fel y dywedais, cyn i'r ymgynghoriad gau. Fe anogais bob un ohonynt i gyflwyno pob un o'r pwyntiau—ac rydych yn gwneud rhai ar eu rhan yn awr. Pan fyddwn wedi dadansoddi'r holl ymatebion, addewais gyfarfod arall iddynt cyn inni eu cyhoeddi a chyfle i siarad â mi'n uniongyrchol, yr holl brif swyddogion tân a'u cadeiryddion, fel y gallwn drafod ffordd ymlaen gyda'n gilydd.

Ni chredaf fod problem ynglŷn â bod yn awyddus i adolygu gwasanaeth sydd wedi bodoli ers amser maith a gweld a oes pethau y gellir eu gwella. Rydym yn trafod rhai pethau gyda diffoddwyr tân, fel y gwyddoch, o ran ehangu eu rolau, gan eu bod wedi llwyddo'n dda iawn i ostwng nifer y tanau ledled Cymru ac rydym yn falch iawn o hynny. Rwy'n talu teyrnged hefyd i waith caled ac ymroddiad holl ddiffoddwyr tân Cymru a'r gwaith a wnânt. Ond mae'n bryd edrych ar sut y cânt eu trefnu ac a wneir hynny yn y ffordd orau. Ac fel y dywedais, mae'n ymgynghoriad go iawn, a phan fyddwn yn gwybod beth yw'r canlyniad, byddwn yn fwy na pharod i adrodd yn ôl.

14:30

Ond wrth gwrs, nid oes a wnelo hyn â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn unig, gan fod ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i'r ymgynghoriad, er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb yn y Papur Gwyn—yn amlwg, credaf y bydd hyn yn digio pobl ledled Cymru—yn dweud bod aelodau presennol o'r awdurdod tân ac achub yn parhau i fod yn atebol i'w hawdurdodau cartref, ond yn y modd y maent yn cyflawni eu rôl, maent hefyd yn atebol i'r etholwyr drwy'r adroddiadau blynyddol y maent yn eu paratoi.

Felly sut rydych yn ymateb i'r datganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn llwyr gefnogi'r dymuniad i osgoi unrhyw newidiadau andwyol i adnoddau neu weithgarwch rheng flaen, a'u bod o'r farn nad oes modd cyflawni hyn drwy rai o'r atebion a gynigiwyd? Mae'n debygol iawn y gallai mecanweithiau cyllidebol sy'n caniatáu i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud y tu allan i endid cyfreithiol yr awdurdod achosi newidiadau sylweddol posibl i wasanaethau, darpariaeth ac adnoddau'r rheng flaen, er anfantais i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chreu goblygiadau cyfreithiol ac atebolrwydd diddorol pe bai lefelau'r cyllid yn annigonol neu'n arwain at ganlyniadau andwyol.

Felly, yn amlwg, mae hyn yn mynd y tu hwnt i argymhellion sefydliadol yn unig, ac mae'n treiddio'n ddyfnach i ystyriaethau ariannol, ac ystyriaethau cyfreithiol o bosibl. Unwaith eto, sut rydych yn ymateb i bryderon Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ynghyd â phryderon awdurdodau eraill ledled Cymru?

[Anghlywadwy.]—gwasanaeth ymladd tân. Mae amrywiaeth o safbwyntiau wedi eu mynegi, a chyn gynted ag y byddwn wedi dadansoddi'r holl safbwyntiau—rwyf wedi cael trafodaeth bellach, addewais i'r gwasanaethau tân, gyda hwy—a gallwn ddod i rai casgliadau, bydd modd imi adrodd yn ôl i'r Aelod, sydd wedi cael hwyl ar ddarllen rhai o'r pryderon allan i'r Senedd heddiw.

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl StatsCymru, mae awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiadau tai a ddylai fod wedi arwain at ddarparu 13,355 o dai fforddiadwy, ond mewn gwirionedd, 6,746 yn unig sydd wedi'u hadeiladu, sef ychydig dros 50 y cant o'r hyn y dylem fod wedi'i gael. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae'r ffigur hyd yn oed yn waeth: yn Wrecsam, er enghraifft, 16 y cant yn unig o'r cartrefi fforddiadwy a addawyd mewn datblygiadau a gafodd eu darparu. Mewn rhai achosion, ymddengys mai'r hyn sydd wedi digwydd yw bod—[Anghlywadwy.]—caniatâd cynllunio, wedi negodi eu gofynion tai fforddiadwy i lawr fel y gall y datblygiad fod yn fwy proffidiol yn y pen draw, ac wrth wneud hyn, maent yn bygwth yr awdurdod lleol drwy ddweud y byddant yn mynd at yr Arolygiaeth Gynllunio, nad yw, fel y gŵyr pob un ohonom, wedi'i lleoli yng Nghymru, os na chânt eu ffordd eu hunain. O gofio ein bod wedi colli bron i 7,000 o gartrefi fforddiadwy y dylem fod wedi'u cael oherwydd hyn, a ydych yn hyderus fod y system gynllunio bresennol yn gallu eich helpu i gyflawni eich amcanion mewn perthynas â thai?

Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, gan fod yr awdurdodau lleol, sydd, fel y gŵyr pob un ohonom, wedi dioddef—dyma'u nawfed blwyddyn o gyni—wedi colli nifer o sgiliau o bob awdurdod lleol unigol sy'n eu galluogi i wrthsefyll cyflwyniadau cyfreithiol gan ddatblygwyr, er enghraifft, yn enwedig datblygwyr mawr ledled Cymru, nid yn gymaint gyda'r sector busnesau bach a chanolig, ac maent yn ei chael hi'n anodd negodi'r lefelau cywir o dai cymdeithasol a phethau eraill, mewn gwirionedd, o'u cytundebau 106 a'u cytundebau priffyrdd ac yn y blaen. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym yn cael trafodaethau gyda hwy ynghylch datblygu cronfa o adnoddau medrus i alluogi awdurdodau i wrthsefyll y math hwnnw o negodi yn well.

Fel y dywedais, rydym hefyd yn annog y rhai nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol cadarn neu gyfredol iawn i roi un ar waith. Byddaf yn edrych ar fframwaith cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gennym fframwaith cenedlaethol wedi'i gyfansoddi'n briodol, fel y gall yr awdurdodau lleol weithredu o'i fewn yn fwy cyfforddus, sy'n rhywbeth nad ydym wedi'i wneud eto, ond rydym yn ei ddatblygu. Ac yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ynglŷn ag ehangu eu cylch gwaith i gynnwys tai er mwyn eu galluogi i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny.

Felly, mae angen rhoi nifer o gamau ar waith. Rwy'n cydnabod y perygl a amlinellodd yr Aelod. Rydym wedi cael y trafodaethau hynny, a byddaf yn parhau â hwy dros y misoedd nesaf.

Weinidog, gwn nad ydych yn gyfrifol am gynllunio, ond yn amlwg, mae'n hanfodol o ran darparu—

Chi sy'n gyfrifol. O'r gorau, rwyf am barhau gyda fy nghwestiynau felly.

Gellir dadlau nad yw'r system gynllunio yn cyflawni ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i chi fod yn barod i wneud diwygiadau mawr o ran cynllunio yn awr. Mae awdurdodau lleol yn un o'ch cyfrifoldebau hefyd. Nawr, ar hyn o bryd, gwyddom y gall datblygwyr mawr bob amser fygwth apelio i arolygiaeth gynllunio ynghylch penderfyniadau a hawlio eu costau cyfreithiol yn ôl, ac mae honno'n hawl nad oes gan gymunedau a gwrthwynebwyr lleol, wrth gwrs. Nawr, mae adrannau cynllunio, fel y dywedasoch, wedi wynebu toriadau, ac o ganlyniad, maent yn dibynnu fwyfwy ar ffioedd am eu gwasanaethau fel ffrwd incwm, a chredaf fod hynny'n enghraifft amlwg o wrthdaro buddiannau. Felly, pa gefnogaeth rydych yn ei rhoi ar waith i atal awdurdodau lleol rhag cael eu bwlio gan ddatblygwyr tai i lastwreiddio tai fforddiadwy, a gofynion cynllunio eraill, ac i roi diwedd ar y cytundebau adran 106 di-fflach a allai waethygu rhaniadau cymunedol, fel y gwelsom yn Llundain?

14:35

Fel y dywedais, rwy'n cydnabod y broblem a amlinellodd yr Aelod, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau i roi'r sgiliau yn ôl i mewn lle bo angen, ac i rannu sgiliau prin, mewn gwirionedd, ymysg awdurdodau lleol mewn meysydd penodol. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod hefyd yn annog awdurdodau i roi cynlluniau datblygu strategol ar waith, y gall eu CDLl fod yn rhan ohonynt, er mwyn rhoi lefel arall o amddiffyniad iddynt rhag datblygiadau tai hapfasnachol ac wrth negodi rhai o'r datblygiadau llai.

Ond mewn gwirionedd, hoffwn weld newid diwylliannol llwyr mewn awdurdodau lleol. Gan fod y cap ar y cyfrif refeniw tai wedi'i ddiddymu, gallant bellach fenthyca er mwyn buddsoddi mewn tai cymdeithasol y maent yn eu hadeiladu eu hunain. Felly, ni fyddent yn chwilio am ddatblygwr i gael datblygiad fforddiadwy cyffredinol, gyda rhywfaint o dai cymdeithasol ynddo—byddent yn ceisio prynu'r tir yn orfodol, ac adeiladu cymuned gynaliadwy eu hunain, gan gael gwared ar y broblem. Fodd bynnag, nid oes ganddynt yr holl sgiliau i wneud hynny ychwaith, felly rydym yn siarad â hwy ynglŷn â rhannu sgiliau prin, fel sgiliau prynu gorfodol, er enghraifft, sgiliau crynhoi tir, sgiliau cynllunio strategol—yr holl sgiliau sydd ynghlwm wrth ailgyflunio rhaglen adeiladu, neu weithio mewn partneriaeth â'u cwmnïau bach a chanolig lleol, i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy, ac nad ydynt yn wynebu'r broblem ofnadwy hon, fel y gŵyr yr Aelod. Mae'n rhaid i gwmni bach fuddsoddi llawer o arian ymlaen llaw yn y system gynllunio ac efallai y bydd ganddo fwlch ar gyfer ei weithlu, ac mae'n wynebu trafferthion o ran cadw'r sgiliau ac ati.

Felly, rydym yn bwriadu gwneud pethau mewn sawl ffordd. Yn gyntaf oll, annog yr awdurdodau i adeiladu'r tai eu hunain, mewn datblygiadau cynaliadwy y maent yn gosod briffiau cynllunio arbennig ar eu cyfer; gweithio ar y cyd â chwmnïau adeiladu lleol, fel y gallant leddfu'r llif arian, a sicrhau bod ganddynt y cyfrifon adeiladu, ac yn y blaen, y mae llawer o gyd-Aelodau wedi sôn amdanynt dros y blynyddoedd; ac yn drydydd, rhoi cynllun strategol ar waith, ar draws nifer o awdurdodau, sy'n nodi'r safleoedd tai hynny, fel bod y cynnydd yng ngwerth y tir yn sgil hynny yn mynd yn ôl i'r awdurdod lleol yn hytrach nag i boced y datblygwr.

Nid yw'n glir i mi a oes gwahaniaeth rhwng yr awdurdodau lleol sydd wedi trosglwyddo eu stoc dai a'r rheini sydd wedi'i chadw'n fewnol. Ond fe ddychwelaf at hynny maes o law.

Un o lwyddiannau'r sefydliad hwn—a chlod i'r Dirprwy Lywydd yma—yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i eiddo preswyl newydd beidio â bod, yn y bôn, yn lleoedd sy'n creu perygl i fywyd. Nawr, roedd hwnnw'n Fesur a wrthwynebwyd gan ddatblygwyr tai mawr, gan eu bod yn ofni y byddai'n cynyddu'r gost. Ac roedd cyn-gyfarwyddwr Redrow Homes, Steve Morgan, yn feirniadol iawn o hwnnw, a rheoliadau tai eraill, gan ddweud y byddai'n gwneud datblygwyr yn llai awyddus i adeiladu yng Nghymru. Wrth gwrs, dangosodd Grenfell pwy sydd ar yr ochr iawn i'r ddadl honno. Nid oes amheuaeth gennyf fod yn rhaid inni newid o dai o ansawdd gwael fel yr arferent fod i gartrefi newydd gyda'r safonau adeiladu a'r safonau amgylcheddol uchaf. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd inni heddiw y byddwch yn cynnal adolygiad Llywodraeth gyfan o'r ddeddfwriaeth gynllunio a rheoliadau cynllunio i sicrhau bod gennym sector tai sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran safonau adeiladu a safonau amgylcheddol, ac un lle mae'r datblygwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau i'r gymuned, yn wahanol i'r system sydd gennym ar hyn o bryd?

Gwnaf, rwy'n rhannu ei huchelgais am system sy'n cynhyrchu hynny. Ni chredaf fod angen adolygiad cynhwysfawr arnom; mae gennym nifer fawr o adolygiadau ar waith, mewn gwirionedd. Mae gennym yr adolygiad o dai fforddiadwy—cyfarfûm â'r cadeirydd bore ddoe; nid yw fy synnwyr o amser yn dda iawn, efallai mai bore heddiw oedd hi—yn ddiweddar iawn yn sicr. Cefais sgwrs dda iawn gyda hi ynglŷn â'r hyn rydym yn disgwyl iddi ei gynnwys yn ei hadolygiad. Rwyf wedi cyfarfod â'r gweithgor datgarboneiddio, a chyfarfu fy nghyd-Aelod Lesley â hwy hefyd, i siarad am rai o'r problemau gydag ôl-osod ein stoc dai bresennol, sy'n broblem wirioneddol ar gyfer datgarboneiddio—sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon; ynglŷn â pharhad safon ansawdd tai Cymru i'w hail gyfnod, i godi safon allbynnau carbon, effeithlonrwydd ynni, cyfleustodau ac ati yn y stoc dai bresennol. Mae oddeutu 91 y cant o dai yn cyrraedd safon ansawdd tai Cymru ar hyn o bryd, felly rydym bron â chyrraedd y pwynt lle gallwn ddweud ein bod wedi cyflawni'r cam cyntaf o hynny.

Ceir nifer o bethau eraill hefyd. Rydym yn awyddus i godi'r safon o ran pa fath o dai y dywedwn yn 'Polisi Cynllunio Cymru' y dylid caniatáu eu hadeiladu, mewn perthynas â gofynion o ran gofod ac inswleiddio. Yn bersonol, mae gennyf chwilen fawr yn fy mhen, fel y gwyddoch o bortffolio blaenorol, ynglŷn â sicrhau bod adeiladwyr yn gosod ceblau mewn ystadau i sicrhau y gallant dderbyn band eang o ansawdd uchel, hyd yn oed os na allant ei gysylltu, felly nad oes angen ei ôl-osod, a cheir nifer o bethau eraill o'r fath y mae cynghorau ledled Cymru yn awyddus i'w rhoi ar waith sy'n safonol yng ngofynion adeiladu unrhyw ddatblygiad a gaiff ei adeiladu. Ac yn ychwanegol at hynny, mae gennym lawer o waith yn mynd rhagddo mewn perthynas â safleoedd segur a phroblemau cynllunio, lle rydym yn ceisio darparu llwybrau llyfnach i fentrau bach a chanolig ledled Cymru, fel nad ydynt yn dioddef newidiadau sydyn o ran llif arian pan fyddant yn wynebu anawsterau wrth gynllunio ac yn y blaen. Felly, rydym yn gwneud nifer o bethau gyda Banc Datblygu Cymru, a'r gronfa safleoedd segur ac ati, i ddarparu cyflenwad o arian i adeiladwyr lleol sydd am wneud y peth iawn, fel y gallwn annog y gweithlu lleol i adeiladu'r tai sydd eu hangen ar eu cymunedau eu hunain, yn hytrach na bod yr adeiladwyr mawr yn dod i mewn ac yn adeiladu'r math o gartrefi unffurf nad sydd eu hangen ar ein cymunedau yn fy marn i.

14:40

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, codais fater y swm mawr o arian trethdalwyr sy'n cael ei wastraffu mewn perthynas â saga hirhoedlog swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yr ymateb a gefais gan y Prif Weinidog oedd mai mater i'r cyngor ei hun yw hwn yn bennaf, sef yr ymateb a gawn yn aml pan fyddwn yn codi materion llywodraeth leol yma yn y Siambr, er bod goruchwylio llywodraeth leol yng Nghymru yn amlwg yn rhan o'ch cylch gwaith, Weinidog, a dyna pam fod pob un ohonom yma yn gofyn cwestiynau i'r Gweinidog llywodraeth leol heddiw.

Nawr, ers imi dynnu sylw'r Prif Weinidog at y mater hwn, mae wedi dod i'r amlwg nad £4 miliwn, sef y ffigur a ddyfynnais, yw'r ffigur a wastraffwyd ar saga Caerffili. Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi datgelu bod y ffigur mewn gwirionedd yn fwy na £6 miliwn. Ac eto, mae prif weithredwr y cyngor yn dal i ennill £130,000 y flwyddyn am wneud dim, sef yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud dros y chwe blynedd diwethaf. Weinidog, a oes gennych unrhyw amcangyfrif cywir bellach pa bryd y caiff y saga druenus hon ei datrys?

Deallaf o fy nghyfarfod diweddar gydag arweinydd a phrif weithredwr Caerffili eu bod yn disgwyl i'r unigolyn annibynnol dynodedig gyflwyno eu hadroddiad rywbryd ym mis Ebrill. Felly, gallaf drosglwyddo mai dyna maent yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le: mater i'r cyngor yn llwyr yw materion cyflogaeth, ac nid ydym mewn sefyllfa i roi unrhyw fewnbwn yn hynny o beth.

Wel, diolch am roi amserlen i mi, sy'n ddefnyddiol. Er fy mod yn derbyn y pwynt rydych newydd ei wneud, a gaf fi nodi hefyd fod hwn yn fater sy'n cyffwrdd â chyflog gormodol weithiau i uwch-swyddogion mewn sawl cyngor yng Nghymru—a llawer ohonynt yn gynghorau Lafur? A gaf fi dynnu eich sylw at y ffaith bod dau gynghorydd yn Nhorfaen wedi ymddiswyddo o'r grŵp Llafur am eu bod yn tynnu sylw at y toriadau posibl y gellid eu gwneud—yn ôl yr hyn a ddywedasant—i'r swm gormodol roeddent yn honni bod cyngor Torfaen yn ei wario ar reoli corfforaethol. Mae Torfaen yn gwario bron i £3 miliwn y flwyddyn ar reoli corfforaethol, sydd bron ddwywaith cymaint â'r hyn a werir ar yr un peth yng nghyngor cyfagos Casnewydd. Weinidog, gyda gwasanaethau cynghorau dan fygythiad oherwydd cyni fel y dywedwch wrthym o hyd, a oes achos i'w wneud dros ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru i weld a yw cynghorau yng Nghymru yn gwario gormod o arian ar gyflogau swyddogion ar yr haen uchaf?

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn ei gyfanrwydd ar ran awdurdodau lleol a chafwyd ymrwymiad gan y Prif Weinidog, pan fydd y prosesau yng Nghaerffili wedi dod i ben, y byddwn yn cynnal adolygiad o gamau disgyblu ar gyfer haenau uchaf swyddogion awdurdodau lleol. Ni chredaf ei bod yn iawn cymharu dau awdurdod lleol fel y gwnaethoch, gan y bydd nifer fawr o faterion eraill yn effeithio ar sut y mae awdurdod lleol yn strwythuro ei graidd corfforaethol: pa wasanaethau y mae'n eu darparu a pham y gall rhywbeth gostio mwy nag mewn awdurdod lleol arall.

Y gwir yw bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n wirioneddol anodd oherwydd cyni. Mae eu cyllidebau naill ai wedi aros yn llonydd neu wedi eu torri am y naw mlynedd ddiwethaf. Gwyddom fod pob awdurdod lleol yn ei chael hi'n anodd iawn darparu gwasanaethau lleol gwerthfawr, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud gwaith da o ddewisiadau gwael iawn, yn yr ystyr nad oes unrhyw ddewisiadau da pan fyddwch yn torri gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.

[Anghlywadwy.]—realiti economaidd cyni, a ddisgrifiwyd gennych yn rhan gyntaf eich ateb, ond gall fod yn wir y gall tâl gormodol ar ben uchaf sefydliad olygu nad yw pobl ar y lefelau is yn cael digon o dâl. A gwyddom, o ymchwiliad a gynhaliwyd gan BBC Wales yn 2017, fod y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn talu cyflog sy'n llai na'r cyflog byw go iawn i rai o'u staff. Onid ydych yn credu, Weinidog, ei bod yn bryd ichi edrych ar gyflogau haen uchaf awdurdodau lleol yng Nghymru i weld a allwn sicrhau bod y cynghorau hyn yn talu llai i'w gweithwyr blonegog a mwy i'r gweithwyr ar waelod eu graddfeydd cyflog?

14:45

Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb y cwestiwn—a chytunaf yn llwyr—rwy'n cytuno y dylid cael lluosydd. Fel arfer, mae'r ffigur yn 20 rhwng y cyflogau isaf a'r cyflogau uchaf mewn unrhyw sefydliad. Bydd cyngor partneriaeth y gweithlu, a fydd yn cael ei gadeirio ar ei newydd wedd yn ddiweddarach eleni gan y Dirprwy Weinidog, yn ystyried cyflogau ac amodau staff ar draws y sector cyhoeddus, ac nid oes amheuaeth y bydd gan gyngor partneriaeth y gweithlu rywbeth i'w ddweud am y lluosyddion a ddylai fod ar waith.

Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53669] yn ôl, felly cwestiwn 4, Jenny Rathbone.

Diwygio Adran 21 o Ddeddf Tai 1988

4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio Adran 21 o Ddeddf Tai 1988 i roi tenantiaethau mwy sicr i bobl sy'n rhentu cartrefi yn breifat? OAQ53675

Rydym o blaid archwilio i weld a a allwn sicrhau bod sicrwydd deiliadaeth yn fwy o realiti o lawer yma yng Nghymru, a byddwn yn gweithio'n galed gyda'r sector i weld a allwn ddiddymu neu addasu adran 21, fel y'i gelwir, o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn rhoi gwell sicrwydd deiliadaeth i bobl.

Diolch. Weinidog, yn amlwg, mae hyn yn effeithio ar bron i 0.5 miliwn o bobl. Yn amlwg, mae llawer ohonynt yn bobl ifanc, sengl nad yw'n ymddangos bod symud o gwmpas ar fyr rybudd yn broblem iddynt, ond y bobl yr effeithir arnynt yn fawr gan ddiffyg sicrwydd deiliadaeth yw pobl â theuluoedd, sy'n golygu, os oes plentyn ganddynt yn yr ysgol—cael eu troi allan am ddim rheswm o gwbl; gallent fod yn denantiaid gwych—mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r plentyn newid ysgol, yn ôl pob tebyg. Ac yn yr un modd, mae pobl agored i niwed sydd angen cymorth yn y gymuned i osgoi ynysu cymdeithasol mewn sefyllfa debyg.

Felly, os a phan fyddwn mewn sefyllfa i roi Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith, sut y bydd y ffaith bod adran 173 yn disodli adran 21 yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r sicrwydd y dylai pobl allu ei deimlo mewn cartrefi rhent preifat? Oherwydd, er ei bod yn bosibl iddynt ddadlau yn y llysoedd eu bod yn cael eu troi allan am nad yw'r landlord am drwsio'r annedd y maent yn ei rentu, neu ei wneud yn ddiogel, nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Mae'n ei wneud yn agored i hiliaeth a phob math o ragfarn arall a allai ddeillio o'r berthynas wan iawn hon rhwng landlord a thenant.

Ie. Nid wyf yn anghytuno o gwbl â'r hyn y mae Jenny Rathbone yn eu gynnig, a chytunaf yn llwyr fod tai o ansawdd da yn sbardun i blant a theuluoedd allu creu dyfodol diogel a llwyddiannus. Mae cartref diogel y gallwch ddibynnu arno ac y gallwch adeiladu dyfodol arno yn hawl dynol, ac ni allwn gytuno mwy. Awgryma'r holl dystiolaeth fod plant sy'n byw mewn llety rhent ansicr ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl na phlant yn y sector perchen-feddiannaeth, er enghraifft, ac mae plant sy'n symud yn aml, fel y dywedodd, yn amlwg yn llawer mwy tebygol o ddioddef yn sgil y mathau hynny o broblemau.

Rydym yn bwriadu rhoi Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar waith i wella eglurder a chysondeb cyfraith tai. Fel y dywedodd, mae'n cynnwys adran sy'n gwahardd y defnydd o droi allan 'dim bai', lle caiff tenant eu troi allan i ddial am rywbeth y maent wedi ceisio'i fynnu. Ond cytunaf â hi nad yw hynny'n ddigonol, ac mae'r Llywodraeth yn awyddus iawn i ddeddfu i gryfhau hynny. Ceir nifer o broblemau gyda hynny, yn enwedig y ffaith nad yw'r Ddeddf honno mewn grym eto. Nid yw mewn grym am ddau reswm: un yw bod angen inni ymgynghori ar un set arall o reoliadau er mwyn sicrhau y gellir gweithredu'r Ddeddf; a'r ail reswm, sydd ychydig yn llai diddorol, yw bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn diweddaru ei system gyfrifiadurol, ac rydym yn trafod gyda hwy ynghylch amseriad hynny, oherwydd, heb hynny, ni allwn ei roi ar waith fel y mae. Mae'r cymhlethdod mewn perthynas â sicrhau'r contractau, y trefniadau tenantiaeth a phopeth arall yn ormod heb y system gyfrifiadurol. Felly, rydym yn trafod a ddylem dalu i uwchraddio'r system cyn y diweddariad, neu a fydd y diweddariad yn digwydd mewn da bryd i ni allu weithredu'r Ddeddf. Ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y drafodaeth honno sydd ar y gweill.

Mae angen rhoi'r rheoliadau eraill ar waith. Nid ydym am gael sefyllfa lle byddem, yn y bôn, yn gweithredu Deddf ac yna'n ei diwygio'n syth gan olygu bod yn rhaid i bawb ymdopi â dwy set o newidiadau. Felly, hoffwn allu gweithredu'r newid i'r hyn sy'n adran 21 yn awr, sef adran 178—173, mae'n ddrwg gennyf; mae gan yr Aelod gof gwell na minnau—er mwyn sicrhau ei bod yn dechrau gyda'r darpariaethau newydd yn eu lle pan fydd yn cychwyn. Felly, ceir nifer o faterion ymarferol a diflas yn hyn o beth, ond o ran yr egwyddor, nid oes gennyf unrhyw broblem o gwbl, ac mae swyddogion yn gweithio'n galed iawn i weld beth sydd angen ei wneud i roi hynny ar waith.

14:50

Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, dywedodd arweinydd cyngor Caerffili—

Fy nghamgymeriad i, mae'n ddrwg gennyf; fy nghamgymeriad i. David Melding a ddylai fod wedi'i alw ar gyfer y cwestiwn hwnnw. Roeddech yn rhy awyddus, Mohammad, ac roeddwn innau'n anghywir. David Melding.

Diolch, Lywydd. Yn Lloegr, maent yn ystyried hyn hefyd, a gwyddoch fod cynnig i gynyddu isafswm y cyfnod tenantiaeth o chwe mis i dair blynedd. Fodd bynnag, lluniwyd diwygiad 1988 er mwyn rhoi mwy o eiddo ar y farchnad, oherwydd ar y pryd, gellid dadlau bod gor-reoleiddio wedi cael cryn effaith ar y cyflenwad o eiddo rhent. Felly, mae angen inni ystyried hyn yn ofalus, ond ni chredaf y dylai'r cyfnod rhagosodedig fod yn chwe mis. Credaf mai dyna lle mae gennym broblem, ac y dylid ei osod yn uwch. Mae angen i ni ymgynghori'n eang â'r sector. Ac mae rhai pobl yn dymuno cael tenantiaeth fer, ond mae llawer o hynny bellach ac mae angen mwy o amrywiaeth arnom yn y farchnad, ond bydd yn rhaid cael sicrwydd ar y ddwy ochr wrth ystyried tenantiaethau hirach, gan eu bod yn peri rhywfaint o risg, yn amlwg, i landlordiaid da iawn, hefyd.

Ie. Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Hynny yw, ceir nifer o gymhlethdodau yma ynghylch pam fod y sector fel y mae, ond nid oes unrhyw amheuaeth fod troi allan yn sydyn am ddim rheswm amlwg yn broblem ddifrifol. Gwyddom fod hynny'n digwydd, a gwyddom na fyddai llawer o landlordiaid yn breuddwydio am wneud y fath beth, ond gwyddom ei fod yn digwydd, felly mae angen inni sicrhau bod y rheoliadau'n gymesur—mae'n llygad ei le. Mae angen i ni sicrhau bod hyd tenantiaethau'n iawn. Credaf fod Jenny Rathbone yn arbennig wedi crybwyll y gwahaniaeth rhwng pobl ifanc, sengl sydd â gyrfaoedd symudol a theuluoedd ac ati. Felly, mae angen inni ddod i sefyllfa lle rydym wedi rhoi ein Deddf ein hunain ar waith sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny, a lle rydym yn ei gweithredu yng ngoleuni newidiadau sy'n adlewyrchu newidiadau mewn polisi ac amgylchiadau go iawn ledled y DU, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n anghymell landlordiaid rhag cynnig eu heiddo i'w rentu, ond sydd hefyd yn darparu'r sicrwydd deiliadaeth sy'n caniatáu i bobl gael y llety sefydlog a sicr y maent ei angen.

Yn fwyaf arbennig, rydym am weld landlordiaid yn cydweithredu â ni ac yn ymrwymo i gynlluniau a fyddai'n caniatáu i'r sector rhentu preifat gymryd rhan, i bob pwrpas, mewn rhent cymdeithasol fel bod ganddynt incwm rhent gwarantedig gan un o'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu awdurdod tai lleol y byddant yn rhoi eu heiddo iddynt am gyfnod hirach ar gyfer trefniant sy'n gwarantu lefel y rhent, ac yn y blaen. Felly, rydym yn ystyried amrywiaeth o adnoddau yma, ond credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod gallu cael eich troi allan am ddim rheswm o gwbl ar fyr rybudd yn rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef.

Y Pwysau Ariannu mewn Llywodraeth Leol

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysau ariannu mewn llywodraeth leol? OAQ53674

Yn sicr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu llywodraeth leol a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae llywodraeth leol ym mhob rhan o Gymru wedi cael y setliad gorau posibl, gyda'r gostyngiad o 1 y cant a gyhoeddwyd yng nghyllideb derfynol 2018-19 wedi troi'n gynnydd o 0.2 y cant eleni.

Weinidog, yn sgil cyni'r Torïaid, nid oedd dewis gan gyngor Torfaen ond cynyddu'r dreth gyngor eleni er mwyn diogelu gwasanaethau hanfodol, sef gofal cymdeithasol ac addysg. Rwy'n falch iawn fod gennym, yn Nhorfaen, gyngor Llafur sy'n barod i wneud y penderfyniadau hynny i ddiogelu ein gwasanaethau lleol. Nid yw arweinydd UKIP yn gwybod dim am y pwysau ariannol sy'n wynebu'r awdurdod lleol yn Nhorfaen, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Weinidog, fod yr holl ffrwythau isel wedi diflannu bellach mewn awdurdodau lleol a'u bod yn wynebu brwydr wirioneddol i oroesi.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd arweinydd Torfaen wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei fod wedi diogelu addysg gan ei fod yn credu ei fod yn wasanaeth ataliol allweddol. Cytunaf yn gryf â'r farn honno. A ydych yn cytuno â'r farn honno, Weinidog? Ac o ystyried y dystiolaeth gadarn iawn a gafodd y pwyllgor ynghylch pwysau ariannol mewn ysgolion, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod addysg yn cael ei blaenoriaethu yn y cylch cyllidebol nesaf?

Ie. Rwy'n bendant yn croesawu'r flaenoriaeth y mae Torfaen, a llawer o awdurdodau eraill yn wir, yn ei rhoi i addysg a gwasanaethau cymdeithasol mewn setliad sy'n anodd iawn i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol. Rydym yn cydnabod yr heriau i awdurdodau a'r dewisiadau anodd a wnânt, fel y dywedais yn gynharach, ynghylch arbedion a gwasanaethau sy'n newid, a'r penderfyniadau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud ynglŷn â'r dreth gyngor er mwyn cydbwyso'r gyllideb. Fel y dywedais, rhwng y setliad dangosol a'r setliad gwirioneddol, fe lwyddasom i gynyddu'r cyllid i lywodraeth leol er mwyn adlewyrchu rhai o'r blaenoriaethau penodol y maent wedi eu pwysleisio wrthym ynglŷn ag addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Yn sicr, rydym yn croesawu'r flaenoriaeth honno. Ond nid oes amheuaeth fod cyni'n cael cryn effaith ar wasanaethau lleol, ac mae'n rhaid i'r holl gynghorau wneud dewisiadau anodd iawn.

14:55

Weinidog, dywedodd arweinydd cyngor Caerffili yn ddiweddar fod yr awdurdod ar ben ei dennyn ar ôl cael toriad i'w gyllid mewn termau real. O ganlyniad, mae trigolion Caerffili wedi gweld cynnydd o bron i 7 y cant yn eu biliau treth gyngor, ynghyd â thoriad o £14 miliwn i wasanaethau'r cyngor. Mae'r toriadau hyn i'r gwasanaethau yn cynnwys canolfan hamdden Pontllan-fraith, a allai gau erbyn diwedd mis Mehefin eleni, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan y gymuned leol. Dyna'r ardal lle mae [Anghlywadwy.] Neil Kinnock yn dal yno. A yw'r Gweinidog yn derbyn y bydd ei setliad llywodraeth leol gwael yn cael effaith ddifrifol ac andwyol ar strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd, addysg a lles pobl sy'n byw yng Nghaerffili, os gwelwch yn dda?

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn £4.2 biliwn o gyllid cyffredinol i'w wario ar wasanaethau yn 2019-20, a bydd cyllid craidd yn cynyddu 0.2 y cant ar sail debyg am debyg o gymharu â 2018-19. Yn unol ag ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i ddarparu cyllid ar gyfer terfyn isaf i'r setliad, mae'r setliad yn cynnwys £3.5 miliwn a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw awdurdod ymdopi â gostyngiad o fwy na 0.3 y cant yn ei gyllid allanol cyfunol y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi gwneud ein gorau glas i ddal ymbarél dros ein hawdurdodau lleol a'u gwasanaethau rhag y rhaglen hynod greulon o gyni a weithredir gan y Llywodraeth Geidwadol y mae Mohammad Asghar yn ei chefnogi, ac y pleidleisiodd drosti yn ôl pob tebyg. Mae'r syniad y gallwch wahanu'r penderfyniad i barhau â rhaglen gyni am naw mlynedd oddi wrth y difrod i wasanaethau lleol yn eich awdurdod lleol yn eithaf rhyfeddol, ac mae angen i chi ystyried beth yw canlyniadau anfwriadol eich polisïau eich hun i'r gwasanaethau rydych yn sôn amdanynt cyn ichi edrych yn unrhyw le arall, gan nad oes unrhyw amheuaeth, fel y dywedodd Lynne Neagle yn awr, nad oes unrhyw ffrwythau isel ar ôl yma. Rydym yn torri hyd at yr asgwrn y gwasanaethau y mae pobl leol, fel y dywedodd yn gywir, yn eu gwir werthfawrogi, ac nid ydynt am i'r gwasanaethau hynny gau. Yr unig ffordd o atal hynny rhag digwydd yw gwrthdroi'r rhaglen greulon iawn o gyni y mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei gweithredu.

Llosgydd y Barri

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr asesiad effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â llosgydd y Barri? OAQ53655

Rydym yn parhau i roi ystyriaeth ofalus, gan gynnwys gofyn am ragor o eglurhad cyfreithiol ar rai agweddau ar yr achos, o ran sut y mae'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn y system gynllunio yn berthnasol i'r ffatri a adeiladwyd gan Biomass UK No. 2 Ltd. Byddwn yn cyhoeddi penderfyniad cyn gynted â phosibl.

Yn anffodus, Weinidog, bydd hynny'n rhoi arwydd clir i mi—a'r rheini sy'n gwylio'r o'r Barri—na fyddaf yn cael llawer o wybodaeth am sefyllfa'r Llywodraeth ar hyn o bryd, heblaw ei bod yn dal i ceisio cyngor cyfreithiol, oddeutu 13 mis ar ôl i chi roi ymrwymiad yn y Siambr hon eich bod yn bwriadu gofyn am asesiad o'r effaith amgylcheddol. O ystyried nad ewch chi lawer pellach a chynnig dyddiad i ddynodi pryd y gallech fod mewn sefyllfa i roi'r farn honno, a allwch roi eglurhad inni, felly, o'r cyngor cyfreithiol rydych yn ei gomisiynu i gefnogi eich penderfyniadau? Ai cyngor cyfreithiol arbenigol allanol rydych yn ei gomisiynu, neu'r arbenigedd cyfreithiol mewnol sydd gennych yn Llywodraeth Cymru? Oherwydd nid oes syniad gennyf, fel llawer o bobl yn y Barri, pam fod y broses hon yn dal heb ei datrys, 13 mis yn ddiweddarach.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ar y mater hwn. Fel y gŵyr, mae'r achos yn codi materion cymhleth ynglŷn â sut y mae'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn berthnasol i geisiadau i ddiwygio amodau cynllunio, ac mae'n cymryd peth amser i weithio drwy'r materion hynny. Caiff manylion unrhyw gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chyngor cyfreithiol, gan gynnwys a roddir neu a ofynnir am gyngor cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw fater, eu diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol.

Mae llosgydd y Barri'n drychineb. Nid yw'n syniad da o gwbl. Mae'r Barri yn lle hyfryd i fyw. Mae ganddo arfordir hardd. Mae pobl yn dymuno byw yno, ac mae pobl o bob cwr o'r byd yn mynd i'r Barri gan ei fod yn lle mor wych. Felly, pam ar y ddaear y byddech yn dymuno gosod llosgydd enfawr ar y glannau, dod â sbwriel i mewn o bob man a'i losgi ar arfordir y Barri? A ydych yn cytuno â mi y dylid rhoi'r gorau i'r cynllun gwarthus hwn?

Lywydd, o ystyried y broses gyfreithiol barhaus, nid yw'n briodol imi wneud sylwadau neu ychwanegu sylw pellach at yr atebion a roddwyd eisoes heddiw.

Gwella Cynhwysiant Digidol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cynhwysiant digidol? OAQ53671

 phleser. Drwy Cymunedau Digidol Cymru a'r nifer o gamau eraill yn ein cynllun cyflenwi a'n fframwaith cynhwysiant digidol, rydym yn cynorthwyo mwy o bobl i gael y budd mwyaf posibl o'r cyfleoedd sy'n gallu newid bywydau y gall technolegau digidol eu cynnig.

15:00

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod mynediad at gysylltedd digidol yn ffordd wych o sicrhau bod pobl ledled y wlad yn gallu cael mynediad at blatfformau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys amrywiaeth o apiau ar-lein. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod y broses o ddarparu'r cysylltedd hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ar-lein? Gwyddom pa mor bwysig yw datblygiadau mewn gwasanaethau ar-lein i bobl na allant siarad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, er enghraifft. Gwnaed gwaith gwych yn y maes hwn gan fyfyrwyr o Goleg Cambria fel rhan o fagloriaeth Cymru. Fe wnaethant ddylunio ap ar gyfer elusen Mind—yr elusen wych o'r enw Mind—a fydd o fudd i unigolion â phroblemau iechyd meddwl, fel fi. A ydych yn cytuno â hynny?

Ydw, yn sicr. Gall cynhwysiant digidol gael effaith sylweddol ar ganlyniadau iechyd pobl drwy eu cynorthwyo i gael rheolaeth ar eu hiechyd a'u gofal, neu helpu i leihau teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd. Gall roi cyfrwng iddynt allu cyfathrebu ag eraill yn y ffordd fwyaf cyfforddus a chael mynediad at wasanaethau ac adnoddau ar-lein i gefnogi eu hiechyd meddwl mewn ffordd a all fod yn fuddiol ac yn ddefnyddiol iawn. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r ap. Rwy'n falch iawn o glywed amdano, ac rwy'n siŵr y bydd yn cael effaith dda iawn ar y bobl sy'n ei ddefnyddio.

Mae'n rhaid i ni hefyd, fel y dywedodd, fod yn ystyriol o'r risgiau a'r peryglon a'r cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom i sicrhau nad yw pobl yn agored i brofiadau ar-lein a all gael effeithiau niweidiol iawn ar iechyd meddwl. Drwy Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn cyflawni rôl gydgysylltu hanfodol mewn cymunedau, i helpu pobl gyda'u cymhelliant, mynediad a sgiliau, i allu gwella eu bywydau drwy dechnoleg ddigidol. Mae'r rhaglen yn gweithio gydag elusennau iechyd meddwl i wella sgiliau digidol pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac i roi'r gwytnwch a'r technegau iddynt allu ymdopi â rhai o'r profiadau y gwyddom y gallant eu hwynebu, wrth iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein y gwyddom y gallant fod yn ddefnyddiol iawn.

Rydym am sicrhau bod gan ein dinasyddion y sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen i allu gwneud y dewisiadau gwybodus hynny, a dyna pam fod yr hyfforddiant yn cynnwys awgrymiadau ar sut i fod yn ddiogel, fel y dywedais. Rwy'n falch iawn ein bod newydd gyhoeddi'r contract ar gyfer gwasanaethau iechyd a chynhwysiant digidol ledled Cymru. Gall y rhaglen honno gynorthwyo pobl mewn ysbytai a lleoliadau gofal eraill i gael mynediad at wasanaethau digidol ar-lein, ac i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i allu datblygu hynny.

Wrth inni newid i fod yn gymdeithas ddigidol—yn gymdeithas gwbl ddigidol—rwy'n pryderu ynglŷn â'r ardaloedd o Gymru, wrth gwrs, lle nad oes gennym seilwaith digidol digonol i bobl ei ddefnyddio. Ond yn ychwanegol at hynny, ceir mater llythrennedd digidol, sy'n arbennig o gyffredin mewn ardaloedd lle ceir poblogaethau cymharol uwch o bobl hŷn. Felly, credaf fod tair blynedd, bron, wedi bod ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynllun cynhwysiant digidol. Tybed a allech amlinellu'r hyn rydych yn ei wneud i gynorthwyo pobl i fanteisio ar dechnoleg newydd.

Gallaf. Fel y dywedais, mae gennym raglen cynhwysiant digidol ac iechyd newydd sy'n dair blynedd o hyd ac yn werth £6 miliwn, a bydd yn gweithio i wella gallu digidol dinasyddion a staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganiatáu i fwy o bobl gymryd rhan fwy gweithgar yn eu hiechyd a'u lles eu hunain. Bydd yn dechrau ym mis Gorffennaf eleni. Rydym hefyd wedi darparu £250,000 er mwyn cyfieithu Learn My Way, platfform sgiliau digidol sylfaenol ar-lein, i wneud y cynnwys yn ddwyieithog, fel y gellir ei hyrwyddo'n eang i holl gymunedau Cymru, i gynorthwyo pobl y mae Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu bobl sy'n dewis siarad Cymraeg i allu cael mynediad at sgiliau digidol yn y modd hwnnw.

Ers mis Ebrill 2015, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cynorthwyo 140,000 amcangyfrifedig o unigolion i ymgysylltu â'u technoleg, ac rydym hefyd wedi hyfforddi 2,600 o arwyr digidol ifanc, lle mae pobl ifanc o ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid yn gwirfoddoli i gynorthwyo pobl hŷn i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol. Os nad yw'r Aelod wedi gweld un o'r rhaglenni hynny ar waith, rwy'n siŵr y gallem ddod o hyd i un yn ei etholaeth fel y gall ei gweld, gan na allaf hyd yn oed siarad amdanynt heb wenu. Roedd yn rhaglen wirioneddol wych—gwylio rhywun ifanc yn cynorthwyo rhywun hŷn i ddefnyddio'r dechnoleg a dod â hi'n fyw iddynt mewn ffordd wirioneddol dda.

Bydd yn gwybod nad yw'r rhaglen band eang yn rhan o fy nghyfrifoldebau i bellach, felly ni allaf gael sgyrsiau ar draws y Siambr gydag ef mwyach ynglŷn â'r byd technegol. Ond gwnaeth fy nghydweithiwr, Lee Waters, ddatganiad yn ddiweddar ar y cynllun gweithredu ar ffonau symudol, a gwn ei fod yn parhau â fy rhaglen o gyfarfodydd â chymunedau ledled Cymru i sicrhau ein bod yn darparu'r cysylltedd band eang sydd ei angen arnynt i allu cyfranogi cyn gynted â phosibl.

Ni ofynnwyd cwestiwn 8 [OAQ53651].

15:05
Darpariaeth Tai ar gyfer Pobl sy’n Dod yn Ddigartref

Gyda diolch i'r Llywydd ac i Darren Millar am y cyfle i ofyn y cwestiwn.

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai ar gyfer pobl sy’n dod yn ddigartref yng Nghymru? OAQ53677

Ie, diolch am y cwestiwn. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb le da i'w alw'n gartref. Rydym yn buddsoddi mewn mynd i'r afael â digartrefedd, gan gynnwys drwy ddatblygu Tai yn Gyntaf yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo i gynyddu a diogelu ein stoc tai cymdeithasol.

Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, yn sgil Deddf Cartrefi (Cymru) 2014, mae yna ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pawb sy'n canfod eu hunain yn ddigartref yn cael llety dros dro tra bod y cyngor, wrth gwrs, yn ffeindio cartref ar eu cyfer nhw, ac mae hynny yn rhywbeth i'w groesawu. Ond o ganlyniad, wrth gwrs, mae cost darparu llety dros dro, er enghraifft, yn sir Ddinbych wedi cynyddu o £151,000 bedair blynedd yn ôl i £558,000 eleni; yn Wrecsam, i fyny o £330,000 i dros £600,000; yng Ngwynedd o £354,000 i dros £700,000, ac yn y blaen. Felly, gaf i ofyn pa gamau rŷch chi'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu yn ddigonol er mwyn, wrth gwrs, medru sicrhau bod pawb sydd angen llety dros dro yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw?

Ie, mae'n ganlyniad diddorol i'r Ddeddf, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn atal digartrefedd, ein bod yn gweld peth o'r cynnydd a amlinellwyd gan yr Aelod, ac rydym yn gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad yw pobl yn aros mewn llety drud dros dro am gyfnod hir o amser a'u symud i lety sicr, hirdymor cyn gynted â phosibl, sydd hefyd â'r fantais ychwanegol o fod yn rhatach iddynt hwy ac i'r cyngor neu'r landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n ei ddarparu. Felly, rydym yn gweithio ar raglen o hynny, yn bendant.

Rwyf wedi sôn eisoes, mewn ateb cynharach i Leanne Wood, am y cyflenwad tai a'n cynllun uchelgeisiol i sicrhau bod y cyflenwad tai yn ddigonol. Yn y pen draw, dyna'r unig ateb, oherwydd, yn y pen draw, oni bai y gallwn gynyddu'r cyflenwad tai i gyfateb i'r angen cymdeithasol—ac mewn gwirionedd, buaswn yn dweud y galw cymdeithasol—am dai rhent cymdeithasol, byddwn bob amser yn wynebu problem wrth i bobl barhau i chwilio am lety mewn system sydd, wedi'r cyfan, yn system ddogni, y broses ddyrannu. Felly, fy uchelgais fyddai cyrraedd pwynt lle nad ydych mewn system ddogni, ac os ydych am fyw mewn tai rhent cymdeithasol, gallwch fynd at eich awdurdod tai lleol a dweud, 'Hoffwn dŷ rhent cymdeithasol, os gwelwch yn dda'. Yn sicr, pan oeddwn yn ifanc, roedd hynny'n wir.

Felly, mae angen inni gynyddu ein cyflenwad tai yn sylweddol. Mae angen i ni adeiladu'n gyflym ac ar raddfa fawr, ac yn y cyfamser, mae angen inni weithio gyda'n diwydiant tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ledled Cymru i sicrhau bod ganddynt y llwybr gorau yn ôl i lety diogel y gallant ei reoli, er mwyn rheoli'r costau, ac mewn gwirionedd, er mwyn rheoli profiad unigolion sydd, yn anffodus, yn ddigartref.

3. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). Dwi'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7022 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi fy ngorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines i roi gwybod i'r Cynulliad fod Ei Mawrhydi, ar ôl cael ei hysbysu ynglŷn â pherwyl Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), wedi rhoi cydsyniad i'r Bil hwn.

Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.

Mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) yn dilyn cwblhau Cam 3 yr wythnos diwethaf. Fel y gŵyr yr Aelodau, cyflwynwyd y Bil gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ei rôl flaenorol fel y Gweinidog Tai ac Adfywio, a hoffwn dalu teyrnged i'w harweinyddiaeth, ei hymrwymiad a'i pharodrwydd i drafod syniadau i geisio gwella profiadau tenantiaid ledled Cymru drwy arwain y Bil drwy Gamau 1 a 2 o broses graffu'r Cynulliad. Nodau allweddol y Bil yw sicrhau bod rhentu'n rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw. Gwna hyn drwy gyfyngu'n arbennig ar y costau sylweddol y gall tenantiaid eu hwynebu ymlaen llaw wrth symud i gartrefi neu rhwng cartrefi.

Mae llawer o'n hetholwyr, ac yn rhy aml, y rheini sydd ar incwm isel, wedi dioddef yn sgil ffioedd gosod. Mae'r Bil yn ailgydbwyso'r berthynas rhwng tenant, asiant a landlord, gan ddileu unrhyw amheuaeth ynglŷn â pha gostau y mae angen cyllidebu ar eu cyfer wrth rentu. Bydd y diwygiadau a gyflwynir gan y Bil yn helpu i wella enw da'r sector, rhywbeth sydd wedi dod yn gynyddol bwysig dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd datblygiad y Bil ei lywio gan bron i 700 o ymatebion a gawsom i'n hymgynghoriad â rhanddeiliaid, a roddodd sylfaen dystiolaeth gadarn i ni ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth, ac rwy'n ddiolchgar i bob un a gyfrannodd. Fel bob amser, mae'r broses graffu wedi ein cynorthwyo i hogi ein cynigion cychwynnol, a hoffwn dalu teyrnged i waith aelodau a swyddogion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wrth arwain y gwaith hwn. Hefyd hoffwn gydnabod ymdrechion grwpiau rhanddeiliaid sy'n cynrychioli buddiannau tenantiaid, asiantiaid a landlordiaid yn y broses hon, a roddodd dystiolaeth naill ai'n ysgrifenedig neu'n bersonol.

Fel gyda'r rhan fwyaf o Filiau, mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid wedi archwilio ei ddarpariaethau'n drylwyr o ran sut y maent yn berthnasol i'w buddiannau hwy. Rwy'n ddiolchgar am eu gwaith i'r perwyl hwn.

Yr wythnos diwethaf, darparodd yr Aelodau ymatebion ystyriol a phwyllog i ddadl y Cyfarfod Llawn ar Gam 3 y Bil. Cafwyd consensws trawsbleidiol ar yr angen i ddeddfu, a cheir consensws o hyd, ac rwy'n ddiolchgar fod y drafodaeth yr wythnos diwethaf wedi atgyfnerthu'r farn honno. Mae'r adroddiadau a baratowyd gan y pwyllgorau wedi bod yn werthfawr i'n cynorthwyo i nodi agweddau ar y Bil a gafodd eu gwella gan welliannau a wnaed yng Nghamau 2 a 3. Roedd diddordeb arbennig yn y trefniadau a wnaethom ar gyfer gweithredu'r Bil, sydd wedi'u cryfhau ymhellach ers cyflwyno’r Bil drwy gynyddu lefel y cosbau penodedig yn ogystal ag ymestyn pwerau gorfodi i gynnwys yr awdurdod trwyddedu landlordiaid ac asiantiaid, sef Rhentu Doeth Cymru ar hyn o bryd.

Mae'r Bil bellach yn cyfyngu hefyd ar gyflwyno hysbysiadau troi allan 'dim bai', ac yn sicrhau bod taliadau cyfleustodau yn daliadau a ganiateir. Rwy'n ddiolchgar i David Melding a Leanne Wood am y ffordd golegol y maent wedi gweithio gyda ni ar y materion hyn. Rydym wedi gwrando ar ddadleuon ynglŷn ag ymdrin â thaliadau sy'n ofynnol pan fydd deiliad contract yn methu cydymffurfio â thelerau eu contract. O ganlyniad, mae'r Bil bellach yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau a fydd yn cyfyngu ar y defnydd o ddiffygdaliadau drwy osod terfyn rhagnodedig arnynt.

Gwn fod cryn ddiddordeb mewn cychwyn y Bil cyn gynted â phosibl fel y gall tenantiaid ddechrau elwa o beidio â gorfod talu ffioedd gosod mwyach. Dadleuodd Leanne Wood yn angerddol ar ran myfyrwyr sy'n dymuno gweld ffioedd yn cael eu gwahardd erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd yr hydref hwn. Dyna fy nymuniad innau hefyd. Yn amodol ar basio'r Bil drwy'r cam terfynol hwn ac yn amodol ar roi Cydsyniad Brenhinol, fy mwriad yw bod y Ddeddf yn cychwyn erbyn yr hydref. Yr adeg honno, bydd gennym Ddeddf ar waith sy’n sicrhau bod rhentu’n fwy deniadol, Deddf a fydd yn lleihau i'r graddau mwyaf posibl y costau ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â rhentu, a Deddf sydd â chyfyngiadau a threfniadau gorfodi cadarn ar waith er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad asiantiaid a landlordiaid diegwyddor.

Diolch yn fawr, Lywydd.

15:10

Rwy'n falch iawn o siarad yng ngham olaf y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth heddiw. Fel y dywedais ar y dechrau, yng Ngham 1, un cam yn unig yw'r Bil hwn yn yr ymdrech i adeiladu marchnad dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn wir, mae’n annheg fod tenantiaid ledled y wlad yn wynebu costau annisgwyl ac afresymol, a dyna pam fy mod yn hapus y byddwn yn gwahardd y ffioedd hynny, ynghyd â mesurau eraill i wneud rhentu'n decach ac yn fwy tryloyw.

I ni’r Ceidwadwyr Cymreig, agwedd bwysicaf y Bil hwn oedd yr angen i gydbwyso a diogelu hawliau landlordiaid a thenantiaid. Mae hynny wedi llywio fy ymagwedd wrth ddrafftio gwelliannau yng Nghamau 2 a 3, ac rwy'n falch iawn fod rhai o fy ngwelliannau wedi cael eu derbyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae hynny’n cynnwys, yn gyntaf, gwelliant sy'n galluogi Rhentu Doeth Cymru i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig—gwelliant a gyflwynais yng Ngham 2, ond a ddiwygiwyd gan y Llywodraeth a’i gyflwyno ganddynt yng Ngham 3—ac yn ail, fy ngwelliant sy'n atal y landlord rhag rhoi hysbysiad cymryd meddiant i'r tenant pan fydd tâl gwaharddedig wedi’i godi a heb ei ad-dalu wedyn. Derbyniwyd y gwelliant hwn yng Ngham 3 yr wythnos diwethaf, yn dilyn cydweithredu agos â'r Gweinidog a'i thîm, a diolch i'r Gweinidog am weithio gyda mi yn y modd hwnnw. Roedd yna welliannau eraill, Lywydd, y teimlwn y byddent wedi cryfhau'r Bil na chawsant eu derbyn, ond rwy’n fodlon â thri chwarter y dorth yn yr achos hwn.

I bob un o'r landlordiaid a'r tenantiaid sy'n cydweithredu’n gytûn, rwy'n dweud wrthynt heddiw nad oes ganddynt unrhyw beth i’w ofni yn y ddeddfwriaeth hon. Bydd yn eu helpu yn y pen draw, oherwydd, ynghyd â darnau eraill o ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Cynulliad hwn ac sydd wedi cryfhau'r maes hwn, byddwn yn cael gwared ar y rheini sy'n cyflawni arferion diegwyddor, a thrwy hynny, byddwn yn cryfhau'r farchnad, ac yn ei gwneud yn fwy ffafriol i landlordiaid ac asiantiaid cyfrifol. A chredaf fod hynny’n rhan hanfodol o'r hyn a wnawn.

Dros y degawd diwethaf, mae'r sector rhentu preifat wedi tyfu o ran niferoedd gwirioneddol ac o ran cymesuredd, yn bennaf ar draul perchen-feddiannaeth. Os bydd y duedd yn parhau, y sector rhentu preifat fydd yr ail fath mwyaf cyffredin o gartref ar ôl perchentyaeth. Rhagwelir y bydd yn cyrraedd 20 y cant o gyfanswm y stoc dai erbyn 2020, y flwyddyn nesaf. Mae'n farchnad sydd yma i aros.

Roedd yn bwysig inni gael y ddeddfwriaeth hon yn iawn gan fod y sector yn dod yn gynyddol bwysig wrth ddiwallu'r angen am dai, ac rydym wedi bod mewn sefyllfa ffodus, o ran profi a methu a dysgu gan eraill, gan fod Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon eisoes, ac mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi ceisio’i adlewyrchu yn fy ymagwedd ac yn fy ngwaith craffu. Er tegwch, credaf hefyd fod y Llywodraeth wedi bod yn gwbl ymwybodol o hynny hefyd.

I gloi, Lywydd, rwy'n fodlon fod y Bil hwn yn cryfhau hawliau pawb sy'n gysylltiedig â'r sector ac yn helpu i ailadeiladu'r hyder rhwng landlord a thenant. Rwy’n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon ar ei cham olaf heddiw.

15:15

Y Gweinidog i ymateb.

A ydych yn dymuno—?

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

4. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Yr eitem nesaf yw eitem 4, y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.

Cynnig NDM7015 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft aosodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mawrth 2019.  

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'r rheoliadau ger eich bron yn ymwneud â Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n ymwneud â byrddau partneriaeth rhanbarthol. Cynhaliwyd ymgynghoriad wyth wythnos yn eu cylch, a ddaeth i ben ar 26 Hydref, a chafwyd 44 o ymatebion. Ategwyd hyn gan ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid. Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, y rheoliadau partneriaeth, a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015, rheoliadau'r asesiadau poblogaeth. Mae'r rheoliadau diwygio hyn yn diwygio'r ddau reoliad hwn yn unol â'r newidiadau a wnaed i enwau a ffiniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.

Mae'r rheoliadau diwygio yn egluro yn y rheoliadau partneriaeth fod yn rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sefydlu un gronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas â lleoedd mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob partner ddarparu cyfraniadau digonol i'r gronfa i fodloni eu costau disgwyliedig ar gyfer lleoedd mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn. Nid yw'r gofynion eraill mewn perthynas â chronfeydd cyfun yn y rheoliadau partneriaeth wedi newid.

Gan adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad, mae'r rheoliadau diwygio yn ychwanegu gofynion ar gyfer cynrychiolwyr tai ac addysg ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn cryfhau gweithio mewn partneriaeth yn y rhanbarthau. Mae'r rheoliadau hefyd yn egluro bod yn rhaid cynhyrchu adroddiadau blynyddol y byrddau partneriaeth rhanbarthol erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn, yn hytrach nag 1 Ebrill. Mae'r rheoliadau hyn yn cryfhau ac yn egluro'r disgwyliadau o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi.

Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Rwy'n cymryd nad yw'r Dirprwy Weinidog yn dymuno ymateb iddi hi ei hun. [Chwerthin.] Felly, y cwestiwn yw—

A ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig. Diolch.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol, i'w ateb gan y Trefnydd. Andrew R.T. Davies.

Penderfyniad yr Uchel Llys heddiw ynghylch yr ymchwiliad i ddiswyddo Carl Sargeant

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn ymateb i benderfyniad yr Uchel Lys heddiw ynghylch yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant? 293

Rwy'n ymateb i'r cwestiwn y prynhawn yma ar ran y Prif Weinidog, sydd yn Llundain ar gyfer cyfarfodydd yn ymwneud â Brexit.

Nodwn y dyfarniad heddiw gan yr Uchel Lys, sy'n darparu eglurder ar yr hyn a fu'n broses gymhleth. Byddwn yn ystyried y camau nesaf yn awr mewn perthynas â'r ymchwiliad yng ngoleuni'r dyfarniad heddiw.

Diolch am eich ateb cryno, Weinidog, ac rwy'n deall yn iawn pam mai chi sy'n ymateb i'r cwestiwn hwn yn hytrach na'r Prif Weinidog.

Hoffwn hefyd ymddiheuro i deulu Carl Sargeant a Jack Sargeant, oherwydd yn amlwg, ni chafodd y Siambr hon yr atebion roeddent eu hangen ac roedd y teulu'n teimlo bod yn rhaid iddynt fynd i'r llys i gael y dyfarniad hwn heddiw. Mae hwn yn ddyfarniad damniol, a dweud y lleiaf. Mae'n dweud bod gweithred anghyfreithlon wedi'i chyflawni—dyna'r dyfarniad. Mae'n nodi tri maes yn benodol. Mae'n dweud nad oedd gan yr Ysgrifennydd Parhaol ryddid i weithredu wrth sefydlu'r ymchwiliad hwn, er gwaethaf datganiad ar ôl datganiad, a chyfeiriaf at un ar 18 Medi, lle dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd

'Nid wyf i wedi ymyrryd â'r protocol o gwbl.'

Mae hynny wedi'i gofnodi, a cheir llawer o ddatganiadau eraill tebyg.

Dywed ail gasgliad y dyfarniad heddiw na chyflawnodd yr Ysgrifennydd Parhaol y paratoadau ar gyfer yr ymchwiliad ar wahân i swyddfa'r Prif Weinidog, er bod y cyn Brif Weinidog wedi dweud yn glir fod yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn ymchwiliad hyd braich ac nad oedd ganddo ef na'i swyddfa unrhyw fewnbwn iddo o gwbl.

A'r trydydd pwynt a'r pwynt olaf yw bod gan y Prif Weinidog ar y pryd reolaeth dros y broses; yn wir, i bob pwrpas, cafodd y gair olaf a rheolaeth ar ffurf derfynol y protocol gweithredol. Mae hwnnw'n ddyfarniad damniol sut bynnag yr edrychir arno. Hoffwn wybod sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen â'i hymateb. Rwy'n derbyn mai dim ond ers ychydig oriau y cafwyd y dyfarniad hwn, ond mae angen inni ddeall yn glir sut rydym yn mynd i gael eich ymateb i'r farn hon. Mae angen inni ddeall pa ymgysylltiad y byddwch yn ei gael gyda theulu'r Sargeantiaid yn arbennig, i sicrhau y gellir datrys y materion hyn fel y gall yr ymchwiliad fynd rhagddo, ac fel nad oes yn rhaid i'r mater fynd drwy'r llysoedd, a fyddai'n golygu bod y Llywodraeth yn cael ei llusgo drwy'r llysoedd eto. Ac yn drydydd, hoffwn weld pa gamau a gymerir i sicrhau bod gwahaniad clir rhwng y Llywodraeth ac annibyniaeth y gwasanaeth sifil, oherwydd yn bwysig yma, yr Ysgrifennydd Parhaol yw gwarcheidwad yr annibyniaeth honno, ac mae'r dyfarniad hwn yn dangos yn glir fod yr annibyniaeth honno wedi'i pheryglu. A chredaf y gallwch roi rhywfaint o sicrwydd inni heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn ymateb i ni, ond mae arnom angen yr amserlen honno fel nad yw hyn yn cael ei anghofio. Fel y dywedais, mae hwn yn ddyfarniad damniol, ac mae'r teulu'n haeddu llawer gwell gennym ni fel sefydliad a gennych chi fel Llywodraeth.

15:20

Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn y prynhawn yma, ac am roi cyfle inni drafod, yn y lle cyntaf, y dyfarniad a wnaed. Diolchwn i'r llys am roi'r eglurder sydd gennym bellach ar broses sydd wedi bod yn gymhleth iawn. Yn amlwg, byddwn yn trafod ac yn ystyried y camau nesaf yng ngoleuni dyfarniad heddiw, ond hoffwn ddweud ar y cychwyn cyntaf ei bod, yn amlwg, wedi bod yn amser anodd iawn i bawb, yn enwedig i deulu Carl Sargeant, wrth gwrs.

O ran y camau nesaf, byddwn yn ystyried yr adroddiad, ac rwyf wedi rhoi copi ohono yn y llyfrgell ynghyd â'r crynodeb i'r Aelodau allu ei ddarllen eu hunain. Mae'r prif faterion yn ymwneud â'r broses ynghylch rhai agweddau ar y protocol gweithredol, yn benodol, yn hytrach na'r penderfyniadau eu hunain. Felly, mae'r cadeirydd, Paul Bowen QC, yn parhau yn ei le, a bydd y camau nesaf yn cael eu llywio, yn amlwg, drwy ymgysylltiad â phob un sydd â buddiant, gan gynnwys teulu'r Sargeantiaid.

Mae'r Trefnydd wedi dweud bod y Llywodraeth yn diolch i'r llys am yr eglurder y mae'n ei gynnig bellach, ond ymddengys—i mi, o leiaf—fod y datganiad hwnnw braidd yn aneglur, felly a all ddatgan yn ddiamwys a yw'r Llywodraeth yn derbyn dyfarniad y llys yn llawn, ac felly'n ildio unrhyw hawl sydd ganddi i apelio? Ac os gallech egluro hefyd, oherwydd yn y penderfyniad, cyfeirir at gyflwyniadau sydd bellach yn cael eu ceisio gan gwnsler yn yr achos ynghylch y camau nesaf, o ran union natur yr iawn sy'n cael ei orchymyn. Pwy fydd yn cyfarwyddo'r cwnsler yn yr achos hwnnw? Ai'r cyn Brif Weinidog neu'r Prif Weinidog presennol?

Nawr, dywedodd yr Arglwydd Ustus Haddon-Cave a Mr Ustus Swift yn glir, fel y clywsom gan Andrew R.T. Davies, yn eu dyfarniad fod y cyn Brif Weinidog wedi torri ei addewid o annibyniaeth mewn sawl ffordd: wrth roi cylch gwaith ymlaen llawn i'r Ysgrifennydd Parhaol, heb ei gyhoeddi, yn breifat, ar 9 Tachwedd, a bod y protocol gweithredol y cyfeiriodd y Trefnydd ato wedi'i lunio a'i gwblhau gan y cyn Brif Weinidog mewn ymgynghoriad â'i gwnsler. A all y Trefnydd ddweud a oedd unrhyw aelodau o'r Llywodraeth bresennol yn ymwybodol fod cylch gwaith wedi'i roi i'r Ysgrifennydd Parhaol ymlaen llaw, a bod y cyn Brif Weinidog wedi parhau i ddylanwadu ar brotocol gweithredol yr ymchwiliad, rhywbeth y daeth y llys i'r casgliad ei fod yn gwbl groes i'r datganiad i'r wasg a wnaed gan y Llywodraeth ar 10 Tachwedd? Os mai'r ateb i'r cwestiwn hwn yw nad oedd eraill yn ymwybodol, a all ddweud pryd y daethant yn ymwybodol ac o dan ba amgylchiadau?

Nawr, mewn perthynas â phedair agwedd y protocol gweithredol y mynnodd y cyn Brif Weinidog ei roi ar waith yn erbyn dymuniadau teulu'r Sargeantiaid, ac yn anghyfreithlon o ystyried annibyniaeth honedig yr ymchwiliad, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu cytuno i unrhyw un neu bob un o geisiadau teulu'r Sargeantiaid am newidiadau yn y ffordd y cynhelir yr ymchwiliad, neu fel arall, a yw'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen beth bynnag yn unol â chyfarwyddwyd y cyn Brif Weinidog? A yw'r Trefnydd yn derbyn bod canfyddiad gan yr Uchel Lys fod Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn anghyfreithlon mewn mater sydd, yn ddealladwy, o ystyried natur drasig y digwyddiadau hyn, wedi ennyn cryn ddiddordeb cyhoeddus, yn ergyd ddifrifol iawn i enw da'r Llywodraeth mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb? Os felly, a wnaiff hi ymrwymo i groesawu ymrwymiad newydd i dryloywder yn yr achos hwn? Yn benodol, a yw'n fodlon ac a yw'n gallu dweud wrthym faint o gymorth ariannol a roddwyd i'r cyn Brif Weinidog a chyn-gynghorwyr arbennig yn yr amryw gamau cyfreithiol a ddygwyd gerbron mewn perthynas â'r achos hwn?

Ac yn olaf, a gawn ni ofyn i'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, y cyfeirir ato yn y dyfarniad, ac y gwrthwynebodd y diffynyddion yn yr achos hwn ei gyhoeddi, gael ei gyhoeddi o'r diwedd?

15:25

Wel, Lywydd, mae sawl agwedd ar y cwestiynau y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'u gofyn i mi y prynhawn yma nad wyf mewn sefyllfa i'w hateb gan mai dyma'r tro cyntaf i mi ymwneud â'r mater penodol hwn, o ystyried fy mod bellach yn cyflawni rôl y Trefnydd—nid oedd gennyf ran yn y mater cyn hynny. Felly, o ran llawer o'r agweddau a ddisgrifiwyd gennych, nid wyf mewn sefyllfa i ateb heddiw. Yn amlwg, bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'r datblygiadau yn y ffordd fwyaf priodol, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau nesaf pan fo hynny'n briodol.

Yn amlwg, heddiw y cawsom y dyfarniad, felly bydd angen inni gymryd peth amser i ystyried y dyfarniad hwnnw ac i bennu'r camau nesaf mewn perthynas â hynny, ond yn amlwg, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd agored a thryloyw.

O ran costau, mae'r llys wedi dyfarnu costau safonol yn erbyn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r achos cyfreithiol penodol hwn, ac nid ydym mewn sefyllfa i roi ffigur o ran beth y gallai'r costau hynny fod ar y cam cynnar iawn hwn, o ystyried mai y bore yma y cyflwynwyd y dyfarniad. Ond rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi y byddaf yn sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael diweddariad fel y bo'n briodol, ac yn cael cymaint o wybodaeth ag y gallwn ei rhoi, ond heddiw'n unig y cawsom y dyfarniad.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n debyg y dylwn gofnodi fy mod yn amlwg yn aelod o'r Llywodraeth pan drafodwyd y materion hyn gan aelodau o'r Llywodraeth. A gaf fi ddweud fy mod yn ddiolchgar i Andrew R.T. Davies am ddwyn y mater hwn i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma? Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, a mynd i'r afael ag ef ar frys. Trafodais botensial ymchwiliad annibynnol gyda'r Prif Weinidog ar y pryd y diwrnod ar ôl i ni golli Carl, ac yn sicr, roeddem yn teimlo ar y pryd y byddai hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael ei ddatrys yn gyflym iawn. Mae wedi cymryd gormod lawer o amser i ddatrys y mater hwn, ac mae'n rhywbeth y credaf fod angen i ni sicrhau bod y teulu'n cael y wybodaeth y maent yn ei cheisio yn ei gylch a'u bod yn cael y diweddglo y maent ei angen. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, ym mha ran bynnag o'r Siambr hon yr eisteddwn a pha rôl bynnag a chwaraewyd gennym, yn y Llywodraeth ac fel Aelodau o'r lle hwn, i ddatgelu'r gwir ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd.

Cytunaf ag Adam Price ei bod bellach, mae'n debyg, yn bryd cyhoeddi'r ymchwiliad i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, a'i gyhoeddi yn ei gyfanrwydd, i alluogi pobl i ddeall y cefndir, a chredaf hefyd, o bosibl, o ystyried yr hanes, y gallem ddysgu gwers gan Dŷ'r Cyffredin heddiw, ac efallai y bydd angen i'r lle hwn gymryd rheolaeth ar y broses hon os na all y Llywodraeth wneud hynny.

A wnaiff y Llywodraeth ystyried cyflwyno cynnig i'r lle hwn gyda thermau'r ymchwiliad, gyda ffurf gweithredu'r ymchwiliad, fel y gall pob un ohonom fod yn fodlon, ac yn fodlon yn gyhoeddus, fod yr ymchwiliad hwn yn broses agored a thryloyw fel yr addawyd i'r teulu, y bydd yr ymchwiliad hwn yn gweithredu mewn ffordd sy'n chwilio am y gwirionedd yn hytrach na gweithredu mewn ffafriaeth neu mewn ofn, ac yn sicrhau y gallwn, gyda'n gilydd, sicrhau bod y gwirionedd yn cael ei ddatgelu, fod pobl yn deall beth a ddigwyddodd i'n ffrind a deall pam y digwyddodd hynny.

O ystyried y dyfarniad heddiw, rwy'n credu ei bod yn bryd i'r Llywodraeth naill ai gymryd cyfrifoldeb dros ddatrys hyn a gwneud hynny ar frys, neu mae'n bryd i'r lle hwn wneud hynny ar ran y Llywodraeth.

Yn y lle cyntaf, credaf mai'r peth pwysig fydd astudio'r dyfarniad sydd ger ein bron heddiw, ac fel y dywedais, rydym wedi sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau yn y llyfrgell er mwyn sicrhau y gall pob Aelod ei astudio hefyd. Ond yn sicr bydd y camau nesaf yn cynnwys trafod gyda'r teulu i gychwyn o ran penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Yn amlwg, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi'r wybodaeth lawnaf y gallwn ei rhoi i'r Aelodau. Nid ydym mewn sefyllfa i ddweud llawer mwy heddiw, Lywydd, gan mai heddiw'n unig y cawsom y dyfarniad, felly bydd angen inni ei astudio a phenderfynu ar y camau nesaf.

6. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad, ac mae’r datganiad cyntaf gan Dawn Bowden.

15:30

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, gwnaeth fy nghyd-Aelod Vikki Howells ddatganiad i nodi trideg pump o flynyddoedd ers dechrau streic y glowyr yn 1984. Ond mae yna un agwedd ar yr anghydfod diwydiannol chwerw a maith hwnnw y credaf ei fod yn haeddu ein sylw pellach. Rwy'n cyfeirio, wrth gwrs, at y ffordd y gwnaeth yr anghydfod wleidyddoli a radicaleiddio menywod drwy'r mudiad Menywod yn Erbyn Cau'r Pyllau Glo. Llwyddodd y mudiad hwnnw i rymuso cymaint o fenywod i weithredu ac i ymgymryd â rolau cyhoeddus yn yr hyn a oedd yn draddodiadol yn weithgareddau gwrywaidd yn bennaf. Fe'u tynnodd allan o'r gegin ac i reng flaen gwleidyddiaeth.

Yn ystod y streic, daeth menywod nad oeddent yn wleidyddol cyn hynny i'r amlwg fel arweinwyr, siaradwyr, codwyr arian, trefnwyr a chefnogwyr allweddol yn yr anghydfod. I'r rhan fwyaf, ni fyddai bywyd byth yr un fath, a daeth llawer yn ffigurau gwleidyddol yn eu hawl eu hunain, fel Sian James, a aeth ymlaen i fod yn AS dros Ddwyrain Abertawe. Yn ei llyfr, 'Is it Still Raining in Aberfan?', mae'r newyddiadurwr Melanie Doel yn cofnodi meddyliau un o'r menywod hynny, Maureen Hughes. Roedd hi'n cyfleu'r hyn yr oedd glöwr ar streic ym mhwll glo Merthyr Vale wedi dweud wrthi.

Chi oedd y fenyw ar y llinell biced—ni fyddwch byth yn gwybod faint o hwb i'r ysbryd oedd eich gweld chi yno yn ein cefnogi.

Felly, wrth inni gofio trideg pump o flynyddoedd ers dechrau streic y glowyr, gadewch i ni gofio hefyd y Menywod yn Erbyn Cau'r Pyllau Glo. Roeddent, ac maent, yn fenywod rhyfeddol ac ni ddylem byth anghofio eu cyfraniad i hanes dosbarth gweithiol ein gwlad.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Seiclon Idai oedd y storm waethaf erioed i daro rhan ddeheuol Affrica, gan effeithio ar Malawi, Mozambique a Zimbabwe, a gadael trywydd o ddinistr a bywydau toredig yn ei sgil. Mae'r storm wedi creu cefnfor mewndirol ym Mozambique sydd yr un faint â Lwcsembwrg. Mae wedi lladd 700 o bobl ac wedi effeithio ar oddeutu 3 miliwn yn fwy na hynny. Mae hynny bron yr un faint â phoblogaeth Cymru. Cafodd tai, ffyrdd a phontydd eu chwalu'n ddarnau a boddwyd tir amaethyddol.

Mae elusennau dyngarol wedi clywed hanesion am blant yn marw wrth iddynt syrthio o goed roeddent wedi'u dringo i ddianc rhag y llifogydd. Syrthiodd eraill oherwydd newyn am nad oedd modd eu cyrraedd am dri diwrnod. Cafwyd llawer o adroddiadau am gyrff yn arnofio yn y llifddwr. Yn Zimbabwe yn unig, mae dros 300 o bobl wedi colli eu bywydau gydag o leiaf 16,000 o deuluoedd wedi'u gwneud yn ddigartref. Mae Gweinidogion Llywodraeth yn dweud y bydd nifer y bobl sydd ar goll yn llawer uwch nag yr ofnid yn gynharach.

Bydd fy etholwyr David a Martha Holman, o elusen Love Zimbabwe, yn teithio i'r wlad ar 8 Ebrill i ddarparu cymorth sy'n fawr ei angen. Maent eisoes wedi casglu llawer o eitemau hanfodol i'w cludo yno a'u dosbarthu i'r rhai yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac maent yn apelio am fwy.

Mae'r Pwyllgor Argyfyngau hefyd wedi lansio apêl i gefnogi ymdrechion cymorth. Mae elusennau'n gweithio i gefnogi'r ymdrech gymorth a darparu pecynnau lloches brys; bwyd, megis codlysiau ac indrawn; tabledi puro dŵr; a chymorth iechyd brys. Rwy'n siŵr y bydd y Cynulliad hwn yn dymuno addo ei gefnogaeth i bobl y rhan gythryblus hon o'r byd ar yr adeg hon. Gall unrhyw un sy'n awyddus i roi cymorth wneud hynny drwy ymweld â'r wefan, www.dec.org.uk

Yr wythnos diwethaf, bu farw'r artist o'r Rhondda, Elwyn Thomas. Roedd Elwyn, a anwyd yn Tylorstown, yn artist poblogaidd yn y Rhondda, yn adnabyddus am ei baentiadau acrylig, a ddarluniai'n bennaf olygfeydd o strydoedd a oedd yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi byw neu wedi treulio amser yn y Rhondda Fach. Enwyd llawer o'i ddarluniau'n syml ar ôl y strydoedd a'r cymunedau a ddarluniai, ond roedd ambell baentiad achlysurol yn crwydro oddi wrth ei fformat ac yn rhoi ychydig bach mwy o awgrym i chi ynglŷn â'r testun dan sylw. Mae 'Sgwrs lôn gefn', 'Dau'n canlyn yn y Rhondda', 'Clecs y Rhondda' yn enghreifftiau o'r fath.

Dywedir na ddechreuodd baentio o ddifrif hyd nes 1987, wedi iddo ymddeol o'i swydd fel athro. Bu'n bennaeth celf yn Ysgol Ramadeg Glynrhedynog, lle trosglwyddodd ei gariad a'i angerdd tuag at gelfyddyd i gannoedd o'r disgyblion a basiodd drwy'r ysgol yn ystod ei gyfnod fel athro. Mae'r ffrwd o deyrngedau cynnes iddo gan gyn-ddisgyblion ers ei farwolaeth yn dyst i'r argraff a wnaeth ar addysg yn y rhan hon o'r Rhondda.

Deallaf fod cynlluniau yn Oriel Giles ym Mhont-y-clun, yr unig fan sy'n arddangos gwaith gwreiddiol gan Thomas, i arddangos rhywfaint o waith nas gwelwyd o'r blaen, ynghyd â rhai o'i weithiau mwy enwog, fel rhan o deyrnged. Felly, hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf i fynd yno i weld y paentiadau hyn drostynt eu hunain i werthfawrogi'n llawn y ddawn a oedd gan Thomas, yn ogystal â'i lygaid unigryw a lwyddai i adlewyrchu bywyd y Rhondda yn ôl atom.

Dywedwyd mai'r hyn a wnâi Thomas oedd paentio'r hyn a welai drwy ei ffenest, ond byddai'n gwneud hynny gyda'r fath gynhesrwydd a'r fath ddawn. Mae Elwyn Thomas wedi gadael cronicl gwych o fywyd y Rhondda ar ei ôl, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddo am hynny.

15:35
7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Rygbi

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6990 Andrew R.T. Davies, Bethan Sayed, Huw Irranca-Davies

Cefnogwyd gan: Dai Lloyd, David Rees, Hefin David, Janet Finch-Saunders, Jayne Bryant, Lynne Neagle, Llyr Gruffydd, Mike Hedges, Mohammad Asghar, Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i le arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;

b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;

 c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a

d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn ffurfiol.

Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o fy nghyd-gyfranwyr yn y ddadl heddiw pan ddywedaf mai teimlad cymysg sydd gennym wrth gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig yn dilyn buddugoliaeth eithriadol Cymru yn ennill y Gamp Lawn tua 10 diwrnod yn ôl. Credaf fod y dathliadau bron iawn wedi dod i ben ledled y wlad, yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon, canlyniad a orffennodd bencampwriaeth ragorol i Warren Gatland, ei staff ategol, ac wrth gwrs i'r bechgyn mewn coch.

Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, ynghyd â ffermio, rygbi yw un o fy hoff bethau—cariad at y gêm a rennir gan filoedd ar filoedd ledled Cymru. Gyda'r cefnogwyr hynny mewn cof mewn gwirionedd—gwir enaid ac asgwrn cefn y gêm yng Nghymru—y dadleuwn heddiw ynglŷn â dyfodol y strwythur proffesiynol, a goblygiadau hyn, wrth gwrs, i'r gêm ar lawr gwlad, o feysydd chwarae Clwb Rygbi y Bont-faen i Rygbi Gogledd Cymru yn y gogledd, ac yn wir ein tîm rygbi ein hunain yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yr wyf bob amser yn awyddus iawn i barhau i'w hyrwyddo ac sy'n mynd o nerth i nerth.

Cyn edrych ar rai o'r manylion, yn bennaf oll byddai'n iawn inni gydnabod y datganiad a'r eglurhad bythefnos yn ôl gan y bwrdd rygbi proffesiynol na fydd unrhyw uno'n digwydd i ranbarthau rygbi Cymru y tymor nesaf. Yn gwbl briodol, cafwyd ymddiheuriad hefyd gan Undeb Rygbi Cymru i'r tîm a'r cefnogwyr am yr aflonyddwch a barodd 'Project Reset' yn ystod y chwe gwlad, aflonyddwch a greodd risg ar un pwynt o dynnu sylw'r tîm oddi ar y gwaith a oedd ganddo i'w wneud, a gallai fod wedi rhoi'r Gamp Lawn yn y fantol. Diolch byth, llwyddodd eu proffesiynoldeb ac ansawdd y chwaraewyr rygbi ac unigolion i ddisgleirio tra oedd y newidiadau i'r strwythurau rhanbarthol ar y gorwel. Mae'n gwneud i rywun amau mai wedi'i roi o'r neilltu am y tro y mae hyn, yn hytrach na'i wrthod yn gyfan gwbl.

Wrth gwrs, mae trefniadau llywodraethu'r gêm yng Nghymru yn llwyr yn nwylo Undeb Rygbi Cymru a'i bartneriaid rhanbarthol, ac mae hynny'n gwbl iawn a phriodol. Ond mae'r cefnogwyr wedi cael eu hysgwyd gan y datblygiadau diweddar—yr ail dro mewn dau ddegawd y gallai'r gêm broffesiynol yng Nghymru fod wedi bod yn destun ailwampio dramatig. O lawr gwlad i fyny i'r lefel ryngwladol, gwelwyd pryder eang a dwys ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd gan 'Project Reset'. Mae'r canlyniadau wedi bod yn ffrwydrol. Rydym wedi cael ymddiswyddiadau o fyrddau clybiau rhanbarthol, ac er bod cadoediad posibl ar waith ar gyfer 2019-20, mae'r cefnogwyr yn paratoi ar gyfer beth sy'n dod nesaf. Mae'r bwrdd rygbi proffesiynol yng Nghymru, sy'n goruchwylio'r strwythur rhanbarthol proffesiynol yn parhau i fod, a dyfynnaf,

yn unedig yn ei awydd i wneud yr hyn sydd orau,

ac mae wedi cadarnhau

na chaiff ei rwystro rhag mynd ar drywydd ateb i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gêm broffesiynol yng Nghymru.

Am nawr, ymddengys bod y model pedwar rhanbarth ar waith. Ond gyda'r awydd i ehangu'r gêm broffesiynol i'r gogledd, mae'r bygythiad i un o'r rhanbarthau sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r gystadleuaeth Pro14 yn aros. O'm safbwynt personol i, fel cefnogwr ac fel Aelod Cynulliad, nid oes gennyf wrthwynebiad i'r potensial o gael tîm gogledd Cymru. Yn wir, credaf y dylid annog camau i hyrwyddo ein gêm genedlaethol i bob cwr o'r wlad. Fodd bynnag, dylid ymdrin yn ofalus ac yn sensitif ag ailstrwythuro posibl, gan werthfawrogi'n gyffredinol beth yw'r goblygiadau posibl.

Oherwydd mae llawer mwy yn y fantol na 15 o chwaraewyr yn dod allan ar ddydd Sadwrn dros eu priod ranbarth yn Stadiwm Liberty, Parc y Scarlets, Parc yr Arfau, Rodney Parade, neu Fae Colwyn yn wir. Mae rygbi yn hanfodol bwysig i gynifer o bobl yng Nghymru, ac nid yw'r manteision y mae'n eu creu yn gyfyngedig i 80 munud ar y maes chwarae. Mae'r gêm yn darparu nifer o fanteision economaidd na ellir eu gorbwysleisio, yn enwedig mewn gwlad lle mae ffyniant economaidd a datblygiad parhaus wedi bod yn anodd ei gyflawni ar adegau. Ac ar y pwynt penodol hwn hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog y prynhawn yma ynglŷn â beth a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r manteision y mae'r gêm, a'r gêm ranbarthol, wedi eu creu i'r economi genedlaethol, a pha waith modelu, os o gwbl, a wnaed i edrych ar ei gwir gyrhaeddiad.

Rwy'n chwilfrydig hefyd i wybod sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi'r gêm wrth symud ymlaen, a sut y mae hyn yn cymryd ei le yn y strategaeth economaidd, gan ddefnyddio ein llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol o bosibl hyd yn oed i hyrwyddo ein gwlad dramor, a pha le sydd i'r potensial hwnnw yn adran cysylltiadau rhyngwladol newydd y Llywodraeth.

Yn ddi-os, mae lle arbennig i'r gêm yng ngwead cymunedau ledled ein gwlad, a bydd goblygiadau posibl 'Project Reset' yn cael effaith ganlyniadol fawr ar y gwasanaethau helaeth ac amrywiol y mae'r rhanbarthau yn eu darparu mewn cymunedau ac ar lawr gwlad o gwmpas Cymru. Yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl yn unig, dangosodd Dai Rees a Mike Hedges ac eraill yn huawdl gyrhaeddiad a chyflawniad gwasanaethau cymunedol gan y Gweilch yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau. Ac yn amlwg, gwae i ni ddiystyru hyn. Hoffwn glywed gan y Gweinidog ar yr effaith bosibl hon, yn enwedig gan fod gwead cymdeithasol Cymru yn aml yn cael ei gysylltu â lles a chryfder y gêm genedlaethol. Mae'r rhanbarthau hyn wedi'u hadeiladu ar hanes hir o rygbi clwb llwyddiannus yn eu cymunedau ac ar un o'r rhain, mae effaith fawr chwarae ychydig o gemau yn ne-orllewin Cymru a cholli'r gemau hynny yn fwy o lawer.

Mae'r strwythur ariannol a'r heriau sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd yno i bawb eu gweld—yn anffodus, wedi'u hadlewyrchu'n rhy eglur ym methiant rhanbarthau Cymru i fynd drwy rowndiau bwrw allan y brif gystadleuaeth Ewropeaidd, Cwpan y Pencampwyr y tymor hwn. Ar hyn o bryd, nid oes gennym adnoddau i gystadlu gyda rhai o'n cymheiriaid yn Lloegr a Ffrainc. Rhaid inni fod yn glyfar, yn heini ac yn greadigol gyda'r hyn sydd gennym i chwarae ag ef.

Rydym yn gwneud hynny'n dda iawn ar y llwyfan rhyngwladol. Gallai rhai ddweud ein bod yn chwarae'n well nag y mae disgwyl inni ei wneud. Ond rydym yn gwybod bellach beth sydd angen inni ei wneud i drosi hynny'n llwyddiant ar sail ranbarthol. Mae sicrhau llwyddiant ac elfennau paratoadol eraill ar lefel ranbarthol yn hanfodol i iechyd hirdymor y gêm yng Nghymru, ond rhaid i'r awdurdodau dderbyn a chydnabod hefyd fod yn rhaid i hyn fod, ac yn llawer mwy emosiynol yn wir, yn llawer anos na threfnu'r cadeiriau haul ar y Titanic neu bwyso botwm ac anfon datganiad i'r wasg cyflym allan.

Er mwyn i unrhyw newidiadau aruthrol eraill gael eu derbyn yng nghylchoedd rygbi Cymru, bydd angen i Undeb Rygbi Cymru, y rhanbarthau, clybiau a phartneriaid cysylltiedig sicrhau eu bod yn cario'r cefnogwyr gyda hwy. Mae cryfder y gêm yng Nghymru wedi'i adeiladu ar waith caled gwirfoddolwyr mewn clybiau amatur ledled y wlad—o chwaraewyr i dirmyn i staff bar. Dyna'r sylfaen ar lawr gwlad; dyna'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Alun Wyn Jonesiaid neu Dan Biggars sy'n dod drwy'r rengoedd. Ni allwn fforddio gelyniaethu'r unigolion hynny drwy gyflwyno trefniadau trwsgl eraill i ad-drefnu'r gêm yng Nghymru. I mi, dyna lle gall Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad chwarae rhan yn wir.

Rwyf bob amser ychydig yn betrusgar i weld gwleidyddion yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond rwy'n meddwl o ddifrif na allwn orbwysleisio pwysigrwydd rygbi yma yng Nghymru i'n heconomi, i'n cymunedau ac i'n pobl. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan weithgar yn cefnogi'r gêm gymunedol ac mae'n hollbwysig fod yna neges gref a chydlynol ganddynt wrth symud ymlaen, i weld beth y gallant ei wneud i helpu'r gêm broffesiynol i ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. A dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid clybiau rhanbarthol i ddiogelu rygbi yng Nghymru a datblygu model cynaliadwy hirdymor ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.

Tra'n parchu rôl y corff llywodraethu i fod yn warcheidwad y gêm wych, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn deall ei rôl ei hun yn amddiffyn ein camp genedlaethol a dyma broc bach hynod o ofalus i'w hatgoffa bod goblygiadau cenedlaethol i'w gweithredoedd. Nid yw'n ddigon da i neb ohonom godi ein hysgwyddau a gwylio o'r cyrion. Mae cymunedau a phobl ar draws y wlad yn dibynnu arnom, ac yn wir, mae'r gêm rygbi, ac ymgysylltiad â'r cymunedau hynny'n mynd i fod yn hollbwysig. Ni allwn fod yn naïf a rhoi ein pennau yn y tywod. Mae newid yn dod, ond mae angen inni sicrhau bod y newid hwn wedi'i gynllunio'n dda a'i gyfathrebu'n briodol i'r miloedd o gefnogwyr rygbi ar draws y wlad.

Ar y llwyfan rhyngwladol, rydym yn mynd o nerth i nerth, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno'n dda i'r tîm yng Nghwpan Rygbi'r Byd, ond mae iechyd hirdymor a dyfodol y gêm yng Nghymru yn bendant yn y fantol. Rydym ar groesffordd arwyddocaol i rygbi Cymru a bydd y camau gweithredu nesaf yn gosod cyfres o ddigwyddiadau ar waith a fydd yn pennu llwyddiant y gêm ar bob lefel, o'r lefel ryngwladol i lawr i'w seiliau ar lawr gwlad. Yn sicr, bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, ond mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu o'r ffordd yr ymdriniwyd â Project Reset yn ddiweddar.

Rhaid i argymhellion a newidiadau yn y dyfodol gael eu cyfathrebu'n briodol a chaniatáu ar gyfer ymgysylltu priodol gyda chlybiau a chefnogwyr. Er mor amhoblogaidd y gallent fod gyda rhai, a gadewch inni fod yn onest, mewn bywyd, ni allwch blesio pawb drwy'r amser, os cânt eu cyfathrebu'n briodol, efallai y gallwn sicrhau ein bod yn negyddu unrhyw niwed hirdymor dinistriol i wead ein cymunedau. Heb y cefnogwyr, nid yw'r gêm yn ddim. Fel Aelodau Cynulliad, rhaid inni fod yn llais iddynt pan fo hynny'n briodol. Fel cymuned rygbi yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod y cefnogwyr yn dod ar y daith hon, fel arall mae perygl y caiff calon y gêm ei rhwygo allan am byth.

15:40

A gaf fi ddatgan buddiant, yn gyntaf oll, fel deiliad tocyn tymor y Gweilch ac a gaf fi ganmol Andrew R.T. am ei ddatganiadau agoriadol? Ac rwyf hefyd yn aelod o Glwb Rygbi Dynfant yn ogystal.

Nawr, ers talwm, bûm yn chwarae rygbi am flynyddoedd lawer, er mai testun syndod oedd y ffaith fod y detholwyr wedi fy anwybyddu. Nid wyf erioed wedi deall pam. [Chwerthin.] Ac mae fy meibion wedi chwarae i Waunarlwydd a Dynfant drwy'r holl grwpiau blwyddyn, o dan 11, dan 12, dan 13, dan 14—ac i fyny i'r ieuenctid. Ac mae clwb rygbi'r pentref yn chwarae rôl clwb ieuenctid. Dwsinau o blant, merched a bechgyn, yn chwarae'n rheolaidd, ddwywaith, deirgwaith yr wythnos, yn ogystal â hyfforddiant. Ac yn amlwg, nid am rygbi'n unig y mae hyn. Mae'n wir hefyd—yn sicr yn ardal Abertawe—am bêl-droed, criced, athletau a nofio. A chymaint mwy. Mae byddin o wirfoddolwyr allan yno sy'n cynnal yr holl weithgaredd hwn. Felly, ydy, mae rygbi yn y pridd go iawn.

Nawr, roedd yna bwynt swreal ar un adeg wythnos i ddydd Sadwrn diwethaf pan oedd Cymru newydd ennill y Gamp Lawn—fel y soniodd Andrew, unwaith eto—ac yna roedd yr Alban wedi ymadfer yn wyrthiol o fod 31-dim i lawr i Loegr i fod ar y blaen o 38-31, ac ar yr un pryd, roedd tîm pêl-droed Abertawe ar y blaen o ddwy gôl i ddim yn erbyn Pencampwyr Uwchgynghrair Lloegr, Manchester City, yng Nghwpan yr FA, a meddyliais, 'Duw, nid yw gallu chwaraeon i ysbrydoli, i droi pethau ar eu pen, i gyrraedd lefel uwch, byth yn peidio â rhyfeddu.' Ie, ar y pwynt hwnnw, roedd yn bendant yn swreal, bron yn brofiad crefyddol, mewn gwirionedd, hyd nes y sylweddolais fod Iesu yn chwarae yn y rheng flaen i Man City—Gabriel Jesus, hynny yw—ac aeth pethau nôl i normal, yn annheg yn achos yr Elyrch.

Nawr, wrth gefnogi'r cynnig hwn yn gryf, fe wnaf ychydig o bwyntiau fel un o gefnogwyr balch y Gweilch, ac fel y byddem yn ei ddweud fel cefnogwyr y Gweilch, yr unig wir ranbarth. Aethom drwy'r boen o uno clybiau rygbi Abertawe a Chastell-nedd—y gelynion lleol mwyaf ffyrnig a chwerw—dros 16 mlynedd yn ôl. Mae rhai'n dal i gario creithiau hynny. Ac mae'r Ospreylia'n cyfateb i fy rhanbarth etholiadol, Gorllewin De Cymru, felly mae'n naturiol fy mod yn ffan. Ac yn amlwg, mae'r Gweilch wedi bod yn rhanbarth rygbi mwy llwyddiannus na'r un, ar ôl ennill y Pro12 a'r Pro14 ar bedwar achlysur. Dyna'r record orau o bob rhanbarth, gan gynnwys y rhai Gwyddelig, ac fe wnaethant ddarparu, yn nodedig wrth gwrs, 13 allan o'r 15 o chwaraewyr Cymru a gurodd Loegr yn Twickenham yn 2008 yn y gêm gyntaf gyda Warren Gatland wrth y llyw. Ac fel cefnogwyr dros y blynyddoedd, rydym wedi dwli ar ddoniau Shane Williams, Dan Biggar, Tommy Bowe, Mike Phillips, James Hook, Alun Wyn Jones, Adam Jones, Duncan Jones, Justin Tipuric, Adam Beard, George North, Owen Watkin—gallwn barhau, ond gwelaf fod y cloc yn tician. Ac mae Alun Wyn Jones, cawr go iawn, ar fin cael rhyddid dinas Abertawe—yn hollol haeddiannol.

Nawr, yn amlwg, y broblem yw arian, ac mae'r heriau ariannol yn golygu na all y Gweilch fforddio cael dau chwaraewr lefel ryngwladol ym mhob safle yn eu sgwad. Felly, gadewch inni siarad ychydig am ad-drefnu, ac ychydig o farchnata, buaswn yn dweud. Yn amlwg, gall y Saraseniaid a phrif glybiau Lloegr gael dau chwaraewr lefel ryngwladol ym mhob safle fel na chânt eu gwanhau o gwbl pan fo'r gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae. Ond pan fo'r gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae, mae ein rhanbarthau ni'n cael eu gwanhau. Felly, gadewch i ni ad-drefnu'r tymor Pro14 fel nad yw gemau'n gwrthdaro â'r gemau rhyngwladol. Gadewch inni farchnata'r Pro14 yn briodol. Maent yn marchnata'r uwch gynghrair yn Lloegr yn grand iawn. Rydym yn haeddu hynny yng Nghymru. Gêm y bobl yw hi. Ein gêm genedlaethol—mae Cymru a Seland Newydd yn rhannu'r anrhydedd honno. Denu mwy o arian i'r gêm yng Nghymru, yn amlwg, yw'r her enfawr, ond rydym mewn sefyllfa gref. Wedi'r cyfan, rydym—. Cymru yw pencampwyr y Gamp Lawn—efallai fy mod wedi crybwyll hynny eisoes—pencampwyr byd o bosibl, ac felly yr her i Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru, a'r holl bartneriaid yw gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod marchnata a strwythurau ariannol cynaliadwy ar waith. Rwy'n falch nad yw'r uno'n mynd i ddigwydd gan nad yw cefnu ar eich rhanbarth gorau byth yn syniad clyfar ac roedd yn destun syndod a dryswch llwyr yn Abertawe. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.

15:45

Mae'n anodd bob amser pan fyddwch yn dod yn drydydd i siarad yn un o'r dadleuon hyn. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae Andrew R.T. Davies a Dai Lloyd wedi dweud? Mae hwnnw'n lle da i ddechrau.

A gaf fi sôn am dri pheth sy'n gadarnhaol am rygbi Cymru? Mae gennym dîm cenedlaethol llwyddiannus iawn a thîm cenedlaethol sy'n cael cefnogaeth dda iawn. Gall Stadiwm y Mileniwm werthu'r holl docynnau ar gyfer pob gêm ryngwladol, hyd yn oed os oes angen i docynnau rhyngwladol yr hydref gael eu bwndelu weithiau er mwyn gwerthu pob un ohonynt. Mae brwdfrydedd a chyfranogiad enfawr ar lefel mini-rygbi a rygbi iau. Mae gan fy nghlwb lleol, Treforys, dimau iau o dan 11, 12, 13, 14, 15, 16, a thimau mini-rygbi ar gyfer rhai 10 oed, naw oed, wyth oed, saith oed a rygbi i rai iau na hynny hefyd. Byddech yn meddwl y bydd 11 o dimau mewn 11 o flynyddoedd. Rwy'n dweud wrthych yn awr, byddant yn brwydro i gael dau.

Y llwyddiant olaf yw rygbi menywod sydd wedi tyfu o ran presenoldeb mewn gemau rhyngwladol—4,113 ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr—ac yn y nifer o dimau menywod sy'n chwarae. Mae gan dîm arall yn fy etholaeth, Bôn-y-maen, dîm rygbi menywod rhagorol.

Nawr, wrth edrych ar y broblem gyntaf sy'n wynebu rygbi Cymru, gan ddefnyddio ffigurau sydd ar gael i'r cyhoedd, roedd nifer gyfartalog y rhai a ddaeth i wylio'r Dreigiau yn 5,083 yn 2015-16 a disgynnodd i 4,700 yn 2017-18. Aeth y Gleision o 5,942 i 6,193, sy'n gynnydd bychan. Disgynnodd y Gweilch o 8,486 i 6,849, ond yn dal i fod yn fwy na'r ddau arall. Ac mae'r Scarlets wedi mynd o 7,290 i 9,256. Mae'r presenoldeb cyfartalog mewn dau ranbarth wedi disgyn; nid oes gan yr un o'r rhanbarthau nifer cyfartalog o wylwyr sy'n uwch na 10,000. Mae uwchgynghrair rygbi Lloegr yn gweld cyfartaledd o dros 12,000. Mae Bordeaux yn cael dros 23,900 ar gyfartaledd, Leinster â chyfartaledd o dros 15,500. Daeth 74,500 i Stadiwm y Mileniwm, a gwyliodd dros filiwn o bobl Gymru'n curo Iwerddon—fel y crybwyllodd David Lloyd unwaith rwy'n credu—i Gymru ennill y Gamp Lawn. Wedyn, dim ond ychydig dros 8,000 a ddaeth yr wythnos ganlynol i wylio'r Gweilch yn erbyn y Dreigiau.

Gofynnais i rywun a ddywedai eu bod yn gefnogwr rygbi pwy oeddent yn ei gefnogi, a'r ateb a gefais oedd 'Cymru'. Pan ofynnais iddynt pwy arall a gefnogent, roeddent yn ystyried bod y cwestiwn yn rhyfedd a dywedasant, 'Wel, dim ond Cymru, wrth gwrs.' Roeddwn yn ceisio cyfleu'r pwynt, pe baech yn cael y sgwrs honno gyda chefnogwr pêl-droed—pe bawn yn gofyn i gefnogwr pêl-droed yn Abertawe, 'Pwy ydych chi'n eu cefnogi?', byddent yn enwi'r tîm—Abertawe, gobeithio—ac yna byddent yn dweud, 'Cymru'. Ymddengys eu bod yn cysylltu â'u clwb a'r wlad. Mae yna lawer gormod o bobl sy'n disgrifio'u hunain fel cefnogwyr rygbi yn cysylltu eu hunain â'r wlad yn unig.

Unwaith eto, yn ôl ffynonellau cyhoeddedig, mae gan y 14 clwb uchaf yn Ffrainc gytundeb teledu gwerth £76 miliwn am y tymor. Mae gan rygbi Lloegr gytundeb werth £38 miliwn am y tymor, ac mae rygbi Cymru yn rhan o gytundeb £14 miliwn y flwyddyn. Mae'n hawdd gweld lle mae'r problemau. Felly, mae rygbi rhanbarthol yn dioddef o ffigurau presenoldeb isel, incwm teledu cymharol wael ac mae'n ceisio cystadlu â Ffrainc a Lloegr am y chwaraewyr gorau yng Nghymru. A yw'r rhanbarthau yn y lleoedd cywir? Mae'r Gleision, y Gweilch a'r Dreigiau yn y tair canolfan poblogaeth fwyaf, tra bo'r Scarlets yn cwmpasu canolbarth a gorllewin Cymru ac yn ddamcaniaethol, gogledd Cymru. Ble arall y gallech eu rhoi?

Mae'r Alban wedi crebachu i ddau dîm. Gallai fod gennym dîm gorllewin Cymru a thîm dwyrain Cymru. Yr hyn y mae rygbi rhanbarthol wedi dysgu i ni yw nad yw uno dau dîm yn cynhyrchu ffigurau presenoldeb sydd unrhyw beth yn debyg i gyfanswm y timau sy'n cael eu huno. Caiff ei ystyried yn gymryd meddiant gan gefnogwyr un o'r timau ac maent yn dod o hyd i rywbeth arall i'w wneud ar y penwythnos yn hytrach na gwylio rygbi byw.

Yn draddodiadol, yr hyn a fyddai wedi digwydd fyddai adeiladu stadiwm newydd, arwyneb chwarae newydd, a byddai popeth yn wych—'Fe gawn ragor o bobl yno.' Wel, mae gan y Gweilch a'r Scarlets stadia cymharol newydd ac mae ganddynt arwynebau chwarae da. Yr unig ffordd ar hyn o bryd o gynhyrchu mwy o incwm yn rygbi Cymru yw chwarae mwy o gemau rhyngwladol. Dyna pam rydym wedi chwarae'r bedwaredd gêm ryngwladol yn yr hydref pan fo pawb arall ond yn chwarae tair. Mae angen yr arian arnom.

Yr ail broblem gyda rygbi Cymru, yn gyntaf, yw cyn lleied o dimau o dan yr adran gyntaf sydd ag ail dîm. A oes unrhyw glwb o dan yr adran gyntaf yn meddu ar drydydd tîm? A nifer y chwaraewyr sy'n rhoi'r gorau i chwarae rhwng 16 a 19—. Mae'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn gyfyngedig. Yr hyn y gallwn ei wneud yw mynd allan a chefnogi ein timau lleol. Ddydd Sadwrn diwethaf, bûm yn gwylio'r Glais yn chwarae yn erbyn Penlan gyda 52 o bobl eraill—o bosibl y ddau dîm gwaethaf sy'n chwarae rygbi yng Nghymru. Dechreuodd y Glais y gêm gyda -9 o bwyntiau; maent i fyny i -5 yn awr. A dechreuodd Penlan â -1. Ond mae angen inni gael pobl allan yno'n gwylio rygbi. Mae angen i Undeb Rygbi Cymru ac eraill, gan ein cynnwys ni, gyfleu'r pwynt nad gemau rhyngwladol yw rygbi, nid ennill y Gamp Lawn, nid gemau rhyngwladol yr hydref—ond y  gemau a chwaraeir bob dydd Sadwrn. Mae pêl-droed wedi cyfleu hynny i bobl. Mae pobl yn mynd i wylio pêl-droed bob dydd Sadwrn; nid yw pobl yn gwneud hynny gyda rygbi. Ac yn anarferol, mae Dai Lloyd yn ddeiliad tocyn tymor y Gweilch—mae llawer iawn mwy o ddeiliaid tocynnau tymor gan glwb pêl-droed Abertawe.

A gaf fi orffen ar y pwynt hwn? Rhaid i ni ddatgan beth ydym: rwy'n ddeiliad tocyn tymor yn Nhreforys ac ym Môn-y-maen.

15:50

Diolch yn fawr iawn. Dwi’n mynd i siarad am rygbi fel gêm Cymru gyfan, a chan bod pawb arall wedi gwneud, mi wnaf innau ddatgan cyfres o fuddiannau hefyd. Fel un sydd yn mynd i siarad am rygbi fel gêm Cymru gyfan, mi wnaf i ddatgan fy mod i wedi fy ngeni yng Nghymoedd y de ac wedi fy magu yn sir Feirionnydd ac yn Ynys Môn. Mi wnaf i ddatgan fy mod i’n hyfforddwr ieuenctid a gwirfoddolwr yng Nghlwb Rygbi Llangefni. Mi wnaf i ddatgan hefyd fy mod i’n flaenasgellwr i rygbi'r Cynulliad yn ffres o’n buddugoliaethau ni dros Dŷ’r Cyffredin a’r Arglwyddi a thros Senedd yr Alban.

Ydy, mae rygbi’n gêm sy’n treiddio i bob cymuned yng Nghymru, yn cynnwys y gymuned hon, ein cymuned seneddol ni. A dwi’n mynd i gymryd swipe at Dai Lloyd fan hyn, dwi’n meddwl—weithiau, rydyn ni’n gallu bod yn euog o greu muriau ffug mewn chwaraeon yng Nghymru. Dwi ddim yn un sy’n licio cwestiynu pa un ydy ein camp genedlaethol ni; dwi’n digwydd bod yn gefnogwr mawr o rygbi ac yn gefnogwr mawr o bêl-droed. Mi oeddwn i wedi cyffroi cymaint o weld Cymru’n curo Slofacia ddydd Sul diwethaf ar ddechrau’n hymgyrch Ewropeaidd ag yr oeddwn i o weld Cymru’n ennill y Gamp Lawn eleni.

Dwi hefyd yn meddwl ein bod ni’n euog o barhau â’r canfyddiad yma, rywsut, fod rygbi, er yn cael ei gweld fel gêm genedlaethol ar un llaw, yn cael ei gweld, o bosib, fel gêm sydd ddim mor berthnasol i’r gogledd. Wel, gallaf i ddweud wrthych chi fy mod i wedi cael bywyd rygbi cyflawn iawn fel gogleddwr. Mae gennym ni sêr yr ydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw—yn George North yn chwarae i Gymru ar hyn o bryd, yn Robin McBryde yn rhan allweddol o’r tîm hyfforddi. Dwi’n cofio Stuart Roy o’m hysgol i yn mynd ymlaen ac ennill cap rhyngwladol, ac Iwan Jones hefyd. Dŷn ni’n cyffroi yn gweld Rhun Williams ac ati yn chwarae’n rhagorol fel cefnwr. Mi fues i fel plentyn yn chwarae i Borthaethwy ac i Fangor a chyrraedd final Cwpan Gwynedd efo Ysgol David Hughes. Yn wahanol i Dai, dwi’n gwybod pam na wnaeth y dewiswyr fy newis i, achos doeddwn i ddim yn dda iawn—[Chwerthin.] Ond mi oeddwn i’n mwynhau chwarae rygbi.

Yn ein clwb ni yn Llangefni, mae gennym ninnau dimau dan chwech, saith, wyth, naw a 10, reit drwodd i 15, a thîm ieuenctid a phrif dîm ac ail dîm. Dŷn ni’n chwarae ar draws y gogledd, o Bwllheli i Flaenau Ffestiniog, Caernarfon, Bangor, Bethesda, Bae Colwyn, Llandudno, Rhyl, Dinbych, yr Wyddgrug, Shotton, Wrecsam—hynny ydy, mae’n gêm sydd yn treiddio ar draws y gogledd i gyd.

Gadewch inni gofio mai rhan o’r cynllun yma a greodd cymaint o anghytuno, cymaint o ffraeo ychydig wythnosau nôl, oedd i ddod â rygbi proffesiynol i’r gogledd. Dydw i ddim yn mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddadl ynglŷn ag a ddylid uno neu gael gwared ar y Gweilch neu’r Scarlets neu unrhyw dîm arall. Yn fy ardal i, mae yna lawer iawn—. Buaswn i’n dweud bod yna fwy o grysau Gweilch nag sydd yna o Scarlets, yn digwydd bod, yn fy ardal i, ond mae beth ddywedodd Mike Hedges yn dweud y cyfan, onid ydy, mewn difrif?

Yn ddamcaniaethol, y Scarlets yw'r rhanbarth sy'n cynnwys y gogledd.

So, dydy o ddim yn ddigon da. A thra dwi’n sylweddoli bod yna gyfyngiadau ariannol ar ein gêm ni yng Nghymru, yn sicr o gymharu â Lloegr a chymharu â Ffrainc, er enghraifft, os ydyn ni o ddifri ynglŷn â throi’r gêm yn gêm genedlaethol, mae’n rhaid inni ei throi hi’n gêm broffesiynol yn genedlaethol hefyd. Ac mae ymateb y gogledd i gemau dan 20 Cymru, yn sicr, ym Mae Colwyn yn brawf o’r archwaeth sydd yna i weld rygbi ar y lefel uchaf yn y gogledd. Llyr.

15:55

Diolch am ganiatáu i mi wneud sylw byr. Dwi yn meddwl ei bod hi'n werth atgoffa pobl hefyd fod rygbi yn wastad wedi bod yn gêm genedlaethol, oherwydd i'r rhai, efallai, sydd ddim yn gwybod, mi oedd clwb rygbi Bangor yn un o sylfaenwyr beth sydd nawr yn Undeb Rygbi Cymru nôl yn 1881—yn un o'r 11 clwb. Felly, mae gogledd Cymru erioed wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw mewn rygbi cenedlaethol yng Nghymru.

Ydy, mae hynny'n hollol wir ac mae'r plac yn dal i fyny ar y wal yng nghlwb rygbi Bangor yn nodi hynny.

Ychydig dros 10 mlynedd yn ôl, mi wnaeth Undeb Rygbi Cymru gam gwag â rygbi yn y gogledd. Dwi'n gwybod oherwydd roeddwn i'n gefnogwr mawr o glwb Llangefni ar y pryd, a wnaeth ennill dyrchafiad i ail adran genedlaethol Cymru. Penderfyniad yr undeb rygbi oedd nid i'w dyrchafu nhw ond i'w gostwng nhw lawr i adran pedwar newydd y gogledd. Wel, mi wnaeth hynny gael impact mawr ar rygbi, yn sicr yn Llangefni, lle y gwnaeth lawer benderfynu stopio â chwarae rygbi a cholli rhywfaint o'u cariad tuag at y gêm. Dŷn ni wedi symud ymhell o hynny. Mi wnaeth yr undeb rygbi ymateb yn gadarnhaol i'r backlash bryd hynny, mi sefydlwyd rygbi'r gogledd, a rŵan dŷn ni mewn sefyllfa lle dŷn ni'n edrych ymlaen at fynd i'r cam nesaf.

Dwi wrth fy modd yn gweld y bechgyn ifanc dwi'n eu hyfforddi yn cael eu dewis i dimau ieuenctid rygbi'r gogledd rŵan. Mi oedd yna ddwsin ohonyn nhw bron, dwi'n meddwl, yn chwarae mewn gemau yn gynharach yr wythnos yma. Mi fyddai cael tîm proffesiynol yn creu'r eilunod iddyn nhw o fewn eu rhanbarth eu hunain, a dwi'n edrych ymlaen at weld y drafodaeth yma'n parhau, a gobeithio mai ei diwedd hi fydd dod â rygbi proffesiynol i'r gogledd, gan dynnu dim oddi wrth y timau proffesiynol rhagorol sydd gennym ni yn y de.

16:00

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl sydd yn gwneud lles i'r Cynulliad, oherwydd mae hi'n dangos ein bod ni'n gallu trafod cynnig sydd wedi cael ei arwyddo gan bob plaid, a hefyd mi fydd yna bleidlais rydd, ac eithrio y bydd aelodau'r Llywodraeth yn ymatal—nid oherwydd ein bod ni'n anghytuno o angenrheidrwydd â dim byd yn y cynnig fel y mae o wedi cael ei gyflwyno, ond nad ydyn ni ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol i alw ar y Llywodraeth i gydweithredu ag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â datblygu clybiau a phartneriaethau rhanbarthol heb ein bod ni'n glir iawn yn deall beth y mae'r cynnig yna yn ei olygu. Oherwydd, fel y gwnes i geisio esbonio yn gwbl glir bythefnos yn ôl, pan oeddwn i'n ceisio ateb y cwestiynau am y tro cyntaf gan Andrew R.T. Davies, gan Dai Lloyd, Mike Hedges—a dwi'n diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad heddiw a chyfraniad pob un ohonoch chi i'r ddadl—dwi ddim yn credu bod modd i Lywodraeth ddweud wrth gorff annibynnol ei gyfansoddiad, gwirfoddol ei natur a diwylliannol allweddol ei safiad, sut y dylai'r corff yna ymddwyn.

Dwi am wneud cymhariaeth efallai annisgwyl i rai ohonoch chi. Dwi'n cofio bod ar yr ochr arall i'r drafodaeth ynglŷn â'r berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, flynyddoedd yn ôl. Er fy mod i'n gweld ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth yn gallu buddsoddi mewn datblygiadau, yn enwedig datblygiadau seilwaith i gefnogi diwylliant, dwi ddim yn credu mai rôl Llywodraeth ydy buddsoddi'n uniongyrchol neu geisio cydweithredu yn uniongyrchol gyda thîm rygbi cenedlaethol, tîm rygbi lleol, neu, yn wir, gyda gwyliau diwylliannol fel sydd gyda ni ar draws Cymru.

Mae yna bwyslais cryf wedi cael ei wneud bod rygbi yn gêm genedlaethol yng Nghymru, ond mae'r newidiadau dŷn ni wedi eu gweld yn y gêm yn tyfu allan o'i thwf hi fel gêm fyd-eang, a rhan bwysig o hynny oedd, yn fy marn i, fod saith bob ochr wedi dod yn rhan o'r Gemau Olympaidd, gan greu diddordeb traddodiadol mewn gwledydd sydd ddim wedi chwarae'r gêm yn y gorffennol, ac mae'r ffaith ein bod ni'n cyrraedd y sefyllfa lle mae yna 20 o wledydd yn cystadlu yng nghwpan y byd yn dangos fel y mae rygbi rhyngwladol wedi tyfu. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn her i gymdeithasau sydd wedi arfer dilyn rygbi a chynnal rygbi yn draddodiadol, ond hefyd i weinyddiaeth broffesiynol rygbi ac i'r penderfyniadau y mae'n rhaid eu gwneud yn dilyn y newidiadau yma.

Mae llwyddiannau Cymru ym mhencampwriaeth y pum gwlad, ym mhencampwriaeth y chwe gwlad o'r 2000au ymlaen, ennill pum pencampwriaeth, pedair gamp lawn a'r cwpan rygbi saith bob ochr, mae'r enillion yma i gyd, a'n gallu ni i ddenu hyfforddwyr deallus o safon fyd-eang, fel Warren Gatland, wrth reswm—mae hyn i gyd yn dangos llwyddiant y gêm, fel y mae datblygiad tîm y menywod a'r llwyddiant a gawson nhw ym mhencampwriaeth y chwe gwlad gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon.

Mae hyn i gyd yn dangos y modd y mae rygbi'n ganolog i'n diwylliant ni. Ond nid dyna ydy'r ddadl. Fe wnaethon ni ddangos ein safiad fel Cynulliad ac fel Senedd ac fel Llywodraeth yn glir iawn yn yr adeilad yma yr wythnos diwethaf, lle dŷn ni yn gallu dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol. Mae ein cefnogaeth ni a'n cymorth ni i rygbi yn hydreiddio drwy'r holl ddarpariaeth. Dŷn ni yn gefnogol i ddatblygu bob math o rygbi ar lefelau lleol. Er enghraifft, roeddwn i, yr wythnos diwethaf, yn y gystadleuaeth arbennig sy'n cael ei threfnu gan Undeb Rygbi Cymru gydag ysgolion â disgyblion gydag anableddau dysgu. Roedd yna 300 o bobl ifanc o dan arweiniad a threfn Chwaraeon Caerffili yn cymryd rhan yn yr ŵyl rygbi honno. Fe ges i gyfle hefyd i fod yn lansiad yn ddiweddar—o fewn yr wythnos diwethaf hefyd—y gystadleuaeth rygbi saith bob ochr lle mae'r undeb rygbi yn cydweithio â'r Urdd.

Mae'r cyllid dŷn ni'n ei roi drwy Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â nhw, o dros £850,000 bob blwyddyn i Undeb Rygbi Cymru yn arwydd o'r gefnogaeth dŷn ni yn ei rhoi. Ac mae hyn yn cael ymateb. Roeddwn i'n falch iawn o weld y disgrifiad clir a gawson ni gan Rhun ap Iorwerth o rygbi fel gêm genedlaethol, a gêm sydd yn cael ei chwarae ar bob lefel yn gymunedol. Mae'r ffigurau yn dangos hynny. Mae 41 y cant, yn ôl arolwg chwaraeon ysgol Chwaraeon Cymru, wedi chwarae rygbi o leiaf unwaith mewn unrhyw leoliad yn ystod y flwyddyn diwethaf. Mae hyn yn gynnydd o 8 y cant dros y tair blynedd ers yr arolwg diwethaf. Mae cynllun Hub clybiau rygbi ysgol Undeb Rygbi Cymru yn tyfu—89 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun a channoedd, felly, o fechgyn a merched yn chwarae yn rheolaidd. Felly, yn y cyd-destun yna dŷn ni yn gweld ymgais gan Undeb Rygbi Cymru i ailosod y rhanbarthau.

Rŵan, dwi ddim am wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r digwyddiadau yna. Mae unrhyw sylw dwi wedi'i wneud wedi cael ei wneud yn breifat, a dwi ddim yn bwriadu eu gwneud nhw fel Gweinidog yn fwy nag y gwnes i nhw bythefnos yn ôl. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd diddordeb proffesiynol, fel y dylen ni ei wneud fel Llywodraeth, drwy ein swyddogion, drwy ein trafodaethau anffurfiol, yn beth mae'r undeb rygbi wedi bod yn ceisio ei wneud. Ond dydyn ni ddim am ddod i sefyllfa lle dŷn ni'n dweud wrth yr undeb rygbi—yn fwy na fuasen ni'n dweud wrth unrhyw gorff arall—sut mae trefnu eu gweithgareddau nhw. Felly, dwi'n gobeithio bod y sylwadau yna yn dangos yn glir fod gyda ni ddealltwriaeth o rôl Llywodraeth mewn perthynas â datblygiad rygbi, ond nad ydy hyn ddim yn golygu ein bod ni'n ceisio dweud wrth unrhyw un o'n cyrff chwaraeon ni, yn fwy nag wrth ein cyrff diwylliannol ni, ein bod ni'n ceisio ymyrryd yn y ffordd maen nhw'n cael eu rhedeg.

Un apêl gaf i ei wneud wrth gloi: dwi'n meddwl ei bod yn bwysig bod y drafodaeth ynglŷn â dyfodol timau rygbi Cymru a'r drefn ranbarthol yn digwydd mewn ysbryd tebyg i'r drafodaeth sydd wedi bod yma heddiw. Dwi ddim eisiau gweld, a dwi'n meddwl bod Rhun ac Andrew R.T. wedi pwysleisio hyn, a Mike Hedges, yn eu gwahanol gyfraniadau—. Dŷn ni ddim eisiau gweld atgyfodiad plwyfoldeb a negyddiaeth ranbarthol neu negyddiaeth ardal yn erbyn ardal yn y drafodaeth yma. Beth dŷn ni eisiau ei weld ydy dangos bod yr un math o ysbryd a oedd mor amlwg yng Nghaerdydd yn ein llwyddiant ni ar ddiwedd y chwe gwlad eleni yn dod â'r ysbryd yna hefyd, yn goleuo agwedd pobl ar hyd pob lefel o rygbi yng Nghymru.  

16:05

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o grynhoi gydag ychydig o sylwadau yma ar y ddadl rydym newydd ei chlywed ac yn gyntaf oll i groesawu'r ffaith bod y ddadl hon wedi ei galw a'n bod wedi cael cymaint o gyfraniadau. Rwyf fi, fel llawer o Aelodau'r Cynulliad, wedi bod mewn llawer o drafodaethau ar y llinell ystlys gyda mamau a thadau, chwaraewyr, hyfforddwyr ac eraill dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf am ddyfodol rygbi rhanbarthol, a chredaf ei fod yn gyfle da, rhaid imi ddweud, i rai o'r safbwyntiau hynny gael eu gwyntyllu yn awr yn y Senedd. A dyna a glywsom yma heddiw. Ar un pwynt, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn credu ei bod yn mynd i fod yn ddadl a gâi ei harwain gan y Gweilch yn llwyr, ond diolch byth cawsom ymyriadau o ogledd Cymru wedyn ac ardaloedd eraill hefyd, neu fel arall byddai wedi bod yn blwyfol yn wir, fel y dywedodd y Gweinidog.

Ond diolch i Andrew R.T. Davies am agor y ddadl. Defnyddiodd y geiriau ynglŷn â chael ateb clyfar, heini a chreadigol ar gyfer rygbi rhanbarthol. Mae hynny'n adlewyrchu rhai o'r trafodaethau a gefais heddiw gyda rhai clybiau da iawn ar lawr gwlad sydd wedi dod drwy gyfnod anodd ond wedi sicrhau sylfaen dda iddynt eu hunain: strwythur da iawn ar lefel genedlaethol gydag Undeb Rygbi Cymru, ond ansefydlogrwydd go iawn a phroblemau'n ymwneud â chynaliadwyedd ar y lefel ranbarthol. Credaf fod sylwadau'r Gweinidog i gloi am beidio â bod yn blwyfol yn hyn yn rhai y bydd angen inni wrando arnynt, sef: a allwn edrych ar beth sy'n dda ar gyfer y gêm er mwyn cefnogi'r sylfaen ranbarthol yng Nghymru, ar draws Cymru? Ond hefyd, fel y nododd llawer o'r Aelodau'n gywir, mae'r sylfaen ranbarthol honno, o'i chael yn iawn, hefyd yn hynod o effeithiol o fewn gwaith cymunedol allanol, cymorth i glybiau o fewn y rhanbarth hwnnw ac ati. Felly, mae angen inni gael hyn yn iawn.

Credaf fod y rhan fwyaf o'r Aelodau wedi dweud yn eu sylwadau eu bod yn falch o weld bod 'Project Reset' wedi'i roi o'r neilltu am y tro. Mae hyn yn rhoi cyfle inni—mae hyn yn rhoi cyfle i Undeb Rygbi Cymru, chwaraewyr proffesiynol, cymdeithasau, y chwaraewyr eu hunain, ond hefyd y cefnogwyr, rwy'n credu—gymryd rhan yn awr yn y gwaith o edrych ar beth allai'r strwythur fod yn y dyfodol. Yn y pen draw, mae'r rhain yn benderfyniadau masnachol a busnes, wrth gwrs, ar lefel ranbarthol, ond fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei sylwadau agoriadol, mae pwysigrwydd hyn, sydd wedi'i wyntyllu'n gyson yma, yn ymwneud â chario'r cefnogwyr gyda hwy. Wrth gwrs mae hynny'n cynnwys fy rhanbarth fy hun, gyda'r Gweilch, ond y rhanbarthau i gyd, ac wrth gwrs mae'n cynnwys y rhanbarthau lle mae potensial mawr hefyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Credaf fod hwn yn gyfle yn awr i gymryd saib dros dro ac edrych yn fanwl iawn ar beth sydd er budd gorau pawb yng Nghymru o ran rygbi rhanbarthol, ac mae cario'r cefnogwyr gyda chi yn hollbwysig. A chredaf mai dyna'r peth sydd wedi achosi rhywfaint o ofid i gefnogwyr, boed yn ddeiliaid dyledeb oes ym Môn-y-maen neu Fethesda neu, fel minnau, yn llywydd Clwb Rygbi Maesteg, ac ati—mae pob un ohonom yn pryderu ynglŷn â chyflymder, a natur anhrefnus mewn rhai ffyrdd, y cyhoeddiadau ddydd ar ôl dydd ynghylch 'Project Reset'. O leiaf nawr gall pethau fod yn dawel a symud ymlaen yn weddol ystyrlon.

Soniodd Dai Lloyd—deiliad tocyn tymor y Gweilch unwaith eto, ac un o selogion clwb Dynfant hefyd—yn helaeth am y rôl, fod y clwb yn gweithredu'n debyg iawn i glwb ieuenctid i bob pwrpas, fel cynifer o'n clybiau rygbi ar lawr gwlad. Soniodd am y ffaith, o ran cynlluniau i uno'r Scarlets a'r Gweilch—yn ei eiriau ef, nid oedd troi cefn ar eich rhanbarth gorau byth yn syniad clyfar. Trodd Mike at y llwyddiannau sydd yno ar hyn o bryd, ac mae gennym lawer—fel y mae eraill wedi dweud, mae ein rygbi menywod yn mynd o nerth i nerth, ac mae angen inni wneud yn siŵr nad ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yn unig y mae hynny'n digwydd, ond hefyd ar lefel clwb—a llwyddiant rygbi iau hefyd, o ran y nifer sy'n cymryd rhan, ond o ran llwyddiant ar y cae yn ogystal. Ond fe nododd yr her sy'n ei hwynebu—y niferoedd isel sy'n gwylio rygbi rhanbarthol, yn enwedig yng Nghymru, o'i gymharu â beth sy'n digwydd yn Ffrainc a Lloegr ac Iwerddon a mannau eraill. Mae rhywbeth yn mynd o'i le o ran parodrwydd y gynulleidfa i fynychu a sefyll ar ochr y cae a chefnogi'r clybiau hyn. Mae hynny'n wahanol i fod ar y teledu. Mike, rwy'n hapus i ildio.

16:10

O'r 20 o dimau rygbi gyda'r gefnogaeth orau yn Ewrop, nid oes yr un ohonynt yng Nghymru.

Wel, wrth gwrs, ac mae rhywbeth eithaf brawychus yn hynny yn ogystal. Beth sydd wedi digwydd i hynny—ac o gymharu â phêl-droed, lle maent yn amlwg wedi ei gael yn iawn, fel y dywedodd Mike yn gynharach? Beth sydd o'i le yn ein system rygbi ranbarthol fel nad yw pobl yn mynd i wylio, sefyll ar ochr y cae, mewn stadia da gyda chyfleusterau da—ond nid ydynt yn mynd i wylio, nid ydynt yn mynd â'u teuluoedd? Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r clybiau rhanbarthol ac Undeb Rygbi Cymru edrych arno.

Cawsom ein hatgoffa'n briodol gan Rhun, gyda hanes da ei hun, fod rygbi yn gêm i Gymru gyfan ac mae'n treiddio i ogledd Cymru, ac mae pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon wedi cydnabod, mewn gwirionedd, mai un o'r ardaloedd gyda photensial mawr yn awr yw gogledd Cymru yn wir. Ac nid yn unig yng ngogledd-orllewin Cymru, ond gogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal, ledled yr ardal gyfan honno. Felly, credaf fod y cyfle hwn i oedi a myfyrio yn gyfle inni allu gwneud hynny heb chwalu llwyddiannau mewn mannau eraill yn y rhanbarth, ac ymgorffori cynaliadwyedd yn y gêm yno a chyflwyno llu newydd o chwaraewyr gwych ar gyfer ein tîm cenedlaethol yn ogystal. Ond pwysleisiodd hefyd, unwaith eto, fel y gwnaeth sawl un, fod y gêm ar lawr gwlad yn bwysig. Ond gan adeiladu ar lwyddiant Rygbi Gogledd Cymru, credaf y gallwn weld y llwyfan sydd yno i symud pethau yn eu blaen.

Gallaf weld nad oes amser yn weddill gennyf. Hoffwn wneud un sylw arall i'r Gweinidog, gan ddeall bod Llywodraeth Cymru—nid eu gwaith hwy yw camu i mewn yma a threfnu hyn a llunio cynllun meistr, ond mewn gwirionedd, mae cymryd diddordeb proffesiynol o'r fath a chael y trafodaethau hynny am y pwysigrwydd i'r wlad hon, ond hefyd o ran rygbi fel gêm yn fyd-eang, i frandio Cymru—.

Ac os caf fanteisio ar fy nghyfle i gloi, fy sylw terfynol yw hwn: Weinidog, os gwelwch yn dda, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddangos diddordeb mewn sicrhau bod y chwe gwlad ar gael fel darllediad agored? Mae yna bethau y gwyddom eu gwerth, eu pris, ac mae yna bethau y gwyddom beth yw eu cost. Ac os edrychwch ar stori drist bwrdd criced Lloegr yn gwerthu'r hawliau i Sky yn 2004 am arian mawr a ailfuddsoddwyd yn eu gêm, a dros 10 mlynedd disgynnodd nifer yr oedolion sy'n chwarae criced 20 y cant pan ddechreuwyd gorfod talu tanysgrifiad i'w weld. Roedd 6.6 miliwn o bobl yn gwylio darllediadau byw o gêm chwe gwlad Cymru yn erbyn Lloegr—roedd 6,580,000 o'r rheini'n ei gwylio ar y teledu. Felly, gadewch inni beidio â'i wneud yn gyfyngedig i danysgrifiad. Gadewch i ni gadw'r cyffro sy'n digwydd yn rygbi Cymru a gadewch i ni roi'r cynaliadwyedd sy'n angenrheidiol i rygbi rhanbarthol.

16:15

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu. Felly cawn bleidlais ar y mater hwn yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Llywodraeth Leol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 8 yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu llywodraeth leol, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7018 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.

4. Yn gresynu bod

a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a

b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae ein cynnig heddiw yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae hefyd yn cydnabod yr heriau ariannu a wynebir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol Cymru.

O'u fformiwla ariannu llywodraeth leol ddiffygiol i'w diwygiadau llywodraeth leol carbwl, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi gadael cynghorau i orfod mantoli'r cyfrifon o dan bwysau cyson. Mae naw o 22 awdurdod lleol Cymru yn cael mwy o arian o dan setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Fodd bynnag, ac eithrio Sir Ddinbych, sy'n cael yr un faint o arian o dan y setliad, mae holl gynghorau gogledd Cymru yn cael toriad, gyda'r toriadau mwyaf yn Sir y Fflint, Conwy ac Ynys Môn, ochr yn ochr â Sir Fynwy a Phowys.

O'r herwydd, mae cynghorau gwledig a chynghorau gogledd Cymru ar eu colled, a chynghorau dan arweiniad Llafur yn ne Cymru, megis Caerdydd, gyda chyfanswm eu cronfeydd defnyddiadwy ym mis Ebrill 2018 yn £109.6 miliwn, a Merthyr Tudful yw'r enillwyr mwyaf eleni, gyda chodiadau o 0.9 y cant a 0.8 y cant yn y drefn honno. Mae hyn yn gadael y cartref cyfartalog yng Nghymru i wynebu bil treth gyngor o £1,591, bron £100 yn uwch nag yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Dau yn unig o'r 22 awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot, sydd heb dorri drwy'r cap cynnydd anffurfiol o 5 y cant ar godiadau treth gyngor a bennir gan Lywodraeth Cymru—

—ond hwy sy'n cael rhai o'r setliadau ariannol mwyaf hael. Ie, Joyce.

Diolch ichi am gymryd yr ymyriad, ond hoffwn nodi eich bod yn gwybod yn iawn nad Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla hon, ond ei bod hi'n fformiwla y cytunwyd arni gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn cywiro'r camargraff hwnnw cyn inni fynd ymhellach.

Byddaf yn mynd i'r afael â hynny yng ngweddill fy araith.

Gyda chronfeydd wrth gefn o £152.1 miliwn, mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn derbyn cynnydd o 0.8 y cant; mae Casnewydd, gyda chronfeydd wrth gefn o £102.3 miliwn, yn cael cynnydd o 0.6 y cant; Abertawe, gyda chronfeydd wrth gefn o £95.1 miliwn, cynnydd o 0.5 y cant. Fodd bynnag, mae'r cynghorau gyda'r toriadau mwyaf o -0.3 y cant yn cynnwys Sir y Fflint, gyda chronfeydd wrth gefn o £49.4 miliwn, Conwy gyda £22.7 miliwn yn unig, ac Ynys Môn gyda £24.1 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym bod ei fformiwla ariannu llywodraeth leol yn cael ei dylanwadu'n drwm gan ddangosyddion amddifadedd. Fodd bynnag, mae Ynys Môn a Chonwy ymhlith pump o awdurdodau lleol Cymru lle telir llai na'r cyflog byw gwirfoddol i 30 y cant neu fwy o weithwyr, a lefelau ffyniant y pen yn Ynys Môn yw'r rhai isaf yng Nghymru ar ychydig o dan hanner lefelau Caerdydd, ac eto mae talwyr y dreth gyngor yn Ynys Môn a Chonwy yn wynebu cynnydd o 9.1 y cant, o'i gymharu â 5.8 y cant yn unig yng Nghaerdydd a 4.5 y cant yn Rhondda Cynon Taf.

Mae ein cynnig yn nodi bod talwyr y dreth gyngor yng Nghymru ar hyn o bryd yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr neu'r Alban. Mae hefyd yn gresynu bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, a bod lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi codi ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.

Yn 1998, roedd yn rhaid i dalwyr band D y dreth gyngor dalu £495 ar gyfartaledd. Mae wedi codi i £1,591 yn 2019. Mewn geiriau eraill, cododd y dreth gyngor yng Nghymru 221 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, ers i Lywodraeth Lafur y DU gymryd rheolaeth ar Gymru yn 1997, naid sy'n fwy o lawer nag yn Lloegr, sydd wedi gweld cynnydd o 153 y cant, ac yn yr Alban, sydd wedi codi 57 y cant. Ac er bod Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth yr Alban wedi galluogi'r dreth gyngor i gael ei rhewi yn y blynyddoedd hyd at 2017, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwario'r £94 miliwn o symiau canlyniadol a dderbyniodd ar gyfer helpu talwyr y dreth gyngor sydd dan bwysau mewn mannau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn hyn drwy ddatgan bod lefelau band D cyfartalog y dreth gyngor yng Nghymru yn dal yn is nag yn Lloegr, gan osgoi'r gwirionedd mai talwyr y dreth gyngor yng Nghymru sy'n gwario'r gyfran fwyaf o'u cyflogau ar y dreth gyngor ym Mhrydain, mai hwy sy'n wynebu'r codiadau mwyaf, a bod hon yn gymhariaeth ffug am ei bod hi'n dechrau o linell sylfaen hanesyddol pan oedd lefelau'r dreth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru, drwy ddiffiniad, yn sylweddol is na'r rhai yn Lloegr.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn cymharu cyllid rhwng Cymru a Lloegr ers amser hir, gan hawlio bod cynghorau'n waeth eu byd. Fodd bynnag, wrth i bolisi cyllido llywodraeth leol amrywio'n sylweddol ers datganoli, gan gynnwys cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion a chadw ardrethi busnes yn Lloegr, mae'n gwbl amhosibl gwneud y gymhariaeth hon. Eu safbwynt diofyn bob amser yw beio Llywodraeth y DU am bopeth ac anghofio'n gyfleus fod y cyllid gwaelodol a gytunwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru bellach yn elwa o'r sicrwydd na fydd yr arian y mae'n ei dderbyn ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn disgyn islaw 115 y cant o ffigur y pen yn Lloegr. Ar hyn o bryd, am bob £1 y pen a warir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd i Gymru, rhoddir £1.20 i Gymru. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gyson wedi ymrwymo i gytundebau gwael, er enghraifft, gyda Kancoat a Cylchffordd Cymru, sydd wedi costio miliynau i drethdalwyr Cymru. Llywodraeth Cymru a ddylai ateb am eu penderfyniadau ariannu gwarthus.

Yn ddiddorol hefyd, dywedodd y Glymblaid Undebwyr Llafur a Sosialwyr—prif hyrwyddwyr Jeremy Corbyn—fis Hydref diwethaf

nad oedd unrhyw gyngor dan arweiniad Llafur yn meddu ar gyn lleied o arian wrth gefn fel na ellid ei ddefnyddio i gynhyrchu adnoddau ar gyfer cyllideb heb unrhyw doriadau yn 2019-20.

Rwy'n dyfynnu; os ydych yn cwestiynu hynny, efallai y carech siarad â'ch cydweithwyr neu eich cymrodyr.

Mae awdurdodau lleol yn eistedd ar £800 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, ac mae angen gwneud eu cynrychiolwyr etholedig yn atebol a dweud sut y caiff ei wario. Nid yw'n fater o fod ganddynt ddigon o adnoddau i dalu am brosiectau mawr, ond bod rhai cynghorau yn cynyddu eu lefelau o gronfeydd wrth gefn tra'n disgwyl i dalwyr y dreth gyngor dalu codiadau yn y dreth gyngor sy'n llawer uwch na chwyddiant.

Fel y manylais, cynghorau de Cymru sy'n cael eu rhedeg gan Lafur Cymru yw'r enillwyr go iawn yn sgil y setliad llywodraeth leol terfynol. Rhybuddiodd pennaeth cyllid Cyngor Sir Ynys Môn os na fyddai'r cyngor yn rhoi mwy o arian parod i mewn yn y cronfeydd wrth gefn, gallai'r awdurdod fynd yr un ffordd â Swydd Northampton, na lwyddodd i fantoli eu cyfrifon ac i bob pwrpas aeth yn fethdalwr y llynedd.

Mae un arall o'r rhai a gollodd fwyaf, Cyngor Sir y Fflint dan arweiniad Llafur, wedi gosod cynnydd o 8.1 y cant ar y dreth gyngor, gan fynd â chyfanswm y cynnydd, gan gynnwys preseptiau'r heddlu, yr awdurdod tân ac achub a chynghorau cymuned i 8.75 y cant. Lansiwyd ymgyrch ganddynt fis Tachwedd diwethaf, #BackTheAsk, a dynnodd sylw at rwystredigaeth drawsbleidiol ynghylch y cyllid a gânt gan Lywodraeth Lafur Cymru. Gofynnai'r ymgyrch yn benodol am gyfran deg o arian gan Lywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at y ffaith mai Sir y Fflint yw un o'r cynghorau sy'n cael y lleiaf o arian y pen o'r boblogaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol gan yr holl bleidiau ar y cyngor.

Ym mis Rhagfyr, cyn pasio'r gyllideb derfynol, ac ar ôl y cyhoeddiad ynghylch arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, roedd Sir y Fflint yn amcangyfrif eu bod yn dal i wynebu bwlch cyllido o £3.2 miliwn, gan ddweud ei bod yn afresymol fod cynghorau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, ac yn dilyn hynny, teithiodd grŵp trawsbleidiol o gynghorwyr Sir y Fflint yma i lobïo am ariannu tecach y mis diwethaf. Hyd yn oed yn Sir y Fflint, fodd bynnag, roedd aelodau'r wrthblaid wedi cynnig cyllideb amgen gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn ychwanegol i sicrhau nad oedd codiadau yn y dreth gyngor o fwy na 5.5 y cant, gan ddadlau bod arweinyddiaeth Lafur wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol i wneud pwynt ynglŷn â thanariannu awdurdodau lleol.

O ystyried popeth a nodais, mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru. Mewn llythyr at y Prif Weinidog, ymunodd Cyngor Sir Powys â galwadau am fformiwla ariannu decach, gan ddweud,

Mae'n bryd cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r fformiwla ariannu a bod awdurdodau gwledig fel Powys yn cael bargen deg. Nid ydym yn gofyn am driniaeth arbennig, dim ond chwarae teg... Mae'r amgylchedd ariannol a chymdeithasol sy'n wynebu llywodraeth leol wedi newid yn helaeth ers cyflwyno'r fformiwla ariannu. Mae'n bryd newid y fformiwla honno i adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo heddiw.

Roedd gwelliant Llywodraeth Cymru i'r cynnig hwn yn gofyn inni gydnabod bod y fformiwla cyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu'n flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, fel y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud o'r blaen, dylanwad cyfyngedig sydd gan eu his-grŵp dosbarthu cyllid ar y fformiwla, a dywedodd yn 2016 fod 'yr is-grŵp dosbarthu yn cynhyrchu adroddiad. Fel arfer mae'n adroddiad ar beth y mae'r grŵp wedi ymdrin ag ef yn ei raglen waith. Fel arfer mae'n rhan fach o'r fformiwla. Nid yw'r is-grŵp dosbarthu ond yn ymdrin ag ychydig o addasiadau bach a newidiadau bob blwyddyn. Yn y pen draw, fe wnaethom ni, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gytuno i hynny fel cymdeithas. Nid yw'n gytundeb fod y fformiwla gyfan yn iawn; nid yw ond yn gytundeb ein bod wedi cyflawni rhaglen waith yr is-grŵp.'

Er bod adroddiad y comisiwn annibynnol ar gyllid llywodraeth leol yn 2016 wedi argymell y dylid rhewi fformiwla presennol y grant cynnal refeniw a sefydlu comisiwn grantiau annibynnol i oruchwylio datblygiad a gweithrediad fformiwla newydd ar gyfer dosbarthu grantiau yn y dyfodol, nid yw hyn wedi digwydd. Nid yw adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid llywodraeth leol ond yn sôn am ddatblygu fformiwla'r setliad, yn hytrach nag adolygiad llawn, gan ddweud bod y fformiwla yn fwy cymhleth ers ei sefydlu, a bod mantais mewn ystyried y posibilrwydd o symleiddio a newidiadau i wella tryloywder a gweithrediad. Fel y dangosais, fodd bynnag, mae'r angen i weithredu ar frys yn mynd lawer ymhellach na'r geiriau gweigion hyn sydd wedi'u saernïo'n ofalus, ac yn hytrach na chuddio tu ôl i lywodraeth leol, byddai Llywodraeth Cymru gyfrifol yn arwain ar hyn.

16:25

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.

Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? Dai.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 4.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a fyddai'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod fod y dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn i gyfrannu i'r ddadl yma ar lywodraeth leol, ac fel dŷch chi wedi cyfeirio eisoes, dwi yn symud y gwelliannau yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Fel cyn-gynghorydd sir yn Abertawe am nifer o flynyddoedd, fel eraill yn y Siambr yma, yr wyf yn deall yn iawn yr heriau ariannol sydd yn wynebu ein siroedd. Wedi dweud hynny, rwyf yn synnu bod y Ceidwadwyr eisiau trafod yr heriau ariannol achos eu polisi nhw o lymder sydd yn dod lawr yr M4 o Lundain sydd wedi achosi'r cwtogi ariannol ar gyllidebau. Mae ein siroedd angen gwir bartneriaeth a chefnogaeth i gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth ac mae'n wir i ddweud hefyd fod y Llywodraeth Lafur yma yn y Senedd ddim wastad wedi rhoi blaenoriaeth deilwng i ariannu llywodraeth leol chwaith. Gyda'r berthynas rhwng y Llywodraeth yn fan hyn ac arweinyddion ein siroedd ar brydiau yn gallu bod yn heriol, pwy all beidio ag anghofio cyhuddiad o Oliver Twist o enau Alun Davies, y Gweinidog ar y pryd? A hynny yn esgor ar nifer o gymariaethau tebyg o lyfrau'r byd Dickensian

Nawr, daeth 22 o siroedd i fodolaeth ym 1996, cynllun y Ceidwadwyr, ac, wrth gwrs, daeth y Cynulliad i fodolaeth ym 1999. Nid ydym erioed wedi cael y drafodaeth synhwyrol, aeddfed o ddisgwyliadau'r ddau wahanol haenen yna o lywodraeth yn fan hyn. Sut allwn ni gydweithio? Hynny yw, y Cynulliad oedd y babi newydd a'r cynghorau oedd hefyd yn newydd. Chawsom ni erioed y drafodaeth aeddfed yna i benderfynu pwy a oedd yn gwneud beth, a sut y gallem ni gydweithio’n well i wella bywyd pobl Cymru. Hynny ydy, mae gennym ni Senedd. Pa weithgaredd, felly, dylai fod yn genedlaethol? Pa weithgaredd a ddylai fod yn rhanbarthol? A pha weithgaredd ddylai ddigwydd yn lleol? Yn ogystal â sut y dylem dalu yn lleol am hyn oll. Nid yw’r dreth gyngor nac ardrethi busnes yn deg o bell ffordd, ac yn gallu lladd mentergarwch. Ond eto, fel dwi wedi ei ddweud droeon yn y Senedd yma dros y blynyddoedd, nid yw Cymru yn cael ei hariannu yn ddigonol o dan Barnett, fel yr oedd am flynyddoedd, o dan y llawr nawr, ta beth. Dydy Cymru ddim yn cael ei hariannu yn ddigonol ta beth. Ac roedd hynny yn wir hyd yn oed cyn i bolisi creulon, dinistriol llymder y Ceidwadwyr ddod i fodolaeth. Cefnogwch ein gwelliannau, felly. Diolch yn fawr.

16:30

A yw awdurdodau lleol gwledig yn gyson yn cael bargen wael mewn perthynas â'r grant bloc gan Lywodraeth Cymru? Yr ateb i hynny yw 'ydynt'. Gwrandewais ar gyfraniad Dai Lloyd. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu £550 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf hon, ond nid yw'r cyllid ychwanegol hwnnw wedi'i drosglwyddo ymlaen, yn sicr nid i gynghorau gwledig ar draws canolbarth a gogledd Cymru.

Fy ardal awdurdod lleol i ym Mhowys sydd wedi cael y setliad cyllideb gwaethaf neu gydradd waethaf mewn naw allan o'r 10 mlynedd diwethaf. Dyna £100 miliwn yn cael ei dynnu allan o'u cyllideb, ac mae honno, wrth gwrs, yn sefyllfa anghynaliadwy sydd yn anochel wedi effeithio ar y modd y darperir gwasanaethau lleol hanfodol. Fel y mae fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi nodi eisoes, rydym yn gweld cyngor Caerdydd yn cael cynnydd ond awdurdodau gwledig ar draws canolbarth ac gogledd Cymru yn cael gostyngiadau. Ie, Mike Hedges.

A fyddech yn derbyn bod Powys yn cael llawer mwy y pen nag y mae Caerdydd?

Wel, Mike, dof at hynny yn fy nghyfraniad. Mike, rydych yn gwneud ymyriad arnaf bob blwyddyn yn y ddadl flynyddol hon, gan ddweud—

—yn dweud yr un peth, a dof at hynny. Ac wrth gwrs, mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn pentyrru £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy. Mae eraill, fel Cyngor Sir Powys, fy ardal awdurdod lleol fy hun, yn gorfod mantoli eu cyfrifon ar ôl blynyddoedd o doriadau i'w cyllideb. Felly, a oes angen newid y fformiwla ariannu? Oes, yn bendant. A'r newid mwyaf arwyddocaol yn y fformiwla ariannu honno yn fy marn i yw bod angen i'r newid roi ystyriaeth i'r newid poblogaeth sylweddol yn oedran ei phoblogaeth hŷn.

Rhagfynegiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Powys yw y bydd gostyngiad o 7 y cant rhwng 2014 a 2039. Gyda llaw, dyma'r gostyngiad mwyaf a ragwelwyd  o blith y 22 ardal awdurdod lleol. Ond yn ystod yr un cyfnod, mae'r boblogaeth hŷn ym Mhowys, y rhai dros 75 oed, yn mynd i gynyddu o 11 y cant fel y mae yn awr i 23 y cant yn 2039. Felly, erbyn 2039, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhagweld y bydd chwarter poblogaeth Powys dros 75 mlwydd oed, ac mae honno'n gyfradd sy'n sylweddol uwch na'r hyn a ragwelir ar gyfer y cyfartaledd cenedlaethol yn 2039. Pam felly? Caiff ei briodoli'n bennaf i'r ffaith bod pobl eisiau ymddeol i Bowys. Pam? Oherwydd ei bod hi'n rhan brydferth iawn o'r wlad—hi yw'r sir brydferthaf yn y DU. Mae pobl eisiau ymddeol i'r ardal. Ond mewn rhai blynyddoedd ar ôl ymddeol i'r ardal, mae yna ganlyniad, wrth gwrs, i'r boblogaeth honno sy'n heneiddio. Nid wyf yn meddwl bod angen imi fynd i ormod o fanylder ynglŷn â hynny: mae'r rhesymau'n amlwg. [Torri ar draws.] Wel, os yw Joyce Watson am imi fanylu ar hynny, mae cost i'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae pawb ohonom yn gwybod mai'r gost fwyaf i awdurdod lleol yw ei gyllideb gwasanaethau cymdeithasol, ac os oes ganddynt boblogaeth hŷn mae'r cynnydd sydd ei angen i gyllideb y gwasanaethau cymdeithasol yn mynd i fod yn sylweddol. Nid yw'r fformiwla ariannu yn ystyried hynny, a dyna'n union pam ein bod yn gofyn am adolygiad annibynnol o'r fformiwla gyllido.

Darparodd Age Cymru friff da iawn ar fy nghyfer yn gynharach yr wythnos hon, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyfleusterau cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar gyfer darparu cyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol i fynd i'r afael ag unigrwydd a hyrwyddo iechyd a lles pobl hŷn er mwyn iddynt barhau i fod yn egnïol ac i gadw eu hannibyniaeth. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hynod bwysig mewn ardaloedd gwledig. Os ydych chi'n gweithredu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig iawn, mae bob amser yn mynd i gostio llawer mwy i hynny ddigwydd, ac mae'r gost honno—. Er enghraifft, pan oedd Joyce Watson yn sôn am lyfrgell y Trallwng yr wythnos o'r blaen. Mae'r llyfrgell honno'n cael ei hisraddio oherwydd y setliad ariannol gwael y mae Cyngor Sir Powys yn ei gael o'r grant bloc gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny o ganlyniad i'r fformiwla annheg.

16:35

Nac ydyw. Mae'n ganlyniad i'ch camau gweithredu chi ar y cyngor.

Roeddwn am ddweud hyn: ychydig wythnosau'n ôl, ysgrifennodd arweinydd Cyngor Sir Powys lythyr agored at y Prif Weinidog i ofyn am newid y ffordd y mae cynghorau sir yn cael eu hariannu ac i roi bargen decach o lawer i awdurdodau gwledig. Yn anffodus, nid oes gennyf amser i ddarllen dyfyniad ohono, a buaswn wedi hoffi gwneud.

Mae'n drueni. Mae Joyce Watson yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dylech fod yn ymladd ar ran Powys, yn hytrach nag ildio, ac rwy'n synnu nad yw Joyce Watson yn sefyll dros bobl Powys, y bobl mae hi i fod i'w cynrychioli.

Rydych wedi fy enwi dair gwaith yn awr, felly gallwch dderbyn ymyriad.

Rydych wedi fy enwi dair gwaith yn awr. Gallwch dderbyn ymyriad.

Rydych wedi fy enwi dair gwaith, dylech dderbyn ymyriad. Dair gwaith fe wnaethoch fy enwi.

Rwy'n credu bod angen i chi dderbyn na allwn ond gwario'r arian sydd gennym, ac rwyf am wybod sawl gwaith yr anfonoch chi lythyrau at y Llywodraeth a reolir gan y Ceidwadwyr sydd wedi amddifadu'r Llywodraeth hon o'r arian i'w roi i awdurdodau lleol. Dyna'r ateb yr hoffwn ei gael gennych chi.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am ganiatáu hynny. Mae Joyce Watson yn methu'r pwynt yn llwyr yma. Mae Llywodraeth y DU yn rhoi arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru; mae Llywodraeth Cymru yn lleihau ei chyllid i Gyngor Sir Powys, ac mae Joyce Watson am amddiffyn hynny. Wel, mae hynny'n gwbl syfrdanol i rywun a ddylai fod yn amddiffyn ei hardal etholaethol ei hun.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn allu croesawu'r ddadl heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig oherwydd rwy'n credu bod llywodraeth leol yn wynebu ei chyfnod anoddaf ers datganoli yn 1999, ond anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell fyddai diolch i'r Torïaid am y cyfle i siarad am hyn oherwydd mai eu hagenda cyni hwy, y dewis gwleidyddol hwnnw i amddifadu gwasanaethau o gyllid, sydd wedi arwain at y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae'r dichell hwnnw i'w weld yn fwyaf amlwg ym mhwynt olaf cynnig y Torïaid, sy'n galw am adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol fel pe bai adolygiad o'r fformiwla yn sydyn yn mynd i gynyddu'r cyfanswm sydd ar gael i gynghorau yng Nghymru. Ni fydd yn gwneud hynny. Fel pe na bai'r fformiwla o dan adolygiad cyson rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae o dan adolygiad cyson. Fel pe bai unrhyw adolygiad annibynnol yn mynd i argymell symud arian oddi wrth gymunedau tlotach i gynghorau mwy cefnog, sy'n cael eu rhedeg gan y Torïaid. Sut y gallai wneud hynny?

Bydd hyd yn oed cipolwg bras ar y diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU dros yr wyth mlynedd diwethaf yn dangos mai ardaloedd tlotaf Cymru sydd wedi eu taro galetaf gan y newidiadau hynny. Amcangyfrifir y bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol gyda diwygiadau'n gwthio 50,000 o blant ychwanegol i fyw mewn tlodi erbyn yr adeg y cânt eu gweithredu'n llawn: eich plaid chi. Mae'r dadansoddiad diweddaraf yn dangos bod effaith anghymesur o negyddol gan y newidiadau ers 2010 ar incwm pobl mewn nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, rhai grwpiau ethnig, menywod, ac effeithiau arbennig o negyddol ar grwpiau croestoriadol sy'n wynebu anfanteision lluosog. Mae'n dilyn y byddai unrhyw adolygiad o gyllid llywodraeth leol yn gorfod ystyried hynny.

Mewn cyferbyniad, nid yw'r materion y mae'r Torïaid yn aml yn cyfeirio atynt ynghylch heriau i'r cynghorau y maent yn eu harwain ac yn dymuno eu harwain, natur wledig ac amser teithio, er enghraifft, wedi newid ac ni fyddant yn newid—[Torri ar draws.]

—a beth bynnag, maent eisoes yn ffactorau yn y fformiwla fel y mae'n bodoli heddiw. Fe ildiaf.

Diolch am ildio. Nid wyf yn anghytuno â chi, ac ni fyddem yn anghytuno â chi, y byddai unrhyw adolygiad o'r fformiwla cyllido yn gorfod ystyried y ffactorau hynny i gyd, ac efallai mewn rhai ardaloedd byddid yn penderfynu bod symiau o arian yn mynd i seddi fel eich un chi, mae'n iawn i hynny ddigwydd, ond ar yr un pryd rydym o'r farn y dylid ystyried materion fel teneurwydd y boblogaeth mewn ardaloedd gwledig fel y rhai y mae Russ George a minnau yn eu cynrychioli, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd.

Nick, rwy'n gyfarwydd iawn â'r fformiwla llywodraeth leol, ac mae teneurwydd poblogaeth eisoes yn cael ei ystyried, felly nid oes pwynt i chi fynd ar drywydd hynny. Nid wyf yn credu y byddai gan unrhyw AC Llafur neu Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw beth i'w ofni o adolygiad o'r modd y dyrennir cyllid, ond yn syml iawn, nid dyna lle mae'r broblem ar hyn o bryd. Mae'r broblem yn 11 Stryd Downing; dyna lle penderfynwyd ar ddiffyg o £1 biliwn i Gymru, a dyna lle cafodd cyllid ar gyfer cynghorau yn Lloegr ei dorri at yr asgwrn. Y flwyddyn nesaf, ni fydd 168 o gynghorau yn Lloegr yn cael unrhyw arian Llywodraeth ganolog o gwbl, ac erbyn 2025, mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn amcangyfrif y bydd bwlch ariannu o £8 biliwn yn bodoli i gynghorau yn Lloegr. Beth y mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu colli swyddi, preifateiddio ar raddfa eang, cau llyfrgelloedd a hyd yn oed yn awr, y posibilrwydd o ddiwrnodau ysgol byrrach. Os mai dyna yw gweledigaeth y Torïaid ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, yna gadewch inni o leiaf fod yn onest am hynny.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru a'r cynghorau'n gweithio galed ac yn gweithio gyda'i gilydd i gadw gwasanaethau'n gynaliadwy. Roeddwn yn croesawu'r symud i ddyrannu adnoddau ychwanegol i gynghorau yn y gyllideb derfynol, gan gyflawni'r addewid mai hwy a fyddai'n gyntaf yn y ciw am unrhyw arian ychwanegol. Ond nid yw hynny ond wedi symud y dewisiadau ariannol o fod yn amhosibl i fod yn annymunol. Mae'r pwysau yno o hyd, a dyna pam y mae angen inni gael dadl wirioneddol onest am lywodraeth leol a chyllid, nid un sy'n seiliedig ar y prosbectws ffug ger ein bron heddiw. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o'r dewisiadau anodd, dewr ac arloesol yn aml a wneir ar lefel leol er mwyn lleihau'r toriadau a'r codiadau treth anochel. Mae'r syniad fod cynghorwyr lleol yn falch o'r cyfle i godi'r dreth gyngor er mwyn cadw ein hysgolion ar agor drwy ddiwrnod llawn yn anfaddeuol.

Mae gwleidyddiaeth yn fyd cystadleuol, ond ni ddylem byth feirniadu cyngor o unrhyw liw sy'n penderfynu blaenoriaethu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd ceir consensws yn y Cynulliad, ac yn y wlad, y dylent fod yn flaenoriaethau i gynghorau ledled Cymru. Rwy'n falch fod hyn yn digwydd yn Nhorfaen o dan gyngor Llafur, a bod addysg yn cael ei chydnabod fel eu gwasanaeth ataliol pwysicaf. Hoffwn dalu teyrnged i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Llafur Cyngor Torfaen, i'r holl gynghorwyr Llafur yn Nhorfaen, ac yn wir, i'r holl gynghorau ledled Cymru sy'n gweithio mor galed i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag ymosodiad toriadau Torïaidd. Mae addysg a gofal cymdeithasol yn flaenoriaethau cenedlaethol ac maent yn flaenoriaethau lleol. Dylem fod yn ddigon dewr i gefnogi'r rhai sy'n gwneud y dewisiadau anodd, nid diraddio ein system wleidyddol ymhellach drwy esgus y gallwch dorri cyllidebau, torri trethi a chadw gwasanaethau. Celwydd gwleidyddol rhad yw dweud y gallwch wneud hynny.

Mae angen inni newid termau'r ddadl ynglŷn â llywodraeth leol os ydym o ddifrif eisiau gwella'r gwasanaethau sydd agosaf at y rhai a gynrychiolwn. Mae angen trafodaeth gadarnhaol am alluogi arloesedd, cynllunio ariannol a chymorth ar gyfer arweinyddiaeth ar bob lefel o lywodraeth leol, ond yn anad dim, mae angen rhoi diwedd ar gyni Torïaidd, ac nid yw'r cynnig heddiw yn gwneud dim i hyrwyddo'r agenda honno.

16:40

Edrychwch, tybed os gallwn ddechrau gyda'r amlwg yma, sef nad oes unrhyw Lywodraeth yn hoffi torri cyllid awdurdodau lleol ac nid oes unrhyw gyngor yn hoffi codi'r dreth gyngor. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n llai amlwg, er gwaethaf rhai o'r honiadau a wnaed yn y Siambr hon, yw pam fod hyn yn digwydd a pham fod diwygio cyllid llywodraeth leol yn dasg mor anodd, pan allai hynny ddechrau, oherwydd mae'n rhy hawdd ceisio mygu'r ddadl, fel y clywsom mewn cwestiynau yn gynharach a rhai o'r sylwadau heddiw, drwy feio Llywodraeth y DU. Os mai dyna'r cyfan rydych yn mynd i ddweud wrth ymateb i'r ddadl hon, Weinidog, waeth i bawb ohonom fynd adref nawr, oherwydd mae etholwyr yn edrych hefyd ar ble y caiff y penderfyniadau ynghylch sut y mae gwariant ar wasanaethau yn genedlaethol ac yn eu cymunedau eu blaenoriaethu. A dyna'r gwaith a wneir yn y Siambr hon ac mewn siambrau yn ein hardaloedd cyngor.

Ni waeth pa benderfyniadau cyllidebol a wneir yn Llundain, mae arian gwaelodol yn sicrhau bod gan y Llywodraeth hon fwy i'w wario ar y gwasanaethau hynny fesul y pen nag sydd ganddynt yn Lloegr, ac mae hwnnw'n ffigur y cytunwyd arno gyda'r Prif Weinidog Llafur presennol. Dywedodd eich rhagflaenydd, Weinidog, nad yw beio'r Torïaid yn strategaeth ar gyfer y dyfodol ac mae rhoi'r bai ar gyni a bwrw ymlaen â'r gwaith fel arfer yn dangos diffyg gweledigaeth. Mae cyn-arweinydd Llafur un o'r cynghorau yn fy rhanbarth yn dweud yr un peth fwy neu lai: 'Yr opsiwn hawdd a diog mewn perthynas â llywodraeth leol yw beio cyni a'r Torïaid. Yn rhy aml mae'n anwybyddu ffactorau eraill megis penderfyniadau gwael ynghylch cyllidebau a darparu gwasanaethau. Roedd yr ysgrifen ar y mur i'r rhan fwyaf o awdurdodau cyn 2008 hyd yn oed, sef dyddiad y cwymp ariannol wrth gwrs pan oedd yn dal i fod Llywodraeth Lafur gennym yn San Steffan.'

Rwy'n meddwl bod ganddynt bwynt. Mae'n mynd yn ôl i'r hyn yr oedd Lynne Neagle yn ei ddweud am edrych o'r newydd ar hyn. Ond nid wyf yn meddwl bod y pwynt hwnnw'n gywir ym mhob ffordd. Nid yw rhai o'n hawdurdodau lleol wedi cael unrhyw le i symud ers blynyddoedd lawer—dim lle i wneud penderfyniadau gwael—ond nid pob un ohonynt. Mae'r ffaith mai'r un cynghorau ydynt yn gyffredinol ag sy'n gwneud yn gymharol dda ac yn gymharol wael dros y cyfnod hwn o flynyddoedd yn drawiadol amlwg rwy'n credu. Ac os mai'r rheswm pam fod y cynghorau sy'n gwneud yn gymharol dda—ac rwy'n dweud 'cymharol'—yn deillio'n bennaf o aros am amddifadedd, yna rwy'n credu ei bod hi'n deg gofyn pam fod yr ardaloedd cyngor hynny'n dal i fod mor ddifreintiedig a bod lefelau eithaf uchel o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ganddynt o hyd. Mae cynghorau eraill wedi gorfod ymdrin â'u heriau gyda chryn dipyn yn llai o arian y pen a chronfeydd wrth gefn.

Nawr, wrth gwrs fy mod yn sylweddoli bod anghenion pob ardal cyngor yn wahanol, ond bellach mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn amlwg yn annheg, a chredaf fod hynny'n deillio o ddefnyddio fformiwla'n seiliedig ar hen ddata amherthnasol dros nifer o flynyddoedd. Pe bai'r fformwla hon yn deg a bod yr anhawster yn deillio'n gyfan gwbl o Lywodraeth y DU yn lleihau maint y pot cyffredinol, fe fyddech yn disgwyl i drethi cyngor ledled Cymru gynyddu ar yr un gyfradd yn fras. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd ac mae'r gwahaniaethau'n rhy amlwg i allu eu hegluro drwy gyfeirio at amodau lleol neu gyllidebu gwael yn unig. Fel y clywsom, mae cyngor Powys yn gorfod codi ei dreth gyngor ddwywaith cymaint â Chastell-nedd Port Talbot, ac nid yw hwnnw'n gynnydd ymylol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot y gwelwyd y cynnydd uchaf ond tri a Phowys a welodd y toriad anoddaf, felly byddai'n hawdd dod i gasgliad eithaf amlwg eleni. Ond cafodd Sir Benfro, sy'n codi 10 y cant—bron cymaint â'r llynedd—gynnydd mewn gwirionedd, er nad oedd yn llawer o gwbl, ond rwy'n defnyddio'r ddwy enghraifft i siarad am amddifadu cynghorau penodol yn ariannol dros nifer o flynyddoedd, nid yn ddiweddar yn unig, yn mynd yn ôl cyn belled â 2008—

16:45

Diolch. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn ymyriad, ac rwy'n falch eich bod wedi defnyddio achos Sir Benfro, oherwydd beth y mae Sir Benfro wedi'i wneud dros y blynyddoedd—ac arferwn fod yn gynghorydd sir yn Sir Benfro—yw defnyddio'r honiad mai yno y mae'r dreth gyngor isaf yng Nghymru, dim cynnydd yn union cyn yr etholiadau, fel esgus a rheswm i gael eu hailethol. Ond mae angen ichi edrych o dan yr wyneb gyda'r penawdau hynny: ai hwy yw'r awdurdod sy'n codi'r tâl uchaf am y gwasanaethau a ddarparant drwy beidio â chodi eu treth gyngor mewn gwirionedd a rhoi'r baich ar bawb heblaw ar y bobl sydd angen y gwasanaethau? Dyna sydd angen i chi ei wneud.

Wel, rwy'n credu efallai eich bod newydd wneud un o'r pwyntiau ar fy rhan, Joyce, sef y pwynt a godwyd gan gyn-arweinydd Llafur cyngor gwahanol yn gynharach ynghylch rhai cynghorau sy'n gwneud penderfyniadau gwael ynglŷn â sut y maent yn cyllidebu, ac yn awr maent yn manteisio ar y cyfle i gosbi eu trigolion eu hunain drwy wneud hyn. Ond fy mhwynt cyffredinol oedd dweud bod pethau wedi bod yn newid dros gyfnod o flynyddoedd ac mae rhai cynghorau dros y cyfnod hwnnw o flynyddoedd wedi gwneud yn gymharol well na chynghorau eraill.

Nawr, Weinidog, credaf fod gennych rai cwestiynau i'w gofyn i'r cynghorau hynny gyda'r cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy uchaf—o ddifrif nawr—yn ogystal â hanes o ymddygiad gwastraffus a phenderfyniadau gwael. Efallai fod Sir Benfro yn un o'r rheini. Ond bellach, mae'r holl gynghorau'n siarad am y ffaith eu bod yn cael eu hamddifadu'n ariannol, ac wrth gwrs mae cynghorwyr yn fy rhanbarth i'n pleidleisio yn erbyn cynnydd o 6 y cant a 6.6 y cant, oherwydd nid yw'r cynghorau Llafur hynny wedi gorfod gwneud hyn o'r blaen. Hwy sydd wedi dioddef leiaf yn sgil toriadau dros y blynyddoedd, ond maent hwy hyd yn oed wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol bellach, ac nid yn lleiaf oherwydd y llu o gyfrifoldebau deddfwriaethol a danarianwyd y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gosod arnynt.

Nawr, yn wahanol i Dorfaen, mae'r arweinydd Llafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dweud na all warchod gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion, a gallwn yn hawdd dynnu sylw at achosion lle maent wedi gwastraffu arian mewn achosion cyfreithiol a gollwyd, cytundebau tir gwael, contractau'n mynd o chwith, ond er hynny, mae angen iddynt ariannu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol eleni. Ac mae'r arbedion a gynlluniwyd ganddynt sydd eu hangen i wneud hynny yn rhai risg uchel a risg canolig, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn iaith archwilio am arbedion na ellir eu cyflawni. Weinidog, os gallwch chi a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—ac rydym wedi clywed nad ydynt hwy'n hapus gyda'r fformiwla hon—dynnu hyn allan o'r blwch 'rhy anodd' a gwrthsefyll y dicter anochel a gewch gan y collwyr, dyma fydd eich cyflawniad pennaf. Mae rhai ar eu colled yn awr, ac ni ellir honni mwyach fod y broses sy'n peri iddynt fod ar eu colled yn un deg.

Croesawaf y cyfle hwn i drafod llywodraeth leol. Yn wir, croesawaf unrhyw gyfle i drafod llywodraeth leol a hoffwn pe baem yn cael mwy o'r dadleuon hyn ar lywodraeth leol. Efallai nad wyf yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd gan Mark Isherwood, Suzy Davies a Russell George, ond credaf ei bod yn bwysig inni gael y ddadl hon a'r drafodaeth sy'n digwydd o flaen pawb.

A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, fod hyn yn digwydd yn erbyn cefndir o gyni Torïaidd—polisi gwleidyddol, nid un economaidd? Ond beth sy'n digwydd yma mewn gwirionedd? Mae'r ganran o gyllideb Cymru a werir ar iechyd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gan mai llywodraeth leol yw'r gyllideb fawr arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae wedi gostwng. Ond pan fyddwch yn ystyried rhai o'r gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol—addysg, gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, casglu sbwriel, safonau masnach, hylendid bwyd, llygredd, cyfleusterau chwaraeon, digartrefedd a chynllunio—mae'n hawdd gweld pa mor bwysig yw llywodraeth leol a gwasanaethau lleol. Rhoddais y gorau iddi ar 10, a gallwn fod wedi parhau, ond ni chredaf y byddai neb wedi hoffi gwrando am bum munud ar restr o'r hyn y mae Llywodraeth Leol yn ei wneud.

Wrth i'r arian y mae llywodraeth leol yn ei gael gan Lywodraeth Cymru o dan y teitl bachog 'cyllid cyfansymiol allanol', fynd i lawr, mae dau beth yn digwydd: mae gwasanaethau'r cyngor yn lleihau, ac mae'r dreth gyngor a thaliadau'n cynyddu. Ceir cred gyffredinol gan lawer o dalwyr y dreth gyngor fod eu treth gyngor yn talu am y gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Yr hyn sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf yw bod y dreth gyngor wedi codi er bod y gwasanaethau wedi lleihau, ac mae talwyr y dreth gyngor wedi adweithio mewn nifer o ffyrdd, yn amrywio rhwng dicter a dryswch. Mae hyn oherwydd bod y dreth gyngor yn talu am lai na chwarter cyfanswm gwasanaethau'r cyngor, gyda'r gweddill yn cael eu hariannu gan y grant cynnal ardrethi a chyfran y cynghorau o'r ardrethi busnes cyffredinol. Rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi ymddiheuro am y penderfyniad a wnaed gan y Llywodraeth Geidwadol yn y gorffennol, lle cafodd ardrethi busnes eu canoli a'u gwladoli, oherwydd dylai awdurdodau lleol allu gosod eu hardrethi busnes lleol eu hunain. Nawr, caiff ei osod yn ganolog, ac mae hynny'n cael effaith.

Ar ardrethi busnes—

16:50

A fyddech yn derbyn nad yw pobl yn deall ychwaith, oherwydd bod treth gyngor yn gyfran lai o'r swm a werir yn lleol—dywedwch ei fod, wn i ddim, yn 15 neu'n 20 y cant, beth bynnag ydyw—bydd gostyngiad o 1 y cant yn y grant cynnal refeniw sy'n mynd i awdurdod lleol yn arwain at gynnydd anghymesur o 5 i 10 y cant yn y dreth gyngor honno?

Buaswn yn ei wneud yn debycach i 4 i 5 y cant, ond ydw, rwy'n cytuno â'ch gosodiad cyffredinol.

Mae rhai ardaloedd cyngor yn gyfranwyr net i ardrethi busnes cenedlaethol, yn enwedig Caerdydd, sy'n talu ddwywaith cymaint yn fras ag y mae'n ei gael yn ôl. Wrth edrych ar Abertawe o ran incwm, cyrhaeddodd y grant cynnal trethi gam lle mae'n talu llai na 60 y cant, ar ei ffordd i lawr i 50 y cant, o'r arian y mae'r cyngor yn ei wario. Ardrethi annomestig cenedlaethol: tua 20 y cant. A'r dreth gyngor: tua 25 y cant. Ond mae 65 y cant o'r arian yn mynd ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac os caf nodi—ni allaf gofio i ba siaradwr yn gynharach—o ran mai'r gwasanaethau cymdeithasol yw'r gost unigol fwyaf i lywodraeth leol. Yn sicr, yn achos Abertawe, addysg yw'r gwariant mwyaf o gryn dipyn.

Diolch, Mike. Rwyf bob amser yn gwrando'n ofalus ar eich cyfraniadau ar lywodraeth leol. O ran gwasanaethau cymdeithasol, y gronfa honno yw'r fwyaf, fel rhan o'r gyllideb, ond gwneuthum y pwynt yn fy nghyfraniad: os oes gennych boblogaeth gynyddol oedrannus, fel Powys—bydd 25 y cant o'i phoblogaeth dros 75 oed erbyn 2040—does bosib nad ydych yn gwybod am y costau sylweddol ychwanegol o ddarparu gwasanaethau lleol gyda phoblogaeth hŷn. Nid yw'r fformiwla cyllido yn mynd i'r afael â hynny. A ydych o'r farn y dylai fynd i'r afael â hynny?

Nid yn unig fy mod yn credu y dylai, roeddwn yn meddwl ei bod yn gwneud hynny. Credaf mai rhan o'r fformiwla oedd canran y boblogaeth dros oedran arbennig, canran y boblogaeth sydd o oedran ysgol, felly credaf ei fod yn gwneud hynny. Rwy'n credu bod cynghorau yn gwarchod gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ac un o'r pethau tristaf am lywodraeth leol yw bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cael yr un fath i raddau helaeth. Roedd Abertawe'n arfer bod yn wirioneddol dda am ddarparu gwasanaethau hamdden a gwasanaethau diwylliannol. Roedd Rhondda Cynon Taf yn dda iawn gyda gwasanaethau cyn-ysgol. Ond mae pawb yn cael yr un fath am fod pawb o dan yr un pwysau ac nid oes fawr o wahaniaeth rhyngddynt o ran y gwasanaethau a ddarperir.

Arferai'r grant cynnal ardrethi fod yr hyn a elwid yn gymorth i rai sydd â threth gyngor isel, ac ardrethi annomestig cenedlaethol isel yn flaenorol. Po isaf oedd yr incwm o drethi lleol, yr uchaf y byddai'r cymorth cenedlaethol, fel bod awdurdodau lleol yn cyrraedd beth oedd eu hasesiad gwariant safonol yn dweud y dylent ei wario. Nid serendipedd sy'n gyfrifol am y ffaith mai Mynwy, sydd â'r nifer uchaf o eiddo band D ac uwch, sy'n cael y lleiaf o gymorth Llywodraeth Cymru, ac mai Blaenau Gwent, gyda'r nifer isaf o eiddo band D ac uwch, sy'n cael y mwyaf o gymorth. Ar gyfer y cofnod, mae cyngor Sir Fynwy yn cael ei arwain gan y Ceidwadwyr, a Blaenau Gwent dan arweiniad annibynnol, ac i gywiro rhywbeth a ddywedwyd yn gynharach, mae Merthyr Tudful hefyd dan reolaeth annibynnol.

Hoffwn weld y canlynol yn digwydd: credaf fod angen archwiliad i gyllido llywodraeth leol. Mae gan iechyd astudiaeth Nuffield. Pe bai unrhyw un yn cael yr hyn y maent ei angen mewn gwirionedd—roedd yr astudiaeth Nuffield yn wych, oherwydd roeddent yn dweud faint o arian oedd ei angen arnynt, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae angen astudiaeth sy'n cyfateb i astudiaeth Nuffield ar lywodraeth leol i ddweud faint o arian sydd ei angen.

Ar y fformiwla, gall mân newidiadau— fel y dywedodd Nick Ramsay yn awr—gael effaith enfawr. Pan oeddwn yn aelod o'r is-grŵp dosbarthu, fe symudasom y priffyrdd o 52 y cant poblogaeth a 48 y cant ffyrdd i 50 y cant yr un. Mân newid. Symudodd hyn gannoedd o filoedd o bunnoedd o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd i Bowys, Sir Benfro a Gwynedd.

Dau benderfyniad uniongyrchol a allai helpu llywodraeth leol fyddai: gadael i awdurdodau lleol bennu'r holl daliadau—caiff rhai eu gosod ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru—a rhoi'r cyllid ar gyfer consortia rhanbarthol i ysgolion a gadael iddynt hwy benderfynu a ydynt am dalu i mewn i'r consortia rhanbarthol hynny ai peidio. O'r hyn a ddeallaf gan yr ysgolion yn Abertawe, ni fyddent yn talu i mewn iddynt.

Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannu. Mae'r setliad terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn creu toriad mewn termau real yng nghyllid llywodraeth leol o'i gymharu â'r llynedd. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod angen cynnydd o tua £260 miliwn ar awdurdodau lleol er mwyn parhau lle maent yn unig o ran darparu gwasanaethau lleol. Fodd bynnag, dewisodd Llywodraeth Cymru droi clust fyddar i apeliadau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Nid oes dwywaith amdani: mae'n benderfyniad polisi ymwybodol gan Lywodraeth Cymru i dorri cyllid llywodraeth leol at yr asgwrn. Pan fyddant yn wynebu canlyniadau anochel eu penderfyniadau, mae Gweinidogion yn disgyn yn ôl ar hen esgusodion o feio San Steffan am eu helbulon a'u gweithredoedd. Fel mae'n digwydd, rwyf wedi cael llond bol ar wrando ar yr ochr hon i'r Siambr dros y flwyddyn ddiwethaf a mwy bob tro y bydd—[Torri ar draws.] Arhoswch funud, Joyce. Yr hyn sydd— [Torri ar draws.] Pam y beiwch Lundain pan fo'r arian gennych chi?

Maent yn anghofio'n gyfleus fod y cytundeb arian gwaelodol yn golygu bod Cymru'n elwa o'r sicrwydd na fydd yr arian a ddaw i law ar gyfer gwasanaethau datganoledig yn disgyn islaw 115 y cant y pen o'r ffigur yn Lloegr. Ar hyn o bryd, am bob £1 y pen a werir yn Lloegr ar faterion a ddatganolwyd i Gymru, rhoddir £1.20 i Lywodraeth Cymru. Mae Cymru'n elwa o £0.5 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yng nghyllideb 2018. Felly, nid yw'r ddadl fod Cymru wedi'i hamddifadu o arian yn cyfateb i realiti.

O ganlyniad, mae talwyr y dreth gyngor yng Nghymru yn ysgwyddo baich penderfyniadau Llywodraeth Cymru i amddifadu cynghorau o'r adnoddau sydd eu hangen arnynt. Nid yw hyn yn newydd. Ers 1997, mae'r dreth gyngor wedi treblu o dan Lafur Cymru. Mae treth gyngor band D yn Lloegr wedi codi 153 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn yr Alban, mae'r cynnydd yn 57 y cant. Ond yng Nghymru, mae talwyr y dreth gyngor ym mand D bellach yn talu 221 y cant yn fwy. O dan y setliad ariannu ar gyfer 2019 a 2020, ni fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gweld eu cyllid craidd yn cynyddu digon i dalu cost chwyddiant. Dywedodd arweinydd cyngor Torfaen, ac rwy'n dyfynnu:

gadawyd cynghorau gyda diffyg mawr ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan nad yw'r cyllid yn codi'n unol â'r pwysau a wynebir gan wasanaethau fel gofal cymdeithasol.

Cau'r dyfyniad. [Torri ar draws.] Na. Felly, rhaid i deuluoedd sydd dan bwysau, yn aml yn yr ardaloedd tlotaf, ymdrechu'n galetach i ateb y galwadau sy'n uwch na chwyddiant.

16:55

Diolch i chi am ildio, a gwn eich bod wedi codi stêm yno. A yw'n gweld unrhyw debygrwydd o gwbl rhwng ein cwyn am afael haearnaidd cyllid Llywodraeth y DU ar Gymru a'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr? Mae cynghorau Lloegr yn sgrechian ynglŷn â'r mesurau cyni arnynt, lle cafodd £16 biliwn o arian craidd ei dynnu'n ôl o lywodraeth leol yn Lloegr gan Lywodraeth y DU ers 2010. A allwch weld unrhyw elfennau cyffredin yn digwydd yma?

Rwyf eisoes wedi rhoi ffigurau i chi, a gennych chi y mae'r pŵer. Mae gennych reolaeth lwyr ar lywodraeth leol. Mae mesurau cyni, fel y dywedais yn gynharach—. Mewn gwirionedd, roedd y toriad hwn pan nad adawoch chi unrhyw arian ar ôl yn y Trysorlys pan oeddech yn Llywodraeth. Yn y bôn—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Toriad o geiniog yn y bunt yn unig a wnaeth y Llywodraeth, un geiniog yn y bunt, i roi—. Ac rydych yn dweud 'cyni' oherwydd eich bod yn gwastraffu arian. Mae eich Llywodraeth chi—. Llywodraeth leol—pwy sy'n rheoli llywodraeth leol? Y Blaid Lafur. Dychmygwch: Mynwy a Blaenau Gwent. Meddyliwch am yr awdurdodau hynny. Gwasanaethau Blaenau Gwent i bobl a Mynwy. Mae cronfeydd wrth gefn Mynwy yn dal i fod yn llai na'r hyn sydd gan Fynwy—eu cronfeydd wrth gefn yn y banciau. Pam y maent yn eistedd ar bentyrrau o arian? Pam na roddant y gwasanaethau cyhoeddus yno?

Mae cyngor Caerffili yn codi'r dreth 7 y cant; Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen bron 6 y cant; a Blaenau Gwent ychydig o dan 5 y cant. Rwyf newydd ddweud wrthych: meddyliwch am y cronfeydd wrth gefn a'r gwasanaeth y maent yn ei roi. Dyna un o'r cynghorau tlotaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae codiadau gormodol yn y dreth gyngor wedi cael effaith aruthrol ar aelwydydd Cymru. Mae canolfannau cyngor ar bopeth wedi labelu'r dreth gyngor fel ein problem ddyledion fwyaf yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol wedi ceisio sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cael ei gyfeirio at wasanaethau rheng flaen drwy dorri biwrocratiaeth a gwastraff diangen, ond gyda gwasanaethau statudol fel ysgolion a gofal cymdeithasol yn mynd â'r rhan fwyaf o'r gwariant, mae awdurdodau lleol wedi gorfod edrych ar wasanaethau eraill i ysgwyddo baich toriadau. Ddirprwy Lywydd, mae llyfrgelloedd, hebryngwyr croesfannau ysgol, parcio am ddim a chanolfannau hamdden ymhlith y gwasanaethau sydd wedi wynebu toriadau yng Nghymru, gan ennyn gwrthwynebiad cyhoeddus eang.

Ddirprwy Lywydd, mae Llafur wedi gwneud cam â llywodraeth leol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Galwaf ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi ein cynnig a sicrhau setliad gwell a thecach i lywodraeth leol yng Nghymru. Diolch.

17:00

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Wrth agor y ddadl hon, fel arfer, ni chymerodd Mark Isherwood unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am y penderfyniad gwleidyddol a wnaed i orfodi cyni ar Gymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Gwnaeth pob siaradwr Torïaidd a'i dilynodd yn union yr un peth yr holl ffordd drwodd. Mae'n wir ddrwg gennyf eich bod wedi eich diflasu i'r fath raddau gan y sgwrs ar gyni fel na allwch weld y dioddefaint y mae'r polisi hwnnw wedi ei achosi i bobl Cymru a'r cynghorau sy'n darparu eu gwasanaethau sydd dan bwysau. Ar y llaw arall, darparodd Lynne Neagle ddadansoddiad realistig iawn o wir ddiben yr hyn yr ydym yma i'w drafod mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Fe ddechreuoch chi'r ddadl ar y pwynt hwnnw. Eisteddais a gwrando'n ofalus ar yr hyn a oedd gennych i'w ddweud, a dyna a ddywedasoch at ei gilydd.

Mae gwasanaethau llywodraeth leol yn cael effaith ar fywydau pawb ohonom. Maent yn darparu ysgolion ar gyfer ein plant a gofal i'n cymdogion sy'n agored i niwed. Maent yn creu'r mannau gwaraidd lle gallwn fyw a gweithio a bod yn gymdeithasol. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr her sy'n wynebu llywodraeth leol ar hyn o bryd. Gosodasom ein cyllideb ddrafft yn erbyn un o'r cyfnodau hwyaf o gyni parhaus o fewn cof. Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi torri'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan ddilyn ymrwymiad ideolegol i leihau rôl llywodraeth yn ein bywydau. Rydym bellach yn wynebu canlyniadau'r penderfyniadau hynny. Mae'r penderfyniad hwn wedi cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb. Yn erbyn y cefndir hwnnw, rydym wedi parhau i amddiffyn llywodraeth leol orau y gallwn rhag effeithiau'r cyni hwnnw.

Yn 2019-20 bydd awdurdodau lleol yn cael £4.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 0.2 y cant ar sail debyg am debyg o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Yn unol â'n hymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu i ddarparu cyllid ar gyfer y setliad gwaelodol, mae'r setliad yn cynnwys swm a ariannwyd yn llawn gan Lywodraeth Cymru o £3.5 miliwn i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod yn gorfod ymdopi â didyniad o fwy na 0.3 y cant yn ei gyllid cyfansymiol allanol y flwyddyn nesaf. Wrth gwrs nid yw hyn yn ddigon i gynnal y lefel o wasanaethau lleol y byddem oll yn dymuno eu gweld, ond rydym wedi blaenoriaethu llywodraeth leol. Mae ein hymrwymiadau i wariant y GIG yng Nghymru yn hysbys ac yn ddealladwy; wedi i'r rheini gael eu diwallu, rydym wedi rhoi'r flaenoriaeth uchaf i lywodraeth leol.

Yn y cylch cyllidebol diwethaf, pan ryddhaodd Llywodraeth y DU fwy o arian rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, dyrannwyd arian ychwanegol gennym i lywodraeth leol fel rhan o'r broses o droi gostyngiad o £43 miliwn yn y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn gynnydd o £10 miliwn. Rydym wedi cydnabod yn ein penderfyniadau ariannu y meysydd penodol lle mae llywodraeth leol wedi dweud bod y pwysau arnynt ar ei waethaf, megis gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chyflogau athrawon. Oddi allan i'r setliad llywodraeth leol, darperir dros £900 miliwn o arian grant hefyd i gefnogi gwasanaethau awdurdod lleol yn 2019-20. Rydym wedi buddsoddi £30 miliwn drwy'r byrddau partneriaeth iechyd a llywodraeth leol, lle mae iechyd a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddasom arian ychwanegol hefyd uwchlaw terfyn uchaf y swm canlyniadol Barnett a gafwyd gan Lywodraeth y DU i alluogi awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol newidiadau pensiwn Llywodraeth y DU ar gyfer athrawon a diffoddwyr tân.

Rydym wedi gweithio'n galed i gynnig y setliad gorau posibl i lywodraeth leol, ond rydym yn cydnabod bod y setliad yn doriad mewn termau real i'r cyllid craidd pan fo awdurdodau'n wynebu pwysau gwirioneddol mewn perthynas â phethau megis poblogaethau sy'n heneiddio, dyfarniadau tâl a phwysau chwyddiant o fathau eraill. Mae hyn yn wir wedi golygu bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd yn ein cynghorau. Wrth bennu eu cyllidebau, bydd cynghorau wedi bod yn ystyried yr holl ffynonellau ariannu, cynlluniau effeithlonrwydd, cynhyrchu incwm a rheoli cronfeydd wrth gefn, yn ogystal â blaenoriaethau a phwysau lleol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau'n lleol.

Rwy'n cytuno â Rhun ap Iorwerth fod angen dileu pwynt 4 yn y cynnig. Nid yw'n adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa gyda'r dreth gyngor. Yn wir, mae lefelau'r dreth gyngor ar gyfer eiddo band E yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn is na rhai Lloegr, a dyna y mae gwelliant y Llywodraeth yn ceisio ei egluro. Bydd cynghorau'n cynnwys pobl leol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â sut y gwerir adnoddau lleol a pha wasanaethau a ddarperir. Mae dewisiadau anodd yn anochel. Hoffwn dalu teyrnged i'r cynghorwyr sy'n cymryd rhan yn y penderfyniadau anodd hyn ac yn gweithio'n galed i wella'r gwasanaethau y mae awdurdodau yn eu darparu.

Yn wahanol i Loegr, rydym yn parhau i roi hyblygrwydd i awdurdodau Cymru bennu eu cyllidebau eu hunain a lefelau'r dreth gyngor er mwyn helpu i reoli'r heriau ariannol y maent yn eu hwynebu—hyblygrwydd nad yw wedi bod ar gael i'w cymheiriaid yn Lloegr. Nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gynnal refferenda lleol costus, ac nid yw'r arian a godir drwy'r dreth gyngor wedi'i glustnodi at ddibenion penodol.

Yn wahanol i Loegr, rydym wedi cynnal system genedlaethol o gymorth y dreth gyngor ar gyfer y rhai lleiaf tebygol o allu talu. Rydym wedi parhau i gynnal hawliau llawn ar gyfer cymorth y dreth gyngor o dan ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Unwaith eto, rydym yn darparu £244 miliwn ar gyfer ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y setliad llywodraeth leol. Mae hyn yn sicrhau bod bron i 300,000 o aelwydydd incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu dyled treth gyngor, yn groes i'r hyn a ddywedwyd ar y meinciau gyferbyn. O'r rhain, bydd 220,000 yn parhau i osgoi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Rydym yn gwneud cynnydd ar wneud y dreth gyngor yn decach. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf gan fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf.

Hefyd rwy'n cefnogi egwyddor gwelliant Rhun ap Iorwerth yn galw am setliadau mwy hirdymor i gefnogi cynlluniau mwy hirdymor. Rydym yn cydnabod ac yn cydymdeimlo â'r galwadau oddi wrth ein partneriaid sector cyhoeddus am gyllidebu dros gyfnod hwy lle bo'n bosibl i gefnogi blaengynllunio ariannol, a'n huchelgais bob amser yw cyhoeddi cynlluniau am fwy na 12 mis. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn â'n gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol yng ngoleuni'r ansicrwydd cyllidol parhaus, parhad y polisi cyni gan Lywodraeth y DU, a'r ansicrwydd sylweddol ynglŷn â ffurf a natur y negodiadau Brexit blêr sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU. Nid oes gan Lywodraeth Cymru setliad ariannu gan Lywodraeth y DU y tu hwnt i 2019-20 ar gyfer refeniw a 2020-21 ar gyfer cyfalaf, a dyna pam y mae'n rhaid imi wrthwynebu gwelliant rhif 3 yn anfoddog, er fy mod yn cefnogi'r egwyddor yn llwyr.

Nid wyf yn cefnogi'r alwad am adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu. Adolygir y fformiwla ariannu yn flynyddol drwy gyfrwng partneriaeth rhwng llywodraeth leol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r sail resymegol sylfaenol ar gyfer y fformiwla ddosbarthu yn syml. Mae'n defnyddio dangosyddion o angen cymharol, na ddylanwadir arnynt gan ddewisiadau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys ffactorau demograffig, dangosyddion amddifadedd a theneurwydd y boblogaeth. Lle mae'r data ar gyfer y dangosyddion hyn yn newid, mae'r dosbarthiad yn newid hefyd. Bob blwyddyn, rydym yn adnewyddu ac yn profi arwyddocâd dangosyddion presennol a dangosyddion a gynigir o'r newydd.

Rwyf wedi dweud droeon, ac rwyf am ei ddweud eto, os oes gan unrhyw un mewn llywodraeth leol neu yn y Cynulliad hwn neu yn y byd ehangach argymhellion rhesymegol o blaid dangosyddion newydd neu ddangosyddion gwahanol o angen gwariant, gofynnaf i hynny gael ei ystyried yn ein hadolygiad parhaus o'r fformiwla ddosbarthu ochr yn ochr â llywodraeth leol y mae gennyf berthynas waith dda iawn â hwy. Caf rywfaint o gysur yn y ffaith, fodd bynnag, fod ardaloedd trefol yn parhau i deimlo bod y fformiwla yn ffafrio'r gwledig ac i'r gwrthwyneb, fod ardaloedd deheuol yn teimlo bod y gogledd yn cael eu ffafrio ac fel arall, a bod ardaloedd tlawd yn teimlo bod y ffyniannus yn elwa, ac i'r gwrthwyneb, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llywodraeth leol a'r Llywodraeth hon wedi cytuno, mewn partneriaeth, sut beth yw'r fformiwla honno, ac roedd rhai o'r bobl y sonioch chi amdanynt yn eistedd wrth fy ochr yng ngweithgor y fformiwla ddosbarthu rai wythnosau yn ôl. Ac roedd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn bresennol hefyd, a chawsom gyfarfod da iawn, lle cafwyd consensws yn sicr.

Ni chaf unrhyw gysur o'r gamwybodaeth a'r gamddealltwriaeth sydd ynghlwm wrth y fformiwla hon. Mae gennym gyfrifoldeb i egluro sut y mae'n gweithio, ac mae hynny'n wir am bob Aelod Cynulliad, pob arweinydd cyngor a phrif weithredwr. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddatgan ar y pwynt hwn y byddwn yn cynnig sesiynau briffio technegol ar union natur y fformiwla, ei phwysoliad a sut y mae'n gweithio, i bob Aelod Cynulliad, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau neu mewn unrhyw ffordd a fyddai'n sicrhau'r budd mwyaf i chi. Credaf ein bod yn rhannu cyfrifoldeb i ddeall y fformiwla a gwneud iddi weithio, ac ni allwn ei throsglwyddo i ryw banel annibynnol.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n teimlo'n gryf iawn y dylid cynorthwyo llywodraeth leol i wrthsefyll cyni. Teimlaf fod angen inni fod yn realistig am y toriadau yn y grant i'r Llywodraeth hon sy'n cyfateb i £800 miliwn y flwyddyn. Rydym wedi gwneud ein gorau glas i amddiffyn llywodraeth leol. Maent wedi gweithio'n dda iawn gyda mi yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, ac rwy'n talu teyrnged i'w dyfalbarhad cyson yn darparu gwasanaethau yn wyneb y cyni parhaus hwn. Diolch.

17:05

Diolch. Cyn dirwyn y ddadl hon i ben, hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau ar draws y Siambr am gyfrannu at y ddadl amserol iawn hon. Wedi'r cyfan, bydd ein hetholwyr a theuluoedd gweithgar a phensiynwyr yn cael y biliau treth gyngor mawr hynny erbyn hyn. Nawr, llywodraeth leol yw'r sylfaen ar gyfer darparu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol iawn, ac mae mewn cysylltiad agos iawn â'r bobl y cawsom ninnau hefyd ein hethol i'w cynrychioli. Nawr, er bod data newydd wedi'i ryddhau gan Swyddfa Archwilio Cymru a StatsCymru, mae'r materion a glywsom heddiw yn rhy gyfarwydd o lawer. Maent yn dweud bod angen ailwampio cyllid llywodraeth leol mewn modd cynhwysfawr. Fel y dywedodd yr archwilydd cyffredinol:

mae'n bwysig nad yw cynghorau'n ychwanegu'n ddiangen at y baich a roddir ar dalwyr y dreth gyngor, drwy godi mwy o incwm drwy'r dreth gyngor nag sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau'r cyngor.

Yn bwysicach na dim, lle mae cynghorau'n cadw cronfeydd sylweddol wrth gefn—ac maent yn dweud hyn—mae'n hanfodol fod y ffigurau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn eu cyllidebau eu hunain.

Nawr, roedd Dai Lloyd a sawl Aelod arall yn beio'r polisi cyni, ac mae'n air a or-ddefnyddiwyd yn helaeth yn y Siambr hon, oherwydd, diolch i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi llwyddo i glirio'r diffyg a etifeddodd—a'i etifeddu a wnaeth, ni allwch wadu hynny—gall ddechrau ad-dalu dyled y DU bellach a chynyddu'r gwariant ar wasanaethau cyhoeddus. Ac ni allwn wadu'r ffaith, am bob £1 a ddarperir i Loegr, y daw £1.20 i Gymru. Felly, nid gofyn a oes arian yn y pot yw diben hyn, ond yn hytrach, sut y gwerir yr arian hwnnw wedyn.

Lle mae cynghorau'n cadw cronfeydd sylweddol wrth gefn, crybwyllwyd ei bod hi'n ymddangos yn annheg i lawer o fy etholwyr, pan fyddant yn dweud, 'Wel, maent yn cadw dros £100 miliwn, pam eu bod wedi cael cynnydd o 1 y cant tra bo fy awdurdod lleol yn cadw ceiniogau o'i gymharu â hynny ac maent wedi gweld -0.3 y cant?' A phan gaiff hyn i gyd ei gyfrifo'n ôl yn gynnydd yn y dreth gyngor—wyddoch chi, mae gennym ddemograffeg hŷn; mae mor annheg ac mae mor anghywir. Ond mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, chi yw'r Gweinidog cyntaf mewn wyth mlynedd—credaf fy mod wedi cael pum o Ysgrifenyddion Cabinet dros lywodraeth leol; chi yw'r Gweinidog cyntaf, Julie, sydd wedi cydnabod ein bod yn bryderus ynglŷn â'r fformiwla a'ch bod yn mynd i ddarparu sesiwn friffio dechnegol ac y gallwn gymryd rhan yn sut y teimlwn y dylid mynd i'r afael â'r dangosyddion hynny. Felly, rwyf wedi fy nghalonogi mewn gwirionedd, ac os oedd angen ein dadl i wneud hynny, mae hynny'n newyddion da.

Nawr, fel y nodir yn gyffredinol, mae'r amrywio rhanbarthol rhwng y cronfeydd wrth gefn sydd gan gynghorau yn eithaf syfrdanol. Rhondda Cynon Taf: £152 miliwn. Nawr, gofynnais i'ch rhagflaenydd pam nad oedd y symiau treigl hynny'n cael eu herio. Yr un awdurdodau lleol oedd yn cadw ceiniogau a'r un awdurdodau lleol oedd yn cadw miliynau lawer, ac rwy'n credu o ddifrif—. A hoffwn ofyn i chi fynd ati mewn ffordd wahanol, os gwelwch yn dda, ac edrych yn gyffredinol pwy sy'n cadw, pwy sy'n pentyrru'r arian hwnnw a hefyd yn cael ffigurau setliad da iawn. Amlygwyd hyn gan ymgyrch Cyngor Sir y Fflint, #BackTheAsk, i annog Llywodraeth Cymru i leddfu eu hargyfwng ariannol.

Nawr, beth am fynd ymlaen at gyllid addysg, gan fod Suzy Davies yn hollol gywir i godi'r mater fod yna guddio'n digwydd yno. Pan fo arian yn mynd drwodd i lywodraeth leol nad yw'n cael ei drosglwyddo i'n hysgolion, mae honno'n fwy fyth o sgandal sy'n digwydd yma yng Nghymru. Mae darparwyr addysg, awdurdodau lleol a hyd yn oed yr undebau yn cynddeiriogi ynglŷn â hyn. Mae'n annirnadwy ac yn gwbl anghyfiawn nad yw £450 miliwn o arian ysgolion yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Felly, unwaith eto, dylech fod yn gweithio'n fwy agos, efallai, gyda'r Gweinidog addysg ynglŷn â sut y cawn yr arian hwnnw i mewn i'r ysgolion hynny, oherwydd mae gennyf athrawon yn awr sy'n gorfod prynu llyfrau, beiros a deunyddiau eraill i'w defnyddio yn eu hysgolion.

Y peth yw, mae gennym broblem yng Nghymru. Mae gennym y cyllid yn dod i Gymru. Mae angen edrych ar y fformiwla llywodraeth leol, a chredaf eich bod yn awyddus i edrych arni, Weinidog. Hefyd, er hynny, credaf fod angen ichi edrych yng nghyllideb y flwyddyn nesaf ar y setliad a roddir i awdurdodau lleol. Y cyfan rwy'n ei ofyn, y cyfan y gofynnwn amdano ar y meinciau hyn: gadewch inni gael rhywfaint o degwch, gadewch inni gael tegwch go iawn o ran y gwariant a dosbarthiad y setliad ar draws ein hawdurdodau lleol yng Nghymru. Diolch.

17:10

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yr Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9 ar yr agenda, sef dadl UKIP ar yr Undeb Ewropeaidd, a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7019 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno agosach fyth ymhlith pobl Ewrop.

2. Yn gresynu bod yr UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau cenedlaethol etholedig, ac wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr UE.

3. Yn nodi bod fetoau cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais y mwyafrif yng Nghyngor y Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi, ac y bydd y duedd hon yn parhau am gyfnod amhenodol.

4. Yn credu bod ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig yn creu perygl y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i ewyllys penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng nghanlyniad refferendwm 2016.

5. Yn credu bod y prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei hyrwyddo gan sefydliadau parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau o aros o fewn yr UE yn cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd, rhagor o integreiddio economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig.

6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses o ymadael yn llawn a dirwystr â'r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Am bron i ddwy flynedd, rydym wedi dioddef proffwydoliaethau ynghylch yr effaith drychinebus ar economi'r DU pe byddem yn gadael yr UE mewn senario 'dim bargen'—mae dwy blaid sosialaidd y Cynulliad hwn wedi lledaenu canlyniadau andwyol o'r fath, ac mae llawer ohono'n ddyfalu negyddol pur. Rydym ni yn UKIP yn cyfaddef y gallai fod rhai effeithiau negyddol ar ein heconomi yn y tymor byr, ond mae bron bob arbenigwr economaidd yn rhagweld mai yn y tymor byr yn unig fyddai hyn. Fodd bynnag, yn y ddadl hon, mae UKIP am ganolbwyntio mwy ar oblygiadau gwleidyddol aros yn yr UE.

Aros yn yr UE, wrth gwrs, yw nod y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn y pen draw, ac yn achos y cyntaf o'r rhain o leiaf, awydd diamheuol i rwystro ewyllys nifer llethol o'u pleidleiswyr Llafur. Efallai y dylem nodi yma fod pobl Sunderland, er gwaethaf bygythiadau amlwg i ddyfodol ffatri Nissan, yn parhau'n bendant o blaid gadael yr UE. Mae'n ymddangos bod hyn yn wir am bob un o'r rhanbarthau a bleidleisiodd dros adael, gan gynnwys y rheini yma yng Nghymru. Ni all hyn ond dynodi un peth: mae'r awydd i adael Ewrop yn mynd ymhell y tu hwnt i fanteision economaidd, neu fel arall. Mae a wnelo ag awydd pobl i adfer rheolaeth ar ein sefydliadau, yn enwedig pŵer ein seneddau, ein barnwriaeth, ein ffiniau, ein mannau pysgota a llu o feysydd eraill a ildiwyd i Frwsel.

17:15

Edrychwch, mae eich cynnig yn dweud mewn gwirionedd eich bod yn erbyn trosglwyddo pwerau o seneddau cenedlaethol i sefydliadau heb eu hethol, ond mae'r polisi rydych newydd ei fabwysiadu yn ymwneud â mynd â phŵer o'r Senedd genedlaethol hon a'i roi i San Steffan, lle mae eu hanner yn aelodau heb eu hethol. Felly, gwneir y genedlaetholdeb go iawn sydd wrth wraidd eich cynnig yn glir mewn gwirionedd. Cenedlaetholdeb Prydeinig ydyw.

Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn camddarllen yr hyn a ddywedwn. Rydym yn dweud y byddwn yn rhoi pleidlais ar hynny i'r bobl.

Yn groes i'r syniad a ledaenir gan lawer yn y Siambr hon, roedd y bobl yn ymwybodol iawn o'r hyn yr oeddent yn pleidleisio drosto yn y refferendwm. Mae'n ymddangos bod mwyafrif yn y Siambr hon yn dymuno anghofio bod llyfryn cynhwysfawr wedi'i anfon i bob aelwyd yng Nghymru a'r DU yn amlinellu manteision ac anfanteision bod yn y DU, ac oherwydd ei fod wedi dod gan Lywodraeth Dorïaidd a oedd o blaid aros, amlinellwyd llawer mwy o fanteision nag o anfanteision. A yw'r rhai yn y Siambr hon sy'n rhoi'r ddadl nad oedd y bobl yn deall am beth y pleidleisient yn awgrymu na allent ddarllen neu ddeall y ddogfen honno?

Rhag ofn y bydd unrhyw un yn dymuno dadlau fel arall, mae'r anawsterau enfawr honedig a wynebwn yn awr wrth adael yr UE yn deillio bron yn llwyr o'r ffordd warthus y mae'r Torïaid, dan arweiniad Theresa May, wedi ymdrin â phroses Brexit. Mae bron bawb y siaradaf â hwy, gan gynnwys pobl a oedd eisiau aros, yn credu bod y negodiadau honedig o dan May wedi bod yn ffars a gynlluniwyd yn ofalus. Ac mae arolygon barn yn dangos bod 90 y cant o'r bobl yn dweud bod ymostyngiad llwyr wedi bod, gan arwain at waradwyddo pobloedd y DU yn llwyr.

Clywsom yn ddiddiwedd am ganlyniadau honedig ein hymadawiad â'r UE, ond beth fydd canlyniadau aros yn yr UE? Efallai y dylem ystyried rhai o'r canlyniadau hynny. Yn gyntaf, os ydym yn aros yn yr UE, byddwn yn parhau'n gaeth i'r polisi amaethyddol cyffredin, cyfundrefn sydd wedi bod yn drychinebus i'r amgylchedd ac wedi darostwng y rhan fwyaf o ffermwyr Prydain i orfod dibynnu ar gardod, neu ddistryw ariannol weithiau. Mae'n wir ei fod wedi arwain at wneud rhai ffermwyr yn ne-ddwyrain Lloegr yn filiwnyddion fwy neu lai. Er gwaethaf addewidion ers oddeutu 30 mlynedd, ni fu unrhyw newidiadau sylweddol i bolisi ffermio yr UE nac yn wir i'r polisi pysgota cyffredin.

Os ydym yn aros, bydd ein mannau pysgota cyfoethog yn parhau i gael eu hecsbloetio gan longau tramor ar draul ein pysgotwyr a phobl Prydain, gan olygu colled o tua £900 miliwn i economi'r DU. Bydd pŵer Senedd San Steffan ac yn sgil hynny, y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys y Cynulliad hwn, yn parhau i gael ei wanhau. Bydd llysoedd Ewropeaidd yn parhau i fod â goruchafiaeth dros ein llysoedd ni. Yn y pen draw byddwn yn rhan o fyddin Ewropeaidd o dan orchymyn Brwsel. Mae diwygiad mawreddog Ffrainc a'r Almaen yn gynllun—.

—y sylw chwerthinllyd hwnnw? [Chwerthin.] Onid ydych yn deall ein bod ni'n aelodau o Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd, sydd wedi'i leoli ym Mrwsel, a thrwy fod yn rhan o NATO rydym wedi cyfuno ein sofraniaeth â rhai o'n ffrindiau o gwmpas y byd i sicrhau ein diogelwch a'n democratiaeth? Rydym wedi gwella ein sofraniaeth drwy fod yn rhan o NATO, nid ei leihau.

Y gwahaniaeth mawr gyda hynny, wrth gwrs, yw ein bod yn dal i reoli ein lluoedd ein hunain dan NATO. O dan y fyddin Ewropeaidd arfaethedig hon, ni fydd gennym reolaeth ar ein lluoedd ein hunain—[Torri ar draws.] Na, rwyf wedi gwrando arnoch. Diolch yn fawr iawn.

Mae diwygiad mawreddog Ffrainc a'r Almaen yn gynllun i sefydlu cyllideb, Senedd a Gweinidog cyllid ar y cyd ar gyfer ardal yr ewro. Pe baem yn parhau i fod yn yr UE, mae bron yn sicr y caem ein gorfodi i ymuno ag ardal yr ewro ar ryw adeg yn y dyfodol agos. Bydd ein heconomi yn cael ei rhedeg wedyn i bob pwrpas gan Bundesbank yr Almaen. Mae ein cyfraniadau i'r UE i godi o leiaf £1 biliwn o un flwyddyn i'r llall, gyda'r posibilrwydd ychwanegol y byddwn yn talu mwy hyd yn oed os yw ein heconomi'n ffynnu, fel a ddigwyddodd pan orfodwyd Cameron i dalu dros £1.7 biliwn yn ychwanegol yn 2014, a derbyniodd Ffrainc £0.7 biliwn ohono a dywedir eu bod wedi'i ddefnyddio i gadw eu gweithwyr sector cyhoeddus mewn gwaith. Hyn ar adeg pan gawn ein gorfodi i dorri nifer ein gweithwyr sector cyhoeddus rheng flaen hyd at yr asgwrn.

Os caiff 'dim bargen' ei dynnu'n ôl, mae Plaid Cymru a Llafur yn gweiddi am ail refferendwm. Wel, efallai y dylem nodi bod 84,000 yn fwy o bobl Brexit yng Nghymru nag a oedd o bobl a oedd am aros yn yr UE; gwrthgyferbyniad llwyr i'r mwyafrif o 6,700 a sicrhaodd fod y Cynulliad hwn yn cael sefydlu, eto i gyd mae'r ddwy ochr yn barod i dderbyn dilysrwydd refferendwm y Cynulliad, gan wadu'r un Ewropeaidd. Unwaith eto, dylid nodi bod 16 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael. Bydd unrhyw beth heblaw gadael y sefydliadau Ewropeaidd yn eu cyfanrwydd yn gwadu'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yn llwyr. Unwaith eto, mae Llafur a Phlaid Cymru yn gweiddi am yr hyn a alwant yn 'bleidlais y bobl'. Pwy a bleidleisiodd y tro diwethaf yn eu barn hwy? Rhyw isrywogaeth gudd? Sut bynnag y ceisiwch ei bortreadu, sut bynnag y ceisiwch ei gamliwio, rwy'n credu'n gryf y bydd eich ymdrechion i atal pleidlais ddemocrataidd pobl Cymru dros adael yr UE yn costio i chi yn y pen draw yn y blwch pleidleisio.

17:20

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Felly, a gaf fi alw ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw ei hun?

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ym mis Mehefin 2016.

2. Yn credu bod yn rhaid parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i grŵp UKIP, neu'r hyn sy'n weddill ohono, am gyflwyno'r ddadl amserol hon heddiw, ac wrth gwrs mae'n amserol, oherwydd byddem wedi bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener. Dyna beth y pleidleisiodd ASau drosto yn flaenorol wrth gytuno i sbarduno erthygl 50. Dyna y pleidleisiodd y cyhoedd drosto yn etholiad cyffredinol 2017, gyda 36 o 40 AS Cymru wedi'i ethol ar addewid maniffesto i ddarparu Brexit. Ac wrth gwrs, dyna y pleidleisiodd Cymru o'i blaid yn ôl yn 2016, fel y clywsom eisoes yn gwbl briodol.

Y broblem yw bod llawer o wleidyddion yn San Steffan ac yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn gwybod yn well na'r bobl sy'n eu hethol. Nid ydynt yn parchu canlyniad y refferendwm na'r rhesymau pam y pleidleisiodd cynifer o unigolion dros adael yr UE. Ac yn awr, maent yn parhau'r dicter a'r drwgdeimlad hwnnw yn erbyn sefydliad gwleidyddol sydd allan o gysylltiad drwy geisio gwyrdroi dyfarniad yr ymarfer democrataidd mwyaf a welwyd yng Nghymru ers cenhedlaeth.

Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, sy'n galw am ddychwelyd i ailgynnal y refferendwm mewn pleidlais gyhoeddus. Byddai hyn yn bradychu pleidleiswyr ledled Cymru yn llwyr, gan gynnwys pleidleiswyr Plaid Cymru mewn llawer o ardaloedd Plaid Cymru, a bleidleisiodd bob un ohonynt dros adael, yn enwedig Caerfyrddin, Ynys Môn, y Rhondda a llawer o rannau o Gymoedd de Cymru. Byddwn hefyd yn gwrthwynebu—

Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad, ond oni allwch ddeall yn achos Ynys Môn, er enghraifft, ei fod fwy neu lai'n union 50:50? Gall pethau newid o un diwrnod i'r llall bron, ac mae awgrymu ein bod yn anwybyddu yr hyn a ddywedwyd a beth oedd canlyniad y refferendwm hwnnw—beth ar y ddaear y buom yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf heblaw ceisio dod o hyd i ffyrdd o wneud iddo weithio? Ac rydym ni fel plaid nad yw eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno pob math o ffyrdd o edrych ar ôl buddiannau Cymru a lliniaru effeithiau niweidiol Brexit.

Rwy'n sylweddoli mai gwirionedd anghyfleus yw bod eich etholaeth wedi pleidleisio dros adael yr UE, ond dyna sy'n wir.

Fe fyddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant ffit-ffatio Llywodraeth Cymru. Roedd Jeremy Corbyn, wrth gwrs, yn llugoer ynglŷn ag aros yn yr UE ac ers hynny mae wedi mabwysiadu'r safbwynt rhyfedd o addo cyflawni Brexit gan bleidleisio'n gyson yn erbyn yr unig gytundeb sydd wedi bod ar lawr Tŷ'r Cyffredin i'w gyflawni. Ac ar yr un pryd, wrth gwrs, mae wedi bod yn camarwain llawer o'i Aelodau Seneddol ei hun, sydd eisiau ymrwymiad clir i ddechrau o'r dechrau eto gyda refferendwm arall. Mae ei protégé yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, Prif Weinidog Cymru, wedi bod dros bob man ar Brexit. Un funud mae wedi ffafrio etholiad cyffredinol, un funud mae wedi argymell cytundebau wedi'u diwygio, ond dywedir wrthym yn awr—ac rwy'n dyfynnu—ei fod 'Yn agos iawn at ffafrio ail bleidlais y bobl.' Gwelsom fod Owen Smith, AS Pontypridd, wedi dweud ei fod ef a llawer o bobl eraill yn ystyried gadael Llafur oherwydd llanastr Brexit ei blaid ei hun. Wrth gwrs, cafodd ei ddiswyddo o fainc flaen y Blaid Lafur am ddadlau dros ail refferendwm a thorri'r cydgyfrifoldeb, yn wahanol i ddau Aelod o Gabinet Llywodraeth bresennol Cymru, sydd hefyd wedi torri'r cydgyfrifoldeb—[Torri ar draws.] Iawn.

17:25

Rwy'n falch eich bod yn sôn am roi'r gorau iddi, oherwydd fe hoffwn eich atgoffa bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi colli tri Gweinidog yr wythnos hon yn unig. Felly, gadewch i ni fod o ddifrif yma. Ond rwyf am roi dyfyniad:

Dylai'r cytundeb masnach rydd y bydd yn rhaid inni ei wneud gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn un o'r rhai hawsaf yn hanes y ddynoliaeth.

Liam Fox, 2017.

'Ar ôl #Brexit byddai cytundeb rhwng y DU a'r Almaen yn cynnwys mynediad rhydd ar gyfer eu ceir a nwyddau diwydiannol, yn gyfnewid am gytundeb ar bopeth arall.

David Davis.

A gallwn fynd ymlaen, gan fod y cyfan yn llwyth o gelwyddau.

Cymerais ymyriad hir iawn yno, Ddirprwy Lywydd. Ond fe ddywedaf hyn: o leiaf mae gan y Ceidwadwyr y cwrteisi, pan fyddant yn anghytuno â'u Llywodraeth, i ymddiswyddo o'r Llywodraeth, yn wahanol i Aelodau o Lywodraeth Cymru.

Naill ai rydych yn derbyn penderfyniad y bobl neu nid ydych yn gwneud hynny, ac os nad ydych, dylech fod yn ddigon dewr i ddweud hynny, ond wrth gwrs, nid yw Prif Weinidog Cymru yn barod i ddweud hynny, a dyna pam y mae wedi bod yn ceisio troedio'r llinell denau hon, am ei fod am geisio dilyn safbwynt ei feistr, Jeremy Corbyn.

Nawr, mae ein gwelliant i'r cynnig hwn rwy'n ei wneud yn glir a syml iawn. Rydym yn parchu canlyniad y refferendwm ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Heddiw, bydd Aelodau Seneddol, a nifer ohonynt yn benderfynol o wrthdroi Brexit, yn cymryd rhan mewn cyfres o bleidleisiau dangosol i geisio penderfynu ar ffordd ymlaen, ond mae'n hollol glir mai'r ffordd gyflymaf a mwyaf trefnus o adael yr UE fyddai derbyn y cytundeb cyfaddawd a gytunwyd rhwng arweinwyr yr UE a Phrif Weinidog yr UE, a mawr obeithiaf na fydd ASau sydd wedi ymrwymo i barchu canlyniad democrataidd y refferendwm yn ymatal yn y gobaith o gael yr hyn a ystyriant yn gytundeb Brexit perffaith. Yn hytrach, mae angen rhywfaint o bragmatiaeth, a dyna pam rwy'n annog pawb i gefnogi'r cyfaddawd synhwyrol hwn y mae Prif Weinidog y DU wedi'i ddatblygu gyda'r UE, cytundeb y credaf ei fod yn cyflawni'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto yn 2016. Gallai methiant i gefnogi'r cytundeb hwnnw olygu oedi proses Brexit yn sylweddol; gallai ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan yn etholiadau'r UE, sy'n dod ym mis Mai; neu beryglu Brexit am flynyddoedd i ddod hyd yn oed. Ond wrth gwrs, os cefnogwn gytundeb cyfaddawd Prif Weinidog y DU, gallai'r DU fod allan o'r UE mewn mater o wythnosau, a byddai hynny'n cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru o'i blaid.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi bod yr Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.

3. Yn credu beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member
Eluned Morgan 17:28:42
Minister for International Relations and the Welsh Language

Ffurfiol. 

Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam Price. 

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y Cytundeb Ymadael a drafodwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd wedi'i wrthod dro ar ôl tro gan Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Yn nodi bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio ar 30 Ionawr 2019 y 'dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus'.

3. Yn credu y dylid ymestyn Erthygl 50 am hyd at 21 mis fel y gellir cynnal pleidlais y bobl i alluogi'r bobl i benderfynu a ddylid cymeradwyo'r Cytundeb Ymadael a drafodwyd neu aros yn yr UE.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad i'r Cynulliad yn nodi'r camau y mae wedi'u cymryd i baratoi ar gyfer pleidlais y bobl a pha sylwadau y mae wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU i'r perwyl hwn.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Lywydd. Wrth i'n tynged gael ei phenderfynu heno yn y Senedd arall honno gan gyfres o slipiau pinc—mae trosiad diswyddo yno y gallwn ei ddatblygu—[Chwerthin.]—mae temtasiwn i ni ddal ein hanadl, ond hyd yn oed wrth i San Steffan ymroi i gacoffoni, mae angen inni ymdrechu hyd yn oed yn galetach i sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed.

Drigain mlynedd yn ôl, cyfeiriodd cyn-Brif Weinidog Ceidwadol at wynt newid yn ysgubo drwy gyfandir arall. Bydd Brexit, os yw'n digwydd, yn wynt newid rhyngom ni a'r cyfandir, ond gadewch inni fod yn glir ynglŷn ag un peth: bydd yn wynt dinistriol. Yn San Steffan, dros ddwy flynedd a hanner, gwelsom ei ryferthwy, mae wedi chwalu ffenestri ein sefydliadau gwleidyddol ac wedi bwyta drwy sylfeini ein democratiaeth. Mae San Steffan ei hun yn troelli fel ceiliog gwynt sy'n wynebu pob ffordd ar unwaith, ac ynghanol y fortecs mae gwagle lle roedd Llywodraeth unwaith. Nawr, mae Brexit eisoes wedi gwneud difrod mawr i'n diwylliant democrataidd, i foesgarwch, i oddefgarwch, ac ni ellir dadwneud y niwed hwnnw'n hawdd nac yn gyflym beth bynnag fydd yn digwydd. Ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â hynny. Mae wedi gwneud difrod oherwydd un ffaith syml: cawsom ein twyllo gan brif gefnogwyr Brexit. Mae yna achos gonest i'w wneud dros roi diwedd ar y berthynas rhyngom ni a'r Undeb Ewropeaidd. Yn fy marn i, nid yw'n achos arbennig o gryf na chymhellol, a dyna pam nad hwnnw oedd yr achos a gyflwynwyd. Ildiaf gan resynu—[Anghlywadwy.]

17:30

Oni wnaed y difrod gan y rhai ar yr ochr a gollodd y refferendwm sydd wedi gwrthod derbyn y canlyniad ac nad ydynt yn mynd i'w weithredu?

Edrychwch, y pwynt yw hyn, iawn? Roedd yr achos a roddwyd gerbron y bobl yn weithred sinigaidd o ddichell moesol, iawn? Fe ddywedoch chi gelwydd; fe ddywedoch chi gelwydd wrth bobl, a fe wnaed hynny'n glir. Nid wyf yn mynd i gymryd—

Wel, fe chwifiodd ei law yn fy nghyfeiriad a dweud 'chi'.

Edrychwch, oherwydd y twyll hwnnw mae hi bellach yn rheidrwydd arnom i fod yn onest wrth bobl ynglŷn â chanlyniadau'r dewisiadau sy'n cael eu gwneud heno. Gallaf weld pam y dywedodd Ysgrifennydd masnach yr wrthblaid y bore yma nad oedd Llafur yn blaid dros aros; ni fyddai Llafur yn cefnogi'r gwelliannau dirymu ac ati, ond nid yn awr yw'r amser i fanteisio'n wleidyddol neu i fod yn amwys. Rhaid i ni wneud ein dewis a'n lleisiau'n glir. Nid wyf am ddweud rhagor am UKIP. Rwy'n falch fod cordon sanitaires yn cael eu hagor rhyngom bellach. Felly, edrychwch, gadewch inni beidio â sôn amdanynt hwy.

O ran y Blaid Geidwadol—mae eich gwelliant, fel eich gwleidyddiaeth, yn wag. Hynny yw, efallai fod 'Peidiwch â chynhyrfu a daliwch ati' yn boster braf, ond nid yw'n strategaeth wleidyddol pan fyddwch yn wynebu wal frics neu ymyl clogwyn.

Y gwelliant mwyaf siomedig, rhaid i mi ddweud unwaith eto, yw un y Llywodraeth. Fel llu o ddatganiadau a gawsom gan Lywodraeth Cymru, mae'n fwy arwyddocaol o ran yr hyn nad yw'n ei ddweud. Nid yw'n sôn am y syniad—y syniad canolog, does bosib—o refferendwm cadarnhau neu bleidlais gyhoeddus. Mae'n methu cydnabod, yn ein barn ni, nad rhwng Brexit meddal neu Brexit caled y mae'r llinell allweddol sy'n rhannu ar y mater allweddol hwn yn ein hanes mwyach; mae'r ddadl wedi symud ymlaen. Rhwng Brexit a dim Brexit y mae'r ddadl bellach. Mae gwelliant y Llywodraeth yn dweud

'beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai'r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a'r 27 gwladwriaeth arall sy'n rhan o'r UE.'

Cytunaf yn llwyr â hynny. Ond does bosib nad y berthynas agosaf bosibl yw aros o fewn yr UE, ac os credwch hynny, dywedwch hynny.

Mae ein gwelliant yn ymgais onest i unioni'r hepgoriad hwn. Wrth i San Steffan gynnal ei phleidleisiau dangosol ei hun, mae angen inni ddynodi yma, heno, ein bod yn barod i wneud ein rhan. Nid yw'n ddigon inni alw ar Lywodraeth y DU i wneud paratoadau ar gyfer pleidlais y bobl; mae gennym ninnau gyfrifoldeb hefyd. Mae angen inni baratoi—paratoi'r ddadl—felly gadewch i ni basio'r gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth a chyfarfod yr wythnos hon, fel arweinwyr ein pleidiau, yn drawsbleidiol, ac adeiladu'r ymgyrch dros y refferendwm a dechrau cynllunio hefyd ar gyfer ennill yr ymgyrch honno. Pa gyferbyniad mwy â'r gyfres o raniadau a welwn yn San Steffan heno na tharo nodyn o undod yma yng Nghymru?

Os edrychaf yn ôl dros y tair blynedd ddiwethaf yn y ddadl hon, rhaid imi ddweud nad wyf yn credu bod hyn wedi gwella ein democratiaeth na'n traddodiadau democrataidd, naill ai yng Nghymru na ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi gweld pobl sy'n honni eu bod yn ymgyrchu dros adfer sofraniaeth nad wyf fi, a bod yn onest, yn credu ei bod hi erioed wedi bodoli, ac yna ymosod ar strwythurau sylfaenol a saernïaeth y sofraniaeth honno. Nid barnwyr yw cangen annibynnol y farnwriaeth mwyach, maent yn elynion y bobl am eu bod yn digwydd anghytuno gydag UKIP a chefnogwyr Brexit. Caiff y Senedd ac Aelodau Seneddol eu cam-drin, a gwelaf hyn yn fy nghartref fy hun, y modd y caiff ASau eu cam-drin yn systematig am godi yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud eu barn. Pa egwyddor fwy a geir mewn unrhyw draddodiad democrataidd na gallu Aelod etholedig i godi mewn Siambr a dweud eu barn heb gael eu cam-drin a heb gael eu bygwth? Aeth gwraig 77 mlwydd oed—gadewch i mi orffen y pwynt hwn—ati i gychwyn deiseb yr wythnos diwethaf. Mae hi bellach yn cael ei hamddiffyn gan yr heddlu oherwydd y bygythiadau i'w bywyd. Sut y mae hynny'n gwella ac yn cryfhau ein traddodiadau democrataidd? Fe ildiaf.

17:35

Rwy'n condemnio'n llwyr y mathau hynny o ymddygiad gwarthus, a gwelwn lawer ohonynt ar y cyfryngau cymdeithasol o flaen ein llygaid, ond a ydych yn derbyn bod llawer ohono hefyd wedi ei dargedu at y rhai sydd yn dymuno gadael yr UE a chefnogwyr Brexit yn union yn yr un modd? Nid yw hynny'n dderbyniol ychwaith ac rwy'n siŵr y byddech am ymuno â mi i gondemnio hynny hefyd.

Rwy'n condemnio pob math o gam-drin. Rwy'n ei gondemnio'n ddiamod. Ond dywedaf wrth yr Aelod dros Orllewin Clwyd hefyd fod yr iaith y mae'n ei defnyddio—. Yn ei gyfraniad ei hun y prynhawn yma, mae wedi sôn am sefydliad gwleidyddol allan o gysylltiad ac wedi defnyddio'r gair 'bradychu'. Nawr, i mi, nid yw hynny'n nodwedd o ddemocrat sy'n cydnabod ac yn gweld gwerth safbwyntiau y gallai fod yn anghytuno â hwy.

Gadewch imi ddweud hyn: yn amlwg, credaf fod ein sofraniaeth yn cael ei gwella, nid ei lleihau, drwy fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Mae gennyf hyder yn y Deyrnas Unedig, mae gennyf hyder ym mhobl Prydain a phobl Cymru. Credaf fod gennym allu i siapio'r byd o'n cwmpas. Credaf fod gennym allu i ddylanwadu ar y byd o'n cwmpas. Pan fydd Gweinidog y DU yn mynd i Efrog Newydd i siarad yn y Cenhedloedd Unedig, nid wyf yn credu ein bod mewn rhyw ffordd yn cael ein tanseilio fel gwlad neu fel pobl neu ddiwylliant; credaf mai'r hyn a wnawn yw cymryd rhan mewn materion byd-eang ac rwy'n falch ein bod yn gwneud hynny.

Pan fynychais gyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion i gynrychioli Cymru, boed ar amaethyddiaeth, neu bysgodfeydd, neu gynghorau materion cyffredinol, nid oeddwn yn credu am eiliad—ac ni ddigwyddodd—fod rhywun yn dweud wrthym beth i'w wneud; ein bod yn cael cyfarwyddiadau. Roeddem yn ymuno â'n ffrindiau a'n cymdogion agosaf er mwyn gwneud y peth gorau ar gyfer ein pobl i gyd. A'r hyn a wnaethom yno oedd newid y ffordd y mae diplomyddiaeth ryngwladol a materion rhyngwladol wedi cael eu cyflawni ar gyfandir Ewrop, ond mewn mannau eraill yn y byd. Rydym wedi dangos y gall cyfandir godi o ludw a lladd rhyfeloedd i adeiladu rhywbeth gwahanol, i adeiladu rhywbeth ar gyfer y dyfodol.

Pan oeddem ym Mrwsel rai wythnosau yn ôl, yn siarad â llysgennad Seland Newydd yno, roedd yn sôn am y modd yr oeddent eisiau allforio rhai o'u gwerthoedd drwy'r byd—soniodd am gynaliadwyedd. Dyna'r hyn a wnaeth yr Undeb Ewropeaidd; mae wedi ei wneud ar draws y byd ac wedi ei wneud yma yn ogystal. Credaf fod y ddadl dros Brexit wedi gwneud cymaint o niwed i'n democratiaeth ag y gwnaeth y sgandal treuliau ddegawd yn ôl. Mae wedi tanseilio ymddiriedaeth mewn pobl, mae wedi tanseilio ymddiriedaeth yn y sefydliadau ac wedi tanseilio ymddiriedaeth yn y broses. A gwnaed hynny i raddau helaeth gan bobl sydd wedi defnyddio'r math o iaith y credaf ei bod yn annerbyniol. Darllenais drydariad gan Mark Reckless yr wythnos o'r blaen. Dywedai hyn:

Fe wnaethom ennill, fe wnaethoch chi golli. Os rhwystrwch chi Brexit a democratiaeth fe fyddwch yn medi'r hyn y byddwch yn ei hau.

Fe ildiaf, oherwydd rwy'n siŵr fod yr Aelod eisiau cyfle i ymddiheuro am hynny ac i'w dynnu'n ôl.

Pan gawsom y ddadl honno, fe ymosododd yr Aelod arnaf a gweiddi arnaf fy mod yn ymwelydd. Rwyf wedi byw yn y wlad hon ers dros dair blynedd, ac fe ymosodoch chi arnaf, fel ymwelydd. Yn y ddadl hon, fe ymosodoch chi arnaf drwy ddweud fy mod yn gelwyddgi, ac ni wneir dim am y peth. Nid dyna yw democratiaeth ac nid dyna sut y dylai Senedd weithredu.

Nid wyf yn meddwl bod y trydariad hwnnw wedi ei olygu ar fy nghyfer i ar y achlysur hwnnw a sylwaf nad ydych wedi ymddiheuro amdano.

Ond dyna'r iaith sy'n arwain at fygwth fy mhartner; dyna sy'n arwain at swyddogion yr heddlu yn fy nghartref, yn amddiffyn fy nheulu, a'ch iaith chi sy'n gwneud hynny. A thrwy wneud hynny, rydych yn tanseilio ein democratiaeth, a dylai fod cywilydd mawr arnoch.

Fy ngalw'n ymwelydd. A wnewch chi ymddiheuro am hynny?

A phan ddywedwch wrthyf am gau fy ngheg ac eistedd, yr hyn a wnewch yw tanseilio democratiaeth—[Torri ar draws.] Nid wyf am ildio eto, rwyf wedi cael llond bol arnoch chi. Gadewch imi ddweud hyn: pan fydd yr Aelod yn dweud wrthyf am eistedd a chau fy ngheg, beth mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw tanseilio democratiaeth yn y Siambr hon yn ogystal. A gadewch imi ddweud hyn: ni wnawn ganiatáu i chi wneud hynny. Ni wnawn ganiatáu i chi ei wneud. Mae'r ddemocratiaeth yn y lle hwn yn rhywbeth rwyf wedi brwydro drosti drwy gydol fy mywyd fel oedolyn—

Rydych newydd fy sarhau drwy fy ngalw'n ymwelydd ac yna nid ydych yn ymddiheuro.

17:40

A gawn ni roi'r gorau i weiddi? Nid yw'r meicroffon yn clywed sylwadau unrhyw un ac eithrio'r person sydd ar ei draed.

Nid oes pwynt o drefn—[Torri ar draws.] Nid yw'r ffaith eich bod—[Torri ar draws.] Nid yw'r ffaith eich bod yn gweiddi arnaf yn golygu y byddaf yn derbyn unrhyw un o'r pwyntiau rydych yn eu gwneud. A wnewch chi ymdawelu yn awr, Mark Reckless? Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddweud bod ein democratiaeth yn mynnu nifer o bethau. Yn sicr mae'n mynnu'r gonestrwydd a thryloywder a ddisgrifiodd Adam Price, ond mae hefyd yn mynnu parch at safbwyntiau pobl eraill, ac mae honno'n rhan sylfaenol ac yn un o egwyddorion ein democratiaeth. Mae hefyd yn cydnabod nad oes neb yn berchen ar ein democratiaeth; mae'n eiddo i bawb ohonom. Ond mae yna gydnabyddiaeth hefyd na ddaeth democratiaeth i ben ym mis Mehefin 2016, ac nid oes y fath beth â barn sefydlog y bobl. Ein lle ni yw dyfeisio ac ailddyfeisio ein sefydliadau a'n cyfansoddiad fel y penderfynwn ni ein hunain, a dyna pam rwy'n cefnogi pleidlais y bobl. Dyna pam rwy'n cefnogi rhoi'r gair olaf i'r bobl ar y cytundeb—pa gytundeb bynnag y doir iddo yn y diwedd—oherwydd ni allwn wrthdroi refferendwm yn y fan hon, ac ni ddylem geisio gwneud hynny, er bod y Ceidwadwyr wedi ceisio gwneud hynny, wrth gwrs, ar sawl achlysur, er mwyn gwrthdroi'r refferenda datganoli. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw mynd yn ôl at y bobl.

Rhaid inni fynd yn ôl at y bobl a dadlau ein hachos. Rhaid inni fynd yn ôl at y bobl a dangos bod y pwyntiau a wnaeth David Rowlands wrth agor y ddadl hon yn wallus i raddau helaeth ac gyfan gwbl anghywir, fel ffeithiau, o ran eu sylwedd a'u dehongliad. Drwy wneud hynny, gobeithiaf y byddwn yn gwneud dau beth—ac rwyf am orffen ar y pwynt hwn, Lywydd. Byddwn yn sicr yn dechrau adfer dyngarwch yn y ddadl yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig; byddwn yn sicr yn dechrau ailadeiladu ein democratiaeth ac ymddiriedaeth yn y sefydliadau y mae rhai pobl yn honni bod eisiau eu cryfhau. Ond fe wnawn fwy na hynny. Gobeithiaf y byddwn yn dechrau ailadeiladu cymdeithas y buaswn yn falch o'i galw'n gartref, cymdeithas lle bydd fy mab yn tyfu i fyny, nid yn pwyntio at bobl a sgrechian arnynt, nid yn eu bygwth oherwydd ein bod yn anghytuno â hwy—

Rydych yn pwyntio ataf fi wrth ddweud hynny. A allwch ddod i'ch casgliadau os gwelwch yn dda?

Dyfais areithyddol yw hi; mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.

Credaf y bydd hynny'n adfer sofraniaeth y bobl, a sofraniaeth ein cymunedau, a dyna sofraniaeth a gall pob un ohonom fod yn falch ohoni.

Tybed a fyddai Alun Davies wedi cefnogi pleidlais y bobl pe byddai canlyniad y refferendwm wedi mynd y ffordd arall. Ond nid dyna'r ffordd yr aeth hi. Roedd 85 y cant o'r pleidleisiau a fwriwyd yn etholiad cyffredinol y DU yn 2017 dros bleidiau a oedd wedi ymrwymo yn eu maniffestos i lynu at ganlyniad y refferendwm a gweithredu Brexit. Felly mae'n anffodus iawn fod llawer yn y lle hwn wedi rhoi eu holl egni ers hynny i hyrwyddo senarios gwaethaf posibl yn hytrach na pharchu'r bobl.

Mae negodiadau rhwng yr UE a'r DU wedi dilyn proses fesul cam, a oedd yn hysbys ac wedi'i deall o'r cychwyn, ond dewisodd rhai gamliwio hyn fel amser a wastraffwyd. Mae llawer o'r un bobl wedi defnyddio yr hyn a gytunwyd ymhell cyn cytundeb ymadael y Prif Weinidog fel esgus dros ei wrthwynebu yn awr. Mae mater ffin Iwerddon yn bwysig, ond mae'r testun cyfreithiol yn deud yn glir fod y ddau barti am osgoi'r defnydd o'r trefniadau wrth gefn ac ni all erthygl 50 sefydlu perthynas barhaol. Mae'r UE eu hunain wedi dweud yn glir iawn nad ydynt am i'r DU aros mewn undeb tollau estynedig ac yn aelod o'r farchnad sengl ar ôl Brexit.

Fodd bynnag, mae'r cytundeb go iawn a negodwyd gan y Prif Weinidog a'i thîm, a oedd yn galw am gytundeb â'r 27 gwladwriaeth arall, yn ymwneud â llawer iawn mwy na hyn. Fel y nododd y Prif Weinidog, mae'r cytundeb hwn yn cyflawni canlyniad y refferendwm, gan adfer rheolaeth ar ein harian, ein ffiniau a'n deddfau, gan ddiogelu swyddi a diogelwch cenedlaethol ar yr un pryd. Er na fyddech yn gwybod hynny o'r ddadl ddramatig ynghylch y cytundeb ymadael â'r UE a'r datganiad gwleidyddol, a'r sylw a roddwyd iddynt, mae cytundeb Brexit Prif Weinidog y DU yn cynnwys amrywiaeth o fesurau diogelwch, gan gynnwys trefniadau y cytunwyd arnynt a fydd yn gadael i ddata barhau i lifo'n rhydd; trefniadau masnach ar gyfer nwy a thrydan; rheolau cadarn i gadw masnach deg fel na all y DU na'r EU sybsideiddio eu diwydiannau yn annheg yn erbyn ei gilydd; cytundeb trafnidiaeth awyr cynhwysfawr a mynediad tebyg ar gyfer cwmnïau cludo nwyddau, bysiau a choetsys; trefniadau a gytunwyd fel y gallwn barhau i gymryd rhan yn rhaglenni'r UE fel Horizon ac Erasmus; cytundeb cydweithredu gydag Euratom, sy'n cwmpasu'r holl feysydd allweddol lle byddem yn dymuno cydweithio; a pharhau teithio heb fisâu i'r UE at ddibenion gwyliau a theithiau busnes. Wel, clywais wleidyddion yn dweud wrth y cyhoedd, gyda diffuantrwydd ymddangosiadol, nad oedd dim o hynny yn y cytundeb ymadael sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

Mae Plaid Cymru, fel cyd-awduron y Papur Gwyn ar y cyd rhyngddynt a Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2017, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn onest ynglŷn â'u bwriad, ie, i fradychu canlyniad refferendwm yr UE, er bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE. Mewn cyferbyniad, mae Gweinidogion Llafur ac aelodau'r meinciau cefn—neu'r rhan fwyaf ohonynt—yn honni eu bod yn parchu canlyniad y refferendwm gan hyrwyddo'r hyn sy'n gyfystyr â Brexit mewn enw'n unig. Er bod oddeutu 60 y cant o etholaethau Llafur y DU wedi pleidleisio dros adael, gan gynnwys 59 y cant yn Wrecsam a 56 y cant yn Sir y Fflint, mae Prif Weinidog Llafur Cymru wedi dadlau droeon o blaid y cynllun y manylir arno yn y Papur Gwyn a luniwyd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llafur ar gyfer parhau aelodaeth y DU o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Byddai hyn yn golygu na fyddai gennym reolaeth ar ein ffiniau, ein masnach na'n cyfreithiau, a chyfraniad ariannol diddiwedd gan y DU i goffrau'r UE. Mewn geiriau eraill: ie, brad llwyr gan sefydliad Cymreig sy'n benderfynol o rwystro Brexit, ac sy'n trin pobl gyda dirmyg trahaus. Fe gymeraf un ymyriad.

17:45

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am yr ymyriad. Efallai nad yw'n gwybod ond mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei bod hi'n mynd i ymddiswyddo os caiff y cytundeb ei dderbyn—y tro cyntaf mewn hanes i arweinydd ddweud y byddant yn ymddiswyddo os cânt gefnogaeth eu plaid, yn hytrach na fel arall. Ond rhaid i mi ofyn hyn iddo, ac fe fyddaf yn gryno, Lywydd: yn 1997, cawsom refferendwm ar ddatganoli. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid sefydlu Cynulliad, ac eto, roedd chwip y Ceidwadwyr yn San Steffan yn gwrthwynebu canlyniad y refferendwm ac yn gwrthwynebu sefydlu Cynulliad. Sut y mae'n cysoni'r farn Geidwadol ar y pryd â'r hyn y mae'n ei argymell yn awr?

Yn ffodus, gwelsom ein camgymeriad a newid ein polisi ar hynny, ac ni fu'n bolisi gennym bellach ers 13 o flynyddoedd. Felly, ie, da iawn am edrych tua'r gorffennol.

Fodd bynnag, i adlewyrchu terminoleg Mr Corbyn, mae Prif Weinidog Cymru bellach wedi llithro'r term diystyr 'undeb tollau' i mewn yn hytrach nag 'yr undeb tollau', gan wybod yn iawn fod Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo i drefniant tollau, a pha derminoleg bynnag a ddefnyddiwn ar gyfer hyn, mae'n amherthnasol ar hyn o bryd o ran y cytundeb ymadael.

Mae'n dechnegol gywir i Lafur a Phlaid Cymru ddal ati i ddweud nad yw'r cytundeb ymadael yn gwarantu y byddai'r DU yn aros mewn undeb tollau. Yr unig reswm am hynny yw oherwydd na luniwyd y cytundeb ymadael i fynd i'r afael â'n perthynas fasnach yn y dyfodol gyda'r UE. Er bod y cytundeb ymadael yn dweud bod gan y DU a'r UE nod cyffredin o berthynas agos yn y dyfodol a fyddai'n adeiladu ar diriogaeth tollau sengl, mae hyn i'w negodi yn ystod y cyfnod pontio a gytunwyd fel rhan o gytundeb y Prif Weinidog.

Yn y byd go iawn, roedd y DU ar y brig yn y tabl cynghrair o bwerau meddal y byd y llynedd. Pan bleidleisiodd pobl dros adael yr UE, roeddent yn pleidleisio dros reolaeth. Nid oes a wnelo hyn â Brexit meddal neu Brexit caled ond yn hytrach, mae'n ymwneud â Brexit agored—un sy'n sicrhau bod y DU yn dal i wynebu tuag allan ac yn cymryd mwy o ran yn y byd nag erioed o'r blaen. Byddai cytuno ar gytundeb masnach rydd a threfniadau tollau cyfeillgar o fudd mawr i'r DU a'r UE o hyd. Os gallwn ei gael yn iawn, gallwn gael perthynas ddofn ac arbennig gyda'r UE yn y pen draw—Undeb Ewropeaidd cryf, wedi'i ategu a'i gefnogi gan DU gref a byd-eang, a dal i fasnachu a chydweithio'n agos â'i gilydd hefyd. Mae'n anffodus fod cynifer o bobl wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech tuag at geisio rhwystro hynny.

Yn y Siambr hon ddoe, treuliodd Llywodraeth Cymru amser sylweddol yn cyflwyno gwelliannau deddfwriaethol i baratoi'r llyfr statud ar gyfer Brexit: rheoliadau ar bopeth o datws i drethu, iechyd planhigion i gyfrifyddu, o ofal cymdeithasol i faterion gwledig—pob dim yn wir. Ac er na chymerodd y pleidleisiau hyn lawer o amser, gwn y bydd y gwaith paratoi wedi cymryd amser. Bydd wedi cymryd diwrnodau o waith gofalus a drud i gyfreithwyr, swyddogion, Gweinidogion, pwyllgorau a chyfieithwyr. Cyfran fach iawn yw'r rheoliadau hyn o'r gwaith sy'n mynd rhagddo oddi mewn a'r tu allan i'r Llywodraeth. Ystyriwch y miliynau o oriau gwaith a dreulir ar Brexit yn Whitehall, ac i beth? Er mwyn inni fod yn barod yn gyfreithiol am gyflafan economaidd.

Nid wyf yn amau bod angen i'r Llywodraeth wneud y gwaith hwn, ond mae'r gwastraff amser, egni ac adnoddau enfawr rydym eisoes wedi'u harllwys i lawr draen Brexit yn fy arswydo. Pan ystyriwn y dyfroedd stormus rydym ynddynt, hoffwn weld mwy o egni yn cael ei roi tuag at gadw'r llong economaidd ar wyneb y dŵr yn hytrach na pharatoi ar gyfer pan fydd yn suddo. Oherwydd mae'n fwy na'r ffaith ei fod yn costio arian, amser ac adnoddau i'r Llywodraeth a threthdalwyr. Dywedodd Airbus yn ddiweddar eu bod eisoes wedi gwario degau o filiynau yn paratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen'—hynny yw degau o filiynau a ddylai fod wedi'i wario yma yng Nghymru ar ymchwil a datblygu, prentisiaethau ac offer newydd. Nid yw'n fawr o syndod fod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a Chyngres yr Undebau Llafur bellach wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU fod y wlad yn wynebu argyfwng cenedlaethol. Roeddent yn dweud,

Ni allwn orbwysleisio difrifoldeb yr argyfwng hwn i gwmnïau a phobl sy'n gweithio.

A beth oedd ymateb Theresa May i'r argyfwng hwn? Yn gyntaf, gwneud un o'r areithiau mwyaf cywilyddus a wnaed erioed gan Brif Weinidog yn y wlad hon, yn beio'r Senedd a thrwy hynny, ASau unigol am fradychu'r cyhoedd—difenwad gwrthun mewn gwlad a gollodd Aelod Seneddol o ganlyniad i lofruddiaeth wleidyddol dair blynedd yn ôl yn unig.

17:50

Fe gyfeirioch yn eich sylwadau at y CBI. Wrth gwrs, maent yn cefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog. A wnewch chi dderbyn eu cyngor hefyd mewn perthynas â'u cefnogaeth i gytundeb ymadael y Prif Weinidog?

Mae fy safbwynt wedi bod yn glir iawn, Darren—rwyf am bleidlais gyhoeddus, a sylwaf nad ydych wedi trafferthu amddiffyn Theresa May heddiw.

Hyd yn oed ar ôl beirniadaeth hallt o bob ochr ni chafwyd unrhyw ymgais i estyn allan a cyfaddawdu. Fel rhywbeth allan o nofel Bertie Wooster, gwahoddodd y Prif Weinidog griw dryslyd o ddynion gwyn crand i'w hencil yn y wlad mewn ymgais i ddatrys yr holl beth. Mae'r ffaith bod y rhengoedd a ddaeth ynghyd wedi penderfynu cyfeirio atynt eu hunain wedyn fel 'grand wizards', teitl a gysylltir â'r Ku Klux Klan, yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â lle mae rhai o benseiri allweddol Brexit ar y sbectrwm gwleidyddol a deallusol. Mae'n cymryd rhywbeth i'r Torïaid lwyddo i gadw i fyny â phlaid UKIP a gysylltir yn llawn bellach â Tommy Robinson, ond yr wythnos hon rydych wedi llwyddo i wneud hynny.

A beth am UKIP? Dengys y cynnig sydd ger ein bron heddiw y diffyg atebolrwydd llwyr ar eu rhan am y celwyddau a dywedwyd wrth bawb ohonom yn refferendwm 2016. Nid oes dim yn newydd yma—dim atebion yn cael eu hargymell i'r argyfwng heddiw. Dim ond rhethreg flinedig, eildwym ynglŷn ag uwchwladwriaeth Ewropeaidd. Pe baech yn gallu troi gorymdaith fach soeglyd Leave Means Leave yn gynnig diwrnod y gwrthbleidiau, dyma sut olwg fyddai arno.

Cafodd cyflwr ofnadwy yr ymgyrch dila hon gan gefnogwyr Brexit ei bwrw i'r cysgod gan y miliwn a mwy o bobl a aeth ar yr orymdaith yn Llundain ddydd Sadwrn dros bleidlais i'r bobl—1 filiwn o bobl, ac roedd eu penderfyniad a oedd yr un mor gadarn â'u hurddas yn dangos, lle mae San Steffan yn methu, nad yw hynny'n wir am y cyhoedd. Roeddwn yn hynod o falch o fod yno, yn gorymdeithio ochr yn ochr â maer Llundain, Sadiq Khan, ac aelodau o bob plaid gwleidyddol a phobl o bob cefndir. Gwneir llawer o'r rhaniad oedran a dosbarth rhwng cefnogwyr aros a phleidleiswyr Brexit yn 2016, ond cynrychiolwyd pawb ar yr orymdaith honno. Roedd yn gadarnhaol, roedd yn egnïol, roedd yn edrych tua'r dyfodol—yn union y math o Gymru a Phrydain y dylai pob un ohonom fod eu heisiau yn y dyfodol. Ychwanegwch hyn at y ddeiseb gyhoeddus nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen i ddirymu erthygl 50, sy'n edrych yn barod fel pe bai'n mynd i basio'r 6 miliwn o lofnodwyr yn ôl y cyfrif diweddaraf, ac ni ellir dweud bod y wlad am inni fwrw ymlaen a dod allan o'r UE. Mae pethau wedi newid, newidiodd yr hwyliau, mae safbwyntiau pobl wedi newid. Ar adeg refferendwm yr UE, roedd gan UKIP saith Aelod yn y Cynulliad hwn. Bellach mae ganddynt dri. Mae hynny'n arwydd o fudiad sydd wedi chwalu, moment mewn amser sydd wedi diflannu, syniad nad oedd iddo unrhyw sail mewn realiti.

Ffantasi beryglus yw Brexit a diolch byth, amlygwyd hynny ar yr unfed awr ar ddeg. Mae'n bryd rhoi'r un hawl ag a arferir gennym yn y Siambr hon bob wythnos—yr hawl i newid ein meddyliau. Mae'n bryd ei rhoi i'r bobl.

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.

Member
Eluned Morgan 17:54:24
Minister for International Relations and the Welsh Language

Llywydd, diolch i UKIP am y cyfle i ymateb i'r drafodaeth yma. Beth sy'n ddiddorol am y cynnig ger ein bron ni heddiw yw, yn hytrach na thrafod yr anhrefn sydd yn bodoli o gwmpas Brexit ar hyn o bryd, mae'r cynnig yn canolbwyntio ar hanes ac egwyddorion sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Mae hwnna'n rhoi cyfle i fi wrthddweud yr anghysondebau, yr anwiredd a'r camliwio cyson gan UKIP am yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi arwain at y methiant systematig presennol yn ein system wleidyddol ers refferendwm 2016. A dwi eisiau troi at bob un o'r pwyntiau yn y cynnig yn eu tro.

Pleser mawr imi yn y ddadl hon fydd tynnu sylw at y pethau sy'n gwrthddweud ei gilydd, yr hanner celwyddau, y camsylwadau y mae UKIP yn gyson wedi'u dweud am yr UE ac sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig hwn.

Gadewch imi ddechrau drwy edrych ar yr ofn a fynegodd UKIP am uno agosach fyth yn eu cynnig. Nawr, credaf ei bod hi'n werth atgoffa ein hunain fod yr Undeb Ewropeaidd wedi'i greu yn dilyn trychineb yr ail ryfel byd, ac mae undeb agos yn ymrwymiad i gydfodolaeth, cydweithrediad a chydbenderfynu heddychlon mewn gwirionedd. Dylem fod yn edrych am fwy o hynny yn ein cymdeithas ar hyn o bryd. Ac mae'r UE wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn adeiladu Ewrop a nodweddir gan gydweithredu heddychlon, os dadleugar weithiau, yn hytrach na rhyfel a dinistr. Ac nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod yr UE wedi cynnig gobaith i wledydd canol a dwyrain Ewrop, a ddioddefodd cyhyd o dan unbeniaid Rwsia. A'u prif ddyhead ar ôl cwymp wal Berlin oedd ymuno â'r sefydliad.

Ac ymhell o fod yn rhyw fath o gynllwyn cyfandirol a orfodwyd ar Fritannia amharod a balch, a gaf fi nodi hefyd fod y fenter o greu'r sefydliad a dyfodd i fod yn Undeb Ewropeaidd wedi cael ei hysbrydoli gan ein harweinydd ein hunain adeg y rhyfel, Winston Churchill? Ystyrir bod Churchill yn un o 11 sylfaenydd yr Undeb Ewropeaidd. Ef, wrth gwrs, oedd sylfaenydd Mudiad Ewrop Unedig, ac yn 1946, dywedodd,

Rhaid inni adeiladu math o Unol Daleithiau Ewrop... Bydd strwythur Unol Daleithiau Ewrop, os caiff ei adeiladu go iawn, yn gwneud cryfder perthnasol un wladwriaeth yn llai pwysig... Os nad yw holl wladwriaethau Ewrop yn y lle cyntaf yn fodlon neu'n gallu ymuno â'r Undeb, rhaid inni fwrw ymlaen er hynny i gydosod a chyfuno'r rhai a fydd yn barod a'r rhai sydd yn gallu.

17:55

A wnaiff hi dderbyn hefyd bod Churchill wedi dweud yn yr un araith na ddylai Prydain fod yn rhan o hynny?

Yr hyn a wnaeth yn yr araith honno oedd ei gwneud yn glir ei fod yn barod i weithio gydag aelodau o'r Gymanwlad, ac rwy'n fwy na pharod i'w gwneud yn glir ei fod wedi dweud na allent ymrwymo'r wlad hon i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb aelodau eraill o'r Gymanwlad Brydeinig. A dywedodd,

ni ddylid colli unrhyw amser yn trafod y cwestiwn gyda'r tiriogaethau a cheisio eu darbwyllo bod eu lles hwy yn ogystal â'n lles ninnau yn gorwedd mewn Ewrop Unedig.

Dyna pam na wnaeth yr ymrwymiad ar y pwynt hwnnw. Fe'i gwnaeth yn ddiweddarach, a dyna oedd y rheswm pam na wnaeth hynny ar y pryd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n warthus fod UKIP wedi dwyn delwedd Churchill i gefnogi eu hymgyrch faleisus o gamwybodaeth yn y cyfnod cyn y refferendwm bron dair blynedd yn ôl.

Nawr, i symud at yr ail bwynt, ni chredaf ei bod yn wir fod yr UE rywsut yn dwyn pŵer oddi wrth aelod-wladwriaethau heb eu caniatâd. O dan y Ddeddf Ewropeaidd Sengl ym 1986, gwnaed y mwyafrif helaeth o benderfyniadau drwy sicrhau barn unfrydol. Ac mae unrhyw newidiadau sylweddol i'r cytuniadau yn dal i alw am farn unfrydol. Ond pwy oedd pensaer y symudiad tuag at bleidleisio mwyafrifol? Yr ail eicon mawr i gefnogwyr Brexit, Margaret Thatcher. Ac er ei bod yn wir fod pleidleisio drwy fwyafrif cymwysedig wedi ehangu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf o'r penderfyniadau a wneir gan Gyngor Gweinidogion yr UE yn deillio o farn unfrydol. Ac ymhell o fod yn dystiolaeth o duedd ddiatal, ni chafwyd unrhyw ehangu pellach yn y maes sy'n amodol ar bleidleisio mwyafrifol ers cytuniad Lisbon yn 2007. Ac wrth gwrs, nid yw'n wir i ddweud bod yr holl bŵer wedi'i grynhoi yn nwylo sefydliadau anetholedig—dylwn i wybod, roeddwn yno am 15 mlynedd fel Aelod o Senedd Ewrop—ac er bod Cyngor y Gweinidogion hefyd yn cynnwys Gweinidogion sy'n atebol i'w deddfwrfeydd eu hunain. Ac fel y cyfryw, nid yw Cyngor y Gweinidogion ronyn yn fwy annemocrataidd na thŷ uchaf Senedd yr Almaen, y Bundesrat, sy'n cynrychioli'r Länder neu'r gwladwriaethau mewn cyfansoddiad, unwaith eto, a luniwyd gan Brydain yn sgil yr ail ryfel byd.

Ac er ei bod yn wir fod y Comisiwn yn cael ei benodi, nid ei ethol yn uniongyrchol, mae'n gwbl ryfeddol ei fod yn cael ei ystyried yn rym didrugaredd, bob amser yn symud i un cyfeiriad. Wrth gwrs, i'r gwrthwyneb, mae Comisiynau olynol wedi adlewyrchu diwylliant gwleidyddol amlycaf aelod-wladwriaethau ar wahanol adegau, o'r blaengar, o Jacques Delors, i ddull llawer mwy laissez-faire Jean-Claude Juncker. Ac os oes perygl, yn wir, fel y mae pedwerydd pwynt y cynnig yn ei roi, y bydd y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf canlyniad y refferendwm, bydd y bai am hynny yn gyntaf ar ddull y Prif Weinidog o weithredu—wedi'i hannog yn wreiddiol gan UKIP a chefnogwyr Brexit i anwybyddu barn a buddiannau'r 48 y cant, ac ni wnaethant ymdrech hyd yn oed i geisio gweithio ar sail drawsbleidiol—ac yn ail ar y rhai a werthodd brosbectws ffug i'r bobl drwy honni mai ein trafodaethau gyda'r UE fyddai'r rhai hawsaf mewn hanes. Wel, onid yw hynny wedi mynd yn dda?

O ran y farn y byddai aros yn yr UE yn ein gwneud yn agored i uno agosach fyth yn erbyn ein hewyllys, mae'r gwir ychydig yn wahanol wrth gwrs. Os byddwn yn gadael, mae'n wir y bydd newid yn y cydbwysedd grym o fewn yr UE, ac mewn rhai meysydd, er enghraifft cydweithio milwrol a rheoleiddio agosach yn y sefydliadau ariannol, mae'n debygol y ceir newidiadau y byddai'r DU wedi'u rhwystro neu o leiaf yn anghyfforddus yn eu cylch. Ond fel a ddaw'n fwyfwy eglur, mae angen inni gadw mewn aliniad economaidd agos gyda'r UE, gan fod rhannau mawr o'n heconomi, yn anad dim ein sylfaen weithgynhyrchu, yn dibynnu ar gadwyn gyflenwi integredig gyda'r Undeb Ewropeaidd ac maent yn debygol fel arall o fod yn anghystadleuol. Ac mae cadw mewn aliniad agos gyda'r UE yn ymarferol yn golygu derbyn rhan helaeth o'i systemau rheoleiddio, gan fod gan farchnad o 450 miliwn, fel y gwelwyd yn y negodiadau hyd yn hyn, lawer mwy o ddylanwad na marchnad o 65 miliwn o bobl. Ac mae'n eironi blinderus yn llanastr Brexit, y bydd gennym lai yn hytrach na mwy o reolaeth drwy adael yr UE ar yr amgylchedd y mae ein busnesau'n trefnu eu hunain ynddo.

Felly, i gloi, mae'r cynnig yn gwbl gamarweiniol, yn gwbl gyfeiliornus ac nid yw'n syndod fod pob un o'r tair plaid arall yn y Cynulliad wedi llunio gwelliannau sy'n dechrau gyda 'Dileu popeth'.

Nawr, mae'n werth nodi hefyd, rwy'n credu, fod Theresa May—. Un peth yw iddi gynnig camu lawr heb ddyddiad pendant—felly nid ydym fawr pellach ymlaen ar hynny, oherwydd fe wyddem ei bod hi'n mynd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf—ond ni fydd newid arweinydd yn newid sylwedd y ddadl.

Nawr, wrth droi at y gwelliannau eraill, mae hi'n werth dweud am y Torïaid eu bod nhw jest fel y blaid yn San Steffan, achos does ganddyn nhw ddim byd newydd, ychwanegol i'w gynnig.

Ac, wrth gwrs, o ran Plaid Cymru, tra bod y trywydd maen nhw'n ei gynnig yn un y gallem ni fel Llywodraeth ei gefnogi—a dwi'n gobeithio eu bod nhw wedi nodi bod Llafur wedi cadarnhau heddiw y byddan nhw'n cefnogi pleidlais gyhoeddus fel un o'r opsiynau—mae'n werth tanlinellu nad heddiw, efallai, yw'r diwrnod i gyfyngu ar yr opsiynau posibl wrth i Dŷ'r Cyffredin geisio darganfod ffordd o gael cefnogaeth fwy eang. 

Lywydd, gadewch imi ddod i ben drwy ddyfynnu Alexandre Dumas yn The Three Musketeers, a allai fod wedi bod yn ysgrifennu am ein tri mysgedwr ychydig yn llai nwyfus ein hunain yn UKIP gyda'u hobsesiwn eithafol ynghylch ymladd cysgodion a chadw'r ffydd mewn Brexit pur:

Ym mhob cyfnod ac ym mhob gwlad, yn enwedig yn y gwledydd sydd â rhaniadau o'u mewn ar sail ffydd grefyddol, mae yna bob amser eithafwyr a fyddai'n fodlon cael eu hystyried yn ferthyron.

18:00

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, rydym wedi cael dadl fywiog ac egnïol. Rydym wedi clywed cwynion ynghylch faint o gam-drin geiriol a luchir o gwmpas yn hyn, ac mae'n ymddangos bod yr achwynwyr uchaf eu cloch yn go fedrus yn y grefft o arfer cam-drin geiriol eu hunain—yr Aelod dros Flaenau Gwent, un o fy ffefrynnau yn y lle hwn, ac arweinydd Plaid Cymru, sydd yn ddiweddar, wrth gwrs, wedi mynd i ddŵr poeth yn sgil y difenwadau a luchiodd at Brif Weinidog Cymru ei hun. Credaf ei bod hi'n drueni fod cam-drin geiriol personol yn digwydd, ond gan fod cryn dipyn ohono wedi ei anelu at UKIP yn ystod y ddadl hon, credaf fy mod am gymryd y cwynion gyda phinsiad o halen, nid yn lleiaf gan un arall o fy ffefrynnau, y Gweinidog, a oedd yn arbennig o ddidrugaredd yn yr ansoddeiriau a ddefnyddiodd i'n disgrifio a'r cymhellion sy'n sail i'r cynnig. Ond pan fydd rhywun fel Owen Smith, yr Aelod Seneddol yn ei siwt Armani dros Bontypridd, yn gallu trydar fod y rhan fwyaf o'i etholwyr a bleidleisiodd dros Brexit yn hiliol, yn estrongasawyr, ac yn adweithwyr asgell dde, nid wyf yn credu mai lle'r Blaid Lafur yw cwyno am yr iaith a ddefnyddir yn y ddadl hon heddiw.

Dywedwyd wrthym ninnau hefyd fod yr ymgyrch o blaid Brexit yn seiliedig ar gelwyddau. Wel, mae sawl ochr i wirionedd, fel y gwyddom, a nodweddir pob ymgyrch etholiadol ar y ddwy ochr neu bob ochr gan gamystumiadau, gorliwio, camliwio ac ie, gan gelwydd llwyr. Beth am y 3 miliwn o swyddi y byddwn yn eu colli hyd yn oed pe baem yn ystyried y posibilrwydd o adael yr UE, neu ragfynegiad y Trysorlys ei hun pe bai gan y cyhoedd yr hyfrdra i bleidleisio dros Brexit, heb sôn am gwblhau'r broses, y byddai diweithdra yn y wlad hon yn codi i 800,000 ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny, wrth gwrs, mae wedi haneru a bellach mae gennym y lefelau isaf o ddiweithdra ers 45 mlynedd.

Cofiaf yn dda pan oeddem yn trafod mynd i mewn i'r Undeb Ewropeaidd fel y mae yn awr, 50 mlynedd yn ôl, dywedwyd mai marchnad gyffredin oedd hi ac nad oedd ganddi ddim i'w wneud ag undeb gwleidyddol o gwbl ac nad oedd gan Brydain ddim i'w ofni—nid oedd yn ddim mwy nag ardal fasnach rydd mewn gwirionedd gydag ychydig o fanion ychwanegol dibwys. A chofiaf Edward Heath yn dweud er mwyn cael ei fwyafrif—fe basiodd gyda mwyafrif o wyth, mewn gwirionedd, yn Nhŷ'r Cyffredin ar y cynnig allweddol; roeddwn yno y tu allan ar y pryd; fe'i cofiaf yn glir iawn—dywedodd nad oedd yn fwriad gan Lywodraeth y dydd i fynd â Phrydain i mewn i'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, fel yr oedd ar y pryd, heb gydsyniad brwd y Senedd a'r bobl. Wel, ni wnaethant ymgynghori â'r bobl gan nad oedd ym maniffesto'r Ceidwadwyr, hyd yn oed yn etholiad 1970, a chafodd ei wthio drwodd yn sgil y chwip mwyaf didostur, fel y dywedais eiliad yn ôl, ar fwyafrif o wyth yn y bleidlais dyngedfennol. Ni chafwyd cydsyniad brwd, a dyna pam y mae'r ddadl hon wedi llusgo yn ei blaen am yr holl flynyddoedd hyn.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym wedi cael nifer o gytuniadau sydd wedi ehangu cymhwysedd y sefydliadau Ewropeaidd ac wedi lleihau rôl seneddau cenedlaethol, gan gynyddu pŵer technocratiaid anetholedig ar draul y rhai a gafodd eu swyddi yn sgil eu hethol gan y bobl. Ac ni fu erioed refferendwm ym Mhrydain ar unrhyw un o'r rheini, er cael addewid i'r perwyl hwnnw o bryd i'w gilydd.

Gadewch i ni edrych yn ôl ar gytuniad Lisbon ei hun, a gâi ei alw'n wreiddiol yn gyfansoddiad Ewropeaidd. Os yw'n gyfansoddiad Ewropeaidd, mae'n gwrthbrofi'r syniad nad yw'r UE byth yn mynd i ddatblygu'n rhyw fath o uwchwladwriaeth ffederal; dyna oedd ei holl bwynt yn y lle cyntaf. Dyna oedd Monnet a Schuman ei eisiau yn ôl yn y 1940au, ond nid yw'r bobl erioed wedi cael lleisio barn. Ac addawodd Gordon Brown refferendwm ac yna fe'i gwadodd iddynt, ac mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud yn union yr un peth, hyd nes y gorfodwyd David Cameron gan UKIP, yn gwasgu ar ASau Torïaidd a oedd ofn colli eu seddau i addo un, gan arwain yn y pen draw at y rheswm pam ein bod yn dadlau ynglŷn â hyn heddiw.

Felly, gwelodd sylfaenwyr yr UE, Monnet a Schuman, fod democratiaeth yn broblem, oherwydd yn y 1930au roedd unbeniaid wedi llwyddo i ennyn emosiynau ymhlith y dorf, ac felly roeddent yn meddwl pe baech yn caniatáu i'r bobl benderfynu i bwy i roi awenau grym, fod hynny'n beth gwael iawn ac felly, roedd democratiaeth yn broblem. Ateb yr 1940au i broblem y 1930au ydoedd, a dyna pam y mae strwythur yr UE fel y mae. Mae gennym gomisiwn anetholedig a benodir am bum mlynedd, gyda Chyngor y Gweinidogion wedi'i ethol yn anuniongyrchol tu hwnt drwy systemau llywodraethol yr aelod-wladwriaethau unigol, ac nid oes unrhyw ffordd o ddwyn y bobl hyn i gyfrif, am fod yr aelodaeth yn newid drwy'r amser. Nid oes gennym etholiadau ar gyfer Ewrop gyfan. Nid oes unrhyw ffordd y gallwch gael gwared ar Lywodraeth yr Undeb Ewropeaidd, a dyna pam ein bod wedi cyrraedd lle'r ydym heddiw lle mae mwyafrif o bobl Prydain eisiau gadael yr UE.

A'r gwleidyddion sy'n amharod i dderbyn hynny sy'n peri'r anawsterau. Roedd 49 o'r 60 Aelod yn y Cynulliad hwn cefnogi aros yn yr UE. Roedd 480 o'r 650 o Aelodau Seneddol yn cefnogi aros, a'u castiau'n ceisio amddifadu pobl y wlad hon o'r hyn y pleidleisiasant o'i blaid drwy fwyafrif ddwy flynedd a hanner yn unig yn ôl sy'n gyfrifol am yr holl ffraeo y clywn amdano.

Ond yr hyn a ddarganfuwyd gennym yn y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, yw pa mor ddibwynt oedd y blaid Dorïaidd fel cyfrwng i ddarparu Brexit. Fe wnaethant sbarduno erthygl 50 heb gynllun; nid ydynt wedi gwneud dim ers hynny i baratoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE; eu polisi mewn enw yw gadael y farchnad sengl, yr undeb tollau ac awdurdodaeth Llys Ewrop; nid ydynt wedi gwneud dim i adeiladu'r seilwaith a'r cyfleusterau sydd eu hangen ar wledydd annibynnol i reoli eu masnach, a dylai hynny i gyd fod wedi dechrau yn 2016—nid yw wedi dechrau eto. Dylem fod wedi gwneud hynny i gyd erbyn cwblhau proses erthygl 50. Mae proses erthygl 50 wedi'i chwblhau i bob pwrpas oherwydd ein bod wedi gorfod gofyn am estyniad, ond ni wnaed unrhyw beth gan Lywodraeth y dydd i'n paratoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE. Felly, fe fyddai'n costio mwy inni nag y byddai angen iddo ei wneud pe baem yn gadael heb gytundeb yr wythnos hon, ond nid yw hynny'n fai ar Brexit; bai'r ffaith bod gennym Brif Weinidog sydd eisiau aros yn yr UE a Chabinet sydd eisiau aros yn yr UE mewn Tŷ'r Cyffredin sydd eisiau aros yn yr UE, ac sydd wedi bod yn benderfynol o geisio rhwystro ewyllys pobl Prydain, ac ydw, rwy'n credu bod hynny'n bradychu'r ffydd sydd gan yr etholwyr ynddynt. Credaf fod y Prif Weinidog bob amser wedi bwriadu i'r broses hon fethu, a dyna pam nad yw wedi gwneud y paratoadau hynny.

Dylai negodiadau ynghylch cytundeb masnach yn y dyfodol fod wedi dechrau yn 2016. Nid ydynt wedi dechrau dair blynedd yn ddiweddarach hyd yn oed, ac mae'n amlwg o'r cytundeb ein bod wedi talu £39 biliwn i fod yn gaeth yn yr UE am gyfnod amhenodol, heb lais, heb bleidlais, heb feto, heb ryddid unochrog i adael. Rydym mewn lle gwaeth nag yr oeddem ar yr adeg y cafodd erthygl 50 ei sbarduno. Mae'n heddwch Carthaginaidd heb ryfel, testun gwaradwydd digyffelyb i Brydain a brad yn erbyn Brexit. Ni yw'r bumed economi fwyaf yn y byd, yr wythfed wlad weithgynhyrchol fwyaf, mae gennym Saesneg fel iaith fyd-eang, Llundain fel canolfan ariannol fwyaf y byd, mae gennym ddiffyg masnach enfawr gyda'r UE, rydym yn talu swm enfawr mewn cyfraniadau cyllidebol, ac mae'r UE yn crebachu fel grym ym masnach y byd. Rwy'n synnu—hwn yw fy mhwynt olaf—fod y blaid Dorïaidd yn y lle hwn wedi dileu ein cynnig,

'Yn gresynu bod yr UE... wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau cenedlaethol etholedig', 

na wnaiff nodi bod

'fetoau cenedlaethol... wrth ffafrio pleidlais y mwyafrif'

wedi dod yn y drefn reolaidd o fewn yr UE, ac nad yw'n derbyn bod

'y prosiect Ewropeaidd yn rym di-baid, yn cael ei hyrwyddo gan sefydliadau parhaol yr UE'

ac nad yw'n galw

'ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i gytundeb masnach rydd'.

Mae hynny'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y Blaid Dorïaidd fel cyfrwng ar gyfer Brexit ac fel plaid sydd â bwriadau da ac ewyllys da i gyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Prydain drosto ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac rwy'n annog y Cynulliad felly i bleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma.

18:10

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi’n gohirio’r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu’r gloch.

10. Cyfnod Pleidleisio

Felly, mae’r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM7022 Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru): O blaid: 42, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae’r bleidlais nesaf ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar rygbi, a dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Andrew R.T. Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 42—nage, y cyfanswm oedd 42. O blaid 27, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6990 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rygbi: O blaid: 27, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Nid wyf erioed wedi ennill pleidlais o'r blaen. [Chwerthin.] [Cymeradwyaeth.]

Mae’r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr ar gyllid llywodraeth leol. Dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais.

Gwasanaeth arferol yn ailgychwyn nawr, Andrew. [Chwerthin.]

Cau’r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM7018 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 8, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1, felly. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. 

18:15

NDM7018 Gwelliant 1: O blaid: 25, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Gwelliant 4: pleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 4.

NDM7018 Gwelliant 4: O blaid: 11, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, neb yn erbyn—gwelliant 5 yn cael ei dderbyn. 

NDM7018 Gwelliant 5: O blaid: 43, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 6 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, wyth yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 6. 

NDM7018 Gwelliant 6: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 8

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7018 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

3. Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.

4. Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.

5. Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, wyth yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig. 

NDM7018 Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 11, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Yr eitem nesaf o bledleisio yw ar ddadl UKIP ar yr Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

NDM7019 Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 3, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1: os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod. 

NDM7019 Gwelliant 1: O blaid: 8, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2: os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galw, felly, am bleidlais ar welliant 2, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn, sydd yn golygu bod gwelliant 3 wedi'i ddad-ddethol. 

NDM7019 Gwelliant 2: O blaid: 24, Yn erbyn: 19, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM7019 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod yr Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.

2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.

3. Yn credu beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, saith yn ymatal, 11 yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. 

NDM7019 Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 11, Ymatal: 7

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Yr eitem nesaf—. Pobl i adael y Siambr yn dawel ac yn gyflym—yr eitem nesaf fydd y ddadl fer.

11. Dadl Fer: Gwasanaethau plant: Amser am newid

Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer, a dwi'n galw ar Neil McEvoy i gyflwyno'r ddadl—Neil McEvoy.

Iawn. Diolch. Gwasanaethau plant: amser am newid. Mae hwn yn gyfraniad cadarnhaol a negyddol i ddadl sydd angen inni ei chael. Yn Julie Morgan, rwy'n credu bod gennym Weinidog sy'n malio. Felly, credaf fod hwnnw'n fan cychwyn da. Mae pob un manylyn o'r araith hon yn ymwneud ag unigolyn go iawn, sefyllfa mewn bywyd go iawn. Nid oes dim ohono'n haniaethol neu'n academaidd. Weinidog, nid yw'r status quo yn gweithio. Ceir cymaint o fylchau yn y system. Mae angen inni gael gwell polisïau a gweithdrefnau i lenwi'r bylchau hynny. Mae'n bwysig iawn dweud nad yw'r ddadl hon yn ymosodiad ar weithwyr cymdeithasol. Mae'n ymwneud â'r system. Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn cael digon o adnoddau ac maent yn cael gormod o waith. Mae gormod o bwysau arnynt. Mae eu llwyth achosion yn annioddefol ac yn rhy aml cânt eu rhoi mewn sefyllfaoedd amhosibl. Ni ddylai fod gan unrhyw weithiwr cymdeithasol fwy na 20 o blant i ofalu amdanynt, ond nid yw'n anghyffredin i weithwyr cymdeithasol gael 40 o achosion. Y canlyniad yn syml yw na allant wneud y gwaith yr aethant i mewn i'r proffesiwn i'w wneud. Maent yn treulio'u hamser yn gwneud gwaith papur ac amddiffyn eu hunain yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion difrifol sy'n effeithio ar blant a theuluoedd.

18:20

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Ceir diffyg adnoddau yn y rheng flaen, ond nid mater o arian yn unig ydyw; mae'n ymwneud â sut y caiff yr arian ei wario. Gadewch inni edrych ar blant mewn gofal. Ceir tua 6,000 o blant mewn gofal yng Nghymru. Yn y naw mlynedd diwethaf, mae nifer y plant mewn gofal wedi codi 36 y cant. Felly, ceir 1,700 yn fwy o blant mewn gofal. Mae cyfradd y plant mewn gofal yng Nghymru ar hyn o bryd yn 102 o bob 10,000—nifer gryn dipyn yn uwch na'r gyfradd yn Lloegr, ef 64 o bob 10,000. Os awn yn ôl ymhellach ac edrych ar nifer y plant mewn gofal yn 1991, mae wedi mwy na dyblu ers hynny. Pam y mae hyn wedi digwydd? Plant mewn gofal sydd i gyfrif am dros hanner y gwariant a gyllidebwyd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i blant a theuluoedd yn 2018-19. Mae ceisiadau gofal cyhoeddus yn ystod y 10 mlynedd diwethaf wedi mwy na dyblu. Gwerir swm enfawr o arian ar ymladd achosion yn erbyn rhieni yn y modd mwyaf ymosodol. Mae'n sefyllfa Dafydd a Goliath go iawn, ond yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes gan Dafydd ffon dafl hyd yn oed. Unwaith eto, mae'r gost i bwrs y wlad yn enfawr—enfawr. Dylid cyflwyno system eiriolaeth rhieni gyda dannedd er mwyn lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal. Gallai system o'r fath gefnogi teuluoedd, lleihau costau ac yn allweddol, sicrhau gwell canlyniadau i blant.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cost gyfartalog lleoliad awdurdod lleol yn £23,000, o'i gymharu ag asiantaeth annibynnol sy'n costio £43,000 y flwyddyn. Mae rhai o'r bobl ifanc fwyaf cymhleth, ar gyfartaledd, yn costio tua £6,500 yr wythnos. Ym mis Chwefror 2018, yng Nghaerffili roedd y lleoliad a gostiai fwyaf, sef £16,500 yr wythnos. Gwariodd Caerdydd £64,000 y plentyn—pob plentyn sy'n derbyn gofal—yn 2016-17. Nawr, byddai'n rhatach i blentyn fynd i ysgol breswyl ac i fynd ar wyliau yn ystod y gwyliau a chael hynny wedi'i dalu amdano o'r pwrs cyhoeddus na chael eu rhoi mewn gofal. Mae'n sefyllfa anhygoel. Mae rhoi plant mewn gofal wedi dod yn fusnes proffidiol, felly, Weinidog, mae gennych ddiwydiant i'w wynebu.

Gadewch i ni grybwyll enghreifftiau dienw. Nawr, mae adroddiadau teulu A—ni ddywedaf ble—wedi dod i'r casgliad fod y rhieni'n caru'r plant. Nid oes unrhyw fygythiad corfforol i'r plant. Mae gwasanaethau plant yn cyfaddef bod y plant yn caru'r rhieni, ond yn ôl cynghorydd arweiniol y cyngor hwnnw, nid yw sgiliau'r rhieni'n ddigon da. Aeth y rhieni at y gwasanaethau i ofyn am gymorth gydag un plentyn. Cafwyd anawsterau yn ystod genedigaeth y plentyn, dioddefodd yn sgil diffyg ocsigen i'r ymennydd, a threuliodd y plentyn lawer o amser gyda'r fam yn yr ysbyty. Byddai wedi bod yn rhesymegol edrych ar y rhesymau meddygol dros ymddygiad y plentyn, ond gwrthododd y gwasanaethau plant wneud hyn ac roeddent yn beio'r fam. Ar sail ymddygiad un plentyn, cafodd y pedwar plentyn eu rhoi mewn gofal. Ni roddwyd ystyriaeth i'r chwalfa emosiynol a brofodd y plant yn sgil hynny. Gwnaed camgymeriadau wrth asesu—camgymeriadau ffeithiol. Cafodd y fam ei beio am beidio â mynychu apwyntiadau meddygol, a defnyddiwyd hynny fel tystiolaeth o esgeulustod. Ar y dyddiadau hynny, roedd y fam yn yr ysbyty gyda'r plentyn.

Mae'r camgymeriadau difrifol hynny yn dal heb eu cywiro, ac am syndod: mewn 10 mlynedd o brofiad o ymdrin ag achosion o'r fath, mae bron yn amhosibl—amhosibl—cael camgymeriadau ffeithiol mewn adroddiadau wedi'u cywiro, ac mae llawer ohonynt yn mynd gerbron y llysoedd yn y pen draw. Felly, mae barnwyr yn gwneud penderfyniadau ar achosion lle maent wedi cael gwybodaeth anghywir—rhoddir gwybodaeth wael iddynt. Dylid cofnodi pob cyfweliad rhwng rhieni a gwasanaethau plant yn ddigidol. Gellir cadw'r data'n ddiogel ar gwmwl ac yn hollbwysig, byddai tystiolaeth ar gael i ddatrys camgymeriadau gwirionedd ddifrifol weithiau—gwirioneddol ddifrifol.

Mewn cyfarfod â dirprwy gyfarwyddwr gwasanaethau plant yn yr awdurdod lleol yn yr achos rwy'n sôn amdano, roedd y dirprwy gyfarwyddwr wedi cael ei friffio gan swyddogion, ac eto llwyddodd i fynegi un ffaith wallus ar ôl y llall. Dywedodd yr un dirprwy gyfarwyddwr wrthyf cyn yr adolygiad achos na fyddai unrhyw newid yn y trefniadau cyswllt—nawr, rwy'n pwysleisio, cyn yr adolygiad. Roedd y dirprwy gyfarwyddwr yn iawn, oherwydd nid oedd unrhyw newid, er bod un plentyn yn erfyn am gael mynd adref. Ar ôl yr adolygiad, gofynnwyd i'r swyddog annibynnol sut y gallai argymell dim newid a'r ateb oedd fod gan yr unigolyn dan sylw 90 o achosion—90—ac ni allai graffu'n briodol ar yr achos. Nid yw'n afresymol dod i'r casgliad fod adolygwyr o'r fath yn cael eu harwain gerfydd eu trwynau ac nad ydynt yn annibynnol; nid oes ganddynt amser i fod yn annibynnol. Ar ôl newidiadau i'r rheolwyr uwch, rwy'n falch o ddweud bod yr achos hwn bellach yn cael ei archwilio, ond bu'n rhaid i mi gyflogi gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymdeithasol profiadol iawn, i wneud y gwaith ar yr achos hwnnw.

Mae gennyf achos arall hefyd lle mae'r honiadau yn erbyn teulu'r plant yn rhai ffug. Roedd y teulu'n rhan o gamau i gael gweithiwr cymdeithasol wedi'u diswyddo ac mae'r awdurdod lleol wedi ymateb drwy ymddwyn yn ymosodol iawn, ac mae'n achos y byddaf yn mynd ar ei drywydd.

Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes yn dweud wrthyf fod rhieni sy'n wynebu heriau iechyd meddwl yn cael cam. Nawr, Weinidog, mae gwir angen edrych ar hyn a rhoi mesurau a chymorth ar waith. Fel rheol gyffredinol, mae gwahaniaethu ar sail dosbarth enfawr ynghlwm wrth roi plant mewn gofal: peidiwch â bod yn ddosbarth gweithiol; peidiwch â bod ar incwm isel; peidiwch â bod heb fod wedi cael addysg ffurfiol; peidiwch â bod yn rhywun a arferai fod yn blentyn mewn gofal; peidiwch â bod yn gyn-ddioddefwr cam-drin plant neu drais rhywiol, oherwydd, rwy'n dweud wrthych, mewn rhai amgylchiadau, caiff hyn oll ei ddal yn eich erbyn ac rwyf wedi gweld yr achosion i brofi hynny. Fe ddywedaf wrthych hefyd: peidiwch â bod yn fam danllyd sy'n ceisio amddiffyn ei phlant, oherwydd fe ddelir hyn hefyd yn eich erbyn—cewch eich galw'n 'ymosodol'; cewch eich galw'n rhywun nad yw'n fodlon cydweithredu. Ac ni roddir ystyriaeth i'r ffaith bod mamau o bosibl yn caru'r plant y maent wedi'u colli yn fawr. Mae'r driniaeth i rai mamau y deuthum ar eu traws yn ymylu ar fod yn annynol. Ni roddir ystyriaeth o gwbl i'r cyflyrau iechyd meddwl a'r trawma a ddaw yn sgil colli eich plant.

Lle ceir bygythiadau difrifol, wrth gwrs y dylid symud plant. Nid oes neb yn dadlau ynglŷn â hynny; mae pawb ohonom yn cefnogi hynny. Ond ceir cymaint o achosion y deuthum ar eu traws lle mae teuluoedd angen cymorth, nid cosb. O ganlyniad, nawr, rwyf ar hyn o bryd yn cyflogi dau weithiwr cymdeithasol i weithio ar fy llwyth achosion.

Gadewch inni symud ymlaen i gynadleddau amddiffyn plant. Weinidog, rwyf wedi cael fy ngwahardd rhag mynychu unrhyw gynhadledd amddiffyn plant yng Nghaerdydd, a hoffwn ddweud wrthych pam oherwydd credaf y cewch eich synnu. Mynychais gynhadledd ac roedd llawer o gamgymeriadau. Roedd y tad yn ddioddefwr cam-drin domestig, ac eto nid oedd unrhyw asiantaeth cam-drin domestig statudol yno i'w gefnogi. Pe bai'n ddynes, byddai wedi cael cefnogaeth, felly mae yna fwlch systemig. Gan symud ymlaen, roedd yr awdurdod lleol wedi nodi'n ysgrifenedig fod bygythiad pedoffilaidd i'r plentyn tra oedd yng ngofal y fam. Ceisiodd cadeirydd y gynhadledd amddiffyn plant gloi'r gynhadledd heb drafod y bygythiad pedoffilaidd. Codais y mater a dywedodd y cadeirydd nad oedd yn berthnasol. Ar ôl i mi nodi'r bygythiad pedoffilaidd, dywedodd person a gefnogai'r fam 'Ni fydd hynny'n digwydd eto'. Mae'r geiriau wedi'u serio ar fy nghof: 'Ni fydd hynny'n digwydd eto'. Gofynnais, 'Beth na fydd yn digwydd eto?' ac wrth gwrs, ni ddaeth ateb. Gofynnais am i bopeth gael ei gofnodi a phan ddaeth y cofnodion, nid oedd cyfeiriad at y bygythiad pedoffilaidd. Fodd bynnag, gwnaethpwyd recordiad cudd o'r gwrandawiad a gwelwyd bod y bygythiad pedoffilaidd yn cael ei grybwyll. Gwneuthum gŵyn i'r bwrdd diogelu lleol a chafodd pob un ond un o fy nghwynion eu cadarnhau. Felly, roeddwn yn iawn i gwyno, cafodd ein cwynion eu cyfiawnhau, ond nid datrys materion oedd yr hyn a wnaeth y gwasanaethau plant ond fy ngwahardd o unrhyw gynadleddau yn y dyfodol gydag unrhyw rieni, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei herio yn y dyfodol agos. Ac wedyn, aeth yr adran ar ôl y tad mewn modd ymosodol, er mai'r tad oedd y dylanwad diogelu ym mywyd y plentyn. Weinidog, dylid cofnodi pob cynhadledd amddiffyn plant yn ddigidol a chadw'r data ar gwmwl, cwmwl diogel.

Y pwynt pwysig am hyn yw y bydd rhieni sydd ag eiriolwr cryf mewn achosion o'r fath yn cael eu tynnu allan o'r hafaliad a bydd rhieni'n cael eu gadael heb gymorth digonol, ac ni all hynny fod yn iawn. Mae'n gwneud inni gwestiynu hefyd: pwy'n union y mae cynadleddau amddiffyn plant yno i'w hamddiffyn? Yn ôl tystion arbenigol ar y Pwyllgor Deisebau, mae dieithrio plentyn oddi wrth riant yn ffurf ar gam-drin plant. Caiff y gamdriniaeth ei hanwybyddu, a'i goddef yn wir. Dylai'r holl adrannau gwasanaethau plant fabwysiadu strategaeth i gadw'r ddau riant ym mywydau plant. Mae angen ailgydbwyso pŵer gyda gwasanaethau plant. Mae'n llawer rhy hawdd i unigolion gael eu llethu—ac rwy'n dweud llethu—ym mhob ystyr. Mae angen i gyfiawnder a'r drefn briodol fod wrth wraidd popeth a wneir. Ar hyn o bryd, mae gennyf ormod o enghreifftiau lle nad yw hynny'n wir.

Nid yw trefniadau amserlennu llysoedd yn helpu ychwaith, Weinidog, oherwydd yn rhy aml, nid oes gan weithwyr cymdeithasol sy'n brin o adnoddau amser i baratoi adroddiadau digonol, ac mae'r pwyslais wedyn ar dicio bocsys.

Rwyf am sôn yn fyr am y weithdrefn gwyno, oherwydd pan fyddwch wedi cyrraedd lefel cam 3 o broses gwynion annibynnol, mae'r ymchwilydd honedig annibynnol yn cael eu cyflogi a'u talu gan y cyngor. Nawr, os yw'r ymchwilydd yn rhy drylwyr, gadewch i ni ddweud, ni chânt eu cyflogi eto, a cheir achos ar ôl achos ar ôl achos lle mae'n amlwg nad ydynt yn annibynnol, a dyna fwlch arall, Weinidog.

Fy marn i yw y dylid tynnu gwasanaethau plant allan o reolaeth awdurdodau lleol. Dylai fod gan Gymru wasanaeth plant sy'n atebol yn ddemocrataidd, oherwydd ar lefel cyngor ni cheir y nesaf peth i ddim atebolrwydd—dim atebolrwydd. Nid yw aelodau'r cabinet yn gwybod beth sy'n digwydd. Mae gan weithwyr cymdeithasol hawl i ddisgwyl gallu cyflawni eu galwedigaeth yn rhydd o ofn. Mae gan blant ledled Cymru hawl i ddisgwyl cael eu cadw'n ddiogel, ac mae gan deuluoedd hawl i gael eu cefnogi, nid eu cosbi. Mae'n amser newid. Diolch.

18:30

A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Julie Morgan?

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o ymateb i'r ddadl hon a gyflwynwyd gan Neil McEvoy, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd ddigynnwrf a phwyllog y cyflwynodd ei ddadleuon. Credaf fod y pwyntiau unigol a wneir ganddo am sefyllfaoedd unigol—nid wyf yn cael rhoi sylwadau arnynt, felly, roeddwn yn meddwl y buaswn yn defnyddio'r cyfle i siarad ynglŷn â beth yw ein hathroniaeth gan y Llywodraeth ynghylch plant, a beth yw ein gobeithion ar gyfer plant. Mewn gwirionedd, credaf fod pob plaid bob amser wedi cefnogi—wel, ceir consensws clir fod cyfrifoldeb ar bawb ohonom i sicrhau ein bod yn ceisio rhoi'r gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael iddynt i blant a phobl ifanc, er mwyn caniatáu iddynt ffynnu mewn amgylchedd diogel, wedi'u cefnogi a'u harwain gan bobl sy'n malio ac sydd â'u lles gorau yn eu calonnau.

Mae'r deddfau yng Nghymru wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny'n gweddnewid y ffordd y rhoddir gofal cymdeithasol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae Deddf 2014 wedi bod mewn grym ers mis Ebrill 2016, a gweithiodd rhanddeiliaid ar draws Cymru yn galed iawn i weithredu ei dyheadau. a diben y Ddeddf yw atal, ymyrryd yn gynnar i helpu rhieni—gwn y bydd yr Aelod yn cytuno â hynny—cydgynhyrchu, gweithio gyda theuluoedd, ac mae llais a rheolaeth yn rhan greiddiol o'r Ddeddf, a diolch i gamau gweithredu'r Cynulliad hwn yn cytuno ar y rheoliadau gwasanaeth mabwysiadu rheoleiddiedig ddoe, 29 Ebrill—bydd hynny'n garreg filltir yn y broses o gyflawni Deddf 2016, pan fydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn dechrau cofrestru darparwyr gwasanaethau mabwysiadu a maethu, gan ddod â hwy'n rhan o waith ffocws gwella ansawdd Deddf 2016. Felly, cafwyd datblygiad sylweddol ddoe ym maes gofal plant.

Hyd yma, yn ystod fy amser fel Dirprwy Weinidog, rwyf wedi siarad ag amrywiaeth o bobl sy'n ymwneud â bywydau plant a theuluoedd. Rwyf wedi siarad ag uwch-swyddogion awdurdodau lleol, gwleidyddion lleol, sefydliadau trydydd sector, ac rwyf wedi siarad yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc am eu profiadau o wasanaethau hefyd, ac rwy'n credu mai dyna un o'r ymarferion pwysicaf a wneuthum—gwrando'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Ac er bod y profiadau a glywais wedi bod yn amrywiol—roedd yr hyn a ddywedasant wrthyf yn cynnwys amrywiaeth o ymatebion—rwy'n parhau i gael fy synnu a fy nghalonogi gan ymroddiad ac angerdd y bobl sy'n ymwneud â helpu plant a theuluoedd sy'n byw drwy adegau ansefydlog iawn. Rhaid i mi siarad ar ran llawer o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr yn y system gofal plant sy'n gweithio galed ac sydd o ddifrif yn ceisio gwella bywydau plant, a cheir llawer o benderfyniad i wneud y peth iawn. Rwyf am inni, y Llywodraeth, wneud popeth a allwn i hwyluso a chefnogi'r gweithwyr cymdeithasol hynny a'n rhanddeiliaid i wneud yn siŵr ein bod yn ceisio darparu'r gwasanaethau gorau posibl. Felly, dyna yw dymuniad diffuant y Llywodraeth, ein bod am wella bywydau plant sydd mewn amgylchiadau anodd, a gwyddom y bydd y plant a'r bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus yn mynd drwy'r amgylchiadau teuluol mwyaf anodd a heriol, ac rwyf wedi edmygu'n fawr y ffordd y mae nifer o'r plant hynny wedi dangos gwydnwch mawr, yn aml, a'r dulliau o ymdopi â'r sefyllfaoedd anodd hynny.

Fel y cydnabu Neil McEvoy yn ei gyfraniad, rwy'n credu bod diogelwch plant yn bwysicach na dim, ac er ein bod yn gwneud popeth a allwn i weithio gyda theuluoedd i gadw'r uned deuluol gyda'i gilydd, weithiau, sicrheir y budd pennaf i'r plentyn drwy fyw mewn trefniant gwahanol a dewis olaf yn bendant fydd hwnnw ac y dylai hwnnw fod bob amser. Gallai hyn fod, wrth gwrs, gyda'u teulu estynedig neu ffrindiau, neu'n aml gyda neiniau a theidiau neu mewn trefniadau mwy ffurfiol megis lleoliadau maeth sy'n berthnasau neu warcheidiaeth arbennig. Dylai plant sy'n byw mewn unrhyw un o'r trefniadau hyn gael y cymorth sydd ei angen arnynt hwy a'u gofalwyr i hybu eu lles, boed yn blant sy'n derbyn gofal ai peidio, a phan fo plentyn yn mynd i leoliad gofal, mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i sicrhau bod eu bywydau a'u cyfleoedd mor ffafriol â rhai eu cyfoedion. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu ar gyfer y plant hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gyhoeddus i'n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen' a'r strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.

Ddirprwy Lywydd, mae ein Prif Weinidog yn cefnogi'r weledigaeth hon yn gadarn, ac mae wedi nodi ei flaenoriaethau, a chredaf y byddant yn helpu awdurdodau lleol i ganolbwyntio eu hymdrechion ar ble y gellir sicrhau effaith sylweddol. Ac i gefnogi'r blaenoriaethau hynny, byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn unigol—gydag awdurdodau lleol unigol—i leihau nifer y plant mewn gofal yn ddiogel, ac fel y bo'n briodol, nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir a'r tu allan i'r wlad. Fe soniodd yr Aelod yn ei gyfraniad am y niferoedd cynyddol o blant mewn gofal, a chredaf ei fod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r Llywodraeth yn dymuno lleihau'r niferoedd sydd mewn gofal ac rydym am wneud hynny'n ddiogel. Felly, yn ystod mis Ebrill a mis Mai eleni, bydd ein swyddogion yn cyfarfod â phob awdurdod lleol i siarad gyda hwy ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i wneud cynnydd ar y blaenoriaethau hyn ac i roi cynlluniau priodol ar waith ar gyfer rhai o'r plant hyn oherwydd, yn amlwg, rhaid inni roi ystyriaeth i'r ddemograffeg a'r amgylchedd y mae'r awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau ynddynt fel y gallwn ddeall yr heriau a chynhyrchu ateb wedi'i deilwra gyda'n gilydd. Felly, rwy'n gobeithio y caf gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â chynnydd y gwaith hwn.

Felly, gan gysylltu'n gryf â'r pwynt a wnaethoch ynghylch gormod o blant mewn gofal, rydym yn cytuno â hynny, ac rydym yn ceisio ac yn mynd i gael ymdrech gydunol i geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal. Rwy'n falch fod yna ddiddordeb sylweddol yn y maes pwysig hwn, oherwydd os cawn ein craffu, mae'n cadw ein ffocws ar geisio cyflawni rhywbeth mewn gwirionedd. Gall wella ansawdd ac ysgogi camau gweithredu. Er enghraifft, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i edrych ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael profiad o ofal. Ac mae rhan gyntaf yr ymchwiliad hwnnw wedi'i gwblhau ac rydym yn bwrw ymlaen â nifer o argymhellion o ganlyniad i hynny. Er enghraifft, rydym wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu dull cenedlaethol o gomisiynu lleoliadau, a bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith a wneir eisoes gan y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol, y fframwaith maethu cenedlaethol a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal preswyl i blant.

Rydym yn arbennig o awyddus i hyrwyddo dulliau rhanbarthol o ddarparu gwasanaethau arbenigol, megis gofal preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i fyw mewn llety diogel. Rydym am ddad-ddwysáu'r gwasanaethau a cheisio gwneud yn siŵr fod gennym ddarpariaeth ranbarthol i blant fynd iddi fel nad oes yn rhaid iddynt deithio milltiroedd i ffwrdd o'u cartref, oherwydd credwn ei bod hi'n bwysig iawn fod plant yn cael eu gosod mor agos â phosibl at eu teuluoedd, sydd, yn amlwg, yn hollbwysig iddynt. Yn dilyn ein buddsoddiad newydd o £15 miliwn yn y gronfa gofal integredig i gefnogi gwasanaethau atal a gwasanaethau ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sy'n cael profiad o ofal, mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu cynigion ar gyfer dulliau arloesol newydd o gynyddu capasiti ein llety preswyl a hyrwyddo modelau newydd o gymorth.

Ac wrth gwrs, mae gennym grŵp cynghori'r Gweinidog ar blant, a gadeirir yn ardderchog gan ein cyd-Aelod, David Melding, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi clywed am y gwaith y mae'r grŵp hwnnw'n ei wneud. Mae ganddynt dri maes blaenoriaeth allweddol, ac maent yr un fath â'r hyn sy'n flaenoriaethau i mi bellach: lleihau yn ddiogel nifer y plant sydd angen gofal; cael dewisiadau lleoli o ansawdd digon uchel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal neu sy'n gadael gofal—felly, rydym am wneud yn siŵr fod lleoliadau addas ar gael ar gyfer plant sy'n rhaid eu gosod mewn lleoliadau gofal; a chynorthwyo plant sy'n derbyn gofal i gael y daith orau sy'n bosibl drwy ofal a dod yn oedolion. Rydym wedi buddsoddi i gefnogi plant sy'n cael profiad o ofal i gadw teuluoedd gyda'u teuluoedd geni lle bo hynny'n bosibl, ac mae hyn yn cynnwys—rydym wedi sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi, ac yn ei flwyddyn gyntaf yn unig, mae dros 1,900 o blant sy'n cael profiad o ofal ledled Cymru wedi cael cymorth drwy'r gronfa hon. Rydym wedi datblygu gwasanaethau ar ffiniau gofal ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol, ac rydym wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol, drwy weithio gyda mwy na 2,000 o deuluoedd y llynedd. Rydym wedi cyflwyno gwasanaeth Reflect ledled Cymru, a hyd yma, eleni, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi mwy na 160 o rieni ifanc sydd wedi cael o leiaf un plentyn wedi'i leoli yn y system ofal, gyda'r nod o geisio peidio â gadael i hynny ddigwydd eto. A bydd y £15 miliwn o gyllid gofal integredig y soniwyd amdano'n flaenorol yn cael ei ddefnyddio hefyd i gefnogi'r gwaith o atal ac ymyrraeth gynnar a amlygir yn y rhaglen waith gwella canlyniadau i blant. A thestun trafod rheolaidd yng ngrŵp cynghori'r Gweinidog yw gwella mynediad at, ac argaeledd cymorth therapiwtig ar gyfer plant sy'n cael profiad o ofal.

Roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy ngwahodd i siarad yn nigwyddiad lansio adroddiad ar y cyd a gynhyrchwyd gan yr NSPCC a Voices from Care am les emosiynol a meddyliol plant sy'n derbyn gofal, a gwn fod argymhellion pwysig iawn yn cael eu gwneud yn yr adroddiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at glywed eu cyngor ar y camau gweithredu sydd eu hangen.

Felly, i gloi, hoffwn bwysleisio bod llawer o waith da yn digwydd ledled Cymru. Rhaid inni gael ein craffu, felly rwy'n croesawu'r gwaith craffu hwnnw, ond credaf fod rhaid inni gydnabod bod ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ymrwymedig ac yn gweithio'n galed iawn er lles y plant. Rydym yn genedl fach, gryno, sy'n ei gwneud yn gymharol hawdd inni ddysgu oddi wrth ein gilydd, felly mae'n bwysig iawn fod yr arferion da yn gallu lledu o amgylch Cymru. Rydym ni yma yn y Siambr hon yn rhieni corfforaethol i blant a phobl ifanc sy'n cael profiad o ofal; rydym yn gyfrifol amdanynt ledled Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cytuno mai nod Llywodraeth Cymru yw gwneud ein gorau glas i ofalu am blant sydd yn y sefyllfaoedd anodd hyn. Rydym am leihau nifer y plant sydd mewn gofal, ac rydym am wneud ein gorau glas fel Llywodraeth i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau posibl mewn bywyd. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

18:45

Daeth y cyfarfod i ben am 18:45.