Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Reckless.

Ffordd Liniaru'r M4

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint o arian y gellir ei ddefnyddio o dan ffrydiau ariannu cyfalaf gwahanol ar gyfer ffordd liniaru'r M4? OAQ52916

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae proses benderfynu statudol yn mynd rhagddi ar hyn o bryd mewn perthynas â chynigion ffordd liniaru'r M4. Fel Ysgrifennydd cyllid, byddaf yn rhoi cyngor i fy nghyd-Aelodau ar oblygiadau cyllid y cynllun. Mae manylion yr holl arian cyfalaf a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys benthyca arian, fel y'u nodwyd yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20.

Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Ebrill, fe ofynnoch chi am fwy o bwerau benthyca gan y Trysorlys i ariannu ffordd liniaru'r M4. Er hynny, pan gytunasant yn y gyllideb, fe ymosodoch chi arnynt am amharchu datganoli. Bellach, clywn y gallai’r bleidlais gael ei gohirio, ond yn eich maniffesto, fe ddywedoch chi, a dyfynnaf,

'Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4'.

Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw fwriad o gadw'r addewid hwnnw?

Wel, Lywydd, mae’r Aelod yn anghywir yn ei ddehongliad o'r llythyr a anfonais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Yn ffodus, mae gennyf gopi ohono o fy mlaen, lle dywedais wrthi,

Hoffwn nodi yn awr y byddaf yn ceisio sicrhau cynnydd yn nherfynau benthyca blynyddol a chyfanredol Llywodraeth Cymru wrth inni agosáu at yr adolygiad nesaf o wariant fel y gallwn gyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer Cymru.

Mae hynny'n cynnwys yr M4, ond nid yw’n llythyr am yr M4, sef yr hyn a ddywedodd yn ei gwestiwn atodol. Llythyr ydyw am ein gofyniad benthyca yn ei gyfanrwydd, a’r blaenoriaethau buddsoddi i Gymru yn eu cyfanrwydd. Dyna oedd fy ngwrthwynebiad i'r hyn a ddywedwyd yn araith y Canghellor—ei fod yn ceisio neilltuo unrhyw gynnydd yn ein gofyniad benthyca at ddiben penodol. Mae hynny'n wahanol i'r datganiad o flaenoriaethau ariannu, ac rydym yn ceisio sicrhau cynnydd yn ein terfyn benthyca oherwydd y nifer o flaenoriaethau buddsoddi a hyrwyddir yn aml iawn ar feinciau’r Aelod ac sy’n bwysig yma yng Nghymru.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gan Lywodraeth Cymru bŵer i gyhoeddi bondiau i godi arian ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr, megis ffordd liniaru’r M4—os ydynt yn penderfynu bwrw ymlaen â hynny—yn yr un modd ag y gall Transport for London godi bondiau, fel y gwnaethant ar gyfer Crossrail?

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn atodol, ac mae'n fater y mae wedi mynd ar ei drywydd yn rheolaidd yn y Pwyllgor Cyllid ac yn y lle hwn. Rwy'n falch o gadarnhau i'r Cynulliad y prynhawn yma ein bod wedi cydweithredu’n dda gyda Gweinidogion y DU mewn perthynas â mater y bondiau. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn gosod Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Amrywio Pwerau Benthyca) yn Nhŷ'r Cyffredin. Disgwylir dadl ar hynny cyn bo hir, ac yn amodol ar gymeradwyaeth Tŷ'r Cyffredin, bydd yn dod i rym ar neu o gwmpas 1 Rhagfyr eleni. Fel y mae Mike Hedges yn ein hatgoffa'n rheolaidd, nid yw'r gallu i gyhoeddi bondiau yn cynyddu ein gallu i fenthyca; dim ond darparu ffordd newydd inni allu gwneud hynny a wna, pe bai Llywodraeth y DU yn cynyddu'r cyfraddau llog a godir drwy'r gronfa benthyciadau cenedlaethol.

Rhagolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau rhagolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer poblogaeth oedran gweithio Cymru? OAQ52911

Diolch i Dawn Bowden am hynny. Ledled y Deyrnas Unedig, rhagwelir y bydd cyfran y boblogaeth sydd o oedran gweithio yn cwympo. Nid yw gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y maes hwn yn darparu rhagolygon yn yr ystyr gonfensiynol. Yr hyn a wna'r ffigurau yn syml iawn yw ymestyn patrymau'r gorffennol i mewn i'r dyfodol, heb unrhyw gyfeiriad at heriau neu gyfleoedd newydd.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y prif economegydd, sy'n dod gyda'r gyllideb ar gyfer Cymru, yn amlygu'r risg i sylfaen drethu Cymru pe bai'r boblogaeth oedran gweithio yn parhau i leihau yng Nghymru, yn enwedig o gymharu â’r cynnydd a ragwelir yn y grŵp oedran hwn yn Lloegr. Dywed adroddiad y prif economegydd y gallai hyn olygu £150 miliwn y flwyddyn yn llai yng nghyllideb Cymru erbyn diwedd y degawd nesaf, ac mae'r broblem, wrth gwrs, yn tyfu bob blwyddyn drwy gydol y cyfnod hwnnw. I ba raddau y gall datganoli trethi Cymru ein cynorthwyo i wrthbwyso’r sefyllfa hon a sicrhau y gall ein sylfaen drethu yng Nghymru barhau i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnom?

Diolch i'r Aelod am hynny. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn wrth gysylltu rhagamcanion ynghylch y boblogaeth oedran gweithio gyda'r effaith ar sylfaen drethu Cymru, ac yn wir, ar addasiad y grant bloc sy'n effeithio ar yr arian a gawn yn flynyddol gan y Trysorlys. Y pwynt pwysig yma, Lywydd, yw'r un a grybwyllais eiliad yn ôl—mai amcanestyniadau llinell syth yw'r rhain o'r gorffennol i'r dyfodol. Ac mae llawer o ffactorau a all effeithio ar y newidiadau cymharol yn y boblogaeth oedran gweithio mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Yn wir, ceir amrywiadau ar lefel is na lefel Cymru. Ym Merthyr Tudful, er enghraifft, mae'r amcanestyniad is-genedlaethol yn dangos gostyngiad llai yn y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed nag yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Y pwynt a ddyfynnwyd gan Dawn Bowden o adroddiad y prif economegydd yw hwn: pe bai ein poblogaeth oedran gweithio'n tyfu'n arafach na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, gallai hynny drosi'n hawdd yn sylfaen drethu lai, a byddai hynny'n effeithio ar yr arian a gawn gan Lywodraeth y DU. Mae llawer o bethau y tu hwnt i'n rheolaeth a fydd yn effeithio ar y ffigurau hynny yn y dyfodol, fel yr amlygir pethau yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru sy'n dangos y pethau y gallwn eu gwneud ein hunain i wneud gwahaniaeth yn y maes hwnnw, a thrwy gymryd y camau hynny, gallwn liniaru'r problemau a nododd Dawn Bowden.

13:35

Ond wrth gwrs, un o'r pethau allweddol er mwyn tyfu ein sylfaen drethu yw sicrhau, yn gyntaf, fod mwy o bobl yn cael gwaith, ac yn ail, eu bod yn gallu sicrhau gwell safon byw, gwell cyflog, fel y gallant roi'r arian hwnnw yn ôl i mewn i'r economi. Mae hynny, yn ei dro, yn cynhyrchu'r arian i ni ei wario ar iechyd, addysg a'r llu o ofynion eraill sydd gennym o ran gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly, mae'r sylfaen waith, mewn gwirionedd, yn ysgwyddo baich go drwm.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod arnom angen i'r sylfaen waith honno dyfu, a bod arnom angen iddynt allu ennill mwy o arian ac arian gwell, fy nghwestiwn i chi yw pa sicrwydd y gallwch ei roi na wnaiff y trethi a gynigir yn eich maniffesto arweinyddiaeth effeithio'n anghymesur ar fusnesau Cymru, a thrwy hynny, amharu ar dwf economaidd, oherwydd mae angen yr arian hwnnw ar y busnesau er mwyn cyflogi mwy o bobl ac ehangu eu busnesau.

Wel, rwy'n deall pwynt Angela Burns ynglŷn â'r angen i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru mewn gwaith ac yn ennill cyflogau da. Ond bydd yn deall hefyd mai'r cwestiwn a ofynnwyd gan Dawn Bowden oedd: beth os bydd llai o bobl o oedran gweithio yng Nghymru yn y dyfodol? Hyd yn oed os bydd yr holl bobl hynny'n gweithio ac yn ennill cyflogau da, os oes llai ohonynt, goblygiadau hynny yw y byddai'n arwain at lai o dderbyniadau treth yn y dyfodol. Mae economi gref yn bwysig iawn, ond mae nifer y bobl o oedran gweithio yn bwysig hefyd. Ar hynny y mae'r amcanestyniadau poblogaeth yn canolbwyntio.

Cytunaf â'r pwynt mwy cyffredinol a wnaed ganddi, wrth inni feddwl am ddefnyddio ein pwerau cyllidol ar gyfer y dyfodol, fod angen inni wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi ein heconomi ac yn dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo'r sylfaen drethu honno i dyfu.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhagolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru yn creu her wirioneddol i ni. Erbyn 2035, disgwylir y bydd cyfran yr oedolion sy'n byw â chyflwr cyfyngus gydol oes yn cynyddu 22 y cant, ac ar yr un pryd, bydd 48 o bobl dros 65 oed am bob 100 o bobl o oedran gweithio. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau y gall Cymru fforddio gofalu am ei phoblogaeth sy'n heneiddio?

Mae'r gymhareb rhwng pobl o oedran gweithio a phobl sydd wedi ymddeol yn un bwysig iawn i holl economïau'r gorllewin. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol, 50 mlynedd yn ôl, fod pobl wedi tynnu sylw at y mater hwn gan ddweud bod y cymarebau'n symud i gyfeiriad mwy o bobl o oedran ymddeol. Roedd pump o bobl o oedran gweithio am bob unigolyn a oedd wedi ymddeol 50 mlynedd yn ôl; bellach, rydym yn agosach at gymhareb o 2:1. Serch hynny, rydym wedi llwyddo i greu economi sy'n caniatáu inni ddathlu'r ffaith bod pobl yn byw'n hirach a'n bod yn gallu parhau i'w cefnogi. Felly, nid yw'r broblem yn un anorchfygol. Mae ffyrdd y gallwn barhau i dyfu maint yr economi, er ei bod yn cynnwys llai o bobl o oedran gweithio, mewn ffordd sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu ar gyfer y nifer uwch o bobl yn y boblogaeth sy'n hŷn na'r oedran gweithio. Ceir cyfres gyfan o ffyrdd lle rydym wedi llwyddo i wneud hynny dros y 50 mlynedd diwethaf ac mae'n rhaid inni gael rhywfaint o hyder felly, er mor heriol yw'r broblem, y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.

Diolch, Lywydd. Neithiwr, wrth gwrs, datgelwyd bod y DU a'r UE wedi cytuno ar y testun drafft ar gyfer gwahaniad y DU oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r dadlau gwleidyddol yn sgil hynny eisoes wedi cychwyn. Rwy'n amau fy mod yn gwybod beth yw'r ateb i'r cwestiwn agoriadol, ond ar gyfer y cofnod, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi gweld y testun drafft ai peidio? Ac a yw Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru wedi cael trafodaeth ynglŷn â chynnwys y testun drafft hwnnw, naill ai dros nos neu heddiw?

Lywydd, nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban wedi gweld manylion y testun ymlaen llaw hyd yn hyn. Roeddwn yn Llundain ddoe ar gyfer cyfarfod diweddaraf y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau’r UE a gallais drafod cynnwys y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, ac yn wir, y ddogfen esboniadol a fydd yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â hynny, gyda Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a chyda Gweinidogion yr Alban hefyd. Deallaf y bydd Prif Weinidog Cymru'n siarad gyda Phrif Weinidog y DU y prynhawn yma.

Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, unwaith eto, mae'n siomedig fod yr agenda barch honedig, un y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hun ei fod yn gobeithio y byddai'n dechrau o ganlyniad i gytundeb rhwng ei Lywodraeth ef a Llywodraeth y DU ar y Bil ymadael, ac un a fyddai'n arwain at newid agweddau a mân siarad tuag at drafodaethau gyda gweinyddiaethau datganoledig—. Ac unwaith eto, ymddengys bod Cymru'n cael ei thrin gyda'r un hen ddirmyg. Mae'n debyg fod adroddiadau i'w cael fod Llywodraeth Gibraltar wedi cael gweld y testun. Tybed a all gadarnhau a yw hynny'n wir, ac a yw'n credu ei bod hi'n dderbyniol fod un Lywodraeth, nad yw hyd yn oed yn rhan o'r Deyrnas Unedig, yn cael gweld y testun drafft pan nad yw llywodraethau o fewn y DU yn cael gwneud hynny.

Rwy'n derbyn ei bod hi'n anodd iawn bod yn benodol heb y manylion, ond un o'r sibrydion sy'n deillio o'r testun drafft hyd yn hyn yw y bydd Gogledd Iwerddon, o dan y testun drafft, yn parhau, i bob pwrpas, i fod yn rhan o farchnad sengl yr UE ar gyfer nwyddau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y byddai hynny'n rhoi mantais gystadleuol annheg i Ogledd Iwerddon, drwy wneud Cymru'n llai deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi? Ac os felly, onid yw hynny'n ddigon o sail i Lywodraeth Cymru wrthwynebu'r cytundeb ymadael drafft?

Wel, Lywydd, fel y dywedodd Steffan Lewis, rwyf eto i weld y cytundeb ymadael drafft neu'r datganiad gwleidyddol. Ni chredaf ei bod yn synhwyrol i mi ddyfalu ynghylch agweddau a allai fod yn rhan ohono neu fel arall pan fyddwn yn cael ei weld, ac mae arnaf ofn nad oes gennyf unrhyw wybodaeth a yw Llywodraeth Gibraltar wedi cael mwy o gipolwg ar gynnwys y dogfennau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i a Mike Russell, ar ran Llywodraeth yr Alban, wedi codi'r pwynt cyntaf a wnaeth yn gadarn gyda Gweinidogion y DU ddoe: dylai llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig weld y dogfennau hyn cyn iddynt gael eu cwblhau a'u trafod ar lefel Cabinet y DU, nid ar ôl hynny.

Rwy'n derbyn, unwaith eto, fod y diffyg manylion yn gwneud pethau'n anodd, ond mae gennym arwydd clir o sawl agwedd, ac wrth gwrs, rydym yn gallu defnyddio safbwynt Llywodraeth Cymru ei hun yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a'i gyferbynnu a'i gymharu â'r hyn a wyddom o'r testun drafft fel y mae pethau. Gwyddom na fydd Cymru'n cymryd rhan lawn yn y farchnad sengl, gwyddom na fyddwn yn parhau i fod yn aelodau o undeb tollau'r UE, a gwyddom y bydd Gogledd Iwerddon, mae'n ymddangos, yn parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl i bob pwrpas a'i bod yn debygol felly y bydd ffin dollau newydd yn ymddangos ym Môr Iwerddon, gyda chanlyniadau gwael i Gymru. Ac yn ychwanegol at hyn oll—y manylion a'r canlyniadau gwirioneddol ar lawr gwlad—yn wleidyddol, nid oes unrhyw un eisiau'r fargen hon. Nid oes unrhyw un a oedd o blaid aros eisiau'r fargen hon ac nid oes unrhyw un a oedd o blaid gadael eisiau'r fargen hon; nid oes unrhyw un eisiau'r hyn sy'n cael ei gynnig yn ôl pob golwg. Nid oes mandad gan unrhyw le nac unrhyw un ar gyfer Brexit o'r math hwn.

Mae'r cyd-destun gwleidyddol yma yng Nghymru, wrth gwrs, yn bwysig iawn. Mae'n bur debyg mai Ysgrifennydd y Cabinet, yn yr ychydig wythnosau nesaf, fydd gwleidydd etholedig Llafur uchaf ei safle yn y Deyrnas Unedig. Mae'r hyn y mae'n ei gredu a'r hyn y mae'n ei ddweud a'i eglurder ar y mater hwn yn bwysig tu hwnt a bydd i hynny ganlyniadau parhaol. Felly, a all ddweud wrthym a yw ei safbwynt ei hun yn newid ar y mater hwn ai peidio? A fydd yn dweud o'r diwedd mai'r unig ffordd o ddatrys y llanast hwn ac osgoi llanast mwy a thrychineb yw drwy refferendwm y bobl? Dim mwy o etholiadau cyffredinol dibwrpas, dim mwy o ailadrodd safbwyntiau seneddol amhosibl, ond pleidlais y bobl i ddatrys hyn ac osgoi trychineb.

13:45

Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Steffan Lewis o ran y pwynt cyntaf a wnaeth—mai'r hyn y byddwn yn ei ddefnyddio i brofi'r cytundeb hwn yw'r profion a nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru'.

Nawr, nid yw wedi gweld y cytundeb ac nid wyf innau wedi ei weld ychwaith, ond mae'n dymuno dod i gasgliadau heb ei weld. Nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny, ond mae'r profion a amlinellodd—boed yn ymwneud â pharhau i gymryd rhan mewn undeb tollau, boed yn fynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, boed yn cynnwys penderfyniad synhwyrol ar ymfudo—yr holl brofion a nodwyd gennym yn y ddogfen honno yw'r profion y byddaf yn eu cymhwyso pan fyddwn yn gweld y cytundeb ei hun. Mae wedi dod i rai casgliadau ynglŷn â beth fyddai canlyniad hynny, a mentraf ddweud y bydd rhai pobl o'r farn nad yw ei gasgliadau yn rhai afresymol, ond rwyf am aros hyd nes y gwelaf y ddogfen, ac yna byddaf yn cymhwyso'r profion y cytunasom ar y cyd y dylid eu cymhwyso ar gyfer unrhyw fodd o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Yr hyn nad wyf yn cytuno ag ef yn ei gylch yw mai un ffordd yn unig sydd o ddatrys hyn oll. Y ffordd gyntaf y gellid ei ddatrys yw pe bai Prif Weinidog y DU yn sicrhau bargen sy'n bodloni'r profion a nodwyd gennym ar ei chyfer—roedd bargen o'r fath ar gael i'w gwneud; dyna pam y nodwyd hynny gennym yn ein dogfen. Os bydd y cytundeb, pan fyddwn yn ei weld, yn bodloni'r profion a osodwyd gennym, heb amheuaeth byddwn yn awyddus i'w gefnogi, felly gellid ei ddatrys yn y ffordd honno.

Os nad yw Prif Weinidog y DU yn sicrhau bargen o'r fath, ac os nad yw'n llwyddo i sicrhau cefnogaeth i'w bargen ar lawr Tŷ'r Cyffredin, yna wrth gwrs, dylid cynnal etholiad cyffredinol. Bydd Tŷ'r Cyffredin wedi methu cyflawni ei gyfrifoldeb pwysicaf yn ystod tymor y Cynulliad hwn—maddeuwch imi, yn ystod y tymor seneddol hwn. Mewn unrhyw amgylchiadau blaenorol, byddai Llywodraeth sydd wedi methu sicrhau cefnogaeth i'w cham gweithredu pwysicaf yn mynd yn ôl at y wlad ac yn caniatáu i'r wlad benderfynu mewn etholiad cyffredinol. Nawr, bydd yr Aelod yn dweud, ac rwyf wedi clywed pobl eraill yn dweud, na fydd hynny'n digwydd. Wel, ni ellir diystyru unrhyw beth o'r sgript, o ystyried cyflwr twymynol gwleidyddiaeth mewn perthynas â'r mater hwn.

Os na cheir etholiad cyffredinol, rwy'n cytunaf ag ef: dylid cynnal pleidlais y bobl. Os na all Tŷ'r Cyffredin ddatrys hyn ac os na cheir etholiad cyffredinol, mae'n rhaid dod o hyd i drydedd ffordd. Ac yn yr amgylchiadau hynny, rwy'n cytuno ag ef: mae'n rhaid mynd yn ôl at y bobl ac mae'n rhaid caniatáu i'r bobl benderfynu.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â'r arian sydd ar gael i'r portffolio llywodraeth leol a thrwy hynny i'n hawdurdodau lleol. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn llai na bodlon gyda'r setliad llywodraeth leol eleni, gan nodi gwerth £262 miliwn o bwysau cyllidebol. Yn y cyfamser, mae'r Prif Weinidog wedi honni y bydd llywodraeth leol ar flaen y ciw pe bai arian ychwanegol ar gael o gyllideb Llywodraeth y DU ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y bydd llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol pe bai'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gael. Gan fod Llywodraeth y DU yn darparu oddeutu £550 miliwn o gyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, faint o'r swm hwn fydd yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol Cymru?

Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwybod yn iawn, pan fo'n dyfynnu'r ffigur hwnnw o £550 miliwn, nad yw'r arian hwnnw'n arian am ddim, nad yw'n arian sydd ar gael i'w ddyrannu—rhag-gyhoeddwyd £365 miliwn ohono yn ôl ym mis Gorffennaf eleni, a bellach, o'r £365 miliwn hwnnw, ymddengys bod Gweinidogion y DU wedi gwario dros ei hanner cyn i'r un geiniog groesi'r ffin i'w ddyrannu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n ystyried yr hyn sy'n weddill o'r symiau canlyniadol o'r gyllideb yn ofalus iawn—symiau canlyniadol y mae'n rhaid iddynt bara am dros dair blynedd, symiau canlyniadol sy'n cynnwys cyfalaf, cyfalaf ariannol ac elfennau refeniw. Felly, nid yw'r holl arian hwn yn arian a fydd yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau y maent, yn gwbl briodol, yn dweud wrthym amdano.

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, fel y dywedodd Nick Ramsay, fod llywodraeth leol ar flaen y ciw. Ceir cliw yn y fformiwla honno: maent ar flaen y ciw, ond mae ciw i'w gael. Mae llawer o bethau eraill y gwyddom yr hoffem eu gwneud mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wrth inni gychwyn ar nawfed blwyddyn o gyni. Heb os, bydd Aelodau ei blaid yn dadlau dros lawer o'r pethau hynny ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma, gan ofyn am fwy o arian ar gyfer y peth hwn a'r peth arall, a mwy o arian ar gyfer rhywbeth arall wedyn. Yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud yw defnyddio'r swm cyfyngedig iawn o arian a ddaeth inni yng nghyllideb y Canghellor i sicrhau cydbwysedd rhwng y blaenoriaethau sy'n cystadlu, ond rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais, a'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud: mae anghenion llywodraeth leol Cymru ar flaen ein meddyliau wrth inni fynd i'r afael â'r gwaith anodd hwnnw.

13:50

Felly, credaf y gallwn gasglu o hynny nad yw bod 'ar flaen y ciw' yn golygu bod yn gyntaf yn y ciw o reidrwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa un a ydym yn siarad am £550 miliwn ai peidio—rydych chi'n credu ei fod yn ffigur is—credaf mai'r pwynt yw bod arian ychwanegol ar gael. Credaf y gallwn gytuno ar hynny. Mae arian ychwanegol ar gael drwy'r symiau canlyniadol o ganlyniad i gyllideb y DU. Fe roddaf hyn i chi: rydych chi'n gyson, a dweud y lleiaf, gyda'ch dadleuon ar gyni. Ac eto, heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi rhyddhau datganiad yn nodi bod cynghorau'n eistedd ar oddeutu £1.4 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. Yn ychwanegol at hynny, er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyni, mae'n nodi bod y dystiolaeth yn dangos, yn y blynyddoedd diwethaf, fod lefelau'r cronfeydd wrth gefn sydd gan rai awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu. Er enghraifft, mae gan Rondda Cynon Taf £152 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio—bron unwaith a hanner maint y cronfeydd wrth gefn sydd gan Gaerdydd, ac wyth gwaith cymaint â chronfeydd wrth gefn Sir Fynwy. Wrth gwrs, Rhondda Cynon Taf sydd â'r setliad uchaf ond dau yn y gyllideb ddrafft. Mae cyngor Caerdydd, a gafodd y setliad llywodraeth leol gorau o dan y gyllideb ddrafft, wedi cynyddu eu cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio 17 y cant ers 2016. Yn y cyfamser, Ynys Môn, Conwy a Sir Fynwy, a oedd ymhlith y cynghorau a gafodd y setliadau gwaethaf o dan y gyllideb ddrafft, sydd â'r symiau lleiaf o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio. A ydych o'r farn fod hyn yn arwydd o setliad llywodraeth leol teg neu annheg, a pha drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynglŷn â gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r mater hwn?

Wel Lywydd, diolch i'r Aelod am hynny. Yn gyntaf, gadewch imi gywiro'r hyn a ddywedodd. Pan ddywedaf fod llywodraeth leol ar flaen y ciw, rwy'n golygu mai hwy fydd yn gyntaf yn y ciw. Rwy'n tynnu eich sylw at y ffaith bod ciw i'w gael—ciw y tu ôl iddynt. Nawr, roeddwn yn disgwyl y byddai'r Aelod dros Fynwy yn awyddus i fy holi y prynhawn yma ynglŷn â chymorth i fusnesau bach drwy ryddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae'n bwnc y mae'n gohebu â mi'n ddyfal yn ei gylch. Ond nid yw'n ymddangos ei fod yn poeni amdanynt y prynhawn yma, gan mai'r swm mwyaf o arian a gawn yn y—[Torri ar draws.] Mae'r swm mwyaf o arian a gawn fel arian canlyniadol ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach. Os mai ei gyngor i mi y prynhawn yma yw y dylwn roi'r holl arian hwnnw i lywodraeth leol a gwneud dim i fusnesau bach yng Nghymru, buaswn yn ddiolchgar i gael gwybod mai dyna yw ei gyngor imi.

Gan droi at y cwestiwn a gododd ynghylch cronfeydd wrth gefn, pan ddywed 'cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio', yr hyn y mae'n drysu yn ei gylch yw'r ffaith mai elfen fwyaf y cronfeydd wrth gefn hynny yw arian a gedwir ar gyfer pethau sydd eisoes wedi eu hymrwymo: mewn geiriau eraill, cynlluniau pwysig ym maes tai, ym maes addysg, ym maes trafnidiaeth, lle mae awdurdodau lleol yn cynllunio ymlaen llaw; mae ganddynt gynllun y gwyddant fod yn rhaid iddynt ei ariannu— mae'n gwbl iawn eu bod yn cadw arian yn eu cronfeydd wrth gefn er mwyn gallu ariannu'r blaenoriaethau pwysig hynny yn y dyfodol. Serch hynny, y pwynt a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, ac a adleisiwyd yng nghwestiwn Nick Ramsay, yw bod gan rai awdurdodau lleol swm cynyddol o arian heb ei ddyrannu yn eu cronfeydd wrth gefn. Ac mewn cyfnodau anodd iawn—ac rwy'n llwyr gydnabod yr heriau a wynebir gan lywodraeth leol—fel y mae'n rhaid i minnau reoli cronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru a rhyddhau arian o fy nghronfeydd wrth gefn i sicrhau y gallwn wneud y pethau y mae angen inni eu gwneud, mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud defnydd yr un mor synhwyrol o'u cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardal.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, buaswn wedi gallu eich holi ynglŷn â chymorth ar gyfer busnesau bach, a gwyddom fod oddeutu £25 miliwn o ganlyniad i gyllideb y DU—fod arian yn cael ei ddefnyddio dros y ffin yn Lloegr i sicrhau bod ardrethi busnes draean yn is ar gyfer busnesau â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Ac fe gadwaf hynny at ddiwrnod arall. [Torri ar draws.] Ond efallai eich bod—[Torri ar draws.] Rwy'n ceisio sefydlu a ydych yn cytuno gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ei fod ef, yn sicr, wedi newid ei dôn braidd ar fater cronfeydd wrth gefn. Y llynedd, dywedodd y byddai bob amser yn petruso cyn gosod baich ar lywodraeth leol. Mae wedi dweud yn awr, yn ei ddatganiad ysgrifenedig, y dylai awdurdodau lleol gyda lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn adolygu'r dibenion y cedwir yr arian hwn ar eu cyfer, ac y dylid cyfleu'r rhesymau dros gadw'r cronfeydd wrth gefn yn glir, yn enwedig os ydynt yn cynyddu. Felly, nid fi yn unig sy'n dweud hynny, neu'r ochr hon i'r Siambr; eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, a ddywedodd hynny. Felly, onid yw'n deg dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni cryn gynnydd posibl yn y dreth gyngor mewn rhai awdurdodau lleol, y bydd talwyr y dreth gyngor yn pendroni pam fod cymaint o arian wedi'i gadw wrth gefn, a phe bai'r mater hwn yn cael ei ddatrys, yna—ydy, mae'n gacen fach ar hyn o bryd, ac rydych yn llygad eich lle, mae llywodraeth leol wedi wynebu heriau anodd, ond efallai na fyddai cymaint o bwysau ar feysydd eraill pe bai peth o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio.

13:55

Wel, nid wyf yn anghytuno â'r pwynt a wna'r Aelod. Mae'r rhain yn amseroedd anodd iawn i awdurdodau lleol. Byddaf yn gwneud beth bynnag y gallaf gyda'r arian a gawsom yn y gyllideb i liniaru rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Lle mae ganddynt ffynonellau eraill o gyllid ar gael iddynt, mae'n iawn y dylent feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y gellir rhoi'r arian hwnnw ar waith i gefnogi gwasanaethau lleol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Alun Davies, y bydd eu poblogaethau lleol yn edrych yn ofalus i sicrhau eu bod yn gwneud defnydd da o'r holl arian sydd ar gael iddynt. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ei wneud bob amser, ond pan fo'r pwysau'n arbennig o drwm, mae'n iawn tynnu sylw at y ffaith fod ffynonellau eraill o arian ar gael iddynt yn ogystal â'r arian a gânt gan Lywodraeth Cymru, a bod yn rhaid iddynt ystyried pob agwedd ar gynllunio eu gwariant.

Diolch, Lywydd. Weinidog, os caf ddychwelyd at y materion Brexit y buoch yn sôn amdanynt ychydig funudau yn ôl, ym mis Medi eleni, fe ddywedoch chi, wrth siarad am hawliau gweithwyr, ac rwy'n dyfynnu:

Yng Nghymru, rydym wedi dweud bob amser, ers y refferendwm, fod yn rhaid gwarchod yr holl hawliau rydym wedi eu hennill drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Os na all y Torïaid sicrhau Brexit sy'n gwarantu y bydd hynny'n digwydd, yna mae'n rhaid i'r bobl benderfynu.

Diwedd y dyfyniad. Nawr, fe egluroch chi ychydig funudau yn ôl, wrth ymateb i gwestiynau Steffan Lewis, y byddech yn cefnogi refferendwm arall o dan amgylchiadau penodol, ond pe bai refferendwm arall, byddai hynny'n codi'r posibilrwydd o aelodaeth lawn o'r farchnad sengl a byddai hynny, yn ei dro, yn rhoi rhyddid i weithwyr symud yn ôl ar y bwrdd. Ond nid yw'n ymddangos bod Jeremy Corbyn yn cefnogi rhyddid i weithwyr symud, yn ôl datganiadau a wnaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pan ddywedodd na ddylid parhau i fewnforio gweithwyr heb lawer i sgiliau yn ddiatal o ganolbarth Ewrop, gan y byddai hyn yn cyfrannu at ddinistrio amodau gwaith yn y DU. Felly, gan feddwl am y sylwadau hynny, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, pe bai Llywodraeth Cymru yn cefnogi refferendwm arall ar aelodaeth o'r UE am resymau tybiedig yn ymwneud ag amddiffyn hawliau gweithwyr, y byddai mewn gwirionedd yn bygwth hawliau gweithwyr, ac yn ychwanegol at hynny, yn tanseilio un o'r prif resymau pam y pleidleisiodd pobl ddosbarth gweithiol yng Nghymru dros adael?

Wel, nodwyd yr ymagwedd a argymhellir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ymfudo yn fanwl yn ein dogfen, 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'. Mae'n ymhelaethu ar yr adran yn y papur a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru ar y mater hwnnw. Mae busnesau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a phrifysgolion Cymru yn dibynnu ar eu gallu i barhau i recriwtio pobl o rannau eraill o'r byd rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi eu denu i wneud eu dyfodol yn rhan o'n dyfodol ninnau yma yng Nghymru. Pan fyddaf yn trafod y mater hwn gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain a sefydliadau busnes eraill, y pwynt y mae pob un ohonynt yn ei wneud yw mai swyddi pobl sydd yma eisoes ac sy'n byw yng Nghymru sy'n dibynnu ar eu gallu i ddenu pobl o leoedd eraill i ddod i ymuno â'r gweithlu hwnnw. Os ydych yn rhedeg gwesty mewn ardal denau ei phoblogaeth yng nghanolbarth Cymru, a'ch bod yn cyflogi 80 o bobl sy'n byw yn lleol eisoes, ond bod angen 20 o bobl eraill ar eich gwesty er mwyn gallu rhedeg yn llwyddiannus, os na allwch ddenu'r 20 o bobl o fannau eraill, swyddi'r 80 o bobl sy'n cael eu peryglu, nid swyddi'r 20 o bobl, a dyna pam fod tegwch o ran symudiad pobl nid yn unig yn dda i'r bobl a allai ddod o rywle arall i fyw yma, ond mae'n dda i bawb ohonom. Dyna'r ymagwedd synhwyrol tuag at ymfudo, a dyna'r ymagwedd a argymhellir yn ein dogfen ar degwch o ran symudiad pobl.

14:00

Ymddengys bod y Blaid Lafur wedi symud i safbwynt lle maent yn cynnig cyfiawnhad athronyddol dros lafur rhad. Nawr, os oes prinder gweithwyr, gellir denu gweithwyr drwy godi cyflogau. Mae hon yn berthynas syml. Fel y gwyddoch, mae'n berthynas economaidd. Ymddengys eich bod yn dweud eich bod yn ffafrio buddiannau busnesau mawr—fe gyfeirioch chi at Gydffederasiwn Diwydiant Prydain—dros fuddiannau pobl sy'n gweithio yng Nghymru. Oni fyddech yn cytuno mai dyna'r safbwynt rydych newydd ei esbonio?

Mae'n gwbl hurt, Lywydd—yr hyn a ddywed yr Aelod. Mae ymgynghorwyr sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd gwladol o fannau eraill—nid ydynt yn weithwyr ar gyflogau isel fel yr awgrymodd yr Aelod. Ymchwilwyr sy'n gweithio yn ein prifysgolion ar brosiectau sy'n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil—nid ydynt yn weithwyr ar gyflogau isel. Nac ychwaith y cwmni bach yng Nghaerdydd a soniodd wrthyf yn ddiweddar ynglŷn â'u hanallu i recriwtio gweithwyr TG sy'n hanfodol i'r busnes bach hwnnw, a lle maent yn dibynnu ar bobl sy'n dod o fannau eraill yn y byd i gynorthwyo'r bobl eraill sy'n gweithio yma eisoes. Nid swyddi ar gyflogau isel yw'r rheini ychwaith. Parodi o'r sefyllfa wirioneddol y mae'r Aelod yn ei gynnig inni, ac nid yw'n syndod fod cyn lleied o ddylanwad ganddo yma yn y Siambr hon na thu hwnt.

Roedd yr enghraifft a godoch chi ddwy funud yn ôl yn ymwneud â gweithwyr gwestai. Nid oedd yn ymwneud ag ymgynghorwyr ar gyflogau uchel ac ymgynghorwyr medrus, roedd yn ymwneud â gweithwyr gwestai. Os mai chi fydd yr arweinydd nesaf yn y lle hwn, a fyddech yn ystyried ailenwi eich plaid yn 'Llafur Rhad'?

Ardrethi Busnes

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ52899

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid yw lefel ardrethi annomestig yng Nghymru wedi codi mewn termau real dros y degawd diwethaf. Dros yr un cyfnod, mae rhyddhad ardrethi a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi mwy na dyblu.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae manwerthwyr Cymru eisoes yn talu chwarter yr holl ardrethi busnes yng Nghymru ac mae'n dod yn gynyddol ddrud i weithredu o eiddo. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhagweld y gallai dros un rhan o bump o siopau gael eu colli dros y degawd nesaf. Yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddar, darparodd Canghellor y Trysorlys arian er mwyn torri ardrethi busnes i fanwerthwyr sydd â gwerth ardrethol o lai na £51,000, gan dynnu un rhan o dair oddi ar eu biliau am ddwy flynedd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno mesur tebyg i gefnogi diwydiant manwerthu Cymru a gwrthdroi'r duedd o ran cau siopau'r stryd fawr ac ym mhob cwr o Gymru, os gwelwch yn dda?

Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, sy'n gwestiwn priodol iawn. Dywedais yn fy ateb i Nick Ramsay fy mod yn ystyried yn ofalus sut y gallwn ddefnyddio'r swm canlyniadol rydym wedi'i gael i gefnogi busnesau bach yng Nghymru, er ei bod yn ymddangos bod Mr Ramsay yn awgrymu y dylwn ei roi i lywodraeth leol.

Ond y £26 miliwn rydym wedi'i gael at y diben hwn—gadewch imi egluro ychydig o bwyntiau ar gyfer yr Aelod. Yn gyntaf oll, er bod y Canghellor wedi cyhoeddi mai cynllun dwy flynedd yw hwn, deallwn bellach mai dim ond cyllid canlyniadol un flwyddyn y mae wedi'i ddarparu ar ein cyfer yng Nghymru. Gwyddom ei fod yn £26 miliwn y flwyddyn nesaf. Nid oes gennym ffigur ar gyfer y flwyddyn wedyn.

Ac ymddengys nad yw'r cynllun a hysbysebwyd gan y Canghellor yn ei araith ar y gyllideb yn gynllun cenedlaethol o gwbl. Mae'n glir inni bellach ei fod yn dibynnu'n gyfan gwbl ar bwerau disgresiwn llywodraeth leol i weithredu ei gynllun. Felly, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yn Lloegr fydd penderfynu a ddylid defnyddio'r arian a gânt o'r cynllun at y diben hwn ai peidio.

Nid oes angen inni efelychu'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, gan fod gennym gynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yma yng Nghymru eisoes, yn wahanol i Loegr. Fe'i cyflwynasom y flwyddyn cyn y ddiwethaf mewn trafodaeth gydag arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, lle cytunasom ar baramedrau ar y cyd ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yng Nghymru. Rydym wedi ei barhau eleni. Gan ddefnyddio'r swm canlyniadol ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau ei fod yn fwy hael ar gyfer busnesau yng Nghymru na'r hyn y gallasom ei wneud hyd yn hyn. Byddwn yn llunio cynllun sy'n addas ar gyfer maint, dosbarthiad a gwerth y sylfaen ardrethi annomestig yng Nghymru, sy'n wahanol i'r un yn Lloegr, er mwyn sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau lle mae ei angen fwyaf.

14:05

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn llawer o'n cymunedau ynysig yn ein Cymoedd neu ein hardaloedd gwledig, mae'n bosibl na fydd y stryd fawr fel y'i gelwir yn cynnwys mwy nag un safle manwerthu. Mae'r un siop honno, mewn gwirionedd, yn achubiaeth i lawer o gymunedau, yn enwedig os yw trafnidiaeth gyhoeddus yn diflannu ar ôl 5 o'r gloch yr hwyr. A wnewch chi ystyried edrych ar y cyfleoedd y gallwch eu darparu ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau o'r fath, a fyddai, heb y rhyddhad hwnnw, yn colli'r incwm sydd ganddynt o bosibl ac yn mynd i ddyled, ac yn y pen draw, yn cau o ganlyniad i hynny yn y bôn? Maent yn achubiaeth i'r cymunedau hynny. Os nad oes gwasanaeth bws, ni all pobl fynd i unman arall ac ni allant ateb yr anghenion hynny yno.

Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ac mae'n mynd at wraidd yr hyn sydd, yn fy marn i, yn un o wendidau ein cynllun presennol, gyda 75 y cant o fusnesau Cymru yn elwa o ryddhad ardrethi i fusnesau bach yma yng Nghymru, nad yw 50 y cant ohonynt yn talu unrhyw ardrethi busnesau bach o gwbl—maent yn ei gael pa un a yw'r swm hwnnw o arian yn angenrheidiol i'w busnes ai peidio. Nid oes unrhyw brawf gennym yn y system, nac mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yn wir, i weld a yw'r arian yn gwneud daioni gwirioneddol yn y busnes hwnnw ai peidio. Y pwynt y mae David Rees yn eu wneud yw a ddylem ystyried, o ran y ffordd rydym yn dosbarthu'r arian, pa un a ddylem roi rhagor o arian yn nwylo'r busnesau y mae'r rhyddhad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt o ran eu gallu i oroesi ai peidio.

Gwnaed gwaith yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban ar hyn. Credaf ei fod yn syniad sy'n gwneud synnwyr. Mae'n anodd ei wireddu oherwydd y cynllun rydym wedi'i etifeddu, ond mae'n gynllun sy'n cynnig cymorth anwahaniaethol i'r rhai sydd ei angen a'r rhai nad ydynt ei angen. Gallech ddweud nad yw'n gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus pan wyddom y gallai'r help y gallem ei gynnig drwy'r cynllun i rai rhannau o'r stryd fawr mewn rhai cymunedau, pe bai'n cael ei dargedu'n well tuag at y rhai sydd ei angen o ddifrif, yn mynd ymhellach i gynnal busnesau mewn rhai rhannau difreintiedig iawn o Gymru.

Y Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllidebol ar gyfer y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ52894

Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, yn dyrannu mwy na £500 miliwn yn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o gymharu â'r flwyddyn ariannol gyfredol. O'r £365 miliwn o gyllid canlyniadol o gyllideb y DU a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, mae dros ei hanner eisoes wedi'i wario gan Lywodraeth y DU ar newidiadau i gyflogau a phensiwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych eisoes yn ymwybodol o fy ngwrthwynebiad llwyr i gynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i israddio ysbyty Llwynhelyg yn ysbyty cymuned a chanoli gwasanaethau ar safle arall. Rwy'n dal yn bryderus iawn nad oes unrhyw ymrwymiad wedi'i wneud i adeiladu unrhyw ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru. O ystyried yr angen dybryd i'r bwrdd iechyd gynllunio ei wasanaethau ar gyfer y dyfodol a recriwtio gweithwyr proffesiynol meddygol hanfodol, a allwch chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid o leiaf gadarnhau y bydd cyllid ar gael ar gyfer unrhyw safle ysbyty newydd fel y gall pobl sy'n byw yng ngorllewin Cymru fod yn sicr fod cynlluniau'r bwrdd iechyd yn fforddiadwy yn y lle cyntaf? Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'r mater penodol hwn?

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod wedi trafod y mater cyfan gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd fydd cyflwyno'r achosion busnes sy'n ofynnol er mwyn cyflawni'r strategaeth y mae'n ei ffafrio. Wrth gwrs, o ystyried natur ddadleuol rhai o'r cynigion, mae'n bosibl y gall fod galw ar Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau terfynol ar y cynlluniau. Mae'n rhaid imi fod yn ofalus o ran yr hyn a ddywedaf, fel y gwn o fy nyddiau fel Gweinidog iechyd yn y cyd-destun hwnnw. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw: os yw'n bosibl dod i gytundeb ar y ffordd ymlaen mewn perthynas â gwasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn gadarnhaol ar ein gallu i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i ddatblygu'r achosion busnes ar gyfer rhoi'r cynllun hwnnw a gytunwyd ar waith.

Ysgrifennydd y Cabinet, mewn trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn pwyllgor yr wythnos diwethaf, wrth archwilio cynigion y gyllideb, nodwyd nad yw'r data sydd gennym ar hyn o bryd ar nifer yr achosion o bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru yn gadarn o reidrwydd, a llwyddodd Ysgrifennydd y Cabinet i amlinellu cynlluniau sydd ar waith i wella'r broses honno o gasglu data. Os yw'r amcangyfrifon cyfredol o nifer yr achosion yn llawer is na'r angen gwirioneddol, fel y nododd, a fyddech chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn ystyried unrhyw gais y gallai ei wneud am adnoddau ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd er mwyn ei gwneud hi'n bosibl diwallu'r lefel uchel honno o angen iechyd meddwl?

14:10

Diolch i Helen Mary am ei chwestiwn pwysig. Credaf ein bod wedi rhannu uchelgais ar draws y Siambr hon yn ystod y cyfnod datganoli i wneud mwy yng Nghymru i gydnabod anghenion iechyd meddwl a cheisio darparu gwasanaethau i'w diwallu. Byddech yn gobeithio mai un o'r rhesymau pam fod ffigurau niferoedd yr achosion yn newid yw bod y stigma a fu'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn flaenorol yn lleihau, a bod pobl yn fwy parod i wneud eu hanghenion yn hysbys. Rydym yn gwario £675 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar wasanaethau iechyd meddwl. Dyma'r eitem unigol fwyaf yn y gyllideb a reolir gan fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething. Byddwn yn darparu £20 miliwn yn ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl eleni ac £20 miliwn ar ben hynny eto y flwyddyn nesaf, fel rhan o gytundeb y gyllideb rhwng eich plaid chi a fy mhlaid innau. Ac wrth i batrymau angen newid, byddaf bob amser yn barod i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol i sicrhau ein bod yn canfod yr arian sy'n angenrheidiol i gyd-fynd â phatrwm yr angen, o ran iechyd corfforol a meddyliol, yn y gymuned yng Nghymru.

Cyllid i Atal Llifogydd

5. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddarparu cyllid i atal llifogydd wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20? OAQ52909

Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn. Mae'r gyllideb ddrafft yn darparu cyllid refeniw o £25 miliwn yn 2019-20, ynghyd â rhaglen gyfalaf gwerth £55 miliwn dros ddwy flynedd, i wella amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith o reoli perygl llifogydd ledled Cymru, gan gynnwys y buddsoddiad a wnaethom, er enghraifft, yng Nghwmaman yn etholaeth yr Aelod.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau ledled Cymru, gan gynnwys fy un i yn Rhondda Cynon Taf, eisoes wedi gorfod ymestyn cyllidebau hyd yn oed ymhellach i ymdopi ag effeithiau storm Callum. Yn Rhondda Cynon Taf, gwariwyd £100,000 ar unwaith ar fynd i'r afael â'r llifogydd, ac mae £100,000 pellach wedi'i glustnodi o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwaith archwilio a chlirio. Gan ystyried effaith a chost digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol, sut yr aethoch i'r afael â'r heriau ariannol posibl hyn o fewn dyraniad y gyllideb i lywodraeth leol?

Wel, Lywydd, yn y flwyddyn gyfredol, rydym wedi sicrhau cynnydd o oddeutu 30 y cant, er o sylfaen isel, yn yr arian a ddarparwn i bob awdurdod lleol fel rhan o'u grant refeniw rheoli perygl llifogydd blynyddol, a bwriadaf gadw'r grant hwnnw ar ei lefel uwch eto y flwyddyn nesaf. Gwn y bydd Vikki Howells yn ymwybodol o'r ohebiaeth a gafwyd gan arweinydd ei chyngor ar ran awdurdodau lleol ledled Cymru gan nodi'r costau ychwanegol y bu'n rhaid iddynt eu hysgwyddo o ganlyniad i storm Callum. Fel rhan o fy uchelgais i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r trafferthion y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, rwyf wedi dweud yn glir wrth y Cynghorydd Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, y byddaf yn gwneud popeth a allaf i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r costau cyfalaf a refeniw ychwanegol a ddaeth yn sgil storm Callum. Rydym yn parhau i ohebu gydag awdurdodau lleol i fireinio'r ffigurau hynny ac rwy'n gobeithio gallu dweud rhywbeth cadarnhaol am hynny dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Ysgrifennydd y Cabinet, un ardal sy'n agored iawn i lifogydd yw promenâd Hen Golwyn yn fy etholaeth i, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod yr amddiffynfeydd môr yno yn arbennig o agored i niwed. Cafwyd adroddiad, a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ôl yn 2010, a amcangyfrifai y byddai'r amddiffynfeydd yn methu bum mlynedd wedi ysgrifennu'r adroddiad hwnnw. Rydym bellach dair blynedd y tu hwnt i'r adeg y rhagwelwyd y byddent yn methu, ac rydym eisoes yn dechrau gweld problemau sylweddol, gyda'r ffordd honno'n gorfod cau bob tro y ceir tywydd stormus, ac yn wir, fe ddymchwelodd rhannau o arglawdd y rheilffordd yn y gorffennol o ganlyniad i erydu.

Fe fyddwch yn gwybod bod seilwaith trafnidiaeth hanfodol yn cael ei warchod gan yr amddiffynfeydd hynny: yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru yn benodol, ac yn wir, y brif garthffos ar gyfer bae Colwyn i gyd. A gaf fi ofyn ichi weithio gydag aelodau eraill y Cabinet i sicrhau bod amddiffynfeydd fel hyn yn cael eu blaenoriaethu er mwyn gwneud yn siŵr fod y darnau hanfodol o seilwaith trafnidiaeth, sy'n asgwrn cefn i economi gogledd Cymru, yn cael eu diogelu yn ôl yr angen, ac nad yw eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn colli golwg ar hyn?

14:15

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig hynny. Gwn ei fod wedi dadlau'n rheolaidd ynglŷn â'r angen i fynd i'r afael â phroblemau sydd wedi effeithio ar ei etholaeth ef dros y blynyddoedd diwethaf. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo'n bendant: mewn perthynas â'r rhaglen £150 miliwn sydd gennym bellach yng Nghymru ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd—ac amddiffynfeydd rhag llifogydd ar yr arfordir yn arbennig—byddaf yn trafod gyda Ken Skates a Lesley Griffiths, sy'n rhannu cyfrifoldebau yn y maes hwn.

Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn y dyfodol? OAQ52910

Bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio i hybu buddsoddiad mewn seilwaith hanfodol yng Nghymru. Bydd yn caniatáu inni fwrw ymlaen â chynlluniau hanfodol yn y maes iechyd, y maes addysg a'r maes trafnidiaeth, a fyddai'n cael eu peryglu fel arall yn sgil toriadau i'n rhaglen gyfalaf gonfensiynol.

Mae Capital Law wedi rhoi gwybod i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau nad yw cynllun cyllid preifat fel y model buddsoddi cydfuddiannol ond yn dod yn effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio gyda chynlluniau sy'n costio mwy na £200 miliwn. Gan gadw hynny mewn cof, beth yw peryglon defnyddio'r model i ariannu band B y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn ei fod wedi mynychu cyfarfod briffio technegol gyda swyddogion ar y mater hwn, ac rwy'n ddiolchgar iddo am wneud hynny. Y ffordd y defnyddir band B y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain o fewn y model buddsoddi cydfuddiannol yw drwy gyfanrediad. Ar eu pennau eu hunain, ni fyddai'r cynlluniau hynny'n pasio'r prawf a nodwyd ganddo, ond drwy ddod â hwy ynghyd o dan un cynllun Cymreig, gyda'i gilydd mae'r gwariant ar draws awdurdodau addysg lleol Cymru yn cyrraedd y trothwy a nodwyd ganddo, ac felly'n caniatáu inni ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn y maes hwnnw.

Y Gronfa Arloesi-i-Arbed

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi-i-arbed? OAQ52896

Diolch i Mike Hedges. Lansiwyd yr ail rownd ar gyfer gwneud ceisiadau i'r gronfa arloesi i arbed ar 19 Chwefror, a daeth 20 cais newydd i law. Cafodd cyfanswm o saith eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y cyfnod cyllido ymchwil a datblygu nesaf a fydd yn para tan ddechrau haf 2019. Mae'r gweithdai ymchwil cychwynnol ar gyfer bwrw ymlaen â'r cyfnod hwnnw yn cael eu sefydlu ar hyn o bryd.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Rwy'n un a fu'n dadlau'n hir o blaid cynllun arloesi i arbed fel modd o gael pobl i wneud rhywbeth gwahanol, sy'n gallu creu cryn fanteision. Ni fydd pob un ohonynt yn llwyddo, oherwydd pe bai pob un yn llwyddo, byddem yn ôl i fodel buddsoddi i arbed lle rydym yn gwneud y peth diogel. Ond bydd rhai ohonynt yn llwyddo, a bydd rhai ohonynt yn gwneud arbedion sylweddol ar gyfer sefydliadau. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu hyrwyddo'r llwyddiannau fel y gall eraill wneud yr un fath ac elwa o arloesi? Dywedwyd ers tro nad yw arferion da yn teithio cystal ag y dylent yng Nghymru.

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gefnogaeth barhaus i'r gronfa arloesi i arbed? Fe fydd yn gwybod, yn rhannol er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo'r gwaith a wneir o'i mewn, fod y gronfa'n cael ei gweithredu drwy gyfuniad o Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Nesta, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac rydym yn dibynnu ar rwydweithiau ehangach y tri sefydliad arall hynny i ledaenu newyddion am y gronfa ac i sicrhau bod ei llwyddiannau yn cael eu hysbysebu'n eang. Cynhelir gweithdy yr wythnos nesaf, ar 22 Tachwedd, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru a Nesta yn unswydd er mwyn lledaenu'r dysgu hyd yma.

Mae'n galonogol iawn, yn yr ail rownd o geisiadau am gyllid arloesi i arbed, ein bod wedi denu ceisiadau gan ystod ehangach o sefydliadau nag yn y rownd gyntaf—rydym wedi cael ceisiadau gan y gwasanaeth iechyd, rydym wedi cael ceisiadau gan awdurdodau lleol ac rydym wedi cael ceisiadau gan y trydydd sector. Mae hynny'n awgrymu bod newyddion am y gronfa, a'r hyn y gellir ei gyflawni drwyddi, yn dechrau cyrraedd y sefydliadau perthnasol yng Nghymru.

Rheolau Sefydliad Masnach y Byd

8. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru o symud i reolau Sefydliad Masnach y Byd ar ôl Brexit? OAQ52917

Lywydd, ein dadansoddiad ni o safbwynt y consensws gan ymchwilwyr ac academyddion prif ffrwd yw y gallai symud at reolau Sefydliad Masnach y Byd arwain at leihad o hyd at 10 y cant yn economi'r DU yn y dyfodol. Dyna pam fod ein dull o weithredu ar sail tystiolaeth yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' wedi argymell ein bod yn cymryd rhan lawn a dilyffethair yn y farchnad sengl.

14:20

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddydd Llun, cynhaliwyd sesiwn friffio gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Sefydliad Masnach y Byd a'r rheolau, ac yn amlwg, mae'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth y rheolau hynny yn difetha'r dadleuon a oedd gan lawer o bobl yn y refferendwm ynglŷn â pha mor hawdd fyddai trosglwyddo pe bai angen i ni wneud hynny. Deallaf fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno atodlen i Sefydliad Masnach y Byd ei hystyried ym mis Gorffennaf, ac mae llawer o wledydd wedi mynegi pryderon mawr yn ei chylch. Maent hefyd wedi cyflwyno atodlen ym mis Hydref yn ymwneud â chwotâu cyfradd tariff, ac roeddent wedi tybio, unwaith eto, y byddai'n hawdd eu rhannu. Unwaith eto, mae llawer o wledydd wedi dod yn ôl, a phan ystyriwch fod gan Seland Newydd gwota cyfradd tariff gyda'r UE ar gig oen, mae'n fater pwysig iawn. A yw Llywodraeth y DU wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar yr atodlenni hyn er mwyn sicrhau bod ein buddiannau a'n hallforion yn cael eu hystyried wrth iddynt eu cyflwyno?

Wel, Lywydd, gwn fod fy nghyd-Aelod Ken Skates yn sicr wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar fater cwotâu cyfradd tariff, ac mae David Rees yn llygad ei le: dywedwyd wrthym gan yr aelodau o Lywodraeth y DU a fu'n dadlau o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddai ardystiad atodlenni'r DU yn Sefydliad Masnach y Byd yn fater syml o ofyn amdano—byddech yn ei bostio a byddai'n dychwelyd y diwrnod wedyn. Dywedwyd wrthym na allai fod yn symlach. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir o gwbl. Mynegwyd gwrthwynebiad gan fwy na 20 o wledydd i'r modd y mae'r DU yn trin cwotâu cyfradd tariff ar y cyfle cyntaf a gawsant, ac mae'r DU bellach wedi gorfod penderfynu agor trafodaethau ar gwotâu cyfradd tariff gydag aelodau eraill o Sefydliad Masnach y Byd. Ni fydd y pethau hyn wedi cael eu cwblhau bellach cyn inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Ac o safbwynt Cymru, wrth gwrs ein bod yn pryderu ynglŷn ag effaith negyddol unrhyw addasiadau i gwotâu cyfradd tariff ar sectorau sensitif yng Nghymru—ar gynhyrchu cynhyrchion fferm yn benodol—ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn ymgynghori â ni ymlaen llaw ar y materion hyn, o gofio'r cymhlethdod y gwyddom bellach sydd ynghlwm wrth eu datrys.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Eitem 2 ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip. Cwestiwn 1, Dawn Bowden.

Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb

1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb? OAQ52912

Rydym yn adeiladu ar ein rhaglen i fynd i'r afael â throseddau casineb ac yn ehangu ein gwaith cydlyniant cymunedol ledled Cymru i liniaru unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb. Mae ein bwrdd cyfiawnder troseddol ar gyfer troseddau casineb yn fforwm effeithiol sy'n dod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i gydgysylltu ein gwaith yn y maes hwn.

Diolch, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i chi a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ar y mater pwysig hwn? Amlygwyd maint y broblem yn ddiweddar gan adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf, ac mae'n gwestiwn pwysig i holl Aelodau'r Cynulliad ei ystyried, a hyd yn oed yn fwy na hynny, i bob un ohonom gydnabod bod yr iaith y dewiswn ei defnyddio yn y Senedd yn llunio'r negeseuon rydym yn eu cyfleu i bobl Cymru. Felly, a fyddech yn cytuno fod yr hyn a ddywedwn a'r hyn a wnawn yn y lle hwn yn chwarae rhan bwysig wrth hybu awyrgylch a all gynorthwyo i ostwng y lefelau presennol o droseddau casineb yng Nghymru?

Rwy'n cytuno'n llwyr â Dawn Bowden wrth iddi nodi'r pwynt pwysig hwn. Ddoe, cefais y fraint o annerch cyfarfod o'r fforwm aml-ffydd draw yn y Pierhead, ac roeddent ar fin mynd ar daith gerdded drwy'r holl gymunedau ffydd gwahanol yng Nghaerdydd. Yn anffodus, oherwydd ymrwymiadau'r Cyfarfod Llawn, nid oedd modd imi ymuno â hwy, ond roedd hynny'n ymwneud â phwysleisio'r angen am gyfrifoldeb personol, gweithredu personol—pwysigrwydd gweithredoedd pob unigolyn yng nghyfanrwydd ein diwylliant yn gyffredinol, ac rwy'n cymeradwyo hynny'n gryf iawn.

Yma yng Nghymru, fel arweinwyr rydym yn awyddus i gynrychioli pob un o'r cymunedau a gynrychiolwn yn deg ac yn agored, gyda gonestrwydd a pharch, oherwydd mae ein holl gymunedau'n haeddu hynny. Ac mae'n bwynt sylfaenol fod y ffordd rydym yn sôn am ein gilydd ac yn siarad gyda'n gilydd yn bwysig iawn o ran yr ethos a osodwn yma yng Nghymru.

Arweinydd y tŷ, mae achosion o wrth-Semitiaeth wedi bod ar gynnydd ledled y Deyrnas Unedig. Yn ystod chwe mis cyntaf eleni, cofnodwyd 727 o ddigwyddiadau gwrth-Semitaidd gan y Community Security Trust. Adroddodd The Jewish Chronicle fod un o'ch cyd-Aelodau Cymreig wedi cwestiynu pa mor 'real' yw troseddau casineb gwrth-Semitaidd, ac i ba raddau y mae'r bygythiad i gyd 'yn eu pennau hwy'.

Arweinydd y tŷ, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ddatgan yn glir fod gwrth-Semitiaeth yn drosedd casineb, ac a wnewch ymuno â mi i gondemnio'r sylwadau hyn, sy'n methu'n llwyr â chydnabod y bygythiad sy'n wynebu ein cymunedau, yn enwedig cymunedau Iddewig yng Nghymru?

14:25

Gwnaf. Ar 17 Hydref, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig i gadarnhau, wrth fabwysiadu diffiniad dros dro Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost o wrth-Semitiaeth yn mis Mai y llynedd, ein bod wedi cynnwys yr 11 enghraifft o'r cychwyn cyntaf yn llawn ac yn ddiamod. Felly, rwy'n fwy na pharod i ddweud yn gwbl glir na fydd gwrth-Semitiaeth mewn unrhyw ffurf yn cael ei goddef yma yng Nghymru—nac unrhyw fath arall o iaith, gweithred neu agwedd hiliol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog pobl sy'n dioddef gwrth-Semitiaeth i roi gwybod i'r heddlu. Rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr cam-drin a thrais gwrth-Semitaidd ac i ddwyn y cyflawnwyr i gyfrif. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad gyfeillgar a goddefgar i fyw, astudio a gweithio ynddi, yn wlad lle nad oes lle i wrth-Semitiaeth yn ein cymdeithas—nac unrhyw fath arall o iaith neu gam-drin hiliol neu anoddefgar.

Arweinydd y tŷ, rwy'n croesawu'r camau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb. Fodd bynnag, mae hon yn broblem gynyddol, yn enwedig ar-lein. Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu cawod gyson o gasineb, siarad casineb a bwlio ar-lein na ellir dianc rhagddo. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi amlinellu sut rydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y cyd â Llywodraeth y DU, yn gweithio gyda'r sector technoleg i atal lledaeniad siarad casineb ar-lein a seiberfwlio yng Nghymru?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Yn amlwg, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan gynyddol o'n diwylliant a'n hiaith, a dylem fabwysiadu'r un safonau o ran ymddygiad a pharch a goddefgarwch a chynhwysiant tuag at ein gilydd dros y cyfryngau cymdeithasol ag y gwnawn ym mhob man arall. Mae'n arbennig o anffodus fod pobl yn teimlo y gallant fod yn anhysbys yno, ac mae gan bob un ohonom waith i'w wneud, rwy'n credu, i ddatblygu rheolau wrth i'r unfed ganrif ar hugain fynd rhagddi mewn perthynas â natur anhysbys fforymau o'r fath.

Darparodd Llywodraeth Cymru £5,000 eto eleni i bedwar heddlu Cymru a Cymorth i Ddioddefwyr i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ym mis Hydref ac i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb drwy gydol y flwyddyn, ac mae hynny'n cynnwys yn y gofod digidol. Rwyf hefyd yn cydweithio'n agos ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gefnogi ein hwythnos diogelwch ar y rhyngrwyd a gynhaliwyd yn ddiweddar iawn, ac i gefnogi ein harloeswyr digidol a'n cadetiaid rhyngrwyd ifanc ledled Cymru i adnabod bwlio, boed ar-lein ai peidio, ac i ddysgu sgiliau a thechnegau i sicrhau eu bod hwy a'u cymheiriaid yn ddiogel a'u bod yn dysgu sut i ofalu am ei gilydd yn y byd go iawn ac yn y seiberofod.

Cysylltedd Band-eang yn Arfon

2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltedd band-eang yn Arfon? OAQ52897

Gwnaf, yn sicr. Er nad oes gennym wybodaeth sy'n ymwneud ag Arfon yn benodol, gallaf gadarnhau bod cynllun Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i dros 58,440 o gartrefi a busnesau yng Ngwynedd, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o dros 102 Mbps a buddsoddi dros £16.2 miliwn.

Diolch. Mae safon y cysylltedd i fand eang yn Arfon yn anghyson, boed mewn ardal wledig neu ddinesig. Er enghraifft, ym mharc busnes Menai ym Mangor, mae busnesau yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd diffyg safon y cysylltedd. Mae nifer o etholwyr wedi sôn am enghreifftiau lle y mae llond llaw o dai yn cael eu heithrio er bod ffibr i’r adeilad wedi’i osod i’r rhan fwyaf o’r tai, nid ydy’r gwaith wedi cael ei orffen. Mae yna rai tai wedi cael eu gadael ar ôl yn Waen Pentir, Nebo, Nasareth, Tregarth a Thal-y-bont. A ydy hyn yn arwydd o ddiffyg cynllunio’r gwaith yn briodol? Gyda llaw, rydw i yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi i etholaeth Arfon ar 29 Tachwedd lle cawn ni wyntyllu’r problemau yma’n llawn.

Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ddod. Mae'n ddefnyddiol iawn imi fynd o amgylch Cymru yn siarad yn benodol ag unigolion a'u cymunedau ynglŷn â pham rydym yn y sefyllfa sydd ohoni a beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'u problemau fel unigolion a chymunedau. Gwyddom ei bod yn rhwystredig iawn os ydych yn un o'r bobl a gafodd eu hepgor o'r rhaglen flaenorol. Darparwyd cysylltedd i 733,000 eiddo, ond wrth gwrs, os ydych yn un o'r bobl yn y ganran fechan sy'n weddill, mae'n rhwystredig dros ben, a dyna pam rwy'n gwneud y daith—er mwyn ceisio deall beth yn union y gallwn ei wneud. Rydym newydd gwblhau'r broses gaffael ar gyfer lotiau 1 a 3. Mae hynny wedi'i gwblhau; y cynigydd llwyddiannus yw BT plc, a llofnodwyd cytundeb grant ddoe, fel y mae'n digwydd. Byddwn yn gofyn iddynt egluro yn awr pa safleoedd yn union sydd wedi'u cynnwys yn eu cynlluniau cyflwyno, a chyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno gennym, bydd modd inni ei rhoi i gynrychiolwyr lleol, fel y gallant sicrhau bod pobl yn ymwybodol. Wedyn, wrth gwrs, byddwn yn gwybod pwy sydd heb eu cynnwys, fel y gallwn gyflwyno nifer fawr o gynlluniau eraill rydym yn eu cynllunio, i ddod â chymunedau at ei gilydd, i gael atebion unigol pwrpasol, i edrych ar sut y gallwn addasu ein cynlluniau talebau, ac yn gyffredinol, i ganfod ateb i'r bobl sydd heb eu cynnwys. Felly, dyna'r ffordd ymlaen, ac edrychaf ymlaen yn arw at drafod y manylion yn eich etholaeth chi pan fyddaf yn dod yno.

14:30

Diolch. Roedd yr ymatebion a gefais gan Openreach ar ran etholwyr o Arfon ac Ynys Môn, ar draws i Sir y Fflint a Wrecsam, ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben ar 31 Rhagfyr y llynedd, i gyd yn cynnwys brawddeg yn dweud bod y gwaith gweithredol ar unrhyw brosiectau nad ydynt wedi'u cwblhau wedi dod i ben. Ar 23 Hydref, yn eich datganiad i'r Cynulliad, gwnaethoch gadarnhau bod lot 1 gogledd Cymru ar gyfer y rhaglen olynol bellach wedi'i gwblhau, y byddai'r gwaith ar y rhwydwaith sylfaenol i gefnogi'r prosiect yn dechrau cyn bo hir, a bod y broses werthuso ar gyfer dwyrain Cymru yn parhau. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro lle mae ffiniau gogledd Cymru a dwyrain Cymru yn dechrau ac yn gorffen. Ond ers hynny, mae etholwyr wedi gofyn a fydd gwaith a oedd yn dal heb ei gwblhau wedi i gytundeb BT ddod i ben fis Rhagfyr diwethaf yn cael blaenoriaeth yng ngogledd Cymru, wrth i ni symud ymlaen yn awr o dan lot 1.

Mae gwefan Cyflymu Cymru yn amlinellu'r map—gallaf anfon y ddolen i'r Aelod eto; mae'n dangos yn union lle mae'r lotiau, a beth sydd wedi'i gynnwys a heb ei gynnwys. Fel y dywedais, rydym wrthi'n negodi yn union pa safleoedd, oherwydd rydym yn awyddus iawn i ddysgu o rai o'r profiadau cyfathrebu yng nghynllun cyntaf Cyflymu Cymru, o ran rhoi sicrwydd i bobl ynglŷn â ble maent arni yn y rhaglen, a beth y gallant ei ddisgwyl, yn ogystal â rhoi sicrwydd iddynt nad ydynt yn y rhaglen, fel y gallwn ymdrin â phroblemau yn y modd hwnnw. Mewn gwirionedd, rydym yn dal i sgwrsio gydag Openreach am yr hyn a elwir yn adnoddau a adawyd ar ôl—y buddsoddiad a wnaed ganddynt yn y ddaear na chafodd ei gwblhau. Rwyf eisiau dweud yn glir iawn unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, nad ydym wedi talu'r un geiniog tuag at yr adnoddau hynny a adawyd ar ôl; mae'r sgwrs yn ymwneud ag a ydynt eisiau cyfrannu eu harian masnachol tuag at hynny, neu a ydynt eisiau cael eu cynnwys yn y lot hwn, neu a oes unrhyw drefniant arall y gallwn gytuno arno mewn perthynas â rhannu'r budd er mwyn cysylltu'r safleoedd hynny. Ond eu gwariant masnachol hwy ydyw—hwy sydd wedi buddsoddi'r arian i'w wneud; nid yw'n cael ei wneud ag arian cyhoeddus, a mater masnachol iddynt hwy ydyw yn y pen draw.

Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Ac yn gyntaf y prynhawn yma mae llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ofyn i arweinydd y tŷ pam ei bod yn dal gwybodaeth yn ôl am gam 2 o gynllun Cyflymu Cymru?

Nid wyf yn dal unrhyw wybodaeth rwy'n ymwybodol ohoni yn ôl. Fel y dywedais, rydym wedi gosod lot 1 a lot 3. Rydym yn parhau i negodi mewn perthynas â lot 2. Rwy'n rhwystredig iawn ynglŷn â pha mor hir y mae hynny'n ei gymryd, ond cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i ddweud beth sy'n digwydd mewn perthynas â hynny, byddaf yn gwneud hynny wrth gwrs.

Wel, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth, arweinydd y tŷ. Cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig i chi dros wythnos yn ôl. Ddoe oedd y dyddiad ar gyfer ateb, ac rwy'n meddwl tybed pam fod yna oedi. Ai'r rheswm yw eich bod eisiau osgoi craffu yn y cwestiynau heddiw? Hefyd, fe wnaethoch awgrymu yn y datganiad busnes ddoe eich bod yn aros tan y cwestiynau heddiw i wneud rhyw fath o gyhoeddiad am lot 2, neu gam 2, o gynllun Cyflymu Cymru. Nawr, fel llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon, rwy'n cael cwestiynau bob dydd gan etholwyr sy'n rhwystredig iawn ynglŷn â'r diffyg gwybodaeth, yn cwyno am y diffyg gwybodaeth a'r oedi mewn perthynas â gweithredu'r cynllun nesaf. Felly, rwy'n cwestiynu pam nad yw'r wybodaeth hon am lot 2, a gwybodaeth arall rwyf wedi gofyn amdani, wedi cael ei rhyddhau ar y cyfle cyntaf. Fe fyddwch yn ymwybodol na lwyddodd rhai safleoedd a oedd yn destun adolygiad yng nghontract cyntaf Cyflymu Cymru i gael band eang cyflym iawn. Sut a phryd y cawn wybod a fydd y safleoedd hyn yn rhan o'r contract i ddarparu band eang cyflym iawn, a pha strategaeth gynhwysfawr fydd ar gael i alluogi safleoedd nad ydynt yn rhan o'r cynllun i gael band eang cyflym iawn?

Mae'n ddrwg gennyf am yr atebion ysgrifenedig. Mewn gwirionedd, rydych wedi cael ateb heddiw, ac ni fydd yn eich plesio o gwbl, sef nad oeddem yn gallu casglu'r data yn yr amser a oedd ar gael. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddweud hynny wrthych. Roeddwn yn gobeithio gallu rhannu'r wybodaeth gyda chi yn yr ateb, yn yr amser a oedd gennym, ond nid yw wedi bod yn bosibl i mi wneud hynny. Felly, rwy'n sicr y bydd gennych neges gennyf yn eich mewnflwch ar ddiwedd y sesiwn hon yn ymddiheuro am hynny. Yr ateb, yn syml, yw nad yw'r data ar gael gennym ar hyn o bryd. Mae'r problemau rydym yn eu hwynebu gyda chontract lot 2 yn fy ngwneud yr un mor rhwystredig â chi. Cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i ddweud rhywbeth wrthych amdano, byddaf yn gwneud hynny. Gallwch glywed fy mod yn gobeithio gallu gwneud hynny bob dydd. Mae'r ffaith nad wyf yn gallu gwneud hynny'n peri rhwystredigaeth ddofn i mi. Mae nifer fawr o anawsterau wedi bod, ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda'r Siambr cyn gynted ag y gallaf wneud hynny.

14:35

Diolch. Rwy'n falch o glywed eich bod yn profi'r un rhwystredigaethau â minnau, ac mae fy rhwystredigaethau'n deillio o'r negeseuon rwy'n eu derbyn gan fy etholwyr. Rwy'n derbyn eich bod yn aros am y wybodaeth hon gan swyddogion, ond rwy'n cwestiynu pam nad yw'r wybodaeth hon eisoes ar gael, ond diolch i chi am ymrwymo i rannu'r wybodaeth honno gyda mi cyn gynted ag y bydd ar gael i chi.

Rydych yn gwybod beth yw fy marn ar gam 1 a cham 2. Dylid bod wedi sicrhau pontio di-dor rhwng y ddau gynllun. Cynhaliwyd adolygiad o'r farchnad agored a fyddai wedi rhoi syniad ynglŷn â pha safleoedd y mae angen eu cynnwys yng ngham 2, neu pa safleoedd na fyddai wedi cael eu cwblhau yng ngham 1. Ond mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud ag adeiladau newydd ac adeiladau a adeiladwyd yn ddiweddar, nad ydynt, o bosibl, yn cael eu hystyried ar gyfer yr ail gontract hwn. Pa ddull sydd ar waith i sicrhau bod safleoedd o'r fath yn cael eu cynnwys cyn gynted ag y bo modd heb orfod aros am adolygiad mynediad agored hirfaith arall ar gyfer y genhedlaeth nesaf?

Os yw o unrhyw werth, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth. Mae llawer o'ch etholwyr yn ysgrifennu'n uniongyrchol ataf fi yn ogystal. Felly, mae gennyf sach fawr iawn o ohebiaeth gan bobl rwystredig ac rwy'n rhannu eu rhwystredigaeth. Ac mae hyn, heb fynd i ailadrodd yr un hen ddadleuon, yn rhan o'r ffordd y cawn ein cyfyngu wrth wneud hyn. Nid yw'n cael ei ystyried yn seilwaith. Caiff ei ystyried fel ymyrraeth y farchnad mewn marchnad sydd eisoes yn bodoli. Felly, bob tro rydym yn ymyrryd, mae'n rhaid i ni ddangos unwaith eto ein bod wedi ein heithrio o'r rheol cymorth gwladol. Mae'n rhaid i ni wneud hynny drwy'r Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU, a thrwy Broadband Development UK. Mae'n broses hir ac arteithiol. Rydym yn cael sgyrsiau parhaus â hwy ynglŷn â sut i gyflymu'r broses honno. Rydym wedi cael llawer o sgyrsiau. Mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros dai a minnau, a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio, wedi cael nifer o sgyrsiau gydag adeiladwyr tai newydd ledled Cymru ynglŷn â chynnwys y gwaith o osod y ceblau i'r ffordd, o leiaf, pan fabwysiedir y ffordd ac ati, fel y gellir cysylltu â'r band eang yn hawdd pan fydd yn dod ar hyd y briffordd y tu allan. Ceir cytundeb ar gyfer cynlluniau sy'n cynnwys dros 30 o dai, ond mae'r gweddill yn ddibynnol ar y farchnad o hyd. Ac yna, bob tro, mae'n rhaid i mi brofi methiant yn y farchnad.

Felly, rwy'n gobeithio y gallwch glywed fy mod yr un mor rhwystredig â chi ynglŷn â'r sefyllfa hon. Byddai'n help pe bai Llywodraeth y DU yn gallu bwrw ymlaen â'i dyletswydd i ddarparu band eang i bawb, ac os gallem ni ddeall sut yn union y mae gwneud hynny, gallem fynd ati i wneud yr un peth. Rydym yn cael sgwrs helaeth gyda hwy ynglŷn â sut i wneud hynny, a chyn gynted ag y bydd gennyf unrhyw wybodaeth am hynny, rwy'n fwy na pharod i'w rhannu. Ond yn y pen draw, mae band eang yn dal i gael ei drin fel cynnyrch moethus, pan fo'n seilwaith hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid inni newid yr agwedd honno er mwyn gallu symud yr agenda hon yn ei blaen.

Arweinydd y tŷ, mae eich rhestr o gyfrifoldebau yn cynnwys hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi egluro sut rydych yn gweithio gydag adrannau a Gweinidogion eraill, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau cydymffurfiaeth â hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd?

Gallaf. Mae gennyf gyfres o gyfarfodydd ar y gweill, cyfarfodydd dwyochrog fel rydym yn eu galw, ar sail un i un gyda phob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog y Llywodraeth ar raglen dreigl. Rwyf newydd gwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn y portffolio hwn. Rwyf wedi cyfarfod â hwy i gyd o leiaf unwaith, ac rwyf ar yr ail rownd gyda rhai ohonynt. Diben hyn oll yw trafod eu cyfrifoldebau portffolio a siarad ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod egwyddorion sylfaenol y confensiynau, hawliau dynol a'r Cenhedloedd Unedig, ac mewn gwirionedd, yr holl faterion cydraddoldeb, yn cael eu cynnwys yn briodol yn eu portffolio ac yn cael lle blaenllaw. Rwy'n gwneud yr un peth ar gyfer yr adolygiad rhywedd, mewn gwirionedd. Rwyf bron â gorffen y gyfres o gyfarfodydd lle rwy'n gwneud yr un peth ar gyfer hwnnw.

Iawn, diolch i chi am eich ateb. Mae eich cyd-Aelod ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi'i restru fel siaradwr gwadd mewn ffair arfau a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys gwerthu arfau i gyfundrefnau ag enw gwarthus iddynt mewn perthynas â hawliau dynol ac sy'n weithredol mewn achosion o wrthdaro arfog difrifol, gan gynnwys Saudi Arabia, gwlad a fyddai'n cael ei hystyried yn wladwriaeth sy'n noddi terfysgaeth oni bai am ei buddiannau olew, fel y byddai unrhyw ddadansoddiad gonest yn ei gasglu. A allwch chi egluro sut y mae cymeradwyaeth eich cyd-Aelod i'r ffair greulondeb hon yn gydnaws â chydymffurfiaeth â chyfrifoldebau hawliau dynol?

14:40

Nid oeddwn yn gwybod bod trefniadau i fy nghyd-Aelod siarad yno, ac rwy'n fwy na pharod i drafod hynny gydag ef.

Wel, diolch i chi am gytuno i wneud hynny, arweinydd y tŷ, oherwydd mae 14 miliwn o bobl yn Yemen sydd ar fin newynu, diolch i'r rhyfel y mae ein masnach arfau yn ei gefnogi—un o'r argyfyngau dyngarol gwaethaf yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfundrefn Saudi Arabia yn parhau i fod yn gyfundrefn sy'n gormesu menywod, yn cyfyngu ar ryddid sylfaenol ac yn llofruddio ei gwrthwynebwyr dramor. Mae ganddi gysylltiad cryf â thwf y Taliban, fel y gwyddoch, yn y 1990au, a'r unig reswm y mae ein Llywodraethau'n gwadu hyn yw oherwydd dylanwad cwmnïau olew mawr, BAE Systems a gwleidyddiaeth y DU. Sut yn y byd y gall eich Llywodraeth gyfiawnhau hyn?

Fel y clywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae'n fwy na pharod i edrych ar y sylwadau a wnaed ynglŷn â'r posibilrwydd fod y fasnach arfau yn cael cymorth gan unrhyw arian Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i'r Siambr. Ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn gwneud yr un peth drwy siarad â chyd-Aelodau sy'n cefnogi unrhyw beth o'r fath.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, arweinydd y tŷ, rwyf wedi canmol Llywodraeth Cymru sawl gwaith ar lwyddiant y gwaith o gyflwyno darpariaeth ddigidol yng Nghymru. Ond arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod allgáu digidol yn digwydd pan nad yw person yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, nid yn unig oherwydd diffyg neu absenoldeb seilwaith ffisegol. Gall fod o ganlyniad i ddiffyg arian yn arwain at anallu i dalu, naill ai am y caledwedd neu'n wir, y ffi ar gyfer cysylltu â'r rhyngrwyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r bobl dlotaf mewn cymdeithas, ac rydym i gyd yn cydnabod, wrth i dechnoleg ddatblygu'n gyflym, fod allgáu digidol yn gallu rhwystro pobl rhag byw bywyd llawn a chynhyrchiol. Daw'r broblem hon yn amlwg iawn pan fyddwn yn ystyried y bobl sy'n ddi-waith. Os ydych wrthi'n chwilio am waith, mae gallu defnyddio'r rhyngrwyd yn adnodd sy'n hanfodol, neu'n agos iawn at fod, ar gyfer chwilio am swydd a chwblhau ceisiadau am swyddi. A all arweinydd y tŷ nodi unrhyw ymyriadau sydd ar waith ar hyn o bryd a allai liniaru'r allgáu digidol hwn?

Gallaf, rydym yn ariannu nifer o raglenni yn y maes: rydym yn ariannu Cymunedau Digidol Cymru ac yn wir, rydym ar fin cynyddu maint hwnnw i £6 miliwn er mwyn cynnwys gweithgareddau cynhwysiant digidol ym maes iechyd. Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi dangos bod tua 60 y cant o'r bobl 75 oed a hŷn, ynghyd â thua 26 y cant o bobl anabl, yn profi problemau allgáu digidol. Felly, mae'r rhaglen wedi'i thargedu'n arbennig i sicrhau bod y cymunedau hynny'n gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig, yn ogystal â gwasanaethau credyd cynhwysol.

Rydym yn gweithredu nifer o raglenni eraill gan gynnwys rhaglenni datblygu busnes. Felly, wrth i ni gyflwyno'r rhaglen Cyflymu Cymru, daw tîm o bobl gyda hi yn unswydd er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar fand eang a sicrhau bod busnesau bach, yn arbennig, yn yr ardaloedd lle cyflwynir y rhaglen, yn gallu manteisio ar fynediad at y rhyngrwyd, a'u bod yn gwneud mwy na newid o'u hen systemau papur i systemau digidol, ond eu bod mewn gwirionedd yn deall sut i fanteisio'n ddigidol a sut y gallant ymestyn eu busnes yn y ffordd honno. Rydym hefyd yn cynnal cyfres gyfan o raglenni arloesi digidol yn ein hysgolion cynradd a'n hysgolion uwchradd. Ac wrth gwrs, mae ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gydweithrediad, sy'n cynnwys buddsoddiad cyfalaf strategol ar gyfer ein hystâd addysg er mwyn sicrhau cynhwysiant digidol ym mhob rhan o'n cwricwlwm.

Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ac rydych wedi rhagdybio rhan o fy nhrydydd cwestiwn. Mae arolwg cenedlaethol diweddaraf Cymru wedi nodi, ar dudalen 7, nad yw 10 y cant o bobl ddi-waith yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd ac mae hyn yn cyfateb yn union i'r ffigur o 10 y cant a nodwyd y flwyddyn gynt. Nawr, er ei bod yn gadarnhaol i raddau nad yw'r ffigur hwnnw wedi codi o un flwyddyn i'r llall, mae'n ymddangos nad yw'r ymyriadau a amlinellwyd gennych yn gynharach yn cael llawer o effaith. Felly, arweinydd y tŷ, onid yw'n bryd ailedrych ar rai o'r strategaethau sydd ar waith?

Ydy, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, a dyna'n union pam rydym newydd edrych ar sut y gallwn newid y ffordd y gweithredwn y rhaglen Cymunedau Digidol Cymru. A phan ddaw'r rhaglen honno i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd yn cael ei chaffael eto fel rhaglen ddwbl ei maint i gynnwys pobl sy'n ddibynnol ar wasanaethau digidol, fel y mae'n dweud—pobl sy'n ymwneud â'r credyd cynhwysol, ond mewn gwirionedd, y rheini sy'n ymwneud yn llawer mwy penodol â'r system iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd fe wyddom fod y rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef y math hwnnw o allgáu digidol yn bobl dros 75 oed ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae pobl ag anableddau hefyd yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.

14:45

Unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ateb gonest i'r cwestiwn hwnnw.

A gaf fi symud ymlaen at agwedd arall, un y nodais yn gynharach eich bod wedi cyfeirio ati? Roeddwn yn falch o weld bod arolwg cenedlaethol Cymru wedi dangos nad oedd gwahaniaethau sylweddol o ran rhywedd mewn defnydd personol o'r rhyngrwyd ymhlith unigolion 65 oed a iau. Fodd bynnag, ar gyfer unigolion 65 oed i 74 oed, mae'r arolwg yn cofnodi ystadegyn eithaf rhyfedd: fod 75 y cant o ddynion yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd, a dim ond 68 y cant o fenywod. Fodd bynnag, ystadegyn llawer mwy arwyddocaol, ac un y soniasoch amdano'n gynharach—un sydd efallai yn peri mwy o bryder—yw'r un sy'n dangos mai 40 y cant yn unig o unigolion 75 oed a hŷn sy'n defnyddio'r rhyngrwyd. Nawr, o ystyried bod llawer o wasanaethau bellach yn newid i ddarpariaeth ar-lein, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a meddygol, onid yw'n bryd i ni gryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pawb yn ymwneud mwy â'r rhyngrwyd ac yn wir, â'r chwyldro digidol sy'n digwydd o'u cwmpas?

Ydy. Fel rwy'n dweud, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae yna raniad oedran yma yn bendant. Yn amlwg, mae'r bobl a fagwyd yn y byd digidol yn tyfu fyny'n meddu ar y cymwyseddau sy'n rhaid i bobl hŷn eu caffael yn ddiweddarach yn eu bywydau, a gall hynny fod yn anos wrth i'r byd newid o'ch cwmpas. Ond mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth eang o'r sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Maent yn cynnig hyfforddiant a chymorth i ymgorffori cynhwysiant digidol o fewn sefydliadau eraill yn ogystal â helpu i hyfforddi a lleoli gwirfoddolwyr. Felly, maent yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sydd hefyd yn gweithio gyda phobl sy'n debygol o fod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae hyn yn cynnwys llyfrgelloedd, er enghraifft, lle y ceir mynediad am ddim at y rhyngrwyd a chymorth i'w defnyddio ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf. Felly, mae'n goresgyn y broblem a nododd David Rowlands ynglŷn â gallu fforddio darpariaeth ryngrwyd yn y cartref. Rydym newydd ymestyn hynny, wrth inni edrych ar ddyblu maint y rhaglen i gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol.

Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Rhianon Passmore.

Trawsnewid y Dirwedd Ddigidol yn Islwyn

3. Sut y mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn Islwyn? OAQ52905

Diolch i chi am hynny. Mae amrywiaeth o weithgarwch ar y gweill yn Islwyn a ledled bwrdeistref ehangach Caerffili mewn perthynas â'r ddarpariaeth ddigidol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru mewn ysgol uwchradd newydd, fodern yn Islwyn drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a chynyddu argaeledd band eang drwy raglen Cyflymu Cymru.

Gwn fod arweinydd y tŷ ei hun wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o sicrhau bod rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru eisoes wedi trawsnewid y dirwedd ddigidol ar draws Cymru, gyda mwy na naw o bob 10 safle bellach yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn. Ym marn Llywodraeth Cymru, felly, pa mor bwysig yw sicrhau bod band eang safonol ar gael i gymunedau Islwyn, a hynny ar rwydwaith agored gyda dewis o ddarparwyr?

Cytunaf yn llwyr ei fod yn gwbl hanfodol. Mae'r rhaglen gyfan wedi'i llunio ar y sail ein bod yn darparu'r seilwaith sylfaenol a bod y person sy'n darparu hwnnw yn y pen draw—felly, BT Openreach yn achos rhaglen gyntaf Cyflymu Cymru—yn ei ddarparu fel rhwydwaith mynediad agored, a bod pob darparwr gwasanaethau rhyngrwyd sydd eisiau cael mynediad ato yn gallu gwneud hynny.

Mewn rhai ardaloedd o Gymru—nid Islwyn, mae'n rhaid i mi ddweud—mae yna rai cyfyngiadau ar nifer y darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd sy'n cynnig gwasanaethau, oherwydd mae gennym dreiddiad uwch o ffibr i safleoedd nag unrhyw le arall yn Ewrop—yn agos at 49,000 o safleoedd—ac mae darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd yn cymryd ychydig o amser i ddal i fyny â hynny. Ond wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno, mae mwy a mwy o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd yn mynd ar-lein ac mae'r pris yn gostwng, fel y byddech yn ei ddisgwyl, yn union fel y gwnaeth pan gafodd band eang ei gyflwyno gyntaf a bu'n rhaid i'r darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd ddal i fyny â'r rhaglen honno. Felly, ydy, mae'r rhaglen gyfan wedi cael ei thendro ar y sail y mae'r Aelod yn ei amlinellu ac mae sicrhau bod y seilwaith hwnnw a ddarperir yn gyhoeddus ar gael ar gyfer yr holl ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd yn un o'n hegwyddorion sylfaenol.

Hoffai llawer o bobl yn Islwyn fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth digidol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, ac mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynlluniau i greu'r rhain. Mae gennym Gampws Gwyddor Data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n falch o glywed y bydd Ken Skates yn ymweld â chanolfan ddata'r genhedlaeth nesaf—y fwyaf yn Ewrop—ddydd Llun. Ond i lawer o bobl, trafnidiaeth yw'r her fwyaf, ac oherwydd bod yr M4 wedi'i thagu gan draffig, yn hytrach na'i diben gwreiddiol o fod yn ffordd ddosbarthu ogleddol ar gyfer Casnewydd, mae manteisio ar y cyfleoedd hynny yn anos nag y dylai fod i lawer o bobl yn Islwyn. A fydd eich Llywodraeth yn darparu ffordd liniaru'r M4 fel rydych wedi addo ei wneud yn eich maniffesto?

Nid yw honno'n rhan o fy mhortffolio—ffordd liniaru'r M4—felly nid fi yw'r Ysgrifennydd Cabinet y dylech fod yn ei holi, ond yn amlwg, diben y rhaglen band eang yw galluogi pobl i weithio mewn swyddi gwell, yn nes at adref a pheidio â gorfod cymudo a defnyddio mathau o drafnidiaeth sy'n llygru er mwyn cyrraedd cyrchfannau pell. Felly, rhan fawr o'r rheswm pam y gwnaethom y buddsoddiad hwn ledled Cymru yw er mwyn sicrhau bod swyddi ar gyflogau da yn cael eu darparu yn nes at gartrefi pobl yn eu cymunedau fel nad oes raid iddynt ddioddef y teithiau cymudo y cyfeiriodd yr Aelod atynt mor huawdl.

14:50
Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Mewn Pobl

4. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52906

Diolch i chi am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Rydym yn gweithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu yn ogystal â'n partneriaid amlasiantaethol i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed a rhoi diwedd ar y drosedd ffiaidd hon.

Diolch. Mae cydgysylltydd atal caethwasiaeth Llywodraeth Cymru wedi datgan bod codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn allweddol os ydym am fynd i'r afael â'r broblem. Beth y mae'r ffigurau diweddaraf ar nifer yr achosion a gofnodwyd yn ei ddweud wrthym am faint y broblem ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran adnabod caethwasiaeth a hefyd o ran sicrhau bod mwy o ddioddefwyr yn rhoi gwybod i'r heddlu? Fel y gwyddom, mae caethwasiaeth fodern yn digwydd fwyfwy yn ein cymdeithas, ynghudd ac yng ngolwg pawb, weithiau mewn sefydliadau chyffredin megis barrau ewinedd a mannau golchi ceir, ond yn yr un modd mewn amaeth, arlwyo, gwestai a'r proffesiynau gofalu, a phuteindra wrth gwrs.

Ie, yn wir. Mae'r ffigurau diweddaraf ar yr achosion o gaethwasiaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt yng Nghymru yn dweud wrthym ein bod bellach yn dechrau deall gwir faint y broblem hon a bod ein dull amlasiantaethol o gasglu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth yn gweithio mewn gwirionedd. Yng Nghymru yn 2017, cafodd 192 o bobl eu nodi fel dioddefwyr caethwasiaeth posibl a chawsant eu hatgyfeirio at y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol a weithredir gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Ond yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, cafodd 116 o bobl eu hatgyfeirio at y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol ac nid oes unrhyw arwydd y bydd y cynnydd blynyddol hwn yn nifer yr atgyfeiriadau yn arafu. O'r 116 o atgyfeiriadau yng Nghymru eleni, roedd y nifer uchaf o atgyfeiriadau yn wladolion y DU, sef 42 o fenywod, dynion a phlant, ac roedd y gweddill yn hanu o wledydd ym mhob rhan o'r byd mewn gwirionedd. Roeddent yn cynnwys 46 o fenywod a 70 o ddynion; cafodd 65 ohonynt eu hatgyfeirio fel achosion o gamfanteisio ar oedolion a chafodd 51 eu hatgyfeirio fel achosion o gamfanteisio ar blant.

Mae'r Aelod wedi gwneud pwynt ardderchog y gall ddigwydd yng ngolwg pawb, oherwydd mae nifer fawr o'r bobl ifanc hyn, yn arbennig, wedi cael eu dal yn y drosedd llinellau cyffuriau, yn enwedig bechgyn yn eu harddegau sy'n wladolion y DU, ond rydym hefyd yn ymdrin â merched mor ifanc â dwy oed sydd wedi cael eu hachub rhag camfanteisio rhywiol.

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, camfanteisio ar weithwyr yw'r prif ffurf ar gamfanteisio, wedi'i ddilyn gan gamfanteisio rhywiol a chaethwasanaeth ddomestig. O'r achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt, rydym yn gwybod bod pobl yn aml yn cael eu dal yn y math hwnnw o gaethiwed yng ngolwg pawb. Roedd nifer fawr o bobl yn gwybod eu bod yno ond heb adnabod y symptomau. Felly, mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud y gall pawb ohonom chwarae ein rhan yn y broses o drechu caethwasiaeth drwy godi ymwybyddiaeth o'r arwyddion, yr hyn y dylid edrych amdano a sut i rannu'r wybodaeth honno â'r mecanweithiau.

A gaf fi gymeradwyo gwaith Ymddiriedolaeth St Giles, a roddodd gyflwyniad ddoe i'r grŵp hollbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal am y prosiect llinellau cyffuriau a weithredir mewn cydweithrediad â phrosiect yng Ngwent? Clywsom dystiolaeth wirioneddol frawychus ynglŷn â sut y mae'r cylchoedd cyffuriau hyn yn defnyddio plant sy'n derbyn gofal, unigolion sy'n gadael gofal, a llawer o bobl eraill sy'n agored i niwed wrth gwrs, ac mae'n bwysig iawn fod y rhai sydd wedi'u dal mewn gweithgareddau troseddol o'r fath yn sylweddoli y byddant yn cael eu cefnogi os ydynt yn rhoi gwybod eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern neu fasnachu mewn pobl, ac y bydd yr heddlu yn canolbwyntio ar, ac yn erlyn troseddau llawer mwy a gwaeth y gangiau hyn a'u caethiwodd mewn ffordd ofnadwy.

Ie, yn wir, ac rydym wedi gwneud llawer o waith. Mae comisiynydd heddlu a throseddu Gwent, sy'n un o'n cyn-Aelodau adnabyddus ac uchel ei barch, wedi bod yn weithgar iawn, ynghyd ag aelodau o'r grŵp arweinyddiaeth. A bellach, mewn gwirionedd, mae gan bob un o heddluoedd Cymru grwpiau gweithredol yn y maes hwn, ond yn sicr roedd ar flaen y gad yn hynny o beth a bu'n gyfrifol am ariannu nifer o gynadleddau i godi ymwybyddiaeth wrth-gaethwasiaeth, a chynhaliodd y digwyddiad yn y Senedd gyda fy nghyd-Aelod, Joyce Watson AC o'r enw 'addewid i ddileu caethwasiaeth fodern a masnachu pobl', a fynychwyd gan nifer o Aelodau'r Cynulliad, gan gynnwys David Melding. Roedd yn gwneud yr union bwynt hwnnw, ac rwyf fi hefyd wedi ei roi i nifer o Weinidogion Llywodraeth y DU pan wyf yn eu cyfarfod. Ond yr hyn sy'n rhaid inni fod yn sicr ohono yw na fydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol a fydd yn atal pobl rhag rhoi gwybod am y drosedd, gan feddwl y byddant yn cael eu herlyn eu hunain am chwarae rhan fach ym mha weithgaredd bynnag a chuddio'r broblem fwy. Mae hwnnw'n bwynt da iawn y mae'n ei wneud—lle rydych wedi bod yn rhan o ryw fath o broblem yn ymwneud â chyffuriau a'ch bod yn credu felly eich bod yn agored i gael eich erlyn ac yn cadw rhag rhoi gwybod—ond mae llawer o achosion eraill lle mae pobl yn credu eu bod yn torri rheolau mewnfudo neu nifer o bethau eraill, ac rydym wedi ymdrechu'n galed i sicrhau bod pobl yn gweld y drosedd fwy o dan yr wyneb a hefyd yn gweld y cylch troseddu y tu ôl i'r unigolyn sydd wedi cael ei ddal ynddo.

14:55
Mynediad i Fand Eang yng Ngorllewin De Cymru

5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddariad am fynediad i fand eang yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52915

Gwnaf, yn wir. Mae cynllun Cyflymu Cymru wedi hwyluso mynediad at fand eang cyflym iawn ar gyfer dros 77,000 o safleoedd ar draws y rhanbarth, gyda chyflymder cyfartalog o tua 77 Mbps, gan fuddsoddi dros £19 miliwn. BT Plc yw'r cynigydd llwyddiannus ar gyfer lot 3 y prosiect olynol, a llofnodwyd y cytundeb grant ddoe.

Diolch yn fawr iawn. Credaf y gallem fod mewn sefyllfa colli pedol a wnelo hoelen felly, oherwydd mewn trafodaeth gydag Openreach beth amser yn ôl, mewn gwirionedd, nodais eu bod wedi gwrthod cyflwyno'r ddarpariaeth yn llawn i fusnesau penodol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a'u bod wedi'u perswadio, os mynnwch, i brynu pecynnau mwy costus nag y byddent wedi'i wneud fel arall. Ond yn awr clywaf gan drigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod y broses o gyflwyno band eang yn eu hardal yn anghyson—ar un stryd. Rwy'n meddwl am un stryd benodol yn y Llidiart, lle y ceir tai sy'n cael gwybod y gallant wneud cais am fand eang yn awr, sy'n wych, tra bo perchnogion tai eraill gerllaw yn cael gwybod na allant wneud hynny oherwydd eu bod yn 'aros am y dechnoleg', beth bynnag y mae hynny'n ei olygu, neu eu bod 'yn ymchwilio i sefyllfaoedd'. Unwaith eto, nid wyf yn siŵr beth y mae'n ei olygu ac nid ydynt hwy'n gwybod ychwaith. Yn amlwg, mae'r anghysondeb hwn yn syndod ynddo'i hun oherwydd rydym yn sôn am gymdogion yma. Mae'n hynod rwystredig i breswylwyr a busnesau. Felly, os rhoddaf y manylion i chi, a wnewch chi gysylltu ag Openreach i weld os gallaf gael ateb yn gynt, a gobeithio wedyn y caiff preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr ateb boddhaol i'r problemau sy'n effeithio arnynt? 

Gwnaf, yn wir. Os yw Suzy Davies eisiau rhoi'r manylion i mi—. Rydym angen cyfeiriadau post neu rifau ffôn penodol er mwyn rhannu gwybodaeth benodol. Hoffwn ddweud, fodd bynnag, yn aml iawn, pan fyddwch yn gofyn i'ch darparwr gwasanaethau rhyngrwyd cyfredol, 'A yw hwn ar gael?', byddant yn dweud 'na'. Yr hyn y maent yn ei olygu mewn gwirionedd yw nad ydynt hwy'n ei ddarparu, nid dweud nad yw ar gael yn eich cyfeiriad chi. Felly, rydym yn gofyn i bobl edrych ar-lein i weld faint o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd sydd ar gael yn eu hardal hwy, a rhoi cynnig ar bob un ohonynt, oherwydd mae rhai darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd yn gwrthod rhoi band eang cyflym iawn mewn ardaloedd penodol oherwydd bod eu rhwydwaith penodol hwy wedi cyrraedd capasiti llawn. Felly, siopa o gwmpas yw'r ateb weithiau. Ond os rhowch chi'r manylion i mi, gallwn ddod yn ôl atoch gyda'r manylion penodol.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn annog busnesau Cymru i wneud cais am eu cynllun talebau band eang gigabit. Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod beth ydyw, ond mae'n gynllun lle roedd busnesau bach a chanolig yn arfer cael £3,000, ond mae bellach wedi ei ostwng i £2,500 oherwydd bod cymaint wedi manteisio arno, er mwyn galluogi busnesau bach a chanolig sydd angen y cymorth hwnnw i gael band eang ffibr wedi'i osod. Ond i mi, roedd yn syndod gweld mai 58 o fusnesau yn unig yng Nghymru sydd wedi cael taleb hyd yma, o gymharu â 418 yng Ngogledd Iwerddon a thros 300 yn yr Alban. Felly, mae'r gwahaniaeth hwn yn peri pryder i mi, gan fod busnesau'n cysylltu â mi yn aml i ddweud nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang. Mae'n ymddangos i mi y byddai hwn yn lle delfrydol iddynt geisio cael yr arian hwnnw. Felly, beth rydych yn ei wneud i annog busnesau Cymru, a busnesau yn fy ardal i yng Ngorllewin De Cymru, i ddefnyddio'r cynllun cyn iddo ddod i ben? Oherwydd rwy'n deall o ddarllen erthygl ar-lein yma heddiw eu bod yn ystyried dod â'r cynllun i ben yn gynharach na'r bwriad oherwydd bod cynifer o fusnesau wedi manteisio arno ar draws gweddill y DU. Ond nid yw hynny'n helpu Cymru oherwydd nid oes gennym ddigon o bobl yn gwneud cais. Felly, beth rydych yn ei wneud i annog busnesau Cymru i wneud cais am y cynllun hwn?

Mae'r cynllun ar gael yng Nghymru, ond mae'n croesi ar draws ein cynllun talebau cyflym iawn ein hunain. Felly, mae nifer fawr o fusnesau yng Nghymru wedi mynd ar drywydd y cynllun talebau cyflym iawn, sydd yn yr un man ond ychydig yn wahanol, ac mewn gwirionedd, mae swyddogion yn gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i weld a allwn gydblethu'r ddau gynllun. Mae ein cynllun ni'n fwy hael, ond yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yw gweld a allwn sicrhau bod cynllun talebau Llywodraeth y DU yn talu am ran ohono a'n bod ni'n rhoi mwy o arian i fusnesau Cymru fel eu bod yn cael cynnig mwy hael. Felly, yr hyn sy'n digwydd yw ei fod yn croesi ar draws cynllun sy'n bodoli eisoes, ac sydd hefyd ar gael i fusnesau. Rydym yn y broses o geisio ei wneud yn set symlach o gynlluniau. Mae wedi bod braidd yn anodd cael manylion ynglŷn â hirhoedledd ac ati gan Lywodraeth y DU fel y gallwn wneud y gwaith hwnnw'n effeithiol.

Gwella'r Seilwaith Digidol yn Sir Benfro

6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith digidol yn Sir Benfro? OAQ52893

Gwnaf, yn wir. Yn y broses barhaus o gyflwyno ffibr cyflym, rydym wedi nodi tua 8,554 o safleoedd ar draws y rhanbarth a allai gael eu cysylltu o dan y cynllun newydd o bosibl. Mae ein cynllun gweithredu ar ffonau symudol hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella cysylltedd symudol ledled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro.

Arweinydd y tŷ, mae eich datganiad diweddar ar ddarpariaeth band eang wedi cadarnhau mai un o'ch blaenoriaethau yw datblygu atebion a modelau cymunedol ar gyfer mynd i'r afael â mannau gwan. Rydych wedi cyfeirio at gynlluniau yn Llanfihangel-y-Fedw rhwng Caerdydd a Chasnewydd, a Llanddewi Rhydderch yn Sir Fynwy. Er bod y gwaith hwn i'w groesawu, mae'n bwysig fod eich swyddogion yn edrych ar ffyrdd o weithio gyda'r cymunedau y tu allan i dde-ddwyrain Cymru hefyd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa waith penodol y mae eich swyddogion wedi'i wneud yn Sir Benfro i ddatblygu atebion cymunedol ar gyfer mynd i'r afael â mannau gwan y band eang ar draws fy etholaeth i, fel bod cymunedau fel Mynachlog-ddu, y gwn eich bod yn ymwybodol ohoni, yn gallu derbyn gwasanaethau band eang digonol?

15:00

Yn bendant. Mwynheais ymweld â'i etholaeth a chyfarfod â'r trigolion yno. Deallaf fod fy swyddogion mewn cysylltiad â nifer o'r preswylwyr a oedd yn bresennol. Cefais wahoddiad i gyfarfod yn Sir Benfro hefyd gan Joyce Watson ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad â thrigolion a ddaeth at ei gilydd yno i ffurfio grŵp cymunedol. Roedd yna gyfarfod gydag Elin Jones yng Ngheredigion, mewn gwirionedd, lle y digwyddodd rhywbeth tebyg.

Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud—ac mae hyn yn rhan fawr iawn o'r cyhoeddusrwydd ar gyfer hyn, Ddirprwy Lywydd—yw gofyn i bobl gamu ymlaen, ac os yw ACau'n gwybod am unrhyw gymunedau eraill a fydd yn barod i gamu ymlaen a gwneud hynny, rydym yn hapus iawn i hwyluso unrhyw strwythur y gellir ei gyflwyno. Mae cynlluniau cyfredol ym Mhenrhyn Llŷn, er enghraifft, ac ym mhob cwr o Gymru—ond dyna'r ddau sydd wedi cael y cyhoeddusrwydd mwyaf. Rydym yn edrych i weld pa gyhoeddusrwydd y gallwn ei roi i gynlluniau eraill ar draws Cymru fel y gall pobl weld bod nifer fawr o fodelau y gellir eu cyflwyno. Nid oes raid iddo fod yn fodel tebyg i un Llanfihangel-y-Fedw; er nad oes dim o'i le ar y model hwnnw, nid yw'n gweddu i bawb. Felly, mae yna nifer o opsiynau ar gael.

Pan fyddwn wedi rhoi trefn ar sefyllfa lot 2, byddaf yn gwybod yn union faint o arian sy'n weddill yn y gronfa o £80 miliwn y buom yn sôn amdani ers amser, er mwyn hwyluso'r ffordd i'r cynlluniau cymunedol hynny fynd ar raglen gyflymach. Rhan o fy rhwystredigaeth ynglŷn â pheidio â gwybod beth sy'n digwydd ar lot 2 yw'r ffaith nad wyf yn gallu dweud, i sicrwydd, faint o arian fydd hynny, ond gwyddom y bydd yn swm sylweddol o arian ac rydym yn hapus i hwyluso hynny ar gyfer unrhyw gymuned sydd ei eisiau.

Arweinydd y tŷ, mae seilwaith ffisegol yn amlwg yn hanfodol i fusnesau bach mewn siroedd fel Sir Benfro, sydd, wrth gwrs, yn sir sy'n cynnwys llawer o drefi bach. Mae'r seilwaith ffisegol yn hollbwysig, ond rydym hefyd angen newid diwylliannol os ydym am gyflawni dadeni digidol gwirioneddol lawn. Gwyddom hefyd fod ein busnesau bach—ein busnesau manwerthu bach—o dan bwysau aruthrol gan gewri ar-lein mawr iawn fel Amazon. Yn eu hadroddiad diweddar, mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi awgrymu rhwydwaith o reolwyr canol tref digidol a allai weithio gyda busnesau manwerthu bach mewn tref benodol i ddatblygu rhyw fath o gynnig ar-lein ar gyfer y dref gyfan. Gallai hynny fod yn ffordd arloesol a diddorol iawn o alluogi rhai o'r busnesau bach nad oes ganddynt amser na sgiliau i ddatblygu presenoldeb ar-lein cryf iawn eu hunain. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i awgrym y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac a oes unrhyw ffordd y gallwch weithio i hyrwyddo'r syniad hwn, sy'n ymddangos yn awgrym cadarnhaol iawn i mi?

Ie, yn wir. Rydym yn awyddus iawn i'w hyrwyddo. Yn wir, os ewch i Landrindod, fe welwch fod yr holl siopau yno wedi dod at ei gilydd. Gallwch fewngofnodi ar eu rhyngrwyd pan fyddwch yn cyrraedd y dref a bydd yn dweud wrthych am yr holl gynigion sydd ar gael a pha siopau sydd ar agor a phob math o bethau. Mae yna rwydwaith ardal WiFi fach gaeedig sy'n caniatáu i'r holl fusnesau ddod at ei gilydd. Ceir rhai eraill o gwmpas Cymru—cofiais am Landrindod gan fy mod wedi ymweld â'r lle yn ddiweddar. Rydym yn hapus i hwyluso'r math hwnnw o gydweithio er mwyn gwneud y gorau o bresenoldeb ar-lein. Hefyd, mae gennym dîm datblygu busnes sy'n dilyn y broses o gyflwyno Cyflymu Cymru. Mae mellten fawr yn ymddangos ar sgwâr eich pentref a gofynnir i bobl ac mae nifer fawr iawn wedi manteisio ar hynny ledled Cymru. Ei nod yw sicrhau bod pobl yn gwneud mwy na digideiddio eu system bapur yn unig, a'u bod yn deall manteision mynd ar-lein.

Ac os maddeuwch i mi am eiliad, Ddirprwy Lywydd, rwyf am adrodd stori am westy yng Nghymru a oedd yn hapus iawn eu bod yn gallu rhoi talebau—wyddoch chi, 'wowchers' a phethau o'r fath—ar-lein i gynyddu eu capasiti, ond mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r tîm datblygu busnes, daethant yn ymwybodol y gallent ddarparu pob math o brofiadau digidol eraill i'w gwesteion, gan ganiatáu iddynt ffrydio o GoPros, a chaniatáu iddynt uwchlwytho lluniau ac yn y blaen, a lawrlwytho Netflix, ac ati, o'u cysylltiad, ac maent yn hapus iawn oherwydd mae eu busnes wedi mynd o nerth i nerth. Ond nid yw'n rhywbeth y byddent wedi meddwl amdano oni bai bod y tîm datblygu busnes wedi ymweld â hwy a dangos iddynt beth y gallent ei wneud. Ac mae'n tanio dychymyg pobl wedyn wrth gwrs. Felly, mae gennym dîm arbennig ar gyfer gwneud hynny, ac os ydych eisiau fy rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r bobl y credwch y byddai ganddynt ddiddordeb, buaswn yn fwy na pharod i fynd ar drywydd hynny.

Lefelau Anghydraddoldeb yng Nghymru

7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am lefelau anghydraddoldeb yng Nghymru? OAQ52919

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo'r nod o wneud Cymru yn genedl fwy cyfartal. Mae adroddiad newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n decach? (2018)' yn darparu tystiolaeth bwysig ac yn dangos bod llawer mwy i'w wneud. Byddwn yn talu sylw gofalus i'r adroddiad a'i argymhellion.

15:05

Diolch i chi, a diolch i chi am nodi adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n decach?', sy'n tynnu sylw at ystadegau sy'n peri pryder mawr ar lefelau cyfranogiad menywod yn y gymdeithas yng Nghymru. Nid yw menywod Cymru wedi'u cynrychioli'n ddigonol mewn swyddi cyhoeddus o hyd. Yn 2015-16, 14 y cant yn unig o brif weithredwyr llywodraeth leol yng Nghymru oedd yn fenywod, er bod 73 y cant o holl weithwyr awdurdodau lleol yn fenywod. Yn ein gwasanaethau brys, 33 y cant o'r prif swyddogion tân a'r dirprwyon oedd yn fenywod—mewn gweithlu lle mae 50 y cant yn fenywod—a 29 y cant yn unig o holl swyddogion yr heddlu sy'n fenywod. At hynny, mae'r adroddiad hefyd wedi amlygu bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cynyddu, gyda saith o bob 10 mam yng Nghymru yn adrodd eu bod wedi cael profiad negyddol, neu wedi profi gwahaniaethu posibl, wedi iddynt ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth. Gall profiadau negyddol o'r fath esbonio pam nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ruth Coombs, pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, wedi dadlau ei bod yn bryd bellach i Lywodraeth Cymru roi camau gweithredu ar waith, a bod yn rhaid i chi gymryd yr awenau. Felly, a allech chi amlinellu yn union pa gamau rydych yn eu rhoi ar waith o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, a sut rydych yn dangos arweiniad cryf yn hynny o beth?

Gallaf. Rydym yn ymrwymedig iawn i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i sicrhau nad yw menywod yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle mewn perthynas â beichiogrwydd neu famolaeth. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymrwymo i ymgyrch Gweithio Ymlaen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd nid yn unig o fudd i fenywod yn y gweithle ond sydd hefyd yn gwneud synnwyr busnes da ar gyfer cefnogi staff yn y gweithle. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod Chwarae Teg yn arwain ar gyflawni cam 2 yr adolygiad rhywedd ar hyn o bryd, gan adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd ganddynt yng ngham 1, ac erbyn haf y flwyddyn nesaf, bydd gennym fap clir ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Bydd y gwaith yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y prosiect er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth i gyflawni'r nod hwn. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar yr adolygiad yn gynharach yr wythnos hon.

Mae gennym nifer o gamau gweithredu eraill yr wyf wedi'u trafod gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn fy nghyfarfod rheolaidd â hwy, a chefais gyfarfod ychwanegol hefyd i drafod yr adroddiad 'A yw Cymru'n decach?' yn benodol. Rydym wedi bwydo hwnnw i mewn i'n hymgynghoriad newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: yr hawl i fyw'n annibynnol', a hoffwn annog pawb yn y Siambr i ymateb iddo. Rydym wedi ceisio barn pobl anabl ac wedi gweithio'n agos gyda sefydliadau rhanddeiliaid anabledd i gydgynhyrchu'r dull newydd hwnnw o weithredu. Ar hil, rydym yn darparu cyllid i Dîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru i gyflwyno rhaglen ymgysylltu Cymru gyfan ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig dros y tair blynedd nesaf, er mwyn deall y safbwyntiau a'r problemau sy'n wynebu'r cymunedau hynny yng Nghymru, oherwydd mae'n eithaf clir, ac mae'r Aelod wedi nodi rhai o'r ystadegau, po fwyaf o nodweddion gwarchodedig sydd gennych—neu elfennau croestoriadol, fel y byddai'r jargon yn ei ddweud—y mwyaf tebygol rydych chi o brofi'r mathau hynny o anghydraddoldebau. Felly, rydym hefyd yn rhoi grant cydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer sefydliadau sy'n cynrychioli cydraddoldeb o ran rhywedd, hil a materion LGBT, ac rydym yn ariannu tri phrosiect cynhwysiant: canolfan genedlaethol Cymru gyfan ar gyfer cymorth ac adrodd ar droseddau casineb, gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a'r gwasanaethau cymorth cenedlaethol ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr—i gyd gyda'r bwriad o sicrhau bod gan bobl yr agweddau cywir tuag at waith. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi bod yn gweithio'n galed iawn, fel rhan o'i gynllun gweithredu economaidd, i sicrhau bod y cwmnïau sy'n ymrwymo i'r cynllun yn gwneud y mathau hynny o gydraddoldebau yn ofynnol. Ac mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, yn weithredol iawn yn y maes gydag awdurdodau lleol ac rydym wedi bod wrthi'n ystyried gyda'n gilydd beth y gallwn ei wneud i newid cyfansoddiad awdurdodau lleol, ar gyfer y cynghorwyr a'r cynrychiolwyr eu hunain, ac yn wir ar gyfer y gweithlu sy'n cynorthwyo'r cynrychiolwyr etholedig.

Arweinydd y tŷ, a wnewch chi adrodd ar y camau a gymerwyd i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dilyn y Diwrnod Cyflog Cyfartal ddydd Sadwrn? Mae adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, sef 8.6 y cant. Mae'n dda gweld ei fod wedi gostwng, ond mae'n dal i ddangos bod gennym ffordd bell i fynd.

Yn wir, ac unwaith eto, fel rhan o'r cynllun gweithredu economaidd yn y sector preifat, ac fel rhan o'r hyn a ofynnwn gan ein prif gwmnïau yng Nghymru, rydym yn gofyn i bobl ymrwymo i ddileu'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwlch cyflog o'r fath, ac unwaith eto, gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus, i gynnwys gwasanaethau cyhoeddus eraill yn hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau helaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd er mwyn cael gwared ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, oherwydd dylem fod yn gyflogwyr enghreifftiol yn y maes hwn; dylem allu arwain y ffordd. Ond wrth gwrs, rydym wedi'i gynnwys yn ein cynllun gweithredu economaidd i sicrhau bod gennym yr ethos cywir yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo, fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, i raglen Gweithio Ymlaen y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y Llywydd yn ateb cwestiynau 1 a 2. Cwestiwn 1, Janet Finch-Saunders.

15:10
Darlledu Trafodion yn y Senedd

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ffigurau'r GIG, mae 534,000 o bobl—

1. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella’r broses o ddarlledu trafodion yn y Senedd? OAQ52922

O ran y trafodion—y trafodion a gofnodir—a allwch wneud datganiad ar sut y maent yn mynd i wella'r broses o gofnodi'r trafodion, yw fy nghwestiwn.

Ie: pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella'r broses o ddarlledu trafodion yn y Senedd? Lywydd.

Mae gennym gynlluniau parhaus i wella gwasanaethau darlledu a systemau clywedol, ac mae hyn wedi arwain yn ddiweddar at y newidiadau yn y seilwaith i wella dibynadwyedd y systemau'n sylweddol. Cyflwynwyd offer clipio Senedd.tv ac mae hyn wedi cael ei groesawu'n gyffredinol. Yn y dyfodol, rŷm ni hefyd yn bwriadu gwneud y trafodion yn fwy hygyrch drwy ddefnyddio technoleg sy'n troi llais yn destun.

Diolch. Fel y soniais, mae 534,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef yn sgil nam ar y clyw. Mae gennyf ddemograffeg mawr iawn o bobl hŷn yn Aberconwy, a chefais wybod yn ddiweddar—cefais gynhadledd ar heneiddio'n dda ddydd Gwener, a daeth nifer o bobl ataf i ddweud eu bod yn ceisio gwrando ar Senedd.tv, ond bod y rheini sydd â phroblemau clyw yn cael rhai problemau. Codais y mater yn ystod y tymor diwethaf, a dywedwyd y byddai rhai gwelliannau'n cael eu gwneud megis is-deitlau, ond o ran y clyw, rwyf wedi cael aelodau o staff yn fy swyddfeydd hyd yn oed yn cwyno nad ydynt yn gallu ei glywed bob tro, hyd yn oed os yw lefel y sain ar ei uchaf ac yn y blaen. Mae Senedd.tv ei hun, y darllediad ei hun—mae nifer wedi dweud wrthyf eu bod yn cael trafferth, felly rwy'n meddwl tybed pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod is-deitlau'n cael eu cynnwys, a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi, yn arbennig felly, i bobl sydd â nam ar eu clyw. 

Diolch i chi am y cwestiwn atodol. Rydych wedi codi dau bwynt yno, un sy'n newydd i mi—un nad yw wedi ei ddwyn i fy sylw o'r blaen—am ansawdd y sain fel arfer ar Senedd.tv, ac os nad yw hwnnw'n glywadwy, yna nid yw hynny'n ddigon da. Felly, byddaf yn sicrhau ein bod yn adolygu hynny ac yn sicrhau bod modd ei glywed, yn bendant.

Yna, ar fater mwy cyffredinol is-deitlo, is-deitlo yn ôl-weithredol ac is-deitlo byw, rydym yn buddsoddi yn y seilwaith sydd gennym ac yn y capasiti fideo sydd gennym er mwyn sicrhau bod is-deitlo'n haws yn y dyfodol. Mae is-deitlo byw, er hynny, yn enwedig is-deitlo'r ddwy iaith a siaredir yn y Cynulliad hwn yn fyw, yn dipyn o her o ran y dechnoleg, ond hefyd o ran cywirdeb yr hyn rydym yn ei ddweud, ac mae angen iddo fod yn gywir er mwyn parchu'r hyn a ddywedir gan yr Aelodau yma. Felly, mae'n amlwg yn rhywbeth a fyddai o fudd i lawer o bobl yn ein cymdeithas, ac yn beth da i'w wneud yn gyffredinol, felly rydym yn ystyried buddsoddi, ac yna datblygu a defnyddio technoleg is-deitlo fel bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad hwylus at yr hyn rydym yn ei ddweud ac yn ei benderfynu yn y lle hwn.

Gwella'r Amgylchedd o amgylch y Cynulliad

2. Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella'r amgylchedd o amgylch y Cynulliad? OAQ52903

Fel y gwyddoch, ychydig iawn o fannau gwyrdd sydd ar ystâd y Cynulliad gan fod llawer o'r tir wedi'i balmantu neu'i darmacio. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau hyn, rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau amgylcheddol i greu cynefinoedd bywyd gwyllt ac i gynyddu nifer y peillwyr yn ardal Bae Caerdydd. Y fenter ddiweddaraf yw'r cychod gwenyn sydd wedi'u gosod ar do’r Pierhead, mae'n debyg.

Diolch i'r Llywydd am yr ymateb hwnnw. Fis diwethaf, mynychais y digwyddiad i lansio adroddiad amgylcheddol blynyddol y Comisiwn ac roedd yn wefr cael mynd ar ben to adeilad y Pierhead i weld y ddau gwch gwenyn y mae'r Comisiwn wedi'u gosod yno mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, gyda'r nod o sicrhau mai Caerdydd fydd y ddinas gyntaf yn y DU sy'n Caru Gwenyn. Felly, mae'n wych ein bod yn cyfrannu at hynny o'r lle hwn.

Ond un o'r pethau a gafodd eu dwyn i fy sylw oedd y diffyg planhigion ar gyfer gwenyn ar ystâd y Cynulliad, ac roeddwn yn meddwl tybed a allai'r Comisiwn ystyried defnyddio rhywfaint o'r tir nad yw'n cael ei ddefnyddio, nad yw'n eiddo i ni o bosibl, ond sy'n amgylchynu'r adeilad hwn mewn gwirionedd—a fyddai modd plannu blodau neu blanhigion ar gyfer gwenyn yno. Cafwyd cynllun ychydig flynyddoedd yn ôl i blannu yn y maes parcio. Roedd yna ran benodol o'r maes parcio, a chymerodd y staff ran yn hynny a gofalu am y blodau yn ystod eu hawr ginio. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd hynny'n rhywbeth y gallem ei ystyried, yn enwedig o ystyried cynnydd gwych o'r fath—y prosiect gwenyn gwych hwn.

15:15

Yn wahanol i chi, nid wyf wedi bod yn ddigon dewr i ymweld â tho'r Pierhead i weld y ddau gwch gwenyn, ond rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cymryd rhan yn y prosiect hwnnw. Fel yr awgrymoch chi, mae nifer o fannau o gwmpas yr ystâd lle mae pobl wedi bod yn plannu planhigion peillio y mae gwenyn yn hoff ohonynt, ac mae hynny'n cynnwys y maes parcio, ac mae'r planhigion a'r blodau yn y maes parcio hwnnw o hyd. Hefyd, o amgylch adeilad y Senedd, fe fyddwch wedi sylwi ar y potiau plannu yn yr ardd y tu allan i gaffi'r Senedd. Cawsom gyfarfod yn ddiweddar—ein swyddogion—gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i ddenu mwy o fywyd gwyllt, ac adar yn arbennig, i'r ystâd drwy gyfrwng blychau nythu a phwll bach, o bosibl. Peidiwch â chyffroi am y posibilrwydd o bwll bach ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych ar nifer o'r pethau hyn—.

Na chewch, ni chewch bwll nofio. [Chwerthin.] Ac fel rydych wedi'i ddweud, mae'r rhain yn gyfraniadau pwysig y gallwn eu gwneud ar raddfa fach ym Mae Caerdydd. Ond yn amlwg, mae angen i ni chwarae ein rhan fel ein bod yn defnyddio ein hystâd i gefnogi natur a bywyd gwyllt yn well nag y gwnaeth yn y gorffennol yn ôl pob tebyg.

A bydd cwestiwn 3 yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Joyce Watson. Mae cwestiwn 3 gan Helen Mary Jones.

Arferion Gweithio Hyblyg

3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am arferion gweithio hyblyg sydd ar gael i staff y Comisiwn? OAQ52925

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'r Comisiwn yn cynnig ystod eang o bolisïau gweithio hyblyg, ac mae hynny'n golygu bod ein staff, ar bob lefel, yn defnyddio trefniadau gweithio hyblyg ffurfiol ac anffurfiol. Ac mae'r polisïau hyn wedi cyfrannu at sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei gydnabod fel un o'r 30 cyflogwr gorau ar gyfer teuluoedd sy'n gweithio yn y DU.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Joyce Watson, ac rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd yn falch iawn o'r gydnabyddiaeth honno ac y byddem eisiau sicrhau bod enw da'r sefydliad hwn, fel un o'r cyflogwyr gorau sy'n ystyriol o deuluoedd, yn parhau.

Un o'r canlyniadau, fel y byddwch yn gwybod, yn hanesyddol, yw bod menywod sy'n manteisio ar arferion gweithio hyblyg wedi wynebu problemau o ran dyrchafiad. Buaswn yn synnu'n fawr pe bai hynny'n wir yma. Fodd bynnag, mae wedi bod yn wir mewn gwledydd Llychlynnaidd, er enghraifft, lle mae cyfleoedd cyfartal yn cael eu cynnig a lle mae dynion a menywod yn dechrau manteisio ar arferion gweithio hyblyg, gall fod yn wir fod gwahaniaethu'n digwydd yn erbyn dynion oherwydd, rywsut, mae'n fwy derbyniol yn ddiwylliannol i fenyw weithio llai o oriau oherwydd bod angen iddi dreulio amser gyda'i phlant nag yw hi i ddyn wneud penderfyniad tebyg. 

Nawr, nid wyf yn awgrymu am eiliad y byddai hynny'n digwydd yma, ond a gaf fi ofyn a wnaiff y Comisiwn ystyried edrych ar y cydbwysedd rhwng dynion a menywod o ran pwy sy'n manteisio ar yr arferion gweithio hyblyg hyn? A buaswn yn tybio ein bod yn gwneud yn well na llawer o gyflogwyr yn ôl pob tebyg a bod gennym fwy o aelodau gwrywaidd o staff yn manteisio ar y cyfleoedd hynny mae'n debyg. Ond a allech chi hefyd edrych i weld ar ba lefelau y mae'r bobl hynny ac a oes unrhyw effaith ar ddilyniant gyrfa pobl, boed yn ddynion neu fenywod, dros amser, os ydynt yn dewis manteisio ar arferion gweithio hyblyg? Nid wyf yn awgrymu bod hyn yn wir, ond ar ôl gweld tystiolaeth o fannau eraill, rwy'n credu y byddem eisiau sicrhau ein bod yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r hyn sydd, ynddo'i hun, yn arfer da iawn.

Rydych yn hollol gywir, ni fyddem yn dymuno creu sefyllfa a fyddai'n arwain at ganlyniadau anfwriadol, naill ai o ran gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa neu o ran rhywedd y rheini sy'n teimlo eu bod yn gyfforddus yn manteisio ar y cyfle i weithio'n hyblyg.

Nawr, mae gennym rai ffigurau sy'n dweud wrthym—. Mae ein hadroddiad blynyddol diweddaraf ar amrywiaeth a chynhwysiant yn dangos bod gan 20 y cant o staff drefniadau ffurfiol. A threfniadau ffurfiol i weithio'n rhan-amser yw'r rheini. Ac o'r rheini, mae'n 30 y cant o fenywod a 10 y cant o ddynion, ar draws pob gradd, beth bynnag yw'r rheini. Mae gan 14 y cant o'n tair gradd uchaf—sef band gweithredol 2 ac 1 a'r staff uwch—gytundebau ffurfiol i weithio'n rhan-amser hefyd. Mae wedi'i wasgaru ar draws pob gradd arall yn ogystal.

Yr hyn nad oes gennym, a chredaf fod angen i ni syrthio ar ein bai yn y fan hon, yw'r wybodaeth ar y cytundebau anffurfiol, oherwydd mae nifer o gytundebau anffurfiol y mae pobl yn eu derbyn drwy eu rheolwyr llinell, ac nid ydym yn cadw'r wybodaeth ar hynny, a fyddai'n ychwanegu at y darlun rwyf newydd ei ddisgrifio. Felly, rwy'n ddigon hapus i fynd â hyn yn ôl at Comisiwn ar eich rhan a gweld a allwn ymgorffori'r data sydd ei angen arnoch mewn ffordd fwy cydlynol a chynhwysfawr. Nid oes unrhyw awgrym o gwbl—i unrhyw un sy'n derbyn gweithio hyblyg, ym mha fodd bynnag, boed yn weithio rhan-amser, gweithio gartref neu weithio oriau cywasgedig—fod hynny'n effeithio ar eu statws o fewn y sefydliad mewn gwirionedd. Ond unwaith eto, heb gasglu'r holl wybodaeth honno, ni allwn fod 100 y cant yn sicr, a chredaf mai dyna lle yr hoffem fod. Diolch i chi am eich cwestiwn.

15:20
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol, ond nid oes yr un wedi dod i law y prynhawn yma.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Felly, eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r cyntaf y prynhawn yma yw Vikki Howells.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Eleni, cynhelir y Diwrnod Mentrau Cymdeithasol ar ddydd Iau 15 Tachwedd. Mae'r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o fentrau cymdeithasol, y busnesau sydd wedi ymrwymo i genhadaeth gymdeithasol neu amgylcheddol. Mae hefyd yn rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd. Mae'r adroddiad ar fusnesau cymdeithasol yng Nghymru, ar gyflwr y sector, yn rhoi syniad o raddfa a chwmpas y sector yng Nghymru. Cafodd yr adroddiad ei gynhyrchu gan Ganolfan Gydweithredol Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe ymddangosodd yn 2017. Mae'n rhoi darlun o sector bywiog sy'n cyfrannu tua £2.37 biliwn i'r economi genedlaethol. Hefyd, mae'n sector sy'n cyflogi tua 48,000 o bobl.

Nododd fod busnesau cymdeithasol i'w gweld yn bennaf mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol. Yn yr ardaloedd hyn, maent yn chwarae rôl allweddol, yn cefnogi cymunedau a chynnig swyddi a hyfforddiant. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol y byddai'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn cael trafferth i'w cynnal fel arall o bosibl. Mae'r Diwrnod Mentrau Cymdeithasol yn gyfle i bawb ohonom ystyried yr effaith gadarnhaol y mae mentrau cymdeithasol yn ei chael yn ein cymunedau a'n heconomi. Rwy'n falch o weithio gyda Chanolfan Gydweithredol Cymru i hyrwyddo Diwrnod Mentrau Cymdeithasol 2018 yma yng Nghymru, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r sefydliadau ardderchog hyn a'r gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau bod gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol yn ganolog yn yr economi. Diolch.

Y penwythnos diwethaf, cawsom gyfle i ddiolch am aberth ein pobl mewn rhyfeloedd, ac i gydnabod y bobl sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog heddiw ac yn y dyfodol. Heddiw, hoffwn ddathlu bywyd un o drigolion dewraf Shotton, Harry Weale VC. Dim ond 16 oed oedd Harry pan aeth i amddiffyn ei wlad ac ymladd drosti. Ni allaf ddychmygu sut roedd Harry'n teimlo, wrth adael ei gartref i fynd i ymladd am y tro cyntaf mewn gwlad dramor. Mae ei ddewrder i'w weld yn y ffaith ei fod wedi ymuno â'n lluoedd arfog, wedi ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac nid yw'n syndod ei fod wedi dychwelyd adref a chael croeso teilwng i arwr.

Ddirprwy Lywydd, dylai pob un ohonom gofio, heb bobl fel Harry, na fyddai'r cenedlaethau a ddilynodd wedi cael y dewisiadau, y cyfleoedd a'r rhyddid sydd gennym ni heddiw. Rwy'n ddiolchgar am y breintiau hynny, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn ddiolchgar yma heddiw hefyd. Felly, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio. Un peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw:

Pan elo’r haul i lawr ac ar wawr y bore / Ni â’u cofiwn hwy.'

Cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad

Nesaf, symudwn at y cynnig i ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd.

Cynnig NDM6869 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. A oes unrhyw un yn dymuno siarad? Nac oes. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Unwaith eto, cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf eto ar Gadeirydd y Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NDM6868 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Nid oes neb eisiau siarad. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15:25

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20

Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn. Suzy.

Cynnig NDM6861 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20, fel y pennir yn Nhabl 1 o 'Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2019-20', a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2018 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20 ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol.

Fel y byddwch wedi'i weld yn y gyllideb ddrafft, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm o £57.023 miliwn o gyllideb, sy'n cynnwys £37.076 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £16.197 miliwn ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau a £3.75 miliwn ar gyfer eitemau nad ydynt yn arian parod ac nad oes gennym at ei gilydd unrhyw reolaeth drostynt.

Mae'r cynnydd y gofynnwyd amdano yn y gyllideb o fewn y swm a argymhellwyd gan y Pwyllgor Cyllid y llynedd ac yn unol â'r cynnydd i floc Cymru. Yng nghyd-destun gwaith parhaus ar Brexit a diwygio'r Cynulliad, mae hyn wedi golygu proses lem gyda thystiolaeth well ar gyfer blaenoriaethu prosiectau. Gallai peth gweithgaredd arfaethedig ein harwain i diriogaeth newydd, wrth gwrs, a chydag ail gam diwygio'r Cynulliad yn galw am gynyddu maint y Cynulliad, roeddem yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am adael y drws yn agored i gyllideb atodol o leiaf, pe na baem yn gallu diwallu'r galwadau o fewn y gyllideb gyfredol.

Mae'r Comisiwn yn bodoli i gefnogi'r Cynulliad, a'i Aelodau wrth gwrs, ac mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol. O ystyried nad oes llawer ohonom, a'r materion cymhleth rydym yn ymdrin â hwy yn awr, sef yn benodol, diwygio'r Cynulliad, effaith ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, rydym angen cyllideb sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi'r Aelodau drwy'r cyfnod hwn.

Mae ein strategaeth yn amlinellu'r gyllideb ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad hwn a blwyddyn gyntaf y Cynulliad nesaf. Un o'r nodau strategol yw ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo'r lle hwn, gan helpu ein hetholwyr i ddeall beth a wnawn a pham ei bod yn bwysig iddynt ddeall yr hyn a wnawn a'u hannog i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Ac rydym ar fin cynnal ein hetholiad cyntaf i'r Senedd Ieuenctid. Mae'r bleidlais yn agored, a bydd y canlyniadau yn hysbys ym mis Rhagfyr ar gyfer y bennod newydd a chyffrous hon yn ein hanes. A chredaf ei fod yn gwrth-ddweud y canfyddiad nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth pan glywch fod 450 o ymgeiswyr ledled Cymru yn sefyll yn yr etholiad a bod 23,000 o bobl ifanc wedi cofrestru i bleidleisio yn erbyn ein targed o 10,000, ac mae hynny'n fwy nag y mae rhai o Aelodau Cynulliad yr etholaethau yn ei gael. [Chwerthin.] O ddifrif, mae'n gam anferthol ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru.

Hefyd, mae gan y Cynulliad bwerau deddfwriaethol newydd, ac mae'n rhaid iddo eu defnyddio yn y ffordd orau ar gyfer darparu democratiaeth gref, gynaliadwy er budd pobl Cymru. Credwn, felly, fod hon yn gyllideb deg sy'n herio'r Comisiwn i ddefnyddio adnoddau'n ddoeth—dyna nod strategol arall—i raddau hyd yn oed yn fwy. Felly, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu ar y gyllideb hon a'i ymrwymiad parhaus i wella tryloywder prosesau ariannu'r Comisiwn, gan ein gwthio i wneud y gwaith a wnawn yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Rydym yn nodi bod y pwyllgor yn fodlon ar gynigion y gyllideb ddrafft fel y maent ac yn croesawu'r sylwadau bod newidiadau a gyflwynwyd yn nogfen y gyllideb ar gyfer 2019-20 yn cyfrannu at dryloywder yn ein proses gyllidebu. Ein nod yw parhau i arddangos y natur agored rydym wedi'i harddangos hyd yn hyn ac rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda'r pwyllgor i sicrhau bod cyflwyniadau'r gyllideb, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn darparu gwybodaeth y byddai'r pwyllgor, ar ran y Cynulliad cyfan, yn dymuno ei gweld.

Gwnaeth y pwyllgor wyth o argymhellion, ac rydym wedi rhoi sylw i bob un yn ein hymateb. Roedd tri o'r argymhellion yn gofyn am ragor o wybodaeth ac eglurder ar feysydd penodol o'r gyllideb, gan gynnwys cost y Senedd Ieuenctid, ac yn sicr, maes o law, bydd gennym ddarlun llawer cliriach o'r costau cylchol, a bydd y rheini'n cael eu hamsugno i gynlluniau gwasanaethau yn y dyfodol yn hytrach na sefyll ar eu pen eu hunain yn y gyllideb fel y maent ar hyn o bryd.

Roedd dau o'r argymhellion yn ymwneud â staffio: roedd un yn ymwneud â chanfyddiadau'r adolygiad o gapasiti ac a fyddai cynllun ymadael gwirfoddol ar gyfer staff y Comisiwn yn sicrhau bod ein hadnoddau staff yn cael eu had-drefnu'n effeithiol o fewn y cap ar nifer y staff yn y dyfodol; ac roedd y llall yn edrych ar y gwaith parhaus a wneir mewn perthynas â rheoli salwch a throsiant staff. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac fel erioed, mae angen i'r Comisiwn sicrhau bod ganddo'r sgiliau cywir ar waith i barhau i gyflawni pob un o'n blaenoriaethau a'n gwasanaethau cymorth.

Roedd argymhelliad arall yn annog y Comisiwn i benderfynu ar ffordd gyson o gyflwyno'r niferoedd a'r cynnydd yn y gyllideb ar gyfer y dyfodol, ac mae hon yn egwyddor rydym yn ei rhannu fel Comisiwn mewn gwirionedd. Mae'r gyllideb wedi'i chyflwyno'n wahanol eleni, gan adlewyrchu pethau y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gofyn i ni eu gwneud yn y gorffennol. Felly, nid ydym eisiau cyflwyniad sy'n newid drwy'r amser ychwaith, oherwydd mae hynny'n gwneud y broses o wneud, ac egluro, cymariaethau o flwyddyn i flwyddyn yn anodd.

Roedd y ddau argymhelliad olaf yn ymwneud â diwygio'r Cynulliad, ac effaith ariannol y ddeddfwriaeth arfaethedig—ein deddfwriaeth—yn benodol, ac asesiad effaith ariannol cysylltiedig o ddatblygiad y gwaith hwn. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid am gael gweld ein ffigurau alldro ar y gwaith hwn, a sut y gallai fod yn wahanol i ddarpariaeth y gyllideb wirioneddol, ac wrth gwrs, byddwn yn hapus i ddarparu'r wybodaeth honno pan fydd ar gael. Fel AC fy hun, rwy'n sicr yn croesawu asesiadau effaith ariannol manwl gyda llawer o dystiolaeth ac wedi'u hegluro'n dda.

Wrth gwrs, y newid mawr yn y cyflwyniad—wel, nid yn unig y cyflwyniad—yw'r defnydd o ffigurau dyfarniad y bwrdd taliadau. A lle nad yw swm llawn y dyfarniad wedi cael ei wario, ni chaiff ei wario ar flaenoriaethau eraill y Cynulliad; bydd yn aros yn y grant bloc. Yr ochr arall i'r geiniog, a rhywbeth y daeth y Pwyllgor Cyllid ei hun i'r casgliad hwn yn ei gylch mewn gwirionedd, yw na ddylid talu unrhyw gostau annisgwyl sy'n codi o'r dyfarniad, os oes rhai, o gyllideb weithredol y Comisiwn. Felly, os oes costau annisgwyl yn codi, ac os bydd gwariant y dyfarniad yn fwy na'r gyllideb a ddyranwyd, os na allwn reoli hynny o fewn cyllideb weithredol—os yw'n swm bach iawn—byddwn yn gofyn am gyllideb atodol.

Fel erioed, rydym yn agored i awgrymiadau ynglŷn â sut i wella ein proses gyllidebu, ac yn barod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan Aelodau. Yn y cyfamser, rwy'n hapus i gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn, ac yn ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored a thryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.

15:30

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma y prynhawn yma. Fel aelod newydd, a Chadeirydd newydd, y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, dyma'r tro cyntaf i mi gyfrannu at y gwaith o graffu cyllideb Comisiwn y Cynulliad yn y ffordd yma, ond rwy'n deall bod y Comisiwn wedi bod yn destun gwaith craffu trylwyr gan y Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd diwethaf. Ac mi oedd Aelodau yn awyddus i sicrhau bod ein hadroddiad ni yn adlewyrchu'r ffaith ein bod ni'n teimlo bod newid diwylliant yn digwydd yn y Comisiwn, gan sicrhau bod cyllidebu yn digwydd mewn ffordd fwy trylwyr, ac rydym ni am ganmol y Comisiwn a'r prif weithredwr yn hynny o beth. A gaf i droi, felly, at rai o'n hargymhellion ni?

Un o'r meysydd sydd wedi denu beirniadaeth mewn blynyddoedd blaenorol yw'r dull o ariannu prosiectau, fel rydym newydd glywed mewn gwirionedd, drwy ddefnyddio tanwariant o'r dyfarniad i ychwanegu at gyllideb y Comisiwn. Eleni, mae'r Comisiwn wedi newid y ffordd y mae'n cyllidebu, gyda rhaniad clir rhwng cyllideb y Comisiwn a'r dyfarniad. Felly, yn hytrach na defnyddio'r tanwariant o'r dyfarniad i ariannu prosiectau, cynhwyswyd cronfa brosiectau, a llinell benodol yn y gyllideb ar gyfer dyfarniad y bwrdd taliadau.

Yng ngoleuni'r newidiadau diweddar i'r dyfarniad, byddai'r Comisiwn wedi gweld gostyngiad tebygol ym maint y tanwariant hwn. Fodd bynnag, rydym yn falch o weld y newidiadau hyn. Mae'r newidiadau wedi arwain at rai problemau mewn perthynas â chyflwyno'r gyllideb hon, yn y ffordd y manylir ar y gwariant, ac mae ein hargymhelliad cyntaf yn gofyn am gysondeb yn y modd y cyflwynir y gyllideb, ac wrth gwrs mae'r Comisiwn wedi derbyn yr argymhelliad hwn.

Gwnaeth y pwyllgor argymhellion mewn perthynas â ffrydiau gwaith penodol, sef y prosiectau sy'n ymwneud â gwybodaeth i'r cyhoedd ac ymgysylltiad, a chostau'r Senedd Ieuenctid. Roedd y pwyllgor o'r farn fod diffyg eglurder yn y meysydd hyn. Rydym wedi gofyn am i'r gyllideb derfynol gael ei diweddaru mewn perthynas â gwybodaeth i'r cyhoedd ac ymgysylltiad, ac er bod rhagor o wybodaeth wedi'i darparu i'r pwyllgor, rwy'n siomedig nad yw'r argymhelliad i ddiweddaru dogfennau'r gyllideb wedi'i weithredu. Mae ymateb y Comisiwn yn darparu costau ychwanegol ar gyfer y Senedd Ieuenctid; fodd bynnag, nid yw'n glir o hyd sut y sefydlwyd y costau hyn. Nodaf y bydd y costau'n cael eu diweddaru ar ôl cyfarfod preswyl cyntaf y Senedd Ieuenctid, ond rydym yn parhau'n bryderus nad yw'n ymddangos bod yna sylfaen dystiolaeth arwyddocaol i'r costau a nodwyd.

Mae'r gyllideb yn cyfeirio at gynllun ymadael gwirfoddol posibl yn ystod chwarter olaf 2018-19. Argymhellodd y pwyllgor y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i benderfyniadau staffio, a dylai unrhyw gynllun ymadael gwirfoddol gysylltu'n glir â'r adolygiad o gapasiti. Nid yw'r ymateb yn darparu cysylltiadau clir o hyd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod efallai y bydd hyn yn ymwneud â gwybodaeth sensitif mewn perthynas â staffio. Ac ar staffio, wrth gwrs, rydym wedi gofyn o'r blaen am sicrhau nad yw'r Comisiwn yn cynyddu nifer staff y Cynulliad, ac rydym yn falch mai 491 yw'r nifer o hyd. Rydym yn cydnabod bod yna heriau wedi bod, ac yn mynd i barhau i fod, ond rydym yn croesawu ymrwymiad y Comisiwn i beidio ag ailystyried y cap o 491 ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Roedd argymhelliad 4 ein hadroddiad yn cyfeirio at gostau'r meddalwedd Legislative Workbench. Ac rwy'n falch fod y naratif ar hyn wedi'i ddiweddaru i egluro'r adnoddau yr ymrwymwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru a chan y Comisiwn. Mae hwn yn amlwg yn faes hynod bwysig i ni fel deddfwrfa, ac mae eglurder yn hynny o beth, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr iawn.

Nodwn y posibiliadau ar gyfer cyllidebau atodol posibl yn ystod y flwyddyn, ac rydym yn cydnabod bod y rhain yn ymwneud â newidiadau cynllun pensiwn, a newidiadau i reolau cyfrifyddu yn ogystal. Croesawn yr hysbysiad cynnar ynglŷn â'r posibilrwydd y caiff y cyllidebau atodol hynny eu cyflwyno.

Yn olaf, mae'r pwyllgor wedi argymell o'r blaen na ddylai cyllideb y Comisiwn fod yn fwy na'r cynnydd yng ngrant bloc Cymru, ac rydym wedi canmol y Comisiwn am gyllidebu o fewn 1.6 y cant yn 2019-20. Fodd bynnag, mae ymateb y pwyllgor yn datgan y byddant yn sicrhau bod cyllideb weithredol y Comisiwn yn cynyddu yn unol â grant bloc Cymru. Dylwn fod wedi dweud 'ymateb y Comisiwn'. Ac fel pwyllgor, rydym ychydig yn bryderus fod rhagdybiaeth yno y dylai'r gyllideb gynyddu'n awtomatig. Wrth gwrs, dylai'r gyllideb aros o fewn y grant bloc, dylai, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y dylai'r Comisiwn ragdybied yn awtomatig y bydd eu cyllideb yn cynyddu ar yr un lefel. Felly, rwy'n mawr obeithio bod y newid diwylliant y cyfeiriais ato ar ddechrau fy nghyfraniad yn parhau, ac y gall ein hargymhellion fel Pwyllgor Cyllid gyfrannu'n gadarnhaol at barhau i gryfhau proses gyllidebu'r Comisiwn.

15:35

Rwy'n croesawu cynigion y gyllideb. Bydd, fe fydd yn anodd i'r Comisiwn weithio o fewn y setliad. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd ganddynt rai penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Croeso i fyd gweddill y sector cyhoeddus. Ni all fod yn rhydd rhag y problemau a'r anawsterau a achoswyd gan bolisïau cyni y mae gweddill y sector cyhoeddus yn eu hwynebu. Dywedais y llynedd na allai cyllideb y Comisiwn fod yn rhydd rhag y toriadau mewn termau real yn y gwariant sy'n wynebu llawer o gyrff sector cyhoeddus y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac y mae gan bawb ohonom feddwl mawr ohonynt, ac y mae pawb ohonom eu hangen.

Rwy'n falch iawn o weld y tanwariant diwedd blwyddyn yn nyfarniad y bwrdd taliadau gan fod yna elfen anochel ynglŷn â'r tanwariant hwnnw, yn yr ystyr fod y gyllideb yn seiliedig ar bobl yn cael eu talu ar bwynt uchaf y radd ar gyfer pob aelod o staff, ac roedd unrhyw un a oedd yn ymuno yn dechrau ar y pwynt isaf. Felly, roedd elfen anochel i hynny, nad oedd yn dda o ran cyllidebu ar gyfer y Cynulliad ac nad oedd yn ein rhoi yn y golau gorau.

Rwy'n falch iawn o weld bod y gyllideb wedi'i chynhyrchu i adlewyrchu'r cynnydd yng ngrant bloc Cymru. Nid oedd Llyr Gruffydd yno y llynedd, ond un o'r pethau a ddywedasom oedd nad oeddem eisiau iddo fod yn fwy na hwnnw. Credaf mai'r disgwyl oedd bod 'peidio â bod yn fwy na hwnnw' yn golygu bod yr un faint ag ef. Credaf mai dyna oedd barn y Comisiwn hefyd, mai dyna oedd ein barn—y byddem yn disgwyl iddo symud i'r un cyfeiriad. Ond mae pwysau ar gyllideb y Comisiwn. Rydym yn parhau i ofyn iddynt wneud mwy a mwy, ond nid ydym yn rhoi arian iddynt amdano. Ond rwy'n siŵr nad oes yna arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru na fyddai'n dweud yr un peth yn union. Felly, mae'n anodd, ac rwy'n llongyfarch staff y Comisiwn, y prif weithredwr a'r Comisiynwyr, am gyflwyno cyllideb fel hon. Mae'n mynd i fod yn anodd, mae'n mynd i alw am reolaeth, ond nid wyf yn credu y gallwn drin ein hunain yn wahanol i'r ffordd rydym yn trin gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ac felly, hoffwn annog Aelodau'r Cynulliad i gefnogi'r gyllideb hon heddiw.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Jest i ddechrau, rwy'n falch i glywed, Llyr, eich bod chi'n gwerthfawrogi y gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud i foddhau'r pwyllgor ynglŷn â'u pryderon. 

Rwyf am droi'n syth at y Senedd Ieuenctid. Wrth gwrs, dyma'r tro cyntaf inni ei wneud, a dyma'r tro cyntaf i unrhyw un mewn Cynulliad o'r maint hwn wneud yn union yr hyn rydym ni'n ei wneud hefyd. Os cofiwch, mae'r ffordd rydym yn datblygu hyn yn wahanol iawn i enghreifftiau sydd eisoes yn bodoli gyda Senedd y DU, a hyd yn oed yr hyn y mae'r Alban yn ceisio ei wneud. Felly, gobeithio y byddwch yn amyneddgar gyda ni o ran rhoi ffigurau penodol i chi. Credaf y gallai fod yn anffodus disgwyl inni roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi wythnos ar ôl wythnos o ran sut rydym yn gwario ar hyn. Dowch yn ôl a chraffu arnom yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y flwyddyn nesaf, pan fydd gennym ffigurau go iawn i'w rhoi i chi. Ac wrth gwrs, nid yw'r ffigurau wedi ymddangos o unman. Cânt eu cymryd o enghreifftiau, wel, amcangyfrifon o faint o waith y bydd angen i aelodau unigol o staff ei wneud er mwyn gweithio yn yr etholaethau amrywiol, a chyda'r cyrff nad ydynt yn etholaethau—

Diolch, Suzy. Ymwelodd David Rowlands a Mohammad Asghar a minnau ag ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni mewn perthynas â'r Senedd Ieuenctid i siarad â rhai o'r ymgeiswyr newydd, a chreodd eu hagweddau argraff fawr arnaf. Felly, rwy'n credu ein bod yn deall yn iawn cymaint o bwysau sydd ar y Comisiwn wrth iddo geisio gwneud rhywbeth hollol newydd. Felly, nid oedd unrhyw awgrym yn ein hadroddiad na ddylai'r Comisiwn fynd ar drywydd meysydd arloesol o'r fath. Rwy'n deall, fel y dywedodd Mike Hedges, fod arian yn dynn, ond mae'n werth mynd ar drywydd rhywbeth o'r fath, felly rydym yn deall yn iawn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â phroblemau gyda chyllidebu.

15:40

Wel, rwyf wrth fy modd yn clywed hynny, Nick, oherwydd, wrth gwrs, dyma un o'r prif gamau ymlaen i'r ddemocratiaeth hon y mae'r lle hwn wedi pleidleisio drosto mewn gwirionedd. I feddwl ein bod yn ei gyflwyno yn ei flwyddyn gyntaf am £100,000 gyda chostau rhedeg ar ôl hynny o tua £50,000, rwy'n meddwl, ac yn fy marn i, mae hynny'n swnio'n fwy na gwerth am arian. Yn amlwg, mae pwysau arnom yn awr ar ôl cyllidebu ar sail y ffigurau hynny i wneud yn siŵr ein bod yn cadw'n weddol agos atynt beth bynnag, ac edrychwn ymlaen—os mai dyna'r ymadrodd cywir—i ateb cwestiynau ar hynny y flwyddyn nesaf.

O ran staffio a'r cynllun ymadael gwirfoddol, mae unrhyw benderfyniad yn gysylltiedig â'r adolygiad o gapasiti. Dyna un o'r pethau sy'n cael eu hystyried wrth flaenoriaethu unrhyw beth fwy neu lai yn awr, oherwydd rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn derbyn fod angen setiau sgiliau sylweddol ar staff y Comisiwn yn awr i'n helpu ni fel Aelodau mewn sefydliad a fydd yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd yn 1999. Buaswn yn dweud y gallech fod wedi dadlau bod angen staff ychwanegol er mwyn gwneud hyn, ond ar ôl gwneud yr ymrwymiad i gadw at 491, mae'r modd y defnyddir y 491 yn her sylweddol mewn gwirionedd, ac rwy'n gobeithio cael cefnogaeth gan y Cynulliad i'r ffordd y gwnawn hynny.

Wrth lynu at grant bloc Cymru, rwy'n credu mai ein hymrwymiad oedd i beidio â gwario mwy na hynny; nid gwario'r un faint o reidrwydd. Ond credaf ein bod wedi gwneud yn eithaf da ar hyn, o gofio pa mor anodd yw hyn, fel y mae rhai Aelodau wedi dweud yma, gan eich cynnwys chi, Mike, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn arfer yr un lefel o graffu a'r un dadleuon ynglŷn â gwneud llawer gydag ychydig yn achos y 99.7 y cant arall o'r gyllideb a fydd yn effeithio ar y lle hwn, ac rwy'n siŵr y gwnewch.

Y peth arall y gallwn fod wedi sôn amdano o bosibl yn fy sylwadau agoriadol, ac rwyf am ei grybwyll yma gan i chi gyfeirio ato, Mike, yw nad ydym mwyach yn cyllidebu ar gyfer 100 y cant o ffigur dyfarniad y bwrdd taliadau am y rhesymau a gyflwynwyd yn gadarn iawn gan y Pwyllgor Cyllid yn y gorffennol. Felly, diolch i chi am gydnabod hynny, ac mae ffigur tebyg wedi'i gynnwys ar gyfer trosiant staff o fewn y Comisiwn yn ogystal, er mwyn sicrhau nad Aelodau'r Cynulliad a'u staff yn unig sy'n cael eu trin yn y ffordd honno. Rydym—. Mae staff y Comisiwn yn cael eu trin yn yr un modd.

Felly, rwy'n falch eich bod wedi cynnig y gyllideb hon i'w chymeradwyo. Yn amlwg rwy'n gwneud hynny hefyd, a buaswn yn ddiolchgar am gefnogaeth pawb ohonoch yn nes ymlaen yn ystod y cyfnod pleidleisio. Diolch i chi.

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei Ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gynnig yr adroddiad. Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM6864 Llyr Gruffydd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser eto cael cyfrannu i'r ddadl yma fan hyn prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac i edrych ar ein hymchwiliad ni i'r paratoadau, wrth gwrs, ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Er nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, rydw i wedi edrych ar y dystiolaeth â chryn ddiddordeb ac mi hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yng nghwrs yr ymchwiliad. Mi hoffwn i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am ei ymateb ef i'n hadroddiad ni, yn enwedig y ffaith bod y Llywodraeth, wrth gwrs, yn derbyn pob un o'r argymhellion, sydd wastad yn help i gael canmoliaeth oddi wrth unrhyw bwyllgor yn y lle yma, rydw i'n siŵr.

Mi gawsom ni hefyd, wrth gwrs, ymateb ysgrifenedig i'n hadroddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Fodd bynnag, fe gafodd y pwyllgor ei siomi am nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ymrwymo'n llawn i waith y pwyllgor ar y mater pwysig hwn. Os yw Brexit am fod yn llwyddiant i Gymru, yna bydd yn rhaid wrth ymrwymiad ar lefel y Deyrnas Unedig ac mae hyn yn cynnwys cael y cyfle, wrth gwrs, i allu gwneud gwaith craffu, rhywbeth na chawsom ni i'r graddau byddai aelodau'r pwyllgor wedi ei ddymuno yn yr achos yma. 

Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae Cymru yn cael oddeutu £680 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd bob blwyddyn, ac o'i gymharu fesul pen mae hyn yn fwy o bell ffordd na'r hyn a roddir i'r gwledydd datganoledig eraill ac i ranbarthau Lloegr hefyd. Daw'r rhan fwyaf o'r arian hwn, wrth gwrs, drwy gronfeydd strwythurol a thrwy'r polisi amaethyddol cyffredin. Mae'r pwyllgor yn credu y bydd sicrhau cyllid ôl-Brexit yn hanfodol i Gymru a chafwyd bod cefnogaeth gref i safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru fod geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu disodli gan gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig. Ac er bod ymgynghoriad i fod i ddechrau ar y gronfa cyn diwedd y flwyddyn, ychydig iawn o fanylion a gafwyd ynglŷn â sut y bydd hwnnw yn gweithio. Bu ffynhonnell y cyllid sy'n dod i Gymru yn newid yn sgil Brexit, ond, wrth gwrs, rŷm ni ddim wedi gweld fawr o newid yn y realiti sy'n eistedd tu ôl i'r asesiadau a seiliwyd ar anghenion i bennu'r arian hwnnw. Yn ôl ystod eang o dystiolaeth a setiau data economaidd, mae rhesymau clir dros barhau i fuddsoddi yng Nghymru, gan gynnwys GVA y pen yn y rhannau tlotaf o Gymru sy'n hanner cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig. Bydd yr anghenion hynny, wrth gwrs, ddim wedi diflannu, pa bynnag ddull y bydd yr ariannu yn ei gymryd, felly, yn ein hadroddiad ni, rŷm ni'n tynnu sylw at sut y gellid rhannu'r gronfa rhwng y pedair gwlad, a chyflwynir dadl gref y dylai Cymru gael o leiaf yr un lefel o gyllid ar ôl Brexit. Ond yr un mor bwysig, wrth gwrs, yw i'r arian barhau i gael ei reoli a'i weinyddu yma yng Nghymru.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—WEFO, wrth gwrs—wedi rheoli, gweinyddu a gwario cyllid o'r Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol. Wrth wneud hynny, maen nhw wedi meithrin arbenigedd helaeth ac wedi sefydlu partneriaethau, ac mae ganddyn nhw y strwythurau angenrheidiol i gyflwyno rhaglenni llwyddiannus. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud ymrwymiad y bydd pob penderfyniad a wneir yng Nghymru yn aros yng Nghymru, ac rŷm ni'n disgwyl, wrth gwrs, i'r ymrwymiad hwnnw gael ei anrhydeddu. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu uned ganolog a chanddi'r arbenigedd angenrheidiol i gyflwyno rhaglen ariannu gydlynol ar ôl Brexit, ac rwy'n falch o ddweud bod y Llywodraeth wedi cadarnhau'r bwriad i wneud hynny, yn ogystal â'i threfniadau i gydlynu'r gwaith hwn ar draws y Llywodraeth.

Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai cyfran Cymru o gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig ddarparu cyllid amlflwydd, sicrhau gweithio mewn partneriaeth, a hefyd, wrth gwrs, parhau i brif-ffrydio cydraddoldeb yng Nghymru, a dylai Llywodraeth Cymru barhau i ganolbwyntio ar hybu cydraddoldeb a mynd i'r afael â thlodi ac â hawliau dynol wrth weinyddu'r gronfa. Yn ogystal, mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r newid i'r gronfa newydd gael ei ddefnyddio fel cyfle i symleiddio'r trefniadau gweinyddol, a defnyddio'r dulliau fel y rhai a gynigir gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer sefydliadau partner dibynadwy.

Fe ddaw brif gyfran arall o gyllid yr Undeb Ewropeaidd drwy’r polisi amaethyddol cyffredin, wrth gwrs. Mae'r CAP yn hanfodol i ffermio yng Nghymru. Yn 2016-17, fe wnaeth dros hanner y ffermydd yng Nghrymu golled neu roedd angen cymhorthdal arnyn nhw i osgoi gwneud colled. Mae cyfleodd clir i wella ar y CAP lle mae Cymru yn y cwestiwn, a chyfleoedd i sicrhau bod yr hyn sy'n dod yn lle cyllid CAP yn alinio’n well ag anghenion penodol Cymru. Ond mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod y penderfyniadau cyllido hyn yn parchu'r setliad datganoli, a'u bod yn rhoi i Lywodraeth Cymru yr hyblygrwydd mwyaf posib i allu gwneud penderfyniadau sy'n cefnogi anghenion penodol y sector rheoli tir yma yng Nghymru drwy bolisïau a wnaed yng Nghymru. I'r perwyl hwn, mae'n bleser gen i nodi bod ymateb y Llywodraeth yn cadarnhau bod cytundebau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu, ac rwy'n dyfynnu, na 

'fydd Cymru’n cael ei chyfyngu wrth lunio cynlluniau newydd a bydd yn gallu gweithredu yn ôl yr hyn sydd orau i Gymru.'

Ar hyn o bryd, mae'r arian sy'n dod i Gymru o dan y CAP ddwywaith gymaint â'r hyn y byddem yn ei gael ar sail poblogaeth y Deyrnas Unedig, ac mae hyn yn dangos, wrth gwrs, bwysigrwydd y sector amaethyddiaeth i ni yma yng Nghymru. Mae'n hanfodol, felly, fod y lefel hon o gyllid yn cael ei diogelu ar ôl Brexit a'i gwarantu am sawl blwyddyn i ddod.

Rŷm ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn lansio adolygiad annibynnol i lefelau cyllido ar ôl y CAP ledled y Deyrnas Unedig, ond rŷm ni'n parhau i wylio rhag y canlyniadau posib a ddaw yn sgil hynny, gan fod rhywun yn gofidio efallai bod yna dro yn mynd i fod yn y gynffon honno i Gymru. Ond, yn sicr, mi fyddwn yn parhau i gadw llygad barcud ar y broses honno. Rŷm ni'n annog Llywodraeth Cymru i fod yn llais cryf yn ystod y broses hon er mwyn sicrhau bod unrhyw drefniant y mae'r adolygiad yn ei argymell yn gyson ag argymhellion y pwyllgor yma a'i fod e, wrth, gwrs yn bodloni anghenion Cymru. 

Mae Cymru hefyd, wrth gwrs, wedi elwa yn fawr ar raglenni eraill yr Undeb Ewropeaidd dros y blynyddoedd, megis Horizon 2020, yn enwedig yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â Banc Buddsoddi Ewrop hefyd. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop er mwyn sicrhau y gall Cymru elwa ar fuddsoddiad parhaus mewn projectau seilwaith, ac mae'n galonogol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn o beth, ond mae'r diffyg cynnydd ac eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn peri pryder o hyd.

Rŷm ni hefyd yn cefnogi'r penderfyniad i geisio mynediad parhaus at Horizon Europe, ond rŷm ni o'r farn os na ellir sicrhau mynediad o'r fath, yna dylid darparu'r cyllid cyfatebol i gyllideb gwyddoniaeth ac ymchwil y Deyrnas Unedig. 

Yn ychwanegol at y lefel cyllidol cychwynnol ar ôl Brexit, wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig trafod sut y bydd cyllid o'r fath yn datblygu dros amser. Yn hyn o beth, rŷm ni yn rhannu pryderon y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y gallai un addasiad i'r grant bloc, er ei fod yn dderbyniol yn y byr dymor, beri risgiau yn y tymor hirach. Rŷm ni hefyd yn cytuno â'i argymhelliad bod, ac rydw i'n dyfynnu,

'Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian wedi’i brofi ar gyfer y dyfodol' 

—yn futureproofed—

'ac yn edrych ar rinweddau fformiwla gwrthrychol sy’n seiliedig ar anghenion',

a bod hynny wedi'i gytuno gan bob gwlad yn y Deyrnas Unedig.

Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth y byddai codi baseline y grant bloc gan ddim mwy na symiau cyfatebol i gyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith lem ar Gymru dros amser. Dylai fod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ateb hirdymor cynaliadwy a fyddai'n dyrannu cyllid ar draws y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar anghenion, yn lle, wrth gwrs, fformiwla Barnett a'r wasgfa sy'n rhan annatod ohoni. Rwy'n falch o nodi bod y Llywodraeth yn cytuno â hynny.

Mae'n amlwg, felly, fod llawer iawn o'r penderfyniadau pwysig sy'n ymwneud â chyllid i Gymru ar ôl Brexit yn benderfyniadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond fel y dywedais ar y cychwyn, mae'r pwyllgor wedi cael ei siomi gan y diffyg ymgysylltu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn hyn, ac rŷm ni yn cydnabod, wrth gwrs, y rôl y bydd gan Lywodraeth Cymru i'w chwarae yn y trafodaethau rhwng y Llywodraethau.

Rwy'n gobeithio bod y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cyllid a'r adroddiad yr ŷm ni wedi'i gynhyrchu fan hyn, wrth gwrs, yn ddadl drawsbleidiol a Chymreig dros gyllid teg yn dilyn Brexit, a'u bod hefyd yn atgyfnerthu safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n dda gen i fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yn llawn yr argymhellion y mae'r pwyllgor yn eu gwneud yn yr adroddiad. Er hynny, mae sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet fan hyn yn y Siambr, sef nad yw e'n credu am eiliad y cafwyd sicrwydd digonol y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parchu'r setliad datganoli, yn destun pryder mawr, sy'n tynnu sylw, wrth gwrs, at yr angen i'r Llywodraethau weithio'n galed er mwyn sicrhau cytundeb teg, cytundeb rhesymol a chytundeb parhaol i Gymru a'i phobl. Diolch.

15:50

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ac o ategu safbwyntiau ein Cadeirydd newydd, sydd wedi cynnwys y materion yn ein hadroddiad yn llawn ac yn gynhwysfawr iawn mewn gwirionedd, felly nid oes angen imi ychwanegu llawer at hynny. Roedd yr hyn yr edrychem arno yn hystod ein cyfnod adrodd yn amlwg yn faes aruthrol o bwysig.

Mae sut y down o hyd i gyllid yn lle ffrydiau cyllido'r UE wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar bawb ohonom, yn effeithio ar bob sector o'r economi. Mae'n sefyllfa ddigynsail, a chredaf fod pawb ohonom wedi cydnabod hynny yn y sesiynau a gawsom gyda Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn wedi'i wneud o'r blaen, felly ni allwch ddisgwyl i Lywodraeth Cymru allu cynllunio popeth yn berffaith ymlaen llaw, er fy mod yn credu, o'r trafodaethau a gawsom gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru, fod llawer o waith da wedi'i wneud mewn sefyllfa anodd.

Nid oes un ffordd gywir o symud ymlaen, felly mae argymhelliad 1 yn allweddol, drwy ddweud bod angen inni gael y cytundeb cyllido gorau posibl er mwyn sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit. Rydym wedi defnyddio'r geiriad penodol 'geiniog ar ei cholled', oherwydd, a dweud y gwir, pe gallem gael rhywfaint o arian ychwanegol yn ogystal â'r hyn rydym wedi'i gael—gwn y gallai hyn gael ei weld fel breuddwyd gwrach, ond pe gallem gael rhywfaint o arian ychwanegol yna ni ddylem gau'r drws ar hynny. Ond hoffem weld senario sy'n cynnig fan lleiaf yr un faint o gyllid bunt am bunt o'r trefniadau cyllid newydd ag a gawn ar hyn o bryd o Frwsel.

Ymrwymodd maniffesto'r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad cyffredinol 2017 fy mhlaid i sefydlu cronfa ffyniant gyffredin, y cyfeiriodd y Cadeirydd ati, a fyddai'n osgoi rhai o'r costau a'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth y ffrydiau cyllido presennol. Ac er y credaf fod pawb ohonom yn cydnabod faint y mae Cymru wedi elwa o'r cronfeydd strwythurol a faint y mae ein diwydiant amaethyddol wedi elwa o daliadau'r PAC, credaf y byddai pob un ohonom yn dweud nad yw wedi bod yn sefyllfa berffaith a bod rhai costau gweinyddol ynghlwm wrthi. Mae yna ffyrdd gwahanol o wneud pethau a dyma gyfle inni eu gwneud; nid oes raid inni ddilyn popeth fel y cafodd ei wneud gan Frwsel hyd yn hyn.  

Rwy'n sylweddoli nad ydym wedi gweld llawer iawn o fanylion am y gronfa hon, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at hynny yn ei sylwadau yn nes ymlaen, ond credaf ei bod hi'n bwysig i ni fod yn barod erbyn yr adeg y bydd y gronfa ffyniant gyffredin wedi'i sefydlu ac yn weithredol. Felly, ar wahân i rai materion sy'n codi o'r ffaith nad ydym yn gwybod yn union beth fydd y manylion, mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mecanweithiau ar waith fel y gallwn fod yn barod cyn gynted ag y daw manylion y gronfa honno'n glir, ac y gallwn fwrw ati i ddefnyddio'r arian hwnnw fel y dylai gael ei ddefnyddio. David.  

15:55

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly, mewn gwirionedd, mai'r hyn sydd ei angen arnom yw gwybodaeth, oherwydd sut y gall y Llywodraeth roi mecanweithiau ar waith i allu bod yn barod i gychwyn pan nad ydynt yn gwybod beth fydd ganddynt hyd yn oed? Y broblem yw nad ydym yn gwybod. Nid ydym yn gwybod unrhyw beth.

Rwy'n cydnabod yn llawn y problemau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Credaf fod dweud nad ydym yn gwybod unrhyw beth yn mynd ychydig pellach—[Torri ar draws.] Un funud. Rwyf wedi cymryd un ymyriad. Nid ydym yn gwybod popeth, ond mae dweud nad ydym yn gwybod unrhyw beth o gwbl yn anghywir yn fy marn i. Gallwn amcangyfrif yn union—nid yn union, ond gallwn amcangyfrif sut olwg fydd ar y system o bosibl, felly mae'n rhaid gwneud gwaith penodol. Rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o hynny a bod swyddogion yn bwrw ymlaen â'r gwaith; yn sicr, pan oeddem yn gwrando ar y dystiolaeth, roeddent i'w gweld yn ymdrin â rhai o'r materion sy'n peri pryder.

Gan droi at bennod 3 a diwygio fformiwla Barnett, wel, wrth gwrs, rydym wedi bod yn siarad am hyn ers amser maith iawn, ond mae'n fwy arwyddocaol bellach gan fod Brexit ar y gorwel. Mae argymhelliad 2 yn argymell

'y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddatblygu dewis amgen hirdymor cynaliadwy yn lle fformiwla Barnett, sy’n dyrannu cyllid ar draws y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar angen.'

Wrth wraidd hyn y mae'r farn gyffredin y bydd fformiwla Barnett yn anaddas ar gyfer dyrannu dyraniadau cyllid yn y dyfodol.

Felly, ydym, rydym wedi dod yn bell. Mae gennym y fframwaith cyllidol a llawr Barnett, ac rydym wedi cael addasiadau i fformiwla Barnett a fydd yn helpu yn y tymor byr i'r tymor canolig, ond roedd y pwyllgor yn cydnabod bod angen adolygiad llawn o fformiwla Barnett yn fwy hirdymor, yn enwedig ar ôl Brexit. Nododd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid nad yw'r fformiwla yn ystyried gwahaniaethau yn yr angen am gyllid neu dwf yn y boblogaeth ac os caiff ei defnyddio i bennu cyllid, gallai fod yn anfanteisiol tu hwnt i Gymru.

Cyflwynwyd gwahanol opsiynau a roddodd gryn dipyn i'r pwyllgor gnoi cil arno. Un dewis amgen fyddai'r fformiwla mynegai y pen a ddefnyddir yn yr Alban neu fel arall, efallai y bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am ddyrannu arian mewn ffordd wahanol eto gan ddefnyddio trefniadau neilltuo cyllid a newidiadau mynegeio dros amser.  

Rwy'n sylweddoli fod fy amser wedi dod i ben, ddirprwy Gadeirydd, ond mae wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o'r ddadl hon, a hefyd i fod yn rhan o ymchwiliad y pwyllgor i hyn. Mae'n faes pwysig iawn, ac edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan yr Aelodau eraill i'w ddweud.  

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl amserol hon, wrth inni symud i adeg fwy ansicr byth hyd yn oed o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond rhoddais dystiolaeth iddo fel cadeirydd pwyllgor monitro rhaglen Cymru, gyda Sioned Evans, prif weithredwr WEFO, a Grahame Guilford, llysgennad cyllido'r UE. Mae'r adroddiad yn sicr yn gwneud achos cryf dros barhau cyllid, ar lefel bresennol y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd fan lleiaf. Ac yn wir, fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes yn ei gyflwyniad, mae Cymru'n cael swm cryn dipyn yn uwch o gronfeydd strwythurol y pen nag unrhyw ran arall o'r DU, felly gallai Brexit daro Cymru'n arbennig o galed.

Rhoddodd nifer o sefydliadau a nodwyd yn yr adroddiad dystiolaeth ar werth y ffrydiau cyllido, a thynnodd llawer ohonynt sylw at y themâu trawsbynciol sy'n rhaid cydymffurfio â hwy pan gytunir ar gyllid Ewropeaidd—themâu trawsbynciol cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd, datblygu cynaliadwy a threchu tlodi ac allgáu cymdeithasol. Dyna un o'r pethau gwych, rwy'n meddwl, am y cyllid Ewropeaidd a gawsom—fod y themâu hyn wedi'u hymgorffori'n rhan o'r holl brosiectau. Amlygodd Chwarae Teg yn arbennig y prosiectau a sefydlwyd i edrych ar fenywod yn y gweithlu ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod adran gyfan o staff yn WEFO wedi'i neilltuo ar gyfer hyrwyddo themâu trawsbynciol a sicrhau eu bod wedi'u sefydlu ar y dechrau ym mhob un o'r prosiectau y cytunwyd i roi cyllid yr UE ar eu cyfer. Rwy'n meddwl ei bod hi'n gwbl allweddol fod y themâu hyn yn cael eu hymgorffori mewn unrhyw gyllid a ddaw drwy'r gronfa ffyniant gyffredin hefyd. Rhaid inni wneud yn siŵr fod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn un o'r prif faterion yn y themâu hyn. Hefyd mae'n bwysig cofio, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, am yr arbenigedd enfawr a ddatblygwyd yng Nghymru dros bron i 20 mlynedd o gyllid yr UE—a chydnabyddir hynny yn yr adroddiad—oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am reoli cronfeydd strwythurol yr UE ers mis Ebrill 2000 ac wrth gwrs, mae ganddi wybodaeth fanwl am safbwyntiau lleol, sefyllfaoedd lleol, partneriaethau lleol. Mae'n hanfodol bwysig nad yw hyn yn cael ei golli, ac nid oes modd i ddull sy'n deillio o Whitehall ei efelychu.

Un o'r pethau mwyaf trawiadol yn yr adroddiad a'm trawodd wrth i mi ei ddarllen oedd y modd yr amlygai pa mor anghyfartal yw'r DU fel gwlad. Yn fwyaf arbennig, fe'm trawyd gan y rhan yn yr adroddiad a oedd yn dweud:

'Ar hyn o bryd, yn y Deyrnas Unedig y mae’r gwahaniaeth economaidd
rhanbarthol mwyaf mewn Cynnyrch Domestig Gros y pen o unrhyw un o’r 28 o
Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd',

gyda Gorllewin Llundain Fewnol â chynnyrch domestig gros y pen o 611 y cant o gyfartaledd yr UE, tra bo cynnyrch domestig gros Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 68 y cant. Mae'n destun pryder mawr yn fy marn i fod y fath eithafion o gyfoeth yn y DU a bod gennym gymdeithas mor anghyfartal ar draws y DU, oherwydd ni fydd cymdeithas anghyfartal byth yn gymdeithas gydlynol, ac yn amlwg, mae'r chwalfa ariannol a'r cyni a'i dilynodd wedi gwneud y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd hyd yn oed yn fwy.

Ond roedd hi'n braf iawn clywed yn adroddiad y pwyllgor am y gefnogaeth gref i'r farn na ddylai Cymru fod geiniog ar ei cholled nag y byddai wedi bod o fewn yr UE, oherwydd wedi'r cyfan, dyna oedd un o addewidion yr ymgyrch dros adael i bleidleiswyr cyn y refferendwm.

Nawr, rwy'n gwybod bod cyfarfodydd cyn-ymgynghorol wedi bod rhwng gwahanol sefydliadau yng Nghymru yn Swyddfa Cymru cyn yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gronfa ffyniant gyffredin y deallaf fod bwriad iddo ddechrau cyn y Nadolig. Roedd yn ddiddorol clywed yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, pan ofynnais iddo ynglŷn â chyfarfod a oedd i fod i ddigwydd, ac a wnaeth ddigwydd ddydd Gwener diwethaf—cyfarfod oedd hwn â sefydliadau trydydd sector a gwn fod peth pryder yn y trydydd sector ynglŷn â phwy oedd yn rhan a phwy nad oedd yn rhan o'r broses o drafod y gronfa ffyniant gyffredin, ond dywedodd y Prif Weinidog fod ei swyddogion yma wedi cael gwybod, ond nid tan y diwrnod cynt. Felly, mewn ymateb i sylwadau Nick Ramsay, credaf mai ychydig yn unig a wyddom, a hynny'n eithaf hwyr yn y dydd. Felly, mae'n fater o bryder mawr yn fy marn i. Mae pryder ymysg sefydliadau, ac mae sefydliadau sy'n gweithio ar hybu cydraddoldeb a helpu menywod i gyflawni a ffynnu, yn enwedig, yn bryderus iawn y bydd newid pwyslais os yw Llywodraeth y DU yn rheoli liferi'r gronfa ffyniant gyffredin. Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl glir fod yn rhaid i unrhyw beth a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin i Gymru gael ei reoli a'i wneud yng Nghymru.

16:00

A gaf fi ymuno â'r Cadeirydd i ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i dîm clercio'r pwyllgor hefyd am gynhyrchu'r gwaith? Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hynny. A gaf fi gytuno â Nick Ramsay hefyd—mae'n debyg mai dyna'r unig beth rwy'n cytuno ag ef yn ei gylch y prynhawn yma—drwy ddweud bod y Cadeirydd wedi rhoi adolygiad manwl iawn o'r adroddiad mewn gwirionedd. Rwyf am fynegi fy siom enfawr mai un person yn unig—o, mae Andrew R.T. newydd ymddangos yn awr; dau o bobl—a gefnogodd Brexit sydd yn y Siambr i wrando ar y ddadl bwysig hon, oherwydd mae'n trafod ffrydiau cyllido i Gymru yn y dyfodol. Ac mae UKIP wedi diflannu. Roeddent i gyd eisiau hyn, ond pan ddaw'n fater o wynebu'r realiti gwirioneddol ar lawr gwlad nid ydynt eisiau gwybod. Credaf fod hynny'n gywilyddus.

Ddirprwy Lywydd, y llynedd, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar ddyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n tynnu sylw at gyllido ar gyfer y dyfodol hwnnw a'r heriau a fyddai'n codi wrth inni roi'r gorau i fanteisio ar fudd cyllid Ewropeaidd. Yn ystod cylch cronfeydd strwythurol Ewropeaidd 2014-20, clustnodwyd £2.1 biliwn o gyllid ar gyfer Cymru. Rwyf am ailadrodd hynny: £2.1 biliwn. O gofio bod Cymru'n cael £375 miliwn o gyllid bob blwyddyn o'r cronfeydd buddsoddi strwythurol Ewropeaidd yn ystod y cyfnod hwnnw at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, roedd yn amlwg i ni fel pwyllgor wedyn fod angen inni edrych ar y materion hyn yn fanylach, ac rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Cyllid wedi ysgwyddo'r rôl o edrych ar hyn mewn llawer mwy o fanylder. Gallai colli mynediad at y cronfeydd hyn arwain at dwll du ariannol mewn perthynas â nifer o fuddsoddiadau mewn meysydd megis sgiliau a phrentisiaethau—fe wyddom fod Twf Swyddi Cymru wedi cael ei ariannu o'r cronfeydd Ewropeaidd—cydweithio a rhagoriaeth ymchwil—rydym wedi sôn am Horizon 2020 a'i olynydd, Horizon Ewrop—seilwaith ac arloesedd. Yn wir, rydym yn mynd i golli mwy o arian nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig os na cheir hyd i gyllid yn lle'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Nododd Julie Morgan y ffaith ein bod yn cael—458 y cant ydyw, rwy'n credu, o gyfartaledd y DU yng Nghymru. Y wlad sydd agosaf atom mewn gwirionedd yw Gogledd Iwerddon, ar 197 y cant. Felly, rydym ymhell ar y blaen o ran y budd a gawn o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae'n hynod siomedig nad ydym wedi cael eglurhad eto ynglŷn â beth a ddaw yn ei le.

Nawr, mae'r egwyddorion sy'n sail i'r system bresennol o gymorth gan yr UE i aelod-wladwriaethau yn seiliedig ar degwch ac angen. Mae rhanbarthau sydd â chynnyrch domestig gros y pen o lai na 75 y cant o gyfartaledd yr UE yn gymwys ar gyfer yr uchafswm. Dau ranbarth yn unig yn y DU a oedd yn bodloni'r statws hwnnw: Cernyw ac Ynysoedd Scilly, a gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Ac fe wyddom, pe baem wedi aros yn yr UE ar gyfer cyfnod nesaf y fframwaith ariannol amlflwydd, byddem wedi cael arian cyfatebol neu isafswm o gyllid pontio. Nawr, nid ydym wedi cael unrhyw hysbysiad ynglŷn ag a fydd hynny'n digwydd. Y cyfan a ddywedwyd wrthym yw y bydd yna gronfa ffyniant gyffredin. Mae'n ddrwg gennyf, Nick, dyna'r cyfan a ddywedwyd wrthym. Amcangyfrifon a dyfaliadau—gallwn ddyfalu pethau, ond ni chawsom glywed yn fanwl gan neb sut y bydd y gronfa honno'n gweithio, beth fydd ynddi, pwy sy'n cael gwneud cais amdani. A yw'n gynllun ymgeisio? A yw'n ddyraniad? Beth fydd y meini prawf? Mae'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth y DU o'r farn nad yw'n flaenoriaeth iddi.

16:05

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Nid wyf yn anghytuno â chi, Dave. Credaf nad yw'n sefyllfa ddelfrydol. Hoffwn weld llawer mwy o fanylion am y gronfa ffyniant gyffredin fy hun. Yr unig bwynt yr oeddwn yn ei wneud oedd y gellir gwneud rhai rhagdybiaethau, a gwn yn iawn fod swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn edrych ar opsiynau gwahanol; wrth gwrs eu bod. Felly, mae yna rywbeth y gallwn ei wneud, ond nid wyf yn anghytuno'n sylfaenol â chi. Ni fyddem yn dewis bod yn y sefyllfa hon.

Rwy'n cytuno. Ac oes, mae yna rai rhagdybiaethau y gellir eu gwneud, ond wrth gwrs, fel y nododd Julie Morgan, gyda'r newyddion heddiw ynglŷn â beth sy'n digwydd yn y Cabinet yr eiliad hon, gallai'r holl ragdybiaethau hynny gael eu taflu yn yr awyr a'u hanghofio, oherwydd nid oes gennym unrhyw syniad. A dyna'r broblem fwyaf: nid oes unrhyw ymrwymiad i unrhyw agwedd ar hyn. Nid yw'r diffiniadau haniaethol lefel uchel yn dweud dim byd o gwbl. Ac mae Julie wedi tynnu sylw hefyd at y pryder a oedd gennym yn y gorffennol—ac rydym wedi codi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar agweddau eraill ar Brexit—ynglŷn â'r ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru. Tynnodd Julie sylw at y ffaith bod cyfarfod yr wythnos diwethaf i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad, ond fe'i trefnwyd drwy Swyddfa Cymru, nid Llywodraeth Cymru, a daeth George Hollingbery i'n pwyllgor i siarad ynglŷn â masnach ac roedd yn cael trafodaethau archwiliadol gyda rhanddeiliaid, yn ôl yr hyn a ddywedodd, wedi'u trefnu drwy Swyddfa Cymru, nid Llywodraeth Cymru, ar agweddau ar fusnes yng Nghymru. Mae'n amlwg bod yr ymgysylltiad â sefydliadau datganoledig yn erchyll, ac mae'n rhywbeth y mae gwir angen mynd i'r afael ag ef ar lefel uwch o lawer—os gallwch chi, Nick, os oes gennych unrhyw ddylanwad yn Rhif 10, dywedwch wrthynt fod angen iddynt ymgysylltu â'r sefydliadau Cymreig. [Torri ar draws.] Mae'n bwysig iawn. Gallent ddweud wrthym ni hefyd, gallent.

Nawr, unwaith eto, mae'r adroddiad yn nodi'r diffyg ymgysylltiad hwnnw, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny am ein bod yn cynrychioli cymunedau, ardaloedd difreintiedig. Mae'r cymunedau hynny'n elwa o gyllid Ewropeaidd. Maent yn mynd i fod ar eu colled, ac eto nid yw Llywodraeth y DU i'w gweld fel pe bai ganddi ddiddordeb yn ein helpu ni i'w helpu hwy. Rydym yn gwybod y bydd Cymru'n colli arian; rydym yn gwybod na fydd rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael cyfle mwyach i gael buddsoddiad ariannol a chymorth; gwyddom nad oes unrhyw raglenni wedi'u nodi hyd yn hyn i gymryd eu lle. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU symud ymlaen gyda'r addewidion i bobl Cymru na fyddant yn colli arian yn awr neu yn y dyfodol.

Rwy'n meddwl ei fod yn adroddiad da iawn, a chredaf fod yr argymhellion yn dda iawn. Rwyf am ganolbwyntio'n unig ar rai sylwadau ar fy mhryderon ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin.

Ond yng nghyd-destun y gronfa ffyniant gyffredin, mae'n—. Mae'n braf, mewn gwirionedd, gweld Nick Ramsay yn cael anhawster ac yn gwingo wrth geisio egluro pa wybodaeth o gwbl a roddwyd gan y Llywodraeth. Fe wnaethoch gystal ag y gallech; rwy'n meddwl bod hwnnw mae'n debyg yn sylw teg. Ond yr hyn sy'n fy ngwneud yn ddig, yn sicr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth iddo siarad am y peth, a dweud, 'Wel, wrth gwrs, nid yw'r system wedi gweithio'n dda iawn yn y gorffennol'—rhaid imi ddweud wrthych, yn Rhondda Cynon Taf, ym Mhontypridd ac yn ardal Taf Elái, mae wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus mewn etholaeth sydd wedi dioddef yn sgil ddad-ddiwydiannu. Cawsom y £7 miliwn o arian ar gyfer y lido, a gysylltai â'r £10 miliwn ar gyfer creu parthau cerddwyr. Cawsom y £100 miliwn ar gyfer ffordd osgoi Pentre'r Eglwys, sydd wedi trawsnewid pethau'n aruthrol. Bellach mae gennym y £119 miliwn i'r rhan o'r metro ar gyfer gwella rheilffyrdd, gyda £27 miliwn ohono yn ardal Ffynnon Taf, ac wrth gwrs, y cyhoeddiad yn fwy diweddar—cyhoeddiad rhagorol yn fy marn i gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid—mewn perthynas â'r £100 miliwn tuag at ymchwil ac arloesi pellach. Mae'r pethau hynny, ynghyd â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi symud Trafnidiaeth Cymru i ardal Pontypridd, a'r bartneriaeth a'r ymgysylltiad—mewn gwirionedd mae'n trawsnewid ac yn adfywio. Mae wedi bod yn hanfodol bwysig, yn hynod ddefnyddiol, a byddai pethau'n wahanol iawn pe na bai wedi'i roi.

Ond fy rheswm dros roi cymaint o sylw i'r gronfa ffyniant gyffredin—. Weithiau rydych yn gwneud sylwadau smala, wyddoch chi, fod y Ceidwadwyr Cymreig a'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn rhannu ffyniant byth ers ei hethol yn 2010. Yr unig broblem yw ei bod wedi bod y rhannu ffyniant â phobl sydd eisoes yn ffyniannus, nid y bobl sydd ei angen mewn gwirionedd. Ond pan ofynnwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â hyn, a phan gafodd ei herio ynglŷn â hyn yn San Steffan, dyma'r hyn a ddywedodd ar 24 Hydref 2018:

Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle inni ailystyried sut y mae cyllid ar gyfer twf ar draws y DU yn cael ei gynllunio a'i ddarparu. Yn ein maniffesto—

maniffesto 2017, rwy'n cymryd, bron ddwy flynedd yn ôl—

rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.

Wel o'r hyn a welaf, roedd hwnnw'n ymrwymiad maniffesto a dorrwyd o'r diwrnod cyntaf un. Nid fu unrhyw ymgysylltu, ni rannwyd unrhyw wybodaeth, ac nid oes unrhyw waith go iawn yn mynd rhagddo. Ac yn ddiau bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod hynny'n anghywir. Ond yn bwysicach na hynny, wrth gwrs, mae'r ffaith bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd i'w weld yn ddryslyd ynglŷn â beth yw ei rôl, mae'n debyg, neu'n wir, pa un a oes ganddo rôl sy'n cyflawni unrhyw fudd o gwbl mewn gwirionedd i Gymru, wedi dweud mewn digwyddiad a drefnwyd yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall heb unrhyw ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru:

Mae sefydlu cronfa ffyniant gyffredin y DU yn creu nifer o risgiau a phryderon. A fydd wedi ei datganoli? Os bydd, sut y bydd y drefn o'i llywodraethu a'i rheoli'n gweithio? Pwy fydd yn penderfynu ar y blaenoriaethau buddsoddi? Efallai y byddai Fframwaith Cyffredin y DU yn gweithio'n well ar gyfer trydydd sector yr Alban? A fydd yn llai o arian nag a gawn yn awr? A fydd gan y sector lais?

Nawr, dyna'r cwestiynau a gâi eu gofyn yn y digwyddiad lle roedd yn brif siaradwr, a chredaf ei fod yn mynegi'r pryderon sydd gan bawb ohonom, ac mae'n rhaid inni siarad yn gwbl agored amdanynt, mai'r hyn a welwn yw ailganoli polisi'r DU, cyfyngu ar ddatganoli drwy ddefnyddio'r cyllid—y cyllid honedig—a fydd yn mynd i'r gronfa ffyniant gyffredin i reoli'r cyfeiriad gwleidyddol yng Nghymru mewn gwirionedd. Gallwn gael yr holl bwerau a ddymunwn yn y Cynulliad hwn, ond os nad oes gennym gyllid i'n galluogi i'w gweithredu, bydd y pŵer hwnnw'n ddiffrwyth, a dyna yw fy mhryder mawr.

Mewn sefyllfa lle nad yw Llywodraeth y DU yn dweud dim wrthym, lle mae'n amlwg yn torri ei haddewidion mewn perthynas ag ymgysylltu, lle nad yw'n rhoi unrhyw ymrwymiad o gwbl o ran faint o arian y bydd ei angen arnom, neu warantu na chawn lai hyd yn oed, yr hyn y mae'n siarad amdano mewn gwirionedd yw sut y bydd yn rheoli'r cyllid hwnnw, sut y bydd yn defnyddio'r cyllid hwnnw, i ailgyfeirio polisi, a hyd yn oed yn cwestiynu a fydd yn cael ei ddatganoli o gwbl. Dyna'r her a welaf, ac mewn Llywodraeth Geidwadol sydd mor druenus o ranedig, sydd mewn perygl o wynebu etholiad, ar drothwy etholiad cyffredinol unrhyw ddiwrnod yn awr, mae'n bryder gwirioneddol nad oes gennym unrhyw syniad, unrhyw allu o gwbl i gynllunio ar gyfer y dyfodol o ran y gronfa ffyniant gyffredin fel y'i gelwir. Un ymrwymiad yn unig a fydd yn ateb hyn, sef na chawn lai o arian nag a gaem o'r blaen. Ac yna cafwyd ail ymrwymiad—nid un yn unig a gafwyd; roedd yna ail ymrwymiad—sef na fydd yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd i danseilio datganoli, y bydd yr adnoddau hynny'n dod yma i'r lle hwn, sef y Cynulliad Cymru lleol a etholwyd yn ddemocrataidd, i benderfynu sut i wneud y defnydd gorau ohono. Mae'r penderfyniadau a wnaed yn fy etholaeth wedi bod yn ddoeth ac yn ddarbodus, ac maent yn dwyn ffrwyth, ac nid oes unrhyw reswm i ddisgwyl na fydd hynny'n digwydd yn y dyfodol, oni bai bod polisi o ailganoli, agenda gudd gan y Torïaid yn y DU, i danseilio datganoli mewn gwirionedd ac ailganoli grym.

16:15

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Cymru wedi derbyn biliynau o bunnoedd o gyllid yr UE, ac rydym ar hyn o bryd yn derbyn bron i £700 miliwn y flwyddyn. Gyda'r DU i adael yr UE ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae'n hanfodol ein bod yn cael arian gan Lywodraeth y DU sydd yr un faint neu'n fwy na lefel yr arian a gawn gan yr UE.

Mae'r DU yn talu tua £13 biliwn y flwyddyn i'r UE, a daw arian yn ôl i'r DU wedyn i dalu am y polisi amaethyddol cyffredin a'r cronfeydd strwythurol. Pan gafodd Cymru arian Amcan 1 yn 1999, roedd yn gyfle unwaith mewn oes i wella economi rhannau helaeth o Gymru. Ond er hynny, gorllewin Cymru a'r Cymoedd yw un o rannau tlotaf y DU o hyd. Felly, mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn, ar ôl Brexit, yn hollbwysig.

Yn 2014, roedd Cymru unwaith eto'n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gronfeydd strwythurol fel rhanbarth llai datblygedig, ac mae hyn yn destun pryder i mi. Er bod arian yr UE wedi cyflawni llawer o welliannau i Gymru, nid yw wedi trawsnewid ein heconomi. Cymru yw'r rhan dlotaf o'r DU o hyd, ac un o'r rhanbarthau tlotaf yn Ewrop. Ar ôl Brexit, mae cyfle gennym i ddatblygu rhaglenni ariannu sy'n ateb anghenion Cymru. Gellir datblygu a chynllunio cronfeydd strwythurol i ddiwallu anghenion Cymru. Gellir datblygu cynlluniau ariannu amaeth a all fod o fudd i amgylchedd Cymru ac i'n ffermwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni sicrhau bod Cymru'n parhau i gael yr un lefel o gyllid. Felly croesawaf argymhelliad cyntaf y pwyllgor i sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled ar ôl Brexit. Yn wir, rwy'n cefnogi pob un o argymhellion y pwyllgor.

Rhaid i gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU weithio i Gymru, a'r sefydliad hwn a ddylai benderfynu ar yr arian sy'n dod i Gymru. Pa system bynnag y bydd Llywodraeth y DU yn ei dewis yn lle rhaglenni cyllid yr UE, rhaid peidio â'i defnyddio fel ffordd o osgoi rhoi gormod o ddatganoli. Mae datganoli yma i aros, a rhaid inni gyfleu neges glir mai'r sefydliad hwn sy'n gyfrifol am benderfyniadau ariannu sy'n effeithio ar Gymru.

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor, a thrwy ein bod yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, byddwn yn anfon neges glir i Lywodraeth y DU: gwarantwch y cyllid a chaniatewch i ni benderfynu ar y ffordd orau i'w wario.

Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad i roi fy nghefnogaeth lawn i adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid; cymerais ran ynddo fel aelod. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar fy nghefnogaeth i argymhellion 2 i 7: pwysigrwydd y gronfa ffyniant gyffredin; yr effaith ar gydraddoldeb o golli cyllid Ewropeaidd; a'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru yn y dyfodol mewn perthynas â Brexit.

Yn nadl Brexit a chydraddoldebau y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr wythnos diwethaf, siaradais am bwysigrwydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Er nad yw'n ymddangos yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd hollbwysig i Lywodraeth Cymru ei gweithredu. Bydd yn chwarae ei rhan yn rhoi pwerau inni wrthsefyll effeithiau andwyol Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hefyd yn bwysig yn y cyd-destun cyllido o ran y pwerau a'r blaenoriaethau sydd eu hangen ar y Llywodraeth hon yng Nghymru. Fe wnaethom dynnu sylw at y bygythiadau i ffrydiau cyllido'r UE yn y dadleuon yr wythnos diwethaf, y rhagolygon ansicr ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin y DU. Fe'i gwnaethom yn glir y dylai Llywodraeth Cymru weinyddu cronfa ffyniant gyffredin y DU a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion lleol ac anghydraddoldebau yng Nghymru. Fe'i gwnaethom yn glir, fel pob siaradwr heddiw yn wir, y dylid targedu'r gronfa ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae ein pwyllgorau wedi nodi cronfeydd yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol, gyda thua 60 y cant o brosiectau a ariennir o gronfa gymdeithasol Ewrop yn targedu pobl ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig. Rwy'n croesawu'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddylanwadu ar yr agenda hon. Nid yw'n glir sut y mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i'r papurau polisi cadarnhaol a ddaeth gan Lywodraeth Cymru, gan ddechrau gyda'r papur 'Buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Sut y mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i ymrwymiad yn y papur hwnnw i ddefnyddio cyllid a dderbyniwyd gan Ewrop i gefnogi datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb, ac ymrwymiad i ddull amlflwydd o fuddsoddi cyllid yn lle arian Ewropeaidd i gynnal ffocws hirdymor ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur?

Efallai y carai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ei ddatganiad llafar diwethaf ar y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol a sefydlwyd gyda busnesau, llywodraeth leol, prifysgolion a'r trydydd sector, a £350,000 o'r gronfa bontio Ewropeaidd i sefydlu partneriaeth gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i helpu i lywio ein dull o weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n rhagweithiol yn paratoi ar gyfer trefniadau ariannu yn y dyfodol ar ôl Brexit, ac rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU droeon fod yn rhaid i'w hymgynghoriad arfaethedig ar y gronfa ffyniant gyffredin ddigwydd yn awr, gan ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda'n pwyllgorau'n gofyn amdano, a diddordeb ar draws y Siambr, yn ogystal â'r Pwyllgor Cyllid.

Lywydd, yn y cyfarfod a gadeiriais yr wythnos diwethaf o Menywod yng Nghymru dros Ewrop, tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ein sylw at yr adroddiad sydd ganddynt yn yr arfaeth. Ei enw fydd 'Os nad yr UE, pwy? Effaith bosibl colli cyllid yr UE ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain'. Mae'r adroddiad hwnnw ar fin cael ei gyhoeddi. Bydd yn darparu sylfaen dystiolaeth i'r comisiwn, Llywodraeth Cymru a ninnau yn y Cynulliad hwn allu ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin, ac rwy'n deall bod y gwaith ymchwil hwnnw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn archwilio'r modd y gall cronfa ffyniant gyffredin newydd y DU fod yn gyfle i gadw cydraddoldeb a hawliau dynol yn thema drawsbynciol yn y ffordd y mae Julie Morgan wedi'i disgrifio fel rhywbeth sydd mor ddylanwadol yn y defnydd o'n cronfeydd strwythurol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd adroddiad y comisiwn yn dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn ogystal.

A gaf fi orffen drwy groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i argymhelliad 2, sy'n cydnabod papur Llywodraeth Cymru, 'Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit', gan gefnogi'n llawn yr alwad am system newydd yn seiliedig ar reolau yn lle fformiwla Barnett er mwyn sicrhau y dyrennir adnoddau o fewn y DU yn seiliedig ar angen cymharol. Ochr yn ochr â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, mae'n hanfodol ein bod yn atgyfnerthu ein pwerau a'n sylfaen adnoddau ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r fframwaith cyllidol a diwygio'r prosesau rhynglywodraethol yn allweddol i hynny os yw Cymru'n mynd i gael llais cryf, nid yn unig yn Brexit, ond yn y trafodaethau ar reoli ein cyllid cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ddefnyddiol i Ysgrifennydd y Cabinet yn ei negodiadau parhaus ar ran Cymru.

16:20

Rwy'n llongyfarch y Pwyllgor Cyllid ar ei adroddiad a'i argymhellion pwysig iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae pawb ohonom yn gwybod bod yr heriau sydd ynghlwm wrth Brexit yn enfawr, ac mae'r ansicrwydd yn fawr, ac mae hynny'n creu pob math o heriau anodd tu hwnt i sefydliadau, ac i bawb yng Nghymru yn wir. Mae ceisio dod o hyd i ffordd drwodd yn anodd eithriadol o ystyried cymhlethdod a chyrhaeddiad ein haelodaeth ym mhob agwedd ar fywyd.

Clywsom sôn am rai o raglenni'r Undeb Ewropeaidd heddiw, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn sôn am y rhaglen LIFE y mae llawer o'n sefydliadau sy'n ymwneud â'n hamgylchedd a natur a bioamrywiaeth yng Nghymru yn rhoi gwerth mawr arni, ac rydym wedi gofyn iddi gael sylw o ran parhau cyllid. Mae wedi bod yn hanfodol i natur ac o ganlyniad i hynny, i les yng Nghymru ers 1992 pan ddechreuodd gyntaf. Dros y cyfnod hwnnw, rydym wedi cael 18 o brosiectau natur a bioamrywiaeth LIFE yng Nghymru, sy'n werth dros €65 miliwn i gyd—gyda €36 miliwn ohono'n dod yn uniongyrchol o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Buaswn yn dweud, Ddirprwy Lywydd, a gwn y byddai llawer yn cytuno, fod yr arian hwnnw wedi cyflawni llawer ac wedi'i ddefnyddio'n dda iawn. Credaf mai dyna farn bendant Llywodraeth Cymru, o gofio bod cynllun adfer natur Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Cymru'n rhestru sawl prosiect a ariennir gan LIFE sy'n allweddol i gyflawni amcanion cadwraeth natur yn ein gwlad, ac mae'n sôn yn benodol am LIFE fel rhywbeth sy'n hanfodol i gyflawni ein hamcanion adfer natur. Felly, o ystyried pa mor ganolog yw'r rhaglen honno, y prosiectau hynny a'r cyllid hwnnw i natur, bioamrywiaeth a lles yng Nghymru, tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried galw ar Lywodraeth y DU i roi rhaglen ariannu benodol gyfatebol ar waith yn lle cronfa natur EU LIFE ar gyfer natur wrth inni symud ymlaen.

16:25

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel Aelodau eraill prynhawn yma, fe hoffwn i ddechrau drwy ddweud gair o ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid ac i Llyr Gruffydd am eu gwaith ar yr adroddiad, ac i'r holl randdeiliaid ar draws Cymru sydd wedi rhoi tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor ac i bawb sydd wedi siarad mor gefnogol yn y drafodaeth heddiw.

Rydw i'n mynd i ddefnyddio'r amser sydd gyda fi i ymateb i rai o'r argymhellion yn yr adroddiad ac i adeiladu ar rai pwyntiau a wnaed heddiw.

Diolch fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl sydd wedi bod yn gydsyniol, fel yr adroddiad ei hun. Roeddwn yn falch iawn ar ran y Llywodraeth o allu cefnogi pob un o argymhellion yr adroddiad. Yn fwyaf arbennig ac amlwg rydym yn cefnogi argymhelliad trosfwaol yr adroddiad i barhau i negodi â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad yw Cymru geiniog ar ei cholled yn sgil Brexit. Fel y dywedodd eraill, dyna addewid a wnaed i bobl Cymru yn ystod ymgyrch y refferendwm, a rhaid i Lywodraeth y DU wireddu'r addewid hwnnw.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser yn y Siambr wedi cydnabod gwerth ymrwymiad Canghellor y Trysorlys i raglenni presennol. Mae'r sicrwydd y mae wedi'i roi wedi bod yn ddefnyddiol yn ddi-os i gynnal diddordeb ac ymrwymiad i'r rhaglen honno, ond wrth i'r wythnosau a'r misoedd fynd heibio, mae'n destun gofid mawr, fel y dywedodd David Rees, nad ydym ronyn yn gliriach ynglŷn â bwriadau Llywodraeth y DU y tu hwnt i 2021. Mae'r oedi yn yr adolygiad o wariant nes y flwyddyn nesaf yn golygu ei bod hi'n mynd i fod hyd yn oed yn fwy anodd cynllunio'n effeithiol ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac i gefnogi ffyniant ledled Cymru.

Cyfeiriwyd droeon at werth y rhaglenni i Gymru yn ystod y ddadl. Cyfeiriodd Caroline Jones at yr arian a gawn ar gyfer cronfeydd strwythurol a buddsoddi o Ewrop sy'n werth tua £370 miliwn bob blwyddyn i Gymru. Gwnaeth John Griffiths gyfraniad hynod bwysig, rwy'n meddwl, a oedd yn ein hatgoffa, yn ogystal â'r arian a gawn drwy'r cronfeydd strwythurol a'r arian a gawn i gefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru, fod yna gyfres o raglenni eraill pwysig iawn i'w cael gan yr Undeb Ewropeaidd—Erasmus+, Horizon 2020, y rhaglen gydweithredu rhyngdiriogaethol, Ewrop Greadigol, ac fel y dywedodd John y prynhawn yma, y rhaglen LIFE. Mae pob un o'r elfennau hynny o arian Ewropeaidd wedi gwneud daioni enfawr yma yng Nghymru ac wedi galluogi Cymru i chwarae rhan ar y llwyfan Ewropeaidd. Pan ddywedwn na ddylai Cymru fod geiniog ar ei cholled, yr hyn a olygwn yw parhau mynediad at y rhaglenni hynny a'r hyn a gynigiant i Gymru, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud, er enghraifft, drwy dynnu sylw at bwysigrwydd Banc Buddsoddi Ewrop i ni yma.

Mae'n hanfodol, felly, fod Llywodraeth y DU nid yn unig yn cadarnhau cyllid newydd i Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu bywoliaeth ein busnesau, ein pobl a'n cymunedau, ond hefyd ein bod yn cadw'r cyfrifoldeb a fu yma yn y Cynulliad ers ei sefydlu yn 1999 am benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwnnw gyda'n partneriaid yma yng Nghymru.

Rydym wedi nodi ein safbwynt polisi yn 'Buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Cafodd ei ddatblygu drwy ddeialog agos ac agored gyda rhanddeiliaid ac mae'n cynnwys yr atebion 'gwnaed yng Nghymru' y mae'r Aelodau wedi cyfeirio atynt y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ei gefnogaeth i'r safbwynt polisi sylfaenol hwn.

Clywsom lawer y prynhawn yma am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Efallai nad dyna oedd rhai o eiliadau mwy cydsyniol ein dadl. Gadewch imi ddweud o'm rhan i nad oes fawr 'yn gyffredin' amdani, yn yr ystyr nad ydym yn gwybod y nesaf peth i ddim am y cynlluniau sydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa. Rydym yn codi'r mater yn rheolaidd tu hwnt. Fe'i codais yng nghyfarfod diwethaf y Gweinidogion cyllid â'r Trysorlys, gyda chefnogaeth gadarn Llywodraeth yr Alban. Cododd Prif Weinidog Cymru'r mater gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a Phrif Weinidog yr Alban yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig dros y penwythnos. A dweud y gwir, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cael mwy o lwyddiant gyda Gweinidogion y DU nad ydynt yn cynrychioli Cymru yn Llywodraeth y DU nag a gawn drwy'r Ysgrifennydd Gwladol ei hun, sydd, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn gyson yn bychanu Cymru mewn ymgais ofer i chwyddo ei rôl ei hun yn Llywodraeth y DU.

Rydym yn gwrthod yn llwyr unrhyw syniad o gronfa ffyniant gyffredin yn y DU a fyddai'n mynd amddifadu Cymru o gyllid neu'r hawl i wneud penderfyniadau. Rhaid gwireddu'r addewidion mynych y byddai Brexit yn arwain at gynyddu pwerau'r sefydliad hwn drwy weithrediad tra ymarferol unrhyw drefniadau ariannu yr ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd. Ategwyd hynny yr wythnos hon, Ddirprwy Lywydd, mewn adroddiad gan y pwyllgor seneddol hollbleidiol ar y mater hwn, a ddywedodd, unwaith eto, fod yn rhaid i'r arian sy'n mynd i Gymru ac i'r Alban o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd lifo i Gymru ac i'r Alban yn y dyfodol, a rhaid i'r broses o benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r buddsoddiadau hynny fod mor agos ag y bo modd at ble mae'r penderfyniadau hynny'n cyfrif.

16:30

Rwy'n ddiolchgar iddo am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y pwynt, ac fel Aelod o'r sefydliad hwn, rwyf eisiau cymaint ag y bo modd o ymreolaeth o fewn y sefydliad hwn, ond o dan reolau'r UE, ar y cynllun datblygu gwledig, er enghraifft, byddai Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion yn mynd yn ôl ac ymlaen i Frwsel er mwyn sicrhau cymeradwyaeth derfynol. Onid ydych yn derbyn fod yna elfen, ar sail y DU, ar gyfer cytuno ar rai o'r egwyddorion cyffredinol y gellir eu diffinio orau yn y maes amaethyddol fel fframweithiau ar gyfer y DU?

Wel, gadewch imi ateb Andrew R.T. Davies mewn dwy ffordd. Yn gyntaf oll, Andrew, un o'r pwyntiau gwerthu mawr a gyflwynwyd gan y rhai a oedd o blaid y syniad o adael yr Undeb Ewropeaidd yw y byddem yn rhydd o'r cyfyngiadau hynny yn y dyfodol ac y byddai'r penderfyniadau hynny'n dod yma i Gymru, a dyna rwy'n dadlau drosto mewn perthynas â'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r cyfrifoldebau hynny wedi bod yma ers 1999, a'r ochr arall i'r Undeb Ewropeaidd, dylai'r cyfrifoldebau hynny gael eu hymestyn, nid eu dwyn ymaith.

Fe ddefnyddioch chi air pwysig iawn yn eich ymyriad, sef 'cytundeb', a phe bai trafodaeth briodol gyda Llywodraeth y DU ar y ffordd orau o ddefnyddio'r cronfeydd hynny—ac efallai fod yna rai themâu ledled y DU y byddem yn dymuno cytuno arnynt gydag eraill—ni fyddai gennyf unrhyw wrthwynebiad i hynny. Gallaf eich sicrhau'n bendant na fu dim o hynny. Ni fu unrhyw achlysur lle rydym wedi eistedd o gwmpas y bwrdd gyda Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU i drafod hynny.

O ran polisi amaethyddiaeth newydd, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, a lle bo hynny'n digwydd, mae'n dangos ei bod yn bosibl neilltuo'r pethau lle mae gennym dir yn gyffredin, a gwyddom bellach y bydd y rhan fwyaf o'r fframwaith a fydd yn rheoli amaethyddiaeth yn y dyfodol yn cael ei reoli drwy gydgysylltu rhynglywodraethol anneddfwriaethol. Felly, pan gaiff ei wneud drwy gytundeb, gellir gwneud cynnydd. Ychydig iawn o arwydd o hynny a welwn o ran y gronfa ffyniant gyffredin.

Yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd, os caf sôn i orffen am rai o'r themâu pwysig yn yr adroddiad ac yn y cyfraniadau. Yn sicr, rydym yn cydnabod yr hyn a ddywedodd Julie Morgan am yr angen i barhau i sicrhau arbenigedd wrth weinyddu'r cronfeydd hynny, i symleiddio'r prosesau hynny, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i ganolbwyntio'n barhaus ar gydraddoldeb a hawliau dynol, yn enwedig hawliau dinasyddiaeth yng nghyd-destun Brexit—pwynt a nodwyd gan Jane Hutt pan soniodd am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'r adroddiad yn sôn am ddiwygio fformiwla Barnett ac rydym yn cytuno, ond mae wedi bod yn anodd iawn dod ag eraill at y bwrdd. Mae'n ymddangos yn arbennig o anodd i mi weld sut y gellid defnyddio Barnett mewn unrhyw gyllideb frys y gallai fod ei hangen mewn Brexit caled.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru'n derbyn holl argymhellion yr adroddiad. Mae ei dystiolaeth yn rhan greiddiol o'n strategaeth negodi ar gyfer sicrhau'r cytundeb ariannu gorau ar gyfer Cymru. Byddwn yn parhau i fabwysiadu ymagwedd agored ar sail tystiolaeth tuag at y negodiadau hynny ac rwy'n croesawu cyfraniad yr adroddiad a'r ddadl i'r holl broses honno.

16:35

A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd i'r hyn y teimlwn ei bod yn ddadl ardderchog? Pe bai gennyf geiniog am bob tro y clywais rywun yn dweud na ddylem fod geiniog ar ein colled, mae'n siŵr y gallwn dalu am beth o hyn fy hun. Ond mae'n tanlinellu'r ffaith mai dyma un o'r agweddau canolog mae'n debyg: y byddem yn hoffi gweld y difidend Brexit a addawyd i ni. Er mai annhebygol iawn y gwelwn hynny, yn sicr yn y tymor byr i'r tymor canolig, y realiti yw ein bod o leiaf yn disgwyl dal ein gafael ar yr hyn a gawsom yn flaenorol.

Y nodwedd allweddol arall a amlygwyd, wrth gwrs, oedd y diffyg manylion gan Lywodraeth y DU. Nid oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid pan wahoddwyd yr Ysgrifennydd Gwladol yn wreiddiol i ddod i roi tystiolaeth, ond efallai yr hoffech ystyried ai'r rheswm pam y gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwrtais oedd oherwydd nad oedd yn gwybod ei hun beth oedd y cynigion yn mynd i fod mewn gwirionedd. Yn wir, rydym yn edrych ymlaen, os oes ymgynghoriad yn mynd i fod, yn ôl y disgwyl, neu ryw fath o ddosbarthu gwybodaeth cyn y Nadolig, at gael gwybod ynglŷn â hynny fan lleiaf.

Wrth gwrs, unwaith eto mae'n codi'r pwynt a wnaeth Mick Antoniw am y diffyg ymgysylltiad, a soniodd Jane Hutt ac eraill am y diffyg ymgysylltiad sy'n nodwedd mor ddigalon o bob agwedd ar Brexit rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y bore yma, roedd aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar Fil Amaethyddiaeth y DU a mynegwyd pryderon yno ynglŷn â'r modd y mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn sugno rhai pwerau yn ôl i'r canol mewn perthynas ag ariannu hefyd, a gosod terfynau uchaf, ac ati.

Yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi cychwyn bellach—gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn ei sedd yno—i edrych ar y ffordd y mae cyllid i ffermydd yn cael ei ddyrannu ar draws y DU, gwelsom nad oedd gan Lywodraeth Cymru rôl ragweithiol yn y broses o edrych ar ddatblygu cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith penodol hwnnw. Felly, rwy'n credu mai testun pryder yw'r ffaith ein bod o bosibl yn gweld yr un duedd yma unwaith eto ar fater mor bwysig â rhaglenni cyllido olynwyr.

Wrth gwrs, mae David Rees a John Griffiths ac eraill wedi cyfeirio at y risg o dwll du cyllidol y gallem ei gweld lle bydd rhaglenni, cynlluniau a phrosiectau pwysig yn cael eu niweidio, gan effeithio ar gymunedau, busnesau, diwydiant, sefydliadau academaidd, ac ati, sy'n dibynnu'n fawr iawn ar lawer o'r arian hwn ar gyfer llawer o'u gwaith.

Cawsom ein hatgoffa gan Ysgrifennydd y Cabinet nad yw ronyn yn gliriach ynglŷn â bwriad Llywodraeth y DU y tu hwnt i 2021. Wel, gall fod yn siŵr o gefnogaeth ein pwyllgor i'r ddau beth allweddol a grybwyllwyd ganddo, yn yr ystyr ei fod yn mynnu cadarnhad gan Lywodraeth y DU fod arian yn dod yn lle cyllid Ewropeaidd yn y lle cyntaf, ond hefyd ein bod ni yma yng Nghymru yn cadw'r cyfrifoldeb am benderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio. Ac mewn gwirionedd, yn hynny o beth, rwy'n meddwl ei fod yn brawf gwirioneddol i ba raddau mewn gwirionedd y mae datganoli yn gwneud yr hyn y mae i fod i'w wneud, oherwydd os nad yw'n gwneud hynny, yn amlwg bydd cwestiynau sylfaenol i'w gofyn.

Wrth gloi, a gaf fi ddiolch hefyd i'r clerc a'r tîm yn y Comisiwn am y gefnogaeth ragorol a gafodd y pwyllgor ar hyd y ffordd wrth gyflawni'r gwaith hwn, a diolch i Aelodau'r Cynulliad sy'n aelodau o'r pwyllgor hefyd am eu gwaith? Gobeithio bod hwn yn gyfraniad pwysig i drafodaeth allweddol ac yn ffactor allweddol ar gyfer dyfodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn, nid yn unig yn ein perthynas â Llywodraeth y DU, ond yn sicr o ran ein gallu i sicrhau'r manteision rydym wedi gallu eu sicrhau yn hanesyddol drwy arian Ewropeaidd, a gadewch inni obeithio, os daw cynllun olynol, y bydd y cynlluniau hynny, ar ba ffurf bynnag, yn parchu'r egwyddorion a amlinellwyd yn ein hadroddiad ac yn ein galluogi i barhau â llawer o'r gwaith hwnnw. Diolch yn fawr.

16:40

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Lles Anifeiliaid

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Julie James, a gwelliant 3 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Eitem 8 yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar les anifeiliaid, a galwaf ar Gareth Bennett i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM6863 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol yn holl ladd-dai Cymru; a

b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu stynio yn holl ladd-dai Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion eu magu a'u lladd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud ag amrywiol agweddau ar les anifeiliaid—pwnc pwysig, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno. Ac felly rwy'n hapus i wneud y cynnig hwn heddiw ar ran UKIP.

Mae UKIP yn credu y dylai lles anifeiliaid fferm o adeg eu magu hyd nes y cânt eu lladd fod yn flaenoriaeth absoliwt i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y DU sydd â rhai o'r safonau uchaf o les anifeiliaid yn y byd. Fodd bynnag, mae ein cynnig heddiw yn dangos sut y gall Cymru wella ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn dangos ein dymuniad i fod yn arweinydd byd o ran safonau lles.

Cefnogir y pwyntiau yn ein cynnig gan weithwyr proffesiynol a chan lawer o ymchwil academaidd ym maes lles anifeiliaid. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod yr angen i ddiwydiant amaethyddol Cymru barhau i ffynnu ac i gynhyrchu ei chynhyrchion cig mawr eu bri yn rhyngwladol.

Mae rhan gyntaf ein cynnig yn ymwneud â gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng. Mae hwn yn declyn hanfodol mewn lladd-dai er mwyn sicrhau y glynir at y safonau uchaf o les anifeiliaid. Mae gwyliadwriaeth camera yn lleihau'r posibilrwydd o gam-drin ac esgeuluso anifeiliaid, a lle bo hynny'n digwydd, gellir dwyn y drwgweithredwyr i gyfrif yn gyflym. Ar hyn o bryd, nid oes gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar waith mewn 14 o ladd-dai yng Nghymru, er bod gan y rhan fwyaf o'r lladd-dai mwy o faint systemau o'r fath.

Yn ôl ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, ni chedwir data ar leoliad na chyrhaeddiad y camerâu sy'n weithredol mewn lladd-dai na nifer yr anifeiliaid a laddwyd heb fod gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng ar waith. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn amcangyfrif bod 2 filiwn o adar a bron 400,000 o ddefaid, moch, a gwartheg yn cael eu lladd heb wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng bob blwyddyn yng Nghymru. Nododd y gymdeithas fod y risg bosibl o niwed i les yr anifeiliaid hyn yn cynyddu os nad oes teledu cylch cyfyng yn weithredol.

Yn achos y lladd-dai lle y gosodwyd teledu cylch cyfyng, nid oes unrhyw gysondeb o reidrwydd o ran lleoliad camerâu mewn lladd-dai. Ni cheir unrhyw fanylebau cyson ynglŷn â lleoliad neu nifer y camerâu. Felly, hyd yn oed mewn lladd-dai lle y ceir gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng, nid oes unrhyw sicrwydd fod y camerâu mewn lleoliadau addas i ffilmio'r hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau safonau uchel o les ym mhob achos. Felly, mae angen inni edrych ar hyn yn ogystal.

Dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2017, tua £33,000 yn unig o arian Llywodraeth Cymru a neilltuwyd ar gyfer helpu'r Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau lles. Mae llawer o arbenigwyr yn ystyried bod y lefel hon o gyllid yn gwbl annigonol ar gyfer sicrhau y cydymffurfir â gweithdrefnau cywir. Yn ei datganiad ddoe, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, sydd yma heddiw wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn lladd-dai bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll heriau'r dyfodol yn well. Ychwanegodd:

'byddaf yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i weithio gyda gweithredwyr busnes bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan. Mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol o ran diogelu lles anifeiliaid'.

Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae Cymru bellach ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn llusgo'i thraed mewn perthynas â gosod teledu cylch cyfyng. Mae cynnig UKIP heddiw yn ceisio sicrhau bod safonau lles anifeiliaid Cymru yn gyfredol drwy alw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu ar wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng a darparu cyllid uniongyrchol priodol at y diben hwn.

Mae rhan nesaf ein cynnig heddiw yn ymwneud â lladd heb stynio. Ar hyn o bryd, mae gan aelod-wladwriaethau'r UE gymhwysedd i ofyn am randdirymiad sy'n caniatáu i ladd-dai hepgor stynio anifeiliaid ar sail arferion crefyddol. Mae'r ffaith bod cyfraith y DU yn datgan y dylid stynio anifeiliaid cyn eu lladd ohoni ei hun yn cydnabod mai stynio cyn lladd yw'r dull lleiaf creulon. O dan gyfraith Islamaidd, sy'n ymwneud â halal fel dull o ladd, ac o dan gyfraith Iddewig, sy'n ymwneud â'r dull shechita o ladd, rhaid ystyried bod anifail yn fyw ar adeg eu lladd. Mae Shechita yn gwahardd yn benodol unrhyw stynio a wneir i anifail cyn ei ladd. Ledled y DU, mewn lladd-dai lle yr arferir lladd halal, caiff 80 i 85 y cant o'r holl anifeiliaid eu stynio cyn eu lladd—gwybodaeth gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i adael cyfran sylweddol o anifeiliaid yn y DU sy'n cael eu lladd heb eu stynio. Ceir pryder cynyddol, o ystyried twf cyflym y farchnad halal, fod y cyhoedd yn gyffredinol yn rheolaidd bellach yn bwyta cig wedi'i stynio a heb ei stynio.

Beth y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud ar y pwnc hwn? Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Compassion in World Farming a'r Humane Slaughter Association oll wedi galw'n gyhoeddus am wahardd lladd heb stynio yn y DU. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi datgan bod

stynio'n well o safbwynt lles 

ar sail tystiolaeth wyddonol.

Roedd eu hymchwil yn ailwerthuso'r angen i stynio lloi cyn eu lladd. Nododd yr astudiaeth:

Gall ymwybod, a gallu'r anifail felly i deimlo poen a phrofi trallod ar ôl y toriad, barhau am 60 eiliad neu'n hwy mewn gwartheg.

Dylwn nodi hefyd fod lladd heb stynio eisoes wedi'i wahardd yn Denmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd.

Beth am farn y cyhoedd ar y mater hwn? Yn ddiweddar, lansiodd Cymdeithas Milfeddygon Prydain ddeiseb i wahardd lladd heb stynio. Cyrhaeddodd dros 100,000 o lofnodion, gan ysgogi dadl yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2014. Cynhaliodd Farmers Weekly arolwg ar-lein ym mis Mawrth a mis Ebrill 2018 yn gofyn y cwestiwn, 'A ddylid gwahardd lladd anifeiliaid heb eu stynio am resymau crefyddol yn y DU?' Atebodd 77 y cant y dylai gael ei wahardd.

Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn? Mae Lesley Griffiths wedi datgan o'r blaen yn y Siambr ei bod wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â stynio anifeiliaid cyn eu lladd. Dywedodd y byddai'n ystyried y cyngor, ond na fyddai'n gwneud polisi heb ystyriaeth drylwyr—roedd hyn pan oedd hi'n cael cwestiynau materion gwledig gan fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Dywedodd y Prif Weinidog, yn wahanol i Lesley Griffiths, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ddiweddar, na fyddai'n cefnogi gwaharddiad ar ladd heb stynio—roedd hyn mewn ymateb i gwestiynau gennyf yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog.

Beth yw safbwynt Llywodraeth y DU? O dan y Llywodraeth glymblaid yn y blynyddoedd diweddar, cafodd deiseb a gyrhaeddodd dros 100,000 o lofnodion yn galw am wahardd lladd heb stynio ei thrafod yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn anffodus, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei hymrwymiad i randdirymiad yn y gyfraith sy'n caniatáu lladd anifeiliaid heb eu stynio.

Mae'n dod yn fwyfwy amlwg fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn barod i anwybyddu cyngor arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid. Ar fater mor bwysig â hyn, lle y profwyd mai stynio cyn lladd yw'r arfer gorau o ran safonau lles, ni ddylem ganiatáu i arferion crefyddol bennu polisi Llywodraeth.

Gan droi at y gwelliannau heddiw, mae digonedd o bethau yng ngwelliannau'r Ceidwadwyr a'r Llywodraeth y byddem yn cytuno â hwy, ond wrth gwrs, maent unwaith eto'n ceisio dileu llawer o'r hyn a fynegwn yn ein pwyntiau, felly nid ydym yn cefnogi'r gwelliannau hynny heddiw.

Ar y llaw arall, mae Neil McEvoy wedi cyflwyno gwelliant adeiladol, nad yw'n dileu'r hyn a ddywedwn ond mae'n ychwanegu pwynt da ato. Mae Neil yn nodi mater gwerthu cŵn bach gan drydydd parti. Rwyf fi a Michelle Brown wedi gofyn cwestiynau am y mater hwnnw o ochr UKIP yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac rydym yn hapus i gefnogi gwelliant 3 gan Neil heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:45

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw yn awr ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—Andrew R.T. Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd.

Yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo fel bod y drefn reoleiddio yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gynyddu’r dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum mlynedd a chyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ledled Cymru;

b) archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy a gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol yng Nghymru; ac

c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n credu bod Darren yn meddwl y byddai'n rhaid iddo godi a gwneud araith yn y fan honno. [Chwerthin.] Diolch ichi, Lywydd—mae'n bleser gennyf gynnig y gwelliant y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno i'r ddadl heddiw gan UKIP, a diolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl ar les anifeiliaid yma yn y Siambr y prynhawn yma. Fel y dywedais yn y datganiad ddoe, buaswn yn tybio mai un o'r pethau sy'n llenwi'r rhan fwyaf o sachau post yr Aelodau, a sachau post y Llywodraeth yn wir, yw materion yn ymwneud â lles anifeiliaid a'r pryder sydd gan y cyhoedd yma yng Nghymru ynghylch anifeiliaid fferm ac anifeiliaid domestig yn ogystal. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig deall, a soniodd arweinydd UKIP am hyn—y ffaith ein bod yn dileu rhan o'r cynnig—yn y sector ffermio da byw mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig edrych ar fframweithiau'r DU yn ogystal, ar y sail fod llawer o dda byw Cymru, er gwell neu er gwaeth, yn mynd i Loegr i'w prosesu. Ni allwch ynysu Cymru ar ei phen ei hun, er y gallwn ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni i wneud gwelliannau sylweddol yma.

Roedd yn bleser gwneud yn siŵr fod ein maniffesto yn 2016 yn cynnwys hwyluso teledu cylch cyfyng gorfodol ar draws holl ladd-dai Cymru, a gwn fod y Llywodraeth, er clod iddynt, a bod yn deg, yn gwneud cynnydd ar y mater penodol hwn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y sicrheir mynediad at gyllid ar gyfer lladd-dai bach a chanolig eu maint, oherwydd mae'r pwysau yn y sector penodol hwnnw wedi cyfyngu'n enfawr ar nifer y lladd-dai sydd ar gael yma yng Nghymru, ac mae hynny i bob pwrpas yn ychwanegu milltiroedd at yr amser teithio sy'n rhaid i stoc ei oddef cyn cael eu prosesu, oherwydd, yn amlwg, mae'r lladd-dy lleol wedi gorfod cau oherwydd pwysau costau. Felly, mae'n hanfodol bwysig fod y Llywodraeth yn gweithio gyda'r sector i wneud yn siŵr fod teledu cylch cyfyng yn dod yn orfodol mewn lladd-dai, a bod y systemau ariannol, naill ai drwy'r cynllun datblygu gwledig neu fath arall o gymorth, yn dod ar gael i'r gweithredwyr hynny.

Heb rithyn o amheuaeth, mae'r sefyllfa a welwn yn yr amgylchedd a ffermir ar hyn o bryd yn wahanol iawn i ble'r oeddem 20 mlynedd yn ôl o ran lles anifeiliaid. Mae gennym ddefnyddiwr sy'n llawer mwy gwybodus wrth brynu'r cynnyrch oddi ar y silff y dymunant ei fwyta ac yn aml iawn drwy eu chwaeth a'u galwadau hwy, maent yn ysgogi gwelliannau lles wrth gât y fferm. Rydym wedi gweld llu o gynlluniau gwarant ffermydd yn cael eu cyflwyno yn y sector da byw i roi sicrwydd i'r defnyddiwr pan fyddant yn gwneud y dewis gwybodus hwn—a logo'r tractor coch yw un o'r cynlluniau hynny, ac mae gwarant anifeiliaid fferm RSPCA, gyda'u label lles, yn un arall, a gallwn barhau oherwydd ceir llawer ohonynt. Yn wir, un o'r problemau, buaswn yn awgrymu, yw bod gormod o gynlluniau gwarant i'w cael o bosibl, a phe bai modd eu dwyn ynghyd o dan un neu ddau o labeli, byddai hynny'n helpu i hysbysu'r defnyddiwr beth y mae'n ei brynu mewn gwirionedd.

Mae hynny'n arwain at labelu, a chredaf fod hwnnw'n faes pwysig ar gyfer gwella. Yn y datganiad ddoe soniais am enghraifft y cyw iâr a gafodd ei brynu yma yng Nghymru. Ar flaen y pecyn dywedai 'British poultry', ond wedi i chi ei droi drosodd, dywedai mai cynnyrch o Wlad Thai ydoedd. Nawr, os oes rhywun am brynu cynnyrch o Wlad Thai, croeso iddynt wneud hynny, ond pan fyddwch yn edrych ar y silff a bod y neges ar y blaen yn dweud wrthych mai dofednod wedi'i gynhyrchu yn y wlad hon ydyw, mae hynny'n camarwain y defnyddiwr, heb rithyn o amheuaeth, ac eto mae'n ymddangos bod y manwerthwr yn yr achos penodol hwn wedi cael rhyddid i wneud hynny.

Felly, mae angen inni weithio mewn sawl ffordd i wneud y gwelliannau y dymunwn eu gweld—o labelu i welliannau seilwaith ac yn bennaf oll, buaswn yn awgrymu, fel y dywedais yn y datganiad ddoe, mewn perthynas ag addysg yn arbennig. Mae'r gwelliant a gyflwynwyd gennym yn cynnwys cynnig cyfraith Lucy y credaf ei fod yn hanfodol i ni geisio gwneud cynnydd yma yng Nghymru ar fater anifeiliaid anwes domestig, yn enwedig—cŵn, cŵn bach a chathod bach—oherwydd mae hwn yn faes sy'n peri pryder enfawr i'r cyhoedd yn gyffredinol, ac yn anffodus mae ffermio cŵn bach, yn arbennig, wedi cael troedle yng ngorllewin Cymru, yn benodol, fel y profodd nifer o enghreifftiau. Mae gennym allu yma drwy'r pwerau deddfwriaethol sydd gennym a'r rheoliadau y gallwn eu gwneud i gael gwared unwaith ac am byth ar y broses hon sy'n arwain at ganlyniadau lles mor ofnadwy i gŵn bach ac yn arbennig, i gathod bach yma yng Nghymru a thu hwnt, yn amlwg, oherwydd caiff yr anifeiliaid hynny eu cludo dros bellteroedd mawr i'r farchnad y mae pobl yn ceisio gwerthu'r cŵn a'r cathod bach hynny iddi yn y pen draw.

Hoffwn ofyn hefyd i'r Gweinidog os gallai, yn ei hymateb, gyffwrdd ar y pwynt mai un peth yw i ni siarad yn y Siambr hon am reoliad a deddfwriaeth, ond yr hyn sy'n bwysig ei ddeall yw: a oes gallu ac adnoddau gan y cyrff rheoleiddio yma yng Nghymru i weithredu'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau a gyflwynwn mewn gwirionedd? Yn aml iawn, adrannau safonau masnach yw un o'r adrannau sy'n dioddef toriadau mawr mewn llywodraeth leol, ac maent o dan bwysau enfawr a chanddynt agenda helaeth i ymdrin â hi. A'r hyn sy'n rhaid ei ddeall os ydym am gyflwyno cynigion fel cyfraith Lucy, fel gwella rheoliadau cludo anifeiliaid fferm a gwelliannau i ladd-dai, yw bod capasiti yn y cyrff rheoleiddio i oruchwylio a gwneud yn siŵr y gellir plismona'r amddiffyniadau y dymunwn eu rhoi ar waith, ac y mae ein hetholwyr yn briodol iawn yn eu mynnu gennym, allan yno yn y diwydiant ac yn y sector anifeiliaid anwes.

Felly, dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r gwelliant y mae'r Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno y prynhawn yma, oherwydd nid yw'n edrych ar Gymru ar ei phen ei hun yn unig, mae'n edrych ar draws y DU gyfan, ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol, nid yn unig maes ffermio da byw, ond hefyd yn yr amgylchedd anifeiliaid anwes yn ogystal, sy'n destun pryder allweddol i etholwyr.     

16:50

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Gwelliant 2—Julie James

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:

a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;

b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.

c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.

Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member
Lesley Griffiths 16:54:38
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei enw. 

Gwelliant 3—Neil McEvoy

Ym mhwynt 2, ychwanegu is-bwynt newydd:

gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i roi terfyn ar ffermio anfoesegol cŵn bach.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, nid yw hwn yn fater Mwslimaidd nac Iddewig. Nid oes ganddo ddim i'w wneud ag arferion crefyddol, felly nid wyf yn gweld perthnasedd crybwyll hynny yn gynharach. Mater sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yw hwn.

Rwyf wedi cyflwyno gwelliant syml: sef gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd parti er mwyn rhoi diwedd ar ffermio cŵn bach yn anfoesegol. Gall bridio cŵn mewn modd dwys olygu bod cannoedd o anifeiliaid yn byw mewn amgylchiadau cyfyng iawn, gyda geist yn gorfod magu toreidiau lluosog bob blwyddyn. Cafodd cynnig cynnar-yn-y-dydd ar y mater a gyflwynwyd yn Senedd San Steffan ym mis Rhagfyr 2017 gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol, ac aeth Llywodraeth y DU ati wedyn i gyhoeddi y byddai'n rhoi diwedd ar yr arfer o ffermio batri yn Lloegr drwy waharddiad ar werthu gan drydydd parti.

Nawr, nid yw'n iawn mewn gwirionedd fod gennym gŵn yng Nghymru sy'n byw mewn amgylchiadau ofnadwy ac yn cael eu gorfodi i fridio drosodd a throsodd. Roeddwn yn gwrando ar straeon arswyd neithiwr ynglŷn â chŵn yn cael eu gadael mewn cyflwr ofnadwy oherwydd bridio parhaus. Y cymhelliad yw ei fod yn cael ei weld fel arian hawdd. Mae angen y dechrau gorau mewn bywyd ar gŵn bach, ac mae hynny'n golygu gofal am les anifeiliaid yn hytrach na bod cŵn yn cael eu gweld fel ffordd o wneud arian yn unig. Gobeithio y bydd pawb ohonom yn pleidleisio i sicrhau'r safonau lles anifeiliaid uchaf yng Nghymru, a hoffwn ofyn i bawb ohonoch ymuno â mi i bleidleisio o blaid y gwelliant hwn i roi diwedd ar ffermio cŵn bach yng Nghymru. Diolch yn fawr.

16:55

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett, mae dadl UKIP heddiw'n ymwneud ag un peth: gwella bywydau anifeiliaid fferm o adeg eu magu hyd nes y cânt eu lladd. Mae UKIP wedi bod ar flaen y gad yn ymdrin â pholisi lles anifeiliaid. Fel plaid, rydym wedi hyrwyddo safonau uchel o ran lles anifeiliaid ar gyfer da byw ac anifeiliaid domestig. Yn wir, ymhell cyn y newidiadau i'r gyfraith yn Lloegr, roedd fy mhlaid yn galw am ddedfrydau llymach o garchar ar gyfer pobl sy'n euog o gam-drin anifeiliaid a gwaharddiad am oes ar unrhyw unigolyn y gwelir ei fod wedi cam-drin neu wedi esgeuluso anifail yn y fath fodd. Rydym yn cydnabod bod gan y DU rai o'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid yn y byd. Fodd bynnag, fel yr awgryma ein cynnig heddiw, fe allwn wneud mwy. Mae fy nghyd-Aelod, Gareth Bennett, eisoes wedi datgan fod lle pendant i wella'r dulliau o ladd anifeiliaid a'r modd y gall Llywodraeth Cymru hwyluso lefelau uwch o wyliadwriaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag arferion gorau bob amser.

Mae pwynt 3 ein cynnig yn ymdrin â mater allforio anifeiliaid byw. I roi rhywfaint o gyd-destun i hyn, 1.3 y cant yn unig o gyfanswm gwerth allforion byw y DU sy'n anifeiliaid a fagwyd yng Nghymru. Felly, gallwn fod yn sicr na fyddai diwydiant amaethyddol Cymru yn cael ei niweidio i raddau mawr pe bai gwaharddiad ar allforion byw yn dod yn weithredol. Rydym yn falch o'r enw da rhyngwladol sydd i sector cig coch Cymru, ac rydym yn credu'n gryf fod anifeiliaid a fagwyd ac a laddwyd yn lleol o dan safonau lles anifeiliaid uchel yn arwain at y cynnyrch terfynol gorau, a hynny yn ei dro yn arwain at gynyddu hyder defnyddwyr.

Yn 2011, adolygodd y Comisiwn Ewropeaidd ei reoliadau ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo, ac mae'n rhaid dweud bod y rheoliadau hyn yn mynd gyn belled â phosibl i sicrhau safonau lles uchel drwy awdurdodi cludwyr, sefydlu gofynion sylfaenol ar gyfer cerbydau a chynwysyddion, cyfyngiadau ar hyd amser teithio a gofynion ar gyfer seibiant awdurdodedig. Fodd bynnag, cydnabu adolygiad y Comisiwn ei hun fod problemau difrifol yn dal i fodoli o ran lles anifeiliaid wrth eu cludo. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau yn y DU ac yn Ewrop lle methwyd bodloni safonau lles, gan arwain at anifeiliaid yn dioddef anafiadau, diffyg hylif a blinder, a hyd yn oed yn marw wrth gael eu cludo.

Y llynedd, gadawyd lori o Fwlgaria yn cario defaid am bedwar diwrnod heb fawr o ddŵr na bwyd, gan arwain at ddioddefaint a marwolaeth nifer o'r anifeiliaid. Ac yn 2012, pennwyd nad oedd cerbyd a gludai ddefaid drwy borthladd Ramsgate yn ffit i deithio. Canfuwyd bod yr anifeiliaid ynddi'n sâl ac yn gloff, gan arwain at orfod lladd 43 ohonynt. Yn yr achos llys a ddilynodd, dyfarnodd yr Uchel Lys na allai'r porthladd wahardd allforio anifeiliaid byw ar sail y rhyddid i symud o fewn Ewrop. Er bod yr achosion mwy difrifol hyn yn brin, maent yn dangos na all unrhyw faint o reoliadau ar gludiant gael gwared ar y risg i les anifeiliaid yn llwyr.

Risg bellach i dda byw sy'n cael eu hallforio o'r DU yw eu bod yn aml yn cael eu cludo ar longau fferi anaddas. Deillia hyn o'r ffaith bod cwmnïau fferi mawr wedi gwahardd da byw ar eu llongau. Mae llefarydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi cydnabod y broblem, wrth gyfaddef yn 2016, fod porthladd Ramsgate a'r fferïau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cael eu disgrifio—yn llednais, meddai—fel rhai 'nad ydynt yn ddelfrydol ar gyfer masnach o'r fath'.

Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, mae gennym gyfle i wella safonau deddfwriaeth lles anifeiliaid yng Nghymru a'r DU, yn enwedig lle mae'n ymwneud ag anifeiliaid wrth eu cludo. Byddai gwneud mwy i ddiogelu lles anifeiliaid yn llesol i dda byw, ond byddai hefyd yn llesol i ddiwydiant amaethyddol gwerthfawr Cymru. Bob blwyddyn, mae'r UE yn amcangyfrif bod tua 4 miliwn o wartheg, 28 miliwn o foch, 4 miliwn o ddefaid, 245 miliwn o ddofednod a 150,000 o geffylau yn cael eu cludo am fwy nag wyth awr o fewn yr UE. Mae'r niferoedd hyn yn dangos maint y broblem a'r lle i droseddau ddigwydd o ran safonau lles. Yn UKIP, rydym yn gwbl argyhoeddedig fod anifeiliaid sy'n gorfod teithio am gyfnodau hir o amser yn peryglu'r safonau lles hynny ni waeth pa ragofalon a roddir ar waith. Ar ôl gadael yr UE, bydd UKIP yn mynnu bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn deddfu ar gyfer gwaharddiad, ac rydym yn annog y Siambr hon a Llywodraeth Cymru i'n cefnogi yn y cynnig hwn.

17:00

Nid wyf yn amau eich didwylledd o ran peidio â bod eisiau peryglu lles anifeiliaid, ond wrth gwrs, mae perygl y bydd holl broses Brexit yn tanseilio hynny. Oherwydd rydym ni ym Mhlaid Cymru eisiau gweld Cymru'n un o arweinwyr y byd ym maes lles anifeiliaid ac rydym am weld hynny'n parhau ar ôl yr heriau sylweddol y mae Brexit yn eu creu i les anifeiliaid, oherwydd mae rheoliadau'r UE, wrth gwrs, ar safonau lles ymysg yr uchaf yn y byd ac mae angen inni wneud yn siŵr fod y safonau hynny'n cael eu cynnal a'u gweithredu, ac mae'n hollbwysig nad yw Brexit yn arwain at ras i'r gwaelod ar fater safonau lles anifeiliaid. A'r ffordd orau, wrth gwrs, y gallem ddiogelu lles anifeiliaid yng Nghymru yw aros yn yr UE neu o leiaf aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau.

Nawr, mae bron 50 y cant o'r milfeddygon sy'n cofrestru yn y DU wedi cymhwyso mewn mannau eraill yn yr UE. Yn y gwasanaethau hylendid cig, amcangyfrifir bod mwy na 80 y cant o'r gweithlu milfeddygol ledled y DU yn ddinasyddion yr UE nad ydynt yn hanu o Brydain. Mewn gwirionedd, credaf ei fod yn agosach i 100 y cant, os nad yn 100 y cant, yma yng Nghymru. Felly, yn dilyn Brexit, bydd angen inni sicrhau nifer ddigonol o weithwyr proffesiynol milfeddygol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes ac mae hyn yn cynnwys diogelu lles anifeiliaid mewn lladd-dai wrth gwrs.

Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi lladd a phrosesu anifeiliaid mor agos â phosibl i'r man lle y cawsant eu magu. Mae hyn o fudd i'w lles a'r economi wledig yn lleol ac wrth gwrs, ceir manteision amgylcheddol o ran lleihau allyriadau am na fyddai angen cludo anifeiliaid am bellteroedd mor hir. Bydd angen cymorth i'r sector bwyd a diod yn dilyn Brexit, ac mae hynny'n golygu gan ffermwyr i ladd-dai i'r proseswyr bwyd hefyd fel y gallwn ddiogelu lles anifeiliaid a sicrhau bod gan gynnyrch o Gymru y brand cryf y byddai pawb ohonom yn hoffi iddo ei gael, yn arwydd o'r safonau uchel rydym mor falch ohonynt.

Mae gan wyliadwriaeth teledu cylch cyfyng rôl bwysig i'w chwarae yn sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau presennol sy'n ymwneud â lles anifeiliaid. Fodd bynnag, mae angen cadw mewn cof hefyd fod lladd-dai yng Nghymru yn tueddu i fod yn fusnesau bach ac yn amlwg byddai'n rhaid i ddeddfu ar ddefnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng ddigwydd ar y cyd â darparu cymorth ychwanegol i'r busnesau bach hyn.

Un dull allweddol a allai sicrhau gwelliannau sylweddol ym maes lles anifeiliaid, wrth gwrs, yw dewis i ddefnyddwyr ar sail gwybodaeth, ac mae hyn yn dilyn ymlaen o bwynt a wnaed o'r blaen am labelu. Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn galw am ddulliau gorfodol o labelu cynhyrchion cig a llaeth ac ar hyn o bryd, rwy'n credu, ceir saith prif gynllun gwarant ffermydd—rhestrwyd rhai ohonynt yn gynharach—a meini prawf gwahanol gan bob un, ac nid yw'r diffyg eglurder, felly, ynglŷn â stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn cael y sylw y dylai ei gael yn y cyswllt hwnnw o bosibl.

Nawr, canfu arolwg Cymdeithas Milfeddygon Prydain i ganfod llais y proffesiwn milfeddygol fod 94 y cant o filfeddygon yn credu y dylai pobl sy'n bwyta cig a physgod yn y DU gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dulliau lladd. Hefyd, ceir cefnogaeth sylweddol ymhlith y cyhoedd i labelu cliriach yn gyffredinol: mae 80 y cant o gwsmeriaid yr UE eisiau labeli sy'n dangos yn glir pa system ffermio a ddefnyddiwyd i gynhyrchu eu cynnyrch cig a llaeth. Ac fel y nodwyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain gallai labeli bwyd gorfodol ar gynnyrch, ac rwy'n dyfynnu,

roi pwynt gwerthu unigryw i gynhyrchwyr bwyd a ffermwyr y DU ar ôl Brexit drwy roi'r labeli lles clir y maent eu heisiau i ddefnyddwyr.

A buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i fynd ar drywydd hynny o ran ble rydym am fynd yma yng Nghymru. Gall ffermwyr Cymru gystadlu ag unrhyw le yn y byd o ran safon ac o ran ansawdd eu cynnyrch, ac mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y ffordd y caiff eu bwyd ei farchnata, ei frandio a'i labelu.

Mae yna berygl gwirioneddol y bydd Brexit yn arwain at orlifo marchnad Cymru â chynnyrch o ansawdd is, heb unrhyw ystyriaeth, o bosibl, i les anifeiliaid, ac yn sicr nid dyna'r llwybr yr ydym am ei ddilyn. Hoffwn ddweud—ac fel y dywedais ddoe, mewn gwirionedd, mewn ymateb i ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar les anifeiliaid—ein bod yn cefnogi camau gweithredu ar werthu cŵn bach gan drydydd parti, ac yn y cyswllt hwnnw byddem yn sicr yn annog Llywodraeth Cymru i roi camau pendant ar waith ar hynny hefyd.

17:05

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 17:06:38
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser gennyf ymateb i'r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol. Fel y dywedais sawl gwaith, gan gynnwys ddoe yn fy natganiad llafar ar yr un pwnc, ac fel y cefais fy nyfynnu gan Gareth Bennett, buaswn yn ystyried deddfu i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar waith ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Fodd bynnag, byddaf yn gweithio yn gyntaf gyda gweithredwyr busnesau bwyd mewn perthynas gefnogol i gyflawni'r un amcan.

Rwyf am ategu ymrwymiadau eraill a wneuthum ddoe mewn perthynas â'r gwaith o barhau i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod lles anifeiliaid yn faes na fyddwn yn cyfaddawdu yn ei gylch. Mae'n uchel iawn ar fy agenda, ac mae'n bwysig dros ben inni gynnal ein safonau a'n disgwyliadau, yn enwedig o ystyried y pwysau a allai ein hwynebu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn cefnogi gwelliant 1 gan y Ceidwadwyr Cymreig unwaith eto am fod yr alwad i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol yn rhy gynnar. Rwy'n ailadrodd: yn y lle cyntaf rwy'n gweithio i gefnogi'r lladd-dai bach a chanolig eu maint yng Nghymru.

Lladd-dai mawr sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o'r anifeiliaid a leddir yng Nghymru ac mae teledu cylch cyfyng ganddynt eisoes, fel, yn wir, sydd gan bob lladd-dy sy'n cyflenwi archfarchnadoedd. I gefnogi fy safbwynt, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i'w galluogi i osod teledu cylch cyfyng a chyflawni gwelliannau eraill i'w busnesau i'w gwneud yn fwy gwydn. Mae'r diwydiant wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol iawn i'r fenter hon, ac mae mwy na dwy ran o dair o'r rhai sy'n gymwys eisoes mewn trafodaethau gyda'n rheolwyr busnes, sy'n dangos sut y mae'r diwydiant, gyda'r cymorth priodol, yn arwain ar wella safonau lles. Roeddwn yn benderfynol o gefnogi lladd-dai llai o faint i'w cynorthwyo i allu lladd anifeiliaid yn nes at y man cynhyrchu, a byddaf yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar y grant yn ystod y misoedd nesaf.

Rwyf wedi bod yn glir bob amser: dylid lladd anifeiliaid mor agos at y fferm â phosibl. Rwy'n derbyn bod y fasnach anifeiliaid byw yn gyfreithlon ar hyn o bryd, a byddaf yn parhau i sicrhau bod lles anifeiliaid wrth eu cludo ac adeg eu lladd yn parhau i wella yng Nghymru. A hoffwn ddweud wrth Gareth Bennett fod cofnodion yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cadarnhau nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd ar hyn o bryd mewn unrhyw ladd-dai yng Nghymru. Mae gan gig coch a gynhyrchwyd yng Nghymru enw da hirsefydlog am ei ansawdd. Ni ellir ennill enw da o'r fath heb gael, a chynnal, safonau iechyd a lles anifeiliaid sy'n gadarn. Mae llawer o'r lladd-dai bach hefyd yn gweithredu siopau cigydd lleol ac yn cynnal bwytai a gwestai lleol, ac rwy'n siŵr y gall pawb gydnabod y cysylltedd a'r gwerth y mae hyn yn ei gynnig i gymunedau gwledig.

Soniodd Andrew R.T. Davies am bwysigrwydd swyddogion gorfodi yn ein hawdurdodau lleol a'n hasiantaethau eraill, ac yn sicr, mae'n bwysig iawn, pan fyddwn yn gweld lles anifeiliaid yn dioddef, ein bod yn ymdrin â'r mater yn gyflym iawn, ac mae'r dyddiau a dreuliais gyda'r RSPCA, er enghraifft, a thîm troseddau gwledig gogledd Cymru, yn fy sicrhau bod hynny'n bendant yn digwydd, ond mae'n bwysig iawn fod capasiti gan awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Rydym hefyd yn cyflawni rhaglen waith fawr i ddiffinio cyfres o werthoedd brand cynaliadwy a fydd yn diffinio cynhyrchiant bwyd yng Nghymru o'r dechrau i ben draw'r gadwyn cyflenwi bwyd. Bydd datblygu'r gwerthoedd brand hyn yn caniatáu i gynhyrchwyr yng Nghymru fod yn wahanol i gystadleuwyr rhyngwladol, gan ganiatáu inni gynyddu effaith neges cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth o'n bwyd a'n diod mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol. Mae'n mynd i fod yn gwbl hanfodol i'n llwyddiant parhaus ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ymchwil pellach ar y gweill i bennu pa fesurau cynaliadwyedd sy'n bwysig i brynwyr a defnyddwyr y farchnad, a sut y gellir achredu'r cynllun er mwyn iddo gael ei gydnabod fel safon ansawdd ar draws yr holl farchnadoedd.

O ran labelu bwyd, mae'r rheoliadau'n glir ar y wybodaeth sy'n rhaid ei darparu i ddefnyddwyr pan fyddant yn prynu bwyd a sut y dylid cyflwyno'r wybodaeth honno. Fel y soniais ddoe, rhaid i labeli pob cynnyrch porc, cig oen, cig gafr a dofednod ffres, wedi'u hoeri ac wedi'u rhewi gynnwys tarddiad, sy'n golygu gorfodaeth i labelu'r man lle magwyd, a lle lladdwyd yr anifail y daeth y cig ohono. Mae angen i unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth labelu bwyd a diod fod yn seiliedig ar dystiolaeth gan gadw mewn cof hefyd sut y caiff bwyd a diod eu masnachu a'u defnyddio o fewn y farchnad gyfan.

Cynhaliodd y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm adolygiad o lenyddiaeth, ac mae prosiect a ariennir ar y cyd drwy Brydain yn mynd rhagddo ar les anifeiliaid wrth eu cludo. Cyflwynir y canfyddiadau i'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm, ac maent yn darparu cyngor gwyddonol annibynnol, nid yn unig i ni, ond i Loegr a'r Alban hefyd.

Rwy'n cefnogi gwelliant 3 gan Neil McEvoy. Unwaith eto, soniais am hyn ddoe yn y datganiad llafar—gofynnais i fy swyddogion archwilio sut y gallai'r gwaharddiad ar werthiannau gan drydydd parti ddatrys pryderon yr Aelodau a'r cyhoedd. Mae gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi cŵn bach yn arbennig o bwysig yn y broses hon, rwy'n credu. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â gwraidd unrhyw bryderon lles wrth wneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth, a soniais ddoe y byddaf yn lansio ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd.

Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ac awdurdodau lleol hefyd i sicrhau bod gennym dystiolaeth a data perthnasol. Byddant hefyd yn cysylltu â DEFRA a Llywodraeth yr Alban i sicrhau synergedd rhwng dulliau gweithredu er mwyn cyflawni gwelliannau real a pharhaol. Mae'r farchnad cŵn bach wedi'i gyrru gan y galw, a gall dalu'n dda iawn i fridwyr a gwerthwyr, ac mae perchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes yn dechrau gyda chyrchu cyfrifol. Felly, rwy'n falch iawn o gael y cyfle unwaith eto yr wythnos hon i atgyfnerthu safbwynt Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, ac i ailadrodd bod iechyd a lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Diolch.

17:10

Diolch, Lywydd. Diolch i bawb a gyfrannodd at ddadl ddiddorol. Os caf fynd drwy'r cyfraniadau, roedd Andrew R.T. Davies yn dweud wrthym am rai o'r agweddau sy'n broblemus ynglŷn â'r cynnig yn yr ystyr fod llawer o dda byw Cymru mewn gwirionedd yn croesi'r ffin ac yn mynd i Loegr i'w prosesu. Roedd y Ceidwadwyr, yn eu maniffesto yng Nghymru, yn cefnogi gosod teledu cylch cyfyng yn holl ladd-dai Cymru, sy'n cyd-fynd â rhan o'n cynnig heddiw. Ond fe nododd mai un agwedd hollbwysig fydd arian i atal rhagor o ladd-dai lleol cymharol fach rhag cau, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Rydym yn cytuno bod angen ymateb cydgysylltiedig, gyda'r Llywodraeth yn helpu i ariannu'r lladd-dai er mwyn caniatáu iddynt osod darpariaeth felly.

Soniodd Andrew hefyd am y gwelliannau mawr sydd wedi digwydd ym maes lles anifeiliaid dros yr 20 mlynedd diwethaf, a gwelliannau hefyd o ran labelu. Ond fe dynnodd sylw at broblemau gyda geirwiredd peth o'r labelu, oherwydd y nifer fawr o wahanol labeli a ddefnyddir bellach, felly mae'n bosibl fod hynny'n creu amheuon ynglŷn ag i ba raddau y gellir ymddiried yn y labeli. Wrth gwrs, nododd Andrew un enghraifft benodol lle roedd cynnyrch wedi'i fewnforio o Wlad Thai mewn gwirionedd.

Mae'n awyddus i Lywodraeth Cymru wella'r broses o reoleiddio—mae'r Ceidwadwyr am i Lywodraeth Cymru wella'r broses o reoleiddio—ffermio cŵn bach a chathod bach, sydd, fel y nododd Andrew, wedi cael troedle yng ngorllewin Cymru, yn enwedig ffermio cŵn bach. Ond tynnodd sylw at y ffaith bod angen capasiti yn y cyrff rheoleiddio i sicrhau bod unrhyw reoliadau neu waharddiadau a gyflwynir yn cael eu gorfodi'n effeithiol.

Roedd Neil McEvoy yn siarad yn benodol am broblem ffermio cŵn bach. Soniodd am yr amgylchiadau wael y mae llawer o'r cŵn—a soniodd hefyd am gathod bach—yn eu dioddef yn aml yn y fasnach hon, a mater arall oedd bod lles yr anifeiliaid yn aml yn dioddef, oherwydd yr angen i fridio'n gyson.

Canolbwyntiodd David Rowlands—fy nghyd-Aelod UKIP—ar allforio anifeiliaid byw, a nododd, er gwaethaf rheoliadau'r Comisiwn Ewropeaidd, fod llawer o'r anifeiliaid a gaiff eu hallforio yn dal i wynebu teithiau erchyll. Nododd ei farn y byddai problemau'n dal i ddigwydd hyd yn oed pe baem yn rheoleiddio yn y maes, a'r ateb gorau yn syml yw gwahardd allforio anifeiliaid byw.

Crybwyllodd Llyr Gruffydd lawer o broblemau gyda'n cynnig. Wrth gwrs, fe wnaeth y pwyntiau'n glir iawn. Nododd y risg y gallai Brexit ei hun danseilio lles anifeiliaid, a soniodd fod cyfran fawr o'r milfeddygon sy'n byw yn y DU ac sy'n gweithio mewn lladd-dai yn ddinasyddion o'r tu allan i'r DU mewn gwirionedd—credaf fod llawer ohonynt yn dod o Sbaen—felly mae hon yn broblem rydym yn ei hystyried, a bydd yn rhaid inni ddatrys hynny. Mae rhan dda gan deledu cylch cyfyng i'w chwarae, meddai Llyr, ond fe nododd fod angen cyllid ar ladd-dai bach, sy'n cysylltu â'r pwynt a wnaeth Andrew R.T. Davies, felly rydym yn rhyw fras gytuno ar y pwynt fod gofyn cael cymorth gan y Llywodraeth i helpu'r lladd-dai bach lleol os ydym i symud tuag at osod rhagor o systemau teledu cylch cyfyng. Hefyd, nododd Llyr fod llawer o gefnogaeth gyhoeddus i labelu cliriach, gan gysylltu â phwyntiau Andrew R.T. Davies unwaith eto, ac mae hefyd yn cefnogi camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar werthu cŵn bach, y credaf efallai fod pawb yn gytûn yn ei gylch.

Soniodd Lesley Griffiths, y Gweinidog, am yr angen i gael safonau lles anifeiliaid cryf. Roedd yn braf iawn clywed hynny, ac rwy'n siŵr ei bod wedi ymrwymo i hynny. Fe nododd fod ei Llywodraeth yn erbyn ei gwneud hi'n orfodol i osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai. Roedd hi'n 'rhy gynnar' i wneud hynny yn ei geiriau hi. 'Yn rhy gynnar', ie. Dywedodd ei bod hi'n 'rhy gynnar'. Fe wnaeth y pwynt fod angen gweithio'n agos gyda busnesau bwyd os ydym yn mynd i symud ymlaen yn y maes hwn. Wrth gwrs, cyfeiriodd at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru eisoes. Dywedodd hefyd nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru. Hefyd, mae angen gweithio ar y gwerthoedd brand, ac mae hi'n gweithio arnynt. Unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â labelu, a grybwyllwyd gan nifer o bobl. Eto, dywedodd fod y Llywodraeth yn cefnogi gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd parti. Felly, mae'n debyg fod yr agwedd honno, y gwelliant hwnnw, yn rhywbeth y gall pawb ei gefnogi o bosibl, felly efallai y gallwn symud ymlaen ar hynny cyn gynted â phosibl. Diolch eto i bawb am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Datganiad gan y Llywydd

Cyn inni symud at y cyfnod pleidleisio, mae'n bleser gen i gyhoeddi canlyniad y balot deddfwriaethol a gynhaliwyd heddiw. Mae'n bleser gen i gyhoeddi y gall Darren Millar ofyn i'r Cynulliad gytuno i gyflwyno Bil Aelod ar hawliau pobl hŷn. Llongyfarchiadau, Darren Millar.

9. Cyfnod Pleidleisio

Y cyfnod pleidleisio yw'r eitem nesaf, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud at y bleidlais gyntaf—pleidlais ar ddadl UKIP ar les anifeiliaid. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid tri, neb yn ymatal, 49 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

NDM6863 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Lles Anifeiliaid – cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 3, Yn erbyn: 49, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, un yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6863 – Gwelliant 1: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2, a dad-ddetholwyd gwelliant 3.

NDM6863 – Gwelliant 2: O blaid: 48, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
 

Sy'n dod â ni at y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio. 

17:20

Cynnig NDM6863 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.

2. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:

a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;

b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.

c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.

3. Yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

4. Yn nodi mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio. 

NDM6863 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Lles Anifeiliaid – cynnig fel ei ddiwygiwyd: O blaid: 49, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer

Ni chyflwynwyd pwnc ar gyfer y ddadl fer, a dyna ni felly yn dod i ddiwedd ein trafodion am y dydd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:20.