Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Cyn i ni ddechrau ar y trafodion heddiw, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau am ymuno â mi i nodi blwyddyn ers y bu farw ein cyn gyd-Aelod, Carl Sargeant. Ac ar ran holl Aelodau'r Cynulliad a’r staff, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad dwys â’n cyd-Aelod, Jack Sargeant, a'i deulu ar yr adeg anodd hon.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf felly ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd. 

Dyfodol Amaeth

1. Beth yw gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer dyfodol amaeth yng Nghymru? OAQ52877

Member
Lesley Griffiths 13:30:42
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch. Nodwyd ein gweledigaeth yn ein hymgynghoriad, 'Brexit a'n tir'. Rydym eisiau sector amaethyddol ffyniannus a chryf lle mae ffermwyr yn cynhyrchu canlyniadau o bwysigrwydd mawr i Gymru gyfan. Ceir llawer o ganlyniadau na all neb ond ffermwyr Cymru ar dir Cymru eu cynhyrchu.

Diolch i chi am eich ymateb. Mae'r sector amaeth, wrth gwrs, yn un o gynheiliaid allweddol yr iaith Gymraeg yma yng Nghymru, a byddwch chi'n ymwybodol o ddyletswyddau'r Llywodraeth yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae ystyriaethau diwylliannol a ieithyddol i fod i gael eu gwrthbwyso'n gyfartal ag ystyriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Gyda hynny mewn golwg, ac o fod yn ymwybodol o'r ymateb sydd wedi bod gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan Cytûn—Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, gan Fforwm Gwledig y WLGA, a'r gofid mae rhai o'r rheini wedi'i fynegi am yr impact y bydd yr argymhellion o fewn 'Brexit a'n tir' yn ei gael ar yr iaith Gymraeg, a wnewch chi gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cynnal asesiad trylwyr o impact ieithyddol unrhyw newidiadau y byddwch chi yn eu cyflwyno ac, os bydd yr asesiad impact hwnnw yn dangos y bydd yna niwed i ddyfodol yr iaith Gymraeg, y bydd y Llywodraeth yn newid ei chwrs?

Diolch. Yn sicr, byddwn yn cynnal asesiad o’r effaith ar y Gymraeg, dros y misoedd nesaf yn ôl pob tebyg, cyn i ni gyflwyno'r Papur Gwyn. Yn ôl pob tebyg, mae'r sector amaethyddol yn gwneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru, ac rwy'n credu mai un o'r ffyrdd gorau o warchod yr iaith yw cadw ffermwyr i ffermio ar ein tir.

Un o'r materion cydnerthedd a ddatgelwyd gan yr holl drafodaethau am yr hyn a all ddigwydd o ganlyniad i Brexit yw'r prinder ffrwythau a llysiau a dyfir yn y wlad hon. Yn amlwg, mae hwn yn fater pwysig i les pawb ohonom, ond yn enwedig o ran ein gallu i gyflenwi cynnyrch ffres i’n hysgolion, ein hysbytai a'n gwasanaethau cyhoeddus eraill. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich cynlluniau ar gyfer sicrhau bod gennym ddigon o gyflenwadau o lysiau a ffrwythau, cyflenwadau sydd wedi cael eu tanseilio braidd dros yr 20, 30 mlynedd diwethaf.

Diolch. Dylwn fod wedi crybwyll yn fy ateb agoriadol i Llyr ein bod wedi cael 12,000 o ymatebion i 'Brexit a'n tir'. Felly, rydym wrthi'n dadansoddi'r ymatebion ar hyn o bryd a bydd gennym ymgynghoriad manylach eto yn y gwanwyn, ac yn amlwg, bydd yn pennu ein polisi. Ond rwy'n credu bod yna gyfle go iawn yn codi o gynhyrchu ffrwythau a llysiau, am y tro cyntaf mae'n debyg. Byddwn yn gallu edrych ar gynlluniau a all gynyddu potensial y farchnad, a all yrru gwelliannau mewn cynhyrchiant, arallgyfeirio. Felly, rwy'n credu ei fod yn faes lle byddwn yn sicr yn awyddus i gynorthwyo ffermwyr i allu arallgyfeirio i feysydd fel garddwriaeth neu amaeth-goedwigaeth.

Insiwleiddio Waliau Ceudod

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy'n wynebu anawsterau yn dilyn insiwleiddio waliau ceudod o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru? OAQ52882

Diolch. Rhoddwyd gwybod i ni am nifer fach iawn o gwynion yn ymwneud ag insiwleiddio waliau ceudod a osodwyd dan gynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff yr holl waith a wneir trwy ein cynlluniau Nest ac Arbed eu darparu gan osodwyr cofrestredig. Os methir gwneud y gwaith yn iawn, gall buddiolwyr ofyn am gael gwaith adferol wedi’i wneud gan y contractwr. Os na fydd y contractwr yn masnachu mwyach, cyfeirir defnyddwyr at yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl er mwyn i waith adferol gael ei wneud lle y bo'n briodol.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n siŵr fod y nifer fach o bobl y cyfeiriwch atynt i gyd yn fy etholaeth i yn ôl pob golwg, oherwydd mae gennyf nifer fawr o bobl sydd wedi wynebu problemau o ganlyniad i fethiant gwaith inswleiddio waliau ceudod, ac felly, maent bellach yn wynebu biliau mawr oherwydd y gwaith sy'n rhaid ei wneud. Nawr, fel y dywedasoch yn eich ateb, fe aethant yn ôl at yr adeiladwr, ond ymddengys bod y rhan fwyaf o'r adeiladwyr hynny wedi diflannu'n sydyn iawn. Mae’n gwestiwn arall a oeddent ond yn gwneud y gwaith er mwyn gwneud arian iddynt eu hunain yn unig. Fe aethant at yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl (CIGA), fel y dywedasoch, ac nid yw CIGA yn wirioneddol gefnogol i’w gwarant. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae CIGA yn ei ddweud yw, 'Mae'n ddrwg gennym, problem gyda'r eiddo yw hon, nid yw'n ymwneud â'r gwaith insiwleiddio waliau ceudod'. Ac mae'r unigolion hyn yn unigolion agored i niwed heb arian i dalu am y gwaith sydd angen ei wneud. A wnewch chi roi camau ar waith yn erbyn CIGA os gwelwch yn dda i sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaethau? Maent yn rhoi gwarant ar waith i roi sicrwydd i bobl a ymgymerodd â’r cynlluniau Llywodraeth Cymru hyn, fel eu bod yn gwybod, pe bai problem, y byddent yn cael y gefnogaeth honno. Yn anffodus, nid yw'r gefnogaeth honno yno.

13:35

Diolch i David Rees am y cwestiwn. Soniais mai CIGA yw'r prif ddarparwr gwarantau yn y mater hwn yn draddodiadol. Ac fe gofiwch ein bod wedi cael dadl—tua blwyddyn yn ôl mae'n debyg—pan gafwyd rhywfaint o feirniadaeth o CIGA. Ac yn dilyn y ddadl honno, cyfarfûm â'r prif weithredwr i drafod y pryderon a godwyd er mwyn deall pa gamau y maent yn eu gweithredu er mwyn lliniaru'r problemau hyn. Ac rwy’n ymwybodol eu bod wedi mynd i'r afael â llawer o bryderon blaenorol; rydym yn ei fonitro'n llawer mwy gofalus. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn ystod y misoedd diwethaf, fod gohebiaeth ynghylch problemau wedi lleihau, ond credaf ei bod yn bwysig iawn fy mod yn ymwybodol o'r problemau. Felly, os oes gennych unrhyw achosion unigol, ysgrifennwch ataf, a byddaf yn sicr yn eu trafod gyda CIGA. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, a CIGA ac asiantaethau eraill, fel y gallwn sicrhau diogelwch effeithiol i ddefnyddwyr; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl wybod ble i fynd. Ond buaswn yn hapus iawn i edrych ar unrhyw achosion sydd gennych; os hoffech ysgrifennu ataf i drafod achosion unigol, buaswn yn falch iawn o wneud hynny.

Rwy'n credu bod David Rees wedi nodi mater pwysig iawn, yn rymus iawn, ac nid eich etholwyr chi yn unig sydd wedi’u heffeithio gan hyn, David, ond etholwyr ACau ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn o ddifrif yn tynnu sylw at y broblem pan fyddwch yn ailosod y stoc dai bresennol mewn modd sy'n gwyro oddi wrth y safon wreiddiol, ac nad yw'n cael ei wneud yn y ffordd y dylai gael ei wneud. Ac mae'n bwysig iawn fod cwmnïau sy'n gwneud y math hwn o waith yn gwybod yn iawn beth y maent yn ei wneud, a bod gwersi wedi'u dysgu o hyn. A allwch ddweud wrthym—efallai nad ydym yn gwybod gwir faint y broblem hon eto, gall gymryd peth amser i broblemau ddod yn amlwg, ac efallai na fydd rhai o'r bobl sy'n agored i niwed sy'n byw yn y tai hyn y gwnaed gwaith ailosod gwael arnynt yn ymwybodol o’r broblem eto hyd yn oed. Felly, beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau eich bod yn canfod faint o bobl sydd angen cymorth gyda hyn mewn gwirionedd? Ac fel y dywedais o'r blaen, pa wersi a ddysgwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir y cwmnïau sy'n ailosod, i sicrhau nad yw'r broblem hon yn digwydd yn awr, ac na fydd problemau ôl-osod gwahanol ond cysylltiedig yn dod i'r amlwg yn y dyfodol?

Wel, rydych yn gofyn beth a wnaethom fel Llywodraeth, ac yn sicr o dan y cytundebau newydd sydd gennym ar gyfer Nest 2 ac Arbed 3, fe wnaethom gryfhau'r broses ymhellach trwy gynnwys gofynion sylfaenol ar gyfer gwarantau, monitro cadarn—oherwydd nid wyf yn meddwl bod y monitro mor gadarn ag y gallai fod wedi bod yn y cychwyn—a sicrwydd, ac rydym hefyd yn arolygu pob gwaith gosod wrth gwrs.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Diolch, Llywydd. Mae'r newyddion bod Arolygiaeth Gynllunio Lloegr a Chymru yn bwriadu cael gwared ar rôl cyfarwyddwr gweithredol Cymru yn amlwg yn mynd i fod yn syndod i nifer o bobl ac yn anfon neges glir o safbwynt y peryg bod Cymru yn cael ei hisraddio oddi fewn i'r arolygiaeth honno. A allaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ba ran a gafodd hi a Llywodraeth Cymru yn y penderfyniad hwnnw?

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi—rwy’n credu bod unrhyw israddio yn statws cangen Cymru o'r arolygiaeth yn hollol annerbyniol. Yn flaenorol, efallai y bydd Llyr yn ymwybodol ein bod wedi ystyried cael arolygiaeth gynllunio gwbl ar wahân i Gymru yn 2015. Rwyf wedi cadw hynny o dan arolwg, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod fy rhagflaenydd wedi gwneud hynny, ac rwyf wedi gallu ystyried hynny hefyd. Rydym wedi mynegi pryderon na ddylid cael gwared ar swydd cyfarwyddwr Cymru heb drafodaeth gyda ni. Rhaid ymgynghori â ni yn ffurfiol cyn i unrhyw gynigion gael eu cwblhau'n derfynol.

Ond beth mae hynny'n ei ddweud am y berthynas sydd gan y Llywodraeth yma, a'r partneriaid eraill o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio, fod y fath benderfyniad yn gallu cael ei ystyried heb fod yna ymgynghoriad digonol â chi fel Ysgrifennydd Cabinet a gyda'r Llywodraeth yma? Mae'n plaid ni, wrth gwrs, wedi bod yn galw ers talwm iawn am arolygiaeth annibynnol i Gymru. Rydym ni'n gweld, yn sgil datganoli, sut y mae'r gyfundrefn gynllunio wedi bod yn esblygu i gyfeiriadau gwahanol iawn yng Nghymru, o'i chymharu â Lloegr, a hynny wrth gwrs yn enwedig yn sgil Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Felly, rydych chi'n dweud eich bod chi'n cadw hyn o dan adolygiad, mi oedd eich rhagflaenydd chi yn dweud bod hynny o dan adolygiad, ac mi oedd rhagflaenydd hwnnw hyd yn oed yn cydnabod bod yna le i dderbyn efallai, pe bai'r sefyllfa yn esblygu i gyfeiriadau gwahanol, nad yw cael un arolygiaeth i oruchwylio dwy gyfundrefn wahanol iawn yn gynaliadwy. Ar ba bwynt ydych chi'n mynd i ddod i gasgliad? Os nad yw hwn yn arwydd ac yn neges glir i ni o ble ddylem ni fynd, ar ba bwynt ydych chi'n mynd i ddod i'r casgliad bod yr amser wedi dod i ni gael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru unwaith ac am byth?  

13:40

Wel, rwy'n credu bod y prif weithredwr wrthi'n ymgynghori â staff ar yr ymarfer ailstrwythuro hwnnw ar hyn o bryd, fel rhan o'r rhaglen honno, maent yn edrych ar—fel rwy’n dweud, yn ymgynghori ar—y strwythur. Rhaid inni fod yn rhan ffurfiol o'r ymgynghoriad hwnnw. Ond fel y dywedwch, rwy'n credu mai nawr yw’r amser, onid e, mewn ateb i’r cwestiwn ynglŷn â phryd y byddaf yn gwneud rhywbeth am y peth yn y ffordd rydych chi ei eisiau? Rwy’n sicr yn meddwl bod angen inni edrych ar hynny yn llawer mwy difrifol yn awr.

Rwy'n credu fy mod yn eich clywed yn dweud bod yr amser wedi dod i gael arolygiaeth annibynnol yng Nghymru. A wnewch chi gadarnhau hynny?

Wel, yr hyn a ddywedais oedd fy mod yn credu bod yr amser wedi dod bellach i edrych ar rywbeth y buom yn ei fonitro dros y tair blynedd diwethaf, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwn.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe wnaethoch benderfyniad ynghylch fferm wynt Hendy i adael i ganiatâd i hynny gael ei roi, er gwaethaf y ffaith bod pwyllgor cynllunio’r awdurdod lleol wedi gwrthod y cais a bod arolygydd apęliadau’r arolygiaeth gynllunio ei hun wedi gwrthod y cais. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â Chyngor Sir Powys yn gosod parthau y byddai'n dderbyniol i ffermydd gwynt gael eu datblygu ynddynt. Mae'r cynllun datblygu unedol neu'r cynllun datblygu lleol yn y rhan honno o’r wlad yn dynodi rhai ardaloedd yn glir, ac mae Hendy, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y tu allan i'r ardaloedd hynny. Pa hyder y gall pobl leol ei gael fod y system yn gweithio ar eu rhan pan fyddwch chi'n mynd i mewn ac yn diystyru’r pwyllgor cynllunio lleol a hefyd yr arolygiaeth gynllunio sydd wedi cadw at y rheolau?

Ni chredaf ei fod yn fater o ddiystyru. Rwy'n fodlon fod yr arolygydd cynllunio wedi ystyried y materion perthnasol ond rwy'n anghytuno â'r casgliad. Fi hefyd yw Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am ynni. Rydym wedi gosod targedau ynni adnewyddadwy; mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflawni'r targedau hynny ac i mi, mae manteision y cynnig o ran darparu ynni adnewyddadwy yn ystyriaethau perthnasol, sy'n ddigon i orbwyso effeithiau dynodedig y cynllun ar y dirwedd a'r amwynder gweledol.

Yn eich ateb i mi yno, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu eich bod wedi nodi bod yr arolygydd cynllunio yn cadw at y rheolau ond eich bod chi’n anghytuno â'i gasgliad. Yn amlwg, yn ddiweddar, mewn perthynas â saethu ar dir cyhoeddus, fe anghytunodd eich adran â'r adroddiad annibynnol a gomisiynwyd ar gost o £47,000. A allwch roi syniad inni pam y mae'r adran yn mynd yn erbyn y dystiolaeth, yn enwedig mewn perthynas â’r cais penodol hwn? Fel y dywedoch, fe gadwodd yr arolygydd cynllunio at y rheolau, chi’n unig a anghytunai â'r casgliadau hynny. Pa ran o'r casgliadau rydych chi’n anghytuno'n sylfaenol â hi sy'n goresgyn y rheidrwydd cynllunio yma fod angen i drigolion lleol fod â hyder yn y ceisiadau hyn pan fyddant yn dod i'w hardaloedd?

Wel, soniais yn fy ateb gwreiddiol i chi pam y credwn fod y cynigion ynghylch cyflenwi ynni adnewyddadwy—. Ein hystyriaethau perthnasol—maent yn ddigon i orbwyso'r effaith a nodwyd. Felly, credaf fod y cydbwysedd yn pwyso o blaid yr apêl. Ond rwy'n credu hefyd fod ynni gwynt yn rhan allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y dyfodol ac rwy'n credu bod rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ystyried hynny.

Rwy'n cymryd y pwynt fod gan Llywodraeth Cymru, a bod yn deg—gallwn anghytuno neu gytuno â'r polisi—bolisi o hyrwyddo ynni gwynt, ond mae polisi wedi bod ganddynt o hyrwyddo ynni gwynt mewn rhai ardaloedd a rhai parthau sydd wedi’u profi ar gyfer datblygu'r ffermydd gwynt hyn. Yma, roedd y datblygiad penodol hwn y tu allan i'r parth hwnnw ac fel y dywedais yn fy nghwestiwn agoriadol i chi, mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhan o’r broses o nodi'r parthau hyn ac mae'r awdurdod lleol wedi cymryd rhan yn y drafodaeth honno. Sut y gall cymunedau, ac awdurdodau lleol yn arbennig, gael hyder na fyddant yn cael eu tanseilio ac na fyddant yn wynebu costau enfawr gan ddatblygwyr pan fyddwch yn gwneud penderfyniad mor fympwyol ag y gwnaethoch ar y cais penodol hwn, oherwydd roedd y caniatâd cynllunio a wrthodwyd yn cadw at y rheolau, roedd yr arolygwyr apęliadau, fel y dywedoch chi yn eich ateb, wedi cadw at y rheolau—y canllawiau cynllunio a roddwyd—ac eto fe ddaethoch chi i mewn a diystyru hynny? Mae hyn yn achosi rhwystredigaeth enfawr yn y rhan hon o ganolbarth Cymru. Ceir ardaloedd eraill o Gymru lle maent yn gweld na fyddwch yn ymyrryd pan ofynnir i chi ymyrryd wedi’u syfrdanu’n llwyr gan y penderfyniad a wnaethoch. Felly, a allwch chi egluro: a oes rhyddid llwyr bellach i unrhyw un ddatblygu ffermydd gwynt ar hyd a lled Cymru, oherwydd, fel y dywedais, mae'r cais hwn y tu allan i'r parth y gwnaethoch chi, fel Llywodraeth, ei gymeradwyo gyda'r awdurdod lleol?

Yn sicr, nid oes rhyddid llwyr yn bodoli. Rwy'n credu mai un o'r ffyrdd o sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yw peidio â chael polisïau sy'n gwrthdaro. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi dod yn amlwg iawn i mi dros y ddwy flynedd y bûm yn y portffolio hwn yw gwrthdaro rhwng polisïau, ac rydym yn rhoi camau ar waith i sicrhau nad yw hynny’n digwydd.

13:45

Diolch, Lywydd. Mae fferm wynt Hendy yn cael ei hadeiladu mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'n berffaith amlwg o'r ateb rydych newydd ei roi i Andrew R. T. Davies, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi penderfynu ar hyn hyd yn oed cyn penodi'r arolygydd cynllunio, gan eich bod wedi dweud, i bob pwrpas, fod polisi'r Llywodraeth ar ynni adnewyddadwy yn gorbwyso unrhyw ystyriaethau cynllunio. Felly, beth ar y ddaear yw pwynt cael ymchwiliadau cynllunio yn yr amgylchiadau hyn oherwydd mae’n amlwg o'ch penderfyniad mai siarâd yn unig oedd hyn—esgus—eich bod yn ystyried y farn leol, pan nad oedd gennych unrhyw fwriad i wneud hynny?

Rwy'n credu y bydd eraill yn barnu eich gweithredoedd yn hytrach na'ch geiriau. Ond gadewch i ni edrych ar y penderfyniad a wnaethoch a'r rheswm rydych wedi'i roi amdano. Ydw, rwy’n deall fod gan y Llywodraeth ymrwymiad i ynni adnewyddadwy, ond yr hyn na allaf ei ddeall yw, hyd yn oed os yw rhywun yn derbyn barn y Llywodraeth ynglŷn â chynhesu byd-eang a'i achosion, sut y mae modd i ystyriaethau ynghylch ynni adnewyddadwy orbwyso'r dinistr i lecyn hardd yng nghanolbarth Cymru, gan fod unrhyw beth y mae'r Deyrnas Unedig yn ei wneud mewn perthynas â chynhesu byd-eang yn cael ei ddiddymu ar unwaith gan yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd.

Yn Tsieina, er enghraifft, ar hyn o bryd maent yn y broses o adeiladu gorsaf bŵer 210 GW arall sy’n defnyddio glo. Nawr, ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio 37 GW yn y Deyrnas Unedig, felly dros y blynyddoedd nesaf bydd y Tsieinïaid yn ychwanegu saith gwaith holl ddefnydd trydan y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod tywyll a diflas fel heddiw. Felly, pa ostyngiad bynnag a geir mewn allyriadau carbon a pha gyfraniad bynnag y gallai hynny ei wneud i ddatrys problemau cynhesu byd-eang, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl canolbarth Cymru.

Credaf fod y rhan fwyaf o bobl, ar wahân i Neil Hamilton ac aelodau o UKIP, yn derbyn bod newid hinsawdd yn digwydd a'r rhesymau drosto. Roeddwn yn aros i chi sôn am Tsieina, oherwydd rydych chi bob amser sôn am Tsieina pan fyddwn yn sôn am ynni adnewyddadwy. Ni allwch eistedd yn ôl a gwneud dim. Efallai ein bod ni yng Nghymru yn wlad fach, ond credaf ein bod yn gwbl o ddifrif yn ein cynigion i wneud popeth a allwn i liniaru newid yn yr hinsawdd. Roeddwn allan yn yr uwchgynhadledd fyd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd yn San Francisco ym mis Medi. Roedd pobl yn edrych arnom ni fel rhai a weithredai'r arferion gorau, nid yn unig ym maes ynni adnewyddadwy, ond mewn pethau fel gwastraff ac ailgylchu. Ni allwch eistedd yn ôl a dweud, 'O wel, mae Tsieina'n gwneud hyn, felly ni ddylem ni wneud unrhyw beth.' Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Ond fe hoffwn yn fawr pe baech yn edrych ar yr hyn a wnawn i liniaru newid yn yr hinsawdd ac yn ymuno â'r gweddill ohonom drwy dderbyn bod gennym ein rhan i'w chwarae.

Efallai fod Llywodraeth Cymru yn arwain, ond nid oes neb yn dilyn. Dyna'r broblem—dyna rwy'n ei ddadlau yma. Pe bai hyn yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl a phe bai'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru o ddifrif yn mynd i greu argraff ar yr hyn sy'n digwydd yn y rhannau o'r byd lle mae'n cyfrif, pe baech chi'n mynd i ddatrys problemau cynhesu byd-eang ar sail y damcaniaethau rydych yn eu harddel, gallwn ei ddeall, ond nid yw hynny'n digwydd. Rydych yn dweud fy mod bob amser yn sôn am Tsieina—ydw, rwy'n gwneud hynny, wel, gadewch i ni sôn am India yn ogystal. Yn ogystal â Tsieina, mae India yn y broses o adeiladu gorsafoedd pŵer glo 130 GW. Felly, 130 a 210, dyna 340 GW—dyna 10 gwaith holl ddefnydd Prydain o drydan. Gorsafoedd pŵer glo sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd yn unig yw'r rheini. Felly, beth bynnag y bo'r gwahaniaeth y bydd tyrbinau gwynt Creigiau Llandeglau yn ei wneud, nid yw ond yn ffracsiwn pitw o 1 y cant. Nid yw'n mynd i wneud gwahaniaeth, ond yr hyn a wnaethoch chi drwy eich penderfyniad yw difetha a dinistrio un o'r rhannau harddaf o ganolbarth Cymru.

Rydych yn dweud nad oes neb yn dilyn, ond yn y gynhadledd honno y soniais amdani a gynhaliwyd ym mis Medi, roedd yna 100 o wladwriaethau a rhanbarthau y buaswn yn dweud bod y rhan fwyaf ohonynt yn cyflwyno camau gweithredu tebyg i Gymru. Felly, fe sonioch chi am India, rhannais lwyfan gyda maer Delhi sy'n awyddus iawn i wneud yr hyn rydym ni'n ei wneud yng Nghymru, ac mewn gwirionedd mae'n cyflawni hynny. Felly, mae'n ddrwg gennyf, ond ni allwch eistedd yn ôl a rhoi'r bai ar bawb arall. Rhaid ichi weithredu, a rhaid ichi ddangos arweiniad.

Mae cwestiwn 3 [OAQ52884] wedi'i dynnu nôl. Felly, cwestiwn 4—Rhianon Passmore.

Y Diwydiant Llaeth yn Ne-Ddwyrain Cymru

4. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant llaeth yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ52867

Diolch. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad hirdymor a phroffidioldeb llaeth ledled Cymru. Mae cefnogi'r farchnad yn cynnwys datblygu masnach yn y DU a marchnadoedd tramor. Mae cymorth busnes yn cynnwys meincnodi, cymorth technegol, clystyrau busnes a hyfforddiant adnoddau sylweddol.

13:50

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ac fel y nodwyd gennych yn y sioe laeth flynyddol yn ddiweddar, ni fu erioed fwy o angen paratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit, wrth i Gymru wynebu tswnami ei effeithiau. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae Llywodraeth Cymru yn asesu bod y prosiect HerdAdvance newydd, sy'n rhan o raglen gwella llaeth £6.5 miliwn Llywodraeth Cymru, yn mynd i helpu ffermwyr yn fy etholaeth yn Islwyn? A beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y prosiect newydd, a ddarperir gan y bwrdd amaethyddol a garddwriaethol, yn cael ei groesawu'n llawn gan gynifer o ffermwyr â phosibl yn ne-ddwyrain Cymru?

Diolch. Fe gyfeirioch chi at y sioe laeth yr wythnos diwethaf, a dyna ble y lansiwyd cam cyntaf y rhaglen gwella llaeth. Felly, bellach gall ffermwyr llaeth wneud cais am gymorth i'w helpu i wella iechyd eu buchesi a phroffidioldeb eu busnesau. Dyrannwyd £5.5 miliwn i brosiect HerdAdvance y cyfeirioch chi ato'n benodol dros y pum mlynedd nesaf, a'i nod yw treialu sut y gall fferm fabwysiadu ymagwedd gyfannol tuag at atal clefydau yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau fferm.

Daeth yn amlwg iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ers inni gael y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, fod angen inni wneud popeth a allwn i gefnogi ein ffermwyr cyn Brexit i wneud yn siŵr eu bod yn gryf, eu bod yn gynaliadwy a'u bod yn gynhyrchiol. Felly, gwnaethom beth gwaith meincnodi, er enghraifft, gyda'r sector llaeth y llynedd. Cawsom rywfaint o gyllid o Ewrop, a manteisiodd tua 75 y cant o'r ffermwyr llaeth ar yr arian hwnnw; fe'u galluogodd wedyn i ddysgu llawer am eu busnes.

Polisi Llywodraeth Cymru ar Ffracio

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio? OAQ52859

Diolch. Gwnaethom ein gwrthwynebiad i ffracio yn glir yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021' Llywodraeth Cymru. Dros yr haf, cynhaliais ymgynghoriad cyhoeddus ar echdynnu petrolewm yng Nghymru a nododd bolisi i wrthwynebu ffracio, ac argymhellodd hefyd na ddylid rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru.

Yn ddiweddar, noddais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru a Frack-Free Wales, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n gwrthwynebu ffracio'n gryf ac wedi gweithio'n galed i'w rwystro rhag digwydd ym Mro Morgannwg. Fe ddywedoch chi'n ddiweddar yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru—ac rydych wedi ailddatgan eich gwrthwynebiad amlwg i ffracio heddiw. Nodwyd gennych fod gan Lywodraeth Cymru bwerau dros ffracio a'ch bod yn credu bod y math hwn o gynhyrchiant ynni yn groes i'r nodau llesiant a'n nodau amgylcheddol. Felly, rwy'n croesawu'r moratoriwm presennol ar ffracio a'r ymgynghoriad i gael gwared ar danwydd ffosil o'n cymysgedd ynni, ac i beidio â chefnogi ceisiadau ar gyfer hollti hydrolig a thrwyddedau petroliwm. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wahardd ffracio yng Nghymru yn barhaol?

Diolch. Rwy'n benderfynol o ddefnyddio pob dull posibl o sicrhau nad yw ffracio'n digwydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwrthwynebiad cryf i roi trwyddedau petrolewm newydd, neu ganiatadau ar gyfer ffracio, a chyflwyno polisi cynllunio llawer mwy cadarn. Felly, gyda'i gilydd, credaf mai dyma'r camau gweithredu mwyaf cadarn a gymerwyd gan unrhyw wlad yn y DU i sicrhau nad yw ffracio'n digwydd.

Mae'r polisïau a fu gennym ar waith wedi atal unrhyw ffracio rhag digwydd. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn diwedd y tymor. Felly, mae gennym yr adolygiad i 'Polisi Cynllunio Cymru', a hefyd mae gennym ein crynodeb o'r ymgynghoriad ar betrolewm, a bydd hynny'n sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru'n golygu na fydd ffracio'n digwydd yn y dyfodol yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr ateb i'r cwestiwn blaenorol, oherwydd roeddwn yn mynd i ofyn i chi am yr amserlen rydych yn ei dilyn. Dywedwch eich bod yn cyflwyno datganiad cyn toriad y Nadolig. A fydd y datganiad hwnnw'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni? Oherwydd ar hyn o bryd, i bob pwrpas, digwyddodd y moratoriwm yn sgil atal caniatadau cynllunio newydd yn y maes hwn. Yn amlwg, ni all hynny bara am fwy na chyfnod penodol o amser yn unig, ac o gofio ei fod yn ymrwymiad gan y Llywodraeth, pa fath o amserlen rydych chi'n ei dilyn er mwyn gweithredu'r mesurau diogelwch cryfach hyn a fydd yn amlwg yn gwella'r gallu i atal ffracio ac echdynnu nwy siâl yma yng Nghymru?

Diolch. Gallaf gadarnhau y byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor hwn—felly, o fewn y mis a hanner nesaf—a bydd yn cynnwys amserlen.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu safbwynt eich Llywodraeth ar ffracio. Pa un a ellir gwneud y broses ffracio'n ddiogel ar gyfer yr amgylchedd ai peidio, tanwydd ffosil yw'r cynnyrch terfynol o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd eich Llywodraeth hefyd yn gwrthwynebu pob trwydded ar gyfer nwyeiddio glo tanddaearol yng Nghymru, yn ogystal â thrwyddedau ar gyfer gwaith echdynnu glo newydd?

Fel y dywedais, byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

‘Brexit a’n tir’ a'r Iaith Gymraeg

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y cynigion a amlinellir yn ‘Brexit a’n tir’ ar yr iaith Gymraeg? OAQ52861

13:55

Diolch. Lluniwyd y cynigion yn 'Brexit a'n tir' ar gyfer cadw teuluoedd sy'n ffermio ar y tir a chymunedau'n gyfan. Mae cefnogi'r Gymraeg yn y cymunedau hynny'n rhan annatod o'r hyn y ceisiwn ei gyflawni.

Mae bron i draean o ffermwyr Cymru yn siarad Cymraeg, sydd 50 y cant yn uwch na chyfartaledd yr holl siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae’r sector amaethyddol a theuluoedd amaethyddol yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r iaith ac yn diogelu’r Gymraeg yn ein cymunedau gwledig ni. Felly, mae’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori, ‘Brexit a’n tir’, sydd yn cynnig rhoi’r gorau i daliadau uniongyrchol i ffermwyr wedi Brexit, yn bygwth tanseilio hyfywedd amaethyddiaeth yng Nghymru ac felly’r iaith Gymraeg. Sut, felly, mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yma’n cyd-fynd efo polisi miliwn o siaradwyr y Llywodraeth? Ac, onid yw peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymunedau gwledig yma, lle mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach, yn mynd yn gwbl groes i’r amcanion hynny?

Diolch. Wel, byddwch wedi fy nghlywed yn sôn yn fy ateb i Llyr a chwestiwn 1 fy mod yn credu mai'r ffordd orau o warchod y Gymraeg—. Rydych chi'n hollol iawn, y sector amaethyddol, rwy'n meddwl eich bod wedi dweud bod 50 y cant yn defnyddio'r Gymraeg, 50 y cant yn fwy na sectorau eraill, ac mae'n rhan gwbl annatod o wead cymdeithasol rhannau o'r Gymru wledig. Felly, unwaith eto, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud y byddwn yn gwneud asesiad o'r effaith.

Ond rwyf am ymdrin â'ch cwestiynau ynglŷn â chynllun y taliad sylfaenol. Nid oes unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng y cynllun ac ymdrechion ffermwr, perfformiad y busnes fferm neu'r canlyniadau y mae'r busnes fferm yn eu cyflawni. Nid wyf yn credu bod cynllun y taliad sylfaenol yn sicrhau cydnerthedd na ffyniant hirdymor. Credaf ei bod yn bryd newid. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf ei bod yn bryd newid. Roeddwn yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf a manteisiais ar y cyfle i siarad â llawer o ffermwyr—cawsom 12,000 o ymatebion i'n hymgynghoriad ac maent yn dechrau cael eu dadansoddi bellach. Ond unwaith eto, yn eu plith—rwyf wedi gweld rhai ohonynt—ceir pobl sy'n cefnogi'r hyn rydym yn ei wneud yn llwyr. Ond rwyf am ddweud yn glir iawn fod angen cefnogi busnesau fferm—rwyf wedi dweud hynny o fy niwrnod cyntaf yn y portffolio hwn. Bydd cymorth yn parhau; caiff ei wneud mewn ffordd gallach a gwahanol, dyna i gyd.

'Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o ffabrig cymdeithasol rhannau o Gymru wledig.
Mae cysylltiadau diwylliannol â ffermio ledled Cymru’n gryf ac mae gan amaethyddiaeth rôl bwysig o ran cynnal y Gymraeg.'

Dyna fe. Dyna'r dyfyniad yn 'Brexit a'n tir'. Nid oedd mwy na hynny.

Wedi dweud hynny, rwy'n credu y cytunwch fod clybiau ffermwyr ifanc yn arbennig yn lle gwych i ffermio dyfu a pharhau gyda phobl ifanc yn camu ymlaen yn y diwydiant, a chynnal bywyd a ffyrdd o fyw mewn rhannau o'r Gymru wledig, wrth gwrs, gan ddarparu'r gymdeithas, os hoffwch, atal unigrwydd, ysgwyddo rolau cymunedol a meithrin dealltwriaeth o gyfrifoldeb personol a chyffredinol. Felly, rwy'n meddwl tybed a wnewch chi edrych eto ar y toriadau uniongyrchol a wnaed i glybiau ffermwyr ifanc a siarad â chydweithwyr llywodraeth leol ynglŷn â'r toriadau y maent yn eu gwneud i gyllidebau gwasanaethau ieuenctid ac ati, sydd wedi cefnogi clybiau ffermwyr ifanc yn anuniongyrchol .

Credaf yn bendant fod clybiau ffermwyr ifanc yn—mae'n sefydliad gwych. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o aelodau dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf eisiau gwneud toriadau; ni ddeuthum i'r byd gwleidyddol i wneud toriadau, ond fe fyddwch yn gwybod, oherwydd polisïau cyni, fod pawb ohonom wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn a neb yn fwy nag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddaf yn gwneud popeth y gallaf i'w cefnogi. Rwy'n cael sgyrsiau â hwy ynglŷn â sut y gallant ein cefnogi ni yn gyfnewid am yr arian hwnnw ac rwy'n awyddus iawn i wneud popeth y gallaf i'w cefnogi.

Yr Ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'? OAQ52873

Diolch. Daeth yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' i ben ar 30 Hydref. Rydym wedi cael dros 12,000 o ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Byddwn yn dadansoddi'r holl ymatebion yn drylwyr yn awr cyn yr ymgynghoriad pellach y bwriedir ei gynnal yn y flwyddyn newydd.

Diolch. Rwy'n sylweddoli y byddwch chi a'ch swyddogion Llywodraeth yn awr yn ymlafnio drwy'r 12,000 o ymatebion a gawsoch. Fodd bynnag, rydym yn gwybod, fel Aelodau Cynulliad, o'r ohebiaeth a gawn, fod ein ffermwyr wedi bod yn glir iawn yn eu hymatebion i chi ac maent yn gofyn am newidiadau sylweddol, gan gynnwys mwy o bwyslais ar ffermio'r tir yn weithredol; gwneud cynhyrchiant yn ganolog i'r ddeddfwriaeth; sicrhau bod cynhyrchu bwyd yn cael ei ystyried yn nwydd cyhoeddus; gwneud cynlluniau diwygiedig yn hygyrch i bob ffermwr, gan gynnwys tenantiaid; a bod ffurf ar daliad uniongyrchol yn parhau. Mae'r diffyg taliadau uniongyrchol yn eich cynllun yn peri pryder mawr, oherwydd, os na chaiff hynny ei newid, gallai arwain at golli sefydlogrwydd, hyder a gallu i fuddsoddi yn y dyfodol i nifer fawr o ffermydd ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes angen imi ddweud wrthych fod elw o tua £7.40 yn yr economi leol am bob punt a fuddsoddir yn ein ffermydd. Felly, mae'n peri penbleth i mi pam y byddech chi hyd yn oed yn ystyried mynd ar drywydd polisi a allai achosi i ffermwyr golli'r sefydlogrwydd hwn. Yn ddiweddar fe ddywedoch chi mewn cyfweliad gyda Farmers Guardian na fyddai gweithredu unrhyw fath o daliadau uniongyrchol yn opsiwn, hyd yn oed os yw mwyafrif llethol yr ymatebwyr wedi gofyn am hynny. Mae hyn yn frawychus. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi roi sicrwydd i'r Aelodau yma ac i'n ffermwyr na fyddwch yn gwneud ffars o'r ymgynghoriad Brexit hwn? Ac a gaf fi sicrhau Ysgrifennydd y Cabinet fy mod i wedi ymateb; rwy'n un o'r 12,000, ac rwy'n ysgrifennu ar ran pob ffermwr yn etholaeth Aberconwy.

14:00

Nid wyf yn siŵr y gallech ymateb ar ran pob ffermwr unigol yn eich etholaeth ag un farn, gan ei bod hi'n amlwg nad yw hynny'n wir. Soniais ein bod wedi cael 12,000, ac nid wyf yn amharchu'r hyn rydych yn ei ddweud am yr ohebiaeth a gawsoch, ond rwyf wedi gweld llawer o ohebiaeth sy'n cytuno'n llwyr na ddylid cadw cynlluniau'r taliad sylfaenol. Felly, ni allwn gyffredinoli; rhaid inni ddadansoddi'r holl ymatebion.

Os caf ymdrin â rhai o'r pwyntiau a wnewch. Mae ffermio gweithredol yn bwysig iawn, a bydd ffermio gweithredol yn gwbl ganolog i'n cynllun rheoli tir newydd. Ni all cynhyrchu bwyd fod yn nwydd cyhoeddus; mae marchnad iddo. Nid oes marchnad i nwyddau cyhoeddus, a'r hyn y ceisiwn ei wneud gyda'r cynllun nwyddau cyhoeddus, a'r hyn rydym am ei wneud, yw gwneud yn siŵr fod ffermwyr yn cael eu talu am nwyddau cyhoeddus nad oes unrhyw farchnad ar eu cyfer ar hyn o bryd. Felly, ansawdd aer, ansawdd pridd, ansawdd dŵr—nid ydynt yn cael eu talu am hynny ar hyn o bryd. Mae angen inni sicrhau bod hynny'n newid.

Cynhyrchu bwyd—rwyf wedi dweud yn glir iawn fod y cynllun cadernid economaidd yn ymwneud â chynhyrchiant. Rydym wedi gweld cynhyrchiant yn gostwng yn y sector amaethyddol, ac rydym am sicrhau ei fod yn codi. Felly, mae cynhyrchu bwyd yn gwbl ganolog i'r cynllun cadernid economaidd. Unwaith eto, fe af yn ôl at yr hyn a ddywedais mewn ateb blaenorol: nid wyf am i neb feddwl nad oes angen i fusnesau ffermio gael cymorth; rydym wedi gwneud hynny'n glir iawn. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi dweud, ar arian amaethyddol—. A gadewch inni fod yn glir ynglŷn â hyn—nid yw eich Llywodraeth yn Llundain wedi dweud wrthym am unrhyw gyllid a gawn ar gyfer amaethyddiaeth yn dilyn Brexit, felly nid yw clustnodi dim yn mynd i wneud unrhyw beth i'n ffermwyr. Felly, hyd nes y cawn y sicrwydd hwnnw, awgrymaf fod y Blaid Geidwadol yn bod yn ofalus iawn.

Gwaharddiad ar Saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno gwaharddiad cyfreithiol ar saethu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las? OAQ52845

Caiff gwyddau talcenwyn yr Ynys Las eu categoreiddio fel rhywogaeth mewn perygl o dan feini prawf rhestr goch fyd-eang yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Yn ddiweddar, mae cytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia wedi codi mater gwaharddiad statudol yng Nghymru a Lloegr, a byddaf yn ystyried ac yn ymateb yn ddiweddarach y tymor hwn.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn ôl y cyfrif diwethaf, nid oedd ond 22 o wyddau talcenwyn yr Ynys Las ar y Ddyfi, a cheir gwarchodaeth gyfyngedig i'r adar sy'n gaeafu yng Nghymru y tu allan i ardaloedd lle y ceir moratoriwm gwirfoddol ar saethu. Felly, o ystyried y boblogaeth fach iawn ac mai cyfyngedig yw'r warchodaeth a geir yng Nghymru, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog yn cyflwyno gwaharddiad cyfreithiol, ac rwy'n falch iawn fod ystyriaeth yn mynd i gael ei rhoi.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ddiddordeb a'i waith sylweddol yn y maes hwn. Rwy'n cydnabod bod y moratoriwm gwirfoddol presennol drwy gydol y flwyddyn ar saethu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru yn gweithio'n effeithiol ac y glynir ato gan glybiau helwriaeth yng Nghymru. Mae cytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia hefyd yn cydnabod y llwyddiant hwn ac mae gwaith partneriaeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yng Nghymru wedi bod yn rhan hanfodol o hyn. Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar hefyd yn bartner gweithredol yn y bartneriaeth, ac mewn gwirionedd mae wedi cofnodi cynnydd yn nifer gwyddau o'r fath ar safleoedd yng ngogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf, yn ddiweddar mae cytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia wedi codi mater gwaharddiad statudol yng Nghymru a Lloegr, ac rwy'n bwriadu ymateb erbyn y Nadolig.

Weinidog, mae'r Llywodraeth eisoes wedi cael dau ymgynghoriad yn 2013 a 2016, ar y mater penodol hwn. Ar y pryd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, nad oedd unrhyw dystiolaeth i ddynodi bod gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yn cael eu saethu yng Nghymru ar hyn o bryd. O'ch ateb i John Griffiths, credaf fod yna awgrym fod y Llywodraeth yn bwriadu mynd ar drywydd deddfwriaeth yn y maes penodol hwn. O ystyried yr honiad gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oes unrhyw dystiolaeth i ddynodi hynny, pam y mae'r Gweinidog yn credu bod angen symud oddi wrth y moratoriwm gwirfoddol sy'n bodoli ar hyn o bryd?

14:05

Mae'r Aelod—[Anghlywadwy.] Derbyniwyd cwyn a wnaed o dan gytundeb adar dŵr Affrica-Ewrasia (AEWA), yn honni bod diffyg cydymffurfiaeth â darpariaethau penodol yn y cytundeb rhyngwladol mewn perthynas â mesurau a gymerwyd yng Nghymru mewn perthynas â chadwraeth gwyddau talcenwyn yr Ynys Las. Roedd ein hymateb cychwynnol i'r gŵyn AEWA yn nodi ein barn fod y mesurau gwirfoddol hyn yng Nghymru'n ddigonol gan nad oedd unrhyw dystiolaeth o saethu. Fodd bynnag, mae AEWA wedi ystyried y sefyllfa ac nid yw wedi derbyn eu bod yn ddigon. Rydym o ddifrif ynglŷn â'r gŵyn hon, ac felly rydym yn ystyried y camau gweithredu gorau sydd eu hangen i ddiogelu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las ar gyfer y dyfodol.

Tynnwyd cwestiwn 9 [OAQ52883] yn ôl, felly cwestiwn 10—Dawn Bowden.

Polisi Llywodraeth Cymru ar Dir Comin

10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dir comin? OAQ52863

Diolch. Gwelir gwerth tir comin o ran ei gyfraniad i dreftadaeth naturiol a chenedlaethol Cymru. Nod polisi tir comin yw diogelu tir o'r fath, hyrwyddo ffermio cynaliadwy a mynediad cyhoeddus i gefn gwlad, wedi'u cydbwyso â buddiannau bywyd gwyllt a chadwraeth. Bydd ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' yn dylanwadu ar ein polisi yn y dyfodol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n ymwybodol iawn o werth mawr y tir comin helaeth yn fy etholaeth, sy'n cynnwys tir comin Merthyr a Gelligaer. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod bod arian yr UE wedi bod ar gael i helpu i reoli tir comin ac i ffermwyr lleol allu cydweithredu a marchnata eu cynnyrch drwy siop gigydd leol, Cig Mynydd Cymru, yn Nhreharris. A fydd y system newydd ar gyfer ffermio a rheoli tir a gyflwynwn yng Nghymru ar ôl Brexit yn parhau i gefnogi menter wledig o'r fath?

Mae'n debyg mai'r ateb byr yw 'bydd'. Yn sicr rydym am weld mwy o gydweithio a sicrhau bod gennym gadwyni cyflenwi cadarn. Fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith y prynhawn yma, rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad, felly ni allaf roi sylwadau ar gynnwys unrhyw gynllun penodol yn y dyfodol. Ond wrth gwrs, o ran sefydliadau megis Cyswllt Ffermio, er enghraifft, y gwn ei fod wedi darparu cefnogaeth i sefydlu'r cwmni cydweithredol y cyfeirioch chi ato—. Rwy'n sicr yn awyddus iawn i Cyswllt Ffermio barhau ar ôl Brexit i gefnogi ffermwyr a choedwigwyr.

Mae rhan sylweddol o'r Gŵyr yn fy rhanbarth yn cynnwys tir comin, fel y gwyddoch, ac rwyf wedi gofyn ichi o'r blaen i edrych, efallai, ar is-ddeddfwriaeth a'r pwerau y gallai ei roi i chi i ffrwyno arfer anghyfrifol ar yr hawliau hynny. Gwn fod fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies, a Hefin David yn wir, wedi sôn wrthych am y broblem groes i hynny yn y gorffennol, lle mae rhai ffermwyr wedi cael eu hatal rhag arfer hawliau ar dir comin. Os ydw i'n iawn, credaf eich bod wedi cyfarfod â rhai o Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â hyn, felly tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag unrhyw gamau a gymerwyd ar ôl y cyfarfod hwnnw i gefnogi ffermwyr gyda'u hawliau pori a thirfeddianwyr cyfagos, ac a oes unrhyw beth yn y rheoliadau a allai eich helpu i ddatrys rhai o'r problemau parhaus hyn.

Diolch. Rydych chi'n hollol iawn. Cyfarfûm â Hefin David ac Andrew R.T. Davies a Mick Antoniw—rwy'n ceisio meddwl a oedd unrhyw un arall yno; nid wyf yn credu bod—y llynedd mae'n debyg. Buaswn yn sicr yn hapus iawn i rannu'r ohebiaeth gyda'r Aelod yn dilyn y cyfarfodydd a gawsom.

Gwarchod Rhywogaethau Prin a Rhai sydd mewn Perygl yng Nghymru

11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran gwarchod rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl yng Nghymru? OAQ52856

Rwyf wedi ymrwymo i gadw'r warchodaeth a'r mesurau diogelwch yn safonau cyfredol yr UE ar gyfer amddiffyn rhywogaethau ac adeiladu ar hyn drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ein nod yw ymgorffori adferiad natur ar draws pob un o'n polisïau a'n rhaglenni.

Wrth gwrs, nid yng nghefn gwlad Cymru yn unig y ceir rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl. Maent hefyd yn byw mewn sawl sw ledled Cymru, gan gynnwys Sw Mynydd Cymru, sef sw cenedlaethol Cymru, wrth gwrs, yn fy etholaeth i. Mae ganddi raglenni rhywogaethau mewn perygl sy'n gweithio i warchod y wiwer goch, wrth gwrs, rhywogaeth rwy'n hyrwyddwr drosti, ond hefyd pandaod coch, llewpartiaid eira, tsimpansîaid a llawer o rywogaethau eraill. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwaith cadwraeth o'r fath, lle mae rhywogaethau dan fygythiad ledled y byd yn byw yn sŵau Cymru, a pha gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu gyda Sw Mynydd Cymru yn fy etholaeth?

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cofio llawer o deithiau plentyndod i Sw Mynydd Cymru fy hun, a gwn eich bod yn hyrwyddwr balch dros y wiwer goch, sydd i'w gweld yn eich etholaeth chi mewn gwirionedd, yng Nghlocaenog. Pan euthum i ymweld â'r fan honno ar ddiwrnod iachus yng ngogledd Cymru yn gynharach eleni, roedd y saith wiwer goch a ryddhawyd yn y goedwig yn teimlo braidd yn rhy swil i ymddangos o flaen y camera ar y diwrnod hwnnw, ac yn anffodus, ni welais yr un ohonynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi prosiectau o'r fath, o ran gweithio gyda rhywogaethau mewn perygl. Ni allaf sôn yn benodol am Sw Mynydd Cymru, ond mae'n sicr yn rhywbeth rwy'n barod i edrych arno ar ran yr Aelod a chyfarfod ag ef i'w drafod rywbryd yn y dyfodol.

14:10
Amddiffyn Pysgodfeydd yng Nghanolbarth Cymru

12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amddiffyn pysgodfeydd yng nghanolbarth Cymru? OAQ52843

Diolch. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw amddiffyn pysgodfeydd dŵr croyw, ac mae ganddynt ddyletswydd statudol i gynnal, gwella a datblygu pysgodfeydd dŵr croyw. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb tebyg i ddiogelu pysgodfeydd morol.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pysgotwyr wedi bod yn cysylltu â mi ers peth amser ynglŷn â diffyg capasiti o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu ein pysgodfeydd a'n llynnoedd yn y dalgylch o gwmpas canolbarth Cymru yn benodol. Nawr, dywedir wrthyf fod potsio am eogiaid yn dod yn fwy cyffredin, sydd wrth gwrs yn difetha dyfodol stoc pysgota. Priodolir y pryder yn rhannol i ddiffyg swyddogion yn yr ardal ac sy'n byw yn yr ardal i blismona'r sefyllfa ac i weithio hefyd gyda chlybiau pysgota, ffermwyr a pherchnogion pysgodfeydd. Felly, a ydych yn cydnabod bod diffyg pŵer plismona o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y maes hwn? Ac os felly, os ydych yn cytuno â hynny, beth y gellir ei wneud i ddatrys y sefyllfa?

Yn amlwg, rydym yn darparu cyllid craidd i Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau statudol. Maent hefyd yn cael tua £1 filiwn y flwyddyn o arian y drwydded bysgota â gwialen. Gwn eich bod wedi ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, ac rwy'n disgwyl ymateb i'w anfon yn ôl atoch. Byddaf hefyd yn cyfarfod â'r cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr, yn ogystal â Gweinidog yr Amgylchedd, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru—yr wythnos nesaf rwy'n credu. Byddaf yn sicr o'i ddwyn i'w sylw. Ond yr ateb byr yw: na, nid wyf yn cytuno â hynny.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

13. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe? OAQ52866

Diolch. Mater i Lywodraeth y DU fyddai asesu effaith amgylcheddol peidio â chefnogi'r seilwaith ynni cenedlaethol hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson yn ei chefnogaeth i fôr-lynnoedd llanw. Rydym yn parhau'n awyddus i weld argymhellion adroddiad Hendry yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth y DU.

Diolch am yr ateb yna. Ac yn bellach i hynny, a fyddech chi fel Llywodraeth Cymru'n cefnogi datblygu cwmni ynni cyhoeddus i Gymru i fynd i'r afael â datblygu morlyn bae Abertawe?

Wel, mae'r Aelod yn ymwybodol mae'n debyg fy mod wedi gwneud gwaith blaenorol gydag aelod arall o Blaid Cymru ar hyn, a phenderfynwyd nad oeddem yn meddwl mai dyna'r ffordd fwyaf priodol ymlaen.

Cymorth i Ffermwyr

14. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ffermwyr? OAQ52846

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gefnogaeth i ffermwyr yng Nghymru, gan eu helpu i ddod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn ac wedi'u rheoli'n fwy proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys dros £300 miliwn y flwyddyn o gymorth ar gyfer ffermio, iechyd a lles anifeiliaid a datblygu gwledig drwy'r polisi amaethyddol cyffredin. Mae busnesau amaethyddol hefyd yn elwa o grantiau a chyngor Cyswllt Ffermio.

Diolch. Hoffwn eich llongyfarch ar fod yn Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog cyntaf i gwblhau'r cwestiynau ers amser hir iawn. [Chwerthin.]

Ym mis Awst ymunais â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a ffermwr ar un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dywedwyd wrthyf fod angen cynllun rheoli tir cynaliadwy newydd sy'n deg i ffermwyr, yn darparu bwyd, yn rheoli amrywiaeth ac yn diogelu data a'r amgylchedd. Yn ystod y toriad yr wythnos diwethaf cefais gyfarfod â chadeirydd sirol NFU Cymru yng Nghlwyd a'u cynghorydd sirol. Dywedasant wrthyf mai'r hyn a oedd ar goll yn eich cynigion oedd yr angen am fecanwaith sefydlogrwydd i ddiogelu'r polisi amaeth ar gyfer y dyfodol os ydym i sicrhau cyflenwad parhaus o fwyd fforddiadwy o ansawdd ochr yn ochr â nwyddau cyhoeddus oherwydd y cadernid economaidd y gall y ddwy elfen eu cynnig gyda'i gilydd. Sut yr ymatebwch i'w galwad am yr elfen goll honno, am fecanwaith sefydlogrwydd o fewn hynny, i'w helpu i gynllunio yn awr ar gyfer eu buddsoddiad yn y dyfodol, o ystyried yr ansicrwydd sydd i ddod, ond hefyd gan gydnabod mai holl egwyddor cymorth amaethyddol, gan fynd yn ôl at y 1940au, oedd cydnabod, ar yr adegau pan fo'r glaw'n disgyn, pan ddigwydd y trychinebau rhyngwladol, neu ryfel hyd yn oed, ein bod yn mynd i fod eu hangen eto ac na allwn fforddio eu colli yn y cyfamser.

Diolch i chi, a diolch am eich sylwadau. Rydych yn sicr wedi gosod her i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i fy nilyn.

Credaf eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch sefydlogrwydd, ac yn sicr cefais drafodaethau gyda ffermwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn ag anwadalrwydd. Yn amlwg, eleni, gyda'r tywydd, rydym wedi gweld hynny'n llawn. Cawsom y gaeaf hir a gwlyb hwnnw, cawsom eira trwm yn y gwanwyn, ac yna cawsom haf sych a phoeth iawn. Nid wyf eisiau rhagdybio dim, oherwydd, fel y dywedaf, rydym yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond yn sicr nid yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi darparu'r sefydlogrwydd a'r diogelwch rhag anwadalrwydd y credaf fod ffermwyr ei eisiau. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, wrth inni gyflwyno ein polisi amaethyddol ar gyfer Cymru, ein bod yn gwneud hynny.

14:15

A gadewch i ni weld pa mor dda y gallwch chi ateb eich cwestiynau chi, Mr Davies. [Chwerthin.]

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau felly i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Tri chwarter awr yn dechrau yn awr.

Cwestiwn cyntaf—Siân Gwenllian.

Setliad Llywodraeth Leol 2019-20

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019/20? OAQ52872

5. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ52853

8. Faint o gyllid ychwanegol fydd ar gael i awdurdodau lleol yn dilyn y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i Gymru yn ddiweddar yng nghyllideb Llywodraeth y DU? OAQ52874

Member
Alun Davies 14:15:47
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i wedi gwneud datganiad ar y setliad ar gyfer llywodraeth leol ar 9 Hydref. Mae'n fater i awdurdodau gwahanol wneud penderfyniadau ar sut maen nhw'n gwario'r gyllideb yma, ynghyd ag incwm eraill o grantiau, y dreth gyngor a ffynonellau eraill, yn ôl eu penderfyniadau a'u blaenoriaethau eu hunain.

Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu £11 miliwn o doriadau yn sgil polisi ariannol eich Llywodraeth chi, a fydd yn effeithio ar wasanaethau i bobl fwyaf bregus fy etholaeth. Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi bod £15 miliwn ychwanegol ar gael i ysgolion a £13 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol, ond mae hwn yn gaeth i amodau. Rŵan, rydych chi, fel minnau, wedi dadlau'n gyson o blaid llywodraeth leol gref, a dros roi mwy o rym i gynghorau. Pam, felly, nad ydy'r arian ychwanegol yma yn cyrraedd y cynghorau drwy'r grant cynnal refeniw—arian craidd awdurdodau lleol, ac arian a allai gael ei ddefnyddio i warchod gwasanaethau sylfaenol ac allweddol ar yr adeg yma o lymder a thoriadau anferth?

Mae'r arian, wrth gwrs, i gyd yn mynd at y gwasanaethau craidd hynny rydych chi wedi eu disgrifio. Nid wyf yn credu bod neb fan hyn eisiau dadlau ddylai arian ddim fynd at ysgolion nag at ofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu bod pobl eisiau gweld hynny, a dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Ond a gaf i ddod yn ôl at bwrpas eich cwestiwn, pan oeddech chi'n sôn amboutu bolisi'r Llywodraeth yma? Mae hyn yn rhan o setliad, yn rhan o fformiwla, sydd wedi cael ei gytuno gan lywodraeth leol ac mae'n rhywbeth rydym ni'n ei wasanaethu a'i weinyddu ar y cyd gyda llywodraeth leol.

A gaf i ofyn i chi gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod chi eisiau grwpio cwestiynau 1, 5 ac 8?

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl newydd wrando ar eich cwestiwn, a byddant yn gwbl syfrdan ynglŷn â difaterwch eich ymateb. Gwnaeth Llywodraeth y DU fuddsoddiad ychwanegol o tua £550 miliwn, sy'n dod i Gymru o ganlyniad i'w chyllideb yr wythnos diwethaf. Mae hynny'n golygu bod adnoddau ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai llywodraeth leol ar flaen y ciw pe dôi unrhyw adnoddau ychwanegol o ganlyniad i'r gyllideb. Felly, a allwch ddweud wrthym: a oes unrhyw adnoddau ychwanegol yn mynd i ddod i'ch portffolio y gallwch eu trosglwyddo i lywodraeth leol? Ac a wnewch chi godi hefyd i gwestiwn ynglŷn ag arweiniad ar setliad y grant cynnal refeniw, oherwydd yn amlwg, rydych yn gymylog ar y mater hwn ac yn gwrthod dangos arweiniad a chydnabod bod y grant cynnal refeniw hwnnw'n annheg? Pan fyddwch yn edrych ar y setliad, mae wedi cyflwyno toriadau sylweddol i awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, toriadau sylweddol i awdurdodau lleol mewn rhannau gwledig o'r wlad, ac mae'n ymddangos bod yna ffrindgarwch ar waith, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd a'r toriadau lleiaf yn mynd i awdurdodau lleol dan arweiniad Llafur. Nid yw pobl yn dwp, maent yn gweld tystiolaeth o hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, pan gyflwynir y setliadau drwy'r Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Felly, a wnewch chi ddangos rhywfaint o arweiniad? A pha adnoddau ychwanegol y mae llywodraeth leol yn mynd i'w cael o ganlyniad i'r crochan o £550 miliwn a ddyfarnwyd i Gymru o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU?

Lywydd, mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn iawn yn dweud nad yw pobl yn dwp, ac fe fyddant yn gweld drwy ei weiddi a'i arthio. Byddant yn gweld realiti'r hyn y mae cyni wedi'i wneud, nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond i rannau eraill o'r sector cyhoeddus hefyd. A gadewch imi ddweud hyn—gadewch imi ddweud hyn—mae'n sôn yn benodol am y setliad llywodraeth leol yng Nghymru. Pan wnaethom y cyhoeddiad hwnnw ar 9 Hydref, cyhoeddodd Prifysgol Caergrawnt rywfaint o ddata ar lywodraeth leol ar y dyddiad hwnnw hefyd. Yr hyn a ddangosent oedd bod llywodraeth leol wedi cael ei gwarchod gan y Llywodraethau yng Nghymru a'r Alban. Yn Lloegr, lle mae gan y Ceidwadwyr gyfle i wneud y penderfyniadau hyn, mae llywodraeth leol wedi'i thorri 26 y cant—26 y cant. Felly, pan ddaw ef a'i blaid yma gyda'u dagrau ffug i ddweud wrthym am yr hyn sy'n digwydd mewn llywodraeth leol, rwy'n dweud wrtho, 'Feddyg, iachâ dy hun'—ewch yn ôl at eich Llywodraeth yn Llundain, ewch yn ôl yno a siarad â hwy am gyni. Ewch yno—[Torri ar draws.] Ewch yno—[Torri ar draws.] Ewch yno—[Torri ar draws.] Gallwch weiddi cymaint ag y mynnwch; mae gennyf amser. Ewch yno. Ewch yno a dywedwch wrthynt am effeithiau cyni ar y bobl, ac fe ddywedaf wrthych chi, pan wnewch hynny, eich bod chi'n gwneud y peth iawn. Ond tan hynny, peidiwch â dod yma i wneud honiadau na allwch eu cynnal am faterion nad ydych yn eu deall.

14:20

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, ar ran fy etholwyr a phawb sy'n gweithio mewn llywodraeth leol ledled Cymru, mynegais bryderon yn y Siambr hon am y setliad cyllid ar gyfer ein hawdurdodau lleol. Cyn cyllideb Llywodraeth y DU, cafwyd condemniad cryf gan arweinwyr ein hawdurdodau lleol a CLlLC ei hun ynglŷn â'ch diffyg dealltwriaeth o'r arian hanfodol sydd ei angen i gefnogi ein gofal cymdeithasol, ein hysgolion, ein cymorth iechyd meddwl a thai. Yna, fe waethygoch chi'r broblem hon drwy gymharu ein harweinwyr cynghorau ag Oliver Twist, am eu bod eisiau mwy. Roedd eich sylwadau'n sarhad syfrdanol ac yn bradychu'r bobl weithgar sy'n gweithio yn ein gwasanaethau rheng flaen. Roeddent yn dramgwyddus ac a dweud y gwir, dylent gael eu tynnu'n ôl.

Nawr, o ystyried y £370 miliwn ychwanegol—. Ac ie, anghofiwch y gair 'cyni' yn awr a rhowch y gorau i guddio tu ôl iddo—mae £370 miliwn yn dod, trwy garedigrwydd Llywodraeth y DU, i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Pam na allch warantu y bydd yr arian hwn yn mynd i ble mae ei angen mewn gwirionedd, i ariannu ein hysgolion, i ariannu ein gwasanaethau cymdeithasol, i ariannu ein tai ac i ariannu ein cymorth iechyd meddwl? Ond yn bennaf oll, am unwaith, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddangos ychydig o ostyngeiddrwydd ac ymddiheuro am y sylwadau ofnadwy a oedd yn cymharu ein hawdurdodau lleol ag Oliver Twist?

Mae'r Aelod dros Aberconwy yn dweud ei bod hi'n siarad ar ran cyflogeion a gweithwyr llywodraeth leol. Nid wyf yn gwybod pa undeb llafur rydych chi'n aelod ohono. [Torri ar draws.] Rwy'n aelod o Unsain, yr undeb mwyaf yng Nghymru, a'r undeb mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gadewch imi ddweud wrthych, wrth siarad â chydweithwyr yn Unsain—[Torri ar draws.] Wrth siarad â chydweithwyr yn Unsain, yr hyn nad ydynt yn ei wneud—yr hyn nad ydynt yn ei wneud—yw dweud wrthyf, 'Wyddoch chi beth, Alun? Yr hyn y dylech ei wneud yw dilyn yr un dull o weithredu â'r Ceidwadwyr yn Lloegr.'

Wyddoch chi beth arall rwy'n ei glywed—[Torri ar draws.] Rhywbeth arall rwy'n ei glywed—[Torri ar draws.] A rhywbeth arall rwy'n ei glywed gan arweinwyr cynghorau Ceidwadol ledled Cymru yw nad ydynt hwy eisiau inni ddilyn polisïau Ceidwadol ychwaith. Yr unig bobl sydd am inni ddilyn polisïau Ceidwadol yw'r bobl sy'n eistedd y tu ôl i mi. Nid yw eu harweinwyr cynghorau am weld yr un toriadau yng Nghymru ag y gwelwn ar draws y ffin yn Lloegr. Nid ydynt am weld polisïau Ceidwadol ar waith yma. Yr unig bobl sydd eisiau hynny yw'r grŵp Ceidwadol.

Mae'n bryd i'r Ceidwadwyr fod yn onest, yn gwbl onest, gyda phobl am effaith yr hyn y mae cyni yn ei wneud i bobl. Gallaf ddeall nad ydynt eisiau inni ddychwelyd ato o hyd. Gallaf ddeall nad ydynt am inni sôn am gyni, ond pe bai hi'n deall cyllideb y DU, pe bai'n darllen cyllideb y DU, byddai'n gwybod hyn hefyd—y bydd gwariant ar y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus yn lleihau ac nid yn cynyddu, ac wrth i amser fynd heibio, yr adeg hon y flwyddyn nesaf, bydd mwy o arian yn cael ei wario'n cefnogi llywodraeth leol yng Nghymru nag a fydd ar draws Lloegr gyfan. At hynny y mae polisi Ceidwadol yn arwain.

Gall Ysgrifenyddion y Cabinet sy'n gyfrifol am feysydd fel trafnidiaeth, addysg a'r economi ddarparu arian i lywodraeth leol ei wario yn eu meysydd cyfrifoldeb. Pa gymorth ariannol oddi wrth aelodau eraill o'r Cabinet, o'u cyllidebau, y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn amdano i gefnogi llywodraeth leol, sydd mewn angen dybryd?

Gadewch imi ddweud hyn: mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn ei wneud yn un da, oherwydd, wrth gwrs, nid yr arian drwy'r grant cynnal refeniw yn unig y mae llywodraeth leol yn ei gael, mae hefyd yn cael arian o elfennau eraill o gyllideb Cymru. Mae eraill wedi sôn eisoes—credaf fod Siân Gwenllian o Blaid Cymru wedi siarad am y £15 miliwn sy'n mynd i addysg. Wrth gwrs mae hwnnw hefyd yn mynd drwy lywodraeth leol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol hefyd wedi gwneud datganiadau o bwys ar y cyllid sy'n mynd drwy lywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi gweithio rhanbarthol. Felly, mae symiau sylweddol o arian yn mynd i lywodraeth leol y tu hwnt i'r grant cynnal refeniw ac at ei gilydd, rwy'n credu y bydd hwnnw dros £70 miliwn yn y flwyddyn nesaf.

14:25
Helpu Cyn-filwyr yn Islwyn

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i helpu cyn-filwyr yn Islwyn? OAQ52865

Yn fy natganiad llafar ddoe amlinellais y cynnydd a wnaethom ar wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cyn-filwyr, sy'n cynnwys y rhai sy'n byw yn Islwyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd cymunedau Islwyn yr wythnos hon yn talu teyrnged i'r rheini a fu farw ac i'r dynion a'r menywod dewr yn ein lluoedd arfog sydd wedi bod yn barod i aberthu popeth er mwyn amddiffyn ein rhyddid gwerthfawr a drysorwn i'r fath raddau. Ochr yn ochr â miloedd o'n dinasyddion, byddaf yn mynychu gwasanaethau coffa ar hyd a lled fy etholaeth a thu hwnt. Ysgrifennydd y Cabinet, pa wybodaeth y gallaf ei rhoi i fy nghymunedau am y nod y sonioch amdano yn gynharach eleni i gryfhau uned y cyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a'r asesiad sydd bellach wedi'i feincnodi a wnaeth Llywodraeth Cymru o unrhyw fylchau yn y gwasanaeth? Ac ymhellach, sut y gellir mynd i'r afael â'r bylchau posibl hyn?

Lywydd, gwneuthum ddatganiad ddoe, a oedd yn amlinellu llawer o'r materion hyn, ac rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi cymryd rhan yn y ddadl honno ddoe. Yn ogystal â'r hyn a drafodwyd gennym yn ystod y datganiad llafar hwnnw, fe ddywedaf ein bod wedi recriwtio aelodau ychwanegol o staff i weithio ac i gefnogi a chryfhau tîm Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi gwaith y lluoedd arfog. Bydd hyn yn ein galluogi fel Llywodraeth i ymgymryd â gwaith pellach i wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys gwaith i gefnogi'r rhaglen sy'n cael ei datblygu gan grŵp arbenigol y lluoedd arfog, gan gynnwys y gwaith a gyhoeddais ddoe i ddatblygu llwybr cyflogaeth.

A gaf fi ddweud hefyd, er hynny, ein bod yn bwriadu creu ffrwd ariannu newydd i gynnal a chefnogi gwaith awdurdodau lleol sy'n mynd rhagddo, y swyddogion cyswllt a gaiff eu penodi ac a fydd yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod y bobl sy'n darparu gwasanaethau ynghanol ein cymunedau hefyd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn darparu ar gyfer cymuned y lluoedd arfog? Lywydd, er ein bod yn cofio aberth ein lluoedd arfog yn ystod yr wythnos hon ym mis Tachwedd, dylwn ddweud mai'r ffordd go iawn y gallwn dalu teyrnged i'n lluoedd arfog yw drwy weithredu ein hymrwymiadau yn y cyfamod o un wythnos i'r llall, o un mis i'r llall, o un flwyddyn i'r llall.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol y gall diffyg parodrwydd ar gyfer bywyd fel sifiliaid olygu bod cyn-filwyr yn wynebu rhwystrau sylweddol, gan gynnwys trafferth i gael swydd. Yn eich datganiad ym mis Ebrill, dywedasoch fod grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn arwain ar ddatblygu pecyn cyflogwr a llwybr cyflogaeth i helpu cyn-filwyr i gael mynediad at gyflogaeth ystyrlon. Syniad da. A allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith hwn, a pha bryd y mae'n disgwyl cyhoeddi cynigion y grŵp?

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Pam y teimlwch fod y fformiwla bresennol ar gyfer cyllido llywodraeth leol yn addas at y diben, yn cael cefnogaeth lawn awdurdodau lleol ledled Cymru ac yn gallu ymdopi â newidiadau ym mlaenoriaethau gwasanaethau llywodraeth leol?

Mae'r fformiwla yn eiddo, os mynnwch, i gyngor partneriaeth Cymru a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd gan waith yr is-grŵp cyllid a'r is-grŵp dosbarthu, lle mae llywodraeth leol Cymru gyfan yn cael ei chynrychioli. Nid wyf yn meddwl bod y fformiwla'n sefydlog, os mynnwch; mae'n cael ei hadolygu'n gyson ac yn cael ei diwygio'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd yr Aelod yn deall bod yr is-grŵp dosbarthu'n cynhyrchu adroddiad, a gyhoeddir bob blwyddyn, sy'n amlinellu'r gwaith y mae'r is-grŵp dosbarthu yn ei wneud, neu'n arwain arno o leiaf, er mwyn sicrhau y gwneir gwelliannau ar sail flynyddol i'r fformiwla. Felly, buaswn yn dweud wrtho nad wyf yn credu bod y fformiwla'n sefydlog yn y ffordd y mae'n disgrifio weithiau, ond caiff ei hadolygu'n gyson a'i diweddaru'n barhaol gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd gydag aelodau annibynnol.

Diolch. Wel, gallaf nodi, yn dilyn fy arweiniad, fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bathu enw ar eich cyfer—'Mr Bumble'. Ac er gwaethaf yr hyn rydych chi a'r Ysgrifennydd cyllid wedi honni am gytundeb gyda'r CLlLC a'r is-grŵp cyllid, nododd prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gerbron pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl fod y fformiwla fel y mae ar hyn o bryd wedi'i dal at ei gilydd gan dâp gludiog a phlasteri, a bod gwir angen edrych yn ofalus arni, ac eglurodd ymhellach y gallai adolygiad o'r fath gymryd tair i bum mlynedd. Yn ddiweddar galwodd eich cyd-Aelodau eich hun, gan gynnwys Gweinidog yr Amgylchedd, ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o'r cymorth a roddwyd i wasanaethau cynghorau. Cyfarfu'r Prif Weinidog ag arweinwyr cynghorau Llafur i drafod cyllid, a chredwn y dylai hynny fod wedi bod ar agor i holl arweinwyr cynghorau Cymru. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am adolygiad ers blynyddoedd, ond y cyfan y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yw dargyfeirio'r bai ar awdurdodau lleol a thincran o gwmpas yr ymylon, ac wrth gwrs, mae arweinydd grŵp Ceidwadol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud wrthyf mai'r ymateb safonol yw bod CLlLC yn rhan o'r gwaith o greu'r fformiwla. Mae hynny'n wir, ond fe'i lluniwyd amser maith yn ôl mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a bellach nid yw'n addas at y diben.

A wnewch chi wrando felly ar y côr cynyddol o leisiau o bob plaid a lliw gwleidyddol a chychwyn adolygiad o'r fformiwla? Os na, dywedwch wrth y cyrff hynny pam eich bod yn dal i dueddu i ailadrodd yr hyn a glywsom gennych yn eich atebion cynharach.

14:30

Mae bron yr holl bobl rydych wedi'u disgrifio—ac ychydig iawn o bobl yng Nghymru sydd wedi adolygu'r fformiwla mor drylwyr â phrif weithredwr ymadawol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; credaf ei fod wedi eistedd drwy fwy o gyfarfodydd ar y fformiwla hon nag unrhyw Weinidog ar unrhyw adeg—. A gaf fi ddweud hyn: mae'r fformiwla'n agored i'w hadolygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn? Ac mae'n cael ei hadolygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae arweinwyr Ceidwadol yn cymryd rhan yn hynny. Nawr, os ydynt yn dymuno gofyn am adolygiad sylfaenol o'r brig i'r bôn o'r math a ddisgrifiwyd gennych, gallant wneud hynny, ond wrth gwrs, nid ydynt yn gwneud hynny pan fyddant yn y cyfarfodydd yn cael y sgyrsiau hyn.

Lywydd, rwy'n hapus iawn i sicrhau, ac yn gwneud addewid, os nad yw'r cofnodion hyn eisoes yn gyhoeddus, y byddaf yn eu rhoi yn y llyfrgell fel y gall Aelodau ar bob ochr i'r Siambr ddeall y gwaith a wneir gan yr is-grwpiau cyllid a dosbarthu, ac i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd.

Wel, dyna ymateb amserol iawn, oherwydd, ers ichi ddod i'ch swydd flwyddyn yn ôl, rydych wedi pedlera'r stori'n barhaus fod cynghorwyr Ceidwadol yng Nghymru yn fodlon ar yr arian y maent wedi'i gael ac na fyddent eisiau polisïau'r Ceidwadwyr yng Nghymru. Dywedasoch wrth fy nghyd-Aelod, Russell George, y mis diwethaf,

'Rwy'n dweud wrth grŵp y Ceidwadwyr nad yw eu cynghorwyr eisiau polisïau Ceidwadol yng Nghymru; maent yn falch iawn o gael Llywodraeth Lafur sy'n darparu cymorth a chyllid i awdurdodau lleol mewn modd na all cynghorau Ceidwadol yn Lloegr ond breuddwydio amdano. Felly, pan fyddaf yn cyfarfod â chynghorau Ceidwadol, maent yn dweud wrthyf mai'r hyn y maent ei angen yw Llywodraeth Lafur.'

Rhywbeth digon tebyg i'r hyn rydych eisoes wedi'i ddweud wrthym heddiw. Felly, awgrymais hynny wrth arweinwyr grwpiau Ceidwadol ledled Cymru. Yr ymateb cyntaf a gefais oedd, 'Tipyn o jôc.' Yr ail,

Mae wedi dangos dro ar ôl tro nad oes ganddo unrhyw ddealltwriaeth go iawn o'r problemau rydym yn eu hwynebu mewn llywodraeth leol,

a phethau fel, 'Mae'r fformiwla ariannu yn drychineb llwyr, nid yw'n addas at y diben', ac roeddent yn dweud bod eich honiadau'n 'hurt' ac yn 'nonsens'. Rwy'n dyfynnu.

At hynny, mae'n ymddangos bod hyd yn oed cynghorwyr Llafur wedi bod yn gefnogol i rai o bolisïau Ceidwadwyr y DU, megis y digwyddiad democratiaeth yfory. Ddydd Llun, daeth arweinydd Llafur Casnewydd allan i gefnogi datganoli ardrethi busnes i awdurdodau lleol, a datgelodd fod y sawl sy'n cystadlu am yr arweinyddiaeth Lafur a gymeradwyir gennych hefyd o blaid datganoli ardrethi busnes i awdurdodau lleol.

Felly, a wnewch  chi roi'r gorau yn awr i geisio osgoi'r materion difrifol sy'n wynebu awdurdodau lleol, rhoi'r gorau i'r safbwynt gwrthwynebol rydych wedi'i ddatblygu dros y 12 mis diwethaf, a gweithio gyda chynghorau o bob lliw, gyda llawer ohonynt yn glymbleidiau, i ddod o hyd i ffordd ymlaen fel bod eu cyllid yn deg, gan gydnabod nad yw'r pwyntiau a wneuthum heddiw yn bethau a dynnais, fel y byddech chi'n ei ddweud, o bapur plaid ar safbwyntiau i'w harddel, rhywbeth nad wyf yn edrych arno'n aml iawn ac na fyddaf bron byth yn ei ddefnyddio. Rhoddwyd y rhain i mi yn uniongyrchol gan y personau a ddyfynnaf, naill ai mewn pwyllgor neu mewn ymateb i fy ngheisiadau gan y cyrff dan sylw.

Mae'n ymddangos fy mod yn cael fy nghyhuddo o gysondeb, sy'n sicr yn gyhuddiad gwreiddiol i'w wneud. A gaf fi ddweud hyn: rwy'n deall mai rôl y llefarydd Ceidwadol yn y lle hwn yw gwneud yr achos gwaethaf posibl yn erbyn y polisïau y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar eu trywydd a chraffu arnom ar sail hynny? Ond mae dod yma ac awgrymu bod unrhyw arweinydd cyngor, o unrhyw liw, yn dod at Lywodraeth Cymru ac yn dweud, 'Rydym am weld toriadau yr un mor ddwfn i gyllid llywodraeth leol ag y gwelsom dros y ffin' yn anhygoel a dweud y gwir. Ac yn syml iawn, nid yw'n safbwynt credadwy i'w arddel. Nid oes unrhyw awgrym fy mod yn clywed gan unrhyw arweinydd awdurdod lleol, o unrhyw gefndir gwleidyddol, eu bod am weld eu cyllidebau'n cael eu torri 26 y cant, sef yn union yr hyn a ddigwyddodd dros y ffin, ac nid wyf yn credu bod llefarydd y Ceidwadwyr yn gredadwy o gwbl wrth iddo geisio cynnal y ddadl honno. Y broblem y mae llawer o'r bobl hynny'n ei dwyn i'n sylw yw faint o gyllid sydd ar gael—nid ei ddosbarthiad yn unig, ond faint sydd ar gael i ni. Ac rydym yn gwybod, o gyllideb y Canghellor yr wythnos diwethaf, fod cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i gael ei dorri yn y maes hwn dro ar ôl tro. A phan fydd y Llywodraeth Geidwadol yn cael gwared yn y diwedd ar y grant cynnal ardrethi yn Lloegr, efallai y bydd yn gweld pa mor ffôl yw ei safbwynt.

14:35

Diolch, Lywydd. Yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn ddarllenwr mawr, ac yn hoff o Charles Dickens. Felly, os mai llywodraeth leol yw Oliver Twist, a yw hynny'n golygu mai chi yw Mr Bumble?

Buaswn yn tybio bod yr Aelod gyferbyn yn portreadu Harry Secombe mewn ffordd na allwn i ond gobeithio ei wneud.

Os caf symud i ffwrdd o chwarae ar eiriau Dickensadd, a ydych yn derbyn bod llywodraeth leol wedi dioddef oherwydd blaenoriaethau cyllido, o'i gymharu â phortffolios eraill yma? 'Amseroedd caled; ar gyfer yr amseroedd hyn', fel y dywedai Dickens.

O ran ble mae llywodraeth leol, yn amlwg, byddem yn awyddus—. Nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn Llywodraeth sy'n ceisio mynd ar drywydd polisi cyni; nid dyna y ceisiwn ei wneud. Rydym eisiau gallu ariannu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn briodol, er mwyn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pawb ohonom am eu gweld. Ond nid yw'n gredadwy i ddod i'r lle hwn a dadlau y gallwn gynyddu cyllid llywodraeth leol heb dorri cyllid mewn mannau eraill. Ac os yw'r Aelod yn dadlau y dylem newid y gyllideb yn llwyr, mae croeso iddo wneud y ddadl honno, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn dweud wrthyf ble y byddai am wneud y toriadau.

Gyda chyhoeddi cyllideb y DU yr wythnos diwethaf, a all llywodraeth leol gael 'Great Expectations', neu ai 'little Dorrit' fydd eu rhan yn y pen draw?

Mae gwybodaeth lenyddol Dr Dai Lloyd yn fy rhyfeddu—mae'n fy rhoi i yn fy lle. A gaf fi ddweud hyn: bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwneud datganiad ar y gyllideb derfynol, ac ar y symiau canlyniadol o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Bydd hynny'n digwydd maes o law.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal i goffáu Carl Sargeant, eich rhagflaenydd Llywodraeth Cymru fel y Gweinidog tai. Wrth gwrs, fe wnaeth lawer o bethau da yn y maes hwnnw. Rwyf wedi mynd trwy ffeil o gwestiynau a ofynnais ychydig—[Anghlywadwy.]—a gwelaf fod—[Anghlywadwy.]. Roeddwn yn gofyn yn benodol ar y dyddiad hwnnw ynghylch y defnydd o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tai ar safleoedd tir llwyd. Dywedodd y Gweinidog fod ei dîm yn yr adran dai mewn trafodaethau gyda Ken Skates a'i adran, yn edrych ar ba dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru a allai fod ar gael ar gyfer datblygu tai. Roedd y trafodaethau hyn hefyd yn cynnwys yr adran iechyd. Nawr, nid wyf yn cofio unrhyw sôn am y syniad hwn o ddatblygu tir sy'n eiddo cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru ers hynny. Roedd hyn yn ôl ym mis Ebrill 2017. Felly, a ydych mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y syniad hwn o dir llwyd ar gyfer tai ar dir sy'n eiddo cyhoeddus?

Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiwn hwnnw. Yn bendant, gallaf gadarnhau ers hynny fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar agenda o nodi a rhyddhau tir sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer tai. Ceir grŵp gweinidogol penodol sy'n gweithio gyda, ac yn cynnwys fy nghyd-Aelodau Lesley Griffiths a Ken Skates, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar nodi'r parseli o dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ond hefyd erbyn hyn rydym yn ceisio edrych ar dir sy'n eiddo i'r ystâd gyhoeddus yn ehangach o lawer—felly, tir sy'n eiddo i fyrddau iechyd, er enghraifft, tir awdurdod lleol. Rydym wedi nodi tri pharsel o dir hyd yn hyn y credwn y byddant yn addas ar gyfer tai, ac felly, rydym yn bwriadu cyflwyno'r rheini cyn gynted â phosibl. Buaswn hefyd yn ychwanegu bod gennym y grŵp tai fforddiadwy, sydd â ffrwd waith benodol o dan hynny sy'n edrych ar dir ar gyfer tai.

14:40

Cyn i chi ofyn eich cwestiwn, Gareth Bennett, ac eithrio meicroffon Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes unrhyw feicroffon arall yn gweithio ar hyn o bryd. [Chwerthin.] Felly, nid ydym yn gallu datrys hynny heb ohirio'r sesiwn. Felly, gohirir y sesiwn yn awr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:40.

15:30

Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:30, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Gallwn ni ailgychwyn ein trafodaethau. Ac, felly, rydw i'n galw Gareth Bennett. 

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, unwaith eto, Weinidog, ac ymddiheuriadau os yw fy nghwestiwn cyntaf yn swnio'n gyfarwydd braidd, ond ni chafodd ei glywed ar gyfer y cofnod felly rwyf am ei ailadrodd eto. Rydym wedi cael digwyddiadau heddiw i goffáu Carl Sargeant, a wnaeth lawer o waith da fel y Gweinidog tai a chymunedau a'ch rhagflaenodd. Rwyf newydd fod yn edrych drwy'r ffeil o gwestiynau o'r adeg pan oeddwn yn arfer cysgodi Carl, ac rwy'n gweld ein bod, 18 mis yn ôl, yn trafod amryw o fentrau safleoedd tir llwyd. Roeddwn yn gofyn yn benodol am y defnydd o dir sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru a allai gael ei ryddhau ar gyfer tai ar safleoedd tir llwyd. Dywedodd y Gweinidog fod ei dîm yn yr adran dai mewn trafodaethau gyda Ken Skates a'i adran, yn edrych ar ba dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru a allai fod ar gael ar gyfer datblygu tai. Roedd y trafodaethau hyn hefyd yn cynnwys yr adran iechyd ar y pryd. Roedd hyn ym mis Ebrill 2017. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y syniad hwn o ryddhau tir Llywodraeth Cymru ar gyfer tai ar safleoedd tir llwyd?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, a gallaf gadarnhau bod y gwaith wedi bod yn parhau ers ichi gael y trafodaethau cychwynnol hynny. Mae grŵp trawslywodraethol, sy'n fy nghynnwys i a'r Gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio, yr economi a chyllid, yn edrych ar draws portffolio Llywodraeth Cymru i nodi parseli o dir y gellid eu cyflwyno ar gyfer tai. Ac rydym yn edrych arnynt mewn ffordd strategol ochr yn ochr â'n blaenoriaethau eraill, er enghraifft y metro arfaethedig ac ati.

Mae'r grŵp hwnnw wedi nodi tri pharsel o dir hyd yn hyn, er ein bod yn edrych ar nifer o rai eraill, ac wrth gwrs, yn ddiweddar cyhoeddais adolygiad o dai fforddiadwy, sy'n cynnwys is-grŵp penodol i edrych ar dir ar gyfer tai a beth arall y gellir ei wneud i gyflwyno tir ar gyfer tai. Dylwn ychwanegu hefyd nad edrych ar dir Llywodraeth Cymru yn unig y mae'r grŵp gweinidogol yn ei wneud; rydym yn edrych ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a'r cylch cyhoeddus yn fwy eang er mwyn nodi'r parseli sy'n strategol bwysig ac sydd heb gael eu cyflwyno eto ar gyfer tai.

Diolch am yr ateb, ac mae'n galonogol eich bod yn gwneud hyn fel prosiect parhaus, a hefyd yn cynnwys rhannau eraill o'r sector cyhoeddus. Mae yna gynllun gan Lywodraeth y DU hefyd, lle maent yn cael cynghorau lleol yn Lloegr i lunio cofrestr o'r holl safleoedd tir llwyd sydd ar gael ganddynt—y syniad yw y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddatblygwyr wybod pa dir sydd ar gael. Gall y syniad gyd-fynd yn hawdd â'r hyn rydych yn ei wneud, fel rydych newydd egluro.

Ond mae cynghorau lleol, fel y gwyddom, braidd yn brin o arian yng Nghymru ac yn Lloegr. Felly, pe baem yn dilyn llwybr tebyg yma, mae'n debyg y byddai'n rhaid rhyddhau arian i gynghorau i ganiatáu iddynt lunio'r cofrestri tir llwyd hynny os mai hwy yw'r cyrff sy'n mynd i fod yn gwneud y gwaith o restru. Felly, pa ystyriaethau sydd gennych am y cynllun yn Lloegr, a sut y mae'n cyd-fynd gyda'ch cynlluniau yng Nghymru?

Diolch i chi unwaith eto am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n fy atgoffa o'r gwaith rydym yn ei wneud ar ryddhau safleoedd segur. Felly, mae safleoedd segur yn cynnwys safleoedd tir llwyd yn benodol, a allai fod yn safleoedd tirlenwi, neu hap-safleoedd, er enghraifft, ac mae'r rheini'n hysbys i'r awdurdodau lleol. Mae ein cronfa safleoedd segur yn gronfa o £40 miliwn a fydd yn cael ei hailgylchu dros gyfnod y gronfa grantiau i gyflawni £160 miliwn o fuddsoddiad, a chaiff hynny ei lywio gan ymchwil a wnaed a ddangosai y gellid adeiladu tua 7,600 o gartrefi ar 400 o safleoedd yng Nghymru pe bai cyfle i ryddhau'r safleoedd hynny oherwydd maent yn segur am resymau megis bod y sylfeini neu'r seilwaith yn afresymol o ddrud. Felly, mae'r gronfa honno yno'n benodol i adeiladwyr bach a chanolig ei defnyddio er mwyn adeiladu ar leiniau o dir nad ydynt yn ddeniadol i adeiladwyr tai ar raddfa fawr, ond sy'n bwysig ar yr un pryd o ran defnyddio safleoedd a allai fod yn ddolur llygad, er enghraifft, o fewn cymunedau lleol.

Unwaith eto, fe sonioch yn eich datganiad rai wythnosau'n ôl eich bod yn gweld rôl fawr i fusnesau bach a chanolig yn y gwaith o ddarparu tai. Wrth gwrs, nid ydynt wedi chwarae rhan fawr yn y sector tai yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, felly rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny eto heddiw. Ac unwaith eto roedd yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb yn galonogol. A ydych yn darparu unrhyw gymhellion penodol eraill i fusnesau bach a chanolig er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn y cynlluniau adeiladu tai?

15:35

Ie, mae gennym ein cronfa datblygu eiddo £40 miliwn, sy'n benodol ar gyfer—cronfa fenthyciadau ar gyfradd ddeniadol yw hi ar gyfer busnesau bach a chanolig. Caiff ei rhedeg drwy Fanc Datblygu Cymru. Yn wreiddiol, cronfa o £10 miliwn oedd hi, ond roedd y galw mor uchel amdani mewn gwirionedd ac roedd hi mor boblogaidd fel ein bod wedi gallu cynyddu'r arian sydd ar gael iddi. Ac unwaith eto, mae hwnnw'n arian a fydd yn cael ei ailgylchu yn ystod oes y cynllun hwnnw.

Rwy'n gweld rôl go iawn hefyd i fusnesau bach a chanolig yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau o ran datgarboneiddio. Newidiodd llawer o fusnesau bach a chanolig o fod yn adeiladu tai at wneud gwaith atgyweirio ar dai, a gwaith adnewyddu, ac ati, ond mewn gwirionedd, yn y dyfodol, buaswn yn hoffi iddynt fod yn rhan o'r rhaglen uchelgeisiol rydym yn ceisio'i datblygu ar gyfer gwneud gwaith ôl-osod ar gartrefi sy'n bodoli eisoes, ac rwy'n  gobeithio gallu dweud mwy am hynny maes o law.

Llywodraethu Da gan Awdurdodau Lleol

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau llywodraethu da gan awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ52849

Mae awdurdodau lleol yn atebol yn ddemocrataidd am berfformiad eu gwasanaethau, gan gynnwys eu trefniadau llywodraethu. Cânt eu cefnogi drwy archwiliadau allanol, arolygu a chyrff rheoleiddio, sydd â rôl allweddol yn y gwaith o sicrhau ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus.

Diolch. Ddau fis yn ôl, dywedodd cynghorydd yn Sir y Fflint y byddai'n enwi ac yn codi cywilydd ar swyddogion nad oeddent yn ymateb i alwadau a negeseuon e-bost os nad oedd camau pellach yn cael eu rhoi ar waith, gan ddweud, ar ôl iddo godi hyn o'r blaen yn 2017, fod canllawiau newydd wedi'u cyflwyno, ond na chafodd y canllawiau hynny yr effaith a ddymunai. Pleidleisiodd cynghorwyr i weithredu ynghylch y pryderon hyn, ac yn dilyn hynny, addawodd y prif weithredwr y byddai'n mynd i'r afael â'r mater drwy siarad â phrif swyddogion. Fodd bynnag, yn fy mhrofiad i ar ran etholwyr, mae oedi o'r fath yn gyffredin—rwyf wedi gorfod eu cyfeirio at yr ombwdsmon yn y gorffennol. Mae gennyf un achos gyda'r prif weithredwr ei hun, lle bu'n rhaid i oedolyn awtistig fynd at yr ombwdsmon i weld camau'n cael eu rhoi ar waith wedi i'r diffyg ymateb gael ei uwchgyfeirio'n gŵyn cam 1 a cham 2, ac ni chafwyd ymateb i'r rheini chwaith, er i achos adolygiad barnwrol ym mis Mai ddyfarnu bod y cyngor wedi methu asesu a diwallu anghenion person awtistig arall, o ran y gofal a'r cymorth roeddent eu hangen. Yn yr amgylchiadau hyn, ac achos pellach yr ombwdsmon fis diwethaf lle cadarnhawyd cwyn yn erbyn y cyngor o fod wedi symud a dinistrio cerbyd heb rybudd, a lle'r argymhellwyd y dylai'r cyngor adolygu a diwygio gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu creu, rhywbeth y clywsom dro ar ôl tro, gyda sgandal chwythwr chwiban y rheolwr archwilio mewnol, y sgandal gwaith cynnal a chadw tai, sgandal AD Waste, ac yn y blaen, pa bryd y mae rhywun yn mynd i gael rheolaeth ar yr amgylchiadau hyn, a sicrhau nad yw'r diwylliant hwn yn parhau mwyach?

Lywydd, ymddengys bod gan yr Aelod nifer fawr o broblemau gyda'i gyngor lleol. Hoffwn awgrymu ei fod yn trafod y materion hyn gyda'r awdurdod hwnnw. Nid mater i'r Gweinidog yma yng Nghaerdydd yw rhagweld penderfyniadau awdurdod lleol mewn unrhyw ran o'r wlad.

Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru

4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru sy'n wynebu heriau o ganlyniad i galedi? OAQ52876

Rydym yn parhau i ddiogelu cyllid llywodraeth leol rhag effeithiau cyni o fewn yr adnoddau sydd ar gael i'r Llywodraeth hon.

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ymddengys mai cyni yw ideoleg y blaid Dorïaidd yn San Steffan o hyd, ac mae'n parhau i effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nawr, ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o effaith ar lywodraeth leol. Os cymharwch hynny â Lloegr, gallwch weld yr effeithiau gwahanol arni. Fodd bynnag, pan fyddaf yn cyfarfod â chynghorwyr lleol a'u swyddogion—a chyfarfûm â hwy ym mis Medi mewn cyfarfod yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot—maent yn amlwg yn pwysleisio—nid y cynghorwyr yn unig, ond gweithwyr—eu bod bellach mewn sefyllfa lle maent wedi wedi gwneud toriadau hyd at yr asgwrn. Ni allant wneud rhagor o doriadau—maent yn mynd i ddechrau taro'r gwasanaethau y mae pobl mor ddibynnol arnynt. Nawr, rydych wedi ateb eisoes y prynhawn yma y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn dod â chynlluniau i'r Siambr ar gyfer defnyddio'r symiau canlyniadol a ddisgwyliwn o gyllideb y Canghellor yr wythnos diwethaf. Ond a fyddwch yn trafod gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet sut y gallwn edrych ar yr holl grantiau sy'n mynd i awdurdodau lleol, neu i wasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, er mwyn sicrhau y gallwn eu gwella cymaint â phosibl, ond hefyd ar ble y gellir trosglwyddo grantiau i'r grant cynnal refeniw, fel y gallwn leihau'r gwaith papur sydd ei angen ar grantiau, a rhyddhau'r hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddefnyddio'r arian hwnnw hefyd?

Lywydd, bydd pob Aelod yn y Siambr yn ymwybodol o'r polisïau gwahaniaethol a ddilynir gan y Llywodraethau gwahanol yn y Deyrnas Unedig. Yn gynharach, trafodasom ganlyniadau ac effeithiau'r penderfyniadau polisi gwahaniaethol hynny, ac roeddwn yn teimlo bod yr ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caergrawnt, ar yr un diwrnod, yn eironig, ag y cyhoeddwyd y setliad llywodraeth leol drafft gennym ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn dangos yn glir, yn y wlad hon, ein bod yn gweld gwerth llywodraeth leol ac yn gweld gwerth gwasanaethau lleol. Rydym yn gweld gwerth y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, ac mae'r bobl sy'n derbyn y gwasanaethau hynny ar flaen ein meddyliau. Mae'r ffaith bod llywodraeth leol yn Lloegr yn cael ei thorri hyd at yr asgwrn yn effeithio arnom ni yma. Mae'r ffaith bod llywodraeth leol yn Lloegr wedi colli chwarter ei chyllideb yn dangos nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhannu'r un gwerthoedd ac agweddau â'r Llywodraeth yma.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod wedi rhoi ymrwymiadau clir iawn y byddwn yn edrych ar y sefyllfa ariannol wrth i ni symud drwy'r ddadl ar y gyllideb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ei le. Bydd wedi clywed y trafodaethau hyn, ac rydym yn trafod sut i ddatblygu'r gyllideb. Ac rwyf am ddweud hyn, oherwydd credaf weithiau fod yna rywfaint o ddryswch ynglŷn â'r materion hyn, nid oes unrhyw safbwynt gwahaniaethol, os mynnwch, o fewn y Cabinet ar y materion hyn. Mae'r holl Weinidogion am weld yr arian hwn yn cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Nid oes unrhyw aelod o'r Llywodraeth hon yn dymuno gweld polisïau cyni'n rhwygo'u ffordd drwy wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel y maent wedi'i wneud dros y ffin. Diben y Llywodraeth hon yw diogelu, gwella a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dyna fydd yn llywio ein holl ddadleuon, ein holl drafodaethau a'n holl benderfyniadau.

15:40

Wel, nid yw'r holl broblemau cyflogaeth yn dibynnu ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn dewis gwario'r £16 biliwn a gaiff. Yn gynharach eleni dangosodd ymchwil gan Wales Online fod y tri awdurdod lleol yn fy rhanbarth wedi gwario bron £2.3 miliwn rhyngddynt yn talu staff a oedd wedi'u gwahardd dros dro am amrywiaeth o resymau. Nawr, wrth gwrs, nid wyf yn disgwyl ichi roi sylwadau ar achosion unigol, ond a ydych yn credu bod mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, efallai, o ran canllawiau i helpu cynghorau ac unigolion i ymdrin â dyraniadau a digwyddiadau? Rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a wnawn yma ar urddas a pharch, ac rwy'n meddwl tybed a yw cynghorau'n sylwi ar beth a wnawn ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu eu cyfeirio yma i gael cyngor da.

Rwy'n hapus bob amser i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol ac i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel corff cynrychioliadol, er mwyn darparu'r math o bolisïau parch y byddai pawb ohonom am eu gweld yn y lle hwn ac yn ein holl sefydliadau democrataidd. Rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni hynny. Os oes gan yr Aelod faterion penodol yr hoffai eu dwyn i fy sylw, hoffwn ofyn iddi wneud hynny drwy ohebiaeth.

Democratiaeth Leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gryfhau democratiaeth leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52868

Rwy'n bwriadu cyflwyno Bil yn y flwyddyn galendr nesaf a fydd yn gweithredu nifer o'r cynigion a nodir yn y papur ymgynghori 'Diwygio Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru' a fydd yn cyfrannu at gryfhau democratiaeth leol ar draws y wlad gyfan, gan gynnwys Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Wrth ateb Mark Isherwood, funud yn ôl, dywedodd nad rôl Gweinidogion yn y lle hwn oedd dyfalu beth fydd penderfyniadau awdurdodau lleol. Ond wrth gwrs, dyna'n union beth a wnaeth ei gyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni, mewn perthynas â phenderfyniad cynllunio ar gyfer Creigiau Llandeglau yn sir Faesyfed. Credaf iddo glywed y drafodaeth a ddigwyddodd rhyngom yn gynharach. Yn yr achos penodol hwn, gwrthododd yr awdurdod lleol y cais cynllunio drwy bleidlais bron yn unfrydol. A yw'n cytuno â mi mai un peth sy'n tueddu i danseilio democratiaeth leol yw bod Gweinidogion, am resymau na ellir eu disgrifio fel rhai o bwysigrwydd dirfawr yn genedlaethol, yn gwrthdroi penderfyniadau'r rhai a etholwyd ar lawr gwlad i gynrychioli buddiannau'r bobl yr oedd y mwyafrif llethol ohonynt yn gwrthwynebu'r cynnig hwn?

Lywydd, mae'r Aelod yn fy nhemtio i gyflawni cam gwag dybryd. Dysgais drwy brofiad chwerw na ddylwn fwrw amcan ynghylch penderfyniadau ynglŷn ag unrhyw fater cynllunio ac nid yw'n fwriad gennyf wneud hynny y prynhawn yma.

Yn ddiweddar, pasiodd Cyngor Sir Powys gynnig yn unfrydol a oedd yn datgan bod awdurdodau lleol yn rhy aml yn colli hyder yr etholwyr ynddynt, oherwydd eu bod yn ymddangos yn bell ac yn anatebol, a chefnogodd cynghorwyr o bob plaid y cynnig a gyflwynwyd gan gynghorydd sir Dolforwyn, Gareth Pugh. Cytunwyd bod angen gwneud rhagor i ennyn diddordeb a brwdfrydedd yr etholwyr i wneud llywodraeth leol yn rhan fwy bywiog a pherthnasol o'n cymunedau. Daw'r pryderon hyn o ganlyniad i'r ffaith nad oedd yr awdurdod lleol wedi ymgysylltu cymaint ag y gallent fod wedi'i wneud ynglŷn â chais cynllunio cyfleuster ailgylchu mawr yn Aber-miwl yn fy etholaeth. O'ch rhan chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i roi arweiniad i gynghorau sir lleol ynglŷn â sut y gallant wella'u hymgysylltiad ag etholwyr mewn perthynas â phenderfyniadau mawr pwysig?

15:45

Gyda chaniatâd y Llywydd, ni chyfeiriaf at benderfyniadau unigol awdurdodau unigol, ond hoffwn allu dweud bod pob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, am weld democratiaeth fywiog ym mhob rhan o'r wlad ac mae hynny'n golygu sicrhau bod awdurdodau lleol, ni ein hunain fel Aelodau lleol, ac Aelodau o Senedd y DU yn ogystal, oll yn cymryd rhan mewn trafodaethau lleol ar ddyfodol ein cymunedau.

Rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad yn y Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno Senedd Ieuenctid Cymru a gwn fy mod eisiau siarad â'r bobl sy'n sefyll am sedd Blaenau Gwent, lle mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ceisio—[Anghlywadwy.] Nid wyf yn meddwl bod fy nyddiau o sefyll etholiad i unrhyw sefydliad ieuenctid o fy mlaen, gadewch i mi ddweud. [Chwerthin.] Gobeithio y bydd pawb ohonom yn cymryd rhan yn y ddadl honno—

Ni oedd y dyfodol unwaith.

Ni oedd y dyfodol. [Chwerthin.] A gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu ymuno â'r bobl ifanc hynny i gymryd rhan mewn dadl ynghylch natur ein democratiaeth.

Nod y cynigion a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau ar gryfhau democratiaeth leol, oedd gwneud yn union hynny: cryfhau cyfranogiad gwleidyddol, cryfhau cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau a chryfhau atebolrwydd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n lleol. Pan fyddwn yn trafod y Bil hwn, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, yn cymryd rhan yn y drafodaeth honno ac yn sicrhau ein bod yn myfyrio ar sut y gallwn gryfhau atebolrwydd democrataidd ymhellach ym mhob rhan o'r wlad hon.

Credaf y gall cynghorau cymuned chwarae rhan bwysig iawn yn cryfhau cyfranogiad democrataidd pobl a'r teimlad fod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd sy'n berthnasol iddynt hwy. Un o argymhellion y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref oedd y dylai Cymru gyfan gael ei chynrychioli gan gynghorau cymuned a thref—nid yw hynny'n wir yn awr wrth gwrs—er mwyn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar le fel y rhagwelwyd yn yr adroddiad hwnnw. Tybed beth yw eich barn ar hynny, Weinidog. Er mwyn cryfhau cynghorau cymuned, a oes camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynyddu'r gronfa o glercod cynghorau tref a chymuned cymwys a phriodol ar draws Cymru? Gwn fod rhai o'r cynghorau cymuned llai o faint yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn enwedig yn cael trafferth weithiau i ddod o hyd i'r person cywir i'w cefnogi.

A gaf fi roi croeso mawr iawn i adroddiad y panel ar gynghorau tref a chymuned a ddaeth i law ar 3 Hydref? Roeddwn yn credu bod yr argymhellion yn argyhoeddiadol iawn mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Rwy'n hoff iawn o gynghorau tref a chymuned lleol. Gwn ein bod wedi elwa'n fawr o waith Cyngor Tref Tredegar gartref. A gaf fi ddweud fy mod yn credu bod nifer o ffyrdd yr hoffwn fwrw ymlaen â'r adroddiadau a'r argymhellion? Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn cael y sgwrs honno am rôl cynghorau tref a chymuned ac yn gwneud hynny yn y modd deallus y gallodd y panel ei wneud wrth gyflawni eu gwaith. Byddaf yn gofyn barn yr Aelodau ar sut y dymunwn fwrw ymlaen â hyn. Mae gennym argymhellion i'w gwneud ar hynny, ond gobeithiaf y byddwn yn gallu cymryd rhan mewn dadl gadarnhaol am yr effaith gadarnhaol y gall cynghorau tref a chymuned ei chael ar ein hatebolrwydd a'n democratiaeth a hefyd ar sut y darparwn wasanaethau ar draws y wlad. Mae'r cwestiwn a ydym yn dymuno creu cynghorau newydd neu uno cynghorau presennol yn fater ar gyfer trafodaeth yn lleol. Ceir deddfwriaeth gyfredol a fydd yn galluogi hynny i ddigwydd. Ond byddaf yn edrych ar lunio gwelliannau i'r Bil fis Chwefror nesaf, os yw hynny'n angenrheidiol, er mwyn rhoi bod i rai o'r argymhellion hynny.

Ad-drefnu Awdurdodau Lleol

7. O ystyried bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gwrthod cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr awdurdodau lleol, beth yw cynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer ad-drefnu awdurdodau lleol? OAQ52850

Amlinellais fy nghynlluniau ar gyfer camau nesaf y broses o ddiwygio llywodraeth leol yn fy natganiad ar 17 Gorffennaf.

15:50

Diolch i Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb gwag hwnnw. Roedd y CLlLC, sydd wrth gwrs yn gorff anetholedig arall sy'n costio tua £7 miliwn i'r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn, i'w weld wedi drysu'n llwyr gyda'ch cynnig i leihau nifer yr awdurdodau lleol. Ai'r rheswm am hyn oedd eu bod wrthi'n ymateb yn rhagweithiol i'r rhaglen ddiwygio flaenorol, yn ogystal â datblygu agenda'r dinas-ranbarth? A waethygwyd eu dryswch ymhellach gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod iddynt ychydig bach cyn hynny na fyddai unrhyw ad-drefnu llywodraeth leol yn digwydd am o leiaf 10 mlynedd? A yw'n rhyfedd o gwbl felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fod awdurdodau lleol wedi ymateb drwy ddweud bod y cyhoeddiad hwn wedi achosi anesmwythyd, dryswch ac wedi dangos diffyg eglurder sylfaenol ar ran y Llywodraeth hon, a'ch bod wedi methu gwneud achos a ddynodai y byddai'r uno arfaethedig yn cyflawni'r arbedion a ragwelwyd?

Lywydd, nid wyf yn siŵr fod CLlLC yn drysu, ond credaf fod yr Aelod yn drysu. Mae wedi drysu rhwng nifer o wahanol faterion o fewn un cwestiwn, ac rwy'n derbyn bod hynny'n dipyn o gamp. Gadewch imi ddweud hyn wrtho: nodais fy mwriadau yn y datganiad ar 17 Gorffennaf. Mae'n ymddangos nad yw'n gwybod hynny, ac efallai y dylai wybod hynny. Bydd fy nghyfarfod nesaf â'r gweithgor ar 30 Tachwedd i ddatblygu'r materion hyn. Rydym wedi cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer y gwaith hwnnw, ac mae'r gwaith yn parhau. Buaswn yn awgrymu bod yr Aelod yn ceisio dal i fyny.

Credaf ein bod oll yn ymwybodol sut y mae eich Llywodraeth ac Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol wedi cynhyrchu tri chynnig gwahanol ar gyfer llywodraeth leol, a phob un ohonynt wedi'u gwrthod yn eang gyda 21 o'n hawdurdodau lleol yn feirniadol iawn o'r cynigion hyn, ac arweinwyr cynghorau a CLlLC yn wir. Os caf, rwyf am—dywedodd Sir Gaerfyrddin eu bod yn siomedig iawn ar ôl cael sicrwydd a groesawyd yn fawr na fyddai unrhyw newid strwythurol am ddegawd. Ceredigion—'ni fyddai o unrhyw fudd i'n preswylwyr.' Conwy—nid oes unrhyw dystiolaeth gymhellol fod mwy o faint o reidrwydd yn golygu gwell; i'r gwrthwyneb, y profiad yng ngogledd Cymru yw bod creu un bwrdd iechyd mawr—wel, fe wyddom beth sydd wedi digwydd yno, oni wyddom—wedi creu problemau a fydd yn parhau i gael effaith negyddol am flynyddoedd. Ar ba bwynt fyddwch chi'n gwrando ar awdurdodau lleol, yn gweithio gyda hwy ar draws yr holl grwpiau gwleidyddol ac ar draws yr holl arweinwyr cynghorau, ac yn llunio cynllun synhwyrol i helpu awdurdodau lleol i weithio ar sail fwy rhanbarthol, i gydweithio â'r partneriaid yr ystyriant hi'n addas i weithio â hwy, a chaniatáu iddynt gymryd yr awenau ar unrhyw ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol?

Mae'r Aelod yn gofyn i mi adael i bobl eraill gymryd yr awenau yn ei chwestiwn. Wrth gwrs, mewn cwestiwn blaenorol, roedd hi'n mynnu fy mod i'n cymryd yr awenau. Credaf fod angen iddi benderfynu.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf, felly, ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol, ac i ofyn cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Rhun ap Iorwerth.

Hyfforddi Peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali

2. Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â hyfforddi peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali? 227

Member
Alun Davies 15:53:40
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Nid oes unrhyw drafodaethau wedi digwydd ar ddefnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia. Mater i'r RAF a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw'r defnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddiant. Fodd bynnag, cyfarfûm â'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach yr wythnos hon a byddaf yn cyfarfod â Gweinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn eto yr wythnos nesaf.

Mae safle'r llu awyr yn y Fali yn ganolfan ragoriaeth i hyfforddi peilotiaid llu awyr Prydain. Mae hefyd yn ganolfan lle mae peilotiaid o wledydd eraill yn treulio amser ar brydiau—rydym ni'n gwybod hynny. Ond mewn ateb i gwestiwn seneddol yn San Steffan gan Blaid Cymru yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau bod peilotiaid o Saudi Arabia yn cael eu hyfforddi yno ar hyn o bryd. O ystyried y cwestiynau moesol difrifol sy'n cael eu codi ynglŷn â gweithredoedd Saudi Arabia yn rhyngwladol ar hyn o bryd, a ydy Llywodraeth Cymru yn cytuno efo fi ei bod hi'n amhriodol rhoi croeso i beilotiaid o lu awyr Saudi Arabia hyfforddi yma?

Fe allem ni siarad am y ffieiddio a fu yn rhyngwladol yn dilyn llofruddiaeth Jamal Khashoggi, ond beth sy'n fwyaf perthnasol yma ydy'r rhan y mae llu awyr Saudi Arabia yn ei chwarae mewn ymosodiadau ar Yemen, lle mae rhyfel wedi creu argyfwng dyngarol erchyll, a thra bod lluoedd teyrngarol yn trio ymateb i hynny, mae nifer fawr o bobl gyffredin, gan gynnwys plant, wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau o'r awyr. Mi ddywedodd Amnest Rhyngwladol yn ddiweddar eu bod nhw wedi cofnodi 36 ymosodiad o'r awyr sy'n ymddangos fel petaent yn groes i gyfreithiau dyngarol rhyngwladol, yn cynnwys ymosodiadau ar ysbytai ac ysgolion, ac rydym ni'n gwybod mai llu awyr Saudi Arabia sy'n arwain yr ymosodiadau. Mae Llywodraeth America hefyd wedi cael ei beirniadu am ei rôl yn cefnogi a hyfforddi llu awyr Saudi Arabia. A wnewch chi—a wnaiff Lywodraeth Cymru hefyd gondemnio'r defnydd o RAF y Fali i'r pwrpas hwnnw? 

Yn ogystal â'r elfen foesol, yn fyr, mae elfen ymarferol yma hefyd, ac yn y dyddiau diwethaf, rydym wedi clywed comisiynydd heddlu'r gogledd yn codi pryderon am y pwysau y gall presenoldeb peilotiaid Saudi Arabia yn y Fali ei roi ar adnoddau heddlu y gogledd. Felly, nac ydy, nid ydy amddiffyn ddim wedi ei ddatganoli ac nid ydy'r heddlu na heddlua wedi eu datganoli ychwaith, ond efo'r protest yn digwydd yn y Fali heno, fel mae'n digwydd, mae yna le, rydw i'n meddwl, i ymyrraeth yn fan hyn gan Lywodraeth Cymru i godi llais yn enw cyfiawnder.

15:55

Lywydd, mae'r Aelod yn ymwybodol, a chredaf fod yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn ymwybodol, nad mater i'r lle hwn yw materion gweithredol y Llu Awyr Brenhinol, ac nid yw'n fater priodol i'w drafod yma. Bydd gan bawb ohonom ein barn ar ddigwyddiadau'r byd, megis y rhai sy'n digwydd yn Yemen ac mewn mannau eraill, a bydd gennym i gyd farn ar hynny. Yr hyn sy'n fater ar gyfer y lle hwn, a'r hyn y credaf ei fod yn fater priodol i'w drafod yma, yw rôl ein lluoedd arfog a'r safleoedd sy'n bodoli yng Nghymru ar gyfer cynnal a chefnogi lluoedd arfog Prydain ac i sicrhau bod lluoedd arfog Prydain ar gael i gymryd rhan mewn gweithredoedd yn unrhyw ran o'r byd ar unrhyw adeg. Mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi rôl y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ei safleoedd yng Nghymru, ac rwy'n rhagdybio bod yr Aelod dros Ynys Môn yn cefnogi rôl RAF y Fali yn ei etholaeth, ac nid wyf yn meddwl y byddai am gael ei weld yn tanseilio rôl RAF y Fali mewn unrhyw ystyr o gwbl. Yr hyn y byddaf yn ei ddadlau ac yn ei drafod gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw lleoli personél gweithredol yng Nghymru. Hoffwn gynyddu ôl troed y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru. Rwy'n trafod gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn sut y gallwn gynnal a chefnogi canolfannau ychwanegol yng Nghymru. Hoffwn weld y barics yn Aberhonddu yn cael eu cynnal fel pencadlys cenedlaethol ar gyfer y lluoedd arfog yng Nghymru, a chredaf fod gan bob un ohonom reswm mawr iawn—yn enwedig yr wythnos hon, ond nid yr wythnos hon yn unig—dros fod yn ddiolchgar am wasanaeth ein holl luoedd arfog.

Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn mewn mosg ar Stryd Alice yn Butetown, yn siarad ar ôl gweddïau dydd Gwener. Mae canolfan Yemenïaidd yno a chymuned Yemenïaidd sefydledig sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Dywedodd pobl wrthyf pa mor falch ydynt fod ganddynt rywun â chefndir Yemeni Arabaidd wedi ei ethol i'r Cynulliad hwn am y tro cyntaf. Roedd hi'n fwy na siomedig canfod, ar ben arall y wlad, ar Ynys Môn, fod peilotiaid o Saudi Arabia yn cael eu hyfforddi i fomio Yemen, gan arwain at filoedd o farwolaethau sifiliaid. Nawr, mae rhai o'r sifiliaid hyn sy'n cael eu lladd yn aelodau o deuluoedd rhai o'r bobl y cyfarfûm â hwy ym mosg Stryd Alice. Credaf ei bod yn gwbl warthus fod ein gwlad yn cael ei defnyddio i hyfforddi peilotiaid i fomio Yemen, gwlad y mae gennym gysylltiad mor gryf â hi yn hanesyddol. Felly, a wnewch chi yn awr, os gwelwch yn dda, roi camau brys ar waith i fynnu bod hyfforddiant y peilotiaid Saudi hynny yng Nghymru yn dod i ben? Diolch.

Lywydd, fel rwyf wedi dweud eisoes, bydd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr eu barn eu hunain ar ddigwyddiadau byd-eang a'r rhai sy'n digwydd yn Yemen ac mewn mannau eraill, a chredaf y byddem oll yn rhannu barn debyg ynglŷn ag effaith rhyfela ar sifiliaid, lle bynnag y maent yn digwydd bod, ac rydym yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, nid mater ar gyfer y lle hwn yw dadlau neu drafod penderfyniadau gweithredol a wneir gan y Llu Awyr Brenhinol ynglŷn â'r defnydd o adnoddau'r DU. Yn briodol iawn, mater ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn yw hynny, ac yn gywir iawn, nid yw'n fater a ddatganolwyd i'r lle hwn. Efallai y bydd gennym safbwyntiau unigol fel unigolion. Fodd bynnag, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cefnogi ein lluoedd arfog, yn cefnogi gallu'r Llu Awyr Brenhinol a rhannau eraill o'n lluoedd arfog i wneud y penderfyniadau gweithredol y credant fod angen iddynt eu gwneud ac o fewn y strwythurau a sefydlwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy'n atebol i Senedd y Deyrnas Unedig.

16:00
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf—Bethan Sayed. 

Roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn heddiw i bob un ohonom gofio ein ffrind a'n cyd-Aelod Carl Sargeant, flwyddyn wedi ei farwolaeth. Gwn ein bod oll yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yma heddiw, ac rydym oll yn ei gofio yn ein ffyrdd unigryw ein hunain—o'i wenau drygionus i'w areithiau anghonfensiynol, i'w ofal am eraill. Roedd bob amser yn barod i'ch cefnogi. Ni allais dalu teyrnged i Carl yn y Senedd y llynedd; torrais fy mraich ar yr un adeg, a gwyliais bob un o'ch teyrngedau didwyll ar Senedd.tv. Cyfarfûm â Carl gyntaf pan oeddwn yn llywydd myfyrwyr, yn lobïo Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad wrth iddynt fynd i mewn i Dŷ Hywel, ar y pryd, ar gyfer y dadleuon, ac roedd Carl bob amser yn aros i siarad gyda mi pan nad oedd Aelodau Cynulliad eraill yn gwneud hynny—ac nid wyf am enwi enwau yma heddiw. Fe geisiodd ac fe fethodd fy recriwtio i'r Blaid Lafur, ond yn y blynyddoedd diwethaf daeth ffrind da iawn, yn rhywun y gallwn droi ato a dibynnu arno bob amser i wrando arnaf a fy nghefnogi pan wynebais heriau personol yn fy mywyd. A byddaf bob amser yn parchu'r cyfeillgarwch hwnnw, a gobeithiaf y gallaf ddatblygu'r cyfeillgarwch hwnnw gyda'i fab, Jack Sargeant.

Fe wnaeth y diwrnod hwnnw y llynedd newid gwleidyddiaeth am byth. Gwnaeth i mi feddwl sut rydym yn trin pobl eraill, a sut y gallwn ddatblygu cysylltiadau hirdymor y tu hwnt i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol gul. Gwn fod gwaith Jack Sargeant ar siarad am wleidyddiaeth fwy caredig yn gallu helpu a chynorthwyo pawb ohonom—pob un ohonom—yn yr ystafell hon heddiw.

Credaf ei bod hi'n bwysig hefyd inni gofio ymrwymiad Carl i ymgyrch y Rhuban Gwyn a'r mentrau a roddodd ar waith i fynd i'r afael â melltith cam-drin domestig yng Nghymru. Ar ôl ei farwolaeth, dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru am Carl, a dyfynnaf,

Roedd yn arweinydd carismatig a dylanwadol, ac yn gefnogwr nifer o wasanaethau cam-drin domestig ledled Cymru.

Chwaraeodd ran

allweddol yng ngwaith Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, ac anaml y'i gwelid heb ruban gwyn ar labed ei got.

Wel, Carl, os wyt ti i fyny yno'n gwrando arnom, rydym yn iawn, gyfaill, ond byddwn bob amser yn dy gofio di, a byddwn yn gwneud cyfiawnder â dy waddol, ond rydym yn dy golli'n ofnadwy yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i fenywod yn y rhyfel byd cyntaf y disgrifiwyd eu rolau a'u bywydau gan fy etholwr a'r hanesydd Cymreig, yr Athro Deirdre Beddoe, ddydd Sul diwethaf ar BBC2. Fel y dywedodd yr Athro Beddoe wrthym, ar ddechrau'r rhyfel, câi menywod eu hannog gan Weinidogion, gan gynnwys David Lloyd George, i ddweud hwyl fawr wrth y dynion a garent ym mhob stryd a phob cymuned yn y tir, gyda phropaganda llywodraeth yn pwysleisio y dylai mamau, gwragedd a chariadon anfon eu dynion i'r rhyfel. Nododd yr Athro Beddoe y rôl allweddol y chwaraeodd menywod, yn enwedig menywod Cymru, yn ennill y rhyfel. Disgrifiodd sut y bwydai menywod y genedl ym Myddin Dir y Menywod, yn nyrsio, ac yn gweithio mewn rolau peryglus yn aml mewn 11 o ffatrïoedd arfau yng Nghymru, a darganfu mai'r swffragetiaid oedd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer recriwtio i'r heddlu.

Ar ddechrau'r rhyfel, roedd menywod a weithiai yn aml yn gwneud hynny am y nesaf peth i ddim fel morwynion domestig a gweinyddesau, felly roedd y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o weithleoedd gwahanol yn rhoi ymdeimlad o ryddid i fenywod, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd 80 y cant o'r gweithlu yn fenywod. Chwaraeai menywod eu rhan i ffwrdd o'r ffrynt, ond pan ddechreuodd y rhyfel, nid oedd ganddynt hawl i bleidleisio. Pan ddaeth y rhyfel i ben, dywedwyd wrthynt, 'Yn y cartref y mae eich lle.' Ond enillodd menywod y bleidlais yn rhannol yn 1918, buddugoliaeth a ddathlwyd gennym yn y Senedd hon ac ar gyfer y canmlwyddiant eleni. Yn ystod wythnos y cofio arwyddocaol iawn eleni, rhaid inni gofio aberth a chyfraniadau menywod, yn ogystal â chofio'r holl ddynion a gollasant yn y rhyfel byd cyntaf.

Diolch, Lywydd. Ar 10 Tachwedd 1925, 93 o flynyddoedd yn ôl, ganwyd Richard Walter Jenkins yr ieuengaf yng nghartref y teulu yng Nghwm Afan. Rydym yn ei adnabod fel Richard Burton. Nawr, heddiw, nid wyf am dynnu sylw at ei fywyd, gan fy mod yn gobeithio bod yma ar adeg canmlwyddiant ei eni i wneud hynny, ond yn hytrach, rwyf am ddathlu 36ain ras y Richard Burton 10K. Cynhaliwyd y ras ffordd gyntaf ym 1982, ar ôl llawer o waith gan bwyllgor Cymdeithas Les Cwmafan a ddaliodd ati i gynnal y ras honno am flynyddoedd lawer. Teithiodd y ras 10 km gyntaf drwy fy mhentref, sef Cwmafan, a chafodd ei defnyddio i godi arian ar gyfer y cymunedau a chyfleusterau. Cododd y rasys cynnar hynny ddigon o arian i ddatblygu campfa i glybiau chwaraeon a phobl leol ei defnyddio, ac felly gwelsom fudd gwirioneddol yn dod i'r gymuned o'r ras.

Ers 1982, rydym wedi gweld y ras yn tyfu, a ddydd Sul diwethaf, 36 o flynyddoedd ar ôl iddi gael ei rhedeg gyntaf, denodd oddeutu 1,800 o redwyr—a hynny heb gynnwys y 400 a mwy o redwyr milltir bach a gymerodd ran mewn ras gynharach ar yr un diwrnod—o bob cwr o'r DU, i redeg un o'r rasys ffordd 10 km hynaf yn ein gwlad. Nawr, mae pawb yn—. Mae cryn dipyn o bobl yn cymryd rhan: cynghorwyr, ASau—ac mae un Aelod Cynulliad wedi rhedeg y ras honno hefyd, sef Bethan Sayed. Nid yw fy nghorffolaeth i'n addas ar gyfer rhedeg ras ffordd, felly—. [Torri ar draws.] Na, rwy'n credu y gwnaf fi gadw'n glir o hynny.

Ond er iddi ddod yn ras gydnabyddedig ar galendr athletau Cymru, mae'n dal yn aros yn ffyddlon i'w bwriad gwreiddiol sef codi arian ar gyfer grwpiau lleol. Heddiw, caiff ei threfnu gan bâr o'r enw Shaun ac Anna Tobin, gyda chefnogaeth pwyllgor gweithgar iawn o wirfoddolwyr, ac maent wedi trawsnewid y llwybr bellach i gynnwys Cwmafan a Phontrhyd-y-fen ar hyd llwybr Richard Burton. Mae'n ras sy'n ymgorffori ysbryd a harddwch ein cymoedd enwog yng Nghymru ynghyd ag ysbryd y chwedl o ddyn, Richard Burton. Hir y parhaed.

16:05
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, ac rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Darren Millar. 

Cynnig NDM6857 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynigiwyd y cynnig.

A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol

Sy'n dod â ni at yr eitem ar ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol, ac rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Lynne Neagle.

Cynnig NDM6852 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol a'n hadroddiad, 'Cyrraedd y nod?', a gyhoeddwyd gennym ym mis Mehefin. Nod ein hymchwiliad oedd edrych i weld a yw gwaith Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio dull wedi'i dargedu i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyrraedd eu potensial llawn ac i godi safonau ysgolion yn fwy cyffredinol yn cyrraedd y nod go iawn, a beth arall y gellir ei wneud i sicrhau'r effaith fwyaf a'r gwerth gorau am arian o ddull wedi'i dargedu. Os yw Cymru i gael y system addysg o'r radd flaenaf y mae pawb ohonom yn dyheu amdani, ni allwn ac ni ddylwn adael unrhyw ddisgyblion ar ôl. Dyna pam rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn croesawu ein hadroddiad ac wedi derbyn 24 o 31 o'n hargymhellion a thri arall mewn egwyddor.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddull sefydledig o dargedu adnoddau ychwanegol at grwpiau penodol o ddisgyblion sydd mewn perygl o fethu cyrraedd eu potensial llawn. Mae mynd i'r afael â'r gydberthynas negyddol rhwng amddifadedd, fel y'i mesurir yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, a chyrhaeddiad wedi bod yn flaenoriaeth ers blynyddoedd lawer. Wrth gwrs, mae rhai disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gwneud yn dda iawn ac yn ffynnu'n academaidd, ond gwyddom fod yna lawer rhagor nad ydynt yn gwneud hynny. Mae disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n aml yn gwneud yn dda yn aml yn gwneud hynny yn groes i'r disgwyl ac er gwaethaf, yn hytrach nag oherwydd, eu hamgylchiadau. Dyna pam y mae cymorth ac ymyrraeth wedi'i dargedu i chwalu'r anghydraddoldebau strwythurol hyn, megis y grant datblygu disgyblion, mor hanfodol. Dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor yn mynegi cefnogaeth gyffredinol i'r egwyddor o dargedu cyllid. Fodd bynnag, ar £94 miliwn y flwyddyn, mae'r grant datblygu disgyblion yn llyncu rhan sylweddol o'r gyllideb addysg ac mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian.

Edrychodd ein hadroddiad hefyd ar raglen gwella ysgolion Llywodraeth Cymru, Her Ysgolion Cymru, rhaglen wedi'i thargedu a weithiodd gyda 39 o ysgolion a oedd yn tangyflawni yng Nghymru rhwng 2014 a 2017.

Yn gyntaf, ar y grant datblygu disgyblion, y bwriedir iddo fod ar gyfer pob disgybl sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, gan gynnwys y rhai sy'n cyflawni ar lefel uchel ond a allai gyflawni mwy hyd yn oed, canfu ein hymchwiliad fod y grant datblygu disgyblion yn cael ei dargedu'n bennaf ar gyfer disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ac sy'n tangyflawni, ac nid ar gyfer rhai mwy abl a thalentog. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn ac eisoes wedi rhoi camau ar waith i ymdrin â'r mater.

16:10

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fonitro effaith y grant datblygu disgyblion yn agos a sicrhau gwerth am arian, ac rydym yn croesawu hynny. Dywedodd Estyn wrth y pwyllgor fod dwy ran o dair o ysgolion yn defnyddio'r grant yn effeithiol. Nododd Estyn ac Ysgrifennydd y Cabinet fod hyn i'w ddisgwyl gan ei fod yn adlewyrchu'r gyfran o ysgolion gydag arweinyddiaeth dda neu well. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu na ddylem fodloni ar sefyllfa lle nad yw traean yr ysgolion yn defnyddio'r grant datblygu disgyblion yn effeithiol a byddai'n gofyn am sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y pwynt hwn.

Mae'r grant datblygu disgyblion wedi bod ar waith ers dros chwe blynedd bellach, a buddsoddwyd bron i £400 miliwn ynddo. Mae consortia gwella ysgolion bellach wedi penodi arweinwyr grant datblygu disgyblion ym mhob un o'r pedwar rhanbarth. Rydym wedi argymell y dylent wneud llawer mwy i herio defnydd aneffeithiol o'r grant. Dyma rywbeth y canfu'r gwerthusiad gan Ipsos MORI a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru nad oedd yn digwydd yn ddigonol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhellion yn hyn o beth, yn enwedig ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r grant datblygu disgyblion i wella presenoldeb disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'u hymgysylltiad â'u haddysg.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am ganolbwyntio yn awr ar un neu ddau o'r argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwrthod. O 2018-19, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'r grant datblygu disgyblion ar ddisgyblion sydd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd flaenorol; mae hyn yn cynnig hyblygrwydd sydd i'w groesawu. Fodd bynnag, nid yw ysgolion wedi cael unrhyw arian ychwanegol i wneud hyn, gan fod eu dyraniadau grant datblygu disgyblion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim mewn un flwyddyn. Os yw Llywodraeth Cymru am i ysgolion fabwysiadu diffiniad mwy hyblyg ar gyfer targedu'r grant, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai ymrwymo i ariannu hyn yn llawn.

At hynny, mewn perthynas â dyraniadau, roedd y pwyllgor yn cydnabod y rhesymeg dros ddefnyddio data cyfrifiad ysgol blynyddol 2016: roedd y ffigurau prydau ysgol am ddim yn uwch yn y flwyddyn honno, gan alluogi mwy o arian i gael ei neilltuo ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, roeddem yn bryderus ynglŷn ag ysgolion sy'n mynd yn groes i'r duedd ac a allai gael nifer uwch o ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2017 neu 2018. O'r herwydd, galwasom am bennu dyraniadau'r grant datblygu disgyblion i ysgolion ar sail pa un bynnag sydd uchaf, naill ai nifer y disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn 2016 neu'r cyfrif diweddaraf sydd ar gael.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion ynghylch effaith y grant datblygu disgyblion ar gyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a chanlyniadau anfwriadol newidiadau i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4. Dengys data cyrhaeddiad gynnydd calonogol ar gau'r bwlch yng nghyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn cael prydau am ddim, o leiaf hyd at 2016. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn bryderus iawn ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd yn dilyn newidiadau Llywodraeth Cymru i fesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 yn 2017, a leihaodd y pwysoliad a roddwyd i gymwysterau galwedigaethol oherwydd pryderon fod gormod o ddisgyblion yn cael eu cofrestru ar eu cyfer.

Gwn nad oes modd cymharu cyfraddau cyflawniad y mesurau trothwy lefel 2 rhwng 2017 a blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, yr hyn a oedd yn peri pryder gwirioneddol i'r pwyllgor oedd y bwlch a oedd yn tyfu rhwng disgyblion a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Canfuom nad oes cymhelliad i ysgolion gofrestru disgyblion ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, hyd yn oed lle gallai fod yn iawn ar gyfer disgyblion unigol, ac mae hyn wedi effeithio'n anghymesur ar ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i ymchwilio i'r canlyniad anfwriadol hwn a dysgu gwersi ar y cyfle cyntaf. Rydym yn cydnabod bod mesurau perfformiad dros dro newydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer haf 2019. Fodd bynnag, o gofio bod y canlyniadau 2018 dros dro yn dangos sefyllfa debyg i 2017, byddem yn croesawu sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet fod carfannau prydau ysgol am ddim 2017 a 2018 heb gael eu heffeithio'n annheg ac yn niweidiol gan y newidiadau blaenorol. Sut y mae'r grant datblygu disgyblion wedi lliniaru, neu wedi methu lliniaru yn erbyn hyn?

Gellir dweud yr un peth am blant sy'n derbyn gofal; mae eu bwlch cyrhaeddiad o'i gymharu â'u cyfoedion wedi ehangu ers 2016 ar ôl blynyddoedd o gynnydd da ar gau'r bwlch. Gan symud ymlaen at yr elfen o'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r gwerthusiad a gomisiynodd gan ICF Consulting i wella'r rhaglen yn y dyfodol. Clywodd y pwyllgor nad oedd yr agwedd hon ar y grant datblygu disgyblion wedi bod yn ddigon strategol tan yn weddol ddiweddar, pan wellodd y consortia rhanbarthol y ffordd y maent yn targedu ac yn gweinyddu'r grant.

Roedd pryder mwyaf y pwyllgor, fodd bynnag, yn ymwneud â'r ffordd y caiff y grant datblygu disgyblion ei ddefnyddio neu'r ffordd na chaiff ei ddefnyddio ar blant wedi'u mabwysiadu. Ceir oddeutu 4,000 o blant sy'n derbyn gofal plant yng Nghymru, a 3,000 i 3,500 amcangyfrifedig o blant wedi'u mabwysiadu. Er bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gonsortia dargedu'r grant datblygu disgyblion ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu yn ogystal â phlant sy'n derbyn gofal, nid yw'r dyraniad cyllid ond yn seiliedig ar niferoedd y plant sy'n derbyn gofal yn unig. Mae hyn yn golygu un o ddau beth: naill ai nad yw'r grant datblygu disgyblion yn cael ei ddefnyddio ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu neu os yw'n cael ei ddefnyddio, mae'r swm y pen o £1,150 wedi ei wanhau bron i'w hanner i bob pwrpas.

Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn edrych ar sut y gellir mynd ati'n fwy rhagweithiol i nodi plant sydd wedi'u mabwysiadu a'u cefnogi wedyn drwy'r grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, rydym yn siomedig fod ein hargymhelliad y dylai'r grant datblygu disgyblion gael ei ddyrannu i gonsortia yn seiliedig ar y niferoedd plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu wedi ei wrthod, er ein bod yn nodi y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei adolygu'n rheolaidd.

Gan droi at Her Ysgolion Cymru, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein pedwar argymhelliad, er mai mewn egwyddor y mae wedi derbyn un ohonynt. Er bod y gwelliannau a ddangoswyd gan ysgolion sy'n rhan o'r rhaglen yn amrywiol, gwnaeth rhai ysgolion yn dda iawn o ganlyniad i'r her a'r cymorth ychwanegol, yn enwedig yn rhanbarth canol de Cymru. Mae'n hanfodol na chollir momentwm yn yr ysgolion hyn yn dilyn cau rhaglen, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi cytuno y dylai'r consortia rhanbarthol fonitro'r sefyllfa yn agos. Clywsom wahanol ddehongliadau o ran y bwriad i gynnal Her Ysgolion Cymru am gyfnod penodol yn unig, ond gwelwyd consensws cyffredinol yn ein tystiolaeth fod gwir angen i raglen o'r fath redeg am fwy na thair blynedd i gael effaith barhaol.

Nododd y pwyllgor safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet fod Her Ysgolion Cymru wedi cyflawni ei diben tra bo'r consortia'n magu gwraidd, ac y gallant bellach gymryd yr awenau o ran targedu gwaith gwella ysgolion ar gyfer ysgolion penodol. Ond ni allai'r pwyllgor ddeall pam fod y penderfyniad i ddod â Her Ysgolion Cymru i ben saith mis cyn i'r gwerthusiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun, gael ei gwblhau. Roeddem hefyd yn bryderus o glywed am ddiffyg ymrwymiad i ddysgu gwersi gan Her Ysgolion Cymru gyda'r rhai sy'n ganolog i'r gwaith o gyflawni'r rhaglen yn dweud wrth y pwyllgor eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu cau allan rywfaint.

Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru a'r consortia wneud mwy i ddysgu gwersi gan Her Ysgolion Cymru er mwyn cymhwyso'r rhain i'r gwaith o wella ysgolion yn fwy cyffredinol, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i wneud hyn. Roedd y pwyllgor yn pryderu, yn dilyn cau'r rhaglen, y byddai ei chyllideb flynyddol yn mynd yn ôl i gronfeydd wrth gefn, yn hytrach nag i fannau eraill o fewn y gyllideb addysg. Yn wir, mae'r ymchwiliad hwn wedi amlygu mater ehangach yn ymwneud ag ariannu ysgolion, sydd wedi codi dro ar ôl tro mewn gwahanol ymchwiliadau a wnaeth y pwyllgor. Bydd y pwyllgor yn edrych ar y materion hyn a'r broses o ddyrannu cyllidebau ysgol yn ei ymchwiliad sydd ar y ffordd i gyllido ysgolion, ac mae hyn, wrth gwrs, yn fater allweddol ar gyfer cyllideb ddrafft 2019-20, yn enwedig o ystyried y pryderon a fynegwyd ynghylch lefel y cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r rhanddeiliaid am y ffordd y maent wedi ymwneud yn gadarnhaol â'r ymchwiliad ac am eu cyfraniadau gwerthfawr, yn ogystal â'r ysgolion yr ymwelwyd â hwy. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb cadarnhaol i'r ymchwiliad hwn ac i'n hargymhellion. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynorthwyo disgyblion difreintiedig i gyflawni eu potensial llawn a chodi safonau ysgolion yn fwy cyffredinol. Gobeithiaf fod ein hadroddiad wedi dangos gwerth monitro'n rheolaidd fod dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn bendant yn werth yr arian.

Mae ein holl ddisgyblion, beth bynnag yw eu cefndir, yn haeddu cael yr effaith fwyaf a'r gwerth gorau am arian o ddull wedi'i dargedu. Diolch.

16:15

Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Fel aelod newydd o'r pwyllgor, mae hwn wedi bod yn ddeunydd darllen diddorol iawn, a chyda'r ffocws angenrheidiol iawn ar gyllidebau ysgol bellach, credaf ein bod i gyd yn croesawu'r craffu hwn ar effeithiolrwydd gweithgareddau penodol a sefydlogrwydd y ffrydiau incwm sy'n sail iddynt.

Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn gweld a yw arweinwyr ysgolion yn gwneud penderfyniadau gwariant ar sail yr hyn y credant y bydd yn gweithio orau ac yn gobeithio y gallant ddod o hyd i adnoddau digonol ar gyfer y penderfyniadau hynny yn nes ymlaen, neu a yw'n fater o ddod o hyd i'r cyllid yn gyntaf, gan arwain, efallai, at gynnig i blant sy'n llai na'r gorau sy'n bosibl. Oherwydd gellid dadlau yn y ddau achos, nad yw'r naill benderfyniad na'r llall mor effeithiol ag y mae angen iddo fod. Yn y cyntaf, mae'r ansawdd yno, ond gallai fod yn anfforddiadwy ac felly'n anghyflawnadwy, ac yn yr ail, efallai na fydd yr opsiwn rhatach yn cyrraedd y nod yn llwyr o ran yr amcanion mwy heriol ar gyfer plant penodol. Yn amlwg, rwy'n sylweddoli bod hyn yn gorsymleiddio'r cyfyng-gyngor sy'n wynebu arweinwyr ysgol—nid yw'r cyfan yn ymwneud ag arian—ond fel y mae argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwn yn egluro, mae gwerth am arian a chost cyfle yn ystyriaethau ar gyfer y Cynulliad hwn, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sydd arnom.

Rydym yn cydnabod yr hyn y gobeithiwch ei gyflawni drwy'r grant datblygu disgyblion, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddem yn disgwyl amddiffyniad cadarn ohono pan ymddengys nad yw'n cyrraedd y nod, ond yr hyn y byddwn yn chwilo amdano'n benodol yw esboniad credadwy o pam y mae'n gweithio pan yw'n gweithio a gwerthusiad gonest pam nad yw'n gweithio pan nad yw'n gweithio. Oherwydd, os yw'n llythrennol ond yn ymwneud ag arian yn unig, byddwn yn cefnogi eich dadleuon i'r Ysgrifennydd cyllid dros gael mwy o arian. Fodd bynnag, os yw'n ymwneud â gwendidau o ran arweinyddiaeth ysgol neu gonsortia neu awdurdodau lleol, neu hyd yn oed o fewn Llywodraeth Cymru neu Estyn, rhaid i chi fod yn onest gyda ni. Felly, er fy mod yn derbyn gwerth systemau olrhain a chasglu data yn llwyr, a gwelaf eich bod wedi sôn am hynny yn eich ymateb i argymhelliad 1, mae gennyf ddiddordeb hefyd yn yr hyn y gallech ei alw'n—nid yw 'rheoli perfformiad' yn hollol gywir, ond y modd y byddwch yn casglu gwybodaeth ystyrlon am hynny i chi allu gweithredu arno wedyn.

Fel y gwyddoch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn ariannu ysgolion yn fwy uniongyrchol ac ymddiried mewn athrawon ac aelodau eraill o staff i wneud penderfyniadau, ond daw hynny law yn llaw â mwy o gyfrifoldeb dros dryloywder a llywodraethu. Oherwydd gallwn ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif hyd ddydd y farn, ond fel y gwelwn dro ar ôl tro, nid yw hynny yr un fath â Llywodraeth Cymru yn derbyn atebolrwydd ac yn gweithredu pan fydd y Cynulliad yn tynnu sylw at ei gwendidau. Felly, mae'n braf nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi derbyn cynifer o argymhellion yr adroddiad sy'n ymdrin â phryderon ynglŷn â methiant cenhadaeth mewn gwirionedd—nid yn gyffredinol, ond mewn rhai achosion.

Ac mae'r pwynt am golli ffocws ar blant mwy abl a thalentog o grwpiau targed y grant datblygu disgyblion yn sylw sy'n bwysig i mi, rhaid imi gyfaddef. I fod yn glir, nid wyf yn mynd i fod yn gwneud unrhyw ddadleuon dros ysgolion gramadeg yn ystod y ddadl hon, felly os gwelwch yn dda peidiwch â chael eich dargyfeirio gan hynny, ond mae'r cwestiwn ynglŷn â beth a ddigwyddodd i statws y Gymru ddosbarth gweithiol, anffyniannus fel crochan cyflawniad addysgol yn dal i hofran uwch ein pennau. Ac er y gallwn sôn am ein dealltwriaeth ehangach o effeithiau tlodi a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod, nid yw fel pe na baent yn bodoli o'r blaen, ac eto nid yw'n ymddangos bod ein system addysg yn darparu ar gyfer, nac yn codi mwy o'r bobl ifanc dlawd ond gwirioneddol alluog hyn i gyrraedd y cyfleoedd i'r un graddau ag y gallai ei wneud o'r blaen. Felly, byddwn yn disgwyl gweld yr argymhellion a dderbyniwyd, gan gynnwys argymhelliad 3, yn troi'n weithredu ac yn gwella cyrhaeddiad, a byddwn hefyd yn disgwyl asesiad o effaith briodoladwy eich ymgynghorwyr strategol y grant datblygu disgyblion.

Yn olaf, eich dull o atal rhai o'r ysgolion rhag chwarae'r system—y newid hwn o BTEC i TGAU ar gyfer y carfannau disgyblion y soniwn amdanynt yn y ddadl hon, a'r effaith ymddangosiadol ar raddau a natur cymwysterau galwedigaethol. Mae wedi cael ei godi o'r blaen, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed ychydig mwy eto heddiw fod cofrestru'r plant y soniwn amdanynt am gymwysterau cyfwerth â TGAU yn hytrach na TGAU wedi gwneud i gau'r bwlch cyrhaeddiad edrych ychydig yn fwy trawiadol na'r hyn ydoedd mewn gwirionedd. Felly, rwy'n eich edmygu am beidio â derbyn hynny, ond nid wyf yn siŵr beth fydd yn digwydd nesaf i'r bobl ifanc sydd ar ochr anghywir i'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud bellach gyda'r grant datblygu disgyblion—gan mai am ariannu rydym yn sôn—yn ogystal â strategaethau eraill.

Yr hyn y mae wedi ei amlygu, er hynny—neu'r rhagfarnau y mae wedi eu cadarnhau, os mynnwch, Ddiprwy Lywydd—yw bod cymwysterau galwedigaethol cyn-16 wedi cael eu trin fel cymwysterau ansylweddol, ac ar ôl gweld copïau o'r papurau gwyddoniaeth perthnasol ar fy aelwyd fy hun, gallaf weld pam. Does bosib na ddylai cyrsiau ac arholiadau galwedigaethol ymwneud ag ymateb i wahanol alluoedd ac arddulliau dysgu dysgwyr, a dylent ddal i ymwneud â sicrhau rhagoriaeth, ond mewn ffordd wahanol gyda ffyrdd gwahanol o gyflawni lefelau uchel o berthnasedd ymarferol. Ni lwyddwn i gyrraedd unman yn debyg i barch cydradd os yw'r sefydliad yn trin arholiadau galwedigaethol fel opsiwn 'gwneud y tro', yn enwedig ar gyfer y rhai sydd fwyaf o angen symudedd cymdeithasol.

16:20

Rwy'n meddwl mai'r mater sy'n peri fwyaf o bryder i mi yw sut y llwyddwn i ddefnyddio'r arian targed hwn i lefelu'r cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd mwy difreintiedig, neu'r disgyblion mewn ysgolion nad oes ganddynt yr ystod o bosibiliadau y gall aelwydydd mwy cefnog eu darparu ar gyfer eu plant. Rwy'n meddwl bod yna her fawr i'r ysgolion yn fy etholaeth sydd â lefel sylweddol o symudedd o fewn y flwyddyn ac o fewn cyfnod presenoldeb y plentyn yn yr ysgol gynradd. Felly, er enghraifft, yn ysgol Albany ym Mhlasnewydd, mae ystod enfawr o symudedd i mewn ac allan o'r ysgol yn digwydd drwy gydol y flwyddyn. Felly, os mai ciplun yn unig o gymhwysedd sydd gennym, gall hyn arwain at amrywiadau heriol iawn yn y cyllid o un flwyddyn i'r llall. Felly, er enghraifft, mewn blwyddyn benodol, y flwyddyn isaf a oedd ganddynt oedd 80 o ddisgyblion cymwys am brydau ysgol am ddim. Yna, y flwyddyn ganlynol, roedd 100 o ddisgyblion yn gymwys. Roedd yr ysgol wedi cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyfredol y byddai cyllid ar gael ar gyfer 100 o ddisgyblion, ond bellach mae'n rhaid iddi ymdopi â £30,000 yn llai yn ei chyllideb heb fawr iawn o rybudd. Mae hynny'n ei gwneud yn eithriadol o heriol i benaethiaid allu sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer plant difreintiedig heb orwario cyllideb nad yw ganddynt. Felly, pe gellid monitro mwy dros gyfnod ychydig yn hwy, yn hytrach na chael ciplun yn unig ar ddiwrnod penodol o'r flwyddyn, credaf y byddai hynny'n helpu ysgolion sy'n profi lefelau anferth o symudedd i allu cynllunio ychydig yn well heb orfod wynebu'r annisgwyl. Yn gyffredinol, fodd bynnag, credaf fod y grant datblygu disgyblion yn hynod o bwysig ar gyfer sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i lwyddo hyd eithaf eu gallu, gan nad yw hynny'n mynd i ddigwydd os mai cyllid fesul disgybl yn unig sydd gennym.  

16:25

Mi fuaswn yn hoffi diolch i Llyr Gruffydd, fy rhagflaenydd ar y pwyllgor yma, am ei waith trwyadl, ac rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu yn egnïol at waith y pwyllgor yma ac fel llefarydd addysg Plaid Cymru. Mae gwella cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig yn fater hollbwysig i Blaid Cymru, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Cabinet, mae o hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mi roedd ymrwymiad i gynnal y grant datblygu disgyblion drwy gydol y pumed Cynulliad yn un o'r deg blaenoriaeth addysg y cytunodd efo'r Prif Weinidog pan gafodd ei phenodi i'r Cabinet ym Mehefin 2016.

Ond, yn anffodus, mae nifer o'r argymhellion pwyllgor sydd wedi cael eu gwrthod gan yr Ysgrifennydd addysg yn ymwneud ag ymestyn cymhwyster disgyblion ar gyfer y grant datblygu disgyblion. Mi fydd cynigion Llywodraeth Cymru i newid y meini prawf ar gyfer cinio ysgol am ddim yn cael effaith andwyol ar ddisgyblion difreintiedig. Ar hyn o bryd, mae teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer credyd cynhwysol yn gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim. O dan gynigion y Llywodraeth, dim ond teuluoedd gydag enillion net dan £7,400 y flwyddyn fydd yn gymwys ar gyfer cinio am ddim o fis Ionawr 2019. Mae Cymdeithas y Plant yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol yn parhau i dderbyn cinio ysgol am ddim. Byddai hynny'n costio £35 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mi fyddai codi'r cap ar enillion net i £14,000 y flwyddyn, fel sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon, yn costio £20 miliwn yn ychwanegol.

Fe gollwyd £15 miliwn y flwyddyn o'r portffolio addysg pan ddaeth Her Ysgolion Cymru i ben. Yr oedd £12 miliwn o'r arian hwnnw yn swm canlyniadol Barnett. Mae'r Alban hefyd yn darparu cinio am ddim i'r holl ddisgyblion mewn adrannau babanod, gan olygu mai Llywodraeth Lafur Cymru a'r Ysgrifennydd Cabinet o'r Democratiaid Rhyddfrydol fydd gan y polisi mwyaf cybyddlyd yng ngwledydd Prydain. Byddwn i'n awgrymu y byddai'r £15 miliwn a gollwyd o'r gyllideb addysg yn gallu cyfrannu tuag at y gost o wrthdroi'r penderfyniad yma. Fe gyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ddiwygio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim ar ôl i'r pwyllgor orffen ystyried y dystiolaeth. Mae'n siomedig bod amseru'r Llywodraeth wedi golygu nad oedd gan y pwyllgor gyfle i graffu ar hyn fel rhan o'r adroddiad yma.

Rydw i am droi at ail agwedd yr adroddiad sydd yn tynnu fy sylw i ac wedi tynnu sylw nifer o aelodau'r pwyllgor dros gyfnod o flynyddoedd erbyn hyn, sef mater ariannu ysgolion yn gyffredinol. Mae £94 miliwn, neu 6 y cant o gyfanswm cyllideb refeniw addysg yn cael ei wario ar y grant datblygu disgyblion, gyda £400 miliwn yn cael ei fuddsoddi hyd yn hyn. Fe fyddaf i’n siomedig, felly, fod Estyn, yn eu tystiolaeth nhw, yn dweud mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion sy’n defnyddio’r grant yma mewn ffordd effeithiol. Yn anffodus, mae’n rhaid inni ddod i’r casgliad bod toriadau cyson i gyllidebau cynghorau wedi arwain at doriadau i gyllidebau ysgolion, ac felly nid ydy hi’n peri syndod bod ysgolion wedi bod yn defnyddio arian o’r grant—y grant datblygu disgyblion—er mwyn llenwi bylchau yn eu cyllidebau craidd. Rŵan, rydw i'n gwybod nad dyna ydy’r pwrpas, ond dyna ydy realiti’r sefyllfa mewn nifer cynyddol o ysgolion.

Yn ôl grŵp ffocws y pwyllgor, mae’r grant yn celu’r ffaith nad yw cyllideb ysgolion yn ddigonol. Nid adnodd ychwanegol ydy’r grant bellach, ond cyllideb graidd ar newydd wedd. Nid fi sy’n dweud hynny; arbenigwyr yn y maes sy’n dweud hynny. Daeth y pwyllgor i’r casgliad, felly, ei fod yn cefnogi’r egwyddor o gyllid wedi’i dargedu, ond ei fod o’r farn na all yr egwyddor hon lwyddo oni bai bod cyllidebau craidd ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol.

Mae argymhelliad 30 yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i adolygu pa mor ddigonol ydy cyllidebau ysgolion ac ystyried sut y mae hyn yn effeithio ar ystyriaeth ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion a’r defnydd ohono fo.

Mae gwir angen mynd i’r afael â’r broblem yma, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod arian digonol i ddarparu addysg safonol ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Dylai codi cyrhaeddiad plant difreintiedig fod yn un o’r prif flaenoriaethau, ond nid yw hyn am ddigwydd dan raglen o lymder, lle mae ysgolion yn colli athrawon a chymorthyddion dysgu, gan arwain at gylch dieflig o ostwng safonau addysg.

16:30

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon am adroddiad y pwyllgor. Rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor i hyn. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae'n gwbl briodol ein bod yn craffu ar sut y gwerir yr arian hwn—ac mae'n fuddsoddiad mawr blynyddol o £94 miliwn ac yn gyfran sylweddol o'r gyllideb addysg gyffredinol. Cefnogaf yr effaith gadarnhaol a gafodd y grant datblygu disgyblion, a dyna oedd casgliad cyffredinol y pwyllgor, mewn perthynas â disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, rhai sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal, a'r rheini sydd wedi'u mabwysiadu. Credaf ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn cynnig cymorth ychwanegol i wella cyrhaeddiad y disgyblion hyn, a hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cymryd rhan mor lawn â phosibl yn y system addysg, oherwydd nid ydym am weld unrhyw ddisgyblion, os yn bosibl, yn disgyn drwy'r bylchau. Felly, croesawaf yr adroddiad a'r cyfle a gawsom fel pwyllgor i daflu goleuni ar sut y defnyddir y grant datblygu disgyblion yn benodol.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar sut y defnyddir y grant i wella cyrhaeddiad addysgol plant wedi'u mabwysiadu yn benodol, oherwydd gall ysgolion fod yn rym cadarnhaol aruthrol ym mywyd plentyn sydd wedi dioddef trawma a cholled. Mae hynny, wrth gwrs, yn berthnasol i plant sydd wedi derbyn gofal ac wrth gwrs, i blant wedi'u mabwysiadu, a rhai plant sydd wedi bod yn derbyn gofal ac a gafodd eu mabwysiadu wedyn. Ceir ysgolion y credaf eu bod yn gwneud gwaith cwbl wych ar gynhwysiant ac ymlyniad ac sy'n gwneud eu staff yn ymwybodol o theori ymlyniad ac ymwybyddiaeth o drawma, ac eto credaf fod nifer sylweddol o blant sydd wedi cael dechrau annheg mewn bywyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi mewn system addysg sy'n rhy aml yn methu cydnabod gwir natur yr heriau sy'n eu hwynebu. Yn aml o fewn ysgolion, nid wyf yn credu bod yna ymwybyddiaeth o'r hyn y gallai plant fod wedi'i wynebu, ac mae hyn yn atal y sylfeini gwybodaeth a chyflawniad rhag cael eu hadeiladu, ac mae'n gwaethygu problemau cymdeithasol ac emosiynol ac yn lleihau cyfleoedd bywyd.

Noddais ddigwyddiad yma yn y Cynulliad fis Mehefin diwethaf gydag Adoption UK—ac wrth gwrs, rydym yn dyfynnu Adoption UK yn ein tystiolaeth—ac mae eu harolwg o 2,000 o rieni mabwysiadol a 2,000 o bobl ifanc wedi'u mabwysiadu yn arwyddocaol iawn. Dangosai fod bron i dri chwarter y plant a'r bobl ifanc a fabwysiadwyd yn cytuno bod 'Plant eraill i'w gweld yn mwynhau'r ysgol fwy na fi.' Dywedodd dwy ran o dair o'r bobl ifanc oed ysgol uwchradd sydd wedi'u mabwysiadu eu bod wedi cael eu pryfocio neu eu bwlio yn yr ysgol oherwydd eu bod wedi eu mabwysiadu. Dwy ran o dair. Mae bron 70 y cant o rieni'n teimlo bod problemau gyda'u lles yn yr ysgol yn effeithio ar gynnydd dysgu eu plentyn mabwysiedig. Mae 60 y cant o rieni mabwysiadol yn teimlo nad yw eu plentyn yn cael cyfle cyfartal yn yr ysgol, ac mae bron i hanner rhieni plant oedran ysgol uwchradd wedi gorfod cadw eu plant o'r ysgol oherwydd pryderon am eu hiechyd meddwl neu eu lles. Felly, rwy'n credu bod hon yn stori drist iawn.

Felly, mewn gwirionedd rwy'n croesawu'r ffaith bod plant wedi'u mabwysiadu yn gymwys i gael cymorth drwy'r grant datblygu disgyblion ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 24 mewn egwyddor, er ei bod yn ymddangos ei bod hi'n anodd sefydlu system lle gall ysgol wybod bod plant wedi cael eu mabwysiadu er mwyn gallu cynnig eu help. Ond rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn mynd ar drywydd y mater hwn. Ond rwy'n siomedig na chafodd yr argymhelliad nesaf, argymhelliad 25, ei fabwysiadu, oherwydd yn amlwg, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, os nad ydym yn gallu dyrannu swm o arian i dalu am nifer y plant rydym yn amcangyfrif eu bod wedi eu mabwysiadu, ni fydd yn bosibl iddynt gael budd o'r grant datblygu disgyblion. Rwy'n meddwl bod hwn yn faes sy'n bwysig iawn, a rhoddodd y Cadeirydd ffigurau—credaf fod y grant datblygu disgyblion wedi'i ddyrannu ar gyfer tua 3,000 i 5,500 o blant—ond os nad oes gennym systemau ar gyfer casglu'r data, ni fyddwn yn gallu sicrhau eu bod yn cael yr help sydd ei angen.

Felly, i gloi, rwyf wedi canolbwyntio'n fyr ar blant a fabwysiadwyd gan nad wyf yn meddwl bod pobl yn gyffredinol yn gwybod, ac nid wyf yn meddwl bod ysgolion bob amser yn deall, bod gan blant wedi'u mabwysiadu lawer o'r trawmâu sy'n wynebu plant sydd wedi derbyn gofal, felly roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at hynny yn fy nghyfraniad heddiw.

16:35

Rwyf fi hefyd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol. Roedd yn eithaf calonogol, o ystyried fy mod wedi gweld adroddiadau eraill lle na chafodd cynifer o welliannau eu derbyn mewn egwyddor—roeddwn yn credu bod 24 o 31 argymhelliad yn eithaf da. Ond mae'n rhwystredig iawn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod nifer o argymhellion y pwyllgor a oedd yn seiliedig, mewn gwirionedd, ar lawer o dystiolaeth wirioneddol dda yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

Roedd yn hynod siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 5, y dylai ariannu dyraniad grant datblygu disgyblion ysgolion ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn hytrach na thros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ei hymateb, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod yna garfan ehangach o ddysgwyr ar y cyrion a fyddai'n cael budd o gymorth ychwanegol hefyd. Eto i gyd, mae'r cymorth ychwanegol hwn yn cael ei dynnu'n ôl o'r cyllid presennol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion drwy'r grant datblygu disgyblion yn hytrach nag arian ychwanegol. Ac mewn cyfarfod yn gynharach heddiw—mae hon yn broblem fawr yn fy etholaeth bellach, lle mae mwy a mwy o deuluoedd yn sôn am bryderon go iawn. Mae'r Llywodraeth wedyn yn disgwyl i ysgolion ymestyn eu cyllid, i ddarparu cymorth ychwanegol i'r myfyrwyr sydd fwyaf o'i angen, ond nid yw'n darparu unrhyw gefnogaeth ychwanegol ar eu cyfer. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi'r myfyrwyr hyn, sydd eisoes mewn perygl o gyrhaeddiad addysgol is o ganlyniad i amgylchiadau personol, mewn mwy o anfantais o'i gymharu â'u cyfoedion. Rwy'n sicr yn gofyn: sut y gall y Llywodraeth gredu bod hyn yn deg, ac fel yr ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei hymateb i'r adroddiad, beth y mae'r Llywodraeth yn ei ystyried yw'r dyraniad gorau posibl?

Caiff y broblem ei gwaethygu gan ddiffyg ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag argymhelliad 13, sy'n ymwneud ag ymchwilio ar fyrder i ehangu'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a rhai nad ydynt yn gymwys yn 2017. Mae adroddiad y pwyllgor yn cyflwyno data sy'n dangos bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng y rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn eu cael wedi cynyddu o 17.4 y cant yn 2016 i 25 y cant yn 2017, tuedd sy'n peri pryder mawr, ac rwy'n credu ei bod yn galw am ymchwiliad ar frys gan y Llywodraeth i sicrhau nad yw'n parhau.

Yn ddiweddar dywedodd Cymdeithas y Plant eu bod yn pryderu y gallai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim wrthdroi cynnydd a wnaed ar gau'r bwlch cyrhaeddiad. Maent yn dweud y bydd y cynlluniau'n golygu y bydd 55,000 o blant yn colli prydau ysgol am ddim. Fodd bynnag, gwelodd ymchwil yn yr Adran Addysg yn Lloegr y byddai ymestyn hawl i brydau ysgol am ddim yn arwain at welliant academaidd, yn enwedig ymysg plant o deuluoedd llai cefnog. Os yw Llywodraeth Cymru yn wirioneddol ymroddedig i fynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar ganlyniadau addysgol, yr amlinellir ei bod yn flaenoriaeth allweddol yn y strategaeth 'Ailysgrifennu'r dyfodol: Codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru' yn 2014, does bosib nad oes rhaid iddi adolygu'r modd y cyfrifir bod disgyblion yn gallu cael prydau ysgol am ddim? At hynny, dylai geisio darparu lefelau uwch o gyllid at y grant datblygu disgyblion yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU o £550 miliwn ar gyfer Cymru. Byddai hyn yn sicrhau bod plant difreintiedig a phlant sy'n destun pryder yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni'r canlyniadau addysgol uchaf posibl, gan helpu i greu Cymru lle mae symudedd cymdeithasol yn flaenllaw ym mholisïau'r Llywodraeth. Diolch.

16:40

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r adroddiad hwn ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor a'i staff am yr adroddiad ac am y dull adeiladol a chydweithredol o weithio a welwyd yn ystod yr ymchwiliad? Mae'r adroddiad yn deg a chytbwys, yn cydnabod yr heriau a wynebwn ac yn nodi lle y gwnaed gwelliannau, gan awgrymu hefyd lle y gallem fynd ymhellach i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig.

Rwy'n falch o fod wedi gallu derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor, arwydd o'r flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei rhoi i gynorthwyo pob dysgwr i gyrraedd eu potensial. Dyna'n union pam y mae'n rhaid inni barhau i flaenoriaethu cymorth wedi'i dargedu a dal ati i ymdrechu i dorri cylch tlodi ac anfantais.

Bydd llawer ohonoch yma yn y Siambr wedi fy nghlywed yn dweud fwy nag unwaith fod y grant datblygu disgyblion yn bolisi a hefyd yn ymrwymiad personol ar fy rhan i a'r Llywodraeth hon, ond yn bwysicach na'r hyn rwy'n ei ddweud, mae'r hyn y mae ysgolion yn ei feddwl o'r grant datblygu disgyblion—mae hynny'n fwy pwysig—ac maent yn cytuno. Canfu'r gwerthusiad diweddar fod ysgolion yn ystyried bod y grant datblygu disgyblion yn amhrisiadwy ac yn aml bydd penaethiaid ac athrawon dosbarth fel ei gilydd yn dweud wrthyf am y gwahaniaeth y mae'n ei wneud ar sail ddyddiol. Yn ystod yr hanner tymor diwethaf, ymwelais ag ysgolion yn y Rhyl, Bangor a Merthyr Tudful, a phan ofynnaf iddynt beth yw'r peth pwysicaf y gallaf ei wneud iddynt, maent i gyd yn dweud yn gyson, 'Rhaid i chi gadw'r grant datblygu disgyblion.'

A gaf fi wneud sylwadau'n fyr ar rai o'r materion a godwyd gan bobl eraill yn y ddadl? Mae Julie Morgan yn llygad ei lle yn sôn am y materion sy'n effeithio ar blant wedi'u mabwysiadu. Rwy'n arbennig o awyddus i barhau i weithio ochr yn ochr â David Melding, nad yw yn ei sedd, i edrych ar gyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Mae gennym fynydd i'w ddringo yn hynny o beth ac nid wyf yn ymddiheuro am gydnabod yr heriau rydym yn dal i'w hwynebu fel Llywodraeth ar gyfer y garfan honno o blant, am yr angen i atgyfnerthu ein hymdrechion yn hynny o beth, ac rwy'n awyddus, Julie, i wneud yr hyn a allwn i nodi'n well pa blant sydd wedi'u mabwysiadu yn ein system ysgolion ac edrych ar ffyrdd o gefnogi eu haddysg.

Rhaid imi ddweud, o ran cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a chanlyniadau credyd cynhwysol, gadewch imi fod yn gwbl glir: o ganlyniad i'r credyd cynhwysol—rhywbeth nad yw'r Llywodraeth hon wedi gofyn amdano—cawn ein hunain mewn sefyllfa anodd iawn. Pe bai'r holl bobl sydd â hawl i gredyd cynhwysol yn cael prydau ysgol am ddim, ni fyddai bron hanner ein carfan o blant yn cael prydau ysgol am ddim, a cheir problemau sylfaenol yn ymwneud â fforddiadwyedd yn hynny o beth. O dan y cynigion yr ymgynghorwyd arnynt yn ddiweddar, bydd mwy o blant yng Nghymru yn gymwys am brydau ysgol am ddim nag sy'n gymwys ar hyn o bryd. Os ceir rhai plant y gallai eu cymhwysedd newid o ganlyniad i'r credyd cynhwysol, byddant yn cael amddiffyniad carfannau penodol. A rhaid imi ddweud wrth Janet Finch-Saunders, o'r holl bobl yn y Siambr hon i roi pregeth imi am y ffaith bod ganddi deuluoedd yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd, buaswn yn ei chyfeirio at ei chydweithwyr yn Llundain sy'n dilyn y polisi hwn. A rhaid imi ddweud, Janet, mae wyneb gennych i ddweud bod angen inni wneud mwy i gefnogi'r teuluoedd hyn gan mai polisïau eich Llywodraeth yn San Steffan sy'n achosi'r anawsterau hynny.

Cododd Siân Gwenllian fater ariannu ysgolion yn gyffredinol ac wrth gwrs, nid wyf yn gyfrifol am ariannu ein hysgolion o ddydd i ddydd—cyfrifoldeb ein cydweithwyr llywodraeth leol yw hynny; swyddogaeth a chyfrifoldeb y maent yn ei hystyried yn annwyl iawn yn wir. Nawr, efallai mai pen draw yr hyn y mae Siân yn ei ddweud yw mai polisi Plaid Cymru yw cael dull cenedlaethol o ariannu ysgolion wedi ei gyfarwyddo o'r canol. Ac os mai dyna yw polisi newydd Plaid Cymru, rwy'n sicr y bydd gan ei chyd-Aelodau, megis Ellen ap Gwynn, ddigon i'w ddweud yn ei gylch.

Os caf droi, felly, at fater canlyniadau TGAU, gwelodd canlyniadau TGAU 2018 gynnydd bach yn y nifer a lwyddodd i gael A* i C mewn Saesneg a mathemateg ymhlith dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae hynny i'w gydnabod wrth gwrs, ond mae gennym ffordd hir i fynd i gynorthwyo ein disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim i ennill y graddau uchaf posibl. Oherwydd newidiadau i'r dulliau o fesur perfformiad, gwyddom eleni fod llawer o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a gofrestrwyd ar gyfer cymwysterau gwyddoniaeth alwedigaethol o'r blaen wedi sefyll arholiadau TGAU gwyddoniaeth am y tro cyntaf. Bu cynnydd o 37 y cant yn nifer y dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a safodd un arholiad TGAU gwyddoniaeth, o gymharu â 2016, ac 20 y cant o gynnydd yn nifer yr holl ddisgyblion blwyddyn 11 a safodd arholiadau mewn o leiaf un TGAU gwyddoniaeth eleni, o'i gymharu â 2016. Mae hwn yn newid cadarnhaol iawn, gan fod angen inni baratoi ein dysgwyr yn well er mwyn sicrhau ein bod ni fel gwlad yn cynhyrchu gwyddonwyr y dyfodol. Mae'n hanfodol fod mesurau perfformiad cyfnod allweddol 4 a threfniadau atebolrwydd ysgolion yn cymell ysgolion i gynorthwyo disgyblion sy'n cael prydau am ddim i gyflawni'r radd uchaf sy'n bosibl, a pheidio â mabwysiadu syndrom 'druan bach', a chael disgwyliadau uchel ar gyfer ein plant i gyd, beth bynnag fo'u cefndir. Rydym eisoes wedi cymryd camau i'r cyfeiriad hwn trwy'r ymrwymiad i weithredu'r mesurau perfformiad dros dro yng nghyfnod allweddol 4 o 2019 ymlaen. Bydd y dull o ddefnyddio mesurau sy'n adlewyrchu cyrhaeddiad ar gyfer pob gradd yn cymell ysgolion i gynorthwyo'r holl ddysgwyr i gyflawni eu canlyniadau gorau, yn hytrach na chanolbwyntio ar garfan gul iawn o blant yn eu hysgol.

Ochr yn ochr â'n diwygiadau ehangach i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, rydym hefyd yn datblygu trefniadau'r grant datblygu disgyblion yn uniongyrchol. Rydym wedi cryfhau ein dull rhanbarthol o ddarparu her a chymorth mwy effeithiol i ysgolion o ran y modd y maent yn defnyddio'r adnodd hwn. Fel y cydnabu'r Cadeirydd, mae pob consortiwm bellach yn cyflogi cynghorydd strategol ar gyfer y grant datblygu disgyblion, gyda ffocws ar wella cyrhaeddiad pob dysgwr difreintiedig, ac rwyf wedi gofyn iddynt gryfhau'r cydweithrediad ar draws Cymru i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu a'u datblygu. Ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dweud wrthym beth sy'n gweithio ar gyfer y plant hyn, ac mae angen ei weithredu'n gyson ar draws ein system. Ddirprwy Lywydd, pam y gall ysgolion yn y brifddinas hon, yn yr un consortiwm rhanbarthol, gyda'r un awdurdod addysg lleol, sicrhau bod eu holl blant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cael pum TGAU neu fwy, a bod ysgol sydd â phroffil tebyg yn methu gwneud hynny? Ni all hynny fod yn dderbyniol i unrhyw un ohonom yma, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno, ac mae angen dulliau a chefnogaeth gyson fel y gall pob plentyn gyflawni hynny, ni waeth ym mha ysgol y byddant.

Rydym hefyd yn gwybod mai ymyrraeth gynnar yng ngyrfa addysgol disgybl fydd yn sicrhau'r effaith orau, yn hytrach na defnyddio'r grant datblygu disgyblion fel plastr yn unig a mesur i'w ddefnyddio mewn panig pan fydd plentyn yn dechrau blwyddyn 10 neu flwyddyn 11. Nawr, mae'r plant hynny angen cymorth wrth gwrs, ond mae angen hefyd i ysgolion sicrhau eu bod yn cefnogi eu plant o'r eiliad y maent yn mynd i'r ysgol uwchradd, a hefyd o'r funud y byddant yn dechrau yn y system addysg. Dyna pam fod y Llywodraeth hon—. Rwyf wedi dyblu'r swm o grant datblygu disgyblion sydd ar gael ar gyfer ein darpariaeth blynyddoedd cynnar oherwydd os gallwn gael y dechrau gorau i blant, fe wyddom mai dyna ble y cawn yr effaith fwyaf.

Nawr, cyfeiriodd Suzy Davies a Lynne Neagle at blant mwy abl a thalentog. Ni ddylem am un eiliad dynnu llinell uniongyrchol rhwng gallu academaidd a gallu rhiant i dalu. Nid yw system addysg Cymru yn y gorffennol wedi canolbwyntio digon ar blant mwy abl a thalentog, a dyna pam rydym wedi cyflwyno trefniadau newydd i gynorthwyo plant mwy abl a thalentog, beth bynnag fo'u cefndir. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'w gwneud yn glir unwaith eto fod y grant datblygu disgyblion yno ar gyfer pob plentyn sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim, nid yn unig ar gyfer y plant sydd angen help ychwanegol.

A gaf fi orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gydnabod cyfraniad ein hyrwyddwr codi cyrhaeddiad, Syr Alasdair Macdonald? Mae ei gyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn caniatáu ar gyfer gwelliant parhaus ac yn hollbwysig, ar gyfer myfyrio, gan gyfrannu tuag at y weledigaeth strategol yn ogystal â datblygiad gweithredol y grant hwn. Ac wrth gloi, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle, aelodau'r pwyllgor, am eu gwaith yn y maes hwn, ac rwy'n ymrwymo i barhau i ystyried yr argymhellion a symud ymlaen gyda'r hyn y credaf ei bod yn genhadaeth a rennir ar draws y Siambr hon i sicrhau bod plant, beth bynnag fo'u hamgylchiadau economaidd, yn ffynnu yn ein hysgolion.

16:50

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl adeiladol y prynhawn yma ar bwnc pwysig iawn? Nid wyf wedi cael neges yn rhoi gwybod i mi faint o amser sydd gennyf, Lywydd, felly rwy'n credu—

O'r gorau. Iawn, diolch. [Torri ar draws.] O'r gorau. Os dechreuaf, felly, gyda Suzy Davies, a dynnodd sylw at rai o ddiffygion y grant datblygu disgyblion, a gafodd sylw yn ein hadroddiad, ond y gobeithiwn yn fawr y bydd ein hargymhellion ac ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael â hwy—pethau fel y canllawiau newydd rydym wedi galw amdanynt. Gwn fod y Gweinidog yn datblygu pecyn cymorth a ddylai wella cysondeb, a staff newydd y grant datblygu disgyblion yn y consortia, sy'n mynd i fod yno i herio, gobeithiwn y byddant yn gwneud gwahaniaeth. Ac fel y gwyddoch, gwnaeth y pwyllgor argymhellion ynghylch y materion y sonioch chi amdanynt yn briodol iawn sy'n ymwneud â pharch cydradd.

Tynnodd Jenny Rathbone sylw at rai o'r pryderon sy'n codi oherwydd y newid mawr yn nifer y plant sydd mewn ysgol, ac roedd hynny'n rhywbeth a nodwyd yn glir gennym yn ein hadroddiad. Roeddem wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei gadw dan arolwg, ac rwy'n credu ei fod yn arbennig o berthnasol i ardaloedd Caerdydd, mae'n debyg, lle rydych yn debygol o gael newidiadau mawr yn y boblogaeth, mwy felly nag mewn rhai cymunedau eraill, oherwydd nid ydym am weld yr ysgolion hynny'n cael eu gadael ar ôl neu dan anfantais.

Siân Gwenllian—. A gaf fi groesawu Siân i'r pwyllgor, a hefyd i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i Llyr Gruffydd, sydd wedi bod yn aelod rhagorol a chydwybodol iawn o'r pwyllgor? Felly, diolch am bopeth a wnaethoch, Llyr. Soniodd Siân am rai materion cyffredinol yn ymwneud ag ariannu ysgolion, a'r hyn sydd wedi bod yn amlwg yn ein holl ymchwiliadau, mewn gwirionedd, yw bod pwysau ar gyllid, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y pwynt hwnnw. Dyna pam rydym yn edrych ar ariannu ysgolion yn fwy trwyadl yn awr er mwyn ceisio gweld a oes unrhyw argymhellion y gallwn eu gwneud i wella'r sefyllfa.

Cododd Siân Gwenllian a Janet Finch-Saunders fater y polisi prydau ysgol am ddim. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiweddar i ofyn am ragor o wybodaeth am y ffordd y cyfrifwyd y ffigurau, pam fod y torbwynt lle y mae, ond hoffwn ddweud hefyd fod aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol iawn o'r angen i beidio ag arwain at unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Pe bai cynnydd mawr yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, credaf fod yn rhaid inni gadw mewn cof y gallai hynny olygu cynnydd mawr yn y grant datblygu disgyblion, neu, yn waeth, gallai'r grant datblygu disgyblion gael ei wanhau'n ddifrifol ar gyfer ein disgyblion tlotaf, a byddai hynny'n gam mawr tuag yn ôl. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny hefyd; mae'n bwysig iawn inni gadw hynny mewn cof.   

A gaf fi ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad—cyfraniad pwysig iawn—ar blant wedi'u mabwysiadu? Ac wrth gwrs, fel y cofiwch, fe gynhaliodd y pwyllgor a'n rhagflaenodd ymchwiliad pwysig i fabwysiadu, ac rydym yn ymwybodol iawn o anghenion plant wedi'u mabwysiadu, a hefyd, wrth gwrs, yn ymwybodol fod llawer o'r mentrau sydd mor bwysig mewn ysgolion mewn perthynas ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yn cael eu hariannu o'r grant datblygu disgyblion mewn llawer o'n hysgolion, felly dyna pam y mae'n bwysig inni gael y cymorth hwnnw ar gyfer plant wedi'u mabwysiadu mewn ysgolion, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno eto. Mae'n gwbl hanfodol fod y gefnogaeth honno yno.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb pellach heddiw ac am y ffordd gadarnhaol y mae hi wedi ymwneud â'r ymchwiliad? Mae'r pwyllgor yn cytuno'n llwyr â hi ynglŷn â'r angen i wneud popeth i gefnogi ein holl ddisgyblion, gan gynnwys ein disgyblion mwy abl a thalentog. Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd eisoes yn hyn o beth, ond byddwn yn ceisio gwneud gwaith dilynol gyda'r ymchwiliad hwn ar y modd y mae'r canllawiau newydd yn gwneud yn siŵr, y modd y mae'r her newydd yn gwneud yn siŵr, fod ein disgyblion mwy abl a thalentog hefyd yn cael eu heffeithio gan polisi hwn. A gaf fi orffen, felly, drwy ddiolch, unwaith eto, i bawb am gyfrannu, i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, i dîm y pwyllgor, sydd, fel bob amser, wedi bod yn hollol wych, ac atgoffa'r Aelodau yma y byddwn yn dychwelyd at hyn, fel y gwnawn gyda'n holl ymchwiliadau, er mwyn monitro a chraffu ar y cynnydd a wneir ar argymhellion yr ymchwiliad pwysig hwn? Diolch.

16:55

Diolch. Felly, y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Brexit a Chydraddoldebau—Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Symudwn ymlaen at eitem 6, sef 'Brexit a Chydraddoldebau—Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol'. Felly, galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6848 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi casgliadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 'Brexit a Chydraddoldebau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Credaf mai dyma'r tro cyntaf i ddadl ar y cyd o'r fath gael ei chynnal. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r materion rydym yma i'w trafod. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i osod y bar yn uchel yng Nghymru ar gyfer diogelu hawliau dynol a lleihau anghydraddoldebau. Cyn mynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r ddau bwyllgor ar y materion pwysig hyn.

Credaf ei bod yn werth gosod y ddadl hon yn ei chyd-destun ehangach. Yng Nghymru, mae gennym hanes balch o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ffyrdd arloesol, megis pasio Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, deddfwriaeth sy'n arwain y ffordd ar draws y DU, a'r byd yn wir. Mae ein pwyllgorau wedi bod yn ystyried effaith Brexit ar gydraddoldebau a hawliau dynol dros y 18 mis diwethaf. Arweiniodd hyn at ein llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn gynharach eleni, lle'r oeddem yn galw am sicrhau bod diogelu hawliau o dan siarter hawliau sylfaenol yr UE yn parhau ar ôl Brexit; cronfa ffyniant gyffredin arfaethedig y DU i gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ystyried anghenion ac anghydraddoldebau lleol; mwy o eglurder ynglŷn ag a fydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru; hawliau presennol sydd i'w diogelu, ac ymrwymiad i sicrhau na fydd hawliau'n cael eu herydu; i Gymru barhau i fod yn arweinydd byd-eang mewn hawliau dynol a chydraddoldeb—yn benodol, mae ein pwyllgor wedi galw dro ar ôl tro am fecanwaith ffurfiol i olrhain datblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd—a bod y cynllun cydlyniant cymunedol wedi'i ddiweddaru cyn haf 2018, sydd bellach wedi mynd, yn amlwg, i roi ystyriaeth i faterion diweddar sy'n codi mewn perthynas â throseddau casineb.

Fe drof yn awr at bob un o'r materion hyn yn fanylach. Mae siarter hawliau sylfaenol yr UE yn ymgorffori hawliau y tu hwnt i'r rhai a geir mewn deddfwriaeth ddomestig, fel Deddf Hawliau Dynol 1998, yn enwedig mewn perthynas â hawliau cymdeithasol ac economaidd nad ydynt yn cael eu cydnabod yn dda yng nghyfraith y DU. Roedd Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) Llywodraeth Cymru yn cynnwys gofyniad i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â hawliau'r siarter. Byddai hyn wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad cyfyngedig i hawliau'r siarter yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i gymryd camau i ddiddymu'r ddeddfwriaeth hon. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan ddadansoddiad Llywodraeth y DU fod hawliau'r siarter eisoes yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith ddomestig. Llywiwyd ein barn gan gyngor cyfreithiol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a nodai fod hawliau'r siarter yn mynd y tu hwnt i'r amddiffyniadau y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd yng nghyfraith y DU.

Wrth ymateb i'n llythyr, dywedodd y Prif Weinidog fod trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundeb gwleidyddol a fyddai'n cymeradwyo fframwaith presennol y ddeddfwriaeth triniaeth gyfartal sydd mewn grym ar draws rhannau cyfansoddol y DU. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym hefyd y byddent yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ofyn am sicrwydd ynglŷn â hawliau unigol. Heddiw, buaswn yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hyn gan Lywodraeth Cymru—pa gamau pellach y maent yn bwriadu eu cymryd i sicrhau y bydd hawliau'r siarter yn parhau i fod mewn grym pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac am fwy o fanylion ynglŷn â'r cytundeb gwleidyddol a nodwyd yn ymateb y Prif Weinidog.

Clywsom dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid yn mynegi pryderon ynglŷn â cholli arian UE a dargedwyd ar gyfer materion cydraddoldeb a hawliau dynol. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n derbyn £370 miliwn y flwyddyn gan yr UE. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weinyddu'r gronfa ffyniant gyffredin er mwyn ei galluogi i fod yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Galwasom hefyd am sicrhau bod y gronfa wedi'i thargedu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Rydym yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r alwad hon, a heddiw, hoffwn ofyn am y newyddion diweddaraf ynglŷn â sut y mae trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn datblygu ar y mater pwysig hwn.

Rhan bwysig o'n gwaith oedd deall beth arall y gellid ei wneud yng Nghymru i sicrhau y byddwn yn aros ar y blaen mewn perthynas â hawliau dynol a chydraddoldebau. Galwodd rhanddeiliaid am sicrhau bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi mewn grym yng Nghymru. Ymhellach, nodwn fod y ddyletswydd hon bellach mewn grym yn yr Alban, ac mae gennym bwerau i wneud yr un peth yng Nghymru. Yn yr adroddiad diweddar, 'A yw Cymru'n decach? (2018)', mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi argymell y dylid gweithredu'r ddyletswydd hon fel mater o flaenoriaeth.

Galwasom am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag a fyddent yn ceisio gweithredu'r ddyletswydd hon. Rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn yr ymateb yn rhoi llawer o bwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig wrth gwrs, ond nid yw'n cyflawni'r un effaith â gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Nododd y Llywodraeth hefyd y byddent yn adolygu eu sefyllfa yng ngoleuni'r adolygiad cyflym ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, a phrofiad Llywodraeth yr Alban o weithredu'r ddyletswydd. Felly, a all arweinydd y tŷ amlinellu pa bryd y mae'n disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynglŷn ag a ddylai'r ddyletswydd hon ddod yn weithredol yng Nghymru?

Ddirprwy Lywydd, ffordd arall o ddiogelu hawliau dynol yng Nghymru fyddai ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru. Wrth ymateb i'n hargymhelliad yn galw am ystyriaeth bellach i'r awgrym hwn, nodwn fod y Llywodraeth yn pwysleisio mai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol unwaith yn rhagor yw'r prif fframwaith deddfwriaethol ar gyfer hyn. Er ein bod yn cydnabod hynny, hoffem nodi unwaith eto nad yw'r Ddeddf hon yn rhoi unrhyw her gyfreithiol os nad yw hawliau'n cael eu cynnal. Mae'n ddeddfwriaeth bwysig, ond nid yw'n un a all sicrhau amddiffyniadau hawliau dynol yn ddigonol.

Clywsom bryderon hefyd y bydd amddiffyniadau hawliau dynol yn cael eu rhewi pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn benodol, amlygodd sefydliadau anabledd nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth y DU yn y dyfodol yr oeddent yn pryderu na fyddai'r DU yn elwa arnynt. Dyna pam y galwasom am fecanwaith ar gyfer monitro datblygiadau hawliau dynol yn y dyfodol i sicrhau bod dinasyddion Cymru yn parhau i gael yr un amddiffyniadau â dinasyddion yn yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth ymateb i'r argymhelliad hwn, nododd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fonitro cynnydd ar hawliau dynol. A wnaiff arweinydd y tŷ roi mwy o fanylion yn awr ynglŷn â sut y bydd hyn yn digwydd?

Y maes olaf y buom yn ymwneud ag ef oedd y cynnydd tybiedig yn nifer y troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE. Galwasom am ddiweddaru'r cynllun cydlyniant cymunedol cyn haf 2018. Yn ei hymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i'w gyhoeddi, ond ni nodwyd pa bryd y byddai hynny'n digwydd. Ym mis Gorffennaf, dywedodd arweinydd y tŷ y byddent yn ymgynghori ar y cynllun cydlyniant cymunedol diwygiedig yn yr hydref. Heddiw, a wnaiff arweinydd y tŷ amlinellu pa bryd yn union y bydd yr ymgynghoriad hwn yn digwydd a pha bryd y mae'n rhagweld y daw'r cynllun cydlyniant cymunedol newydd i rym? Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob ochr i'r Siambr.

17:05

Dyma ddadl ac adroddiad defnyddiol, ac mae'r rhain yn faterion pwysig y dylid myfyrio arnynt yn ofalus iawn. Credaf fy mod am ddechrau gyda'r ddadl ynglŷn â siarter hawliau dynol yr UE, sydd—. Fy nealltwriaeth i yw ei bod yn rhestru'r hawliau sy'n bodoli o dan gyfraith yr UE, ac am nad yw'n ddogfen sylfaenol fel y cyfryw, ac ond yn dwyn ynghyd yr hawliau yn neddfwriaeth bresennol yr UE, nid yw'n ymddangos i mi yn ddyfais ddiogel iawn ar gyfer sicrhau hawliau ar ôl Brexit—yn fwy hirdymor yn sicr—a barn Llywodraeth y DU yw bod yr hawliau hynny'n cael eu diogelu mewn colofnau eraill. Felly, credaf y byddai'n eithaf defnyddiol, os teimla Llywodraeth Cymru o ddifrif y ceir rhai hawliau presennol sydd bellach dan fygythiad wrth ymadael â'r UE, eich bod chi'n nodi'r rheini'n benodol ac yna gallwn eu profi, oherwydd ar hyn o bryd mae'n ymddangos mai ein dogfen sylfaenol yw'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a'r ffordd y caiff hwnnw ei ddehongli—yn amlwg, mae'n ddogfen fyw—a Deddf Hawliau Dynol 1998, sydd, wrth gwrs, yn ei sefydlu yng nghyfraith y DU ac yn rhoi grym cyfreithiol iddo mewn ffordd lawer mwy ymarferol. Felly, credaf fod y ddwy golofn honno'n sicrhau na fydd unrhyw erydu'n digwydd. Fodd bynnag, os ceir pryderon dilys, a bod pobl yn gallu cynnig rhesymau argyhoeddiadol pam y gallai fod rhywfaint o gyfyngu ar hawliau am nad yw siarter yr UE yn mynd i fod yn berthnasol mwyach, gan y bydd yn ddiangen bellach o ran cyfraith y DU—.

Rwy'n nodi rôl Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ymgorffori cydraddoldeb, a chredaf fod y Ddeddf yn ddefnyddiol iawn yn yr ystyr, unwaith eto, ei bod yn caniatáu iddi fod yn ddogfen fyw ddatganiadol, ac mae'n caniatáu inni drafod y materion hyn a gweld sut y gellid eu cyflawni'n ymarferol. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod y Ddeddf mor sicr fel nad oes angen o reidrwydd am ffynonellau eraill ar gyfer ymgorffori cydraddoldeb, drwy'r ddyletswydd cydraddoldeb er enghraifft. Felly, ceir dulliau sydd—. Nawr, mae hynny'n debyg braidd i safbwynt Llywodraeth y DU ar siarter hawliau dynol yr UE, gellid dadlau—nad oes angen inni boeni gormod os yw un dull o weithredu heb fod ar gael, gan fod yr hawliau hynny'n bodoli ac wedi'u hymgorffori mewn mannau eraill.

Credaf fod y materion sy'n ymwneud â llywodraethiant y DU, ac mae hyn yn cyfeirio at y gwahanol fframweithiau a ddaw i'r amlwg yn awr, a bydd rhai ohonynt yn berthnasol iawn i gwestiynau'n ymwneud â chydraddoldeb—mae angen eu trin yn ofalus, ac wrth gwrs, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, rydym bob amser wedi bod yn awyddus i bwysleisio'r angen i gydlywodraethu, ac i gryfhau sefydliadau'r DU o ran y cydgyngor gweinidogion, er enghraifft. Felly, yn hynny o beth, byddwn yn parhau i fod yn gefnogol ac yn adeiladol iawn, a chredaf y bydd hynny'n ein helpu i lywio drwy rai o'r pryderon pwysig sydd gan bobl ynglŷn â dyfodol buddsoddiad rhanbarthol a sut y caiff hynny ei lywodraethu, ac mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, sydd o ddiddordeb perthnasol i bawb yma.

A gaf fi orffen drwy sôn am gydlyniant cymunedol? Credaf ei bod yn anffodus, gyda gwahanol ddatblygiadau o gwmpas y byd, fod rhai o'n traddodiadau lleiafrifol gwych yn teimlo o dan bwysau. Nid oes ond raid iddynt ei deimlo. Weithiau, nid yw realiti gwrthrychol hynny mor uniongyrchol ag y mae pobl yn ofni, ond mae'n bwysig iawn cofio os yw pobl yn teimlo o dan fygythiad yn sgil datblygiadau amrywiol, ein lle ni yw tawelu meddyliau pobl, fel roedd angen llawer o dawelu meddyliau ar ôl Brexit oherwydd y ffordd roedd pobl yn ofni y byddai'n arwain at gymdeithas lai amlddiwylliannol—ac nid yw'n golygu hynny, ac nid yw'n galw am unrhyw gyfyngu ar yr olwg honno ar y byd o gwbl. Mae'n bwysig ein bod yn gweithio drwy rai o'r newidiadau eraill sy'n digwydd o amgylch y byd. Rydym wedi clywed rhai ohonynt yn cael eu nodi, o ran gwrthdaro rhyngwladol a chreu ffoaduriaid. Mae'r holl bethau hyn yn creu lefel o ddadlau mewn rhai cylchoedd sy'n llawn o gasineb ac ymagwedd ymosodol, ac mae hynny, rwy'n credu, wedi adlewyrchu'n wael iawn ac wedi arwain at fygythiad penodol o ran sut y mae gwahanol draddodiadau lleiafrifol yn teimlo. Felly, mae angen inni gofio hynny a sicrhau ein bod yn cryfhau'r rhwydweithiau a'r ymgynghoriadau a gawn â hwy, a'u gwerthfawrogi mewn ffordd amlwg iawn. Dyna'r ffordd orau o atal y rhai sy'n cymryd rhan mewn amryw ffurfiau ar siarad casineb a throseddau casineb. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.  

17:10

Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl hon. Mewn llawer o ffyrdd, mae'n barhad o'r drafodaeth ddoe ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Gadewch i ni beidio â chamgymryd: er gwaethaf y geiriau y byddwn yn eu clywed yn nes ymlaen ynglŷn â chofio aberth y rhai a fu'n ymladd yn erbyn y Natsïaid, mae'r hawliau hyn o dan fygythiad. Nid trefniadau esmwyth yr UE ar gyfer cludo isotopau meddygol a oedd yn digio'r bobl gyfoethog a ariannodd UKIP a'r ymgyrch dros adael yr UE. Amddiffyniadau'r UE i hawliau gweithwyr, i fenywod, hawliau lleiafrifoedd ac ati a oedd yn eu hysgogi mewn gwirionedd.

Gwelir yr UE fel rhwystr tuag at greu DU neoryddfrydol, Thatcheraidd, gyda lefel isel o drethi a rheoleiddio ac amddiffyniadau i weithwyr. Yn wir, dyna pam y gwelwyd cymaint o frwdfrydedd ynghylch Brexit 'dim bargen', oherwydd byddai'n creu'r amodau o anhrefn sy'n angenrheidiol ar gyfer preifateiddio'r GIG, er enghraifft, fel y maent yn dymuno ei weld.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Felly, rydym wedi galw'n gyson am amddiffyn yr hawliau hyn. Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn gan y ddau bwyllgor ar y cyd ar effaith Brexit ar hawliau dynol hefyd yn cefnogi llawer o'n pryderon. Mae'r llythyr cychwynnol at y Prif Weinidog yn nodi, er enghraifft, yn wahanol i lawer o wledydd eraill, nad yw'r hawl i gydraddoldeb yn y DU wedi'i diogelu gan fil hawliau cyfansoddiadol a fyddai'n cyfyngu ar y graddau y gallai deddfwriaeth seneddol erydu neu ddiddymu cydraddoldeb. Mae cyfraith yr UE ar hyn o bryd yn cyflawni'r swyddogaeth wrth gefn hon.

Yr hyn sy'n peri fwyaf o bryder i ni yw goblygiadau'r cytundeb a wnaed rhwng y DU a Llywodraeth Cymru i ddiddymu Deddf y Gyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y byddwch yn gwybod, nid yw Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 Llywodraeth y DU yn cynnwys siarter hawliau sylfaenol Ewrop yng nghyfraith y DU, er gwaethaf ymgais i ddiwygio'r Ddeddf honno i'w chynnwys. Mae hyn wedi arwain at y cwestiwn rhesymol, a ofynnwyd gan y pwyllgor, ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu amddiffyn yr hawliau hynny. Mae'r ymateb yn llai na boddhaol a dweud y lleiaf. Rwy'n dyfynnu:

Mae'r rhain yn faterion a fydd yn galw am ystyriaeth ofalus. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrwydd ynghylch hawliau unigol yn y misoedd sydd i ddod.

Wel, dyna ddweud wrthynt, onid e?

Pan ofynnwyd iddi sut y gall sicrhau na chaiff hawliau presennol eu herydu, mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi bodloni ar ddyfynnu Deddf Hawliau Dynol 1998. Yn fwy rhyfedd byth, cyfeiriodd at ymrwymiad y Llywodraeth i hawliau drwy nodi'r ffaith bod egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn wedi eu hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O ddifrif? Yr unig reswm y cafodd hyn ei gynnwys yn y Ddeddf honno oedd oherwydd bod un o'u grŵp wedi pwyso'r botwm anghywir ac wedi pleidleisio o blaid gwelliant i'w ymgorffori. Nid oedd yn y Ddeddf am fod Llywodraeth Cymru eisiau iddo fod yno. Felly, mae'n amlwg i ni fod angen gwneud llawer mwy, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth sy'n bosibl i amddiffyn hawliau pobl yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae hynny'n golygu peidio ag ildio i Lywodraeth y DU sy'n cael ei chadw'n wystl gan ffwndamentalwyr y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a Rees Mogg. Ac mae hefyd yn golygu bod angen bil hawliau ar gyfer Cymru. Nid dyna yw diben y ddadl heddiw, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato ar adeg arall.

17:15

Dywedodd Cadeiryddion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn eu llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn gynharach eleni fod gan Gymru hanes balch o amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ffyrdd arloesol sy'n arwain y byd, a nododd mai'r Cynulliad, wrth gwrs, oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwyf am inni ddiogelu a gwneud darpariaeth ar gyfer cefnogi'r hanes balch hwnnw.

Yn y ddadl ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddoe, siaredais am bwysigrwydd cymorth ein cyd-bwyllgorau i fabwysiadu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n falch fod Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau heddiw wedi rhoi ei gefnogaeth unwaith eto i'r amcan allweddol hwn. Rwy'n credu bod hon yn ddyletswydd hollbwysig, a rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb yn awr i'n galluogi i ddefnyddio'r pŵer newydd hwn. Bydd yn chwarae rhan yn gwrthsefyll effeithiau andwyol Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r Alban wedi ei wneud, a rhaid i ni ei wneud hefyd.

Hefyd, tynnodd John Griffiths sylw at y bygythiadau i arian yr UE a'r rhagolygon i gronfa ffyniant gyffredin y DU. Fe'i gwnaethom yn glir ein bod yn rhannu safbwyntiau ein tystion—ac roedd tystion gan y ddau bwyllgor i'n hadolygiadau a'n hymchwiliadau—y dylai'r gronfa ffyniant gyffredin a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chymru er mwyn sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Fe'i gwnaethom yn glir hefyd y dylid targedu'r gronfa ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae ein pwyllgorau wedi nodi cronfeydd yr UE sy'n uniongyrchol berthnasol i gydraddoldeb a hawliau dynol, gyda thua 60 y cant o'r prosiectau a ariennir o Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn targedu pobl gydag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig. Rwy'n siŵr y bydd arweinydd y tŷ yn cymeradwyo argymhellion y pwyllgor ar y pwynt hwn.

A gaf fi hefyd groesawu gwaith fforwm cymdeithas sifil Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar ar Brexit? Gyda thros 40 o sefydliadau trydydd sector, mae'n fforwm ardderchog ar gyfer casglu tystiolaeth, gyda chefnogaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae'r fforwm yn datgan bod y DU'n creu risg ddifrifol i hawliau dynol a chydraddoldeb drwy dynnu'n ôl o siarter yr UE ar hawliau sylfaenol. Rwy'n croesawu'r alwad i sicrhau statws cyfreithiol domestig i siarter yr UE drwy ddeddfwriaeth benodol ar gyfer Cymru yn unig, i roi sylw dyledus i'r offeryn ar draws polisi cyhoeddus, os yw hynny'n ddichonadwy. Ac mae angen inni ymateb i'r alwad honno. Mae'r fforwm cymdeithas sifil hefyd yn datgan y dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau bod y DU yn dal i fyny gyda'r UE lle y ceir datblygiadau mewn perthynas ag amddiffyniadau hawliau dynol neu gydraddoldeb. Dylai Llywodraeth Cymru geisio gweithredu unrhyw ddatblygiadau newydd a wneir gan yr UE yng Nghymru. Mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, er enghraifft, yn nodi bod yr UE ar hyn o bryd yn ystyried deddfwriaeth newydd yn ymwneud ag absenoldeb rhiant, gweithio hyblyg a bwydo ar y fron yn y gwaith. Yn ein llythyr fel ACau at y Prif Weinidog, roeddem yn gofyn i Lywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn sicrhau bod hawliau'r siarter yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at yr ymateb gan arweinydd y tŷ, ac rwy'n gobeithio yr eir ar drywydd y dystiolaeth sy'n cael ei datblygu gan fforwm cymdeithas sifil Cymru ac y bydd symud ymlaen arni.

Ar sawl achlysur yn y Siambr hon, tynnais sylw at faniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Maent yn tynnu sylw at y bygythiadau i ddeddfwriaeth cydraddoldebau a hawliau dynol ar ôl Brexit. Maent yn pryderu y bydd effaith gadael yr UE yn arwain at gyfyngu ar hawliau cyfreithiol i fenywod, at leihau'r arian ar gyfer sefydliadau menywod ac at roi pwysau ar wasanaethau penodol.

Lywydd, rwy'n cadeirio rhwydwaith menywod yn Ewrop yng Nghymru er mwyn  hyrwyddo hawliau menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yng nghyd-destun Brexit. Mae'r rhwydwaith yn awyddus i weld menywod yn cael llais cryfach yn yr archwiliadau a'r trafodaethau Brexit. Mae'r rhwydweithiau hyn yn edrych ar y ddadl hon heddiw; maent yn ei chroesawu'n fawr iawn a byddant yn disgwyl i bwyllgorau'r Cynulliad, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, fwrw ymlaen â hyn i'w archwilio a'i fonitro ymhellach. Mewn rôl flaenorol fel cynghorydd sir, gwelais y gyfran gyntaf o arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cael ei roi i'r gweithdy arloesol i fenywod a agorwyd yn 1984 yng Nghaerdydd, gweithdy a hyfforddodd filoedd ar filoedd o fenywod dros 30 mlynedd mewn technoleg gwybodaeth ac electroneg. Mae'r menywod hynny bellach yn cyfrannu at yr economi leol. Mae hyn oll mewn perygl bellach o ganlyniad i Brexit. Fel y dywedodd Leanne Wood—mae'n wael o ran cydraddoldeb ac mae'n wael o ran yr economi. Felly, mae llawer mewn perygl o ganlyniad i Brexit, a'r testun pryder mwyaf i ni yw cydraddoldebau.

Diolch i'r pwyllgorau am ystyried y materion hyn ac i'r Prif Weinidog am ei ymateb, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn arwydd i fenywod Cymru, i bobl dduon, pobl Asiaidd, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a'r cymunedau ein bod yn sefyll dros eu hawliau dynol yn y Cynulliad hwn.

17:20

Diolch, Lywydd. Rwy'n ymddiheuro i fy nghyd-Aelodau gan fy mod yn cael ychydig bach o drafferth gyda fy llais.

Felly, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad ar y cyd ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwy'n credu bod yna ymagwedd unigryw tuag at gydraddoldeb wedi'i gweu i mewn i feddylfryd datganoli Cymru o'r cychwyn cyntaf ac wedi'i adeiladu i mewn i DNA Llywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad yn rhoi llwyfan cadarn i ni yng Nghymru greu polisïau a deddfwriaeth sy'n gryf a chynhwysol. Mae'n glir o'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud yn eu cyfraniadau ein bod yn derbyn ein bod ar drothwy cyfnod digynsail ac ansicr i Gymru wrth i ni adael yr UE, o ran y trafodaethau ar oblygiadau gwahanol senario 'bargen' neu senario 'dim bargen' i amddiffyniadau hawliau dynol y mae pawb ohonom am eu gweld yn cael eu diogelu. A chredaf fod pob siaradwr yn cytuno bod angen diogelu'r hawliau hynny.

Rydym wedi bod yn gyson iawn yn yr hyn rydym am ei weld o ran ein blaenoriaethau ar gyfer gadael yr UE a'n rhan yn sgyrsiau Brexit, ac un o'r blaenoriaethau hynny oedd cynnal y safbwynt hanfodol ar hawliau dynol ar gyfer dinasyddion Cymru a'u lle yn y byd. Ac wrth gwrs, byddai hynny hefyd yn cynnwys ymrwymiad parhaus i sicrhau nad oes unrhyw gam yn ôl yn digwydd o ganlyniad i adael yr UE. Felly, rhaid cael rhyw fodd o wirio beth yw safbwynt gwledydd blaenllaw eraill ym mhob cwr o'r byd ar hawliau dynol a sicrhau ein bod yn camu'n glos wrth hynny. A soniodd David Melding yn fwyaf arbennig, rwy'n credu, nad yr UE yn unig y dylem fod yn ei fonitro o ran hynny, a dyna'n sicr yw ein barn ni yn ogystal, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod Cymru'n camu'n glos wrth yr arferion gorau oll yn y gwaith hwn.

Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd parhaus yn ei gwneud hi'n anodd iawn gwerthuso dyfodol y dirwedd ac i fod â llwybrau gweithredu penodol iawn ar hyn o bryd, hyd nes y gwelwn sut olwg a fydd ar y dirwedd honno. Nododd David Melding hefyd, er enghraifft, y drafodaeth gyhoeddus ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng siarter yr UE ar hawliau sylfaenol a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol sy'n deillio o'r Cyngor Ewropeaidd, a'r dryswch ym meddwl pobl ynglŷn â beth sydd wedi'i ymgorffori yn lle ac ati. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau rydym yn awyddus iawn i'w wneud yw edrych i weld beth y gallwn ei wneud o ran deddfwriaeth Cymru, beth i'w ymgorffori yn neddfau Cymru, fel ein bod yn diogelu'r rhyddid sylfaenol hwnnw mewn ffordd syml iawn. Ac mewn gwirionedd, o ganlyniad i sgwrs a gychwynnwyd yn y Siambr hon, Lywydd, gan Helen Mary Jones ar ei chynnig deddfwriaethol i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, rydym wedi comisiynu ymchwil i ddangos i ni sut, yng Nghymru, y mae'r darnau o ddeddfwriaeth yn clymu wrth ei gilydd yn y ffordd orau.

Mae llawer o'r Aelodau—Jane Hutt, John Griffiths ac Aelodau eraill—wedi sôn am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, er enghraifft, ac a ddylem roi honno mewn grym. Rydym yn awyddus iawn i wneud hynny. Ond rydym am sicrhau ein bod yn ei wneud mewn ffordd sy'n hollol gydnaws â'n Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol er enghraifft, ac nad yw'n torri ar ei thraws mewn unrhyw ffordd neu'n tanseilio'r Ddeddf honno. Felly, rydym wedi comisiynu ymchwil i weld sut y mae'r jig-so'n ffitio i'w gilydd yn y ffordd orau ac i roi map inni ar gyfer cyrraedd man a amlinellwyd gan bawb yn y Siambr, sef man lle'r ydym, yn syml iawn, yn nodi beth yw'r hawliau sylfaenol hynny yn y ddeddfwriaeth Gymreig a sicrhau nad ydym yn cael effaith haenog. Mewn sgwrs gyda chomisiynydd Deddf cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft, soniodd am yr anhawster o sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl—rydym wedi pasio'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd â phethau i'w dweud am ffactorau economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru—ac nid ydym yn rhoi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar yr haen nesaf, fel bod pobl yn mynd yno yn gyntaf, ond rydym yn sicrhau eu bod yn cydgysylltu. Felly, un o'r problemau gyda chopïo'r Alban yw nad oes gan yr Alban Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, felly rydym am wneud yn siŵr eu bod yn clymu wrth ei gilydd.

Felly, rwyf am roi sicrwydd i bawb yn y Siambr ein bod am sicrhau bod gennym yr amddiffyniad gorau a mwyaf arloesol i'r hawliau dynol hyn yng Nghymru, mewn ffordd sy'n unigryw Gymreig, mewn ffordd sy'n cyfuno ein deddfwriaeth â'r confensiynau amrywiol, ac mewn ffordd sy'n diogelu hawliau unigol, fel y nododd John Griffiths yn ei araith, rwy'n credu. Un o'r pethau pwysig iawn i'w hystyried pan edrychwn ar hawliau'r confensiwn a gweithredu'r dyletswyddau amrywiol ac ati yw bod gan unigolion fodd o fynnu eu hawliau eu hunain ac ymladd yn erbyn unrhyw gyfyngu arnynt. Felly, rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddweud wrth y Siambr y byddwn yn dychwelyd cyn gynted ag y bydd y gwaith ymchwil hwnnw gyda ni ac y bydd gennym fap ar gyfer cyrraedd lle'r ydym eisiau bod a bod hynny'n annibynnol ar y ddadl ynglŷn â'r UE, oherwydd rydym am weld sut olwg a ddylai fod ar ein deddfwriaeth beth bynnag. Ac yna, gan fod hynny'n cael ei lywio gan sut olwg fydd ar y Ddeddf ymadael ar ei ffurf derfynol, ac a geir bargen ai peidio, gallwn wneud yn siŵr fod hynny'n cael ei gynnwys yn y sgwrs honno.

Felly, nododd amryw o Aelodau eraill—esgusodwch fi, mae'n ddrwg gennyf, rwy'n cael trafferth mawr gyda fy ngwddf heddiw, yn anffodus—faterion eraill o bwys yn ymwneud â hyn. Hoffwn gyfeirio at rai o'r rheini wrth imi orffen fy nghyfraniad. Un yw'r cynnydd yn nifer y troseddau casineb a'r cynnydd o 71 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol i ni. Mae gan Gymru hanes hir o groesawu pobl o bedwar ban byd. Fel y dywed y Prif Weinidog yn aml, rydym i gyd yn ymfudwyr, mae'n dibynnu pa mor bell yn ôl yn eich teulu y dymunwch fynd. Ni ddaeth neb ohonom o'r fan hon yn wreiddiol. Rydym yn awyddus iawn i weld gwlad groesawgar, gadarnhaol a goddefgar, ac un o'r pethau y byddwn yn ei ystyried yn ein hymchwil yw gweld a yw'r ddeddfwriaeth yn rhoi llwyfan yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod yn mynnu'r wlad ddiwylliannol sy'n edrych tuag allan y dymunwn ei gweld drwy alluogi pobl i droi at y gyfraith os caiff yr hawliau hynny eu herydu. Felly, dyna un o'r pethau y mae gennym ddiddordeb mawr yn ei wneud. Rydym hefyd yn edrych i weld a yw'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cydweithio i ddatblygu amcanion cydraddoldeb cyffredin y gellir eu targedu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol fel rhan o'r gwaith ar droseddau casineb. Mae llawer o'r bobl sy'n cael profiad o droseddau casineb yn eu profi yn sgil nodwedd warchodedig benodol, ond mae iddo elfennau croestoriadol mewn gwirionedd. Yn aml, mae ganddynt nifer o'r nodweddion hynny, ac rydym am weld hyn yn cael amddiffyniad y gyfraith cymaint ag y gallwn.

Felly, Lywydd, rydym am gerdded y llinell denau rhwng bod yn ofalus iawn ynglŷn â gosod beichiau ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a bod yn glir iawn ynglŷn â beth yn union yw eu rhwymedigaethau a'u dyletswyddau o ran darparu gwasanaethau i bobl Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ddau bwyllgor am eu gwaith yn cyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn gwneud yr ymchwil sy'n angenrheidiol i ymgorffori pob un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth yn y patrwm gorau posibl, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r ddau bwyllgor yn y dyfodol i gyflwyno hynny. Diolch.

17:25

Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor materion allanol i ymateb i'r ddadl, David Rees. 

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl heddiw? Credaf mai dyma'r tro cyntaf efallai i ni gael adroddiad ar y cyd yn dod gerbron y Cynulliad gan bwyllgorau yn y Cynulliad hwn. Mae hefyd yn dangos, efallai, fod y ffordd rydym yn gweithio yn esblygu wrth inni symud ymlaen. A gaf fi hefyd gofnodi diolch y ddau bwyllgor i'w staff, clercod y pwyllgorau a'u timau, ac i'r tystion? Heb y rheini, byddai ein gwaith yn llawer iawn anos.

Mae'r canfyddiadau hyn yn allweddol i ni, ac efallai fod Brexit wedi tynnu sylw at rywbeth. Mae gennyf ychydig o bwyntiau o'r hyn y siaradodd yr Aelodau amdano. David Melding, ar y siarter hawliau sylfaenol, rwyf am dynnu sylw at y ffaith nad yw'n gyfraith, rwy'n cytuno, ond mae o fewn fframwaith y gyfraith Ewropeaidd, ac felly mae'n bodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Wrth inni adael yr UE, mae'r fframwaith cyfraith Ewropeaidd hwnnw y mae'n gweithredu ynddo'n diflannu. Felly, nid yw'r hawliau a oedd yno o reidrwydd yn cael eu diogelu gan y gyfraith o fewn y DU am nad yr un cyfreithiau Ewropeaidd sydd gennym. Dyna yw'r broblem rydym yn ceisio tynnu sylw ati. Dyna pam roedd ein pwyllgor ni yn arbennig yn falch o weld y cyfeiriad hwnnw ym Mil y gyfraith sy'n deillio o'r UE i sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau, fel rhan o'i Bil parhad—. Ond wrth gwrs, ni chafodd ei barhau yn y Bil ymadael â'r UE—neu'r Ddeddf, fel yw hi bellach. Cafodd ei gynnwys gan yr Arglwyddi fel gwelliant, ond fe'i trechwyd yn Nhŷ'r Cyffredin yn yr adran ping-pong. Ond mae'n bwysig ei fod gennym gan fod yna hawliau y mae angen inni eu hamddiffyn, hawliau y mae pawb ohonom wedi elwa arnynt. Credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw nad oes neb yn rhagweld y bydd yr hawliau hynny'n cael eu herydu o fewn un diwrnod i adael yr UE, ond heb ddeddfwriaeth i ategu'r hawliau hyn, rydym yn gadael ein hunain yn agored i gyfle ymhen blynyddoedd i Lywodraethau eraill ddod i mewn a thanseilio'r hawliau hynny. Dyna oedd y rheswm am hyn—sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn bodoli.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod dyfodol buddsoddiad rhanbarthol yn bryder a rennir gan bawb ar draws y Siambr hon—rydym wedi ei glywed yn aml—ac mae cydlywodraethu yn un—. Mae angen inni edrych i weld sut rydym yn mynd i reoli hynny, a daw hynny gyda'r gronfa ffyniant gyffredin. Nid yw hyn yn ymwneud â'r gronfa ffyniant gyffredin ynddi ei hun, ond mae'n amlygu enghreifftiau a phryderon sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â sut y rheolwn y gronfa honno a sut y gallwn sicrhau y bydd y blaenoriaethau i Gymru yn cael eu sicrhau gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn hytrach na chael eu gorfodi arnom gan San Steffan—rhywbeth y mae pobl Brexit i'w gweld yn dymuno ei wneud—i adlewyrchu'r un dadleuon am Frwsel.

Dywedodd Leanne fod hawliau o dan fygythiad, a dyna pam rydym wedi nodi hynny. Maent o dan fygythiad oni bai eu bod yn cael eu hategu gan gyfraith. Ac rydych wedi tynnu sylw at bobl adain dde, efallai, sydd o'r farn fod gadael, Brexit, yn gyfle. Y realiti yw bod yna bobl mewn swyddi uchel sy'n arddel y farn honno. Dyna'r realiti. Ac roeddem eisiau sicrhau, wrth i'r UE fanteisio ar y cyfle i roi deddfwriaeth ar waith i amddiffyn pobl, ein bod ninnau hefyd yn gwneud yr un fath yma yn y DU wedi i ni adael yr UE, fel bod y deddfau yno i amddiffyn hawliau unigolion. Pa un a fyddwn yn cael Bil hawliau dynol Cymreig—rwy'n siŵr y gallai fod yn rhywbeth y bydd hi'n ei gyflwyno fel Bil Aelod, Bil aelod o'r meinciau cefn.

Unwaith eto, nododd Jane y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac mae honno'n hollbwysig yma. Nawr, rwyf wedi darllen y llythyrau gan y Prif Weinidog yn dweud yn glir fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynd i gynnwys popeth, a deallaf sylwadau arweinydd y tŷ ynglŷn â sicrhau eu bod yn gweithio gyda'i gilydd, yn cydblethu'n dda. Rwy'n deall hynny'n iawn, ond credaf ei fod yn allweddol. Mae gennym bwerau i wneud hyn—gadewch inni ei wneud. Gadewch inni wneud yn siŵr nad yw'n 10 mis, dwy flynedd, tair blynedd, neu Gynulliad arall eto efallai, cyn inni wneud hynny. Nawr yw'r amser i fanteisio ar y cyfle. Rwy'n derbyn eich bod yn dweud bod gennych ymchwil ar waith ar hynny. Ni roesoch amserlen; fe ddywedoch y byddech yn dod yn ôl atom cyn gynted â phosibl. Byddai amserlenni'n wych pe baem yn gwybod—chwe mis; rhyw fath o ffactor amser.

17:30

Mis Chwefror. Diolch. Mae hynny'n beth da, oherwydd mae gennym o leiaf—. Bellach mae gennym syniad mewn gwirionedd y bydd yn digwydd cyn inni adael yr UE. Mae hynny'n bwysig iawn i ni.

Nododd Jane hefyd ei bod hi'n bwysig fod hawliau'n dod i'r amlwg, ac yn arbennig ein bod yn nodi hawliau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod pontio, os oes un, oherwydd byddwn yn gweithredu o dan yr amodau hynny hyd nes y daw'r cyfnod pontio hwnnw i ben. Sut y mae sicrhau bod y rheini hefyd o fewn cyfraith y DU ac wedi'u hamddiffyn pan fyddwn yn gadael y cyfnod pontio? Felly, mae'n elfen hollbwysig; rydym yn bwriadu edrych ar hynny.

Arweinydd y tŷ, fe sonioch chi am gamu'n glos. Rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Soniasoch am ddeddfwriaeth Gymreig. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud mwy na dim ond dal ati i ddweud, 'Mae gennym y Bil unigryw hwn, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sy'n darparu hyn.' Gallwn wneud mwy, a dylem wneud mwy gyda'r pwerau sydd gennym.

Lywydd, bydd goblygiadau cyfansoddiadol, cyfreithiol a gwleidyddol dwfn yn deillio o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd i bobl Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Drwy daflu goleuni ar fater hawliau dynol a chydraddoldeb, a oedd yn rhywbeth nad oedd pobl eisiau siarad llawer amdano yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rwy'n gobeithio bod y ddau bwyllgor wedi atgoffa pobl fod gan Gymru hanes balch o arwain y ffordd yn y meysydd hyn, a'n nod yw sicrhau bod yr hanes balch hwn yn parhau. Mae angen sicrwydd y bydd yr hawliau'n parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae angen inni sicrhau na chânt eu tynnu'n ôl fel na fyddwn yn gweld yr hawliau hynny'n cael eu herydu. Ac wrth edrych ymlaen, byddwn yn parhau i gadw llygad ar hyn, byddwn yn parhau i gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd, gobeithio, dros y cyfnod pontio, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad ar y cyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lluoedd Arfog

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Neil McEvoy. 

Symudwn yn awr at y ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y lluoedd arfog, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6854 Darren Millar

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.

2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.

3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Wel, y Sul hwn fydd canmlwyddiant llofnodi'r cadoediad a ddaeth â'r rhyfel byd cyntaf i ben. Ar 3 Awst, gyda 100 o ddyddiau tan ganmlwyddiant y cadoediad, lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ymgyrch dorfol i ddweud 'diolch' wrth genhedlaeth y rhyfel byd cyntaf a wasanaethodd, a aberthodd ac a newidiodd ein byd, gyda phob cymuned yn cael eu hannog i ymuno a channoedd o ddigwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd Remember Together hefyd, sef menter newydd gan British Future a'r Lleng Brydeinig Frenhinol i ddod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i nodi'r cofio a chanmlwyddiant cadoediad y rhyfel byd cyntaf.

Ceir ymwybyddiaeth gynyddol y gallai ac y dylai cofio berthyn i bob un ohonom, beth bynnag yw ein gwleidyddiaeth, ein hethnigrwydd neu ein ffydd. Roedd byddinoedd 1914-18 yn edrych yn debycach i Brydain 2018 na Phrydain y cyfnod hwnnw. Ymladdai milwyr Prydain ochr yn ochr â milwyr o wahanol liwiau a chredoau o bob rhan o'r Gymanwlad, gan gynnwys dros 1 filiwn o filwyr o India, 400,000 ohonynt yn Fwslimiaid o'r hyn sy'n Bacistan heddiw. Mae'r hanes hwn a rennir o wasanaeth a chyfraniad yn rhywbeth y gall pawb ohonom ym Mhrydain a'r DU ei goffáu.

Mae ein cynnig yn galw ar y Cynulliad i anrhydeddu

'cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.'

Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 i gefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod y Lleng Brydeinig Frenhinol, a deuthum i'r casgliad fod yn rhaid ymladd drosto hyd nes y caiff ei ennill. Wedyn croesawais y cyhoeddiad ynghylch cyfamod y lluoedd arfog ym mis Mai 2011, yn cyflwyno dyletswydd statudol o 2012 ymlaen i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd y DU i ystyried effeithiau gwasanaeth ar filwyr rheolaidd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, eu teuluoedd a'r rhai mewn galar, a hefyd i edrych ar feysydd o anfantais bosibl a'r angen am ddarpariaeth arbennig lle y bo'n briodol.

Llofnododd Llywodraeth Cymru a'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfamod ac ymrwymo i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion. Fodd bynnag, ni chafwyd adolygiad annibynnol eto o gynnydd a chyflawniad ar draws Cymru gyfan ers sefydlu'r cyfamod—neu ni chafwyd adolygiad hyd nes y cyflawnodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid y gwaith.   

Yn ein dadl ar gymorth ar gyfer y lluoedd arfog y llynedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet na ddylai fod gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth ynghylch y pwyslais y mae'r Llywodraeth hon yn ei roi ar gyflawni'r cyfamod yng Nghymru. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau ynglŷn â'i weithredu ac o ran sicrhau bod cyn-filwyr yn ymwybodol o'r cymorth hwn.

Archwiliodd yr adolygiad y llynedd o weithrediad y cyfamod gan grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog a chadetiaid y modd roedd gwasanaethau yng Nghymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan gyfamod y lluoedd arfog. Ers cyflwyno'r cyfamod, canfu'r grŵp fod gwaith da wedi'i wneud ledled Cymru ar gyflawni ei nodau, a bod mwy o ymwybyddiaeth gan y gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol, fodd bynnag, canfu nad oes digon o atebolrwydd er mwyn sicrhau bod cyrff sydd wedi ymrwymo i'r cyfamod yn cyflawni eu rhwymedigaethau mewn gwirionedd.   

Mae'r cyfamod yn datgan na ddylai unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wynebu anfantais, ac mewn amgylchiadau penodol, gallant ddisgwyl ystyriaeth arbennig o ran eu gofal GIG. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, mae cyn-filwyr a'u teuluoedd wedi wynebu anghysonder o ran cael mynediad at ofal iechyd yng Nghymru, gyda'r trydydd sector a'r sector elusennol yn aml yn gorfod darparu'r gwasanaethau adsefydlu a'r gwasanaethau arbenigol sydd eu hangen arnynt.

Mae ymlyniad at y cyfamod a'r modd y caiff ei weithredu yn amrywio'n fawr ar draws byrddau iechyd Cymru, fel y dengys gwybodaeth ddiweddar a gafodd y Ceidwadwyr Cymreig gan bob bwrdd iechyd. Gan Abertawe Bro Morgannwg yn unig y ceir cyllideb bwrpasol ar gyfer cyn-filwyr. Yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf, dyrannwyd £242,000 yno, ond defnyddio dyraniadau craidd yn unig a wnaeth y chwe bwrdd iechyd arall ar gyfer ariannu anghenion cyn-filwyr. Byrddau iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Powys a Hywel Dda yn unig sydd wedi mabwysiadu canllawiau 2017 Llywodraeth Cymru yn llawn ac mae'n destun pryder fod Betsi Cadwaladr wedi nodi nad oedd yn gwneud mwy na dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2008, dair blynedd cyn cyhoeddi'r cyfamod.

Roedd hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff o'r cyfamod yn amrywio'n fawr ar draws y byrddau iechyd, gydag ond ychydig o hyfforddiant ffurfiol ar ei ofynion yn digwydd. Roedd timau cofnodion meddygol yn Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro wedi cael hyfforddiant ar flaenoriaeth ac atgyfeiriadau cyflym, gyda Chaerdydd a'r Fro ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar becyn hyfforddiant ar gyfer gofal sylfaenol. Ac eto nid oedd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwneud dim mwy na dosbarthu canllawiau protocol, ar lefel bwrdd yn unig yr oedd Powys wedi darparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, ac nid oedd Hywel Dda na Betsi Cadwaladr wedi darparu unrhyw hyfforddiant ffurfiol. Er bod y cyfamod yn berthnasol i weithwyr byrddau iechyd lleol, roeddwn yn bryderus yn ddiweddar pan euthum gyda gweithiwr yn un o'r byrddau iechyd a oedd wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma milwrol i gyfarfod gyda'i gyflogwyr, pan nododd y bwrdd iechyd mai eu dealltwriaeth hwy oedd nad oedd y cyfamod ond yn berthnasol iddo fel claf.

Siaradais yn lansiad Newid Cam yn 2013, sef gwasanaeth cymorth a mentora gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr sy'n ceisio cymorth gyda iechyd meddwl, unigrwydd neu broblemau dibyniaeth, dan arweiniad yr elusen CAIS yng ngogledd Cymru. Mae Newid Cam bellach wedi helpu mwy na 1,700 o gyn-filwyr a'u teuluoedd ers ei lansio, ac eto mae ei ddibyniaeth ar arian sy'n rhaid gwneud cais amdano yn her hirdymor wrth geisio darparu gwasanaethau hanfodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr o ddweud wrthym am y swm o arian a roddwyd i GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n darparu asesiadau a thriniaeth seicolegol ar gyfer problemau iechyd meddwl gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn nodi na fyddant yn gallu parhau i leihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth heb gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi dweud wrthym eu bod yn lleihau rhestrau aros ar gyfer triniaeth drwy gyflogi tri therapydd amser llawn ar gyfer cyn-filwyr gydag arian gan yr elusen Help for Heroes, ac maent wedi cwblhau'r flwyddyn gyntaf o hynny, ond ym mis Medi 2020, bydd y swyddi hyn yn diflannu ac mae'r rhestrau aros yn debygol o gynyddu eto heb gynnydd yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru. Wrth gwrs, heb y cynnydd hwnnw, byddai baich cost ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd a gofal, ac felly byddai'n economi ffug. Mae Gig Cymru i Gyn-filwyr hefyd yn datgan bod astudiaethau ar raddfa fawr wedi'u cynnal yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar anghenion cyn-filwyr a chyn-bersonél y lluoedd arfog gan ymddiriedolaeth Forces in Mind, ac maent yn galw am astudiaeth debyg yng Nghymru i helpu i lywio polisi ac ymarfer.

Mae tai yn allweddol i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru ac wedi sicrhau cyllid o gronfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer llety i gyn-filwyr er mwyn darparu cartrefi ledled Cymru. Mae menter Cartrefi ar gyfer Cyn-filwyr Cymru Alabaré yn darparu tai â chymorth ar gyfer cyn-filwyr sy'n ei chael hi'n anodd ymaddasu i'r byd sifil. Drwy weithio gyda'i gilydd, cyflawnodd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf ac Alabaré brosiect hunanadeiladu uchelgeisiol ar gyfer cyn-filwyr yn Wrecsam, y drydedd drigfan yng ngogledd Cymru i gael ei rheoli gan Cartrefi Cymru ar gyfer Cyn-filwyr, ac aeth â darpariaeth yr elusen ar draws Cymru i 57 o leoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llwybr atgyfeirio ar gyfer tai i gyn-filwyr ac wedi diweddaru canllawiau. Fodd bynnag, nid yw darparu taflenni a chardiau cyngor yn lleddfu pryderon ynglŷn â sut y gall y swyddogion tai sy'n darparu cymorth angenrheidiol reoli achosion cymhleth yn ymwneud ag ailgartrefu cyn-filwyr. Felly mae angen i Lywodraeth Cymru integreiddio gwasanaethau tai, iechyd a gofal yn well, ynghyd â chymorth ar gyfer cynlluniau megis y rhai a ddarperir gan Dewis Cyntaf ac Alabaré, yn enwedig pan fo gostyngiad mawr wedi bod yn nifer yr aelwydydd cyn-filwyr y mae awdurdodau lleol wedi derbyn bod ganddynt angen blaenoriaethol am lety ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014. Ni allaf gredu bod y ffigurau hynny'n adlewyrchiad o wir lefel yr angen.

Elusen sy'n darparu mannau diogel yw Woody's Lodge i alluogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd wedi gadael yn ddiweddar, milwyr wrth gefn, a'r rhai a fu'n gwasanaethu yn y gwasanaethau brys, i gymdeithasu a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac i ryngweithio â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg. Yn dilyn llwyddiant eu canolfan sefydledig gyntaf yn ne Cymru, maent bellach yn agor canolfan ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn ar gyfer cyn-filwyr ar draws gogledd Cymru. Ochr yn ochr ag Age Cymru a Chynghrair Henoed Cymru, mae Woody's Lodge yn bartner yn y prosiect 360°, a ariennir gan gronfa cyn-filwyr hŷn Canghellor y DU, i gefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.

Cymeradwywyd yr adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid y cyfeiriwyd ato'n gynharach, a chanfu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru er mwyn cynnal y cyfamod a gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus i ddarparu cyfamod y lluoedd arfog. Dywedodd y dylai fod yn ofynnol i'r comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth â'r cyfamod i'w osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod hynny i'w groesawu, nid yw penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi'u hariannu gan y cyfamod ar draws awdurdodau lleol Cymru yn bodloni'r gofyniad hwn.

Wrth ymateb i mi ddoe, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet osgoi hyn drwy ddatgan yn lle hynny mai rôl y Cynulliad Cenedlaethol yw sicrhau atebolrwydd y Llywodraeth. A yw'n dweud felly nad oes angen comisiynwyr arnom mewn meysydd eraill, gan gynnwys plant, pobl hŷn a chenedlaethau'r dyfodol? Onid yw eu bodolaeth yn profi'r egwyddor fod gan gomisiynwyr ran allweddol i'w chwarae mewn gwirionedd? Gan mlynedd ar ôl llofnodi'r cytuniad a arweiniodd at ddod â'r rhyfel byd cyntaf i ben, mae'n rhaid i gyfamod y lluoedd arfog barhau. Diolch yn fawr.

17:40

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Julie James

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.

Cynigiwyd gwelliant 1.

17:45
Member
Alun Davies 17:45:00
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw.

Gwelliant 2—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu ansawdd tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydym yn gadael milwyr ar ôl ar faes y gad ac ni ddylem eu gadael ar ôl pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae fy ngwelliant heno yn un syml i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu tai a gofal iechyd o ansawdd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol.

Mae llawer o filwyr yn gwasanaethu ac yn mynd drwy drawma. Caiff rhai eu hanafu ac yn anffodus, ni fydd rhai ohonynt yn dychwelyd. O'r rhai sy'n dychwelyd, beth sy'n eu hwynebu wedi iddynt ddod yn ôl? Diffyg gofal iechyd, diffyg darpariaeth iechyd meddwl a diffyg cartref. Maent yn cael problem fawr yn dod o hyd i dŷ. Mae gormod o lawer o gyn-filwyr yn byw ar y stryd. Mae gennym gyfamod ar gyfer y lluoedd arfog, ond nid wyf yn meddwl ei fod yn ddigon da. Yn wir, rwy'n gwybod nad yw'n ddigon da. Mae angen deddfwriaeth i flaenoriaethu'r rhai sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Dylai adnabod cyn-filwyr fod yn norm yn y GIG, a dywedir wrthyf nad yw hynny'n wir yn rhy aml o lawer. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael hyfforddiant, a dylem fod yn edrych ar arferion gorau.

Mae'r cyn-filwr Gus Hales ar streic newyn i alw am well cymorth i gyn-filwyr, yn enwedig cyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Dywedodd fod 56 o gyn-filwyr wedi cyflawni hunanladdiad y flwyddyn hon yn y DU. Mae wedi bod ar streic newyn ers 10 diwrnod, ac mae'n 62 mlwydd oed. Sut y gall y dyn hwn, sy'n byw yng Nghymru, fod wedi llithro drwy'r rhwyd? Sut y gallai ddigwydd?

Ar y ffôn yn gynharach, dywedodd Norman McGuigan, ymgyrchydd dros gyfiawnder i gyn-filwyr y lluoedd arfog, nad yw'r cyfamod yn gweithio. Mae'n bosibl ei fod ychydig yn well yng Nghymru nag yn Lloegr, ond nid yw hynny'n ddigon da mewn gwirionedd. Mae angen inni gyflwyno Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu, pan ddaw gwasanaeth milwrol balch pobl i ben, eu bod yn cael y gefnogaeth a'r ddarpariaeth dai sydd ei hangen arnynt, ac yn bwysicach, y ddarpariaeth y maent yn ei haeddu. Gall Cymru arwain ar hyn, felly gadewch i ni ei wneud. Diolch.

Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ein lluoedd arfog yn ystod yr wythnos bwysig hon o gofio cenedlaethol ac rwy'n codi i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.

Hoffwn ddechrau ar nodyn personol. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Clwyd hefyd yn ffrind a chydweithiwr i Carl Sargeant. Flwyddyn wedi marw Carl, gwn fod ei ddiffuantrwydd a'i bresenoldeb yn byw o hyd i'r rhai ohonom yma heddiw a oedd yn malio amdano, ond mae hefyd yn parhau yn y mentrau a'r ddeddfwriaeth barhaus a ysgogodd ar ran Cymru gyfan, a chredaf y bydd yn parhau i flodeuo ar gyfer Cymru gyfan. Ar y mater hwn, rwyf am ddyfynnu'r Aelod dros Orllewin Clwyd a ddywedodd fod Carl yn allweddol yn y gwaith o sicrhau bod rhai o'r gwelliannau arwyddocaol wedi'u darparu, ac mewn gwirionedd, un o'r rhannau pwysicaf oedd cael cymunedau'r lluoedd arfog at ei gilydd, yn enwedig y sector gwirfoddol, sy'n aml yn y gorffennol wedi bod yn rhanedig ac yn gweithio mewn seilos. Helpodd Carl i sicrhau bod cynhadledd y lluoedd arfog yn cael ei chynnal bob blwyddyn i helpu i oresgyn y rhwystrau hynny. Ac mae Darren hefyd yn rhannu'r un ymrwymiad i'n lluoedd arfog ag y dangosai Carl mor angerddol bob amser. Ar ôl cael yr anrhydedd yn ddiweddar o ymuno â grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar y lluoedd arfog, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi, Darren, yn y maes pwysig hwn.

Felly, wrth i ni nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a diwedd y rhyfel byd cyntaf, mae'n iawn ein bod yn ymuno ag ymgyrch #ThankYou100 y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, a aberthodd ac a newidiodd ein byd rhwng 1914 a 1918. Fel yr Aelod Cynulliad dros Islwyn, mae'n anrhydedd i minnau hefyd ac rwy'n falch iawn o sefyll yma heddiw yn Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi diolch ar ran ein cymunedau a fy nghymunedau i yn Islwyn am yr arwriaeth a ddangoswyd gan ein brodyr a'n chwiorydd ganrif yn ôl. Byddwn yn eu cofio.

Er bod y cyfrifoldeb hwn dros y lluoedd arfog heb ei ddatganoli wrth gwrs, gwn fod y Llywodraeth Lafur hon yn hynod o falch o'r 385,000 o bobl sy'n aelodau o gymuned y lluoedd arfog ar draws Cymru, ac rydym wedi ymrwymo'n gadarn i egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog. Fel y dywedais wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gynharach heddiw a ddoe, credaf ei bod hi'n bwysig inni barhau i gryfhau'r uned cyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a thyrchu ymhellach er mwyn asesu unrhyw fylchau posibl yn y ddarpariaeth o wasanaethau a fydd yn galw am sylw. Fe allwn ac fe fyddwn yn parhau gyda'r hyn a adawodd Carl ar ei ôl yn y lle hwn yn hyn o beth, ac rwy'n hyderus ac yn bendant mai dyma yw ewyllys wleidyddol a gweledigaeth glir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth.

Lywydd, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig, sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn, yn galw'n briodol hefyd ar arweinwyr Torïaidd y DU yn y Llywodraeth i gefnogi ein lluoedd arfog, oherwydd ym mis Gorffennaf, clywsom y bydd personél y lluoedd arfog yn derbyn codiad cyflog o 2 y cant. Mae hynny'n is nag argymhelliad corff adolygu cyflogau'r lluoedd arfog, ac mae'n gynnig cyflog sy'n is na chwyddiant. Yn yr hinsawdd ansefydlog sydd ohoni, nid yw'n syndod fod bron i 15,000 o bobl wedi gadael y lluoedd arfog dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, er bod nifer y bobl sy'n ymuno â'r lluoedd arfog yn gostwng yn fawr.

Nid wyf yn credu bod hyn yn iawn, ac mewn cyfnod o ansicrwydd byd-eang cynyddol, bygythiad terfysgaeth a phryderon ynghylch diogelwch Brexit, gadewch inni gofio am bawb sydd wedi gwasanaethu, sy'n barod i wasanaethu ac a oedd yn barod i wneud yr aberth eithaf ar ran ein gwlad—yn barod i sicrhau ein bod yn parhau i anrhydeddu eu hymrwymiad, nid yn unig mewn gair a rhethreg, ond fel y gwnaeth Carl, drwy weithredu deddfwriaethol a chynlluniau, i sicrhau diogelwch pawb yn ein cymdeithas. Diolch.

17:50

Diolch am y cyfle i gofio'r rhyfel mawr. Yn 1916, roedd fy nhaid yn 21 mlwydd oed, newydd briodi, ac yn y Royal Welch Fusiliers yn y Somme ac yn Ypres. Roedd taid yn un o fechgyn Dolgellau a'r cylch efo'i gilydd yn y rhyfel mawr, a bechgyn Traws—Trawsfynydd—heb fod ymhell oddi wrthynt, ar faes y gad, a'r cyfathrebu yn Gymraeg ar gaeau dramor, a marwolaethau ffrindiau agos yn cael effaith ddwys arnynt i gyd yng nghanol y brwydro ac yn rhwygo calonnau mamau a gwragedd a chymunedau clos Cymraeg gwledig Cymru a'i magodd nhw, a rhwygo seiliau anghydffurfiaeth heddychlon Cymraeg ar yr un pryd. Bechgyn a oedd yn gwrthod y consgripsiwn ar sail ffydd yn cael eu herlid a'u dilorni, a'n capeli llawn ar y pryd yn llawn gwewyr hefyd. Gweision ffermydd Meirionnydd wedi cael mynd i ryfel, a meibion y meistri wedi cael aros adre. Ie, mae pobl yn cofio. 

Un dydd, ar ganol brwydr, bu i gyfaill taid gael ei anafu yn ddifrifol, wedi ei saethu tra'n brwydro nesa i taid. Bu i taid ei godi a'i gario ar ei gefn a cheisio mynd â'i gyfaill i loches, ond bu i fwled arall y gelyn saethu ei gyfaill o Ddolgellau yn farw, tra'i fod ar gefn taid, a taid yn goroesi yn rhyfeddol. Ond wrth i'r brwydro barhau dros erwau gwaedlyd Fflandrys a Ffrainc, dioddefodd taid gael ei wenwyno gan y nwy gwenwynig, y mustard gas, a oedd yn cerdded y ffosydd yn niwl llosg, dieflig, angheuol—ie, rhaid cofio—a phydrodd ei draed wrth sefyll am fisoedd yn y ffosydd llawn dwr, gwaed a budreddi o bob math, yn wynebu’r gweddillion cnawd ar y weiren bigog bondigrybwyll.

Bu i taid oroesi yn wyrthiol, neu fuaswn i ddim yma, ond prin bu iddo siarad am ei brofiadau erchyll a'r holl ddioddefaint. Cofio mud oedd cofio taid, mor wahanol i ffawd Hedd Wyn, bardd y gadair ddu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhenbedw, 1917. Enillodd Hedd Wyn, y ffarmwr a'r bardd o Drawsfynydd, y gadair y flwyddyn honno, ond roedd wedi ei ladd ar Pilckem Ridge, brwydr Passchendaele, ar 31 Gorffennaf  1917—mis cyn yr Eisteddfod, ond wedi iddo fo ddanfon ei awdl Yr Arwr i mewn i'r Eisteddfod. Daeth dydd y cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1917—mis Medi—a David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain, yn y gynulleidfa. Ond er galw'r bardd buddugol, arhosodd cadair yr Eisteddfod yn wag, a chwrlid du yn cael ei rhoi drosti, a'r dagrau yn llond y lle, wrth i bawb ddarganfod ffawd y bardd buddugol.

Ie, rydym ni'n cofio. Gwnaeth Hedd Wyn ymuno â'r fyddin er mwyn i'w frawd iau osgoi gorfodaeth filwrol—osgoi y conscription. Heddiw, mae cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Yr Ysgwrn, wedi'i adfer, yn sefyll fel yr oedd ym 1917, inni gofio aberth cenhedlaeth ifanc ddisglair ein gwlad. A Hedd Wyn, yn gadael toreth o farddoniaeth fendigedig ar ei ôl, yn cael ei ladd yn 30 mlwydd oed.

Clywch, i orffen, ei gerdd Rhyfel:

'Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng, / A Duw ar drai ar orwel pell; / O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng, / Yn codi ei awdurdod hell. / Pan deimlodd fyned ymaith Dduw / Cyfododd gledd i ladd ei frawd; / Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw, / A'i gysgod ar fythynnod tlawd. / Mae'r hen delynau genid gynt / Ynghrog ar gangau'r helyg draw, / A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.'

Cofiwn aberth cenhedlaeth taid.

17:55

Mae'n briodol ar yr adeg hon o'r flwyddyn inni gofio ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae eleni'n arbennig o arwyddocaol, gan ei bod yn ganmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf. Wrth gydnabod aberth y rhai a wasanaethodd yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel, hoffwn sôn am y rhai y mae'n rhy hawdd anghofio eu cyfraniad.

Cyfeiriaf at deyrngarwch ac arwriaeth y rhai a ddaeth o'r hyn a elwid wedyn yn Gymanwlad. Daethant o filoedd o filltiroedd i ffwrdd i ymladd dros wlad nad oeddent erioed wedi ei gweld. Daeth pobl o tua 80 o wledydd sy'n rhan o'r Gymanwlad yn awr i ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Daeth llawer o Awstralia, Seland Newydd a Chanada, a daeth llawer mwy o India, Pacistan, Bangladesh, Affrica ac India'r Gorllewin. Daeth miliwn a hanner o wirfoddolwyr o India yn unig, India fel roedd hi cyn y rhaniad, a gwasanaethodd 150,000 o filwyr ar ffrynt y gorllewin yn unig. Enillodd milwyr o is-gyfandir India 13,000 o fedalau, gan gynnwys 12 croes Victoria. Gwasanaethodd 15,000 o filwyr o India'r Gorllewin, ac ennill 81 o fedalau am ddewrder. Ymladdodd 55,000 o ddynion o Affrica dros Brydain, gan ennill 1,066 o fedalau. Yn y dyddiau hyn o ragfarn a gwahaniaethu cynyddol ar sail hil, mae'n weddus inni roi amser i fyfyrio ar y ffeithiau hyn.

Mewn mynwentydd ar draws y byd ceir beddau pobl o bob hil a ffydd, neu bobl heb ffydd, a ymladdodd ochr yn ochr i amddiffyn y rhyddid y mae pob un ohonom yn ei fwynhau, ac fe wnaethant aberthu eu bywydau. Mae arnom ddyled fawr i bob un a fu'n gwasanaethu, ac mae'r ddyled honno'n parhau heddiw oherwydd, yn anffodus, honiad ffug oedd ei bod hi'n rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Gwta 21 mlynedd yn ddiweddarach, aeth y byd wysg ei ben i ail ryfel byd, a nifer o ryfeloedd eraill ers hynny: y Falklands, Kuwait, Irac ac Affganistan, i enwi rhai'n unig.

Mae llawer o gyn-filwyr heddiw yn gorfod byw gyda chyflyrau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth. Awgryma ymchwil ddiweddar gan King's College Llundain y gallai rhyfeloedd yn Irac ac Affganistan fod wedi arwain at gynnydd yn y gyfradd o anhwylder straen wedi trawma ymhlith aelodau o'r lluoedd arfog fel y nododd fy nghyd-Aelod. Yn anffodus, mae o leiaf un aelod yn marw o'r broblem hon bob wythnos. Rhaid inni wneud rhywbeth, Weinidog, ac yn gynharach gofynnais i chi sôn rhywbeth am gyn-filwyr ac roedd eich ateb mor druenus fel fy mod yn dal i deimlo cywilydd ynglŷn â'r ateb a roesoch, gan na ddywedoch chi ddim o'u plaid.

Ac eto, mae cyn-filwyr yng Nghymru a'u teuluoedd wedi wynebu anghysonder o ran mynediad at ofal iechyd, gan ddibynnu ar y trydydd sector ac elusennau i ddarparu'r gwasanaethau arbenigol a'r gwasanaethau adsefydlu sydd eu hangen arnynt, er gwaethaf cyfamod y lluoedd arfog. Mae diffyg paratoi yn golygu bod cyn-filwyr yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth ddychwelyd at fywyd sifil yng Nghymru. Nid yw darparu taflenni ar gyfer cyn-filwyr yn gwneud y tro yn lle'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt i sicrhau mynediad at y ddarpariaeth dai. Mae'r un peth yn wir am fynediad at gyflogaeth. Mae gan lawer o gyn-filwyr sgiliau pwysig a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau yng Nghymru, ac eto dengys ymchwil gan fanc Barclays na fyddai hanner y cyflogwyr yn edrych yn ffafriol ar brofiad milwrol ar CV. Ni chafwyd unrhyw arwydd hyd yn hyn o lwybrau cyflogaeth Llywodraeth Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn ag anrhydeddu'r ddyled sydd arnom i'n lluoedd arfog, rhaid inni sicrhau bod y cyfamod yn cael ei weithredu'n effeithiol ar bob lefel. Dyna pam y gofynnaf i'r Prif Weinidog newydd, pan ddaw i'w swydd, adolygu'r penderfyniad i wrthod penodi comisiynydd y lluoedd arfog.

Ddirprwy Lywydd, ysgrifennodd yr awdur Indiaidd, Raghu Karnad, y geiriau hyn,

Mae pobl yn marw ddwy waith: daw'r farwolaeth gyntaf ar ddiwedd eu hoes... a daw'r ail ar ddiwedd y cof am eu bywydau, pan fydd pawb sy'n eu cofio wedi mynd.

Rhaid inni sicrhau bod ein lluoedd arfog, yn awr ac yn y dyfodol, yn parhau i gael eu cofio a'u gwerthfawrogi am byth yng Nghymru. Diolch.

18:00

Nid wyf yn credu y gallaf gymharu mewn unrhyw ffordd â myfyrdodau ingol Dai Lloyd ar y rhyfel byd cyntaf, ond rhaid inni atgoffa ein hunain nad yw ein lluoedd arfog yn mynd i ryfel o'u gwirfodd eu hunain; maent yn mynd fel arfer am fod gwleidyddion wedi methu. Ond personél ein lluoedd arfog sy'n talu'r pris am y methiant hwnnw. Cofir am ddynion a menywod o'n dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi bob blwyddyn drwy inni ddod at ein gilydd yn y dinasoedd, y trefi a'r pentrefi hynny, nid i ddathlu, ond i dalu gwrogaeth am yr aberth a wnaeth aelodau'r holl luoedd arfog ar ein rhan. Yn UKIP rydym yn rhoi gwerth mawr ar yr aberth hwnnw, nid yn unig gan y rhai a fu farw yn y rhyfel erchyll rydym bellach yn nodi canmlwyddiant ei ddiwedd, rhyfel a elwir gennym yn rhyfel mawr, ond hefyd y rhai a fu farw yn yr ail ryfel mawr yn yr ugeinfed ganrif ac yn wir, pob rhyfel y bu ein lluoedd arfog yn rhan ohono ers diwedd yr ail ryfel byd. Ar ran UKIP, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sefydliadau elusennol, yn enwedig y Lleng Brydeinig Frenhinol, i sicrhau bod y rhai sydd wedi dioddef wrth wasanaethu yn cael gofal yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Rydym yn cydnabod ac yn croesawu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei chefnogaeth i'r grŵp arbenigol ar anghenion cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru a'u dull o sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal, a hefyd y nifer o ymyriadau y maent wedi'u cychwyn er mwyn cefnogi'r nod hwn. Fodd bynnag, efallai y caf leisio un nodyn o anghytgord drwy ddweud fy mod yn deall mai'r tro diwethaf i'r grŵp arbenigol gyfarfod oedd ar 7 Chwefror 2018, a chyn hynny ar 5 Gorffennaf 2017, saith mis cyfan rhwng cyfarfodydd. Os yw hyn yn wir, nid yw'n fwlch derbyniol o amser i offeryn mor bwysig ar gyfer darparu'r ymyriadau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn cefnogi'r alwad am gomisiynydd y lluoedd arfog. Gwelwn ef fel rhywun a fyddai â rôl yn cydlynu a dod â holl rannau gwahanol y systemau cymorth sydd ar gael at ei gilydd er mwyn ein cyn-filwyr, a rhywun a fyddai'n gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Os oes gennym gomisiynydd plant, comisiynydd pobl hŷn a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, pam na chawn ni un ar gyfer y lluoedd arfog? Rydym hefyd yn cefnogi galwad Neil McEvoy am Ddeddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl. Gadewch i ni roi rhwymedigaeth gyfreithiol i ddyletswydd gofal y Llywodraeth i bersonél ein lluoedd arfog.

Mae ein lluoedd arfog yn enwog am fod y gorau yn y byd, ac felly mae'n hanfodol fod gennym rywun ar y brig i sicrhau bod y gorau'n cael y gorau o ran y gofal a'r driniaeth a gânt pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog, ac yn wir, tra'u bod yn gwasanaethu yn unrhyw un o'r lluoedd arfog.

Gadewch inni fod yn falch o'r ffaith mai 5 y cant yn unig o boblogaeth y DU sy'n byw yng Nghymru ond mae'n darparu 8 y cant o luoedd arfog Ei Mawrhydi. Felly mae'n briodol fod Cymru ar y blaen yn sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael eu trin â'r parch a'r anrhydedd y maent yn eu haeddu. Nid cysgu ar ein strydoedd neu broblemau meddyliol yn gysylltiedig â'u hamser yn ymladd na roddwyd diagnosis na thriniaeth ar eu cyfer yw'r hyn y dylent ei ddisgwyl. Rhaid inni wneud popeth a allwn i gefnogi dioddefwyr o'r fath a diddymu'r sefyllfaoedd enbyd sy'n eu gorfodi i fyw ar ein strydoedd.

18:05

Mae'n galonogol iawn, mewn gwirionedd, i fod yn Aelod Cynulliad ac i sefyll yma heno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ochr yn ochr ag Aelodau ar draws yr holl raniadau gwleidyddol yma yn y Siambr, wrth i bawb ohonom dalu teyrnged anrhydeddus i'r rhai sydd wedi mynd o'n blaenau a'r rhai sy'n parhau i weithio ar ein rhan ni a'n gwlad, er mwyn sicrhau bod gennym y rhyddid sydd gennym.

Ac wrth inni gofio canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad, i mi, roeddwn yn falch dros ben—ac roedd hi'n gymaint o fraint ac anrhydedd—o gael fy ngwahodd, fel yr Aelod Cynulliad dros Aberconwy, i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno, gyda fy nghyd-Aelod Darren Millar AC. A chredaf y byddai Darren yn cytuno ei fod yn ddigwyddiad anhygoel gyda thros 1,000 o bersonél sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr yn cymryd rhan. Roedd yn ddiwrnod o ddathlu'r gwaith gwych a wneir gan ein lluoedd arfog ledled y DU, a'n Lleng Brydeinig Frenhinol, a thramor. Ac roedd yn anrhydedd cael cyfarfod â chymaint o bobl ysbrydoledig sydd wedi rhoi eu bywydau i wasanaethu ac i amddiffyn eu gwlad heb ofn o gwbl. Ac rydym yn cofio'r rheini sydd wedi talu pris eithaf i ddiogelu'r rhyddid a'r gwerthoedd a goleddwn i'r fath raddau ac sy'n caniatáu i mi, yma heddiw, gael rhyddid i lefaru.

Er hynny, ni ddylem byth anghofio'r digwyddiadau ofnadwy 100 mlynedd yn ôl ac mewn rhyfeloedd niferus wedyn. Felly, rwy'n ymuno â chyd-Aelodau i groesawu ymgyrch #ThankYou100 y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae ein lluoedd arfog, yn y gorffennol a'r presennol, wedi cyfrannu cymaint at ein gwlad ac maent yn haeddu ein diolch mwyaf.

Mae'n galonogol felly fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau yn 2017 ar sut y gall awdurdodau lleol gynnal cyfamod y lluoedd arfog. Mae'r cyfamod yn ffordd bwysig iawn o gydnabod yr aberth a wnaed gan ein lluoedd arfog a'u teuluoedd, ac yn ceisio eu helpu, gobeithio, i ymgyfarwyddo â bywyd sifil wedyn. Rhwymedigaeth sylfaenol yn hyn yw sicrhau bod y gwasanaethau iechyd yn deall ac yn ymateb i ystyriaethau iechyd penodol cyn-filwyr, y rhai sy'n cael eu hanafu mewn rhyfel, a'r rhai sydd bellach angen triniaeth fawr ei hangen. Maent angen y llwybrau triniaeth penodol ac mae'n ofynnol, yn dechnegol, i glinigwyr eu dilyn. Ac eto, gall y gefnogaeth a'r driniaeth a gaiff yr unigolion hyn fod yn llai na chyson ledled Cymru. Mewn cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cynnwys fy etholaeth fy hun, ei fod yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd yn 2008 gan Lywodraeth Cymru ac nid canllawiau cyfredol 2017. Felly, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yma'n bresennol, hoffwn ofyn iddo edrych ar hynny. Gwaethygir y mater wrth glywed nad yw bwrdd Betsi Cadwaladr wedi darparu unrhyw hyfforddiant ffurfiol i staff ynglŷn â'i rwymedigaethau ei hun, ac nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i gyn-filwyr ddweud mai dyna ydynt pan fyddant yn derbyn triniaeth. Mor wych fyddai hi pe bai rhyw gyfeiriad teithio lle gallent barhau i dderbyn cymorth. A gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei ben. Rhag eich cywilydd.

Mae cyn-filwyr yn cael cam oherwydd diffyg cydnabyddiaeth ehangach i'r egwyddorion hyn. Mae'n fwyfwy anodd mesur sut y caiff cyfamod y lluoedd arfog ei gyflawni gan nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu digon o ddata i allu craffu'n briodol ar hyn.

Mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad o greu comisiynydd y lluoedd arfog ar gyfer Cymru yn gynharach eleni ar sail y gost. A chredaf mai dyma'r seithfed tro i mi siarad ers cael fy ethol yn AC, a gwn fod Darren Millar a'r Ceidwadwyr Cymreig cyn i mi ddod yma wedi bod eisiau comisiynydd. Ni allaf weld pam ei fod yn cael ei wrthod ar sail y gost. Beth yw cost un bywyd? Yn sicr dylai lles personél ein lluoedd arfog ddod o flaen ystyriaethau ariannol. Mae'r gwasanaeth y maent wedi ei roi, ac yn parhau i'w roi, i'w gwlad yn haeddu cydnabyddiaeth. Byddai sefydlu comisiynydd yn helpu i sicrhau bod egwyddorion y cyfamod yn cael eu sefydlu'n gadarn yng Nghymru, gan ganolbwyntio ymdrechion ar ddarparu cymorth i bersonél a chyn-filwyr. Byddai'n helpu'n arbennig i lunio cynllun cenedlaethol mwy cydlynol ar gyfer darparu mwy o fynediad at wasanaethau iechyd wedi'u teilwra sy'n diwallu anghenion yr unigolion hyn. Mae angen inni wneud iawn am yr anfanteision a wynebir gan ein personél milwrol sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr; maent yn haeddu gwell. Rwy'n annog pob Aelod o'r Siambr hon i gefnogi'r cynnig hwn ac i sicrhau bod ein lluoedd arfog yn cael y cymorth gorau posibl. Mae angen ein cymorth arnynt, mae angen ein help arnynt, a'n dyletswydd yw darparu hynny.

18:10

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwyf am ddechrau gydag ychydig o eiriau byr yn egluro sut y bydd grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio yn y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, nid oherwydd ein bod yn credu bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud, gwnaeth Mark Isherwood achos effeithiol iawn a ddangosai nad dyna fel y mae, ond nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd mai comisiynydd yw'r ateb, er y byddem yn agored i gael ein hargyhoeddi yn y dyfodol.

Yn yr un modd, gyda gwelliant 2, byddwn yn ymatal ar yr achlysur hwn, er ein bod yn sylweddoli cymaint o deimlad sydd y tu ôl iddo. Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig eto mai deddfwriaeth yw'r ffordd ymlaen, ond mae'n bosibl y daw'n angenrheidiol, ac yn bersonol, buasai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio sut y gallai deddfwriaeth o'r fath weithio a sut y gellid gwneud iddi sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gyflawni'n effeithiol ac y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cosbi os ydynt yn methu gwneud hynny.

Ddirprwy Lywydd, nid yw bob amser yn iawn defnyddio profiad personol pan fyddwn yn siarad yn y Siambr hon, ond teimlaf yr hoffwn wneud hynny heddiw. Hoffwn dalu teyrnged i fy nhad, John Mervyn Jones, a aned yn 1910 yng Nghwm Aman, Aberdâr. Ymunodd â'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn yn 1938, nid oherwydd ei fod yn ifanc ac yn ddiniwed, roedd yn athro 28 mlwydd oed, nid oherwydd ei fod yn chwilio am antur neu'n awchu i ymladd, ef oedd un o'r dynion mwyaf addfwyn rwyf wedi'u hadnabod erioed ac roedd wedi gweld ei ewythr yn dod yn ôl wedi torri o'r rhyfel byd cyntaf; nid ymladd fyddai fy nhad wedi bod eisiau ei wneud. Ni wnaeth ymuno oherwydd gwladgarwch hyd yn oed, ond roedd wedi gweld twf ffasgiaeth yn Ewrop, ac roedd yn argyhoeddedig mai'r unig ffordd o drechu ffasgiaeth oedd drwy ymladd.

Gwasanaethodd drwy gydol y rhyfel ac fel llawer, ni siaradai lawer iawn am ei brofiadau. Fel plant, byddem yn clywed y straeon doniol. Fy ffefryn personol oedd fy nhad yn disgrifio cael pasta am y tro cyntaf yn yr Eidal ac yntau heb unrhyw syniad o gwbl beth ydoedd na beth ddylai ei wneud ag ef. Yn anffodus, yn enwedig i fy mam druan, gwnaeth iddo ymwrthod ag unrhyw beth yr ystyriai ei fod yn fwyd tramor ar hyd ei oes—cig yno, llysiau yno, ac na foed i'r ddau byth ddod at ei gilydd.

Lawer yn ddiweddarach, siaradai â mi yn arbennig, ac yn enwedig pan allai ddisgrifio'r profiadau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, am y profiadau tywyllach a wynebodd yn y rhyfel. Ond aeth ymlaen i gael teulu a gyrfa lwyddiannus, ac roedd yn ffodus ac yn ystyried ei hun yn lwcus. Yn fwy ffodus, wrth gwrs, na llawer o gyn-filwyr heddiw y gofynnir iddynt beryglu eu bywydau a cholli eu hiechyd mewn rhyfeloedd y mae llawer o bobl gartref yn eu gwrthwynebu.

Ar ddiwedd ei oes, arswydai fy nhad wrth dystio i'r aberth roedd gofyn i'n lluoedd arfog eu gwneud yn yr hyn a oedd yn ei farn ef yn rhyfel anghyfiawn ac anghyfreithlon yn Irac. Ar ôl ymladd ei hun, gwyddai beth oedd gofyn iddynt ei wneud. Byddai wedi ffieiddio, fel llawer o gyn-filwyr y lluoedd arfog rwy'n tybio, wrth weld bod disgwyl i bersonél eithriadol ein lluoedd arfog yma yng Nghymru heddiw hyfforddi peilotiaid Saudi i fomio sifiliaid diniwed yn Yemen. Nid dros hynny y brwydrodd.

Roedd yn gas ganddo ryfel, ond roedd bob amser yn credu iddo wneud y peth iawn a'r unig beth, a daeth adref i wlad ddiolchgar. Credai ei fod wedi amddiffyn democratiaeth, roedd yn falch o fod wedi gwneud hynny, ac roedd y genedl yn falch ohono. Mae'n llawer anos yn emosiynol i lawer o gyn-filwyr heddiw, gofynnwyd iddynt wasanaethu mewn rhyfeloedd dadleuol mewn amgylchiadau anodd iawn a chyda chanlyniadau aneglur. Eto i gyd, maent yn gwneud hynny.

Wrth i ni gofio'r rhai a wasanaethodd yn y gorffennol, rwy'n credu'n angerddol fod rhaid inni sicrhau ein bod yn cefnogi cyn-filwyr heddiw, yn enwedig y rhai sy'n dioddef trawma a phroblemau iechyd meddwl, ar ôl yr hyn y mae Llywodraethau olynol y DU wedi eu hanfon i'w wneud. Rhaid inni anrhydeddu'r cyfamod. Beth bynnag yw ein barn am y rhyfeloedd y gofynnwyd i'r dynion a'r menywod hynny wasanaethu ynddynt, fe wnaethant wasanaethu, a dylem roi ein diolch iddynt, a'u parchu a'u cefnogi.

18:15

Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n bleser gennyf fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a hoffwn ddiolch i Darren Millar am yr ymrwymiad y mae'n ei ddangos wrth ei arwain. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Carl Sargeant, a weithiodd yn ddiflino yn y maes hwn a chyflawni llawer.

Ddydd Sul, byddwn yn ymgasglu wrth gofebion rhyfel ledled y wlad i nodi Diwrnod y Cadoediad, y diwrnod y tawelodd y gynnau yn ystod y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Gan mlynedd yn ôl ar yr unfed awr ar ddeg o unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg, daeth yr arllwys gwaed i ben, pum mlynedd o ryfel a welodd filiynau o fywydau'n cael eu colli yn y 'rhyfel mawr' fel y'i gelwir. Ond yn anffodus, nid hwn oedd y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel ac yn y 100 mlynedd wedyn, mae'r byd wedi gweld rhyfeloedd dirifedi heb ddiwedd ar yr arllwys gwaed. Mae'n ffaith drist fod rhyfel yn anochel weithiau. Rhaid inni wneud safiad yn erbyn cyfundrefnau ac unbeniaid gormesol sy'n benderfynol o ladd eu pobl eu hunain hyd yn oed.

Ar hyn o bryd mae 60 gwrthdaro arfog yn mynd rhagddynt ledled y byd ac oherwydd hyn, rydym yn gweld Rwsia fwyfwy eofn yn benderfynol o adfer ei ffiniau i'r hyn roeddent yn y cyfnod Sofietaidd. Oherwydd hyn, mae angen ein lluoedd arfog arnom yn fwy nag erioed. Mae arnom angen ein dynion a'n menywod ifanc mewn iwnifform sy'n barod i wneud yr aberth eithaf, i roi eu bywydau er mwyn amddiffyn ein rhyddid. Er mwyn anrhydeddu'r rhai a wnaeth yr aberth hwnnw ac i ddiolch i'r rhai sydd, ac a oedd yn barod i wneud yr aberth hwnnw, byddwn yn dod at ein gilydd ar yr unfed awr ar ddeg o unfed dydd ar ddeg yr unfed mis ar ddeg a byddwn yn eu cofio.

Ond fel Aelodau etholedig, mae gennym ddyletswydd i wneud cymaint yn fwy nag anrhydeddu ein harwyr marw. Rhaid inni sicrhau bod ein harwyr byw yn cael gofal da. Mae gormod o lawer o gyn-filwyr yn cael cam gan y wladwriaeth, mae llawer gormod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma, a gormod o lawer yn y carchar am na chawsant eu helpu i ymaddasu i fywyd sifil, a gormod o lawer yn cysgu ar y stryd am nad oes ganddynt do addas dros eu pennau. Dynion a menywod sydd wedi brwydro drosom, sy'n barod i farw drosom, wedi'u hanghofio.

Mae cyfamod y lluoedd arfog i fod i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog ledled Cymru. Fel y Ceidwadwyr, rwyf am sicrhau bod y cyfamod yn cael ei gynnal, ond nid wyf yn gwybod ai comisiynydd y lluoedd arfog yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Credaf hefyd nad yw'r cyfamod yn mynd yn ddigon pell a byddaf yn cefnogi gwelliant Neil McEvoy yn galw am Ddeddf i warantu tai a gofal iechyd o ansawdd ar gyfer cyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol. Sut y gallwn ganiatáu i rywun a beryglodd eu bywyd drosom wrth amddiffyn ein gwlad a'n rhyddid gysgu mewn bin sbwriel y tu ôl i siopau neu i ail-fyw erchyllterau a thrawma'r rheng flaen drachefn a thrachefn? Dylid rhoi'r driniaeth orau sydd ar gael a chartref iddynt fel mesur bach iawn o ad-daliad am y ddyled enfawr sydd arnom iddynt.

Roedd hi'n anrhydedd ychydig wythnosau yn ôl ym Mhort Talbot: roedd ein maer lleol yn anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog, ac roedd hi'n wych cael sefyll ochr yn ochr â Blesma, yr elusen ar gyfer cyn-filwyr rhyfel sydd wedi colli breichiau neu goesau, a chasglu a gweld haelioni pobl Port Talbot wrth i'r bwced fynd yn drymach ac yn drymach. Pa ffordd well o nodi Sul y Cofio, a chanmlwyddiant diwedd y rhyfel mawr nag ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i wella bywydau ein cyn-filwyr? Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a'r ddau welliant. Diolch.

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies?

Member
Alun Davies 18:19:24
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill yn y ddadl hon, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy roi teyrnged i waith fy ffrind a fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i lawer ohonom, ac mae ein meddyliau gyda Bernie, Jack a Lucy a'r teulu. Ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn meddwl am y gwaith a wnaeth Carl a gobeithio hefyd y bydd pawb ohonom yn gallu uno gyda'n gilydd a chofio rhywun a oedd yn ffrind ac yn was da i bobl y wlad hon.

Ddoe, ceisiais amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Hoffwn groesawu'n gynnes iawn y sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl y prynhawn yma. Roeddwn yn teimlo iddo wneud rhai sylwadau rhagorol, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad meddylgar a gwerthfawr i'r ddadl hon. Byddaf yn ceisio ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed yn y ddadl yn ystod yr ateb hwn, ond rwy'n cydnabod na fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau a wnaed. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddweud y byddaf yn ysgrifennu at Mark gyda chopi i'r holl Aelodau yn ymateb yn llawnach i'r pwyntiau a godwyd yn y cyfraniad agoriadol, oherwydd rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni ymateb yn llawn i'r pwyntiau a wnaed ganddo.

O ran ein hymagwedd at hyn, a gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau gwrando ar yr areithiau yn y ddadl a gawsom y prynhawn yma? Roedd hi'n dda clywed geiriau Hedd Wyn yn cael eu llefaru y prynhawn yma, ac roeddwn yn credu bod Dai Lloyd a Helen Mary Jones wedi gallu gweu straeon teuluol pawb ohonom, ein straeon personol, i mewn i'n stori genedlaethol. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod wrth inni sôn am y colledion y mae'r wlad hon wedi'u dioddef yn gwarchod ein rhyddid, ein cymdeithas, ein cymunedau a'n democratiaeth, mai dyma'r bobl—maent yn dadau a mamau, yn wragedd a gwŷr, yn frodyr, chwiorydd, meibion a merched—ac mae pawb ohonom yn adnabod pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrthdaro.

Mae'n sobreiddiol iawn meddwl, pan fo Caroline Jones yn siarad am y gynnau'n tawelu ar yr unfed awr ar ddeg o'r unfed dydd ar ddeg, fod dros 800 o filwyr o Brydain a'r Gymanwlad wedi cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw. Byddai meddwl am y fath laddfa ar unrhyw ddiwrnod heddiw yn golled na ellid ei dychmygu, ond mae meddwl amdano'n digwydd ar y diwrnod pan wnaethom groesawu diwedd y rhyfel a dyfodiad heddwch yn dangos effaith wirioneddol y rhyfel ar gymunedau ar hyd a lled y wlad.

Mae'n bwysig cydnabod y pwyntiau a wnaeth Mohammad Asghar yn ei gyfraniad hefyd, pan siaradodd am y milwyr a ymladdodd yn y rhyfel hwnnw, a'r ffaith y byddai'r ffiwsilwyr, y byddai taid Dai Lloyd wedi ymladd ochr yn ochr â hwy mae'n debyg, wedi ymladd gyda, ac ochr yn ochr â milwyr o India, a byddent wedi ymladd ochr yn ochr â rhai a oedd yn addoli duwiau gwahanol—byddent wedi ymladd ochr yn ochr â milwyr Mwslimaidd a Hindŵaidd hefyd, milwyr rydym yn eu hadnabod yn ein hanes ein hunain. Mae'n bwysig ein bod, bob un ohonom, a rhai ohonom yn y Siambr hon, yn y dadleuon a gawn heddiw, a'r dadleuon gwleidyddol a gawn, yn cydnabod bod yr aberth a welwyd yn y rhyfel byd cyntaf yn aberth a wnaed gan bobl o bob gwlad, gan bobl o gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol gwahanol iawn. Pan ddefnyddiwn iaith lac heddiw, dylem bob amser gydnabod bod canlyniad rhagfarn, canlyniad gwahaniaethu, yn rhy aml i'w weld ar faes y gad. Ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn myfyrio ynglŷn â'r iaith a ddefnyddiant mewn gwleidyddiaeth heddiw wrth gofio aberth pobl eraill dros y blynyddoedd.

Rydym wedi treulio pedair blynedd yn edrych yn ôl dros y rhyfel byd cyntaf, a bydd canmlwyddiant y cadoediad ddydd Sul yn gyfle i ni, nid yn unig fel Llywodraeth, ond fel Cynulliad Cenedlaethol, fel Senedd genedlaethol y wlad hon, i ymuno â gwledydd eraill, nid yn unig yn y DU ond mewn mannau eraill, i nodi'r canmlwyddiant. Byddwn yn cael gwasanaeth cenedlaethol o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i allu coffáu'r holl rai a gollwyd, a anafwyd ac yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel hwnnw. Ond rwy'n gobeithio y byddwn oll yn ymuno â'r holl wledydd a gymerodd ran yn y gwrthdaro i gofio aberth pob gwlad, a'r holl bobl a gollwyd yn y rhyfel hwnnw. Gwn y bydd yr Aelodau hefyd yn manteisio ar y cyfle i fynychu digwyddiadau a gynhelir yn eu hetholaethau eu hunain, ar draws y wlad, i nodi'r adeg bwysig hon mewn hanes. Mae'n iawn ac yn briodol i bob un ohonom ymuno gyda'n gilydd i gofio aberth y lluoedd arfog o bob un o'n cymunedau yn y ffordd hon.

Credaf ei bod hi'n iawn ac yn briodol hefyd i ni ganmol gwaith Cymru'n Cofio a ddarparodd raglen gynhwysfawr i goffáu canmlwyddiant y rhyfel hwnnw, y rhyfel byd cyntaf. Bydd y cyllid yn parhau tan 2020 gan ganiatáu inni sicrhau hefyd ein bod yn gallu dysgu gwersi o'r rhyfel hwnnw. Rydym yn cofio mai cadoediad a gafwyd ym mis Tachwedd 1918, nid heddwch. Ac fe ddaeth heddwch, a chafodd yr heddwch ei greu gan arweinwyr gwledydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ein David Lloyd George ein hunain lawer yn ddiweddarach, ac mae'n iawn ac yn briodol inni fyfyrio ar ganlyniadau rhyfel a chanlyniadau heddwch. Rwy'n gobeithio mai gwaddol barhaus Cymru'n Cofio fydd i bobl ar hyd a lled y wlad hon gofio nid yn unig digwyddiadau'r rhyfel byd cyntaf, ond canlyniadau'r digwyddiadau i'n gwlad a'r canlyniadau i gymunedau a theuluoedd.

Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth yn cytuno ag ail bwynt y cynnig, a byddwn yn cefnogi llawer o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl ac yn y cynnig heddiw. Fel llawer o rai eraill, rwyf wedi gweld y silwetau tawel yn ymgyrch y Lleng Brydeinig Frenhinol #ThankYou100. Maent wedu'u lleoli ledled ein cymunedau, ac mae'r ffigurau hyn yn rhoi cyfle i ni fel gwlad ddweud 'diolch' wrth bawb sydd wedi gwasanaethu, aberthu a newid ein byd. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch bwysig hon, ac mae'n ein hatgoffa, rwy'n credu, nad enwau ar gofebau'n unig yw'r rhain, fod y rhain yn bobl, ac roedd y rhain yn bobl a safodd ac a fu'n byw ac a fu farw, a fu'n gweithio ac yn caru yn ein cymunedau, ac maent yn bobl a fu farw'n amddiffyn ein cymunedau. Dyma bobl y gall pawb ohonom eu hadnabod yn ein cof, ond weithiau rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod eu lle yn ein trefi a'n pentrefi ar draws Cymru.

Byddwn yn parhau â'n pecyn cymorth i anrhydeddu cyfraniad yr holl rai a fu'n gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog, a byddwn yn ceisio parhau i sicrhau na fydd unrhyw aelodau dan anfantais o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i'w gwasanaeth yn y lluoedd arfog. Yr wythnos hon rwyf eisoes wedi trafod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu fel rhan o'n gwaith ar gyflawni'r cyfamod. Nid wyf yn dymuno ailadrodd y pwyntiau hynny heddiw, ond rwyf am ddweud gair am y grŵp arbenigol. Roedd Mark Isherwood yn llygad ei le pan ddywedodd fod yn rhaid cael atebolrwydd cyhoeddus am y gweithredoedd y mae'r Llywodraeth hon yn eu cyflawni ar y cyfamod. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Rwy'n gobeithio bod y grŵp arbenigol yn ein galluogi i wneud hynny, i ddeall sut y byddwn yn cyflawni'r cyfamod, ac i ddeall lle nad ydym yn gwneud hynny, ac i ddeall sut y mae'n rhaid inni ddarparu mewn ffordd wahanol neu ffordd well mewn rhai mannau, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a fydd yn galluogi'r lle hwn i'n dwyn i gyfrif am yr hyn a wnawn a'r addewidion a wnawn. Gobeithiaf y bydd modd inni ystyried hefyd sut y gall ein democratiaeth yma yng Nghymru ein helpu i fy nwyn i ac eraill i gyfrif am yr hyn a ddywedwn, am yr ymrwymiadau a wnawn. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny gyda'r grŵp arbenigol a hefyd gyda'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog.

Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben heddiw, gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu a phawb sy'n parhau i wasanaethu, a byddwn yn ymuno gyda'n gilydd fel gwlad y penwythnos hwn i gydnabod aberth enfawr y rhai na chafodd gyfle i ddod adref.

18:25

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol i'r ddadl y prynhawn yma ac yn wir, i'r holl siaradwyr am eu cyfraniadau teimladwy iawn? Hoffwn dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet am y gwaith y mae wedi'i wneud yn parhau gwaith llawer o'i ragflaenwyr, wrth gwrs, gan gynnwys Carl Sargeant, y nodwn flwyddyn ers ei farwolaeth heddiw. Yn wir roedd Carl yn ffrind mawr. Roedd yn ffrind i ni, ac wrth gwrs, roedd yn ffrind i'r lluoedd arfog ac i gymuned y cyn-filwyr yma yng Nghymru ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth yn ystod ei gyfnod fel y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y lluoedd arfog a'r ffordd y byddai'n ymwneud â gwaith y grŵp trawsbleidiol y mae'n bleser gennyf allu ei rannu.

I gyffwrdd ar rai o'r straeon personol—mae gennyf fy stori bersonol fy hun hefyd, wrth gwrs, heddiw, ar y diwrnod teimladwy hwn. Ymladdodd fy hen daid yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd yn Wyddel, o Ddulyn. Cofrestrodd pan oedd yn 14 oed—dywedodd gelwydd am ei oed. Mae gennyf gopi o docyn cofrestru y Preifat ifanc, John Collins. Aeth i ymladd ar ffrynt y gorllewin, a diolch i Dduw, fe ddychwelodd.

Ymladdodd 200,000 o Wyddelod ym mrwydrau'r rhyfel byd cyntaf, a bu farw 35,000 ohonynt, a dyna pam rwy'n gwisgo pabi meillionen heddiw, er mwyn nodi eu cyfraniad hwy i'r rhyfel. Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet a Mohammad Asghar yn hollol iawn: ymladdodd y Gymanwlad gyfan yn y brwydrau hyn. Roedd dynion Prydeinig ac aelodau o'r lluoedd arfog o bob cwr o'r Gymanwlad yn ymladd ochr yn ochr yn erbyn yr hyn a welent fel drygioni mawr eu dydd, a gwnaeth llawer yr aberth eithaf. Mae'n hollol iawn inni eu cofio y penwythnos hwn, a byddwn yn sicrhau na chaiff y cof amdanynt ei ddiffodd yn y ffordd y caiff ei ddiffodd ynglŷn â chymaint o bethau eraill yn y byd hwn.

Rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn rhaglen goffa wych dros y pedair blynedd ddiwethaf, a hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am y ffordd y cychwynnodd raglen Cymru'n Cofio yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Rwy'n falch o weld bod y rhaglen waith yn mynd i gael ei hymestyn. Mae rhai dyddiadau pwysig iawn i'w nodi dros y 12 mis nesaf wrth gwrs, gan gynnwys 75 mlynedd ers D-day a rhyddhau 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd gan Adran 53 y Milwyr Traed (Cymreig), a ddigwyddodd 75 mlynedd yn ôl i fis Hydref y flwyddyn nesaf. Credaf y byddai'n dda pe gallai gwaith Cymru'n Cofio barhau y tu hwnt i'r amserlen y cafodd ei hymestyn eisoes hyd yn oed, oherwydd bydd dyddiadau milwrol i'w coffáu ar sail barhaus wrth gwrs. Nid oes cymaint â hynny o amser hyd nes y byddwn yn nodi 75 mlynedd ers digwyddiadau eraill yn ystod yr ail ryfel byd, ac 80 a 90 mlynedd yn wir. Felly, credaf fod angen i'r rhaglen goffáu milwrol hon barhau.

Agorodd Mark Isherwood y ddadl hon, wrth gwrs, drwy dynnu sylw at y ffaith nid yn unig fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond bod gennym gryn ffordd i fynd i sicrhau bod cefnogaeth gyson ar gael i'n cymuned o gyn-filwyr, yn sicr o ran y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae gennym stori wych i'w hadrodd gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr, ond mae amseroedd aros yn rhy hir yn y gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd, a hynny er gwaethaf y gwaith da y mae Help for Heroes wedi'i wneud yn darparu buddsoddiad er mwyn ceisio helpu i lenwi'r bylchau hynny.

Mae'r trydydd sector, wrth gwrs, yn gwneud gwaith aruthrol yn cefnogi ein teuluoedd lluoedd arfog. Soniwyd am y Lleng Brydeinig Frenhinol sawl gwaith heddiw yn barod, yn ogystal â Newid Cam, ond hefyd mae Combat Stress, SSAFA, Alabaré, Woody's Lodge—llu o sefydliadau sy'n cynnig cymorth, a chredaf fod Llywodraeth Cymru i'w chanmol am weithio gyda hwy'n dda iawn i ymestyn y gefnogaeth honno i gymuned y cyn-filwyr. Ond fel y dywedaf, mae llawer mwy o waith i'w wneud, a chredaf fod angen i bawb ohonom bwyso i wneud yn siŵr fod y bylchau sy'n weddill yn y gwasanaethau yn cael eu nodi a'u llenwi.

Hoffwn droi'n fyr iawn, cyn i mi orffen, at fater comisiynydd, a'r angen am gomisiynydd y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Wrth gwrs roedd fy mhlaid yn croesawu'r cymorth ychwanegol i swyddogion cyswllt y lluoedd arfog sy'n gweithio ac yn ennill eu plwyf mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, a chredaf fod angen inni dalu teyrnged iddynt am eu gwaith. Ond y realiti yw bod y swyddi hynny'n swyddi llai dylanwadol mewn sefydliadau sector cyhoeddus mawr. Ni fydd gan yr unigolion hynny y math o ddylanwad a allai fod gan gomisiynydd y lluoedd arfog i gefnogi personél y lluoedd arfog ledled Cymru sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd, ac i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydym wedi gweld effaith, effaith gadarnhaol, comisiynwyr plant a phobl ifanc, pobl hŷn, ac yn wir y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth iddi ymgymryd â'i gwaith yn awr, a'r ffordd y gallant symud agenda yn ei blaen mewn ffordd nad yw eraill yn gallu ei wneud. Felly, buaswn yn annog pob Aelod yn y Siambr, gan gynnwys y rhai sy'n dal heb ffurfio barn ar y mater, i gefnogi'r egwyddor o gomisiynydd y lluoedd arfog i Gymru. Oherwydd rwy'n meddwl o ddifrif y byddai'n gwneud gwahaniaeth aruthrol i deuluoedd y lluoedd arfog a chymuned y lluoedd arfog ar draws y wlad. [Torri ar draws.] Ie, iawn.

Hoffwn gyffwrdd ar y gwelliant y mae Neil McEvoy wedi'i gyflwyno hefyd, yn fyr iawn. Ni fyddaf yn gallu cefnogi'r gwelliant hwnnw heddiw, yn syml am eich bod yn cyfeirio at filwyr yn unig. Wrth gwrs, fe wyddom nad milwyr yn unig sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae gennych awyrenwyr, mae gennych forwyr, a llu o bobl eraill sy'n cyfrannu at ein lluoedd arfog. Felly, mae'n ddrwg gennyf ond ni fyddaf yn gallu cefnogi eich gwelliant heddiw yn syml oherwydd y cyfyngiadau o ran y ffordd y mae wedi'i eirio. Ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ailystyried y gefnogaeth i gomisiynydd y lluoedd arfog wrth feddwl sut y maent yn mynd i bleidleisio. Diolch.

18:35

Diolch. Rhoddir 15 munud i agor a chau dadl ac os ydych yn cael dau Aelod o'ch plaid, eich lle chi yw trefnu eich amseru.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, fe symudwn at y cyfnod pleidleisio, felly. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Iawn, rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly. Yr unig ddadl i bleidleisio arni yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y lluoedd arfog a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, felly gwrthodwyd y cynnig.

NDM6854 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 1, felly galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 35, roedd tri yn ymatal, 13 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 1.

NDM6854 - Gwelliant 1: O blaid: 35, Yn erbyn: 13, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant chwech, roedd 18 yn ymatal, a 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NDM6854 - Gwelliant 2: O blaid: 6, Yn erbyn: 27, Ymatal: 18

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM6854 fel y'i diwygiwyd:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.

2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.

3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.

4. Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 47, roedd tri yn ymatal, ac un yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6854 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Cymru Wledig—Economi i'w hyrwyddo

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel? Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Angela Burns i siarad ar y pwnc a ddewisodd—Angela.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o  fy amser i Mohammad Asghar, Janet Finch-Saunders a Russell George.

Mae cefn gwlad Cymru nid yn unig yn gynfas ysgubol sy'n sail i'n cenedl ac yn diffinio ein ffiniau a'n hunaniaeth, mae hefyd yn gefndir i ffordd o fyw nad yw bob amser yn cael ei deall neu ei gwerthfawrogi fel y dylai. Eto mae'r Gymru wledig yn gartref i oddeutu 33 y cant o boblogaeth Cymru. Mae traean ohonom yn byw mewn trefi, pentrefi a chymunedau lle mae ein tirwedd yn bur wahanol i weddill Cymru, a lle rydym yn aml yn teimlo na roddir pwyslais haeddiannol ar ein cyfraniad gwerthfawr i gefnogi economi Cymru a'i threftadaeth ddiwylliannol a chymdeithasol gyfoethog.

Fel llawer o wledydd, mae Cymru'n gweld rhaniad rhwng ei chanolfannau trefol a'u cefnwledydd gwledig. Yn rhy aml, mae polisi Llywodraeth yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr y darperir ar gyfer y canolfannau trefol mawr ar draul siroedd gwledig mwy anghysbell a llai poblog Cymru. Ni ellir gweithredu polisïau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, addysg a thwf economaidd drwy ddull unffurf o weithredu, ac mae angen i'r Llywodraeth gofio bod y ffordd wledig o fyw, i lawer o bobl, yn golygu ymdrech i oroesi a gwaith caled ac nid y darlun cerdyn post, bywyd da sentimental y mae llawer o bobl eraill yn ei feddwl.

Mae pob un ohonom yn pwyso a mesur llawer o ffactorau wrth benderfynu ble i fyw ac mae'r rheini sydd eisiau byw mewn ardaloedd gwledig yn aml yn barod i gyfaddawdu, i dderbyn y gallai swyddi fod yn anos eu cael, y gallai gwasanaethau fod ychydig ymhellach i ffwrdd, y gallai'r ysgolion fod yn llai o faint, na fyddwn yn ennill cymaint nac yn cael cymaint o gyfleoedd i wario'r hyn a enillwn yn wir a bod ein ffordd o fyw yn costio ychydig bach mwy. Ond bellach mae Llywodraeth Cymru yn gofyn inni gyfaddawdu gormod. Er enghraifft, addysg: mae mynediad at ysgol bentref leol a'r gymuned a ddaw gyda hi yn rheswm allweddol i lawer o bobl dros ddewis byw lle maent yn byw ond o dan Lafur Cymru, rydym wedi gweld ysgolion yn cau a chymunedau'n chwalu; mae pentrefi wedi colli eu canolbwynt. Cefnogwyd y camau hyn gan Lywodraeth Cymru, ac er fy mod yn falch o weld y cod trefniadaeth ysgolion yn cael ei ddiwygio, gan gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig o'r diwedd, mae'n rhy hwyr i ormod o athrawon, i ormod o ddisgyblion, a gormod o rieni. Wedi'r cyfan, caewyd tair o bob pump ysgol rhwng 2006 a 2016.

Cyfaddawd arall sy'n mynd yn rhy bell yw gofal iechyd. Nid cyd-ddigwyddiad yw bod y ddau fwrdd iechyd sy'n gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r Gymru wledig yn wynebu anawsterau mawr. Mae'r byrddau iechyd hyn wedi llywyddu dros brosesau ad-drefnu mawr dadleuol, sy'n anelu i ganoli gwasanaethau ac arbed arian. Fodd bynnag, yn aml anwybyddir barn y boblogaeth leol. Gallai fod yn fwy effeithlon yn economaidd i ganoli gwasanaethau mewn un neu ddau o ysbytai mawr, ond a yw'n sicrhau canlyniadau iechyd a lles i'r boblogaeth wledig? Yn bersonol, rwy'n rhyfeddu bob amser at y ffordd y mae gwledydd gwledig go iawn fel Awstralia yn gallu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i ddarparu gwasanaethau ar draws miloedd o filltiroedd sgwâr. Eto, er gwaethaf cyllideb o £9 biliwn, ni all Llywodraeth Cymru ei wneud. Nid y canlyniadau'n unig sy'n peri pryder imi, ond y gallu i ddenu'r gweithlu priodol i gefnogi'r systemau gofal hyn, sydd mor bwysig mewn cymunedau gwledig. Er mwyn i bobl ddewis gweithio ym maes gofal iechyd mewn cymunedau gwledig, maent eisiau ysgolion lleol da ar gyfer eu plant a swydd weddus i aelodau eraill eu teuluoedd.

Felly, er bod addysg ac iechyd yn edafedd cwbl hanfodol ar gynfas bywyd cefn gwlad, economi cefn gwlad Cymru yw'r edefyn aur. Rhaid inni greu a chadw economi wledig ffyniannus a all gefnogi ein cymunedau. Daw'r ffyniant rydym yn ei geisio o amaethyddiaeth, twristiaeth, chwaraeon, y sector cyhoeddus ac amrywiaeth anhygoel o fusnesau mawr a bach. Boed yn siop bapur newydd leol yn Ninbych-y-pysgod, y cyflenwr matiau amaethyddol byd-eang yn Llanglydwen, y cwmni siocled sy'n tyfu'n gyflym yn Llanboidy, neu'r siop fwtîg arbenigol yn Arberth, maent hwy, a llawer o entrepreneuriaid eithriadol eraill ledled Cymru gyfan, yn cyfuno i greu cyfleoedd go iawn i economi wledig ffyniannus. A heb amheuaeth, yr ystof sy'n rhedeg drwy'r cyfan ar gynfas cefn gwlad yw ffermio. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn unedig yn ein dealltwriaeth o bwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi Cymru, ond nid wyf yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn deall hynny. Oherwydd, heb ffermio wrth galon yr economi wledig, byddwn yn colli nid yn unig ffermydd, nid yn unig y genhedlaeth nesaf, nid yn unig y busnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth, ond byddwn yn colli'r amgylchedd, cefn gwlad sy'n denu twristiaid, ac yn olaf, byddwn colli'r bobl.

Mae'n briodol fod ffermwyr yn poeni ynglŷn â pha gymorth fydd ar gael pan ddaw'r taliad sengl i ben ac yn bersonol rwy'n pryderu'n fawr am yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', gan fod yr ymgynghoriad hwn yn awgrymu y bydd ffermwyr yn dod yn ddim mwy na cheidwaid cefn gwlad, a chael eu gwobrwyo'n ariannol am fynd i'r afael â phroblemau megis ansawdd aer ac ansawdd dŵr gwael a'r risg o lifogydd, ond nid yw hyn yn cydnabod y rôl allweddol y maent eisoes yn ei chwarae, na'r modd ardderchog y maent yn gwarchod yr amgylchedd, neu'r ffaith mai ffocws craidd busnes ffermio yw cynhyrchu bwyd. Os nad ydym yn gweld gwerth ansawdd a llawnder ein hardaloedd gwledig ac yn mynd ati'n syml i wthio ffermwyr i ymgymryd â rôl rheoli tir, beth am yr holl fusnesau eraill sy'n dibynnu ar ffermwyr—y rhai sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid, yn trwsio peiriannau, yn gwerthu cyflenwadau, yn brocera'r cynnyrch? Felly, Weinidog, rwy'n annog y Llywodraeth i wrando ar y 12,000 o ymatebion i ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Gallem fod yn newid natur ffermio am byth, ac ochr yn ochr â hynny, yn newid cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhaid inni gofio effaith sector amaethyddol cryf ar ein heconomi wledig. Gwae i Lywodraeth Cymru anwybyddu'r ffaith bod amaethyddiaeth yn sail i ddiwydiant bwyd a diod sy'n werth biliynau lawer o bunnoedd ac sy'n cyflogi dros 222,000 o bobl, gan ei wneud yn gyflogwr mwyaf Cymru, sy'n werth dros £6.9 biliwn i'r economi. Felly, pam—drwy haerllugrwydd, esgeulustod, neu ddifaterwch—y mae'n ei ddinistrio? Ac os mai amaethyddiaeth yw'r ystof yn ein cynfas, busnesau yw'r gwald, ac mae busnesau gwledig yn ei chael hi'n anodd.

Yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, cefnogodd Llywodraeth San Steffan y stryd fawr drwy dorri traean oddi ar ardrethi busnes am ddwy flynedd, ond rydym eto i glywed a roddir ystyriaeth i gymorth ar gyfer strydoedd mawr yng Nghymru. Mewn cymunedau gwledig, mae nifer yr ymwelwyr yn aml yn dymhorol, mae cyfraddau siopau gwag yn uchel, ac mae digonedd o siopau elusennol, mae mwy a mwy o siopau cadwyn yn ymddangos ar gyrion trefi, a phan fydd stryd fawr yn dechrau marw, mae'n anodd iawn gwrthdroi'r broses. Bellach mae gan Gymru ardrethi busnes uwch nag unman arall yn y DU, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod hyn yn gosod baich annheg ac andwyol ar fusnesau ledled Cymru ac yn bygwth lles economaidd llawer iawn o fusnesau. A'r strydoedd mawr hyn sy'n ategu un o asedau mwyaf y Gymru wledig: ein cefn gwlad eithriadol. Mae twristiaeth cyrchfannau yn gysyniad y mae Llywodraeth Cymru yn sôn cryn dipyn amdano: cael pobl i ddod i weld ein parciau cenedlaethol gwych, mawredd y moroedd sy'n torri ar ein tir, harddwch tawel mynyddoedd, bryniau a chymoedd y gefnwlad, perswadio pobl i seiclo, rhedeg, cerdded, rhwyfo a chrwydro—pobl sengl, cyplau, teuluoedd—ac ar ôl blino'n lân, neu wedi iddi lawio ar eich pen, gallwch anelu am y cestyll a'r eglwysi, y siopau a'r atyniadau, yr amgueddfeydd a'r bwytai.

Diolch byth, ni ddaeth dim o'r dreth twristiaeth; cafodd ei diystyru gan Lafur Cymru wedi iddynt ddeall pa mor gryf oedd y teimladau yn ei herbyn o du'r cymunedau gwledig. Oherwydd mae gennym gyfleusterau llety gwych yn y Gymru wledig, o westai moethus yn edrych dros lynnoedd a mynyddoedd, i ddarpariaeth gwely a brecwast wrth ymyl llwybr yr arfordir, yr holl ffordd drwodd i barciau gwyliau a bythynnod fferm. Dyma'r rhesymau pam y bydd cymaint o bobl yn ymweld, a thros chwe mis cyntaf y flwyddyn hon gwnaed 430,000 o deithiau dydd i Gymru, gan gyfrannu dros £167 miliwn i economi Cymru.

Heb amheuaeth, Weinidog, edefyn arall yn ein cynfas gwledig, a rhan o DNA llawer iawn o bobl y wlad, yw hela, sy'n denu pobl i saethu, pysgota, heboga a ffureta o'r tu mewn a'r tu allan i Gymru. Credaf fod pob un ohonom yn cydnabod yr angen i ddatblygu diwydiant twristiaeth sy'n gweithredu trwy gydol y flwyddyn. Mae saethu, er enghraifft, yn cyfrannu'n sylweddol at dwristiaeth 365 diwrnod y flwyddyn trwy gynnal cyflogaeth mewn amgylcheddau a allai fod yn heriol fel arall, ac mae'n darparu incwm hanfodol i westai, llety gwely a brecwast a thafarnau yn ystod misoedd y gaeaf.

Weinidog, nid busnesau'n unig sy'n cael budd o'r diwydiant hela; mae'r amgylchedd yn elwa hefyd. Er bod ffermio wedi chwarae rhan enfawr yn llunio'r tirweddau hyn, saethu sydd wedi sicrhau bod y ffermydd hyn yn parhau i gynnwys digonedd o wrychoedd, coetiroedd bach, llynnoedd a phyllau dŵr. Fodd bynnag, mae cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru wedi cynnwys penderfyniad i wahardd saethu adar hela ar dir cyhoeddus. Nid oes sail wyddonol dros y penderfyniad, a chafodd hynny ei gadarnhau gan adroddiad a luniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a ddywedai nad oedd angen newid y deddfau presennol. Rwy'n pryderu'n fawr y bydd y lobïwr trefol, nad oes arno angen gwneud i fywyd y wlad weithio, yn gwthio'r Llywodraeth i wahardd saethu ar holl dir y Llywodraeth, fel coedwigaeth a'r parciau cenedlaethol, yn sgil hynny. Wedyn, a fydd y pysgotwyr yn cael eu hel o afonydd a dyfrffyrdd Cymru? Ble mae pen draw hyn? Amcangyfrifir bod saethu yng Nghymru yn cyfrannu gwerth ychwanegol gros o £75 miliwn yn uniongyrchol i economi Cymru bob blwyddyn. Mae saethwyr yn talu am lety a gwasanaethau lle bynnag y byddant yn teithio. Caiff byrddau mewn tafarndai a bwytai, ac ystafelloedd mewn gwestai a llety gwely a brecwast eu harchebu gan saethwyr o bedwar ban byd drwy gydol y tymor hela, sy'n cyd-daro â misoedd twristiaeth y gaeaf sy'n dawelach fel arall. Mae 64 y cant o'r holl rai sy'n darparu heldiroedd yn dweud bod eu staff yn byw o fewn 10 milltir i'w gweithle, gan sicrhau bod cyflogau'n cael eu gwario ar gefnogi busnesau a gwasanaethau lleol.

Mae saethu'n cefnogi'r hyn sy'n cyfateb i 2,400 o swyddi amser llawn yng Nghymru ac mae'n chwarae rhan yn y broses o reoli 380,000 hectar o dir gwledig. Mae saethwyr yn cyflawni dros 120,000 o ddyddiau o waith cadwraeth bob blwyddyn—gwaith cadwraeth, Weinidog, bob blwyddyn—ar draws cefn gwlad Cymru, a gwerir bron i £8 miliwn bob blwyddyn ar gadwraeth a chynnal a chadw cynefinoedd gan ystadau saethu yma yng Nghymru. Mae'r gwaith rheoli hwn o fudd i adar cân prin, gwyddau a rhydwyr, gan ddarparu lloches, bwyd a diogelwch rhag ysglyfaethwyr, ac ni fydd yn syndod pan ddaw'r gwaith rheoli ar gyfer saethu i ben, mai bywyd gwyllt sy'n agored i niwed, gan gynnwys rhywogaethau ar y rhestr goch, fel grugieir a chornicyllod, sy'n mynd i ddioddef.

Fel y soniais yn gynharach, rwy'n pryderu am bysgota. Eisoes mae canŵ-wyr a physgotwyr yn cystadlu am ein dyfrffyrdd. Mae'r canŵ-wyr yn grŵp lobïo llafar sy'n ysgubo i mewn i Gymru am ddiwrnod neu ddau, ac eto mae pysgota'n rhan bwysig o'n heconomi wledig hefyd. Mae trwyddedau pysgota â gwialen yn codi ymhell dros £1 filiwn y flwyddyn, ac mae'r ffioedd yn cael eu defnyddio ar gyfer rheoli dŵr mewndirol. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae cyfanswm gwerth pysgota i economi Cymru yn £38 miliwn.

Mae angen sawl edefyn arall ar gynfas ein heconomi wledig, megis seilwaith gweddus a band eang cynhwysfawr, ac wrth gwrs, mae llawer o edafedd eraill eisoes wedi'u tynnu, megis cau nifer o swyddfeydd post a banciau gwledig. Ond Weinidog, rwy'n pryderu ynglŷn â'r hyn y mae llawer yn ei weld fel diffyg dealltwriaeth sylfaenol o'r edafedd sy'n gweu'r economi wledig a'r ffordd wledig o fyw. O'u tynnu at ei gilydd, yr edafedd hyn yw'r cynfas o ddydd i ddydd ar gyfer un rhan o dair o bobl Cymru, ac felly rwy'n eich annog i roi eich cefnogaeth i gydnabod y gwerth y mae ein heconomi wledig yn ei gynnig i ffyniant ein gwlad. Wrth wneud y penderfyniadau anghywir, rydych mewn perygl o niweidio cefn gwlad a'n heconomi sydd mor hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol yn barhaol. Nid ydym eisiau cefn gwlad sy'n wag ac wedi mynd â'i ben iddo.

18:50

Rwy'n ddiolchgar iawn i Angela am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar yr economi wledig. Er mwyn i'r economi wledig ffynnu, mae angen rhwydwaith ffyrdd addas at y diben i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd hirdymor. Wrth gwrs, mae lefel y tagfeydd parhaus ar draffordd yr M4 yn llesteirio datblygiad yr economi wledig yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'r ffordd wedi'i melltithio gan lefel enfawr o dagfeydd traffig ers blynyddoedd lawer. Mae taer angen ffordd liniaru, ond dylid gwneud penderfyniad terfynol wedi i'r ymchwiliad cyhoeddus ddod i ben a chan gadw gwerth am arian mewn cof i drethdalwyr Cymru.

Os ydym yn mynd i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gyflwynir gan ddiddymu'r tollau ar bont Hafren, rhaid i ni wella ein cysylltiadau ffordd, awyr a rheilffordd rhwng ardaloedd gwledig canolbarth Cymru, a gogledd Cymru, er mwyn gwella ein heconomi, ac mae posibiliadau mawr ar gael i ni. Rwy'n eithaf sicr, pe baech yn gwella cludiant, y bydd ein heconomi'n gwella. Diolch.

I ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Oscar, mae darpariaethau cludiant cymunedol yn elfen bwysig yn y broses o gysylltu Cymru wledig, ac yn darparu rôl hanfodol ym mywydau miloedd o bobl ledled Cymru, gan ddarparu achubiaeth i lawer o bobl sy'n agored i niwed nad ydynt, o bosibl, yn gallu gadael eu cartref na chymryd rhan yn eu cymunedau hyd yn oed, ac sy'n wynebu unigedd cymdeithasol, heb gludiant cymunedol.

Yng Nghymru, gwneir 2 filiwn o deithiau bob blwyddyn gan deithwyr, gan gynorthwyo 142,000 o unigolion. Fodd bynnag, yn ôl yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth Well, torrwyd tua 12 y cant o'r gyllideb ar gyfer cefnogi gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gyda 25 o'r gwasanaethau hyn bellach wedi'u diddymu. A dyfalwch beth a ble mae'r gwasanaethau hyn? Yn ein cymunedau gwledig. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio mwy gyda chynghorau lleol i ddiogelu'r gwasanaethau hyn rhag toriadau cyllideb a gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth i gynyddu argaeledd trafnidiaeth o'r fath. Bydd hyn yn gwneud llawer i helpu pobl sy'n agored i niwed i gael mynediad at y gwasanaethau y maent eu hangen ac yn helpu i ddarparu Cymru wledig â chysylltiadau da.

A gaf fi ddiolch i Angela Burns am ganiatáu imi siarad yn fyr ar hyn, gan fy mod yn cynrychioli etholaeth wledig fy hun? Credaf fod twristiaeth yn allweddol i'r economi wledig. Mae gennym dirweddau hardd eithriadol ac mae'n rhaid i ni wneud defnydd ohonynt.

Ceir amrywiaeth o safbwyntiau ar saethu, ac mae fy rhai i wedi'u cofnodi, felly nid wyf am drafod hynny yn awr, ond bydd yn cael effaith ar fy etholaeth, ar y Gymru wledig, o ganlyniad i'r cynigion os cânt eu gwireddu. Ond rwyf am ddweud wrth y Gweinidog, rhaid i chi gydnabod os ydych yn cyflwyno cynigion ac yn gorfodi newid, rhaid i chi gefnogi'r busnesau yr effeithir arnynt a chydnabod canlyniadau eich polisi. Felly, mae hynny'n hynod o siomedig a di-fudd i'r economi wledig. Mae llawer iawn o swyddi parhaol a swyddi rhan-amser neu swyddi tymhorol yr effeithir arnynt hefyd o ganlyniad. Felly, gofynnaf ichi eto, Weinidog, ac rwy'n eich annog i edrych yn ofalus ar hyn eto a meddwl am y canlyniadau i'r gymuned wledig.

A phryder arall wrth gwrs, yw'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'—[Torri ar draws.]

A ydych chi'n edrych arnaf fi?

Os felly, rwyf am ddweud yn unig fod effaith ganlyniadol enfawr ar yr economi wledig yn hyn o beth, ar siopau a busnesau lleol sy'n dibynnu ar y diwydiant ffermio. Os yw ffermio'n dod yn anghynaladwy, bydd yn cael effaith ganlyniadol enfawr a byddwch yn datgymalu'r economi leol fel y mae ar hyn o bryd.

A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd i ymateb i'r ddadl? Hannah Blythyn.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac yn arbennig i Angela Burns am gyflwyno'r ddadl fer hon? Ac er efallai na fyddwn yn cytuno ar bob elfen o araith Angela, rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno â mi wrth i mi ddweud ei bod hi'n araith angerddol a huawdl iawn, yn hyrwyddo rhyfeddodau ein cymunedau gwledig yng Nghymru.

Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol gennych a wnaeth fy nharo oedd mai economi cefn gwlad Cymru yw'r edefyn aur. Gwyddom fod economi'r Gymru wledig yn hanfodol i gynifer o gymunedau ar draws ein gwlad. Mae'n economi rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei chefnogi ac yn awyddus i'w hybu. Yn ystod yr haf, ymwelodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth â busnesau ledled y Gymru wledig i drafod yr heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n wynebu'r ardaloedd hynny. Roedd y busnesau'n cynnwys Siemens Healthineers, sy'n cyflogi 413 o bobl yn Llanberis, PCI Pharma, sy'n cyflogi 360 o bobl yn y Gelli Gandryll, a gwn yn ddiweddar ei fod wedi ymweld â Wynnstay yn Llansantffraid, sy'n cyflogi 400 o bobl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r holl fusnesau hyn mewn un ffordd neu'r llall, ond gwyddom nad dyma'r unig enghreifftiau o fusnesau llwyddiannus sy'n gweithredu yn y Gymru wledig a gefnogwyd gennym yn uniongyrchol. Rydym wedi cefnogi DMM International, sy'n cyflogi 195 o bobl mewn ardal wledig yn bennaf yn Arfon, ac yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, rydym wedi cefnogi Coaltown Coffee, sydd bellach yn fusnes ffyniannus. Os wyf yn gywir, rwyf wedi'i weld yn ystafell de'r Aelodau yma hefyd. Mae pob un o'r rhain yn enghreifftiau pwysig o fusnesau gwledig llwyddiannus sydd wedi cael cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod yn llwyr, fodd bynnag, nad yw llwyddiant y busnesau hyn yn dibynnu ar gefnogaeth uniongyrchol yn unig. Mae angen inni wneud mwy i dyfu ein heconomi mewn ffordd gynhwysol, gan fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli yn ein rhanbarthau, a lledaenu cyfleoedd i bob rhan o Gymru.

Mae gan seilwaith a sgiliau rôl allweddol i'w chwarae yn darparu'r cyfle hwnnw, a gwn fod nifer o Aelodau wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cysylltedd o ran trafnidiaeth. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym y ddarpariaeth sgiliau mewn ardaloedd gwledig ar gyfer diwallu anghenion y rhanbarth a'r ardal honno.

Rydym hefyd yn gwybod sut y mae argaeledd seilwaith digidol yn hynod o bwysig yn y byd heddiw i fusnesau a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ac mae'r ardaloedd hyn yn aml yn wynebu heriau penodol gyda hynny. Ers ei sefydlu yn 2013, mae Cyflymu Cymru wedi buddsoddi dros £82 miliwn ar gyfer darparu mynediad at fand eang ffibr cyflym i dros 280,000 eiddo ar draws ardaloedd gwledig yn bennaf yn Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Benfro, Ceredig—nid wyf yn gwneud yn dda iawn heddiw—Ceredigion—diolch—Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd ein heconomi wledig. Er enghraifft, y £95 miliwn o fuddsoddiad yn ffordd osgoi'r Drenewydd, sef rhaglen sydd i gael ei chwblhau yn gynnar yn 2019. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i rymuso ein rhanbarthau drwy ein cynllun gweithredu economaidd, er mwyn adeiladu ar eu cryfderau unigol i sicrhau cymaint â phosibl o dwf economaidd i Gymru ac ar gyfer ein pobl. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cydnabod bod gan bob rhanbarth ei gyfleoedd a'i heriau ei hun ac na fydd un dull unffurf o weithredu datblygiad economaidd yn mynd yn ddigon pell i sbarduno'r twf economaidd rhanbarthol sydd ei angen ar Gymru.

18:55

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A gaf fi ofyn ichi, a nodaf fod Gweinidog y Gymraeg yn eistedd wrth eich ymyl, a yw eich cynllun economaidd, sy'n cydnabod yr holl ranbarthau, hefyd yn pwysoli ac yn cynnwys y ffactor fod y Gymraeg yn byw'n gryf iawn mewn llawer o ardaloedd gwledig? Oni bai eich bod yn cefnogi'r ardaloedd gwledig hynny—twristiaeth, iechyd, addysg, y gweddill i gyd—mewn gwirionedd, bydd y Gymraeg hefyd yn dioddef o ganlyniad i ddirywiad y Gymru wledig.

Bydd, yn hollol. Er gwaethaf fy ynganu gwael heddiw, rwy'n ymdrechu'n galed iawn i ddysgu Cymraeg ac rwy'n deall yn iawn pa mor bwysig yw hi yn enwedig i gymunedau gwledig ledled Cymru. Rhan ohono yw'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol sy'n rhaid ei hystyried yn rhan o hynny. Dyna pam rwy'n dweud na fydd dull unffurf o weithredu'n gweithio, oherwydd gwyddom fod gan bob ardal yng Nghymru nid yn unig ei heriau unigryw, ond ei nodweddion unigryw yn ogystal. Felly, mae'n gwbl hanfodol inni ystyried bod y Gymraeg yn allweddol i hynny.

Yn ogystal, mantais gref ein model rhanbarthol newydd yw ei fod yn darparu ymagwedd gyfannol at greu perthynas â busnesau. Y gobaith yw y bydd yn galluogi gwell cydweithio gyda phartneriaid cyflenwi'r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol a darparwyr addysg uwch ac addysg bellach. Bydd yn galluogi penderfyniadau seilwaith mwy integredig, gan gynnwys gofynion trafnidiaeth a gofynion digidol yn ogystal â darpariaeth eiddo masnachol o ansawdd da. Mae'r prif swyddogion rhanbarthol newydd bellach yn eu swyddi ac maent yn darparu llais rhanbarthol yn y Llywodraeth. Maent yn gwrando ar bartneriaid lleol ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau. Maent yn bwydo gwybodaeth leol yn ôl sy'n helpu i deilwra gwaith Llywodraeth Cymru.

Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, fod yr economi wledig wedi elwa'n enfawr o gronfeydd yr UE a'n mynediad ehangach at y farchnad sengl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ddylai Cymru golli dim o'r cyllid hwnnw neu drwy ddiffyg mynediad at y farchnad sengl. Mae economi wledig ffyniannus yn hanfodol i helpu i gynnal cymunedau hyfyw ledled y Gymru wledig er mwyn darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon ar gyfer ein pobl, gan gynnwys pobl ifanc yn arbennig ac i helpu i ddiogelu'r Gymraeg yn rhai o'r cadarnleoedd yng nghefn gwlad Cymru. Felly rydym yn gweithio i sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru, ond fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cydnabod yr angen i gynllunio ar gyfer senario 'dim bargen'. Y mis diwethaf, darparodd yr Ysgrifennydd cyllid ddatganiad llafar yn nodi'r camau nesaf yn natblygiad polisi rhanbarthol ar ôl Brexit. Cadarnhaodd y datganiad llafar y bydd unrhyw arian newydd yn cael ei fuddsoddi i gefnogi datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb. Roedd yn cadarnhau hefyd y byddwn yn parhau i fabwysiadu dull aml-flynyddol o fuddsoddi unrhyw arian newydd i gynnal ffocws hirdymor ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur.

Roedd cyhoeddiad y Canghellor ddydd Llun diwethaf ar fargen twf gogledd Cymru gryn dipyn yn llai na'r hyn roedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi'i obeithio. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i gyflawni'r cytundeb twf hwn a allai fod yn drawsnewidiol a byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod y pecyn a'r cyfeiriad yn iawn ar gyfer gogledd Cymru, gan gytuno ar brif benawdau'r telerau ar gyfer y fargen cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu a sicrhau bargen twf ar gyfer canolbarth Cymru, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid yn y rhanbarth a Llywodraeth y DU.

Rwyf am orffen drwy ddiolch, unwaith eto, i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a chloi drwy ailddatgan bod y Llywodraeth hon yn ymrwymedig i gefnogi ein cymunedau cefn gwlad a'n heconomi wledig er mwyn sicrhau ffyniant i Gymru gyfan. Diolch yn fawr.

19:00

Daeth y cyfarfod i ben am 19:01.