Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/11/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones. 

Cyllideb Llywodraeth Cymru

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ei chyllideb ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ52851

Ni wnaeth cyllideb Llywodraeth y DU ddim byd i wella'r niwed a achoswyd gan bron i ddegawd o doriadau i'n cyllideb.

Rwyf i, fel, rwy'n siŵr, llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan arweinyddion llywodraeth leol yn arbennig, yn fwyaf diweddar gan Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, am y pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol oherwydd canlyniadau eich cyllideb ddrafft chi a chyllideb Llywodraeth San Steffan. Fe wnaethoch, rwy'n credu, ymrwymo i'r cynghorau, rwy'n credu, fod ar flaen y ciw pe byddai unrhyw adnoddau ychwanegol i Gymru o gyllideb y DU. Pryd mae'r cynghorau yn debygol o weld yr arian yr ydych chi wedi ei addo?

Rydym ni'n gobeithio rhoi syniad anffurfiol o fewn y pythefnos nesaf. Nid yw'n wir y bydd pob un ceiniog o'r cyllid canlyniadol yn mynd i lywodraeth leol, ond maen nhw'n flaenllaw yn ein meddyliau, ac, fel y dywedais, maen nhw ar flaen y ciw. Rydym ni'n deall yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu. Bu'n rhaid i ni, wrth gwrs, wneud penderfyniadau anodd iawn o ran yr hyn nad ydym wedi gallu ei wneud, er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd y toriad i gyllid llywodraeth leol mor ddifrifol ag y gallai wedi bod fel arall, ond mae'r trafodaethau hynny yn parhau ac rydym ni eisiau gweld beth allwn ni ei wneud i helpu llywodraeth leol, er y bydd yn dal i fod yn anodd.

Wel, Prif Weinidog, o edrych ar yr ochr olau, bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn golygu y bydd £551 miliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru dros dair blynedd, cynnydd cyfartalog rhwng 2015 a 2020 o dros 4 y cant mewn termau real. A gaf i gyd-fynd â'r cwestiwn a'r mater a godwyd gan Helen Mary Jones am yr awdurdodau lleol? Rydym ni hefyd yn gwybod bod tua £26 miliwn o'r arian hwnnw o gyllideb y DU yn deillio o gymorth ychwanegol Llywodraeth y DU i fusnesau, gan ostwng traean ar ardrethi busnes i fusnesau â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Rydym ni'n gwybod bod busnesau Cymru wedi bod yn galw am fwy o gymorth yn y fan yma. A wnewch chi roi ymrwymiad i ddefnyddio'r arian canlyniadol hwnnw i leihau'r baich ar fusnesau Cymru ymhellach?

Wel, gadewch i ni ostwng y swm o tua £550 miliwn o gyllid canlyniadol a honnwyd yn y fan yna. Gallaf ddweud bod mwy na hanner y cyllid a gyhoeddwyd wedi cael ei gyhoeddi eisoes. Mae'n arian a wariwyd eisoes. Mae wedi cael ei wario ar benderfyniadau cyflog a phensiynau. Bu toriad o £32 miliwn o'r arian a addawyd yn wreiddiol yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y GIG yn ddeg a thrigain. Felly, mae'n golygu bod ein cyllid canlyniadol mewn gwirionedd eleni rhywle oddeutu £60 miliwn mewn refeniw a £2.6 miliwn mewn cyfalaf. Wel, diolch yn fawr iawn am hynna; mae hynna'n ardderchog. Felly, unwaith eto, enghraifft wych o sbin gan Lywodraeth y DU nad yw'n cael ei brofi gan ffigurau gwirioneddol. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw ein bod ni'n aros am union fanylion y gronfa rhyddhad ardrethi busnes a gynigir yn Lloegr, oherwydd, hyd yma, nid yw'r manylion hynny wedi eu rhoi ar gael.

Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru hanes balch o gynorthwyo busnesau bach yma yng Nghymru gyda phecyn mwy hael o ryddhad ardrethi yn gyffredinol, ac mae wedi cynorthwyo mwy o fusnesau bach nag unman arall yn y DU. Nodaf, yng nghyllideb ddiweddar y DU, bod y Canghellor wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi ychwanegol i fusnesau manwerthu bach yn Lloegr, a fydd yn golygu bod eu hardrethi yn cael eu torri gan draean am ddwy flynedd o fis Ebrill 2019. Pa ddadansoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o sut y gall ymateb i hyn i wneud yn siŵr ei bod yn dal i gynnig pecyn hael o gymorth sy'n diwallu anghenion busnesau bach yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon a ledled Cymru?

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu yn ystod y flwyddyn hon tua £210 miliwn o ryddhad ardrethi i gynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill. Mae'r trefniadau rhyddhad hynny ar gael i'r holl dalwyr ardrethi hynny sy'n bodloni'r meini prawf. Rydym yn nodi, wrth gwrs, cyhoeddiad y Canghellor. Nid ydym wedi gweld eto beth fydd hynny'n ei olygu o ran cyllid canlyniadol. Nid ydym yn gwybod ychwaith sut bydd y system yn gweithio yn Lloegr. Pan fydd y manylion hynny gennym ni, wrth gwrs, gallwn roi ystyriaeth bellach i'r mater.

Effaith Brexit ar Recriwtio Myfyrwyr

2. Pa asesiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar recriwtio myfyrwyr o 27 gwlad arall yr UE i sefydliadau addysgol ledled Cymru? OAQ52862

Rydym ni wedi gweithio gyda'n cyngor cyllido addysg uwch a phrifysgolion Cymru i ddeall effaith newidiadau posibl i recriwtio myfyrwyr yr UE. Wrth gwrs, bydd prifysgolion fel sefydliadau ymreolaethol yn cynnal eu hasesiadau eu hunain ac yn datblygu cynlluniau wrth gefn ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gyda dim ond wythnos ar ôl i'r trafodaethau Brexit gael eu cwblhau, rydym ni'n dal i wynebu ansicrwydd parhaus ac enfawr mewn cynifer o feysydd, gan gynnwys ein system addysg uwch. Dywedir wrthyf fod ceisiadau gan fyfyrwyr UE wedi gostwng ledled Cymru, ond, i'r myfyrwyr UE hynny sy'n derbyn lleoedd ym Mhrifysgol De Cymru, sydd wrth gwrs yn cynnwys coleg Merthyr yn fy etholaeth i, mae'r ffigur tua 33 y cant. Nid oes unrhyw amheuaeth bod hyn yn mynd i effeithio ar gyllid prifysgolion a cholegau, cynaliadwyedd swyddi yn y sector ac ar lawer o economïau lleol. Felly, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon i ynghylch y ffigurau recriwtio diweddar hyn, a beth arall allwn ni ei wneud i helpu ein sector prifysgolion drwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd?

13:35

Wel, trwy weithio, fel y dywedais, gyda'r cyngor cyllido addysg uwch, rydym ni'n asesu beth fydd yr effeithiau. Mae'n iawn i ddweud ein bod ni wedi gweld 22 y cant yn llai o bobl sy'n hanu o'r UE yn cael eu lleoli gyda darparwyr yng Nghymru ar gyfer 2018-19. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i bwysleisio'r neges bod Cymru yn agored i fusnes ac yn gyrchfan deniadol i fyfyrwyr, lle ceir prifysgolion o safon uchel, addysgu o ansawdd uchel a chostau byw fforddiadwy. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod teimlad ymhlith myfyrwyr nid yn unig o'r UE, ond o'r tu allan, nad yw'r DU yn groesawgar rywsut cyn belled ag y mae myfyrwyr yn y cwestiwn. Gwrandewais am flynyddoedd ar bobl o Lywodraeth India, er enghraifft, a rhai sy'n eu cynrychioli, yn dweud eu bod yn teimlo nad oes croeso i'w myfyrwyr yn y DU mwyach, ac nawr rydym ni'n gweld y diffyg croeso tybiedig hwnnw yn cael ei ymestyn i wledydd eraill hefyd. Ond, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, rydym ni'n croesawu'r disgleiriaf a'r gorau, o ble bynnag y maen nhw'n dod.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos mai ym mhrifysgolion Cymru y cafwyd y gostyngiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran nifer yr ymgeiswyr o'r Undeb Ewropeaidd rhwng 2017 a 2018. Gostyngodd ceisiadau gan fyfyrwyr o'r UE gan 10 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 2 y cant yn Lloegr a chynnydd o 3 y cant yng Ngogledd Iwerddon. O gofio y bydd Brexit yn effeithio ar y Deyrnas Unedig gyfan, pam mae prifysgolion Cymru wedi perfformio mor wael o ran denu myfyrwyr o wledydd yr UE o'u cymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon? A, Prif Weinidog, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn faes datganoledig?

Wel, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd y newidiadau i'r polisi cyllid myfyrwyr wedi cael effaith. Roedd yn hael iawn, wrth gwrs, i fyfyrwyr UE; nid yw hynny'n wir mwyach yn yr un modd. Efallai'n wir bod hynny'n rhan o'r rheswm pam yr ydym ni wedi gweld gostyngiad yng Nghymru, o ystyried y sefyllfa gyda'n cyllid myfyrwyr ein hunain. Gwnaed y newidiadau hynny, wrth gwrs, yn dilyn adolygiad annibynnol. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld cynnydd i nifer yr ymgeiswyr o'r UE i brifysgolion Cymru ar gyfer cyrsiau dyddiad cau cynnar, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o gyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth—mae hynny i gychwyn astudio yn 2019. Ond, wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda'n prifysgolion er mwyn gwneud yn siŵr y deallir bod Cymru yn lle deniadol i astudio.

Rwy'n credu bod llawer o Aelodau Cynulliad wedi rhoi cyd-destun Brexit a sut y gallai hynny effeithio ar fyfyrwyr o'r UE a hefyd y rhai sy'n dod o leoedd pellach i ffwrdd na'r UE. Ond, o edrych ar y sefyllfa bresennol, nid oes unrhyw brifysgolion yng Nghymru yn y 10 uchaf ar draws y DU o ran nifer myfyrwyr o'r UE, felly mae hynny'n rhywbeth ar hyn o bryd nad ydym ni'n perfformio'n dda ynglŷn ag ef. Ydy, mae eich Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr UE yn parhau o dan yr un rheolau tan 2019-20, ond hoffwn ddeall beth yr ydych chi'n mynd i allu ei wneud ar ôl yr adeg honno. Efallai na fydd cyhoeddiad sy'n cynnwys dim ond y flwyddyn ariannol nesaf yn ddigon i'r myfyrwyr hynny sy'n cynllunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol, boed hynny o fewn yr UE, neu y tu hwnt i hynny. Felly, beth allwch chi ei wneud i'w hannog nhw i weld Cymru fel lle dichonol iddyn nhw ddod i astudio yno?

Wel, sefydlwyd y gweithgor Brexit addysg uwch gennym dros ddwy flynedd yn ôl. Fe'i sefydlwyd i rannu gwybodaeth ac i roi cyngor i Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda'n prifysgolion, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod eu lleisiau'n cael eu clywed dramor, ac wrth gwrs i sicrhau eu bod yn gallu marchnata eu hunain dramor. Nawr, o fewn Ewrop ei hun, tan y llynedd, roedd yr unig ddwy swyddfa oedd gennym ni yn yr UE, y tu allan i'r DU, yn Nulyn ac ym Mrwsel. Mae hynny'n newid, gyda Paris, gyda Dusseldorf, gyda Berlin yn agor; bydd eraill yn ne Ewrop yn y dyfodol. Byddwn yn rhagweld y bydd y swyddfeydd hynny ar gael i sefydliadau addysg uwch, i'w helpu i hyrwyddo eu neges mewn marchnadoedd Ewropeaidd pwysig, ac wrth gwrs i gynorthwyo myfyrwyr i ddarganfod mwy am Gymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Llywydd. Ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf—mewn cynhadledd gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain ac mewn cyfweliad gyda Guto Harri—rydych chi wedi cyfeirio at y nifer cynyddol o fusnesau llwyddiannus Cymreig sydd yn gwerthu mas i gwmnïau o'r tu fas i Gymru. Fe ddywedoch chi eich bod chi eisiau efelychu system y mittelstand yn yr Almaen, lle mae cwmnïau cynhenid yn tyfu ac yn datblygu yn gwmnïau canolig eu maint, yn hytrach nag yn cael eu prynu. A ydych chi wedi gwneud asesiad o hyd a lled y broblem yma? Hynny yw, faint o gwmnïau canolig Cymreig sydd wedi cael eu cymryd drosodd yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf?

13:40

Na, ond beth rydw i yn gwybod yw bod rhaid newid diwylliant ynglŷn â busnesau yng Nghymru. Mae'r traddodiad o mittelstand yn yr Almaen yn un cryf dros ben, ac mae yna draddodiad fanna lle mae cwmnïau yn parhau i gynhyrchu ac nid yn gwerthu mas i gwmnïau eraill. Nid felly mae hi wedi bod yng Nghymru. Mae hon yn hen broblem. Un o'r pethau roeddwn i'n ei ystyried ar un adeg oedd gweld os gallem ni ailagor cyfnewidfa stoc Caerdydd. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn weddol o ddigidol. Y rheswm am hynny oedd i sicrhau bod mwy o gwmnïau o Gymru yn edrych—neu mwy o fusnesau o Gymru—i gael eu rhestru ar y gyfnewidfa hynny, ond nawr, buaswn i'n dweud, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n berthnasol.

Newid diwylliant yw'r peth i fi, i sicrhau bod mwy o fusnesau o Gymru yn meddwl, 'Reit, rydym ni'n moyn tyfu. Rydym ni'n moyn sefyll fel rydym ni', ac nid meddwl trwy'r amser, 'Wel, mae'n rhaid i ni werthu mas i rywun sydd yn fwy'. Nid yw hyn yn wir yn Iwerddon ac nid yw'n wir, i raddau, yn yr Alban. Felly, newid diwylliant sy'n bwysig. 

O ran maint y broblem, efallai y gallaf i gynnig peth gwybodaeth i'r Prif Weinidog. Ers haf y llynedd, mae cwmni peirianneg sifil Alun Griffiths, o'r Fenni, wedi cael ei werthu i Tarmac. Mae Gap Personnel o Wrecsam, un o'r pump cwmni recriwtio mwyaf ym Mhrydain, wedi'i werthu i Trust Tech o Siapan. Mae Princes Gate, o sir Benfro, un o'r wyth cwmni dŵr mwyn mwyaf yng Nghymru ym Mhrydain, wedi'i brynu gan Nestlé. Hyd yn oed yn eich etholaeth chi yn unig, mae yna ddau gwmni Cymreig sylweddol wedi eu prynu yn ystod y cyfnod yma gan gwmnïau tramor, sef y peirianwyr Harris Pye—cwmni fel Alun Griffiths, gyda dros £100 miliwn o drosiant—wedi'i brynu gan Joulon yn Ffrainc, ac mae Aircraft Maintenance Services wedi cael ei brynu gan gwmni Americanaidd JBT. Mae yna sôn wedi bod am y canol coll, the missing middle. Ar y rât yma, bydd dim byd gyda ni ar ôl cyn hir. Felly, a fedrwch chi gadarnhau a wnaeth eich Llywodraeth gais i'r comisiwn cystadleuaeth a marchnadoedd i rwystro un o'r gwerthiannau hyn, ac a ydych chi'n derbyn mai un o'r problemau yw nad oes gan fanc Cymru ar hyn o bryd y capasiti ariannol i ariannu'r management buy-outs ar y raddfa sydd ei angen? Byddai un neu ddau o'r dêls yma yn mynd â holl gyllideb blynyddol y banc, felly onid yw hi'n bryd i edrych ar beth sy'n cael ei gynnig yn yr Alban, sef cronfa lawer mwy y gall sicrhau wedyn ein bod ni mewn sefyllfa i gynnig opsiwn arall i'r cwmnïau yma, yn hytrach na chael eu gwerthu?

Wel, mae'n wir i ddweud bod enghreifftiau fanna o'r diwylliant sydd gyda ni. Mae pobl yn tueddu i ymddeol a gwerthu o achos hynny, ac nid yn meddwl am sicrhau bod y cwmnïau’n parhau. So, y cwestiwn nesaf yw: beth allwn ni wneud amdano fe? Rydw i'n credu y liciwn i ystyried beth sydd wedi digwydd yn yr Alban er mwyn gweld a oes unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu o'r Alban, achos mae'n un peth i ddweud, 'Mae'n rhaid newid y diwylliant'; peth arall, wrth gwrs, yw sicrhau ein bod ni'n ffeindio ffyrdd i wneud hynny. 

Ai rhan o'r broblem hefyd yw gorbwyslais o ran polisi'r Llywodraeth ar fewnfuddsoddi? Ddwy flynedd yn ôl, mi oeddech chi'n cyfeirio at ddenu Pinewood i Gymru fel un o brif lwyddiannau eich polisi economaidd. Ddoe fe glywom ni mai dim ond 20 y cant o'r budd economaidd arfaethedig sydd wedi dod. Mi ddywedodd eich cyfarwyddwr ym maes yr economi y byddai mwy o dryloywedd yn yr achos yma wedi bod yn ddefnyddiol, ond yn yr achos yma, ac yn achos Aston Martin, rydych chi wedi gwrthod bod yn dryloyw oherwydd cyfrinachedd masnachol. Rydych chi'n dadlau bod angen cael y balans yn iawn rhwng datblygu cynhenid a mewnfuddsoddi, ond sut ydym ni i farnu a ydy'r balans yma'n iawn heb fod y ffigurau gennym?

Nawr, wrth gwrs, mae angen strategaeth ar gyfer cwmnïau tramor, ond yn hytrach nag ysgrifennu siecs blank ar gyfer eliffantod gwyn, oni fyddai'n well i Lywodraeth Cymru edrych yn fwy ar amddiffyn y cwmnïau sydd gyda ni? I'r perwyl hyn, a ydy'r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i ymchwiliad y Comisiwn Ewropeaidd i uniad ThyssenKrupp a Tata, a all olygu gorchymyn i werthu safle Trostre? A gan aros gyda Llanelli, a gaf i ofyn yn benodol pryd y daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o fwriad Schaeffler i gau'i ffatri yn Llanelli? A gan fod ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn cael ei nodi fel un o'r prif resymau am y penderfyniad, i ba raddau y mae gwrthwynebiad Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur i aelodaeth o'r farchnad sengl wedi cyfrannu at y penderfyniad yma? 

Wel, mae sawl cwestiwn fanna. Ynglŷn â'r un diwethaf, nid ydw i'n credu bod unrhyw gyfraniad er y gwaethaf wedi cael ei wneud ynglŷn â Schaeffler gan Jeremy Corbyn, i fod yn deg. Fe glywais i y bore yma ynglŷn â Schaeffler. Nid oeddwn i'n ymwybodol o beth oedd cynlluniau'r cwmni cyn hynny. Mae cwmnïau o dramor yn hollbwysig i economi Cymru. Rydym ni'n gwybod hynny. Bydd Aston Martin yn hollbwysig. Mae Pinewood wedi sicrhau miliynau o fuddsoddiad yn economi Cymru, ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod hynny’n rhywbeth ddylem ni ddim ei ofni o gwbl. Ond mae yna bwynt: ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod mwy o fusnesau o Gymru’n tyfu? Achos, mae’n wir i ddweud, os yw cwmni â phencadlys mewn gwlad, maen nhw’n tueddu sefyll yn y wlad honno. So, dyna beth yw’r sialens. Nid wyf i'n gweld bod yn rhaid gwneud dewis; rydym ni wedi, wrth gwrs, sicrhau bod banc Cymru ar gael er mwyn helpu busnesau i dyfu yn y pen draw, a hefyd, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn sicrhau ei bod hi'n bosib i’r cwmnïau hynny ffynnu, ac, wrth gwrs, i weithio gyda’r cwmnïau rhyngwladol. Rŷm ni’n gwybod bod cwmnïau rhyngwladol nid dim ond yn cyflogi pobl eu hunain, ond maen nhw’n hollbwysig ynglŷn â chyflogaeth ym musnesau bach Cymru sydd yn sicrhau eu bod nhw’n gwerthu cynnyrch iddyn nhw.

Rwy’n cofio, pan oedd y WDA mewn bodolaeth, nid oedd dim diddordeb o gwbl gyda nhw—o gwbl— ynglŷn â busnesau bach. Popeth oedd cael buddsoddiad o dramor. Mae hynny’n bwysig, ond mae’n rhaid, wrth gwrs, inni sicrhau bod y pyramid sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle mae gennym ni lot mawr o fusnesau bach, a bach iawn o fusnesau mawr—bod y pyramid hwnnw’n tyfu dros y blynyddoedd er mwyn rhoi’r hyder i gwmnïau o Gymru eu bod nhw’n gallu ehangu a’u bod nhw’n gallu sefyll fel y maen nhw ar y fodolaeth sydd gyda nhw.

13:45

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel efallai y gwyddoch, mae hi'n Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen yr wythnos hon a mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth o Iechyd Dynion. O gofio bod dros 63 y cant o oedolion a thros 55 y cant o blant yng Nghymru yn aros yn hwy na phedair wythnos i gael triniaeth iechyd meddwl, ac o gofio bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn credu y dylai cael mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl fod yn brif flaenoriaeth, pam nad yw'n un o brif flaenoriaethau eich Llywodraeth?

Wel, byddwn yn dadlau ei fod. Rydym ni wedi gweld gwelliannau enfawr, er enghraifft, o ran sicrhau mynediad at iechyd meddwl i blant ac i bobl ifanc, a hefyd pwyslais ar sicrhau bod cwnsela ar gael yn hytrach nag ymyrraeth glinigol ar gam cynharach. Mae gennym ni Fesur iechyd meddwl (Cymru) 2010, wrth gwrs, y byddwn yn dadlau sy'n ddarn unigryw o ddeddfwriaeth sy'n gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a'u darpariaeth. Mae wedi ysgogi gwelliant ers ei gyflwyno yn 2010, mae'n darparu gwasanaethau effeithiol a defnyddiol yn gynnar drwy'r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac mae'n sicrhau bod y rhai sydd angen gwasanaethau arbenigol yn cael gofal a thriniaeth o'r ansawdd uchaf.

Ceir llawer o bethau eraill y gallwn gyfeirio atynt, wrth gwrs, fel, er enghraifft, strategaeth 'Siarad â fi 2' i helpu i atal hunanladdiad a hunan-niwed. Caiff y strategaeth honno, wrth gwrs, ei goruchwylio gan grŵp cynghori cenedlaethol. Felly, byddwn yn dadlau, mewn gwirionedd, bod gwasanaethau yng Nghymru wedi gwella'n helaeth dros y blynyddoedd, a chydnabyddir hynny gan faint o arian yr ydym ni wedi ei fuddsoddi mewn iechyd meddwl.

Wel, Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw'n un o brif flaenoriaethau eich Llywodraeth, fel arall ni fyddai'r bobl hyn yn aros cyhyd. Pan gyflwynodd eich Llywodraeth ei chyllideb fis diwethaf, nid oedd unrhyw eglurder ynghylch sut y byddech yn gwella darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl Cymru. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n enfawr â Lywodraeth y DU, a wnaeth yn eglur ei phenderfyniad i fuddsoddi ymhellach yn y GIG i gefnogi'r rhai â salwch meddwl yn ei chyllideb.

Nawr, Prif Weinidog, gwn eich bod chi'n hoffi siarad am Loegr, felly, o ganlyniad i gyhoeddiad y Canghellor yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cyflwyno gwasanaeth argyfwng iechyd meddwl newydd, gyda chymorth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gael mewn ym mhob adran damweiniau ac achosion brys fawr. Mae'n cyflwyno timau argyfwng plant a phobl ifanc ym mhob rhan o Loegr, mae'n cyflwyno mwy o ambiwlansys iechyd meddwl, mae'n cyflwyno mwy o noddfeydd diogel yn y gymuned, mae'n cyflwyno llinell gymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr—hyn i gyd, ond nid ar yr ochr hon i'r ffin. Mae'n dod yn eglur bod y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn colli tir ar y ddarpariaeth yn Lloegr a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. A fyddwch chi'n archwilio nawr rhai o'r mesurau hyn gyda'r bwriad o'u cyflwyno yma yng Nghymru?

Yr hyn y mae'n ei awgrymu, mewn rhai ffyrdd, yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes; ymddengys nad yw'n gwybod hynny. Gallaf ddweud bod y data diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos ein bod ni'n bodloni'r targedau ar gyfer asesu ac ymyraethau ar sail Cymru gyfan? Mae dros 184,000 o bobl wedi eu gweld gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yng Nghymru ers iddynt gael eu cyflwyno yn rhan o'r Mesur.

Gallaf ddweud, o ran gofal mewn argyfwng, wel, cyflwynwyd concordat gofal argyfwng iechyd meddwl Cymru gennym yn 2015. Mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus i leihau'n sylweddol y defnydd o ddalfa'r heddlu ar gyfer pobl sy'n cael eu cadw yn gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Rydym ni'n parhau i weithio gyda byrddau iechyd lleol, gydag awdurdodau lleol ac awdurdodau'r heddlu ledled Cymru i gefnogi gwasanaethau rheng flaen sydd fwyaf tebygol o fod yn gyswllt cyntaf i bobl mewn argyfwng iechyd meddwl. Rydym ni'n gwella'r gofal argyfwng y tu allan i oriau; mae hynny'n flaenoriaeth yn y gronfa gweddnewid ac arloesi iechyd meddwl, a gefnogir gan £7 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac, yn rhan o hynny, rydym ni wedi ymrwymo dros £1 filiwn eleni ar gyfer amrywiaeth o ddulliau i wella cymorth, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt, cymorth mewn argyfwng a brysbennu ar y stryd. Ac, un flaenoriaeth, wrth gwrs, i'n grŵp sicrwydd concordat gofal argyfwng iechyd meddwl yw deall yn well y cyd-destun o sut y mae argyfwng yn dod i'r amlwg, ac rydym ni'n datblygu'r data i gefnogi hyn. Lloegr sydd ar ei hôl hi.

13:50

Ddim o gwbl. Mae hyn yn achos o hunanfodlonrwydd llwyr gennych chi a'ch Llywodraeth, yn ôl yr arfer. Rydym ni'n gwybod, heb driniaeth brydlon, bod iechyd meddwl rhywun, yn union fel unrhyw gyflwr neu salwch arall, yn debygol o waethygu. Dro ar ôl tro, mae'n rhaid i blant ac oedolion ddangos lefel ddifrifol o salwch, yn aml i'r graddau o niweidio eu hunain, cyn y gallant gael mynediad at wasanaethau amserol. Ond, yn anffodus, mae'n amlwg bod eich Llywodraeth yn methu â bwrw ymlaen â'r newid sylweddol a chynhwysfawr y mae ein gwasanaethau iechyd meddwl eu hangen yn daer. Hyd yn oed pan roddwyd cynigion o'ch blaen gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar sut i wella cyflwr echrydus gwasanaethau iechyd meddwl ataliol yng Nghymru, fe wnaethoch chi wrthod ystyried y rhan fwyaf o'r argymhellion hynny, hyd yn oed yn groes i ddymuniadau rhai o aelodau eich meinciau cefn. Felly, a allwch chi ddweud wrth y Siambr hon heddiw pam wnaeth eich Llywodraeth wrthod derbyn yr argymhellion hynny, a gefnogwyd gan Aelodau o bob plaid, a pham, er gwaethaf cynnydd o 4 y cant mewn termau real i gyllideb Cymru yn 2015 tan 2020, nad ydych yn buddsoddi'n ddigonol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru i ostwng yr amseroedd aros annerbyniol i bobl â chyflyrau iechyd meddwl?

Rydym ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r holl ddata yn dangos y gwelliant sydd yno. Ni wrandawodd ar yr ateb a roddais, wnaeth ef, i'r ail gwestiwn—rhoddais nifer o atebion iddo i'w gwestiwn yn dangos yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yng Nghymru. Felly, gadewch i mi geisio, os gallaf, ei helpu ymhellach. Rydym ni'n gwybod bod atal yn bwysig. Dyna pam mae'n thema allweddol, ynghyd ag ymyrraeth gynnar, yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae hynny'n cynnwys pwyslais ar gymorth anghlinigol. Mae gennym ni gronfa iach ac egnïol, a lansiwyd ym mis Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon—mae honno'n bartneriaeth sy'n darparu ffordd integredig y gallwn ei defnyddio i gyflwyno bond llesiant a cronfa her ar gyfer chwaraeon. Yn ystod cyfnod 1, mae £5 miliwn ar gael i'w fuddsoddi dros dair blynedd, gyda'r nod o wella iechyd meddyliol a chorfforol trwy alluogi ffyrdd iach ac egnïol o fyw, gyda phwyslais penodol ar gryfhau asedau cymunedol.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ein buddsoddiad o £1.3 miliwn ar gyfer Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig yn ddiweddar hefyd i ddarparu prosiectau rhagnodi cymdeithasol ledled Cymru—byddant yn helpu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer rhagnodi cymdeithasol ar gyfer problemau iechyd meddwl i gefnogi ein dyfodol—[Torri ar draws.]—gwn nad oedd yn disgwyl yr ateb hwn, ond mae'n mynd i'w gael—i gynorthwyo ein camau yn y maes hwn yn y dyfodol. Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, effaith profiadau andwyol yn ystod plentyndod ar ein canlyniadau bywyd; dyna pam yr ariannwyd canolfan cymorth ACE gennym. Canolfan arbenigedd yw hon i gynyddu dealltwriaeth o brofiadau andwyol yn ystod plentyndod a chydnerthedd. Ac rydym ni'n parhau, yn olaf, i gefnogi ymgyrch Amser i Newid Cymru i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â phrofiad o broblem iechyd meddwl yng Nghymru. Bydd cyfnod 3 yr ymgyrch honno yn para am gyfnod o dair blynedd o fis Ebrill, ac wedi ei ariannu ar y cyd rhwng meysydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yr economi, trafnidiaeth a Comic Relief.

Rwy'n credu fy mod i wedi dangos yn gryf iawn, iawn ymrwymiad y Llywodraeth hon i faterion iechyd meddwl ac wedi dangos yr ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud, yn ariannol ac yn wleidyddol. Ac rwy'n falch bod y blaid gyferbyn wedi penderfynu dal i fyny.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rhagwelwyd y bydd ychydig dros hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd. Fodd bynnag, pan edrychwn ni ar bolau piniwn, mae'n amlwg nad yw pobl Cymru yn credu bod y GIG yn gweithio yng Nghymru. Ym mis Mai 2014, ar ôl 15 mlynedd o'r Cynulliad Cenedlaethol, gofynnodd y BBC ac ICM Research i bobl pa un a oedd a ffaith bod gennym ni'r Cynulliad wedi arwain at welliant yn y GIG, dirywiad, neu heb wneud unrhyw wahaniaeth. Roedd llai nag un o bob pedwar o bobl yn credu ei fod wedi arwain at welliant. Mae iechyd yn amlwg yn faes hanfodol i'ch Llywodraeth ac i bobl Cymru, ond a ydych chi'n credu bod gwario 50 y cant o'r holl gyllideb ar iechyd yn gynaliadwy, ac a yw pobl Cymru yn cael y gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu?

Wel, os yw'n awgrymu nad yw gwario 50 y cant ar iechyd yn gynaliadwy, mae'n argymell model arall. Nawr, os yw'n argymell model arall sy'n cynnwys gostyngiad i wasanaethau neu gyflwyno cynllun sy'n seiliedig ar yswiriant, yna rwy'n fodlon gwrando ar ei syniadau. Rwy'n siŵr y gall esbonio'r rheini i bobl Cymru. Rydym ni wedi dangos i bobl Cymru ein bod ni wedi parhau i wario'r arian sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd, er gwaethaf, wrth gwrs, gweld toriadau enfawr—£4 biliwn o doriadau mewn termau real—dros yr wyth mlynedd diwethaf gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod yn iawn, os gofynnwch i bobl yn Lloegr beth yw eu barn nhw ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, eich bod chi'n debygol o gael canlyniadau tebyg iawn i'r rhai yn 2015. Ac, ers 2015, mae pethau wedi gwella'n aruthrol: y gronfa triniaethau newydd a lansiwyd, y ffaith bod gennym ni, wrth gwrs, dargedau, mwy o dargedau, sydd wedi eu cyrraedd—os edrychwn ni ar dargedau ymateb ambiwlansys o ran galwadau coch, maen nhw'n cael eu cyrraedd, ac mae hynny'n arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud i'r gwasanaeth iechyd.

13:55

Yn amlwg, nid yw eich asesiad o berfformiad eich Llywodraeth yn cael ei rannu gan bobl Cymru mewn gwirionedd, ond un mater allweddol sy'n amlwg yn cael effaith andwyol ar y GIG yw twristiaeth iechyd a mewnfudo. [Torri ar draws.] Ydy. Mae Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif bod trin twristiaid iechyd yn costio hyd at £300 miliwn y flwyddyn. Ceir y pwysau hefyd a achosir gan fewnfudo ar raddfa fawr. Dywedodd y Swyddfa—[Torri ar draws.] Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn 2017, bod 280,000 yn fwy o bobl yn mewnfudo i'r DU nag yr oedd yn allfudo, felly 280,000 yn fwy o bobl â mynediad at ein GIG. Mae hynny'n fwy na phoblogaeth Abertawe. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod mewnfudo heb reolaeth wedi chwarae rhan fawr yn yr argyfwng enfawr yn ein GIG?

Wel, fy mhrofiad i o bobl sydd wedi dod i'r DU yw eu bod nhw'n ifanc, yn heini ac yn egnïol. Nid ydyn nhw'n rhoi llawer o bwysau ar y GIG gan eu bod nhw'n gyfranwyr net o ran treth, ac ychydig iawn y maen nhw'n ei gymryd allan o ganlyniad i hynny. Gadewch i mi roi enghraifft o dwristiaeth iechyd iddo: y meddygon sy'n gweithio yn ein GIG, y nyrsys, y ffisiotherapyddion, y staff meddygol—mae pob un ohonyn nhw wedi dod i Brydain i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ni allai'r gwasanaeth iechyd gwladol fodoli—ni allai fodoli—heb y gallu i gael gafael ar arbenigedd meddygol meddygon, nyrsys ac eraill o wledydd eraill. Ydw, rwy'n credu bod twristiaeth iechyd yn beth da gan ei fod yn gwneud yn siŵr bod ein pobl yn cadw'n iach ac yn fyw.

Ie, Prif Weinidog, roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n gwneud eich peth arferol ac yn clodfori'r holl wladolion tramor sy'n gweithio yn y GIG. Ac, wrth gwrs, rydych chi fel rheol yn ychwanegu sut y bydd Brexit yn bygwth y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, datgelodd gwaith ymchwil y BBC mai dim ond 2.5 y cant, ym mis Medi 2016, o holl staff y GIG yng Nghymru sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. A dweud y gwir, mae mwy na 93 y cant o staff sy'n gweithio yn GIG Cymru o'r DU. Os ydych chi wir yn poeni am lenwi'r bylchau, yna dylech chi fod yn gofyn i'ch hunan, 'Pam nad ydym ni'n hyfforddi mwy o bobl Prydain i weithio yn y GIG?' Ac eto, unwaith eto, mae eich ochr chi y fy nghondemnio i am grybwyll mewnfudo heb reolaeth. Fodd bynnag, eleni—[Torri ar draws.] Eleni, canfu arolwg Migration Watch bod 73 y cant o—[Torri ar draws.]—bod 73 y cant o bleidleiswyr yn cefnogi'r nod o leihau mewnfudo yn sylweddol. Mae hyn hefyd yn cynnwys mwyafrif o bleidleiswyr Llafur. Onid yw hwn yn enghraifft arall, Prif Weinidog, eich bod chi wedi colli cysylltiad â phobl Cymru yn gyffredinol ac, yn waeth fyth, wedi colli cysylltiad â'ch pleidleiswyr Llafur eich hun?

Wel, rydym ni'n ennill etholiadau ar yr ochr hon. Nid wyf i'n gwybod amdanoch chi draw yn y fan yna, ond mae eich grŵp wedi lleihau'n eithaf sylweddol ers i chi gyrraedd y Cynulliad gyntaf. Gwn fod gennych chi gynllun cylchdroi'r arweinyddiaeth yn UKIP. Ond gadewch i mi ddweud un peth wrtho nawr: bydd pobl yn rhyfeddu at y ffaith ei fod yn wfftio cyfraniad y rhai o'r tu allan i'r DU at ein gwasanaeth iechyd. Hyd yn oed ar ei ffigurau ei hun, mae'n dweud bod 7 y cant o'r rhai sy'n gweithio yn y GIG o wledydd eraill. A yw e'n dweud na ddylen nhw fod yno gan fod lliw eu croen yn anghywir neu eu bod nhw o'r rhan anghywir o'r byd? Nid wyf i'n poeni o ble maen nhw'n dod. Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw eu bod nhw'n iachau pobl. Nid wyf i'n poeni lle ganwyd rhywun. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw bod gan rywun yr arbenigedd i drin canser, i drin clefyd y galon, i gyflawni llawdriniaethau ar wardiau orthopedig. Dyna yr wyf i'n poeni amdano. Nid wyf i'n malio dim am eu cefndir, cyn belled â'u bod nhw'n darparu gwasanaethau i'n pobl. Cymerwch y mwgwd oddi ar eich llygaid, agorwch eich llygaid i'r byd, a stopiwch feddwl, rywsut, nad oes croeso i unrhyw un a phawb sy'n byw yn y wlad hon sydd o deulu o fewnfudwyr.

Mae pob un person, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, yn ddisgynnydd mewnfudwr—pob un person. Mae'n fater syml o bryd y daeth ein teuluoedd. Mewn rhai ffyrdd—. Nid yw'n ymddangos bod UKIP yn cydnabod hynny, ond agorwch eich llygaid a rhowch y gorau i ddweud wrth bobl Cymru, 'Rydym ni eisiau cael gwared ar feddygon sy'n eich iachau oherwydd ein dogma wleidyddol ryfedd—a hiliol yn aml—ein hunain.'

Llygredd Aer

3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer yn sgil y rhybuddion gan Sefydliad Iechyd y Byd? OAQ52869

Mae mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru yn gofyn am ddull aml-agwedd. Yn rhan o'r rhaglen aer glân, mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi sefydlu prosiect tystiolaeth, arloesedd a gwelliannau ansawdd aer a fydd, ymhlith pethau eraill, yn ystyried cymhwysiad ymarferol canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer llygredd aer yng Nghymru.

14:00

Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i resynu at y ffaith bod 90 y cant o blant y byd yn anadlu aer gwenwynig erbyn hyn o ganlyniad i'n cyd-fethiant i ddiogelu ein hamgylchedd.

Rydym ni'n gwybod bod llygredd aer yn lladd mwy o bobl na damweiniau traffig ar y ffyrdd, a chyhoeddodd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ddata yn y 10 diwrnod diwethaf yn amlygu bod 57 o ganolfannau iechyd a thri ysbyty yng Nghymru sydd mewn ardaloedd sydd y tu hwnt i'r lefelau llygredd aer diogel. Yn anffodus, mae 26 ohonyn nhw yng Nghaerdydd, gan gynnwys y pump mwyaf llygredig, sydd yn fy etholaeth i, lle mae lefelau PM2.5 ymhell uwchlaw canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. A wnewch chi, fel Llywodraeth, ystyried mabwysiadu canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd fel y beibl y mae angen i ni gydymffurfio ag ef? A sut mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai hyn fod yn hysbysu papur gwyrdd Cyngor Dinas Caerdydd ar drafnidiaeth ac aer glân, sy'n ystyried, ymhlith pethau eraill, codi ffi ar bobl i ddod i mewn i ardal aer glân fel un o'r mesurau y maen nhw'n eu hystyried ?

Wel, ar 24 Ebrill, cyhoeddodd y Gweinidog becyn o fesurau a fydd yn gwella ansawdd aer ledled Cymru. Mae gennym ni raglen aer glân Cymru, y cynllun aer glân ar gyfer Cymru, cynllun atodol Llywodraeth Cymru i un y DU ar gyfer mynd i'r afael ag allyriadau nitrogen deuocsid ymyl y ffordd, ynghyd â fframwaith ardal aer glân ar gyfer Cymru hefyd. Mae'r rhain i gyd yn faterion a fydd yn helpu cyngor Caerdydd o ran datblygu ei strategaeth trafnidiaeth ac aer glân. Gwn fod y papur hwnnw wedi amlinellu'r problemau i'r ddinas wrth iddi dyfu, a'r dewisiadau posibl ar gyfer y dyfodol. Beth ydyn nhw? Wel, ceir nifer o gyfleoedd i newid trafnidiaeth yn y ddinas yn sylweddol. Mae codi ffi yn un posibilrwydd. Byddai hwnnw'n fater i'r Cyngor, wrth gwrs. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweld datblygiad metro de Cymru, gwelliannau o ran beicio—ac rwy'n falch o weld Caerdydd yn bwrw ymlaen â hynny'n weddol gyflym nawr—gwelliannau i'r seilwaith cerdded, ac, wrth gwrs, cyflwyniad pellach y cynllun llogi beiciau nextbike. Felly, oes, mae mwy o waith i'w wneud yn y dyfodol, ond, yn amlwg, mae cynlluniau sydd eisoes ar waith nawr a fydd yn ceisio helpu yn y dyfodol hefyd.

Prif Weinidog, mae hwn yn fater difrifol iawn. Pan roedd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn mynd ar ei hynt yn y pwyllgorau, cawsom dystiolaeth rymus iawn gan nifer o gwmnïau a sefydliadau ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â llygredd aer a sut y gallem wella ansawdd yr aer. Dewisodd eich Llywodraeth beidio â bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny, er gwaethaf rhai o argymhellion y pwyllgor. O ystyried difrifoldeb adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd, a gaf i ofyn i chi a ydych chi'n bwriadu ailystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)? Ac a wnewch chi ofyn i'ch Gweinidog adolygu, unwaith eto, y dystiolaeth a gawsom, a'r argymhellion a wnaed gennym, i weld a allai nawr fod yn adeg fwy priodol i'ch Llywodraeth weithredu?

Wel, y pryder sydd gennym ni am ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yw eu bod nhw'n gwbl seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd y cyhoedd ar lygredd aer. Popeth yn iawn. Ond nid ydyn nhw'n ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol cyflawni hynny. A dyma ble mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd fel Llywodraeth. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, er enghraifft, y gellid gwella ansawdd aer ym Mhort Talbot yn enfawr pe na byddai gwaith dur yno, ond byddai neb yn awgrymu o ddifrif bod hynny'n rheswm, wedyn, i roi terfyn ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Ac eto, rydym ni'n gwybod y bydd y gwaith dur yn anochel—er gwaethaf, wrth gwrs, y ffaith ei fod wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd o ran lleihau ei ôl-troed carbon—bob amser yn llygrydd yn y ffordd honno. Felly, y cydbwysedd yr ydym ni'n ei geisio fel Llywodraeth, wrth gwrs, yw hyrwyddo, er enghraifft, moddau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, ac rydym ni'n gwneud hynny trwy fetro de Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol fel Caerdydd i wneud hynny. Ond, wrth gwrs, bydd—. Pe byddai'r canllawiau yn cael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru, mae'n bosibl iawn y gallai hynny greu llawer o broblemau o ran yr economi a swyddi pe na byddem yn ofalus.

Adeiladu Llosgyddion

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar adeiladu llosgyddion? OAQ52842

Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' a nodyn cyngor technegol 21 ar wastraff yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer asesu cynigion ar gyfer seilwaith rheoli gwastraff yng Nghymru. Ac rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi gweithredu'r polisi rheoli gwastraff cyffredin yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'.

Diolch am yr ateb yna. Mae TAN 21, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, yn ymdrin â gwaredu gwastraff, ond, yn wahanol i gloddio glo brig, lle, ers 2009, y mae'n rhaid adeiladu pyllau glo mwy na 500 metr oddi wrth gartrefi, nid yw'n ymddangos bod rheol ar bellter llosgyddion oddi wrth tai. Mae gen i losgydd wedi'i gynllunio ar gyfer ardal Llansamlet Abertawe sy'n agos at dai ac ysgol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried pellter oddi wrth dai ac ysgolion ar gyfer adeiladu llosgyddion a diwygio TAN 21 yn unol â hynny?

14:05

Wel, byddai'n rhaid cael sail wyddonol ar gyfer gwneud hynny—o ran pam byddai 500 metr yn cael effaith fuddiol. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw bod llosgi a chyd-losgi yn ddarostyngedig i ofynion diogelu llym y gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol. Maen nhw wedi eu hymgorffori yn neddfwriaeth Cymru ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw'n cynnwys gofynion y dylai fod terfynau allyriadau llym ar gyfer sylweddau a allai lygru; ceir gofynion monitro ac amodau gweithredu sy'n cael eu cymhwyso trwy drwyddedau amgylcheddol a gyflwynir gan y rheoleiddiwr amgylcheddol. Gallaf hefyd ddweud, os oes effeithiau andwyol, wrth gwrs, ar amwynder neu'r amgylchedd, ac na ellir eu lliniaru, yna wrth gwrs, gellir gwrthod caniatâd cynllunio ar y sail honno.

Prif Weinidog ym mis Mawrth eleni, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, yng nghyswllt y llosgydd yn y Barri, bod y Llywodraeth yn bwriadu cael asesiad wedi ei gynnal o'r effaith amgylcheddol. Hysbysodd y Llywodraeth y datblygwr yn ôl ym mis Chwefror eleni bod hynny'n mynd i ddigwydd. Hyd yma, nid yw'r Llywodraeth wedi gorchymyn i'r asesiad o'r effaith amgylcheddol hwnnw gael ei gynnal, ar ôl aros tua wyth i naw mis, o gofio bod y Llywodraeth ar y pryd ym mis Mawrth yn 'bwriadu'—pryd ydym ni'n mynd i symud o 'fwriadu' i orchymyn y bydd yr asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal? A allwn ni gael dyddiad gennych chi?

Wel, bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad yn fuan. Os gallaf ysgrifennu ato gyda dyddiad i roi rhyw syniad iddo o'r hyn y gallai'r amserlen fod, byddaf yn gwneud hynny. Ond bydd y Gweinidog yn gwneud penderfyniad am yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol yng ngwaith biomas y Barri—efallai os gwnaf i ysgrifennu at yr aelod bryd hynny gyda mwy o fanylion o ran yr amserlen.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fodelau cyflawni posibl ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ52890

Wel, rŷm ni'n barod iawn i dderbyn syniadau er mwyn dod o hyd i ffordd arall o ddefnyddio technoleg morlyn llanw yng Nghymru. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe wedi sefydlu tasglu er mwyn dod o hyd i fodel cyllido gwahanol ar gyfer project morlyn llawn dan arweiniad y sector preifat.

Ymhellach i hynny, Brif Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud yr oeddwn i'n siomedig i glywed y datganiadau diweddar gan arweinydd cyngor Abertawe wrth iddo sôn ei fod e'n credu mai'r ffordd orau o ddelifero'r morlyn yn Abertawe yw gadael hyn i'r sector breifat yn gyfan gwbl. Yn ei farn ef, y sector breifat a ddylai gwneud y gwaith dylunio, ffeindio'r buddsoddwyr, adeiladu'r project a chynnal y morlyn. Ond nid oes dim sicrwydd bod hyn yn mynd i ddigwydd. Os yw Llywodraeth Cymru yn wirioneddol ymrwymedig i gyflwyno morlyn ym mae Abertawe, ac wedyn datblygu'r diwydiant adnewyddadwy yng Nghymru, pam nad ydych chi'n arwain ar yr agenda yma a chreu cwmni ynni cenedlaethol ar ran pobl Cymru?

Mae yna dasglu, a rŷm ni ar y tasglu—mae yna gynrychiolaeth gyda ni ar y tasglu hwnnw. Mae yna gais wedi dod atom ni ynglŷn â chyllido ychwanegol wrth y tasglu ei hunan er mwyn ystyried astudiaeth arall ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Byddwn ni, wrth gwrs, yn ystyried hynny, a gweld os oes modd i gyllido astudiaeth arall er mwyn gweld pa fodel fyddai'r mwyaf perthnasol i'r ardal.

Wel, o ystyried y feirniadaeth o Lywodraeth y DU o'r ffynhonnell benodol honno, y sylwadau a wnaed gan arweinydd Cyngor Abertawe y cyfeiriwyd atyn nhw gan Dai Lloyd, rwy'n credu bod hynna'n gryn wyrdroad o'r sylwadau a wnaed ganddo ef, ac, yn wir, eich Llywodraeth chi, pan mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol am benderfyniad ar ddichonoldeb y morlyn. A ydych chi'n cytuno â'r sylwadau hyn, neu a ydych chi'n dal i gynnig £200 miliwn o arian trethdalwyr er mwyn cefnogi prosiect o'r fath?

Wel, y gwir amdani yw mai Llywodraeth y DU sy'n rheoli'r farchnad. Llywodraeth y DU sy'n rheoli'r pris taro, mae'n rheoli contractau ar gyfer gwahaniaeth. Nid ydym ni'n rheoli unrhyw un o'r pethau hynny. Gallai Llywodraeth y DU fod wedi ymrwymo i Fae Abertawe, ond methodd â gwneud hynny, fel y gwnaeth gyda thrydaneiddio i Abertawe—ni wnaeth hynny er iddi allu dod o hyd i £1 biliwn i'w roi i Ogledd Iwerddon.

Mae'r broblem hon yn codi o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Eu cynllun nhw oedd hwn. Roeddem ni'n barod i weithio gyda nhw. Mae'n iawn i ddweud y byddem yn ystyried benthyciad neu fuddsoddiad ecwiti i gefnogi'r morlyn, ond nid oedd Llywodraeth y DU yn barod i gynnig contract ar gyfer y gwahaniaeth, a dyna rwystrodd y cynllun gwreiddiol. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda chyngor Abertawe ac eraill i weld a ellir cyflwyno cynllun arall.

Symiau Canlyniadol Barnett

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu'r symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU? OAQ52844

Bydd penderfyniadau am ddyrannu cyllid ychwanegol yn cael eu gwneud gan Gabinet Cymru yn y ffordd arferol.

Edrychwn ymlaen at glywed y manylion hynny maes o law, os nad heddiw. Ond fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud wrth yr Aelod dros Gwm Cynon yn gynharach ei bod hi'n iawn wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth i fusnesau. Ni wnaeth ailadrodd ei honiadau mwy amheus, efallai, ei bod wedi cynnig mwy o gymorth nag unman arall yn y DU, na bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn cael cymorth nag mewn mannau eraill. Dywedodd nad oedd yn gwybod beth oedd swm canlyniadol Barnett. £26 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf yw'r rhif sydd gennym ni. A all ef ddweud wrthym ni pa un a fydd busnesau Cymru yn cael y math hwnnw o gymorth, fel y bydd ar gael i'w cystadleuwyr yn Lloegr?

14:10

Ac mae'r Aelod yn gwybod yn iawn nad yw dewis un swm canlyniadol yn rhoi'r darlun llawn, oherwydd mae ein cyllid canlyniadol yn dod yn rhan o floc. Yn rhan o'r bloc hwnnw, bydd rhai pethau a fydd yn ychwanegol a rhai pethau a fydd yn cael eu dileu, oherwydd toriad canlyniadol i gyllid yn yr adran gyfatebol yn Whitehall. Felly, mae'n rhaid i ni ymdrin â'r hyn sydd yno yn y bloc, ond, wrth gwrs, byddwn, dros yr wythnos nesaf, yn edrych ar sut y bydd yr arian ychwanegol—er nad yw'n agos o gwbl at yr hyn a ddisgrifiwyd—yn cael ei ddyrannu mewn gwirionedd.

Economi Pen-y-bont ar Ogwr

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi Pen-y-bont ar Ogwr? OAQ52885

Mae ein polisïau i gefnogi'r economi ledled Cymru, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, wedi eu nodi yn strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' ac yn y cynllun gweithredu economaidd.

Diolch am yr ateb yna. Gwn fod y ddau ohonom ni wedi bod yn siomedig iawn o glywed am sefyllfa gwaith Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar pryd y dywedwyd wrth staff i gymryd wythnos o wyliau a rhoi'r gorau i gynhyrchu'r peiriannau Land Rover. Mae'n newyddion y mae llawer wedi bod yn ei ofni, nid yn unig teuluoedd a staff, ond wrth gwrs, cyflogeion yn y gadwyn gyflenwi. Byddwch hefyd yn gwybod pa mor siomedig oeddem ni i gyd pan na chawsoch chi gyfle i gyfarfod â rheolwyr Ford pan yr oeddech chi yn yr Unol Daleithiau ddiwethaf, ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym nawr gyda phwy yr ydych chi wedi siarad â nhw yn y cwmni ar ôl y datblygiad diweddar ac a ydych chi wedi bod yn gwneud cynlluniau rhagarweiniol ar gyfer pecyn cymorth i gyflogwyr ac, yn wir, cyflogeion cadwyn gyflenwi, yn yr un modd ag y gwnaethoch ar gyfer Tata Steel, pe byddai Ford yn gwneud yr hyn na ellir meddwl amdano?

Wel, siaradais â'u hunigolyn materion llywodraeth ddydd Iau. Gofynnais nifer o gwestiynau iddi. Rhoddodd sicrwydd i mi mai problem dros dro yw hon. Mae allan o ddwylo Ford ac mae'n ymwneud â Jaguar Land Rover, ac mae llawer ohono yn ymwneud, yn y pen draw, â Brexit yn y pen draw. Felly, mae Ford yn un o brif gyflenwyr JLR. Gan fod JLR yn y sefyllfa y maen nhw ynddi, yna nid oes gan Ford unrhyw ddewis ond cymryd y cam y mae wedi ei gymryd, er mai dros dro—rwyf wedi cael sicrwydd llwyr—yw'r cam hwnnw. 

Nawr, wrth gwrs, Ford yw'r cyflogwr preifat mwyaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr o hyd a dathlodd gynhyrchu ar gyfer y peiriant Dragon cyntaf fis diwethaf. Mae'n hollol newydd. Cefnogwyd y llinell gynhyrchu sydd ei hangen i'w gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, felly, byddaf yn ymweld â'r ffatri yr wythnos nesaf ar 14 Tachwedd i ddathlu cynhyrchu'r peiriant newydd hwnnw, a byddwn yn parhau i weithio gyda Ford, fel yr ydym ni wedi ei wneud ers blynyddoedd maith, i sicrhau dyfodol y gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y Ddarpariaeth o Dai ar Gyfer Plant sy'n Agored i Niwed

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o dai ar gyfer plant sy'n agored i niwed? OAQ52888

Gwnaed ein hymrwymiad yn eglur gennym, ac rydym ni wedi dangos drwy ein penderfyniadau polisi ac ariannu, ein cefnogaeth i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac, wrth gwrs, i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cynorthwyo unigolion a theuluoedd i ffynnu.

Diolch, Prif Weinidog. Mae Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, wedi dweud bod y ddarpariaeth o gartrefi diogel i blant agored i niwed yn annigonol yng Nghymru. A chodwyd y mater hwn yn aml gyda'ch Llywodraeth Cymru chi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, trefnwyd 20 o leoliadau lles ar gyfer ein plant yng Nghymru, ac eto lleolwyd hanner y rhain yn Lloegr. Yn wir, adroddodd BBC Wales ar unigolyn yn ei arddegau a roddwyd mewn uned ddiogel i blant tua 250 milltir i ffwrdd o'i gartref ei hun. Prif Weinidog, nid yw hyn yn dderbyniol. Felly, pam nad yw eich Llywodraeth wedi cymryd camau yn sgil y pryderon blaenorol hyn, a beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau y gall plant agored i niwed gael mynediad at y cyfleusterau sydd eu hangen gymaint arnyn nhw a hynny cymaint yn nes at eu cartrefi o ble maen nhw'n dod?

Diffyg datganoli yw'r broblem, oherwydd, wrth gwrs, rheolir darpariaeth lles diogel ar sail Cymru a Lloegr ar hyn o bryd trwy rwydwaith o 15 o gartrefi diogel i blant. Rydym ni'n ceisio gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y ffordd orau i ad-drefnu'r ddarpariaeth cyfiawnder ieuenctid, ond mae hon yn enghraifft arall o pam mae angen datganoli cyfiawnder, i osgoi sefyllfa lle'r ydym ni'n gwbl ddibynnol ar adrannau yn Llundain i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Ac mae hynny'n rywbeth, yn sicr, yr wyf i'n siŵr fydd yn destun trafod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae llai o gyllid i Cymorth i Fenywod Cymru wedi effeithio ar eu gallu i ddarparu cymorth penodol ar gyfer plant sy'n cael llety mewn lloches, a nid yw hyn yn unrhyw syndod. Ledled Cymru, bu gostyngiad o 14 y cant i gyllid ar gyfer gwasanaethau gan wasanaethau plant awdurdodau lleol a rhaglenni grant Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw rhai darparwyr arbenigol yn derbyn unrhyw gyllid penodol ar gyfer cymorth i blant, sy'n golygu bod plant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn wynebu loteri cod post. O fy ngwaith blaenorol gyda Cymorth i Fenywod, gwn fod rhai o'r plant hyn wedi gweld arswyd y tu hwnt i'n dirnadaeth a gallan nhw fod wedi dioddef trawma gwirioneddol ac mae angen cymorth arnynt. Gyda hyn mewn golwg, pryd ydych chi'n mynd i ddarparu model ar gyfer cymorth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, fel yr addawyd yn eich strategaeth genedlaethol a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl? Os oeddech chi o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â phrofiadau andwyol yn ystod plentyndod, ac os ydych chi o ddifrif ynghylch creu gwlad ddiogel i fenywod, mae hwn yn esgeulustod difrifol y mae angen rhoi sylw iddo'n gyflym.

14:15

Credaf ei bod yn gywir i ddweud y bu anawsterau ariannu o safbwynt llywodraeth leol. Yr hyd yr ydym yn ceisio ei wneud a'r hyn y byddwn yn parhau i geisio ei wneud yw gweithio gyda llywodraeth leol a darparwyr eraill i sicrhau nad oes bylchau—ac mae bylchau. Mae'n wir i ddweud nad yw darpariaeth yn gyson ar draws Cymru. Nid ydym yn gyfforddus â hynny. Byddwn yn edrych yn rhan o'r adolygiad ar gydraddoldeb rhywiol sy'n cael ddatblygu gan arweinydd y tŷ a byddwn yn ystyried pa gyllid allai fod yn bosibl yn y dyfodol, o gofio'r wasgfa ariannol sydd gennym, er mwyn llenwi'r bylchau sydd wedi eu nodi yn y ddarpariaeth o wasanaeth ac y mae'r Aelod yn eu codi.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i wneud y datganiad ar ran arweinydd y tŷ. Lesley Griffiths.

Member
Lesley Griffiths 14:16:31
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Ceir un newid i agenda heddiw: mae'r datganiad am ddiwygio'r datganiadau llywodraethu a chyllid awdurdodau tân ac achub wedi ei ohirio tan yr wythnos nesaf. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa asesiad y mae hi wedi ei wneud ar y cyfleoedd i goffáu cyfraniad sylweddol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, bataliwn 53, i'r rhyfel ym Mhalesteina a'r Aifft yn ystod y rhyfel byd cyntaf? Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr yn ymwybodol o arddangosfa amgueddfa Wrecsam sydd wedi ei chynnal, a oedd yn ardderchog, ond hon yw'r unig arddangosfa o'i math a nododd gyfraniad y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar y ffrynt penodol hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gwneud rhywfaint o waith i nodi hyn a pha drafodaethau a all fod wedi eu cynnal gyda Llywodraeth Israel i fwrw ymlaen â hynny.

A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y gwaith y mae'n ei wneud i hyrwyddo profiadau gyda rhaglenni cadetiaid yng Nghymru? Mae cadetiaid y môr wedi lansio adroddiad ar effaith cadetiaid y môr yn ddiweddar a gyhoeddwyd gan New Philanthropy Capital, sy'n cyffwrdd â'r manteision aruthrol y gall cymryd rhan yng nghadetiaid y môr eu cynnig i bobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys ymgysylltu ag ystod eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, sbarduno symudedd cymdeithasol, lleihau allgáu cymdeithasol, cynyddu dyheadau a chanlyniadau academaidd, gwella perthynas â rhieni, a gwelliannau iechyd meddwl a lles. Tybed pa waith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i hybu profiadau cadetiaid, yn enwedig o ystyried yr adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo'r rhain ledled Cymru.

Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna. O ran y cwestiwn cyntaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad yn ddiweddarach heddiw. O ran yr ail bwynt, deallaf fod yr un Ysgrifennydd y Cabinet wedi cwrdd â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ddoe ac y bydd yn hapus iawn i ddiweddaru'r Aelodau maes o law.

Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn sicr yn cytuno bod y ffordd yr ymdrinnir â chwynion gan gyrff cyhoeddus yn hanfodol bwysig i ffydd pobl mewn unrhyw system. Byddwch hefyd yn ymwybodol, o dan gyfnod 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fod awdurdodau lleol yn penodi swyddogion ymchwilio annibynnol i edrych ar gwynion yn erbyn yr awdurdod lleol. Yr hyn sy'n amlwg, fodd bynnag, yw, er bod swyddogion ymchwilio annibynnol yn perfformio gwasanaeth cyhoeddus statudol, nid ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw safonau rheoleiddio proffesiynol. Mae gweithwyr cymdeithasol; mae meddygon; mae nyrsys, ond nid yw'r swyddogion ymchwilio annibynnol hyn yn ddarostyngedig i unrhyw safonau rheoleiddio proffesiynol. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gofrestr genedlaethol ar gyfer ymchwilwyr. Deallaf nad oes gan rai ohonynt, hyd yn oed, unrhyw brofiad ymarfer gofal cymdeithasol ychwaith, a oedd yn syndod braidd i mi, a dweud y lleiaf. Byddwn i'n ddiolchgar, felly, pe byddai'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol yn cytuno i gyflwyno datganiad ar swyddogaeth swyddogion ymchwilio annibynnol. Gofynnaf i'r datganiad ystyried a oes angen i ni sefydlu safonau penodol ar gyfer ymchwilwyr, cofrestru a hyfforddiant, a pha swyddogaeth y gallai corff proffesiynol ei chwarae yn hyn. Mae'r ymchwilwyr hyn yn rhan annatod o'r gymuned gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond maen nhw wedi eu cuddio i raddau helaeth oddi wrth staff ymarfer datblygu a gwneuthurwyr polisi. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn ymrwymo i ddechrau newid hyn i gyd.

14:20

Credaf eich bod yn llygad eich lle fod pobl angen ffydd yn y system os ydyn nhw'n cwyno. Fe wnaiff y Gweinidog, yr wyf yn deall, gwrdd â'r Aelod os yw'n dymuno trafod—yn amlwg, mae gennych chi bryderon penodol iawn, i fynd i'r afael â nhw.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r Prif Weinidog ddoe yn nigwyddiad lansio Wythnos Cyflog Byw yn Bigmoose Coffee Company ac o groesawu'r cynnydd yn y gyfradd cyflog byw go iawn i £9 yr awr. Mae gennym ni eisoes nifer o gyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw go iawn. Yn fy etholaeth i, Bro Morgannwg, maen nhw'n cynnwys Cyngor Tref y Barri, Gwasanaethau gwirfoddol Morgannwg, Cyngor ar Bopeth, Santander—canghennau ohono—ac mae mwy o gyflogwyr yn ymuno â nhw yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd. Bydd cefnogi'r ymgyrch cyflog byw go iawn yn helpu i fynd i'r afael â chyflog isel, yn gwrthsefyll twf dyled a defnydd banciau bwyd gan gefnogi economi gwaith teg. Mae'n gwneud synnwyr economaidd ac mae'n nodweddu cymdeithas ofalgar, dosturiol a theg. A gawn ni ddatganiad ar fesurau Llywodraeth Cymru i gefnogi cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fabwysiadu cyflog byw go iawn yng Nghymru?

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Fel y dywedasoch, ddoe, lansiodd y Prif Weinidog Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru, gan gyhoeddi'r gyfradd newydd, a thrwy wneud hynny amlinellwyd llawer o'r camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cyflog byw ar draws yr economi, gan ailadrodd yr ymrwymiad yn y rhaglen ar gyfer Llywodraethu i weithredu ynghylch cyflog byw. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar draws y sector cyhoeddus—Llywodraeth Cymru, y cyrff a noddir gennym, GIG Cymru, parciau cenedlaethol ac awdurdodau lleol. Soniasoch am Faes Awyr Caerdydd, maen nhw wedi cyhoeddi'n ddiweddar eu bod nhw'n cyflwyno eu hymrwymiad eu hunain ac, wrth gwrs, mae ein sefydliadau addysg uwch hefyd yn ei fabwysiadu'n gynyddol. Credaf fod angen i bob un ohonom wneud yr ymrwymiad hwnnw. Mae angen i bob un ohonom ni siarad am y cyflog byw a lledaenu'r neges honno'n eang iawn.

Byddwch yn ymwybodol, ochr yn ochr â hyn, fod y Prif Weinidog wedi sefydlu'r comisiwn gwaith teg yn gynharach eleni. Rydym yn disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau ganddo. Mae eisoes wedi cwrdd ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys undebau llafur, busnesau a sefydliadau cynrychioliadol. Ac rwyf o'r farn, yn fwy na thebyg, mai ar ôl i'r comisiwn gyflwyno'r adroddiad fyddai'r amser priodol i'r Gweinidog perthnasol gyflwyno datganiad.

Arweinydd y tŷ dros dro, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant manwerthu? Mae'r diwydiant manwerthu yng Nghymru o dan gryn bwysau oherwydd twf yn nifer y cwsmeriaid sy'n siopa ar-lein a'r baich ychwanegol o ardrethi busnes. Mae manwerthwyr Cymru eisoes yn talu chwarter yr holl ardrethi busnes yng Nghymru ac mae'n dod yn fwyfwy drud i weithredu o safle, gymaint felly fel bod Consortiwm Manwerthu Cymru yn rhagweld y gallai dros un o bob pump o siopau gau wrth i'r degawd nesaf fynd yn ei flaen. Yn y gyllideb hon, cyhoeddodd y Canghellor gyllid i dorri ardrethi busnes gan draean dros ddwy flynedd, gan arbed hyd at £8,000 y flwyddyn ar gyfer 90 y cant o'r holl siopau yn Lloegr. A gawn ni ddatganiad ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector manwerthu yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig o ran bod arferion siopa pobl wedi newid. Rydym wedi gwneud llawer iawn fel llywodraeth yng Nghymru i gefnogi llawer o fusnesau o ran cymorth gydag ardrethi. Yn amlwg, unwaith eto, byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniadau ynghylch y cyllid ychwanegol yr ydym yn ei gael.

A gaf i ofyn am ddiweddariad ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar gyfer y rhai ag anghenion gofal cymhleth, yn enwedig y bobl hynny â nychdod cyhyrol? Cynhaliais ddigwyddiad yr wythnos diwethaf—digwyddiad traws-bleidiol—ynghylch nychdod cyhyrol, a chawsom lawer o deuluoedd a gododd bryderon am y diffyg ymwybyddiaeth meddygol ymhlith staff allweddol yn y GIG. Dywedodd dau o bobl yn y cyfarfod wrth y grŵp eu bod nhw neu aelod o'u teulu wedi bod mewn ysbyty lle nad oedd staff meddygol, yn anffodus, yn gwrando ar anghenion penodol a gofynion fferyllol y cleifion hyn ac, mewn un achos, gofynnodd staff meddygol i glaf gymryd meddyginiaeth a allai— petai hi wedi ei chymryd—fod wedi arwain at ei marwolaeth. Credaf fod hyn yn rhywbeth sydd angen mwy o flaenoriaeth wleidyddol. Mae angen inni ddeall sut y mae arbenigwyr yn ymgysylltu gyda phobl â nychdod cyhyrol. Efallai nad oes cannoedd o filoedd o bobl yn dioddef o'r cyflwr hwn yng Nghymru, ond pan mae'r cyflwr ganddyn nhw, mae'n rhywbeth sydd ganddyn nhw drwy gydol eu hoes. Hoffwn, felly, gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn y maes hwn, fel y gallwn fynd yn ôl at y bobl hynny sydd â phryderon a'u codi nhw'n briodol.

14:25

Diolch. Yn amlwg, ceir llawer o gyflyrau y mae'n rhaid i fyrddau iechyd fynd i'r afael â nhw, ac rwyf yn siŵr bod nychdod cyhyrol yn rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei drafod gyda byrddau iechyd. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet os oes rhywbeth penodol ynglŷn â nychdod cyhyrol, i ysgrifennu at yr Aelod.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf newydd dderbyn llythyr gan reolwr-gyfarwyddwr Schaeffler yn y DU sy'n cadarnhau eu bod nhw'n dechrau eu cyfnod ymgynghori 45 diwrnod, gyda'r bwriad o gau'r ffatri hir sefydledig yn Llanelli, gan golli oddeutu 220 o swyddi. Yn amlwg, mae hyn yn newyddion cythryblus iawn i Lanelli ac i'r wlad. Prin y gallwn fforddio colledion pellach i'n sylfaen gweithgynhyrchu, ac i economi ardal fel fy un i, gallai hon fod yn ergyd ddifrifol iawn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno'n garedig i'm cyfarfod, rwyf wedi siarad gyda'r Prif Weinidog y bore yma ac rwyf mewn cysylltiad â'r undebau llafur, y cwmni a'r Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol, gan fy mod i'n gobeithio bod rhywbeth y gallwn ni ei wneud i ddarbwyllo Schaeffler y gallant addasu eu model busnes a pharhau i wneud pethau y gallant eu gwerthu am elw yn Llanelli.

Cefais fraw wrth ddarllen mai un o'r rhesymau a nodwyd ganddynt oedd yr ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit fel un o'r ffactorau sydd wedi dylanwadu ar eu penderfyniadau, oherwydd rydym wedi bod wedi pwyso am y ddwy flynedd a hanner diwethaf fod sicrwydd mynediad i'r farchnad sengl yn hanfodol i wneud yn siŵr bod y cwmnïau amlwladol hyn ym mhob un o'n cymunedau yn teimlo y gallan nhw aros yma. Felly, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried gwneud datganiad ynghylch yr hyn y gallant ei wneud i weithio gyda Schaeffler i weld a oes ffordd ymlaen iddyn nhw i aros yn Llanelli?

Diolch i chi ac, yn amlwg, mae'r rhain yn newyddion trychinebus, fel y dywedwch, nid yn unig ar gyfer eich etholaeth eich hun yn Llanelli, ond ar gyfer rhannau eraill o Gymru hefyd, ac mae ein meddyliau yn sicr gyda'r gweithwyr a'u teuluoedd. Rwyf yn falch iawn eich bod wedi siarad â'r Prif Weinidog ac, yn amlwg, Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn barod i gynnig pob cymorth o fewn ein gallu i'r ffatri, ac rwyf yn falch iawn y byddwch yn cael cyfarfod gyda Ken Skates. Dylem wneud popeth y gallwn i gefnogi'r gweithwyr. Fodd bynnag, credaf fod gan Lywodraeth y DU gwestiynau difrifol i'w hateb. Fel y dywedwch, rydym wedi tynnu sylw dro ar ôl tro yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf yr effaith andwyol y mae eu hagwedd tuag at Brexit yn ei chael. Mae busnesau angen eglurder ac maen nhw angen bod yn ffyddiog y bydd bargen yn cael ei tharo na fydd yn niweidiol iddyn nhw ac, yn anffodus, mewn gwirionedd, mae hynny wedi bod yn druenus o ddiffygiol ac nid ydym ni'n cael hynny, ac mae bellach yn dechrau costio swyddi yng Nghymru.

Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth am eglurder ynghylch pryd y mae'n bwriadu cynnal y dadleuon a'r pleidleisiau o ran telerau ymadael y DU o'r Undeb Ewropeaidd, os deuir i gytundeb mewn gwirionedd. Cadarnhaodd y Prif Weinidog wrth iddo roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe fod y Llywodraeth yn bwriadu cynnal dwy ddadl, ac mae'n debyg felly, dwy bleidlais, y gyntaf ar y cytundeb ymadael rhwng y DU a'r UE, ac un arall wedyn ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil ymadael ei hun. O gofio mai dim ond os bydd y Bil ymadael wedi ei gytuno neu os bydd yn debygol o gael ei basio heb ei ddiwygio y bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn cael ei gyflwyno, ymddengys i mi fod y bleidlais ar y cytundeb ymadael yn rhoi'r cyfle gorau i Aelodau'r Cynulliad fynegi barn ynghylch pa un a yw'r Cynulliad hwn yn derbyn neu'n gwrthod y cytundeb. A wnewch chi ofyn, felly, i arweinydd y tŷ gadarnhau y bydd y ddadl a'r bleidlais ar y cytundeb ymadael yn cael eu cynnal yma yng Nghymru cyn y bleidlais ystyrlon yn San Steffan, er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl Cymru, fel y cânt eu mynegi drwy'r Cynulliad hwn, hefyd yn cael eu mynegi yn ystyrlon?

Diolch. Byddaf yn sicrhau bod Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y pwynt hwnnw yn natganiad busnes yr wythnos nesaf pan fydd arweinydd y tŷ yn dychwelyd.

Mae llawer o bobl yng Nghymru, yn fy rhanbarth i yn enwedig, yn poeni'n arw, yn bryderus iawn ac, mewn rhai achosion, mewn cryn ofid oherwydd yr hyn sy'n digwydd i aelodau o'u teuluoedd yn Yemen oherwydd y gwrthdaro, ac mae aelodau o'u teuluoedd yn cael eu bomio allan o fodolaeth yn llythrennol. Yr hyn a hoffwn heddiw fyddai datganiad gan y Llywodraeth am yr hyn y gellid ei wneud i helpu'r gymuned Yemenïaidd yng Nghymru o ran cymorth iechyd meddwl ar gyfer pobl yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth cwnsela i rai sydd mewn galar. Credaf yn wir y dylem wneud rhywbeth, a hoffwn gael datganiad am yr hyn y gallem ei wneud, neu'r hyn y gallech chi ei wneud fel Llywodraeth, os gwelwch yn dda.

Diolch. Yn amlwg, rydym yn gweithio'n helaeth gyda'r sector pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru i nodi a cheisio mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl. Felly, byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o sawl un o'r rhaglenni sydd gennym yn ein rhaglen ariannu cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae gennym gydgysylltydd yng Nghaerdydd sy'n gweithio gyda chymunedau Yemenïaidd. Mae canfyddiadau'r prosiect hwnnw'n cyfrannu at ddatblygiadau polisïau Llywodraeth Cymru. Efallai y byddwch yn ymwybodol fod digwyddiad coffâd pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi ei gynnal yr wythnos diwethaf yn y Deml Heddwch, mewn partneriaeth â Horn Development Association, ac anrhydeddodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol y cyfraniad a wnaed gan gymunedau o'r fath yn ystod y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ac roedd hynny'n cynnwys morwyr masnachol Yemenïaidd.

Mae gennym raglen eang o waith i gefnogi'r gymuned o dan ein rhaglenni cydlyniant cymunedol a'n rhaglenni ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb, ac mae honno'n gweithio gydag amrywiaeth eang o gymunedau, yn amlwg, nid pobl Yemenïaidd yn unig, a gydag unigolion yng Nghymru.

14:30
Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau Dros Dro

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i benodi comisiynydd safonau dros dro. Rydw i'n galw ar Jayne Bryant i wneud y cynnig. Jayne Bryant. 

Cynnig NDM6856 Jayne Bryant

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gweithredu:

a) mewn perthynas â chwyn gan Joyce Watson AC dyddiedig 8 Mai; a

b) mewn perthynas ag unrhyw gwyn arall sy'n codi o'r un pwnc.

2. Yn penodi, mewn perthynas ag unrhyw gwyn y cyfeirir ato ym mharagraff 1, Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:

a) bydd y penodiad yn dod i rym ar 7 Tachwedd 2018.

b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad.

c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol.

d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Ymddiheuriadau nad oedd Mark Reckless yn ei le. [Chwerthin.] Roeddwn wedi cymryd yn ganiataol y byddai Cadeirydd y pwyllgor safonau yn siarad yn gyntaf.

Nid oes unrhyw rybudd o'r digwyddiad hwn ar y system gyfrifiadurol sydd gennym ni yma ar gyfer yr agenda. Ni chafodd ei grybwyll fel newid i'r agenda gan arweinydd y tŷ dros dro. Cefais e-bost am 12.34 p.m. gyda dolen i agenda, gyda hon yn eitem heb rif rhwng Rhif 2 a 3. A hoffwn rannu fy mhryder ynghylch y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â hyn. Dywed y cynnig na all y comisiynydd safonau ystyried mater y gŵyn hon gan Joyce Watson ym mis Mai, na chwynion eraill sy'n ymwneud â'r un pwnc, a'r rheswm na ellir ei hystyried yw oherwydd ei fod eisoes wedi ei hystyried ac wedi penderfynu, yn ei farn ef, yn yr ystyriaeth honno, nad oedd yn haeddu ystyriaeth gan y pwyllgor safonau yn ei gyfanrwydd nac mewn adroddiad.

Nawr, wn i ddim beth yw rhinweddau'r penderfyniad hwnnw. Nid wyf wedi gweld y fideo y cwynir amdano. Y cyfan yr wyf i yn ei wybod yw bod gennym gomisiynydd safonau. Rwyf yn ei barchu ef a'i benderfyniadau, ac os yw ef wedi ystyried mater, oni ddylem dderbyn y penderfyniad hwnnw yn hytrach na chwyno amdano a rhoi pwysau arno i ail-wneud y penderfyniad hwnnw mewn ffordd wahanol, pan, mewn gwirionedd, nid yw ein gweithdrefnau'n caniatáu inni wneud hynny. Felly, rydym yn ceisio bellach cael cynnig gwahanol i ddatrys hyn drwy benodi rhywun arall i ddod i mewn a'i wneud uwch ben y comisiynydd safonau sydd eisoes wedi ei ystyried, ac rydym yn cynnig talu £392 y dydd iddo, yn ogystal â chael swyddog y wasg i ddod i mewn yn lle'r comisiynydd safonau yn y dyfodol. Dim ond cwestiynu'r ffordd y caiff hyn ei wneud wyf i. Credaf ei bod hi'n bwysig nad yw Aelodau nac eraill yn y system gyfiawnder, fel yn y system gyfiawnder y tu allan, yn dioddef erlyniad dwbl, a dim ond oherwydd bod Aelod yn amhoblogaidd, o bosibl, neu fod pobl yn arddel barn sy'n wahanol i farn y comisiynydd safonau ar rywbeth penodol mae ef eisoes wedi ei ystyried, siawns na fyddai'n well derbyn ei benderfyniad yn hytrach na cheisio ei ailagor.

Cytunaf yn llwyr gyda phopeth a ddywedodd Mark Reckless. Credaf fod y cynnig hwn yn codi cwestiynau sylfaenol am y broses briodol yng nghyd-destun ein pwyllgor safonau a'r ffordd y mae'n gweithio. Mae hwn yn gorff lled-farnwrol ac nid oes ganddo'r pŵer i osod cosbau ariannol na mathau eraill. Mae ganddo'r pŵer i wahardd o'r Cynulliad hwn yr ydym i gyd wedi ein hethol iddo gan y bobl y tu allan. Mae'r rhain yn bwerau difrifol iawn ac felly dylid eu harfer nhw gyda gofal, a dylai'r gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion, y sail y dylid defnyddio unrhyw gosb, fod yn deg a dylai pawb sy'n aelod o'r lle hwn ddibynnu arno, yn gyfartal, ac ni ddylid trin unigolion yn wahanol.

Nawr, mae'r cynnig hwn yn berthnasol dim ond ar gyfer un gŵyn yn erbyn un Aelod. Mae'r comisiynydd wedi ysgrifennu i ddweud nad oes darpariaeth yn y weithdrefn a bennir gan y Cynulliad i ailystyried cwyn, naill ai ar gais yr achwynydd gwreiddiol neu drydydd parti. Fodd bynnag, roedd pob un o'r ceisiadau y mae ef bellach wedi eu derbyn ynglŷn â'r mater penodol hwn yn cynnwys cwyn am y fideo, ac mae wedi penderfynu, felly, y dylid trin pob cais fel cwyn ffres. Nawr, mae hyn yn ailystyriaeth o gŵyn a ystyriwyd eisoes, nid ar sail tystiolaeth newydd anorfod, y mae'r Ddeddf erlyniad dwbl, a gyflwynwyd yn dilyn ymchwiliad Lawrence, wedi ei darparu ar ei gyfer, er enghraifft, tystiolaeth DNA nad oedd ar gael yn flaenorol. Yn yr amgylchiadau hynny, gall rhywun weld yn iawn y gallai camweinyddu cyfiawnder sy'n cynnwys troseddau difrifol megis llofruddiaeth alw am ailystyriaeth ar sail tystiolaeth newydd. Nid oes unrhyw dystiolaeth newydd yn yr achos hwn. Dim ond y fideo sydd ar gael, a mater o farn oddrychol yw'r hyn y mae rhywun yn ei feddwl ohono. Nid wyf wedi gweld y fideo ychwaith, er fy mod i fy hun wedi bod yn destun fideo o'r fath—[Torri ar draws.] Rwyf i fy hun wedi bod yn destun fideo o'r fath ar YouTube, lle rhoddwyd fy mhen yn lle pen Miley Cyrus yn 'Wrecking Ball' . Chwarddais ac anghofiais amdano; Yn sicr fyddwn i ddim yn ystyried hynny'n feirniadaeth ddifrifol sy'n haeddu ystyriaeth gan y pwyllgor safonau.

Rwyf yn credu bod erlyniad dwbl yn fater difrifol. Mae'r Deyrnas Unedig wedi cydsynio i'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol), ac mae erthygl 14.7 ohono'n dweud:

Nid oes neb yn atebol i gael ei roi ar brawf na'i gosbi eto am drosedd y mae eisoes wedi ei ddyfarnu'n derfynol yn euog neu'n ddieuog yn unol â chyfraith a gweithdrefn gosb pob gwlad.

Os caiff y cynnig hwn ei basio y prynhawn 'ma, bydd yn gwrth-ddweud rhwymedigaethau Prydain yn llwyr o dan y gofynion penodol hynny. A gwelaf gyd-gyfreithiwr yn chwerthin ar hyn, sy'n fy synnu'n fawr, a dweud y gwir, gan y gallai ganfod ei hun mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol. Os ydym am ddweud, waeth beth yw penderfyniad y comisiynydd, y gall cwynion pellach sydd yr un fath o ran ffurf gael eu hystyried a'u hailystyried yn ddi-ben-draw, yna nid oes diwedd i'r broses. Un o'r prif resymau dros gefnogi'r rheol erlyniad dwbl—

14:35

Os gwelwch yn dda a wnewch chi fod yn dawel a gwrando? [Torri ar draws.] Rwyf yn ceisio gwneud pwynt difrifol yn y fan yma, sydd—[Torri ar draws.] Rwyf yn ceisio gwneud pwynt difrifol—

—o natur amhleidiol. Efallai mai Gareth Bennett yw hi heddiw, gallai fod yn unrhyw un arall yfory. Felly, mae'n rhaid i'r weithdrefn a sefydlwyd gennym fod yn deg ac yn ddibynadwy ac mae'n rhaid ei chymhwyso'n gyfartal. Gadewch inni sefydlu proses apeliadau o benderfyniad y comisiynydd ar bob cyfrif, ond gadewch inni beidio â gwneud hynny mewn achos unigol lle gellid dweud yn hawdd bod hyn yn achos o erledigaeth, yn erbyn unigolyn penodol, gan nad yw'n boblogaidd yn y Cynulliad. Ymddengys i mi mai dyna fyddai'r ffordd gywir i fwrw ymlaen.

Mae sefydliadau megis Liberty wedi lleisio eu barn gan ddweud y dylid cynnal y rheol erlyniad dwbl yn y gorffennol, ac mae llawer o sefydliadau y dylai fod yn fawr eu parch gan Aelodau Plaid Cymru neu'r Blaid Lafur wedi egluro'n gyhoeddus, ac mewn dogfennau, pa mor wrthun yw hi y dylai unigolion orfod dioddef aildreial, oni bai fod tystiolaeth newydd anorfod, y mae'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol hefyd yn caniatáu ar ei gyfer. Yn yr achos penodol hwn, nid oes dim byd newydd o gwbl, fel y deallaf, yn y cwynion hyn. 

Nawr, mae Mr Bain, rwy'n siŵr, yn ddewis hollol dderbyniol ar gyfer swyddogaeth o'r fath; nid oes gennyf ddim yn ei erbyn o gwbl. Os daw ef i gasgliad sy'n wahanol i Syr Roderick Evans ar y mater hwn, ble mae hynny'n gadael hygrededd Syr Roderick Evans? Penderfyniad pwy y dylem ei dderbyn fel y gorau, a pham? A ddylid penodi trydydd comisiynydd, felly, er mwyn datrys y gwahaniaeth barn rhwng y ddau bresennol? A sawl gwaith sy'n rhaid i hyn ddigwydd? A ddylai'r bobl bleidleisio ar y mater hwn, yn y pen draw? Ymddengys hyn fel bod yn fater o bwys eithriadol i mi, nid oherwydd rhyddid unigolyn yn unig, ond oherwydd cyfiawnder hefyd, a dylai cyfiawnder fod yn bwysig i bob un ohonom, er efallai nad yw hynny'n amlwg i rai sydd wedi ceisio ymyrryd yn swnllyd â'm haraith heddiw.

Diolch, Llywydd. Credaf efallai y byddai'n ddefnyddiol i amlinellu ychydig o bwyntiau yn y fan yma. Fel y dywedwyd yn y cynnig, mae'r comisiynydd wedi mynegi nad yw'n gallu gweithredu yn y mater sy'n ymwneud â'r gŵyn a wnaed gan Joyce Watson, nac unrhyw gwynion cysylltiedig, ac mae ef wedi gofyn am gomisiynydd dros dro i gael ei benodi. Mae darpariaeth ar gyfer comisiynydd dros dro wedi ei gynnwys yn y Bil, ac felly ni fydd yn cael unrhyw effaith ar swydd y comisiynydd. Yn yr achos hwn, ar ôl ystyriaeth ofalus, penderfynodd y comisiynydd mai dyma oedd y dewis gorau i ymdrin â'r mater.

Roedd y comisiynydd yn glir yn ei ddatganiad ei fod wedi derbyn rhagor o gwynion, ac mae ef wedi dod i'r casgliad na ddylid gweithredu yn y mater hwn. A gellir caniatáu penodi comisiynydd dro dros o fewn y ddeddfwriaeth. Nid oes dim yn y Bil sy'n atal ystyried cwyn pan fo cwyn debyg wedi ei gwrthod.

A wnaiff yr Aelod ildio? Tybed a allai hi ateb cwestiwn—yn gwbl ddiffuant. Pan ddywed hi fod y comisiynydd wedi gofyn am y comisiynydd dros dro hwn i gael ei benodi, a yw hi'n gallu sicrhau Aelodau na roddwyd pwysau ar y comisiynydd gan unrhyw Aelod mewn unrhyw ffordd cyn y penderfyniad hwnnw?

Penderfyniad y comisiynydd yn bendant oedd gwneud hyn, felly, ie. Diolch i chi, ac roedd hynny—. Roeddwn yn dod at—rydych wedi ymyrryd ar union ddiwedd fy araith, felly diolch i chi.

14:40

Amseru da.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canfyddiadau'r Rhaglen Garlam Annibynnol i Adolygu Galwadau Oren

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ganfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau melyn. Vaughan Gething. 

Diolch i chi, Llywydd. Yn fy natganiad ar 15 Mai 2018, hysbysais yr Aelodau fy mod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o gategori oren y gwasanaeth ambiwlans, o dan arweiniad clinigol. Rwyf yn falch o allu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn dilyn cwblhad yr adolygiad hwnnw. Bydd yr Aelodau'n cofio bod gwerthusiad annibynnol o'r model ymateb clinigol, a wnaed yn 2017, wedi cael cydnabyddiaeth gyffredinol o fewn y gwasanaeth ambiwlans a chan bartneriaid allanol mai symud tuag at y model newydd oedd y peth cywir i'w wneud. Canfu fod y model ymateb clinigol newydd wedi helpu gwasanaeth ambiwlans Cymru i ganolbwyntio ar ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei gael yn ogystal â gwella effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau ambiwlans. Gwnaeth argymhellion ar gyfer gwelliant pellach hefyd, gan gynnwys adolygiad o'r categori oren. 

Yng ngoleuni’r argymhelliad hwnnw, ceisiodd yr adolygiad oren a orchmynnais sefydlu pa un a yw cleifion yn y categori oren yn aros yn rhy hir am ymateb ambiwlans, ac os felly pa un a yw hyn yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwaeth i gleifion. Mae'n galonogol nodi bod yr adolygiad oren wedi adleisio canfyddiadau'r adolygiad annibynnol blaenorol—bod ein model ymateb clinigol yn ddiogel. Mae ein model yn parhau i sicrhau bod y rhai â’r angen mwyaf yn derbyn yr ymateb cyflymaf i wella eu cyfleoedd o gael canlyniad cadarnhaol, wrth ddarparu gofal priodol ac amserol hefyd i gleifion nad oes ganddynt gyflyrau angheuol.

Rwyf eisoes wedi amlinellu’r broses adolygu sydd ar waith i gadw’r holl godau blaenoriaethu o dan adolygiad parhaus. Mae'r broses adolygu hon, a wnaed gan arbenigwyr yn y maes, yn sicrhau bod neilltuo’r codau i gategorïau coch, oren a gwyrdd yn parhau i mhwyslais ar fesuriad sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n ddiddorol gweld bod yr adolygiad wedi cynghori yn erbyn cyflwyno targedau newydd sy'n seiliedig ar amser ar gyfer gwasanaethau ambiwlans. Yn hytrach, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd mesur llwybr cyfan gyda chyflyrau megis strôc, gan ddatblygu dangosyddion clinigol a mesuriadau ar gyfer canlyniadau a phrofiadau cleifion sy’n unol â ‘Cymru Iachach’.

Bydd digwyddiadau yn y categori oren yn gyffredinol yn cael ymateb golau a seiren las, yn debyg iawn i’r rhai sydd yn y categori coch. Y prif wahaniaeth yw bod yr holl adnoddau gerllaw ar gael ar gyfer digwyddiadau coch, tra bod yr ymateb agosaf a mwyaf addas yn cael ei anfon ar gyfer y categori oren. Dylai hyn helpu cleifion i gael gofal arbenigol cywir ynghynt. Dywedodd y rhan fwyaf o staff y gwasanaeth ambiwlans a gymerodd ran yn yr adolygiad eu bod nhw’n credu bod y system flaenoriaethu’n gweithio'n dda, a bod nifer y cerbydau sy’n mynd i alwadau oren wedi gostwng. A dylai hynny roi hyder i ni ein bod ni’n sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cyrraedd pobl y tro cyntaf yn fwy aml. Dylai hynny wella canlyniadau clinigol ar gyfer pobl â chyflyrau megis strôc, clefyd y galon a chluniau wedi eu torri.

Mae canfyddiadau'r adolygiad hefyd, wrth gwrs, yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer gwelliannau. Mae canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu saith munud ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod adolygu, rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2018. Mae’n amlwg nad yw hynny'n dderbyniol a rhoddir sylw i hyn drwy waith cydweithredol â phwyslais. Mae'r canfyddiadau’n awgrymu bod prydlondeb wedi effeithio ar nifer o ffactorau sy’n cyfyngu ar y gallu. Mae hynny er gwaethaf buddsoddiad ychwanegol o £11 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cleifion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a £38 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn ystod yr un cyfnod.

Mae angen sylw ar unwaith ar oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a salwch staff gyda chynigion system gyfan a lles gwell i staff. Disgwyliaf i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru weithio gyda phartneriaid i gymryd cyfrifoldeb am y materion hyn a chymryd camau ar unwaith i ymdrin â nhw. Wrth gwrs, byddwn yn monitro’r cynnydd yn ofalus.

Roedd yr adolygiad yn gallu defnyddio technegau arloesol i olrhain data ar lefel y cleifion drwy'r system. Ni chanfuwyd perthynas uniongyrchol rhwng amseroedd aros hir am ymateb ambiwlans a chanlyniadau gwaeth ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion. Fodd bynnag, bydd profiadau cleifion a'u teuluoedd yn cael eu heffeithio’n negyddol a chefnogir hynny gan adborth y cyhoedd. Disgwyliaf i gamau gael eu cymryd er mwyn galluogi gwiriadau sicrwydd a lles i gael eu darparu pan fo pobl yn aros yn hwy am ambiwlans i gyrraedd.

Canfu'r adolygiad mai digwyddiadau sy'n ymwneud â phobl sydd wedi cael codwm sy’n cyfrif am y nifer mwyaf o alwadau o fewn y categori oren. Yng ngoleuni hyn, rwyf wedi penderfynu dyrannu £140,000 i brif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans ar gyfer prosiect ar y cyd i ymateb i godymau gan gynnwys St John Cymru Wales.  

Awgrymodd tystiolaeth anecdotaidd gan staff gweithredol bod nifer sylweddol o alwadau gan gartrefi nyrsio ar gyfer cleifion a oedd wedi syrthio ac y byddai’n fuddiol pe byddai gan bob cartref nyrsio gyda glustogau codi. Bydd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu, felly, yn cyllido clustogau codi ar gyfer cannoedd o gartrefi nyrsio a gofal ledled y wlad. Dylai'r ddwy fenter hyn leihau anfon adnoddau ambiwlans brys yn ddiangen i bobl sydd wedi cael codwm ond nid wedi eu hanafu ac y gellir eu hailsefydlu’n ddiogel.

Canfu'r adolygiad dystiolaeth i awgrymu bod cyfleoedd i reoli pobl yn y gymuned yn well, naill ai drwy ddarparu cyngor clinigol dros y ffôn, drwy gyfeirio at wasanaethau eraill neu drwy eu rhyddhau yn y lleoliad. Awgryma adborth y cyhoedd i’r adolygiad ei bod hi’n bwysig i bobl eu bod nhw’n osgoi mynd i'r ysbyty os nad yw'n angenrheidiol. Dywedodd wyth deg pedwar y cant o'r rhai a holwyd y byddai'n well ganddyn nhw aros gartref, ac roedd 88 y cant o’r bobl yn teimlo ei bod hi’n bwysig iddyn nhw fod cyngor meddygol yn cael ei ddarparu dros y ffôn. Roedd staff y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn teimlo bod ehangu'r niferoedd a swyddogaethau’r clinigwyr yn yr ystafell reoli yn hanfodol er mwyn rheoli'r galw’n effeithiol. O ystyried y canfyddiadau hyn, rwyf wedi cytuno i gyllido’r gwaith o recriwtio mwy o barafeddygon a nyrsys i ddarparu cyngor clinigol i’r cyhoedd dros y ffôn i helpu i reoli galw yn y gymuned.

Bydd buddsoddiad o oddeutu £450,000 ar gyfer gweddill y flwyddyn hefyd yn cynnwys cynllun arbrofol y gaeaf o nyrsys cyswllt iechyd meddwl mewn canolfannau cyswllt clinigol ambiwlans, ac mae hynny'n seiliedig ar adborth gan staff y ganolfan gyswllt glinigol, a ddywedodd nad ydyn nhw’n cael yr hyfforddiant sy'n ofynnol i gefnogi pobl mewn trallod meddwl. Maen nhw’n credu y byddai cael arbenigwr iechyd meddwl yn y ganolfan rheoli yn helpu i leddfu'r pwysau ac yn caniatáu i fwy o bobl mewn trallod gael eu trin yn y gymuned.  

Wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, byrddau iechyd a phrif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans i weithredu argymhellion yr adolygiad gyda chyflymder a phwrpas. Edrychaf ymlaen at gwestiynau gan yr Aelodau.

14:45

Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf oll, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am y sesiwn briffio technegol gan eich swyddogion a gynigiwyd gennych y bore yma. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Mae'n adroddiad mawr, mae llawer iawn ynddo ac mae'n ddeunydd darllen diddorol, llawer ohono i'w groesawu, rhywfaint ohono yn peri pryder.

Roedd pedwar maes yn arbennig yn tynnu fy sylw o ran ystadegau pur a oedd yn peri pryder imi. Y cyntaf yw, dros y ddwy flynedd diwethaf, arhosodd dros 7,000 o bobl dros dair awr y tu allan i ysbyty yn disgwyl cael eu trosglwyddo i mewn i'r ysbyty, ac arhosodd dros 15,000 o bobl dros dair awr am ambiwlans ym mha le bynnag yr oeddent ar adeg y digwyddiad. Bu cynnydd yn yr oriau rhwng trosglwyddo a chlirio, sy'n amlwg yn faes y mae angen i ni edrych arno, ac, wrth gwrs, un maes sy'n peri pryder mawr yw'r cynnydd mewn achosion o salwch ymhlith staff ambiwlans a cheisio dirnad pam: Ai straen sy'n gyfrifol? Beth yw'r problemau yn y fan yma? O'r pedwar maes hynny eu hunain, mae dau yn dangos pryd nad ydym yn perfformio'n dda, ac mae dau yn dangos ble y gallai fod tagfeydd yn y system.

Mae'r adroddiad yn ei gyfanrwydd yn gwneud rhai argymhellion diddorol iawn, ond mae'n cyfeirio dro ar ôl tro at osod clinigwyr mewn lleoliadau megis ystafelloedd rheoli, cartrefi nyrsio, gwasanaethau heddlu fel ffordd o wella rheolaeth y gwasanaeth ac asesu'r sefyllfa. O ran gweithredu, pa mor sicr ydych chi bod gennych chi'r nifer angenrheidiol i osod y clinigwyr hynny yn y lleoliadau? A ydym ni'n ymwybodol o faint o swyddi y bydd eu hangen a ble y maen nhw? Oherwydd mae'n ddigon hawdd i'r adroddiad hwn ddweud, 'Gallwn ni wneud yn well o lawer petai gennym ni bobl yn y fan acw, yn y fan acw ac yn y fan acw'. ceir datganoli mawr o wasanaeth ambiwlans Cymru, a gallai hynny fod yn iawn—yn sicr nid wyf yn dadlau hynny—ond yr hyn sy'n peri pryder i mi yw ei bod yn hawdd dweud, 'Gadewch i ni roi'r clinigwyr hyn yn yr ystafell reoli'; 'Gadewch i ni roi mwy o bobl yn y fan yma, y fan acw ac ym mhob man', ond rydym ni'n gwybod bod staff yn brin. Felly, byddai diddordeb gennyf mewn cael gwybod beth yr ydych chi wedi ei wneud i asesu'r mater penodol hwnnw. Ac, unwaith eto, ynghylch lleihau amseroedd aros cleifion megis cleifion sy'n cael codwm heb ddioddef anaf—sy'n tueddu i fod ein poblogaeth hŷn—unwaith eto, mae hyn, yn gofyn am nyrsys ardal a gweithwyr gofal cymdeithasol. Felly, sut bydden nhw'n cael eu hymgorffori'n well yn llwybrau gofal yr unigolion hyn? Sut ydych chi'n bwriadu cynyddu'r capasiti hwnnw?

Rwyf yn croesawu'r cynlluniau pwrpasol gyda'r byrddau iechyd lleol, ond mae gweithredu'r cynlluniau hyn yn ddibynnol iawn ar y byrddau iechyd hynny. Fe wyddom ni fod gwasanaethau ambiwlans wedi cael buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yng nghyllideb eleni, ond er mwyn sbarduno newid, sut y byddwch, sut y bydd byrddau iechyd yn cael eu cefnogi i roi'r gwelliannau hyn ar waith? A fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw ddangos sut y byddant yn gwneud hynny yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, oherwydd os na fyddwch yn monitro hyn, gallai yn hawdd iawn fynd ar goll yn y gymysgfa?

O ran gwella'r gwasanaeth, ar y dechrau roeddem ni'n disgwyl i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi ym mis Medi, ac erbyn hyn mae'n wythnos gyntaf mis Tachwedd. Dywed un dyfyniad o'r adolygiad,

Er mwyn osgoi'r cyfuniad o ffactorau a welwyd yn ystod y gaeaf diwethaf, mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans a'r GIG ehangach sicrhau ei fod yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael a'u bod yn cynyddu eu heffeithlonrwydd er mwyn i gleifion o Gymru gael ymateb ambiwlansys o fewn amser priodol ac o'r safon uchaf.

Felly, sut mae byrddau iechyd lleol yn mynd i gael hyn yn barod i'w weithredu ar gyfer y gaeaf hwn a chyfnod y Nadolig? A oedden nhw'n gwybod am yr adolygiad hwn cyn i ni gael gwybod amdano yma yn y Cynulliad? A ydyn nhw wedi sefydlu cynlluniau cydnerthedd cyn y gaeaf?

Llywydd, mae gennyf i un cwestiwn arall. Yng nghefn yr adolygiad hwn ceir rhestr o gardiau protocol a ddefnyddir gan staff y ganolfan alwadau, ac yr oeddwn i'n synnu gweld nad oes cerdyn protocol ar gyfer sepsis. Fel y gwyddoch, mae sepsis yn lladd mwy o bobl bob blwyddyn na chanser y coluddyn, canser y brostad a chanser y fron gyda'i gilydd. A cheir dangosyddion allweddol. Fe wn i ei fod yn debyg i gameleon, ond mae arwyddion o oerfel a chryndod, dryswch a lleferydd aneglur, poen difrifol yn y cyhyrau, anadlu cyflym a thymheredd uchel iawn neu isel iawn yn ddangosyddion clir fod rhywun efallai'n dioddef o sepsis. Fe wyddwn os gallwn achub pobl yn gynnar, y bydd ganddyn nhw fwy o siawns o adferiad llwyr a llawn. Dim cerdyn protocol. A wnewch chi addo edrych os gwelwch yn dda ar hynny a gweld os byddai'n briodol i gynnwys cerdyn protocol a'i ychwanegu at y 19 o gardiau protocol eraill y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn gweithio yn unol â nhw ar hyn o bryd?

14:50

Diolch ichi am y sylwadau a'r amrywiaeth o gwestiynau. Fe geisiaf ymdrin â nhw yn y modd gorau y gallaf yn yr amser sydd ar gael. Fe gyfeirioch chi, wrth gwrs, at ystod o ffigurau ar y dechrau, yn enwedig y pwyslais ar drosglwyddo cleifion ac eraill, ac, wrth gwrs, mae gennych chi 475,000 o alwadau i'r gwasanaeth. Ond cydnabyddir bod angen mwy o welliant ar sail fwy cyson ledled y wlad, oherwydd ceir rhywfaint o amrywiad yn y wlad nid yn unig o ran cyfraddau trosglwyddo, ond un rhan o'r system gyfan yw hynny. Yr hyn y mae'r adolygiad yn ceisio ei wneud yw gosod hynny yng nghyd-destun y system gyfan. Felly, llawer o welliant wrth gael yr ymateb iawn i'r bobl iawn. Mae angen hynny arnyn nhw er mwyn rhyddhau yn lleoliad y digwyddiad pan fo'n bosibl, ac, os oes angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty, yna eu rhyddhau'n briodol, a hefyd eu bod yn gallu gadael yr ysbyty'n brydlon. Felly, mae'n rhan o system ehangach.

Rwyf yn cydnabod eich pwyntiau ynglŷn â salwch. Yn sicr y mae mesurau i'w cymryd, ac rwyf yn falch o ddweud y byddan nhw'n cael eu dwyn ymlaen gan gyflogwyr, ynghyd ag undebau llafur hefyd. Ac wn i ddim os ydych chi wedi gweld yr ymateb adeiladol i'r undebau llafur cydnabyddedig yn y gwasanaeth, ond mae'n gadarnhaol; ceir cydnabyddiaeth o'r angen i wella cyfraddau salwch yn enwedig yn y gwasanaeth, ac, wrth gwrs, cydnabyddir hynny'n rhannol hefyd yn y sgyrsiau a'r trafodaethau ynghylch cyflog ac amodau sydd wedi eu cynnal yn y misoedd diweddar.

O ran eich pwynt ynghylch recriwtio staff clinigol priodol i ganolfannau cyswllt, fe fyddai'n werth cofio bod tair canolfan gyswllt glinigol yn y wlad, felly, tair canolfan i recriwtio staff ar eu cyfer. Bydd her yn y fan yna o ran sicrhau bod gennym ni'r staff cywir i'w recriwtio. Rydym ni'n ffyddiog y byddwn yn gallu gwneud hynny, yn ogystal â staff o fewn y system ehangach. Ac, mewn gwirionedd, yn y system ehangach a'r pwyntiau a wnaethoch chi yn hynny o beth, mewn gwirionedd rydym ni'n ystyried ceisio bwrw ymlaen â chynlluniau'r gaeaf, a luniwyd gan iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans. Felly, mae'r arian hwnnw yn seiliedig ar ariannu'r cynlluniau hynny ar ben y £10 miliwn a gyhoeddais o'r blaen, ynghyd â Huw Irranca-Davies, y Gweinidog, i'w roi yn y system gofal cymdeithasol mewn gwirionedd. Rydym ni'n ystyried y system gyfan yn rhan o hynny, ac mae'r cynlluniau hynny yn gyson â chanfyddiadau'r adolygiad oren.

Fe soniasoch hefyd am arweinyddiaeth glinigol ac atebolrwydd er mwyn symud hyn ymlaen. Ac yn hyn o beth, rydym ni mewn sefyllfa gadarnhaol oherwydd bod gennych chi arweinyddiaeth o fewn gweithlu'r parafeddygon sy'n gadarnhaol ynghylch ein cyfeiriad ni, gan gynnwys yr angen i fuddsoddi yn y nifer o bobl sydd gennym ni. Felly, mae hynny yn ymwneud â hyfforddiant, cadw'r fwrsariaeth yn ogystal â recriwtio staff profiadol. Mae hefyd yn ymwneud â buddsoddi yn sgiliau gweithlu'r gwasanaeth gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael amser i edrych ar rywfaint o'r buddsoddiad yn nyfodol uwch barafeddygon hefyd, beth y gallant ei wneud, yn y ganolfan gyswllt a hefyd yn eu swyddi ar lawr gwlad, y gallu i weld a thrin, a chlywed a thrin, hefyd. Rwy’n falch iawn bod Jo Mower, yr arweinydd cenedlaethol gofal heb ei drefnu, yn cael effaith gyda'i chydweithwyr yn y system gofal heb ei drefnu ehangach. Mae ganddi hi hygrededd gwirioneddol oherwydd ei bod yn parhau i fod yn glinigwr sy'n gwasanaethu. Mae hi'n ymgynghorydd mewn meddygaeth frys, ac mae hi'n gweithio'n rhan-amser yn y swydd honno ac yn rhan-amser fel arweinydd gofal heb ei drefnu. Felly, mae ganddi hygrededd gwirioneddol ymhlith cydweithwyr ym mhob rhan o'r system.

Fe wna i ymdrin â'ch pwynt ynghylch sepsis hefyd, oherwydd, os edrychwch chi ar y sgorau rhybudd cynnar cenedlaethol sy'n cael eu defnyddio, mae hynny'n rhan o'r system rhybudd cynnar ar gyfer sepsis. Nawr, rwy'n hapus i edrych ar y manylion a grybwyllwyd gennych, ond fe hoffwn i bwysleisio bod hyn yn her i'r system gyfan. Ac mewn gwirionedd, yn ystod fy nghyfnod i yn y swydd hon a chyn hynny yn Ddirprwy Weinidog, rwyf yn sicr wedi gweld dros y cyfnod hwnnw, broffil llawer uwch i sepsis o fewn canolfannau ambiwlans, lle y lleolir staff, gyda deunydd llawer mwy gweladwy, ac, mewn gwirionedd, fe wyddom ni ein bod yn gwella.

Bellach, yr her yw beth arall allem ni ei wneud a beth ddylem ni ei wneud i barhau i wella. Felly, nid yw'n ymwneud â llaesu dwylo; Mae'n nodi gwelliant a wnaed a beth mwy y gallem ni ei wneud. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y sgorau NEWYDD a'r ffaith eu bod nhw yma fel mesur a ddefnyddiwn ni, yn ddefnyddiol iawn, oherwydd dylai hynny ein helpu ni i adnabod pobl mewn perygl o gael sepsis ac i sicrhau bod y risg honno yn cael ei datrys yn gywir ac yn briodol. O safbwynt hyn, fe wn i ein bod yn rhannu'r un amcan o eisiau gwneud mwy, i weld mwy o fywydau yn cael eu hachub ac i weld llai o anabledd diangen yn digwydd o fewn ein system iechyd a gofal.

14:55

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae pethau yn yr adroddiad sydd yn amlwg i'w croesawu, fel y mae Angela Burns wedi ei ddweud eisoes, ac yn eich datganiad chi. Fe fyddwn â diddordeb arbennig i weld sut y mae'r prosiect ymateb i godymau gydag Ambiwlans Sant Ioan yn datblygu, ac rwy'n gobeithio y dewch chi'n ôl atom i ddweud wrthym ni. Rwyf yn obeithiol iawn y bydd hwnnw'n cael rhai canlyniadau cadarnhaol.

Croesewir hefyd y buddsoddiad ariannol yr ydych yn sôn amdano yn eich datganiad. A wnewch chi gadarnhau i ni heddiw mai arian newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yw hwnnw? A wnewch chi hefyd, efallai nid heddiw—. Os mai arian newydd yw hwnnw, bydd yn amlwg wedi dod o ran arall o'r gyllideb iechyd ac fe fyddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn ysgrifennu at yr Aelodau i gadarnhau o ba ran o'r gyllideb gofal iechyd y mae'r arian newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans—os mai arian newydd yw hwnnw—wedi dod.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, ac rwyf yn ei chael hi'n anodd braidd i weld sut yn union y mae eich datganiad yn adlewyrchu'r argymhellion, ond fe fyddwn yn derbyn ei fod yn gwneud hynny i raddau, mewn ysbryd. Hoffwn dynnu eich sylw at un argymhelliad yn benodol lle mae'r adroddiad yn argymell rhaglen o ymgysylltu er mwyn sicrhau eglurder ynglŷn â swyddogaeth y gwasanaethau ambiwlans brys a sut mae galwadau yn cael eu blaenoriaethu a'u categoreiddio. A ydych chi'n derbyn yr argymhelliad penodol hwnnw ac, os felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa un a fydd y rhaglen hon o ymgysylltu yn cynnig cyfleoedd i ddatgan pryderon unwaith eto ynghylch ystod eang y galwadau sy'n cael eu cynnwys yn y categori oren? Dywed eich datganiad y dylai blaenoriaethu, fel y saif:

wella canlyniadau clinigol pobl sydd â chyflyrau megis strôc, clefyd y galon a thorri cluniau.

Ond a fyddech chi'n derbyn, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y rhain yn gyflyrau gwahanol iawn mewn gwirionedd ac, i rai ohonyn nhw, maen nhw'n llawer mwy sensitif o ran amser nag eraill? Fe fyddwn i'n awgrymu, er enghraifft, bod cael strôc yn llawer mwy sensitif o ran amser, o safbwynt y canlyniad terfynol i'r claf, nag achosion o dorri asgwrn. Yn wir, mae'r adroddiad yn dangos bod y gwasanaeth yn fewnol yn defnyddio cod oren 1 a chod oren 2 mewn gwirionedd, yn ogystal â phrotocolau i flaenoriaethu yn seiliedig ar yr wybodaeth o'r hyn sy'n digwydd ar gyfer y claf. Ac mae hefyd yn nodi bod y berthynas rhwng amser a gofal wedi'i sefydlu ar gyfer nifer o gyflyrau, megis cnawdnychiant myocardaidd acíwt y galon a strôc. Felly, onid ydych chi'n derbyn bod hyn yn dangos bod amser mewn gwirionedd yn bwysig i gleifion a bod y categoreiddio mewnol hwn yn adlewyrchu hynny? A fyddech chi'n barod i ystyried, wrth i chi weithio gyda'r ymddiriedolaeth ambiwlans i symud hyn ymlaen, pa un a yw'n bryd edrych eto ar ffurfioli'r targed, yn enwedig ar gyfer y galwadau oren 1 hynny? Rwy'n deall yr amharodrwydd i roi gormod o bwysau ar y system gyda thargedau—ni fyddai neb ohonom yn dymuno gwneud hynny—ond pan fo'r galwadau hynny yn sensitif o ran amser i gleifion megis cleifion sydd wedi cael strôc, rwy'n synnu braidd eich bod yn amharod i o leiaf ystyried gosod targed.

O ran categoreiddio, mae'r adroddiad hefyd yn nodi y bydd, weithiau, galwadau yn cael eu hystyried yn rhai oren i ddechrau ac wedyn yn cael eu huwchraddio i alwadau coch oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol yn dod ar gael. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y ceir adegau pan fydd y staff yn teimlo nad ydyn nhw'n gallu gwyro oddi wrth y system oherwydd ei bod yn gaeth, a tybed a allech chi ailedrych ar hynny i weld a ddylai hi fod yn haws i staff ddefnyddio barn glinigol i symud galwadau i gategori uwch, i goch neu efallai o oren 2 i oren 1, os oes angen.

Ac yn olaf, a gaf i ofyn ichi unwaith eto ychydig yn fwy —? Fe wnaethoch chi ymateb i gwestiwn Angela Burns am y cyfraddau salwch a'r straen y gallwn dderbyn yn ôl pob tebyg sydd wrth wraidd y cyfraddau salwch hynny. Fe soniasoch chi yn eich ateb i Angela Burns y byddwch yn disgwyl i'r byrddau iechyd lleol a'r ymddiriedolaeth ambiwlans weithio ar hynny ac i weithio gyda'r undebau llafur ar y mater hwnnw. Ond a wnewch chi roi inni ychydig mwy o fanylion ynghylch beth yn union fydd cynnwys y gwaith hwn a beth fydd yr amserlen ar ei gyfer? Oherwydd fe wyddoch yn iawn, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, bod ein gwasanaethau iechyd a gofal—a'n gwasanaeth ambiwlans yn arbennig—yn dibynnu'n llwyr ar ein staff, ac, os oes cwestiwn ynglŷn â lles y staff, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn hoffi cael sicrwydd ynghylch sut yr ymdrinnir â'r cwestiynau hynny o ran eu lles.

15:00

Diolch. Fe wnaf i ymdrin â'r pwynt olaf yn gyntaf. Mae'r her ynghylch ymdrin â lles staff yn amlwg yn bwysig, ac mae'n fater pwysig nawr. Felly, rwyf wedi ei gwneud hi'n glir y dylai'r gwaith ddechrau ar unwaith yn rhan o'r sgwrs rhwng cyflogwyr a'r undebau llafur. Ceir sgwrs barhaus a rheolaidd am les staff ym mhob rhan o'n gwasanaeth iechyd gwladol, yn enwedig wrth i ni—yn dilyn y cytundeb cyflog tair blynedd—geisio lleihau lefelau salwch. Golyga hynny bod angen inni ddeall rhai o'r rhesymau pam mae staff yn mynd yn sâl. Nid yw'n ymwneud â rheoli pobl yn effeithiol yn unig; mae'n ymwneud â deall y pwysau sy'n bodoli. Rwyf wedi cyhoeddi dros y flwyddyn ddiwethaf amrywiaeth o fesurau i geisio cefnogi staff, gan fod y swydd hon yn un â phwysau arbennig. Felly, mae'n rhaid iddo ddod o'r hyn y mae ein staff, drwy eu hundebau llafur fel eu cynrychiolwyr etholedig, yn ei ddweud wrth gyflogwyr, ac i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rwy'n disgwyl cael adroddiad o fewn cyfnod o fisoedd ynghylch sut y mae hyn yn edrych o safbwynt y cyflogwyr. Bydd yn rhan o'r sgyrsiau rheolaidd yr wyf yn eu cael, nid yn unig gyda chadeirydd yr ymddiriedolaeth ambiwlans, ond hefyd gyda phrif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans a chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Mae hynny'n fy arwain yn ôl at eich pwynt ynghylch arian. Mae'r arian a gyhoeddwyd yn newydd ar gyfer ymddiriedolaeth y gwasanaeth ambiwlans. Ceir her ynghylch o ble y daw'r arian, oherwydd bydd rhywfaint yn dod o gronfa ganolog. Ond dylech chi gofio bod hwn yn wasanaeth a gomisiynir gan fyrddau iechyd. Mae'n fodel a gafodd ei sefydlu yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Siobhan McClelland, ac felly byrddau iechyd ddylai dalu am y gwasanaeth y maen nhw'n ei gomisiynu. Ni allan nhw ddisgwyl i'r gwasanaeth hwnnw ddarparu mesurau newydd ac ychwanegol heb edrych weithiau nid yn unig ar effeithlonrwydd y defnydd o adnoddau, ond faint sydd ohonynt hefyd. Cafwyd adegau yn y gorffennol pan wnaethom ni ymyrryd i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei ddarparu gan y byrddau iechyd. Fe fyddai'n well gennyf i beidio â gorfod gwneud hynny yn y dyfodol. Gallwn bob amser roi arian cyllideb i'r gwasanaeth. Weithiau mae hynny'n briodol i sicrhau ei fod yn digwydd yn gyflym, ond gan symud ymlaen gyda'r ystod o argymhellion, fe fyddwn i'n disgwyl i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud gan y system yn ei chyfanrwydd.

Ynghylch ymateb i godymau, y gwnaethoch ei grybwyll ar ddechrau eich datganiad, fe fyddwn i'n hapus i ddychwelyd at yr Aelodau i roi'r newyddion diweddaraf ar effaith y £140,000 a gyhoeddais ar gyfer y prosiect ar y cyd â Sant Ioan, ac am brosiectau ynghylch darparu clustogau codi ac effaith hynny. O ran eich pwynt ehangach ynghylch adolygu'r categorïau o gyflyrau clinigol, a pha un a ydyn nhw yn y targed cywir o goch, oren neu wyrdd, mewn rhai ffyrdd, mae hyn yn mynd yn ôl at y rheswm pam y mae gennym ni fodel ymateb clinigol newydd. Mae'n dal yn gymharol newydd. Oherwydd ein bod ni'n deall bod gennym ni darged 40 mlwydd oed, a oedd yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau, nad oedd mewn gwirionedd yn gwneud fawr o les i'r claf. Roedd yn anfon adnoddau i wahanol gyfeiriadau i geisio bodloni targed nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r canlyniadau. Dyna oedd yr unig fesur a oedd gennym ni yn y gwasanaeth ambiwlans. Rydym mewn sefyllfa well o lawer erbyn hyn gan fod gennym ni gategori galwadau coch priodol, pan fo amser yn gwneud gwahaniaeth, a thrwy gael mesurau ansawdd eraill sy'n cael eu cyhoeddi bob chwarter ar ansawdd y gofal a ddarperir. Ceir llawer mwy o graffu erbyn hyn ar yr hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud—a'r pethau da y mae'n ei wneud—nag a fu yn y gorffennol.

Gallwch weld fod hwn yn benderfyniad da nid yn unig oherwydd yr adolygiad annibynnol a wnaethom yn 2017, nac ychwaith oherwydd yr un yma, ond oherwydd bod y gwaith yr ydym wedi'i wneud yn cael ei ddilyn a'i ailadrodd yn UDA, Canada, Awstralia, Chile a thu hwnt yn rhyngwladol. Ac yma yn y DU, mae dull tebyg yn cael ei ddilyn yn Lloegr a'r Alban. Un o'r gwahaniaethau yw bod Lloegr wedi cyflwyno, heb dystiolaeth sydd wedi argyhoeddi'r adolygiad annibynnol yma, targed amser mewn rhai rhannau o'r hyn sydd gennym ni yn y categori oren. Mae'r Alban, fodd bynnag, wedi mabwysiadu'r union ddull o weithredu â ni sef dweud nad yw'n briodol i gyflwyno targed amser o fewn y categori oren. Er hynny rydym ni—fel yr ydym wedi ei weld yn yr adolygiad a'r briffio y cawsoch chi'r cyfle i fynd iddo heddiw—yn edrych ar y dull o weithredu llwybr cyfan ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys strôc, er enghraifft, pryd mae'r llwybr cyfan yn bwysig. Rydym ni'n gweithio ochr yn ochr â phobl fel y Gymdeithas Strôc i ddeall yr hyn sy'n briodol i'w fesur i roi inni wir ddealltwriaeth o'r hyn y mae'r system gyfan yn ei wneud, yn ogystal â rhan y gwasanaeth ambiwlans yn hyn. Ond nid wyf yn bwriadu, ar sail adolygiad sydd wedi datgan yn glir na ddylem ni gyflwyno targed amser, serch hynny, fel rheidrwydd gwleidyddol, ceisio cyflwyno un. Nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd iawn i redeg y gwasanaeth. Rwy'n credu mai gweithredu'r argymhellion yn yr adolygiad hwn o ddifrif ac yn gyflym yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein staff a'r cyhoedd y maen nhw'n ei wasanaethu.

15:05

Rwyf i hefyd, yn croesawu'r datganiad ac, yn wir, yr adroddiad, sy'n gloddfa o wybodaeth, y byddwn rwy'n siŵr, ar ôl ei ystyried yn llawn, yn ei gael yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd.

Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed yr Ysgrifennydd Iechyd am dargedau, ond rwy'n credu y dylem ni gydnabod, heb fethiant trawiadol y Llywodraeth i gyflawni'r targedau a osododd hi ar ei chyfer ei hun, mae'n annhebygol y byddem ni wedi cael yr adroddiad hwn yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni barhau i gael targedau, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r targedau hynny fod yn dargedau ystyrlon. Mae hwnnw'n bwynt na ellir dadlau yn ei erbyn ac yn sicr nid oes angen targedau camarweiniol arnom ni. Serch hynny, rwy'n pryderu ynghylch tudalen yn yr adroddiad—tudalen 23—sydd mewn gwirionedd yn ceisio wfftio targedau, rwy'n credu os edrychwch chi arni'n ofalus. Dywed, er enghraifft:

'Mae gwerth amser ymateb fel mesur o effaith ac ansawdd gofal gwasanaeth ambiwlans yn … amheus'

'os yw gwasanaethau iechyd â'u holl fryd ar gyflawni targedau, yna mae gwir brofiad y claf yn eilaidd',

ac amryw o ymadroddion eraill o'r fath. Rwy'n credu wrth gwrs, bod y cyhoedd yn gyffredinol, eisiau i wasanaethau ambiwlans gael eu darparu cyn gynted â phosibl, ac mae methu â gwneud hynny'n achosi straen anorfod, ac mae'r straen hwn yn cael effaith wrth gwrs, ar staff ambiwlans eu hunain, sy'n ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd.

Mae llawer o hyn efallai y tu hwnt i reolaeth yr Ysgrifennydd Iechyd hyd yn oed. Fe wyddom ni i gyd am broblemau anghenion y gwasanaeth iechyd o ran bod mwy o alw na'r hyn y gellir ei gyflenwi, a fydd yno o hyd. Ond fe hoffwn i'r Ysgrifennydd Iechyd roi sicrwydd inni, oherwydd bod y Llywodraeth wedi methu'n gyson â chyflawni llawer o'r targedau, ac weithiau'n methu eu cyflawni o bell ffordd, sy'n cael ei amlygu a'i ddarlunio yn yr adroddiad ei hun—ac, yn wir, dywed yr Ysgrifennydd Iechyd yn ei ddatganiad ei hun bod amser canolrif ymateb ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu ar gyfartaledd o saith munud yn ystod y cyfnod adolygu ei hun—. Mae hyn yn newyddion annerbyniol iawn, ond mae bodolaeth targedau yn hanfodol os cânt eu defnyddio'n iawn, nid yn unig fel ffon i guro rheolwyr, ond fel offeryn i wella'r gwasanaeth, ac maen nhw'n hanfodol i sicrhau'r canlyniad y mae pawb yn y lle hwn am ei weld, sef gwell gofal iechyd i gymaint o bobl â phosibl. Ac, os gallwn ni sgwario'r cylch hwnnw, yn amlwg, mae hynny'n mynd i effeithio ar gyfraddau salwch staff hefyd. Rwy'n credu bod cyfradd salwch staff o 7 y cant yn gondemniad, ar un ystyr, nid o reidrwydd condemniad ar y Llywodraeth, ond anallu'r wlad mewn gwirionedd i gynnal dadl iawn ynglŷn â'r arian y dylid ei roi i'r gwasanaeth iechyd a'r ffordd y gellir gwneud hynny er mwyn cael y canlyniadau mwyaf effeithiol. Ond, yn y pen draw, yr ydym ni i gyd yn ceisio cyflawni'r un amcan, ond mae'n rhaid inni gael y wybodaeth gywir er mwyn gwneud y penderfyniadau gwleidyddol angenrheidiol ynghylch dyrannu adnoddau a sut i'w rheoli nhw, sydd yn hanfodol er mwyn cael gwasanaeth iechyd llwyddiannus yng Nghymru.

Rwy'n cytuno â pheth o'r naratif cyffredinol, hyd yn oed os wyf i'n anghytuno â'r casgliad y daw'r Aelod iddo ar rai o'r pwyntiau. Rwy'n siŵr, gyda'r adroddiad hwn—. Bydd yna gyfle i'r Llywodraeth ymddangos gerbron y pwyllgor i'w drafod, ar ryw bwynt, rwy'n siŵr. Rwy'n gweld nad yw eich cymydog yn y Siambr ar hyn o bryd, ond rwy'n siŵr y bydd y cymrawd Lloyd yn dymuno ystyried yr adroddiad yn fanylach.

Nid wyf yn rhannu eich barn chi na'ch datganiad y bu methiant aruthrol i gyflawni'r targedau a dyna pam y mae gennyf i'r adroddiad hwn yn y lle cyntaf. Fe wnaethom ni mewn gwirionedd symud i system wahanol ar dargedau cyn i chi gyrraedd y lle hwn, a'r penderfyniad a gymerais fel y Dirprwy Weinidog. Roedd yn her i gydnabod bod gennym ni darged amhriodol. Hyd yn oed pe byddem ni wedi cyflawni'r targed, ni fyddai wedi darparu'r gofal cywir i gleifion. Ac roedd yn farn a rannwyd yn eang o fewn y gweithlu o barafeddygon, yn enwedig; roedden nhw'n teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch gorfod ceisio cyflawni targed hyd yn oed os nad oedd yn gwneud unrhyw les i'r cyhoedd. Felly, fe wnaethom ni gynnal adolygiad; cynhaliodd yr Athro McClelland adolygiad. Wedyn gwnaethom benderfyniad i dreialu model ymateb clinigol newydd, mewn gwirionedd, ar ôl adolygiad priodol a ystyriodd, mewn gwirionedd, effeithiolrwydd yr hen darged a chynnig ffordd bosibl ymlaen, sef gwell ffordd o weithredu ein system. A dyna pam mae gennym ni darged gwahanol. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny, a bellach mae gwledydd eraill y DU yn ein dilyn ni, ond nid dim ond oherwydd bod gennym ni darged gwahanol—mae'n darged mwy priodol, a dyna'r pwynt.

Pan eich bod chi'n cyfeirio at yr adroddiad, ynghylch a yw targedau yn cael eu wfftio, os edrychwch chi o ddifrif ar y cyfeiriad ato, mewn gwirionedd mae'n ystyried amseroedd ymateb fel yr unig ddangosydd o'r gwasanaeth, ac mewn gwirionedd, nid yw hynny'n ffordd briodol o edrych ar y ffordd y mae'r gwasanaeth cyfan yn darparu gofal. Unwaith eto, yr her hyd yn oed yn hynny o beth, os mai dim ond targed sy'n seiliedig ar amser sydd gennych chi, hyd yn oed os yw hwnnw'n fesur priodol ar gyfer y rhan honno o'r gwasanaeth, yw ein bod ni i gyd yn gwybod y caiff ei ddefnyddio wedyn fel ffordd o geisio barnu llwyddiant neu fethiant y gwasanaeth cyfan.

Ar eich pwynt ynghylch barn y cyhoedd, barn y cyhoedd am wasanaethau ambiwlans, wrth gwrs, yw eu bod eisiau ymateb prydlon, ond, wrth gynnal yr adolygiad annibynnol hwn, gyda chymorth gan y Picker Institute, nodwyd mai barn y cyhoedd yw bod prydlondeb yn bwysig, ond bod ymateb cywir yn bwysicach, ac mae pobl yn barod i aros cyfnod ychydig yn hwy am yr ymateb cywir. Ond nid yw hynny'n golygu bod pobl yn contractio allan i aros am ymateb hir iawn, iawn o dan yr holl amgylchiadau neu unrhyw amgylchiadau; rydym yn cydnabod bod rhai amseroedd aros yn rhy hir, a bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n siŵr y caf y cyfle hyfryd i'r Aelodau yn y fan hon neu yn y pwyllgor i graffu arnaf i weld a ydym ni mewn gwirionedd yn llwyddo i gyflawni hynny yn y dyfodol gweddol agos.

15:10

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n galonogol gweld bod y model clinigol newydd yn cyflawni'r amcanion a osodwyd gennym ar ei gyfer a'i fod yn ddiogel yn glinigol. Ond, fel y cydnabyddwch yn eich datganiad, mae'n ymddangos bod profiad y claf yn parhau i fod yn ddiffygiol mewn rhai meysydd. Yn anochel, os ydych chi'n newid blaenoriaeth o un maes i'r llall, fe fydd rhai yn gorfod aros yn hwy. Dywedwch yn eich datganiad nad oes unrhyw berthynas uniongyrchol rhwng amseroedd aros hir a chanlyniadau gwaeth ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion, ond ceir effaith negyddol ar brofiad y claf, ac rwy'n credu na ddylem ni ddiystyru hynny. Mae profiad y claf yn bwysig, ac fe hoffwn i gael wybod ychydig yn fwy am yr hyn y bwriadwn ni ei wneud ar wahân i sicrhau bod y cleifion sy'n aros yn parhau i fod yn ddiogel yn glinigol. Heblaw am hynny, beth ydym ni'n mynd i wneud i sicrhau nad yw profiad y claf ei hun yn mynd yn rhy negyddol? Fe ddywedasoch chi yn ystod y cyfnod adolygu bod amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu i saith munud ar gyfartaledd, sy'n peri pryder. Dywedwch y bydd hyn yn cael sylw drwy waith cydweithredol a phenodol, a'i fod yn cael ei effeithio gan nifer o ffactorau capasiti. Efallai y gwnewch chi ddweud ychydig am hynny wrthym ni. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i barhau i graffu ar hyn. Rwy'n credu ei fod yn beth da ei fod yn ddiogel, ond eto mae llawer mwy i'w wneud. Rydych chi'n dweud bod yr adolygiad yn annibynnol, ac, wrth gwrs, y mae'n annibynnol ar y gwasanaeth ambiwlans, ond mae'n dal i fod yn adolygiad gan y GIG, a tybed a fyddech chi'n ystyried cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd allanol hefyd.

Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, gyda'i rhaglen eu hun, yn penderfynu'n rheolaidd beth i'w ystyried o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i Swyddfa Archwilio Cymru ddangos mwy o ddiddordeb yn ein sefyllfa bresennol ni. Rwy'n siŵr, ar ryw adeg, y byddan nhw eisiau gwneud hynny, pan fyddan nhw wedi penderfynu, yn ei barn nhw fod yr amser yn briodol.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â beth yr ydym ni'n ei wneud ynghylch capasiti, yn rhannol mae hynny'n mynd yn ôl at y sylwadau a wnaed gyda Angela Burns ynglŷn â chael y capasiti cywir mewn gwahanol rannau o'r system, pa un ai'r ganolfan gyswllt leol neu nifer y staff sydd gennym yn gweithio, ar y sifft, ar yr adeg gywir, a'r gwahanol frigau a phantiau o ran galw sy'n gymharol ragweladwy drwy gydol y flwyddyn hefyd. Ac rwy'n disgwyl adrodd am fwy na hynny, fe welwch yn y dangosyddion ansawdd chwarterol ambiwlans amrywiaeth o wybodaeth ynghylch sut yr ydym ni'n gallu ateb y galw drwy gydol y flwyddyn gyfan. Er enghraifft, yn yr adran oren rydym ni'n cyhoeddi gwybodaeth bob chwarter am ymateb cyfartalog ar y pumed ganradd a thrigain a'r bymthegfed ganradd a phedwar ugain, felly gallwch ddweud faint o amseroedd aros hir sydd o fewn y system; a gallwch ddweud lle maen nhw mewn gwahanol rannau o'r system fesul Bwrdd Iechyd hefyd.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud y gaeaf hwn ar unwaith hefyd yw ceisio cael yr hyn y cyfeirir atynt fel archwiliadau lles. Yr her yn y fan yna yw pa un a yw pobl yn galw yn ôl i wirio, os oes rhywun yn dal i aros, sut y maen nhw, oherwydd bod pobl yn aml yn adrodd yn ôl pan fo dirywiad eisoes wedi digwydd a hynny beth amser yn ôl. Mae pobl yn aml yn aros cyn galw'n ôl a dweud, 'Mae'r person hwn yn waeth o lawer', ac felly mewn gwirionedd mae rhywbeth ynghylch gallu galw'r person yn ôl a dweud, ' Dyma'r sefyllfa. A oes unrhyw newid yn y cyflwr?' Mae hynny'n mynd yn ôl at alwad gan rywun yn y ganolfan gyswllt, neu'r clinigwr yn eu ffonio nhw'n ôl, i weld a ddylid newid categori eu galwad. Nid ceisio datrys y system yw'r bwriad. Fe wneir hyn os oes gwybodaeth ychwanegol yn dangos bod cyflwr y person hwnnw wedi newid, a dyna'r peth iawn i'w wneud. Felly, fe wnawn ni wneud yn siŵr y gaeaf hwn y bydd y galwadau lles hynny yn cael eu gwneud drwy'r gaeaf, pan fydd eu hangen.

Ynghylch eich pwynt o ran ba un a yw amseroedd aros hir yn achosi niwed, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ei fod yn her ynghylch profiad cleifion; yr ydych yn gywir i nodi hynny. Ond mae'r berthynas rhwng niwed yn gymhleth ac ansicr. Dyna pam y mae angen mwy o waith, oherwydd dywed rhesymeg, ar gyfer rhai cyflyrau, os arhoswch chi am gyfnod hir, gallai hyn achosi niwed, neu efallai bydd y cyflwr yn gwaethygu. Mae angen inni ddeall hynny'n well, i ddeall a oes angen i ni newid unrhyw beth yn y system i gyfarfod a deall pobl â'r cyflyrau hynny'n iawn.

Felly, mae tystiolaeth wedi ein harwain at y pwynt hwn. Mae'r dystiolaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd wedi arwain at argymhellion y byddwn yn eu gweithredu, ac rwy'n sicr y cawn ni ragor o dystiolaeth yn y dyfodol yn sgil y cwestiynau sydd heb eu hateb a ysgogwyd gan yr adolygiad. Felly, rydym ni'n gwbl agored ynghylch ein sefyllfa, ac fel y dywedaf, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i Swyddfa Archwilio Cymru ychwanegu ei barn ynghylch pa mor lwyddiannus neu aflwyddiannus y buom ni o ran creu gwasanaeth ambiwlans gwell yma yng Nghymru.

15:15

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Symud at y model clinigol ar gyfer ymateb ambiwlans oedd un o'r newidiadau pwysicaf a wnaed i ofal heb ei drefnu. Roedd sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb iawn yn seiliedig ar eu hangen hefyd yn cyflymu amseroedd ymateb ar gyfer y cleifion mwyaf agored i niwed.

Yn anffodus, mae ffactorau eraill wedi llesteirio gallu gwasanaeth ambiwlans Cymru i ymdrin â'r nifer fawr o alwadau a geir nad ydynt yn achosion pan fo bywyd mewn perygl ar unwaith. Cafodd gwasanaeth ambiwlans Cymru bron i hanner miliwn o alwadau y llynedd—tua 1,300 o alwadau bob dydd—y mwyafrif helaeth ohonyn nhw'n alwadau oren. Cymerwyd mwy na 30 munud i ymateb i bron i 50 y cant o'r galwadau oren hynny. Cymerodd rai ymatebion rai oriau. Rydym ni'n colli miloedd o oriau bob mis oherwydd oedi wrth drosglwyddo cleifion yn yr ysbyty. Yn ôl y dangosyddion ansawdd ambiwlans diweddaraf, mae hyn tua 4,000 o oriau ar gyfartaledd bob mis.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch chi o'r effaith mae toriadau i nifer gwelyau'r BILl yn ei gael ar wasanaeth ambiwlans Cymru? Mae'r rhan fwyaf o'n hysbytai bellach yn gweithredu ar gapasiti gwelyau o tua 90 y cant. A ydych chi'n ystyried hyn yn lefel diogel neu a fyddwch chi'n gwrthwynebu rhagor o doriadau yn nifer y gwelyau?

Treth arall ar adnoddau yw'r galwadau niferus gan yr un galwyr mynych, sef rhwng 6 y cant i 7 y cant o'r holl alwadau misol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n ffonio'n aml?

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn recriwtio mwy o nyrsys a pharafeddygon i ddarparu cyngor clinigol dros y ffôn, er mwyn helpu i reoli'r galw. A yw hyn yn ychwanegol at y gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth 111, ac a wnewch chi amlinellu sut y mae cyflwyno'r gwasanaeth 111 yn mynd rhagddo? Sut bydd hyn yn ategu gwasanaeth ambiwlans Cymru?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae nifer fawr o alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans bob mis yn ymwneud â phroblemau deintyddol, a materion deintyddol yw'r rheswm mwyaf dros alwadau i Galw Iechyd Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda rhai cleifion yn wynebu taith o 90 milltir i weld deintydd y GIG a channoedd o bobl yn barod i aros am bum awr i gofrestru gyda deintydd y GIG, mae'n amlwg bod prinder yn cael effaith ar y GIG yn gyffredinol. Felly, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw prinder staff mewn un maes o'r GIG yn arwain at gynnydd yn y galw ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, yn enwedig gwasanaeth ambiwlans Cymru?

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn rhan hanfodol o'r GIG, ac rwy'n gobeithio y bydd gweithredu argymhellion y tîm adolygu oren yn arwain at fwy o welliannau i gleifion a staff. Mae pobl Cymru'n cefnogi'r dull o weithredu sy'n darparu'r ymateb gorau, hyd yn oed os nad hwnnw yw'r cyflymaf. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu ein bod yn gadael cleifion i aros am oriau mewn poen. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad oren yn cyflawni gwelliannau tebyg i'r rhai a welsom ni gydag ymatebion galwadau coch. Diolch.

Diolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau, ac rwy'n croesawu'r ganmoliaeth a chydnabyddiaeth ar gyfer y model a'r cynnig i roi hynny ar waith. Nid oedd hwnnw'n benderfyniad syml nac o reidrwydd yn un poblogaidd ar y pryd.

Fe geisiaf ymdrin yn eu tro, rwy'n credu, â'r pedwar maes y cyfeiriasoch chi atyn nhw ar doriadau i nifer y gwelyau a'r gwasanaeth ambiwlans. Nid wyf i'n credu mai nifer y gwelyau mewn gwirionedd yw'r her i'r ambiwlansys o ran pam maen nhw'n treulio gormod o amser y tu allan i ysbytai pan fo angen rhyddhau cleifion. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r llif drwy ein system gyfan. Mae'n broblem i'r system gyfan. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n gwybod y bydd datgloi llif mewn perthynas well â rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd a pherthynas well â gwasanaeth gofal cymdeithasol yn sicrhau canlyniadau ledled y system. Dyna pam, mewn gwirionedd, mae'r Gweinidog a minnau yn rhoi arian i bartneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, i geisio gwneud yn siŵr bod iechyd yn cydnabod ei fod er ei les hefyd i weithio gyda llywodraeth leol i wneud hynny ac nid trosglwyddo'r cyfrifoldeb rhwng y ddau yn unig, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd yn cymryd rheolaeth a pherchnogaeth dros yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud i weld llif drwy'r system gyfan.

Ynghylch eich pwynt am alwyr mynych, ceir dau bwynt yn y fan yma. Mae un am unigolion. Gwnaed llawer o waith ar amrywiaeth o ddyfarniadau GIG Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf ynghylch galwyr mynych. Yn aml, nid ydyn nhw angen ymateb ambiwlans brys, angen gofal iechyd gwahanol sydd arnyn nhw. Felly, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru, ynghyd â rhannau gwahanol o'r gwasanaeth iechyd ac, weithiau, llywodraeth leol a phartneriaid a'r trydydd sector hefyd, wedi mynd at yr unigolion hynny a thrafod eu hanghenion, hyd yn oed os yw'n glir nad gwasanaeth ambiwlans argyfwng yw hynny.

Rydym ni mewn gwirionedd wedi gweld gostyngiad yn y nifer o alwyr mynych dros y ddwy flynedd diwethaf. Ni ddigwyddodd hynny yn sgil cyfarwyddeb weinidogol, ond oherwydd ein bod wedi cael mwy o graffu ar ein ffigurau ni, mwy o wybodaeth, ac mae ein staff wedi dewis ymdrin â hynny oherwydd y maen nhw'n cydnabod ei fod er eu lles nhw a'u swyddi, ac er lles hefyd yr unigolion a'u hanghenion gofal iechyd.

Ail ran mater y galwyr mynych yw rhai cartrefi gofal. Ceir her yn y fan yma, oherwydd bod rhai cartrefi gofal yn llawer mwy tebygol o alw nag eraill. Yn aml, mae'n ymateb i godwm, pobl heb eu hanafu ond staff yn gwrthod ymgymryd â chodi'r unigolyn. Felly, dyna yn rhannol pam yr ydym ni'n buddsoddi mewn cynllun treialu gwasanaeth codi. Mae gennyf i a'r Ysgrifennydd dros lywodraeth leol ychydig o waith i'w wneud ynghylch swyddogaeth y gwasanaeth tân ac achub hefyd, fel ateb posibl ar gyfer gwasanaeth codi. Dyna pam hefyd, yn fy natganiad, y cyfeiriais at glustogau codi, oherwydd y mae'n rhaid inni leihau'r lefel o alwadau diangen a ddaw o gartrefi gofal. Maen nhw'n rhan o her y galwyr mynych a wynebwn ni.

O ran 111, cafodd ei gyflwyno'n llwyddiannus. Rwy'n fodlon iawn ar y ffordd y digwyddodd pethau ym Mhowys yn ogystal â'r pwynt cyswllt nesaf. Rydym ni'n gweld, o amgylch y wlad, gwasanaeth llwyddiannus yn cael ei gyflwyno, ac mae'n cael ei redeg a'i weinyddu drwy Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Nhw mewn gwirionedd sy'n rhedeg y ganolfan alwadau ar ei gyfer, ond y mae mewn partneriaeth â phob un o'r byrddau iechyd yn gyffredinol. Felly, yr wyf yn fodlon ei bod yn stori newyddion da i Gymru. Rydym ni'n cyflwyno gwasanaeth llwyddiannus ar y cyflymder iawn mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Yn olaf, ein gwasanaethau deintyddol, nid wyf i am ymdrin â'r cwestiwn yn iawn heddiw oherwydd bydd cyfle gennyf yn ystod yr wythnosau nesaf i gyflwyno datganiad gwahanol ar wasanaethau deintyddol a diwygio yng Nghymru.

15:20

Diolch yn fawr, Llywydd. Fe wnaethoch chi sôn am wasanaethau tân ac achub. Tybed a allech chi roi ryw syniad inni o'ch meddylfryd ynglŷn â swyddogaeth cyd-ymatebwyr o ran ymateb i alwadau oren. Byddwch yn ymwybodol, yn amlwg, o'r gwasanaeth maen nhw'n ei darparu. Rydych chi wedi crybwyll effeithiau poen ac ati ar alwad oren, ond maen nhw hefyd mewn sefyllfa dda iawn i sylwi pan allai galwad oren droi yn alwad categori coch. Rwyf wedi sôn am enghreifftiau yn y Siambr cyn hyn ble gellir dadlau bod presenoldeb ac absenoldeb cyd-ymatebwyr, mewn gwirionedd, wedi golygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth ar alwadau oren. A allwch chi roi sicrwydd imi yn awr na wneir unrhyw beth i gyfyngu ar swyddogaeth cyd-ymatebwyr i alwadau coch yn unig, ac y gall eich term 'yr ymateb mwyaf addas' gynnwys cyd-ymatebwyr yn ymateb i rai galwadau oren i'w atal rhag troi'n goch ac, yn amlwg, i atal yr holl boen a'r dioddefaint yna, ac, mewn rhai achosion, y perygl sy'n gallu codi pan fo galwad oren yn troi'n goch? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Gallaf roi sicrwydd ichi mai os cyd-ymatebwyr yw'r ymateb priodol, yna dyna beth ddylai ddigwydd. Dylai hynny fod yn fater o farn glinigol ynghylch yr ymateb cywir, yn hytrach nag yn unrhyw fath o gyfarwyddyd gan fy hun neu bennaeth y gwasanaeth i beidio â defnyddio cyd-ymatebwyr os mai nhw yw'r adnoddau cywir ar gyfer y person cywir ar yr adeg honno.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub

Mae eitem 4, Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—diwygio trefniadau llywodraethu a chyllid awdurdodau tân ac achub—wedi'i ohirio tan 13 Tachwedd.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr—Y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesurau Arbennig

Felly, symudwn ymlaen at y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr—y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesurau Arbennig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnes i ddatganiad ar 5 Mehefin ynglŷn â'r cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd allweddol yn ystod yr amser y bu'r bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig, yr heriau sylweddol a oedd yn parhau i fodoli, a chynlluniau i weithio gyda'r bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod nesaf o wella. Bydd fy natganiad heddiw yn canolbwyntio ar y cynnydd o ran y disgwyliadau hynny a gyflwynais i'r bwrdd iechyd ym mis Mai yn y fframwaith gwella mesurau arbennig.

Mae'r fframwaith yn nodi cerrig milltir ar gyfer 18 mis mewn pedwar maes allweddol: arweinyddiaeth a llywodraethu; cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau; iechyd meddwl; a gofal sylfaenol, gan gynnwys y tu allan i oriau. Mae'n ofynnol i'r bwrdd iechyd adrodd ar gynnydd bob chwe mis, a thrafodwyd a chytunwyd ar yr adroddiad cyntaf yn ei gyfarfod bwrdd a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.

Fe wnes i gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr newydd ar gyfer un o'u cyfarfodydd atebolrwydd rheolaidd gyda mi a phrif weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru ddydd Mawrth diwethaf i drafod y cynnydd a wnaed a'r cynlluniau i ymateb i'r heriau a'r anawsterau hynny sy'n dal i fodoli.

O ran arweinyddiaeth a llywodraethu, bu cryn bwyslais ar wella gallu'r bwrdd. O fis Mai i fis Medi eleni, ymdriniwyd â'r holl swyddi gwag ar y bwrdd. Penodwyd Mark Polin yn gadeirydd newydd, ac mae is-gadeirydd ac aelodau annibynnol wedi eu penodi. Yn unol â'm disgwyliadau, penodwyd cyfarwyddwr gweithredol gofal sylfaenol a chymunedol i arwain y gwelliant sydd ei angen yn y maes hwn. Mae cyfarwyddwr gweithredol newydd ar gyfer cynllunio a pherfformiad hefyd wedi ei recriwtio a bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Tachwedd.

Mae systemau gwerthuso ac adrodd a sicrwydd mwy cadarn bellach yn cael eu cyflwyno gan y cadeirydd newydd i ddatblygu llywodraethu da ymhellach. Hefyd bu mwy o ymrwymiad a symbyliad i gydweithio gan y bwrdd i gefnogi 'Cymru Iachach' a'r agenda drawsnewid. Roeddwn yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf y byddai cymorth ar gael o'r gronfa trawsnewid ar gyfer prosiect gogledd Cymru ar draws y gogledd i helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw bywydau mwy annibynnol ac i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw yn agosach at eu cartrefi. Bydd hynny yn cynnwys rhannu adnoddau, sgiliau ac arbenigedd rhwng y maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.

O ran cyllid, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn sefyllfa heriol. Fodd bynnag, os bodlonir y cyfanswm rheoli a bennwyd ar gyfer eleni, bydd hynny'n welliant gwirioneddol ar y flwyddyn flaenorol. Nid oes unrhyw amheuaeth gan y bwrdd y bydd cyflawni hyn yn gofyn am gamau penodol dros ran olaf y flwyddyn ariannol hon i gyflawni'r newid sydd ei angen i sicrhau sefydlogrwydd ac i arwain y trawsnewid yn ei gynllun ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £1.7 miliwn ym mis Gorffennaf o dan drefniadau mesurau arbennig i gryfhau capasiti rheoli a gallu dadansoddi yn y tîm gweithredu.

Disgwyliad allweddol o'r fframwaith gwella oedd fod y Bwrdd yn ymateb yn brydlon ac yn briodol i ganfyddiadau ymchwiliad Y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol—HASCAS, ac argymhellion adolygiad llywodraethu Ockenden. Rwy'n fodlon bod y cynlluniau y mae'r Bwrdd Iechyd wedi eu rhoi ar waith i weithredu'r argymhellion, o ran iechyd meddwl ac yn ehangach, yn gynhwysfawr ac yn gadarn, gydag arweinwyr gweithredol wedi eu dynodi i'w dwyn i gyfrif.

Fy mhwyslais nawr yw sicrhau bod cynnydd cyflym o ran gweithredu'r cynlluniau hyn. Rydym ni eisoes yn gwirio'r cynnydd a nodwyd hyd yma gan Betsi Cadwaladr yn eu hadroddiadau rheolaidd, a chydnabyddir hynny gan staff rheng flaen ym maes iechyd meddwl, ac mae hynny'n ychwanegol at raglen arolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sydd hefyd yn adrodd ar gynnydd. Mae gwelliannau hyd yn hyn yn cynnwys cadarnhau tîm uwch reoli newydd a gweladwy, penodi cyfarwyddwr nyrsio iechyd meddwl newydd, creu arweinwyr gwrando ar draws staff rheng flaen a lansio'r dull 'Heddiw gallaf'. At hynny, erbyn hyn, crëwyd grŵp rhanddeiliaid mwy i bwyso a mesur y gwelliannau a wnaed, ac rwy'n falch bod rhai aelodau sy'n weddill o deuluoedd Tawel Fan wedi cytuno i fod yn rhan o'r grŵp hwn, ynghyd â'r cyngor iechyd cymuned a rhanddeiliaid eraill.

Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â nifer o deuluoedd Tawel Fan, pan gyfarfûm â nhw yr wythnos diwethaf. Rwy'n deall yn glir iawn nad yw nifer fechan o deuluoedd yn fodlon gyda phroses na chanlyniad ymchwiliad HASCAS. Fodd bynnag, cafwyd consensws ynglŷn â'r angen i sicrhau y paratoir adroddiadau a chynlluniau gweithredu y bwrdd iechyd a'u bod yn arwain at welliannau cynaliadwy ac ystyrlon yn y gwasanaeth iechyd meddwl ac o ran gofalu am bobl sydd â dementia yn yr amrywiol wasanaethau. Mae fy swyddogion wedi bod yn glir iawn gyda'r bwrdd iechyd bod angen iddo sicrhau ei fod yn cyfathrebu cynlluniau a chamau gweithredu yn effeithiol i bob aelod o staff.

Bu pwyslais datblygiadau ym maes iechyd meddwl hyd yma ar welliannau uniongyrchol i wasanaethau cleifion mewnol, gan gynnwys gwaith amgylcheddol. Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio i asesu a gwella gwasanaethau yn y gymuned drwy weithredu ei strategaeth iechyd meddwl, yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth a'r heddlu i ddarparu cynlluniau gweithredu lleol. Pwyslais allweddol ar gyfer y chwe mis nesaf fydd gwella a chynnal perfformiad o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a thargedau gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. I gefnogi'r gwaith hwn, mae'r uned gyflawni yn adolygu galw a chapasiti ac mae fy swyddogion yn trafod pa gymorth pellach y gellid bod ei angen yn y maes hwn i ailgydbwyso capasiti a galw.

Mae gwelliannau'n parhau o ran ymgysylltu a chynnwys staff, a dengys canlyniadau arolwg staff y GIG yn 2018 y bu newidiadau cadarnhaol ers 2013 a 2016, yn enwedig o ran ymgysylltu â staff. Mae hynny'n cynnwys cynnydd o 18 y cant ers 2013 mewn staff sy'n dweud eu bod yn awr yn falch o weithio i fwrdd Betsi Cadwaladr.

O ran y maes cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau, gan gynnwys perfformiad, mae angen ymdrech mwy penodol a gweithredu cynt. Bu cynnydd mewn strategaethau arbenigol unigol gyda'r ganolfan is-ranbarthol gofal dwys newyddenedigol—a adwaenir fel SuRNICC—a cynlluniau ymyrraeth drwy'r croen sylfaenol wedi eu gweithredu, a'r cynllun llawdriniaeth fasgwlaidd yn mynd rhagddo. Mae'r cynlluniau hyn yn cynyddu llwyddiant recriwtio ac yn darparu gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru ar gyfer pobl gogledd Cymru. Mae angen gwneud cynnydd pellach, system gyfan, mewn meysydd eraill, gan gynnwys orthopaedeg, a'i ddisgrifio yn fwy eglur yn ei gynlluniau ar gyfer trawsnewid a gwella gwasanaethau.

Mewn gofal sylfaenol, bydd y cyfarwyddwr gweithredol newydd yn rhoi pwyslais cynyddol ar sicrhau gwelliannau pellach, gan gydweithio â chlystyrau. Mae gwaith yn parhau i wella gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac mae perfformiad y bwrdd iechyd bellach yn fwy tebyg i weddill Cymru. Uchelgais y bwrdd iechyd yn awr yw trawsnewid y model gwasanaeth fel ei fod yn addas at y diben ac yn gynaliadwy.

Yn y datganiad hwn, rwyf wedi nodi meysydd ble bu gynnydd ond hefyd wedi amlinellu'r anawsterau sylweddol sy'n parhau. Rwy'n benderfynol na chaiff mesurau arbennig fod yn ddatrysiad annigonol i broblem, ond eu bod yn darparu gwelliant cynaliadwy ac yn creu'r capasiti a'r gallu sydd eu hangen ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hwy. Yn ystod y chwe mis nesaf, bydd angen i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar gyllid ac ar gynllunio strategol a chynllunio gwasanaeth, yn enwedig mewn gofal heb ei drefnu ac atgyfeirio i driniaeth, ac i gyflawni argymhellion adroddiadau llywodraethu HASCAS ac Ockenden.

Mae'r cadeirydd a'r bwrdd yn glir o ran y gwaith sydd ei angen ac yn ymrwymedig i wneud cynnydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â nhw i ddarparu'r cymorth angenrheidiol, a gobeithiaf y bydd partneriaid rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol hefyd yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal gwell a chynaliadwy i bobl gogledd Cymru.

15:30

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ichi ddiweddaru'r Siambr hon am y sefyllfa o ran y mesurau arbennig yn y gogledd. Rydych yn gwybod y bûm i'n hynod o feirniadol o'r diffyg cynnydd sydd wedi bod dros y tair blynedd a hanner diwethaf bron ers i'r sefydliad fynd i fesurau arbennig. Rydym ni wedi gweld dirywiad hyd yn hyn mewn ystod o ddangosyddion, gan gynnwys amseroedd aros mewn unedau damweiniau ac achosion brys, amseroedd aros atgyfeirio i driniaeth a heriau iechyd meddwl, ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn poeni'n arw hefyd am gynaliadwyedd eu gwasanaethau meddyg teulu yn y gogledd, o ystyried bod 24,000 o gleifion wedi gorfod gwneud trefniadau amgen o ganlyniad i'w meddygfeydd yn dychwelyd eu contractau ledled y gogledd yn y blynyddoedd diwethaf.

Rydym ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, bod y sefyllfa ariannol, yn hytrach na gwella o dan fesurau arbennig, sef y bwriad erioed, wedi gwaethygu mewn gwirionedd. Y diffyg oedd £26.6 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn—[Anghlywadwy.]—2015, a chydnabyddwn fod y diffyg hwnnw—[Anghlywadwy.]—yn £38.8 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Hefyd, wrth gwrs, mae pryder ynglŷn â rheoli costau cynyddol, gyda phethau fel prosiectau cyfalaf hyd yn oed. Gwelsom yn y newyddion—

Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws. Mae gennym ni broblem dechnegol, sef nad oes yr un o'r meicroffonau yn gweithio. Felly, rwyf wedi cael cyngor—. Fe wnaf i roi dau funud ychwanegol arall ichi. Rwyf wedi cael cyngor i ohirio am 10 munud. Felly, caiff y cyfarfod ei ohirio yn awr am 10 munud, neu hyd nes y gellir datrys y broblem dechnegol.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:33.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:45 gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

15:45

[Anghlywadwy.]—pam fod hynny'n digwydd. Trown yn ôl yn awr at y llefarwyr, felly dof yn ôl at Darren Millar. Felly, gallwch ddechrau eto, Darren.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n credu ei bod hi yn bwysig y caiff y Siambr hon ei diweddaru'n rheolaidd am y sefyllfa o ran unrhyw gynnydd yn y gogledd o dan fesurau arbennig. Mae fy mhlaid wedi mynegi rhwystredigaeth sylweddol dros y tair blynedd diwethaf am y diffyg cynnydd. Rydym ni'n gwybod y bu cryn drafod cyhoeddus ynglŷn â rhai o'r dangosyddion allweddol o ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, canlyniadau ar gyfer cleifion â phroblemau iechyd meddwl yn cael apwyntiadau meddygon teulu, ac, wrth gwrs, cau nifer o gymorthfeydd yn y gogledd. Yn wir, mae 24,000 o bobl yn gleientiaid meddygfeydd yn rhanbarth y gogledd sydd, yn anffodus, wedi gorfod gwneud trefniadau amgen, gyda'r bwrdd iechyd fel arfer yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y meddygfeydd hynny er mwyn darparu rhywfaint o barhad gofal.

Gwyddom hefyd, wrth gwrs, o ran yr ochr ariannol, bod y sefyllfa wedi gwaethygu hefyd. Y diffyg yn y flwyddyn ariannol cyn aeth y Bwrdd Iechyd i fesurau arbennig oedd £26.6 miliwn, ond mae hynny wedi chwyddo i £38.8 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ac os clywais Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir yn gynharach, mae wedi gosod cyfanswm rheoli, beth bynnag mae hynny yn ei olygu mewn gwirionedd, i ganiatáu ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd mewn gwariant eleni. Byddai gennyf ddiddordeb gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r cyfanswm rheoli hwnnw mewn gwirionedd fel y gallwn ni eich dwyn i gyfrif o ran cyflawni yn unol â hynny. 

Nawr, rwyf yn croesawu rhai o'r newidiadau sydd wedi'u gwneud ar lefel y bwrdd. Rwy'n croesawu penodiad Mark Polin ac yn dymuno'r gorau iddo gyda'r gwaith sylweddol y mae'n rhaid iddo yntau a'i gyd-aelodau bwrdd annibynnol fynd i'r afael ag ef, gan ei fod yn her sylweddol. Ond rwyf yn bryderus o hyd—a byddaf yn dal i grybwyll hyn—bod yna bobl ar y bwrdd sy'n rhan o'r tîm gweithredol a oedd yn gyfrifol am fethiannau sylweddol y bwrdd hwn pan gafodd ei roi mewn mesurau arbennig. Mae dau o bobl o leiaf sydd yn dal ar y bwrdd hwnnw—ac un ohonyn nhw, yn rhyfeddol, bellach wedi ei benodi yn gyfarwyddwr trawsnewid yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw, sy'n gwbl warthus yn fy nhyb i, a dweud y gwir, o ystyried hanes y bwrdd hwn.

Nawr, a gaf i ofyn ichi: fe wnaethoch chi sôn am y ffaith yn eich datganiad eich bod wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £1.7 miliwn o dan y trefniadau mesurau arbennig i atgyfnerthu capasiti rheoli a gallu dadansoddi y tîm trawsnewid? A yw hynny'n mynd i fod yn rheolaidd oherwydd, wrth gwrs, bydd angen y capasiti hwn yn y dyfodol, nid yn unig yn y tymor byr? A allwch chi ddweud wrthym ni a yw'r arian hwnnw yn mynd i fod yn rheolaidd?

A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth oedd canlyniad eich cyfarfod â theuluoedd Tawel Fan? Fe wnaethoch chi awgrymu mai dim ond nifer fach o deuluoedd oedd yn anfodlon â chanlyniad ymchwiliadau annibynnol sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn, ond nid dyna yw fy mhrofiad o ran y gohebu gyda mi a'r llythyrau sydd gennyf. Yn wir, dywedwyd wrthyf i o'ch cyfarfod gyda'r teuluoedd hynny, y cafwyd cais i gomisiynu ymchwiliad gan y Cynulliad. Nawr, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cefnogi ymchwiliad o'r fath os gofynnwyd am ymchwiliad o'r fath gan Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni ai dyna fydd yn digwydd, oherwydd rwyf yn credu fod gan lawer o bobl ddiffyg hyder llwyr yn y ddau gasgliad cyffredinol gwahanol sylweddol iawn a ddeilliodd o'r adroddiadau annibynnol hynny gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Donna Ockenden.

A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni—? Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddatblygiadau ym maes iechyd meddwl. Un o'r datblygiadau a fu ym maes iechyd meddwl dros y misoedd diwethaf yw diddymu'r cyllid ar gyfer meithrin gallu sefydliadau yn y trydydd sector, sydd, rwy'n credu, yn destun pryder sylweddol ar draws y rhanbarth. Felly, diddymir cyllid sefydliad Un Llais, sydd wedi datblygu gwasanaethau eiriolaeth yn y blynyddoedd diwethaf, o fis Rhagfyr eleni. Bu'r cyllid hwnnw'n gyfrifol am hyfforddi eiriolwyr, am sefydlu gwasanaethau eiriolaeth, ac fe wyddom ni nad yw capasiti'r gwasanaethau eiriolaeth yn rheoli'r baich sydd arnyn nhw ar hyn o bryd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed pa sicrwydd sydd gennych chi y bydd y gwasanaethau eiriolaeth hynny, o ystyried ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, yn gallu ateb y galw yn y dyfodol.

Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at ganlyniadau arolygon mwyaf diweddar staff y GIG, sy'n dangos rhywfaint o newid cadarnhaol, ac rwy'n cydnabod y bu rhywfaint o newid cadarnhaol a bod hyder cynyddol yn y rhan fwyaf o'r tîm arweinyddiaeth newydd. Fodd bynnag, nid ydych chi wedi sôn am hyder cleifion, ac rydym ni'n gwybod fod hynny wedi lleihau yn ddiweddar. Rydym ni hefyd yn gwybod bod y system gwynion yn ddiffygiol. Yn y gogledd, mae gennym ni bobl weithiau'n aros am dros ddwy flynedd am ganlyniadau eu cwynion, hyd yn oed o ran gwasanaethau iechyd meddwl, ar adeg pan fo'r bwrdd mewn mesurau arbennig. Nawr, mae hynny'n amlwg yn annerbyniol, ac fe hoffwn i wybod beth yr ydych chi'n ei wneud i wneud yn siŵr bod hwn yn sefydliad sy'n dysgu o'i gamgymeriadau, yn enwedig y rhai sy'n cael eu dwyn i'w sylw drwy'r broses gwyno. Mae hyd yn oed Aelodau'r Cynulliad yn cael problemau wrth gael ymatebion o sylwedd pan ofynnir inni ymyrryd i geisio eu sicrhau. Felly, credaf, a dweud y gwir, ein bod yn haeddu eglurhad ynghylch beth rydych chi'n ei wneud i feithrin capasiti yn y sefydliad hwn fel y gall ddysgu oddi wrth ei gamgymeriadau ac ymateb i Aelodau'r Cynulliad a chynrychiolwyr etholedig eraill sy'n helpu gyda gofyn cwestiynau.

Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd, wrth gwrs, at y ganolfan gofal dwys newyddenedigol, yr wyf yn ei chroesawu'n llwyr, ar safle Ysbyty Glan Clwyd. Ni wnaethoch chi sôn am y ffaith y bu'n rhaid i 10,000 o bobl orymdeithio ar y strydoedd yn y gogledd i sicrhau hynny. Rwy'n gwerthfawrogi ymyrraeth Prif Weinidog Cymru, ond pe na byddai'r bobl hynny wedi gorymdeithio ar y strydoedd, ni fyddai gennym ni'r ganolfan gofal dwys newyddenedigol. Byddem yn anfon babanod gwael a babanod bach dros y ffin i Loegr er mwyn cael eu geni ble rhagwelwyd y byddai problemau ar gyfer mamau. Credaf felly, mewn gwirionedd, ei bod hi'n haerllug braidd, hawlio'r clod i gyd am hynny, pan mai'r gwir amdani yw ichi ildio i bwysau cyhoeddus o ran safbwynt eich Llywodraeth.

O ran buddsoddi cyfalaf, rwy'n croesawu'r buddsoddiad cyfalaf sy'n mynd at y bwrdd. Rwyf yn credu bod problemau o ran y broses gymeradwyo, tra bod y bwrdd yn dal i fod o dan fesurau arbennig, o ran sicrhau buddsoddiad cyfalaf. Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am bryderon ynghylch capasiti orthopedig, y mae gan y bwrdd gynllun ar waith i'w wella, ond ni all wneud hynny oni bai y caiff y buddsoddiad cyfalaf gan y Llywodraeth er mwyn gweithredu ei gynllun, ac mae'n cymryd weithiau blynyddoedd i gael ymateb unwaith mae cynllun wedi'i gyflwyno. Nawr, sut ydych chi'n disgwyl i fwrdd wneud y math o welliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld o bob plaid yn y Siambr hon os nad ydych chi'n buddsoddi fel y gall helpu i gyflawni hynny mewn gwirionedd? Ac rydym ni'n gwybod am y costau cynyddol, wrth gwrs, o ran rhai o'r prosiectau cyfalaf hyn. Addewidion cyn yr etholiad am ysbyty newydd yn y Rhyl, er enghraifft, sydd erioed wedi eu hanrhydeddu, hyd yn hyn, er gwaethaf y ffaith yr addawyd nhw yn ôl yn 2013, pan gaewyd rhai cyfleusterau yn yr ardal honno a Phrestatyn cyfagos, y cai ysbyty newydd ei hadeiladu. Erbyn hyn rhagwelir na chaiff ei hadeiladu tan 2022 ac y bydd y gost bron wedi dyblu. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen digwydd yma yw bod angen inni wneud cynnydd cyflymach, bod angen i ni weld mwy o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn sicrhau bod y systemau'n gywir a'r capasiti yn gywir, ac yn sicr mae angen inni weld mwy o fuddsoddi yn y gwasanaethau eiriolaeth iechyd meddwl hynny a'r broses gwynion er mwyn gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd hwn yn dysgu oddi wrth ei gwersi.

15:50

Diolch am y llu o sylwadau a chwestiynau. Fe wnaf i, wrth gwrs, sicrhaf y caiff y Siambr yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cynnydd gyda mesurau arbennig. Wrth i'r adroddiadau a'r diweddariadau ar y mesurau arbennig ddod i law, disgwyliaf yn llawn y gwneir datganiadau yn y Siambr hon i Aelodau ofyn cwestiynau.

Hoffwn gywiro pwynt ar y dechrau: nid yw 24,000 o bobl wedi gorfod gwneud trefniadau newydd eu hunain ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu. Mae'r bwrdd iechyd wastad wedi bod yn gyfrifol am y trefniadau hynny, naill ai mewn partneriaeth â meddygfeydd teulu eraill yn y dalgylch neu, yn wir, drwy redeg gwasanaeth wedi'i reoli hyd nes gall y gwasanaeth ddychwelyd at ei ffordd arferol o ddarparu gwasanaethau meddyg teulu. Felly, nid yw hi'n wir bod yn rhaid i bobl fynd allan a gwneud eu trefniadau eu hunain, mae'n ymwneud â'r bwrdd iechyd yn dal i reoli a darparu'r gwasanaeth hwnnw. Ceir, fodd bynnag, yn y gogledd, yr her sylweddol o ran clystyrau meddygon teulu—ac rwy'n cydnabod, rydw i wedi cyfarfod amryw o feddygon teulu ac eraill yn y gogledd, ac felly hefyd ledled y wlad—. Mae penodi cyfarwyddwr gweithredol newydd ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yn gam mawr ymlaen—rhywun sy'n glinigydd gofal sylfaenol sydd ag ymddiriedaeth a hygrededd o fewn y gwasanaeth ac sydd bellach mewn sefyllfa i geisio dod â phobl at ei gilydd i gael cynllun mwy cadarnhaol ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer beth ellid ei wneud, sydd yn deall heriau gwirioneddol cydweithwyr, nid yn unig mewn practis cyffredinol fel meddygon, ond y nyrsys a'r therapyddion ac eraill hefyd. 

Mae cyllid yn parhau i fod yn bryder mawr gyda chyfanswm rheoli diffyg o £35 miliwn wedi ei osod. Ni fyddai hynny ynddo'i hun yn arwydd arwyddocaol o lwyddiant, oherwydd llwyddiant yw byw o fewn y gyllideb, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynghylch hynny ers fy mhenodi. Ond rydym ni eisiau gosod targedau gwella realistig i gyrraedd y cyfanswm rheoli hwnnw ac wedyn symud ymlaen i fod yn gallu byw o fewn eu modd yn y dyfodol. Dyna pam mae angen cyflymu'r trawsnewid. Mae hynny'n aml ynglŷn â'r gwelliant tymor byr i'r tymor canolig cyn y trawsnewid tymor hirach a'r tymor canolig, ond dyna hefyd pam bydd yr uned gyflawni cyllid yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r tîm cyllid yn y bwrdd iechyd i geisio gwneud yn siŵr bod llwyddiant gwirioneddol o ran cyflawni'r arbedion hynny. Dyna pam rydym ni wedi rhoi cymorth tymor byr i'r bwrdd iechyd. Bydd gwneud ymrwymiadau ariannu rheolaidd i fyrddau iechyd, fel y mae angen inni ei wneud, ond byddwn yn gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol i helpu'r bwrdd iechyd hwn drwy fesurau arbennig.

O ran eiriolaeth, rwyf wedi bwriadu ysgrifennu atoch, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud hynny, oherwydd rwy'n cydnabod eich bod wedi crybwyll hyn yn y Siambr o'r blaen, felly does arnaf i ddim eisiau osgoi ymdrin â hynny.

O ran teuluoedd Tawel Fan, mae'r teuluoedd sy'n weddill yn fychan mewn nifer ond mae ganddyn nhw heriau sylweddol ac anfodlonrwydd sylweddol am y broses fel y maen nhw wedi gweld hynny a chanlyniadau'r adroddiad. Nid ydynt yn cytuno nac yn derbyn holl ganlyniadau'r ymchwil ynglŷn â'r gofal a gafodd eu hanwyliaid. Nid yw'r mwyafrif helaeth o deuluoedd sy'n rhan o ymchwiliad HASCAS wedi cysylltu â ni ac maen nhw'n dal yn anhapus ac yn anfodlon ar y broses neu'r canlyniad. Nid yw hynny'n golygu na fyddwn ni o ddifrif am bryderon y teuluoedd sy'n weddill. Dyna pam, yn ystod yr hanner tymor, yr oeddwn yn y gogledd ar gyfer cyfarfod gyda'r nos a barhaodd llawer yn hwy nag a gynlluniwyd yn wreiddiol oherwydd roedd hi'n bwysig rhoi cyfle llawn iddynt fynegi eu pryderon yn hytrach na finnau'n canu'r gloch ar ôl cyfnod penodol o amser a dweud, 'rwy'n gadael'. Byddai hynny wedi bod y peth anghywir i'w wneud yn llwyr.

Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y cais am ymchwiliad gan y Cynulliad ymhell o fod yn unfrydol. Gofynnodd rywun am hynny, roedd rhywfaint o gefnogaeth yn yr ystafell i'r cais hwnnw, ond dywedodd pobl eraill yn glir nad oeddent eisiau ymchwiliad arall eto. Lle'r Cynulliad, fodd bynnag, yw penderfynu os yw hi eisiau cynnal ymchwiliad arall; nid lle'r Llywodraeth yw dweud y dylai'r Cynulliad ymchwilio. Rwyf wedi ei gwneud hi'n glir mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn y gallem ni ac y dylem ni ei wneud, a bod y bwrdd iechyd yn cael ei ddwyn i gyfrif am yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud i weithredu ar argymhellion ymchwiliad HASCAS. Mae'r cynllun sydd ganddyn nhw i wneud hynny yn un credadwy; yr her yw bod angen iddyn nhw ei gyflawni. Mae'r cynllun yn edrych fel yr un cywir, ond mae angen iddyn nhw ei gyflawni ac mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd sy'n ennyn hyder, a dyna pam mae grŵp rhanddeiliaid yn bodoli. Dyna pam ei bod hi'n bwysig bod yna rai o gynrychiolwyr teuluoedd Tawel Fan ar y grŵp hwnnw hefyd. Felly, nid grŵp i ganu clodydd y Bwrdd Iechyd mohono— bydd yna graffu gwirioneddol.

O ran eich sylw ehangach ynglŷn â hyder cleifion, wel, os ysgrifennir yn rheolaidd am y Bwrdd Iechyd mewn modd nad yw'n ennyn hyder cleifion, does fawr o syndod fod pobl yn pryderu. A gyda bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, ni fyddai hi'n syndod mawr imi fod hyder cleifion yn y rhan honno o'r wlad yn wahanol, dyweder, i rannau eraill o'r wlad. Fodd bynnag, nid wyf yn derbyn eich datganiad fod y system gwynion yn ddiffygiol. Mae gan y system gwynion ôl-groniad sylweddol, ond, mewn gwirionedd, mae arweinyddiaeth y cyfarwyddwr nyrsio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r system gwynion. Mae'n bwysig dysgu o gamgymeriadau, ond hefyd i sicrhau'r gwelliant sydd ei angen. Ac, mewn gwirionedd, nid oes angen ichi ddibynnu ar fy ngair i fod y system wedi gwella—mae'r ombwdsmon mewn gwirionedd wedi gwneud sylwadau ei fod yn cydnabod bod gwelliant gwirioneddol wedi ei wneud, ond mae hefyd wedi nodi bod angen i hynny barhau ac nad yw pethau yn berffaith fel y maen nhw yn awr.

O ran y dewis ynglŷn â'r ganolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol, roedd yn benderfyniad a wnaeth y Prif Weinidog gyda buddsoddiad cyfalaf sylweddol, a roedd yn seiliedig ar adolygiad ar sail tystiolaeth gan y Coleg Brenhinol. Mae yna bobl yn yr ystafell hon a fu'n ymgyrchu am adolygiad pellach o'r penderfyniad cychwynnol, ac fe wnaethom ni hynny drwy edrych ar dystiolaeth. Dyna oedd y peth cywir i'w wneud, ac, mewn gwirionedd, dim ond pan ddanfonwyd yr uned, a'i fod yn barod ac yn agored, fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, roedd staff yn credu y byddai'n sicr yn digwydd. Mae'n gam cadarnhaol iawn. Credaf fod y Llywodraeth wedi gwrando, gwrando ar y dystiolaeth a bellach mae gennym ni gyfleuster newydd yn y gogledd ar gyfer pobl y gogledd. Ynglŷn â'r cynllun orthopedig y cyfeirioch chi ato, nid yw'n wir dweud y bu'r Bwrdd Iechyd yn aros am flynyddoedd am ymateb gan y Llywodraeth. Rhan o'n her fu cael cytundeb ymhlith maes clinigol y gogledd ynglŷn â beth i'w wneud rhwng eu hunain yn ogystal â'r bwrdd iechyd sy'n eu cyflogi, ond, yn yr un modd, i gael cynllun a all nid yn unig cyflawni gweithgarwch mwy, ond mewn gwirionedd, un sy'n bodloni'r galw a'r capasiti sy'n bodoli bellach, heb sôn am yn y dyfodol. Ni ellir disgwyl i'r Llywodraeth hon neu unrhyw un arall wario symiau sylweddol o arian i beidio â bodloni'r galw yn y system. Felly, mae'n rhaid iddyn nhw gael cynllun y mae modd ei gymeradwyo yn y lle cyntaf, ac yna bydd gan y Llywodraeth ddewis ynghylch a yw refeniw neu arian cyfalaf ar gael. Ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol a'r hyn y dylai unrhyw Weinidog o unrhyw Lywodraeth ei ddisgwyl gan y gwasanaeth. Ond nid ydym yn ofni buddsoddi cyfalaf yn y gogledd i ddarparu gwasanaeth gwell.

A daw hynny â mi at y cynigion ynglŷn â'r Royal Alexandra a gyflwynwyd o'r diwedd i'r bwrdd yr wythnos diwethaf, ac sydd wedi'u cymeradwyo gan y bwrdd. Byddant bellach yn dod i fwrdd buddsoddi Llywodraeth Cymru ac yna bydd gennyf ddewis i'w wneud ac rwy'n benderfynol o wneud penderfyniad cynnar. Gallaf ddweud wrthych chi mai'r eiriolwr a'r lobïydd mwyaf effeithiol, a'r llais mwyaf miniog y byddai'n dda ichi wrando arno ar y mater hwn, wrth gwrs, yw'r Aelod lleol, sy'n digwydd bod yn eistedd yn y gadair ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud y dewis cywir ar gyfer y gwasanaeth, ac rwy'n gwybod y caf i fy mhrofi'n rheolaidd gan yr Aelod lleol.

16:00

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Ceir rhai elfennau, yn bendant, i'w croesawu. Rwy'n arbennig o falch o weld penodi cyfarwyddwr gweithredol gofal sylfaenol a chymunedol—credaf fod hynny'n amlwg yn gwbl hanfodol, er fy mod i yr un mor bryderus â Darren Millar ynglŷn â rhai o'r bobl eraill sy'n dal i fod yno o'r drefn flaenorol. Rwy'n gobeithio eich bod chi a'ch swyddogion yn ffyddiog y bydd y bobl hynny yn gallu gweithredu yn y fath fodd fel eu bod yn cydymffurfio'n llawn â'ch disgwyliadau o ddechreuad newydd ar gyfer Betsi Cadwaladr. Nid wyf yn disgwyl ichi, yma yn y Siambr hon neu yn gyhoeddus, i ddweud unrhyw beth am y sicrwydd hwnnw, ond hoffwn gael sicrwydd eich bod yn ffyddiog. 

Rwyf eisiau dechrau drwy edrych ar rywbeth nad ydych chi'n dweud llawer iawn amdano yn eich datganiad, ac mae hynny'n ymwneud â staffio. Rydych chi yn cyfeirio at y ffaith bod 65 y cant o'r staff bellach yn dweud eu bod yn falch o weithio i fwrdd Betsi Cadwaladr. Wel, mae hynny'n beth da, ond, wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod gennych chi 35 y cant o staff nad ydynt. Nawr, pe byddai hynny yn fusnes sector preifat a bod 35 y cant o'i staff yn anhapus, byddent yn dal i fod yn bryderus iawn, ac fe hoffwn i ofyn am sicrwydd gennych chi nad oes yna unrhyw ddifaterwch gennych chi na'ch swyddogion am ganran honno, oherwydd nid yw hyn yn sefyllfa dda i fod ynddi. Mae'r 35 y cant yna yn llawer iawn o bobl ar y rheng flaen sy'n delio â chleifion bob dydd.

Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud ychydig mwy am y problemau gyda recriwtio a chadw staff. Ydych chi'n gweld gwelliant—ydych chi a'ch swyddogion yn gweld gwelliant—yng ngallu'r bwrdd i recriwtio staff hanfodol a'u cadw? Oherwydd, yn amlwg, y staff rheng flaen hynny sy'n ymdrin â'r cleifion a'u teuluoedd bob dydd yw'r blociau adeiladu hanfodol ar gyfer y bwrdd, ac, wrth gwrs, ar gyfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ardal, oherwydd nhw yw'r bobl sy'n dod i gysylltiad â chleifion.

Hoffwn gyfeirio'n ôl at deuluoedd Tawel Fan. Roedd hi'n eithaf rhyddhad clywed eich ymateb i sylwadau Darren Millar, oherwydd pe byddai rhywun yn darllen neu yn gwrando ar eich datganiad, gallai gael yr argraff eich bod yn wfftio pryderon y teuluoedd hynny nad ydynt yn fodlon. Nawr, rydych chi wedi ein sicrhau ni nad yw hynny'n wir ac rwy'n falch iawn o glywed hynny. Yn eich datganiad rydych chi'n cyfeirio—y rhan honno o'r datganiad sy'n cyfeirio at Tawel Fan—bod eich swyddogion yn gwbl glir ynghylch yr angen i'r bwrdd gyfathrebu'n effeithiol â staff. Rwy'n gobeithio y gallwch chi ymestyn y sylw hwnnw i ddweud eich bod chi'n glir iawn hefyd ynglŷn â'r angen i'r bwrdd gyfathrebu'n effeithiol iawn gyda'r teuluoedd hynny, oherwydd yn aml iawn mae'n wir, onid yw, os nad yw pobl yn teimlo eu bod yn cael gwybod—. Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gwbl fodlon, os ydyn nhw' teimlo eu bod yn cael gwybodaeth ac yn gwybod beth sy'n digwydd, mae hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni.

Wnaf i ddim ailadrodd rhai o'r cwestiynau y mae Darren eisoes wedi eich holi yn eu cylch, ond yn olaf rwyf eisiau dod yn ôl at y sylw ynghylch yr amserlen. Nawr, ni fyddai neb yn disgwyl ichi osod rhyw fath o derfyn artiffisial ar gyfer hyn, oherwydd mae angen ichi fod yn ffyddiog bod y bwrdd mewn cyflwr addas i gynnal ei hun a rheoli ei hun ac i reoli ei staff cyn y gallwch chi ddiddymu'r mesurau arbennig. Ond mae'n ymddangos i mi y bu'r mesurau arbennig sydd wedi bod ar waith ers cyn hired yn awr maen nhw'n dechrau teimlo fel y drefn arferol. Felly, a allwch chi roi rhyw fath o asesiad inni—? Rydych chi'n sôn am eich disgwyliad o ran cynnydd pellach a chyflymach, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno â hynny, ond a allwch chi roi rhyw fath o asesiad ynglŷn â faint yn hwy y disgwyliwch i hyn barhau, gan gadw mewn cof, fel rwy'n dweud, nad oes neb yn disgwyl ichi ddweud, 'Iawn, byddwn ni allan o'r rhain erbyn 30 Mehefin', neu pryd bynnag fyddai hynny? Oherwydd mae'n cyrraedd sefyllfa, yn fy marn i, pan fo pobl yn dechrau teimlo bod hyn yn mynd—wyddoch chi, 'ble mae'r man terfyn?' Nawr, wrth gwrs, gellid dadlau y byddai hi'n fuddiol i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd reoli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn uniongyrchol a bod yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Ond nid dyna'r sefyllfa yma. Felly, pe gallem ni gael rhyw fath o syniad ynglŷn â faint yn hwy y credwch chi y bydd hyn yn parhau, rwy'n credu y byddai'r Siambr—ac, yn bwysicach, pobl y gogledd—yn ddiolchgar iawn.

16:05

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran craffu ac atebolrwydd, fel y dywedasoch chi, nid wyf am wneud sylwadau ynglŷn â gweithwyr unigol. Yr her i mi yw a all pobl ddangos y gallan nhw wneud eu gwaith yn unigol a chyda'i gilydd, a dyna yw diben cael y bwrdd i graffu a goruchwylio. Dyna yw fy nisgwyliad, ac, wrth gwrs, mae'r cadeirydd newydd mewn sefyllfa lle—fel rwy'n dweud yn fy natganiad—y ceir craffu ychwanegol ar y broses, ar y prif weithredwr a'r tîm gweithredol, ond yn fwy cyffredinol ynghylch disgwyliadau ar draws y sefydliad.

Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwch chi am y gwelliant yn yr arolwg staff, o ran pobl sy'n dweud eu bod yn falch o weithio i'r bwrdd iechyd. Nid yw'r 35 y cant nad ydyn nhw yn y categori hwnnw yn golygu eu bod i gyd yn anhapus, ond mae yn amlygu nid yn unig y gwelliannau a wnaed—yr 18 pwynt canran o welliannau, y dylai pawb yn y Siambr fod yn falch ohono—ond hefyd, yn amlwg, bod angen gwelliant pellach. Yn sicr nid wyf yn dymuno hel esgusodion neu geisio osgoi'r ffaith nad oes rhagor o waith i'w wneud eto.

Ynglŷn â'ch pwyntiau ynghylch a ydym ni'n gweld gwelliant o ran hyfforddiant a recriwtio, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'ch cyd-Aelod, Llyr Gruffydd, am y cyfle i gael hyfforddiant gwahanol wedi ei drefnu, er enghraifft, ar gyfer nyrsys yn y gogledd. Rwyf hefyd wedi bod yn trafod recriwtio dwy nyrs yn y gogledd o'r ochr draw i'r ffin. Mae amrywiaeth o bobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y system yng Nghymru o dros y ffin. Caiff hynny yn arbennig ei hyrwyddo gan nyrsys balch iawn o fewn y Coleg Brenhinol y Nyrsys ac Unsain yn benodol. Ond hefyd, fel enghraifft dda, mewn gwasanaethau fasgwlar, rydym ni wedi gallu recriwtio ymgynghorwyr newydd—llawfeddygon newydd—yn dilyn y newid yn y rhwydwaith gwasanaeth fasgwlaidd a'r ffordd y caiff ei drefnu, y buddsoddiad ychwanegol mewn theatrau yr wyf i wedi ei gymeradwyo, ond hefyd, yn dilyn mesurau arbennig, y gwelliannau a wnaed yn y gwasanaethau bydwreigiaeth, rydym ni wedi llwyddo i recriwtio'n llwyddiannus i swyddi mewn ysbytai ac mewn cymunedau. Gobeithiaf fod y rheini'n enghreifftiau da o sefyllfa lle yr ydym ni bellach yn gweld mwy o staff llwyddiannus yn dod i mewn i'r sefydliad.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â chynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu ar iechyd meddwl, wrth gwrs mae hynny'n rhan o beth fydd y grŵp rhanddeiliaid yn caniatáu inni ei wneud, i wrando ar farn y cyhoedd yn y lleoliad hwnnw, yn ogystal â'r pwynt rheolaidd y dylem ni wrando bob amser ar y cyhoedd, a bod ganddyn nhw swyddogaeth briodol. P'un a ydym yn eu galw'n gleifion neu ddefnyddwyr gwasanaeth, y gwir amdani yw y dylai dinasyddion fod wrth wraidd y gwasanaeth, ac, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwrando arnyn nhw i wella pob rhan o'r gwasanaeth.

O ran eich sylw ehangach ynglŷn â mesurau arbennig, rwyf wedi bod yn glir na all mesurau arbennig ac na fydd mesurau arbennig yn rhywbeth cyffredin. Nid yw'n ffordd arferol o ddarparu gwasanaeth. Yr hyn rwy'n gobeithio ei weld yw y byddwn ni'n gweld sefydliadau ar wahanol adegau yn y broses uwchgyfeirio yn cael eu codi fel y ceir heriau, ond hefyd yn dod yn ôl i lawr ar y raddfa honno, fel yn wir y mae Bwrdd Iechyd Powys wedi gwneud, ac fel yn wir y mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi'i wneud. Rwyf eisiau gweld byrddau iechyd mawr sy'n uchel ar y raddfa uwchgyfeirio yn dod yn ôl i lawr hefyd. I wneud hynny, fodd bynnag, rydym yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, felly nid achos o'r Llywodraeth yn marcio ei gwaith ei hun yw hyn, neu Weinidog yn gwneud dewis gwleidyddol. O ran y mesurau arbennig, mae'r fframwaith gwella arbenigol a hysbyswyd i'r cyhoedd ac a gyhoeddwyd yn mynd hyd at fis Medi 2019. Byddwn wrth fy modd petai'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud digon o gynnydd i ddod allan o fesurau arbennig cyn hynny, ond rhaid i hynny bob amser fod ar sail wrthrychol i farnu hynny, yn hytrach na gwneud hynny er cyfleustra i mi; byddai hynny'r peth anghywir i'w wneud.    

Diolch ichi am y wybodaeth ddiweddaraf, Gweinidog y Cabinet. Fel y dywedwch chi, mae llawer wedi'i wneud, ac mae gwaith eto i'w wneud. Rwy'n siŵr y byddai cleifion a staff y GIG yn cael cysur o wybod nad yw mesurau arbennig yn ddatrysiad annigonol i broblem, fel y dywedasoch chi, ond yn ddull gweithredu ac yn ymyriad sydd yno am gyhyd ag y mae ei angen. A gall hynny fod yn beth cadarnhaol, oherwydd mae'n golygu bod y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru, yno i gefnogi'r bobl hynny, y staff a'r cleifion, gyhyd ag mai dyna'r achos, ac, o fewn hynny, gallant ddatrys y problemau strwythurol a gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth hwn, i'r bobl hynny ac i'r staff sy'n gweithio ynddo, yn dod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Ni all hyn fod, ac nid yw hyn, yn ateb tymor byr. Rydych chi yn dweud y bydd pwyslais allweddol dros y chwe mis nesaf ar wella darpariaeth iechyd meddwl, ac rwy'n siŵr, unwaith eto, y bydd croeso mawr i hynny, yn enwedig yn sgîl y trafodaethau a gafwyd yma y prynhawn yma ynghylch Tawel Fan.

Rwy'n credu mai'r hyn fyddai pobl eisiau ei wybod yw sut fydd y broses honno yn mynd rhagddi, beth allai'r gwelliannau hynny fod, a beth yw unrhyw un o'r meysydd targed hynny. Rydych chi yn sôn am arian ychwanegol o £1.7 miliwn i gryfhau'r rheolaeth yn y tîm trawsnewid. Ym mis Awst, fe wnaethoch chi gyhoeddi hefyd £6.8 miliwn i gefnogi gwelliannau uniongyrchol i gleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. A allwch chi roi diweddariad ar ganlyniad y gwariant hwnnw, neu lle gwariwyd yr arian hwnnw?

16:10

O ran y gwariant newydd, rydym yn cydnabod nad oedd gan y bwrdd iechyd y capasiti angenrheidiol mewn rhai o swyddogaethau uwch-swyddogion a rheolwyr canol i wneud i'r gwasanaeth weithio mewn gwirionedd ac i alluogi clinigwyr i wneud eu gwaith. Felly, mae gennym ni amrywiaeth o gyfarwyddwyr newydd wedi eu penodi i wneud yn siŵr y caiff ysbytai, ond hefyd gwasanaethau yn y gymuned, eu rheoli'n well. A disgwyliaf y byddwn yn gweld, dros y chwarter nesaf, nid yn unig bod yr arian yn cael ei wario, ond mewn gwirionedd bod y staff yna yn gwneud gwahaniaeth.

O ran y sylw ehangach am iechyd meddwl, mae'n faes lle mae'r arweinyddiaeth weladwy yn wirioneddol bwysig. Yn y meysydd o ddarpariaeth iechyd meddwl yr wyf i wedi ymweld â nhw, yn y gymuned ac mewn lleoliadau diogel a lled-ddiogel, mae'r arweinyddiaeth ar y ddwy lefel uniongyrchol—hynny yw, staff sy'n arwain eu cyfoedion, yn ogystal â rheolwyr—ond hefyd mae'r cyfarwyddwr iechyd meddwl wedi bod yn bwysig iawn, ac, ers dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch tymor hir na ellid ei osgoi, mae'r cyfarwyddwr wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, nid yn unig drwy gael strategaeth, ond drwy gael cynllun ar gyfer y dyfodol sy'n cynnwys staff a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Ac, mewn gwirionedd, mae llawer mwy o obaith am ddyfodol y gwasanaeth.

Mae hyn yn tynnu sylw at ddau beth, rwy'n credu. Un yw pwysigrwydd arweinyddiaeth weladwy, o ansawdd uchel, oherwydd mae'r person hwnnw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yr ail her, fodd bynnag, yw bod Betsi Cadwaladr fel sefydliad—nid oes ganddo eto yr arwyddocâd o ran y strwythur a breuder yr arweinyddiaeth sy'n bodoli, oherwydd, pe baech chi'n cymryd y cyfarwyddwr hwnnw allan o'r swydd yn awr, byddwn yn llai ffyddiog ynghylch gwelliannau a wneir yn y dyfodol. Felly, mae gwaith i'w wneud i adeiladu tîm o amgylch y person hwnnw sy'n gallu parhau i sbarduno gwelliant, hyd yn oed os nad yw'r person hwnnw yno. 

Bydd angen gweithredu ar hyn hefyd, fel y dywedais yn gynharach, drwy wneud yn siŵr, yn y cynllun gweithredu yn dilyn adroddiad HASCAS, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Nyrsio, sydd rwy'n credu yn berson da gyda dealltwriaeth drylwyr o'r sefydliad i wneud yn siŵr bod gwelliant gwirioneddol—. Felly, dylai hynny roi hyder inni: Aelod effeithiol iawn o'r tîm gweithredol a chyfarwyddwr sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud, ac ymgysylltu a chynnwys ein staff a'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Diolch i chi am eich diweddariad, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n rhaid imi ddweud ei bod hi'n drueni i bobl sydd angen Betsi Cadwaladr nad yw datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys mwy o newyddion da na honiadau eang cyffredinol y bu gwelliannau anfesuradwy mewn rhai meysydd.

Nawr, nid wyf am ailadrodd yr ystadegau gwarthus ynglŷn â Betsi Cadwaladr; rydym ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw, ac rwyf wedi eu hailadrodd droeon yn y lle hwn. Ar yr un pryd, rwy'n cydnabod fod problemau Betsi Cadwaladr yn gymhleth ac wedi datblygu dros gyfnod hir o amser. Yn yr un modd, rwy'n cydnabod nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn meddu ar ffon hud y gall ei chwifio i ddatrys problemau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar unwaith.

Ond i ddatrys y broblem, neu'r llu ohonyn nhw, sef yr hyn sydd gennym ni ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, rhaid ichi ddeall y glo mân. Mae adroddiadau arbenigol wrth gwrs yn dangos rhan fawr o'r darlun, ac maen nhw'n ddogfennau defnyddiol iawn; maen nhw'n ymchwiliadau manwl ac yn fuddiol iawn i'ch helpu chi i ddatrys y broblem. Ond mae staff sy'n darparu'r gwasanaethau iechyd hyn ar lawr gwlad, a'r staff a'r gweithwyr eraill hynny sy'n eu galluogi i wneud hynny hefyd yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac yn ffurfio cronfa o atebion yr ymddengys sy'n cael ei hanwybyddu. Rwy'n deall fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnal arolwg staff, ac un o'r pethau cadarnhaol yw fod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud fod boddhad staff wedi codi'n sylweddol, er, yn anffodus, mae pa mor dda yw'r newyddion hynny yn dibynnu llawer ar gynnwys yr arolwg ei hun. Ond ar yr wyneb, mae'n newyddion da iawn.

Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr awgrym y gofynnir i staff ar bob haen, o'r glanhawr hyd at Gadeirydd bwrdd Betsi Cadwaladr, i gwblhau arolwg dienw a chyfrinachol ynglŷn â'u barn am yr heriau a wynebant yn eu swyddogaeth eu hunain, y rhai y maen nhw'n eu hwynebu wrth ryngweithio â swyddogaethau eraill yn y sefydliad ar bob haen, a lle mae'r llwyddiannau yn eu tyb nhw, lle mae'r problemau, a gofyn am eu barn ac awgrymiadau ynghylch yr atebion yn eu hadran arbennig nhw ac o'u hamgylch. Mae'n rhywbeth y mae busnesau yn y sector preifat yn ei wneud o bryd i'w gilydd pan fo ganddyn nhw broblemau o ddifrifoldeb tebyg.

Nawr, rwy'n sylweddoli bod yna fecanweithiau datgelu a ffordd o adrodd pryderon yn gyfrinachol. Rwyf hefyd yn sylweddoli y byddai'r math o arolwg yr wyf yn ei awgrymu yn dasg fawr, ond rwy'n credu ei bod yn dasg werthfawr, a fyddai yn dasg werth ei gwneud, oherwydd siawns fod yr amser bellach wedi dod i gael adolygiad llawn, rhagweithiol, trylwyr o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar bob lefel drwy gyfrwng y staff, sydd mewn gwirionedd yn byw eu bywydau beunyddiol yn y sefydliad; adolygiad sy'n mynd ati mewn difrif i holi barn staff clinigol ac eraill mewn ffordd sy'n sicr o fod yn anhysbys ac yn gyfrinachol ac yn gynhwysfawr.

Nawr, gan symud at y bwrdd ei hun, rwy'n gwybod ar y bwrdd bod newyddiadurwyr, cyn-swyddog heddlu ac amrywiaeth o bobl eraill o gefndiroedd nad ydyn nhw'n ymwneud â'r GIG. Nid yw unrhyw un o'r tair swydd uchaf—cadeirydd, is-gadeirydd neu brif weithredwr—yn cynnwys unrhyw un sydd â chymaint ag un diwrnod o hyfforddiant neu brofiad gwaith clinigol. Mae'r cadeirydd yn gyn-swyddog heddlu, mae'r is-gadeirydd o'r BBC, ac mae'r prif weithredwr yn rhywun sydd â gradd mewn gwleidyddiaeth ac economeg. Nawr, mae holl aelodau'r bwrdd wedi cael gyrfaoedd disglair ac maen nhw'n drawiadol yn eu meysydd eu hunain, ond fe hoffwn i i Ysgrifennydd y Cabinet esbonio beth yw diben penodi pobl heb gefndir clinigol i redeg gwasanaeth iechyd, a beth mae'n ei gredu maen nhw mewn gwirionedd yn ei gyfrannu i redeg y GIG yn y gogledd. Onid yw'n credu efallai y dylai'r rhan fwyaf o'r bwrdd fod yn glinigwyr os yw'r gwasanaeth yn y gogledd i gael ei arwain gan glinigwr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol yr hoffai ei weld? Ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod hi'n dderbyniol, ac a yw'n teimlo bod y cyhoedd yn teimlo y gallan nhw ymddiried ym mhenderfyniadau Bwrdd Iechyd â chymharol ychydig o weithwyr iechyd proffesiynol arno? Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo y byddai'r cyhoedd yn fwy ffyddiog petai ef hefyd yn ceisio sicrhau bod llawer mwy o aelodau bwrdd gyda chefndir mewn gwaith clinigol, ynghyd â phrofiad uniongyrchol a chyfredol o'r gwasanaeth iechyd gwladol fel y mae'n bodoli yn y gogledd? Mae plaid Ysgrifennydd y Cabinet yn hoffi siarad am gwotâu ar fyrddau rheoli o ran rhyw a phethau eraill, ond pam ddim o ran gwybodaeth a phrofiad? Diolch.

16:15

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Roedd dau gwestiwn cyffredinol. O ran arolwg staff dienw, mewn gwirionedd, fe wnes i gwblhau nifer o arolygon staff dienw pan oeddwn yn gweithio yn fy swydd flaenorol yn y sector preifat, a hynny fel aelod unigol o staff, pan nad oeddwn yn arweinydd neu reolwr, ac yna unwaith eto pan oeddwn yn arweinydd ac yn rheolwr, gan gynnwys adolygiad cyflawn a thrylwyr o farn fy staff amdanaf yn y swyddogaeth honno, ac roedd yn agwedd ddefnyddiol o ddysgu a gwell. Felly, roeddwn yn cydnabod gwerth hynny cyn dod i'r swydd hon, a dyna'n union mae arolwg staff GIG Cymru yn ei wneud. Mae'n ddi-enw ac yn fanwl, a gwelsom mewn gwirionedd gynnydd calonogol mewn amrywiaeth o bobl o sawl maes mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn yr arolwg. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf yw gwerth yr arolwg, ac mae hynny'n cynnwys ystod o sylwadau—nid dim ond ymarfer ticio blychau ydyw—mae cyfle i roi amrywiaeth o sylwadau ynglŷn â sut mae pobl yn teimlo ynglŷn â gweithio yn eu rhan nhw o'r sefydliad, a rhoi sylwadau ar gyfer gwella. Felly, a dweud y gwir, rydym ni, gydag arolwg staff GIG Cymru, yn gwneud yr hyn y mae'r Aelod wedi gofyn inni ei wneud, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gwerth cynnal ymarfer penodol ar gyfer y bwrdd iechyd pan rydym ni newydd gwblhau'r arolwg staff GIG Cymru.

Mae hi hefyd yn werth nodi, o safbwynt staff, y ceir rhagoriaeth wirioneddol o fewn gofal iechyd yn y gogledd yn ogystal, fel yr amlygwyd yng ngwobrau diweddar staff GIG Cymru, ac rwy'n credu y gallai ac y dylai pobl yn y Siambr hon fod yn falch iawn o'r rhagoriaeth wirioneddol y mae'r staff hynny yn ei ddarparu.

O ran eich sylw ehangach ynglŷn â chyfansoddiad y Bwrdd, rydym ni, wrth gwrs, wedi ymgynghori ar ffurf a natur y byrddau, ac os gallwn ni, ac os bydd amser yn caniatáu, yn y tymor hwn, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi y byddwn ni yn bwrw ymlaen gyda Bil llywodraethu ac ansawdd gofal iechyd. Ar hyn o bryd, mae gennym ni amrywiaeth o swyddogaethau clinigol. Mae gennym ni gyfarwyddwr meddygol, mae gennym ni gyfarwyddwr nyrsio, ac mae gennym ni gyfarwyddwr, yn y bôn, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol. Felly, mae gennym ni amrywiaeth o glinigwyr ar y bwrdd mewn swyddogaethau cyfarwyddwyr gweithredol.

Mae'r rhain yn swyddogaethau sydd eu hangen i redeg sefydliadau sylweddol. Mae angen i brif weithredwr bwrdd iechyd fod â'r sgiliau i fod yn brif weithredwr. Mae angen y sgiliau arno i fod yn arweinydd a rheolwr sylweddol mewn gwasanaeth. Nawr, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn glinigwr neu, yn wir, wedi bod yn gwneud gwaith clinigol am gyfnod. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi'r cyfle i'r clinigydd gorau redeg bwrdd iechyd. Os ydych chi'n edrych ar feddygfeydd teulu, mae amrywiaeth o feddygfeydd teulu yn cyflogi pobl naill ai yn rheolwr practis neu yn rheolwr busnes i redeg agwedd fusnes y sefydliad hwnnw, i wneud yn siŵr y gallan nhw wneud yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Oherwydd y sgiliau mae meddyg teulu wedi eu meithrin wrth hyfforddi ac yna mewn blynyddoedd lawer wrth ei swydd mewn gwirionedd yw sut i drin a gofalu am bobl. Swydd y prif weithredwr yw sicrhau eu bod yn gwneud eu swydd yn briodol fel y prif swyddog gweithredol. Dyna beth yr wyf yn ei ddisgwyl, ac yn sicr ni fyddaf yn cyflwyno gofyniad bod yn rhaid i rywun fod ag elfen o brofiad clinigol, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n mynd i ddarparu gwell gwasanaeth ac, yn y pen draw, dyna'r hyn sydd o ddiddordeb imi. 

16:20

Diolch. Ac yn olaf, Janet Finch-Saunders. Ac a gaf i eich atgoffa chi, mai chi yw ail siaradwr eich plaid?

Cewch, a diolch ichi am ganiatáu imi siarad. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n deg dweud, dros y 12 mis diwethaf yn arbennig, fy mod wedi bod yn llafar iawn. Nid yw hi'n ddoeth i neb sefyll yn y Siambr hon a dim ond pregethu neu ddefnyddio gwybodaeth anecdotaidd. Wrth siarad, siaradaf yn glir yn seiliedig ar yr hyn sy'n dod i'm swyddfa. A gallaf ddweud wrthych chi, mae fy ffeil gwaith achos—[torri ar draws.] Does dim diwedd ar nifer y cwynion a'r math o gwynion difrifol a wneir am y bwrdd iechyd penodol hwn. Nawr, byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o fy etholwr, lle mae newydd ei gyhoeddi—. A gaf i barhau?

Saith awr yn ôl heddiw, mae un o'm hetholwyr, yn anffodus, wedi marw, drwy aros am ambiwlans am dros bedair awr a gwaedu i farwolaeth. Etholwr 37 mlwydd oed. Dyna dim ond un o lawer o bobl yr wyf yn ymdrin â nhw. Bu'n rhaid i wraig arall, a gafodd codwm drwg iawn wrth syrthio yng Nghonwy, aros am dair awr am ambiwlans ac wedyn aros 10 awr ar gyfer triniaeth. Aethpwyd â hi i ysbyty Llandudno, ac yna, cymaint oedd y gwaedu o'i choes, a oedd yn ben-glin newydd, roedd yn rhaid iddyn nhw dorri ei jîns oddi arni, 10 awr yn ddiweddarach. Felly, ysgrifennodd at y prif weithredwr. Hyd yma, ysgrifennodd at y prif weithredwr ym mis Gorffennaf. Es ar drywydd hynny, yn gofyn iddo ble roedd yr ymateb, ym mis Awst. Rydym ni yn awr ym mis Tachwedd—dim ymateb.

Mae gennym ni ddwsinau ar ddwsinau o gwynion. Wyddoch chi, oherwydd weithiau, rwy'n rhwystredig iawn oherwydd mae fy etholwyr yn dod ataf gyda phob ewyllys da ac yn dweud wrthyf, 'Janet, dydym ni ddim eisiau cael neb i helynt, dydym ni ddim eisiau beirniadu, dim ond eisiau ydym ni i bobl ar y brig sy'n rhedeg pethau wybod yn union pa mor ddrwg yw pethau', a dydyn nhw ddim yn cael unrhyw ymateb.

Ac yn fy mhrofiad i, os na all prif weithredwr neu unrhyw un sy'n gweithio o fewn yr uwch dîm rheoli lunio e-bost, llunio ymateb safonol hyd yn oed yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennyf glywed am eich profiadau, ond mae eich gwybodaeth yn ein helpu ni i wella'r gwasanaeth'—. Does dim byd tebyg i hynny. Rwyf wedi gofyn i Gary Doherty, rwyf wedi gofyn i Andy Scotson, ac, wyddoch chi, mae pethau mor ddrwg i'm hetholwyr fel bod gennym ni bellach sesiwn ffôn wythnosol gydag aelod o'm staff i ystyried yr holl achosion lle mae yna oedi aruthrol.

Cefais e-bost pan oeddwn yn eistedd yn y cyfarfod llawn bedair wythnos yn ôl. Bu gŵr oedrannus yn aros pedair blynedd a hanner am lawdriniaeth ar ei glun. Mae mewn poen. Dywedodd ei fod yn ei chael hi'n anodd codi o'r gwely. Mae'r rhain yn bobl nad ydyn nhw'n cael unrhyw gefnogaeth o ran gofal. Mae'n byw ar ei ben ei hun. Y cwbl sydd ei angen arno—. Dywedwyd wrtho gan y meddyg, ei feddyg teulu, dywedwyd wrtho gan ei ymgynghorydd fod angen llawdriniaeth arno ar ei glun. Yn ffodus, oherwydd ei fod wedi cysylltu â mi, maen nhw bellach yn blaenoriaethu triniaeth ar ei gyfer. Felly, gobeithio'n wir y caiff ei lawdriniaeth, ac rwy'n credu y bydd hynny'n weddol fuan.

Ond mae pobl yn dod ataf, ac rwyf eisiau iddyn nhw wneud hynny, ond ceir llawer iawn o bobl sydd ddim yn dod. Ni fu unrhyw welliant, i fod yn onest, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran eu prosesau cwyno.

Nawr, rwy'n gwybod fod yr uwch-dîm rheoli—

Allwch chi wneud rhywfaint o gynnydd, os gwelwch yn dda? Nid wyf wedi clywed cwestiwn eto.

Yr uwch-dîm rheoli—. Ydy, mae'n eithaf trawiadol gweld nifer y staff newydd sydd wedi eu penodi, ond mae'r hen staff yn dal yno. Felly, mae gennych chi'r tîm rheoli hwn sy'n chwyddo, chwyddo, chwyddo, ac eto, mae Ysbyty Llandudno wedi gorfod cau wardiau—gallan nhw ddim cael staff. Ni fu unrhyw welliant mewn cynllunio byr neu ganolig neu hirdymor o ran denu nyrsys. Ydych chi wedi gweld nifer y swyddi gwag bellach ar gyfer nyrsys ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Gall pethau fod yn well ar bapur mewn rhai meysydd, ond, a dweud y gwir, fel Aelod Cynulliad, nid yw fy llwyth gwaith yn llai ac mae'r gofid i'm hetholwyr, os rhywbeth, yn cynyddu. Felly, y cwbl y buaswn i'n ei ddweud wrthych chi yw bod angen ichi edrych yn fanylach ar rai o'r pethau eraill.

Ond, y sylw a wnaeth Michelle Brown yn gynharach, ac a wnaeth Helen hefyd—allwch chi ddim dyfalu pryd efallai y byddwch chi'n diddymu'r mesurau arbennig oddi ar y bwrdd hwn. Bu'r mesurau ar waith yn hirach nag y buont erioed yn unrhyw un o bedair rhan y Deyrnas Unedig, dair blynedd a mwy. Fe wnaethoch chi sôn ym mis Mehefin am ddeunaw mis ac rydych chi'n dal i ddweud deunaw mis. Felly, mae'n edrych bron fel y bydd hi'n etholiad nesaf arnom ni cyn inni hyd yn oed ei ystyried.

A allwch chi ddweud wrth y Senedd hon ac i'r Aelodau sydd yma pryd ydych chi, sy'n Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n Weinidog sydd mewn Llywodraeth cenedl, pryd ydych chi'n gweld y bwrdd iechyd hwn yn dod allan o fesurau arbennig? Ond, yn bwysicach, pryd ydych chi'n rhagweld sefyllfa lle gwnaed gwelliannau gwirioneddol? Bydd gennyf wastad lwyth gwaith, rwy'n sylweddoli hynny, ond pryd fyddwn ni fel Aelodau'r Cynulliad a'm hetholwyr a'ch cleifion chi yn dweud mewn gwirionedd, 'wyddoch chi beth? Mae pethau wedi gwella'? Rhowch amserlen inni, os gwelwch yn dda.

16:25

O ran yr achosion unigol a grybwyllwyd gennych, ni allaf wneud sylw, ond nid wyf yn mynd i geisio dweud bod arosiadau hir eithafol am driniaeth yn dderbyniol. Rwyf wedi egluro nad yw hyn yn dderbyniol ac mae angen gwelliant nid yn unig yn y gogledd, ond ym mhob rhan arall o'n system gofal iechyd os bydd pobl yn aros yn rhy hir. Rwy'n ailadrodd unwaith eto bod yr ombwdsmon wedi dweud mewn modd gwrthrychol bod y system gwynion yn gwella. Efallai na welir hynny yn eich ffeil gwaith achos, ond dyna'r hyn a ddywedodd yr ombwdsmon ei hun mewn modd gwrthrychol.

O ran eich cwestiwn am amserlen, yn ei hanfod yr un cwestiwn ydyw a'r un ateb a roddais i Helen Mary yn gynharach. Mae'r fframwaith gwella a gyhoeddais o'r blaen yn mynd at fis Medi 2019. Nid wyf am roi amserlen ar gyfer pryd y daw mesurau arbennig i ben oherwydd bydd yn rhaid i hynny fod ar sail y cyngor a'r asesiad gwrthrychol a gawn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru fod cynnydd digonol a chyson wedi bod ac y dylai'r bwrdd iechyd ddod allan o fesurau arbennig.

Os gwnaf fel yr ydych yn fy annog i heddiw, yna gallai hynny fod yn gyfleus i mi neu rywun arall yn y Llywodraeth, ond gallai fod y peth cwbl anghywir i'w wneud ar gyfer pobl sy'n gweithio yn ein gwasanaeth iechyd a phobl sy'n dibynnu arno. Byddaf yn gwneud yr hyn sy'n iawn ar gyfer y gwasanaeth iechyd, hyd yn oed os yw'n golygu bod yn rhaid i chi a minnau gytuno i anghytuno.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi rhedeg cryn dipyn dros yr amser ar gyfer y datganiad hwnnw, ac ni fyddaf yn mynd dros yr amser ar gyfer y datganiadau nesaf i'r un graddau. Felly, a gaf i atgoffa pawb os ydych yn ail siaradwr o'ch plaid yna dim ond un cyflwyniad 30 eiliad ac un cwestiwn sydd eu hangen, nid araith bum munud yr ydych chi wedi ei pharatoi eisoes?

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cofio ein Lluoedd Arfog a Chyflawni ar gyfer Cymuned ein Lluoedd Arfog

Eitem 6 ar yr agenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—cofio ein lluoedd arfog a chyflawni ar gyfer cymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—Alun Davies.

Member
Alun Davies 16:28:29
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn goffadwriaeth ingol o'r rhai a fu'n ymladd yn ddewr ym mrwydrau'r gorffennol i ddiogelu ein rhyddid a'n ffordd o fyw. Dwy fil o a deunaw yw blwyddyn coffáu canmlwyddiant diwedd y rhyfel byd cyntaf. Bu farw mwy na 700,000 o filwyr Prydeinig, gan gynnwys, wrth gwrs, lawer o Gymru. Cynhelir digwyddiadau allweddol ledled y wlad i nodi'r garreg filltir arbennig hon.

Rwy'n siŵr y bydd llawer wedi gweld ac wedi clywed am ymgyrch 'Diolch' y Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi blwyddyn olaf canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf. Mae'r ymgyrch yn ceisio cofio nid yn unig y rhai a gollodd eu bywydau ond hefyd y rhai a luniodd y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Codwyd silwetau tawel mewn llawer o gymunedau ledled Cymru yn goffâd gweledol o'r gwrthdaro a'r etifeddiaeth sydd wedi dylanwadu ar ein gwlad ers cenedlaethau, ac, wrth gwrs, y rhai hynny na ddaethant adref.

Eleni, rydym hefyd wedi dathlu canmlwyddiant sefydlu'r Llu Awyr Brenhinol, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad. Gallwn i gyd ymfalchïo yn swyddogaeth y Cymro mawr hwnnw David Lloyd George, a oedd yn Brif Weinidog ar adeg ei sefydlu. Trwy ein rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers, byddwn yn parhau i nodi digwyddiadau arwyddocaol yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Ni ddylem byth anghofio'r aberth a wnaed yn y gwrthdaro hwnnw.

Ac rwyf hefyd yn cydnabod, Dirprwy Lywydd, y pwyntiau a wnaed yn gynharach gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd ar swyddogaeth y ffiwsilwyr yn y dwyrain canol ac ar feysydd  eraill y gad. Rwy'n cydnabod ein bod weithiau yn canolbwyntio'n unig ar y ffrynt gorllewinol, ond peth iawn a phriodol yw ein bod yn cydnabod pawb a fu'n ymladd yn y gwrthdaro erchyll hwnnw ar ba faes bynnag y buon nhw'n ymladd.

Mae'n rhaid inni gofio hefyd am y rhai a aberthodd mewn gwrthdrawiadau yn dilyn y rhyfel hwnnw. Yn ystod yr ail ryfel byd, roedd gan y Llu Awyr Brenhinol gyfraniad pwysig yn nhroad y rhyfel yn Ewrop—ei ymgyrch mwyaf arwyddocaol oedd Brwydr Prydain. Collodd tua 70,000 o staff yr RAF eu bywydau yn amddiffyn ein gwlad a'n pobloedd. Rwyf hefyd yn siŵr bod y rhan fwyaf ohonoch chi wedi gweld y lluniau graffig o Bluff Cove yn ystod rhyfel y Falklands yn yr 1980au cynnar. Collodd aelodau o luoedd arfog Prydain gan gynnwys, unwaith eto, lawer o Gymru, eu bywydau neu gael eu hanafu'n ddifrifol yn ystod y gwrthdaro hwnnw. Ni wnawn byth anghofio'r rhai a aberthodd eu bywydau na'r rhai a oroesodd, rai ohonynt ag anafiadau difrifol, i amddiffyn y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau heddiw.

Yn gynharach eleni, roedd Llywodraeth Cymru yn falch o allu rhoi £185,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog cenedlaethol, a gynhaliwyd yn Llandudno. Roedd yn llwyddiant enfawr, gyda mwy na 100,000 o bobl yn mynd i weld y digwyddiad. Mae digwyddiadau fel y rhain yn gyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolch i aelodau ein lluoedd arfog ar hyn o bryd ac yn y gorffennol.

Ym mis Ebrill, pan gyhoeddais fy natganiad ar gymorth i'r lluoedd arfog yng Nghymru, dywedais fod cynnydd aruthrol wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ran rhoi cymorth i'r gymuned hon. Heddiw, hoffwn gymryd peth amser i rannu'r cynnydd hwnnw.

Mae'n iawn inni dalu'n ôl i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint i ni a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog a bydd yn parhau i wneud hynny. Rydym yn cefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr gan roi bron £700,000 bob blwyddyn i gynnal treialon gwaith ymchwil i helpu i wella problemau iechyd meddwl. Mae'r sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth â Newid Cam, sy'n cynnig rhaglen mentora cymheiriaid, gan helpu cyn-filwyr i gael cymorth iechyd hanfodol a chymorth cyfannol arall, gan gynnwys cymorth o ran camddefnyddio sylweddau a chyngor ar dai a chyflogaeth.

Yn y grŵp arbenigol lluoedd arfog ym mis Medi, clywsom am waith Newid Cam a'r gwerth cymdeithasol a ddaw yn sgil buddsoddi mewn gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau, gan eu helpu i drawsnewid eu bywydau a'u cadw ar y llwybr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud hefyd fy mod yn ddiolchgar i'r holl bobl hynny sy'n gweithio gyda ni ar y grŵp arbenigol lluoedd arfog. Hoffwn ddiolch hefyd i'r grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn cefnogi ac yn cynnal y gwaith ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.

Rwy'n falch bod y llwybr carlam ar gyfer gofal eilaidd ac arbenigol yn parhau i ffynnu. Mae'r adborth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gadarnhaol iawn. Yn y flwyddyn 2017-18, gwariodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru £77,000 i gefnogi'r llwybr.

Rydym yn cefnogi cynllun nofio am ddim i aelodau presennol a chyn-aelodau'r lluoedd arfog, ac yn 2017-18, cofnodwyd bron 9,000 o sesiynau nofio. Mae'r cynllun yn cefnogi iechyd a lles ymhlith cymuned ein lluoedd arfog ac yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd sy'n gefnogol i adsefydlu a lles.

Rwy'n awyddus i gefnogi cyn-filwyr drwy ein cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau. Yn 2016-17, cafodd 308 o gyn-filwyr driniaeth i sicrhau bod eu lles corfforol a meddyliol yn cael sylw.

Cyhoeddwyd strategaeth draws-Lywodraeth yn ddiweddar ar gyfer ymgynghoriad ar unigrwydd ac arwahanrwydd, gyda strategaeth derfynol i'w chyhoeddi erbyn mis Mawrth nesaf. Fy mwriad i yw y bydd hyn hefyd yn cynnwys gwaith gyda chyn-filwyr ac ar eu cyfer nhw. Ymgynghorir ag elusennau milwrol, oherwydd fy mod yn dymuno sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i gymuned y lluoedd arfog. Byddwn yn gweithio gyda ffederasiynau teulu'r lluoedd arfog i benderfynu pa gymorth y gellir ei roi i aelodau presennol a'u teuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau arbennig sy'n wynebu plant aelodau'r lluoedd arfog. Rwy'n falch bod cronfa bwrpasol o £250,000 wedi ei chyfeirio tuag at roi cymorth addysgol i blant y lluoedd arfog, ac mae 27 o ysgolion wedi cael cyllid yn y flwyddyn ariannol hon. Dirprwy Lywydd, y llynedd, parhawyd i gefnogi myfyrwyr drwy gynllun profedigaeth y lluoedd arfog. Mae hwn yn rhoi hwb mawr i fywydau'r plant hynny sydd wedi colli eu rhieni yn y lluoedd arfog, gan roi rhywbeth yn ôl i'r rhai a gollodd gymaint.

Y llynedd, rhoddodd Llywodraeth Cymru £233,000 hefyd drwy'r cynllun ymrwymiad addysg bellach ac uwch i gefnogi pobl sy'n gadael y lluoedd arfog i astudio ac ennill cymwysterau addysg bellach ac uwch. Byddwn yn parhau â'r ymrwymiad hwn yn 2019, gan alluogi i gyn-aelodau'r lluoedd arfog newid eu gyrfa ac ennill cyflogaeth.

Rydym yn ymwybodol bod rhai cyn-filwyr yn cael trafferth i gael tai i fyw ynddyn nhw. Felly, i ategu ein llwybr cyfeirio tai, rydym wedi datblygu cardiau cyngor a thaflenni ar gyfer cyn-filwyr sydd yn anffodus yn cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn cynnwys manylion cyswllt porth y cyn-filwyr, sy'n cynnig pwynt cyswllt pwysig wrth geisio am dŷ, yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau eraill sydd ar gael.

Roeddwn wrth fy modd o glywed am brosiect Tŷ Ryan yn Wrecsam, a'r gwaith da a wneir gan brosiect hunan-adeiladu'r cyn-filwyr. Mae hwn yn cefnogi cyn-filwyr i ennill sgiliau adeiladu gwerthfawr a lle i fyw yn un o'r tai y maen nhw eu hunain wedi helpu i'w adeiladu. Mae cael eich cartref eich hun yn hanfodol ar gyfer eich lles ac wrth sicrhau cyflogaeth, ac am gynifer o resymau ymarferol yn ogystal â'n lles cyffredinol.

Pan fo cyn-aelodau'r lluoedd arfog yn dod gerbron y system cyfiawnder troseddol, mae angen rhoi cefnogaeth iddyn nhw a rhoi pob cyfle iddyn nhw adsefydlu. Mae prosiect SToMP neu Cefnogaeth gyda Phontio i Bersonél Milwrol yn sicrhau bod y rheini sydd yn y ddalfa yn cael cymorth arbenigol yn ystod eu carcharu ac wrth eu rhyddhau. Gall cyn-filwyr fod ag anghenion cymhleth, ac mae prosiectau fel hyn yn sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu nodi a'u darparu ar eu cyfer. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi gweithredu eu llwybr system gyfan ledled holl garchardai Cymru, lle'r anogir cyn-filwyr i wella eu haddysg a dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr i'w helpu i addasu i fywyd sifil.

Y llynedd, llwyddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gael cyllid y cyfamod i benodi swyddogion cyswllt lluoedd arfog i ddarparu cymorth cyson i gyn-filwyr a'u teuluoedd ledled yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol am y gwaith gwerthfawr y maen nhw'n ei wneud, fel trefnu diwrnod i gael cipolwg ar y byd adeiladu, a oedd yn rhoi cyfle i filwyr sy'n gadael gwasanaeth a chyn-filwyr gwrdd â chyflogwyr yn y sector adeiladu a pheirianneg sifil.

Mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog hefyd wedi rhoi canllawiau'r cyfamod ar waith drwy'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Arweiniodd hyn at godi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i staff fel y gallant nodi a rhoi sylw i anghenion y gymuned hon, gan gynnwys adolygu polisïau tai a chymorth a chyngor ar gyflogaeth, camddefnyddio sylweddau ac addysg. Ar draws awdurdodau lleol y gogledd, mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog wedi datblygu gwefan ranbarthol a fydd yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd am waith gwirfoddol, digwyddiadau cymunedol a chymorth gyda defnyddio gwasanaethau. Bydd y mentrau hyn yn helpu'r gymuned hon o ran ei hiechyd a'i lles, ond hefyd yn cefnogi aelodau'r gymuned trwy amseroedd anodd yn eu bywydau.

Dirprwy Lywydd, roedd y cyllid hwn i fod dod i ben yn 2019, ond rwy'n awyddus iawn i'r gwaith da barhau. Dyna pam yr wyf i heddiw yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith am ddwy flynedd ymhellach o 2019 gyda phecyn ariannu o £500,000. Dylai hyn ganiatáu i'r gwasanaethau a gaiff y gymuned o gyn-filwyr i gael eu hymgorffori mewn cymorth prif ffrwd gan awdurdodau lleol yn y blynyddoedd i ddod.

Rwy'n hynod falch o ddweud bod Cymru wedi gwneud yn well na'r disgwyl o ran sicrhau arian y cyfamod: cafodd £1.37 miliwn ei ddyfarnu i brosiectau yng Nghymru yn ystod 2017-18, gan ddarparu cyfle inni adeiladu ar y gwasanaethau a roddwn i gymuned ein lluoedd arfog. Ddoe, roeddwn yn bresennol mewn cyfarfod o fwrdd cyfamod a chyn-filwyr gweinidogol y DU, lle cytunodd holl wledydd y Deyrnas Unedig ar strategaeth newydd ar gyfer cyn-filwyr. Yng Nghymru, byddwn yn cyflwyno strategaeth newydd pan fyddwn wedi cwblhau'r ymarfer cwmpasu presennol i nodi bylchau mewn gwasanaethau. Bydd canfyddiadau'r adroddiad hwn ar gael yn y gwanwyn.

Gan gydnabod bod gan gyflogaeth ran ganolog yn y pontio llwyddiannus i fywyd sifil, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ddatblygu llwybr cyflogaeth. I ategu'r llwybr, rydym yn gweithio hefyd gyda Busnes yn y Gymuned i ddatblygu pecyn cymorth i gyflogwyr. Cynlluniwyd y pecyn cymorth i gyflogwyr i'w helpu i ddeall y sgiliau a'r priodoleddau y gall cyn-filwyr eu cynnig i ddarpar gyflogwyr. Bydd y dogfennau pwysig hyn yn llywio ac yn cyflwyno dewisiadau i filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr i gael gwaith ystyrlon. Hoffwn gymryd y cyfle heddiw i gyhoeddi y bydd y llwybr cyflogaeth yn cael ei lansio yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a chadarnhau y byddwn yn lansio pecyn cymorth y cyflogwyr cyn toriad y Nadolig.

Yn y gwanwyn, bydd y Llywodraeth hon hefyd yn darparu adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed yn cyflawni ein hymrwymiadau ar gyfer y gymuned hon. Rwy'n gobeithio y bydd gwaith y Llywodraeth hon wedi rhoi hyder i'r Aelodau ein bod yn cefnogi cymuned y cyn-filwyr. Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen, ond mae'n amlwg fod yna lawer mwy i'w wneud eto. Rwy'n siŵr y byddwn ni, gan weithio ar y cyd â'n partneriaid a Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn parhau i wneud gwahaniaeth i'r gymuned hon. Hoffwn orffen y datganiad hwn gan ailadrodd yn syml eiriau'r Lleng Brydeinig Frenhinol: diolch i chi.

16:40

Wel, fel y dywedwch chi, ni ddylem byth anghofio'r aberth a wnaed yn y rhyfel mawr 1914-18 a'r gwrthdrawiadau sydd wedi bod ar ôl hynny. Roeddech chi'n cyfeirio at y Falklands, gan sôn am Bluff Cove. A gaf i roi teyrnged, ac a fyddech chi'n ymuno â mi i roi teyrnged, i Dr Steven Hughes, sef swyddog meddygol catrodol gydag ail fataliwn y gatrawd barasiwtwyr yn ystod y Falklands? Ef oedd yr un a gerddodd trwy'r dyfroedd oer yn Bluff Cove gyda grŵp o wirfoddolwyr i achub bywydau llawer iawn ar y diwrnod ofnadwy, ofnadwy hwnnw. Yn drist iawn, bu farw ym mis Mai eleni. Cafodd ef ei hun ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma milwrol ryw 12 mlynedd wedi'r gwrthdaro hwnnw. Cefais y pleser a'r fraint o gydweithio ag ef yn ystod yr ymgyrch aflwyddiannus hwnnw, yn anffodus, i brofi bod angen seibiant preswyl a darpariaeth adsefydlu ar gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl milwrol cymhleth a phroblemau eraill cysylltiedig yng Nghymru. Rwy'n gwybod fy mod i wedi eich holi chi eto'r llynedd am safbwynt cyfredol Llywodraeth Cymru ar adolygu'r angen hwnnw am ddarpariaeth breswyl. Tybed a fyddai modd ichi ddweud wrthym pa waith sydd o bosibl wedi dilyn ers hynny, leiaf oll er cof am Dr Steven Hughes, a oedd yn feddyg ac yn filwr a oedd yn deall yn iawn pa mor enbyd o fawr oedd yr angen hwnnw yng Nghymru a thu hwnt.

Rydych yn cyfeirio at GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac rydych yn sôn am swm o £700,000. Rwy'n deall bod GIG Cymru i Gyn-filwyr yn lleihau rhestrau aros ar hyn o bryd, ond mae'n ddibynnol ar gyllid trydydd sector i wneud hynny. Pa ddeialog yr ydych yn ei chael gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr i roi cyllid cynaliadwy ar waith i sicrhau y bydd y gostyngiad hwnnw mewn rhestrau aros yn parhau i'r dyfodol yn hytrach nag yn dod i ben pan fydd yr ariannu trydydd sector hwnnw'n dod i ben.

Roeddech chi'n cyfeirio hefyd at Newid Cam, ac roeddwn i'n gysylltiedig â hwnnw o'r cychwyn cyntaf. Siaradais yn ei lansiad ac rwy'n cydnabod y gwaith hanfodol y mae'n ei wneud. Mae Newid Cam hefyd yn ddibynnol ar gyllid trydydd sector. Unwaith eto, pa ddeialog yr ydych yn ei chael, o ystyried eich cydnabyddiaeth chi a'ch rhagflaenwyr o'r gwaith hollbwysig y maen nhw'n ei wneud wrth lenwi'r bylchau hynny na all y sector statudol eu llenwi, ar gyfer sicrhau eto gynaliadwyedd i'r rhaglen honno, o ystyried y profiad herciog a gafodd honno?

Rydych yn cyfeirio at y cronfeydd pwrpasol o £250,000 ar gyfer plant aelodau'r lluoedd arfog. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder bod hwnnw o hyd yn llai na'r swm a fyddai ar gael pe byddai premiwm disgybl lluoedd arfog, sydd ar gael yn Lloegr ac yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn sgil symiau canlyniadol Barnett, ar gael mewn gwirionedd i ddarparu premiwm disgybl lluoedd arfog yn ysgolion Cymru, fel y mae dros y ffin?

Rydych yn cyfeirio at dai, ac rydych yn cydnabod y prosiect hunan-adeiladu yn Nhŷ Ryan yn Wrecsam yn gwbl briodol. Pa ymgysylltu sydd rhyngoch chi yn arbennig â Chymdeithas Dai Dewis Cyntaf ac Alabaré, sydd nid yn unig wedi cefnogi'r prosiect hwnnw ond sydd, unwaith eto, yn gwneud gwaith ardderchog yn darparu tai penodedig i gyn-filwyr mewn mannau yng Nghymru, a thrwy Alabaré, yn aml wedyn yn darparu cymorth iechyd a chymdeithasol yn fwy eang, er mai swyddogion tai yn unig yw ei swyddogion?

Roeddech yn cyfeirio at y Cynllun Cefnogaeth ym Mhontio Personél Milwrol neu SToMP, sy'n gweithio gyda chyn-filwyr mewn carchardai i wella addysg a rhoi'r sgiliau iddyn nhw er mwyn addasu i fywyd sifil. Pa werthusiad o ganlyniadau sydd wedi bod neu a gynhelir fel y gallwn, fel yn achos pob rhaglen effeithiol arall, ddysgu beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wneud yn wahanol?

Roeddech yn cyfeirio at gyllid cyfamod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac rydych wedi sôn am ddwy flynedd ychwanegol o arian gan Lywodraeth Cymru pan ddaw'r cyllid presennol i ben. Fel y gwyddoch, y llynedd, cynhyrchodd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid adroddiad ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru a'i weithrediad. Roedd hwn yn cynnwys argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn ystyried penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog ar gyfer Cymru er mwyn gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus wrth gyflenwi'r cyfamod, a byddai hynny wedi gofyn am gyhoeddi adroddiad blynyddol i'w osod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar ymlyniad at y cyfamod. Cafodd hyn ei gynnig a'i gefnogi gan gymuned y lluoedd arfog a phenaethiaid y lluoedd arfog. Felly, er fy mod yn cydnabod y gwaith pwysig a gwerthfawr y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud ac yn gallu ei wneud, sut fyddwch chi'n llenwi'r bwlch rhwng yr angen i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad, yn genedlaethol, a sicrhau atebolrwydd sefydliadau yn y sector cyhoeddus i'r cyfamod ledled Cymru?

Ac yn olaf, rydych yn cyfeirio at y llwybr cyflogaeth. Unwaith eto, rydych wedi cyfeirio at hyn yn eich datganiad y llynedd ac yn y flwyddyn cyn hynny; cyfeiriodd eich rhagflaenydd at hyn hefyd. Rydych yn dweud nawr ei fod ar fin cael ei lansio, felly mae hir ddisgwyl wedi bod amdano—a gadewch inni obeithio y bydd yn werth yr holl aros. Ond a wnewch chi gadarnhau sut y lluniwyd gweithrediad a chyflawniad hwnnw gyda chyrff y trydydd sector mewn gwirionedd, yr ydych chi'n iawn i'w canmol nhw, ac eraill, ac â'r sefydliadau busnes a chyflogaeth, gan gynnwys o bosibl rai fel Remploy y bydd yn rhaid iddyn nhw gefnogi a chydweithio â'r bobl wrth iddyn nhw deithio ar hyd y llwybr y byddwch yn ei gyhoeddi'n fuan? Diolch.

16:45

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei groeso cyffredinol i'r datganiad ac am y pwyntiau a wnaeth. Rwy'n cofio gwylio'r gwrthdaro yn y Falklands, a dyna'r tro cyntaf yn ystod fy oes i a'm profiad o weld rhyfel yn digwydd yn y fath fodd. I lawer o'n plith a anwyd yng nghysgod yr ail ryfel byd, nid oeddem erioed wedi gweld gwrthdaro o'r fath, ac yna roedd ei weld yn digwydd a'i effaith ar bobl yn fy marn i yn rhywbeth sydd wedi effeithio ar lawer ohonom. Rwy'n cydnabod gwaith Steven Hughes ac yn ymuno â chi wrth dalu teyrnged iddo ef ac i eraill sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y cymorth i gyn-filwyr y gwrthdaro hwnnw a'r rhai a fu'n ymladd yn y Falklands i'w cynnal drwy eu bywydau, a'n bod ni hefyd yn cydnabod y bobl hynny na ddaethant adref o'r Falklands, a'n bod yn gwneud hynny yn rhan, nid yn unig o'n coffad blynyddol, ond yn y ffordd yr ydym yn dylunio ac yn cyflawni ymrwymiadau i'r cyfamod hefyd.

Cafwyd nifer o wahanol sgyrsiau dros y blynyddoedd ynghylch y ddarpariaeth breswyl. Y cyngor a gefais i yw nad oes angen am hynny ar hyn o bryd. Dyna rywbeth y mae gennyf feddwl hollol agored yn ei gylch. Nid wyf o'r farn nad oes angen hynny o gwbl. Ond y cyngor a gefais i yw, lle bo angen darpariaeth breswyl, y caiff ei gyflawni orau mewn rhai achosion gan y lluoedd arfog eu hunain ac mewn achosion eraill drwy'r ddarpariaeth bresennol. Nid oes achos wedi dod i law dros fuddsoddiad newydd yn y ddarpariaeth breswyl. Os gwneir yr achos hwnnw a phe bai pobl yn dymuno gwneud  y cynnig hwnnw, yna byddwn yn hapus i'w ystyried, ond ar hyn o bryd nid wyf wedi cael cynnig o'r fath yn hyn o beth.

Bydd yr Aelod yn ymwybodol y cyhoeddwyd y cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr y llynedd a bod hynny wedi cynyddu cyllideb a chapasiti GIG Cymru i Gyn-filwyr. Cyfeiriodd yr Aelod at sefydliadau trydydd sector sawl gwaith yn ystod ei gyfraniad, a disgrifiodd y trydydd sector fel rhywbeth sydd, mewn rhai ffyrdd, yn llenwi'r bylchau. Mae fy marn i yn wahanol i'w farn ef ar hynny. Byddwn yn ystyried y trydydd sector yn rhan hanfodol o'r modd y darparwn wasanaethau—nid dim ond llenwi'r bylchau sydd gan eraill y mae, ond mae mewn gwirionedd yn darparu gwasanaethau ei hun. Rwy'n gobeithio bod ein perthynas gyda'r trydydd sector yn ddigon cadarn i'n galluogi ni i weithio'n adeiladol gyda phob sefydliad, beth bynnag fo'u statws cyfreithiol neu elusennol, i ddarparu'r gwasanaethau sy'n ofynnol. Yn sicr, caiff nifer o grwpiau a sefydliadau trydydd sector eu cynrychioli yn y grŵp arbenigol hwnnw yr ydym wedi ei sefydlu ac maen nhw â rhan lawn yn hynny.

Ar yr un pryd, byddwn yn dweud: cyfarfûm â Llywodraeth yr Alban bythefnos yn ôl i drafod y gwaith y maen nhw'n ei wneud yn y maes hwn, ac achubais ar y cyfle i drafod gwaith eu comisiynydd nhw. Mae dau reswm pam y rhoddais ystyriaeth ddifrifol i hyn ond penderfynu peidio â chefnogi penodiad swydd comisiynydd yng Nghymru. Yn gyntaf oll, roeddwn yn teimlo y byddai'n well i'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael, ar adeg o galedi, gael eu defnyddio i ariannu gwasanaethau rheng flaen, a'n bod mewn gwirionedd yn buddsoddi mewn darpariaeth o wasanaethau i bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Cefais fy mhlesio'n fawr gan waith swyddogion cyswllt yr awdurdodau lleol, a chredaf fod honno'n ffordd dda o atgyfnerthu'r gwaith a gyflawnwyd eisoes.

Yr ail fater yw'r pwynt a wnaethoch yn eich cyfraniad chi—a oedd yn ymwneud ag atebolrwydd. I mi, ceir atebolrwydd yn y fan hon. Mae atebolrwydd democrataidd yn bwysicach i mi, ac mae'n bwysig i mi fod Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif yn y lle hwn am y gwaith y maen nhw'n ei wneud a'u hymrwymiadau. Nid wyf o'r farn mai gwaith Llywodraeth yw creu strwythurau atebolrwydd. Dyna waith y Cynulliad Cenedlaethol— sicrhau a llunio atebolrwydd Llywodraeth i'r lle hwn. Credaf ei bod yn rhan bwysig o'n democratiaeth bod Gweinidogion yn cael eu dwyn i gyfrif gan Aelodau sydd wedi eu hethol ac sy'n atebol yn ddemocrataidd am yr ymrwymiadau yr ydym yn eu gwneud a'r gwasanaethau a ddarparwn. Felly, ceir barn ymarferol ac, o bosibl, egwyddorol yma dros beidio â bwrw ymlaen â'r mater penodol hwnnw.

Gofynnodd yr Aelod hefyd, Dirprwy Lywydd, am werthusiad gwahanol raglenni. Soniodd am raglen SToMP yn benodol. Bydd adroddiad blynyddol ar gael. Rydym yn trafod atebolrwydd—mae'n rhaid i atebolrwydd, wrth gwrs, fod yn atebolrwydd deallus hefyd. Bydd yr adroddiad blynyddol hwnnw, y byddwn yn  ei gyhoeddi yn y gwanwyn, yn gyfle i'r Aelodau i'n dwyn ni i gyfrif am yr ymrwymiadau hynny, a bydd gwerthusiad o bob un o'n rhaglenni yn cael ei gynnwys hwnnw.

Y pwynt olaf a wnaed, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, oedd yr un am bremiymau a thaliadau disgyblion. Mae'r cyllid sydd ar gael i ysgolion ac i gefnogi pobl ifanc yn swm sylweddol o arian, ac mae'n cydnabod y ffordd y mae gwariant ysgol yn cael ei gyfeirio. Cafwyd sgwrs hir ddoe ym mwrdd y cyn-filwyr yn Llundain, a gwelwyd gwahaniaeth clir, os mynnwch chi, yn y modd y darperir cymorth yng ngwahanol wledydd y Deyrnas Unedig. Gobeithio nad wyf i'n gollwng y gath o'r cwd yn y fan hon, ond bydd y strategaeth, pan gaiff ei chyhoeddi'r wythnos nesaf, yn cynnwys rhai gweledigaethau clir iawn ac uchelgeisiau ac egwyddorion sydd yn cael eu rhannu gan bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Ond bydd hefyd yn cymryd y farn y bydd y ffordd y cyflwynir y dyheadau a'r gweledigaethau hyn yn wahanol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n cydnabod ein cyfrifoldebau datganoledig a'n gwahanol ffyrdd o weithio hefyd. Byddwn yn dweud ei bod yn bwysig bod gennym y gallu i wneud hynny, yn hytrach na dim ond dweud, 'Os yw rhywbeth yn cael ei wneud yn Lloegr, felly rhaid ei wneud yng Nghymru.' Byddaf yn adrodd ar lwyddiant, neu fel arall, ein cyllid ar gyfer cymorth mewn ysgolion yn y gwanwyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn debyg iawn o gael ei argyhoeddi bryd hynny mai dyma'r dull cywir o weithredu.   

16:50

A allaf i hefyd ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac, yn wir, groesawu'r datganiad a'r holl waith clodwiw sydd yn mynd ymlaen yn y maes pwysig yma? Gwnaf i ddim crybwyll materion sydd eisoes wedi cael eu cofnodi, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ar y dechrau gydnabod gwaith clodwiw y Lleng Brydeinig dros nifer fawr o flynyddoedd, a hefyd yr holl elusennau eraill sy'n gweithredu yn y maes.

Bu fy nhaid yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf, ym mrwydr y Somme ac yn Ypres. Mi wnaeth o lwyddo i oroesi, ond dioddefodd anafiadau hirdymor—anafiadau na wnaeth byth mo'i adael o. Nid oedd fawr ddim cymorth ar gael ar y pryd i taid, a hefyd nid oedd pobl yn siarad am yr erchyllterau ychwaith. Mae pethau wedi newid erbyn rŵan, ac mae yna lawer mwy o gefnogaeth yn y maes. Ond o’m hanes hefyd fel meddyg teulu yn fy nghymuned i yn delio â chyn-filwyr yn enwedig, ond hefyd â chyn-aelodau o’r awyrlu, yn nhermau pan fydd pobl yn gadael y lluoedd arfog—mae hyn yn amser allweddol o bwysig ac mae’n amser anodd gythreulig yn aml, achos mae pobl sydd wedi bod yn byw bywyd yn y lluoedd arfog wedi bod mewn cymdeithas glòs, ddisgybledig, ac mae yna lot o bethau’n cael eu gwneud drostyn nhw, ac mae eu bywyd nhw’n rhedeg yn ddisgybledig iawn, iawn—mor wahanol i’r byd y tu allan, ac rydw i'n credu bod yna gryn dipyn o waith cefnogol y tu allan, ond eto, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gydnabod, mae yna fwy y gallem ni ei wneud.

Yn nhermau’r gwasanaethau iechyd, rwy’n clywed beth ydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r gefnogaeth sydd wedi bod i’r gwasanaeth iechyd, ond maes sy’n ein pryderu ni weithiau fel meddygon ydy’r ffaith nad ydym ni’n gallu cael gafael ym manylion iechyd y sawl sydd wedi bod yn y lluoedd arfog pan fyddan nhw’n dod allan atom ni ac yn dod yn aelodau cyffredin, fel petai, o’n cymdeithas ni unwaith eto. Nid oes gyda ni ddim manylion yn dod o beth sydd wedi digwydd iddyn nhw, dros flynyddoedd a blynyddoedd mewn nifer o achosion—manylion perthnasol meddygol y dylem ni fod yn gwybod amdanyn nhw. Ac yn aml iawn, wrth gwrs, nid ydym ni fyth yn cael hyd i’r manylion yna. Felly, yn aml, mae yna her i’r gwasanaeth iechyd allu cael gafael yn y manylion yna ac i allu trin cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn briodol ar sail hanes meddygol, sydd yn aml yn anodd iawn i gael gafael ynddo fo. Dyna’r unig bwynt a’r unig fath o gwestiwn y buaswn i’n hoffi gofyn am eglurder gan yr Ysgrifennydd Cabinet arno fo, achos mae’n berthnasol iawn i’r ffordd yr ydym ni’n ymdrin allan fanna yn ein cymunedau â materion iechyd ac iechyd meddwl ein pobl sydd wedi bod yn gwasanaethu eu gwlad.

Ond rydw i yn croesawu’n fawr yr holl waith sydd yn cael ei wneud i gefnogi ein cyn-filwyr, ein cyn-forwyr a chyn-aelodau o’r awyrlu. Rydw i hefyd, mae’n rhaid imi ddweud wrth orffen—rwy'n ymwybodol o’r amser—yn gweddïo’n gyson na fydd rhaid i fy mhlant i na phlant fy mhlant fyth gael eu gorfodi i fynd i ryfel. Diolch yn fawr.

16:55

Rwy’n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei eiriau hefyd. Rydw i'n credu ei fod e, fel minnau, yr un fath o oedran lle rydym ni yn cofio siarad ag aelodau’r teulu ac aelodau’r gymuned a oedd wedi ymladd yn y rhyfel cyntaf. Mae gen i gof o siarad ag aelodau o’r teulu, a gweld pobl yr oeddwn i’n meddwl ar y pryd oedd yn hen iawn—siŵr o fod yn eu 50au; yr un oedran a finnau nawr—pan oeddwn i’n blentyn yn Nhredegar, a oedd wedi brwydro yn y rhyfel cyntaf, a’r impact roedd hynny wedi ei gael, reit drwy gydol eu bywydau nhw. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid inni i gyd ei ystyried pan fyddwn ni’n cofio digwyddiadau ganrif yn ôl. Ac fel rydych chi wedi ei ddweud wrth orffen eich cyfraniad, diolch i Dduw na fydd rhaid i’n plant ymladd yn ein cyfandir ein hunain yn y ffordd buodd pobl yn arfer gwneud dros y blynyddoedd. Rydw i'n credu bod pob un ohonom ni, pan fyddwn ni’n cofio’r aberth a wnaeth lot fawr o bobl, yn meddwl beth allwn ni ei wneud i sicrhau nad ydym ni jest yn cofio ein hanes ni, ond ein bod ni’n sicrhau nad ydym ni’n ail-fyw’r hanes yn y dyfodol. Rydw i'n credu bod hynny’n wers i bob un ohonom ni.

Mae’r Aelod, Dirprwy Lywydd, wedi gofyn cwestiwn pwysig iawn hefyd, amboutu sut rydym ni’n rhannu data. Mae hyn yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn ei drafod. Mae yna broject yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd lle rydym ni yn gweithio gyda’r adran iechyd yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod hyn y digwydd. Mae hyn wedi cael ei drafod ddwywaith yn y bwrdd roeddwn i’n rhan ohono fe ddoe, ac mae progress wedi cael ei wneud. Ond mae’r Aelod yn hollol gywir yn ei ddadansoddiad fod yna broblemau wedi bod o ran rhannu gwybodaeth a rhannu data. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddatrys, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni yn datrys y problemau yma.

17:00

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad cynhwysfawr heddiw? Ddydd Sul, ledled Cymru a gweddill y DU, bydd aelodau ein lluoedd arfog, cyn-filwyr a llawer o sefydliadau, ynghyd â'r cyhoedd, yn dod at ei gilydd i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu'r wlad hon. Y flwyddyn hon yw canmlwyddiant tawelu'r gynau ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf ac mae hynny'n ei gwneud yn amser arbennig o deimladwy. Ond mae'n werth nodi, ers diwedd yr ail ryfel byd, mai dim ond un flwyddyn a fu, sef 1968, pan nad oedd ein lluoedd arfog yn cymryd rhan mewn gwrthdrawiad arfog rywle yn y byd.

Mae'r ŵyl i goffáu trueiniaid rhyfel yn goffadwriaeth barchus a chymwys iawn, ond yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, mae gennym ddynion a menywod sy'n gadael y lluoedd arfog ac wedyn yn cael anhawster mawr i addasu i'r hyn sydd bellach iddyn nhw yn amgylchedd dieithr. Ar ôl gadael, maen nhw'n tueddu i golli'r ddisgyblaeth, y gwerthoedd cyffredin a'r ymdeimlad o berthyn sy'n bodoli yn y lluoedd. Mae cydnabod ac ymdrin â hyn yn mynd y tu hwnt i adsefydliad syml. Mae'n ymwneud â chreu rhwydwaith o gymorth parhaus. Ni ddylai'r lluoedd orfod ymdrin â hynny ar eu pennau eu hunain. Mae'n ddyletswydd i'r Llywodraeth, yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru hefyd, i sicrhau bod mesurau, sefydliadau a seilwaith ar waith i helpu i hwyluso'r broses orau posibl o bontio ar gyfer yr aelodau hynny o'r lluoedd arfog, os ydyn nhw wedi cael niwed corfforol neu feddyliol neu beidio, i fywyd sifil.

Un o elfennau pwysicaf yr addasu hwn fydd y cyfle i gael gwaith. Drwy gyflogaeth,  daw hunan barch ac ymdeimlad o gyflawni ac o berthyn. Mae'n ddyletswydd ar y ddwy Lywodraeth i sicrhau bod y cyfleoedd iawn yn cael eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod pob un o gyn-aelodau ein lluoedd arfog yn gallu ymgysylltu â bywyd sifil eto. Mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r mater hanfodol hwn drwy'r llwybr cyflogaeth a gweithio gyda'r gymuned fusnes i ddatblygu pecyn cymorth cyflogwyr. Ar hyn o bryd rwy'n adleisio galwad Mark Isherwood am gomisiynydd lluoedd arfog a fyddai'n goruchwylio'r holl ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid inni gydnabod, yn eu rhoi ar waith mewn gwirionedd.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gan bob un ohonom ddyled enfawr i'n lluoedd arfog, yn sgil y ddau ryfel mawr, ond hefyd yn sgil y gwrthdrawiadau y maen nhw wedi mynd i'r afael â nhw oddi ar hynny. Nid yw'n ddigon inni gofio a chydnabod eu haberth yn syml. Mae'n rhaid dal ati i gefnogi'r sefydliadau hynny sy'n darparu ar eu cyfer pan fydd dyddiau eu gwasanaeth wedi dod i ben.

Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, am eiriau llefarydd UKIP wrth ddisgrifio'r coffâd. Gadewch i mi ddweud hyn: defnyddiodd yr ymadrodd 'bydd ein cymuned yn dod at ei gilydd', ac mae ein cymuned yn dod at ei gilydd a bydd ein cymuned yn dod at ei gilydd ac mae ein cymuned wedi bod yn dod at ei gilydd i gofio am y rhai a roddodd wasanaeth. Siaradodd yr Aelod dros Orllewin Clwyd yn gynharach am wasanaeth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y dwyrain canol. Wrth gwrs, yn y dwyrain canol bydden nhw wedi bod yn gwasanaethu ochr yn ochr â milwyr o India. Bydden nhw wedi sefyll ochr yn ochr â Hindŵiaid a Mwslimiaid, yn ymladd yn enw'r Goron, a bydden nhw wedi sefyll fel cymrodyr gyda'i gilydd. Roeddwn yn falch o weld Mis Hanes Pobl Dduon yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn rhoi teyrnged i'r holl filwyr hynny o'r gwahanol rannau o'r byd a fu'n ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod drwy Fis Hanes Pobl Dduon, drwy ymestyn allan i bob rhan o'n cymuned, pan soniwn am ein cymuned, ein bod ni'n siarad am yr holl bobl hynny a fu'n ymladd a'r holl bobl hynny a fu farw, a'r holl bobl a wnaeth yr aberth hwnnw. Mae hynny'n cynnwys yr holl bobl a frwydrodd o dan faner yr undeb i sicrhau ein rhyddid a sicrhau'r ffordd yr ydym yn byw heddiw. Ac roedd yn arbennig o drawiadol pan welais aelodau o'r Llywodraeth hon yn sefyll ochr yn ochr ag aelodau o gymuned pobl dduon yng Nghymru yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn gwneud yr union bwyntiau hynny.

Mae'r Aelod yn iawn hefyd wrth iddo sôn am y cyfamod fel realiti'r coffâd. Nid un wythnos ym mis Tachwedd yn unig yw'r coffâd—realiti'r hyn a wnawn o wythnos i wythnos ydyw, bob wythnos a phob mis o'r flwyddyn. Cyflawniad y cyfamod yw cyflawniad gan y genedl gyfan, nid yn unig ein diolch i'r rhai a wasanaethodd, ond cydnabyddiaeth o'r aberth y maen nhw'n ei wneud er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel.

Mae'r materion o ran cyflogaeth yn faterion da iawn y byddaf yn parhau i fynd i'r afael â nhw a bydd cyfeiriad at hynny yn yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir yn y gwanwyn.

Gadewch imi orffen drwy ddweud hyn: rwy'n cydnabod bod gwaith y grŵp trawsbleidiol wedi bod yn bwysig. Rwy'n gwerthfawrogi'r ddemocratiaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rwy'n gweld gwerth democratiaeth y lle hwn. Rwy'n gwerthfawrogi gwaith y lle hwn fel Senedd, yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Ac rwy'n credu mai yn y lle hwn y dylid cael ein hatebolrwydd ni. Nid yn breifat, ac nid drwy fiwrocratiaeth, ond drwy ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd i gymuned y lluoedd arfog, ac yna gael ein dwyn i gyfrif am ddarparu'r gwasanaethau hynny. Nid wyf yn gwbl argyhoeddedig eto ynghylch swydd comisiynydd y lluoedd arfog. I mi, mae'n bwysig ein bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau a'n bod ni'n gwerthfawrogi ac yn ymarfer atebolrwydd drwy gyfrwng ein democratiaeth.

17:05

Wrth i ni nesáu at yr wythnos hon o goffadwriaeth i'n cenedl, a gaf i groesawu, yn fawr, ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi'r cyfnod pwysig a chofiadwy hwn gydol y flwyddyn? Yn fy etholaeth i, Islwyn, mae'r pwysigrwydd y mae'r cymunedau yn ei roi ar beidio ag anghofio a'u hawydd i ddod at ei gilydd yn yr ysbryd hwnnw i'w gael mewn tystiolaeth weladwy ar y strydoedd. Ledled Cymru, bydd dynion, menywod a phlant yn gwisgo pabi ac yn mynd i wasanaethau coffa yn ein hysgolion a'n heglwysi ac yn parchu'r eiliadau hynny o ddistawrwydd. Rwyf hefyd wedi fy synnu gan y pabïau mawr ar strydoedd Pontywaun a Rhisga ac Islwyn i gyd, ac rwy'n dymuno diolch, yn y lle hwn, i'r unigolion ymroddedig hynny fel Bernard Osmond yn fy etholaeth i a hyrwyddwyr lluoedd arfog ein hawdurdod lleol fel Andrew Whitcombe ac Alan Higgs, a llawer o unigolion a sefydliadau eraill sydd, bob blwyddyn, wedi sicrhau bod ein cof cyfunol yn parhau i fod yn annwyl i ni.

Yn Islwyn, mae pob cymuned yn dyheu yn angerddol am sicrhad bod cenedlaethau'r dyfodol yn ymwybodol o aberth ein lluoedd arfog, am gydnabod y rhyddid sydd mor annwyl yn ein golwg ac y talwyd mor ddrud amdano. Ac rwy'n edrych ymlaen, gyda diddordeb mawr, at gyhoeddi adroddiad blynyddol y Llywodraeth yn y gwanwyn ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ein hymrwymiadau i gymuned ein lluoedd arfog a'n cyn-filwyr. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu i mi bwysigrwydd a'r gwerth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar yr adroddiad blynyddol hwn, a sut fydd yn gweithredu fel meincnod arwyddocaol i gamau'r dyfodol?

Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn sôn am y bobl sy'n gweithio mor galed yn Islwyn i sicrhau bod y coffâd hwn yn digwydd mewn ffordd sy'n werthfawrogol ac yn dangos y  gwerthfawrogiad cenedlaethol a deimlwn i gyd o'r rhai sydd wedi gwasanaethu. Gallai pob un ohonom roi'r un araith ag a roddodd hi yn disgrifio'r bobl dda hynny yn Islwyn, rwy'n credu, a ninnau'n disgrifio'r bobl sydd gennym yn ein hetholaethau hefyd sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod y digwyddiadau coffa a gynhelir ym mhob cymuned ledled Cymru ac mewn mannau eraill y penwythnos hwn yn ddigwyddiadau sydd yn coffáu ac yn myfyrio ar yr aberth a wnaed.

Soniodd yr Aelod, Dirprwy Lywydd, am hyrwyddwyr awdurdod lleol. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig cydnabod gwaith yr awdurdodau lleol wrth iddyn nhw ddarparu llawer o'r gwasanaethau hynny sydd wedi cael eu disgrifio a'u trafod y prynhawn yma. Gwaith yr hyrwyddwyr ym mhob awdurdod lleol yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio'n gydlynol a chyfannol i ddarparu'r math o wasanaethau y mae ar y cyn-filwyr eu hangen, eu heisiau ac y mae'r hawl ddiamod ganddyn nhw iddynt. A gaf i ddweud—? Drwy gyfres o ddigwyddiadau Cymru'n Cofio, rhaglen yr ydym wedi ei dilyn dros y pedair blynedd diwethaf, rwy'n gobeithio ein bod wedi ceisio cofio a deall beth yw ystyr rhyfel mewn gwirionedd a'r aberth a wnaeth pobl nad oedd ganddyn nhw syniad o'r hyn a fyddai'n eu hwynebu yn y ffosydd ac mewn mannau eraill.

Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf ingol yr wyf i wedi eu gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf yn y cyfnod hwn yn arwain at goffáu'r cadoediad oedd rhai o'r clipiau fideo hynny wedi eu lliwio yr ydym ni wedi eu gweld. Mae pob un ohonom  dros y blynyddoedd wedi gweld yr un lluniau fideo o ddynion yn cerdded, i'w tranc yn llawer rhy aml, ledled gogledd Ffrainc. A phan fyddwch yn edrych arnyn nhw mewn lliw, rydych chi'n gweld eu hwynebau mewn ffordd wahanol, ac maen nhw'n edrych yn union fel chi a fi.

Gobeithio y bydd pob un ohonom ni, pan fyddwn yn mynd ar wib drwy ogledd Ffrainc ar yr Eurostar, yn edrych allan dros y meysydd hynny ac yn deall nad porfeydd gwyrdd oedd yn y caeau hynny brin genhedlaeth neu ddwy yn ôl, ond mwd a gwaed pobl a drengodd mewn rhyfel ofer. Ac rydym yn sicrhau pobl ein bod yn cofio hyn heddiw, a'r weithred fwyaf o goffâd yw ein bod yn parhau i gofio am eu haberth ond yn cofio hefyd beth yw rhyfel, ac yn cofio geiriau Dai Lloyd pan ddywedodd ef mai'r hyn sy'n rhaid ei wneud bob amser yw sicrhau nad ydym yn anfon ein pobl i ryfel oni bai fod hynny i amddiffyn buddiannau a bywyd a rhyddid y wlad hon.

17:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei eiriau caredig a hael iawn am waith y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid? Mae'n rhaid imi ddweud ei bod wedi bod yn bleser gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella bywydau aelodau'r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf—gyda chi a'ch rhagflaenydd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wneud hynny.

Roeddwn yn awyddus i ofyn un cwestiwn. Cefais fy nharo gan eich sylwadau am feysydd eraill y gad yn ogystal â ffrynt y gorllewin, ac roeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio at faes y gad yn y dwyrain canol. Cefais y cyfle i osod torch ar ben Mynydd Scopus ddwy flynedd yn ôl yn Jerwsalem i goffáu gwaith ac aberth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a milwyr eraill o Gymru a oedd wedi colli eu bywydau yn y frwydr am Jerwsalem a Gaza ac yn Be'er Sheva. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gofio am y digwyddiadau hyn, a bod cofebion parhaol yn y gwledydd hynny lle y tywalltwyd gwaed o Gymru.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa waith all Llywodraeth Cymru ei wneud yn awr, efallai ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr nad mewn mynwentydd yn unig y bydd y pethau hyn yn cael eu cofio ond mewn lleoliadau eraill hefyd i sicrhau na chaiff y cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'u haberth fynd yn angof byth?

Rwy'n cytuno. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Orllewin Clwyd am wneud y pwyntiau hyn a hefyd yn ddiolchgar iddo am roi teyrnged nid yn unig i waith swyddogion a rhai eraill a'r grŵp arbenigol a'r grŵp trawsbleidiol, sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn, ond hefyd i waith fy rhagflaenydd. Rwy'n credu bod yr wythnos hon yn wythnos anodd i lawer ohonom mewn llawer iawn o ffyrdd gwahanol. Pan olynais Carl yn y portffolio hwn, gwyddwn fy mod yn cymryd yr awenau mewn darn o waith yr oedd yn credu'n gryf ynddo, ac roedd wedi gweithio'n eithriadol o galed i wireddu llawer o'r rhaglenni yr ydym wedi bod yn eu trafod ac yn eu disgrifio'r prynhawn yma. Yn sicr, rwy'n awyddus iawn, y prynhawn yma, i fynegi ar goedd fy niolch parhaus iddo ef am yr hyn a wnaeth fel Aelod yma ac yn Weinidog yn y lle hwn. Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn cofio hynny mewn rhyw fodd yr wythnos hon hefyd, yn ein dull ni ein hunain.

O ran y materion ehangach am gofebion a godwyd gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd, rwy'n cytuno ag ef; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod, yn y ffordd a ddisgrifiodd ef, yr aberth a wnaeth y cenedlaethau a fu. Rwyf eisoes wedi disgrifio, wrth ateb pwyntiau a godwyd gan Dai Lloyd, ei bod yn rhaid inni gydnabod beth yw gwir ystyr rhyfel a beth yw rhyfel mewn gwirionedd, ac i ni ymochel rhag syrthio i'r hyn sy'n gamgymeriad yn fy marn i, sef rhoi coel ar y wedd fwy rhamantus o ryfel, ond ein bod yn cydnabod realiti yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl a chymunedau a theuluoedd.

17:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A thrwy hynny, rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio—ac rwyf yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig—. Byddwn yn anghytuno o bryd i'w gilydd, ond yn fy mhrofiad i, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio'n dda gyda'i gilydd i gyflawni'r agenda hon. Roedd y sgyrsiau a gawsom ddoe i gyd yn gadarnhaol ar draws y bwrdd yn Llundain, ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod felly. Byddaf yn cyfarfod â'r Weinyddiaeth Amddiffyn unwaith eto yr wythnos nesaf er mwyn ystyried ein cymorth parhaus ar gyfer aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gweithio gyda'n gilydd. Rwy'n hyderus y gallwn gydweithio â'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i sicrhau bod gennym y cofebion priodol sy'n ein galluogi nid yn unig i gofio aberth cenedlaethau'r gorffennol, ond hefyd i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall yr hanes hwnnw a pheidio ag ailadrodd ein camgymeriadau.

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ifori

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ifori, ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6847 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ifori, i’r graddau y bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Lywodraeth y DU.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Lesley Griffiths 17:16:31
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar y Bil Ifori.

Nod Bil y DU yw helpu i warchod poblogaethau eliffantod, yn benodol trwy leihau sathru drwy gyfyngu'n sylweddol ar y farchnad gyfreithiol ar gyfer ifori yn y DU. Bwriad hyn yw lleihau'r galw am ifori yn y DU a thramor, a dylai hyn helpu i roi terfyn ar ladd eliffantod. Rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno bod lles ac amddiffyniad yr anifeiliaid hyn yn hollbwysig, a bydd cyflwyno'r Bil hwn yn helpu i gyflawni hyn.

Rhwng 2013-17, cafodd 602 o eitemau ifori neu eitemau sy'n cynnwys ifori eu hatafaelu gan Lu Ffiniau'r DU. Dros y cyfnod o bum mlynedd, mae hyn yn cyfateb i atafaelu 466 cilogram o ifori ac eitemau sy'n cynnwys ifori, gan eu rhoi yn bedwerydd ar y rhestr o gynnyrch a atafaelwyd fwyaf. Rwy'n credu bod darpariaethau'r Bil sy'n gwahardd ac yn rheoleiddio trafodion masnachol ar gyfer ifori yng Nghymru yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad at ddibenion hybu lles anifeiliaid.

Cyflwynwyd gwelliannau hwyr i'r Bil gan Lywodraeth y DU ar 17 Hydref yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru yn y Bil mewn cysylltiad â Chymru, yn lle bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn arfer y pwerau hyn yn gyfan gwbl fel y nodwyd yn y drafft blaenorol. Mae'r gwelliannau arfaethedig i'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Bil a allai fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r gwelliannau hyn yn darparu pwerau penodol i Weinidogion Cymru, gan gynnwys, er enghraifft: gwneud rheoliadau sy'n pennu pa faterion y ceir rhoi sylw iddynt wrth ystyried a yw eitem o werth artistig, diwylliannol neu hanesyddol; gwneud rheoliadau i ddiwygio diffiniad 'ifori' i gynnwys ifori o anifail neu rywogaethau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y Bil; a'i gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru i unrhyw ddarpariaeth i wneud rheoliadau sy'n berthnasol yng Nghymru.

Wrth i'r Bil nesáu at ei gamau terfynol yn y Senedd, nid yw'r gwelliannau hwyr hyn wedi caniatáu'r amser y byddem ni wedi ei ddymuno i'r Pwyllgor llawn graffu arnynt, ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn ar y Bil pwysig iawn hwn, a chynigiaf y cynnig.

Nid oes siaradwyr eraill ar yr eitem, felly rydw i'n cymryd nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet eisiau ymateb iddi hi ei hunan. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6850 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig.

Rwy'n falch o agor y ddadl i geisio cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru). Bydd y Bil yn sicrhau y bydd tenantiaid yn gallu chwilio am gartref yn y sector rhentu preifat yn ffyddiog na fydd gofyn iddyn nhw dalu ffioedd ymlaen llaw. Dylai hyn wneud y sector yn fwy sefydlog, yn fwy dibynadwy ac yn fwy deniadol, a lleihau'r rhwystrau i'r rhai hynny sy'n dymuno dechrau yn y sector neu symud oddi mewn iddo.

Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r tri phwyllgor sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil hwn am eu hamser a'u gwaith caled. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar. Rwy'n gwerthfawrogi'r dystiolaeth a ddaeth i law y pwyllgorau yn ystod Cyfnod 1 a faint o waith a wnaed ganddynt wrth lunio'u hadroddiadau a'u hargymhellion.

Gan droi yn gyntaf at adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, rwy'n falch bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Er bod rhywfaint o anghytuno ar faterion penodol y manylion, rwy'n croesawu casgliad y pwyllgor ynghylch yr angen i ddeddfu. Mae argymhelliad 2 yn ceisio gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru i roi gwybod i denantiaid, landlordiaid ac asiantau am ddarpariaethau'r Bil. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bil gan y Cynulliad, byddwn yn cynnal rhaglen gyfathrebu sylweddol a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, Rhentu Doeth Cymru a'r trydydd sector, yn ogystal â chyfathrebu mwy cyffredinol yn targedu cynulleidfa eang.

Roedd y ddyletswydd i roi gwybod yn Neddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 yn adlewyrchu'r ffaith bod cynulleidfa'r Ddeddf honno yn hawdd ei hadnabod ac yn unigryw. Mae cynulleidfa'r Bil hwn yn ehangach o lawer, gan gynnwys unrhyw un a all fod yn ystyried rhentu, yn ogystal â'r rhai sy'n gwneud hynny eisoes, felly strategaeth gyfathrebu fwy cyffredinol sy'n fwy priodol. Er fy mod i'n ymrwymo'n fodlon i ymgymryd â rhaglen gyfathrebu effeithiol a chynhwysfawr ynghylch y Bil, mae'n rhaid imi wrthod yr argymhelliad.

Fodd bynnag, rwy'n cefnogi argymhelliad 3 sy'n nodi y dylai Rhentu Doeth Cymru fod â phwerau gorfodi ochr yn ochr ag awdurdodau lleol. Gan mai Rhentu Doeth Cymru yw'r awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, byddai'n bosibl cyflawni hyn o dan drefniadau arfaethedig presennol, trwy ddefnyddio pŵer presennol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hyn yn galluogi awdurdod lleol i gytuno y dylai awdurdod lleol arall gyflawni swyddogaeth ar ei ran. Fodd bynnag, gan fod Deddf 2014 yn darparu ar gyfer corff nad yw'n awdurdod lleol i gael ei ddynodi, rwy'n cydnabod y bydd yr argymhelliad yn helpu i ddiogelu'r Bil yn y dyfodol, ac yn gwneud camau gorfodi yn fwy effeithlon. Felly, byddaf yn ystyried cyflwyno gwelliant i ddarparu ar gyfer rhoi pwerau gorfodi i'r awdurdod trwyddedu yng Nghyfnod 3, pan fydd y manylion wedi'u hystyried yn llawn.

Mae'n ddrwg gen i na fydd modd cytuno ar y gwelliant penodol a gynigir yn argymhelliad 4, ond rwyf yn cydnabod pryder y pwyllgor ynghylch taliadau diofyn, er fy mod i o'r farn y gall fod yn anoddach gweithredu'r argymhelliad nag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Fodd bynnag, o ystyried y pryderon dealladwy hynny, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i adolygu sut y gallai'r Bil geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy syniadau yn y maes hwn, ac os byddai gwelliant yn helpu, byddaf yn ystyried cyflwyno un yng Nghyfnod 3.

Rwy'n falch o dderbyn argymhelliad 5, a byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i drin taliadau ar gyfer cyfleustodau, y dreth gyngor, gwasanaethau cyfathrebu a'r drwydded teledu fel taliadau a ganiateir.

Rwy'n derbyn mewn egwyddor argymhelliad 6 ynghylch ffioedd ymadael. Fodd bynnag, rwy'n dymuno archwilio'r opsiynau i fynd i'r afael â'r mater hwn, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor yn dilyn y trafodaethau hynny.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi i dderbyn argymhelliad 7, gan nad yw'r Bil yn caniatáu i fwy nag un blaendal cadw gael ei gymryd ar unrhyw adeg. Mae gan unigolyn sy'n talu blaendal cadw yr hawl cynnig cyntaf a, phan fo hyn wedi'i dalu, mae'n golygu bod yn rhaid rhoi contract i ddeiliad y contract. Yn y pen draw, os bydd materion yn codi, ceir pŵer yn y Bil eisoes i ddiwygio diffiniad taliadau a ganiateir. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi, ar sail yr ymchwil sydd ar gael i ni, bod digon o dystiolaeth i newid y Bil ar hyn o bryd.

O ran argymhelliad 8, rwy'n cydnabod anniddigrwydd yr Aelodau o ran y ddarpariaeth ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i'r Bil sy'n ymwneud â'r hawl i rentu o dan Ddeddf Mewnfudo 2014. Felly, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad a hepgor y paragraff am y rheswm nad yw'r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2014 wedi dod i rym yng Nghymru eto. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn dod â darpariaethau perthnasol Deddf 2014 i rym, gallen nhw ddiwygio Atodlen 2 er mwyn gwneud y ddarpariaeth.

Mae camau gorfodi'r Bil wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth graffu arno, ac rwy'n bwriadu mynd i'r afael â hyn trwy dderbyn argymhellion 9 a 10. Mae hyn yn golygu y bydd landlord wedi'i atal rhag cyflwyno rhybudd o dan adran 173 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a elwir yn hysbysiad adran 21 ar hyn o bryd, os bydd landlord wedi gofyn am daliad gwaharddedig a dalwyd ac na ddychwelyd, neu os nad fydd blaendal cadw wedi'i ad-dalu.

Byddaf hefyd yn cyflwyno gwelliant i ddyblu'r swm o hysbysiad cosb benodedig i £1,000. Bydd hyn yn cryfhau rhan bwysig o'r drefn orfodi, ond yn ei gadw ar lefel a fydd yn caniatáu i'r hysbysiad cosb benodedig barhau i fod yn arf gorfodi cyflym ac effeithiol yn unol â'i fwriad, ac yn adlewyrchu ei swyddogaeth yn rhan o'r drefn orfodi ehangach.

O ran argymhelliad 11, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion barhau i ystyried creu dull o haenau neu fandiau wrth gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ac, unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor pan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben.

Ni allaf dderbyn argymhelliad 12, oherwydd byddai'n dyblygu'r pwerau sydd eisoes ar gael o dan adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a byddwn i'n dadlau bod hyn yn ymdrin â phryderon y pwyllgor.

Byddai argymhellion 13 a 14, yn fy marn i, yn cymhlethu'r Bil yn ddiangen a byddai'n tanseilio ein dull gorfodi, felly mae'n rhaid imi wrthod y ddau.

Fodd bynnag, rwyf yn fodlon derbyn argymhelliad 15, a fydd yn sicrhau ein bod yn monitro effaith y Bil ar y farchnad rhentu i fyfyriwr.

Gan droi at adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, o ran ei argymhelliad cyntaf, rwyf yn hapus i fanteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau fy mod i'n fodlon bod y Bil yn ymwneud â thai ac nad yw'n cysylltu ag unrhyw fater a gadwyd yn ôl. Nid yw'n arfer safonol i Lywodraeth Cymru ddarparu dadansoddiadau manwl o gymhwysedd, boed yn y pwyllgor neu yn ystod dadl ar egwyddorion cyffredinol. Pan fo manylion wedi'u darparu, maent yn adlewyrchu amgylchiadau unigryw, ac nid yw'r rhain yn berthnasol i'r Bil hwn.

Mae argymhelliad 2 yn gwneud pwynt ehangach ynghylch gwybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol yn y memoranda esboniadol. Gwn fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch y mater hwn, a bydd ymateb ar gael cyn bo hir.

O ran argymhelliad 3, rwy'n falch bod y Bil wedi gallu treialu ein dull newydd o integreiddio asesiadau effaith, gan atgyfnerthu'r gyfres bresennol o asesiadau effaith mewn un ddogfen. Mae'r broses newydd yn cyflawni dyletswyddau statudol presennol sy'n gysylltiedig ag asesiadau effaith ac yn dwyn ynghyd amrywiaeth o asesiadau effaith mewn fframwaith mwy cydlynol. Mae hyn yn lleihau cymhlethdod a dyblygu, ac felly dylai gynorthwyo'r darllenydd.

O ran argymhelliad 4, gwn fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch y mater hwn, a bydd yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru yn fuan. O ran y Bil hwn, gallaf gadarnhau y bydd dolen i'r ddogfen porth asesiadau effaith yn cael ei hychwanegu at y memorandwm esboniadol.

Rwyf hefyd yn hapus i egluro'r datganiadau a wnaed yn y memorandwm esboniadol a'r ddogfen porth asesiadau effaith o ran materion preifatrwydd. Bydd y ddau yn cael eu diwygio i dynnu sylw at y faith y bydd goblygiadau o ran preifatrwydd ar gyfer awdurdod tai lleol wrth ymchwilio i droseddau a rhoi gwybod i Rhentu Doeth Cymru am drosedd. Byddaf yn sicrhau bod asesiad o effaith y Bil ar breifatrwydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r ddogfen porth asesiadau effaith. Hefyd, bydd y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'n well y dull a gaiff ei ddefnyddio wrth ymgynghori ar is-ddeddfwriaeth.

Gallaf gadarnhau y byddaf yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil i wneud y rheoliadau o dan Atodlen 1, paragraff 2(4) a pharagraff 6 o'r Bil yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Fodd bynnag, ni allaf gytuno ag argymhellion y pwyllgor y dylai'r rheoliadau o dan adrannau 7 a 13 ddilyn y weithdrefn uwchgadarnhaol. Rwyf yn ystyried bod hyn yn ddiangen, gan y bydd digon o waith craffu ac ymgynghori yn cael ei ddarparu trwy'r weithdrefn gadarnhaol.

Yn yr un modd, mae'n rhaid imi wrthod argymhelliad 12, sy'n cynnig y dylai rheoliadau o dan adran 18 ddilyn y weithdrefn gadarnhaol. Mae'r newid hwnnw yn ddiangen, o gofio y gall y rheoliadau ddim ond ymdrin yn benodol â'r materion hynny a nodir yn yr adran, sydd i bob pwrpas yn cyfyngu ar ddisgresiwn ynghylch cynnwys y rheoliadau hynny.

Yn olaf, croesawaf ganfyddiadau'r Pwyllgor Cyllid, yn arbennig y ffaith ei fod yn croesawu defnyddio dadansoddiad sensitifrwydd y memorandwm esboniadol. Mae dau argymhelliad y pwyllgor yn cyd-fynd â fy syniadau i ynghylch sut y byddwn yn asesu effaith y Bil. Edrychaf ymlaen at barhau â'r ddadl ar y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol. Diolch yn fawr.

17:25

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—John Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dilyn ein gwaith craffu ar y Bil. Hoffwn ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig tenantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod tai ar draws Cymru a wnaeth yr ymdrech i fod yn bresennol yn ein grwpiau ffocws. Rydym hefyd yn sefydlu fforwm drafod ar-lein ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.

Yn ein gwaith craffu, rydym wedi ystyried yr egwyddorion cyffredinol a'r darpariaethau yn fanwl, gan ganolbwyntio ar yr effaith ar denantiaid, landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, sut y rhoddir gwybod am y newidiadau ac a oes angen corff gorfodi sengl neu arweiniol. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daethpwyd i'r casgliad ein bod yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ac wedi argymell bod y rhain yn cael eu derbyn gan y Cynulliad. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion a gwelliannau lle credwn y gellid cryfhau, gwella neu egluro'r Bil a chroesawaf yr ymgysylltu gan y Gweinidog, fel yr amlinellir yma heddiw.

Mae rhan 4 o'r Bil, Llywydd, yn cynnwys mesurau penodol ar gyfer gorfodi. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gawsom y byddai gorfodi yn hollbwysig i gyflawni dibenion y Bil. Credwn fod angen cryfhau darpariaethau. Yn benodol, amlygwyd dau brif fater inni ynghylch hysbysiadau cosb benodedig, lefel y gosb benodedig a sut y gellir gwneud Rhentu Doeth Cymru yn ymwybodol o hysbysiadau a gaiff eu rhoi a'u talu. Codwyd pryderon gan landlordiaid, asiantaethau gosod tai a thenantiaid na fyddai lefelau cosb benodedig yn gweithredu fel rhwystr digonol i landlordiaid ac asiantaethau gosod twyllodrus.

Dywedodd y Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl wrthym ei bod yn cefnogi cosbau ariannol o rhwng £5,000 a £30,000. Rydym yn cytuno ei bod yn debygol mai gweithredwyr drwg a'r rhai sydd eisoes yn codi ffioedd uchel yw'r lleiaf tebygol o gydymffurfio, ac felly rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn diwygio'r Bil i gynyddu lefelau cosbau penodedig. Clywsom dystiolaeth yn awgrymu y gall dull haenog neu fand ynghylch lefelau o gosbau penodedig fod yn briodol er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hyn a allai weithredu fel rhwystr i landlord sy'n hunan-reoli gydag un eiddo ac asiantaeth gosod tai mawr sy'n gyfrifol am lawer. Credwn fod rhinwedd mewn dull o'r fath ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid gweithredu hyn.

Mae mater mwy technegol ond pwysig o hyd yn ymwneud â hysbysu camau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru. Clywsom nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i'w hysbysu pan gaiff hysbysiadau cosb benodedig eu rhoi neu eu talu/ Credwn y dylid tynhau'r broses hon er mwyn helpu gyda'r gwaith o gasglu gwybodaeth a gwneud y system drwyddedu'n fwy cadarn. Felly rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan delir hysbysiad cosb benodedig.

Prif bwyslais ein gwaith craffu oedd ystyried a ddylid cael corff gorfodi arweiniol. Clywsom dystiolaeth o blaid ac yn erbyn. Ar ôl ystyried, nid ydym yn credu bod angen corff o'r fath, ond hoffem weld Rhentu Doeth Cymru yn cael pwerau ychwanegol i orfodi'r ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn lleihau'r cyfleoedd i'r rhai sy'n torri'r gyfraith i fynd heb gael cosb. Credwn y dylid diwygio'r Bil i roi pwerau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru ochr yn ochr ag awdurdodau lleol.

Yn amlwg, bydd effaith y Bil yn gwahardd rhai taliadau, a bydd hynny'n cael effaith ar unwaith, ond awgrymwyd i ni y gallai cynnydd mewn rhenti fod yn ganlyniad anfwriadol. Er nad ydym mewn sefyllfa i roi sylwadau ynghylch a yw hyn yn debygol o ddigwydd, nodwn o dystiolaeth y byddai'n well gan fwyafrif y tenantiaid gael cynnydd bach mewn rhent, yn hytrach na gorfod talu ffioedd ymlaen llaw. Fodd bynnag, bydd yn bwysig monitro lefelau rhent fel rhan o werthuso effaith y Bil ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i wneud hyn.  

Clywsom rai dadleuon o blaid cynllun gwirfoddol gyda chap ar ffioedd, ond nid oeddem yn argyhoeddedig y byddai'r dull hwn yn effeithiol. Yn benodol, rydym yn bryderus mai gweithredwyr diegwyddor—y rhai y mae angen newid eu harferion— yw'r rhai lleiaf tebygol o ymgysylltu â chynllun gwirfoddol. Felly, credwn mai dull deddfwriaethol o weithredu yw'r  ffordd fwyaf tebygol o greu marchnad decach.

Rydym yn pryderu nad yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfathrebu'r newidiadau, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach. Yn arbennig, rydym yn pryderu y gallai hyn ei gwneud yn anodd i denantiaid sy'n fwy agored i niwed ac asiantaethau a landlordiaid llai fod yn ymwybodol o'r newidiadau. Rydym yn nodi y bydd Rhentu Doeth Cymru mewn sefyllfa dda i gyfleu newidiadau i landlordiaid ac asiantaethau gosod. Ond credwn fod angen ystyriaeth ymhellach i sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o hyn, yn enwedig gan y bydd tenantiaid yn chwarae rhan hollbwysig o ran tynnu sylw awdurdodau at daliadau anghyfreithlon. Felly rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'r newidiadau.

Llywydd, rydym yn argymell bod yr egwyddorion cyffredinol yn cael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, a bod y Bil yn cael ei gryfhau yn y ffyrdd a amlinellwyd gennyf. Rwy'n croesawu'n fawr sicrwydd y Gweinidog mewn ymateb i'n hadroddiad, a'i fod yn derbyn nifer ohonynt, a hefyd yn croesawu'r ystyriaeth bellach a roddir i eraill, fel y disgrifiwyd yn gynharach gan y Gweinidog. O ran y rhai nad ydynt yn cael eu derbyn, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn parhau i ystyried ein hadroddiad yn ofalus fel y bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo drwy'r Cynulliad. Diolch yn fawr.

17:35

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn i gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma, er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil rhentu cartrefi.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn cytuno bod y darpariaethau yn angenrheidiol ar gyfer cynnal sector rhentu preifat hygyrch a fforddiadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffem ddwyn sylw'r Cynulliad at yr amrywiadau sydd i'w gweld yn y ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol o ran amcangyfrif y costau neu'r buddion a allai godi wrth weithredu darpariaethau'r Bil.

Datblygodd Llywodraeth Cymru ei ddadansoddiad drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Rhentu Doeth Cymru, a chafodd y dadansoddiad hwn ei lywio hefyd gan ymarfer ymgynghori, gan ymchwil annibynnol a'r profiad a gafwyd, wrth gwrs, o weithredu deddfwriaeth debyg yn yr Alban. Serch hynny, dywedodd y Gweinidog wrthym ni y bu angen gwneud nifer o ragdybiaethau yn sgil y gwahaniaethau ymarferol sylweddol sy'n bodoli ar draws y sector rhentu preifat. O ystyried yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth yr amcangyfrif craidd a gyflwynwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad sensitifrwydd er mwyn profi effaith unrhyw newidiadau i'r rhagdybiaethau allweddol hyn.

Mae'r cam o gynnwys y dadansoddiad sensitifrwydd, sy'n archwilio amrediad y costau posibl yn y senarios gorau a'r senarios gwaethaf, yn un y mae'r Pwyllgor yn ei groesawu'n fawr, a hynny er ei fod yn dangos amrediad eang o gostau. Er enghraifft, mae'r opsiwn 'gwneud dim byd' yn cyflwyno amrediad cost o £36 miliwn rhwng yr amcangyfrifon is a'r amcangyfrifon uwch ar gyfer ffioedd tenantiaid dros gyfnod o bum mlynedd. Er ein bod yn nodi'r arbedion a amcangyfrifir i denantiaid o wahardd ffioedd, rŷm ni yn ymwybodol y bydd asiantau gosod a landlordiaid yn adennill yr incwm coll hwn drwy ddulliau eraill, ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adolygu'n ofalus effaith gweithredu'r Bil ar lefelau rhent. 

Mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â chostau awdurdodau lleol, ac yn benodol costau gorfodi, a fydd yn ganolog i lwyddiant y Bil. Rŷm ni'n nodi'r ffaith bod y Gweinidog yn rhagweld lefel uchel o gydymffurfiaeth, ac rŷm ni'n cydnabod y bydd awdurdodau lleol yn gallu cadw'r incwm a gesglir drwy hysbysiadau cosb benodedig i wrthbwyso costau gorfodaeth. Fodd bynnag, rŷm ni yn parhau i bryderu am y posibilrwydd na fydd y gweithgareddau gorfodi yn niwtral o ran cost i awdurdodau lleol, a'r posibilrwydd y bydd lefelau rhent uwch yn effeithio ar allu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o ran atal digartrefedd drwy denantiaeth yn y sector rhentu preifat. Rydym wedi argymell, felly, bod effaith ariannol y Bil ar awdurdodau lleol, yn enwedig o safbwynt costau gorfodi, yn cael ei monitro a'i gwerthuso'n ofalus er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol ar gael.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Adroddwyd ar y Bil rhentu cartrefi ar 24 Hydref, a gwnaed 12 o argymhellion. Yn gyffredinol, rydym yn croesawu'r camau tuag at greu corff pwnc-benodol o gyfreithiau Cymru sy'n ymwneud â thai. Rydym yn gweld hyn fel datblygiad cadarnhaol cyn cynlluniau mwy cynhwysfawr Llywodraeth Cymru ynghylch cyfuno a chyfundrefnu, a dylai gynorthwyo yn y nod o wneud cyfraith yng Nghymru yn fwy hygyrch.

Gan symud ymlaen, mae ein dull o graffu ar Filiau yn cynnwys ystyried i ba raddau y mae'r Aelod sy'n gyfrifol wedi esbonio'n glir pa bwerau deddfwriaethol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n cael eu defnyddio i wneud y ddeddfwriaeth. Nid yw'n ymgais i danseilio Llywodraeth Cymru neu yn wir asesiad y Llywydd o gymhwysedd deddfwriaethol. Nodwyd y dystiolaeth gan y Gweinidog a'r wybodaeth a ddarparwyd yn y Memorandwm Esboniadol ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol, ac roeddem yn cydnabod y gallai'r newid i'r model cadw pwerau wneud esbonio'r sail y gall Llywodraeth Cymru ddeddfu arno yn fwy anodd. Fodd bynnag, pan geisiwyd rhagor o wybodaeth ar y mater hwn, cawsom fod y dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y Gweinidog yn ddiffygiol o ran manylder.

Yn ein barn ni, nid oes digon o fanylion yn yr esboniad un frawddeg o fewn y memorandwm esboniadol o ran sut mae gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud y darpariaethau yn y Bil. Roeddem yn tynnu sylw at y ffaith fod asesiad Llywodraeth Cymru o'r cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) yn rhychwantu paragraffau 11 yn y memorandwm esboniadol. Er nad ydym yn awgrymu y dylid mabwysiadu dull gweithredu unffurf, mae'r gwahaniaeth amlwg rhwng y dulliau a ddefnyddir o fewn y ddau fil yn haeddu esboniad.

Ein hargymhelliad cyntaf oedd bod y Gweinidog yn defnyddio'r ddadl hon fel cyfle i ddarparu mwy o fanylion ar asesu cymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil. Anelwyd ein hail argymhelliad yn ehangach at Lywodraeth Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth, wrth gyflwyno memoranda esboniadol, sicrhau bod yr wybodaeth ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar y pwynt hwn ar wahân, a hefyd mewn cysylltiad â chydsyniad y Goron ac argymhellion 3, 4 a 7.

Gan symud ymlaen at argymhellion 3, 4 a 5, mae gennym bryderon sylweddol gyda'r asesiadau effaith sy'n mynd gyda'r Bil. Roeddem yn siomedig bod rhagdybiaeth wedi'i gwneud y byddai Aelodau'r Cynulliad ac eraill sydd â diddordeb yn gyfarwydd â'r porth asesiad o effaith a grybwyllwyd gan y Gweinidog yn ei thystiolaeth i ni.

Gofynnodd ein hargymhelliad 3 i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl Cyfnod 1 fel cyfle i ddarparu mwy o fanylion am borth asesiad o effaith Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, ei arwyddocâd i'r Bil. Edrychaf ymlaen at ymateb pellach ar hyn, fel y nodwyd gan y Gweinidog. Credwn y dylid annog a hyrwyddo mwy o hygyrchedd at gyfreithiau Cymreig a deunydd esboniadol cysylltiedig. Rydym yn pryderu bod diffyg eglurder a chydlyniant yn y ddogfen porth asesiad o effaith ar gyfer y Bil. Cyfeiriwyd ein hargymhelliad 4, eto, yn fwy eang na'r Gweinidog, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod memoranda esboniadol yn cynnwys dolenni i bob deunydd esboniadol sydd ar gael mewn perthynas â Bil perthnasol.

Ynghylch yr asesiad o effaith ar breifatrwydd, rydym yn credu bod angen eglurhad ar y mater hwn, gan fod yr wybodaeth yn y ddogfen porth asesiad o effaith yn awgrymu nad oedd yr asesiad ynghylch yr effaith ar breifatrwydd yn gadarn. Croesawaf y sylwadau gan y Gweinidog ar hynny. O ran argymhelliad 5, gofynnwyd i'r Gweinidog egluro yn ystod y ddadl hon pam fod y memorandwm esboniadol a'r ddogfen porth asesiad o effaith yn awgrymu nad yw'r Bil yn creu unrhyw ofynion newydd sy'n ymwneud â phreifatrwydd neu rannu gwybodaeth, a pham ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng y ddwy ddogfen. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog ar hynny. O ran argymhelliad 6, rydym yn gofyn i'r Gweinidog gyhoeddi asesiad llawn o'r effaith ar breifatrwydd ar gyfer y Bil cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3, ac rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ar y pwynt hwn hefyd.  

Gan symud ymlaen at y pwerau gwneud rheoliadau penodol yn y Bil, rydym yn fodlon ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a adewir i is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, nid yw 'diogelu at y dyfodol'  a 'hyblygrwydd' yn dermau y dymunwn eu gweld yn cael eu defnyddio'n barhaus gan Weinidogion i gyfiawnhau cynnwys pŵer gwneud rheoliadau yn y Bil. Rydym hefyd yn pryderu yr ymddengys bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y weithdrefn graffu a neilltuwyd i bŵer gwneud rheoliad yn seiliedig ar yr hyn y mae'r Gweinidog perthnasol yn ei ystyried i fod yn dechnegol ei natur. Fodd bynnag, mae 'technegol' yn farn oddrychol.

Nodwn hefyd fod y Rheoliadau a wnaed dan Atodlen 1 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, ac rydym yn anghytuno â'r ddadl a gyflwynwyd gan y Gweinidog y dylid caniatáu i reoliadau'r weithdrefn negyddol gyflwyno newidiadau ym mholisïau’r Llywodraeth yn y dyfodol. Rydym hefyd yn anghytuno bod newid ystyr 'amrywiad a ganiateir' yn rhywbeth y gellid ei gategoreiddio fel technegol.

Mae ein hargymhellion 8 a 9 yn argymell y dylid diwygio'r Bil fel bod rheoliadau a wneir dan Atodlen 1, paragraffau 2(4) a 6, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Ein harfer sefydledig fu ceisio defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth a fyddai'n newid deddfwriaeth sylfaenol—pwerau Harri VIII fel y'u gelwir. Am y rheswm hwnnw, rydym yn croesawu bod y Gweinidog wedi drafftio'r Bil fel y defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau a wneir dan adran 7. Fodd bynnag, gallai'r pŵer i ddiwygio'r diffiniad o daliad a ganiateir newid effaith nod cyffredinol y Bil neu ehangu nifer y troseddau a grëwyd gan y Bil. Dylai rhanddeiliaid a phwyllgorau'r Cynulliad gael y cyfle i roi sylwadau ar y Rheoliadau drafft a fyddai'n newid elfen sylweddol o'r ddeddfwriaeth hon.

Mae argymhelliad 10 yn argymell bod y  Bil yn cael ei ddiwygio fel bod Rheoliadau a wneir dan adran 7 yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol. Mae adran 13(3) yn darparu'r pŵer  i Weinidogion Cymru  gynyddu lefel y gosb benodedig o £500 i uchafswm anhysbys. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog wedi sôn am hynny yn y datganiad, ynghyd â gwelliant arfaethedig. Nodwyd y bydd Bil Ffioedd Tenant Llywodraeth y DU yn galluogi awdurdod gorfodi yn Lloegr i osod ffi o hyd at £30,000. Credwn y dylai'r potensial ar gyfer cynnydd sylweddol ym maint y gosb benodedig fod yn destun craffu ychwanegol.

Fel gydag adran 7, mae ein hargymhelliad 11 yn argymell y dylid gwneud rheoliadau adran 13 drwy weithdrefn uwchgadarnhaol sy'n sicrhau y bydd ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol cyn y newidir swm y gosb benodedig.

17:45

A gaf i ddweud y byddwn ni  yn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig heddiw? Dros y degawd diwethaf, tyfodd y sector rhentu preifat o ran niferoedd absoliwt a chyfesuredd, yn bennaf ar draul lefelau perchen-feddiannaeth. Os bydd y duedd yn parhau, y sector rhentu preifat fydd yr ail fath o lety cyffredin ar ôl perchentyaeth; disgwylir iddo gyrraedd 20 y cant o gyfanswm y stoc dai erbyn 2020. Felly, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth hon gan fod y sector yn dod yn gynyddol bwysig i ddiwallu anghenion tai.

Mae'r sector rhentu preifat yn amrywiol, gan ddarparu cartrefi i amrywiaeth eang o aelwydydd, gan gynnwys myfyrwyr, teuluoedd, pobl sengl a'r rhai sy'n chwilio am atebion tymor byr. Fodd bynnag, ers y dirywiad economaidd yn 2008, defnyddir y sector fwyfwy fel opsiwn tai tymor hwy. Gan nad yw cartrefi newydd yn y sector tai cymdeithasol yn ymdopi â'r galw, ac mae darpar brynwyr tro cyntaf yn ei chael yn fwyfwy anodd i gael mynediad at berchen-feddiannaeth, caiff y sector rhentu preifat ei ddefnyddio fwyfwy gan lawer mwy o aelwydydd Cymru.

Un cam yn unig yw'r Bil hwn yn yr ymdrech i adeiladu marchnad dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae'n annheg y dylai tenantiaid ar draws y wlad gael eu brathu gan gostau annisgwyl ac afresymol. Dyna pam mae angen inni gyflawni ein haddewid i wahardd ffioedd gosod ochr yn ochr â mesurau eraill i wneud rhentu yn decach a mwy tryloyw. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu o waharddiad yr Alban, o'r hyn sydd wedi cael ei nodi yn adroddiad y Pwyllgor, ac yn wir y craffu ar gynigion San Steffan, sy'n rhedeg ychydig ar y blaen i'n Bil ni, a chredaf fod rhai gwersi defnyddiol yno i ni hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod y system fwyaf effeithlon yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru.

Nawr, hoffwn droi at rai o'r argymhellion sydd yn adroddiad y Pwyllgor. Ond a gaf i ddweud mai'r canlyniad sydd ei angen arnom, ac rwy'n credu sy'n mynd ymhellach yn yr adroddiad hwnnw, yw sector tai sy'n deg ac yn gweithio i bawb. Mae landlordiaid yn haeddu enillion rhesymol a diogel. Dylai asiantaethau gosod tai dibynadwy gael eu diogelu rhag darparwyr twyllodrus, ac ni ddylai tenantiaid wynebu gormod o galedi yn aml ar adeg o straen sylweddol.

Felly, ac eithrio argymhelliad 8 y pwyllgor, nad wyf yn cytuno ag ef, credaf fod yr argymhellion eraill yn ychwanegu llawer iawn at gryfder y Bil hwn. Byddwn, felly, yn amlwg yn edrych ar yr ymatebion a wnaed gan y Gweinidog a hefyd unrhyw welliannau penodol, ond rwy'n  sylwi bod yr ymateb yn weddol bleidiol i adroddiad y Pwyllgor, a dim ond rhai pethau allweddol sydd wedi'u gwrthod yn llwyr.

A gaf i bwysleisio, Dirprwy Lywydd, yr argymhellion canlynol? Nid wyf am fynd trwy bob un ohonynt—bydd cyfleoedd eraill i hynny. Os caiff ei weithredu, bydd argymhelliad 10 yn cynyddu'r lefelau o gosbau penodedig—cymorth amlwg o bob sector, ac mae angen rhwystr arnom, nid dim ond system sy'n adennill costau. Nid wyf yn siŵr fod £1,000 yn mynd i fod yn ddigon, fel y nodwyd eisoes gan y Pwyllgor Cyllid. Yn sicr roedd £500 yn annhebygol iawn o dalu'r costau, ond a fyddai £1,000? Mae angen inni fynd ymhell y tu hwnt i adennill costau. Rhaid i hon fod yn gosb, rhaid iddi weithredu fel rhwystr. Felly, credaf, yn ein gwaith craffu fesul llinell, y bydd angen inni edrych ar hyn yn ofalus iawn.

Mae argymhelliad 12, os caiff ei weithredu mewn gwelliant, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan fydd hysbysiad cosb benodedig yn cael ei dalu—nid pan gaiff ei roi, pan gaiff ei dalu. Byddai hyn yn bendant yn gwneud y system yn fwy cadarn o lawer. Roeddwn yn credu bod y Gweinidog yn aneglur iawn. Mae'n ymddangos i mi mai dyma'r cerdyn cyffredinol y mae'r Llywodraeth yn ei chwarae weithiau— 'Wel, wyddoch chi, mae gan lywodraeth leol bŵer cyffredinol i wneud pob math o bethau, felly byddwn yn gwneud hynny.' Dyma ychydig o ddeddfwriaeth tai i wneud y system yn llawer mwy cadarn a theg i denantiaid, a dylai fod yn y Bil os yw'n bwysig. Ac mae'n bwysig os yw Rhentu Doeth Cymru yn mynd i fod yn uned gudd-wybodaeth briodol yn cofnodi'r landlordiaid a'r asiantaethau diegwyddor hynny sy'n cael hysbysiadau cosb benodedig wedi'u gosod arnynt, a chan awdurdodau gwahanol, o bosibl. Ac ni allwch ond gwneud hynny os yw'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd. Felly, roeddwn yn credu eich bod yn wan iawn ar hynny, a bod yn onest.

Argymhelliad 13: y gallu i godi cosb ariannol uwch fel dewis amgen i erlyniad, gan adlewyrchu Bil Lloegr, yn codi i £30,000. Mewn gwirionedd, mae hynny er mwyn gwrthbwyso erlyniad. Nid yw'n gosb benodedig yn hollol. Ond credaf o hyd ei bod yn bwysig bod y math hwnnw o frathu a'r math hwnnw o ddewis amgen ar gael i awdurdod lleol yn hytrach na mynd trwy system y llysoedd.

Ac yn awr rwyf am gloi gydag argymhelliad 14. Rydym yn pasio deddfwriaeth i amddiffyn tenantiaid, ac un peth nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn ei wneud yw sicrhau bod y tenantiaid yn cael y taliad anghyfreithlon a orfodwyd arnynt yn ôl. Mewn gwirionedd, teimlaf yn wirioneddol ddrwg dros aelodau Llafur y meinciau cefn acw, druan ohonynt, sydd yn mynd i orfod derbyn y sefyllfa a chaniatáu i'r Gweinidog osgoi cosb am hyn. Ond byddwn yn eich gwrthwynebu pob modfedd o'r ffordd, a byddwn yn sicr yn ceisio diwygio'r ddarpariaeth honno fel bod tenantiaid yn cael cyfiawnder. Gorffennaf hefyd drwy ddiolch i'r holl randdeiliaid sydd wedi ein helpu yn ein gwaith craffu.

17:50

Byddwn yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, fel yn wir yr ydym wedi ei wneud ers sawl blwyddyn bellach. Cyflwynodd Plaid Cymru, wrth gwrs, welliannau i'r Bil rhentu cartrefi ychydig flynyddoedd yn ôl a fyddai wedi dwyn gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod tai. Ond pleidleisiwyd yn erbyn y rhain, wrth gwrs, gan y blaid sy'n llywodraethu, Llafur, fel llawer o bolisïau eraill y dylent mewn gwirionedd fod yn eu cefnogi. Y tro hwn dywedasant ei fod ar y sail bod angen gwneud mwy o waith ymchwil ynghylch a oedd yn deg fod y bobl dlotaf yn gorfod talu cannoedd o bunnoedd am wiriadau credyd a oedd yn costio dim ond cyfran fach iawn o hynny. Roedd Shelter Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud y gwaith ymchwil ac roedd yr Alban eisoes wedi gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai. Yna newidiodd y Llywodraeth ei rhesymau pan gafwyd amheuon gan Aelodau'r meinciau cefn, a symudwyd at y safbwynt nad oedd hwn yn fater wedi'i ddatganoli ac, felly, nad oedd unrhyw beth y gellid ei wneud am y peth. Ond aeth digwyddiadau'n drech na nhw. Cyhoeddodd y Ceidwadwyr waharddiad ar osod ffioedd asiantaethau yn Lloegr, ac roedd cynnig i'w gwahardd wedi'i gynnig yma. Dyna embaras i Lywodraeth Cymru.

A nawr bod y Torïaid o'r diwedd wedi cyflwyno Bil Ffioedd Tenantiaid i'r Senedd yn ystod yr haf, gorfodwyd Llywodraeth bresennol Cymru i weithredu ac mae'r Bil hwn ger ein bron heddiw. Mae'n hen bryd, a phe bai camau wedi'u cymryd yn gynharach, yna byddai miloedd o bobl heb fod ar eu colled fel y buont.  

Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod tenantiaid yn aml yn wynebu bil o gannoedd o bunnoedd am hyd yn oed geisio symud i eiddo ar rent, heb unrhyw sicrwydd y byddant yn symud i'r eiddo hwnnw yn y pen draw. Gall y ffioedd ar gyfer pethau fel gwiriadau credyd yn aml fod yn anghymesur i'r gwaith a wneir, ffaith a ddangoswyd gan y Pwyllgor, ac maent yn gweithredu fel rhwystr i'r farchnad rhag gweithio'n iawn. Felly, er enghraifft, os yw tenantiaid yn canfod nad yw eu landlord presennol yn atgyweirio'r eiddo ac maent yn gaeth i lety gwael, gellir eu gorfodi i wynebu costau ymlaen llaw o gannoedd o bunnoedd ar gyfer yr holl ffioedd, rhent ymlaen llaw a chostau symud eraill a fydd yn atal y tenant rhag arfer eu pŵer defnyddiwr a chodi safonau.

Mae gan y Pwyllgor, wrth gwrs, nifer o argymhellion yr ydym yn eu cefnogi i wella'r Bil ger ein bron, nid lleiaf yw  sicrhau bod cyfathrebu'r Bil a'i orfodi yn golygu nad oes gennym ddarn arall o bapur sydd yn cael ei anwybyddu. Wedi'r cyfan, onid oes gennym eisoes ormod o droseddau a ystyrir, mae'n ymddangos, gan bobl gyfoethog yn ddibwys, fel achosion o osgoi talu treth, goryrru, torri rheolau'r Comisiwn Etholiadol ar wariant ac ati? Felly, yn wir mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad ydym yn ychwanegu darn di-rym arall o ddeddfwriaeth at y rhestr hon, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn llwyr ddisgwyl iddo gael ei gryfhau yn y cyfnod nesaf.

17:55

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon. Nid wyf ar unrhyw un o'r pwyllgorau sydd wedi craffu ar y Bil hwn, ond rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod y sector rhentu preifat yn cael ei wneud yn hygyrch ac yn fforddiadwy ar gyfer y bobl sydd ei angen, a hefyd y ceir mwy o sicrwydd o ran deiliadaeth. Rwy'n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, sydd mor bwysig bellach gan fod mwy a mwy o bobl yn ddibynnol ar y sector rhentu preifat. Credaf ein bod i gyd yn gwybod bod 460,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw yn y sector rhentu preifat. Ers 2001, mae'r sector rhentu preifat wedi mwy na dyblu ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru. Rwy'n arbennig o bryderus am y teuluoedd â phlant sy'n ddibynnol ar y sector rhentu preifat, oherwydd yn 2003 roedd nifer y plant yn y DU mewn tai perchen-feddiannaeth yn uwch na'r rhai yn y sector rhentu preifat a hynny ar gymhareb o 8:1 ac mae'r gymhareb honno bellach wedi gostwng i 2:1 ledled y DU. Felly, y sector rhentu preifat yw'r lle ar gyfer teuluoedd â phlant, mae ei angen ar gyfer pobl hŷn, pobl sy'n agored i niwed—mae'n rhan anferth bellach o'r ddarpariaeth. Felly, dyna pam mae'r ddeddfwriaeth hon mor bwysig.

Rwy'n croesawu'r argymhellion gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Croesawaf yn arbennig yr argymhelliad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 fel bod landlordiaid yn cael eu cyfyngu rhag cyhoeddi hysbysiadau adran 21 neu eu darpariaethau cyfatebol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 os ydyn nhw wedi codi ffioedd gwaharddedig ac nad ydyn nhw wedi ad-dalu'r tenant hyd yn hyn. Credaf fod hwn yn gam pwysig oherwydd mae'n cyfyngu ar y defnydd o adran 21 a'm gobaith i yw y bydd Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn dileu adran 21 yn gyfan gwbl. Ond rwyf eisiau dweud fy mod yn credu bod hwn yn gam pwysig, oherwydd, wrth gwrs, mae adran 21 neu'r troi allan yn ddi-fai yn golygu y gellir symud tenantiaid ymlaen ar ôl chwe mis neu eu troi allan â dim ond dau fis o rybudd. Mae contractau chwe mis hefyd yn golygu y gall y rhai sy'n rhentu yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd pryderus o gynnydd yn y rhent ddwywaith y flwyddyn. Credaf fod hyn yn gwbl anghywir ac mae angen inni feddwl am effaith yr ansicrwydd hwn, yn enwedig ar deuluoedd ifanc. Gall fod mor anodd cael lle mewn ysgol i blant, neu ddod o hyd i swydd ran-amser sy'n cyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu, a dylai cartref diogel fod yn sylfaen i fywyd teuluol. Ni ddylai fod yn rhywbeth sy'n achosi anhrefn ym mywydau pobl ar fyr rybudd. Felly, rwy'n cefnogi'r argymhelliad hwnnw gan y pwyllgor ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog pan oedd yn nodi sylwadau ar yr argymhellion.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i leihau'r ansicrwydd deiliadaeth eisoes gan ddod ag achosion o droi allan dialgar i ben a hefyd drwy roi terfyn ar yr arfer presennol pan fo rhai landlordiaid yn cyflwyno hysbysiad adran 21 ar ddechrau'r denantiaeth fel y gallant wneud gorchymyn adennill meddiant ar ôl dau fis. Gwn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd y camau hynny. Fodd bynnag, credaf fod cael gwared ar adran 21, mewn gwirionedd, yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig i'r Llywodraeth hon ei wneud. Felly roeddwn i eisiau sôn yn benodol am y cam hwn a'i groesawu, gan fy mod o'r farn ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, yn bendant.

18:00

Diolch i'r Gweinidog am ddod â'i Bil i'r cyfnod hwn heddiw. Mae UKIP yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym wedi siarad yn y gorffennol am ein dymuniad i wahardd ffioedd asiantaethau gosod diangen ac mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn rhan o'r byrdwn cyffredinol o'i gwneud yn haws i denantiaid yn y sector rhentu preifat. Oes, mae llawer o ffioedd diangen ar hyn o bryd. Soniodd Leanne Wood am y ffioedd anghymesur, pan godir symiau mawr ar denantiaid am dasgau sy'n costio cymharol ychydig. Rhywbeth sydd efallai hyd yn oed yn waeth na'r ffioedd anghymesur yw'r broblem o ddiffyg tryloywder pan godir tâl ar denantiaid am bethau weithiau ac nid ydyn nhw hyd yn oed yn gwybod am beth y maen nhw'n ei dalu. Felly, mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn, a dylai'r Bil hwn wneud y ffioedd yn y sector rhentu preifat yn llawer haws i'w rheoli.

Mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus nad oes gormod o reoleiddio, wrth gwrs, ac mae'n rhaid inni gadw llygad ar y canlyniadau anfwriadol posibl. Mae Aelodau eraill wedi sôn am bosibilrwydd codi rhenti. Clywsom gan lawer o wahanol bobl ar y pwyllgor llywodraeth leol yn ein hymchwiliad, fel yr eglurodd ein cadeirydd, John Griffiths, yn gynharach. Ni chododd unrhyw dystiolaeth glir yn ystod yr ymchwiliad yn dangos y cafwyd cynnydd mewn rhent a oedd yn gysylltiedig â diddymu'r ffioedd, ar ôl i'r Alban basio deddfwriaeth debyg yn 2012.

Roedd ychydig o faterion a oedd yn fanion yr oedd angen ymdrin â nhw. Roedd yna broblem ynghylch pasbortio bond sicrhad, a godwyd gennym gyda'r Gweinidog yn ystod yr ymchwiliad. Un broblem sy'n wynebu tenantiaid yw y byddant o bosibl yn dal i aros i'w bond sicrhad gael ei ddychwelyd o'r eiddo y maen nhw'n ei adael ac ar yr un pryd yn gorfod talu'r bond sicrhad ar gyfer yr eiddo y maen nhw'n symud i mewn iddo. Felly, fe'i codwyd gan o leiaf un aelod o'r pwyllgor sef, os mai bwriad y Llywodraeth oedd gwneud bywyd yn haws i denantiaid yn y sector rhentu preifat, yna byddai datblygu rhyw fath o gynllun pasbortio ar gyfer bondiau wedi bod yn rhan o'r Bil i'w chroesawu. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn, ond byddai'n ddiddorol pe gallai ein goleuo ymhellach ar yr agwedd honno heddiw.

Hefyd, hoffem gael rhywfaint o eglurder ar rai o'r argymhellion penodol. Trafododd David Melding, yn fy marn i, rai o'r diffygion yn y Bil yn dda iawn, pan edrychodd ar yr argymhellion penodol, ac roeddwn yn cytuno ag ef ar bob un o'r argymhellion hynny. Mae cynyddu hysbysiadau cosb benodedig—eu dyblu—yn ddatblygiad i'w groesawu, ond, fel y soniodd David, efallai na fydd hynny'n ddigon. Oherwydd os oes gennych landlordiaid neu asiantau â llawer o eiddo, efallai na fydd hynny'n ddigon o rwystr i'w hatal, ac efallai y byddant yn parhau i godi ffioedd yn fwriadol hyd yn oed os ydyn nhw'n wynebu dirwy bosibl o £1,000.

Credaf o bosibl mai argymhelliad 14 yw'r diffyg mwyaf annealladwy yn y Bil, yn ôl yr hyn a welaf i. Ni allaf gofio, Gweinidog, beth ddywedasoch oedd y rheswm pam na allem gael system i orfodi ad-dalu ffioedd asiantaethau gosod diangen. Tybiaf, neu rwy'n cofio rhywbeth, fod rhyw broblem gyfreithiol, ond efallai y gallech chi ein goleuo ni ymhellach ynghylch hynny pan fyddwch yn siarad eto ar y diwedd. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r farchnad wedi ei rhannu ar hyn o bryd, ac mae'r Bil hwn yn cynnig datrys hynny. Mae angen inni wneud hyn yn iawn. Ni allwn barhau i fod â thenantiaid sy'n cael eu gorfodi i aros mewn eiddo llaith neu ansicr  dim ond oherwydd nad oes ganddyn nhw'r arian i dalu ffioedd yr asiant gosod. Nid hon yw'r ffordd y mae marchnadoedd yn gweithredu, ac ar hyn o bryd maen nhw'n gweithredu yn gyfan gwbl er budd yr asiant gosod tai. Ar gyfartaledd, ffi tenantiaeth yw £337 ac, yng Nghaerdydd, mae'n gymaint â £450, dim ond am y pleser o lofnodi'r contract. Felly, mae'n rhaid inni unioni hyn. Mae problem benodol yn fy etholaeth i, Canol Caerdydd, sydd â'r gyfran uchaf o fyfyrwyr prifysgol o unrhyw etholaeth ledled y DU. Mae pobl ifanc sydd erioed wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol ar unrhyw beth o'r blaen yn cael eu gorfodi i dalu rhai ffioedd eithaf gwarthus. Codir ffi o £60 neu fwy arnyn nhw am wiriad credyd, ac mae'n debyg nad yw'n costio mwy na £5 i'w weithredu. Codir ffioedd adnewyddu arnyn nhw hefyd sydd mor uchel â £300, sydd ond yn golygu argraffu yr un contract eto gyda dyddiadau newydd arno. Mae pobl hyd yn oed wedi gorfod talu £150 y person i dynnu eiddo oddi ar y farchnad tra byddan nhw'n rhoi trefn ar y contract. Dyma beth sy'n digwydd ym marchnad y gwerthwr, ac mae angen inni newid y cydbwysedd fel ei bod yn decach i'r rhai sy'n rhentu.

Yr unig rai sydd ar eu colled yn y Bil hwn yw'r asiantau gosod gwarthus sydd wedi bod yn codi tâl ar y tenant yn ogystal â'r landlord am wneud gwaith. Maen nhw wedi bod yn dyblu eu tâl, yr asiantwyr diegwyddor hyn, ac mae angen i'w busnesau gael eu dileu. Clywsom dystiolaeth dda iawn gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a'r Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl yn nodi eu bod nhw eisiau inni ddileu busnesau'r bobl hyn, ac felly mae angen inni gryfhau'r Bil i sicrhau bod hynny'n digwydd. Does dim pwynt cyflwyno diddymu ffioedd asiantaethau gosod os ydym ni wedyn yn caniatáu i daliadau ffug gael eu cyflwyno ar gyfer materion eraill. Credaf felly ei bod yn siomedig nad oes gennym ni ymateb cryfach o ran beth sy'n gyfystyr â ffi ddiofyn briodol. Mae angen iddi fod yn glir iawn bod yn rhaid i hwnnw fod yn deg ac yn rhesymol, fel arall bydd gennym bob math o ffioedd diofyn i'w cyflwyno a'u diddymu.

Mae problem benodol, yn amlwg, â thenantiaid nad ydynt yn gallu talu eu rhent mewn pryd oherwydd bod y credyd cynhwysol wedi methu â gwneud y taliad hwnnw. Yn amlwg, mae angen i landlordiaid gael eu taliadau ar amser oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw dalu eu costau eu hunain, ond, serch hynny, mae'n anodd gweld sut y mae yna drefniant priodol ar gyfer pobl y codir tâl arnyn nhw nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drostyn nhw. Mae'n gwbl briodol y dylid codi tâl ar denantiaid am y drafferth o gael allweddi newydd os ydyn nhw'n eu colli, neu ryw fater arall sy'n mynnu bod y landlord yn gwneud ymweliadau arbennig, ond credaf mai un o'r pethau y mae angen inni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod yr ystod o ddirwyon yn briodol ar gyfer yr ystod o landlordiaid sy'n asiantaethau gosod sydd gennym. Mae'r hen wraig ddiharebol nad yw wedi darllen y ddeddfwriaeth ac nad oedd yn ymwybodol ohoni, sy'n codi ffi yn un peth, ond asiantau gosod gyda 100 o eiddo, mae'n anodd gweld sut y byddai'n bosibl nad oeddyn nhw yn gwybod nad oedd ganddyn nhw'r hawl i godi ffi.

Felly, rwy'n siomedig bod y Gweinidog yn dal ddim yn bwriadu sicrhau nad yw unrhyw gosb wedi ei chodi os nad ydyn nhw wedi ad-dalu'r ffi a godwyd yn anghyfreithlon ar y tenant. Nid ein busnes ni yma yw creu mwy o waith ar gyfer y canolfannau cyngor ar bopeth neu asiantaethau cynghori eraill. Mae ganddyn nhw ddigon o waith i'w wneud fel y mae, felly, credaf fod angen inni yn syml sicrhau bod y rheoliadau yn ddigon cadarn i wneud yn siŵr fod y rheini sydd wedi gwneud y peth anghywir wedi ei gywiro cyn iddyn nhw gael symud ymlaen.

Credaf hefyd ei bod yn siomedig iawn bod y Gweinidog dim ond eisiau cynyddu ystod y dirwyon i £1,000, pan fo hyd yn oed y Gymdeithas Asiantau Gosod Preswyl yn cefnogi cosbau ariannol o rhwng £5,000 a £30,000. Maen nhw'n ein hannog ni i fod yn fwy radical, oherwydd maen nhw eisiau i fusnesau'r asiantau gosod diegwyddor gael eu dileu hefyd. Credaf fod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn, gyda ffioedd ymadael, mae'n gwbl briodol i godi tâl resymol os yw'r tenant yn terfynu'r contract cyn y cyfnod y gwnaethon nhw gytuno arno, ond dydw i ddim yn credu ei bod yn rhesymol o gwbl i godi ffioedd ymadael pan fo'r denantiaeth wedi dod i ben, ar ôl blwyddyn neu beth bynnag ydyw. Ni ddylid codi unrhyw ffi—mae'r ddwy ochr yn symud ymlaen. Felly, byddwn yn trafod y mater hwn ymhellach, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr ymateb manwl gan y Gweinidog.

18:10

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid wyf yn aelod o unrhyw un o'r pwyllgorau sydd wedi craffu ar y Bil hwn, felly rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil—Bil y credaf sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau pellach o ran amodau tai yng Nghymru, a bydd yn gwella ein hymdrechion i fynd i'r afael â chamfanteisio, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. A dyna, mewn gwirionedd, yw'r hyn yr oeddwn eisiau canolbwyntio fy sylwadau arno ac, wrth wneud hynny, a gaf i gefnogi yn gyfan gwbl y sylwadau a wnaeth Julie Morgan yn ei chyfraniad? Credaf eich bod wedi taro'r hoelen ar ei phen, Julie.

Credaf fod dau feincnod ar gyfer deddfwriaeth fel hon. Y cyntaf yw: a fydd yn ein helpu i wella amodau byw y bobl hynny yr ydym yn eu cynrychioli? Ac, a yw'n ceisio mynd i'r afael â chamfanteisio? Credaf fod y Bil yn gwneud y ddau beth hyn, neu mae ganddo'r potensial i wneud y ddau beth hyn. Rwy'n croesawu hefyd yr effaith y credaf y gallai'r Bil ei chael ar iechyd a lles pobl. Rwy'n gwybod bod llawer ohonom ni, o'n gwaith etholaeth ac o'r ymchwil a wnawn, yn gweld effeithiau iechyd tai a bod iechyd oedolion sy'n rhentu'n breifat, yn eu barn nhw, yn waeth o lawer na'r rhai hynny sydd mewn deiliadaethau eraill. Felly, rwy'n siŵr y byddai lleihau'r rhwystrau ariannol i ddod o hyd i lety addas yn ei gwneud yn haws i ddarpar denantiaid gasglu'r cyllid sydd ei angen i symud i eiddo sy'n fwy addas ar gyfer eu hanghenion. Mae hynny'n gorfod bod yn beth da.

Bydd hefyd yn beth da lleihau ffioedd annisgwyl, a all achosi gofid ariannol—gofid a all arwain at bryder a straen, ac sydd weithiau'n ymestyn i fod yn broblemau iechyd meddwl mwy difrifol. Felly, credaf fod gan y Bil y potensial i gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl rhai o'r tenantiaid hynny. A hefyd, mae yna fanteision iechyd corfforol posibl o ddileu ffioedd, sy'n arwain at incwm yn cael ei gynilo ac felly yn gallu cael ei wario ar fwyd, tanwydd a'r costau eraill hanfodol sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Llywydd, byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith yr wyf eisoes wedi'i hyrwyddo o ran mynd i'r afael â phroblemau ynghylch yr arfer ffiaidd o ryw am rent. Yn wir, cyflwynais gynnig deddfwriaethol ar y pwnc hwnnw y llynedd. Felly, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am gymryd camau i ddiwygio'r cod ymarfer ar gyfer y landlordiaid a'r asiantau hynny sydd wedi'u trwyddedu o dan Rhentu Doeth Cymru, fel un cam bach tuag at fynd i'r afael â'r broblem benodol hon, ond mae llawer, llawer mwy o waith i'w wneud. A dyna pam yr wyf i'n cefnogi argymhelliad 9 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr angen i fynd i'r afael â phroblemau yr hyn a elwir yn 'troi allan yn ddi-fai', adran 21. Gellir defnyddio hon gan landlordiaid sy'n camfanteisio i gymryd mantais o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—er enghraifft, y rheini sy'n gwneud dim mwy na defnyddio eu hawliau i geisio cael atgyweiriadau yn eu safleoedd, neu sy'n gwrthod ceisiadau gan landlordiaid diegwyddor am ffafrau rhywiol. Nawr, yn amlwg dydy hynny ddim yn berthnasol i'r holl landlordiaid a'r asiantau gosod, ond credaf mai dyma'r math o newidiadau y mae'n rhaid inni barhau i wneud rhagor o gynnydd arnynt os ydym i fynd i'r afael â phroblemau camfanteisio.

Ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y Bil hwn yn rhoi sail ar gyfer gweithredu pellach i amddiffyn tenantiaid sy'n agored i niwed, yn enwedig y rheini yn y sector rhentu preifat, y gwn fod y Bil hwn wedi ei anelu atynt, ac mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o wella'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â rhyw am rent. Felly, rwy'n croesawu eich ymrwymiad, Gweinidog, i symud tuag at roi terfyn ar droi allan yn ddi-fai o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon—ac ni wnaf ailadrodd popeth y mae hyn yn ei gynnwys gan fod Julie Morgan eisoes wedi amlinellu hynny—ond rwy'n gobeithio y bydd hyn yn y pen draw yn arwain at roi terfyn ar adran 21 fel y mae ar hyn o bryd ac mae'n gam pellach tuag at sicrhau tenantiaethau i'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.

Diolch yn fawr iawn am gyfraniadau pawb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Ceisiaf ateb cynifer o'r pwyntiau a godwyd ag sy'n bosibl yn yr amser sydd gennyf, er y gwn y byddwn yn parhau â'r trafodaethau hyn yn y pwyllgor hefyd.

Trof ar unwaith at y materion a ddisgrifiwyd am ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 14 i ad-dalu taliadau gwaharddedig ar ôl hysbysiad cosb benodedig. Mae'n bwysig cydnabod yma er bod y llwybr ar gyfer cael iawndal i ddeiliaid y contract drwy'r llysoedd, a gallan nhw barhau i dynnu ar gymorth sefydliadau arbenigol annibynnol megis Shelter Cymru a Cyngor ar Bopeth wrth wneud yr hawliadau hynny. Mae awdurdodau tai lleol—

18:15

[Anghlywadwy.]—ildio ar hyn. Pam na wnewch chi ddilyn yr arferion a nodir yn y Bil yn Lloegr, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol wneud hyn?

Wel, nid oes gan gymdeithasau tai lleol y sgiliau datblygedig yn y maes hwn. Mae'r sgiliau datblygedig yn y maes hwn a'r arbenigedd y tu allan i feysydd cymdeithasau tai lleol, felly ni fyddem eisiau bod yn rhoi beichiau ychwanegol ar awdurdodau lleol, na fyddai, yn fy marn i, yn croesawu'r beichiau ychwanegol hynny. Mae'r llysoedd, fodd bynnag, yn ymdrin â hawliadau o'r math hwn yn rheolaidd, a byddent yn gallu helpu deiliad contract drwy'r broses. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn gweithio oherwydd gellir eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd gan gymdeithasau tai lleol. Po fwyaf yr ydym yn ei ychwanegu at y broses y mwyaf yr ydym ni mewn perygl y bydd cymdeithasau tai lleol yn amharod o ran gorfodi darpariaethau'r Bil. Ac, os yw cymdeithasau tai lleol yn y pen draw yn gorfod mynd ar ôl taliadau gwaharddedig sydd heb eu talu, maen nhw'n cael eu dargyfeirio, mewn gwirionedd, o'r gwaith gorfodi gwirioneddol, sef ymchwilio i droseddau a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig neu ddwyn achos cyfreithiol drwy'r llysoedd. Felly, credwn yn y sefyllfa hon mai'r llysoedd fyddai'r ffordd briodol o ymdrin â'r materion hyn.

Rwy'n ddiolchgar i—

Ni allaf ddeall pam nad yw'n bosibl ychwanegu atodiad at y gosb benodedig bod yn rhaid cynhyrchu tystiolaeth bod yr arian wedi'i ad-dalu. Nid oes angen iddo fod yn unrhyw beth mwy na chopi o'u datganiad banc sy'n dangos bod yr arian wedi'i ad-dalu.

Byddwn yn sicr yn ystyried yr awgrymiadau a wnaed, ond dydw i ddim eisiau gwneud y drefn orfodi yn fwy beichus nag sydd raid, oherwydd rydym wedi dysgu o Rhentu Doeth Cymru mai symlrwydd y drefn orfodi sydd wedi ei gwneud mor llwyddiannus, ac, wrth gwrs, fel y nododd Llyr yn ei gyfraniad, rydym mewn gwirionedd yn disgwyl lefelau uchel iawn o gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon. Ond wrth gwrs byddaf yn ystyried yr holl bwyntiau a godwyd yn y ddadl hon.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Julie Morgan a Dawn Bowden am godi mater adran 21. Er ein bod ni wedi ymroi'n llwyr i weithio gyda landlordiaid i ddatblygu sector rhentu preifat bywiog, ni all hyn fod ar draul tenantiaid, ac mae'r modd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio hysbysiadau adran 21, yn gwbl briodol, yn peri pryder i ni. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Julie Morgan am drefnu cyfarfod gyda mi, Dawn Bowden a Shelter i drafod y pryderon ynghylch adran 21, ac, o ganlyniad i hwnnw, mae swyddogion wedi bod yn trafod ffyrdd posibl ymlaen gyda'r rhanddeiliaid perthnasol yn y sector. Credaf y byddai'n ddefnyddiol bellach pe byddem yn ailymgynnull y cyfarfod hwnnw i ystyried lle'r ydym wedi cyrraedd a pha gamau i'w cymryd nesaf.

Gwnaed sawl cyfeiriad at y ddeddfwriaeth a oedd yn cael ei datblygu yn Lloegr ac yn yr Alban, a gallaf gadarnhau, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â phartneriaid mewn gweinyddiaethau eraill, gyda'r bwriad o ddysgu o'u dulliau nhw. Yn sicr, gan fod yr Alban eisoes wedi deddfu yn y maes hwn, rydym yn edrych ar yr effeithiau a welsant hwy o ran y ddeddfwriaeth, ond hefyd yn edrych ar y dystiolaeth a gafodd Lloegr, a'u dull nhw o weithredu yn y fan honno.

Un gwahaniaeth pwysig, fodd bynnag, yw bod gennym Rhentu Doeth Cymru yn gorff gorfodi yng Nghymru. Mae'n rhaid i bob landlord ac asiant gosod tai gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, ac mae'r ffaith y gallai landlord neu asiant gosod tai golli eu trwydded a'u gallu i rentu'r eiddo hynny yn rhwystr enfawr. Mae hynny'n rhwystr sydd gennym ni yng Nghymru ond nad oes ganddyn nhw yn Lloegr, a chredaf fod hynny'n rhoi cyd-destun gwahanol ar gyfer y ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ei datblygu yma.

Rwyf wedi bod yn falch o dderbyn nifer o argymhellion y pwyllgor, er enghraifft, yr argymhelliad i gynyddu'r hysbysiad cosb benodedig. Felly, rwy'n cynnig ei ddyblu. Rwy'n cydnabod y galwadau i fabwysiadu dull tebyg i'r dirwyon a godir yn Lloegr, ond, unwaith eto, mae angen inni adlewyrchu bod gennym ni system wahanol a rhwystrau gwahanol a chryfach yma yng Nghymru hefyd. Hefyd, rwyf wedi bod yn hapus i dderbyn yr argymhelliad hwnnw fod gan Rhentu Doeth Cymru bwerau gorfodi hefyd, ac i roi ystyriaeth bellach i'r dull â bandiau neu haenau, ond, yn yr un modd, ar yr un pryd, rwy'n awyddus i gynnal rhywfaint o symlrwydd. Ond cawn drafodaethau pellach am hynny hefyd.

Rwyf eisiau cydnabod y pwynt a wnaeth Llyr am bwysigrwydd y sector rhentu preifat o ran bod yn bartner pwysig i awdurdodau lleol wrth geisio cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Tai, o ran atal digartrefedd a lliniaru digartrefedd. Mae hyn yn sicr yn rhan o'r darn ehangach o waith yr wyf yn ei wneud i archwilio sut y gallwn wella'r berthynas honno a lleihau a dileu'r rhwystrau hynny i ddefnyddio'r sector rhentu preifat yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i Dawn am ei sylwadau ar y broblem rhyw am rent. Mae hwn yn sicr yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i fynd i'r afael ag ef yng Nghymru. Mae angen iddo fod yn rhywbeth yr eir i'r afael ag ef ar draws gweinyddiaethau, ond yn sicr o fewn ein pwerau ni gallwn ddiwygio'r cod ymarfer ar gyfer landlordiaid i'w gwneud yn gwbl glir bod unrhyw un sy'n hysbysebu eiddo ar osod ac yn gofyn am ryw mewn perygl o golli ei drwydded i weithredu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae hyn ar ben y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod pobl sydd wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru wedi pasio prawf person addas a phriodol, ac mae hynny'n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i sicrhau nad oes ganddyn nhw unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol fel troseddau treisgar, twyll neu droseddau rhywiol, er enghraifft. Felly, mae yna sawl darn o waith ar y gweill sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn.

Gallaf weld bod fy amser i wedi dod i ben. Ond roeddwn eisiau achub ar y cyfle hwn i groesawu Leanne Wood i'w swyddogaeth newydd a hefyd i gofnodi fy niolch i Bethan am y gwaith a wnaeth hi ar y Bil hwn hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Leanne yn y portffolio penodol hwn.

18:20

Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Eitem 9 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM6851 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol, a hoffwn achub ar y cyfle hwn, unwaith eto, i ddiolch i'r pwyllgorau am graffu ar y Bil. Byddaf yn cyflwyno memorandwm esboniadol diwygiedig ac asesiad effaith rheoleiddiol cyn cyfnod 3, fel sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog.

Diolch. David Melding. Na? Diolch.

Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, mae'r cynnig hwnnw hefyd wedi'i gytuno.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl: Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Eitem 10 yw dadl ar adolygiad blynyddol 2017-18 pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y cynnig hwnnw. Jeremy Miles.

Cynnig NDM6849 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon ar adolygiad blynyddol pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y flwyddyn 2017-2018. Lansiwyd yr adolygiad yn gynharach heddiw yma yn y Senedd gyda rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig dros dlodi enbyd a hawliau dynol ac o dan awenau Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths. 

Hoffwn ddiolch i bwyllgor Cymru a staff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gynnwys y rhai hynny sydd yma heddiw yn yr oriel gyhoeddus, nid yn unig am yr adroddiad, ond am y gwaith caled y maen nhw'n ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod hyn yn cynnwys cyfrifoldeb y comisiwn 'i daflu goleuni ar wirioneddau anghyfforddus', i ddyfynnu'r comisiynydd yng Nghymru, Dr June Milligan.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ers y ddadl ddiwethaf ar adolygiad blynyddol y Comisiwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwrw ymlaen â'n nod o wneud Cymru yn genedl fwy cyfartal. Mae arweinydd y tŷ wedi cwrdd sawl gwaith â June Milligan a Ruth Coombs, pennaeth y Comisiwn yng Nghymru, i drafod sut y gallwn ni weithio ar y cyd i fynd i'r afael â dileu'r anghydraddoldebau a welwn o hyd yng Nghymru.

Y flwyddyn hon, mae'n bwysig, ochr yn ochr â'r adolygiad blynyddol, inni gymryd sylw gofalus o adroddiad 'A yw Cymru'n decach? (2018)' y Comisiwn, sy'n rhoi tystiolaeth newydd sylweddol i ysgogi ac ategu gwaith pob lluniwr polisi ac asiantaethau cyflenwi sy'n ceisio creu Cymru fwy cyfartal. Mae'r adroddiad hwnnw yn arf gwerthfawr i'n helpu i sicrhau bod ein prosesau gwneud penderfyniadau yn gadarn a bod ein polisïau a'n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl a'u bod yn hygyrch i bawb. Byddwn hefyd yn ystyried yn ofalus holl argymhellion y comisiwn yn 'A yw Cymru'n decach?' i benderfynu pa gamau newydd neu wahanol sy'n angenrheidiol wrth ymateb iddo. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiad blynyddol ac 'A yw Cymru'n decach?' yn dangos pa mor gynhyrchiol y bu'r Comisiwn eleni. Mae hyn, wrth gwrs, yng nghyd-destun yr hyn sy'n parhau i fod yn gyfnod eithriadol o heriol ar gyfer hawliau dynol, yn y DU a thramor.

Ni cheisiaf dynnu sylw at yr holl waith arall y mae'r Comisiwn wedi'i wneud eleni; gallwch chi weld drosoch eich hunain yn yr adolygiad. Fodd bynnag, fe wnaf ymdrin â rhai o'r agweddau allweddol ar ei swyddogaeth.

Mae ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i ddod ag ansicrwydd, yn enwedig yng nghyswllt cydraddoldeb a hawliau dynol, a byddwn yn trafod y materion hynny mewn mwy o fanylder yfory. Yn y cyfnod heriol hwn, mae gwaith y comisiwn yn parhau i fod yn hanfodol, a diolchaf eto i dîm Cymru a'u cyd-aelodau o bob rhan o'r DU am y cyngor a'r dystiolaeth a ddarparwyd ganddynt i adroddiad ein cydbwyllgor ynglŷn â chydraddoldebau a Brexit. Mae degawdau o aelodaeth o'r UE wedi rhoi gwaddol o fanteision inni sy'n cwmpasu agweddau niferus iawn, iawn ar fywyd bob dydd yng Nghymru, ac rydym ni'n bwriadu diogelu'r manteision hyn yng Nghymru, a byddwn yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais i esgeuluso'r rhain neu greu amodau gwaeth wrth inni adael yr UE. 

Bydd creu Cymru fwy cyfartal, lle mae gan bawb y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial  ac yn gallu cyfrannu'n llawn at yr economi, yn galluogi Cymru i fod yn fwy ffyniannus ac arloesol. Felly mae'n hanfodol, er enghraifft, bod pob menyw yn gallu cyflawni a ffynnu, ac rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill i sicrhau cyflogaeth deg yng Nghymru, i amddiffyn hawliau gweithwyr, ac i sicrhau nad yw menywod yn wynebu gwahaniaethu yn y gweithle o ran beichiogrwydd neu famolaeth. Mae ymgyrch Gweithio Blaengar Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol nid yn unig o fudd i fenywod yn y gweithle—mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes da i gefnogi staff yn y gweithle yn gyffredinol.

Mae'r comisiwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gynnwys, drwy arddel y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Yn Erbyn Menywod, asesu'r cynnydd o ran hawliau menywod ers 2013, a gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae ein rhaglen ein hunain o waith ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn parhau drwy'r adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae Chwarae Teg yn arwain ar gyflawni cam 2 yr adolygiad, gan adeiladu ar y gwaith y gwnaethon nhw ei gwblhau yng ngham 1. Mae arweinydd y tŷ yn cadeirio'r grŵp llywio sy'n goruchwylio'r adolygiad, a chynrychiolir Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gan Ruth Coombs. Byddwn yn ystyried cyflwyniad Y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Yn Erbyn Menywod a'r dystiolaeth a'r argymhellion o 'A yw Cymru'n Decach? (2018)?'

Mae'n golygu gweithio mewn meysydd cydraddoldeb gwahanol, gan gynnwys hil, anabledd ac oedran, gyda'r nod o sicrhau na chaiff unrhyw un ei anghofio. Rydym ni'n cydnabod nad yw menywod a merched sy'n wynebu gwahaniaethu lluosog o bob math yn aml yn cael eu cynnwys yn y cynnydd. Erbyn haf 2019, bydd gennym ffordd glir, ar ffurf adroddiad cam 2, ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, a bydd y gwaith yn parhau y tu hwnt i ddiwedd ffurfiol y prosiect i sicrhau bod y pethau cywir yn cael eu gwneud i gyflawni'r nod hwn.

Eleni, rydym ni'n ddiau wedi cyflymu'r cynnydd o ran cyflawni'r amcanion yn ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae nifer y gweithwyr yn y sector cyhoeddus yr ydym ni wedi eu hyfforddi wedi cyrraedd 135,000. Am y tro cyntaf, mae byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol wedi cyhoeddi strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym ni wedi cynnal dwy ymgyrch gyfathrebu lwyddiannus iawn, ac rydym ni wedi gweithio gyda rhanddeiliaid a goroeswyr i ddylanwadu ar sut y caiff polisïau eu datblygu a'u gweithredu. Ond mae mynydd i'w ddringo o hyd, ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau ein bod yn darparu'r hyn sydd ei angen, lle mae ei angen a phan fo ei angen.

Yn ystod y flwyddyn hon, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynnal ymarfer monitro helaeth i asesu pa mor dda yw sector cyhoeddus Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r gwaith hwn yn agos at gael ei gwblhau, ac edrychwn ymlaen at drafod y canfyddiadau gyda'r Comisiwn. Rwyf hefyd wedi bod yn ystyried beth y gallwn ni ei wneud i gryfhau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Ein blaenoriaethau cychwynnol, y mae cysylltiad agos rhyngddyn nhw â'r adolygiad ynghylch cyfartaledd rhwng y rhywiau, yw mynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn cyflog a chyflogaeth. Byddwn yn mynd ati rhag blaen i gryfhau'r canllawiau a'r rheoleiddio ynghylch y dyletswyddau hyn, i wella'r trefniadau monitro a sicrhau bod gwybodaeth ar gael ynglŷn â pherfformiad y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei gyfanrwydd a bod yr wybodaeth honno yn hawdd dod o hyd iddi.

Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud yng Nghymru i hybu hawliau pobl anabl. Mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Being disabled in Britain' a'u hymchwiliad tai wedi amlygu agweddau y mae angen meddwl yn ddwys yn eu cylch, ac wedi dylanwadu ar ein fframwaith drafft newydd, ' Gweithredu ar anabledd: yr hawl i fyw'n annibynnol '. Rwy'n eich annog i ymateb i'r ymgynghoriad, sydd ar agor tan ganol mis Ionawr.

Mae adroddiad y comisiwn ar effaith gronnol diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU, rhai sydd wedi eu gweithredu a'u cynnig, ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, yn agoriad llygad syfrdanol o safbwynt mesurau cynni Llywodraeth y DU. Mae'n hollol anghywir mewn cenedl wâr i anwybyddu effeithiau'r diwygiadau hyn ar gydraddoldeb, ac mae'n hollol anghyfiawn eu bod yn cael effaith mor anghymesur ar incwm y grwpiau tlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Ac eto cyfuniad o incwm llai a chwtogi ar wasanaethau cymorth hanfodol yw'r gwirionedd llwm i ormod o bobl yn y DU. Byddwn yn parhau â'n hymdrechion i liniaru effaith y mesurau cynni ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond nid yw hi'n bosibl inni wneud popeth sydd ei angen mewn gwirionedd. '

Mae 'A Yw Cymru'n decach? (2018)' yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, sef

mynd i'r afael â phrif reswm anghydraddoldeb yng Nghymru: tlodi.

Mae arweinydd y tŷ wedi trafod hyn yn helaeth, ac, yn benodol, rwy'n gwybod ei bod hi'n diolch i gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am ei chyngor ynglŷn â sut y gallai hyn weithio yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O fewn yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i swyddogion bennu cwmpas prosiect ymchwil i fodelu a gwerthuso beth fyddai effeithiau ymarferol tebygol dewisiadau gwahanol. Mae ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau gwarchodedig yn ofynion sylfaenol ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol yma yng Nghymru. Mae'r ymgysylltiad hwn yn hanfodol er mwyn ddeall, canfod a mynd i'r afael â rhwystrau i gydraddoldeb a darparu polisïau a gwasanaethau sy'n effeithlon ac yn effeithiol.

Mae 'A yw Cymru'n decach?' yn ychwanegu at ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol a bydd yn cyfrannu'n sylweddol at waith Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd nesaf, nid lleiaf yr ymgynghoriad ar ein set nesaf o amcanion cydraddoldeb ar gyfer 2020-24, a fydd yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd sicrhau bod ein hamcanion yn gydnaws â heriau'r Comisiynydd yn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru mewn modd cydgysylltiedig, penodol. Rwy'n gobeithio y bydd modd datblygu amcanion, nid yn unig ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond rhai y gellir eu rhannu a'u cefnogi ledled sector cyhoeddus Cymru.

Mae ymgysylltu gyda'r sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill yn rhan fawr o waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gynnwys drwy ei rwydwaith cyfnewid. Hefyd eleni roedd y gynhadledd flynyddol dan ei sang, ac roedd yn canolbwyntio ar drais ar sail hunaniaeth, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd Nazir Afzal, un o'r ddau gynghorydd cenedlaethol ar y materion hyn, yn siarad yn y digwyddiad. Roedd darlith cadeirydd y comisiwn, David Isaac, ar hawliau dynol yn yr unfed ganrif ar hugain yn boblogaidd iawn hefyd, ac roedd yn edrych ar effaith bosibl Brexit yng Nghymru.

Felly, rydym ni'n diolch i'r comisiwn am ei waith, nid yn unig eleni, ond ers ei sefydlu. Rwy'n credu bod yr enghreifftiau hyn yn pwysleisio pa mor bwysig i gymdeithas sifil Cymru yw'r gwaith y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud yng Nghymru i wella bywydau a diogelu hawliau. Mae'r Comisiwn yn gwerthuso, yn gorfodi, yn dylanwadu ac, yn hanfodol, yn sbarduno newid. Rydym yn dal yn ddiolchgar am ei arweiniad ac yn gwerthfawrogi ei bresenoldeb cadarn ac unigryw yng Nghymru.

18:30

Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi:

a) argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a

b) yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Fel mae'r adolygiad yn ei nodi, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, neu dîm Cymru, yn gweithio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisi a chraffu, ac i ymgorffori cydraddoldeb a hawliau dynol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfeirio'n helaeth at adroddiad 2018 y Comisiwn 'A yw Cymru'n decach?'. Bedair blynedd ar bymtheg ar ôl datganoli, mae ei ganfyddiadau yn cynnwys: mae tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain; mai Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU—bod enillion canolrifol yr awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban; Mae oedolion yng Nghymru yn adrodd lefelau llawer uwch o iechyd meddwl gwael a lles pobl nag yn Lloegr; bod gan Gymru gyfradd hunanladdiad uwch nag yn Lloegr, gyda dynion dros bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i hunanladdiad na menywod; bod pobl anabl yn cael eu gadael ymhellach ar ôl, gyda thystiolaeth o hyn i'w weld yn y ffaith bod y gwahaniaethau rhyngddynt â phobl nad ydynt yn anabl yn cynyddu yn hytrach nag yn lleihau; o'i gymharu â Lloegr a'r Alban, bod gan Gymru'r disgwyliad oes isaf, yn arbennig ar gyfer pobl anabl, a lefelau uchel o hiliaeth a thrais yn erbyn menywod. Mae ffigurau gan Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dangos bod un o bob pedwar person sydd bellach yn troi atyn nhw oherwydd trais yn y cartref yn ddynion.

Ochr yn ochr â hyn, canfu'r adroddiad a gyhoeddodd Sefydliad Bevan fis diwethaf ynglŷn â chyfraddau tlodi yng Nghymru bod y gyfradd tlodi incwm gymharol yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, bod cyfran uwch o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi yng Nghymru nag yn unrhyw genedl arall yn y DU, a bod cyfradd dlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.

Amlygodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod gwahaniaeth mawr iawn rhwng cyrhaeddiad dysgwyr anabl, gan gynnwys disgyblion byddar, a'u cyfoedion. Fel y dywed Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru, mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn. Mae'r Comisiwn hefyd yn crybwyll cyfraddau gwahardd uchel ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel y mae'n ei ddweud, gall y canlyniadau hyn fod yn ddifrifol iawn. Fodd bynnag, er bod  dyfarniad llys bellach wedi ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i ysgolion sicrhau eu bod nhw wedi gwneud addasiadau priodol ar gyfer disgyblion awtistig cyn y gellir eu gwahardd, cysylltodd rhiant arall â mi eto'r wythnos diwethaf yn dweud bod ei mab awtistig wedi cael ei wahardd.

Yn ddamniol iawn, canfu'r comisiwn mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael i archwilio sut mae polisïau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar grwpiau penodol, gan mai ychydig iawn o bolisïau sydd wedi cael eu gwerthuso'n gadarn yn ystod y cyfnod dan adolygiad. Mae'n dweud

y dylai bod pwyslais clir ar wella bywyd yng Nghymru ar gyfer pobl anabl, gyda Llywodraeth Cymru yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn llawn i ddeddfwriaeth Cymru.

Fel y dywed Anabledd Cymru, byddai hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli i lunio a dylanwadu ar bolisïau.

Mae cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhan 2 yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau lleol roi:

'trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau'

ac

'y bydd llesiant yn cynnwys agweddau allweddol ar fyw’n annibynnol, fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.'

Ond clywaf bron bob dydd gan bobl ag anableddau a gofalwyr sy'n gorfod ymladd am y cymorth sydd ei angen i'w galluogi i fyw bywyd annibynnol, oherwydd nad yw pobl mewn grym eisiau ei rannu, a labelir nhw fel y broblem.

Dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, bod

Deddf Cymru 2017 wedi rhoi'r cyfle i Lywodraeth Cymru weithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol, a fyddai'n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r prif reswm dros anghydraddoldeb yng Nghymru: tlodi.

Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan gyfeirio at argymhelliad y cydbwyllgor i Lywodraeth Cymru amlinellu ei safbwynt ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Yn ei ymateb ym mis Gorffennaf i hynny, dywedodd y Prif Weinidog

y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU,

a

gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y materion hyn.

Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Cwnsler Cyffredinol ychwanegu at ei sylwadau ynghylch hwn ychydig funudau yn ôl yng nghyd-destun y datganiad hwnnw gan y Prif Weinidog ar weithio gyda Llywodraeth y DU yn ogystal â'r Comisiwn.

Mae ein gwelliant hefyd yn nodi argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch y ddyletswydd gydraddoldeb ar y sector cyhoeddus, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut y gellid diwygio'r ddyletswydd fel bod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar weithredu i fynd i'r afael â'r heriau allweddol yn yr adroddiad hwn. Rwy'n cynrychioli etholwyr yn rheolaidd ar faterion yn amrywio o fyddardod i awtistiaeth, cymorth mynediad i bobl anabl, ac rwy'n gyson yn gorfod atgoffa cyrff cyhoeddus o'u dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus. Yn rhy aml, mae eu hymateb yn dangos dealltwriaeth echrydus o wael o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.

Fel y dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Yn 2022 rydym ni eisiau gweld cynnydd sylweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru sy'n arwain at leihad mewn anghydraddoldebau wedi hen ymwreiddio a pharhaus.  

Fel y dywedant,

Rydym ni eisiau i bawb fyw mewn Cymru decach. 

18:35

Galwaf yn awr ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ddirwyn grant byw'n annibynnol Cymru i ben ac yn credu na all llywodraeth leol ddarparu lefel gyfatebol o gymorth ariannol oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i bobl sy'n goroesi ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig yn parhau i fod yn annigonol.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 5.

Diolch, Dirprwy Lywydd, rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Ond, cyn imi ymdrin â'r gwelliannau, fe hoffwn i sôn yn gryno am y materion sy'n ymwneud â thlodi a amlinellir yn yr adroddiad hwn, 'A yw Cymru'n decach?' Mae'r adroddiad yn dangos bod gan Gymru gyfradd tlodi gymharol uwch na Lloegr a'r Alban a bod y gyfradd tlodi gymharol ar gyfer pobl 16 i 24 mlwydd oed wedi cynyddu'n syfrdanol gan 17.7 o bwyntiau canran. Nawr, mae'n ymddangos, oherwydd ei fod yn dweud ar dudalen 57 o'r adroddiad hwn:

'Ym Mhrydain yn gyffredinol, nid yw cyfraddau tlodi wedi newid yn sylweddol ers 2010/11.'

Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod lefelau tlodi yn waeth yma nag mewn mannau eraill. Ac os yw hynny'n gywir, fel Llywodraeth, mae angen ichi fynd at wraidd y rheswm dros hynny. Os yw'r tlodi hwn yn dyfnhau yng Nghymru'n unig, yna ni ellir esbonio'r tlodi hwn drwy gynni, oherwydd fel arall byddem yn gweld yr un tueddiadau mewn mannau eraill. Golyga hynny fod angen atebion penodol arnom ni yng Nghymru, ac mae hynny'n dechrau drwy gydnabod a derbyn bod gennym ni broblemau penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac mae'n golygu cael strategaeth wrth-dlodi, ac mae'n golygu cael y pethau sylfaenol yn gywir, fel diffiniadau—rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ddiffygiol yn eu cylch hyd yma.

Trof yn awr at y gwelliannau, mae pob un ohonyn nhw wedi'u hanelu at fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Mae gwelliant 2 yn wahoddiad i Aelodau meinciau cefn Llafur gefnogi polisi eu plaid eu hunain dros yr hyn y mae'r chwip yn ei ddweud, ond ni fyddaf i'n dal fy ngwynt. Mae grant byw'n annibynnol Cymru yn dod i ben, gyda'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Eisoes, ceir cryn dystiolaeth bod hyn yn arwain at lai o gefnogaeth, gan greu niwed sylweddol i'r bobl fwyaf anabl yng Nghymru. Felly, apeliaf atoch chi i gyd: os gwelwch yn dda: peidiwch â phleidleisio yn erbyn y gwelliant hwn heddiw ar sail sicrwydd adolygiad, sicrwydd nad yw'r rhain yn ddim ond digwyddiadau ynysig, neu hyd yn oed nad yw'r problemau hyn yn bodoli, neu, rywsut, bod pobl anabl yn dweud celwydd. Dylid trin y pwyntiau hynny gyda'r dirmyg y maen nhw yn eu haeddu. Mae'n hurt awgrymu bod awdurdodau lleol yn mynd i allu darparu graddau cyfatebol o gymorth, o ystyried y pwysau ariannol y gwyddom eu bod yn eu hwynebu.

Gan droi at welliant 3, ynglŷn â'r diffyg cyllid parhaus ar gyfer gwasanaethau sy'n helpu goroeswyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol, mae'r Prif Weinidog yn dweud wrth gwrs ei fod eisiau i Gymru fod y wlad fwyaf diogel ar gyfer menywod, felly disgwyliaf yn eiddgar glywed sut, yng nghyd-destun cynni a thoriadau awdurdodau lleol, y caiff y gwasanaethau hyn, sy'n gallu lleihau effaith profiadau plentyndod andwyol, y cynnydd mewn cyllid sydd ei ddirfawr angen arnynt.

Mae gwelliant 4 wedi ei gyflwyno i sicrhau bod pob un ohonom ni'n trin anghydraddoldeb dosbarth fel mater cydraddoldeb. Dim ond yn ddiweddar iawn mae rhai meysydd yn ein diwylliant gwleidyddol wedi deall bod rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia, trawsffobia a chamwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau yn effeithio'n negyddol ar fywydau'r rhan fwyaf o ddinasyddion yng Nghymru. Mae gwahaniaethu yn arwain at wneud penderfyniadau gwael. Wel, felly hefyd gwahaniaethu ar sail dosbarth cymdeithasol, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir bod tlodi yn dyfnhau ac y dylem ni resynu at hynny a bod yn barod i wneud rhywbeth yn ei gylch. Dyna pam mae'n rhaid i bethau newid. Mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd i sicrhau ein bod yn creu Cymru lle na chaiff neb ei anghofio, ac mae gan bob cyflogwr, cyhoeddus a phreifat, ddyletswydd i ddod yn gyflogwr cyflog byw—yn gyflogwr cyflog byw yng ngwir ystyr y gair—a byddai hyn yn cael yr effaith ar dlodi yr wyf wedi cyfeirio ato yn gynharach.

Gan droi at welliant 5, sy'n bwynt ehangach ynghylch pam yr ydym ni'n cael y dadleuon hyn, mae'n siom i bob un ohonom ni, rwy'n siŵr, ein bod wedi gweld twf mudiadau gwleidyddol sy'n ceisio cael gwared ar hyd yn oed y mesurau diogelu mwyaf sylfaenol a gafwyd yn y degawd diwethaf o ran diogelu hawliau dynol. O Trump i Bolsonaro a chyfeillion diweddar y Blaid Geidwadol yn Hwngari, drwy ddargyfeiriad Brexit, rydym ni wedi gweld ymosodiadau ar union gysyniad hawliau dynol gan y cyfoethocaf a'r mwyaf pwerus. O leiaf yn y 1930au, gallai Almaenwyr cyffredin ddefnyddio'r esgus o beidio â gallu rhagweld y dyfodol os oedden nhw'n goddef y Natsïaid yn dawel, ond does dim esgus heddiw dros gefnogi'r mudiadau gwleidyddol hyn. Prin y gallaf gredu bod yn rhaid inni ailddatgan yr achos dros hawliau dynol, ond mae'n gwbl glir bod yn rhaid inni wneud hynny, a, gobeithio, gallwn sicrhau fod gennym ni gynghrair flaengar yma i wneud hynny.

18:40

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r comisiwn, wrth gwrs, yn un o rhanddeiliaid allweddol ein pwyllgor, a thrwy gydol y cyfnod adrodd hwn bu gennym ni berthynas effeithiol ac adeiladol, sydd wedi helpu i ddylanwadu ar amrywiol agweddau o'n gwaith. Roeddwn yn falch o groesawu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r Senedd yn gynharach heddiw i nodi cyhoeddi ei adroddiad, 'A yw Cymru'n decach?' 2018. Bu hyn yn rhan bwysig o waith y comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi arwain at adroddiad pwysig a chynhwysfawr sy'n rhoi sylfaen dystiolaeth glir ar gyfer asesu p'un a ydym ni'n gwneud cynnydd o ran lleihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Rwy'n gwybod y bydd ein pwyllgor yn defnyddio'r adroddiad hwn fel offeryn pwysig yn ein gwaith craffu yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n nodi nifer o argymhellion clir, trawsbynciol, a allai wneud gwahaniaeth sylweddol pe baen nhw'n cael eu gweithredu. Mae eu natur drawsbynciol yn helpu i ddangos bod cydraddoldeb yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd yn hytrach na'i fod yn un agwedd nad oes ond yn rhaid i rai pobl ei hystyried. Yn benodol, rwy'n tynnu sylw at yr argymhelliad i Lywodraeth Cymru osod targedau cyraeddadwy a gorfodol i leihau tlodi ac i adrodd ar gynnydd yn flynyddol. Mae hyn i raddau helaeth iawn yn cyd-fynd â chanfyddiadau ein pwyllgor. Buom yn galw am un strategaeth wrth-dlodi ers peth amser bellach, ynghyd â'r angen am dargedau a dangosyddion clir ar gyfer monitro cynnydd.

Rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad y Comisiwn ac yn gweithredu hynny cyn gynted â phosibl. Mae hi'n bwysig ein bod yn gallu deall pa gynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â thlodi, o ystyried maint y problemau economaidd-gymdeithasol yma yng Nghymru. Ac mae deddfu ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn bwysig iawn hefyd, ac rwy'n croesawu'n fawr cyhoeddiad y Cwnsler Cyffredinol y bydd gwaith yn mynd rhagddo i ystyried y deddfu hwnnw. 

Dirprwy Lywydd, gan symud ymlaen at agweddau eraill ar yr adolygiad blynyddol, roedd gwaith y comisiwn ar brofiadau rhieni beichiog a newydd wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ein gwaith diweddar ar rianta a chyflogaeth, a drafodwyd gennym ni yn y Siambr y tymor hwn. Nod ymgyrch Gweithio Blaengar y comisiwn yw gwneud gweithleoedd y mannau gorau y gallan nhw fod ar gyfer menywod beichiog a rhieni newydd. Mae'n galonogol bod dros 30 o sefydliadau mwyaf blaenllaw Cymru wedi llofnodi'r addewid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Rwy'n mawr obeithio y bydd mwy o gwmnïau a sefydliadau yn llofnodi ac yn helpu i sicrhau gwelliant angenrheidiol.

Mae'r adolygiad hefyd yn amlygu'r gwaith y bu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud fel y gallwn ni ddeall yn well oblygiadau posibl Brexit. Bydd hwn yn fater y bydd dadl arno yfory yn y Siambr, ond rwy'n pwysleisio bod y comisiwn wedi chwarae rhan bwysig yn nealltwriaeth ein pwyllgor o'r hyn y gallai Brexit ei olygu ar gyfer hawliau dynol. Mae mwyafrif ein pwyllgor yn cefnogi galwad y comisiwn i sicrhau bod hawliau'n sy'n cael eu gwarchod ar hyn o bryd o dan Siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn parhau unwaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Edrychaf ymlaen at drafod y materion hynny mewn mwy o fanylder yfory.

Dirprwy Lywydd, wrth gloi, hoffwn ganmol adolygiad y Cynulliad a'r gwaith pwysig y mae'r comisiwn yn parhau i'w wneud yma yng Nghymru.

18:45

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gyflwyno dadl heddiw ac i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ei adolygiad blynyddol. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod ymdrechion i ddod â mwy o bobl anabl i'r gweithle a gwneud mwy o brentisiaethau ar gael i fenywod a lleiafrifoedd ethnig, ymhlith amcanion canmoladwy eraill a amlinellir yn yr adroddiad. Mae gennym ni nifer o welliannau heddiw—un gan y Ceidwadwyr a phedwar gan Blaid Cymru. Rydym ni ar y cyfan yn cefnogi byrdwn y gwelliannau hyn, ar wahân i welliant 5 o eiddo Plaid Cymru, sy'n ymddangos ei fod yn dweud bod y chwith poblyddol yn ceisio cael gwared ar amddiffyniadau hawliau dynol. Oherwydd geiriad eithaf amwys y gwelliant, doeddwn i ddim—[torri ar draws.] Iawn, os ydych yn dweud hynny. Oherwydd geiriad eithaf amwys y gwelliant, doeddwn i ddim yn hollol siŵr pa amddiffyniadau penodol oedd yn cael eu cyfeirio atynt heddiw. Soniwyd am Donald Trump, felly gadewch i ni gael golwg ar Donald Trump am eiliad. Byddai rhai sylwebyddion yn honni  bod yr Arlywydd Trump yn wir yn ceisio cael gwared ar—

Na wnaf, nid heddiw, diolch, Neil.

Byddai rhai sylwebyddion yn honni bod yr Arlywydd Trump yn wir yn ceisio cael gwared ar amddiffyniadau hawliau dynol yn yr Unol Daleithiau. Ond i mi nid yw'n ceisio gwneud dim amgenach nag amddiffyn ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau rhag mewnfudo anghyfreithlon. Nid wyf yn siŵr y byddwn i'n cytuno bod ceisio gweithredu polisi mewnfudo y cytunwyd arno yn gyfansoddiadol gan y Llywodraeth ffederal a'i deddfwrfeydd a gafodd eu hethol yn ddemocrataidd mewn gwirionedd yn cyfateb i gael gwared ar hawliau dynol. Wel, mewn gwirionedd, rwy'n siŵr nad yw yn cynrychioli hynny, ac rwy'n credu bod ethol Trump yn dangos nad yw cyfran sylweddol o boblogaeth yr Unol Daleithiau yn credu hynny ychwaith—

18:50

Yr hyn sydd yn ddiddorol imi yw'r mater o ryddid barn. Ymddengys fod gennym ni bellach— [torri ar draws.] Diolch, Alun. Ymddengys fod gennym ni bellach sefyllfa lle mae'n ymddangos bod y cysyniad o ryddid barn yn gwrthdaro â hawliau lleiafrifoedd. Felly, mae'r chwith gwleidyddol, yn hytrach na hybu rhyddid pobl i fynegi a thraethu eu barn, maen nhw bellach yn ceisio mygu hynny ac erlyn pobl sy'n dweud y pethau anghywir. Ceisiodd elfennau o'r chwith fy ngwahardd o'r Siambr hon flwyddyn yn ôl ac, wrth gwrs, mae ymgyrch ar droed i'm gwahardd unwaith eto. I mi nid yw gwahardd gwleidyddion etholedig am fynegi safbwyntiau nad yw'r chwith yn eu hoffi yn ymddangos yn gyson iawn â bod â diddordeb gwirioneddol mewn hawliau dynol. Mewn geiriau eraill, mae'r chwith braidd yn rhagrithiol yn hyn o beth, a dyna pam mae gennym ni'r gwelliant chwerthinllyd rhif 5 o eiddo Plaid Cymru heddiw, yr ydym ni yn ei wrthwynebu. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n croesawu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf inni o ran y sefyllfa ynglŷn â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn 2018. Rwyf eisiau canolbwyntio heddiw, ac felly eto yfory, yn y ddadl ar gydraddoldebau a Brexit, ar un o'r camau, a hwnnw yw'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru gan y comisiwn ac y mae dau bwyllgor y Cynulliad yn ei gefnogi, sef y dylai Llywodraeth Cymru weithredu'r ddyletswydd cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Yn 'A yw Cymru'n decach?', mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r ddyletswydd cydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel bod cyrff cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth briodol i'r angen i leihau anghydraddoldebau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru arnom ni y gwneir hyn mor gyflym â phosibl.

Rwyf eisiau defnyddio'r cyfle heddiw i ddychwelyd at ddwy thema allweddol y bûm yn siarad yn eu cylch dros y flwyddyn ddiwethaf. Y gyntaf yw fy ymrwymiad i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Yn gynharach eleni, sylwais y dywedodd Fforwm Economaidd y Byd y bydd yn cymryd 217 mlynedd i sicrhau cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau. Cawsom y cyfle eleni i graffu ar effaith yr hyn mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei olygu i gwmnïau gyda gweithluoedd o dros 250, gyda'r diffygion ofnadwy mewn anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau i'w gweld yn y penawdau. Ac rwy'n llwyr gefnogi maniffesto Y Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod yn hyn o beth, sy'n galw am haneru'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau erbyn 2028. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ddangosodd yn ddiweddar bod y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi gostwng i'r ganran isaf erioed, o 8.6 y cant, o'i gymharu â 9.1 y cant y llynedd, ac mae ar ei isaf ers i gofnodion ddechrau ym 1997, pan yr oedd yn 17.4 y cant. Ond fel y dywedodd Frances O'Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, wrth ymateb i'r ffigurau hyn:

ni fydd menywod sy'n gweithio yn dathlu'r gostyngiad bach iawn hwn yn y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Os yw'r cynnydd mor araf â hyn, bydd cenhedlaeth arall o fenywod yn treulio eu holl fywyd gwaith yn aros i gael eu talu'r un faint â dynion. 

Ac wrth gwrs, fe gafodd hi gefnogaeth Sam Smethers o Gymdeithas Fawcett, a ddywedodd

nad oes bron dim wedi newid i bob pwrpas o ran anghydraddoldeb cyflog, a'i fod yn gyfle a gollwyd ar gyfer ein heconomi. Dywedodd hefyd y gallai cael gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle arwain at gynnydd o £150 biliwn mewn cynnyrch domestig gros.

Mae'r ail bwynt, a'r olaf yr hoffwn ei wneud, yn ymwneud â'r angen i fenywod gael cydraddoldeb llwyr rhwng y rhywiau yn y Cynulliad, fel yr argymhellwyd yn 'Senedd Sy'n Gweithio i Gymru'. Fe wnaethom ni lwyddo i gael y cydraddoldeb hwn rhwng y rhywiau yn 2003, am gyfod rhy fyr o lawer, o ganlyniad i gamau gweithredu cadarnhaol Llafur Cymru megis gefeillio etholaethau a rhestrau byr menywod yn unig. Ond rydym ni wedi llithro yn ôl unwaith eto fel Cynulliad. Eto mae'r farn gyhoeddus wedi symud ymlaen, fel y gwelsom ni yn y pôl piniwn diweddar gan Beaufort Research yn y Western Mail, a ddangosodd yr wythnos diwethaf bod 53 y cant o'r boblogaeth naill ai'n sicr neu o bosib o blaid deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod nifer cyfartal o Aelodau Cynulliad gwrywaidd a benywaidd. Roedd y mwyafrif a ymatebodd o blaid y ddeddfwriaeth yn un a oedd i'w weld ledled Cymru, gyda'r bobl dlotaf ac ieuengaf fwyaf o blaid y cydbwysedd hwn. A dyma'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli yn fy etholaeth i, yr wyf eisiau i'w lleisiau gael eu clywed yn y Cynulliad hwn a chan Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, fe hoffwn i gael y ddeddfwriaeth hon ar waith i gael cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Cynulliad mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2021, ac rwy'n cefnogi prif swyddog gweithredol Chwarae teg, sy'n croesawu'r pôl piniwn hwn, fel finnau, sy'n dweud bod yn rhaid i wleidyddion o bob lliw weithredu. Ac fe gaiff hyn ei ategu gan Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei sylwadau yn ei adroddiad ar hybu hawliau dynol yng Nghymru. Maen nhw'n dweud:

Rydym ni wedi gwneud argymhellion i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â threfniadau etholiadol gyda'r nod o sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. 

Ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth, fel y gall swyddogaethau fel Gweinidogion, penodedigion cyhoeddus a chynghorwyr rannu swydd, ac y dylai holl awdurdodau cyhoeddus Cymru hysbysebu pob swydd fel rhai hyblyg fel egwyddor graidd. 

Felly, rwy'n un o'r gwleidyddion hynny sy'n credu bod yn rhaid inni weithredu. Byddaf yn parhau i bwyso i fabwysiadu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac i ddechrau gweithredu'n ddeddfwriaethol i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn unol â barn y cyhoedd, a cheisio creu'r hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol yn gwbl briodol y dylai fod gennym, sef Cymru decach a mwy cyfartal.

18:55

Nodir rhai bylchau data yn yr adroddiad. Rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth ateb yr alwad am 'Siarad â fi', a datblygu gwelliannau i leihau achosion o hunanladdiad, yn enwedig ymhlith dynion, oherwydd yr hyn sy'n lladd y mwyaf o ddynion o dan 45 oed yng Nghymru yw hunanladdiad mewn gwirionedd. Ceir bylchau enfawr hefyd yn y data a'r ymchwil ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl ymhlith lleiafrifoedd ethnig. Rhoddaf un enghraifft i chi. Nid oes unrhyw gyfraddau hunanladdiad ar gyfer unrhyw un o leiafrif ethnig, felly nid ydym yn gwybod a yw rhai cymunedau yn teimlo effaith mewn ffyrdd penodol. Mae'r Llywodraeth wedi cydnabod eisoes bod cyfraddau uwch o wahaniaethu ar sail iechyd yn erbyn pobl o gefndiroedd lleiafrifol, sy'n aml iawn yn cael eu hystyried yn ymosodol ac yn gwrthod cydweithredu, ac mae'r diffyg cyfieithu digonol yn y gwasanaeth iechyd yn sicr yn gwaethygu hyn. Ac mae hiliaeth oddefol, a dweud y gwir, hefyd yn broblem.

Nid yw'r holl sgyrsiau y mae angen inni eu cael, wedi'u cynnwys yn y ddogfen mewn gwirionedd—byddaf yn siarad am hunanladdiad eto, er enghraifft. Mae ymchwil ar gael sy'n dangos bod menywod o dde Asia ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad na menywod gwyn, yn enwedig yn y grŵp oedran 18-24. Rwy'n credu ei bod yn dda bod cymorth arbenigol wedi'i nodi yn yr adroddiad ar gyfer menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl a menywod sydd ag anghenion cymhleth, o ran cymorth cam-drin domestig. Ond mae diffyg gwasanaethau sy'n ymateb yn ôl rhyw ar gyfer dynion sy'n dioddef cam-drin domestig. A dynion yw'r grŵp lleiafrifol mwyaf o ddioddefwyr o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac eto nhw sy'n cael y lefel isaf o gymorth.

Rwyf am sôn am ddiffyg cydraddoldeb ym maes tai, er nad yw wedi'i nodi yn yr adroddiad mewn gwirionedd. Oherwydd os ydych yn rhiant dibreswyl—ac, yn wir, mae'r term ychydig yn gamarweiniol—mae'n ymwneud ag os oes gennych chi lai o amser i ofalu am eich plant, yna ni chaiff hynny ei ystyried o ran dyrannu tai, gan gymdeithasau tai na chynghorau. Felly, efallai eich bod yn gofalu am eich plant bob penwythnos, neu ar ddau ddiwrnod yr wythnos, ond os ydych chi ar y rhestr dai, ni chaiff eich plant eu hystyried. Felly, er enghraifft, gallai fod gennych bump o blant, a chewch fflat un ystafell wely. Yn y gorffennol, rwy'n credu bod hyn wedi'i ystyried yn fater yn ymwneud â dynion, ond yr hyn rwyf i'n ei weld trwy fy ngwaith—rwy'n tueddu i ddenu llawer o achosion fel hyn—yw ei fod yn dod yn llawer mwy niwtral o ran rhyw. Roedd menyw yn fy swyddfa i yr wythnos diwethaf yn sôn am yr union broblem hon, ac o ganlyniad mae'n bosibl iawn y bydd hi'n colli cysylltiad â'i phlant. Mae'n anghydraddoldeb gwirioneddol ac nid ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd.

Hoffwn i ymdrin ag un gwelliant—a doeddwn i ddim yn gallu cytuno â Gareth. Mae gwelliant Plaid Cymru yn dweud ei bod yn gresynu at y cynnydd ar lefel ryngwladol yn nifer y mudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dileu amddiffyniadau hawliau dynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ni welaf ddim o'i le ar hynny—ni sonnir am unrhyw grŵp penodol, ni chaiff neb eu henwi, dim ond cydnabyddiaeth ydyw o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn y byd. Ac rwy'n llwyr gefnogi hynny. Rwy'n ei chael hi'n rhyfedd y byddai unrhyw un yn dymuno pleidleisio yn erbyn cynllun i gadw hawliau dynol—rhyfedd iawn. Diolch.

Hoffwn ddiolch i bwyllgor Cymru, dan arweiniad June Milligan, a staff y comisiwn, am eu gwaith ar y materion pwysig iawn hyn. Roeddwn i am ddechrau trwy dynnu sylw at yr anghydraddoldeb a'r gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc Sipsiwn/Roma/Teithwyr yn arbennig. Mae peth o hyn wedi'i amlygu yn yr adroddiad hwn. Pythefnos yn ôl es i i ddegfed fforwm cenedlaethol Travelling Ahead yn Neuadd Baskerville yn y Gelli, lle'r oedd 50 o bobl ifanc o'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr/Roma, a llawer o'r sefydliadau sy'n gweithio gyda'r cymunedau hynny, a staff Comisiwn y Cynulliad. Roedd hi'n ddiwrnod hynod o ysbrydoledig—roedd y bobl ifanc yn llawn brwdfrydedd ac mor falch o gael y cyfle i fynegi eu barn ar eu lle mewn cymdeithas. Cymerais i ran mewn grŵp a oedd yn trafod y diffyg ymwybyddiaeth o ddiwylliant Sipsiwn/Teithwyr, yn arbennig ymhlith athrawon a disgyblion eraill yn yr ysgolion. Ac un o'r dymuniadau eithaf syml a oedd gan y plant hynny oedd cael gwasanaeth arbennig wedi'i neilltuo i'w diwylliant nhw. Mewn gwirionedd, fe ddywedodd llawer o'r plant na fydden nhw byth yn dweud eu bod yn Sipsiwn—roedden nhw'n cuddio'u tarddiad—oherwydd byddai agweddau pobl tuag atyn nhw yn newid ar unwaith o wybod eu bod yn Sipsi.

Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn y trafodaethau oedd pwysigrwydd aruthrol y gwasanaeth addysg i Deithwyr, a dywedodd llawer o'r plant na fydden nhw yn yr ysgol o gwbl heb gefnogaeth y gwasanaeth, ac, fel y nodir yn yr adroddiad, dim ond un ym mhob pump o blant Sipsiwn/Roma/Teithwyr sy'n gadael yr ysgol â phum TGAU gradd A-C, sy'n feirniadaeth lem, mewn gwirionedd, o'r gwasanaeth addysg yr ydym yn ei ddarparu ar eu cyfer. Gwn y bu llawer o bryder ynghylch sut y mae diffyg neilltuo arian ar gyfer y grant gwella addysg wedi effeithio ar y gwasanaeth addysg i Deithwyr. Nid wyf yn gwybod pa un a fydd modd i Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb, ddweud beth fu'r effaith ar y gwasanaeth hwnnw neu a fyddai angen iddo gyfeirio at arweinydd y tŷ pan ddaw hi yn ôl. Ond rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn cael tystiolaeth wirioneddol o'r effaith ar y gwasanaeth addysg i Deithwyr.

Hefyd, yn 'A Yw Cymru'n Decach?' ceir cyfeiriad at y ffaith bod teuluoedd Sipsiwn/Roma/Teithwyr, ynghyd â phobl drawsryweddol a ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn parhau i wynebu anawsterau wrth gael gafael ar wasanaethau iechyd o safon, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar hynny hefyd, oherwydd gwn ein bod wedi cael ymchwiliad arbennig i sut y dylem ddarparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned Teithwyr, a hoffwn i wybod pa waith dilynol a wnaed i hynny.

Mae'n ymddangos mai rhagfarn yn erbyn Sipsiwn yw'r rhagfarn dderbyniol olaf. Mae aelodau'r gymuned Teithwyr wedi dod ataf i sôn am y cyhoeddusrwydd yn dilyn yr angladd ar Ffordd Rover yng Nghaerdydd, a arweiniodd at dagfeydd traffig mewn rhannau o'r ddinas. Roedd y sylwadau a gafodd eu postio ar Facebook yn dilyn yr erthygl ar WalesOnline yn gwbl syfrdanol, gan ddweud pethau fel, 'Mae Auschwitz yn wag ar hyn o bryd' a sylwadau erchyll eraill. Sut mae pobl, bodau dynol, i fod i deimlo os yw sylwadau fel hyn yn cael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd, ar gyfryngau cymdeithasol? Sut maen nhw byth yn mynd i deimlo eu bod yn rhan o'r gymdeithas? Rwy'n credu bod hyn yn her enfawr i bob un ohonom, ac rwy'n credu, pan fyddwn ni i gyd yn siarad, bod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o sut y mae pobl yn teimlo, sut maen nhw'n ymateb i'n sylwadau ni ac unrhyw beth sy'n arwain at y mathau hynny o sylwadau.

Ond un o'r pethau cadarnhaol iawn sy'n digwydd ar hyn o bryd yw sefydlu'r senedd ieuenctid, ac mae'n hynod o gyffrous, yn fy marn i, bod pleidleisio yn digwydd yn awr. Ceir 480 o ymgeiswyr. Rwyf i wrth fy modd y bydd, ar y rhestr atodol, lle i berson ifanc o'r gymuned Sipsiwn/Roma/Teithwyr, ac, ar y diwrnod yr oeddwn i yn Neuadd Baskerville, roedd y bobl ifanc yn pleidleisio dros eu dewis nhw. Roedd yn ymddangos i mi mai dyma'n llwyr y trywydd iawn y dylem ni fynd arno fel cymdeithas—i wneud ymdrech i gynnwys pobl nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys yn naturiol a lle ceir rhagfarn echrydus. Roedden nhw'n gyffro i gyd. Roedd ganddyn nhw eu maniffestos. Roedd tri pherson ifanc yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac roedd yn teimlo fel petai hyn yn rhywbeth cadarnhaol iawn, ac roeddwn i'n falch iawn bod y Cynulliad yn gwneud hyn ac y byddai'r cyfle hwn yn cael ei gynnig, oherwydd mae llawer iawn i frwydro yn ei erbyn.

19:00

Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw yn awr ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl, sydd wedi dangos yn glir pam mae'n bwysig bod y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb yn parhau i fod â phresenoldeb cryf ac unigryw yng Nghymru. Dechreuodd y rhan fwyaf o'r cyfraniadau o'r safbwynt bod cymdeithas sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn ddiofyn, hyd yn oed os ydym yn mynd ati o safbwyntiau gwahanol mewn rhai achosion. Rwy'n credu y gwnaeth un cyfraniad yn arbennig ein hatgoffa ni ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau wrth gredu y gallwn ni roi'r gorau i gyflwyno achos yn ddyddiol am gymdeithas sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Gwnaed llawer o bwyntiau yn y ddadl. Byddaf yn troi atyn nhw trwy'r gwelliannau, os caf i, ac o ran y sylwadau y mae Julie Morgan newydd eu gwneud ynghylch teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, byddaf yn cyfeirio'r rheini, os caf, at arweinydd y tŷ i roi'r wybodaeth honno iddi hi.

Gan droi at y gwelliannau, rydym yn cefnogi gwelliant 1. Fel y dywedais yn fy araith agoriadol, rydym yn croesawu argymhellion y comisiwn, yn yr adroddiad blynyddol ac yn 'A Yw Cymru'n Decach?', ac rydym eisoes yn gweithio i gryfhau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru ac, fel y mae Mark Isherwood, Jane Hutt ac eraill wedi'i godi, i ystyried y dewisiadau o ran deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, a allai fod yn arf pwerus iawn ar gyfer diwygio ac ar gyfer cydraddoldeb yng Nghymru.

Rydym yn gwrthwynebu gwelliant 2. Nid oeddwn i'n cydnabod rhai o'r sylwadau a wnaed gan Leanne Wood yn y cyd-destun arbennig hwnnw. Roedd y grant byw'n annibynnol i Gymru yn fesur dros dro yn unig i sicrhau dilyniant y gefnogaeth yn ystod y broses o gytuno ar y trefniadau hirdymor ar gyfer cefnogi pobl a gaiff eu heffeithio yn sgil cau cronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU. Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyhoeddodd y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ar y pryd yn 2016 y byddai cymorth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, fel y nodwyd, gan wasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol, a darperir cymorth i'r mwyafrif helaeth o bobl anabl yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael gafael ar y gronfa byw'n annibynnol. Ers mis Ebrill eleni, felly, mae'r trosglwyddiad llawn gwerth £27 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol ar sail reolaidd i'w galluogi i gefnogi pobl a oedd yn arfer derbyn taliadau o'r gronfa byw'n annibynnol i barhau i fyw yn annibynnol.

Rydym ni hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 3. Yn yr un modd â'r gwelliant blaenorol, nid yw, yn fy marn i, yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud. Rydym yn cydnabod y caiff gwasanaethau trais rhywiol eu disgrifio'n aml fel gwasanaethau sinderela ac, ar yr un pryd, bod dioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu troi allan o lochesi oherwydd prinder lleoedd. Er nad oes gennym eto—

19:05

Rwyf i newydd gael e-bost yma yn awr, y prynhawn yma, sy'n dweud bod y system yn siomi menywod di-ri a bod rhestr aros o 12 mis ar gyfer gwasanaeth cwnsela ar gyfer trawma na allwch ei gael os aiff eich achos i'r llys, ac eto rydych chi'n honni eich bod chi'n gwneud digon. Mae'n amlwg nad ydych chi, nac ydych?

Wel, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud yn fy araith, er gwaethaf y buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth, bod mynydd eto i'w ddringo a dyna yw ein safbwynt o hyd. Rydym yn cydnabod, er bod y gwaith yr ydym yn ei wneud yn cael effaith, bod mwy y gallwn ei wneud ac y mae'n rhaid inni ei wneud, ac adlewyrchir hynny, rwy'n credu, yn fy nghyfraniad i ar ddechrau fy sylwadau agoriadol. Nid oes gennym ddarlun clir hyd yn hyn o ba un a yw'r mater ynghylch llochesi o ganlyniad i dangyllido neu oherwydd nad yw'r arian wedi'i gyfeirio at y gwasanaethau sydd â'r effaith fwyaf, ond rydym yn cydnabod yn gyfan gwbl bod angen rhoi sylw brys i'r materion hyn, ac yn wir, bydd y Prif Weinidog, yn gwneud cyhoeddiad ynghylch hyn ar 12 Tachwedd.

Rydym yn cefnogi gwelliant 4. Siaradodd Leanne Wood a John Griffiths ar themâu'r gwelliant hwn. Mae torri cylch amddifadedd a thlodi yn ymrwymiad hirdymor i Lywodraeth Cymru, ac ategir hyn gan ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae ein deddfwriaeth tlodi plant, ein cymorth ar gyfer gwaith teg, y contract economaidd newydd a'r cyflog byw go iawn yn tanlinellu ein hymrwymiad i drechu tlodi ac anghydraddoldeb. Er hynny, gwyddom fod angen inni wneud mwy i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. Ac, fel y dywedais yn fy araith agoriadol, mae swyddogion eisoes wedi eu cyfarwyddo i edrych ar y dewisiadau o ran deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, rhywbeth y mae nifer o'r Aelodau wedi'i godi yn eu cyfraniadau.

Rydym ni hefyd yn cefnogi gwelliant 5. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn glir ein hymrwymiad i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol a gwneud yn siŵr y caiff ei ymgorffori, fel ag y mae, yn neddfwriaeth sefydlol Llywodraeth Cymru ac, yn wir, ym mhob dim yr ydym yn ei wneud, ac er gwaethaf y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â thrafodaethau Brexit. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwneud darpariaeth benodol mewn cysylltiad â rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae Adran 82 yn rhoi pwerau ymyrryd i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gweithredu gan Weinidogion Cymru y mae ef neu hi yn ystyried ei fod yn anghydnaws â rhwymedigaeth o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â pharch mawr tuag at y cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig y mae'r DU wedi'u llofnodi fel parti gwladol. Rydym yn ceisio adlewyrchu naws a sylwedd pob Confensiwn ar draws ein polisïau a'n rhaglenni, fel y bo'n briodol, bob amser.

Rwyf am gau'r ddadl drwy ddiolch unwaith eto i'r Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r comisiwn yn gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng Nghymru. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r comisiwn wedi darparu rhaglen waith unigryw a pherthnasol i adlewyrchu tirwedd wleidyddol, gyfreithiol a chymdeithasol unigryw Cymru. Mae'r comisiwn yn ffrind beirniadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae yma i'n harwain ni i gyd a sicrhau newid cadarnhaol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol a pharhau â'n perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol.

19:10

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, byddwn yn gohirio'r holl bleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.

11. Cyfnod Pleidleisio

Iawn, rydym yn awr yn y cyfnod pleidleisio. Rydym yn parhau i bleidleisio yn electronig. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 2 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 2.

NDM6849 - Gwelliant 2: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Symudwn yn awr i'r bleidlais ar welliant 3. Galwaf am y bleidlais honno ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 21, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 3.

NDM6849 - Gwelliant 3: O blaid: 21, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rydym yn symud i bleidlais ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4.

NDM6849 - Gwelliant 4: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 36, 10 wedi ymatal, dau yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 5.

NDM6849 - Gwelliant 5: O blaid: 36, Yn erbyn: 2, Ymatal: 10

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Cynnig NDM6849 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018.

2. Yn nodi:

a) argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a

b) yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol.

3. Yn gresynu at y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.

4. Yn gresynu at y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 48, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.

NDM6849 - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 48, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 19:13.