Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

23/10/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar yr agenda'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Rwyf wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog y prynhawn yma. Y cwestiwn cyntaf, Hefin David.

Gweithio Hyblyg

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ac annog gweithio hyblyg yng Nghymru? OAQ52839

Mae Llywodraeth Cymru yn hybu arferion cyflogaeth teg, gan gynnwys gweithio hyblyg, drwy'r contract economaidd, y cynllun cyflogadwyedd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Rydym ni hefyd wedi sefydlu Comisiwn Gwaith Teg i'n cynghori ar beth arall y gallwn ni ei wneud.

Mae'n braf iawn clywed hynny. Mae polisi ar bob lefel yn y DU wedi ymwneud â gweithio sy'n ystyriol o'r teulu, ac mae'n dda clywed bod Llywodraeth Cymru yn ceisio symud y tu hwnt i hynny. Cymerais ran mewn dadl bythefnos yn ôl, yn seiliedig ar yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Wrth eich gwaith: Rhianta a Chyflogaeth yng Nghymru', ac un o'r pethau allweddol sydd yn yr adroddiad hwnnw, ym mhennod 3, yw y dylem ni wneud gweithleoedd yn fwy cyfartal ac yn fwy hyblyg. Pryd bynnag y bo'n bosibl, rwy'n credu y dylem ni fod yn prynu talent pobl ac nid eu hamser. Gyda hynny mewn golwg, pa gamau allweddol eraill, a pha fanylion pellach, all Llywodraeth Cymru eu rhoi o ran sut mae'n mynd i gyflawni hynny?

Un o elfennau craidd y syniad o genedl gwaith teg, wrth gwrs, yw'r arferion cyflogaeth teg a amlinellwyd gan Hefin David yn y fan yna. Ac mae'n bwyslais canolog i'r Comisiwn Gwaith Teg, a fydd yn ystyried pa un a ellir bwrw ymlaen â mesurau presennol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac i nodi pa gamau newydd neu ychwanegol y gellid eu cymryd, a chan gynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a allai fod yn briodol. Mae'n werth nodi bod gan Lywodraeth Cymru gynllun absenoldeb rhiant a rennir ar hyn o bryd, er enghraifft, ac mae'n werth dweud hynny'n uchel iawn, Llywydd, fel y bydd mwy o bobl yn manteisio arno, oherwydd ceir problem wirioneddol o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y penderfyniadau y mae pobl yn eu gwneud am eu gyrfaoedd ynglŷn ag amser plant, ac ati. Ond rydym ni'n gwneud amrywiaeth o bethau eraill i hybu arferion gwaith arloesol a modern, sy'n fwy nag amodau gweithio hyblyg, ac maen nhw'n ymwneud ag edrych i weld lle gallwn ni sefydlu arferion gwaith sy'n gysylltiedig ag allbwn nad ydyn nhw'n rhoi pobl dan anfantais, er enghraifft, gydag unrhyw anableddau, neu sydd angen trefniadau hyblyg iawn, gan mai eu talent, fel y dywedodd yr Aelod, yw'r hyn yr ydych chi'n talu amdano, ac nid o reidrwydd yr amser a gymerir i deithio i le penodol, ac ati. Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnig gwybodaeth i gyflogwyr am sut i wella cynhyrchiant trwy drefniadau gweithio hyblyg, ac mae'r contract economaidd, fel y nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd, yn cyflwyno cyfle eglur i gymryd rhan mewn trafodaeth gyda chyflogwyr ar amrywiaeth o faterion sydd â'r potensial i gynorthwyo unigolion yn ogystal â busnesau i gael gafael ar yr amrywiaeth eang o sgiliau sydd ar gael ar ôl i chi ddod oddi wrth yr amgylchedd gweithio safonol iawn.

Arweinydd y tŷ, roeddwn i'n siarad â rhai o'm hetholwyr o'r Drenewydd yn ystod amser cinio heddiw, sy'n berchen ar fusnes bach yn y Drenewydd, ac yn sôn am allu cynnig oriau gweithio hyblyg. A allwch chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach yn arbennig i weld manteision gweithio hyblyg, ac a ydych chi'n deall y gallai fod rhwystrau i weithio hyblyg? Rwy'n gweld y manteision, ond ceir rhwystrau, i fusnesau bach yn enwedig, os ydyn nhw'n cyflogi dim ond tri o bobl yn hytrach na 300. A sut y gallwch chi helpu busnesau bach yn arbennig yn hynny o beth?

Mae Busnes Cymru mewn sefyllfa dda iawn i helpu busnesau bach a chanolig eu maint gyda'r mathau hynny o sgyrsiau, i weld sut y gallan nhw sicrhau bod eu harferion busnes y gorau y gallan nhw fod, i ddeall a oes ganddyn nhw, er enghraifft, weithdrefnau ac arferion adnoddau dynol modern ar waith, ac mewn rhai achosion mae cymorth ariannol uniongyrchol ar gael i fusnesau, yn dibynnu ar beth yw eu cynlluniau twf, ac yn y blaen. Felly, mae'n werth cynghori unrhyw BBaCh o'r fath y dylai gysylltu â Busnes Cymru i ddarganfod pa ystod o becynnau sydd ar gael, gan gynnwys ailfeddwl, efallai, yr union ffordd y mae'r busnes wedi ei strwythuro a pha gyfleoedd allai ddeillio o batrwm gweithio rhyw fymryn yn wahanol.

A hoffwn rannu stori gyda'r Aelod, a dyma hi: cefais ffatri—nid yn fy etholaeth fy hun, ond rhywle yn Abertawe—yn dod ataf a dweud bod prinder sgiliau, pan oeddwn i'n Weinidog sgiliau. Mewn gwirionedd, daeth i'r amlwg bod ganddyn nhw batrwm gweithio a oedd yn cynnwys shifft a oedd yn dechrau cyn i'r gwasanaeth bws lleol gyrraedd. A gall rhywbeth bach iawn fel hynny wneud gwahaniaeth enfawr i'r amrywiaeth o sgiliau a doniau sydd ar gael i bobl. Felly, o gael y math hwnnw o feddwl agored—. Mae Busnes Cymru mewn sefyllfa dda i roi'r math hwnnw o gyngor i fusnesau.

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yng Ngorllewin Cymru

2. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ52834

Mae Gweinidogion Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd yn y gorllewin ynghylch darparu ein hagenda integreiddio uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, fel y nodir yn 'Cymru Iachach', gan gynnwys sut y gall hyn gael ei gynorthwyo gan ein cronfa trawsnewid o £100 miliwn.

Diolch, arweinydd y tŷ. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod hon yn agenda yr ydym ni wedi bod yn ei thrafod yma yng Nghymru ers 18 mlynedd, fel y gwn i'n siŵr a phendant, ac ymhell cyn datganoli mae'n debyg. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall bod cymunedau yn dechrau colli amynedd â chyflymder y newid. Efallai y byddwch chi'n gwybod bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud cynnig, ar 13 Mehefin eleni, yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi sylw brys i'r diffyg integreiddio rhwng eu polisïau gofal cymdeithasol, eu gweithgareddau gofal cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Ceir pryder gwirioneddol, rwy'n siŵr y gwnewch chi gydnabod, yn y gorllewin am allu'r bwrdd iechyd hwnnw i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon.

Mae gennym ni'r cyhoeddiad o £180 miliwn arall heddiw i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Wrth gwrs, rydym ni'n mynd i groesawu hynny. Rwy'n ansicr o ran ai arian newydd yw hwn, ond o'i ystyried yn erbyn cyfanswm y gyllideb iechyd o £8 biliwn, mae'n edrych braidd fel pe byddem ni efallai'n rhoi darn bach o blastr ar waedlif. Pa sicrwydd, arweinydd y tŷ, allwch chi ei roi y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y maes hwn o waith ac y gall cymunedau yn y gorllewin weld newid yn digwydd yn gyflymach tuag at y gwasanaeth di-dor hwnnw, yr ydym ni i gyd wedi bod yn siarad amdano fel y ffordd iawn i fwrw ymlaen ers blynyddoedd lawer erbyn hyn?

13:35

Ydy, mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y manteision o gydweithio yn y ffordd honno. Mae 'Cymru Iachach' yn nodi'r byrddau partneriaeth rhanbarthol fel ysgogwyr allweddol o newid yn hyn o beth, ac, yn amlwg, mae Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu i'r byrddau ddod ag iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid eraill ynghyd i ddarparu gwasanaethau gofal effeithiol, integredig a chydweithredol. Gwn fod y gorllewin wrthi'n llunio'r cynnig terfynol, a, fis diwethaf, roedd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn bresennol yng nghyfarfod bwrdd rhanbarthol gorllewin Cymru i glywed yn bersonol am y cynnydd y mae partneriaid yng Ngheredigion, yn Sir Benfro, yn Sir Gaerfyrddin ac yn Hywel Dda wedi ei wneud i gryfhau eu holl drefniadau integredig. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni wedi dyrannu arian ychwanegol eleni i gryfhau ein penderfyniad i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn elfen allweddol yn ein darpariaeth o'r gwasanaeth iechyd.

Wrth gwrs, un elfen hollbwysig, y cyfeiriasoch ati'n gryno iawn yn eich ateb i hyn, arweinydd y tŷ, yw swyddogaeth y trydydd sector. Mae'n eithriadol o bwysig o ran sicrhau bod llawer o'n gwasanaethau yn cael eu darparu ar lawr gwlad. Fodd bynnag, mae'r trydydd sector yn ei chael hi'n fwyfwy anodd i ymgysylltu ag iechyd a gofal cymdeithasol—yn anoddach i ymgysylltu â chynghorau, yn anoddach i ymgysylltu â byrddau iechyd. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod llawer o'r sefydliadau trydydd sector yn dechrau rhoi llawer mwy o bwyslais ar bolisi yn hytrach na gwneud y gwaith. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod gennym ni ymgysylltiad priodol â'r trydydd sector, nad ydyn nhw'n cael eu gadael allan o'r drafodaeth integreiddio hon, ac i ni ymgysylltu â'r rhai sydd wir yn gallu darparu gwasanaeth ac nid dim ond y rhai sy'n treulio llawer o'u hamser a'u hadnoddau ar ein lobïo ni gyda syniadau polisi?

Ie, wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod bod y trydydd sector yn rhan bwysig iawn o'r cynllun integredig hwn. Mae gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn flaenoriaeth genedlaethol allweddol i'r Llywodraeth hon ac rydym ni'n cydnabod yn llwyr bod angen hwyluso partneriaid trydydd sector er mwyn cael y trafodaethau hynny. Mae hynny'n rhan bwysig iawn o sgwrs yr wyf i newydd ei hamlinellu, er enghraifft, y mae'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn ei chael gydag amrywiaeth o bartneriaid ledled Cymru, gyda'r bwriad o hwyluso'r union beth y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n cytuno â mi a Gweinidog yr Amgylchedd bod y setliad llywodraeth leol presennol yn sylfaenol annheg?

Na, nid wyf i'n cytuno â hynny o gwbl. Ceir materion cymhleth yn ymwneud â sut y mae'r setliad yn gweithio, a chytunwyd yn llwyr ar y cwbl drwy'r fformiwla ariannu gyda phartneriaid awdurdod lleol ac, fel y dywedodd fy nghyd-Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn ddiweddar iawn, fe'i gwnaed mewn ymgynghoriad â'r grwpiau sector a CLlLC. Roedd yn fformiwla y cytunwyd arni ac fe'i dosbarthwyd ar y sail honno, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl.

Arweinydd y tŷ, mae Gweinidog yr amgylchedd yn llygad ei le: mae'r setliad llywodraeth leol hwn yn annheg ac yn anghytbwys. Mae'r setliad cyllid llywodraeth leol yn dangos y bydd pob un o'r chwe awdurdod yn y gogledd yn cael gostyngiad i'w cyllid o flwyddyn i flwyddyn, ac, mewn cymhariaeth, bydd saith—saith—o'r 12 awdurdod yn y de yn cael cynnydd, neu barhad, i lefel y cyllid o'r llynedd. Felly, yn gyntaf, mae'n amlwg bod gennym ni raniad rhwng y gogledd a'r de, ac i ychwanegu at hynny—i ychwanegu at hynny—ddoe, roedd y Prif Weinidog—[Torri ar draws.]

Mae angen i ni glywed arweinydd yr wrthblaid. Gadewch iddo ofyn ei gwestiwn, os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.] Gadwch iddo ofyn ei gwestiwn.

Diolch, Lywydd.

I ychwanegu at hynny, ddoe, roedd y Prif Weinidog yn bwriadu cynnal cyfarfod cyfyngedig Llafur yn unig gydag arweinwyr cyngor a oedd hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried setliad y gyllideb, er gwaethaf y ffaith mai'r rhain oedd yr union gynghorau a oedd yn cael ochr orau'r fargen oherwydd ffrindgarwch Llywodraeth Cymru. [Torri ar draws.] Roedd chwech o'r saith awdurdod lleol a gynhaliodd neu a gynyddodd eu cyllid yn y setliad cyllid hwn yn gynghorau dan arweiniad Llafur. Ni allech chi wneud y pethau hyn i fyny, arweinydd y tŷ. Onid ydych chi'n cytuno â'ch cyd-Aelodau Llafur bod y setliad yn sylfaenol wallus a bod angen adolygu'r fformiwla ariannu, oherwydd cynghorau ac awdurdodau gwledig y gogledd fydd yn ysgwyddo baich y toriadau hyn gan y blaid Lafur?

13:40

Wel, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud na allwch chi wneud y pethau hyn i fyny ac yna'n mynd ati i wneud hynny. Ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ateb rhan gyntaf ei gwestiwn: cytunir ar y fformiwla ariannu bob blwyddyn gyda llywodraeth leol. Eisteddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn yr is-grŵp cyllid, a chytunodd arweinwyr yr awdurdodau lleol ar y gyfres ddiweddaraf o newidiadau i'r fformiwla. Ar y cyfan, mae'r newidiadau hynny yn rhai a oedd yn ffafrio rhannau mwy gwledig o Gymru gan eu bod yn ychwanegu cynyddran ychwanegol at y gydnabyddiaeth o deneurwydd poblogaeth yn y ffordd y mae'r fformiwla'n gweithio. Nid Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r fformiwla; caiff ei phennu ar sail cyngor arbenigol ac fe'i cytunir gan lywodraeth leol. Ceir nifer o ffactorau sy'n effeithio ar ba un a yw awdurdodau lleol wedi cael gostyngiad i gyllid y flwyddyn hon—er enghraifft, os oes llai o bobl yn ddi-waith yn yr awdurdod lleol na'r adeg hon y llynedd, neu lai o ddisgyblion ysgol uwchradd mewn awdurdod na'r adeg hon y llynedd, neu lai o blant yn hawlio prydau ysgol am ddim yn ei ysgolion cynradd. Nid oes dim byd o gwbl sy'n llwythol nac yn dangos ffrindgarwch am unrhyw un o'r ffactorau hyn. Mae'r Aelod yn ddrygionus iawn yn dweud hynny. Maen nhw i gyd yn fesurau empirig, maen nhw'n bwydo eu hunain i mewn i'r fformiwla a, bob blwyddyn, mae rhai awdurdodau lleol yn elwa a rhai awdurdodau lleol yn canfod eu bod yn elwa llai. Ond mae'r Aelod hefyd yn annidwyll trwy fod yn rhan o'r Blaid Geidwadol sydd newydd gyflwyno'r cyfnod hiraf erioed o gyni cyllidol gan unrhyw Lywodraeth ym Mhrydain erioed—erioed—ac mae'n rhaid iddo gymryd rhywfaint o'r bai am o leiaf y diffyg cyllid oedd ar gael i Gymru yn ystod cyfnod y setliad.

Nid wyf i'n mynd i gymryd unrhyw wersi ar wariant gan arweinydd y tŷ a'i phlaid, y bu bron iddi wneud y wlad hon yn fethdalwr yn 2010. Nawr, arweinydd y tŷ—[Torri ar draws.]

Ni allaf glywed yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud nawr. A allwch chi barhau, os gwelwch yn dda, ac a all aelodau'r Cabinet yn arbennig ymatal rhag gwneud sylwadau drwy gydol y drafodaeth?

Arweinydd y tŷ, nid Gweinidog yr amgylchedd yw'r unig un i gyfrannu at y saethu coch ar goch. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn ddiweddar, a dyfynnaf,

mae'n rhaid i ni roi ein dwylo i fyny a chyfaddef mai un maes lle'r ydym ni wedi methu â chael yr effaith y dylem ni fod wedi ei chael yw'r economi.

Wel, ni allwn i fod wedi ei ddweud yn well fy hun, Gweinidog. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ein heconomi, a llywodraeth leol yw un o'i chonglfeini allweddol. Mae'n cyflogi dros 10 y cant o weithlu Cymru, yn gwario £3.5 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau, ac yn hybu twf economaidd yn holl ranbarthau'r wlad, ac eto mae setliadau olynol Llafur Cymru yn morthwylio'n gyson y rhannau o Gymru sy'n aml yn dibynnu fwyaf ar yr economi awdurdod lleol. Mae esgeulustod cyson Llywodraeth Cymru o rannau helaeth o Gymru wedi arwain yn y pen draw at anghydraddoldeb rhanbarthol ac economi Cymru marwaidd. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi wrando ar eich cyd-Aelodau nawr a galw ar y Prif Weinidog i ailystyried y setliad ariannu llywodraeth leol hwn fel bod gennym ni un sy'n gallu sbarduno ffyniant ein cenedl yn hytrach nag un a fydd yn gwneud dim ond ymwreiddio anghydraddoldeb rhanbarthol a ffafriaeth i gynghorau yma yng Nghymru?

Wel, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn gwbl anghywir o ran ei safbwynt a'i ddadl. Mae'n methu â chymryd unrhyw gyfrifoldeb am fod wedi pleidleisio Llywodraeth Geidwadol â pholisïau cyni cyllidol ar gyfer y genedl. Rwy'n tybio ei fod wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad diwethaf ac felly wedi cyfrannu at hynny. Hyd yn oed os yw bellach—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n gwybod beth yr ydych chi'n ei ddweud o fod ar eich heistedd. Os ydych chi eisiau ymyrryd, dywedwch hynny. Ond byddwn i'n dweud hyn: rydych chi wedi cyflawni'r gwaethaf o bell ffordd ar feinciau'r Ceidwadwyr ar ran Cymru nag y mae eich cyd-Geidwadwyr wedi ei wneud dros eu rhanbarthau nhw. Felly nid yw sôn am anghydraddoldeb cyllid rhanbarthol o'r safbwynt hwnnw yn sefyllfa ddeniadol i fod ynddi.

Gallaf ddweud hefyd fy mod i'n falch iawn o weld ei fod yn dilyn y llwyfannau etholiad a'r dadleuon o fewn y Blaid Lafur mor agos; efallai y gall ddysgu llawer oddi wrthynt.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, roeddwn i eisiau gofyn rhai cwestiynau i chi heddiw yn ymwneud â—[Torri ar draws.] Roeddwn i eisiau gofyn rhai cwestiynau i chi heddiw yn ymwneud â phrosiect HS2. Wrth gwrs, nid yw'n gynllun datganoledig, fel y gwyddom, ond mae'n cael effaith ddofn ar Gymru o ran gwariant a chyllidebau. Rydym ni'n gwybod bod swm canlyniadol Barnett i fod i'w gymhwyso lle mae gennym ni brosiectau cyfalaf mawr yr ymgymerir â nhw gan Lywodraeth San Steffan nad ydynt o fudd uniongyrchol i'r trethdalwr yng Nghymru. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y mater o swm canlyniadol Barnett HS2 i Gymru?

13:45

Rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau am y sefyllfa enbyd o ran Barnetteiddio'r gwariant HS2; ceir gohebiaeth helaeth i'r perwyl hwnnw. Yn amlwg dylai fod swm canlyniadol o'r fath, a, Llywydd, rwy'n ei roi ar y cofnod bod Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai fod swm canlyniadol o'r fath o ganlyniad i'r gwariant hwnnw. Hoffem i'n trenau gael eu hadeiladu yma yng Nghymru, hoffem gael yr arian i hwyluso hynny, a'r arian i hwyluso'r gwasanaethau a allai gysylltu â HS2 ar draws y gogledd, er enghraifft. Ond mae'n hollol iawn: rydym ni'n credu y dylai swm canlyniadol lifo ohono.

Iawn. Diolch am yr ateb yna, ac rwy'n falch eich bod chi'n gwerthfawrogi'r pwynt. Nawr, yn sgil hynny—. [Torri ar draws.] Nid oedd yn nawddoglyd mewn unrhyw ffordd, arweinydd y tŷ.

Nid oes angen i chi ymateb i sylwadau a wneir gan bobl ar eu heistedd, yn enwedig Joyce Watson.

Iawn. Diolch, Llywydd. Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i, arweinydd y tŷ, byddaf yn parhau â'r cwestiwn. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n sylweddoli nad oedd unrhyw awgrym o fod yn nawddoglyd.

Nawr, rwy'n falch eich bod chi'n cytuno â mi ar y pwynt hwnnw. Mae fy ymchwilwyr wedi gwneud y cyfrifiadau i ddarganfod y swm canlyniadol Barnett yn seiliedig ar reolau'r Trysorlys, ac rydym ni wedi cyfrifo ffigur o tua £4.6 biliwn, sef yr hyn y dylai Cymru fod wedi ei gael. Yn amlwg, nid yw'n ymddangos bod unrhyw arwydd o swm tebyg i hynny yn dod i Gymru, felly a gaf i ofyn am ychydig mwy o eglurder, o gofio eich ateb cyntaf? A ydych chi'n mynd yn ôl at Lywodraeth y DU nawr i gael cytundeb mwy realistig gan Drysorlys y DU ynghylch y mater hwn?

Ydym. Rydym ni mewn trafodaethau cyson â Thrysorlys y DU ynghylch y mater hwn, ac am y fasnachfraint yn gyffredinol, ac am ein gallu i adeiladu'r offer newydd yng Nghymru, ac i ysgogi'r economi trwy wneud hynny.

Mae'n debyg, arweinydd y tŷ, bod dewis arall yn hytrach na—hynny yw, mae hon yn ffordd arall o edrych ar hyn—o'r safbwynt bod eich Gweinidog yr economi, Ken Skates, er ei fod wedi nodi manteision posibl HS2 i'r gogledd a'r canolbarth, er eu bod yn gymharol fach mewn termau ariannol, mae hefyd wedi gwneud y pwynt y gallai'r prosiect HS2 gael effaith andwyol ar economi'r de. Oherwydd trwy wneud teithiau'n gyflymach o Lundain i ganolbarth Lloegr a'r gogledd, rydych chi, o safbwynt cymharol, yn gwneud de Cymru ymhellach o Lundain. Felly, gallai hynny gael effaith andwyol ar economi de Cymru. Nid yw'n eglur felly pa un a oes unrhyw fanteision net o'r prosiect HS2 i Gymru. Hoffwn nodi mai polisi UKIP yw bod y prosiect HS2 yn mynd allan o reolaeth o ran costau ac y dylid ei ddiddymu. A oes achos erbyn hyn y gallai Llywodraeth Cymru ystyried lobïo San Steffan i geisio cyflawni'r canlyniad hwnnw?

Oes. Nid yw strategaeth reilffyrdd Llywodraeth bresennol y DU yn un yr ydym ni'n cytuno â hi, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud. A chan ei fod wedi cymryd y cyfle i sôn am economi de Cymru o ran trenau, y peth gorau y gallai Llywodraeth y DU ei wneud yw'r rhoi'r swm canlyniadol ar gyfer HS2 i ni a thrydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe.

Diolch, Llywydd. Fel arweinydd y tŷ ar 16 Hydref, dywedasoch wrthym y byddai dadl ar y penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4 yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 4 Rhagfyr. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ei phenderfyniad cyn y dyddiad hwnnw tra bod y Cynulliad mewn sesiwn ac nid yn ystod y toriad yr wythnos nesaf, er enghraifft? Ac a fydd hynny trwy gyfrwng datganiad llafar i'r Cynulliad? Ai penderfyniad y Prif Weinidog yn unig fydd hwnnw, neu a fydd trafodaeth yn y Cabinet, ac a fydd felly yn destun cydgyfrifoldeb y Cabinet?

Gan ein bod ni wedi bod yn aros am benderfyniad ers o leiaf dau ddegawd, a fyddai oedi o ychydig wythnosau o bwys mawr? A fyddech chi'n cytuno, gan ei fod yn ateb ugeinfed ganrif i broblem ugeinfed ganrif ar hugain, y byddai'n ddoeth ac yn briodol ei adael i'r Prif Weinidog newydd, a fydd yn cymryd drosodd wythnos yn unig ar ôl y dyddiad arfaethedig ar gyfer y ddadl ar y penderfyniad?

Rydym ni yn y broses sy'n deillio o'r ymchwiliad cyhoeddus, felly, er budd y Cynulliad, mae swyddogion bellach wedi derbyn copi o adroddiad arolygydd yr ymchwiliad cyhoeddus, y maen nhw'n paratoi cyngor arno. Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gael y cyngor hwnnw ac ystyried yr adroddiad, bydd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y camau nesaf. Rydym ni wedi ymrwymo i'r ddadl hon, fel y dywed yr Aelod yn briodol, a phleidlais yn amser y Llywodraeth ar y prosiect hwn, ar ôl i'r holl Aelodau gael y cyfle i ystyried adroddiad yr arolygydd a'r penderfyniad ar y Gorchmynion statudol. Bydd y ddadl a'r bleidlais yn cael eu cymryd i ystyriaeth mewn penderfyniadau buddsoddi terfynol ar ba un a ddylid dyfarnu'r contractau adeiladu, ac yn dilyn yr ymchwiliad, os bydd penderfyniad yn cael ei wneud i fwrw ymlaen â gwaith adeiladu, gallai'r gwaith ddechrau y flwyddyn nesaf. Mae'r Aelod yn iawn, mae'n rhaid i ni fynd trwy broses y gyllideb i hynny ddigwydd hefyd. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi'r wybodaeth amgylcheddol, y Gorchmynion drafft a'r adroddiadau cysylltiedig ar gyfer prosiect arfaethedig yr M4.

13:50

Rwy'n sylweddoli, am resymau cywirdeb, o bosibl, bod arweinydd y tŷ yn manteisio ar ei nodiadau yn y fan yna, ond a gaf i bwyso arni, oherwydd nid wyf i'n eglur ei bod hi wedi sôn yn ei hymateb, er enghraifft, pa un ai penderfyniad y Prif Weinidog yn unig fydd hwn yn y pen draw, neu a fydd trafodaeth Cabinet ac, felly, a fydd y Cabinet wedi ei rwymo gan gydgyfrifoldeb mewn cysylltiad â hynny?

Hefyd, o ran y bleidlais, a allwch chi ein sicrhau, i ddefnyddio terminoleg Brexit, y bydd yn bleidlais ystyrlon? Hynny yw, a fydd modd diwygio'r cynnig a gyflwynir i ganiatáu ystyriaeth o ddewisiadau eraill, pa un a yw hynny'n golygu'r llwybr glas, er enghraifft, neu, yn wir, mewn gwirionedd, yn ddull cwbl wahanol sy'n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus? A fydd y Llywodraeth—? Roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn nodweddiadol o Weinidogol—ac nid wyf i'n bwriadu dangos unrhyw ddiffyg parch yn y fan yna—o ran Yes Minister. Nid oedd yn gwbl eglur i mi. Mae cymryd sylw o bleidlais yn un peth, ond a fydd hon yn bleidlais sy'n rhwymo'r Llywodraeth? Yn yr un modd, yng nghyswllt yr ail bleidlais, y bleidlais gyllidebol hefyd, os collir y bleidlais honno, mae'n debyg wedyn y bydd yn rhaid i'r Llywodraeth wrando ar lais y Cynulliad a fynegir yng nghyswllt y prosiect hwn.

Ie. I fod mor eglur ag y mae'n bosibl ei fod, rwyf i wedi dweud y bydd y ddadl a'r bleidlais yn cael eu cymryd i ystyriaeth mewn penderfyniadau buddsoddi terfynol, ond y bydd yn amser y Llywodraeth. Felly, mae'n bleidlais rhwymol yn amser y Llywodraeth ar y Llywodraeth. Felly, rydym ni wedi ei strwythuro yn y modd hwnnw. Mae aelodau ar fy meinciau cefn fy hun wedi bod yn eglur iawn eu bod nhw eisiau pleidlais o'r fath. Ac addawyd y bleidlais honno gennym—addewais i y byddem ni'n cael y bleidlais honno, fel y dywed yr Aelod yn briodol, yn y Cynulliad. Ac felly, byddwn yn gwneud hynny, ond rydym ni mewn proses statudol ac mae'n rhaid i'r bleidlais ddod ar yr adeg iawn yn y broses statudol honno, sydd wedi'i hamserlennu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 4 Rhagfyr, ar hyn o bryd.

Yn olaf, a allwch chi esbonio pam—? O ddarllen y llythrennau rwnig o ran safbwynt y Llywodraeth yn hyn i gyd—ac rwy'n derbyn, o ran y broses statudol, bod y diwydrwydd dyladwy yn cael ei gyflawni—mae'n ymddangos eich bod chi ar fin anwybyddu barn Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru sy'n dweud bod y Llywodraeth wedi gorliwio manteision economaidd y ffordd liniaru yn enfawr, ac ategwyd hynny'n fwyaf diweddar gan aelodau o'ch meinciau cefn eich hun. Mae'n cytuno â ni ynghylch buddsoddi'r £1.4 biliwn sydd yno ar hyn o bryd ar gyfer y llwybr du mewn dewisiadau eraill. Hynny yw, byddai'n llawer iawn mwy buddiol. Gallech chi ddyblu cyfanswm y buddsoddiad yn metro de Cymru a chael arian dros ben i fuddsoddi mewn ailgyflwyno'r rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, yn seiliedig ar eich astudiaeth o ddichonoldeb eich hun a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Beth yw'r diben o fod y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i greu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol os ydym ni'n anwybyddu ei chyngor ar y penderfyniad cyfalaf mwyaf y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud erioed? Onid yw hynny'n gadael Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel ymarfer cymharol wag wedyn mewn gwirionedd?

Nac ydy, dydy e ddim. Rwy'n anghytuno ag ef ynghylch hynny. Cyflwynodd y Comisiynydd dystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus, mae'r adroddiad gennym ni, mae gan swyddogion i baratoi cyngor, ac ar ôl i'r Gweinidogion perthnasol a'r Cabinet gael yr adroddiad, byddaf yn gallu ateb rhai o'i gwestiynau, ond nid wyf i wedi gweld yr adroddiad eto. Nid wyf i'n gwybod beth mae'n ei ddweud, ac rydym ni mewn proses lle bydd yr adroddiad hwnnw, a luniwyd dros gyfnod maith ac a gymerodd dystiolaeth helaeth, yn darparu ei ganlyniad i ni, ac nid wyf i'n gwybod beth yw'r canlyniad hwnnw. Nid wyf i mewn sefyllfa i ateb y cwestiynau hynny a chyn gynted ag y byddwn yn y sefyllfa honno, fel y dywedais, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y camau nesaf yng ngoleuni'r cyngor hwnnw, ond nid yw'r cyngor hwnnw gen i eto, felly nid wyf i mewn sefyllfa i ddweud dim byd mwy am hyn. Mae Adam Price yn gwneud pwynt dilys, da iawn am swyddogaeth y comisiynydd, ond cyflwynodd dystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw, sydd, heb amheuaeth, wedi ei chymryd i ystyriaeth wrth ddarparu canlyniad ei adroddiad ymchwiliad.

Hawliau Pobl ag Anableddau yng Nghanol De Cymru

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau yng Nghanol De Cymru? OAQ52836

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith newydd, 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol, ar gyfer ymgynghori ddoe, 22 Hydref. Mae'r cynllun gweithredu atodol yn nodi'r camau gweithredu a flaenoriaethwyd sydd ar waith ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â rhwystrau allweddol a nodwyd gan bobl anabl eu hunain, gan gynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a hygyrchedd.

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna. Efallai y gwyddoch, yn rhan o adfywio Aberpennar, bod canolfan gymunedol yn cael ei datblygu, ac mae pobl ag anableddau wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod hi'n hanfodol bod cyfleusterau parcio i bobl anabl yn y ganolfan. Nid oedd hynny erioed ar gael yn y ganolfan ddydd, na man gollwng pobl. Rwy'n cymeradwyo cyngor Rhondda Cynon Taf am eu hymarfer ymgynghori. Rwyf i wedi ysgrifennu at yr aelod cabinet arweiniol, y Cynghorydd Rhys Lewis, sydd wedi rhoi ateb defnyddiol iawn i mi nad oes cynlluniau terfynol wedi eu datblygu eto, ond bod ystyriaeth o fannau parcio i bobl anabl mor agos â phosibl at y ganolfan gymunedol wedi ei hamlygu fel ystyriaeth i'w blaenoriaethu. Felly, pan fyddwn yn gofyn i bobl anabl am eu safbwyntiau, dylem weithredu ar eu sail. Mae llawer o gynlluniau adfywio rhagorol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond dylai'r math hon o ystyriaeth fod yn ganolog iddynt.

13:55

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r aelod. Dylai'n sicr fod yn rhan o'r ystyriaeth, ac un o'r pethau y mae'r fframwaith yn eu nodi, ymhlith llawer o rai eraill y tynnwyd ein sylw atynt gan bobl anabl eu hunain, yw'r angen i fynediad corfforol gael ei hwyluso. Hynny yw, ceir llawer o fathau eraill o fynediad. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r aelod. Gobeithiaf y bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd hynny i ystyriaeth. Mae llais y bobl anabl yn gwbl flaenllaw, a hynny'n briodol, yn y cynllun gweithredu newydd hwn, ac mae'n amlygu problemau o'r fath fel mater o'r pwys mwyaf.

Mae arweinydd yr ymgyrch i achub grant byw Cymru yn aelod o'r Blaid Lafur, sydd wedi llwyddo i gael cynnig i gynhadledd y Blaid Lafur i gefnogi cadw'r grant hwnnw. Serch hynny, mae eich Llywodraeth yn benderfynol o fwrw ymlaen â diddymu'r grant hwn, sy'n achubiaeth i'w dderbynwyr, o blaid trosglwyddo'r gronfa yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Alban, o dan yr SNP, yn cadw ei fersiwn o'r grant byw'n annibynnol. Yng ngeiriau'r ddeiseb ddiweddar ar y mater, hoffwn i ofyn i chi: pam mae pobl sy'n derbyn grant byw'n annibynnol Cymru yn cael

eu trin fel testun arbrawf pan fo'u hanghenion gofal a chymorth uchel angen sefydlogrwydd a strwythur hirdymor?

Rwy'n anghytuno’n llwyr â safbwynt yr aelod ar hyn. Ar ôl i Lywodraeth y DU gau'r gronfa byw'n annibynnol, yn ôl yn 2015, cyflwynwyd grant byw'n annibynnol Cymru gennym ni gydag awdurdodau lleol i'w galluogi i barhau taliadau ar yr un lefel i bobl a oedd yn derbyn y taliadau yn flaenorol, fel mesur dros dro tra bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i beth ddylai'r trefniad tymor hwy fod i gynorthwyo'r bobl hynny.

Dim ond mesur tymor byr oedd hwn o'r cychwyn, ac mae'r grant wedi dod i ben ers hynny i gael ei ddisodli gan drefniadau eraill. Ar sail cyngor gan ein grŵp rhanddeiliaid, rydym ni'n cyflwyno cymorth yn y dyfodol trwy wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol dros gyfnod pontio o ddwy flynedd. Dechreuodd hyn o fis Ebrill y llynedd a diben hynny yw rhoi digon o amser i awdurdodau gytuno, gyda'r bobl sy'n cael eu heffeithio, y canlyniadau llesiant y maen nhw'n dymuno eu cael, y cymorth y mae'n ofynnol iddynt ei ddarparu yn y dyfodol, ac i ddarparu'r cymorth hwnnw. Nod ein dull yw sicrhau bod yr holl bobl anabl yng Nghymru, pa un a ydyn nhw'n derbyn taliadau o'r gronfa byw'n annibynnol ai peidio, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw'n annibynnol yn y gymuned, ac rydym ni'n cadw golwg agos ar y cynnydd o ran gweithredu'r newidiadau hyn wrth iddyn nhw ddatblygu.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r methiannau cyfathrebu rhwng meddygfeydd teulu a gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd Cymru? Mae'r methiant hwn o ran cyfathrebu wedi golygu na all y gymuned pobl fyddar gael mynediad at ofal iechyd hanfodol oherwydd problemau gweinyddol yn y GIG yng Nghymru. Mae'n broblem ddifrifol iawn.

Mae gen i ofn nad wyf i'n gwybod. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r mater y mae'r Aelod yn ei godi. Efallai y byddai'n ddigon hael i ysgrifennu ataf gyda'r manylion a byddwn yn sicrhau ymateb.

Gwella Canlyniadau Canser yr Ysgyfaint

4. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i wella canlyniadau canser yr ysgyfaint dros y 12 mis nesaf? OAQ52808

Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gweithio i wella canlyniadau canser yr ysgyfaint mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys datblygu llwybr gofal sy'n seiliedig ar werth. Bydd hyn yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, yn mynd i'r afael ag amrywiadau mewn gofal, ac yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig i bobl.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Gweinidog. Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond mae'n gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser. Fel pob math o ganser, gellir ei drin yn effeithiol neu gellir gwella cyfraddau goroesi os ceir diagnosis cynnar. Fodd bynnag, dim ond 16 y cant o gleifion yng Nghymru sy'n cael diagnosis yng nghyfnod 1. Cyflwynodd GIG Lloegr siop un stop yn ddiweddar i ganfod canser yn gynnar a chyflymu'r diagnosis. Mae'r canolfannau yn gweithredu fel pwynt cyfeirio i bobl sydd â symptomau amwys, amhenodol y mae eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn amau y gallai fod yn ganser. Mae'r canolfannau hyn wedi bod yn effeithiol o ran canfod cleifion canser yr ysgyfaint posibl cyn i symptomau ymddangos a chyn bod y canser wedi gwaethygu neu ymsefydlu yn y corff. A wnaiff y Gweinidog gytuno i ystyried cyflwyno siop un stop o'r fath yn y fan yma, fel nad oes gan Gymru y cyfraddau goroesi gwaethaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig mwyach?

Mae gennym ni nifer o bethau yr ydym ni'n canolbwyntio arnyn nhw o ran canlyniadau canser, gan gynnwys gweithredu llwybr canser yr ysgyfaint trwy lens gofal iechyd seiliedig ar werth. Mae cyfraddau goroesi am flwyddyn yn dilyn canser yr ysgyfaint wedi gwella gan 5.8 y cant, a chyfraddau goroesi am bum mlynedd 4 y cant rhwng 2005 a 2009, a rhwng 2010 a 2014. Dangosodd yr arolwg o brofiad cleifion canser bod 93 y cant o gleifion canser yr ysgyfaint wedi nodi profiad cadarnhaol o'u gofal—gwelliant sylweddol o'i gymharu â'r arolwg blaenorol.

Mae gennym ni grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol o glinigwyr arbenigol, grŵp oncoleg thorasig Cymru, sy'n gweithio o fewn y rhwydwaith canser i gydgysylltu gweithgarwch yng Nghymru. Mae'r grŵp wedi goruchwylio menter canser yr ysgyfaint genedlaethol dros y tair blynedd diwethaf a oedd yn cynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau, rhaglen i baratoi pobl ar gyfer llawdriniaeth, ac i wella mynediad at y lawdriniaeth honno. Rydym ni hefyd wedi gwella mynediad at radiotherapi abladol stereotactig trwy ariannu offer newydd yng Nghanolfan Ganser Felindre fel y gall cleifion gael gafael ar y dechneg radiotherapi ddatblygedig yng Nghymru. Hefyd, mae'r gronfa driniaeth newydd wedi arwain at fynediad cyflymach at nifer o gyffuriau newydd, gan gynnwys sawl un ar gyfer canser yr ysgyfaint. Felly, gall yr Aelod fod yn sicr ei fod yn fater yr ydym ni'n rhoi sylw gofalus iddo.

14:00

Arweinydd y tŷ, y rheswm y mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint gwaethaf yn Ewrop, yn bennaf, yw oedi cyn cael diagnosis. Mae amseroedd aros annerbyniol o hir am brofion diagnostig ac israddio atgyfeiriadau meddygon teulu fel mater o drefn yn cyfrannu at ddiagnosis hwyr o ganser yr ysgyfaint. Felly, arweinydd y tŷ, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau amseroedd aros diagnostig a sicrhau nad yw atgyfeiriadau meddygon teulu yn cael eu hisraddio?

Mae gennym ni rai pethau diddorol iawn yn digwydd yn y maes hwn, a dweud y gwir. Mae Llywodraeth Cymru, fel gweddill y DU, yn dilyn cyngor arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Nid yw UKNSC yn argymell sgrinio asymptomatig fel mater o drefn ar gyfer canser yr ysgyfaint ar hyn o bryd, ond byddwn yn adolygu'r polisi ar ôl cyhoeddi canlyniadau treial sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint ar hap NELSON. Os mai'r argymhelliad hwnnw fydd sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint, bydd pwyllgor sgrinio Cymru yn ystyried sut y gellir gweithredu hyn yn briodol yng Nghymru, gyda'r nod o gyflymu'r broses sgrinio. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn argymell mai'r ymchwiliad sylfaenol ar gyfer canser yr ysgyfaint tybiedig yw archwiliad pelydr-x brys o'r frest i bobl 40 oed a hŷn sydd â symptomau anesboniadwy diffiniedig, ac mae meddygon teulu yn ymwybodol o hyn.

Hawliau Plant

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella hawliau plant yng Nghymru? OAQ52833

Mae gennym ni gynlluniau eglur i ddiogelu ac ymestyn hawliau plant. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, a byddwn yn deddfu i roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol ac yn cefnogi Comisiwn y Cynulliad i ymestyn hawliau pleidleisio i'r bobl ifanc hyn ar gyfer y Cynulliad.

Diolchaf i arweinydd y tŷ am yr ymateb yna. A yw arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod astudiaeth a gyhoeddwyd yn y BMJ yr wythnos diwethaf yn dangos bod gan wledydd lle ceir gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol, gan gynnwys slapio a smacio, gyfraddau is o drais ieuenctid? Mae'r canfyddiadau yn dangos bod cyfraddau ymladd corfforol ymhlith pobl ifanc 42 i 69 y cant yn is nag mewn gwledydd heb unrhyw waharddiadau o'r fath ar waith. Onid yw hi'n cytuno bod hon yn dystiolaeth dda iawn i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i wahardd cosbi plant yn gorfforol?

Ydw, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith ymchwil. A dweud y gwir, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfraniad Cymru at yr astudiaeth ymddygiad iechyd ymhlith plant oedran ysgol—un o'r ffynonellau data y mae'r gwaith ymchwil yn eu defnyddio. Rydym ni wedi ein calonogi'n fawr gan y casgliad bod gwaharddiad gwlad o gosb gorfforol yn gysylltiedig â llai o drais ieuenctid. Mae'n anodd iawn ei ddweud: llai o drais ieuenctid. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ystyriwyd amrywiaeth eang o waith ymchwil ac adolygiadau gennym wrth ddatblygu'r sail dystiolaeth ar gyfer ein deddfwriaeth arfaethedig, ac mae'r ymchwil newydd yn ddiddorol ac yn berthnasol iawn i hynny. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod ein penderfyniad i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hefyd yn un egwyddorol yn seiliedig ar ymrwymiad i hawliau plant, yn ogystal ag ar yr ymchwil ar drais, er bod honno'n agwedd ychwanegol braf iawn i'w chael. Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno Bil ym mlwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol.

Arweinydd y tŷ, rwyf i wedi dadlau o'r blaen, wrth gwrs, bod angen ymestyn ein sylw dyledus ni a Llywodraeth Cymru i hawliau plant yn ein polisïau a'n deddfwriaeth i gyrff cyhoeddus, mewn gwirionedd, er mwyn i effaith yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma gael ei theimlo yn lleol. Nid wyf i'n credu bod ymgynghoriad tair tudalen ar y we, fel yr ydym ni wedi ei weld ar gau ysgol gan Gyngor Abertawe yn ddiweddar—a allai fod yn addas ar gyfer pobl ifanc 17 mlwydd oed ond nad yw ar gyfer plant 5 mlwydd oed—yn arbennig o ddefnyddiol. Ond, mewn gwirionedd, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn nes at gartref o bryd i'w gilydd hefyd. Nid oedd yr asesiad o effaith o hawliau plant ar y newidiadau  diweddaraf i'r cod ysgolion yn sôn am erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o gwbl. Felly, rwy'n gofyn: a ydych chi'n credu ei bod yn syniad da y dylai pob asesiad gynnwys datganiad o'r rhesymau pam nad yw erthygl 12 wedi ei dilyn? Hynny yw, efallai bod rhesymau da dros ben am hynny—ei bod yn anymarferol neu'n wirioneddol annefnyddiol. Ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe bydden nhw'n cynnwys datganiad ynghylch pam na wrandawyd ar leisiau plant yn benodol ar achlysur.

Diolch. Ie, mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Nid wyf yn ymwybodol ohono, felly byddwn yn croesawu sgwrs rhyngof i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac iddi archwilio'r mater hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod yr hyn y mae hi'n ei ddweud yn fater o gryn ddiddordeb.

14:05

O dan y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i ddarpariaethau penodol yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth weithredu eu swyddogaethau, ond nid ydy’r Mesur yn darparu ffordd o weithredu pan fydd hawliau o dan y confensiwn yn cael eu torri. Os bydd Cymru’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd llawer o ddulliau cyfreithiol o ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu colli. A wnaiff eich Llywodraeth chi, felly, ystyried ymgorffori hawliau plant o dan y confensiwn i mewn i gyfraith Cymru’n llawn, er mwyn sicrhau y bydd yna ffordd o weithredu ar gael pan fydd hawliau yn cael eu torri?

Ydy, mae'n bwynt diddorol iawn, ac mewn sgwrs gyda Helen Mary Jones ynghylch ymgorffori hawliau pobl anabl, mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych i weld beth allai effaith hynny fod yn y sgyrsiau hynny, gan gynnwys, os oes angen, darpariaethau gorfodi ac ati. Byddwn yn sicr yn croesawu sgwrs a oedd yn ymestyn hynny i hawliau'r plentyn.

Ni, wrth gwrs, yw'r unig wlad yn y DU hyd yma i ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar eu barn ar Brexit, a byddwn yn derbyn adroddiad yr ymgynghoriad erbyn diwedd mis Hydref. Felly, bydd yn ddiddorol iawn gweld beth mae'r bobl ifanc eu hunain yn ei ddweud am y mater o ymgorffori hawliau ar ôl Brexit hefyd.

Safleoedd Hanesyddol

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd safleoedd hanesyddol yng Nghymru? OAQ52838

Mae safleoedd hanesyddol yn cyfrannu at gymeriad cymunedau ac yn haeddu ein cefnogaeth a'n gwarchodaeth. Rydym ni'n hynod falch o'r cyhoeddiad heddiw y bydd tirwedd llechi y gogledd yn cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU am arysgrifiad fel safle treftadaeth y byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy'n cael ei chlodfori, a hynny'n briodol.

Diolch. Yn 2007-8, ddegawd yn ôl, sefydlwyd cynllun lliniaru llifogydd dyffryn Conwy am gost o dros £7 miliwn i drethdalwyr. Nawr, er gwaethaf amgylchiadau arbennig rhestriad gradd I dwbl castell a gerddi castell Gwydir— yr unig erddi rhestredig gradd I yng Nghymru—canfu Gwydir ei fod wedi ei adael allan yn llwyr o'r cynllun hwnnw ac mae'n parhau i ddioddef problemau llifogydd cynyddol a niweidiol iawn. Byddai wal lifogydd barhaol yn costio dros £350,000 erbyn hyn. Felly, mae'r perchnogion, mewn anobaith llwyr, wedi troi at recriwtio gwirfoddolwyr yn ddiweddar i osod bagiau tywod yn yr ardal, ond wedi cael eu hysbysu bellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i hyn.

Mae Keith Ivens o Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud mai mater i Lywodraeth Cymru fyddai diogelu'r castell hwn fel safle treftadaeth, gan ei fod y tu allan i gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr te, arweinydd y tŷ, dywedodd y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Nawr te. Dywedodd y Prif Weinidog ym mis Ionawr y llynedd, mewn digwyddiad Cyswllt Carwyn yn Llanrwst, bod angen i ni ddod o hyd i ateb ar gyfer Gwydir, ac na ellir caniatáu i'r llifogydd hyn barhau. A pharhau y maen nhw. Mae'n dorcalonnus i feddwl faint mae'r teulu hwn wedi ei wario ar ddod â'r castell hwn a'i erddi yn ôl—coed 700 mlwydd oed yn boddi, oherwydd diffyg gweithredu gan y Llywodraeth Cymru hon.

Nawr te, a allwch chi hysbysu felly pa gamau yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Yn amlwg, byddaf yn herio'r Prif Weinidog unwaith eto ar yr hyn y mae wedi ei wneud ers ei ddigwyddiad Cyswllt Carwyn—

Iawn. Sut ydych chi'n mynd i ddiogelu'r castell a gerddi hynod bwysig, hanesyddol, rhestredig gradd I dwbl, a sut ydych chi'n bwriadu bodloni'r enw da sydd gennych eich bod yn malio am ein treftadaeth hanesyddol ac yn ei gwerthfawrogi?

Fel mae'r Aelod yn gwybod eisoes, mae cyllid ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yng Nghymru ar gael gan raglen rheoli perygl llifogydd Llywodraeth Cymru. Fe'i cyfeirir at y cymunedau uchaf eu risg uchel yng Nghymru lle mae perygl i fywyd yn dal i fod yn flaenoriaeth. Hyd yn oed pe byddai'n bosibl dylunio cynllun llifogydd cost-fuddiol ar gyfer Gwydir, y prif fuddiolwyr o hyd fyddai seler wag a gerddi, ac er bod y nodweddion hynny o bwysigrwydd hanesyddol enfawr ac yn annwyl iawn i'r gymuned leol, nid yw'n bodloni'r meini prawf llym iawn ar gyfer cyllid.

Mae ffrwd ariannu Cadw ar gyfer atgyweiriadau i adeiladau hanesyddol yn canolbwyntio ar asedau cymunedol, ac felly ni fyddai cynllun lliniaru llifogydd ar gyfer Gwydir yn bodloni'r meini prawf. Ond mae'n werth nodi bod Cadw eisoes wedi darparu cymorth grant o dros £150,000 tuag at waith adfer ar gyfer y castell yn y gorffennol.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, bod hon yn enghraifft arall o Aelod Ceidwadol yn gofyn i ni wario llawer o arian ar rywbeth yr ydym ni i gyd yn ei werthfawrogi heb gymryd i ystyriaeth y toriadau i'n cyllideb gan ei Llywodraeth hi dros  flynyddoedd lawer.

14:10

Arweinydd y tŷ, cyfarfûm yn ddiweddar â gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â diogelu a hyrwyddo ffwrneisi chwyth hen waith haearn Gadlys. Agorwyd y gwaith ym 1827 a disgrifir y ffwrneisi fel y rhai sydd o bosibl wedi eu cadw orau yn y DU, er gwaethaf y ffaith nad ydyn nhw wedi eu cydnabod i raddau helaeth yn lleol ac ymhellach i ffwrdd. Gallai'r prosiect hwn fod yn atyniad gwirioneddol o ran hyrwyddo treftadaeth ddiwydiannol Cwm Cynon a Chymru, yn wir. Sut gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod grwpiau lleol yn cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud y syniadau hyn yn llwyddiant ac i ddiogelu hanesion ein cymunedau?

Ie, mae'r aelod yn gwneud pwynt hynod bwysig. Rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd cenedlaethol safle hen waith haearn Gadlys. Yn wir, mae ganddo'r potensial i arddangos a gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o ddatblygiad y diwydiant haearn yma yng Nghymru. Mae swyddogion Cadw yn monitro cyflwr henebion cofrestredig yn rheolaidd ac yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i berchnogion a meddianwyr safleoedd a phartïon â buddiant. Rwy'n deall bod swyddog Cadw wedi ymweld ag olion o'r ffwrneisiau chwyth yn Gadlys ym mis Mehefin 2018 ac wedi llunio cynllun rheoli ar gyfer y safle. Copïwyd hwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy'n berchen ar ran o'r safle, ac yn wir mae amrywiaeth o gyfarfodydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol gyda pherchnogion a meddianwyr eraill, a bydd cyngor priodol ar gael yn ystod y cyfarfodydd hynny. Gwn fod yr Aelod wedi chwarae rhan weithredol yn hynny.

Cydnabyddir, gyda chaniatâd y perchennog, y gall grwpiau a gwirfoddolwyr lleol wneud cyfraniadau sylweddol at ddiogelu'r asedau treftadaeth ar safle'r gwaith haearn, ac y byddan nhw'n gwneud hynny. Mae Cadw yn darparu cyllid i gynorthwyo pedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymru i gynorthwyo grwpiau lleol sy'n dymuno archwilio, deall a hyrwyddo eu treftadaeth. Mae'r cofnodion amgylchedd hanesyddol a osodwyd ar sail statudol gan y Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddiweddar yn offerynnau gwerthfawr iawn i gefnogi'r gwaith hwn, ac rwy'n eu cymeradwyo i unrhyw un nad yw wedi cael y fraint wirioneddol o edrych drwyddynt, oherwydd maen nhw'n ddarn rhagorol o waith.

Pont Rheilffordd yr A5114 yn Llangefni

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y bont rheilffordd ar draws yr A5114 yn Llangefni? OAQ52832

Gwnaf. Os ydym ni'n mynd i wella cysylltedd rhwng cymunedau a chymell pobl i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy, mae'n bwysig ein bod yn ymchwilio i sut y gallwn ni wneud gwell defnydd o reilffyrdd segur yn ogystal â chynyddu gwasanaethau ar reilffyrdd sydd eisoes yn weithredol.

Diolch yn fawr ichi am yr ymateb yna. Ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis yma, mi gafodd y bont rheilffordd yma ei thynnu lawr, a hynny ar ôl i lorri ei tharo hi a'i gwneud hi yn anniogel. Rŵan, gaps sydd yna lle'r oedd yna bont cynt, ac mae'r ffaith nad oes yna bont yna bellach yn bygwth unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol i ailagor y lein. Rydw i'n gwbl grediniol y byddai ailagor y lein yna yn fuddiol iawn i economi gogledd Ynys Môn, yn enwedig tref Amlwch. Mae yna lein yna yn barod, wrth gwrs; nid glaswellt sydd yno.

Rŵan, fe wnaf atgoffa'r Llywodraeth eich bod chi wedi enwi Llangefni fel un o'r 12 gorsaf y llynedd a oedd yn flaenoriaeth ar gyfer cael eu hailagor—heb bont, fydd yna ddim gorsaf. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i gefnogi Cyngor Sir Ynys Môn wrth iddyn nhw bwyso ar Network Rail i sicrhau bod pont newydd yn cael ei gosod a fyddai'n addas i gario trên yn y dyfodol, a hefyd i gefnogi'r cyngor i wneud gwaith ymchwil ar opsiynau rŵan ar gyfer y ffordd yna, yn cynnwys y posibilrwydd o'i lledu hi—lledu'r abutments ac ati—fel bod y digwyddiad yma yn gallu arwain at welliant yn hytrach na cholli cyfle?

Mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau da. Mae'r Aelod yn gwbl ymwybodol mai ased Network Rail oedd y bont, ac felly nid yw wedi'i datganoli i ni, ac nid yw ei gwella a'i chynnal yn rhan o'n cymhwysedd datganoledig. Ond ochr yn ochr ag ef, rwy'n croesawu bwriad Cwmni Rheilffordd Canol Môn i redeg y gwasanaethau rheilffordd treftadaeth ar hyd y llinell, ac yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu pont newydd yn Llangefni i'w caniatáu i wireddu eu dyheadau.

Yn anffodus, ni all Llywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol fel y cyfryw, ond rydym ni'n hapus iawn i swyddogion gymryd rhan mewn unrhyw a phob trafodaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Cwmni Rheilffordd Canol Môn a Network Rail i archwilio'r holl gyfleoedd eraill a restrwyd gan yr aelod o ran cyllid. Mae hefyd yn werth sôn bod yr orsaf newydd yn Llangefni wedi ei llwyddo i fynd drwy asesiad cam 2 o ran ei hailwampio. Pe byddai'n mynd yr holl ffordd i'r cam terfynol, cam 3, yna mae'n amlwg bod yr orsaf newydd yno yn gymesur â bod y rheilffordd yn bodoli, felly byddai hynny'n rhoi mwy o bwysau ar Network Rail i adsefydlu'r rheilffordd. Felly, rydym ni'n hapus iawn i gynorthwyo gydag amser ac egni swyddogion, fel yr ydych yn ei awgrymu.

Yn 2012, amcangyfrifodd Network Rail y byddai'r gost o ailgyflwyno rheilffordd Amlwch yn fwy na £25 miliwn. O ganlyniad, ym mis Rhagfyr 2014, gofynnais i'r Prif Weinidog i ystyried cefnogi ailagor y darn o Gaerwen i Langefni fel cysylltiad treftadaeth, ac, wrth gwrs, byddai'r bont hon yn hanfodol. Dywedais fod y cynsail wedi ei sefydlu yn Llangollen gyda'r cysylltiad i Gorwen, nid yn unig fel cysylltiad treftadaeth, ond hefyd fel cysylltiad economaidd a chymdeithasol i bobl ar ddau ben y rheilffordd. Ac atebodd y Prif Weinidog ei fod yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymchwilio iddo a gweithio arno. Felly, beth sydd wedi digwydd ers mis Rhagfyr 2014 a datganiad y Prif Weinidog mewn ymateb i'm cwestiwn am hyn bryd hynny?

14:15

Fel y dywedais, mae'n ased Network Rail, ac rydym wedi bod yn rhoi rhywfaint o bwysau ar Network Rail i wneud rhywbeth ynglŷn â'r peth, ac, fel yr amlinellais ar gyfer Rhun ap Iorwerth, rydym ni'n fodlon iawn i swyddogion weithio ar unrhyw gynllun sy'n debygol o adfer y llinell a gwneud defnydd buddiol ohoni, yn ogystal â gwneud yr ymchwiliad hanesyddol y cyfeiriodd ato, er mwyn gweld beth y gellir ei wneud. Rydym yn awyddus hefyd i fod mewn sefyllfa i ddenu cyllid ar gyfer gorsafoedd newydd os bydd ar gael. Felly rydym wedi dechrau, fel y dywedais, ar waith i ddatblygu achosion busnes ar gyfer buddsoddiad posibl, ac mae hwnnw’n cynnwys gorsaf Llangefni ymhlith y posibiliadau.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan arweinydd y tŷ. Rydw i'n rhoi'r amser iddi newid ei ffeils. Ac felly galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.

Mae un newid i fusnes yr wythnos hon, sef cyfyngu hyd cwestiynau llafar y Cynulliad i'r Cwnsler Cyffredinol. Nodir busnes drafft y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar yr anghydraddoldeb o ran y gwasanaethau a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol yn y GIG, os gwelwch yn dda? Mae etholwr sy'n dioddef o glefyd y rhydweli coronaidd cynyddol, CAD, wedi cysylltu â mi. Mae'r clefyd yn peri i'w rydwelïau orlifo'n raddol, gan gynyddu ei risg o gael trawiad ar y galon, strôc, neu glotiau gwaed. Mae ei arbenigwr wedi argymell iddo gael ei drin gydag afferesi. Pe bai'n byw yng Nghaerdydd, byddai ei ymgynghorydd wedi cynnig y driniaeth hon iddo ar unwaith. Fodd bynnag, gan nad yw Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cydnabod bod hyn yn rhan o'r weithdrefn safonol, maent wedi gorfod gwneud cais cyllido claf unigol ar gyfer y driniaeth hon. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pam mae cleifion yn cael eu hatal rhag derbyn triniaethau a allai newid eu bywydau, a hynny oherwydd lle maent yn byw, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r loteri cod post yn y GIG yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Nid wyf yn credu ei bod yn loteri cod post. Mae'r Aelod wedi ateb ei gwestiwn ei hun mewn gwirionedd, gan nodi'r weithdrefn a ddefnyddir i wneud cais am y cyllid sydd ei angen. Felly, os oes ganddo broblem gyda hynny, awgrymaf iddo ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gyda rhagor o fanylion.

A oes modd inni gael datganiad ynglŷn â'r cynnydd mewn hiliaeth a throseddau casineb yng Nghymru ers 2016? Rwy'n sicr eich bod chithau hefyd wedi'ch ffieiddio gan y digwyddiad ar awyren Ryanair yn ystod y penwythnos, ac yn cytuno â mi pan ddywedaf nad oes lle ar gyfer y math hwn o ymddygiad o gwbl, yn sicr ar draws y byd, ac yn enwedig yma yng Nghymru.

Ac mae'r ffeithiau yn syml. Ers y bleidlais refferendwm mae cynnydd aruthrol wedi bod yn ffigurau troseddau hiliol a throseddau casineb. Mae ffigurau'r heddlu, a gafwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth, yn dangos cynnydd o 23 y cant mewn digwyddiadau, gyda Gwent yn gweld yr effaith gryfaf, gyda chynnydd o 77 y cant—mae hynny'n gynnydd o 77 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Nid oes cynnydd tebyg wedi bod ers dechrau'r cofnodion hyn. Roedd digwyddiadau y llynedd yn cynnwys llusgo menyw Fwslimaidd hyd y palmant gerfydd ei hijab, ymosodiad ar ddau ddyn Pwylaidd ar y stryd, digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth un ohonynt, a chwistrellu dyn a dynes Fwslimaidd ag asid, gan eu hanafu mewn ffordd a fydd yn newid eu bywydau—mae'r rhain yn droseddau gwbl ffiaidd a gafodd eu hysgogi gan hiliaeth a chasineb tuag at berson arall. Nid oes unrhyw ardal o'r DU sydd wedi llwyddo i osgoi'r troseddau hyn, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle gwelwyd pleidlais gref o blaid aros yn yr UE. Ac roedd—76 y cant o achosion wedi eu cyfyngu i gam-drin geiriol; 14 y cant o achosion yn ymwneud â bygythiad o drais gwirioneddol neu gorfforol. Mae'r ystadegau yn hynod ddiddorol—

14:20

Rwyf ar fin gwneud hynny, diolch i chi. O ran troseddau casineb, mae 40 y cant ohonynt yn ymwneud â chrefydd, a thros 50 y cant ohonynt yn erbyn Mwslimiaid, ac ychydig llai na hynny yn erbyn pobl Iddewig. Felly, mae angen gwirioneddol, rwy'n credu, inni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n crybwyll hyn yn awr gan fod yr heddlu wrthi'n paratoi ar gyfer rhagor o hyn, a lefelau uwch o ddigwyddiadau, unwaith y byddwn yn gadael yr UE.

Wel, mae Joyce Watson yn tynnu sylw at set o ffigurau a thueddiadau sy'n peri pryder mawr, ac rydym oll wedi dychryn o wybod bod rhai o'r achosion hyn wedi digwydd. Rwy'n credu bod llygedyn bach o obaith yn y ffaith fod nifer yr adroddiadau am droseddau casineb ar gynnydd, ac rydym yn teimlo'n gryf iawn bod hynny'n golygu bod mwy o ffydd yn y system, a bod cred y bydd adrodd am droseddau yn arwain at ganlyniadau. Rwy'n awyddus, fel rwy'n ei ddweud bob tro, Llywydd, ar yr achlysuron hyn, i annog pobl sy'n profi unrhyw fath o drosedd i gyflwyno eu hunain fel ein bod ni'n ymwybodol ohonynt ac yn gallu gweithredu. Yn wir, ein prif flaenoriaeth yw eu hannog i sôn am y peth ac i sicrhau bod pobl yn fodlon â'r driniaeth o'u hachos wedi iddynt wneud hynny. O ystyried ein holl ystadegau, rydym wedi gwneud cynnydd da iawn yn hynny o beth. Mae gennym fodel da ar ffurf y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer rhoi Cymorth ac Adrodd am Droseddau Casineb, a redir gan Cymorth i Ddioddefwyr, sy'n cydweithio â rhwydwaith o staff ymroddedig a phedwar heddlu Cymru. Mae'r Ganolfan yn chwarae rhan hanfodol, a gwn fod Joyce Watson yn gwybod hyn, wrth gefnogi'r rhai sydd wedi dioddef troseddau casineb yng Nghymru, ac rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth hyd at 2020. Ond mae hi'n gwbl gywir—mae llawer mwy y gellir ei wneud eto. Eleni, rydym wedi neilltuo £5,000 yr un i'r pedwar heddlu a'r comisiynwyr troseddu yng Nghymru, yn ogystal â Cymorth Dioddefwyr Cymru, er mwyn eu cefnogi i gynnal amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn ystod wythnos ymwybyddiaeth troseddau casineb 2018. Roeddwn yn falch o gael siarad yno'r wythnos diwethaf. Byddwn yn croesawu dadl drawsbleidiol i drafod y cynnydd yn yr adroddiadau am droseddau casineb, ac yn sicr byddwn yn croesawu'r fenter honno pe byddai'n dod o'r meinciau cefn.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, y cyntaf am Iaith Arwyddion Prydain? Rwy'n credu mai ein cyn gyd-Aelod Carl Sargeant wnaeth y datganiad diwethaf gan Lywodraeth Cymru, ar 20 Hydref 2016, ac roedd yn gywir pan ddywedodd: 

'I'r bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL), mae cymorth cyfathrebu priodol yn cyfrannu tuag at gynhwysiant cymdeithasol a mynediad cyfartal at wasanaethau... mae'n borth i gyfleoedd y mae pobl â chlyw yn eu cymryd yn ganiataol, fel cymryd rhan mewn nosweithiau rhieni neu ddigwyddiadau cymunedol, yn ogystal â helpu pobl i ganfod a chadw gwaith.'

Fodd bynnag, ddydd Sadwrn diwethaf, es i gynhadledd 'Clust i Wrando' 2018 ym Mhrifysgol Bangor, ar gyfer oedolion a rhieni plant sydd wedi colli eu clyw yn y Gogledd. Yno, clywsom aelodau o'r gymuned fyddar a siaradwyr Iaith Arwyddion Prydain, academyddion, yn siarad yn y gynhadledd, yn ogystal ag academyddion Prifysgol Bangor. Roeddent yn dweud bod angen deddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain arnom ni yng Nghymru, o ystyried Deddf Iaith Arwyddion Prydain (yr Alban) a lansiwyd yn 2015, a'u cynllun Iaith Arwyddion Prydain Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, gan gynnwys grŵp cynghori cenedlaethol a fyddai'n cynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith ddewisol neu eu hiaith gyntaf.

Er nad oes gan y Cynulliad na Llywodraeth Cymru unrhyw bwerau penodol o ran Iaith Arwyddion Prydain, byddai'r pwerau sydd gennym o ran cyfle cyfartal yn ein galluogi i basio cyfraith mewn perthynas ag Iaith Arwyddion Prydain, cyn belled â'i bod yn ymwneud â'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain gan unrhyw un o'r grwpiau cyfle cyfartal. Felly, galwaf am ddatganiad sy'n adlewyrchu'r angerdd gwirioneddol, y pryder, a'r dystiolaeth a fynegwyd gan aelodau o'r gymuned fyddar ac academyddion yn y gynhadledd flynyddol ddydd Sadwrn diwethaf ym Mangor.

Mae'r ail gais am ddatganiad ynglŷn â gwasanaethau dadwenwyno ac ailsefydlu cleifion mewnol ar gyfer camddefnyddio sylweddau haen 4 yng Nghymru. Ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 3 Gorffennaf eleni, ar ôl i'r ddau ddarparwr sy'n weddill yng Nghymru, Brynawel yn y De a CAIS yn y Gogledd, fynegi eu pryder. Mae'r ddau wasanaeth dan fygythiad. Mae bron pedwar mis wedi mynd heibio, ac nid wyf wedi cael ateb i'r llythyr hwnnw hyd yn hyn. Dywedodd Brynawel fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am gomisiynu, ond nid ydynt wedi'u comisiynu, mae eu gwelyau yn cael eu prynu yn ôl y galw, ac mae'r llwybr at adsefydlu cleifion mewnol ar draws Cymru yn, maent yn dyfynnu, 'doredig i raddau mwy neu raddau llai' ar gyfer y rhai sy'n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.

Roedd adroddiad annibynnol yn yr ail Gynulliad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar driniaeth a dadwenwyno cleifion preswyl, yn dangos fod y gwasanaeth cyfan wedi'i dangyllido. Llwyddodd adroddiad dilynol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ganfod sawl achos o bobl yn aildroseddu er mwyn gallu dadwenwyno yn y carchar, yn ogystal â derbyniadau i'r ysbyty am nad oedd gwelyau ar gael i gleifion mewnol gael dadwenwyno ac ailsefydlu yng Nghymru. Galwodd am gynnydd sylweddol mewn cynhwysedd. Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 yn atgyfnerthu'r neges hon, ac yn sgil hynny cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am barhau â'r model tair Canolfan: Rhoserchan, Brynawel a Tŷ'n Rodyn. Mae Rhoserchan bellach wedi cau, mae Tŷ'n Rodyn bellach wedi cau, mae Brynawel dan fygythiad. Gorfodwyd CAIS yn y Gogledd i ymuno â'r sector preifat i ateb y galw taer am welyau, gan gynnwys partneriaeth yn swydd Gaerhirfryn ac uned breifat 16-gwely ym Mae Colwyn, a mynegwyd pryder bod polisi Llywodraeth Cymru wedi gwthio'r ddarpariaeth hanfodol hon allan o Gymru ac i mewn i'r sector preifat. O ystyried hynny, galwaf am ddatganiad.

14:25

Credaf i'r Aelod ddweud, yn ei dystiolaeth eithaf hirfaith, ei fod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ac yn dal i aros am ymateb. Os yw eisiau rhoi'r —

Wel, os rhowch gopi o'r llythyr cychwynnol i mi, af ar drywydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ichi.

O ran Iaith Arwyddion Prydain, rydym yn ariannu'r hyfforddiant o athrawon arbenigol awdurdod lleol ar gyfer dysgwyr sydd â namau synhwyraidd amrywiol fel rhan o'n rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, ac mae Iaith Arwyddion Prydain yn rhan o hynny. Rydym wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol ar gyfer pob dysgwr, waeth beth yw eu hanghenion, ac rydym yn cefnogi hawliau dysgwyr i gael addysg drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain pan fydd angen. Mae'n fater y mae Mike Hedges yn ei drafod gyda mi yn aml. Mae gan yr awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu addysg addas ar gyfer pob plentyn, ac mae hynny'n cynnwys darpariaeth yn Iaith Arwyddion Prydain. Ac mae gan awdurdodau lleol hefyd gyfrifoldeb i sicrhau bod staff â chymwysterau priodol ar gael mewn ysgolion lle ceir dysgwyr sydd angen Iaith Arwyddion Prydain.

Rydym yn buddsoddi yn yr hyfforddiant a'r datblygiad sy'n angenrheidiol er mwyn cryfhau capasiti'r gwasanaethau arbenigol. Cytunwyd ar gyfanswm o £289,000 dros dair blynedd i gefnogi'r hyfforddiant ôl-raddedig o amrywiaeth o athrawon arbenigol awdurdod lleol, gan gynnwys chwech o athrawon plant byddar. Mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio hefyd i hyfforddi staff awdurdod lleol i siarad Iaith Arwyddion Prydain. Ac mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wrth wraidd ein gwaith i drawsnewid addysg a chymorth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn gymorth i ni gynllunio a chyflenwi darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac i sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar anghenion unigol y plentyn neu'r person ifanc. Felly, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn ddifrifol yn eu triniaeth o'r mater.

Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf—ac ni fydd hyn yn syndod i arweinydd y Tŷ—diweddariad ynghylch diswyddiad staff gan Virgin Media yn Abertawe, gan gynnwys manylion yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r staff i ddod o hyd i gyflogaeth amgen, ac unrhyw ddiweddariad ar y telerau diswyddo a gynigir.

Yn ail—hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar brentisiaethau lefel uwch sy'n arwain at raddau, a dylid cynnwys y nifer sy'n astudio ar hyn o bryd, nifer y cwmnïau sy'n cymryd rhan, a'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig.

Diolch i chi am y ddau fater hynny. O ran Virgin Media, mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod swyddogion wedi bod mewn cyfarfodydd gyda rheolwyr Virgin Media a chynrychiolwyr y gweithwyr trwy gydol yr haf, er mwyn asesu'r sefyllfa wrth iddo ddatblygu, ac i sicrhau ein bod yn cynnig cymorth pan fo'n briodol. Mae'r Welsh Contact Centre Forum yn trefnu ffeiriau swyddi ar gyfer diwedd y mis hwn ar safle Virgin Media. Bydd y ffeiriau yn dod a chyflogwyr sy'n recriwtio staff o fewn yr ardal ynghyd, ac yn cynnig cyngor gyrfaoedd i'r staff sy'n chwilio am gyflogaeth amgen.

Yn debyg i chi a'r cyd-Aelodau eraill sy'n cynrychioli ardal Abertawe, rydym ni oll wedi mynegi ein pryder ynghylch y driniaeth o'r broses ddiswyddo. Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi wedi mynegi'r pryderon penodol yma gyda phrif swyddfa Virgin Media yn ddiweddar iawn. A gallaf ddweud wrth yr Aelod, yr wythnos diwethaf ysgrifennodd Virgin Media at yr Ysgrifennydd i sicrhau na fydd unrhyw weithiwr yn ildio eu pecyn diswyddo o gael cynnig swydd gyda chyflogwr arall cyn y dyddiad ymadael ffurfiol, ac mae'r Aelod yn gwybod bod hynny—Rwy'n gwybod hefyd, ac mae Rebecca Evans hefyd yn gwybod—wedi bod yn bryder mawr iawn i'r gweithwyr sy'n cael eu—sy'n gadael Virgin Media. Byddent hefyd yn cynnig taliad pontio gweithredol dewisol, neu fonws teyrngarwch, pe mynnwch, i'r staff gweithrediadau defnyddwyr, i gydnabod y rhai sy'n cynnal lefelau gwasanaeth cwsmeriaid trwy aros gyda'r cwmni nes y dyddiad ymadael ffurfiol. Mae tîm cymorth all-leoli Virgin Media wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu bod gan yr holl staff fynediad at y partneriaid allweddol ar y safle, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a chyflogwyr lleol. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor un i un ar ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld, a chreu proffil Linkedin. Felly, rydym yn cadw llygad barcud ar hyn er mwyn sicrhau bod yr ystod lawn o wasanaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr yn y sefyllfa hon ar gael ar Virgin Media.

14:30

Arweinydd y Tŷ, dyma'r pumed tro i mi ofyn, felly rwy'n gobeithio am ganlyniad y tro hwn. Addawyd y byddwn yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r rheoliadau a allai effeithio ar bwerau Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol, o ran rheoleiddio safleoedd storio naddion pren, a'r tanau a ddaw yn sgil hynny. Mae'n amlwg fod hyn wedi bod yn broblem fawr, nid yn unig yn fy rhanbarth i, ond mewn rhanbarthau eraill hefyd. Felly, pe gallwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf hirddisgwyledig ar hynny—.

Ac, yn ail, tybed a fyddai modd ichi atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, fy mod i, ym mis Gorffennaf, wedi gofyn am ddatganiad i egluro a ellid cael diweddariad am, neu ryw ystyriaeth o, Ddeddf Tiroedd Comin 2006, ac a oes angen diweddaru unrhyw reoliadau sy'n rhan o'r Ddeddf honno, er mwyn helpu cymunedau a allai gael eu heffeithio gan bori tir comin sydd—sut ddywedwn ni hyn?—yn anghyfrifol. Mae ambell i broblem, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohonynt, ar Benrhyn Gŵyr. Felly, pe cawn yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny, rwy'n sicr y byddai'r ddau ohonom wrth ein bodd. Diolch.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio ei ben, yn ddedwydd iawn, felly rwyf yn siŵr y bydd hi'n darparu'r diweddariad hwnnw. O ran y mater o naddion pren, roeddwn i'n credu bod hynny wedi digwydd, ac mae'n ddrwg gennyf nad ydyw. Byddwn yn mynd ar ei drywydd.

Dros y penwythnos, daeth i'r amlwg fod dros 1,200 o bobl a heintiwyd gan HIV o ganlyniad i waed halogedig, gan gynnwys 55 o bobl yng Nghymru, wedi cael eu rhoi dan bwysau i lofnodi hepgoriad cyn iddynt gael taliadau ex gratia gan Lywodraeth y DU, ac, ar ôl hynny, wedi derbyn y newydd fod ganddynt hepatitis C. Felly, ar hyn o bryd ni all y bobl hyn, na'u teuluoedd—ac, yng Nghymru, mae 40 o'r 55 hynny wedi marw yn y cyfamser—gymryd unrhyw gamau pellach, unrhyw gamau cyfreithiol, er bod y mater, diolch i Hemoffilia Cymru a chyflwyniad y grŵp trawsbleidiol i'r ymchwiliad, bellach o fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y goroeswyr, a'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i HIV a hepatitis C, a lofnododd yr hepgoriad hwn ym 1990, hefyd yn gallu bod yn rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus hwn i waed halogedig, ymchwiliad sydd, wrth gwrs, yn un o lwyddiannau’r dioddefwyr. A wnaiff Llywodraeth Cymru hefyd sicrhau bod yr holl ddogfennau angenrheidiol sy'n gysylltiedig ag ymgyfreitha HIV, sydd ym meddiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu ar yr adeg honno, yn cael eu datgelu i'r ymchwiliad? Ni wn a all arweinydd y tŷ ateb gyda'r ymatebion hynny, neu a ddylem gael datganiad mwy trylwyr ar ryw adeg.

Fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa ar hyn o bryd yw bod Cadeirydd yr ymchwiliad gwaed heintiedig wedi bod yn glir iawn y bydd pawb sydd â thystiolaeth i'w gyfrannu yn gallu cynnig eu tystiolaeth i'r ymchwiliad, naill ai'n ysgrifenedig neu wyneb yn wyneb, a bod lleisiau a phrofiadau pawb yr effeithiwyd arnyn nhw gan y digwyddiadau hyn, gan gynnwys y bobl y mae hi'n eu crybwyll, am gael eu clywed. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i chofrestru fel un o gyfranogwyr craidd yr ymchwiliad, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynnig unrhyw ddogfennau perthnasol neu dystiolaeth sydd gennym sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y sgandal gwaed heintiedig iddynt, fel y gofynnwyd gan yr ymchwiliad. Felly, os ydym ni'n gyfrifol am y dogfennau hynny, yna byddwn yn eu datgelu iddynt. Ac rwy'n bwriadu trafod gyda'm dau gyd-Aelod yma i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud ynglŷn ag unrhyw ddogfennau eraill a allai fod wedi'u trosglwyddo i ni pan ffurfiwyd y Cynulliad.

Arweinydd y Tŷ, mae Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin wedi galw am roi diwedd ar daliadau sengl o gredyd cynhwysol i aelwydydd yr wythnos hon, ac mae Cymorth i Ferched Cymru yn dweud:

'Mae'n hollbwysig bod y drefn o dalu taliad sengl rhagosodedig i ddeiliad tai yn dod i ben, er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu defnyddio eu hadnoddau ariannol eu hunain, ac er mwyn sicrhau nad yw Credyd Cynhwysol yn caniatáu i bobl gam-drin eraill yn ariannol.'

A ydych yn cytuno â mi fod taliadau credyd cynhwysol sengl i aelwydydd yn ei gwneud yn anoddach o lawer i fenywod adael perthynas gamdriniol? A gawn ni ddatganiad i egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn y cartref, ac i groesawu eu hymrwymiad i gadw grant ffocws tai, sydd, yn ôl Cymorth i Ferched Cymru:

'o bosibl yn gymorth i oroeswyr trais rhywiol a domestig' 

sydd angen mynediad, a thai â chymorth, yn enwedig o dan y bygythiad parhaus, o ganlyniad i daliadau sengl o gredyd cynhwysol i aelwydydd?

Rwy'n cytuno'n llwyr. Mae goroeswyr a rhanddeiliaid wedi dweud wrthym fod perygl i daliadau sengl i aelwydydd, mewn achos o gam-drin domestig, roi grym llwyr dros incwm y cartref i'r cyflawnwyr, ac yn eu galluogi i reoli ac ynysu eu partneriaid, a'i gwneud yn anoddach o lawer i berson adael perthynas. Ac mae ymgyrch hir wedi bod, a gwn ei bod hi'n rhan ohono, i sicrhau bod menywod yn derbyn y swm cywir o incwm aelwyd a roddir iddynt fel rhan o unrhyw gynllun credyd neu gredyd cynhwysol, oherwydd y rhesymau hynny, ac er mwyn sicrhau bod y gyfran gywir yn cael ei gwario ar anghenion plant a bwyd ac ati, hyd yn oed y tu allan i sefyllfa trais yn y cartref. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi ymroi i adolygiad rhyw a chydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob haen o gymdeithas Cymru, ac rydym yn gwybod bod trefniant anghyfartal o ran cyllid yn cyfrannu at anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Felly, cytunaf yn llwyr â hi, nid yw'r sefyllfa hon yn un yr hoffem ei gweld.

Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â diffygion hanfodol credyd cynhwysol, sy'n effeithio ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y cartref. Mae'r system, yn ei hanfod, yn groes i'n gweledigaeth ni ar gyfer cymdeithas gyfartal a statws economaidd annibynnol menywod, fel yr amlinellwyd ganddi'n fedrus iawn.

14:35

Dau beth, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf: tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, am eu perfformiad gwych ar y Sul, sef perfformiad cyntaf Sorrows of the Somme, a gafodd ei pherfformio gan Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd yn berfformiad gwbl anhygoel, gan ail-greu’r arswyd a marwolaeth cymaint o filwyr Cymreig yng Nghoed Mametz, a'n hatgoffa o erchyllterau'r rhyfel a'r holl bethau y mae'n rhaid inni ei wneud i'w atal.

Yn ail, tybed a gaf i ofyn am ddatganiad ar dwyll wrth ailgylchu plastig, gan ein bod wedi darllen yn y papurau newydd, yn ystod y diwrnod neu ddau ddiwethaf, fod trwyddedau chwech o allforwyr gwastraff plastig y DU wedi cael eu hatal neu eu canslo, a bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio i honiadau o allforion ffug o ddegau o filoedd o dunelli o blastig gwastraff, nad oedd yn bodoli, a bod gangiau troseddol wedi dechrau treiddio'r diwydiant sy'n werth £50 miliwn. Mae pryderon eraill fod gwastraff ddim yn cael ei ailgylchu, ac yn  cael ei ollwng mewn afonydd a moroedd ledled y byd, ac nad yw trwyddedau ad-droseddwyr y DU wedi cael eu hatal. Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr wedi nodi fod hunan-adrodd yn gwahodd y lefel hon o dwyll a gwallau, ac mai dim ond tri o ymweliadau dirybudd ag ailbroseswyr achrededig ac allforwyr a wnaed gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn y flwyddyn ddiwethaf. Felly, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymharu â chofnodion arolygu Asiantaeth yr Amgylchedd o ran ailbroseswyr achrededig ac allforwyr, a pha rwymedigaethau y gallai Llywodraeth Cymru fod yn agored iddynt o ran yr hawliadau ffug o allforio gwastraff plastig Cymru drwy borthladdoedd y DU, a pha gamau y mae angen i'r Llywodraeth eu cymryd er mwyn atal y sgandal hwn rhag tanseilio hyder ei dinasyddion yn hanes arbennig ailgylchu yng Nghymru?  

Wel, i ddechrau, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i longyfarch y perfformiad y soniodd Jenny Rathbone amdano. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae pobl Cymru wedi'i wneud er mwyn coffáu aberth a dewrder cymaint o'n pobl yn ystod y rhyfel byd cyntaf, ac rwy'n falch iawn o gael ychwanegu fy llais at yr enghraifft bwerus honno, yn fy marn i, o'r effaith y cafodd marwolaeth cymaint o dynion ifanc, a'r golled i'n diwylliant a'n cymdeithas.

O ran y materion plastig y soniodd amdanynt, mae'n wir fod Asiantaeth yr Amgylchedd, fel y dywedwyd, yn ymchwilio i ddiwydiant ailgylchu plastigau'r DU am dwyll a cham-drin posib, yn sgil beirniadaeth y llynedd, fel y dywedodd hi, gan Swyddfa Archwilio Genedlaethol PERNs, 'plastic export recovery notes', a ddefnyddir gan gynhyrchwyr i ddangos eu bod yn cyfrannu at ailgylchu gwastraff deunydd pecynnau plastig. Mae'r fasnach allforio ar lefel y DU.

Yma yng Nghymru, ar hyn o bryd nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal unrhyw ymchwiliadau i allforwyr gwastraff pecynnau plastig, gan fod y tri allforiwr yng Nghymru wedi'u harolygu a'u harchwilio yn 2018, ac nid oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw bryderon penodol nac amheuaeth o dwyll o ran yr allforwyr hynny. Mae holl ymchwiliadau Asiantaeth yr Amgylchedd yn canolbwyntio ar allforwyr yn Lloegr. Byddai unrhyw ymchwiliad ledled y DU yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng y ddwy asiantaeth, ond, fel y dywedais, nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Bydd unrhyw wastraff arall o Gymru sy'n mynd dramor yn cael eu cynnwys yn y ffigurau cyffredinol ar gyfer deunyddiau sy'n cael eu hallforio o'r DU, ac nid yw'r rheoliad o drawslwytho gwastraff wedi'i ddatganoli i Gymru. Felly, mae hwnnw'n fater sydd ar lefel Llywodraeth y DU. Fel y dywedais, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn arwain yr ymchwiliad.

Ar wahân i dwyll, fel y dywedodd, mae'n amlwg yn beth drwg iawn os yw'r gwastraff yn cael ei allforio o'r DU ond ddim yn cael ei drin yn briodol dramor, ac felly yn gollwng i mewn i afonydd ac i'r môr. Yr ateb yw cael seilwaith da yma i drin y deunyddiau a gesglir gennym, ac i gasglu'r deunyddiau yn y ffordd orau sy'n gwarantu deunyddiau glân o ansawdd uchel, deunyddiau y gellir eu hailgylchu a'u bwydo yn ôl i economi gylchol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi yn ei glasbrint fod yn well ganddynt gasglu deunyddiau sydd wedi'u gwahanu'n barod ar garreg y drws, am yr union reswm hwn. Fel y dywedodd Lesley Griffiths lawer tro yn y Senedd hon, rydym yn falch iawn o'n hanes ni o ailgylchu yma yng Nghymru.

14:40

Arweinydd y Siambr, yr wythnos diwethaf, aeth Geraint Davies AS i Dŷ'r Cyffredin i ddadlau gerbron y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol yn San Steffan nad oedd y mwd a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley yng Ngwlad yr Haf, a gafodd ei waredu wedyn ychydig y tu allan i Gaerdydd, wedi cael ei brofi'n ddigonol a'i fod yn peryglu iechyd cyhoeddus. Dyna'r un mwd yn union y pleidleisiodd eich Llywodraeth chi, gwta bythefnos yn ôl, i barhau i'w waredu. Dyfynnodd eiriau'r Athro Dominic Reeve, o Brifysgol Abertawe, sy'n arbenigwr ar symudiadau gwely'r môr, a ddywedodd na wnaed profion digonol ar y mwd. Nawr, bydd angen cais newydd i waredu'r cannoedd o filoedd o dunelli o fwd sydd ar ôl. A ydych chi'n cytuno â'ch cyd-Aelod Llafur dros Orllewin Abertawe, a'r athro ym Mhrifysgol Abertawe, na ddylai'r dympio ddigwydd, ac a oes modd imi gael datganiad i egluro'r hyn fyddai eich Llywodraeth chi yn ei wneud yn wahanol os bydd y cais newydd yn cael ei wneud?

Rwyf wedi siarad â'm cyd-Aelod Seneddol, ac mae bellach wedi dileu'r neges twitter gan nad oedd wedi darllen tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae ef wedi cyfaddef hynny. Deallaf fod yr Ysgrifennydd Cabinet ar fin ysgrifennu at bob Aelod gyda'r wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, tybed a allwn ni gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â defnydd ac argaeledd y brechlyn ffliw eleni? Gwn fod sawl un o Aelodau'r Cynulliad wedi cyfrannu at y rhaglen ers iddynt ddod i'r Cynulliad.

Mae etholwr o Gas-gwent wedi cysylltu â mi. Roedd ef wedi gwneud apwyntiad gyda'i feddyg teulu lleol i fynd i gael y brechlyn, ond dywedwyd wrtho fod y stociau o'r brechlyn ar gyfer  rhai dros 65 oed, ac roedd ef dros 65 oed, yn ddifrifol o isel. Gofynnwyd iddo fynd yn ôl ymhen y mis. Mae'n amlwg ei fod yn pryderu y bydd tymor y ffliw wedi cychwyn cyn iddo gael y brechlyn. Felly, tybed a oes modd i'r Ysgrifennydd iechyd gynnig rhywfaint o sicrwydd, drwy ddatganiad neu ryw ddull arall, fod y brechlyn gwerthfawr hwn ar gael i gymaint o bobl â phosib. Rwy'n deall yn iawn fod pwysau ar y GIG i gyflawni hyn, ac mae'r brechlyn yn fwy poblogaidd nag erioed. Serch hynny, os yw rhywun dros 65 oed yn gofyn am y brechlyn hwnnw, mae'n bwysig iawn ei fod yn ei gael yn brydlon.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â chi, a bydd yn ysgrifennu at bob un ohonom i nodi lle byddwn yn lleddfu pryderon o'r fath. Ond hoffwn hefyd ddweud nad oes raid i'ch etholwr fynd at ei feddyg teulu. Gallai, wrth gwrs, fod wedi mynd i'r fferyllfa gymunedol i gael ei frechiad rhag y ffliw, a byddwn yn argymell yr Aelodau i gofio hynny.

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iachach: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid

Yr eitem nesaf felly yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ‘Gymru Iachach’ a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa drawsnewid. Galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Bydd yr Aelodau yn cofio i mi gyhoeddi 'Cymru Iachach' ym mis Mehefin eleni. Roedd yn ymateb i argymhellon yr arolwg seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a arweiniwyd gan arbenigwyr annibynnol. Ac wrth gwrs, bydd yr Aelodau yn cofio bod termau, cylch gwaith, ac aelodaeth y panel adolygu seneddol wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y lle hwn. Mae 'Cymru Iachach' yn amlinellu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer dull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol. Lluniwyd ein dull ni o weithredu mewn partneriaeth â'r GIG, Llywodraeth Leol, y trydydd sector a chydweithwyr ym maes tai.

Pan gyhoeddwyd ein cynllun, addewais y byddai'r gwaith yn dechrau ar unwaith pan fyddai'n cael ei weithredu, ac y byddwn yn dychwelyd i'r Cynulliad yn yr Hydref gydag adroddiad ar ein cynnydd cychwynnol. Felly, heddiw, gallaf gynnig diweddariad i chi ynglŷn â'r camau yr ydym eisoes wedi eu cymryd fel Llywodraeth, a'r camau y mae ein partneriaid cyflenwi gwasanaeth wedi eu cymryd gyda ni, wrth inni ddechrau ar ein taith drawsnewid.

Fel cam cyntaf, rwyf wedi sefydlu rhaglen i drawsnewid gofal cymdeithasol ac iechyd. Arweinir y rhaglen gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru. Caiff ei gefnogi gan dîm rhaglen sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol uwch sydd â phrofiad o newid gwasanaeth yn y rheng flaen. Bydd y rhaglen yn gyfrifol am ysgogi cyflenwad yn gyflym ar draws yr holl system iechyd a gofal, ac am sicrhau bod y 40 cam gweithredu yn 'Cymru Iachach' yn cael eu cyflawni.

Rwyf hefyd wedi sefydlu bwrdd cynghori, sy'n cynnwys uwch arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â phartneriaid allweddol o bob sector a rhanbarth daearyddol Cymru, i roi cyngor, her a throsolwg strategol i'r rhaglen. Mae'r bwrdd hwn eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ac mae'n darparu gwerth ychwanegol gwirioneddol gyda'r arbenigedd a'r dylanwad y mae'n gallu eu rhoi i'n gwaith.

Pan gyhoeddwyd y cynllun 'Cymru Iachach', cyhoeddais hefyd y  byddai arian ychwanegol ar gael i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ein cronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn dros ddwy flynedd i gefnogi'r profion ar y modelau gwasanaeth newydd ar lawr gwlad. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ni ysgrifennu at ein partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i'w gwahodd i weithio gyda'i gilydd drwy eu byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu a chyflwyno cynigion ar gyfer cymorth posibl gan y gronfa trawsnewid. Fe wnaethom ni ofyn i bartneriaid gynllunio cynigion yn unol â'n cyd-ddyheadau a nodir yn 'Cymru Iachach', ac yn arbennig ein gweledigaeth a'n hegwyddorion cynllunio. Dylai hyn lywio'r meddylfryd ynghylch modelau newydd o ofal di-dor. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod angen dod â gwasanaethau at ei gilydd, yn nes i'r cartref, ac mae'n rhaid iddi fod yn bosib gweithredu'r ffyrdd newydd hyn o weithio ar raddfa fwy ar draws y rhanbarthau ac, wrth gwrs, ar lefel Cymru gyfan.

Rwy'n falch o adrodd ein bod eisoes wedi cael wyth cynnig gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae mwy yn cael eu datblygu. Rwyf wedi cadarnhau cefnogaeth i ddau o'r cynigion hyn, gan gynnwys rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol integredig clwstwr Cwmtawe Bae'r Gorllewin, y gallaf ei gyhoeddi heddiw, yn dilyn prosiect Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned Caerdydd a'r Fro y cyhoeddais ac yr ymwelais ag ef yr wythnos diwethaf. Bydd y cynlluniau treialu hyn yn caniatáu inni brofi a gwerthuso dulliau newydd o ofal sy'n cefnogi'r egwyddorion a nodir yn 'Cymru Iachach', gan gynnwys adnabod ac ymyrryd yn gynnar i gefnogi unigolion sydd mewn perygl, defnyddio technoleg a rhannu gwybodaeth mewn modd arloesol i alluogi gwahanol wasanaethau i weithio gyda'i gilydd, a dulliau cymunedol amlddisgyblaethol i ddarparu gofal. Dylai pob un o'r rhain leihau'r pwysau ar ein meddygon teulu a'n hysbytai ac, wrth gwrs, ddarparu gwasanaeth gwell i'r cyhoedd.

Mae cryfder y cynigion yr ydym ni wedi'u cael hyd yma, a'r modd y mae partneriaid yn gyffredinol wedi cydweithio i ddatblygu'r syniadau hyn mewn amser byr, yn rhoi llawer o anogaeth imi y bydd ein byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cyflawni eu swyddogaeth fel y prif asiantau ar gyfer newid a thrawsnewid. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod hefyd os yw byrddau partneriaeth rhanbarthol i fod â'r brif ran yn y trawsnewid—ac rydym ni'n gwybod bod ganddyn nhw'r yr uchelgais i wneud hynny—bydd angen digon o adnoddau ac arbenigedd arnyn nhw i wneud hynny. Dyna pam fy mod i wedi cadarnhau yn ein cynigion cyllideb 2019-20 y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cael £30 miliwn ychwanegol. Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn cryfhau byrddau partneriaeth rhanbarthol ac yn sicrhau eu bod yn gallu bodloni heriau'r dyfodol.

Er bod y gronfa trawsnewid, yn ddealladwy, wedi denu llawer o ddiddordeb, fe ddywedaf eto yn awr, fel yr wyf i wedi dweud sawl gwaith ers i ni gyhoeddi'r cynllun, mae'n rhaid i drawsnewid gwasanaethau fod yn weithgaredd craidd ar gyfer pob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd angen arweinyddiaeth system gref i ysgogi'r newid sydd ei angen ledled Cymru. Yn y pen draw, nid y gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn ond y £9 biliwn o gyllid craidd y mae ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn ei dderbyn bob blwyddyn fydd yn cyflawni'r trawsnewid. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i nodi mai dim ond un rhan fach yw'r gronfa trawsnewid o'r rhaglen llawer ehangach o newid a nodir yn 'Cymru Iachach' yr ydym ni wedi ei ddechrau erbyn hyn ac wedi ymrwymo i'w gyflawni.

Hoffwn dreulio ychydig o amser yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am rywfaint o'r gwaith arall yr ydym ni eisoes wedi dechrau arno i gefnogi'r camau ehangach hynny. Addawodd y cynllun y byddai arweiniad cenedlaethol cryfach o'r canol ac ymrwymiad i symleiddio, pan fo hynny'n bosibl, rhai o'r trefniadau cynllunio ac adrodd sydd wedi datblygu o amgylch y gwasanaeth iechyd yn enwedig gydag amser. O ran y cyntaf o'r rhain, gallaf gadarnhau bod llawer o waith wedi dechrau mewn cysylltiad â'n gweithrediaeth arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. O ran gofynion cynllunio, yn gynharach y mis yma cyflwynais ganllawiau diwygiedig i'r cynllun tymor canolig integredig sy'n amlinellu proses symlach a mwy cydgysylltiedig yr ydym yn ei gefnogi â £60 miliwn ychwanegol o arian newydd.

Yn gydnaws â'n hymgyrch am fwy o bwyslais ar hybu iechyd, lansiais ein cronfa iach ac egnïol yn yr haf gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni. Mae'r bartneriaeth hon gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru.

I gefnogi ein hamcanion gweithlu, rydym ni wedi cyhoeddi cytundebau cyflog newydd, ymestyn ein rhaglen 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' ac wedi comisiynu Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu ein strategaeth gweithlu newydd. Rydym wedi aildrefnu grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol newydd sydd bellach yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector gofal cymdeithasol yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd gwladol. Byddaf wrth gwrs yn hapus i roi rhagor o ddiweddariadau i'r Aelodau yn y dyfodol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd.

14:50

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad am y gronfa trawsnewid. Rydym yn disgwyl yn eiddgar amdani, oherwydd rwyf wedi clywed cynifer o bobl yn dweud bod y gronfa trawsnewid hon yn mynd i fod yn ateb i bopeth ar gyfer llawer o bethau yn y GIG, felly rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, i ddarllen am y sylwadau cyffredinol yr ydych chi'n eu gwneud ynghylch y meini prawf. Efallai y gallech chi mewn gwirionedd roi ychydig mwy o fanylion inni am feini prawf prosiect fydd yn mynd rhagddo i'r gronfa trawsnewid. Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad? Ai dim ond y byrddau rhanbarthol fydd yn cyflwyno prosiectau ac yna tîm Andrew Goodall yn gwneud y penderfyniad terfynol, neu a fydd hynny ar lefel ychydig yn is?

Rwyf ychydig yn bryderus mai dim ond dau brosiect sydd wedi eu cytuno hyd yn hyn ac rydym ni'n tynnu at derfyn 2018. Rwy'n sylweddoli ei bod hi'n gronfa newydd—nid wyf yn afrealistig—ond o gofio bod yr arian dim ond ar gael tan 2020, a ydych chi'n ffyddiog y byddwch chi'n gallu defnyddio'r £100 miliwn hwnnw o fewn, wel, yr ychydig dros ddwy flynedd nesaf, ac nid dim ond ei ddefnyddio, ond sicrhau bod y gronfa yn gweithio mewn gwirionedd a bod â chanlyniadau gwerthusiad er mwyn inni wybod a yw hi'n werth cyflwyno'r prosiectau hynny'n raddol ledled gweddill y GIG neu beidio?

A allwch chi roi unrhyw syniad inni o'r prosiectau hynny sydd wedi cael eu cyflwyno—y chwech nad ydych chi eto wedi dweud 'ie' neu 'na' wrthyn nhw, ac a yw hynny mewn gwirionedd oherwydd eu bod yn 'na' neu oherwydd eich bod yn dal i'w gwerthuso—ac a allwch chi gadarnhau a oes tegwch o ran y defnydd ledled Cymru? Y rheswm pam fy mod i'n gofyn hynny, wrth gwrs, yw bod Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig, mae Hywel Dda yn dilyn rhaglen drawsnewid gweddol drwyadl, ac rwy'n pryderu tipyn nad yw byrddau iechyd—ac efallai fod yna rai eraill, nid dim ond y ddau yma—yn colli'r cyfle hwn oherwydd eu bod mor brysur yn gwneud eu gwaith bob dydd arall. Felly, a allwch chi ein sicrhau ni a fydd gennym ni'r tegwch hwnnw o ran defnyddio'r arian?

Ambell gwestiwn cyflym iawn, yn arbennig: y prosiectau yr ydych chi'n eu hystyried—a fyddwch chi'n rhoi mwy o bwyslais ar y sector sylfaenol a chymunedol? Rwy'n gofyn hynny oherwydd, wrth gwrs, holl gymhelliant yr adolygiad seneddol oedd sôn am sut y mae angen inni symud oddi wrth y sector eilaidd. Wrth siarad â byrddau iechyd, rwy'n cael yr argraff y defnyddir llawer iawn o hyn i ymdopi â phroblemau neu geisio gwneud i bethau ddigwydd yn y sector eilaidd. Ac felly, y sector sylfaenol a chymunedol hwn, yr ydym ni'n rhoi cymaint o ffydd ynddo i drawsnewid y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau GIG dros y degawd neu ddau ddegawd nesaf—mae angen inni wneud yn siŵr bod yna brosiectau yn y fan honno a fydd yn cael eu cyflwyno. A fyddwch chi'n gallu ein sicrhau ni y cedwir cydbwysedd ar yr holl wariant hwn ac na fydd yn cael ei sugno i mewn i ddyled sydd eisoes yn bodoli neu  i orbenion sefydlog neu ragor o bersonél gweinyddol, fel ei fod mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth ar unwaith ar lawr gwlad?

Byddai gennyf ddiddordeb gwybod a yw hwn yn arian newydd yr ydych chi'n sôn amdano yn eich datganiad. Rydych chi'n sôn am £30 miliwn, y mae croeso mawr iddo, fel erioed, ar gyfer y byrddau trawsnewid rhanbarthol, a £60 miliwn ychwanegol i gefnogi'r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig. Ai arian wedi'i adleoli yw hwn neu arian hollol newydd yn ychwanegol at y £100 miliwn?

Yn olaf, a oes gennych chi system o amserlennu eich cynlluniau treialu i sicrhau bod ffordd o derfynnu'r cynlluniau treialu hynny os oes angen—eu bod nhw un ai'n llwyddiannus neu'n aflwyddiannus? Faint o amser ydych chi'n mynd i'w roi iddynt? Oherwydd, os yw'n ymddangos eu bod yn aflwyddiannus—ac rwy'n sylweddoli nad ydym ni'n mynd i allu bod yn llwyddiannus ym mhob un—yna mae angen inni allu cydnabod hynny yn gyflym iawn, iawn a symud ymlaen at y prosiect nesaf fel ein bod yn gallu gwneud y defnydd gorau posib o'r swm hwnnw o arian, i drawsnewid y GIG yn y ffordd y mae angen inni ei wneud.

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gronfa, ac, wrth gwrs, mae rhai pobl i gyd wedi bod yn chwilio am swm ychwanegol o arian. Pryd bynnag y byddwch chi'n cyhoeddi swm penodol o arian, bydd pobl bob amser yn ceisio deall beth yw eu rhan nhw ohono, beth yw eu cyfran nhw ac a fydd yn gwella'r holl helbulon. Wel, rwyf wedi bod yn glir iawn o'r cychwyn, mewn gwirionedd, fel y mae fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies wedi bod, fod y gronfa hon yn gronfa benodol i helpu i gyflawni newid a thrawsnewid. Nid yw'n ateb i bopeth. Mae'n ymwneud â chefnogi a gweithredu ffyrdd newydd o weithio i drawsnewid ein holl wasanaeth. Felly, mae'n ffordd o arwain newid i ddefnyddio wedyn y £9 biliwn i sicrhau'r newid hwnnw drwy'r system gyfan. Dyna beth yr ydym ni'n chwilio amdano. Ac, yn hynny o beth, mae'r egwyddorion dylunio yr wyf wedi'u crybwyll sawl gwaith yn bwysig iawn. Os nad ydyn nhw'n bodloni'r egwyddorion dylunio a bennwyd gennym ni, ni fyddan nhw'n cael cymorth. Os nad oes modd eu cyflwyno ar raddfa fwy, ac os na allan nhw ddangos sut y gallai'r prosiectau hyn, os ydyn nhw'n llwyddiannus, gael eu cyflwyno ar raddfa fwy, yna ni fyddan nhw'n cael cymorth. Rwy'n derbyn nad yw pob prosiect sy'n cael cymorth, hyd yn oed ar sail y cyngor gorau, y cynllun gorau—nid yw pob prosiect yn debygol o lwyddo. Mae'n bwysig ein bod yn derbyn hynny ac yn dweud hynny dro ar ôl tro ar y cychwyn, oherwydd bydd pethau i'w dysgu o hyd gan brosiectau nad ydynt yn llwyddo.

Mae hynny'n mynd yn ôl at eich cwestiwn olaf ynghylch gwerthuso ac amserlen. Gyda phob cais a ddaw i mewn, bydd rhywbeth am werthuso ynddo fel y gallwn ni ddeall pa les y mae'n ei wneud neu ddim yn ei wneud, a hefyd yr amserlen i wneud hynny oddi mewn iddi. Felly, nid yw'r rhain yn brosiectau diddiwedd. Ni allan nhw fod. Mae'n rhaid iddyn nhw arwain at fan lle gallwn ni ddeall: ai hwn yw'r ateb cywir, ac, os ydyw, sut ydym ni wedyn yn ei gyflwyno ar raddfa fwy ar draws ein system? Ac, os nad hynny yw'r ateb cywir, yna mae'n rhaid inni ddadfuddsoddi o hynny. Rwy'n glir iawn, iawn am hynny ac nid oes gennyf unrhyw anhawster wrth ddweud hynny, yn y lansiad cychwynnol y bûm iddo yng Nghaerdydd a'r Fro, ac mae'r un peth yn wir am glwstwr Cwmtawe, a pha bynnag brosiectau yr wyf yn penderfynu eu cefnogi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Felly, ynglŷn â'r cwestiwn y gwnaethoch chi ei ofyn am sut y gwneir penderfyniadau, mae'r bwrdd cynghori yno i herio'r gwaith a wneir gan fwrdd y rhaglen. Bydd y grŵp hwnnw, a arweinir gan Andrew Goodall, yn rhoi'r cyngor i mi, a byddaf wedyn yn penderfynu, yn seiliedig ar y cyngor hwnnw, a ddylid cefnogi prosiectau ai peidio. Felly, rwyf wedi penderfynu ar y ddau brosiect cyntaf. Yr wyth maes a grybwyllais—byddaf yn cael cyngor ar y rhai hynny, a byddaf wedyn yn eu hystyried, a byddaf wedyn yn penderfynu beth i'w gefnogi. Rwy'n hapus i gadarnhau y bydd pob rhan o Gymru yn darparu prosiect i fynd i'r gronfa trawsnewid, o faint a graddfa amrywiol. Gallaf warantu yn gyfan gwbl nad fydd Hywel Dda a'r gogledd yn cael eu hepgor o hyn. Felly, byddwch chi'n gweld, yn y dewisiadau a wnaf, y byddwn yn gwneud dewisiadau ledled y wlad. Rwy'n disgwyl i bob ardal, nid dim ond y ddau sydd wedi gwneud cais—. Rwy'n disgwyl, cyn diwedd y flwyddyn galendr, y byddwch yn gweld amrywiaeth o ddewisiadau eraill. Felly, ni allaf roi union amserlen, oherwydd mae angen imi ystyried y cyngor pan gaiff ei roi a gwneud dewis pan rwy'n fodlon ei bod hi'n briodol dweud 'ie' neu 'na'. Ond rwy'n disgwyl gwneud rhagor o ddewisiadau yn yr wythnosau nesaf, ac nid o reidrwydd aros misoedd.

Rwyf hefyd yn hapus i roi'r ymrwymiadau a roddais o'r blaen—nad yw'r gronfa trawsnewid hon yn ffordd o ddefnyddio adnoddau ychwanegol ar gyfer systemau ysbytai yn bennaf. Nawr, nid yw hynny'n golygu na all prosiectau gael effaith ar ein system ysbytai, neu na allan nhw ddefnyddio rhywfaint o'r arian o fewn y system ysbytai, ond mae'n ymwneud yn bennaf â chyflawni newid yn y dull o ddarparu gofal. Felly, y prif bwyslais yw gwasanaethau sylfaenol a chymunedol. Mae, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r bartneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys tai a'r trydydd sector. Dyna pam yr ydym ni wedi defnyddio byrddau partneriaeth rhanbarthol fel y dull cychwynnol. Mae'n rhaid i unrhyw beth sy'n dymuno dod at y gronfa trawsnewid fod, yn gyntaf, â chefnogaeth ei fwrdd partneriaeth rhanbarthol. Mae hynny'n wirioneddol bwysig. Felly, mae iechyd a llywodraeth leol yn yr un sefyllfa â phobl sy'n cyd-benderfynu, o ran y cyd-amcanion y mae 'Cymru Iachach' yn eu nodi. Nid yw'n gwestiwn o bob un ohonyn nhw'n dweud, 'Dyma fy mhrosiect i. Byddaf i'n penderfynu nawr.' Mae'n rhaid iddyn nhw gytuno â'u partneriaid eraill yn y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

O ran y £60 miliwn i gefnogi'r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, mae hwnnw'n arian newydd. O ran y £30 miliwn a gyhoeddais ar gyfer y byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae hwnnw'n arian newydd hefyd. Wrth gwrs, gyda'r gronfa trawsnewid, os na fyddwn yn ei wario i gyd, bydd yn rhaid imi wneud dewis ynghylch p'un a allaf ailddarparu'r arian hwnnw y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu y gwelwn ni ehangu o ran uchelgais a graddfa yn y prosiectau yr ydym ni'n debygol o'u gweld, ac rwyf eisiau annog hynny, nid eu lleihau o ran graddfa.

14:55

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Os caf i ddychwelyd at fater a godwyd gan Angela Burns, o ran ai arian newydd yw'r £30 miliwn hwn a gyhoeddwyd heddiw, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Os nad yw'n arian newydd i'r gyllideb iechyd yn ei chyfanrwydd, a allwch chi ddweud wrthym ni o ble yn eich cyllideb yr ydych chi wedi cymryd y £30 miliwn? Rwy'n ategu'r croeso a roddwyd gan Angela Burns at hyn os mai adnoddau newydd ydyn nhw, ond os mai adnoddau wedi'u hailgylchu ydyn nhw, mae angen inni wybod o ble y maen nhw wedi dod. Hoffwn dynnu eich sylw at—. Fel y gwnaethoch chi ddweud eich hun yn eich datganiad, wrth gwrs, mae'r arian ychwanegol hwn i'w groesawu'n fawr, ond mae'n fach iawn o'i gymharu â'r cyfanswm o £9 biliwn sydd yn y gyllideb. Er tegwch i'r gwasanaethau, efallai bod hyn yn gofyn iddyn nhw wneud cryn dipyn gyda chymharol ychydig.

Wrth ddychwelyd at y portffolio hwn ar ôl blynyddoedd lawer, mae'n debyg fy mod i braidd yn bryderus i weld eich datganiad a bod y rhaglen 'Cymru Iachach' yn addo darparu arweiniad cenedlaethol cryf o'r canol. Yn amlwg, mae rhan ohonof yn croesawu hynny, ond mae'n rhaid ichi ofyn lle mae hynny wedi bod dros y 18 mlynedd diwethaf. Rwy'n ymdrechu'n galed, Llywydd, i beidio â bod yn amheus yma, ond rwyf wedi clywed llawer o hyn o'r blaen, am brosiectau treialu rhagorol a all, yn yr achos hwn, sicrhau gwell cydgysylltu rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ond yr hyn nad ydym ni wedi ei weld yw'r rhai hynny'n cael eu cyflwyno. Rwy'n mawr obeithio nad yw hyn yn wir yn yr achos hwn ac y byddaf yn cael fy mhrofi'n anghywir.

Wrth gwrs, yn ddiweddar dywedodd ymgeisydd ar gyfer swydd arweinyddiaeth Cymru—a, wyddoch chi, rydym ni'n dilyn hyn yn agos iawn am resymau da iawn—bod angen dewrder i newid rhywbeth, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod sicrhau newid yn y GIG yn mynd i gymryd cryn ddewrder, a bydd yn galw ar iddo, rwy'n credu, orchfygu rhai buddiannau breintiedig, o bosibl, ac mae'n bosibl na fydd cyflawni'r newid hwnnw yn hawdd. Wrth gwrs, mae ei blaid ef wedi bod yn gyfrifol am y GIG ac iechyd a gofal cymdeithasol ers 18 mlynedd.

Rydym ni wedi bod â rhaglenni a deddfwriaeth sydd â'r bwriad o sicrhau'r canlyniad hwn, ac, fel yr wyf wedi dweud, nid yw wedi digwydd. A dydw i ddim yn bychanu, er tegwch, pa mor anodd ydyw i wneud i hyn ddigwydd,  Ysgrifennydd y Cabinet, ond hoffwn ichi roi rhywfaint o sicrwydd inni y bydd hi'n wahanol y tro hwn. A hyd yn oed os yw hwn yn gyfnod eithaf hir, a allech chi roi rhyw awgrym inni y prynhawn yma—a maddeuwch imi, gan fy mod yn newydd i fy swyddogaeth, os yw hwn yn fater yr ydych chi eisoes wedi ymdrin ag ef mewn datganiadau blaenorol a dadleuon blaenorol—ond pa fath o amserlen sydd gennych chi mewn golwg, nid yn gymaint ar gyfer y prosiectau treialu, ond ar gyfer bod mewn sefyllfa lle'r ydych chi'n gwybod pa gynlluniau treialu sydd wedi gweithio a'ch bod chi'n barod i ddechrau eu cyflwyno? Oherwydd, rwy'n credu, yn hanesyddol yng Nghymru, nad ydym ni wedi bod yn dda iawn am wneud hynny. Rydym ni wedi bod yn dda am feddwl am syniadau da, ond dydym ni ddim wedi bod yn dda iawn am eu cyflwyno ar raddfa fwy.

Ac er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Cynulliad hwn ynghylch y broses, tybed a fyddech chi'n ystyried cyhoeddi nodiadau cyfarfod y bwrdd ymgynghorol, fel y gallwn ni weld drosom ein hunain pa her a roddir i'r rhaglen drawsnewid. Rwy'n deall efallai nad ydych chi'n teimlo bod hynny'n briodol, oherwydd mae cwestiwn, o bosibl, o ran cyfrinachedd, ac ni fyddwn yn dymuno mygu dadl gadarn. Dewis arall i hynny, am wn i, Llywydd, fyddai rhagor o ddatganiadau rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet, o bosibl.

Mae eich datganiad hefyd yn sôn am symleiddio cynllunio ac adrodd ar gyfer y GIG. Nawr, ni fyddai unrhyw un ohonom ni'n dymuno i hynny leihau atebolrwydd, ond rwy'n credu na fyddai neb ohonom ni yn dymuno i bobl dreulio amser yn gwneud gwaith papur diangen ychwaith. Felly, croesawaf yr ymrwymiad hwnnw yn y datganiad. Ond mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yw'r amserlen ar gyfer system newydd a symlach.

A allwch chi ymhelaethu ar yr hyn yr ydych chi eisoes wedi'i ddweud wrth Angela Burns ynglŷn â sut y bydd effeithiolrwydd y cynlluniau treialu yn cael eu hasesu? Yn amlwg, bydd hyn yn anodd ei wneud, oherwydd byddant yn ymdrin â gwahanol faterion, gwahanol broblemau, fel yr ydych chi eisoes wedi tynnu sylw atynt. A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni: pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod y cynlluniau treialu llwyddiannus yn cael eu cyflwyno ac, efallai yn fwy anodd, bod y rhai aflwyddiannus yn cael eu diddymu a bod hyn yn digwydd mewn da bryd? Dydw i ddim yn dymuno bod yn amheus, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a wnewch chi ystyried, er enghraifft, cyhoeddi'r gwerthusiadau o—pan fyddwch chi wedi gwneud penderfyniad, os byddwch yn cyhoeddi'r gwerthusiadau, o'r prosiectau y byddwch chi'n penderfynu eu cefnogi a'r rhai hynny y byddwch chi'n penderfynu peidio â'u cefnogi, fel y gallwn ni weld yn fwy eglur i ble'r ydym ni'n mynd. 

Rwy'n mawr obeithio bod hyn yn dro ar fyd o ran arweinyddiaeth, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi hyd yn hyn ac edrychaf ymlaen at fynd i'r afael â'r gwaith hwn dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

15:00

Diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â chi bod newid yn cymryd dewrder, ond pan fyddwn yn meddwl am y cwestiynau yr ydych wedi'u gofyn, rwy'n fodlon ailadrodd y sylwadau wrth Helen Mary Jones a wnes i wrth Angela Burns hefyd: atebais fod y £30 miliwn ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol yn wir yn arian newydd.

Fe ddylwn i hefyd groesawu Helen Mary Jones i'w swyddogaeth newydd yn y tymor Cynulliad hwn yn llefarydd Plaid Cymru. Rwy'n siŵr y cawn ni lawer o gyfleoedd i siarad yn hir yn y Siambr hon a'r tu allan.

Dim ond i ymdrin â'ch pwynt am y nodiadau cyfarfod, mae'n rhannol yn ymwneud â phroses, a chredaf hefyd ei fod yn rhannol yn ymwneud ag eisiau bod yn agored, ond ni fyddwn i'n dymuno mygu cadernid yr her yn y cyfarfod hwnnw. Rwy'n fwy na pharod i ddod i'r fan yma ac ateb cwestiynau, a dydw i ddim yn ystyried hynny'n beth anodd ei wneud; rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ond hoffwn feddwl am ffordd y gallwn ni beidio â mygu dadl a her yn y cyfarfod hwnnw, ond ar yr un pryd gwneud yn siŵr bod Aelodau yn ymwybodol bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Ar y pwynt ehangach am amserlen a gwerthuso y gwnaethoch chi ofyn amdanyn nhw sawl gwaith, fel y dywedais wrth Angela Burns, bydd yna amserlen a gwerthusiad ar gyfer pob cais sy'n cael ei gyflwyno i'r gronfa. Mae'n rhan o'r hyn y caiff profion eu cynnal arno cyn cymeradwyo unrhyw brosiect ar gyfer y gronfa trawsnewid, ac ni fyddaf yn pennu amserlen artiffisial i'r gwerthusiad hwnnw ddigwydd oddi mewn iddi. Byddaf yn disgwyl nid yn unig i fframwaith gwerthuso fod ar waith, ond wrth gwrs bydd hynny'n sail i unrhyw ddewis a wneir ynghylch a yw'r prosiect yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus. A byddwn yn disgwyl sicrhau bod hwnnw ar gael, neu fod gwybodaeth o'r gwerthusiad hwnnw ar gael, pan wneir dewisiadau wedyn ynghylch p'un ai i barhau ac i hyrwyddo hwnnw fel prosiect i'w brif ffrydio, neu yn wir os mai'r dewis yw peidio â pharhau â hynny.

Oherwydd, mae pob un ohonom ni yn yr ystafell hon yn ymwybodol, yn ein swyddogaethau amrywiol, a byddwn yn cael ein lobïo yn gyson am wahanol brosiectau sy'n gweithio pan fo pobl yn dweud, 'Mae hwn yn brosiect gwych. Mae'n rhaid i chi ei gefnogi.' Yn aml, hyd yn oed mewn prosiect aflwyddiannus, mae llawer sy'n werthfawr a gwersi a ddysgwyd y mae pobl eisiau parhau â nhw, ond mae'n rhaid inni wneud dewis ynghylch yr hyn i beidio â gwneud sy'n ein hatal rhag gwneud pethau a allai fod o fwy o werth i'r system gyfan. Felly, ydw, rwyf eisiau dod o hyd i ffordd o wneud yn siŵr bod gwybodaeth werthuso ar gael i helpu i gefnogi'r penderfyniadau hynny.

Ynglŷn â'ch pwyntiau ehangach o ran ble yr ydym ni arni, edrychwch: rwy'n cydnabod bod newid yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn anodd, ac, oes, mae Gweinidog Llafur wedi bod yn y swydd hon dros y 18 mlynedd diwethaf, gan gynnwys wrth gwrs yn ystod Llywodraeth Cymru'n Un, felly rydym ni i gyd wedi gweld yr heriau a'r anawsterau dros amser o ddarparu iechyd a gofal yng Nghymru—ar adegau yn ystod hanner cyntaf datganoli pan roedd mwy o arian, ac yn ystod ail hanner datganoli wrth ymdopi â chyni. Beth sy'n wahanol yn awr yw nad oes gennym ni arian i osgoi proses o newid. Mae gennym ni alw cynyddol y gallem ni ei ragweld 20 mlynedd yn ôl, ond mae'r galw hwnnw bellach wedi cyrraedd y graddau lle y gallai orlifo ein system, felly mae cyfrifoldeb gwirioneddol ar bob un ohonom ni mewn sefyllfa o arweinyddiaeth i alluogi i newid ddigwydd mewn gwirionedd.

Nid yw hynny'n golygu bod angen inni i gyd gytuno. Gallwch gael undod pwrpas heb unfrydedd ar bob cwestiwn unigol a dewis i'w wneud. Ond rwyf yn credu bod angen i bob un ohonom ni gydnabod bod lleisiau ym mhob plaid yn erbyn newid. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen yn y lle hwn, rwy'n cydnabod fod pobl yn fy mhlaid nad ydyn nhw eisiau gweld newid yn digwydd pan mae'n anodd yn lleol, ac nid oes diben cymryd arnom ni fel arall. Ond fy ngwaith i yn y swyddogaeth hon yw ceisio gwneud yn siŵr bod gan ein system yr arweinyddiaeth ofynnol, a'r cyfleoedd i'w galluogi a'i chynorthwyo i wneud dewisiadau i wirioneddol newid y ffordd yr ydym ni'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n benderfynol o wneud hynny, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb aeddfed gan bob plaid yn y Siambr hon i ganiatáu inni i wneud hynny. Nid yw hynny'n golygu na fydd yna her, ond roedd angen dewrder a newid gan bobl o bob plaid i greu'r Senedd yma yn y lle cyntaf ac mae angen inni yn awr ddangos yr un dewrder, arweinyddiaeth ac aeddfedrwydd wrth ddarparu ac ysgogi newid gwirioneddol drwy'r maes iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.

15:05

Rwyf eisiau dechrau drwy fod efallai yn annodweddiadol o hael tuag at Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, oherwydd rwy'n cydnabod, wedi bod mewn gwleidyddiaeth am amser hir iawn, nad yw'r gwasanaeth iechyd bob amser wedi elwa o ysgarmes y pleidiau gwleidyddol, ac mae'r newid a'r dadnewid cyson yr wyf i wedi bod tystio iddo yn ystod y 30 neu 40 mlynedd diwethaf yn aml wedi bod yn rhwystr i wella yn hytrach nag yn gymhelliant. Felly, rwy'n croesawu'r ffordd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â hyn, ac rwy'n credu ei fod yn faes lle rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r problemau posibl sydd gan y gwasanaeth iechyd, o ran cyllid, poblogaeth sy'n heneiddio, y diagnosis o gyflyrau newydd y gellir eu trin, ac ati, ac ati. Ac rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yn y fan yma i ni, heb roi'r gorau i'r craffu democrataidd brwd ar y Llywodraeth yr ydym ni wedi ein hethol i'w gyflawni, i weithio gyda'n gilydd i'r perwyl hwnnw, ac, heb roi'r gorau i herio, i wneud hynny mewn ffordd sy'n adeiladol.

Rwyf yn credu bod y cyhoeddiadau a wnaethpwyd hyd yn hyn—er enghraifft, cynnig bwrdd partneriaeth Caerdydd a'r Fro ar gyfer Get Me Home Plus, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos ddiwethaf, yn welliant gwirioneddol yn y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau, sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynharach ac wedyn i'w hanghenion gael eu hasesu yn eu cartrefi eu hunain, fel y gallwn ni fanteisio ar y ffordd y caiff eu cartrefi eu haddasu fel eu bod yn gwella ynghynt, ac ati. Mae hynny'n mynd i fod yn beth defnyddiol iawn, iawn a chredaf, yn y datganiad, bod Ysgrifennydd y Cabinet i'w ganmol am yr agwedd realistig y mae wedi ei mabwysiadu, yn arbennig am ddweud, er bod y gronfa trawsnewid wedi denu llawer o ddiddordeb, bod yn rhaid iddo fod yn weithgaredd craidd ar gyfer pob sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n cymeradwyo yn arbennig ei fod yn dweud, yn y pen draw, nad y gronfa trawsnewid £100 miliwn, ond y £9 biliwn o gyllid craidd a gaiff ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn a fydd yn cyflawni'r trawsnewid hwnnw. Rwy'n credu bod yr ymdeimlad hwnnw o realaeth yn hanfodol bwysig, oherwydd mae heriau amhosibl bron o'n blaenau. Ysgrifennodd Michael Trickey, dwy flynedd neu yn ôl, yn ei ddogfen, 'Closing the health and social care funding gap in Wales'

y byddai gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn rhan hanfodol o hyn, ac er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant, mae'n rhaid i Gymru'n perfformio'n well na'r cyfraddau gwella cynhyrchiant hanesyddol.

Mae hynny'n mynd i fod yn her sylweddol. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet neilltuo ychydig o amser heddiw i edrych ar y dewisiadau yn rhai o'r meysydd hyn. Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod pobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd damweiniau ac achosion brys wedi codi o 980,000 yn 2010-11 i 1,030,000 yn 2017-18. Rhan o hynny yw oherwydd na all pobl fynd i weld meddyg ar adeg o'u dewis eu hun. Mae hwnnw'n faes y mae angen ei wella hefyd oherwydd, yn 2012, dywedodd 15 y cant o bobl nad oedden nhw'n gallu cael apwyntiad meddyg teulu ar amser o'u dewis; mae hynny wedi cynyddu i 24 y cant yn 2018. Yn wir, mae'n 27 y cant mewn ardaloedd trefol. Felly, mae hynny'n amlwg yn her sylweddol.

Mae dementia yn broblem gynyddol. Unwaith eto, mae cynnydd o 48 y cant yn y ffigur o'i gymharu ag wyth mlynedd yn ôl, a chredir bod cymaint â hynny o bobl heb gael diagnosis eto â'r rhai sydd wedi cael diagnosis. Mae diagnosis o ganser wedi dyblu. Mae diabetes wedi cynnyddu wrth un rhan o dair. Ysgrifennir mwy o bresgripsiynau yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU sef 28.3 y flwyddyn. A oes modd yn hynny o beth addasu'r system i leihau'r gost a orfodir ar y gwasanaeth iechyd, sy'n ein hatal rhag gwario'r arian mewn ffyrdd eraill, ffyrdd mwy cynhyrchiol efallai? Mae offer y GIG wedi bod yn y newyddion unwaith eto yn ddiweddar hefyd. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, dosberthir 10,000 o gymhorthion cerdded bob blwyddyn, ond ni chaiff 40 y cant o'r rhai hynny eu dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd pan na fo'u hangen mwyach. Felly, mae arbedion yn mynd i fod yn rhan bwysig o hynny. 

Wrth gwrs, mae'r prosesau gweithio mwy cydweithredol yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw heddiw yn elfen hanfodol o gyflawni'r gwelliannau cynhyrchiant hynny ac rwy'n sylweddoli ei bod hi'n anodd iawn i fod yn benodol yn ystod camau cynnar y rhaglen hon. O ddarllen y ddogfen 'Cymru Iachach', mae'r dechrau yn llawn o iaith rheoli, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr, a'r uchelgais, ac mae angen inni gyflawni, a bydd cyflawni yn cymryd amser. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ychwanegu ychydig mwy i'r hyn a ddywedodd yn y datganiad eisoes ynglŷn â hynny.

15:10

Diolch i chi am yr haelioni annodweddiadol yr wyf yn ei gydnabod yn eich sylwadau. Credaf fod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am effeithlonrwydd ac am sut yr ydym ni'n cael mwy o werth a chynhyrchiant, maen nhw'n bwysig. Mae rhywbeth ynghylch gwneud rhai pethau'n wahanol, eu gwneud yn fwy effeithlon, ond mae hefyd rhywbeth ym maes trawsnewid ynghylch gwneud pethau gwahanol hefyd. Ac mae angen inni allu gwneud y ddau beth yma a barnu pryd y mae angen inni wneud y naill neu'r llall.

Felly, er enghraifft, fe wnaethoch chi sôn am bresgripsiynau. Wel, mewn gwirionedd, mae twf presgripsiynau wedi bod yn arafach yng Nghymru ers y polisi presgripsiynau am ddim nag y bu yn Lloegr lle mae pobl yn talu am bresgripsiynau, sy'n ffaith anarferol—mae'n groes i'r disgwyl—ond dyna realiti'r hyn sydd wedi digwydd. Felly, mae pobl eisoes yn gwneud dewisiadau ynghylch beth i'w roi ar bresgripsiwn. Ac, mewn gwirionedd, yng Nghymru, rydym ni wedi bod â dull cenedlaethol o roi cynhyrchion meddyginiaethol biolegol ar bresgripsiwn sydd bron yn union yr un fath â chynnyrch tebyg—felly, nid bod â chynhyrchion brand, ond cynhyrchion sydd yn union mor effeithlon a diogel i'r dinesydd. Felly, rydym ni, mewn gwirionedd, wedi defnyddio dull cenedlaethol ac wedi gwneud arbedion ariannol gwirioneddol.

Ond nid dyna'r unig ran o'r hyn sydd gennym ni i'w wneud. Mae rhan fawr o hyn ynghylch sut yr ydym ni'n gwneud gwahanol bethau. Mae eich sylw ynghylch mynediad i adrannau damweiniau ac achosion brys a'r ffigurau yn codi, wel, wrth gwrs, mae mynediad i ofal sylfaenol yn rhan o'r stori honno. Dydw i ddim yn credu mai dyna'r stori gyfan, mewn gwirionedd. Mae yn, er hyn, yn rhannol yn atgyfnerthu pam mae angen inni drawsnewid gofal sylfaenol i sicrhau bod gennym ni feddygon teulu yn gweithio mewn partneriaethau bwriadol gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, ac nid dim ond fel ymateb i heriau o ran recriwtio meddygon teulu mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond, mewn gwirionedd, ym mhob rhan o'r wlad, dyma'r peth cywir i'w wneud. Mae'n swydd well ar gyfer y meddyg teulu, yn swydd well ar gyfer y ffisiotherapydd, y nyrs, a'r fferyllydd a'r therapydd galwedigaethol a fydd yn gweithio gyda nhw ac, yn y pen draw, yn wasanaeth gwell ar gyfer yr aelod o'r cyhoedd, a bydd pobl yn cael gweld y person cywir yn gyflymach. Dyna yr un rheswm hefyd pam ein bod eisiau cael partneriaeth wirioneddol fwy cydgysylltiedig â gofal cymdeithasol hefyd. Bydd y rhan fwyaf o feddygon teulu yn dweud wrthych chi bod gan lawer o'r bobl sy'n dod drwy eu drysau i'w gweld broblemau cymdeithasol ac nid, mewn gwirionedd, broblemau iechyd neu broblemau meddygol iddynt ymdrin â nhw. Felly, mae'r bartneriaeth honno yn bwysig iawn.

Y sylw am y galw sydd ar y system—rydym ni wedi trafod hyn droeon am oedran ein poblogaeth, am yr heriau iechyd cyhoeddus ychwanegol sydd gennym ni, am ddementia fel her arbennig sy'n ein hwynebu ni nawr ac yn y dyfodol hefyd. Mae'n atgyfnerthu pam mae angen i wneud rhai pethau mewn ffordd wahanol, ond mewn gwirionedd i wneud pethau gwahanol hefyd. Felly, mae ein gwasanaethau 'clywed a thrin' a'n gwasanaethau 'gweld a thrin' nid yn unig yn cadw pobl allan o'r ysbyty, maen nhw mewn gwirionedd ynghylch bod hynny'n ffordd well o ddarparu'r gofal hwnnw i'r person. Byddwch chi'n darparu rhagor o ofal lleol sy'n fwy priodol i'r person hwnnw a rhoi gwell profiad iddyn nhw hefyd, ac mae llai o risg, mewn gwirionedd, ar gyfer y person hwnnw o ran gwneud yn siŵr nad oes unrhyw daith ddiangen i'r ysbyty. Dyna pam mae'n rhaid inni gael sgwrs wahanol ynghylch gwerth. Mae'n rhannol ynghylch gofal iechyd darbodus a sylfaen gwerth yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, a pha werth a gawn ni drwy wario arian a defnyddio adnoddau mewn ffordd wahanol er mwyn darparu gofal gwell ac nid gofal sy'n fwy effeithlon yn dechnegol.

Wrth gwrs, edrychaf ymlaen at gael y sgwrs hon yn y pwyllgor yn ystod y gyllideb. Rwy'n siŵr y bydd digon o gwestiynau yn cael eu gofyn inni am hyn gan aelodau'r pwyllgor, ond, drwy gydol oes y cynllun hwn, mae mewn gwirionedd yn sylfaen i lawer o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud a sut y bydd gennym ni, mewn gwirionedd, system sy'n gytbwys, sy'n gynaliadwy yn ariannol, ac sy'n darparu gofal iechyd o ansawdd uchel i fodloni heriau heddiw a'r dyfodol.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

15:15

Rwyf wrth fy modd â'ch datganiad, yn enwedig eich bod yn cydnabod nad yw hyn dim ond am £100 miliwn, mae am y £9 biliwn yr ydym ni'n ei wario ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, oherwydd os ydym ni'n mynd i gyflawni 'Cymru Iachach' mae angen inni drawsnewid y gwasanaeth cyfan. Mae Caerdydd a'r Fro yn enghraifft ardderchog o sut y byddai'n bosibl i lyncu'r holl adnoddau i ofal mewn ysbyty gan fod meddygon ymgynghorol ysbytai yn bwerus iawn, felly rwy'n falch iawn bod Caerdydd a'r Fro wedi croesawu'r profiad yn Canterbury, sy'n dangos ei bod hi'n bosibl gwrthdroi tueddiadau o ran mwy a mwy o bobl oedrannus yn mynd i ysbyty, pan, mewn gwirionedd, gyda chymorth gwell yn y gymuned, fe allen nhw fod yn aros yn y cartref, sydd yn amlwg yr hyn y mae pobl ei eisiau. Felly, rwy'n awyddus iawn i glywed mwy am Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned a pha ganlyniadau yr ydym ni'n mynd i fod yn eu mesur i sicrhau mai hwn yw'r model cywir y gallem ni fod yn ei gyflwyno i eraill.

Fe wnaethom ni ddysgu gan fodel Canterbury, Seland Newydd, ei fod wedi arafu'r galw am ofal acíwt, ond ei bod yn cymryd amser—nid yw'n digwydd dros nos. Un o'r pethau sydd gan Canterbury yw'r mantra 'un system, un gyllideb'. Felly, sut y mae'r dull hwnnw wedi ei ddatblygu mewn byrddau partneriaeth rhanbarthol? Rwy'n gwerthfawrogi bod y gwaith yn dal i fod ar y gweill. A lle mae Buurtzorg yn rhan o hyn, sy'n amlwg yn ofal cymdogaeth a arloeswyd gan bobl yr Iseldiroedd? Felly, yn fy marn i, ni all y chwyddwydr fod ar y gronfa trawsnewid yn unig, mae'n rhaid iddo fod ar yr ymagwedd system gyfan at hyn, oherwydd dydy taflu mwy o arian at gwmnïau fferyllol ddim yn mynd i drawsnewid iechyd ein cenedl mewn gwirionedd.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn rhai o'r presgripsiynau cymdeithasol sy'n cael eu harloesi yng nghlwstwr de-orllewin Caerdydd, a byddwn wrth fy modd yn eu gweld yn cael eu datblygu yn fy etholaeth i, rhaglenni egnïol wrth heneiddio, pethau i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd drwy gyfeirio pobl at brosiectau garddio, a rhywbeth o'r enw'r prosiect Tyfu'n Dda yn ne-orllewin Caerdydd. Byddai'n wych pe gallem ni weld y math hwnnw o beth yn digwydd yn rhannau eraill y ddinas.

Sefydlwyd clwstwr dwyrain Caerdydd fel system anffurfiol gan Cymunedau yn Gyntaf dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn, ond wrth gwrs mae hwnnw wedi dod i ben bellach. Felly, tybed pa wybodaeth a allwch chi ei rhannu gyda ni ynghylch pa mor dda y mae'r math hwnnw o bresgripsiynau cymdeithasol yn datblygu yn absenoldeb y rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf hyn?

Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnaf i ymdrin â'r pwyntiau penodol am Buurtzorg a phresgripsiyanu cymdeithasol, ac wedyn fe ddof yn ôl at y pwyntiau ehangach ynghylch sut yr ydym ni'n symud ymlaen, gan gynnwys eich sylw agoriadol.

Ynglŷn â Buurtzorg,  rydym ni yn wir wedi buddsoddi arian ychwanegol mewn hyfforddiant nyrsys ardal, gan edrych ar fodelau penodol o ofal, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cyfrannu at sut yr ydym ni eisiau ceisio cynllunio a darparu ein gwasanaethau. Mae'n werth sôn hefyd bod nyrsio ardal a chymunedol yn faes, wrth gwrs, y mae'r prif nyrs yn ei ystyried o ran a allwn ni ymestyn effaith staff nyrsio i ddeall bod hwnnw yn arloesi sydd eisoes ar gael a'r egwyddorion sydd eisoes wedi'u sicrhau hefyd. Mae nyrsys ardal yn bwysig iawn mewn gwirionedd o ran cadw pobl yn eu cartrefi eu hunain a'u dychwelyd i'w cartrefi eu hunain hefyd. Felly, ni ddylem ni fyth danbrisio pwysigrwydd nyrsys ardal, ac eto anaml iawn y byddwn yn sôn amdanynt yn y Siambr hon.

Ynglŷn â'ch sylw ynghylch presgripsiynau cymdeithasol, mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar nifer y prosiectau sydd gennym ni ar waith yn y gwasanaeth iechyd, mae presgripsiynau cymdeithasol yn nodwedd llawer mwy pwysig o hynny. Yn rhywfaint o'r arian a gyhoeddais ar iechyd meddwl a phresgripsiynau cymdeithasol, mae gan bob un ohonyn nhw gysylltiad uniongyrchol rhwng presgripsiynau cymdeithasol ac iechyd meddwl—pob un o'r prosiectau a'r partneriaethau hynny yr wyf i eisoes wedi rhoi arian iddyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid dim ond hynny, chwaith, ond os edrychwch chi ar Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned, y prosiect cyntaf o dan y gronfa trawsnewid, mae presgripsiynau cymdeithasol yn un o'r saith elfen iddo. Os edrychwch chi ar ddull clwstwr Cwmtawe o weithio, yr wyf wedi sôn amdano heddiw, mae presgripsiynau cymdeithasol yn rhan o hynny hefyd. Felly, rydym ni'n bwriadu datblygu'r sail dystiolaeth ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol, ac ym mhob un o'r ardaloedd yng Nghymru y byddwch chi'n edrych arnyn nhw, byddwch yn gweld presgripsiynau cymdeithasol yn ymgais fwriadol i'r gwasanaeth iechyd weithio gyda'r gwasanaeth gofal cymdeithasol ac, wrth gwrs, gyda'r trydydd sector a'r dinesydd i ddeall sut yr ydym ni'n eu helpu.

Nawr, o ran eich pwynt ehangach am y system yn Canterbury, mae wedi bod yn ddiddorol, wrth gwrs, y bu hynny yn ysbrydoliaeth i Gaerdydd a'r Fro. Mae ganddyn nhw setliad a chytundeb dros amser ar yr hyn i'w wneud fel bod cysondeb yn y dull. Ac mae'r Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned yn datblygu ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn Canterbury, ond yn yr un modd, pan oeddwn yn lansiad y digwyddiad hwn, roedd pobl o Canterbury yno ac roeddent yn chwilio am bethau y gallen nhw, hefyd, eu dysgu a mynd â nhw yn ôl i Canterbury. Felly, mae'n gyfle dysgu gwirioneddol sy'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae'r undod pwrpas a gweledigaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi gwneud argraff dda arnyn nhw. Felly, dylem ni gymryd rhai pwyntiau cadarnhaol o'r hyn y mae ein staff ni yn ei wneud ac yn ei gyflawni, nawr bod ganddyn nhw'r cyfle i gydweithio'n fwriadol.

Mae llawer o'r cynllun Get Me Home a Get Me Home Plus yr ydych chi'n ei weld ym mhrosiect Fi, Fy Nghartref, Fy Nghymuned yng Nghaerdydd a'r Fro, yn debyg iawn i'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghwm Taf gyda'u partneriaid mewn gofal cymdeithasol gyda'r cynllun 'stay well @ home', sef, wrth gwrs, y cynllun yr ymwelais i a'r Gweinidog ag ef ar y diwrnod y lansiwyd 'Cymru Iachach', a nhw oedd enillydd mawr gwobrau GIG Cymru eleni, hefyd—partneriaeth rhwng iechyd a llywodraeth leol. Dyna'r dyfodol mewn gwirionedd. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi cymaint o bwyslais ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Rydym ni'n cael y budd mwyaf a'r gwerth mwyaf pan fo pobl yn fwriadol yn gweithio gyda'i gilydd, yn y system iechyd, y cydgysylltu rhwng ysbytai a gwasanaethau cymunedol, a hyd yn oed yn bwysicach, y cydgysylltu rhwng y system iechyd a'r system gofal cymdeithasol ac, yn wir, y dinesydd. Mae'n ffordd fwriadol o wneud pethau, a byddwn ni ond yn gwneud hynny os yw ein partneriaid yn gallu eistedd yn yr un ystafell a'u bod eisiau'r un blaenoriaethau ar gyfer yr un dinesydd.

15:20

O ystyried bod cod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, hefyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r byrddau weithio gyda phobl a chymunedau i gynllunio a darparu gwasanaethau, pa ofyniad fyddwch chi, os o gwbl, yn ei gymhwyso i'ch penderfyniadau o ran gwariant arfaethedig er mwyn sicrhau, er enghraifft, os yw hyn yn berthnasol i bobl fyddar, bod pobl fyddar wedi cymryd rhan, neu pobl awtistig, yna bod pobl awtistig wedi cymryd rhan, neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn fod wedi cymryd rhan, neu beth bynnag, fel bod yr arbenigwyr go iawn yn y rhwystrau y mae pob yn eu hwynebu, yn hytrach na chanfyddiadau bwriadau da pobl sydd fel arall o amgylch y bwrdd ond nad oes ganddyn nhw brofiad personol o bosibl?

Rwy'n cydnabod eich bod wedi sôn am bwyntiau penodol, ac eto rwy'n edrych am lais y dinesydd, a dydy'r dinesydd ddim yn un person gydag un nodwedd, a dydw i ddim eisiau ymarfer ticio blychau cul fel bod pobl yn gallu ticio a dweud eu bod wedi cael sgwrs â rhywun sydd â nodwedd benodol. Mae'n ymwneud â sut yr ydym ni'n gwasanaethu'r dinesydd ac yn gwasanaethu'r gymuned. Felly, wrth gyflawni cynllun Get Me Home a Get Me Home Plus a darparu'r gwasanaeth 'stay well @ home', mae'n rhaid ichi edrych ar y person hwnnw yn ei gyd-destun. Felly, os oes gan y person hwnnw nam ar y synhwyrau, mae'n rhaid inni ddeall sut y mae hynny'n effeithio ar y dewisiadau gofal, yr wybodaeth a'r cyfathrebu y bydd eu hangen arno, a'n bod yn deall mewn gwirionedd beth sy'n bwysig iddo. Os yw'r person hwnnw yn brif ofalwr i rywun arall—yn wir, pan aethom i ymweld â Doreen ar y diwrnod cyntaf, nid hi ei hun oedd ei phrif bryder, mewn gwirionedd; ei phrif bryder pan dorrodd ei ffêr oedd pwy oedd yn mynd i ofalu am ei gŵr, a oedd yn hŷn na hi, a hi oedd ei brif ofalwr. Dyna'r prif beth yr oedd hi'n poeni amdano a dyna pam nad oedd hi eisiau aros yn yr ysbyty ei hun. Felly, ei deall hi fel person, ei chyd-destun hi, ac nid dim ond ei gweld fel hen wraig yr oedd angen iddi aros yn yr ysbyty am wythnos, deall pam yr oedd yn bwysig iddi hi i gael bod gartref yn gyflym. A datblygwyd y cymorth o'i hamgylch drwy ddeall beth oedd yn bwysig iddi hi, a dyna beth y mae angen inni ei weld. Felly, nid yw ynghylch dweud, 'A ydych chi wedi siarad â'r grŵp hwn, y grŵp yna neu un arall?', ond deall, os ydych chi'n cyfeirio gwasanaeth, er enghraifft gwasanaethau anabledd dysgu, p'un a ydych chi wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth hwnnw—nid yn unig y staff, ond y dinesydd hefyd.

Felly, ie, dyna beth rwy'n disgwyl ei weld ym mhob un o'r dewisiadau y byddaf yn eu gwneud am y cyngor a gaf, i ddeall lle mae llais y dinesydd, sut y mae eu hanghenion wedi'u hystyried, ac, yn hollbwysig, sut yr ydym ni'n deall a ydym ni wedi gwneud gwahaniaeth. Daw hynny'n ôl eto drwy'r pwyntiau a wnaed eisoes am werthuso gan ein cyd-Aelod, Angela Burns.

15:25

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae llawer o hyn wedi ei drafod bellach, felly a gaf i ddod â chi at—mae'n bwynt syml iawn, mewn gwirionedd, yr oeddwn i eisiau ei wneud? Rwyf wedi bod yn gwneud llawer o waith yn fy etholaeth i ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol dros yr haf a dechrau'r hydref, ac mae awgrym clir nad yw pobl bob amser yn cael, yn sicr, y cymorth gofal cymdeithasol y maen nhw'n credu y dylen nhw ei gael. Ac er fy mod i'n trin yr adborth hwnnw ag ychydig o bwyll ar hyn o bryd, oherwydd rwy'n credu bod angen rhywfaint rhagor o waith ar hwnnw, rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n ymwybodol ohono, ac mae eich cyhoeddiad am yr £180 miliwn ar yr agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol i'w groesawu yn fawr iawn o ran mynd â ni beth o'r ffordd tuag at ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd, sef yr ateb, yn amlwg, ar gyfer y tymor hwy.

Wrth atgyfnerthu rhai o'r dulliau arloesol yr wyf i wedi eu gweld, a'r bobl yr wyf i wedi bod yn siarad â nhw, fel y swyddogion cymorth meddygon teulu a'r cysylltwyr cymunedol, yn sicr mae'n rhaid i ni barhau i wella'r cysylltiadau rhwng meddygon teulu, sefydliadau trydydd sector a chefnogaeth awdurdod lleol. Felly, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, a gaf i ofyn ichi roi rhywfaint o ystyriaeth i p'un a allai mwy o gysondeb helpu defnyddwyr i ddeall yr arloesi a'r newid sy'n digwydd yn lleol? Fe rof i enghraifft ichi, ac rydych chi a Jenny Rathbone eich dau wedi cyfeirio at hyn. Rwyf wedi bod yn siarad â swyddogion cymorth meddygon teulu, rwyf wedi bod yn siarad â phobl sy'n llunio presgripsiynau cymdeithasol, rwyf wedi bod yn siarad â chysylltwyr cymunedol, rwyf wedi bod yn siarad â'r tîm ward rithwir, ac ar y cyfan, maen nhw'n gwneud yr un math o waith gan amlaf. Ac er y derbyniaf fod pob un o'r dulliau arloesi hynny ychydig yn wahanol, rwy'n credu y gallai mwy o gysondeb o ran teitlau a therminoleg helpu defnyddwyr i ddeall yn well pa ran o'r gwasanaeth y maen nhw'n ymdrin ag ef mewn gwirionedd. Wrth gwrs rwy'n sylweddoli bod hynny, mwy na thebyg, yn isel iawn ar eich rhestr o flaenoriaethau o ran y darlun mawr, ond rwyf o'r farn ei fod yn bwysig. Mae terminoleg yn bwysig a bod pobl, pan fyddan nhw'n defnyddio'r gwasanaethau, a phan rydych chi'n darparu'r math hwnnw o ofal integredig yr ydym yn ei ystyried—bod pawb yn deall, pan maen nhw'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw, a phan fyddan nhw'n cael eu hatgyfeirio at fath penodol o wasanaeth, eu bod yn gyson o ran yr hyn y maen nhw'n ei gael a'u bod yn gwybod beth maen nhw'n ei gael o ran y teitlau y mae pobl yn eu defnyddio.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud yn dda iawn, ac, a bod yn deg, roedd yn ddiddorol i mi ddod i rai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd gennych chi dros yr haf ym Merthyr Tudful a Rhymni, wrth geisio deall mwy o'r manylion o ran sut y darperir iechyd a gofal cymdeithasol—pethau da, pethau drwg a gwahanol bethau, a meysydd o gyfleoedd hefyd yn ogystal â meysydd i dynnu sylw atynt.

Rwy'n cydnabod y pwynt yr ydych chi wedi'i wneud oherwydd, wrth gwrs, pan aethom i ymweld ag un o'r meddygfeydd yn eich etholaeth, a'r sgwrs am allu cael gwasanaeth deintyddiaeth mewn da bryd, am fod â gweithiwr cymdeithasol yn y feddygfa honno hefyd, a sut yr oedd y cydgysylltu bwriadol hwnnw wedi helpu meddygon teulu i wneud eu gwaith—nid yw dim ond ynglŷn â dweud, 'Mae hwn yn rhyddhad i mi, does dim rhaid i mi ei wneud', ond, mewn gwirionedd, roedden nhw'n gwybod bod y person yn mynd i gael gwell gwasanaeth ac yna fe allen nhw dreulio mwy o'u hamser ar bobl yr oedd gwir angen eu gweld ac yr oedd angen iddynt gael eu gweld. Ac nid oeddynt yn gwneud problemau cymdeithasol a oedd yn bodoli yn rhai meddygol. Ond rwy'n cydnabod eich pwynt, ar ryw adeg, ar ôl cwblhau'r holl gynlluniau treialu, a'n bod yn deall yr hyn yr ydym ni yn credu y bydd yn gweithio, fe wnawn ni ddewisiadau. Os ydym ni yn mynd i gyflwyno yn genedlaethol, nid dweud bod pethau yn wahanol drwy ddamwain, ond mewn gwirionedd gan ein bod wedi gwneud dewis ynghylch pam maen nhw'n ymddangos yn wahanol, a sut i'w gwneud hi'n hawdd i'r dinesydd fanteisio ar y gwasanaeth. Oherwydd ni fydd llawer o'r ddadl hon a gawsom ni heddiw yn golygu llawer i bobl sy'n gwylio. Pan fyddwn yn sôn am yr agenda integreiddio, os  gofynnwch chi wedyn i rywun a oedd yn gwylio'r rhaglen hon, 'Beth yw ystyr hynny?', wel, mewn gwirionedd, rwy'n credu, i'r dinesydd, dylem ni ei gwneud yn haws iddynt lywio eu ffordd drwyddo. Felly, mae ynglŷn â chysondeb o ran disgwyliadau, rhywfaint o gysondeb yn y math o deitlau sydd gan pobl—gallaf weld y byddai hynny'n ddefnyddiol. Ac ar ryw adeg, rydych chi'n iawn, bydd angen i ni gyrraedd man lle byddwn yn gwneud dewisiadau: beth fydd yn genedlaethol a chyson a beth fydd yn dibynnu ar egwyddorion cenedlaethol a ddarperir yn lleol. A dyna a nodwyd gennym ni yn 'Cymru Iachach'. Ond mae angen i bob un ohonom ni gadw mewn cof bod y sgwrs a gawn ni yn gorfod golygu rhywbeth i'r bobl yr ydym ni yma i'w gwasanaethu.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 4: datganiad gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—y cynllun gweithredu technoleg Gymraeg. A galwaf ar Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan.

15:30

Diolch yn fawr, Llywydd. Nawr, ym mis Gorffennaf 2017, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer Cymraeg, Cymraeg 2050. Nawr, prif darged Cymraeg 2050, mae'n bwysig ei nodi, oedd i ni gael gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ond y pwynt arall roedd yn rhaid inni ei danlinellu yn y broses yna oedd ein bod ni eisiau gweld pobl yn defnyddio'r Gymraeg hefyd, a hefyd sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd arloesi mewn technoleg ddigidol, i’w gwneud yn bosib defnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun digidol.

Nawr, nod y datganiad heddiw yw lansio cynllun manwl i ddangos sut y byddwn ni'n gwneud hyn. Nawr, mae bron pawb—yn arbennig plant a phobl ifanc—yn dod i gyswllt â thechnoleg rywbryd yn ystod eu diwrnod. Ac mae’r cynllun gweithredu rŷm ni'n ei lansio heddiw yn cydnabod bod technoleg yn faes y mae'n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau'n hygyrch—yn accessible—yn ein byd digidol newydd ni. Ac rydw i'n meddwl mai’r maes yma sy’n mynd i newid y gêm yn 2018.

Nawr, mae’r cynllun yn nodi sut rŷm ni am sicrhau bod mwy o gyfle gan blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio technoleg Cymraeg, ac mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgolion, yn y gweithle, ac yn y cartref. A beth sy'n bwysig yw bod yn rhaid i’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a’r dechnoleg fod yn hawdd dod o hyd iddynt; rhaid iddynt fod yn hygyrch—yn accessible. Rydw i'n un sy'n defnyddio technoleg bob dydd, ond anaml iawn y byddaf i'n cael y cyfle, a'r cynnig, i’w ddefnyddio yn Gymraeg heb fy mod i'n mynd i edrych amdano—heb fy mod i'n gorfod gofyn.

Ac, os oes dewis Cymraeg ar gael, nid yw hi bob amser yn amlwg ei bod hi ar gael heb fy mod i’n mynd i chwilio amdani. A nawr mae bywyd yn brysur—a phwy sydd â'r amser i chwilio? Ac, mewn gwirionedd, y cwestiwn yw: pam ddylai unrhyw un chwilio er mwyn defnyddio’r Gymraeg ar dechnoleg? Nawr, mae’r cynllun yn nodi sut rydym ni am i’r Gymraeg gael ei chynnig ar dechnoleg heb i chi orfod gofyn nac edrych amdani. Rŷm ni am i’r Gymraeg fod ar gael trwy beiriannau technolegol—o weithio ar gyfrifiadur i ddefnyddio’ch ffôn neu’ch tabled. Ac rŷm ni am ddatblygu’r dechnoleg a fydd yn eich galluogi i allu siarad â’ch peiriannau yn y Gymraeg, ac, yn hollbwysig, i'r peiriant wedyn eich deall chi.

Rŷm ni am i’r adnoddau technolegol y byddwn yn eu creu ar sail y cynllun fod ar gael yn rhwydd a chael eu rhannu, ac i bawb gael y cyfle i'w defnyddio eto ac eto. Ac, er mwyn i hyn ddigwydd, mae’r cynllun yn nodi bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod gennym ni'r seilwaith ddigidol gywir i gefnogi’r Gymraeg. Felly, dyma’r tri maes seilwaith penodol y bydd y cynllun yn mynd i’r afael â nhw: technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur, a deallusrwydd artiffisial yn y Gymraeg, fel bo peiriannau yn gallu deall Cymraeg ac yn gallu rhoi cymorth i ni yn y Gymraeg.

Nawr, o ran cyfieithu, byddwn ni'n edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg i gynyddu faint o Gymraeg sydd i’w gweld a faint sy’n cael ei defnyddio, ac i helpu, ond nid i gymryd lle, cyfieithwyr proffesiynol. Ond mae'n rhaid i mi bwysleisio nad technoleg, na dogfennau technoleg er lles technoleg, sy’n mynd â fy mryd i. Nid y rheini sy’n bwysig. Yn hytrach, os gall technoleg ddod â rhagor o gyfleoedd i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg, neu i ddysgu Cymraeg, mae angen i ni afael yn y cyfleoedd hynny. Ac fe wnawn ni afael ynddyn nhw.

Os gall technoleg hwyluso cyfleoedd i weithio ac i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, mae angen datblygu’r cyfleoedd hynny. Os gall technoleg wella safon bywyd pobl sy’n byw â heriau o ran hygyrchedd neu anabledd, mae angen iddyn nhw gael y dechnoleg honno yn y Gymraeg. A dyna fyddan nhw’n ei chael, a dyna beth maen nhw'n ei haeddu, ac mae angen i’r pethau hyn oll gael eu defnyddio’n eang.

Nawr, fel fi, mae’r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn byw neu’n gweithio yn ddwyieithog. Wrth i mi wneud fy ngwaith, felly, bydd angen i’r dechnoleg rwy’n ei defnyddio ddelio â’r Saesneg a’r Gymraeg ar yr un pryd a dyma hefyd yn un o egwyddorion y cynllun. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol, ac nid y Llywodraeth fydd yn gyfrifol am ei weithredu ar ei phen ei hun, ond fyddwn ni ddim yn swil o ran arwain nac ariannu, lle bo hynny'n briodol.

Dylwn i hefyd nodi fy mod i'n ddiolchgar i aelodau’r bwrdd o arbenigwyr rwy’n ei gadeirio am yr holl fewnbwn maen nhw wedi ei roi, ac i bawb a fu’n rhoi cyngor wrth ddatblygu’r cynllun.

Felly, i grynhoi: mae gweledigaeth glir gyda ni ar gyfer technoleg a’r Gymraeg, ac mae’r cynllun rŷm ni yn ei lansio heddiw yn dangos yr hyn yr ydym ni am ei wneud er mwyn sicrhau bod y  weledigaeth yna yn dod yn realiti. Rŷm ni am weld y Gymraeg wrth wraidd arloesi mewn technoleg. Rŷm ni am iddi fod yn bosibl i sefydliadau, teuluoedd ac unigolion ddefnyddio’r Gymraeg mewn niferoedd cynyddol o sefyllfaoedd, boed rheini’n uniaith Gymraeg neu’n ddwyieithog, heb orfod gofyn am gael gwneud hynny. Nawr, mae'r dechnoleg yn symud yn gyflym ac rŷm ni am i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg yna a dyna nod y cynllun yma. 

15:35

Diolch am y datganiad. Roeddwn i jest yn iwsio'r dechnoleg nawr i edrych am beth yw'r gair am spoilt yn y Gymraeg, achos, fel Aelodau Cynulliad, rŷm ni'n spoilt gyda'r gwasanaethau sy'n llesol i ni fan hyn a sut rydym yn gallu manteisio arnyn nhw i'n helpu ni i weithio ac i iwsio'r ddwy iaith yma yn ystod ein gwaith busnes. 

Pan welais i deitl y datganiad heddiw, roeddwn i'n meddwl bod y Llywodraeth yn mynd i drio osgoi'r ffaith sy'n eithaf embaras bod yna ostyngiad yn nifer yr athrawon Cymraeg ar hyn o bryd. Felly, nid oeddwn i'n edrych ymlaen at ddyfodol lle roedd y bwlch yna yn mynd i gael ei lenwi gan weithio drwy ffyrdd digidol, yn lle drwy athrawon. Felly, roeddwn i'n falch o weld ein bod yn siarad am rywbeth hollol wahanol.

Rwy'n derbyn eich dadansoddiad bod technoleg yn ymestyn mewn i'n bywydau bob dydd ac rwy'n meddwl ei bod yn lle da i gyflwyno'r Gymraeg i bobl, yn weledol ac yn agored, rili, yn ogystal â chaniatáu i siaradwyr Cymraeg i fyw drwy'r Gymraeg—mae'n hawdd gwasgu botwm 'iaith' ar beiriant ATM, er enghraifft. Ond rwy'n siŵr ein bod ni'n siarad am rywbeth lot mwy cymhleth ac uchelgeisiol na hynny.

Felly, rwyf wedi edrych yn glou ar y cynllun ei hunan; cyrhaeddodd y linc amser cinio heddiw, felly nid wyf i wedi ei weld yn fanwl eto. Ond welais i ddim o ddyddiad cau ar gyfer asesiad cynnydd yn ystod—wel, nid wyf yn gwybod beth fydd y cyfnod, felly, mae'n anodd i mi, fel rhywun o'r wrthblaid, graffu ar beth yw eich syniadau. Felly, os ydych chi'n gallu helpu gyda rhyw fath o time frame i ni heddiw byddai hynny'n ein helpu ni i wneud ein gwaith. A allwch chi rannu eich archwiliad neu analysis, hyd yn oed, am raglenni arloesi sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd—yma yng Nghymru, gobeithio, ond tramor hefyd? Os oes yna rywbeth inni wybod am hynny, byddai hynny'n wych.

Rydych chi'n sôn am arweinyddiaeth ac ariannu. Mae'r Llywodraeth yma yn cwyno bob dydd am ddiffyg arian, felly sut gallwch chi berswadio'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid y dylai hyn fod yn flaenoriaeth o ran ariannu? A, jest i ddod i ben, sut fyddech chi'n blaenoriaethu sectorau neu weithgareddau, neu beth bynnag, er mwyn elwa o'r cynllun hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac yn fwy amlwg hefyd, achos mae'n well inni weld y rhai sy'n elwa o'r cynllun yma yn ein hwynebu mewn ffordd? Nid ydym ni eisiau cuddio'r llwyddiannau tu ôl i rywbeth sydd ddim yn amlwg i bawb. Diolch.

15:40

Diolch yn fawr. Rydw i yn meddwl—jest ar y pwynt cyntaf, wrth gwrs, nad ŷm ni’n mynd i ddefnyddio peiriannau i drio dysgu pobl sut i siarad Cymraeg, ond rydw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig hefyd ein bod ni yn arloesi gydag addysg trwy gyfrwng technoleg, ac rydw i yn meddwl bod yna bosibilrwydd i gynyddu darpariaeth addysgiadol trwy gyfrwng y Gymraeg. Rŷm ni’n gwneud rhywbeth ar hyn o bryd gydag E-sgol, sydd yn brosiect, a chawn ni weld sut y mae’n gweithio. Ambell waith, mae’n rhaid inni fod yn arloesol, ond, na, nid yw hwn yn mynd i gymryd lle athrawon yn ein dosbarthiadau ni.

Rydw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddeall pa mor gymhleth yw’r peiriannau hyn. A diolch yn fawr am y cwestiwn ynglŷn â sut rŷm ni’n asesu cynnydd. Beth sy’n bwysig yw bod yna ddealltwriaeth fan hyn bod hwn yn gynllun sydd yn hirdymor. Nid ydym ni’n mynd i droi hwn o gwmpas dros nos, ond mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid inni ddal ati, achos bydd y dechnoleg yn newid yn wythnosol, bron, ac felly mae’n rhaid inni gadw i fyny â hynny. Eisoes, mae yna lot o gydweithredu gyda rhai gwledydd eraill. Rydw i’n gwybod bod y ganolfan ym Mangor yn gweithio’n agos gyda’r Iwerddon, er enghraifft, ar sut maen nhw’n datblygu eu cof cyfieithu nhw. Rydw i yn meddwl bod yna bosibilrwydd fan hyn inni fanteisio ar y datblygiad ac efallai i droi hi i mewn i rywbeth lle rŷm ni’n gallu gwerthu’r syniadau a’r dechnoleg yma ar draws y byd. Achos beth rŷm ni’n sôn am fan hyn yw nid rhywbeth uniaith Gymraeg, ond rhywbeth dwyieithog. Mae yna gannoedd o wledydd ar draws y byd fydd yn edrych am y dechnoleg yma, felly, mae yna bosibilrwydd y bydd hwn yn rhywbeth y gall gael ei farchnata, wedyn, ar draws y byd.

Sut rŷm ni’n mynd i elwa o’r cynllun yma? Wel, un o’r pethau sy’n bwysig i ni ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod y sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd, lle bo’n bosibl, inni gydweithredu fel, er enghraifft, ein bod ni’n datblygu cof cyfieithu, os ŷch chi’n mynd i gyfieithu. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru’n gwneud cyfieithu mewn rhyw ffordd. Os ŷm ni’n cael y peiriannau hyn i siarad â’i gilydd, wedyn bydd y dechnoleg a’r artificial intelligence yn gweithredu lot yn well gyda mwy o fewnbwn i mewn i’r system.

Diolch yn fawr am y datganiad. Rydw i wedi bod yn galw’n gyson arnoch chi yn y lle yma i weithredu, ac mae'n gadarnhaol gweld datganiad o'ch bwriad i wneud hynny ym maes technoleg iaith. Yn wir, mae hwn yn faes rydw i a Phlaid Cymru yn cymryd diddordeb mawr ynddo, fel rydych chi’n gwybod. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, fe wnes i a’m cyfaill Jill Evans gynnal digwyddiad ar ieithoedd Ewropeaidd yn yr oes ddigidol, efo cynrychiolaeth o Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn y Senedd yma, fel mae’n digwydd.

Mae Canolfan Bedwyr, yn fy etholaeth, yn gwneud gwaith arloesol efo'r adnoddau sydd ar gael, ond y feirniadaeth sydd wedi bod yn y gorffennol, yn gyffredinol o ran technoleg iaith, ydy nad oes yna ddim gorolwg digon strategol wedi dod o dŷ’r Llywodraeth, a bod y cyllid wedi bod yn gyfyngedig ac yn bytiog ei natur. Dyna’r rheswm pam y gwnaeth Plaid Cymru alw am strategaeth bwrpasol i sicrhau datblygiad y Gymraeg ym maes technoleg iaith ac ar y llwyfannau digidol. Mae hynny am ddau brif reswm: yn gyntaf, fel bod y Llywodraeth hon yn ymddwyn fel Llywodraeth genedlaethol ac yn cymryd perchnogaeth dros roi arweiniad ar gyfer tyfu technoleg cyfrwng Gymraeg, ac, yn ail, er mwyn unioni’r tanfuddsoddiad ariannol i gefnogi’r weledigaeth ar gyfer sicrhau bod y Gymraeg yn fyw yn oes fodern awtomeiddio. Er nad ydw i wedi cael cyfle i edrych yn fanwl ar gynnwys y cynllun eto, mae’n addawol bod y Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth o’r fath. 

Ond, i ddod at yr ail bwynt, sef y cyllid, nid wyf i'n clywed sôn yn eich datganiad chi am unrhyw gyllid newydd sydd wedi cael ei glustnodi i wireddu’r cynigion hyn, ond mi wnes i glywed chi ar Radio Cymru’r bore yma yn sôn mai £400,000 ydy’r buddsoddiad rydych chi am roi i gefnogi’r cynllun yma, a hynny tan ddiwedd tymor y Cynulliad yma. A fedrwch chi, felly, gadarnhau, y prynhawn yma, fod yr hyn a ddywedoch chi ar Radio Cymru'r bore yma yn gywir, a jest cadarnhau faint yn union o gyllid newydd a fydd ar gael yn flynyddol ar gyfer gwireddu'r cynigion yma?

Mi oeddech chi'n sôn yn eich datganiad am yr angen i wasanaethau Cymraeg fod yn rhwydd ac yn hygyrch i'w defnyddio er mwyn i bobl allu manteisio arnyn nhw, ac rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi yn y fan honno. Ers i safonau'r Gymraeg ddod yn weithredol, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n dod ar draws cyfleoedd cynyddol i ddefnyddio'r Gymraeg efo cyrff sydd o fewn cwmpas dyletswyddau iaith. Cryfder y safonau ydy eu bod nhw yn cydio ym mhob elfen ar waith sefydliadau, ac mae hynny'n amlwg wrth fod y Gymraeg yn flaenllaw ar beiriannau hunanwasanaeth, apiau a gwefannau, er enghraifft. Fy nghwestiwn i, felly, ydy: oni fyddai'n well defnydd o adnoddau ac yn well o ran llwyddiant y cynllun yma i'ch swyddogion chi fod yn parhau i weithredu'r pwerau sydd gennych chi, a hynny i'r eithaf, er mwyn cyflwyno rhagor o reoliadau ar gyfer safonau yn y sectorau y mae modd eu cyflwyno, gan gynnwys ar gwmnïau telathrebu, sydd yn gwmnïau dylanwadol iawn o safbwynt defnydd pobl o'r Gymraeg?

I gloi, mi oeddwn i'n falch iawn fod gwaith Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, yn Senedd Ewrop wedi sicrhau cefnogaeth i'w hadroddiad hi yn galw ar i'r Comisiwn Ewropeaidd lunio polisïau i fynd i'r afael â gwahaniaethau yn erbyn ieithoedd lleiafrifol yn y maes digidol, gan gynnwys y Gymraeg. Ond, wrth gwrs, mae'n ofid beth fydd yn digwydd os bydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Buaswn i'n hoffi gofyn, felly, i gloi: pa drafodaethau mae swyddogion eich Llywodraeth chi, neu ydych chi fel Gweinidog, wedi'u cael efo'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y gwaith sydd wedi cael sêl bendith rŵan yn sgil gwaith Jill Evans, a sut ydych chi'n paratoi i barhau i weithio ar lefel Ewropeaidd, ac yn rhyngwladol, er lles y Gymraeg a thechnoleg iaith at y dyfodol? Diolch.

15:45

Wel, diolch yn fawr, ac mae'n dda eich bod chi hefyd yn cydnabod y gwaith arbennig mae Canolfan Bedwyr yn ei wneud lan ym Mangor, ac mae e wir yn waith arloesol, rydw i'n meddwl, sydd yn digwydd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu'r gwaith yna a bod pobl eraill yn cael y cyfle i ddefnyddio'r dechnoleg yna. Rydw i'n falch eich bod chi hefyd wedi tanlinellu mai beth sydd gyda ni yn fan hyn yw golwg mwy hirdymor, a golwg sydd yn strategol, a dyna pam ein bod ni wedi dod â'r bobl yma ynghyd, yr arbenigwyr, i ofyn iddyn nhw helpu, sut ddylem ni flaenoriaethu? A nhw sydd wedi ein helpu ni i ddod lan â'r blaenoriaethau sydd yn y strategaeth yma. 

O ran y cyllid, mae'n iawn fod y cyllid—efallai ei fod e tamaid bach yn fwy, hyd yn oed, na beth ddywedais i ar Radio Cymru'r bore yma. Bydd y manylion yn y gyllideb a fydd yn dod gerbron y Senedd cyn bo hir, felly bydd hynny yn dod. Ni allaf i ddweud faint bydd yn dod yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwybod faint byddwn ni'n ei gael gan y Trysorlys yn Llundain. Ond, mae'n debygol o fynd i fyny o ble rydym ni nawr, felly rydw i'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed hynny.

O ran y gwasanaethau cyhoeddus, rydw i'n meddwl ei bod hi'n iawn fod y safonau wedi dod â rhywbeth sydd yn golygu bod pob un ar draws Cymru yn gwybod ble maen nhw'n sefyll. Beth fydd yn cael ei ganiatáu gyda'r cynllun newydd yma yw y byddan nhw yn gallu rhannu, rydw i'n meddwl, y wybodaeth yna yn haws ar draws Cymru.

Nid oes neb yn mynd i gael gwared â'r safonau—rydw i'n meddwl fy mod i wedi dweud hynny o'r blaen—ond byddwch chi yn ymwybodol hefyd fod beth rydym ni'n gallu ei wneud gyda'r sector preifat yn cael ei gyfyngu, i ryw raddau, gan y ddeddf bresennol.

O ran ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd, rydw i'n meddwl ein bod ni wedi bod yn arwain o ran ieithoedd lleiafrifol. Mae gennym ni stori eithaf da i'w hadrodd, rydw i'n meddwl. Maen nhw yn aml yn dod atom ni i ofyn am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond wrth gwrs, mae wastad lle gyda ni i ddysgu, yn arbennig o lefydd fel Gwlad y Basg, rydw i'n meddwl. Felly, rŷm ni yn cydnabod y gwaith y mae'r Comisiwn wedi'i wneud, ac, wrth gwrs ein bod ni mewn trafodaethau gyda'r Comisiwn. Ond, wrth gwrs, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y berthynas yna'n newid, ac efallai beth fydd yn rhaid inni ei wneud bydd cael y berthynas yna gydag ieithoedd lleiafrifol eraill mewn ffordd bilateral yn hytrach na thrwy'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn drueni mawr, wrth gwrs.

15:50

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, er ei bod yn drueni i mi orfod dweud mai prin yw'r manylion ynddo, ac yr ymddengys mai rhestr o ddyheadau ydyw i raddau helaeth, er bod y dyheadau hynny i'w canmol. Mae eich datganiad yn trafod cynllun, ond ni allaf weld cynllun manwl yn eich datganiad. Felly, tybed a fyddech yn rhoi gwybod inni pan gaiff y cynllun manwl ei gyhoeddi, ac a fyddwn ni'n cael golwg arno ymlaen llaw? Un peth yw lansio cynllun gweithredu newydd ar gyfer technoleg iaith Gymraeg, ond gadewch inni ddwyn i gof hefyd fod eich Llywodraeth chi wedi gwneud hynny bum mlynedd yn ôl. Felly, cyn lansio set newydd o amcanion, efallai y byddai'r Gweinidog yn dymuno adolygu'r hyn a gyflawnwyd dan y cynllun gweithredu technoleg iaith Gymraeg blaenorol.

Yn 2013, cynhyrchwyd dogfen gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio fel canllaw ar gyfer yr hyn y byddai'r Llywodraeth yn ei wneud ac yn gobeithio ei gyflawni yn y pum mlynedd nesaf o ran technoleg iaith Gymraeg. Un o'r meysydd y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n canolbwyntio arnynt oedd ysgogi'r prif gwmnïau technoleg, fel Google ac Amazon a Microsoft ac yn y blaen, i gynyddu'r ddarpariaeth yr oedden nhw'n ei chynnig trwy'r Gymraeg. Y canlyniadau dymunol a nodwyd oedd mwy o gynhyrchion a gwasanaethau yn cael eu darparu yn y Gymraeg gan y prif gwmnïau technoleg, a chynnwys digidol trydydd parti i fod ar gael yn hwylus yn y Gymraeg drwy sianeli dosbarthu'r prif gwmnïau technoleg. Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus hefyd i annog y datblygiad o becynnau meddalwedd iaith Gymraeg newydd a gwasanaethau digidol, a chynyddu nifer y pecynnau meddalwedd a gwasanaethau digidol oedd ar gael—unwaith eto, amcanion y gallaf innau'n bersonol gyd-fynd â nhw i raddau helaeth iawn. Ond, a wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog: a oes cynnydd sylweddol wedi bod yn y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cwmnïau technoleg hyn yn Gymraeg? A fu cynnydd yn y cynnwys sydd ar gael ar-lein yn Gymraeg? A oes cynnydd neu welliant wedi bod yn yr apiau sydd ar gael i bobl yn ddwyieithog, neu i bobl uniaith Gymraeg? Mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn, iawn i rywun sydd naill ai yn uniaith Gymraeg neu sydd â Saesneg prin i fynd o gwmpas eu pethau yn y byd symudol modern heb apiau yn yr iaith berthnasol.

Amcan arall oedd ysgogi'r gwaith o greu a rhannu a defnyddio cynnwys digidol yn Gymraeg. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf faint mwy o gynnwys sydd yno, a sut rydych yn ei asesu? A ydych mewn gwirionedd yn monitro faint o gynnwys sydd yno yn yr iaith Gymraeg, faint o apiau sydd ar gael yn y Gymraeg? Sut ydych mewn gwirionedd yn monitro cynnydd a chyflawniadau'r gwaith blaenorol yr ydych wedi ei wneud fel y gellir adeiladu i'r dyfodol?

Dywedodd yr adroddiad hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn anelu at sefydlu cynsail ar gyfer datblygu technoleg iaith Gymraeg newydd ac arloesol. A wnewch chi egluro ychydig i mi ar yr hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd, a beth oedd canlyniadau gwirioneddol y gwaith hwnnw, a pha gynsail a sefydlwyd mewn gwirionedd yn hynny o beth?

Nododd y ddogfen hefyd fod yna nifer o apiau ac e-lyfrau Cymraeg neu ddwyieithog wedi eu cyhoeddi ar-lein ar gyfer amrywiaeth o ddyfeisiau yn y Gymraeg, a bod rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Microsoft Windows, Office ac yn y blaen, a bod gan Facebook ryngwyneb iaith Gymraeg. Felly, roedd yna gryn dipyn o weithgarwch, hyd yn oed bum mlynedd yn ôl, o ran yr iaith Gymraeg a thechnoleg. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym faint o arian a wariwyd gennych dros y blynyddoedd diwethaf ar wella'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes technoleg a faint mewn gwirionedd o elwa a fu ar y buddsoddiad hwnnw? Diolch i chi.

15:55

Wel, diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n falch eich bod yn sylweddoli bod y dyheadau yn y ddogfen yn dda. Rwyf i o'r farn, mewn gwirionedd, bod llawer o fanylder yn y cynllun. Ceir cyfeiriad clir ynddo. Rydym wedi cael arbenigwyr i'n cynghori ar yr hyn y dylem ni ei wneud. Felly, credaf mewn gwirionedd mai'r hyn sy'n glir yma yw nad cynllun yn unig yw hwn, ond cynllun gweithredu—rydym yn gwybod yn union i ble yr ydym yn mynd. Yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw ysgogi, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïau technoleg mawr, ond mae'n amlwg i mi mai un o'r pethau y mae angen i ni ganolbwyntio arno hefyd yw'r cynnwys. Felly, ni allwn ddisgwyl i'r cwmnïau technoleg mawr hyn edrych ar y cynnwys, ond mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud i helpu. Mae gennym ni wici Cymraeg, a bûm mewn cynhadledd wici Cymraeg yn Aberystwyth ychydig fisoedd yn ôl, pan oedd pobl o bob cwr o Ewrop, unwaith eto, wedi dod at ei gilydd i wrando ar yr hyn yr oeddem yn ei wneud i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg. Mae'n tyfu bob dydd, ac rydym yn annog plant ysgol ac eraill i sicrhau eu bod yn ychwanegu at y corff o wybodaeth a'r gwaith y gellir ei ddefnyddio wedyn.

Mae gennym gyfarfodydd wedi eu trefnu â chwmnïau technoleg mawr; mae honno'n ddeialog barhaus gyda nhw. Bu cynnydd mawr yn nifer yr apiau sydd ar gael yn Gymraeg. Mae'r diolch am hynny i raddau helaeth i gynllun grantiau bach a gynhaliwyd gennym y llynedd. Mae rhai o'r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn. Llyfrau ar gyfer y deillion, er enghraifft—rydym wedi cael un enghraifft lle mae pobl wedi gallu darllen llyfrau ac yna ganiatáu i bobl ddall glywed y llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym ni dechnoleg wedi ei datblygu fel y gall pobl sy'n gofalu am bobl â dementia ei defnyddio i ddeall beth y mae eu hanwyliaid yn ei ddioddef, ac, unwaith eto, mae hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch sefyll ar ben mynydd gydag ap arbennig a gweld enwau'r holl fynyddoedd yn Gymraeg wrth ichi symud eich sgrin o gwmpas. Mae'r rhain yn bethau y byddai pobl yn disgwyl eu cael yn Saesneg, ac nawr rydym yn caniatáu i hynny ddigwydd yn Gymraeg ac yn darparu'r modd ar gyfer hynny.

Ond rydych yn hollol gywir, byddwn yn monitro cynnydd yr hyn yr ydym eisoes wedi ei wneud a'r hyn y gallwn ei adeiladu arno. A gadewch i ni fod yn glir yn hyn o beth o leiaf: mae hyn yn ymwneud ag adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud eisoes. Ceir llawer o arbenigwyr yn y maes hwn yng Nghymru eisoes, ond mae angen llawer mwy arnom ni. Ac un o'r pethau yr ydym yn awyddus i'w wneud gyda'r prosiect hwn yw sicrhau ein bod yn datblygu'r dechnoleg a galluoedd y bobl sy'n gallu defnyddio'r dechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cynllun technoleg hwn.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r weledigaeth y tu ôl i'r datganiad, sef gwneud y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal â'i gilydd fel bod modd iddyn nhw weithio ar yr un pryd ar yr un llwyfannau, a'r uchelgeisiau sydd gennych chi o wneud yn siŵr y gall dyfeisiau fel Siri ac Alexa sgwrsio'n ddidrafferth â ni yn y ddwy iaith. Hon yn amlwg yw'r weledigaeth gywir. Y pwyslais ar gyfieithu peirianyddol gwell a botiaid iaith Gymraeg yw'r ffocws priodol yn gwbl sicr hefyd.

Rwy'n credu bod y gwrthbleidiau yn iawn i'n herio o ran diffyg nodau a therfynau amser. Rwyf hefyd o'r farn bod angen inni feddwl yn glir iawn am yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni a beth yw swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn hynny. Ai pennu cyflenwr dewisol, fel Microsoft, yr ystyrir ei fod ar flaen y gad o ran ansawdd cyfieithu Cymraeg, neu ddylanwadu, fel y trafodwyd, ar y farchnad ehangach? Yn amlwg, gan ddibynnu ar ba un o'r llwybrau hyn yr ydym yn ei ddymuno, bydd y llwybr a ddilynwn ni ychydig yn wahanol. Wrth inni edrych ar yr adran amcanion yn y cynllun gweithredu, mae nifer o'r amcanion yn sôn am ryddhau meddalwedd dan drwydded gymwys, sydd yn awgrymu ein bod yn rhoi mantais i Microsoft wrth ganiatáu i eraill wedyn ddefnyddio ei eiddo deallusol. Credaf y byddai'n well pe baem yn mynnu llwyfan agored, a meddalwedd agored, gan warchod budd y cyhoedd, yn hytrach na dim ond ffafrio un gwerthwr arbennig o'r cychwyn cyntaf gan greu cyfres o ddibyniaethau a chyfyngu ar arloesi yn y farchnad ehangach. Mae hwn yn aml iawn yn llwybr cul i'w droedio, yn enwedig mewn ardal fel Cymru lle nad oes ond ychydig o weithgarwch yn y farchnad a bod yn rhaid i hynny gael ei ysgogi gan y Llywodraeth. Ond rwy'n gwahodd y Gweinidog i roi rhywfaint o ystyriaeth i hynny gyda'i harbenigwyr, oherwydd credaf ei bod yn bwysig inni gael hyn yn iawn ar y dechrau fel y gallwn ddylanwadu ar yr ecosystem wrth inni fynd yn ein blaenau.

Yn yr un modd, mae'n bwysig bod hyn yn digwydd ochr yn ochr â gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ar yr elfen ddigidol, yn enwedig yn y sector cyhoeddus. Mae'n rhaid imi ddweud mai tenau yw'r adran ar y sector cyhoeddus yn y cyflwyniad. Rwy'n credu bod cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg drwy ddefnyddio technoleg ac rwy'n credu bod eisiau rhoi ychydig mwy o ystyriaeth i hynny.

Fy mhwynt olaf yw sylw a wnaeth y Gweinidog mewn ymateb i Suzy Davies yn ei sicrhau nad oedd hyn yn mynd i gymryd lle yr athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth. Rwy'n annog pob un ohonom i gadw meddwl agored i'r posibiliadau yma. Mae Bill Gates wedi siarad yn y gorffennol am y ffaith ein bod yn goramcangyfrif maint y newid yr ydym yn debygol o'i weld yn y ddwy flynedd nesaf ac yn tanamcangyfrif maint y newid a welwn yn y 10 mlynedd nesaf. A phan feddyliwch chi, 10 mlynedd yn ôl prin fod ffonau clyfar yn bodoli, roedd Skype yn ei fabandod, a chymaint, er enghraifft, mae pethau wedi newid ers hynny, yn sicr nid oedd cyfieithu peirianyddol yn bodoli a nawr mae'n rhan o'n bywyd bob dydd ni. Pan ystyriwch y ffaith bod Google yn datblygu clustffonau lle gallwch gael cyfieithu ar y pryd mewn unrhyw iaith, mae'r posibilrwydd yn syfrdanol. Ac nid yw'n golygu bod hyn yn mynd i gymryd lle athrawon, ond gall wella ein defnydd ni o iaith a'r ffordd yr ydym yn ei dysgu ar gyfer helpu athrawon i gael mwy o bobl i ddeall a defnyddio iaith a chwalu'r rhwystrau cyfathrebu, mae hynny'n beth aruthrol. Peidiwch â gadael inni ddechrau ar y cychwyn gyda meddylfryd amddiffynnol o ran, 'Peidiwch â phoeni, ni fyddwn yn cael gwared ar swyddi yn y sector hwn', na bygwth buddiannau proffesiynol yn un arall. Mae angen inni fod yn agored o ran yr hyn y gall hyn ei gyflawni er ein mwyn ni fel cymdeithas, a sut y gall roi mwy o fywyd i'r iaith. Diolch.

16:00

Diolch. Mae'r drafodaeth am fynediad agored neu gael perthynas â gwneuthurwr meddalwedd arbennig yn rhywbeth sydd yn fyw iawn, ac yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono. Nid ydym wedi dod i benderfyniad ar hynny, ond rydym yn glir iawn bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried yn ofalus iawn, iawn. Rwy'n credu, fel egwyddor, os mai'r Llywodraeth sydd yn rhoi nawdd iddo fod angen inni feddwl yn ofalus am fynediad agored. Felly, mewn byd delfrydol, dyna ble'r hoffwn fynd, ond mae angen deall hefyd os gallan nhw ddod â rhywbeth ychwanegol ger ein bron, os gallan nhw ein helpu'n fasnachol. Nid ydym wedi dod i gasgliad ar hynny. Felly gadewch i ni gario mlaen â'r sgwrs honno, oherwydd mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn, iawn ohono. Ond ni ddylem gyfyngu ar arloesi, mae hynny'n gwbl glir.

Rwy'n derbyn eich pwynt am beidio â chymryd lle athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Rwy'n credu bod angen inni gadw meddwl agored ynglŷn â'r mater hwn, a gobeithio fy mod i hefyd, yn f'ateb i Suzy Davies, wedi egluro y gallai hwn, yn wir, fod yn gyfle i wella'r argaeledd. Felly, y rhaglen e-ysgol honno a drafodwyd gennym: os na allwn gael gafael ar athrawon i ddysgu rhai pynciau mewn rhannau arbennig o Gymru, yna mae hwn yn gyfle i ni archwilio sut y gallwn roi'r ddarpariaeth honno, sydd yn rhywbeth sy'n gweithio'n effeithiol iawn yn yr Alban. Gwn fod Banc y Byd wedi gwneud llawer iawn o waith ar hyn, gan eu bod yn cael llawer o anhawster recriwtio athrawon o'r ansawdd cywir mewn rhai rhannau anghysbell iawn o Affrica, a'r hyn y maen nhw wedi ei ddarganfod, mewn gwirionedd, yw y gall athrawon rhithwir wneud gwaith da iawn, iawn. Felly, cytunaf yn llwyr fod angen inni gadw meddwl agored, ond gadewch inni wneud yn siŵr nad ydym yn tanseilio gwaith athrawon sy'n gweithio mor galed yn ein hystafelloedd dosbarth ar hyn o bryd.

Felly, oes, mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni yn hyn o beth. Mae'n hanfodol, yn fy marn i, ein bod yn deall bod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym iawn. Felly, fy mhryder i o ran pennu amserlenni cadarn iawn, mewn gwirionedd, yw y bydd yr amserlen yn newid yn sylweddol. Mae'n rhaid dal ati i sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf gyda ni, ac mae angen inni fod yn fwy hyblyg. Rwy'n gobeithio mai dyna a gawn ni o ganlyniad i'r cynllun technoleg hwn.

5. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fand Eang

Hoffwn symud ymlaen at eitem 5, datganiad gan Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip: yr wybodaeth ddiweddaraf am fand eang. Rwy'n galw ar Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n dymuno rhoi diweddariad pellach i chi heddiw ar fand eang ledled Cymru.

16:05

Daeth Suzy Davies i'r Gadair.

Mae'r farchnad band eang yng Nghymru wedi gweld newid cyflym dros y pum mlynedd diwethaf. Mae 92 y cant o safleoedd yng Nghymru bellach yn gallu cael gwasanaeth band eang cyflym iawn, o'i gymharu â phrin hanner hynny bum mlynedd yn ôl. Mae'r trawsnewid hwn wedi digwydd yn sgil buddsoddiad gan y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.

Mae'r sector preifat yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau band eang yng Nghymru. Mae Virgin Media yn parhau i ehangu eu hôl troed yn ne Cymru ac wedi ehangu i ardal Wrecsam. Cyhoeddodd Openreach eu bod yn bwriadu dod â chysylltiad ffeibr llawn i 3 miliwn o safleoedd ledled wyth o ddinasoedd yn y DU, gan gynnwys Caerdydd, erbyn 2020.

O safbwynt y sector cyhoeddus, mae Cyflymu Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr gan ddod â gwasanaeth i bron 733,000 o safleoedd. Ni fyddai'n danddatganiad bod Cyflymu Cymru wedi chwarae rhan sylweddol yn chwildroi'r dirwedd ddigidol yng Nghymru. Mae busnesau ac unigolion yn awr yn mwynhau'r manteision sy'n dod o fand eang cyflym.

Rydym yn cefnogi busnesau i wneud y mwyaf o'u cysylltedd drwy ein rhaglen Cyflymu Busnes Cymru. Mae hon yn cefnogi busnesau ledled Cymru i ddeall, mabwysiadu a manteisio ar y technolegau busnes digidol a ddaw yn sgil seilwaith cyflym iawn. Hyd yma, mae'r rhaglen wedi helpu dros 3,000 o fusnesau, wedi rhoi 20,000 o oriau o gymorth ac wedi cynnal 500 o weithdai a digwyddiadau. I unigolion, mae band eang yn helpu nhw i ddysgu, i gadw mewn cysylltiad, i ddod o hyd i swyddi a chael adloniant.

Fel yr amlinellais mewn datganiadau blaenorol, serch hynny, mae mwy i'w wneud eto er mwyn cyrraedd y safleoedd sy'n weddill nad ydyn nhw'n gallu elwa o fand eang cyflym hyd yn hyn. O ystyried maint y dasg o ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i'r safleoedd nad oes modd iddynt ei gael ar hyn o bryd, bydd angen amrywiaeth o ymyriadau arnom ni yn y dyfodol. Nid oes un ateb. Mae angen inni wneud yn siŵr bod yr ymyriadau hyn yn ategu ei gilydd, yn rhoi sylw i'r angen o hyd am fand eang cyflym ac yn adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau.

Ceir tair elfen i'n dull ni o weithredu: cymorth unigol trwy ein Allwedd Band Eang Cymru a chynlluniau talebau cysylltedd cyflym iawn; cymorth i gymunedau drwy ein cynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan y gymuned; ac ehangu a ariennir yn gyhoeddus drwy'r prosiect olynol i Cyflymu Cymru. Bydd y prosiect olynol i Cyflymu Cymru yn llunio rhan o gyfres o ymyriadau. Ac fel yr amlinellais yn fy natganiadau blaenorol cyn toriad yr haf, rydym wedi cynnal ymarfer tendro ar gyfer y prosiect olynol i Cyflymu Cymru. Mae hon wedi bod yn broses gymhleth iawn.

Mae caffael ar gyfer lot rhif un, y Gogledd, a rhif tri, De-orllewin Cymru a'r Cymoedd, bellach wedi ei gwblhau. Y cynigydd llwyddiannus am y ddwy lot yw BT. Cafodd cytundeb grant ei lofnodi ddoe. O dan y cytundeb grant, bydd BT yn ddechrau darparu gwasanaeth band eang cyflym i bron 16,000 o safleoedd ar draws dwy lot erbyn mis Mawrth 2021, gan ddefnyddio ychydig dros £13 miliwn o arian cyhoeddus. Bydd y cyllid hwn yn dod o gyfraniadau gan Lywodraeth Cymru a chyllid o'r UE. Bydd y gwaith o osod rhwydwaith sylfaenol i gefnogi'r prosiect yn dechrau cyn bo hir. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer darparu sylfaen i gysylltu'r safleoedd. Rhagwelir y bydd y safleoedd cyntaf wedi'u cysylltu erbyn diwedd 2019. Bydd y mwyafrif helaeth o'r safleoedd hyn yn cael gwasanaeth trwy gysylltiad ffibr i'r safle, gan gynnwys pob safle yn lot rhif tri. Mae gwerthuso'r tendrau ar gyfer lot rhif dau sy'n cwmpasu dwyrain Cymru yn parhau, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar hyn cyn gynted ag y bydd y broses wedi ei chwblhau.

Yn fy natganiadau blaenorol amlinellais hefyd ein gwaith i adolygu cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn yn sgil y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am eu prosiect cenedlaethol talebau gigabit. Mae swyddogion yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn yr Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i archwilio sut y gellir defnyddio cynlluniau yn y ffordd orau i wella cysylltedd band eang i gartrefi a busnesau yng Nghymru. Maen nhw wedi ymchwilio i nifer o ddewisiadau ac fe wnaethon nhw gyfarfod yr wythnos diwethaf eto i gwblhau cynnig. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ichi cyn gynted ag y gallaf.

Rwyf wedi ymrwymo i roi cefnogaeth unigol i'r safleoedd sy'n methu â chael band eang cyflym trwy barhau â'r cynllun Allwedd Band Eang Cymru. Rydym yn gweithio i symleiddio'r broses ymgeisio i'w gwneud yn gyflymach ac yn haws i unigolion wneud cais i'r cynllun. I lawer, cynllun cymunedol fydd y llwybr gorau i gysylltedd band eang cyflym. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, rydym eisoes wedi cael llwyddiannau wrth gefnogi ymyraethau ar lefel gymunedol.

Defnyddiodd pentrefwyr yn Llanfihangel-y-Fedw dalebau gan ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru i gefnogi eu menter band eang cymunedol eu hunain. Ffurfiwyd cwmni buddiannau cymunedol i ddod â band eang cyflym iawn â chysylltiad ffeibr i'r adeilad i'r trigolion a busnesau. Mae hyn wedi cynyddu cyflymder eu band eang o tua 4 Mbps hyd at gyflymder o 1 Gbps ar gyfer lanlwytho a lawrlwytho. Cyflogodd y prosiect cymunedol gontractwyr i wneud rhywfaint o'r gwaith, tra bod timau o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel tyllu siambrau, asio ffibr, gosod twythellau a rhoi hyb cyfathrebu'r pentref yn ei le. Mae tafarn y pentref, y neuadd gymunedol a'r eglwys eisoes wedi eu cysylltu â'r rhwydwaith band eang cyflym iawn, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu cyfanswm o dros 175 safle yn y gymuned. Mae mwy o safleoedd bellach yn dewis ymuno â'r prosiect.

Nid y dull hunan-balu hwn yw'r unig fodel cymunedol a byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac awdurdodau lleol i roi cyngor ac arian ar gyfer dod â band eang cyflym lle mae ei angen. Er enghraifft, mae swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr o brosiect B4RN yng ngogledd-orllewin Lloegr i drafod sut y gallai gefnogi cymunedau yng Ngogledd Cymru. Nid Llanfihangel-y-Fedw yw'r unig gymuned sy'n chwilio am atebion cymunedol. Bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanddewi Rhydderch yn Sir Fynwy yn ddiweddar ac mae'r gymuned honno yn ystyried cynllun hefyd. Mae swyddogion bellach yn gweithio gyda nhw nawr i archwilio'r dewisiadau sydd ar gael.

Fel y nodais mewn datganiadau blaenorol, rydym yn datblygu ymyriadau cymunedol a fydd yn adeiladu ar y talebau Allwedd Band Eang Cymru a'r talebau cyflym iawn i sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar arian ar gyfer y mathau hyn o gynlluniau. Mae'r gwaith hwn yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer tendro ar gyfer y prosiect olynol i Cyflymu Cymru ac, fel yr amlinellwyd uchod, adolygiad y cynlluniau talebau. Wrth i ddarnau eraill o'r gwaith ddod i ben, bydd swyddogion yn gallu troi eu sylw at ddatblygu'r cynllun newydd ymhellach. Yn y cyfamser, bydd cymunedau yn parhau i allu cael gafael ar gyllid oddi wrth y cynlluniau talebau.

Mae ein gwaith i wella seilwaith digidol yn hanfodol i ategu ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac i'r cynllun gweithredu economaidd. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ichi wrth inni ddatblygu a chyflawni ein dull integredig o gysylltedd band eang cyflym. Diolch.

16:10

Rwyf i o'r farn, arweinydd y Tŷ, y bydd llawer o bobl ar hyd a lled Cymru yn falch iawn yn awr o gael band eang cyflym iawn yn yr ychydig flynyddoedd nesaf hyn. Credaf y dylid eich llongyfarch chi yn hynny o beth. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Rwy'n credu mai'r siom fwyaf i mi yn eich datganiad heddiw yw bod y ffigur hwnnw o 16,000 o safleoedd mor isel. Yn eich datganiad heddiw, rydych wedi sôn am 92 y cant o safleoedd yng Nghymru sydd yn cael gwasanaeth band eang cyflym iawn bellach, ac yn yr un frawddeg, roeddech chi'n sôn am drawsnewid hefyd. Rwyf am eich atgoffa, fel y mae llawer ar yr ochr hon wedi gwneud o'r blaen, o 2011, wrth gwrs. Roedd maniffesto Llafur Cymru wedi ymrwymo i, ac rwy'n dyfynnu yma:

sicrhau y bydd pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn cael y Genhedlaeth Newydd o Fand Eang erbyn 2015.

Felly, ceir rhwystredigaethau mawr yma. Efallai y gallech chi ddweud nad oeddech yn y Llywodraeth ar yr adeg honno, ond roeddech chi ar 3 Mawrth 2015 pryd y dywedasoch, a dyfynnaf:

Ein nod o gyrraedd 96% o safleoedd yng Nghymru erbyn diwedd y gwanwyn 2016... gydag o leiaf 40% o bob safle yn yr ardal ymyrryd hefyd yn elwa o gael gwasanaethau dros 100Mbps.

Nid yw hyn wedi digwydd. Felly, yr hyn yr hoffwn ei ofyn yw: pa fecanweithiau adfachu sydd wedi bod ar waith i ad-dalu'r pwrs cyhoeddus am na wnaeth BT gyflawni rhwymedigaethau'r ddarpariaeth, fel yr wyf yn eu deall nhw? Nid wyf wedi gweld y contract, ond dyna'r hyn a ddeallaf. Beth a gafodd ei osod yn y contract gwreiddiol? Efallai y gallech egluro'r sefyllfa ynghylch hynny. Beth yw'r gosb wedi bod, os wyf i wedi deall hyn yn iawn?

Byddwn yn falch iawn o gael clywed am y rhesymau y tu ôl i'r cymhlethdodau sydd wedi gohirio dyfarniad cam 2 prosiect Cyflymu Cymru. A ydych mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni heddiw? Rydych wedi nodi cyfrinachedd masnachol o'r blaen, ond yn amlwg mae dwy o'r lotiau hynny bellach wedi eu rhoi. Rwyf i o'r farn y bydd pobl yn disgwyl atebion o ran pam maent wedi eu gadael mewn twll o ran y cynllun olynol.

Rwyf wedi dweud lawer tro o'r blaen y dylid bod wedi cael pontio di-dor rhwng cam 1 a cham 2 yn y cynllun, fel nad oedd pobl yn cael eu gadael wedi eu hynysu gyda'r seilwaith yn hongian o bolion tu allan i'w cartrefi. Rwy'n gwybod bod gwahaniaeth barn wedi bod o ran hynny. Ond mae hynny'n fy arwain i at fy nghwestiwn nesaf. Beth fydd yn digwydd i'r asedau ynysig y mae Openreach wedi buddsoddi ynddyn nhw eisoes, ond heb eu cwblhau am eu bod wedi rhedeg allan o amser? A oes gwarant y bydd y meysydd hyn yn cael eu cwblhau o dan gam 2?

Faint o ymgeiswyr a gafwyd am lotiau 1 a 3? Os nad oedd ond un ymgeisydd, sut yr ydych wedi sicrhau eich bod wedi meincnodi'r cais i sicrhau gwerth cystadleuol am arian i bwrs y wlad? Rydych yn dweud bod £13 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer lotiau 1 a 3 am 16,000 o safleoedd, ond £80 miliwn oedd y swm gwreiddiol a ddyrannwyd. Felly, beth sydd wedi digwydd i'r £67 miliwn arall? A yw hwnnw'n cael ei wario ar lot 2? Yn amlwg, na. Felly, efallai y gwnewch chi roi rhywfaint o eglurhad ar hynny. Pam mae'r gwerthuso tendrau ar gyfer lot 2 yn dal i fynd rhagddo? Credaf y bu oedi ar ôl oedi ar ôl oedi yn hyn o beth. Clywsom nôl ym mis Ionawr ac yn yr haf am oedi eto ac yn awr bydd pobl dwyrain Cymru yn awyddus i gael rhai atebion o ran pam mae oedi pellach unwaith yn rhagor.

Fy nealltwriaeth i yw y cynhaliwyd adolygiad o'r farchnad agored cyn diwedd cyfnod 1 cynllun Cyflymu Cymru. Felly, a wnewch chi gadarnhau y bydd yr holl safleoedd ynysig hyn fel y'u gelwir neu safleoedd gwyn yn lotiau 1 a 3 yn cael eu cynnwys yng ngham 2 y prosiect, ac os nad ydyn nhw, faint o safleoedd yn lotiau 1 a 3 fydd yn cael eu gadael heb fand eang cyflym iawn ar ddiwedd cam 2? Yr amcangyfrif gwreiddiol oedd bod yna 98,145 safle gwyn mewn 15,763 o godau post. A yw hyn yn golygu bod yna dros 82,000 o safleoedd yn lot 2, ac os nad oes, pam mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i dendr ar gynllun nad yw'n cynnwys pob safle yng Nghymru, fel y nodir yn eich addewid wreiddiol?

Yn olaf, a wnewch chi gadarnhau hefyd eich bod wedi dysgu gwersi oddi wrth y camgymeriadau yng ngham 1 a sicrhau y bydd safleoedd unigol yn cael gwarantau ynghylch cael eu cynnwys yn y cynllun olynol neu beidio, yn hytrach na'u bod yn seiliedig ar system cod post a oedd yn caniatáu i safleoedd unigol gael eu symud i mewn ac allan o'r cwmpas?

Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Arweinydd y Tŷ, rwy'n edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth am lot 2, ac efallai y gallwch chi ddweud wrthym pryd y byddwn yn debygol o gael yr wybodaeth honno.

16:15

Diolch i chi am y dosbarth meistr yna o rai o'r ffigurau dan sylw. Rwy'n credu, Russell George, eich bod yn teimlo'n debyg iawn i mi, efallai, weithiau, eich bod chi wedi bod yn byw ac yn bod gyda hyn am gryn dipyn o amser. Gadewch i mi geisio dadbacio rhai o'r ffigurau, oherwydd eu bod nhw'n gymhleth ac unwaith eto yn ymwneud—fel y dywedaf yn aml yn y Siambr hon—â'r ffaith mai grant gan raglen ymyrryd y wladwriaeth yw hon i gynorthwyo'r tendrwyr llwyddiannus am y rhaglen grant yn y pen draw ac nid prosiect seilwaith. Pe byddai'n brosiect seilwaith, byddai'n llawer iawn symlach, ond 'dyw hi ddim.

Felly, fel y gwyddoch, ar bob cam, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad ydym yn ymyrryd â marchnad heb y cymorth gwladwriaethol cywir, sydd yn rhaid i ni ei gael drwy broses Broadband Delivery UK, ac mae hynny'n ychwanegu cymhlethdod ychwanegol. O ran y contract cyntaf, fel y dywedais, y cwmpas gwirioneddol ar gyfer y contract hwnnw oedd bod yn rhaid i BT gyrraedd 690,000 safle ledled Cymru ar 30 Mbps neu'n uwch. Ac ar yr adeg y rhoddwyd y contract, byddai hynny wedi golygu, ochr yn ochr â buddsoddiad y sector preifat mewn mannau eraill yng Nghymru, y byddai 96 y cant o safleoedd a oedd yn bodoli bryd hynny wedi cael eu cwmpasu. Cafodd safleoedd eraill eu hadeiladu yn y cyfamser, yn amlwg. Un o rwystredigaethau'r prosiect hwn fel y gwyddoch yn dda o'ch etholaeth eich hun, Russell George, yw nad yw adeilad newydd yn cael ei gynnwys yn aml oherwydd bod yn rhaid mynd yn ôl at adolygiad o'r farchnad agored bob tro i geisio darganfod a yw'r adeilad newydd yn dod o dan un o'r gweithredwyr masnachol neu beidio cyn y gallwn ei gynnwys, ac mae hynny yn ychwanegu cymhlethdod ychwanegol. Ac os cofiwch chi, yn y prosiect cyntaf, fe wnaethom ni ychwanegu 42,000 safle ychwanegol ar un adeg, pan wnaed ail adolygiad o'r farchnad agored, oherwydd daeth yn fwyfwy eglur nad oedd rhai o'r ystadau busnes yn mynd i gael eu cwmpasu gan y cyflwyniad masnachol, sef yr hyn yr oedd y gweithredwyr amrywiol yn ei hawlio yn y lle cyntaf. Felly, cyfres hynod gymhleth o feini prawf sydd gennym i ymdrin â nhw, a byddai'n dda gallu gweithio allan pa safleoedd ydyn nhw ac yna gweithio allan faint fyddai'n ei gostio i'w cysylltu nhw. Byddai hynny'n llawer haws, ond, yn anffodus, nid dyna'r sefyllfa.

Mae'r sgwrs gyda'r ymgeiswyr am y lotiau sydd bellach wedi eu gosod wedi canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y gwersi a ddysgwyd fel y soniasoch chi, ac mae hynny'n golygu ein bod ni wedi bod yn eu hysgogi nhw i ddweud yn union pa safleoedd y byddan nhw'n eu cyrraedd a pha bryd y bydd hynny. Ac rwy'n gobeithio, o fewn y mis nesaf, y byddwn yn gallu rhyddhau'r manylion hynny i Aelodau'r Cynulliad fel y gallan nhw gysylltu â phobl yn eu hetholaethau a rhoi gwybod iddyn nhw lle maen nhw ar y rhaglen. Nawr, rwy'n awyddus i ddweud, wrth gwrs, fod y cytundeb grant—dywedais hyn yn fy natganiad blaenorol hefyd—yn un dros dair blynedd. Felly, bydd rhai pobl yn aros tan ddiwedd y rhaglen tair blynedd, ac efallai na fydden nhw'n hapus ynglŷn â hynny gan fod tair blynedd yn amser hir i aros. Felly dyna pam yr wyf yn pwysleisio bod y cynlluniau talebau yn dal i fod yn eu lle , ac os yw'r bobl hynny am ddod ymlaen gyda chynllun taleb, rydym yn hapus iawn i hwyluso hynny.

O ran y £80 miliwn, mae'r cyfan ohono ar gael yn wir. Rwyf wedi fy siomi braidd nad yw'r tendrwyr yn y tair lot wedi dymuno gwario mwy o arian nag y maen nhw wedi ei nodi i ni yn y broses gaffael, ac mae arnaf ofn bod hynny oherwydd inni bwysleisio'n gryf y byddai'n rhaid cyflawni'r contract cyntaf yn ôl y targed. Ac, fel y gwyddoch, lawer tro yn y Siambr hon, rwyf wedi tynnu sylw at y cosbau a fyddai'n digwydd pe na fyddai'r targed hwnnw'n cael ei gyrraedd. Cyrhaeddwyd y targed. Cyrhaeddwyd y targed o ran safleoedd. Roedd, rwy'n credu—ac mae'n debyg fy mod i fy hun wedi gwneud hynny, a gwnaeth Gweinidogion eraill sôn amdano, yn ôl canran ar ddechrau'r prosiect, ond mewn gwirionedd roedd yn nifer penodol iawn o safleoedd, yr wyf i wedi sôn amdano sawl gwaith. Mae'n amlwg bod canran y safleoedd yn newid gan fod nifer y safleoedd yn newid, felly nid yw honno'n ffon fesur dda iawn.

O ran yr argaeledd 100 y cant, nid wyf yn hoffi dweud hyn, Dirprwy Lywydd, oherwydd, i ryw raddau, mae hyn braidd yn ffuantus, ond, wrth gwrs, mae ar gael—mae'n fater o faint yr ydych chi'n barod i dalu amdano. Felly, ar hyn o bryd, pe byddech yn barod i dalu amdano, fe allech chi gael cysylltiad ffeibr cyflym i'ch safle drwy'r rhwydwaith ether-rwyd, a fyddai'n costio llawer o arian, ond mae ar gael. Cafodd y rhwydwaith hwnnw ei hwyluso ledled Cymru, ond mae allan o gyrraedd llawer o bobl Cymru. Ond mae ar gael pe bydden nhw'n ei ddymuno, ac rydym ni wedi hwyluso hynny. Rwy'n cytuno â hyn; mae hynny'n wir, ond, serch hynny, mae'n wir ei fod ar gael, ac nid peth bach fu hynny ynddo'i hun. Nid yw hynny o unrhyw gysur i Mrs Jones o ble bynnag, tra ei bod hi hebddo o hyd.

Felly, rwy'n gobeithio, yn y datganiad, roeddwn i hefyd yn pwysleisio—a soniais am rai o'r prosiectau sydd o natur wahanol iawn—y ffaith ein bod wedi rhoi yr adnoddau i dimau cymunedol i wneud yn siŵr y gallwn fynd allan a chael cymaint â phosib o'r prosiectau cymunedol hyn gyda'i gilydd i sicrhau y gall y bobl hynny gael gafael yn gyflym ar y talebau, ac felly ar y cynlluniau, ac rydym yn awyddus iawn i hwyluso hynny. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod ar daith ledled Cymru yn siarad â phobl am yr hyn sy'n bosib, ac o'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd hynny daeth o leiaf un prosiect, ac un yn eich ardal chi eich hun, mewn gwirionedd. Ac rwy'n pwysleisio hynny'n fawr heddiw—rydym yn awyddus iawn i weithio gyda busnesau a chlystyrau o gymunedau. Fe allen nhw fod yn glystyrau daearyddol, fe allen nhw fod yn glystyrau buddiant neu unrhyw beth arall—rydym yn hapus i weithio gyda nhw i weld beth y gellir ei hwyluso drwy gynllun.

A rhan olaf fy ymateb—roeddech wedi gofyn cyfres o gwestiynau cymhleth i mi, a bod yn deg—yw: y rheswm na allaf ddweud faint o arian yr wyf yn ei roi tuag at hynny yw fy mod yn awyddus i wybod faint fydd y lot olaf yn ei chostio ac yna caiff y cyfan sydd ar ôl ei roi yn y pot cymunedol. Felly, rydym yn benderfynol o wario'r holl arian sydd ar gael ar gysylltiad band eang cyflym.

16:20

Yn wahanol i Russell George a Julie James, rwyf i'n gymharol newydd i'r maes hwn ar hyn o bryd, felly byddwch yn amyneddgar â mi, ond rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y maes arbennig hwn, arweinydd y tŷ.

Rwy'n dal sylw y nodwyd mewn diweddariadau blaenorol ar gyflymu a chysylltedd mai ymyrraeth â'r farchnad yw hyn, ac rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, y byddai'n haws i gael cynnydd yn y maes hwn o ddarpariaeth cwmpas eang pe byddai band eang yn cael ei drin yn fwy fel cyfleustod cyhoeddus. Mae hwn yn anghenraid fwyfwy hanfodol ar gyfer bywyd a busnes i lawer ac mae'n arbennig o angenrheidiol i sicrhau cyfle cyfartal yn rhai o'n lleoedd mwyaf anhygyrch. Rwy'n sylweddoli bod llawer o waith i'w wneud eto i sicrhau ei fod ar gael yn ehangach a pha mor rhwydd yw cael gafael arno, ac rwy'n ymwybodol bod nifer sylweddol o safleoedd sy'n parhau heb wasanaeth cyflym iawn. Rwy'n gwybod bod Russell George wedi manylu ar rai o'r cwestiynau hynny, ond tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am niferoedd y safleoedd a fydd yn parhau i fod heb y gallu i gael y gwasanaeth cyflym iawn er gwaethaf y mesurau newydd yr ydych chi wedi eu cyhoeddi heddiw.

Credaf y bydd yn rhaid i ni gael trafodaeth ynghylch sut y gall hyn symud ymlaen a bod yn barod am y dyfodol wrth i dechnoleg newid yn gyflym. Yn y ddadl yn gynharach, roeddem yn sôn am y Gymraeg a'r defnydd o dechnoleg  ddigidol; mae'n rhaid inni edrych tua'r dyfodol o ran yr hyn y bydd angen ei roi ar waith o ran seilwaith ymhen 10, 15 neu 20 mlynedd. Pan fydd aelwyd wedi cael y gwasanaeth cyflym iawn, mae disgwyliad y bydd hynny'n ddigon wedyn, ond wrth i deuluoedd dyfu, fel y bydd anghenion busnesau yn newid a thueddiadau newydd yn dod i'r amlwg, bydd y galw ar y defnydd o'r rhyngrwyd hefyd yn cynyddu. A ydym ni'n bwriadu sicrhau y bydd gennym ni ddigon o fand eang i warantu y bydd ar gael yn y dyfodol o ran lanlwytho, lawrlwytho a ffrydio, ac os bydd angen o bosibl yn uwch yn y dyfodol, sut ydych chi'n cynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn?

Yn olaf, a wnewch chi amlinellu yn fwy manwl pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater hwn a'r broblem ehangach o sicrhau mynediad eang a chyffredinol at fand eang? Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol bod dadl gref y dylai hyn gael ei drin fel cyfleustod cyhoeddus yn yr un modd â dŵr. A oes unrhyw symudiad wedi bod yn hynny o beth gyda Llywodraeth y DU, ac a ydych chi'n rhagweld unrhyw gymorth pellach gan Lywodraeth y DU i'r perwyl hwnnw?

Mae hwn yn bwynt gwleidyddol iawn ac athronyddol, mewn gwirionedd, ac mae'r byd wedi symud—. Yn y ddadl ddiwethaf, roeddem yn siarad am y gwahaniaeth yn y byd mewn pum mlynedd, ac mae hon yn enghraifft wych iawn o hynny. Felly, a bod yn deg, pan ddechreuodd Llywodraeth y DU ar y daith hon, fel y gwnaethom ninnau, technoleg foethus oedd hon mewn gwirionedd ac nid oedd rhai pobl yn dymuno cael cysylltiad trwy'r amser. Rwyf yn aml wedi cyfeirio yn y Siambr hon at y ffaith fod gan Fannau Brycheiniog eu slogan hysbysebu, 'Dewch i Fannau Brycheiniog a chael eich datgysylltu'—wyddoch chi, roedd hynny'n dda o beth. Erbyn hyn, nid peth da mohono, ac nid oes neb yn dadlau am hynny nawr, ac mae hynny'n newid enfawr a sylweddol yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Mae'r ffaith ein bod ni'n cario mwy o rym cyfrifiadurol yn ein pocedi nag a oedd yn bresennol trwy'r byd pan ddechreuais i weithio yn golygu rhywbeth; mae'n dangos y newid a fu yn y dechnoleg. Ond mae polisi'r Llywodraeth wedi llusgo'r y tu ôl i hynny, yn fy marn i, a'r ffaith ei bod bellach yn hanfodol i gael cysylltedd a seilwaith hanfodol—. Roedd yn llusgo tu ôl—y datblygiad polisi. Rydym ni yn cael y sgwrs honno gyda hwy, yn aml iawn. Cawsom sgwrs faith heb fod yn gynhyrchiol iawn yn y pen draw am  rwymedigaeth o wasanaeth cyffredinol, nad yw erioed wedi ei ddatrys oherwydd  nid ydym yn gwybod eto mewn gwirionedd beth mae 'cyffredinol' yn ei olygu, a, beth bynnag, dim ond ar 10 Mbps y mae hynny, fel y mae'r Aelod ei nodi yn gywir, ac na fydd hynny'n ddigon yn fuan iawn.

Un o'r pethau y byddwn yn ei ddweud yw ein bod ni'n awyddus iawn i'r bobl sydd o'r farn y gallai eu gofynion o ran cysylltedd gynyddu i dros 30 Mbps, sef y swm gwarantedig ar y cynllun cyflym iawn, gysylltu â gwasanaethau cysylltedd busnes cyn gynted â phosibl, oherwydd bod gennym ni wasanaeth cynghori a all fynd allan a rhagamcanu eich anghenion yn y dyfodol, ac, mewn gwirionedd, efallai y byddai'n llawer gwell i chi  fynd gyda'r daleb gwibgyswllt yn fuan iawn, a byddai gennych lawer gwell cysylltiad. Felly, mae pob busnes unigol, yn arbennig felly, yn wahanol iawn.

O ran mynegi'r niferoedd o'r tu arall, mae gennym ni 16,000 o safleoedd eisoes yn lotiau 1 a 3. Nid wyf yn gwybod faint sydd yn y lot nesaf; rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi hynny yn y 10 diwrnod nesaf. Mae llawer o gymhlethdod y drafodaeth ynghylch dynodi'r union fan y dywed y tendrwr ei fod yn mynd iddi fel y gallwn ni gael y sicrwydd yr ydym ni wedi ei drafod yn aml yn y Siambr hon. Felly, nid wyf i'n gwybod yn hollol, ond nifer cyflawn y safleoedd ar hyn o bryd—ac fel y dywedaf, fel y mae adeiladwyr yn adeiladu tai, mae'n newid—yw 90,000 o safleoedd, felly fe allwch chi wneud y swm. Roeddem yn gwybod pan wnaethom ni gychwyn ar hyn, na fyddai £80 miliwn yn ddigon mae'n debyg i gyrraedd pob un o'r rheini. Fel y dywedaf, rydych yn gallu prynu'r gwasanaeth o hyd, ond mae'n ddrud. A'r peth arall y byddwn i'n ei ddweud—ac rwy'n dweud hyn trwy'r amser, Dirprwy Lywydd dros dro—mae'n fy syfrdanu i pan fydd pobl yn prynu cartref, nad ydyn nhw'n tynnu pris y cysylltiad oddi wrth gost y tŷ y dyddiau hyn. Roeddwn yn disgwyl gweld prisiau tai yn cael eu heffeithio gan hyn, a hyd yma, nid yw hynny wedi digwydd mewn llawer iawn o ardaloedd.

16:25

Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ati unwaith eto ynglŷn ag ystâd Castle Reach and Kingsmead yng Nghaerffili, lle mae tai wedi eu hadeiladu heb unrhyw gysylltedd band eang o gwbl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae swyddogion arweinydd y tŷ swyddogion ac arweinydd y tŷ ei hun wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth geisio cyrraedd at ddatrysiad o'r broblem hon. Er hynny, ni ellir dweud yr un peth am Taylor Wimpey, sydd wedi gwrthod cwrdd â'i swyddogion hi, ac Openreach, sydd wedi mynd ran o'r ffordd ond braidd yn fyr o'r hyn y byddwn i wedi ei ddisgwyl. O safbwynt band eang cyflym iawn, mae Taylor Wimpey wedi gwerthu cartrefi heb gysylltiad ar yr ystâd, sy'n siomedig iawn, ac rwy'n amau bod hyn yn digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny wedi ei gydnabod yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar fy rhan gyda thrigolion a Llywodraeth Cymru. Mae trigolion yn yr 50 o gartrefi eraill sydd heb gysylltiad ar yr ystâd hon wedi ceisio codi arian er mwyn defnyddio Allwedd Band Eang Cymru, ac maen nhw'n cydnabod y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi iddyn nhw, ond nid yw hi wedi bod yn hawdd, oherwydd rhwystrau ariannol a sefydliadol. Y gwir amdani yw, pan fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd, y datblygwyr, ac yn yr achos hwn Taylor Wimpey, ddylai fod yn ariannu'r cysylltiad eu hunain. Y nhw yw'r bobl a adeiladodd yr ystâd heb gysylltiadau addas, ac mae gwrthod cwrdd â'r Llywodraeth wedyn i drafod a datrys y broblem hon yn gwbl warthus. Rwy'n teimlo y dylen nhw fod yn ariannu hyn yn llawn, ond a wnaiff hi ymuno â mi i wthio Taylor Wimpey i wneud cyfraniad, o leiaf, at gynllun Allwedd Band Eang Cymru?

Rwy'n ei chael yn rhwystredig iawn ein bod yn adeiladu tai newydd heb eu gwneud yn barod ar gyfer y dyfodol o ran y cysylltiadau. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rydym wedi cael trafodaethau helaeth ynglŷn â'r peth. Un o'r pethau y byddwn yn ei ddweud yw bod gennym ni nawr—. Rwyf wedi gweithio'n galed iawn gyda'm cyd-Aelod Ysgrifennydd Cabinet, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau cynllunio, oherwydd fy mod i'n credu y dylai cynghorau fynnu yn eu cytundebau cysylltiad 106 bod y pibellau wedi eu gosod, ac yn y blaen, a chredaf fod yna angen i gynghorau fod yn fwy rhagweithiol yn hynny o beth. Rydym wedi cael trafodaethau helaeth gydag adeiladwyr tai. Mae BT wedi dod i gytundeb bellach, ar ôl adeiladu'r ystâd yr ydych chi'n sôn amdani, sef lle bod adeiladwyr tai yn adeiladu dros 30 o gartrefi y byddan nhw yn gosod y cysylltiad. Ond rydych chi'n rhagddyddio hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y tîm hyrwyddo busnes wedi dod draw mewn gwirionedd i helpu gyda'r asesiad cymunedol a hwyluso rhywfaint ar hynny. Os nad ydyn nhw, beth am i ni gael sgwrs am sut y gallwn ni hwyluso hynny. Mae ffyrdd o helpu'r preswylwyr i ddod â'r cynllun ynghyd, a dwyn y cynllun talebau allwedd band eang ynghyd, a chyn gynted ag y byddaf i mewn sefyllfa i gyhoeddi'r lot olaf, byddaf yn gallu cyhoeddi rhagor o becynnau cymunedol a allai fod yn ddefnyddiol yn y cyswllt hwnnw yr ydych yn sôn amdano. Ond ydw, rwy'n credu bod gan adeiladwyr tai beth cyfrifoldeb i'r bobl sydd wedi prynu'r tai. Rwy'n ailadrodd y pwynt: mae'n syndod i mi nad yw pobl yn tynnu cost y cysylltiad oddi wrth gost y tŷ, ond, hyd yn hyn, nid yw'r farchnad wedi symud.

16:30

Rwy'n gobeithio nad yw fy sylwadau i ar y datganiad gan arweinydd y tŷ, yn dilyn y cywair cymodlon a osodwyd gan fy nghydweithiwr Neil Hamilton ar ddatganiad cynharach, wedi peri i'r Llywodraeth laesu dwylo mewn rhyw ffordd. Ond, wedi dweud hynny, rwy'n diolch i arweinydd y tŷ am ddatganiad heddiw, a hoffwn gydnabod a llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei chyflwyniad llwyddiannus o fand eang cyflym iawn. Wedi darllen yr ymyraethau a gynigiwyd i gael gwared ar fannau gwan, rwyf i o'r farn, o ystyried y gymysgedd fawr o ddewisiadau sydd ar gael, y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y mwyafrif llethol, os nad pob un, o'r safleoedd yng Nghymru, yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn fuan.

Fodd bynnag, ceir y mater o fanteisio ar y datblygiadau band eang arloesol hyn. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ ymhelaethu ar yr agwedd hyrwyddo sydd ar y cyflwyno a'r cymhellion sydd ar waith i addysgu ac annog busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, i fanteisio ar becynnau band eang cyflym iawn? Yn arbennig, a yw BT, fel y dewis gynigydd, yn rhoi strategaethau ar waith i annog mwy o ymgysylltiad â'r hyn y gall band eang cyflym iawn ei gynnig? Yn sicr, byddai'n drueni mawr, wedi holl waith da Llywodraeth Cymru gyda darpariaeth o fand eang cyflym iawn, pe na byddai manteisio ar hynny a'r gymuned fusnes yn ei ddefnyddio.

Yn olaf, a wnaiff arweinydd y tŷ ehangu ychydig ar y rheswm y mae rhanbarth y de-ddwyrain yn llusgo y tu ôl i ranbarthau eraill yn y lotiau caffael?

Ar y pwynt olaf yna, mae arnaf ofn na allaf fynd i unrhyw fanylder, oherwydd ein bod ar ganol y negodi ar hyn o bryd. Rwyf yn siomedig iawn fy mod yn sefyll yma heb fod wedi cwblhau hynny. Rydym ni yn gobeithio dod i benderfyniad cyn bo hir. Rydym yn llythrennol yng nghanol y trafodaethau; ni allaf sôn am hynny ar hyn o bryd. O ran niferoedd, rydym ymhell dros yr 50 y cant. Rwy'n atgoffa pob aelod, pe byddech yn gallu annog pobl a allai gael band eang i fanteisio arno, rydym ni'n cael cyfran welliant o hynny, a hwnnw yw'r ailfuddsoddiad yr ydym ni'n sôn amdano. Mae'r gyfran welliant yn para'n hir ar ôl i'r contract gael ei gwblhau, felly dylid annog hyn cymaint â phosibl dros y pum mlynedd nesaf. Er ei bod yn ymddangos yn rhyfedd i'r bobl nad ydyn nhw'n gallu ei gael fod yna bobl sydd yn gallu ei gael ond ddim yn manteisio arno—ac yn rhwystredig iawn—mewn gwirionedd, o ran defnyddio technoleg newydd, mae'r gromlin hon yn llawer uwch nag unrhyw beth arall. Felly, mae'n gyflwyniad cyflymach na thrydan neu ffonau neu unrhyw beth arall. Felly, mae hyn ymhell yn uwch na'r gyfradd y byddech yn ei disgwyl ar gyfer manteisio ar dechnoleg newydd, sy'n dangos natur y newid yn ein cymdeithas wrth i ni fynd ymlaen mewn gwirionedd i'r oes wybodaeth. Mae'r gyfran welliant honno, fel yr wyf yn atgoffa Aelodau —. Y cynllun gwreiddiol oedd, pan gyrhaeddwyd cyfranogiad o dros 21 y cant, fe fyddwn ni'n cael y gyfran welliant. Wel, amcangyfrif oedd hwnnw gan gwmni technoleg ar yr adeg honno o'r hyn fyddai'r cyfranogiad. Rydym ni ymhell dros 50 y cant, sy'n dangos y newid yn y gymdeithas.

Mae gennym ni dîm hyrwyddo busnes sy'n mynd o gwmpas yn dangos i bobl beth allai eu busnes fod pe bydden nhw'n mynd ar-lein, ac yn eu helpu i gael y sgiliau a'r wybodaeth i wneud hynny drwy Busnes Cymru a'r tîm hyrwyddo busnes cyflym iawn. Rwy'n gobeithio y bydd pob aelod wedi gweld ein ffon olau—ceir lluniau hyfryd ohonof i'n sefyll wrth ei hochr mewn gwahanol fannau ledled Cymru. Pan fydd y gwasanaeth cyflym iawn yn cyrraedd pentref, cymerwn y ffon olau a'i rhoi yn y canol, ac rydym yn ceisio annog cymaint o bobl â phosibl i ddod ymlaen. A dyna'r hyn yr oeddwn yn ei ddweud am y 550 seminar a phopeth arall a gawsom ni, yn egluro i bobl sut y gallwn eu cynorthwyo gyda hunan-gyflogaeth, a chyda'u busnes, wrth fanteisio ar hyn.  

Arweinydd y tŷ, rwyf wedi codi gyda chi ar sawl achlysur enghraifft debyg i'r hon a gododd fy nghyd-Aelod Hefin David, a datblygiad Dyffryn y Coed yw honno, datblygiad gan Persimmon, yr wyf yn credu ei bod yn enghraifft wych o rai o'r methiannau yn ein cynllunio neu yn ein system ddatblygu ar gyfer tai. Datblygiad newydd yn Llanilltud Faerdref yw hwn, lle mae'r cam cyntaf, wrth gwrs, wedi gweld gosod band eang ffibr, ond nid yw'r ail gam wedi cael hynny, ac, wrth gwrs, mae'r cyfrifoldeb yn cael ei symud yn ôl ac ymlaen o ran pa un ai BT neu'r datblygwr sydd mewn gwirionedd yn gyfrifol. Mae'n ymddangos i mi fod nifer o bethau y mae angen i ni edrych arnyn nhw, ac mae angen i ni eu gweithredu rywsut, ym mhob datblygiad. Mae'n ymddangos i mi yn y Gymru gyfoes, sy'n datblygu, mae'n rhaid bod—. Mae'n rhaid, rwy'n credu, bod yna ofyniad—mor agos at ofyniad statudol â phosibl—bod y lefel uchaf sydd ar gael o fand eang yn cael ei ddarparu yn yr un modd â dŵr, â nwy, fel gyda'r cyfleustodau cyhoeddus eraill, a'r rhagdybiaeth ddylai fod y bydd pob tŷ newydd yn cael hynny wedi ei osod, a dylai fod yn un o hanfodion datblygu.

Wrth gwrs, y broblem arall sydd gennym ni yw mai'r sefyllfa yn awr yw, gyda band eang cyflym iawn a beth bynnag yw'r olynydd i hwnnw, bydd materion ôl-osod yn dod i'r amlwg. Mae'n ymddangos i mi fod yn rhaid adeiladu hynny i mewn i'r system hefyd. Un o'r problemau, wrth gwrs, gyda'r ystâd y cyfeiriais ati, ystâd Dyffryn y Coed, yw, wrth gwrs, yw'r system gymhleth mewn gwirionedd o gael band eang ffeibr i weithredu mewn gwirionedd, faint o amser y bydd hynny'n ei gymryd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth y mae eich adran wedi ei roi mewn gwirionedd wrth gael y system i gychwyn o leiaf, y system grantiau ac ati. Ond mae hwn, serch hynny, yn faich sy'n achosi rhwystredigaeth ofnadwy. Rydych chi'n gweld pobl sy'n rhedeg eu busnesau, yn cael anhawster mawr gyda rhywbeth yr oedden nhw'n credu fyddai yno. A dim ond holi oeddwn i mewn gwirionedd beth yw eich barn chi ynghylch pa un a yw'n bosibl edrych ar ein proses rheoleiddio neu ddeddfwriaethol i sicrhau, yn y dyfodol, y bydd hyn yn digwydd, o leiaf. Ac efallai—rwy'n cytuno'n fawr iawn â'r hyn a ddywedodd Hefin David hefyd, y dylai hyn fod yn un o brif swyddogaethau a chyfrifoldeb y datblygwr. Maen nhw'n gwneud ffortiwn enfawr o hyn, ac os gall Persimmon dalu £75 miliwn fel bonws i'w Prif Weithredwr, credaf y gall fforddio i roi band eang rhesymol i'r bobl y maen nhw'n gwerthu eu tai iddyn nhw.

16:35

Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Aelod o hyn. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda chydweithwyr ynglŷn â rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio. Ac, fel y dywedais wrth ateb Hefin David, gallai cynghorau wneud llawer gyda'r cytundebau 106 a mynnu—felly, pan fydd cyngor yn gwneud cytundeb 106 i glymu'r cyfleustodau a mabwysiadu'r heol ac ati, yna fe ddylai sicrhau bod pibellau band eang ac ati i gyd ar gael. Mae'n rhaid dweud, os nad yw'r prif nod yn yr heol y mae'n cael ei gysylltu â hi, efallai na chewch chi gysylltiad yn syth, ond, heb y pibellau, mae ôl-ffitio, fel y dywedwch, yn llawer mwy costus. Felly, fe ddylai fod pibellau yno, a phob seilwaith y gallwch ei roi yno, hyd yn oed os nad yw yn yr heol, er, yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru, mae yn yr heol erbyn hyn. Felly, rwy'n cytuno â hynny.

Ceir hefyd broblemau ynghylch rheoliadau adeiladu ac inswleiddio. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gyfarwydd â hyn, ond po uchaf y bo safon inswleiddio'r tŷ, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hyn, y mwyaf o gawell Faraday ydyw a pho leiaf y bydd y signal yn cario. Ac felly mae angen i chi gael pibellau yn y tŷ i ganiatáu i'r signal drosglwyddo, ac mae hynny mewn gwirionedd yn rhan hanfodol o'r peth hefyd. Ac rwy'n awyddus iawn i gael trafodaeth gyda chydweithwyr sy'n Weinidogion ynglŷn â'r gofynion—ac rwyf wedi cael y sgwrs hon gyda Rebecca Evans, y Gweinidog â chyfrifoldeb—am dai cymdeithasol, er enghraifft, i sicrhau bod pobl sy'n prynu tai fforddiadwy yn cael y gofynion hynny wedi eu cynnwys hefyd yn y fanyleb ar gyfer y tŷ, oherwydd yr hyn nad ydych yn ei ddymuno yw allgáu digidol yn cael ei wthio ar ben hynny.

Ond cytunaf yn llwyr: fe ddylai adeiladwyr tai geisio sicrhau bod yr hyn sydd bellach yn rhan hanfodol o fywyd yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei gynnwys yn y safle. Ac rwyf am ailadrodd unwaith eto ei bod yn syndod i mi nad yw pobl yn darganfod beth yw cost cysylltiad cyn cytuno ar gost y tŷ.

Dim ond apêl, mewn gwirionedd. O'r rhai sydd wedi eu cysylltu, y rhai mwy problemus diweddar, rwyf wedi cael rhai pryderon wedi eu codi o ran sut y cwblhawyd y gosodiadau. Mewn rhai o'm hardaloedd gwledig—rwyf wedi codi hyn gyda BT, ac maen nhw'n dweud, 'Wel, nid oedd hynny yn y contract', a phob math o osgoi fel hyn, os mynnwch chi, gwneud gwaith yn iawn. Ond rwyf wedi cael pryderon wedi eu codi gyda rhai o'm safleoedd yn fy ardaloedd gwledig yn Nyffryn Conwy, lle maen nhw wedi rhedeg y wifren ar draws caeau, ac felly mae gwartheg yn llythrennol yn tynnu'r wifren, ac felly—wyddoch chi, nid yw'r seilwaith na'r ffordd y caiff ei osod yn ddelfrydol. Felly, maen nhw'n mynd drwy hynny i gyd eto—dim ond newydd ei gael, nid yw'n gweithio'n iawn, felly maen nhw'n gorfod cysylltu â BT eto a gweld llawer o giwiau a phethau tebyg ac yna'n dod yn ôl ataf i, ac rwyf i o'r farn bod hynny'n wallgof, mewn gwirionedd. Pan eu bod nhw'n gwneud gwaith, pam nad ydyn nhw'n ei wneud yn iawn yn y lle cyntaf?

Felly, byddai'n rhaid i mi gael y manylion am y safle penodol.

Fel y gwyddoch chi, Janet Finch-Saunders—rydym wedi cael y sgwrs hon lawer gwaith—os yw'n rhan o'm cytundeb i, yna fe geir gofynion o ran sut maen nhw'n gwneud y cysylltiadau ac ati, ond os yw'n rhan o gyflwyniad preifat a chytundeb gyda'r tirfeddiannwr am fforddfraint, yna nid oes gennyf i unrhyw bŵer i ymyrryd. Felly, pe byddech yn dymuno ysgrifennu ataf i gyda'r manylion, gallaf ddarganfod ar eich rhan pa un a yw o fewn ein maes ymyrraeth ai peidio.

6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Perfformiad Ailgylchu Cymru, Adeiladu Sylfeini Economi Gylchol

Yr eitem nesaf yw eitem 6, datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar berfformiad ailgylchu Cymru, adeiladu sylfeini economi gylchol. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

Diolch. Mae ailgylchu gwastraff yn hanes o lwyddiant yng Nghymru ac yn un a ddylai beri teimlad o falchder i bob dinesydd yng Nghymru. Ers datganoli mae pecyn cynhwysfawr o bolisïau Llywodraeth Cymru, cyllido a gweithio mewn partneriaeth wedi arwain at gynnydd yn ein cyfradd ailgylchu trefol o 5 y cant i 64 y cant yn 2016-17. Ddydd Mercher diwethaf cafodd y ffigurau ailgylchu ar gyfer 2017-18 eu cyhoeddi ac roedden nhw'n dangos bod cyfradd ailgylchu trefol Cymru bellach yn 63 y cant. Rwy'n awyddus i egluro'r rhesymau am y gostyngiad bach hwn a'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i wella perfformiad ailgylchu yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, dinasyddion a chymunedau wedi gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gennym gymdeithas sy'n ailgylchu llawer iawn. Mae gan bron pob aelwyd wasanaeth casglu ar gyfer ailgylchu ymyl y ffordd, gan gynnwys casglu gwastraff bwyd ar wahân. Ers datganoli, rydym wedi gwario bron £1 biliwn ar wastraff ac ailgylchu yng Nghymru.

Y llynedd, roedd nifer o awdurdodau lleol yn cael trafferth cynnal y cyfraddau ailgylchu am ddau brif reswm. Mae'r rhan fwyaf o'r gostyngiad yn ganlyniad i'r ffaith bod gwaith monitro a chofnodi llymach yn digwydd wrth ailgylchu gwastraff pren. Cafwyd problem hefyd gyda gweithrediad tanwydd o ffatri wastraff, a arweiniodd at rywfaint o dirlenwi gwastraff. Roedd hyn yn golygu bod yr awdurdodau wedi colli'r cyfle i ailgylchu lludw gwaelod llosgydd.

Rwyf yn cyfarfod â'r cynghorau hynny sydd wedi methu â chyrraedd y targed o 58 y cant ar gyfer y flwyddyn hon, a phawb sydd mewn perygl o fethu â chyrraedd y targed o 64 y cant y flwyddyn nesaf, i sôn am gynlluniau penodol i gynnig cymorth yn y meysydd hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau cynhwysfawr ar gael i'w helpu nhw i gyflawni targedau ailgylchu yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal y gefnogaeth i ailgylchu drwy grantiau penodol a thrwy ariannu amrywiaeth o fentrau i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol.

Rydym wedi dod ymlaen yn dda o ran gwastraff yng Nghymru mewn cyfnod cymharol fyr. Ond bydd gwella'r cyfraddau ailgylchu o hyn ymlaen yn gofyn am ymyriadau mwy cydunol, dwys a heriol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £0.5 miliwn eleni yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a WRAP ar ymgyrch newid ymddygiad oherwydd, fel y gwyddom, mae mwy na hanner y gwastraff a roddir mewn biniau du yn ailgylchadwy. Mae angen inni ddarbwyllo'r cyhoedd yng Nghymru i beidio â rhoi'r deunyddiau hyn yn eu biniau gwastraff ond yn hytrach eu hailgylchu.

Mae tair rhan i'r ymgyrch: darparu'r gwasanaethau iawn ar gyfer y cyhoedd, gwneud pobl yn ymwybodol o'r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud, a gorfodi'r ymddygiad cywir os oes angen. Bydd ymgyrchoedd hefyd i berswadio'r cyhoedd i ailgylchu mwy, gan gynnwys un ar ôl y Nadolig. A heddiw gallaf gyhoeddi pecyn buddsoddi i gynorthwyo awdurdodau lleol i wella ailgylchu a sbarduno'r economi gylchol.

Yn gyntaf, rwyf yn falch o allu ymrwymo i fuddsoddiad pellach o £15.5 miliwn dros y tair blynedd nesaf i alluogi tri awdurdod arall i gyd-fynd â'n glasbrint casgliadau. Mae hyn yn rhan o'r rhaglen newid gydweithredol sy'n cael ei darparu gan WRAP, a bydd yn cefnogi Bro Morgannwg, Sir Ddinbych a Sir Benfro. Yn ogystal â hyn, mae'r toriad o £2.8 yn y grant ailgylchu i awdurdodau lleol wedi ei adfer yn y gyllideb ddrafft. Yn olaf, gallaf gyhoeddi £50 miliwn dros dair blynedd i gefnogi newidiadau i'r gwasanaeth a darparu seilwaith newydd yng Nghymru. Rwyf yn glir bod canolbwyntio ar fuddsoddi mewn seilwaith yn flaenoriaeth uchel wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag anghysondeb yn y deunydd sy'n cael ei ailgylchu a'r swm a delir gan yr awdurdodau lleol i'w ailgylchu, yn gwella ansawdd y deunydd a ailgylchir a rhoi hwb i'r economi gylchol yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn Llywodraeth Leol i ddatblygu rhaglen caffael seilwaith newydd, a allai gynnwys deunyddiau fel matresi, clytiau, pren a thecstilau. Rwy'n gweithio gyda phartneriaid ar ganllawiau statudol newydd posib i awdurdodau lleol a byddaf yn ymgynghori'r flwyddyn nesaf ar ein dull hirdymor o ymdrin â thargedau ailgylchu, gan gynnwys ystyried y dewisiadau ynghylch y cosbau am fethu â chyflawni targedau. Rhennir canllawiau arfer gorau newydd er mwyn helpu bob awdurdod lleol i gyflawni targedau ailgylchu.

Rydym yn disgwyl bydd y camau gweithredu hyn yn rhoi Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ailgylchu o 70 y cant a rhagori ar hynny erbyn 2025. Ond nid hyn yw'r diwedd. Yn 2019 byddwn yn ymgynghori ynghylch y rheoliadau yn rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wahanu eu gwastraff yn yr un ffordd ag y mae aelwydydd yn ei wneud eisoes. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn diwygio 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' ac yn cynhyrchu map llwybr ar gyfer economi gylchol i ymgynghori arno. Ein blaenoriaeth yw rhoi cefnogaeth i'r newid pwyslais tuag at economi fwy cylchol—a sicrhau bod Cymru yn wlad lle gall deunyddiau gael eu hail ddefnyddio dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision lu. Gwyddom fod manteision economaidd yn ogystal â manteision amgylcheddol. Mae Sefydliad Ellen MacArthur, WRAP a'r Cynghrair Gwyrdd oll wedi nodi bod modd creu swyddi a chyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru wrth inni symud tuag at economi gylchol. Ac roedd ein cynllun gweithredu economaidd, a gyhoeddwyd gennym y llynedd, yn cydnabod y buddion i'n heconomi, swyddi a sgiliau.

Bydd y strategaeth ddiwygiedig a'r map llwybr hefyd yn adlewyrchu ein nod o gael economi gylchol o ran y deunyddiau a ddefnyddiwn, megis plastig, a sut yr ydym yn defnyddio, ailddefnyddio, gwaredu ac ailbrosesu'r rhain. Y flwyddyn nesaf, bydd ein cronfa fuddsoddi ar gyfer economi gylchol o £6.5 miliwn yn agored i fusnesau er mwyn eu helpu i weithio tuag at economi blastig fwy cylchol yng Nghymru. Dylai hyn ysgogi rhywfaint o arloesi yn y maes pwysig hwn.

Mae rhai ymyriadau strategol mawr wedi eu cynllunio ar sail Cymru a Lloegr, gan gynnwys rhoi mwy o gyfrifoldeb i'r cynhyrchwyr dros becynnu, a fyddai'n cyfrannu rhywfaint tuag at gostau'r awdurdodau lleol wrth reoli deunyddiau pecynnu. Byddai hefyd yn mynd i'r afael â gwastraff yn llygad y ffynnon, yn lleihau'r defnydd o ormod o ddeunydd pecynnu gan gynhyrchwyr, ac yn cynyddu'r defnydd o ddeunydd sydd wedi'i ailgylchu ac y gellir ei ailgylchu wrth becynnu.

Hefyd, mae gwaith yn parhau ar ddatblygu cynllun dychwelyd ernes. Mae WRAP eisoes wedi dadansoddi effaith bosibl cynllun dychwelyd ernes ar gyfraddau ailgylchu ac incwm awdurdodau lleol o ailgylchu yng Nghymru. Rydym wedi gofyn iddyn nhw gyflwyno modelu manylach erbyn diwedd y flwyddyn. Rwyf hefyd wedi comisiynu dadansoddiad o'r mathau o sbwriel a'r lefelau a geir yng Nghymru. Felly mae gennym linell sylfaen y gellir mesur unrhyw gynllun dychwelyd ernes yn ei herbyn. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol hwn yng ngwanwyn 2019. Rydym wedi gofyn i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig roi hwb i'r sampl yng Nghymru ar gyfer arolwg a gynhelir ganddi ar agweddau'r cyhoedd tuag at gynllun dychwelyd ernes, ac i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Byddwn yn ymgynghori, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, ynghylch ardrethi eiddo gwag a'r cynllun dychwelyd ernes, cyn y Nadolig, gan roi ein mewnbwn Cymreig unigryw ni a sicrhau y bydd y dulliau arfaethedig yn gweithio yng Nghymru.

Dros y 12 mis diwethaf, buom yn pwyso ar y DU i bennu'r agenda ynghylch bagiau plastig untro. Mae hwn yn faes y teimlwn mai gweithredu ar lefel y DU yw'r ffordd orau o weithredu. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi trafod y mater hwn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar dri achlysur. Mae wedi rhannu gyda Llywodraeth y DU ein barn gadarnhaol ni am rôl treth yn lleihau'r defnydd o blastig untro, yn ogystal â'n barn y dylai unrhyw dreth fod ar y ffurf ehangaf bosib—ac nid yn edrych ar eitemau unigol fel cwpanau coffi yn unig.

Hyrwyddwyd gennym alwad Trysorlys ei Mawrhydi am dystiolaeth yng Nghymru i helpu i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i safbwyntiau busnesau a sefydliadau yng Nghymru, a'n bod wedi asesu'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan randdeiliaid yng Nghymru i helpu i nodi'r buddion posib, y problemau ac effeithiau cyflwyno mesurau treth newydd yn y maes hwn. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drafod cynnydd ar fesurau trethu posib ac i gyfrannu safbwyntiau o Gymru ynghylch datblygu dewisiadau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau Cymru.

Yn y gyllideb yr wythnos nesaf, rydym yn disgwyl gweld y Canghellor yn cyflawni'r disgwyliadau a godwyd ganddo. Ac rydym yn disgwyl bod ynghlwm wrth unrhyw drefniadau gweithredu. Bydd yn rhaid i unrhyw dreth ar blastig gael ei chydgynllunio â Llywodraeth Cymru. Os na chodir unrhyw beth yng nghyllideb yr hydref ar 29 Hydref, bydd cyfle sylweddol wedi ei golli, a byddwn yn ystyried unwaith eto beth y gellir ei wneud ar sail Cymru'n unig gyda'r dulliau dylanwadu sydd ar gael inni, gan gynnwys y posibilrwydd o ardoll Gymru gyfan neu godi tâl ar gynwysyddion diod untro.

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym eisiau parhau i weithio gyda WRAP, awdurdodau lleol a phobl Cymru a symud o fod y wlad gyntaf yn y DU i fod y gyntaf yn y byd. Rwyf yn sicr y bydd yr Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â mi i fyfyrio ynghylch ein llwyddiant hyd yma ac anelu'n uwch hyd yn oed yn y dyfodol.

16:45

Rwy'n nodi bod consensws eang ynghylch y maes hwn o bolisi cyhoeddus yn y Siambr hon ac nid wyf mewn unrhyw ffordd eisiau i hyn ddod i ben. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio yn fy ymateb i'ch datganiad fod angen cael sicrwydd ansoddol yn ogystal â sicrwydd meintiol.

Nid wyf yn gwybod a ydych wedi gweld adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio ar ailgylchu plastigau—mae hyn yn Lloegr—ond mae dros 50 y cant o'n gwastraff plastig yn cael ei anfon dramor, yn bennaf nawr i Wlad Thai a Malaysia. I Tsieina yn flaenorol, wrth gwrs. Nid oes unrhyw brawf bod deunydd pecynnu a oedd yn cael ei anfon i'w ailgylchu yn cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. Mae llosgi wedi cynyddu cymaint fel bod risg y bydd yn goddiweddyd ailgylchu, ac mae cyfraddau arolygu yn isel ac mae risg uchel o dwyll yn Lloegr. Rwy'n credu y gwnaeth eich cyd-Aelod, Jenny Rathbone, ymyriad rhagorol—nid oeddwn yn y Siambr, ond llwyddais i wrando arno yn fy swyddfa—ar hyd y llinellau hyn, ac rwy'n credu bod angen y math hwnnw o sicrwydd ansoddol nawr, er mwyn i'r cyhoedd aros gyda ni o ran y maes polisi cyhoeddus hynod bwysig hwn.

Felly, rwy'n gofyn, fel y gofynnodd Jenny Rathbone am ddatganiad yn gynharach, a yw unrhyw archwiliad penodol o'r ymarfer yng Nghymru—ac a yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud unrhyw beth yn y maes hwn o reoli ansawdd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn clywed am eich cynlluniau o safbwynt hyn. Rwy'n credu bod lledaenu arfer gorau rhwng awdurdodau lleol yn allweddol ac rwyf yn credu eich bod yn ddoeth i ddefnyddio eich grantiau i hyrwyddo hynny. Credaf fod cael 22 o awdurdodau lleol yn ceisio cystadlu â'i gilydd weithiau, o ran y lefel ailgylchu y maen nhw'n ei gyflawni, yn beth da iawn, ond nid oes angen iddyn nhw ailddyfeisio'r olwyn wrth wneud hynny. Felly, mae angen y cydbwysedd hwnnw arnom. Ac rwy'n falch o weld bod un o fy awdurdodau lleol i fy hun, yn wir, yr un yr wyf yn byw ynddo ym Mro Morgannwg, yn mynd i gael rhywfaint o arian grant arbennig yn y maes hwn.

Yn wir, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn mynd y tu hwnt i ailgylchu gwastraff domestig a'n bod yn dechrau edrych ar wastraff busnes. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod gwastraff ar safleoedd busnes yn cael ei wahanu. Rwy'n credu bod ymgynghoriad ynghylch rheoliadau yn bwysig iawn, ond credaf y dylai'r sefydliadau busnes sy'n ymwneud yn uniongyrchol â hyn gymryd rhan hefyd. Oherwydd wrth i ni symud at economi gylchol wirioneddol heb ddim gwastraff, bydd yn rhaid i'r sector busnes ymdebygu rhywfaint i'r awdurdodau lleol hynny wrth ddod o hyd i'w hatebion eu hunain ac arloesi, ac mae angen inni ei gadw'n rhan o'r broses ar gyfer hynny. Felly, rwy'n holi pa fath o ymgynghoriad yr ydych chi'n ei gynllunio ac a all fynd ymhellach er mwyn cyfranogi'n wirioneddol? Oherwydd os gwnawn ni hynny'n iawn, bydden nhw'n dod yn gynghreiriaid allweddol.

Yn olaf, ynghylch y cynllun ernes, nid wyf yn hollol sicr a yw Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i ddull Cymru a Lloegr. Rwy'n credu bod angen eglurder ar hynny. Er bod gwaith wedi'i wneud o ran eich astudiaeth dreialu, rwy'n credu y byddem yn croesawu dull cyfunol os gallai hynny ddigwydd yn effeithiol, oherwydd gall costau'r seilwaith—gallwn edrych yn rhyngwladol—fod yn uchel iawn. Mae angen inni fod yn hollol siŵr y bydd y math hwn o gynllun yn gweithio. Mae angen iddo gwmpasu'r holl ddeunyddiau; roeddwn yn falch o weld yn Lloegr eu bod yn edrych—plastig yw'r un sy'n cael y sylw mwyaf—ar ddeunyddiau eraill hefyd. Felly, hoffwn gael ychydig mwy o fanylion am hynny, pa mor agored ydych chi, neu ai eich dewis chi yw gweithio'n agos â Llywodraeth y DU a gwneud hynny, yn amlwg, mewn ffordd gyfranogol lawn hefyd er mwyn iddyn nhw ddysgu o'n profiad ni? Ond, yn gyffredinol, mae hwn yn faes na ddylem heb reswm gael rhaniadau pleidiol mawr mewn gwirionedd Wrth wella safonau ac yn enwedig sicrhau ansawdd, fe gewch chi ein cefnogaeth ni.

16:50

Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i nodi'r consensws a geir ar y mater hwn, nid yn unig o fewn y lle hwn, ond, rwy'n credu, o fewn y gymuned ehangach a'r wlad hefyd. Fel y gwelsom ni, mae ymwybyddiaeth o ailgylchu a'r angen i fynd i'r afael â phroblem plastig yn cynyddu o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Buoch yn sôn am yr hyn a gododd fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn gynharach adeg cwestiynau busnes o ran gwastraff plastig a'i atal i'r dyfodol. Rydych yn iawn i ddweud bod adroddiad y Swyddfa Archwilio yn ymwneud â Lloegr. Yng Nghymru, gallaf ddweud nad oes gennym unrhyw ymchwiliadau ar hyn o bryd i allforwyr gwastraff deunydd pecynnu plastig. Mae tri allforiwr yng Nghymru sydd i gyd wedi'u harolygu a'u harchwilio yn 2018 ac ni cheir unrhyw bryderon penodol nac amheuaeth o dwyll.

Ond rydych yn hollol gywir, yr ateb i hyn yw cael seilwaith da gartref i drin y deunyddiau yr ydym yn eu casglu, a chasglu deunyddiau yn y ffordd orau sy'n gwarantu y bydd deunyddiau ansawdd uchel yn cael eu hailddefnyddio a'u hailbrosesu, ac rwyf yn gwbl glir bellach fod hyn yn flaenoriaeth i ni yn y maes hwn yng Nghymru. Mae angen inni ddatblygu'r seilwaith hwnnw i'n galluogi ni i wneud hynny, nid yn unig i gael pethau'n iawn o safbwynt yr amgylchedd ond i hybu ein heconomi ar yr un pryd.

Fe sonioch chi am yr ymgynghoriad wrth fynd ymlaen a phwysigrwydd cyfranogiad gwirioneddol. Rwyf yn glir, os ydym eisiau llwyddo i gyrraedd y man yr ydym eisiau bod ynddo o ran hyn, mae'n rhaid inni weithio ar y cyd a gweithio gyda'n gilydd. Rwyf wedi bod ar nifer o baneli—nid wyf am enwi neb—gyda gwahanol randdeiliaid, a bydd pobl yn dweud, 'Dylai'r pwyslais fod ar y defnyddiwr', 'Dylai'r pwyslais fod ar y cynhyrchydd', 'Dylai'r pwyslais fod ar y Llywodraeth.' Ond, rwy'n credu y dylai'r pwyslais fod ar bob un ohonom. Dim ond trwy gydweithio yr ydym yn mynd i gyrraedd y lle mae y mae angen inni fod ynddo. Felly, rwy'n awyddus bod busnesau yn cymryd rhan mewn unrhyw ymgynghoriad, wrth symud ymlaen, ynghylch busnesau'n bwrw ymlaen i wahanu a chasglu eu gwastraff yn yr un modd ag y gwna'r deiliaid tai ar hyn o bryd i wneud yn sicr y cawn y canlyniad cywir ar gyfer Cymru yn y tymor hir ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy'n credu ein bod yn glir o'r cychwyn cyntaf, o ran y cynllun dychwelyd ernes, o'r gwaith a wnaethom, mai'r dull gorau, neu'r dull lleiaf cymhleth wrth ddewis proses ar gyfer busnesau a defnyddwyr, ac yn enwedig o ystyried ein ffin fân-dyllog rhwng Cymru a Lloegr, yw edrych ar ddull sy'n cynnwys Cymru a Lloegr, sef yr hyn a wnawn ni gyda'r ymgynghoriad hwn ar y Cynllun Dychwelyd Ernes. Bydd yr ymgynghoriad ardrethi eiddo gwag yn ymgynghoriad ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban. O ran ymgynghoriad y Cynllun Dychwelyd Ernes, rwy'n credu mai ymgynghoriad ledled Cymru a Lloegr ydyw, ond gyda mewnbwn penodol o Gymru. Byddai hynny yn sicrhau ei fod yn darparu ar gyfer ein hanghenion penodol ni, oherwydd ein bod mewn sefyllfa wahanol, efallai, i rai o'n cymheiriaid mewn mannau eraill, yn Lloegr—nid yn unig o ran ein ffigurau ailgylchu, ond hefyd o ran y gofyniad statudol sydd ar ein hawdurdodau lleol, hefyd, i wneud yn siŵr y bydd unrhyw ddull gweithredu gennym ni yn y dyfodol yn ategu'r rheini ac na fydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn dod i'n rhan. Dyna pam y mae'n iawn targedu nid yn unig blastigau ond hefyd lu o ddeunyddiau eraill hefyd.

16:55

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn sicr, y mae angen gweithredu. Byddai rhai ohonom ni'n codi stŵr i gael mwy o weithredu nag eraill, rwy'n sicr, ond nid oes unrhyw amheuaeth bod angen inni fynd i'r afael â'r epidemig plastigau sy'n ein hwynebu fel cymdeithas—cymdeithas fyd-eang—y dyddiau hyn. Ac er mor gadarnhaol y bu hanes yr awdurdodau lleol o ran ailgylchu dros y blynyddoedd diwethaf, y mae'n siomedig nodi fod pethau'n gwastatáu neu'n gostwng, serch gyda rhai o'r esboniadau yr ydych chi wedi eu rhoi yn eich datganiad. Ond rwy'n credu ei fod yn tanlinellu'r faith bod y ffrwythau sy'n hongian yn isel wedi eu casglu a dyma ble yr ydym ni'n dod at y gwaith caled. Ac, wrth gwrs, dyma ble y cawn i weithredu gwirioneddol gan lunwyr polisi hefyd. Ac mae'r ystadegyn brawychus oddi wrth y Gymdeithas Cadwraeth Forol y bydd effallai mwy o blastig na physgod, o ran pwysau, yn y moroedd erbyn 2050 yn ddigon i'ch sobri, ac y mae'n un y dylai fod ar flaen ein meddyliau pan fyddwn yn ystyried y mater penodol hwn.

Nawr, rydym wedi cyfeirio eisoes at y pryderon cynyddol ynghylch i ble y mae ein plastig sydd wedi'i ailgylchu yn  mynd. Rydym ni'n gwybod bod dwy ran o dair o wastraff pecynnu plastig y DU yn cael ei allforio gan ddiwydiant allforio a oedd werth tua £50 miliwn y llynedd a bod Asiantaeth yr Amgylchedd ar hyn o bryd yn ymchwilio i honiadau sy'n cynnwys allforwyr yn hawlio drwy dwyll am ddegau o filoedd o dunelli o wastraff plastig nad yw o bosib yn bodoli, gwastraff plastig y DU ddim yn cael ei ailgylchu ac yn cael ei adael i lifo i mewn i afonydd a moroedd, a llwythi anghyfreithlon o wastraff plastig yn cael eu cyfeirio at y dwyrain pell drwy'r Iseldiroedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi, mewn gwirionedd, yw: Pa sicrwydd allwch chi roi inni ynglŷn ag i ble y mae plastig sydd wedi'i ailgylchu yng Nghymru yn mynd? A oes unrhyw ran yn cael ei chwarae gan Gymru yn ymchwiliad Asiantaeth yr Amgylchedd ac a ydych yn ffyddiog bod ein plastig yn cael ei drin fel y dylai fod?

Wrth gwrs, mae hyn oll yn dangos yn gynyddol, yn hytrach na dim ond ailgylchu, bod angen inni geisio atal y defnydd o blastigau, yn enwedig plastig untro yn y lle cyntaf. Ac mae ardoll ar blastig untro i weithio ochr yn ochr â chynllun dychwelyd ernes ar gyfer poteli a chaniau wedi bod yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi galw amdano ers blynyddoedd lawer bellach. Rydym ni'n dal i aros i gyrraedd y pwynt lle mae'n cael ei weithredu, ac yr ydym ni wedi clywed cyfeirio, dros nifer o flynyddoedd o fy amser i yma yn y Cynulliad at sut y mae hyn wedi gweithio mewn gwledydd eraill: dros 98 y cant o boteli yn cael eu hailgylchu yn yr Almaen, dros 90 y cant yn Norwy, Sweden a'r Ffindir, ac ati, ac ati.

Rydych chi'n dweud yn eich datganiad y byddwch chi'n ymgynghori ochr yn ochr â Llywodraeth y DU ynghylch cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd a chynlluniau dychwelyd ernes cyn y Nadolig, gan ddarparu'r hyn a ddisgrifiwyd gennych fel mewnbwn unigryw o Gymru i sicrhau y bydd y dulliau arfaethedig yn gweithio yng Nghymru. Fy nghwestiwn i chi, felly, fyddai: Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu yn erbyn cynllun dychwelyd ernes ledled y DU, a fyddwch chi, fel Gweinidog, yn deddfu ynghylch cynllun dychwelyd ernes ar gyfer Cymru yn y tymor Cynulliad hwn? Hoffwn glywed eich barn ar hynny, oherwydd bod hwn, yn amlwg yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ers amser maith, ac yr wyf yn ceisio cyfleu bod ymdeimlad o frys yma. Ac os nad ydyn nhw fel Llywodraeth y DU, yn dewis dilyn y trywydd hwn, yna pa mor fuan y byddwch chi fel Llywodraeth ac fel Gweinidog yn dilyn y trywydd hwn?

Rydych chi hefyd yn dweud eich bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drafod mesurau trethu posibl i fynd i'r afael â phlastig untro, ac yr ydych yn dweud os na chodir unrhyw beth yng nghyllideb yr hydref yr wythnos nesaf yna byddwch chi'n ystyried eto beth y gellir ei wneud ar sail Cymru'n unig gyda'r dulliau ysgogi sydd gennym ni yma. Felly fy nghwestiwn nesaf fyddai a fyddwch yn ymrwymo yma heddiw i sicrhau bod ardoll, treth neu dâl yn cael ei osod i fynd i'r afael â llygredd plastig yng Nghymru yn y tymor Cynulliad hwn, ni waeth beth sy'n digwydd ar lefel y DU, oherwydd y mathau hynny o negeseuon a'r math hwn o gyfeiriad clir sydd eu hangen inni gael momentwm y tu ôl i rai o'r cynlluniau hynny yr ydym eisiau eu gwireddu.

Yn eich datganiad ar 8 Mai, dywedoch chi eich bod yn gweithio gydag Ail-lenwi a busnesau yng Nghymru, elusennau a digwyddiadau mawr i sicrhau bod mannau a gorsafoedd ail-lenwi dŵr ledled y wlad. Byddai'n braf clywed y newyddion diweddaraf o ran lle yr ydych chi yn y trafodaethau hynny, a hefyd, a fyddwch yn ystyried gweithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu ffynhonnau dŵr yfed mewn mannau cyhoeddus, sydd yn rhywbeth y byddem ni i gyd eisiau ei weld. Ac, wrth gwrs, yn dilyn cynigion Llywodraeth y DU i wahardd gwellt plastig a ffyn cotwm plastig a throellwyr diodydd plastig yn Lloegr yr wythnos hon rwy'n credu, a wnewch chi, fel Gweinidog, ystyried cyflwyno gwaharddiad tebyg yng Nghymru?

17:00

A gaf i ymddiheuro ymlaen llaw am fy mhesychu parhaus? Mae'n beswch sy'n llestair llwyr yn y proffesiwn hwn—mae'r peswch yn dechrau wrth imi ddechrau siarad, ac nid yw hyn yn helpu, felly rwy'n ymddiheuro os yw'n tarfu ar fy ateb, neu os yw fy ateb ychydig yn fyrrach nag yr oeddwn i'n gobeithio'i roi.

Cynllun dychwelyd ernes, rydym wedi clywed bod awydd clir amdano yn y Cynulliad hwn a cheir brwdfrydedd y tu allan iddo hefyd. Rwyf wedi siarad â'n cymheiriaid ledled y DU, a hefyd â'n cymheiriaid ledled Ewrop, ynghylch sut maen nhw wedi gweithredu hyn ac ynghylch sut y maen nhw wedi bod â chynlluniau ar waith ers blynyddoedd lawer. Ond, yn fy marn i, pam soniwn am gyfraniad unigryw Cymru, rwy'n credu bod angen inni weld beth fydd canlyniad yr ymgynghoriad, hefyd ac mae angen edrych ar y pethau sy'n cael eu codi yn yr astudiaethau. Er fy mod i'n gallu gweld yr hyn sy'n gadarnhaol yn ei gylch o ran sut y byddai'n cynyddu ein cyfradd ailgylchu poteli ac yn gwella ansawdd deunyddiau ailgylchu, ni allaf yn fy myw gorbwysleisio bod angen inni beidio â'i ystyried fel y darlun cyfan; rwy'n credu bod angen iddo ddigwydd ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill. Ond mae'n sicr yn rhywbeth y mae angen i ni ei archwilio ac edrych ar sut mae'n cyd-fynd â'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd o ran casgliadau ymyl y ffordd. Rwy'n ymwybodol nad oes gan lawer o'r gwledydd hynny yn Ewrop, sydd â chynlluniau dychwelyd ernes lwyddiannus iawn, gasgliadau ymyl y ffordd. Mae ganddyn nhw ddiwylliant gwahanol lle mae pobl wedi arfer â mynd i rywle i gael gwared ar eu hailgylchu beth bynnag, felly mewn gwirionedd mae'n ymwneud â sut yr ydym yn cyflawni hynny. A dyna pam rwy'n credu bod edrych ar y mater mewn ffordd unigryw Gymreig a gwneud yn siŵr ei bod yn gweithio i ni yn y dyfodol yn bwysig iawn. Mae'n rhywbeth rwyf i wedi ymrwymo iddo i gael y canlyniadau gorau i ni yng Nghymru.

O ran ail-lenwi, rwy'n falch ein bod yn gwneud cynnydd yng Nghymru. Rydym bellach wedi penodi—. Erbyn hyn mae gennym ni gydlynydd ail-lenwi i Gymru, sy'n cofrestru'n benodol fusnesau a sefydliadau ledled y wlad, ac mae'r ap Ail-lenwi Cymru bellach ar waith. Byddwn yn croesawu cefnogaeth yr Aelodau a'u cymorth yn hyrwyddo hyn yn eich etholaethau a'ch ardaloedd chi. Pan wyf i wedi bod allan o gwmpas y lle, rwy'n mynd i leoedd ac mae ganddyn nhw wrn dŵr ac maen nhw'n ail-lenwi eu cwpanau, ond nid ydyn nhw'n ymwybodol o fod yn rhan o'r rhwydwaith hwn a'r strwythur hwn, a allai gyflwyno manteision i'w busnes yn ei gyfanrwydd. Felly, unrhyw beth y gall unrhyw un arall yn y Siambr hon ei wneud i gefnogi a hyrwyddo'r achos hwn, oherwydd ei bod yn un ffordd o gynhyrchu—. Mae'n ail-hydradu iach, ond mae hefyd yn lleihau nifer y bagiau plastig untro.

Gwn fod awydd hefyd i gael ffynhonnau dŵr ac rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth y mae'n werth ei ystyried. Ond fel y sonioch o'r blaen, mae hynny'n golygu cost uwch i'r awdurdodau lleol o ran cynnal a chadw. Mae'n rhywbeth sydd angen inni edrych arno'n iawn i weld sut y gallem wneud hynny o bosib. Ond hefyd, ni allwn ddechrau defnyddio hen ffynhonnau dŵr eto, oherwydd bydd gan lawer ohonyn nhw bibellau plwm. Felly, mae'n debyg na fyddai hynny'n ddoeth.

O ran treth, rwy'n disgwyl ac yn gobeithio y bydd rhywbeth yn y gyllideb yr wythnos nesaf. Codwyd disgwyliadau bod Llywodraeth y DU yn dymuno dilyn y trywydd hwn, ac rydym yn amlwg yn awyddus iddyn nhw wneud hynny. Yn sicr mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn glir yn ei gylch o'r cychwyn, pe bydden nhw'n dewis peidio â dilyn y trywydd hwnnw, y gallem ni yn sicr ystyried defnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni. Ond, yn amlwg, mae hynny'n sgwrs y mae angen imi ei gael gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, cyn gwneud unrhyw ymrwymiadau cadarn yn y lle hwn.

Ers datganoli, bu cynnydd yn ein cyfradd ailgylchu trefol o 5 y cant i 64 y cant, sy'n rhyfeddol. Caiff ei lywio gan bolisi, ond a gaf i ddweud, caiff ei ysgogi'n fwy gan y dreth tirlenwi, ac felly mae wedi rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn ailgylchu.

Dim ond un o'r tri A yw Ailgylchu, wrth gwrs, i leihau'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Y lleill yw 'arbed' ac 'ailddefnyddio' ac rwy'n credu bod y ddau arall yn bwysicach. P'un sy'n well yn amgylcheddol: defnyddio un botel blastig 10 gwaith neu ailgylchu 10 o boteli plastig? Mae'r diwethaf yn gwella cyfraddau ailgylchu. Byddwn i'n awgrymu bod y cyntaf yn well o lawer i'r amgylchedd, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig.

Nid yw'r rheini sy'n creu eu compost eu hunain yn cyfrif mewn cyfraddau ailgylchu, er, yn amlwg, eu bod yn ailgylchu ac yn lleihau'r swm o ynni a ddefnyddir i symud pethau i'w hailgylchu. Rwy'n siarad fel un sydd yn sicr o blaid y cynllun dychwelyd ernes, ond sydd hefyd o blaid cynllun lle byddwch yn ailddefnyddio'r poteli wedyn. Bydd y rheini ohonom o'r grŵp oedran pop Corona yn ymwybodol iawn o fynd â'r botel yn ôl a chael 5c neu 10c—roedd yn gweithio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod—. Yn rhy aml, nid oes gwerth i blastig, a dyna pam mae pobl yn eithaf hapus i'w daflu i ffwrdd. Wrth grwydro o amgylch caeau pêl-droed a pharciau eraill byddwch yn gweld poteli plastig yn cael eu taflu oherwydd nad oes unrhyw werth iddyn nhw. Rwy'n credu bod angen cynllun dychwelyd ernes.

Rwyf hefyd yn credu y dylem gyflwyno rhyw fath o dreth i sicrhau chwarae teg rhwng gwydr a phlastig. Pan es i i brynu potel o finegr ychydig wythnosau yn ôl, a oedd mewn potel blastig, cefais fy synnu a'm rhyfeddu. Y cwestiwn yw: a ddylem fod yn mesur ailgylchu, neu a ddylem fod yn mesur gwastraff gweddilliol ar gyfer ei losgi a mynd i safle tirlenwi? Onid yw hynny'n syniad gwell o ba mor dda yr ydym yn gwneud? Ac a wnaiff y Gweinidog gytuno y byddai hynny'n fesur gwell o lwyddiant amgylcheddol, oherwydd fel arall rydym yn cosbi'r ailddefnyddwyr a'r arbedwyr?

17:05

Diolch i Mike Hedges am ei gyfraniad a'r wybodaeth am wahanol boteli finegr yn yr archfarchnad leol. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn gyda'r hanesyn hwnnw hefyd, a phwysigrwydd y tair A yn hierarchaeth gwastraff. Mae ailgylchu yn un pen, ac mae gennym ni arbed ac ailddefnyddio cyn hynny, a dyna pam y mae pwyslais ar economi gylchol mor bwysig, ac mae'r nifer o sefydliadau ailddefnyddio yr ydym ni'n eu cefnogi yn ehangu ledled Cymru. Fe gyfeirioch chi'n ôl at ddyddiau pop Corona. Rwy'n credu fy mod i'n ddigon hen i gofio hynny, er pan ddywedais i fy mod yn cael cadw'r newid i brynu pecyn 10 ceiniog o 'Pick 'n' Mix' yn y siop nid wyf yn credu bod honno'n neges iechyd cyhoeddus dderbyniol. Ond fe soniasoch chi am y cynllun dychweled ernes a'r cyfleoedd o bosibl, yn hynny o beth i gymell pobl i gasglu poteli, neu eich bod yn clywed hanesion o fannau eraill yn Ewrop lle mae ganddyn nhw gynllun dychwelyd ernes, lle mae pobl ifanc mentrus, yn enwedig ar ôl digwyddiadau mawr, yn casglu poteli a'u dychwelyd i ba le bynnag y mae'r cyfleuster dychwelyd cynnyrch, a chael y tocynnau neu'r derbyniadau yn ôl amdanynt. Felly, y mae'r Aelod yn gwneud cyfraniadau dilys a phwysig iawn a fydd yn cael eu hystyried rwy'n sicr.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Siaradodd David Melding yn gyntaf. Roedd e'n gobeithio y byddai consensws. Rwy'n credu bod consensws go dda, yn enwedig ynghylch plastig. Mae hyn wedi dod yn fater o gryn bryder cyhoeddus, gyda'r rhaglen deledu ddiweddar yn codi'r mater hwn, ac rwy'n credu bod llawer o bobl heddiw yn sôn am broblem deunydd pecynnu plastig a beth y gallwn ni ei wneud amdano.

Eich ymagwedd, o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw, i raddau helaeth yw gweithio gyda Llywodraeth y DU. Rwy'n credu bod hynny'n ddoeth. Os yw'n bosibl i lunio dull cydlynol gyda Llywodraeth y DU, yna yr wyf yn sicr y byddai hynny'n ateb da iawn, oherwydd wrth gwrs mae'r broblem yn effeithio ar y DU gyfan. Felly, rwy'n eich canmol chi am fynd ymlaen gyda'r dull cydlynol hwnnw, ac efallai y bydd angen inni glywed mwy gan Mark Drakeford ynghylch hynt y trafodaethau a gafodd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch y dreth.

Ond rwy'n sylwi bod Llyr Gruffydd wedi gofyn i chi am y ddeddfwriaeth yn benodol. Rwy'n gwybod eich bod wedi ateb hynny, sef na allwch chi roi ateb pendant ar hyn o bryd. Rwy'n pendroni ychydig ynghylch y mater o gymhwysedd cyfreithiol, oherwydd yr ydym ni'n cynnal ymchwiliad i faterion cysylltiedig ar y pwyllgor amgylchedd ar hyn o bryd. Felly, pe byddai Llywodraeth Cymru yn gorfod gwneud rhywbeth ar ei phen ei hun, mewn egwyddor yn unig, tybed pa ddulliau ysgogi sydd ar gael ynglŷn â threthu. Yn amlwg, mae gennym ni bwerau treth. Beth am wahardd cynhyrchion penodol hefyd, os ceir cynhyrchion tebyg heb ddeunydd pecynnu plastig na phlastig ynddyn nhw? A oes unrhyw fodd i wahardd cynhyrchion penodol mewn gwirionedd?

Ynghylch y mater ailgylchu yn gyffredinol, rwy'n credu, wrth gwrs, ei fod yn syniad da i geisio cyrraedd cyfraddau uchel o ailgylchu, ond y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o effeithiau andwyol posibl. Mae perygl, weithiau, i ni beidio ag edrych ar y canlyniadau anfwriadol. Rwyf i wedi crybwyll o'r blaen y gallem ni gael problemau â thipio anghyfreithlon os awn ni'n rhy bell i lawr y ffordd o geisio gorfodi ailgylchu. Er enghraifft, ceir y mater o dipiau'r Cyngor. Weithiau ceir contractwyr sy'n cael eu talu i glirio tai neu glirio gerddi cefn, ac, wrth gwrs, weithiau nid ydyn nhw'n gallu cael mynediad cyfreithlon i dip y cyngor. Weithiau byddan nhw'n llwyddo drwy ffugio cyfeiriadau a phethau o'r fath, ond hefyd mae'n broblem weithiau pan fyddan nhw'n gwneud dim heblaw tipio'n anghyfreithlon. Rwy'n gweld bod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu yn rhai o fwrdeistrefi sirol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, tybed a ydych chi'n cydnabod y gall fod—wel, tybed a ydych chi'n cydnabod bod—cysylltiad rhwng ymagwedd at ailgylchu sy'n rhy lym a'r cynnydd mewn tipio anghyfreithlon, a oes angen inni weithiau gael ymagwedd fwy cytbwys tuag at hyn?

Mae gennym ni ddarlun braidd yn ddryslyd yng Nghaerdydd. Mae'r Cyngor yn awyddus i wthio ailgylchu, ond ar yr un pryd, maen nhw wedi cau dau o'r pedwar tip trefol. Felly, maen nhw'n gorfodi preswylwyr i yrru ymhellach er mwyn cael gwared ar eu deunydd ailgylchu, sy'n ymddangos, yn nhermau amgylcheddol, fel rhywbeth sydd bron yn tanseilio'r diben o ailgylchu. Felly, tybed beth yw eich barn chi ynglŷn â hynny? Diolch yn fawr iawn.

17:10

Diolch. Mae'r Aelod yn codi'r mater o orfodi a'r canlyniadau negyddol posibl oherwydd mwy o dipio anghyfreithlon posibl. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth o hynny. Ond un peth y byddwn yn ei ddweud yw y byddwn yn mynd yn ôl i bwysleisio pwysigrwydd yr hyn a ddywedais yn y datganiad am weithio gyda'r cyhoedd pan ddaw i ymgyrchoedd newid ymddygiad. Pan ein bod ni'n sôn am orfodi, rydym ni'n sôn efallai am gyfathrebu ac addysg yn hytrach na chosbi pobl yn y lle cyntaf o reidrwydd. Rwy'n gwybod bod hyn wedi gweithio mewn cymunedau lle mae cyswllt wyneb yn wyneb wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran siarad â phobl am beth sy'n cael ei ailgylchu, a pham yr ydym ni'n ei wneud, a sut y bydd hynny yn lleihau'r hyn sy'n mynd i mewn i'ch bin gwastraff gweddilliol. Fe wyddom ni y gellid ailgylchu 50 y cant o wastraff ein biniau gwastraff gweddilliol, ac mae'n debyg bod hanner hynny'n wastraff bwyd hefyd. Felly, petai e'n mynd i'r biniau cywir ac yn cael ei gasglu gyda'r gwastraff bwyd wythnosol, yna byddai'n amlwg yn lleihau unrhyw bryderon a materion eraill.

Rydych chi'n gywir pan ddywedwch nad problem sy'n benodol i Gymru yw'r broblem ynghylch plastig. Nid yw'n broblem sy'n benodol i'r DU. Mae'n ffenomen fyd-eang, a cheir ymwybyddiaeth fyd-eang yn awr, fel y gwnaethoch chi ei nodi. Mae'n bwysig ein bod yn pwysleisio ein bod yn dechrau o—. Rydym yn wynebu heriau tebyg, ond rydym ni'n dechrau o fan ffafriol gwahanol, o ran ein sefyllfa ni a'r plastig yr ydym ni'n ei ailgylchu. Fel y dywedais o'r blaen, mae yn ymwneud â gwneud yn sicr ein bod nid yn unig yn sôn am y cynnyrch ar ddiwedd ei fywyd, ond ar ddechrau bywyd, a beth aeth i mewn i'r deunydd pecynnu hwnnw, a dyna pam y mae gweithio ar ymestyn rheoleiddio cynhyrchwyr a chryfhau hynny fel bydd y cynhyrchydd yn talu mwy tuag at y gost ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb yn bwysig os ydym ni am fynd i'r afael â'r broblem hon o lygredd plastig. Fel y dywedais o'r blaen, ac yr wyf eisiau ei ailadrodd unwaith eto, rydym ni'n edrych ar ymagwedd y DU fel y saif pethau ar hyn o bryd, ond os na fydd hynny'n symud ymlaen, yna yr ydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r holl ddulliau ysgogi sydd ar gael i ni.  

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r gyfradd uchel iawn o ailgylchu gan awdurdodau lleol sy'n parhau, ac rwy'n derbyn bod ei chynyddu eto yn awr yn mynd i fod yn llawer mwy anodd, felly rwyf yn falch bod y Gweinidog mor benderfynol o fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n credu ei bod wedi'i godi eisoes pa mor bwysig yw cael y cyhoedd ar eich ochr chi, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ymweld â ni yn Rhiwbeina, lle mae'r etholwyr yn frwdfrydig iawn ynghylch ailgylchu, atal gwastraff a'r economi gylchol—yn arbennig y plant. Dechreuodd etholwr yn Rhiwbeina, fel y gŵyr y Gweinidog, fenter yr wyf i wedi ei chefnogi, ynghyd ag Anna McMorrin AS Gogledd Caerdydd, i siarad â busnesau lleol ynghylch lleihau eu defnydd o eitemau plastig untro fel gwelltyn yfed a chwpanau coffi. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei lansio hefyd yn Hen Laneirwg yr wythnos diwethaf, a byddwn yn symud ymlaen i Bontprennau. Tybed a allai'r Gweinidog wneud sylw ar bwysigrwydd y rhyngweithio hwnnw rhwng gwleidyddion, sy'n deddfu, ond hefyd sy'n cyfarfod â'r cyhoedd ac yn cyfarfod â phlant, er mwyn symud y materion hyn ymlaen.

Mae'n bwysig iawn, fel y dywedodd llawer o bobl heddiw, i gydnabod mai dim ond un rhan o'r mater yw ailgylchu, a bod lleihau gwastraff yn bwysig iawn, yn enwedig mewn deunydd pecynnu. Roeddwn i'n meddwl am hyn wrth siopa dros y penwythnos ym marchnad ffermwyr Glanyrafon, sydd wrth gwrs yn dathlu 20 mlynedd y penwythnos hwn ac mae'n un o'r marchnadoedd ffermwyr llwyddiannus iawn. Wrth gwrs, rydych chi'n prynu'r ffrwythau ac rydych chi'n prynu—wel, rydych chi'n prynu llysiau yn bennaf—ac, wrth gwrs, does dim pecynnau ar gyfer llysiau, oherwydd eu bod i gyd yn rhydd, fel mewn llawer o siopau, y maen nhw'n rhydd, ond pam y mae'n rhaid inni gael deunydd pecynnu o gwbl? Sylweddolais fod prynu llysiau rhydd yn y dull hwnnw—. Ac hefyd, yn y farchnad honno, ceir cynllun dychwelyd ernes lle mae ychydig o stondinau yn cymryd y poteli yn ôl ac yn tynnu arian i ffwrdd o'r hyn a brynwch chi wedyn. A felly, ar raddfa fechan, y mae'r pethau hyn yn gweithredu eisoes.

Ond, yn amlwg, rwy'n credu bod y cynnydd mewn marchnadoedd ffermwyr—ac mae gennym ni un yng Ngogledd Caerdydd hefyd, yn Rhiwbeina—yn bwysig iawn. Wn i ddim a hoffai'r Gweinidog wneud sylw ynglŷn â hynny.

Yna, mae'r cynllun dychwelyd ernes yn rhywbeth yr wyf i wedi ei gefnogi am flynyddoedd lawer, ac rwy'n gobeithio yn awr, y symudwn ni ymlaen a gwneud hynny. Rwyf ond yn gobeithio, os mai dull Cymru a Lloegr fydd gennym ni, na fydd yn arafu pethau mewn gwirionedd. Ac fe hoffwn i hefyd glywed yr ymrwymiad y byddwn ni'n bwrw ymlaen ag ef ein hunain, hyd yn oed os na fydd Lloegr yn gwneud hynny. Wn i ddim os allwch chi wneud sylw ynghylch hynny.

Felly, i gloi, rwy'n credu bod hon yn agenda yr ydym yn unedig yn wleidyddol yn ei chylch ac, yn bwysicaf oll, rwy'n credu bod y cyhoedd yn wirioneddol unedig hefyd. Ond rwy'n credu bod addysg ac arwain ar hyn mewn ysgolion, sy'n rhywbeth y mae llawer o eco-gynghorau yn ei wneud, hefyd yn hanfodol.

17:15

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Yr oeddwn yn falch iawn o gael ymweld â Rhiwbeina a hynny ar ddiwrnod heulog iawn, mewn gwirionedd, pan ddeuthum i ymweld. Rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser dros y misoedd diwethaf yn ymweld â'r cymunedau hynny ar hyd a lled Cymru sy'n cymryd camau i leihau'r defnydd o fagiau plastig untro. Oherwydd, yr ydych yn hollol gywir, oes, mae gan Lywodraeth swyddogaeth i ddeddfu a gosod agenda'r polisi, ond mewn gwirionedd ni allwn ond cyrraedd y lle y dymunwn ei gyrraedd, fel yr ydym ni wedi gweld gydag ailgylchu ar ymyl y pafin, os oes gennych chi'r newid diwylliannol ymhlith y cyhoedd hefyd. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu nawr i groesawu'r farn gyhoeddus sy'n bodoli ynghylch y mater hwn, ond gan wneud yn sicr ein bod yn gweithredu mewn ffordd nad yw'n dameidiog, ond yn gyfannol ac sy'n edrych ar yr holl bethau a ddywedais i heddiw yn y datganiad o ran ein seilwaith, cyfrifoldeb y cynhyrchydd, o ran deunydd pecynnu y buoch chi'n sôn amdano, sut yr ydym yn lleihau pecynnau bwyd diangen, neu sut y symudwn ni at ddeunydd pecynnu sydd mewn gwirionedd â mwy o gynnwys wedi'i ailgylchu neu sy'n bosibl ei ailddefnyddio, a hefyd y rhan y gallai cynllun dychwelyd ernes ei chwarae yn hynny. Ac, ydych, rydych chi'n iawn wrth ddweud mai un rhan o'r jig-so yw ailgylchu o ran sut y gallwn gyrraedd lle yr ydym ni eisiau bod.

Un o'r pethau rwy'n credu i chi ddweud ar y diwedd, sydd yn gwbl allweddol, yw'r rhan y mae'n rhaid i blant ei chwarae, oherwydd bod gennym ni mewn gwirionedd eco-ysgolion wedi eu rhannu ledled y wlad, ac rwy'n awyddus bod yr eco-ysgolion hyn yn ganolog i'n hymgyrch newid ymddygiad wrth inni gamu ymlaen, nid yn unig yn eu hysgolion eu hunain, ond yn y gymuned ehangach a'r wlad ehangach hefyd. Oherwydd rwy'n credu y bydd y neges gan y plant hynny yn llawer, llawer cryfach o ran ei heffaith nag a geir gan unrhyw un ohonom ni ar y meinciau hyn, gan unrhyw wleidydd, neu hyd yn oed gan lawer o rieni. Oherwydd bod y pŵer hynny a geir drwy swnian, yn yr ysgolion y bûm i ynddyn nhw, a'r plant, does ganddyn nhw ddim teyrngarwch—byddan nhw'n chwidlo ar eu rhieni os na fydden nhw'n gwahanu eu cynnwys ailgylchu fel y dylen nhw, ac yna byddan nhw'n mynd adref a dweud wrth eu rhieni neu eu gwarcheidwaid beth y dylen nhw ei wneud. Felly, rwy'n awyddus iawn, mewn gwirionedd i gynnwys plant cymaint ag y gallwn ni yn yr ymgyrch honno ac i gyfleu'r neges mai ein dyfodol ni yw hwn ac y mae angen i chi helpu nid yn unig i'w sicrhau, ond ei gynnal.

Diolch, Llywydd dros dro.

Rwyf am ganolbwyntio ar agwedd leihau'r tair A. Mae pob un ohonyn nhw, wrth gwrs, yn ddefnyddiol, ond rwy'n credu y dylem atal pethau rhag cael eu hailgylchu yn y lle cyntaf. Ac i'r perwyl hwnnw, ceir rhai enghreifftiau gwych. Un ohonyn nhw yw sefydliad elusennol yn Sir Benfro o'r enw FRAME,  ychydig i lawr y ffordd o lle rwy'n byw, mewn gwirionedd, ac maen nhw wedi bod yn hyrwyddo'r dull gweithredu hwn ers blynyddoedd lawer, drwy adnewyddu dodrefn a nwyddau tŷ ac yna eu huwchgylchu nhw. A byddai'r nwyddau hynny yn sicr wedi cyrraedd y safleoedd tirlenwi yn y gorffennol. Ac fe osodon nhw'r agenda hon beth amser cyn iddi ddod yn ffasiynol i wneud hynny, a thipyn o amser cyn i'r sgwrs hon ddechrau. Canlyniad hynny yw eu bod yn darparu swyddi gwerthfawr i dros 200 o bobl yn yr ardal leol bob blwyddyn, ac mae ganddyn nhw hanes gwych o ailddefnyddio neu ailgylchu 60 y cant, neu fwy na 60 y cant o'r eitemau y maen nhw'n eu casglu. Ond yn ychwanegol at hynny hefyd, maen nhw'n cynnig cymorth i deuluoedd sydd ei angen i brynu neu ail-brynu'r nwyddau hynny yn rhatach, ond hefyd i unigolion sy'n dymuno cael y dewis hwnnw o brynu. Ac fe fyddan nhw'n casglu'r nwyddau hynny ac yna'n eu hailddosbarthu i'w cartrefi newydd.

Rwy'n credu mai un o'r pethau sydd wedi cael ei anghofio yma heddiw yw, os roddwn ni ddodrefn, neu unrhyw fath o bren sydd wedi ei drin yn ôl i safleoedd tirlenwi, bydd ganddo rai ychwanegion gwenwynig, ac mae hynny'n broblem fawr. Wn i ddim os wyliodd unrhyw un y darn a wnaed ynghylch gwastraff a ganfuwyd ar hyd yr afon Tafwys. Roedd y darnau hynny o ddodrefn, o ddillad, yn gwbl gyfan, ond roedd y llygryddion, gallwch fod yn sicr bron, yn y dŵr. Felly, fe fydd paent, fe fydd farnais, fe fydd gorchudd plastig yn dod o bob un o'r eitemau hynny, felly rwy'n credu bod angen i ni ychwanegu'r negeseuon hynny pan fyddwn ni'n trafod pam y mae angen inni atal y pethau hyn rhag mynd i gael eu hailgylchu yn y lle cyntaf. Ond hefyd, gallwch ddysgu pobl y sgiliau i wneud rhywbeth allan o unrhyw beth arall, ac y mae FRAME yn gwneud hynny hefyd.

Ceir enghraifft wych arall o fusnes yn ceisio lleihau gwastraff, a'i enw yw Natural Weigh Ltd, a dyma'r siop ddiwastraff gyntaf yng Nghymru. Mae hi wedi ei lleoli, unwaith eto, yn fy etholaeth i, yng Nghrucywel. Mae Natural Weigh yn annog cwsmeriaid i ddod â chynwysyddion amldro pan fyddan nhw'n prynu nwyddau fel bwyd sych neu gynhyrchion glanhau, ac mae'n lleihau'r angen am fagiau plastig untro yn sylweddol. Yn ddiweddar enillon nhw'r wobr 'un i'w wylio' yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, y byddwch yn ymuno â mi i ddymuno llwyddiant iddyn nhw yng ngwobrau menter gymdeithasol y DU, sydd yn cael eu cynnal fis nesaf. Felly, mwy o newyddion da.

Ond mewn gwirionedd, yr hyn yr wyf yn credu sy'n peri pryder i bob un ohonom ni yn y fan yma yw pan awn ni am dro o amgylch y manwerthwyr mawr a gweld y deunydd pecynnu y gwyddoch chi na ellir ei osgoi na'i ailgylchu. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw; sut ydych chi fel Llywodraeth yn llwyddo wrth geisio anfon neges at y cwmnïau mawr hynny bod yn rhaid iddyn nhw mewn gwirionedd ymuno â ni o ran yr ymagwedd economi gylchol, megis yr enghreifftiau o fusnesau bach yr ydym ni wedi clywed amdanyn nhw yma heddiw? Beth allwn ni ei wneud, os oes unrhyw beth, o ran deddfwriaeth i sicrhau y byddan nhw'n rhoi'r gorau i'w hymddygiad hynod o wael?

17:20

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Fe wnaethoch chi sôn am ddau gynllun gwych yn y fan yna, FRAME a Natural Weigh, ac rwy'n gyfarwydd â'r ddau ac wedi ymweld â nhw. Yn wir, fe es i at Natural Weigh ac roedd ganddyn nhw rai siocledi hyfryd a gefais i yno hefyd. Fe wnaf yn sicr ymuno â chi i'w llongyfarch ar y wobr y maen nhw eisoes wedi'i hennill, a dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yng ngwobrau'r DU. Mae'n siŵr y bydd yn haeddiannol iawn hefyd, oherwydd pan es i i ymweld â nhw, i weld eu brwdfrydedd a sut y maen nhw wedi cymryd y syniad hwnnw o rywle arall, ond erbyn hyn maen nhw mewn gwirionedd yn helpu eraill ar draws y wlad i wneud hynny, a rhannu'r siopau hyn, gan sefydlu ymhell ac agos—. Rwy'n credu eich bod yn hollol iawn o ran y swyddogaeth y mae angen i ailddefnyddio ei chwarae o ran ein map llwybr tuag at economi gylchol, wrth inni fynd ymlaen ac ymgynghori ar hynny, oherwydd nid yn unig y ceir manteision amgylcheddol a manteision economaidd, ond ceir agenda cyfiawnder cymdeithasol gyfan sy'n rhan o hyn o ran sut y mae'n galluogi pobl ac yn cefnogi pobl mewn gwirionedd i allu nid yn unig i gael dodrefn ac offer, ond hefyd i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Rydych chi wedi enwi dwy fenter dda iawn yn y fan yna, ac wrth gwrs, oes, mae gennym ni ein cronfa economi gylchol o £6.5 miliwn, y byddwn yn ei thargedu ar y mentrau hynny yng Nghymru a'i chanolbwyntio ar gynhyrchwyr plastig mwy cynaliadwy—sut y maen nhw'n cynhyrchu pethau, a'r cynnwys sy'n mynd i mewn iddo. Gyda chwmnïau mwy o faint, rydym ni wedi gweld rhai ohonyn nhw'n pennu'r agenda ac yn dweud eu bod nhw'n mynd i newid, ond mae hyn mewn camau bach. Un o'r pethau allweddol, rwy'n credu, ar gyfer hynny mewn gwirionedd yw ystyried cyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd—felly, mae'r cynhyrchydd yn cymryd mwy o gyfrifoldeb o ran y deunydd pacio y mae'n ei gynhyrchu a sut y mae'n ei gynhyrchu, yr hyn sydd wedi mynd i mewn iddo, beth sy'n digwydd ar ddiwedd ei oes, a ffioedd wedi'u modiwleiddio yn rhan o hynny, a fydd yn gwneud i gynhyrchwyr orfod ystyried a newid eu dyluniad a'r hyn y maen nhw'n ei wneud â phethau wedyn.

17:25
7. Dadl: Diwygio'r Gwasanaeth Prawf

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Rydym ni'n troi nawr at eitem 7: dadl ar ddiwygio’r gwasanaeth prawf. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.

Cynnig NDM6831 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Member
Alun Davies 17:25:47
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. A gaf i ddechrau drwy ddweud y bydd y Llywodraeth yn derbyn pob un o'r tri gwelliant i'r cynnig hwn y prynhawn yma?

O ran mynd ati i ddiwygio'r gwasanaeth prawf, ceir rhai gwahaniaethau athronyddol, sylweddol iawn rhyngom ni a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn. I mi, ac i ni, yr egwyddorion craidd yw ein bod ni eisiau gweld y gwasanaeth prawf yn wasanaeth adsefydlu o'r radd flaenaf sy'n buddsoddi mewn pobl ac sy'n buddsoddi mewn cymunedau. Rydym ni eisiau gweld adsefydlu yn cael ei roi wrth wraidd y gwasanaeth prawf.

Mae dogfen ymgynghori ddiweddar gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder', wedi'i groesawu gan y Llywodraeth hon, oherwydd ein bod ni'n credu, er gwaethaf rhai gwahaniaethau o ran ein hymagwedd sylfaenol tuag at y gwasanaeth prawf, bod y ddogfen ymgynghori hon yn gosod sail inni symud ymlaen gyda gwasanaeth prawf yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle gwirioneddol i wneud pethau sy'n seiliedig ar ein profiad ni yng Nghymru ac yn seiliedig ar ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru hefyd. Rwy'n credu bod y cynigion yn yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle inni ddylunio gwasanaeth prawf gwell sy'n addas i'w ddiben.

Roeddwn i'n falch iawn, a chredaf y bydd holl Aelodau'r Siambr yn croesawu'r gydnabyddiaeth gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod Cymru mewn sefyllfa unigryw, na fyddai ceisio gwthio cynigion Seisnig ar Gymru yn gweithio, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn croesawu'r gydnabyddiaeth nad yw hyn yn bosib erbyn hyn. Credaf mai dyma'r cam cyntaf yn y broses o gyflwyno gwasanaeth prawf i Gymru a fydd yn rhoi cysondeb ac yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i Gymru.

Mae'r cynigion yr ydym ni yn eu trafod yn cynnwys: ymgorffori swyddogaeth rheoli troseddwyr y cwmnïau adsefydlu cymunedol i'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, creu system prawf unigol yng Nghymru; cydberthynas well rhwng y strwythurau hyn a mwy o ran i bartneriaid lleol wrth lunio gwasanaethau prawf; cyfleoedd i gomisiynu ar y cyd â Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu; a'r cyfle i gyflawni mwy o integreiddio yn y gwasanaeth prawf a charchardai. Rydym ni'n cydnabod y bydd elfen o gystadleuaeth gyda'r gwasanaethau ymyrraeth ac ailsefydlu. Wrth gwrs, byddai'n well gan Lywodraeth Cymru i'r agweddau hyn fod o fewn y gwasanaeth cyhoeddus, ond rydym ni'n cydnabod bod hyn yn wahaniaeth rhyngom ni a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Llywydd dros dro, yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon, rwyf wedi ceisio creu perthynas waith agos rhwng Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi. Bydd Aelodau'n ymwybodol fod datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn un o amcanion y Llywodraeth hon—nid oherwydd athrawiaeth, ond oherwydd ein bod ni eisiau gweld gwasanaethau da yn cael eu darparu i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Ac rydym ni'n credu bod gweithio gyda'n gilydd i ddarparu'r gwasanaethau hyn mewn ffordd sy'n uno pobl a sefydliadau yn ffordd well o gyflawni'r rhain. Yn rhy aml o lawer, rydym ni wedi bod yn y sefyllfa yn y blynyddoedd diwethaf lle nad yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i gyflawni eu holl bolisïau yn y gwasanaeth prawf ac mewn mannau eraill yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hyn o ganlyniad i setliad diffygiol nad yw'n cyflawni ar gyfer Cymru. Felly, rydym ni wedi ceisio creu perthynas waith agos â Llywodraeth y DU i sicrhau, er gwaethaf y trafferthion o gael setliad, y gallwn ni obeithio creu strwythurau sydd yn darparu'r gwasanaethau y credwn ni sydd eu hangen arnom ni.

Rydym ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod methiannau'r penderfyniad i breifateiddio'r gwasanaeth prawf, gan wahanu'r gwasanaeth prawf cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol yma yng Nghymru. Gwelsom adroddiad y llynedd gan brif arolygydd Arolygiaeth Gwasanaeth Prawf ei Mawrhydi, y Fonesig Glenys Stacey, a oedd yn wirioneddol bryderus am fethiannau preifateiddio a'r anhrefn a oedd yn bodoli yn y system.

Byddaf yn cyfarfod â'r prif arolygydd bob blwyddyn a bu cryn sôn am y pryderon hyn yn ystod ein cyfarfod diwethaf. Dilynwyd hyn dim ond y mis diwethaf gan adroddiad arall yn mynegi pryderon difrifol ynghylch diogelwch dioddefwyr cam-drin domestig oherwydd methiant y cwmnïau preifat hynny i amddiffyn y dioddefwyr hynny rhag y bobl hynny a fu yn eu cam-drin.

Rwyf wedi ceisio cwrdd â Gweinidogion yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rheolaidd i drafod a dadlau sut y gallwn ni ddarparu gwasanaeth mwy cydgysylltiol yng Nghymru. Mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu eisoes wedi'u datganoli. Mae iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, addysg, tai a llety yn hanfodol i ddarparu gwasanaeth prawf cadarn a llwyddiannus. Mae angen inni sicrhau bod pob un o'r gwasanaethau hyn yn gallu gweithio gyda'i gilydd.

Mae'n rhaid i unrhyw wasanaeth prawf ar ei newydd wedd ystyried a chydnabod a gweithio gyda'r ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei hariannu. Dyma'r unig ffordd y gallwn ni sicrhau gofal da ac osgoi dyblygu darpariaeth. Mae'n rhaid cynnwys cydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf yn nhrefniadau datblygu, dylunio a llywodraethu yn y dyfodol i sicrhau'r berthynas briodol rhwng ymyraethau er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Nid yw hi bellach yn bosib ac nid yw hi bellach yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru gael gwybod am ganlyniad y trafodaethau hyn ar ddiwedd y broses hon. Yn y dyfodol, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael ei chynnwys yn llawn ar ddechrau'r broses o gynllunio'r gwasanaethau hyn.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i ni ailedrych ar raglen y llwybr cenedlaethol ac o bosib i edrych eto ar y gwasanaeth adsefydlu yn ei gyfanrwydd yng Nghymru i ganiatâu gwahaniaethau mewn gwasanaethau gwirfoddol a statudol. Mae'r cymorth adsefydlu hwn yn hanfodol ac mae angen iddo fod yn wasanaeth sydd wedi ei gydgysylltu'n briodol sy'n ymateb i anghenion unigol troseddwyr sy'n gadael sefydliadau. Caniatewch imi ddweud hyn: Nid wyf yn siŵr a ydym ni bod bob amser yn cyflawni hyn yn briodol ar hyn o bryd. Credaf fod angen inni gydnabod, wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn, bod angen inni ein hunain ystyried pa mor gydlynnus yr ydym ni'n darparu'r gwasanaethau hyn i bobl sy'n agored i niwed. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud hyn yn y ffordd gywir, yn enwedig o ran rhannu gwybodaeth asesu, a gasglwyd pan oedd y cyfryw bobl dan glo, gyda'r gwahanol asiantaethau dan sylw i sicrhau nad oes unrhyw oedi na dyblygu.

Mae'n rhaid hefyd cael cyfathrebu gwell a mwy cadarn rhwng y gwasanaethau amrywiol er mwyn sicrhau, ni waeth beth yw hyd y ddedfryd, na chaiff neb ei ryddhau heb wybod ble y bydd yn aros ar ei noson gyntaf. Llywydd dros dro, rwyf wedi clywed  gormod o straeon am bobl sydd wedi cael eu rhyddhau heb wybod lle maen nhw i fod i fynd, gyda dim neu fawr ddim cefnogaeth, heb wybod hyd yn oed ble byddan nhw'n treulio eu noson gyntaf allan o'r carchar. Mae'n annerbyniol; ni ddylai'r fath sefyllfa fodoli. Dim ond drwy gydgysylltu, drwy integreiddio ac edrych ar bolisi mewn modd cynhwysfawr y gallwn ni sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen.

Rydym ni hefyd yn gwybod bod menywod yn tueddu i gael dedfrydau byrrach na dynion. Mae angen i gynllun ailsefydlu ar gyfer menywod fod yn weithredol yn gyflym iawn yn dilyn dedfrydu. Mae angen inni achub ar y cyfle a gafwyd o ganlyniad i'r broses ymgynghori hon i sicrhau bod pawb sy'n gadael y carchar yn gwbl barod ar gyfer eu rhyddhau ac yn cael sicrwydd o ran beth fydd y camau nesaf. Mae angen inni sicrhau bod pobl sydd ar fin cael eu rhyddhau yn cael cefnogaeth lawn.

Mae hi hefyd yn hanfodol y dylid annog pob troseddwr yn y carchar i fanteisio ar sgiliau newydd a chynyddu'r diddordebau a'r galluoedd sydd ganddyn nhw er mwyn gweld a ellid defnyddio unrhyw weithgarwch ystyrlon priodol a pherthnasol yn y ddalfa i wella eu posibilrwydd o gael gwaith ar ôl eu rhyddhau. Mae gwaith eisoes wedi dechrau, gyda chyhoeddi fframwaith i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru, yr ydym ni eisoes wedi ei gyhoeddi yn gynharach eleni.

17:35

Mae'n ddrwg gennyf—Ysgrifennydd y Cabinet. Ynglŷn â'ch sylw olaf ynghylch annog troseddwyr i fanteisio ar sgiliau a fydd yn eu helpu ar ôl gadael y carchar, bûm mewn digwyddiad yn ddiweddar wedi ei drefnu gan Gyrfa Cymru ar y cyd â charchar Prescoed, sef i gael ffair yrfaoedd mewn gwirionedd yn y carchar ym mis olaf dedfryd y troseddwyr, fel y byddai ganddyn nhw swyddi i fynd iddyn nhw ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar. Nid wyf i'n siŵr a ydych chi'n mynd i sôn am hynny yn eich araith, ond rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei amlygu mewn gwirionedd fel enghraifft ardderchog o sut y gellir gwella'r sefyllfa.

Doeddwn i ddim yn mynd i sôn am hynny, ond rwy'n falch eich bod wedi gwneud hynny. Mae'n bwysig ystyried sut yr ydym ni'n gweithio mewn modd creadigol i sicrhau bod gennym ni'r strwythurau ar waith i alluogi pobl, ar ôl cael eu rhyddhau o sefydliad diogel, i chwilio am ac i ddod o hyd i waith.

Mae'r fframweithiau yr ydym ni wedi eu cyhoeddi yn hyrwyddo cydweithredu parhaus i leihau ymhellach nifer y troseddwyr sy'n cyrraedd y system cyfiawnder troseddol, i gefnogi troseddwyr i beidio ag aildroseddu, ac i gadw cymunedau yn ddiogel. Blaenoriaethau'r fframweithiau yw lleihau nifer y menywod yn y system cyfiawnder troseddol; herio pobl sy'n cyflawni cam-drin domestig, gan eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd; gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cyn-aelodau'r lluoedd arfog sydd yn y system cyfiawnder troseddol; rhoi cymorth i oedolion ifanc sy'n gadael gofal; cefnogi teuluoedd troseddwyr yn dilyn dedfrydu; blaenoriaethu anghenion pobl dduon, Asiaid a grwpiau lleiafrifoedd ethnig; a chefnogi'r garfan hynny lle mae'r perygl o aildroseddu yn peri'r risg fwyaf. O ystyried yr amgylchiadau mwy cymhleth ynghylch troseddwyr benywaidd, rwy'n credu bod angen inni ystyried darpariaeth wahanol iawn ar gyfer troseddwyr benywaidd. Llywydd dros dro, rwyf yn gobeithio y byddwn ni'n gallu cyhoeddi glasbrint ar gyfer troseddu ymhlith menywod, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi, a fydd yn archwilio'r dewisiadau o ran cael y system gyfan i weithio gyda menywod sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol.

Yn unol â chanfyddiadau Adolygiad Farmer, 'The Importance of Strengthening Prisoners' Family Ties to Prevent Reoffending and Reduce Intergenerational Crime', dylid rhoi ystyriaeth bellach i'w gwneud hi'n haws i'r rhai sydd dan glo i gynnal cyswllt teuluol lle y bo modd a lle bo'n briodol. Rwyf wedi cwrdd ag Arglwydd Farmer i drafod ei adolygiad a chanfyddiadau ei adolygiad. Bydd yn sail i'n polisïau ein hunain yn y dyfodol. Ymwelais â charchar y Parc i weld pwysigrwydd y cyswllt teuluol drosof fy hun a'r effaith y gall hynny ei gael o ran adsefydlu troseddwyr. Yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol Arglwydd Farmer ym mis Awst y llynedd, rwy'n disgwyl canlyniadau ei waith pellach yn y maes hwn, ble mae'n ehangu ei ymchwil i gynnwys carchardai menywod a phrofiad menywod sydd wedi bod yn y carchar. Bydd hyn, yn ei dro, yn dylanwadu ar y glasbrint sy'n cael ei ddatblygu, ac rwy'n gobeithio y caiff ei

Mae'n rhaid inni edrych yn awr ar y ffordd y caiff contractau adsefydlu cymunedol eu terfynu yng Nghymru a sicrhau trosglwyddiad didrafferth i'r ffyrdd newydd o weithio. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda phartneriaid allweddol ledled Cymru i gael y canlyniadau gorau posibl. Edrychaf ymlaen at wrando ar farn yr Aelodau ynglŷn â phob un o'r materion hyn yn y ddadl y prynhawn yma. Llywydd dros dro, bwriad Llywodraeth Cymru yw parhau i ddatblygu polisïau yn y maes hwn, i barhau i sbarduno newid yn y maes hwn, ac i barhau i sicrhau ein bod yn darparu cymorth ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn y ffordd y mae arnyn nhw ei angen ar yr adeg y maen nhw angen y cymorth hwnnw.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Llywydd wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Ar Awst 21, bûm yn y digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid yn Wrecsam, a gynhaliwyd gan Wasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi i drafod gwasanaethau prawf yng Nghymru yn y dyfodol a'r cynigion a geir yn y papur ymgynghori a gyhoeddwyd yn ddiweddar 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder'.

Clywsom, yng Nghymru, mai'r cynigion yr ymgynghorwyd arnyn nhw yw, o 2020, y bydd pob gwasanaeth rheoli troseddwyr yn rhan o'r gwasanaeth prawf cenedlaethol—ac y bydd Gwasanaeth Prawf a Charchardai ei Mawrhydi yng Nghymru yn ystyried y dewisiadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyraethau ac ad-dalu cymunedol.

17:40

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni y byddan nhw'n adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddyn nhw eisoes yng Nghymru drwy'r gyfarwyddiaeth brawf a charchardai sydd eisoes wedi ei sefydlu ganddyn nhw. Fel y gwnaethon nhw ei ddweud, bydd hyn yn adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac yn adeiladu ar y partneriaethau lleol presennol y mae'r gwasanaethau prawf wedi llwyddo i'w datblygu. Felly rwy'n cynnig gwelliant 1 o'n heiddo i'r perwyl hwn.

Fel y clywsom ni, bydd y cynigion hyn yn caniatáu mwy o integreiddio yn y gwasanaeth prawf a charchardai yng Nghymru gan 'atal dioddefwyr drwy newid bywydau,' fel y gwnaethon nhw ei ddweud, gyda mewnbwn gwirioneddol gan y trydydd sector, gan wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael ar ffurf pobl. Yn dilyn hyn, rwyf, er enghraifft, yn mynd â'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yng Nghymru i gwrdd â Chwmni Buddiannau Cymunedol Datblygu Ieuenctid Eagle House ym Mangor ddydd Gwener nesaf i drafod gwaith y sefydliad hwn gyda phobl ifanc sy'n troseddu neu mewn perygl o wneud hynny. Mae Eagle House eisoes wedi adeiladu perthynas weithio gref gyda chanolfannau gwaith yn y gogledd.

Fel mae'r Arglwydd Ganghellor yn ei ddweud yn yr ymgynghoriad 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder',

'rydym yn gwybod bod dedfrydau cymunedol yn aml yn fwy effeithiol na charchar o ran lleihau troseddu',

ac mae'n ychwanegu:

'Bu i Drawsffurfio Adsefydlu gynnig cyfle i ystod ehangach o ddarparwyr ddarparu gwasanaethau prawf, a chreodd y strwythur sydd yn bodoli heddiw.'

Dywedodd:

'bod yna gryfder yn yr ymagwedd marchnad gymysg yma, a bod yna gyfle i ystod o ddarparwyr, yn cynnwys yn y sector gwirfoddol, barhau i gynnig syniadau ffres ac arloesol i’r gwasanaethau prawf',

gan ychwanegu:

'Eisoes rydym wedi gweld gostyngiad o ddau bwynt canran yng nghyfraddau aildroseddu unigolion gaiff eu goruchwylio gan CRCau, a rhai enghreifftiau cadarnhaol o weithio da ar y cyd rhwng yr NPS, CRCau a’u partneriaid lleol.'

Dywedodd:

'Er y disgwylid anawsterau mewn rhaglen ddiwygio mor arwyddocaol a chymhleth',

bod arno eisiau mynd i’r afael â’r materion yma cyn gynted â phosib. Felly, meddai, mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu sut maen nhw'n bwriadu sefydlogi'r gwasanaethau prawf a gwella sut y caiff troseddwyr eu goruchwylio a gwasanaethau adsefydlu. Mae hefyd yn nodi sut y byddan nhw'n defnyddio'r gwersi y maen nhw wedi eu dysgu hyd yma i sefydlu gwasanaethau mwy cadarn a fframwaith masnachol effeithiol.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn crybwyll

'cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru a threfniadau partneriaethau presennol yng Nghymru'

ac maen nhw'n dweud bod y rhain

'yn golygu bod darparu gwasanaethau prawf yn wahanol i’r hyn a geir yn Lloegr.'

Dywedodd:

'Mae’r fframwaith deddfwriaethol yn rhoi cwmpas i ni allu datblygu trefniadau darparu amgen sydd yn adlewyrchu cyd-destun cyfiawnder troseddol yng Nghymru.'

Byddan nhw felly yn

'ystyried a yw’r hyn a ddysgir o’r trefniadau newydd hynny yn gymwys i’r system yn Lloegr.'

Felly, dydyn nhw ddim yn gwahanu. Maen nhw'n mynd i ddysgu oddi wrth Cymru a gobeithio datblygu hynny mewn mannau eraill. Bu AS Llafur Wrecsam, Ian Lucas, mewn digwyddiad yn Wrecsam hefyd. Fel finnau, mae'n deall y byddai datganoli cyfiawnder troseddol yn niweidiol, yn groes i'r realiti traws-ffiniol. Fe wnaeth hefyd fy atgoffa bod AS Llafur Delyn, David Hanson, yr un mor bryderus ag yntau.

Mae galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn methu â chydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol na rhanbarthol, bod dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru, 48 y cant o'r boblogaeth, yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, a 2.7 miliwn o bobl, 90 y cant o'r boblogaeth, o fewn 50 milltir i'r ffin. Mewn cyferbyniad, dim ond 5 y cant o boblogaeth yr Alban a Lloegr gyda'i gilydd sy'n byw o fewn 50 milltir i'w ffin nhw. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw ar hyd coridorau'r M4 a'r A55, wedi'u gwahanu gan ardal wledig helaeth, a gofynion gwahanol o ran cyfiawnder troseddol. Fel yr oedd fy nghysylltiadau gwaith cynnar mewn cyfiawnder troseddol yn y gogledd yn fy atgoffa dro ar ôl tro, mae ganddyn nhw gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr na gweddill Cymru, ac mae gorfodi datganoli, fel roedden nhw'n ei ddweud,

i borthi balchder Gwleidyddion penodol, yn rhywbeth y dylid cadw golwg gofalus arno. 

[Torri ar draws.] Ie, ar bob cyfrif. 

Diolch i'r Aelod am ildio. A yw e'n credu y byddai'r anrheithio a fu ar y gwasanaeth prawf wedi digwydd pe byddai wedi ei ddatganoli i Gymru?

Rwy'n credu y byddai wedi ei anrheithio, ond y byddai wedi ei anrheithio gan reolaeth fiwrocrataidd yn hytrach nag esblygiad dychmygus gwasanaethau, oherwydd mae'n rhaid inni gyd-gynhyrchu gyda'n gilydd. Nid yw'r wladwriaeth yn dda iawn, ac eithrio o ran y GIG, am redeg gwasanaethau. Ei gwaith yn hynny o beth yw sicrhau eu bod yn cael eu darparu.

Yn lle hynny adlewyrchir realiti gweithredol—

Yn lle hynny adlewyrchir realiti gweithredol felly gan y cydweithredu gweithredol cynyddol gyda heddlu Glannau Mersi a swydd Gaer, y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adrodd yn ei gylch, mewn meysydd megis arfau tanio, deallusrwydd, cadw troseddwyr yn y ddalfa, eiddo a gwaith fforensig.

Byddai datganoli cyfiawnder troseddol fel arall yn ceisio cyflawni amcanion gwleidyddol, yn darnio'r DU, o du rhai pobl yn y fan acw, neu yn ymgais wleidyddol gan grŵp o bobl i gipio grym, a dylai'r modd y maen nhw'n gwleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn raddol, ac yn aml yn fygythiol, fod yn rhybudd i ni i gyd.

17:45

Diolch. A gaf i yn awr alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? Leanne.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddweud unwaith eto bod yr hyn sydd wedi digwydd i'r gwasanaeth prawf, gwasanaeth y bûm i'n gweithio ynddo am nifer o flynyddoedd, wedi bod yn dorcalonnus i'w weld. Mae wedi ei rwygo'n ddarnau gan breifateiddio ideolegol y Torïaid ar y gwasanaeth ac mae'n drychineb llwyr. Mae wedi digalonni staff prawf profiadol, gweithgar, gan arwain at lawer yn gadael yn eu heidiau. Mae hefyd wedi lleihau gallu'r gwasanaeth i fonitro troseddwyr, ac felly wedi lleihau diogelwch y cyhoedd.

Bu nifer o achosion lle na fu monitro troseddwyr yn  ddigonol, ac mae hyn wedi arwain at ganlyniadau trychinebus. Rwy'n siŵr nad oes angen imi sôn am achos Conner Marshall yn y fan yma. Mae llawer o rai eraill, hefyd. Mae preifateiddio wedi bod yn achos drud o hapchwarae sydd wedi mynd o chwith, fel y rhybuddiwyd y Torïaid y byddai.

Nawr, cytunaf yn llwyr â NAPO Cymru, sy'n dweud bod

ymdrechion i wthio'r gwasanaeth prawf i fodel sy'n seiliedig ar y farchnad yn ddryslyd, wedi methu, ac y bydd yn methu.

Rwy'n cytuno hefyd â Cynghrair Howard er Diwygio Cosbau, sy'n dweud

y dylai trefniadau comisiynu fod yn seiliedig ar gydweithredu ac ar gyflawni amcanion ar y cyd yn hytrach na chystadleuaeth.

Mae cyflwyno elfen o elw i reoli risg troseddwyr yn warthus, ac ni ddylai fod wedi'i ystyried erioed yn y lle cyntaf.

Felly, dyna'r gorffennol: beth am y dyfodol? Rwy'n cytuno gyda'r penderfyniad i ailuno rheoli troseddwyr gyda'r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Bydd hyn yn mynd ran o'r ffordd i fynd i'r afael â'r difrod sydd wedi'i wneud. Er na ellir gwrthdroi yn llwyr y newidiadau y mae'r Torïaid wedi eu gwneud, mae modd dychmygu gwasanaeth a fydd yn helpu pobl i ailafael yn eu bywydau a gwneud llai o aildroseddu. Byddwn, fodd bynnag, yn rhoi gair o rybudd ac yn dweud bod angen gofal o ran sut yr ymdrinnir ag ad-drefnu pellach. Mae staff y gwasanaeth prawf wedi eu trin yn hynod o wael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi cael eu cymryd yn ganiataol yn y system honno. Dylai unrhyw ad-drefnu pellach, hyd yn oed pan gaiff ei wneud gyda'r bwriadau gorau ar gyfer y canlyniad gorau posibl, ddigwydd drwy ymgynghori'n ystyrlon â staff. Gweithio gyda nhw, nid yn eu herbyn. Ni allwn ni fforddio digalonni rhagor o staff, ac ni allwn ni fforddio colli hyd yn oed mwy o arbenigedd o'r gwasanaeth.

Nawr rwy'n siŵr na fyddaf yn synnu neb yn y fan yma drwy siarad o blaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Ysgrifennais bapur polisi yn ôl yn 2008 o'r enw 'Gwneud ein Cymunedau'n Fwy Diogel', ac roedd y papur hwnnw'n argymell datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru. Pe byddem ni wedi gwneud hynny bryd hynny, mae'n bosib iawn y byddem ni wedi osgoi'r drychineb honno a ddaeth o breifateiddio'r gwasanaeth prawf. Ar yr adeg honno, ystyriwyd y papur hwnnw yn ddogfen radical. Bryd hynny, wrth gwrs, roedd gwrthwynebiad croch i ddatganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder troseddol gan lawer ar y meinciau Llafur, felly mae'n gadarnhaol gweld, yn y cyfamser, bod cynifer o bobl bellach wedi newid eu meddwl.

Pan ein bod yn ystyried effeithiau toriadau San Steffan ar blismona, ynghyd â'r drychineb hon a ddaeth gyda phreifateiddio'r gwasanaeth prawf, i mi, mae'r achos yn amlwg. Ddeng mlynedd yn ôl, roeddwn yn dadlau y byddai system cyfiawnder troseddol datganoledig yn galluogi Cymru i wneud pethau mewn ffordd wahanol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Byddai'n fodd inni lunio atebion Cymreig i broblemau Cymreig a gwneud ein cymunedau a'r gymdeithas ehangach yn lle tecach a mwy diogel i bob un ohonom ni. Nid yw fy marn wedi newid yn ystod y degawd ac rwy'n falch o weld y bu cefnogaeth gynyddol i hyn, nid dim ond yn y Siambr hon, ond hefyd o bob haen o gymdeithas ddinesig, hefyd.

Mae ffordd y Torïaid o weinyddu cyfiawnder yn cosbi, yn annheg, ac mae'n canolbwyntio ar gynhyrchu elw preifat o droseddu a dioddefaint dynol. Mae eu system yn siomi ein cymunedau. Byddai datganoli'r cyfrifoldeb dros gyfiawnder troseddol yn caniatáu inni gymryd hwn o ddwylo'r Torïaid unwaith ac am byth. Byddai'n caniatáu inni lunio ein llwybr ein hunain yng Nghymru i greu system decach a allai fod yn enghraifft o sicrhau cyfiawnder gwirioneddol a theg i bobl mewn gwledydd eraill hefyd. 

17:50

Rwy'n cytuno i raddau helaeth iawn â'r hyn y mae Leanne Wood newydd ei ddweud, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod y system cyfiawnder troseddol yn y Deyrnas Unedig yn ddim llai na thrychinebus ac erchyll. Mae'n annynol, mae'n anghynhyrchiol, mae'n creu llawer o niwed i'n cymunedau, ac mae angen iddi newid. Felly, gorau oll y mwyaf o bwerau y gallwn ni eu cael i Gymru i gael system llawer mwy goleuedig ac effeithiol, a gorau po gyntaf y bydd hynny'n digwydd. 

O ran system y gwasanaeth prawf, do, mae preifateiddio wedi bod yn draed moch ac yn niweidiol fel rhan o'r darlun cyffredinol hwnnw yr ydym ni'n ei weld, ac yr ydym ni wedi ei weld yn y cyfnod diweddar. Felly, mae'n dda clywed y bu rhywfaint o gynnydd gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi disgrifio, ac mae bellach mwy o gydnabyddiaeth o'r amgylchiadau penodol yng Nghymru ac o ddatganoli.

Rydym ni'n gwybod bod llawer o bobl yn ein carchardai na ddylent fod yno; mae ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl, mae ganddyn nhw broblemau cyffuriau ac alcohol, mae ganddyn nhw gyrhaeddiad addysgol isel iawn a sgiliau isel iawn. Mae angen mynd i'r afael â'r holl broblemau hynny, ac ni ellir ond mynd i'r afael â nhw yng Nghymru os oes cydgysylltu effeithiol â gwasanaethau datganoledig. Unwaith eto, braf oedd clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ein bod yn awr ar y llwybr hwnnw—

—yn llawer mwy effeithiol nag y buom ni hyd yn hyn. Gwnaf.

Diolch. Yn ôl yn 2014-15, fe gawsom ni Ddeddf Llywodraeth Cymru newydd, ac fe wnaethom ni golli'r cyfle bryd hynny i ddatganoli'r gwasanaeth prawf. A ydych chi'n gresynu na wnaeth eich Llywodraeth bwyso am hynny bryd hynny?

Wel, wyddoch chi, rwy'n credu y gallwn ni edrych yn ôl a gweld hanes drwy lygaid gwahanol, heb ddeall bob amser y rhwystrau a oedd o bosib ar lwybr penodol a allem ni fod wedi hoffi ei weld. Felly, heb roi esboniad trofaus o ble'r oeddem ni a ble'r ydym ni yn awr—

Mae'n gymhleth. Ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw ein bod yn gweld cynnydd gwirioneddol, unwaith eto, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gryno, a'r hyn y mae angen inni ei wneud yw cryfhau hynny, rwy'n credu, a chyflymu ein camre.

Fe hoffwn i ddweud tipyn bach, Dirprwy Lywydd, o ran materion sy'n ymwneud â digartrefedd a gwneud yn siŵr pan gaiff pobl eu rhyddhau o'r ddalfa, eu bod yn gwybod ble byddan nhw'n treulio'r noson. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl briodol yn gynharach, nid dyma'r achos bob tro. Mae'n eithaf amlwg, onid yw hi, os nad yw pobl yn cael eu rhyddhau i lety diogel a digonol, fe allan nhw yn gyflym iawn lithro'n ôl i aildroseddu. Rydym ni yma, ac fe ddylem ni fod yma, i atal hynny.

Mae'r pwyllgor yr wyf yn ei gadeirio, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi cyhoeddi adroddiad o'r enw 'Bywyd ar y stryd: atal a mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru,' sy'n gwneud rhai argymhellion perthnasol. Un oedd rhoi blaenoriaeth angen awtomatig i bobl sy'n gadael y carchar, os na fyddwn ni, mewn gwirionedd, yn diddymu blaenoriaeth angen yn gyfan gwbl. Ac roedd y llall ynghylch ailsefydlu'r gweithgor llety ac ailsefydlu carcharorion, a gwneud yn siŵr bod y cynllun cenedlaethol—y mae Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, wedi cyfeirio ato—yn gweithio mor dda â phosib. Felly, roedd ymateb y Llywodraeth yn nodi gwaith pellach a oedd ar y gweill ac ymchwil pellach. Nid wyf o reidrwydd yn disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet fod â'r atebion i gyd yma heddiw ynglŷn â ble'r ydym ni arni gyda'r gwaith hwnnw ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd. Ond byddwn yn gwerthfawrogi clywed, mor gyflym â phosib, efallai mewn ymgynghoriad â chydweithwyr, am yr hyn sydd wedi digwydd a pha gam yn y broses yr ydym ni arno ar hyn o bryd, oherwydd rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn fel un rhan o'r darlun cyffredinol fod y rhai sy'n gadael y carchar—rwy'n gwybod yn enwedig bod heriau ar gyfer y rhai sydd â dedfrydau byr—ond bod pawb sy'n gadael carchar yn cael llety diogel, digonol, ac, wrth gwrs, gwasanaethau i ategu hynny, ar gael iddyn nhw cyn gynted ag y maen nhw'n dod allan o'r carchar.

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno dadl heddiw. Roedd y Gweinidog, pan wnaeth ei gyfraniad—roedd yn ddiddorol iawn. Roedd y pwyslais yn bendant iawn ar adsefydlu ac, wrth gwrs, mae system adsefydlu ystyrlon yn angenrheidiol iawn. Wrth gwrs, nid yw'n gweithio i bob troseddwr, ond mae'n rhaid inni sefydlu'r seilwaith fel y gallwn ni roi cyfle i bobl eu hadsefydlu eu hunain mor dda, mor gyflym ac mor effeithlon â phosib, felly y gallan nhw ailymdoddi i'r gymdeithas. Rwy'n credu bod llawer iawn, iawn, o bethau gwahanol yn rhan o'r adsefydlu hwn. Roedd John Griffiths hefyd yn ceisio cysylltu'r gwahanol bethau—materion tai, y soniwyd amdanynt. Wrth gwrs, fe gawsom ni ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol i ddigartrefedd, ac roedd anhawster yn arbennig gyda dedfrydau byr, oherwydd buom yn siarad â rhywun a oedd yn ddigartref, sydd yn ddiweddar wedi cael ei ryddhau o'r carchar, ac fe roddodd inni gipolwg ar hyn. Mae hi yn ymddangos bod hon yn broblem fawr, oherwydd nid oes gan swyddogion prawf a swyddogion tai yr amser yn aml i sefydlu rhaglen ailsefydlu, pan fo carcharorion yn cael dedfrydau byr. Nid yw'r system yn hynny o beth yn gydgysylltiedig iawn, felly mae'n rhaid inni edrych ar sut y gellir gwella hynny.

Soniodd y Gweinidog hefyd am sgiliau, ac mae hynny hefyd yn rhan bwysig o adsefydlu. Rhoddodd Nick Ramsay ei esiampl o ffair yrfaoedd yn Prescoed, ac rwy'n credu bod hynny'n enghraifft o arfer dda. Wrth gwrs, rwyf wedi bod i ffeiriau gyrfaoedd—nid fel troseddwr, dylwn nodi—ond rwyf wedi bod i ffeiriau gyrfaoedd. Hwyrach na fydd ffeiriau gyrfaoedd eu hunain yn cyflawni llawer; mae'n dibynnu ar yr hyn sy'n deillio o hynny. Ond rwy'n credu bod y syniad o gael ffair yrfaoedd mewn carchar yn swnio fel syniad da. 

Gan droi at y cynnig ei hun —

17:55

Soniais am yr enghraifft honno yn gynharach oherwydd imi fynd yn ôl wedyn a darganfod y bu llwyddiant. Rwy'n credu bod 85 y cant neu 90 y cant o'r cyn-droseddwyr a aeth i'r ffair honno bellach wedi cael lleoliadau gwaith ar ôl dod allan o'r carchar—ac nid dim ond lleoliadau gwaith, ond mae ganddyn nhw leoliadau gwaith sy'n talu'n dda.

Mae hynny'n galonogol iawn, a diolch am ein goleuo. Rwy'n gobeithio y gellir cyflwyno'r system honno ymhellach ar draws y system carchardai yng Nghymru.

Yn UKIP, rydym ni'n cefnogi rhai pethau y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud, er enghraifft, nid yw preifateiddio'r gwasanaeth prawf mewn gwirionedd yn egwyddor yr ydym ni o reidrwydd yn cytuno â hi, ac nid ydym ni'n credu, o edrych ar hynny, yr ymddengys y bu hi'n rhyw lwyddiant mawr. Felly, rydym ni'n tueddu i gefnogi'r hyn y mae Plaid Cymru wedi'i ddweud yng ngwelliant 2. Ond, ar y llaw arall, nid ydym ni mewn gwirionedd yn frwdfrydig iawn dros y syniad o gael system cyfiawnder troseddol ar wahân i Gymru. Mae Mark Isherwood, unwaith eto, fel a wnaeth yn y ddadl a gawsom ni yn y fan yma—wn i ddim pa un ai'r wythnos diwethaf neu'r wythnos gynt oedd hynny, ond roedd yn sicr yn ddiweddar—wedi crybwyll materion sy'n sicr yn gwneud hynny yn gynsail dadleuol, ac un o'r materion yw bod llawer o ASau Llafur nad ydynt yn cefnogi hyn. Felly, ymddengys bod hwn yn fater arall lle mae Llafur ym Mae Caerdydd a Llafur yn San Steffan yn ymddangos i fod yn dweud pethau gwahanol, na fydd yn debyg o arwain at ganlyniad rhesymegol iawn, sef yr hyn yr ydych chi'n honni eich bod yn ceisio ei gyflawni heddiw, ond, diolch yn fawr.

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl bwysig hon. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac rwy'n sicr yn cefnogi'r cyfeiriad y mae yn ei osod. Rwy'n croesawu yn arbennig ei sylwadau am ffordd wahanol o ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol ac edrychaf ymlaen at weld y glasbrint y bydd y Llywodraeth yn ei lunio, oherwydd credaf fod llawer mwy o gydnabyddiaeth yn gyffredinol bellach—y canlyniadau trychinebus o garcharu menywod a bod y nifer y menywod sydd mewn gwirionedd yn mynd i'r carchar, sydd angen cael eu gwahanu oddi wrth y cyhoedd oherwydd unrhyw elfen o berygl, yn eithriadol o fach. Rwyf mor falch felly, o'r diwedd, ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn cydnabod bod hyn yn wrthgynhyrchiol—yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Felly, credaf, o'r diwedd, bod Llywodraeth y DU yn dechrau newid eu cân ac rwy'n falch iawn bellach y gallwn ni weithio yn fwy cadarnhaol â nhw yng Nghymru.

Yn fy mywyd gwaith, cyn imi fod yn wleidydd, roeddwn i'n weithiwr cymdeithasol ac yn gweithio'n agos iawn gyda'r gwasanaeth prawf. Mae hi'n dorcalonnus imi weld yr hyn sydd wedi digwydd i'r gwasanaeth prawf, oherwydd roedd yn wasanaeth o'r radd flaenaf. Roedd yn rhagorol—y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud gyda throseddwyr, yn gweithio ar atal troseddu ac yn gweithio gyda throseddwyr pan eu bod yn gadael carchar. Rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi digwydd yn hollol erchyll. Fel y dywedodd Leanne, rwy'n credu, yn ei chyfraniad, ac fel mae Napo yn ei ddweud, roedd yn peryglu'r cyhoedd, yr hyn a wnaethon nhw, ac mae'n anodd iawn, rwy'n credu, inni ailadeiladu o'r sefyllfa honno, oherwydd rwy'n gwybod pa mor ddigalon yw gweithwyr y gwasanaeth prawf. Pan ddigwyddodd y rhaniad yn y gwasanaeth prawf yng Nghymru, roedd gennych chi swyddogion prawf yn eistedd mewn un swyddfa a oedd yn cael eu cyflogi gan ddwy set gwahanol o bobl gyda dwy system weithredu wahanol. Roedd swyddogion prawf yn dod yma i'r Senedd i esbonio sut yr oedd y system hon yn gweithio ac yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n hollol ddigalon, a dyna'r math o sefyllfa y mae angen inni ddringo ohoni.

Pan fo'r ddogfen yn dweud bod angen cryfhau y gwasanaeth prawf, mae angen mewn gwirionedd ei ailadeiladu yn hollol o'r newydd. Ond rwyf yn cydnabod y pwyntiau a wnaeth Leanne ynglŷn â sut maen nhw wedi dioddef cymaint bod gweddnewidiad llwyr mewn gwirionedd yn anodd iawn i'w ystyried ac mae angen gwneud hynny mewn ffordd dringar iawn, iawn. Hoffwn dalu teyrnged i'r swyddogion prawf sydd mewn gwirionedd wedi brwydro'n arwrol i ddarparu gwasanaethau da mewn cyfundrefn amhosibl. Y cwmnïau adsefydlu cymunedol a sefydlwyd ledled y DU—ac, wrth gwrs, yng Nghymru roedd Working Links yn rheoli'r rhan honno o'r gwasanaeth, ac mewn gwirionedd fe ddaethon nhw i gwrdd â ni yma yn y Cynulliad ar y dechrau a cheisio ein hargyhoeddi y bydden nhw'n mynd ati mewn ffordd newydd sbon danlli ac y bydden nhw mor llwyddiannus, ac roedd pob un ohonom ni'n teimlo'n amheus iawn ac fe ddigwyddodd yn union yr hyn yr oeddem ni'n ei ofni. Mae wedi bod yn drychineb.

Rwy'n credu bod yr ymdrechion hyn i wthio'r gwasanaeth prawf i fodel sy'n seiliedig ar y farchnad wedi bod yn gwbl drofaus ac yn gwbl anaddas ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus o'r math hwn. Felly, rwyf yn gobeithio y gallwn ni sicrhau y ceir gwasanaeth prawf mwy cydgysylltiol. Byddai'n braf meddwl y gallai pawb ddod yn ôl at ei gilydd yng Nghymru o dan yr un to, gan weithio gyda'r trydydd sector, gyda'r cyrff gwirfoddol, a chyda threfniant partneriaeth cynhyrchiol fel y gallwn ni sicrhau bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sef y rhai mewn carchardai, yn cael cymorth a chefnogaeth, yn ogystal â chyflawni eu dedfryd ar gyfer yr hyn y maen nhw wedi'i wneud, gyda'r ffaith eu bod yn cael cymorth fel na fyddan nhw yn troseddu eto.

Rwy'n credu bod y gwasanaeth carchardai a'r hyn sy'n digwydd i droseddwyr yn gwbl hanfodol i bob un ohonom ni, ac mae'n arwydd o ba fath o gymdeithas ydym ni— sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn trin ein carcharorion a sut yr ydym ni'n mynd i wneud yn siŵr eu bod yn gallu cyfrannu yn y dyfodol at ein cymdeithas, a gwyddom y gellir gwneud hynny os yw'r mewnbwn hwnnw ar gael ac os yw'r gefnogaeth honno ar gael, fel y gallai'r gwasanaeth prawf ei wneud ar un adeg. Rwy'n gobeithio, o dan gynlluniau'r Gweinidog, y bydd gennym ni wasanaeth prawf sy'n ffynnu yma yng Nghymru unwaith eto.

18:00

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae'r gwasanaeth prawf yn rhan hanfodol o'r system cyfiawnder troseddol ac yn debygol o ddod yn bwysicach fyth yn y dyfodol wrth i'n carchardai ddod yn gynyddol fwy gorlawn. Mae carchardai Cymru yn gweithredu ymhell y tu hwnt i'w capasiti, gan arwain at orlenwi difrifol, sy'n andwyol i garcharorion a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw—y swyddogion carchar. Gall carchar weithio, ond mae'n gweithio dim ond gyda'r adsefydlu priodol, ac mae'r gorlenwi presennol yn rhwystro staff carchardai rhag adsefydlu eu carcharorion yn effeithiol. Yn ogystal ag adeiladu carchardai newydd yn lle ein carchardai hynafol Fictoraidd sy'n prysur ddadfeilio, mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod adsefydlu yn parhau pan fydd troseddwr yn gadael gatiau'r carchar a bod dull addas i ymdrin â throseddwyr risg isel pan nad eu hanfon i'r carchar yw'r ateb. Y gwasanaeth prawf dylai fod y dull hwnnw. Ond, yn anffodus, mae ymdrechion traed moch Chris Grayling i ddiwygio wedi troi'r gwasanaeth prawf yn destun cywilydd cenedlaethol. Hoffwn weld datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Mae ein carchardai yn orlawn o bobl na ddylen nhw fod yno: rhai sy'n dioddef o afiechyd meddwl, cyn-filwyr sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma y mae'r system wedi cefnu arnyn nhw, a'r rhai hynny sydd wir angen lloches. Mae'r holl bobl hyn wedi eu siomi gan wasanaeth prawf diffygiol. Canfu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ddiffygion difrifol yn y ffordd yr oedd Llywodraeth y DU wedi agor y gwasanaeth prawf i gwmnïau preifat a'r trydydd sector. Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar weddnewid adsefydlu wedi tynnu sylw at fethiannau difrifol mewn monitro cwmnïau ailsefydlu cymunedol, sy'n golygu nad oedd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder unrhyw ffordd o wybod sut yr oedd y cwmniau adsefydlu cymunedol yn perfformio.

Mae cwmnïau adsefydlu cymunedol yn gyfrifol am 80 y cant o waith y gwasanaeth prawf, ac eto mae llawer yn methu â darparu unrhyw ddata perfformiad, yn dewis a dethol pa droseddwyr y byddant yn eu monitro, ac yn cael eu talu ni waeth pa un a oedden nhw mewn gwirionedd yn lleihau aildroseddu ai peidio. Beirniadwyd diwygiadau Grayling yn hallt iawn hefyd gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin, a ddaeth i'r casgliad ei bod hi'n annhebygol y gallai'r diwygiadau fyth sicrhau gwasanaeth prawf effeithiol. Nid yw hi'n syndod bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder wedi penderfynu diwygio'r gwasanaeth prawf.

Rwy'n croesawu'r ffaith y caiff diwygiadau eu gwneud yn raddol erbyn 2020. Fel yr amlygodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, cafodd natur frysiog y diwygiadau cynharach effaith enfawr ar y gwasanaeth, gan roi straen ar staff, gweld darpariaethau technoleg gwybodaeth annigonol, ac esgeulustod. Mae angen rheolaeth briodol ar gwmnïau preifat sydd â rhan mewn monitro ac adsefydlu troseddwyr, ac mae angen iddyn nhw gyflawni canlyniadau, nid gwneud elw yn unig. Mae'n rhaid iddyn nhw gael adnoddau priodol ar gyfer lles a diogelwch pawb. Byddwn hefyd yn hoffi gweld mwy o gyfranogiad gan y sector gwirfoddol.

Mae peth rhinwedd i benderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyfuno swyddogaethau'r gwasanaeth prawf cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd hyn yn gweithio. Un o'r beirniadaethau mawr o'r gwasanaeth prawf cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol oedd iddyn nhw fethu â sicrhau tai i gyn-droseddwyr pan eu bod yn gadael carchar, sy'n aml yn gallu arwain at aildroseddu. Pan yr oeddwn i'n gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gwelsom lawer o bobl ifanc yn aildroseddu dim ond i gael to uwch eu pennau a phrydau bwyd rheolaidd, ac mae hyn yn gywilyddus. Os gallwn ni sicrhau bod y gwasanaeth prawf newydd i Gymru wir yn integreiddio gyda'r sector cyhoeddus, ei fod wir yn  cynnwys y sector gwirfoddol, a bod ganddo'r adnoddau priodol mewn gwirionedd, yna mae'r rhagolygon ar gyfer cyfraddau aildroseddu yng Nghymru yn dda. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio'n agos i sicrhau bod gennym ni wasanaeth prawf sydd wir yn gweithio ar gyfer Cymru.

18:05

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl—Alun Davies.

Member
Alun Davies 18:08:17
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Aelodau ar bob ochr i'r Siambr am eu cyfraniadau i'r hyn sydd wedi bod, rwy'n credu, yn ddadl dda a meddylgar iawn y prynhawn yma. O ran y camau nesaf yn hyn o beth, rwyf hefyd yn croesawu'r consensws eang iawn o farn a glywsom ni gan Caroline Jones, ond a glywsom ni'n cael ei fynegi'n rymus gan Aelodau ar wahanol ochra'r Siambr hefyd. Rwy'n credu bod Julie Morgan wedi siarad dros bob un ohonom ni pan ddisgrifiodd fethiant preifateiddio, gan adleisio geiriau John Griffiths a Leanne Wood, a oedd yn siarad o'u profiad eu hunain o system cyfiawnder troseddol sy'n siomi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol—. Mae'n rhaid i'r pwyntiau a wnaed gan Leanne Wood o ran gweithio gyda staff ac nid yn eu herbyn fod yn rhan o sut yr ydym ni'n gweithredu ar hyn. Rwy'n croesawu sylwadau John Griffiths am y cynnydd yr ydym ni'n ei weld ar y mater hwn. Mae yn llygad ei le i ddadlau bod y cynnydd wedi bod yn gyflymach ac ymhellach nag a ragwelwyd gennym ni, hyd yn oed rai misoedd yn ôl, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn croesawu hynny. Mae'r pwyntiau a wnaed gan Julie Morgan am y glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd, rwy'n credu, yn rhai da iawn, a byddaf yn ceisio dod â glasbrintiau ar gyfer troseddwyr benywaidd a throseddau ieuenctid i'r fan yma a'u cyhoeddi cyn y Nadolig. Yn sicr dyna fy mwriad heddiw.

Bu cytundeb a disgrifiadau o fethiannau preifateiddio. Ond, i ni, rydym ni eisiau mynd ymhellach na dim ond disgrifio methiannau'r gorffennol. Rydym ni eisiau cynllunio dyfodol ar gyfer pawb. Ac a gaf i ddweud hyn wrth gloi, Dirprwy Lywydd? Mae Mark Isherwood bron yno. Mae e bron yno. Byddwn yn dweud hyn wrtho: Peidiwch ag is-gontractio eich araith ysgrifenedig i— [Torri ar draws.] Rwy'n mynd i orffen hyn. Peidiwch ag is-gontractio eich areithiau a'ch ffordd o feddwl i brif swyddfa'r Ceidwadwyr: Meddyliwch, edrychwch yn fanwl—edrychwch yn fanwl ar yr hyn a welwch o'ch blaen. Rwy'n gwybod ei fod yn gweithio'n galed i gadw mewn cysylltiad ac i siarad â phobl ar hyd a lled y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli, a bydd yn gwybod o'i brofiad ei hun bod consensws eang a sefydlog ledled Cymru heddiw y dylid datganoli plismona i'r fan yma, ac, wrth wneud hynny, y dylid datganoli cyfiawnder troseddol hefyd i'n galluogi ni i greu'r system gyfannol y mae llawer o bobl wedi ei disgrifio.

Ond caniatewch i mi orffen gyda'r pwyntiau a wnaed gan Leanne Wood: nid yw datganoli ar ei ben ei hun, at ei ddiben ei hun, yn ddigon da. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei gydnabod yw mai dechrau'r gwaith, nid ei ddiwedd, yw datganoli'r cyfrifoldebau hyn. Rydym ni'n datganoli'r cyfrifoldebau hynny er mwyn creu gwell gwasanaeth a'r cyfleoedd i wasanaethu ein pobl yn well. Nid ydym ni'n gwneud hynny dim ond oherwydd bod dogma anhyblyg yn ein cymell i ddod i'r casgliad hwnnw, felly mae'n rhaid inni wneud y pethau hyn yn gywir. Ac rwy'n cydnabod bod meysydd ar hyn o bryd lle nad ydym ni'n gwneud pethau'n gywir a lle mae angen inni wneud yn well. A dim ond drwy ddatganoli'r cyfrifoldebau hynny i'r fan yma i sicrhau y gall y fan yma graffu ar yr agweddau hynny y gallwn ni wedyn fwrw ymlaen â'r amcanion polisi hynny ac yna bydd hyd yn oed Mark Isherwood yn cytuno y byddwn ni'n gwasanaethu y pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn well nag yr ydym ni'n ei wneud heddiw.

18:10

Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn. Felly byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Rydym am symud at y cyfnod pleidleisio yn awr, felly oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu—. Oes tri aelod yn dymuno —? A allaf i weld tri aelod sy'n dymuno hynny? Diolch. Felly, a gawn ni ganu'r gloch, os gwelwch yn dda?

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

18:15
8. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Ac felly symudwn i bleidlais ar y ddadl ddiwethaf, sef diwygio'r gwasanaeth prawf, ac rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 43, neb yn ymatal, saith yn gwrthwynebu, felly derbynnir gwelliant 1.

NDM6831 - Gwelliant 1: O blaid: 43, Yn erbyn: 7, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 2 40, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 2.

NDM6831 - Gwelliant 2: O blaid: 40, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 36 3, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly derbynnir gwelliant 3.

NDM6831 - Gwelliant 3: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd, a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Cynnig NDM6831 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion ar gyfer Diwygio Gwasanaethau Prawf yng Nghymru.

Yn nodi y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM yng Nghymru yn adeiladu ar y trefniadau unigryw sydd ganddo eisoes yng Nghymru drwy ei gyfarwyddiaeth carchardai a phrofiannaeth sefydledig, i adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn well ac adeiladu ar bartneriaethau lleol presennol.

Yn cytuno â Chymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf bod preifateiddio gwasanaethau prawf wedi bod yn fethiant.

Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru er mwyn creu gwasanaeth prawf a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus sy'n gwasanaethu buddiannau ein cymunedau.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig a ddiwygiwyd 36, neb yn ymatal, 14 yn erbyn, felly mae'r cynnig a ddiwygiwyd wedi ei dderbyn. 

NDM6831 - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 36, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 18:18.