Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. Tynnwyd cwestiwn 1, [OAQ51567], yn ôl, ac felly cwestiwn 2, Mark Isherwood.

Tlodi Tanwydd

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ51539

Member
Lesley Griffiths 13:30:29
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch. Ein rhaglen allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yw Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed. Ar gyfer y cyfnod 2017-21, rydym yn buddsoddi £104 miliwn er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 o gartrefi pobl sydd ar incwm isel neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.

Diolch. Mae lleihau allyriadau o'n stoc tai yn allweddol i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd a'n targedau ynni ehangach. O gofio y bydd 90 y cant o gartrefi heddiw yn parhau i gael eu defnyddio yn 2050, a wnewch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, ymrwymo i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i ystyried cyflwyno cynllun gweithredu a strategaeth ddiwygiedig ar gyfer tlodi tanwydd i amlinellu targedau newydd er mwyn sicrhau bod cartrefi'n cyrraedd safon effeithlonrwydd ynni gofynnol peirianneg, caffael, adeiladu a chomisiynu, gan gydnabod y manteision y mae rhai cynlluniau, fel Arbed, wedi'u cyflwyno, a chydnabod bod llawer o waith i'w wneud, o ystyried na fydd y targedau gwreiddiol a osodwyd ar gyfer 2018 yn mynd i gael eu bodloni bellach?

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a dydd Llun fe gawsom gyfarfod o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, a buom yn siarad am hyn, oherwydd, yn amlwg, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni fel ein ffordd o fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond mae angen i ni hefyd edrych ar ôl-osod mewn perthynas â datgarboneiddio a sut y byddwn, yn amlwg, yn cyrraedd y targedau hynny yn ogystal.

Byddwn yn cael data tlodi tanwydd newydd ar ddiwedd 2018 a bydd hwnnw'n sicr o lywio'r trafodaethau rydym yn eu cael, gyda'n rhanddeiliaid yn enwedig. Buaswn yn hapus iawn i fynychu grŵp trawsbleidiol, os ydych yn dymuno i mi wneud hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar cyfarfûm â Chyngor ar Bopeth yn fy ardal leol i drafod eu gwaith yn ymgyrchu ynglŷn â mesuryddion talu ymlaen llaw. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwbl ymwybodol mai pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yw rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac maent yn aml gannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar eu colled. Mewn gwirionedd, Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o aelwydydd sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yng Nghymru. Rwy'n deall nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ond pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, neu pa ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater allweddol hwn?

Unwaith eto, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru, ond wrth gwrs, mae'n rhywbeth y mae gennym ddiddordeb mawr ynddo. Gwn fod fy swyddogion wedi cael trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo, fel y dywedwch, rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein hetholaethau.

Yn y dyfodol, yn ogystal â gwasanaethau cyngor a chymorth, dylem edrych yn gyntaf ar gartrefi mwy clyfar a mwy effeithlon. Rwy'n deall bod safon ansawdd tai Cymru wedi mynnu effeithlonrwydd gwell mewn tai cymdeithasol, ond mae angen i ni edrych ar ddull gweithredu ehangach. Mae'r Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi creu cynllun ar gyfer cartrefi fel gorsafoedd pŵer bach, ac fe gafodd cynlluniau eu cymeradwyo ar gyfer 16 o gartrefi newydd o'r fath yng Nghastell-nedd ym mis Awst y llynedd. Gallai'r cynllun ei hun ostwng biliau cyfleustodau aelwydydd 60 y cant. Tybed pa gynlluniau sydd gennych i amlinellu rhagor o gymorth yn y maes hwn fel y gallwn edrych ar dai mwy arloesol i ostwng y gost ar gyfer y bobl na allant ei fforddio, o bosibl.

Crybwyllais yn fy ateb gwreiddiol i Mark Isherwood ein bod wedi cael cyfarfod o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, ac mae Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn aelod ohono, oherwydd mae angen i ni edrych y tu hwnt i 2020 yn awr, pan fydd pob un o'n cartrefi wedi cyrraedd SATC, a meddwl beth a wnawn wedyn gyda'r arian hwnnw sydd wedi bod ar gael ar gyfer hynny. Credaf fod angen i ni edrych ar lawer mwy o arloesedd yn ein cartrefi, ac yn sicr bydd y trafodaethau hynny'n parhau rhyngof fi a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.

Deunydd Pacio Plastig

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leihau faint o ddeunydd pacio plastig a gaiff ei ddefnyddio? OAQ51570

Cyfarfûm yn ddiweddar â British Plastics Federation, RECOUP, Plastipak Holdings Inc. ac Iceland i drafod beth y mae diwydiant yn ei wneud i gynyddu ailgylchu a lleihau'r defnydd o ddeunydd pacio plastig. Rydym yn gweithio i'w leihau drwy nifer o gamau gweithredu, gan gynnwys y tâl am fagiau siopa ac astudiaeth ar ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr dros ddeunydd pacio bwyd a diod.

Yn gynharach yr wythnos hon, addawodd yr Undeb Ewropeaidd y byddent yn sicrhau bod holl ddeunydd pacio plastig yn ailgylchadwy erbyn 2030. Mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yma yn ei gefnogi hefyd, oherwydd rydym yn deall yr effaith enfawr y mae plastig yn ei chael ar ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt ac, yn y pen draw, ar ein hiechyd. Fel y mae pethau, byddwn wedi gadael yr UE erbyn 2030. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Llywodraeth i sicrhau na fydd Cymru yn wlad lai amgylcheddol yn y dyfodol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?

13:35

Credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn—gwnaed pwyntiau pwysig iawn—ac rydych yn gywir fod malltod plastig yn uchel iawn yn ymwybyddiaeth y cyhoedd ar hyn o bryd. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar hynny ac yn gweithredu ochr yn ochr â hynny.

Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ar flaen y gad mewn perthynas â hyn, ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r defnydd o blastig, ac ar hyn o bryd mae gennym ymgynghoriad Eunomia, sy'n edrych ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ond mae'n edrych ar amrywiaeth o bethau, nid yn unig y pethau a welsom yn cael eu pwysleisio megis cwpanau diod, ond yr holl gynwysyddion gwahanol. Hefyd, ceir gwaith sy'n edrych ar gynllun peilot y cynllun dychwelyd blaendal, ac mewn gwirionedd, mae gennym ddeddfwriaeth yn ei lle drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd—sy'n ein galluogi i fynd â hynny ymhellach mewn perthynas â chyfrifoldeb ar fusnesau. Mae gennym y ddeddfwriaeth, a chredaf ei bod yn bwysig, yn awr, ein bod yn gwneud yn siŵr fod hynny'n dod yn weithredol, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny mewn amrywiaeth o feysydd, ac rwy'n siŵr y byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r lle hwn maes o law.

Weinidog, fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu ymchwil i'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr. Nawr, wrth gwrs, gallai hyn annog cynhyrchwyr i lunio eu cynnyrch mewn ffordd wahanol. A gaf fi ofyn pryd rydych yn disgwyl y byddwch yn adrodd ar ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwn?

Fel y soniais, disgwylir y bydd y gwaith ymchwil hwnnw gan Eunomia ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn adrodd yn ôl fis nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y bydd gennyf y newyddion diweddaraf ar hynny ar gyfer y lle hwn heb fod yn rhy hir.

Diolch i chi am eich atebion, Weinidog. A ydych yn cytuno, yn amlwg, mai'r ffordd orau i leihau deunydd pacio plastig yw ei leihau wrth lygad y ffynnon? Yn amlwg, mae'n galonogol iawn clywed am fwriadau Iceland i roi'r gorau i ddefnyddio deunydd pacio plastig yn eu nwyddau o fewn pum mlynedd. Gyda hynny mewn golwg, tybed a ydych wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda busnesau yng Nghymru i geisio rhoi diwedd ar ddefnyddio'r holl ddeunydd pacio na ellir ei ailgylchu, neu a allech chi gyflwyno cynigion deddfwriaethol i alluogi hynny i ddigwydd?

Rydych yn hollol gywir i sôn am Iceland, gyda'u cynigion i leihau deunydd pacio plastig yn eu brand eu hunain, erbyn 2023. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod y diwydiant yn ysgogi yn rhan o hyn i gyd hefyd, ac fel y soniais, cyfarfûm ag Iceland ychydig cyn y Nadolig a dysgu mwy am eu cynlluniau ym maes cynaliadwyedd. Cyfarfûm hefyd â Plastipak yn Wrecsam, sy'n defnyddio plastig PET ailgylchadwy, ac rydym wedi—. O ran pryd rydym yn edrych ar yr astudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae busnesau a rhanddeiliaid wedi chwarae rhan yn hynny, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r diwydiant manwerthu. Felly, rydym yn bwrw ymlaen â hynny ac rydym eisiau i fusnesau fod yn rhan o hynny gyda ni.

Weinidog, bob blwyddyn, mae mwy nag 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd, gan gostio o leiaf £6.2 biliwn o ddifrod i ecosystemau morol a lladd oddeutu 1 filiwn o adar môr, 100,000 o famaliaid môr a nifer ddifesur o bysgod. Mae archfarchnadoedd yn defnyddio lefelau gwarthus o ddeunydd pacio plastig diangen ac yn ychwanegu at y broblem. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar fagiau siopa untro. Gadewch i ni arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â deunydd pacio plastig diangen. Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gydag archfarchnadoedd mawr ynglŷn â'r defnydd o ddeunydd pacio plastig, ac a wnewch chi ystyried deddfwriaeth os yw prif fanwerthwyr yn methu gostwng lefelau'r deunydd pacio plastig y maent yn ei ddefnyddio yn wirfoddol?

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Ymddengys bod consensws clir ar y mater hwn o ran yr angen i fynd i'r afael ag ef. Fel y dywedais o'r blaen, rwyf wedi cyfarfod â nifer o archfarchnadoedd mawr a chynrychiolwyr manwerthu i drafod y mater hwn fel rhan o'n hastudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Fe arhoswn am ganfyddiadau'r astudiaeth honno cyn bwrw ymlaen.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a'r cwestiwn cyntaf gan lefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi fynd ar drywydd y pwynt hwn ynglŷn â'r rôl y mae plastigion yn ei chwarae yn cynhyrchu cymaint o wastraff a dinistr yn ein hamgylchedd? Cyfeiriwyd at weithred ragorol Iceland, ac fe gynhaliodd yr archfarchnad honno arolwg helaeth iawn cyn cymryd y cam hwnnw mewn gwirionedd, a dywedodd 80 y cant o'r rhai a holwyd y byddent yn cefnogi penderfyniad i beidio â defnyddio deunydd pacio plastig. Rwy'n credu, mewn ymateb i deimladau cyhoeddus o'r fath, fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno, er enghraifft, eiliau archfarchnadoedd heb blastigion lle mae'r bwyd i gyd yn rhydd. Credaf ein bod angen y math hwn o feddwl. Rwy'n meddwl tybed pa gynlluniau sydd gennych i adolygu'r rhaglen Tuag at Ddyfodol Diwastraff i'w gwneud yn fwy uchelgeisiol ac i adlewyrchu'r galw cyhoeddus cynyddol hwn am weithredu.

13:40

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn hollol iawn yn dweud ei fod yn gam beiddgar i fanwerthwr mawr fel Iceland, a gobeithio y bydd hynny'n ysgogi eraill o fewn y sector i ddilyn eu hesiampl hefyd. Credaf mai dyna pryd y mae gennym gystadleuaeth iach o ran ticio'r blychau, ac mewn gwirionedd, gallwch weld pobl yn newid i fod yn fwy ymwybodol o'r deunydd pacio a beth y maent yn ei brynu.

O ran ein strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ceir cynllun i adnewyddu hwnnw'n ddiweddarach eleni wrth i ni godi ein targedau a'n huchelgeisiau o ran sut yr edrychwn ar weithredu. Gobeithio y bydd yr astudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a'r gwaith rydym yn ei wneud â Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau i gyd yn bwydo i mewn i ran o hynny.

Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod cynllun 25 mlynedd Llywodraeth y DU yn cynnwys addewid i gael gwared ar yr holl wastraff plastig diangen erbyn 2042. Mae ganddynt nod hefyd i gael gwared ar bob gwastraff diangen erbyn 2050. Mae'r olaf—yr holl wastraff diangen erbyn 2050—hefyd yn cael ei gynnwys yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ond nid oes unrhyw ddyddiad cynharach ar gyfer dileu gwastraff plastig. Tybed a ydych yn mynd i adolygu'r ddogfen fel y gallwn gael rhywbeth sydd o leiaf yn cyfateb i uchelgais Llywodraeth y DU neu, hyd yn oed yn well o ystyried ein huchelgais fwy, efallai, yn y maes hwn, rhywbeth sy'n ei guro. 

Yn Llywodraeth Cymru, ac yma yng Nghymru, rydym yn falch ein bod wedi arwain y ffordd yn y gorffennol o ran codi tâl am fagiau plastig a deunydd pacio plastig yn hynny o beth. Rydym yn parhau i weithio gyda diwydiannau ac awdurdodau lleol i ddod o hyd i farchnadoedd gwell yng Nghymru yn enwedig ar gyfer plastigion. Mae yna gyfleoedd gwych yng Nghymru i fusnesau edrych ar sut y gallant gymryd rhan yn y diwydiant ailgylchu plastigion. Wrth gwrs, pan fyddwn yn adnewyddu'r strategaeth, byddwn yn edrych ar sut y gallwn greu targedau mwy uchelgeisiol, ond nid yn unig y dyheadau yn y targedau hynny, ond y camau sydd angen i ni eu cymryd yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir mewn gwirionedd i wneud yn siŵr ein bod yn arwain unwaith eto yng Nghymru.

Tybed a oes angen i ni edrych ar raddfa hollol wahanol o ran beth sy'n digwydd. Rydych yn gweld y symud cymdeithasol a masnachol anhygoel hwn tuag at fynd i'r afael â'r broblem, a'r gwleidyddion sydd fymryn ar ei hôl hi, o bosibl, ac yn enwedig Llywodraeth Cymru—yn y maes hwn beth bynnag. Rydym wedi clywed gan Wetherspoon eu bod yn bwriadu gwahardd gwellt plastig a chyflwyno rhai bioddiraddiadwy yn eu lle. Mae hyn yn amlwg yn codi'r cwestiwn ynghylch plastig untro. Rydych wedi dweud wrthym beth sy'n digwydd gyda'r adolygiad o fentrau a arweinir gan gynhyrchwyr, ond onid yw'n bryd i ni fentro mwy a mynd ati i gynnal ymgynghoriad beiddgar iawn ar wahardd plastig untro o'n heconomi o fewn amser penodol?

Unwaith eto, mae'r Aelod yn nodi pwyntiau pwysig iawn ar hynny a phwyntiau rhagwybodus ar hynny. Rwy'n gyndyn o gynnwys enwau'r nifer o gwmnïau corfforaethol mawr, ond mae brand bwyd cyflym adnabyddus arall, rwy'n credu, hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared ar wellt a mathau eraill o blastig yn y degawd neu ddau nesaf.

Rwy'n credu bod angen i ni fod yn feiddgar yn ein huchelgais, a phan fyddwn yn edrych ar adnewyddu'r strategaeth dylem edrych ar sut y gallwn gyflawni hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r diwydiant ar hyn, fod y diwydiant yn cymryd rhan ynddo. Mae hefyd yn creu cyfleoedd o ran ailgylchu ac o ran y sgiliau a'r swyddi sydd gennym yma yng Nghymru yn ogystal.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n cario ymlaen gyda phlastig gan ei fod ym mhobman. Jest i gydio yn beth yr oedd David Melding newydd ei ddweud, mae'n wir i ddweud, rydw i'n meddwl, bod dinasyddion a chymunedau o flaen lle y mae rhai gwleidyddion yn y mater yma. Rydw i'n edrych ar gymuned fel Aberporth yn datgan ei hunan i fod yn ddi-blastig, ac yn gweithio ar draws busnesau bach ac ar draws y gymuned i wneud hynny, ac yn croesawu hynny. Wrth gwrs, mae'r Cynulliad yma, ddim ond yr wythnos diwethaf, ar gais Plaid Cymru, wedi pleidleisio dros yr egwyddor o gyflwyno treth ar blastig un defnydd. Mae hwn yn rhywbeth nad ydym ni wedi ei drafod hyd yma. Felly, gan fod y dreth ar blastig un defnydd yn un o'r pedair yr ydych chi'n eu hystyried fel Llywodraeth, a wnewch chi ymrwymo nawr i fynd ar hyd y llwybr hwnnw i ddewis y dreth honno gan fod y cyhoedd, yn amlwg iawn, yn barod iawn i ddelio â threth o'r fath?

13:45

Diolch am eich cwestiwn.

Fel y byddwch yn gwybod, mae'r dreth ar blastigion tafladwy yn un o bedair treth sy'n cael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd cyllid ar hyn o bryd. Credaf fod hwnnw'n gwestiwn iddo ef yn y dyfodol, ond mae'n rhywbeth rwy'n ei drafod gyda'r Ysgrifennydd cyllid, a hefyd yn rhywbeth rwy'n ei gadw mewn cof ac yn gysylltiedig â'r cynigion a welsoch yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar yr ail ar hugain, er mwyn edrych ar rywbeth tebyg yno, i weld sut y gallwn fod rhan o hynny yn ogystal. Felly, mae'n rhywbeth sy'n parhau i fod ar yr agenda, ac mewn trafodaethau parhaus. Rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn edrych ar hynny.

Nid wyf yn credu y byddaf yn llwyddo i gael ymrwymiad i dreth ar blastigion gennych heddiw, felly rwyf am newid cyfeiriad, os caf, a sôn am fater arall rydych chi fel Gweinidog hefyd yn gyfrifol amdano, sef llygredd aer. Mae ClientEarth yn mynd â Llywodraeth Cymru i'r llys erbyn 23 Chwefror, oherwydd pryderon fod lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid mewn trefi a dinasoedd, llygredd sy'n aml yn deillio, wrth gwrs, o gerbydau diesel. A ydych yn cydnabod bod llygredd aer yn broblem yng Nghymru? Tybiaf eich bod, ond a ydych yn cydnabod eich cyfrifoldeb chi yn eich Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, a sut, yn benodol, y byddwch yn ymateb i'r achos llys hwn ac yn ymateb i honiadau ClientEarth?

Mae'r Aelod yn iawn. Mae ansawdd aer yn rhywbeth—. Mewn gwirionedd, roedd y ddadl gyntaf a arweiniais yn y portffolio hwn yn ymwneud ag ansawdd aer. Mae'n ymrwymiad ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydych yn cyfeirio at achos ClientEarth. Ni allaf wneud sylwadau manwl ar hynny ar hyn o bryd, gan ei fod yn achos sy'n mynd rhagddo. Ond mewn gwirionedd, o ran ein dyheadau yn y cynllun aer glân rydym wedi'i amlinellu, nid yw'n ymwneud yn unig â bodloni'r rhwymedigaethau hynny. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn paratoi'r ffordd ar gyfer y dyfodol a sicrhau ein bod yn mynd gam ymhellach. Gwyddom pa mor bwysig yw ansawdd aer. Mae ansawdd aer gwael yn cael effaith, yn amlwg, ar y cymunedau mwyaf agored i niwed, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar hyn.

Yn y ddadl, rhoesom amlinelliad o'r cynllun aer glân ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys fframweithiau parthau aer glân. Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol, ac fe glywsoch yn y gyllideb ddoe fod cyllid ychwanegol ar gyfer hynny yn ogystal. Mae hefyd, mewn gwirionedd, yn golygu defnyddio pob dull sydd ar gael i ni, yn ogystal ag annog Llywodraeth y DU i fwrw iddi mewn meysydd lle y gallant weithredu, megis cael gwared ar gerbydau diesel yn raddol.

Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod yna ymrwymiad i weithio ar draws y Llywodraeth ar hynny. Er bod ansawdd aer yn cael ei ystyried yn fater amgylcheddol, ni ellir mynd i'r afael ag ef yn y ffordd honno'n unig. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gweithio ar draws, gan edrych ar drafnidiaeth, ar gerbydau allyriadau isel, ac edrych ar ein seilwaith, a gwneud yn siŵr, pan fo datblygiadau'n digwydd, fod darpariaeth ansawdd aer yn cael ei hystyried pan fo hynny'n digwydd.

Wel, yn wir, efallai ei fod yn cael ei ystyried yn fater amgylcheddol, ond mae'n fater iechyd y cyhoedd yn gymaint ag unrhyw beth arall. Yn wir, yn y ddadl honno rydych newydd gyfeirio ati, pleidleisiodd y Cynulliad unwaith eto o blaid gwelliant gan Blaid Cymru a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd yn ogystal â mater amgylcheddol. Nid chi sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, rwy'n gwybod, ond mae'n amlwg fod angen cydgysylltu hyn ar draws y Llywodraeth.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod eisiau achub y blaen ar Lywodraeth San Steffan o ran cael gwared ar betrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2032. Mae gennym enghreifftiau ar hyd a lled Ewrop o ddinasoedd sy'n cael gwared yn raddol ar gerbydau diesel a phetrol mewn llawer llai o amser nag y mae Llywodraeth San Steffan wedi sôn amdano. Onid yw'n bryd i ni o leiaf ystyried ardaloedd peilot yng Nghymru lle y gellir gwahardd diesel a phetrol, naill ai ar ddiwrnodau penodol neu ar adegau penodol, er mwyn sicrhau rhywfaint o welliant yn ansawdd aer yr ardaloedd hynny, problem nad yw'r system gyfredol, i fod yn onest, yn llwyddo i fynd i'r afael â hi, ac o ran iechyd y cyhoedd, mae yna farwolaethau'n deillio'n uniongyrchol o hynny?

Mae'r Aelod yn hollol iawn i nodi'r pryderon sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn y mater hwn. Fel y dywedodd, mae'n amlwg iawn ei fod bob amser wedi cael ei ystyried yn fater amgylcheddol, ond mewn gwirionedd, os ydym am fynd i wraidd y mater a'i ddatrys a gwella ein hansawdd aer, mae'n rhaid iddo gynnwys gweithio ar draws y Llywodraeth a gwaith trawslywodraethol hefyd, o ran llywodraeth leol a Llywodraeth y DU.

O ran edrych ar ardaloedd neu barthau lle y gallech, o bosibl, wahardd neu gyfyngu ar fynediad cerbydau allyriadau uchel, mae hwnnw'n rhywbeth y gellid ei ystyried o dan y parthau aer glân. Ond yr hyn rydym hefyd wedi'i wneud yn glir yn y ddadl yw nad yw'r parthau aer glân yn ddull sy'n addas i bawb. Bydd yna broblemau gwahanol, a gwahanol ffyrdd gorau o fynd i'r afael â hwy mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru.

Diolch, Lywydd. Er mor alluog a chymwys yw'r Gweinidog wrth ateb ei chwestiynau, rwyf eisiau rhoi cyfle i Ysgrifennydd y Cabinet ddisgleirio heddiw hefyd a symud at wahanol feysydd polisi. Rwy'n gwybod bod gennym safbwyntiau gwahanol ar rinweddau bod yn aelod o'r UE yn gyffredinol, ond gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod bod y tu allan i'r polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin a'r farchnad sengl yn rhoi cyfle i ni gael safonau lles anifeiliaid uwch nag a geir yn llawer o ardaloedd yr UE, ac mewn un maes yn arbennig, mewn perthynas â physgota. Ar hyn o bryd, mae'r UE yn caniatáu rhywbeth o'r enw electro-bysgota, sy'n cynnwys rhoi cerrynt trydan drwy'r dŵr—tua 60 amp fel arfer; felly, mae'n eithaf uchel—a stynio pysgod, sydd wedyn yn cael eu llusgo mewn rhwydi i mewn i'r cychod. Ceir nifer o effeithiau anffodus i hyn, yn enwedig i'r pysgod eu hunain, oherwydd mae'r dull hwn yn tueddu i dorri esgyrn cefnau pysgod ac achosi llawer iawn o waedlif mewnol. Mae'r treillio sy'n digwydd ar wely'r môr yn ei amddifadu o'i holl fywyd gwyllt. Ac mae dalfeydd traddodiadol yn cael eu dal yn hyn hefyd ac yn cael eu taflu'n ôl. Os ydym yn adennill cyfrifoldeb polisi dros y maes hwn, byddwn yn gallu gwahardd electro-bysgota. Tybed a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i hynny.

13:50

Rydych yn hollol gywir pan ddywedwch fod gennym safbwyntiau gwahanol iawn o ran Brexit, ond rwyf bob amser wedi dweud y byddem yn edrych ar gyfleoedd. Credaf fod gennym safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel iawn yng Nghymru, ac yn sicr ni fuaswn eisiau eu gweld yn gostwng o gwbl.

O ran eich cwestiwn penodol am wahardd y math penodol hwnnw o bysgota, mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn fanwl iawn.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Maes arall a allai hefyd arwain at wella lles anifeiliaid yw pe baem yn gwahardd allforio anifeiliaid byw. Ar hyn o bryd, mae'r UE yn amcangyfrif bod oddeutu 4 miliwn o wartheg, 28 miliwn o foch, 4 miliwn o ddefaid, 243 miliwn o ddofednod, a 150,000 o geffylau yn cael eu cludo am fwy nag wyth awr o fewn yr UE. Pan fyddwn wedi gadael yr UE, byddwn yn gallu atal yr elfen Brydeinig o hynny. Gwn nad oes llawer o hynny'n dod o Gymru, ond serch hynny, mae pob tamaid bach yn helpu, fel y dywed un archfarchnad enwog, a byddwn yn gallu gwneud ein cyfraniad tuag at wella un elfen bwysig o les anifeiliaid.

Yn hollol, ac yn sicr, byddai'n well gennyf pe bai anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag sy'n ymarferol bosibl i'r fan lle y cawsant eu cynhyrchu, a chredaf, unwaith eto, fod hynny'n rhywbeth, fel y dywedwch, nad yw'n cael effaith enfawr ar allforion Cymru. Fodd bynnag, nid oes ots pa mor fach ydyw; buaswn yn sicr eisiau canolbwyntio ar hynny.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nodyn hwn o gyfeillgarwch i'w groesawu'n fawr yn y Cynulliad, rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno.

Y trydydd maes lle y credaf y dylem allu gwella lles anifeiliaid yw drwy osod camerâu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru. Mae'r rhai mwyaf yn gwneud hyn eisoes, ond nid yw'r rhai llai yn gwneud ar y cyfan. O'r 29 lladd-dy yng Nghymru, credaf fod 18 nad ydynt yn cael eu monitro gan deledu cylch cyfyng, a'r rhai llai yw'r rheini yn gyffredinol. Ond mae'n ymddangos yn bwysig iawn i mi, ac yn bwysig i ffermwyr yn gyffredinol, rwy'n credu, a'r diwydiant amaethyddiaeth yn gyffredinol, fod gan y cyhoedd hyder yn y bwyd sy'n cael ei roi ar y bwrdd a'r ffordd y caiff ei gynhyrchu a'i brosesu, ac er mwyn cynnal cefnogaeth y cyhoedd i ffermwyr ac amaethyddiaeth yn gyffredinol, mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth ddangos bod anifeiliaid yn cael eu cadw, a phan gânt eu lladd, eu bod hefyd yn cael eu lladd mewn ffordd drugarog sy'n cydymffurfio â'r safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid. Felly, mae hwn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru ddangos mentergarwch ynddo, hyd yn oed yn awr, cyn i ni adael yr UE. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth bellach i ymestyn y mesurau rheoli sy'n bodoli'n barod.

Yn hollol. Cefais gyfarfod y bore yma gyda'r prif swyddog milfeddygol ar y mater hwn oherwydd fe wyddoch ein bod wedi cael yr ymgynghoriad o'r blaen. Mae Lloegr yn ystyried gwneud hyn; mae'r Alban yn ystyried gwneud hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gan y mwyafrif helaeth o'r lladd-dai mawr, yn sicr, gamerâu teledu cylch cyfyng, ond rwy'n awyddus iawn i'w gwneud yn orfodol, er mwyn gweld pa becyn cymorth y byddai'n rhaid sicrhau ei fod ar gael, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r ffordd o wella safonau ac arferion a chadw hyder y cyhoedd. Felly, mae gennyf swyddogion yn gweithio'n fanwl iawn ar y mater hwn, a byddaf yn cyflwyno datganiad i'r lle hwn yn y dyfodol agos.

Lles Anifeiliaid

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les anifeiliaid yng Nghymru? OAQ51554

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Un o ganlyniadau strategol cyffredinol grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yw:

'Mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da.'

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar adolygu codau ymarfer cyfredol Llywodraeth Cymru ar les da byw ac anifeiliaid anwes.

13:55

Diolch i chi am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae RSPCA Cymru yn credu y byddai cofrestr cam-drin anifeiliaid yn gweithredu fel rhwystr i unigolion a allai fod wedi cyflawni gweithredoedd o greulondeb fel arall, a gallai helpu hefyd i atal dioddefaint i anifeiliaid eraill dan law troseddwyr cyson. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cofrestr cam-drin anifeiliaid?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn sicr, mae'r RSPCA wedi sôn wrthyf am hyn, ac mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried yn ddwys.

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich sgwrs ag arweinydd UKIP yn gynharach am deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, ac mae'n wir fod gan bob lladd-dy mawr deledu cylch cyfyng. Mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag a ddylid ei gyflwyno yng ngweddill y sector lladd-dai, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn cefnogi hynny. O'ch canfyddiadau a'ch trafodaethau ar hyn, a fyddai'n gywir dweud y gellid rhyddhau arian o'r rhaglen datblygu gwledig i gefnogi menter o'r fath fel na fyddai baich gormodol ar ladd-dai bach, ar sail cost, a allai beryglu eu dyfodol, sy'n hollbwysig o ran hybu cig coch yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig?

Yn sicr, ydy, mae'n rhywbeth rydym yn edrych arno mewn perthynas â'r rhaglen datblygu gwledig. Soniais yn fy ateb i Neil Hamilton fy mod wedi cael cyfarfod ynglŷn â hyn y bore yma gyda'r Athro Christianne Glossop. Nid wyf eisiau i hynny fod yn faich. Nid wyf eisiau i ladd-dai llai o faint ddod ataf a dweud bod arian yn rhwystr i wneud hyn, felly buaswn eisiau cael gwared ar y rhwystr hwnnw. Fe ofynnoch yn benodol am y rhaglen datblygu gwledig—yn amlwg, gallai fod materion cyfreithiol y byddai'n rhaid i mi edrych arnynt—a dyna'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn eisiau eich holi ynglŷn â magu adar hela. Ymddengys nad yw arolygwyr iechyd anifeiliaid yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd ac mae'r cod ymarfer cyfredol ar fagu adar hela bellach yn saith mlwydd oed. Mae'n sylfaenol iawn ac nid yw'n gofyn am leiafswm gofod i'r adar gael eu magu ynddo hyd yn oed. Felly, mewn gwirionedd, maent yn aml yn cael eu magu mewn amgylchiadau gorlawn, tebyg i ffermydd batri. Nid ydym yn caniatáu i ieir fyw mewn amgylchiadau o'r fath, felly tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i adolygu'r fframwaith reoleiddio ar les adar hela a fegir at ddibenion helwriaeth, fel y'i gelwir, cyn gynted ag y bo modd.

Diolch i chi am y cwestiwn, Julie Morgan. Soniais yn fy ateb gwreiddiol i Mandy Jones ein bod ar hyn o bryd yn adolygu llawer o'r codau ymarfer cyfredol. Yn sicr, roedd yna god ymarfer ar les adar hela a fegir at ddibenion helwriaeth yn 2011, er enghraifft. Felly, rydym wedi bod yn ymgynghori gyda'r diwydiant a'r sefydliadau lles, gan edrych ar y cod ymarfer penodol hwnnw. Buaswn yn hapus iawn i weld a oes angen inni newid hwnnw.

Credaf y dylem hefyd atgoffa'r rheini sy'n gyfrifol am adar hela y dylent fod yn wybodus ac yn gymwys mewn technegau hwsmonaeth a rheoli. Mae'r cod ymarfer yn datgan, pan fo adar yn cael eu cadw dan do neu mewn corlan, dylai'r gorlan fod wedi ei hadeiladu a'i rheoli'n dda ac o faint digonol i sicrhau iechyd a lles da. Fel y dywedaf, rydym yn ystyried diwygio'r codau ymarfer hyn, felly os ydym yn edrych arno ac yn credu bod angen newid rhywbeth yn y rheoliadau, dyma'r cyfle i wneud hynny.

Roeddwn eisiau parhau â'r cwestiwn mewn perthynas â'r gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn amlwg, rydym wedi mynd yn bell yn y maes penodol hwn gyda'r gweithgor a arweinir gan RSPCA, ond tybed a oeddech wedi ystyried fy mhryderon y tro diwethaf ynglŷn ag a fyddai'r rhai a ddechreuodd yr ymgyrch, megis lloches anifeiliaid Tŷ Nant a Maxine Berry o Justice for Chunky, yn rhan o'r gweithgor penodol hwnnw. A allech roi amlinelliad i ni pa bryd y byddwch yn cyflwyno eich datganiadau neu eich syniadau cychwynnol ynglŷn ag a fyddai hyn yn rhywbeth y gallai Cymru arwain arno—enghraifft arall o Gymru'n gyntaf—i gael y gofrestr hon? Credaf y byddai ymgyrchwyr yn y maes yn croesawu cynnydd yn hyn o beth.

Ie, fel y dywedwch, mae'r gweithgor wedi cyfarfod bellach. Rwy'n credu y byddant yn adrodd yn ôl yn yr haf. Felly, buaswn yn dychmygu mai'r llinell amser ar gyfer cyflwyno datganiad fyddai yn ystod yr haf yn ôl bob tebyg neu gyn gynted ag y byddwn yn dychwelyd ar ôl yr haf. Yn amlwg, mae'n waith rydych wedi dangos diddordeb arbennig ynddo a chredaf y byddai'n wych pe gallem fod yn gyntaf. Yn sicr, ar hyn o bryd, rydym ar y blaen, ond mae'r cysylltiad rhwng—. Roedd yr hyn a drafodwyd gennym, Bethan, yn ymwneud â chofrestr cam-drin anifeiliaid a'r cysylltiad â cham-drin domestig. Mynychais seminar ar hynny ac roedd hi'n glir iawn fod Cymru ar y blaen yn llunio'r cymariaethau hynny.

14:00
Coedwigaeth Cymru

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru? OAQ51545

Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr, mae coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ffyrdd o barhau i ddarparu cymorth ar gyfer coedwigaeth fel rhan o'r cynigion rheoli tir cynaliadwy a fydd, yn y pen draw, yn dod yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin cyfredol.

Diolch i chi am y datganiad hwnnw. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae rhanddeiliaid yn teimlo'n gyffredinol fod cyfeiriad polisi strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Coetiroedd i Gymru', yn briodol. Mewn dadl ddiweddar ar adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, soniais am bwysigrwydd cynyddu mynediad at goetiroedd a manteision cymunedol coetiroedd. Pa gynnydd a wnaed ar hyn ers adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig?

Rwy'n croesawu diddordeb gwleidyddol a phersonol pellach Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn y maes allweddol hwn, yn dilyn y ddadl a gawsom fis diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod yr ystâd goetiroedd yn ased cymdeithasol pwysig. Gwyddom fod manteision iechyd a lles yn deillio o allu cael mynediad ato, ac ymdeimlad o hunaniaeth a lle ar y lefel leol yn ogystal. Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion i'n hymgynghoriad, 'Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy', sy'n cynnwys cynigion i ddiweddaru'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynediad y cyhoedd at yr awyr agored, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb ohono ac ymateb y Llywodraeth maes o law.

Hefyd, nodaf fod cyd-Aelodau wedi nodi enghreifftiau da iawn o goetiroedd cymunedol yn ystod y ddadl. Hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad ar y pryd a dweud pe bai Aelodau'n dymuno ein gwahodd i weld hynny, fel y gallwn weld arfer gorau drosom ein hunain, gallai hynny ddylanwadu arnom yn y dyfodol gobeithio.

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod pa mor bwysig yw'r diwydiant coed yn fy etholaeth, yn arbennig i fusnesau fel Clifford Jones Timber yn Rhuthun, sydd, wrth gwrs, yn gyflogwr pwysig ac yn un o'r prif gwmnïau sy'n ymwneud â choedwigaeth, os hoffech—cwmnïau sy'n ymwneud â choed—yng Nghymru. Un o'r pryderon y maent wedi'u dwyn i fy sylw, ac a gafodd sylw yng ngwaith y pwyllgor, oedd prinder y cyflenwad o bren, a'r angen i blannu mwy o goed er mwyn gwneud iawn am hynny. Pe bai ganddynt fynediad at ffynonellau mwy dibynadwy o bren, maent yn dweud wrthyf y byddent yn gallu ehangu eu busnes a chreu mwy o waith a chyfoeth yng ngogledd Cymru. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod mwy o bren ar gael i'w ddefnyddio yn y diwydiant coed?

Gallai fod yn syndod i'r Aelod fy mod yn cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd. Ni fydd hynny'n digwydd yn aml iawn. [Chwerthin.] Fel y dywedais, mae coedwigaeth yn un o fy mhrif flaenoriaethau, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r pethau a ddywedodd. Mewn gwirionedd, roedd fy nghyfarfod cyntaf yn y swydd gyda Confor, lle y nodwyd materion tebyg ynglŷn â'r ffaith bod y galw yno, ond mae'n rhaid i ni gynyddu'r cyflenwad yn ogystal, ac mae'n rhaid i ni edrych ar y ffordd orau o reoli hynny hefyd, o ran creu coetiroedd. A'r broblem ar hyn o bryd yw cael mynediad at reoli tir a sut y gwnawn hynny, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno'n fanylach. Byddaf hefyd yn mynd i'r Alban ddechrau'r mis nesaf i ddysgu mwy o'r llwyddiant cymharol a gawsant yno, i weld a oes pethau y gallwn eu gwneud i greu coetiroedd newydd er mwyn cynyddu potensial cynhyrchu coetiroedd yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, rwy'n credu bod angen i ni weithio gyda rhanddeiliaid, megis y cwmni y sonioch amdano yn eich etholaeth chi, er mwyn datblygu ffyrdd o ddarparu'r cymorth hwnnw i goedwigaeth fel rhan o'r broses o lunio cynigion rheoli tir cynaliadwy, a fydd yn y pen draw, fel y dywedais, yn dod yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin cyfredol.

Risg Llifogydd yng Ngogledd Cymru

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â risg llifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ51537

Mae rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â risg ar draws gogledd Cymru. Bydd cynllun Llanelwy gwerth £5 miliwn, i ddiogelu 548 eiddo, yn cael ei gwblhau'n fuan. Yn ogystal, rydym yn buddsoddi dros £7 miliwn mewn dros 30 o gynlluniau llifogydd ar draws gogledd Cymru.

Un o'r meysydd sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, yw bae Colwyn, ond mae un rhan o fae Colwyn sy'n arbennig o agored i lifogydd, ac sydd wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar iawn yn sgil Storm Eleanor, a darodd ogledd Cymru ychydig wythnosau yn ôl pan gafwyd llifogydd ar bromenâd Hen Golwyn. Mae hwn yn ddigwyddiad rheolaidd bellach, ac rwy'n bryderus iawn am y bygythiad i'r amddiffynfeydd yn yr ardal honno, sydd, wrth gwrs, fel rydych yn ei wybod, Weinidog, yn diogelu'r A55 a rheilffordd y gogledd. Rydym angen arweiniad ar hyn, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r arweiniad hwnnw. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ymuno â mi ar ymweliad â Hen Golwyn i arolygu'r amddiffynfeydd hynny, a dwyn ynghyd yr asiantaethau a'r partneriaid y bydd eu hangen er mwyn uwchraddio'r cyfleusterau a'r amddiffynfeydd yno.

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydych yn iawn yn dweud mai'r risg yn Hen Golwyn yw'r bygythiad i'r seilwaith—y rheilffordd a'r ffordd—yn hytrach nag i gartrefi, ac fe fyddwch yn gwybod bod swyddogion wedi annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am gyfraniadau partneriaeth priodol gan y rhanddeiliaid hynny cyn gofyn am ragor o gyllid grant, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd, rwy'n deall, yn cynllunio i gynnal trafodaethau gyda Dŵr Cymru mewn perthynas â Hen Golwyn. Ac ym mis Tachwedd, cyfarfu swyddogion y cyngor â Network Rail i ddatblygu ateb posibl ar y cyd i risg arfordirol yn Hen Golwyn. Deallaf fod y trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf yn fy ngwahodd i ymweld â'r lle, buaswn yn hapus i ystyried hynny.

14:05

Rydw i'n barod iawn i helpu'r Gweinidog i lenwi diwrnod o ymweliadau yn y gogledd drwy ofyn iddi hi ddod draw i Ynys Môn hefyd. Mi gawsom ni lifogydd mewn sawl rhan o Ynys Môn cyn y Nadolig, ac rydw i, wrth gwrs, wedi ymweld â'r cymunedau hynny o Ddwyran i Lanfairpwll i Borthaethwy a Llangefni, ac yn y blaen.

Mi hoffwn i grybwyll y sefyllfa yn Llangefni yn benodol. Rydw i wedi bod yn trafod y sefyllfa yna efo Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae wedi dod i'r amlwg bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi gofyn ers rhai blynyddoedd bellach i Gyfoeth Naturiol Cymru wneud gwaith atal llifogydd ar yr afon Cefni yn dilyn llifogydd hanesyddol yno yn y blynyddoedd diwethaf. Ac mae hi'n amlwg bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â blaenoriaethu'r gwaith hwnnw, sydd ddim yn waith rhyfeddol o gymhleth, ond mae o'n waith sydd angen ei wneud.  A gaf i ymrwymiad gennych chi fel Gweinidog y byddwch chi'n sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru rŵan yn blaenoriaethu'r gwaith yma, gan nad risg ar bapur, fel rydym ni wedi'i weld mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys y Rhath yng Nghaerdydd, sydd gennym ni yn y fan hyn, ond risg gwirioneddol wedi'i brofi gan dystiolaeth?

Diolch am eich cwestiwn.

Collais ddechrau'r cyfraniad. Ai gwahoddiad i ddod i ymweld ydoedd? Rwyf bob amser yn hapus i ymweld â gogledd Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'r hyn a ddigwyddodd ym mis Tachwedd, ychydig cyn y Nadolig, ar draws Ynys Môn, a gwn fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny, fe roddaf sylw i'r mater.

Cynlluniau Datblygu Lleol yng Ngogledd Cymru

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru? OAQ51551

Diolch. Mae pum cynllun datblygu lleol wedi eu mabwysiadu yng ngogledd Cymru, a disgwylir y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn mabwysiadu eu cynlluniau hwy erbyn 2020. Rydym yn disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych gynnal adolygiad o'u cynlluniau datblygu lleol hwy, ac yn ddiweddar fe'u gwahoddais i baratoi cynllun ar y cyd yn lle hynny.

Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn dangos yn glir fod yr amcanestyniadau a ddefnyddiwyd yn sail i lawer o'r cynlluniau datblygu lleol hyn yn amlwg yn anghywir. Yn achos Wrecsam, roedd yr amcanestyniad poblogaeth yn ôl yn 2014 yn dangos cynnydd o oddeutu 1,200 o bobl yn y boblogaeth erbyn canol 2016. Bellach, wrth gwrs, gwelwn mai cynnydd o bedwar a gafwyd mewn gwirionedd—nid 4 y cant; pedwar o bobl. Nawr, yn amlwg, mae'r sail honno'n sylfaenol ddiffygiol o ran y cynlluniau datblygu lleol sydd gennym. Maent yn gwbl anghywir, ond maent yn parhau i fod yn sail ar gyfer y cynlluniau datblygu lleol sydd wedi cael eu hadolygu neu sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, a wnewch chi gytuno bod y gwendid cynhenid hwn yn y cynlluniau datblygu lleol yn arwain at oramcangyfrif lefelau poblogaeth, sydd yn ei dro yn golygu y bydd mwy o ddatblygiadau, a datblygiadau diangen i raddau helaeth, o ran ardaloedd maes glas, mewn lleoedd megis Llai, er enghraifft, lle rydych chi eich hun wedi gwrthwynebu cynlluniau o'r fath yn y gorffennol?

Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddull datblygu a arweinir gan gynllun ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau datblygu lleol. Mae'n anffodus—ac rydych yn sôn am fy etholaeth i, sef Wrecsam, yn benodol—mae'n anffodus iawn nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol ar waith. Ni fuaswn yn dweud eu bod yn ddiffygiol. Credaf mai'r anhawster mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol yw bod yn rhaid iddynt gael eu hadolygu'n gyson, ac rwy'n credu, yn y dyfodol, fod angen i ni symud oddi wrth gynlluniau datblygu lleol a chael mwy o gynlluniau datblygu strategol. Yn sicr, dyna'r gwaith sy'n mynd rhagddo. Mae fy mhrif swyddog cynllunio yn mynd o amgylch Cymru ar hyn o bryd ac yn cyfarfod â phob awdurdod lleol, ond credaf fod angen i ni gael y cynlluniau hynny ar waith er mwyn gwneud yn siŵr fod penderfyniadau'n cael eu gwneud, ond wrth gwrs mae angen i'r wybodaeth fod yn gywir, fel bod y penderfyniadau a wneir wedyn mor briodol â phosibl.

Ym mis Hydref, ysgrifennodd arweinydd cyngor Conwy atoch yn nodi bod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu methodoleg cyfraddau adeiladu'r gorffennol o gyfrifiad y broses cyflenwad tir wedi tanseilio cynlluniau datblygu lleol yn sylweddol ledled Cymru, gan olygu na allai cynghorau amddiffyn ceisiadau datblygu hapfasnachol a oedd yn rhoi'r tai anghywir yn y mannau anghywir. Yr unig reswm nad oes gan Wrecsam gynllun datblygu lleol yw oherwydd eu bod bron â chwblhau eu cynllun datblygu lleol pan ddywedodd Llywodraeth Cymru wrthynt am ddechrau eto am nad oedd ganddynt ddigon o dai, ac rydym newydd glywed beth oedd canlyniad hynny gan fy nghyd-Aelod ar draws y Siambr.

Ym mis Rhagfyr, fe ysgrifennoch chi ataf i ddweud mai'r rheswm sylfaenol pam fod Sir y Fflint yn agored i geisiadau cynllunio hapfasnachol oedd eu methiant i fabwysiadu cynllun datblygu lleol, ac fe ychwanegoch chi fod Sir y Fflint yn un o'r ychydig awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol eto a'i bod yn debygol mai Sir y Fflint fyddai'r awdurdod diwethaf i wneud hynny. Felly, pa un yw'r broblem? Ai methiant y cynghorau sir i lunio cynlluniau datblygu lleol ydyw neu a oes gan gyngor Conwy bwynt?

14:10

Mae'n bwysig iawn fod gan awdurdodau cynllunio lleol eu cyflenwad tir pum mlynedd ac fe gyfeirioch chi at lythyr a anfonais atoch cyn y Nadolig. Y broblem yw, pan nad oes ganddynt y cyflenwad tir pum mlynedd hwnnw, rydym yn gweld datblygwyr yn cyflwyno ceisiadau hapfasnachol iawn. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac nid wyf eisiau siarad am gynlluniau penodol oherwydd, yn amlwg, mae ein pwerau yn y broses ddatblygu yn golygu na allaf wneud hynny. Ond rwy'n credu, drwy edrych ar bob achos yn unigol, pan fo Aelod yn ysgrifennu ataf, rwy'n ymateb yn y modd hwnnw. Felly, pe bawn yn ysgrifennu atoch ynglŷn â Chonwy, dyna yw fy safbwynt; pe bawn yn ysgrifennu atoch ynglŷn â Sir y Fflint, dyna fydd fy safbwynt hefyd.

Cynllun Llifogydd y Rhath

8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â datblygu cynllun llifogydd y Rhath yng Nghaerdydd? OAQ51572

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun. Cyfarfûm â'u swyddogion a'u cynrychiolwyr etholedig, yn eich cynnwys chi, ar 9 Ionawr i drafod y cynllun hwn a phryderon trigolion ymhellach. Yn ystod y cyfarfod, eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru y rhesymau dros y gwaith a'r opsiynau roeddent wedi eu hystyried ar gyfer lliniaru perygl llifogydd.

Ie, a diolch am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Credaf fod hwnnw'n gyfarfod defnyddiol a lwyddodd i glirio'r aer, i ryw raddau. Y broblem yw, erbyn y pwynt hwnnw, roedd gennym eisoes lawer o drigolion lleol yn protestio yn erbyn cwympo coed drwy ddringo'r coed a gwneud gweithgareddau eraill ar y safle. Felly, yn amlwg, fe aeth rhywbeth o'i le gyda'r ymgynghoriad. A allech chi weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr i asesu beth yn union a aeth o'i le, ac osgoi'r math hwn o ganlyniad mewn cynlluniau yn y dyfodol gobeithio?

Diolch i chi am eich cwestiwn a'ch diddordeb yn hyn. Gerddi Nant y Rhath a Gerddi Melin y Rhath yw cam olaf y gwaith lliniaru llifogydd, ac mae'r broses hon wedi bod ar y gweill ers pum mlynedd. Rydym wedi cwblhau'r broses gynllunio a'r broses ymgynghori, ac mae bellach wedi cyrraedd y cam gweithredu. Cafodd pryderon trigolion eu codi yn hwyr iawn yn y broses ac yn ystod y cam gweithredu olaf. Gelwais am gyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyfle cyntaf, yn y swydd, er mwyn deall y gwaith a'i effaith ar y parciau. Rwy'n deall na chafodd y pryderon eu codi gyda'r adran cyn i mi ddechrau yn y swydd.

Mae'r ymgynghoriad wedi parhau yn ystod y cyfnod hwn ac rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod, ac Aelodau eraill sydd â diddordeb, gyda rhestr lawn yr ymgynghoriad cyhoeddus, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgynghori â'r gymuned leol, cyngor Caerdydd a rhanddeiliaid drwy gydol camau cynllunio ac adeiladu'r cynllun ac maent yn cadarnhau bod hyn wedi cynnwys Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol. Deallaf hefyd fod cynghorwyr lleol wedi cymryd rhan fawr yn y cyfarfodydd briffio, wedi mynychu'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd cyhoeddus ac wedi hwyluso trafodaethau trigolion. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio gweithio'n adeiladol drwy gydol y cynllun i wella'r cynllun, i geisio adlewyrchu barn trigolion, a gwn fod hynny'n rhywbeth sy'n parhau, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfarfod â phreswylwyr yn awr i weld a ellir datrys y mater ymhellach.FootnoteLink

A gaf fi hefyd ddiolch i chi am drefnu'r cyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Aelodau sydd â diddordeb? Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cynnydd mewn perthynas â thystiolaeth wyddonol a thechnegol. Credaf mai un o'r pethau a allai fod wedi lleddfu pryderon y protestwyr fyddai pe bai gennym ganopi coed mwy helaeth eisoes. Mae'n broblem, wedyn, pan fo'n rhaid i ni, yn anffodus, weld coed yn cael eu torri, naill ai oherwydd presenoldeb clefyd neu'r bygythiad ohono, neu o ganlyniad i lwybr nant newydd, er enghraifft. Felly, a allem gynyddu'r coetiroedd sydd gennym mewn dinasoedd, os gwelwch yn dda?

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf. Yn yr achos hwn, mae mwy o goed yn cael eu hailblannu na sy'n cael eu cwympo. Rwy'n cydnabod cryfder yr emosiynau a'r teimladau sydd gan bobl tuag at eu parciau a'u hardaloedd hamdden lleol. Fel rhan o'n strategaeth creu coetiroedd, rwy'n credu bod angen i ni edrych eto, efallai, ar sut rydym yn creu canolfannau trefol a pharciau, gan gadw creu canopi coed mewn cof hefyd.

Tanau mewn Safleoedd Gwaredu Gwastraff

9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y tanau mewn safleoedd gwaredu gwastraff yng Nghymru? OAQ51548

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pwerau gorfodi newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon a safleoedd a weithredir yn wael. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer secondio staff gwasanaethau tân ac achub i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn datblygu cynlluniau atal tân a lliniaru a helpu i hyfforddi gweithredwyr yn y diwydiant gwastraff.

14:15

Weinidog, mae'n debygol eich bod wedi clywed yr adroddiad ar BBC Radio Wales a nododd fod diffoddwyr tân wedi cael eu galw i ymdrin â 68 o'r 123 o danau gwastraff a gofnodwyd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a threuliwyd tua 22,000 o oriau gwaith ar ddiffodd y fflamau, ar gost o tua £1.8 miliwn. Dywedodd Mark Andrews, sy'n arwain ar y materion hyn yng Nghymru a Lloegr ar ran Cyngor y Penaethiaid Tân Cenedlaethol, fod cyfraddau uwch o ailgylchu, rhywbeth rydym ei eisiau wrth gwrs, yn golygu mwy o wastraff a mwy o risg tân, a galwodd ar reoleiddwyr i fabwysiadu safbwynt llawer mwy cadarn. Onid yw hynny'n ganolog i'r mater hwn, ein bod angen rheoleiddio effeithiol yma?

Yn hollol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £200,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i ariannu gwaith ychwanegol ar droseddau gwastraff. Mae'r cyllid wedi talu am swyddog o'r gwasanaethau tân ac achub i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu a sefydlu canllawiau ar atal tân mewn safleoedd gwastraff. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru bwerau ym mis Hydref 2015 i'w gwneud yn haws i'r rheoleiddiwr atal trwyddedau dros dro a chymryd camau i gael gwared ar unrhyw risgiau. Byddwn yn cyflwyno offeryn arall ar droseddau gwastraff tuag at ddiwedd y mis hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol ei graffu, er mwyn darparu'r pwerau a fydd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gloi giatiau safleoedd er mwyn atal mynediad a rhwystro gwastraff rhag cyrraedd safle, a bydd ail bŵer yn targedu pobl sy'n cadw neu'n caniatáu i wastraff gael ei gadw ar dir yn anghyfreithlon ac yn eu gwneud yn gyfrifol.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf—Lynne Neagle.

Diwygio Lles yn Nhorfaen

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ51574

Diolch. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod newidiadau lles 2010-11 a 2015-16 wedi bod yn ergyd galed i Gymoedd de Cymru. Mae hyn yn cynnwys Torfaen, sef y seithfed ardal awdurdod lleol a effeithiwyd waethaf yng Nghymru, gyda cholledion incwm cyfartalog yn uwch na'r rhai ar gyfer Cymru yn gyffredinol. O ran y newidiadau lles a gyflwynwyd ers 2015-16, a'r rhai sy'n parhau i gael eu cyflwyno dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos y bydd Torfaen yn cael ergyd galed eto.

Diolch. Ar ôl y chwe mis cyntaf o wasanaeth llawn y credyd cynhwysol yn Nhorfaen, mae pennaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, Richard Davies, wedi dweud ei fod yn teimlo bod ethos ei rôl wedi newid o dalu budd-daliadau a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo i sicrhau bod gan bobl fwyd ar y bwrdd. Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd o welliant, a'r wythnos diwethaf, roedd cadeirydd Tai Cymunedol Bron Afon yn darogan y bydd nifer y tenantiaid sydd wedi cael eu niweidio gan gredyd cynhwysol yn codi eto, ac mae lefel yr ôl-ddyledion rhent a achosir eisoes yn peri pryder mawr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo trigolion mewn cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd o dan y credyd cynhwysol, ac yn benodol, pa gamau y gallwn eu cymryd i sicrhau nad yw'r problemau gydag ôl-ddyledion rhent yn arwain at gynnydd yn nifer y rhai sy'n cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref?

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw, a rhannaf eich pryder dwfn ynglŷn â'r effaith y mae credyd cynhwysol, yn arbennig, ond diwygio lles a chyni yn yr ystyr ehangach, yn ei chael ar ein cymunedau. Mae'n destun pryder a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, sydd wedi cyfarfod ag arweinydd cyngor Torfaen heddiw mewn gwirionedd, ac roedd rhan o'r drafodaeth yn ymwneud â'r effaith y mae diwygio lles yn ei chael ar bobl sy'n byw yn Nhorfaen. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda Llywodraeth y DU fod yna broblemau difrifol i'w gweld yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol, yn enwedig yr effaith y mae'r newidiadau i daliadau cymorth tai yn ei chael ar bobl sydd ag ôl-ddyledion rhent.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i weld pobl yn cael dewis rhagweithiol i gael y taliad amgen, lle y gwneir y taliad i'w landlord yn hytrach nag i'r unigolyn. Gwyddom fod hynny'n gwneud llawer mwy o synnwyr i bobl nad ydynt wedi gorfod cyllidebu yn y ffordd honno o'r blaen, ac mae'n rhoi sicrwydd i'r unigolyn y bydd ganddynt do uwch eu pennau. Rwyf wedi cael trafodaethau ynglŷn â hynny gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i geisio sicrhau bod gan bobl y dewis rhagweithiol hwnnw ac nad yw'n fater syml o ofyn, 'A hoffech chi daliadau amgen?', oherwydd nid yw 'taliadau amgen' yn golygu unrhyw beth i unrhyw un, ond bod y dewis i gael taliad amgen yn cael ei egluro yn nhermau'r ffaith ei fod yn golygu y bydd eich rhent yn cael ei dalu drosoch ac nad oes rhaid i chi boeni am hynny.

Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn cael y cyngor a'r cymorth y maent ei angen, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £6 miliwn o gyllid grant i gefnogi ein gwasanaethau cynghori ledled Cymru, gan gefnogi cyllid, yn enwedig ar gyfer cyngor rheng flaen, Cyngor Da, Byw'n Well, a phrosiect canlyniadau a rennir Cymunedau yn Gyntaf. Y rheswm am hynny yw oherwydd ein bod yn wirioneddol ymrwymedig i sicrhau bod pobl yn cael cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim. Rwyf hefyd wedi siarad â Cyngor ar Bopeth, oherwydd rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ddeall eu profiad yn Nhorfaen, lle mae'r cynllun bellach wedi cael ei gyflwyno'n llawn. Roeddent yn glir iawn fod ôl-ddyledion rhent yn broblem i bobl sydd wedi cael eu symud at gredyd cynhwysol. Maent yn cyflawni rhai camau lliniaru lleol, megis mynediad at gronfeydd caledi lleol, er enghraifft, ac mae tenantiaid yn cael cymorth yn y ffordd honno, ochr yn ochr â'r trefniadau taliadau amgen y soniais amdanynt. Ond mae'r neges yn gryf iawn fod y mater hwn yn rhoi pwysau go gryf ar ein gwasanaethau cyngor ac ar Cyngor ar Bopeth yn Nhorfaen, yn arbennig.

14:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylid cynllunio ein system fudd-daliadau i sicrhau bod gwaith yn talu bob amser? A wnaiff hi ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod diweithdra yn Nhorfaen wedi gostwng 37 y cant ers mis Tachwedd 2010? Diolch.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr y dylai gwaith dalu, a dyna pam fod gennym bryderon mor ddifrifol ynghylch credyd cynhwysol, sydd mewn gwirionedd yn golygu nad yw gwaith yn talu mewn llawer o achosion. Bydd pobl sydd mewn gwaith, megis teuluoedd unig rieni, a theuluoedd gyda phobl anabl sydd mewn gwaith, bydd rhai ohonynt mewn gwirionedd yn gweld eu hincwm yn gostwng o ganlyniad i effaith credyd cynhwysol. Mae'n hollbwysig fod gwaith yn talu, ond mae'n rhaid iddo dalu'n dda yn ogystal, a dyna pam rydym yn gwneud cymaint o waith ar fater y cyflog byw. Ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion megis contractau dim oriau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i wneud hynny yn y meysydd lle mae gennym bŵer i wneud hynny—er enghraifft, ym maes gofal cymdeithasol. Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw contractau dim oriau yn cael eu hystyried bellach yn ffordd dderbyniol o gyflogi pobl.

Tollau Pontydd Hafren

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cyflymu cynlluniau tai yn Nwyrain De Cymru i roi ystyriaeth i ddileu tollau pontydd Hafren? OAQ51561

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y tollau'n dod i ben ynghyd â'r manteision a ddaw i Gymru yn sgil hynny. Rwy'n cydnabod y gallai hyn ddylanwadu ar y galw am dai a phrisiau tai yn y rhanbarth. Byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol Casnewydd a Sir Fynwy i drafod y mater yn fanylach, ac rwyf eisoes wedi cael trafodaethau cynnar gydag adeiladwyr tai.

Weinidog, gallai arwain at brisiau tai uwch. Rydym eisoes wedi gweld prisiau tai yn codi mwy na 9 y cant yn Sir Fynwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a mwy na 6 y cant yng Nghasnewydd. Tybed a oes angen mwy o frys mewn perthynas â hyn. Rwy'n falch iawn o glywed am y cyfarfod y mae'n ei gael, ond lle y ceir galw a chyfle i roi hwb i'r economi, a dod â phobl ar gyflog uchel i mewn a helpu'r ganolfan dechnoleg yng Nghasnewydd, a fyddai'r Llywodraeth, efallai, yn ystyried gwneud mwy i helpu Casnewydd a Sir Fynwy i gael safleoedd yn barod a chyflymu datblygiadau er mwyn elwa ar hyn?

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae sicrhau ein bod yn cadw golwg ar y cynlluniau datblygu lleol sy'n cael eu mabwysiadu ar draws Cymru yn wirioneddol hanfodol o ran sicrhau bod y cartrefi sydd eu hangen ar Gymru yn cael eu darparu. Ar gyfer ardal Dwyrain De Cymru, mae yna gyfleoedd a heriau sylweddol sy'n fwy nag unrhyw awdurdod cynllunio lleol unigol, ac yn sicr y ffordd orau o fynd i'r afael â hwy yw drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd, a dyna pam rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yn yr ardal, yn eu gwahodd i ddod at ei gilydd a chyflwyno cynlluniau i baratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd.

Rydym yn gwybod bod tuedd gadarnhaol o adeiladu tai wedi bod ledled Cymru—cafodd 722 o anheddau newydd eu cwblhau yn ne Cymru yn ystod y chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2017. Ond rwy'n cytuno bod cael gwared ar y tollau yn rhoi cyfle i ni gynyddu a gwella cyflymder y broses o adeiladu tai, fel y mae ein rhaglen tai arloesol yn ei wneud yn yr ardal, er enghraifft. Rwy'n awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai i sicrhau ein bod yn gwneud hynny ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Weinidog, yr hyn a fyddai'n sicr o helpu i fynd i'r afael ag unrhyw gynnydd mewn prisiau tai fyddai cyflawni cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Felly, a fydd eich trafodaethau gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy yn cynnwys trafodaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddatblygu cartrefi fforddiadwy yn yr ardal honno?

Diolch i chi am y cwestiwn, ac mae bron bob trafodaeth a gaf yn y portffolio hwn yn cynnwys y rôl bwysig o wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cynyddu'r cyflymder a nifer y cartrefi a fydd yn cael eu datblygu i'w gwerthu yn y farchnad yn ogystal, oherwydd gwyddom ein bod angen y pecyn amrywiol cyfan yng Nghymru i ddiwallu anghenion pobl wahanol am wahanol fathau o dai. Mae'n anodd deall ar hyn o bryd beth y gallai'r effaith hirdymor fod ar brisiau tai yn yr ardal, ond rydym yn sicr yn cadw golwg agos iawn ar hynny. Pe bai prisiau tai yn codi, mae'n amlwg y byddai hynny'n beth da i'r farchnad dai leol a'r rheini sydd eisoes yn berchen ar gartrefi. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gallai effeithio'n fawr ar allu pobl leol sy'n prynu am y tro cyntaf i gael mynediad at eiddo mewn ardaloedd lle mae'r galw'n uchel, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i adeiladu tai ledled Cymru, ond yn enwedig yn y rhan hon o Gymru, a dyna pam rydym yn edrych ar ba fathau gwahanol o becynnau y gallwn eu rhoi at ei gilydd i gynorthwyo pobl i brynu cartref.

Rwy'n llawn cyffro ynghylch y gwaith datblygu rydym yn ei wneud ar y cynllun rhentu i brynu. Felly, bydd hwnnw'n becyn a fydd ar gael i bobl sy'n gallu fforddio talu rhent y farchnad ond nad ydynt wedi gallu cynilo blaendal ar gyfer cartref, a bydd hwnnw'n eu galluogi i brynu cartref o dan becyn newydd rydym yn ei ddatblygu ar hyn o bryd, ac rwy'n gobeithio dweud rhagor am hynny yn y dyfodol agos.

14:25
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Symudwn yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Y llefarydd cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd UKIP, Gareth Bennett.

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae problem digartrefedd wedi codi yn y newyddion sawl gwaith yn ddiweddar. Mae'n tueddu i fod yn bwnc mawr wrth i ni nesáu at y Nadolig bob blwyddyn, ond yn fwy arwyddocaol, mae gennym hefyd y ffigurau blynyddol diweddaraf ar gartrefi gwag, sy'n dangos cynnydd yng Nghymru o tua 23,000 o gartrefi gwag y llynedd i 25,000 o gartrefi erbyn hyn. Felly, er gwaethaf menter Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa mewn perthynas â chartrefi gwag i'w gweld yn gwaethygu. Beth y credwch y gall eich Llywodraeth ei wneud i wella'r sefyllfa hon?

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae mater cartrefi gwag yn fater o bryder i Lywodraeth Cymru. Fel y dywedwch, mae rhai prosiectau da wedi cael eu cyflawni o dan ein prosiect cartrefi gwag yn arbennig, ond mae'n gyfle, mewn gwirionedd, i edrych ar draws ein cyfleoedd adfywio i weld sut y gallwn droi'r siopau gwag, er enghraifft, ar ein strydoedd mawr yn gartrefi. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn mynd ar ei drywydd drwy ein cynllun benthyca canol trefi, er enghraifft. Mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o'n prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ond yn y dyfodol, gallai ffurfio rhan o'n rhaglen buddsoddi mewn adfywio sydd wedi ei thargedu. Rhaglen newydd yw honno a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd, sef £100 miliwn o fuddsoddiad mewn adfywio. Felly, pan fyddwn yn meddwl am adfywio, rwy'n awyddus inni feddwl hefyd yng nghyd-destun adeiladu cartrefi, ac yn arbennig, troi eiddo gwag yn ôl yn gartrefi.

Ie. Diolch am yr ateb. Rwy'n credu y byddai dull cyfannol, fel rydych wedi'i awgrymu, yn dda, ond credaf fod angen i chi gadw ar ben y sefyllfa mewn perthynas â chartrefi gwag fel mater penodol. Nawr, o ran cynyddu'r cyflenwad tai mewn ffyrdd eraill, gwn eich bod chi a Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid, wedi bod yn trafod y posibilrwydd o dreth ar dir gwag. A allech chi roi unrhyw newyddion i ni am gynnydd y Llywodraeth ar y mater hwn, a sut rydych yn credu y gallai hyn helpu'r sefyllfa dai os byddwch yn cytuno i fwrw ymlaen â'r dreth honno?

Wel, mae hwn yn sicr yn un o'r pedwar maes y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu hystyried mewn perthynas â chyflwyno treth bosibl i Gymru yn y dyfodol ac mae wedi bod yn destun arolwg barn a gynhaliwyd gan Drysorlys Cymru er mwyn deall y safbwyntiau a allai fod gan bobl ar hyn fel un o'r pedwar posibl. Yn amlwg, ni fyddech yn disgwyl i mi wneud unrhyw gyhoeddiad ynglŷn â'r ffordd ymlaen heddiw, oherwydd mae'n parhau i fod yn fater sydd angen ei drafod, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn gynted ag y gall wneud hynny.

Ie, diolch. Rwy'n deall bod llawer o waith ar y gweill o hyd ac wrth gwrs, mae'n torri ar draws portffolio'r Gweinidog cyllid, felly edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf maes o law. Felly, yn hytrach na mynd ar drywydd y mater hwnnw, efallai y gallwn droi'n ôl at broblem cartrefi gwag. Mae gan gynghorau yng Nghymru bŵer hefyd i gymryd rheolaeth o dai gwag drwy orchmynion rheoli anheddau gwag. Nawr, mae'r ffigurau'n dangos nad yw'r gorchmynion hyn prin yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. A oes achos, yn eich barn chi, dros gyfarwyddo cynghorau i ddefnyddio'r pwerau hyn yn fwy aml?

Mae'r ffordd y mae'r cynghorau yn ymdrin â chartrefi gwag yn gyffredinol yn tueddu i olygu, yn y lle cyntaf, ceisio gweithio gyda pherchennog yr eiddo er mwyn dod â'r cartref hwnnw yn ôl i ddefnydd. Ond wedyn, os yw hynny'n methu, mae'r gorchmynion rheoli anheddau gwag yno i awdurdodau lleol fanteisio arnynt a buaswn yn eu hannog i wneud hynny os ydynt yn teimlo bod hynny'n briodol. Ceir ardaloedd lle y ceir arferion da, gydag awdurdodau lleol yn gweithio gyda pherchnogion eiddo. Er enghraifft, yn Abertawe, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda pherchnogion er mwyn dod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd drwy roi benthyciad iddynt allu adnewyddu'r eiddo i'r safon angenrheidiol, a gwarantu hefyd wedyn y bydd ganddynt denant diogel am ddwy flynedd neu fwy o ganlyniad i hynny. Felly, credaf fod yna gyfleoedd i awdurdodau lleol ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i archwilio'r arferion da sy'n cael eu cyflawni. Rwyf hefyd yn awyddus i awdurdodau lleol ystyried a ddylent gynyddu'r dreth gyngor ar ail gartrefi ai peidio. Mae hwnnw'n opsiwn y gall awdurdodau lleol ei ddewis, ac yn un y maent yn ei ddewis ac rwy'n credu ei bod yn ffordd synhwyrol o geisio atal ail gartrefi rhag llenwi rhai pentrefi—gan fod gennym sefyllfa yng Nghymru—a bod y bobl sy'n berchen ar y cartrefi hynny yn cyfrannu i'r ardal leol.

14:30

Gan mai dyma'r tro cyntaf i mi eich holi chi yn eich rôl newydd fel Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, buaswn i'n hoffi'ch llongyfarch chi a dymuno yn dda iawn i chi. Buaswn i'n licio gofyn yn gyntaf pa fath o steil rydych chi am ei fabwysiadu yn eich rôl newydd.

Member
Alun Davies 14:31:12
Cabinet Secretary for Local Government and Public Services

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei geiriau caredig ar ddechrau ein perthynas newydd. Nid wyf yn siŵr fy mod i erioed wedi ystyried fy hun fel rhywun sydd â steil mewn unrhyw ffordd. Efallai fy mod i'n rong. Y tôn rwyf eisiau ei gymryd yn ystod y drafodaeth yr wyf wedi'i ddechrau yn barod gydag arweinwyr a chynghorwyr ar draws y wlad yw tôn o barch tuag at gynghorwyr a chynghorau ar gyfer y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Dywedais i yn ystod y drafodaeth a gawsom ni ar y setliad ddoe mai bod yn gynghorydd ac arweinydd cyngor yw un o'r swyddi mwyaf anodd yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.

Cefais fy magu mewn cartref ble roedd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu trafod o gwmpas y ford. Roedd fy nhad wedi gweithio i Tredegar Urban District Council, Blaenau Gwent Borough Council ac wedyn Blaenau Gwent County Borough Council. Felly, mae gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cynghorau yn bethau y cefais fy magu gyda nhw. Rwy'n parchu'r gwaith sy'n cael ei wneud ac rwy'n parchu'r gweithwyr sy'n cyflwyno hynny.

Rwy'n cytuno efo chi. Wrth gwrs, mae'r berthynas rydych chi'n ei datblygu efo'r awdurdodau ac arweinwyr cynghorau gwahanol yn allweddol. Mi gymerodd eich rhagflaenydd yr ymagwedd o gydweithio, efo perthynas wedi'i hadeiladu ar sail parch, er y tensiynau sydd yn aml yn bodoli rhwng awdurdodau lleol a'r Llywodraeth. Ond nid oedd hynny bob tro yn wir, wrth gwrs, gan edrych ar gyn-Weinidogion eraill o'ch plaid chi. Rydw i yn cofio—pan oeddwn i'n aelod cabinet yng Nghyngor Gwynedd, cefais brofiad o steil un o'ch rhagflaenwyr chi a oedd yn defnyddio steil y prifathro blin efo cansen. Nid yw steil fel yna byth yn mynd i gael y maen i'r wal.

Mae rhanbartholi gwasanaethau yn enghraifft o ble mae angen troedio'n ofalus, wrth gwrs, a chynnal y berthynas bwysig yma efo'r awdurdodau lleol, ond mae yna agwedd hefyd sydd angen bod yn bwysig ynglŷn â fo efo rhanbartholi, sef yr atebolrwydd. Er fy mod i'n cefnogi'r ymdrechion i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu rhedeg yn fwy strategol, ac felly yn fwy effeithiol, rwyf yn poeni am yr agwedd yma o golli'r atebolrwydd. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau fod yr haen newydd yma o lywodraethu yn mynd i fod yn atebol i gynghorwyr ac, yn bwysicach, efallai, i etholwyr?

Rwy'n cyd-fynd â llefarydd Plaid Cymru a'i dadansoddiad hi—efallai nid pob rhan ohono fe, ond byrdwn ei neges hi. Rwy'n deall hynny. Ond, a gaf fi ddweud hyn? Mae'n bwysig ein bod ni'n ffeindio cydbwysedd. Dyma'r drafodaeth yr oeddwn yn ei gael y bore yma, fel mae'n digwydd, dim jest gydag arweinydd Torfaen, sydd wedi cael ei drafod yn barod, ond hefyd gydag arweinydd Caerffili amboutu'r tensiwn sydd rhwng cael gwasanaethau i ddarparu y lefel sy'n strategol, ond hefyd sicrhau bod sut rŷm ni'n delifro gwasanaethau yn cydnabod pwysigrwydd lleoliad, ac wedyn, pwysigrwydd cydweithio gyda phobl sy'n derbyn gwasanaethau. Felly, mae yna dyndra yn fanna ambell waith, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gyda ni wasanaethau sy'n cael eu delifro ar lefel a fydd yn strategol, yn robust, a fydd yn cynnal gwasanaethau i'r safon uchaf posibl, ond hefyd sydd yn atebol ac yn gallu ymateb i anghenion lleol iawn, iawn, iawn. Rydw i, ar hyn o bryd, yn ystyried ble'r ydym ni gyda'n polisi ni. Rydym ni'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cyllid wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau gweledigaeth newydd, gwahanol ar gyfer llywodraeth leol. Byddaf i nawr yn defnyddio'r gwaith mae'r Ysgrifennydd wedi ei wneud fel sylfaen i symud ymlaen i sicrhau ein bod ni'n gallu sicrhau'r math o wasanaethau o ansawdd uchel rydym ni i gyd eisiau eu gweld, a sut rydym ni'n sicrhau bod hynny yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir.

14:35

Edrychaf ymlaen, felly, i weld sut yn union rydych chi'n mynd i gynnal yr atebolrwydd pwysig yna, sef beth roeddwn i'n holi yn ei gylch.

Rwy'n troi rwan at y system etholiadol, ac mae'r Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn nodi na fyddai diwygio'r system etholiadol i STV yn fandadol i holl gynghorau Cymru. Hynny yw, mi fyddai gan y cynghorau'r dewis i ddod â fo ymlaen ai peidio. Yn fy marn i, mae hynny'n gam gwag a fuasai'n galluogi rhai awdurdodau lleol i beidio â symud tuag at wir gynrychiolaeth, am resymau gwleidyddol, efallai, neu hunan-ddiddordeb, neu ba bynnag reswm, a dweud y gwir. A wnewch chi ystyried hynny, felly, a sicrhau bod diwygio'r system etholiadol i STV yn fandadol i holl awdurdodau lleol Cymru?  

Mae'r Aelod yn fy nhemptio fi i fynd i dir peryglus iawn. A gaf i ddweud hyn? Fy marn bersonol i, fel unigolyn, yw fy mod i'n cefnogi STV. Rydw i'n credu mai dyna'r system sydd yn cynnig y mwyaf o atebolrwydd ac sy'n cynnig pleidlais deg i bawb ar draws y wlad—ar gyfer y lle yma, a llywodraeth leol, a, frankly, San Steffan hefyd. Ond nid ydw i'n siŵr, pan rydw i'n dweud hynny, fy mod i'n cynrychioli barn pawb—pob un ar y meinciau yma ym mhob un rhan o'r Siambr. Felly, rydw i yn bwriadu symud ymlaen gyda newidiadau i drefniadau etholiadol. Rydw i wedi gofyn caniatâd i wneud datganiad llafar ar hynny ar y degfed ar hugain o'r mis yma, pan fyddaf i'n gallu gwneud datganiad clir ar y ffordd rydym ni'n bwriadu symud ymlaen gyda diwygio trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer y dyfodol.

Ysgrifennydd y Cabinet, eleni rydym yn dathlu canmlwyddiant llwyddiant y swffragetiaid i gael gwir gydraddoldeb i fenywod drwy ennill y bleidlais. Rydym hefyd yn dathlu—wel, dylem fod yn gallu dathlu—48 mlynedd o Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970, ond cefnogaeth arwynebol yn unig sydd iddi yma yng Nghymru. Rydym yn dal i weld bylchau cyflog gwarthus yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru—nid yn unig yn Llywodraeth Cymru, ond hefyd mewn llywodraeth leol. Nawr, rwyf wedi bod ar drywydd y mater hwn ers cryn amser bellach, ers i mi ddod yn ymwybodol ohono. Ond wrth i mi sefyll yma heddiw, y ffaith amdani yw bod gennym 92 o hawliadau cyflog cyfartal yn dal i fod heb eu datrys. Nawr, mae honno'n sefyllfa warthus. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn y cannoedd pan ddechreuais grybwyll hyn yma yn y Senedd, ac mae rhai awdurdodau wedi cael gwybod nad yw hyn yn dderbyniol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod Ynys Môn ac Abertawe ymysg yr uchaf. Mae'r menywod hyn yn haeddu'r arian hwn; eu harian hwy ydyw. Ac ar hyn o bryd, mae'r nôl ac ymlaen sy'n digwydd rhwng cyfreithwyr sy'n gwrthod ildio i'r menywod hyn, menywod sydd eisoes wedi ennill yr arian hwn, a ganddynt hwy y dylai fod—. Nawr, rwyf hefyd yn nodi bod cynllun cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2012, wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i nodi a mynd i'r afael ag achosion y gwahaniaethau cyflog a chyflogaeth ar sail rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd. Ysgrifennydd y Cabinet, â phob parch tuag at ein hawdurdodau lleol a'u harweinwyr, pa ymdrech rydych yn ei gwneud i gael gwared ar yr arfer drwg hwn o anghydraddoldeb a sicrhau bod y menywod hyn yn cael yr hyn y maent yn ei haeddu a'r cyflog sy'n ddyledus iddynt?

Rwy'n cytuno â'i chwestiwn yn ei gyfanrwydd, ac er fy mod mewn perygl o ailadrodd ei geiriau hi, rwy'n credu ein bod yn dathlu 100 mlynedd ers ymestyn yr etholfraint i bawb yn y wlad hon. Rwyf eisoes wedi siarad â Gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y DU i ddathlu'r pen blwydd hwnnw, ac yn sicr bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno cefnogi a chymryd rhan yn y dathliad hwnnw yn ogystal. Rhan o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud, fel y dywedais mewn ateb i Siân Gwenllian, yw ein bod eisiau parhau i ymestyn yr etholfraint, rydym eisiau parhau i gryfhau a chyfoethogi ein democratiaeth a'r modd y caiff pobl eu hannog a'u galluogi i gymryd rhan yn y ddemocratiaeth honno. Atebolrwydd oedd wrth wraidd cwestiwn Siân Gwenllian. I mi, y ffordd orau o ddarparu atebolrwydd yw drwy'r blwch pleidleisio. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y blwch pleidleisio yn ganolog i'n democratiaeth a'r modd rydym yn annog ac yn galluogi pobl i gymryd rhan ynddi.

Ond o ran cyflog cyfartal, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at y pwyntiau rydych yn eu gwneud yn eich cwestiwn, a'r sylwadau rydych yn eu gwneud. Mae'n adlewyrchiad ofnadwy ar ein system fod menywod yn dal i aros i'r materion hyn gael eu datrys. Mae'n warthus fod unrhyw un yn cael eu talu'n anghyfartal am wneud eu swydd. Rydym yn gweld dadl yn digwydd yn y BBC ar hyn o bryd. Byddech yn meddwl y byddent hwy'n gwybod yn well. Rwy'n gobeithio y byddant yn ystyried yr hyn a ddywedwyd dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn arbennig, a gobeithiaf hefyd, wrth i ni barhau i ddatblygu ein polisi—. Mewn ymateb i gwestiwn cynharach, soniodd y Gweinidog Tai ac Adfywio am Gymru fel cenedl deg o ran gwaith. Credaf fod gwaith teg yn hanfodol i bawb, ac mae hynny'n golygu cyfradd deg a chyfartal am wneud y gwaith. Rydym yn gwerthfawrogi gweithwyr ein gwasanaethau cyhoeddus—rydym yn gwerthfawrogi holl weithwyr ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ddynion ac yn fenywod—ac maent i gyd yn haeddu cyflog byw teg am eu hymroddiad i'n cymunedau.

14:40

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am ymateb ystyriol a pharchus. Mae'r mater arall rwyf wedi gorfod ei godi, yn anffodus, yn ymwneud â'r cyfrinachedd sy'n digwydd o fewn rhai awdurdodau lleol o ran y trafodion democrataidd a sut y mae'r wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd ohonynt. Nawr, rwy'n falch iawn o fod yn Aelod Cynulliad ac yn rhan o'r sefydliad hwn, pan fo tryloywder a chaniatáu i'r cyhoedd weld ein trafodion—. Gallant fynd ar Senedd.tv i'w gweld. Ond y ffaith amdani yw ein bod yn parhau i weld—ac fe welwch y datganiad rydym wedi'i ryddhau heddiw. Rydym wedi casglu ffigurau o'r nifer o weithiau y caiff aelodau'r cyhoedd a'r wasg eu hepgor pan gaiff penderfyniadau pwysig iawn eu gwneud o fewn awdurdodau lleol. Y llynedd, cafodd y cyhoedd eu gwahardd o 93 y cant o gyfarfodydd Pen-y-bont ar Ogwr, 81 y cant o gyfarfodydd Conwy, a 71 y cant o gyfarfodydd Merthyr Tudful. Hoffwn ychwanegu, gyda Chonwy wrth gwrs, ffigurau'r weinyddiaeth flaenorol oedd y rhain. Nawr, mae penderfyniadau a wneir ar lefel leol yn effeithio mor uniongyrchol ar fywydau, swyddi, cartrefi ac ardal leol ein trigolion, ac fel y cyfryw, mae cyfrinachedd a diffyg cyfranogiad, ymgysylltiad a galluogi yn peri pryder gwirioneddol. Nawr, wrth edrych ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â llywodraeth leol—ac nid wyf yn rhoi'r bai arnoch chi am un eiliad—mae'r cyfrifoldeb am y portffolio hwn wedi newid dwylo bum gwaith mewn chwe blynedd. Yn y bôn, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod cael trefn ar y materion sydd bwysicaf i'r rheini sy'n dibynnu, i raddau helaeth, ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol hanfodol a mawr eu hangen. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, sut y byddwch yn cael trefn ar y portffolio hwn ac yn hyrwyddo gonestrwydd ariannol effeithlon, mwy o dryloywder a gwir atebolrwydd democrataidd?

Mae gennyf ddiddordeb, Ddirprwy Lywydd, yn y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o gyfarfodydd. Efallai y bydd o ddiddordeb i'r Aelodau fy mod wedi bachu ar y cyfle i fynychu cyngor llawn ym Mlaenau Gwent fore dydd Iau diwethaf pan oeddwn yn fy etholaeth, a gofynnwyd i mi adael y cyfarfod ar un adeg, er mwyn iddynt allu trafod materion y gwaharddwyd y cyhoedd rhag eu clywed. Nawr, rwy'n hyderus eu bod yn gwneud hynny am y rhesymau cywir a'u bod yn dadlau ac yn trafod materion y dylid eu cynnal yn breifat. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom sy'n cyflawni cyfrifoldebau cyhoeddus i wneud hynny mewn ffordd sy'n dryloyw ac yn agored er mwyn annog a gwella a chryfhau democratiaeth, rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni i gyd.

Mae'r Aelod yn gofyn nifer o gwestiynau cysylltiedig i raddau. O ran y materion ehangach ynglŷn â thryloywder ac atebolrwydd, i mi, mae atebolrwydd yn ymwneud â'r gallu i gael gwared ar bobl a dwyn pobl i gyfrif os ydynt yn methu neu os nad ydynt yn cyflawni. Nawr, nid yw'n fater i mi wneud sylwadau ar benodiadau cabinet, ond mae'n fater i mi geisio sicrwydd bod y fframweithiau sydd gennym ar gyfer llywodraeth leol yn darparu lefel o dryloywder, didwylledd ac atebolrwydd. Er mwyn cael hynny, rydym angen symlrwydd o ran ein strwythurau a'n prosesau a'n gweithdrefnau. Rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd. Nid wyf yn credu bod—. Soniodd Siân Gwenllian am densiwn rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn ei chwestiynau, ond gobeithio y gallwn i gyd gytuno ar gyfres o egwyddorion sylfaenol pwysig y byddwn yn gweithredu arnynt. Credaf mai ymddiriedaeth, parch, didwylledd, tryloywder ac ymrwymiad i bartneriaeth a chydweithrediad go iawn yw'r hyn y mae llywodraeth leol ei eisiau gan y Llywodraeth hon, dyna y mae'r Llywodraeth hon yn ei gynnig i lywodraeth leol, ac rwy'n credu mai dyna y dylai llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ei ddangos i'n hetholwyr.

14:45

Diolch. Rydych yn gwneud yn dda iawn hyd yn hyn. Daliwch ati. Addawodd mwy nag un o'ch rhagflaenwyr—

Gallwch chithau wneud yn dda iawn drwy ofyn y cwestiwn yn unig gan eich bod bedair munud dros amser.

Addawodd mwy nag un o'ch rhagflaenwyr sicrhau y byddai cyfarfodydd cynghorau yn cael eu gweddarlledu, ac wrth wneud hynny, darparasant £40,000 i bob awdurdod lleol. Rwyf wedi derbyn sylwadau gan drigolion yng Nghonwy, ledled gogledd Cymru a thu hwnt, o gyn belled â Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf, sy'n pryderu nad yw'r prosesau democrataidd o wneud penderfyniadau yn hygyrch iddynt gan nad yw cyfarfodydd cyngor a'r cabinet ar gael drwy'r systemau gweddarlledu y mae eich Llywodraeth wedi darparu cyllid ar eu cyfer. Wrth fwrw ymlaen gyda'r Bil llywodraeth leol arfaethedig, a allwch gadarnhau i ni heddiw—. Gwn fod Mark Drakeford AC, eich rhagflaenydd uniongyrchol, wedi addo sicrhau bod gweddarlledu yn ofyniad gorfodol. A wnewch chi gadw at hynny mewn unrhyw broses o ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol?

Gwnaf, yn sicr. Rwy'n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet, gan obeithio y bydd yn nodi mewn rhyw ffordd ei fod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw [Chwerthin.] Mae wedi gwneud hynny. Ar sail hynny, rwy'n ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw ar ran y Llywodraeth heddiw.

Gwasanaethau Llywodraeth Leol Anstatudol

3. Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi gwasanaethau llywodraeth leol anstatudol yng Nghymru? OAQ51565

Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer ein holl awdurdodau lleol, fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny, y rhai statudol a'r rhai anstatudol, barhau i gael eu darparu. Mae darpariaeth gwasanaethau lleol, fodd bynnag, yn fater i'w benderfynu'n lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwasanaethau hamdden yn hanfodol i iechyd ac ansawdd bywyd a mwynhad ein pobl yma yng Nghymru. A wnewch ymuno â mi i gydnabod gwerth a chyfraniad Casnewydd Fyw, sy'n darparu gwasanaethau hamdden, chwaraeon a diwylliannol? Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o gyfarfodydd y maent wedi eu cael gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ac amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, i sicrhau ein bod yn cymryd camau i ysgogi ein poblogaeth leol i fod yn fwy egnïol. Credaf fod hynny'n dyst i ehangder gweledigaeth Casnewydd Fyw a'r cyfraniad y maent yn ei wneud. Yn ddiweddar, cawsant lwyddiant gydag ymgais i ddenu'r gemau trawsblaniadau i Gasnewydd, a fydd yn arwain at fuddion amlwg iawn. Felly, buaswn yn falch iawn pe baech yn ymuno â mi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud, ac yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda hwy a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod y boblogaeth leol yn elwa o'r manteision hyn.

Gwnaf, yn sicr, Ddirprwy Lywydd. Gwn fod yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi bod yn hybu ffordd iach o fyw a ffordd egnïol o fyw ers blynyddoedd lawer yn y lle hwn, a'i fod yn byw yn y ffordd honno hefyd, sy'n esiampl gyson i'r gweddill ohonom. A gaf fi ddweud hyn: mae Casnewydd Fyw yn elwa o berthynas gref, gyda chyngor blaengar yng Nghasnewydd, ac arweinyddiaeth ddynamig sy'n ceisio sicrhau bod sefydliadau yn y ddinas yn gweithio gyda'i gilydd? Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae Casnewydd Fyw yn ei wneud o ran annog a chefnogi teuluoedd ag anghydraddoldebau iechyd i fyw bywyd iach. Mewn llawer o ffyrdd, credaf y gall hon fod yn esiampl i nifer o sefydliadau ac awdurdodau eraill ledled gweddill Cymru.

14:50

Ysgrifennydd y Cabinet, o ganlyniad i'r setliad llywodraeth leol gwael, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi toriadau i nifer o wasanaethau statudol. Mae'r rhain yn cynnwys toriadau i glybiau brecwast ysgolion, cludiant ar gyfer plant ag anghenion arbennig, gweithgareddau ar gyfer pobl ag awtistiaeth, a gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd. Yn ogystal, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu torri eu cyfraniad i wasanaeth dod o hyd i blant coll ar draws Gwent. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i adolygu cynllun Cyngor Dinas Casnewydd i weld beth y gall ei wneud i leddfu effaith toriadau i'r gwasanaethau hyn yng Nghasnewydd? Diolch.

Na. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw gwneud y penderfyniadau hynny. Nid wyf yn bwriadu ymyrryd neu feirniadu neu wneud sylwadau ar y penderfyniadau hynny. Dywedais ddoe yn y ddadl a gawsom fod arweinwyr awdurdodau lleol ac awdurdodau lleol yn ymdopi ag adeg eithriadol o anodd, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i unrhyw Aelod Ceidwadol a ddaw i'r Siambr hon i gwyno ac i achwyn am doriadau gwariant ddechrau edrych gartref ac ar gyfrifoldeb Llywodraeth Geidwadol sydd wedi methu cyflawni drwy flynyddoedd o gyni, naill ai o ran twf economaidd neu o ran lleihau'r diffyg. Ar bob amcan a osodwyd ganddynt, maent wedi methu, a'r unig beth cyson a welsom gan Lywodraeth Geidwadol y DU yw methiant.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OAQ51546

Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud cynnydd cadarnhaol o ran cyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ar ôl cyhoeddi eu hasesiadau o lesiant lleol, mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus bellach yn ymgynghori ar eu cynlluniau llesiant drafft. Mae'n rhaid i'r ffocws newid wedyn i wneud gwahaniaeth i'w cymunedau.

Diolch am eich ateb. Pan sefydlwyd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn 2016, un o'r amcanion oedd amcan penodol a luniwyd i sicrhau bod cyfraniad y byrddau gwasanaethau cyhoeddus at y nodau llesiant mor fawr â phosibl. Pa gynnydd a wnaed tuag at gyflawni hyn?

Ar hyn o bryd, mae'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ymgynghori ar eu hamcanion fel rhan o'u cynlluniau llesiant. Mae'n rhaid i'r cynlluniau llesiant lleol egluro pam y bydd yr amcanion a ddewiswyd gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn sicrhau y bydd eu cyfraniad at y broses o gyflawni eu nodau llesiant cenedlaethol mor fawr â phosibl.

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod wedi gweld rhai o'r cynlluniau hyn. Mae ansawdd rhai ohonynt, a dweud y gwir, yn amrywio, a gawn ni ddweud? Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac eraill i sicrhau ein bod yn darparu cymorth i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus gyflawni'r math o gynlluniau yr hoffai pawb ohonom ei weld.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i groesawu'r mentrau y mae rhai byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi'u rhoi ar waith er mwyn sicrhau eu bod yn gallu atgyfnerthu eu gwaith. Rwy'n ymwybodol fod Conwy a Sir Ddinbych wedi uno'n ffurfiol i greu un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, fel Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae Ynys Môn a Gwynedd wedi dewis cydweithio i gynhyrchu cynllun asesu ar y cyd ar gyfer eu hardaloedd. Croesawaf y mentrau hynny, a chroesawaf y ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi mynd i'r afael â'r materion hyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r byrddau hyn yn anweledig i raddau helaeth, ac yn sicr mae angen ffocws cliriach arnynt. Credaf y dylent fod yn gyfrifol am ddangos sut y maent yn rhoi Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol ar waith. A gallant wneud hynny drwy ddangos, efallai mewn adroddiad blynyddol, beth sy'n newid, pa wasanaethau sydd wedi'u haddasu, ar ba wasanaethau y mae gwaith yn cael ei wneud ar y cyd er mwyn eu darparu, fel y gallwn weld yr agenda newid ar waith mewn gwirionedd.

Mae'r Aelod Ceidwadol dros Ganol De Cymru wedi disgrifio fy nisgwyliadau innau hefyd. Hoffwn ddweud, yn garedig iawn, ein bod megis dechrau'r broses hon, yn hytrach na hanner ffordd drwyddi neu wedi'i chwblhau. Mae byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus yn cynnal eu hymgynghoriad ar hyn o bryd. Byddai croeso i'r Aelod, wrth gwrs, gyfrannu at ei fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei hun gyda'r sylwadau hynny, a buaswn yn croesawu hynny'n fawr iawn. Yn sicr, y prawf ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, a'r prawf ar gyfer y broses hon, yw sut y mae'n effeithio ar fywydau pobl. Dyna'r mater allweddol i bob un ohonom, ac yn sicr, dyna y byddaf yn ceisio mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol.

Lwfansau Cynghorau

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr amserlen ar gyfer adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru? OAQ51544

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, fel y'i diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i'r panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol gynnal ymgynghoriad wyth wythnos ar ei adroddiad drafft a chynhyrchu ei adroddiad blynyddol terfynol erbyn 28 Chwefror. Yna, bydd ei ddyfarniadau yn dod i rym yn y flwyddyn ariannol nesaf.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, a ymatebodd i lythyr ar y cwestiwn hwn ychydig ddyddiau yn ôl yn unig? Efallai bod eich ateb yn methu'r pwynt i raddau, gan fod hyn yn ymwneud ag amseriad adroddiad panel annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol ar lwfansau ar gyfer aelodau etholedig. Mae'n rhaid i gynghorau lleol, wrth gwrs, bennu eu cyllidebau erbyn canol mis Ionawr. Golyga hynny naill ai fod yn rhaid i'r cynghorau ddyfalu beth fydd yn yr adroddiad terfynol, neu ddarparu ar gyfer rhywbeth na fydd yn digwydd o gwbl o bosibl. A gaf fi ofyn i chi ystyried gofyn i'r panel ddechrau eu hymgynghoriad yn gynharach ac i gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol erbyn diwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn? Byddai hynny, wrth gwrs, yn caniatáu cynghorau i ystyried penderfyniadau yn ystod eu proses gyllidebu.

14:55

Rwy'n ymwybodol o'r pryderon y mae Cyngor Tref y Trallwng, rwy'n credu, wedi eu codi gyda'r Aelod. Byddaf yn ystyried y pwyntiau a godir ganddo, ond dywedaf wrtho hefyd fod canllawiau eisoes ar gael i gynghorau tref a chymuned ar sut y maent yn rheoli eu harian. Mae gennym ganllawiau i ymarferwyr, a gyhoeddwyd gan Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ac maent wedi cael eu hysgrifennu yn benodol ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Hoffwn awgrymu yn garedig ei fod yn gofyn i'r cyngor tref yn y Trallwng ystyried y materion sy'n cael sylw yn y canllawiau hynny, a gobeithiaf y bydd hynny'n datrys y materion y maent wedi eu dwyn i'w sylw.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch a diolch i'r cynghorwyr tref a chymuned ymroddgar sy'n gwneud cymaint ar gyfer eu cyd-ddinasyddion yn fy etholaeth ac mewn sawl rhan o Gymru? I roi enghraifft, mae cynghorau tref y Bont-faen a'r Barri yn hyrwyddo eu trefi fel trefi masnach deg, ac mae'r Barri yn hyrwyddo eu tref fel y dref gyntaf yng Nghymru i fod yn dref cyflog byw gwirioneddol.

Gwnaf, yn sicr. Credaf fod yr Aelod yn rhoi enghreifftiau gwych iawn o'r gwahaniaeth y gall cynghorau tref a chymuned ei wneud. Gan i mi gael fy magu yn Nhredegar, gwn fod Cyngor Tref Tredegar bob amser wedi bod yn rym a ddôi â daioni i'r dref, a heddiw, credaf ei fod yn fodel o'r hyn y gall cyngor tref ei gyflawni ar gyfer y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu. Mae'r enghreifftiau a roddodd yr Aelod ym Mro Morgannwg hefyd yn darparu enghreifftiau eraill o sut y gall cynghorau tref a chymuned chwarae rôl hanfodol mewn perthynas â lles a bywoliaeth cymunedau. A gaf fi ddweud hyn: mae gennym grŵp yn edrych ar hyn o bryd ar rôl cynghorau tref a chymuned yn y dyfodol? Yr hyn yr hoffwn ei weld yw sut y gallwn gryfhau rôl y cynghorau tref a chymuned. Credaf fod llawer o bryderon ymhlith etholwyr ynglŷn â sut y mae ein trefi'n datblygu a sut y rheolir newid mewn llawer o'n trefi bach ledled Cymru gyfan. Teimlaf a chredaf fod potensial pwysig iawn gan gynghorau tref i gyflawni rôl o fewn trefi a chymunedau ledled y wlad, ac yn sicr, buaswn yn croesawu unrhyw awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer cryfhau eu rolau yn y dyfodol.

Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Benfro

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus lleol yn Sir Benfro? OAQ51534

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl yn Sir Benfro a ledled Cymru. Mae eu gallu a'u gwydnwch yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol mewn cyfnod heriol yn flaenoriaeth i mi a'r Llywodraeth hon.

Wrth gwrs, un ffordd o sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus lleol yn wirioneddol leol yw sicrhau nad yw gwasanaethau yn cael eu canoli a bod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn wirioneddol leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi felly na ddylid uno awdurdodau lleol fel Sir Benfro, gan fod gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cael eu darparu orau gan awdurdodau lleol unigol sy'n atebol i bobl leol, ac mai'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno yw sicrhau ein bod yn gweld cydweithio gwirioneddol ystyrlon rhwng ein hawdurdodau lleol?

Gobeithiaf y byddwn yn gweld cydweithio gwirioneddol ystyrlon ymhlith awdurdodau yn y dyfodol. Mae angen inni allu darparu gwasanaethau ar raddfa sy'n gadarn ac sy'n cyflawni rhagoriaeth o ran darparu'r gwasanaethau ac ar gyfer y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny. Bydd y modd rydym yn darparu gwasanaethau yn wahanol mewn rhan wledig o orllewin Cymru, a gynrychiolir gan yr Aelod yng ngogledd Sir Benfro, i'r hyn a fydd yng nghanol Caerdydd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau ein bod yn gallu ystyried sut rydym yn strwythuro llywodraeth leol yn y dyfodol i'n galluogi yn y ffordd orau i ddarparu'r gwasanaethau a ddisgrifiodd yr Aelod, ond hefyd yr atebolrwydd rydym eisoes wedi'i drafod y prynhawn yma. Rwy'n awyddus i weld gwasanaethau effeithiol a democratiaeth wreiddiedig mewn gwahanol rannau o'r wlad, sy'n ddadl ddemocrataidd a chyfoethog ynghylch dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Byddaf yn gwneud datganiadau ar hyn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Gobeithiaf gyfarfod cyn bo hir â swyddogion ac aelodau cabinet Sir Benfro i drafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Sir Benfro wedi cynnal dadl gyhoeddus ynghylch codiadau yn y dreth gyngor ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a gyhoeddwyd. Pa neges a fyddai gennych ar gyfer Cyngor Sir Penfro a hefyd ar gyfer y trethdalwyr yno os oes cyfradd sydd ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn cael ei gosod?

15:00

Nid wyf yn siŵr a yw'n gymorth i'r drafodaeth ar ddemocratiaeth leol y bu Siân Gwenllian yn ei hybu'n gynharach yn y sesiwn hon os yw Gweinidogion yn beirniadu ac yn gwneud sylwadau ar benderfyniadau awdurdodau lleol. Rwy'n credu mewn llywodraeth leol. Rwy'n credu mewn gwneud penderfyniadau yn lleol. Rwy'n credu mewn democratiaeth leol. A golyga hynny y dylai fod gan arweinwyr gwleidyddol lleol sy'n atebol yn ddemocrataidd hawl i wneud penderfyniadau y byddaf efallai yn anghytuno â hwy, y bydd Aelodau eraill yma efallai yn anghytuno â hwy, y bydd Aelodau sy'n byw yn yr ardal honno efallai yn anghytuno â hwy, ond mae ganddynt hawl i wneud y penderfyniadau hynny ac yna, mae'n rhaid iddynt ddadlau eu hachos gerbron yr etholwyr lleol, a fydd yn eu dwyn i gyfrif am y penderfyniadau hynny.

Mae'r dreth gyngor yn Sir Benfro wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru yn gyson. Pennir y dreth gyngor gan yr holl gynghorwyr, nid gan y weithrediaeth yn unig, yn yr un ffordd ag y mae'r swm o arian a werir yma a'r swm o arian a godir yma yn cael ei osod gan holl Aelodau'r Cynulliad. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod codiadau yn y dreth gyngor yn fater ar gyfer cynghorwyr etholedig, a fydd yn atebol i etholwyr lleol am eu penderfyniadau?

Pleser o'r mwyaf yw gallu cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Bu i mi anghytuno ag ef unwaith ar faterion llywodraeth leol, ni fyddaf byth yn gwneud hynny eto, ac rwy'n falch iawn nad oes yn rhaid i mi wneud hynny y prynhawn yma.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gymdeithasau tai yn Nhorfaen wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ51575

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, yr heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol y gall yr holl ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru ei ddefnyddio.

Diolch, Weinidog. Yn anffodus, rwyf wedi gweld cryn gynnydd yn ddiweddar yn nifer y cwynion gan denantiaid ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn achosion difrifol iawn a hyd yn oed yn achosion lle roedd bywyd yn y fantol. Un o'r pethau sy'n ymddangos yn gyson yw amharodrwydd pobl i roi tystiolaeth am eu bod ofn y bydd rhywun yn dial arnynt, ac er bod cynnydd wedi bod yn y defnydd o dystion proffesiynol i gefnogi achosion dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n anochel na fyddant yn gweld neu'n dyst i'r un broblem â rhywun sy'n byw gyda sefyllfa 24/7. Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid yn Nhorfaen yn cael eu diogelu'n well i sicrhau bod achosion o'r fath yn cael eu trin yn fwy effeithiol, a hyd yn oed i'w hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf?

Diolch am godi'r mater pwysig hwn, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol y mae eich etholwyr wedi eu hwynebu. Cyfarfûm â'r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, yn gynharach yn yr wythnos, a'i ddirprwy, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i arwain y gwaith hwnnw, sy'n datblygu adnodd ar gyfer pob darparwr tai cymdeithasol, gobeithio, yn amodol ar werthusiad llwyddiannus y cynllun peilot hwnnw. Ac rwy'n bwriadu ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ar ôl y gwerthusiad. Rwy'n disgwyl cael yr adroddiad llawn erbyn diwedd mis Mawrth, ac rwy'n awyddus i wybod pa awdurdodau lleol a pha landlordiaid cymdeithasol yn enwedig a fyddai'n elwa fwyaf o ddefnyddio'r adnoddau. Felly, pe gallem gael sgwrs efallai, a nodi rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig penodol yn Nhorfaen, gallai hwnnw fod yn fan da i allu dechrau gwneud rhywfaint o gynnydd. Yn amlwg, mae materion cyfrinachedd ynghlwm wrth hyn, felly os hoffech i mi ofyn i fy swyddogion siarad gydag unrhyw landlordiaid penodol ynglŷn â'r materion y mae eich etholwyr yn eu hwynebu, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cwestiynau amserol, a daw'r cwestiwn amserol y prynhawn yma gan Russell George.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae cynnwrf dealladwy ynghylch y penderfyniad—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ie.

Y Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn TVR

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR? 103

Mae hynny'n helpu; nawr mae pob un ohonom yn gwybod am beth rydych yn sôn.

Yn wir, rwy'n rhannu cynnwrf yr Aelod ynglŷn â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn TVR, sy'n dilyn proses o ddiwydrwydd dyladwy trylwyr, a darparwyd benthyciad masnachol ad-daladwy o £2 filiwn gennym yn gynnar yn 2016. Gwnaed hyn ochr yn ochr â benthyciwr o'r sector preifat. Rydym hefyd wedi buddsoddi £500,000 mewn ecwiti ar yr un telerau â buddsoddwyr eraill, gan roi cyfran leiafrifol o 3 y cant i Lywodraeth Cymru yn TVR, er mwyn sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn elwa o lwyddiant y cwmni.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—roeddwn wedi cynhyrfu gormod wrth ofyn fy nghwestiwn.

Wrth gwrs, mae'r bri sydd i fathodyn TVR yn un peth, ond wrth gwrs, nid hynny yw'r unig beth y dylid ei ystyried. Mae £2.5 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r cyhoedd, wrth gwrs, yn awyddus i weld tystiolaeth fod arian trethdalwyr yn cael ei ddiogelu'n briodol. Nawr, mae papurau a ffeiliwyd gyda Thŷ'r Cwmnïau yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y cwmni na fydd £2 filiwn o'r benthyciad yn ad-daladwy, cyhyd â bod y cwmni yn sicrhau buddsoddiad o'r sector preifat sy'n gyfwerth neu'n fwy na £5.5 miliwn. A gaf fi ofyn i chi gadarnhau bod hynny'n gywir?

Yn ystod y pwyllgor y bore yma, nid oeddech yn gallu cadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru sylwedydd ar fwrdd TVR. Tybed a allwch egluro'r sefyllfa honno hefyd. A hyd yma, chwe swydd yn unig sydd ynghlwm wrth y ddau gwmni rhestredig sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad hwn. Nawr, mae synnwyr cyffredin masnachol a pharch am arian trethdalwyr yn golygu bod yn rhaid sicrhau budd economaidd i'r gwariant hwn. Felly, a gaf fi ofyn pa amodau y mae'r Llywodraeth wedi eu gosod ar TVR yn gyfnewid am fuddsoddiad, ac erbyn pa ddyddiad y bydd y 150 o swyddi a addawyd yn dod i fodolaeth? Ac yn olaf, a ydych yn cytuno bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol ac economaidd i bobl Blaenau Gwent i sicrhau nad yw'r prosiect cyffrous hwn yn troi yn siom arall i'r ardal honno?

15:05

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud bod y car wedi bod yn llwyddiant, yn fasnachol ac o safbwynt beirniadol, sy'n bwysig iawn? Roedd yr ymateb yn eithaf rhyfeddol yn Goodwood yn yr hydref pan gafodd ei ddadorchuddio. Mae'n beiriant hynod. Mae'r dyluniad yn cynnwys elfennau unigryw ac arloesol o ddylunio modurol gan Gordon Murray, sy'n adnabyddus i arbenigwyr modurol fel un o ddylunwyr gorau'r byd. Credaf fod ei gyfraniad ef i'r cerbyd wedi sicrhau ei fod yn llwyddiant o'r cychwyn cyntaf o ran archebion. Mae'r llyfr archebion yn iach iawn. Buaswn yn annog yr Aelodau i fanteisio ar y cyfle i weld y car pan fydd yn cael ei lansio yng Nghymru.

O ran yr amodau a atodwyd wrth y benthyciad a'r gyfran ecwiti, credaf fod yr Aelod wedi codi pwynt pwysig ynglŷn ag elfen ad-daladwy'r cyllid rydym wedi'i gynnig. Nid yw'n gywir fod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r £2 filiwn yn ad-daladwy. Mae'r £2 filiwn yn gwbl ad-daladwy. Bydd y benthyciad yn para am gyfnod o bum mlynedd. Daeth yn weithredol ym mis Mawrth 2016. Fodd bynnag, os nad ydynt yn dod â—. Credaf fod rhywfaint o'r dryswch yn deillio o amod yn y cymorth a ddywedai, os nad oeddent yn sicrhau bod y gwaith gweithgynhyrchu yn dod i Gymru, y gallem fynnu bod y benthyciad hwnnw'n cael ei ad-dalu ar unwaith. O ganlyniad i'r ffaith nad ydym wedi mynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar unwaith, credaf fod rhai wedi camddehongli hynny gan gredu bod Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes angen ad-dalu'r benthyciad. Y ffaith amdani yw: bydd yn cael ei ad-dalu.

O ran y gyfran ecwiti a gymerwyd gennym yn y cwmni, unwaith eto, mae honno wedi'i diogelu gan y gallwn fynnu bod y cwmni'n prynu'r ecwiti a gymerwyd gennym yn y cwmni yn ôl, naill ai am bris y farchnad neu am y gost wreiddiol, pa un bynnag sydd fwyaf. Ond fel y dywedais yn gynharach, cafodd y car ymateb anhygoel yn y lansiad, mae'r llyfr archebion yn iach iawn, mae'r farchnad ar gyfer y math hwn o gerbyd yn fywiog ledled y byd, a chredaf y bydd y car yn llwyddiant enfawr. Mae'n atgyfodi un o'r brandiau modurol mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain, a dangosodd yr archebion a gymerwyd yn Goodwood yn enwedig, pan fo pobl yn gweld y cerbyd o flaen eu llygaid, maent yn ymateb drwy ysgrifennu sieciau.

Nawr, o ran manteision y cynllun a'r amserlen wrth fwrw ymlaen, nododd TVR mai adeilad sy'n eiddo preifat ar ystâd ddiwydiannol Rasa yw'r opsiwn gorau ar gyfer eu gweithgynhyrchu, ac o ganlyniad, treuliodd swyddogion Llywodraeth Cymru fisoedd lawer yn negodi gyda'r perchenogion preifat i sicrhau'r adeilad hwnnw. Ar ôl cwblhau'r cytundeb hwnnw, mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru a TVR wrthi'n cwblhau cytundeb prydlesu. Yn y cyfamser, rydym yn falch fod TVR yn negodi i gymryd les tymor byr ar ffatri fach gerllaw er mwyn cwblhau'r gwaith datblygu peirianegol, ond mae ganddynt swyddfa ar y safle hefyd, lle mae nifer fechan o bobl yn gweithio ar y prosiect ar hyn o bryd. Yn y tymor hirach, erbyn chwarter 2 yn 2019, rydym yn anelu i sicrhau bod TVR yn gweithgynhyrchu'r cerbyd ar gyfer ei werthu y flwyddyn nesaf. Erbyn hynny, rydym hefyd yn disgwyl bod nifer sylweddol o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle—dros 100 o bobl. Bydd hyn yn hynod o bwysig i Flaenau Gwent, nid yn unig o ran y cynnig cyflogaeth, ond hefyd o ran ail-lunio canfyddiadau a rhoi cryn dipyn o hyder i'r ardal honno.

15:10

A atebodd Ysgrifennydd y Cabinet y cwestiwn mewn perthynas ag aelodaeth y bwrdd, oherwydd roedd yn ansicr, pan ofynnwyd iddo y bore yma, pa un a yw'r Llywodraeth wedi enwebu, nid cyfarwyddwr mae'n debyg, yn ôl cyfrifon y cwmni, ond sylwedydd enwebedig, o leiaf? Ai polisi'r Llywodraeth yw sicrhau bod ganddynt sylwedyddion enwebedig mewn sefyllfaoedd fel hyn lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd cyfran ecwiti? Dywedodd y bore yma mai'r rheswm y cymerodd y Llywodraeth gyfran uniongyrchol yn yr achos hwn, yn hytrach na mynd drwy'r banc datblygu, gan nad oedd y banc datblygu wedi'i sefydlu—. Ond ai'r polisi o hyn ymlaen fydd cymryd y cyfrannau ecwiti hynny drwy'r banc datblygu, sy'n ymdrin â buddsoddiadau ar sail reolaidd, ac a fyddai'n ymddangos felly'n ffordd fwy synhwyrol o fynd ati?

A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth bob tro ar gyfran ecwiti—? Hynny yw, 'does bosib nad yw hyn yn wahanol i grant neu fenthyciad. Os yw'r Llywodraeth yn ymgymryd â rhan-berchnogaeth mewn cwmni, 'does bosib nad cyfrifoldeb y BBC yw adrodd ar hynny—dylid darparu'r wybodaeth honno naill ai mewn datganiad ysgrifenedig neu ddatganiad ar lawr y Cynulliad.

Rwy'n fwy na pharod i gyhoeddi datganiadau ysgrifenedig i roi cadarnhad pan fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfran ecwiti mewn cwmni. Gofynnodd yr Aelod ynglŷn â rôl Cyllid Cymru fel yr arferai fod, a'r banc datblygu fel y mae bellach. Mae'r banc datblygu yn monitro cynnydd y busnes, ond y rheswm na allai Cyllid Cymru wneud buddsoddiad ased yn TVR, yn rhannol, oedd am na allent wneud buddsoddiad yn TVR, am fod y cwmni, ar y pryd, wedi eu lleoli y tu allan i Gymru. Roedd modd i ni wneud, ar yr amod fod gweithgynhyrchu'n dod i Gymru.

O ran cynrychiolaeth ar y bwrdd, fel cyfranddaliwr lleiafrifol, gyda 3 y cant yn unig, ni fyddai disgwyl inni allu cyflwyno aelod o'r bwrdd. Fodd bynnag, fel y dywedais y bore yma, mae un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd fel sylwedydd, ac wrth gwrs, rwy'n craffu'n ofalus ar weithgarwch a chynnydd o ran y cerbyd arbennig hwn, ond ar y cwmni yn ei gyfanrwydd hefyd.

Dechreuodd Hewlett-Packard, wrth gwrs, gyda dau o bobl, a Facebook gydag un, felly ni chredaf fod nifer y bobl sydd gennych ar y dechrau yn bwysig iawn; y nifer o bobl sydd gennych ar y diwedd sy'n bwysig.

Mae tair ffordd o ariannu: grantiau neu fenthyciadau nad ydynt yn ad-daladwy, fel roeddent yn arfer cael eu disgrifio, benthyciadau ac ecwiti. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y mae wedi dewis ecwiti yn yr achos hwn?

Fe ddewisom ni gymysgedd o fenthyciad ac ecwiti: ecwiti, yn rhannol, i sicrhau bod modd inni elwa o lwyddiant y cwmni, fel rwyf eisoes wedi dweud, a'r benthyciad er mwyn sicrhau bod y gwaith gweithgynhyrchu yn dod i Gymru. Ceir risg a budd gydag unrhyw fuddsoddiad, ond gyda'r buddsoddiad penodol hwn, mae'r brand yn hynod o gryf ac felly mae cryn botensial ar gyfer budd. Mae'r potensial ar gyfer budd i Flaenau Gwent, unwaith eto, yn enfawr o bosibl, ac felly credaf fod y cydbwysedd rhwng risg a budd yn gwyro i raddau helaeth tuag at fudd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n codi heddiw, nid yn gymaint i ofyn cwestiwn, ond er mwyn dweud bod UKIP yn croesawu ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y buddsoddiad hwn, yn enwedig gan ei fod yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac rwy'n gwbl sicr y bydd etholwyr Glyn Ebwy yn croesawu'r cyhoeddiad hwn yn llwyr. Mae TVR yn ticio'r holl flychau o ran dymunoldeb: brand uwch-dechnoleg eiconig a delwedd fyd-eang o ragoriaeth ym maes dylunio, gyda sylfaen gwsmeriaid brofedig a ffyddlon. Mae cryn botensial i allforio cerbydau dyluniedig o'r fath i economïau cyfoethog sy'n dod i'r amlwg. Os ydym yn awyddus i ehangu ein sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru, ni allaf feddwl am neb gwell na'r math hwn o gwmni i dderbyn cyllid. Unwaith eto, rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y cyhoeddiad hwn. Efallai fod gennyf gwestiwn: pryd y gallwn gael mwy o'r un peth?

15:15

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am groesawu ein penderfyniad i fuddsoddi yn TVR? Rwy'n rhannu ei ffydd yn y cwmni. Maent yn un o'r gweithgynhyrchwyr modurol ym Mhrydain sydd â'r nifer fwyaf o selogion brand, a chredaf fod enwi'r car penodol hwn yn Chimaera hefyd yn cydnabod treftadaeth gref y brand. Yn y gorffennol, bu dau Chimaera; hwn yw'r trydydd. Ar hyn o bryd, os ydych yn bwriadu buddsoddi mewn hen gar, dywedir bod y Cerbera a'r Chimaera gwreiddiol ymhlith yr hen geir sy'n cynyddu gyflymaf o ran gwerth ar hyn o bryd. Rwy'n sicr y bydd y Chimaera newydd, a fydd yn cael ei gynhyrchu o'r flwyddyn nesaf ymlaen, yr un mor boblogaidd, nid yn unig ymysg selogion presennol TVR, ond hefyd ymhlith prynwyr newydd ledled y byd.

Diolch i'r Gweinidog am ei atebion hyd yn hyn. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn llwyr gefnogi cymorth y Llywodraeth i gwmnïau, yn enwedig pan fônt yn gynigion cyffrous a dynamig. Yr hyn sy'n peri pryder inni yw pan fo busnesau eraill yn nodi bod cymorth yn cael ei roi i gwmnïau, a gwrthodir cymorth iddynt hwy. Yn benodol, maent yn tynnu sylw at y set ddiwethaf o gyfrifon a gyhoeddwyd gan TVR sy'n nodi'n glir, ac rwy'n darllen o'r cyfrifon, fod y benthyciad o £2 miliwn wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru, ac aiff ymlaen i ddweud bod y benthyciwr—sef chi—

wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw fwriad i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu

Credaf fod angen egluro hynny, gan nad yw'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'r arian hwnnw yn ad-daladwy ymhen pum mlynedd, fel y nododd y Gweinidog, neu ei fod ar delerau masnachol. Mae'r datganiad hwnnw, o safbwynt arsylwadol, yn eithaf camarweiniol.

Dywed hefyd fod yn rhaid i'r cwmni godi £5.5 miliwn yn ychwanegol o ecwiti. Mae'r Gweinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £500,000 fel cyfran ecwiti. A all roi gwybod inni hefyd faint o'r £5.5 miliwn hwnnw o ecwiti a godwyd, ar wahân i'r £0.5 miliwn a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru, i roi arwydd inni o faint o hyder sydd gan fuddsoddwyr eraill yn yr hyn a allai fod, o bosibl, os caiff ei gyflawni fel yr addawyd, yn ddatblygiad cyffrous i Flaenau Gwent?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac awgrymu, er mwyn dangos ei gefnogaeth i TVR yn glir, ei fod yn archebu Chimaera newydd heddiw? Mae'n wir fod y set ddiwethaf o gyfrifon yn datgan hynny, ond mae'n anghywir rhagdybio nad yw'r benthyciad yn ad-daladwy. Nid oeddem yn gyfrifol am gyflwyno'r nodiadau hynny, ond mae'r dyfyniad ynglŷn â diffyg 'unrhyw fwriad i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu', fel y dywedais wrth Russell George, yn ymwneud â'r cymal roeddem wedi'i gynnwys yn y gefnogaeth a fyddai wedi ein galluogi i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar unwaith pe bai'r cwmni yn penderfynu peidio â dod â gwaith gweithgynhyrchu'r Chimaera i Gymru. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir, oherwydd y buddsoddiad a wnaed eisoes yn y gweithfeydd a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt i gaffael y ffatri fechan, ac yn wir, y gwaith y mae ein swyddogion yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleuster llawn yn barod ar gyfer dechrau'r broses gynhyrchu. Felly, bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu'n llawn.

O ran ecwiti, wrth gwrs, roedd ein hecwiti yn sylweddol. Fodd bynnag, mae'r cwmni wedi llwyddo i ddenu'r ecwiti gofynnol i gynhyrchu'r cerbyd hwn. Yn ychwanegol at y gwaith craffu a wnaed gan KPMG ar y cynllun busnes cyn y penderfyniad ym mis Mawrth 2016, rwy'n falch o ddweud bod Deloitte wedi bod yn gweithredu ar ein rhan fwy yn ddiweddar a'u bod wedi rhoi hyder inni yng ngallu'r cwmni i fwrw ymlaen â'r prosiect, i fwrw ymlaen â'r car ac i gyflawni, nid yn unig ar gyfer y buddsoddwyr, ond hefyd ar gyfer y cwsmeriaid.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf y prynhawn yma gan Dawn Bowden.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd yr hen synagog Gothig wych ym Merthyr Tudful wedi gwasanaethu'r gymuned Iddewig yno ers y 1870au. Roedd y gymuned Iddewig ym Merthyr Tudful ar ei mwyaf yn y 1930au, ond er eu bod bellach wedi diflannu o'r dref i raddau helaeth, mae arwyddion o'u presenoldeb yn dal i fodoli, gan gynnwys y fynwent Iddewig yng Nghefncoedycymer.

Ym 1955, cynhaliwyd, ac rwy'n dyfynnu,

gwasanaeth gwefreiddiol lle ailgysegrwyd y Synagog 80 oed gan y Prif Rabi... Yn ei anerchiad... cyfeiriodd y Prif Rabi at yr erledigaeth a barodd i'r Iddewon adael eu tiroedd genedigol a'r modd roeddent wedi dod o hyd,

ac rwy'n dyfynnu, 'i ryddid i addoli ym Merthyr Tudful.'

Felly, mae'n drist nodi cyflwr cyfredol yr hen synagog, fel y gwelwch yn y llun. Yn ddiweddar, mapiodd y Sefydliad Treftadaeth Iddewig, sefydliad a leolwyd yn y DU, yr holl synagogau hanesyddol ledled Ewrop, a'u categoreiddio yn ôl eu harwyddocâd a'u cyflwr. Mae synagog Merthyr Tudful yn un o ddwy yn unig yn y DU a gafodd sylw yn y gwaith hwn fel y rhai sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Diolch byth, mae'r sefydliad eisoes wedi codi arian i gynnal astudiaeth ragarweiniol o'r adeilad, a allai arwain at ei adfer. Mae'r synagog yn rhan bwysig o'n hanes cyfunol, nid yn unig i Ferthyr Tudful ac i Gymru, ond y tu hwnt i hynny hefyd. Felly, hoffwn ddymuno'n dda i'r sefydliad gyda'u gwaith; maent yn haeddu llwyddo ac mae'r adeilad pwysig hwn yn haeddu cael ei achub.

15:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ym 1994, 10 mlynedd ar ôl streic y glowyr, trodd Llywodraeth y DU eu sylw at y pwll dwfn olaf yn ne Cymru. Targed eu fandaliaeth economaidd oedd Pwll Glo'r Tower. Roedd Pwll Glo'r Tower yn Hirwaun yn broffidiol—cafodd ei ganmol gan John Redwood, o bawb, am ei gynhyrchiant. Fodd bynnag, penderfynodd Llywodraeth San Steffan daro ei hergyd derfynol yn erbyn y glowyr a fu unwaith mor gryf. Derbyniodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, gweithlu Pwll Glo'r Tower a'r gymuned yr her.

Ymunodd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, â'r glowyr mewn protest o dan y ddaear i dynnu sylw at yr ymgyrch lew. Ymateb Llywodraeth y DU a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd mwy o fradychu a thorri eu gair. Nid oedd unrhyw ddewis gan y glowyr ond pleidleisio dros gau'r pwll. Ond nid dyna ddiwedd eu stori. O dan arweiniad ysgrifennydd y gangen, Tyrone O'Sullivan, cyfrannodd 239 o lowyr £8,000 o'u tâl diswyddo i brynu'r pwll glo. Cafodd ei atgyfodi fel cwmni cydweithredol y gweithwyr; y pwll glo cyntaf yn y byd i fod yn eiddo i'w weithlu. Mae mis Ionawr 2018 yn nodi 23 mlynedd ers i'r Tower ailagor—pennod newydd feiddgar a dewr yn ei hanes.

Mae'r Tower wedi cau bellach, ond mae cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodol y safle; cynlluniau a fydd yn sicrhau bod y Tower a'i hanes o frwydro yn parhau'n fyw. I aralleirio'r naratif a berchnogwyd mor rymus gan lowyr y Tower: dynion cyffredin oeddent, roeddent eisiau eu gwaith, fe brynon nhw bwll glo.

Yn ystod y llynedd, bu Bws Arfordir Llŷn yn rhedeg dau fws yn rheolaidd rhwng Llanbedrog, Abersoch, Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor a Nefyn rhwng Mai a'r hydref. Mae’n cael ei gynnal gan grŵp trafnidiaeth gymunedol o ddrws i ddrws. Mae Bws Arfordir Llŷn yn dilyn llwybr sy’n ategu'r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan alluogi pobl i gerdded llwybr yr arfordir gan adael eu ceir. Mae’r bws yn agor y drws i ardal o harddwch eithriadol ac ardal lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd.

Mae’r bws hefyd yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan bobl leol. Aeth criw o ffrindiau o Abersoch am ddiwrnod i Aberdaron, ymweld â Phorth y Swnt a chael pryd cyn mynd adref. Defnyddir y bws gan bobl hen ac ifanc, gan famau a’u plant yn ystod gwyliau’r haf. Mae o gymorth i daclo problemau iechyd drwy annog cadw’n heini drwy gerdded, yn ogystal â thaclo unigedd drwy gynnig trafnidiaeth i wahanol ddigwyddiadau ac atyniadau treftadaeth.

Cefais gyfle cyn y Nadolig i gwrdd â nifer o bobl ynghlwm â llwyddiant y cynllun yn Nefyn a chlywed gan fusnesau ac unigolion lleol sut y bu Bws Arfordir Llŷn yn dod â budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i benrhyn Llŷn. Hoffwn ddiolch i’r gyrwyr, i’r gwirfoddolwyr, a phawb fu’n cynnal y gwasanaeth hwn, ac yn wyneb ansicrwydd cyllid ar gyfer y flwyddyn hon, hoffwn annog y Llywodraeth i gefnogi’r cyswllt pwysig hwn ym mhob ffordd bosib.

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor, ac rydw i'n galw ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Paul Davies.

Cynnig NDM6630 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6576 Steffan Lewis

Cefnogwyd gan Adam Price, Dai Lloyd, Leanne Wood, Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllian, Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil parhad i Gymru yn ffurfiol. Rwyf hefyd am gofnodi, Lywydd, nad cyflwyno na hyd yn oed deddfu Bil parhad i Gymru yw'r opsiwn a ffafrir gan Blaid Cymru, ac ni fu erioed yn opsiwn a ffafrir gennym.

Yn wir, yn sgil y refferendwm Ewropeaidd, rwy'n cofio awgrymu bod pedair Llywodraeth y DU yn dod at ei gilydd, gan ddefnyddio templed ymuno wedi'i wrthdroi efallai fel ffordd o sefydlu sut y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a sut y gallwn ddarparu ar gyfer cymhlethdodau cyfansoddiadol yr undeb hwn. Ni fyddai hynny wedi bod yn hawdd, ni fyddai wedi bod yn broses syml, a byddai wedi cymryd amser. Ond honno fyddai'r broses orau wedi bod, y broses decaf, a byddai wedi golygu bod y DU mewn sefyllfa i sbarduno erthygl 50 gyda'i llygaid yn llydan ar agor. Gallai Senedd y DU, felly, fod wedi ystyried Bil ymadael llawer mwy boddhaol a fyddai, i bob pwrpas, wedi cael ei ysgrifennu a'i gytuno ar yr un pryd gan bob un o Lywodraethau'r DU. Yn hytrach, Lywydd, nid yw Llywodraeth y DU wedi dangos fawr mwy na dirmyg tuag at y gwledydd datganoledig.

Bydd yr Aelodau'n cofio fy mhryderon ynghylch paragraff drwgenwog 4.2 o Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar gyfer yr hyn a elwid ar y pryd yn Fil diddymu mawr, a oedd yn camgyfleu'n fwriadol sut y mae'r DU yn cytuno i fframweithiau cyffredin yr UE sy'n ymwneud â materion datganoledig. Rhagwelodd Plaid Cymru yn gywir ar y pryd fod yr enghraifft hon o gamgyfleu yn ffordd o osod y sylfeini i San Steffan allu cipio grym, a dyma ni bellach gyda'r hyn a elwir yn Fil ymadael â'r UE, sy'n enghraifft amlwg o gipio grym os bu un erioed.

Bydd cymal 11 y Bil yn gosod cyfyngiadau newydd ar allu'r Cynulliad hwn i ddeddfu. Bydd pwerau dros faterion a ddatganolwyd ers tro, fel amaethyddiaeth a diogelu'r amgylchedd, yn cael eu cipio gan Weinidogion yn San Steffan. Bydd penderfyniadau a fydd yn effeithio'n fawr ar fywoliaeth ffermwyr Cymru, er enghraifft, yn cael eu gwneud yn San Steffan gan rai sydd hefyd yn awyddus iawn i daro bargeinion masnach newydd gyda gwledydd fel America, Awstralia a Seland Newydd doed a ddelo.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo y bydd y Cynulliad yn cael ei gryfhau, gan gynnig pwerau newydd sylweddol, er nad ydynt wedi gallu nodi unrhyw un ohonynt hyd yn hyn. Ers i'r larymau ddechrau canu, mae Plaid Cymru wedi galw am weithredu deddfwriaethol unochrog ar ffurf Bil parhad, nid am ein bod wedi dymuno i Gymru fod o dan y bygythiad hwn, ond am fod Cymru o dan y bygythiad hwn.

Lywydd, pan wyf wedi am y Bil parhad yn y gorffennol, mae rhai o'r Aelodau yma wedi cwestiynu fy nghymhellion, ac efallai wedi amau ei fod yn rhan o gynllwyn gan genedlaetholwyr Cymreig sydd o blaid aros yn yr UE i atal Brexit ac i  ddymchwel y wladwriaeth Brydeinig rywsut. Wel, rwyf wedi dysgu dros yr ychydig wythnosau diwethaf fod bywyd yn rhy fyr i beidio â dweud yr hyn rydych yn ei gredu a chredu'r hyn rydych yn ei ddweud. Rwy'n genedlaetholwr Cymreig, a byddaf bob amser yn credu mewn dyfodol Ewropeaidd i fy ngwlad, ond pa un a oeddech o blaid gadael neu aros, a pha un a ydych yn unoliaethwr neu'n genedlaetholwr, mae hynny'n amherthnasol i fater y Bil parhad. Mae pa un a ddylech gefnogi Bil parhad ai peidio yn dibynnu ar sut rydych yn ateb un cwestiwn syml: a ydych yn credu bod refferendwm 2016 yn darparu mandad i Lywodraeth y DU gipio pwerau oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol hwn? Mae Plaid Cymru yn dweud nad yw'n darparu mandad o'r fath, yn enwedig pan addawyd y gwrthwyneb yn llwyr i bobl Cymru yn ystod y refferendwm hwnnw.

Lywydd, mae amseru hefyd yn bwysig ac ni allaf ddeall pam y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gwthio'r mater hwn hyd at y funud olaf. Ni dderbyniodd Llywodraeth y DU unrhyw un o'r gwelliannau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â'r Bil ymadael; torrodd Llywodraeth y DU ei haddewid ei hun hyd yn oed, i gyflwyno ei gwelliannau ei hun er mwyn gwella'r Bil yn ystod y Cyfnod Adrodd. Beth arall sydd angen iddynt ei wneud i fygwth datganoli yng Nghymru cyn ein bod yn barod i weithredu i amddiffyn ein democratiaeth a enillwyd drwy ymdrech galed?

Lywydd, gallwch fod yn sicr: ar ôl iddynt gael eu dwylo ar amaethyddiaeth Cymru, amgylchedd Cymru, byddant yn rhoi mesurau ar waith a allai fod yn anwrthdroadwy pe baem yn cael y pwerau hynny yn ôl byth. Mae gennym gyfnod byr o amser i weithredu er budd ein dinasyddion a'r hawliau a'r safonau sy'n bwysig iddynt, yn ogystal â'r strwythurau democrataidd y maent wedi eu cymeradwyo mewn dau refferendwm. Gadewch i ni fachu'r cyfle hwn. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol. [Cymeradwyaeth.]

15:25

Er nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn tynnu cymwyseddau presennol yn ôl oddi wrth y Cynulliad mewn gwirionedd, nid oes dyddiad terfyn ar gyfer y cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig a grëid gan y model cyfraith yr UE a ddargedwir y byddai'n ei gyflwyno. Yn hytrach, rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu bod yn rhaid i unrhyw fframwaith cyffredin mewn unrhyw faes gael ei gytuno, ac nid ei orfodi gan Llywodraeth y DU, ac yn ychwanegol at hynny, byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn ar y sail ei fod yn nodi cynnig ar gyfer Bil parhad i Gymru yn unig.

Fodd bynnag, rydym yn croesawu datganiad Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yr wythnos diwethaf, yn cadarnhau y bydd gwelliannau i gymal 11 y Bil yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan ychwanegu,

Yn anffodus, ni fu'n bosibl cyflwyno gwelliannau yn ystod y cyfnod adrodd, ond rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wella'r bil.

Cawsom sicrwydd yma fod yr ieithwedd a ddefnyddiwyd gan David Mundell yr wythnos diwethaf yn dal i sefyll.

15:30

Diolch i'r Aelod am ildio. A ydych yn cytuno ei bod yn siomedig eu bod wedi cael gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ers mis Tachwedd, eu bod wedi cael gwelliannau ein pwyllgor ers mis Tachwedd—maent wedi cael hen ddigon o amser i edrych arnynt a chynhyrchu eu gwelliannau eu hunain erbyn y Cyfnod Adrodd, sef ddoe a heddiw?

Rwy'n dod at hynny. Rwy'n rhannu'r siom a fynegwyd gan David Lidington, a byddaf yn dod at hynny.

Fel y dywedodd llefarydd cyfansoddiadol Ceidwadwyr yr Alban y penwythnos diwethaf,

mae angen diwygio cymal 11 y Bil er mwyn adfer ysbryd Deddf yr Alban.

Ac yn amlwg, drwy gysylltiad, y ddeddfwriaeth sy'n gymwys yma. Dywedodd:

Ceir egwyddor sylfaenol yn sail i ddatganoli yn yr Alban, ac mae wedi bod yn sail iddo ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl, sef bod popeth yn cael ei ddatganoli oni chaiff ei gadw'n ôl yn benodol.

Dywedodd,

dyna'r egwyddor y mae angen diwygio cymal 11 i gydymffurfio â hi a dyna yw'n safbwynt ninnau hefyd... Mae'n gymharol hawdd gwneud hynny. Nid oes yn rhaid i hyn fod yn anodd.

A gaf fi ddweud mai dyna yw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig yma hefyd?

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Yn gryno iawn, yn debyg i ddadl libertaraidd ar wyliadwriaeth gyhoeddus—os nad oes gennych unrhyw beth i'w guddio, nid oes gennych unrhyw beth i'w ofni—onid yw'n wir hefyd, os nad oes unrhyw beth i'w ofni o ran tanseilio uniondeb datganoli o ganlyniad i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud, pam na ddylid cael sicrwydd dwbl a chyflwyno Bil parhad hefyd?

Rwyf wedi dweud ein bod am gefnogi'r cynnig hwn—gobeithiaf y gall hynny roi peth sicrwydd i chi—ond ar y sail a nodwn.

Rydym hefyd wedi cefnogi adroddiad dros dro y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gan gynnwys ei amcan 1, sef cael gwared ar gyfyngiad cymal 11 ar y setliad datganoli. Ac er gwaethaf yr holl waith sy'n mynd rhagddo ar y Bil ymadael a'r fframweithiau, nid yw Llywodraeth y DU mewn sefyllfa eto i gyflwyno gwelliannau i gymal 11, deellir bod y dyn newydd yn Swyddfa'r Cabinet, David Lidington, wedi siarad gyda'r Prif Weinidog ar 9 Ionawr ac wedi mynegi siom y diwrnod canlynol nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd eto mewn perthynas â gwelliannau i elfennau datganoli y Bil ymadael. Dywedodd hefyd ei fod wedi ymrwymo i weithio er mwyn dod i gytundeb gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban ac y bydd y gwaith hwn yn dwysáu. Ailadroddwyd yr ymrwymiad hwnnw gan Brif Weinidog y DU hefyd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn San Steffan. Byddai'n ddefnyddiol felly pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r trafodaethau pellach y mae ef neu'r Prif Weinidog wedi'u cael ynglŷn â'r mater hwn gyda Swyddfa'r Cabinet a Swyddfa Cymru. Diolch.

Yn y tair munud sydd gennyf, codaf i gefnogi'r cynnig hwn. Gwnaf hynny gan fod hwn yn ôl pob tebyg yn gynnig ar y ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysicaf, o bosibl, y gallwn ei chyflwyno yn y Cynulliad hwn. Nid oes gennyf amser i sôn am y manylion, felly rwyf am grynhoi yn gyflym iawn: mae dau fater cyfansoddiadol pwysig ar fin dod gerbron Tŷ'r Arglwyddi. Un yw cynnal confensiwn Sewel, a lle mae Tŷ'r Arglwyddi yn gweithredu i bob pwrpas fel adain gyfansoddiadol y Senedd, na fydd yn deddfu heb gynnig cydsyniad deddfwriaethol gan y Cynulliad hwn, cynnig y mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, ei bod yn amhosibl inni ei roi o ystyried y Bil. A'r ail yw cefnogaeth y statudau datganoli, a fyddai'n galw am gydsyniad y Siambr hon yn y meysydd y mae'r Senedd eisoes wedi'u datganoli.

Mae'r Bil ar ei ffurf bresennol—gadewch inni fod yn gwbl glir, mae'n Fil parhad ohono'i hun, ond mae'n Fil parhad ar gyfer y wladwriaeth Brydeinig ac yn un sydd hefyd yn ceisio ailganoli'r wladwriaeth Brydeinig. Yn fy marn i, heb unrhyw welliannau clir gan Lywodraeth y DU i dderbyn y statudau datganoli a'r egwyddorion ynghylch datganoli pŵer sy'n sail iddynt, a heb unrhyw warant ynghylch ymreolaeth ariannol i'r Siambr hon—gan fod hynny'n rhan bwysig iawn arall ohono na ddylem ei anghofio, ymreolaeth ariannol cyllideb Cymru, rhywbeth y mae'r Bil ymadael hefyd yn ceisio'i danseilio—golyga hynny fod y sefyllfa'n gwbl annerbyniol. Mae'n drueni fod Llywodraeth y DU, ar bob cam, naill ai wedi methu ymgysylltu neu wedi methu cymryd rhan yn briodol gyda'r Llywodraeth hon yn y broses o ddrafftio setliad cyfansoddiadol priodol o fewn y Bil ymadael.

Nid oes unrhyw resymeg gyfansoddiadol i safbwynt Llywodraeth y DU, gan fod bron bob un o'r pwyllgorau seneddol a phob pwyllgor Cynulliad sydd wedi ystyried y sefyllfa gyfansoddiadol yn cydnabod bod man cychwyn Llywodraeth y DU yn sylfaenol anghywir. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi cael ein gadael, oni bai y ceir newidiadau cyfansoddiadol sylweddol ar y funud olaf gan Lywodraeth y DU, mewn sefyllfa ble rydym yn gofyn 'Beth a wnawn?' Gallwn naill ai aros i weld a yw'r Bil ymadael yn pasio ar ba ffurf bynnag—ac nid yw hynny'n sicr o ddigwydd o bell ffordd beth bynnag—neu gallwn ddweud, ein hunain, 'mae'n bryd i ni ddatgan beth yw sefyllfa gyfansoddiadol gywir y Cynulliad hwn a sicrhau ei bod ar y llyfrau statud', fel na fydd yr Arglwyddi, pan fyddant yn ystyried y mater hwn, ond yn rhoi sylw i fater cydsyniad deddfwriaethol a Sewel a chynnal y confensiynau cyfansoddiadol hynny yn unig, ond eu bod hefyd yn ystyried deddfwriaeth a basiwyd gennym gyda Chydsyniad Brenhinol sy'n nodi beth yw awdurdod a phwerau cyfansoddiadol y Cynulliad hwn. Diolch.

15:35

Diolch i Steffan Lewis am berl o araith yn agor y ddadl yma, a oedd yn crynhoi'r sefyllfa rydym ni ynddi hi ar hyn o bryd a pha mor hwyr yw e yn y dydd ar gyfer yr egwyddorion hyn.

Rydw i eisiau ffocysu ar yr amgylchedd ac amaeth yn y cyd-destun yma. Mae'n bwysig i gofio bod rhai o'r egwyddorion mwyaf pwysig i ni yn yr amgylchfyd wedi deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae'r egwyddor o fod yn ochelgar—the precautionary principle—wedi deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a hefyd yr egwyddor mai hwn sy'n llygru sy'n talu. Nawr, mae'r ddwy egwyddor yma yn gynsail i'r cyfreithiau rydym ni'n eu pasio yn y lle hwn parthed yr amgylchedd, ac, wrth i ni ymadael yr Undeb Ewropeaidd, rydw i o'r farn bod pobl yng Nghymru am gadw'r egwyddorion hyn, a'r ffordd fwyaf hwylus o sicrhau hynny, wrth gwrs, yw cefnogi Bil parhad. 

Y trydydd peth sydd yn deillio o faes yr amgylchfyd yn y cyd-destun yma yw bod gan ddinasyddion Cymru ar hyn o bryd hawl i fynd i Lys Cyfiawnder Ewrop er mwyn cael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol, ac nid oes yna sicrwydd wedi cael ei roi a'i diogelu yn y Bil gadael yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod yna fodd mynd at gyfiawnder amgylcheddol wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydw i'n meddwl bod yr egwyddor yna, hefyd, wedi bod yn hollbwysig. Ond heddiw roeddwn i'n gofyn cwestiwn i'r Gweinidog Hannah Blythyn ynglŷn â'r ffaith bod yna achos llys yn erbyn Llywodraeth Cymru parthed llygredd awyr. Mi ddylem ni fod yn diogelu hawl dinasyddion i herio unrhyw Lywodraeth—y Llywodraeth yn fan hyn, y Llywodraeth yn San Steffan—ar sail eu methiannau nhw yn y maes amgylcheddol. Mae hynny wedi'i sicrhau yn y system bresennol sydd gyda ni, ac mae'n rhaid cael Bil parhad i sicrhau'r mynediad yna yn ogystal.

Yr ail egwyddor yn y maes amaeth yw hyn: os rydym ni'n gweld bod dwylo blewog San Steffan ar ein harian ni, sydd ar hyn o bryd wedi'i diogelu o dan CAP, ac sydd ar hyn o bryd yn ddwywaith yn fwy na fuasem ni'n cael o dan unrhyw drefniant fformiwla Barnett—unwaith mae dwylo blewog San Steffan yn mynd â'r arian yna, bydd llai a llai yn cael ei drosglwyddo fel rhan o'r gyllideb. Mi wnaeth Mick Antoniw gyfeirio at hyn. Nid yw'r system bresennol yn diogelu'r gyllideb ar gyfer y lle hwn, ac, yn benodol, nid yw'n diogelu'r llif arian sydd wedi deillio o ffynhonnell CAP ac sydd wedi bod yn gymaint o gynhaliaeth i nifer fawr o ffermwyr, amaethwyr, a chymunedau cefn gwlad yng Nghymru. Felly, ar sail hynny yn unig, dylem ni ddadlau dros Fil parhad.

Rydw i'n annog y Llywodraeth, fel y gwnes i yr wythnos diwethaf—. Fel y dywedais i, peidiwch â thrysto'r Toris, ac fe ddywedoch chi nad ydych chi'n eu trysto ac yn ymddiried ynddyn nhw. Wel, peidiwch felly â chredu bod Tŷ'r Arglwyddi yn ffordd o ddelifro'r gwelliannau rydym ni eisiau eu gweld. Cyhoeddwch y Bil nawr, ar ffurf drafft, fel ein bod ni'n gallu gweld y ffordd ymlaen yn glir, a chyhoeddwch y Bil ar ffurff drafft er mwyn dwyn perswâd ar y Llywodraeth yn San Steffan. 

Mae'n amhosibl gwrthwynebu'r cynnig hwn, wrth gwrs, ac eithrio am resymau gwrthnysig, gan mai cynnig 'dalier sylw' yn unig ydyw, ond rwy'n awyddus i ddweud yn glir fy mod i, a fy mhlaid, yn cefnogi'r bwriad sydd wrth wraidd y cynnig hefyd. Nid wyf bob amser wedi arddel y farn honno, oherwydd, yn dilyn yr hyn a ddywedodd Steffan Lewis yn ei araith agoriadol rymus heddiw, roeddwn wedi meddwl yn wreiddiol efallai mai diben hyn, rywsut, oedd gohirio neu rwystro proses Brexit. Bellach, rwyf o'r farn nad dyna yw'r bwriad sy'n sail iddo, ac mae'n drueni fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud proses Brexit yn llai derbyniol i bobl a oedd yn erbyn y penderfyniad a wnaed gan y cyhoedd yn ymgyrch y refferendwm, a hoffwn pe baem wedi gallu osgoi hynny, ond credaf nad yw'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n arddel y farn honno am ddadwneud y broses bellach. Credaf ei bod yn anffodus, felly, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei gwneud hi'n anoddach nag oedd angen iddi fod i basio'r Bil ymadael â'r UE. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hyn i'w ddisgwyl, mewn ffordd, oherwydd, fel y dywedodd Simon Thomas ddoe, mae'n eithaf rhyfeddol fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gydag esgus sy'n amlwg yn un ffug, yn gwrthod cyfarfod â Phwyllgor Cyllid y Cynulliad hwn.

Roedd y setliad datganoli yn un nad oeddwn yn dymuno'i gael yn y lle cyntaf, ac roedd yn refferendwm—dau refferendwm—lle roeddwn ar yr ochr arall i'r rhai a enillodd, ond rwy'n derbyn penderfyniad y Cymry'n ddiamod, ac mewn gwirionedd, mae wedi bod yn bleser mawr bod yma yn helpu i sicrhau bod hynny'n gweithio. Rwyf wedi dod yn llawer mwy brwdfrydig am y peth o ganlyniad hefyd, ac rwy'n gweld manteision datganoli pellach gan fy mod yn credu mai'r Bil ymadael â'r UE yw'r Bil datganoli eithaf, ar un ystyr, ar gyfer adfer grym i'r bobl. Rwy'n credu mewn datganoli trethi, gan fod hynny'n gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy cyfrifol, ac rwy'n credu mewn cystadleuaeth rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig yn nhermau polisi cyhoeddus. Felly, mae cryn fanteision yn hyn, a hoffwn inni weld y broses o ymadael â'r UE yn cael ei derbyn gan gynifer o bobl â phosibl, ac yn wir, yn cael ei chroesawu gyda brwdfrydedd.

Felly, credaf fod polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn gwirionedd, yn mynd yn groes i les gorau'r rhai ohonom sy'n awyddus i weld Brexit yn cael ei gyflawni mor gyflym ac mor gyflawn â phosibl. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a llongyfarch Steffan Lewis am y ffordd y cyflwynodd y ddadl, mewn araith a oedd yn hyfryd o gryno, yn fy marn i, a hefyd yn gyflawn ac yn rymus.

15:40

Cyhoeddodd Sefydliad Bevan adroddiad yn 2016, ar ôl refferendwm yr UE, o'r enw 'Wales After Brexit: An Agenda for a Fair, Prosperous and Sustainable Country'. Yn benodol, gwnaeth y neges agoriadol, sy'n berthnasol i'r ddadl heddiw, gryn argraff arnaf:

Ni ŵyr neb beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig—mae'r rhagolygon optimistaidd a phesimistaidd oll yn seiliedig ar ragdybiaethau a allai gael eu gwireddu neu fel arall... Mae'r ffordd y bydd ein harweinwyr yn ymateb yn ystod y cyfnod rhyfeddol hwn yn hollbwysig.

Felly, rwy'n croesawu'r ddadl Aelod ar gynnig deddfwriaethol, a gychwynnwyd gan Steffan Lewis heddiw, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Steffan am ei waith craffu cadarn ac adeiladol yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar bopeth sy'n ymwneud â Brexit. Ar ôl ymuno â'r pwyllgor yn ddiweddar, rwyf wedi elwa ar y sylfaen wybodaeth eang sydd gan Steffan, yn ogystal â'i sylw i fanylion, ynghyd ag arweiniad y Cadeirydd, David Rees, wrth gwrs. Mae Steffan wedi bod yn benderfynol wrth fynd i'r afael â phroblemau ac effaith Brexit ar Gymru, ac mae gennym bob rheswm i barchu a chefnogi ei gynnig heddiw a diolch i Steffan am godi cwestiwn, er enghraifft, ynglŷn â'r Prif Weinidog yn croesawu'r cyhoeddiad o £50 miliwn o gyllid pontio yr wythnos diwethaf. Rwy'n ystyried honno'n enghraifft o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad a deall ei chyfrifoldebau, a ddechreuodd, wrth gwrs, gyda 'Diogelu Dyfodol Cymru', mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, gyda chwe amcan allweddol, sydd wedi sefyll prawf amser ers ei gyhoeddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith pellach ar yr amcanion hyn, yn fwyaf diweddar gyda'r papur, 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru', sy'n darparu ffordd glir ymlaen i Lywodraeth Cymru arfer ei chyfrifoldebau, gyda galwad ar Lywodraeth Cymru i gadw at ei haddewidion yn refferendwm yr UE—rhan o amcanion 'Diogelu Dyfodol Cymru', wrth gwrs—i sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog wrth inni adael yr UE. Mae'r cynllun yn darparu fframwaith ar gyfer defnyddio cyllid rhanbarthol newydd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Felly, mae hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn adeiladol ac yn gyfrifol mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ond yn ddiwyro yn ei hymrwymiad i ddiogelu'r setliad datganoli. Nid yw ymateb negyddol Llywodraeth y DU, nid yn unig i welliannau'r pwyllgor ond i welliannau Llywodraethau Cymru a'r Alban i'r Bil ymadael â'r UE—cipio grym, fel y'i disgrifiwyd gan Steffan Lewis—yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn parchu ein setliad cyfansoddiadol neu'r pethau adeiladol a wnaethom fel deddfwrfa, a'r hyn a wnaeth y Llywodraeth.

Felly, mae datganiad y Prif Weinidog ddoe, a'ch cynnig chi heddiw, Steffan Lewis, yn darparu mwy na rhybudd i Lywodraeth y DU ynglŷn â'n safbwynt. Hoffwn gloi drwy gyfeirio at un o'r chwe amcan yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sy'n rhoi'r hyn sydd mewn perygl mewn cyd-destun. Ac wrth gwrs, mae Simon Thomas yn cyfeirio at yr amddiffyniadau amgylcheddol. Yn olaf, hoffwn weld gwarantu hawliau'r UE ar gyfer pobl sy'n gweithio, gan gynnwys—i roi un enghraifft—trin gweithwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.

Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi paratoi Bil parhad. Diolch i Steffan Lewis am roi cyfle inni ystyried ei bwysigrwydd heddiw. Mae angen iddo gael ei drafod, mae angen iddo gael ei gefnogi, ac mae gennych fy nghefnogaeth i.

15:45

Rwy'n falch o godi i gefnogi cyflwyniad ardderchog fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, ar yr angen—yr angen pendant—am Fil parhad i Gymru. Dyma'r unig ffordd i achub ein sofraniaeth yma yng Nghymru. Gadewch inni fod yn glir: rydym yn sefyll ar groesffordd yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym wedi colli pwerau eisoes gyda Deddf Cymru. Ers y refferendwm diwethaf, pan bleidleisiodd mwyafrif llethol o 64 y cant o bobl Cymru o blaid cynyddu pwerau'r Cynulliad hwn, rydym wedi llwyddo i basio 22 o ddarnau o ddeddfwriaeth ers 2011. Pe bai'r Ddeddf Cymru newydd wedi bod ar waith ers 2011, ni fyddem ond wedi gallu pasio wyth deddfwriaeth o'r fath. Rydym eisoes wedi colli pwerau ac rydym yn wynebu colli mwy, a dyna sy'n rhoi'r pwysau presennol ar amserlen y ddeddfwriaeth bresennol ynghylch isafswm pris alcohol. Rhaid inni gyrraedd diwedd Cyfnod 1 y ddeddfwriaeth honno erbyn diwrnod ffŵl Ebrill; fel arall, mae'n methu.

Yn dilyn Brexit, rydym yn wynebu colli rhagor o bwerau gyda Bil ymadael yr EU—pwerau sydd bob amser wedi bod gennym yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999. Mae pysgodfeydd, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth bob amser wedi dod o Frwsel i Gaerdydd. Yn awr, yn sydyn, mae ailgyfeirio'n mynd i fod—Brwsel i Lundain—heb unrhyw sicrwydd beth sy'n mynd i ddod i Gaerdydd. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Rydym wedi clywed llawer o sôn am barchu canlyniadau refferenda, ac rwy'n eu parchu. Ond gadewch inni barchu canlyniad pob refferendwm. Mae hynny'n cynnwys yr un ym mis Mawrth 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru yn bendant iawn dros gael rhagor o bwerau yn y lle hwn. Yn sicr nid ydynt erioed wedi pleidleisio o blaid colli pwerau, ac yn y refferendwm Brexit diwethaf, nid pleidleisio o blaid colli pwerau o Gymru a wnaethant. Mewn gwirionedd, roedd y rhai ar yr ochr 'gadael' yn siarad yn barhaus ynglŷn â sut y byddai gadael yr UE yn cynyddu'r pwerau a fyddai gennym yng Nghymru. Wel, addewid gwag iawn yw hwnnw yn wyneb realiti Bil ymadael yr EU a Llywodraeth y DU yn gwneud dim ynghylch gwelliannau anrhydeddus y Llywodraeth hon i'r Bil hwnnw.

Mae Steffan wedi rhoi arweiniad balch i ni fel plaid, a'r Cynulliad hwn, yn ei holl waith caled a diwyd dros fisoedd lawer ar holl fater cymhleth a blinderus Bil ymadael yr EU. Rwy'n canmol yn fawr iawn ei waith caled, ei ddyfeisgarwch a'i ddeallusrwydd yn craffu ar bob manylyn; mae'n drueni na chaiff ei efelychu yn San Steffan. Cefnogwch y Bil parhad. Diolch yn fawr.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Hoffwn ddechrau drwy ddweud yn bersonol, fel y dywedodd Jane Hutt, pa mor braf yw hi i weld Steffan Lewis unwaith eto yn arwain dadl ar Brexit yma yn y Cynulliad. Bydd aelodau'r Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig, sy'n nodi'r safle sydd wedi'i gyrraedd ar hyn o bryd ar y Bil parhad.

Ddoe, amlinellodd y Prif Weinidog ein safbwynt ar Fil parhad. Mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn gosod cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, sydd, am y rhesymau sydd newydd eu nodi gan Dai Lloyd, yn gwbl annerbyniol. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gallu argymell cydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE fel y mae ar hyn o bryd. Nid bod hyn yn ymwneud o gwbl, fel y cydnabu Neil Hamilton, â rhwystro Brexit. Byddai'n well gan Lywodraeth Cymru fod Bil ymadael Ewropeaidd Llywodraeth y DU yn llwyddiant. Rydym yn deall y ddadl dros ddarparu eglurder cyfreithiol a sicrwydd i ddinasyddion a busnesau wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwrthwynebiad yr un fath ag y nododd Steffan Lewis pan ddywedodd nad yr opsiwn a ffafrir, nac a ffafriwyd gan Blaid Cymru erioed oedd gorfod dibynnu ar Fil parhad. Ond heb y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli yn llawn, rhaid inni baratoi ein safbwynt.

Dyna pam yr ydym ni, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil ymadael a fyddai wedi sicrhau bod y setliad datganoli yn cael ei barchu'n iawn. Wrth gwrs, rydym yn siomedig iawn, yn gyntaf oll na chafodd y gwelliannau eu derbyn gan Lywodraeth y DU, ac oherwydd bod Llywodraeth y DU ei hun wedi methu cadw'r addewid a wnaeth ar lawr Tŷ'r Cyffredin i gyflwyno gwelliannau yn ystod y Cyfnod Adrodd. Mae angen inni weld cynigion cadarn gan Lywodraeth y DU ar welliannau i'r Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli ac a fyddai wedyn yn caniatáu inni argymell cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Cynulliad.

Byddwn yna awr yn mynd â'n brwydr i Dŷ'r Arglwyddi. Rwy'n edrych ymlaen at ddigwyddiad ar y cyd, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gyda'i gilydd, a gynhelir yno cyn bo hir, pan fyddwn yn cyflwyno ein hachos yno dros y gwelliannau y gwelwn eu bod yn angenrheidiol. Ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban ar y cynnwys, yr amseru, y tactegau a ddefnyddiwn i wneud yn siŵr fod ein cyd-ddiddordeb mewn sicrhau bod cyfrifoldebau datganoledig Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu diogelu yn y broses honno. Os nad yw hynny'n digwydd, mae Prif Weinidog Cymru wedi comisiynu'r gwaith angenrheidiol i baratoi Bil parhad a fydd yn darparu eglurder a sicrwydd i ddinasyddion Cymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym wedi bod yn gwneud gwaith ar y Bil parhad. Rydym yn hyderus fod y Bil mewn cyflwr parod ac y gellid ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol pe bai angen. Yn ei ateb ysgrifenedig—

15:50

A fyddai unrhyw beth i'w golli, yn ei farn ef, o gyhoeddi'r Bil hwnnw ar ffurf drafft?

Wel, rhan o'r hyn sydd gennyf i'w ddweud wrthych yw mai'r hyn a gollid fyddai'r ymgymeriadau a'r cytundebau a luniwyd rhyngom a Llywodraeth yr Alban i weithio ochr yn ochr â hwy, i weithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r ffordd y byddant hwy'n gweithredu. Fel y maent wedi dweud y byddant yn anfon eu Bil at y Llywydd yn Senedd yr Alban, ddoe rhoddodd y Prif Weinidog ymrwymiad y byddem yn cyflwyno ein Bil parhad i'r Llywydd yma cyn diwedd y mis hwn, oni bai ei bod yn glir y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau boddhaol yn ystod y cyfnodau sy'n weddill o daith y Bil ymadael drwy'r Senedd.

Lywydd, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood yn y ddadl hon. Credaf y dylai'r rheini ohonom sydd wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau a chyfrifoldebau'r Cynulliad hwn edrych yn garedig ar yr hyn y mae'r Blaid Geidwadol wedi ei ddweud yma y prynhawn yma. Credaf fod Mr Isherwood wedi mynd ymhellach nag y clywais y Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud hyd yn hyn o ran ei gwneud yn glir fod ganddynt hwythau hefyd amheuon gwirioneddol ynghylch cymal 11 a'u bod yn rhannu rhai o'r atebion posibl a gyflwynwyd gan Geidwadwyr yr Alban fel ateb posibl i'r Bil hwnnw. Felly, credaf ei bod yn dda iawn clywed hynny y prynhawn yma.

Hoffwn ddweud, fel y dywedodd Mick Antoniw, fod mwy i'r Bil ymadael na chymal 11. Ac er y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig a osodwyd ger ein bron heddiw, a'n bod yn ceisio defnyddio cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn i baratoi Bil parhad fel rhan o'r pwyntiau a wnawn i Lywodraeth y DU, mae'n rhaid inni gael mwy na chymal 11 yn iawn yn y trafodaethau hynny. Bydd angen Bil parhad ar Gymru os nad yw'r negodiadau a'r trafodaethau hynny'n llwyddo, ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gydag eraill i gael Bil ymadael y DU i fan lle mae'n gweithio ar gyfer y Deyrnas Unedig, lle mae'n gweithio ar gyfer Cymru, a lle bydd modd inni gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol y gallem ei argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn.

Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac am yr holl sylwadau personol caredig a fynegwyd yn ogystal.

Oherwydd fy mrwdfrydedd yn gynharach, nid wyf yn meddwl bod gennyf amser i fynd drwy bob cyfraniad, ond hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet o ran y cyfraniad gan grŵp y Ceidwadwyr heddiw. Credaf fod hwn yn gyfraniad adeiladol iawn. Yn sicr, credaf ei fod yn anfon neges gryfach o lawer o'r sefydliad hwn pan fo modd i bleidiau o bob ochr ddod ynghyd i ddweud digon yw digon a rhaid cael parch go iawn tuag at y setliad cyfansoddiadol y mae pawb ohonom yn ei werthfawrogi ac yn ei drysori.

Rwyf wedi cael peth amser i mi fy hun yn ddiweddar, Lywydd, a threuliais chwe awr ddoe yn gwylio'r ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar Fil ymadael yr UE. Efallai y byddwch yn synnu fy mod wedi trafferthu dod yma heddiw; roedd yn gyfareddol. [Chwerthin.] Un o'r camsyniadau sy'n cael ei ailadrodd yn aml yw nad yw Llywodraeth y DU yn mynd ag unrhyw bwerau oddi wrthym, ac mai gosod ei hun yn lle'r Undeb Ewropeaidd y mae'n ei wneud mewn perthynas â materion datganoledig, a dim mwy na hynny. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir, oherwydd, fel y mae pethau ar hyn o bryd, y cyfan sy'n newid ar ôl gwahanu yw bod y terfyn Ewropeaidd ar faterion datganoledig yn cael ei godi, ond bod materion datganoledig yn parhau i fod wedi eu datganoli. Mae'r ddeddfwriaeth yn San Steffan yn gweithredu'n groes i hynny ac mae'n gweithredu er mwyn mynd â'r pwerau hynny oddi wrthym, neu o leiaf er mwyn gosod cyfyngiadau arnynt.

Ar y pwynt am gydweithredu â Llywodraeth yr Alban, rwy'n croesawu hynny. Rwy'n meddwl ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y ddwy Lywodraeth o ran eu gwelliannau. Ond fy nealltwriaeth i yw y gallai Llywodraeth yr Alban, o fewn mater o wythnos neu ddwy, gyflwyno ei Bil parhad i Lywydd Senedd yr Alban. Hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Simon Thomas: nid wyf yn credu y byddai cyhoeddi Bil drafft neu hyd yn oed cyflwyno Bil parhad i Gymru i'n Llywydd bellach yn tanseilio gweithredu ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi mewn unrhyw fodd. Yn wir, credaf y byddai'n ei gryfhau, fel y crybwyllodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad.

Oni fyddai'n ofnadwy pe bai'r lle hwn, sydd wedi treulio cymaint o amser yn trafod rhinweddau ac fel arall y Bil parhad, ac sydd hyd yn oed wedi drafftio un ac wedi bod ag un yn barod ers peth amser, yn olaf i gyhoeddi? Ni fyddwn ar yr agenda yn San Steffan, yr Alban fydd arni unwaith eto. Felly, buaswn yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet—. Nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth, ond mae'n ymddangos i mi y gallem gael consensws yn y Siambr ar y mater hwn heddiw, ac os felly, dyna fandad cryf iawn i'r Llywodraeth hon symud yn gyflym. Cyhoeddwch a chyflwynwch y Bil parhad. Rwy'n credu bod gennych gefnogaeth y mwyafrif yn y tŷ hwn. Cyflwyno ef, cyhoeddwch ef, a diogelwch ddatganoli yng Nghymru, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

15:55

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol

Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rwy'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark Isherwood.

Cynnig NDM6565 Mark Isherwood, Leanne Wood, Mike Hedges, Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol.

2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod dim ond wedi'i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) ac sy'n bodloni'r meini prawf.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.

4. Yn nodi:

a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio canabis a gawsant yng anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy wneud hynny, yn wynebu'r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau eraill;

b) bod y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi ar gyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw'n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P. Barnes;

c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at ddefnydd meddygol;

d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd;

e) bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio canabis i drin poen a spastigedd;

f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn, ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei drosglwyddo'n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol i drafod canabis meddyginiaethol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2017, ac a fynychwyd gan bobl ledled Cymru sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau meddygol—mae llawer ohonynt yn yr oriel gyhoeddus heddiw—ac sy'n cael budd o ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol, ond sydd, drwy wneud hynny, yn wynebu risg o gael eu herlyn. Fel Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, bûm yn gweithio gyda Chymdeithas MS Cymru ar y mater hwn ers peth amser. Mae'r cynnig yn cydnabod, er efallai nad mater i Lywodraeth Cymru yw cyfreithloni canabis at ddibenion meddyginiaethol, mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU symud canabis o Atodlen 1 i Atodlen 2 fel bod modd ei bresgripsiynu a'i gyflenwi'n gyfreithlon i gydnabod gwerth meddyginiaethol y cyffur.

Ym mis Gorffennaf 2014, argymhellodd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y cyffur Sativex, cyffur sy'n seiliedig ar ganabis, ar gyfer trin sbastigedd, ac i fod ar gael wedyn i grŵp bach yn unig o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol sy'n bodloni'r meini prawf. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymeradwyo Sativex. Fodd bynnag, mynegodd Cymdeithas MS Cymru bryder ym mis Mawrth y llynedd fod llawer o bobl yn cael trafferth i'w gael oherwydd nad oedd seilwaith yn bodoli ar ei gyfer. Yn yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig y bu modd i'r holl fyrddau iechyd lleol yng Nghymru roi Sativex ar bresgripsiwn i'r bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol y bernir eu bod yn gymwys. Newidiodd Cymdeithas MS y DU ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yng ngoleuni tystiolaeth gadarnhaol o ddefnyddio canabis ar gyfer trin sbastigedd a phoen. Mae'r gymdeithas yn amcangyfrif y gallai oddeutu 10,000 o bobl â sglerosis ymledol yn y DU elwa o hyn—nid pawb, ond nifer enfawr o bobl. Fel y dywed Cymdeithas MS Cymru, gall symptomau sy'n gysylltiedig â sglerosis ymledol fod yn ddidrugaredd ac yn flinderus a'i gwneud yn amhosibl i ymdopi â bywyd bob dydd. Gall y drefn gyffuriau ddyddiol gonfensiynol ar gyfer y rhai sy'n dioddef o'r symptomau hyn gynnwys morffin, codin, paracetamol, pregabalin a diazepam.

Mae'r dystiolaeth glinigol ac anecdotaidd am effeithiolrwydd canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn gryf. Ni all pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi, arthritis, parlys yr ymennydd a chanser sy'n defnyddio canabis i leddfu symptomau sy'n gysylltiedig â'u cyflyrau aros am adeg pan fydd gan Gymru gymhwysedd deddfwriaethol i gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Dylent allu gwneud y penderfyniad heb ofni cael eu herlyn. Mae cael gafael ar gyflenwad dibynadwy o ganabis yn broblem wirioneddol i lawer o bobl. Mae rhai'n teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwerthwyr stryd. Mae rhai'n pryderu y byddant, drwy ddefnyddio canabis, yn rhoi pobl sy'n agos atynt mewn perygl o gael eu herlyn ac o ddod i gysylltiad â chyffuriau eraill. Ym mis Medi 2016, galwodd grŵp seneddol hollbleidiol y DU ar ddiwygio polisi cyffuriau yn bendant iawn ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddyginiaethol yn seiliedig ar ganlyniadau eu hymchwiliad saith mis i'r mater, ac ar ganfyddiadau adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang dan arweiniad yr Athro Michael Barnes, a oedd yn cydredeg â'r ymchwiliad. Clywodd yr adroddiad hwnnw fod pobl yn dioddef yn ddiangen a bod pobl mewn poen mawr yn teithio dramor i ddod o hyd i'r canabis sydd ei angen arnynt i leddfu eu symptomau. A daeth i'r casgliad y gellid newid hyn oll drwy symud canabis o Atodlen 1 i Atodlen 2 at ddibenion meddygol. Byddai newid o'r fath hefyd yn hwyluso ymchwil ac yn arwain at feddyginiaethau newydd ar gyfer poen a chlefydau cronig.

Mae'r Athro Michael Barnes, sy'n niwrolegydd a meddyg ymgynghorol ym maes adsefydlu yn y DU, wedi tynnu sylw at ddwsinau o bapurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid sydd wedi profi effeithiolrwydd canabis meddygol. Dywedodd fod cyffuriau o'r fath wedi lleddfu poen yn ei holl ffurfiau, wedi trin gwayw yn y cyhyrau, gorbryder a chyfog a chwydu mewn cleifion sy'n cael cemotherapi. Dywedodd hefyd fod yna dystiolaeth fod canabis meddyginiaethol yn llwyddo i helpu pobl ag epilepsi ac anhwylderau cysgu, a disgrifiodd y sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â defnyddio'r cyffur mewn cyd-destun meddyginiaethol fel rhai bach iawn. Ychwanegodd y gall miloedd o bobl sydd â chyflyrau cronig elwa o'r cyffur hwn sydd wedi bodoli ers canrifoedd.

Canfu astudiaeth ddiweddar o Tel Aviv yn Israel fod canabis meddygol yn gwella cyflwr plant sy'n dioddef o barlys yr ymennydd yn sylweddol. Yn ôl eu canfyddiadau interim, roedd triniaeth gydag olew canabis yn lleihau symptomau'r anhwylder ac yn gwella sgiliau echddygol plant. Roedd hefyd yn gwella ansawdd cwsg, ysgarthu a hwyliau cyffredinol y plant.

Mae Gofal Arthritis Cymru ac Ymchwil Arthritis y DU yn datgan bod angen dybryd am ddulliau gwell o leddfu poen i helpu'r miliynau o bobl sy'n byw gyda'r artaith ddyddiol a achosir gan arthritis, a bod gwaith ymchwil blaenorol wedi awgrymu y gallai derbynyddion canabinoid wedi eu targedu helpu i leddfu poen a llid yn y cymalau. Pan fynychais y digwyddiad ar y gymalwst yn y Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, dysgais am ddioddefwyr arthritis sy'n defnyddio canabis i helpu i reoli'r boen a achosir gan eu cyflwr. Y mis diwethaf, soniodd WalesOnline am fam-gu o Gwmbrân a gafodd ddiagnosis o sglerosis ymledol yn 2014 sy'n dweud ei bod bellach yn dibynnu ar ganabis i leddfu ei symptomau, ar ôl bod ar nifer o feddyginiaethau presgripsiwn gyda sgil-effeithiau gwael. Fodd bynnag, wrth dynnu sylw at beryglon prynu canabis, nododd fod ffrind agos iddi a oedd yn dioddef o sglerosis ymledol wedi dioddef lladrad gan rywun yn ei bygwth â chyllell wrth geisio prynu canabis i drin ei chyflwr.

Yn ddiweddar, daeth nifer o etholwyr i gysylltiad â mi ynghylch y ddadl hon. Dywedodd un:

Mae gennyf MS ac rwy'n credu y gallai llawer o bobl sydd â salwch hirdymor ac sy'n byw gyda phoen elwa o ddefnyddio canabis.

Dywedodd un arall:

Rwy'n byw y tu allan i Wrecsam ac wedi bod yn dioddef o sglerosis ymledol ers 18 mlynedd bellach. Yn ddiweddar rwyf wedi gallu cael Sativex, sy'n fanteisiol iawn i mi. Fodd bynnag, ni chaiff ei roi ar bresgripsiwn ar gyfer poen, ac rwy'n deall bod y manteision o ddefnyddio canabis yn helpu'n fawr gyda hyn a symptomau eraill hefyd.

Yn gynharach, yn yr adeilad hwn, cyfarfûm â rhywun sydd wedi teithio o ogledd Cymru y deallaf ei fod yn dioddef o sglerosis ymledol ond nad yw'n defnyddio canabis am ei fod yn anghyfreithlon, ac mae eisiau'r hawl cyfreithiol i ddewis gwneud hynny i weld a yw'n lleddfu ei boen. Mae'n bresennol yma heddiw. Mae'n awyddus i glywed newyddion cadarnhaol oddi wrthym.

Fel y mae MS Cymru wedi dweud wrthyf, soniodd llawer o bobl nad oeddent yn defnyddio canabis i geisio rheoli symptomau eu cyflyrau yn syml iawn am nad ydynt yn gwybod ble i ddod o hyd iddo, a faint i'w gymryd pe baent yn llwyddo i ddod o hyd iddo.

Mae nifer gynyddol o wledydd yn rheoleiddio'r defnydd meddygol o ganabis a deilliadau canabis oherwydd cryfder y dystiolaeth—mae Canada, yr Iseldiroedd, Israel, a 29 o daleithiau yn Unol Daleithiau America yn rheoleiddio canabis gwair at ddiben meddygol. Mae nifer o wledydd eraill, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd. Dyma wledydd nad ydynt yn deddfu mewn materion o'r fath heb sylfaen dystiolaeth. Pasiwyd Bil Rheoleiddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol Iwerddon 2016 yn y Dáil ar ddiwedd 2016 ac mae ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor. Yn y cyfamser, defnyddir trwyddedau ar sail achosion unigol gan Weinidog iechyd Iwerddon.

Mae ein cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi system o fewn y GIG yng Nghymru lle y gellid sicrhau bod canabis ar gael at ddibenion meddyginiaethol drwy bresgripsiwn i'r rheini a allai gael budd ohono. Un o'r safbwyntiau a ddefnyddir yn erbyn sicrhau bod canabis ar gael at ddibenion meddyginiaethol yw y byddem o bosibl yn gweld cleifion yn cael eu presgripsiynau ar gyfer canabis ac yn ei werthu ar y strydoedd. Fodd bynnag, fel y mae cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru wedi datgan:

Ers fy amser gyda'r Gymdeithas MS, nid wyf erioed wedi clywed am unrhyw un sy'n byw gyda sglerosis ymledol sy'n casglu eu Oramorph neu unrhyw gyffur arall o ran hynny ac yn anelu at y gornel stryd agosaf i'w werthu!

Rwy'n tybio bod yr un peth yn wir am bobl â chyflyrau eraill mewn amgylchiadau tebyg.

Ym mis Hydref y llynedd, cyflwynodd yr AS Llafur dros Orllewin Casnewydd, Paul Flynn, Fil rheol 10 munud ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn San Steffan. Pasiwyd y Bil yn ddiwrthwynebiad i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018. Rwy'n ailadrodd: pasiwyd y Bil yn ddiwrthwynebiad. Fel y dywedodd,

Mae'r farn fyd-eang yn symud i gyfeiriad cyfreithloni canabis. Mae 29 o daleithiau yn America—y mwyafrif—eisoes wedi cyfreithloni canabis meddygol heb unrhyw broblemau. Ceir chwech neu saith o wladwriaethau yn Ewrop ble mae'n bosibl defnyddio canabis yn feddyginiaethol.

Ychwanegodd:

Os ydym yn cyfreithloni cyffuriau, rydym yn lleihau sgil-effeithiau drwy fynd â'r farchnad o ddwylo'r troseddwyr a'r twyllwyr, a rhoi'r cyffuriau hynny mewn marchnad gyfreithlon dan reolaeth meddygon gan ddefnyddio blaenoriaethau meddygol. Dyma'r gwersi o'r holl daleithiau yn America sydd wedi cymryd y cam hwn.

Aeth ymlaen:

Mae'n bryd inni arwain barn gyhoeddus yn hytrach na'i dilyn. Byddai'n weithred o dosturi a dewrder i ni basio'r Bil hwn a gwneud y newid bach iawn y mae'n ei argymell: symud canabis o atodlen 1 i atodlen 2.

Wedi'r cyfan, am ein bod yn derbyn bod yna bobl ag afiechydon gwanychol a phoen cronig sy'n ceisio lleddfu eu symptomau'n anghyfreithlon drwy ddefnyddio canabis, ac y byddai'n llawer gwell gan y mwyafrif ohonynt gael gafael ar feddyginiaeth ganabinoid ar bresgripsiwn yn gyfreithiol na chael eu gorfodi i ysmygu neu gael gafael ar sylweddau'n anghyfreithlon, mae canllawiau'r Cyngor Dedfrydu ar droseddau cyffuriau eisoes yn nodi amgylchiadau o'r fath fel ffactor lliniaru posibl. Am sefyllfa wallgof. Yn lle hynny, dylai Cymru gael system lle y gall canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai gael budd ohono. Felly, gadewch inni sicrhau bod hynny'n digwydd yn awr.

16:05

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei frwdfrydedd wrth gyflwyno'r ddadl hon ac am yr hyn a ddywedodd hyd yma am y mater hwn? Nid oes dim a ddywedodd rwy'n anghytuno ag ef. Y newyddion da yw nad wyf am ailadrodd unrhyw ran ohono.

Yn gyntaf, a gaf fi ddweud beth nad yw'r ddadl hon yn ymwneud ag ef? Nid yw'n ymwneud â chyfreithloni canabis at ddibenion hamdden. Nid yw'n esgus cyfreithiol y gall rhywun sy'n cael eu dal â chanabis yn eu meddiant ei ddefnyddio, gan ddweud, 'O, mae yn fy meddiant am resymau meddyginiaethol.' Nid yw'n ymwneud â galluogi pobl i'w fewnforio drwy ddweud, 'Rwyf wedi dod ag ef i mewn am resymau meddyginiaethol.' Nid yw'n fater o: 'Rwy'n mynd i gymryd canabis; efallai y gallai fy helpu.' Nid yw'n ymwneud â hunanddosio â chanabis. Yn sicr nid yw'n ddull o gyfreithloni canabis drwy'r drws cefn. Mae a wnelo ag ymddiried yn ein hymarferwyr meddygol i roi'r cyffur ar bresgripsiwn os ydynt yn credu y bydd o fudd i'r claf.

I mi, y pwynt allweddol, ac un y gofynnais i Mark Isherwood ei gynnwys cyn cefnogi'r cynnig, yw:

'nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn GIG Cymru lle y gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono.'

I mi, y geiriau allweddol yw 'drwy bresgripsiwn'. Mae'n rhaid iddo fod drwy bresgripsiwn, sy'n golygu y gall person sy'n gymwys yn feddygol ac sy'n cael ysgrifennu presgripsiwn ei roi ar bresgripsiwn. Ni all unrhyw un arall ei roi ar bresgripsiwn na dweud wrth rywun-rhywun, 'Rwy'n credu y gallwch elwa o ychydig bach o ganabis. Dywedwch hynny a gallech ddod ohoni'n ddi-gosb.' Mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ymddiried yn ein hymarferwyr meddygol.

Os na wnewch hynny, ac os nad oes gennych bresgripsiwn ar ei gyfer a'ch bod yn ei ddefnyddio, byddwch yn cael eich trin gan y llysoedd yn union fel y cewch eich trin yn awr. Yn San Steffan, fel y dywedodd Mark Isherwood, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi cyffuriau yn bendant iawn ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau eu hymchwiliad saith mis. Mae'r Gymdeithas MS, a oedd yn erbyn gwneud hynny, wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol yng ngoleuni tystiolaeth gadarnhaol ynghylch defnyddio canabis i drin poen a sbastigedd. Mae hyn yn rhywbeth y mae rhai o fy etholwyr a phobl rwy'n eu hadnabod wedi bod yn gwneud achos drosto: mae iddo fanteision iechyd. Credaf mai dyna sy'n allweddol mewn gwirionedd. Mae pobl yn ei gymryd er budd iechyd, nid at ddibenion hamdden.

Lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid, Sativex, ar gael drwy'r GIG—ac mae Llywodraeth Cymru wedi mynd mor bell â hynny i sicrhau ei fod ar gael—nid yw ond wedi ei drwyddedu ar gyfer trin sbastigedd i nifer fach yn unig o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol. Rwy'n gofyn am sicrhau bod cyffuriau canabinoid ar gael lle mae ymarferwyr meddygol yn credu y gallant helpu. A fyddai hyn yn gosod cynsail gwael? Credaf mai dyna un o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ei erbyn. Wel, gadewch i mi ofyn i chi beth sydd gan y cyffuriau canlynol yn gyffredin, ar wahân i fod ar gael i gleifion: morffin, thebäin, ocsicodon, hydrocodon, bwprenorffin, ocsimorffin a hydromorffin. Mae'r cyfan naill ai'n ddeilliadau naturiol neu'n ddeilliadau synthetig o opiwm, ac maent ar gael ar bresgripsiwn.

Nawr, mae rhai ohonom yn credu bod cyffuriau sy'n seiliedig ar opiwm yn llawer mwy difrifol a pheryglus na chanabis. Maent ar gael ac mae pobl yn cael morffin—mae llawer o bobl yn cael morffin tuag at ddiwedd eu hoes er mwyn atal y boen. Yr hyn a wnawn yma yw gofyn am i gyffuriau canabinoid fod ar gael yn yr un modd i bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol i helpu i atal eu poen. Gadewch i ymarferwyr meddygol, nid gwleidyddion, benderfynu a fyddai cleifion yn elwa.

Yn olaf, nid wyf yn cefnogi cyfreithloni canabis at ddefnydd anfeddygol, a chyn i unrhyw un ofyn, na, nid wyf erioed wedi ysmygu canabis na'i gymryd ar unrhyw ffurf. Ond rwy'n annog yr Aelodau i ymddiried mewn ymarferwyr meddygol i bresgripsiynu cyffuriau canabinoid, fel y maent yn presgripsiynu opiadau, pan all fod o fudd i gleifion. Gadewch i'r ymarferwyr meddygol wneud y penderfyniad hwnnw, yn hytrach na'n bod ni yn ei wneud ar sail ein rhagfarnau.

16:10

Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw a'i noddi gyda chydweithwyr o sawl plaid yn y Siambr hon. Mae'n dilyn ymgyrchu effeithiol ar sail tystiolaeth gan Gymdeithas MS y DU ac eraill, a thrafodaethau gwerthfawr yn y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol. Mewn cyfarfod o'r grŵp hwnnw fis Hydref diwethaf, anogais gleifion a gwleidyddion i fwrw ymlaen i ymgyrchu ar hyn, ac rwy'n hapus i gynnig fy nghefnogaeth barhaus i'r ymgyrch honno heddiw.

Mae dosbarthiad cyffuriau yn rhywbeth sy'n cael ei benderfynu'n bennaf ar lefel y DU. Nawr, rwyf fi a'r bobl ar y meinciau hyn eisiau i'r sefyllfa honno newid; rydym am allu penderfynu'r materion hyn drosom ein hunain yma yng Nghymru. Ond yn y cyfamser, rwyf wedi dadlau y dylai Cymru fabwysiadu safbwynt ar hyn. Mae Sativex wedi bod yn cael ei drwyddedu ar gyfer ei ddefnyddio yma, ond mae mynediad ato'n anodd ac yn gyfyngedig. Mae gennym sefyllfa ehangach lle mae rhai pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol a chyflyrau eraill yn gorfod defnyddio canabis yn anghyfreithlon i helpu gyda'u symptomau. Rwyf wedi clywed tystiolaeth gan bobl sy'n gorfod prynu canabis mewn ffordd sy'n dal i fod yn anghyfreithlon yn dechnegol, a sefyllfa lle mae pobl ar eu pensiwn wedi gorfod dod o hyd i fasnachwyr sy'n gallu tyfu a gwerthu canabis, pan fo morffin, fel y mae pobl eraill wedi dweud—a heroin, i bob pwrpas, yw morffin—yn cael ei roi ar bresgripsiwn. Nawr, ni all hynny fod yn iawn, ac mae'n dangos pa mor wrthgynhyrchiol yw polisi cyffuriau yn y wlad hon ar hyn o bryd.

Siomedig oedd gweld Llywodraeth Cymru yn y cyfryngau heddiw yn defnyddio'r gwaharddiad fel esgus i beidio â rheoleiddio canabis. Fe ddyfynnaf Lywodraeth Cymru, a ddywedodd, drwy lefarydd, a dyfynnaf:

Nid defnyddio cyffur amrwd anghyfreithlon o ansawdd anhysbys yw'r ffordd rydym am ddarparu meddyginiaethau.

Lywydd, holl bwynt canabis meddyginiaethol yw nad yw mwyach yn gyffur amrwd anghyfreithlon, nid yw mwyach o ansawdd anhysbys, oherwydd gellir dod o hyd i ffynonellau priodol sy'n cael eu rheoleiddio a gellir deall y gwahanol fathau a'u mathau gwahanol o fudd yn briodol.

Ni fydd cadw'r gwaharddiad yn lleihau'r defnydd o ganabis, ond yn hytrach, bydd yn atal defnydd meddyginiaethol diogel wedi ei reoleiddio ac yn gwthio pobl sy'n parchu'r gyfraith tuag at farchnad anghyfreithlon. Dyna pam mai un cam clir ymlaen yw dad-droseddoli canabis at ddefnydd meddyginiaethol, ac mae'r cynnig heddiw yn nodi sut y gallai Cymru gefnogi newid o'r fath a pharatoi i hynny ddigwydd.

Mae'r ddadl ehangach ynglŷn ag a ddylid gwahardd cyffuriau a gwneud eu defnydd yn anghyfreithlon neu a ddylid eu rheoli a'u rheoleiddio fel bod modd eu defnyddio'n ddiogel yn dal i fod yn un sy'n rhaid inni ei chael. Ond mae gennym enghreifftiau yn y cynnig hwn o wledydd a thiriogaethau sydd wedi caniatáu'r newid hwn ar gyfer defnyddio canabis yn feddyginiaethol, a rhestrwyd y gwledydd hynny, ond daw Canada a'r Iseldiroedd i'r meddwl.

Nawr, rwy'n falch o weld cyfeiriad at yr adolygiad gan yr Athro Michael P. Barnes, yn deillio o'r grŵp trawsbleidiol yn San Steffan, ac mae'n bwysig gallu cadarnhau a rhoi cyhoeddusrwydd i'r dystiolaeth ynglŷn â sut y mae canabis yn helpu i reoli symptomau. Ar ôl ymchwiliad saith mis, canfu adolygiad Barnes dystiolaeth, a dyfynnaf:

Yn gyffredinol, ceir tystiolaeth dda o blaid y defnydd o ganabis mewn llawer o gyflyrau pwysig sy'n effeithio ar filoedd lawer o bobl anabl.

Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn arwain at ganlyniad lle y gall Llywodraeth Cymru fabwysiadu safbwynt ffurfiol ar hyn bellach. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU o blaid caniatáu canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Yna dylai nodi sut  y gellid cynhyrchu presgripsiynau ar gyfer y bobl sydd ei angen, ac o fethu gwneud hynny, os nad yw'r Llywodraeth yn awyddus i gynhyrfu'r dyfroedd neu fod yn feiddgar, beth am gynnig cyfarfod â'r Athro Barnes a chlywed crynodeb o'r dystiolaeth honno? Drwy adeiladu'r achos ac anfon neges y gallai cleifion o Gymru elwa o'r triniaethau hyn, gallwn helpu i ennill y ddadl ar lefel y DU lle mae penderfyniadau ar ddad-droseddoli yn dal i gael eu gwneud.

Mae'r Cynulliad yma i fod yn radical, i gymryd camau sy'n helpu dinasyddion Cymru i wneud gwahaniaeth ymarferol a gwirioneddol i fywydau pobl. Weithiau, gall yr hyn sy'n ymddangos yn radical iawn fod yn ddim mwy na synnwyr cyffredin mewn gwirionedd. Diolch yn fawr.

16:15

Hoffwn ddiolch i Mark, Leanne, Mike a Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer o fanteision meddyginiaethol i ganabis. Gellir ei ddefnyddio i reoli poen, trin sbastigedd, helpu gyda sgil-effeithiau cemotherapi, a dengys astudiaethau newydd y gall helpu i reoli ffitiau epileptig mewn plant. Fodd bynnag, nid ydym ond megis dechrau deall y manteision posibl y gall canabis eu darparu, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ehangach i'w ddefnydd at ddibenion meddyginiaethol.

Eto i gyd, ni allaf gefnogi ailddosbarthu canabis, yn union fel na fuaswn yn cefnogi ailddosbarthu opiwm neu heroin, er y gallai fod iddynt ddiben meddyginiaethol hefyd. Yn anffodus, mae nifer o ffyrdd y gall ysmygu canabis beri niwed. Nododd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fod mwg canabis yn garsinogen a gwelodd hefyd fod ymwybyddiaeth o'r perygl yn isel iawn, gyda 40 y cant o rai dan 35 oed yn meddwl nad oedd canabis yn niweidiol wrth ei ysmygu. Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros gyfnod hir—

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hyn os gwelwch yn dda?

O'r hyn rwy'n ei gasglu, rydym yn sôn am y cyffur Sativex, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n cytuno â chi ar hyn. Pan ydych yn sôn am—mae hwn yn ymyriad dieithr i mi; rwy'n newydd, iawn. Pan ydych yn sôn am ysmygu canabis, nid yw'n fater o ysmygu canabis fel pe baech yn ysmygu sigarét.

Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf. Ceir cyffuriau eraill sy'n seiliedig ar ganabis, fel olew canabis a'r holl ganabinoidau hynny ac—.

Diolch yn fawr i chi. Nid ag ysmygu'n unig y mae'n ymwneud.

Popeth yn iawn; croeso.

Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros amser hir. Mae tystiolaeth feddygol ddiweddar yn awgrymu'n gryf fod defnydd hirdymor o ganabis gan bobl sy'n dechrau ei ddefnyddio yn gynnar—maent yn arddangos tueddiad uwch o gael problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol a datblygiadol eraill. Yn ôl astudiaeth gan Northwestern Medicine yn 2014, pan fydd rhywun yn dechrau defnyddio canabis yn ei arddegau, gall effeithio'n sylweddol ar ddatblygiad yr ymennydd, gan gynnwys llai o weithgaredd ymenyddol, llai o ffibrau niwral mewn rhai mannau a hipocampws, sy'n rheoli gweithrediadau dysgu a chofio, llai o faint na'r cyfartaledd.

Yn fy mlynyddoedd yn gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gwelais â'm llygaid fy hun y niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu canabis yn hirdymor. Roedd llawer o'r bobl ifanc yn dioddef paranoia, gorbryder, problemau cof a phroblemau eraill o'r fath. Felly mae angen rhagor o ymchwil i ddefnyddio canabis yn hirdymor, a'i effeithiau ar bobl ifanc yn enwedig, cyn y gallwn ddweud ei bod yn ddiogel ei ailddosbarthu at ddefnydd meddygol.

Mae'r Gymdeithas MS yn dweud nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd,

i awgrymu y gall ysmygu canabis drin sbastigedd neu boen sglerosis ymledol a gall ysmygu effeithio'n negyddol ar sglerosis ymledol yr unigolyn.

Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar dynnu'r manteision o'r planhigyn canabis, gan liniaru'r niwed posibl ar yr un pryd. Y brif broblem gyda chanabis yw cymhlethdod y cynhwysion gweithredol, yr amrywiad enfawr a geir yn y lefelau o gyfansoddion rhwng rhywogaethau o blanhigion, y cyltifarau amrywiol, a hyd yn oed o un planhigyn i'r llall. Er y gellid datblygu math penodol o blanhigyn, neu gyltifar, i gynyddu'r manteision meddygol a chyfyngu ar yr effeithiau seicoweithredol, nid oes unrhyw sicrwydd fod y cymysgedd o gynhwysion gweithredol yr un fath o un cnwd i'r llall. Nid oes amheuaeth—. [Torri ar draws.] Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n brin o amser.

Nid oes dadl ynghylch y manteision enfawr y gall canabinoidau amrywiol eu cynnig ar gyfer trin nifer o gyflyrau. Credaf fod rhaid inni weithio ar ynysu'r cyfansoddion hynny. Yn y DU, rydym yn trwyddedu Sativex, deilliad o ganabis, i drin symptomau sglerosis ymledol. Yn yr Unol Daleithiau hefyd, crëwyd canabinoidau ychwanegol i drin sgil-effeithiau cemotherapi. Rwy'n gobeithio gweld y gwaith hwnnw'n cyflymu.

O ystyried y mathau o niwed posibl a'r sylfaen dystiolaeth gyfyngedig ynglŷn ag effeithiolrwydd ysmygu canabis at ddibenion meddygol, ni allaf gefnogi cyfreithloni canabis meddygol ar hyn o bryd. O'r herwydd, byddaf yn ymatal ar y cynnig heddiw, er y bydd gan yr Aelodau eraill yn fy mhlaid bleidlais rydd ar hyn. Edrychaf ymlaen at ymchwil newydd i'r defnydd meddygol o ganabis, ac os gellir dangos bod y manteision yn gwrthbwyso'r niwed posibl yn sylweddol, buaswn yn hapus i gefnogi ailddosbarthu'r cyffur ar y cam hwnnw. Diolch yn fawr.

16:20

Yr wythnos diwethaf yn unig, gofynnais y cwestiwn hwn i'r Gweinidog, ac rwy'n falch iawn ein bod, o fewn wythnos, yn trafod y mater. Mae dros 100,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o sglerosis ymledol. Ym mis Ionawr 2016, roedd nifer y bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol yng Nghymru yn 4,260, a bob blwyddyn, mae 200 o bobl eraill yn cael diagnosis o'r cyflwr. Nid oes modd rhagweld sut y bydd sglerosis ymledol yn datblygu ac mae'n wahanol i bawb. Mae'n aml yn boenus ac yn flinderus iawn. Yn syml, gall ei gwneud yn amhosibl i ymdopi â bywyd bob dydd. Mae triniaethau ar gael, ond nid ydynt yn gweithio i bawb.

Mewn rhai achosion, gwyddom y gall cyfansoddion canabis helpu i leddfu poen. Yn y Deyrnas Unedig, sglerosis ymledol yw'r unig gyflwr y ceir triniaeth drwyddedig ar ei gyfer yn deillio o ganabis. Mae Sativex ar gael ar hyn o bryd drwy'r GIG yng Nghymru, ond nid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gwelais fanteision Sativex drosof fy hun yn ddiweddar mewn neges a gefais gan etholwr. Lywydd, rwyf am ddarllen y nodyn gan fy etholwr. Mae'n dweud, 'Rwyf wedi bod yn dioddef o sglerosis ymledol ers 2003. Rwy'n dioddef o sbastigedd, gwayw yn y cyhyrau a phoen, ac rwy'n cymryd morffin a morffin hylif at y pethau hyn bob dydd. Yn bwysicach, rwy'n cymryd Sativex, ac wedi bod yn gwneud hynny er pan oeddwn yn gaeth i'r gwely am chwe mis ychydig flynyddoedd yn ôl. Ni allaf esbonio cymaint o help oedd y cyffur hwn i mi, gan fy mod yn gwneud pob ymdrech i beidio â bod yn fy nghadair olwyn drwy'r amser. Mae'n helpu gyda fy sbastigedd a gwayw yn y cyhyrau, ac ni allaf esbonio cymaint gwaeth oedd hi cyn i mi ddechrau ar y cyffur. O'r blaen, rhoddais gynnig hefyd ar ganabis arferol ac wynebu'r risg o gael fy erlyn, a gallaf gymharu'r ddau, ac yn amlwg, nid yw mor gryf â'r Sativex. Rwyf fi'n bersonol yn ffodus gan fy mod yn ateb y meini prawf. Mae llawer o bobl eraill sy'n dioddef o sglerosis ymledol yn gorfod wynebu'r risg o gael eu herlyn, fel y gwneuthum innau hefyd, pan oeddwn mewn cymaint o boen fel nad oeddwn yn gwybod beth arall i'w wneud. Os ydych mewn poen eithafol am ddigon o amser, rwy'n meddwl ei fod yn torri'r person cryfaf ar ôl rhai blynyddoedd. Felly, cefnogwch y Bil hwn gan nad ydych yn gwybod cymaint o wahaniaeth y gallwch ei wneud i ddioddefwyr sglerosis ymledol yng Nghymru.' Dyna ddiwedd ei neges.

Rwy'n meddwl ei bod yn dweud popeth, Lywydd, ac mae hwn, mi gredaf, yn bwynt hollbwysig. Mae aelodau'r cyhoedd sy'n parchu'r gyfraith yn cael eu gyrru i dorri'r gyfraith er mwyn lleddfu eu poen yn y wlad wâr hon, neu yn y byd gwâr hwn. Mae'n anfoesol tu hwnt. Mae'n bryd caniatáu canabis at ddibenion meddygol. Ar hyn o bryd, ni ellir cael canabis heblaw gan gangiau anghyfreithlon sy'n gwthio cyffuriau caled hefyd. Felly, rydym yn gyrru defnyddwyr cyffuriau meddal i freichiau gwerthwyr cyffuriau caled.

Mae llawer o wledydd eraill, fel yr Almaen a Chanada—fel y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi crybwyll—wedi caniatáu canabis at ddefnydd meddygol. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae hyd yn oed Califfornia yn yr Unol Daleithiau wedi ei gyfreithloni am resymau meddygol. Mae Iwerddon hefyd yn ystyried dilyn y trywydd hwn. Rhaid i Gymru arwain ar hyn, Lywydd. Mae'n bryd lleddfu poen a dioddefaint pobl â sglerosis ymledol yng Nghymru.

Yr wythnos hon, mae gennyf arolwg ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y rhyngrwyd—ar Twitter. Y prynhawn yma, 14:30, roedd 70 y cant o fy nilynwyr yn cytuno y dylai canabis gael ei gyfreithloni yng Nghymru. Anghofiwch Lundain a phawb, gwnaethom hyn yn gyfraith yma, ac mae 70 y cant yn nifer dda yn ne-ddwyrain Cymru. Os gwnewch arolwg ar gyfer y wlad gyfan, Cymru, rwy'n eithaf siŵr y gwelwch y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi caniatáu i ganabis gael ei ddefnyddio ar sail feddygol a lleddfu poen y bobl sy'n cael y cyffur anghyfreithlon, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol ac anfoesol. Dylem eu helpu ym mhob modd. Diolch.

16:25

Rydw i'n falch iawn o fod yn cefnogi'r ddadl yma heddiw. I mi, mae o'n fater syml iawn, iawn. Pan fydd pobl yn dioddef salwch sydd â symptomau nad sydd gan y rhan fwyaf ohonom ni ddim syniad am eu difrifoldeb nhw, na sut maen nhw'n dod â bywyd bob dydd i stop; lle mae byw efo afiechyd yn boen gwirioneddol sydd yn parlysu rhywun neu sy'n gwneud i fywyd deimlo fel bod o ddim werth ei fyw; lle nad ydy cwsg byth yn dod nos, ar ôl nos, ar ôl nos; rydw i'n meddwl y dylai popeth posib gael ei wneud i leddfu y dioddefaint hwnnw.

Beth rydym ni'n ei drafod y prynhawn yma ydy'r hawl i ddefnyddio canabis fel arf i leddfu poen neu ddioddefaint. Mae canabis, wrth gwrs, yn air sydd yn ddadleuol. Mae'r ddadl am gyfreithloni neu ddad-griminaleiddio canabis ar gyfer defnydd hamdden yn un sydd wedi bodoli ers degawdau lawer. Mae yna safbwyntiau cryf iawn ar ddwy ochr y ddadl honno. Ond, heddiw, a gaf i apelio ar bobl i roi eu barn yn y ddadl honno i'r naill ochr? Nid ydym ni'n sôn am hynny heddiw. Sôn yr ydym ni am gyffur yn yr ystyr feddygol, a dim arall. Ni ddylai'r ffaith bod y cyffur hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun gwahanol gan rai pobl ddim fod yn rhwystr i edrych ar werthoedd canabis fel cyffur meddygol. 

Mae Aelod Ceidwadol Gorllewin Clwyd—rydw i'n falch o'i weld o yn y Siambr y prynhawn yma—yn un sydd, yn y gorffennol, wedi cymysgu rhwng y ddau beth. Darllenais i erthygl yn ddiweddar lle roedd o'n cael ei ddyfynnu yn dweud:

Mae canabis, pa un a yw'n cael ei ddefnyddio at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion hamdden, yn sylwedd peryglus a fyddai'n arwain at ganlyniadau trychinebus i iechyd ac i gymdeithas pe bai'n cael ei gyfreithloni.

Fodd bynnag, ni allwch hepgor yr ymadrodd

at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion hamdden

fel pe bai'r ddau yr un fath, oherwydd nid ydynt, a dyna yw fy apêl heddiw ac wrth gwrs, rwy'n croesawu ymyriad.

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Ysgrifennais yr erthygl honno am fy mod yn pryderu bod gan nifer cynyddol o bobl ddiddordeb yn y defnydd o ganabis amrwd at ddibenion meddyginiaethol. Gwrthwynebaf y defnydd o ganabis amrwd at ddibenion meddyginiaethol. Nid wyf, fodd bynnag, yn gwrthwynebu'r defnydd o gyffuriau sy'n deillio o ganabis sy'n effeithiol yn glinigol ac sy'n gallu lleihau'r mathau o symptomau rydych chi ac eraill yn y Siambr wedi bod yn eu disgrifio y prynhawn yma. Mae gennym gyffur ar gael yng Nghymru y bûm yn ymgyrchu dros ei ganiatáu, a phe bai cyffuriau eraill yn pasio drwy'r felin reoleiddiol oherwydd y gwelir eu bod yn lleddfu dioddefaint yn effeithiol, a'u bod yn deillio o ganabis, ni fyddai gennyf unrhyw broblem gyda'r rheini chwaith. Ond yr hyn rwy'n ei wrthwynebu yw argaeledd cynyddol o ganabis amrwd, a chredaf y gallai ac y byddai camddefnydd ar hynny, ac y byddai'n beryglus yn ein cymdeithas yng Nghymru.

16:30

Rwy'n croesawu'r ymyriad, ond hoffwn nodi mai'r hyn y byddem yn siarad amdano yma yw canabis amrwd wedi ei reoleiddio o bosibl, a fyddai'n fwy diogel o lawer, wrth gwrs, a byddai modd ei roi ar bresgripsiwn. Dyna holl bwynt yr hyn rydym yn sôn amdano. Rwyf am ymdrin â phwynt a wnaed mewn ymyriad hefyd gan yr Aelod UKIP dros Orllewin De Cymru, a siaradodd am ysmygu canabis. Pwy sy'n sôn am ysmygu canabis yma? Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gallu gweld y gwahaniaeth hwnnw. Ond mae'n amherthnasol i'r ddadl heddiw a yw Darren Millar neu unrhyw un arall yn gywir neu'n anghywir ynghylch peryglon canabis fel cyffur hamdden, gan nad ydym yn sôn am hynny; gobeithio fy mod wedi gwneud hynny'n glir. Ac yn wir, ceir digon o enghreifftiau, wrth gwrs, o gamddefnyddio cyffuriau presgripsiwn. Nid ydych, o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau presgripsiwn, yn gwahardd y cyffuriau presgripsiwn hynny sydd ag effeithiau buddiol profedig pan gânt eu defnyddio yn y ffordd gywir. Yr hyn rydych yn ceisio ei wneud yw tynhau'r rheolaeth ar y cyffuriau hynny—yn hollol. Mae'n ymddangos i mi fod canabis yn cael ei drin yn y ffordd gwbl groes i hynny. Caiff ei ddefnyddio at ddibenion hamdden ar raddfa eang, ac er bod iddo effeithiau buddiol yn feddyginiaethol, ni chaniateir ei ddefnyddio i'r perwyl hwnnw.

Mae'r dystiolaeth yn glir, rydw i'n credu, neu yn sicr mi ydw i wedi cael fy argyhoeddi. Yn 2016, fel rydym ni wedi clywed, mi gyhoeddwyd canlyniadau saith mis o ymchwil gan bwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan. Mae'r ymchwiliad hwnnw, yn ei dro, wedi ei seilio ar adolygiad byd-eang o dystiolaeth, a'r argymhelliad clir iawn oedd y dylid cyfreithloni canabis at ddibenion meddygol.

Mae hi yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n llunio deddfwriaeth neu ddod i farn, fel rydym ni eisiau ei wneud heddiw, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yma mae'r dystiolaeth gennym ni, rydw i'n credu. Mi wnaeth Cymdeithas MS edrych ar y dystiolaeth yn ofalus iawn, iawn cyn penderfynu newid eu polisi ar hyn, a bellach maen nhw yn gefnogwyr brwd ac yn ymgyrchwyr brwd dros ddad-gyfreithloni at ddibenion meddygol. Pam? Oherwydd eu bod nhw'n gwybod am y manteision. Maen nhw'n delio yn ddyddiol â phobl sy'n chwilio am ffyrdd i liniaru effeithiau afiechyd creulon. Gadewch i ni, fel Cynulliad, hefyd edrych yn wrthrychol ar y dystiolaeth a rhoi ein cefnogaeth ni i'r unigolion hynny a fyddai'n elwa o'r newid synhwyrol hwn.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch i chi, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw, a'r ystyriaeth y maent wedi ei rhoi i'r cysyniad o ddarparu canabis gwair i gleifion at ddefnydd meddyginiaethol. Rwy'n cydnabod y diddordeb diffuant a thrawsbleidiol yn y pwnc hwn, ac mae wedi bod yn ddadl synhwyrol iawn yn fy marn i am—. Ond cyn i mi fynd at graidd ymateb y Llywodraeth, rwyf am gydnabod bod mwy nag un rheswm dros gael y dadleuon hyn gan Aelodau. Mae rhywbeth ynglŷn â dweud yn bendant eich bod am i'r Llywodraeth wneud rhywbeth yn awr, ac efallai y bydd rhai pobl am i hynny ddigwydd yn bendant, ac efallai y bydd eraill am wneud yn siŵr fod dadl gyhoeddus yn parhau ynglŷn â defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol a sut y gellir datblygu hynny. Ond i mi fy hun ac o safbwynt y Llywodraeth, mae'r cynnig yn darparu rhywbeth i feddwl yn ei gylch, a hefyd, yn ymarferol, i mi mae'n creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Ac rwy'n derbyn, wrth gwrs, fod yna beth tystiolaeth y gall canabis neu ei ddeilliadau chwarae rôl yn rheoli poen cronig, gorbryder, sbastigedd a chyfog a chwydu yng nghyd-destun cemotherapi. Ac yn hanesyddol, wrth gwrs, defnyddiwyd trwyth canabis at boen ochr yn ochr â lodnwm ac opiwm. Fodd bynnag, rydym bellach yn llawer mwy ymwybodol o sgil-effeithiau niweidiol cyffuriau o ansawdd gwael nad ydym yn eu deall yn dda, ac mae'n well gennym ddefnyddio meddyginiaethau diogel ac wedi'u rheoleiddio. Ac rydym am i bobl gael mynediad at feddyginiaethau trwyddedig, effeithiol i liniaru'r cyflyrau hyn yn hytrach na bod pobl yn troi at gyffuriau sy'n anghyfreithlon ar hyn o bryd, ac o darddiad, cryfder neu burdeb sy'n anhysbys.

Credaf ei bod yn deg gwneud sylwadau ar beth o'r dryswch ynghylch diben yr hyn a ofynnir i ni heddiw, oherwydd, mewn gwahanol gyfraniadau gan gefnogwyr y cynnig, rydym wedi clywed y gwahaniaeth rhwng, dyweder, canabis gwair a chaniatáu hwnnw at ddefnydd meddyginiaethol, neu'r defnydd o ddeilliadau canabis, neu fel y nodwyd sawl gwaith, cyffuriau canabinoid. Hoffwn egluro: nid wyf yn meddwl, o safbwynt y Llywodraeth, mai dadl am ddad-droseddoli yw hon mewn gwirionedd. Ceir problemau gwahanol gyda chyfreithloni canabis. Credaf fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd ag a ddylech ei ganiatáu at ddiben penodol ac os felly, ar ba ffurf. Felly, nid yw'n ymwneud â gwahardd deilliadau canabis mewn meddyginiaeth drwyddedig.

Ond rwy'n falch, yng nghwrs y cynnig, fod yr Aelodau wedi cydnabod mai'r Llywodraeth hon yw'r unig weinyddiaeth yn y DU sydd wedi argymell defnyddio Sativex i drin symptomau sbastigedd sglerosis ymledol, megis gwayw a chramp. Efallai ei bod hi'n werth atgoffa'r Aelodau pam a sut y gwnaethom hynny: oherwydd bod y gwneuthurwr wedi rhoi cryn dipyn o amser, arian ac ymdrech tuag at ddatblygu Sativex, y feddyginiaeth gyntaf yn y byd sy'n deillio o ganabis. Roedd yn rhaid i'r cwmni gynhyrchu meddyginiaeth ddiogel ac effeithiol i fodloni safonau modern, ac felly dilynodd yr union yr un weithdrefn drwyadl ag sy'n ofynnol ar gyfer datblygu pob meddyginiaeth newydd sydd i'w defnyddio yn y DU. Ac roedd hynny'n cynnwys nodi pa rai o'r 60 o ganabinoidau a chemegion eraill sy'n bresennol mewn canabis a allai weithredu i leihau poen. Ar y pwynt hwnnw, mae'n werth crybwyll bod effeithiau fferyllol llawer o'r rhain yn dal i fod yn anhysbys. Ar ôl eu nodi, roedd y camau datblygu wedyn yn cynnwys sefydlu'r cyfuniad mwyaf effeithiol o'r cemegau a phrofion cynnar am wenwyndra cyn symud ymlaen i'r cam treialu clinigol. Mae'r cyfnodau treialu clinigol o reidrwydd wedi eu rheoleiddio'n llym i ddiogelu'r gwirfoddolwyr y cynhelir y profion arnynt a'r boblogaeth o gleifion posibl yn dilyn hynny. Mae'n werth nodi yr amcangyfrifir mai pedwar yn unig o bob 100 o feddyginiaethau a ddatblygir gan gwmnïau fferyllol sy'n cyrraedd y farchnad yn y pen draw.

Yn y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MHRA, a drwyddedodd Sativex ar gyfer ei ddefnyddio yn y DU ym mis Gorffennaf 2010. Un rhan yn unig o sicrhau ei fod ar gael yn y GIG yw hynny, gan nad ydynt yn awdurdodi trwydded neu awdurdodiad marchnata oni fyddant yn fodlon fod y feddyginiaeth yn ddiogel ac yn trin y cyflwr a dargedir. Wedyn, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn arfarnu meddyginiaethau newydd drwy gymharu eu heffeithiolrwydd clinigol a'u costeffeithiolrwydd â thriniaethau presennol sydd eisoes ar y farchnad. Nawr, nid yw NICE yn argymell Sativex ar gyfer trin sbastigedd mewn sglerosis ymledol ar sail costeffeithiolrwydd ar hyn o byd—felly, nid effeithiolrwydd, ond costeffeithiolrwydd. O ganlyniad, nid yw ar gael fel mater o drefn i gleifion y GIG yn Lloegr, ond gofynnodd Llywodraeth Cymru i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru gynnal arfarniad o Sativex, a gwnaethant ei argymell i ni ym mis Awst 2014. Gwnaeth fy rhagflaenydd yn siŵr ei fod ar gael yng Nghymru o'r adeg honno, lle roedd yn briodol yn glinigol. Gwn fod heriau wedi bod gyda sicrhau bod Sativex ar gael yn briodol i'r holl bobl a allai ac a ddylai elwa, ond nid oes gan hynny ynddo'i hun ddim i'w wneud â'r ffaith ei fod yn deillio o ganabis. Ceir her ehangach yr ydym yn ceisio ei goresgyn o fewn y Llywodraeth ynglŷn â sicrhau bod y meddyginiaethau newydd a argymhellir ac a ganiateir ar gael yn briodol wedyn i'r holl bobl fel sy'n briodol yn glinigol.

Dyma sy'n sail i'n dull gweithredu, nid yn unig yma heddiw yn yr un achos hwn, ond ynghyd â'r broses arfarnu, ac yn wir yr adolygiad a gawsom o broses cyllido ceisiadau cleifion unigol yn ogystal, ein bod eisiau ac y byddwn yn parhau i ddefnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu pa feddyginiaethau a allai ac a ddylai fod ar gael yn y GIG yma yng Nghymru.

16:35

Diolch am ildio. Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod Sativex ar gael ar gyfer trin cyflyrau meddygol. Onid yr hyn sy'n allweddol i'r cynnig hwn, fodd bynnag, yw'r broblem nad yw ar gael i'r holl bobl sydd ei angen, efallai oherwydd bod problemau cyflenwi, costau—beth bynnag y gallai fod—ac ar hyn o bryd mae pobl yn dod yn droseddwyr am eu bod yn gorfod defnyddio canabis ar ei ffurf amrwd, fel y nodwyd, oherwydd nad yw ar gael? Ni ddylai'r bobl hynny gael eu gwneud yn droseddwyr am fod ganddynt salwch a'u bod yn chwilio am driniaeth nad yw ar gael iddynt drwy'r GIG ar hyn o bryd.

Nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n ddisgrifiad teg o'r ffordd y mae meddyginiaethau yn dod ar gael yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae yma her o ran dweud, 'Ceir angen nas diwallwyd', a 'Sut rydym yn sicrhau bod cynnyrch trwyddedig, diogel, effeithiol ar gael yn y gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer gwneud hynny?', a dweud yn syml, 'Yr ateb yw sicrhau bod canabis ar gael yn feddyginiaethol'. Fe ddof at rai o'r heriau hynny, ond daeth Sativex i fod ar gael am ei fod wedi cyflawni pob un o'r meini prawf hynny: y profion diogelwch ac effeithiolrwydd ar gyfer trwyddedu, ac yna, yn ail, fe basiodd y feddyginiaeth y broses arfarnu drwyadl—

—a dyna yw'r dull mwyaf gwyddonol a diduedd o sicrhau bod cleifion yn cael meddyginiaethau sy'n ddiogel ac yn effeithiol.

Yn fyr iawn—a diolch am dderbyn yr ymyriad—oni fyddai dileu rhwystr cyfreithlondeb yn helpu i hwyluso'r ffordd tuag at ddod o hyd i ddulliau o ddefnyddio canabis mewn ffordd feddyginiaethol?

Ni chredaf fod hynny'n wir, mewn gwirionedd. Fe geisiaf egluro pam yn yr amser sy'n weddill. Oherwydd yr hyn y mae'r cynnig yn dadlau drosto yw'r defnydd o ganabis gwair ac osgoi ein prosesau rheoleiddio ac arfarnu hirsefydledig ac uchel eu parch. Mae'r prosesau hynny ar waith i ddiogelu cleifion a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar driniaethau clinigol profedig a chosteffeithiol. Heb sail dystiolaeth, heb eglurder ynghylch purdeb, dos a chryfder ac amgylchiadau triniaeth, byddem hefyd yn rhoi'r rhai sy'n presgripsiynu mewn sefyllfa anghynaliadwy. Oherwydd mae'n rhaid i chi ddeall, os nad ydych yn mynd i gael y cyffur sy'n deillio o ganabis y gallwch ei gael ar hyn o bryd—. Nid yw'r ffaith nad yw canabis ei hun yn gyffur hamdden cyfreithlon yn gwneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Mae'n ymwneud â'r gallu i ynysu'r canabinoidau a'u profi mewn proses drylwyr, ddiogel a gwneud yn siŵr eu bod yn gosteffeithiol hefyd. Dyna'r unig rwystr i ganiatáu i ganabinoidau fod ar gael ar ffurf cyffur yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydych chi wedyn yn sicrhau bod ffurf amrwd ar y cyffur ar gael, neu ganabis gwair, yna ni allwch wybod pa mor gryf yw hwnnw. Ni allwch wybod ar gyfer pa gyflwr y byddech yn presgripsiynu a'r cryfder ar gyfer y cyflwr penodol hwnnw hefyd. Mae'n her ymarferol, yn hytrach na gwrthwynebiad egwyddorol i ganabis meddyginiaethol, a dyna'r pwynt. Mae'n ymwneud â sut yr arferwn ddull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn y gwasanaeth iechyd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a fydd y Llywydd yn caniatáu mwy o amser i mi dderbyn ymyriad arall.

16:40

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Rhaid imi ddweud, caf fy hun mewn sefyllfa anarferol o gytuno â bron bob gair rydych wedi eu dweud. Un peth y credaf y byddai'n eithriadol o bwysig yw rhagor o ymchwil i fanteision canabis a rhai o'r dibenion meddyginiaethol y gellir ei ddefnyddio ar eu cyfer. Tybed, Weinidog, a oes unrhyw waith y gallech ei wneud, efallai gydag AWMSG a chwmnïau fferyllol, i helpu i ynysu rhai o'r cemegau allweddol hyn yn y planhigyn canabis a allai fod yn fuddiol i iechyd pobl o ran lleddfu symptomau. A yw hynny'n rhywbeth y gallech ei wneud fel Llywodraeth Cymru?

Wel, rwy'n credu gall y rhannau nesaf yn fy nghyfraniad helpu gyda hynny. Dywedais yn gynharach fod gweithgynhyrchwyr Sativex wedi gorfod nodi 60 o ganabinoidau gwahanol, cyn mynd drwy'r rhai a fyddai'n helpu gyda chyflyrau penodol. Mae gwneuthurwr Sativex yn datblygu tair meddyginiaeth newydd sy'n seiliedig ar ganabis i helpu i drin epilepsi, sgitsoffrenia a chyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth. Mae 18 o feddyginiaethau pellach sy'n seiliedig ar ganabis wrthi'n cael eu datblygu gan weithgynhyrchwyr eraill i drin ystod o gyflyrau. Felly, dyma faes sy'n gyfoethog o ran ymchwil a'r potensial i ddeilliadau canabis fod ar gael ar ffurf ddiogel, drwyddedig ac effeithiol.

Nawr, nid yw'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y grŵp seneddol hollbleidiol na'r cynnig hwn yn dynodi'r costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno system reoleiddio ar gyfer canabis gwair fel cynnyrch meddyginiaethol, na chostau sefydlu a rheoli corff rheoleiddio newydd, yn wir, ar gyfer goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu, caffael a dosbarthu, ac maent yn seiliedig ar y costau o fonitro ei ddefnydd, gan gynnwys cofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau niweidiol. Mae yna her yma ynglŷn â sut rydym yn dewis cyfarwyddo'r gwasanaeth iechyd gwladol neu bwyso arno i wario ei adnoddau. Ar hyn o bryd yn enwedig, ni allaf ddweud y byddai hyn yn flaenoriaeth i mi fel Gweinidog iechyd. Ond mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y gallwn fanteisio, yn union yn yr un modd ag y daw unrhyw feddyginiaethau newydd eraill i mewn i'r farchnad.

Rhaid i mi ddweud, i ymdrin â'r pwynt a wnaed am ddeddfwriaeth cyffuriau mewn gwledydd eraill, mae'n wir fod safbwynt gwahanol gan wledydd eraill. Ond mae safbwynt gwahanol gan wledydd eraill ar nifer o bynciau. Nid yw'r ffaith fod taleithiau yn Unol Daleithiau America yn gwneud hyn yn dweud bod yn rhaid i ni ddilyn. Mae llu o wahaniaethau rhyngom ac rwy'n dathlu hynny, a buaswn yn dathlu pethau sy'n debyg rhyngom yn ogystal. Ac nid wyf yn credu bod hwn yn fater ymgyrchu i gymryd lle ein dull gweithredu wedi ei arwain gan dystiolaeth ar gyfer meddyginiaethau newydd. Yn anffodus, byddai'r cynnig, pe bai'n cael ei weithredu, yn tanseilio ein dull cenedlaethol seiliedig ar dystiolaeth, ac rwyf am sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu triniaeth ddiogel ac effeithiol. Ar sail y rhesymau rwyf wedi'u nodi, ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig, a byddwn yn ymatal.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Daeth Mike Hedges yn syth i mewn â phwynt allweddol: nid oes a wnelo hyn â chyfreithloni canabis at ddefnydd hamdden. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn ymddiried yn ein hymarferwyr meddygol i ddarparu presgripsiynau cyfreithiol o gyffuriau canabinoid pan fo cleifion yn gallu cael budd ohonynt. Fel y dywedodd Leanne Wood, yn dilyn ymgyrchoedd effeithiol ar sail tystiolaeth gan MS Cymru ac eraill, ynghyd â'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, mae hi wedi cyrraedd safbwynt egwyddorol, sef bod pobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio canabis yn anghyfreithlon i reoli eu symptomau, eto caiff morffin—heroin i bob pwrpas—ei roi ar bresgripsiwn. Dywedodd fod hyn yn ymwneud ag atal pobl rhag gorfod cael cyffur amrwd yn anghyfreithlon—atal pobl rhag gorfod cael cyffur amrwd yn anghyfreithlon. Mae'r ddadl ehangach am gyffuriau yn ddadl wahanol, gan mai dadl iechyd yw hon.

Dywedodd Caroline Jones fod llawer o fanteision meddygol i ganabis, ond nid yw'n cefnogi ailddosbarthu. Dywedodd y gall THC mewn canabis achosi nam gwybyddol. Wel, mae'r planhigyn mariwana yn cynnwys dros 100 o gemegau, neu ganabinoidau, a phob un yn cael gwahanol effaith ar y corff. Y ddau brif gemegyn yw THC, y cyfeiriwyd ato, yr elfen sy'n cynhyrchu'r effaith benfeddw, a CBD, nad yw'n cynhyrchu unrhyw effeithiau seicoweithredol. Y pwynt penodol ynghylch canabis meddygol yw ei fod yn cynnwys lefelau uchel o CBD, ac nid THC.

Dywedodd Mohammad Asghar fod dros 100,000 o bobl yn y DU yn dioddef o sglerosis ymledol, gan gynnwys 4,260 yng Nghymru. Siaradodd am fanteision o Sativex ar gyfer sbastigedd, ond nododd hefyd fod llawer o bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol yn gorfod wynebu'r risg o gael eu herlyn er mwyn rheoli eu poen, a rhaid i Gymru arwain y ffordd ar hyn. Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn fater syml: dylid gwneud popeth posibl i liniaru dioddefaint. Nid yr un peth yw defnyddio canabis at ddibenion meddygol a'i ddefnyddio at ddibenion hamdden, a cheir digonedd o enghreifftiau presennol o gyffuriau presgripsiwn yn cael eu camddefnyddio, ond nid ydym yn gwahardd y rheini.

Teimlaf fod araith Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i raddau helaeth i'r hyn na ddywedais, yn hytrach nag ymateb yn seiliedig ar dystiolaeth i'r hyn y gwneuthum ei ddweud. Oherwydd bod yr Unol Daleithiau, neu rai taleithiau yn yr UDA yn ei wneud, meddai, nid yw'n golygu bod rhaid i ni ei wneud. Ond mae'n fwy na'r Unol Daleithiau; rhestrais nifer o enghreifftiau eraill ledled y byd. Y pwynt yw bod hyn yn dod yn norm yn fyd-eang. Rydym yn cael ein gadael ar ôl. A dywedodd fod y cynnig hwn yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion. Felly, a gaf fi ofyn iddo: a fyddai'n cytuno i gyfarfod â chynghorwyr meddygol, i ategu'r sylw a wnaeth Leanne Wood, gan gynnwys yr Athro Barnes, i drafod y dystiolaeth hyd yma ar ganabis at ddibenion meddyginiaethol? Mae pawb ohonom wedi clywed am waith y grŵp seneddol hollbleidiol. Wel, canfu'r Athro Michael Barnes, yn gyffredinol, fod yna dystiolaeth dda dros ddefnyddio canabis mewn llawer o gyflyrau pwysig sy'n effeithio ar filoedd lawer o bobl anabl yn y DU. Dywedodd:

Yn gyffredinol, mae canabis a chynhyrchion canabis yn ddiogel ac yn cael eu goddef yn dda. Mae'n amlwg o'r adolygiad hwn fod gwerth meddyginiaethol i ganabis.

A dywedodd:

Rydym o'r farn fod y dystiolaeth yn awgrymu'n gadarn y dylai canabis fod yn gynnyrch cyfreithlon at ddefnydd meddyginiaethol, cyhyd ag y gellir gwarantu ansawdd y cynnyrch a diogelu'r gadwyn gyflenwi a bod defnyddwyr meddygol, cyn belled ag sy'n bosibl yn ymarferol, yn cael eu cynnwys mewn astudiaethau hirdymor priodol o effeithiolrwydd a sgil-effeithiau hirdymor.

Dyna rydym yn ei gynnig.

Ar sail ei adroddiad, dywedodd Taleithiau Jersey ei fod yn ffurfio sail i newidiadau a gynlluniwyd ar draws Jersey a Guernsey. Felly, unwaith eto, rwyf am gloi drwy ofyn i'r Ysgrifennydd iechyd: a wnaiff Llywodraeth Cymru gytuno i gyfarfod â chynghorwyr meddygol, gan gynnwys yr Athro Barnes, i drafod y dystiolaeth hyd yn hyn ar ganabis at ddefnydd meddygol ac i edrych ar y gwaith manwl dros saith mis gan ein cymheiriaid yn San Steffan a'r astudiaeth ryngwladol fanwl iawn yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflawnwyd gan yr Athro Barnes? Diolch yn fawr iawn.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar glystyrau gofal sylfaenol, ac rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM6624 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad ein pwyllgor ni, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ar glystyrau gofal sylfaenol.

I gleifion, gofal iechyd sylfaenol yw eu cyswllt cyntaf â’r system gofal iechyd. Yn y gwasanaeth iechyd gwladol, meddygon teulu sy’n darparu gofal iechyd sylfaenol yn bennaf. Grwpiau o feddygon teulu sy’n gweithio gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill yw clystyrau gofal sylfaenol, gyda’r nod o gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal adolygiad o glystyrau gofal sylfaenol am ein bod ni am gadarnhau a yw’r model ar gyfer y gwaith hwn yn sicrhau gwasanaethau gwell i gleifion ac a yw ar y trywydd iawn i wneud y newidiadau systemig sydd eu hangen ym maes gofal sylfaenol. 

Rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Chwefror 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym. Cafwyd 47 o ymatebion ysgrifenedig, a’r rheini gan ystod o sefydliadau gofal iechyd, grwpiau proffesiynol a staff clinigol unigol. Cawsom dystiolaeth lafar gan sawl tyst ac, mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Wrecsam, cyfarfu aelodau’r Pwyllgor â meddygon teulu, rheolwyr practisau a chynrychiolwyr eraill o glystyrau a byrddau iechyd lleol. Roedd y trafodaethau grŵp yn canolbwyntio ar aeddfedrwydd clystyrau, datblygu clystyrau, y gweithlu, cyllid, boddhad cleifion, ac atebolrwydd. Gwnaeth y dystiolaeth a glywsom ein helpu i lunio casgliadau clir iawn a’n galluogi i lunio argymhellion cadarn i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog.

16:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn gynharach heddiw, cawsom gyfarfod efo pobl a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol, draw yn y Pierhead amser cinio, a hynny er mwyn cael eu barn ar ganfyddiadau’r adroddiad a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ni. Dyma fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran yn ein hadolygiad.

Rwy'n symud ymlaen at y casgliadau a'n hargymhellion ni. Mae ein hadroddiad yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys a yw’r clystyrau wedi lleihau’r galw ar feddygon teulu, y manteision o weithio fel tîm amlddisgyblaethol, a lefel y cyllid a’i ddyraniad. Mae gennym gyfanswm o 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a’r gobaith yw y bydd y rhain yn cyfrannu tuag at sicrhau’r newid mawr sydd ei angen, yn ein barn ni, o ran datblygiad a chyfeiriad clystyrau gofal sylfaenol, os ydyn nhw i ysgafnhau’r pwysau sydd ar feddygon teulu ac ysbytai Cymru.

Mae’r set gyntaf o argymhellion—argymhellion 1, 2, 3 a 4—yn ymwneud â chyflymder a natur datblygiad clwstwr. Mae amrywiad sylweddol yn y 64 o glystyrau o ran eu haeddfedrwydd a ble maen nhw arni yn eu datblygiad. Er nad yw amrywiad ynddo’i hun yn beth negyddol, mae’r pwyllgor am gael sicrwydd bod yr amrywiad hwn o ganlyniad i ymateb i anghenion lleol, yn hytrach na diffyg cysondeb yng nghyflymder y datblygiad. Clywsom wahaniaeth barn ynghylch diben y clystyrau a chredwn fod hyn yn ychwanegu at yr amrywiad yn y ffordd y maen nhw’n datblygu. Er bod rhai yn effeithiol iawn o ran dod â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi allweddol ynghyd, mewn ardaloedd eraill, ymddengys iddynt gael eu hystyried yn gyfrwng ar gyfer gwneud cais am arian yn bennaf. Dywedodd rhai o’r ymatebwyr fod datblygiad rhai clystyrau yn dibynnu i raddau helaeth ar egni a brwdfrydedd meddygon teulu, practisau meddygon teulu, neu arweinwyr clwstwr unigol, ac nad yw’r model hwn yn un cynaliadwy yn y tymor hir.  Hefyd, clywsom nad yw’r holl randdeiliaid cywir yn cymryd rhan, a bod rhai clystyrau’n dal i ganolbwyntio ar bractis meddygol cyffredinol.

Rydym yn cytuno efo Llywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau gofal sylfaenol ganolbwyntio’n gryf ar gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth. Felly, rydym yn cefnogi’r farn bod angen annibyniaeth ar glystyrau. Fodd bynnag, rhaid gosod hyn o fewn fframwaith llywodraethu llawer mwy diffiniedig a strwythuredig. Mae angen golwg gliriach ar ffurf, atebolrwydd, pwerau a strwythur y clystyrau yn y dyfodol. Heb hyn, y perygl yw y bydd amrywiaeth o drefniadau ad hoc lleol ac, oherwydd hynny, na fydd newid cynaliadwy yn digwydd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, yn llwyr neu mewn egwyddor, argymhellion 1 i 4.

Rwy’n troi nawr at y cwestiwn a yw clystyrau’n gwireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol, sef argymhellion 5, 6 a 7. Rydym yn cefnogi’n llawn nod Llywodraeth Cymru i glystyrau chwarae rhan arwyddocaol wrth gynllunio’r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau ac adnoddau allan o ysbytai i’w cymunedau lleol. Ni fydd hyn yn digwydd heb ffocws ac ysgogiad cynyddol o ran sut y gall gweithwyr gofal eilaidd ymwneud yn ystyrlon â gwaith clwstwr a sut y gall clystyrau ymgymryd â’r heriau mawr o ran lleihau gofal heb ei drefnu. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynllun clir ynghylch sut y bydd yr agwedd hon ar waith clwstwr yn cael ei datblygu.

Clywsom hefyd am yr angen i newid disgwyliadau cleifion o ran priodoldeb gweld ystod o weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol, yn hytrach na gweld y meddyg teulu bob tro. Rhoddwyd enghreifftiau o gleifion sy’n mynnu gweld meddyg teulu er gwaethaf y ffaith bod aelodau eraill o staff ar gael, fel nyrsys practis, ac y gallai fod wedi bod yn fwy priodol iddynt eu gweld nhw yn lle. Felly, rydym ni yn cefnogi’r angen am ymgyrch genedlaethol a fydd yn adeiladu ar y strategaeth Dewis Doeth bresennol i wella dealltwriaeth y claf a’r gefnogaeth ar gyfer y dull tîm amlddisgyblaethol cynyddol. Rydym ni'n croesawu’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, yn llwyr neu mewn egwyddor, argymhellion 5, 6 a 7.

Mae argymhellion 8, 9 a 10 yn canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â staffio. Mae manteision amlwg a sylweddol i’r dull tîm amlddisgyblaethol y mae’r clwstwr yn seiliedig arno. Fodd bynnag, mae rhai o’r anawsterau ymarferol cysylltiedig yn sylweddol ac, yn ein barn ni, nhw fydd yr her fwyaf arwyddocaol, o bosibl, i ddyfodol clystyrau. Mae’r rhain yn cynnwys: recriwtio a chadw meddygon teulu ac ystod eang o weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal sylfaenol; y cwestiwn ynghylch pwy sy’n cyflogi staff clwstwr a materion cysylltiedig fel pensiynau ac indemniad, efallai’r rhwystr mwyaf sylweddol i waith clwstwr effeithiol; y potensial i feddygon teulu dreulio amser yn ymdrin â materion adnoddau dynol a rheoli yn hytrach na darparu gofal clinigol; y ffaith bod goruchwyliaeth glinigol y tîm amlddisgyblaethol yn cael ei wanhau gan fod staff yn cael eu gosod y tu allan i fodelau rheoli traddodiadol a lleoliadau ffisegol; effaith negyddol dyraniadau cyllid blynyddol sy’n effeithio ar y gallu i recriwtio a chadw staff o safon; a hefyd materion llywodraethu cysylltiedig.

Yn ogystal, clywsom fod angen mynd ati, o fewn y model clwstwr newydd hwn, i gynllunio a chydgysylltu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau staff a hyfforddi’r gweithlu. Siom, felly, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod ein galwad i gyflwyno arweinydd cenedlaethol i gydlynu anghenion hyfforddiant a datblygu yn y clystyrau. Fe fyddwn i’n croesawu esboniad gan Ysgrifennydd y Cabinet am ei resymau dros wneud hyn. Croesawyd cyllid clwstwr gan bawb sy’n ymwneud â gwaith clwstwr, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae tri o’n hargymhellion, sef 11, 12 a 13, yn ymwneud â chyllid. Seiliwyd y tri ar y dystiolaeth a ddaeth i law ac nid ydyn nhw’n galw am gyllid ychwanegol. Mae’n siom, felly, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis diystyru’r pwyntiau pwysig hyn.

Mae angen seilwaith amserol ac effeithiol ar y gwasanaeth iechyd gwladol i gefnogi’r newid i waith clwstwr. Mae hyn yn cynnwys yr ystâd gofal sylfaenol a’r seilwaith IT—argymhellion 14 a 15. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai ychydig o gynnydd a welwyd yn y maes hwn a bod yr ystâd, yn ei hystyr ehangaf, yn parhau i fod yn broblem sylweddol i’r sector gofal sylfaenol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi swm o £68 miliwn yn ddiweddar i gyflwyno 19 canolfan iechyd a gofal integredig newydd ledled Cymru erbyn 2021, gan y bydd y rhain yn allweddol i leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai trwy gadw gwasanaethau iechyd hanfodol yn agosach at bobl yn eu cymunedau. Hefyd, rwy’n edrych ymlaen at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i ganfyddiadau’r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â seilwaith IT.

Mae a wnelo ein hargymhelliad terfynol, argymhelliad 16, â’r angen am drefn gliriach a mwy cadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Yn gyffredinol, clywsom adborth cadarnhaol am effaith ganfyddedig mentrau clwstwr, ond ychydig iawn o dystiolaeth fesuradwy oedd ar gael i ategu’r canfyddiadau hyn. Mynegwyd pryderon ynghylch a yw’n bosibl dangos effaith clystyrau, ac a oes mecanweithiau ar waith i sicrhau y gellid gwerthuso’n gadarn yr hyn maen nhw’n ei wneud, ac i ba raddau maen nhw’n gwella canlyniadau cleifion. Ystyriwyd bod gwerthuso a monitro yn hanfodol nid yn unig wrth asesu cynnydd, ond hefyd wrth sicrhau bod gwaith clwstwr llwyddiannus yn cael ei rannu ag eraill a’i gyflwyno lle bo’n briodol. Mae’n siomedig, felly, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 16. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr. 

16:55

Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan benderfynasom gynnal yr ymchwiliad hwn i glystyrau gofal sylfaenol. Roedd ein penderfyniad i edrych ar hyn yn deillio i raddau helaeth o bryderon roedd aelodau eraill y pwyllgor a minnau wedi eu clywed drwy ein trafodaethau gyda meddygon mewn ymarfer cyffredinol, ac roeddem eisiau gwerthuso'r dull newydd hwn o weithio. Hoffwn ddiolch i staff y pwyllgor a'r holl dystion a'n galluogodd, drwy eu tystiolaeth onest, i herio'r byrddau iechyd a'r Llywodraeth, a datblygu set o argymhellion y credwn y byddent yn gwella datblygiad ac awdurdod y rhwydwaith o glystyrau meddyg teulu yng Nghymru.

Rydym wedi clywed cymaint am arferion da gan glystyrau meddygon teulu lle y ceir cynrychiolaeth gref a chyfranogiad gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, megis therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, nyrsys gofal lliniarol ac arbenigwyr iechyd meddwl. Clywsom am enghreifftiau lle roedd syniad i wella gwasanaethau i'r claf wedi cael ei feithrin, wedi derbyn cyllid, wedi'i dreialu, wedi'i amlygu fel enghraifft o arfer da ac yna, naill ai wedi ei ymestyn neu wedi arafu. Yn y rhan fwyaf o'r enghreifftiau, daeth yn amlwg fod thema debyg i'r rhwystrau a ataliai arferion da rhag dod yn ymarfer cyffredin. Roedd byrddau iechyd eisiau pennu a rheoli'r arian, gan lesteirio'r union arloesedd roeddem ei angen. Ceid diffyg cynaliadwyedd o ran pobl neu'r arian, roedd prosiectau'n dod i ben ac yn dechrau, a chaent eu gyrru o un flwyddyn i'r llall yn hytrach na bod unrhyw hirhoedledd yn perthyn iddynt.

Nid yw pob clwstwr yn ymgysylltu â sbectrwm eang o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd a oedd â gwasanaethau a syniadau i'w cynnig, ond nid oeddent yn gallu dal eu gafael. Mae prosiectau a weithiodd wedi gorfod ymladd i gael eu mabwysiadu fel arfer cyffredin gan y bwrdd iechyd. Mae cadw cydbwysedd ac adrodd yn drech nag unrhyw dwf newydd, ac wrth gwrs, ceir proffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun. Os nad yw byrddau iechyd yn mabwysiadu'r prosiectau llwyddiannus ac yn eu perchnogi, ni ellir rhyddhau'r arian clwstwr sydd ynghlwm wrth y prosiect hwnnw i weithredu fel cyllid sbarduno ar gyfer y cam arloesi nesaf.

Roedd meddygon teulu weithiau'n ei chael hi'n eithriadol o anodd ymgysylltu â'r clystyrau eu hunain oherwydd pwysau eu llwyth achosion, ac roedd ymdeimlad gan rai gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd a fferyllwyr cymunedol y gallent wneud mwy, eu bod yno yn barod, yn fodlon ac yn gallu ond bod y newid diwylliannol, mewn rhai achosion, i roi'r gorau i feddwl 'meddyg' a defnyddio eu sgiliau a hyfforddiant yn anodd ei gyflawni.

Ond lle mae'n gweithio, mae'n gweithio'n dda. Hoffwn gyfeirio at enghreifftiau o bractis meddygol Stryd Argyle yn Noc Penfro yn fy etholaeth, practis sydd o dan bwysau aruthrol gyda'r rhestr hiraf o gleifion yng Nghymru a thri meddyg yn brin. Ar gyfer cyflyrau cronig a gofal lliniarol, maent wedi defnyddio arian clwstwr i gyflwyno therapyddion galwedigaethol a nyrsys gofal lliniarol, gyda rhai ohonynt yn cael eu hariannu gan y bwrdd iechyd yn uniongyrchol ac sydd wedi dod yn rheng flaen newydd i helpu'r cleifion hyn sy'n agored i niwed, gan alluogi'r meddygon i weithredu fel trefniant wrth gefn ar gyfer cyflyrau mwy cymhleth.

Fodd bynnag, fel y dywedodd y Cadeirydd, canfu ein hymchwiliad gryn dipyn o gymysgedd, a dyna pam y teimlaf fod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad 16 yn gwbl syfrdanol. Roeddem eisiau i Lywodraeth Cymru sicrhau y ceir methodoleg glir ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Credwn y byddai hyn yn galluogi i arfer gorau gael ei fabwysiadu fel arfer cyffredin yn gyflymach ac y byddai'n helpu i nodi pam na weithiodd rhai prosiectau a sicrhau eu bod yn cael eu dirwyn i ben yn hytrach na bod arian yn cael eu taflu atynt yn barhaus. A bod yn onest, jargon yw ymateb y Llywodraeth, ac mae'n cuddio y tu ôl i Gronfa'r Brenin, ac nid wyf erioed wedi gallu deall unrhyw sefydliad, Llywodraeth neu beidio, a fydd yn gwario arian heb gostio'r gwariant hwnnw—ac rwy'n cyfeirio at sylwadau o'ch ymateb i'n hadroddiad ar y gyllideb—na mesur canlyniadau. Rhaid inni fesur a gwerthuso. Sut y gallwn wneud hynny heb y wybodaeth briodol?

Argymhelliad 11: mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid dyrannu arian datblygu clwstwr i glystyrau unigol ar sail tair blynedd yn hytrach nag ar sail flynyddol, ac eto, yr angen am gynaliadwyedd arian clwstwr i alluogi hyfforddiant i gael y staff iawn ar gyfer lleddfu pryderon ynglŷn â  threfniadau gwaith pobl, yr angen i gynnal peilot, treialu, gwerthuso a mabwysiadu—ni allwch wneud hynny mewn blwyddyn. Ond mae cylch ariannu tair blynedd o leiaf yn gwneud rhywfaint o gynaliadwyedd yn bosibl. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu'r ddau argymhelliad hyn eto yng ngoleuni'r holl dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol.

Aelodau, rwy'n argymell y dylai pawb ohonom ddarllen yr adroddiad hwn, oherwydd o ystyried y pwyslais ar ofal sylfaenol yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, mae clystyrau'n fodel ar gyfer y ffordd ymlaen, ond mae angen eu rhyddhau, eu hariannu, eu dwyn i gyfrif, ac yn y pen draw, eu gwerthuso.

17:00

Fel aelod o'r pwyllgor, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad i raddau helaeth wrth i ni barhau i ddatblygu a chryfhau'r clystyrau gofal sylfaenol yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Yr argraff bennaf a wnaed arnaf o'r dystiolaeth a gymerwyd gennym yn yr ymchwiliad hwn yw ei bod hi'n rhy fuan, i lawer o bobl, i wneud penderfyniad gwybodus neu ffurfio barn ddeallus ar lwyddiant cyffredinol y clystyrau. Felly, credaf y bydd gwerthuso gweithgaredd yn y clystyrau presennol a chlystyrau sy'n datblygu yn hanfodol bwysig os ydym yn mynd i gyflwyno arfer da ar draws Cymru.

Felly, heddiw, fodd bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw argymhellion penodol, hoffwn wneud tri phwynt yn unig. Yn gyntaf, buddsoddi ein harian i helpu i gyflawni newid sydd ei angen yn ddirfawr a sicrhau ein bod yn rhannu arferion da. Yn ail, buddsoddi ein harian i helpu pobl i wneud y dewis cywir am eu gofal, gan adeiladu ar waith yr ymgyrch Dewis Doeth y cyfeiriodd Dai Lloyd ati eisoes a chyflawni newid mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Ac yn drydydd, y modd y mae'r gwaith ar glystyrau gofal sylfaenol yn un rhan yn unig o'r cyfrifoldeb enfawr ar y Cynulliad cyfan yng ngoleuni'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol.

Felly, yn gyntaf, hoffwn gysylltu rôl gynyddol clystyrau gofal sylfaenol â'r dasg hanfodol o wario'r gyllideb iechyd yn ddoeth. Credaf fod llawer o dystiolaeth o blaid gwaith clwstwr, er nad yw hynny'n wir am werthuso ar hyn o bryd, a'r dasg sy'n wynebu GIG Cymru yw sicrhau bod yr enghreifftiau o arfer gorau yn cael eu cyflwyno'n gyflym ac yn effeithiol wrth i'r modelau clwstwr aeddfedu. Yr her sy'n wynebu pob un ohonom, waeth beth yw ein lliw gwleidyddol, yw sicrhau bod yr arian a fuddsoddwn yn GIG Cymru yn helpu i wneud y newidiadau go iawn y gwyddom eu bod yn angenrheidiol o ran y modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Bellach mae angen inni sicrhau bod clystyrau'n gallu dylanwadu ar gynlluniau tymor canolig integredig a bod y cynlluniau hynny'n caniatáu ar gyfer yr arloesedd y bwriadwyd i arian clwstwr ei ddarparu. Rwy'n gadarn o'r farn na allwn fforddio parhau i fuddsoddi mewn modelau gofal nad ydynt yn ymateb i'r anghenion sy'n newid yn barhaol. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod angen i ni symud gwasanaethau i'r lleoliad sylfaenol ac os caiff ei wneud yn iawn, gall clystyrau fod yn ffordd effeithiol o wneud hyn, a cheir enghreifftiau ardderchog o arfer da eisoes.

Yn ardal fy mwrdd iechyd yng Nghwm Taf, er enghraifft, rydym wedi gweld llwyddiant y prosiect Mae Dannedd Babi YN Bwysig ym Merthyr Tudful, sy'n sicrhau bod plant dan ddwy a phum mlwydd oed yn cael mynediad cynnar at ofal deintyddol drwy weithwyr cymorth gofal iechyd a therapyddion deintyddol. Mae swyddogion cymorth meddygon teulu yn helpu meddygon teulu i ganolbwyntio ar yr hyn y gallant ei wneud, gan helpu pobl ag anghenion gofal cymdeithasol a chydgysylltu gofal, ac mae'r clwstwr yn arwain gyda phrosiectau TGCh fel meddyg teulu ar y we, sy'n darparu gwasanaeth brysbennu ar-lein.

Mae Cwm Taf hefyd wedi treialu prosiect clwstwr ward rithwir yn Aberdâr—deallaf eu bod i gyflwyno un ym Merthyr hefyd yn fuan—lle roedd tîm gofal sylfaenol amlddisgyblaethol yn targedu 150 o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty'n fynych, pobl oedrannus eiddil yn bennaf, drwy fynd ati'n rhagweithiol i ymweld â hwy yn eu cartrefi eu hunain, i gynnig cymorth drwy ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr. Dros gyfnod o wyth mis, mae hyn wedi arwain at 60 y cant yn llai o apwyntiadau meddygon teulu, 80 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty, a 90 y cant yn llai o alwadau i wasanaethau tu allan i oriau. Mae hyn wedi rhoi amser i feddygon teulu ymdrin â materion mwy cymhleth yn eu meddygfeydd.

Felly, mae gwrthsefyll newid yn y modd y darparir gwasanaethau, fel yr enghreifftiau rwyf newydd eu rhoi, yn peri i'r sefyllfa droi yn ei hunfan, ac nid system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n troi yn ei hunfan sydd ei hangen ar bobl Cymru. Felly, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru sy'n cadarnhau'r ymrwymiad i ddarparu gweledigaeth gliriach o waith clystyrau gofal sylfaenol.

Mae hyn yn fy arwain at fy ail bwynt. Fel y dengys y pwysau presennol ar y system, rhaid i gam nesaf y gwaith ar glystyrau gofal sylfaenol helpu i gryfhau'r gwaith pwysig sydd wrth wraidd yr ymgyrch Dewis Doeth. Nid oes amheuaeth, fel defnyddwyr y GIG, fod rhaid inni gael ein hatgoffa'n barhaus ynglŷn â'r ffordd y gall ein dewisiadau personol effeithio ar gadernid y system gyfan. Mae cryfhau gwasanaethau mewn clystyrau gofal sylfaenol, gan sicrhau felly nad oes angen i bobl ymweld ag ysbyty i gael triniaeth fel mater o drefn, yn rhan o'r strategaeth gyffredinol. Efallai fod angen inni symud yn ôl at ddefnyddio terminoleg lawn 'damweiniau ac achosion brys' i atgyfnerthu'r hyn y mae a wnelo gwasanaeth ysbytai mewn gwirionedd.

Yn olaf, a fy nhrydydd pwynt, un rhan yn unig yw'r adroddiad hwn ar glystyrau gofal sylfaenol o'r hyn y credaf y bydd yn flwyddyn arwyddocaol i'r GIG yng Nghymru, gan y bydd angen inni hefyd weithio'n galetach byth wrth i ni dderbyn a rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r argymhellion yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol a drafodwyd gennym ddoe. Mae gennym lawer iawn o waith pwysig o'n blaenau.

17:05

Yn sicr, fe wnes i ddysgu llawer iawn yn ystod yr ymchwiliad yma. Mae gen i brofiad yn fy etholaeth, fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, o weld clwstwr ar waith—clwstwr effeithiol iawn fel rydw i'n ei ddeall. Rwyf wedi eistedd i mewn ar gyfarfod clwstwr a gweld y gwaith amlddisgyblaethol yn tynnu at ei gilydd mewn ffordd rydw i'n credu oedd yn effeithiol iawn ar ran fy etholwyr i yn Ynys Môn.

Ond rydw i hefyd wedi dysgu, rydw i'n meddwl, yn yr ymchwiliad yma, fod clwstwr yn gallu golygu rhywbeth gwahanol iawn, iawn mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ddibynnol ar bopeth, o ddaearyddiaeth i faint meddygfeydd teulu unigol, i'r math o gydberthynas oedd yna rhwng gwahanol elfennau o'r timau amlddisgyblaethol—yn dibynnu ar bersonoliaethau, hyd yn oed, ac yn dibynnu ar agweddau pobl tuag at y clystyrau, a beth oedd eu pwrpas nhw. Rydym ni wedi clywed gan bobl a oedd yn gweld clwstwr fel rhywbeth i wirioneddol ddod â thîm at ei gilydd. Rydym ni wedi gweld ffederaleiddio'n digwydd fel cam hyd yn oed ymhellach. Rydym wedi clywed am eraill yn gweld clwstwr fel dim ond mecanwaith i ddod ag ychydig o arian ychwanegol i mewn ar gyfer rhyw brosiect neu'i gilydd.

Felly, os ydym ni'n edrych ar yr argymhelliad cyntaf un, rydw i'n meddwl bod hwnnw'n crynhoi, o bosib, prif ddiben yr hyn fuom ni yn ei drafod, sef yr angen am eglurder ynglŷn â beth yn union ydy clwstwr:

'Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi model newydd ar gyfer clystyrau
gofal sylfaenol'

a bod angen i'r model hwnnw fod yn glir. Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut y bydd hwnnw yn cael ei weithredu arno fo gan y Llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod pump o argymhellion y pwyllgor. Dyna bron i draean. Rwy'n siomedig ynglŷn â hynny fel aelod o'r pwyllgor. Nid wyf yn meddwl ei fod yn arbennig o dderbyniol, gan nad wyf yn meddwl bod yr un o'r pump yn arbennig o ddadleuol. Nid wyf yn ystyried bod iddynt oblygiadau ariannol enfawr, ond wrth gwrs, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet.

Gadewch i mi fynd drwy'r argymhellion a wrthodwyd. Argymhelliad 10—mae a wnelo hwnnw â gwella cynllunio ar gyfer hyfforddiant cenedlaethol. O ystyried ein rhwystredigaethau yn ddiweddar ynglŷn â chynllunio'r gweithlu yng Nghymru, efallai mai un sylw amlwg a braidd yn ddigywilydd fyddai dweud bod y Llywodraeth o leiaf yn gyson yn gwrthod gwneud hynny, ond unwaith eto, edrychaf ymlaen at glywed mwy am y sail resymegol. Dywed argymhelliad 11 y dylid cyflwyno cynlluniau ariannol tair blynedd. Pam gwrthod hynny pan oedd y Llywodraeth yn gefnogol i fyrddau iechyd lleol symud i'r cyfeiriad hwnnw? Dywed argymhelliad 12 y dylid adolygu'r ffrydiau ariannu i sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'r cyllid. Mae'n anghredadwy fod unrhyw beth o'i le ar hynny.

Argymhelliad 13—

'sefydlu prosesau gwneud penderfyniadau clir ar gyfer gwerthuso a datblygu modelau llwyddiannus yn gyflym a dirwyn i ben arian ar gyfer mentrau llai llwyddiannus.'

Credaf, efallai, mai dyma un o'r problemau mwyaf yn y GIG. Mentrau llwyddiannus, a mawredd, maent yn bodoli. Rydym wedi gweld digon ohonynt. Gwyddom am ddigonedd o enghreifftiau o arloesi a ddyfeisiwyd gan staff o fewn y GIG a rheolwyr, ond nid ydynt yn cael eu datblygu'n effeithiol. Gwelwn fentrau aflwyddiannus yn cael eu caniatáu i barhau, a chredaf fod gwrthod yr argymhelliad yn awgrymu bod gennym broblem barhaus yn y maes penodol hwn.

Mae argymhelliad 16 wedyn yn dweud y dylid 

'sicrhau bod mecanwaith llawer mwy eglur a chadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr.'

Pam ar y ddaear y byddem yn gwrthod y syniad o gasglu tystiolaeth i weld a yw polisi'n gweithio?

Felly, rydym wedi dysgu llawer fel pwyllgor. Yn sicr, fe ddysgais fod yr egwyddor o glystyrau yn egwyddor gwerth mynd ar ei thrywydd, a chredaf ei bod yn fuddiol i'r GIG yng Nghymru weld sut y tynnwn wahanol rannau, o'r sector gofal sylfaenol yn yr achos hwn, at ei gilydd er budd cleifion Cymru. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am yr hyn y cred Ysgrifennydd y Cabinet y mae ef wedi'i ddysgu hefyd.

17:10

Rwy'n aelod o'r pwyllgor, felly roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac yn fy marn i, yn unol â barn y pwyllgor rwy'n credu, a'r rhan fwyaf o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni, mae'r egwyddor o glystyrau yn un da iawn, ac mae egwyddor gwaith rhyngddisgyblaethol yn rhagorol. Ond credaf ein bod i gyd yn teimlo bod llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y clystyrau'n fwy effeithiol, a cheir llawer o faterion sydd angen eu datrys.

Uchafbwynt yr ymchwiliad i mi oedd y grŵp ffocws yng Nghaerfyrddin, a drefnwyd yn fedrus gan Angela Burns, lle y cawsom gyfle i glywed yn uniongyrchol am y materion a oedd o bwys i'r cyfranogwyr yno a'r rhwystredigaethau a'u hwynebodd yn y grwpiau clwstwr. Wrth gwrs, soniodd y Cadeirydd yn ei gyfraniad am y cyfarfod amser cinio a gawsom gyda'r gweithwyr proffesiynol yma heddiw cyn yr adroddiad hwn, ac yn y cyfarfod hwnnw, fe'm trawyd yn fawr gan frwdfrydedd y cyfranogwyr tuag at wneud gwaith da yn y gwasanaeth iechyd ac i wneud ymrwymiad mawr. Credaf fod hynny wedi'i gyfleu yn wirioneddol gryf heddiw, a chredaf eu bod i gyd, mewn egwyddor, yn cefnogi'r clystyrau, ond roeddent yn awyddus iawn i nodi'r ffyrdd ymarferol iawn y gellid gwella'r clystyrau a'r ffyrdd y gallem symud ymlaen.

Yn amlwg, un o'r materion allweddol hynny yw cyllid, ac mae Aelodau a siaradodd yn gynt wedi nodi materion yn ymwneud ag ariannu, ond credaf yn bendant fod rhywfaint o densiwn rhwng y byrddau iechyd lleol a'r cyllid i'r grwpiau clwstwr. Rwy'n credu bod hynny wedi cael sylw yn yr adroddiad hefyd, a chredaf fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dweud eu bod yn ymwybodol o oedi sylweddol cyn rhyddhau'r cronfeydd hyn. Ac mae yna achos hefyd dros ddyrannu'r arian datblygu clwstwr yn uniongyrchol i'r clystyrau yn hytrach nag i'r byrddau iechyd. Felly, yn ogystal â mater y cyllid blynyddol, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar y materion hyn, gan fod y brwdfrydedd yn fawr, ac rwy'n credu bod angen inni ei wneud mor hawdd ag sy'n bosibl i'r clystyrau ddatblygu.

Mae'r gwaith amlddisgyblaethol i'w groesawu'n fawr, ac un o'r trafodaethau diddorol iawn yn y grŵp ffocws yng Nghaerfyrddin oedd sut nad oedd y cleifion yn gallu gweld y meddyg teulu yn y ffordd yr arferent allu gwneud, ac i rai cleifion oedrannus a oedd wedi arfer gweld meddyg teulu ac a oedd wedi arfer gweld yr un meddyg teulu bob tro, mae'n newid go fawr yn ddiwylliannol i weld y nyrs yn lle hynny, neu i weld gweithiwr proffesiynol arall perthynol i iechyd sy'n fwy priodol ar gyfer eu hanghenion. Yn amlwg, rwy'n credu  mai gallu gweld yr unigolyn mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion yw'r peth allweddol o ran gwaith amlddisgyblaethol. Wrth i gleifion arfer yn raddol â'r ffordd hon o weithredu, credaf y bydd yn ffordd effeithiol iawn o weithredu, a bydd y claf yn gweld y person mwyaf perthnasol. Mae cyfle yma hefyd, rwy'n credu, oherwydd mae cleifion yn hoffi parhad, ac maent yn hoffi gweld yr un person, ac nid oes unrhyw reswm na all hynny olygu gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n eu gweld yn rheolaidd. Gallai olygu'r un person.

Roeddwn am sôn yn gyflym am fy mhrofiad yn yr etholaeth. Yn sicr, yn yr ymchwiliad hwn, mae ofnau ynghylch prinder meddygon teulu ac anawsterau i ddod o hyd i feddygon teulu yn lle rhai sy'n gadael wedi codi eu pen ym mhobman, ac rydym wedi cael profiad anodd yng Ngogledd Caerdydd lle caeodd un o'r meddygfeydd lleol mewn gwirionedd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod partneriaid presennol practis Llwynbedw yn Birchgrove a Cathedral View yng Ngogledd Llandaf wedi hysbysu ynglŷn â'u bwriad i derfynu'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan roi chwe mis o rybudd. Roedd y bwrdd iechyd yn methu sicrhau grŵp arall o feddygon teulu i gymryd y practis, ac ni chynigiodd practis unigol ei gymryd. Felly, roedd y ddau adeilad yn eiddo i'r meddygon teulu—y meddygon teulu presennol. Mae un o'r rheini'n cael ei werthu. Ond mae hyn wedi cael effaith ddigalon iawn ar lawer o fy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi, gan ei fod wedi arwain at darfu ar batrwm y gofal iechyd roeddent wedi arfer ei dderbyn. Mynychais gyfarfod grŵp clwstwr yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod y meddygon teulu yn y grŵp clwstwr hwnnw'n teimlo y dylai fod wedi bod yn bosibl atal yr aflonyddu hwn ar gleifion, a dylai fod rhyw ffordd o sicrhau na châi'r cleifion hyn—gyda llawer ohonynt yn oedrannus—eu hamddifadu am na allent fynd i'r feddygfa y buont yn ei mynychu dros lawer o flynyddoedd. Ac mae wedi arwain at lwyth achosion trymach o lawer i feddygfeydd eraill.

Felly, rwy'n credu bod y grwpiau clwstwr yn ffordd ragorol ymlaen sy'n rhoi cyfle i rannu arbenigedd, er mwyn cyflwyno'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac yn y cyfarfod amser cinio heddiw, roeddwn yn eistedd wrth ymyl yr unig nyrs sy'n arwain grŵp clwstwr. Un nyrs yng Nghymru sy'n arwain grŵp clwstwr, ond gobeithiwn y bydd hwnnw'n batrwm a allai ddigwydd mewn sawl man arall.

17:15

Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Mae gan glystyrau gofal sylfaenol botensial i drawsnewid y gofal a ddarperir yn ein cymunedau, ond er i ni weld enghreifftiau ardderchog o glystyrau llwyddiannus, ceir amrywiadau mawr yn eu perfformiad. Mynegodd llawer o feddygon teulu eu siom yn y clystyrau. Roedd rhai'n feirniadol iawn. Disgrifiodd un meddyg teulu eu clwstwr fel 'amatur'. Er bod cefnogaeth eang i'r egwyddorion sy'n sail i'r clystyrau, teimlir yn gyffredinol nad ydynt yn cyflawni'r disgwyliadau.

Nododd llawer o dystion y ffaith fod byrddau iechyd lleol yn rhwystro datblygiadau. Caiff cyllid datblygu clwstwr ei reoli gan fyrddau iechyd lleol, a chanfu llawer o'r clystyrau nad oeddent yn gallu defnyddio'r arian yn y ffordd fwyaf effeithiol, oherwydd rheoliadau a rheolau rhy fiwrocrataidd. Clywsom fod oddeutu 90 y cant o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i dalu costau staffio. Clywsom hefyd, dro ar ôl tro, fod rôl y bwrdd iechyd lleol yn dyrannu arian datblygu yn peri oedi ychwanegol diangen cyn cael y cyllid at y clystyrau. Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru wrthym fod yr angen i wario arian erbyn diwedd y flwyddyn yn ei gwneud yn anodd ailgynllunio gwasanaeth, recriwtio, hyfforddi a gwneud newid go iawn, oherwydd anhyblygrwydd a phrinder amser arwain. Fel pwyllgor, teimlem y dylai'r arian fynd yn uniongyrchol i'r clystyrau, ac y dylid ei ddyrannu ar sail tair blynedd er mwyn osgoi penderfyniadau cynllunio byrdymor, nad ydynt yn cynnig y gwerth gorau am arian yn aml. Rwy'n siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 11, ac rwy'n ei annog i ailystyried.

Daeth yn amlwg i mi, yn ystod yr ymchwiliad hwn, ei fod yn ymwneud â mwy na'r problemau ariannu: roedd byrddau iechyd yn llesteirio gallu'r clystyrau i gyflawni newid gwirioneddol. Galwodd Cymdeithas Feddygol Prydain am fwy o ymreolaeth i glystyrau, ac y dylent fod hyd braich oddi wrth y byrddau iechyd lleol. Rwy'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhellion 2 a 3, sy'n argymell strwythurau llywodraethu newydd a dirprwyo penderfyniadau i glystyrau.

Wrth gwrs, nid yw'r clystyrau ond yn effeithiol pan fydd ganddynt arweinyddiaeth gyson a chlir. Lle mae clystyrau'n llwyddiannus, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain wrthym fod hynny'n deillio'n bennaf o ganlyniad i unigolion penodol sydd wedi dangos arweiniad rhagweithiol er gwaethaf cyfyngiadau eu cyfrifoldebau clinigol. Mae'r pwyllgor yn teimlo bod angen amser a lle ar bob gweithiwr proffesiynol perthnasol i gymryd rhan yn ystyrlon. Rydym yn argymell y dylid cael model diwygiedig ac y dylid cyhoeddi'r canllawiau, gan nodi aelodaeth graidd er mwyn sicrhau bod clystyrau'n cynnwys y bobl gywir a bod ganddynt y tîm arweinyddiaeth gorau posibl. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi y cynhelir gweithdy y mis nesaf i ddwyn ynghyd y trefniadau llywodraethu arfaethedig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi gofyn am newid dyddiad y gweithdy i alluogi meddygon teulu i'w fynychu. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod inni a yw hynny'n bosibl.

Mae pob un ohonom yma eisiau i glystyrau gofal sylfaenol lwyddo. Fel yr amlygodd yr adolygiad seneddol, bydd dyfodol gofal yn canolbwyntio mwy ar ofal sylfaenol yn hytrach na gofal eilaidd, felly mae'n bwysig ein bod yn gwella darpariaeth iechyd a gofal yn ein cymunedau lleol. Mae gan glystyrau rôl bwysig i'w chwarae'n cyflawni'r gwelliannau a'r newid. Mae ein pwyllgor wedi gwneud 16 o awgrymiadau ar gyfer gwella rôl a gweithrediad clystyrau gofal sylfaenol, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ailystyried a derbyn pob un o'n hargymhellion. Diolch. Diolch yn fawr.

17:20

Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Hydref, ac rwy'n amlwg yn awyddus i ddeall pam nad ydym wedi ei drafod hyd yma. Rwy'n deall bod yn rhaid i chi aros am ymateb y Llywodraeth, ond gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, mae'n bwysig fod pawb ohonom yn amsugno'r dystiolaeth rydych yn ei chasglu, oherwydd rydym yn sôn am oddeutu hanner ein cyllideb gyfan, ac felly mae gan bawb ohonom ddyletswydd i sicrhau bod yr arian rydym yn ei ddyrannu i iechyd yn cael ei wario yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Credaf fod clystyrau gofal sylfaenol yn hynod o bwysig fel ffordd o chwalu rhwystrau artiffisial—ffiniau artiffisial—rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol. Mae hefyd yn ffordd o fynd i'r afael â phractisau sy'n tangyflawni, neu bractisau mewn trafferthion, fel yr achos a ddisgrifiodd Julie Morgan yn awr lle roedd y practis yn rhoi'r gorau i weithredu ac nid oedd neb yn barod i'w gymryd. Pe baent yn gwybod amdano yn gynharach, pe bai'r trefniadau clwstwr wedi bod yn nes, efallai y byddai practis arall wedi bod yn barod i'w gymryd, yn enwedig pe na baent wedi gorfod wynebu sefyllfa annisgwyl.

Heddiw, cefais brofiad ardderchog gyda rheolwr practis. Roedd angen i mi sefydlu'n gyflym iawn a ddarparwyd ffurflen arbennig o'r enw DS1500 i'r adran gwaith a phensiynau i alluogi rhywun i gael y lwfans presenoldeb y mae gan bobl hawl iddo ar ddiwedd eu hoes. Felly, mae hwn yn fater brys. Nid oes gennyf ddim ond canmoliaeth i'r rheolwr practis. Tasg i reolwr practis yw hon. Nid yw'n ddim i wneud â meddyg teulu yn yr ystyr nad wyf yn gofyn am gyngor clinigol; rwy'n gofyn am gyngor gweinyddol. Mae angen i mi wybod a yw'r ffurflen hon wedi ei hanfon. Pan lwyddasom i sefydlu bod yr adran gwaith a phensiynau wedi colli'r ffurflen, cytunodd ar unwaith i'w hanfon eto a sicrhau ei bod yn cyrraedd yno mewn pryd. Felly, hoffwn ddweud nad yw unrhyw feddyg teulu nad yw'n dirprwyo'r gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd o reoli eu practis i reolwr practis yn defnyddio ei sgiliau clinigol yn effeithiol. Ni ddylai fod angen iddynt boeni a yw'r offer y mae pobl ei angen i archwilio cleifion ar gael ai peidio. Mae hynny'n rhywbeth y dylai rhywun arall fod yn ei wneud.

Yn yr un modd, rwy'n ei chael hi'n rhwystredig iawn pan ymwelaf â fferyllwyr i glywed bod meddygfeydd yn gwrthod rhannu gwybodaeth ynglŷn â pha feddyginiaeth y mae cleifion yn ei chael. Dylai fod ar gael drwy'r system TG, er mwyn galluogi'r fferyllydd sy'n arbenigo mewn meddyginiaethau, i weld yn union pa goctel o gyffuriau y mae'r claf hwn yn ei gael ac a yw'r hyn a ysgrifennwyd ar y presgripsiwn yn briodol i'r unigolyn dan sylw. Yn anffodus, nid yw'n anghyffredin, gyda phresgripsiynau, i'r pwynt fod yn y lle anghywir, a gall hynny fod yn destun pryder mawr. Wrth gwrs, fferyllwyr yw'r rheng flaen. Mae pawb wedi clywed storïau am anawsterau i gael apwyntiad i weld meddyg teulu, ond gyda'r fferyllydd, gallwch gerdded i mewn ac fe gewch y cyngor ar unwaith. Felly, rwy'n credu bod angen i glystyrau fod yn gweithio'n llawer agosach gyda fferyllwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill, a fydd yn ein galluogi i rannu'r llwyth gwaith yn fwy effeithiol yn unol â gofal iechyd darbodus. Darllenais, gyda pheth dryswch, nad yw fferyllwyr bob amser yn cael gwahoddiad. Nid bod angen i bawb fod yn y cyfarfod clwstwr ar bob achlysur. Mae'n dibynnu beth yw'r pwnc sy'n mynd i gael ei drafod mewn cyfarfod penodol.

A ddylai byrddau iechyd gymryd mwy o ran neu lai o ran? Wel, rydym bob amser yn gorfod dilyn yr arian oherwydd os nad yw byrddau iechyd yn barod i sicrhau bod yr arian yn cael ei drosglwyddo i lawr o ofal eilaidd i ofal sylfaenol, nid ydym byth yn mynd i gael y newid sydd ei angen arnom i sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd cynaliadwy.

Hoffwn orffen drwy atgoffa pobl fy mod wedi sôn yn y Cynulliad o'r blaen am astudiaeth achos Canterbury, Seland Newydd, sydd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn cael gofal mwy integredig rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymunedol, a bod hynny wedi rhwystro galwadau am ofal ysbyty rhag cynyddu i'r entrychion, ac mae angen i bawb ohonom weld hynny. Nid oes angen ein hatgoffa beth sy'n digwydd yn y byd heddiw. Felly, mae angen inni ddysgu'n gyflym ac mae angen inni fwrw ymlaen â hyn yn hytrach nag oedi ymhellach. Rhaid i hon fod yn un ffordd ymlaen.

17:25

Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn i glystyrau gofal sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi, unwaith eto, yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod yn parhau i weld clystyrau gofal sylfaenol fel catalyddion allweddol ar gyfer diwygio a newid ym maes gofal iechyd lleol. Rwyf am i glystyrau barhau i ddatblygu eu rôl fel mecanweithiau cydweithredol lleol ar gyfer asesu anghenion cymunedau, a gwneud y defnydd gorau wedyn o'r adnoddau sydd ar gael. Mae hynny'n golygu defnyddio arian, pobl, sgiliau ac asedau eraill o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd yn yr awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r cymunedau eu hunain, er mwyn diwallu'r angen hwnnw.

Rydym eisoes yn gweld y manteision o gydweithio ar lefel clwstwr, gyda thystiolaeth o fwy o gydweithio yn arwain at well defnydd o adnoddau. Rydym hefyd yn gweld uno practisau meddyg teulu, ffederasiynau a mentrau cymdeithasol fel rhai o'r atebion i gynaliadwyedd. Er mwyn gwella mynediad, yn ogystal â chynaliadwyedd, mae clystyrau'n parhau i ddatblygu a gwneud defnydd o amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol. Gwelwn fwyfwy o fferyllwyr, ffisiotherapyddion a pharafeddygon yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu o fewn y tîm gofal iechyd lleol—mwy o bobl yn cael mynediad mwy amserol at y gweithwyr proffesiynol priodol ar gyfer eu hanghenion yn nes at adref.

Mae hefyd yn golygu bod gwasanaethau'n gallu rheoli'r galw a llwythi gwaith yn well, yn ogystal â'r capasiti yn gynyddol. Er enghraifft, mae clwstwr bae Abertawe yn gwneud defnydd doeth o barafeddyg i alw yn nhai pobl. Mae hynny wedi arwain at sicrhau bod pobl, yr henoed yn aml, yn cael eu gweld yn gynt heb orfod aros i'r meddyg teulu orffen gwaith yn y feddygfa. Ac yng nghlwstwr Llanelli, maent wedi penodi dau bresgripsiynydd cymdeithasol sy'n helpu pobl i gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt gan ystod eang o wasanaethau anghlinigol sydd ar gael gan y trydydd sector, ac mae hynny wedi lleihau'r galw ar amser meddygon teulu. Mae rhai o'r bobl sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau hyn wedi mynd ati eu hunain wedyn i wneud gwaith gwirfoddol a helpu eraill o ganlyniad i hynny. Nawr, er mwyn cadw pobl yn y cartref ac osgoi derbyniadau brys amhriodol i'r ysbyty, mae'r clwstwr yng ngogledd Powys yn gwneud defnydd doeth o rolau proffesiynol newydd ymarferwyr gofal brys a chymdeithion meddygol. Rwy'n disgwyl i gyflymder a maint arloesedd a gwelliannau barhau i gynyddu.

Rwy'n croesawu'r ffaith fod corff adroddiad y pwyllgor wedi cydnabod yr ystod eang o waith da sy'n cael ei wneud gan glystyrau. Mae hyn wedi datblygu ers y cyhoeddwyd y cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol yng Nghymru yn 2014. Fodd bynnag, er fy mod yn anghytuno braidd â pheth o swm a sylwedd yr argymhellion, nodaf eu bod yn cydnabod yn llawn y cynnydd a wnaed gan glystyrau mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Ar y dechrau—ac nid wyf yn dweud hyn oherwydd mai Gweinidog arall oedd wrthi ar y pryd—roedd cryn ddrwgdeimlad ac amwysedd o fewn gofal sylfaenol tuag at greu clystyrau. Roedd pobl yn amau y byddent yn gwneud unrhyw wahaniaeth, ac yn waeth na hynny, dywedodd llawer o bobl na fyddent ond yn mynd ag amser, ac y byddai mwy o gyfarfodydd i'w mynychu a mwy o ffurflenni i'w llenwi. Bellach, ceir agwedd go wahanol tuag at glystyrau ymhlith meddygon teulu, yn ogystal â thimau ehangach gofal iechyd lleol. Ac fel y clywsom gan Jenny Rathbone, mae mwy o bobl eisiau bod yn rhan o hyn a chael eu cynnwys yn y drafodaeth a'r broses o wneud penderfyniadau, a'r gwerth a ddaw yn sgil hynny. O 'm rhan i, byddaf yn parhau i annog clystyrau i esblygu ac aeddfedu fel y dull cywir o gynllunio gofal iechyd lleol hygyrch a chynaliadwy.

Amlinellais yn fy nhystiolaeth ysgrifenedig a fy nhystiolaeth lafar i'r pwyllgor, ac eto yn fy ymateb i'r argymhellion, fod yna eisoes nifer o ddarnau allweddol o waith ar y gweill neu wedi'i gynllunio sy'n mynd i'r afael â llinellau ymholi ac argymhellion. Rwy'n dweud yn glir yn fy nhystiolaeth fod yn rhaid inni fod yn ofalus i osgoi bod yn rhy gyfarwyddol ynglŷn â sut y dylai clystyrau ddatblygu. Ein bwriad oedd sicrhau bod ganddynt hyblygrwydd i ymateb i heriau ac asesiadau o anghenion lleol gan ddarparu fframwaith i glystyrau a byrddau iechyd allu gweithredu o'i fewn.

Nawr yw'r amser ar gyfer camau cenedlaethol ar y cyd i gynorthwyo clystyrau i esblygu. Caiff hynny ei lywio gan wersi a ddysgwyd a'r atebion arloesol a gyflawnwyd hyd yma. Felly, rwyf wedi gofyn i'r bwrdd cenedlaethol gofal sylfaenol gytuno ar set o drefniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gwaith clwstwr erbyn mis Mehefin eleni. Ac yn bwysig, rwyf wedi gofyn i'r trefniadau llywodraethu hynny alluogi yn hytrach na bod yn rhy gyfarwyddol. Rwy'n disgwyl iddynt gael eu cynllunio i gefnogi taith ddatblygu unigol pob clwstwr. A nodais yn fy ymateb y bydd y gwaith hwn yn ymdrin â nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad.

Rwy'n cydnabod y bydd aelodau'r pwyllgor bob amser yn siomedig pan fo'r Llywodraeth yn gwrthod argymhellion, ond mentraf ddweud nad wyf yn meddwl ei bod hi'n annerbyniol i'r Llywodraeth wrthod argymhellion fwy nag y mae'n dderbyniol i bwyllgor wneud argymhellion sy'n anodd neu'n heriol. Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni dderbyn yr angen i ddod yma ar gyfer craffu ac egluro beth rydym yn ei wneud a pham, fel rwy'n meddwl bod angen i bwyllgorau wybod y ceir ewyllys da wrth wrthod neu dderbyn mewn egwyddor yn unig.

Rwyf am droi at argymhelliad 10. Credaf fod rhywbeth yma am argymell arweiniad cenedlaethol i ymdrin â'r holl wasanaethau lleol hyn. Nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd y byddai hynny'n cyflawni'r math o welliant y gwn fod yr Aelodau'n edrych amdano yn gyffredinol mewn hyfforddiant.

Ac wrth ymateb i argymhelliad 11, rwyf am nodi ein bod wedi rhyddhau £10 miliwn o gyllid rheolaidd i glystyrau benderfynu sut i fuddsoddi, ac rwy'n cydnabod peth o'r dystiolaeth a roddwyd, i'r pwyllgor a'r hyn a glywais yn unigol, am beth o'r amrywio o ran hyblygrwydd i glystyrau allu defnyddio'r arian hwnnw gyda'u bwrdd iechyd lleol. Ond mae clystyrau'n gwneud penderfyniadau gwahanol ar y ffordd orau o ddefnyddio arian. Mae ganddynt gynlluniau datblygu clwstwr gwahanol y maent hwy eu hunain wedi bod yn rhan o'r gwaith o'u llunio, ac er y caiff ei ddefnyddio i brofi atebion arloesol, gofynnais i'r byrddau iechyd adolygu eu prosesau cynllunio er mwyn sicrhau prosesau gwerthuso systematig.

Rwy'n ceisio ymdrin yma, unwaith eto, gydag argymhelliad 13, yn rhannol oherwydd bod yn rhaid i'r broses gynllunio dreigl dair blynedd ar lefel clwstwr ac ar lefel bwrdd iechyd, sicrhau bod y mentrau aflwyddiannus yn cael eu dirwyn i ben a rhai llwyddiannus yn cael eu datblygu a'u hariannu o adnoddau craidd disgresiynol byrddau iechyd. Rwy'n disgwyl i hynny ryddhau cyllid ar lefel clwstwr i'w fuddsoddi mewn prosiectau arloesol newydd i ysgogi gwelliant parhaus.

Ar bwynt penodol y cyfeiriodd llefarydd UKIP ato, rwy'n hapus i gadarnhau y bydd David Bailey, Dr David Bailey o Gymdeithas Feddygol Prydain, yn cymryd rhan yn y gweithdy ym mis Chwefror, felly bydd meddygon ar lawr gwlad yn cael eu cynrychioli yno.

Credaf fod angen inni fyfyrio hefyd, ar ôl cael yr adroddiad a'r gyfres o ymatebion i'r argymhellion, ein bod wedi cael yr adolygiad seneddol ddoe hefyd, a'r statws a'r meddwl sylweddol a roddwyd i rôl gofal sylfaenol yn yr adolygiad hwnnw, a'r argymhellion ynghylch cynllunio ac ynghylch rôl gofal sylfaenol yn bod yn fwy penodol ym mhroses y cynllun tymor canolig integredig, ac yn wir y newidiadau y maent wedi eu hargymell ar gyfer proses y cynllun tymor canolig integredig ei hun ac am y berthynas gyda llywodraeth leol. Maent yn bethau y mae angen inni fod â meddwl agored yn eu cylch a'u hystyried wrth ddod at ein hymateb terfynol iddo.

Felly, nid yw hwn yn bwynt mewn amser lle y ceir drws caeedig i bopeth. Rwy'n disgwyl gweld mwy o dystiolaeth o effeithiolrwydd clystyrau mewn gwahanol rannau o Gymru yn y fframwaith ansawdd a chanlyniadau sydd gennym eisoes ar gyfer gofal sylfaenol. Dylai hynny ein helpu o ddifrif i ddeall a gwerthuso gwir effaith clystyrau. Wrth gwrs, bydd gwersi i'w dysgu ynglŷn â beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio. Credaf fod adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion wedi bod yn ymarfer defnyddiol i'n helpu i symud yn ein blaenau ac i ledaenu mwy o ddealltwriaeth o'r gwaith y mae clystyrau yn ei gyflawni mewn gwirionedd.

Ar ôl nodi'r argymhellion, rwy'n falch unwaith eto o gydnabod bod amrywiaeth ohonynt yn canolbwyntio ar feysydd gwaith yr ydym ninnau hefyd wedi eu cydnabod eisoes ac rydym yn disgwyl adrodd yn ôl i'r Cynulliad yn eu cylch. Fel y dywedais yn fy ymateb, mae gwaith ar y gweill neu wedi'i gynllunio, a bydd adroddiad y pwyllgor a'r cyfoeth o dystiolaeth sydd ynddo yn helpu i lywio ein gwaith a'n hystyriaethau yn y dyfodol.

17:35

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a hefyd eto ategu ein diolch i'r clercod a'r sawl sydd yn ymchwilwyr i ni fel pwyllgor am eu holl gwaith, ac wrth gwrs i'r sawl sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth i ni dros y misoedd diwethaf. Roedd hi'n hyfryd cyfarfod efo nifer ohonyn nhw, fel gwnaeth Julie Morgan ei ddweud, amser cinio yn y Pierhead, fel rhyw fath o gwblhau'r cylch. Roedden nhw wedi cyflwyno tystiolaeth, roedden nhw wedi gweld ein hadroddiad ni, roedden nhw wedi gweld ymateb y Llywodraeth, ac roedd yna le iddyn nhw drafod hynny hefyd. Dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd i ni fel pwyllgor, a buaswn i'n meddwl fe fuaswn i'n ei weld fel rhyw fath o template i bwyllgorau eraill weithredu hefyd. 

Reit, fe gawsom ni res o siaradwyr: Angela, Dawn, Rhun, Julie, Caroline, Jenny. Rwy'n falch o gael siaradwr nad oedd yn aelod o'r pwyllgor—nid fy mod i'n amharchu unrhyw aelod o'r pwyllgor hefyd a wnaeth siarad, ond rwy'n falch o gael rhywun sydd ddim yn aelod o'r pwyllgor yn cyfrannu hefyd, ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Cabinet ei hunan.

Y pwynt sylfaenol—ac rydym ni'n mynd i barhau i anghytuno ar hyn, rydw i'n siŵr—ydy'r angen am sicrwydd ariannol i gyflogi, yn enwedig i gyflogi staff newydd ar lefel y clwstwr. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun ddweud am yr enghreifftiau yna o glystyrau yn cyflogi paramedics, a hefyd fferyllwyr. Mae'n llawer haws cyflogi rhywun ar gytundeb o dair blynedd nag ar gytundeb o flwyddyn. Dyna'r pwynt sylfaenol roedd llawer o'r tystion yn dweud wrthym ni, fod angen y sicrwydd ariannol yna, a hefyd sicrwydd cytundebau, pensiynau ac ati—pwy oedd yn eu rheoli nhw. Achos mae'r clystyrau eu hunain yn endid sydd ddim, fel y byrddau iechyd, yn endid cyfreithiol felly ym materion cyflogaeth. Felly, y manylion yna sydd angen eu datrys er mwyn gallu cael swyddi fel y paramedics yna, fel y fferyllwyr, sy'n gwneud gwaith clodwiw iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, achos mae paramedics gyda ni yn y clwstwr rydw i'n rhan ohono fe ac mae wedi trawsnewid y ffordd rydym ni'n gweithio. Os oes yna alwad brys rŵan yng nghanol ein syrjeri, nid oes yn rhaid i feddyg teulu adael y syrjeri rŵan, a'r holl gleifion sydd yn y fanna, i fynd i weld rhywun allan sydd wedi cwympo neu beth bynnag. Mae'r paramedic yna ac yn ein ffonio ni. Mae wedi trawsnewid y ffordd rydym ni'n rhedeg o ddydd i ddydd. Felly, maen nhw yn gwneud cyfraniad gwerthfawr fel yna ac mae angen eu cadw nhw a'u parchu nhw.

Felly, rydym ni wedi clywed yr holl ddadleuon yna, ac wnaf i ddim ailadrodd y dadleuon rydym ni wedi cael yn y fan hyn chwaith ynglŷn â pha argymhellion sydd wedi'u pasio a pha argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, ond mae'n wir i nodi fod y clystyrau yma yn ddatblygiad cyffrous. Mi ydw i hefyd yn ddigon hen i fod wedi cael yr un un ddadl roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud amdano—ar y dechrau, flynyddoedd yn ôl, nid oedd neb yn siŵr iawn os oedd y rhain yn mynd i weithio neu a oedden nhw'n mynd i fod yn haenen ychwanegol o fiwrocratiaeth ar feddygon teulu, a oedd dim digon ohonom ni yn y lle cyntaf, ac a fyddai angen mwy o waith ac ati. Wel, rydym ni'n rhannol wedi dod dros hynny, ond yn rhannol hefyd mae'r rheithgor yn dal allan. Dyna pam mae pobl yn gofyn, a dyna pam mai prif argymhelliad yr adroddiad yma ydy bod eisiau newid mawr yn sylweddol—step change—yn natblygiad y clystyrau ac yn eu gweithredu, er mwyn i ni allu sicrhau a gwireddu y dyhead yma i gael y timau amlddisgyblaethol yma yn gweithio efo'i gilydd er mwyn buddiannau ein cleifion. Diolch yn fawr. 

17:40

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae adroddiad y pwyllgor wedi ei nodi a'i gytuno yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio yn awr.

8. Cyfnod Pleidleisio

Iawn. Felly, fe bleidleisiwn yn awr ar y ddadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood, Leanne Wood, Mike Hedges a Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. A yw pawb sydd eisiau pleidleisio wedi pleidleisio? Iawn. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 31, roedd 18 yn ymatal, 2 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig. Diolch.

NDM6565 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): O blaid: 31, Yn erbyn: 2, Ymatal: 18

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer: Mae'r robotiaid yn dod—mae angen i Gymru gael cynllun ar gyfer awtomateiddio

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, felly os ydych yn gadael y Siambr gwnewch hynny'n gyflym os gwelwch yn dda.

Iawn, a gawn ni i gyd adael—? A wnaiff y rhai sy'n gadael wneud hynny os gwelwch yn dda. Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lee Waters i gyflwyno'r pwnc y mae wedi ei ddewis. Lee.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

'And we will build brutal energy cut into a much better home. It's a movement towards the beautiful legal scams and better share. And it was a gingelly deal, and I don't think they're never worth in a middle deal to be parted to Mexico.'

Nid yr agoriad mwyaf ysbrydoledig i araith, rwy'n cyfaddef, ond yr hyn sy'n gwneud yr agoriad hwn yn wahanol yw'r hyn sy'n gwneud y ddadl hon yn wahanol. Cafodd ei ysgrifennu gan robot, gimig a gyflawnwyd gan The New Yorker y llynedd. Aethant ati i fwydo 270,000 o eiriau gan Donald Trump i mewn i raglen gyfrifiadurol sy'n astudio patrymau iaith. Mae'n dadansoddi'r dewis o air a gramadeg, a dysgodd sut i efelychu lleferydd Trump. Nid yw'n gwneud synnwyr llwyr, ond nid yw Trump chwaith. Er fy mod yn hoffi'r term 'gingelly deal', nid wyf yn meddwl ei fod yn rhan o'r eirfa boblogaidd hyd yma, ond agorais gydag ef am fy mod am droi'r haniaethol yn real yn gyflym.

Hyd yn hyn, cafodd awtomatiaeth a roboteg eu cyfyngu i raddau helaeth i'r diwydiannau gweithgynhyrchu, ond bellach bydd twf esbonyddol yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn taro pob diwydiant, pob proffesiwn. Meddygon, cyfrifwyr, cyfreithwyr, cyfieithwyr—mae'n debygol o effeithio ar unrhyw rôl sy'n cynnwys elfen ailadroddus. Amcangyfrifir y bydd oddeutu 700,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu taro gan awtomatiaeth, ac mae angen inni baratoi i arfogi pobl ar gyfer y newid sy'n dod, ac mae'n newid mawr. Yn wir, mae dadansoddwyr wedi cymharu effaith deallusrwydd artiffisial gyda dyfodiad trydan ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif; mae'n newid mor fawr â hynny. Defnyddiodd yr awdur llyfrau ar dechnoleg, Luke Dormehl, y gymhariaeth i'n helpu i ddirnad maint y newid sy'n ein hwynebu. Roedd hwnnw'n newid hynod aflonyddgar a darfodd ar rythmau biolegol arferol bywyd: caniataodd golau trydan i bobl greu eu hamserlenni eu hunain ar gyfer gwaith a hamdden am y tro cyntaf, fel nad oedd nos a dydd o bwys bellach, a rhyddhaodd gadwyn o arloesedd. Arweiniodd y rhwydwaith o wifrau at lu o ddyfeisiau cysylltiedig a greodd ddiwydiannau a newid bywydau am byth.

Rydym ar drothwy'r raddfa honno o newid sylfaenol unwaith eto. Ar hyn o bryd, rydym ar gamau cynnar y broses o fabwysiadu chwyldro deallusrwydd artiffisial, ond mae gennym syniad o'r math o newid sydd o'n blaenau. Cefais fy rhyfeddu gan y robot a oedd yn gallu coginio pryd o fwyd drwy fod wedi gweld fideo 'sut i goginio' ar YouTube heb unrhyw fewnbwn dynol uniongyrchol. Cynhaliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Maryland yr arbrawf hwn ddwy flynedd yn ôl bellach, ac maent yn bwriadu defnyddio dull dysgu dwfn tebyg mewn meysydd fel atgyweirio cyfarpar milwrol. Mae Elon Musk yn Tesla yn credu bod ffatri weithgynhyrchu ceir heb unrhyw weithwyr dynol o fewn cyrraedd. Mae Amazon yn treialu siop heb weithwyr, lle y cewch fil awtomatig wrth i chi adael. Mae'r rhain oll yn newidiadau sylfaenol, yn newid y ffordd rydym yn ymddwyn. Mae Amazon, Airbnb a Uber oll yn dangos pa mor gyflym y gall technoleg newid sut rydym yn siopa, cysgu a symud o A i B. Ac maent yn disodli modelau busnes yn y broses. Ni ddowch o hyd i fanwerthwr mwyaf y byd ar y stryd fawr. Nid yw darparwr llety mwyaf y byd yn berchen ar yr un gwesty. Ac nid yw'r cwmni tacsis mwyaf yn berchen ar yr un car.

Fel y nododd cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru mewn erthygl yn ddiweddar, yn 2004 roedd gan Blockbuster 84,000 o gyflogeion a refeniw o $6 biliwn. Yn 2016, gwta 12 mlynedd yn ddiweddarach, roedd Netflix yn cyflogi 4,500 o bobl ac yn gwneud $9 biliwn. Fe'i gelwir yn newid aflonyddgar am reswm, ac mae'n esblygu'n gyflym. Yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd, roedd yn ymwneud â thasgau fel dod o hyd i wybodaeth neu wrando ar gerddoriaeth, ond erbyn hyn mae technoleg yn symud i ragweld ein hanghenion. Mae'r arbenigwr ar arloesedd, Alec Ross, yn nodi mai peiriannau annibynnol oedd robotiaid yn arfer bod, yn cyflawni tasgau sylfaenol. Bellach maent oll wedi'u cysylltu â'r cwmwl ac maent yn dysgu wrth fynd rhagddynt, nid yn unig o'u profiadau eu hunain, ond am fod modd eu cysylltu â phob peiriant arall tebyg ledled y byd, maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn addasu mewn amser real. Mae'n ei alw'n naid gwantwm i ddatblygiad gwybyddol robotiaid.

Mae'n cyfateb i chi a minnau'n gallu manteisio ar ymennydd cyfunol pob bod dynol arall ar y ddaear i wneud penderfyniad ac i wneud hynny ar amrantiad. Dychmygwch gymaint yn fwy clyfar y byddem. Dychmygwch faint yn well y byddem am wneud penderfyniadau. Dyna sy'n digwydd gyda robotiaid. Mae'n rhyfeddol. Ac mae hefyd yn frawychus. I economi fel ein hun ni, ceir nifer anghymesur o swyddi sy'n agored i awtomeiddio, ond nid oes modd atal y newid hwn a rhaid inni ddod i delerau ag ef ac addasu. Ni fuaswn yn cyfnewid fy nghloc larwm digidol am ddihunwr, fwy nag y byddai neb yn troi'r cloc yn ôl i fyd wedi'i oleuo gan olau cannwyll neu bŵer ceffylau. Yn yr un modd hefyd, ni ddylem geisio atal awtomeiddio; dylem ei harneisio.

Mae'r mynwentydd yn llawn o ddynion anhepgor

oedd sylw enwog Charles de Gaulle, ac wrth gwrs mae'n rhan o'r natur ddynol i wrthsefyll newid. Nid oes yr un ohonom eisiau wynebu'r ffaith y gallai ein swydd gael ei disodli. Ond mae'n gyfrifoldeb arnom i sicrhau nad ailadroddir y dallineb bwriadol hwn ar lefel genedlaethol. Pan awgrymodd Gerry Holtham yn ddiweddar mewn digwyddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig y gallem gael gwared ar feddygon teulu yn gyfan gwbl oherwydd y gallai technoleg wneud eu gwaith drostynt, roedd y proffesiynau am ei waed. Cafodd ei gondemnio gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon. Fel urdd y crefftwyr yn yr hen ddyddiau a drefnodd i William Lee gael ei alltudio yn 1589 am ei fod wedi dyfeisio peiriant gwau, rhaid inni beidio â gadael eu hawydd i ddiogelu eu crefft ein hatal rhag manteisio ar y newidiadau hyn.

Ystyria beth y gallai'r ddyfais ei wneud i fy ninasyddion tlawd

meddai'r Frenhines Elizabeth I wrtho.

Gadewch inni fod yn glir: bydd y bygythiad o golli swyddi yn ddibwys o gymharu â'r hyn fydd yn digwydd os na fanteisiwn ar y posibiliadau. Gwyddom fod yna brinder meddygon a bod y galw ar gynnydd a gwariant cyhoeddus yn gostwng. Gwyddom fod llawer o'r technolegau newydd yn fwy cywir na phobl ac y byddai'n well gan gleifion gael eu diagnosis gan beiriant mewn llawer o achosion. Felly gadewch i ni ryddhau parafeddygon sy'n gorweithio i wneud yr hyn na all neb ond hwy ei wneud a gadewch inni harneisio technoleg. A dyma fy mhle yn y ddadl y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet: os wynebwn faint yr her sydd ar ein gwarthaf, gallwn ddefnyddio technoleg i wella gwasanaethau cyhoeddus, i ryddhau pobl rhag gorfod cyflawni tasgau peryglus neu ailadroddus. Ond os ymataliwn rhag gwneud hynny, mae perygl y bydd anfanteision newid yn dominyddu'r ddadl ac yn creu hinsawdd o ofn.

Wrth inni siarad, mae Atos ac ymgyngoriaethau eraill yn towtio o amgylch cynghorau prin o arian gan gynnig arbed miliynau o bunnoedd drwy gael gwared ar swyddi cyffredin a gosod prosesau awtomataidd yn eu lle. Os caniatawn i'r ymagwedd hon wreiddio, bydd pob sôn am awtomatiaeth yn cael ei weld gan y gweithlu fel ymarfer torri costau, ac ni ddylai gael ei weld felly. Os manteisiwn arno, gallwn ddefnyddio dyfeisiau arbed llafur newydd i ryddhau staff i weithio ar y rheng flaen, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'r ddadl sydd angen i ni ei chael. Ac mae angen i bob rhan o Lywodraeth baratoi i wynebu sut y gallwn ddefnyddio'r technolegau newydd hyn i helpu i fynd i'r afael â'r problemau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n hapus i ildio—

17:50

Na, nid oes ymyriadau. Gall yr Aelod gynnig munud i chi ar ddiwedd ei araith.

Ymddiheuriadau. Nid yw rheolau'r dadleuon hyn yn gyfarwydd i minnau chwaith.

Mewn addysg, er enghraifft, mae angen inni sicrhau ein bod yn paratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt yn bodoli eto, ac mae angen inni gadw mewn cof fod llawer o'r newidiadau hyn yn dod yn ystod y 10 i 20 mlynedd nesaf. Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond rwy'n dal i obeithio y byddaf yn ennill cyflog yn fy mhumdegau. Rhaid inni feddwl am hyfforddiant ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn gwaith hefyd. Yn yr economi, mae strategaeth economaidd newydd Ken Skates yn cydnabod yr enillion cynhyrchiant y gellir eu gwneud drwy annog mabwysiadu awtomatiaeth, ond mae angen inni fod yn ddoeth yn y ffordd y rhown y meini prawf newydd hyn ar waith. Yn anochel, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth roi cymorth ariannol i gwmnïau yn y pen draw, a fydd yn arwain at dorri rhai swyddi, ond pan fydd hynny'n digwydd, rhaid inni wneud yn siŵr fod cwmnïau'n helpu'r rhai sy'n colli swyddi i uwchsgilio, i gael eu hadleoli yn hytrach na chael eu diswyddo. Ym maes cyllid, mae esblygiad technoleg 'blockchain' yn gyfle inni fod yn gwbl dryloyw yn y modd y gwariwn arian cyhoeddus. Ac yn y Gymru wledig, rhaid inni achub ar gyfleoedd a gyflwynir inni gan ddata mawr, nid yn unig i drawsnewid y modd rydym yn ffermio ac yn cynhyrchu bwyd, ond hefyd i osod Cymru ar flaen y gad yn y diwydiant amaethyddiaeth fanwl sy'n datblygu. Mewn llywodraeth leol, rhaid inni ddilyn enghraifft dinasoedd eraill clyfar, gan dreialu gwasanaethau mewn amser real fel parcio clyfar, casglu sbwriel clyfar a goleuo clyfar.

Ceir cyfleoedd enfawr ym maes gofal iechyd i wella gofal a chanlyniadau i gleifion, o robotiaid therapiwtig a all helpu i ymdrin â'n hargyfwng unigrwydd i synwyryddion a all weld a yw pobl yn methu prydau bwyd neu os yw ymddygiad yn dod yn fwy afreolaidd ei natur, gan helpu cleifion dementia i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn hwy; lensys cyffwrdd sy'n gallu mesur lefelau glwcos a all sbarduno chwistrelliad inswlin wedyn drwy bats di-boen; a pheiriannau ysbyty clyfar a all rybuddio nyrsys ynghylch newidiadau amser real yn arwyddion bywyd cleifion, gan sicrhau bod newidiadau yn eu cyflwr yn cael sylw ar unwaith, yn hytrach nag o bryd i'w gilydd, gan adael nyrsys i ganolbwyntio ar agweddau eraill ar ofal cleifion.

Mewn gwirionedd, os edrychwn ar y technolegau impiadwy sydd ar y ffordd, crafu'r wyneb yn unig y maent. Mae hon yn agenda drawslywodraethol, sy'n berthnasol i bob Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y datblygiadau newydd hyn yn arbed arian a byddant yn gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r rhain oll yn enghreifftiau o dechnolegau sydd eisoes yn hen—ac nid ydym wedi mabwysiadu unrhyw un ohonynt. Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru? Nid ydym ond megis dechrau ar hyn. Y GIG sy'n prynu fwyaf o beiriannau ffacs. Ac mae'r ddau adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar wybodeg, a'r adolygiad seneddol ddoe—yn amlygu'n boenus ein bod ymhell ar ei hôl hi. Mae angen i'r Llywodraeth fod yn radical yma. Nid yn unig ein bod angen systemau newydd, mae angen diwylliannau newydd ac arweiniad newydd arnom i sicrhau'r trawsnewid hwn. Wrth i dechnoleg ddatblygu, daw pobl yn gynyddol i ddisgwyl gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt pan a lle byddant ei angen. Os na allaf weld meddyg a bod Babylon Health yn rhoi cyfle i mi siarad ag un ar-lein am £25, mae'n debygol y byddaf yn manteisio ar y cyfle. Ond os byddwn yn methu dal i fyny â disgwyliadau'r cyhoedd a bod darparwyr preifat yn camu i mewn, gallai fygwth holl sylfaen ein gwasanaethau cyhoeddus.

Mae hon yn her enfawr i'r Llywodraeth, yn enwedig gan ein bod yn brwydro mewn cymaint o ffyrdd eraill. Mae llywodraeth leol bron â chael ei pharlysu gan gyni a'r Llywodraeth ganolog gan Brexit. Ac mae'n cyfyngu ar ein gallu i ymateb i amgylchedd sy'n prysur newid. Ond mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn mynnu ein bod yn wynebu'r heriau hirdymor hyn. Lywydd, mae angen cynllun ar Gymru. Rydym angen uned yn swyddfa'r Prif Weinidog sy'n ymroddedig i sganio'r gorwel mewn perthynas â datblygiadau newydd ac arbrofi'n gyflym gyda dulliau newydd i fod o fudd i'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus ac annog twf diwydiannau newydd yn y sector preifat.

Rwyf am orffen gyda dyfyniad gan Fforwm Economaidd y Byd—sefydliad nad yw'n enwog am ei safbwyntiau brawychol: 

Nid yw'r addasiadau unigol, sefydliadol, llywodraethol a chymdeithasol yn ddibwys, a bydd pawb yn teimlo eu heffaith. Mae cyflymder yr amrywiol agweddau ar y newid yn anodd eu rhagweld, ond nid yw'n anodd gweld y bydd y byd yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn 10 i 15 mlynedd o nawr. Mae bod yn barod i lywio'r newid yn dechrau gydag ymwybyddiaeth o'r newidiadau mawr i ddod, a pheth dealltwriaeth o'u goblygiadau.

Diolch.

17:55

Nid oes neb wedi dweud, ond rwy'n hapus i gynnig munud os oes rhywun yn dymuno.

Popeth yn iawn felly, diolch i chi. Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad heddiw ac am gyflwyno'r pwnc ar gyfer y ddadl fer? Mae'n bwnc y gwn ei fod yn teimlo'n arbennig o angerddol yn ei gylch, a heddiw, unwaith eto, mae wedi cyflwyno araith ragorol, sy'n nodi rhai o'r prif heriau, ond hefyd y cyfleoedd y gallwn eu cael os ydym yn addasu i'r pedwerydd chwyldro o flaen ein cystadleuwyr. Mae'n ddiddorol; rwy'n treulio cryn dipyn o fy amser ar hyn o bryd yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy, a thynnodd yr Aelod Seneddol lleol, Mark Tami, fy sylw yn gynharach yr wythnos hon at y ffaith mai'r etholaeth honno o'r holl rai ledled Prydain yw'r bumed etholaeth fwyaf agored i effaith awtomeiddio yn y DU. Dyna etholaeth sy'n gartref i rai o'r cyflogwyr mwyaf yn y sector preifat, rhai o'r cwmnïau mwyaf arloesol yn y sector preifat yn y DU, ond mae'n faes y mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn wydn yn y dyfodol, o ystyried ei gyfraniad i economi Cymru.

Nawr, rydym yn gwneud mwy na datblygu cynllun gweithredu economaidd newydd ar gyfer gwella rhagolygon Alun a Glannau Dyfrdwy a'i sylfaen weithgynhyrchu leol, sy'n gartref, wrth gwrs, i barc diwydiannol mwyaf Ewrop. Rydym hefyd yn cyflwyno, fel blaenoriaeth ac ymyrraeth uniongyrchol, y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch a fydd yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y cyfleoedd a geir drwy awtomatiaeth ar gyfer y sylfaen weithgynhyrchu yn yr ardal honno ac ar draws y rhanbarth cyfan yn wir. Ond rwy'n credu bod y ddadl hon yn adlewyrchu pwysigrwydd y mater hwn a'i effaith ar yr etholwyr a gynrychiolwn ar draws y wlad. Mae Lee yn sicr yn gywir i honni y bydd y modd yr ymatebwn yn pennu ein ffyniant yn y dyfodol a diogelwch ein heconomi. Fel y mae eraill wedi dweud yn y gorffennol, mae ein heconomi a'n sylfaen ddiwydiannol wedi wynebu newid technolegol o'r blaen ers y chwyldro diwydiannol cyntaf, drwy'r ail, i mewn i'r drydedd, ac yn awr, wrth inni nesáu at y pedwerydd chwyldro. Rydym bob amser wedi gorfod ymateb i heriau newydd ac wynebu cyfleoedd newydd, ond rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud yn y gorffennol nad yw diwydiant Cymru bob amser wedi cadw i fyny gyda'r newid mewn technoleg.

Rydym yn awr ar drothwy pedwerydd chwyldro diwydiannol, gyda datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio a fydd yn trawsnewid gwead ein heconomi a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Yng nghanol y newid digynsail hwn, yn sicr mae gan Lywodraeth rôl ganolog i ddarparu arweinyddiaeth ac i ddatblygu ymateb strategol. Ni allwn wneud dim a gadael y newid hwn i'r marchnadoedd. Felly, ein rôl yw sicrhau bod yr arweinyddiaeth honno, y weledigaeth honno a'r cymorth hwn i fusnes ar gael bob amser. Ni allwn atal datblygiad technolegau newydd yn y bedwaredd oes ddiwydiannol, ac ni ddylem geisio atal y cynnydd y mae'n ei gynrychioli. Ond fe allwn, ac mae'n rhaid inni arfogi ein busnesau a'n pobl i ddiogelu eu hunain ar gyfer y newid yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd a lansiwyd ychydig cyn y Nadolig yn nodi'n eglur fod awtomatiaeth a digideiddio ymhlith yr heriau a'r cyfleoedd strategol allweddol sy'n wynebu economi Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r pum galwad i weithredu yn y cynllun yn darparu llwyfan i ni allu gweithio gyda diwydiant, undebau llafur a phartneriaid eraill i ymateb i'r heriau a amlinellodd Lee. Rydym yn canolbwyntio cyllid ar gyfer cefnogi busnesau i baratoi ar gyfer heriau yfory, i ddiogelu ein heconomi a'n gweithlu ar gyfer yr hyn y bydd awtomatiaeth yn debygol o'i gyflwyno yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r cynllun gweithredu yn rhoi cymaint o bwyslais ar sgiliau, ar arloesi ac ar adeiladu ar economïau rhanbarthol sy'n gynhyrchiol ac yn gystadleuol. Ddirprwy Lywydd, dyna pam rydym am adeiladu ein dull o weithredu yng nghyd-destun perthynas adeiladol ac aeddfed gyda busnes, dull o weithredu sy'n seiliedig ar y contract economaidd newydd, lle mae'n bosibl iawn y bydd busnesau'n gofyn i ni ddangos yr arian iddynt, ond lle rydym ni'n gofyn iddynt hwy ddangos eu cynlluniau i ni ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae'n hawdd anobeithio—

18:00

A wnaiff y Gweinidog ildio? Credaf eich bod yn gysurol, yn gymwys, yn ddyfal ac yn drylwyr iawn, ond credaf mai'r hyn a gefais gan Lee Waters oedd cyflymder newid. Cawsom 10,000 o flynyddoedd o'r chwyldro amaethyddol, 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol. Mae hyn oll o fewn cenhedlaeth bron, y modd y cawsom ein trawsnewid gan y chwyldro mewn cyfrifiadura, a ddechreuodd yn yr ail ryfel byd ond sydd wedi cyrraedd dyfnder eithriadol yn y 10 neu'r 20 mlynedd diwethaf. Mae angen meddwl dwfn arnom yn Llywodraeth Cymru ac awgrymodd uned yn swyddfa'r Prif Weinidog. Wel, pam na ddylid cael hynny?

Mae'r Aelod yn llygad ei le. Rydym yn debygol o weld newid yn digwydd dros y 10 mlynedd nesaf a fydd yn fwy na'r newid sydd wedi digwydd dros y 200 mlynedd diwethaf. Yn wir, bydd llawer o newidiadau yn digwydd mor gyflym fel na fyddwn yn eu gweld erbyn iddynt fod eisoes wedi mynd heibio. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar newidiadau technolegol a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg. Yn sicr, dyna rôl a gyflawnwyd mewn blynyddoedd diweddar gan y tîm digidol. Pan oeddwn yn y swydd sydd gan arweinydd y tŷ bellach, pan oeddwn yn gyfrifol am dechnoleg, roedd gennym uned gudd-wybodaeth a oedd yn gallu rhoi'r math hwnnw o waith sganio'r gorwel dros gyfnod o ddegawd, dau ddegawd, yr holl ffordd at 2050, gan ddadansoddi'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer Cymru. Hefyd, ceir unedau mewn addysg uwch sy'n gwneud yn union hynny. Ceir hefyd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, sydd â chyfrifoldeb a rôl i sicrhau ein bod yn sganio'r gorwel mewn ffordd a all arfogi ein heconomi a'n gweithwyr â'r sgiliau sydd eu hangen i addasu i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Nid wyf yn meddwl mai lle swyddfa'r Prif Weinidog yw gwneud hynny. Lle swyddfa'r Prif Weinidog yw sicrhau bod ganddi'r wybodaeth a gesglir gan nifer o gyrff, mudiadau ac ar draws y Llywodraeth i sicrhau, yn ei dro, fod polisi yn seiliedig ar y wybodaeth orau ac yn seiliedig ar y dyfodol yn hytrach nag ar heriau a chyfleoedd heddiw'n unig.

Credaf ei bod hi'n hawdd anobeithio weithiau y bydd awtomatiaeth a digideiddio a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith ddinistriol ar gyflogaeth. Yr hyn y maent yn ei ddangos yw ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn paratoi heddiw yn y ffordd y mae David Melding yn ei nodi. Nid wyf yn credu y dylem anwybyddu effaith bosibl awtomatiaeth ar gynhyrchiant, sef yn union yr hyn a grybwyllodd Lee. Gallai cynnydd mewn cynhyrchiant arwain at fusnesau'n bod yn fwy cystadleuol, ac ennill mwy o fusnes a thyfu, gan ddisodli rhai o'r swyddi y gellid eu colli i awtomeiddio o bosibl. Mewn gwledydd datblygedig fel ein hun ni, bydd gofal iechyd cynyddol i gymdeithasau sy'n heneiddio a buddsoddi mewn seilwaith a hefyd mewn ynni yn creu galw am waith y dylem ei ddefnyddio i wrthbwyso'n rhannol, unwaith eto, y swyddi a gollir.

O ran addasu i newid ac ymbaratoi ar gyfer yr hyn sy'n bendant ar ei ffordd, rwy'n credu mai'r allwedd fydd gweithio'n rhagweithiol gyda busnesau, ac eraill yn wir, i sicrhau bod digon o gyfleoedd yn dod i'r amlwg yn yr economi newydd yn lle'r swyddi a'r busnesau a fydd yn cael eu colli yn yr hen economi. Un elfen allweddol fydd sicrhau bod pobl ar draws y wlad, fel y dywedais, yn meddu ar sgiliau i fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Dyna yw bwriad pendant ein cynllun gweithredu, ac mae urddas cyflogaeth fedrus yn allweddol i'r cynllun hwn. Cynhaliwyd cyfarfod o amgylch y bwrdd yn ôl ym mis Mehefin y llynedd a hoffwn ddiolch i Lee Waters eto am ei drefnu. Yn y sesiwn honno, buom yn trafod y pryder ynghylch swyddi sydd mewn perygl o ganlyniad i awtomatiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Mae'r gwaith hwnnw yn sicr wedi helpu i lywio'r meddylfryd sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, oherwydd mae angen i Gymru fod ar y blaen yn mabwysiadu technolegau newydd. Dyna pam y datblygwyd menter y Cymoedd Technoleg—

Yn fyr iawn, a gaf fi ei annog, yn unol ag ymyriad David Melding, i edrych yn benodol ar y syniad hwn o greu'r hyn y mae nifer o Lywodraethau—maent yn eu galw'n i-dimau, sef timau trawslywodraethol o bobl ymroddedig i edrych ar arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwn yn faes lle y gallai Cymru arwain. Mae gennym sector cyhoeddus sy'n fawr o'i gymharu â'n heconomi yn ei chyfanrwydd, ond pe baem yn dod yn wirioneddol dda am ddefnyddio'r technolegau hyn mewn perthynas â materion polisi'r sector cyhoeddus, gallai'r byd ddod i guro ar ein drws.

18:05

Nid yw'r grym gennyf i wneud hynny, ond buaswn yn cytuno bod hyn yn rhywbeth rydym yn annog y sector preifat i'w wneud yn rheolaidd iawn i wneud yn siŵr eu bod yn sganio cyfleoedd nad ydynt yn cael eu hystyried ar hyn o bryd o bosibl. Credaf ei bod yn hanfodol, ar draws y Llywodraeth—o fewn y Llywodraeth ac o fewn llywodraeth leol—y ceir unedau wedi eu sefydlu, fod yna ffyrdd o ddysgu gan eraill, o arfer gorau sy'n gallu cymhwyso gwersi a diogelu'r mudiadau hynny at y dyfodol ar ba lefel bynnag y byddant.

Credaf fod sgiliau'n floc adeiladu enfawr ar gyfer manteisio ar dechnoleg a newid meddylfryd a phatrymau ymddygiad o fewn sefydliadau a mudiadau. Ac mae datblygu agenda sgiliau i ddiogelu at y dyfodol a'r angen i ddod o hyd i ffyrdd o annog, yn benodol, Ddirprwy Lywydd, merched a menywod i ddilyn pynciau a gyrfaoedd STEM yn hanfodol ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol. Oherwydd bydd cyfalaf dynol yn allweddol a bydd cynnydd yn y galw, heb unrhyw amheuaeth, am weithlu gwybodus a set o weithwyr medrus iawn ar draws pob sector.

Mae'n bwysig nad ydym yn colli'r cyfle i weithio y tu hwnt i'n ffiniau. Byddwn yn dal Llywodraeth y DU at ei hymrwymiadau yn ei strategaeth ddiwydiannol a'i haddewid i fuddsoddi yn y technolegau a'r busnesau ac yn sgiliau'r dyfodol. Mae'r pum sylfaen cynhyrchiant a nodwyd yn strategaeth ddiwydiannol y DU—syniadau, pobl, seilwaith, amgylchedd busnes a lleoedd—yn ganolog i'r gwaith o fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n gyfrifol am gynyddu cynhyrchiant a phŵer ennill o fewn economi, ac o dan y rhain ceir pedair her fawr lle y gall Prydain arwain y chwyldro technolegol byd-eang.

Nawr, ceir gorgyffwrdd clir iawn, yn fy marn i, rhwng yr heriau mawr a'n galwadau i weithredu, a rhwng y pum sylfaen cynhyrchiant ac amcanion y cynllun gweithredu economaidd. Mae'r contract economaidd, y galwadau i weithredu a'r sectorau thematig cenedlaethol a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd i gyd yn gwbl ganolog i allu goresgyn yr heriau a'r cyfleoedd hyn.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser a gymerais hyd yma i ymateb i'r ddadl fer hon, ond mae'r ddadl wedi dangos bod yna heriau anferth. Rydym yn eu cydnabod ac rydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch mesurau lliniaru. Mae newid technolegol a'i fabwysiadu yn digwydd yn gyflym, ac mewn rhai achosion, rydym yn sefyll ar lwyfan sydd ar dân. Ni allai'r neges fod yn gliriach: mae angen inni fuddsoddi a chroesawu. Mae awtomatiaeth a digideiddio'n dod nawr, a nawr yw'r amser i arloesi a gwella cynhyrchiant er mwyn creu cyfleoedd newydd, neu rydym mewn perygl o golli cystadleurwydd a gallai hynny arwain at ddiffyg twf economaidd.

Mae yna achos dros fod yn optimistig—wrth gwrs—a thros hyder ynglŷn â'r dyfodol cyhyd â'n bod yn barod i weithredu yn awr i fanteisio ar y cyfleoedd a rheoli'r bygythiadau a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:08.