Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

10/01/2018

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Wrth agor y cyfarfod, hoffwn gymryd y cyfle i groesawu llysgennad newydd Iwerddon i'r Deyrnas Gyfunol, Adrian O'Neill, yma heddiw i ymweld â'n Cynulliad ni. Felly, croeso i chi.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a'r cwestiwn cyntaf, Vikki Howells.

Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

1. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion Cwm Cynon yn 2018? OAQ51518

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Dymunaf flwyddyn newydd dda iddi hi, ac yn wir, i’r holl Aelodau. Ac a gaf fi gadarnhau ein bod yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd drwy gontract nesaf Cymru a’r gororau, teithio llesol a phrosiect metro de Cymru, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ledled Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn arwain ymgyrch leol yng Nghwm Cynon i wella gwasanaethau ar ddydd Sul. Ac o ganlyniad i’r ymgyrch honno, dyblodd Arriva nifer y gwasanaethau o Aberdâr yn ystod mis Rhagfyr, a chroesawyd y newyddion hwn gan lawer o fy etholwyr, a allodd fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lawer ymhellach i ffwrdd o ganlyniad i hynny. Nawr, cynllun peilot ym mis Rhagfyr yn unig oedd hwn, ac rwy’n pryderu, gyda'r posibilrwydd y caiff y gwasanaeth hwn ei ddiddymu o hyn ymlaen, y bydd fy etholwyr dan anfantais, gan nad yw’r trên cyntaf yn gadael Aberdâr nes ychydig cyn 10 y bore. Felly, a wnewch chi gefnogi fy ngalwad i Arriva fod yn hyblyg ac ystyried parhau â'r gwasanaethau hyn, er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl o Gwm Cynon allu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ymhellach i ffwrdd?

Gwnaf, yn sicr. Roeddwn yn croesawu penderfyniad Arriva i ymestyn gwasanaethau ar ddydd Sul. Mae diffyg trafnidiaeth briodol, ddibynadwy a fforddiadwy yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu pobl o ran cael mynediad at waith, ac aros mewn gwaith. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Trenau Arriva Cymru wedi penderfynu rhoi'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar waith, ac rwy'n gobeithio bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac y gallai arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol yn y tymor hwy. Ond gallaf ddweud, o ran y tymor hir, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, fod Trafnidiaeth Cymru yn asesu'r tri chynnig a gyflwynwyd ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau ar hyn o bryd. Ac mae'n ofyniad sylfaenol pendant gennym fod y gwasanaethau'n cyfateb i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cymell cynigwyr i wella gwasanaethau ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys, yn hollbwysig yn fy marn i, ar ddydd Sul, o gofio bod llawer o bobl bellach yn gweithio ar benwythnosau, ac yn enwedig ar ddydd Sul.

Credaf fod y cwestiwn ynglŷn â mynediad yn hollol allweddol, ac mae'n golygu bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy—rheilffyrdd, bysiau—yn hanfodol. Ond wyddoch chi, mae wedi bod yn broblem wirioneddol yn y gorffennol, ac nid yw'n ymwneud â mynediad at swyddi yn unig, ond at asedau diwylliannol yng Nghaerdydd, a mwynhau'r rheini. Wyddoch chi, mae gan bobl yn y cymoedd gogleddol gymaint o hawl i wneud hynny â'r rhai ohonom sydd yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y fasnachfraint a osodwn—y gofynion hyn.

Wel, yn sicr. Mae hierarchaeth angen Maslow yn datgan bod angen i ni deimlo ein bod wedi ein cysylltu â'n gilydd, ac nid yn ystod dyddiau'r wythnos yn unig y dylem fod wedi ein cysylltu â'n gilydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun peilot a roddwyd ar waith gennym gan ddefnyddio gwasanaeth teithio am ddim TrawsCymru ar benwythnosau wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus. Rydym yn parhau i fonitro perfformiad y gwasanaeth am ddim hwnnw, ond mae wedi dangos bod pobl bellach yn newid eu ffyrdd o deithio o geir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus, a gallai hynny, o bosibl, arwain at ddefnyddio bysiau yn ystod yr wythnos hefyd. Ond yn sicr ar y penwythnos, credaf ei bod yn hollbwysig fod gweithredwyr bysiau, ein bod ni fel Llywodraeth, fod awdurdodau lleol a bod gweithredwr a phartner datblygu'r fasnachfraint nesaf yn gweithio gyda'n gilydd i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar benwythnosau.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod llawer o drigolion Cwm Cynon yn teithio i'w gwaith yn ardal Pontypridd a Thaf Elái. Wrth gwrs, un o'r pethau a grybwyllais ar sawl achlysur fel rhan o'r metro yw'r cysylltiad rheilffordd newydd mewn perthynas â Chreigiau i Lantrisant—datblygiad hanfodol iawn yn rhan o'r seilwaith hwnnw. Tybed a allwch roi unrhyw syniad ynglŷn â'r math o amserlen ar gyfer cynnwys y datblygiad hwnnw yn rhan o ddatblygiad y metro?

Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Mae'r cynigion i gynnwys y gwasanaeth arbennig hwnnw yn y metro yn rhywbeth a gaiff ei asesu ymhellach fel rhan o estynadwyedd y rhwydwaith o dan gamau'r metro yn y dyfodol. Ond ni ellir parhau â'r gwaith o ddatblygu prosiectau i'w cyflwyno o dan gamau'r metro yn y dyfodol tan ein bod wedi gwerthuso ateb cyflawni ein partneriaid gweithredu a datblygu ar gyfer cam 2 y metro ac wedi dyfarnu'r contract, a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan allaf wneud hynny.

13:35
Datblygiadau Seilwaith ar Ynys Môn

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fudd economaidd datblygiadau seilwaith ar Ynys Môn? OAQ51522

Diolch yn fawr iawn, Rhun ap Iorwerth.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddatblygwyr prosiectau, yn ogystal â rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, i hwyluso'r broses o gyflawni nifer o brosiectau seilwaith sylweddol a fydd yn fuddiol i economi'r ynys drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth sgìl uchel a hyfforddiant.

Diolch. Yn y ddadl brynhawn ddoe ar y cynllun morol, mi wnes i bwysleisio wrth eich cydweithwraig, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr amgylchedd, yr angen i sicrhau bod cyswllt trydan yn cael ei ddarparu ar fyrder i gynllun cyffrous Morlais—y porth arbrofi ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Ynys Môn. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn fawr o bob cyfle mewn ynni adnewyddol er mwyn ein hamgylchedd ni, ond, a ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi, hefyd yn gweld bod sicrhau'r seilwaith trydanol hwnnw, y cyswllt hwnnw i Morlais—rhywbeth y mae arian eisoes wedi cael ei neilltuo ar ei gyfer drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod yn ceisio ei wireddu cyn gynted â phosibl er mwyn y budd economaidd mawr allai ddod i Ynys Môn a thu hwnt o wireddu potensial y parth arbrofi hwnnw? A wnewch chi roi ymrwymiad i chwarae eich rhan chi i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i gael y cysylltiad hwnnw yn ei le?  

A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, a buaswn yn ei gefnogi'n llwyr. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cefnogi parth arddangos Morlais ac yn sicrhau'r cydsyniadau a fydd yn denu datblygwyr ynni'r môr. Noda'r Aelod y cymorth a gafwyd gan Ewrop. Mae'n fwy na £4 miliwn o gyllid. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith hwn yn parhau ar unwaith. Credaf hefyd fod hyn yn ategu buddsoddiadau sylweddol eraill a wnaed ledled Ynys Môn, nid yn unig mewn perthynas ag Wylfa Newydd, ond hefyd, o fewn yr ardal fenter, yr uwchgynllun sy'n cael ei ddiweddaru ar gyfer porthladd Caergybi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'i blaid ar y gronfa borthladdoedd, sydd wedi cael ei defnyddio gan borthladd Caergybi a llawer o borthladdoedd eraill o amgylch arfordir Cymru.

Fel y gwyddoch, cyflwynwyd cynnig twf gogledd Cymru gan yr holl gynghorau a'r holl bartneriaid yn gynnar yn ystod toriad y Cynulliad. Roedd yn cynnig mesurau nid yn unig er mwyn cryfhau'r economi yn y gogledd-ddwyrain, ond i ymestyn y ffyniant hwnnw o'r diwedd tua'r gorllewin. Mae'n cynnwys cynigion ar gyfer buddsoddiadau i ehangu Parc Cefni yn Llangefni, Parc Cybi yng Nghaergybi a £50 miliwn ar gyfer ailddatblygu porthladd Caergybi, ochr yn ochr â chanolfan cynhyrchu ynni Trawsfynydd ar y tir mawr. Mae'r cynnig yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau â hwy yn gynnar eleni ar y cynigion hyn a chynigion eraill. A allwch chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut rydych yn bwriadu ymgymryd â hynny ac yn ôl pa fath o amserlenni wrth inni fwrw ymlaen â hyn? Hefyd, wrth wneud hynny, sut y byddwch yn hyrwyddo'r cyfleoedd yn y canolfannau hyn i Iwerddon, lle cyfarfûm fore ddoe ag Ieuan Wyn Jones, ein cyn-Aelod a chyfarwyddwr gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai bellach, a ddywedodd y newyddion da wrthyf fod ganddynt eisoes 11 o denantiaid yn barod i fynd i mewn, ond bod diddordeb cynyddol o Iwerddon yng nghyd-destun ehangach Brexit?

Credaf ei bod yn deg dweud bod Ynys Môn yn gartref i rai o brosiectau seilwaith mwyaf cyffrous y DU dros y blynyddoedd i ddod, a rhai o'r mwyaf hefyd. Mae'n hollbwysig fod yr holl bartneriaid—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru—yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer twf o ran swyddi, profiad gwaith a hyfforddiant i bobl sy'n byw ar yr ynys ac yn y cyffiniau hefyd. Am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus i barhau gyda'r trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau lleol. Yn wir, cyfarfûm ag arweinydd cyngor Ynys Môn a'r prif weithredwr cyn y Nadolig i drafod cynnydd ar Wylfa Newydd a chynnig y fargen twf. Rwy'n bwriadu parhau â thrafodaethau pellach fel rhan o drafodaethau'r fargen twf, a chredaf ein bod ar fin cynhyrchu set o gynigion gyda gweledigaeth gyffredinol a allai arwain at dwf sylweddol o ran cyflogaeth a chyfoeth ar draws gogledd Cymru, ond nid yw hynny'n mynd i'n hatal rhag gwneud y buddsoddiadau cywir yn y cyfamser. Yn benodol, mewn perthynas â ffyrdd, mewn perthynas â pharatoi safleoedd cyflogaeth ar Ynys Môn, credaf ei bod yn hanfodol fod yr arian yn parhau i lifo, ac mae arian eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi safle cyflogaeth strategol yn Llangefni, ac un arall ym Mhenrhos yng Nghaergybi. Ond wrth gwrs, daw'r arian hwnnw o Ewrop—enghraifft arall o ba mor bwysig y mae arian Ewropeaidd wedi bod i sawl rhan o Gymru.

13:40

Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. 

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n edmygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar Barc Gwyddoniaeth Menai, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfleuster gwych hwn ar agor ac yn weithredol cyn gynted â phosibl. Nawr, rwy'n cofio'r canolfannau technium a sefydlwyd gan y Cynulliad cyn y diwethaf, ond ni ddenodd y busnes. A allwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd y cyfleuster gwych hwn yn denu'r busnes, y swyddi a'r arloesedd y mae'n eu haddo, a'i fod yn cael ei farchnata yn weithredol yn y sectorau perthnasol?

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i chroesawu i Siambr y Cynulliad? Fel rhywun nad yw'n byw yn rhy bell oddi wrthyf, rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni ddadlau oedd yn Ysgol Maelor, yn ystod etholiad 2015.

Mae'n rhaid i mi ddweud fod cyflymder y gwaith o ddatblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi creu argraff fawr arnaf innau hefyd. Nid oes llawer o amser ers inni dorri'r dywarchen gyntaf ar y prosiect, ond mae hwnnw, ynghyd â buddsoddiadau eraill, fel y Sefydliad Gweithgynhyrchu Uwch ar yr ochr arall i ogledd Cymru, yn hollol wahanol i'r canolfannau technium, gan y byddant yn dod â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac addysg at ei gilydd mewn ffordd newydd a fydd yn sicrhau bod yr holl ddatblygiad o ran darparu addysg a hyfforddiant yn cael ei lywio gan anghenion cyflogwyr, a bod addysg a hyfforddiant yn fwy ymatebol i'r hyn sydd ei angen ar gyflogwyr a buddsoddwyr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf i, at fater cefnogaeth y Llywodraeth i'r diwydiant ffilm a theledu, sydd yn sector pwysig ac arwyddocaol i'n heconomi a'n diwylliant fel ei gilydd. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd y Llywodraeth, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, nad yw cwmni Pinewood bellach yn talu rhent nac yn denant yn stiwdio Gwynllŵg yr arwyddon nhw gytundeb rhent ar ei gyfer yn wreiddiol yn 2014. Mi wnaethoch chi, serch hynny, ein hysbysu ni bod Pinewood dal yn ymrwymedig i weithredu'r stiwdio o dan gytundeb rheolaeth, er nad yw manylion y cytundeb hynny yn y pau cyhoeddus. A ydym ni'n iawn felly i gymryd bod Pinewood yn talu Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru, a nawr rydym ni'n eu talu nhw er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru? Ac o ystyried nad ydyn nhw'n talu rhent, nad ydyn nhw'n denant, nad ydyn nhw bellach ag unrhyw rôl o ran y gronfa buddsoddi cyfryngol, ai stiwdio Pinewood mewn enw yn unig yw hon bellach?

Fe fyddaf i'n ateb y cwestiwn yma gan ei fod yn dod o fewn fy mhortffolio i ac fy mod wedi ateb ar y mater yma yn y gorffennol.

Mae'r newidiadau yma yn ein perthynas ni â Pinewood yn dilyn newidiadau masnachol o fewn strwythur Pinewood fel cwmni a'r cwmni sydd bellach yn gyfrifol am adnoddau Pinewood. Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood, ond mae Pinewood wedi peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer rheoli cyllid a chronfeydd trydydd parti. Hwnnw yw'r newid mwyaf sylweddol. Mae'r cytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ailnegodi gyda Pinewood, o fewn y cydweithrediad, yn golygu bod Pinewood yn parhau i weithredu'r stiwdio ond nad ydy Pinewood yn hyrwyddo yn yr un ffordd ag yr oedden nhw o dan y cytundeb blaenorol. 

Wel, rwyf wedi'm drysu'n llwyr gan yr ateb a dweud y gwir. Rwyf i'n deall bod y newid perchnogaeth ddigwyddodd gyda grŵp Pinewodd ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, yn golygu eu bod nhw wedi tynnu mas o'r busnes o gynnig cyngor—hynny yw, y gwasanaethau cynghorol ynglŷn â buddsoddi. Mi oedd y Gweinidog newydd gyfeirio at hyn. Nid yw hynny'n esbonio pam nad ydyn nhw bellach yn talu rent nac yn denant ar gyfer y stiwdio. Nid yw hynny ddim ag unrhyw berthynas gyda'r cwestiwn yna. Os nad ydyn nhw'n talu rhent, hynny yw, sut maen nhw'n cynnal y stiwdio? A yw o dan ryw fath o reolaeth—y cytundeb rheolaeth rhyfedd yma nad ydym ni'n gallu holi ynglŷn â'i fanylion?

Mae'n rhaid i mi ofyn: a oedd yna broses caffael ar gyfer cytundeb rheolaeth ar gyfer y stiwdio yma yn unol â rheoliadau caffael cyhoeddus? Pam yr anwybyddwyd y cymal o ran isafswm o flynyddoedd o denantiaeth o bum mlynedd a oedd yn y cytundeb gwreiddiol? Pam cael cymal o'r math yna os rŷch chi jest yn mynd i'w anwybyddu fe?

A oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoi i opsiynau eraill, fel yn stiwdio Bad Wolf, sydd yn cael ei rhentu trwy les trwy Screen Alliance Wales? Pam nad ystyriwyd opsiwn radical, os caf fi ddweud, o weithredu'r stiwdio yn uniongyrchol? Mae Elstree Studios yn cael eu rhedeg gan ac yn berchen i Gyngor Dosbarth Hertsmere. Os ydy cyngor dosbarth yn Hertfordshire yn gymwys i redeg stiwdio, pam nad yw ein Llywodraeth genedlaethol ni?

13:45

Fel yr esboniais i pan atebais i gwestiwn ar hyn cyn y Nadolig, y mae amodau'r cytundeb gyda'r cwmni yn gyfrinachol i bwrpas masnachol. Ond fe fedraf i gadarnhau fod y berthynas gyda'r hyn yr oedd uned Pinewood yn parhau, ond nad ydy Pinewood bellach yn gweithredu'r rôl o reolaeth cronfeydd trydydd parti. Dyna'r sefyllfa fel ag y mae hi, ac y mae'r sefyllfa yna yn parhau yn yr un modd ar hyn o bryd.

Mae'n flin gyda i, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog nid yw'n ddigon da jest i ail-ddarllen sgript sydd wedi cael ei rhoi i chi yn y fath fodd. Mae hyn ar ben, wrth gwrs, y cwestiynau di-rif sydd wedi cael eu gosod, yn bennaf gan Suzy Davies. Nid ydym ni wedi cael atebion i'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Rydym ni wedi gorfod—Suzy ac eraill wedi gorfod—defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn canfod nad yw Pinewood bellach yn denant nac yn talu rhent. Rydw i'n deall bod yna bosibilrwydd y bydd yna bwyllgor o'r Senedd yn dechrau ymchwiliad i'r mater yma. Byddwn ni'n croesawu hynny, ac rydw i wedi gofyn i'r archwilydd gwneud hynny. Ond onid yw'n wir, oherwydd pwysigrwydd deuol y sector yma, nid yn unig, fel rwyf yn ei ddweud, o ran ein heconomi ni, ond o ran ein diwylliant ni, nad yw'n dderbyniol i gelu tu ôl i'r esgus yma o gyfrinachedd masnachol? Mae'n sector rhy bwysig, a dweud y gwir, i chi, fel Gweinidog, wrthod ateb cwestiynau a rhoi tryloywedd angenrheidiol i ni yn fath fodd.

Nid ydw i'n gwrthod ateb cwestiynau. Rydw i wedi cynnig cyfarfod i Suzy Davies i drafod y mater hwn a rydw i'n gobeithio y gallwn ni drefnu i wneud hynny'n fuan. Ac, oherwydd ei ddiddordeb ysol yn y pwnc hwn, mae'n bleser gen i i wahodd Adam Price hefyd i'r un cyfarfod neu i gyfarfod arall.

Mae eisiau i ddynesyddion Cymru glywed yr atebion yma.

Diolch, Lywydd. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros doriad y Nadolig, bûm yn darllen eich cynllun gweithredu economaidd gyda'r nos—[Torri ar draws.] Gwneuthum lawer o bethau cyffrous eraill hefyd. Ond nid yr hyn a oedd ynddo a'm synnodd, ond yr hyn nad oedd ynddo. Felly, hoffwn siarad am rai o'r eitemau hynny heddiw.

Nawr, mae enillion yng Nghymru yn is na gweddill y DU. Mae enillion wythnosol gros i weithwyr llawn amser yng Nghymru yn £498. Mae hynny 10 y cant yn is nag yn y DU yn ei chyfanrwydd. Nawr, nid yn unig fod Cymru ar waelod y pentwr o ran cyflogau, ond mae'r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU wedi lledu'n sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf. Felly, 20 mlynedd yn ôl, roedd gweithwyr yng Nghymru a'r Alban yn ennill yr un pecynnau cyflog. Heddiw, mae pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £498 a phecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £547. Felly, yn fy marn i, dylai ffocws allweddol unrhyw gynllun gweithredu newydd ymwneud â chodi cyflogau ledled Cymru. Felly, a gaf fi ofyn: pam nad yw'r strategaeth economaidd newydd yn cynnwys unrhyw dargedau ar gyfer codi cyflogau ledled Cymru?

13:50

A gaf fi ddymuno blwyddyn newydd dda i'r Aelod, a dweud pa mor falch wyf fi fod fy anrheg iddo wedi cyrraedd yn ddiogel ac mewn da bryd iddo ei ddarllen dros y Nadolig? [Chwerthin.] Edrychwch, gadewch i ni edrych ar y ffeithiau mewn perthynas ag enillion amser llawn cyfartalog. Rydych yn llygad eich lle, £484.40 yr wythnos yw'r cyfartaledd, ond rhwng 2012 a 2017, cynyddodd y cyfartaledd hwnnw 10.1 y cant, o gymharu â'r cyfartaledd ledled y DU, sef 8.8 y cant yn unig. Ac felly mae'r bwlch wedi bod yn cau, o ganlyniad i ymyriadau gan y Llywodraeth hon.

Mae'n wir, yn hanesyddol, fod y bwlch cyflog rhyngom ni a llawer o rannau eraill o'r DU yn llai, ond roedd hynny mewn cyfnod pan oedd mwy o lawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi â chyflogau uwch, er enghraifft, yn y diwydiant dur. O ganlyniad i'r broses ddad-ddiwydiannu, heb y rhwyd ddiogelwch yn y 1980au, cafodd y swyddi da hynny—swyddi diogel â chyflogau da—eu disodli gan swyddi a oedd yn aml yn swyddi dros dro â chyflogau isel. Cododd cyfraddau diweithdra i'r entrychion. Mae cyflogaeth heddiw, y gyfradd cyflogaeth, wedi cynyddu yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU drwy gydol y cyfnod ers datganoli. Mae wedi cynyddu 6.5 y cant, o gymharu â 3.1 y cant, ac mae diweithdra hefyd wedi lleihau yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd yn ystod y cyfnod ers datganoli.

Felly, os edrychwch ar ein hanes diweddar, os edrychwch ar hanes y Llywodraeth Lafur hon a'r un flaenorol yng Nghymru, rwy'n credu y gwelwch, o ran enillion, ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac o ran cyflogaeth eto, i'r cyfeiriad cywir. Mae diweithdra'n is ac yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond yr her fawr sy'n wynebu ein heconomi—. Ac ni chredaf y byddai'r Aelod yn anghytuno â hyn, gan fy mod yn sicr fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cytuno mai cynhyrchiant yw'r her fawr sy'n ein hwynebu fel gwlad. Ac er mwyn gwella cynhyrchiant, mae angen inni wella lefelau sgiliau. Ar ôl inni wella lefelau sgiliau, argaeledd gwaith o ansawdd uchel, byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn yr enillion cyfartalog a byddwn yn gweld y bwlch hwnnw'n parhau i gau.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fy nghwestiwn oedd pam na chafodd unrhyw beth ei grybwyll, pam na chafodd unrhyw dargedau eu crybwyll, yn y cynllun gweithredu economaidd.

Yma, mae gennyf gopi o adroddiad a gynhyrchwyd gan PricewaterhouseCoopers y llynedd—eitem arall ar fy rhestr ddarllen dros y Nadolig. Nawr, noda hwn fod nifer enfawr o swyddi mewn perygl uniongyrchol o ganlyniad i awtomatiaeth. Golyga hyn, wrth gwrs, fod Cymru'n arbennig o agored i niwed gan fod dwy o'n hardaloedd mwyaf yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar fanwerthu a gweithgynhyrchu—maes sydd, wrth gwrs, mewn perygl mawr o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, credaf fod sicrhau bod Cymru yn barod i ymdopi â'r cyfleoedd sydd ar gael, yn ogystal â heriau awtomatiaeth dros y 10 mlynedd nesaf, yn hanfodol i gefnogi economi Cymru, a chredaf y dylem geisio manteisio ar hyn gyda thechnoleg newydd a diogelu swyddi yng Nghymru.

Ond a gaf fi ofyn pam nad yw'r cynllun gweithredu economaidd yn cynnwys unrhyw strategaeth effeithiol a arweinir gan dargedau er mwyn sicrhau bod economi Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae awtomatiaeth yn eu cynnig, a pham nad yw'n cynnwys unrhyw dargedau o gwbl ar gyfer diogelu swyddi Cymru rhag heriau arloesedd technolegol?

Yn gyntaf, mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys—yn ganolog iddo mae'r contract economaidd ac yna'r galw dilynol am weithredu, gyda'r contract economaidd yn ddrws blaen—ewch drwy hwnnw ac yna drwy brism y galw am weithredu a bydd modd i chi fanteisio ar gefnogaeth sy'n cydweddu â'r prif achosion neu'r prif ffactorau sy'n dylanwadu ar welliannau o ran cynhyrchiant. Un o'r rheini yw diogelu busnes at y dyfodol o ran bygythiad a chyfleoedd awtomatiaeth ac o ran ffyrdd modern o weithio. Felly, yn ganolog i'r cynllun gweithredu, ceir dyhead i sicrhau bod busnesau yn cael eu diogelu at y dyfodol ac i sicrhau ein bod yn croesawu ac yn manteisio i'r eithaf ar ddiwydiant 4.0.

Cyfeiriaf yn ôl at y cwestiwn ynglŷn â thargedau eto, oherwydd mewn gwirionedd mae'r Aelod yn llygad ei le, penderfynais beidio â chynnwys y targedau penodol hynny a amlinellodd yn ei gwestiwn cyntaf, oherwydd yn aml, pan osodir targedau, daw cyrraedd y targedau'n obsesiwn. Ac o ran enillion, yr hyn y gallwch ei wneud yw tyfu economi mewn un rhan o wlad neu ddwy ran o wlad a sicrhau bod y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach wedyn cau'r bwlch, ond yr hyn nad ydych yn ei wneud yw cau lefel yr anghydraddoldeb rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf. Mae'n well gennyf, drwy'r ymyriadau a amlinellwyd gennym—gweithio rhanbarthol, canolbwyntio ar sicrhau cyflogaeth ddiogel o ansawdd uchel—. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn parhau i wella lefelau cyfoeth yng Nghymru, yn ogystal â lleihau'r lefelau o anghydraddoldeb ledled y wlad.

13:55

Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond wrth gwrs, mae'r targedau yn ein cynorthwyo ni fel Aelodau yn y Siambr hon i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth, a heb dargedau, mae'n gwneud ein gwaith ni, wrth gwrs, yn anos. Nawr, mae rhan olaf yr hyn rwyf am ei godi yn ymwneud â chaffael. Mae caffael, wrth gwrs, yn rhan allweddol, yn arf allweddol y gall y Llywodraeth ei ddefnyddio i gefnogi twf ar draws economi Cymru yn y tymor hir. Credaf fod hanes blaenorol Llywodraeth Cymru, o ran caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau Cymru, yn arbennig o wael. Nawr, mae gennyf gopi yma o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o ddiwedd y llynedd, 'Caffael Cyhoeddus yng Nghymru'. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir eu bod wedi canfod yng Nghymru fod yna le amlwg i wella o ran y modd y mae awdurdodau'n caffael gwasanaethau ar lefel genedlaethol. Felly, a gaf fi ofyn pam fod y cynllun economaidd yn cynnwys cyn lleied o fanylion effeithiol ar ddiwygio arferion caffael cyhoeddus ledled Cymru ar lefel y Llywodraeth? Ymddengys bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn gyfle da a gollwyd, yn fy marn i, i ddiwygio caffael ledled Cymru fel y gallwn gefnogi busnesau a chefnogi caffael cyhoeddus yn well.

Credaf y byddai'r Aelod, pe bai'n ei ailddarllen, yn gweld bod—mae ar dudalen 18, o bosibl. Efallai nad yw, ond credaf ein bod yn sôn ar dudalen 18 am ddadgyfuno contractau mawr, ac mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer busnesau llai o faint. Yn enwedig o ran y sector adeiladu, gwelsom gynnydd sylweddol yn nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n gallu ennill contractau drwy gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Ond rydym yn dymuno galluogi mwy o gwmnïau, yn enwedig mentrau llai a chanolig eu maint, i ennill rhannau o gontractau mawr nad oes neb ond y cwmnïau mawr yn unig, ar hyn o bryd—cwmnïau o Loegr yn aml, neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd—yn gallu cynnig amdanynt, oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti neu arbenigedd. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymdrin â'r cwestiwn hwnnw yn uniongyrchol. Efallai nad yw ar dudalen 18, ni allaf gofio ble yn iawn, ond mae'n cyfeirio'n benodol at yr angen i ddadgyfuno cydrannau prosiectau seilwaith mawr fel y gallwn roi mwy o waith i gwmnïau yng Nghymru a chodi gwerth y bunt gyhoeddus yng Nghymru.

Diolch, Lywydd. A gaf fi gymryd fy nghyfle cyntaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gweddill Aelodau'r Cynulliad hwn? Blwyddyn newydd dda.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae awdurdodau lleol, busnesau a'r sector elusennol yn gwneud ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru, ond mae'r cynnydd yr hoffai llawer ei weld yn fach iawn, ac mewn rhai achosion, megis tlodi plant, rydym yn mynd tuag yn ôl. Pryd rydym yn debygol o weld ein strategaethau economaidd yn sicrhau canlyniadau a fydd yn rhoi gobaith i gymunedau tlotaf Cymru?

Mewn sawl ffordd, fel yr amlinellais wrth Russell George, mae'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth hon ac a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth flaenorol eisoes wedi arwain at y lefel isaf erioed o ddiweithdra, y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, y lefelau isaf erioed o anweithgarwch, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael gwaith fel nad ydynt yn cael eu dal mewn magl tlodi, magl tlodi a wnaed yn waeth drwy, faint, wyth mlynedd erbyn hyn o fesurau cyni. Y llwybr i mewn i waith yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'n nod yw sicrhau nad ydym ond yn creu mwy o swyddi i bobl sydd allan o waith yn unig, ond ein bod yn creu mwy o swyddi o ansawdd uchel. Ond wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny, er mwyn i bobl gael mynediad at y swyddi hynny, mae angen inni ddymchwel y rhwystrau eraill, rhwystrau sy'n ymwneud â gofal plant a diffyg trafnidiaeth briodol i gludo pobl i ac o'r gwaith. Ond drwy un o'r cynigion gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn Ewrop, a thrwy ddiwygiadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus lleol a'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, rwy'n hyderus y gallwn fynd i'r afael â'r ddau rwystr mawr hynny i sicrhau bod pobl yn cael gwaith ac yn aros mewn gwaith.

Wel, unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yr amser lle gallwn barhau i feio cyni yng Nghymru am ein diffyg cynnydd wedi dod i ben. Unwaith eto, ar ôl 17 mlynedd, mae pobl Cymru yn wynebu addewid arall o bethau gwych  ddod. Dywedodd y Prif Weinidog, cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, ei fod 'wedi dechrau'r gwaith bum mlynedd yn ôl, ac mae arnaf angen pum mlynedd i'w orffen.' Yn yr etholiad nesaf, yn 2021, bydd y Blaid Lafur wedi bod mewn grym ers 23 o flynyddoedd. A fydd addewidion y Prif Weinidog wedi cael eu cadw, neu a fyddwn yn dal i fod mewn ras at waelod pob un o'r dangosyddion economaidd?

Wel, dylem ddechrau canu clodydd Cymru ac economi Cymru, yn enwedig yn y meysydd hynny lle rydym yn cael cryn lwyddiant. Mae'r Aelod sy'n cynrychioli gogledd Cymru, wrth ymyl David Rowlands, yn chwerthin ar hyn, ond mae'r Aelod yn byw mewn sir lle mae gennym y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, lle mae gwerth ychwanegol gros y sir yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru fwy neu lai, ac yn agos at y cyfartaledd ar gyfer y gogledd, ac yn codi, lle rydym wedi buddsoddi mewn cwmnïau yn ddiweddar, megis Hotpack, lle rydym wedi gweithio gyda chwmnïau fel Tata Steel, lle rydym wedi gweithio'n barhaus gydag Airbus a chyflogwyr pwysig eraill i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd cyflogaeth ac i greu swyddi newydd o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf, a byddwn yn hybu cyfleoedd cyflogaeth mewn diwydiannau gwerth uwch a diwydiannau yfory, gan ddefnyddio'r cynllun gweithredu economaidd fel sail ar gyfer creu economi newydd ar sail technolegau newydd, technolegau sy'n datblygu a thwf gwyrdd.

14:00

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n rhannu, i ryw raddau, eich cred efallai fod pethau'n newid, ond nid yw popeth yn mynd yn dda, yn enwedig i'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Mae'r baich ar y trethdalwr yn 2018 yn debygol o gynyddu. Bydd polisi rhenti Llywodraeth Cymru yn gweld cynnydd o £200 ar dai cymdeithasol ar gyfer pob cartref dwy ystafell wely. Ac yn yr un modd, nid yw'r cynnydd cymedrol a ragwelir mewn diweithdra yn y DU yn debygol o hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra ymhell uwchlaw cyfartaledd y DU. Ac nid yw'n debygol ychwaith o gynorthwyo'r 13.1 y cant o oedolion ifanc di-waith. Rhagwelir y bydd chwyddiant yn gwneud unrhyw gynnydd mewn enillion yn ddiystyr mewn termau real, ac y gallai tlodi cymharol yn hawdd godi i 27 y cant ar gyfer pobl o bob oed, ac i oddeutu 40 y cant mewn perthynas â phlant, wrth i safonau byw pobl ddod o dan bwysau pellach. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: ai hon yw'r Gymru rydym yn dymuno'i chael? Ac a ydych yn hyderus y bydd eich polisïau economaidd yn lliniaru'r caledi hwn yn y tymor byr a'r tymor hir?

Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai'r Gymru rydym yn dymuno'i chael, rwy'n credu, yw Cymru lle na adewir unrhyw un ar ôl. Tynnodd yr Aelod sylw at yr her sydd wedi wynebu llawer o bobl iau dros y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas â chael mynediad at swyddi. Nid oedd yr Aelod yn Aelod o'r Cynulliad blaenorol, lle rhoddwyd Twf Swyddi Cymru ar waith gennym, ond mae honno'n raglen benodol sydd wedi arwain at roi cyfle i 17,000 o bobl ifanc yng Nghymru weithio, ac ennill y sgiliau a'r profiad i aros mewn gwaith. Ac o ganlyniad i hynny, credaf fod dros 70 y cant wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth amser llawn neu hyfforddiant pellach sydd wedi arwain at swyddi amser llawn, diogel. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi prosiectau megis Twf Swyddi Cymru a'r cynllun cyflogadwyedd newydd i sicrhau y gall pobl ifanc, ac yn wir, pobl sydd mewn gwaith eisoes, gael mynediad at swyddi o ansawdd uwch. Ond dylid nodi hefyd fod Cymru yn un o ychydig iawn o wledydd sydd â gweledigaeth gref o waith teg, o wlad lle mae cyflogwyr yn mabwysiadu cyflog byw addas a phriodol, lle caiff undebau llafur eu cydnabod, lle gall pobl ddisgwyl cyflog teg am eu gwaith, a lle gall pobl ddisgwyl urddas a pharch yn y gweithle.

Stormydd y Gaeaf

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith stormydd y gaeaf ar y rhwydweithiau ffyrdd? OAQ51504

Gwnaf. Dros y gaeaf, gosodwyd cyfyngiadau dros dro ar sawl rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd, neu cawsant eu cau oherwydd gwyntoedd cryfion neu lifogydd. Cafwyd problemau teithio hefyd o ganlyniad i eira trwm ar nifer o ffyrdd yn ystod penwythnos 9 a 10 Rhagfyr, ond gwnaed pob ymdrech i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau o'r fath.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod tagfeydd yn costio £1.5 biliwn y flwyddyn i yrwyr Cymru. Mae INRIX, y prif ddarparwr gwybodaeth traffig amser real drwy'r byd, wedi cyfrifo bod cost economaidd tagfeydd yn cyfateb i gyfartaledd o £939 y gyrrwr y flwyddyn. Yn ychwanegol at hynny, mae nifer o ddamweiniau, a achoswyd gan dywydd y gaeaf, wedi arwain at gau ffyrdd ac oedi ar yr A5, yr A483 a'r A55 yr wythnos diwethaf. O ran llif y traffig ar yr A55 yng ngogledd Cymru, ac adroddiad cam 1 diweddar arweiniad arfarnu trafnidiaeth Cymru ar gydnerthedd y rhwydwaith, pryd y byddwch yn rhoi'r atebion risg isel a chyflym a grybwyllwyd yn yr adroddiad hwnnw ar waith?

Mae astudiaeth gydnerthedd yr A55, a gomisiynwyd gennyf, yn nodi sawl ateb cyflym y gellir eu darparu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n bwriadu rhoi'r atebion cyflym hynny ar waith cyn gynted â phosibl. Credwn y gellir cyflawni'r rhan fwyaf ohonynt o fewn chwe mis. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos diwethaf—gan fy mod yn byw yn agos iawn at yr ardal lle caewyd yr A5/A483 dros dro—roedd hi'n hanfodol ein bod yn cau'r man penodol hwnnw ar y rhwydwaith ffyrdd. Roedd y rhan o'r ffordd ar draphont. Roedd yn gwbl hanfodol nad oeddem yn caniatáu i gerbydau uchel fynd ar draws y ffordd honno. Prin y gallent sefyll yn y gwynt yn yr ardal benodol honno. Roeddem eisoes yn cael adroddiadau ar y rhwydwaith cefnffyrdd o ôl-gerbydau yn cael eu chwythu drosodd. Felly, roedd yn hollbwysig nad oeddem yn peryglu unrhyw fywydau. Buaswn yn cytuno bod tagfeydd yn costio gormod i economi Cymru ac i'r trethdalwr, a dyna pam y comisiynais astudiaeth gydnerthedd yr A55. Dyna pam rydym yn bwrw ymlaen â'r rhaglen mannau cyfyng ledled Cymru a chyda buddsoddiad sylweddol mewn ffyrdd osgoi o amgylch trefi a chymunedau eraill, a pham rydym wedi ymrwymo i uwchraddio'r seilwaith ledled y wlad.

14:05

Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn gwybod os ydych yn ymwybodol, ond cafodd y B4286, a elwir gennym yn lleol yn Heol Cwmafan, un o'r ddwy brif ffordd i gwm Afan, ei chau oherwydd tirlithriad yn dilyn y tywydd stormus dros y Nadolig. Diolch byth, ni arweiniodd hyn at unrhyw anafiadau, ond achoswyd problemau traffig sylweddol, gyda chiwiau hir ar adegau. Roedd hynny'n peri pryder i mi, mewn perthynas â hygyrchedd ein gwasanaethau brys ar yr adegau prysur hynny. Roeddwn yn awyddus i ganmol yr awdurdod lleol. Maent wedi gwneud gwaith aruthrol. Maent wedi cael gwared ar oddeutu 200 tunnell o rwbel, mwd a phren ac wedi sicrhau bod y ffordd ar agor unwaith eto, ac ar yr un pryd, wedi cadw diogelwch trigolion a defnyddwyr yn nod craidd. Mae hwnnw'n waith ardderchog. Ond petai hyn wedi digwydd ddwy filltir arall i fyny'r cwm, byddai Cwm Afan wedi bod ar gau, yn y bôn. Fel y cyfryw, byddai wedi rhwystro hygyrchedd cymunedau a gallu'r gwasanaethau brys i'w cyrraedd. A wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a chydag awdurdodau lleol i edrych ar yr ardaloedd a allai fod yn achosion pryder i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto?

I raddau, credaf ein bod yn ffodus fod y digwyddiad wedi digwydd lle gwnaeth. Fel y dywedodd yr Aelod, gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn llawer mwy difrifol o ran canlyniadau. Ond hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r awdurdod lleol am eu gwaith rhagorol yn sicrhau bod canlyniadau'r digwyddiad wedi cael eu trin yn briodol. Er ein bod yn gyfrifol am gefnffyrdd yng Nghymru, rwy'n fwy na pharod i fy swyddogion weithio gyda swyddogion awdurdodau lleol, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â llifogydd ar Ynys Môn. Rwy'n falch o ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod cyflwr y rhwydwaith ffyrdd lleol, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu harfer ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod ein ffyrdd yn glir ac mewn cyflwr da.

Tyfu Economi Canolbarth Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi canolbarth Cymru? OAQ51513

Gwnaf. Rydym wedi datblygu dull strategol sy'n seiliedig ar ffyniant i bawb, gan alluogi pob rhan o Gymru i elwa ar dwf economaidd. Bydd y cynllun gweithredu economaidd a lansiwyd ym mis Rhagfyr yn gweithio gyda phartneriaid i adlewyrchu anghenion tra gwahanol y rhanbarthau yng Nghymru.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich ymateb. Cawsom ymrwymiad calonogol iawn gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth y DU tua diwedd y llynedd, o ran cefnogi bargen twf i ganolbarth Cymru. Yn wir, croesawaf eich ymrwymiad hefyd i fargen twf i ganolbarth Cymru wrth ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru hefyd. Ymddengys mai'r neges gan y ddwy Lywodraeth yw bod yn rhaid i'r fargen hon gael ei llunio gan bobl canolbarth Cymru. Rwyf innau'n cytuno â hynny hefyd. Credaf ei bod yn hanfodol bellach fod partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn gwneud achos cryf dros fargen twf i ganolbarth Cymru. Ond er mwyn iddynt wneud hynny, tybed a fyddech yn gallu cynnig unrhyw gymorth ariannol i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu cynigion. Hefyd, buaswn yn awgrymu mai'r hyn sydd ei angen, efallai, yw arweiniad gennych chi, ac yn wir, gan Lywodraeth y DU o ran y mecanweithiau ynglŷn â sut y gallant fwrw ymlaen â'r cynigion hyn.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n falch iawn o allu dweud fy mod wedi cytuno i ddarparu cyfraniad o arian cyfatebol er mwyn galluogi'r gwaith dichonoldeb a nodwyd gan yr Aelod. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cyfle i fynychu'r cyfarfod rhanddeiliaid ar 19 Ionawr? Byddaf yn gofyn i un o fy swyddogion fod yn bresennol yn fy lle, er mwyn gallu cynnig nid yn unig cyngor a chefnogaeth, ond arweiniad hefyd, o bosibl, yn ogystal â darparu manylion i mi o ran beth y mae partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn awyddus i'w gynnwys yn eu gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth.

Hoffwn eich holi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â bargen twf canolbarth Cymru, oherwydd roedd gennyf gryn ddiddordeb yn y cyhoeddiad yn y gyllideb, felly ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys wedi'r gyllideb, a chefais ateb ar 19 Rhagfyr, sy'n dweud fel a ganlyn: fod y Llywodraeth yn agored i gynigion ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru. Nid yw hynny'n gyfystyr ag ymrwymiad, a grybwyllwyd gan Russell George ac eraill, ac rwy'n awyddus i ddeall pa ymrwymiad sydd yna i fuddsoddi arian Llywodraeth y DU yng nghanolbarth Cymru. Croesawaf yr hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â chronfa arian cyfatebol i ddatblygu rhai o'r syniadau a grybwyllwyd yng nghanolbarth Cymru, ond a ydym yn debygol o weld arian go iawn ar y bwrdd gan Lywodraeth y DU, ac a ydych yn cael trafodaethau i sicrhau bod yr hanner addewid gwan hwnnw yn dod yn rhywbeth y gallwn ei droi'n weithgaredd economaidd ar lawr gwlad yng nghanolbarth Cymru?

14:10

Wel, dyna'r prawf: pa un a ydynt yn barod i neilltuo arian ar gyfer rhywbeth y dywedant eu bod yn barod i'w ystyried. Ar hyn o bryd, maent yn agored i gynigion, a dyna pam fy mod yn awyddus i sicrhau bod partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn datblygu set o gynigion a gweledigaeth gyffredinol sy'n gwneud achos cryf dros ddatblygu cynnig dilynol am fargen twf. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Swyddfa Cymru mewn perthynas â'r gefnogaeth y gallai Swyddfa Cymru ei rhoi i gynnig bargen twf, ond wrth inni ddatblygu'r cynigion hynny, rwy'n awyddus i sicrhau bod partneriaid yng nghanolbarth Cymru yn cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ogystal â minnau er mwyn bwrw ymlaen â'r agenda bwysig hon. Nid wyf yn credu y gallwn fforddio gweld canolbarth Cymru yn cael ei adael ar ôl pan fo gweddill Cymru yn datblygu o dan fargeinion dinesig a bargeinion twf. Mae'n anghyfiawn.

Force Majeure

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y busnesau yr effeithir arnynt yn andwyol gan force majeure? OAQ51502

Drwy fenter Dyfodol Adeiladu Cymru Busnes Cymru a chymorth caffael rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi cydnerthedd busnesau. Mae archwiliadau diagnostig a chymorth yn sicrhau bod busnesau'n gymwys ac yn y sefyllfa orau posibl i wrthsefyll effaith materion cyffredinol neu faterion force majeure sy'n effeithio ar eu sefyllfa ariannol.

Diolch. Mae'n gwestiwn anodd, a defnyddiaf y term 'force majeure' yn fwriadol iawn, oherwydd wrth gwrs, fe wyddoch fod hynny'n effeithio ar lefelau digolledu, ac mae hefyd yn rheswm pam y gall sefydliadau ddiddymu gwasanaethau. Mae busnesau bach a'r cyhoedd yn gyffredinol wedi dwyn nifer o bryderon i fy sylw lle maent yn teimlo eu bod wedi cael bargen wael, lle maent naill ai wedi methu cwblhau rhywbeth, neu heb gael eu digolledu, ac mae'r busnesau wedi defnyddio force majeure fel esgus. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â'r stormydd amrywiol sydd wedi ein taro dros y tri neu bedwar mis diwethaf. Tybed a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i asesu neu ddadansoddi a yw'r cymal hwn yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac i atgoffa busnesau bach o'r rhwymedigaeth honno os byddant yn rhoi'r gorau i gyflawni gwasanaeth, a'i fod yn rhywbeth lle nad oedd ganddynt sicrwydd yswiriant ar ei gyfer, a bod yn rhaid iddynt sicrhau bod y cydnerthedd busnes hwnnw ganddynt.

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn. Pan welais ei fod wedi'i gyflwyno, roeddwn mewn penbleth i gychwyn, a sylweddolais wedyn fod hwn, mewn gwirionedd, yn waith y mae angen inni ei ystyried yn fwy trylwyr. Edrychais ar y cymal, ac yn benodol, ar amod 39.2, neu ran o 39.2, sy'n datgan:

'Fodd bynnag, os bydd digwyddiad o'r fath yn rhwystro'r naill Barti neu'r llall rhag cyflawni ei holl rwymedigaethau o dan y Contract am gyfnod sy'n hwy na 6 mis, caiff y naill Barti neu'r llall derfynu'r Contract drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddaw i rym yn ddi-oed.'

Fy mhryder yw—[Torri ar draws.] Yn union, ie. Buaswn yn fwy na pharod i fynd ar drywydd y mater hwn. Os oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth a fyddai'n galluogi fy swyddogion i ystyried achosion o force majeure sy'n arwain at ddiddymu cymorth yn anghyfiawn o dan gontract, rhannwch y wybodaeth honno gyda mi, os gwelwch yn dda.

Y Sector Adeiladu

6. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa economaidd bresennol y sector adeiladu? OAQ51500

Mae'r sector adeiladu yn gwneud cyfraniad hollbwysig i economi Cymru, drwy gynnal oddeutu 13,000 o fusnesau a chyflogi oddeutu 112,000 o unigolion. Mae'r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu, yn eu rhagolwg diweddaraf, yn rhagweld twf digynsail yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru hyd at 2021.

Ac i ychwanegu ystadegyn pellach, mae'n cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Mae wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf. Mae adeiladu masnachol a pheirianneg sifil yn arbennig yn wannach, ac mae hyn wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar adeiladu tai. Tybed pa weledigaeth sydd gennych ar gyfer adfywio ac ehangu'r sector adeiladu dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, fel rydych wedi'i nodi yn eich amcanestyniad. Pa ran y bydd targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai yn ei chwarae yng Nghymru?

Credaf ein bod yn parhau â thuedd gadarnhaol mewn perthynas ag adeiladu tai yng Nghymru, er gwaethaf y ffigurau chwarterol diweddaraf sy'n dangos gostyngiad, fel y nododd yr Aelod, o 12 y cant mewn anheddau a gwblhawyd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi y llynedd. Mewn gwirionedd, cafwyd cynnydd o 27 y cant yn y chwarter blaenorol. Yn ychwanegol at hynny, roedd nifer y cartrefi tai cymdeithasol a gwblhawyd yn ystod chwarter cyntaf y llynedd 56 y cant yn uwch na'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Ein bwriad yw gweithio gyda'n gilydd ar draws y Llywodraeth i nodi tir lle gall busnesau bach a chanolig adeiladu cartrefi. Ar hyn o bryd, mae gormod lawer o fusnesau bach nad ydynt yn gallu gwneud cynigion am ddarnau o dir a safleoedd datblygu gan nad ydynt o reidrwydd yn gallu cystadlu. Ond drwy gymorth tai arloesol, credwn y gallwn barhau i gefnogi twf mentrau bach a chanolig yng Nghymru.

Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn nodi'r gwaith da sy'n digwydd ar lefel awdurdodau lleol. Yn benodol, nodaf Gyngor Sir y Fflint sy'n adeiladu tai cyngor am y tro cyntaf ers peth amser. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad eisoes yn dwyn ffrwyth, a hoffwn longyfarch awdurdodau lleol eraill sy'n ystyried gwneud yr un peth.

14:15
Y Cyflog Byw

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision y cyflog byw i economi Cymru? OAQ51516

Gwnaf. Gall y cyflog byw ddarparu manteision i'r economi, i fusnesau ac i unigolion. Rydym yn cymryd camau i hyrwyddo manteision mabwysiadu'r cyflog byw gwirioneddol i gyflogwyr. Credaf y dylid nodi bod cymdeithas fwy cyfartal yn gymdeithas fwy cydlynus a hapusach.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a chydnabod y gwaith caled y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â'r cyflog byw cenedlaethol? A gaf fi dynnu sylw at y pryderon nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag ymgysylltiad uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cyflog byw cenedlaethol, ond hefyd, drwy'r gadwyn gyflenwi, drwy gaffael, drwy'r holl feysydd y mae gan Lywodraeth Cymru ddylanwad arnynt, mae angen inni ddod â phobl at ei gilydd i arddel ethos a moeseg yr hyn sydd yn ei hanfod yn waith teg ac yn gyflog teg mewn perthynas â'r cysyniad o gyflog byw cenedlaethol? A all Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ac amlinellu sut y mae'n gweld y polisi hwnnw'n datblygu a rôl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gyflawni hynny?

Yn sicr, a hoffwn ailadrodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r cyflog byw, ac y bydd yn parhau i annog pob rhan o economi Cymru i fabwysiadu'r cyflog byw. Ym mis Mawrth, rwy'n credu, y llynedd, fe gyflwynasom y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae'r cod hwn yn ymrwymo sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector i gyfres o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Disgwylir i bob sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau, ymrwymo i'r cod, ac wrth gwrs, mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud hynny. Yn ogystal, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, ac yn arbennig y contract economaidd, rydym yn benderfynol o weld arferion gwaith teg yn cael eu mabwysiadu ar draws y gweithlu.

Gwella Ffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn 2018? OAQ51507

Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr, yn ddogfen fyw ac mae'n cynnwys rhaglen uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth integredig ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Nododd y cwmni dadansoddi traffig INRIX yn ddiweddar fod dros 30,000 o dagfeydd traffig ar ffyrdd Cymru yn 2017. Roeddent yn amcangyfrif bod y gost i economi Cymru bron yn £278 miliwn—ffigur anhygoel—gallech adeiladu dau ysbyty o'r radd flaenaf gydag arian o'r fath. O ystyried yr oedi ar gynnydd prosiect ffordd liniaru'r M4 a deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ar ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda?

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at yr angen i barhau i fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd, nid yn unig yng Nghymru ond ar sail drawsffiniol. Rydym yn gweithio gyda Highways England i sicrhau ein bod yn cael mynediad trawsffiniol addas at ffyrdd hefyd. Ond yng Nghymru, lle mae gennym gyfrifoldeb llawn, rydym wedi cychwyn y rhaglen mannau cyfyng, gyda ffocws penodol ar liniaru tagfeydd mewn mannau cyfyng sy'n mynd â thraffig o'r de i'r gogledd ac o'r gogledd i'r de. Rydym hefyd yn ystyried buddsoddi mewn cyfres o ffyrdd osgoi yng Nghymru, unwaith eto i liniaru tagfeydd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Mae ardaloedd trefol yn dioddef o ganlyniad i lefelau uchel o allyriadau carbon lle ceir tagfeydd. Ac rydym hefyd yn ystyried gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, boed i'r rheilffyrdd neu i fysiau, ac yn integreiddio pob un ohonynt ar yr un pryd fel rhan o un weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a fydd yn cynnwys teithio llesol, fel y gall pobl, drwy gerdded neu feicio, ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd ddibynadwy a chyfleus.

14:20
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, a'r cwestiwn cyntaf—David Rees. 

Siarter yr Undeb Ewropeaidd ar Hawliau Sylfaenol

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit? OAQ51510

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ddylai'r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain mewn unrhyw ffordd at lastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol, neu yn wir, unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol neu gyflogaeth. Rwy'n llwyr gefnogi'r safbwynt hwnnw ac yn dadlau drosto.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ni fydd dull Llywodraeth y DU o drosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith y DU drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn darparu'r amddiffyniadau a ddylai fod gennym ar gyfer cynnal siarter hawliau sylfaenol yr UE ar ôl inni adael yr UE. Mae uwch-gyfreithwyr yn bryderus iawn y bydd i Lywodraeth y DU wrthod ymgorffori'r siarter yng nghyfraith y DU yn glastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol. Er enghraifft, maent wedi amlygu'r hawl annibynnol i gydraddoldeb o dan erthygl 21, nad oes unrhyw beth yn cyfateb iddi mewn cyfraith ddomestig. Yn wir, nid oes gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 statws cyfansoddiadol chwaith. Mae'n amlwg fod dadansoddiad cyfreithiol Llywodraeth y DU yn debyg i'w dadansoddiad sectorol—twyll pur. Wedi inni adael yr UE, mae Cymru yn awyddus i barhau i fod yn genedl sy'n parchu pawb ac sydd wedi cadw'r hawliau a gawsom yn yr UE mewn statud. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar yr hawliau y mae dinasyddion Cymru wedi eu cael fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, a sut y mae wedi defnyddio'r Bil parhad a baratowyd ganddi i gynnwys unrhyw amddiffyniad o'r hawliau hynny?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel yr eglura ei gwestiwn, mae'r siarter hawliau sylfaenol yn ymestyn y tu hwnt i'r confensiwn ar hawliau dynol ac yn cynnwys hawliau eraill; soniodd am hawliau cydraddoldeb—ceir eraill sy'n ymwneud â data personol ac ati. Fe'i gwnaed yn glir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gynhyrchwyd flwyddyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fod angen inni fod yn wyliadwrus ac yn benderfynol wrth adael yr UE nad yw'r amddiffyniadau a'r safonau sydd o fudd i'n dinasyddion a llesiant y gymdeithas yn gyffredinol yn cael eu herydu. Am y rheswm hwnnw, a rhesymau eraill, rwyf eisoes wedi nodi ein pryderon nad yw Bil yr EU (Ymadael) yn cynnwys amddiffyniad ar gyfer y siarter ei hun.

Nawr, sonia yn ei gwestiwn fod peth trafodaeth neu anghydfod cyfreithiol ynghylch y siarter honno, ond mae'n amlwg y gellir ei defnyddio mewn modd ymarferol i warchod hawliau dynol pobl ledled y DU. Mewn penderfyniad gan y Goruchaf Lys cyn diwedd y llynedd, er enghraifft, defnyddiwyd y siarter i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol nad oedd yn unol â darpariaethau'r siarter. Felly, mae hawliau a rhwymedïau cyfreithiol cwbl eglur a diamwys ar gael i aelodau o'r cyhoedd o ganlyniad i ymgorffori'r siarter.

Fel y soniodd yr Aelod, ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, yn ei geiriau ei hun, ddadansoddiad o'r gymhariaeth rhwng darpariaethau'r Ddeddf a'r gyfraith barhaus ar ôl Brexit, a pharheir, yn anffodus, na fydd siarter yr UE wedi'i chynnwys yn y Bil, sy'n destun cryn bryder.

Fe sonioch am y Bil parhad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir mai'r lle i gadw'r amddiffyniadau hynny rwyf newydd eu crybwyll yw Bil ymadael newydd y DU. Mae'r ddau ohonom yn ymwybodol o welliannau a fydd yn cael eu cynnig yn y Senedd mewn ymgais i sicrhau bod y Bil yn cynnwys y pethau hynny. Fodd bynnag, pe bai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ein Bil ein hunain, yn amlwg, byddem yn ceisio gwneud popeth y gallem i sicrhau na fyddai hawliau dinasyddion Cymru yn cael eu herydu.

Diolch yn fawr iawn i David Rees am godi'r pwnc pwysig yma. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn edrych ar hawliau dynol yn y misoedd diwethaf, yn benodol ar yr union fater rydych yn ei godi: y pryder a ddangoswyd gan nifer o sefydliadau ledled Cymru am effaith penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid deddfwriaeth ddomestig. 

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, fe glywsom ni gan nifer o arbenigwyr a oedd yn dadlau nid yn unig fod gan y Cynulliad y pŵer i gyflwyno Deddf hawliau dynol i Gymru, ond hefyd fod yna ddadl gref dros wneud hynny er mwyn amddiffyn Cymru rhag unrhyw wanhau yn nhermau hawliau dynol ein dinasyddion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth ydy'ch barn chi am gael Deddf hawliau dynol i Gymru?

14:25

Fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae setliad datganoli Cymru yn golygu bod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n wastad o fewn cyd-destun Deddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig, a dyna mae Llywodraeth Cymru yn moyn gweld yn parhau: bod y fframwaith hynny sydd yn darparu'r hawliau yn fewnol i bobl yng Nghymru yn parhau tu hwnt i'r cyfnod y byddwn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig trwy'r Human Rights Act, ond hefyd, fel y clywsoch chi foment yn ôl, drwy'r siarter sydd yn ehangu hawliau pobl yng Nghymru. A dyna hoffwn i ei weld—y Ddeddf yn San Steffan yn cael ei diwygio i sicrhau bod y rheini yn parhau yn rhan o ddeddfwriaeth Prydain i gyd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig—San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast—yn hollol abl i amddiffyn hawliau dynol gwladolion Prydain? Nid oes arnynt angen unrhyw gymorth gan farnwyr anetholedig yn Lwcsembwrg. Pan oedd y siarter hawliau sylfaenol yn cael ei thrafod, sicrhaodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd drefniadau eithrio rhag ei darpariaethau drwy brotocol 30 cytuniad Lisbon, a dywedodd Llywodraeth Blair na fyddai'r DU yn rhwym i ddarpariaethau'r siarter. Ond er gwaethaf geiriad protocol 30, a oedd yn ddigon clir yn ôl pob golwg, mae Llys Ewrop, mewn enghraifft eithriadol o actifiaeth farnwrol, wedi diystyru dymuniadau'r Llywodraeth Lafur ar y pryd ac wedi cymhwyso darpariaethau'r siarter i ddeddfwriaeth Brydeinig mewn rhai meysydd pwysig iawn, fel diogelu data, er enghraifft. Mae'n bwysig iawn parchu cyfreithlondeb democrataidd, yn yr un modd ag y dylid parchu hawliau dynol, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE, nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd unrhyw un o hawliau pobl Prydain yn cael eu glastwreiddio mewn unrhyw ddull na modd.

Wel, mae'r ymosodiad hwn ar farnwyr a'r ymosodiad ar eu didueddrwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yn anetholedig yn camddeall cyfansoddiad Prydain yn gyfan gwbl, mewn gwirionedd. Maent yno i weithredu'n ddiduedd ac maent yn gwneud hynny, ac yn y lle hwn dylem wrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio'r canfyddiad hwnnw drwy honiadau o fethu â bod yn ddiduedd oherwydd eu bod yn anetholedig.

Fe sonioch am brotocol 30: nid yw'n ymwneud â Llys Cyfiawnder Ewrop yn cymhwyso hynny yn wyneb gwrthwynebiad gan y DU. Fel yr atebais yn y cwestiwn yn gynharach, defnyddiodd Goruchaf Lys y DU y siarter honno mewn achos ychydig cyn y Nadolig i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â hynny, ac mae'n rhy optimistaidd o lawer ynghylch lefel yr amddiffyniadau a fydd yn cael eu rhoi i hawliau dynol os na chedwir y darpariaethau hyn yng nghyfraith y DU. Unig nod Llywodraeth y DU wrth newid y darpariaethau hynny yw eu glastwreiddio, a chredaf y dylem geisio gwrthsefyll hynny ar bob cyfle yn y Siambr hon.

Cyfansoddiad Cymru

2. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddfau Uno 1535-42 ar gyfansoddiad Cymru? OAQ51493

A gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mewn unrhyw asesiad o drefniadau neu ddatblygiadau cyfansoddiadol sy'n bodoli ar hyn o bryd neu sy'n cael eu cynnig, mae Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio'n bennaf ar y gyfraith sydd mewn grym ar yr adeg dan sylw. Er bod pwysigrwydd hanesyddol sylweddol i'r Deddfau Uno, maen nhw bellach wedi cael eu diddymu.

Diolch yn fawr am yr ateb. Rydw i wedi bod yn aros pum canrif i ofyn y cwestiwn yma, wrth gwrs, ac mae'n dda gen i gael ateb gan y Cwnsler Cyffredinol—dyna beth yw pwrpas y Cwnsler, mae'n siŵr. Ond, wrth gwrs, y peth ddigwyddodd gyda'r Deddfau Uno yw bod tywysogaeth Cymru wedi'i diddymu, ac wrth i Gymru ddod yn rhan o Loegr, i bob pwrpas, a dod o dan Goron Lloegr, fe ddiddymwyd tywysogaeth Cymru. Bellach, felly, mae sôn am dywysogaeth mewn cyd-destun cyfansoddiad Cymru ond yn rhyw fath o ffantasi rhamantwyr a ffantasïwyr brenhinol.

A fyddwch chi, felly—yn dod yn ôl at y diwrnod sydd ohono—fel Cwnsler Cyffredinol, ar ran Llywodraeth Cymru, yn addo i'r Cynulliad na fyddwch chi byth yn defnyddio'r gair 'tywysogaeth' wrth ddisgrifio statws cyfansoddiadol Cymru?

Wel, ces i gyfle, yn sgil y cwestiwn, i ail-atgoffa fy hunan o effaith Deddfau a chyfraith Canol Oesoedd Cymru—bydd yr Aelod yn bles i glywed hynny—yn cynnwys penderfyniadau cyngor Aberdyfi, statudau Rhuddlan, ac fel y gwnaeth Dai Lloyd sôn wrtha i ddoe, jest i atgoffa fy hunan o gyfraith Hywel. Nid ydw i wedi llwyddo i wneud hynny yn yr amser byr a oedd gyda fi ers hynny, yn anffodus. Ond, ar y cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn, am gwestiwn y dywysogaeth, y ffaith yw bod Cymru yn wlad yn ei hawl ei hun, yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Mae ganddi, wrth gwrs, ddeddfwrfa a Llywodraeth etholedig, sydd yn deddfu a chreu polisïau sy'n addas i bobl Cymru. Ac nid yw cwestiwn y dywysogaeth yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru. Ni allaf wneud mwy o sylwadau ar sylwadau personol, efallai, a gafodd eu gwneud yn ddiweddar.

14:30
Y Proffesiwn Cyfreithiol

3. Yn sgil Adolygiad Lammy, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru? OAQ51523

Mae Llywodraeth Cymru yn credu mai'r unig ffordd i gyflawni system gyfiawnder deg a chynhwysol yw sicrhau bod gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu yn llawn.

Diolch i chi am eich ateb. Rydym i gyd yn deall yr egwyddor o gydraddoldeb gerbron y gyfraith, ond mewn gwirionedd y cwestiwn yw: beth am gydraddoldeb o fewn y gyfraith? A chyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ystyried sut y gallai system gyfiawnder benodol i Gymru weithio, credaf ei bod yn hanfodol ein bod hefyd yn myfyrio ar sut olwg sydd ar y system honno o ran ethnigrwydd, rhywedd a chefndir cymdeithasol. Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd y camau angenrheidiol a gafodd eu hargymell gan adroddiad Lammy i greu barnwriaeth fwy amrywiol. Felly, rwy'n gofyn: beth y gallwn ni ei wneud, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i greu barnwriaeth fwy amrywiol, a hyrwyddo mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol drwyddo draw?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac am ei dadleuon parhaus dros achos amrywiaeth a chydraddoldeb yn gyffredinol.

Mae'r diffyg amrywiaeth yn y system cyfiawnder troseddol, a nodwyd yn adolygiad Lammy, yn milwrio yn erbyn mynediad at gyfiawnder, sef un o bileri allweddol ein democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU. Dangosodd Lammy fod diffyg amrywiaeth o'r fath i'w weld yn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau pwysig ar draws y system cyfiawnder troseddol, o swyddogion carchar a llywodraethwyr i ynadon a'r farnwriaeth yn fwy cyffredinol. Ac mae'r rhain yn faterion pwysig i ni o ran rheolaeth y gyfraith yn y DU. O ran y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ac o ran amrywiaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, rydym ar ei hôl hi rywfaint mewn perthynas â phoblogaeth gyffredinol Cymru, ac mae mwy y gallwn ei wneud yn sicr.

O ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn, ysgrifennodd y Prif Weinidog, er enghraifft, at Brif Weithredwr y Goruchaf Lys yn ddiweddar, i danlinellu pwysigrwydd sicrhau amrywiaeth yn y Goruchaf Lys, ac yn fwy cyffredinol yn y system farnwrol drwyddi draw. Yng Nghymru, caiff penodiadau i'r farnwriaeth dribiwnlysoedd yng Nghymru eu gwneud yn ôl cyngor y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, ac felly maent yn ddarostyngedig i'w bolisïau ar hybu amrywiaeth farnwrol.

Mae'n sôn am amrywiaeth mewn termau ehangach, sy'n cynnwys rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywioldeb, ac ati. Credaf y byddai'n dda i ni gofio geiriau yr Arglwyddes Hale, sef Llywydd y Goruchaf Lys, a ddywedodd y canlynol pan gafodd ei phenodi,

Rwyf o'r farn fod "gwahaniaeth" yn bwysig wrth farnu a bod amrywiaeth rhwng y rhywiau, ynghyd â llawer o agweddau eraill ar amrywiaeth, yn beth da, yn wir yn beth angenrheidiol. Fodd bynnag, nid ein llais gwahanol yw'r prif reswm dros hyn, ond cyfreithlondeb democrataidd. Mewn democratiaeth a reolir gan y bobl ac nid gan frenhiniaeth absoliwt neu ddosbarth llywodraethol aristocrataidd hyd yn oed, dylai'r farnwriaeth adlewyrchu'r gymuned gyfan, nid cyfran fach ohoni.

Roeddwn yn falch o glywed cyfeiriad y Cwnsler Cyffredinol at bwysigrwydd cefndir economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â rhyw ac ethnigrwydd, mewn perthynas ag amrywiaeth. Soniodd am y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a bod yn ddarostyngedig i'w weithdrefnau. A yw'n rhagweld unrhyw welliant yn amrywiaeth y corff hwnnw i'r graddau fod lleisiau Cymry yn cael eu clywed i'r un graddau ag y sicrheir ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon? I ba raddau y mae ef fel Cwnsler Cyffredinol yn dehongli ei rôl yn ehangol o ran amrywiaeth, ac yn hyrwyddo hynny ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?

Ar y cwestiwn cyntaf, mewn perthynas ag amrywiaeth daearyddiaeth ac awdurdodaethau, os mynnwch, o fewn y Goruchaf Lys, mae'r ddeddfwriaeth berthnasol yn darparu, wrth gwrs, y dylai'r Goruchaf Lys gael cyfuniad o ustusiaid sy'n adlewyrchu gwybodaeth a phrofiad o bob rhan o'r DU. Safbwynt cryf Llywodraeth Cymru yw y dylai hynny gynnwys ustus ar gyfer Cymru. Fel y bydd yn gwybod, mae gan y Goruchaf Lys farnwr cyswllt Cymreig—yr Arglwydd Lloyd-Jones—a chyfarfûm ag ef yn ddiweddar i drafod rhai o'r materion hyn. Rwy'n credu'n sicr fod dadlau dros amrywiaeth yn rhan o fy rôl yn gyffredinol ac yn cynnwys y proffesiwn cyfreithiol yma yng Nghymru. Rwyf wedi cael cyfle i siarad â nifer o bobl mewn perthynas â hynny ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny'n flaenoriaeth yn ystod fy nghyfnod fel Cwnsler Cyffredinol.

14:35
Deddf Cymru 2017

4. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei grymoedd newydd o dan Ddeddf Cymru 2017? OAQ51494

Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhan fwyaf o’r pwerau newydd dan Ddeddf Cymru 2017 yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni, gyda rhai pwerau eraill yn dod i rym ychydig yn ddiweddarach. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y pwerau newydd hyn.

Diolch am yr ateb ac rydw i jest eisiau gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol yn fwy eang ynglŷn â'r pwerau trethi mae ei gydweithiwr—sydd drws nesaf iddo ef ar hyn o bryd—yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, yn ystyried, o ran pedair treth newydd a phosibiliad o un dreth, wrth gwrs, yn mynd gerbron. Rydw i'n cefnogi'r dreth ar blastig a byddaf yn ail-adrodd hynny, ac mae'n dda gweld bod y Cynulliad wedi pleidleisio felly neithiwr hefyd wrth drafod y materion.

Wrth ateb a thrafod yn y Pwyllgor Cyllid, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn ei farn ef, mai mater o gyd-gytuno, wrth gwrs, yw hyn rhwng y Cynulliad a San Steffan—Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi—ac, iddo fe, beth oedd yn bwysig oedd nid y polisi—nad mater polisi oedd hyn i San Steffan—ond sut y byddai hyn yn effeithio ar rymoedd San Steffan a bod y ddwy Senedd yn gydnaws â'i gilydd, os leiciwch chi, ac yn gytûn ar hynny. Ond, wrth gwrs, nid oes dim byd wedi ei ysgrifennu i lawr ynglŷn â phrotocol fel hyn. Felly, rydw i eisiau gofyn i chi fel Cwnsler Cyffredinol a fyddwch chi nawr yn mynd i'r afael â'r dasg yma i wneud yn siŵr bod y llwybr yn cael ei baratoi, yn gyfansoddiadol, er mwyn i'ch cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet, fynd ymlaen â pha bynnag dreth sy'n cael ei dewis gan y Llywodraeth, yn llwyddiannus, a dod â hi i rym.

Wel, mae dadansoddiad cyfreithiol yr Aelod yn gywir mai dyna yw'r broses: hynny yw, mae angen cytundeb. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud sawl gwaith mai sicrhau bod gennym ni system sy'n gweithio a'n bod ni'n cydweithio â'r system sydd yn bwysig fel rhan o'r broses yma. Buaswn yn ategu sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar hynny, ac rwyf yn bwriadu cydweithio ag ef i sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud ein rhan ni i sicrhau llwyddiant yn hynny. 

3. Cwestiynau Amserol

Ac felly, yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol a'r cwestiwn cyntaf, Angela Burns. 

GIG Cymru

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r eithaf? 96

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'r gaeaf, fel erioed, yn gyfnod heriol iawn. Mae GIG Cymru a'r system gofal cymdeithasol ehangach o dan gryn bwysau ac mae hynny'n gyson â'r pwysau sy'n cael ei nodi ar draws y DU. Er gwaethaf prysurdeb, digynsail ar adegau, mewn rhannau o'r system, mae ein staff ymroddedig a gweithgar yn parhau i ddarparu ymateb proffesiynol a thosturiol.

Mae hynny'n wir, ac mewn gwirionedd, y staff ymroddedig a gweithgar hyn sydd wedi dwyn nifer sylweddol o bryderon i fy sylw dros y 10 diwrnod diwethaf. Rydym wedi gweld colegau brenhinol yn cyflwyno sylwebaeth a datganiadau am y pwysau enfawr sydd wedi bod ar eu staff. Rwyf wedi cyfarfod â cholegau brenhinol yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â meddygon, nyrsys, staff rheng flaen a gweithiwr ambiwlans. Mae pob un ohonynt yn sôn am yr un peth: sylwadau fel 'nid wyf erioed wedi gweld GIG Cymru yn y fath gyflwr', fod eu cydweithwyr 'ar ymyl y dibyn' a bod staff rheng flaen 'o dan bwysau aruthrol'. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain eu hun wedi dweud nad oedd gan un ardal bwrdd iechyd yng Nghymru unrhyw staff llanw o gwbl o ran meddygon teulu. Rydym wedi colli dros 2,000 o oriau ambiwlans yn ystod y saith neu wyth diwrnod diwethaf. Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod rhai pobl yn aros dros 80 awr mewn adrannau achosion brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn fater enfawr. Rwy'n derbyn yn llwyr nad ydych chi yn bersonol yn gyfrifol am faterion rheng flaen sy'n mynd o chwith. Rwy'n derbyn yn llwyr y cafwyd mwy o broblemau yn ystod y gaeaf hwn a bod y gaeaf hwn gryn dipyn yn llymach nag y rhagwelodd pawb. Ond fy mhryder i yw eich bod wedi neilltuo tua £50 miliwn cyn y gaeaf i baratoi ar gyfer hyn a hoffwn ofyn i chi gynnal asesiad brys o sut y gwariwyd y £50 miliwn hwnnw. A gyrhaeddodd yr arian y rheng flaen, ac os felly, ble a sut, a beth y llwyddodd i'w wella? A lwyddodd y rheolwyr i gynnwys y bobl gywir yn y gwaith cynllunio? Oherwydd mae meddygon teulu yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae meddygon ysbyty yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae arweinwyr unedau achosion brys yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Ni chafwyd cyfrif o'r tri neu bedwar diwrnod, felly, i bob pwrpas, cawsom bythefnos gyfan gydag ond ychydig iawn o staff llanw tebyg i'r hyn a geir ar wyliau banc. Roedd gwasanaethau cymdeithasol yn absennol am bythefnos i bob pwrpas. Gwelsom oedi enfawr wrth drosglwyddo gofal. Roedd gan ysbyty Mynydd Bychan ddwy ward gyfan yn llawn o bobl yn aros i fynd adref.

A fyddech chi hefyd yn derbyn, neu'n edrych ar y rheolwyr o fewn y GIG, oherwydd mae'n ymddangos ein bod yn gwneud yn wych o ran strategaeth, ond rydym yn ei chael hi'n anodd rhoi'r strategaeth honno ar waith? Pan fo gennych nyrs neu reolwr gwelyau yn dweud, 'Nid wyf am agor gwely a rhoi gwely ychwanegol ar y ward honno oherwydd bydd y gwely hwnnw'n creu risg i'r ward honno', rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond mae risg yn ymwneud â chydbwysedd risg. Felly, pa un yw'r gwaethaf: cael un gwely ar agor ar ward, neu gael person ar droli am 80 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i chi sicrhau ein bod yn dwyn y rheolwyr, rheolwyr y GIG, i gyfrif am y materion hynny.

Rydych newydd ddyfarnu £10 miliwn arall yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod y £10 miliwn hwnnw yn mynd i'r rheng flaen ac yn datrys y problemau hyn. Cynhaliwyd ymchwiliad rhagorol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Llwyddasom i greu adroddiad cryf ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. Daeth y bobl atom a dweud wrthym nad oeddent yn cael eu cynnwys. Maent yn parhau i ddweud hynny heddiw. Mae angen i chi ddarganfod beth aeth o'i le, a buaswn yn gofyn i chi geisio mynd at wraidd hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae rhywbeth yn rhywle heb weithio. Ac fel y dywedoch hi ar y cychwyn, mae gennym lawer o bobl ragorol sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd o dan bwysau aruthrol. Ein gwaith ni yw codi'r pwysau hwnnw oddi ar eu hysgwyddau.

14:40

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Wrth feddwl am ein sefyllfa ac am y pwysau sy'n bodoli ar draws y system, mae llawer o'n sylwebaeth, yn y pen draw, yn anochel yn ymwneud â charreg drws ysbyty a'r adran achosion brys, ond mewn gwirionedd, mae'r pwysau ar draws y system, gan gynnwys ym maes gofal sylfaenol, lle maent, ar ddiwrnodau prysur, wedi cael 100,000 o gysylltiadau mewn gofal sylfaenol ar draws y wlad. Rhan o fy syniad oedd nid yn unig y £10 miliwn i fynd i mewn i'r system, ond hefyd drwy'r holl Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau a dyletswyddau gweinyddol meddygon teulu er mwyn rhoi mwy o amser iddynt ei dreulio gyda chleifion sydd angen eu gofal a'u cymorth.

Ceir hefyd y pwysau hwnnw ar draws y system gofal cymdeithasol. Rwy'n credu efallai fod awgrymu bod gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn absennol am bythefnos i bob pwrpas braidd yn angharedig a heb fod yn gwbl gywir, oherwydd, mewn gwirionedd, rhan o'r rheswm pam fod gwasanaethau'n parhau i weithio yw oherwydd ymrwymiad staff gofal cymdeithasol, yn ogystal â'u cydweithwyr o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond nid yw'r her sy'n ein hwynebu wrth symud ymlaen drwy hyn—a deallaf y bydd angen i ni wneud yn well yn y dyfodol—fel bob amser, yn ymwneud yn unig â'r hyn sy'n digwydd wrth y drws blaen mewn gofal sylfaenol, practis cyffredinol neu adran achosion brys, mae hefyd yn ymwneud â chyrraedd y pen arall a'r angen i ryddhau pobl i'w cartrefi eu hunain, boed hynny'n gartref eu hunain mewn preswylfa breifat neu mewn gofal preswyl. Felly, rydym yn credu y bydd yr arian a gyhoeddwyd gennym yn helpu'r cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig, oherwydd sylweddolwyd ar un adeg yr wythnos diwethaf pan wneuthum gyfweliad fod tua 350 o bobl sy'n feddygol iach mewn gwelyau yn ein system ysbytai. Nid her sy'n ymwneud â nifer gwelyau yw honno, ond her sy'n ymwneud â llif o fewn ein system iechyd a gofal gyfan. Felly, mae yna her i'w datrys sy'n ymestyn ar draws  iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd y £50 miliwn yn ymwneud â chynnal perfformiad, nid gofal heb ei drefnu yn unig, ond gofal wedi'i drefnu yn ogystal. Rydym yn disgwyl y byddwn mewn gwell sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon o ran ein rhestrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn ogystal. Felly, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol. Nid ydym wedi canslo gofal dewisol ledled y wlad. Rydym wedi gweld peth o hwnnw'n parhau, ond cafodd rhai llawdriniaethau eu canslo er mwyn gwneud yn siŵr bod derbyniadau brys yn cael eu trin. Wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol, a disgwyliaf y byddaf yn wynebu craffu yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor ynglŷn â'r hyn y mae'r £50 miliwn wedi'i ddarparu. Bydd yn darparu hyd at ddiwedd y flwyddyn, felly ni fyddaf yn ymgymryd ag ymchwiliad hanner ffordd, yn hytrach na deall beth y mae'r system gyfan wedi'i wneud o ran paratoi ar gyfer y gaeaf a chyflawni ar hyd y gaeaf.

Mae'r un peth yn wir am y wers y byddwn yn amlwg yn ei dysgu o'r gaeaf hwn, ar adeg o bwysau eithafol, fel y mae bron bob amser yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr, ond wedyn i edrych ar gyfnod y gaeaf yn ei gyfanrwydd. Oherwydd, ar yr adeg y gofynnoch chi'r cwestiwn hwn yn wreiddiol, roedd hynny ar un o'r adegau brig o ran pwysau. Yn ffodus, mae wedi lleihau ledled y wlad. Rydym yn gweld lefel wahanol o gynnydd erbyn hyn. Ond yn sicr nid yw'r gaeaf ar ben ac rwy'n tybio y bydd llawer mwy o ddiwrnodau anodd.

Felly, mae angen i ni ddeall yr hyn a ddigwyddodd y tro hwn gyda chynllunio ar gyfer y gaeaf, a chafodd y lleisiau rydych yn dweud na chawsant eu hystyried eu cynnwys yn rhai o'r cynlluniau ar gyfer y gaeaf mewn gwirionedd, oherwydd roedd cydweithwyr yn cynrychioli pob rhan o'r gwasanaeth, nid gofal iechyd yn unig, ond roedd cydweithwyr gofal cymdeithasol yn yr ystafell hefyd. Mae yna her bob amser o ran y modd yr ydym yn crynhoi lleisiau staff ac yn deall sut y maent yn cynllunio gyda'i gilydd i ddarparu ein gwasanaeth. Byddwn, wrth gwrs, yn dysgu o'r gaeaf hwn. Rydym eisiau paratoi'n well ar gyfer y gaeaf nesaf, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn gwbl dryloyw am yr hyn rydym wedi'i ddysgu a'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud yn well yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, rwyf eisiau gwella ein hymateb ar gyfer gweddill y gaeaf cyfredol.

14:45

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym mai'r rheswm dros y pwysau yn ystod gaeaf 2017-18 hyd yma yw'r cynnydd digynsail yn y galw. Nawr, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl fod yna adegau prysurach na'i gilydd. Maent yn bodoli yn ystod y gaeaf, yn ogystal ag ar adegau eraill o'r flwyddyn, ac rydym wedi clywed bod rhai adegau eithriadol o brysur wedi bod. Ond ni allwch barhau i wthio'r un stori ar bobl dro ar ôl tro, oherwydd nid ydych yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd a beth y mae pobl ar y rheng flaen yn ei ddweud wrth bobl fel fi a llefarydd y Ceidwadwyr gyferbyn â mi.

Y gwir amdani yw nad oes gan ein GIG y cydnerthedd i allu ymdopi ag adegau prysur bellach. Mae nifer y gwelyau wedi parhau i fod yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant ers 2011. Dros yr un cyfnod ers hynny, mae Llywodraethau Llafur olynol wedi torri nifer y gwelyau 10 y cant. Nid wyf yn credu bod hynny'n gyd-ddigwyddiad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn dweud, 'Gwrthdrowch y toriadau i nifer y gwelyau'. Rydym wedi amlinellu sut y byddem eisiau hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol a miloedd o nyrsys ychwanegol dros y degawd nesaf.

Mae prinder gwelyau a staff mewn ysbytai, a diffyg integreiddio gyda gofal cymdeithasol yn golygu bod llawdriniaethau'n cael eu canslo; mae'n golygu ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau achosion brys; mae'n golygu cleifion mewn gwelyau ar y coridorau; ac mae'n golygu bod ein staff ardderchog a grybwyllwyd gennych ac a drysorir gan bob un ohonom yn cael eu rhoi o dan bwysau cynyddol. Mae'n anghynaliadwy. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwyf am ei ddweud eto yma yn awr: ar ôl rhedeg GIG Cymru am y 19 blynedd diwethaf bron iawn, rwy'n ofni nad yw Llafur yn gallu wynebu dyfnder problemau'r GIG bellach, oherwydd byddai cyfaddef bodolaeth y problemau hynny'n golygu cyfaddef eich rhan yn achosi'r problemau. Pa bryd y bydd y Llywodraeth hon yn tynnu ei phen o'r tywod, a chyfaddef ei rhan yn y problemau a rhoi cynllun priodol, hirdymor, cynaliadwy ar waith i fynd i'r afael â hwy?

Rwy'n gresynu at gywair Rhun ap Iorwerth wrth fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwn—[Torri ar draws.] Mae awgrymu ein bod yn gwthio stori ar bobl yn gwadu realiti. Nid yw cynnydd o 54 y cant yn y galw am ambiwlansys coch ar Nos Calan yn wthio stori ar bobl. Mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol yn y galw nas cynlluniwyd ar ei gyfer—a sut ar y ddaear y gallech chi gynllunio ar gyfer hynny beth bynnag. Ddydd Calan, roedd cynnydd o 29 y cant yn y galw am ambiwlansys coch. Rydym wedi gweld gwyro eithriadol rhag y norm. Er enghraifft, mewn gofal y tu allan i oriau, gwelsom gynnydd sylweddol yng Nghaerdydd a'r Fro, sydd fel arfer yn ystod cyfnod y Nadolig—ar noswyl Nadolig a dydd Nadolig—yn gweld cwymp yn y galw am wasanaethau, ond eleni, gwelsom gynnydd sylweddol. Felly, nid yw'n bwysau y gallech, yn rhesymol, gynllunio ar ei gyfer o ran y cynnydd hwnnw. Dyma gyflwyniad ffeithiol o'r hyn sy'n digwydd.

Credaf fod ceisio awgrymu mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod plaid wedi difetha ein gwasanaeth—. Mae'n bosibl ei fod yn creu penawdau gwych ar gyfer ffyddloniaid y blaid, ond mewn gwirionedd nid yw'n ein galluogi i ddeall natur yr heriau sy'n ein hwynebu nac yn ein galluogi i wneud rhywbeth yn ei gylch. Credaf mai fy swydd yn y Llywodraeth yw ceisio bod yn gyfrifol ac yn ymatebol ac yn adeiladol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny. Dyna pam, mewn gwirionedd, o ran eich pwynt olaf ynglŷn â dyfodol hirdymor iechyd a gofal yn y wlad hon a'r methu paratoi i wneud rhywbeth, dyna'n union rydym wedi'i wneud. Ar sail drawsbleidiol, rydym wedi cyfarwyddo panel o arbenigwyr i gynnal adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gennym yr adroddiad hwnnw o fewn wythnos, ac yna byddwn yn trafod ac yn gorfod gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol hirdymor y system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Ymhell o geisio osgoi'r heriau go iawn a hynod o anodd, rydym wedi ceisio bod yn adeiladol ac yn aeddfed wrth wneud hynny, ac yna bydd gennym sail ddilys, ystyrlon a heriol i'r Llywodraeth hon, a gweithredwyr gwleidyddol eraill hefyd yn y lle hwn a thu hwnt, allu gwneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf eich tystiolaeth yn ein pwyllgor ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut y mae'n effeithio ar y GIG yng Nghymru, ymddengys nad ydym byth yn dysgu o'r profiadau hyn; ymddengys ein bod yn cael ein dal ar y gamfa bob tro, fel pe bai pwysau'r gaeaf yn rhywbeth newydd. Ymddengys bod y gair 'digynsail' yn codi bob tro, fel pe bai'r gair hwn yn esgusodi'r ffaith nad ydym yn dysgu o brofiadau'r gorffennol.

Wrth gwrs, mae'r £10 miliwn ychwanegol i'w groesawu, ond rwyf eisiau gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y cafodd y £50 miliwn ei wario wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa hon sy'n digwydd yr adeg hon bron bob blwyddyn? Pa wersi sy'n cael eu dysgu o un flwyddyn i'r llall mewn perthynas â phwysau'r gaeaf, a sut rydych yn gweithredu arnynt? Unwaith eto, rydym yn clywed bod achosion ffliw wedi ychwanegu at y pwysau, fel y byddent wrth gwrs, ond unwaith eto, nid yw ffliw yn rhywbeth newydd i'n gwlad ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Rydym yn ei ddisgwyl—mae'n oeri—ac rydym yn disgwyl i'r ffliw fod yn ganlyniad i hyn, yn rhannol. Mae'n digwydd ar yr un pryd bob blwyddyn ac mae'n rhaid i ni fod yn barod am hyn.

Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod adrannau achosion brys yn ysbytai Cymru yn teimlo fel maes brwydr i staff. Gwyddom fod y nifer a ymwelodd ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch nag 1 filiwn. Ond pam, pan ydym yn annog pobl i ddefnyddio fferyllfeydd, er enghraifft, eu bod yn dal i fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys? Ai'r rheswm am hyn yw oherwydd na allant gael yr apwyntiadau meddyg teulu y maent yn teimlo eu bod eu hangen ac mai adrannau damweiniau ac achosion brys yw'r dewis amgen bellach?

Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda staff gofal sylfaenol a staff gofal eilaidd i gael syniad o'r sefyllfa rydym ynddi? Pa gyfran o'r derbyniadau brys hyn y gellid bod wedi ymdrin â hwy drwy ddulliau eraill, megis ymweliadau â meddygon teulu a fferyllfeydd? A oedd y staff ysbyty yn yr adrannau hyn yn barod a niferoedd llawn yn bresennol?

Rydych yn nodi bod cyrff y GIG wedi bod yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hwn ers diwedd y gaeaf diwethaf—wedi'u cefnogi gan y £50 miliwn o gyllid i'w helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng gweithgarwch gofal brys a gofal wedi'i gynllunio—ac eto nid oes gennym ddigon o welyau na staff i ymdopi gyda'r sefyllfa hon o hyd. Sut y gallwn gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel nad ydym yn canslo llawdriniaethau ar gyfer cleifion a fyddai'n gallu arwain at sefyllfa lle bydd angen triniaeth ychwanegol arnynt oherwydd yr oedi hwn, sy'n cael effaith ganlyniadol ar gost wrth gwrs, oherwydd maent yn costio mwy yn y tymor hir, neu mae'n bosibl y gallent? Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf—

14:50

Rwy'n credu eich bod eisoes wedi amlinellu digon o gwestiynau i'r Gweinidog. Rwy'n amau a fydd yn gallu eu cofio erbyn hyn.

Mae'n ddrwg gennyf. Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y gall pob meddyg teulu a holl staff ysbytai gyfarfod i fynd i'r afael â hyn? Diolch.

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau manwl. Rwy'n sylweddoli mai 20 munud yn unig sydd gennym ar yr agenda ar gyfer y tri chwestiwn, felly rwyf am geisio bod yn gryno wrth ymateb. Rwy'n credu fy mod wedi ymateb i'r cwestiynau am yr arian a'r olwg ehangach ar y gaeaf eleni i geisio dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn fy ateb i Angela Burns. Mae yna gwestiwn i'r Llywodraeth, ond hefyd i'r gwasanaeth iechyd, ynghyd â chydweithwyr llywodraeth leol a thai yn ogystal, o ran deall yr hyn rydym wedi'i wneud eleni a beth arall y mae angen i ni ei wneud yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni, yn raddol, gynllunio a darparu system fwy integredig sy'n deall anghenion y dinesydd a sut rydym yn ymdrin â hwy.

Mae hynny'n arwain at y rhan fwyaf ddiddorol o'ch cyfres o gwestiynau, o bosibl, ynglŷn â sut y gall y cyhoedd fod yn rhan o hyn hefyd. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi'r bai ar y cyhoedd, ond yn hytrach mae'n ymwneud â sut rydym yn paratoi'r cyhoedd i wneud dewisiadau gwahanol a sut rydym yn sicrhau bod y dewisiadau hynny ar gael. Mae'r ymgyrch Dewis Doeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol, ac ychydig cyn y Nadolig, gwelsom y gwasanaeth ambiwlans yn cynhyrchu rhestr o alwadau a gawsant ar gyfer peswch ac annwyd a phoen ysgwydd nad oeddent yn alwadau 999 o gwbl. Felly, mae honno'n rhan go iawn o'n system, ond mewn gwirionedd mae angen i ni reoli'r galw'n wahanol a newid disgwyliadau ynghylch y galw hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud ym maes fferylliaeth yn enghraifft dda o'r awydd i wneud hynny.

Yn y gwersi sydd i'w dysgu yn ystod y gaeaf hwn ac ar ôl y gaeaf hwn, rwy'n disgwyl y cawn fwy nag adroddiad sych ar faterion gweithredol, ond un a fydd yn gorfod ystyried profiad go iawn staff ym mhob rhan o'n system, er mwyn ceisio cynllunio ymlaen llaw wedyn, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond, yn yr ymateb i'r adolygiad seneddol, ar gyfer yr heriau tymor canolig a hwy y mae pob un ohonom yn eu hwynebu wrth i'n gwlad newid, wrth i'r galw gynyddu, ac fel y mae pawb ohonom yn gwybod, wrth i arian fynd yn brinnach ac wrth iddi ymddangos bod llai o arian nag o'r blaen i iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, a rheoli galw sy'n cynyddu'n barhaus.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn gan Simon Thomas.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru o ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil gan Lywodraeth y DU? 97

Diolch, Llywydd.  Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi nifer o welliannau i'r Bil heddiw, ond nid ydynt yn ymateb i'n gwrthwynebiad sylfaenol ni i'r Bil, yn enwedig y ffaith nad yw'n parchu'r setliad datganoli. Rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda'r bwriad o gytuno gwelliannau i'w cyflwyno yn Senedd San Steffan, ond nawr, wrth gwrs, yng nghyfnod Tŷ'r Arglwyddi.

14:55

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y cadarnhad nad yw'r gwelliannau a addawyd a oedd yn ymwneud â'r setliad datganoli, a chymal 11 yn arbennig wrth gwrs, wedi'u cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, fel yr addawodd Ysgrifennydd Gwladol, dros yr Alban, ond ar ran Llywodraeth y DU gyfan? Credaf fod hynny'n siomedig dros ben. Mae'n ddwbl y siom oherwydd mae'n golygu bod gennym lai o amser fel Cynulliad i ystyried y gwelliannau hynny, ac mae'n siomedig o safbwynt y rheini yn San Steffan, oherwydd, wrth gwrs, nid ASau wedi'u hethol a fydd yn craffu ar y gwelliannau hyn bellach, ond Tŷ’r Arglwyddi, a dylai Tŷ’r Arglwyddi fod yn ail Siambr ac yn ben draw'r daith ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol, nid y man cychwyn ar gyfer trafodaethau ynglŷn â datganoli a'r berthynas rhwng rhannau cyfansoddol yr ynysoedd hyn. Felly, mae'n fethiant dwfn ac enbyd ar ran Llywodraeth San Steffan mewn gwirionedd ac mae'n uniongyrchol gysylltiedig ag ad-drefnu'r Cabinet yn ddiweddar, oherwydd mae'n uniongyrchol gysylltiedig â Damian Green yn gadael a'r ffaith na chafwyd unrhyw arweinyddiaeth dros gyfnod y Nadolig i bwyso am ystyried y gwelliannau hyn yn San Steffan.

Ond y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru yn awr yw: pam parhau i ymddiried yn y Torïaid? Pam rhoi dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn nwylo Llywodraeth Geidwadol sy'n methu â chyflawni ei haddewidion—ar yr achlysur hwn, ond sawl gwaith yn y gorffennol yn ogystal? Pam na wnewch chi gyflwyno eich Bil parhad eich hunain yn awr, fel y nodwyd yn flaenorol gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Bil yr ydych wedi'i baratoi ac sy'n barod gennych, ac y gallwch bellach ei ddefnyddio fel dull gofalus o sicrhau nad ydym ar ein colled yn sgil y trefniadau yn y dyfodol wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Mae'n hanfodol fod parch yn cael ei ddangos i'r Senedd hon, fel y bydd, ac i'r setliad datganoli. Nid yw cyflwyno prif welliannau munud olaf na ellir eu trafod na'u dadansoddi'n briodol i ganfod eu perthnasedd i'n dyfodol cyfansoddiadol yn ffordd ymlaen. Rwy'n ymbil arnoch: peidiwch ag ymddiried yn y Torïaid mwyach; cyflwynwch eich Bil parhad eich hun.

Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ar ddechrau ei sylwadau? Mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth y DU, ar ôl rhoi ymrwymiad pendant i gyflwyno gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, wedi methu gwneud hynny. Eu naratif drwy gydol Cyfnod Pwyllgor y Bil oedd eu bod am wrando ar yr hyn a ddywedwyd ac y byddent yn myfyrio ar hynny. A dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn hollol glir, yn ystod rhan o'r ddadl honno, mai canlyniad yr ystyriaeth honno fyddai gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd. Felly, wrth gwrs, rydym yr un mor siomedig nad felly y mae.

Gadewch i mi roi sicrwydd i'r Aelod nad wyf erioed wedi ymddiried yn y Torïaid ar y mater hwn nac unrhyw fater arall—[Torri ar draws.] Wel, pe bawn, buaswn wedi bod yn siomedig iawn yn yr achos hwn, oni fuaswn? Ond yr hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth gyfrifol ei wneud yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr ymrwymiad a wnaeth, ac felly byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, David Lidington, heddiw gan ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl y sicrwydd a roddwyd i'r Alban ac i Gymru yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion y byddai swyddogion yn cyfarfod ar frys fel y gallem weithio tuag at yr hyn y gobeithiwn y byddai'n gyfres o welliannau wedi'u cytuno i'r Bil ymadael—fod angen i'r trafodaethau hynny ddigwydd ar frys. Maent wedi cael eu gohirio, yn union fel y dywed Simon Thomas, oherwydd cyfyngderau'r blaid Geidwadol. Oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, bu'n rhaid i weddill y Deyrnas Unedig oedi cyn cael y trafodaethau hanfodol bwysig hyn.

Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw y byddem yn hoffi gweld y Bil ymadael yn llwyddo. Byddem yn hoffi bod mewn sefyllfa lle gallem gytuno ar welliant i gymal 11 gyda'r Llywodraeth Geidwadol a chyda Llywodraeth yr Alban, a gallem gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad hwn y gallem ei argymell i'w gymeradwyo. Ond rwy'n dweud eto wrth y Siambr hon ac wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, os nad ydynt yn y sefyllfa honno, os ydynt yn parhau i lusgo traed, os ydynt yn parhau i fethu cael y trafodaethau angenrheidiol, mae gennym Fil parhad. Mae gennym Fil parhad rydym wedi'i baratoi, sydd mewn cyflwr sy'n barod i'w gyflwyno, ac os na allwn gael ateb drwy ddilyn y llwybr rydym yn ei ffafrio, sef drwy roi trefn briodol ar y Bil ymadael, bydd yn rhaid i ni gyflwyno'r Bil y mae Simon Thomas wedi cyfeirio ato.

15:00

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau rydych wedi'u gwneud, ond wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae pethau mor anobeithiol o fewn y Llywodraeth Dorïaidd fel bod ganddynt bellach Weinidog Brexit, Suella Fernandes, sy'n dweud yn agored y byddai'n wych peidio â chael bargen—y canlyniad economaidd gwaethaf posibl bron i Gymru, ond mae hi o'r farn y byddai'n wych peidio â chael unrhyw fargen o gwbl. Mae gennych Lywodraeth Dorïaidd sydd mor anobeithiol o ran ei safbwynt economaidd a'i methiant i ddenu unrhyw hygrededd go iawn yn ei thrafodaethau â'r UE fel ei bod, mewn gwirionedd, yn sôn am ein harwain i gytundeb masnach i ymuno â bloc masnachu'r Môr Tawel, rhywbeth a allai achosi cryn bryder, rwy'n siŵr, o ran yr hyn y gallai ei effaith bosibl fod ar economi Cymru. Craidd y broblem mewn gwirionedd yw bod gennym Lywodraeth sy'n analluog i ddatrys y materion hyn.

Fy mhryder i yw ble y bydd y llif hwnnw'n mynd â ni, oherwydd mae bellach yn symud nid yn unig at y cwestiwn a allwn gael trefn iawn ar y Bil ymadael, ond os na allwn wneud hynny, yna daw rôl Tŷ’r Arglwyddi i mewn iddi, bron fel bloc seneddol cyfansoddiadol, o ran cynnal confensiwn Sewel, a gwrthod cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan Gymru a chan yr Alban, a fydd felly'n golygu argyfwng cyfansoddiadol yn ogystal ag argyfwng democrataidd ac argyfwng economaidd. Mae hefyd yn gwestiwn ynglŷn â'r ffaith bod y Llywodraeth, drwy'r drws cefn, yn dilyn deddfwriaethau eraill sy'n gysylltiedig â Brexit hefyd fel y Bil Masnachu, sydd yr un mor ddrwg, os nad, mewn gwirionedd, yn waeth bron, oherwydd y ffordd y mae'n argymell defnyddio uchelfraint frenhinol, a'r ffaith nad yw'n gallu rhoi unrhyw ymrwymiad ar y llinellau coch ariannol a fyddai hefyd yn hanfodol o ran y sefyllfa ar ôl Brexit. Felly, yn yr amgylchedd hwnnw, ble mae'r sail dros ymddiriedaeth? Mae'n ymddangos i mi fod hanner y Llywodraeth Dorïaidd yn ddi-glem ac yn analluog, a'r hanner arall yn dweud celwydd. Felly, i ble'r awn ni o'r fan hon?

Wel, Lywydd, byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fargen yn drychinebus i economi Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid wyf yn credu y gallwn ddweud hynny'n rhy aml nac yn rhy uchel. Mae unrhyw leisiau ar ben arall yr M4 sy'n parhau i ddadlau y bydd Brexit heb fargen yn beth da i'r Deyrnas Unedig yn gaeth i'w golwg ideolegol ar y byd ac nid ydynt yn ystyried yr holl dystiolaeth a ddarperir i Lywodraeth y DU ddydd ar ôl dydd, nid gan Lywodraeth Cymru yn unig, ond gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, gan gydffederasiwn y cyflogwyr, gan gymdeithas y cyfarwyddwyr. Mae tystiolaeth o'r angen i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus, a hynny mewn ffordd rydym yn credu sy'n ein cadw mor agos ag y gallwn at y farchnad sengl mewn undeb tollau, gan ganiatáu i fusnesau yng Nghymru a swyddi yng Nghymru gael eu hamddiffyn—dyna'r math o Brexit rydym yn annog Llywodraeth y DU i fynd ar ei drywydd.

Yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae'n dasg anodd iawn, yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i hamlinellu—rydym yn ceisio alinio ein hunain gyda, ac yn ceisio cryfhau'r lleisiau hynny yn Llywodraeth y DU sy'n barod i ddadlau dros ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n rhoi anghenion ein heconomi yn gyntaf. Weithiau, mae'n anodd clywed y lleisiau hynny yn stŵr y safbwyntiau eraill sy'n gwrthdaro o fewn y Llywodraeth ei hun, ond mae'n hanfodol mai ein gwaith ni yw cyflwyno'r achos, y gwyddom ei fod yn un cadarn a diogel, dros y math o Brexit sydd ei angen ar Gymru, a cheisio sicrhau bod yr achos hwnnw'n cael ei glywed gan y rhai yn Llywodraeth y DU sydd ag ymagwedd fwy ystyriol tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd.

A gaf fi gytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phopeth a ddywedodd Mick Antoniw, yn enwedig ar y Bil Masnachu, ac rwy'n credu bod hwnnw'n peri pryder mawr oherwydd mae'n adlewyrchu parhad o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywed Simon Thomas—er efallai y buaswn yn herio'r ffaith mai'r unig reswm y cafwyd ad-drefnu oedd oherwydd bod Damian Green wedi gadael ychydig cyn y Nadolig—? Cawsant fis cyn hynny, pan gafodd gwelliannau eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, i ddod i drafod a sefydlu gwelliannau posibl ar gyfer y Cyfnod Adrodd, ac nid ydynt wedi gwneud hynny o hyd. Felly, mae'n peri pryder i mi, oherwydd mae'n dangos nad ydynt eisiau trafod gyda chi mewn gwirionedd, a byddant yn ceisio gwthio hwn drwy Dŷ'r Arglwyddi. Felly, yn yr ystyr hwnnw, a ydych yn cynnal trafodaethau gyda'r Arglwyddi i edrych i weld a allwch ailsefydlu gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn methu cynnig rhywbeth synhwyrol? A hefyd, a fyddwch yn edrych ar y Bil parhad i edrych ar yr amserlenni y mae angen i ni fynd i'r afael â hwy? Oherwydd mae'r amserlen yn dynn iawn yn awr. Os oes angen i ni sicrhau bod y Bil parhad ar waith a'i fod wedi cael ei gymeradwyo, mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn i'r broses seneddol ddod i ben, ac mae amser yn mynd yn fwyfwy prin, po fwyaf o amser y mae hyn yn ei gymryd. Rwy'n siŵr fod Llywodraeth y DU yn hollol ymwybodol o hynny ac yn ei wthio i'r pen cymaint â phosibl, felly mae'n rhaid i ni ddechrau bwrw ymlaen â hyn.

Nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid yn Llundain, ac yn wir, gwrandewais ar ddadl Torïaid yr Alban, fel y dywedais wrthych ddydd Llun yn ein sesiwn graffu. Os gwrandewch ar y ddadl honno, nid oes gennyf unrhyw hyder y byddant yn bwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd. Ymddengys eu bod yn derbyn beth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, ac nad ydynt, mewn gwirionedd, yn ymdrin â'r materion datganoledig sy'n rhaid i ni fynd i'r afael â hwy—materion datganoledig y mae Ceidwadwyr yr Alban yn Senedd yr Alban yn cytuno â ni yn eu cylch. Felly, mae angen i ni ddatrys hynny, ac nid oes ffydd yn Llywodraeth y DU.

15:05

Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod Llywodraeth Cymru yn effro iawn i faterion yr amserlen mewn perthynas â Bil parhad, ac ni fyddwn yn peidio â chyflwyno Bil parhad oherwydd ein bod wedi methu'r terfynau amser angenrheidiol—rwy'n eich sicrhau o hynny.

Rwyf eisiau diolch i David Rees am dynnu fy sylw at adroddiad gan bwyllgor yn Senedd yr Alban ddoe, a lofnodwyd gan holl Aelodau Ceidwadol y pwyllgor hwnnw, sy'n ei gwneud yn glir na fyddant yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil ymadael fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhan o'r siom y maent yn ei wynebu, ar ôl negodi fel roedden yn credu—gan mai mewn ymateb i Dori Ceidwadol, Aelod Ceidwadol o'r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin, y rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ei sicrwydd yn yr hyn a oedd yn amlwg yn weithgaredd a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn Nhŷ'r Cyffredin. Ar ôl negodi hynny, fel y'i gwelent, cawsant eu siomi gan y cyhoeddiad ddoe, a chredaf y gallwch weld hynny yn yr adroddiad hwnnw yn ogystal.

O ran y Bil Masnachu, rhannaf y pryderon y mae Mick Antoniw a David Rees wedi eu mynegi y prynhawn yma. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwnnw, ac mae'r Alban bellach wedi cyflwyno eu hun hwythau hefyd. Rydym yn ailadrodd y pryderon sydd gennym am y Bil ymadael wrth iddynt ailymddangos yn y Bil Masnachu. Os na allwn gael y Bil ymadael yn iawn, a gallu argymell memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, felly, ar lawr y Cynulliad hwn, mae'n anodd gweld sut y gallwn fod mewn unrhyw sefyllfa wahanol mewn perthynas â'r Bil Masnachu.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf hefyd i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, a'r cwestiwn gan Suzy Davies.

Morlyn Llanw Bae Abertawe

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyhoeddiad y bore yma o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe? 99

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mewn llythyr at Lywodraeth y DU cyn y Nadolig, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried buddsoddiad ecwiti neu fenthyciad ym morlyn llanw bae Abertawe pe bai hynny'n galluogi'r prosiect i symud ymlaen drwy leihau cost cyfalaf.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roeddwn yn gobeithio efallai y byddech yn rhoi ychydig mwy i mi ar hynny, ond mae'n gadael mwy o gwestiynau i'w gofyn. Rydym newydd glywed, drwy'r wasg, tua chwarter awr yn ôl mewn gwirionedd, ei bod yn ymddangos bod y swm sylweddol rywle rhwng £100 miliwn a £200 miliwn. Tybed a allech gadarnhau hynny yn eich ateb i'r cwestiwn hwn, ond os yw'r ffigurau hynny'n gywir, mae hwnnw'n swm sylweddol—nid arian y gallech ddod o hyd iddo i lawr cefn y soffa. Efallai y gallech ddweud wrthym o ble rydych yn debygol o gael y math hwnnw o arian, os yw eich pot benthyca cyfalaf, os mynnwch, fel y mae Plaid Cymru yn ei awgrymu, wedi'i ymrwymo fwy neu lai ar gyfer yr M4. Felly, efallai y gallwch egluro'r math o ffigur rydych yn ei ystyried ac o ble y daw'r arian hwnnw. Ac mae hynny'n berthnasol, oherwydd mae—. Os darllenais y llythyr yn gywir,

Gallai'r buddsoddiad hwn helpu i leihau cost cyfalaf y prosiect a lleihau'r gofyn felly am gymhorthdal dros oes unrhyw gontract gwahaniaeth.

Felly, gyda ffigur o'r fath, byddem angen rhywfaint o sicrwydd y byddai, mewn gwirionedd, yn debygol o wneud gwahaniaeth i'r pris streic a thymor y cytundeb. Felly, pa asesiad a wnaethoch i bennu effaith y cyfalaf rydych yn debygol o allu ei roi i mewn ar y pris streic a hyd y cytundeb ad-dalu?

Ac yn olaf, ar ba delerau datgeladwy y gallwch ddweud ar y pwynt hwn y byddech yn hoffi gweld benthyciad neu gytundeb ecwiti yn cael ei wneud? Rydym eisoes yn gwybod bod y benthyciad a gafodd y cwmni—yn 2015 rwy'n credu—yn ddiwarant. Ac er nad wyf eisiau i neb fod ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â fy nghefnogaeth i hyn, i'r morlyn llanw, mae gennym ddyletswydd i etholwyr hefyd i wneud yn siŵr fod unrhyw fuddsoddiad wedi ei ddiogelu'n ddigonol. Felly, os gallwch roi rhyw fath o syniad o'r diogelwch y byddech yn ei ddymuno i fuddsoddwyr Cymru—mae'n ddrwg gennyf, i Lywodraeth Cymru—ar ran y cyhoedd yng Nghymru, pa fath o ddiogelwch y byddech yn chwilio amdano mewn unrhyw gytundeb pellach?

15:10

Lywydd, gadewch i mi ei gwneud yn glir fod llythyr Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ar 6 Rhagfyr wedi cael ei lunio i geisio datgloi anallu Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn a chyhoeddi ei bod yn bwrw ymlaen â chasgliadau adolygiad Hendry, ac yn caniatáu i brosiect morlyn llanw bae Abertawe fynd rhagddo.  Er mwyn ceisio symud y sefyllfa hon yn ei blaen, dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir ein bod yn barod, yn yr amgylchiadau cywir, i ystyried buddsoddiad ecwiti a/neu fenthyciad sylweddol. Nid wyf yn mynd i allu darparu ffigurau penodol i'r Siambr y prynhawn yma oherwydd byddai'r ffigur hwnnw'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn cyflwyno cynnig ar y pris streic. Mae'r ddau beth ynghlwm â'i gilydd, ac ni allaf roi ateb synhwyrol i chi ar gam cyntaf trefniant o'r fath heb wybod beth oedd Llywodraeth y DU yn barod i'w gynnig ar yr ail.

Ond mae Suzy Davies yn iawn i ddweud mai'r hyn roeddem yn ceisio'i wneud oedd creu cynnydd mewn dau gyfeiriad. Roeddem yn barod i gynnig arian er mwyn helpu gyda'r gost o adeiladu'r morlyn llanw. Os mai dyna beth sy'n rhwystro Llywodraeth y DU rhag camu ymlaen, yna roeddem yn cynnig bod yn rhan o'r ateb i ddatrys yr anhawster hwnnw. Ond drwy fod yn barod i gynnig cyfalaf ar gyfer adeiladu'r prosiect, byddem hefyd yn gostwng cost hirdymor y benthyca sy'n rhan o'r prosiect, a dylai hynny ganiatáu i Lywodraeth y DU fod mewn sefyllfa well i gyflwyno cynnig ar y pris streic. Byddai'n is o ganlyniad i'r costau benthyca is. Felly, llwyddai ein cynnig—neu dyna a feddyliem—i gael effaith ar y ddau beth. Mae'n siomedig iawn nad yw Prif Weinidog Cymru wedi cael unrhyw ymateb o unrhyw fath i'w lythyr dyddiedig 6 Rhagfyr.

Rwyf am ei gwneud yn glir wrth y Siambr, Lywydd, fod Prif Weinidog Cymru, pan anfonodd ei lythyr, wedi penderfynu peidio â thynnu sylw ato yn fwriadol. Roedd eisiau gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael y cynnig mewn ffordd na allai fod yn agored i awgrymiadau ei fod ond yno er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol, neu ei fod yno er mwyn creu embaras i'r Llywodraeth mewn unrhyw ffordd. Ysgrifennodd mewn termau a fyddai wedi caniatáu i'r Prif Weinidog—. Pe bai unrhyw fwriad go iawn ar ran y Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r morlyn llanw, byddai wedi rhoi pob cyfle iddi fod wedi gwneud hynny. Yr unig reswm y mae'r llythyr yn y parth cyhoeddus yn awr yw oherwydd bod mis wedi bod ers ei ysgrifennu, ychydig ddyddiau sydd i fynd nes y bydd hi'n flwyddyn ers adolygiad Hendry, a dyma'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi ar y bwrdd. Rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bryd i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen yn y ffordd y mae pleidiau ar draws y Siambr hon—nid wyf yn dychmygu hyn o gwbl—mae pleidiau ar draws y Siambr hon wedi annog Llywodraeth y DU i'w wneud. Rydym yn dangos ein parodrwydd i helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau a all fod yn atal Llywodraeth y DU rhag gwneud y penderfyniad angenrheidiol a phwysig hwn i Gymru.      

A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu gweithredu Llywodraeth Cymru yn fawr? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon yn cefnogi'r morlyn llanw, ac mae Aelodau rwy'n anghytuno â hwy ar bron bob mater arall yn gwbl gytûn ynglŷn â pha mor bwysig yw hwn i Abertawe a dinas-ranbarth bae Abertawe.

Os mai Abertawe yw'r cyntaf, yna rydym yn datblygu'r sgiliau cynllunio, rydym yn datblygu'r sgiliau technegol, rydym yn datblygu'r gadwyn gyflenwi. Mae hynny'n golygu y byddwn yn datblygu diwydiant cyfan, a bydd pobl sydd eisiau datblygu môr-lynnoedd llanw wedyn yn dod i Abertawe, fel y gwnaeth Aarhus a lleoedd yn yr Almaen gyda thyrbinau gwynt. Onid yw'n un o'r pethau pwysicaf a allai ddigwydd mewn gwirionedd? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gwir angen i ni fod y cyntaf i ddatblygu'r sgiliau hyn a datblygu'r diwydiant a helpu i ateb rhai o'r cwestiynau roedd Russell George yn eu gofyn yn gynharach?

15:15

Wel, Lywydd, mae Mike Hedges yn nodi'r union ddadleuon a berswadiodd adolygiad Hendry. Nid ymwneud yn unig ag Abertawe y mae morlyn llanw bae Abertawe. Mae'n ymwneud â chreu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom inni allu gwneud mwy yn y dyfodol i ddefnyddio grym y môr i'n helpu i greu'r ynni cynaliadwy rydym ei angen. Mae'r buddsoddiad yn Abertawe yn rhan o'r holl brofiad dysgu hwnnw. Mae'n caniatáu i ni fod y cyntaf yn y maes hwn i adeiladu'r holl bethau sy'n mynd ochr yn ochr ag ef, ar ôl profi'r cysyniad. Dyna pam ei fod mor bwysig i Gymru. Dyna'r achos y mae eu penodai eu hunain, eu Gweinidog blaenorol eu hunain, Charles Hendry, wedi'i brofi ac wedi dod i'r casgliad ei fod yn gadarn. Dyna pam yr anogodd Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen a gwneud y buddsoddiad angenrheidiol, a dyma ni 12 mis yn ddiweddarach, yn dal i geisio gwthio'r garreg honno i fyny'r rhiw.

A gaf fi yn gyntaf ddatgan fy mod yn fuddsoddwr cymunedol, fel y mae cannoedd o bobl leol, yn y cynllun hwn? Rwy'n gwneud hynny am fod llawer o bobl yn ardal bae Abertawe yn credu mai dyma'r dyfodol, nid yn unig ar gyfer bae Abertawe, fel y dywedwch, ond ar gyfer ynni o gwmpas arfordir Cymru yn ogystal. Mae llawer i'w ennill o hyn.

Rwy'n croesawu camau gweithredu'r Prif Weinidog yn fawr. Rwy'n gwerthfawrogi'r modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi pam y gwnaed hyn, yn gyfrinachol, fis yn ôl, er fy mod wedi annog y Prif Weinidog i wneud hyn yn y gorffennol. Rwy'n credu mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i bob pwrpas yw galw blỳff y Ceidwadwyr yn Llundain a dweud 'Mae'n bryd i chi dalu neu ddweud nad oes gennych ddiddordeb mewn technoleg ynni'r llanw ar gyfer dyfodol cynhyrchu ynni, nid yn unig yng Nghymru ond ar hyd a lled y DU yn ogystal'. Os ydynt yn gwneud hynny, wrth gwrs, byddant yn rhoi'r DU yng nghefn y ciw mewn perthynas â thechnoleg a fydd yn cael ei datblygu fwyfwy, wedi'i gyrru gan Tsieina a gwledydd fel Canada. Ond gallwn fod ar flaen y gad gyda hynny.

Nawr, gallaf ddeall pam nad ydych eisiau siarad am y symiau, ond rydych wedi sôn am symiau sylweddol, a dyna pam ei bod mor syfrdanol nad ydych wedi cael ateb i'r llythyr gan y Prif Weinidog at Theresa May. Ond yr hyn y mae gennyf wir ddiddordeb ynddo yw'r math o fuddsoddiad ar y cam hwn, oherwydd nid yw'r swm mor bwysig â hynny o safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae'n agor y drws, wrth gwrs—rwy'n deall hynny—ond o safbwynt Llywodraeth Cymru ac o safbwynt y budd i'r cyhoedd, mae pa fath o fuddsoddiad y gallai Llywodraeth Cymru fod â diddordeb ynddo yn bwysig. O bosibl, ni fydd benthyciad syml, a fydd yn cael ei dalu'n ôl oherwydd bod yna ffrwd incwm o'r morlyn llanw, yn ein rhoi mewn sefyllfa lle gallwn fanteisio i'r eithaf ar y dechnoleg hon wrth iddi ddatblygu. Mae cyfran ecwiti yn y cwmni daliannol, wrth gwrs, yn caniatáu i ni fod yno wrth i'r dechnoleg ddatblygu, ac nid yn unig wrth i'r prosiect hwn ddatblygu, ond wrth i brosiectau posibl eraill ddatblygu hefyd.

Rwy'n annog y Llywodraeth, os yw hyn yn dwyn ffrwyth, i ystyried chwarae rôl lawer mwy rhagweithiol yn y gyfran ecwiti, yn hytrach na benthyciad syml, neu warant benthyciad, neu ryw drefniant arall o ran adeiladu sy'n gwneud y ffigurau'n haws. Oherwydd dyma ein cyfle. Buddsoddiadau cyfalaf mawr eraill rydych wedi'u gwneud, fel maes awyr rhyngwladol Caerdydd—dyma eich cyfle i fod yno, ac i fod yno am gyfnod hir o amser. Felly, os na allwch nodi maint y cynnig a wnaed, a ydych yn gallu datgan o leiaf pa fath o gynnig y mae gennych ddiddordeb ynddo ac a ydych wedi trafod gyda Tidal Lagoon plc sut y gellid cyflawni hyn mewn gwirionedd?

Lywydd, roedd y llythyr at y Prif Weinidog gan Brif Weinidog Cymru yn cadw'r drws yn agored ar amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gallai ein systemau gael eu cyflwyno, gan gynnwys buddsoddiad ecwiti, ond hefyd posibiliadau benthyca yn ogystal. Lywydd, rwyf eisiau pwysleisio gerbron y Siambr pa mor bwysig oedd y cynnig hwn, a'r trafodaethau yn sail iddo, rhyngof fi fel Gweinidog cyllid a'r Prif Weinidog. Nid oedd yn gynnig a wnaed yn fyrfyfyr, oherwydd ein gobaith oedd y byddai hyn wedi datgloi'r sefyllfa, ac y byddai ein cynnig wedi cael ei dderbyn o ddifrif. Fel eich Gweinidog cyllid, roedd yn rhaid i mi deimlo'n fodlon y buaswn mewn sefyllfa i allu cynnig y cymorth hwnnw ar adeg pan fo ein cyllidebau, fel y gŵyr yr Aelodau yma, o dan bwysau, ac mae llawer o alwadau pwysig iawn ar ein gallu i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ar draws economi Cymru.

Felly, tybiaf na fyddai Simon Thomas yn synnu clywed, o safbwynt y cyllid, nad oedd dod o hyd i ffigurau y gallem eu darparu'n hawdd yn rhywbeth y gallwn fforddio ei wthio i ymylon fy ystyriaeth. Ond roeddwn yn teimlo, ar ôl mynd drwy'r gwaith yn ofalus iawn gydag uwch swyddogion yma, gyda Phrif Weinidog Cymru yn ogystal, pe bai'r Prif Weinidog wedi ymateb ac wedi ymateb yn gadarnhaol i'n cynnig, ein bod mewn sefyllfa i gefnogi ein cynnig gyda buddsoddiadau o wahanol fathau, gan ddibynnu ar y fargen y byddem wedi gallu ei gwneud, a byddem wedi meddwl yn ofalus am y pwyntiau a wnaeth y prynhawn yma ac a wnaeth yn flaenorol ynglŷn â'r hyn y gallai buddsoddiad ecwiti yn y prosiect fod wedi'i ddarparu ar gyfer trethdalwyr Cymru ond hefyd i ddyfodol y diwydiant hollbwysig hwn yng Nghymru.

15:20
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Jane Hutt.

A hithau'n ganmlwyddiant y bleidlais rannol i fenywod, hoffwn dalu teyrnged i fenywod ysbrydoledig o fy etholaeth ym Mro Morgannwg, gan ddechrau gyda menyw 19 mlwydd oed o'r Barri, Hannah Tuck, y caplan rheilffordd ieuengaf erioed. Mae Hannah wedi'i phenodi i rôl sy'n cynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau. Roeddwn eisoes yn adnabod Hannah cyn iddi gael ei phenodi i'r rôl hon fel un o aelodau blaenllaw fforwm ieuenctid y Fro ac fel gofalwr ifanc. Cyfarfûm â hi cyn y Nadolig yng nghaffi ac oriel Mind in the Vale yng ngorsaf tref y Barri i'w llongyfarch ar ei rôl newydd a deall beth y mae ei swydd yn ei olygu.

Dywedodd Hannah fod y swydd yn bennaf yn golygu teithio ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, dod i adnabod staff a theithwyr, a bod ei gwaith gwirfoddol blaenorol gydag Ambiwlans Sant Ioan am wyth mlynedd wedi bod yn brofiad defnyddiol iawn wrth baratoi ar gyfer ei chyfrifoldebau newydd. Yn ei rôl newydd, mae Hannah eisoes wedi cefnogi dau yrrwr trên sydd wedi gweld pobl yn cyflawni hunanladdiad ac wedi helpu staff tocynnau sydd wedi cael eu cam-drin gan deithwyr. Penodwyd Hannah gan elusen Gristnogol, ond mae'n dweud nad ffydd yw ffocws ei gwaith. Mae'n dweud, 'Yn amlwg, mae gennym ni gaplaniaid ein ffydd, ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd ei hangen.' Am fenyw ifanc ysbrydoledig o'r Barri ac o Gymru.

Pwynt o Drefn

Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf at y pwynt o drefn a godwyd gyda chi ar 13 Rhagfyr y llynedd. Mae'n ddrwg gennyf fod pobl wedi'u tramgwyddo yn sgil yr hyn a ddywedais a hoffwn ei gwneud yn glir fy mod yn parchu eich awdurdod fel Cadeirydd. Fodd bynnag, rwy'n glynu at y safbwyntiau a fynegwyd gennyf am y newidiadau arfaethedig i'r Bil cydnabod rhywedd.

Rwy'n derbyn eich ymddiheuriad, Gareth Bennett, a gallwch fod yn sicr y byddaf bob amser yn amddiffyn hawl unrhyw Aelod yn y Siambr hon i fynegi safbwyntiau sy'n annymunol i Aelodau eraill ac i bobl eraill yn ogystal. Ond mae angen i bob Aelod wneud hynny gan ddefnyddio iaith sy'n seneddol ac yn anwahaniaethol bob amser. Diolch.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig'

Symudwn ymlaen, felly, at yr eitem nesaf.

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig'. Galwaf felly ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.

Cynnig NDM6620 Mike Hedges

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Credaf fod trafodaethau morol yn debyg i fysiau—rydych yn aros yn hir iawn am un ac mae dau'n cyrraedd yn gyflym iawn. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae angen i mi ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, ac aelodau o'r pwyllgor a weithiodd ar yr ymchwiliad hwn—Jenny Rathbone, Huw Irranca-Davies a Siân Gwenllian—nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor hwn bellach. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r hyn rwy'n credu sy'n adroddiad da iawn.

Dyma'r ail ddadl, fel y dywedais, a gynhaliwyd yr wythnos hon yn y Siambr ar bolisi morol. Credaf ei fod yn bolisi pwysig iawn ac mae'n briodol ei fod yn cael y lefel hon o sylw. Dywedodd rhywun unwaith na ddylem alw'r blaned hon yn ddaear, ac y dylid ei galw'n ddŵr, oherwydd mae llawer mwy o'i harwyneb wedi'i orchuddio gan ddŵr nag sydd wedi'i orchuddio gan ddaear. Felly, credaf fod angen i ni roi llawer o ystyriaeth i'r amgylchedd morol. Yr amgylchedd morol yw dros hanner arwynebedd Cymru ac mae'n gartref i rai o gynefinoedd a rhywogaethau mwyaf bioamrywiol Ewrop. Er mwyn gwneud yn siŵr y byddant yn goroesi ac o fudd i genedlaethau'r dyfodol, mae dwy ran o dair o foroedd Cymru wedi'u gwarchod mewn rhyw ffordd oherwydd eu cyflwr bregus.

Yr ymateb i'r adroddiad: gwnaeth y Pwyllgor 12 o argymhellion i gyd, a derbyniwyd 11 ohonynt yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf y ffaith bod ein hargymhellion wedi cael eu derbyn, fodd bynnag, mae'n aneglur beth, os o gwbl, a gaiff ei wneud yn wahanol o ganlyniad i hynny. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am eglurhad. Cafwyd ymateb cyn y ddadl hon ac mae'r ohebiaeth ar gael drwy agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:25

Bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yn gweld yn yr ohebiaeth fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â nifer fach o bryderon niferus y pwyllgor, ond mae’r rhan fwyaf o'n cwestiynau yn dal i fod heb eu hateb. Ond rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â’r rheini heddiw. Mae ein hadroddiad, 'Y Llanw’n troi?', yn mynd i'r afael â nifer o bethau, gan gynnwys dull Llywodraeth Cymru o orfodi, argaeledd data dibynadwy a chyllid, a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig ar ôl Brexit. Ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar y tri maes allweddol a ddeilliodd o'r ymchwiliad: yr angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol gryfach, yr angen am lefelau priodol o adnoddau, o ran arian a staffio, a'r angen am fwy o dryloywder yn y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.

Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom feirniadaeth gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg arweiniad Llywodraeth Cymru. Nid yw hon yn gŵyn newydd. Clywodd y pwyllgor blaenorol alwadau am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012. Mae rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru roi cyfeiriad strategol clir. Byddai hyn yn sicrhau bod system reoli gydlynol ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod pawb yn ei deall. Yn syml, os yw Cymru am wireddu manteision ei hardaloedd morol gwarchodedig yn llawn, mae’n rhaid eu rheoli’n effeithiol. Mae'r pwyllgor felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod yr holl awdurdodau rheoli, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n amlwg o’r ymateb na fydd unrhyw strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Gobeithio fy mod wedi camddeall hynny ac y bydd yna strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd yna gynllun gweithredu. Y pryder amlwg yw nad honno fydd y ddogfen strategol sydd ei hangen mor ddybryd. Gobeithio y bydd y term 'cynllun gweithredu' yn cael ei gychwyn gan strategaeth, ac y bydd y cynllun gweithredu yn dod o dan y strategaeth honno, oherwydd rydym angen strategaeth er mwyn bwrw ymlaen, a dylai’r cynllun gweithredu fod o dan y strategaeth honno yn hytrach na bodoli ar wahân.

Ysgrifennydd Cabinet, mae rhanddeiliaid wedi bod yn mynegi pryder am ddiffyg arweinyddiaeth ers pum mlynedd o leiaf. Mae'r rhain yn bryderon diffuant gan bobl ynglŷn â’r amgylchedd morol. Mae'r rhain yn bobl sy'n gweithio yn yr amgylchedd, pobl sydd â diddordeb dwfn yn yr amgylchedd ac sydd eisiau gweld gwelliant yn y modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Dylid mynd i’r afael â’u pryderon. Nid yw'n glir yn eich ymateb beth, os oes rhywbeth, fydd yn cael ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Dyma bobl sy'n poeni o ddifrif am yr amgylchedd morol, ac er y bydd Aelodau eraill yma'n codi i areithio amdano, mae'r bobl hyn yn poeni amdano bob dydd o'r flwyddyn, ac i lawer ohonynt dyma sy'n rhoi angerdd i'w bywydau.

Yr ail faes allweddol oedd adnoddau, yn ariannol ac o ran staffio. Ni ofynnodd rhanddeiliaid am symiau enfawr o arian na chynnydd enfawr yn y niferoedd staffio. Credaf eu bod, mewn gwirionedd, yn deall eu bod yn annhebygol o gael y naill na'r llall. Roeddent yn bragmataidd iawn ac yn deall y pwysau ariannol ehangach sydd ar Lywodraeth Cymru. Ond roeddent yn glir: ni ellir rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn effeithiol heb y lefel briodol o adnoddau. Mae'r pwyllgor yn nodi bod £0.5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y môr a physgodfeydd yng nghyllideb 2018-19. Bwriedir iddo fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â nodi a dynodi pump o ardaloedd morol gwarchodedig newydd a sicrhau bod ardaloedd morol gwarchodedig yn cyrraedd ac yn parhau mewn cyflwr ffafriol. Wrth gwrs, mae’r adnodd ychwanegol hwn i'w groesawu, ond rydym wedi ceisio sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod yr adnodd hwn yn ddigonol i gyflawni’r nifer o flaenoriaethau uchelgeisiol sydd ganddynt. Yn syml, a oes digon o arian i gyflawni'r hyn rydym eisiau ei weld yn cael ei gyflawni?

Ni chawsom sicrwydd fod yr adnoddau staffio presennol o fewn Llywodraeth Cymru yn ddigonol i gyflawni ei chyfrifoldebau cadwraeth forol. Roeddem hefyd yn pryderu y byddai diffyg adnoddau yn cael effaith negyddol ar weithgaredd Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gysylltiedig ag ardaloedd morol gwarchodedig ar unwaith ac yn y tymor canolig. Rydym hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer cyllido dull sy’n seiliedig ar ardal, gyda swyddog penodedig i bob ardal reoli. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod manteision i’r dull hwn, yn arbennig o ran atgyfnerthu darpariaeth leol a hwyluso cydweithrediad traws-safle, a buaswn yn dadlau, efallai yn bwysicaf oll, y dylai pobl adnabod y person y mae’n rhaid iddynt fynd i’w gweld ynglŷn â phroblem yn yr ardal. Rwy’n credu bod cael rhywun wrth y llyw, rhywun sy'n gyfrifol amdano, yn gwneud bywyd yn llawer haws. Eir i’r afael â’r materion hyn yn ein hail argymhelliad, a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod yn anghytuno â dull sy’n seiliedig ar ardal, gan ddweud ei bod yn credu y byddai canolbwyntio ar brosiectau penodol yn fwy costeffeithiol ac yn darparu gwell gwerth am arian.

Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet hawl i anghytuno ag argymhellion y pwyllgor wrth gwrs. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth i egluro’r safbwynt amgen hwnnw. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn ein gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet, fod y pwyllgor wedi gofyn am gael gweld unrhyw ddadansoddiad ariannol sy'n cefnogi safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Nid ydym wedi derbyn hwnnw eto, ond rwy’n siŵr, unwaith eto, y bydd hwnnw’n cael ei ddarparu i ni y prynhawn yma.

Tryloywder—fe drown yn awr at ein trydydd maes allweddol. Roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo’n gryf fod yna ddiffyg tryloywder mewn perthynas â chyfarfodydd y nifer sylweddol o grwpiau a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cofnodion y grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu cyhoeddi.

Cawsom wybod hefyd fod diweddariadau gan y grŵp llywio yn cael eu rhannu â grŵp cynghori a gweithredu rhanddeiliaid Cymru ar faterion morol, ac ar gael ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw cofnodion y grŵp hwn ar gael, dim ond eu cylch gorchwyl. Rwy’n siomedig fod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod nodiadau grŵp cynghori ar bysgodfeydd môr Cymru ar gael, ond ar gais yn unig. Pam na ellir eu rhoi ar y rhyngrwyd? Mae pobl yn rhoi llawer o bethau ar y rhyngrwyd. Bydd pobl sydd â diddordeb ynddo yn gallu cael mynediad ato. Os gallwn sicrhau un peth heddiw, os gwelwch yn dda, a gawn ni ofyn i’r rheini gael eu rhoi ar y rhyngrwyd? Os ydynt ar gael i unrhyw un sy'n gofyn amdanynt, yna nid ydynt yn cael eu cadw'n gyfrinachol am unrhyw reswm penodol, felly, i arbed pobl rhag gorfod gofyn amdanynt, gadewch i ni eu rhoi ar y rhyngrwyd, a gadael i bobl gael mynediad atynt.

Ar gyfer grwpiau eraill a arweinir gan Lywodraeth Cymru, mae crynodeb o'r cyfarfodydd ar gael, ond unwaith eto, ar gais yn unig. Ac rwy’n gwneud yr un cais i Lywodraeth Cymru—peidiwch â’u darparu ar gais yn unig, gwnewch yn siŵr eu bod ar gael ar y rhyngrwyd. Nid yw hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon sylweddol a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg tryloywder y grwpiau hyn. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na ellir cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd y grwpiau hyn i gyd.

I gloi, mae hwn yn faes hollbwysig, o ystyried gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig i gefnogi bywyd gwyllt, ein diwydiant twristiaeth arfordirol a’n pysgodfeydd. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r rhanddeiliaid a’r aelodau o'r cyhoedd a gyfrannodd at waith y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau'r pwyllgor, a roddodd lawer iawn o amser ac ymdrech i’r prosiect hwn. Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig, ond er gwaethaf y ffaith fod pob un ond un o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn, mae’n rhaid i mi ddirwyn i ben drwy ailadrodd pryderon y pwyllgor fod diffyg eglurder ynglŷn â beth fydd yn newid yn ymarferol, ac o ganlyniad, pa un a fydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud mewn gwirionedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwelsom ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol, mae hwn yn gyfnod cyffrous i bolisi morol yng Nghymru, ac mae cefnogaeth ar draws y Siambr i bwyslais newydd ar y polisi hwn. Ceir cefnogaeth ymhlith y cyhoedd, yn enwedig yn y sector gwirfoddol a sectorau eraill sydd â diddordeb yn yr amgylchedd morol a'r polisi hwn. Mae gennych lawer iawn o ewyllys da gan Aelodau yn y fan hon, a’r cyhoedd yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithio y byddwch yn defnyddio'r ewyllys da hwnnw i barhau i fwrw ymlaen. Croesewais yr adroddiad morol ddoe, a chredaf fod hwnnw'n gam ymlaen. Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i sicrhau rhanddeiliaid fod hwn yn flaenoriaeth i chi, ac y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau ystyrlon o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Rydym wedi aros am amser hir i’r môr wneud ei ffordd i frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru, ac rydym wedi ei wthio yno yr wythnos hon. Gadewch i ni obeithio y gallwn wneud cynnydd sylweddol yn dilyn y ddadl hon.

15:30

A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi ein bod yn cael yr ail o ddwy ddadl ar yr amgylchedd morol yr wythnos hon? Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos y cydweithrediad agos a fydd rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus, sy'n galw am welliant sylweddol, fel y mae ein Cadeirydd, Mike Hedges, eisoes wedi nodi. Ac a gaf fi ymuno ag ef i ddiolch i bawb sydd wedi ein galluogi i gyhoeddi adroddiad mor awdurdodol—yr holl bobl sydd wedi cydweithio â ni, yn ein hymweliadau amrywiol, ac a roddodd dystiolaeth, a hefyd ein hysgrifenyddiaeth ragorol a'r staff ymchwil?

Mae'n faes arswydus o gymhleth. Mae'n rhaid i mi ddweud, drwy gydol fy amser yma fel Aelod Cynulliad, nid wyf yn credu bod fy ngallu ystadegol a dadansoddol wedi cael eu herio fwy nag wrth geisio gwneud rhywfaint o synnwyr o'n system ddynodi, o ran moroedd ac arfordiroedd o amgylch Cymru. Mae tua 50 y cant o'n moroedd, a 75 y cant o'n morlinau, wedi'u gwarchod gan ardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, fel y clywsom mewn arolwg o 727 o randdeiliaid, roedd 35 y cant yn credu bod rheolaeth aneffeithiol yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r amgylchedd morol. Ac os dysgais unrhyw beth o'r gwaith ar yr adroddiad hwn, rwy'n credu mai'r ffaith bod yn rhaid i ni gofio bob amser nad yw dynodiad yn golygu rheolaeth effeithiol bob tro yw hynny. A chredaf fod hynny'n ganolog mewn gwirionedd i'r hyn sydd angen i'r Llywodraeth ei gyflawni yn awr, er mwyn sicrhau bod dynodiad yn arwain at reolaeth effeithiol o'n hadnoddau morol, ac yn annog ac yn gwarchod bywyd morol.

Ddoe, yn y modd hwn, pwysleisiais yr angen am ddata a monitro da. Unwaith eto, mae'n bwynt sydd wedi'i wneud yn gryf yn yr ymchwiliad hwn, ond gan fy mod wedi gwneud hynny'n uchafbwynt yr araith a wneuthum ddoe, nid wyf am ei ailadrodd yma y prynhawn hwn. A gaf fi sôn, Ddirprwy Lywydd, am yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad hwn ac rwy'n credu mai dyma'r un pwysicaf yn ôl pob tebyg? Mae'n datgan bod yn rhaid i'r Llywodraeth ddarparu arweinyddiaeth ar y mater hwn drwy ddatblygu strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a thrwy sicrhau bod yr holl awdurdodau rheoli yn chwarae rhan weithredol ac yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. Nawr, mae'r cynllun drafft yn bwysig iawn a bydd yn cael ein sylw mwyaf manwl. Er bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nid wyf yn credu bod ymatebion dilynol y Llywodraeth wedi bod yn ddigon da bob tro, er, fel rwyf wedi'i ddweud, rwyf eisiau rhoi clod i'r Gweinidog am gyflawni'r cynllun yn awr o leiaf, a gadewch i ni obeithio bod hwnnw'n fan cychwyn ar gyfer gwell perfformiad yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus.

Ond yma mae gennym alwad barhaus am arweinyddiaeth effeithiol ac mae'n rhywbeth sy'n mynd yn ôl yn bell. Roedd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2013, yn ystod y pedwerydd Cynulliad, yn nodi bod rhanddeiliaid morol yn teimlo'n aml fod gan y Lywodraeth flaenorol, ac rwy'n dyfynnu, feddylfryd 'a morol' gyda'r amgylchedd a'r economi forol yn cael eu trin fel ôl-ystyriaeth. Roedd adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor yn 2016, a nodwyd y n ofalus iawn gennym wrth gwrs, yn nodi bod rhanddeiliaid yn pryderu bod y meddylfryd hwnnw'n parhau dair neu bedair blynedd yn ddiweddarach hyd yn oed. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n rhywbeth a welsom yn ein tystiolaeth, a gwn fod y Llywodraeth yn gobeithio gwella'r modd y mae'n cyflawni ei pholisi morol, a byddwn yn bartneriaid gweithredol wrth sicrhau eich bod yn gallu gwneud hynny, ond yn sicr rydym angen y dechrau newydd hwn.

Fel y dywedais, daw hyn yn ôl o ddifrif at sut y mae'r Llywodraeth yn gosod blaenoriaethau ac yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru a'u tebyg i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn effeithiol, ac mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn ceisio mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Gadewch i mi ddyfynnu un person, yr Athro Warren, o Aberystwyth, a ddywedodd nad yw Llywodraeth Cymru,

yn ddigon cryf yn ei syniadau—

Credaf fod hynny'n wirioneddol allweddol yma—

o ran yr hyn y mae ei eisiau ar hyn o bryd er mwyn gallu rhoi arweiniad i bobl.

Felly, unwaith eto, rwy'n gobeithio mai dyna yw amcan y cynllun rydych wedi'i gyflwyno.

A gaf fi orffen drwy sôn yn fyr am adnoddau? Mae'r pwyllgor wedi bod yn bryderus ynglŷn â graddau cyfrifoldebau statudol cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi awgrymu, rwy'n credu, eu bod wedi'u hestyn yn llawn ar hyn o bryd. Credaf fod angen i ni fod yn fodlon fod ganddynt allu i sicrhau eu bod yn cyflawni o ran monitro ac adrodd yn effeithiol a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn awr, oherwydd nid yw hynny wedi cael ei wneud yn y gorffennol a dyna beth sydd angen i ni ei unioni. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd.

15:35

Mae'n briodol, mae'n siŵr, gan ein bod yn trafod y môr, fod llanw a thrai yn dod ddwywaith y diwrnod—nid wyf yn gwybod ai llanw neu drai sydd gyda ni heddiw, ond rydw i jest am danlinellu nad wyf i'n ailadrodd beth a ddywedais ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol. Felly, os oes gwir ddiddordeb gan bobl ym mholisi Plaid Cymru ynglŷn â'r môr, mae eisiau iddynt ddarllen y ddwy ddadl gyda'i gilydd. Rydw i jest eisiau canolbwyntio yn y drafodaeth yma ar dri pheth sydd wedi dod allan o adroddiad y  pwyllgor: un ynglŷn â chyllid neu adnoddau, un ynglŷn â data, sydd newydd gael ei grybwyll gan David Melding hefyd, ac un ynglŷn â'r dyfodol, sef lle rydym yn mynd o hyn ymlaen.

Roedd yn glir iawn o'r dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud â diogelu bioamrywiaeth a chadwraeth môr yn credu bod Llywodraeth Cymru'n neilltuo digon o adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Roedd hynny'n amrywio, nid o ran beirniadaeth o staff yn benodol, ond beirniadaeth o'r diffyg syniadaeth a'r diffyg adnoddau a oedd yn cael eu rhoi. Mae hynny'n cael ei weld yn glir yn y ffaith bod y pwyllgor wedi argymell, yn glir iawn, ffordd ymlaen i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, sef dynodi chwe ardal glir ynglŷn â chadwraeth môr o dan y gwahanol systemau a'r lefelau roedd David Melding yn cyfeirio atynt, o ran dynodiadau cadwraeth a bioamrywiaeth, ond dynodi chwe ardal clir iawn, a gwneud yn siŵr bod arian penodol ar gyfer gweithredu ym mhob un o'r ardaloedd hynny, gan ddefnyddio, wrth gwrs, y partneriaid lleol, a chan roi Llywodraeth Cymru yng nghanol y we, fel petai, fel y bobl sy'n arwain ac yn rheoli. Ac o edrych ar y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymateb i'r argymhellion yna, yn y bôn, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud hynny. Yn y bôn, nid oes dim yn mynd i newid ar ôl i'r adroddiad yma gael ei gyhoeddi ac yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymateb iddo fe. Ac rwy'n credu bod hynny yn ddiffyg—diffyg sylweddol gan y Llywodraeth, ac yn ddiffyg yn y cyd-destun bod y Llywodraeth ddoe wedi cyhoeddi'r cynllun morol, ac rydym wedi ei drafod e, ac mae ymateb i'r gwahanol ardaloedd cadwraeth, yr MPAs yma, yn bwysig, rwy'n meddwl, wrth wireddu'r cynllun morol. 

Yr ail reswm rwy'n bryderus yw oherwydd bod gyda ni ddiffyg data—diffyg casglu data, diffyg data dros gyfnod, lle mae modd cymharu cyfnod wrth gyfnod, sy'n ein harwain ni at y casgliad roeddem ni yn ei glywed yn y pwyllgor sawl gwaith, sef nad yw dynodiad MPA, y marine protected area—rwy'n defnyddio hwnnw fel rhywbeth sy'n cyfro holl ddynodiadau yma—yn ei hunan yn arwain at wella yn yr hyn a oedd yn digwydd yn yr ardal yna. Ac mae gyda ni brofiad tebyg yn y SSSIs ar y tir mawr, wrth gwrs. Bob tro mae yna ddynodiad, nid yw o reidrwydd yn arwain at wella'r bioamrywiaeth, neu'r statws, neu'r ardal, neu at gael gwell cadwraeth. Ond mae angen tanlinellu hynny. Ac un o'r rhesymau rydym ni'n ffeindio hynny yw'r diffyg data sydd y tu ôl iddo fe. Nid oes modd profi bod y system yn gweithio—mae mor syml â hynny—ac felly mae'n anodd cyfiawnhau gwario arian cyhoeddus arno fe, mae'n rhaid bod yn onest. Ond mae gyda chi fan hyn gwestiwn diddorol ynglŷn â pha un sy'n dod gyntaf. Mae'n rhaid buddsoddi er mwyn casglu data er mwyn dangos bod yr arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sydd yn gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd ein moroedd ac yn arwain at amddiffyniad mwy cadarnhaol a mwy tymor hir.

A'r pwynt olaf, os caf ddod i ben gyda hyn, yw bod diffyg eglurder ynghylch sut i fwrw ymlaen â hyn yn awr ar gyfer y dyfodol. Oherwydd y diffyg data, oherwydd diffyg adnoddau dros gyfnod helaeth o amser, mae dryswch llwyr, mae'n rhaid dweud, ynglŷn â sut rydym yn symud ymlaen ar ardaloedd morol gwarchodedig, a sut y mae'r ardaloedd morol gwarchodedig hynny'n rhyngweithio ag ardaloedd eraill lle rydym eisiau gweld gweithgareddau cynaliadwy, gan gynnwys pysgota, gan gynnwys cymunedau arfordirol yn elwa o'r ardaloedd hynny, gan gynnwys datblygiadau morol y buom yn eu trafod ddoe fel rhan o'r cynllun morol. Ac nid oeddem yn gallu mynd at wraidd hynny mewn gwirionedd oherwydd y diffyg tryloywder y cyfeiriwyd ato, a cheir diffyg eglurder ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth a phwy fydd yn arwain. Y neges gliriaf a ddaeth o'r dystiolaeth oedd bod y rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru arwain, ond nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i arwain, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael ag ef o ddifrif a dangos awdurdod o fewn yr adran a'r ffordd y symudwn ymlaen â hyn.

Nawr, sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol? Wel, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, bydd llawer o'r dynodiadau hyn yn newid. Mae llawer ohonynt o dan gyfarwyddebau cynefinoedd ac adar yr UE. Mae rhai ohonynt wedi'u dynodi'n barthau cadwraeth forol, sydd hefyd yn rhan o gyfraith yr UE, ond mae rhai'n gyfreithiau rhyngwladol—mae safleoedd Ramsar, rwy'n credu, yn gyfraith ryngwladol. Ac felly, i gloi ar hyn, os caf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym y cymysgedd hwn o gyfreithiau a bydd rhai'n berthnasol a rhai na fyddant yn berthnasol wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gennym hefyd yr her hon i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ei hun o dan gonfensiwn Aarhus ynglŷn ag a ydym, mewn gwirionedd, yn ystyried pryderon rhanddeiliaid yn hyn oll. Nid wyf yn credu bod ymateb y Llywodraeth hyd yn hyn wedi mynd i'r afael â phryderon y pwyllgor mewn gwirionedd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y ddadl hon yn helpu i arwain at ryngweithio pellach rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth i sicrhau gweithredu gwell yn y maes hwn.  

15:40

Hoffwn ddechrau drwy groesawu adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddull Llywodraeth Cymru o reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Rwy'n gyn-aelod—nid oeddwn yn aelod pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, ond rwyf yn ôl ar y pwyllgor hwnnw bellach. Rwyf wedi bod yn hyrwyddwr rhywogaethau ar ran y dolffin trwynbwl ers ychydig o flynyddoedd bellach, ac rwy'n teimlo'n hynod ffodus i gynrychioli ardal sy'n gartref i'r boblogaeth fridio led-breswyl fwyaf yng Nghymru o'r rhywogaeth eiconig hon ym Mae Ceredigion. Ac ychydig dros 12 mis yn ôl cafodd rhannau o ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion eu hailagor i dreillio am gregyn bylchog. Cafodd ei atal yn y gorffennol oherwydd proses chwalu a chipio a oedd yn digwydd ar y pryd, a dyna'r ffordd orau o'i disgrifio. Cafodd gwely'r môr ei chwalu'n deilchion a chafodd y cregyn bylchog a oedd yno eu cipio ac roedd yn annymunol iawn, ond cafodd ei atal.

Felly, roeddwn yn falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd casglu tystiolaeth a data—ac rydym yn ôl gyda hynny eto—a bod monitro a gwyliadwriaeth yn hanfodol ar gyfer reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Oherwydd ni allwn fonitro iechyd a phoblogaeth dolffiniaid trwynbwl, a'r holl anifeiliaid morol eraill, wrth gwrs, yn yr ardal benodol honno heb ymchwil o safon uchel a monitro effeithiau posibl treillio am gregyn bylchog, traffig cychod a gweithgareddau eraill. Er bod casglu data yn rhan hanfodol o ymchwil, mae gallu dehongli'r canlyniadau hefyd yn hollbwysig. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, clywais fod rhai sefydliadau—a hwy fyddai'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r adroddiad hwn—yn cael trafferth mawr iawn gyda hynny.

Yn yr un modd, roeddwn yn bryderus ynglŷn â'r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad am grŵp awdurdod perthnasol ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion ynglŷn â thynhau rheoliadau ar gyfer gweithredwyr teithiau bywyd gwyllt, a'r angen i gryfhau ymddygiad morol drwy fesurau statudol. Fe fyddwch yn gwybod bod aflonyddwch cychod yn gallu cael, ac yn cael, effaith niweidiol ar y dolffiniaid trwynbwl, ac mae hefyd yn gysylltiedig â gostyngiad yn y cyfraddau o enedigaethau byw.

Buom yn siarad llawer iawn am lygredd ddoe, ac rwy'n wirioneddol falch fod gennym gynllun clir bellach. Mae'r llygredd sy'n gallu dod oddi ar gychod yn aml iawn yn hynod niweidiol i unrhyw beth sy'n mynd i oroesi yn y môr hwnnw. Felly, rwy'n galw o ddifrif am fonitro agos iawn yn hynny o beth. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r ohebiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, rhyngoch chi a'r pwyllgor ym mis Tachwedd, pan ddywedoch y byddai'r adroddiadau safle dangosol ar gyfer pob un o'n hardaloedd cadwraeth arbennig a'n hardaloedd arbennig i gael eu cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Tybed a yw'r adroddiadau hynny ar gael bellach, ac os ydynt ar gael, beth yw'r canfyddiadau.

15:45

Rwy'n falch iawn o longyfarch y pwyllgor am yr adroddiad diddorol a llawn gwybodaeth hwn, sy'n gytbwys ac yn deg iawn. Un o'r pethau sydd wedi gwneud argraff arnaf ynghylch y Cynulliad hwn ers bod yma yw'r ffordd y mae'r pwyllgorau hyn yn gweithio'n effeithiol gyda safbwynt sy'n cynnig consensws trawsbleidiol yn aml iawn. Hefyd, hoffwn ganmol aelodau'r pwyllgor am eu gwaith enfawr ar lunio'r adroddiad hwn, fel y nododd David Melding. Rwyf bob amser yn gwrando ar ei areithiau, fel yn wir rwy'n gwrando ar areithiau fy nghymydog, Simon Thomas, ar y pwnc hwn gyda diddordeb mawr, ac rwy'n dysgu rhywbeth bob tro.

Ychydig sydd gennyf i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. Cytunaf â phopeth a ddywedwyd yn y ddadl hyd yma. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, i aelodau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arbennig. Mae gennym fwy o arfordir a mwy o ddŵr na neb arall yn y Cynulliad hwn a fi yw'r trydydd o bedwar Aelod dros y rhanbarth i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac mae'r unig un arall wedi ei atal rhag gwneud hynny drwy fod yn aelod o'r Llywodraeth. Rwy'n meddwl bod hynny'n tanlinellu arwyddocâd hyn i ni. Mae rhai o'r ardaloedd arfordirol gorau yng Nghymru, a rhai o'r dyfroedd arfordirol mwyaf diddorol, yn ein rhanbarth ni. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o ardaloedd gwarchodedig morol yng Nghymru yn ein rhanbarth ni—mwy nag yn unman arall.

Mae mwyafrif yr ardaloedd morol gwarchodedig wedi eu dynodi o dan ddeddfwriaeth yr UE fel ardaloedd cadwraeth arbennig neu ardaloedd gwarchodaeth arbennig, ac mae hwn yn adnodd gwerthfawr y mae'n hanfodol bwysig ein bod nid yn unig yn ei i gydnabod ac yn ei ddynodi, fel y mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, ond hefyd mae'n bwysig ein bod yn ei ddiogelu, yn ei amddiffyn ac yn ei wella. Ymwneud â hynny y mae hyn y pen draw. Rheoli safleoedd a monitro a gorfodi yw'r cam nesaf.

Wrth sôn am orfodi, rwy'n falch iawn o weld bod y pwyllgor yn dweud y dylai'r Llywodraeth ddatblygu strategaeth orfodi sy'n seiliedig ar risgiau, oherwydd, yn anochel, mewn materion amgylcheddol, ceir buddiannau sy'n cystadlu—heb o reidrwydd wrthdaro â'i gilydd—lle gellid rhoi pwyslais gwahanol yn ôl diddordeb rhywun yn y pwnc dan sylw. Efallai y dof at hynny yn man. Rwy'n cytuno â barn y pwyllgor na ddylid dynodi unrhyw ardaloedd gwarchodedig pellach hyd nes y bydd y gyfres bresennol o ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu rheoli'n effeithiol.

Wrth gwrs, mae'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â Brexit yn anochel o godi ei ben yn yr amgylchiadau hyn, ond ar ôl Brexit, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu ei chyfeiriad polisi ei hun, fel yr amlinellir yn adroddiad y pwyllgor, a symleiddio'r drefn bresennol. Rwy'n cefnogi system ddwy haen o ardaloedd morol gwarchodedig heb leihau lefelau'r warchodaeth, fel y mae'r pwyllgor wedi argymell. Yn hytrach na derbyn deddfwriaeth yr UE yn awtomatig, credaf ei bod yn fantais i ni yn y dyfodol fod Gweinidogion y DU a Chymru yn cael cyfle i ddynodi parthau cadwraeth morol, ac rwy'n cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y dylai hyn fod yn flaenoriaeth os yw'n mynd i gael ei gyflawni.

Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwarantu na fydd llai o gyllid ar ôl gadael yr UE, ac rwy'n gobeithio y bydd ei llythyr at Mike Hedges ar 2 Tachwedd yn cadarnhau hyn, lle mae'n dweud ei bod

wedi datgan yn glir ar sawl achlysur nad yw'n disgwyl i Gymru golli unrhyw arian o ganlyniad i Brexit.

Ac rwy'n falch iawn o glywed hynny.

Mynegwyd pryderon gan rai ynghylch atebolrwydd a dulliau monitro, ond credaf fod Llywodraeth Cymru yn gwbl alluog i wneud popeth y mae'r UE yn ei wneud, a rhagor, a gobeithiaf y bydd yn gwneud hynny. Fe gyfeiriaf yn unig at dystiolaeth Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, oherwydd pan grybwyllais yn gynharach fod angen cysoni gwahanol fuddiannau â'i gilydd i ryw raddau, mae cydbwyso rheolaeth forol â hawliau pysgota hanesyddol yn bwysig iawn wrth gwrs, fel y dywedais ddoe yn y ddadl arall. Mae angen inni ddatblygu ein moroedd a'u helpu i gyflawni eu potensial economaidd yn y dyfodol, yn enwedig gan fod rhai o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol, lle y ceir cyfle mawr bellach i'r diwydiant pysgota ehangu. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny heb beryglu mewn unrhyw fodd y manteision amgylcheddol eraill y mae'r Llywodraeth yn eu hargymell ac y mae'r pwyllgor yn awgrymu y dylem ganolbwyntio arnynt.

Felly, rwyf am orffen drwy ddweud nad yw'r UE, yn fy marn i, wedi bod yn ffrind o unrhyw fath, mewn gwirionedd, i'r rhai sy'n gweithio yn nyfroedd Cymru a Phrydain, o bysgotwyr i gadwraethwyr dros y blynyddoedd. Ac er bod record yr UE yn gwella, mae ganddo hanes dychrynllyd, mewn gwirionedd, dros y rhan fwyaf o'r cyfnod y buom yn aelod o ran y modd y mae wedi dihysbyddu ein moroedd ac ysbeilio rhywogaethau pysgota. Rwy'n falch bod camgymeriadau'r PAC yn cael sylw bellach, a phan fydd gennym reolaeth gadarn ar ein polisi pysgota ein hunain yma yng Nghaerdydd, rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hyd yn oed yn well nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

15:50

Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno'n bendant iawn â hwy y dylem fod yn falch o'n moroedd yng Nghymru ac amgylchedd arfordirol Cymru, a bod yr ardaloedd morol gwarchodedig yn bwysig ar gyfer moroedd iach a fydd yn cynnal y fantais sydd gennym, ac yn cefnogi twristiaeth, pysgodfeydd a defnyddiau eraill.

Cytunaf hefyd â'r pwyllgor, wrth gwrs, na allwch byth gymryd yr ansawdd hwn yn ganiataol, a bod cyflwr presennol ein moroedd a'n hamgylcheddau morol ac arfordirol yn galw am sylw o ddifrif gan Lywodraeth Cymru ac eraill. Mae angen i ni nodi gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol, fel yr amlinellodd y pwyllgor.

Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio ar un o argymhellion y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd—argymhelliad 9—oherwydd rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn asesu effaith Brexit yn ofalus gan fod llawer o'r warchodaeth sydd gennym, a'r fframwaith o warchodaeth sydd gennym, yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ac y bydd yn nodi gweledigaeth, yn wir, ar gyfer y ffordd ymlaen yn gynnar eleni. Gwn ein bod i gyd yn edrych ymlaen at hynny'n eiddgar.

O ran yr Undeb Ewropeaidd, Ddirprwy Lywydd, mae cyfarwyddeb y strategaeth forol yn hollbwysig. Cafodd ei throsi i gyfraith y DU gan reoliadau Llywodraeth y DU yn ôl yn 2010, rwy'n credu, ac o hynny daeth y strategaethau morol, gan gynnwys yr un sydd gennym yng Nghymru. Mae'n ceisio cynnal a gwarchod a chyflawni statws amgylcheddol da erbyn 2020, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cefnogi hynny'n frwd ac yn cytuno â hynny. Felly, gwn fod llawer o sefydliadau yng Nghymru a grwpiau amgylcheddol yn gwerthfawrogi'n fawr yr hyn y mae ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd wedi'i sicrhau o ran hynny, ac yn gyffredinol rwy'n credu bod y rheoliadau hyn wedi bod yn fframwaith hanfodol ac yn wir, yn rym ysgogol i'r cynnydd a welsom.

Felly, hoffwn ofyn heddiw, Ddirprwy Lywydd: a fydd rheoliadau'r strategaeth forol yn ganolog i'r weledigaeth newydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gosod cyn bo hir ar gyfer ein moroedd a'n hamgylchedd arfordirol o amgylch Cymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd? Hefyd, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, o ran symud y rheoliadau hyn yn eu blaen fel fframwaith wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd? Oherwydd rwy'n credu'n wirioneddol, ynghyd â llawer o'r sefydliadau sy'n ymwneud yn sylfaenol â'r materion hyn, gyda'r holl angerdd a ddisgrifiodd Mike Hedges yn gynharach o ran yr hyn sy'n bwysig iddynt mewn perthynas â'n moroedd a'n hamgylchedd arfordirol, a'r hyn y maent am ei weld yn cael ei warchod ac yn wir, ei ddatblygu mewn modd cynaliadwy cywir ar gyfer y dyfodol, fod llawer o'r angerdd hwnnw yn ymwneud â'r rheoliadau: yr hyn y maent wedi ei greu a'r hyn y gallant ei gynnig os parhawn â'r dull hwnnw o weithredu yn y dyfodol. Felly, rwy'n gwybod y byddent hwy, a minnau hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn awyddus iawn i gael sicrwydd ac ymateb y Gweinidog ar y materion penodol hynny.

15:55

Rwy'n falch o gymryd rhan mewn dadl mor bwysig yma y prynhawn yma. Nawr, fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r ymchwiliad a'r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol i Sir Benfro, gan fod mwyafrif helaeth y môr o amgylch y sir wedi'i leoli mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn wir, ar daith ddiweddar i Ynys Dewi gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, gan wisgo fy het hyrwyddwr rhywogaethau, cefais gyfle i drafod yr ymchwiliad penodol hwn ac i siarad am ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi a diogelu ardaloedd morol gwarchodedig yn well yng Nghymru.

O'r drafodaeth honno ac o drafodaethau gyda rhanddeiliaid a grwpiau lleol eraill—ac rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ei chynllun gweithredu morol drafft—mae'n amlwg o'r adroddiad hwn fod y cyfarwyddyd strategol hwnnw ar reolaeth forol yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn awr sy'n gweithio gyda'r diwydiant morol a rhanddeiliaid, ac un y gellir ei gyflawni ar lawr gwlad. Daeth adolygiadau blaenorol o waith rheoli morol i'r casgliad yn gyson fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth uwch i reoli ardaloedd morol gwarchodedig, ac er bod bwriadau Llywodraeth Cymru yn rhai da, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae angen inni weld arweinyddiaeth ar y mater hwn.

Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw bod cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet yn dynn a bod adnoddau weithiau'n annigonol i ddiwallu'r dibenion a fwriadwyd, ac yn sicr, nid wyf yn eiddigeddus o sefyllfa Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir iawn fod angen mwy o adnoddau o ran staffio a chyllid er mwyn gallu rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn gynaliadwy ledled Cymru, ac mae rhanddeiliaid wedi dweud yn glir iawn fod diffyg adnoddau yn rhwystro'r gallu i gyflawni gwaith sy'n ymwneud ag ardaloedd morol gwarchodedig. Felly, mae'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, fod y gyllideb ar gyfer gweithgaredd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael ei fonitro'n drylwyr. Er fy mod yn falch o weld ymateb Llywodraeth Cymru y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadw'r gyllideb hon dan arolwg, wrth ymateb i'r ddadl heddiw efallai y gall ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau'n fwy rheolaidd ar y lefel o adnoddau a chyfeiriad strategol ei pholisïau morol.

Wrth gwrs, nid staffio ac adnoddau yw'r unig broblemau sy'n wynebu ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae argymhelliad 3 yn adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn gwbl glir fod rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig ac ymgysylltu'n well â rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Mae ardaloedd morol gwarchodedig, pan gânt eu rheoli'n briodol, yn cynnig manteision eang ac mae'r moroedd sy'n ffinio â fy etholaeth i yn Sir Benfro wedi'u dynodi ar gyfer diogelu rhywogaethau pwysig, gan gynnwys poblogaeth fwyaf y byd o adar drycin Manaw sy'n nythu a niferoedd pwysig yn rhyngwladol o'r pâl, ac rwy'n falch o fod yn un o hyrwyddwyr y rhywogaeth honno. Yn wir, bob blwyddyn, mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i Sir Benfro i weld ein bywyd gwyllt hardd, a thra'u bod yno wrth gwrs, maent yn gwario arian yn yr ardal leol ac yn helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, gan ei gwneud yn glir fod ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018 yn gyfle gwych i hyrwyddo gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, rwy'n bryderus na ddangoswyd dull o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig a manteision y mesurau diogelu hyn y tu hwnt i 2018 a Blwyddyn y Môr, ac ni amlinellwyd unrhyw ymrwymiadau pellach yn y llythyr dilynol ar 2 Tachwedd, yn sgil llythyr gan y pwyllgor yn gofyn am eglurhad pellach. Felly, o gofio bod ein bywyd gwyllt a'n twristiaeth yng Nghymru yn dibynnu cymaint ar iechyd ein moroedd, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo manteision ardaloedd morol gwarchodedig a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'u pwysigrwydd y tu hwnt i ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018.

Ddirprwy Lywydd, fel John Griffiths, hoffwn grybwyll argymhelliad 9 yn fyr, a'r effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw fanylion ynghylch unrhyw asesiadau sy'n cael eu gwneud o effaith gadael yr UE ar ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fel y cyfeiriodd Simon Thomas, mae'r rhan fwyaf o'r môr a warchodir yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddebau natur yr UE o fewn safleoedd morol Ewropeaidd, gan gynnwys ardal gadwraeth forol arbennig Sir Benfro, sy'n ymestyn dros 130,000 hectar. Fel y dywedodd Neil Hamilton yn gynharach, rwy'n credu, cynlluniwyd ardaloedd morol gwarchodedig yn benodol i gyd-fynd â safleoedd morol Ewropeaidd fel rhan o system warchodaeth ddwy haen, sef cyfreithiol ac ecolegol. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gadw'r system warchodaeth ddwy haen hon fel y gall y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yn nyfroedd Cymru weithredu fel y bwriadwyd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni ellir gorbwysleisio manteision ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, ond rhaid iddynt gael eu rheoli'n gywir gyda'r adnoddau priodol. Wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo o ddifrif i ddarparu mwy o arweinyddiaeth a hybu gwerth ardaloedd morol gwarchodedig Cymru lawer yn fwy nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, gan y bydd hyn, yn ddiau, yn cryfhau ein diwydiant twristiaeth yn ogystal â gwarchod amgylchedd ein moroedd yn y dyfodol.

16:00

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Member
Lesley Griffiths 16:02:53
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r ddadl a gawsom heddiw yn fawr iawn. Fel y dywedodd sawl Aelod, mae'n dilyn yn dwt iawn y ddadl a gawsom ddoe ar y cynllun morol cenedlaethol drafft. Ond mae hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw ein moroedd i ni.

Mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a fy llythyr pellach yn dangos ein bod wedi ei dderbyn mewn ysbryd cadarnhaol iawn, ac yn dangos hefyd ein hymrwymiad i barhau i newid ffocws polisi morol a physgodfeydd a chryfhau lle bo'n briodol. Mae'r materion a godwyd yma heddiw a sgyrsiau a gaf gyda phobl ledled Cymru yn dangos pa mor bwysig yw cael amgylchedd morol iach a gwydn i bawb ohonom. Credaf fod Mike Hedges wedi gwneud pwynt pwysig iawn am ewyllys da pobl, nid yn unig yn y Siambr, ond yn ein sefydliadau anllywodraethol hefyd, ac yn sicr, maent yn rhai o'r bobl fwyaf angerddol y deuthum ar eu traws erioed—maent yn credu o ddifrif yn yr hyn a wnânt mewn perthynas â'n moroedd. Maent hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi ein bod yn datblygu polisïau sy'n integredig a thrawsbynciol.

Ni ellir ystyried rheoli ardaloedd morol gwarchodedig fel mater ar ei ben ei hun. Rhaid iddo fod yn rhan o'r dull integredig o reoli'r amgylchedd morol ehangach er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol, bioamrywiol a gwydn ledled Cymru sy'n cefnogi cymunedau arfordirol bywiog. Ddoe, cawsom ddadl ar gynllun morol cenedlaethol drafft cyntaf Cymru, ac mae hwnnw bellach yn destun ymgynghoriad ffurfiol. Am y tro cyntaf, mae'r cynllun yn nodi dull cydgysylltiedig o gynllunio a rheoli ein moroedd dros yr 20 mlynedd nesaf, ac mae'n gweithio tuag at ein huchelgais ar gyfer amgylchedd morol gwydn sy'n cefnogi twf glas a physgodfeydd cynaliadwy, cynhyrchiol a llewyrchus. Yn allweddol i sicrhau ecosystemau morol gwydn, bydd angen i Gymru gwblhau ei chyfraniad tuag at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig a pharhau i adeiladu ar ein rhaglen waith bresennol i reoli ein hardaloedd morol gwarchodedig fel eu bod yn parhau mewn cyflwr ffafriol, neu'n cyflawni cyflwr ffafriol lle bo angen.

16:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl strategol i reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Ni allwn sicrhau cyflwr ffafriol ar ein pen ein hunain, felly byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau rheoli eraill ar draws Cymru drwy'r grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig er mwyn sicrhau arweinyddiaeth a chymorth lle bo angen i allu cyflawni ein rolau a'n cyfrifoldebau gyda'n gilydd. Gofynnodd John Griffiths gwestiwn ynglŷn â pha strategaethau y byddwn yn eu cyflwyno, a byddwn yn datblygu fframwaith rheoli ardaloedd morol gwarchodedig a fydd yn nodi ein gweledigaeth strategol ar gyfer rhwydwaith wedi'i reoli'n dda.

Soniodd sawl Aelod am arian, ac fel rhan o fy adolygiad parhaus o'r cyllid, ar draws fy mhortffolio eang iawn, a chan ddarparu adnoddau lle bo'u hangen, rwyf wedi rhoi dyraniad ychwanegol o £0.5 miliwn tuag at y môr a physgodfeydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweithio gyda fy swyddogion i weld sut y gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw er mwyn sicrhau'r budd gorau, ac unwaith eto, rwyf am weithio gyda grŵp rheoli'r ardaloedd morol gwarchodedig mewn perthynas â hyn. Bydd hefyd yn galw, rwy'n siŵr, am arian ychwanegol wrth inni adael yr UE, ac yn amlwg, mae angen inni barhau â'r asesiadau rydym yn eu gwneud ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd rhan o'r arian ychwanegol hefyd yn adeiladu ar ein rhaglen waith gyfredol i sicrhau bod ein hardaloedd morol gwarchodedig yn parhau mewn cyflwr ffafriol, a lle bo angen, fel rwy'n dweud, yn cyflawni cyflwr ffafriol. Rwyf wedi gofyn i fy adran weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r grŵp llywio ar reoli i ystyried sut y gallwn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf cadarnhaol ar gyflwr y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig.

Mae angen inni barhau i wella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol a sut y mae gweithgareddau dynol yn rhyngweithio â'r amgylchedd, felly rydym yn gweithio i wella'r modd yr ydym yn monitro i ganfod newid a lle bo angen, yn ymchwilio i achos ac effaith a data gwyddonol i gefnogi a llywio polisïau a chyflawniad.

Roedd Joyce Watson yn mynegi pryderon ynglŷn â monitro effeithiau amgylcheddol, yn enwedig o amgylch y treillio am gregyn bylchog ym mae Ceredigion, ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft wirioneddol wych o'r gwaith a wnaed. Felly, cawsom yr astudiaeth honno o ddwysedd dros ddwy flynedd dan arweiniad Prifysgol Bangor i lywio'r broses o reoli pysgodfeydd cregyn bylchog ym mae Ceredigion, sydd wrth gwrs yn ardal cadwraeth arbennig. Y gwaith hwnnw oedd y cyntaf o'i fath, ac mae wedi cael ei ganmol fel enghraifft o wyddoniaeth sy'n arwain y byd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau â hynny a'n bod yn ei gymhwyso ar gyfer unrhyw fesurau rheoli newydd.

Felly, rwy'n parhau i ystyried buddsoddi mewn gwyddoniaeth forol yng Nghymru. Wrth edrych ymlaen, mae angen inni nodi mwy o gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid megis Prifysgol Bangor i rannu'r safonau hynny, i gasglu a choladu tystiolaeth a data o amrywiaeth o ffynonellau a gweithgareddau. Mae argaeledd data, tystiolaeth ac ymchwil gadarn yn gwbl hanfodol i sicrhau rheolaeth effeithiol a defnydd cynaliadwy o'n moroedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am gyfranogiad parhaus rhanddeiliaid wrth ddatblygu a darparu rhaglen waith ar y môr a physgodfeydd yng Nghymru.

Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol yn dwyn ynghyd ystod eang o grwpiau diddordeb strategol er mwyn sicrhau ymgysylltiad effeithiol ac ystyrlon mewn perthynas â darparu'r holl waith ar y môr a physgodfeydd drwy weithio cydweithredol a chydgynhyrchu. Sefydlwyd is-grwpiau lle mae angen canolbwyntio ar bynciau penodol. Sefydlwyd grŵp cyfeirio ar gynllunio morol i randdeiliaid ar ddechrau'r broses gynllunio morol er mwyn darparu cyngor, arweiniad ac adborth ar y dull o weithredu, ac mae cyd-aelodau o'r grŵp cyfeirio wedi cydweithio i gydgynhyrchu cynnwys y cynllun morol.

Dywedodd Mike Hedges mai un peth y dymunai ei gael yn fwy na dim o'r ddadl heddiw oedd gweld y cofnodion yn cael eu cyhoeddi, a rhoddais yr ymrwymiad hwnnw, rwy'n credu, pan ymddangosais gerbron y pwyllgor. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd cofnodion y cyfarfod ar 30 Tachwedd, rwy'n credu mai dyna pryd ydoedd, yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn.

Mae ymgysylltiad cynnar â rhanddeiliaid wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn nodi'r goblygiadau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil gadael yr UE i'n sectorau. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi sefydlu cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd i randdeiliaid a nifer o is-grwpiau yn syth ar ôl y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016—rwy'n ceisio meddwl nawr. Mae un o'r is-grwpiau rhanddeiliaid yn ymwneud yn benodol â'n moroedd a'n harfordiroedd ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth eang o'r sectorau perthnasol, felly mae'r is-grŵp moroedd ac arfordiroedd yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer rheoli ein moroedd yn gynaliadwy ar ôl inni adael yr UE. Credaf y bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu set o flaenoriaethau strategol, gan gynnwys ailgadarnhau ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol y môr yn gynaliadwy, bargen decach i'n diwydiant pysgota a'n cymunedau arfordirol, a dull o weithredu wedi ei arwain gan gynlluniau o ysgogi twf glas. Mae fy adran a minnau'n parhau i gyfarfod â'n cymheiriaid ar draws y DU i drafod y materion sy'n deillio o adael yr UE ac wrth gwrs, mae'r môr a physgodfeydd yn rhan o'r trafodaethau hynny. Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddiogelu ein buddiannau morol, amgylcheddol a gwledig, ac rwy'n credu y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, archwilio pob cyfle i sicrhau budd i bob un o'n sectorau.

Hefyd, rwyf wedi dweud yn glir iawn na fydd unrhyw leihad yn y modd y gwarchodwn yr amgylchedd yng Nghymru pan fyddwn yn gadael yr UE. Mae rhwydwaith cydlynol yn ecolegol o ardaloedd morol gwarchodedig wedi ei reoli'n dda yn rhan allweddol, nid yn unig o fod yn barod o'r cychwyn cyntaf, ond hefyd o reoli a gwydnwch ein moroedd am flynyddoedd i ddod. Felly, erys fy ffocws ar barhau i ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol i Gymru. Diolch.

16:10

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, Joyce Watson, Neil Hamilton, John Griffiths, ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon—a Paul Davies am gymryd rhan yn y ddadl hon? Ac rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol—. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig fod gennym nifer o bobl nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor sydd â diddordeb yn yr adroddiad pwyllgor hwn. Credaf fod pawb ohonom wedi gweld, yn llawer rhy aml gydag adroddiadau pwyllgor, y pwyllgor yn siarad â'r prif gorff yn ein plith, ac mae'n braf iawn gweld cynifer o bobl â diddordeb. A gaf fi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod yn credu eich bod heddiw wedi gweld yr ewyllys da a'r gefnogaeth sydd i'r pwyllgor gan Aelodau ar draws y Siambr, a chredaf eich bod yn gwybod bod gennych hynny gan y sefydliadau anllywodraethol ac yn bwysicach efallai, gan y cyhoedd, a mae'r rhain oll yn awyddus i sicrhau bod ein hamgylchedd morol yn cael gofal da?

Credaf fod eich ymateb yn gadarnhaol iawn. Fe sonioch chi am amgylchedd morol gwydn a rôl strategol Llywodraeth Cymru a chredaf fod bron bob Aelod a siaradodd wedi sôn am rôl strategol Llywodraeth Cymru; credaf fod hynny'n allweddol—fod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y strategaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi sicrhau bod yr holl ddogfennau ar gael ar gais—eu bod, ar gais, i gael eu rhoi ar y rhyngrwyd yn awr; rwy'n cymryd bod hynny'n golygu ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n croesawu'r parodrwydd i weithio gyda phartneriaid, oherwydd maent yn awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru. Nid ydynt am ymladd gyda chi. Nid ydynt am anghytuno â chi. Maent am weithio gyda chi er mwyn sicrhau amgylchedd morol gwell.

A gaf fi ailadrodd yr hyn a ddywedodd Paul Davies? A allwn gael diweddariadau rheolaidd? Nid yn unig i'r pwyllgor, gan ei bod yn braf fod yr wyth ohonom yn gwybod amdano, ond byddai i'r 60 ohonom wybod amdano yn y Cyfarfod Llawn gymaint yn well. A chredaf, mewn gwirionedd, fod pobl wedi sôn am yr un pethau ar hyd yr amser. Soniodd David Melding fod y rheolaeth aneffeithiol yn fygythiad, nid yw dynodi bob amser yn golygu rheoli effeithiol, a phwysigrwydd data da a monitro. A dywedodd Simon Thomas fwy neu lai yr un peth gan ddefnyddio geiriau gwahanol. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sicrhau bod y data'n iawn, gwneud yn siŵr fod y dynodiadau'n gywir ac yn cael eu hariannu'n effeithiol, a bod popeth yn gweithio'n iawn. Rydym eisiau amgylchedd morol llwyddiannus. Pe baem yn cael pleidlais arno, 'A ydym eisiau amgylchedd morol llwyddiannus?', byddai gennym 60 llaw yn codi, neu 60 o bobl yn pwyso'r botwm 'ie'.

A gaf fi groesawu Joyce Watson yn ôl i'r pwyllgor? Oherwydd credaf fod ei diddordeb yn yr amgylchedd morol ac ardaloedd gwledig yn gryf iawn. Rhoddwyd diwedd ar dreillio am gregyn bylchog. Roedd hynny o ddiddordeb i nifer o fy etholwyr, yn ogystal â phobl sy'n byw yng ngorllewin Cymru. Cyfeiriodd at bwysigrwydd bywyd morol, a chredaf weithiau ein bod yn sôn am yr amgylchedd morol ac efallai nad ydym bob amser yn meddwl y tu hwnt i bysgod—yr holl fywyd sydd i'w gael yn y môr heblaw pysgod.

Credaf fod y pryder ynghylch llygredd cychod yn rhywbeth nad ydym yn rhoi digon o sylw iddo, o bosibl. Rydym yn sôn am beryglon ceir mewn ardaloedd trefol, ond mae gennych gychod yn mynd allan yno, yn aml gyda diesel, cychod hŷn weithiau sy'n gollwng diesel—dim ond ychydig. Gall effaith hynny ar yr amgylchedd morol fod yn enfawr.

Credaf fod Neil Hamilton, unwaith eto, wedi pwysleisio'r consensws trawsbleidiol a strategaeth orfodi sy'n seiliedig ar risg. Credaf fod hynny'n rhywbeth a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ogystal.

Mae John Griffiths yn falch o foroedd Cymru a'r amgylchedd arfordirol. Credaf fod hynny'n rhywbeth arall—. Gallem roi hynny i lawr fel penderfyniad trawsbleidiol. Credaf fod hwnnw'n un arall lle byddem yn cael 60 'ie'. Mae pobl yn falch, ac mae angen inni adeiladu ar y weledigaeth uchelgeisiol.

Brexit—mae hynny'n mynd i ddigwydd. Credaf fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r gorau o'r hyn a fu ac yn cyflwyno'r hyn sy'n newydd. Credaf nad oes unrhyw bwrpas galaru ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymwneud â dweud, 'Fe gadwn bopeth sy'n dda ac ychwanegu ato a'i wneud yn well.'

Unwaith eto, gyda thrafodaeth Paul Davies gyda rhanddeiliaid, mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn siarad â rhanddeiliaid. Credaf mai un o gryfderau mawr y ffaith ein bod yma yn hytrach nag yn Aelodau Seneddol yw ein bod yn cael mwy o amser yn ein hetholaethau a chyfle i fynd a siarad â phobl yn ein hetholaethau, i drafod y materion hyn. Mae angen inni weithio gyda rhanddeiliaid oherwydd maent i gyd yn awyddus i hyn weithio. Nid oes neb yn ceisio tanseilio'r amgylchedd morol. Nid oes neb yn ceisio tanseilio'r cynllun morol. Nid oes neb yn ceisio'i ddifrodi. Mae pawb yn awyddus iddo weithio. Mae gwir angen inni roi blaenoriaeth uchel i ardaloedd morol gwarchodedig, fel y dywedodd Paul Davies.

A gaf fi orffen drwy ofyn am—? O ystyried mai'r peth cyntaf y gofynnais amdano pan ddechreuais, a gaf fi ofyn am yr ail un eto? A gawn ni ddiweddariadau rheolaidd os gwelwch yn dda, efallai bob blwyddyn, i'r corff hwn, nid yn unig i'r pwyllgor? Credaf eich bod wedi gweld heddiw faint o ddiddordeb sy'n bodoli, nid yn unig ymysg yr wyth ohonom ar y pwyllgor, ond ymysg llawer o bobl nad ydynt ar y pwyllgor, pobl sy'n cynrychioli ardaloedd sydd â chryn dipyn o arfordir, lle mae'n fater sy'n effeithio arnynt, yn effeithio ar eu hetholwyr, ac yn fater a gaiff ei ddwyn i'w sylw yn rheolaidd. Diolch.

16:15

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y Pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Dyma ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhwydwaith ffyrdd. Rwy'n galw ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6619 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.

2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Cyflwynaf y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy'n dweud hefyd na fyddwn yn cefnogi gwelliant 'dileu popeth' y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 2 gan Blaid Cymru. Ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu ymatal ar welliant 3 Plaid Cymru, ond edrychaf ymlaen at glywed gan lefarydd Plaid Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw.

Rwy'n tybio ei bod yn anodd i unrhyw un yn y Siambr hon anghytuno bod tagfeydd yn tynhau eu gafael ar ffyrdd Cymru a hefyd yn tynhau eu gafael, wrth gwrs, ar economi Cymru. Mae effaith economaidd ymarferol rhwydwaith trafnidiaeth annigonol Cymru yn ddifrifol. Mae'n costio £1.5 biliwn i yrwyr Cymru, ac mae'r gost economaidd fesul gyrrwr yng Nghaerdydd yn unig bron yn £1,000 y flwyddyn. Amcangyfrifodd astudiaeth ledled y byd gan INRIX ei fod yn costio £134 miliwn y flwyddyn i economi Caerdydd a swm cyfunol pellach o £130 miliwn y flwyddyn i economïau lleol Abertawe, Casnewydd, a Phen-y-bont ar Ogwr.

Hefyd, mae'r effaith i'w theimlo'n gryf yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ac nid wyf yn credu bod angen i mi sôn wrthych am yr effaith ar economi'r Drenewydd yn fy etholaeth fy hun. Ni fydd Aelodau sydd wedi bod yma ers 2011 angen i mi ddweud rhagor am y problemau rwyf wedi sôn amdanynt droeon yn y Drenewydd—problemau y gobeithiaf y bydd ffordd osgoi'r Drenewydd yn eu datrys yn fuan ac yn trawsnewid rhagolygon economaidd trefi'r Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth a threfi eraill i gyfeiriad gorllewin Cymru.

Ond ac eithrio ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd i'w gweld yn dilyn yr amserlen yn weddol dda rwy'n falch o ddweud, nid yw'n ymddangos bod unrhyw un o brosiectau trafnidiaeth sylweddol eraill Llywodraeth Cymru yn datblygu yn ôl yr amserlen ac o fewn y gyllideb. Wrth gwrs, rwy'n agored ac yn barod i gael fy nghywiro ar hynny. Ond o ganlyniad i hynny, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud seilwaith ffyrdd yn brif flaenoriaeth yn 2018. Mae'r argyfwng yn galw am arloesedd a gweithredu, a heb hynny, bydd gyrwyr yn parhau i wynebu tarfu ar sail ddyddiol.

Y mis diwethaf, gwelsom oedi am 18 mis arall mewn perthynas â'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4—trychinebus yn fy marn i o ran datblygu economi Cymru, yn enwedig o ystyried y cynnydd disgwyliedig mewn traffig yn ne-ddwyrain Cymru o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU, sydd i'w groesawu, i ddileu'r tollau ar bont Hafren. Mae'r oedi'n golygu y bydd ffordd liniaru arfaethedig yr M4 bellach yn costio £135 miliwn yn ychwanegol, a daw yn sgil newyddion arall y bydd gwaith uwchraddio arfaethedig ar ffordd Blaenau'r Cymoedd a chylchfan Pwll-y-Pant ger Caerffili hefyd yn costio mwy nag y cyllidebwyd ar ei gyfer ac yn wynebu oedi eithafol. Mae hyn yn golygu bod trethdalwyr Cymru bellach yn wynebu bil cyfunol o bron i £200 miliwn, arian y gellid bod wedi ei wario'n well ar gynlluniau eraill ym mhob cwr o Gymru.

Nawr, gan droi at ogledd Cymru, lle mae symudiadau trawsffiniol yn ffaith bywyd arall wrth gwrs, mae'n amlwg fod yn rhaid cael gwell cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Phwerdy'r Gogledd sy'n datblygu yng ngogledd Lloegr. Mae gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth coridor yr A55 a phontydd Menai yn gwbl hanfodol wrth gwrs. Credaf fod angen i'n seilwaith trafnidiaeth hwyluso llif symudiadau pobl a nwyddau ar draws y ffin i sicrhau y gall cymunedau gysylltu â'r diwydiant a buddsoddi mewn cyfleoedd a fydd yn eu tro, wrth gwrs, yn hybu economi a chynhyrchiant canolbarth a gogledd Cymru.

Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Lloegr ar hyn o bryd yn elwa o gyfres o fuddsoddiadau Llywodraeth y DU, a bydd y buddsoddiadau hyn yn y rhwydwaith trafnidiaeth yn Lloegr yn creu manteision canlyniadol sylweddol i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru. Ond os yw Llywodraeth Cymru yn methu ymgysylltu'n effeithiol â Llywodraeth y DU, efallai na fydd y datblygiadau hyn yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion Cymru. Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac adeiladu perthynas waith gryfach â Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol a dilyn arweiniad Llywodraeth y DU a defnyddio ffrydiau ariannu i ganiatáu ar gyfer targedu gwelliannau penodol i rwydwaith ffyrdd Cymru.

Mae tagfeydd ar ein ffyrdd hefyd yn cael effaith enfawr ar y sector trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gorlenwi yn broblem ar ein rhwydweithiau trenau, ond hefyd bydd y Cynulliad yn ymwybodol fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar ar effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Canfu fod tagfeydd ar deithiau bysiau yn gwneud pethau'n anrhagweladwy, yn cynyddu costau gweithredu a thocynnau, yn tanseilio hyder teithwyr, ac yn atgyfnerthu canfyddiadau negyddol o deithiau bysiau. I ddyfynnu o'n hadroddiad, dywedodd yr Athro David Begg fod

Tagfeydd traffig yn glefyd sy'n sicr o ddinistrio'r sector bysiau os nad eir i'r afael â'r broblem.

Roedd yr adroddiad yn nodi prif argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu i amlinellu sut y bydd yn mynd i'r afael ag effeithiau tagfeydd traffig ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Ond wrth gwrs rydym eto i weld ffrwyth y cynllun gweithredu hwnnw ac unrhyw welliannau mewn perthynas â thagfeydd ar ein ffyrdd.

Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr hon, mae'r sector trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei ddal mewn sefyllfa amhosibl. Er mwyn lleddfu tagfeydd, mae angen annog pobl i ddod allan o'u ceir a newid i drafnidiaeth gyhoeddus, ond tra bo tagfeydd yn dal i effeithio i'r fath raddau ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n annhebygol o ddod yn opsiwn deniadol. Felly mae'n gwbl hanfodol wrth gwrs fod Llywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â thagfeydd a chreu'r amgylchedd cywir er budd trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gorbwyso'r canfyddiadau negyddol.

Yn ei gwelliant mae'r Llywodraeth yn brolio'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol tra'n torri £93 miliwn o gyllid i'r polisi datblygu economaidd a'r polisi trafnidiaeth. Felly, mae diffyg cydlyniad yma rhwng 'Ffyniant i Bawb', cyllideb 2018 a'r cynllun gweithredu economaidd, sydd wedi golygu nad yw prosiectau trafnidiaeth hanfodol yn cael y lefel gyfatebol o gefnogaeth ariannol yng nghyllideb 2018.

Lywydd, credaf ei bod yn bryd bellach i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif ynglŷn â hyn, ysgwyddo ei chyfrifoldeb a buddsoddi yn seilwaith Cymru er mwyn mynd i'r afael ar frys â chyflwr presennol y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru a sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol a chael Cymru i symud eto. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma.

16:20

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd dibynadwy ac effeithiol fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy sy’n gallu cynnal economi a chymunedau Cymru.

2. Yn nodi bod y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gyhoeddi yn gosod allan rhaglen o welliannau i’r ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol fel rhan o gynllun buddsoddi cytbwys a chynaliadwy mewn trafnidiaeth.

3. Yn cydnabod cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen pum mlynedd o gyllid cyfalaf i drafnidiaeth i gefnogi buddsoddiad yn y seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad y DU mewn seilwaith ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Cynigiwyd.

Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Adam Price.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at fwriad Llywodraeth Cymru i ymrwymo ei holl gyllideb fenthyca cyfalaf i adeiladu 'llwybr du' yr M4.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Mae'n bleser gennyf ymateb a chyfrannu i'r ddadl bwysig hon, ac i symud y gwelliannu yn enw Rhun ap Iorwerth.

Mae'n sicr yn wir fod yna ddiffyg buddsoddiad dybryd wedi bod yn rhwydwaith hewlydd Cymru. Mae'r ffigyrau'n dangos hynny'n glir. Ers 2011, er enghraifft, mae'r gwariant ar hewlydd yng Nghymru wedi gostwng £32 miliwn, ac a dweud y gwir, os rydym ni'n edrych, er enghraifft, ar hewlydd lleol, mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Yn y flwyddyn 2012, cyfanswm y gwariant ar hewlydd lleol trwy Gymru oedd £362 miliwn, ac mae hynny wedi gostwng yn y flwyddyn y mae gennym ni'r ffigyrau cyfredol, mwyaf diweddar amdanyn nhw i £209 o filiynau. Felly, mae hynny'n ostyngiad mewn pedair blynedd o bron i hanner—42 y cant. Ac os rydym ni'n cymharu hynny, Llywydd, gyda'r sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, mae wedi aros yr un peth. Felly, nid oes unrhyw esgusodion fan hyn. Os rydym ni'n cymharu â Lloegr, gyda llaw, mae yna gynnydd wedi bod dros yr un cyfnod—bron i £800 miliwn, sy'n gyfystyr â chwarter o'r cyfanswm. Bu 25 y cant o gynnydd, felly, yn Lloegr, o gymharu â bron haneru cyfanswm y gwariant ar hewlydd lleol yng Nghymru.

Gadewch i mi fod yn gwbl glir ynglŷn a phwysigrwydd hyn, oherwydd fel roedd wedi cael ei nodi mewn erthygl diweddar gan Ifan Morgan Jones ar nation.cymru, mae hwn yn effeithio ar ddinasyddion Cymru, ac, a dweud y gwir, mae'n effeithio, weithiau, yn y ffordd mwyaf trasig posib: 723 o ddamweiniau sydd wedi bod ar yr A487 dros gyfnod o 10 mlynedd, a hynny yn uniongyrchol o ganlyniad i'r ffaith bod gyda ni rwydwaith hewlydd yng Nghymru sydd ddim yn ffit ar gyfer y ganrif ddiwethaf, heb sôn am y ganrif yma, a dweud y gwir. Mae'n warthus. I unrhyw un sydd wedi ceisio teithio o dde ein gwlad i ogledd ein gwlad, mae e'n sgandal; mae e'n warth cenedlaethol, a dweud y gwir, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau ar gyfer damweiniau. Mi oedd yna ostyngiad cyson yn y nifer o farwolaethau ar hewlydd Cymru dros flynyddoedd lawer, hyd at y flwyddyn 2010, lle cyrhaeddwyd y ffigwr o 89 o farwolaethau, sef y ffigwr isaf erioed. Ers hynny, mae wedi dechrau cynyddu eto, ac mae wedi bod yn weddol gyson nawr am rhai blynyddoedd, oddeutu 100 i 103, rydw i'n credu, ar gyfer y blynyddoedd diwethaf y mae gyda ni ffigyrau ar eu cyfer hyd yma. 

16:25

A fyddech yn derbyn mai un ffordd effeithiol o leihau nifer marwolaethau ar y ffordd yw lleihau maint y traffig a lleihau nifer y ceir ar y ffyrdd?

Wel, na, nid yw hynny ddim, a dweud y gwir, yn cael ei ddangos gan y ffigyrau, oherwydd mae gan hewlydd gwledig 40 y cant o'r traffig, ond mae ganddyn nhw 62 y cant o'r marwolaethau ar yr hewl, ac mae'r diffyg buddsoddiad yn ein hewlydd ni, buaswn i'n mynnu, yn cael canlyniad uniongyrchol yn y lefel o farwolaethau.

Mae'n rhaid i ni gydio yn y cyfleoedd nawr sydd yna, a dweud y gwir, ar gyfer gweddnewid ein rhwydwaith hewlydd ni, achos rydym ni'n edrych at ddyfodol y car di-garbon a di-yrrwr, ac yn y cyd-destun yna, mae'r hen syniad bod hewlydd a buddsoddi mewn hewlydd yn beth gwael yn hen ffasiwn, a dweud y gwir. Yn barod, ym mis Rhagfyr, roedd y bws di-yrrwr cyntaf wedi cael ei dreialu yn Bavaria gan Deutsche Bahn. Mae rhywbeth tebyg wedi digwydd fis diwethaf yn Japan, a dweud y gwir. Mi ddylai fod Cymru ar flaen y gad gyda'r chwyldro hynny, ond, wrth gwrs, heb fod yna fuddsoddiad teilwng yn y rhwydwaith hewlydd, bydd Cymru yn colli y cyfle hwnnw hefyd. 

16:30

Yr wythnos hon gwelwn y gostyngiad cyntaf yn y tollau ar bont Hafren ers 1966. Gweithred y Llywodraeth Geidwadol i ddileu'r dreth ar werth oddi ar y tollau yw'r cam cyntaf tuag at gael gwared ar daliadau ar y bont yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mantais hyn i economi Cymru, Lywydd, mantais diddymu'r taliadau hyn, yw tua £100 miliwn y flwyddyn. Drwy weithredu fel hyn, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi dechrau'r broses o ddileu'r rhwystr economaidd symbolaidd sy'n atal busnesau rhag ehangu i mewn i Gymru. Hefyd, ar y llaw arall, mae rhai o'r cludwyr nwyddau yn mynd i arbed mwy na £50,000 y flwyddyn. Rydym yn gwybod hynny. Mae'n creu arbedion mawr ac yn ddatblygiad gwych ar gyfer ein heconomi leol. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Mr Alun Cairns AS:

Bydd cael gwared ar y tollau yn cadarnhau'r cysylltiadau rhwng economïau a chymunedau de Cymru a de-orllewin Lloegr, gan greu coridor twf sy'n ymestyn o Gaerdydd, drwy Gasnewydd, i Fryste.

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r camau angenrheidiol ar waith i sicrhau bod Cymru'n cael y budd mwyaf posibl o'r weithred hon. Mae hynny'n golygu ymdrin â'r tagfeydd traffig costus a rhwystredig a welodd pawb ohonom yn rhy aml o lawer yn 2017 a thu hwnt. Roedd y cwmni dadansoddi traffig INRIX yn amcangyfrif bod tagfeydd traffig ar ein ffyrdd wedi costio bron i £278 miliwn i economi Cymru y llynedd. Fel y dywedais yn gynharach mewn cwestiynau i'r Gweinidog, gallech adeiladu o leiaf ddau ysbyty modern yng Nghymru am hynny. Dyna'r golled rydym yn ei hwynebu gyda'r tagfeydd hyn.

Caerdydd sy'n dioddef yr effaith fwyaf. Mae cost tagfeydd i Gaerdydd yn £134 miliwn, y gost i Gasnewydd yn £44 miliwn, ac i Abertawe mae'n £62 miliwn. Mae'r rhain yn ffigurau syfrdanol. Credaf nad yw hyn yn bwysig i'r Blaid Lafur, pedwar Aelod yn unig sy'n eistedd ar y meinciau cefn. Mae'n fater mor bwysig ac un Gweinidog Cabinet yn unig sydd yn y tu blaen, sy'n dangos nad oes diddordeb yn y system drafnidiaeth yng Nghymru. I'r Blaid Geidwadol hon o leiaf, os down i rym, dyma fydd un o'r blaenoriaethau mwyaf, i gael cysylltedd—yn yr awyr, ar y ffyrdd ac ar y môr.

Yr ardal sydd â'r broblem tagfeydd waethaf yng Nghymru yw twnelau Bryn-glas. Lywydd, rwy'n byw ychydig fetrau oddi yno ac mae'r tagfeydd traffig dros y 10 mlynedd diwethaf, ers i mi fod yn y Cynulliad hwn, yn anhygoel o erchyll. Mae'n cymryd dros awr i deithio 10 i 12 milltir yn unig yn y bore os dof ar ôl 7 o'r gloch. Ond os dof cyn hynny, rhwng 6.30 a 7 y bore, mae'n cymryd llai na hanner awr. Dyna fel y mae ar hyn o bryd. Felly, roedd yr amodau o'r blaen yn waeth na hyn.

Cafwyd 465 o dagfeydd traffig yn y twnnel tua'r gorllewin y llynedd. Parhaodd y gwaethaf bron i awr gan ymestyn dros 4 milltir. Rydym yn gwybod eu bod weithiau fwy neu lai'n cau yr M4 cyfan oherwydd damwain, ac mae hynny'n digwydd yn eithaf aml. Y twnelau hyn yw'r darn o draffordd canol dinas lle y gwelir fwyaf o dagfeydd traffig yn y DU, ar wahân i'r M25 amgylch Llundain. Yn wir, mae'r M4 yn ne Cymru yn nodedig am ei thagfeydd traffig a'r darn o ffordd o amgylch Casnewydd yw'r darn prysuraf o ffordd yng Nghymru. Mae tagfeydd yn cael effaith andwyol ar economi Cymru, a busnesau Cymru, a modurwyr sy'n ysgwyddo'r baich. Mae angen inni wneud cynnydd brys ar ffordd liniaru'r M4. Bydd y cyhoeddiad diweddaraf cyn y Nadolig ynghylch oedi pellach i'r prosiect hanfodol hwn yn destun siom i fodurwyr Cymru. Bydd bron ddwy flynedd o oedi cyn agor ffordd liniaru'r M4 a bydd bellach yn costio £135 miliwn yn ychwanegol.

Yn ôl yn 2014, roedd adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud nad yw'r darn hollbwysig hwn o'r draffordd yn bodloni safonau dylunio traffyrdd modern, gan arwain at amodau teithio gwael, ac erchyll weithiau, i'w defnyddwyr niferus. Nodai 17 o fannau lle y ceir problemau'n ymwneud â chapasiti, cydnerthedd, diogelwch a datblygu cynaliadwy. Ond nid dyma'r unig brosiect sy'n wynebu oedi cyn cael ei gwblhau a chostau cynyddol. Roedd gwaith ar ffordd ddeuol yr A465 ym Mlaenau'r Cymoedd i fod i gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2019. Mae'r prosiect hwn yn wynebu cynnydd o £200 miliwn yn y costau ac mae ar ei hôl hi. Lywydd, nid yw hyn yn ddigon da. Methodd y Llywodraeth hon ddarparu system drafnidiaeth i bobl Cymru, ac rwy'n siŵr y byddant yn dysgu'n gyflym iawn y bydd hyn yn creu rhywbeth gwell yn ein heconomi os yw eu synnwyr yn gwella hefyd. Diolch.

16:35

Mae fy mhen-blwydd mewn mis, ac yn aml mae'n brofiad eithaf digalon wrth i chi fynd yn hŷn, oherwydd rydych yn tybio y bydd eich disgwyliadau pan yn ifanc o gynnydd diddiwedd lle bydd pobl yn ymateb i dystiolaeth a phrofiad yn llwybr tuag ymlaen bob amser. Ond mae'r ddadl hon y prynhawn yma yn cwestiynu'r rhagdybiaethau hynny. Roeddwn yn gwrando ar Desert Island Discs yn gynharach a dywedodd Charlie Brooker, y digrifwr, sydd ychydig yn hŷn na mi, ei fod yn arfer gweiddi ar y teledu pan oedd yn ei ugeiniau, ond y dyddiau hyn yn hytrach na chau ei ddyrnau a thaflu platiau o gwmpas, mae'n mynd ychydig yn ddagreuol ac yn ofidus. Ac roeddwn yn teimlo ychydig yn ddagreuol ac yn ofidus wrth ddarllen y cynnig a chlywed rhai o'r dadleuon a gyflwynwyd. Rydym yn dweud yr un peth ac yn gwneud yr un peth drosodd a throsodd, ac yn cwyno am ein bod yn cael yr un canlyniadau.

Dechreuodd Russell George gyda chatalog o dagfeydd, gorwariant ac oedi, ac eto nid oedd yn gweld unrhyw angen i ailystyried ein dull o weithredu. Roedd Adam Price yn cwyno am y gostyngiad yn y gwariant ar ffyrdd, gan ddyfynnu'r ffaith ein bod yn dal i wario cannoedd o filiynau arnynt, ac mewn gwirionedd aeth ymlaen wedyn i gyfuno damweiniau ar ffyrdd gwledig â'r ffaith nad ydym yn gwario digon, er bod y dystiolaeth yn dangos mai gyrwyr ifanc yn goryrru yw'r rhan fwyaf o farwolaethau ar ffyrdd gwledig, ac mewn gwirionedd mae nifer damweiniau ar y ffyrdd yn gostwng. Felly, nid wyf yn siŵr fod y ddadl honno'n dal dŵr. Mae Adam Price yn dweud ar ei eistedd, 'Nid yng Nghymru'. Yng Nghymru, mae'n dal yn wir mai goryrru gan yrwyr ifanc yw'r prif achos marwolaeth. Felly, oes, yng Nghymru, mae'n rhaid inni ailystyried ein dull o weithredu oherwydd ein bod yn gwneud yr un peth eto. Nid ffyrdd yw'r broblem—tagfeydd yw'r broblem, ac rydym yn taro ein pennau yn erbyn y wal a thaflu cannoedd o filiynau o bunnoedd—biliynau o bunnoedd, yn wir—at yr un ateb.

Rydym wedi clywed ers blynyddoedd am ryfel yn erbyn y gyrwyr, ond mae'r dystiolaeth yn dynodi'r gwrthwyneb. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld y gost o deithio mewn car dros bont Hafren yn gostwng oherwydd TAW, a chost teithio ar y rheilffyrdd yn codi. Pe baech yn teithio o Gaerdydd i Fryste mewn car byddai'n costio £275 yn llai i chi, ond bydd tocyn tymor ar y trên yn costio £100 yn fwy. Rydym yn gwneud teithio ar y ffyrdd yn rhatach a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddrutach. Hawdd y gall pob plaid yn y Siambr hon roi cefnogaeth arwynebol i'r angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus tra'n buddsoddi mewn adeiladu ffyrdd fel nad oes gennym arian i'w wario ar y dewisiadau eraill. Ac nid yw'r arian sy'n mynd tuag at adeiladu ffyrdd yn cael ei reoli'n iawn, felly mae gennym y gorwariant a grybwyllwyd eisoes.

Ffordd Blaenau'r Cymoedd: roedd i fod i gostio £44 miliwn y filltir—y filltir. Bellach mae'n mynd i gostio £54 miliwn y filltir, gorwariant o 23 y cant, nid i greu ffordd newydd ond i ychwanegu tamaid at y ffordd bresennol i'w deuoli, dyna i gyd. Ddwy flynedd yn ôl roedd pobl yn dweud y byddai'r llwybr du newydd yn costio ymhell o dan £1 biliwn. Dywedwyd wrth yr ymchwiliad cyhoeddus y byddai'n costio £1.1 biliwn, ac mae'r fargen sydd wedi'i chyhoeddi gydag Associated British Ports er mwyn iddynt dynnu eu gwrthwynebiad yn ôl gan arwain at roi £136 miliwn o arian cyhoeddus i'w cwmni preifat i wneud gwaith yn nociau Casnewydd, yn golygu y bydd cost y prosiect hwnnw'n codi, yn ogystal â'r oedi.

Felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet adael inni wybod beth yw'r amcangyfrif o'r costau erbyn hyn ar gyfer y llwybr du, ac a yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys TAW. Ond rwy'n eithaf sicr nad yw'n mynd i aros ar y ffigur o £1.1 biliwn yn hir, ac o ystyried y gorwariant ar lwybr Blaenau'r Cymoedd, ychydig iawn o hygrededd sydd i'r ffigur hwnnw yn y diwydiant. Bydd yn llawer iawn agosach at £1.5 biliwn, ac o bosibl i £2 biliwn yn y pen draw.

Yn y cynnig gan y Ceidwadwyr, mae pwynt 3 yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd addas at y diben sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad hirdymor economi Cymru. Wel, buaswn yn dweud, Lywydd, fod iechyd hirdymor economi Cymru yn dibynnu ar sawl ffactor, nid yn lleiaf gweithlu iach sy'n ddiogel rhag llygredd aer a gordewdra, a hinsawdd sefydlog heb lifogydd sydyn a thywydd eithafol wrth i'r tymheredd godi. Mae rhai o'r heriau economaidd mwyaf a wynebodd Cymru erioed yn dod tuag atom yn eithriadol o gyflym, ac yn hytrach na wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol, rydym yn clymu ein hunain wrth syniadau uniongred sy'n bodoli'n barod, syniadau nad yw eu ffeithiau erioed wedi cael eu gwirio. Pan adeiladir ffyrdd yn seiliedig ar y niferoedd anhygoel a ddyfynnwyd y prynhawn yma, nid oes byth unrhyw werthusiad ar ôl y digwyddiad i weld a ydynt yn dal dŵr ai peidio. Y gwir amdani yw nad ffyrdd sy'n adeiladu economïau, syniadau sy'n gwneud hynny. Felly, ni allaf gefnogi'r cynnig hwn ac ni allaf gefnogi gwelliant 3, oherwydd er nad yw Plaid Cymru yn fodlon gwario'r arian hwn ar y llwybr du, maent yn hapus i'w wastraffu ar y llwybr glas, a fydd nid yn unig yn creu gofid i filoedd o bobl yng Nghasnewydd ond ni fydd yn ateb y broblem sylfaenol.

Lywydd, cyhoeddodd Radio 2 heddiw eu bod yn ymestyn eu slot cymudo am awr ychwanegol i 8.00 yr hwyr. Pa arwydd cliriach a allai fod o gynnydd mewn tagfeydd? Ar y gyfradd hon, bydd Simon Mayo ar yr awyr tan hanner nos a bydd pawb ohonom yn gweiddi am ragor o ffyrdd hyd yn oed bryd hynny.

16:40

Wel, mae symud nwyddau a phobl a'i effaith ar yr economi yn swnio'n union fel y math o beth a arferai wneud i mi ddwdlan ar ymyl y ddalen pan oeddwn yn gwneud fy safon uwch. Ond mae'n gwbl hanfodol i ffyniant Cymru ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i hynny.

Credaf fod peth o'r dystiolaeth ystadegol rydym wedi'i chlywed eisoes yn y ddadl hon yn eithaf cryf. Wrth edrych ar fy rhanbarth fy hun yn unig a gweld bod Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn unig yn colli £86 miliwn i'r economi leol drwy dagfeydd, ac erbyn i chi ychwanegu at hynny y ffigurau gwerth ychwanegol gros ystyfnig o isel a'n cyflogau isel yng Nghymru a ffigurau cynhyrchiant, rydym yn ôl yn y rhigol lle rydym yn amlygu dau ddegawd o fethiannau gwreiddiedig Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth wedyn yn manteisio ar y ffaith gyfleus fod yna Lywodraeth o liw gwahanol ar lefel y DU er mwyn tynnu sylw oddi ar y broblem.

Mae'n werth inni—. Gan edrych, er hynny, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn yn awr, mae'n haeddu sylw yn hyn o beth, oherwydd bu'n gweithredu mewn modd pendant a meddylgar iawn gan roi arian digonol i'r rhwydwaith ffyrdd y mae'n gyfrifol amdano, nid yn lleiaf drwy strategaeth fuddsoddi ar ffyrdd 2015. A'r hyn a ddaliodd fy sylw yn y strategaeth honno oedd y ffaith bod talp mawr o'r arian sy'n ei chynnal yn mynd i'r gronfa twf lleol, sy'n ymwneud â phrosiectau trafnidiaeth lleol—cynnal a chadw priffyrdd lleol, dileu tagfeydd ac ati. Credaf mai dyma lle mae'r pwnc brawychus braidd ac enfawr hwn yn dechrau dod yn fyw ac yn berthnasol i'n hetholwyr.

Felly, nid yw cael ein seilwaith ffyrdd i weithredu'n fanteisiol yn ymwneud â ffyrdd yn unig. Hynny yw, mae Adam wedi sôn amdano ac rydych chi wedi sôn amdano hefyd, Lee. Mae'n ymwneud â newid ymddygiad yn ogystal, ond mae hynny'n eithriadol o anodd, pa mor ddagreuol bynnag rydych am fod ynglŷn â hynny, Lee. Mae angen inni helpu i gysylltu profiadau ein hetholwyr o'r tagfeydd traffig hynny—y rhwystredigaeth, y peswch disel, y bysiau'n cyrraedd yn hwyr ac anhawster gadael i injan dân neu ambiwlans basio—nid yn unig gyda methiant Llywodraeth Cymru ar draws y gwaith o gynllunio seilwaith, rhywbeth y buaswn yn hapusach pe bai rhagor o'n hetholwyr yn barod i'w wneud, ond gyda'r penderfyniadau a wnawn ein hunain ynglŷn â sut rydym yn teithio.

Treuliais rywfaint o'r toriad dros y Nadolig yng nghanolbarth Cymru— hyfryd. Mae'r gwahaniaeth mewn ansawdd aer rhwng y fan honno a fy nghartref yn Abertawe i'w synhwyro'n glir iawn, ac rwy'n golygu synhwyro go iawn. Gallwch ei weld, gallwch ei flasu; nid dim ond ei deimlo yn eich ysgyfaint. Bedwar diwrnod yr wythnos, mae fy nghar yn cropian drwy lygredd Abertawe a Phort Talbot i Gaerdydd—sydd hefyd yn un o'r rhannau mwyaf prysur a llygredig yn y wlad hon—fel y mae miloedd o bobl eraill, a barnu wrth ba mor brysur yw'r M4 a'r ffyrdd cyswllt. Mae'n cymryd bron ddwywaith cymaint o amser i mi gyrraedd y gwaith â phan ddeuthum yn Aelod Cynulliad saith mlynedd yn ôl. Ond nid wyf yn mynd i fynd ar y bws, am ei fod yn cael ei ddal yn yr un tagfeydd ac nid wyf yn mynd i fynd ar y trên, oherwydd mae'n cymryd yr un faint o amser, yn fwy costus ac nid oes gennyf opsiwn i ddod o hyd i lwybrau amgen os aiff rhywbeth o'i le neu os oes oedi neu rywbeth fel hynny.

Mae llawer o'r bobl ar yr M4 yn y bore yn yr un sefyllfa'n union, a hyd yn oed os ydym yn derbyn, fel rwyf fi'n derbyn mewn gwirionedd, yr holl ddadleuon ynghylch gweithio mwy o adref os oes gennych fand eang, y mesurau teithio llesol, y dystiolaeth bwerus iawn sydd gennym ynghylch llygredd aer, rydym yn dal i fynnu defnyddio ein ceir oherwydd nad yw'r dewisiadau eraill yn well ar hyn o bryd, neu oherwydd nad oes dewisiadau eraill ar gael. Rwy'n hyderus, dros amser, y caiff rhagor ohonom ein hannog i beidio â bod yn gwbl ddibynnol ar y car, ac yn sicr yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach o ran y ceir butrach, ond rwy'n tybio y bydd maint y traffig yn dal i dyfu.

Efallai y gallaf ddeall pam ein bod yn edrych ar y llwybrau mwy strategol yn y ddadl hon. Gallaf daflu ffiasgo arbrawf cyffordd 41 at y rhestr o fethiannau Llywodraeth Cymru ar hynny, ond ein ffyrdd lleol yw mân-wythiennau'r seilwaith hwn. Mae'n fy rhyfeddu faint o wahaniaeth mewn gwirionedd y mae gosod cylchfan yn lle goleuadau traffig ar waelod fy ffordd, ar waelod ffordd Santes Helen yn Abertawe lle rwy'n byw— y gwahaniaeth y mae hynny'n unig wedi ei wneud i dagfeydd. Er fy mod yn cefnogi'r syniad o ddatganoli creu cyfoeth lle y gallwn, mae polisi rhanbarthol yn datblygu o amgylch canolfannau poblogaeth mwy sy'n bodoli eisoes, ac mae angen i rwydweithiau ffyrdd lleol allu ymdrin â hynny heb fannau cyfyng, ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus nad yw'n seiliedig ar ffyrdd a drafodwyd gennym yma o'r blaen.

Rydym yn un o nifer lai a llai o wledydd sy'n gwrthsefyll tollau ar ffyrdd. Credaf fod stori pont Hafren yn ein hatgoffa ein bod yn dal i fod yn derfysgwyr Beca yn ein calonnau, ac nid wyf yn credu ein bod yn debygol o fod yn talu am ein gwelliannau ffyrdd yn y ffordd honno'n fuan iawn. Ond hoffwn wybod faint o ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gymhellion i gyfuno cyllidebau sector cyhoeddus, neu gymhellion i gyfuno buddsoddiadau busnes lleol yn y seilwaith ffyrdd lleol a'r seilwaith lleol nad yw'n cynnwys ffyrdd, oherwydd credaf eu bod yn mynd law yn llaw.

Rwy'n gobeithio bod digon yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol i olygu bellach nad ffigur ar gyfer awdurdodau lleol, gyda swm ychwanegol yn awr ac yn y man gan Lywodraeth Cymru, yw'r lefel honno rwy'n ei thrafod o seilwaith sy'n seiliedig ar le. Mae iechyd a lles, adfywio, creu gwaith, tlodi a datblygu economaidd oll yn cael eu heffeithio gan gysylltedd, ac ni allaf weld pam na ellir cysylltu'r arian yn yr un modd. Diolch.

16:45

A gaf fi, yn gyntaf, ategu a chymeradwyo llythyr y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU yn cefnogi datblygiad bae Abertawe ac ailadrodd cefnogaeth lwyr UKIP i unrhyw ymyriadau a allai esgor ar y datblygiad hwnnw?

Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes raid inni edrych ymhell y tu allan i'r Siambr hon i brofi annigonolrwydd cronig y seilwaith ffyrdd yng Nghymru. Rai cannoedd o lathenni i ffwrdd, mae gennym bont newydd sbon, ond mewn gwirionedd, mae'n bont nad yw'n mynd i unman. Nid yw Rover Way yn ddim llai na thagfa dair milltir o hyd sy'n arwain at y dagfa 10 milltir o hyd a alwn yn A48(M).

Ni all dim ddynodi'r drafferth i fynd i mewn i ddinas Caerdydd yn well na fy nhaith fy hun i'r gwaith ac oddi yno. Er mwyn sicrhau fy mod yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer cyfarfod pwyllgor am 9 y bore, rhaid i mi adael Griffithstown ym Mhont-y-pŵl am 6.30 y bore. O'i gadael yn ddiweddarach, buaswn yn dod at linell bron yn solet o draffig hyd at gatiau'r lle hwn. Yn amlwg, gwn na fydd Llywodraeth Cymru yn colli cwsg dros y ffaith fy mod yn gorfod codi am 5:15 y bore er mwyn cyrraedd y gwaith, ond yn sicr, mae'r sefyllfa hon yn gwbl annerbyniol i'r rhai eraill sy'n gorfod cymudo i'r gwaith, yn enwedig y rheini sy'n mynd i mewn i'r  brifddinas. Mae rhai yn y Siambr hon yn gorfod dioddef erchyllterau'r A470 ac mae problemau sylweddol hefyd, fel yr amlinellwyd yn gynharach, i'r rhai sy'n dod yma o'r gorllewin.

I orffen y daith bersonol ddarluniadol hon, nid oes unrhyw bwynt i mi ymdrechu i adael yr adeilad hwn i fynd adref tan o leiaf 7 o'r gloch yr hwyr, neu rwy'n wynebu'r un amodau traffig â'r rhai a amlinellais yn gynharach. Yma, rwyf wedi canolbwyntio ar fynd i mewn i ddinas Caerdydd, ond wrth gwrs, mae hon yn sefyllfa sy'n cael ei hailadrodd yn ein dwy ddinas arall, ac mewn mannau eraill ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, rhaid i mi ofyn: pa bryd y gwelwn yr uwchraddio sydd ei angen mor daer ar ein seilwaith ffyrdd ac a ragwelwyd, yn wir, ym mhrosiect metro de Cymru?

Rwyf wedi amlinellu'r problemau i gymudwyr uchod, ac wrth gwrs, mae'n destun pryder mawr, ond fel y soniwyd yn gynharach gan lawer o'r rhai a gyfrannodd at y ddadl hon, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gost i economi Cymru yn enfawr. Os ydym i gael sylfaen fusnes ddeinamig, entrepreneuraidd yng Nghymru, mae'n hanfodol fod gennym seilwaith i'w chynnal. Mae ffyrdd yn rhan bwysig, os nad y rhan bwysicaf, o'r seilwaith hwnnw. A sylwch, Ysgrifennydd y Cabinet, nad wyf wedi crybwyll twnelau Malpas unwaith.

Pleser yw dilyn David Rowlands. Cefais fy annog i glywed am ei drefn foreol rhwng 5:15 a 6:30, ac rwy'n cymryd mai ei raglen ymbincio bersonol helaeth yw honno, wedyn y cyfnod o ddwy awr a hanner cyn ei fod yn gallu dechrau gwaith, a'r diwrnod 11 awr a hanner cyn ei fod yn gallu mynd adref.

Felly, i ddilyn yr hyn a ddywedodd Lee Waters, a oedd yn cyfeirio, rwy'n credu, at fod yn ddagreuol ac yn ofidus. Nid wyf yn gweld hwn fel mater deuaidd fel roedd Lee yn ei weld, rwy'n credu. Rwy'n meddwl bod modd gwella'r amgylchedd, mewn rhai lleoliadau o leiaf, drwy fuddsoddi yn y ffyrdd. Yn yr enghraifft a roddodd David Rowlands, sef Rover Way, pe bai honno'n cael ei gwella a'n bod yn gallu cael ffordd ddeuol i fynd yr holl ffordd o amgylch Caerdydd fel ffordd gylchol, byddai hynny'n lleihau'r tagfeydd yn helaeth a hefyd y llygredd i ardaloedd fel Ffordd Casnewydd, y gwn fod Jenny Rathbone wedi'i grybwyll yn flaenorol.

Rwy'n credu y dylem ystyried hefyd, pan fyddwn yn sôn am ddatblygu economaidd hirdymor, yr effaith, a'r adborth cadarnhaol, sy'n bosibl o leiaf, i drethi ar gyfer Cymru. Pan fydd gennym y 10c o dreth incwm o fis Ebrill, byddwn yn edrych ar yr ymchwiliad cyhoeddus ynghylch cymhareb cost a budd y llwybr du ac yn asesu hwnnw, ond mater arall yw: beth yw effeithiau penodol hyn ar drysorlys Cymru? Ken Skates, mae'n gwthio'r ardal fenter yng nghanol Caerdydd ac yn ceisio cael mwy o fuddsoddiad mewn swyddfeydd yno. Wedyn, mae'n gweld ei gyd-Aelod dair sedd i ffwrdd yn rhoi'r uwch dreth hon ar waith er mwyn gwneud i unrhyw ddatblygwr dalu swm ychwanegol o arian os yw am ddatblygu swyddfeydd ar unrhyw raddfa yng Nghaerdydd yn hytrach nag ym Mryste. Pan fydd yn ystyried unrhyw fuddsoddiad mewn ffyrdd, rwy'n gobeithio y bydd hefyd yn edrych i weld a all hybu gweithgaredd economaidd drwy gynyddu hygyrchedd a lleihau tagfeydd, a beth yw'r effeithiau yn eu tro ar y refeniw treth y gallem ei gael yn y dyfodol.

Wrth inni edrych ar ddatblygu ffyrdd, gobeithio hefyd y byddwn yn meddwl am integreiddio datblygu ffyrdd gyda systemau trafnidiaeth eraill. Wrth gwrs, mae bysiau'n teithio ar y ffyrdd yn ogystal â cheir, ond gobeithio y byddwn hefyd yn edrych ar gefnogi'r rhwydwaith trenau ac yn cael y rhwydwaith trenau i weithio'n well gyda'r rhwydwaith ffyrdd. I ddefnyddio ffordd liniaru'r M4 fel enghraifft, pe bai honno'n mynd yn ei blaen, buaswn yn cefnogi cael gorsafoedd newydd yn y ddau ben. Ceir cynnig gwych ar gyfer Llaneirwg, lle byddai'n cael ei ariannu'n breifat fel gorsaf drenau, fel parcffordd, lle y gallai pobl ddod i mewn ar y draffordd fawr newydd, os yw'n digwydd, ond yn ymatal rhag ychwanegu at dagfeydd yng Nghaerdydd oherwydd gallent barcio yno—wedi'i dalu amdano'n breifat i gyd—a dod ar y trên i mewn i ganol Caerdydd.

Yn yr un modd, rwy'n awyddus iawn i gefnogi'r argymhelliad o orsaf rodfa ym Magwyr a Gwndy, ac rwy'n falch iawn fod Ken Skates erbyn hyn yn caniatáu i gam pellach y Canllawiau Prosiectau Buddsoddi yn y Rheilffyrdd symud ymlaen mewn perthynas â hynny. Hoffwn ddiolch iddo ef a Llywodraeth Cymru am y cymorth ariannol ar ei gyfer. Ond os yw hynny felly yn galluogi cymudwyr ar ben arall y llwybr du posibl i ddewis mynd ar y trên i Gaerdydd hefyd, a bod hwnnw'n ddewis go iawn, yna gorau oll.

Roedd Lee Waters, rwy'n credu, yn beirniadu'r gostyngiad yn nhollau'r Hafren, a'u diddymu, sydd i fod i ddigwydd ar ddiwedd y flwyddyn hon, ond ychydig dros flwyddyn sydd, rwy'n credu, Lee, ers i chi bleidleisio dros y cynnig a gyflwynais i'r Cynulliad hwn y dylid diddymu tollau'r Hafren. A bellach mae'n mynd i ddigwydd, diolch i'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

O'r blaen, clywsom Carwyn Jones, ychydig flynyddoedd yn ôl, yn awgrymu y dylem gadw'r tollau a pharhau i elwa ar fodurwyr er mwyn talu am welliannau trafnidiaeth. Rwy'n falch nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i adael iddo wneud hynny ac wedi gwneud y penderfyniad i ddiddymu, yn hytrach na datganoli'r tollau ac ymddiried yn noethineb Llywodraeth Lafur yng Nghymru o ran yr hyn y byddai'n ei wneud gyda'r arian hwnnw, neu fel arall.

Er hynny, rwy'n credu—i ddilyn sylw Suzy am y tollau—ein bod wedi cael cynnig gan Ysgrifennydd trafnidiaeth blaenorol ar lefel y DU i godi tollau ar raddfa eang, a llofnododd dros 1 filiwn o bobl y ddeiseb yn erbyn hynny'n gyflym iawn. Y prif reswm am hynny yw bod yna rywfaint o sinigiaeth ynghylch beth fydd yn digwydd i'r arian. Mae pobl yn ei weld fel ffordd arall o elwa arnynt er mwyn codi trethi, i gael arian allan ohonynt. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yn y dyfodol, os ydym yn mynd i edrych ar wahanol argymhellion ar gyfer codi tâl yn y dyfodol, yw (a), fod yna bosibilrwydd o allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel sydd yn Llundain yn aml, efallai, lle bu mwy o godi tâl am ddefnyddio ffyrdd, ond hefyd ei fod yn cael ei wrthbwyso gan drethi is mewn mannau eraill.

Pan fyddwn yn edrych ar brofi'r dulliau newydd hyn o godi trethi yng Nghymru, mae pawb ohonom yn sôn am y pedwar opsiwn ar gyfer codi trethi. Ond mewn gwirionedd, os ydym yn sôn am atebion arloesol, ac yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU ar sut i wneud hyn, yr hyn sy'n rhaid inni ei ystyried yw bod cynlluniau codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn fater sydd wedi ei ddatganoli, ond nid yw'r refeniw a ddaw i mewn gan fodurwyr yn sgil treth ar danwydd a threth car wedi ei ddatganoli. Felly, byddai unrhyw gynnig yng Nghymru i gael cynllun codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn debygol o olygu bod mwy o refeniw yn dod i mewn a phobl yn gorfod talu mwy. Beth am edrych arno pe bai gennych ardal lle y gallech wneud hynny, a allech leihau treth car, efallai, ar gyfer ceir a gofrestrwyd yn yr ardal honno a gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hynny er mwyn cyflwyno gostyngiad treth mewn gwirionedd? Mae angen inni weithio gyda'n gilydd fel Llywodraethau ac edrych tua'r dyfodol a cheisio cael y systemau i weithio gyda'i gilydd er budd hirdymor i'r wlad.

16:55

Gosodwyd golau traffig cyntaf y byd y tu allan i Dŷ'r Cyffredin yn 1868, i reoli llif cerbydau Llundain. Yn anffodus, oherwydd mai nwy oedd yn ei danio, fe ffrwydrodd ychydig wythnosau yn ddiweddarach. Ers hynny, rwy'n credu ein bod wedi ei chael hi'n anodd rheoli tagfeydd ar ein ffyrdd. Mae'n ymddangos i mi, yn anffodus, fy mod yn ddigalon braidd, fel Lee Waters, ein bod i bob golwg yn dal i rygnu ar yr un hen ddadleuon dros wario mwy o arian ar ffyrdd i drechu tagfeydd ar y ffyrdd. Credaf fod yr holl dystiolaeth yn dangos bod gwario mwy o arian ar ffyrdd yn cynyddu tagfeydd, oherwydd mae'n annog mwy byth o bobl i deithio ar y ffyrdd. Felly, edrychaf ymlaen at y dydd pan fydd David Rowlands yn gallu mynd ar y metro o Bont-y-pŵl, yn hytrach na brwydro'i ffordd ar hyd ffyrdd gorlawn.

Pam y mae hi'n trafod ffyrdd yn unig yn y modd hwn? Mewn unrhyw fath arall o ddarpariaeth gyhoeddus, pe baem yn ystyried rhoi rhywbeth, ni fyddai'r ffaith y gallai pobl ddewis ei ddefnyddio wedyn yn rheswm dros beidio â'i roi.

Oherwydd bod ein cyfrifoldebau newid hinsawdd yn ein rhwymo i edrych ar y ffyrdd rydym yn mynd i wneud y newid moddol, i lygru llai a dinistrio llai ar ein hamgylchedd. Mae gennym agwedd hollol wahanol tuag at ddefnyddwyr ffyrdd i'r un sydd gennym tuag at ddefnyddwyr rheilffyrdd. Pam nad yw defnyddwyr rheilffyrdd yn codi helynt, fel y gwnaeth terfysgwyr Beca, pan fyddant yn cael y codiadau uwch na chwyddiant hyn bob blwyddyn i'r hyn sydd ganddynt i'w dalu am docynnau trên? Yn hytrach, ni chlywn ddim byd. Prin ebwch o'i gymharu â'r udo a glywn yn sgil unrhyw awgrym y dylai defnyddwyr ffyrdd dalu mwy.

Mae gormod o bobl yn cael trafferth i gadw car, rhywbeth na allant fforddio ei wneud mewn gwirionedd, oherwydd maent yn gwario arian y dylent fod yn ei wario ar fwyd a hanfodion eraill, a hynny'n unig oherwydd eu bod yn meddwl mai dyna'r unig ffordd y gallant gael yr annibyniaeth a'r symudedd y gall car ei gynnig. Ond mae hyn, yn anffodus, yn adlewyrchiad o'n system drafnidiaeth gyhoeddus annigonol, a ddylai fod yn galluogi pawb i fod yn rhydd i symud mwy, gan gynnwys y bron i 25 y cant o aelwydydd nad oes ganddynt gar at eu defnydd. Felly, mae'n annheg iawn ein bod yn gwario cymaint o arian trethdalwyr ar ffyrdd, yn hytrach na disgwyl i'r bobl sy'n defnyddio'r ffyrdd dalu mwy.

A fyddech yn derbyn—? Wrth edrych heb fod yn rhy bell i'r dyfodol, mewn gwirionedd, o ystyried y penderfyniad—yn anffodus—i beidio  â thrydaneiddio'r brif reilffordd yn ne Cymru y tu hwnt i Gaerdydd, ymhen 15 mlynedd, gallem fod mewn sefyllfa lle bydd y rhan fwyaf o geir yn rhai trydan mewn gwirionedd, a'r trenau fydd yn creu fwyaf o lygredd. Felly, onid oes angen inni edrych ar y cwestiwn hwn yn fwy manwl?

Wel, rwy'n cytuno. Cytunaf yn llwyr ei fod yn drychineb llwyr o ran llygredd aer nad ydym, ar hyn o bryd, yn gweld trydaneiddio cyn belled ag Abertawe, ond credaf fod nifer y bobl y gellir eu cludo ar drafnidiaeth gyhoeddus yn llawer iawn mwy na'r nifer y gellir eu cludo ar y ffordd. Mae'n costio tua'r un faint o arian i adeiladu milltir o ffordd ag y mae'n ei gostio i adeiladu milltir o reilffordd, ac eto bydd wyth i 20 gwaith yn fwy o bobl yn elwa ar y rheilffordd newydd nag a fydd yn elwa ar y ffordd. Felly, yn amlwg, mae'n llawer mwy costeffeithiol i fuddsoddi mewn ffyrdd. Mae'n ddrwg gennyf—mewn rheilffyrdd. Mewn rheilffyrdd.

Rwy'n credu bod gwelliant 3 yn adlewyrchu fy siom ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn dymuno buddsoddi ei holl ofyniad benthyca mewn un prosiect ffordd, ar draul y metro a'r holl ffurfiau eraill ar drafnidiaeth gyhoeddus, a dulliau eraill o drafnidiaeth y gallem fod yn defnyddio'r arian hwnnw ar eu cyfer. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar hyn gyda gweledigaeth newydd.

Pan fo hyd yn oed yr RAC, y lobi moduro, yn dod i'r casgliad fod rhyw fath o system talu wrth fynd yn anochel, ac mae'r rhesymeg economaidd dros godi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn gymhellol, rwy'n credu bod y dynfa tuag at newid yn anorchfygol. Ac mae galw'n syml ar Lywodraeth Cymru i wario mwy o arian ar atgyweirio'r ffyrdd yn edrych ar hyn drwy'r pen anghywir i'r telesgop. Mae'n galondid clywed Chris Grayling yn awgrymu y dylid codi tâl ar gerbydau nwyddau trwm mewn system dalu wrth y filltir, er ei bod yn siomedig ei fod wedi arswydo rhag y syniad y dylem ddogni'r defnydd o geir ar ein ffyrdd prysur. Rhaid inni gael ffordd wahanol o edrych ar bethau, ac mae angen inni gael llawer mwy o gymhellion i gludo nwyddau trwm ar y rheilffyrdd yn hytrach nag ar y ffordd. Nawr, buaswn yn arbennig o awyddus i glywed cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau'r newid moddol i dynnu nwyddau oddi ar y ffyrdd a'u rhoi ar reilffyrdd lle bo modd, oherwydd mae'n amlwg mai dyma sy'n gwneud fwyaf o niwed ac yn cyfrannu leiaf at dagfeydd, a'r difrod y maent yn ei achosi i'n ffyrdd.

17:00

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch, wrth gwrs, i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a hefyd am roi cyfle i mi ymateb i'r ddadl? Credaf nad oes unrhyw amheuaeth fod gennym gyfrifoldeb pwysig i sicrhau bod gan Gymru draffordd a rhwydwaith o gefnffyrdd diogel, dibynadwy ac effeithlon a all gefnogi economi a chymunedau ein gwlad. Ond rwyf am ei gwneud yn glir ar gychwyn fy nghyfraniad mai gwendid y cynnig hwn yw nad wyf yn credu ei fod yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n ymwneud ag un elfen yn unig o'r gwaith o greu system drafnidiaeth gynaliadwy ac amlfoddol o ansawdd uchel sy'n gallu cynnal anghenion cymdeithasol, economaidd a chymdeithasol Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.

Nawr, rydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'n cyfrifoldeb am y ffyrdd, ac yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym wedi gwario mwy na £150 miliwn ar waith cynnal a chadw a mân welliannau'n unig. Ond fel y dywedais, mae'n bwysig gweld y rhwydwaith ffyrdd fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy ehangach. Mae angen i'n system drafnidiaeth gefnogi anghenion cymunedau ac ymwelwyr ar hyd a lled y wlad. Dyna pam y mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn rhan o gynllun cytbwys a chynaliadwy ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth.

Rwyf am sôn mwy am y cynllun yn y man, ond yn gyntaf, hoffwn edrych ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn ddiweddar a'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar lawr gwlad neu waith sydd yn yr arfaeth. Yn gyntaf oll, yr A55, y llwybr strategol allweddol yng ngogledd Cymru: y llynedd, cwblhawyd rhaglen gwerth £42 miliwn i sicrhau bod ei thwneli yn cyrraedd safonau cyfredol. Rydym yn buddsoddi £40 miliwn ar uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, a £200 miliwn yng nghoridor Glannau Dyfrdwy i hwyluso'r math o lif traffig trawsffiniol llyfn y soniodd Russell George amdano.

Ond mae'r M56 ar ochr Lloegr i'r ffin hefyd yn galw am fuddsoddiad sylweddol, fel yr A5. Nawr, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gydag Owen Paterson, yr Aelod Seneddol sydd ar yr ochr arall i'r ffin i Dde Clwyd, ar yr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn y ffordd benodol honno. Rwyf wedi dweud y byddwn yn buddsoddi ar ochr Cymru; mae'n bryd i Lywodraeth y DU gynllunio i wneud hynny ar ochr Lloegr yn ogystal. Mae gwaith arall yng ngogledd Cymru yn cynnwys cyflymu'r dyddiad cwblhau ar gyfer trydedd croesfan y Fenai, a allai bellach fod wedi agor erbyn 2022; mae hefyd yn cynnwys datblygu'r ffordd osgoi arfaethedig o Gaernarfon i Bontnewydd, sy'n fuddsoddiad pellach o £125 miliwn i'r rhwydwaith.

Yng nghanolbarth Cymru, rydym yn buddsoddi £92 miliwn yn ffordd osgoi'r Drenewydd, y disgwylir iddi agor y flwyddyn nesaf, o fewn yr amserlen a'r gyllideb, fel y mae gwaith ar dwnelau Bryn-glas a'r M4 wrth gyffordd 28 yn gweithredu o fewn y gyllideb a'r amserlen. Hefyd, rydym wedi cyhoeddi'r gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol ar gyfer y gwelliannau a gynlluniwyd i Bont ar Ddyfi ac wedi cyhoeddi £50 miliwn o gyllid i gyflymu'r broses o gyflwyno ffordd osgoi'r A483 yn Llandeilo. Rydym wedi buddsoddi mwy na £0.25 biliwn yn ffyrdd gorllewin Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf.

Wrth gwrs, yn ne Cymru, byddai coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith, ac rydym ar hyn o bryd yn buddsoddi dros £40 miliwn ar adnewyddu twnelau Bryn-glas. Ym mis Mehefin, agorodd y Prif Weinidog ffordd gyswllt ddwyreiniol y bae, a byddwn hefyd yn cwblhau ein prosiect deuoli heriol ar ffordd Blaenau'r Cymoedd erbyn 2022.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:05

Ond ochr yn ochr â'n prosiectau ffyrdd mawr, rwyf hefyd yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i fynd i'r afael â thagfeydd ar y rhwydwaith ac i annog newid moddol, yn benodol drwy gyflwyno mwy o fodd o ddefnyddio atebion teithio llesol, a thrwy fetros yn y gogledd ac yn y de, a fydd yn denu buddsoddiad enfawr yn y blynyddoedd i ddod. Hefyd rwyf wedi dyrannu £24 miliwn i fynd i'r afael â mannau cyfyng, ac yn benodol i wella amseroedd teithio rhwng gogledd a de Cymru. Yn ogystal â hyn, mae £15 miliwn arall wedi'i ddyrannu drwy ein cronfa rhwydwaith trafnidiaeth lleol, gyda'r nod o gynyddu diogelwch, cydnerthedd a symudedd ar hyd rhwydweithiau ffyrdd lleol.

Nawr, i ddychwelyd at y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, rwyf wedi bod yn glir o'r cychwyn ynglŷn â fy ngweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth integredig ledled Cymru, i ddod â chymunedau'n agosach at ei gilydd, i gysylltu pobl â chyfleoedd swyddi, hamdden a thwristiaeth, ac i ddatblygu'r economi genedlaethol ymhellach. O ran cyllid, mae cyhoeddi'r cyllidebau cyfalaf pedair blynedd wedi caniatáu ar gyfer cynllunio prosiectau hirdymor yn well, ac mae'r gwaith o reoli rhaglenni a phrosiectau cynlluniau ffyrdd yn cael eu darparu yn unol—

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?

—gyda'r canllawiau pwrpasol, sy'n ymgorffori'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru.

Gwnaf wrth gwrs.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio, ac mae'n hollol iawn—yn amlwg mae angen polisi trafnidiaeth mwy cydgysylltiedig arnom, ac mae angen symud pobl allan o'u ceir ac at fathau eraill o drafnidiaeth. Ond mae'n wir, i lawer o bobl, mai ar hyd y ffyrdd yw'r prif fodd o deithio, ar gyfer gwaith a hamdden fel ei gilydd. Mae'r ffigurau diweddar yn dweud bod tagfeydd yn costio £280 miliwn mewn cynnyrch a gollwyd i economi Cymru. A ydych chi'n meddwl bod y mesurau y sonioch amdanynt yn sicrhau y byddwn mewn lle gwell ymhen pum mlynedd neu mewn lle gwaeth?

Credaf y byddwn mewn lle gwell ymhen pum mlynedd yn sgil y buddsoddiad rydym yn ei ystyried. Ond hefyd, ni allwch nodi'r heriau ar eu pennau eu hunain. Mae'r her o wneud yn siŵr fod cysylltiad gwell rhwng cymunedau a phobl yn golygu bod yn rhaid inni gyflwyno buddsoddiad ar draws toreth o ddarpariaethau trafnidiaeth, gan gynnwys y metro, gan gynnwys teithio llesol, gan gynnwys diwygio a chymorth i wasanaethau bws lleol. Wrth drafod dibynadwyedd—oherwydd credaf fod dibynadwyedd ac effeithlonrwydd ein rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol—rydym yn cytuno, rwy'n credu, fod buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol, ond rhaid inni hefyd ystyried y cynnydd yn llif traffig, mater tagfeydd, a hefyd ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio, a thrafodwyd pob un o'r rhain yn gynharach heddiw yn y pwyllgor.

Mae angen inni sicrhau cydbwysedd rhwng buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, technolegau newydd ac arferion gwaith gwell, mwy effeithlon ar gyfer sicrhau ymagwedd fwy cynaliadwy tuag at drafnidiaeth yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y cawn werth am arian a'n bod yn gwella effeithlonrwydd ym mhob cynllun trafnidiaeth.

Mae wedi hyrwyddo'r cyfle y mae ceir awtonomaidd yn eu cynnig i Gymru, ac rwy'n ei gefnogi'n llawn yn hynny o beth. A yw'n cydnabod, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ni, er mwyn manteisio'n llawn ar y cyfle hwnnw, fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd, marciau ffordd, arwynebau ffyrdd ac yn y blaen, ac argaeledd 5G? Felly, mae angen inni greu rhwydwaith ffyrdd clyfar a fydd yn caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwnnw.

Ie, buaswn yn cytuno gyda'r Aelod. Yn ddiweddar rhoddais gyfweliad i'r BBC lle y siaradais am botensial defnyddio prosiectau trafnidiaeth sy'n dod i'r amlwg fel cyfryngau ar gyfer profi cerbydau awtonomaidd a chysylltiedig. Credaf y gallwn hefyd ddefnyddio datblygiad y parc technoleg fodurol fel cyfle i roi Cymru ar y blaen o ran datblygu technolegau newydd modurol a'r defnydd ohonynt nid yn unig ar draws ein gwlad, ond hefyd ar draws Ewrop a thu hwnt.

Hoffwn ddweud yr hyn sy'n amlwg, Ddirprwy Lywydd, ond mae angen ei ailddatgan—mae'r amlen ariannol sydd gennym ar gyfer cyflawni ein cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yn parhau i fod yn eithriadol o heriol, gyda chyllidebau cyfalaf yn dal i fod o dan bwysau nas gwelwyd erioed o'r blaen o ganlyniad i bolisïau cyni'r Torïaid. Ond rydym yn gweithio'n galetach ac yn fwy clyfar, yn llawer mwy clyfar, er mwyn denu buddsoddiad newydd ac i sicrhau bod gwariant cyfalaf yn darparu'r buddiannau mwyaf yn y ffordd fwyaf effeithiol sy'n bosibl. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, yn datblygu amrywiaeth o fentrau ariannu arloesol, yn darparu hwb ychwanegol o tua £2.4 biliwn i gefnogi blaenoriaethau buddsoddi strategol y Llywodraeth, ac rwy'n hyderus y bydd y buddsoddiadau a argymhellir gennym ar draws pob dull a modd yn arwain at newid sylweddol yn ein system drafnidiaeth.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, dau bwynt ar sail y cyfraniadau heddiw. Yn gyntaf oll, byddai'n wirioneddol dda pe gallem weld y math o fuddsoddi y maent yn eu haeddu yn ein gwasanaethau rheilffordd a'n seilwaith rheilffyrdd. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn, wrth gwrs. Ac yn olaf, y ffordd orau o leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd fyddai cyflwyno trwyddedau gyrru graddedig ar gyfer pobl ifanc, menter y mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ei rhoi ar waith hyd yma, yn anffodus.

17:10

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn gwneud mor dda yn yr araith honno, tan y diwedd un, ac yn gwneud cymaint o synnwyr hyd nes bod y neges fach honno o'r famlong Corbyn wedi llithro i mewn i'ch araith, gan aelod o staff mae'n siŵr. Ni allaf ddychmygu eich bod o ddifrif yn credu'r sylw hwnnw am gyni ar y diwedd. Rwy'n credu y byddech yn debygol o fod yn llymach ar y—. Nid wyf am greu helynt i chi, felly ni wnaf barhau.

A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw? Ar ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at y ffaith nad yw'r ddadl hon wedi ei chynllunio mewn unrhyw fodd i fychanu pwysigrwydd mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, megis trenau a bysiau. Nid ydym yn awgrymu, Lee Waters, mai adeiladu ffyrdd yn unig sy'n mynd i ddatrys y broblem i chi, fel y credid yn rhy aml drwy gydol y 1950au, 1960au, y 1970au a thu hwnt. Rydym yn cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon am yr angen i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd a datblygu systemau metro yn ne Cymru a hefyd, yn gynyddol, yn y gogledd. Ac mae hyn yn sicr yn hanfodol er lles dyfodol economaidd Cymru. Ond—a dyma lle rwy'n cytuno gyda Ken Skates—mae angen dull cymysg o weithredu, a chrybwyllwyd hynny gennych ar ddechrau eich cyfraniad, Ysgrifennydd y Cabinet, dull cytbwys sy'n cydnabod yr angen i gael rhwydwaith ffyrdd modern wedi'i gynnal yn llawn, a chlyfar, fel y cafodd ei alw gan Adam Price. Felly, mae angen inni weithio tuag at hynny.

Wrth agor, croesawodd Russ George y cynnydd ar ffordd osgoi hirddisgwyliedig y Drenewydd, cynllun rydych wedi bod yn ei hyrwyddo bellach dros yr holl amser y buoch yma, Russ—a chyn hynny. Roeddech yn gresynu at arafwch rhai o'r cynlluniau eraill. At ei gilydd, mae'r problemau rydym wedi sôn amdanynt heddiw yn effeithio ar ardaloedd trefol a gwledig Cymru. Mae'n ystadegyn brawychus fod Caerdydd yn dioddef mwy nag unrhyw ddinas arall yn y DU o dagfeydd traffig heb fod ar oriau brig. Felly, effeithir ar fusnesau yma yn anghymesur gan ddiffyg hygyrchedd.

Soniodd David Rowlands a Mark Reckless am Rover Way. Gallaf ddweud nad ydych yn teithio ar hyd y ffordd honno cymaint ag a wnaf fi, mae'n debyg, Dave. Y ffordd i unman, fel y galwoch chi hi. Credaf mai fi oedd y person cyntaf i'w galw'n hynny, yn ôl yn ystod y Cynulliad diwethaf mewn dadl ar y gyllideb. Soniais hefyd ar y pryd am y gylchfan i unman a'r gyllideb i unman, ond roeddwn yn hael fy meirniadaeth ar y pryd am ei bod yn adeg pennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn. Ond roedd y ffordd honno, neu mae'r ffordd honno, credwch neu beidio, yn rhan o brosiect ffordd ddosbarthu berifferol Caerdydd, a ddechreuwyd gyntaf yn 1978, 40 mlynedd yn ôl erbyn heddiw. Rydym wedi bod yn aros am 40 mlynedd i weld y ffordd berifferol honno yn cael ei chwblhau, ffordd a ddisgrifiwyd unwaith gan Paddy Kitson, cyn-gadeirydd pwyllgor amgylchedd Cyngor Sir De Morgannwg, fel mwclis ffyniant y ddinas. Wel, yn y pen draw, gallai fod yn fwclis ffyniant os yw'r cysylltiadau eu hunain yn cysylltu â'i gilydd o'r diwedd a'u bod yn mynd yr holl ffordd o gwmpas.

Ond roedd gennyf bryderon yn ôl yn y gyllideb honno—roedd yn rhan o fargen gyllidebol, i'r rhai ohonoch nad oeddech yma yn y Cynulliad diwethaf, rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur ar y pryd. Rhan o hynny oedd dechrau camu tuag at gwblhau'r mwclis perifferol o ffyniant, ond cwestiynais ddilysrwydd adeiladu un cam o'r ffordd a pha un a oedd mewn gwirionedd yn sicrhau gwerth am arian. I bawb ohonom sy'n teithio ar hyd y ffordd honno yn awr, gallwch weld nad y ffordd honno'n unig sy'n profi tagfeydd ar adeg oriau brig; mae tagfeydd ar y ffyrdd cyfagos yn ogystal. Effeithir hefyd ar ffordd yr arfordir drwy Lansanffraid i Gasnewydd hyd yn oed. Felly, mae gwers i'w dysgu ynghylch gwneud penderfyniadau gwleidyddol byrdymor sy'n sicrhau pennawd i chi ar y pryd, ond dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, nid ydynt yn eich galluogi i gyrraedd sefyllfa mewn gwirionedd lle bydd gennych gynllun trafnidiaeth integredig, a gwn mai dyna fyddai'r Llywodraeth yn hoffi ei gael.

Rydym wedi sôn am ffordd osgoi'r Drenewydd. Mae cynllun gwella'r A465 ym Mlaenau'r Cymoedd i'w groesawu ac mae'n addo gwella amserau teithio ar hyd y llwybr hwn yn aruthrol pan fydd wedi cael ei gwblhau. Fel yr AC lleol dros y rhan gyfredol honno o'r cynllun, gwn yn rhy dda am y problemau sydd wedi bod yn gysylltiedig â'i ddarparu. Ydy, mae rhan Cwm Clydach yn her fawr o ran peirianneg, ond mae maint y gorwariant rydym yn edrych arno, a grybwyllwyd gan Lee Waters yn ei gyfraniad, a hyd yr oedi a ddisgwylir, yn peri pryder. Weithiau fe gewch yr argraff ei fod yn achos o, 'Adeiladwch ef ar bob cyfrif, waeth beth fo'r amserlen.' Oherwydd bod prosiect yn gymhleth ac oherwydd ei fod yn creu heriau penodol o ran peirianneg, nid yw hynny'n golygu y dylech daflu pob math o swm o arian ato, waeth beth fo'r gost, a waeth beth fo'r amserlenni dan sylw, ac mae pryder nad yw'n ymddangos bod cyllideb 2018 yn darparu digon ar gyfer gorwariant tebygol. Felly, mae angen sicrwydd fod hyn oll yn fforddiadwy yn y pen draw.

Os caf grybwyll gwelliant y Llywodraeth yn fyr, mae'n ein cyfeirio at y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato, ac ar yr wyneb, mae'r rhaglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf trafnidiaeth yn swnio'n iawn. Wrth gwrs, y broblem yw ein bod, yn rhy aml yn y Siambr hon, yn wynebu cynlluniau sydd, beth bynnag fo'u hyd, yn cael eu hanghofio yn niwloedd amser a'u gadael ar silffoedd llychlyd, cynlluniau nad ydynt mewn gwirionedd yn cyflawni'r amcanion y byddem wedi dymuno eu gweld ar un adeg. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr fod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac nad ydym ond yn taflu arian at rywbeth nad yw'n mynd i weithio yn y pen draw.

Mae integreiddio'n allweddol i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth modern, effeithlon a llwyddiannus. Rwyf wedi bod yn galw ers amser hir am sefydlu hyb metro yn y Celtic Manor, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd hyn yn darparu pwynt da yn ne-ddwyrain Cymru ar gyfer datblygu cysylltiadau trafnidiaeth ychwanegol wedyn ag ardaloedd cymudo gwledig megis Trefynwy, a thu hwnt yn wir. Ond wrth gwrs, ar y cychwyn, gwasanaethau bysiau yw'r gwasanaethau eilaidd ychwanegol hynny'n fwyaf tebygol o fod, gan wneud defnydd o ffyrdd a lonydd bysiau sy'n bodoli'n barod. Felly, unwaith eto, gwelwn bwysigrwydd cynnal y ffyrdd hynny. Nid yw'n fater syml o ddweud y gallwch roi popeth ar reilffyrdd ysgafn, gallwch roi popeth ar rwydwaith metro rheilffyrdd ac nad oes angen i chi gynnal y ffyrdd presennol. Mae arnom angen system gytbwys.

I gloi—rwy'n dod i ben, Ddirprwy Lywydd—hoffwn ddweud ychydig am gaffael, nad wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei grybwyll gan yr Aelodau heddiw. Sylweddolaf nad yw'n benodol yn rhan o friff Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n teimlo bod angen polisi caffael seilwaith newydd. Galwodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis Tachwedd diwethaf am welliant clir yn y modd y mae awdurdodau'n caffael gwasanaethau ar lefel genedlaethol, ac oddeutu 20 y cant yn unig—23 y cant—o wariant Llywodraeth Cymru ar waith adeiladu yn 2016-17 a enillwyd gan gwmnïau yng Nghymru. Nid yw hynny'n ddigon da. Beth bynnag fo'r prosiect seilwaith y gallech fod yn sôn amdano—ac yn yr achos hwn mae'n amlwg mai ein rhwydwaith ffyrdd ydyw—mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn caffael gan gwmnïau o Gymru, ac i ddychwelyd at sylwadau Suzy Davies yn ei chyfraniad, mae angen sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf o'r sefyllfa leol, gan gaffael yn lleol a gwneud defnydd da o'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn ogystal. Oherwydd mae'n ymwneud â mwy na'r rhwydwaith ffyrdd cenedlaethol—y rhwydwaith traffyrdd—mae'n ymwneud â sicrhau cymaint o ddefnydd â phosibl ar ein ffyrdd gwledig llai, sydd, mewn llawer o rannau o'r Gymru wledig, yn dadfeilio.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl hon heddiw? Credaf ei bod wedi bod yn ddadl werth chweil, a chredaf mai'r hyn a ddangosodd yw bod angen inni wneud yn siŵr fod gennym gynllun trafnidiaeth cytbwys, a dull cytbwys o ddarparu ar gyfer anghenion trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Os na chawn hyn yn iawn, yna yn y tymor canolig a'r tymor hir bydd economi Cymru yn dioddef. Nid oes yr un ohonom yma am i hynny ddigwydd, felly gadewch inni ddechrau'r cynnydd hwnnw tuag at y dyfodol yn awr a gwneud yn siŵr fod gennym rwydwaith ffyrdd yng Nghymru sy'n ategu ein trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac sy'n diwallu'r anghenion cymudo a thrafnidiaeth y mae'r Cymry fwyaf o'u hangen.

17:15

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Tai i'r digatref

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. 

Y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dai i bobl ddigartref, a galwaf ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6621 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'.

Cynigiwyd y cynnig.

Hoffwn i ddweud ei fod yn bleser gyda ni i gael y ddadl yma heddiw, ond yn anffodus mae'n rhywbeth nad ydym yn hapus i'w gael fel trafodaeth yma heddiw, oherwydd ni ddylai rhywbeth fel digartrefedd fodoli yn ein cymdeithas ni, o feddwl bod ein cymdeithas yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog yn y byd. Rwy'n credu bod digartrefedd yn adlewyrchu yn wael ar gymdeithas, a dylem ni wneud mwy yn ein gallu i newid yr hyn sydd yn bodoli o ran digartrefedd. 

Rydym yn cael y ddadl yma heddiw oherwydd rydym yn cydnabod, fel plaid, nad yw digartrefedd yn rhywbeth ond i'w drafod yn ystod cyfnod y Nadolig pan mae yna ffocws ar ddigatrefedd a phan mae yna fwy o bwysau ar wasanaethau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni edrych i'r hirdymor i edrych am bolisiau sydd yn mynd i fynd at wraidd y broblem—syniadau radical y bydd rhai o'm cyd-Aelodau yn siarad amdanynt a fydd yn gallu newid yr hyn sydd yn realiti i bobl bob dydd.

Rydym wedi gweld rhai cynghorau yng Nghymru yn symud pobl oddi ar y stryd a symud nhw mewn ffordd sydd yn anghyfforddus i nifer ohonom ni. Byddwn i'n dweud, fel mae Shelter Cymru wedi dweud, na ddylid symud pobl oddi ar y stryd hyd nes bod yna rywle i roi y bobl hynny, rhywle sydd yn rhoi to uwch eu pen ac nid symud nhw i stryd arall, efallai i stryd sydd yn llai gweladwy lle nad yw'r siopau mor ddeniadol, lle maen nhw'n symud y broblem o un lle y ein cymdeithas i le arall yn ein cymdeithas. Nid hynny yw'r ateb i'r problemau. 

Rydym yn gwybod, wrth gwrs, nad ydym yn gallu cael hyd i bob ateb yma yng Nghymru. Mae yna broblemau macro-economaidd, mae yna broblemau gyda'r system wladwriaeth les, ac mae angen cydnabod bod San Steffan yn gallu newid y sefyllfa hynny er mwyn hwyluso’r broblem o ddigartrefedd. Ond eto i gyd, mae yna bwerau yma yng Nghymru lle rydym yn gallu newid y system sydd ohoni a newid deddfwriaeth er mwyn ein bod ni’n helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd.

Rwy’n siŵr bod lot o bobl wedi clywed yr ystadegau yma, ond fe wnaeth rywun ddweud wrthyf—ac roedd hyn yn taro tant—pan rŷm ni’n cael payslips, mai dim ond dau payslip ydym ni o fod yn ddigartref ein hunain. Felly mae pob un ohonom yma efallai wedi, neu’n mynd i wynebu, sefyllfa ariannol lle y byddwn ni’n wynebu digartrefedd, efallai oherwydd trais domestig, efallai oherwydd sefyllfa ariannol, efallai oherwydd bod sefyllfa gwaith yn newid. Felly, pan rydym yn trafod y materion yma, nid ydyn nhw’n faterion sydd dim ond yn effeithio ar bobl eraill yn ein cymdeithas; maen nhw’n effeithio ar bobl yn ein teuluoedd, pobl rydym yn eu hadnabod yn ein cymdeithasau lleol a phobl sydd yn agos atom ni hefyd.

Mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi bod yn gymysg wrth ymateb i'r argyfwng cynyddol hwn. Er ein bod wedi gweld peth deddfwriaeth solet sy'n flaengar ac yn ataliol a photiau o arian wedi'u cyhoeddi dros y blynyddoedd, mae angen edrych yn fwy trylwyr ar sut y gallwn newid a gwella ein polisïau. Er enghraifft, fel y dywedais ddoe, nid yw cyhoeddi potiau o arian cyn y Nadolig yn ddigon, ac nid yw cyhoeddi cynlluniau 10 mlynedd amwys, nad oes fawr neb yn y sector digartrefedd i'w gweld yn gwybod amdanynt, heb sôn am Aelodau'r Cynulliad, yn ateb credadwy i'r broblem mewn gwirionedd.

Mae i Brif Weinidog Cymru fynd allan a dweud y bydd yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, tra'i fod ar yr un pryd yn cynnwys eitem cyllideb arfaethedig sy'n cael gwared ar ffrwd ariannu ar wahân a ddiogelir ar gyfer Cefnogi Pobl ac yn ei chyfuno ag eitemau nad ydynt yn gysylltiedig â thai, i'w weld fel rhoi ag un llaw a thynnu'r mat o dan draed pobl sydd mewn perygl gyda'r llall. Felly, mae angen inni benderfynu a yw Cefnogi Pobl yn flaenoriaeth sy'n rhaid ei chlustnodi a'i diogelu o ran y nod penodol hwn, neu os nad yw, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fod yn glir yn ei gylch ac mae'n rhaid iddi ddweud wrthym yn awr.

Cred Plaid Cymru fod angen dau beth ar frys. Yn gyntaf, mae angen inni symud at bolisi tai yn gyntaf. Mae wedi bod yn dda gweld cynlluniau peilot ar hyn ledled Cymru, a hoffwn weld canlyniad y cynlluniau peilot hynny. Nid breuddwyd ffŵl yw hon; ceir cynlluniau peilot ar hyn o bryd ar draws y DU yn Manceinion, Newcastle, Llundain a chanolbarth Lloegr. Ac yn yr Unol Daleithiau, mae talaith Utah, un o'r taleithiau mwyaf cyson Geidwadol sy'n gogwyddo tuag at yr asgell dde, wedi gweithredu Tai yn Gyntaf ers dros ddegawd. Cafwyd gostyngiad o 91 y cant yn nifer y bobl ddigartref yn y dalaith honno rhwng 2005 a 2016, a chyflwynwyd Tai yn Gyntaf gan y Llywodraeth yn y dalaith honno am reswm syml: gyda chyllidebau o dan bwysau, roedd yn gwneud synnwyr ariannol. Credwn fod yna sylfaen dystiolaeth glir bellach y byddai'n lleihau ymrwymiadau ariannol sy'n gysylltiedig â digartrefedd yma hefyd, a bydd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth, gobeithio, yn amlinellu manteision ariannol tai yn gyntaf yn nes ymlaen. Nid polisi i'r rhai ohonom sydd o dueddfryd gwleidyddol blaengar yn unig yw hwn. Mae'n torri ar draws llinellau plaid ac ideoleg, waeth beth fo'ch safbwynt wrth fynd i'r afael â digartrefedd.

Yn ail, mae angen inni roi diwedd ar angen blaenoriaethol. Mae pawb ohonom yn gwybod beth yw'r broblem. Mae rhywun mewn perygl gwirioneddol o ddigartrefedd ac mae'r person hwnnw'n credu y gallai fod mewn perygl, ond pan fyddant yn mynd i ofyn am gymorth, dywedir wrthynt, am nad ydynt yn deulu, am nad oes ganddynt nodweddion penodol, efallai na chânt eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth penodol hwnnw. A'r hyn rydym yn ei glywed gan Shelter, gan Crisis ac eraill yw nad yw pobl yn mynd i chwilio am help yn awr am eu bod yn dadansoddi drostynt eu hunain nad ydynt yn flaenoriaeth—dynion ifanc sengl fel arfer—ac oherwydd hynny nid ydynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Felly, gwelaf fod rhinwedd mawr mewn rhoi diwedd ar yr angen blaenoriaethol. Eto yn ôl—. Ymddengys fy mod yn dyfynnu Shelter—dylwn ddweud nad ydynt yn fy nhalu—ond maent yn dweud wrthym y gellir ei wneud heb ddeddfwriaeth sylfaenol, gan fod y Ddeddf Tai yn rhoi pŵer i'r Gweinidog ychwanegu neu ddileu grwpiau ag angen blaenoriaethol. Felly, mae'n rhywbeth y gellir ei wneud yn gymharol hawdd a buaswn yn barod i wrando i weld a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn meddwl ei wneud neu'n rhywbeth y gallwn weithio gyda'r Llywodraeth i'w wneud.

Fel y dywedais, nid oes un ateb sy'n gweddu i bawb. Rhaid inni edrych ar bob achos wrth iddo ddod ger ein bron, pa un a oes gennych broblemau camddefnyddio sylweddau neu drais domestig, neu eich bod wedi cael eich diswyddo. Mae'r rhain i gyd yn unigryw, ond rhaid inni drin pawb gyda'r parch y maent yn ei haeddu. A chredaf fod pennu bod rhywun yn flaenoriaeth ac nad yw rhywun arall yn flaenoriaeth yn anesmwytho pobl yn y sector, a'r bobl sy'n ceisio cymorth gan y gwasanaethau hynny hefyd.

Nid wyf yn bwriadu cefnogi'r gwelliant gan Lywodraeth Cymru, oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn mynd mor bell â'r hyn rydym yn ei ddweud yma heddiw, ond rwy'n barod i wrando. Mae pawb yn y Siambr hon yn cydnabod ei fod yn fater pwysig, ond sut rydym am ei flaenoriaethu o hyn allan a sut y gallwn symud ymlaen fel nad ydym yma mewn blwyddyn yn trafod y materion hyn. Felly, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pawb arall yma heddiw. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach.

2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau penodol i rai grwpiau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies? David.

Gwelliant 2. Paul Davies

Dileu popeth cyn 'fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi "tai yn gyntaf"' a rhoi yn ei le:

'Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben erbyn 2020,'

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Mae'n bwnc pwysig iawn, ac roedd yn eithaf ingol, yr hyn a ddywedodd Bethan—wrth nesáu at y Nadolig, mae fel un o'r pethau sy'n cael sylw bob blwyddyn, ac mewn gwirionedd, mae angen mwy o uchelgais na hynny. Credaf fod defnyddio eich amser ar gyfer dadl plaid leiafrifol ar dai a digartrefedd y prynhawn yma yn ffordd dda o wneud hynny. Rwy'n meddwl, ac efallai ei fod yn adeiladu ar yr hyn a ddywedodd Bethan, fod llawer o gonsensws yn y maes hwn am y flaenoriaeth sydd angen ei rhoi i fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol hon, ond hefyd y ffaith ei bod, o bosibl, yn mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. Dyna pam y credaf fod y syniad o gomisiwn, comisiwn hollbleidiol, i gyfarfod a mynd i'r afael go iawn â strategaeth a allai ein huno ond a fyddai'n cael blaenoriaeth ddigon uchel o ran beth yw ein hamcanion, ac i osod targed penodol iawn hefyd i gael gwared ar gysgu ar y stryd—. Credaf fod llawer ohonom yn gweld digartrefedd a chysgu ar y stryd—maent yn creu heriau ychydig yn wahanol.

Mae cysgu ar y stryd yn warth llwyr yn fy marn i—gwarth ei fod yn digwydd. Rwy'n perthyn i genhedlaeth pan allwch ei gofio'n dechrau, mewn gwirionedd, fel ffenomen. Nid yw'n rhywbeth a fu gennym ers yr ail ryfel byd, o reidrwydd, ac roedd adeg pan nad oedd ond un neu ddau o bobl mewn trefi a dinasoedd. Credaf fod gwir angen inni edrych ar hyn. Mae'n ffenomen ddofn iawn, ac mae angen ymdrin â hi'n ofalus iawn, ond rwy'n cymeradwyo gwaith maer Manceinion, Andy Burnham, sydd wedi gosod targed ar gyfer 2020. Dyna pam ei fod yn ein gwelliant. Efallai y bydd gan eraill farn ar hynny, ond credaf y gallai comisiwn ei ystyried, ond gan ddechrau o ddifrif gyda chysgu ar y stryd a rhoi terfyn ar hynny cyn gynted â phosibl, ac yna strategaeth uchelgeisiol hefyd ar gyfer digartrefedd, a bydd yn rhaid iddi fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o bethau, gan gynnwys rhagor o dai cymdeithasol. Ond credaf ei bod yn bryd codi'r bar a pheidio â mynd i'r cylch hwn o drafod yn flynyddol o gwmpas adeg y Nadolig, ond mae'r broblem yn parhau, ac nid yw'n ymddangos ei bod yn mynd i'r cyfeiriad rydym eisiau iddi fynd o ran ateb cynaliadwy.

A gaf fi cyfeirio at adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd ddoe? Credaf ei bod yn bwysig inni fyfyrio ar hynny. Yn amlwg, rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn edrych a y mater. Mae'n dechrau drwy ddweud bod hwn yn faes heriol, a dyna pam rwyf o'r farn fod angen ymagwedd drawsbleidiol hefyd. Nid yw'n ddeunydd ar gyfer colbio gwleidyddol yn fy marn i. Credaf fod angen inni fynd y tu hwnt i hynny go iawn. Caiff ei achosi gan amrywiaeth o resymau cymhleth sy'n gorgyffwrdd, ac fel y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn dweud,

'mae a wnelo datrys digartrefedd â llawer mwy na rhoi cartref i bobl.'

Mae'n gysylltiedig â llawer o agweddau ar fywyd rhywun. Fodd bynnag, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ymwybodol, er bod y newid a ddaeth i mewn gyda'r Ddeddf tai i droi tuag at atal wedi cael ei ganmol yn eang, nid yw awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf honno mewn ffordd gyson, ond hefyd, mae'n destun pryder mawr yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, nad ydynt yn gwneud hynny o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 chwaith, na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, unwaith eto, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym y statudau hynny yno a ddylai sicrhau bod yr angen hwn yn cael ei ddiwallu'n llawer mwy effeithiol, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i bob plaid ddod at ei gilydd i wthio'r agenda honno.

Credaf fod yna rai gwersi clir i awdurdodau lleol hefyd. Gall y Llywodraeth osod y fframwaith deddfwriaethol a'r blaenoriaethau a'r gyllideb, ond caiff y gwaith ei gyflawni gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ac asiantaethau allweddol eraill. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei ddweud yno yn bwysig dros ben: sgiliau rheoli'r galw, yr angen i ddarparu cyngor a gwybodaeth. Ac er tegwch i'r Llywodraeth, er bod Bethan wedi sôn am gategorïau blaenoriaeth ar gyfer digartrefedd, mae gan bawb hawl i gyngor a gwybodaeth am dai, ac rwy'n credu bod llawer o'r farn mai dyna un o fanteision allweddol y ddeddfwriaeth. Mae cydweithio effeithiol yn allweddol, ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau hefyd, rhywbeth sy'n aml ar goll.

Mae fy amser wedi dod i ben yn awr, ond a gaf fi gymeradwyo'r model tai yn gyntaf? Mae'n sicr yn rhywbeth rydym wedi edrych arno, ac yn teimlo ei fod yn ffordd dda o symud ymlaen—. Mae'r syniad eich bod yn dechrau gydag unigolyn mewn cartref a'ch bod yn adeiladu o gwmpas hynny wedi bod yn gam allweddol ymlaen mewn rhai mannau diddorol iawn, fel y dangosodd Bethan gyda'i henghraifft yn Utah. Felly, credaf fod llawer o rinwedd mewn dilyn y llwybr hwnnw hefyd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:30

Rydw i am edrych ar Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'r newidiadau sydd eu hangen. Mae David Melding wedi cyfeirio at y Ddeddf yma yn barod. Yn sicr, roedd y ddeddfwriaeth yn 2014 yn cynnwys llawer o bethau cadarnhaol. Er enghraifft, roedd hi'n ymestyn yr amser y gall unigolion ddod at awdurdod lleol pan oedden nhw o dan fygythiad o fod yn ddigartref, o 28 diwrnod i 56 diwrnod, a hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal pob unigolyn rhag bod yn ddigartref. Ond, fel erioed, mae gweithredu wedi profi'n anodd, a'r wythnos yma, fe glywsom gan y swyddfa archwilio, ac yn dod i'r casgliad yma: mae awdurdodau lleol yn llwyddo, i wahanol raddau, i ymateb i'r problemau a achosir gan ddigartrefedd, ond nid oes fawr o ganolbwyntio ar atal achosion sylfaenol digartrefedd. Dywedodd 17 o'r 22 awdurdod eu bod nhw'n cael anhawster wrth drosi i'r system newydd, ac yn methu hyfforddi a rhoi sgiliau newydd i'r staff am y system newydd yma. Ac mi ddaeth y swyddfa archwilio hefyd i'r casgliad bod camau llwyddiannus gan awdurdodau lleol i atal digartrefedd wedi gostwng.

Rydw i yn ymwybodol iawn fod problemau penodol wedi codi ym Mangor, yn fy etholaeth i, er enghraifft, lle mae yna nifer cynyddol yn cysgu allan—ar y mynydd, yn aml iawn. Mae camau ar droed i ganfod ateb i'r broblem gynyddol, ac mi fyddaf i yn mynychu cyfarfod efo'r holl asiantaethau priodol—yn cynnwys cynghorwyr lleol, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a'r trydydd sector—yn yr wythnosau nesaf yma, i geisio datrysiad i'r sefyllfa benodol honno.

Mae gweithredu'r Ddeddf yn un peth, ond mae yna broblemau sylfaenol efo Deddf tai 2014 o ran beth yr oedd hi'n bwriadu ei wneud, er enghraifft y profion am flaenoriaeth angen ac am ddigartrefedd bwriadol. Mae rhaid, o dan y Ddeddf yma, cynnal y profion hynny, o ran asesu a oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu tai i unigolion. Ac fe gadwyd y prawf Pereira annheg, er mwyn profi bod rhywun yn fregus. Nid yn unig cafodd o ei gadw yn Neddf 2014, mi gafodd o ei osod ar wyneb y Bil, ac mae hynny'n golygu mai Cymru ydy'r unig wlad ym Mhrydain sydd yn parhau efo'r statws yma, ac mae'n rhaid profi bod rhywun yn fregus mewn cymhariaeth â bod yn unigolyn digartref arferol. Felly, mewn gwirionedd, medrir dadlau bod deddfwriaeth ers 2014 wedi mynd â ni nôl, ac yn sicr nid yw'r profion yma yn gydnaws â'r polisi cartrefi'n gyntaf yr oedd Bethan yn sôn amdano fo. 

I wneud pethau'n waeth, nid oedd rhaid i bethau fod fel hyn, achos mi oedd yna Bapur Gwyn yn 2012, a ddaeth cyn y ddeddfwriaeth, a oedd yn cynnig gwneud i ffwrdd efo'r profion yna. Mi fuasai dilyn beth oedd yn y Papur Gwyn wedi bod yn gydnaws â pholisi cartrefi yn gyntaf. Ond, am ryw reswm, dewisodd Llywodraeth  Cymru beidio â dilyn y trywydd yna. Petai'r system amgen honno wedi bod ar waith, yn lle cysgu allan, gallai unrhyw unigolyn digartref ers 2014 fod wedi cael llety addas dros dro, lle byddai cyfle wedi bod i osgoi'r problemau sydd yn dod efo cysgu allan yn gyson, ac fe ellid bod wedi dod o hyd i ateb tymor hir.

Yr Alban sydd wedi bod yn cymryd yr agwedd fwyaf blaengar yn y maes yma. Yn yr Alban, nid ydy awdurdodau lleol bellach yn gorfod gweithredu'r profion yr oeddwn yn sôn amdanyn nhw, ac mae Deddf 2012 yr Alban yn rhoi hawl i unrhyw un sy'n dod yn ddigartref yn anfwriadol gael llety sefydlog. Felly, mae'n amlwg ein bod ni ymhell o'r fan y mae angen inni fod os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd—mynd i'r afael ag o mewn gwirionedd, ac yn fwriadus ac yn bwrpasol.

Rydw i'n gwybod bod y pwyllgor cydraddoldeb yn mynd i fod yn gwneud ymchwiliad i gysgu allan, ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad yna. Mae angen symud yn gyflym tuag at egwyddorion cartrefi yn gyntaf. Nid ydy cyhoeddi cynlluniau 10 mlynedd yn y cyfryngau yn ffordd ymlaen. Efallai mai'r gobaith ydy, wrth gyhoeddi hynny, na fyddai neb yn sylwi ein bod ni eisoes bron â dod i ddiwedd oes y cynllun 10 mlynedd blaenorol. Nid ydy hynny yn ddigon da. Rwy'n gobeithio y medrwn ni symud ymlaen o le'r ydym ni heddiw i gael atebion hirdymor i'r broblem barhaus yma. Diolch.     

17:35

Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw'n fawr, fel y mae eraill wedi'i wneud, oherwydd mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn faterion o bwys mawr sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Rydym wedi gweld rhai newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau, ac mae angen inni werthuso'r rheini ac ystyried beth arall sydd ei angen os ydym i wneud y cynnydd rwy'n siŵr y byddai pawb yn hoffi ei weld.

Credaf fod y rhai ohonom sydd â thai sefydlog, diogel, o ansawdd da fel sylfaen ar gyfer mwynhau bywyd ohoni, fel sylfaen i fentro allan oddi arni, ym mhob agwedd ar fywyd, yn ffodus iawn o'u cymharu â rhai nad oes ganddynt sylfaen o'r fath. Dylai pawb sy'n byw yng Nghymru gael sylfaen o'r fath mewn gwirionedd, ond yn anffodus, ac yn amlwg, nid felly y bo. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn troi ein meddyliau fwyfwy i edrych ar sut y darparwn dai sefydlog a diogel o ansawdd da i bawb yn ein gwlad.

Ychydig fisoedd yn ôl, euthum ar daith frecwast y Wallich yng Nghasnewydd, profiad a oedd yn addysgiadol iawn. Maent yn darparu bwyd a diodydd poeth, yn atgyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer rhai sy'n cysgu ar y stryd mewn gwahanol rannau o Gymru. Yn amlwg, euthum o amgylch Casnewydd gyda hwy. Roedd yn galonogol gweld ansawdd y berthynas roeddent wedi'i meithrin â'r rhai a oedd yn cysgu ar y stryd a'r ffordd roeddent yn ymgysylltu â dinasyddion yn gyffredinol. Felly, os oedd pobl yn gweld pobl yn cysgu ar y strydoedd yn gyson dros rai dyddiau, gallent roi gwybod am hynny ar wefan. Byddai'r Wallich wedyn yn gwneud y cysylltiad ac yn darganfod pa wasanaethau y gallent eu darparu i'r bobl hynny—gan gynnwys bwyd poeth, diod boeth, dillad, lloches ar ffurf pebyll, sachau cysgu ac ati—a'u hatgyfeirio at ymarferwyr cyffredinol lleol yr oedd y Wallich wedi gwneud trefniadau â hwy; ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau eraill, gan gynnwys, wrth gwrs, ceisio eu symud tuag at y llety sefydlog a diogel o ansawdd da a fyddai'n darparu atebion hirdymor. Felly, roedd yn addysgiadol iawn, ac roedd yn dda gwybod bod sefydliadau fel y Wallich allan yno'n gwneud y gwaith gwerthfawr hwn.

Aethom o amgylch canol y ddinas. Ceir llawer iawn o broblemau yno, fel mewn rhannau eraill o Gymru y byddwn yn darllen amdanynt yn rheolaidd rwy'n siŵr—pobl yn cysgu ar y stryd, yn cardota ar y strydoedd, y problemau y mae hynny'n eu creu i bobl yn yr amgylchiadau mwyaf enbyd, ond hefyd i fywiogrwydd a chynaliadwyedd canol ein dinasoedd.

17:40

Tybed a oedd yr Aelod wedi cael unrhyw adborth ar yr ymgynghoriad y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ei wneud yn awr ar ryw fath o orchmynion gwasgaru ar gyfer digartrefedd ac atal y digartref rhag cysgu yng nghanol dinasoedd. Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r dull anghywir o weithredu, yn hytrach na gweithio gyda grwpiau o bobl. Yn amlwg, mae'r Aelod am weithio gyda hwy ac mae wedi gwneud hynny yn ei etholaeth leol, ond a oes ganddo rywbeth i'w ddweud am hynny, ac a yw'n credu bod yna ffordd amgen o fynd i'r afael â'r hyn a all fod yn broblem yng nghanol dinasoedd, yma yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd wrth gwrs?

Mae'n broblem ledled Cymru ac ymhell y tu hwnt i Gymru, ac mae dadl fywiog yn digwydd yng Nghasnewydd, ac mewn rhannau eraill o Gymru rwy'n siŵr, ynglŷn â beth yw'r dull gorau. Rwy'n cymryd rhan yn y ddadl honno ar hyn o bryd. Un agwedd gadarnhaol ar y mater, rwy'n meddwl, yw ardal gwella busnes Newport Now, sefydliad sy'n cynnwys llawer o fasnachwyr canol y ddinas, ac sy'n datblygu cynnig ar gyfer dargyfeirio rhodd, cynnig y credaf ei fod yn gadarnhaol iawn mewn llawer o ffyrdd ac mae'n cynnwys asiantaethau gwahanol. Felly, byddai hynny'n annog pobl i roi arian i siopau sy'n rhan o'r cynllun. Byddai ganddynt bosteri'n dangos eu bod yn rhan ohono ac yna byddai'r arian hwnnw'n mynd i asiantaethau a fyddai'n darparu mwy o gefnogaeth a chymorth i'r rhai yng Nghasnewydd sy'n cysgu ar y stryd. Dyna ddewis arall, felly, yn lle rhoi arian yn uniongyrchol i bobl ar y stryd, a allai barhau eu problemau gyda chamddefnyddio sylweddau, er enghraifft. Felly, mae yna syniadau llawn dychymyg o amgylch Casnewydd, ac fel rwy'n dweud, mae dadl fywiog yn mynd rhagddi ar hyn o bryd.

Ddirprwy Lywydd, un mater arall yr hoffwn gyfeirio ato cyn i'r amser a neilltuwyd ar fy nghyfer ddod i ben yn y Siambr yw pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar. Unwaith eto, rwy'n gwybod bod trafodaeth fywiog yn mynd rhagddi ar hyn. Mae newidiadau wedi digwydd mewn perthynas â'r Ddeddf tai a gafodd wared ar flaenoriaethu awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar, a gwn fod llawer o'r sefydliadau yn y sector yn bryderus iawn am hyn. Rwyf innau hefyd yn bryderus ynglŷn â hyn oherwydd mae'n ymddangos bod yr ystadegau'n dangos cynnydd mewn digartrefedd a chysgu ar y stryd ymhlith pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar. Credaf y gallai pawb ohonom yn hawdd ddeall canlyniadau hynny o ran mwy o droseddu, mwy o ddioddefwyr troseddau, problemau i'r bobl sy'n gadael carchar a'r gymdeithas yn gyffredinol, a chostau ychwanegol yn wir i'r pwrs cyhoeddus. Felly, os yw hynny'n wir, os yw Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y tueddiad hwnnw wedi digwydd neu yn digwydd, yna buaswn yn gobeithio'n fawr iawn ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru edrych ar y broblem honno ac adolygu yr hyn a wnaed efallai, a gweld sut y gallwn ymdrin â'r problemau hynny wrth inni symud ymlaen, oherwydd credaf fod hynny'n peri pryder mawr i'r sefydliadau hynny, ac i minnau hefyd yn sicr.

Rwy'n croesawu dadl Plaid Cymru heddiw a'r cyfle i gyfrannu ati.

Nid Cymru yw'r wlad gyfoethocaf yn y byd, ond rydym yn rhan ddatblygedig o'r byd gorllewinol, ac yn un o'r economïau mwyaf a chyfoethocaf yn y byd, ac eto caiff rhai pobl eu gorfodi i fod yn ddigartref, ac mae hynny'n golygu, fel cymdeithas, ein bod oll yn methu ar un o'r pethau sylfaenol. Dyna pam y mae arnom angen llawer mwy o dosturi mewn perthynas â'r cwestiwn hwn.

Rhaid i roi diwedd ar ddigartrefedd ddod yn amcan cenedlaethol, ond mae safbwyntiau anghywir ac wedi'u gorliwio yn dal i fodoli am bobl ddigartref. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch yn cofio'r Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ychydig cyn y Nadolig, yn dweud ei bod yn amlwg

'bod rhai pobl wedi byw ar y strydoedd ers blynyddoedd, ac i rai pobl mae'n ymddangos ei fod yn ddewis y maen nhw'n ei wneud'.

Wel, mewn gwirionedd nid wyf yn ei gofio'n ei ddweud ar y pryd, ond yn ôl ym 1988, drwy gyd-ddigwyddiad, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau a ffrind Margaret Thatcher, Ronald Reagan:

Maent yn ei wneud yn ddewis iddynt eu hunain i aros yno. Ceir llochesi ymron bob dinas, ac mae llochesi yma, ac mae'n well gan y bobl hynny fod allan ar y pafin neu'r lawnt na mynd i un o'r llochesi hynny.

A welwch chi'r tebygrwydd?

Mae llochesi'n chwarae rôl hanfodol yn atal y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd rhag cynyddu ymhellach, ond mae yna resymau cymhleth pam nad yw rhai pobl yn eu defnyddio, ac yn dewis peidio â mynd i lochesi. Mae'r rhesymau hynny'n amrywio o broblemau camddefnyddio sylweddau, euogfarnau troseddol blaenorol, i ba un a yw anifeiliaid yn cael eu caniatáu mewn llochesi a pha un ai ystafelloedd sengl neu gyfleusterau cymunedol sydd ganddynt.

Felly, sut y gallwn fynd i'r afael â phroblem digartrefedd? Bellach mae angen inni weithredu'r hyn a elwir yn bolisi tai yn gyntaf. Byddai hyn yn rhoi dewis o opsiynau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref wrth ddod o hyd i lety parhaol.

Gan droi at y mesurau sydd ar waith i atal digartrefedd, rwyf wedi dadlau ers amser hir fod angen mwy o weithredu a mwy o uchelgais. Fis yn ôl, pan heriais y Prif Weinidog ynghylch pa gamau yr oedd yn eu rhoi ar waith mewn gwirionedd, nid oedd yn swnio'n hyderus iawn yn ei atebion. Mae'n ddiddorol nodi na soniodd ar y pryd ei fod yn bwriadu buddsoddi £10 miliwn mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc—cyhoeddiad a wnaed oddeutu wythnos yn ddiweddarach.

Roedd yn dda gweld bod y pwysau ychwanegol hwn wedi sicrhau'r buddsoddiad o £10 miliwn ond fel y mae pethau, mae'n swm bach iawn ac mae'n dangos diffyg uchelgais go iawn. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori ymlaen llaw, er syndod amlwg i'r sector. Hefyd, mae'n ymddangos ei fod yn anwybyddu bodolaeth polisi a sefydlwyd ers 10 mlynedd a oedd i fod i gael gwared ar ddigartrefedd erbyn y flwyddyn nesaf. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllun strategol i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd. Ceir rhaglenni eraill da iawn allan yno: cynlluniau mwy o faint, mwy uchelgeisiol, lle y cafwyd tystiolaeth briodol o ymgynghoriadau, yn enwedig y rhaglenni y mae rhai wedi sôn amdanynt eisoes sy'n cael eu datblygu ym Manceinion.

Rwyf am droi yn awr, er hynny, at y cwestiwn o atal digartrefedd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn deall gwerth y gyllideb Cefnogi Pobl. Pan fo Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi argymell dileu'r cynllun, mae Plaid Cymru wedi camu i'r adwy i'w ddiogelu. Mae bron yn draddodiad bellach ein bod wedi gorfod gwneud hyn. Cytundeb y gyllideb yn ddiweddar yw'r trydydd tro y bu'n rhaid i ni ymyrryd i sicrhau bod y llif arian gwerthfawr hwn yn cael ei ddiogelu. Beth y mae'n ei ddweud ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi gorfod gwneud hyn? Rydym wedi cael sicrwydd fel rhan o'r fargen gyllidebol ddiweddar y caiff cyllid Cefnogi Pobl ei diogelu am y ddwy flynedd nesaf. Os daw tystiolaeth i'r fei o unrhyw lithriad yn y diogelwch hwnnw, bydd hynny'n torri cytundeb y gyllideb ac yn bwysicach, yn gwneud cam â phobl sydd mewn perygl yn y wlad hon, ac nid yw'r bobl hynny'n haeddu cael eu siomi ymhellach.

Ceir newidiadau polisi y gallai'r Llywodraeth eu rhoi ar waith yn awr. Gallech roi diwedd ar angen blaenoriaethol, gallech roi diwedd ar y prawf Pereira, gallech roi diwedd ar brawf bwriad, gallech greu dyletswydd gyffredinol wedi ei hariannu i ddarparu llety addas, hyd yn oed os mai lloches addas tra doir o hyd i gartref parhaol ydyw. Mae digartrefedd yn bla yn 2018. Mae'n broblem gymdeithasol gynyddol, ac mae angen ymagwedd newydd radical ar ôl bron i ddegawd o gyni. Dylai niferoedd y bobl sy'n cysgu ar strydoedd Cymru neu sy'n byw o un soffa i'r llall godi cywilydd ar bob un ohonom. A ydym yn cywilyddio digon i wneud rhywbeth ystyrlon am y broblem?

Ni ddylai'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei amlinellu yma heddiw swnio'n rhy radical oherwydd dyma'n union a gynigiwyd ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth yn 2012. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers llawer gormod o amser bellach; mae'n bryd gweithredu o ddifrif.

17:45

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a diolch i Blaid Cymru am dynnu ein sylw ati. Mae digartrefedd yn yr unfed ganrif ar hugain yn foesol anfaddeuol. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau, o ran y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, fod y galw yn bodloni'r cyflenwad. Blaengynllunio yw'r enw arno. Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn un o'r rhesymau allweddol y penderfynais ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth. Yn y gwasanaeth carchardai, gwelais lawer gormod o ddynion ifanc a oedd wedi troseddu er mwyn cael to uwch eu pennau a phrydau bwyd poeth bob dydd. Mae i unigolyn gael ei arestio am gardota yn sarhad estynedig mewn sefyllfa sydd eisoes yn anffodus i'r unigolyn.

Er bod llawer o bethau'n gallu achosi digartrefedd, y prif gyfrannwr yw diffyg tai. Nid ydym yn codi digon o gartrefi newydd, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Mae arbenigwyr yn rhagweld bod angen inni adeiladu 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Yn anffodus, hanner y nifer hwnnw'n unig sy'n cael eu hadeiladu. Mae'r diffyg tai wedi arwain at wneud 2,652 o aelwydydd yn ddigartref rhwng mis Ebrill a mis Mehefin y llynedd, ac arweiniodd at fygythiad o fynd yn ddigartref o fewn wyth wythnos i bron 2,000 o aelwydydd.

Ceir tua 2,000 o aelwydydd mewn llety dros dro a dros 200 o'r rheini mewn llety gwely a brecwast. Roedd 13 y cant o'r rheini mewn gwely a brecwast yn deuluoedd â phlant, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol neu dai fforddiadwy i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae—

17:50

Diolch yn fawr iawn. Rydych wedi amlinellu'r prinder o dai cymdeithasol. A allwch weld mai un o'r problemau sy'n creu'r prinder tai cymdeithasol yw'r cynllun hawl i brynu, ac a ydych yn gwrthwynebu'r cynllun hawl i brynu am y rheswm hwnnw?

Pan oedd cynllun hawl i brynu'n bodoli, rwy'n credu y dylai'r arian a gymerwyd o'r cynllun hawl i brynu fod wedi cael ei ailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol.

Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn, ac eto, tri chwarter y swm hwnnw'n unig a adeiladwyd y llynedd ac maent yn dibynnu ar y sector preifat i adeiladu dros draean o'r tai fforddiadwy yng Nghymru drwy gytundebau adran 106. Mae datblygwyr preifat yn dweud wrthym eu bod yn cael eu llesteirio rhag adeiladu mwy o gartrefi oherwydd biwrocratiaeth a system gynllunio rhy fiwrocrataidd. Mae'n dweud hefyd nad oes cyflenwad digonol o dir, a chostau ychwanegol o ganlyniad i reoliadau adeiladu a'r dulliau sydd eu hangen i adeiladu ar ddatblygiadau newydd.

Yn syml, mae Cymru yn lle llai deniadol i adeiladu tai. Rhaid i hyn newid os ydym i roi terfyn ar ddigartrefedd. Yn Lloegr, mae'r Llywodraeth wedi dechrau edrych ar dai parod i ddatrys y mater hynod bwysig hwn. Mae'n ateb cyflym a rhad i fynd i'r afael â phrinder tai. Y defnydd o dai parod a helpodd i fynd i'r afael â phrinder tai ar ôl y rhyfel. Mae tai modiwlar parod modern yn llawer mwy datblygedig na thai parod y gorffennol. Gellir eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd, yn amodol ar sicrhau arolygon cywir o'r tir hwnnw. Gellir eu trawsnewid â deunyddiau ecogyfeillgar sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn, gan arbed arian ar drydan a chostau gwresogi i berchnogion cartrefi. Maent yn hyblyg a gellir eu teilwra i ateb anghenion perchennog y cartref, a gellir ailgyflunio rhai mathau o gartrefi modiwlar er mwyn diwallu anghenion yn y dyfodol. Gellir adeiladu cartref dwy ystafell wely am oddeutu £50,000 a gellir ei godi mewn diwrnod. Pam rydym yn oedi? Cartrefi pecyn fflat a safleoedd tir llwyd yw'r ateb.

Fel person sy'n angerddol am fy ngwlad, ni fuaswn yn cynrychioli Cymru na'i phobl na'r bobl ddigartref pe na bawn yn tynnu sylw at y sefyllfa ganlynol o fywyd go iawn. Siaradodd gŵr bonheddig o Abertawe â mi am ei sefyllfa argyfyngus. Roedd ef a'i wraig, yn 63 oed, yn byw mewn car. Roedd wedi cael ei ddiswyddo ac wedi cael swm bach o arian—heb fod yn ddigon i dalu ei forgais. Roeddent yn byw ar yr arian a gafodd wrth gael ei ddiswyddo ac wedi gwneud ymholiadau ynghylch tai cymdeithasol. Roedd wedi ymgeisio am oddeutu 120 o swyddi. Ni ddaeth dim o hynny. Fe werthodd ei dŷ, ond nid oedd unrhyw elw, ac ar y diwedd ni allai gael tŷ cymdeithasol. Eglurodd eu bod wedi eu gadael i fyw mewn car ac roedd ei wraig yn dioddef o osteoporosis. 'Rydym wedi cael ein gadael ar ôl', meddai. 'Rhoesom ein trethi'n barod, ond pan oeddem mewn angen, ni chawsom ddim. Fe'n gadawyd i fyw ac i farw yn ein car.'

Hefyd, os yw unigolyn sy'n cael ei ryddhau o'r carchar heb unrhyw le i fynd, nid yw hynny ond yn eu helpu i fynd yn ôl i'r gymuned y daethant ohoni, ac aildroseddu o bosibl. Wrth wrando ar hyn, mae'n rhaid bod blaenoriaeth. Hyd nes y byddwn wedi dileu digartrefedd yng Nghymru a thrin pobl fel cyn-filwyr ein lluoedd arfog drwy roi parch a thai iddynt ar ôl iddynt ddychwelyd, ni allwn ddweud o ddifrif y gallwn ddal ein pennau'n uchel. Diolch.

Rydym i gyd yn y Siambr yma yn ymwneud â'r gwaith o ddatblygu polisi. Efallai bod yna ddyhead, efallai bod yna broblem rydym yn ceisio ei datrys, efallai y down o hyd i ateb weithiau, ond mae'r cwestiwn, 'Ie, ond faint mae o yn ei gostio?', yn anochel yn cael ei ofyn ac, yn aml, mae gen i ofn ei fod yn cael ei ofyn fel ffordd i atal gweithredu polisi newydd o bosibl. Ond, oes, mae yna gost ynghlwm â'r rhan fwyaf o bethau. Mae'r rhan fwyaf o feysydd polisi yn cynnwys rhyw fath o gydbwysedd rhwng costau ychwanegol a faint gaiff ei arbed, ac edrych ar bob opsiwn sy'n bwysig. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys edrych ar y gost o wneud dim. Ac mae hynny'n sicr yn wir ym maes digartrefedd. 

Mae digartrefedd yn costio biliynau o bunnau i wasanaethau cyhoeddus. Mae budd-dal tai sy'n cael ei dalu am loches dros dro yn costio rhyw £2 biliwn yn y Deyrnas Gyfunol yn flynyddol. Mae rhai'n dadlau y byddai'r ffigur hwnnw ynddo'i hun yn ddigon i dalu am lefydd parhaol i gysgu rhai sy'n gorfod cysgu ar y stryd ar hyn o bryd. Wedyn, mae costau i'r NHS a'r gwasanaethau cymdeithasol, y system gyfiawnder troseddol, costau gweinyddol i awdurdodau lleol a phob mathau o sefydliadau eraill sy’n gorfod delio â chanlyniadau rhywun yn mynd yn ddigartref.

Wedyn mae yna gostau anuniongyrchol, methiant cyrraedd potensial addysgol, colli incwm drwy drethiant wrth i bobl golli eu swyddi am eu bod yn ddigartref. A beth am y costau i fusnesau lleol, sy’n ffeindio bod eu trefi nhw yn anneniadol oherwydd diffyg cefnogaeth i bobl sy’n cysgu ar y stryd? Mae’r costau ar draws cymaint o feysydd.

Yn lle gofyn faint y mae mesurau i fynd i'r afael â digartrefedd yn costio, dylem fod yn gofyn faint y mae digartrefedd ei hun yn costio. Mae'r holl ymchwil, yr holl waith modelu ariannol a wnaed ar hyn, yn dod i gasgliadau eithaf trawiadol. Mae bob amser yn rhatach i atal digartrefedd na gadael iddo ddigwydd. Mae bob amser yn rhatach i ddatrys digartrefedd yn gyflym na gadael iddo barhau. Po hiraf y bydd rhywun yn ddigartref, y mwyaf y bydd costau'n codi a bydd anghenion cymorth yn cynyddu. Mae'n rhatach fel arfer i gartrefu a darparu cymorth ar gyfer yr unigolion mwyaf problemus—wyddoch chi, yr unigolyn ystrydebol sy'n gaeth i gyffuriau gydag anghenion cymhleth—nag yw hi i adael iddynt gysgu ar y stryd.

Mae'r ymchwil ar hyn wedi bod yn helaeth iawn, cymaint felly fel y byddai'r Unol Daleithiau—gwlad nad yw'n enwog o bosibl am ei rhwyd ddiogelwch gymdeithasol hael—wedi dod i'r casgliad mai cefnogi prosiectau tai yn gyntaf yw'r ffordd ymlaen, gan gofio bod costau digartrefedd sy'n gysylltiedig ag iechyd yn is yn yr Unol Daleithiau, gan fod yr hawliau i ofal iechyd i rai heb yswiriant lawer yn is. Ond dangoswyd hyn yn dda iawn gan yr awdur Malcolm Gladwell a adroddodd stori un unigolyn digartref, Murray, y dyfynnwyd yr heddlu lleol yn dweud amdano,

Mae'n costio miliwn o ddoleri inni beidio â gwneud rhywbeth am Murray.

Daeth i'r casgliad fod rhoi fflatiau a chymorth i bobl ddigartref yn rhatach na pheidio â chartrefu pobl. Ceir astudiaethau academaidd i gefnogi hynny. Olrheiniodd astudiaeth gan Raglen Gofal Iechyd i'r Digartref yn Boston 119 o'u cleientiaid a oedd yn gyson ddigartref a gwelodd fod pob un ohonynt wedi cael ei dderbyn i'r ward argyfwng 36 gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd.

Yn agosach at adref, modelodd Crisis bedair senario a chyfrifo costau datrys pob achos yn erbyn costau peidio â'u datrys a gadael i rywun fynd yn ddigartref. Ym mhob un o'r achosion hynny, roedd yr arbedion yn sgil atal neu ddatrys digartrefedd yn gyflym yn gorbwyso costau gadael iddo ddigwydd o leiaf 3:1 a hyd at gymaint â 14:1.

Bydd manteision ariannol atal digartrefedd wedi eu gwasgaru ar draws y sector cyhoeddus, ond er bod Llywodraeth Leol yn cyfranogi o'r arbedion hynny, mae'n bwysig nodi mewn gwirionedd fod y gost ariannol gychwynnol ar gyfer atal a datrys digartrefedd yn gyflym yn syrthio ar awdurdodau lleol a'r system nawdd cymdeithasol i raddau helaeth. Felly, rhaid inni gydnabod bod rhaid cynorthwyo awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Mae arnaf ofn na fydd torri eu cyllidebau'n gweithio; dyna pam, er enghraifft, y mae Plaid Cymru, fel y clywsom gan Leanne Wood, wedi rhoi blaenoriaeth i'r grant Cefnogi Pobl yn y trafodaethau ar y gyllideb ar dri achlysur gwahanol.

17:55

A ydych yn rhannu fy mhryder fod Llywodraeth Cymru, ar 24 Hydref, wedi ysgrifennu at brif weithredwyr yr awdurdodau lleol yn dweud y byddant yn darparu hyblygrwydd ariannu o ran Cefnogi Pobl, gyda saith yn cael 100 y cant o hyblygrwydd ariannu a'r gweddill yn cael 15 y cant o hyblygrwydd ariannu? Felly, fel y mae pethau, os yw'r gyllideb yn pasio fel yr argymhellwyd, nid oes unrhyw glustnodi arian.

Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pryder yn y sector yn awr ynglŷn â sut y gallant ddefnyddio'r arian a ddiogelwyd. Nawr, mater i'r Llywodraeth yw dangos ei bod yn gwrando ar y sector hwnnw drwy roi hyblygrwydd iddynt wario'r arian fel y mynnant.

Rwy'n dod i ben. Digon yw digon mewn gwirionedd. Gadewch inni beidio â gadael i drasiedi ddynol cysgu ar y stryd ddigwydd yn syml oherwydd na all gwahanol haenau o Lywodraeth weithio gyda'i gilydd. Ni all fod yn iawn gadael i'r trethdalwr dalu costau digartrefedd yn syml oherwydd bod y costau hynny wedi eu gwasgaru ar draws y sector cyhoeddus. Rwy'n credu bod egwyddor tai yn gyntaf yn cynnig ffordd ymlaen. Cawn ein hatgoffa dro ar ôl tro yn y cyfnod anodd hwn fod ein dewisiadau gwario yn gyfyngedig. Wel, ar adegau mor anodd â hyn, ni allwn fforddio peidio â gweithredu ar ddigartrefedd, a hynny oherwydd bod digartrefedd ei hun yn costio gormod.

18:00

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon. A diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am godi'r materion pwysig hyn, oherwydd rwy'n credu bod llawer o gonsensws trawsbleidiol ar y materion penodol hyn. Rwy'n falch iawn o gefnogi'r gwelliant yn enw Julie James, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu angen blaenoriaethol, a hefyd i symud tuag at ddull cynhwysfawr o ddod â digartrefedd i ben sy'n cynnwys polisi tai yn gyntaf. Felly, credaf fod llawer iawn o gonsensws, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r ffordd y dylem fynd.

Credaf y dylem ganmol Llywodraeth Cymru am ei hymdrechion i fynd i'r afael â digartrefedd yn Neddf Tai (Cymru) 2014, oherwydd credaf ei bod wedi gwneud gwahaniaeth. Yn amlwg mae gennym yr adroddiad archwilio yn awr i edrych yn fanwl arno er mwyn gweld beth fydd yr effeithiau gwirioneddol, ond mewn rhai awdurdodau lleol, credaf fod canlyniadau cadarn i'w gweld o ran gallu bwrw iddi'n gynnar a gweithio i atal digartrefedd.

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi diogelu'r grant Cefnogi Pobl, oherwydd fel y gwyddom, ac fel rydym wedi dweud yn y ddadl hon, mae gan bobl ddigartref anghenion cymhleth, sy'n llawer mwy na chael to uwch eu pennau'n unig, ond rhaid i chi ddechrau gyda tho, a dyna pam y byddem yn awyddus i gefnogi'r polisi tai yn gyntaf. Hefyd, rwy'n croesawu'r £2.6 miliwn ychwanegol, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac iechyd meddwl a digartrefedd, yn ogystal â chyllid cyfalaf cynyddol ar gyfer capasiti darpariaeth frys yn y nos ar gyfer Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam ac Abertawe.

Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn trafod beth yw'r ddarpariaeth frys briodol, a soniodd Leanne am hyn yn ei haraith. Yn sicr yng Nghaerdydd, ymddengys bod cynnydd mawr wedi bod mewn digartrefedd ar y stryd. Ond anfonodd Lynda Thorne, yr aelod cabinet dros dai yng nghyngor Caerdydd, neges allan ar 29 Rhagfyr fod 60 o leoedd ar gael ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd ar un noson benodol a chwech lle yn unig a gymerwyd. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos yw'r rhesymau pam y mae llawer o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn teimlo na allant fanteisio ar leoedd mewn llochesi a llety brys, oherwydd ofnau'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, rwy'n credu. Soniodd Leanne am y mater ynghylch anifeiliaid ac os oes gennych bartner, pa fath o lety a gynigir. Credaf fod nifer fawr o resymau pam fod pobl weithiau'n teimlo na allant fanteisio ar y cyfle i gael lloches. Felly, credaf o ddifrif fod angen dadl ar sut y gallwn ddarparu llety priodol ar gyfer yr holl bobl sydd ar y stryd.

I symud ymlaen at y rhestr flaenoriaethol a'r bobl a gategoreiddir fel rhai ag angen blaenoriaethol, yn amlwg mae hyn yn cynnwys pobl sydd â phlant dibynnol, menywod beichiog, pobl hŷn, pobl anabl, rhai 16 a 17 mlwydd oed, rhai 18 - 21 sy'n gadael gofal a llawer o rai eraill. Rwyf am sôn hefyd am garcharorion, y soniodd John Griffiths amdanynt yn ei araith, oherwydd mai cyn-garcharorion gyda chysylltiad lleol â'r ardal ac sy'n agored i niwed o ganlyniad i fod yn gyn-garcharor yw'r meini prawf ar gyfer cyn-garcharorion. Wrth gwrs, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, fe newidiwyd hyn gennym mewn gwirionedd a chredaf ei fod yn fater o bryder mawr ei bod hi'n ymddangos bod peidio â bod yn angen blaenoriaethol yn awtomatig wedi esgor ar ganlyniadau gwael i garcharorion. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi gweld adroddiad Estyn ar garchar Abertawe a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl, ac a ganfu nad yw hanner y carcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn cael eu hanfon i lety cynaliadwy. Mae'r adroddiad yn dweud yn eu barn hwy fod y canlyniadau i garcharorion ym maes ailsefydlu wedi suddo i 'gwael', sef y categori isaf posibl, ac roedd yn dweud y gallai polisi Llywodraeth y Cynulliad o beidio â rhoi blaenoriaeth ar restrau tai i garcharorion a ryddhawyd fod wedi cyfrannu at y canlyniad hwn.

Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni edrych eto ar garcharorion. Nid wyf yn gwybod a oes gan y Llywodraeth unrhyw ymchwil y mae wedi ei wneud ei hun sy'n dangos bod ymdrechion i ailgartrefu carcharorion, er nad ydynt yn flaenoriaeth yn y ffordd yr oeddent, wedi arwain at rywfaint o lwyddiant, ond yn sicr mae'r dystiolaeth i'w gweld yn dynodi nad oedd hwn yn newid polisi llwyddiannus. Felly, buaswn yn gofyn i'r Llywodraeth edrych ar hynny eto, a chredaf y dylem symud at sefyllfa lle rydym yn chwilio am dai yn gyntaf ac na ddylem gael categorïau blaenoriaethol mwyach.

18:05

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?

Diolch, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn. Yn amlwg, mae pawb ohonom eisiau rhoi diwedd ar ddigartrefedd, ac rydym yn gwybod mai atal yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Credaf fod Rhun ap Iorwerth wedi rhannu tystiolaeth gadarn ynglŷn â pham fod y dull ataliol fel blaenoriaeth yn gwneud synnwyr. Mae ein dull blaengar sy'n canolbwyntio ar atal yn cyflawni llawer, ond rydym yn wynebu galw cynyddol, i raddau helaeth, rhaid i mi ddweud, o ganlyniad i ddiwygio lles Llywodraeth y DU. Gwyddom fod mwy a mwy o bobl yn troi at awdurdodau lleol am help, ac rydym i gyd wedi gweld y cynnydd sy'n peri pryder yn nifer y bobl sy'n gorfod cysgu ar ein strydoedd.

Mae'r ddeddfwriaeth arloesol yn Neddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswyddau i helpu i atal a lliniaru digartrefedd. Ac ni ellir dadlau ei fod wedi cael effaith ddramatig. Erbyn diwedd Medi, roedd 12,912 o bobl wedi cael cymorth i osgoi digartrefedd. Mae'n bwysig cydnabod, o dan ein deddfwriaeth, nad yw angen blaenoriaethol yn gymwys mwyach pan fydd pobl yn ceisio cymorth os ydynt yn wynebu risg o ddigartrefedd. Mae'r dyletswyddau atal digartrefedd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddod o hyd i atebion tai, yn berthnasol i bawb yn gyfartal.

Hoffwn hefyd bwysleisio mai un agwedd yn unig ar ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd er mai dyna'r agwedd fwyaf gweladwy. Yn ôl rhai amcangyfrifon, am bob unigolyn sy'n cysgu ar ein strydoedd, gallai fod cynifer â 30 neu ragor o bobl sydd fel arall yn ddigartref, mewn llety dros dro neu'n byw o un soffa i'r llall. Mae'n bwysig fod unrhyw benderfyniadau yn ystyried yr angen i sicrhau bod digon o lety dros dro o safon ddigonol. Mae ein deddfwriaeth yn anelu at newid hirdymor a chynaliadwy, ac rydym yn cynorthwyo gwasanaethau cyngor tai i weithio mewn ffordd gyfannol er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion i'r angen am dai.

Fel roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ddoe 'Sut mae llywodraeth leol yn rheoli galw—digartrefedd' yn cydnabod, nid yw newid diwylliannol o'r fath yn digwydd dros nos, ac rwy'n ddiolchgar i David Melding am amlinellu canfyddiadau allweddol ac argymhellion yr adroddiad, y byddaf yn ei drafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae llu o resymau cymhleth pam y mae pobl yn cysgu ar y stryd, ac fel arfer maent yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a ffactorau strwythurol, a chlywsom amdanynt yn y ddadl. Hoffwn gadarnhau i'r Aelodau ein bod yn bwrw ymlaen â'n cefnogaeth ar gyfer tai yn gyntaf, a bydd yn elfen allweddol yn ein polisi i leihau achosion o gysgu ar y stryd. Yn dilyn cynhadledd ar bolisi, a noddodd Llywodraeth Cymru gyda Phrifysgol Caerdydd fis Ebrill diwethaf, rydym yn ariannu nifer o wasanaethau tai yn gyntaf. Cefnogir y rhain gan rwydwaith a gydlynwyd gan Cymorth. Byddwn yn comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r gwaith hwn yn ddiweddarach eleni.

Y gwanwyn hwn, byddaf yn derbyn adroddiadau ar yr ymchwil rydym yn ei ariannu ar effaith Rhan 2 o'r Ddeddf tai. Byddaf hefyd yn cael adroddiad gan Shelter Cymru ar ymchwil i brofiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd, a bydd hwn yn rhoi tystiolaeth i ni ynglŷn â sut y gallwn wella canlyniadau i bobl sy'n agored i niwed.

Mae mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym yn cefnogi ein polisi gydag arian, gan gynnwys £2.6 miliwn yn ychwanegol yn ystod eleni. Mae ein cyllideb ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol ar gyfer digartrefedd ym mhob blwyddyn, ac mae hyn yn rhoi £6 miliwn y flwyddyn i mewn i setliad refeniw llywodraeth leol, ac rwy'n disgwyl i'r cyllid hwn gryfhau gwasanaethau atal statudol.

Un o'r cyfryngau pwysicaf ar gyfer atal digartrefedd yw'r gyllideb Cefnogi Pobl, a byddwch wedi clywed gan bobl yn y sector am eu pryderon ynglŷn â rhoi diwedd ar glustnodi'r gyllideb honno. A wnewch chi gydnabod y pryderon hynny heddiw a chytuno i barhau i glustnodi'r arian, a hefyd a wnewch chi gytuno i sicrhau y ceir llinell wariant ar wahân yn y gyllideb ar gyfer cyllid Cefnogi Pobl fel bod modd olrhain lle mae'n mynd yn y dyfodol?

Wel, rwy'n credu bod achos clir dros greu ffrydiau ariannu mwy o faint a mwy hyblyg sy'n lleihau biwrocratiaeth ac yn cynnal cyfunioniadau mwy strategol i'r rhaglen i ddiwallu anghenion lleol, ond yn yr un modd, rhaid i mi ddweud ei bod yn bwysig iawn cydnabod na wnaed unrhyw benderfyniad terfynol. Mae gennym brosiectau braenaru sy'n edrych ar beth y byddai'r grant mwy hwnnw yn ei olygu yn ymarferol, a cheir yr hyblygrwydd ariannu y cyfeiriodd Mark Isherwood ato hefyd mewn mannau eraill. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddaf yn gwneud penderfyniad pan gawn ganlyniadau'r prosiect braenaru, ac ni chaf fy ngwthio i wneud penderfyniad hyd nes y bydd gennyf y dystiolaeth o fy mlaen i mi allu asesu beth sy'n bwysig. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw canlyniadau i bobl sy'n agored i niwed.

Bydd y £4 miliwn arall yn galluogi ein rhaglen grantiau atal digartrefedd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac fel rydym wedi trafod yn y ddadl hon eisoes, bydd £10 miliwn pellach yn 2019-20 ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i weithio gydag ymgyrch End Youth Homelessness. A hoffwn ddweud, o ran sut y gwerir yr arian hwnnw, cafwyd cyfarfod rhwng swyddogion a rhanddeiliaid o'r sector gwirfoddol a llywodraeth leol y bore yma a gasglodd rai safbwyntiau cynnar iawn ar sut y gellid gwario'r arian hwnnw, gan mai cyllid ar gyfer 2019-20 ydyw wrth gwrs. Cyflwynwyd nifer o syniadau o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw heddiw, ond rwyf yr un mor awyddus yn bersonol i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc ddigartref, fel y gwneuthum yn ddiweddar pan ymwelais â phrosiect digartrefedd ymhlith pobl ifanc Abertawe. Felly, rwy'n gwrando ar syniadau da o ble bynnag y dônt, a gwn y bydd Aelodau yn y Siambr hon hefyd â syniadau ynglŷn â beth sy'n rhaid ei wneud i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Felly, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer fy mholisi digartrefedd ddechrau mis Chwefror, gyda'r bwriad o wneud datganiad ar lafar, a byddaf yn rhoi fy ymrwymiad i'r Siambr hon fod mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth drwy gydol y flwyddyn i mi, nid rhywbeth y soniwn amdano adeg y Nadolig yn unig, fel sydd wedi cael ei ddweud unwaith neu ddwy yn ystod y ddadl hon. Buaswn yn disgwyl i'r Aelodau fy nwyn i gyfrif ar hynny.

Rydym yn parhau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys allgymorth, llochesau nos, cynlluniau bond, cyfryngu teuluol a chyngor tai, ac fel rwy'n dweud, rydym wedi cynnal ein buddsoddiad ar gyfer Cefnogi Pobl am ein bod yn cydnabod ei bwysigrwydd yn atal digartrefedd. Rydym yn buddsoddi'r lefel uchaf erioed o arian yn ystod y tymor hwn: bydd £1.3 biliwn i gefnogi'r sector tai a'r 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol y byddwn yn eu darparu, y cynnydd yn nifer y tai a adeiladwn a rhoi diwedd ar yr hawl i brynu, buddsoddi mewn tai arloesol, sy'n ateb rhai o'r meysydd a ddisgrifiwyd gan Caroline Jones yn ei chyfraniad, a gweithio hefyd gyda'r sector rhentu preifat i gyd yn help i sicrhau bod gan aelwydydd fynediad at dai diogel o ansawdd ar draws y gwahanol fathau o ddeiliadaethau.

Felly, credaf ei bod yn iawn inni fod yn falch o'n cynnydd, ond rydym hefyd yn cydnabod ei derfynau, a rhaid inni edrych yn awr i weld sut y gallwn ddarparu diogelwch pellach i rai mewn angen. Dyna pam rwy'n croesawu'r cynnig heddiw ar angen blaenoriaethol. Mae gennyf gydymdeimlad go iawn â'i fwriad ac rwy'n cytuno â'r bwriad hwnnw. Rwyf wedi cynnig gwelliant sy'n ymrwymo i adolygiad llawn o angen blaenoriaethol gan fy mod eisiau deall y goblygiadau a phrofi am unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a bydd y gwaith hwn yn ystyried yn llawn y manteision posibl i bobl sy'n agored i niwed yn ogystal â sut y gellid rheoli unrhyw newid mewn asesiad realistig o'r adnoddau sydd ar gael. Bydd swyddogion yn edrych ar y mater gyda'u cymheiriaid yn yr Alban a hefyd gyda'n hawdurdodau lleol yma yng Nghymru.

Nid wyf yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, er fy mod yn cydnabod y consensws a fu ar y mater hwn yn y Siambr heddiw ac ar adegau eraill. Y rheswm am hynny yw fy mod yn credu y byddai'r comisiwn hollbleidiol yn oedi'r gwaith sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru eisoes. Er enghraifft, rydym eisoes yn datblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gysgu ar y stryd yn seiliedig ar waith gyda phartneriaid, a bwriadaf ddweud rhagor am hyn yn y dyfodol agos iawn.

Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd yn seiliedig ar gyllid sylweddol ac arbenigedd amlasiantaethol traws-sector. Mewn gwirionedd, y dull partneriaeth ymarferol hwn yw'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'r gwaith y mae pawb ohonom yn cytuno bod angen ei wneud. Ond yn y cyfamser, buaswn yn annog y Ceidwadwyr i ymuno â ni i bwyso ar Lywodraeth y DU i atal y newidiadau lles y gwyddom eu bod yn gyrru llawer o'r cynnydd mewn digartrefedd.

18:10

Diolch i chi, a diolch i bawb am gyfrannu. Roeddwn yn meddwl ei bod yn ddadl ystyriol a diddorol. Fe ddechreuaf gyda'r hyn rwy'n cytuno ag ef: yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn perthynas â'r comisiwn. Rwy'n cytuno na fyddai angen unrhyw oedi wrth weithredu gwaith yn y dyfodol ar y maes hwn, ac o glywed yr hyn a ddywedodd David Melding mewn perthynas â thai yn gyntaf, beth sydd o'i le ar fwrw iddi yn awr ar hynny? Mae gennym lawer o gomisiynau a llawer o lefydd i siarad yng Nghymru, a chredaf ei fod yn ymwneud â rhoi'r syniadau hynny ar waith yn awr. Felly, roedd yn braf clywed eich cefnogaeth yn hynny o beth.

Yr hyn na chlywais gydag argyhoeddiad gan y Gweinidog, mae arnaf ofn, yw'r mater sy'n ymwneud â chlustnodi arian Cefnogi Pobl. Clywsom Leanne Wood yn ymyrryd ac yn gofyn i chi a oeddech wedi penderfynu clustnodi. Cawsoch eich gwthio i egluro ond rydych yn dal i fod heb benderfynu. A chredaf y byddai'r rhai yn y sector a ninnau ar y meinciau hyn yn bryderus ynglŷn â hynny, oherwydd o ble rwy'n eistedd—neu'n sefyll ar hyn o bryd—dyna pam y cytunasom i'r cytundeb hwnnw ar y gyllideb, gan wybod bod y sector wedi dweud yn benodol fod angen inni glustnodi'r arian hwnnw. Gallwn sôn am effeithiolrwydd rhaglenni a phethau felly, ond mae clustnodi hwnnw'n gwneud synnwyr o ran gallu sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau cywir. Rydym yn gwybod o brofiad mewn mannau eraill, os caiff ei roi mewn cyllideb gyffredinol, gallai gael ei ddefnyddio mewn mannau eraill, a gallai wedyn—mae gennyf y gair Cymraeg yn fy mhen, glastwreiddio—gallai leihau effaith y bwriad polisi. Felly, bydd yn rhaid inni fynd ar drywydd hyn unwaith eto, mae arnaf ofn.

Clywaf yr hyn a ddywedodd David Melding mewn perthynas ag adroddiad yr archwilydd cyffredinol a'i fod yn faes heriol, a chredaf y dylai pawb ohonom ddarllen yr adroddiad hwnnw ac ystyried y materion cymhleth hynny sy'n gorgyffwrdd, yn enwedig mewn perthynas â Deddf cenedlaethau'r dyfodol.  

O ran cyfraniad Siân Gwenllian, rwy'n falch y bydd cyfarfod yng Ngwynedd i edrych ar rai o'r atebion hyn mewn perthynas â chysgu ar y stryd. Mae'n dangos ein bod yn rhoi dull rhagweithiol ar waith, eich bod chi fel Aelod Cynulliad lleol yn ceisio mynd i'r afael â hynny'n uniongyrchol.

Mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd John Griffiths, nid wyf byth yn amau eich ymrwymiad i'r mater hwn ac rwy'n falch y bydd y pwyllgor yn edrych ar gysgu ar y stryd, ond nodaf yr hyn a ddywedodd Simon Thomas o ran ei ymyriad a'r ffordd y gallai Cyngor Dinas Casnewydd wasgaru pobl ddigartref yng nghanol Casnewydd. Fe fyddwch yn gwybod bod Jeremy Corbyn wedi ymosod ar y cyngor Torïaidd am wneud yn union hynny yn ddiweddar iawn, felly efallai y dylai fod gennym ymagwedd gyson. Os yw hyn yn mynd i ddigwydd mae'n beth drwg lle bynnag y mae'n digwydd a dylid ei gondemnio fel y cyfryw. Ac rwyf wedi cymryd rhan yn rhai o'r profiadau hynny, ac rwy'n credu bod peth o'r gwaith arloesol gan y Wallich yn rhywbeth y dylem roi ystyriaeth lawer mwy difrifol iddo.

Unwaith eto, soniodd Leanne am dai yn gyntaf a'r rhestr o opsiynau y gallai eu darparu, a Cefnogi Pobl a'r ymyriadau a wnaethom fel plaid—y trydydd tro i ni ymyrryd i geisio sicrhau bod yr arian hwnnw wedi'i glustnodi. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn dweud hynny dro ar ôl tro.

Soniodd Caroline Jones am garcharorion a chyn-garcharorion, fel y gwnaeth Julie Morgan, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn dileu'r angen blaenoriaethol am yr union reswm hwnnw. Mae angen inni sicrhau, pan fydd pobl yn disgyn allan o angen blaenoriaethol y gallant hwythau hefyd gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ein cymdeithas. Soniodd Julie Morgan hefyd, rwy'n credu, am neges destun a anfonodd un o gynghorwyr Llafur at bobl ynglŷn â lloches. Tybed faint o bobl na lwyddodd i'w gweld o bosibl am nad oedd ganddynt y dechnoleg briodol, a gafodd y neges ei hanfon dros y ffôn, a sut y gellir gwneud hynny mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Nid wyf eisiau ei wneud yn ormod o fater gwleidyddiaeth plaid, ond fe ddarllenais ar y pryd fod un cynghorydd yn dweud wrth bobl am beidio â phrotestio, ond i gymryd rhan mewn ymgyrch elusennol. Wel, nid wyf yn meddwl bod digartrefedd yn fater o naill ai/neu. Os yw pobl am brotestio oherwydd bod y materion hyn yn bethau y maent yn teimlo'n angerddol yn eu cylch, dylent allu gwneud hynny, yn ogystal â helpu Shelter a Wallich a pha gorff bynnag arall sydd allan yno. Ac nid wyf yn credu ei fod yn sylw defnyddiol iawn i fod wedi ei wneud ar y pryd.

Soniodd Rhun am y costau wrth gwrs, a chredaf ei fod wedi dweud yn huawdl iawn fod goblygiadau costau digartrefedd yn gorbwyso'r manteision yn helaeth, felly mae angen rhoi arferion ataliol a chamau ataliol ar waith fel y bydd yn costio llai yn y tymor hir, ac mae defnyddio'r enghreifftiau nid yn unig o America ond o adref yn dangos y gellir gwneud hynny.

Credaf mai'r hyn sydd gennym yma heddiw yw ymrwymiad gan bawb i ddangos bod hyn yn flaenoriaeth, ond mae angen inni roi'r gwaith hwnnw ar y gweill ar y cyd, a gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gall pawb ohonom ei wneud. Hefyd, credaf y dylem ystyried sut rydym yn ymgysylltu â'r bobl sy'n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd, ac sydd ar ein strydoedd ar hyn o bryd. Roeddwn yng Nghaerdydd yr wythnos o'r blaen a rhoddais rywfaint o fwyd i unigolyn digartref, a chyn gynted ag y'i rhoddais iddo, daeth plismon a'i symud o'r ganolfan siopa dan sylw. Os ydym yn mynd i'w symud, rwy'n credu bod angen inni sicrhau ein bod yn gwybod i ble maent yn mynd, ac nad ydynt yn mynd i rywle a allai fod yn fwy niweidiol iddynt yn y tymor hir o bosibl. Diolch yn fawr iawn.

18:20

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, mae hynny'n iawn.

8. Cyfnod Pleidleisio

Felly, symudwn ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma felly yw'r un ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y rhwydwaith ffyrdd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf unrhyw beth ar fy sgrin. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6619 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 18, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Ac felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM6619 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwn yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 52, neb yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM6619 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 2: O blaid: 52, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 10, roedd 17 yn ymatal 17, a 26 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM6619 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwelliant 3: O blaid: 10, Yn erbyn: 26, Ymatal: 17

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM6619 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi anallu y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru i ymdopi â'r lefel bresennol o alw gan fodurwyr.

2. Yn gresynu bod seilwaith ffyrdd is-safonol Cymru yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol rwydwaith ffyrdd addas at y diben ac sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad tymor hir economi Cymru.

4. Yn credu er mwyn cysylltu cymunedau Cymru yn well, gwella ansawdd y teithiau i gymudwyr a datblygu economi Cymru, fod angen buddsoddiad priodol ym mhob modd o deithio, nid ffyrdd yn unig, gan gynnwys rheilffyrdd, bysiau, teithio awyr a dros ddŵr.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM6619 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dai i bobl ddigartref, a galwaf am bleidlais ar y cynnig. A gawn ni i gyd bleidleisio'n ddistaw os gwelwch yn dda oherwydd mae'n ddryslyd, y cyntaf yn ôl? Efallai nad yw i chi; rydych chi i gyd yn glyfar iawn, ond i mi, rwy'n ceisio cadw rheolaeth yma. Felly, os gallwn fod ychydig yn ddistawach, byddaf yn gwybod lle rydym arni wedyn. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig hwn, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM6621 Dadl Plaid Cymru: Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM6621 Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

18:25

Symudwn ymlaen yn awr at bleidlais ar welliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

NDM6621 Dadl Plaid Cymru: Gwelliant 2: O blaid: 18, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, nid yw'r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, ac nid yw wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, felly, gwrthodwyd y cynnig. Iawn, dyna ni. Diolch yn fawr iawn.

9. Dadl Fer: Galw am siarter ar gyfer urddas wrth ymddeol a diogelwch pobl hŷn

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n ddistaw os gwelwch yn dda, ac os ydych yn aros yn y Siambr, byddwch yn dawel. Os ydych yn cael sgyrsiau, a allwch eu cael y tu allan i'r Siambr, os gwelwch yn dda?

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc y mae wedi ei ddewis. Janet.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns AC, Suzy Davies AC a David Rowlands AC, ond nid yw ef yma. Iawn.

Mae tyfu'n hŷn neu aeddfedu mewn oed yn rhywbeth y dylid ei fwynhau; mae hefyd yn rhywbeth i'w ddathlu. Yng nghymdeithas heddiw gyda'r defnydd o dechnoleg wyddonol, cynnydd mewn meddygaeth fodern, cymdeithas fwy cefnog, ni all fod y tu hwnt i allu unrhyw genedl neu ei Llywodraeth i hyrwyddo, i rymuso ac i gydnabod gwir werth y bobl ryfeddol hyn i gymdeithas—mae 800,000 ohonynt, mewn gwirionedd, yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mewn poblogaeth o oddeutu 3 miliwn, mae'n nifer sylweddol, ac maent yn haeddu parch, hawl i'w hannibyniaeth, a rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.

Mae Cymru wedi bod yn genedl sydd wedi arloesi er budd ein pobl hŷn mewn nifer o ffyrdd, gyda chreu rôl comisiynydd pobl hŷn cyntaf y byd yn 2006. Rhaid i mi roi teyrnged i Sarah Rochira, ein comisiynydd yn awr, am ei gwaith rhagorol ar ran ein dinasyddion hŷn. Fodd bynnag, mae'r amser wedi dod i gydnabod yr hawliau sylfaenol hyn, i rymuso ac ymgorffori'r hawliau mewn siarter, a deddfwriaeth, fel rydym wedi galw amdani yn ein maniffesto, a fydd yn cofnodi'n gadarn yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, y cânt eu hamddiffyn, ac y byddant yn cael eu gwerthfawrogi fel y maent yn ei haeddu.

Er mwyn galluogi pobl hŷn i deimlo perchnogaeth ar eu hawliau ac i sefydlu agweddau cadarnhaol mewn cymdeithas ac yn y gweithle, mae cael set benodol o hawliau o fewn y cyd-destun Cymreig penodol yn hanfodol. Wrth ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, gallwn gefnogi pobl ledled Cymru i barhau'n aelodau gweithgar o'r teulu, ein cymuned, a'n cymdeithas, yn wir.

Nod cyffredinol y ddadl hon yw galw am gyflwyno mesurau, wedi eu codeiddio yn y gyfraith, i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, hybu heneiddio'n dda a gwreiddio llesiant pobl hŷn yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Gan ddatblygu ymhellach o'r datganiad presennol o hawliau pobl hŷn yng Nghymru, byddai siarter o'r fath neu Fil pobl hŷn yn ymgorffori hawliau pobl hŷn yng nghyfraith Cymru, gan roi dyletswydd uniongyrchol o sylw dyledus i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y ddyletswydd i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau a materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Byddai hefyd yn gosod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i hybu gwybodaeth am hawliau pobl hŷn a dealltwriaeth ohonynt ledled Cymru.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi bod yn hyrwyddwr go iawn, a dywedaf hynny ddwywaith er mwyn cymeradwyo'r gwaith y mae wedi'i wneud. Mae hi wedi creu argraff fawr arnaf—heb ofn na ffafriaeth, mae hi wedi sefyll dros y bobl y mae hi yno i'w cynrychioli. ac yn sicr nid yw'n cilio rhag herio'r Llywodraeth a sefyll dros y genhedlaeth wych hon pan fo'u hiechyd, ansawdd eu bywydau a'u hurddas mewn perygl. Mae pwysigrwydd hawliau penodol o'r fath yn amlwg wrth inni edrych ar achosion lle mae polisïau sy'n ymwneud â phobl hŷn wedi'u gwthio i'r cyrion gan Lywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, clywsom na fydd y strategaeth weinidogol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ymysg pobl hŷn yn cael ei chyhoeddi bellach tan y flwyddyn nesaf, 2019—rhy hwyr i lawer o'n pobl hŷn. Gwyddom fod unigrwydd yn risg sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mewn cymhariaeth, mae'n cael ei gymharu mewn gwirionedd ag ysmygu o ran y niwed y mae'n ei wneud ac mae'n effeithio ar 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru. Ymhlith pobl hŷn yn enwedig, mae Age Cymru wedi canfod bod 300,000 o unigolion yn teimlo y gall eu diwrnodau fod yn ailadroddus ac nid oedd 75,000 ohonynt yn edrych ymlaen at y Nadolig diwethaf.

Yn amlwg mae angen inni gymryd camau brys i wella ansawdd bywyd mewn cymdeithas ar gyfer ein pobl hŷn. Mae'n hanfodol ein bod yn gweld mwy o ffocws gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygu atebion polisi arloesol, gan gynnwys integreiddio go iawn rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi braidd yn anodd pan fyddwch yn sefyll yma, a ninnau'n gwybod ein bod wedi cael Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac nid ydym fymryn yn agosach at weld y gwasanaethau hynny'n integreiddio go iawn. Cafodd ei addo ers amser hir, ond ni chafodd erioed mo'i gyflawni.

Byddai siarter i Gymru neu fesur hawliau, wedi ei godeiddio mewn cyfraith, yn gwneud hawliau yn y meysydd hyn yn enwedig yn fwy perthnasol i bobl hŷn ar sail unigol ac yn eu galluogi i nodi pan nad yw eu hawliau'n cael eu parchu, a chaniatáu iddynt herio darparwyr gwasanaethau. Mae'r rhain yn hawliau sylfaenol bellach o dan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a Deddf Hawliau Dynol 1998, ond mae angen iddynt fod yn hawliau sylfaenol yma, gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, wyddoch chi, ac wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru er mwyn anrhydeddu'r hawl i ryddid, yr hawl i ddiogelwch a'r hawl i wneud penderfyniadau am eu bywydau, rhyddid i gymdeithasu, a rhyddid rhag triniaeth annynol a diraddiol. Gallai perchnogaeth mor uniongyrchol ac amlwg ar yr hawliau hyn arwain yn uniongyrchol at wella hyder llawer o bobl i allu herio gwasanaethau gwael.

Byddai hyn yn ategu pwerau ychwanegol posibl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a argymhellir yn y Bil drafft presennol, gan annog mwy o bobl hŷn i godi llais lle maent wedi profi triniaeth wael, yn arbennig triniaeth sy'n ymwneud â'u hoedran. Rydym yn gwybod bod hyn yn bwysig. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah, wedi nodi bod rhagfarn oed a gwahaniaethu ar sail oedran yn cael eu goddef yn eang ar draws y byd. Ymhellach, mae'n dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu gwarantu yw drwy ddeddfwriaeth, a deddfwriaeth a fyddai'n creu dyletswyddau penodol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Fel grŵp y Ceidwadwyr Cymreig—ac rwy'n hynod o falch o allu gweithio gyda hwy ar hyn—rydym wedi bod yn galw ers amser am sicrhau atebolrwydd y comisiynydd a'i wneud yn benodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Oherwydd ceir gwrthdaro, mae yna bwysau, a phan ydym wedi clywed heddiw ddiwethaf am ddiwylliant gwenwynig o fwlio yn ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru, credaf fod pobl, pan fyddant yn rhan o gymdeithasau, grwpiau a sefydliadau sydd yno, yn y bôn, i amddiffyn ein dinasyddion—na ddylent deimlo eu bod yn cael eu dychryn na'u bygwth mewn unrhyw ffordd gan y Llywodraeth hon. Gellid cynnwys newid o'r fath ochr yn ochr â chyflwyno'r math hwn o ddeddfwriaeth.

Byddai sicrhau atebolrwydd fel hyn yn caniatáu ar gyfer craffu trawsbleidiol priodol ar ddeddfwriaeth benodol ar gyfer pobl hŷn. Byddai hyn yn gyfle i wneud hynny'n realiti. Ddirprwy Lywydd, mewn digwyddiadau a gynhaliwyd gennyf, wrth siarad ag etholwyr, drwy ymweliadau amrywiol â chartrefi, hosbisau, ac ysbytai, rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn, yn enwedig y rheini sy'n fwy agored i niwed. Maent yn teimlo na chlywir eu lleisiau. Nid yw eu hawliau'n cael eu parchu. Ceir llawer ohonynt nad ydynt yn gwybod beth yw eu hawliau hyd yn oed. Ac mae ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei gael weithiau yn gostwng. Mae'r comisiynydd wedi cyfeirio at dystiolaeth anecdotaidd o'r fath hefyd. Mae hi wedi tynnu sylw at yr effaith ddinistriol y gall hyn ei chael ar eu bywydau. Nid oes raid ond edrych ar y gwaith a wnaeth ar ofal cymdeithasol a'r cartrefi gofal a rheoli gofal cymdeithasol ledled Cymru. Cafodd ei adael yn wasanaeth sy'n ddiffygiol iawn.

Bydd sicrhau bod hyrwyddo a diogelu hawliau clir y gall pobl hŷn deimlo perchnogaeth arnynt yn mynd yn bell i sicrhau bod y ddemograffeg hon ledled Cymru yn byw heb gael eu cam-drin, heb eu hesgeuluso, heb ragfarn a gwahaniaethu, ac yn gallu parhau i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau a ffynnu wrth fynd yn hŷn. Rhaid inni beidio ag anghofio y bydd pob un ohonom yma, a phawb ar y tu allan, yn mynd yn hŷn. Yn sicr, nid ydym—. Nid yw'r cloc yn mynd tuag yn ôl; mae'n mynd ymlaen. Felly, beth pe baem yn gallu bod yn arweinwyr ac yn arloeswyr yma yng Nghymru, a mynd ati o ddifrif i ymgorffori hawliau ein pobl hŷn er mwyn eu diogelu?

Yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru yw drwy ddeddfwriaeth fawr ei hangen sy'n creu dyletswyddau penodol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn debyg i'r ffordd y cafodd y Mesur plant ei gryfhau ar gyfer hawliau plant a phobl ifanc yn 2011, a gwneud hawliau yn fwy perthnasol a real i unigolion. Ni allaf ddeall pam y mae gennym yr hawliau hynny wedi'u hymgorffori ar gyfer plant a phobl ifanc—ac yn amlwg, rwy'n parchu'r rheini ac rydym eu heisiau—ond mae ein pobl hŷn yn eu haeddu lawn cymaint. Rydym yn sôn am gydraddoldeb mor aml yn y Llywodraeth hon, ond hyd nes y cawn yr hawliau hyn wedi'u hymgorffori mewn siarter neu mewn deddfwriaeth gadarn, byddwn yn gwneud cam â'r 800,000 hynny yn awr, ond mae'n ddemograffeg sy'n tyfu ac mae'n mynd i fynd yn llawer mwy. Diolch. Diolch yn fawr.

18:35

Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cysyniad hwn, a buaswn yn eich annog i'w ystyried, Weinidog, oherwydd ddoe ddiwethaf cawsom ddadl ynglŷn â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Roeddem yn sôn am barch, a pharch at blant, ac weithiau rydym yn anghofio bod pobl hŷn hefyd yn haeddu'r parch a'r goddefgarwch hwnnw, oherwydd credwn eu bod wedi wynebu troeon yr yrfa, eu bod yma, eu bod oll yn rhan o bethau. Gadewch i mi roi un enghraifft o sut y mae angen inni newid yr iaith a ddefnyddiwn wrth siarad â phobl hŷn. Adrannau damweiniau ac achosion brys, maent yn orlawn—nid o bobl hŷn drwy'r amser, ond o blant ifanc gyda bronciolitis a phob math o bethau eraill. Ond beth rydym yn ei glywed o hyd? Blocio gwelyau—'hen bobl yn blocio gwelyau a bod yn y ffordd'. Mae bod yn hen yn rhywbeth i'w ddathlu. Mae'n wych i fyw bywyd hir. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw rhoi urddas i bobl sy'n mynd yn hŷn.

Yn fy etholaeth i, mae gennym nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl hŷn yn yr etholaeth, ac mae llawer o bethau y gellid eu gwneud i wella eu bywydau, ond yn hytrach, rydym yn dileu gwasanaethau. Rydym yn anghofio meddwl sut y mae person hŷn yn ymdopi â'u diwrnod, yn ymdopi â'u hwythnos, yn ymdopi â'u bywydau. Pe bai gennym siarter o'r fath a'i bod yn cael ei hymgorffori, byddai o leiaf yn ein gorfodi i ystyried sut y mae person hŷn yn byw eu bywyd, yr heriau sy'n rhaid iddynt eu hwynebu, eu gallu i ddefnyddio trafnidiaeth, gofal iechyd a rhyngweithio cymdeithasol. Oherwydd, fel y mae Janet wedi ei ddweud, unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol yw un o'r prif bethau sy'n lladd pobl hŷn. Gallai hon fod yn ffordd ymlaen—

—a buaswn yn eich annog, Weinidog, o leiaf i ystyried hyn. Diolch.

Un o fy mhryderon am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel y'i cymhwyswyd yng Nghymru yw ei fod ond yn ein rhwymo ni yma yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi galw ers tro—yn sicr ar yr ochr hon i'r Siambr—am ymgorffori'r hawliau hynny ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, ac yn sicr yn ein gwasanaethau iechyd. Felly, nid wyf yn gwybod a ydych wedi ystyried, wrth edrych ar hawliau pobl hŷn, a ddylai fod yn ofynnol i bob un o'n meysydd gwasanaeth cyhoeddus roi sylw dyledus iddynt, nid ni yn unig yma yn y Cynulliad ac ar lefel Llywodraeth Cymru. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am y cyfle i'r comisiynydd pobl hŷn fod yn atebol a chael eu dewis gennym ni yma yn y Cynulliad, yn hytrach na'r Llywodraeth, a gofynnaf i chi ystyried hefyd, os ydym o ddifrif am gyflwyno hawliau, dylai fod dyletswyddau ynghlwm wrthynt er mwyn sicrhau y cedwir yr hawliau hynny.

Diolch yn fawr iawn. Nawr, a gaf fi alw ar y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Janet am ddod â'r ddadl hon ger ein bron heddiw, a hefyd i'r Aelodau eraill sydd wedi cyfrannu, a'r rhai sydd wedi aros yma i wrando ar y ddadl bwysig hon hefyd, ar bwnc pwysig iawn? Hefyd rwy'n dechrau drwy dalu teyrnged i'r comisiynydd pobl hŷn, Sarah Rochira, y cyfarfûm â hi yn gynnar yn fy swydd fel Gweinidog, a byddaf yn parhau i gyfarfod â hi'n rheolaidd. Y peth pwysig am rôl y comisiynydd pobl hŷn yw ei hannibyniaeth, a'r ffaith ei bod hi'n teimlo y gall siarad yn rymus dros hawliau pobl hŷn, a bydd yn gwneud hynny'n aml, a'i bod yn teimlo'n rhydd i feirniadu polisi Llywodraeth, lle bo'n briodol—a bydd hefyd, rhaid i mi ddweud, yn teimlo'n rhydd i gydnabod lle mae'r Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon wedi gwneud camau breision. Gwn nad oedd honno'n nodwedd fawr o'r cyfraniad agoriadol, ond mae hi mewn gwirionedd—a gallaf weld yr Aelod yn nodio—wedi cydnabod bod Cymru wedi gwneud llawer o bethau da yn y maes hwn ac wedi arwain y ffordd. Yn ysbryd y ddadl a'r ffordd y cafodd ei chynnig, rwy'n credu mai dyna lle mae angen inni gadw ffocws—ar Gymru yn arwain y ffordd. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw.

Credaf fod pawb ohonom yn sylweddoli mai'r unig ffordd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn yw drwy weithio gyda'n gilydd. Ymrwymiad a rennir ar draws y sector statudol, ond hefyd y sector preifat—ac rydym yn aml yn anghofio'r trydydd sector hefyd—yw llunio a darparu gwasanaethau sy'n sensitif i anghenion unigol pobl hŷn yng Nghymru. A rhaid i bob un o'r gwasanaethau hynny weithio i helpu pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd a chyhyd ag y maent yn dewis gwneud hynny, a gwneud hynny, fel y nodwyd, gydag urddas a pharch. Nid yw pawb ohonom yn mynd i gyrraedd oed Methwsela, a oedd yn 969 rwy'n credu, yn cael plant wrth i chi droi'n 100 a 200 a 300 oed, ond byddwn yn byw bywydau hwy, ac mae gallu gwneud hynny yn iach ac yn dda a byw gydag urddas ac yn ddiogel yn rhan bwysig o'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r agenda hon yng Nghymru. Gyda llaw, dyna pam y mae'r asesiadau o anghenion poblogaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar mor bwysig fel arwydd o faint yr her a sut y mae angen inni ymateb i'r her honno. Cyhoeddwyd yr adroddiadau asesu poblogaeth cyntaf y llynedd. Maent yn darparu sylfaen dystiolaeth glir a phenodol er mwyn llunio ystod o benderfyniadau cynllunio a gweithredu, ac rwyf am droi yn awr at rai o'r heriau hynny a'u maint.

Dangosodd inni fod pobl hŷn, fel y nodwyd yn y sylwadau agoriadol, yn arbennig o agored i unigrwydd ac arwahanrwydd, a dof yn ôl at hynny mewn eiliad. Mae pawb ohonom yn gweld hynny, gyda llaw, fel Aelodau Cynulliad unigol ac mewn ffrindiau a chymdogion ac o fewn ein cymunedau ein hunain, felly byddaf yn dychwelyd at hynny. Gwyddom o'r asesiad fod nifer gynyddol o bobl hŷn â dementia, a rhagwelir y bydd yn codi. Ceir eiddilwch cynyddol, afiechyd cynyddol. Gwelwn hyn—pobl hŷn ag anghenion cymhleth ac yn aml â phroblemau cydafiachedd cymhleth hefyd. Mwy o gwympiadau—gall pethau syml fel hynny effeithio'n fawr ar ansawdd bywyd unigolyn os na ddarparir y cymorth a'r cyfarpar cywir iddynt allu osgoi cwympo yn y cartref. Sut rydych chi'n byw'n annibynnol heb hynny? Rydym yn gwybod bod angen i bobl hŷn gael eu cynorthwyo i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, fod angen i bobl hŷn sydd ag anghenion mwy cymhleth gael eu cefnogi mewn gofal preswyl a gofal nyrsio priodol yn ogystal a bod pobl hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu nam ar eu golwg a'u clyw ac ati ac ati. Dyma'r heriau—rhai o'r heriau.

Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau hyn a diogelu hawliau pobl hŷn a sicrhau urddas ar ôl ymddeol a diogelwch pobl hŷn. Rwyf am droi at rai o'r ffyrdd yr ydym eisoes yn gwneud hyn cyn edrych ar ffyrdd y gallwn fwrw ymlaen yn y dyfodol. Drwy ein deddfwriaeth bresennol, ymgorfforir hawliau pobl hŷn yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cymerodd yr Aelodau yma ran yn y dadleuon hynny, ac ymgorfforir hawliau pobl hŷn yn yr holl ddeddfwriaeth honno, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, i'r corff cyhoeddus ac i'r unigolion yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth honno. Felly, mae ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn a dangos ei fod wedi cydymffurfio â'r egwyddorion mewn ffordd ystyrlon. Nawr, ceir 18 o'r egwyddorion hynny, ond y pum thema yw: annibyniaeth, cyfranogiad, hunangyflawniad, gofal ac urddas. Lluniwyd y ddeddfwriaeth hon i sicrhau bod llesiant a hawliau yn ganolog i bolisïau a chynlluniau allweddol a chaiff ei disgrifio mewn ffordd sy'n adlewyrchu lleisiau pobl hŷn a'r materion sydd o bwys iddynt.

Ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos ymrwymiad go iawn i gefnogi, hyrwyddo a diogelu hawliau pobl hŷn, felly mae'r datganiad hawliau pobl hŷn sydd eisoes yn bodoli yn anfon neges glir at gyrff statudol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, yn ogystal ag at bobl hŷn eu hunain, ynglŷn â'r disgwyliad ynghylch darparu cymorth a gwasanaethau i alluogi pobl hŷn i fyw bywydau annibynnol a llawn. Drwy'r datganiad hwnnw, caiff pobl hŷn eu cynorthwyo i ddeall yr hawliau sy'n berthnasol iddynt, sut i fynnu eu hawliau'n fwy effeithiol a sut y maent yn berthnasol i'r gyfraith bresennol ac i gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yn ogystal. Ac rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn i ddatblygu'r datganiad hwnnw. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd pobl hŷn. Rydym yn rhoi pwys mawr, fel y dywedais, ar y rôl hon a'i hannibyniaeth. Adlewyrchir hyn yn ein hymrwymiad i raglen Heneiddio'n Dda, sy'n cael ei darparu mewn partneriaeth â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Os edrychwch ar y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru, mae'n dod ag unigolion, cymunedau a'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru yn genedl sydd o blaid pobl hŷn.

Mae cymunedau sydd o blaid pobl hŷn yn ganolog i'r strategaeth genedlaethol ar gyfer pobl hŷn. Yng ngoleuni'r ddeddfwriaeth ddiweddar y cyfeiriais ati, rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru'r strategaeth er mwyn sicrhau ei bod yn parhau'n berthnasol ac yn uchelgeisiol i ysgogi'r gwelliannau i les pobl hŷn yng Nghymru.

18:45

Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A allai egluro beth y mae'n ystyried yw 'cymunedau sydd o blaid pobl hŷn' yn ei farn ef? Ym mha ystyr y byddai cymuned sydd o blaid pobl hŷn yn gweithredu o dan yr hyn a amlinellodd y Gweinidog yno? Oherwydd yn aml iawn, rydym yn sôn am ofal ac am edrych ar ôl pobl hŷn, ond fel y nododd fy nghyd-Aelod, Angela Burns, maent i'w dathlu, pobl hŷn, a gwyddom eu bod yn ddemograffeg sy'n tyfu yn ein cymdeithas.

Yn wir, fe drof at hynny. Mae wedi achub y blaen ar rai o'r sylwadau roeddwn yn mynd i ddod atynt, felly byddwch yn amyneddgar ac fe ddof at beth y mae hynny'n ei olygu.

Rhaid i'r strategaeth, sy'n cwmpasu'r cymunedau sydd o blaid pobl hŷn, hyrwyddo'r rôl bwysig y mae pobl hŷn yn ei chwarae yn y gymdeithas, gan gynnwys, fel y nodwyd yn briodol, pobl sydd am barhau i weithio wrth fynd yn hŷn, a phobl a fydd yn parhau i weithio yn y sector gwirfoddol, ac a fydd yn parhau i chwarae rolau a byw bywydau gweithgar fel rhieni a neiniau a theidiau, fel gofalwyr ac yn y blaen, a thrwy eu hymgysylltiad mewn gwaith cyflogedig neu ddi-dâl, gan rannu eu gwybodaeth a'u profiad, a chan gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr. Felly, mae fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio yn cynghori'r Llywodraeth ar ddatblygiad strategaeth i sicrhau bod unrhyw bolisi yn y dyfodol yn adlewyrchu'r hyn sydd o wir bwys i bobl hŷn yng Nghymru.

Rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol ystyried beth sy'n bwysig i bobl hŷn, a'r heriau a wynebir gan bobl hŷn wrth benderfynu ar lefel ac ystod gwasanaethau lleol a rhanbarthol. Mae hyn, fel y nodwyd, yn bwysicach nag erioed o'r blaen, gan mai'r disgwyl yw mai Cymru fydd yn gweld y cynnydd mwyaf dramatig o bobl 85 oed a hŷn yn y gwledydd hyn, a rhagwelir cynnydd o bron 120 y cant erbyn 2035. A chi fydd hynny—gan edrych ar draws y Siambr—a minnau.

Mae unigrwydd ac arwahanrwydd wedi cael sylw, a'u pwysigrwydd penodol mewn perthynas â pobl sy'n 80 oed a throsodd, er y gallent effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran. Mae dros hanner y bobl hŷn dros 75 oed yn byw ar eu pen eu hunain, ac maent yn wynebu risg benodol o unigrwydd ac arwahanrwydd gyda mwy o anghenion ac anghenion mwy penodol yn gysylltiedig ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl a llesiant. Yn y sylwadau hyn, rwy'n cymeradwyo rhai o'r mentrau a welais wrth deithio o amgylch. Bydd Suzy Davies yn gwybod am y digwyddiad OlympAge a gynahaliwyd ddwy flynedd yn olynol bellach rwy'n credu, lle mae pobl ifanc sy'n cael hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol a gwaith gofal wedi cymryd rhan ynghyd â phobl hŷn, yn bennaf o gartrefi preswyl, ond lle mae pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain hefyd, ac sy'n unig, yn cael eu cynnwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl ar y diwrnod, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn ogystal. Pethau fel hynny, yn ogystal â'r mudiad siediau dynion—rhaid i hwn fod yn ddull o weithredu sydd wedi'i gydlynu'n briodol ar gyfer trechu arwahanrwydd.

Mae ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', yn rhoi ymrwymiad clir i ddatblygu strategaeth genedlaethol a thrawslywodraethol i fynd i'r afael ag unigrwydd, a rhai o'r manylion, oherwydd weithiau mae'n ddefnyddiol edrych ar y manylion pan fyddwn yn sôn am beth y mae hyn yn ei olygu o fewn y gymuned, fel y dywedodd Andrew. Felly, er enghraifft, drwy Lywodraeth Cymru rydym eisoes wedi ariannu dull fesul cam dros dair blynedd ar gyfer sefydlu rhwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n cefnogi unigolion unig ac ynysig yn y cymunedau, drwy'r model presgripsiynu cymdeithasol yr ydym wedi siarad amdano yma o'r blaen: y syniad ein bod yn gweithio o fewn cymunedau yn hytrach na dibynnu, os mynnwch, ar y syniad traddodiadol o 'Rwy'n teimlo'n sâl, rwy'n teimlo'n unig'—wel, meddyginiaeth yw'r ateb uniongyrchol. Weithiau mae hynny'n wir, ond mewn gwirionedd mae presgripsiynu cymdeithasol a chael pobl i gymryd rhan yn y rhwydweithiau cymunedol lleol hyn—nid geiriau'n unig yw'r rhain. Rydym yn ariannu mentrau i ddatblygu'r rhwydweithiau hyn ledled Cymru.

Rydym wedi ariannu ymchwil ar ddulliau dan arweiniad gwirfoddolwyr i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae'r rhain yn argymell hybu dulliau dan arweiniad gwirfoddolwyr i fynd i'r afael ag unigrwydd. Rydym wedi darparu cyllid tair blynedd i'r Groes Goch Brydeinig a'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol o ychydig llai na £890,000 o dan grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy y trydydd sector, sy'n galluogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth cymorth di-dor i bobl hŷn yng Nghymru sy'n profi unigrwydd ac arwahanrwydd difrifol, afiechyd a fforddiadwyedd bywyd o ansawdd da ar ôl ymddeol, oherwydd gwyddom fod unigrwydd yn aml iawn yn gysylltiedig ag anallu i fynd allan yn y gymuned hefyd, ac i ymweld â ffrindiau, a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau, cymdogion a theulu.

Felly, rydym yn cydnabod cyfraniad mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus tuag at drechu unigrwydd ac arwahanrwydd. Ar hyn o bryd, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddyfodol y cynllun hynod boblogaidd sy'n rhoi teithiau bws am ddim i bobl hŷn neu anabl er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu gwneud defnydd ohono. Ar hyn o bryd, ceir ychydig o dan 750,000 o ddeiliaid cerdyn teithio presennol sy'n cael teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol. Byddwch chi a minnau'n gwybod—rydym yn eu cyfarfod, maent yn dweud cymaint y maent yn defnyddio'r cynllun a chymaint y maent yn ei werthfawrogi. Mae mor boblogaidd ar hyn o bryd, mewn gwirionedd, y cynllun presennol, fel bod bron hanner y teithiau ar wasanaethau bws lleol yn cael eu gwneud gan ddeiliaid cerdyn teithio. Nid oes gennyf un eto, ond rwy'n edrych ymlaen at ei gael yn y dyfodol.

Hefyd, mae pethau megis mynediad i doiledau cyhoeddus, y cafwyd cryn drafod arno yma yn ystod hynt Bil diweddar, er mwyn cynorthwyo pobl hŷn i fod yn aelodau gweithgar o'u cymunedau a lleihau arwahanrwydd. Mae'r rhain yn bethau ymarferol. Mae mynediad i doiledau at ddefnydd y cyhoedd yn fater sy'n effeithio ar iechyd, urddas ac ansawdd bywyd pobl. Felly, yn fuan iawn byddwn yn agor ymgynghoriad ar ganllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylent baratoi a chyhoeddi strategaethau toiledau lleol ar gyfer eu hardaloedd. Bydd hynny ym mis Ionawr, felly bydd o'n blaenau'n fuan iawn.

Rwyf am droi yn yr amser sy'n weddill at rai o'r pwyntiau a wnaed, nid yn lleiaf ar ddementia. Bellach mae dementia yn un o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n ein hwynebu o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Amcangyfrifir bod 40,000 i 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Yn 'Symud Cymru Ymlaen', ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi camau pellach ar waith i wneud Cymru yn wlad sy'n deall dementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd. Buaswn yn dweud hefyd fod gan bawb ohonom rôl i'w chwarae yn hyn. Mae fy staff fy hun wrthi'n mynd drwy ailhyfforddiant fel swyddfa sy'n deall dementia. Mae Maesteg, y dref rwy'n byw ac yn gweithio ynddi, hefyd yn ymfalchïo yn ei chymhwyster fel tref sy'n deall dementia. Felly, mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae. Mae rhanddeiliaid wedi helpu i lunio'r cynllun dementia sy'n nodi'r camau gweithredu a'r canlyniadau sy'n ofynnol ar hyd bob cam o'r llwybr gofal, a bydd yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, asesu a diagnosis, a sicrhau bod gofal a chymorth yn gallu addasu yn unol ag anghenion unigolion, gan mai taith yw hon.

Rwy'n ymwybodol o'r amser, fadam dirprwy lefarydd, ond roeddwn am droi, os gallaf ddod o hyd iddo, yn fyr iawn at fater hawliau. Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud glir mewn datganiad, yn ystod y diwrnod diwethaf hyd yn oed, ei bod hi'n dal i ystyried bod cael deddfwriaeth yn sail i hawliau yn brif ffordd ymlaen, ond hefyd gwnaeth yn glir yn y datganiad hwnnw ei bod hi am weithio gyda Llywodraeth Cymru. Yn wir, cyfarfûm â hi yn ddiweddar ac mae'n gweithio gyda fy nhîm hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd camau buan ac amlwg i sicrhau cynnydd ymarferol a fydd yn darparu'r canlyniadau yr ydym wedi sôn amdanynt yn y ddadl hon ar bobl hŷn, beth bynnag am fater darparu deddfwriaeth sy'n sicrhau hawliau. Mae hi'n dal yn bendant ynglyn â hynny a bydd yn pwyso ar y Llywodraeth, fel y mae wedi pwyso ar y Llywodraeth yn flaenorol, ac fel y mae'r Aelod gyferbyn yn dweud y bydd yn ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd ei chyd-Aelodau'n gwneud hynny hefyd.

Ond hoffwn ddweud yn syml, wrth bwyso am hynny, mae'n rhaid i ni hefyd ddal ati i gyflawni, ac rwyf wedi crybwyll rhai o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn eisoes. Gyda'n gilydd, rwy'n credu bod yn rhaid inni ei gwneud yn glir, fel y dywedodd Angela yn ei chyfraniad, fod heneiddio a heneiddio'n dda yn rhywbeth i'w ddathlu mewn gwirionedd. Mae hynny'n wir. Ac o'r herwydd, mae angen inni ddangos yn ein cyfraniadau ac yn y ffordd yr ydym yn trafod hyn a'r ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef, ein bod yn falch fel cenedl o wneud popeth a allwn i wneud bywydau'n dda, bywydau hir yn dda—gwneud popeth a allwn. Mae'r ddadl hon yn rhan o hynny, ond rhaid inni hefyd wneud hynny gyda mesurau pendant, a fy ymrwymiad, wrth gloi'r ddadl yma heddiw, ac i'r comisiynydd plant, yw parhau'r gwaith gyda'r holl bobl i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny, gan y bydd er lles pawb ohonom wrth inni fyw'n hwy.

18:50

Daeth y cyfarfod i ben am 18:54.