Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/11/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 12:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Teyrngedau i Carl Sargeant

Rydym ni wedi ymgynnull yn y Senedd hon ar sawl achlysur i gofio ac i roi teyrnged i bobl yr ydym wedi eu hadnabod, ac eraill nad ydym wedi eu hadnabod. Heddiw, rydym yn ymgynnull i gofio un o'n plith ni ein hunain: Carl Sargeant, Aelod Cynulliad a chynrychiolydd trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae ei farwolaeth wedi ein hysgwyd i'n craidd, ac mae ei absenoldeb o'n plith yn boen enaid inni heddiw. Ond nid yw ein colled ni yn ddim o'i gymharu â cholled ei gymuned, ei ffrindiau, ei staff, ac yn arbennig, ei deulu, ac mae rhai ohonynt wedi ymuno â ni yma heddiw. Ar ein rhan ni i gyd, estynnaf y cydymdeimlad dwysaf i deulu Carl, yn enwedig ei wraig Bernie, ei blant Lucy a Jack, a'i rieni. Rydych chi yn ein meddyliau ni ac yn ein calonnau ni ar yr adeg hon. Hoffwn wahodd yr Aelodau a staff ac ymwelwyr ym mhob rhan o'n hadeiladau i sefyll ac ymuno â mi mewn munud o dawelwch er cof am Carl Sargeant.

Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.

Diolch, Llywydd. Rwy'n sefyll y prynhawn yma i gofio Carl, fel gwleidydd, fel cydweithiwr, ac fel ffrind. Yn gyntaf, rwyf am estyn bob cydymdeimlad i Bernie a'r teulu. Iddyn nhw, mae wedi bod yn amser o golled annioddefol a thrawma ofnadwy. Rwyf innau'n dad ac yn ŵr, ac ni allaf ddechrau dychmygu eu dioddefaint. Rwy'n gobeithio eu bod wedi cael rhywfaint o gysur yn ei gilydd ac yn y llu o negeseuon o gefnogaeth o bob rhan o Gymru.

Roedd Carl yn rhywun yr oedd ei bresenoldeb yn y Siambr hon yn amlwg i bawb. Aeth â mwy o ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn nag unrhyw Weinidog arall. Ac roedd ganddo'r ddawn o droi darnau anodd o ddeddfwriaeth yn rhywbeth gwerth chweil. Does dim enghraifft well o hynny na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—syniad a ddechreuodd fel dim mwy nag un llinell mewn maniffesto. Pan ddywedais wrtho mai ef a fyddai'n bwrw ymlaen ag ef, ei ymateb oedd, 'Diolch am hynny', ond fe lwyddodd i'w droi yn rhywbeth y mae pobl yn ei drafod o amgylch y byd.

Cyfarfûm gyntaf â Carl yng Nghlwb Llafur Cei Connah yn 2001. Roeddwn i wedi mynd i siarad â'r Blaid Lafur leol pan oedd Tom Middlehurst yn Aelod Cynulliad. Pan gafodd ei ethol yma yn 2003, daethom yn ffrindiau. Daeth ei ddoniau arbennig i'r amlwg pan oedd yn brif chwip, a gwelais â'm llygaid fy hun ei fod yn gallu dweud y drefn yn addfwyn pan oedd angen, ac rwy'n cofio un achlysur pan aeth ag AC amharod allan i fwydo'r hwyaid er mwyn perswadio'r aelod i bleidleisio y ffordd iawn. Gŵr dawnus dros ben. Yn yr holl flynyddoedd yr oeddem ni'n adnabod ein gilydd, ni fu erioed yr un gair croes rhyngom. Gwnaethom dreulio llawer o amser yn trafod heriau bod yn dad a phwysau gwleidyddiaeth, weithiau'n hel clecs am gydweithwyr yn y Cabinet. Ac roedd bob amser yn llawn cyngor. Dim ond y llynedd, dywedodd wrthyf nad oedd neb ond fe yn cael bod â barf llwyd yn y Cabinet, ac felly bod yn rhaid i mi eillio fy un i, Prif Weinidog Cymru neu beidio. Doedd gen i ddim dewis ond gwrando.

Roedd bob amser yn rhan o'r Cabinet, a hynny am reswm da. Fe'i penodais ef oherwydd ei fod yn un da am ddeddfwriaeth, am ei fod yn dda gyda phobl, ac am ei fod yn dod â llais Glannau Dyfrdwy i galon y Llywodraeth.

Yn 2003, roedd yn rhan allweddol o fy ymgyrch i ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ei swyddogaeth ef oedd trefnu pethau yn y gogledd, ond doedd pethau ddim bob amser yn mynd yn esmwyth. Trefnodd noson gyri gydag aelodau'r blaid, mewn bwyty cyri yn ei etholaeth. Ac wrth i mi gael fy ngyrru yno, ffoniodd mewn panig, 'Paid â dod', ddywedodd e', 'mae'r bwyty'n cael ei archwilio gan yr Asiantaeth Ffiniau', neu eiriau i'r perwyl hwnnw. Byddem ni'n aml yn cwrdd yn ystafell Lesley Griffiths yn y Cynulliad, yn hwyr y nos yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth honno, ac ef fyddai'r olaf i gyrraedd bob amser, a byddai'n gwneud sioe fawr o esgus edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr nad oedd neb wedi'i ddilyn. Fe wnai hynny bob tro yn y cyfarfodydd hynny.

Roeddwn yn falch o glywed ei lais fel arfer, ond nid bob tro. Aethom ni i Lundain gyda'n gilydd i barti Nadolig seneddol y Blaid Lafur rai blynyddoedd yn ôl, ac roeddem ni'n rhannu ystafell mewn gwesty yn Paddington. Mae'n rhaid imi gyfaddef imi adael yn gynnar, ond brwydrodd Carl ymlaen, a chefais fy neffro am dri o'r gloch y bore i glywed llais Carl ar fy ffôn yn dweud, 'Beth yw enw'r gwesty ry'n ni'n aros ynddo?'. Ar ôl fy neffro i, cyrhaeddodd wedyn a mynd i gysgu, dim ond i ni gael ein deffro gan y larwm tân am saith o'r gloch yn y bore. O leiaf doedd gan hynny ddim byd i'w wneud â ni.

Roedd Carl wrth ei fodd yn canu karaoke. Ym mharti Nadolig grŵp Llafur, ef oedd y DJ a brenin y karaoke bob amser, ac roedd yn dda iawn am wneud, ac fe daflodd e ni i gyd i'r cysgod yn ei barti pen-blwydd yn 40 oed. Roedd yn hoff iawn o'n hatgoffa ni, pan fyddai'n dweud, 'Allwch chi hwntws ddim canu', ac yn fy achos roedd hynny'n hollol wir. Mae'n anodd dychmygu sut fydd hi hebddo fe eleni, ac yn y blynyddoedd i ddod.

Ef hefyd, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, oedd yr heclwr gorau yn y Siambr—byth yn gas, bob amser yn ffraeth. Mae'r meinciau Ceidwadol yn gwybod, pryd bynnag yr oedd arweinydd yr wrthblaid yn codi i siarad, y byddai yn ddieithriad yn galw enw rhywun arall. Ac felly, mae Paul Davies, Darren Millar, Angela Burns i gyd wedi'u galw yn eu tro i siarad fel arweinydd yr wrthblaid.

Ie, dyna oedd y dyn yr oeddem ni'n ei alw'n 'Sarge'. Yn annwyl gan bawb ac yn ymrwymedig, yn siriol ond yn benderfynol, yn gadarn ond yn llawn hwyl, a bydd hiraeth amdano gan ei deulu, y bobl yn y Siambr hon a'r genedl gyfan.

12:35

Galwaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Diolch i chi, Llywydd.

Mae hon yn achlysur na feddyliais i erioed y byddwn i'n siarad ynddi yn y Siambr hon, ac, yn wir, yn y 10 mlynedd ers i mi fod yn Aelod o'r sefydliad, mae Carl bob amser wedi eistedd gyferbyn â mi. P'un a oeddwn yn eistedd yn y gornel yn y fan yna, yn fy sedd gyntaf pan ddes i'r Siambr hon yn 2007, neu wrth i mi fynd ymlaen o amgylch y Siambr, roedd Carl bob amser yn eistedd gyferbyn â mi. Ac, ar ddydd Mawrth nodweddiadol, byddem ni'n edrych ar ein gilydd a byddai'n gwenu ac yn wincio, a byddwn i'n wincio yn ôl arno, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, pan fyddwn i'n cael fy ngalw i gymryd fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog, yr hyn glywid bob tro oedd 'Paul Davies' neu 'Darren Millar.' Ond dyna Carl i chi. Roedd Carl yn gymeriad, ond roedd hefyd yn unigolyn difrifol a wyddai beth oedd ei swyddogaeth yn y sefydliad hwn. A'r swyddogaeth honno oedd siarad ar ran pobl Alyn a Glannau Dyfrdwy a siarad ar ran pobl ar hyd a lled Cymru nad oedd ganddynt lais, yn rhinwedd yr amryw swyddi gweinidogol a oedd ganddo yn Llywodraeth Cymru. Ac roedd yn cyflawni'r swyddi hynny â balchder ac angerdd enfawr. O safbwynt yr wrthblaid, yn aml iawn byddwch chi'n eistedd yma, ac weithiau gall y Siambr edrych yn eithaf gwag ar brynhawn dydd Mercher. Mae'n deg dweud bod Carl wedi bod yn ei sedd yn y Siambr hon bron bob tro, yn cymryd rhan yn y ddadl, yn cymryd rhan yn y drafodaeth, oherwydd ei fod yn credu'n angerddol yn yr hyn yr oedd yn dymuno ei gyflawni, sef Cymru well, cymuned well yn Alyn a Glannau Dyfrdwy ac, yn anad dim, etifeddiaeth y gallai ef edrych yn ôl arni â balchder a dweud, 'Fi ffurfiodd hynny.'

Wel, mae'n wir i ddweud y daeth yn ddeddfwr o fri yn y sefydliad hwn—pedwar darn pwysig o ddeddfwriaeth. Yn aml iawn, mae gwleidyddion yn lwcus i gael un darn o ddeddfwriaeth yn ystod eu hoes; cyflwynodd Carl bedwar darn o ddeddfwriaeth. Gŵr a ddechreuodd ar lawr y ffatri, a oedd yn deffro bob bore a gwisgo coler a thei a'r dolennau llewys, fydd â hyn yn etifeddiaeth—bydd pob darn o ddeddfwriaeth yn cael effaith enfawr ar y canlyniadau yma yng Nghymru o ran gwella bywydau pobl.

Rydym ni wedi colli cydweithiwr, rydym ni wedi colli ffrind, ond mae Bernie, Lucy a mab Carl wedi colli tad a gŵr, ac mae'n rhaid bod y boen a'r galar honno yn llosgi'n ffyrnig ar hyn o bryd. Ond yr hyn yr wyf i a llawer ohonom ar ein meinciau ar yr ochr hon, ac, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, yn ei obeithio, yw mai'r hyn a fydd yn disgleirio yng nghyflawnder amser yw'r atgofion melys niferus a fydd ganddynt o'r amseroedd gwych a gawsant gyda Carl, fel tad, fel mentor, ac fel ysbrydoliaeth.17

Rydych chi'n ffurfio'ch barn eich hun am bobl, ond mae'n rhaid imi ddweud mai ef oedd un o'r dynion mwyaf diffuant yr wyf i wedi cael y fraint o gyfarfod ag ef, ac mae'r darlun yna o Carl yn crynhoi'r dyn: bob tro â gwên ar ei wyneb, bob amser a gair caredig i'w ddweud, a phob tro â sylw ffraeth hefyd wrth i chi gerdded ar hyd y coridor, a phob tro byddwn i'n ei weld byddai'n dweud 'Be' sy', bos, be' sy'n digwydd, bos?' Rwy'n credu y byddai hynny'n wir am lawer o bobl yn y Siambr hon. Daw'r gair 'bos' o wreiddiau Carl: o lawr y ffatri. Oherwydd yn aml pan fydda' i ar fuarth y fferm a bydd pobl yn cyrraedd yno—'be' sy', bos?'—cewch yr un ateb ganddyn nhw hefyd.18

Bydd ei etifeddiaeth yn para blynyddoedd a degawdau lawer, o ran y gwaith a wnaeth fel Aelod Cynulliad, ac rwy'n gobeithio'n daer y daw'r heulwen hynny i ddisgleirio yn fuan iawn er lles teulu Carl, oherwydd yn y pen draw mae ganddo etifeddiaeth i fod yn falch ohoni a bu'n fraint ac yn anrhydedd i alw Carl yn gyd-Aelod Cynulliad o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym yn ymuno â'i deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn eu galar amdano yma heddiw ac yn y dyddiau a'r wythnosau i ddilyn.

12:40

Diolch, Llywydd. Hoffwn i ychwanegu at y teyrngedau i Carl Sargeant, unwaith eto, ar ôl mynegi fy nghydymdeimlad a'm cyfarchion i'w deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn y Siambr hon ac, yn wir, ledled y wlad. Cefais fy ethol i'r sefydliad hwn yn 2003, yr un flwyddyn â Carl Sargeant, ac, o'm safbwynt i, y peth rwyf i'n ei gysylltu ag ef yw ei gysylltiad cadarn â'i wreiddiau a'i ddiffuantrwydd. Roedd e'n wleidydd dosbarth gweithiol diffuant, roedd wedi ei wreiddio yn ei gymuned ac yn ymrwymedig iddi, yn byw ymhlith y bobl yr oedd yn eu cynrychioli, heb eu hanghofio byth, a bob amser yn gweithio drostyn nhw. Roedd e'n weithiwr ei hun, wrth gwrs, a ddaeth i wleidyddiaeth ar ôl gweld ei gyd-weithwyr yn ei etholaeth yn disgyn i galedi economaidd. Roedd Carl Sargeant yn wleidydd nad oedd modd ei gyhuddo o fod wedi colli cysylltiad. Mae ei golled yn ergyd i'r Cynulliad hwn ac rwyf i, a Plaid Cymru, yn rhannu'r golled a gaiff ei deimlo ar draws y Siambr hon a ledled y wlad.

Ni all fy nghyd-Aelod, Bethan Jenkins, fod yma heddiw i dalu ei theyrnged bersonol ei hun i'w ffrind Carl Sargeant, oherwydd ei bod hi wedi dioddef anaf. Byddai hi wedi siarad, felly rwyf i wedi cytuno i ddweud ychydig o eiriau gan Bethan ar ei rhan. Felly, mae hwn gan Bethan Jenkins:

'Roedd Carl Sargeant yn ffrind i mi o ochr arall y rhaniad gwleidyddol. Er i lawer o bobl ddweud wrthyf na ddylwn i fod â ffrindiau mewn gwahanol bleidiau, rwyf wedi credu erioed ein bod ni'n bobl yn gyntaf. Y cyfan y gwn i yw, pryd bynnag yr oedd angen cymorth neu rywun i siarad am unrhyw beth, roedd Carl ar ben arall y ffôn. Byddem ni'n cael jôc ar ôl i mi godi cwestiynau iddo yn y cyfarfod llawn er ein bod ni'n gwrthdaro yn wleidyddol, ei fod ef yn dal i'm parchu i, ac i'r gwrthwyneb. A gaf i ddweud ar goedd fy mod i wedi torri nghalon. Mae fy nghraig o gymorth yn y lle hwn wedi mynd. Gorwedd mewn hedd, Carl.'

Felly, dyna eiriau Bethan Jenkins, sy'n talu teyrnged i Carl Sargeant, gan ychwanegu at y teyrngedau gan bob un ohonom ni yma ym Mhlaid Cymru. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Llywydd. Roedd Carl Sargeant yn gawr addfwyn ac rwy'n hynod o drist yn sgil y drasiedi sydd wedi arwain at y deyrnged hon.

Nid ydym yn gwybod y stori lawn eto ond nid oedd Carl yn haeddu dioddef fel y gwnaeth. Gwn o brofiad personol chwerw y gofid a amgylchynodd Carl a'i deulu ychydig dros wythnos yn ôl yn sgil yr honiadau yn ei erbyn. Un ar bymtheg o flynyddoedd yn ôl, ces i a fy ngwraig ein cyhuddo o drais rhywiol, stori a achosodd gynnwrf mawr yn y papurau newydd tabloid. Nawr, os ydych chi mewn bywyd cyhoeddus, mae bywyd yn gyhoeddus, ond oni bai eich bod wedi cael profiad ohono, ni allwch chi fyth â gwerthfawrogi'n llawn y pwysau a ddaw yn sgil y cyhoeddusrwydd a'r ymdeimlad o unigedd sy'n deillio o hynny. Mae'r rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd y mae gan bob person a gyhuddir hawl iddi o dan gyfraith Prydain yn aml yn cael ei chymylu. Mae'n hawdd i'r cyhoedd anghofio bod gwleidyddion yn bobl, sydd â theimladau, gobeithion, ofnau, emosiynau ac ansicrwydd. Nid cymeriadau opera sebon mohonynt, maen nhw'n bobl o gig a gwaed. Yr hyn y mae'r beirniaid sy'n rhuthro i feirniadu yn ei anghofio, yw teulu'r gwleidydd: gwŷr a gwragedd, plant, rhieni ac eraill, ac mae'n rhaid bod teulu Carl yn teimlo fel pe bai trên cyflym wedi'u taro. Rwy'n anfon fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant atyn nhw yn eu gofid parhaus, oherwydd honno yw'r gost ddynol ddirdynnol o'r talwrn gwleidyddol.

Rwy'n falch y bydd y crwner yn

edrych yn ofalus ar y camau a gymerwyd gan y Cynulliad i roi sylw i les meddwl Mr Sargeant cyn ei farwolaeth.

Rydym ni i gyd yn amlwg wedi methu ein diweddar gyd-Aelod yn hyn o beth.

Roedd Carl a minnau yn gwbl groes i'n gilydd yn wleidyddol, a byddem ni'n taflu cerrig at ein gilydd ar draws y Siambr yn llon, ond yr oedd yn ddyn gwâr a gweddus, ac yn ddigon o ddyn i gydnabod diffuantrwydd y gwrthwynebydd, ac nid oedd yn caniatáu i wahaniaethau gwleidyddol atal perthynas ddymunol y tu allan i'r Siambr. Yn wir, ces i sgwrs hwyliog ag ef ar y ffordd yn ôl i'n swyddfeydd ar ôl y cyfarfod llawn diwethaf, wythnos yn ôl ddydd Mercher diwethaf. Prin yr oeddwn i'n meddwl mai hwnnw oedd y tro diwethaf y byddwn i'n ei weld.

Fel un sy'n weddol newydd yma, nid oeddwn i'n ei adnabod yn dda iawn, ond roeddwn i'n ei hoffi am ei sirioldeb dymunol, ei gyfeillgarwch a'r ddiffuantrwydd—ei ddiffuantrwydd yn anad dim. Roedd e'n ddyn y bobl go iawn, heb golli ei gysylltiad â'i wreiddiau, ac rwy'n credu ei fod yn dal i fyw ar y stad cyngor lle cafodd ei fagu. Ni wnaeth fyth arddangos unrhyw feddwl uchel o'i hun, er gwaethaf ei ddyrchafu i swyddi uchel yn y Llywodraeth am flynyddoedd lawer. Byddwn i'n aml yn ei weld yn eistedd gyda staff arlwyo y Cynulliad neu'r staff diogelwch yn y ffreutur. Nid oedd yn ystyried ei hun yn bwysicach nag unrhyw un arall.

Roeddwn i'n ei edmygu hefyd am ei onestrwydd a'i ddidwylledd. Er enghraifft, gwnaeth argraff arnaf i am ei ffordd bendant o ymdrin â methiannau Cymunedau yn Gyntaf. Nid oedd ef yn un am wrthod ymateb neu hunan-gyfiawnhau. Yr oedd yn siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn cyflwyno pethau'n blaen. O ganlyniad i hynny, fe wnaeth ennyn fy mharch ac efallai torri blaen fy nghleddyf.

Mae teulu Carl wedi colli ei angor. Mae'r Cynulliad wedi colli Aelod teilwng. Mae Cymru wedi colli mab ffyddlon. Gorffwysed mewn hedd, a gadewch inni roi iddo bob dyledus glod.

12:45

Wythnos yn ddiweddarach, mae'n dal yr un mor anodd i brosesu ein bod ni yma heddiw i dalu teyrnged i Carl. Cyfarfûm i hefyd â Carl am y tro cyntaf 16 mlynedd yn ôl yn y Clwb Llafur yng Nghei Connah, neu 'Pencadlys Sargie', fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yn falch o gael ei ethol i'r lle hwn yn 2003 gan bobl Alun a Glannau Dyfrdwy. Dilynais i yn 2007, a daethom yn ffrindiau mawr yn gyflym, yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r gogledd y rhan fwyaf o wythnosau.

Roedd Carl yn byw yng nghanol ei gymuned yng Nghei Connah. Nid anghofiodd ei wreiddiau, ac roedd yn falch o'i gefndir dosbarth gweithiol. Ar y diwrnod yr ymunodd â'r Cabinet, a minnau â'r Llywodraeth, gwnaethom rannu'r daith adref yn llawn cyffro am y dyfodol, a'r hyn yr oeddem ni'n credu y gallem ni ei gyflawni dros bobl Cymru, ac fe wnaeth Carl gyflawni cymaint. Aeth ef â'r mwy o ddeddfwriaeth drwyddo nag unrhyw Weinidog arall. Ychydig iawn o Filiau a Deddfau a geir na wnaeth Carl gyfrannu atynt. Fe wnaeth hyrwyddo'r gwaith sy'n cael ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, digartrefedd a chaethwasiaeth fodern. Daeth yn Gennad Rhuban Gwyn, gan ddweud sut y bu'n dyst i gam-driniaeth ddomestig am y tro cyntaf yn ei gymdogaeth ar ôl i waith dur Shotton gau, pan welodd ei gymuned yn cael ei chwalu. Bob blwyddyn, cefnogodd ddioddefwyr cam-driniaeth ddomestig drwy gerdded 'milltir yn ei hesgidiau', er ei fod bob amser yn cael trafferth i gerdded yn y sodlau uchel.

Roedd Carl yn wleidydd anhygoel, yn fedrus iawn wrth negodi, ond nid o reidrwydd yn y dull y byddech yn ei ddisgwyl gan uwch Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddai mai'r ffordd o gael y gorau allan o bobl oedd darbwyllo a dylanwadu dros baned o de a custard creams, neu weithiau rhywbeth cryfach. Roedd yn trin pawb yr un peth, wrth roi cyngor i etholwr, wrth sgwrsio â'r teulu brenhinol yn agoriad y Cynulliad Cenedlaethol, wrth siarad â Gweinidogion Llywodraeth y DU a oedd wedi'u haddysgu yn Eton, neu'r dyn yn eistedd wrth ei ymyl yn y bar yn Mischief's. Roedd yn llawn hwyl ac yn ddireidus iawn ar adegau, ond roedd yn cymryd ei swyddogaeth fel cynrychiolydd etholedig yn ddifrifol iawn, ac roedd yn falch o fod yn eiriolwr ar ran ei etholwyr, yn enwedig y rhai hynny nad oedd ganddynt lais.

Yma yn y Cynulliad hwn, ac yn Llywodraeth Cymru, roedd yn trin pawb yn gyfartal. Roedd yn gofalu am bob un ohonom ac yn ein cefnogi, ei gydweithwyr yr Aelodau Cynulliad, nid yn unig yn ein grŵp ni, ond ar draws y pleidiau gwleidyddol. Roedd wrth ei fodd â'r staff yn ei swyddfa etholaeth a'i swyddfa breifat gweinidogol. Roedd y staff yn ein ffreutur a'r staff diogelwch ymysg ei ffefrynnau. Roedd ganddo le arbennig yn ei galon ar gyfer ei gynghorwyr arbenigol ac arbennig. Yn y Llywodraeth, roedd yn parchu ei swyddogion a'r amryfal dimau Bil y bu'n gweithio gyda nhw. Ond rwy'n credu mai ei ffefrynnau absoliwt oedd y gyrwyr gweinidogol. Gallen nhw ysgrifennu llyfr yn llawn straeon am yr oriau lawer a dreuliasant yn teithio o amgylch Cymru yn ystod y 10 mlynedd y bu Carl yn y Llywodraeth.

Roedd gan Carl synnwyr digrifwch drygionus ac roedd yn hoff iawn o wneud imi ac eraill chwerthin, yn aml ar yr adegau mwyaf amhriodol. Roedd yn adnabyddus am dynnu coes ac roedd bob amser yn ennill gwobr heclwr y flwyddyn. Roedd yn bleser i eistedd wrth ei ymyl yn y Cabinet ac yma yn y Siambr, ac un o swyddi pwysicaf Carl yma oedd sicrhau bod y drôr yr oeddem yn ei rhannu bob amser yn llawn losin. Un diwrnod, daeth â rhai newydd i mewn a dywedodd wrthyf i roi cynnig ar un, ond yn fy null arferol gafaelais mewn llond llaw, dim ond i ganfod wrth eu bwyta eu bod yn losin tsilis poeth. Prin y gallai guddio ei lawenydd o weld fy anesmwythder.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuodd ddilyn hobi newydd a phenderfynodd ddysgu ei hun i wneud gwaith crosio. Byddai'n eistedd ar y trên adref yn gwylio fideo YouTube i ddysgu ei hun, gyda bachyn crosio a gwlân yn ei ddwylo. Nid oedd hyn heb ei rwystredigaeth; aeth popeth i'r llawr sawl gwaith. Ond, fel popeth yr oedd yn ei ddechrau, roedd yn ei feistroli'n gyflym ac fe greodd rai eitemau hardd. Gallech chi weld yr olwg syfrdan ar wynebau rhai o'r cyd-deithwyr wrth wylio'r dyn mawr, cadarn hwn yn crosio boned babi bach, pinc.

Roedd Carl yn un o'r bobl fwyaf hael i mi gyfarfod erioed, yn enwedig â'i amser, ac roedd wrth ei fodd yn cymdeithasu gyda'i deulu a'i ffrindiau. Tu ôl i'r tu allan cadarn a hwyliog roedd yna enaid hardd, sensitif a bregus. Roedd bob amser yn dweud wrth bobl pa mor arbennig ac unigryw oedden nhw, oherwydd bod sut yr oedd pobl yn ei deimlo yn bwysig iddo. Roedd yn garedig wrth bobl, ac mae caredigrwydd at bobl yn etifeddiaeth aruthrol i'w gadael ar ôl.

Ef oedd fy nghyfaill a'm cymrawd pennaf. Roeddwn yn ei garu fel brawd, ac er mai ei enw anwes i mi oedd 'mam'—er wrth gwrs nad oeddwn yn ddigon hen i fod yn fam iddo—gwn ei fod yn fy ngharu innau fel chwaer. Roedd yn gofalu amdanaf i a'm merched fel estyniad o'i deulu ei hun ac mae'r ffaith nad yw e gyda ni bellach yn torri ein calonnau ni. Ond ni allwn ni gymharu ein colled ni â'r galar annisgrifiadwy y mae Bernie, Lucy a Jack yn ei deimlo. Yr oedd yn eu caru'n angerddol ac yr oedd mor falch ohonynt.

Iddyn nhw, rhieni Carl, a'i holl deulu, estynnwn ein cariad a'n cefnogaeth dros yr wythnosau a'r misoedd anodd sydd i ddod. Carl, wna' i fyth dy anghofio di a byddaf yn gweld dy eisiau di'n ofnadwy. Gorffwysed mewn hedd, gymrawd.

12:50

Roedd Carl yn berson a oedd yn gwisgo ei galon ar ei lawes, ond roedd ganddo bethau eraill i fyny ei lawes, gan gynnwys tatŵ o'i hoff ddiod—tywyll a stormus, neu, fel y byddai ef wedi'i ddweud, tywyll a stormus, bos. Nid gwleidydd confensiynol mohono. Roedd e'n llawn carisma a chariad at fywyd. Ond ni chafodd fyth gyfle i ddilysu ei ddeallusrwydd academaidd â gradd o'r Brifysgol. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod ganddo fwy o ddeallusrwydd emosiynol na'r rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon heddiw, fwy na thebyg.

Cyfarfûm â Carl gyntaf yn ôl yn y 1990au, ar adeg pan oedd ganddo ef fwy o wallt ac roedd gen i fwy o bwysau. Roeddem ni'n llawn cyffro am wleidyddiaeth y dyfodol. Yn ystod ei etholiad cyntaf—. Mae'n werth nodi na gollodd etholiad na detholiad erioed. Yn ystod ei etholiad cyntaf, daeth yn amlwg bod ganddo ffordd unigryw o siarad ag etholwyr ar garreg y drws. Mae'n rhaid ei fod wedi cwrdd â degau o filoedd o bobl yn ystod ei etholiad cyntaf, yn curo ar gynifer o ddrysau ledled Alyn a Glannau Dyfrdwy. Byddai'n dod â phob sgwrs ag etholwyr i ben trwy ddweud yn gwta ac, o ystyried ei ffrâm, yn eithaf bygythiol, 'Hei', ac yna byddai'n ei ddilyn yn gynnes braf â 'cymerwch ofal'.

Byddai'n dweud hyn wrth bawb. Hyd y diwedd un, byddai'n dweud, 'cymer ofal, mêt. Cymer ofal, frawd. Cymer ofal, chwaer.' A'r bobl y byddai'n dymuno i ni ofalu amdanynt fwyaf yn awr yw ei deulu. Ei wraig, Bernie—Bernie, sydd â rhinweddau a sgiliau nad ydynt wedi'u dysgu drwy ddatblygiad proffesiynol ond sy'n reddfol—ei dirnadaeth, ei thosturi, dyna beth sy'n ei gwneud yn gydweithiwr ac yn ffrind mor dda i bawb mae hi'n eu caru. Ei ferch hyfryd, Lucy—unwaith eto, yn anhygoel o dosturiol, mae ganddi'r fath empathi a chadernid; rhywun sy'n rhannu synnwyr digrifwch gwych ei thad. Yna Jack—sy'n greadigol, yn arloesol ac yn ofalgar—ac unwaith eto, yn llawn cariad tuag at y bobl sy'n agos ato. Ac allwn ni ddim ag anghofio Joey—Joey bach. Does neb yn rhoi Joey yn y gornel—mi fydd yn mynd i'r angladd. Wedyn mae aelodau'r teulu ehangach a ffrindiau a'r gymuned. Roedd eu gwaed yn llifo drwy wythiennau Carl, ac roedd e'n hynod o falch o hyn.

Mae'n rhaid inni gydnabod pwysau'r amseroedd trist hyn, ond mae'n rhaid mynegi ein teimladau, yn hytrach na dweud yr hyn y dylem ni ei ddweud. Rwy'n credu bod Carl yn siarad yn aml am ei deimladau, ac am ei gariad at ei deulu a'i gariad at fywyd. Roedd Carl wrth ei fodd â cherddoriaeth. Roedd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth ac yn hoffi dawnsio i gerddoriaeth—i ganeuon fel 'I Love to Love', 'Voulez-vouz' a llawer iawn o ganeuon eraill. Uwchben y fynedfa i'w ystafell i deulu a ffrindiau yn ei gartref—ystafell fawr lle y byddai'n chwarae'r DJ, yn rhannu diodydd, yn rhannu straeon, yn rhannu cariad—mae geiriau un o'i hoff ganeuon:

'Sometimes I feel like throwing my hands up in the air. / I know I can count on you. / Sometimes I feel like saying, "Lord, I just don't care." / But you've got the love I need to see me through.'

Rwy'n credu os oes yna etifeddiaeth, etifeddiaeth barhaol i Carl, yr etifeddiaeth honno yw i ni i gyd ddangos ychydig mwy o gariad a gofal at ein gilydd, dylem ni fod yn fwy caredig a bod â mwy o barch at ein gilydd, nid yn y fan yma yn unig, ond ym mhob rhan o'n cymdeithas, a newid ein diwylliant er gwell.

Yn olaf, Carl, hoffwn ddweud hyn wrthyt ti: dim ond un drws arall y mae'n rhaid i ti guro arno, ond, ar ran yr holl bobl hynny a agorodd eu drysau, a'u calonnau i ti—Carl, cymer di ofal.

12:55

Rwy'n codi i gofio Carl yn gyntaf ac yn bennaf fel y Prif Chwip, ag ef yn dod ar hyd y coridor bob bore Mawrth i weld a fyddwn i'n ufuddhau i'r chwip. Roedd fy ymchwilydd yn meddwl bod hon yn agwedd wirioneddol garedig a gofalgar gan y Prif Chwip. Ddyweda' i ddim wrthych chi beth fyddwn i'n ei ddweud wrtho, ond byddai'n gwybod o hynny pa un a oeddem ni'n barod i gweryla. Ond wnaeth Carl fyth codi ei lais. Fi fyddai'n gwneud hynny—roeddwn yn arfer codi fy llais i lawr y coridor. Rwy'n credu bod pobl wedi clywed yr hyn yr oeddwn i'n bwriadu ei wneud ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).

Rwy'n cofio dod i'r bleidlais honno, a gofynnodd ef, 'Wel, beth wyt ti'n mynd i'w wneud, mêt? Tyrd ymlaen, mêt. Tyrd ymlaen, mêt—rwyt ti i fod gyda ni nawr, mêt. Beth wyt ti'n mynd i'w wneud?' A dywedais i, 'Aros i gael gweld'. Penderfynais wedyn y byddwn yn pleidleisio gyda'r chwip y tro hwnnw, a galwais ef i ddweud wrtho. Roedd e'n credu fy mod i'n mynd i ddweud wrtho na fyddwn i'n gwneud hyn. Roeddem ni'n sefyll yn yr hyn yr ydw i'n adnabod fel y coridor Richard Rogers, ac roedd y drws ar agor. Rwy'n credu mai cyd-aelodau o'r Blaid Geidwadol a ddywedodd, pan eisteddais i nôl lawr, 'O, doeddwn i ddim yn sylweddoli mai dyna sut fyddwch chi'n siarad â'ch Prif Chwip'. Felly, roedd honno'n wers i mi.

Ond doedd Carl byth yn dal dig. Gwnaeth Carl bob amser, bob amser yr hyn a allai dros Ddyffryn Clwyd. Dywedais yn gellweirus heddiw y byddwn i'n gofyn i rywun daflu bwced o ddŵr drosof i cyn imi sefyll i siarad, oherwydd does dim ots i ble y byddai Carl yn mynd yn ei bortffolio fel Gweinidog yr Amgylchedd, byddai'n siŵr o fod yn tywallt y glaw, yn gwynt yn chwythu'n arw a ninnau mewn mwd hyd at ein fferau. Roeddem ar lannau Afon Elwy, rwyf wedi dweud y stori hon, ac mae hi wedi fy helpu i fynd ymlaen, felly gobeithio y bydd yn helpu Bernie a'r teulu i fynd ymlaen hefyd. Mae'n sefyll ar y draethell ac yn dechrau llithro, ac rwy'n ceisio symud yn ôl. Mae'n fy nhynnu i, ac mae'n dweud 'Tyrd, tyrd—rydym ni'n gyda'n gilydd ar hyn', ac rwy'n mynd, 'na, dydyn ni ddim—rwy'n mynd yn ôl i fyny'.

Ac yna, fy hoff un i yw pan oeddem ni'n sefyll ar bromenâd y Rhyl i agor yr amddiffynfeydd môr. Mae Sir Ddinbych wedi rhoi rhuban hyfryd inni ei thorri, ac ymbarél a drodd y tu chwith allan yn syth. Felly, rhoddodd Carl hwn i'r neilltu, ac roedd y gyrrwr yn eistedd yno. Gwnaethom ni geisio torri'r rhuban, a dywedodd ef wrth y camerâu—y BBC ac ITV—dywedodd, 'Wel, mae hi'n galw'r lle 'ma yn Rhyl heulog; y tro nesaf y byddi di'n sôn am y Rhyl heulog yn y Siambr, byddaf yn dy atgoffa di nad ydyn ni erioed wedi bod yn y Rhyl â'r haul yn gwenu.' Ond roedd Carl yn arfer dod i'r Rhyl gyda'i deulu. Roedd Carl yn gwybod mwy am ddatblygiad y Rhyl na fi ar brydiau, oherwydd byddai'n cerdded o gwmpas y strydoedd hynny, a dyna sut ddyn oedd ef. Roedd Carl yn adnabod y bobl yn y Rhyl yn yr un modd ag yr oedd e'n adnabod y bobl yng Nghei Connah, oherwydd ein bod ni'n bobl debyg—yr un cymunedau—a dyna lle'r oedd calon Carl: yn y gymuned honno o bobl nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed neu nad yw eu lleisiau i'w clywed yn ddigon uchel. Roedd Carl yn arfer dweud wrthyf, 'Gwranda mêt, paid byth ag anghofio—dal ati i wneud yr hyn yr wyt ti'n ei wneud ar gyfer dy ardal di, achos dyna sy'n bwysig'.

Byddaf yn cofio Carl am ddiogelwch tân domestig—dyma ni wedi dychwelyd at ddŵr eto—a systemau chwistrellu. Carl wnaeth fynd â'r rheoliadau hynny drwodd ac mae'n golygu bod gennym ni dai diogel yng Nghymru. Hyd yn oed ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, roedd Carl hyd at y diwedd un yn chwilio am ffordd o ddiogelu'r cymunedau hynny nad oeddent efallai yn deall bod angen iddynt gael eu diogelu—ond y byddem ni yn eu hamddiffyn. Felly, dyna etifeddiaeth y dyn—dyn mawr, personoliaeth enfawr, a wnaeth i mi chwerthin, a wnaeth i mi grio, ac a'm gwnaeth i'n rhwystredig ar adegau. Ond, uwchlaw dim, roedd Carl, ac mae e' o hyd, yn ddyn ei gymuned ei hun, a byddaf yn gweld ei eisiau.

13:00

Bernie, rydym ni i gyd yn mynd i golli Carl yn fwy nag y byddwch chi'n ei gredu, ond fydd neb yn ei golli yn fwy na chi a'ch teulu—Jack a Lucy a phawb arall a oedd yn ei adnabod mor dda.

Cyfarfûm â Carl am y tro cyntaf pan gefais i fy ethol yn 2007 ac fe wnaeth rhywun, yn amlwg rhywun â thipyn o synnwyr digrifwch, fy rhoi a Lesley yn y swyddfa gyferbyn ag ef. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan Brif Chwip; yn sicr doeddwn i ddim yn disgwyl Carl, rwy'n credu ei bod yn deg dweud hynny. Rwy'n cofio dychwelyd lan llofft ar ôl pleidlais i lawr yn fan hyn, lan i'r coridor—roedd e' bob amser yn llwyddo i gyrraedd yno cyn fi; dydw i ddim yn gwybod sut oedd yn llwyddo i wneud hynny—a byddech chi'n clywed y gerddoriaeth yn canu'n uchel o'i swyddfa. Byddet ti'n gwybod hynny, Becks, gan dy fod di'n gweithio iddo ar y pryd. Byddech chi'n cerdded heibio'r swyddfa a byddai Carl yn eistedd yn dawnsio i'w gerddoriaeth a oedd yn dod o—wel, doeddwn i byth yn gwybod o le—a byddai Becks yn eistedd yna'n gwenu, a byddwn i a Lesley ac eraill yn cerdded i mewn ac yn sgwrsio a siarad, a phawb yn gwenu. Roedd yn gyflwyniad gwych i'r lle hwn ac i Carl, a phob tro y byddai'n meddwl am Carl, rwy'n meddwl am y wên yr ydym ni'n ei gweld o'n blaenau. Rwy'n gallu clywed ei lais weithiau: 'Bore da, frawd, ti'n hwyr ' neu 'Ble wyt ti, bos? Es i i 'nôl hwn i ti awr yn ôl; ble wyt ti wedi bod? Yfa fe'—a phob math o wahanol adegau pan wnaethom ni i gyd rannu bob mathau o bethau. Wyddoch chi, un peth sy'n brin iawn mewn gwleidyddiaeth yw ymddiriedaeth, ac roeddwn i'n ymddiried ynddo'n llwyr. Roeddwn i'n gwybod, os oedd unrhyw beth yn digwydd, gallwn i bob amser ffonio Carl, neu byddwn i'n cael neges destun oddi wrtho. Roedd e fel petai'n gwybod os oedd rhywbeth yn digwydd yn ein bywydau ni. Roedd e'n dweud, 'Sut wyt ti, frawd?', 'Sut wyt ti, bos?', 'Beth wyt ti'n ei wneud, bos?', 'Ble wyt ti, bos?', 'Wyt ti o gwmpas, bos?', 'Dere mas', 'Ble wyt ti?'—ac fe fyddai e' yno bob amser. 

Wyddoch chi, pan fyddwn ni'n sôn am Carl, rydym ni'n sôn am ei gyflawniadau mewn gwleidyddiaeth. Rwyf bob amser yn ei gofio ef yn ffrind hoffus, anrhydeddus a diffuant iawn, iawn a mêt i mi. Yr ychydig eiriau diwethaf a ddywedodd wrthyf oedd, 'Ti'n iawn, mêt?', a dyna'r cyfan yr oeddwn i eisiau ei glywed ar y pryd. A wyddoch chi, roedd Carl yn ddyn a oedd yn ysgwyddo ei gyfrifoldebau yn ddidrafferth. Fyddech chi byth wedi dyfalu ei fod wedi cyflawni'r holl bethau a wnaeth. Ond roedd yn ofalgar iawn—yn ofalgar iawn—ac mae pob un ohonom sydd wedi cydweithio ag ef yn gwybod dyfnder ei ddaliadau, cymaint yr oedd yn credu yn yr hyn yr oedd e'n ei wneud a dyfnder ei gred mewn chwarae teg a chyfiawnder cymdeithasol. Roedd chwarae teg yn rhan annatod o gymeriad Carl. Roedd ynghlwm wrth bopeth a wnâi. Cafodd ei fagu yng Nghei Connah, ac roedd hynny yn rhywbeth a arhosodd gydag ef. A phryd bynnag byddem ni'n cael sgwrs, byddai'r sgwrs bob amser troi nôl at degwch a chwarae teg. A wyddoch chi, Bernie, byddwn ni bob amser yn cofio hynny, a byddwn ni bob amser yn sicrhau bod Carl yn cael chwarae teg. Ym mhopeth a wnawn a phopeth a ddywedwn wrth ei gofio ef, byddwn ni'n cofio'r wên yna.

Roeddwn i'n gwybod beth oedd e'n ei feddwl mewn cyfarfodydd gan y byddai'n anfon negeseuon testun ata' i. Hoffwn i pe na bai e' wneud gwneud hynny. Roedd pob math o gydweithwyr a chymheiriaid yn gwneud pwyntiau difrifol iawn a byddwn i'n ei weld yn edrych arnaf a byddwn i'n meddwl, 'Duw a'm helpo, nid neges destun arall.' Byddwn i'n agor y neges destun a byddwn i'n treulio amser yn gwrando ar ddadl ddifrifol yn ceisio cuddio fy mod i'n chwerthin oherwydd byddai Carl—a gallaf ei weld ef yn awr draw yn y fan yna—yn gwenu arnaf ac yn wincio, gan wybod ei fod wedi achosi i mi deimlo'n chwithig.

Wrth gofio ein ffrind, ein cyd-Aelod, rydym ni i gyd wedi defnyddio geiriau tebyg iawn, mewn gwirionedd. Rydym ni i gyd wedi ysgrifennu ein teyrngedau ar wahân ond rydym ni i gyd wedi dychwelyd at eiriau tebyg iawn: gonest a hael a charedig. Roeddem ni i gyd yn adnabod yr un dyn. Bernie, rwyt ti'n mynd i'w golli ef. Rwy'n gwybod dy fod mynd i'w golli ef ac rwy'n gwybod cymaint yr wyt ti'n mynd i'w golli ef, ynghyd â Jack a Lucy a phawb arall, ond rwyf eisiau i chi wybod y bydd y sefydliad hwn yn ei golli ef hefyd. Bydd ein gwlad yn ei golli ef. Rydym ni i gyd yn well ein byd o fod wedi'i adnabod ef. Diolch.

13:05

Pan gyrhaeddais i'r lle hwn am y tro cyntaf ryw 10 mlynedd a hanner yn ôl, roeddwn i'n disgwyl iddo fod yn blwyfol iawn a'r wleidyddiaeth yn bleidiol iawn. Yn naturiol, mewn rhai ffyrdd dyna sut oedd pethau. Fodd bynnag, y cawr diymhongar hwn wnaeth fy argyhoeddi i nad oedd fel hynny ac nid yw fel hynny y tu allan i'r Siambr hon. Cynhesrwydd, hoffter a charedigrwydd Carl a'm hargyhoeddodd i y dylai ein gwleidyddiaeth bleidiol aros yn y Siambr hon, a'r tu allan, ac mai ein dynoliaeth ni ddylai ddod yn gyntaf bob tro. Dyna pam yr oedd bob amser yn bleser cael bod yn ei gwmni ac roeddwn i bob amser yn mwynhau cael diod gyda'r dyn mawr.

Wrth gwrs, roedd yn amlwg bod ganddo gariad mawr tuag at y Blaid Lafur ac roedd yn amlwg bod ganddo gariad mawr at ei etholaeth ac at gynrychioli ei ardal leol. Roedd ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r bobl yr oedd yn eu cynrychioli bob amser yn amlwg yn yr holl drafodaethau a gefais i gydag ef. Roeddwn i'n cael hwyl yn ei gwmni ac roedd direidi yn ei lygaid bob amser. Bob tro y byddwn yn ei weld, roedd yn llawn o'r feddylfryd direidus hwnnw. Fyddech chi byth yn gwybod beth fyddai'n ei ddweud, ac roedd hynny'n gwneud ei gwmni'n fwy difyr byth.

Roedd yr hwyl honno yn sicr yn amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl, pan wnaeth rhai ohonom ni yn y Siambr hon ddathlu pen-blwydd Lesley Griffiths. Rwy'n cofio inni gyrraedd tafarn adnabyddus ym Mae Caerdydd ac rwy'n cofio sefyll wrth y bar pan, yn sydyn, dyma fi'n clywed cyfeillion a chydweithwyr o'm cwmpas yn chwerthin. Edrychais draw, a'r cyfan a welais i oedd Carl yn pwyntio at ei siwmper. Wedyn, o edrych ar y dillad oedd amdanaf i, sylweddolais, er cryn fraw i mi, ein bod yn gwisgo'r un siwmper yn union. Ond nid dim ond hynny. Yn wir, roeddem ni'n dau yn gwisgo trowsus tywyll hefyd ac, wrth gwrs, fel y byddech yn ei ddisgwyl, dechreuodd rhywun ein galw ni'n efeilliaid. I'r rhai hynny ohonoch chi sydd wedi gweld y ffilm Twins o 1988, sy'n serennu Arnold Schwarzenegger a Danny DeVito—wel, mynnodd Carl am weddill y noson mai ef oedd Danny DeVito ac nid fi.

Dyna'r hyn y byddaf i bob amser yn ei gofio am Carl. Bob tro yr oeddwn gydag ef, byddem yn chwerthin. Ond roedd yn wleidydd difrifol ac ymroddedig a oedd yn gofalu am ei etholwyr, ac roedd yn deall pobl. Roedd yn deall pobl. Wedi'r cyfan, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â phobl ac roedd Carl yn sicr yn deall hynny.

Llywydd, yn bersonol, byddaf yn gweld eisiau'r gwrthwynebydd gwleidyddol. Byddaf yn gweld eisiau ei gellwair yn y lle hwn. Byddaf yn gweld eisiau ei sylwadau doniol yn y Siambr hon. Ond yn bwysicach na dim, byddaf yn gweld eisiau ffrind personol.

Diolch, Llywydd. Cyn imi ddechrau talu teyrnged, hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad i Bernie, Jack, Lucy a'r teulu. Yn yr holl ddarllediadau am golli ein cyfaill Carl, mae un gair ac un gair yn unig yn cael ei ailadrodd yn barhaus, a'r gair hwnnw yw 'dilys'. Roedd popeth am Carl yn ddilys. Roedd yn amlwg i bawb a oedd yn ei gyfarfod bod Carl yn y maes gwleidyddiaeth am y rhesymau cywir. Yn ddeallusol, yn reddfol, y pen a'r galon, roedd yn deall, ac roedd y bobl a'r lleoedd yr oedd yn eu cynrychioli yn bwysig iawn iddo. Roedd pobl yn adlewyrchu'r cynhesrwydd hwnnw yn ôl ato, nid yn unig yng Nghei Connah ac yn y gogledd ond ble bynnag yr oedd yn mynd. Yn y pen draw, y dilysrwydd hwn a wnaeth Carl yn ymgyrchydd mor bwerus.

Mae Ymgyrch y Rhuban Gwyn, y byddwn yn ei nodi y mis hwn, yn ymwneud â dynion yn herio agweddau tuag at drais yn erbyn menywod. Roedd Carl yn rhan annatod o hyrwyddo'r ymgyrch fel dyn ac fel Gweinidog. Roedd wedi gweld effaith trais yn y cartref yn ei gymuned ei hun ac roedd am fynd i'r afael â hynny. Fel llais dilys ar ran dynion dosbarth gweithiol Cymru—dyna'r gair hwnnw eto—mae'n anodd gorbwysleisio effaith ei gefnogaeth.

Yn y Llywodraeth, gwnaeth hyrwyddo a llywio'n fedrus deddfwriaeth arloesol Cymru i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, ac roedd hynny'n gamp aruthrol. Bydd, wrth gwrs, mae'n anochel ymgyrch eleni yn cael eu lliwio'n gan ein tristwch dwfn a cholli dwfn, ond ar y gwylnosau a digwyddiadau a fydd yn mynychu, yma yn y Cynulliad ac ar draws Cymru, yn Anrhydeddwn Carl gwaddol parhaol.

13:10

Ymhell cyn imi gael y fraint enfawr o wasanaethu fel dirprwy i Carl yn y Llywodraeth, bûm yn gweithio iddo ef yma fel ei ymchwilydd pan oedd yn dal ar y meinciau cefn. Hyd yn oed bryd hynny, roedd Carl yn rhoi ei stamp unigryw a lliwgar ei hun ar bopeth yr oedd yn ei wneud, ac nid oedd ein swyddfa ni yn wahanol. Rwy'n dawel hyderus mai ein swyddfa ni oedd y gyntaf, a hyd yn hyn, yr unig swyddfa lle'r oedd lamp ag iddi gysgod gwyn fflwffog, lamp lafa borffor a cherflun o Eeyore [Chwerthin.] Roedd y blynyddoedd hynny o weithio i Carl yn bleser pur, a byddaf bob amser yn ddiolchgar iddo am ei garedigrwydd a'i haelioni tuag ataf i a'm gŵr Paul.

Roedd gweithio i Carl, fel y gallwch ei ddychmygu, yn llawn hwyl. Ond y tu ôl i'r jôcs a thu ôl i'r chwerthin roedd Carl yn hollol ddifrifol ynghylch gwneud bywyd yn well i'w etholwyr ac roedd yn angerddol iawn dros gyfiawnder cymdeithasol. Byddaf bob amser yn cofio pa mor falch a llawn cyffro y teimlwn pan gafodd Carl ei ddyrchafu i'w swydd fel gweinidog. Ar ôl ychydig o wythnosau, gofynnais iddo, 'Felly, Carl, sut beth yw bod yn y Llywodraeth?' 'A mêt', meddai, 'rwy'n dweud wrth bawb i'm galw i'n Carl, ond mae pawb yn fy ngalw i'n Weinidog. Rwy'n dweud, "Galw fi'n Carl"; maen nhw'n dweud, "wrth gwrs, Gweinidog."' A dyna sut un oedd Carl; doedd e' byth yn hunanbwysig. Credai fod pawb yn gyfartal ac roedd yn trin pawb yr un fath.

Yn ystod y 14 blynedd yr oeddwn yn adnabod Carl roeddwn yn ei adnabod fel y dyn mawr â'r galon fawr, ac roedd yn gwisgo'r galon fawr honno ar ei lawes. Gwyddom i gyd am yr achosion yr oedd yn angerddol drostynt a'r pethau yr oedd wrth ei fodd â nhw: tegwch, cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a charedigrwydd.

Rydym yn galaru nawr oherwydd ein bod yn drist na fyddwn byth yn gweld ein cyfaill eto. Ond, ymhen amser, ein teyrnged orau ni iddo fydd gorffen y gwaith a ddechreuwyd ganddo.

Yn fy nheyrnged, hoffwn i rannu fy atgofion o Carl fel dyn a oedd yn ffraeth, cariadus, hoffus, egwyddorol iawn ac yn ffrind da, yn gydymaith ac yn gyd-Weinidog. Mae'r effaith a gafodd fel Gweinidog ac Ysgrifennydd Cabinet wedi'i gofnodi a chaiff ei rannu yma y prynhawn yma, a hoffwn ychwanegu fy nheyrnged o'm profiad i.

Penodwyd Carl yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol cyn i doriadau'r glymblaid ddechrau cael effaith ar ein cyllidebau. Roedd yn gwbl ymrwymedig i lywodraeth leol, cyfiawnder cymdeithasol, tai, adfywio a thrafnidiaeth—pob un o'r briffiau a fu ganddo yn ystod yr amseroedd anodd hynny i gyllid cyhoeddus. Fel Gweinidog Cyllid, roeddwn i eisiau gweithio gydag ef i'w helpu i gyflawni yr hyn yr oedd yn dymuno, ac roedd ef eisiau mwy o arian ar gyfer tai cymdeithasol. Y math hwnnw o bartneriaeth Gweinidogol sy'n rhoi'r boddhad mwyaf. Cefnogais i ef; cawsom yr arian allan pan gallem mewn cyfnod anodd, gan ddarparu cartrefi i'r rheini oedd fwyaf mewn angen. Dywedodd ef, 'Diolch Jane.' Dywedais i, 'Diolch Carl.'  

Rwyf i hefyd eisiau dweud rhywbeth am Carl fel Prif Chwip. Mae eraill wedi gwneud sylwadau ar hyn. Teyrnasodd—rwy'n credu mai dyna yw'r ymadrodd. Teyrnasodd fel Prif Chwip, gyda hiwmor, deallusrwydd a doethineb. Aeth bod yn Brif Chwip i'w waed felly gallwn bob amser ddibynnu arno i'm cefnogi pan gymerais i'r rôl honno. Roedd bob amser yn Brif Chwip hyd yn oed pan oedd ef yn gwneud yr holl swyddogaethau gweinidogol eraill hyn. Ac os cofiwch, ar draws y Siambr hon, roedd bob amser yn barod i weiddi 'Gwrthwynebu' pan roedd yn ofni nad oeddwn i yn canolbwyntio— [Chwerthin.]—neu os oedd fy llais braidd yn betrus. Roedd hynny, wrth gwrs, ar ddiwedd dadl pan fyddem yn gwneud gwelliant neu'n wrthwynebu fel Llywodraeth—swyddogaeth hollbwysig yr oedd yn ei chyflawni.

Ond rwyf hefyd yn dod ag atgofion a rannwyd gan etholwyr ym Mro Morgannwg. Roedd Kay Quinn yn fy atgoffa i o ymweliad Carl ag Atal y Fro yn y Barri, sy'n dangos ei arweinyddiaeth aruthrol wrth fynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais yn erbyn menywod. Yr ymateb gan BAWSO yr wythnos diwethaf, gan Mutale Merrill, oedd:

Rydym ni wedi colli hyrwyddwr.

Daeth i'r Barri i helpu i fwrw ymlaen â'r adfywio sydd wedi effeithio cymaint ar ein tref, a chafodd groeso cynnes pan lansiodd y gwaith o adnewyddu tai yn Gibbonsdown sydd wedi gweddnewid bywydau pobl sy'n byw ar yr ystad honno.

Ar y lefel ymgyrchu, cofiaf gerdded dros y clogwyni yn Nhrwyn yr As gyda Carl ar ddiwrnod rhewllyd o Chwefror yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2015, pan gyhoeddodd foratoriwm ar ffracio fel y Gweinidog dros yr amgylchedd. Ef wnaeth y penderfyniad hwnnw, ac ysgrifennodd at bob awdurdod lleol ar unwaith gyda'i gyfarwyddiadau—Gweinidog a oedd yn golygu yr hyn yr oedd yn ei ddweud ac yn gweithredu arno.

Diolch, Carl, wrth i ni dy gofio di, yn annwyl i dy deulu, yr ydym yn mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â nhw heddiw, y prynhawn yma. Roeddem ni i gyd yma heddiw yn dy garu ac yn dy barchu di, dyn a Gweinidog a wasanaethodd Cymru mor dda, ac a oedd yn cael ei edmygu'n fawr ac a gaiff ei golli'n fawr.

13:15

Yn gyntaf oll, rwyf yn estyn fy nghydymdeimlad dwfn â theulu a chyfeillion Carl Sargeant, ac yn enwedig y rheini yn y Cynulliad a oedd yn ei adnabod yn dda iawn ac a oedd hefyd yn ffrindiau gydag ef. Gwnaf hynny ar ran fy hun ac ar ran fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yma, ond hefyd ar ran y cydweithwyr ym Mhlaid Cymru nad ydynt yma bellach ac a arferai weithio gydag ef yn y gorffennol.

Deuthum i adnabod Carl i ddechrau, fel llawer, rwy'n meddwl, yn 2007, pan ddaeth yn Brif Chwip i'r Blaid Lafur a phan gefais i fy mhenodi'n ymgynghorydd arbennig ar ran Plaid Cymru yn y Llywodraeth glymblaid. Ar ôl i'r glymblaid gael ei ffurfio'n ofalus, y peth cyntaf wnes i oedd sylweddoli bod Carl fel draenen yn yr ystlys i raddau, oherwydd roedd yn aelod ychwanegol o'r Cabinet na ddylai fod wedi bod yno. Beth oedd Prif Chwip yn ei wneud yn bresennol yn y Cabinet pan oeddem wedi rhoi ystyriaeth ofalus i nifer y Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidogion a'r cydbwysedd rhwng y pleidiau? 'A oedd hyn yn mynd i fod yn broblem?', pendronais. Wel, fel y clywsom eisoes gan Ann Jones, a gafodd, rwy'n meddwl, ddigon i'w wneud â Carl yn ystod yr amser hwnnw, nid oedd hynny'n broblem, oherwydd er bod Carl yn gwbl gyfforddus ac yn gwbl fodlon yn ei deulu Llafur, gallai ymestyn y tu hwnt i hynny, nid yn unig i fod yn ffrind personol i bobl, ond i sicrhau cynghreiriaid gwleidyddol. Rydym eisoes wedi clywed teyrnged Bethan Jenkins—a byddai hi, wrth gwrs, wedi bod eisiau bod yma—ond mae'r ffaith ei bod hi a Carl, dim ond dwy neu dair wythnos yn ôl, yn sefyll ar y strydoedd yn gwerthu copïau o'r Big Issue gyda'i gilydd yn dangos ichi, rwy'n credu, y ffordd yr oedd yn gallu codi uwchlaw'r cysur hwnnw o fewn ei deulu Llafur, ac ymestyn y cysur hwnnw i eraill sy'n rhannu ei werthoedd ac sy'n rhannu ei amcanion. Felly, nid oedd, mewn gwirionedd, yn broblem fel Prif Chwip y Llywodraeth yn y Llywodraeth glymblaid honno; roedd yn rhan o'r mecanwaith a gyflawnodd Llywodraeth effeithiol. Yn gwbl briodol, yn fy marn i, fe'i penodwyd wedyn, yn Weinidog yn Llywodraethau'r dyfodol.

Ond rwyf hefyd yn ei gofio ar lefel bersonol. Deuthum i yn wreiddiol o Aberdâr; daeth ef o Gei Connah. Mae'n debyg mai prin yr oedd wedi bod i Gaerdydd cyn iddo gael ei ethol yma, eto gwyddai am leoedd yng Nghaerdydd nad oeddwn i'n gwybod amdanynt. [Chwerthin.] Roedd yn gwybod ble i fynd ar nos Fercher pan oeddem yn gadael y fan hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo, ac yn dal i fod, ac rwyf eisiau ichi wybod, fel rhywun a oedd yn weddol newydd i'r Cynulliad ar yr adeg honno, roedd yn hael â'i amser gyda mi. Gwelais ef yn dawnsio mewn ffordd nad oeddwn wedi gweld unrhyw un yn dawnsio cyn hynny ac yn canu karaoke, yn sicr. Roedd yn ganwr ac yn ddawnsiwr llawer gwell na mi—yn well na'r rhan fwyaf ohonom, rwy'n credu. Ac nid oedd yn rhaid iddo fod yn hael â'i amser gydag un o gynghorwyr arbennig Plaid Cymru. Roedd yn hael, ac mae hynny'n dangos pa fath o ddyn oedd Carl.

Credaf hefyd ei fod yn fy atgoffa i o lawer o ddynion yn fy nheulu i—dynion dosbarth gweithiol, ychydig yn hŷn, efallai, na Carl—y genhedlaeth nesaf, a oedd mewn gwirionedd wedi'u gadael ar ôl gan ddad-ddiwydiannu ac a oedd wedi dioddef canlyniadau hynny. Roedd Carl yn codi uwchlaw hynny. A bydd y dilysrwydd y mae pobl wedi sôn amdano, ei allu i gymryd y cefndir hwnnw, ei ddefnyddio o'r newydd mewn amgylchedd cwbl newydd a bod yn driw i'w hun wrth wneud hynny, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi.

Roedd ganddo hefyd archwaeth Stakhanovite, rwy'n credu—ac rwy'n golygu ar gyfer deddfwriaeth, wrth gwrs, fel y soniwyd eisoes. Ond roedd yn gwneud hynny hefyd gyda synnwyr digrifwch. Roeddwn i ar yr un pwyllgorau ag ef dros y blynyddoedd ac weithiau roeddwn i'n meddwl tybed a oedd e'n cymryd y ddeddfwriaeth hynny o ddifrif, mewn gwirionedd, oherwydd ei synnwyr digrifwch. Ond, wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o'r ffordd yr oedd yn hwyluso'r broses o gyflwyno'r ddeddfwriaeth. Roedd yn hollol ddifrifol am yr hyn yr oedd yn ei gyflawni, ac roedd ei allu wrth lwyddo i basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn fy marn i, yn un o gyflawniadau gorau unrhyw ddeddfwrfa, ac fe'i cyflwynwyd yma ac roedd yn gwneud y gwaith hwnnw ar gyfer ac ar ran pob un ohonom ni.

Nawr, rwy'n byw ar ystad cyngor fy hun—un a fabwysiadwyd gennyf; nid yr un y cefais fy ngeni ynddi. Yr ystad ym Mhenparcau yn Aberystwyth yw hon. Roedd Carl, ymhen pythefnos, yn dod i agor ein cyfleuster cymunedol diweddaraf. Roedd ei ymrwymiad i'r cyfleuster yn amlwg gan ei fod wedi fy holi yn gyson ynghylch ei ddatblygiad, ac roedd wedi bod yn agored ynghylch sut yr oedd y gymuned honno yn dod at ei gilydd ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, ac yn gweithio ar ran y bobl dlotaf yn y gymuned honno. Dangosodd yr un faint o ofal, rhoddodd yr un sylw a holi'r un cwestiynau am gymuned fach y tu allan i Aberystwyth ag y gwnaeth am y gymuned yr oedd ef yn ei chynrychioli, ac rwy'n credu bod hynny'n destament i'w gyfraniad.

13:20

Cyfarfûm â Carl gyntaf pan gafodd ei ethol i'r Cynulliad yn 2003, ac fel y clywsom, roedd yn falch iawn o gynrychioli ei etholaeth. Ac fel y byddai rhai yma, rwy'n credu, yn cofio, pan fyddai materion lleol yn codi, roedd weithiau yn awyddus i sicrhau ei fod yn cael ei ystyried ar wahân i'r ACau rhanbarthol ar gyfer y gogledd a oedd, wrth gwrs, yn cwmpasu'r ardal gyfan. Ac yn aml, fel rhagymadrodd i'w gyfraniadau yn y Siambr byddai'n dweud 'fel yr Aelod a etholwyd yn uniongyrchol dros Alun a Glannau Dyfrdwy', cyn mynd ymlaen i wneud pwynt neu ofyn cwestiwn. Rwy'n credu bod hynny wedi taro llawer ohonom fod Carl yn benderfynol o gael effaith a gwneud cyfraniad sylweddol yma yn y Cynulliad o'r cychwyn cyntaf, ac wrth gwrs, fe wnaeth hynny. Mae gwneud y pontio hynny, y soniodd eraill amdano, o weithio ar lawr y ffatri ac ar gyngor tref i fod yn Aelod Cynulliad ac i Gabinet Llywodraeth Cymru, a gwneud y pontio hwnnw yn rhwydd—pan fyddwch chi'n dechrau meddwl am hynny, mae hynny'n eithaf ffenomen.

Ond rydym ni hefyd yn gwybod pan gyrhaeddodd Carl yn y Llywodraeth nad oedd yn fodlon mewn unrhyw ffordd ymlacio a myfyrio ar y daith honno. Roedd yn hollol benderfynol o wella bywydau pobl yng Nghymru drwy'r cyfle a oedd ganddo yn y Llywodraeth. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn dweud ei fod yn dangos gallu, ymrwymiad a brwdfrydedd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i bobl, i ddatblygu a gweithredu polisi ac yn y ddeddfwriaeth—Deddf cenedlaethau'r dyfodol, y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd, y ddeddfwriaeth ar gam-drin domestig ac eraill. Ac rwy'n meddwl ei bod yn amlwg bob amser ei bod yn bwysig i Carl fod yn gwneud pethau mewn gwirionedd. Nid oedd yn ymwneud â'r swydd, roedd yn ymwneud â defnyddio'r swydd honno a gwneud pethau ystyrlon er lles cyfiawnder cymdeithasol ein cymunedau a'n pobl ni yma yng Nghymru.

Rwy'n sicr yn cyfrif Carl yn gydweithiwr ac yn gyfaill da. Fel Aelodau Cynulliad ac wrth wasanaethu gyda'n gilydd yn y Cabinet, roedd bob amser yn hawdd iawn gweithio gydag ef, ac roedd ganddo amser i siarad a thrafod. Fel Gweinidog yn datblygu polisïau trawsbynciol, ar draws portffolios polisi, nid oedd bob amser yn hawdd gweithio ar y cyd ag aelodau eraill y Llywodraeth. Ond pan oedd y dasg honno o'ch blaen ac roedd yn rhaid i chi gwrdd â Carl, roeddech chi'n gwybod y byddai bob amser yn brofiad adeiladol, ac rwy'n meddwl mai dyna oedd yn bwysig am Carl. Nid oedd yn ymwneud ag unrhyw fath o gystadleuaeth bersonol, roedd yn ymwneud â chyflawni pethau, cyflawni pethau ar y cyd a gweithio gyda'n gilydd.

Yn fwyaf diweddar, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, gweithiodd y pwyllgor a minnau ar y cyd ag ef, yn ei swyddogaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau, ar ein hadroddiadau ar graffu, trais domestig, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, Cymunedau yn Gyntaf a diogelwch tân, ac ar ddarnau o ddeddfwriaeth. Ac yn ôl y disgwyl, credaf ein bod wedi cael gan Carl yr union beth y byddem wedi ei ddisgwyl: roedd yn barod i wrando a chyfaddawdu, ond hefyd i sefyll yn gadarn os oedd yn argyhoeddedig o rinweddau neu ddiffyg rhinweddau gynnig neu awgrym penodol.

Fel y clywsom, mae pawb yn hoff iawn o rywun sy'n gymeriad, ac roedd Carl yn sicr yn gymeriad. Roedd bob amser yn llawn hwyl ac yn dangos cynhesrwydd, ac roedd hynny'n amlwg iawn pan wnaethom, ynghyd â ffrindiau AC Llafur a phartneriaid eraill, deithio i'r gogledd ar gyfer parti pen-blwydd Carl yn bedwar deg oed yng Nghlwb Llafur Cei Connah—gyda karaoke, wrth gwrs. Roedd yn glir ac yn amlwg yno fod Carl yn rhan annatod o'i gymuned ac roedd y bobl yn ei barchu a'i werthfawrogi—ac, wrth gwrs, roedd yn cael eu parchu ar draws y pleidiau gwleidyddol ac yn cael ei garu gan gynifer o fewn y Cynulliad a'r tu allan iddo: teulu a ffrindiau, ei gymuned, cyd-Aelodau Llafur yma, ym mhob rhan o'r blaid a'r mudiad yng Nghymru a thu hwnt, ac mewn grwpiau a sefydliadau y bu'n gweithio â nhw fel Gweinidog. Gwn fod ein staff arlwyo gwych a'r staff cyffredinol yma yn y Cynulliad yn hoff iawn o Carl, ac, fel y dywedodd Lesley, roedd yn ffefryn arbennig gan yrwyr Llywodraeth Cymru sydd, fel y dywedodd Lesley hefyd, â llawer o straeon i'w hadrodd.

Mae'n anodd iawn derbyn na fydd Carl yma mwyach—yn y Siambr hon, yn ein pwyllgorau, yn y Cynulliad, yn ei etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae'n golled enfawr i ni i gyd, ond, wrth gwrs, yn bennaf oll, i Bernie, Jack, Lucy, ac i rieni Carl, ac estynnwn ein cydymdeimlad iddyn nhw ar yr adeg hon ac yn yr amser sydd i ddod.

13:25

Cofiaf y tro cyntaf y cyfarfûm â Carl: yn ôl yn 2003 mewn lifft. Roedd newydd ei ethol, ac mewn lifft yn Nhŷ Hywel, cyfarchodd fi drwy ddweud, 'Hi, comrade'. Ar ôl hynny, daethom yn ffrindiau da. Roedd bob amser yn fy ngalw i'n 'Comrade' neu 'mate', yn ôl ei ffordd ei hun

Rydym yn gwybod bod gwleidyddiaeth yn gallu bod yn fusnes oer, ond, ar y llaw arall, mae cyfeillgarwch yn mynd at wraidd dynoliaeth, ac roedd Carl yn un o'r eneidiau mwyaf dynol yr wyf wedi eu cyfarfod erioed. Roedd yn unigryw—ar ei ben ei hun. Roedd yn gyfeillgar, yn gynnes, yn serchog ac yn gefnogol. Roedd bob amser yn gefnogol pan oedd angen cymorth arnoch. Roedd yn ddyn sensitif, ac roedd wedi rhoi cynnig ar y rhan fwyaf o bethau yn ei fywyd llawn, gan gynnwys bod yn DJ, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, ni allai neb ei guro ar karaoke. Roedd wrth ei fodd â cherddoriaeth, yn enwedig ABBA ac, wrth gwrs, Motown. Pan ddaeth taith ddiwethaf Billy Ocean o amgylch y byd ag ef i Gaerdydd, roedd Carl yno, wrth gwrs, yn Arena Motorpoint Caerdydd y noson honno, yn dawnsio gyda'r gorau ohonynt. Fydda i byth yn gallu gwrando ar 'Red Light Spells Danger' yn yr un modd eto.

Y tro diwethaf i Jen a minnau weld Carl yn iawn oedd ar ôl ein priodas, yn y bar yng ngwesty'r Hilton, lle'r oeddem yn aros y noson honno. Roedd Carl wedi dweud y byddai'n ceisio ein gweld ni cyn diwedd y dydd, ac yn ôl ei air, ymddangosodd ef a'i deulu wrth fynedfa'r gwesty tua hanner nos. Yr unig broblem oedd bod staff y gwesty yn meddwl mai bownser ydoedd ac nid oeddent yn barod i'w adael i mewn heb negodi helaeth a fyddai'n deilwng o drafodaethau Brexit. Siaradodd ei ffordd i mewn yn y pen draw.

Datblygodd Carl enw am fod yn dipyn o drefnydd, yn gymaint felly fel bod fod yr ymadrodd, 'Drafft the Sarge', yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin ym Mae Caerdydd. Pan gyhuddwyd Jen unwaith gan gard gorfrwdfrydig ar drenau Arriva o deithio heb docyn, am reswm na wnaf sôn amdano, Carl oedd yr un yr aeth ato i ofyn am help i ddatrys y broblem. Diolchodd iddo am hynny, a gwn fod llawer o bobl eraill wedi cael cymorth ganddo yn bersonol yn eu ffyrdd eu hunain. Nid oedd mor barod i'm helpu i bob amser. Daeth cyn-faer Wysg ataf unwaith gyda'r uchelgais o gael ei wneud yn borthfaer y dref—newid bach ond un a oedd yn gofyn am newid yn y gyfraith. Es i â'r cais bach hwn yn gydwybodol at Carl, ac edrychodd arnaf mewn penbleth llwyr am ei drafferthu â rhywbeth mor ddibwys. 'Na, Bos', oedd yr ymateb byr. Rhoddais gynnig arni eto, ychydig yn ddiweddarach, a dywedodd, 'Na, Bos' hyd yn oed yn gyflymach na'r tro cyntaf. [Chwerthin.] Gwyddai fod gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau ac roedd amser yn fyr.

Bellach mae Carl wedi ein gadael ni, ond rydym ni'n dal yma i barhau â'r ymgyrchoedd a oedd yn agos at ei galon ac i weithredu'r newid yr oedd yn ei ddymuno. Fel y dywedodd Ken Skates yn gynharach, gadewch i ni edrych eto ar y ffordd yr ydym yn trin ein gilydd fel bodau dynol, a gadewch i hynny fod yn waddol Carl. Ffarwel, gydymaith, a diolch am y gerddoriaeth.

Fel rhywun a gynrychiolodd ogledd-orllewin gogledd Cymru roeddwn yn falch iawn pan ymddangosodd Carl i gynrychioli gogledd-ddwyrain gogledd Cymru, oherwydd fel y gŵyr cyd-Aelodau, yn y gogledd, un o'r triciau mawr yw ein cael ni i gyd i weithio gyda'n gilydd. Ond os oedd problem, byddai Sarge yn ei datrys.

Cawsom amser gwych ar drên cyflym y gogledd, ac mae'n rhaid inni gadw'r trên hwnnw i redeg, os yw hynny dim ond er mwyn dathlu bywyd gwych Carl fel gwleidydd ar y trên hwnnw. Byddai'n dod ar y trên, weithiau ar y trên brecwast—yn aml byddai Lesley yno hefyd—ac weithiau y trên swper, ac wrth gwrs roedd Carl ar y trên swper, nid wyf yn dweud ei fod yn syrcas deithiol, ond roedd yn sicr yn lolfa deithio, lle'r oedd pawb ar y trên, yn y dosbarth busnes, eisiau siarad â Carl a mynegi eu barn. Ac yn yr un modd, roedd y staff bob amser yn falch o weld Carl yn ymuno â ni. Ac ar y trên hwnnw y gwnaeth y cyfraniad mwyaf i fy mywyd i, ac i fywyd y bobl yr wyf yn eu cynrychioli.

Soniwyd am yr hyn a wnaeth ar gyfer cymunedau Cymru, ar gyfer y cymunedau trefol. Ond rwyf i am ddathlu a diolch iddo am yr hyn a wnaeth ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru, ac yn arbennig ar gyfer y tirweddau dynodedig, oherwydd roedd yn deall, fel rhywun a oedd yn ogleddwr o'r iawn ryw, a oedd wrth ei fodd â'r ardaloedd diwydiannol, yr ardaloedd gwledig a'r parciau cenedlaethol, a'r ardaloedd o harddwch naturiol, ei bod yn bwysig y dylai'r ardaloedd hyn ddysgu i fyw gyda'i gilydd ac i rannu eu llawenydd. Ac roedd hyn yn rhan o'i gamau i roi deddfwriaeth ar waith, gan mai dyma oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2015, ar waith. A chymerodd Lesley, wrth gwrs, y cyfrifoldeb am y gwaith hwnnw ar dirweddau'r dyfodol, ac mae wedi digwydd erbyn hyn.

Daeth rhywun ataf mewn cyffro mawr ychydig fisoedd yn ôl, gan ddweud 'A oeddech chi yn y cyfarfod hwnnw yn Aberystwyth?' A dywedais, 'Pa gyfarfod oeddwn i fod ynddo yn Aberystwyth?' A dywedodd, 'Wel, am y tro cyntaf erioed, roedd y parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ynghyd yn yr un ystafell.' A Carl oedd yn gyfrifol am hynny.

Y bore yma, yn ein eglwys gadeiriol yn Llandaf, yn ystod ein ewcarist yn Gymraeg ar gyfer Dydd Sant Dyfrig, gweddïodd y canon dros y Cynulliad Cenedlaethol hwn, Llywodraeth Cymru, a chi fel teulu. Gadewch iddo fod yn hysbys i chi y byddwch chi yn ein gweddïau ac y byddwn yn diolch am fywyd Carl cyhyd ag y bydd y sefydliad hwn yn bodoli.

13:30

Diolch, Llywydd. Roedd Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ffrind i mi, mae yn ffrind i mi, a bydd yn ffrind i mi am byth. Nid oes geiriau yn ddigon trist i fynegi'r golled. Bernie, gwraig Carl, a Jack a Lucy, ei fab a'i ferch, rwyf eisiau ichi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hunain. Mae llawer o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn a oedd yn caru ac yn parchu Carl. Fel ffeminist falch, rwyf yn dymuno iddo gael ei nodi yn y cofnod na fu unrhyw Aelod Cynulliad arall, yn y ddau ddegawd o ddatganoli yng Nghymru, mor angerddol i hyrwyddo cynnydd hawliau ac achosion menywod a phlant drwy ddeddfwriaeth na Carl Sargeant. Nododd un o ohebwyr blaenllaw Cymru, Martin Shipton, fod Carl, fel y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, wedi dod yn adnabyddus fel hyrwyddwr cydraddoldeb a hawliau menywod a chefnogodd gyfres o fentrau gyda'r nod o fynd i'r afael â thrais yn y cartref.

Roedd Carl yn ffrind i mi ond roedd hefyd yn ffrind i'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli, pobl Islwyn. Roedd Carl yn gwbl ddilys; yn wleidydd dosbarth gweithiol o'r iawn ryw, roedd yn siarad iaith y dyn a'r fenyw ar y stryd. A phan ymwelodd ag Islwyn, roedd yr hoffter yn amlwg. Roedd ei afiaith a'i gwrteisi yn amlwg i bawb a oedd yn cwrdd ag ef. Roedd Carl yn gwbl groes i'r gwleidydd caboledig, ffug. Ac fel ymgeisydd balch i Islwyn, pan gyfarfûm ag ef am y tro cyntaf, roeddwn yn meddwl beth ar y ddaear oedd wedi cyrraedd pan welais ef. Cefais fy nghyfarch gan ddyn mawr, mewn siwmper lwyd dywyll gyda thwll ynddi, a oedd wedi gweld dyddiau gwell. Yn ddiweddarach, sylweddolais ei fod ef a'i gyd-Aelod agos Ken Skates wedi bod yn gweithio'n ddiflino, yn teithio ar hyd a lled y wlad gyda'i gilydd, yn ymladd dros y Llywodraeth Lafur nesaf. Roedd yn gwbl ddilys.

Ac ym mis Mai 2016, pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad, nid oedd neb yn fwy caredig, cyfeillgar ac awyddus i wneud yn siŵr fy mod i'n cynefino â bywyd yn y Senedd na Carl. Roedd yn negodwr ac yn gyfathrebwr dawnus. Nid oedd yn hunandybus nac yn falch, ond yn ddyn gostyngedig, hael ei ysbryd, ac—yn brin mewn gwleidyddiaeth—roedd Carl yn dod â gwên i'r ystafell a fyddai yn aml yn achosi chwerthin, pa bynnag faterion pwysig yr oedd yn bwrw ymlaen â nhw.

Gwn fod fy rhagflaenwyr Llafur, Aelodau Cynulliad Islwyn, Irene James a Gwyn Price, yn cytuno â mi a phobl Islwyn wrth ystyried Carl Sargeant yn gydymaith yng ngwir ystyr y gair. Rydym ni'n galaru amdano heddiw. Ac mae'n annioddefol bron i gredu y bu farw heb wybod faint yr oeddem yn ei garu a'i barchu, ac rwyf yn wirioneddol drist am hynny.

Roedd Carl yn ddyn ar gyfer pob achlysur: barn y bobl o ran beth ddylai gwleidydd fod, nid dim ond yn berson pobl, ond gwleidydd y bobl; sosialydd, nad anghofiodd byth ei wreiddiau, na'i gymuned, a garai gymaint.

Carl, roeddwn i'n dy ystyried yn ffrind, ac ni fydd y lle hwn byth yr un fath i mi heb dy bresenoldeb di. Bydd dy waddol deddfwriaethol blaengar ac arloesol, a'r atgof amdanat, yn parhau i ysbrydoli ac ysgogi pob un ohonom i greu gwell Cymru, gwell cymdeithas. Ac, ar yr adeg dywyllaf hon, rwy'n cofio geiriau Louise Haskins:

'Go out into the darkness and put your hand into the Hand of God. That shall be to you better than light and safer than a known way.'

Nid wyt ti ar ben dy hun; rydym ni'n sefyll gyda ti. A, Carl, rydym ni'n galaru amdanat yn fawr. Diolch.

13:35

Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos frawychus iawn, credaf, i wleidyddiaeth Cymru. O dan yr amgylchiadau mwyaf trychinebus, collodd teulu ŵr a thad ymroddedig, collodd Alun a Glannau Dyfrdwy, a'r gogledd, Aelod Cynulliad gweithgar ac effeithiol iawn, a chollais innau, ynghyd â llawer o rai eraill yn y Siambr hon, gyfaill caredig a thyner iawn.

Gallaf gofio cyrraedd yn y Senedd am y tro cyntaf, ar ôl imi gael fy ethol yn ôl yn 2007, a chymryd fy sedd yn y Senedd. Ac, wrth edrych draw at feinciau Llafur, gwelais Carl, a meddyliais ar unwaith y byddai'n fwy addas iddo weithio wrth ddrws clwb nos yn y Rhyl, na bod yn wleidydd. Ond, wyddoch chi, ni allai'r argraffiadau cyntaf hynny fod wedi bod yn fwy anghywir. Roedd yn wleidydd anhygoel. Roedd yn ddyn hyfryd, ac, fel yr ydym eisoes wedi dysgu y prynhawn yma, roedd ei record yn un o gyflawni—ie, ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond hefyd ar gyfer y Blaid Lafur, ei etholwyr, a'r pethau yr oedd yn bersonol yn angerddol iawn drostynt. Ac er ei fod yn ymddangos fel ffigwr anghyffredin, am wleidydd, y tu ôl i'r ymddangosiad caled hwnnw roedd ganddo galon garedig iawn a oedd bob amser yn ceisio brwydro dros y gwannaf, pwy bynnag oedd y rhai gwannaf hynny.

Mae Sul y Cofio newydd fod, ac fe'm hatgoffodd nid yn unig am aberth y rhai a fu farw, ond hefyd pa mor wych oedd Carl Sargeant, a oedd â'r portffolio hwnnw, fel hyrwyddwr cymuned y lluoedd arfog a chyn-filwyr ledled Cymru, gan gynrychioli eu barn nhw wrth fwrdd y Cabinet, ac ar draws y wlad. Ac, wrth gwrs, nid oedd yn ffrind i'r lluoedd arfog yn unig, roedd yn ffrind aruthrol i gymunedau ffydd hefyd, ledled Cymru. Gwn fod y cymunedau ffydd, grwpiau ffydd—o bob crefydd—yn gwerthfawrogi'n fawr ei waith a'i ymgysylltiad trwy'r fforwm cymunedau ffydd.

Ac, wrth gwrs, roedd gan Carl wên heintus, a gallai wneud imi chwerthin. Fel cyd- ogleddwr, estynnodd ei gyfeillgarwch ataf, yn enwedig yn fy nyddiau cynnar yn y Cynulliad, a gallaf gofio ef yn gofyn imi un diwrnod, 'Ti'n iawn, bos? Sut wyt ti'n setlo i mewn?' Felly, dywedais wrtho fy mod wedi dod o hyd i fflat yn y bae, fy mod i'n brysur yn paratoi'r fflat, ac roedd yn digwydd bod yn yr un bloc â fflat Carl. 'Mae gen i fatres sbâr os wyt ti ei eisiau', meddai, 'Fe ddof ag e' draw nes ymlaen.' Ac yna dywedodd hyn: 'ni fydd o werth i ti—rwyt ti'n rhy dew.' Yna dywedodd, 'Ond bydd yn iawn i dy blant di.'

Ac roedd achlysur arall, wyddoch chi, yn ystod toriad y Cynulliad, roeddwn wedi dod a fy nheulu i lawr i Gaerdydd. Ac es i â nhw i nofio un bore, yn y bloc lle'r oedd y fflat. Dychmygwch fy syndod y prynhawn hwnnw, pan gefais neges destun gan Carl. Y neges oedd: 'Rwyt ti'n edrych yn ofnadwy yn y siorts nofio yna.' Heb i mi wybod, roedd wedi bod yn gwylio trwy'r ffenestr tra'r oeddwn yn y pwll. Roedd yn llawn direidi, ond roeddwn yn ei garu'n fwy oherwydd hynny.

Ac yna roedd y sgyrsiau. Byddem ni'n cael sgyrsiau, weithiau yn yr ystafell de, weithiau yn y coridor, weithiau yn Mischief's neu yn y Packet am fywyd teuluol. Roedd yn caru ei deulu'n fawr. Roedd yn sôn amdanynt yn aml ac roedd yn hynod falch ohonynt. Rwyf yn dymuno dweud hyn wrth Bernie, Lucy a Jack heddiw: diolch yn fawr am rannu Carl gyda ni, roeddem yn ei garu'n fawr ac rydym yn mynd i'w golli'n fawr.

13:40

Roeddwn am ddweud ychydig o eiriau, oherwydd ei fod yn adnabyddus ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf a Thaf Elái, ac roedd yn deyrnged i Carl, fel gogleddwr balch, nad oedd pobl Pontypridd a Thaf Elái byth yn gallu dal hynny yn ei erbyn.

Roedd i lawr yn fy etholaeth i, yn Rhydyfelin, dim ond ychydig wythnosau yn ôl yn ymdrin â mater gofal plant, ac roeddem yno, mewn rhes, roedd y camerâu teledu yno ac roedd yn mynd i wneud cyhoeddiad. Roeddwn wedi gwisgo crys glân ac roeddwn yn gwisgo siwt ac roeddem ni i gyd yno'n aros. Yna dyma gar yn cyrraedd a daeth dyn blêr allan, ei wallt yn flêr, heb eillio, yn gwisgo siwmper frwnt. Carl oedd yno, a meddyliais, 'Duw, Carl, beth sydd wedi digwydd?' Dywedodd, 'O, dwi wedi bod yn gwerthu'r Big Issue am gwpl o oriau. Mae gen i ambell un ar ôl i'w gwerthu yn nes ymlaen.' Ac yna cododd ofn mawr arnom ein bod yn mynd i gael y cyhoeddiad ac yna byddai Carl yn sydyn yn dechrau gwerthu'r Big Issue i bawb.

Un o'r bobl gyntaf i gysylltu â mi ar ôl clywed y newyddion trasig oedd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'n deyrnged iddo cymaint o bobl a oedd yn parchu ac yn edmygu Carl, yn gwybod amdano a'i waith, ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnaeth  i'n cymunedau. Felly, yr unig sylw mewn gwirionedd yr wyf i am ei wneud, ar ben popeth sydd wedi ei ddweud, yw bod llawer o gydnabyddiaeth i'r cyfraniad a wnest ti yn ardal Pontypridd a Taf Elái, ac ni fydd yn mynd yn angof.

Rydw i'n aelod gymharol ddiweddar o glwb cefnogwyr Carl. Cyfarfûm â Carl am y tro cyntaf fel ymgeisydd yn 2011, pan ddaeth i gefnogi fy ymgyrch i ailddatblygu canolfan siopa ddiflas a oedd wedi mynd a'i phen iddi. Roedd Carl yn ymgyrchydd gwych. Roedd hefyd yn wych wrth ddatrys problemau, fel y mae eraill wedi ei ddweud. Bydd Julie Morgan a minnau yn ddiolchgar am byth i Carl am sicrhau ateb i'r ymgyrch 15 mlynedd i achub cronfa ddŵr Llanisien. Cafodd y gronfa ddŵr ei draenio fel gweithred olaf o fandaliaeth gorfforaethol gan Western Power Distribution, a oedd eisiau ei gorchuddio dan goncrit a thai moethus, ond roedd yn amlwg nad oedd gan y perchnogion newydd, CELSA Group, yr arian na'r wybodaeth i adfer y gronfa ddŵr. Felly, camodd Carl i'r adwy a llwyddodd i berswadio Dŵr Cymru i gymryd yr awenau, a diolch i Carl bydd y gronfa ddŵr yn cael ei hail-lenwi a'i diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Roedd yn fraint cydweithio'n agos iawn â Carl dros y pedair blynedd diwethaf ar yr holl ddeddfwriaeth y bydd yn cael ei gofio amdani. Fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei ddweud, bydd Carl yn cael ei gofio fwyaf am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef deddf sy'n torri tir newydd. Rwy'n cofio, pan gafodd ei benodi’n Weinidog Cyfoeth Naturiol yn gyntaf, mae'n deg dweud nad oedd yn frwdfrydig, oherwydd ei fod yn ansicr a fyddai'r Ddeddf yn cael unrhyw effaith y tu hwnt i edrych yn dda yn unig, ac nid oedd gan Carl unrhyw ddiddordeb mewn deddfau sy'n eistedd ar y silff yn casglu llwch. Roedd eisiau i bopeth a wnâi wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, unwaith i'r Cabinet ei ddarbwyllo eu bod o ddifrif am y Bil arloesol hwn, aeth yn ei flaen â holl awch a brwdfrydedd a ymrwymwyd ganddo'n flaenorol i achos trais domestig. Llwyddodd i greu Bil ag iddo gefnogaeth gyhoeddus, ac un y gallai pawb ei ddeall. Yn wir, mae'r rhaglen lywodraethu yn sôn am wneud Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhan o'r gyfraith, ac am ein hymrwymiad i ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau a fydd yn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar lesiant hirdymor ein gwlad, a dylai Carl bob amser gael ei gofio am hynny. Roedd wir yn Weinidog gwych i gydweithio ag ef, oherwydd ei fod yn gwrando. Byddai'n ystyried yr hyn yr oedd gan Aelodau'r meinciau cefn i'w ddweud ac os nad oedd ganddo ateb yn y pryd a'r lle, gallaf ei glywed yn dweud, 'Dof yn ôl atoch ynglŷn â hynny', a dyna y byddai'n ei wneud bob amser.

Gall tenantiaid sy'n rhentu'n breifat ddiolch i Carl am gofrestru landlordiaid, gan sicrhau bod modd iddynt gael gafael ar eu landlordiaid mewn argyfwng. Roedd eisoes wedi dechrau'r broses ddeddfwriaethol i gael gwared ar ffioedd asiantaethau gosod, sy'n achosi cymaint o drafferthion ariannol i gynifer o denantiaid preifat. Ac ar 24 Hydref, y tro diwethaf iddo gyflwyno unrhyw fentrau gweinidogol, cyhoeddodd Carl ei fod wedi cael cynifer o geisiadau o safon ar gyfer ei raglen dai arloesol roedd wedi llwyddo i berswadio Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid bron i ddyblu'r cronfeydd cyfalaf i ddarparu cartrefi carbon isel o safon sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Roedd Carl yn wir arweinydd, yn gynrychiolydd arbennig dros Alun a Glannau Dyfrdwy ac yn Weinidog rhagorol.

Y ddelwedd o Carl yr ydw i eisiau ei thrysori am byth yw'r ddelwedd ohono mewn bwa pluog pinc a phâr o sbectol binc enfawr, yn sefyll wrth ymyl ei ffrind da, Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad yr etholaeth gerllaw. Aeth ati'n fwriadol i ddewis y propiau mwyaf hurt posibl gan nad oedd ofn arno fod yn destun chwerthin er lles achos da, ac roedd eisiau i chi chwerthin gydag ef er mwyn cefnogi'r ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth o ganser y fron, Wear it Pink. Creodd gymaint o chwerthin yn ein bywydau, a chyffwrdd â phobl a oedd yn gweithio ar bob agwedd ar waith y Cynulliad. Ond nid yw ein colled ni yn ddim o gymharu â'r boen a ddioddefir gan ei deulu a'i gymuned.

13:45

Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau gwresog a diffuant sy'n adlewyrchu'r hoffter a'r parch aruthrol a deimlir tuag at Carl Sargeant ar draws y Siambr hon. Mae eraill ohonoch a fyddai wedi hoffi siarad y prynhawn yma, ond nid wyf wedi gallu galw ar bob un. Byddaf yn sicrhau bod y rhestr o siaradwyr y prynhawn yma yn cael ei rhannu â'r teulu.

Mae cyflawniadau Carl fel Gweinidog ac fel Aelod Cynulliad yn niferus, ac, fel y cyfryw, bydd ei etifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar fywydau llawer o bobl ledled y wlad am flynyddoedd i ddod. Rydym yn dod i'r Cynulliad hwn o gefndiroedd niferus ac amrywiol, sy'n cynrychioli pob cymuned yng Nghymru. Gall y lle hwn ein newid ni weithiau. Ni wnaeth newid Carl Sargeant. Parhaodd yn driw i'w gymuned a'i gefndir. Yr un oedd y Carl y gwnes i gyfarfod ag ef gyntaf yn 2003 â'r Carl a oedd yn y Siambr hon bythefnos yn ôl. Fe ddylanwadodd arnom ni, nid i'r gwrthwyneb, ac nid oedd hyrwyddwr gwell nag ef i'w etholwyr a'i achosion yn y lle hwn.

Rwyf nawr yn dirwyn y sesiwn hon i ben. Bydd y gloch yn canu bum munud cyn i ni ailgynnull. Gofynnaf ichi adael y Siambr hon yn dawel a gwneud hynny er cof cynnes a pharhaol am ein ffrind, ein cymrawd, ein cyfaill, Carl Sargeant.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:47.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 14:00, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

14:00
2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Rwy'n galw'r Cynulliad i drefn. Yr eitem ar ein hagenda yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.

Blaenoriaethau Caffael Cyhoeddus

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru? OAQ51299

Mae polisi caffael yn canolbwyntio ar ymateb i her cyni cyllidol gan sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i fusnesau Cymru a chreu swyddi cynaliadwy wrth i ni adael yr UE.

Diolch. Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae nifer y bobl sy'n aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth yng Nghymru wedi cynyddu 400 y cant eleni. Nawr, er mwyn lleihau'r rhestrau hynny, mae byrddau iechyd yn cael eu gorfodi i gaffael rhai gwasanaethau a thriniaethau iechyd y tu allan i Gymru. Yn fy Mwrdd Iechyd fy hun, rwy'n ymwybodol o sawl atgyfeiriad i glinig y Priory ar gyfer y rheini sydd eisiau defnyddio gwasanaethau a thriniaethau iechyd meddwl hanfodol. Er mwyn lleihau'r rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau na ellir eu cyflawni yn brydlon yng Nghymru, mae ein GIG bellach yn gwario £255 miliwn ar gaffael y driniaeth honno ar gyfer pobl y tu allan i Gymru mewn un flwyddyn, a 46,000 o gleifion yw cyfanswm y cleifion.

Prif Weinidog, mae datganoli gennym ers 20 mlynedd erbyn hyn, ac eto rydym ni'n dal i orfod caffael gwasanaethau iechyd y mae wir eu hangen y tu allan i Gymru. Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod ein cleifion yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt mewn da bryd ac, yn bwysicaf oll, yn eu hardaloedd eu hunain ac ar gael yn fwy nag y mae ar hyn o bryd?

Gwn fod ei phlaid hi wedi mynegi safbwyntiau cryf iawn—safbwyntiau yr wyf i'n cytuno â nhw—na ddylid atal pobl rhag cael triniaeth dros y ffin. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, pan fo'r driniaeth ar gael, y dylai bobl allu gwneud defnydd ohoni. Ni ddylem geisio creu sefyllfa lle'r ydym ni'n ceisio sicrhau bod pob triniaeth ar gael yng Nghymru. Bydd rhywfaint o driniaeth arbenigol y bydd rhaid cael gafael arni o ddinasoedd mwy. Pan allwn ni ddarparu triniaeth, byddwn yn gwneud hynny. Un enghraifft o hynny yw'r ganolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol, pan mai'r argymhelliad gwreiddiol oedd symud y gwasanaeth allan o Gymru. Comisiynais adolygiad ac, o ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, roedd yn bosibl symud ymlaen wedyn gyda'r SuRNICC. Felly, pan allwn ni, byddwn yn ei wneud. Ond, ni ddylem ni ofni caffael gwasanaethau y tu allan i Gymru os mai dyna sydd ei angen ar gleifion.

Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ysgogwyr caffael yng nghyd-destun cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd i greu swyddi a hybu ffyniant yn y Cymoedd gogleddol?

Mae cynllun gweithredu tasglu'r Cymoedd yn ein hymrwymo i ddefnyddio caffael cyhoeddus yn arloesol, fel y gallwn fanteisio ar y potensial creu swyddi o'r buddsoddiadau seilwaith mawr sydd gennym ni yng Nghymru. Er enghraifft, bydd rhaglenni fel metro de Cymru, cynlluniau ffyrdd pwysig fel yr M4, a'r gwaith sy'n parhau i ddeuoli'r A465 yn ymsefydlu dull budd cymunedol i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu monitro'n ofalus fel bod cymunedau'n cael y budd mwyaf posibl o'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yn eu hardaloedd.

Rhaglen Cyni

2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae rhaglen cyni Llywodraeth y DU wedi'i chael yng Nghymru? OAQ51268

Gan fod gennym dros £1 biliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae'n amlwg bod llawer iawn o bwysau. Wrth gwrs, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar y cyfnod hwn o gyni cyllidol ac mae hwnnw, rwy'n gobeithio, yn neges a fydd yn cael ei glywed gan Ganghellor y Trysorlys ddiwedd y mis hwn.

Diolch, Prif Weinidog. Bydd Canghellor Llywodraeth Dorïaidd y DU, Philip Hammond, yn cyflwyno ei gyllideb ar 22 Tachwedd yn siambr Tŷ'r Cyffredin. Yn ddiweddar, cafodd Gweinidogion cyllid Cymru a'r Alban gyfarfod ar y cyd gyda swyddogion y Trysorlys yn y cyfarfod cyllid pedair ochrog yn Llundain. Yn y cyfarfod hwnnw, gwnaeth Weinidogion cyllid Cymru a'r Alban alwad eglur a diamwys i Lywodraeth Dorïaidd y DU gyflwyno cynlluniau i ddiddymu cap cyflogau'r sector cyhoeddus a gwrthdroi'r £3.5 biliwn o doriadau ychwanegol heb eu neilltuo arfaethedig i wariant yn 2019-20. Pa neges sydd gan y Prif Weinidog i'r Canghellor cyn y gyllideb am yr angen i'r Llywodraeth Doraidd gefnu ar ei hobsesiwn ideolegol gyda chyni cyllidol, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi gweld gostyngiad o 7 y cant i'w chyllideb mewn termau real ers 2010?

Yn gyntaf oll, mae'n hynod o bwysig bod y £3.5 biliwn o doriadau heb eu neilltuo yn cael eu diddymu, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu bod mewn sefyllfa lle nad ydym yn wynebu maint y toriadau hynny. Yn ail, mae'n hynod bwysig nawr, rwy'n credu, pwmpio mwy o arian i mewn i'r economi, er mwyn sicrhau bod mwy o arian ar gyfer buddsoddi, i wneud yn siŵr y gellir creu swyddi o ganlyniad, ac, wrth gwrs, i alluogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn wir, i allu buddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen ar Gymru a'r Alban.

14:05

Prif Weinidog, fe wnaethoch ddisgrifio eich agwedd at gyllid cyhoeddus ar 23 Ebrill, pan ofynnwyd i chi,

Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid John McDonnell bod angen benthyg £500 biliwn yn ychwanegol er mwyn rhoi ychydig o hwb i'r economi—byddech chi'n cyd-fynd â hynny, fyddech chi?

Cafwyd yr ateb, 'Byddwn, mi fyddwn' gennych. A ydych chi'n dal i gredu y byddai benthyg £500 biliwn—10 gwaith diffyg presennol y DU—yn synhwyrol, a sut y byddai'n cael ei ad-dalu?

Rwy'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig, ar adeg pan nad yw benthyg erioed wedi bod, wel, nid mor rhad ag yr oedd tua wythnos yn ôl—ond mae benthyg yn rhatach nag erioed—mae'n rhesymol ac yn gyfrifol i Lywodraethau fenthyg arian er mwyn pwmpio'r arian hwnnw i mewn i'r economi. Bydd ef yn anghytuno; mae'n arianyddwr, rwy'n siŵr. Dydw i ddim; rwy'n cyd-fynd ag egwyddorion Keynes ac o'r farn mai dyma'r amser i Lywodraeth fenthyg yr arian hwnnw, rhoi'r arian hwnnw i mewn i'r economi, creu'r swyddi sydd eu hangen arnom ni, ac yna, wrth gwrs, creu derbyniadau treth a fydd yn ad-dalu'r benthyciad hwnnw.

Os yw hynny'n wir—ac rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog, oherwydd y cyfraddau llog is nag erioed yr ydym ni'n dal i'w hwynebu, er y penderfyniad diweddar i gael cynnydd bach—pam nad ydym ni'n benthyg y swm llawn sydd ar gael i ni? Hynny yw, nid ydym ni hyd yn oed yn manteisio dros y tair blynedd ariannol nesaf ar y £425 miliwn llawn y gallem ni ei fenthyg. Rydym ni £50 miliwn yn brin o hynny, a gallem ni fod yn gwneud mwy drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol hefyd. Pam nad ydym ni'n defnyddio'r pwerau benthyg sydd gennym ni i gael y fantais fwyaf?

Wel, yr ateb i hynny yw ein bod ni. Mae'n rhaid i ni gydbwyso, wrth gwrs, y pŵer sydd gennym ni i fenthyg arian yn erbyn yr angen i ad-dalu'r arian hwnnw a'r pwysau a fydd ar y gyllideb refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Rydym ni'n symud ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol, fel y mae'r Aelod wedi dweud, a byddwn yn edrych ar bob model benthyg ariannol darbodus er mwyn cyflawni dros bobl Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. 

Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed honiadau gan gyn-Weinidog cabinet a chan uwch-gynghorydd arbennig bod, yn y Llywodraeth Cynulliad diwethaf yr oeddech chi'n Brif Weinidog arni, bwlio, gemau meddwl, ffafriaeth, tanseilio personol bwriadol, ac y caniatawyd i'r diwylliant hwnnw ffynnu heb gael ei atal. Hefyd, dywedodd y cynghorydd arbennig bod yr ymddygiad yn 'wenwyn pur'. A gaf i ofyn i chi wneud sylwadau ar yr honiadau hynny, Prif Weinidog, oherwydd, os ydyn nhw'n wir, yna nid dyna'r ffordd i redeg Llywodraeth, nage?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddweud fy mod i wedi clywed yr honiadau o fwlio gan Leighton Andrews? Rwyf wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Clywais yr hyn yr oedd gan Steve Jones i'w ddweud, a dywedaf hyn: os yw pobl yn dymuno dod ataf i ac esbonio pethau i mi am eu profiad, yna rwy'n fwy na pharod i hynny ddigwydd a gallant gysylltu â mi naill ai drwy fy swyddfa neu drwy'r Ysgrifennydd Parhaol.

Prif Weinidog, mae'r honiadau wedi eu cyfeirio'n bendant at eich swyddfa chi, ac mae'r honiadau, neu'r bobl sy'n gwneud yr honiadau, yn datgan yn gwbl eglur eu bod wedi codi'r honiadau hyn gyda chi ar sawl achlysur cyn rhoi'r ffidil yn y to. Fe roesant y ffiidil yn y to ; roedden nhw'n credu nad oeddent yn cael eu cymryd o ddifrif ac nad oedd y materion hyn yn cael sylw. Yn wir, mewn cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad i'm cyd-Aelod, Darren Millar, a ofynnodd gwestiwn yn ôl ym mis Hydref/Tachwedd 2014, fe wnaethoch ymateb iddo trwy ddweud nad oedd unrhyw honiadau wedi eu gwneud. Sut gall pobl fod yn ffyddiog y byddant yn cael eu cymryd o ddifrif os byddant yn dewis codi'r pryderon difrifol hyn gyda chi ? Ac os nad yw'r ffydd hwnnw ganddynt, a wnewch chi ymrwymo i atgyfeirio'r honiadau hyn ar gyfer ymchwiliad gan drydydd parti annibynnol fel y gallwn ddeall yn llawn pa un a ydyn nhw'n honiadau difrifol sy'n dal dŵr, gyda chamau gweithredu gofynnol, neu nad oes unrhyw sylwedd iddynt ac y gellir eu rhoi o'r neilltu?

Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig, pan fydd gan bobl bryderon, eu bod nhw'n gallu mynegi'r pryderon hynny trwy broses gyfrinachol. Nid wyf i'n credu mai yn y parth cyhoeddus y dylid gwneud y pethau hyn, ac rwy'n gwahodd pobl i ddod ymlaen gydag unrhyw bryderon y gallai fod ganddynt a chysylltu â'm swyddfa i neu gysylltu â'r Ysgrifennydd Parhaol fel y gallaf wneud asesiad o'r hyn y dywedwyd oedd yn digwydd bryd hynny.

Mae'n deg dweud, fodd bynnag, Prif Weinidog, y codwyd yr honiadau hyn gyda chi ar y pryd? Oherwydd mae'r ddau unigolyn—unigolion uwch o fewn y Llywodraeth—yn bendant yn eu honiadau eu bod wedi cael eu codi ar sawl achlysur gyda chi, nid dim ond ar achlysuron unigol, ond fe'u codwyd sawl tro gyda chi, ac yn wir eu bod wedi cael eu gwneud yn erbyn eich swyddfa, do. Nid oeddent yn cael eu gwneud yn erbyn strwythur ehangach y Llywodraeth—roedden nhw'n cael eu gwneud yn erbyn Swyddfa'r Prif Weinidog. Felly, a allwch chi gadarnhau, yn wahanol i'r ateb a roesoch i Darren Millar yn ôl yn 2014, y codwyd yr honiadau hyn gyda chi a'ch bod chi wedi ymchwilio iddynt ar y pryd? Ac, fel y dywedais, os oes rhinwedd iddynt, a wnewch chi ymrwymo i'w hatgyfeirio i unigolyn annibynnol fel y gellir ymchwilio iddynt, ac mewn gwirionedd, rhoi sylw i'r gweithredoedd hyn?

14:10

Yr hyn y gallaf ei ddweud yw yr ymdriniwyd ag unrhyw faterion y tynnwyd fy sylw atynt bryd hynny. Dyna'r ateb a roddwyd—ac mae'r ateb hwnnw'n gywir—yn ôl yn 2014. Os, fodd bynnag, oes materion eraill y mae pobl eisiau eu codi, yna mae croeso iddyn nhw wneud hynny. Ond gofynnodd gwestiwn uniongyrchol i mi: a ymdriniwyd ag unrhyw faterion a godwyd gyda mi? Yr ateb i hynny yw: do ymdriniwyd â nhw.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld y bore yma, ar WalesOnline, bod Martin Shipton wedi ysgrifennu darn ar y pwnc y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei godi. Dywedodd ei fod wedi cael ei wahodd i ginio ar ddiwedd 2014 yng nghartref ffrind, lle rhoddodd Carl Sargeant a phobl uwch eraill Llafur Cymru olwg annymunol iddo ar agwedd ar Lywodraeth Cymru nad oedd yn gyfarwydd â hi. Dywedodd ei fod yn synnu clywed gan Carl ac eraill am yr awyrgylch wenwynig a oedd yn bodoli wrth wraidd Llywodraeth Cymru, a'r honiadau am achosion o danseilio a mân feirniadu a oedd yn digwydd—eich bod chi wedi cael eich hysbysu am y problemau hyn ond nad oeddech chi wedi gwneud dim amdanynt. Felly, onid yw hynny'n mynd yn groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid?

Nid yw'n bosibl i mi wneud sylwadau ar faterion nad wyf yn gwybod dim amdanynt, ond os yw'r newyddiadurwr dan sylw neu eraill eisiau dod ymlaen a rhannu'r hyn y maen nhw wedi ei ddweud, heb yn wybod i mi, gyda mi, byddwn yn fwy na pharod i wrando arnynt.

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno, allan o drasiedi y dyddiau diwethaf, ei bod hi'n bwysig y dylem ddysgu gwersi sy'n deillio o ddiswyddiad Carl Sargeant a'r prosesau a oedd ynghlwm â hynny. Dywedodd y Prif Weinidog, fel bargyfreithiwr â phrofiad o gyfraith a gweithdrefn droseddol, ei fod wedi gweithredu yn unol â'r rheolau. Nawr, ni roddwyd unrhyw gyfle i Carl Sargeant ateb iddo fe yr honiadau a wnaed, oherwydd na roddwyd unrhyw fanylion. Mae hynny'n mynd yn groes i un o egwyddorion mwyaf sylfaenol cyfiawnder naturiol—i glywed ochr arall y ddadl cyn bod rhywun yn cael ei roi dan anfantais. Hefyd, gan fod y diswyddiad yn gyhoeddus, yn anochel, a'r ffaith bod cyhuddiadau, er nad oeddent wedi eu datgan, wedi eu gwneud o anweddustra rhywiol, roedd y cyhoeddusrwydd a gynhyrchwyd trwy hynny yn rhagfarnu, yn anochel, sydd unwaith eto yn peryglu'r rhagdybiaeth o ddiniweidrwydd. Felly, os gweithredodd y Prif Weinidog yn unol â'r rheolau yn yr achos penodol hwn, a yw'n credu erbyn hyn y dylid cael gwared ar y rheolau hynny a chael rhai newydd sydd wedi eu llywio gan egwyddorion tegwch?

Credaf fod dau beth yn y fan yma: yn gyntaf oll, gyda'r ymchwiliad annibynnol a'r cwest, rwy'n meddwl ei bod yn hynod bwysig bod y stori gyfan yn cael ei hadrodd ar yr un pryd ac nid mewn rhannau. Felly, nid wyf yn gallu gwneud sylwadau ar amryw o bethau a ddywedwyd—nid wyf yn credu bod hynny'n briodol i neb. Mae'n hynod bwysig bod y stori gyfan yno i bawb ei gweld, yn hytrach na'i bod yn dod allan mewn tameidiau—nid wyf yn credu mai dyna fyddai'r broses gywir o gwbl.

Yn ail, a wyf i'n credu bod gwersi i bob parti eu dysgu? Efallai bod. Credaf ei bod hi'n bwysig ein bod ni, fel pleidiau gwleidyddol, yn gwneud hynny. Mae gwleidyddiaeth yn fusnes anodd iawn, rydym ni'n gwybod hynny. Gall pobl gael eu diswyddo o gabinetau, gellir eu rhoi mewn cabinetau, heb unrhyw reswm. Gall pobl fynd i gyfrif etholiad a gallant ganfod eu hunain mewn swydd, a wedyn canfod eu hunain heb swydd, tra bod torf aflafar yn cymeradwyo'r ffaith nad ydyn nhw mewn swydd. Mae, yn yr ystyr hwnnw, yn fusnes creulon iawn. Ond un o'r pethau a wnaeth fy nharo i yn gynharach heddiw yw efallai y dylem ni, fel pleidiau, ystyried sut i beidio â chymryd nid y min, nid yr angen am archwiliad fforensig, nid y ddadl, nid y craffu, allan o wleidyddiaeth, ond gweld sut y gallwn ni ei wneud yn llai creulon nag ydyw. Credaf fod hynny'n rhywbeth, fel pob plaid, efallai y byddwn ni eisiau ei ystyried yn y dyfodol.

Mae gen i, wrth gwrs, brofiad personol o gael fy niswyddo, a gallaf gadarnhau nad yw'n ddymunol, ond ni all neb ym myd gwleidyddiaeth gwyno gydag unrhyw gyfiawnder am gael eu diswyddo, gan nad oes unrhyw gyfiawnder ynghylch penodiadau yn y lle cyntaf. Ond y pwynt yn yr achos penodol hwn oedd bod y diswyddiad yn gysylltiedig â chyhuddiadau a wnaed yn ei erbyn.

Mae ffordd arall y gallai'r Prif Weinidog fod wedi ymdrin â hyn, gan fod Carl Sargeant, fel Gweinidog y Goron, yn cael ei lywodraethu gan y cod ymddygiad gweinidogol hefyd, sy'n dweud bod

disgwyl i Weinidogion y Goron ymddwyn mewn ffordd egwyddorol sy'n cynnal y safonau uchaf o wedduster.

Ac mae Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol, wedi bod yn destun honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol, ac mae'r rheini'n cael eu hymchwilio nid gan ymchwiliad mewnol gan ei blaid, ond gan Sue Gray, sef cyfarwyddwr cyffredinol tîm gwedduster a moeseg y gwasanaeth sifil. Ar y llaw arall, y trywydd a ddewiswyd gan y Prif Weinidog oedd anfon ei gynghorydd arbennig i siarad â'r achwynwyr. Dywed y cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran teulu Carl Sargeant erbyn hyn bod penodi ymgyrchydd gwleidyddol o dan yr amgylchiadau hyn, heb unrhyw arbenigedd penodol o ran cynnal ymchwiliad disgyblu rhagarweiniol, mewn gwirionedd yn rhagfarnu canlyniad y broses hon, ac mor annheg i'r rheini sy'n gwneud y cyhuddiadau ag i'r rheini sy'n destun iddynt. Oherwydd os oes ansicrwydd nawr ynghylch hygrededd unrhyw dystiolaeth a achosir gan hynny, oherwydd, fel y mae cyfreithwyr teulu Carl Sargeant wedi ei ddweud, ceir posibilrwydd gwirioneddol bod tystiolaeth tystion yn cael ei chamddefnyddio ac oherwydd bod sgyrsiau niferus gyda thystion gan Swyddfa'r Prif Weinidog yn creu ansicrwydd ynghylch yr hygrededd hwnnw, mae wir yn tanseilio'r broses gyfan i bawb sy'n gysylltiedig â hi. Felly, oni fyddai'n well yn y dyfodol i'r pethau hyn gael eu harchwilio yn annibynnol ar y broses wleidyddol ei hun?

14:15

Rwy'n meddwl bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran awgrymu—. Mae'r geiriau y mae wedi eu defnyddio—. 'Posibilrwydd gwirioneddol o gamddefnyddio' yn awgrym difrifol dros ben a byddai angen tystiolaeth gref iawn i'w gefnogi. Mae'r teulu wedi gofyn am ymchwiliad annibynnol. Rwyf i wedi sicrhau bod camau yn cael eu cymryd bellach i'r ymchwiliad annibynnol hwnnw gael ei gynnal. Ni fyddai'n iawn i'r teulu pe bawn i'n trafod manylion y digwyddiadau oherwydd byddai'n ymddangos yn gyfleus i mi wneud hynny—nid wyf yn fodlon gwneud hynny— yn hytrach na chaniatáu i'r ymchwiliad gael ei gynnal yn llawn ac yna, wrth gwrs, i bob digwyddiad gael ei ystyried bryd hynny. Rwy'n sylweddoli bod rhai pobl yn credu fy mod i'n osgoi'r mater o ganlyniad i ddweud hynny, ond rwyf yn meddwl ei bod hi'n hynod bwysig bod hyn i gyd yn cael ei archwilio. Rwyf wedi dweud bod hyn yn bwysig. Rwy'n deall hynny. Mae'n bwysig i'r teulu. Ond mae'n bwysig bod hyn i gyd yn cael ei archwilio a bod darlun llawn yn cael ei gyflwyno ar yr adeg iawn. Rwy'n credu bod y teulu'n haeddu hynny.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwyf i eisoes wedi mynegi fy marn dros y penwythnos ynglŷn â'r sefyllfa anodd sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol. Nid yw Plaid Cymru yn fodlon gwneud datganiadau cynamserol ynghylch dyfodol gwleidyddol unrhyw un; nid yw'r materion wedi cael eu datrys eto ac nid yw'r penderfyniadau a wnaed wedi eu harchwilio eto. Rydym ni yn credu bod cwestiynau y mae'n rhaid eu hateb ac rydym ni wedi galw am yr ymchwiliad annibynnol ac yn cefnogi hynny. Gyda'r cwest wedi dechrau eisoes, a allwch chi gadarnhau'r amserlen ar gyfer yr ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth Carl Sargeant?

Y peth cyntaf i'w wneud, wrth gwrs, yw penodi Cwnsler y Frenhines, i'r cylch gorchwyl gael ei bennu, ac yna, wrth gwrs, mae'n fater i'r Cwnsler yn gyfan gwbl, a bydd yn gweithredu ar hyd braich. Bydd angen i'r broses honno fynd rhagddi cyn gynted â phosibl bellach. Sylwais mai un o'r sylwadau a wnaeth y crwner ddoe oedd bod—. Roedd yn ymddangos ei fod yn awgrymu y byddai'r ymchwiliad yn dylanwadu ar un o ganlyniadau ei gwest. Mae angen i ni gael eglurhad beth yn union y mae hynny'n ei olygu, pa un a yw'n dymuno i'r ymchwiliad ddod i ben cyn y cwest ai peidio. Rwy'n credu fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei egluro, ond, o'm safbwynt i, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod materion yn mynd rhagddynt mor gyflym â phosibl nawr.

Ac rwy'n credu y gallwn ni dybio, Prif Weinidog, cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn dod ar gael, y byddech chi'n barod i'w rhannu gyda'r Cynulliad hefyd. Ar ôl yr wythnos diwethaf, ceir cwestiynau ynghylch sut y gallwn ni sicrhau yr ymdrinnir â datgeliadau mewn ffordd sy'n deg i bawb dan sylw. Nawr, rwyf wedi canfod fy hun yn gofyn: sut mae gennym ni fel pleidiau gwleidyddol yr adnoddau a'r personél sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin â honiadau ac i weithredu mewn ffordd dryloyw, neu a ellid ymdrin â nhw mewn ffordd fwy annibynnol yn y dyfodol? Efallai y byddai mwy o ymddiriedaeth mewn awdurdod niwtral ac annibynnol, a fyddai'n fwy diduedd, yn fwy tryloyw nag y gall pleidiau gwleidyddol fod.

Nawr, efallai na fydd gan swyddfa'r Comisiynydd Safonau yr adnoddau ar hyn o bryd i ymdrin â datgeliadau o aflonyddu neu gamymddwyn arall yn llawn. Ceir cwestiwn hefyd ynghylch cosbau—pa fath o gosbau y gellid eu rhoi ar bobl. A ydych chi'n credu y gellid rhoi adnoddau gwell i swyddfa'r Comisiynydd Safonau, ac y dylai hefyd ystyried cosbau ystyrlon i ymdrin â datgeliadau o'r fath?

14:20

Rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru wedi codi pwynt eithriadol o bwysig, sef: sut gallwn ni greu proses gwynion sy'n wahanol—nid yn wannach, ond yn wahanol—proses gwynion sy'n cefnogi pob parti? Mae'n rhaid i ni fod yn onest: gwlad fach ydym ni a phleidiau bach ydym ni i gyd. Credaf fod rhinwedd mawr mewn ymchwilio, gyda'r Llywydd, sut y gallai'r Comisiynydd Safonau newid swyddogaethau o'r swyddogaeth bresennol. Rwy'n credu fod hynny'n rhywbeth y gellid cael trafodaeth ddefnyddiol yn ei gylch ymhlith y pleidiau.

Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod aflonyddu rhywiol yn digwydd mewn mannau eraill ym myd gwleidyddiaeth ac mewn diwydiannau eraill hefyd. A dweud y gwir, gallwn ddweud ei fod yn bodoli mewn bron pob agwedd ar fywyd. Mae'n dal i fod yn broblem a ddioddefir gan lawer o bobl—ac, nid yn unig, ond yn bennaf, gan fenywod. Ac mae'n dal i fod yn broblem y mae angen mynd i'r afael â hi. Un pwynt y mae angen i ni ei ystyried—pob un ohonom ni, rwy'n credu—yw sut y gallwn ni greu'r amodau a'r diwylliant i'r rheini sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol allu gwneud datgeliadau yn ddiogel yn y dyfodol. Gan edrych y tu hwnt i'r mater o ddatgeliadau ac anhysbysrwydd, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y gellid eu cymryd i sicrhau bod agweddau'n newid, fel y gellir atal aflonyddu rhag digwydd yn y lle cyntaf?

Credaf fod hwnnw'n gwestiwn i'r holl bleidiau, yn gweithio gyda'i gilydd, i'w ddatrys. Mae'n rhaid i ni greu sefyllfa lle nad yw achwynwyr yn teimlo nad ydynt yn gallu dod ymlaen. Mae'n rhaid i ni greu system—ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob system yn deg; mae pawb yn deall hynny. O'm safbwynt i, rwyf i eisiau gwneud yn siŵr, gan weithio gyda'n gilydd fel pleidiau gwleidyddol, y gallwn ni greu'r awyrgylch iawn a hefyd gwneud yn siŵr, wrth gwrs, ein bod ni'n gallu sicrhau bod y prosesau—os bydd prosesau newydd yn cael eu dilyn yn y dyfodol, eu bod nhw'n berthnasol i bob parti yn gyfartal.

Ceir nifer o gwestiynau, rwy'n credu, a fydd yn cael eu gofyn. Mae arweinydd Plaid Cymru yn llygad ei lle i ddweud ei bod yn sicr y bydd cwestiynau. Rwy'n derbyn hynny, ac mae'r rheini'n gwestiynau y mae pobl eisiau'r atebion iddynt, ac rwy'n derbyn hynny hefyd. Rwy'n credu, fel pleidiau gwleidyddol, bod angen i ni weld a oes ffordd o newid y ffordd y mae'r Cynulliad yn ymdrin â'r materion hyn ac mae'r rheini'n sgyrsiau y mae'n bosibl iawn y bydd angen i ni eu cael dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Tlodi Plant

3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r cynnydd disgwyliedig mewn tlodi plant yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau i fudd-daliadau lles? OAQ51298

Rwy'n bryderus am y cynnydd sylweddol a ragwelir i dlodi plant yng Nghymru, wedi ei ysgogi gan newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i dreth a budd-daliadau. Mae ein strategaeth tlodi plant yn cyflwyno amcanion ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant ac rydym ni'n cymryd camau i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cyfrifo y byddwn ni'n gweld cynnydd sydyn o 7 y cant i gyfradd y cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru, sy'n amlwg yn ystadegol enfawr. Rydym ni'n gwybod bod y rhai sy'n derbyn budd-daliadau oedran gweithio yn gweld toriad gwirioneddol i faint o arian y maen nhw'n ei gael i fyw arno. Beth ydych chi'n credu y gellir ei wneud i liniaru polisïau Llywodraeth y DU, y mae'n amlwg nad ni sy'n gyfrifol amdanynt, ond beth allwn ni yng Nghymru ei wneud i geisio lliniaru'r effaith drychinebus y mae hyn yn debygol o'i chael ar blant yn y sefyllfa hon?

Gadewch i mi roi nifer o ffyrdd yr ydym ni'n ymdrin â'r mater hwnnw i'm cyd-Aelod. Mae gweithrediad cynnar y cynnig gofal plant yn digwydd mewn saith awdurdod lleol. Dechreuodd hynny ym mis Medi, gan ddarparu gofal plant i 4,725 o blant. Ar gyfer 2017-18, rydym ni wedi buddsoddi dros £38 miliwn yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, mwy na £76 miliwn yn Dechrau'n Deg. Rydym ni wedi dyrannu cyllideb o £400,000 ar gyfer 2017-18 ar gyfer Rhianta Cadarnhaol. Mae Cymunedau am Waith, er enghraifft, wedi ymgysylltu ag 11,000 o gyfranogwyr, gyda 3,000 yn mynd i mewn i gyflogaeth. Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i liniaru tlodi plant yng Nghymru.

Diolch. Rydym ni'n gwybod bod y ffigurau'n dangos, yn gyffredinol, bod plant sy'n cael eu magu ar aelwydydd sy'n gweithio yn gwneud yn well yn yr ysgol ac mewn bywyd fel oedolyn. Sut ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd ers cyhoeddiad diweddar ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016, sy'n dangos bod nifer y plant sy'n byw mewn aelwydydd di-waith tymor hir wedi gostwng gan 92,000 ledled y DU y llynedd—i lawr yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon ac yn Lloegr, ac mae wedi gostwng 0.5 miliwn ers 2010 mewn gwirionedd—ond wedi cynyddu yng Nghymru?

14:25

Rwy'n credu, yn gyntaf oll, os edrychwn ni ar ein ffigurau, ein bod ni wedi gweld cynnydd i'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a gostyngiad i'r gyfradd ddiweithdra yn hanesyddol, ond nid yw'n ddigon dim ond edrych ar ba un a yw pobl mewn gwaith ai peidio, oherwydd mae'n rhaid i ni edrych y tu hwnt i hynny a deall beth mae pobl yn ei ennill. Roeddem ni'n arfer dweud, os oedd pobl yn dod o hyd i swydd yna roedd hwnnw'n llwybr allan o dlodi, ac eto rydym ni'n gwybod bod tlodi mewn gwaith yn un o'r melltithion sydd gennym ni. Rydym ni'n gwybod—rydym ni wedi clywed straeon am nyrsys yn gorfod defnyddio banciau bwyd. Dyna pam mae hi mor bwysig, rwy'n credu, nawr, i Lywodraeth y DU lacio rhwymau cyni cyllidol, i arian gael ei roi ar gael i'r Llywodraethau datganoledig wneud yn siŵr y gallwn ni geisio gwella nawr incymau ein gweithwyr sector cyhoeddus, y mae llawer ohonynt, wrth gwrs, wedi cael trafferthion o ran eu codiadau cyflog ers rhai blynyddoedd.

Ardaloedd Menter

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl ardaloedd menter yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51283

Gwnaf. Mae gan y rhaglen ardalaoedd menter hanes cryf o gyflawni wrth i fwy na 10,000 o swyddi gael eu cefnogi ar draws yr wyth ardal yng Nghymru, ac rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen, sydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer datblygiad a buddsoddiad.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ym mis Gorffennaf, gwnaeth eich Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad ar ardaloedd menter pryd y dywedodd fod y rhaglen ardaloedd menter,

'yn parhau i gyfrannu at amcanion Llywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi yn ein Rhaglen Lywodraethu',

ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Fis diwethaf, mewn llythyr ataf i, dywedodd bod y strategaeth ar gyfer ardal fenter Glannau Port Talbot—a dyfynnaf—

yn seiliedig ar safleoedd cyflogaeth sefydledig yn yr ardal sydd â chapasiti sylweddol i gefnogi buddsoddiad busnes pellach.  

Aiff yn ei flaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn

parhau i adeiladu ar y sgiliau gweithgynhyrchu uwch o'r radd flaenaf yn yr ardal i greu swyddi a chyflogaeth.

Nawr, rwy'n llwyr gefnogi'r uchelgais hwnnw a chyfeiriad y twf economaidd ar gyfer Port Talbot ac eisiau gweld hyn yn dwyn ffrwyth, yn enwedig gan fod dyfodol tymor hir y gwaith dur yn dal yn aneglur heb gael y manylion eto ar y fenter ThyssenKrupp/Tata ar y cyd honno a heb gael manylion penodol y gwaith o ail-leinio ffwrnais chwyth Rhif 5 eto. Ond Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r ardal fenter ym Mhort Talbot yn cynnwys parc diwydiannol Baglan gyda'i gyfamod cysylltiedig, sy'n dweud ei fod i'w ddefnyddio at ddibenion diwydiannol. Felly, a gaf i ofyn i chi wrando nid yn unig ar fy llais i ond ar leisiau dros 8,500 o'm hetholwyr a gwrthod cynigion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddefnyddio'r tir hwnnw ar gyfer carchar ac yn hytrach i gadw at gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl dir yn yr ardal fenter i gefnogi buddsoddiad busnes sy'n darparu twf economaidd ac yn creu swyddi yn seiliedig ar y sail sgiliau ym Mhort Talbot? Gallaf ddweud wrthych na fydd carchar yn gwneud hynny.

Mae fy ffrind, yr Aelod dros Aberafan wedi bod yn eiriolwr cryf dros safbwyntiau—rwyf wedi eu gweld—llawer o bobl yn ei etholaeth sy'n gwrthwynebu'r carchar. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi ysgrifennu llythyr at y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni wedi gofyn am eglurhad brys o ran nifer o gwestiynau yr ydym ni wedi eu gofyn. Nid wyf wedi gweld ymateb eto, ond bydd yr ymateb i'r llythyr hwnnw yn llywio ein hystyriaeth bellach o ran sut y gellid defnyddio'r tir.

Prif Weinidog, ers creu ardal fenter Glynebwy, gwariwyd £94.6 miliwn i greu, diogelu neu gynorthwyo dim ond 390 o swyddi. Ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r rhain. Felly, mae hynny'n gost o tua £0.25 miliwn fesul swydd. O gofio mai creu swyddi yw elfen allweddol ardaloedd menter, mae'r ffigurau hyn yn dangos i mi bod lefel enfawr o fuddsoddiad nad yw wedi bod yn werth da am arian. A all Cymru fforddio pum mlynedd arall o fuddsoddi ar y fath raddfa i gael y math o enillion yr wyf i wedi eu hamlygu?

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod bod ardaloedd menter yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth yn llawn. Gwnaed buddsoddiad aruthrol yn ardal Glynebwy. Rydym yn gweld, wrth gwrs, yr hyn sydd wedi digwydd ar safle'r hen waith dur, rydym ni'n gweld gwaith deuoli ar yr A465, a fydd yn helpu Glynebwy a'r cymunedau cyfagos, ac, wrth gwrs, bydd ef yn gwybod ein bod ni'n buddsoddi swm sylweddol mewn datblygu parc technoleg yn y ardal. Y peth gydag ardaloedd menter yw bod yn rhaid eu barnu yn y tymor hir yn hytrach na'r tymor byr.

I ddychwelyd at ardal fenter Glannau Port Talbot, yn amlwg, fel y mae David Rees wedi ei amlinellu, nid yw pobl leol eisiau carchar mawr ar y safle hwnnw ac, fel y tirfeddiannwr, gall Llywodraeth Cymru ei atal. Felly, y cwestiwn y mae pobl yn ei ofyn yw: 'Beth ydych chi'n ei wneud i atal gwerthu'r tir hwn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder?'

Wel, cyfeiriaf yn ôl at yr ateb a roddais i'r Aelod dros Aberafan, sef ein bod ni wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyda nifer o gwestiynau. Nid wyf wedi gweld yr ymateb hwnnw. Bydd yr ymateb i'r cwestiynau hynny yn rhan o'n hystyriaeth yn y dyfodol. Maen nhw'n seiliedig ar beth yw'r cynlluniau ar gyfer y safle o ran y math o garchar. Maen nhw'n seiliedig ar beth yw'r dyfodol wedyn i garchardai Abertawe a Chaerdydd. Rydym ni wedi gofyn y cwestiynau hynny, nid ydym mewn sefyllfa i fwrw ymlaen ymhellach â hyn tan y byddwn ni wedi cael atebion i'r cwestiynau hynny, ac mae'n rhaid i'r atebion hynny fod yn foddhaol.

14:30

Prif Weinidog, dylai ardaloedd menter fod yn ffordd wych o adfywio rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig Cymru, ond mae'r realiti braidd yn wahanol. Mae rhai o'r ardaloedd yn gweithio'n dda, gan ddenu buddsoddiad preifat ac adfywio eu heconomi leol. Mae eraill yn gweithredu oherwydd cyllid y Llywodraeth yn unig, ac yn cynnal llond llaw o swyddi. Prif Weinidog, pe byddai'r ardaloedd menter yn wirioneddol lwyddiannus, ni fyddai tir ar gael i adeiladu carchar yn unrhyw un o'r ardaloedd. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn wahanol i sicrhau bod yr holl ardaloedd menter yn denu buddsoddiad sector preifat a seilwaith i'w rhanbarthau perthnasol ac yn creu swyddi newydd i bobl leol?

Wel, maen nhw'n gwneud hynny, ond, wrth gwrs, bydd rhai'n tyfu'n gyflymach nag eraill. Bydd rhai rhannau o Gymru sydd, oherwydd eu lleoliad a'u daearyddiaeth, yn ei chael yn haws nag ardaloedd menter eraill. Ond dyna'r hyn y mae ardal fenter wedi ei chynllunio i'w wneud—goresgyn rhai o'r anawsterau hynny. Fel y dywedais yn gynharach, mae'n rhaid i ni farnu ardaloedd menter ar yr hyn y maen nhw'n ei gyflawni yn y tymor hwy, oherwydd, wrth gwrs, gwneir llawer o fuddsoddiad mewn seilwaith, gwneir buddsoddiad mewn hyfforddiant yn aml a thrwy ddatblygu'r buddsoddiad hwnnw yr ydym ni'n gweld swyddi'n cael eu creu yn y tymor hwy wedyn.

Cwestiwn 5 [OAQ51260]—tynnwyd hwn yn ôl.

Cwestiwn 6, felly—Gareth Bennett.

Tagfeydd ar Draffyrdd a Chefnffyrdd

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru tagfeydd cynyddol ar draffyrdd a chefnffyrdd yng Nghanol De Cymru? OAQ51297

Wel, os byddwn ni'n dilyn cyngor cyn-arweinydd ei blaid, lleihau mewnfudo sy'n allweddol i wneud hyn. Ond mae mynd i'r afael â thagfeydd yn bwyslais o flaenoriaeth yn strategaeth drafnidiaeth Cymru a'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Byddwn yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i hyrwyddo ein gweledigaeth ar gyfer darparu system drafnidiaeth integredig drawsnewidiol yng Nghymru, gan ddarparu trafnidiaeth o ansawdd uchel, diogel, fforddiadwy a chynaliadwy i bawb.

Diolch am ran olaf yr ateb. Rwy'n cytuno bod trafnidiaeth integredig yn hollbwysig.

Un agwedd yr oeddwn i eisiau sôn amdani oedd diffyg gwybodaeth ar ymyl y ffordd. Mae llawer o fodurwyr wedi nodi bod gwell gwybodaeth ar gael yn aml ar ffyrdd mawr yn Lloegr ar arwyddion ffyrdd digidol nag yma yng Nghymru, er enghraifft amcangyfrif o amser teithio i gyffyrdd penodol, a all rybuddio gyrwyr am dagfeydd sydd o'u blaenau. A fyddech chi'n cytuno y gellid rhoi mwy o wybodaeth ddigidol ar gael ac a all Llywodraeth Cymru helpu i ddarparu hyn?

Rwy'n ymwybodol o'r arwyddion a welir yn Lloegr, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad ydyn nhw'n gywir, yn aml. Rwyf i wedi amseru fy hun ar ôl gweld yr arwyddion hynny ac maen nhw—wel, sut gallan nhw fod? Oherwydd ni allan nhw ddarparu ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau yn y traffig, yr hyn a allai ddigwydd. Gall unrhyw nifer o bethau ymyrryd â llif traffig. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, byddwn yn parhau i adolygu pa wybodaeth arall y gellid ei rhoi ar gael i yrwyr er mwyn gwneud eu teithiau'n haws.

Prif Weinidog, gallai patrymau gweithio hyblyg fod yn un ffordd allweddol o leddfu'r pwysau ar ein traffyrdd a'n cefnffyrdd ar adegau allweddol. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i siarad â chyflogwyr mawr am fanteision gweithio hyblyg?

Mae hyn yn rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni eisiau sicrhau ei fod yn rhan bwysig o weithio yn y dyfodol. O ran gweithio hyblyg, gallaf ddweud ein bod ni wedi ariannu cydgysylltwyr cynllun teithio sydd wedi gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i annog teithio cynaliadwy. Gweithiodd y cydgysylltwyr cynllun teithio gyda sefydliadau o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Llywodraeth Leol, iechyd, addysg, cwmnïau angori a chwmnïau o bwys rhanbarthol ledled Cymru. Darparwyd cyngor a chymorth ganddynt ar y mesurau y gallai busnesau eu mabwysiadu i leihau teithiau mewn car a hyrwyddo teithio cynaliadwy trwy weithredu cynlluniau teithio. Yn rhan o'r mesurau hynny, rhoddwyd cyngor ynghylch sut i hyrwyddo teithio llesol, rhannu ceir, fideo-gynadledda, gweithio gartref ac, wrth gwrs, gweithio hyblyg.

Prif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr buddsoddiad Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf ar hyd ardaloedd fel yr A4119. Ond ni waeth faint yr ydym ni'n ei fuddsoddi yn y ffyrdd yn y fan honno, maen nhw'n dal i ddod yn rhaff tagfeydd o amgylch ardal Taf-Elái a'r Rhondda o ran traffig. Mae'n rhaid mai'r unig wir ateb yw ymestyn y metro, fel yr amlinellwyd, o ran Beddau hyd at Lantrisant. Tybed, Prif Weinidog, a allwch chi gadarnhau bod y cynlluniau hynny yn dal yn rhan o gynlluniau metro'r Llywodraeth er mwyn datrys hynny, yn enwedig o gofio maint y datblygiadau tai yn yr ardaloedd hynny.

14:35

Gallaf, oherwydd mae'r metro wedi ei gynllunio fel bod modd ei ymestyn. Wrth gwrs, bydd cam cychwynnol y metro yn ystyried yr hyn sydd eisoes ar gael a'r seilwaith sydd eisoes ar waith. Gwn fod rheilffordd ar gael. Nid wyf yn gwybod a yw'n gwbl gyflawn, a dweud y gwir, rhwng y brif reilffordd a chyda Beddau—gwn fod y groesfan yn dal yno. Yn wir, ydy, mae'n un o'r materion y byddwn ni'n eu hystyried wrth i'r metro ehangu: sut gallwn ni edrych ar ddod â gwasanaethau i ardaloedd lle nad oedd gwasanaeth cyfatebol yn y gorffennol? Pa fath o wasanaeth sy'n briodol ar gyfer cymunedau wrth iddyn nhw dyfu? Sut gallwn ni greu'r math o deithio cynaliadwy yr ydym ni eisiau ei weld trwy gynnig dewisiadau eraill sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n aml? Ac wrth gwrs, cyn belled ag y mae ei etholwyr yn y cwestiwn yn Beddau, bydd ystyried hynny yn y tymor hwy yn rhan bwysig o'r cynlluniau hynny.

Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ51296] yn ôl. Felly cwestiwn 8, Llyr Gruffydd.

Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddenu a chadw meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ51264

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y meddygon sy'n gweithio mewn meddygfeydd teulu ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd.

Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, am y sefyllfa fel y mae hi. Mae hi wedi cael ei chodi'n gyson yn y Siambr hon gyda chi. Rydw i'n gwybod am hyd at saith practis yn ardal Wrecsam yn unig sydd o dan fygythiad o gau, ac mae yna nifer o rai eraill, wrth gwrs, mewn rhannau eraill o'r rhanbarth.

Nawr, un o'r trafferthion ymarferol sydd yn peri tramgwydd yw'r sefyllfa o safbwynt cost yswiriant indemnity i feddygon; mae yna gost o dros £10,000 o bosib. Nawr, yn amlwg, ni fyddwn i'n disgwyl iddyn nhw fod yn ddoctoriaid heb gael hynny, ond mae hi yn gallu bod yn broblem ymarferol iawn, er enghraifft drwy drio denu doctoriaid sydd wedi ymddeol yn ôl, efallai, i helpu mewn rhai ardaloedd penodol. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi codi hyn yn gyson ac rŷm ni fel Aelodau Cynulliad, rydw i'n gwybod, wedi cael negeseuon clir i'r perwyl yna. A gaf i ofyn, felly, beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i drio mynd i'r afael â'r pwynt ymarferol penodol yna?

Mae hwn yn bwynt sy'n hollbwysig. Fe fyddwn i'n meddwl bod yna gynydd wedi bod dros y blynyddoedd ynglŷn â chostau yswiriant. Felly, a gaf i ysgrifennu at yr Aelod er mwyn rhoi iddo fe y manylion y gallaf i eu rhoi iddo fe ynglŷn â thrafodaethau ynglŷn â hyn gyda Chymdeithas Feddygol Prydain?

Mae llawer o'm hetholwyr fy hun wedi wynebu derbyn llythyrau drwy'r post ynghylch eu meddygfeydd lleol eu hunain, yn enwedig yn ardal Bae Colwyn, sy'n agored i newidiadau. Yn wir, mae rhai o'r meddygon teulu wedi dychwelyd eu contractau i'r bwrdd iechyd lleol. Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i geisio goresgyn rhai o'r heriau hyn yn y tymor byrrach, ond a ydych chi'n derbyn mai un o'r rhesymau yr ydym ni'n wynebu prinder meddygon teulu yw oherwydd bod Llywodraethau Cymru olynol wedi methu â hyfforddi niferoedd digonol yn y gorffennol? Ac a ydych chi'n ffyddiog nawr bod gennych chi'r systemau ar waith i allu denu nifer y meddygon teulu y bydd eu hangen ar Gymru yn y dyfodol?

Ydw, mi ydwyf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad yn fuan i'r Aelodau ar y niferoedd pendant a recriwtiwyd i'r cynllun hyfforddi meddygon teulu, ond rwy'n deall y bydd hyn yn dangos recriwtio pellach cadarnhaol, sy'n well na'r gyfradd lenwi gychwynnol o 91 y cant, yr wyf yn credu sydd wedi cael ei hadrodd o'r blaen yn y Siambr hon, a bydd hynny'n cynrychioli gwelliant sylweddol i'n niferoedd hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru.

Masnachfraint Cymru a'r Gororau

9. A wnaiff y Prif Weinidog datganiad ynglŷn â gwaith paratoi ar gyfer y broses o wobrwyo masnachfraint Cymru a'r Gororau? OAQ51291

A gaf i gyfeirio'r Aelod at y datganiad pellach a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar 6 Tachwedd ynghylch caffael gwasanaeth trenau Cymru a'r gororau?

Diolch i'r Prif Weinidog. Rydw i wedi darllen y datganiad hwnnw, wrth gwrs, a oedd yn cael ei ryddhau yn sgil y ffaith bod Trenau Arriva Cymru wedi tynnu mas o'r broses masnachfreintiau, fel petai. O ddarllen drwy'r llinellau a'r adroddiadau o gwmpas hynny, mae hynny yn troi o gwmpas bod Arriva wedi penderfynu nad oes gwerth masnachol bellach yn y fasnachfraint, gan gynnwys, wrth gwrs, y metro ac adeiladu ar y metro. Mae hynny, yn ei dro, yn adlewyrchu'r ffaith bod, o hyd, ddibyniaeth ar sybsidi o San Steffan, a'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo ar San Steffan, gan nad yw'r broses yma wedi'i chwblhau gan eich Llywodraeth chi. Felly, beth ydych chi'n gallu ei ddweud heddiw sy'n rhoi sicrwydd i deithwyr yng Nghymru, a hefyd y staff ar drenau Arriva yng Nghymru, bod y swyddi yn parhau, bod y gwasanaethau yn parhau, ac na fydd unrhyw broblem yn darparu'r fasnachfraint yma fel rydych chi wedi addo?

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae yna faterion rydym ni'n gorfod eu trafod gyda'r Adran Drafnidiaeth yn Llundain. Nid oes problem nawr, hyd y gwn i, ynglŷn â symud ymlaen gyda’r broses. Nid yw’n rhywbeth anarferol i gwmni dynnu mas. Mae hynny yn digwydd, ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod cwmnïau yn dal i fod yn rhan o’r broses.

A gaf i ddweud taw beth y byddwn i wedi hoffi ei weld yw sefyllfa lle byddai'r cyllid wedi ei drosglwyddo, o leiaf sefyllfa lle y byddem yn gallu cyfeirio neu gyfarwyddo Network Rail—nid yw hynny wedi cael ei roi inni—ac, wrth gwrs, y cyfle i redeg y franchise fel corff arm’s length yn y sector gyhoeddus, sy'n rhywbeth sydd wrth gwrs ar gael i'r Alban ond sydd ddim wedi cael ei roi i Gymru—rhywbeth yr ydym ni’n hollol ddig amdano? Felly, nid oes rheswm nawr pam na ddylai hwn gael ei symud ymlaen, ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth yr ydym ni'n moyn ei sicrhau er mwyn sicrhau cael gweld gwasanaeth gwell i bobl Cymru.

14:40

Prif Weinidog, rydych chi'n gwbl gywir i ddweud bod penderfyniad Arriva i adael y broses ymgeisio a'r broses fasnachfraint yn digwydd. Ni ddylem gynhyrfu'n ormodol am gynigydd yn penderfynu nad yw'n addas iddo fe. Fodd bynnag, pryd oeddech chi'n gwybod eu bod nhw'n tynnu'n ôl? A oedd hwn yn benderfyniad sydyn? A roddwyd rhybudd ymlaen llaw ganddynt? Rwy'n meddwl tybed: a dderbyniodd Llywodraeth Cymru unrhyw adborth gan y cwmni a'r staff dan sylw a fyddai o fudd nawr, wrth symud ymlaen â gweddill y broses? Oherwydd, yn amlwg, pe byddai busnesau masnachfraint eraill yn tynnu'n ôl hefyd, yna gallem ni ganfod ein hunain mewn sefyllfa anodd yn ddiweddarach i lawr y lein, fel petai.

A gaf i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r union ddata y gwnaeth Trenau Arriva Cymru hysbysu Trafnidiaeth Cymru ar y sail honno? Fel y dywedaf, nid yw'n anghyffredin i gynigwyr ar gyfer prosiectau mawr dynnu'n ôl yn ystod y broses dendro. Gwnaeth Arriva hi'n eglur eu bod wedi gwneud hyn am eu rhesymau masnachol eu hunain, a byddaf yn rhannu'r hyn y gallaf gyda'r Aelod o ran gwybodaeth ynghylch penderfyniad Arriva. Yr hyn y gallaf—bydd rhai materion, yn amlwg, na allaf eu datgelu, am resymau masnachol rwy'n amau.

Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddaeth i’r amlwg na fydd trenau newydd gwasanaeth Great Western Railway, sydd yn gwasanaethu de Cymru, yn cynnwys unrhyw arwyddion na chyhoeddiadau yn y Gymraeg. Fel y disgwyl, roedd yna nifer o gwynion i’r cwmni gan deithwyr, yn dilyn y newyddion yma, yn condemnio’r penderfyniad, gan gynnwys, gyda llaw, gan gyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies. Esgus y cwmni oedd bod y trenau hyn yn gwasanaethu ardaloedd yn Lloegr hefyd, ac felly na fuasai defnyddio arwyddion a gwneud cyhoeddiadau dwyieithog yn addas. Yn ddiddorol, mae rhai teithwyr yn Lloegr wedi mynegi cefnogaeth i gael y Gymraeg yn Lloegr, gan sôn am eu profiadau nhw’n teithio o un wlad i’r llall yn Ewrop a chlywed yr iaith yn newid yn gyson. Mae sicrhau arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau yng Nghymru yn fater o barch sylfaenol i’r Gymraeg. Felly, a fedrwch chi ymrwymo i sicrhau y bydd safonau iaith yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth yn y sector drafnidiaeth—safonau sydd wedi bod ar ddesg y Llywodraeth ers bron i flwyddyn, yn anffodus—ac felly mi fyddai cwmnïau fel Great Western Railway yn gallu cynnig gwasanaethau a’r parch y mae siaradwyr Cymraeg yn eu haeddu?

A gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny?FootnoteLink Maen nhw’n gallu rhoi’r gwasanaeth nawr, wrth gwrs. Mae’r stori wedi cael ei dweud nad yw, mewn rhyw ffordd, yn bosib iddyn nhw ei wneud e—mae e’n hollol bosib iddyn nhw ei wneud e, ac fe ddylen nhw, yn fy marn i. Mae Arriva, wrth gwrs, dros y blynyddoedd, wedi defnyddio’r Gymraeg ar eu trenau nhw er bod y trenau’n mynd i mewn i Loegr; nid ydyn nhw’n newid yr arwyddion ar y trên, yn gorfforol, o achos y ffaith eu bod nhw’n mynd i mewn i Loegr. Felly, na, nid oes rheswm pam na ddylai Great Western Railway ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Rwy’n credu ei bod yn iawn i ddweud y byddai pobl yn parchu’r ffaith bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio, a byddai diddordeb mawr gan bobl yn Lloegr i glywed yr iaith.

Datblygiadau Cloddio Glo Brig

10. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau mai polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â chaniatáu unrhyw ddatblygiadau cloddio glo brig newydd yng Nghymru? OAQ51261

Byddwn yn ymgynghori ddechrau'r flwyddyn nesaf ar welliannau i 'Polisi Cynllunio Cymru' i atal datblygiadau glo brig newydd yng Nghymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am y cadarnhad yna oherwydd, Prif Weinidog, rydym ni wedi gweld nifer o achosion lle mae cwmnïau yn y diwydiant glo brig wedi methu ag anrhydeddu eu rhwymedigaeth i adfer safleoedd, naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ar ôl i weithgareddau ddod i ben. Mae'n ymddangos yn anhygoel, felly, y caniatawyd i'r cwmni a oedd yn berchen yn flaenorol ar safle glo brig Ffos-y-frân ym Merthyr i ddileu ei warant o tua £15 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Yn ei le, sefydlodd y Cyngor gyfrif ysgrow, y bydd disgwyl i'r perchnogion dalu i mewn iddo, gan gyfnewid i bob pwrpas swm o arian pendant am un sy'n dibynnu ar effeithiolrwydd y cwmni newydd. A all y Prif Weinidog daflu unrhyw oleuni ar yr hyn sy'n ymddangos fel penderfyniad rhyfeddol?

14:45

Na allaf. Mae'n fater i Gyngor Merthyr, wrth gwrs. Nhw sydd â'r cyfrifoldeb am orfodi cynllunio. Rwyf i wedi gweld—nid Ffos-y-frân—ond rwyf i wedi gweld achosion mewn mannau eraill, lle mae cloddio glo brig wedi gorffen, a safleoedd yn dal i fod heb eu hadfer. Mae hynny oherwydd, yn fy marn i, problem gyda'r bondiau yr oedd yn ofynnol i gwmnïau eu cynhyrchu yn y dyddiau pan breifateiddiwyd glo. Gosodwyd cyfyngiad, os rwy'n deall yn iawn, ar y bondiau yr oedd yn ofynnol iddyn nhw eu gosod, ac nid yw'r bondiau hynny'n ddigonol i dalu am adfer y tir mewn rhai achosion. Mae honno'n broblem hanesyddol, ond mater i Gyngor Merthyr yw esbonio. Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau o ran pam maen nhw wedi gwneud y penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud.

Bil Arfaethedig y Gymraeg

11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Papur Gwyn ynghylch Bil arfaethedig y Gymraeg? OAQ51300

Daeth yr ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn a oedd yn amlinellu'r cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg i ben ar ddiwedd y mis diwethaf. Rydym ni nawr yn dadansoddi'r ymatebion ar hyn o bryd, ac fe fyddwn yn gwneud datganiad pellach yn y man.

Brif Weinidog, mae nifer o fudiadau wedi cysylltu gyda fi er mwyn datgan pryder am eich bwriad i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg a gwanhau hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg. Ond, yn anffodus, mae eich Llywodraeth chi wedi cyhuddo'r mudiadau iaith o fod yn rhy geidwadol. Mae grwpiau fel mentrau iaith a'r Mudiad Meithrin yn gwneud llawer i helpu'r iaith. Yn dilyn pryderon gan nifer o fudiadau ac arbenigwyr yn y maes hwn, ydy hi'n amser i chi ailystyried y penderfyniad i ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg?

Rydym ni wedi ymgynghori ar y Bil ei hunan. Rydym ni nawr, wrth gwrs, yn mynd i edrych ar yr ymatebion sydd wedi dod mewn. Mae'n hollbwysig bod y materion hynny yn cael ystyriaeth fanwl. Nod y Llywodraeth yw gwella'r sefyllfa a chryfhau yr hawliau sydd ar gael gan siaradwyr er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu cyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ac felly beth rydym ni'n ei wneud nawr yw ystyried beth mae mudiadau a chyrff eraill wedi dweud er mwyn gweld fel yn gwmws gallwn ni ddeall eu concerns nhw. 

Dim ond ar y pwynt hwnnw o ystyriaeth, tybed a allwch chi ddweud wrthym, wrth archwilio'r achos o blaid corff newydd i ddisodli Comisiynydd y Gymraeg, a oes angen i'r Llywodraeth, fel y mae'n ei ddweud yn y Papur Gwyn, ystyried yn ofalus sut y gallai unrhyw staff gael eu heffeithio a pha un a fydd trosglwyddiadau staff. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf a yw swyddogion eisoes wedi cwmpasu cost debygol Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, gan barchu hawliau pensiwn a chyflogaeth sy'n newid, ac, yn benodol, y costau sy'n gysylltiedig â rheoli diogelu data unigolion yn unol â'r rheoliad newydd, a dod i'r casgliad bod y math hwnnw o newid mewn gwirionedd werth yr arian o gwbl?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf i roi sicrwydd i'r staff, wrth gwrs, pan fo newid, ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod wedi TUPE'io drosodd, fel y mae'r ymadrodd yn ei nodi, a'n bod ni mewn sefyllfa lle gall pobl gael dealltwriaeth o'u sefyllfa cyn gynted â phosibl, ac, wrth gwrs, cael cysur cyn gynted â phosibl. Bydd unrhyw asesiad rheoleiddiol o'r Bil yn dilyn y broses arferol, a bydd Aelodau yn cael cyfle i graffu ar hwnnw.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf ar ein hagenda, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar arweinydd y Tŷ—Julie James. 

Diolch, Llywydd. Nid yw'n syndod bod newidiadau lluosog wedi'u gwneud i fusnes yr wythnos hon. Bydd y dadleuon ar y rheoliadau gwasanaethau a reoleiddir ac adroddiad blynyddol 2016-17 Comisiynydd Plant Cymru, a oedd i fod i gael eu cynnal ddydd Mawrth diwethaf, yn cael eu cynnal y prynhawn yma. Mae'r dadleuon ar Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau wedi eu gohirio tan yr wythnos nesaf. Rwyf hefyd wedi gohirio'r ddadl Cyfnod 3 ar diddymu'r Bil Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) tan 28 Tachwedd. Bydd cwestiynau a gyflwynwyd ar gyfer eu hateb yr wythnos diwethaf gan yr ysgrifenyddion addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu derbyn yfory, a bydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Cwnsler Cyffredinol yn symud i'r wythnos nesaf.

Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd y ddadl Aelodau a'r ddadl fer a ohiriwyd o'r wythnos diwethaf yn cael eu cynnal yfory, gyda dadl y Ceidwadwyr Cymreig a dadl y pwyllgor ar seilwaith digidol yn cael eu gohirio tan ddydd Mercher nesaf.

Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

14:50

A gaf i ddechrau drwy longyfarch Julie James ar gael ei phenodi'n Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip? Ac a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf i o gael y cyfle cyntaf ers i mi gael fy ethol i'r Cynulliad hwn ym 1999, i ofyn cwestiwn mewn gwirionedd? Felly, roeddwn i'n benderfynol fy mod i'n mynd i fynd ati ar unwaith.

A gaf i ofyn ichi, Arweinydd y Tŷ, os gallech chi ymateb i ffigurau diweddaraf Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n dangos cynnydd o 13 y cant yn y defnydd o fanciau bwyd rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni—2017—o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd? Mae'r banc bwyd ym Mro Morgannwg wedi sôn am sefyllfa druenus mam yr oedden nhw wedi ei helpu'n ddiweddar, a chanddi bump o blant, a dim bwyd ar ôl ar ddydd Gwener. Dywedodd yr adran Gwaith a Phensiynau na allen nhw helpu tan yr wythnos ganlynol. A allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y sylwadau sy'n cael eu gwneud i ohirio cyflwyno'r credyd cynhwysol, o gofio bod y banciau bwyd mewn ardaloedd y mae credyd cynhwysol wedi'i gyflwyno'n llawn, wedi gweld cynnydd cyfartalog o 30 y cant yn y galw?

Wel, a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf i fy mod i wedi cael fy nghwestiwn cyntaf gan fy rhagflaenydd yn y swydd, sydd yn esiampl wych i mi ei dilyn? A gaf i ddweud hefyd, pa mor hynod ddiolchgar yr wyf i am yr holl gyngor a chefnogaeth y mae hi wedi ei roi i mi ar hyd y blynyddoedd, ac, yn wir, dros y pythefnos diwethaf, sydd wedi bod o wir gymorth, ar adeg sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, gan gynnwys teulu Carl Sargeant?

O ran ffigurau Ymddiriedolaeth Trussell, rwyf yn llwyr gydnabod y mater hynod bwysig y mae'r Aelod yn ei godi. Mewn ardaloedd lle y mae credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno, rydym ni'n gweld cynnydd gwirioneddol o ran bod pobl mewn trafferthion, ac rydym ni wir yn galw ar Lywodraeth y DU i ailedrych ar yr oedi o chwe wythnos sy'n gallu digwydd weithiau. Mewn gwirionedd, rwyf wedi gweld wyth wythnos o oedi hefyd, o ran pobl yn cael gafael ar yr arian y mae ganddyn nhw'r hawl iddo. Ac wn i ddim sut y mae disgwyl i bobl ymdopi heb gael yr arian yna ac rydym ni wir yn annog Llywodraeth y DU i edrych ar hynny eto. 

Yn dilyn y ddadl Cyfarfod Llawn ar ddiwygiadau lles a chredyd cynhwysol Llywodraeth y DU, fe ysgrifennodd y Gweinidog Tai ac Adfywio at Lywodraeth y DU i fynegi pryderon y Cynulliad, ac i alw am roi'r gorau i gyflwyno'r credyd cynhwysol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog newydd, pan fydd hi wedi dechrau ar ei phortffolio, yn gwneud rhywbeth tebyg iawn.

Mae'r dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli tua £460 y flwyddyn, neu 1.6 y cant o'u hincwm net, ar gyfartaledd, os bydd yr holl ddiwygiadau trethi a budd-daliadau a gynlluniwyd i gael eu cyflwyno gan Lywodraeth flaenorol y DU, rhwng 2015-16 a 2019-20, yn cael eu gweithredu mewn gwirionedd. Felly, rydym yn mawr obeithio y bydd y Canghellor yn newid ei feddwl ynglŷn â hynny.

Gwyddom y bydd teuluoedd incwm is, yn enwedig y rhai hynny sydd â phlant, yn colli cryn dipyn yn fwy ar gyfartaledd—tua 12 y cant, mewn gwirionedd, o'u hincwm net. Ac mae teuluoedd mawr, wrth gwrs, yn cael eu heffeithio'n arbennig o ddifrifol, gan golli oddeutu £7,750 flwyddyn, neu 20 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd. Ac mae hyn yn gwbl gywilyddus mewn gwlad mor gyfoethog â'n gwlad ni, ac yn sicr, rydym ni'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei strategaethau lles.

Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n darparu pob cymorth y gallwn ni. Rydym yn parhau i ddarparu rhyddhad yn ôl disgresiwn lle bo modd, mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn helpu, mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg o gymorth mawr, mae'r grant datblygu disgyblion, wrth gwrs, yn cynorthwyo ein hysgolion i helpu plant o deuluoedd sydd yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael, ac yn wir rydym yn falch iawn o'n hymgyrch i atal newyn yn ystod gwyliau'r ysgol, y gwnaethom ei gefnogi y llynedd, ac y gwn bod llawer o'r Aelodau yn y Siambr wedi'i gefnogi'r bersonol hefyd.

Rwyf yn llongyfarch y Gweinidog hefyd ar ei swydd newydd o fod yn arweinydd y tŷ, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud y gwaith yn well—neu'r union yr un fath—â'i rhagflaenydd.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r oedi o ran gwneud y rhan ddwyreiniol o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn ffordd ddeuol yn fy rhanbarth i? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn adolygiad o'r prosiect hwn sydd werth £220 miliwn, ac mae pryderon wedi eu mynegi ei fod yn mynd i gostio mwy na'r gyllideb ac y bydd yn hwyr. Yn y cyfamser, mae busnesau lleol yn dioddef o ganlyniad i'r oedi hwn, ac mae rhai wedi mynegi pryder ynghylch eu hyfywedd yn y dyfodol, ac mae busnesau yn pryderu'n fawr am yr oedi hwn, a'r holl lol sy'n mynd ymlaen yn y fan yna.

A gaf i ofyn am ddatganiad brys ar y mater hwn, a allai gael effaith drychinebus ar yr economi yn fy rhanbarth i, os gwelwch yn dda?

14:55

Wel, diolch i chi am y cwestiwn pwysig iawn yna ac am eich sylwadau caredig ar y dechrau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhyddhau datganiad ysgrifenedig ar y cynnydd yn gymharol ddiweddar, ond byddaf yn gofyn iddo edrych eto ar y mater hwn yng ngoleuni eich sylwadau chi.

Hoffwn i hefyd groesawu Julie James i'w rôl newydd a'i llongyfarch hi ar ei phenodiad a hefyd diolch i Jane Hutt am y ffordd y mae hi wedi delio â phob plaid yn y Siambr yma dros nifer fawr o flynyddoedd ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y traddodiad yna yn parhau.

Mae gennyf gwpwl o gwestiynau i'w gofyn i Julie James. Yn gyntaf oll, rwy'n sylwi, yn wahanol i'ch rhagflaenydd, mae gennych ddyletswyddau eraill fel arweinydd y tŷ, o gwmpas seilwaith a thrais yn erbyn menywod, ac ati. Byddwn yn leicio gwybod ym mha ffordd y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gallu gofyn cwestiynau i chi yn rhinwedd y cyfrifoldebau gweinidogol yma yn hytrach nag yn rhinwedd eich cyfrifoldebau fel arweinydd y tŷ. Byddwn yn leicio i chi gadarnhau sut mae hynny'n mynd i ddigwydd.

Yn ail, hoffwn i wybod a yw e'n fwriad gan y Llywodraeth, heddiw, i gyhoeddi datganiad ynglŷn â gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys. Heddiw yw'r ugeinfed diwrnod ar ôl i'r ymchwiliad gael ei wneud gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Maen nhw i fod i gyhoeddi eu cynllun gwella heddiw ac mae hynny wedi cael ei gadarnhau i mi gan yr arolygiaeth ddoe. Nid wyf i wedi gweld dim byd yn cael ei gyhoeddi eto. Byddwn yn leicio gwybod a ydy'r Llywodraeth wedi derbyn unrhyw gynllun gwella erbyn hyn ac a fydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad gerbron y Cynulliad neu yn ysgrifenedig ar y cynllun, er mwyn inni ddeall a ydy e'n ddigon da, a oes modd inni ei wella e, ac a ydy'r Llywodraeth yn mynd i gymryd camau pellach i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghyngor Sir Powys. 

Yn olaf, os caf dynnu sylw arweinydd y tŷ at y cynnig heb ddiwrnod rhif 6563 sydd yn f'enw i. Mae'r cynnig yn delio â pherthynas Cymru a Chatalwnia ac yn delio â beth sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar yn y wlad honno. Rydym yn gwybod bod Llywydd Catalwnia—Llywydd Senedd Catalwnia—wedi bod yn y carchar am rai oriau, bod yna nifer o Weinidogion yn y carchar o hyd, a bod Prif Weinidog Catalwnia wrth gwrs yn gorfod delio â'r sefyllfa o wlad arall, yng Ngwlad Belg. Mae'n amlwg bod gan nifer o Aelodau fan hyn ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghatalwnia ac yn arbennig o safbwynt un Senedd i Senedd arall, heb sôn am a ydych chi o blaid neu yn erbyn y penderfyniad gwleidyddol, beth mae Senedd wrth Senedd yn gallu siarad â'i gilydd. Ac, felly, gan fod y cynnig wedi ei osod, a fydd y Llywodraeth yn gwneud amser, hyd yn oed 30 munud, i'r cynnig yma gael ei drafod yn y Cynulliad?

Wel, diolch yn fawr iawn am eich sylwadau caredig ar y dechrau ac am y gyfres yna o gwestiynau.

O ran yr un cyntaf, sef yn sicr yr hawsaf ohonyn nhw i'w ateb ar eich diwrnod cyntaf yn y swydd, yw y byddwn ni'n darparu sesiwn hawl i holi yn y ffordd arferol, i mi gael fy holi ynghylch cyfrifoldebau'r portffolio, a bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael cyfle i gyflwyno eu cwestiynau yn y ffordd arferol. Mae'r Llywydd a minnau eisoes wedi trafod posibilrwydd hynny, a bydd honno'n ffordd hollol syml o wneud hynny.

O ran y ddau arall: Mae'r Gweinidog newydd sydd â chyfrifoldeb dros blant yn eistedd yn y Siambr, ac rwy'n credu ei fod wedi clywed eich sylwadau a bydd yn gallu bwrw ymlaen â nhw ar frys a bydd yn ein harwain ni drwy'r adroddiad blynyddol cyn bo hir. Felly, rwy'n siŵr y bydd ef yn gallu ymdrin â hynny. O ran y trydydd cwestiwn, y gwir plaen amdani yw, ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd hon, nad oes gennyf unrhyw fath o syniad. Er hynny, rwy'n addo trafod hyn gyda'r bobl sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth ac rhoi ateb i'r Aelod maes o law.

Hoffwn innau hefyd groesawu arweinydd newydd y tŷ i'w swydd newydd. Mae ei swydd, fel y gwyddom, o ganlyniad i ad-drefnu tra sylweddol. Yr hyn yr hoffem ni yn UKIP ofyn amdano, yw datganiad ar beth yw costau amcanol yr ad-drefnu hwn i'r pwrs cyhoeddus. Mae'n ad-drefnu eithaf mawr. O'r hyn a ddywedwyd, mae nifer y Gweinidogion wedi cynyddu o 12 i 14. O gofio y bydd cost o ran dewiniaid delwedd, yn ogystal â'r cyflogau Gweinidogol ychwanegol, a allwn ni gael esboniad o'r angen am y swyddi ychwanegol a'r costau ychwanegol rhagamcanol, ac o ble y daw'r arian ychwanegol hwnnw o ran cyllideb Llywodraeth Cymru? Diolch.

Mae gan y Prif Weinidog yr hawl llwyr i drefnu'r Llywodraeth hon fel y gwêl orau ac mae wedi gwneud hynny.

15:00

A gaf i groesawu arweinydd newydd y tŷ i'w swydd, a hefyd diolch i Jane Hutt am y ffordd ddiflino a manwl y mae wedi ateb cwestiynau yn y sesiwn hon, a'r cymorth mawr y mae hi wedi ei roi y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr? A allai arweinydd y tŷ drefnu bod y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gwneud datganiad am y cynnydd o ran yr ymchwiliad i'r sgandal gwaed halogedig? Rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn San Steffan wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad statudol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn cael ei gynnal. Gwyddom mai Swyddfa'r Cabinet fydd yn cynnal yr ymchwiliad, ond nid ydym yn gwybod eto pwy fydd yn cadeirio'r ymchwiliad, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol adrodd ar unrhyw gysylltiad y mae ef wedi'i gael gan y Llywodraeth yn San Steffan, a pha un a fydd y llywodraeth honno yn ymgynghori ag ef neu ba un a fydd ef yn unrhyw ran o'r penderfyniadau a wneir ynghylch pwy fydd yn arwain yr ymchwiliad hwn, a groesewir gan gynifer o bobl yma yng Nghymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i chi am y sylwadau caredig yna, a hoffwn innau ailadrodd y sylwadau am fy rhagflaenydd, Jane Hutt, yr wyf yn hynod o ddiolchgar iddi, yn bersonol, am ei chyngor dros y blynyddoedd. Gwn fod yr Aelod wedi gweithio'n ddiflino yn yr ymgyrch hon i sefydlu'r ymchwiliad hwn, a thalaf deyrnged i'w hymdrechion yn hynny o beth. Wrth gwrs rydym ni hefyd yn falch bod yr ymchwiliad yn cael ei roi ar sail statudol, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i'w hymdrechion hi ac ymdrechion ei grŵp trawsbleidiol o ran mynegi barn pobl Cymru. Rydym yn cytuno y dylai'r ymchwiliad gael ei arwain gan uwch farnwr, ac y dylai'r cylch gorchwyl fod mor eang â phosibl i sicrhau ein bod yn cael yr holl atebion y mae pobl eu heisiau. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch o ddod yn ôl a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd ganddo unrhyw beth i'w adrodd. Nid wyf yn siŵr mewn gwirionedd pa un a oes ganddo unrhyw beth newydd i'w adrodd eto. Rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny cyn gynted ag y bydd ganddo rywbeth i'w adrodd. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd eich llongyfarch, arweinydd y tŷ, ar eich penodiad—haeddiannol—a hefyd llongyfarch Jane Hutt ar ei haraith gyntaf yn y Siambr hon fel AC y meinciau cefn? Rwyf yn siŵr y bydd gennych lawer mwy, a gyrfa hir fel aelod o'r meinciau cefn.

Hoffwn gefnogi Mohammad Asghar yn ei sylwadau yn gynharach am yr A465, yn benodol rhwng Gilwern a Bryn-mawr. Bûm mewn cyfarfod trigolion yn ddiweddar—rwyf yn gweld yr Aelod dros ben arall ceunant Clydach hefyd yn gwenu arnaf—bûm mewn cyfarfod yn ddiweddar, ac er bod llawer o gefnogaeth i'r prosiect, a chefnogaeth wych ar gyfer datblygu'r darn hwn o'r ffordd, ceir pryderon ynghylch y diffyg ymgynghori rhwng Costain, y datblygwyr, a thrigolion lleol. Bu achlysuron pan gafodd y ffyrdd eu cau heb yr hysbysiad statudol, a hefyd adegau pryd y gwnaed newidiadau dylunio i'r darn hwnnw o'r ffordd, heb ddigon o ymgynghori. Felly, a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru, gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol, yn amlinellu sut y mae ef yn gwneud yn siŵr bod y prosiect hwn yn dilyn y trywydd cywir, a bod trigolion lleol yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob cam o'r broses?

Diolch am hynna, a diolch i chi am eich sylwadau caredig hefyd. Mae'r darn rhwng Gilwern a Bryn-mawr sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith yng Nghymru. Mae Gorchmynion Drafft a datganiad amgylcheddol ar gyfer y darn rhwng Dowlais Top a Hirwaun wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, a gallai'r rhain arwain at ymchwiliad cyhoeddus yn y gwanwyn a dechrau'r gwaith ar ddiwedd 2019. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet siarad yn y Siambr hon yn ddiweddar am yr A465, ond rwy'n siŵr y bydd ef a'i swyddogion hefyd wedi clywed y pwyntiau penodol iawn yr ydych chi wedi eu codi, a bydd yn gallu ymdrin â nhw maes o law.

Mae'n ddrwg gennyf, ni ddylwn fod wedi cael y gwyliau hanner tymor yna. Yn olaf, yn olaf, felly, y tro hwn—wel, bellach mae dau o bobl sy'n mynd i neidio i fyny yn y fan yma. Yn olaf, yn olaf, yn olaf, felly, Darren Millar.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd eich croesawu chi i'ch swydd newydd a thalu teyrnged i'ch rhagflaenydd? A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn gais am ddiweddariad ar y mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ yn ymwybodol o'r ffaith y cyhoeddwyd adroddiad diweddaru yr wythnos diwethaf am y sefyllfa yn dilyn sgandal Tawel Fan yn y Bwrdd, ac yn anffodus mae'n ymddangos y bu mwy o oedi i'r gwaith dilynol a gynhaliwyd yn y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd, ac na fydd adroddiadau bellach yn cael eu cyhoeddi tan fis Mawrth nesaf, oddeutu tair blynedd a hanner ar ôl cyhoeddi'r adroddiad cyntaf a roddwyd ar gael i'r Bwrdd Iechyd hwnnw. Yn amlwg, mae'r teuluoedd yn ceisio cael rhyw fath o ateb i'r problemau y maen nhw wedi eu profi, ac wrth gwrs y mae'r staff angen rywfaint o ddatrysiad hefyd o ran eu swyddi. Yn wir, mae rhai aelodau staff wedi symud ymlaen ac o bosibl efallai wedi dianc rhag cyfiawnder naturiol. Felly, tybed a allwn ni gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater arbennig hwnnw.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig ar y grant amgylchedd sengl? Mae pryderon wedi eu cyfleu i mi, gan awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych, ynghylch brigdorri'r grant hwn a'r lleihad yn ei werth eleni a'r effaith y gallai hynny ei gael ar eu gwasanaethau casglu sbwriel a gwastraff yn arbennig. Rwy'n deall bod y gostyngiadau tua tair gwaith y gostyngiad o'i gymharu â grant y llynedd ac mae hynny'n peri cryn dipyn o bryder iddyn nhw. Felly, byddai'n dda cael trafodaeth ar hynny a chyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch sail resymegol hynny.

15:05

Diolch. O ran Tawel Fan, mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Donna Ockenden yn ysgrifennu'r adroddiad ar hyn o bryd ac rwyf wedi cadarnhau na chaiff y gwaith ei gwblhau cyn dechrau'r flwyddyn nesaf. Mae'r amserlen sydd wedi ei chyhoeddi yn adlewyrchu hynny, felly rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dod yn ei ôl atom ni pan fydd y gwaith hwnnw wedi ei wneud. Rwyf i o'r farn y dylid caniatáu i'r gwaith hwnnw gael ei gyflawni cyn i hynny ddigwydd.

O ran grant amgylchedd i awdurdodau lleol, cafodd awdurdodau lleol ryddhad sylweddol iawn o ran eu harian eleni gyda llawer o'r symiau a neilltuwyd o'r blaen yn cael eu diddymu er mwyn rhoi rhwydd hynt iddyn nhw i allu rheoli eu harian eu hunain. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog newydd dros Lywodraeth Leol a gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn y Siambr i glywed eich sylwadau, yn eu hystyried nhw pan fydd yn annerch y lle hwn gyntaf.

Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.

Eitem 4 ac eitem 5: Rwy'n cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cymryd y ddau gynnig sydd wedi eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes.

4. & 5. Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017—Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Gan hynny, rwy'n galw ar y Gweinidog dros blant a gwasanaethau cymdeithasol i gynnig y cynigion. Huw Irranca Davies.

Cynnig NDM6554 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2017.

Cynnig NDM6553 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynigion.

Fe gafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio yn unfrydol bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'n darparu fframwaith statudol i reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfres sylweddol o is-ddeddfwriaeth yn llifo o'r Ddeddf ac mae'n bwysig, er lles y bobl sy'n derbyn gofal a chymorth a'r darparwyr, inni gael hyn yn iawn. Mae fy swyddogion wedi cydweithio'n agos gyda'r rheoleiddiwr a'r sector i ddatblygu rheoliadau sy'n gymesur, yn gadarn ac yn ateb y diben.

Mae'r ddwy set o reoliadau sydd ger eich bron chi heddiw yn elfennau sylfaenol o'r system newydd. Fe gawson nhw eu datblygu yn ystod cam un y gweithrediad ac roedden nhw'n destun ymgynghoriad llawn 12 wythnos. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio yn cofrestru gyda Gweinidogion Cymru—yn ymarferol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae'n sefydlu set ddiwygiedig o brosesau ar gyfer cofrestru ac yn dod â dull sy'n seiliedig ar wasanaeth i rym, a fydd yn galluogi darparwyr i wneud un cais sy'n cwmpasu eu holl wasanaethau. Gellir amrywio cofrestriadau wedi hynny i ganiatáu ar gyfer gwasanaethau a lleoliadau ychwanegol.

I droi at Reoliadau'r Gwasanaethau a Reoleiddir (Cofrestru) (Cymru) 2017, mae'r rhain yn ymdrin â'r gofynion ar gyfer ceisiadau i gofrestru ac ar gyfer ceisiadau i amrywio'r cofrestriad hwnnw. Mae'r rheini'n cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau sy'n ofynnol wrth wneud cais. Bydd hyn yn sicrhau y bydd digon o wybodaeth gan yr AGGCC i wneud penderfyniad deallus ynglŷn â'r gwasanaeth arfaethedig ac addasrwydd yr ymgeisydd i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Bydd hefyd yn rhoi eglurder a sicrwydd i ddarparwyr o ran y math o wybodaeth y gofynnir amdani.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr y gwasanaethau gynhyrchu datganiadau blynyddol am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan AGGCC ochr yn ochr ag adroddiad arolygu'r darparwr. Mae llawer o'r manylion a fydd i'w cynnwys mewn datganiad blynyddol ar wyneb y Ddeddf. Er hynny, mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn nodi rhagor o wybodaeth sydd i'w rhoi am y gwasanaeth, staff ac unrhyw lety sydd yn cael ei ddarparu, yn ogystal â threfniadau i hyfforddi staff a chynllunio ar gyfer y gweithlu. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth gywir, berthnasol a chymaradwy, er mwyn helpu i benderfynu ar y gwasanaeth gorau i ddiwallu eu hanghenion.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr yn defnyddio ffurflen ddatganiad blynyddol ar-lein. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl ddarparwyr, waeth beth fyddo'u maint neu eu strwythur corfforaethol, yn llenwi'r ffurflen mewn ffordd gyson. Er mai ymdrin â materion technegol a wna'r Rheoliadau hyn yn bennaf, maen nhw'n rhoi sail i ddarpariaethau allweddol y Ddeddf. Byddan nhw'n helpu i ddarparu mwy o dryloywder drwy sicrhau bod gwybodaeth ddefnyddiol ar gael i bawb yn rhwydd. Bydd hefyd yn cyflymu ac yn symleiddio'r cofrestru, yn lleihau'r baich ar ddarparwyr wrth sicrhau y gall y rheoleiddiwr gyflawni ei ddyletswyddau'n effeithiol. Mae'r ddwy set hyn o Reoliadau yn angenrheidiol er mwyn llwyddo â'r system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n eu cymeradwyo i'r Aelodau.

15:10

A gaf i gynnig llongyfarchiadau i'r Gweinidog newydd? Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn un o feysydd mwyaf pwysig y Cynulliad yma, sef gofal cymdeithasol.

Ni fyddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn o gwbl. Ond yn yr ymatebion i waith y Llywodraeth yn hyn o beth cafwyd rhai ymholiadau ynghylch gallu'r system TGCh a fydd yn sail i'r system gofrestru a datganiadau blynyddol. Rwy'n credu mai'r ymateb oedd fod yr wybodaeth wedi cael ei chasglu a'i thraddodi i'r swyddogion perthnasol ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Rwy'n sylweddoli na fyddwch chi o bosib yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn y Siambr heddiw gan eich bod newydd ddod i'ch swydd, Gweinidog, ond pa gadarnhad a gawsoch chi y gall y system TG ymdopi nawr â gofynion y rheoliadau hyn, gan ein bod ni oll yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth ddiniwed a di-fudd iawn sydd wedi methu yn ei hamcanion oherwydd ei chyflenwad diffygiol yn unig? Diolch.

Suzy, rwy'n diolch ichi am y cwestiwn hwn, ac nid oes swyddogion wedi codi gyda mi ar hyn o bryd unrhyw bryderon am unrhyw ddiffyg o ran capasiti, ond byddaf yn siŵr o roi mwy o ystyriaeth i hynny ac ymchwilio i hynny eto. Rwy'n gwybod mai'r diben sydd wrth wraidd y broses newydd ger ein bron, yn amodol ar basio'r offerynnau statudol hyn heddiw, mewn gwirionedd yw creu system fwy cyfeillgar o gofrestru ar-lein, system symlach, haws ei thrin a mwy effeithlon hefyd. Nid wyf wedi clywed y materion hynny'n cael eu codi o ran capasiti, ond âf yn ôl a gwirio hyn a byddaf yn ysgrifennu at Suzy hefyd,FootnoteLink ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb, yn arbennig felly os oes unrhyw bryderon yn bodoli a dangos sut y maen nhw wedi cael eu goresgyn.

Diolch yn fawr iawn ichi. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, ystyrir bod y cynnig wedi ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ac, eto, y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig hwnnw ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017—Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Mae eitem 6 ar y Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 wedi cael ei dynnu'n ôl.

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17—Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Felly, rydym ni'n symud nawr at eitem 7, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru am 2016-17, a gafodd ei gohirio'r wythnos ddiwethaf. Rwy'n galw ar y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM6550 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirpwy Lywydd, eto. 

Hoffwn i agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon fel y Gweinidog dros blant drwy roi teyrnged i waith cyn-Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant. Roedd Carl yn daer dros wella bywyd plant a phobl ifanc ledled Cymru, yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w lles nhw ac i'w gobeithion nhw i'r dyfodol. Roedd ef yn sylweddoli yr effaith ddinistriol a gaiff profiadau andwyol plentyndod a phwysigrwydd atal ac ymyrryd. Cefnogodd y ganolfan ar gyfer Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a chyflwynodd ardaloedd Plant yn Gyntaf i ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i wella bywydau pobl. Roedd yn daer o blaid yr angen i fynd i'r afael â'r anfanteision sy'n wynebu plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gadael gofal, gan gyflwyno'r gronfa Dydd Gŵyl Ddewi a phwyso ar gyrff cyhoeddus i gydnabod eu cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol. Gweithiodd yn galed i hyrwyddo rhianta cadarnhaol i blant a pharatoi'r ffordd i'r deddfwriaeth ar gosbi plant yn gorfforol. Gweithiodd yn ddiflino i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod a'u parchu bob amser ledled y Llywodraeth. Byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i anrhydeddu a pharhau gyda'i waith rhagorol a'i ymrwymiad cadarn i blant a phobl ifanc, er cof amdano.

Fel Llywodraeth, rydym yn awyddus i bob plentyn yng Nghymru gael y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Mae'r blynyddoedd cynnar yn flaenoriaeth allweddol yn ein rhaglen lywodraethu ac yn ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb'. Rydym yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles, canlyniadau addysgol a rhagolygon y dyfodol i'r holl blant a phobl ifanc. Serch hynny, ni ellir eu hystyried ar wahân. Mae cyswllt anorfod rhwng eu canlyniadau nhw o ran llesiant a theuluoedd â chanlyniadau rhieni, teuluoedd a chymunedau. Drwy weithio ar y cyd a gwrando ar leisiau'r plant eu hunain, ac ar y bobl ifanc eu hunain, gallwn sicrhau newid gwirioneddol a chynaliadwy. Mae'n bwysig inni gael y ddadl ystyrlon, reolaidd hon ar ein cyflawniadau yng Nghymru hyd yn hyn o ran hawliau plant, ond ni ddylai pethau ddod i ben yma. Mae angen inni barhau i wneud cynnydd nid yn unig yn Llywodraeth Cymru, ond drwy weithio ar y cyd â'r cyhoedd a'r trydydd sector, ac o fewn ein cymunedau, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc.

Credaf ei bod yn hanfodol fod plant a phobl ifanc Cymru yn cael llais diduedd ac annibynnol—un a all hyrwyddo a diogelu eu buddiannau, ac sy'n herio gwaith y Llywodraeth ac eraill drwy lygaid hawliau plant. Mae hyn bellach yn bodoli yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi cyn bo hir i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd.

Yn ei hadroddiad blynyddol, mae'r Comisiynydd wedi pwysleisio ei chyflawniadau ym mlwyddyn gyntaf ei chynllun strategol tair blynedd, o ran gwaith prosiect a gwaith creiddiol. Mae hyn yn cynnwys 528 o achosion unigol a gafodd eu trin gan ymchwiliadau annibynnol y Comisiynydd a'r gwasanaeth cynghori. Er bod gweddill y ddadl hon yn debygol o ganolbwyntio ar argymhellion y Comisiynydd ar bolisïau cyffredinol a rhaglenni ar gyfer plant, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth y mae hi a'i swyddfa'n ei ddarparu i blant a phobl ifanc unigol sydd ag angen cymorth.

Yn adroddiad blynyddol eleni, mae'r Comisiynydd wedi cyflwyno 19 o argymhellion. Mae pedwar ar ddeg ohonynt yn ymwneud â rhoi i blant yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, fel addysg, gofal iechyd a chymorth ychwanegol os ydyn nhw'n anabl. Mae pump ohonynt yn ymwneud â diogelwch, gan sicrhau eu bod yn ddiogel rhag niwed. Fel Llywodraeth, rydym i raddau helaeth iawn ar dir cyffredin gyda'r Comisiynydd. Rydym wedi cydweithio gyda hi ac eraill er budd plant a phobl ifanc a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, rydym wedi gweithio gyda'r Comisiynydd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wella trefniadau pontio ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Cafodd y gwaith cadarnhaol yn y maes hwn ei gydnabod yn yr adroddiad.

Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i drawsnewid y system ar gyfer cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hawliau plant yn gynsail i fodoliaeth i'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Bydd y system newydd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd proses sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn lle mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd er eu lles. Yn amodol ar y Cynulliad yn pasio'r Bil dros yr wythnosau nesaf, dylai dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar ddechrau 2018. Yna bydd ein pwyslais yn symud yn llwyr tuag at ei weithredu, a byddwn yn parhau i weithio gyda'r Comisiynydd i sicrhau bod y system newydd yn adlewyrchu'n llawn ddull sy'n seiliedig ar hawliau. 

Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ymateb i adroddiad y Comisiynydd, gan gynnwys yr argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar neu cyn 30 Tachwedd. Felly bydd yr Aelodau yn deall pam nad wyf i am fanylu ar ein hymateb yn ystod y ddadl heddiw. Ond mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc a ddaw yn sgil ein rhaglenni, yn enwedig y rhai sydd wedi eu cyfeirio tuag at y blynyddoedd cynnar.

Mae'r dystiolaeth am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod—ACEs—yn dangos pwysigrwydd atal a nodi'n gynnar ac ymyrryd, a pham mae angen inni weithio ar y cyd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cychwyn gorau posib i'w fywyd. Nid yw'r pwyslais presennol ar ACEs yn golygu, er hynny, nad ydym yn pryderu mwyach am effaith meysydd eraill o anfantais ar blant, yn enwedig esgeulustod a thlodi, a byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc.

Edrychaf ymlaen at gael sgwrsio â'r comisiynydd plant, ag ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ac, yn bwysicaf oll, â phlant a phobl ifanc ynghylch sut y gwnawn ni hynny. Diolch yn fawr. 

15:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r Gweinidog newydd i'w swydd? Rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu ag ef ar faterion plant a chydweithio ag ef lle y gallwn ddarganfod rhywfaint o dir cyffredin. Hefyd, hoffwn gofnodi fy nheyrnged i’w ragflaenydd, Carl Sargeant, a’r gwaith a wnaeth ar ran plant yma yng Nghymru. Roedd bob amser yn ddiffuant iawn yn y swyddogaeth honno, ac rwy’n gwybod ei fod yn angerddol am hyrwyddo agenda’r Llywodraeth.

Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r comisiynydd a'i staff. Rwyf wedi cael cyswllt rhagorol gyda'r comisiynydd ers imi gymryd cyfrifoldeb dros y portffolio hwn fy hun, ac rwyf wir yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae hi’n ei wneud i ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon o bob plaid wleidyddol, ac, yn wir, y cymorth y mae hi’n ei roi o bryd i'w gilydd gyda darnau unigol o waith achos yn fy etholaeth i lle y ceir materion y credaf eu bod o arwyddocâd cenedlaethol. Mae hi bob amser yn barod iawn i helpu ac mae ei staff bob amser yn gyflym iawn i adrodd yn ôl ac i ymateb i bryderon unigol.

Mae'r adroddiad yn adroddiad eang iawn. Mae'n sôn am bob math o wahanol faterion, ond hoffwn ganolbwyntio ar ambell un, os caf. Un o'r pethau y mae’r comisiynydd plant ac, yn wir, y comisiynwyr o’i blaen wedi bod â diddordeb mawr mewn gweld yn cael ei sefydlu yng Nghymru yw gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf i gynnwys partneriaid o awdurdodau lleol, rwy'n meddwl, er mwyn gallu cyflwyno’r gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol hwnnw a sicrhau bod eiriolaeth o ansawdd uchel ar gael yn gyson yma yng Nghymru i’r plant sydd ei angen. A tybed, Weinidog, a fyddwch chi'n gallu rhoi diweddariad inni heddiw ar ble yn union mae’r broses o gyflwyno’r gwasanaeth hwnnw, a beth yw’r sefyllfa bresennol, oherwydd rwy’n gwybod bod hyn yn bryder yn sicr i bobl yn fy etholaeth i, a phan edrychwch chi ar nifer cynyddol y bobl ifanc sy’n ffonio’r comisiynydd a'i thîm, mae'n briodol, rwy’n meddwl, bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn datrys y mater hwn unwaith ac am byth fel na fydd yn rhywbeth sy’n ailadrodd ac na fyddwn yn cael y teimlad hwn o déjà vu ym mlynyddoedd y dyfodol pan gaiff yr adroddiadau hyn eu cyflwyno.

Mae'r comisiynydd hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at gostau trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hadroddiad blynyddol. Mae hi'n sôn yn benodol am drafnidiaeth ôl-16 a’r baich y gall hynny ei roi ar blant a phobl ifanc. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod fy mhlaid wedi ceisio cynnig ateb i hynny, ateb yr ydym yn ei gynnig i’r Llywodraeth yn ddiffuant gan obeithio y byddwch yn ei archwilio ac yn bwrw ymlaen ag ef, oherwydd rydym yn credu bod cyfle i’n cynnig cerdyn gwyrdd wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc ledled Cymru ac y byddai'n helpu i ddatrys yr union fater y mae'r comisiynydd plant wedi ei nodi yn ei hadroddiad am y gost, yn enwedig o ran teithio ar fysiau, i blant a phobl ifanc. Nawr, rwy’n gwybod, Weinidog, bod Llywodraeth Cymru wrthi’n adolygu'r canllawiau cludiant o'r cartref i'r ysgol a roddir i awdurdodau lleol, ac, unwaith eto, tybed a allwch roi diweddariad inni am hynny, yn enwedig o ran darpariaeth ôl-16, ac efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a ydych ci nawr yn mynd i ystyried o ddifrif, o ystyried yr argymhelliad yn adroddiad y Comisiynydd, ein cynigion cerdyn gwyrdd.

Tybed hefyd a fyddech chi'n barod i ystyried adolygu pwerau’r comisiynydd a'i swyddfa. Cynhyrchodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad nifer o flynyddoedd yn ôl i gymharu’r gwahanol ddulliau o ran comisiynwyr sydd gennym yng Nghymru a’r diffyg cysondeb sydd gennym gyda hwy o ran eu prosesau penodi ac, yn wir, o ran ystodau eu pwerau. A tybed hefyd a yw hynny, gan weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Llywodraeth, yn rhywbeth y gallech fod yn fodlon bwrw ymlaen ag ef. Does dim sôn penodol amdano yn adroddiad y comisiynydd, ond rwy’n gwybod ei bod yn bwysig iawn bod gennym gomisiynwyr â dannedd fel y gallant ddangos y dannedd hynny neu frathu pobl o bryd i'w gilydd a chael ymateb priodol gan y gwahanol asiantaethau cyhoeddus a rhannau o'r sector cyhoeddus y mae angen yr ymateb hwnnw ganddynt.

Ac yn olaf, hoffwn gofnodi hefyd fy ngobeithion y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn symud drwy’r Cynulliad hwn yn fuan iawn. Yn amlwg, bydd cyfnod 3 y Bil hwnnw yn digwydd yr wythnos nesaf. Un o'r gwelliannau pwysicaf y mae angen eu gwneud i’r Bil hwnnw o hyd yw cyfeirio ar wyneb y Bil at egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn ar wyneb y Bil hwnnw, a tybed a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud fel ymateb i rai o'r gwelliannau hynny sydd wedi’u cyflwyno sy'n ceisio sicrhau cyfeiriad at y rheini ar wyneb y ddeddfwriaeth honno. Diolch.

15:20

A gaf innau hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad, ac a gaf i hefyd ategu y sylwadau a wnaeth e ynglŷn â chyfraniad ei ragflaenydd? Rwy'n gwybod bod Carl Sargeant yn delio â materion yn ymwneud â hawliau plant o'r galon, ac os bydd y Gweinidog presennol yn ymwneud â'i rôl gyda'r un arddeliad yna rwy'n sicr y bydd sefyllfa plant yng Nghymru yn cryfhau ac yn dal i wella.

A gaf innau hefyd ategu'r diolch i'r comisiynydd am ei gwaith? Rydw i'n croesawu'r adroddiad. Fel pob blwyddyn efallai, mae e yn gyfle i'n hatgoffa ni o flaenoriaethau plant a phobl ifanc ac efallai yn gyfle i ailfiniogi meddwl y Llywodraeth o gwmpas materion plant ac i adnewyddu ffocws ar y blaenoriaethau sydd angen eu hystyried yn unol, wrth gwrs, â dymuniad plant a phobl ifanc eu hunain trwy'r hyn sydd yn adroddiad y comisiynydd.

Y ffactor mwyaf siomedig i fi yn yr adroddiad yma yw bod yna gynifer o faterion a godwyd y llynedd sydd dal heb fynd i'r afael â nhw yn ddigonol ym marn y comisiynydd. Byddwch chi'n gwybod, os ydych chi wedi edrych ar yr adroddiad, bod y comisiynydd yn nodi system golau traffig coch, melyn a gwyrdd. Mae yna nifer o eitemau sydd yn goch sy'n dangos nad oes yna gynnydd o gwbl wedi bod. Nawr, un o'r rheini yw addysg gartref. Yr argymhelliad o'r adroddiad llynedd oedd y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r gofynion i rieni gofrestru fel rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref a bod pob plentyn sy’n cael ei addysgu gartref trwy ddewis yn gweld gweithiwr proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn iddyn nhw fedru mynegi barn am eu profiadau addysgol.

Nawr, mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi bod yn ystyried y maes yma mewn gwahanol ffyrdd dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Mae yna ganllawiau wedi'u hailgyflwyno ychydig yn ôl, ond mae cyflwyno cofrestr a gofynion statudol mwy cadarn i sicrhau bod plant yn cael eu gweld a bod rhywun yn siarad â nhw yn dal yn flaenoriaeth i'r comisiwn ac, wrth gwrs, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn dal i aros i'r Llywodraeth weithredu yn ddigonol arnyn nhw. Yn ddelfrydol, mi fyddwn i'n lico clywed heddiw, wrth gwrs, ble mae'r Llywodraeth yn mynd ar hyn. Pryd welwn ni weithredu? Beth yw eich bwriad chi yn y maes penodol yma? Ond, yn dilyn yr hyn ddywedoch chi yn gynharach ynglŷn â bwriad y Prif Weinidog i ymateb erbyn diwedd y mis, byddwn i'n llawn obeithio y bydd yna gyfeiriad penodol at y maes yma ac y bydd yna ddatgan bwriad clir o safbwynt beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.

Mater arall sydd wedi'i nodi'n goch, wrth gwrs, yw tlodi plant. Rŷm ni'n gwybod bod plant yn wynebu effeithiau mesurau llymder ar incwm eu rhieni yn ogystal â thaliadau'r pen arall o safbwynt y gwasanaethau sydd ar gael i helpu i liniaru tlodi fel ag y maen nhw'n cael eu torri ar hyn o bryd. Nawr, rŷm ni wedi codi'n flaenorol yr angen, wrth gwrs, i gael strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Yn ôl yr Institute for Fiscal Studies, mae toriadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fudd-daliadau yn debygol o achosi cynnydd o 4 y cant yn nhlodi plant ledled y Deyrnas Gyfunol, gyda Chymru'n cael ei heffeithio yn anghymesur â phroblemau, yn enwedig yn sgil credyd cynhwysol, sy'n un rheswm am hynny. Mae rhai o'r newidiadau i gredyd treth a thoriadau i fudd-daliadau wedi cael eu gweithredu'n barod, wrth gwrs, ac wedi cael effaith anghymesur ar blant, yn enwedig plant mewn teuluoedd rhiant sengl neu deuluoedd gyda mwy na dau blentyn. Felly, mae'n bwysicach nac erioed, rydw i'n meddwl, bod cynllun yn ei le i fynd i'r afael â hyn.

Mae hefyd yn ddiddorol—un pwynt diddorol a dilys iawn sy'n cael ei godi gan y comisiynydd yw y dylid cynnig darpariaeth o 30 awr yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn sy'n dair neu'n bedair oed, yn hytrach na dim ond ar gyfer teuluoedd lle mae'r rhieni yn gweithio. Nawr, dyna, wrth gwrs, oedd union bolisi Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, gyda'r rhesymeg fel y mae'r comisiynydd yn ei amlinellu. Y perig yw y bydd rheini lle nad yw eu rhieni nhw'n gweithio, sydd â mwy o risg efallai o syrthio ar ei hôl hi o safbwynt addysg—y risg yw y byddan nhw'n syrthio hyd yn oed yn bellach ar ei hôl hi os yw eraill yn cael y gefnogaeth ychwanegol. Nawr, rwy'n deall bod yna ffocws cryf wedi bod ar rieni yn gweithio a sicrhau bod rhieni yn gallu gweithio mwy o oriau, o bosibl, yn sgil y ddarpariaeth, ond mi ddylai'r prif ffocws, wrth gwrs, fod ar y plant. Hynny yw, gorau oll os oes yna ganlyniad positif i rieni yn sgil hynny, ond y plant ddylai fod yn ganolog i'r polisi yma ac mi fyddwn i'n dadlau yn gryf o blaid yr hyn y mae'r comisiynydd wedi galw amdano fe. Mi fyddwn i'n hoffi clywed, felly, yn sgil hynny, cadarnhad, o bosibl, mai bwriad y Llywodraeth yn y tymor hirach yw sicrhau bod y ddarpariaeth yma ar gael i bob plentyn.

15:25

Hoffwn adleisio datganiadau’r Gweinidog am ei ragflaenydd, am Carl Sargeant. Dysgais wers gan Carl Sargeant ynglŷn â sut i ymdrin â Gweinidogion yn ystod ymgyrch yr etholiad, pan oeddwn yn anghytuno â’r Llywodraeth a des yma, ar wahoddiad Jeff Cuthbert, i gyfarfod â Carl Sargeant, a dywedais, gan ddisgwyl ffrae fawr, 'Rwy’n anghytuno â chi, Weinidog', a dywedodd ef, 'Rhowch chi drefn ar bethau yn eich etholaeth chi ac fe wnawn ni unioni pethau pan ddewch chi’n ôl i'r gweithle'; roeddwn yn gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn. Fe wnes i lwyddo i roi fy marn, ac yna cefais ddeialog amdani gyda'r Gweinidog wedyn. Ac rwy’n gobeithio, yn ei swydd, y bydd y Gweinidog newydd hefyd yn dilyn y patrwm ymddygiad rhagorol hwnnw.

O ran adroddiad y comisiynydd plant, roeddwn am godi dau fater. Mae un ar dudalen 25 adroddiad y comisiynydd plant. Mae hi’n cyfeirio at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ac yn dweud yn yr ail baragraff:

'Dylai fod gofal plant cynhwysol wrth wraidd ein huchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac er fy mod, mewn egwyddor, yn hapus â’i ddatblygiadau hyd yn hyn, rhaid inni gydnabod y sail dystiolaeth gynyddol o blaid datblygu system gynhwysol, sy'n hyrwyddo symudedd cymdeithasol yn ogystal â ffyniant economaidd, drwy ymestyn yr hawl i addysg gynnar a gofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon uchel.'

A hynny i blant rhieni nad ydynt yn gweithio. Yr unig ffordd y gallaf ddeall hynny yw yng nghyd-destun ardaloedd Dechrau'n Deg, ac un ffordd ddelfrydol o wneud hynny, wrth gwrs, fyddai darparu Dechrau'n Deg mewn modd cynhwysol. Ond, o ystyried safbwynt Llywodraeth y DU ar galedi, mae'n anhygoel o anodd cyflawni hynny. Ond hoffwn hysbysu'r Gweinidog o'r hyn a ddywedodd y comisiynydd plant mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dywedodd hi, ac rwy’n dyfynnu:

Rwy'n meddwl y gellid ystwytho'r rhaglen mewn rhyw ffordd, a’i haddasu mewn rhyw ffordd, i’w gwneud yn gynnig ehangach i fwy o blant, oherwydd, i mi, yr effaith ar blant sy’n bwysig, nid dim ond y gwasanaeth i rieni.

Hoffwn wybod pa ddeialog y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei chael gyda'r comisiynydd plant i ddatrys y mater hwnnw, oherwydd un o'r pethau y dywedodd y byddai'n eu gwneud yw dychwelyd i'r Pwyllgor a rhoi syniadau polisi mwy penodol inni ynghylch sut y byddai’n bwrw ymlaen. Ac felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y Gweinidog yn siarad â'r comisiynydd plant am hynny.

Mae’r ail fater yn un a oedd yn agos iawn at galon Carl Sargeant, sef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’u datrys. Unwaith eto, dywedodd y comisiynydd plant fod y cysyniad o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddiymwad, ond bod ganddi

pryderon am unrhyw drafodaeth sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'n hymateb i dlodi plant...yn y cyd-destun hwn yn unig.

Ac rwy’n gweld yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad i gydnabod hynny yn galonogol iawn. Rwy’n meddwl y byddwn yn pryderu pe baem yn dechrau sôn am dri neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedyn yn dod yn sbardun i weithredu gwasanaethau cymdeithasol. Byddwn yn pryderu bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn dod yn llai o gysyniad ac yn fwy o drothwy y mae’n rhaid i blant ei fodloni er mwyn ysgogi gweithredu, a dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny’n ffordd fuddiol o ddefnyddio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, oherwydd rwy’n meddwl ei fod yn llawer mwy ansoddol na hynny, a gallai un profiad niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith ddinistriol ar deuluoedd, ac mae angen inni gydnabod hynny a’i weld fel cysyniad defnyddiol ar gyfer deall profiadau yn ystod plentyndod ond nid fel un i sbarduno ymyriadau yn ôl y maen prawf hwnnw.

Felly, a dweud y gwir, y cyfan yr hoffwn i’r Gweinidog allu ei ddweud wrthyf yw: yn gyntaf, o ran Dechrau'n Deg, a fydd ef yn agor y ddeialog honno gyda'r comisiynydd plant, a hefyd, o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a wnaiff ei gydnabod fel cysyniad, ond nid fel sbardun i weithredu?

15:30

Rwy’n croesawu Huw Irranca-Davies i’r swydd hon. Mae gennych chi esgidiau mawr iawn i’w llenwi, ond rwy’n siŵr y dewch chi â’ch dulliau ystyriol a dysgedig i’r maes polisi cyhoeddus penodol hwn, fel yr ydych wedi’i wneud mewn meysydd eraill yn y gorffennol. Rydym yn wynebu sefyllfa eithaf anodd i blant, ac rwy’n meddwl bod adroddiad y comisiynydd plant yn adlewyrchu hynny’n rhannol. O dan 'Darpariaeth', mae hi’n tynnu sylw at y ffaith bod gan blant hawliau i fod â’u hanghenion wedi’u diwallu, gan gynnwys tai diogel a chynnes, bwyd, addysg, gofal iechyd, gofal ychwanegol os ydynt yn anabl, a darpariaeth hamdden, diwylliant a chwarae a help ychwanegol os yw teuluoedd yn byw mewn tlodi. Ond mae'n anodd iawn gweld sut yr ydym yn mynd i gyflawni hynny o dan yr amgylchiadau presennol sy'n ein hwynebu. Soniais yn gynharach mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog am y cynnydd esbonyddol mewn tlodi plant a ragwelir gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r anawsterau sydd gennym o ran lliniaru goblygiadau hynny mewn unrhyw ffordd, oherwydd rydym yn gwybod y bydd tlodi’n cynyddu nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a bydd hynny, yn ei dro, yn cynyddu’r niferoedd y mae hyn yn effeithio’n wael iawn arnynt am weddill eu bywydau.

Rydym hefyd wedi dysgu o fewn yr wythnos diwethaf bod y DU erbyn hyn yn cael ei hystyried y genedl fwyaf gordew yng ngorllewin Ewrop, a does dim angen inni redeg am yr ystadegau i wybod bod Cymru yn fwy na thebyg ar frig y tabl cynghrair penodol hwn mewn perthynas â rhannau eraill y Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n arbennig o bryderus ynghylch sut y gallwn ymdrin â’r ddau fater hynny (a) o ran sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl i’w fywyd, gan ddechrau gyda bwydo ar y fron a’r pryderon parhaus ynghylch cefnogaeth annigonol—cefnogaeth gyson—i fwydo ar y fron i sicrhau bod pob teulu’n gallu bwydo eu plant ar y fron. Rwy’n meddwl bod angen inni hefyd sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi i ddiddyfnu eu plant yn effeithiol. Os na all pobl frwydro yn erbyn y llwyth o negeseuon masnachol sy’n dod ar draws—. Mae’r bwydydd babi hyn sy’n cynnwys siwgr yn cael eu gwerthu i bobl, y dylid, a dweud y gwir, eu gwahardd, a does dim byd gwaeth na gweld plentyn clinigol ordew, sy’n ddim mwy na dioddefwr oherwydd y sefyllfa. Dydy’r plentyn ddim yn gallu dewis beth sy’n cael ei roi o'i flaen, ac mae'n wirioneddol dorcalonnus gweld bod teuluoedd a buddiannau masnachol yn drech na budd y plentyn. Rhaid inni ddefnyddio ein hysgolion fel lle i ail-addysgu’r plant hynny sydd ddim wedi cael y gefnogaeth honno i’w buddiannau maethol yn y cartref. Ond mae hon yn sefyllfa heriol iawn, iawn. Yn fy ysgol fy hun, lle'r wyf yn llywodraethwr, ysgol uwchradd, rwy’n gwybod mai dim ond 30 y cant o'r plant sydd wedi cael brecwast cyn dod i'r ysgol, ac mae hynny heb ystyried beth yn union beth yw’r brecwast hwnnw. Felly, rwy’n meddwl bod hwnnw’n fater pwysig i mi.

Mae mater penodol yr oeddwn am ei godi ynglŷn ag atgyfnerthu'r gofyniad i rieni gofrestru os ydynt yn dewis addysgu eu plant gartref, oherwydd rwy’n meddwl bod bwlch gwirioneddol yn y gyfraith yma. Dydyn ni ddim yn sôn am hyn fel mater diogelu fel rheol gyffredinol, ond, pan fydd rhieni’n gwneud penderfyniad i dynnu eu plant allan o addysg y wladwriaeth, maent yn gwneud dewisiadau mawr iawn ynglŷn â dyfodol eu plant, a’r cymdeithasu, yn ogystal â dysgu, na fyddant yn eu cael, oni bai bod darpariaeth amgen dda iawn, iawn yn y cartref. Felly, byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwybod beth ydych yn meddwl y byddai modd ei wneud yno.

Ond rwy’n meddwl bod y—. Yn gyffredinol, rwy’n meddwl y bydd yn anodd iawn inni ddiogelu pob plentyn yn sgil y gostyngiad yn swm budd-dal plant, yn ogystal â’r gostyngiad cyffredinol mewn budd-daliadau a chyflwyno budd-dal cynhwysol, sy’n mynd i roi mwy o blant mewn tlodi. Felly, rwy’n croesawu ymateb y Gweinidog ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud, gan weithio gyda'r comisiynydd plant, i sicrhau bod ein plant i gyd yn cael eu diogelu.

15:35

Rwyf finnau’n croesawu’r cyfle i drafod y canfyddiadau, yr argymhellion a’r meysydd blaenoriaeth pwysig a amlinellir yn adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. Yn sicr mae'n briodol bod hyn yn cael ei drafod yn ystod Wythnos Gwrth-Fwlio. Rwy’n meddwl ei bod yn iawn inni gymryd y cyfle i adlewyrchu ar flwyddyn o gynnydd a chyflawniad o ran hawliau plant yng Nghymru, ond edrych ymlaen hefyd at heriau’r pethau sydd angen eu gwneud o hyd.

Roeddwn yn falch o weld bod diogelwch yn y gymuned, yr ysgol a’r cartref yn un o chwe maes blaenoriaeth y comisiynydd. Mae gan blant hawl absoliwt i deimlo'n ddiogel yn eu hysgolion, yn eu cymunedau ac yn y cartref. Mae bwlio yn gallu achosi canlyniadau andwyol gydol oes i les corfforol yn ogystal â lles meddyliol plant sy’n ei brofi. Bydd llawer ohonom yma’n gwybod, yn gynharach y mis hwn, bod Chris Elmore, AS Llafur dros Ogwr, wedi siarad yn ddewr am ei brofiadau erchyll ef o fwlio yn yr ysgol; dywedodd ei fod wedi gorfod cael llawdriniaeth ar ei anafiadau ac wedi cael mwy nag un gwaeledd meddwl o ganlyniad i hynny. Dywedodd Chris fod ei ymosodwyr wedi ymosod arno oherwydd, a dim ond oherwydd, eu bod yn meddwl ei fod yn hoyw.

Roeddwn yn falch o ddarllen am y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y maes blaenoriaeth hwn drwy greu 'AGENDA: Canllaw i bobl ifanc ar wneud cysylltiadau cadarnhaol o bwys'. Mae'n adnodd sydd ar gael i bobl ifanc ar-lein, ac mae'n darparu amrywiaeth o syniadau creadigol a galluogi pobl ifanc i gael perthnasoedd iach—addysg i atal ac ymdrin â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn ar sail rhyw a homoffobia. Mae'n adnodd gwych sydd wedi’i greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ar y cyd â’r NSPCC, Prifysgol Caerdydd, Cymorth i Fenywod Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae AGENDA yn helpu pobl ifanc i ddatblygu ffyrdd creadigol o wrthsefyll trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o sut y mae trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol yn effeithio nid yn unig ar bobl ifanc yma yng Nghymru, ond ledled y byd hefyd. Hoffwn annog fy nghydweithwyr i ddod yn gyfarwydd ag ef, oherwydd mae'n ymchwil gwych.

Dim ond ddoe, rhyddhaodd Eglwys Loegr ganllawiau newydd i ysgolion o blaid caniatáu i blant ysgol gynradd wisgo sut maen nhw'n dewis heb i athrawon neu ddisgyblion wneud sylwadau. Daeth y canllawiau newydd hyn ar ôl i arolwg barn gan y Gynghrair Gwrth-Fwlio ganfod bod dau o bob pum plentyn yn cuddio agweddau arnynt eu hunain. Hoffwn wybod a yw’r Gweinidog yn teimlo, yng ngoleuni hynny, a'r ffaith bod llawer o ysgolion yn cael eu cynnal gan yr Eglwys yng Nghymru—neu’n ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir—efallai y bydd angen inni ailedrych ar y canllawiau a roddir i ysgolion nad ydynt dan reolaeth yr Eglwys o fewn gweddill Cymru, oherwydd y peth olaf y byddai unrhyw un ohonom ei eisiau yw dwy set o ganllawiau ar gyfer disgyblion yng Nghymru.

15:40

Mae ychydig mwy o siaradwyr, ond hoffwn eich atgoffa'n garedig, os ydych chi'n dymuno siarad, y dylech fod yn bresennol yn y Siambr ar ddechrau'r ddadl. Fodd bynnag, mae heddiw’n ddiwrnod heriol i rai—ond os gallwn gofio hynny ar gyfer y dyfodol. Michelle Brown.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu adroddiad y comisiynydd, a hoffwn ddiolch iddi am ei holl waith caled hyd yn hyn ac am lunio’r adroddiad. Mae’r comisiynydd yn dweud, ac rwy’n dyfynnu:

'Fy ngweledigaeth yw bod pob plentyn yng Nghymru’n cael cyfle cyfartal i fod y gorau y gall fod'.

Mae hon yn weledigaeth ganmoladwy—un, gobeithio, rydym i gyd yn ei rhannu—ond pam mae angen i rywun y tu allan i Lywodraeth Llafur ddweud hyn cyn iddynt wrando? Mae’n ymddangos bod Llafur yn allanoli mwy a mwy o’u polisïau, i'r fath raddau nes na all llawer o bobl—minnau yn eu plith—ond dod i'r casgliad nad oes ganddyn nhw unrhyw syniadau da eu hunain. Ar ôl 20 mlynedd o bŵer di-dor, pam mae’n rhaid gwneud y cyhoeddiadau hyn o hyd? Mae’n siŵr y bydd Llafur yn dweud eu bod bob amser wedi bod yn ymroddedig i gyfle cyfartal i blant Cymru, felly pam, ar ôl dau ddegawd o bŵer di-dor, nad ydynt wedi cyflawni hynny? Efallai y dylent adael i bobl eraill wneud mwy o’u polisïau, oherwydd mae'n amlwg na allant wneud hynny eu hunain. Maent wedi allanoli cydraddoldeb i blant; maent yn allanoli eu polisi addysg, fel y clywsom gan Kirsty Williams yn ddiweddar, pan ddywedodd y byddai hi’n mabwysiadu argymhellion trydydd parti ar gofrestru dysgwyr am arholiadau TGAU yn gynnar; ac mae’r Llywodraeth hyd yn oed wedi dechrau allanoli swyddi’r Cabinet.

Pam oedd angen i gomisiynydd nodi bod rhai awdurdodau lleol yn darparu darpariaeth dda ar gyfer rhai sy'n gadael gofal, ac nad yw rhai eraill? Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae hynny'n digwydd? Mae’n amheus gen i fod hyn yn ffenomen newydd, felly rhaid ei fod wedi cael ei anwybyddu, neu bod anallu ar lefel lywodraethol wedi methu datrys yr anghysondeb. Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae angen i'r comisiynydd dynnu sylw at y ffaith bod llawer o rieni plant byddar yn dal i gael eu gadael heb y gallu i gyfathrebu â nhw, oherwydd diffyg darpariaeth i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain? A all unrhyw un yma ddychmygu’r tristwch a'r anawsterau sy’n cael eu hachosi drwy beidio â gallu cyfathrebu â’ch plentyn eich hun?

Rydym yn clywed llawer o sôn gan y Llywodraeth hon am wneud ymdrechion priodol i wella'r ddarpariaeth i bobl i gyfathrebu yn y Gymraeg, ond does dim byd am helpu pobl sydd ag anawsterau cyfathrebu, hyd yn oed pan fyddant yn blant. Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae’r Comisiynydd yn teimlo bod yn rhaid iddi dynnu sylw at y ffaith, yn hytrach na bod gwahaniaethau’n lleihau, bod anghydraddoldebau’n parhau o ran y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc? Pam, ar ôl 20 mlynedd o Lafur, y mae’n rhaid i’r comisiynydd erfyn ar y Llywodraeth i beidio â chymryd cymorthdaliadau teithio oddi ar bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed, er bod llawer ohonynt yn dal i fod mewn addysg neu hyfforddiant, ac mai'r diffiniad cyfreithiol o blentyn yw o ddim i 18 mlwydd oed?

Mae llawer o enghreifftiau eraill yn yr adroddiad y gallwn eu dyfynnu sy'n dangos diffygion y Llywodraeth gyfan, ond does gen i ddim digon o amser i siarad amdan nhw. Mae 10 datganiad i'r wasg ar y dudalen gyntaf o newyddion ar wefan Plaid Lafur Cymru. Does dim un ohonyn nhw'n ymwneud â’r hyn y mae nhw wedi’i wneud neu'n gobeithio ei wneud dros ein plant; tybed a yw hynny oherwydd na chaiff plant bleidleisio. Galwch fi’n sgeptig, ond mae traean o’r erthyglau ar y dudalen honno wedi’u hymrwymo’n benodol i ddilorni pleidiau eraill.

Felly, i gloi, mae'r adroddiad hwn yn profi dau beth. Y cyntaf yw bod y comisiynydd plant yn wybodus am y materion sy'n wynebu plant Cymru, yn ymwybodol o lawer o ddiffygion y Blaid Lafur, ac yn wirioneddol ymroddedig i sicrhau'r canlyniadau gorau i’n pobl ifanc. Yr ail yw, ar ôl 20 mlynedd o reolaeth di-dor, bod Llafur naill ai’n methu neu’n gwrthod gwneud beth sydd ei angen i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant. Nid yw gadael i rywun arall ganfod y problemau ac awgrymu polisïau yn llywodraethu aeddfed. Rheoli diog ydyw, sy'n dangos diffyg brwdfrydedd, diffyg syniadau a diffyg cymhwysedd llwyr. Diolch.

15:45

Diolch, Dirprwy Lywydd, yn benodol, am eich ystyriaeth. A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad? Mae’n gwybod bod ganddo esgidiau mawr i'w llenwi. O ran fy hun, rhaid imi ddweud bod gennyf hyder mawr ynddo i wasanaethu’r Llywodraeth yng Nghymru mor fedrus ag y gwasanaethodd Lywodraeth y DU o'r blaen.

Rwy’n croesawu’r adroddiad gan Sally Holland, y comisiynydd plant, ac yn diolch iddi am y dystiolaeth a roddodd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 18 Hydref. Rwy’n meddwl mai un maes lle mae hi'n haeddu llongyfarchiadau arbennig yw’r ffordd y mae hi wedi arwain y gwaith o ysgogi awdurdodau lleol ynghylch yr agenda pobl ifanc sy'n gadael gofal. Yn benodol, mae’r cynllun bwrsari £1 miliwn, rwy’n meddwl, yn fenter ragorol. Rwy’n meddwl, yn gymharol i gynifer o’r awdurdodau lleol haen uchaf yn Lloegr, bod awdurdod lleol cyfartalog Cymru yn gymharol fach am y llwyth gwaith gwasanaethau cymdeithasol a fydd yn eu hwynebu, ac rwy'n meddwl bod y comisiynydd plant yn faes ychwanegol i gefnogi'r awdurdodau lleol hynny. Mae eu hannog a’u cynghori ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda phobl ifanc, rwy’n meddwl, yn werthfawr. Rwy’n meddwl bod un enghraifft yr ydym wedi’i gweld, yn Nhorfaen—y dreth gyngor a pheidio â gorfod ei thalu os ydych chi wedi gadael gofal yn ddiweddar—rwy'n meddwl bod hynny'n beth gwerthfawr iawn, ac rwy’n gobeithio y bydd awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw.

Un maes yr hoffwn dynnu sylw ato wrth sôn am blant sy'n derbyn gofal yw pan gaiff y plant hyn eu mabwysiadu. Mae gennym, yn y cod derbyniadau ysgol,

'rhaid i bob awdurdod derbyn roi'r flaenoriaeth uchaf yn eu meini prawf gor-alw i blant sy'n derbyn gofal fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009 a phlant sydd wedi derbyn gofal fel sy'n ofynnol gan y Cod hwn.'

Nawr, yn fy mhrofiad i—ac mae hyn gyda phlant pedair a phum mlwydd oed ar hyn o bryd—rwyf wedi edrych ar gryn dipyn o bolisïau derbyn ysgolion, ac yn sicr fy argraff i yw bod y categori hwnnw yn cyfeirio at blant sy'n derbyn gofal ar y brig. Nid wyf, hyd yma, wedi gweld na deall bod hynny hefyd yn berthnasol i blant a oedd yn arfer derbyn gofal, gan gynnwys rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu, ac nid wyf yn gweld y cyfeiriad yn y rheoliadau. Felly, tybed a yw'r comisiynydd plant neu Lywodraeth Cymru—. Os ydym yn dymuno cael y canllawiau hyn ac os ydym eisiau gweld plant a oedd yn arfer derbyn gofal, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi’u mabwysiadu, yn cael y flaenoriaeth hon hefyd, a ellid gwneud mwy i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd? Er enghraifft, gallem ni roi canllawiau sy'n dweud, at ddibenion y cod derbyn, y dylid ystyried bod plant a oedd yn arfer derbyn gofal yn bodloni'r diffiniad o blant sy'n derbyn gofal. Oherwydd, fel arall, rwy’n ofni bod y canllawiau hyn yno, ond nid wyf, fy hun, eto, wedi fy argyhoeddi bod polisïau derbyn ysgolion ar y cyfan yn newid i adlewyrchu hynny.

Rwy’n meddwl mai un maes arall lle efallai y gallai’r comisiynydd plant yn benodol helpu yw drwy ddweud wrth ysgolion, 'Beth yw anghenion penodol plant sydd wedi'u mabwysiadu?' Rwy’n meddwl y gallai fod yn werth tynnu sylw ysgol pan fydd plentyn wedi ei fabwysiadu fel eu bod yn ymwybodol o hynny a bod canllawiau priodol ar waith i’w helpu i gefnogi’r plant hynny sydd, rwy’n meddwl o leiaf mewn rhai amgylchiadau, ag anghenion penodol iawn y mae angen eu cydnabod.

I symud ymlaen at fater Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar, unwaith eto, rwy’n meddwl mai un peth yn arbennig yr hoffwn i ei weld yw cymorth hygyrch a fforddiadwy, ac yn enwedig sicrhau cymorth ag Iaith Arwyddion Prydain ar bob math o wahanol lefel. Rwy’n meddwl bod hynny'n bwysig iawn yng nghyd-destun cartref.

Yn olaf, os caf sôn am ddau faes lle mae’r comisiynydd plant efallai ychydig yn fwy hael â Llywodraeth Cymru na ni ar y meinciau hyn. Un o'r rheini yw cludiant i’r ysgol, ac awdurdodau lleol, ac a oes dryswch ynglŷn ag a ydynt yn ddigon clir ynghylch eu cyfrifoldebau cyfreithiol. Rwy’n meddwl bod angen gwneud mwy ar hynny. Rwyf hefyd yn meddwl, gyda’r cysylltiad â’r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a lle yr ydym—. O ran integreiddio colegau chweched dosbarth, er enghraifft—unwaith eto, i roi enghraifft yn Nhorfaen—rydym yn mynd o dri chweched dosbarth i lawr i un; beth yw goblygiadau hynny i deithio i’r ysgol, ac a yw awdurdodau lleol yn gwneud digon, ac yn cael digon o gymorth gan Lywodraeth genedlaethol Cymru i wneud yr hyn sydd angen ei wneud yn y maes hwn?

Yn olaf, o ran y gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol, mae gan Darren, rwy’n meddwl, lawer mwy o brofiad o weld Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiadau ond nid o reidrwydd yn dilyn drwodd cymaint neu cyn gynted ag y byddem yn ei hoffi yn y maes hwn. Ond mae'n ymddangos i mi, os oes gennym wasanaeth eiriolaeth cenedlaethol, neu os mai dyna yw’r uchelgais, oes, mae rhai enghreifftiau o awdurdodau lleol sydd ag arfer da yn y maes hwn, ac mae hynny i'w groesawu, ond os yw Llywodraeth Cymru yn credu y dylai fod yn wasanaeth eiriolaeth cenedlaethol, dylem yn sicr symud y tu hwnt i hynny. Os na all y Llywodraeth fforddio hynny, neu os nad ydynt yn credu y gall weithio ar lefel genedlaethol, neu os ydynt am adael i awdurdodau lleol wneud fel y maen nhw’n meddwl sydd orau, dylent ddweud hynny, yn hytrach na pharhau i ddweud y bydd gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol heb barhau o reidrwydd i roi hynny ar waith. Diolch.

15:50

Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei swydd newydd a chydnabod ymrwymiad rhagorol Carl Sargeant i’r rôl.

Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i thîm am eu gwaith caled parhaus i sefyll dros hawliau plant a phobl ifanc Cymru. Fel y mae’r comisiynydd wedi’i nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad 'Y Gofal Iawn' ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gyflawni newid dros bobl sydd mewn gofal preswyl yng Nghymru.

Fodd bynnag, dydy’r newid ddim yn digwydd yn ddigon cyflym, yn enwedig i blant a phobl ifanc yn fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Mae darpariaeth cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn arbennig o wael. Ddoe, roedd sôn yn y cyfryngau am ganfyddiadau gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a llesiant newydd sy'n dangos bod nifer uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal tu allan i'r sir dim ond oherwydd nad yw’r llysoedd yn ymddiried yn y gwasanaeth. Mae’r plant hyn, sydd eisoes wedi cael y dechrau gwaethaf posibl mewn bywyd, yn gorfod symud o’r ardal, filltiroedd oddi wrth unrhyw un maen nhw’n ei adnabod.

Nid dyma’r unig dro yn y misoedd diwethaf y mae gwasanaethau i blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael sylw anffafriol gan y wasg. Yn gynharach eleni roedd rhybuddion y gallai plant mewn gofal yn y sir fod mewn perygl o gamfanteisio rhywiol oherwydd bod y cartrefi wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae gweithgarwch troseddol, bygythiadau i ladd a cham-drin plant wedi digwydd. Mae’n ymddangos bod y pryderon hyn wedi peri amheuaeth sylweddol yn y llysoedd fel na allant ymddiried yng ngallu'r gwasanaeth i ofalu am y plant yn eu gofal.

Mae'r comisiynydd plant wedi dangos bod gan gartrefi gofal ran bwysig i'w chwarae o ran darparu'r math iawn o ofal i rai plant a phobl ifanc yng Nghymru. Heriodd hi Lywodraeth Cymru i wella'r system. Mae'n amlwg nad oes digon wedi'i wneud hyd yma. Rwy’n ddiolchgar i'r comisiynydd plant am ei hymrwymiad yn ei hadroddiad blynyddol i barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Dydy cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddim yn diwallu anghenion plant mewn gofal ac rwy’n annog Gweinidog dros Blant newydd i gymryd camau brys. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.

Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n falch iawn o gael ymateb i'r ddadl hon. Dim ond un peth yr wyf yn siŵr ohono eisoes—dydw i ddim yn credu y bydd modd i mi ymateb i bob pwynt a godwyd yn ystod yr amser sydd ar gael, ond fe wnaf fy ngorau.

A gaf i yn gyntaf ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u sylwadau am Carl Sargeant a'r etifeddiaeth y mae'n ei gadael yn y maes hwn? Nodwyd sawl gwaith heddiw—ar draws y portffolio eang o swyddi gweinidogol a ddaliodd mewn uwch swyddi yn y Llywodraeth—yr effaith a gafodd a sut y gwnaeth yrru deddfwriaeth a'r polisïau iawn drwodd â'r pethau iawn wrth wraidd y ddeddfwriaeth a'r polisïau hynny, sef y canlyniadau ar gyfer y bobl a gynrychiolwn, ac yn sicr mae hwn yn un o'r meysydd hynny. Felly, diolch ichi am y sylwadau hynny ac hefyd am fy llongyfarch am ddod i'r swydd hon. Fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, byddaf yn ceisio anrhydeddu ei etifeddiaeth—ac etifeddiaeth y Gweinidogion eraill yn y swydd hon.

Felly, gadewch imi geisio ymdrin â rhai o'r materion a godwyd. Os nad ydw i'n llwyddo i'w trafod nhw i gyd, byddwn yn hapus i ysgrifennu yn fanwl at Aelodau sydd wedi codi materion unigol hefyd. Gadewch imi ymdrin yn gyntaf â mater eiriolaeth, a godwyd gan nifer o bobl, gan gynnwys Darren. Yn adroddiad y Comisiynydd Plant, maent yn codi'r mater o eiriolaeth, wrth gwrs. Gadewch imi ddweud, er nad yw'r dull eirioli cenedlaethol yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, rydym yn wir gefnogi ei weithrediad ac yn cadw llygad ar sut y gwneir hyn.

Mae gennym ymrwymiad cyllid o hyd at £550,000 ar gyfer grwpiau cydweithredol rhanbarthol y gwasanaethau cymdeithasol, i gyflwyno'r cynnig eiriolaeth gweithredol llawn ac i gefnogi'r dull o weithio. Ond nid yw'n ddigon i wneud hynny, mae'n rhaid inni fonitro sut y mae'n digwydd. Felly, byddwn yn monitro'r defnydd o'r arian grant hwn ar sail chwarterol ac rydym eisoes yn ymrwymedig i adolygu'r ffordd y caiff ei weithredu ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf—felly 2018-19—ac rydym hefyd yn edrych ar werthuso tymor hwy dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf o weithredu. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod hyn yn gweithio fel eiriolaeth weithredol.

Mae nifer o bobl, yn cynnwys Darren, wedi sôn am y mater o drafnidiaeth a chymorthdaliadau trafnidiaeth. Ni allaf ymateb yn uniongyrchol i'r cynnig penodol gan y Ceidwadwyr ar gerdyn gwyrdd, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi, Darren, yw hyn: ar docynnau teithio rhatach ieuenctid, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar deithio bws am bris gostyngol i bobl ifanc. Nod yr ymarfer yw casglu barn pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym yn awyddus iawn i archwilio'r archwaeth i ymestyn yr ystod o deithio gostyngol i bobl ifanc hyd at 24 mlwydd oed. Ac yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, sy'n mynd rhagddo, bydd cynllun newydd ar gyfer pobl ifanc, gobeithio, yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2018—un sy'n adlewyrchu orau anghenion a dewisiadau ein pobl ifanc ac sy'n helpu ymhellach i hybu'r dewis o deithio ar fysiau. Unwaith eto, elfen sy'n allweddol i bob un o'r meysydd hyn yw gwrando ar blant a phobl ifanc wrth ddatblygu'r cynigion hynny.

Os caf i droi at y mater o ddyletswydd gofal ac ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, yn enwedig o fewn y Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwyddo—fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, yn ystod cyfnod 2 y Bil—ac rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod ar y dde yma hefyd, o ran ei bod yn gadeirydd pwyllgor—roedd y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi ymrwymo i ystyried a ellir ychwanegu cyfeiriad uniongyrchol at y CCUHP a Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl ag anableddau i'r gwelliant i'r Bil yng Nghyfnod 3, ac mae gwaith yn wir ar y gweill i ystyried hyn ac i weld beth y gellir ei gyflwyno. Bydd hi'n ychydig wythnosau diddorol i'r Pwyllgor nawr wrth iddynt edrych ar y mater hwn.

Cododd Llyr amrywiaeth o faterion, nid yn lleiaf oedd y sgoriau RAG. Byddwn yn dweud nad ydym bob amser yn mynd i fod mewn harmoni a chytundeb llwyr â phopeth y mae'r comisiynydd plant yn ei gyflwyno dan ei system goleuadau traffig o fewn y sgoriau RAG . Mae ganddi ddiben i'w gyflawni yno, ac mae'n bwysig herio a dwyn y Llywodraeth i gyfrif a gwthio i gyfeiriadau penodol. Ni fyddwn bob amser yn cytuno.

Rydym wedi sylwi bod y Comisiynydd wedi cynnwys sgoriau RAG yn yr adroddiad, yn dadansoddi ein hymatebion i argymhellion a wnaed y llynedd. Mae'n bwysig dweud fy mod yn fodlon, fel Gweinidog, ein bod ni wedi ymateb yn unol â'r hyn y teimlwn sy'n briodol i argymhellion y llynedd. Ond gadewch i mi ddweud hefyd: yn y dyfodol, rydym yn parhau i weithio i wella canlyniadau a amlygwyd yn yr adroddiad ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac mae'n ymwneud â gweithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni'r blaenoriaethau hynny, fel rwyf wedi nodi yn 'Ffyniant i Bawb'.

Mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw Lywodraeth byth yn cytuno i bob argymhelliad y bydd y Comisiynydd yn ei wneud. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau i ni eu hystyried, ond rydym, fodd bynnag, yn ymgysylltu, rydym yn gwrando, rydym yn ymateb, rydym yn dadlau, rydym yn trafod, rydym yn cyfarfod â'r comisiynydd plant ac rydym yn gwneud newidiadau lle y bo'n briodol yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth gref. Ac, wrth gwrs, mae'r sgoriau RAG yn seiliedig ar ganfyddiad y Comisiynydd o'r materion. Er enghraifft, nid yw dim ond tynnu sylw at y sgôr coch yn erbyn yr argymhelliad ar gyfer cynllun cyflawni tlodi plant penodol yn ystyried yr ymateb yr ydym eisoes wedi ei roi i'r Comisiynydd. Rydym wedi dweud eisoes yn amlwg nad ydym yn credu bod angen cynllun ar wahân; mae'n beth trawsbynciol ar draws y Llywodraeth a fydd yn dod i rai o'r meysydd polisi sy'n helpu yn hynny o beth. Felly, o'r herwydd, rydym yn credu nad oes fawr o bwrpas cymhwyso'r sgôr coch yn hynny, ond byddwn yn dal i drafod.

Os caf i droi at fater a godwyd gan nifer o Aelodau, sydd yn ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref—diweddariad byr yma: mae swyddogion i mi wedi cyfarfod â rhieni sy'n addysgu yn y cartref i gasglu eu barn ar y canllawiau diwygiedig, a lle y maent yn credu hefyd fod angen mwy o eglurder a chefnogaeth ar faterion fel deddfwriaeth a hyfforddiant ac ati, a bydd fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu ag aelodau'r gymuned addysgu yn y cartref. Rydym bellach yn edrych ar sut y mae deddfwriaeth bresennol yn cael ei defnyddio, a rhwystrau a allai fod yn atal rhai awdurdodau lleol rhag ei defnyddio. Ac rydym hefyd yn edrych ar batrymau o ran addysg ddewisol yn y cartref sy'n cynnwys datblygu gwell dealltwriaeth o pam y mae teuluoedd yn penderfynu addysgu yn y cartref. Ac yn olaf ar y pwynt hwn, bydd Aelodau yn ymwybodol bod y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol wedi comisiynu Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o'r risgiau i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Nawr, pan fydd yr adroddiad hwnnw ar gael, byddwn yn ei ystyried a'i argymhellion.

Os caf i droi at y materion a godwyd gan nifer o aelodau o gwmpas tlodi—ac mae'n rhaid imi ddweud, mae hwn yn fater trawsbynciol i'r Llywodraeth, ac nid yw o fewn un seilo—a dim ond i dynnu sylw at rai meysydd, ond mae llawer y gallwn dynnu sylw atynt—pethau fel mynd i'r afael â newyn gwyliau, sydd yn flaenllaw iawn ym meddyliau pobl ers y gwyliau diwethaf. Cafodd hynny, er enghraifft, ei nodi yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth tlodi plant 2015 Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, gan gydnabod yr angen i ddefnyddio'r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael i gynorthwyo aelwydydd incwm isel yn awr. Felly, darparwyd swm pellach o £500,000 i gefnogi clybiau hwyl a bwyd gwyliau haf ysgol yr haf diwethaf, a chafodd yr arian ei gynnig i gynghorau yn rhannau mwyaf amddifad Cymru i helpu i ddarparu prydau a cynlluniau chwarae dros yr egwyl hir. Ond mae hefyd yn fater o dlodi tanwydd a beth a wnawn â Nyth a beth rydym yn ei wneud gydag Arbed, mae'n ymwneud â sut y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gwneud y defnydd gorau o bethau fel grantiau gwisg ysgol ac ati ac ati. Mae'n effaith gronnus ar draws y Llywodraeth gyfan.

Os caf i droi at y materion yn, fwy na thebyg, y munud neu fwy sy'n weddill, cododd Hefin y mater o p'un a fyddem yn parhau i gael deialog gyda'r comisiynydd plant ar faterion fel gofal plant cyffredinol, hyblygrwydd Dechrau'n Deg, ACEs ac ati—hollol gywir wrth ddweud nad yw ACEs yn holl hanfod a diben popeth, rhyw fath o ddull dadansoddol digyfaddawd, amrwd: mae angen iddynt gael eu defnyddio i helpu i wneud diagnosis o'r lle gorau i wneud yr ymyriadau cynnar, a fydd yn mynnu'r canlyniadau yr ydym am eu gweld ar gyfer plant a phobl ifanc. Os cânt eu cymhwyso mewn ffordd amrwd iawn, a bod yn onest, maent yn dda i ddim. Felly, mae angen iddynt gael eu defnyddio i gynorthwyo'r hyn a wnawn o ran ymyriadau cynnar, nid fel holl hanfod a diben popeth. Ond maent yn ddadansoddiad defnyddiol, rhaid imi ddweud, o'r lle gorau i ni efallai roi rhai o'n hymyriadau cynnar ar waith. 

Soniodd am y mater o Dechrau'n Deg a hyblygrwydd a godwyd gan y comisiynydd plant ac eraill. Yn ddiddorol, yn fy ardal i o Ben-y-bont ar Ogwr lle mae Dechrau'n Deg wedi bod dipyn o lwyddiant—ac mae wedi llwyddo mewn llawer o ardaloedd—un o'r pethau yr wyf yn ymwybodol ohono yw bod rhywfaint o hyblygrwydd o fewn y cynllun, ond mae angen gallu lleol gan y rheiny sy'n darparu Dechrau'n Deg i ganiatáu rhywfaint o ryddid o fewn darpariaeth Dechrau'n Deg, ac felly pan fod ganddynt y rhyddid mewn gwirionedd, gallant ei ymestyn y tu hwnt i ffiniau daearyddol i ardaloedd eraill hefyd, ac rydym angen edrych ar sut y gallwn ni wneud mwy.

Dirprwy Lywydd, rwy'n edrych ar yr amser a chredaf fod gen i ryw 30 eiliad yn weddill fwy neu lai. [Anghlywadwy.] Iawn, gaf i ond diolch i gydweithwyr am waith manwl iawn—? Rydych mwy na thebyg wedi cwmpasu pob maes o adroddiad y Comisiynydd Plant. Gadewch imi orffen drwy ddweud: mae angen i ni sicrhau yn hyn i gyd ein bod yn gwrando ar ac yn ystyried barn plant a phobl ifanc am y materion sydd o bwys wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt. A gwn fy mod i, a'm cyd-Aelodau Cabinet a Gweinidogol ar draws y Cabinet yn croesawu'r cyfle i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, i glywed y safbwyntiau a fynegwyd heddiw ac ystyried y syniadau hyn.

Nawr, gwn fod y Cynulliad hwn hefyd yn gwerthfawrogi cyfranogiad pobl ifanc. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu Senedd Ieuenctid, a grybwyllir yn adroddiad y Comisiynydd Plant, a bydd cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar 1 Ebrill yn dwysau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant. Rhaid i ni, a holl gyrff cyhoeddus eraill, ddangos ein bod wedi ystyried effeithiau penderfyniadau ar fywyd yn y dyfodol yn ogystal ag yn y genhedlaeth hon. Felly, wrth symud ymlaen, rydym yn parhau i weithio i wella canlyniadau ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan weithio ar draws y Llywodraeth i gyflawni ein blaenoriaethau a nodir yn 'Ffyniant i Bawb'. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:05

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes? Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8 ar agenda y prynhawn yma, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Rwy'n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.

Cynnig NDM6560 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud faint o bleser yw hi i arwain y ddadl hon ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg? Dyma'r cyfle cyntaf i mi siarad yn gyhoeddus yn y Siambr yma fel Gweinidog, ac mae'n rhaid imi ddweud faint o fraint yw hi i fod yn gyfrifol am bolisi'r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

Beth sy'n ganolog i bopeth yr ŷm ni'n ei wneud tuag at y Gymraeg yw ein nod ni o gyrraedd yr 1 filiwn o siaradwyr yna erbyn 2050. Fel gwnaeth y Gweinidog blaenorol, Alun Davies, osod yr her yna, rwyf eisiau ei gwneud hi'n glir fy mod i hefyd yn ymrwymo'n llwyr i'r strategaeth newydd a'r targed yna o 1 filiwn o siaradwyr. Mae'n nod uchelgeisiol tu hwnt, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn dod â ffocws arno ac y bydd popeth yn dilyn o'r nod yna.

Mae yna ddau beth yn dilyn o'r strategaeth yna: y cynnydd yna o gael 1 filiwn o siaradwyr a hefyd cynyddu'r canran o bobl sydd actually yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol. Ar hyn o bryd, er bod tua 20 y cant yn gallu siarad Cymraeg, dim ond tua 10 y cant sydd actually yn ei defnyddio hi. Rwyf newydd ddod yn ôl o Weriniaeth Iwerddon, ac mae nifer weddol uchel o bobl sy'n gallu siarad Gwyddeleg, ond ychydig iawn sydd actually yn defnyddio'r iaith, felly mae hynny'n bwysig hefyd.

Un peth sy'n glir i fi yw ei bod hi'n amser hynod gyffrous i'r Gymraeg. Mae yna ewyllys da, rwy'n meddwl, ymysg y cyhoedd, ac rwyf eisiau sicrhau ein bod ni'n cymryd mantais o hynny.

Mae unrhyw strategaeth dda yn dibynnu ar gyfuniad o bethau. Yn achos y Gymraeg, mae hynny'n cynnwys creu siaradwyr, cynyddu defnydd o'r iaith ac adeiladu'r seilwaith. Wrth gwrs, rhan o hyn yw rheoleiddio. Felly, rwy'n diolch yn fawr i'r comisiynydd am ei hadroddiad blynyddol, sy'n nodi'r gwaith sydd wedi'i wneud o dan ei phum blaenoriaeth strategol.

Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio'r gwaith y mae hi wedi'i wneud yn ystod 2016-17 o ran rheoleiddio'r Gymraeg. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, mae'r comisiynydd hefyd wedi rhoi tystiolaeth i nifer o bwyllgorau yn y Cynulliad, mae hi wedi ymateb i ymgynghoriadau yma, mae hi wedi cyfarfod â llu o Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a gwleidyddion eraill, ac mae hi wedi sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried pan rŷm ni'n llunio polisïau. Mae'r comisiynydd hefyd wedi ymateb i gwynion gan y cyhoedd ac wedi gosod dyletswyddau statudol ar wahanol gyrff.

Mae'r comisiynydd hefyd wedi comisiynu ymchwil am y Gymraeg ym meysydd gofal plant, anghenion dysgu ychwanegol ac agweddau cwsmeriaid at y defnydd o'r Gymraeg gan archfarchnadoedd. O ddiddordeb hefyd, rwy'n meddwl, yw adroddiad sicrwydd y comisiynydd, sy'n ymdrin â phrofiadau siaradwyr Cymraeg, ac mae hyn yn rhan o lwyddiant y gyfundrefn safonau, ac i ba raddau y mae sefydliadau cyhoeddus yn helpu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.

Dyna'n fras beth sydd yn yr adroddiad. Cyn i mi droi at rai o'r gwelliannau, rwyf eisiau jest ei gwneud hi'n glir fy mod i'n awyddus iawn ar y dechrau i sicrhau fy mod i'n dod at y drafodaeth yma ar sut ddylwn ni symud ymlaen â strategaeth y Gymraeg gyda meddwl agored. Dim ond wythnos yr wyf i wedi bod yn y swydd, ac ni fyddwn eisiau cloi fy hunan na Llywodraeth Cymru heddiw i mewn i unrhyw beth fyddai'n cau'r drafodaeth yna i lawr, felly rwyf eisiau jest gwneud hynny'n glir.

Wrth droi at y gwelliant cyntaf, yn enw Rhun ap Iorwerth, ynglŷn â defnydd o'r Gymraeg o dan y safonau, rwyf yn meddwl bod angen pwysleisio bod gwahaniaeth rhwng nifer y gwasanaethau a gynigir gan sefydliadau ar yr un llaw a defnydd pobl o'r gwasanaethau hynny ar y llaw arall, ac rwy'n siŵr ein bod ni gyd efallai ddim yn manteisio digon ar y gwasanaethau sydd ar gael. Mae'n amlwg o adroddiad sicrwydd y comisiynydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref, sy'n wahanol i'r un yma, fod cynnydd yn yr hyn sydd yn cael ei gynnig, ond ar hyn o bryd nid yw'r dystiolaeth o safbwynt defnydd pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn yn glir iawn. Felly, mae angen inni gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau Cymraeg y mae'r safonau yn eu gwarantu. Er hynny, am fod adroddiad sicrwydd y comisiynydd yn awgrymu cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg gan sefydliadau, rwyf yn mynd i annog Aelodau i bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.

Mae amcangyfrif y comisiynydd ar gyfer y flwyddyn nesaf yn awgrymu y bydd angen rhagor o arian er mwyn cynnal ei chronfeydd wrth gefn ac, wrth gwrs, byddwn yn cymryd hynny i mewn i ystyriaeth. Ond mae'n rhaid inni hefyd gofio ein bod ni mewn cyfnod anodd yn ariannol ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ddygymod gyda'r arian sydd ar gael. Ond rwyf yn fodlon cydnabod bod yn bendant angen cyllideb ddigonol arni i gynnal y system reoleiddio o dan y safonau.

A gaf i droi yn gyflym at y Papur Gwyn? Rwy'n ymwybodol bod pethau mawr iawn ar fy mhlât i: cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, y blynyddoedd cynnar a gwella'r dechnoleg sydd ar gael yn y Gymraeg. Rwyf hefyd, wrth gwrs, wrthi yn trafod y Bil newydd ac mae'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn newydd ddod i ben. Yn y fan hon, hoffwn i ymateb i'r ail welliant gan Rhun ap Iorwerth sydd yn galw am ailystyried diddymu rôl y comisiynydd, sydd yn un o'r cynigion yn y Papur Gwyn. Mae'r sgwrs gyhoeddus am y Papur Gwyn wedi bod yn un fywiog dros ben, ac a gaf i ddweud yn gyntaf fod swyddogion wedi derbyn dros 250 o ymatebion? Mae yna lawer iawn o bethau nawr i'w hystyried. Nod y Papur Gwyn yw ceisio sicrhau strwythurau cywir i gefnogi'r strategaeth, ac yn arbennig i roi arweiniad ar hybu a hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi cyrff i wella'u darpariaeth. Rwy'n gobeithio ac rwyf eisiau amser i bwyso a mesur yr ymatebion hynny, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad wedyn ar ôl pwyso a mesur yr ymatebion hynny. Felly, rwy'n annog pobl i wrthod yr ail welliant oherwydd ei fod yn tanseilio pwynt yr ymgynghoriad, ac mae angen mwy o amser arnaf i i bwyso a mesur yr ymatebion i'r Papur Gwyn.

Rwy'n siŵr y bydd cyfle gyda ni ar sawl achlysur yn y dyfodol i drafod y Bil a'r strategaeth newydd, ond heddiw rwy'n gobeithio bydd Aelodau yn canolbwyntio ar waith y comisiynydd a'r adroddiad mae hi wedi ei roi yn ei hadroddiad blynyddol.     

16:10

Diolch. Rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Siân.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle gynigir dewis Iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Lywydd, a hoffwn i longyfarch Eluned Morgan ar gael ei dewis i rôl Gweinidog y Gymraeg, a diolch i Alun Davies am ei waith. 

Mi hoffwn gyflwyno gwelliannau 1 a 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, ac rwyf yn nodi bod y Llywodraeth o blaid gwelliant 1 ond yn erbyn gwelliant 2. Mae'n gwelliannau ni i'r ddadl yma heddiw yn pwysleisio pwysigrwydd rôl Comisiynydd y Gymraeg a sut mae'r rôl honno wedi sicrhau datblygiadau cadarnhaol yn y defnydd o'r Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a hynny ar ôl ond blwyddyn o'u gweithredu. Mae'r adroddiad yn cymharu ystadegau blwyddyn gyflawn o dan y gyfundrefn safonau a'r flwyddyn cyn iddyn nhw ddod i rym. Er enghraifft, mae 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o'r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella, ac mae 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg. 

Nid fy ngwaith i ydy amddiffyn gwaith y comisiynydd, ond ni ellir gwadu'r dystiolaeth gadarn sy'n cael ei chyflwyno yn yr adroddiad. Mae'r ystadegau yn dangos pa mor effeithiol ydy rôl Comisiynydd y Gymraeg chwe blynedd ers sefydlu swyddfa'r comisiynydd. Felly, mae gen i bryder—ac mae'r pryderon yn cael eu rhannu gan nifer o arbenigwyr ieithyddol—fod gwneud unrhyw newidiadau strwythurol o'r math sy'n cael eu cynnig ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg yn mynd i ddad-wneud nifer o'r datblygiadau cadarnhaol sydd wedi digwydd hyd yma.

Mi wnes i amlinellu mewn dadl ar Bapur Gwyn y Llywodraeth ychydig fisoedd yn ôl nifer o resymau pam fod cynigion y Llywodraeth am Fil y Gymraeg yn gwanhau ein hawliau sylfaenol ni fel siaradwyr Cymraeg. Brynhawn yma, rwyf am ganolbwyntio ar y syniad o ddiddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn llythyr cyfrinachol gan asiantaeth rhyngwladol y comisiynwyr iaith sydd wedi dod i law, mae'r asiantaeth yn dweud yn glir nad oes gwell ffordd i ddal unrhyw Lywodraeth i gyfrif na thrwy un comisiynydd iaith annibynnol. Maen nhw'n mynd ymlaen i ddweud eu bod nhw wedi dod i'r casgliad hwn oherwydd eu profiadau helaeth yn y maes. Yn y llythyr, maen nhw'n dadlau bod y comisiynydd iaith yn chwarae rhan bwysig wrth reoleiddio'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg ac mae diddymu'r rôl am fod yn niweidiol i'r cynnydd cadarnhaol a gyflawnwyd hyd yma. Fe gafodd y llythyr yma ei arwyddo gan 10 o gomisiynwyr iaith ledled y byd.

Os mai bwriad y Llywodraeth yw cryfhau hawliau sylfaenol siaradwyr y Gymraeg, yn ogystal â gwireddu'r targed o gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2050—ac rwy'n croesawu'ch ymrwymiad chi i barhau efo'r nod yna—os mai dyna ydy eich dymuniad chi, yna symleiddio'r broses a symud ymlaen a chyflwyno mwy o safonau sydd ei angen, yn hytrach na gwneud newidiadau strwythurol. Mae angen symud ar frys efo'r gwaith o gyflwyno safonau ar gyfer sectorau eraill. Rwy'n deall eich bod chi ar fin cyflwyno safonau ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd. Mae adroddiadau ar safonau'r cymdeithasau tai ar ddesg eich rhagflaenydd chi ers dwy flynedd, y cwmnïau dŵr ers bron i ddwy flynedd, y bysiau a'r trenau a'r rheilffyrdd ers bron i flwyddyn. Felly, rwyf yn mawr obeithio y byddwch chi, fel y Gweinidog newydd dros y Gymraeg, yn ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg ac yn symud ymlaen yn hytrach, i sicrhau ac ehangu ar hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg ledled Cymru.

16:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i hefyd ddechrau gan groesawu'r Gweinidog i'w rôl newydd a dymuno'n dda? Efallai y gall hi ddechrau gan esbonio pam neu sut mae pleidleisio yn erbyn gwelliant 2 yn gydnaws â meddwl agored. A gaf i ddiolch i'r comisiynydd hefyd am ei hadroddiad? Syniad da yw dechrau gyda chyfrifiad 2011, am gomisiynydd sy'n ymladd am fodolaeth ei rôl, achos mae'n bownd o ddangos bod ei gwaith wedi gwella ers hynny. Fy mhrif argraff o'r adroddiad hwn yw bod y comisiynydd wedi bod braidd yn swil wrth hawlio credyd am lawer o'r llwyddiant ers 2011. Mae mewnbynnau ac allbynnau yn iawn, ond dyma un adroddiad lle'r oedd angen i'r comisiynydd frolio ei hun ar fater y canlyniadau.

Mae cyllideb y comisiynydd wedi lleihau dros y blynyddoedd ac mae arbedion wedi eu gwneud, ac mae hyn wedi mynd law yn llaw a lleihad rôl hyrwyddo'r comisiynydd. P'un a fydd swyddfa'r comisiynydd yn parhau ar ei ffurf bresennol neu'n cael ei diwygio, neu unrhyw gorff newydd yn cael ei greu, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wynebu dwy her annisgwyl. Yn gyntaf, o ran safonau, mae'n debygol iawn y bydd cyflwyno safonau ar gyfer gwasanaethau iechyd, yn y pen draw rhywbryd, yn arwain at fwy o doriadau a chwynion, ochr yn ochr â mwy o waith hwyluso a gorfodi. Yn ail, bydd angen i waith hyrwyddo, yn enwedig i annog defnydd cymunedol, fod yn ddi-ildio ac yn barhaus am gyfnod amhenodol.

Bydd y rhain yn costio. Bydd yn costio mwy yn y blynyddoedd i ddod, felly mae'n rhaid i'r gwaith hyd yn hyn ddangos gwerth am arian er mwyn ymladd am gyllideb fwy ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac i sicrhau bod yr 85 y cant sy'n teimlo’n falch o'r iaith yn parhau i deimlo fel hynny.

Mae'n glir o'r adroddiad bod llawer o ymdrech wedi mynd i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru eleni. Mae rhywfaint o gyfeiriad at effaith y gwaith hwnnw, ond dim llawer, yn yr adroddiad. Efallai bod y comisiynydd wedi colli cyfle i dynnu sylw at eu llwyddiannau ac i sôn, efallai, am fewnbynnau cynharach sydd wedi dechrau dangos canlyniadau nawr. Nid yw’r adroddiad hwn yn le i fod yn wylaidd wrth ddangos dylanwad ar bolisi’r Llywodraeth.

O ran sicrhau cyfiawnder i siaradwyr Cymraeg, mae’n anodd gweld, yn yr adroddiad hwn anyway, lefel ddifrifoldeb pob cwyn neu fethiant tybiedig. A allai’r Gweinidog egluro, efallai, a fydd gennym y wybodaeth honno maes o law, i’n helpu ni i asesu dadleuon dros ac yn erbyn cyffyrddiad cryfach i rai mathau o safon. Mae hwn yn dod lan yn y Papur Gwyn. Mae’n ddiddorol bod mwy o bryderon anstatudol yn codi na chwynion am safonau neu gynlluniau. A ydy hyn yn awgrymu bod hwyluso a gorfodi’n gweithio? Os felly, pam aros am yr adroddiad sicrwydd nesaf? Hawliwch y llwyddiant nawr.

Gan fynd yn ôl at y brif nod yn ôl y comisiynydd ei hun, sef hyrwyddo, mae’r adroddiad yn rhoi tipyn o wybodaeth am sut mae’r comisiwn wedi bod yn gweithio gyda chyrff chwaraeon, banciau a’r trydydd sector. Mae hynny’n ddiddorol ac yn galonogol. Gyda mwy o adnoddau, rwy’n siŵr y gellid gwneud mwy i ddod â rhagor o sectorau ar hyd y llwybr i ddwyieithrwydd, heb ffocysu mor gul ar safonau. Ond eto, byddwn wedi hoffi clywed mwy am ganlyniadau effeithiolrwydd y gwaith na dim ond mewnbwn ac allbwn.

Mewn cyllideb dynn ac amcangyfrifedig iawn, fel arall, dau sylw: nid wyf yn siŵr pam fod llinell costau’r rhaglen mor isel pan oedd y canlyniadau eleni ac—[Anghlywadwy.]—y llynedd yn uwch. Mae’n drueni na ellid dyrannu mwy i gyfathrebu, yn enwedig y strategaeth gyfryngau cymdeithasol. Mae’n eironig, onid yw ef, nod cenedlaethol yw gwella gallu'r genedl i gyfathrebu mewn dwy iaith, ond nid oes digon o arian ar gael i’r comisiynydd i wneud llawer ohoni ei hun. Hoffwn weld y comisiynydd yn cymryd rôl weladwy gryfach wrth ymgysylltu â siaradwyr di-Gymraeg eu hiaith yn ei rôl hyrwyddo. Mae angen inni droi rhywfaint o’r balchder a’r gwerth yn yr iaith honno yn ymgysylltu â’r iaith.

Yn y strategaeth i greu 1 miliwn o siaradwyr, rhaid meddwl am oedolion heddiw, nid yn unig y plant ac nid yn unig drwy ddarparu dosbarthiadau neu wersi i oedolion, ond darparu rôl iddyn nhw i hyrwyddo’r iaith eu hunain. Gall siaradwyr di-Gymraeg eirioli dros amgylchedd dwyieithog gwell, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ddwyieithog eu hunain, yn gofyn am fwy o arwyddion a thechnoleg ddwyieithog mewn trenau, siopau a banciau, ac mae hynny’n ffordd o ddangos eu balchder a’r gwerth, ac efallai y byddant yn dod â thystiolaeth newydd i’r ddadl ar y ffordd orau i arsylwi hawliau Cymraeg yn y sector preifat yn fwy cyffredin.

16:20

A gaf i hefyd groesawu’r Gweinidog newydd i’w swydd, a hefyd ei llongyfarch hi am ddweud bod ganddi hi feddwl agored? Mae hynny wedi’i nodweddu hi a’i hagwedd at wleidyddiaeth yn gyffredinol, y ffaith ei bod hi yn ymestyn mas i bobl. Ac, mae mawr angen hynny, rwy’n credu, wrth nawr drafod ble rydym ni’n mynd o fan hyn gyda’r Papur Gwyn. Oherwydd mae’r drafodaeth ynglŷn â’r adroddiad blynyddol, wrth gwrs, wrth reswm, ar y comisiynydd Cymraeg, o dan gysgod polisi, fel y mae’n sefyll ar hyn o bryd yn y Papur Gwyn, sydd yn sôn am ddiddymu’r comisiynydd. Ac, fel rydym ni wedi clywed eisoes, yn gynharach heddiw, gan arweinydd Plaid Cymru, y consensws barn yng Nghymru—ac fel yr oeddem yn clywed gan Siân Gwenllian, mae’n cael ei adlewyrchu y tu fas i Gymru—yw y byddai hynny’n gam gwag, a dweud y gwir, ac yn chwalu consensws iaith sydd wedi cael ei adeiladu yn ofalus iawn dros y ddegawd ddiwethaf. Os felly, byddwn i yn ymbil i’r Gweinidog nawr i feddwl eto ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

Roedd e’n ddiddorol i weld y 10 comisiynydd iaith ar draws y byd yn dod at ei gilydd yn teimlo mor angerddol ynglŷn â hyn, a dweud y gwir, achos mae rhai ohonyn nhw yn edmygu’r cynnydd sydd wedi bod yng Nghymru gyda pholisi iaith yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn ofni, a dweud y gwir, fod yna gamsyniad yn y fan hyn. Comisiynwyr o Ganada, i Gatalonia, Gwlad y Basg i Fflandrys ac yn y blaen yn dweud bod yn rhaid amddiffyn yr egwyddor sylfaenol yma o annibyniaeth y comisiynydd, ac mai comisiynydd annibynnol yn unigol ydy’r model sydd yn gweithio orau ar draws y byd. Maen nhw’n sôn am brofiad yng Nghanada yn y 1970au, er enghraifft, lle'r oedd y ffaith roedd y comisiynydd yn hollol annibynnol o'r broses wleidyddol ac o'r Llywodraeth yn ffordd o amddiffyn hawliau iaith yn y cyd-destun hwnnw.

Roeddwn i'n ceisio deall, a dweud y gwir, beth oedd yn gyrru'r awgrym hurt, o'm rhan i, o gael gwared ar strwythur sydd yn dechrau delifro, fel ydym ni wedi clywed sôn, trwy'r adroddiad sicrwydd, yn barod. Beth oedd yn ei yrru fe? Rhyw gyfeiriad—hynny yw, dim lot o sylfaen dystiolaethol o gwbl, a dweud y gwir—at ddiffygion o ran llywodraethiant. Ond, os ŷm ni'n edrych ar dudalen 108 ymlaen yn yr adroddiad blynyddol, rydym ni'n gweld mae yna lywodraethiant cadarn yna, a dweud y gwir—yr angen am gynllun strategol ac adolygu perfformiad, dirprwy gomisiynydd yno hefyd, tîm rheoli, pwyllgor archwilio risg ac archwilio allanol ac yn y blaen. Felly, i'm tyb i, mae yna lywodraethiant eithaf cadarn yno.

Nawr, nid yw hynny'n meddwl ein bod ni'n bodloni ar y sefyllfa sydd ohoni. Mae yna le ar gyfer cynnydd yn sicr, ond ni fuaswn i'n dweud mai'r comisiynydd, efallai, sydd ar fai am hynny. Er enghraifft, ar dudalen 58, mae yna sôn am y sector preifat. Mae'n nodi bod, er enghraifft, gyda'r cwmnïau dŵr a charthffosiaeth, y comisiynydd wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad hwn. O ran y sector bysus a threnau—roedd yna sôn amdanyn nhw yn gynharach heddiw, wrth gwrs—fe gyhoeddodd y comisiynydd yr adroddiad safonau ar 1 Gorffennaf y llynedd. Hynny yw, ar y Llywodraeth mae'r bai bod yna ddim cynnydd wedi bod i'r cyfeiriad yma. Pan ydym ni'n edrych ar y sectorau nwy a thrydan a'r cyfleustodau cysylltiedig, fe gyhoeddwyd yr adroddiad safonau gan y comisiynydd ar 24 Chwefror 2017, ac mae wedi bod ar ddesg y Gweinidog blaenorol. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ddweud a ydym ni'n gallu symud rhagddi nawr i gael ymateb y Llywodraeth i'r safonau yma?

Mae yna gyfeiriad hefyd ar dudalen 50 yn yr adroddiad blynyddol i'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg o dan adran 111 y Mesur, ac mae'n nodi, ers sefydlu'r comisiwn, nad oedd 14 cais o'r 18 o geisiadau perthnasol o dan y Mesur yma yn cyd-fynd â diffiniad yr adran. Felly, ers sefydlu'r comisiynydd, dim ond ymchwiliad mewn i ddau achos sydd wedi bod i mewn i'r gallu sylfaenol i ddefnyddio ein iaith ein hunain yn ein gwlad ein hunain. Felly, mae yna le ar gyfer cynnydd. Mae yna le, yn y Mesur newydd, i roi hawl sylfaenol i bobl siarad Cymraeg. Ar hynny y dylai Llywodraeth Cymru ffocysu, nid cael gwared ar gorff sydd, yn ôl y dystiolaeth sydd gyda ni, yn llwyddo yn arbennig o dda o dan y fframwaith sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

16:25

Hoffwn ddechrau hefyd drwy longyfarch fy nghyd-Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wrth iddi ddechrau ar ei swyddogaeth newydd. Mae ganddi, wrth gwrs, fwlch mawr i'w lenwi, oherwydd roedd ei rhagflaenydd yn sicr yn ŵr o bwys yn Llywodraeth Cymru ac yng ngwleidyddiaeth Cymru, a gobeithiaf nad wyf yn ei dychryn hi ormod drwy ddweud fy mod yn edrych ymlaen at ei chefnogi â'r un brwdfrydedd ag y cefnogais ei rhagflaenydd, oherwydd roeddwn yn edmygu'n fawr y ffordd y cyflawnodd ei swyddogaethau fel Gweinidog y Gymraeg. Felly, dymunaf yn dda iddi yn ei swydd, ac yr wyf yn siŵr y bydd hi mor llwyddiannus ag yr oedd yntau. Rwy'n sylwi hefyd bod y Llywodraeth gryn dipyn yn fwy anrhydeddus ers yr ad-drefnu, gan fod 15 y cant o'n Gweinidogion bellach hefyd yn aelodau yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac rwy'n credu bod hyn yn gynnydd o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd yn croesawu Dafydd Elis-Thomas i'w swyddogaeth. Edrychaf ymlaen at weld mwy o Arglwyddi'n cael eu penodi maes o law, ond er mwyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid inni weld mwy o Aelodau Cynulliad yn cael eu hurddo'n Arglwyddi, ond dyna ni.

Beth bynnag, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, a chredaf y bu Meri Huws yn gomisiynydd iaith llwyddiannus, fel y clywsom ni. Y rheswm pam yr oeddwn i mor frwd fy nghefnogaeth i Alun Davies oedd oherwydd ei fod wedi rhoi llawer mwy o bwyslais ar gymell na chosbi er mwyn cyflawni'r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu i Meri Huws, pan oedd hi'n rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Gymraeg, i'r Pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg, ychydig wythnosau yn ôl, ddangos hefyd faint o hyblygrwydd sydd ei angen os ydym ni'n mynd i gyflawni'r amcan hwn. Pan ofynnais iddi 'Beth fyddech chi wedi'i wneud yn wahanol yn y pum mlynedd diwethaf pe byddech chi'n gwybod bryd hynny yr hyn a wyddoch chi'n awr?', ac fe ddywedodd hi

'fod y ffordd rŷm ni’n gweithio gyda sefydliadau sydd yn dod o dan y gyfundrefn safonau wedi newid.'

Yn gyntaf oll, fe wnaethon nhw osod safonau, a oedd yn

'lot mwy ffurfiol—hyd braich—oddi wrth sefydliad, efallai’n trafod llai’n wyneb yn wyneb, yn gweithredu mewn ffordd lot mwy seiliedig ar bapur. Mae hynny wedi newid',

a chanlyniad hynny yw bod y berthynas â llywodraeth leol wedi newid er gwell.

Fel y tynnodd y Gweinidog sylw ato wrth gyflwyno'r ddadl heddiw, nid yw hi'n dda i ddim darparu cyfleusterau yn y Gymraeg os nad yw pobl yn mynd i'w defnyddio. Felly, credaf mai'r angen aruthrol ar hyn o bryd yn y broses hon yw hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn llawer mwy egnïol nag y gwnaethom ni yn y gorffennol, ac, oes, wrth gwrs, er mwyn hyrwyddo'r defnydd, mae'n rhaid ichi gael cyfleusterau i bobl eu defnyddio fel bod yr hyrwyddo hwnnw'n fuddiol. 

Ond rwyf yn credu bod arwyddion sylweddol iawn o gynnydd ymhell y tu hwnt i gynlluniau statudol. Yn wir, yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar, fe ddywedodd hi fod arwyddion gweladwy o bobl a sefydliadau nad oes gofynion cyfreithiol arnyn nhw yn mynd ati o'u gwirfodd ac o'u pen a'u pastwn eu hunain o ran darpariaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na chael eu gorfodi i wneud hynny, a, dros y pum mlynedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol mewn sefydliadau yn gofyn, 'Sut alla i gynnig darpariaeth Gymraeg?', yn hytrach na 'pam?', ac rwy'n credu mai hynny yw'r arwydd mwyaf gobeithiol. Mae hi'n dweud ein bod ni'n gweld tystiolaeth o weithredu gwirfoddol ar lawr gwlad yn ein strydoedd mawr. Rydym ni'n clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio fwy ym myd busnes, yng nghanol Dinas Caerdydd. Mae hi yn credu bod y diwylliant wedi newid.

Wrth gwrs, mae hi'n wastad yn bosibl gwneud mwy, ond rwy'n credu bod y ffordd wirfoddol o weithredu yn un sy'n fwy tebygol o fod yn llwyddiannus yn y tymor hir, yn arbennig wrth inni geisio ehangu'r iaith y tu hwnt i'r hyn y gellid eu galw'n 'fro Gymraeg' y Gorllewin a'r Gogledd, lle ceir cyfran llawer mwy o'r boblogaeth sy'n deall a siarad yr iaith. Os ydym ni'n mynd i ennill cefnogaeth yr ardaloedd uniaith Saesneg, credaf mai dyma'r meddylfryd sydd angen inni ei chofleidio. Felly, rwy'n ansicr o ran p'un a ddylid diddymu'r Comisiynydd a chael Comisiwn yn lle, er fy mod i yn credu mai ymateb braidd yn wan i'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru oedd—. Os oes ymgynghoriad, fe allem ni gynnwys y gwelliant hwn mewn gwirionedd yn rhan o'r ymgynghoriad, os mynnwch chi, ond fe wn i nad yw'r Gweinidog yn mynd i gyhoeddi heddiw penderfyniad a fydd yn cael ei wneud maes o law.

Ond os ydym ni'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach nag ar ffurfiau a strwythurau sefydliadau, rwy'n credu mai dyna yw'r ffordd iawn o fynd ati. Byddwn ni'n ymatal ar y gwelliant hwn heddiw, oherwydd nid wyf i, fel y Gweinidog, wedi penderfynu eto ai dyma'r llwybr iawn i'w droedio. Ond rwyf yn credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol. Caiff y Llywodraeth ei llongyfarch am (a), cyflwyno'r nod cychwynnol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'r cynnydd a wnaed mewn amser cymharol fyr. Mae Comisiynydd presennol y Gymraeg wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at hynny, a chredaf y dylid ei llongyfarch. Dymunaf yn dda i'r Gweinidog wrth iddi gyflawni ei swyddogaeth yn y blynyddoedd nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi, yn hytrach nag, fel yr ydym wedi bod yn gwneud yn draddodiadol, yn gweithio yn erbyn ein gilydd.

16:30

A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog wrth iddi ddechrau yn ei swydd newydd? Gallaf sicrhau Neil Hamilton nad oes yn rhaid iddo boeni'n ormodol am y bwlch sydd i'w lenwi. Mae Eluned Morgan yn wraig flaenllaw yn ei hawl ei hun, felly credaf y gallwn ni fod yn ffyddiog yn ei gallu i gyflawni'r agenda hon gyda hunanfeddiant. Croesawaf fod hwn yn adroddiad cadarnhaol gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bu newid, fel y mae hi'n ei nodi, yn y ddadl gyhoeddus, ac, fel y mae hi ei hun yn ei ddweud, mae'r cyfeiriad hwnnw wedi'i bennu i raddau helaeth gan darged Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac mae'r datganiad hwnnw o fwriad dros y tymor hir wedi arwain ynddo'i hun at frwdfrydedd mawr. Credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu, gan gydnabod, wrth gwrs, natur yr her sydd o'n blaenau. Dyma o bosibl, fel yr ydym ni wedi trafod eisoes, y polisi diwylliannol mwyaf radical yn y cyfnod modern, ac ni ddylem ni fod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r heriau sydd o'n blaenau, ond mae'n bolisi y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei wynebu'n eiddgar. 

Mae hefyd yn galonogol iawn sylwi, yn ei hadroddiad, bod y ddadl gyhoeddus yn parhau i fod yn gadarnhaol. Mae wyth deg pump y cant yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, ac mae 76 y cant o siaradwyr Cymraeg yn cytuno bod sefydliadau cyhoeddus yn gwella eu gwasanaethau Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny yn galonogol iawn. Mae'r ffaith yr hoffai 68 y cant o bobl weld archfarchnadoedd yng Nghymru yn defnyddio mwy o Gymraeg yr un mor galonogol, ac ategaf hynny'n gryf. Credaf nad oes unrhyw esgus i gyrff mawr o'r fath, sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, i beidio ag arddel ysbryd y ddeddfwriaeth hon.401

Credaf ei bod hi yn bwysig, wrth inni fwrw ymlaen ag esblygu ein dull o weithio, ein bod ni'n creu diwylliant lle yr ydym ni'n helpu sefydliadau i lwyddo ac nad ydym ni'n gosod cyfres o rwystrau biwrocrataidd sy'n ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw gydymffurfio, gan geisio eu baglu. Rwy'n credu bod y Comisiynydd yn cytuno bod y broses gyfredol yn rhy fiwrocrataidd. Mae'r ddeddfwriaeth yn pennu ffordd anhyblyg braidd o gydymffurfio sydd, o siarad â swyddogion iaith o wahanol rannau o Gymru, yn peri rhwystredigaeth iddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, fe soniwyd wrthyf i am yr enghraifft hon, sef os yw rhywun yn cwyno am wasanaeth awdurdod lleol, er enghraifft, mae'n rhaid i'r Comisiynydd yn gyntaf gynnal ymchwiliad i benderfynu pa un a fydd hi'n ymchwilio i hynny, ac mae Swyddfa'r Comisiynydd wastad yn gwneud hynny. Felly, mae hyn yn rhan ddiangen o'r broses; fe allen nhw fynd ati'n ddiymdroi i ymchwilio.402

Felly, gan fanteisio ar y profiad sydd gennym ni o'r ddeddfwriaeth hon, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon ac i feithrin ewyllys da yn y broses, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth bod peth drwgdeimlad mewn awdurdodau lleol yn enwedig.403

Mae'r nifer o gwynion a gafwyd wedi fy nghalonogi. Bu nifer cymharol fach—151 o gwynion. O'r rhain, cafodd 124 eu hystyried i fod yn ddilys. Nawr, yr hyn nad ydym ni'n ei wybod, a'r hyn na allai'r comisiynydd ei ddweud wrth y comisiynydd diwylliant yn ddiweddar, yw beth oedd nifer yr achwynwyr. Mae'n ddigon posib y cafwyd 151 o gwynion, a hwyrach yn wir, wrth gwrs, y bu 151 o achwynwyr, ond, yn yr un modd, mae'n bosib y bu nifer llawer llai o achwynwyr yn gwneud cwynion niferus. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny. O'r cwynion hynny, mae un rhan o dair yn ymwneud â gwasanaethau dros y ffôn a gohebiaeth, a 32 o gwynion yn ymwneud â chyrsiau a gynigiwyd. Felly, nid yw hyn yn arwydd o ymchwydd enfawr o rwystredigaeth, er, wrth gwrs, fe ddylem ni eu cymryd o ddifrif. Felly, credaf fod hynny yn gadarnhaol.404 

Dim ond i ddweud ychydig mwy i orffen, Llywydd. Mae'r Comisiynydd ei hun yn gwneud y sylw mai yn y byd addysg y mae dyfodol cyflawni'r targed hwn, wrth gwrs, fwyaf hanfodol. Mae hi'n nodi bod pedwar o bob pum disgybl yn dysgu'r iaith yn yr ysgol, sydd, wrth gwrs, yn awgrymu nad yw 20 y cant o ddisgyblion yng Nghymru yn dysgu'r iaith yn yr ysgol. Mae hyn yng nghyd-destun y gyfraith a fu mewn grym ers dros genhedlaeth bod pob disgybl ysgol, o dan 16 oed, yn dysgu'r Gymraeg. Felly, rwy'n credu bod y ffigur hwn, a sonnir amdano wrth fynd heibio fel petai, yn hollol syfrdanol, i ddweud y gwir, o ystyried y cyd-destun, ac rwy'n credu y dylai fod yn destun dychryn inni. Nid yn unig nad yw'r Gymraeg yn cael ei dysgu i un o bob pum plentyn ysgol, ond nid yw ansawdd a darpariaeth y Gymraeg ymysg y rhai sydd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion Cyfrwng Saesneg, sy'n amlwg yn dal i fod y mwyafrif sylweddol, mewn gwirionedd yn ddigon da mewn llawer o achosion. Mae'n rhywbeth y mae Estyn wedi ei grybwyll, a bydd y rheini ohonom ni sy'n ymweld ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn ein hetholaethau yn ymwybodol iawn ohono: y mae, mewn llawer o achosion, yn esgus o ymdrech. Ac nid wyf yn orfeirniadol o ysgolion yn hyn o beth. Nid ydym ni'n datblygu'r sgiliau a'r amgylchedd lle mae digon o bwyslais yn cael ei roi ar hyn. Yn aml mae gennym ni athrawon nad ydy'n nhw'n gallu siarad unrhyw Gymraeg eu hunain yn dysgu Cymraeg i blant. Hyn, i mi, yw'r her i'r genhedlaeth hon os ydym ni am gyflawni'r her yr ydym ni wedi ei gosod i'n hunain.

Mae'r Comisiynydd yn dweud ei bod hi'n amlwg mai twf addysg cyfrwng Cymraeg—. Mae'n ddrwg gennyf, mae hi'n dweud na ddylai addysg cyfrwng Cymraeg fod yn ddim byd ond—. Ymddiheuriadau, mae hi'n dweud mai twf addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd amlwg ymlaen. Ond byddwn i'n dweud na ddylem ni fod yn gweld hyn yng nghyd-destun twf ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, oherwydd mae hynny'n anwybyddu mwyafrif yr ysgolion y mae dyletswydd arnyn nhw, o dan y ddeddfwriaeth bresennol a'n polisïau presennol, i ddysgu plant i siarad Cymraeg fel iaith feunyddiol. Ar hyn o bryd nid yw hynny'n digwydd, a dyna lle yr hoffwn i weld ein pwyslais yn y cyfnod nesaf. Diolch.

16:40

Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr. A gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i Alun? Rydw i’n falch dros ben ei fod e nôl yn ei le, achos rydw i eisiau tanlinellu faint o waith mae e wedi’i wneud ar y pwnc yma dros y blynyddoedd. Mae ei ymrwymiad e tuag at yr iaith wedi bod yn hynod, ac wrth gwrs fe yw’r un sydd wedi bod yn gyrru’r syniad yma o anelu tuag at y nod yna o miliwn o bobl. Rydw i’n gwybod y gallaf ddibynnu ar Alun i fy helpu i i wthio’r nod yna yn y Llywodraeth yn gyffredinol.

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei hymateb hi hefyd? Rydw i yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni’n gwthio ymlaen gyda’r awydd yma i wneud cymaint ag ydym ni’n gallu mewn cymaint o ffyrdd gwahanol. Nid yw hi i gyd am safonau. Nid yw hi i gyd yn bwyslais ar y comisiynydd. Mae’n rhaid i ni edrych mewn ffordd lot fwy eang.

Beth nad ydw i eisiau ei wneud yw cael y syniad yma, os ydym ni'n mynd i newid rhywbeth, y bydd beth bynnag sy’n mynd i ddod yn rhywbeth sy’n wannach. Ni fydd hynny yn digwydd. Gallaf i fod yn glir gyda chi. Rydw i yn feddwl agored, ond rydw i eisiau i bob un fod yn feddwl agored hefyd. Rydw i eisiau rhoi’r guarantee yna na fydd hwn yn arwain at ddim byd gwannach.

Rydw i wedi bod yn siarad gyda Chomisiynydd y Gymraeg y bore yma, ac wedi bod yn tanlinellu pwysigrwydd cael tystiolaeth yn gefn i bopeth rŷm ni’n ei wneud, a hefyd i edrych ar y profiad o wledydd eraill gydag ieithoedd lleiafrifol. Mae’r hyn yr oedd Adam Price yn ei ddweud, rydw i’n meddwl, yn bwysig, ond rydw i eisiau sicrhau ein bod ni yn edrych tu hwnt i’r systemau sydd ar gael. A gawn ni jest fynd nôl dro ar ôl tro i edrych ar y dystiolaeth a beth sy’n gweithio orau? Rydw i yn meddwl bod yn rhaid i ni symleiddio a chael lot llai o waith gweinyddol. Mae’n rhaid i ni ei wneud yn hawdd i bobl sydd â chwyn.

Suzy, a gaf i ei gwneud hi'n glir? Nid ydw i eisiau cau lawr unrhyw opsiwn. Os mai’r syniad yw ein bod ni’n cadw comisiynydd, wedyn mae hynny’n opsiwn hefyd. Os ŷm ni eisiau cael gwared ag e, mae hynny’n opsiwn. Os ydw i’n cytuno â’r gwelliant sydd lawr ar hyn o bryd, rydw i’n cau lawr un opsiwn, ac nid ydw i eisiau gwneud hynny.

Rydw i yn meddwl bod yn rhaid i ni edrych yn fanwl ar effeithlonrwydd y gwaith y mae pob un yn yr adran Gymraeg yn ei wneud. Pa mor effeithiol yw’r gwaith rŷm ni’n gofyn i’r bobl yma ei wneud? Mae’n rhaid i ni, rydw i’n meddwl, sicrhau bod y gwaith yma—. Rydw i’n meddwl bod hynny’n bwynt teg, ein bod ni yn gwneud mwy o waith i ymgysylltu â’r di-Gymraeg, a dysgwyr. Mae yna le i wneud hynny. Rydw i yn meddwl mai dyma lle rŷm ni’n mynd i ennill a chyrraedd y nod yma o gyrraedd y miliwn.

Adam Price, rŷch chi wedi dweud bod yna gonsensws barn, ond nid ydw i’n ymwybodol bod yna gonsensws barn. Nid ydw i wedi gweld yr ymatebion eto. Yn amlwg, nid ydych chi wedi gweld yr ymatebion eto, felly nid ydw i’n meddwl ei fod yn deg i ddweud bod yna gonsensws barn eto. Fe gawn ni weld. Os mae yna, wedyn yn amlwg byddwn ni yn ystyried hynny. Ond rydw i yn meddwl bod yn rhaid i ni hefyd ystyried bod yr adroddiad—

Roeddwn i’n sôn am y prif fudiadau iaith sydd wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r syniad o ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg.

Ond mae eisiau i ni wrando ar bob un yng Nghymru. Rydw i yn meddwl bod hynny’n bwysig. Mae yna bobl sy’n broffesiynol, ac mae yna bobl hefyd—. Mae’n rhaid inni gyrraedd y miliwn yma. Rydw i eisiau gwrando ar y bobl sy’n mynd i fod yn dysgu Cymraeg, hefyd. Rydw i eisiau gwrando ar bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Rydw i eisiau clywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Efallai eu bod nhw wedi ymateb, efallai eu bod nhw heb.

Ar y safonau, Neil Hamilton, rydw i’n meddwl eich bod chi’n iawn. Roedd Alun wedi defnyddio

Anogaeth yn hytrach na gorfodaeth. Mi fuaswn innau hefyd yn hoffi defnyddio anogaeth. Rwyf yn glir iawn, os ydych chi'n siarad am iaith, fod yn rhaid i chi berswadio pobl. Ni allwch chi orfodi pobl i ddefnyddio iaith.

Lee Waters, rydw i’n meddwl bod yn rhaid i ni berswadio, yn yr un modd, yn hytrach na mynnu bod pobl yn ei wneud e. Rydw i yn meddwl bod angen gofyn am fwy o fanylion: faint sydd wedi cwyno? Beth oedd effeithlonrwydd swyddfa’r comisiynydd? Rydw i eisiau cael benchmarking yn digwydd. Ac rydw i yn meddwl bod hynny wedi neidio mas arnaf i hefyd: mai dim ond pedwar mas o bump o blant oedd yn dysgu Cymraeg. Mae eisiau i ni edrych i mewn i'r rhesymau am hynny.

Felly, mae yna lot o bethau rydym ni'n gallu eu gwneud. Rwy'n meddwl mai'r peth pwysicaf i ni gofio nawr yw ein bod ni'n cadw'r ffocws yna ar y miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae pwysau ar y Llywodraeth i arwain. Fe fydd y Llywodraeth yn arwain. Mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am yr economi. Mae'r economi yn hollbwysig yn y drafodaeth yma. Ond, nid yw'r Llywodraeth yn gyfan gwbl yn gallu newid hyn. Mae'n rhaid i bobl Cymru ddod gyda ni ac mae'n rhaid i ni eu perswadio nhw i wneud hynny.

16:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.

Cynnig NDM6561 Carwyn Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno ar argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC fel Cwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd y cynnig.

Mae arnaf ofn nad yw Plaid Cymru yn gallu cydsynio â'r cynnig hwn yn y cyd-destun presennol ar hyn o bryd. A gaf i ddweud yn gyntaf nad cwestiynu gallu na phriodoldeb Jeremy Miles ar gyfer y swydd ydw i fan hyn? Yn hytrach, rwy'n gofyn cwestiwn mwy sylfaenol am pam rydym ni'n penodi Cwnsler Cyffredinol newydd.

Rwyf eisiau talu teyrnged i Mick Antoniw. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud y swydd yn briodol iawn—yr hyn roeddem ni'n gobeithio y byddai Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud yn y Senedd yma. Mae wedi amddiffyn hawliau'r Senedd o dan fygythiadau sy'n deillio o Brexit, yn benodol y Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae wedi hybu mynediad at y gyfraith a gweithio i symleiddio’r gyfraith, gan gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith i aildrefnu'r gyfraith yng Nghymru. Mae wedi codi proffil y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru.

Wrth gwrs, rydym ni fel Aelodau Cynulliad ond yn gweld y Cwnsler Cyffredinol pan mae'n dod fan hyn ac yn ateb cwestiynau gennym ni. Mae'r ffaith ein bod ni wedi mynd o sefyllfa lle dim ond un Aelod Cynulliad oedd yn gofyn cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol i sefyllfa lle mae yna rai pumoedd weithiau yn gofyn cwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol yn dangos, rwy'n credu, bod Mick Antoniw wedi ymateb i'r diddordeb byw sydd yn y Siambr yma tuag at y cyfansoddiad a thuag at ddatblygiad y Senedd hon. Mae eisiau diolch iddo fe am hynny. Mae'n sicr wedi ehangu gorwelion y swydd mewn ffordd mae Plaid Cymru yn ei gymeradwyo.

Ond, wrth gwrs, y rheswm rydym ni'n cael y cynnig yma heddiw i newid y Cwnsler Cyffredinol yw bod y Blaid Lafur eisiau newid y bobl y maen nhw efallai yn llygadu ar gyfer darpar arweinwyr yn y dyfodol, Cabinet newydd, ffordd newydd o wneud gwleidyddiaeth—beth bynnag. Hwn yw aildrefnu Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Mewn eiliad fe wnaf i. Hwn yw aildrefnu Llywodraeth Cymru at bwrpas a dibenion y Blaid Lafur. Fe wnaf i ildio.

Onid yw'n un o egwyddorion sylfaenol ein system gyfreithiol y dylai cleient fod yn rhydd i ddewis ei gynghorydd cyfreithiol ei hun? Pam y byddai Plaid Cymru yn gwarafun yr hawl hwnnw i Lywodraeth Cymru?

Nid yw'n deall y cyfansoddiad, dyna pam.

Mae'r rheini sydd eisiau newid y cyfansoddiad—fe ddylen nhw fod wedi newid Deddf Cymru. Roeddech gennych chi gyfle yn Nhŷ'r Arglwyddi i newid Deddf Cymru i dynnu allan y gallu yma i Senedd Cymru gymeradwyo penodi Cwnsler Cyffredinol. Os ydych chi mor huawdl ac eisiau newid y cyfansoddiad, fe ddylech chi fod wedi ei wneud yn y lle arall, lle rŷch chi'n gwneud job arall. Mae'n amlwg nad oedd eich llygaid chi ar y cyfansoddiad bryd hynny. Oni bai eich bod chi eisiau gwneud hynny, nid ydych chi mewn sefyllfa i feirniadu rhywun am ddefnyddio technegau'r Senedd hon i gwestiynu penodiad gan y Llywodraeth. [Torri ar draws.] Ydych chi am ymyrryd?

Rydw i eisiau ymyrryd. Rwy'n awyddus i ymyrryd. Mae gen i broblem, Llywydd, ac fe fyddwn i'n hoffi eich help chi. Nid yw'n gonfensiwn seneddol yn y tŷ hwn nac yn y tŷ arall i drafod swyddogaethau gwahanol. Mae'n drysu cyngor.

Roeddech chi'n rong bum mlynedd yn ôl pan benodwyd Theodore Huckle ac rydych chi'n rong heddiw. Pan mae'n dod i benderfyniad y Cynulliad a phenderfyniad y Senedd mae gen i hawl berffaith i'w drafod e. Mae yn y gyfraith gwlad rydych chi wedi pleidleisio drosti hi. Dyna pam rydym ni'n ei drafod e.

Dyma pan rydym ni'n ei drafod e. Mae'n rhan o gyfraith gwlad—[Torri ar draws.] Yr ail—

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr ail reswm pam mae Plaid Cymru am newid y drefn fan hyn yw y byddem ni'n dymuno gweld system o wrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cwnsler Cyffredinol. Mae'n system sy'n cael ei chynnig yn y gwledydd hynny lle mae swyddogion y gyfraith yn cael eu penodi gan y Gyngres—yr Unol Daleithiau, er enghraifft, lle mae yna wrandawiad agored. Mae'n system sydd wedi cael ei arbrofi fan hyn; mae'r Pwyllgor Cyllid wedi defnyddio system i benodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rydw i'n rhagweld ac yn gobeithio y byddwn ni'n gweld mwy o hynny. Da o beth fyddai hi i'r darpar Gwnsler Cyffredinol ddod gerbron y pwyllgor mwyaf priodol—siŵr o fod y pwyllgor cyfansoddiad a deddfwriaethol, ond gall fod yn bwyllgor dros dro—i ddangos ym mha ffordd mae eisiau gwneud y job, i ddangos ym mha ffordd y byddai'n ymateb i geisiadau gan Aelodau Cynulliad, ac i ddangos ei fod yn berson teilwng i wneud y job yma. Mi wnaf i ildio. 

16:50

Diolch yn fawr iawn. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu na fyddai'r Prif Weinidog yn dal yn gallu gwneud dim ond un enwebiad a dim ond un enwebiad fyddai'n cael ei drafod fel rhan o'r broses honno.

Yn union, achos nid ydym ni'n cwestiynu'r broses enwebu fan hyn. Beth rydym ni'n cwestiynu fan hyn yw'r ffaith bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r enwebiad yma sy'n mynd gerbron wedyn at Ei Mawrhydi, wrth gwrs, ac mae hynny yn rhywbeth ddylai gael sêl bendith. Nawr, os ydym ni ond yma i 'rubber-stamp-opethau fel hyn, beth yw pwynt cael y ddadl yma? Beth yw pwynt cael cynnig? Beth yw pwynt cael trafodaeth os rydym ni ond i fod i ddweud, 'Ie, beth bynnag rydych chi'n gwneud i'ch Cabinet, mae'n iawn i wneud hynny'? [Torri ar draws.] Ie, ocê.

Mae arnaf ofn na chlywais ymateb yr Aelod yn iawn i fy mhwynt yn gynharach. Rwy'n credu efallai eich bod wedi ymateb i ymyriad gan rywun ar ei eistedd yn hytrach. Ond fy mhwynt sylfaenol yw: y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, ac onid mater i Lywodraeth Cymru yw dewis pwy ddylai fod y prif gynghorydd cyfreithiol iddi.

Wel, rwy'n credu—ac rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn bosibl na chlywodd yr aelod yr hyn a ddywedais—mae gennym gyfansoddiad Cymru, sef bod y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei benodi gan y Cynulliad hwn. Mae'n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad hwn—ei argymell gan y Prif Weinidog, ei benodi gan Ei Mawrhydi, ond ei gymeradwyo gan y Cynulliad hwn. Nawr, gallech chi gyflwyno dadl resymegol—nid wyf yn dweud na allech chi gyflwyno dadl resymegol, fel yr ydych chi newydd ei wneud — ynghylch y rhaniad rhwng swyddogion y gyfraith a'r Llywodraeth, ond nid dyna sydd gennym yn y cyfansoddiad hwn. Mae wedi'i newid ddwywaith, fel y dywedais, mewn dwy Ddeddf Cymru wahanol. Nid yw hyn wedi'i newid na'i ystyried ac ni wnaed unrhyw gais i'w newid. A cheir enghreifftiau eraill o'r Gymanwlad yng Nghanada, yr Unol Daleithiau a rhannau eraill o'r Gymanwlad lle mai dyma'r gyfraith a'r broses, lle mae gennym ni ffordd o bleidleisio ar benodiadau swyddogion y gyfraith ar gyfer y Llywodraeth—[torri ar draws.]

Os caf i orffen fy mhwynt, rwy'n derbyn y bu datblygiad o ran y swyddog cyfraith arbennig hwn, a ddechreuodd mewn amgylchedd corfforaethol, os mynnwch chi, ac sydd bellach wedi datblygu i fod yn fwy o swyddog y gyfraith ar gyfer y Llywodraeth, ond nid yw ein cyfansoddiad wedi newid, ac felly mae'n bwysig nad ydym yn rhyw fath o Senedd sydd megis babi yn cael ei fwydo â llwy lle mae'r Llywodraeth yn penderfynu pwy mae'n dymuno ei benodi. Pan gawn ni gyfle i ddylanwadu ar benodiadau'r Llywodraeth, yna, fel senedd, dylem ni wneud hynny.

Ond onid yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd yn ôl i gyfnod pan oeddem ni, efallai, yn fwy o Gynulliad a oedd megis babi yn cael ei fwydo â llwy, fel y dywed yr Aelod, pan oedd gennym ni Lywodraeth Cynulliad Cymru ac nad oedd gwahaniaeth cyfreithiol rhwng y naill a'r llall? Erbyn hyn, mae'r Llywodraeth yn atebol i'r Cynulliad, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cynghori'r Llywodraeth, felly Llywodraeth Cymru ddylai benderfynu does bosib. Rwyf i yr un mor awyddus ag yntau i amddiffyn hawliau'r Cynulliad hwn, ond yn yr achos hwn, does bosib nad oes gan Brif Weinidog Cymru a'i dîm yr hawl i ddewis eu cynghorydd cyfreithiol eu hunain.

Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi gorffen felly eisteddais i lawr, ond a hoffech chi i mi barhau fel y gellir darllen hwnna fel ymyriad?

Nid oes siaradwyr eraill, felly rydw i'n galw ar y Prif Weinidog i ymateb ar ran ei Lywodraeth. Carwyn Jones. 

Mae'n gywir i ddweud, wrth gwrs, mai'r Cynulliad sy'n cymeradwyo penodiad y Cwnsler Cyffredinol, a gaiff ei benodi wedyn gan y Frenhines. Mewn gwirionedd, mae'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa lle na all y Prif Weinidog mewn gwirionedd dynnu'r Cwnsler Cyffredinol o'r Llywodraeth. Y Frenhines yn unig gaiff wneud hynny, neu os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud y penderfyniad hwnnw ei hun. Mae'n hynod o bwysig bod y Cwnsler Cyffredinol yn gyfreithiwr, am resymau amlwg. Mae'n iawn i ddweud, fel y mae Mark Reckless wedi'i ddweud, mai prif gynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth yw'r Cwnsler Cyffredinol, ac nid y Cynulliad. Felly mae'n anodd rhagweld pa swyddogaeth y dylai'r Cynulliad ei chwarae. Cyflwynwyd dadleuon yn y Siambr hon y dylid cynnal gwrandawiadau cyn penodi i'r rhai hynny sydd mewn swyddi gweithredol neu swyddi cadeirydd ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Nid yw hyn yr un peth: mae hwn yn rhywun a fyddai'n aelod o'r Llywodraeth. Ac i ymdrin â'r pwynt y mae Simon Thomas yn ei godi am yr Unol Daleithiau, nid yw'r Unol Daleithiau yn un o wledydd y Gymanwlad fel y dywedodd ef, ac yn ail, ceir system lywodraethu gwbl wahanol. Rwyf yn gresynu'r ffaith na chawsom unrhyw rybudd o bryder Plaid Cymru, ond byddwn yn ymdrin â hyn yn y Siambr. Y gwir amdani yw bod Arlywydd yn yr Unol Daleithiau sy'n penodi Cabinet o bobl, lle nad oes yr un ohonynt wedi ei ethol—lle nad oes yr un ohonynt wedi ei ethol. Ar y sail honno, felly, mae'r cyfansoddiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddeddfwrfa gynnal gwrandawiad cyn penodi er mwyn gwneud yn siŵr mai rhywun nad yw wedi'i ethol yw'r person cywir ar gyfer y swydd yn y Llywodraeth—mae'n sefyllfa gwbl wahanol. [Torri ar draws.] Ie, Ie—[torri ar draws.] Yr Aelod dros Ynys Môn oedd gyntaf.

16:55

Onid yw'n wir nad oedd y Cwnsler Cyffredinol diwethaf ond un wedi ei ethol?

Ydy, ac fe'i cefnogwyd gan y Cynulliad hwn, heb unrhyw ofyniad gan Blaid Cymru ar y pryd y dylid cynnal rhyw fath o wrandawiad cyn penodi. Felly—

Fe heriais i yn benodol benodiad Theodore Huckle bum mlynedd yn ôl.

Wel, dyna ni. Mae hyn yn ymwneud â phenodi rhywun sy'n aelod o'r Cynulliad hwn, sy'n gyfreithiwr, sy'n rhywun sydd wedi cymhwyso'n ddigonol ar gyfer swydd y Cwnsler Cyffredinol ac sy'n rhywun a fydd y prif gynghorydd cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Pe byddai pryderon wedi'u codi ymlaen llaw, byddem ni wedi ceisio ymdrin â'r pryderon hynny, ond dyma'r tro cyntaf i ni glywed amdanyn nhw.

O gofio ein bod yn mynd trwy broses Brexit, mae'n hynod o bwysig bod gennym ni brif gynghorydd cyfreithiol sy'n gallu cynghori Llywodraeth Cymru ar lawer o faterion, yn enwedig Brexit. Rwy'n siŵr na fyddai'r Aelodau yn dymuno inni fod mewn sefyllfa lle nad oes gennym ni gynghorydd sy'n gallu gwneud hynny.

Felly, unwaith eto, cynigiaf y cynnig. Bydd Mark Reckless yn maddau imi am beidio ag ymdrin â'i bwyntiau ef yn uniongyrchol, gan fy mod yn cytuno â phob gair a ddywedodd. Efallai nad yw hynny'n digwydd yn aml iawn, ond rwy'n ddiolchgar iddo am ei eiriau y tro hwn. Rwy'n gresynu'r ffaith bod yr hyn sy'n ymwneud â phenodi rhywun yn y Llywodraeth, sydd yno i weithredu fel cynghorydd cyfreithiol, wedi bod yn—. Wel, dyna ni, mae hawl gan y Cynulliad i ymdrin ag ef yn y modd hwn, ond, serch hynny, mae'n hollol iawn i ddweud bod hyn, er yn dechnegol, er yn gyfreithiol, yn benodiad gan y Cynulliad, ei fod, mewn gwirionedd, yn benodiad rhywun a fydd yn aelod o'r Llywodraeth, er nad yn Weinidog.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6562 Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

Adrannau 2 - 94

Atodlen 1

Adran 1

Teitl Hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar y papur trefn.

Nid oes siaradwyr ar yr eitem yma, felly y cwestiwn sy'n weddill yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Mynd i'r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau—Gohiriwyd tan 21 Tachwedd
12. Dadl: Cyfnod 3 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)—Gohiriwyd

Mae eitem 11 ac eitem 12 wedi'u gohirio, felly yr eitem nesaf yw'r cyfnod pleidleisio.

13. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud ymlaen yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, pedwar yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM6560 - Gwelliant 2: O blaid: 19, Yn erbyn: 27, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf, felly, am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6560 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

2. Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle gynigir dewis Iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal a neb yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.

NDM6560 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17 (Cynnig wedi'i ddiwygio): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Carwyn Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 14 yn ymatal a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6561 - Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 16:59.