Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

01/03/2017

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

Galw’r Cynulliad Cenedlaethol i drefn. Ac a gaf i gychwyn drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb?

1. Cwestiwn Brys: Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

A’r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiwn brys. Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Ford yn bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o’i waith adeiladu peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0140(EI)

Member
Ken Skates 13:30:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Siaradais y bore yma gydag is-lywydd Ford, a gadarnhaodd nad oes unrhyw berygl i gyflogaeth yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor byr, ac y bydd niferoedd cyflogaeth yn aros yr un fath, fwy neu lai, hyd at 2021. Fodd bynnag, pwysleisiais eto ein bod yn barod i wneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo’r ffatri i ddod yn fwy cynhyrchiol, ac yn hollbwysig, i sicrhau cynhyrchion newydd ar gyfer y ffatri, o 2021 ymlaen.

Rwy’n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod colli’r swyddi hyn—dros ddwy ran o dair o’r swyddi—yn ein ffatri weithgynhyrchu fwyaf ond dwy yn newyddion ofnadwy i’r gweithwyr, y teuluoedd, y cymunedau yr effeithir arnynt, ond hefyd i Gymru gyfan, heddiw ar ein diwrnod cenedlaethol. Cyfeiriodd at y sicrwydd a roddwyd iddo o’r blaen ac a ailadroddwyd, tan 2021. A all ddweud wrthym pryd oedd y tro cyntaf iddo glywed am y cynlluniau i leihau nifer y swyddi hyn yn 2021? A glywodd amdanynt dros nos gyda syndod a siom, fel y gweddill ohonom? A yw’n teimlo ei fod ef a’r gweithlu yn cael eu camarwain mewn unrhyw ffordd gan reolwyr y cwmni? A yw’n fodlon ein bod yn ymgysylltu’n iawn â’r cwmni, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, gyda’r unigolyn iawn?

Ym mis Medi, addawodd y byddai’n ymweld â phencadlys byd-eang y Ford Motor Company yn Detroit. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni ddigwyddodd yr ymweliad hwnnw. Fis diwethaf, dywedodd,

Os yw hynny’n golygu mynd i Detroit, fe awn i Detroit.

A fydd yn mynd i Detroit, neu a fydd y Prif Weinidog, sydd yn yr Unol Daleithiau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, yn newid ei gynlluniau teithio ar frys? Gwyddom fod hwn yn gwmni sy’n gwrando ar arweinwyr gwleidyddol pan fyddant yn eu lobïo. Gwelsom hynny, wrth gwrs, pan newidiwyd y cynlluniau ar gyfer y ffatri ym Mecsico, a’i symud i Michigan, o ganlyniad i alwad ffôn o’r Tŷ Gwyn.

Nawr, mae Ford yn gwmni sy’n rhoi pwyslais ar frandiau newydd a thechnolegau newydd, gan gynnwys cerbydau trydan a cheir di-yrrwr. Pa gynnydd penodol y gall adrodd amdano ar werthuso’r rhagolygon ar gyfer y technolegau hyn ym Mhen-y-bont? A all ddweud, yn ei asesiad, fod ein penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r effaith a gafodd hyn ar Ford, wrth i’r gostyngiad yng ngwerth sterling arwain at golledion o $600 miliwn y flwyddyn i’r cwmni yn ôl eu hasesiad eu hunain, wedi bod yn ffactor yn eu cynllun penodedig i dorri swyddi a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn eu hadran Ewropeaidd drwyddi draw?

Ac yn olaf, a gaf fi ddweud, os yw hyn ar yr agenda bellach—colli dwy ran o dair o’r gyflogaeth yn ein ffatri weithgynhyrchu fwyaf ond dwy—a yw’n cytuno y byddai hynny’n argyfwng economaidd yr un mor ddifrifol â’r un y bu’n rhaid inni ei wynebu’n ddiweddar mewn perthynas â dur? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru, felly, ar y cyd â Llywodraeth y DU, undebau, a chynrychiolwyr y sector, alw uwchgynhadledd frys ar ddyfodol y diwydiant modurol yng Nghymru a’r DU?

Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud mai ein hamcan yw osgoi’r hyn a allai droi’n argyfwng, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod. Rwy’n llwyr gydnabod y sgiliau sylweddol sydd i’w gweld yn ffatri Pen-y-bont, teyrngarwch y gweithlu, ac yn amlwg, pryderon y gweithwyr a’u teuluoedd ar hyn o bryd. Mae perygl hefyd nid yn unig i’r sector modurol yn ne Cymru, ond i’r gadwyn gyflenwi sy’n elwa o fodolaeth Ford yma, ac i’r economi ehangach yng Nghymru. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn gwbl benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Ford yn dod o hyd i gyfleoedd newydd, cynhyrchion newydd i Ben-y-bont ar Ogwr, yn y degawd nesaf.

Siaradais â’r is-lywydd gan mai’r is-lywydd a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford yn Ewrop, ac felly, ynglŷn â Ford ym Mhen-y-bont. Ond os oes angen ymgysylltu ag unrhyw un arall yn unrhyw le yn y byd, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau, rwyf wedi dweud yn glir iawn y buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny. Ond credaf yn gryf mai’r is-lywydd a fydd, yn y pen draw, yn gwneud penderfyniadau am y ffatri yn y dyfodol a lle y bydd cynhyrchion yn cael eu gweithgynhyrchu yn Ewrop.

Mae manylion yr hyn a gyflwynwyd y bore yma yn cynrychioli’r senario waethaf ar gyfer ffatri Pen-y-bont pe na bai unrhyw gynhyrchion newydd yn cael eu sicrhau yn ystod y degawd nesaf. Dyna pam rwy’n benderfynol o weithio nid yn unig gyda’r cwmni ond hefyd gyda’r gweithlu a’u cynrychiolwyr yn yr undebau, er mwyn nodi’r cyfleoedd y mae Ford eu hunain wedi dweud y gellid eu denu i Ben-y-bont. Dros yr wythnosau a’r blynyddoedd nesaf, hoffwn ddeall yn well pa gynnyrch penodol y bwriada Ford Europe ddod â hwy i Ben-y-bont, er mwyn i ni fel Llywodraeth Cymru allu parhau i gefnogi’r cwmni, fel y gwnaethom ers dechrau datganoli. Nid oes amheuaeth fod rhoi’r gorau i fod yn aelodau o’r UE yn creu her sylweddol iawn i Ford ym Mhen-y-bont, ac yn wir, i’r diwydiant modurol ledled Cymru a’r DU. Mae pob injan a gynhyrchir yno yn mynd i Ewrop er mwyn cael ei gwerthu’n ôl mewn cerbyd Ford. A dyna pam fod y Prif Weinidog wedi dweud yn gyson drwy gydol y trafodaethau Brexit y dylai mynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl fod yn brif flaenoriaeth, fel y gwnaed yn glir yn y Papur Gwyn.

Er mwyn osgoi’r argyfwng y sonia’r Aelod amdano, mae angen i ni weld ymgysylltiad mwy ystyrlon gan Lywodraeth y DU, a ‘does bosib nad yw’r hyn sy’n dda i Nissan yn dda i Ford hefyd. Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, fel y crybwyllais o’r blaen yma yn y Siambr, ein bod yn sicrhau cymaint â phosibl o’r £2 biliwn o gyllid datblygu, ymchwil ac arloesi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer economi Cymru ac ar gyfer uwch-weithgynhyrchu, lle y gwyddom fod gan Gymru hanes balch iawn. Nid oes amheuaeth y bydd cryn bryder heddiw ymysg y gweithlu, ond rwy’n benderfynol o ddod â’r cwmni, yr undebau a’r gweithlu ynghyd i nodi’r cynhyrchion a fydd yn rhoi dyfodol mwy hyfyw i Ford Pen-y-bont yn y tymor hwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf eich bod yn iawn—mae cryn bryder heddiw, ers i’r newyddion hwn ddod i’r amlwg ddoe. Gofynnodd Adam Price yn benodol—ni chredaf eich bod wedi ateb ei bwynt—am amserlen y Prif Weinidog yn yr Unol Daleithiau. A gaf fi ofyn a yw’r Prif Weinidog wedi newid ei daith, ac a fydd yn ceisio cyfarfod â swyddogion gweithredol Ford tra bydd yn yr Unol Daleithiau? Efallai y gallech roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â hynny.

Sail y pryderon, wrth gwrs, yw’r rhagdybiaeth na all Ford ddod ag unrhyw waith newydd i mewn. Dywedasoch wrth ateb dau gwestiwn blaenorol eich bod, fel Llywodraeth, yn barod i fod yn gefnogol i’r sefyllfa, ond a gaf fi i ofyn am rai manylion penodol? Beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn barod i’w gyfrannu? 

Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r sawl math o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu’i gynnig i Ford dros nifer o flynyddoedd. Yn wir, ers 1978, mae Ford ym Mhen-y-bont wedi elwa ar oddeutu £140 miliwn. Ers dechrau datganoli, rydym wedi gallu cefnogi Ford gyda phecynnau hyfforddi sgiliau, gyda gwariant cyfalaf, gyda chymorth seilwaith, ac rydym yn barod i wneud hynny eto. Yn benodol, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio ac yn manteisio ar gyllid ymchwil a datblygu, er mwyn inni allu denu ffyrdd newydd o weithgynhyrchu injans a mathau newydd o ddatblygiadau modurol i Gymru, ac yn benodol i Ford. Hoffwn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer mentrau ar y cyd rhwng Ford a gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol eraill, gan y credaf fod cyfleoedd gwerthfawr i’w cael, yn enwedig mewn perthynas â cherbydau trydan, i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol weithio’n agosach â’i gilydd. A phe gallai Llywodraeth Cymru hwyluso cytundeb rhwng Ford a gweithgynhyrchwr arall, byddem yn fwy na pharod i wneud hynny, a byddem yn cefnogi unrhyw fenter ar y cyd, gyda chymorth ariannol, pe bai angen a phe bai hynny’n ddichonadwy.

Nawr, o ran ymweliad y Prif Weinidog â’r Unol Daleithiau, mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi rhagor o fuddsoddiad gan GE yn ystod ei daith i’r Unol Daleithiau, a chredaf fod hynny’n dangos ein hanes cryf fel Llywodraeth o sicrhau rhagor o waith i fuddsoddwyr presennol yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny gyda Ford. Ond mae’n rhaid i mi bwysleisio eto fy mod wedi siarad â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn Ford. Byddaf yn ei chyfarfod eto i bwysleisio teyrngarwch y gweithlu, y sgiliau yn y ffatri, hanes blaenorol y Llywodraeth hon o weithio gyda Ford, y buddsoddiad a wnaethom yn y ffatri, ac yn anad dim, y diddordeb a ddylai fod gan Ford mewn bod yn un o wledydd mwyaf cynhyrchiol gorllewin Ewrop.

Ysgrifennydd y Cabinet, heb fod yn sicr ynghylch dilysrwydd, neu ba mor wir hyd yn oed, yw’r ddogfen hon yr honnir iddi gael ei datgelu’n answyddogol, rhaid i ni fod yn hynod o ofalus rhag achosi hysteria ynglŷn â cholli swyddi yn ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont. Yr unig sylwadau swyddogol a gawsom gan Ford yw eu bod yn lleihau’r buddsoddiad, ond maent yn dal i wneud buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym Mhen-y-bont. Mae’n rhy gynnar i siarad am streic. Pe bai Ford yn cyhoeddi mai dyma yw eu bwriad, lleihau buddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dyna yw fy rhanbarth i, a buaswn yn ymladd ochr yn ochr â phawb arall ac yn sefyll gyda fy etholwyr a’r undebau i wrthwynebu colli swyddi. Ond tan hynny, credaf fod yn rhaid i ni geisio gostegu pethau. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi ei bod yn rhy gynnar i hyd yn oed ystyried streicio, ac a wnewch chi sicrhau fy etholwyr y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod Ford yn parhau i fuddsoddi yn ffatri Pen-y-bont?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r trafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu ar y cyd â hwy i sicrhau dyfodol hirdymor y ffatri injans ym Mhen-y-bont?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau ac ailadrodd y pwynt a wnaed i mi—y sicrwydd a roddwyd i mi gan is-lywydd Ford—nad oes unrhyw risg i gyflogaeth heddiw? Ond rydym wedi bod yn ymwybodol erioed fod risgiau mwy hirdymor yn wynebu Ford ym Mhen-y-bont. O 2021, yr her fydd dod o hyd i gynhyrchion newydd y gellir eu gweithgynhyrchu yn y ffatri. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi cael sicrwydd gan Ford eu bod yn edrych ar ystod o gyfleoedd y gellir eu dwyn i Ben-y-bont. Hoffwn weld rhagor o fanylion yn awr ynglŷn â beth yw’r cyfleoedd hynny—beth y mae Ford yn edrych arno’n benodol, a sut y maent yn mynd ati i ddenu’r buddsoddiad i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ac oherwydd hynny, rwy’n bwriadu cyfarfod â’r is-lywydd eto, a chydag arweinwyr yr undebau, gan fy mod yn credu’n gryf mai drwy gydweithio fel tîm yr ydym ar ein gorau. Credaf fod Ford wedi profi ym Mhen-y-bont y gallwch gynhyrchu’r nwyddau gorau posibl os oes gennych Lywodraeth ragweithiol ac os oes gennych weithlu undebol cadarnhaol a rhagweithiol. Mae angen inni sicrhau bod y berthynas rhwng y gweithlu a’r cwmni a Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn un gref. Ond yn hanfodol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod Ford yn nodi’r cynhyrchion newydd a dyna pam y byddaf yn rhoi mwy o bwysau arnynt i ddarparu manylion ynglŷn â pha gyfleoedd y maent yn sôn am eu gwireddu mewn gwirionedd.

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i chi am ganiatáu’r cwestiwn brys hwn heddiw? Mae’n fater sydd wedi achosi llawer o bryder, ond a gaf fi ddweud nad pryderon newydd yw’r rhain heddiw, ar sail yr adroddiadau hyn yn y wasg; maent wedi bod yn bryderon parhaus ers peth amser? Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf oll, am gydnabod y sgiliau, y teyrngarwch a’r aberth y mae’r gweithlu eisoes wedi’i wneud i sicrhau bod y ffatri hon yn gynhyrchiol. Ond fel y gallwn weld o’r adroddiadau dros y penwythnos, efallai fod tasg fwy fyth o’n blaenau. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom fel Aelodau Cynulliad rhanbarthol, ac fel Aelod etholaeth sydd â channoedd o’r gweithlu wedi eu cyflogi yn fy etholaeth a’u teuluoedd yn dibynnu arnynt, i sicrhau dyfodol hirdymor. Ac mae’r syniad hwn o ddod â’r gweithlu a’r undebau, sy’n cynrychioli eu haelodau ar lawr gwlad, ar lawr y siop a llawr y ffatri, a’r rheolwyr at ei gilydd er mwyn inni allu siarad yn blwmp ac yn blaen ynglŷn â’r hyn sydd angen inni ei wneud er mwyn sicrhau mai hon yw prif ffatri Ford yn Ewrop a ledled y byd—er mwyn i’w cynhyrchiant olygu y bydd rheolwyr Ford ledled y byd yn dweud, ‘Bydd y buddsoddiad nesaf yn mynd i Ford Pen-y-bont.’

Gwyddom nad yw hyn yn ar fin digwydd. Gwyddom fod gennym le i anadlu tan 2020-21. Mae’r injan Jaguar yn agosáu at ddiwedd ei hoes. Mae gennym beth buddsoddiad, er nad y buddsoddiad yr oeddem yn dymuno’i gael, yn yr injan Dragon, ond mae hynny’n dda hefyd. ‘Does bosib nad oes angen i bob un ohonom yn awr—Llywodraeth Cymru, ninnau fel Aelodau’r Cynulliad, y gweithlu, yr undebau a’r rheolwyr—eistedd o amgylch y bwrdd a dweud, ‘Sut y gallwn sicrhau mai’r ffatri hon fydd yn denu’r buddsoddiad hwnnw?’ Felly, mae gennyf dri chwestiwn penodol. Un yw: beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, y tu hwnt i’r hyn sydd wedi’i nodi yn barod, i hwyluso’r trafodaethau cynhyrchiol ac adeiladol hynny—a byddant yn drafodaethau digyfaddawd—er mwyn i bawb o amgylch y bwrdd gytuno ar gynllun ar gyfer symud ymlaen. A yw’n cytuno bod angen inni wneud hynny yn awr? Oherwydd os caiff y penderfyniadau buddsoddi sydd eu hangen arnom i sicrhau dyfodol y ffatri hon eu rhoi ar waith yn 2020 a 2021, mae angen eu gwneud yn ystod y misoedd a’r flwyddyn sydd i ddod.

Yn drydydd, beth a wyddom yn awr—fisoedd yn ddiweddarach—am y gwarantau a roddwyd gan Lywodraeth y DU i ffatri arall yn y DU, yn gwbl briodol, ynglŷn â’r ansicrwydd ar ôl Brexit? Beth a wyddom am hynny? Ac a ydym yn sicr fod y gwarantau hynny’n cael eu cynnig hefyd i’r gweithwyr yn Ford Pen-y-bont, gan y dylent fod yn cael eu cynnig. Dylid rhoi’r un gwarantau iddynt. Felly, os gwelwch yn dda, gwyddom am y buddsoddiad a wnaed dros lawer o flynyddoedd gan Lywodraeth Cymru yn y ffatri hon, gwyddom am yr ymdrechion a wnaed gan y gweithlu, ond ymddengys fod mynydd gennym i’w ddringo mewn byr o dro. Dylem oll fod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn dringo’r mynydd hwn ac i sicrhau dyfodol cynhyrchiol ar gyfer y ffatri hon ac ar gyfer y gweithwyr—mae cannoedd ohonynt yn fy etholaeth i.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chydnabod ei bryder gwirioneddol nid yn unig am ei etholwyr ei hun, ond yr etholwyr sy’n byw mewn ardaloedd cyfagos yn ne Cymru hefyd? Gwn hefyd fod ei ymrwymiad i ffatri Ford Pen-y-bont a’i gweithlu yn ddiwyro.

Nawr, o ran technoleg newydd, mae newid dynamig yn digwydd yn y sector modurol ar hyn o bryd, a noda’r Aelod y ffaith y bydd Jaguar yn rhoi’r gorau i gynhyrchu’r injan AJ yn ddiweddarach yn ystod y degawd hwn. Nid Jaguar yw’r unig weithgynhyrchwr sy’n ystyried cynhyrchu injans newydd a mathau newydd o injans. Oherwydd hynny, mae’n hanfodol fod Ford yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr modurol eraill yn Ewrop a ledled y byd i nodi cyfleoedd i ddatblygu injans newydd gyda’i gilydd, ac i ddod â hwy i Ben-y-bont. Roedd gan Ben-y-bont hanes am fod y ffatri fwyaf cystadleuol a chynhyrchiol yn Ewrop. Rydym am weld y statws hwnnw’n dychwelyd a dywedodd is-lywydd Ford wrthyf heddiw fod y gweithlu—y ffatri—ar y llwybr iawn tuag at ddod yn ffatri fwyaf cystadleuol a mwyaf cynhyrchiol yn Ewrop unwaith eto. Fe’m galluogwyd gan hynny i ddadlau’n gryf fod buddsoddiad pellach yn sicr yn rhywbeth y dylid ei groesawu ac y dylid ei gyfeirio tuag at y ffatri ym Mhen-y-bont, oherwydd gyda’r galw am fathau newydd o injans, mae gan Ford ym Mhen-y-bont hanes profedig o ddarparu’r safon uchaf mewn modd amserol.

Mae’r Aelod yn iawn i ddweud ein bod mewn cyfnod heriol—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—ond mae gennym Brif Weinidog sydd â hanes profedig o ddiogelu swyddi sydd mewn perygl. Nid oes ond angen inni edrych ar argyfwng Tata fel enghraifft o’r modd y mae wedi gallu cyflawni ei addewid i sicrhau swyddi o ansawdd i bobl yma yng Nghymru. Yn wir, fel y dywedais eisoes, mae wedi gwneud hynny eto yr wythnos hon gyda GE. Rwy’n bwriadu cyfarfod â Len McCluskey yn ddiweddarach y prynhawn yma. Rwyf eisoes wedi siarad ag Andy Richards, ysgrifennydd cyffredinol Unite Cymru. Rwyf hefyd wedi siarad ag Aelodau Cynulliad lleol heddiw. Rwyf wedi siarad â’r Prif Weinidog ac is-lywydd Ford y bore yma. Rwy’n bwriadu dod â’r holl bartneriaid at ei gilydd er mwyn adfer etheg gwaith tîm Ford ym Mhen-y-bont, etheg a fydd yn arwain at ddod â rhagor o fuddsoddiad a chynhyrchion newydd i ffatri ragorol.

Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi siarad â dau o Aelodau’r Cynulliad, ond ni chredaf eich bod wedi siarad gyda phob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli’r ardal, a chredaf, mewn perthynas â democratiaeth yma yng Nghymru, y byddai’n dda pe gallech gynnwys pob Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol.

Edrychwch, efallai y byddwch yn dweud bod Ford wedi buddsoddi yn yr ardal ac efallai fod gennych eiriau caredig i’w dweud am Ford, ond gallaf ddangos fy nghreithiau ar ôl y dadleuon ynglŷn â Ford yn cau eu ffatri yn Abertawe ac ymgyrch bensiynau Visteon gyda Ford a ddilynodd hynny. Felly, efallai ei bod yn braf eich bod yn ymddiried ynddynt, ond efallai na fydd eu geiriau yn cael eu hadlewyrchu yn y camau a gymerant ar ôl 2021. Felly, hoffwn gael sicrwydd gennych, gan na’ch clywais i chi’n ateb Adam Price: pryd y daethoch i wybod am yr adroddiadau yn y wasg heddiw? Ie, efallai mai adroddiadau a ddatgelwyd yn answyddogol ydynt, ond mae angen inni wybod pa drafodaethau a gawsoch gyda’r cwmni er mwyn deall lefel y difrifoldeb a fu cyn hyn, gan y bydd y rhai sy’n byw yn yr ardal honno, wrth gwrs, yn bryderus iawn. Mae hwn hefyd yn gwmni angori, felly hoffwn geisio deall beth y mae’r cwmnïau eraill sy’n gweithio o gwmpas Ford yn ei deimlo heddiw—nid gweithwyr Ford yn unig, ond y cwmnïau llai hynny. Rydych yn sôn cryn dipyn am chwilio am gynhyrchion newydd, ond beth yw rhai o’r cynhyrchion newydd hynny? A ydych yn pryderu, mewn perthynas â Tata yn prynu Jaguar Land Rover yn 2008, fod llawer o fuddsoddiad wedi mynd i’r ffatri yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ac y gall hynny fod yn niweidiol i gynhyrchiant ffatri Ford ym Mhen-y-bont? Felly, a ydych wedi ystyried dadansoddi effaith y buddsoddiadau mewn rhan arall o’r DU a sut y mae hynny’n effeithio arnom ni?

Buom yn trafod Tata ychydig wythnosau yn ôl. Byddai’n dda pe gallech chi fel Llywodraeth ddarparu’r strategaeth ddiwydiannol honno er mwyn inni allu dod â’r holl offerynnau hyn ynghyd mewn un ddogfen benodol a deall sut y gallwn ninnau fel Aelodau’r Cynulliad ar draws y Siambr gyfrannu at hyn mewn ffordd gadarnhaol, gan nad oes gennym unrhyw ddiddordeb mewn ceisio elwa ar hyn. Mae’n rhaid inni ddiogelu’r swyddi yn ne Cymru, oherwydd os nad yw Ford yn teimlo’r pwysau, yna credwch fi, efallai y byddant yn symud y swyddi hynny i fannau eraill. Oherwydd maent yn gorfforaeth ryngwladol, ac nid ydynt yn ymrwymedig i Gymru fel y bydd rhai Aelodau eraill yn y Siambr hon yn ei feddwl o bosibl.

Dylwn ddechrau drwy ddweud wrth yr Aelod fod Aelodau eraill y siaradais â hwy’r bore yma wedi cysylltu’n rhagweithiol â mi, a dyna pam y gallais rannu manylion gyda hwy ynglŷn â’r sgyrsiau a gefais gyda’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol. Mae croeso i’r Aelod gysylltu â mi ar unrhyw adeg os yw’n teimlo’n ddigon cryf ynglŷn â’r materion yn ei rhanbarth.

Dylwn ddweud hefyd mai yn awr yw’r amser i feithrin ymddiriedaeth, yn hytrach na’i thanseilio neu ei dinistrio, a chredaf mai drwy adfer ymagwedd tîm yn Ford Pen-y-bont y gallwn sicrhau dyfodol mwy hyfyw i’r ffatri. Nid oes unrhyw amheuaeth fod cryn bryder yn y ffatri, a dywedais wrth is-lywydd Ford heddiw am fy nyhead i gael manylion ynglŷn â’r cynhyrchion newydd sy’n cael eu hystyried. Rwy’n awyddus i wybod yn union beth y gall Ford Pen-y-bont ei ddisgwyl a beth y dylent ddisgwyl y byddant yn ei weithgynhyrchu yn y degawd nesaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, gallai’r cynhyrchion hyn gynnwys injans trydan a hybrid, ond mae angen inni wybod beth yn union y bydd ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn canolbwyntio ar ei gynhyrchu dros y blynyddoedd i ddod.

O ran y manylion a ddatgelwyd heddiw, fel y dywedais wrth Adam Price, maent yn cynrychioli’r senario waethaf o ran yr hyn a fuasai’n digwydd—yr hyn a fuasai’n digwydd—yn ddamcaniaethol, pe na bai unrhyw gynhyrchion newydd yn cael eu sicrhau ar gyfer ffatri Pen-y-bont. Ond ein bwriad yw sicrhau cynnyrch newydd, gweithio’n rhan o dîm gyda Ford, gyda’r gweithlu, gyda’r undebau, a dyna pam y byddaf yn dod â hwy i gyd at ei gilydd. Mae gan bawb ddiddordeb yn hyn—yr undebau, y gweithlu a’r Llywodraeth—er mwyn sicrhau bod Ford yn goroesi a bod Ford ym Mhen-y-bont yn ffynnu ymhell i’r dyfodol.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu ymddiriedaeth ymysg y partneriaid, a byddwn yn gweithio gyda’r cwmni, ac os yw hynny’n golygu bod yn ddigyfaddawd gyda Ford Europe, byddwn yn gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch am eich atebion hyd yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hoffwn roi cynnig arall ar gwpl o gwestiynau, gan nad ydym wedi cael atebion iddynt. [Torri ar draws.] Pryd oedd y tro cyntaf i chi glywed am y senario waethaf hon? Mae’r AS dros Ben-y-bont ar Ogwr yn cyfaddef nad oedd yn gwybod unrhyw beth am hyn, felly rwy’n meddwl tybed a oeddech chi.

A allwch roi ateb i mi, ateb syml, i’r cwestiwn: a yw’r Prif Weinidog wedi ceisio newid ei amserlen yn America i gyfarfod â rhywun o Ford? Mae’n gwestiwn syml. Hynny yw, ‘do’ neu ‘naddo’.

A chwpl o gwestiynau eraill: fis Medi diwethaf, dywedodd Ford na fyddai’r toriadau yng nghynhyrchiant Dragon yn effeithio ar y gweithlu, ac fel pob un ohonom, gan eich cynnwys chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac Aelodau’r Cynulliad—ac wrth gwrs, fe ddywedodd Len McCluskey ei hun ar ei ymweliad diweddar ei fod yn gofyn i’r cwmni ddangos eu bod yn ‘gweithio’n galed i sicrhau cynnyrch newydd’. Dyna oedd ei eiriau, a chredaf ein bod yn eu rhannu.

Awgryma adroddiad heddiw ar y senario waethaf fod Ford naill ai wedi methu, sy’n golygu ein bod yn wynebu dyfodol digon tywyll, neu nad ydynt wedi bod yn gweithio mor galed â hynny eto. Clywais eich ateb cynharach i Caroline Jones, ond tybed pa un o’r ddwy senario sydd agosaf at y gwirionedd yn eich barn chi. Mae’n peri cryn bryder fod y cwmni wedi awgrymu nad yw arferion gwaith yn y ffatri mor effeithlon neu effeithiol ag yn ffatrïoedd eraill y DU. Dyna’r tro cyntaf i ni glywed hynny, neu o leiaf y tro cyntaf i mi glywed hynny. Dywedodd Mr McCluskey y byddai’n ‘gweithio’n galed’ gyda’r cwmni—rwy’n ei ddyfynnu unwaith eto—felly a ydych yn cytuno y dylid dechrau’r math o waith yr oedd Huw Irranca-Davies yn siarad amdano yn gynharach cyn gynted â phosibl fel na all Ford byth fod mewn sefyllfa lle y gallant ddefnyddio’r gweithlu fel esgus i fygwth y ffatri honno? Credaf fod fy nghwestiynau eraill wedi cael eu hateb, felly byddwn wrth fy modd pe gallech ateb y pedwar cwestiwn hwnnw.

Gallaf. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau? Yn gyntaf, gofynnodd yr Aelod a fydd y Prif Weinidog yn hedfan i Detroit i gyfarfod â Ford. Fel y dywedais eisoes, rwyf wedi siarad â’r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniad. Yn bwysicach, gwyddom beth y bûm yn ei wneud, gwyddom beth yw’n safbwynt ni: ble mae Prif Weinidog y DU wedi bod ar hyn? Mae arnom angen sicrwydd tebyg—[Torri ar draws.] Mae arnom angen sicrwydd tebyg ar gyfer Ford ag a roddwyd i Nissan. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dangos ei fod yn gallu sefyll dros ddiwydiant Cymru: ble mae Prif Weinidog y DU? Fel y dywedais, byddaf yn parhau i ymgysylltu â’r unigolyn a fydd yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn â ffatri Pen-y-bont. Yr unigolyn hwnnw yw is-lywydd Ewrop, yr unigolyn hwnnw yw’r unigolyn y siaradais â hi y bore yma ac y byddaf yn parhau i gynnal deialog â hi, ac ni fydd drygioni’r Aelodau gyferbyn yn fy atal rhag siarad gyda’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol mewn perthynas â diogelu dyfodol Ford ym Mhen-y-bont. Waeth pa helynt y dymunant ei godi, mae’n well gennym weithredoedd na geiriau ar yr ochr hon—osgoi argyfwng felly yn hytrach na hybu’r syniad o argyfwng.

O ran Ford eu hunain—[Torri ar draws.] O ran Ford eu hunain, mae cyfathrebu rhwng—[Torri ar draws.] Mae’r Aelodau’n protestio gormod.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau—yn gorffen—ei ateb.

Credaf fod angen—[Torri ar draws.] Credaf fod angen i Ford gyfathrebu’n well gyda’u gweithwyr, gyda’u haelodau, mewn perthynas â’r amcanion ar gyfer y ffatri yn y tymor hir. Dyna pam fy mod wedi siarad gyda’r undebau yn ogystal â’r is-lywydd; dyna pam y byddaf yn dod â hwy at ei gilydd. Oherwydd yr hyn a gyflwynwyd heddiw oedd y senario waethaf yn seiliedig ar sefyllfa ddamcaniaethol. Y ffaith amdani, ar gyfer y sector modurol, yw bod yn rhaid i chi edrych yn hirdymor ar ba gynhyrchion a ddaw yn y dyfodol, ond mae yna senario waethaf yn bodoli ar gyfer unrhyw weithgynhyrchwr os nad ydych yn sicrhau cynhyrchion newydd. Y cwestiwn allweddol ar ein cyfer ni, a’r hyn yr ydym yn canolbwyntio arno, yw sicrhau’r cynhyrchion newydd hynny—nid siarad yn unig am ba gyfleoedd sydd ar gael, ond dwyn Ford i gyfrif o ran eu haddewid eu bod yn edrych ar gyfleoedd newydd. Efallai’n wir eu bod yn edrych ar gyfleoedd newydd; hoffem wybod beth yn union yw’r cyfleodd hynny a phryd y gallwn ddisgwyl iddynt gael eu sicrhau.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. A’r cwestiwn cyntaf, Dai Lloyd.

Datblygu Gwasanaethau Bysiau

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau? OAQ(5)0124(EI)

Member
Ken Skates 13:57:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Gwnaf. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad llafar a roddais ddoe, ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei groeso cynnes iddo.

Diolch yn fawr am yr ateb yna. Yn amlwg, ie, cawsom ni’r datganiad ar ôl i fi roi’r cwestiwn yma i mewn, yn natur pethau. Ond hefyd, yn eich datganiad ysgrifenedig yn ôl yn yr hydref, roeddech chi wedi datgan eich bod chi’n mynd i gynnal trafodaethau gyda chynghorau Caerdydd a Chasnewydd ynglŷn â’r manteision o redeg cwmnïau bysus lleol drwy’r sector gyhoeddus. A allaf i ofyn, felly, beth—? [Torri ar draws.]

Okay. In a written statement back in the autumn you mentioned work with Cardiff and Newport councils on the benefits of running local bus companies through the public sector. You will recall that, I’m sure. Can I ask you what the outcomes of those discussions were, and have you started to hold discussions with other authorities, such as Swansea, for example, on the possibility of creating a similar system to those in Cardiff and Newport?

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Siaradais gyda Chasnewydd a Chaerdydd i gasglu’r arferion gorau ganddynt, gyda’r bwriad o’u rhannu gydag Abertawe ac awdurdodau lleol eraill. Crëwyd nifer o ffrydiau gwaith o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau yn Wrecsam, ac mae un yn edrych ar sut y gallwn greu rhwydwaith mwy cynaliadwy a sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol, ac yn wir, i’r gweithredwyr, er mwyn eu diogelu’n well ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych hefyd ar botensial masnachfraint yn ogystal â’r posibilrwydd o greu mwy o wasanaethau trefol ledled Cymru. Mae hwn yn faes gwaith y teimlaf yn arbennig o gyffrous yn ei gylch a chredaf fod gennym gyfle gwerthfawr i greu rhwydwaith bysiau llawer gwell i Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod rhywfaint o bryder mewn rhannau o’r diwydiant bysiau mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyflwyno rheoleiddio o’r brig i lawr yn sgil datganoli sawl darn o ddeddfwriaeth i Gymru. A wnewch chi roi trosolwg cyffredinol o sut y bydd y diwydiant bysiau’n cael ei reoleiddio yn y dyfodol yn eich barn chi a rhoi sicrwydd hefyd na fydd unrhyw reoliadau newydd ond yn cael eu cyflwyno ar ôl ymgynghori ac mewn partneriaeth â’r gweithredwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ac yn wir, yr awdurdodau lleol?

A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a dweud y bydd gwaith gyda’r diwydiant, gyda grwpiau teithwyr, ac yn wir, gydag awdurdodau lleol yn parhau? Mae’n amlwg fod pryder ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau newydd a rheoliadau cryfach, ond byddwn yn datgelu ein bwriadau a’n gweledigaeth gyffredinol yn y ddogfen a ddaw’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar Fawrth 8. Ein safbwynt yw bod angen newid er mwyn integreiddio gwasanaethau bysiau a threnau’n well ac er mwyn gwella hygyrchedd a phrydlondeb y gwasanaethau. Daw heriau gyda’r newidiadau hynny, ond yn y pen draw, mae’n rhaid i ni ystyried y teithwyr yn gyntaf oll ac mae gennyf hyder y bydd y gweithredwyr gorau yn gwneud hynny.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad ddoe ar wella’r gwasanaethau bysiau. Roedd gennyf ddiddordeb yn eich cynlluniau i wella’r profiad mewn safleoedd bysiau, yn enwedig drwy ddarparu mwy o wybodaeth electronig. Gall hynny amrywio o ganlyniad i ffactorau daearyddol. Er enghraifft, yng Nghymoedd de Cymru, mae’r safleoedd bysiau yn tueddu i fod yn llai o gymharu gyda phrinder llochesi, a hefyd mae’r band eang yn amrywio. Felly, tybed beth yw eich cynlluniau i wella’r profiad mewn safleoedd bysiau yn y Cymoedd.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Mae hwn yn bwynt pwysig iawn, gan fod defnyddwyr bysiau wedi dweud wrthym dro ar ôl tro fod diffyg cyfleusterau modern addas, yn enwedig safleoedd bysiau, yn eu rhwystro rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Soniais funud yn ôl fod nifer o ffrydiau gwaith wedi cael eu creu o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau, ac mae un arall o’r ffrydiau gwaith hynny’n canolbwyntio’n benodol ar welliannau y gellir eu gwneud ar unwaith i safleoedd bysiau, yn enwedig o ran darparu gwybodaeth fyw am drafnidiaeth.

O ystyried bod Cyflymu Cymru yn cael ei gyflwyno ac o ystyried argaeledd mathau eraill o dechnoleg ddigidol, nid ydym yn cytuno na ellid darparu gwybodaeth fyw yn yr holl safleoedd bysiau, ni waeth pa mor wledig ydynt. Gellir defnyddio amryw o atebion. Rydym yn hyderus y gellir eu defnyddio. Un o’r heriau sy’n ein hwynebu, fodd bynnag, yw ein bod—fel yr amlinellais ddoe yn y datganiad—wedi bod yn ceisio sefydlu partneriaethau gwirfoddol o ansawdd rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ers peth amser. Un o’r anawsterau a wynebwyd gennym yw sicrhau ymrwymiad gan yr awdurdodau lleol a’r gweithredwyr i fuddsoddi yn eu seilweithiau. Oherwydd hynny, mae’r ffrwd waith yn edrych ar ba gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol mewn safleoedd bysiau ledled Cymru.

Hyrwyddo Sir Benfro fel Cyrchfan Dwristiaeth

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan dwristiaeth? OAQ(5)0128(EI)

Gwnaf. Mae Sir Benfro yn rhan hanfodol o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran twristiaeth yn gyffredinol. Mae ein gweithgareddau marchnata yn cynnwys atyniadau a chynnyrch twristiaeth yn Sir Benfro, ochr yn ochr â phob rhan arall o Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae Tyddewi, dinas leiaf Prydain, yn datblygu cais i fod yn ddinas diwylliant y DU yn 2021, a byddai hynny, pe bai’r cais yn llwyddiannus, yn gwneud llawer i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan twristiaeth. O gofio mai eleni yw Blwyddyn y Chwedlau, gyda’r bwriad o gyfoethogi a hyrwyddo diwylliant yng Nghymru, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i Dyddewi i’w helpu i gryfhau ei chais i fod yn ddinas diwylliant y DU?

A gaf fi ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn a dweud wrtho mewn gwirionedd fy mod yn treulio bob gwyliau haf yn Sir Benfro? Credaf ei bod yn un o’r ardaloedd harddaf a mwyaf deniadol, nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop. Rwy’n falch o ddweud bod partneriaeth cyrchfan Sir Benfro wedi llwyddo i sicrhau adnoddau sylweddol eleni fel rhan o ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau de-orllewin Cymru, sy’n dod â gwahanol awdurdodau lleol ynghyd i ddathlu’r chwedlau ar draws y rhanbarth.

Credaf hefyd y bydd y flwyddyn nesaf, Blwyddyn y Môr, yn gyfle gwerthfawr i Sir Benfro. Gallaf ragweld nifer o ddigwyddiadau ysblennydd a chynhyrchion newydd yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth drwy’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth a thrwy fesurau ariannol eraill.

Rwy’n ymwybodol iawn fod Tyddewi yn ystyried gwneud cais am statws dinas diwylliant. Byddai hon yn gamp wych pe gallent ei chyflawni. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Abertawe yn ystyried gwneud cais. Byddaf yn cyfarfod â threfnwyr y ddwy ddinas dros yr wythnosau nesaf. Er na allaf ddweud ar hyn o bryd a wyf yn ffafrio’r naill gynnig dros y llall, pe bai cais yn cael ei gyflwyno gan un ohonynt ac nid y llall, gallaf ddweud y byddai’n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.

Diolch yn fawr, Lywydd. Fe wnaethoch ddelio â hynny’n daclus iawn, mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech roi syniad i ni pryd y gallwn ddisgwyl ymateb llawn i’r adroddiad Cymru Hanesyddol. Gobeithiaf y gallwch wneud hynny heddiw, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad i ni.

Tan hynny, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod eich rhagflaenwyr, er gwaethaf fy ymdrechion ar sawl achlysur i’w hudo i feddwl fel arall, wedi mynnu bob amser ei bod hi’n well i Cadw barhau’n rhan o’r Llywodraeth. Yn amlwg, mae gennych syniadau eraill, ac rwy’n falch o weld hynny, ond ni chredaf y byddech wedi comisiynu adroddiad Cymru Hanesyddol heb roi o leiaf rywfaint o ystyriaeth gynnar i’r sefyllfa pe bai Cadw’n annibynnol ar y Llywodraeth. Pa fanylion y gallwch eu rhoi ynglŷn â’ch gwaith cwmpasu paratoadol mewn perthynas â gwneud Cadw’n annibynnol ar y Llywodraeth? Sut y llwyddasoch i oresgyn dadleuon eich rhagflaenwyr? A oes gennych ffigurau dangosol o unrhyw fath—rwy’n sylweddoli fod hyn yn anodd—er mwyn inni gael syniad cyffredinol o’r costau, er nad ydych, wrth gwrs, wedi gwneud y penderfyniad terfynol eto? Diolch.

A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwyf wedi derbyn adroddiad Cymru Hanesyddol y grŵp llywio. Mae’n adroddiad ardderchog. Rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd a byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn aros am ymatebion ffurfiol gan y sefydliadau y mae’r papur yn ymwneud â hwy.

O ran Cadw, byddaf yn rhoi sylw arbennig i’r argymhelliad hwnnw. Mae Cadw wedi perfformio’n eithriadol o dda fel rhan o’r Llywodraeth dros y 12 mis diwethaf, ac rwyf am sicrhau bod y llwyddiant hwnnw’n parhau. Un o’r rhesymau pam fod Cadw wedi gweld cynnydd mor nodedig o ran nifer yr ymwelwyr ac aelodau, ac yn wir, o ran swm yr incwm a gynhyrchwyd, yw am fod rhyddid a hyblygrwydd gan y personél yn y sefydliad i weithredu mor fasnachol ag y dymunant. Pa un a yw Cadw’n aros yn rhan o’r Llywodraeth ai peidio, hoffwn sicrhau bod y bobl iawn yno—y bobl iawn, sy’n llawn dychymyg, os mynnwch—i arwain y sefydliad er mwyn denu mwy o ymwelwyr.

Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf am symud ymlaen yn awr at rywbeth arall yr ydym wedi bod yn aros peth amser amdano, sef yr adolygiad o amgueddfeydd bychain, a gyflwynodd adroddiad ym mis Awst 2015. Cafodd ei groesawu gan y sector, ac er i’r Llywodraeth oedi am chwe mis cyn ymateb i’r argymhellion, maent yn awyddus i weld cynnydd.

Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw rhai o’r argymhellion yn cael eu cyflawni, nid ag unrhyw frys o leiaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhyw syniad inni ynglŷn â sut y mae eich adran yn monitro a chraffu ar eich partneriaid mewn gwirionedd, gan gynnwys awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod y syniadau da hynny’n trosi’n arferion da.

Rwy’n credu y dylai’r Aelodau fod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ychydig cyn y Nadolig ynglŷn ag adolygiad y panel o arbenigwyr, yr argymhellion a sut rydym yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Derbyniwyd y rhan fwyaf o’r argymhellion gennym. Yr un argymhelliad yr oedd gennyf amheuon yn ei gylch oedd creu cyngor amgueddfeydd newydd a allai gystadlu â sefydliadau presennol neu sathru ar eu sodlau. Felly yn fy marn i, cyn sefydlu unrhyw sefydliadau neu grwpiau newydd, dylem archwilio yn gyntaf a yw’r rhai presennol yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Os nad ydynt, a oes angen gwneud newidiadau i’r sefydliadau hynny?

Mewn gwirionedd, roeddem wedi rhoi rhai o’r argymhellion eraill ar waith cyn i’r adolygiad gael ei gyhoeddi. Un ohonynt, er enghraifft, oedd fy nyhead i amgueddfeydd lleol allu cael mynediad at yr un math o gyllid â llyfrgelloedd lleol, er mwyn eu trawsnewid yn ganolfannau cymunedol gydol oes. Newidiais y meini prawf ar gyfer y gronfa honno a chynyddu’r swm o arian a oedd ar gael er mwyn i amgueddfeydd lleol allu elwa ar hynny.

Fe’i gelwir gan adroddiad y panel o arbenigwyr yn gronfa drawsnewid, ac mae’n wir ei bod yn gronfa drawsnewid, ond nid oeddwn yn awyddus i aros am ymateb i’r adroddiad ac i gamau gweithredu gael eu cymryd ar yr adroddiad cyn sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr hwnnw, a allai gadw’r amgueddfeydd lleol yn fyw, ar gael ac yn cael ei ddefnyddio. Credaf fod y ffigurau’n addawol iawn ar hyn o bryd—mae amgueddfeydd lleol wedi dangos cryn ddiddordeb. O ran yr argymhellion eraill, rydym yn eu rhoi ar waith, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio unwaith eto fy mod yn gyndyn i dderbyn yr un argymhelliad hwnnw gan fy mod o’r farn fod gennym y sefydliadau a’r grwpiau cywir ar hyn o bryd i gynrychioli’r sector amgueddfeydd.

Diolch yn fawr eich ateb. Byddaf yn sicr yn ei gyfleu i’r sector, os nad ydynt eisoes wedi’i gael drwy hyn. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth ychydig yn wahanol yn awr, sef y ffaith fod Cymru’n wlad o fusnesau bach, gyda llawer ohonynt yn bartneriaethau yn hytrach na chwmnïau, sy’n golygu eu bod yn gweithredu yn unol â rheolau treth incwm yn hytrach na’r dreth gorfforaeth. Tybed pa fath o drafodaethau a gawsoch gyda’r ysgrifennydd Cyllid ynglŷn ag a ellid—ac mae ‘a ellid’ yn gwestiwn dilys hefyd—a sut y gellid defnyddio pwerau amrywio treth incwm i annog y sector preifat—y math o sector preifat sydd gennym—i fuddsoddi yn y celfyddydau a threftadaeth.

Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio unrhyw fath o haelioni neu ostyngiad treth a allai alluogi rhoi i’r sector diwylliant a chwaraeon. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar gynyddu argaeledd adnoddau, ac yn annog mwy o bobl—nid unigolion yn unig, ond busnesau yn ogystal â sefydliadau elusennol—i sicrhau bod y sector diwylliant yn ffynnu. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw gynllun a fyddai’n arwain at fwy o adnoddau i lyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau’r celfyddydau. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn, a byddaf yn ei ddwyn i sylw’r Gweinidog Cyllid.

Hoffwn ddychwelyd, os caf, at fewnfuddsoddiad a’r rôl y dylai ei chwarae yn ein strategaeth economaidd ehangach. Bydd diddordeb gan Aelodau’r Cynulliad mewn gwybod bod y Prif Weinidog, yn yr ychydig funudau diwethaf, wedi dweud wrth y BBC y byddai taith i Detroit yn ddibwynt, ac o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, byddai’n rhaid i lawer o sylwebwyr ddod i’r casgliad ei fod yntau’n Brif Weinidog eithaf dibwynt.

Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo baratoi i ddatgelu ei strategaeth economaidd newydd, pa mor bwysig y dylai mewnfuddsoddi fod i economi Cymru wrth symud ymlaen yn ei farn ef o ystyried bod yna lai o brosiectau mewnfuddsoddi mawr nag yn y gorffennol, ac nad ydym yn llwyddo i’w hennill. Ni lwyddasom i ennill Jaguar Land Rover a fydd yn gwneud yr injans o Ben-y-bont o hyn ymlaen. Chwe blynedd yn ôl, ni lwyddasom i ennill Boeing. Roedd pennawd yn y ‘Western Mail’ yn dathlu’r ffaith fod Cymru wedi dod yn ail. Roedd yn swnio fel rhai o’r cyfweliadau a glywsom yn ddiweddar ar ôl gêmau. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig hyd at £50 miliwn i Boeing ddod i Gymru, fel y clywais? A all gadarnhau hefyd mai un o’r rhesymau y penderfynodd Boeing beidio â dod oedd am eu bod yn pryderu ynglŷn â digonolrwydd ac ansawdd y sylfaen sgiliau leol?

Credaf fod yr Aelod yn iselhau ei hun gyda’i sylwadau dirmygus am y Prif Weinidog nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i roi sicrwydd i’r gweithwyr hynny. Ond mewn gwirionedd, mae’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn yr ychydig funudau diwethaf yn cadarnhau fy mod wedi bod yn siarad â’r unigolyn cywir—yr un a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford. O ran prosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor, mae cynnydd o 77 y cant wedi bod yn nifer y prosiectau a chynnydd o 84 y cant yn nifer y swyddi gyda chwmnïau sydd â’u pencadlysoedd mewn rhannau eraill o’r DU yn dod i Gymru. Mae gennym hanes balch iawn o ddenu buddsoddiad i Gymru, fel y dengys Aston Martin. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fwyfwy pwysig inni weithio gyda busnesau a buddsoddwyr yn Lloegr, a dyna pam y credaf y bydd allforion—nid dramor yn unig, ond hefyd allforion dros y ffin i Loegr, yr Alban ac Iwerddon—yn dod yn hanfodol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng denu mewnfuddsoddiad a sicrhau bod mwy o gwmnïau cynhenid a busnesau yng Nghymru yn allforio y tu hwnt i Gymru. Oherwydd hynny, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid inni sicrhau mynediad dilyffethair a di-dariff at y farchnad sengl wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n falch iawn—mae wedi cymryd peth amser—ond rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn siarad bellach am berthynas ddilyffethair a diffrithiant. Credaf fod hynny’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn o’r cychwyn cyntaf i alw am fynediad dilyffethair heb unrhyw dariff na rhwystrau technegol sy’n atal cwmnïau yng Nghymru rhag allforio. Ond ar y cyfan, credaf y bydd allforion yn dod yn fwy pwysig i dwf a ffyniant economaidd Cymru.

Fel cenedl, wrth gwrs, bydd ein hadnoddau bob amser yn gyfyngedig—yn wir, mae prinder, wrth gwrs, yn un o egwyddorion sylfaenol economeg—felly mae angen inni fod yn hollol glir ein bod yn buddsoddi’r adnoddau prin hynny yn y mannau cywir lle y cânt yr effaith fwyaf. A gaf fi wahodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo ddyfeisio a mireinio ei strategaeth economaidd, i edrych ar y prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan dîm ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n cynnwys yr Athrawon Brian Morgan, Gerry Holtham a Rob Huggins, ac sydd wedi edrych ar y gwahanol newidion sy’n gysylltiedig â llwyddiant economaidd ledled y byd? Roedd rhai canlyniadau’n peri syndod—neu ddim gymaint â hynny o syndod, efallai—ac yn dangos mai un o’r newidion pwysicaf yw lefel y gwariant ar addysg. Yn wir, fel y dywedodd yr Athro Holtham yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn hytrach nag ysbeilio’r gyllideb addysg, fel y gwnaethom dros y blynyddoedd diwethaf, er mwyn cynyddu ein cyllideb ddatblygu economaidd gonfensiynol mewn gwirionedd, efallai y dylem fod yn gwneud i’r gwrthwyneb, gan ymateb, er enghraifft, i’r alwad yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ddoe, am fuddsoddiad parhaus mewn addysg—ysgolion, addysg bellach a phrifysgolion—gan mai dyna un o’r penderfynyddion mwyaf dibynadwy mewn perthynas â llwyddiant economaidd yn y dyfodol.

Credaf fod yr Aelod yn gywir, a hoffwn ychwanegu bod addysg y blynyddoedd cynnar yn hynod o bwysig hefyd, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac oherwydd hynny credaf ei bod hefyd yn iawn fod gennym addewid gofal plant uchelgeisiol iawn, a’n bod yn parhau i fuddsoddi mewn addysg gynnar. O’r holl ddata sydd ar gael, rydym wedi gallu canfod, o ran y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU mewn perthynas â gwerth ychwanegol gros, mai diffyg cynhyrchiant sy’n gyfrifol am y rhan helaeth o’r bwlch hwnnw, a bod y gwahaniaeth mewn cynhyrchiant yn ei dro yn deillio i raddau helaeth o ffactorau megis bylchau sgiliau. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau yn y meysydd iawn er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy’n awyddus i gychwyn yn y gweithle yn meddu ar sgiliau o’r math cywir. Credaf hefyd fod yn rhaid inni wneud mwy nag addysgu pobl yn gyffredinol a rhoi sgiliau cyffredinol iddynt, ond ein bod yn arfogi pobl â’r sgiliau sy’n gydnaws â’u diddordebau a’u galluoedd cynhenid, fel y gallant sicrhau gyrfa hir mewn gweithle o’u dewis.

Y newidyn arall a nodwyd yn rhan o’r astudiaeth hon o gystadleurwydd economaidd byd-eang yw lefel arloesedd busnes—ymchwil a datblygu. Dros flwyddyn yn ôl, comisiynodd ei ragflaenydd adroddiad ail gam ar greu corff arloesi cenedlaethol penodol i Gymru, i godi lefel ein hymchwil a datblygu, yn y sector preifat ac mewn addysg uwch. A all roi rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r cynnydd mewn perthynas â sefydlu’r corff hwnnw, a hefyd, a all ymateb i wybodaeth a gefais sy’n awgrymu bod y cyfarwyddwr arloesi amser llawn a fu’n arwain ymdrechion Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, cyn-gyfarwyddwyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, wedi cael ei symud o’r swydd honno i swydd fel cyfarwyddwr chwaraeon, ac nad oes cyfarwyddwr arloesi amser llawn gennym bellach, sy’n sicr yn achos pryder o ystyried ei bwysigrwydd i’n strategaeth economaidd? Ac yn olaf, arloesedd yr ydym yn edrych ymlaen ato ym Mlaenau’r Cymoedd: rhaglen Cylchffordd Cymru—a all gadarnhau ei fod, cyn belled â bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu iddo mewn pryd, yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn dechrau purdah? ‘Does bosibl nad yw pobl Blaenau Gwent yn haeddu gwybod hynny cyn etholiadau mis Mai.

O ran arloesi, mae’r Arloesfa a chyrff neu fentrau eraill wedi gallu sbarduno arloesedd a menter yng Nghymru i gyrraedd uchelfannau newydd. Wedi dweud hynny, mae angen inni ddal i fyny â sawl rhan o’r DU: nid oes amheuaeth am hynny. Ond rhwng 1995 a 2015, roedd y cynnydd blynyddol cyfartalog mewn termau real gan fusnesau’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau, yn 5 y cant y flwyddyn, mewn cyferbyniad â chyfartaledd y DU o 2 y cant yn unig. Felly, mae mwy o dwf wedi bod yng Nghymru, ond mae angen inni sicrhau rhagor o fuddsoddiad o’r byd busnes, ac yn wir, gan y Llywodraeth, ond mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod yr her y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei chreu yn hyn o beth. Dyna pam y bûm yn eithaf clir hefyd y dylem ni yng Nghymru ddisgwyl cyfran sylweddol o’r £2 biliwn y mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes a menter wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwil a datblygu ledled y DU.

O ran y pennaeth arloesi yn Llywodraeth Cymru, hyd y gwn i, mae un o’r academyddion mwyaf nodedig yn y maes hwn yn gyfrifol am arloesi ac mae gennyf ffydd y bydd y swyddog hwnnw’n arwain tîm ymroddgar ac effeithiol a fydd yn sicrhau rhagor o adnoddau ar gyfer ymchwil a datblygu, nid yn unig yn y sector preifat, ond ar draws y maes academaidd, ac yn sicrhau bod sylw’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio orau i sbarduno menter o fewn economi Cymru.

O ran Cylchffordd Cymru, dywedais ym mis Ionawr fy mod yn credu bod pobl Glynebwy yn haeddu penderfyniad ar y prosiect hwn cyn gynted â phosibl. Dyna pam y gofynnais i’r datblygwyr gyflwyno cynnig cadarn a ffurfiol o fewn yr amser a roddais iddynt. Daethant â chynnig yn ôl. Dywedais wedi hynny y byddem yn dechrau proses o ddiwydrwydd dyladwy, a fyddai’n para rhwng pedair a chwe wythnos wedi’r adeg y daeth y wybodaeth i law. Rwy’n dal i obeithio na fydd ond yn para rhwng pedair a chwe wythnos wedi i’r holl wybodaeth ddod i law, ac os gellir gwneud penderfyniad yn yr amser cyn dechrau purdah, yna yn sicr dylid gwneud hynny. Ond mae hyn yn nwylo’r datblygwyr ar hyn o bryd. Mae angen y wybodaeth arnom er mwyn dechrau’r broses o ddiwydrwydd dyladwy fel bod modd gwneud penderfyniad cyn dechrau purdah os yw’n mynd i gael ei wneud bryd hynny.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, bu’r Pwyllgor Economi a Seilwaith yn ystyried strategaeth cynnig Llywodraeth Cymru i gyflenwi masnachfraint y gororau a’r prosiect metro. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull contract integredig, sy’n golygu, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ddeiliad masnachfraint y rheilffyrdd—pwy bynnag y bo—gydweithio’n agos iawn â’r cwmni seilwaith a ddewisir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’n ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng y rhai sy’n ymgeisio am y fasnachfraint a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses dendro ar gyfer y seilwaith er mwyn sefydlu rhywfaint o gydweddoldeb?

Rydym yn annog pob un o’r ymgeiswyr i ymgysylltu cymaint â phosibl gyda’r rhanddeiliaid presennol a rhanddeiliaid posibl yn y dyfodol i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yn y fasnachfraint newydd ac yn y metro, a bod y buddsoddiad yn cael ei sianelu yn y ffordd iawn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau mor effeithlon ac mor fodern â phosibl.

Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod cael perthynas waith effeithiol rhwng y ddau barti yn hanfodol er mwyn cyflenwi’r prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb?

Ydw, rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae hynny’n gwbl hanfodol. Dymunwn weld perthynas gref yn cael ei datblygu rhwng y rhai sy’n gyfrifol am y traciau a’r rhai sy’n gyfrifol am y cerbydau sy’n rhedeg arnynt. Credaf fod yr hyn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ddiweddar ynglŷn â dod â Network Rail a gweithredwyr rheilffyrdd at ei gilydd mewn rhyw ffordd yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, mae’r hyn a argymhellir gennym yng Nghymru yn debyg i raddau, ond yn hytrach na phreifateiddio’r holl system, byddwn yn dod â hi’n nes, mewn gwirionedd, at berchnogaeth gyhoeddus.

Adleoli Swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau

3. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch adleoli swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau ledled Cymru? OAQ(5)0136(EI)

Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi fy mhryderon ynglŷn â’r diffyg ymgynghori ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gwaith rhesymoli ystadau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i swyddfeydd eraill.

Diolch i’r Gweinidog am ei hymateb. Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â’r cynlluniau i symud 1,000 o swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau o wahanol rannau o Gymru a’u crynhoi yng Ngogledd Caerdydd neu’r cyffiniau. A all y Gweinidog ddweud wrth y Siambr beth yw’r cynlluniau ar gyfer swyddi’r Adran Gwaith a Phensiynau sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Caerdydd ar hyn o bryd, a beth y gall ei wneud i argyhoeddi Gweinidogion yn San Steffan ynglŷn â ffolineb lleoli popeth yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau a symud swyddi o ardaloedd lle y mae pob swydd yn cyfrif?

Wel, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud yn gyson na ddylai unrhyw staff golli swyddi o ganlyniad i adolygu’r ystad ar gyfer y dyfodol, ac ar hyn o bryd maent yn recriwtio mwy o hyfforddwyr gwaith. Mae proses ymgynghori barhaus ar y gweill yn y swyddfeydd a gwyddom fod yr ymgynghoriad hwnnw yn edrych hefyd ar opsiynau ar gyfer adleoli.

Fodd bynnag, rydym yn bryderus iawn ynglŷn â beth a allai ddeillio o’r cynigion. Mae llawer o’r cyfleoedd adleoli yng Ngogledd Caerdydd neu yn Noc Penfro, er enghraifft, yn ymddangos yn afresymegol ac yn anymarferol. Maent yn bygwth gadael staff a chymunedau yn waeth eu byd o lawer, ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl ac i weithio gyda ni i sicrhau bod staff yn cael eu hadleoli, os oes angen, yn y lleoedd gorau er mwyn iddynt allu parhau i wasanaethu’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.

Rwy’n arbennig o bryderus, wrth gwrs, ynglŷn â’r cynnig yn fy rhanbarth i yn Llanelli, a fydd yn mynd â nifer sylweddol o weithwyr o ganol y dref sydd angen cymorth o ddifrif. Ond mae yna gwestiynau ehangach ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni’r broses hon, a hoffwn ddwyn dau fater i sylw’r Llywodraeth, materion y credaf eu bod yn effeithio ar agweddau datganoledig yn ogystal. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â chynrychiolwyr Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol heddiw, a chredaf fod Aelodau Cynulliad eraill wedi gwneud hynny hefyd. Daethant â dau beth pwysig i fy sylw: yn gyntaf, na wnaed unrhyw asesiad cydraddoldeb o effaith y symudiadau hyn ar y gweithlu. Er enghraifft, mae llawer o’r gweithwyr yn Llanelli yn fenywod, yn hŷn, a chyfrifoldebau gofalu ganddynt ac yn sicr ni allant fynd i Ddoc Penfro a byddent yn ei chael hi’n anodd teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i Abertawe neu Gaerdydd hyd yn oed. Credaf y dylid ystyried hynny, a hoffwn pe bai Llywodraeth Cymru yn annog Llywodraeth y DU i gynnal asesiad cydraddoldeb priodol, gan gynnwys y gweithlu a’r iaith Gymraeg.

Yr ail beth, sydd newydd ei grybwyll gan y Gweinidog, yw cyd-leoli. Y cwestiwn yw y gall cyd-leoli ddigwydd gydag awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru—a ydynt yn lleoedd addas ar gyfer cyd-leoli? Yn benodol, rwy’n meddwl am y math o gwsmeriaid sydd angen lle diogel a saff i allu ymdrin â hwy mewn modd cyfrinachol.

Mae’r Aelod yn gwneud dau bwynt da iawn. Rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu eto ynglŷn â mater cydraddoldeb. Hoffwn ailadrodd nad yw wedi’i ddatganoli i ni, yn amlwg; rydym wedi ceisio sicrhau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwybodol ein bod yn hapus i weithio gyda hwy ar gyd-leoli—cyd-leoli cywir—gyda llawer o wasanaethau Llywodraeth Cymru yn ogystal â gwasanaethau eraill nad ydynt wedi’u datganoli. Rwy’n fwy na pharod i wneud hynny’n gyhoeddus eto; rwyf eisoes wedi ysgrifennu parthed hynny.

Os yw pobl yn cael eu diswyddo, rydym yn barod, wrth gwrs, i’w cynorthwyo gyda’n rhaglenni ReAct a’r holl raglenni eraill, fel yr ydym yn ei wneud bob amser, er mwyn helpu staff yr effeithir arnynt. Ond rwy’n rhannu pryder yr Aelod a phryder Julie Morgan fod y cynigion hyn yn cael eu llywio gan waith rheoli ystadau yn hytrach na chyfleoedd sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd ehangach i bobl Cymru na rheoli ei hystad mewn ffordd effeithlon o safbwynt eiddo, a dylai ystyried goblygiadau ehangach ei phenderfyniadau buddsoddi yn ei hystad ar gymunedau Cymru. Rydym wedi eu hannog i wneud hynny ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny eto.

Weinidog, gyda’r AS dros Lanelli, Nia Griffith, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus gorlawn yn ddiweddar â’r gweithwyr yr effeithir arnynt yn Llanelli—gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yn fenywod—ac roedd cryn gefnogaeth yno i’r syniad o gyd-leoli â gwasanaethau cyhoeddus eraill yn y dref. A bod yn deg â Chyngor Sir Caerfyrddin, maent wedi gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod opsiynau ar gael i’w trafod gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r gweithwyr eu hunain yn pwysleisio eu bod yn amcangyfrif eu bod yn gwario o leiaf £0.5 miliwn y flwyddyn yn yr economi leol yng nghanol y dref, a byddai’n gryn ergyd pe collid hynny.

Yr wythnos hon, cafodd Nia Griffith lythyr gan Damian Hinds, Gweinidog cyflogaeth Llywodraeth y DU, a ddywedodd fod ganddynt fwy o gapasiti yn yr ystad nag sydd ei angen, ac nad ydynt mewn sefyllfa felly i ystyried rhentu gofod gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ar yr un pryd, dywedodd fod hyn yn dal i fod yn destun ymgynghoriad, ond ymddengys bod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad. A wnaiff y Gweinidog annog y Prif Weinidog i gysylltu â Phrif Weinidog y DU ynglŷn â hyn, gan mai hi yw’r un a ddywedodd fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ledaenu cyfoeth i bob rhan o’r DU ar ôl Brexit, a byddai hyn yn mynd yn groes i hynny?

Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i ofyn i’r Prif Weinidog wneud hynny. Rwy’n hapus i ysgrifennu i wneud y pwyntiau hyn fy hun eto. Credaf eu bod yn bwyntiau pwysig iawn. Fel y gŵyr yr Aelodau yn y Siambr hon, rydym yn datblygu ein cynllun cyflogadwyedd. Mae llawer o swyddogaethau’r cynllun cyflogadwyedd yn cyd-daro â swyddogaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac rydym wedi bod yn siarad â hwy ynglŷn â chyd-leoli gwasanaethau. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu rhentu; mae yna ffyrdd eraill o wneud hyn.

Rydym yn awyddus iawn i’r sgyrsiau hynny fod yn adeiladol ac yn seiliedig ar yr angen am wasanaethau mewn ardal benodol, yn hytrach na’r angen am strategaeth ystadau benodol. Credaf y byddai’n annoeth iawn cynllunio gwasanaethau y mae cymaint o’u hangen ar gymunedau ar sail polisi ystadau yn hytrach nag ar sail ffocws ar gymuned a gwasanaeth cyhoeddus. Ac rwy’n hapus iawn i wneud y pwyntiau hynny eto, a byddaf yn gwneud hynny maes o law.

Lleihau Tlodi

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd yn mesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? OAQ(5)0131(EI)

Rydym yn monitro cynnydd ar draws ystod o ddangosyddion, gan gynnwys y mesur incwm cymharol ar gyfer tlodi, a dangosyddion ar gyfer cyflogaeth, addysg, sgiliau ac iechyd. Mae’r rhain yn adlewyrchu natur drawsbynciol ein hymagwedd tuag at sicrhau ffyniant i bawb.

Mewn egwyddor, rwy’n cefnogi arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet yn y maes hwn, yn ogystal â defnyddio datblygu economaidd a gwella seilwaith er mwyn lleihau tlodi. Fodd bynnag, mae’r newid polisi a chael gwared ar Cymunedau yn Gyntaf wedi achosi pryder ar ei feinciau ei hun. A yw’n sicr y bydd y dull newydd o weithredu yn cynorthwyo’r bobl dlotaf yn ein cymdeithas?

Ydw. Profwyd mai’r ffordd orau o atal pobl rhag tlodi, a’r ffordd orau o gynorthwyo pobl i godi allan o dlodi, yw sicrhau gwaith cynaliadwy o ansawdd ar eu cyfer. Ac oherwydd hynny, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn arwain yr agenda ffyniant i bawb. Wedi dweud hynny, mae sawl ffactor a allai effeithio ar unigolion nad ydynt mewn gwaith, neu sydd wedi treulio cyfnodau sylweddol o’u bywydau allan o waith. Ac am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ym maes iechyd, cymunedau, cyllid ac addysg i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r heriau hynny gyda’n gilydd, ac fel rhan o bedair strategaeth drawsbynciol yr ydym yn eu datblygu, mae’r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau nad ydym yn anghofio neb yn ein hymgais i sicrhau cymaint o gyflogaeth â phosibl.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn fy nghwestiwn heddiw, hoffwn eich holi sut y byddwch yn asesu rôl yr economi sylfaenol yn y gwaith o leihau tlodi. Er enghraifft, a ydych yn cytuno y gallai swyddi a grëwyd yn y sector sylfaenol fod yn un ffordd o fesur llwyddiant o ran lleihau tlodi? Yn ogystal â hyn, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Welsh Hills Bakery yn fy etholaeth am eu llwyddiant yn ennill y wobr am fasnachu tramor yng Ngwobrau Busnes Cymru?

Hoffwn yn fawr longyfarch y cwmni yn etholaeth fy nghyd-Aelod. Mae Welsh Hills Bakery yn enghraifft o lwyddiant rhyfeddol. Credaf i mi ymweld â’r cwmni yn yr hydref y llynedd, ar gyfer dathlu eu trigeinmlwyddiant.

A chredaf y bydd yr economi sylfaenol yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn cynnig mynediad i bawb at waith, yn ogystal â chyfleoedd i gaffael sgiliau a fydd yn eu galluogi i gamu ymlaen i yrfaoedd a chyflogau gwell. Wrth gwrs, gall yr economi sylfaenol fod o fudd i’r holl gymunedau ledled Cymru, ac oherwydd hynny rwy’n edrych yn ofalus iawn arni fel rhan o’r strategaeth ffyniannus a diogel ehangach ar gyfer Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae helpu pobl i gael gwaith yn fesur allweddol o lwyddiant i leihau tlodi. Croesawaf dro pedol Llywodraeth Cymru, felly, ar gael gwared ar y cynllun teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd unrhyw gynllun newydd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau ei fod yn llwyddiant hirdymor, fel bod modd i’n pobl ifanc, yn enwedig yn ein cymunedau difreintiedig yn ne-ddwyrain Cymru, gael mynediad at hyfforddiant, cyfleoedd gwaith neu addysg bellach? Diolch.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud, er gwaethaf y cyfnod hiraf o galedi difrifol a wynebwyd gan ein gwlad—caledi a gefnogwyd gan yr Aelod a’i blaid—ein bod wedi sicrhau gostyngiad o 2 y cant yn y gyfradd tlodi yng Nghymru ers 1998-99 mewn gwirionedd? O ran y cynllun fyngherdynteithio, roeddwn yn falch o allu ei ymestyn wrth i ni ymgynghori ar yr hyn y bwriadaf iddo fod yn gynllun ehangach a gwell ar gyfer pobl ifanc.

Credaf fod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Mae rhai o’r rhwystrau hynny’n cynnwys problemau gyda chael gafael ar hyfforddiant sgiliau neu ddiffyg argaeledd hyfforddiant sgiliau, diffyg gofal plant fforddiadwy a hygyrch, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy. Mewn perthynas â sut yr awn i’r afael â’r rhwystrau hyn, mae fyngherdynteithio yn bwysig iawn i bobl ifanc, a thrwy roi cynllun ehangach a gwell ar waith, rwy’n gobeithio creu gwell cynnig. O ran gofal plant, rydym yn datblygu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ac o ran rhoi gwell cyfleoedd i bobl gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael bywyd gwaith, yn ogystal â chynllun cyflogadwyedd, rydym hefyd yn cyflwyno cynllun prentisiaeth uchelgeisiol iawn ar gyfer pob oedran, a fydd yn darparu o leiaf 100,000 o gyfleoedd i bobl Cymru.

Dinas Ranbarth Bae Abertawe

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchiant economaidd yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0129(EI)

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i hybu twf busnes, gwella seilwaith, a chreu amgylchedd economaidd mwy deniadol ar draws y rhanbarth.

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac yn amlwg, yn lleol, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe. Er bod denu cyflogwyr mawr i ranbarth yn bwysig ar gyfer swyddi a’r economi, mae 99 y cant o’n busnesau yn fentrau bach a chanolig eu maint, a 75 y cant yn ficrofusnesau mewn gwirionedd, fel y gwyddoch eisoes, sy’n golygu bod busnesau bach yn chwarae rhan bwysig iawn yn lleol, yn enwedig yn y gadwyn gyflenwi. Nododd her Llywodraeth y DU i’r bwrdd presennol yr angen am ragor o ymwneud ar ran y sector preifat yng nghais y fargen ddinesig, a tybed a ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn barod i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cydbwysedd priodol o gynrychiolwyr busnesau bach ar fwrdd nesaf y prosiect, er mwyn sicrhau bod y 95 y cant hynny o’n busnesau yn cael eu cynrychioli’n ddigonol hefyd. Diolch.

Byddwn yn cytuno gyda’r Aelod; rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod hollbwysig i fargen ddinesig Abertawe, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi ar gyfer y broses herio, a bod ymdrech ar y cyd i ddenu barn y sector preifat. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i’r sector preifat fod yn rhan lawn o ystyriaethau’r fargen ddinesig, a bod rhaid i bob un o’r prosiectau blaenoriaeth fod o fudd nid yn unig i gyflogwyr mawr, ond hefyd i’r microfusnesau bach y mae’r Aelod yn sôn amdanynt, ac sy’n ffurfio rhywbeth yn debyg i 98 i 99 y cant o’r holl gyflogwyr yng Nghymru, yn enwedig yn rhanbarth fy nghyd-Aelod.

Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, ar wahân i’r dull dinas-ranbarth o weithredu, ac ochr yn ochr ag ef mewn gwirionedd, ein bod yn mynd i barhau i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau drwy raglen Busnes Cymru. Ac wrth gwrs, lansiwyd cam diweddaraf y rhaglen Busnes Cymru ym mis Ionawr, ac mae’n rhoi’r dasg i Busnes Cymru o gynorthwyo degau o filoedd o gwmnïau bach a micro, gan gynnwys y rhai yn ardal y ddinas-ranbarth.

Mewn digwyddiad economi yn fy etholaeth a gynhaliais cyn y Nadolig, pan gafwyd anerchiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, un o’r materion a nodwyd i wella cynhyrchiant oedd mater caffael sgiliau, ac yn bwysig, dilyniant sgiliau drwy’r daith gyflogaeth. Felly, byddant wedi bod yn falch o glywed y pwyslais ar hynny yn y cynllun prentisiaeth newydd. Ond yn fwy eang na hynny, a yw’n cytuno bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o droi technoleg, sy’n aml yn gallu bod yn fygythiad i rai o’r swyddi yn ein rhanbarth, yn ased, ac y dylem anelu at weld adnoddau sgiliau ar gael yn eang ar-lein, adnoddau rhad ar gyfer ymdrwytho a rhyngweithio, sy’n caniatáu i weithwyr gael hyfforddiant modiwlaidd wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u gofynion eu hunain? A pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog datblygiad o’r fath?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac rwy’n ei gymeradwyo am drefnu’r seminar a gynhaliwyd yn ei etholaeth. Mae cyfleoedd hyfforddiant sgiliau mewn gwaith a ddarperir drwy gynlluniau megis Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi bod yn gwbl allweddol i weithwyr ar draws Cymru allu meithrin sgiliau gwerthfawr sy’n eu galluogi i godi ar ysgol gyrfa. Ond bydd defnyddio technolegau digidol newydd sy’n dod i’r amlwg yn dod yn fwyfwy pwysig. Y ffaith amdani yw bod llawer iawn o bobl ifanc yn defnyddio eu dyfeisiau digidol i ddysgu, yn gymaint ag y maent yn defnyddio eu hysgolion. Bydd llawer yn defnyddio YouTube a dulliau eraill o chwilio cyfryngau cymdeithasol er mwyn dysgu, a dylai fod yr un mor berthnasol i oedolion sy’n awyddus i feithrin ac ailhyfforddi sgiliau.

Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi datblygu porth sgiliau ar gyfer cyflogwyr, wedi’i yrru’n ddigidol, sy’n cynnig un pwynt mynediad at bob math o gyngor ac arweiniad ar gyfer cyflogwyr. Ac yn yr un modd, mae’r Gweinidog wedi dyfeisio system porth sgiliau debyg ar gyfer pob unigolyn sy’n awyddus i feithrin sgiliau newydd, neu i ailhyfforddi, neu i hybu eu cyfleoedd dysgu presennol.

Rwyf innau ac Aelodau eraill, mae’n siŵr, yn croesawu datganiad y bore yma gan y Llywodraeth fod cefnogaeth i’r Egin fel rhan o gynnig dinas-ranbarth Abertawe, ac rwyf yn edrych ymlaen yn awr at bawb yn cydweithio i sicrhau bod Yr Egin yn llwyddiant a bod S4C yn symud yn llwyddiannus i dref Caerfyrddin. Yn anffodus, nid oedd datganiad y bore yma yn sôn am faint o arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddodi yn y cynllun, ond mae adroddiadau yn y wasg yn sôn am £6 miliwn—£3 miliwn gan y Llywodraeth a £3 miliwn i ddod gan gynllun dinas-ranbarth bae Abertawe fel y cyfryw. A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gadarnhau’r symiau hynny? Ac a wnaiff ef hefyd gadarnhau o ba ffynonellau ariannol yn y Llywodraeth y mae’r £3 miliwn tuag at Yr Egin yn dod?

Gwnaf, mae’r cyllid hwnnw’n dod o fy mhrif grŵp gwariant fy hun ac rwy’n falch o allu cefnogi prosiect sydd â manteision economaidd i’r rhanbarth, ond sydd hefyd fy marn i, ac ym marn fy nghyd-Aelodau, â chyfraniad sylweddol i’w wneud i’r rhanbarth hefyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg ac addysg, ac yn gymdeithasol a diwylliannol.

Ymwelwyr â Gorllewin De Cymru

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ymwelwyr â Gorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EI)

Cafodd Cymru ddwy flynedd well nag erioed o’r blaen yn 2014 a 2015, ac yna eto yn 2016, gyda niferoedd ymwelwyr yn croesi’r 10 miliwn am y tro cyntaf yn ôl yn 2014 ac yn tyfu eto gyda gwariant uwch nag erioed gan ymwelwyr a oedd yn aros dros nos yn 2015. Mae Gorllewin De Cymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y twf hwnnw, gyda’i amrediad eang o gynigion treftadaeth a thirweddau hardd ac ardaloedd arfordirol.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Unwaith eto cafodd Rhosili ei enwi’n un o’r 10 traeth gorau yn y DU a hefyd mae’n un o’r traethau gorau ym Mhrydain ar gyfer cŵn. Roedd y traeth ym Mhenrhyn Gŵyr o fewn dim i fod ar y brig, ac mae’n cystadlu gyda’r traethau gorau yn Nyfnaint, Cernyw a Dorset. Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym am fanteisio ar hyn a chynyddu nifer yr ymwelwyr â fy rhanbarth, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus digonol. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i wella’r seilwaith trafnidiaeth i’r cyrchfannau gorau i dwristiaid yng Nghymru?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a llongyfarch traeth Rhosili? Mae’n gamp wych ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei fod yn cael ei gydnabod o amgylch Prydain ac ar draws Ewrop fel un o draethau gorau’r cyfandir. Rydym yn awyddus i sicrhau y gall mwy o bobl ymweld â Chymru mewn ffordd gyfleus am y rheswm hwnnw. Rydym yn parhau i gefnogi Maes Awyr Caerdydd, rydym yn parhau i gefnogi teithio ar y rheilffyrdd ac rydym yn parhau i gefnogi ein rhwydwaith bysiau, ond credwn y gellir gwneud gwelliannau pellach, nid yn unig i’n seilwaith rheilffyrdd a’n gwasanaethau rheilffyrdd, ond hefyd i’r rhwydwaith bysiau. Fel yr amlinellais mewn cyfres o ddatganiadau i’r Siambr bellach, yn y pedair blynedd nesaf credaf y gallwn newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a’u gweithredu yn helaeth a sicrhau gwelliannau sylweddol i deithwyr, nid yn unig y rhai sy’n ymweld â Chymru, ond ar gyfer dinasyddion Cymru yn ogystal.

Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch wrthyf mewn perthynas â diogelu treftadaeth i allu hyrwyddo twristiaeth ffydd, ei bod hi’n hanfodol fod Croeso Cymru yn defnyddio ei sgiliau i hyrwyddo Cymru o amgylch y byd ac i gynnig cyngor yn ogystal. Er eich bod wedi nodi bod Cadw wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â Thyndyrn a Glyn y Groes, nid oes yr un o’r rheini yng Ngorllewin De Cymru mewn gwirionedd. A allwch roi rhywfaint o fanylion i mi ynglŷn â sut y gobeithiwch y gall Croeso Cymru ddefnyddio safle angor fel Abaty Nedd—fe wyddech y byddwn yn dweud hyn—er mwyn tynnu sylw at yr hyn sydd, wedi’r cyfan, yn safle porth? Mae Cwm Nedd a Chwm Tawe yn llawn o drysorau i ymwelwyr. Felly, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Abaty Nedd fel safle penodol er mwyn agor y llifddorau i ymwelwyr â’r ddau gwm hwnnw?

Mae ein treftadaeth yn hynod o bwysig yn ein cynnig diwylliannol a thwristiaeth ac mae Abaty Nedd yn elfen bwysig iawn o’r tirlun treftadaeth yn rhanbarth yr Aelod. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Cadw yn awr yn cynorthwyo Abaty Nedd drwy gael tîm crefft mewnol pwrpasol sy’n gweithio ar y safle. O ganlyniad, mae rhai rhannau o’r abaty ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond gyda gwaith pwrpasol gan y tîm crefft yn fewnol, rwy’n gobeithio gallu trawsnewid yr abaty i fod yn gyrchfan twristiaeth a chyfle llawer gwell a mwy deniadol i ymwelwyr. Ond nid dyma’r unig safle yn rhanbarth yr Aelod sy’n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae yna asedau eraill, megis castell Oxwich a gwaith copr y Morfa yn yr Hafod a chastell Ystumllwynarth, sydd oll yn derbyn cyllid. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn gallu sianelu cymaint o adnoddau â phosibl tuag at dde-orllewin Cymru gan ei bod yn rhan hynod o ddeniadol o’r DU, ac rwy’n meddwl efallai y bydd yr Aelod heno, os yw’n gwylio teledu, yn gweld yr hysbyseb newydd gan Croeso Cymru, sy’n arddangos peth o’n hamgylchedd naturiol gorau, ond sydd hefyd yn gwahodd pobl yn 2017 i gynhyrchu eu straeon chwedlonol eu hunain yng Nghymru.

Twf Economaidd

7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf economaidd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(EI)

Gwnaf. Mae sgiliau, seilwaith cysylltiol ac arloesi yn ffactorau allweddol sy’n sbarduno cynhyrchiant a thwf. Mae’r rhain yn ganolog i’n hymagwedd at ddatblygu economaidd ar draws pob rhan o Gymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roesoch i dwf posibl y diwydiant gweithgynhyrchu pren yng ngogledd Cymru? Fe fyddwch yn gwybod bod rhannau sylweddol o ogledd Cymru wedi’u gorchuddio â choedwigaeth, ond lleisiwyd pryderon sylweddol gan bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant gweithgynhyrchu pren ynglŷn â phrinder pren o Gymru yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae hynny, a bod yn onest, yn mygu’r diwydiant penodol hwn a photensial y diwydiant i dyfu ac i bobl ddod i mewn i’r diwydiant a buddsoddi mewn safleoedd gweithgynhyrchu pren newydd. Mae Clifford Jones Timber yn Rhuthun yn fy etholaeth, a Blazer’s Fuels Cyf, er enghraifft, yn ddau fusnes sydd â chyfle i ehangu’n sylweddol pe bai modd iddynt gael adnodd pren dibynadwy. Mae hyn yn destun pryder, ac rwy’n meddwl tybed beth rydych yn ei wneud yn economaidd i hyrwyddo’r diwydiant penodol hwn yng Nghymru.

Ie, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau cynrychiadol—y rhai sy’n cynrychioli’r sector gweithgynhyrchu pren. Yn fy marn i mae’r sector gweithgynhyrchu pren nid yn unig yn dda i’r economi, ond hefyd yn dda i’r economi ymwelwyr yn fwy penodol mewn gwirionedd, oherwydd bydd yr Aelod yn gwybod o fod yn byw’n agos at Fryniau Clwyd fod ardal goediog yng Nghymru yn aml yn fwy deniadol nag un a ddatgoedwigwyd.

Ie, yn hollol, Llandegla, fel y nodwch. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd i ailblannu’r hyn sy’n aml wedi’i golli. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi mwy o gyfleoedd ar gyfer ailblannu coed a gollwyd, nid yn unig, fel y dywedais, er mwyn cefnogi’r sector gweithgynhyrchu, ond i gefnogi’r economi ymwelwyr yn ogystal.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae seilwaith cysylltiol a rhwydweithiau trafnidiaeth o safon yn hanfodol i lwyddiant unrhyw economi ac maent yn arbennig o allweddol yn ardal porth gogledd-ddwyrain Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi croesawu’r newyddion am fwriad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y gwelliannau mawr eu hangen i goridor Glannau Dyfrdwy—un o’r darnau prysuraf o ffordd yng ngogledd Cymru. Fe fyddwch yn gwybod bod hyn wedi cael ei ddwyn i fy sylw dro ar ôl tro gan etholwyr a chymudwyr fel ei gilydd, a byddaf yn annog llawer o unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n amlinellu dau opsiwn posibl ar gyfer gwella, pan fydd yn dechrau ar 13 Mawrth.

Wrth i ni aros am ganlyniad yr ymgynghoriad, rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yn sicrhau dros £200 miliwn o fuddsoddiad yn ein hardal. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i roi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad ac felly, i’n cymunedau a’n hetholwyr yn yr ardal, ar gynnydd y cynllun hollbwysig hwn a fydd yn gyfraniad pwysig i ysgogi twf economaidd yn yr ardal?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Mae’r Aelod yn hollol gywir i nodi seilwaith fel galluogydd pwysig ar gyfer twf economaidd pellach ar draws gogledd Cymru. Yn wir, mae datblygu coridor newydd a’r posibilrwydd o ledu’r A494 yn rhan o fuddsoddiad o £200 miliwn arfaethedig a rhan o’r pecyn buddsoddi mwyaf mewn seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ers dechrau datganoli—mae rhywbeth yn debyg i £600 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwelliannau i drafnidiaeth ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n falch o allu cyflwyno’r prosiectau hyn.

O ran ymgynghori, rydym wedi symud yn gyflym i ddechrau hynny ar 13 Mawrth. Bydd yn para 12 wythnos. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar y cynnydd. Rwy’n gwahodd preswylwyr ar draws y rhanbarth i roi eu barn, nid yn unig ar-lein ond hefyd mewn cyfres o arddangosfeydd.

Bydd yr Aelod hefyd â diddordeb mewn gwybod fy mod wedi rhoi £85,000 i Gyngor Sir y Fflint yr wythnos diwethaf i’w helpu i ddatblygu prosiectau bysiau a theithio llesol ar hyd y B5129 yn Queensferry ac i mewn i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fel un o barciau diwydiannol mwyaf Ewrop, yn gyflogwr o bwys i bobl yn etholaeth Delyn, a hoffem annog mwy o bobl i gael mynediad iddo drwy drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy deithio llesol. Bydd ein cynlluniau yn y tymor hwy ar gyfer cynllun metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gweld buddsoddiad o £50 miliwn yn y pedair blynedd nesaf, a cheir potensial o enillion enfawr i’r economi leol.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu’r berthynas efo gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, mae hi’n berthynas naturiol iawn ac mae hi yn berthynas bwysig iawn. Ond, onid oes yna beryg o golli golwg ar bwysigrwydd datblygu economi gogledd Cymru ynddo fo ei hun, datblygu perthynas i’r gorllewin efo Iwerddon, a gyda gweddill Cymru hefyd, drwy roi yr argraff o fodloni ar fod yn rhyw fath yn ‘annexe’ i’r economi dros y ffin?

Rwy’n credu bod hwnnw’n asesiad annheg sydd, mewn gwirionedd, yn dangos diffyg hyder ac os caf ddweud, diffyg balchder yn economi Cymru. Y ffaith amdani yw bod gwerth ychwanegol gros ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, ac ardaloedd awdurdodau lleol Swydd Gaer a’r Wirral, oddeutu 50 y cant o werth ychwanegol gros Cymru gyfan. Rhyngddynt, maent yn rymoedd economaidd enfawr, a dylent hefyd—y partneriaid yng Nghymru a Lloegr—fod wrth y llyw gydag agenda Pwerdy Gogledd Lloegr. Nid wyf am weld Cymru yn sedd y teithiwr yn hyn o beth; dymunaf weld Cymru’n gyrru menter Pwerdy Gogledd Lloegr, ac oherwydd hynny, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y rhanbarth cyfan wedi’i gysylltu’n briodol ac yn llawn. Am y rheswm hwnnw yn ei dro, rwy’n edrych ar ddatblygu trydydd croesiad dros afon Menai ac ar wella’r seilwaith porthladd er mwyn i ni allu cael mynediad at ffyniant economaidd sy’n arwain o Gaergybi yr holl ffordd drwy Loegr, ond sydd hefyd yn cysylltu, yn hollbwysig, ag economi Iwerddon.

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. A’r cwestiwn cyntaf, David Melding.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Clefydau Prin

1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drin clefydau prin? OAQ(5)0125(HWS)

Member
Vaughan Gething 14:52:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch am y cwestiwn. Lansiwyd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer clefydau prin gennym ym mis Chwefror 2015 a sefydlwyd y grŵp gweithredu ar glefydau prin. Mae’r camau hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb mynediad at ddiagnosis, triniaeth a chymorth i gleifion. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf ar gynnydd, ar 14 Chwefror.

Weinidog, roeddwn yn falch iawn o glywed mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn y Cynulliad fod Llywodraeth Cymru yn arwain yn y maes hwn yn y DU. Er bod y clefydau eu hunain yn brin, ceir nifer fawr ohonynt, sy’n golygu bod un o bob 17 ohonom yn debygol o ddioddef o glefyd prin ar ryw adeg yn ein bywydau, pan fydd sgrinio, profion, diagnosis a thriniaeth yn gwbl hanfodol. Rwy’n credu ei fod yn faes pwysig iawn, sy’n aml yn cael ei esgeuluso o bosibl am fod pob cyflwr penodol yn brin, felly rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i gael blaenoriaeth.

Rwy’n hapus i roi’r sicrwydd hwnnw iddo. Yn wir, ddoe fe gyhoeddasom y data CARIS, ac fe ddywedaf wrthych beth yw hwnnw—y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid. Nawr, sefydlwyd hwnnw gennym yng Nghymru yn 1998, ac mae hynny’n rhan o’r hyn sy’n ein helpu i arwain yn y maes. Mae’n cadw gwybodaeth am yr holl fabanod a enir i famau yng Nghymru, a bydd y wybodaeth honno’n cael ei chadw amdanynt os oes ganddynt anomaledd cynhenid neu glefyd prin nes eu pen-blwydd yn ddeunaw oed, neu’r adeg pan fyddent wedi cyrraedd eu pen-blwydd yn ddeunaw oed. Yn rhannol, edrych ar y data a’r wybodaeth honno sy’n caniatáu i ni geisio gwneud cynnydd pellach. Rydym hefyd yn cymryd rhan, gyda gweddill y DU, yn y Prosiect 100,000 o Genomau, ac wedi buddsoddi arian yn uniongyrchol yn hynny. Ac wrth gwrs, yr arian a fuddsoddwn yn y gronfa driniaethau newydd—bydd rhannau mawr o’r arian hwnnw’n mynd tuag at drin pobl sydd ag afiechydon a chyflyrau prin. Felly, rwy’n fwy na pharod i’w sicrhau y bydd hwn yn parhau i fod yn faes diddordeb a gweithredu, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliant pellach.

Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â chleifion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan hemoffilia a gwaed halogedig yn y digwyddiad clefydau prin y cyfeiriodd David Melding ato. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â thriniaeth pobl â hemoffilia a gafodd waed halogedig yn y 1970au a’r 1980au, gan arwain at 70 o farwolaethau yng Nghymru a llawer mwy o deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt. Rwy’n ymwybodol ei fod wedi ysgrifennu at ei weinidog cyfatebol yn y Senedd, Jeremy Hunt, y llynedd yn cefnogi ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal. Roeddwn yn meddwl tybed a allai ddweud wrthym a yw wedi cael ateb ac os nad yw, beth y mae’n bwriadu ei wneud ymhellach, ac os yw wedi cael ateb, beth yw ei ymateb ef?

Na, ni fyddwn yn dweud fy mod wedi cael ateb boddhaol gan Lywodraeth y DU. Ar ôl dadl drawsbleidiol yr Aelodau a gawsom yn y Siambr hon, euthum ati eto i bwyso ar Lywodraeth y DU, ac rwy’n disgwyl ymateb pellach. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn amharod i gael ymchwiliad cyhoeddus, ac rwy’n cydnabod y bydd honno’n broblem barhaus i deuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt, yn fyw ac yn farw, oherwydd hyd nes y ceir ymchwiliad cyhoeddus priodol—na all neb ond Llywodraeth y DU ei ddarparu oherwydd lleoliad y wybodaeth ynglŷn â sut y ffrwydrodd y sgandal a’r modd na chafodd ei dwyn i sylw’n briodol—yna rwy’n cydnabod y bydd yr anghyfiawnder yn parhau. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn cynnal ein hymrwymiad i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU hyd nes y gwelwn fod y peth iawn yn cael ei wneud.

Gwasanaethau Orthodontig

2. Pa gasgliadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dod iddynt yn sgil derbyn yr adroddiad ar gyflwr gwasanaethau orthodontig yng Nghymru fel y trafodwyd yn y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2016? OAQ(5)0123(HWS) [W]

Diolch am y cwestiwn. Mae’r adroddiad yn cydnabod y cynnydd da parhaus sy’n cael ei wneud. Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd a’r rhwydweithiau clinigol, rydym yn defnyddio argymhellion yr adroddiad i lywio camau gweithredu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyflwyno’r gwasanaeth orthodontig arbenigol yma yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nid wyf yn hollol siŵr a ydym wedi bod yn darllen yr un adroddiad, ac yn amlwg, edrychais ar yr adroddiad o safbwynt yr ardal rwy’n ei chynrychioli a Hywel Dda yn benodol, lle y mae’n dweud bod problem go iawn gyda sicrhau mynediad at wasanaethau orthodontig. Cefais gadarnhad yr wythnos hon gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain hefyd fod rhestrau aros yn Hywel Dda ar gyfer plant rhwng naw a 17 oed ar hyn o bryd yn dair blynedd a phedwar mis, a hynny yn erbyn y targed o chwe mis. Felly, rhaid i mi ofyn, o ystyried yr adroddiad, nad yw’n cynnwys unrhyw ganlyniadau a thargedau pendant, beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr etholwyr rwy’n eu cynrychioli yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda—yn enwedig pobl ifanc yn fy etholaeth—yn gallu cael mynediad at driniaeth orthodontig o fewn cyfnod rhesymol o amser, gan gofio bod hyn yn effeithio ar eu haddysg a’u magwraeth?

Rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud. Mae Hywel Dda yn un o’n hardaloedd problemus o fewn darlun cenedlaethol sy’n gwella ar y cyfan. Mae Hywel Dda ei hun wedi gwneud cynnydd pellach yn y blynyddoedd diwethaf, ond roedd yna ôl-groniad sylweddol yn Hywel Dda mewn gwirionedd. Mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’r gwasanaeth arbenigol sy’n bodoli. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael gweld arbenigwr yn y maes yn hytrach nag ymarferydd cyffredinol sy’n gwneud rhywfaint o waith. Mewn gwirionedd credwn ein bod yn sicrhau gwell canlyniadau i unigolion o wneud hynny, ond hefyd o wneud yn siŵr fod atgyfeiriadau’n cael eu gwneud ar adeg briodol ac at y gwasanaeth priodol. Felly, mae’n ymwneud ag ymddygiad atgyfeirio. Mae’n golygu buddsoddiad priodol ym mhen arbenigol y gwasanaeth a’r rhai sy’n arbenigwyr gwirioneddol yn y maes hwn, a cheisio sicrhau ein bod yn ateb y galw ac yn ei baru â’r cyflenwad yn briodol. Rwy’n derbyn nad yw hynny wedi bod yn wir hyd yn hyn yn Hywel Dda. Ond mae’r bwrdd iechyd yn buddsoddi yn y maes penodol hwn, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach, oherwydd fel y dywedoch, mae amseroedd aros yn ardal Hywel Dda yn rhy hir ac rwy’n disgwyl gweld cynnydd pellach yn cael ei wneud dros weddill y tymor Cynulliad hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n ategu sylwadau’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gryf, a gallaf dynnu sylw at ddigon o enghreifftiau yn fy etholaeth fy hun o gleifion yn gorfod mynd yn breifat a gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth orthodontig. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, pa gamau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro effeithiolrwydd y berthynas waith rhwng practisau orthodontig a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda o ran rheoli’r ddarpariaeth orthodontig leol?

Wel, fel y dywedais yn fy ateb i’r Aelod ac yn wir, i’w gwestiwn blaenorol cyn toriad y flwyddyn newydd, rydym yn cydnabod yn benodol yn Hywel Dda fod angen wedi bod i wella’u sefyllfa. Mae rhywbeth yno, fel y dywedais, ynglŷn â sicrhau bod ymarfer arbenigol yn cael ei wneud yn y gwasanaeth a’u bod yn gwella a darparu capasiti ychwanegol yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon mewn gwirionedd. Mae’r bwrdd iechyd yn buddsoddi mwy yn y maes arbenigol hwnnw, ac yn wir, gwyddom fod mwy o bobl wedi cael eu gweld yn y tair blynedd ddiwethaf yn Hywel Dda. Rydym yn gwybod bod 24 yn fwy o glinigau asesu wedi’u cynnal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws ardal y bwrdd iechyd. Ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn datrys y broblem gyfan. Mae angen iddynt barhau i wneud hynny er mwyn mynd i’r afael yn iawn â’r ôl-groniad. Felly, rwy’n cydnabod bod rhai etholwyr ar draws ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn aros yn rhy hir am y driniaeth arbenigol hon. Felly, mae’n ymwneud â buddsoddi yn y dyfodol—nid esgus y gallwn ei unioni mewn cyfnod o fisoedd, ond gwneud yn siŵr fod pobl yn gynyddol yn gweld gwelliant sy’n gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch. Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac yn gyntaf yr wythnos hon, Caroline Jones.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaeth Heddlu De Cymru ymdrin â mwy o ddigwyddiadau iechyd meddwl y llynedd nag unrhyw heddlu arall yn y DU. Fe wnaeth swyddogion yr heddlu yn ne Cymru ymdrin â bron i 39,000 o ddigwyddiadau iechyd meddwl yn ystod 2016. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, yn hytrach na’r system cyfiawnder troseddol? A allwch amlinellu’r camau gweithredu yr ydych yn eu cymryd i leihau nifer y digwyddiadau iechyd meddwl sy’n cael eu trin gan swyddogion yr heddlu?

Diolch i’r Aelod am y sylwadau. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn glir ynglŷn â’r hyn yr ydym yn siarad yn ei gylch, oherwydd mae i ba raddau y mae pobl yn parhau i weld cell heddlu fel man diogel yn parhau i fod yn her, ac nid dyna farn y Llywodraeth hon, na’r heddlu, na’r gwasanaeth iechyd. Mewn gwirionedd gwnaed llawer o waith gwell rhwng GIG Cymru a heddluoedd ar draws y wlad, ac rwy’n falch o weld bod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a leolwyd yn amhriodol. Rydym yn awr i lawr at ffigurau bach iawn. Mae’n dal i fod angen gwelliant pellach, ond mae’n dibynnu’n wirioneddol ar y categoreiddio y mae’r Aelod yn ei ddefnyddio, a pha un a yw’r rhain yn bobl sy’n rhannol yn y system cyfiawnder troseddol yn briodol ai peidio neu’n bobl â phroblemau iechyd meddwl sy’n cael eu camleoli a heb fod yn cael gofal priodol ar gyfer eu hanghenion gofal eu hunain mewn gwirionedd.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mynegai lles yn y gweithle Mind yn dangos mai problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb yn y gweithle. Nid yw’r GIG hyd yn oed yn rhydd rhag hyn a chollwyd traean o filiwn o ddiwrnodau yn sgil problemau iechyd meddwl ymhlith staff iechyd y llynedd. Un o’r rhwystrau mwyaf i fynd i’r afael â’r broblem yw diffyg mynediad at therapïau seicolegol a siarad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at therapïau seicolegol a lleihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth iechyd meddwl yng Nghymru?

Nid yw’n syndod i mi mai rhesymau iechyd meddwl yw un o brif achosion absenoldeb yn y gweithle. O fy amser blaenorol y tu allan i’r lle hwn, yn ogystal ag ynddo, buaswn yn synnu pe na bai hynny’n wir. Ein her yw hon: sut y mae adnabod salwch meddwl a phroblemau’n ymwneud â straen yn y gweithle? Mae gennym raglenni gweithgaredd penodol, gan weithio gyda chyflogwyr, a’r dyfarniadau a roddwn i annog cyflogwyr i wella gofal a chynllunio gofal ymlaen llaw i’w gweithlu—gan gydnabod y manteision sylweddol iddynt hwy fel busnes o wneud hynny—yn ogystal â sut i fynd ati i gynorthwyo pobl os ydynt allan o’r gweithle. Mae rhywbeth yno ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaethau galwedigaethol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus i ofalu am ein gweithwyr, ac yna, os oes angen i bobl gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol a therapïau siarad, rydym wedi buddsoddi yn y gwasanaethau hynny’n llwyddiannus ac yn gynyddol wrth gwrs. Mae’r sefydliad hwn, fel Cynulliad, ac yn wir, y Llywodraeth, wedi cydnabod ers nifer o flynyddoedd yr angen i drin iechyd meddwl a chorfforol gyda pharch cydradd, ac mae hynny wedi arwain at fuddsoddi pellach mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Ni yw’r rhan gyntaf o’r DU i gael safonau amser gweithio ystyrlon, ac mewn gwirionedd, mae ein perfformiad yn erbyn y rheini’n gymharol dda. Fodd bynnag, mae mwy o le i gyflawni a mwy i’w wneud. Felly, gallwn gymryd rhywfaint o gysur yn yr hyn a wnaethom yn barod a’r flaenoriaeth i’r maes gweithredu hwn, ond mae llawer mwy i’w wneud cyn y gall unrhyw un ohonom ddweud ein bod yn fodlon.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu camau i wella’r niferoedd sy’n gweithio ym maes gofal iechyd meddwl, megis cyflwyno cyrsiau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, rydym yn dal i fod yn brin o staff a chyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Sut rydych yn ymateb i gyfarwyddwr Mind Cymru, sy’n datgan nad yw’r maes iechyd meddwl yn cael digon o arian o bell ffordd o hyd? Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynyddu adnoddau a ddyrennir i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, a wynebir gan un o bob pedwar ohonom?

Wel, fe fyddwch yn gwybod o’r gyllideb fod y lle hwn wedi pasio i roi adnoddau ychwanegol sylweddol tuag at iechyd meddwl. Dyma’r maes gwariant mwyaf yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd, a deilliodd hynny o’r drafodaeth synhwyrol ac aeddfed a ddigwyddodd rhwng y Llywodraeth hon a Phlaid Cymru ac eraill. Nawr, mae hynny wedi golygu ein bod yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd meddwl fel maes gweithredu, ac nid dyna’r sefyllfa y mae’r trydydd sector yn cydnabod sy’n digwydd dros y ffin. Nid wyf yn cwyno bod y trydydd sector yn y maes hwn, neu unrhyw faes arall, yn galw am fwy o adnoddau. Eu gwaith yw ymgyrchu; eu gwaith yw hyrwyddo achosion. Ein gwaith ni, fodd bynnag, yw rheoli grŵp cyfyngedig o adnoddau. Felly, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddigon da i Lywodraeth ddweud yn syml, ‘Mae rhywun wedi galw am fwy, felly byddwn yn ei ddarparu’. Mae’n rhaid i ni gydbwyso hynny yn erbyn blaenoriaethau eraill. Rwy’n glir fod hwn yn faes gweithredu â blaenoriaeth, ac rydym yn gweld hynny mewn gweithred ac nid mewn geiriau’n unig gyda’n buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi trafod pwysau’r gaeaf ar adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur. Erbyn hyn mae gennym y ffigurau ar gyfer mis Ionawr sy’n dangos mai 74.1 y cant yn unig o gleifion mewn unedau damweiniau ac achosion brys mawr sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Nawr, pan gafodd y ffigurau hynny eu rhyddhau, rwy’n meddwl bod adroddiad y BBC wedi datgan:

Yn ddiau, bydd ochneidiau o ryddhad yn Llywodraeth Cymru.

A wnaethoch chi anadlu ochenaid o ryddhad pan welsoch y ffigurau hynny?

Rwy’n credu bod honno’n ffordd ryfedd iawn o geisio gofyn cwestiwn am fater difrifol i’r gwasanaeth iechyd ac i bawb sy’n gweithio ynddo. Mae hwn yn fater real a difrifol i bobl sydd angen gofal, yn enwedig yn ystod y gaeaf, pan wyddom fod mwy o bobl hŷn yn fwy tebygol o fod angen eu derbyn i’r ysbyty i gael gofal, a mwy o bobl hŷn angen cymorth yn eu cartref eu hunain. Nid yw’n ymwneud ag anadlu ochenaid o ryddhad; mae’n ymwneud ag edrych ble rydym fel system gyfan. Lle rydym yn cydnabod bod angen gwelliant pellach—ac nid yn unig yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, ond y pwyntiau a wnaethom yn flaenorol ynglŷn â gofal wedi’i gynllunio ymlaen llaw y byddwch yn gyfarwydd ag ef yn eich etholaeth eich hun gyda’r gwaith gofal ymlaen llaw sy’n digwydd ar Ynys Môn, ac ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal yn ogystal. Fel y gwelsom o’r ffigurau diwethaf, rydym wedi gwneud gwelliannau ac mae lle i wella ymhellach, gan fod angen i’r system gyfan weithio gyda’i gilydd, iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw’n ymwneud ag ochenaid o ryddhad; mae’n ymwneud â dweud, ‘Ble rydym yn awr? Beth arall y gallwn ei wneud, ac a yw’r system yn gadarn?’ Mae’r system yn ymdopi, ond mae’n frwydr go iawn. Rydym yn ei weld yn y staff, rydym yn ei weld yn y bobl sydd angen gofal, ac rwy’n disgwyl ac yn dymuno gweld gwelliannau pellach yn ystod y flwyddyn, ac i baratoi ar gyfer y gaeaf nesaf hefyd.

Nid yw’n ffordd ryfedd o ofyn o gwbl. Mae’n gofyn am eich asesiad o’r sefyllfa rydym ynddi. Buaswn wedi hoffi clywed neges lawer cryfach fel ‘rhaid cael llawer mwy o welliant’. Y ffigurau hynny ar gyfer Cymru—74.1 y cant yn cael eu gweld o fewn pedair awr—carwn eich atgoffa bod y ffigur yn 82 y cant yn Lloegr, y perfformiad gwaethaf ers 13 mlynedd, sy’n cael ei ystyried yn sgandal ac yn argyfwng yn Lloegr. Wrth gwrs fod yna le i wella yng Nghymru.

Rydym wedi trafod pwysigrwydd gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn helpu i leihau’r pwysau ar yr adrannau damweiniau ac achosion brys ar sawl achlysur o’r blaen. Hoffwn ganolbwyntio ar rôl meddygon teulu yn darparu apwyntiadau brys. Hoffwn gofnodi fy nghydymdeimlad yma â theulu Ellie-May Clark, yr adroddwyd am ei hachos dros y penwythnos. Heb fynd i fanylion am yr achos hwn, mae’n amlwg nad yw achos o’r fath yn mynd i helpu’r canfyddiad a glywsom i gyd, ar adegau, ei bod yn anodd cael apwyntiadau meddygon teulu. Nawr, ddoe, rhyddhaodd y comisiynydd pobl hŷn adroddiad yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at feddyg teulu, gyda’r canfyddiadau hynny ynglŷn â’r anhawster i gael eich gweld yn amlwg iawn yn yr adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae diffyg data go iawn yn golygu nad ydym yn gwybod yn iawn a yw’r canfyddiadau’n cyfateb i realiti, ond un canlyniad yn sicr yw bod mwy o bobl yn mynd i fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys os yw’r canfyddiad yno; fe wyddom am y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Un ffordd o fynd i’r afael â’r canfyddiad, wrth gwrs, fyddai casglu a chyhoeddi mwy o ddata am amseroedd aros i weld meddyg teulu. A ydych yn derbyn bod arnom angen data perfformiad ar argaeledd apwyntiadau ac amseroedd aros i weld meddyg teulu er mwyn mynd i’r afael â’r canfyddiadau hynny?

Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y byddai’n ddefnyddiol ceisio dweud y byddwn yn dechrau casglu data ar gyfer amseroedd aros i weld meddygon teulu ac apwyntiadau. Byddai angen datblygu system sylweddol i wneud hynny, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl mai dyna fyddai’r peth iawn i’w wneud i wella mynediad i gleifion. Mae gennym ystod o wahanol ffyrdd o geisio edrych ar wella mynediad i gleifion, gan gynnwys sgyrsiau rhwng cymheiriaid mewn gwirionedd, rhwng gweithredwyr gofal sylfaenol sy’n deall beth yw arferion gorau, a’r effaith y mae hynny wedi’i chael ar y staff o fewn y gwasanaeth yn ogystal ag ar y dinasyddion y maent yn eu gwasanaethu. Rwy’n hapus i edrych ar ffyrdd amgen o wella ymarfer, pa un a yw’r syniadau’n dod gan bartïon eraill neu’n wir, y sgyrsiau yr ydym yn parhau i’w cael â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol am realiti’r sefyllfa y maent yn ei hwynebu wrth ofalu am ein cleifion ar hyd a lled y wlad. Mae’r achos trasig a grybwyllwyd gennych yn enghraifft unigol nad wyf yn credu y byddai’n rhesymol ceisio’i gwneud yn enghraifft ddarluniadol o realiti’r gofal a ddarperir ar hyd a lled ein gwlad. Mae’n achos trasig, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniad cwest y crwner i’r hyn a ddigwyddodd.

Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â chanfyddiadau, fodd bynnag, ac rwy’n siomedig braidd unwaith eto. Mae data yn bwysig tu hwnt. Yn aml iawn, mae’r Gweinidog yn honni cyflawniad ac ni cheir unrhyw ddata i gefnogi hynny, pan fo data ar gael yn aml i ddangos lle y mae problemau’n digwydd yn y GIG. Ceir problem sylfaenol, wrth gwrs, yn y system gofal brys drwyddi draw. Gwyddom fod yna bobl o bob oed â chyflyrau cronig sydd angen eu rheoli yn y gymuned, gan gynnwys gallu cael ymgynghoriadau ar yr un diwrnod ac yn y blaen lle y bo angen.

Nawr, mae adroddiad y comisiynydd pobl hŷn hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth drafod materion gyda meddyg teulu nad ydynt yn ei adnabod o bosibl, gyda therfyn ar faint o amser sydd ganddynt i ddisgrifio’r symptomau ac yn y blaen. Mae’r adroddiad hyd yn oed yn nodi bod un person wedi sôn am hysbysiad yn nerbynfa un feddygfa yn nodi bod yna reol un mater yn unig—sy’n amlwg yn amhriodol mewn oes lle y mae gan fwy a mwy o bobl gyflyrau lluosog sy’n rhaid i’r GIG ymdrin â hwy. A ydych yn derbyn, felly, os yw cleifion yn teimlo’u bod yn cael eu rhuthro gan feddyg teulu, neu eu troi ymaith o apwyntiad, fod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu yn y pen draw? A ydych yn cytuno nad yw’r naill arfer na’r llall yn dderbyniol ac mae angen eu stopio?

Wel, rwy’n meddwl ei bod yn annheg iawn dweud fy mod yn hawlio cyflawniad ar ran y gwasanaeth iechyd heb fod yna ddata neu dystiolaeth i’w gefnogi. Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am ganfyddiad, ond nid wyf yn credu bod hyrwyddo canfyddiad dros dystiolaeth yn beth arbennig o ddefnyddiol i lefarydd yr wrthblaid ei wneud. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, ac rwyf eisoes wedi ymrwymo i ysgrifennu at fyrddau iechyd yn tynnu sylw at y negeseuon o’r adroddiad hwnnw ac yn eu hatgoffa am y canllawiau y bydd y comisiynydd pobl hŷn yn eu cyhoeddi.

Rwyf am weld sgwrs go iawn rhwng y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, ymarferwyr o fewn y gwasanaeth, a’r cyhoedd, ar yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth iddynt hwy. Rydym yn gweld enghreifftiau da ar draws y wlad o newidiadau mewn ymarfer sy’n gwella mynediad ar gyfer pobl ac yn ei gwneud yn haws iddynt gael ymgynghoriad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn ar yr adeg iawn iddynt hwy. Dyna fydd ein hymagwedd o hyd gan ein bod yn cydnabod ein bod yn credu bod angen gwella mynediad ar draws pob rhan o’n system gofal iechyd, i sicrhau bod cleifion yn cymryd mwy o ran ac yn cael mwy o ymgysylltiad, ac mae hynny’n golygu y bydd angen i’r bobl sy’n cael mynediad at ein gwasanaeth ac yn ei ddefnyddio ymddwyn mewn ffordd wahanol a deall gwahanol ffyrdd o gael mynediad at y gwasanaeth hwnnw, a’u cefnogi i wneud hynny a chael y newidiadau a wneir wedi’u hesbonio—er enghraifft, proses ymgynghori fwy anghysbell fel pwynt cyntaf, er enghraifft yn y prosiect pennu cyfeiriad yng Nghastell-nedd a welais gyda Jeremy Miles a David Rees; mae hwnnw wedi’i esbonio’n dda yno ac at ei gilydd, yn cael ei gefnogi a’i dderbyn yn dda gan y cyhoedd—ond hefyd mae’n ymwneud â chynorthwyo ein staff i weithio mewn gwahanol ffyrdd.

Diolch yn fawr iawn. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies. Rwy’n meddwl bod eich cwestiynau i’w cyfeirio at y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Diolch i chi am eich cyhoeddiad ddoe ar benodi bwrdd cychwynnol Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y gwyddom, bydd ei ddyletswyddau’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau cofrestru fel y’u cyflawnir gan y cyngor gofal, a gwnaeth ei gadeirydd yn glir i mi ddoe eu bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’u harbenigedd cyfunol i fod yn gyfaill beirniadol i’r Llywodraeth yn ogystal â dylanwadu ar gyfeiriad a blaenoriaethau polisi ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Gobeithio y bydd hyn yn unioni anghydbwysedd yr un llais arbenigol ar gyfer gofal cymdeithasol ar y panel adolygu seneddol. Sut rydych chi fel Gweinidog yn bwriadu manteisio ar y corff hwn o arbenigedd er mwyn atal yr agenda integreiddio rhag arwain at ryw fath o fodel meddygol ar gyfer gofal cymdeithasol, a sut rydych wedi gwerthuso faint yn fwy o adnoddau fydd eu hangen arno na’r cyngor gofal er mwyn gallu cyflawni ei rolau ym maes datblygiad proffesiynol a dylanwadu ar bolisi?

Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy’n deall eich bod wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gydag aelodau o’r bwrdd ddoe, ac rwy’n meddwl bod dyfodiad Gofal Cymdeithasol Cymru yn amser cyffrous iawn ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn ehangach yng Nghymru. Pan oeddwn yn llunio aelodaeth y bwrdd—a dylwn ddweud bod y diddordeb sydd wedi’i ddangos ynddo yn ddigynsail, sydd unwaith eto, yn wirioneddol gyffrous—roeddwn yn awyddus i sicrhau bod y bwrdd yn meddu ar gydbwysedd cryf o bobl. Felly, mae gennym ddefnyddwyr gwasanaethau ar y bwrdd, mae gennym bobl o bob math o sector sy’n gweithio o fewn gofal cymdeithasol, er mwyn ceisio sicrhau bod arbenigedd a lleisiau cryf ac eang ar y bwrdd hwnnw yn ogystal. Felly, byddaf yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd, yn enwedig yn y tymhorau cynnar, i weithio ar eu rhaglen ar gyfer y dyfodol o ran eu rhaglen waith ac yn y blaen, ac i sicrhau eu bod yn cael adnoddau priodol i wneud y gwaith y byddaf yn gofyn iddynt ei wneud.

O ran yr adolygiad seneddol, fodd bynnag, rwy’n meddwl ei bod yn annheg awgrymu nad oes digon o arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol ar y panel hwnnw. Dewiswyd aelodau’r panel am fod ganddynt arbenigedd sy’n eu galluogi i edrych o safbwynt y system gyfan ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’r cylch gorchwyl wedi nodi’n glir mai ymagwedd system gyfan yr ydym yn ei cheisio. Wrth gwrs, sefydlwyd is-grŵp penodol hefyd, sy’n edrych yn benodol ar ofal cymdeithasol yn ogystal, felly rwy’n meddwl y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda a’i ystyried yn dda gan yr adolygiad seneddol.

Rydych wedi eich bendithio, Weinidog, o ran cael y cymorth hwn i’ch helpu i wneud yn siŵr fod llais gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda yn yr hyn sy’n debygol o fod yn digwydd dros gyfnod nesaf y Cynulliad hwn, beth bynnag. Un o’r pethau rwy’n tybio na fyddwch yn cael unrhyw wrthwynebiad gan neb yn ei gylch yn y Siambr hon yw’r ffocws ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a chanolbwyntio o ddifrif ar lefelau gofal sylfaenol a chanolraddol. Mae’r rhain, eu hunain, yn dermau GIG. Strwythurau meddygol ydynt, ac rwy’n meddwl y buasai datganiad pendant o fwriad i fabwysiadu model mwy cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar integreiddio yn cael croeso yn y Siambr hon. Mewn gwirionedd, rhan o ofal cymdeithasol yn unig yw ymyrraeth feddygol. Gall cefnogaeth emosiynol a lle cyswllt dynol fod yr un mor bwysig, nid yn lleiaf i ofalwyr, na fydd ganddynt unrhyw anghenion meddygol o bosibl, wrth gwrs. Maent yn ganolog i unrhyw ystyriaeth o ofal yn y dyfodol—fel, yn wir, y bydd natur tai a chroesbeillio sgiliau mewn gweithlu integredig. Mae’n mynd i fod angen ymchwil sylweddol a pharhaus i gefnogi arferion da a datblygu polisi, felly a yw hwn yn waith yr ydych yn rhagweld, ar ryw adeg, y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud? Yn amlwg, byddai’n ategu eu gwaith ym maes cynllunio a datblygu gyrfa. Ac os na, pam ddim?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, ac rwy’n cytuno bod gofalwyr yn chwarae rhan gwbl ganolog yn y system gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr ar hyn o bryd. Rhan o hynny yw edrych ar ofalwyr ifanc, gofalwyr hŷn, gofalwyr pobl hŷn—ond ceisio sicrhau hefyd y gall gofalwyr gael bywyd y tu allan i ofalu, oherwydd gwyddom pa mor bwysig yw hynny. A bydd ein strategaeth ofalwyr yn cael ei harwain gan y pethau allweddol y mae gofalwyr yn dweud wrthym sy’n bwysig iddynt. Wrth sôn am y gronfa gofal canolraddol, mae’n well gennyf siarad amdani a meddwl amdani fel cronfa gofal integredig, ac mae’n bendant wedi ei hintegreiddio yn yr ystyr ei bod yn gweithio, mewn llawer man, yn agos i’r maes tai, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod gennym gyfleusterau cam-i-fyny cam-i-lawr ar gael yn y lleoliad gofal ychwanegol: felly, mannau lle y gall pobl ddod o hyd i leoliad preswyl a fydd yn newid gyda’u hanghenion dros amser. Felly, efallai y bydd pobl â dementia cynnar yn gallu mynd i leoliad gofal ychwanegol, lle na fydd yn rhaid iddynt symud dros amser, ond gall y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn y lle hwnnw newid gyda hwy, a chredaf fod honno’n ffordd bwysig o wella’r gofal y mae pobl yn ei gael.

Yn ddiweddar, roeddwn yn lansiad prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, ac mae hwnnw’n ymwneud â dod â phrifysgolion a’r sector gofal cymdeithasol ei hun at ei gilydd, gan fod gennym gymaint o arbenigedd yn y sector gofal cymdeithasol o ran ymarferwyr a gweithwyr cymdeithasol ac yn y blaen, ond nid wyf yn credu hyd yn hyn ein bod wedi bod yn gwneud y gorau o’r arbenigedd hwnnw a’r profiadau hynny a’r potensial ar gyfer ymchwil yno. Felly, unwaith eto, dyma arloesi newydd a chyffrous o ran gallu deall yn dda iawn beth sy’n digwydd mewn gofal cymdeithasol, gan edrych ar y rhwystrau a chyfleoedd ac yn y blaen, a gwrando ar y bobl sy’n gwneud y gwaith ar y rheng flaen.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy’n dal yn awyddus i ddatblygu hynny ychydig ymhellach oherwydd mae dyfodol gofal cymdeithasol—nid ydym yn siarad am y peth am ei fod yn ffasiynol, ond oherwydd ei fod yn bwysig i gymaint o bobl ac rydym i gyd yn cydnabod bod angen iddo newid. A hyd yn oed er nad oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw farn bendant ynglŷn ag a ddylai hyn fod yn esblygiadol neu’n chwyldroadol, yr hyn rwy’n edrych amdano mewn gwirionedd yw syniad gennych pa mor ddewr y bwriadwch fod o ran arloesi. Felly, er enghraifft—ac enghraifft yn unig yw hon hefyd—ceir cartref nyrsio yn yr Iseldiroedd sy’n caniatáu i fyfyrwyr prifysgol fyw heb rent ochr yn ochr â phreswylwyr oedrannus yn y cartref nyrsio hwnnw, mewn contract ‘gweithredu fel cymydog da’ 30 awr y mis yn rhan o brosiect sy’n anelu at atal effeithiau negyddol, a cheir rhaglenni pontio’r cenedlaethau tebyg yn Lyon ac yn Cleveland yn Ohio. Mae un rhaglen, a ddechreuodd yn Barcelona yn y 1990au, wedi cael ei hefelychu mewn mwy nag 20 o ddinasoedd. Rwy’n meddwl bod gwir angen i ni edrych ar yr hyn sy’n digwydd yng ngweddill y byd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a ydych yn trafod syniadau tebyg gyda darparwyr preifat, cymdeithasau tai a cholegau a phrifysgolion. Ac rwy’n falch eich bod wedi awgrymu hynny yn gynharach, oherwydd os ydym yn mynd i wneud i hyn weithio mewn gwirionedd, mae’n rhaid iddo ymwneud â mwy na’r awdurdodau lleol a’r GIG yn unig.

Rwy’n cytuno bod yn rhaid i ni feddwl yn arloesol iawn am y peth, oherwydd maint yr her—nid oes dwywaith am hynny. Mae gwir angen i arloesedd fod yn ganolog i’n hymagwedd at ateb yr heriau hyn. Rwy’n gyfarwydd â rhai o’r modelau a ddisgrifiwyd gennych, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion roi mwy o gyngor i mi, gan fy mod yn credu bod dysgu o arfer da o wledydd eraill yn rhywbeth y dylem fod yn gwbl awyddus i’w wneud—fel y byddwn yn gobeithio y gall gwledydd eraill edrych arnom ni mewn meysydd lle rydym yn perfformio’n dda hefyd.

Diolch yn fawr iawn. Trown yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn eto. Cwestiwn 3—Dawn Bowden.

Sgrinio am Ganser

3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau sgrinio am ganser yng Nghymru? OAQ(5)0134(HWS)

Mae gennym raglenni sgrinio sydd wedi’u sefydlu’n dda ar gyfer canser y fron, canser ceg y groth a chanser y coluddyn, gyda mwy na 400,000 o ddynion a menywod yn cael eu sgrinio’n rheolaidd bob blwyddyn. Daeth sgrinio canser y fron yn wasanaeth wedi’i ddigidoleiddio’n llawn yn 2012 ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi gwelliannau arfaethedig i’r profion a ddefnyddir ar gyfer sgrinio canser y coluddyn a chanser ceg y groth.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn gyfeirio’n benodol at sgrinio ceg y groth, os caf. Rwy’n credu ein bod i gyd yn cytuno ar fanteision diagnosis cynnar o ganser lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ond mae hyn hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â’r oed priodol y dylai sgrinio penodol ddechrau. Nid wyf yn gwybod ai fi yw’r unig un sy’n cael etholwyr yn dod ataf i alw am newid y drefn sgrinio ceg y groth i fenywod yn ôl i sgrinio’n 20 oed, ond yn sicr mae pobl wedi bod yn cysylltu â mi ar hyd y llinellau hynny.

Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, fod y penderfyniad i godi’r oedran o 20 i 25 oed yn 2013 yn seiliedig ar arweiniad gan bwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU, a oedd nid yn unig yn cwestiynu manteision sgrinio cynnar ond hefyd yn amlygu peth o’r niwed posibl yn sgil sgrinio rheolaidd i fenywod o dan 25 oed. Yn y cyd-destun hwnnw, cafodd y broses o gyflwyno’r brechlyn HPV i ferched ysgol rhwng 12 a 13 oed groeso mawr, fel y cafodd y profion sylfaenol ar gyfer HPV yn rhan o’r broses sgrinio.

Fodd bynnag, mae fy mhrif bryder mewn perthynas â sgrinio canser ceg y groth yn ymwneud â’r gostyngiad bychan yn y ganran o fenywod sy’n dod i gael eu sgrinio. Yn benodol, mae’n amlwg yn is mewn ardaloedd difreintiedig. A fuasai’r Gweinidog yn cytuno, ochr yn ochr â’r newidiadau a welwn mewn sgrinio am ganser ceg y groth, fod angen sicrhau bod yna rôl allweddol i Lywodraeth Cymru a phob darparwr gofal iechyd, nid yn unig i chwarae eu rhan yn codi ymwybyddiaeth cleifion o’r darpariaethau sgrinio, ond hefyd o ran gweithredu yr hyn yr oedd NICE yn ei alw’n drothwy amheuaeth isel wrth ystyried atgyfeiriadau ar gyfer profion? Dyna’r trothwy lle y bydd meddyg teulu neu ddarparwr iechyd, yn seiliedig ar symptomau, yn penderfynu atgyfeirio’r claf i gael profion pellach.

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Cytunaf yn llwyr â chi, yn amlwg, fod canfod canser yn gynnar yn hanfodol, am ei fod yn caniatáu ar gyfer cyfuniad o driniaethau mwy effeithiol a llai dwys i’r unigolyn ac yn amlwg, y canlyniadau gwell y byddai hynny’n arwain atynt.

Yn ogystal â’r rhaglenni sgrinio, mae’n bwysig fod y canllawiau NICE 2015 ar gyfer canfod ac atgyfeirio achosion lle y ceir amheuaeth o ganser yn rhan annatod o ymarfer clinigol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn canfod mwy o ganserau’n gynnar. Rwy’n cytuno â chi yn hynny o beth. Rydym wedi datblygu rhaglen gymorth ar gyfer gofal sylfaenol, mewn partneriaeth â Macmillan, a elwir yn fframwaith ar gyfer canser ac mae’n cael ei weithredu drwy rwydwaith canser Cymru. Mae yna ddarpariaethau hefyd yn y contract meddyg teulu i gefnogi dysgu seiliedig ar ymarfer a gwaith pellach drwy’r rhwydwaith canser i gefnogi mynediad gwell at brofion.

Fe gyfeirioch at argymhelliad pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU 2012 ar roi’r gorau i sgrinio ceg y groth ar gyfer menywod rhwng 20 a 24 oed Fe fyddwch yn gwybod bod y pwyllgor sgrinio yn llais arbenigol, sy’n seilio ei benderfyniadau a’i gyngor i holl Weinidogion Llywodraeth y DU ar y dystiolaeth, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw sgrinio canser ceg y groth i fenywod dan 25 yn cynnig fawr ddim amddiffyniad gan fod annormaleddau’n gyffredin iawn yn y grŵp oedran hwn ac fel arfer yn hunangyfyngol. Ar ben hynny, mae canfod annormaleddau drwy sgrinio menywod o dan 25 yn arwain at or-drin sylweddol a gall hynny arwain at broblemau yn nes ymlaen gyda beichiogrwydd ac yn y blaen.

I fynd ymlaen at y pwynt a nodwyd gennych ynglŷn â’r gostyngiad bychan yn nifer y rhai sy’n cael eu sgrinio, sy’n peri pryder i bob un ohonom—ond yr hyn sy’n peri pryder arbennig yw’r anghyfartaledd yn y niferoedd. Gwyddom fod pobl mewn cymunedau mwy cefnog yn llawer mwy tebygol mewn gwirionedd o fanteisio ar ein holl raglenni sgrinio na’r rhai sy’n byw mewn cymunedau tlotach. Er mwyn i’n rhaglenni gyrraedd eu potensial, rhaid i ni sicrhau ein bod yn estyn allan at bob cymuned.

Felly, sut y gwnawn hynny? Rwy’n credu bod cyfuniad o godi ymwybyddiaeth, y cyfeirioch chi ato, a phrofion symlach a mwy ymarferol a haws yn bwysig hefyd, a dyna pam y bydd symud at brofion HPV ar gyfer canser ceg y groth a phrofion FIT ar gyfer canser y coluddyn mor bwysig yn hynny o beth hefyd. Mae gennym dîm ymgysylltu sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus, byrddau iechyd a gofal sylfaenol i gynyddu’r niferoedd sy’n cael eu sgrinio yn enwedig ymysg grwpiau anodd eu cyrraedd. Yn sicr, gallaf ysgrifennu at yr Aelod gyda rhai enghreifftiau o’r hyn sy’n digwydd yn ogystal.

Weinidog, caiff menywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari eu cynghori i gael eu hofarïau a’u tiwbiau ffalopaidd wedi’u tynnu gan nad oes rhaglen sgrinio ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y clefyd yng Nghymru. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn y ‘Journal of Clinical Oncology’ yn dangos y gallai prawf gwaed—prawf gwaed syml—bob pedwar mis helpu i ganfod canser yr ofari’n gynharach, pan ddylai tiwmorau fod yn haws i’w trin a’u tynnu. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod profion gwaed rheolaidd ar gael i fenywod sydd â risg uchel o gael canser yr ofari yng Nghymru? Diolch.

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae hwn yn fater a drafodwyd gennym yn helaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Deisebau. Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cynhyrchu adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gafodd gan y Llywodraeth, ond hefyd gan aelodau o’r cyhoedd a’r prif elusennau canser. Mewn gwirionedd nid oedd y prif elusennau canser o blaid cyflwyno’r sgrinio. Mae hwn yn un o’r achosion hynny lle y mae’n rhaid i chi gydbwyso’r risgiau a’r manteision, ac mae’r risgiau yn gorbwyso’r manteision yn yr achos hwn ar hyn o bryd yn ôl y dystiolaeth sydd gennym. Ond rydym wedi dweud y byddwn yn cadw llygad barcud ar y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o’r DU ac ar draws y byd ar y mater penodol hwn.

Amseroedd Aros yng Ngogledd Cymru

4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amser aros ar gyfer triniaethau yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0117(HWS)

Rwy’n disgwyl i bob claf, boed mewn gofal wedi’i gynllunio neu heb ei drefnu, gael eu gweld a’u trin mewn modd amserol yn seiliedig ar angen clinigol. Nid yw rhai amseroedd aros orthopedig, yn enwedig, yn dderbyniol, fel yr wyf eisoes wedi dweud yn glir. Disgwyliaf weld gwelliant yn y ffigurau ar gyfer mis Mawrth eleni, gyda gwelliant pellach yn y flwyddyn i ddod.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wyddoch fy mod wedi crybwyll amseroedd aros orthopedig ar gyfer llawdriniaethau clun yn benodol wrth y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar, ac wedi cyfeirio at y ffaith fod yr amser aros arferol ar hyn o bryd yn Ysbyty Glan Clwyd yn 112 wythnos ar gyfer llawdriniaethau o’r fath, er gwaethaf targed 26 wythnos Llywodraeth Cymru. Ar y pryd, ymatebodd y Prif Weinidog yn chwerthinllyd drwy ddweud bod llawfeddyg wedi’i benodi yng Nglan Clwyd—llawfeddyg locwm—er mwyn lleihau amseroedd aros yn yr ardal. Rwy’n falch eich bod yn cydnabod nad yw hynny’n mynd i ddatrys problem amseroedd aros i fy etholwyr. A gaf fi ofyn i chi, o ystyried bod y bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn destun mesurau arbennig, faint o gyfrifoldeb rydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn ei dderbyn am ymestyn yr amseroedd aros hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf?

I fod yn deg, nid oedd y cwestiwn atodol a ofynnoch i’r Prif Weinidog yn ymwneud yn benodol ag amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau clun, felly fe gawsoch ymateb ynglŷn â gweithgarwch orthopedig cyffredinol. Mae’r bwrdd iechyd yn wynebu her yma gyda chluniau o fewn yr amseroedd aros orthopedig. Ar safle Ysbyty Glan Clwyd y maent yn gweld y cleifion mwyaf cymhleth, ac mewn gwirionedd, hwy yw’r rhai sy’n aros yn hir—maent yn fwy tebygol o fod yn aros yn hir. Yn anffodus, nid oes capasiti ar gael i ymdrin â’r holl bobl hynny ar hyn o bryd. Ceir cynllun tymor canolig sy’n cael ei lunio gan y bwrdd iechyd, ynghyd â’u clinigwyr, i fynd i’r afael â hynny mewn gwirionedd, gan ein bod yn cydnabod bod angen iddynt wneud hynny.

Mae amseroedd aros cyffredinol yn llawer mwy rhesymol. Yr her yw’r grŵp penodol hwn a grwpiau penodol eraill o bobl sy’n aros yn hwy. Rhan o’r her i’r bwrdd iechyd yw’r capasiti sydd ganddynt a’r capasiti y maent wedi gallu gwneud defnydd ohono’n flaenorol o fewn y system yn Lloegr, ac mae llai ohono, ond mae’n ymwneud hefyd, mewn gwirionedd, â’r ffaith fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw yn ardal y bwrdd iechyd. Yn wir, mae nifer y bobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio am driniaeth orthopedig mewn gofal eilaidd wedi cynyddu dros 83 y cant yn y pedair blynedd ddiwethaf. Mewn gwirionedd, cafwyd cynnydd o draean yn nifer y bobl a gafodd eu gweld a’u trin o fewn yr amser yn ystod y cyfnod hwnnw.

Felly, fe welwch fod anghysondeb rhwng y gallu i weld ac i drin mwy o bobl, fel y mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud, a diwallu’r galw ei hun mewn gwirionedd. Dyna pam ei bod mor bwysig cyflawni yn erbyn y rhaglen gofal wedi’i gynllunio mewn gwirionedd—rhaid i’r mesurau hynny fynd rhagddynt. Dyna pam y mae’r gefnogaeth a ddarparwn i’r bwrdd iechyd yn bwysig. Nid ymwneud ag arian yn unig y mae, ond â’r arbenigedd a’r broses o graffu ar eu cynlluniau. Wrth gwrs, rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach dros y flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf hefyd. Bydd yn rhan o’r ymarfer craffu ac atebolrwydd sy’n digwydd—pa un a yw’r bwrdd iechyd hwn neu unrhyw fwrdd iechyd arall yn destun mesurau arbennig—oherwydd, fel y dywedais o’r blaen, rwy’n cydnabod nad yw’r amseroedd aros hir hyn yn dderbyniol, ac mae’n her i’r rhan hon o’r gwasanaeth iechyd a phob rhan arall.

Rwyf wedi codi ar fy nhraed yn y Siambr yma nifer o weithiau yn y gorffennol yn beirniadu’r bwrdd iechyd ac yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill at nifer o broblemau a rhwystredigaethau. Felly, mae hi ond yn deg fy mod i’n llongyfarch ar adegau pan fo yna le i wneud hynny i’r bwrdd iechyd, ac, yn y cyd-destun yma, i’w llongyfarch nhw ar y defnydd o’r ap ynglŷn ag amserau aros sydd wedi cael ei—wel, ddim cael ei gynhyrchu, ond, yn sicr, maen nhw’n gwneud defnydd ohono fe yn y gogledd nawr. Mae e, fel rhiant, yn rhywbeth rydw i wedi cael achos i’w ddefnyddio, ac rwy’n gwybod am rieni eraill sydd wedi ei ddefnyddio fe. Roeddwn i’n edrych nawr—tair awr yng Nglan Clwyd, ychydig dros ddwy awr ym Maelor, dim aros yn ysbyty, neu yn uned mân anafiadau Dinbych. Ac felly, rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â fi yn llongyfarch y bwrdd—fel rŷch chi wedi ei gydnabod yn y gorffennol—ar y datblygiad yma.

Ond yr hyn rwyf eisiau ei ofyn, wrth gwrs, yw: beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod yr arfer da yma nawr yn cael ei fabwysiadu ar draws Cymru? Ond hefyd, pa fuddsoddiad mae’ch Llywodraeth chi’n ei wneud i alluogi byrddau iechyd Cymru i wneud buddsoddiadau tebyg yn y dechnoleg yma, sydd gan bob un ohonom ni, a fydd, yn ei dro, wrth gwrs, yn help i daclo rhai o’r problemau ymarferol iawn y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu?

Diolch i chi am gydnabod llwyddiant yr ap, o ran hwyluster a hefyd o ran ei ddefnyddioldeb i bobl sy’n ceisio cael mynediad at ofal heb ei drefnu yn benodol. Nid yw hon yn broblem sy’n ymwneud yn arbennig â’r gost o ddatblygu’r ap o hyn ymlaen, a’i ledaenu; mewn gwirionedd mae’n ymwneud â deall digon o amser a digon o dystiolaeth am ei werth. Ac mewn gwirionedd, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael un bwrdd iechyd yn arwain ar ei ddefnydd.

Mae’n deg dweud bod rhywfaint o bryder o fewn y gwasanaeth ynglŷn ag a fyddai hwn yn profi’n arloesedd defnyddiol, neu a fyddai’n darparu mwy o gwestiynau nag atebion. Ac yn wir, pan oeddwn yn Ysbyty Gwynedd ddydd Llun yn gwneud cyhoeddiad cadarnhaol ar fuddsoddi mewn adran damweiniau ac achosion brys newydd, roedd y staff eu hunain yn dweud eu bod yn ystyried yr ap yn ddefnyddiol, ac roedd y bobl a oedd yno yn ei ystyried yn ddefnyddiol hefyd. Felly, mae wedi bod yn ddechrau cadarnhaol, ond ar ôl i ni gael mwy o ddata ar ei ddefnydd a’i ddefnyddioldeb, rwy’n credu y byddwn yn edrych wedyn wrth gwrs ar sut y gallwn ddatblygu’r gwersi hynny ar gyfer gweddill ein system—nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ar draws gweddill GIG Cymru yn ogystal.

Amseroedd Aros ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys

5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0128(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae adrannau achosion brys yng Ngorllewin De Cymru wedi parhau i brofi pwysau a galw sylweddol drwy gydol y gaeaf hwn. Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn cofio mai dyma ran o’r rheswm pam y ceir ymyrraeth wedi’i thargedu ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd y diffyg cynnydd parhaus ym maes gofal heb ei drefnu. Gwelwyd rhywfaint o welliant o’i gymharu â’r gaeaf diwethaf, ond mae cynnydd pellach i’w wneud eto.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac rwy’n falch eich bod yn cydnabod y pryderon, ac yn gallu cadarnhau bod ymyrraeth yn digwydd bellach mewn gwirionedd. Mae gennyf gwestiwn ychydig yn wahanol i’w ofyn i chi, felly byddwch yn amyneddgar gyda mi ar hyn, oherwydd mae’n ymwneud â nyrsys ardal.

Mae’r Cynulliad, fel y gwyddoch, wedi cael tystiolaeth fod nifer y nyrsys ardal yng Nghymru wedi gostwng 40 y cant yn y pum mlynedd ddiwethaf, gydag ofnau y ceir colledion pellach. Ac mae’r gwaith y mae nyrsys ardal yn ei wneud yn sicrhau adferiad cleifion yn eu cartrefi eu hunain yn bendant yn rhan o gadw pobl allan o’r ysbyty, ac at hynny rwy’n dod ar hyn. Ni ddylai pethau fel cathetrau wedi blocio a chlwyfau heb eu gorchuddio ynddynt eu hunain fod yn rhesymau i bobl fynd i’r ysbyty mewn gwirionedd. Ond os nad ymdrinnir â hwy, fe ddont yn rhesymau dros fynd i’r ysbyty; gall y canlyniadau fod yn ddifrifol iawn, gan gynnwys pethau fel sepsis.

Felly, a allwch ddweud wrthym beth yw lefel y derbyniadau brys i ysbytai, yn Nhreforys, ac mewn mannau eraill, o ganlyniad i gyflyrau sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i ddiffyg sylw cyson gan nyrsys ardal, ac effaith hynny wedyn ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys? Efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a fydd y cyllid newydd a gyhoeddwyd gennych ar gyfer staff nyrsio yn sicrhau y cynhelir y mathau o sgiliau sydd gan y nyrsys ardal yr ydym mewn perygl o’u colli. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.

Nid wyf yn gallu rhoi’r math o ddata rydych yn gofyn amdano heddiw—. Rwy’n credu ei fod yn ymarfer eithaf cymhleth i’w gyflawni. Fe welaf a yw’n bosibl gwneud hynny, ond mae gallu dweud ai her i’r gwasanaeth nyrsys ardal sydd wedi arwain at lefel derbyn i’r ysbyty sydd wedi arwain at her o ran amseroedd aros yn gofyn llawer yn fy marn i, pwy bynnag yw’r Gweinidog neu’r gweision sifil sydd ar gael iddynt.

Ond rwy’n cydnabod y pwynt, mewn gwirionedd, fod y gwasanaeth nyrsys ardal yn rhan bwysig o’r gofal sy’n mynd i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain, a chynnal lefel o annibyniaeth ar eu cyfer. Yn ddiweddar, cefais gyfle, gan wisgo fy het Aelod etholaeth, i fynd gydag aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn fy etholaeth i weld peth o’r amrywiaeth yn y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu—a darpariaeth gofal iechyd eithaf cymhleth, mewn gwirionedd, o’i gymharu â’r hyn y gallech feddwl sy’n digwydd, gan gynnwys gofal diwedd oes, adferiad rhag anafiadau sylweddol, a’r bobl sy’n methu symud o gwmpas fel y byddent yn dymuno gwneud.

Felly, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwerth uniongyrchol y mae nyrsys ardal yn ei ddarparu, o ran adferiad, adsefydlu, ac atal hefyd. Ac rwy’n hapus i gadarnhau bod y buddsoddiad o £95 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar yn nyfodol hyfforddiant ac addysg gofal iechyd yn cynnwys cynnydd o 13 y cant ar gyfer hyfforddi nyrsys. Felly, rydym yn cydnabod gwerth nyrsys ardal, ac rydym yn cydnabod yr angen i barhau i gynyddu, nid yn unig i gymryd lle, ond i feddwl sut i gynyddu niferoedd nyrsys yn y meysydd lle y ceir galw penodol.

Pa gefnogaeth ychwanegol ydych chi’n ei gynnig i weinyddiaeth yr ysbyty yn Nhreforys i esgor ar welliant yn y trefniadau i ddelio efo’r nifer fawr o gleifion sy’n mynychu’r adran ddamweiniau yno?

Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysbyty Treforys i gael cyflwyniad ar ystod o bynciau gwahanol, mewn gwirionedd, ond yn ystod yr ymweliad, manteisiais ar y cyfle i fynd i’r adran achosion brys. Ac roedd yn ddiddorol gweld bryd hynny, rwy’n meddwl, eu bod yn cydnabod bod rhai o’u trefniadau system mewnol eu hunain wedi gwella, ond hefyd maent bellach yn credu bod ganddynt well perthynas y tu allan i ddrws yr ysbyty, gyda datblygiad clystyrau gofal sylfaenol, ond yn bwysig hefyd o fewn y system ysbyty. Fe fyddwch yn gwybod o’ch amser eich hun yn y system iechyd, yn y lle hwn a’r tu allan, fod yna deimlad mewn rhai adrannau achosion brys nad ydynt wedi’u cysylltu’n briodol â gweddill yr ysbyty, fel pe bai’r problemau wrth ddrws yr ysbyty yn aros wrth ddrws yr ysbyty. Ac mewn gwirionedd, cafwyd lefel uwch o ddealltwriaeth ei bod yn system ysbyty cyfan a bod angen iddynt weld bod honno’n broblem iddynt hwy yn ogystal, gyda chysylltiad ag arbenigeddau eraill yn yr ysbyty i fynd â phobl allan o’r adran achosion brys ac yn ôl i’r ysbyty lle y byddant angen gofal a thriniaeth briodol.

Ac mae hefyd yn ymwneud â’r gwelliannau i achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Yn benodol, yn awdurdod lleol Abertawe, cafwyd rhai heriau gwirioneddol gyda rhai o’r lleoedd gofal sydd ar gael y tu allan i’r ysbyty, ond rydym wedi gweld rhywfaint o welliant. Felly, caf fy nghalonogi gan y ffaith fod yr her wedi’i chydnabod, ac nad her gofal eilaidd yn unig ydyw—mae’n her i’r gwasanaeth iechyd cyfan, ond hefyd, mae’n her iechyd a gofal hefyd. Ac wrth gwrs, yn dilyn y buddsoddiad o £50 miliwn rydym wedi’i ddarparu, fe fyddwch yn gwybod hefyd fod rhan y bwrdd iechyd o hynny dros £9 miliwn. Felly, ceir cefnogaeth go iawn o ran arian, yn ogystal ag arbenigedd, a pheth o’r rhannu sy’n digwydd mewn gwirionedd rhwng byrddau iechyd gwahanol ynglŷn â’r systemau a’r prosesau llwyddiannus sydd ganddynt. Felly, mae yna amrywiaeth o wahanol gamau gweithredu. Disgwyliaf weld y gwelliant hwnnw, ac edrychaf ymlaen at barhau’r sgwrs gyda chi ac Aelodau eraill i weld ble y mae hynny’n mynd i ddigwydd mewn gwirionedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg niferoedd cyson o uchel o bobl sy’n aros mwy na 12 awr yn ei adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Ionawr gwelsom gyfanswm o 890 o bobl yn aros mwy na 12 awr yn y ddwy brif adran damweiniau ac achosion brys. Nid oedd ond 150 o bobl wedi aros cymaint â hynny o amser yn adran ddamweiniau ac achosion brys fwyaf Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod PABM yn treialu gwasanaeth 111 i leihau presenoldeb amhriodol yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys, sut y mae egluro niferoedd mor uchel? Gan Ysbyty Treforys y mae’r nifer uchaf o arosiadau 12 awr ar gyfer unrhyw adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Diolch.

Ac mae’r rheini’n rhan o’r heriau a gyflwynais i’r bwrdd iechyd ac o fewn y gwasanaeth. Ac mae’n wir fod pobl yn siarad â’i gilydd ar draws y gwasanaeth. Mae meddygon ymgynghorol adrannau brys yn siarad â’i gilydd, ac mae nyrsys arwain yn siarad â’i gilydd ynglŷn â’r ymarfer yn eu hadrannau. Felly, ceir ymgais wirioneddol i rannu dysgu. Ond rydych yn gywir—mae gan ysbyty’r Mynydd Bychan gyfran sylweddol is o bobl yn aros mwy na 12 awr i gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau. Dyna ran o’r her y credaf fy mod wedi’i chydnabod yn fy ymateb i Dai Lloyd, mewn gwirionedd, ynglŷn â chydnabod ei bod yn broblem system gyfan o fewn y system ysbyty cyfan, yn ogystal â thu allan iddo. Ac os nad ydych yn gallu mynd i’r afael â rhai o’r heriau o ran gallu symud pobl, nid yn unig i adran achosion brys, ond drwy’rr adran honno, a naill ai allan o’r ysbyty yn gyfan gwbl, neu i mewn i’r ysbyty, os mai dyna’r lle priodol ar eu cyfer, dyna ran o’r rheswm pam y mae rhai pobl yn aros yn rhy hir. Ac rwy’n cydnabod bod gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Ac nid wyf erioed wedi ceisio bychanu hynny, neu gelu hynny.

Mae’n ymwneud mewn gwirionedd â hyn: a fyddwn yn gweld cynnydd pendant yn y gallu i gyflawni yn y bwrdd iechyd hwn, ac mewn byrddau iechyd eraill, er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn aros 12 awr i gael eu gweld, eu trin a’u rhyddhau, a sut yr adeiladwn ar dreial llwyddiannus 111? Mae wedi bod yn ddatblygiad llwyddiannus iawn, ac unwaith eto, o’i gymharu â’r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, lle y cawsant heriau gwirioneddol gyda 111 yn arwain at nifer fwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio at adrannau achosion brys, nid yw hynny wedi digwydd. A cheir tystiolaeth dda fod 111 mewn gwirionedd yn cyfeirio pobl i ffwrdd o’r adran honno drwy ddarparu llwybrau gofal amgen ar eu cyfer. Felly, mae yna bethau cadarnhaol o fewn y system gyfan, ac mae’r Llywodraeth hon, neu’r gwasanaeth iechyd, yn deall bod heriau parhaus o hyd a gwelliannau pellach y mae pob un ohonom yn disgwyl eu gweld yn digwydd.

Apwyntiadau drwy Skype neu FaceTime

6. Pam na all pobl wneud apwyntiadau fel mater o drefn i weld eu meddyg drwy Skype neu FaceTime? OAQ(5)0129(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.2 miliwn ar ddarparu Skype for Business ar gyfer y GIG. Gellir cynnal ymgyngoriadau â’r dechnoleg hon pan fydd y claf a’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn fodlon i wneud hynny, er y gall fod achosion pan fydd angen i’r gweithiwr iechyd proffesiynol gynnal ymgynghoriad wyneb yn wyneb neu archwiliad corfforol yn dilyn ymgynghoriad.

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mabwysiadu technolegau digidol ar raddfa eang yn golygu nad oes angen i ni ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n sâl deithio pellteroedd maith i weld meddygon mwyach. Mae’n peri rhwystredigaeth i mi fod y GIG yn aml yn gwneud dim mwy nag anfon llythyrau neu ffacsys hyd yn oed—un o gadarnleoedd olaf y defnydd o’r peiriant ffacs yn y gymdeithas fodern yn ddi-os. Yn aml, nodir mai cyfrinachedd neu ddiogelwch cleifion yw’r rhwystrau sy’n atal y datblygiadau newydd hyn rhag cael eu mabwysiadu. Ond mae datblygiadau ar y gweill yn Lloegr a gwasanaethau technoleg cyffredin y DU, sydd wedi’u cysylltu â Swyddfa’r Cabinet, yn cynnig rhyngrwyd ddiogel ar gyfer y sector cyhoeddus heb fod angen troi at rwydweithiau preifat drud. Rwy’n teimlo bod angen i ni fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar yr arloesedd sydd ar gael i rannau eraill o’r gymdeithas ar gyfer cleifion yn y GIG.

Rwy’n cydnabod yr her yr ydych yn ei gosod ac mae’n rhan o’n cynllun gofal iechyd digidol ar sail gwybodaeth ar gyfer y dyfodol. Rydym yn disgwyl i fwy o bobl allu defnyddio mynediad o bell ac ymgynghori o bell gyda’r proffesiwn gofal iechyd fel mater o drefn, mewn gofal sylfaenol a hefyd mewn gofal eilaidd. Yn sicr ni fyddwn am roi’r argraff nad oes dim o hyn wedi digwydd. Gellir gwneud peth ohono dros y ffôn yn awr a gellir gwneud rhywfaint ohono drwy alwad fideo yn ogystal. Er enghraifft, pan oeddwn yn Ysbyty Gwynedd ddydd Llun, cefais gyflwyniad diddorol iawn gan y prosiect Cartref, sef prosiect ysbyty’r dyfodol a noddir gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Roeddent yn gallu dangos clinig gweithredol i mi lle roedd rhywun wedi’i leoli yn yr ysbyty mewn gwirionedd, ac roedd ganddynt bobl a oedd yn mynychu clinig mewn ysbyty mwy anghysbell i bobl nad oedd ganddynt fynediad yn eu cartrefi eu hunain at gyfleusterau TG, ac roeddent yn cael ymgynghoriad o bell. Roedd honno’n nodwedd reolaidd ac yn rhan reolaidd ohono. Ac mewn gwirionedd, roedd y dinasyddion unigol a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn y ffordd honno yn ddigon hapus i wneud hynny am eu bod yn cydnabod ei fod yn arbed taith hir ac anodd iddynt.

Felly, rwy’n cydnabod y pwynt a wnewch ac yn benodol, wrth i ni ddiwygio gwasanaethau cleifion allanol ar draws y GIG yng Nghymru, pan feddyliwch nid yn unig am bobl nad oes angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau cleifion allanol o gwbl, lle nad oes angen ymgyngoriadau dilynol, ond y bobl sydd angen ymgynghoriad dilynol ar gyfer cleifion allanol dilynol yn benodol, beth sydd angen iddynt ei wneud a ble y gallant gael eu gweld? Yn sicr, ym maes gofal llygaid, er enghraifft, rydym eisoes wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran gweld pobl mewn gwahanol rannau o’n system gofal iechyd drwy drosglwyddo delweddau i wneud yn siŵr nad oes angen i’r person ddod yno’n gorfforol. Ac mewn gwirionedd, nid yn unig y mae’n ddefnydd sylweddol o amser, ond nid yw bob amser yn ddefnydd da o amser ychwaith i’r dinesydd unigol nac i’r clinigydd, weithiau, i fod yn symud o gwmpas a’i wneud o glinig o bell. Felly, mae yna gyfleoedd sylweddol ar gyfer elwa a llawer gwell defnydd o adnoddau pawb.

Anafiadau yn ystod Genedigaeth

7. Pa driniaethau sydd ar gael i famau a ddaw'n anymataliol o ganlyniad i anaf yn ystod genedigaeth? OAQ(5)0118(HWS)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae pob gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn gweithio ar y cyd gyda gwasanaethau ffisiotherapi ac ymataliaeth arbenigol. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu asesiadau ac yn nodi problemau ymataliaeth gan gyfeirio at wasanaethau ymataliaeth arbenigol ar gyfer triniaeth a chynllunio gofal unigol.

Mae un o bob 10 o fenywod yn cael anafiadau i’r sffincter rhefrol o ganlyniad i roi genedigaeth. Ni siaredir amdano byth bron am fod pobl yn teimlo gormod o embaras i sôn amdano. Ond rwy’n falch o ddweud ei fod yn codi’n uwch ar yr agenda feddygol: mae cynhadledd yn cael ei threfnu gan elusen newydd sy’n tynnu sylw at anafiadau i’r sffincter rhefrol mewn mamau sydd wedi rhoi genedigaeth, ac mae’n cael ei chynnal yn y Coleg Meddygaeth Brenhinol. Mae llawer o feddygon a llawfeddygon blaenllaw yn cymryd rhan, yn ogystal â llywydd Coleg Brenhinol y Bydwragedd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod sylw’n cael ei roi i rywbeth na siaredir fawr ddim amdano, gan ei fod yn achosi gofid i fenywod ledled Cymru.

Felly, rwy’n bryderus iawn nad yw Cymru o reidrwydd yn mynd i fod ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â’r mater hwn. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud wrthym pam y gwrthodwyd cais Cwm Taf yn ddiweddar am therapi ysgogi nerf y sacrwm ar gyfer anymataliaeth ysgarthol gan y gronfa effeithlonrwydd drwy dechnoleg, er mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU nad yw’n cynnig y driniaeth hon a gymeradwywyd gan NICE. A fyddech yn barod i edrych ar hynny eto, o ystyried y bydd llawer mwy o bwysau arnom i ganfod pam nad ydym yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i gymaint o famau?

Mae gennyf ffigurau ychydig yn wahanol o ran nifer yr achosion. Nifer yr achosion sydd gennyf yw 6 y cant ar gyfer genedigaethau cyntaf o’i gymharu â 10 y cant, ond rwy’n cydnabod bod cyfran sylweddol o fenywod sy’n rhoi genedigaeth yn dioddef yr anaf hwn. Mae’n ymwneud yn rhannol â’r sgyrsiau a ddylai ddigwydd mewn gofal bydwreigiaeth da ynglŷn â pharatoi ar gyfer geni a bod yn ffit ac yn barod ar gyfer geni yn ogystal ag adferiad wedyn. Yn y mater penodol yr ydych yn ei nodi am gais Cwm Taf i’r gronfa effeithlonrwydd drwy dechnoleg, rydym yn dyrannu cyllid ar sail gystadleuol, gan edrych ar y lefel benodol o fudd y gellid ei wneud o bob cais. Ac mae’n wirionedd syml fod yna fwy o syniadau da a mwy o ffyrdd y gallem ddefnyddio’r gronfa honno’n fuddiol nag y gall y gronfa ei hun ei ddarparu. Ond mae’r pwynt a wnewch yn ymwneud â hyn mewn gwirionedd: rwy’n cydnabod ei fod wedi’i gymeradwyo gan NICE ac y dylai gael ei gyflawni fel rheol mewn uned arbenigol. Lle nad oes unedau arbenigol ar gael yn yr ysbyty lleol, mae’n ymwneud â sicrhau mynediad atynt ac mae angen i bob bwrdd iechyd wneud yn siŵr fod yna rwydwaith priodol ar gael i wneud hynny. Fodd bynnag, gan eich bod wedi cyfeirio at fater penodol, fe ymrwymaf i edrych ar y mater penodol yng Nghwm Taf ac edrych ar sut y darperir y gwasanaeth hwn i fenywod sy’n rhoi genedigaeth yng Nghwm Taf a sut y gellir sicrhau eu bod yn cael y rhan hon o’u gofal ar ôl genedigaeth.

4. 3. Datganiadau 90 Eiliad

Symudwn ymlaen at eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiadau 90 eiliad a galwaf ar Vikki Howells.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae mynd allan i’r awyr agored mor dda i ni, nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol. Mae’n mynd â ni o straen y byd technolegol yr ydym yn byw ynddo ac yn ôl at symlrwydd a natur i roi seibiant mawr ei angen i’n hymennydd. Dyna eiriau un o fy etholwyr, Tracy Purnell o’r Drenewydd, Aberpennar, a gurodd bron i 500 o ymgeiswyr i ddod yn hyrwyddwr yr Arolwg Ordnans 2017, ac yn y rôl honno bydd yn arwain yr Her Awyr Agored eleni, ac yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ymuno â hi ar deithiau cerdded lleol i wella eu lles corfforol a meddyliol.

Hefyd heddiw, lansiodd y Cerddwyr eu gweledigaeth 10 mlynedd i greu diwylliant cerdded go iawn yma yng Nghymru, gyda fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ogwr. Eu gweledigaeth yw Cymru lle y mae pobl yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau a lle y mae lleoedd, tirweddau a’n treftadaeth naturiol yn asedau cymunedol i’w trysori a lle y mae pawb yn rhydd i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru, sy’n aml, yn llythrennol, ar garreg ein drws.

Cerdded yw’r math mwyaf hygyrch o ymarfer corff a phe baem yn gallu annog dinasyddion Cymru i gerdded mwy, gallem leihau’r £314 miliwn y mae anweithgarwch corfforol yn ei gostio i economi Cymru bob blwyddyn. Mae hefyd yn dda i ddinasyddion Cymru. Mae lefelau cynyddol o weithgarwch corfforol drwy gerdded yn lleihau’r risg o gyflyrau iechyd megis clefyd y galon, diabetes a hyd yn oed iselder. Yn benodol, mae angen i ni annog ein pobl ifanc i gerdded mwy. Felly, rwy’n croesawu mentrau Llywodraeth Cymru fel y filltir ddyddiol i gyflwyno arferion da i’n plant ysgol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda cherddwyr ar brosiect yn fy etholaeth eleni.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, mae cyfraddau diagnosis canser y croen yng Nghymru wedi codi 63 y cant, gyda 140 o bobl yn marw bob blwyddyn o’r clefyd. Ar yr un pryd, mae cyfraddau achosion o melanoma yng Nghymru wedi codi 86 y cant ymhlith dynion a bron i hanner ymhlith menywod. Mae’r cyfraddau hyn yn annerbyniol o uchel ar gyfer canser y gellir diogelu yn ei erbyn gydag un newid syml: defnyddio eli haul. Mae angen i ni wneud mwy i rybuddio pobl Cymru am y risgiau marwol o ddinoethi eu croen i belydrau UV heb amddiffyniad effeithiol ar ffurf eli haul.

Mae Gofal Croen Cymru yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr i roi llais i bobl sydd â chyflyrau croen yng Nghymru. Maent yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ac addysgu sut y gall pobl amddiffyn eu hunain ac adnabod arwyddion o ganser y croen. Eu neges i bobl Cymru y mis Mawrth hwn yw, ‘Peidiwch â bod yn gimwch ar draethau Cymru, a defnyddio eli haul wrth i ni nesu at fisoedd y gwanwyn a’r haf.’

Efallai eich bod eisoes wedi gweld bod baneri Cymru ar draws y wlad ar Ddydd Gŵyl Dewi wedi cael eu trawsnewid. Edrychwch am y cimwch coch llachar sy’n cymryd lle ein draig Gymreig enwog. Bydd y ffigwr hwn—symbol adnabyddus ar gyfer llosg haul—yn hedfan mewn 35 lleoliad ar draws ein gwlad: o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, i Gastell Penfro, a’r holl ffordd i gopa’r Wyddfa. Gwneir hyn oll i annog pobl i fod yn ymwybodol o’r risg y gall yr haul ei beri a’u hannog i wisgo eli haul pan fyddant yn dinoethi eu croen i belydrau niweidiol. Hyd yn oed yng Nghymru, lle nad yr haul bob amser yn disgleirio, mae’n bwysig gwarchod yn erbyn peryglon UV a diogelu eich hun.

Mae Gofal Croen Cymru yn gofyn i ni ddangos ein cefnogaeth lwyr i’w hymgyrch ‘Peidiwch â bod yn gimwch’, sy’n cael ei lansio heddiw ac sy’n parhau drwy fisoedd yr haf. Po fwyaf o Gymry sy’n cael eu haddysgu ynglŷn â’r risgiau hyn, y mwyaf o fywydau a gaiff eu hachub.

Bore ddoe am 9 o’r gloch, roedd merch ifanc, ddisglair o Fangor a’i mam i fod ar eu ffordd i Sri Lanka, yn groes i’w hewyllys. Yn dilyn ymgyrch fer, cafodd Shiromini Satkunarajah aros, am y tro o leiaf. Mae stori Shiromini wedi cydio yn nychymyg miloedd ar filoedd o bobl ym mhob cwr o Brydain. Mae wedi tanlinellu pa mor annymunol ydy’r system mewnfudo. Mae hefyd wedi dangos bod rhywbeth pwysig iawn yn y dyddiau cythryblus yma wedi digwydd. Mae stori Shiromini yn dangos beth sy’n bosibl gyda grym penderfyniad a dyfalbarhad. Mae stori Shiromini yn dangos fod grym pobl yn gweithredu fel un llais cadarn a di-ildio yn gallu creu newid. Yn hwyr iawn yn y dydd, fe lwyddwyd i newid meddwl y Swyddfa Gartref. Roedd rôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, yn allweddol yn hyn. Bu Prifysgol Bangor ac undeb y myfyrwyr yn llafar eu cefnogaeth hefyd. Yn bwysicach efallai, fe ddaru ymhell dros 150,000 godi eu llais—gweithred syml o arwyddo deiseb, ond gweithred dorfol, bwerus iawn. Mae Shiromini yn awr yn awyddus iawn i fynd yn ôl at eu hastudiaethau peirianneg ym Mhrifysgol Bangor. Nid yw ei brwydr i gael aros yng Nghymru ar ben, ond o leiaf cafwyd llwyddiant gyda’r cam cyntaf yma. Mae hi wedi gofyn i mi anfon neges. Mae hi’n awyddus iawn i ddiolch o waelod calon i bawb ddaru ei chefnogi, felly diolch, Ddirprwy Lywydd, am gyfle i ddweud hynny yn ein Senedd cenedlaethol heddiw.

5. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ymchwiliadau ac Ymgysylltu

Eitem 4, felly, yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ymchwiliadau ac ymgysylltu. Galwaf ar Huw Irranca-Davies fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, Dydd Gŵyl Dewi, mae’n gyfle delfrydol i mi i siarad ar ran y pwyllgor i amlinellu ein hymchwiliad cyfredol ar daith ddatganoli Cymru. Wrth edrych yn ôl, byddwn hefyd yn edrych ar sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn awr ac yn y dyfodol, weithio gyda chymheiriaid ar draws y DU i wella bywydau dinasyddion ymhellach ar draws ein gwlad.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dal i fod yn sefydliad democrataidd ifanc iawn. Mae’n llai na dau ddegawd oed, ac eto mae wedi ymsefydlu’n gadarn yn rhan o fywyd dinesig a chyfansoddiadol Cymru; mae fel pe bai bob amser wedi bod yno i genedlaethau newydd o bobl ifanc. Eto i gyd, proses yn unig yw’r broses ddatganoli. Yn aml, soniwyd am ddatganoli fel taith, nid cyrchfan. I rai mae hynny’n bryder, ac i eraill mae’n gyfle. Ond beth bynnag yw eich safbwynt, mae’n sicr yn realiti. Gan gynnwys y Ddeddf Seneddol a sefydlodd Lywodraeth gyntaf Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, bellach cafwyd pump—do, pump—darn sylweddol o ddeddfwriaeth o San Steffan sydd wedi ein helpu ar y daith. Mae pob un, i raddau amrywiol, wedi bod yn ddadleuol neu’n heriol. Mae pob un wedi mynd â ni gam ymlaen, er y gellid dadlau bod yna gam achlysurol wysg ein hochr neu am yn ôl wedi bod hefyd.

Yn y cyfamser, gyda mwy a mwy o bwerau mewn sawl maes, rydym wedi gwneud ein deddfau ein hunain mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, gan adeiladu corff newydd o ddeddfwriaeth ‘a wnaed yng Nghymru’. Gwyddom fod llawer o ddarnau garw wedi bod ar y ffordd ar y daith hon, a’r darnau garw hynny’n deillio weithiau o drafodaethau anodd—yn wleidyddol ac o ran polisi—rhwng adrannau Whitehall a Llywodraeth Cymru ar y pwerau diweddaraf i’w trosglwyddo. Neu mae’n bosibl mai materion adrannol o un wythnos i’r llall yn ymwneud â pholisïau gwahanol ar yr economi, iechyd neu addysg ac yn y blaen yw’r darnau garw hynny. Felly mae ein pwyllgor wedi penderfynu ystyried y daith hyd yn hyn, darganfod beth sydd wedi gweithio’n dda, a beth sydd wedi bod yn llai effeithiol. Mae ein bwriad yn driphlyg: cynhyrchu egwyddorion arfer gorau ar gyfer gwaith rhyngsefydliadol gogyfer â deddfwriaeth gyfansoddiadol; ystyried ac adeiladu ar waith deddfwrfeydd eraill ar weithio rhyngsefydliadol fel y mae’n ymwneud â meysydd polisi ehangach; ac yn drydydd, ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd i weithio’n rhyngseneddol, gan gynnwys hyrwyddo ymgysylltiad â dinasyddion.

Bydd ein profiad diweddar o graffu ar yr hyn sydd bellach wedi dod yn Ddeddf Cymru 2017 yn helpu i lywio ein gwaith, ac yn ein helpu i nodi sut y gellir datblygu a gwella’r berthynas rhyngom ag eraill. Fel pwyllgor, rydym eisoes wedi ceisio dysgu gwersi: rydym wedi cydnabod y manteision o weithio ar y cyd â Phwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, lle na fyddai pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithio ar ei ben ei hun, yn gallu gwneud hynny o bosibl. Mae hyn wedi dangos yr angen am gysylltiadau rhyngsefydliadol effeithiol, ac mae’n un o’r ysgogiadau i edrych yn fanylach ar y materion hyn ar lefel seneddol.

Mae ein hymchwiliad wedi’i rannu’n ddwy elfen. Bydd y gyntaf yn edrych ar sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol wedi esblygu ac wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli. Ac i’n helpu i edrych ar y daith a deithiwyd gennym, rydym wedi sicrhau casgliad trawiadol, yn fy marn i, o’r rhai a fu ar flaen y gad yn ffurfio a gweithio gyda datganoli dros y 18 mlynedd ddiwethaf. Rwy’n meddwl y byddant yn ein helpu i ddeall pam y mae datganoli weithiau’n rhedeg yn esmwyth iawn, ac ar adegau eraill yn wynebu rhwystrau mawr—yn gyhoeddus iawn weithiau. Byddwn yn edrych ar y bobl a’r personoliaethau, byddwn, ond hefyd y mecanweithiau sydd i fod i roi olew yn y peiriant a chadw’r berthynas rhwng y sefydliadau hyn i redeg yn llyfn. Yn wir, rydym eisoes wedi cymryd tystiolaeth gan yr Arglwydd Murphy. Siaradodd am bwysigrwydd meithrin cysylltiadau personol a’r her o newid meddylfryd yn Whitehall, lle y mae angen i hynny ddigwydd, ymhlith pethau eraill.

Fodd bynnag, mae’n ymwneud â mwy na myfyrio ar y gorffennol. Mae’n rhaid i ni hefyd gael dealltwriaeth lawn o sut y mae’r strwythurau a’r polisïau presennol yn gweithredu’n ymarferol. I’r perwyl hwn, bydd yr ail elfen yn archwilio natur y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sut y mae’r gydberthynas hon yn gweithredu a sut y gellir ei gwella. Bydd yn edrych ar gyfleoedd gwell i wella’r modd y dysgir am bolisi rhwng Llywodraethau a Seneddau; ar arferion gorau mewn cysylltiadau rhyngsefydliadol o bob rhan o’r DU y gellid eu trosglwyddo i’r cyd-destun Cymreig; ac ar natur y berthynas rhwng deddfwrfeydd Cymru a’r DU a nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith rhyngseneddol effeithiol.

Nid ein bwriad yw cynhyrchu adroddiad arall i orwedd ar silff yn hel llwch. Mae’r pwyllgor yn awyddus i gael effaith wirioneddol ac uniongyrchol ar weithio rhyngsefydliadol drwy gynhyrchu egwyddorion arferion gorau ac arwain o’r tu blaen wrth adeiladu’r gydberthynas hon. Mae gwledydd eraill yn rheoli’r berthynas yn llwyddiannus a chredwn fod yna ddigon y gallwn ei ddysgu a’i addasu o arferion da mewn mannau eraill.

Mae Aelodau’r Cynulliad yn gweld effaith gweithio rhyngsefydliadol, cadarnhaol a negyddol, bob dydd mewn perthynas â materion trawsffiniol lle y gall llinellau datganoli fod yn aneglur weithiau. Dyna pam ei bod mor bwysig ymgysylltu â’r cyhoedd i ddeall yr effaith y gall y cysylltiadau hyn ei chael ar ein dinasyddion. I’r perwyl hwn rydym wedi treialu panel dinasyddion bach—am y tro cyntaf yn y Cynulliad—i helpu i ddeall canfyddiadau trawstoriad o’r cyhoedd. Byddwn hefyd yn gweithio’n galed i siarad â sefydliadau nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â’r Cynulliad ac i ddarganfod pam nad yw hynny’n digwydd.

Mae pwysigrwydd y gwaith hwn hefyd yn cael ei ddwysáu gan oblygiadau cyfansoddiadol y setliad datganoli yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n hanfodol fod y gwaith rhyngsefydliadol sydd ei angen i hwyluso trosglwyddiad llyfn ar draws y gwledydd sy’n rhan o’r DU yn addas i’r diben. Wrth wneud hynny mae angen i ni sicrhau nad ydym yn colli pwerau a chymhwysedd sydd ar hyn o bryd yng Nghymru wrth i ni adael yr UE. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn cyfrannu at sicrhau nad yw hynny’n digwydd.

Mae datganoli—symud pŵer yn nes at y bobl rydym yn eu gwasanaethu—yma i aros. Fel y cyfryw, i Gymru a’r gwledydd a’r rhanbarthau datganoledig, ond hefyd er lles y Deyrnas Unedig, mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n effeithiol i bob un o’n dinasyddion. Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd at wraidd y cysylltiadau rhyngsefydliadol hynny, ac yn dangos y ffordd ymlaen ar gyfer gweithio’n well yn y dyfodol.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn mynd â llawer o’n hamser yn y misoedd i ddod. Ochr yn ochr â hynny, rydym hefyd yn bwriadu edrych ar godeiddio cyfraith Cymru. Fel cam cyntaf, edrychwn ymlaen at groesawu’r Cwnsler Cyffredinol i bwyllgor yn ddiweddarach yn y gwanwyn i drafod ei syniadau yn y maes hwn a phenderfynu sut i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn cyflawni ein rôl greiddiol: craffu ar yr holl is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw Fil a gyflwynwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Ac yn y rôl honno byddwn yn parhau i edrych ar ansawdd y ddeddfwriaeth, yn enwedig yn erbyn casgliadau ac argymhellion adroddiad y pwyllgor a’n rhagflaenodd, ‘Deddfu yng Nghymru’.

Byddwn yn parhau i ofyn: a ydym yn gwneud cyfraith dda a sut y gellir ei gwella? Yn rhan o hynny, byddwn yn edrych ar gydbwysedd y ddeddfwriaeth a faint o bolisi sy’n cael ei adael i’w gyflwyno gan is-ddeddfwriaeth, na ellir ei newid wrth gwrs, ac sydd felly’n destun llai o graffu. Byddwn hefyd yn monitro defnydd a graddau pwerau Harri’r VIII a geisir gan Weinidogion, y defnydd o ddarpariaethau canlyniadol ac yn gysylltiedig â’r ddau, y gweithdrefnau sydd ynghlwm wrth y broses o lunio’r holl is-ddeddfwriaeth.

Felly, ar y diwrnod hwn cofiwn am Ddewi Sant, a ddywedodd wrthym fod y pethau bychain yn bwysig. Bydd ein pwyllgor yn parhau i ofalu am y pethau bach ond pwysig yn ein cyfraith a’n cyfansoddiad, a thrwy wneud hynny, efallai y cawn gipolwg hefyd ar y pethau mwy sy’n ein hwynebu fel sefydliad democrataidd ac fel cenedl.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Os caf ddweud, rwy’n meddwl bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn bwyllgor hapus iawn i wasanaethu arno am fod bron yr holl faterion yr edrychwn arnynt yn ymwneud â hyrwyddo llywodraethu a chraffu da a chlir ac yn aml iawn nid oes yn rhaid i ni lafurio o dan faich pleidiol trwm a rhaniadau, ac mae hynny’n ddymunol tu hwnt. Rydym yn anghydweld o bryd i’w gilydd—mewn sesiynau preifat fel arfer, ond maent yn achlysuron eithriadol o brin.

Croesawaf yn arbennig y pwyslais y mae’r Cadeirydd wedi’i roi ar archwilio gwaith rhynglywodraethol a gweithio rhyngseneddol, oherwydd, wrth i ni weld datganoli’n aeddfedu, a her Brexit ynghyd â hynny yn awr o ran y ffordd y bydd yn newid ein patrymau llywodraethu, mae’n ymddangos i mi y bydd hynny’n golygu bod angen rhywfaint o ffurfioldeb o bosibl. Rydym yn edrych ar hynny. Rydym yn gwybod bod y Prif Weinidog wedi siarad am gyngor Gweinidogion a rhyw fath o gyflafareddu annibynnol. Mae’r rhain yn syniadau diddorol iawn a byddent yn newid y trefniadau cyfansoddiadol yn sylweddol. Ond mae’n ymwneud â mwy na’r posibilrwydd fod gofyn cael, a chraffu ar fframweithiau o’r DU—craffu ar agweddau ohonynt, beth bynnag—mewn gwahanol ddeddfwrfeydd, mae hefyd yn golygu dysgu arferion gorau, gweld ble yr archwiliwyd her arbennig yn fanwl iawn mewn Senedd arall o bosibl, a pheidio â gorfod gwneud yr holl waith hwnnw ein hunain, gan ei gymryd, a’i addasu efallai, ac ychwanegu ato.

Rwy’n credu mai’r mathau hyn o gysylltiadau sydd ar goll weithiau. Maent yn tueddu i fod gryfaf ymhlith swyddogion, ond yn syndod o wan o ran y gweithredwyr gwleidyddol eu hunain. Felly, rwy’n meddwl bod llawer yno sy’n mynd i fod o fudd ymarferol mawr ac yn rhywbeth y byddem eisiau ei rannu â rhannau eraill o’r DU.

Rydym wedi siarad am godeiddio ac rwy’n falch o weld y Cwnsler Cyffredinol yma. Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Mae’n mynd i alw am gyflymder ac ymdrech, rwy’n credu, oherwydd ni fydd y cyfle hwn gennym am byth. Ond mewn gwirionedd gallem gyflwyno rhywbeth sy’n eithaf unigryw yn Ynysoedd Prydain, am fod gennym y cyfle hwn o fod heb fod â chyfreithiau ar wahân yn ffurfiol, i gael ein pwerau deddfu sylfaenol ein hunain yn awr, ac mae’r gallu i gael llyfr statud llawer cliriach yn mynd i fod yn agored i ni. Mae’n ymwneud yn llwyr ag eglurder y ddeddfwriaeth, sydd, yn ei dro, yn gwneud y ddeddfwriaeth yn llawer mwy hygyrch i’r dinesydd. Rwy’n credu fy mod wedi gwneud y sylw hwn o’r blaen: ceir llawer o ddeddfwriaeth mewn meysydd eithriadol o bwysig. Rydym yn sôn am dai, addysg ac iechyd, ac mewn rhai o’r agweddau, os ydych am gael gwybod beth yw’r gyfraith mewn gwirionedd, mae angen i chi logi Cwnsler y Frenhines i roi barn i chi. Nawr, ni all honno fod yn sefyllfa dda i fod ynddi. Gyda llaw, nid ydynt bob amser yn darparu barn glir hyd yn oed wedyn. Felly, rwy’n meddwl bod gennym gyfle gwych yma i ddangos ffordd wahanol o weithio.

Yn olaf—nid wyf yn credu mai’r rheini yw’r pethau bychain mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod y rheini’n bethau eithaf mawr, ond pan soniwn am y pethau bychain, mae’n debyg ein bod yn edrych ar sut y caiff is-ddeddfwriaeth ei chyflawni, ac mae’n bwysig, oherwydd fel arfer ceir arferion da gan Lywodraeth Cymru, ond ceir anghysondeb yn ogystal. Weithiau, rydym yn gorfod atgoffa Llywodraeth Cymru am yr angen i ddefnyddio gweithdrefnau cadarnhaol pan fydd pethau o arwyddocâd gwleidyddol go iawn sy’n berthnasol i ddinasyddion yn cael eu penderfynu, a’r angen i beidio â rhuthro’r broses. Mae’r broses gadarnhaol, mewn gwirionedd, yn amddiffyniad gwych i’r Llywodraeth yn ogystal ag i’r ddeddfwrfa, ac mae ei defnydd mwy rheolaidd, rwy’n meddwl, weithiau—wyddoch chi, dylai fod yn rhagdybiaeth, mewn gwirionedd, ni ddylai fod yn eithriad i’r hyn sydd fel arfer yn weithdrefn negyddol.

Yn olaf, a gaf fi ddweud mai lle dinasyddion—? Cyfeiriais yn fyr at eglurder y ddeddfwriaeth, ond rwy’n meddwl y bydd yn rhaid i bob Llywodraeth a deddfwrfa yn y DU, ac yn y byd gorllewinol drwyddo draw mewn gwirionedd, wneud llawer mwy o waith i ymgysylltu â dinasyddion. Nid yw’n ddigon mewn etholiadau’n unig neu obeithio eu bod yn gadael sylwadau ar ein gwefannau. Mae’n rhaid i ni fynd allan i brofi rhai pethau’n uniongyrchol gyda’n dinasyddion. Ond rwy’n croesawu datganiad y Cadeirydd heddiw yn fawr iawn.

A gaf fi groesawu ymateb David i’r datganiad yn fawr iawn, ac a gaf fi gofnodi fy ngwerthfawrogiad, nid yn unig o’i ymagwedd ef tuag at waith y pwyllgor, ond ymagwedd yr Aelodau eraill hefyd? Mae’n bwyllgor sy’n ymdrechu o ddifrif mewn modd hynod o amhleidiol i edrych ar weithrediad effeithiol ein cyfansoddiad a’r ddeddfwriaeth a welwn o’n blaenau, ac mae hynny’n ei wneud yn brofiad pleserus yn rhyfedd iawn, o ran y ffordd yr ydym yn mynd ati. Ond hefyd, yr un fath ag ar bwyllgorau eraill fel y gwn, mae’n sicr yn wir ei fod yn elwa o’r cyfoeth o brofiad—nid yn lleiaf, rhaid i mi ddweud, o’r ffaith fod gennym gyn-Gadeirydd y pwyllgor sydd wedi gweld hanes hir ac esblygiad y materion hyn. Mae’n eithaf cyffrous i weld hefyd, fel y mae David wedi nodi, nad yw’r broses yn dod i ben wrth i ni edrych ar faterion fel codeiddio, ac rwy’n cytuno ag ef, mae’n wych gweld y Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yma wrth i ni drafod hyn, oherwydd, fel y soniasom o’r blaen, er bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ac yn ystyriol iawn o ran y ffordd yr awn ati i ddatblygu gwaith arloesol, gallai codeiddio wedi’i wneud yn dda ac yn ystyrlon olygu bod y ddeddfwrfa hon ar y blaen yn amlwg o ran symleiddio ac egluro deddfwriaeth fyw, amser real, sydd wedi’i diweddaru ac sy’n ddealladwy, nid yn unig i fargyfreithwyr y byd hwn, ond i’r bobl sy’n byw drws nesaf i mi ar fy stryd hefyd fel y gallant ei deall a’i defnyddio, ac yn sicr dylem geisio gwneud hynny.

Croesawaf yn fawr iawn hefyd—ac rwy’n meddwl ei fod yn llygad ei le yn dweud hyn—y ffaith ein bod fel arfer yn gweld arferion da gan Lywodraeth Cymru, ac nid ydym yn gyndyn yn y pwyllgor i gydnabod hynny yn ein hadroddiadau. Weithiau, gwn y bydd Gweinidogion yn dweud, ‘O, rydych wedi bod braidd yn llym’ ar y peth hwn neu’r peth arall, ond rydym yn cydnabod lle y ceir arferion da, ac mae arferion da i’w cael o fewn Llywodraeth Cymru. Ein rôl, ac yn sicr, pan gyfeiriais at y pethau bychain—yn rhyfedd ddigon, y pethau bychain y canolbwyntiwn arnynt sy’n gyrru’r gwelliant cynyddol hwnnw mewn gwirionedd. Felly, i’r Cwnsler Cyffredinol, neu i’r rheolwr busnes o’n blaenau, neu Weinidogion eraill a allai fod yn gwrando, fy ymddiheuriadau ein bod weithiau’n garreg yn eich esgid, ond mewn gwirionedd, mae hynny’n golygu ein bod yn symud ymlaen ac yn gwella’r ddeddfwriaeth sydd gennym.

Soniodd hefyd—a gwnaeth David hynny hefyd—am y ffocws sydd gennym yn y pwyllgor ar eglurder y gyfraith, ac addasrwydd i’r diben yn gyfansoddiadol hefyd. Un o’r pethau arbennig o bleserus yn y pwyllgor yn fy marn i, a hefyd yn y flaenraglen yr edrychwn arni, yw fy mod yn credu bod aelodau’r cyhoedd yn aml iawn yn ystyried bod cyfansoddiad a chyfraith yn bethau sydd wedi’u cadw mewn asbig, rhywbeth sydd wedi’i wneud, a’ch bod yn ei osod yno ar y silff, ac yna o dro i dro bydd cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac arbenigwyr cyfansoddiadol yn ei dynnu allan ac yn eich cyfeirio at y pwynt perthnasol. Ond mewn gwirionedd, mae’n waith sy’n esblygu’n ddiddorol, a gallwn wneud pethau’n eithaf gwahanol yng Nghymru, ac arloesi ychydig bach, ac rwy’n meddwl mai dyna rydym yn gobeithio ei wneud yma. Felly, diolch i David am ei gyfraniad, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill yma y prynhawn yma.

A allaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei ddatganiad, a hefyd croesawu'r ffordd ymlaen, a hefyd diolch am eiriau aeddfed fy nghyd-aelod o’r pwyllgor, David Melding? Yn naturiol, rydym ni yn dathlu heddiw Dydd Gŵyl Dewi Sant a gwneud y pethau bychan, ac rydym ni yn gwneud rhai pethau bychan fel craffu ar is-ddeddfwriaeth—yn eithaf aml mae hynny yn weddol fach. Ond, wrth gwrs, fel yr oedd David yn ei grybwyll, mae yna bethau mawr yn gallu digwydd hefyd, ac rwy’n olrhain yr holl ddadleuon cawsom ni o gwmpas Deddf Cymru yn awr—Bil Cymru fel yr oedd e.

Wrth gwrs, nid yn unig yn hanes mae gyda ni Dewi Sant, ond rhyw dair canrif ar ei ôl o roedd Hywel Dda—Brenin Hywel Dda; rydw i wedi sôn amdano fe o’r blaen yng nghyd-destun y pwyllgor yma—a’i ddeddfau fo dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl a rhoddodd hawliau i fenywod am y tro cyntaf yn hanes dynoliaeth. Mae’n bwysig nodi hynny, ein bod ni yng Nghymru yn gallu creu deddfau sydd yn gyfan gwbl arloesol, ac, wrth gwrs, mae gyda ni’r cyfle unwaith eto, o dan y setliad cyfansoddiadol diweddaraf yma, i greu deddfau arloesol unwaith eto.

Wrth gwrs, mae yna nifer o bethau wedi newid ers dyddiau Hywel Dda. Rydw i’n falch bod y Cadeirydd, felly, wedi olrhain tri phrif fwriad y pwyllgor ar hyn o bryd a chrybwyll, fel y mae’n dweud yn fan hyn,

‘llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol’

a hefyd ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill yn yr ynysoedd hyn

‘o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach’.

Call iawn, ac mae gwir angen gwella cydweithio rhwng y gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn. Rydym ni i gyd yn gallu crybwyll hanesion o’r gorffennol, pan oedd y lle hwn a phwyllgorau yn y lle hwn yn tueddu cael eu hanwybyddu yn eithaf aml, ac mae yna dystiolaeth bod hynny’n dal i ddigwydd, pan oeddem ni’n ceisio fel pwyllgor cael tystiolaeth pan oedd Deddf Cymru yn mynd rhagddi. Felly, rwy’n cefnogi’n gryf y bwriad sydd wedi cael ei amlinellu fan hyn gan y Cadeirydd eisoes.

Ond a fyddai’r Cadeirydd yn ei ymateb hefyd yn cytuno â fi fod, yn y cwestiwn yma o gydgysylltu rhwng gwahanol senedd-dai yn yr ynysoedd hyn, gryn dipyn o waith eto i’w wneud? Rydym ni wedi sefydlu’r ymchwiliad yma, ond rydym ni’n dechrau mewn lle bregus a gwan yn nhermau lle’r Cynulliad hwn yn y ffordd mae’r ynysoedd hyn yn cael eu rheoli. Felly, mae yna jobyn o waith i’w wneud a buaswn i’n edrych am ragor o sylwadau gan y Cadeirydd i’r perwyl yna.

Hefyd, gwnaeth o grybwyll y ffordd rydym ni’n mynd i ymgysylltu efo dinasyddion, ac mae hynny wedi digwydd eisoes. Rydw i’n edrych ymlaen at ragor o gyfarfodydd fel yna, achos, ar ddiwedd y dydd—buaswn i hefyd yn gobeithio buasai’r Cadeirydd yn gallu cytuno â mi bod yna waith i’w wneud yn fan hyn hefyd i esbonio, mewn ffyrdd weddol hawdd, achos yn y pwyllgor yma rydym ni’n aml yn gallu ymdrin â phethau sydd yn gallu edrych yn anodd ac yn sych. Ond, ar ddiwedd y dydd, mae hefyd eisiau gwneud pethau yn weddol hawdd fel bod ein dinasyddion ni, a rhai ohonom ni, yn gallu deall beth sydd yn mynd ymlaen. Hynny yw, mae yna bolisïau gwahanol yng Nghymru nawr o’u cymharu â Lloegr, yr Alban ac ati. Mae angen hefyd egluro’n glir i’n dinasyddion beth yn union sydd wedi cael ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli, goblygiadau Deddf Cymru, sydd yn dod i mewn, ac, wrth gwrs, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Nawr, yn amlwg, rŷm ni yn fan hyn yn gwybod y gwahaniaeth, ond nid yw o’n amlwg allan fanna, ac yn aml iawn nid yw e’n amlwg i’r sawl sy’n ysgrifennu penawdau yn ein papurau newydd chwaith—y gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth yn y lle yma a’r Cynulliad ei hunan fel sefydliad.

I orffen, wedi crybwyll dau ffigwr mewn hanes, sef Dewi Sant a Hywel Dda, roeddwn i’n mynd i grybwyll Brenin Harri VIII hefyd, achos, cyn i bobl ddweud fy mod i’n sôn am bobl sydd â dim perthnasedd i’n deddfau, yn anffodus, mae Brenin Harri VIII yn dal efo perthnasedd na ddylai fod yna, buaswn i’n ei ddadlau, i’n deddfau ni heddiw drwy’r gorddefnydd, buaswn i’n dweud, o bwerau Harri VIII, sydd yn dal i ddigwydd pum canrif ar ôl i’r brenin yna adael y blaned yma. Felly, buaswn i hefyd yn licio gweld y Cadeirydd yn ymestyn y ddadl ynglŷn â’r defnydd o bwerau Harri VIII yn y lle yma, a’r ffordd ymlaen er mwyn lleihau’r defnydd yna ohonyn nhw. Diolch yn fawr.

Diolch, Dai. Os caf ddechrau ar y diwedd gydag un rhaglyw a symud ymlaen at un arall, yna, yn sicr gyda phwerau Harri’r VIII, rydym yn gyson—ac yn unol â’r pwyllgor a’n rhagflaenodd—yn ceisio gwthio’n ôl ar y defnydd o bwerau Harri VIII. Mae’n ddeialog gyson gyda Gweinidogion a chyda’r Llywodraeth, ond mae ein hegwyddorion yn gadarn iawn ar y pwyllgor am resymau da iawn, sef ein bod am leihau—. Rydym yn cydnabod y bydd yna adegau pan allai pwerau Harri VIII fod yn briodol mewn rhai meysydd cyfyngedig, ond rydym yn ceisio gwthio’n ôl yn gyson. Mae’n rhaid i ni ddal i fynd ar y daith honno, rwy’n meddwl, a chael y ddeialog honno gyda’r Gweinidogion ar hynny. Mae gennym ddeialog eithaf diddorol oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, mae yna arferion da yn bodoli. Gwelwn mewn rhai meysydd deddfwriaeth, a chyda rhai Gweinidogion, eu bod yn ceisio’n galed iawn i leihau’r defnydd o bwerau Harri VIII, ac mewn mannau eraill, mae’n datod ychydig bach. Rydym yn mynd i orfod dal ati i weithio ar hynny. Ond rwy’n credu mai’r peth pwysig, yn rhyfedd ddigon, o ran y ffordd y gwelwn y lle hwn yn gweithio, a thryloywder y lle hwn, yw ein bod yn cael y trafodaethau hyn yn deg ac yn gyfeillgar. Ond bydd yna bwyntiau, rwy’n meddwl, pan fydd ein barn fel y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Gweinidogion yn wahanol, ond byddwn yn parhau i ddadlau, oherwydd credaf fod yna bwynt da o egwyddor na ddylem ddibynnu ar bwerau Harri’r VIII neu’n ceisio osgoi eu defnydd lle bynnag y bo modd. Rwy’n siŵr y byddai cyn-Gadeirydd y pwyllgor yn cytuno â hynny hefyd

I droi am funud at Hywel Dda, fel yr oedd Dai yn gywir i nodi, ef oedd y deddfwr a’r arloeswr blaengar gwreiddiol. Weithiau rydym yn anghofio yng Nghymru y gallwn edrych yn ôl yn bell iawn i ble y dechreuasom ar broses ddeddfwriaethol a sut y dysgasom rai o’r gwersi hynny, a’u cyflwyno yn awr o bosibl o ran y modd yr ymdriniwn â’r materion hynny, megis materion cydraddoldeb. Ni oedd y genedl a arloesodd ar hynny.

Soniodd Dai fod taer angen i ni wella’r gwaith sefydliadol. Cytunaf yn llwyr a buaswn yn argymell i unrhyw un fynd yn ôl ac edrych ar sesiwn tystiolaeth yr Arglwydd Murphy. Roedd yr Arglwydd Murphy, wrth gwrs, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddwywaith, a hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon a llawer o rolau eraill yn y Llywodraeth. Mae ganddo bedigri hir, ac mae ef ei hun wedi bod ar daith, ond un o’r pethau diddorol y cyfeiriodd ato oedd yr anhawster weithiau i berswadio cydweithwyr yn Whitehall, sydd hefyd â phrofiad hir, ynglŷn â ble roeddem ar y daith ddatganoli ac yn y blaen. Felly, buaswn yn argymell hynny.

Ond mae arferion da i’w cael. Rydym yn gweld arferion da. Rydym yn gweld Gweinidogion a phwyllgorau’n gweithio’n dda iawn o ddydd i ddydd, hyd yn oed ar faterion trawsffiniol. Mewn ardaloedd eraill nid yw mor dda. Yr hyn sy’n rhaid i ni geisio ei sefydlu yw hyn: beth yw’r arferion gorau a sut y sicrhawn fod yr arferion gorau hynny’n norm pendant ym mhob rhan o’r berthynas rhwng San Steffan a Chymru? Cytunaf yn llwyr pan ddywed fod yna lawer o waith i’w wneud. Oes, mae hynny’n wir. Dyna pam y credaf ei bod yn foment briodol yma, ar ôl i ni orffen â’r Ddeddf Cymru newydd, i fyfyrio a gweld hefyd sut y mae hyn yn edrych ar gyfer y dyfodol. Pam y mae hynny’n arbennig o briodol? Hefyd oherwydd bod angen i ni edrych yn awr, gan fod gennym y sefyllfa hon lle rydym mewn cyfnod o bontio wrth i ni edrych ar erthygl 50 a gadael yr Undeb Ewropeaidd: rhaid i’r mecanweithiau a’r cysylltiadau hyn weithredu’n rhagorol. Felly, rwy’n meddwl y gallwn ddarparu gwasanaeth nid yn unig i Gymru ond hefyd i Lywodraeth y DU ar yr un pryd—a’n cymheiriaid datganoledig.

Yn olaf, fe soniodd am ymgysylltiad dinasyddion. Cytunaf yn llwyr—corff anferth o waith yma i’w wneud i ni. O bob un o’r pwyllgorau yn ôl pob tebyg, rwy’n meddwl, gan nad ydym yn bwyllgor thematig, gan nad ydym yn rhywbeth sydd, yn aml iawn, yn hawdd i’w drosi i brofiadau fy nghymdogion ac yn y blaen—nid yw’n iechyd, nid yw’n ofal cymdeithasol, nid yw’n fysiau, nid yw’n beth bynnag—ac eto, os nad oes gennym y prosesau cywir ar waith, gall llawer o’r gwaith da hwn yn y meysydd thematig hynny chwalu’n ddarnau. Felly, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd. Hoffwn dalu teyrnged i’n tîm sy’n sail i’n gwaith fel aelodau’r pwyllgor—y clercod, yr ymchwilwyr, y bobl gyfathrebu—am eu hymdrechion yn ceisio dod o hyd i’r ffyrdd arloesol hynny, megis panel dinasyddion, lle y gallwn fwrw ymlaen a gweithio arno i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn—. Fel y dywedir yn aml, nid yw pobl yn siarad am y pethau cyfansoddiadol hyn yn y Dog and Duck, lle bynnag y mae’r Dog and Duck ffuglennol hwnnw. Yr hyn sydd angen i ni ddod o hyd iddynt yw’r ffyrdd clyfar y gall dinasyddion ymgysylltu â hyn, gan ei fod o ddifrif yn bwysig. Mae angen i ni gael hyn yn iawn. Felly, Dai, diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny.

Ac yn olaf ac yn fyr iawn—ac mae hynny’n golygu yn fyr gan y ddau ohonoch—David Rowlands.

Rwy’n arbennig o hoff o syniad y Cadeirydd o banel yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd, ond wrth gwrs, bydd cryfder y panel yn ei gyfansoddiad. Byddai’n niweidiol iawn pe bai rhywfaint o duedd wleidyddol yn perthyn iddo. Felly, a allai’r Cadeirydd roi unrhyw syniad inni sut y mae’n teimlo y câi’r panel hwnnw ei ddewis mewn gwirionedd?

Gallaf, yn wir. David, diolch yn fawr iawn i chi. Iawn, yn fyr iawn, rydym eisoes wedi treialu hyn, ac mae ein tîm sy’n ein cefnogi wedi dwyn pobl ynghyd sydd â gwahanol brofiadau o’r sector cymunedol, y sector preifat, o wahanol rannau o Gymru, grwpiau oedran gwahanol, gwahanol rywiau—maent wedi ceisio arbrofi gyda chymysgedd o bobl ac nid yr arferol. Pobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu ydynt mewn gwirionedd.

Nawr, rwy’n credu bod yna waith i’w wneud ar hynny, ac os oes ganddo syniadau—. Ond yr hyn na ddylai fod yw panel o bwysigion. Panel dinasyddion yw hwn. Felly, rydym yn ceisio dod o hyd i bobl allan yno nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â ni i ddod ymlaen a dweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn gywir ac yn anghywir. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Welwch chi—mae modd ei wneud pan fyddwn yn eich atgoffa’n garedig, onid oes? Felly, diolch yn fawr iawn i chi.

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Ffyniant Economaidd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Addysg

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 5 yw dadl Plaid Cymru ar ffyniant economaidd, y gwasanaeth iechyd gwladol ac addysg. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig. Rhun.

Cynnig NDM6245 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.

2. Yn gresynu:

a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;

b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac

c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn cydnabod:

a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;

b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac

c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r cynnig yma ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi. Mae’n bleser dymuno Gŵyl Ddewi hapus i bawb yma yn y Siambr a thu hwnt.

Mi allai rhai ofyn pa rôl sydd i ddyddiau nawddsant yn yr unfed ganrif ar hugain, ond ar draws y byd mae pobloedd a gwledydd yn defnyddio’r dyddiau yma i ddathlu a hybu eu cenedligrwydd, a hir y parhaed hynny. Mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau a hefyd i fyfyrio, rydw i’n meddwl, ar gyflwr cenedl. Heddiw, rydym ni’n defnyddio ein dadl Gŵyl Ddewi i edrych ar ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol, ac yn arbennig i roi sylw i feysydd yr economi, iechyd ac addysg.

Mae angen gonestrwydd, rwy’n meddwl, am sut mae pethau heddiw. Wrth gwrs, nid edrych yn ôl ydy’r bwriad efo rhyw ysbryd o ‘nostalgia’ am sut roedd bywyd i lawer o ddinasyddion Cymru dros y cwpwl o ganrifoedd diwethaf. Ac i bellhau ein hun oddi wrth slogan gwleidyddol arall diweddar, nid ‘making Wales great again’ ydy ein thema ni heddiw. Yn hytrach, edrych yr ydym ni ar lle rydym ni arni fel cenedl, gan ddatgan yn glir ein bod ni’n credu y gall Cymru wneud yn well.

Mae gan Gymru hanes balch iawn. Efallai bod yna amrywiaeth barn ymhlith Aelodau am arwyddocâd gwahanol elfennau o’n hanes ni, ond yn sicr, fel cenedl fodern mi allwn ni droi at benodau o’n hanes ni er mwyn ysbrydoli ein dyfodol. Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mi allwn ni ddweud wrth bobl Cymru: dyma ydy stori ein cenedl ni. Mi wnaeth y cenedlaethau a aeth o’n blaenau ni arloesi; mi wnaethon nhw ddyfeisio pethau, creu pethau—ymateb i sefyllfa Cymru a’r byd fel yr oedd o ar y pryd. Ym maes iechyd, rydym ni’n sôn am Gymro yn creu’r NHS, ac yn creu hynny, wrth gwrs, o fewn cyd-destun Prydeinig, yn y blynyddoedd ar ôl yr ail ryfel byd, yn yr un modd ag y cafodd y chwyldro diwydiannol ei feithrin yma yng Nghymru, eto mewn cyd-destun Prydeinig, neu ymerodraethol, hyd yn oed—nid cyd-destunau y clywch chi Blaid Cymru yn eu dathlu a’u clodfori o reidrwydd, ond dyna oedd y cyd-destun.

Mae’r cyd-destun yna wedi newid bellach, wrth gwrs, ac mae’n siŵr y dylwn i ychwanegu ei fod o wedi newid i raddau helaeth, mae’n siŵr, mewn ymateb i’r hen gyd-destunau yna. Rydym ni’n wlad sydd, yn rhannol, yn hunan-lywodraethu bellach, wrth i’n cenedl ni barhau ar ein taith gyfansoddiadol. Mae’r siwrne honno, rwy’n falch o ddweud, yn parhau, ac rwy’n siŵr y buasai Dewi Sant ei hun yn cytuno ei bod hi’n siwrne gyffrous, ac yn siwrne llawn posibiliadau.

Mae ein cynnig ni heddiw yn sôn am ein cyfraniad ni fel cenedl i’r chwyldro diwydiannol. Ni oedd un o’r economïau diwydiannol cyntaf yn y byd. Mi oedd y profiad hwnnw o ddiwydiannu yn un trawmatig i lawer o weithwyr a dinasyddion yn gyffredinol ar y pryd. Mi oedd tlodi, afiechydon a niwed amgylcheddol yn nodweddion amlwg o’r cyfnod, ond yn y pen draw, dyna ddechrau’r llwybr at fywyd mwy ffyniannus. Mi wnaeth o baratoi’r ffordd at arloesedd, at ddatblygiadau technolegol a blaengarwch, yn gymharol o leiaf. Mi wnaeth yr amgylchiadau caled ar y pryd ysgogi brwydrau am hawliau gweithwyr ac am yr hawl i bleidleisio—brwydrau wnaeth greu sylfaeni, i raddau, a wnaeth ein galluogi ni i adeiladu’r ddemocratiaeth sydd gennym ni rŵan, a’r ffaith ein bod ni yma heddiw yn ein Senedd genedlaethol ni.

Mi ddaeth heriau i’r iaith Gymraeg hefyd, wrth reswm, er i Gwynfor Evans nodi nad diwydiannu wnaeth ladd y Gymraeg yn ein hardaloedd diwydiannol; polisi llywodraethau canolog oedd yn gyfrifol am hynny, drwy’r system addysg a chyflwr seicolegol pobl Cymru. Mi nododd Gwynfor bod y Gymraeg wedi mynd o ardaloedd gwledig y de-ddwyrain ymhell cyn y trefi, efo’r iaith yn fyw mewn llefydd fel Merthyr Tudful ac Aberdâr a threfi tebyg ar draws Morgannwg a Gwent am ddegawdau ar ôl y cyfnod diwydiannu.

Heddiw, wrth gwrs, mae’n braf gweld addysg Gymraeg yn tyfu eto yn y llefydd hynny. Mae polisi yn allweddol i yrru’r twf yma. Rydym i gyd yma, gobeithio, yn ei groesawu. Mae yna newid mawr wedi bod mewn seicoleg, y seicoleg y cyfeiriodd Gwynfor ato, er bod dal rhai pobl sy’n dal yn ei chael hi’n anodd ffeindio’r hyder cenedlaethol newydd yna rydym ni i gyd ei angen.

Mi symudaf ymlaen at iechyd ac at addysg. Fel y cafodd y chwyldro diwydiannol ei feithrin yma, fe gafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei eni yma hefyd. Fe wyddom ni sut y cafodd Aneurin Bevan y weledigaeth a’r dewrder i ddatblygu’r NHS—ie, ffigwr amlwg yn hanes y Blaid Lafur, yn y mudiad Llafur, ond un o gewri ein hanes ni fel gwlad o ran datblygiad gofal iechyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu y gallai’r weledigaeth yna gael ei gwireddu rŵan go iawn drwy ein Cynulliad Cenedlaethol ni a thrwy Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i’r weledigaeth yna gan Bevan o’n gorffennol ni barhau i’n hysbrydoli ni rŵan.

Mewn addysg, mae gennym ni hen hanes o gyfraddau uchel o lythrennedd ymhlith y boblogaeth gyffredinol, a rhwydwaith addysg, ganrif a mwy yn ôl, yr oedd Lloegr yn genfigennus ohoni. Yn fwy diweddar, roedd Cymru yn arloeswr mewn addysg uwchradd, ac yma roedd yr ysgol gyfun gyntaf. Rwy’n falch iawn mai yn fy etholaeth i yr oedd honno, sef Ysgol Uwchradd Caergybi. Yn addas iawn, fe gymeraf i’r cyfle yma i longyfarch yr ysgol honno, ac ysgolion eraill y dref a phawb arall a fu’n rhan o’r digwyddiad, am yr orymdaith Gŵyl Ddewi gyntaf i gael ei chynnal yn y dref. Mae’n chwith iawn gen i fy mod i’n methu â bod yna heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy’n falch iawn hefyd o ddweud mai Ynys Môn oedd yr awdurdod addysg cyntaf i droi yn llwyr at addysg gyfun nôl yn nechrau’r 1950au. Felly, eto, mewn addysg, mae yna lwyddiannau ac arloesi y gallwn ni fod yn falch ohonynt.

Llywydd, I’ve painted a picture, hopefully, of Wales’s past. The question is now: how do we learn from that experience and build on that legacy in order to paint a vision of the future and improve performance and prospects in key areas? We need to be able to turn to our history, not to find excuses for poor performance, but as an inspiration to improve our performance. For our present and future, we say, ‘Wales can do better’.

It seems like yesterday, but 20 years ago, a narrow majority of the people in Wales had enough confidence to vote ‘yes’ to the idea that they lived in a nation worthy of governing itself. But so far, devolved Governments haven’t been able to, for example, raise our GVA compared with the rest of the UK. They either haven’t had the powers or haven’t had the ambition—perhaps both. For the country that saw so much technological innovation, which used to be the resource exporting capital of the world, is this the best we can do?

Why are we in a situation on St David’s Day where people in this country can’t take enough pride in our level of prosperity and in our levels of wealth? We can see those persistently worrying indicators on health and the PISA rankings for education. Poverty levels are still devastatingly high. We can’t genuinely look people in Wales in the eye and say, ‘Yes, we are reaching our potential’. But, let’s move towards a time when we are able to do so in the future.

Twenty years is young for a democracy, but it is long enough for us to have a Government with a clear vision and an ambitious vision of where we’re heading. I was proud of Plaid Cymru’s manifesto for the election last year—proud of its ideas and proud of its innovation. It’s the duty of all of us here to innovate and to inspire.

With time pressing on, I’ll turn to the Government’s amendment. We won’t be supporting it, not just on the principle that it removes a large part of our motion, but what I see is an amendment that does away with evidence, with data, about some of the challenges that we actually face. Governments should not shy away from realities, and, in fact, to do so blocks the road to improving performance.

I look forward to today’s debate. In celebrating our patron saint, I trust we all want to celebrate the best of Wales—the best of our yesterdays and of today. But with an honest assessment of where we are today, let’s build a real vision of our tomorrow, too, and let’s never accept anything short of our full potential.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei henw hi.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU;

b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;

c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Yn ffurfiol.

Diolch, Lywydd. Roeddwn eisiau nodi un o’r pwyntiau yn y cynnig a oedd yn tynnu sylw at werth ychwanegol gros perfformiad Cymru yn erbyn cyfartaledd y DU. Mae’n ymddangos i mi mai’r hyn rydym yn edrych arno yn y fan hon mewn gwirionedd yw cwestiwn sylfaenol ynghylch anghydraddoldeb yn y DU fel gwlad—mae’n unigryw o anghyfartal o gymharu â gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd er enghraifft.

Clywsom yn y pwyllgor Brexit yn gynharach yr wythnos hon y gallai perfformiad rhai o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, ar sail eu haelodaeth o’r UE, fod wedi bod yn gyflymach oherwydd ein bod ni, yng Nghymru, yn rhan gymharol fach o gyfanrwydd mwy o faint ac mae ein heconomi mor wahanol, mewn rhai ffyrdd, i’r DU yn gyffredinol. Ond rwy’n credu ei bod yn werth cadw mewn cof nad yw’r cymariaethau hynny o werth ychwanegol gros ond yn mynd â ni ran o’r ffordd yn unig, ac maent yn offerynnau bras iawn ar gyfer cymharu’r math o economi rydym ei heisiau yng Nghymru.

A dweud y gwir, Llundain a de-ddwyrain Lloegr yw’r unig ddwy ran o’r DU sy’n uwch na’r cyfartaledd, sy’n ffaith syfrdanol os meddyliwch am y peth. Dyna’r unig ddwy ran o economi’r DU sy’n gryfach na’r cyfartaledd. Felly, rwy’n meddwl bod hynny’n rhoi rhywfaint o’r darlun i ni, ond nid yw’n dweud y stori gyfan.

Roeddwn eisiau mynd ar ôl y syniad yn araith Rhun ap Iorwerth sy’n ymwneud mewn gwirionedd â’r syniad o Gymru yn allforio syniadau, os mynnwch, i rannau eraill o’r DU a rhannau eraill o’r byd. A’r GIG, er enghraifft, yw un o’r allforion hynny yr ydym oll yn fwyaf balch ohono, mae’n debyg, yma ac ar draws Cymru.

Mae yna bethau y gallwn ac yr ydym yn eu hallforio i’r byd yn dal i fod, ac mae rhai o’r rheini’n syniadau pwysig. Rwyf am grybwyll ychydig o’r rhain heddiw, ac rwy’n meddwl bod pob un ohonynt yn cyd-fynd â’r syniad am y math o economi yr ydym am ei chael yng Nghymru. Yn hytrach nag edrych ar werth ychwanegol gros yn unig, dylem edrych ar y math o asedau sydd gennym yng Nghymru ac adeiladu economi sy’n adlewyrchu ein hasedau. Un o’r asedau hynny, ac mae’n cael ei grybwyll yn y cynnig, yw’r syniad o economi las a’r economi werdd, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny fel un o’n hegwyddorion allweddol yn ein heconomi yn y dyfodol.

Mae gennym asedau unigryw na all gwledydd eraill gystadlu â hwy, o ran y cyrhaeddiad llanw sydd gennym a’r arfordir hir sydd gennym. Mae gennym bosibiliadau gyda’r morlyn llanw, nid yn unig mewn perthynas ag ynni gwyrdd, ond o ran cyfle economaidd enfawr nid yn unig i dde Cymru ond i Gymru gyfan—enghraifft glasurol o sut y gall yr economi las ddod yn realiti. Mae’n werth tua £2.1 biliwn arall i economi Cymru eisoes, a hynny cyn i ni wneud llawer iawn mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy morol yn arbennig. Rydym wedi gwneud camau arloesol da, ond mae llawer mwy o botensial yno i ni. Ac rwy’n gobeithio ac yn disgwyl y byddwn yn gweld cynllun morol gan Lywodraeth Cymru sy’n ymrwymo i ganolbwyntio ar y sector hwnnw.

Yr ail ased rwyf am siarad amdano yw’r syniad o lesiant a’r arloesedd sydd gennym yng Nghymru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn torri tir newydd go iawn gyda’r ddeddfwriaeth hon, ac mae’n syniad y gallwn ei allforio i’r byd. Ond yr her i ni yn awr, rwy’n meddwl, yw dod o hyd i ffyrdd i hynny fod yn gatalydd ar gyfer datblygiad economaidd ynddo’i hun. Beth yw ein dadansoddiad o’r modd y ceir cyfle economaidd a ddaw o gael agwedd hirdymor a chynaliadwyedd yn gadarn wrth wraidd ein heconomi a’n cymdeithas? Rydym eisoes wedi dechrau gwneud gwaith ar feithrin economi gylchol lle rydym yn ailgylchu ac yn y blaen. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud yn y maes hwnnw dros amser i greu math newydd o gynhyrchiant lle rydym yn edrych ar asedau fel pethau sydd gennym ar gyfer y tymor hir, nid fel eitemau tafladwy’n unig.

A’r syniad diwethaf y credaf fod iddo botensial i ni ei allforio yw’r syniad o economi ddosbarthedig—un lle y mae mwy o gyfoeth a mwy o weithgaredd economaidd yn cael ei wasgaru ar draws ein gwlad mewn gwirionedd. Cynhaliais fforwm yng Nghastell-nedd yn ddiweddar ar gyfer trafod yr economi, fel y soniais yn gynharach, ac un o’r materion allweddol a gododd yno oedd y syniad ynglŷn â sut y gallwn wella ein cadwyni cyflenwi lleol, a sut y gallwn weithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat i roi hwb i’n heconomïau lleol. Nid yw honno’n agenda sydd wedi datblygu llawer iawn mewn rhannau eraill o’r DU, ac rwy’n meddwl bod cyfle gwirioneddol i ni yng Nghymru wneud hynny.

Felly, rwy’n meddwl na allwn droi cefn ar y syniad o werth ychwanegol gros fel dangosydd pwysig o iechyd yr economi—yn amlwg, rydym eisiau economi gyda thwf yn ganolog iddi—ond byddwn yn ein hannog i drafod profion llawer ehangach o lwyddiant ein heconomi sy’n adlewyrchu llesiant a mesurau eraill. Mae angen i ni edrych ar ein hasedau ac adeiladu economi sy’n adlewyrchu’r asedau gwych sydd gennym yng Nghymru.

Rwyf innau yn mynd i achub ar y cyfle hefyd, rwy’n meddwl, i ddathlu ein llwyddiannau ni gan ei bod hi’n ddydd cenedlaethol arnom ni heddiw, a chymryd ysbrydoliaeth, fel rydym wedi ei glywed, o’n hanes ni wrth fynd i’r afael â nifer o’n heriau ni heddiw. Mi oedd yr Aelod dros Gastell-nedd yn sôn am ein hasedau ni. Wel, un o’r asedau pennaf sydd gyda ni fel cenedl, wrth gwrs, yw ein pobl ni, ac mae buddsoddi ynddyn nhw, er enghraifft drwy’r gyfundrefn addysg, yn rhywbeth pwysig i ni ei wneud, wrth gwrs, ond yn rhywbeth y mae gennym ni draddodiad anrhydeddus o’i wneud hefyd. Rydym yn meddu ar hanes o arloesedd a mentergarwch yn y maes addysg—yn gymaint, fe fyddwn i’n ei ddadlau, ag unrhyw sector arall a fydd yn cael ei drafod heddiw.

Nid oes ond rhaid dweud yr enw Griffith Jones, Llanddowror, yn ôl ar gychwyn y ddeunawfed ganrif, wrth gwrs, i ddeall ac i werthfawrogi'r arloesedd hynny—Griffith Jones a’i ysgolion cylchynol a oedd yn dysgu plant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r hwyr, gyda’r rheini yn mynd yn eu blaenau wedyn i ddysgu eraill, a’r elfen raeadru yna o ddysgu yn y diwedd yn cyrraedd pwynt lle'r oedd yna 0.25 miliwn o bobl erbyn hynny wedi dod yn llythrennog, allan o boblogaeth o lai na 0.5 miliwn. Felly, roedd mwy na hanner y boblogaeth wedi dysgu darllen. Ac erbyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761, mi oedd Cymru yn mwynhau un o lefelau llythrennedd uchaf y byd, cymaint felly nes i’r Ymherodres Catrin Fawr o Rwsia yrru comisiynydd i Gymru i ddysgu gwersi, ac i weld a oedd modd addasu’r system ar gyfer Rwsia. Mae hynny efallai yn cyfateb nid i ni yn gofyn i’r OECD ddod i ddweud wrthym ni os ydym ni ar y llwybr iawn, ond i Gymru ddweud wrth yr OECD beth ddylen nhw fod yn ei ddweud wrth y gwledydd eraill. Dyna le rydym ni eisiau ei gyrraedd, ac, wrth gwrs, dyna le rydym ni wedi bod, yn y bennod benodol yna, beth bynnag.

Yn 1889, wedyn, a’r Welsh Intermediate Education Act yn cael ei phasio—deddfwriaeth wedi ei chyflwyno gan Aelodau Cymreig yn San Steffan a oedd yn chwyldroadol, oherwydd roedd yn golygu bod plant, waeth beth oedd eu cefndir economaidd nhw na’u gallu academaidd nhw, yn gallu mynychu ysgol uwchradd am y tro cyntaf. Mi fu’n rhaid aros rhyw 10 mlynedd arall cyn cyflwyno deddfwriaeth gyffelyb yn Lloegr. Roedd llwyddiant y Ddeddf a’r ‘county schools’, wrth gwrs, yn amlwg, gyda’r hanesydd K.O. Morgan—yr Arglwydd Morgan—yn nodi:

‘By the First World War, Wales was covered with a network of a hundred “county” secondary schools, and had a secondary education system notably in advance of that of England.’

Roedd llwyddiant y Ddeddf hefyd i’w weld yn y ffaith mai prin iawn oedd ysgolion uwchradd yn Lloegr, hyd yn oed, heb athro neu athrawes o Gymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, adeg pan oedd Cymru yn allforio athrawon. ‘A nation of teachers and preachers’ oedd y disgrifiad yn y cyfnod, a buasai hi ddim yn ffôl o beth petasem ni’n llwyddo i atgynhyrchu hynny heddiw.

Ond, wrth gwrs, mae’r hanes erbyn hyn yn wahanol. Dirywiad rydym wedi ei weld, yn anffodus, nid y cynnydd rwy’n siŵr y byddai bob un ohonom ni yn awyddus i’w weld yn digwydd. Rydym wedi gweld canlyniadau PISA yn ddiweddar. Mae adroddiad blynyddol Estyn hefyd yn tynnu sylw at y positif—mae’n rhaid cydnabod hynny: yn barnu deilliannau 16 y cant o ysgolion uwchradd Cymru yn rhagorol, yn uwch nag unrhyw flwyddyn ers 2010. Ond, wrth gwrs, roedd canran yr ysgolion anfoddhaol hefyd wedi cynyddu i 14 y cant.

Nawr, mae hanes datblygiad addysg yng Nghymru yn un diddorol, wrth gwrs, ac yn un y dylem ni ymfalchïo ynddo fe, ond mae’n rhaid inni gydnabod a gobeithio a hyderu ein bod ni ar drothwy cyfnod pwysig iawn yn natblygiad system addysg Cymru heddiw, gyda nifer fawr o gynlluniau ar waith, wrth gwrs, i ddiwygio'r system addysg, fel rŷm ni’n ei wybod ac fel rŷm ni wedi ei drafod fan hyn ar sawl achlysur. Nid yw hi’n anochel bod Cymru yn meddu ar system sydd yn cael ei gweld fel un sydd y tu ôl i nifer o wledydd eraill. Rŷm ni wedi arwain y ffordd o’r blaen ac fe allwn ni wneud hynny eto. Mi fydd angen, wrth gwrs, sicrhau bod gan y Llywodraeth weledigaeth glir a ffocws pendant ar ddelifro ar y potensial sydd gennym ni, ac rwyf i yn un sy’n cefnogi’r llwybr y mae’r Llywodraeth yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd, er efallai bod yna anghytundeb ynglŷn â sut, efallai, y mae ambell elfen yn mynd i gael ei chyflwyno a’i hamseru a rhyw bethau felly. Ond, yn ei hanfod, rydw i’n hyderus, yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Mi ganmolodd adroddiad yr OECD, wrth gwrs, y symudiad i ffwrdd o gyflwyno digwyddiadau ar hap—digwyddiadau digyswllt, efallai. Beth sydd angen ei wneud nawr, wrth gwrs, yw atgyfnerthu’r weledigaeth ar gyfer y tymor hir, i ddyfalbarhau ar hyd y trywydd rŷm ni eisoes wedi cychwyn arno fe. Ond wrth wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid diogelu bod y diwygiadau sydd ar y gweill yn cael eu gweithredu yn effeithiol, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod pawb—o’r athrawon yn yr ystafell ddosbarth i’r consortia ac awdurdodau addysg a phawb arall—yn deall ble rŷm ni’n mynd, yn prynu i mewn i ble rŷm ni’n mynd, bod pawb yn glir am ei rôl yn y cyd-destun hynny, eu bod nhw’n gwybod sut y maen nhw’n cyfrannu at y prosiect, a sut mae’r holl waith, wedyn, yn dod at ei gilydd hefyd. Ond o wneud hynny, fe allwn ni fod yn hyderus y bydd pawb, wedyn, yn cyd-dynnu ac y byddwn ni yn cael y maen i’r wal.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Gallaf gadarnhau o'r dechrau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn.

Wrth gwrs, rŷm ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cydnabod bod Cymru yn wynebu nifer o heriau pan ddaw at ein gwasanaeth iechyd, ein system addysg a'n heconomi, a byddaf i’n canolbwyntio fy nghyfraniad i ar y dyfodol.

Fel mae ail bwynt y cynnig yn dweud, mae perfformiad yn y meysydd polisi hyn yn dangos yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy creadigol a chydweithredol o ran datblygu polisïau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Os ydym o ddifri ynghylch trawsnewid yr economi, mae'n rhaid inni gefnogi ein busnesau bach sydd yn asgwrn cefn i’n heconomi, a rhaid inni fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith allweddol.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod potensial busnesau bach a chanolig i dyfu economi Cymru a chreu’r amodau sydd eu hangen ar gyfer mwy o fenter yma yng Nghymru. Dim ond yn ddiweddar, mae rhai busnesau wedi cael eu bwrw’n ofnadwy oherwydd cynnydd mewn trethi busnes, ac mae angen i fusnesau wybod a ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn gymwys i gael rhywfaint o'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn mynd i edrych ar y system trethi busnes yn y dyfodol, ond gall y Llywodraeth gymryd camau nawr ar y mater hwn. Gallai, er enghraifft, rannu'r lluosydd ardrethi busnes er mwyn rhoi chwarae teg i fusnesau bach o gymharu â busnesau mwy.

Mae hefyd angen cefnogaeth ar fentrau bach a chanolig o ran cael gafael ar gyllid ac rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull rhanbarthol i alluogi busnesau i gael mynediad i gyllid er mwyn adlewyrchu eu heconomïau lleol.

Mae'n rhaid inni feddwl yn llawer mwy creadigol os ydym ni’n mynd i drawsnewid yr economi, a byddai creu cyfres o fanciau'r stryd fawr rhanbarthol ledled Cymru yn sicr o leoleiddio mynediad at gyllid ar gyfer busnesau bach. Gallai cynigion fel hyn gael eu cyflwyno yn weddol gyflym, a byddai hynny'n cael effaith bositif ar yr economi leol a chenedlaethol yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn ofalus ar y mathau hyn o bolisïau a dod o hyd i ffordd well o gefnogi busnesau bach ledled Cymru.

Wrth gwrs, mae yna hefyd broblemau sylfaenol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu’r polisi o un maint sydd yn ffitio i bawb tuag at ddarparu gwasanaethau iechyd ledled Cymru, sy'n methu cleifion Cymru. Rhaid i’r Llywodraeth symud i ffwrdd o agenda ganoli ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd; mae angen inni weld polisïau sy'n diogelu gwasanaethau lleol ac mae angen inni weld gwasanaethau cryfach ar draws ysbytai yng Nghymru.

Nid yw gwasanaethau mwy a mwy canolog o reidrwydd yn golygu gwell gwasanaethau pan ddaw at gyflenwi angen gofal iechyd ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wrthdroi'r duedd hon sy'n peri pryder a dechrau datblygu gwasanaethau lleol sy’n fwy integredig o fewn ein cymunedau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ehangu rôl ysbytai cymunedol ar draws Cymru er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar ein hunedau ysbyty sydd eisoes o dan straen enfawr. Rwyf hefyd yn credu bod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd fod yn fwy atebol i'r rhai y mae'n eu gwasanaethu. Yn fy marn i, byddai hyn yn arwain at welliannau drwy roi llais cleifion wrth wraidd penderfyniadau y tu mewn i’r gwasanaeth iechyd. Yn wir, byddai sefydlu atebolrwydd lleol a throsglwyddo penderfyniadau dros wasanaethau iechyd oddi wrth lywodraeth ganolog ym Mae Caerdydd a rhoi’r awdurdod hwnnw yn ôl i ddwylo cymunedau lleol, yn fy marn i, yn gwella ein gwasanaethau iechyd lleol.

O ran ein system addysg, rwy’n siŵr bod yr holl Aelodau yn y Siambr yn cytuno bod ein plant yn haeddu gwell. Rwy’n gwerthfawrogi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cychwyn ar ystod eang o fesurau mewn perthynas â’r system addysg yng Nghymru, ond fel y mae, mae’r ffigurau’n dangos nad yw Cymru, yn syml, lle yr hoffem iddi fod o ran meincnodau rhyngwladol.

Wrth symud ymlaen, rhaid cael mwy o uchelgais ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac y mae'n rhaid eu pasio ymlaen i athrawon ledled Cymru. Dangosodd adroddiad diweddar Estyn fod diffyg enfawr o ran arweinyddiaeth gref, sy'n dal athrawon a phlant yn ôl rhag cyflawni eu potensial. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar wella safonau addysgu a datblygu strategaeth i dargedu a datblygu materion arweinyddiaeth yn y system addysg.

Fel rhan o ymgyrch i rymuso athrawon, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu fformiwla genedlaethol gydag arian yn cael ei dargedu'n uniongyrchol at ysgolion i roi'r holl ddysgwyr, boed hwy mewn lleoliadau gwledig neu drefol, ar sail fwy cyfartal. Trwy wneud hyn, fe fydd yn rhyddhau mwy o adnoddau i mewn i'r ystafell ddosbarth. Byddai ariannu ysgolion yn uniongyrchol mewn gwirionedd yn gwthio grym i lawr i'r athrawon a phenaethiaid sy'n gwybod beth sydd orau ar gyfer eu hysgolion, gan roi mwy o hyblygrwydd a rheolaeth i athrawon dros flaenoriaethau eu hysgolion. A rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r offer i ysgolion i fod yn fwy creadigol wrth weithredu'r cwricwlwm. Er enghraifft, gallai wneud ysgolion yn hybiau entrepreneuraidd drwy sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol i helpu i wella sgiliau busnes cenedlaethau'r dyfodol.

Wrth gloi, Lywydd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy arloesol a chreadigol er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Ni fydd parhau gyda'r un hen ddull yn gweld gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd, na’n system addysg ac ni fydd yn tyfu ein heconomi. Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu a bod yn llawer mwy arloesol.

Mae hefyd yn bleser i minnau gymryd rhan yn y ddadl yma ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn cofio marwolaeth Dewi ar y diwrnod yma yn y flwyddyn 589—rhyw 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae yna hen, hen hanes i’r genedl yma sydd yn dal i gael ei wireddu trwy ein hiaith a’n celfyddyd a’n ffydd. Ac, ie, mae’n ddiwrnod o falchder cenedlaethol ac rwy’n mynd i ddilyn yr un un trywydd. Roeddwn i wedi’ch atgoffa o rai o bileri ein hanes yn y ddadl ddiwethaf, wedyn man y man imi gario ymlaen lle’r oeddwn i wedi gorffen yn y cyfraniad diwethaf.

Ond yn benodol felly yn y maes iechyd, lawr y blynyddoedd cyn y gwasanaeth iechyd, roedd Cymru wedi arloesi yn y maes: Meddygon Myddfai yn arloesi yn eu maes nôl yn y canol oesoedd. Pentref bach weddol ddi-nod ydy Myddfai y dyddiau hyn, ond sawl cant o flynyddoedd yn ôl, roedd yn arwain y byd meddygol yn yr ynysoedd hyn. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r hanes yna wedi mynd ar goll, ond roedd yna arloesi mawr yn digwydd rhai cannoedd o flynyddoedd yn ôl yn y byd meddygol.

Ychydig bach yn nes ymlaen—rhyw ganrif a hanner yn ôl—rydym yn gweld Hugh Owen Thomas, ac wedyn ei nai, Robert Jones, yn arloesi ym myd llawdriniaeth esgyrn, ac, yn wir, Robert Jones yn cael ei gydnabod y dyddiau hyn yn fyd-eang fel tad yr arbenigedd o ‘orthopaedics’. Fo a wnaeth lunio ‘orthopaedics’ yn y lle cyntaf ac mae’n cael ei gydnabod ar draws y byd fel arweinydd a sylfaenydd ‘orthopaedics’.

Wrth gwrs, rydym ni wedi clywed yr hanes am greu’r gwasanaeth iechyd ac rydym yn parhau yn hynod falch o gyfraniad Cymru i’r gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, i droi ymlaen ychydig bach eto, ac yn y flwyddyn 2007, enillodd yr Athro Syr Martin Evans o Brifysgol Caerdydd wobr Nobel mewn meddygaeth ar sail ei waith ymchwil arloesol ym maes celloedd boncyff a DNA.

Felly, mae’n anodd, weithiau, i bobl gyffredin yn ein gwlad i feddwl, ‘Wel, beth mae Cymru erioed wedi gwneud? Nid wyf yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen. Pwy sydd wedi arloesi a phwy sydd wedi bod yn hyderus ac yn llwyddiannus?’ Wel, mae yna res, a gallwn i gario ymlaen, ond yn naturiol, ni allaf fod yma drwy’r prynhawn, felly mae’r rhestru yn mynd i stopio yn fanna. Ond, mae’n ddigon i nodi bod yna ddatblygiadau cyffrous iawn, iawn yn mynd ymlaen y dyddiau hyn ym myd meddygaeth, yn ein prifysgolion ac yn ein hysgolion meddygol. Mae ein hysgolion meddygol ni—wrth gwrs, mae gennym ni ddwy erbyn nawr yng Nghaerdydd ac yn Abertawe—yn cynhyrchu meddygon ifanc, disglair. Fe allen nhw gynhyrchu mwy, yn naturiol. Mae yna, ar hyn o bryd, lai nag 20 y cant o fyfyrwyr meddygol ysgolion meddygol Cymru yn dod o Gymru. Nid oes gwlad arall yn gweithredu fel yna. Mae dros hanner myfyrwyr meddygol ysgolion meddygol yr Alban yn dod o’r Alban a dros 80 y cant o fyfyrwyr meddygol ysgolion meddygol Lloegr yn dod o Loegr, ac eto rydym ni’n gweithredu ar ryw lefel fel 12 y cant o fyfyrwyr meddygol Caerdydd ac Abertawe yn dod o Gymru. Wel, rydym ni i fod yn cynhyrchu meddygon am y dyfodol, ond nid ydym yn cynhyrchu digon ohonyn nhw ac, yn naturiol, dyna hefyd pam mae eisiau ysgol feddygol newydd ym Mangor—i bentyrru mwy o feddygon ifanc, disglair i’n gwlad. Ie, rydym ni yn falch o’r gwasanaeth iechyd, ond mae’r system o dan straen anferthol. Mae angen cyflogi mwy o feddygon a nyrsys ac ati, mae angen hyfforddi mwy ohonyn nhw yn y lle cyntaf, ac, wrth gwrs, mae angen darparu y dechnoleg ddiagnostig cywrain yma sydd ar gael—[Torri ar draws.]—ond mae e’n enbydus o ddrud.

Wrth gwrs, mae angen gweledigaeth amgen o wasanaeth iechyd efo’i ffocws yn y gymuned—[Torri ar draws.] Ie, efo’r gymuned sydd wedi ei chysylltu yn ddigidol. A man y man bod y Gweinidog wrthi yn arloesi yn y maes yna hefyd. [Chwerthin.] Sy’n ein hatgoffa ni ein bod ni’n gallu gwneud pethau mawr yn ein gwasanaeth iechyd ni yn ddigidol hefyd. Rwy’n falch i’r Gweinidog ein hatgoffa ni o hynny, achos mae hynny’n helpu gofal cynradd hefyd. Ac mae eisiau gweld mwy o arbenigwyr yn ein hysbytai ni yn dod i’r gymuned i weithio, yn torri’r barau yma i lawr rhwng ysbytai a gofal cynradd, a—ydy, mae wedi cael ei ddweud sawl tro—iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio yn agos.

I orffen, felly, rydym ni yn falch iawn o’n gwasanaeth iechyd. Rydym ni’n falch iawn o’r holl arloesi sydd wedi digwydd yn y gorffennol, sydd yn digwydd ar hyn o bryd, ac mi fydd yn digwydd yn y dyfodol. Rydym ni’n benderfynol o gadw ein gwasanaeth iechyd yn gynhwysfawr, yn gyhoeddus yma yng Nghymru. Ond, mae angen newidiadau i ddarparu y gwasanaeth gorau i’n pobl, gan ddefnyddio y talent disglair sydd gyda ni ar gael. Diolch yn fawr.

Wel, rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig hwn gan Blaid Cymru heddiw, a bydd fy mhlaid yn pleidleisio drosto. Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at fonllef o lawenydd digymell ar feinciau Plaid Cymru. Rwy’n mynd i fod yn gydsyniol heddiw mewn ffordd ychydig yn wahanol i ddoe, gan mai heddiw yw ein diwrnod cenedlaethol. Er efallai nad yw neges Dewi Sant at ddant pawb ohonom yn llwyr, gan mai rheol fynachaidd Dewi Sant oedd y dylai’r mynachod dynnu’r aradr heb anifeiliaid gwedd, yfed dim heblaw dŵr, bwyta dim ond bara gyda halen a pherlysiau, a threulio eu nosweithiau’n gweddïo, yn darllen neu’n ysgrifennu, a byw heb eiddo personol. Felly, byddai Cymru’n lle asgetig iawn pe baem yn dilyn y cyfarwyddebau hynny i’r llythyren.

Rwy’n cytuno â phopeth a ddywedodd Rhun ap Iorwerth wrth agor ei ddadl heddiw, ac mae’n iawn, rwy’n meddwl, i edrych yn ôl ar hanes Cymru a’r hyn yr ydym wedi’i roi i’r byd. Rwy’n drist i ddweud bod yr hanes wedi bod yn wahanol braidd yn ystod fy oes, yn gymharol o leiaf: rydym wedi bod yn genedl sy’n dirywio’n economaidd er ei bod, fel rwy’n cydnabod yn llawn ac yn gorfoleddu yn ei gylch yn wir, yn genedl sydd wedi tyfu’n ddiwylliannol ac o ran y teimlad o genedligrwydd. Er fy mod yn credu’n gryf yn y Deyrnas Unedig, rwy’n teimlo fy mod hefyd yn Gymro balch, ac rwy’n meddwl y gall rhywun gael dau fath o genedligrwydd ochr yn ochr â’i gilydd. Byddwn yn dweud hefyd pe bai Cymru yn dod yn genedl annibynnol yn wleidyddol, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na allai fod yn un o’r gwledydd mwyaf llwyddiannus yn y byd, oherwydd nid yw maint yn bopeth yn hyn o beth. [Torri ar draws.] Nid yw Singapore, er enghraifft, yn fwy na brycheuyn bach yn y môr, ac mae’r cyfan yn dibynnu ar—[Torri ar draws.] Mae’r cyfan yn dibynnu ar y math o economi y gellir ei datblygu, sydd, wrth gwrs, yn dibynnu ar yr amgylchedd gwleidyddol. Yn anffodus, yn ôl maniffesto presennol Plaid Cymru, byddai’n annhebygol o ailadrodd llwyddiant Singapore.

Ond mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn hollol iawn i dynnu sylw at ddirywiad cymharol Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn economaidd. Dim ond 71 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig sydd gan Gymru. Mae hynny’n cymharu â 93 y cant yn yr Alban, ac mae Gogledd Iwerddon, a oedd yn flaenorol, 20 mlynedd yn ôl, yn is na Chymru ar y tabl, yn uwch na ni heddiw. Rydym ar waelod y tabl. Felly, rydym wedi cael 20 mlynedd o ddirywiad, yn anffodus, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd a Llywodraeth Lafur yn Llundain hefyd am y rhan fwyaf o’r amser hwnnw. Yn fy rhanbarth i, gorllewin Cymru a’r Cymoedd, nid yw ond yn 63.3 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, sydd hyd yn oed yn waeth.

Er fy mod wedi cael fy nifrïo gan y Prif Weinidog ac eraill am fod wedi bod yn Weinidog mewn Llywodraethau Ceidwadol yn y 1980au a’r 1990au, mewn gwirionedd, yn 1989, roedd gan Gymru 89 y cant o werth ychwanegol gros y Deyrnas Unedig, ac felly rydym wedi mynd yn ôl o 89 y cant i 71 y cant o dan y rhai a fu’n fflangellu Thatcheriaeth y 1980au. Felly, bob blwyddyn ers 1996, mae Cymru naill ai wedi aros yn ei hunfan neu wedi llithro’n is i lawr y tabl. Felly, mae’n hanes o ddigalondid diymgeledd, mae arnaf ofn, a methiant.

Ond wrth edrych tua’r dyfodol, nid yw’r dyfodol yn perthyn i’r Llywodraeth mewn gwirionedd. Ni all Llywodraethau wneud mwy dros bobl nag y gallant ei wneud drostynt eu hunain. Gallant effeithio ar yr amgylchedd lle y mae pobl yn byw ac yn gweithio, wrth gwrs. Ond rydym wedi bod yn ymdopi, ar hyd fy oes, gyda dirywiad y diwydiannau echdynnu a gweithgynhyrchu mawr, dirywiad na ellid ei wrthdroi mewn gwirionedd, er y gellid ei arafu, a heddiw rydym wedi bod yn trafod problemau presennol Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lle y mae gennym gyflogwyr mawr sy’n dominyddu mewn un maes, rydym mewn perygl, wrth gwrs, yn sgil newidiadau mawr yn y galw neu’r amodau byd-eang. Rhaid i’r dyfodol fod yn seiliedig ar hyrwyddo menter gyda busnesau bach, fel yr oedd Paul Davies yn ei nodi yn ei araith, a hefyd gyda thechnolegau’r dyfodol.

Heddiw, ar y dudalen flaen ‘The Times’, ceir stori ynglŷn â sut y mae Syr James Dyson yn mynd i ariannu campws technoleg newydd, wrth gyffordd 17 ar yr M4. Mae ef ei hun yn byw wrth gyffordd 16 ar yr M4. Mae hyn lai nag awr o Gaerdydd, ac eto ble mae’r pethau cyfatebol yng Nghymru? Dyma’r math o ddiwydiannau’r dyfodol y dylai’r Llywodraeth fod yn eu hannog ac yn gwneud ei gorau i’w denu a’u cefnogi. Felly, gadewch i ni orfoleddu yn ein gorffennol yn wir, ond gadewch i ni gael Llywodraeth a fydd yn creu dyfodol lle y gall cenedlaethau’r dyfodol orfoleddu wrth edrych yn ôl.

Wel, mewn gwirionedd, roeddwn am roi golwg galonogol iawn o ddyfodol Cymru a sut y gallwn, er yr holl ryfeddodau a gyflawnwyd gennym yn y gorffennol fel athrawon a phregethwyr, ddod yn genedl o wyddonwyr a thechnolegwyr a symud ein cenedl ymlaen. Rwy’n meddwl fy mod am ein disgrifio fel cenedl ynni. Mae un o’r cerddi ecolegol cynharaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Torri Coed Glyn Cynon’, yn sôn am dorri coed cwm Cynon er mwyn bwydo’r chwyldro diwydiannol cynnar, gwaith haearn canoloesol y cyfnod hwnnw. Felly, rydym wedi bod yn genedl ynni ers amser maith.

Ond y cwestiwn sy’n rhaid i ni ei wynebu yn awr yw hwn: sut y gallwn fod yn genedl ynni unwaith eto a sut y gallwn ddod yn Galiffornia yr Iwerydd? Oherwydd mae gennym y traethau, mae gennym ewyn y don, mae gennym y stiwdios ffilm, mae gan rai ohonom gyrff ar gyfer y traeth—[Chwerthin.] Yn bendant. Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau yn nodio’i ben ar hynny. Ond yn bwysicach, mae gennym brifysgolion, mae gennym ymchwil, mae gennym hanes o ddatblygiad technolegol y cyfeiriwyd ato eisoes mewn sawl cyfraniad, ac mae gennym adnoddau ynni enfawr o hyd, nid o dan y ddaear mwyach—nid o dan y ddaear mwyach mewn modd diogel a chynaliadwy, beth bynnag—ond yn ein moroedd, yn ein hawyr, ar ein bryniau ac yn yr haul. Dyna sut y cyplyswn ein dealltwriaeth ddiweddaraf o dechnoleg â heriau pethau fel newid yn yr hinsawdd a heriau diogelwch ynni y credaf y byddant yn darparu pwynt gwerthu unigryw i Gymru dros y cenedlaethau nesaf, ac rwy’n meddwl y bydd yn gwneud Cymru yn wlad fach lwyddiannus, pa un a fyddwn yn ymlafnio o hyd o dan ddatganoli neu’n dod yn genedl annibynnol.

Gallwn adeiladu ar rai o’r blociau adeiladu hynny eisoes ac rwy’n meddwl y byddai pob un ohonom am weld Cymru’n dod mor hunangynhaliol â phosibl o ran ein defnydd o ynni, o ran ein heconomi, o ran y ffordd y datblygwn ein sgiliau ein hunain a’n pobl ein hunain, boed mewn meddygaeth neu mewn technoleg neu yn y maes addysg. Ac rydym ymhell ar ei hôl hi. Mae’r Alban eisoes yn cynhyrchu, er enghraifft, 32 y cant o’i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy. Rydym ni ar 10 y cant. Un o’r gwledydd sydd â’r adnoddau adnewyddadwy mwyaf cyfoethog yn y môr ac ar y tir yw un o’r rhai sy’n llusgo ar ôl y Deyrnas Unedig o ran cynhyrchu mewn gwirionedd. Ers y 1970au cynnar, rydym wedi cael rhyw fath o chwyldro bach arall yng Nghymru, oherwydd mae Cymru yn genedl o naratifau gwleidyddol sy’n cystadlu. Un o’r naratifau diddorol a ddigwyddodd yn y 1970au yng Nghymru yw’r cysyniad o’r wlad fach, y genedl fach—pobl yn dod i Gymru i geisio bod yn hunangynhaliol, yn byw ar y tir, rhai syniadau gwallgof a rhai ffyrdd gwallgof o fyw o bryd i’w gilydd, ond yn arwain at syniadau, fel y dywedais, am dechnoleg amgen ac ailwerthusiad go iawn o’r modd yr ydym yn cynhyrchu ein hynni a sut yr ydym yn symud ymlaen. Felly, rydym ar fin newid ar hyn o bryd. Mae’n dal i fod gennym allyriadau nitrogen ocsid gwenwynig iawn o orsafoedd pŵer sy’n llosgi glo. Mae’n dal i fod gennym hen dechnoleg. Mae gennym hen gysylltiadau cyfathrebu a hen gridiau ynni sy’n ein dal yn ôl mewn gwirionedd rhag y dyfodol ynni newydd hwn. Ond hefyd mae gennym sgiliau a syniadau i’w wneud. Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â thri pheth yr hoffwn ein gweld yn eu gwneud yma yng Nghymru yn fuan iawn.

Yn gyntaf oll, hoffwn i ni archwilio sut y gallwn sefydlu cwmni ynni i Gymru. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhesu at y syniad hwn, a darddodd gyda Phlaid Cymru, ac rwy’n gobeithio y gallwn weithio gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ceisio archwilio’r gallu i sefydlu cwmni ynni i Gymru. Felly, byddwn yn gwneud y defnydd gorau ac yn cadw’r sgiliau a’r adnoddau hynny yn ein gwlad.

Ail beth y credaf y gallem edrych arno o ddifrif yng Nghymru yw hydrogen. Mae’r Gyngres yn America yn dathlu diwrnod y gell hydrogen. Pam y maent yn dathlu diwrnod y gell hydrogen? Am eu bod yn dweud mai hwy a gynhyrchodd economi’r gell hydrogen—yn enwedig yng Nghaliffornia, fel y mae’n digwydd. Tarddodd yn 1838, yma yn Abertawe—yn Abertawe, gyda William Grove, athrylith digamsyniol, os edrychwch ar ei hanes: bargyfreithiwr a ddaeth yn wyddonydd, a gwyddonydd blaenllaw ar hynny, a datblygodd dechnoleg celloedd hydrogen sy’n dal, mewn egwyddor, i fod yr hyn a all yrru ein trenau, ein trafnidiaeth gyhoeddus, ein cerbydau masnachol yn awr, ac efallai’n fwy o ran y cerbydau preifat a cheir preifat, gan edrych ar ble rydym yn datblygu seilwaith o gwmpas ceir trydan a cherbydau trydan. Mae’r ddau’n mynd yn dda iawn gyda’i gilydd. Mae’r technolegau hyn—cerbydau trydan a thechnoleg hydrogen—yn mynd yn dda iawn gyda’i gilydd gydag ynni adnewyddadwy, oherwydd mae’n system storio y gallwch ei defnyddio yn eich system drafnidiaeth sy’n helpu i lyfnhau’r anamleddau a gawn, yn enwedig mewn ynni adnewyddadwy, a chyda gwynt yn arbennig.

Ond wrth gwrs, cyfeiriwyd eisoes at y peth arall y gallwn ei wneud—y trydydd peth, sef y morlyn llanw. Felly, rydym yn troi at Abertawe unwaith eto, ac yn lle colli’r dechnoleg a darddodd o Abertawe a chyrraedd Califfornia, fel y gwnaethom 150 mlynedd yn ôl, gadewch i ni wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r dechnoleg hon y gellir ei threialu yn Abertawe ar ffurf prosiect braenaru, fel yr argymhellwyd gan adolygiad Hendry, a’i bod yn dod yn dechnoleg yr ydym yn ei datblygu yn awr ac yn dysgu oddi wrthi, ac yn defnyddio’r sgiliau ohoni.

Felly, i gloi, fel sy’n draddodiadol ar y diwrnod hwn, gyda rhai o eiriau Dewi Sant, pan ddywedodd wrthym, ‘gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’, a dweud mai rwtsh llwyr yw hynny. Fel y bydd pobl Califfornia’n dweud, peidiwch â chwysu dros y pethau bychain. Gadewch i ni wneud y pethau mawr—gadewch i ni wneud y môr-lynnoedd llanw, yr hydrogen a’r trydan.

Wel, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn ar gyfer dadl yn y Siambr heddiw a dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n rhoi cyfle i ni siarad am ein perfformiad ar draws tri maes allweddol yr economi, addysg ac iechyd, a chroesawaf y cyfle hwnnw. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn addas. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei sylwadau agoriadol, mae’n ymwneud ag edrych ar ein sefyllfa heddiw, ac mae hynny’n briodol ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Ond o edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn cefndir y dirwasgiad a’r cyllidebau caledi a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU, mae’n amlwg fod economi Cymru wedi tyfu. Ceir yn agos at y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith, ac mae’r gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu mwy na chyfartaledd y DU dros y 12 mis diwethaf. Hefyd mae’r gyfradd ddiweithdra wedi gostwng mwy yng Nghymru na chyfartaledd y DU dros yr un cyfnod. Y llynedd, helpodd y Llywodraeth hon yng Nghymru i greu a diogelu 37,500 o swyddi drwy bartneriaethau deallus ac effeithiol gyda busnesau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd gwirioneddol o ran gwella addysg. Dangosodd y canlyniadau TGAU cyffredinol ar gyfer 2016 berfformiad cryf arall, gyda dwy ran o dair o’n dysgwyr yn cyflawni o leiaf A* i C, gyda chynnydd yn y graddau uchaf.

O ran y gwasanaeth iechyd, rydym yn cydnabod bod rhai amseroedd aros yn rhy hir, ond mae amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth bellach 30 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Awst 2015, ac mae amseroedd aros diagnostig 63 y cant yn is na’r uchafbwynt ym mis Ionawr 2014. Rydym yn disgwyl gweld gostyngiadau pellach cyn diwedd y mis hwn. Rydym yn derbyn bod lle i fwy o welliant bob amser, ond rydym yn gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd hyn.

Wrth gynnig gwelliant y Llywodraeth, rwy’n falch o ddarparu trosolwg mwy cynhwysfawr efallai o sefyllfa Cymru. Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi gostwng i 4.4 y cant, yn is na chyfartaledd y DU. Dangosodd dangosydd ansawdd gofal iechyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod Cymru yn perfformio ar lefel debyg neu well na gwledydd eraill yn y DU yn y rhan fwyaf o ddangosyddion. Mae canlyniadau arholiadau TGAU 2015-16 ar gyfer Cymru yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers dechrau cadw cofnodion yn 2006-07, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn cau. Ddoe, wrth gwrs, cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei asesiad cyflym o addysg yng Nghymru, a buom yn trafod yr adroddiad hwn yn y Siambr—y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Ond rhoddodd y Sefydliad dystiolaeth annibynnol i ni ar ble rydym wedi gwella, ac maent yn cyfeirio at y cynnydd a wnaed ar gefnogi dysgu proffesiynol athrawon, ar gynyddu cydweithrediad rhwng ysgolion, ar resymoli grantiau ysgol, ar ddatblygu’r system gategoreiddio ysgolion ar lefel genedlaethol, ac ar y camau a gymerwyd i ddatblygu cwricwlwm newydd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Siaradodd Llyr Gruffydd am y tirnodau hanesyddol yn hanes addysg yng Nghymru, ac ydy, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn nodi meysydd lle y mae angen i ni gryfhau ymhellach. Ond mae’r dadansoddiad annibynnol hwn yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer system hunanwella a fydd yn mynd o nerth i nerth.

Wrth ymateb i rai o’r pwyntiau eraill yn y ddadl hon, mae dull Llywodraeth Cymru o gyflawni ein hymrwymiadau yng Nghymru yn allweddol, felly mae ein rhaglen lywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’, yn dangos sut rydym yn gyrru gwelliant yn economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, a’n nod yw sicrhau Cymru sy’n ffyniannus a diogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni nodi ble y mae gennym y dulliau i ymyrryd—ble y gall Llywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau cymaint o effaith â phosibl, a sut y bydd ein hymrwymiadau allweddol yn cyfrannu. Rydym wedi nodi’r meysydd hyn, a byddwn yn canolbwyntio arnynt, gan ein galluogi i gael yr effaith fwyaf. Mesurau uchelgeisiol, ond wedi’u hanelu tuag at—. Nod y mesurau hyn yw gwneud gwahaniaeth i bawb ar bob cam o’u bywydau.

Byddwn yn defnyddio’r cyfle a roddwyd i ni gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio mewn ffordd wahanol, i ddatblygu atebion arloesol i’r heriau sy’n ein hwynebu, er mwyn ein helpu i wneud y gorau o’n heffaith ar yr adegau ansicr hyn—math newydd o gynhyrchiant, fel y dywedodd Jeremy Miles, yn seiliedig ar fuddsoddiad cynaliadwy. Rydym yn cydnabod potensial yr economi las a’r economi werdd. Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo mentrau newydd a mentrau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru er mwyn manteisio ar ddiwydiant morol mawr a seilwaith ynni—unwaith eto, fel y nododd Jeremy Miles, a Simon Thomas yn wir, cyfleoedd unigryw sydd gennym yng Nghymru i’n symud ymlaen—rwy’n credu y sonnir amdano fel chwyldro diwydiannol nesaf Cymru—megis y morlyn llanw arfaethedig, ac onid yw’n wych pan fyddwn i gyd yn cytuno, fel y gwnaethom mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl, ac anfon neges mor gryf at Lywodraeth y DU ein bod am fynd i’r afael â’r her honno yma yng Nghymru?

Mae Simon Thomas yn iawn: mae’r sector ynni yn sector allweddol ar gyfer economi Cymru wrth inni symud ymlaen. Mae’n seiliedig ar ein hadnoddau naturiol, y traddodiad hir o gynhyrchu, ac wrth gwrs, y biblinell ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol ag addysg a sgiliau a’r rôl ganolog y maent yn eu chwarae yn gwella economi a chynhyrchiant Cymru. Rhaid i’n system addysg roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r priodoleddau sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer y byd modern i’n galluogi i gystadlu ac i’n pobl ifanc lwyddo er eu budd eu hunain ac er lles Cymru.

Dyma pam yr ydym yn gwneud y newidiadau hyn i’r system addysg, wedi’i hanelu at wireddu cwricwlwm o’r safon orau gyda’r nod o arfogi ein plant a’n pobl ifanc i ffynnu yng nghanol heriau a chyfleoedd yr unfed ganrif ar hugain.

Yn olaf, mewn perthynas â’n gwasanaeth iechyd gwladol annwyl wrth gwrs, fe ddylem ac fe fyddwn yn disgwyl i fyrddau iechyd barhau i wneud gwelliannau i ofal cleifion a mynediad at driniaeth yn ystod 2017-18. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018 rydym yn disgwyl na fydd neb yn aros mwy na 36 wythnos yn y mwyafrif o arbenigeddau. Rwy’n siŵr y byddwch i gyd wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet am y £95 miliwn ychwanegol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol—mae hwnnw’n gwbl hanfodol fel y dywedodd Dai Lloyd—o ran dangos, unwaith eto, beth yw’r blaenoriaethau i’r Llywodraeth hon.

Felly, Lywydd, fel y dywedais, rydym yn croesawu’r ddadl hon. Mae’n rhoi cyfle i bwyso a mesur, a hefyd i groesawu craffu adeiladol ac i fwydo i mewn i’r cyfeiriad teithio. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau, ein bod yn galluogi pobl i fyw bywydau iach a chyflawn, ac yn parhau i gefnogi ein heconomi drwy fuddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. Ond fel Llywodraeth Lafur Cymru, mae gennym nod ychwanegol, sef mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, sydd yr un mor ddrwg i’n hiechyd ag y maent i’r economi, yn erbyn cefndir o bolisïau caledi parhaus Llywodraeth y DU.

Rhaid i mi wneud un sylw mewn ymateb i Neil Hamilton. Nawr, mae Neil yn dweud ei fod yn cefnogi’r cynnig hwn, ond rwy’n teimlo bod angen i mi ei atgoffa eto, o ran ei sylwadau difenwol a slic braidd, am ein safle mewn perthynas â’r effaith a gawsom ar yr economi. Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi parhau i berfformio’n well na bron bob rhan o’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. Newyddion da i Gymru. Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu’n gyflymach nag yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod ble y buoch dros y cyfnod hwn mewn perthynas â’r ffigurau hyn, Neil Hamilton. Mae diweithdra—[Torri ar draws.]

[Yn parhau.]—wedi gostwng 1.4 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf a byddwn yn dweud y dylai Cymru fod yn haeddiannol falch o’i lle yn y byd. Mae rhai o’n llwyddiannau mwyaf sylweddol yn canolbwyntio ar gymdeithas gyfartal. O gyfreithiau Hywel Dda at weledigaeth Aneurin Bevan, mae ein system addysg yn seiliedig ar yr un egwyddorion—system gynhwysfawr dda i bawb, waeth beth fo’u cefndir. Dyma’r hyn yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef yn ein rhaglen lywodraethu.

Thank you and happy St David’s Day.

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl?

I’ll thank everybody who’s taken part in the debate today. The Minister points to where she believes we are doing well. We’re right to celebrate our successes. We’re right that we should highlight successes and the achievements of great ordinary men and women in Wales across the public and the private sectors.

I’m glad to hear the Minister saying that more could be done, but I hear the echo from around Wales saying, ‘Well, do more, then’, because Government, of course, is in the position where you are able to take action. Government can set a tone for a nation. Government can set the context in which ambition and innovation, and by that I mean real ambition and innovation—. It can set the context for when that can become the norm, can become the default, and that is what I am waiting for from Government.

I’ll turn to Jeremy Miles’s comments on GVA. Thank you for focusing on GVA. You’re right that it is by no means the only measure, that it doesn’t tell the whole story, but, whilst inequalities have persisted in the UK for too long—we are in agreement on that—we have not always languished at the bottom of the pile, a point reiterated by the leader of UKIP here. I find myself in the unusual position of being in agreement with him on one comment he made, in that he believes that, if Wales were to choose to go down an independent path, it could become a successful nation. It’s tantalising, isn’t it? The difference is that I’m excited about that and he, despite making that assertion, would rather it didn’t happen. That doesn’t seem particularly logical to me.

But back to GVA: as a comparator of where we stand in comparison with others—competitors, if you like, in the positive sense of the term—it is a very useful tool; it’s very valid. I’m glad he said that we shouldn’t ignore GVA. I would remind him, of course, that the Government amendment seeks to remove our reference to GVA whilst replacing it with unemployment figures, as if that tells the whole story—I’m sure that the Member would agree with me that it doesn’t.

Thank you to Dai Lloyd, Llyr Gruffydd and Simon Thomas for going into detail about some of our proposals about where we could go in future. Thanks to Paul Davies—we will not agree always on how to reach our goal as a nation, but I am grateful for the support for our motion today and for that agreement that Government somehow needs to set a higher bar.

We need ambition and we need political will if we’re going to build on our ambition for a healthier, wealthier and well-educated Wales—that’s a phrase that reminds me of our manifesto for last year. The manifesto that Plaid Cymru stood on for the National Assembly elections was for a well-educated and wealthier Wales. We’re proud to be innovators in this party. We don’t want to have a monopoly on innovation, but we will continue to outline our positive vision to achieve that ambition. Let’s set that bar higher and let’s aim for it. Dydd Gŵyl Dewi hapus, bawb.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 6. Dadl UKIP Cymru: Contractau Dim Oriau

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7 yn enw Rhun ap Iorwerth, gwelliant 2 yn enw Paul Davies, a gwelliant 6 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar gontractau dim oriau, ac rwy’n galw ar David Rowlands i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6244 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu, er y gall contractau dim oriau fod o fantais i gyflogwyr a gweithwyr o ran y rhyddid a'r hyblygrwydd y gallant ei gynnig, gallant hefyd greu problemau o ran incwm sefydlog, sicrwydd o ran cyflogaeth, statws cyflogaeth a'r cydbwysedd o ran y pŵer rhwng cyflogwr a chyflogai.

2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol;

3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio.

4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i:

a) creu bywyd o straen;

b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol;

c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol;

d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth; ac

e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Dros y 17 mlynedd ddiwethaf, mae’r DU wedi gweld toreth enfawr o gontractau dim oriau, gan godi o lai na 200,000 yn y flwyddyn 2000 i bron 1 filiwn heddiw. Mae’r cynnydd digyffelyb hwn yn cyd-daro’n uniongyrchol â’r ffenomen o fewnfudo torfol heb ei reoli yn ystod y blynyddoedd hynny.

Mewn gwirionedd, mae’r term ‘contract dim oriau’ yn gamarweiniol—nid yw’n gontract o gwbl. Mae contract yn offeryn a luniwyd gan y sawl a’i llofnoda sy’n dynodi cytundeb rhwng y ddau barti. Nid yw’r contract cyflogaeth hwn fel y’i gelwir yn unrhyw beth o’r fath, gan ei fod yn gwbl unochrog. Nid yw’n cynnwys unrhyw un o’r mesurau diogelu gweithwyr a ymgorfforir fel arfer mewn dogfen o’r fath—yn wir, mae’n gwneud i’r gwrthwyneb yn llwyr mewn gwirionedd, gan ei fod yn cael gwared ar unrhyw hawliau a gysylltir fel arfer â chontract o’r fath. Yr hyn ydyw, a dweud y gwir, yw contract i gam-drin.

Defnyddir y contract dim oriau bron yn ddieithriad yn y farchnad lafur led-grefftus a heb sgiliau—yr union ran o’r farchnad lafur y derbynnir yn gyffredinol ei bod yn cael ei heffeithio fwyaf gan fewnfudo torfol. Cafwyd y ddadl ffug—a ledaenwyd yn y Siambr hon yn wir—ei fod yn borth i gyflogaeth. Wrth gwrs, nid yw’n ddim o’r fath. Cafodd contractau asiantaeth eu defnyddio ar gyfer cyfleoedd gwaith o’r fath, hyd nes y pasiwyd deddfwriaeth, wrth gwrs, i roi o leiaf rai o’r hawliau a fwynheir gan weithwyr dan gontract llawn i weithwyr asiantaeth.

Mae’r offeryn cyflogaeth hwn yn enghraifft berffaith o allu busnesau mawr a chorfforaethau rhyngwladol i osgoi unrhyw ddeddfwriaeth pan fo grymoedd y farchnad yn caniatáu iddynt wneud hynny. Mae mewnfudo torfol heb ei reoli wedi darparu marchnad o’r fath.

Dywedir bod llawer o bobl ddi-waith yn cael eu gorfodi i gymryd contractau dim oriau neu wynebu colli eu budd-daliadau. Nid oes rhyfedd fod gennym lefelau uwch nag erioed o dlodi mewn gwaith a chynnydd enfawr mewn banciau bwyd. Yn wir, addawodd y bersonoliaeth wleidyddol annwyl, Tony Blair, mor bell yn ôl â 1997 y byddai’n cael gwared ar y contractau hyn. Yn anffodus, fel cynifer o’i addewidion, rhethreg pur oedd y cyfan.

Cyfyngaf fy hun yn y ddadl hon i rai canlyniadau economaidd—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl y cewch ddigon o amser ar ôl i mi orffen.

Ar bwnc rhethreg wag, a wnaiff dderbyn y bydd pobl yn y Siambr yn ystyried sail y ddadl a’r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn hollol anhygoel, o ystyried bod eu harweinydd yn y Cynulliad yma wedi treulio gyrfa wleidyddol gyfan yn y Senedd yn beirniadu ac yn galw am ddadreoleiddio amodau gwaith? Rwy’n ofni y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn hollol anhygoel.

Dywedir bod llawer o bobl ddi-waith yn cael eu gorfodi i gymryd contractau dim oriau. Cyfyngaf fy hun yn y ddadl hon i ychydig o ganlyniadau economaidd mewnfudo torfol, ond daw â chamdriniaethau hyd yn oed yn fwy enbyd na’r rhai rwy’n ceisio’u hamlinellu yn ei sgil: masnachu pobl, camfanteisio rhywiol, cam-drin plant a hyd yn oed cysyniad sy’n anhygoel ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain—caethwasiaeth.

Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am y doreth enfawr o gyfleusterau golchi ceir ers dyfodiad yr hawl i bobl symud yn rhydd. Nid wyf yn ymddiheuro am dynnu sylw at y sefydliadau hyn eto am eu bod yn enghraifft amlwg o’r nifer enfawr o achosion o gamfanteisio y mae mewnfudo torfol heb ei reoli yn gyfan gwbl gyfrifol am eu creu. Sawl un yn y Siambr hon a fyddai’n fodlon gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am £3 yr awr? Mae’n warthus nad oes unrhyw awdurdod lleol, y rhan fwyaf ohonynt yng Nghymru yn cael eu rheoli gan y Blaid Lafur, wedi gwneud unrhyw ymdrech i gau’r sefydliadau ofnadwy hyn. Ac yn wir, nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi pwyso arnynt i wneud hynny. Mae fy ochr sinigaidd yn gwneud i mi feddwl tybed ai’r rheswm am hynny yw bod llawer yn y Siambr hon yn fodlon defnyddio’u gwasanaethau? Nodwch yma os gwelwch yn dda nad wyf yn siarad yn erbyn gweithwyr mudol, ond yn hytrach yn eu hamddiffyn. Nid wyf yn fodlon gweld pobl, pwy bynnag ydynt nac o ble bynnag y dônt, yn destun camfanteisio o’r math hwn.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd cyfranwyr i’r ddadl hon yn defnyddio’r un ddadl ffug fy mod i a fy mhlaid yn beio mewnfudwyr am bob problem bosibl yn y wlad hon. Drwy wneud hynny, maent yn ceisio mygu trafodaeth synhwyrol a gwybodus ar y pwnc. Maent wedi ceisio gwneud hyn byth ers i ni ym Mhlaid Annibyniaeth y DU gael yr hyfdra i ddod â’r pwnc i sylw’r cyhoedd, a hynny er gwaethaf y ffaith mai adlewyrchu pryderon y bobl o ran mewnfudo a wnaem, yn hytrach na’u harwain.

Roeddem yn adlewyrchu pryderon a fynegwyd wrthym dro ar ôl tro ar garreg y drws drwy Gymoedd de Cymru, yn ogystal â mewn llawer o ardaloedd dosbarth gweithiol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig—pryderon a anwybyddwyd yn llwyr gan yr holl bleidiau eraill. Yn wir, maent wedi gwneud popeth posibl i atal dadl o’r fath. Maent yn defnyddio’r cerdyn hiliol yn barhaus yn erbyn unrhyw un sy’n dangos pryder, pryder sy’n seiliedig yn unig ar niferoedd, nid ar hil, lliw na chrefydd. Ceir rhai yn y Siambr hon sy’n dal i geisio gwneud hynny; ymgais fwriadol i anwybyddu llais yr union bobl y maent yn honni eu bod yn eu cynrychioli ac yr effeithir arnynt fwyaf gan bwnc mewnfudo.

Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn dyst, yn gwbl briodol, i’r dicter mewn perthynas â Sports Direct a’u defnydd bron yn ddieithriad o gontractau dim oriau, ond mae corfforaethau eraill yn defnyddio’r contractau hyn yn yr un ffordd, gan gynnwys y cawr corfforaethol, McDonalds. Mae’r rhai sy’n gweithio o dan gontractau dim oriau yn ei chael yn amhosibl cael morgais. Nid yw natur ysbeidiol eu gwaith yn rhoi unrhyw sicrwydd o incwm, ac felly mae’n eu hatal rhag y posibilrwydd o fynd i mewn i’r farchnad prynwyr. Bydd rhai cwmnïau cyllid yn rhoi benthyciadau o dan gytundebau hurbwrcasu, yn bennaf oherwydd eu gallu i adfeddiannu eitemau a brynwyd yn y fath fodd, ac yn anffodus mae’n arwain yn aml iawn at gamau o’r fath yn cael eu cymryd. Mae diffyg diogelwch incwm yn arwain at fethu talu, heb fod unrhyw fai ar y benthyciwr, yn syml oherwydd eu bod yn mynd wythnosau neu hyd yn oed fisoedd heb gyflog. Felly, gellir ystyried bod contractau dim oriau yn creu bywyd o straen drwy effeithio’n negyddol ar gyllidebau teuluoedd a thanseilio hawliau cyflogaeth, a chymhlethu’r mynediad at gredydau treth a budd-daliadau eraill. Mae’r contractau dim oriau yn mynd â ni yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd gweithwyr yn cael eu gorfodi i ddod at giatiau’r dociau i gael, neu i beidio â chael, gwaith am un diwrnod. Nid oes lle iddynt ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain. Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn condemnio’n llwyr yr offeryn sinigaidd hwn ar gyfer camfanteisio ar weithwyr.

Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy’n galw ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Bethan Jenkins.

Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.

Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod ymdrechion gan Blaid Cymru i wahardd contractau dim oriau mewn gwahanol sectorau ar bum achlysur gwahanol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu trechu gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd at bwynt 4:

'arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.'

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o gontractau dim oriau ym mhob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn sicrhau bod y defnydd o gontractau dim oriau, gan gynnwys pennu hyn drwy unrhyw wasanaethau sy'n cael eu caffael, yn cael ei wahardd yn y Cynulliad.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4, 5 a 7.

Lywydd, rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd ym Mhlaid Cymru nid oes gennym ddim o gwbl i’w guddio neu i fod â chywilydd ohono mewn perthynas â’r mater pwysig o gefnogi pobl sy’n gweithio. Rydym yn gyson wedi cefnogi’r alwad i roi diwedd ar gontractau dim oriau camfanteisiol ac ansefydlog, ac rydym wedi defnyddio ein pleidleisiau yn y Siambr hon i brofi hynny. Mae’n eironig bod UKIP wedi ei gyflwyno ar gyfer y ddadl hon heddiw. Er gwaethaf ymdrechion diweddar UKIP i fabwysiadu wyneb adain chwith, mae’r gwir yn aml wedi’i guddio o dan yr wyneb. Yn wir, roedd maniffesto busnesau bach UKIP, a gyhoeddwyd ychydig o flynyddoedd yn ôl yn 2013, yn cynnig, ac rwy’n dyfynnu,

Byddai UKIP yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion megis oriau gweithio wythnosol, gwyliau... goramser, tâl diswyddo neu salwch ac ati ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, byr iawn.

Nid yw hynny, i mi, yn dangos ymrwymiad i ddeddfu o blaid y gweithwyr hyn, rhywbeth yr ydych wedi dweud y byddech yn dymuno ei wneud yn gynharach heddiw.

Rydym yn credu y buasai’r gwelliannau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth yn cynnig gobaith i’r miloedd yng Nghymru sy’n ennill hanner yn unig yr hyn y mae’r rhai ar gontractau sefydlog yn ei ennill. Rydym yn cynnig y gwelliannau hynny ar ran y menywod sy’n ffurfio dros hanner y nifer sydd ar gontractau dim oriau.

Nid ydym yn derbyn dadleuon y Torïaid a Llafur ynghylch yr angen am gontractau dim oriau neu eu natur anochel, ac rydym yn gwrthod dadleuon sy’n cyfeirio at newidiadau mewn patrymau gweithio fel tystiolaeth, fel pe bai hon yn broses naturiol mewn byd modern; yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw hynny’n wir. Yn y rhan fwyaf o achosion, efallai fod hyblygrwydd honedig y contractau hyn yn ddelfrydol i gyflogwyr sy’n cael eu gyrru gan elw a’r ysfa i dorri costau, ond gallant achosi gofid ac ansicrwydd mawr i weithwyr a’u teuluoedd.

Bydd yn ddiddorol gweld pa ffordd y bydd y Blaid Lafur yn pleidleisio heddiw. Ar bum achlysur gwahanol yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, fe wnaethant bleidleisio ochr yn ochr â’r Ceidwadwyr yn erbyn rhoi diwedd ar gontractau dim oriau. Fe wnaeth Llafur bleidleisio gyda’r Torïaid hyd yn oed yn erbyn gwelliant gan Blaid Cymru i wahardd y contractau niweidiol hyn yn y sector gofal yng Nghymru.

Diolch i chi am ildio. Tybed a fyddech yn cyfaddef bod hwnnw’n gyhuddiad annheg iawn, oherwydd ar yr achlysuron hynny, fe wnaethom bleidleisio am y byddai cynnwys contractau dim oriau wedi arwain at her yn y Goruchaf Lys i ddeddfwriaeth bwysig iawn ar bethau fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a’n bod bob amser wedi gwneud ein gwrthwynebiad yn glir i’r mathau hyn o drefniadau cyflogaeth.

Na fyddwn, mewn gwirionedd, oherwydd yn amlwg fe gyflwynasom y Bil cyflogau amaethyddol a gafodd ei herio yn y Goruchaf Lys, ac rwy’n credu, os ydych yn mynd i fod yn gosod yr agenda, yn wleidyddol ac yn bennaf, mae angen i ni wneud hynny gyda Bil yr undebau llafur. Byddwn yn cytuno bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth iawn drwy gyflwyno hwnnw, a byddwn wedi meddwl, ar faterion megis contractau dim oriau, y gellid ac y dylid bod wedi gwneud yr un fath, a byddwn yn gobeithio y byddai hynny’n cael ei adlewyrchu yn y modd y byddwch yn gweithredu yn y pum mlynedd nesaf yma yn y Cynulliad hwn.

Mae’r cynnydd dramatig yn nifer y contractau dim oriau yng Nghymru yn amlygu gwendid record Llafur ar ddiogelu hawliau gweithwyr yng Nghymru, ac yn arwydd cryf fod cyflogaeth ansicr a chyflogau isel yn dod yn nodwedd fwy amlwg o’r farchnad swyddi yma yng Nghymru.

Credwn fod angen i lwyddiant a lles gweithwyr ar draws Cymru fod yn absoliwt os ydym am wella ein heconomi. Nid ydym yn credu yn y ras i’r gwaelod ac nid ydym yn derbyn y dylai ein gweithwyr gael eu gorfodi i fyw gydag ansicrwydd ariannol. Ystyriwn ei bod yn warthus na all pobl weithgar yng Nghymru gael dau ben llinyn ynghyd am nad oes ganddynt unrhyw syniad a fyddant yn cael eu talu o un wythnos i’r llall. Rydym am weld Cymru lle y caiff gwaith ei wobrwyo’n briodol ac yn deg, lle y mae wythnos waith neu fis gwaith yn darparu digon i rywun i fyw arno a’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd i allu cynllunio ymlaen llaw yn ariannol. Mae’n rhaid i ni ddechrau drwy wneud yr ymrwymiadau hyn yma fel Cynulliad, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau yma heddiw.

Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Russell George.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod arferion cyflogaeth yn newid yn gyflym, gan gynnwys cynnydd mewn contractau dim oriau, hunangyflogaeth a gwaith 'gig' tymor byr.

Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth y DU i gael gwared ar achosion o gamddefnyddio contractau dim oriau, gan gynnwys gwahardd cymalau cyfyngu.

Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi comisiynu Adolygiad Taylor ar Arferion Cyflogaeth Modern a fydd yn ystyried goblygiadau mathau newydd o waith i hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig yn ffurfiol yn enw Paul Davies, a’u hamcan yw cydnabod y gwaith helaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU ar gontractau dim oriau, realiti nad yw, wrth gwrs, wedi’i adlewyrchu yn y cynnig.

Hoffwn wneud rhai pwyntiau a rhoi rhai o’r materion mewn persbectif yn y ddadl hon heddiw. Un peth i’w gydnabod yw bod arferion cyflogaeth wedi newid yn gyflym, wrth gwrs, yn y blynyddoedd diwethaf ac mae llai na 3 y cant o gyfanswm y gweithlu ar gontractau dim oriau. Ers 2010, mae cyflogaeth wedi cynyddu bron i 3 miliwn; mae hynny’n rhywbeth y credaf y gall pawb ei ddathlu. Fe nododd ac fe ddathlodd arweinydd y tŷ y ffaith honno yn y ddadl ddiwethaf y prynhawn yma wrth gwrs. Nawr, mae tri chwarter y cynnydd hwn wedi bod mewn cyflogaeth amser llawn; cafwyd cynnydd o 2 filiwn ers 2010 yn nifer y bobl sy’n gweithio amser llawn. Wrth gwrs, er nad ydynt yn addas i bawb, byddwn yn dadlau bod rhan gan gontractau dim oriau i’w chwarae mewn marchnad lafur hyblyg fodern, oherwydd i gyfran fach o’r gweithlu, efallai mai dyna’r math o gontract sy’n iawn iddynt hwy, os ydynt am strwythuro eu gwaith o amgylch gofal plant neu addysg, er enghraifft.

Nawr, ar gyfartaledd, mae’r bobl ar y contractau hyn—

Diolch. Os edrychwch ar y data ar gyfer y rhai sydd ar gontractau dim oriau, a fyddech yn cytuno bod nifer yn gwneud dwy neu dair o swyddi ac yn ceisio gweithredu ar y sail honno, ac nid yw llawer ohonynt yn ei wneud o ddewis—maent yn ei wneud am mai dyna’r unig beth sydd ar gael iddynt?

Nid wyf yn credu y byddwn yn cytuno â hynny, oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl ar y contractau hyn yn gweithio cyfartaledd o 25 awr yr wythnos. Nid yw bron 70 y cant o’r bobl hyn eisiau mwy o oriau. Felly, dyna beth y byddwn i’n ei ddweud.

Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu wedi dweud y gall y contractau hyn fod o fudd, wrth gwrs, i’r cyflogwr a’r gweithiwr. Nawr, wedi dweud hynny, mae’n amlwg yn bwysig sicrhau nad yw cyflogwyr diegwyddor yn camfanteisio ar y rhai sy’n elwa o hyblygrwydd y contractau hyn. Wrth gwrs fy mod yn cytuno â hynny. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi camau ar waith ac yn awr yn adolygu a yw’r rheolau cyflogaeth yn gyson â newidiadau yn yr economi, yn enwedig ar gyfer y rhai nad oes ganddynt berthynas gyflogaeth draddodiadol. Yn 2015 deddfodd Llywodraeth y DU dros newid mewn perthynas â chontractau dim oriau, ac mae bellach yn anghyfreithlon, wrth gwrs, i gyflogwyr gynnwys cymalau cyfyngu yn y contractau hyn. I mi, rwy’n credu bod hwnnw’n gam i’w groesawu sy’n golygu bod pobl yn rhydd i chwilio am, a manteisio ar gyfleoedd gwaith arall a chael mwy o reolaeth dros eu horiau gwaith a’u hincwm. Hefyd, gall unigolion ar y contractau hyn wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth os ydynt yn dymuno, os yw’r cyflogwr yn eu yn cam-drin yn y ffordd honno, neu am chwilio am waith yn rhywle arall.

Nawr, mae adolygiad annibynnol Taylor ar arferion cyflogaeth modern o dan arweiniad prif weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a’r cyn uwch-ymgynghorydd Llafur, Matthew Taylor, yn ystyried contractau dim oriau ymhellach a bydd yn asesu a yw ein rheolau cyflogaeth yn gyson â’r newidiadau yn yr economi, megis twf mewn hunangyflogaeth, gweithio ar alwad a’r arfer o gontractio yn hytrach na llogi. Felly, wrth gwrs, rwy’n gobeithio—rwy’n gobeithio—y bydd yn gwneud argymhellion ynglŷn â sut i gynnal yr hyblygrwydd cyflogaeth, sy’n hanfodol yn fy marn i ar gyfer economi fodern, ac ar yr un pryd yn cefnogi sicrwydd swydd, hawliau yn y gweithle a chyfleoedd. Rwy’n meddwl y gellir cyflawni hynny. Felly, rwy’n credu ei bod yn iawn i edrych ar sut y caiff y cytundebau hyn eu defnyddio’n ymarferol, a mynd i’r afael ag unrhyw dystiolaeth o broblemau neu gamdriniaeth. Dyna fyddai fy marn i, a dyna’n union y credaf y mae adolygiad Taylor yn ei wneud, ac rwy’n cefnogi’r ymagwedd honno.

Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i gymryd rhan mewn dadl ar amodau gwaith a chyflogau. Y rheswm dros fodolaeth y Blaid Lafur a pham y cafodd ei ffurfio yn y dechrau oedd i amddiffyn gweithwyr rhag camfanteisio.

O ran cyflogaeth, mae pethau wedi newid, ac nid er gwell, i’r rhan fwyaf o weithwyr dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Yn y 1970au, y disgwyl oedd cyflogaeth amser llawn, naill ai am dâl neu gyflog mewn swydd, os nad am oes, yna hyd nes y byddech yn dymuno symud ymlaen. Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr mawr yn gwbl undebol, gyda chyfraddau goramser ar amser a hanner a thâl dwbl ar gyfer dydd Sul, ac os oedd yn rhaid i chi weithio sifftiau rheolaidd, roedd yna dâl sifft atodol, a oedd oddeutu 30 y cant o’r cyflog sylfaenol yn gyffredinol. Mae’n debyg y bydd yn syndod i lawer iawn o bobl sy’n gweithio heddiw fod amodau o’r fath yn bodoli, yn sicr o fewn oes llawer ohonynt.

Yn ogystal â dinistrio diwydiannau cyfan, aeth y Llywodraeth Geidwadol ati i wneud y farchnad lafur yn fwy ysbeidiol. Fe’i disgrifiwyd fel gweithlu hyblyg, ond yr hyn a olygai oedd telerau ac amodau gwaeth ar gyfer y gweithlu. Hyn, ochr yn ochr â’r ymosodiad milain ar gydfargeinio a’r undebau llafur, sydd wedi arwain at yr amodau cyflogaeth sy’n bodoli heddiw. Heddiw, mae’r byd gwaith yn wahanol iawn i un y 1970au, gyda thwf contractau dim oriau neu gontractau oriau isel gwarantedig, yn ogystal â nifer fawr o weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig.

Ceir rhannau o’r economi lle y mae pob un o’r rheini’n addas i gyflogwyr a gweithwyr: ar gyfer contractau dim oriau, pethau fel digwyddiadau chwaraeon afreolaidd, fel y bobl sy’n gweithio y tu ôl i’r bar yn Stadiwm Liberty unwaith bob pythefnos. Nawr, mae hynny’n amlwg yn mynd i fod yn afreolaidd am nad ydynt ond yn chwarae yno unwaith bob pythefnos. Byddai’n afresymol i unrhyw un ddisgwyl i honno fod yn swydd amser llawn—i bobl ddod yno am 35 awr, neu hyd yn oed bob dydd Sadwrn, pan nad oes gêm ond unwaith bob pythefnos. Ond cânt eu defnyddio’n llawer ehangach nag mewn llefydd fel hynny. Mae contractau dim oriau yn gweithio ar gyfer pethau felly. Ac mae gweithwyr asiantaeth yn llenwi bwlch sgiliau. Yn wir, arferai gweithwyr asiantaeth fod yn bobl y telid llawer o arian iddynt mewn meysydd fel peirianneg a chyfrifiadureg, telid symiau sylweddol o arian iddynt am wneud y gwaith. Yn anffodus, mae hynny wedi newid. Ac isgontractwyr hunangyflogedig ar gyfer anghenion tymor byr, ac oriau isel gwarantedig i gyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu. Yn anffodus, nid dyna’r unig reswm y caiff y mathau uchod o gontractau eu defnyddio.

Gall contractau dim oriau, nad ydynt yn cynnig unrhyw leiafswm oriau gwarantedig o waith, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr fod ar gael i weithio ar bob adeg a rhoi rheolaeth lwyr i gyflogwr dros faint o waith y bydd pob gweithiwr yn ei gael bob wythnos. Dyma fersiwn yr unfed ganrif ar hugain o’r docwyr yn gorfod ciwio i gael eu galw ar gyfer gwaith, ond nad oes rhaid i chi giwio mwyach, rhaid i chi aros am neges destun yn lle hynny. Ond dyma’r un broses, i bob pwrpas, o aros am alwad i weithio gan eich cyflogwr. Mae oriau isel gwarantedig, sy’n gyffredin iawn mewn meysydd fel manwerthu, o un awr y dydd dros gyfnod o bump neu chwe diwrnod, yn debyg iawn i gontractau dim oriau, ond mae’n rhaid i bawb glocio i mewn, am 8 o’r gloch neu 9 o’r gloch, fel y gall y cyflogwr benderfynu pa mor hir y bydd angen iddynt weithio. Mae hyn, mewn sawl ffordd, yn achosi mwy o broblemau na chontractau dim oriau hyd yn oed, am nad yw pobl yn gwybod faint o arian y maent yn mynd i’w ennill bob wythnos, ac mae hynny’n achosi problemau enfawr—mae’n rhan o’r galw am fanciau bwyd, rhan o’r galw am bopeth. Un wythnos bydd pobl yn gweithio 40 awr, yr wythnos nesaf, byddant yn gweithio eu lleiafswm o chwech. Ni allwch fyw fel hynny. Mae’n hawdd i’r bobl sy’n eistedd yma, sy’n cael eu cyflog wedi’i dalu bob mis, fethu deall yn union pa mor ddrwg yw hi ar y bobl hynny sy’n byw bywydau fel hyn. Ar rai dyddiau byddant yn mynd i mewn ac yn gweithio un awr, o wyth i naw yn y bore, ac ar ddiwrnod arall byddant yn gweithio wyth tan naw, ond naw yn y nos fydd hynny. Ac yn lle rhannu’r gost o lwyth gwaith amrywiol rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr, caiff ei hysgwyddo’n llwyr gan y gweithiwr. Mae gan weithwyr asiantaeth ac isgontractwyr hunangyflogedig yr hyn sy’n cyfateb i gontractau dim oriau, ond heb isafswm cymorth cyflogaeth hyd yn oed. Mae’r uchod yn esbonio pam y mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru hefyd yn gweithio.

Os caf fi ddweud, o 1 Ebrill 2016, fe ailenwodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yr isafswm cyflog yn ‘gyflog byw’, a chyflwyno cyflog byw cenedlaethol gorfodol ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn. Rwy’n credu ei fod wedi cael ei wneud er mwyn peri dryswch yn y bôn. Ailenwi’r isafswm cyflog yn ‘gyflog byw’ pan oedd gennym gyflog byw eisoes. Rwy’n falch iawn o wisgo’r bathodyn cyflog byw yma heddiw—bathodyn y cyflog byw go iawn—ac ni allaf ddeall pam y byddai unrhyw un yn cefnogi talu llai i bobl nag y mae’n costio iddynt fyw. Rwy’n credu y dylid talu cyflog byw i bawb, fel y’i diffinnir gan y Sefydliad Cyflog Byw. Nid wyf yn credu ei bod yn synhwyrol i Lywodraeth orfodi isafswm cyflog y mae hi ei hun yn gwybod nad yw’n ddigon i bobl fyw arno—

Nid oes gennyf ond 17 eiliad, yn anffodus, Darren. Dylem gael uchelgais i greu Cymru ag economi sgiliau uwch a chyflogau uchel, a dylai ddod yn wlad cyflog byw. Dyna sydd yn rhaid i ni ei wneud. Mae ‘Ni allwn ei fforddio’ a ‘Bydd yn arwain at golli swyddi’ wedi bod yn ddadleuon yn erbyn pob newid blaengar o ddiddymu caethwasiaeth i’r isafswm cyflog.

Anghofiais alw gwelliant, felly gwell hwyr na hwyrach, galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 6 yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 6—Jane Hutt

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol.

Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 6.

Diolch, Lywydd. Gan siarad fel Comisiynydd Cynulliad, hoffwn ei gwneud yn glir nad oes unrhyw un o staff y Comisiwn ar gontract dim oriau—mae hwnnw’n bolisi hirsefydlog. Mae’r un peth yn berthnasol i’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan ein contractwyr megis CBRE, Charlton House a TSS. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn nodi bod yn rhaid talu o leiaf y cyflog byw i weithwyr, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw, yn ein contractau glanhau ac arlwyo a chymalau cydraddoldeb yn ein telerau ac amodau contract. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai ein contractwyr ddefnyddio staff trydydd parti ar gontractau dim oriau. Fodd bynnag, eithriad yn hytrach na’r rheol yw hyn i raddau helaeth iawn.

Fel Comisiynwyr, rydym i gyd yn credu y dylem fod yn hyrwyddo ac yn cynnal safonau uchel cyson yn ein harferion cyflogaeth, fel cyflogwr ein staff ein hunain ac wrth ymrwymo i gontractau. Mewn cyfarfod diweddar o’r Comisiwn, gofynnodd y Comisiynwyr i swyddogion edrych eto ar ein dull o geisio sicrwydd ynglŷn â threfniadau cyflenwyr o ran telerau ac amodau gweithwyr, gan gynnwys drwy ein hisgontractwyr. O ganlyniad, rydym yn cyflwyno cymal ychwanegol i’n telerau ac amodau, yn nodi y byddwn yn gweithio gyda chontractwyr i fonitro a sicrhau arferion cyflogaeth teg. Y tu hwnt i hyn, bydd staff y Comisiwn yn ystyried, ar sail contractau unigol, pa gymalau penodol ychwanegol i’w cyflwyno i helpu i ddiogelu a hyrwyddo arferion cyflogaeth teg. Diolch yn fawr.

Yr wythnos diwethaf ymwelais â fy swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol yn lleol, ac roedd yr holl siarad am y ffordd y mae cwmnïau preifat yn bwyta i mewn i’r rhannau proffidiol o’u busnes, tra’u bod yn parhau i fod dan rwymedigaeth i ddarparu’r gwasanaeth post cyffredinol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar yr ysglyfaethwyr hyn i gydymffurfio â’r tâl a’r amodau y mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi brwydro drostynt dros y blynyddoedd, ac yn anffodus, maent yn camfanteisio ar nifer fawr o bobl ifanc ddi-waith a thlawd drwy gynnig pecynnau cyflogaeth sy’n llawer mwy israddol na’r hyn a gynigir yn gyfatebol gan y Post Brenhinol. Cânt eu talu yn ôl nifer y pecynnau y cânt wared arnynt, ni waeth a oes unrhyw un adref, neu le diogel i adael y parsel. Esboniodd darparwr a fu’n gweithio dan gudd i TNT,

Gwrthodwyd unrhyw oriau gwaith sefydlog i mi, a chefais fy ngorfodi i hwrjo am waith y diwrnod wedyn ar sail ddyddiol bron. Weithiau mentrais ddod i mewn fel "gweithiwr cyflenwi", gan gyrraedd y depo am 7.30 y bore yn y gobaith y byddai rhywun wedi rhoi’r gorau iddi er mwyn i mi gael eu rowndiau.

Wrth gwrs, hyd yn oed os nad oeddent yn cael y gwaith, byddai’n rhaid iddynt dalu am drafnidiaeth i gyrraedd y gwaith.

Mae hyn yn atgoffa rhywun yn glir o ansicrwydd gweithwyr y dociau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, gweithwyr a gâi eu gorfodi i gystadlu â’i gilydd bob dydd am y cyfle i gael gwaith, gyda’r holl effaith niweidiol a gâi hynny ar eu hincwm teuluol a’u bywyd teuluol. Mae cwmnïau fel Amazon yn camfanteisio ar y rhwymedigaeth gyffredinol i ddosbarthu er mwyn dadlwytho’r rowndiau dosbarthu lleiaf deniadol ar y Post Brenhinol, gan ddewis a dethol ar yr un pryd y rowndiau dosbarthu hawsaf a mwyaf crynodedig, a chan ddefnyddio proses fonitro perfformiad y Post Brenhinol ei hun i fonitro pa mor gyflym y dosbarthwyd parseli Amazon er mwyn nodi’r mannau lle y gallant elwa fwyaf. Gallwch fod yn sicr y bydd holl yrwyr dosbarthu Amazon ar gontractau dim oriau.

A bod yn onest, mae hwn yn fodel busnes anghynaliadwy i’r Post Brenhinol, a dylem i gyd boeni y bydd, yn y pen draw, yn arwain at danseilio rhwymedigaeth gyffredinol y gwasanaeth post sydd, os cofiwch, yn dod i ben yn 2022. Os yw cymdeithas yn mynd i barhau i wybod pris popeth a gwerth dim byd, dyna sy’n mynd i ddigwydd, yn ddi-os.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gwelwyd y cwymp mwyaf estynedig ers 70 mlynedd mewn cyflogau real o dan y drefn hon. Yn ôl yr hyn a ddywedant, mae dros 400,000 o bobl dros 25 oed wedi bod ar gontractau dim oriau gyda’r un cyflogwr ers dros 12 mis. O ystyried pa mor gyson y maent wedi bod yn dod i’r gwaith, mae’r lefel hon o ansicrwydd yn gwbl annerbyniol yn fy marn i. Mae Sefydliad Resolution yn nodi mai 93c yr awr yw’r gosb i weithwyr dim oriau sy’n gwneud yr un gwaith â’r rhai ar gontractau parhaol. Felly, hoffwn awgrymu bod yn rhaid i ni atgoffa ein hunain fod gweithwyr yn y DU ar hyn o bryd yn dibynnu ar ddeddfwriaeth yr UE am lawer o hawliau a mesurau diogelu yn y gwaith. Ac er bod Llywodraeth y DU wedi addo y bydd hawliau o’r fath yn cael eu trosglwyddo i gyfraith Prydain, mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain fod y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu llawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu hyn yr ymdrechwyd mor galed i’w hennill pan gawsant eu cyflwyno gyntaf ac wedi eu diystyru fel biwrocratiaeth.

Nawr, mae UKIP, sydd wedi cynnig y cynnig hwn, fel y nododd Jeremy Miles, wedi dweud yn y gorffennol y byddent yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion fel oriau gwaith wythnosol, gwyliau a gwyliau goramser, tâl diswyddo neu salwch, ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, tymor byr iawn. Dyna oedd yn eich maniffesto busnesau bach yn 2013, felly rwy’n awyddus iawn, wrth i chi grynhoi, i gael gwybod beth yw graddau eich tröedigaeth Ddamascaidd a—[Torri ar draws.] Wel, dyna ydoedd mewn—. Wel, dyna—.

Felly, mewn ymateb i Bethan Jenkins, nid wyf yn cytuno mai Plaid Cymru yn unig a gynigiodd gontractau dim oriau. Hoffwn eich atgoffa, yn etholiad 2015, fod y Blaid Lafur wedi addo hawl gyfreithiol i weithwyr i gontract rheolaidd ar ôl 12 wythnos o waith. Ym mis Awst y llynedd, addawodd Jeremy Corbyn gyflwyno deddfau tebyg i’r hyn sydd gan Seland Newydd yn gorfodi cyflogwyr i roi oriau gwarantedig mewn contract ysgrifenedig i weithwyr. Mae Seland Newydd yn dangos yr hyn y gellir ei wneud, ac mae’r gyfraith yn gorfodi cyflogwyr i warantu isafswm o oriau o waith bob wythnos, a gall gweithwyr wrthod oriau ychwanegol heb ôl-effeithiau. Nid dyna’r sefyllfa i weithwyr dim oriau yn y wlad hon wrth gwrs. Yn anffodus, Canol Caerdydd sydd â’r gyfran uchaf o weithwyr dim oriau yn unrhyw le yng Nghymru. Os yw pobl hyd yn oed yn cwestiynu’r math o oriau y maent yn eu gweithio, gwrthodir sifftiau iddynt neu fygwth torri eu horiau. Mae’r lefel hon o hyglwyfedd ac ansicrwydd yn achosi problemau iechyd meddwl mawr, yn ogystal â chaledi gwirioneddol, gan nad oes modd i bobl wybod a yw eu cyflogau’n mynd i fod yn ddibynadwy, ac a ydynt yn mynd i allu talu’r cyflogau yr wythnos ganlynol. Felly, rwy’n meddwl bod angen diddymu contractau dim oriau.

Mae mater contractau dim oriau yn un mawr i lawer o bobl yn y farchnad swyddi yng Nghymru; felly, rwy’n croesawu’r ddadl a gyflwynwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod David Rowlands. Polisi UKIP ledled y DU, fel yr amlinellwyd ym maniffesto etholiad cyffredinol 2015, yw rhoi terfyn ar gamddefnyddio contractau dim oriau. Nid ydym yn galw heddiw am waharddiad llwyr gan ein bod yn cydnabod y gall rhai gweithwyr gael budd ohonynt, ond i’r rhan fwyaf o weithwyr mae’r contractau hyn yn creu rhyw fath o ansicrwydd a phryder. Felly, mae angen i ni archwilio a oes unrhyw ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn drwy’r Cynulliad.

Mae un cwestiwn perthnasol yn y cyswllt hwn yn ymwneud â chymhwysedd cyfreithiol. A oes unrhyw ran o gyfraith cyflogaeth yn dod yn briodol o fewn cymhwysedd y Cynulliad? Mae’r farn i’w gweld yn amrywio ar y pwynt hwn, ond gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio treialu Bil yr Undebau Llafur (Cymru) drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd, byddwn yn bwrw ymlaen heddiw ar sail y sicrwydd y mae’r Gweinidog cyllid, Mark Drakeford, wedi’i roi: fod gan y Cynulliad gymhwysedd dros gyflogaeth yn y sector cyhoeddus; er, mewn gwirionedd, efallai nad yw’r achos hwnnw wedi’i brofi. Felly, os yw’n wir fod gan y Cynulliad gymhwysedd yn y maes hwn, yna mae lle i ddeddfwriaeth yn y lle hwn ar gontractau dim oriau. Yna, rhaid i ni sefydlu’r canlynol: un, a oes camddefnydd eang o gontractau dim oriau gan gyflogwyr? Dau, a yw’r camddefnydd hwn yn digwydd yng Nghymru ac yn y sector cyhoeddus? A thri, beth y dylem ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon os yw’n bodoli?

Roedd arolwg a gynhaliwyd yn 2013 gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn holi cyflogwyr ynglŷn â’u defnydd o gontractau dim oriau. Dywedodd un o bob pump o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio contractau dim oriau er mwyn osgoi costau i’w cwmni eu hunain, yn hytrach nag er budd y gweithiwr. Roedd tystiolaeth hefyd, pan gafodd hawliau cyflogaeth eu cryfhau i weithwyr asiantaeth, fod cyflogwyr wedi dechrau cyfyngu ar eu defnydd o gontractau asiantaeth o blaid mwy o ddefnydd o gontractau dim oriau.

Ceir tystiolaeth hefyd fod hyn yn digwydd yn y sector cyhoeddus. Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Cymru bapur ymchwil yn ymchwilio i’r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Canfu fod 56 y cant o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn defnyddio contractau dim oriau, er i ni gael ein sicrhau nad oedd Llywodraeth Cymru ei hun yn gwneud hynny. Ysywaeth, 18 mis yn ddiweddarach, cafodd yr honiad ei wrthbrofi wrth i BBC Cymru ddatgelu bod glanhawyr nos ym Mharc Cathays ar gontractau dim oriau. Daeth hyn yn fuan ar ôl ffrae am Gyngor Sir Fynwy yn cyflogi 320 o bobl ar gontractau dim oriau.

Hefyd ceir problem mewn perthynas â chwmnïau sy’n cyflwyno tendrau llwyddiannus am gontractau gyda chynghorau. Yn aml, mae gan gynghorau yng Nghymru bolisïau i beidio â dyfarnu contractau i gwmnïau sy’n defnyddio contractau dim oriau, ond yn aml, nid yw hyn ond yn berthnasol i brif gontractwyr. Bydd y prif gontractwyr hyn yn defnyddio isgontractwyr sydd, mewn llawer o achosion, yn defnyddio contractau dim oriau fel mater o drefn. Felly, mae angen archwilio hyn hefyd. Os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i amddiffyn hawliau undebau llafur, fel y maent yn ei argymell ar hyn o bryd, yna efallai y gallant hefyd edrych eto ar yr ochr arall i’r geiniog, sef gweithwyr sy’n gweithio’n anfoddog ar gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon. Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud fy mod yn credu ei bod yn eironig fod UKIP wedi cyflwyno’r ddadl hon. Pan feddyliwch am y gwelliannau sylweddol enfawr mewn cydraddoldeb cyflog, diogelwch rhag gwahaniaethu, gofal plant, absenoldeb rhiant, gofal am fenywod beichiog a gofal am famau newydd y mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi eu rhoi i ni, a’r ffaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu’r holl welliannau gwych hynny, rwy’n credu ei bod yn eironig iawn fod UKIP wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw.

Roeddwn eisiau defnyddio’r cyfle i edrych ar berfformiad y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn y maes hwn. Daeth i fy sylw fod llawer o ddefnydd yn rhai o’n cyrff hyd braich o’r hyn y maent yn eu galw’n ‘oriau cyfun’—neu fod ‘yn y gronfa’, fel y defnyddir yr ymadrodd. Deallaf fod o leiaf 40 aelod o staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn y gronfa, sy’n debyg iawn i fod ar gontract dim oriau. Roeddwn yn awyddus iawn i dynnu sylw at hynny yma, oherwydd gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu’n galed i fynd i’r afael â’r math hwn o beth gyda’r canllawiau y mae wedi’u rhoi, ond roeddwn am dynnu sylw at rai o’r problemau y mae hyn yn ei achosi. Oherwydd nid oes gan staff ar gontractau o’r fath hawl i unrhyw fath o dâl salwch, er bod y rhan fwyaf o’r staff ar oriau rhan-amser fan lleiaf ac eraill bron ar oriau amser llawn, ac rwy’n gwybod bod yna ddiwylliant o staff yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i’r gwaith yn fuan ar ôl salwch am eu bod yn poeni am ddiffyg tâl, a hefyd yn poeni am sicrwydd swydd a chael eu hystyried yn annibynadwy. Rwyf hefyd yn deall, wrth dderbyn contract oriau cyfun, fod staff i fod i gael gwybod y gallant wneud cais am gontract ffurfiol ar ôl tri mis. Ond hoffwn gael gwybod a yw staff yn cael gwybod y cânt wneud hyn ar ôl tri mis mewn gwirionedd, ac a ydynt yn cael gwybod am unrhyw swyddi gwag sydd ar y ffordd. Oherwydd mae’n ymddangos bod cyn lleied o bobl ar gontractau amser llawn fel bod pryderon nad oes digon o staff i wneud gwiriadau penodol mewn rhai o’r cyrff hyd braich. Y broblem fawr arall, rwy’n meddwl, yw nad yw staff ar gytundebau oriau cyfun yn derbyn fawr iawn o hyfforddiant, gan gynnwys—os meddyliwch pa mor bwysig yw peth ohono—hyfforddiant diogelwch tân.

Rwy’n credu ei fod wedi’i ddweud yma’n gyffredinol eisoes am y problemau enfawr sy’n wynebu pobl mewn ansicrwydd o’r fath, am y lefelau straen, a’r anallu i gael morgais. Rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i bob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sy’n cynnwys y gallu i staff ofyn am adolygiad o’u trefniadau gweithio gyda golwg ar newid eu contract os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd, er enghraifft, a allai fod cyn lleied â phedair awr yr wythnos dros gyfnod parhaus o dri mis. Yn ogystal, mae’r canllawiau hyn yn dweud y dylid pennu rheolwr llinell a enwir i’r staff, dylai staff allu cymryd gwyliau blynyddol a dylai fod gweithdrefnau clir i adael i staff symud i rolau parhaol a/neu wneud cais am swyddi gwag parhaol lle y ceir cyfleoedd i wneud hynny.

Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i fynd ar drywydd yr agenda hon mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig canfod a yw cyrff sy’n cael eu hariannu o bwrs y wlad yn dilyn y canllawiau hyn, ac nad ydynt yn dibynnu fwyfwy ar aelodau o staff yn y gronfa. Roeddwn yn meddwl tybed a geir mecanweithiau i’r Llywodraeth allu gwirio beth sy’n digwydd mewn cyrff o’r fath. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth iddi gyfrannu, yn dweud ei bod yn flaenoriaeth fod y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal yn y gweithle.

Yn y datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pwysleisiwyd y disgwyliad clir na ddylid defnyddio trefniadau oriau heb eu gwarantu heblaw mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl, ac na ddylai eu defnydd fod yn benagored. Gan gadw mewn cof y gallai rhai o’r cyrff cyhoeddus a gyllidir gennym fod yn defnyddio oriau heb eu gwarantu ar hyn o bryd, tybed a ddylai fod cynnig i ddwyn ymlaen yr adolygiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud ei fod yn bwriadu ei gynnal yn 2018 i weld a yw canllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu gweithredu.

Felly, rwy’n awyddus i ddefnyddio’r cyfle hwn i dynnu sylw at y materion hyn a allai fod yno yn y cyrff datganoledig hyn ac yn gobeithio y gall y Llywodraeth fwrw golwg i weld pa gynnydd sy’n cael ei wneud. Diolch.

Mae contractau dim oriau wedi bod o gwmpas ers amser hir, ac wedi bod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr gyda’u hyblygrwydd. Fodd bynnag, ers 2004, gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y contractau dim oriau. Felly, pam y cynnydd?

Mae cyflogwr sy’n ymateb i ddeddfwriaeth newydd yn debygol o ofyn, ‘A yw’n berthnasol i mi ac os felly, sut y gallaf ei hosgoi a sut y gallaf leihau ei chost?’ Mae rhai o’r bobl a oedd o blaid aros yn yr UE yn honni mai dim ond yr UE sy’n diogelu hawliau gweithwyr. Wel, mae gennyf newyddion i chi: mae cyfarwyddebau cyflogaeth yr UE yn destun blynyddoedd o ymgynghori. Mewn geiriau eraill, mae lobïwyr sy’n cael eu cyflogi gan ddiwydiant yn gweithio’n galed i ymgorffori eithriadau a thyllau ynddynt, megis cyfnodau cymhwyso. Nid yw cyfnodau cymhwyso mewn deddfwriaeth ond yn arwain at derfynu cyflogaeth gweithiwr cyn diwedd y cyfnod cymhwyso hwnnw.

Erbyn hyn mae gennym dri chategori o weithwyr: cyflogeion, yr hunangyflogedig a thrydydd cysyniad yn y canol, sef gweithiwr, diolch i’r UE i raddau helaeth—ac mae gan bob un ystod eang o hawliau ynghlwm wrth eu categori. Mae’r categori y bydd gweithiwr yn perthyn iddo yn pennu hyd a lled ei hawliau. Ysgogiad mawr i’r cynnydd mewn contractau dim oriau a chamddefnyddio contractau cyflogaeth yw awydd cyflogwyr i leihau’r posibilrwydd y caiff gweithiwr ei ystyried yn gyflogai. Ysgogiad arall yw awydd cyflogwyr i sicrhau bod unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â hawliau rhai nad ydynt yn gyflogeion yn cael eu lleihau.

Mae’r tribiwnlys apelau cyflogaeth yn ymwybodol o’r mater gwleidyddol hwn a dywedodd, yn 2007,

y bydd byddinoedd o gyfreithwyr yn mynd ati i osod cymalau amnewid, neu gymalau’n gwadu unrhyw rwymedigaeth i dderbyn neu ddarparu gwaith mewn contractau cyflogaeth.

O ganlyniad, mae’r tribiwnlys apelau cyflogaeth wedi dweud mai ar realiti’r berthynas waith y byddant yn edrych, nid geiriad y contract, am eu bod yn ymwybodol y bydd cyflogwyr yn mynd ati i newid telerau cytundebau eu gweithwyr mewn ymateb nid yn unig i ddeddfwriaeth newydd, ond i gyfraith achosion sy’n deillio o’r tribiwnlys a mannau eraill. Efallai y bydd hyn yn gwneud bywyd yn anos i gyflogwyr, ond mae’n debygol mai eu hymateb i hyn yn syml fydd gweithio yn ôl telerau’r contract. O ganlyniad, mae llai o waith diogel a rheolaidd ar gael, sy’n symbol o’r contractau dim oriau gwaethaf.

Efallai y bydd y pleidiau gyferbyn yn awgrymu mwy o reoleiddio, gan arwain at fwyfwy o gymhlethdod. Mae’n sicr y bydd y chwith yn honni mai’r ateb yn syml yw gwahardd contractau dim oriau neu eu rheoleiddio allan o fodolaeth. Awgrymodd y Blaid Lafur yn adroddiad Pickavance 2014 y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd cyflogwyr rhag ei gwneud yn ofynnol i weithwyr fod ar gael i weithio. Ni fyddai deddfu yn y fath fodd yn gwneud dim ar wahân i annog y cyflogwr i wadu bod gweithiwr yn gyflogai a gwadu iddynt eu hawliau o ganlyniad i hynny. Roeddent hefyd yn argymell, ar ôl cyfnod o chwe mis—sydd i’w weld wedi’i ostwng i 12 wythnos bellach—ar gontract dim oriau, y dylai fod hawl gan weithiwr i gontract lleiafswm oriau.

Nawr, nid wyf yn mynd i feirniadu cymhelliant yr adroddiad a’r hyn y ceisiai’r awduron ei wneud—rwy’n siŵr fod ganddynt fwriadau da. Ond o ystyried sut y mae cyflogwyr wedi ymateb i wahanol ddeddfau cyflogaeth dros y blynyddoedd, pe bai’r DU yn rhoi hawl i gontract isafswm oriau ar ôl chwe mis, dyweder, rwy’n meddwl y gallwn gymryd yn ganiataol mai ychydig o weithwyr ar gontractau dim oriau a fyddai’n cael eu cyflogi ar ôl y cyfnod hwnnw. Yn yr un modd, mae pennu—fel yr argymhellir gan adroddiad Pickavance—y dylid seilio contract isafswm oriau ar yr oriau a weithir yn rheolaidd yn mynd i sicrhau y bydd gweithwyr yn cael llai o waith rheolaidd nag y maent yn ei gael yn awr, yn ystod y chwe mis cyntaf hwnnw.

Felly, efallai y bydd cymhlethu system sydd eisoes yn gymhleth a gwneud pobl yn fwyfwy dibynnol ar arbenigwyr, boed yn gwmnïau cyfreithiol neu undebau, yn dda i’r grwpiau hynny, ond nid i’r bobl y camfanteisir arnynt. Mae angen i ni gydbwyso manteision contractau dim oriau gyda’r angen am gyflogaeth gadarn, ddibynadwy. Mae cyflogwyr wedi bod yn camddefnyddio’u grym bargeinio cryfach, a phrin fod grym bargeinio gweithwyr yn bodoli bellach diolch i gyflenwad parod o staff wrth gefn a ddarperir drwy’r mewnfudo digyfyngiad sydd mor annwyl i’r pleidiau eraill.

Na wnaf. Mae arnom angen deddfau cyflogaeth sy’n syml ac yn hygyrch—deddfau nad oes angen gradd yn y gyfraith i lywio drwyddynt. Mae arnom angen system dribiwnlysoedd sy’n hygyrch, yn syml ac yn rhad. Mae’r Ddeddf Dorïaidd gan y Llywodraeth ddiwethaf i gyflwyno ffioedd tribiwnlys gryn dipyn yn uwch, lle y mae rhywun sydd am wneud hawliad am ddiswyddiad annheg bellach yn gorfod talu £1,250 am y fraint o gael eu hawliau wedi’u diogelu, yn gwbl annerbyniol. Dylai pobl ifanc hefyd adael yr ysgol yn deall eu hawliau a’u rhwymedigaethau cyfreithiol sylfaenol fel gweithwyr, tenantiaid a chwsmeriaid.

Mae’r chwith wedi treulio’r 40 mlynedd ddiwethaf yn canmol eu hunain am gyflwyno neu gefnogi deddfau sy’n eu helpu i hedfan baner tosturi. Mae busnesau mawr yn cael yr hyn y maent ei eisiau beth bynnag, ac mae’r bobl ar y gwaelod heb unrhyw rym bargeinio yn gorfod byw gyda chyflogaeth lai diogel a chontractau dim oriau. Ni waeth pa mor dda y mae’r Blaid Lafur a’u cyd-deithwyr yn meddwl eu bod wedi gwneud drwy ychwanegu pob un o’r cyfreithiau hyn at y llyfr statud, nid yw’n ddim ond rhith. Wrth ei flas y mae profi pwdin, a gellir gweld canlyniadau polisïau Llafur a’r Ceidwadwyr ym maes cyflogaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, a’u hymrwymiad slafaidd i’r UE, yn y cynnydd eithafol o gontractau dim oriau, cyflogau isel ac amodau gwael. Diolch.

Rwy’n galw ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Fel y mae’r rhan fwyaf o’r siaradwyr wedi nodi’n huawdl, gall contractau dim oriau osod pwysau aruthrol ar unigolion a’u teuluoedd. I’r rhai sy’n ennill bywoliaeth ar sail dim oriau, gall yr ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd y maent yn gweithio ynddo bwyso’n drwm iawn ar eu bywydau.

Credaf yn gryf iawn fod sefydliadau sy’n dibynnu ar fodelau cyflogaeth sy’n trosglwyddo risgiau i unigolion a’u teuluoedd yn y ffordd hon yn gwneud cam â chymdeithas ac yn y pen draw yn gwneud cam â’u busnesau eu hunain yn ogystal, gan mai pobl yw’r hyn sy’n gwneud unrhyw fenter yn llwyddiant, boed yn fusnes cynhyrchu neu wasanaeth, uwch-dechnoleg neu weinyddol, neu sefydliad yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Pan nad yw unigolion mewn unrhyw sefydliad neu gwmni yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi neu eu parchu, nid oes neb yn ennill—fel unigolion nac fel sefydliad.

Rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi hen gydnabod effeithiau niweidiol defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. Dyma pam yr ymrwymasom yn ein rhaglen lywodraethu i gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ledled Cymru ynghyd ag arferion cyflogaeth gwael eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn yr undebau llafur ar godi ymwybyddiaeth o fanteision clir iawn undebau llafur i gwmnïau a’u gweithwyr. I unigolion, mantais aelodaeth o undeb llafur yw cryfder cyfunol i allu gwrthsefyll arferion cyflogaeth gwael. I gwmni, mae perthynas effeithiol gyda gweithwyr drwy gydnabod undeb llafur yn arwain at weithlu mwy cynhyrchiol.

Mae polisi caffael cyhoeddus yn ysgogiad sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth i ni geisio adnabod arferion cyflogaeth cyfrifol a moesegol gan fusnesau sy’n cyflawni contractau ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol megis cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél.

A wnewch chi ildio? Pam, o ystyried yr hyn a ddywedwch, mai Cymru sydd â’r ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol o holl wledydd a rhanbarthau’r DU yn ôl yr adroddiad diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK?

Pe bai’r Aelod yn gadael i mi gyrraedd diwedd fy araith, efallai y caiff wybod.

Rydym eisoes wedi arwain y ffordd ar draws y DU drwy gyflwyno polisi caffael sy’n cynorthwyo’r sector cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael ag arferion cyflogaeth annerbyniol fel cosbrestru a’r defnydd o asiantaethau ymbarél, fel yr wyf newydd ei ddweud.

Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn cwblhau cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ei lansio yng nghyngor partneriaeth y gweithlu yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn cymryd camau i weithio gyda’u cyflenwyr i gael gwared ar arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol mewn contractau sector cyhoeddus, ac i sicrhau bod pob gweithiwr ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ganllawiau i’r sector cyhoeddus ar y defnydd priodol o gontractau heb oriau gwarantedig. Cafodd ei ddatblygu a’i gytuno drwy waith cyngor partneriaeth y gweithlu a Chomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd y canllawiau a’r egwyddorion yn nodi disgwyliadau clir mewn perthynas ag arferion y dylai pob cyflogwr yn y sector cyhoeddus eu mabwysiadu er mwyn sicrhau nad yw trefniadau heb oriau gwarantedig ond yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau wedi’u diffinio’n glir ac yn fanwl mewn ffyrdd sydd o fudd i bobl yn ogystal â sefydliadau. Diolch i Julie Morgan am dynnu sylw at broblem bosibl gyda’u gweithrediad yn hyn o beth, a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny.

Dylai contractau o’r fath sicrhau bod pobl yn gallu derbyn neu wrthod gwaith heb unrhyw anfantais iddynt hwy. Dylent gael mynediad at yr un cyflog a datblygiad â chyflogeion amser llawn ac i broses sefydlu a hyfforddiant, yn ogystal â chyfle i wneud cais am swyddi gwag mewnol wrth iddynt godi. Mae ein canllawiau’n nodi’n glir na ddylai’r defnydd o gontractau o’r fath fod yn benagored. Rhaid i staff allu gofyn i’w trefniadau gwaith gael eu hadolygu os ydynt wedi bod yn gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod parhaus o amser. Byddwn yn cadw’r mesurau hyn dan arolwg er mwyn gwneud yn siŵr fod ein dull o weithredu yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd a diogelu gwasanaethau.

Nodaf y cynnig gan UKIP heddiw a’r datganiadau cryf a wnaed ganddynt yn condemnio’r effaith y gall contractau dim oriau ei chael ar unigolion a’u teuluoedd. Nodaf hefyd y modd gresynus y maent yn cysylltu hynny â’r hyn a elwir ganddynt yn ‘fewnfudo torfol heb ei reoli’. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo yng Nghymru ychydig o dan 3 y cant ar hyn o bryd, ac yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfraniad a wneir gan yr holl bobl sydd wedi dod i Gymru i fyw a gwneud bywyd iddynt eu hunain, gan gynnwys, er enghraifft, yr oncolegydd a achubodd fy mywyd yn ystod y Cynulliad diwethaf, dyn rwy’n hynod ddiolchgar iddo. Rwy’n falch iawn ei fod wedi dod yma i Gymru i fyw a gweithio.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi mai dyma’r un blaid a bleidleisiodd yn erbyn mesurau i ymladd arferion cyflogaeth amheus yn Senedd Ewrop ac mai hon yw’r blaid sydd wedi ymgyrchu’n frwd yn erbyn aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd a sicrhaodd lawer o’r hawliau a’r mesurau diogelu gweithwyr mwyaf hanfodol. Er gwaethaf y cynnig heddiw, hoffwn atgoffa pawb yn y Siambr hon ac ar draws Cymru yn bendant iawn nad dyma’r safbwynt a fu ganddynt yn ddiweddar.

Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru fod yna broblem benodol iawn ym maes gofal cymdeithasol. Roedd gwelliant Plaid Cymru y llynedd i Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn ceisio rhoi gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio contractau dim oriau wrth ddarparu gwasanaethau a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol. Ond mewn gwirionedd, byddai wedi peryglu dyfodol y Bil, gan olygu y byddai Cymru wedi’i hamddifadu o’i ddiwygiadau pwysig. Ac nid yw galluogi heriau diangen yn strategaeth dda i’r Llywodraeth. Rhaid i unrhyw gyfraith sy’n ymwneud â thelerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol gynnwys bwriad clir i wella lles cymdeithasol, sy’n golygu bod angen perthynas yn seiliedig ar dystiolaeth rhwng contractau dim oriau ac ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Dyna pam y comisiynodd y Llywodraeth ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Manceinion ar y mater hwn, gydag ymgynghoriad i ddilyn ar delerau ac amodau cyflogaeth ym maes gofal cymdeithasol. Mae yna angen clir i ysgogi newid ymddygiad i ffwrdd oddi wrth y rhai sy’n ystyried y contractau hyn fel y norm.

Rydym eisoes wedi dweud yn glir y byddwn yn defnyddio rheoliadau o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i ddylanwadu ar y defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cartref. Bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cartref gyhoeddi manylion am eu defnydd o gontractau dim oriau yn y cofnodion cyhoeddus blynyddol sy’n ofynnol o dan Ddeddf 2016. Mae ymagwedd o’r fath yn debygol o symbylu dylanwad gan y gweithlu, comisiynwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, gan ganiatáu’r defnydd o gontractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n gyson ag anghenion gweithwyr a chleientiaid yn unig. Fodd bynnag, nid yw gwneud tryloywder yn ofynnol yn gwarantu newid ymddygiad ynddo’i hun, ac mae’n bosibl y bydd rhai darparwyr yn parhau i ddefnyddio contractau dim oriau mewn ffyrdd sy’n andwyol i staff ac ansawdd y gofal.

Ar hyn o bryd rydym yn archwilio’r achos dros reoliadau eraill ar gyfer lleihau’r defnydd o gontractau dim oriau, drwy gyfyngu ar y gyfran o ofal y gellir ei darparu drwy gontractau dim oriau, neu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr roi dewis i weithwyr a ydynt am gael eu cyflogi ar gontractau dim oriau neu gytundebau oriau penodedig. Rydym yn edrych hefyd ar sut y gallwn ddefnyddio mesurau eraill i helpu i wella telerau ac amodau’r gweithlu, gan gynnwys cynyddu’r rhaniad rhwng amser teithio a galw, ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth lwyr â’r isafswm cyflog cenedlaethol, ac mae pob un o’r rhain yn mynd ar drywydd cyfleoedd pellach i sefydlu gofal cartref fel gyrfa hirdymor sy’n ddeniadol, yn cael ei chefnogi ac yn werth chweil i bobl Cymru.

Mae tegwch yn ganolog i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu economi ffyniannus a chytbwys sy’n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chyfle i holl bobl Cymru. Croesawaf y cyfle i ailadrodd y byddwn fel Llywodraeth yn parhau i weithio’n ddiflino i ddileu arferion cyflogaeth gwael ym mhob rhan o Gymru. Diolch.

Galwaf ar David Rowlands i ymateb i’r ddadl. David Rowlands.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am fynd ar ôl dau bwynt, un gan Julie Morgan a’r llall gan Bethan Jenkins, pan ddywedasant ei bod yn eironig ein bod wedi dod â’r ddadl hon i’r Siambr. Wel, nid yw’n eironig o gwbl. Ni yw’r unig blaid yn y Siambr hon sydd wedi mynd ati’n gyson i geisio diogelu gweithwyr Prydain rhag camfanteisio, ac mae union ffaith y contract dim oriau yn dangos ein bod yn iawn yn yr hyn y ceisiem ei wneud.

Diolch. A gaf fi ddyfynnu i chi o faniffesto busnesau bach UKIP a gyhoeddwyd yn 2013?

Byddai UKIP yn rhoi diwedd ar y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion megis oriau gweithio wythnosol, gwyliau, goramser, tâl diswyddo a salwch, ac yn darparu templed contract cyflogaeth statudol, safonol, byr iawn.

A yw’r Aelod yn cydnabod hwnnw?

Ydw, ac rwy’n hollol sicr pe bawn yn mynd drwy unrhyw un o faniffestos y pleidiau yn y Siambr hon—pob un o’r pleidiau—byddem yn gallu torri tyllau enfawr ynddynt hwy hefyd. Ond beth bynnag, yn ôl at—[Torri ar draws.]

Yn ôl at y ddadl, os gwelwch yn dda, os gallwn. Yn gyntaf oll, hoffwn fynd ar ôl yr hyn a ddywedodd Russell George, sy’n dweud ei fod yn helpu rhai pobl, y byddai’n well ganddynt fod yn y math hwn o gontract dim oriau. Y gwir amdani, mewn gwirionedd, Russell, yw mai’r cyflogwr sydd fel arfer yn pennu amseroedd a nifer yr oriau ac nid y gweithiwr, yn anffodus.

Rwyf am fynd ar ôl yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, pan soniodd am y swyddfeydd post. Wel, Jenny, carwn eich atgoffa mai’r Undeb Ewropeaidd a fynnodd fod Prydain yn gwneud gwasanaethau post yn agored, ac mae cwmnïau o’r Almaen wedi camfanteisio’n helaeth arnynt. Mae wedi golygu bod Swyddfa’r Post yn gorfod dosbarthu llythyrau i ffermydd a mannau anghysbell tra bo cwmnïau o’r Almaen yn gwneud eu ffortiwn o ddosbarthu parseli yng nghanol dinasoedd.

Felly, wrth gyflwyno’r cynnig hwn i’r Cynulliad, ceisiodd Plaid Annibyniaeth y DU dynnu sylw nid yn unig y Cynulliad i’r broblem hon sy’n tyfu fwyfwy ond sylw’r cyhoedd yn gyffredinol hefyd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i ni i roi terfyn ar y system gyflogaeth echrydus hon. Ni fyddwn yn gallu dwyn cyflogwyr i gyfrif heb i ni amlygu camddefnydd o’r fath. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn gwbl glir i’r rhai sy’n dymuno camfanteisio ar hawliau gweithwyr yn y modd hwn na fyddwn ni, yng Nghynulliad Cymru, yn goddef gweithgaredd o’r fath.

Dylai pob gweithiwr, lle bynnag y bo’n gweithio ac ar ba lefel bynnag, gael rhywfaint o sicrwydd cyflogaeth gydag oriau ac amodau wedi’u pennu’n glir. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru y dylid gwahardd y defnydd o gontractau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac y dylai unrhyw wasanaethau a gaffaelwyd gan y Cynulliad fod yn destun gwaharddiad o’r fath hefyd, ac felly byddwn yn cefnogi gwelliannau 5 a 7 Plaid Cymru, sy’n ymdrin â’r mater hwn.

Mae absenoldeb hawliau ac amodau gwaith yn gwbl annerbyniol ym Mhrydain yr unfed ganrif ar hugain, a gofynnaf i’r pleidiau yn y Siambr hon gefnogi’r cynnig hwn.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, rwy’n gohirio’r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 7. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r bleidlais.

Y bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl Plaid Cymru, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 23, Yn erbyn 25, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6245.

Rwy’n galw felly am bleidlais ar welliant 1—gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 23, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6245.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6245 fel y’i diwygiwyd.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.

Yn nodi:

a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU;

b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;

c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.

3. Yn cydnabod:

a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;

b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac

c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 25, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6245 fel y’i diwygiwyd: O blaid 25, Yn erbyn 16, Ymatal 7.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6245 fel y’i diwygiwyd.

Y bleidlais nesaf, felly, ar ddadl UKIP, ac rwy’n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 6, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6244.

Rwy’n galw nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 1: O blaid 32, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6244.

Gwelliant 2: os derbynnir gwelliant 2, mi fydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol. Rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Deg o blaid, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 2: O blaid 10, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6244.

Galw nawr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Saith o blaid, chwech yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 3: O blaid 7, Yn erbyn 35, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6244.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 32, chwech yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 4: O blaid 32, Yn erbyn 10, Ymatal 6.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 4 i gynnig NDM6244.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. Un deg tri o blaid, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 5: O blaid 13, Yn erbyn 35, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 5 i gynnig NDM6244.

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 26, pump yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd gwelliant 6: O blaid 26, Yn erbyn 17, Ymatal 5.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 6 i gynnig NDM6244.

Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd gwelliant 7: O blaid 12, Yn erbyn 35, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 7 i gynnig NDM6244.

Rydw i’n galw nawr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Cynnig NDM6244 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gall y potensial i waith ac enillion amrywio o ganlyniad i gontractau dim oriau fod yn ffynhonnell straen ac ansefydlogrwydd ariannol ac y gall telerau ac amodau cyflogaeth annheg gael effaith negyddol ar forâl a chynhyrchiant staff mewn modd sy'n arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.

2. Yn nodi mai rhithiol yn hytrach na real yw'r rhyddid hwn i'r rhan fwyaf o'r rhai a gaiff eu cyflogi ar gontractau dim oriau, a bod bywyd ar gontractau dim oriau, i'r rhai sydd angen isafswm oriau gwaith wythnosol i sicrhau diogelwch ariannol i'w teulu, yn un o ansicrwydd parhaol;

3. Yn nodi bod yr ansicrwydd hwn, i'r rhai y mae eu horiau wedi'u cwtogi neu eu newid oherwydd amharodrwydd canfyddedig i weithio'r oriau sydd eu hangen ar y cyflogwr neu'n dilyn cŵyn yn y gweithle, yn gallu cyd-fynd â'r pryder sy'n deillio o gamfanteisio.

4. Yn credu bod gan weithio contractau dim oriau y gallu i:

a) creu bywyd o straen;

b) cael effaith negyddol ar reoli cyllidebau teuluol;

c) effeithio ar ymrwymiadau teuluol;

d) tanseilio hawliau a chysylltiadau cyflogaeth;

e) cymhlethu'r gallu i gael gafael ar gredydau treth a budd-daliadau eraill, gyda phryder cynyddol am y nifer gynyddol o bobl sy'n dibynnu arnynt; ac

f) arwain at wasanaeth o ansawdd gwaeth.

5. Yn cydnabod y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymdrin â'r defnydd o gontractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol.

Yn croesawu gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn y maes hwn, a arweiniodd at gyhoeddi egwyddorion a chanllawiau Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddefnyddio trefniadau oriau gwaith heb eu gwarantu yn briodol yng ngwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru.

Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6244 fel y’i diwygiwyd: O blaid 33, Yn erbyn 15, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6244 fel y’i diwygiwyd.

9. 8. Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sy’n gadael—

Those of you leaving, will you do so quietly and quickly? I emphasise ‘quietly’.

Rydw i’n galw, felly, ar Jayne Bryant i gyflwyno’r ddadl—Jayne Bryant.

Diolch, Lywydd. Diolch. Rwy’n falch o allu trafod mater gofalwyr yn y Siambr heddiw. Rwy’n arbennig o falch o gael y ddadl fer ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar fater y credaf ei fod mor hanfodol i’n cymdeithas. Rwyf wedi cytuno i roi munud o’r amser a neilltuwyd i fy nghyd-Aelodau Joyce Watson, Julie Morgan, a Hannah Blythyn.

Un o’r breintiau mawr o fod yn gynrychiolydd etholedig yw’r cyfle i gyfarfod â phobl a siarad â hwy am eu profiadau, eu gobeithion a’u syniadau. Ers cael fy ethol, mae wedi fy nharo cymaint o bobl yng Nghymru sy’n gofalu am anwyliaid o bob oedran, am wahanol aelodau o’r teulu, ac ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau. Dywedwyd bod yna bedwar math o bobl: y rhai sydd wedi gofalu am rywun, y rhai sydd yn gofalu am rywun, y rhai a fydd yn gofalu am rywun, a’r rhai a fydd yn cael gofal. Rwy’n credu bod hynny’n crynhoi pwysigrwydd y mater hwn.

Gyda phoblogaeth hŷn sy’n tyfu, gydag anghenion gofal cymhleth yn aml, mae’n anochel bod angen mwy o ofalwyr. Eisoes yn 2017, amcangyfrifodd Carers UK y bydd nifer y bobl hŷn sydd angen gofal yn fwy na nifer yr aelodau teuluol a fydd yn gallu diwallu eu hangenion.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Mae’n anodd cael ffigur cyfredol cywir o nifer y bobl sy’n gofalu am anwyliaid. Ni fyddai llawer yn diffinio eu hunain fel gofalwyr, dim ond ei ystyried yn rhywbeth y bydd rhywun yn ei wneud. Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 400,000 o ofalwyr di-dâl, sef y gyfran uchaf yn y DU. Amcangyfrifir bod 22,000 o ofalwyr yn fy ninas i, sef Casnewydd. Mae llawer o’r bobl hyn yn perthyn i gategori’r ‘genhedlaeth frechdan’, y bobl sy’n gofalu am fwy nag un genhedlaeth—rhieni oedrannus, plant sy’n oedolion ac wyrion—ar adeg yn eu bywydau y mae disgwyl iddynt ddal i fod yn gweithio, neu’n mwynhau eu hymddeoliad. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu 96 y cant o’r holl wasanaethau gofal yn y gymuned, ac amcangyfrifodd Gofalwyr Cymru eu bod yn arbed £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Maent yn weithlu di-dâl sy’n sail i’n GIG a’n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt.

Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd drwy amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Mae’n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi camau anhygoel ar waith. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf rhoddir yr un hawliau i ofalwyr â’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ein gofalwyr, ond heddiw rwyf am ganolbwyntio ar bobl hŷn sy’n gofalu, a beth sy’n digwydd ar ôl i’w hamser fel gofalwyr ddod i ben. Yn benodol, sut rydym yn cefnogi ein gofalwyr ar adeg pan fyddant yn teimlo’n ynysig ac fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth? Mae angen i ni gydnabod yr effaith y mae gofalu’n ei chael ar iechyd rhywun, eu rhagolygon yn y dyfodol, a phwysigrwydd seibiant. Mae’n rhaid i ni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr, a pha mor werthfawr ydynt i’n cymuned a’n cymdeithas, ac yn bwysig, mae angen i ni feddwl sut y gallwn harneisio’r sgiliau hyn, a pharatoi gofalwyr ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’n deimlad cyffredin, ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth. Mae profiad un o fy etholwyr yn dangos hyn. Yn y digwyddiad gwybodaeth i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd y llynedd, cyfarfûm â menyw a oedd wedi bod yn ofalwr amser llawn. Rhoddodd ei bywyd ar ôl gadael yr ysgol i ofalu am ei mam, ac yna ar ôl hynny ei gŵr. Pan gyfarfûm â hi, yn anffodus, roedd y ddau aelod annwyl o’i theulu wedi marw. Teimlai fel pe na bai ganddi ddim. Fel gofalwr amser llawn roedd hi’n ei chael yn anodd cynnal bywyd cymdeithasol, ac nid oedd erioed wedi gallu dechrau ei gyrfa ei hun. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i hoes yn gofalu am anwyliaid a oedd yn dibynnu’n gyfan gwbl arni, roedd bod yn ofalwr yn ei diffinio. Pan fu farw’r rhai roedd hi’n gofalu amdanynt, teimlai nad oedd iddi unrhyw bwrpas. Yn 55 oed, roedd hi’n iach ac yn awyddus i fod yn weithgar yn y gymdeithas, ond heb unrhyw ffordd o ddefnyddio’r sgiliau roedd hi wedi’u meithrin. Dyma un enghraifft yn unig o filoedd lawer o bobl sydd, ar ôl gwneud rhywbeth y credaf y dylwn ei werthfawrogi’n helaeth fel cymdeithas, yn teimlo eu bod wedi’u gadael ar ôl heb fawr i edrych ymlaen ato yn y dyfodol.

Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn wanychol a hirsefydlog. Gall hyn fod yn arbennig o niweidiol i ofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn, ac os cânt eu gadael heb gefnogaeth gywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach. Gall gofalwyr deimlo’n flinedig yn feddyliol, sy’n cael ei waethygu’n aml drwy boeni, pryder, a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mewn arolwg o ofalwyr hŷn a gynhaliwyd gan Age UK, dywedodd 75 y cant o’r rhai rhwng 60 a 69 oed fod gofalu yn effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl. Nid ydym am weld unrhyw un mewn sefyllfa lle y maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain, ac os yw iechyd y gofalwr yn methu yna mae’n aml yn rhoi’r sawl sy’n cael gofal mewn sefyllfa argyfyngus.

Mae modd dangos effaith gorfforol a meddyliol gofalu drwy hanes un arall fy etholwyr a oedd yn gweithio dramor fel athrawes ysgol uwchradd pan ddaeth adref i ofalu am ei mam 85 oed sydd â dementia. Roedd ei thad 86 oed wedi gofalu am ei wraig cyn hynny nes iddo gwympo a thorri ei asennau. Yn anffodus, bu ei thad farw. Rhoddodd fy etholwr y gorau i’w swydd, symud at ei mam a dod yn ofalwr amser llawn. Effeithiodd heriau corfforol gofalu arni, a dechreuodd golli ei hyder a mynd yn ynysig, ac roedd yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol gan y byddai angen iddi dalu rhywun i edrych ar ôl ei mam. Er ei bod yn cael peth gwasanaeth gofalwyr ar rai dyddiau, ychydig iawn o seibiant a gâi. Nid oedd ei mam yn cysgu oherwydd y dementia, a oedd yn golygu bod y ddwy ohonynt yn effro drwy’r nos, gan ei gwneud yn hynod o anodd ymdopi. Bu farw mam fy etholwr yn union cyn ei phen-blwydd yn 90 oed, ar ôl bron i bum mlynedd o gael gofal amser llawn. Cynyddodd ei harwahanrwydd wrth i weithwyr gofal roi’r gorau i ymweld; roedd y tŷ yn wag. Bellach, nid oedd ganddi dasgau gofalu a daeth ei lwfans i ben. Roedd disgwyl iddi fynd ar lwfans ceisio gwaith. Newidiodd bod yn ofalwr amser llawn fywyd fy etholwr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes, teimlai nad oedd unrhyw ffordd o fynd yn ôl ar lwybr gyrfa eto oherwydd ei hoedran. Roedd hi wedi ymgeisio am nifer o swyddi, ond yn aflwyddiannus, ac mae hyn yn dorcalonnus, gan iddi roi’r gorau i yrfa ddisglair i ofalu am ei mam pan oedd hi fwyaf o’i hangen. Unwaith eto, un enghraifft yn unig o blith nifer yw hon.

Mae gofalwyr yn gwybod pa mor bwysig yw gofal seibiant. Gall fod yn achubiaeth i roi gofod ac amser i ofalwyr allu parhau i ofalu amdanynt yn eu cartref eu hunain. Mae’n gam mawr i lawer o bobl i deimlo eu bod yn gallu gadael eu hanwyliaid gyda rhywun arall, ond ar ôl cymryd y cam cyntaf, mae’n ffordd hanfodol o gefnogi’r gofalwr. Ni all gofal seibiant fod yn ateb un model sy’n addas i bawb. Rhaid edrych ar ffurfiau hyblyg o seibiant i sicrhau ei fod yn gweithio ar gyfer pob gofalwr a sefyllfa unigol.

Rwyf hefyd yn credu ei bod yn bwysig i ni wneud popeth a allwn i gynorthwyo’r rhai sydd â chyfrifoldeb gofalu i aros yn eu swyddi cyhyd ag y bo modd. Rhaid edrych ar fentrau i wobrwyo cyflogwyr sy’n cefnogi gofalwyr ac yn cydnabod pwysigrwydd cadw aelodau staff profiadol.

Yn fy etholaeth i, mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi lansio menter newydd, Ffrind i Mi, sy’n chwilio am wirfoddolwyr i baru gydag unrhyw un sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Y syniad yw dweud, ‘Gadewch i mi eich cyflwyno i ffrind i mi’. Gan weithio gyda chysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd a gwasanaethau cyfeillio eraill, maent am gyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd. Gall mentrau fel y rhain wneud gwahaniaeth enfawr i ofalwyr, a allai fod wedi’u hynysu.

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn harneisio arbenigedd y gofalwyr medrus hyn, gan ddarparu ar gyfer gofalwyr ar yr un pryd pan fydd y rhai y maent wedi bod yn gofalu amdanynt yn marw. Datblygodd y Brifysgol Agored yng Nghymru gwrs ar-lein rhad ac am ddim y llynedd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gofalwyr, cwrs o’r enw ‘What about me?’ Pwynt y cwrs oedd helpu gofalwyr i nodi’r sgiliau sydd ganddynt a’u helpu i ddychwelyd at addysg neu gyflogaeth. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y teimlaf fod angen ei gefnogi a’i hyrwyddo. Yn wir, rwy’n teimlo bod angen i ni fynd ymhellach i archwilio cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau posibl ar gyfer ein gofalwyr di-dâl. Ar ôl blynyddoedd o neilltuo eu bywydau i eraill, rwy’n credu’n bendant fod gofalwyr yn haeddu’r gydnabyddiaeth a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol y gall cymhwyster ei roi. Maent yn haeddu seibiant, maent yn haeddu cydnabyddiaeth, ond yn bennaf oll, maent yn haeddu ein cefnogaeth ddiwyro.

Diolch yn fawr am gyflwyno’r ddadl eithriadol o bwysig hon yma heddiw. Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy munud ar ofalwyr ifanc, y rhai dan 18 oed, a oedd, yn ôl cyfrifiad 2011—nododd fod dros 11,500 o ofalwyr ifanc yng Nghymru sy’n cynnig gofal parhaus a chefnogaeth emosiynol i aelodau o’u teuluoedd. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn profi unigrwydd a bwlio, ac maent yn ei chael hi’n anodd yn addysgol, a gallant golli’r cyfleoedd y bydd plant eraill yn eu mwynhau o ran chwarae a dysgu. Maent yn aml yn rhy ofnus i ofyn am help, gan eu bod yn poeni ynglŷn â gwneud cam â’u teuluoedd, a chael eu rhoi mewn gofal o ganlyniad i hynny. Dyna pam ei bod mor hanfodol fod yr holl ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau eraill sy’n dod i gysylltiad â gofalwyr ifanc yn cael eu hyfforddi’n briodol i’w hadnabod ac i ymgysylltu â hwy er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Mae’r pecyn cymorth ar-lein i ofalwyr ifanc a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i fynd i’r afael â’r union fater hwnnw, ond mae sefydliadau fel Gweithredu dros Blant yn hanfodol bwysig o ran cefnogi’r gofalwyr hynny. Mae ganddynt naw prosiect ar gyfer gofalwyr ifanc yng Nghymru, maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, ac yn gweithio gydag ysgolion. Mae ganddynt wibdeithiau ar gyfer gofalwyr ifanc, eiriolaeth, ac mae sawl un yn Sir Benfro, ac un yng Ngheredigion yn fy ardal.

Diolch i chi, a diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am gynnal y ddadl bwysig hon. Rwy’n meddwl bod Jayne wedi dangos yr effaith enfawr y gall gofalu ei chael ar y gofalwyr, yn enwedig pan fyddant yn hŷn eu hunain. Waeth pa mor fawr yw’r effaith, credaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod gofalwyr yn awyddus i ofalu am mai’r person mwyaf annwyl iddynt yw’r person y maent yn gofalu amdanynt.

Roeddwn eisiau dangos y problemau go iawn a all ddod o sefyllfa ofalu gyda’r digwyddiadau trist iawn a ddigwyddodd yn fy etholaeth y llynedd. Roedd un o fy etholwyr 86 oed wedi bod yn gofalu am ei wraig, a oedd hefyd yn 86, ac wedi bod yn dioddef o ddementia ers blynyddoedd lawer. Roedd eu plant wedi gadael cartref. Roedd fy etholwr eisiau aros yn annibynnol, ac roedd ei wraig wedi erfyn arno i beidio â’i rhoi mewn cartref. Yn anffodus, ym mis Gorffennaf y llynedd, daeth popeth yn ormod. Lladdodd fy etholwr ei wraig a thaflu ei hun o dan drên yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bu farw yn yr ysbyty saith wythnos yn ddiweddarach. Mae hwn yn achos eithafol iawn, ond yn y cwest, dywedwyd wrth y cwest fod fy etholwr wedi cael ei ddal mewn niwl o flinder ac roedd wedi rhoi’r ffidil yn y to. Rwy’n credu ei bod yn enghraifft—enghraifft eithafol—o’r cyflwr y gallwch fynd iddo, gan fod hwn yn deulu cariadus: gofalwr a oedd yn caru ei wraig ond a gafodd ei yrru i wneud rhywbeth eithafol oherwydd yr effaith fawr a gafodd hynny arno. Felly, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Jayne am dynnu sylw at y materion hyn heddiw.

Rwyf finnau hefyd am ddiolch i Jayne Bryant am ddod â mater pwysicaf ein hoes yn fy marn i i lawr y Cynulliad heddiw. Roeddwn ond eisiau cyfrannu’n fyr, oherwydd, fel llawer o bobl eraill, mae hwn yn fater sy’n agos iawn at fy nghalon, oherwydd, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon ac ar draws y wlad, mae fy nheulu wedi cael profiad uniongyrchol o’r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl. Gwn fod yr Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ddadleuwr anhygoel o gryf yn y maes hwn.

Ar fy lefel leol, yn yr awdurdod lleol, fe wn fod yna lawer mwy sy’n cael ei wneud i helpu gofalwyr di-dâl drwy’r awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd, ond rwy’n meddwl mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yn awr yw adeiladu ar y gwaith hwn i ddatblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gau’r bwlch sy’n dal i fodoli weithiau rhwng ysbytai acíwt, ysbytai cymunedol a mathau eraill o ofal seibiant cam-i-fyny cam-i-lawr, yn ogystal â gofal cartref, ond mae angen i’r rhain fod yn addas, a chael eu teilwra a bod yn hyblyg i weddu i’r teulu a’r amgylchiadau. Felly, rydym i gyd yn gwybod bod y pwysau’n cynyddu a bod pobl yn byw’n hwy, sy’n amlwg yn gadarnhaol, ond mae angen inni ymdrin â sut rydym yn ateb yr heriau hynny mewn gwirionedd, yn ariannol ac yn ddemograffig. Felly, fe orffennaf drwy ddweud fy mod yn meddwl bod angen i ni weld sut y gall yr holl bartneriaid gydweithio i ddatblygu modelau newydd o ddarpariaeth yn y sector cyhoeddus sydd â’r rhai sydd angen gofal a’r rhai sy’n darparu gofal yn ganolog iddynt.

Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.

Diolch. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ymgymryd â hi’n ddyddiol, ac mae’r rhain yn cynnwys gwŷr, gwragedd, rhieni, plant, perthnasau, ffrindiau a chymdogion, yn darparu gofal di-dâl ond amhrisiadwy i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Yng Nghymru, mae tua 385,000 o ofalwyr, sy’n fwy na 10 y cant o’n poblogaeth, ac amcangyfrifir y bydd y rhif hwnnw’n dyblu dros y 15 mlynedd nesaf. O ystyried y gwaith rhagorol a dihunan y mae gofalwyr yn ei wneud, mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydynt yn cael eu cymryd yn ganiataol a’u bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth briodol sydd eu hangen arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwella bywydau gofalwyr ers amser maith. Yn 2000, fe gyhoeddasom ein strategaeth ofalwyr ar gyfer Cymru, a oedd yn rhoi fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau a chymorth i ofalwyr. Dilynwyd hyn 10 mlynedd yn ddiweddarach gan y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 ac, yn fwy diweddar, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ein galluogi i adeiladu ar y cynnydd a chryfhau ein hymrwymiad i ofalwyr.

Fel y cydnabu Jayne yn ei haraith agoriadol, mae’r Ddeddf, a ddaeth i rym ym mis Ebrill y llynedd, yn cryfhau hawliau gofalwyr yn sylweddol. Nawr, am y tro cyntaf, mae gan ofalwyr yr un faint o hawl â’r bobl y maent yn gofalu amdanynt i asesiad a chefnogaeth. Nid oes angen iddynt ddangos mwyach eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael eu hanghenion wedi’u hasesu. Er bod y cyfrifoldeb ar y gofalwr yn flaenorol i ofyn am asesiad, mae’r Ddeddf yn awr yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i hysbysu gofalwyr am eu hawl i gael eu hasesu. Pan fydd asesiad wedi’i gynnal, ac os caiff ei gadarnhau bod y gofalwr yn gymwys, yna mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol sefydlu cynllun gofal statudol i ddiwallu’r anghenion a nodwyd.

Weithiau, gwyddom y gall fod yn anodd i ofalwyr ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor cywir, a dyma pam y mae’r Ddeddf yn gofyn i awdurdodau lleol sicrhau y gall gofalwyr gael hyd i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn rhwydd ynglŷn â’r math o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau. Yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau a chymorth ar gael, mae angen sicrhau bod gweithio effeithiol yn digwydd hefyd ar draws awdurdodau iechyd a lleol, yn ogystal â’r trydydd sector a phartneriaid eraill. Felly sefydlwyd saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol statudol. Mae’n rhaid i’r byrddau gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth integredig yn cael eu darparu. Nodwyd nifer o feysydd blaenoriaeth mewn canllawiau statudol, gydag un ohonynt yn ymwneud â gofalwyr. Mae gofyniad hefyd i gael cynrychiolydd gofalwyr ar y bwrdd er mwyn sicrhau bod safbwynt y gofalwr bob amser wrth galon yr agenda. Rwy’n gobeithio y bydd y lefel hon o waith partneriaeth ac ymagwedd arloesol yn ateb rhai o’r heriau a nodwyd gan Hannah Blythyn yn ei haraith.

Bydd y Ddeddf yn cael ei gwerthuso i bennu cynnydd a pha un a yw’n cyflawni’r hyn y bwriadwyd ei gyflawni ai peidio. Gwneir hyn mewn tri cham. Bydd polisïau o dan y Ddeddf yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu er mwyn deall a ydynt yn cael eu gweithredu yn ôl y bwriad ac a ydynt wedi cefnogi gwelliannau. Bydd gwerthuso parhaus yn digwydd drwy’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol a fframwaith mesur perfformiad yr awdurdod lleol. Ceir adroddiadau blynyddol i ddarparu gwybodaeth er mwyn dangos pa un a yw lles yn gwella’n genedlaethol. Comisiynir ymchwil annibynnol allanol. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y sector yn parhau i fod wedi’i gynnwys ac yn darparu canllawiau ar gyfer y gwaith pwysig hwn.

Er bod y Ddeddf yn darparu gwelliannau sylweddol i ofalwyr, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y cynnydd a wnaed eisoes gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r trydydd sector o dan y Mesur gofalwyr. Mae hyn wedi cynnwys gwaith ar brif ffrydio problemau gofalwyr, gwella’r modd o adnabod gofalwyr yn gynnar a grymuso gofalwyr yn y broses o wneud penderfyniadau. I gefnogi’r trawsnewid o’r gofynion yn y Mesur gofalwyr i’r dyletswyddau manylach yn y Ddeddf, dyrannwyd £1 filiwn o arian ar gyfer 2016-17 a cheir £1 filiwn o arian pellach ar gyfer 2017-18. Bwriedir i’r gwariant hwn ddarparu cefnogaeth i’r maes iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector weithio mewn partneriaeth a chefnogi gofalwyr. Darparwyd y cyllid i gryfhau’r dull partneriaeth ar lefel ranbarthol a chreu cyfleoedd i alluogi’r trydydd sector i gymryd rhan lawn yn y gwaith o gyflawni. Fe’i rhoddwyd hefyd i alluogi arferion da presennol i gael eu hymgorffori a’u prif ffrydio fel eu bod yn dod yn arferion cyffredin.

Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein strategaeth ofalwyr a bydd yn adlewyrchu’r gwelliannau i hawliau gofalwyr yn y Ddeddf ac yn nodi’r meysydd blaenoriaeth allweddol a chamau gweithredu a gaiff eu datblygu i gefnogi gofalwyr. Datblygir hyn mewn partneriaeth â rhwydweithiau a sefydliadau gofalwyr a chyda gofalwyr eu hunain i sicrhau bod perchnogaeth ar y cyd a chamau ar y gweill i fynd i’r afael â’r materion sydd o bwys gwirioneddol i ofalwyr. Cyfarfûm â Chynghrair Cynhalwyr Cymru ym mis Rhagfyr er mwyn i mi glywed yn uniongyrchol ganddynt am y materion y credant fod angen i ni eu hystyried wrth ddatblygu’r cynllun.

Bydd y cynllun gweithredu strategol yn nodi’r hyn a wnaethom, yr hyn y dywedwyd wrthym gan ofalwyr a pha gamau y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i hynny. Mae gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod am gael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud. Maent eisiau mynediad hawdd at y wybodaeth a’r cymorth cywir ac maent eisiau cefnogaeth gyda’u bywydau y tu allan i’r rôl ofalu, gan gynnwys mynediad at ofal seibiant a gwyliau byr. Gwyddom pa mor bwysig yw hi i bobl allu aros yn eu swyddi pan fyddant yn gofalu am eraill. Gwyddom hefyd pa mor anodd y gall fod i ofalwyr pan ddaw eu rôl ofalu i ben, a chyfeiriodd Jayne yn gynharach at yr unigrwydd a’r arwahanrwydd sy’n gallu wynebu gofalwyr. Mynychais lansiad Ffrind i mi yng Nghasnewydd gyda Jayne, ac rwy’n cydnabod pwysigrwydd cynlluniau cyfeillio a rôl werthfawr gwirfoddolwyr. Fel y dywedais yn y ddadl ddiweddar ar unigrwydd ac arwahanrwydd, fel Llywodraeth rydym yn ymrwymedig i wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â’r mater hwn, a bydd yn cynnwys edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gofalwyr. Felly, er mwyn ymateb i’r hyn y mae gofalwyr yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt, mae trafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid wedi nodi tair thema allweddol, sy’n cynnwys adnabod a chydnabod gofalwyr; gwybodaeth, cyngor a chymorth; a bywyd y tu allan i’r rôl ofalu. Cynhelir trafodaethau pellach dros y misoedd nesaf i nodi’r camau gweithredu â blaenoriaeth sydd i’w cyflawni o dan bob un o’r themâu hyn. Dilynir hyn gan ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod yr haf. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi ymrwymo i archwilio’r posibilrwydd o ddarparu cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, ac rydym hefyd yn archwilio ymagwedd genedlaethol tuag at ofal seibiant.

Rydym hefyd yn gweithio’n rhan o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar nifer o feysydd blaenoriaeth mewn perthynas â gofalwyr, ac mae’r rhain yn cynnwys ffrydiau gwaith penodol ar ofalwyr ifanc—yn sicr, byddaf yn ystyried sylwadau Joyce Watson—a gofalwyr pobl hŷn, gan gynnwys gofalwyr hŷn. Mae stori drist iawn Julie yn dangos y pwysau penodol ac arbennig iawn sydd ar ofalwyr hŷn. Hefyd, nodi gofalwyr, a gwasanaethau teleofal a theleiechyd a thechnolegau cynorthwyol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r broses o ddatblygu ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer gofalwyr.

Yn olaf, ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i ofalwyr ar draws Cymru am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i wella bywydau’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Hoffwn hefyd eu hannog i arfer eu hawliau a manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym am i ofalwyr gymryd rhan weithredol yn y gwaith rydym yn ei wneud ar ailwampio’r strategaeth ofalwyr er mwyn i ni a phartneriaid eraill allu sicrhau ein bod yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt. Diolch.

Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:40.