Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/11/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf, Suzy Davies.

Cymunedau yn Gyntaf

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei werthusiad o weithio mewn partneriaeth o fewn Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0065(CC)

Roedd y gwerthusiad a wnaed gan Ipsos MORI o Cymunedau yn Gyntaf yn 2015 yn cydnabod bod clystyrau Cymunedau yn Gyntaf yn ymgysylltu ag ystod o bartneriaid lleol a chenedlaethol, sy’n hanfodol i gyflawniad y rhaglen. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys cymunedau, y trydydd sector a’r sector statudol.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oedd gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf yn boblogaidd gyda chynghorau tref neu gymuned bob tro, neu’n wir gyda rhai grwpiau lleol. Ac nid fi yw’r unig un a oedd yn clywed am actifyddion cymunedol, am danciau yn parcio ar lawntiau ac yn cymryd drosodd, ac yn y blaen. Nawr, nid oes dim ots gyda fi pwy sy’n gywir neu’n anghywir, ond rwy’n pryderu bod meddylfryd seilo ac amharodrwydd i rannu cyfrifoldeb wedi ymwreiddio mewn rhai achosion. A ydych chi’n meddwl, gyda mecanwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ei bod hi’n bosibl i ymddiried yn y sefydliadau sydd eisoes yn bodoli yn ein cymunedau i rannu grym a chyfrifoldeb am wella gallu y gymuned i ymdrin yn fwy uniongyrchol â’i heriau ei hun, heb yr angen am luniad artiffisial fel Cymunedau’n Gyntaf?

Credaf fod angen i ni gydnabod bod rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf wedi gwneud gwaith gwych mewn llawer o etholaethau ledled Cymru. Ceir rhai enghreifftiau gwych o weithio mewn partneriaeth. Fel y gwyddoch, rwyf wedi gwneud datganiad clir iawn y byddaf yn adolygu rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ac yn gwneud datganiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd ynghylch dyfodol y rhaglen benodol honno.

Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed gan Cymunedau yn Gyntaf yn Nwyrain Abertawe a gobeithiaf y bydd y gwaith ar wella iechyd, cyrhaeddiad addysgol, lleihau alldaliadau sefydlog, a dod o hyd i waith yn parhau. Ym marn Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw rôl y cynghorau lleol a’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth adeiladu cymunedau gwydn a pharhau’r cynlluniau ardderchog ac angenrheidiol hyn?

Diolch am eich cwestiwn, Mike. Rydych yn parhau i fod yn eiriolwr gwych ar ran Cymunedau yn Gyntaf yn eich ardal benodol. Mae gan awdurdodau lleol rôl hanfodol yn adeiladu cymunedau gwydn, fel llunwyr lleoedd yn ogystal â darparwyr gwasanaethau. Mae cynghorwyr lleol yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedau, felly mae ganddynt hwythau hefyd rôl allweddol i’w chwarae. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaeth da.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai wedi cysylltu efo fi yn eiddgar i warchod elfennau penodol o waith presennol Cymunedau’n Gyntaf yn y dyfodol. Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn CF yng Nghaergybi, er enghraifft, yn falch iawn o nifer o agweddau o’r gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y dref, ac rydw innau yn eu llongyfarch nhw ar y gwaith hwnnw. Ac maen nhw yn pwysleisio eu bod nhw yn barod i weithio’n adeiladol tuag at greu cyfundrefn newydd. Ond sut all y Llywodraeth sicrhau bod enghreifftiau o waith da sydd wedi cael ei wneud yn cael ei gydnabod, yn cael ei warchod, ac yn cael ei ledaenu hefyd, i ardaloedd eraill ym Môn, a rhannau eraill o Gymru, o dan y gyfundrefn newydd?

Rwyf wedi ymweld ag Ynys Môn mewn gwirionedd o dan raglenni Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol, ac wedi gweld rhywfaint o’r gwaith gwych a’r gweithgarwch yn yr ardal honno. Ond fel y gwyddoch o fy natganiad, rydym yn cynnal adolygiad llawn o raglen Cymunedau yn Gyntaf. Bydd Cymunedau am Waith a Rhaglen Esgyn yn rhan a ddiogelir o’r weithdrefn honno wrth i ni symud ymlaen. Rwyf wedi ymrwymo i ddyfodol hynny, ac mae gweddill y rhaglen yn cael ei hadolygu. Mae proses ymgynghori ar waith gennym gan ein bod yn y cyfnod hwnnw ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud datganiad yn y flwyddyn newydd.

Gofal Plant am Ddim

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymestyn gofal plant am ddim? OAQ(5)0067(CC)

Diolch i’r Aelod dros Fynwy am ei gwestiwn. Bydd ein cynnig gofal plant yn darparu 30 awr o addysg a gofal y blynyddoedd cynnar a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer plant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy’n gweithio. Byddwn yn dechrau treialu’r cynnig mewn ardaloedd penodol mewn chwe awdurdod lleol ym mis Medi 2017.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu eich cynigion i ymestyn y ddarpariaeth, tybed pa ystyriaeth rydych wedi ei rhoi i alluogi rhieni i ddefnyddio eu horiau am ddim yn fwy hyblyg. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid gwasgaru’r ddarpariaeth bresennol o 10 awr am ddim bob wythnos, fel y gwyddoch, dros bum niwrnod, felly oddeutu dwy awr y dydd yw hynny. Pwy all deithio i’r gwaith ac yn ôl a chyflawni unrhyw waith o fewn dwy awr? Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno y dylem sicrhau ei bod yn haws i rieni ddychwelyd i’r gwaith a chyfrannu at ein heconomi. Felly, a fyddwch yn rhoi rhagor o ystyriaeth i sicrhau bod yr oriau am ddim hynny’n llawer mwy hyblyg?

Cytunaf â’r Aelod o ran gallu’r rhieni i gael rhywfaint o ddewis a chaniatáu hyblygrwydd yn y system. Mae sicrhau bod gennym ofal plant a gwasanaethau o safon yn drafodaeth rwy’n parhau i’w chael gyda’r Gweinidog addysg, a Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth, a bydd y cynlluniau peilot yn ein galluogi i ddysgu gwersi o’r rhaglen honno.

Diolch am eich ymateb i’r cwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, croesawaf y fenter hon fel enghraifft arall o Lywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni ymrwymiadau ei maniffesto. Rydym wedi clywed, yn gynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynglŷn ag effaith andwyol mesurau caledi a thoriadau lles y Llywodraeth ar lawer yn ein cymdeithas. Ddoe, bûm yn siarad am dlodi mewn gwaith yn dod yn realiti ochr yn ochr â thlodi pobl nad ydynt yn gweithio. Cyfyngir ar rai pobl mewn gwaith o ran yr oriau y gallant weithio a’r math o gontractau y gallant eu derbyn, ac felly, hyd yn oed i’r rhai sy’n gallu cymryd gwaith amser llawn, mae cost gofal plant yn ormod i lawer ohonynt.

Dangoswyd mewn astudiaeth ddiweddar fod nifer gyfartalog y plant sy’n byw mewn tlodi ledled Cymru yn 28 y cant, ac yn 31.8 y cant yn fy etholaeth, Merthyr Tudful a Rhymni. Felly, mae hynny’n peri pryder i mi. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod cynnig gofal plant y Llywodraeth yn cael ei ystyried yn elfen allweddol o strategaeth y Llywodraeth ar wella ffyniant ledled Cymru ac y byddai lleihau cost gofal plant i rieni sy’n gweithio yn ffactor pwysig o ran codi rhagor o blant allan o dlodi?

Gallaf yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Mae yna ddwy gydran yn fy adran, ac rydym yn ymestyn hynny drwy ein holl gyfleoedd i ymyrryd o ran lles economaidd a swyddi, sgiliau a thwf ar gyfer cymunedau ac unigolion, ond hefyd o ran lles yr unigolyn, gan fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a llesiant. Mae’r adduned gofal plant yn rhan hanfodol o’r jig-so o ran galluogi pobl i gael gwaith, a gobeithio y bydd yn caniatáu i rai rhieni gynyddu nifer yr oriau y gallant weithio, gyda thlodi mewn gwaith yn broblem y mae’r Aelod wedi ei chodi o’r blaen. Ond mae’n rhaglen uchelgeisiol, ac mae’n un o rai mwyaf effeithiol y DU o ran cyflawni, ac edrychwn ymlaen at ddechrau’r cynllun peilot yn yr hydref y flwyddyn nesaf.

Un o ysgogiadau’r polisi gofal plant am ddim, wrth gwrs, yw’r amlygrwydd a roddir bellach i atal ac ymyrryd yn gynnar—amlygrwydd y dylid ei groesawu, dylwn ddweud—ac o ystyried bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn ein harwain i’r cyfeiriad hwnnw, sydd unwaith eto yn rhywbeth y byddwn yn ei groesawu—. Ond o ystyried hynny, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â’r grant amddifadedd disgyblion, oherwydd byddai gennyf ddiddordeb mewn deall y rhesymeg pam nad yw plant ifanc—plant oed derbyn—prin yn cael hanner y swm a ddyrennir ar gyfer plant hŷn, ac efallai y byddai’n sicrhau mwy o werth ychwanegol i’r polisi gofal plant pe bai mwy o’r arian yn cael ei ddarparu ar y dechrau?

Credaf fod hwnnw’n bwynt diddorol gan yr Aelod. Rwyf wedi bod yn cael llawer o gyfarfodydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym yn edrych ar y maniffesto, sy’n glir iawn mewn perthynas â’i gynnig i ddarparu ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed. Yr hyn rydym yn chwilio amdano yw dilyniant di-dor rhwng y cyfnod sylfaen a gofal plant, ond gan edrych y tu hwnt i hynny ar ein cynnig cyfan ar gyfer pobl ifanc, sy’n rhywbeth rydym yn ymwybodol ohono drwy’r amser—sicrhau bod gennym y cyfleoedd gorau posibl i ymyrryd gyda’r cyllid cyfyngedig sydd ar gael i ni.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau llefarwyr y pleidiau yn awr. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, bûm yn siarad yng nghynhadledd Newid Ystyrlon yn Llanrwst yng ngogledd Cymru a drefnwyd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac a oedd yn canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar ddysgu am enghreifftiau ysbrydoledig lle y cafodd cydgynhyrchu ei fabwysiadu’n effeithiol, a thrafod ffyrdd y gallwn gynnwys pobl fwyfwy yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau yn unol â nodau llesiant Cymru. O ystyried ffigurau’r Gynghrair Dileu Tlodi Plant yr wythnos diwethaf fod 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi—mae hynny’n parhau i fod yn uwch na gwledydd eraill y DU—sut rydych yn teimlo neu ba ystyriaeth a roesoch i roi egwyddorion cydgynhyrchu ar waith er mwyn helpu i fynd i’r afael â hynny, wrth i chi ddatblygu modelau newydd ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru?

Credaf fod yr Aelod yn gofyn cwestiwn teg; credaf mai ymwneud y mae â’r defnydd o iaith yn unig. Credaf mai’r hyn rydym wedi’i wneud mewn gwirionedd yn y Llywodraeth yw deddfu ar gyfer hyn ar ffurf y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae 44 corff cyhoeddus yn awr wedi’u galluogi i gyflawni pum egwyddor y Ddeddf, lle y mae ymyrraeth ac ymgysylltiad yn rhan o’r broses honno. Felly, defnyddia’r Aelod y term ‘cydgynhyrchu’, ond nid wyf yn credu ei fod yn wahanol iawn i egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, y deddfwyd ar eu cyfer y llynedd.

Gobeithiaf y byddwch yn cytuno â mi nid yn unig nad yw’n wahanol iawn, ond ei fod yn greiddiol iddo, gan fod adroddiad ‘Siarad Cenedlaethau’r Dyfodol’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yr wythnos diwethaf wedi rhoi llawer o enghreifftiau o gyfarfodydd grwpiau rhanddeiliaid ledled gogledd Cymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, lle mae’r ddau ohonom yn byw, a dywedodd fod

‘Angen newid dulliau cyrff cyhoeddus o feddwl, gan wneud newidiadau’n rhai gwirioneddol... gan alluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn lleol, dangos arweinyddiaeth ac archwaeth at gyflawni, gan oresgyn syrthni sefydliadol’,

cyn dweud yn benodol

‘mae angen iddo gael ei gyd-gynhyrchu, gan gymryd i ystyriaeth ymgysylltiad cymunedol, rhannu pŵer, gwrando. Mae gan bawb arbenigedd.’

A ydych yn cytuno â’r comisiynydd?

Nid wyf yn anghytuno â’r comisiynydd; credaf ei fod yn ymwneud â’r defnydd o iaith. Fel yr eglurais yn gynharach, credaf fod rôl y comisiynydd fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodweddiadol o’r ffordd rydym wedi gwneud datblygu polisi yn rhan annatod o’r sefydliad hwn a’r cyrff cyhoeddus eraill y mae’n eu dwyn i gyfrif hefyd.

Diolch. Yn amlwg, mae’n ymwneud ag ieithwedd, ond mae hwn yn fudiad byd-eang ag iddo derm byd-eang, ac mae cannoedd o sefydliadau ledled Cymru bellach wedi ymuno ag ef. Felly, yn olaf, efallai y byddwch wedi fy nghlywed—credaf eich bod wedi ddoe—yn cyfeirio at adroddiad a anfonwyd ataf gan Ganolfan Menywod Gogledd Cymru, ‘Leading change: the role of local authorities in supporting women with multiple needs’, ac er ei fod yn adroddiad ar gyfer Lloegr, roeddent yn cyfeirio at y wybodaeth fel rhywbeth sy’n berthnasol i’n nodau a chydweithio yng Nghymru. Mae hyn, unwaith eto, yn nodi y dylai’r broses o ddiwallu anghenion menywod

gael ei hategu drwy weithio gyda hwy i ddatblygu eu cryfderau eu hunain ac i adeiladu cydnerthedd—ymagwedd y cyfeirir ati weithiau fel ymagwedd sy’n ‘seiliedig ar asedau’... sy’n rhoi pwyslais ar gryfderau unigolyn yn hytrach nag ar eu ‘diffygion’.

Hynny yw, yr egwyddor wrth wraidd cydgynhyrchu. Sut rydych yn ymateb i hynny felly, ac i’w datganiad y byddai ceisio nodi a mynd i’r afael ag anghenion heb eu diwallu mewn menywod ifanc, mewn modd priodol, yn arwain at

faint yn llai o fenywod a allai fod mewn perthynas gamdriniol pe bai menywod ifanc yn datblygu cydnerthedd a hunan-barch drwy brosiectau fel hyn; a faint yn llai o blant a fyddai’n gysylltiedig ag achosion amddiffyn plant neu yng ngofal awdurdodau lleol pe bai menywod ifanc yn cael eu cynorthwyo yn eu hawl eu hunain yn hytrach na mewn perthynas â galluoedd/medrusrwydd rhianta yn unig?

Hynny yw, ei droi wyneb i waered a rhoi egwyddorion cydgynhyrchu ar waith.

Cytunaf ag egwyddor y sefydliad a’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, ond mae gennyf ddyletswydd i sicrhau cysondeb ledled Cymru. Dyna pam ein bod, yn ddiweddar, wedi cyhoeddi’r mater ynglŷn â chymunedau cryf a sut bethau ydynt. Mae ymgysylltu’n rhan allweddol o hynny, gan sicrhau ein bod yn cael deall gan randdeiliaid a defnyddwyr y gwasanaethau am eu profiadau go iawn. Dyna pam y byddaf yn ceisio buddsoddi mewn ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a fydd yn dechrau deall sut y byddwn yn cyflawni ymyriadau cynnar ac atal mewn perthynas â’r union faterion y tynnodd yr Aelod fy sylw atynt yn y Siambr heddiw.

Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn canolbwyntio ar Rhentu Doeth Cymru a’r cyhoeddusrwydd parhaus wrth i’r cyfnod cofrestru ddod i ben. Rydym wedi gweld un hwb olaf o gyhoeddusrwydd, a allai achosi problemau gyda’r prosesau gweinyddol wrth ymdrin â llwyth mawr o geisiadau, gan gynnwys y rhai sy’n dewis cwblhau’r hyfforddiant ar-lein. A fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n ceisio cofrestru cyn y dyddiad cau ac yna’n peidio â chwblhau’r broses tan yn ddiweddarach?

Ni fydd unrhyw un sydd wedi mynd ati i ymgysylltu i geisio cofrestru ar frig y rhestr o ran wynebu unrhyw gamau gorfodi.

Diolch am hynny. Nododd achos llys diweddar ynglŷn â’r ddeddfwriaeth mai naw swyddog gorfodi yn unig a gyflogir gan Rhentu Doeth Cymru. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi manylion ar unwaith ynglŷn â sut y byddwch yn gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd, ac a fyddech yn cytuno y dylid rhoi adnoddau ychwanegol i Rhentu Doeth orfodi’r gyfraith, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar landlordiaid diegwyddor?

Credaf fod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y mater—nid yn benodol ynglŷn â Rhentu Doeth Cymru a’r broses, ond ynglŷn â’r rheswm pam y cyflwynasom hyn yn y lle cyntaf, ac mae’r Aelod yn iawn i grybwyll mater landlordiaid diegwyddor. Gwyddom fod llawer o landlordiaid da yn y system, ond mae llawer gormod o landlordiaid diegwyddor. Mae’n siomedig, ond nid yw’n annisgwyl. Mae’r dyddiad cau wedi cyrraedd o ran Rhentu Doeth Cymru, ac mae yna ruthr i gofrestru. Rwy’n deall hynny, ond cafwyd cyfnod arweiniol hir iawn i bobl gofrestru yn rhan o’r broses honno. Dywedais yn gynharach na fyddwn yn chwilio am unrhyw un sy’n mynd ati’n rhagweithiol i geisio cofrestru neu sydd, heb fod unrhyw fai arnynt hwy, wedi methu cofrestru ac yn gallu dangos tystiolaeth o hynny, ond rydym yn awyddus i sicrhau, pan fydd y proffil cofrestru yn ei le gennym, ein bod yn edrych ar y bobl nad ydynt wedi cymryd rhan yn y broses er mwyn sicrhau y gallwn ddechrau gorfodi’r ddeddf. Rwy’n hyderus fod yr awdurdodau lleol mewn sefyllfa i allu gwneud hynny, ond mae’n ddyddiau cynnar ar y system.

Diolch, a byddaf yn amlwg yn awyddus i olrhain cynnydd ar y mater penodol hwnnw.

Fy nhrydydd cwestiwn a’r cwestiwn olaf yw hwn: yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyfarfod â’ch swyddogion yr wythnos diwethaf mewn perthynas â chynhwysiant ariannol. Dengys adroddiad y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yr wythnos hon na all dwy ran o dair o bobl 16 i 17 mlwydd oed ddarllen slip talu, a bod traean erioed wedi rhoi arian i mewn i gyfrif banc. Nawr, mae’r adroddiad hwn yn peri cryn bryder, yn enwedig ar oedran pan fo plant o bosibl yn gadael eu cartrefi i chwilio am addysg uwch mewn mannau eraill. A yw Llywodraeth Cymru wedi cymharu cost darparu cynhwysiant ariannol i oedolion yn y gymuned â chost ei ddarparu i bobl ifanc mewn ysgolion, ac a yw’r ymagwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei mabwysiadu tuag at addysg ariannol yn ddigonol i roi’r sgiliau y byddant eu hangen fel oedolion iddynt? Yn ddiweddar, ysgrifennais at y Gweinidog addysg ynglŷn â’r ffrwd waith mewn perthynas ag addysg ariannol, ond credaf fod angen cynnydd ar frys yn awr er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda’r sgiliau bywyd allweddol hynny.

Credaf fod yr Aelod wedi parhau â’i hadduned i sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer pobl ifanc o ran llythrennedd ariannol. Rwy’n ddiolchgar ei bod yn sgwrs y gall ei chael gyda fy swyddogion. Gwelais gofnodion y cyfarfod a gafodd yr wythnos hon, a byddwn yn ei hannog i barhau â’r trafodaethau hynny gyda fy nhîm a thîm y Gweinidog addysg i weld sut y gallwn sicrhau gwell cynnig i bobl ifanc, ac yn wir, i oedolion sydd angen llythrennedd ariannol, a bod hynny’n dod yn norm, yn hytrach nag atodiad.

Diolch, Lywydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yng ngogledd Cymru, os gwelwch yn dda?

Rydym yn parhau i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Mae cyfleuster gwych yn etholaeth Darren Millar, ac rydym yn cydnabod bod pwysau ar y system, ond mae’n bwysig ac mae’n rhaid i ni barhau i’w helpu.

Iawn, diolch. Eleni, cynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Er bod cynnydd wedi bod mewn perthynas â sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yng Nghymru, nododd tystiolaeth o’r gwaith achos fod mynediad at gymorth ôl-fabwysiadu a chofnodi profiadau bywyd yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â chefnogaeth i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru a sut rydych yn mynd i wella’r ddarpariaeth, os gwelwch yn dda?

Wel, credaf ein bod wedi gwneud—gwnaed gwaith gwych gan y Llywodraeth flaenorol a’r Gweinidogion a fu’n rhan o’r broses o greu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a chredaf ein bod yn dysgu’n barhaus ynglŷn â ble mae pwysau yn system nad ydym wedi ei nodi, neu bwysau sy’n newydd i’r system. Byddaf yn ystyried ei chwestiwn, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â sefyllfa’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn y dyfodol agos.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Fy nghwestiwn olaf yw hwn: a allwch wneud datganiad ynglŷn â threfniadau cludiant i’r ysgol yng Nghymru, gan roi sylw arbennig i gau Ysgol Uwchradd John Summers yng Nglannau Dyfrdwy?

Dylid cyfeirio hynny at sylw Ken Skates, er mwyn—. Ef yw’r Gweinidog trafnidiaeth, ac efallai yr hoffai’r Aelod ysgrifennu at yr Aelod.

Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy ac ansawdd y tai hynny? OAQ(5)0071(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Byddwn yn darparu dros £1.5 biliwn yn ystod tymor y Cynulliad hwn i gefnogi tai fforddiadwy. Byddwn yn annog cynlluniau newydd, yn datblygu cynlluniau newydd, gan weithio’n agos i ddarparu tai fforddiadwy gyda’n holl bartneriaid, ac yn diddymu’r hawl i brynu.

Diolch, Weinidog. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £1.3 biliwn i’w ddyrannu dros dymor y Llywodraeth hon i gefnogi’r ddarpariaeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ac i gwblhau’r dasg o fodloni safon ansawdd tai Cymru yn dangos pa mor angerddol yw’r Llywodraeth ynglŷn â’r mater hwn. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd fy etholwyr a’u teuluoedd yn Islwyn yn elwa o’r cynlluniau uchelgeisiol hyn?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiynau; mae hi’n angerddol iawn ynglŷn â chefnogi tai yn ei hetholaeth. Byddwn yn darparu tai ar draws deiliadaethau i fodloni anghenion tai a dyheadau amrywiol eich preswylwyr. Bydd buddsoddi mewn tai o fudd i’r economi leol ac yn creu cyflogaeth. Mae cartrefi newydd hefyd yn cynyddu buddsoddiad lleol drwy rwymedigaethau cynllunio a threthi cyngor, ac yn darparu manteision ehangach i’r gymuned iddi hi a’i hetholwyr eu mwynhau.

Y flwyddyn yma, fe gyflwynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin, o dan arweiniad Plaid Cymru, gynllun i gyflwyno 1,000 o dai fforddiadwy newydd dros y pum mlynedd nesaf. Fel rhan o’r cynllun, mae ganddyn nhw amrywiaeth o ffyrdd i gyflawni hynny: rheoli tenantiaethau ychwanegol yn y sector preifat, dod â mwy o dai gwag yn ôl i ddefnydd, a phrynu cartrefi preifat newydd er mwyn eu rhentu nhw. A ydych chi yn cytuno efo fi bod hwn yn gynllun i’w gymeradwyo ac yn cynnig atebion arloesol, a hefyd y dylid argymell y ffordd yma o weithredu i awdurdodau lleol eraill ar hyd a lled Cymru er mwyn iddyn nhw ddysgu o’r ymarfer da yma, ac ymateb i broblemau tai yn eu hardaloedd nhw?

Wrth gwrs, mae llawer o arferion da ledled Cymru o ran atebion tai. Yn wir, mae awdurdod Llafur Sir y Fflint hefyd wedi cyflwyno cynllun adeiladu tai cyngor, ac yn wir, maent yn diogelu’r sylfaen asedau ar y sail eu bod yn gwneud cais i wahardd yr hawl i brynu hefyd. Felly, rwy’n canmol pobl sy’n buddsoddi yn eu cymunedau, waeth i ba blaid y maent yn perthyn.

Ysgrifennydd y Cabinet, amcangyfrifwyd mewn adroddiad gan y diweddar Athro Holmans fod angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd ar Gymru, neu 12,000 o unedau rhwng 2011 a 2031—golyga hynny o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Mae hyn bron ddwywaith cymaint â’r nifer a ddarparwyd yn 2014-15. Pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau’r Athro Holmans ac ymrwymo yn lle hynny i gyflawni targed ar gyfer tai sy’n is o lawer na’i amcanestyniad ef o anghenion Cymru?

Diolch am gwestiwn yr Aelod. Yn wir, ymddengys bod y llefarydd tai wedi trosglwyddo’r awennau i’r Aelod ar y meinciau cefn yn y fan honno. Byddwn yn annog yr Aelod i ddarllen yr adroddiad llawn ar amcangyfrifon Alan Holmans. Yn wir, bydd angen 174,000 o gartrefi neu fflatiau—mae hyn yn cyfateb i oddeutu 8,700 o gartrefi newydd bob blwyddyn, a fyddai’n golygu bod oddeutu 3,300 yn dai cymdeithasol nad ydynt ar gyfer y farchnad.

Mae’r Aelod yn parhau i roi’r argraff mai’r mater hwn yw’r unig ateb. Mewn gwirionedd, rhan o’r ateb yn unig yw ein 20,000 o gartrefi. Mae’n rhaid i’r farchnad ddarparu atebion tai eraill hefyd, ond byddwn yn buddsoddi £1.5 biliwn yn ystod tymor y Llywodraeth hon mewn atebion cymunedol ar gyfer cartrefi.

Gan ganolbwyntio ar yr 20,000 o gartrefi y mae eich Llywodraeth wedi ymrwymo i’w hadeiladu, roeddwn yn synnu yn y pwyllgor i ddysgu mai 1,000 yn unig ohonynt ar hyn o bryd sy’n mynd i gael eu hadeiladu’n unol â’r safonau ecolegol newydd ar gyfer cynhesrwydd. O ystyried na all oddeutu 40 y cant o’r bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol fforddio eu gwresogi’n iawn, roeddwn yn tybio pam nad ydych wedi edrych yn fwy gofalus ar Pentre Solar, y chwe chartref sy’n cael eu hadeiladu yn Sir Benfro gan Western Solar, gan ddefnyddio £141,000 yn unig o gyllid Llywodraeth Cymru, ac sy’n tynnu pobl oddi ar restr aros y cyngor. Yn awr, hoffent adeiladu 1,000 o gartrefi eraill, yr un cwmni hwn, ond mae’r tir a fydd ar gael, a’i ariannu hefyd, yn eu rhwystro. O gofio eu bod wedi bod mor llwyddiannus gyda chyn lleied o arian, pam y credwch na all y Llywodraeth wneud llawer mwy o ran adeiladu cartrefi sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

Wel, nid wyf yn argyhoeddedig na allwn wneud mwy. Credaf mai’r hyn rydym wedi’i ddweud yw bod y model 20,000 rydym yn ei ddefnyddio yn ddechrau yn y broses o edrych ar fodelu ariannol a’r gallu i ddarparu 20,000 o gartrefi. Nid wyf yn pryderu ynglŷn â llunio’r ffordd y mae hynny’n edrych o ran cyfansoddiad yr 20,000. Os gallwn gael mwy o gartrefi rhatach, sy’n arbed ynni i bara’n fwy hirdymor mewn cyfnod tebyg i’r proffil buddsoddi sydd gennyf ar gyfer cyflawni hyn, rwy’n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny. Nid yw hynny’n benodol i gynnyrch—ond mewn gwirionedd mae fy nhimau yn edrych ar arloesedd, ac yn gweithio gyda’r sector tai a’r is-adran tir i weld beth y gallwn ei wneud i helpu’r Aelod, yn wir, gyda’r gweithgaredd cadarnhaol y mae’n ei geisio o ran effeithlonrwydd ynni mewn tai.

Rhentu Craff Cymru

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am allu staff Rhentu Craff Cymru i ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd? OAQ(5)0060(CC)

Mae tîm Rhentu Doeth Cymru wedi bod o dan bwysau aruthrol, yn enwedig yn y misoedd diwethaf, gyda’r rhuthr hwyr o gofrestriadau. Yn anochel, mae rhai cwestiynau wedi cymryd mwy o amser nag arfer i’w hateb. Rwy’n canmol yr ymdrech enfawr a wnaed gan y tîm i reoli’r galw, fodd bynnag, sy’n cynnwys recriwtio mwy o staff.

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ymateb i Bethan Jenkins yn gynharach. Pan godais hyn gydag arweinydd y tŷ yn ddiweddar, cefais sicrwydd y byddech, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn edrych ar y mater hwn. Gydag wythnos yn unig i fynd, fe ddywedwn ei bod yn ymddangos bod Rhentu Doeth Cymru mewn anhrefn. Ymddengys nad oes digon o staff i gymryd galwadau. Mae rhai pobl yn methu â gwneud taliadau ar-lein ac mae staff yn boddi o dan y galw. Nid yw hyn yn ddigon da, ond a ydych yn credu ei bod yn iawn cyflwyno deddfwriaeth os nad oes gennych ddigon o adnoddau ar gyfer hynny?

Dyma’r peth iawn i’w wneud, yn bendant. Mewn gwirionedd, credaf fod yr Aelodau gyferbyn wedi pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, felly nid wyf yn synnu eich bod yn cwyno am y peth yn awr. Gadewch i mi ddweud wrthych am y staff. Rwyf wedi ymweld â’r cyfleuster, a mentraf ddweud nad wyf yn credu bod yr Aelod wedi ymweld â’r cyfleuster, ac mae awgrymu eu bod mewn anhrefn yn rwtsh llwyr. Ers hanner nos neithiwr, 11 mis wedi i Rhentu Doeth Cymru ddod i rym, roedd bron 50,000 o landlordiaid wedi cofrestru’n llawn gyda Rhentu Doeth Cymru, gyda 1,100 o gofrestriadau wedi eu cwblhau ddoe’n unig. Nid wyf yn credu mai sefydliad mewn anhrefn yw hynny. Maent yn gwneud gwaith da iawn. Y ffaith amdani yw bid hon wedi bod yn broses 11 mis ar gyfer cofrestru, felly peidiwch â dweud wrthyf heddiw fod y rhaglen mewn anhrefn—nid oedd yr Aelod yn ei chefnogi pan gyflwynwyd y rhaglen gennym; nid wyf yn synnu nad yw’n ei chefnogi yn awr.

Mae clywed y Gweinidog yn dweud nad yw mewn anhrefn yn syndod mawr i mi mewn gwirionedd. Credaf fod hynny, yn y bôn, yn berffaith amlwg. Wrth i chi sefyll yma heddiw, nid yw dros hanner y landlordiaid wedi cofrestru. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a wnewch chi ymestyn y dyddiad cau er mwyn osgoi troseddoli pobl onest a gweithgar?

Wel, rydych yn—. ‘Na’, yw’r ateb i gwestiwn yr Aelod, ac nid wyf wedi dweud ein bod yn mynd i’w troseddoli, chwaith. Rydych yn siarad ar eich cyfer eto, fel rydych yn ei wneud ar eich taflenni, yn gyffredinol.

Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant

5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaethau ar gyfer gwella cyfleusterau chwarae i blant ledled Cymru? OAQ(5)0066(CC)

Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod heddiw. Rydym yn gweithio ar draws yr holl feysydd polisi sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaethau i gynyddu cyfleoedd chwarae i blant. Amlinellir y meysydd hyn yn ‘Cymru—Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’, gan gynnwys ysgolion, cynllunio, traffig a thrafnidiaeth, ac iechyd a llesiant.

Diolch am hynny, Weinidog. Fe gyfeirioch at Gymru fel gwlad sy’n creu cyfle i chwarae, ac rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi rôl hanfodol ymarfer corff mewn magwraeth iach ac i’n gwneud yn oedolion iachach. Fodd bynnag, mae’r mannau hyn o dan bwysau aruthrol. Cânt eu gwerthu, neu maent yn segur neu’n ffiaidd. Nid yw pobl yn dymuno mynd yno, am nad ydynt yn teimlo’n ddiogel. Pa fesurau diogelu, Weinidog, y gallwch eu rhoi ar waith i sicrhau bod y mannau cyhoeddus hyn yn cael eu diogelu a’u cynnal yn dda er mwyn i oedolion a phlant fel ei gilydd allu mwynhau’r awyr agored a chael ffordd iachach o fyw?

Rwy’n llwyr gydnabod pryderon yr Aelod. Yn wir, deuthum i fyd gwleidyddiaeth oherwydd mannau chwarae yn fy ardal i—roeddwn am wneud yn well ar ran y gymuned, ac yn wir, yn hunanol iawn, ar ran fy merch, pan oeddwn yn mynd â hwy i’r parc ac nid oedd yn cyrraedd y safon. Felly, credaf fod gan yr Aelod bwynt dilys. Rydym wedi cyflwyno asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer awdurdodau lleol; mae ganddynt ddyletswydd statudol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant, ac mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni eu cynlluniau gweithredu ar gyfer chwarae bob blwyddyn.

Mae holl ethos y Llywodraeth hon yn ymwneud ag atal ac ymyrryd yn gynnar, ac yn enwedig pobl ifanc—mae cyflwyno Gweinidog plant yn dangos yn benodol iawn ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl ifanc yn ein cymunedau a ledled Cymru.

Gwyddom fod mannau chwarae diogel, hygyrch a hwyliog ar gyfer plant yn bwysig ac yn rhan annatod o’n cymunedau lleol. Mae’r un mor bwysig fod plant yn cael lleisio barn wrth lunio’r hyn sy’n effeithio arnynt. Gyda hynny mewn golwg, rwy’n falch iawn o weld bod senedd Ysgol Merllyn, dan arweiniad eu prif weinidog, Tony, yma yn yr oriel heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae grwpiau a sefydliadau plant, megis senedd wych Ysgol Merllyn, yn cael eu cefnogi a’u hannog i helpu’r broses o lunio cyfleusterau chwarae yn eu hardaloedd?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddelyn am ofyn y cwestiwn pwysig hwnnw i mi. Mae’n bleser croesawu Ysgol Merllyn a’r prif weinidog, Tony, gyda’i enw hanesyddol, i’r Siambr hefyd. Mae’r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn. Yn wir, mae’r canllawiau statudol, ‘Cymru—Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’ yn nodi’r hyn sy’n ofynnol gan awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu rôl—y clybiau ieuenctid a’r cynghorau ysgol. Mae’r canllawiau hefyd yn annog awdurdodau lleol i gael hyrwyddwr chwarae i godi proffil chwarae ymysg pobl ifanc. Rwy’n annog pob awdurdod i ymgysylltu â phobl ifanc o ran yr hyn y maent yn eu hystyried yn ofynion ar gyfer eu cymunedau a’r anghenion sydd ynghlwm wrth hynny, a dymunaf daith ddiogel i’r ysgol yn ôl i’ch etholaeth.

Mae’n hawdd siarad, ac rwy’n ceisio meddwl sut rydych yn cyplysu’r gwrth-ddweud rhwng yr hyn sy’n cael ei ddweud yn y Siambr hon a’r ffaith fod canolfan chwarae ar ôl canolfan chwarae wedi cael eu cau gan eich plaid yn fy rhanbarth. Yng Nghaerdydd, mae Canolfan Chwarae Grangetown wedi bod o dan fygythiad ers blynyddoedd; mae gennym Glwb Ieuenctid Canol Caerdydd a’r clybiau chwarae o gwmpas hwnnw o dan fygythiad—wel, yn y bôn, dywedwyd wrthynt eu bod yn mynd i gau. Dywedwyd wrthynt eu bod yn mynd i gau. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni’r plant y mae eu canolfannau chwarae o dan fygythiad gan eich plaid?

Mae’n amlwg fod gan y Cynulliad hwn rôl strategol iawn yn y ffordd yr ydym ni’n rheoli ac yn creu polisi. Efallai y bydd yr Aelod am ailystyried y cwestiwn hwnnw, gan ei fod yn gynghorwr yn yr awdurdod lleol y mae’n sôn amdano. Mae’n safbwynt diddorol, wrth iddo sôn am ‘eich plaid chi’ yn cau canolfannau chwarae ac ysgolion ac ati. Dyma ddyn a oedd yn arfer bod yn aelod o’n plaid ni, ond newidiodd ei safbwynt, fe aeth at blaid arall, ond nid yw hynny’n newydd inni ychwaith. Felly, rwy’n diolch iddo am y cwestiwn, ond mae’n gwestiwn dibwynt, eto.

Y Rhaglen Cymunedau am Waith

O, mae’n ddrwg gennyf, ni allaf roi’r gorau i chwerthin.

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cymunedau am Waith? OAQ(5)0068(CC)

Diolch i’r Aelod dros Orllewin De Cymru am ei chwestiwn. Mae Cymunedau am Waith yn weithredol ledled Cymru. Mae’n chwarae rhan allweddol yn cefnogi fy ymrwymiad i gynyddu cyflogadwyedd fel llwybr allan o dlodi. Mae’r rhaglen eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gefnogi 5,630 o bobl, gydag 898 ohonynt wedi cael mynediad uniongyrchol i gyflogaeth.

Diolch am yr ateb. Daethoch at y pwyllgor cydraddoldeb, a gofynnais rai cwestiynau ynglŷn â hyn i chi, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am gyllideb y rhaglen, faint o staff y mae’n eu cyflogi yn benodol drwy gyllideb eich adran, a faint o bobl y mae wedi eu helpu ers dechrau’r rhaglen. Oherwydd dywedir ar y wefan fod llawer o’r arian hwn yn dod o gyllid Ewropeaidd, a hoffwn ddeall, pan ddaw’r cyllid hwnnw i ben, sut y byddwch yn parhau â’r rhaglen benodol hon, a hefyd, os mai’r bwriad yw i’r rhaglen gymryd lle Cymunedau yn Gyntaf, sut y byddwch yn ehangu ar hynny o bosibl, neu os byddwch yn ehangu ar hynny, a ydych yn credu mai dyma yw’r cynllun iawn i fwrw ymlaen ag ef.

Credaf y byddai’n deg egluro ynglŷn â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny eto, fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, ac nid wyf ychwaith wedi dweud mai’r bwriad yw i’r rhaglen hon gymryd lle rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, er fy mod wedi dweud, cyn belled ag y gallwn gynnal rhaglen Esgyn a’r rhaglen Cymunedau am Waith, y byddaf yn parhau i wneud hynny, er gwaethaf y ffaith mai rownd gyllidebol 12 mis sydd i honno. Ond rwy’n awyddus i barhau â hynny am gyfnod hwy. Byddaf yn rhoi ymateb mwy manwl i’r Aelod ynglŷn â chyllid, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, os caf, gyda manylion am y rhaniad rhwng cyllid Ewropeaidd a’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ond fel y dywedais, mae’r broses o gyrraedd ein targed cyffredinol—y garreg filltir o ddarparu 4,000 o gyfleoedd erbyn diwedd mis Tachwedd bron wedi’i chwblhau, gyda 3,919 o’r rhaglenni hyfforddi hynny eisoes yn gyfleoedd i unigolion ledled Cymru.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, oherwydd credaf fod gennyf innau bryderon ynglŷn â dyfodol y rhaglen hon, a rhaglen Esgyn yn benodol, sy’n helpu pobl yn ôl i mewn i waith ac yn targedu ardaloedd difreintiedig? Credaf ei fod wedi rhoi sicrwydd y byddant yno yn y dyfodol. A all hefyd roi sicrwydd, wrth iddo ystyried a thrafod yr ymgynghoriad yn dilyn ei ystyriaeth i roi diwedd ar raglenni Cymunedau yn Gyntaf, sut y byddant yn gweithio yn yr ardaloedd hynny, gan fod eu ffocws ar Cymunedau yn Gyntaf mewn gwirionedd a’u bod wedi integreiddio’n rhannol â Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd, er mwyn i ni allu sicrhau eu bod yn parhau y tu hwnt i ddiwedd Cymunedau yn Gyntaf o bosibl?

Unwaith eto, heb achub y blaen ar fy mhenderfyniad wrth gwrs, a gwn nad oedd yr Aelod yn bwriadu awgrymu hynny, credaf fod rhaglen Esgyn a Cymunedau am Waith yn gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion drafod opsiynau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ymestyn rhaglen Cymunedau am Waith y tu hwnt i fis Ebrill 2018. Rwyf wedi gofyn iddynt roi cyngor i mi ynglŷn â hyn, ac unwaith eto, fel gyda Bethan Jenkins a chithau, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, ac i’r Aelodau eraill, yn y datganiad y byddaf yn ei wneud yn y flwyddyn newydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwybod mai prif achos tlodi yw anweithgarwch economaidd, ac amcan y rhaglen hon yw helpu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur. Maent naill ai wedi bod yn anweithgar yn economaidd erioed neu wedi bod felly ers amser hir iawn, ac mae targedu sgiliau isel, gyda’r nod o gael mentoriaid sy’n gallu siarad â’r bobl hyn a’u hysbrydoli a rhoi’r hyder iddynt symud ymlaen, ac i roi’r hyfforddiant hwnnw iddynt mewn mannau lle y byddant yn ddigon cyfforddus i’w dderbyn—nid yw’n hawdd mynd i goleg addysg bellach os yw’r math hwnnw o amgylchedd yn gwneud i chi deimlo dan fygythiad. Ond mae’r rhaglenni hyn yn ddibynnol iawn ar gyllid yr UE—£7 miliwn yn y rownd ddiweddaraf, ac mae’n rhaid i ni ddiogelu’r arian hwn. Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth iddo wrth i ni gynllunio ar gyfer cyllidebau’r dyfodol.

Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac fel y soniais yn gynharach yn fy nghyfraniadau, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Llywodraeth hon ganolbwyntio ar ddau faes, sef adfywio economaidd a datblygu’r swyddi, y sgiliau a chyfleoedd a hyder i bobl allu mynd i mewn i’r farchnad, er mwyn rhoi sefydlogrwydd hirdymor iddynt. Un elfen yn unig o’r jig-so yw’r rhaglen Cymunedau am Waith, ac Esgyn, gan gynnwys y 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed a’r adduned gofal plant, sef cyfres o ddulliau i alluogi pobl i fynd yn ôl i mewn i’r farchnad. Rwy’n sicr yn cydnabod y buddsoddiad Ewropeaidd sylweddol. Rwy’n ddiolchgar am gydnabyddiaeth yr Aelod hefyd, a bydd yn ddefnyddiol i ni ddod at ein gilydd pan fydd rhaglen gadael yr UE yn cael ei chyflwyno, er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein hariannu’n llawn i raddau sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein holl gymunedau a gynrychiolir yma yng Nghymru.

Canolfannau Cymuned o ran Datblygu Cymunedol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd canolfannau cymuned o ran datblygu cymunedol yng Nghymru? OAQ(5)0069(CC)

Diolch i John Griffiths am ei gwestiwn. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau’n cefnogi datblygu cymunedol. Byddwn yn hyrwyddo fferyllfeydd cymunedol, yn cryfhau’r ddarpariaeth gymunedol ar draws y GIG, yn datblygu ysgolion cymunedol ac yn treialu canolfannau dysgu cymunedol, yn ogystal â datblygu dull a wnaed yng Nghymru mewn perthynas ag asedau cymunedol.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny. Mae eich cyhoeddiad eich bod yn ystyried peidio â pharhau â Cymunedau yn Gyntaf wedi peri cryn ofid, wrth gwrs, yn enwedig mewn canolfannau cymunedol nad ydynt ar hyn o bryd yn darparu Cymunedau am Waith neu’r rhaglen Esgyn neu raglenni eraill rydych wedi datgan y byddant yn parhau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl tybed a allwch gynnig rhywfaint o sicrwydd, yn y broses o ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer datblygu cymunedol yng Nghymru, y bydd rôl y canolfannau cymunedol sydd yn y sefyllfa honno yn cael ei hystyried yn ofalus, o ystyried eu bod yn darparu gwasanaethau gwerthfawr iawn sy’n hynod o bwysig i gymunedau lleol ledled Cymru.

Rwy’n ddiolchgar am y nifer o drafodaethau rwyf wedi eu cael gyda’r Aelod, ac yn wir, gyda Jayne Bryant, yr Aelod sy’n gymydog iddo, yn enwedig mewn perthynas â Chasnewydd. Ni allaf ymrwymo i ddyfodol unrhyw raglen, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn, ac rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad, y byddaf yn gwneud penderfyniad yn ystod y mis nesaf, a fydd yn seiliedig ar gyngor da. Y peth gyda Cymunedau yn Gyntaf yw mai rhaglen trechu tlodi yw hi, felly mae’n rhaid i ni asesu’r effaith yn ofalus, a lle y mae’n cyffwrdd â meysydd eraill hefyd, fel Cymunedau am Waith a’r rhaglen Esgyn. Rwy’n awyddus iawn i allu cyflwyno rhaglen cymunedau cryf wrth i ni symud ymlaen, ac nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i wneud y penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, rwyf wedi nodi sylwadau’r Aelod, y trafodaethau cadarn rydym wedi’u cael, a’r sylwadau y mae wedi’u gwneud, a byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i hynny wrth i ni symud ymlaen.

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn rwy’n credu ei bod yn briodol i ni gofio bod llawer o’n canolfannau cymunedol mewn gwirionedd yn neuaddau coffa ac yn tarddu, yn arbennig, o’r cyfnod ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Roeddwn yn falch o allu coffáu Sul y Cofio yn fy nghanolfan gymunedol leol, sef neuadd goffa ym Mhenparcau yn Aberystwyth. Wrth siarad â’r ymddiriedolwyr yno ar ôl y digwyddiad, roedd yn amlwg eu bod yn ei chael hi’n anodd ar adegau i wneud neuaddau coffa a darddodd o ddau ryfel byd yn berthnasol i bobl ifanc heddiw, a sut y gellir gwneud y ganolfan gymunedol honno’n ganolbwynt i’r gymuned leol unwaith eto. Felly, yn eich cynlluniau wrth symud ymlaen, beth y gallwch ei wneud i gynorthwyo gyda’r ochr gyfalaf, efallai, o ran adfywio rhai o’r canolfannau cymunedau hyn—er, rwy’n falch o ddweud bod Penparcau wedi cael ei hadfywio—ond yn bwysicach, i gynorthwyo ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr i wneud yn siŵr fod neuaddau coffa’r gorffennol yn berthnasol i genedlaethau ifanc y dyfodol?

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn perthnasol iawn y mae’r Aelod yn ei ofyn heddiw. Mae’n hollol iawn—nid ddylem anghofio gwerth hanesyddol rhai o’r adeiladau hyn, a hefyd y gwerth sentimental a’r parch y maent yn eu cynrychioli. Wrth gwrs, mae gennym y rhaglenni sy’n edrych ar ddull a wnaed yng Nghymru o drosglwyddo asedau cymunedol, ond rydym mewn cyfnod anodd o galedi, ac rydym yn wynebu heriau i gyllidebau. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth wneud yn siŵr fod ein buddsoddiadau wedi’u targedu’n dda. Mae’r enghraifft ym Mhenparcau y mae’r Aelod yn ei chrybwyll yn wych i’w gweld—fod trigolion lleol yn gwneud defnydd da o’r cyfleuster hwnnw.

Hyrwyddo Rhianta Cadarnhaol

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhianta cadarnhaol? OAQ(5)0058(CC)

Mae gan rieni fynediad at ystod o wasanaethau sy’n hyrwyddo rhianta cadarnhaol, wedi’u darparu gan bartneriaid mewn llywodraeth leol, iechyd ac addysg. Mae hyn yn ffurfio rhan o becyn o fesurau i hyrwyddo rhianta cadarnhaol, gan gynnwys yr ymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’ a’n buddsoddiad sylweddol yn rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod yn dadlau’n gryf dros rianta cadarnhaol, yn arbennig o ystyried yr hyn rwy’n credu sy’n gynlluniau cynamserol gan eich Llywodraeth i wahardd smacio a throseddoli rhieni. Fodd bynnag, nodaf eich bod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gwasanaeth rhianta cadarnhaol yn rhywbeth a ddylai fod ar gael i bob rhiant sydd ei angen. Yn anffodus, fodd bynnag, er gwaethaf eich ymdrechion, nid yw hynny’n wir. Cynhaliwyd tua 3,000 o gyrsiau rhianta cadarnhaol dros y 15 mis hyd at fis Mehefin 2016. Roedd traean o’r rheini yng Nghaerdydd, ac mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys Conwy, ni chafwyd yr un. Pa gamau rydych yn eu cymryd i wneud yn siŵr fod mynediad teg at wasanaethau rhianta cadarnhaol ar gyfer pob rhiant drwy’r wlad?

Wel, rwy’n gweithio gyda fy nhîm yn awr i gyflwyno cam nesaf rhianta cadarnhaol. Rwy’n credu bod yr Aelod yn hollol gywir—mae’n rhaid i ni ymgysylltu â rhieni. Nid wyf wedi cael fy argyhoeddi, mewn gwirionedd, wrth i ni eistedd yma heddiw, mai ymgyrchoedd posteri neu raglenni ar wefannau yw’r ffordd orau o hyrwyddo rhianta cadarnhaol. Rwy’n credu bod yna lawer o gymorth gan gymheiriaid neu fentora drwy grwpiau cymunedol, boed yn grwpiau crefyddol mewn eglwysi, neu mewn ysgolion, neu grwpiau mam a’i phlentyn, neu grwpiau tad a’i blentyn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu rhannu enghreifftiau ac mae’n ffordd lawer mwy cadarnhaol o ymgysylltu.

Y gyfres o ddulliau rwy’n edrych arni yw darparu pecyn rhianta cadarnhaol a gyflwynir drwy ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt, ac yna byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn deddfu, a gwn nad yw’r Aelod yn ffafrio hynny. Ond mae hon yn gyfres o ddulliau rhianta cadarnhaol, a byddwn yn deddfu ar ddiwedd hynny i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol.

A fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai un o’r ffyrdd gorau o gefnogi rhieni yw drwy grwpiau lle y mae rhieni’n cefnogi ei gilydd ac yn dysgu o sgiliau magu plant ei gilydd? A fuasai’n llongyfarch y sefydliadau a ffurfiwyd gan rieni i gefnogi ei gilydd, yn arbennig Rhieni Sengl Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Gingerbread, y cyfarfûm â hwy yn ddiweddar, ac sydd yno i gefnogi ei gilydd, i hyrwyddo byw’n iach, ac a fu ar daith gerdded lwyddiannus iawn o amgylch Ynys y Barri y penwythnos diwethaf?

Yn wir, a phwy wyf fi i ddadlau â Julie Morgan yn y maes hwn? Wrth gwrs, ni chefais wahoddiad i fynd ar daith gerdded—efallai fod hynny’n syniad da. [Chwerthin.] Ond mae’r Aelod yn hollol iawn: rwy’n credu ei fod yn ymwneud â’r ymyriadau sydd gennym gyda’n gilydd. Perthnasoedd—yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn nad yw’n gweithio’n dda, ac mae dull heb stigma o fynd ati i wella datblygiad pobl ifanc yn bwysig. Rwy’n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny, oherwydd mae’r ymgyrchoedd sydd gennym ar hyn o bryd yn cael eu gyrru gan brosesau, yn hytrach na’u bod wedi’u personoli ac yn canolbwyntio ar unigolion. Rwy’n credu bod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn.

Gwasanaethau Gofal Plant

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wydnwch gwasanaethau gofal plant a gaiff eu darparu gan fentrau cymdeithasol? OAQ(5)0073(CC)

Diolch i’r Aelod dros Gastell-nedd am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rhan werthfawr y mae gwasanaethau gofal plant a gaiff eu darparu gan fentrau cymdeithasol yn ei chwarae wrth ddarparu gofal plant yng Nghymru. Rydym yn darparu cefnogaeth i wella eu gwydnwch drwy ganllawiau i awdurdodau lleol, cyllid drwy ein grant cyflawni ar gyfer plant a theuluoedd a thrwy ddarparu cyngor a chefnogaeth i fusnesau drwy Busnes Cymru.

Rwy’n diolch iddo am y datganiad hwnnw. Yfory, fel y mae’n gwybod, yw Diwrnod Mentrau Cymdeithasol. Mae llawer o leoliadau gofal plant yn cael eu darparu drwy gyfrwng mentrau cymdeithasol, fel y bydd yn gwybod gan ei fod yn gyfarwydd â lleoliadau yn fy etholaeth. Mae sicrhau gwydnwch y sector yn hanfodol, ac mae hynny’n cynnwys y sgiliau rheng flaen, wrth gwrs, ond hefyd, yn bwysig, sgiliau sy’n ymwneud â rhedeg y sefydliadau eu hunain. Fel rhan o’r cynlluniau sydd i ddod ym maes gofal plant, a wnaiff edrych ar lefelau sgiliau a phrofiad yn y sector i gyflawni’r swyddogaethau hynny hefyd—rheolaeth, cyfrifeg a marchnata hyd yn oed—ac edrych ar sut y gallwn ledaenu’r arferion gorau sy’n bodoli mewn rhannau o’r sector?

Yn wir, mae’r Aelod yn gywir. Nid cynnig gofal plant yn unig yw hwn—mae llu o sgiliau sydd eu hangen yn sail i hynny, o ran craffter busnes, cyfleoedd a hyfforddiant. Rwyf wedi dechrau cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog sgiliau, y comisiynydd plant a llu o sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn gwneud y gorau o’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yma. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru, a ariennir drwy Cwlwm, y consortiwm gofal plant, a chymorth busnes awdurdodau lleol, yn rhywbeth rwy’n awyddus i wneud yn siŵr ei fod yn parhau yn y gymuned, gan gefnogi’r union fuddsoddiadau y mae’r Aelod yn siarad amdanynt.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei wireddu? OAQ(5)0057(CC)

Roedd ein rhaglen ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2015 yn tynnu sylw at y nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth a pholisïau rydym wedi’u cyflwyno i hyrwyddo hawliau a chyfranogiad plant ar draws y Llywodraeth.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau fod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei hyrwyddo yn ein hysgolion. Yn anffodus, nid yw’r ddyletswydd yn ddarostyngedig i’w harolygu gan Estyn ar hyn o bryd. Rwy’n teimlo y dylai fod er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu deall beth yw eu hawliau a sut y gallant sicrhau y gellir eu gwireddu. Pa gamau y byddwch yn eu rhoi ar waith gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i sicrhau bod cyfundrefn arolygu Estyn yn gallu edrych ar y ddyletswydd ac ystyried a oes angen gwneud newidiadau iddi?

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am nodi hynny yn y Siambr heddiw. Ar hyn o bryd mae gennym ni ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg adolygiad o’r gwasanaethau arolygu ar fin cychwyn, a byddwn yn edrych ar hynny’n ofalus.

Adfywio’r Kingsway yn Abertawe

11. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgais i adfywio'r Kingsway yn Abertawe fel canolfan fusnes a chyflogaeth? OAQ(5)0062(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Drwy’r £8.89 miliwn o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae Abertawe wedi gwneud cyfres o gaffaeliadau strategol er mwyn gallu darparu ardal fusnes ganolog ar Ffordd y Brenin.

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Yn bellach i hynny, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna oedi hir wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ar y Kingsway, ac mae prif ffrwd canol dinas Abertawe wedi mynd i edrych braidd yn llwm. Mae yna nifer o brosiectau, ac rydych chi wedi cyfeirio at un, sydd ddim jest i wneud â’r cyngor lleol ond, wrth gwrs, i wneud â’r Llywodraeth yn fan hyn. Felly, a allaf wthio arnoch chi yn bellach i ofyn pa ddylanwad sydd gyda chi i brysuro’r gwaith cyfamserol hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd i adfywio’r Kingsway yn Abertawe?

Rwy’n ddiolchgar iawn am gwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn gyfarwydd â’r oedi y mae’n tybio ei fod yn gysylltiedig â’r Llywodraeth. Yr hyn rwy’n ei wybod yw y bydd buddsoddiad Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn Abertawe yn denu tua £103 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol ac yn darparu 675 o swyddi newydd mewn 14,000 metr sgwâr o ofod masnachol wedi’i adnewyddu. Yn wir, wrth fwrw ymlaen i newid yr ardal fusnes ganolog ar Ffordd y Brenin, mae cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi gallu caffael rhai o’r adeiladau anodd hynny y mae’r Aelod yn sôn amdanynt. Yr un y mae’n gyfarwydd ag ef o bosibl yw hen glwb nos Oceana, sydd, yn wir, wedi’i brynu ar gyfer ei drawsnewid yn yr ardal benodol honno. Dylem fod yn gadarnhaol iawn ynghylch cyngor Abertawe a’r cyfle y maent yn ei roi i’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.

Adfywio Dyffryn Hafren

12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio Dyffryn Hafren? OAQ(5)0061(CC)

Rydym yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau adfywio ar draws dyffryn Hafren. Rydym wedi dyfarnu benthyciad cyfalaf canol tref ailgylchadwy o £1.25 miliwn i Gyngor Sir Powys.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod ffordd osgoi’r Drenewydd yn datblygu’n dda, a byddwn yn ddiolchgar iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech roi gwybod i mi sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo trefi dyffryn Hafren—yn enwedig y Drenewydd, Llanidloes a’r Trallwng—i fanteisio i’r eithaf ar ffordd osgoi’r Drenewydd pan fydd wedi’i chwblhau.

Yn wir, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am gydnabod ymrwymiad y weinyddiaeth Lafur hon yn y gorffennol o tua £92 miliwn i ffordd osgoi’r Drenewydd. Ond dylai’r Aelod fod yn ofalus iawn wrth ofyn am ffordd osgoi un funud ac yna gofyn am fuddsoddiad yn ei gymuned y funud nesaf, pan fydd ceir yn osgoi ei bentref, rwy’n disgwyl, oherwydd y ffordd osgoi.

2. 2. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad a’r cyntaf wythnos yma yw Angela Burns.

Diolch i chi, Lywydd. Roedd yna ddiwrnod ym mis Chwefror 2015 pan ddywedwyd wrth fy ngŵr y dylai ddisgwyl y gwaethaf, ac roedd bywydau fy nheulu ar chwâl am gyfnod. Roedd gennyf sepsis ac nid oedd y frwydr i drechu’r byg yn mynd yn dda. Pwy a wyddai—nid fi—y gallai peswch agor y drws i elyn creulon a phenderfynol â’i holl fryd ar ddinistrio? Heddiw, lansiwyd y grŵp trawsbleidiol ar sepsis mewn ystafell a oedd yn llawn o oroeswyr, Aelodau’r Cynulliad, clinigwyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth. Mae amcanion y grŵp yn driphlyg: yn gyntaf, codi proffil sepsis—mae’n lladd mwy o bobl na chanser yr ysgyfaint; yn ail, annog mwy o ataliad a sicrhau bod rhaglen o gefnogaeth ar gael i helpu’r rhai hynny sy’n byw gyda chanlyniadau’r clefyd, megis Jayne Carpenter, nyrs o Ysbyty Brenhinol Gwent, a gollodd ei dwy goes, braich a phedwar bys o ganlyniad i sepsis; ac yn drydydd, cyflawni llwybr sepsis clir a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Nid yw pawb yn ddigon ffodus i allu siarad am eu stori sepsis. Mae traean o’r rhai sydd â sepsis yn marw, traean yn dioddef canlyniadau fel Jayne a thraean yn dod ohoni’n gymharol ddianaf, ond nid oes neb yn dianc yn gwbl ddianaf. Helpwch ni i newid hynny, os gwelwch yn dda. Grŵp trawsbleidiol yw hwn sy’n anelu tuag at ei ddifodiant ei hun, a gyda’ch help, gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Y penwythnos hwn, cynhelir dathliadau i nodi dau gan mlynedd ers geni un o gerddorion enwocaf Cymru, John Roberts, Telynor Cymru. Dethlir ei fywyd a’i waith mewn deuddydd o berfformiadau, sgyrsiau a digwyddiadau yn archwilio’i fywyd a sut y daeth ef a’i deulu, a oedd yn byw yn y Drenewydd, yn un o berfformwyr cerddorol mwyaf adnabyddus Cymru yn eu dydd. Mae’r dathliadau yn rhan o Ŵyl Gregynog a gynhelir yn Neuadd Gregynog. Ganwyd Roberts i fam Romani a thad o Gymro yng ngogledd Cymru, a bu’n byw yn Stryd Frolic yn y Drenewydd am ran helaeth o’i fywyd. Gwyddys ei fod wedi perfformio yn Neuadd Gregynog yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Perfformiodd ef a’i deulu yng Ngwesty’r Bear yn y Drenewydd a pherfformiodd hefyd ar naw telyn deires o flaen y Frenhines Victoria tra oedd hi’n ymweld â gogledd Cymru. Yn 1848, enillodd gystadleuaeth telyn y byd yn y Fenni, yn ogystal â gwobr y delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ystod yr un flwyddyn. Rhoddodd Roberts y Drenewydd yn gadarn ar y map cerddorol ac mae’n parhau i fod yn ffigur pwysig yn y diwylliant Cymreig. Roedd yn un o gerddorion enwocaf Cymru yn ystod Oes Fictoria ac rwy’n falch o allu dathlu dauganmlwyddiant ei eni yn y Senedd heddiw.

Rydw i wastad wedi ffansi bod ar gefn moto-beic. Wel, mi ges i gyfle ychydig ddyddiau yn ôl. Yn anffodus, nid oedd o’n symud ar y pryd—nid wyf wedi pasio prawf moto-beic. Ond, yng Nghaergybi yr oeddwn i, y tu allan i Ysbyty Penrhos Stanley, ar gefn moto-beic hyfryd iawn o’r enw Elsa II, i roi sylw i lansiad gwasanaeth newydd beiciau gwaed yn y gogledd-orllewin. I’r rheini ohonoch sydd ddim yn gwybod, mae Beiciau Gwaed Cymru, neu Blood Bikes Wales, yn elusen sydd, ers rhai blynyddoedd, yn cynnig gwasanaeth cludo gwerthfawr iawn i’r NHS ar draws Cymru. Ond mi oedd un rhan o’r jig-so ar goll: y gogledd-orllewin oedd yr unig rhan o Gymru lle nad oedd y gwasanaeth yma ar gael. Rŵan, grŵp o wirfoddolwyr sy’n reidio beics Beiciau Gwaed Cymru, ac yn codi’r arian sydd ei angen i redeg y gwasanaeth. Mi garian nhw bob mathau o gynnyrch rhwng ysbytai, o waed a phlasma i samplau neu ddogfennau meddygol, a hynny ar amser, ar frys ac, wrth gwrs, am ddim. Ac maen nhw’n arbed ffortiwn i’r NHS a fyddai fel arall, y tu allan i oriau gwaith ei staff cludo ei hun, yn gorfod talu tacsis neu ‘couriers’ eraill am y gwasanaeth yma, neu hyd yn oed defnyddio’r heddlu neu ambiwlans.

So, on behalf of the people of Anglesey and north-west Wales, can I thank the enthusiastic bikers for ensuring that we, too, like the rest of the country, can now benefit from their kindness?

3. 3. Cynnig i Gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, ac rydw i’n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig ar ran y Comisiwn.

Cynnig NDM6139 Suzy Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18, fel y nodir yn Nhabl 1 o ‘Gyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017-18’, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2016 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd, a chynigiaf gynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2017-18 a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol. Mae’r gyllideb hon ar gyfer 2017-18, ail flwyddyn y pumed Cynulliad hwn, ac yn y gyllideb, mae’r Comisiwn yn gofyn am £53.7 miliwn, sef cynnydd o 1 y cant uwchben chwyddiant o gymharu â’r flwyddyn hon. Mae’r gyllideb yn cynnwys tair rhan: £34.4 miliwn ar gyfer gwasanaethau’r Comisiwn; £15.5 miliwn ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau; a £3.8 miliwn ar gyfer cyllidebau wedi’u clustnodi nad yw’n arian parod—buasai’r ddarpariaeth gyfrifyddu y mae’r Trysorlys ei hangen ar gyfer cynllun pensiwn yr Aelodau yn enghraifft o hynny. Bydd y gyllideb hon yn sicrhau y gall y Comisiwn fynd i’r afael â’r heriau sydd ar ddod i wynebu’r Cynulliad. Mae’n cefnogi cyflawniad ein nodau strategol yn briodol, sef: darparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf; ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo’r Cynulliad; a defnyddio adnoddau’n ddoeth, gan ystyried sefyllfa ariannol ehangach y sector cyhoeddus.

Mae’r Comisiwn yn bodoli i gefnogi’r Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad, ac rydym yn cydnabod bod y pwysau ar Aelodau’r Cynulliad yn fwy nag erioed. Mae ystod o waith sydd eisoes yn heriol i bwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn wedi cael ei ddwysáu gan newid cyfansoddiadol pellach, pwerau amrywio trethi a rheoli’r broses o adael yr UE. Mae cyfrifoldebau deddfwriaethol, ariannol a chraffu Aelodau etholedig yn unigryw ac yn hollbwysig, felly mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y modd y mae gwasanaethau ardderchog i gefnogi’r Aelodau yn cael eu darparu wrth i chi gyflawni’r cyfrifoldebau hynny.

Ar ddechrau’r wythnos hon, anfonodd y Llywydd neges at yr holl Aelodau yn nodi cynlluniau newydd y Comisiwn i wneud ein senedd yn addas ar gyfer y dyfodol: rhoi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth, cyfathrebu’n effeithiol gyda’r cyhoedd a chyflawni ein dyletswydd statudol i alluogi’r Cynulliad i wneud ei waith deddfwriaethol a’i waith craffu, gan gynnwys datblygu gwaith i fynd i’r afael â gallu’r Cynulliad. Mae Cymru angen llywodraeth dda, ac ni ellir ond darparu llywodraeth dda pan gaiff ei gwella, ei chraffu a’i dwyn i gyfrif gan senedd effeithiol. Os bydd Bil Cymru yn pasio, a bod y Cynulliad yn penderfynu arfer ei bwerau deddfu newydd yn y maes hwn, rydym yn benderfynol o wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i arfogi ein senedd â’r gallu i gyflwyno democratiaeth gref a chynaliadwy yng Nghymru. Fel y byddwch yn deall, megis dechrau y mae’r gwaith hwn. Wrth i ni symud ymlaen, bydd y Comisiwn yn ystyried y goblygiadau cyllidebol ac yn dychwelyd i’r Cynulliad ar yr adeg briodol i chi graffu arno.

O ran cyllideb y flwyddyn hon, y gyllideb rydych yn ei hystyried heddiw, hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu. Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, mae’n rhaid i’r Comisiwn ddangos yn gyson ei fod yn defnyddio’i adnoddau’n effeithlon ac yn effeithiol. Mae gwaith craffu’r pwyllgor yn rhan bwysig o hynny, felly rydym yn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â’r broses gyda’r nod o fod yn glir, yn agored ac yn dryloyw. Gwnaeth y pwyllgor bedwar argymhelliad ac rydym ni, fel Comisiwn, wedi derbyn pob un o’r pedwar. Ac wrth gwrs rydym yn croesawu—wrth gwrs ein bod yn croesawu—y ffaith fod y pwyllgor yn cefnogi ein cais am adnoddau ar gyfer 2017-18. Yn ein strategaeth gyllidebol, roeddem hefyd yn darparu ffigurau dangosol ar gyfer gweddill y pumed Cynulliad, ond oherwydd y lefel o ansicrwydd yn y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys cynlluniau’r Comisiwn a grybwyllais yn gynharach, rydym yn rhannu barn y pwyllgor y dylem ailedrych ar y ffigurau mwy hirdymor hyn mewn blynyddoedd i ddod.

Roedd gan y pwyllgor dri argymhelliad penodol arall. Yn gyntaf, maent wedi gofyn i ni anfon manylion canlyniadau’r ymarfer cynllunio capasiti blynyddol atynt er mwyn iddynt allu gweld lle y caiff adnoddau staff ychwanegol eu defnyddio; yn ail, rydym wedi cytuno i ddarparu manylion ynglŷn â sut y mae’r Comisiwn yn defnyddio unrhyw danwariant yn ôl penderfyniad y bwrdd taliadau; ac yn drydydd, byddwn yn rhoi mwy o fanylion am y buddsoddiad mewn gwasanaethau TGCh mewn cyllidebau yn y dyfodol. Yn olaf, rwyf am sicrhau’r Aelodau y byddwn yn parhau i weithio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian ac yn ymdrechu i fod mor effeithlon â phosibl wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bob Aelod er mwyn eich cefnogi’n effeithiol yn eich rolau.

Rwy’n galw ar Simon Thomas i siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid.

Diolch, Lywydd, a diolch i Suzy Davies, Comisiynydd y gyllideb a llywodraethu, am gyflwyno cyllideb y Cynulliad. Fel sydd wedi cael ei amlinellu, mae’r Pwyllgor Cyllid wedi trafod y gyllideb ac mae’n gwerthfawrogi’r ffordd roedd Suzy Davies a’r swyddogion wedi dod ger bron y pwyllgor ac ateb ein cwestiynau yn agored ac, wrth gwrs, darparu mwy o wybodaeth yn sgil y cyfarfod yn ogystal.

Gwnaethom bedwar argymhelliad ac, fel sydd wedi cael ei grybwyll, mae’r pedwar wedi eu derbyn ac, yn wir, rydym wedi derbyn ymateb i’r pedwar hefyd gan y Comisiwn. Rydym yn falch iawn am y broses yna. Byddai’r Llywodraeth yn gallu dysgu tipyn o’r broses o ran ymateb mor glou i argymhellion pwyllgor.

Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn yn amlinellu’r cynlluniau gwariant a fwriedir ar gyfer 2017-18, yn ogystal â chynlluniau dangosol a gofynion ariannol hyd nes diwedd y pumed Cynulliad. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn ategu’r galw cyffredinol am adnoddau ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw, ac felly mae’n dda gen i ddweud bod y Pwyllgor Cyllid yn argymell i'r Cynulliad gefnogi cyllideb ddrafft y Comisiwn. Fodd bynnag, er bod y cynlluniau gwariant a fwriedir hyd at 2021 yn ddefnyddiol, yn sgil yr ansicrwydd o amgylch yr heriau allweddol sy’n bodoli ar hyn o bryd— megis amseriad Bil Cymru a Brexit, sydd wedi cael eu crybwyll—daethom i’r casgliad y byddai'n amhriodol i’r pwyllgor wneud unrhyw sylw ar y cynlluniau gwario ehangach ar hyn o bryd. Felly, mae ein hargymhelliad ni yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r Comisiwn wedi gofyn am fuddsoddiad ychwanegol o bron £1 miliwn ar gyfer adnoddau staff, ac rydym wedi clywed eisoes gan Suzy Davies am yr angen am hynny. Mae yna fuddsoddiad ar gyfer cefnogi dau bwyllgor ychwanegol, deddfwriaeth ychwanegol, ymateb i newidiadau cyfansoddiadol a rhoi blaenoriaethau pumed Cynulliad y Comisiwn ar waith. Fodd bynnag, roedd y gyllideb ddrafft yn brin o fanylion o ran lle y byddai'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn staff yn cael ei wneud, felly gofynasom am ragor o fanylion ynghylch sut y byddai'r arian yn cael ei ddyrannu yn dilyn adolygiad y Comisiwn o'i gynlluniau capasiti. Rydym yn falch bod y Comisiwn wedi ymrwymo i ysgrifennu atom gyda chanlyniad yr adolygiad maes o law. Ond bydd yr Aelodau wedi derbyn ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno, wrth gwrs, llythyr gan y Llywydd a’r Comisiwn yn amlinellu rhai o’r camau sydd eisoes ar y gweill ynglŷn ag ehangu capasiti pwyllgorau, ac ati, yn y Cynulliad.

Fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Comisiwn yn gofyn am yr uchafswm cyllid sydd ei angen ar gyfer penderfyniad y bwrdd taliadau ar gyflogau a lwfansau Aelodau, er mwyn gwireddu hawliau Aelodau. Dyma’r unig faes y flwyddyn diwethaf lle'r oedd yna unrhyw anghydfod yn y Cynulliad, wrth gwrs, ynglŷn â’r gyllideb yma. Nid yw’r Pwyllgor Cyllid na’r Comisiwn yn gyfrifol am y bwrdd taliadau; nhw sy’n penderfynu ar yr arian sy’n cael ei neilltuo ar gyfer cyflogau a lwfansau Aelodau. Ond yn sgil sylweddoli y gallai'r dull hwn wneud cyllid yn anhygyrch, gwnaethom gytuno â Phwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod angen eglurder ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r cyllid ychwanegol hwn.

Nid swm bach o arian sydd dan sylw—mae cyfrifon y Comisiwn ar gyfer llynedd yn dangos tanwariant o dros £1 miliwn. Felly, er mwyn osgoi’r posibiliad ei fod yn rhyw fath o arian wrth gefn a ddefnyddir heb fod yn hollol amlwg sut mae’n cael ei ddefnyddio, roedd ein trydydd argymhelliad yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiwn tua diwedd y flwyddyn ariannol o ran y tanwariant hwn a'r modd y defnyddir y cyllid ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Rwy'n falch eto fod y Comisiwn wedi cytuno i ddarparu'r wybodaeth hon ym mis Mawrth 2017, felly fe fyddwn ni yn nodi y manylion llawn yn ogystal yn yr adroddiad blynyddol. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn dod â mwy o eglurder i’r ffordd mae arian wrth gefn yn y broses yn cael ei ddefnyddio gan y Comisiwn.

Yn olaf, rydym yn cymeradwyo'r Comisiwn ar lwyddiant y rhaglen bontio ar gyfer technoleg gwybodaeth. Mae’n wir i ddweud fy mod i’n siarad ddiwrnod ar ôl i nifer ohonom ni fod heb e-byst am ddiwrnod, ond a dweud y gwir mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus pan rydych yn ystyried yr arbediad ariannol sylweddol sydd wedi ei wneud o fynd yn fwy annibynnol o ran technoleg gwybodaeth yn y Cynulliad. Rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol ar y gwariant sydd wedi cael ei ddarparu gan y Comisiwn, ond argymhelliad arall gennym ni oedd y dylai cyllidebau yn y dyfodol gynnwys costau manwl ar gyfer prosiectau buddsoddi technoleg gwybodaeth. Rwy'n croesawu, felly, ymrwymiad y Comisiwn i gynnwys rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Felly, mae’r Pwyllgor Cyllid a minnau yn hapus iawn i gymeradwyo cyllideb y comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Yng nghyd-destun cyfrifoldebau’r comisiwn i ddefnyddio adnoddau’n ddoeth, roeddwn yn meddwl tybed a allech ymhelaethu rhywfaint ar faint o arian rydym yn ei wario ar y gwasanaeth arlwyo, lle y mae gennym gytundeb gyda Charlton House, ac yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a oes unrhyw gymalau yno i sicrhau ein bod yn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl.

Yn amlwg, yng nghyd-destun gwastraff bwyd, mae traean o’r holl fwyd yn cael ei daflu, ac rwy’n ofni ei fod yn uwch na hynny hyd yn oed yn y diwydiant arlwyo—mae 57 y cant o fwyd yn y diwydiant arlwyo, sy’n cynnwys tai bwyta a chaffis, yn cael ei daflu cyn cyffwrdd y plât hyd yn oed. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allwch roi unrhyw fanylion i mi ynglŷn â sawl tunnell o fwyd sy’n cael ei wastraffu ar hyn o bryd, neu yn y cyfnod diwethaf sydd ar gael, sut y mae hynny’n cymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac a oes unrhyw beth yn y cytundeb i annog arlwywyr i ganolbwyntio mwy eto ar y mater hwn.

Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas a Jenny Rathbone. Rwyf am ddechrau gyda chwestiwn Jenny Rathbone, os caf. Yr hyn na allaf ei roi i chi heb edrych yn fwy manwl yw’r swm penodol rydym yn ei wario ar y cytundeb. Mae yn yr adroddiad, mewn gwirionedd, ond wrth gwrs, nid wyf wedi dod â hwnnw gyda mi. Ond gallaf yn sicr wneud yn siŵr eich bod yn cael nodyn ar hynny ar unwaith.

O ran y cwestiwn gwastraff bwyd a ofynoch, yn amlwg rydych yn llygad eich lle, o ran defnyddio adnoddau’n ddoeth, mae rhwymedigaeth ar y Comisiwn i sicrhau ein bod yn gwneud hynny. Ac yn ôl y data sydd gennyf hyd yn hyn, ar hyn o bryd, ers 1 Ebrill eleni, mae cyfanswm o 7 tunnell o wastraff bwyd wedi cael ei gofnodi, o’i gymharu â’r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn flaenorol o 12.5 tunnell. Ond wrth gwrs, fe fyddwch yn derbyn nad oes gennym fanylion y flwyddyn lawn eto. Ond o ymestyn o’r ffigurau hynny, maent yn debygol o fod yn debyg ar y cyfan. Felly, rwy’n ddiolchgar i chi am fynegi pryder ynglŷn â hyn.

Wrth gwrs, mae rhan o hyn allan o reolaeth y comisiwn, a phob un o’i staff, oherwydd y ffordd y mae’r sefydliadau sy’n dod yma yn archebu eu bwffes ac yn y blaen, ac mae’n rhaid i ni ddibynnu ar eu manylion er mwyn gwybod faint o bobl fydd angen bwyd, ac os oes llai o bobl yn dod, ychydig iawn y gallwn ei wneud am hynny. Ond byddwn bob amser yn ddiolchgar, fel Comisiwn, am syniadau sydd, mewn gwirionedd, yn ein helpu i leihau gwastraff bwyd. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni am hynny os oes gennych rywbeth penodol yr hoffech ei ddweud wrthym.

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid unwaith eto am ystyried cyllideb y comisiwn yn ofalus ac am gefnogi’r cynlluniau. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, byddwn yn derbyn eich holl argymhellion, a bydd manylion pellach yn cael eu darparu i’r pwyllgor wrth iddynt godi; ni fydd yn rhaid i chi aros am yr adroddiad blynyddol.

Ac o ran y bwrdd taliadau, yn amlwg, rydych wedi egluro fod hwnnw y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y comisiwn, ond fel y gŵyr y Pwyllgor Cyllid, gallant gynnig argymhellion ar sut y gellir cyfarwyddo rhan o danwariant blwyddyn benodol.

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau hefyd yn ymuno â mi i ddiolch i’n prif swyddog cyfrifyddu, sydd wedi goruchwylio’r weithdrefn gymhleth o baratoi a chyflwyno’r gyllideb, drwy flynyddoedd o newid sylweddol yn y Cynulliad. Claire Clancy, wrth gwrs, yw Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad hefyd, a chan ei bod yn debygol mai hon fydd y gyllideb flynyddol olaf a ddaw drwy eich dwylo chi, Claire, rwy’n gobeithio na fydd ots gennych fy mod yn manteisio ar y cyfle hwn, ar ran comisiynwyr y gorffennol a’r presennol, i gydnabod yr ymdrech a’r llwyddiant eithriadol a gyfrannoch i’r rôl, ac am y sicrwydd a’r hyder rydych wedi’i roi i’r Comisiwn hefyd, a’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Rwy’n credu ein bod wedi mwynhau hynny o ganlyniad.

Rwy’n credu bod pwysigrwydd gwaith y Comisiwn wedi cael ei gydnabod yn y ddau gyfraniad a wnaed heddiw. Dylai fod mai’r her fwyaf i’r Comisiwn yw sicrhau bod y Cynulliad, y rhoddwyd y cyfrifoldeb ehangach hwn iddo, ond o fewn y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â bod yn ddeddfwrfa leiaf y DU—nid wyf yn credu y dylem anghofio hynny—wedi’i gyfarparu’n briodol i wneud ei waith. Ein nod yw gosod a chynnal safonau uchel yn ystod cyfnod o graffu cyhoeddus agos a gwella ein henw da rhyngwladol fel sefydliad seneddol effeithiol, agored, o safon fyd-eang.

Felly, ar ran y Llywydd a fy nghyd-gomisiynwyr, rwy’n eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir gan y gyllideb hon er mwyn sicrhau ein bod yn goresgyn yr heriau hynny yn unol â’n nodau strategol, ac rwy’n cymeradwyo’r gyllideb i’r Aelodau. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Gweithwyr Tramor yn y Gig yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Neil Hamilton. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar weithwyr tramor yn y gwasanaeth iechyd, ac rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6145 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.

2. yn galw ar Lywodraeth Cymru, drwy negodi â Llywodraeth y DU, i sicrhau pwerau i gyhoeddi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor weithio yn y GIG yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n codi i gynnig ac i ofyn am eich cefnogaeth chi i’r cynnig sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i.

Mae dyfodol staff yn yr NHS sydd wedi eu hyfforddi dramor wedi dod dan chwyddwydr eleni gan y newid yn yr hinsawdd gwleidyddol ers y refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae staff NHS sydd wedi cael eu hyfforddi dramor yn wynebu ansicrwydd am, rwy’n meddwl, dau brif ffactor. Un yw’r tebygrwydd y gwelwn ni reolau mewnfudo mwy caeth o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd gwleidyddol, yn enwedig rhethreg o’r math glywom ni yng nghynhadledd y Ceidwadwyr tuag at feddygon. Mi fydd hyn hefyd yn cael effaith ar y rhai a allai barhau yn bersonol i gael yr hawl i weithio yma ond efallai na fyddai hyn yn wir am eu gŵr neu wraig neu aelod arall o’r teulu. Mae ansicrwydd yno am ail ffactor, sef yr elyniaeth gynyddol tuag at fewnfudwyr sy’n gwneud Prydain, mae’n ymddangos, yn lle llai deniadol i weithio ynddo.

Rydym yn defnyddio’r ddadl yma’r wythnos yma, felly, i fynd i’r afael â’r ffactor cyntaf yna ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau'r pwerau fel y gallan nhw roi trwyddedau gwaith i wladolion o dramor a allai weithio yn yr NHS yng Nghymru.

Rydym ni eisoes yn gwybod faint mae’r NHS yn dibynnu ar wladolion o dramor. Mi gafodd rhyw 30 y cant o’r meddygon yng Nghymru eu hyfforddi dramor—dros 2,500 ohonyn nhw, ac un o bob chwech o’r rheini o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni’n gwybod bod niferoedd uchel o nyrsys o dramor yn gweithio yma. Rwy’n gwybod am ymgyrchoedd recriwtio yn Sbaen, er enghraifft. Nid ydym yn gwybod, mewn gwirionedd, faint o dramor sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd bod nifer fawr o’r gweithlu yn y sector breifat, ond rydym ni yn gwybod bod y ffigwr wedi cynyddu’n arw a bod y sector yn dweud yn barod pa mor anodd ydy hi i ddod o hyd i weithwyr. Rydym yn gwybod y bydd ein poblogaeth ni yn heneiddio, a bydd hynny’n golygu’r angen am fwy o weithwyr gofal, mwy o nyrsys, mwy o feddygon, a gallwn ni ddim dibynnu ar y lleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru i ddiwallu’r anghenion hyn, ar hyn o bryd beth bynnag.

Ac nid dim ond yr anawsterau penodol sydd yma o ran cael trwyddedau gwaith ar gyfer gwladolion o dramor. Bydd newidiadau eraill i’r system mewnfudo hefyd, mae’n debyg, yn ychwanegu at y problemau. Rwy’n sôn am golledion mewn myfyrwyr o dramor efallai, a hynny hefyd yn cyfyngu ar allu ein sector addysg i ddarparu ar gyfer myfyrwyr o Gymru gan y byddai hynny’n cael gwared ar ffynhonnell sylweddol o incwm prifysgolion. Felly, pam rydym ni’n galw ar Gymru i allu cael y pwerau i gyhoeddi trwyddedau?

Why are we calling for work permits to be issued here in Wales rather than leaving it to officials in London? It’s likely that Wales not being able to determine its own workforce needs, the number of doctors and the number of nurses we need, who are likely to have to come from other countries, and any new immigration system that develops in the UK that doesn’t take into account Welsh needs, is going to put our NHS at risk.

Wales will have different needs to other nations of the UK. We have an older population, more likely to be requiring treatment for chronic conditions, in part at least associated with our industrial past. We currently have quite acute problems of shortages of GPs, problems of rurality and shortages in particular specialisms amongst hospital doctors, in accident and emergency and paediatrics and so on. We have nursing shortages specific to other areas. Other parts of the UK have shortage issues of their own. That’s why we can’t accept the amendments that have been put forward. I find it strange that the Welsh Labour Government feels that a UK Conservative Government knows the workforce needs of Wales better than they do and is, therefore, content to trust them.

UKIP amendments don’t even require Welsh Government to do anything—at least the Government amendment allows for the exploring of options—and I thought that party was all about taking back control. We need control of our workforce here in Wales, of course.

We need to train more staff obviously here—more home-grown staff. We’ve always been in favour of training more home-grown doctors, for example, to solve our recruitment crisis. Wales has the lowest number of doctors relative to population in the UK. Shortages are frankly leading to service closures in places, but you can’t just replace doctors overnight with home-grown doctors. It takes time. If patient care is suffering now due to shortages, then we need to act now to safeguard the future. I don’t want people to assume this is just about doctors—as I say, it’s the entire range of healthcare professionals, including carers in the social sector and, of course, in nursing.

Yes, we need to develop our training programmes to increase home-grown training capacity, but we must make our NHS a welcoming NHS for staff from outside Wales and the UK, and welcoming to those already working in the NHS now and those that we’d like to consider coming here in future. Our NHS, we know, would collapse without them. A Welsh Government, with the powers to issue its own work permits, would be a big step forward to giving us the workforce security that we need. So, I ask you to support this motion.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member
Vaughan Gething 14:41:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Yn ffurfiol.

Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn ei enw ef. Neil Hamilton.

Gwelliant 2—Neil Hamilton

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 3—Neil Hamilton

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rheolau mewnfudo synhwyrol i'r DU, gan gynnwys cyfundrefn trwydded waith a fisa i lenwi'r bylchau sgiliau yn GIG Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, rwy’n gresynu at y ffordd y cyflwynodd Rhun ap Iorwerth y ddadl hon, gan gyfeirio at ansicrwydd i staff presennol y GIG a’u teuluoedd o ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr UE, oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod y Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad y bydd pawb sydd yma’n gyfreithlon yn cael caniatâd i aros. Dyna’r sefyllfa dan rwymedigaeth cytuniad y Llywodraeth. [Torri ar draws.] Ydym, ydym—oherwydd ei fod yn rhwymedigaeth cytuniad Llywodraeth Ei Mawrhydi. Yr ail beth yn benodol—

Mewn dadl 30 munud, lle nad oes gennyf ond ychydig funudau i siarad, nid wyf yn credu y gallaf ildio, mae’n ddrwg gennyf. Ond rwy’n ddigon hapus i weld yr Aelod tu allan wedyn.

Rwyf hefyd yn gresynu’n fawr at y cyfeiriad at elyniaeth gynyddol at fewnfudwyr. Ar wahân i leiafrif bach iawn o unigolion sy’n deilwng o gerydd, nid oes gelyniaeth tuag at fewnfudwyr ymhlith pobl Prydain o gwbl, yn enwedig tuag at y rhai sy’n gweithio yn y GIG.

Mae tua 5 y cant o staff y GIG ledled y DU wedi dod o dramor ac yn ddinasyddion yr UE. Maent yn chwarae rhan eithriadol o bwysig yn darparu gwasanaethau iechyd, a diau y bydd hynny’n parhau. Nid oes neb yn gofyn i ni adeiladu wal ar hyd y Sianel a rhwystro pobl rhag symud y naill ffordd neu’r llall. Yr hyn rydym ei eisiau yw rheolaethau synhwyrol. Mae’r rheolaethau hyn eisoes yn bodoli mewn perthynas â gweddill y byd. Mae nifer fawr iawn o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol sy’n dod o is-gyfandir India—India, Pacistan a lleoedd eraill—ac sydd eisoes yn ddarostyngedig i reolaethau fisa. Felly nid ydym yn gofyn am ddim sy’n syfrdanol iawn mewn perthynas â dinasyddion yr UE.

Ni all neb wadu’r ofn cynyddol ar ran niferoedd mawr iawn o bobl o ganlyniad i’r mewnfudo direolaeth sydd wedi bod yn digwydd yn yr UE ers 2004 yn arbennig. Yn 2001, roedd 59.1 miliwn o bobl yn y DU. Erbyn 2015, roedd y ffigur hwnnw wedi codi i 65 miliwn, a’r amcangyfrifon ar gyfer 2026 yw 70 miliwn o bobl, yn ôl tueddiadau poblogaeth presennol. Mae’r cynnydd hwn yn y boblogaeth wedi digwydd yn eithriadol o gyflym ac mae’n effeithio’n enfawr ar gymunedau penodol mewn gwahanol rannau o’r wlad. Y pryder hwnnw ymhlith y bobl sydd wedi arwain at y penderfyniad i adael yr UE. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny o gwbl.

Ni chawn unrhyw anhawster i gydnabod y cyfraniad y mae mewnfudwyr yn ei wneud i’r wlad hon. Y cyfan y gofynnir amdano gan filiynau o bobl—. Pleidleisiodd 17 miliwn o bobl dros adael yr UE—nid yw pob un ohonynt yn rhagfarnllyd ac yn hiliol. Mae’n bosibl fod lleiafrif bychan iawn yn bobl ragfarnllyd neu hiliol ac nid ydynt yn haeddu ein sylw yng nghyd-destun y ddadl hon. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw y dylid rheoli mewnfudo. Mae pob gwlad yn y byd yn rheoli mewnfudo i raddau mwy neu lai. Sôn yr ydym am fater o faint, nid am fater o egwyddor. Mae’r cynnig, ar un ystyr, yn anwybyddu’r rôl bwysig sy’n cael ei chwarae gan y rhai sy’n dod o rannau eraill o’r byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad i gyflwyno rheolaethau ar fewnfudwyr di-grefft o’r Undeb Ewropeaidd, efallai y gallwn fod yn fwy hael tuag at wledydd eraill o ran y gyfundrefn fisa sydd gennym ar eu cyfer hwy. Mater i Lywodraeth Prydain fydd gwneud y penderfyniadau hyn ac nid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny, yn fy marn i, yn fuddugoliaeth ddemocrataidd bwysig.

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â safbwynt Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fod â rôl yn hyn, ond mae gennym y DU a pholisi mewnfudo’r DU a’r ffordd gywir i Lywodraeth Cymru fwydo i mewn i hwnnw yw drwy’r berthynas arferol sy’n bodoli rhwng Caerdydd a San Steffan.

Felly, rwy’n credu bod dyfodol y rhai sy’n gweithio yn y GIG sy’n ddinasyddion o wledydd eraill wedi’i sicrhau o dan y trefniadau presennol a bydd hynny’n parhau, ac y bydd gennym hyblygrwydd mewn cyfundrefn ar gyfer fisas a thrwyddedau gwaith, y gellir ei chyflwyno maes o law, i ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion sy’n bodoli o ganlyniad i fylchau sgiliau yn y GIG. Felly, er fy mod yn gwrthwynebu unrhyw fath o ragfarn neu hiliaeth, rwy’n credu y dylem, er hynny, dderbyn pryderon y miliynau ar filiynau o bobl sy’n credu y dylid rheoli mewnfudo ac nad oes unrhyw wahaniaeth angenrheidiol rhwng bod eisiau cael digon o bobl fedrus i lenwi’r bylchau sy’n bodoli, nid yn y gwasanaeth iechyd yn unig, ond ym mhob math arall o weithgaredd economaidd, a rheoli, ar y llaw arall, y niferoedd sy’n creu cymaint o anawsterau i gynifer o bobl mewn gwahanol rannau o’r wlad.

A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon? Oherwydd mae’n fater pwysig iawn ac mae angen i ni ymdrin ag ef yn awr ac mae’n fater uniongyrchol iawn, wrth gwrs. Yn fy mywyd blaenorol fel pennaeth iechyd Unsain yma yng Nghymru, roedd gennyf gryn dipyn o ymgysylltiad â GIG Cymru fel cyflogwr, ac mae fy mhrofiad yn y swydd honno wedi fy ngwneud yn hynod o ymwybodol o ba mor hanfodol i’r GIG mewn gwirionedd yw gweithwyr tramor a gyflogir ar draws ein gwasanaeth iechyd cyfan.

Wrth fynd heibio, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddweud eisoes, mae’n werth nodi, er bod y ddadl hon yn ymwneud â gweithwyr y GIG, ni ddylem anghofio’r ffaith nad ein gwasanaeth iechyd yn unig sy’n dibynnu ar weithwyr tramor; mae llawer mwy yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy’n chwarae rhan gynyddol integredig yn y broses o ddarparu gofal iechyd.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, cafodd bron i 31 y cant o feddygon yng Nghymru eu hyfforddi dramor, a chafodd tua 6 y cant o’r rheini eu hyfforddi yng ngwledydd yr UE. Mae hynny’n cyfateb i tua 518 o feddygon yma yng Nghymru a gafodd eu hyfforddi dramor, nid yn yr UE yn unig. O bron i 26,000 o nyrsys cofrestredig yng Nghymru, cafodd 262 eu hyfforddi yn un o wledydd eraill yr UE—ychydig dros 1 y cant—gyda 6.5 y cant arall wedi’u hyfforddi mewn gwledydd y tu allan i’r UE. Gan fod recriwtio o’r UE yn arbennig wedi bod yn elfen allweddol wrth fynd i’r afael â phrinder staff cyfredol, mae’n debygol y bydd y ffigur hwnnw ychydig yn uwch erbyn hyn. Ond nid wyf yn credu fod y ddadl hon yn ymwneud ag ystadegau mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu y gallai unrhyw un ohonom beidio â bod yn ymwybodol o’r cyfraniad aruthrol y mae staff o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a llawer o rannau eraill o’r byd yn ei wneud i’n GIG, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr o Gymru a’r DU. Rydym yn gwybod y buasai’r gwasanaeth iechyd yn ei chael yn anodd iawn hebddynt.

Yn y Siambr hon, yn anffodus, rydym wedi gorfod mynegi, ar sawl achlysur, ein dicter a’n hanobaith ynglŷn â’r cynnydd yn nifer yr achosion o hiliaeth y rhoddwyd gwybod amdanynt ers y bleidlais i adael yr UE ar 23 Mehefin. Pe na bai hynny’n ddigon i gynyddu pryderon ymhlith y staff hyn ynglŷn â’u dyfodol yn y wlad hon, bydd llawer ohonynt yn ofnus bellach ynglŷn â beth fydd gadael yr UE yn ei olygu iddynt pan fydd hynny’n digwydd yn y pen draw—un rheswm arall pam ei bod yn arbennig o ddi-fudd, er gwaethaf yr hyn y mae Neil Hamilton yn ei ddweud, fod Llywodraeth y DU yn methu neu’n amharod i ddarparu unrhyw eglurder ynglŷn â’i safbwynt negodi mewn perthynas â symudiad rhydd gweithwyr. Nid oes amheuaeth o gwbl nad gweithwyr o’r UE a’r gweithwyr tramor y mae’n eu cyflogi ar hyn o bryd yn unig fydd y GIG yn ddibynnol arnynt, ond os ydym am gyrraedd y targedau ar gyfer goresgyn prinder, bydd hynny’n dibynnu ar ddenu mwy o weithwyr tramor yn y blynyddoedd i ddod.

Fel y dywedais ar y cychwyn, rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn. Ond yn anffodus, fel sy’n aml yn wir, rwy’n credu eu bod mewn perygl o fethu cyflawni’r nodau a ddymunir drwy droi hon yn ddadl dros fwy o bwerau—rhywbeth a allai fod yn amcan hirdymor, rwy’n credu, ond o ran y mater hwn, mae’n rhywbeth y mae angen i ni ymdrin ag ef yn weddol gyflym. Felly, mae’r gwelliant gan Jane Hutt, ar y llaw arall, yn cadw pwyslais y cynnig, sy’n anelu at wneud yn siŵr y gallwn ddiogelu gweithlu tramor yr UE a datblygu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol, a hynny heb gael ein trwytho mewn materion technegol neu gyfreithiol yn ymwneud â datganoli pwerau pellach.

Yn sicr, nid wyf yn bwriadu ymhelaethu ar y gwelliant gweddol ragweladwy a welsom gan UKIP. Mae pawb ohonom yn gwybod hyd a lled yr heriau presennol sy’n ein hwynebu mewn perthynas â staffio yn y GIG yng Nghymru, felly mae pam y buasai neb eisiau cyflwyno cynllun trwydded waith a fisa, na fyddai ond yn gweithredu fel rhwystr i recriwtio tramor yn y dyfodol, y tu hwnt i ddirnad mewn gwirionedd. Ein dyletswydd yw sicrhau y gall ein GIG barhau i elwa o sgiliau a phrofiad gweithwyr tramor, a dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad oes unrhyw beth yn rhwystro hynny rhag digwydd.

Rwy’n ddiolchgar am y cynnig sydd ger ein bron heddiw am ei fod yn atgoffa pawb ohonom o’r cyfraniad aruthrol y mae nifer o weithwyr tramor yn ei wneud i’n GIG. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i anfon neges glir o ddiolch a gwerthfawrogiad iddynt am bopeth y maent wedi’i wneud, ac yn parhau i’w wneud, dros ein gwlad. Mae prinder enfawr mewn meysydd staffio penodol yn barod. Rhwng 2013 ac 2015, cafwyd cynnydd o 50 y cant yn nifer y swyddi nyrsio gwag. Ymhlith meddygon, mae cynnydd o 60 y cant wedi bod yn nifer y swyddi gwag. Mae angen i ni gydnabod yn syml iawn na allwn hyfforddi digon o bobl i lenwi’r nifer cynyddol o swyddi a’r nifer cynyddol o arbenigeddau. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, er enghraifft, yn dweud ei bod yn cymryd tua 15 mlynedd i fyfyriwr meddygol hyfforddi i ddod yn feddyg ymgynghorol, felly mae hynny’n gwneud y gwaith o gynllunio’r gweithlu yn hynod o anodd.

Ac wrth gwrs, mae’r pwysau ar y GIG yn newid. Mae gennym boblogaeth gynyddol o bobl hŷn gydag anghenion mwy cymhleth. Felly, rydym yn lwcus i allu recriwtio gweithwyr o dramor, ac maent yn darparu llawer mwy o werth ychwanegol i’n GIG na phâr o ddwylo neu sgil technegol yn unig. Mae perthynas rhai gweithwyr tramor â chleifion, eu ffordd o drafod cleifion, yn wych i’w weld ac yn darparu gwerth ychwanegol i’n GIG a gwerth ychwanegol i’n hymarfer, yn enwedig ym meysydd gofal cymdeithasol a nyrsio.

Mae’n wir fod y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi newid pethau, ond rwy’n credu’n gryf na fuasai’r mwyafrif llethol o bobl Cymru, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi pleidleisio dros adael, yn dymuno gweld meddygon a nyrsys o dramor yn cael eu hatal rhag parhau i weithio yma yng Nghymru. Ni allwn gau’r drws ar weithwyr tramor. Rwy’n cyfaddef bod yn rhaid i ni barchu’r ffaith fod y rhan fwyaf o’r rhai a bleidleisiodd dros adael yr UE wedi gwneud hynny am nifer fawr o resymau, ond yn bennaf oherwydd eu bod yn dymuno gweld rhyw fath o gyfyngiad ar y rhyddid i symud a llai o fewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd i’r Deyrnas Unedig. Ond dyna pam rwy’n credu y buasem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn sicr yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn credu bod angen i ni ofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn i ni allu parhau i recriwtio’r bobl eithriadol hyn i’n cynorthwyo ni, ein cymunedau, ein gwasanaeth iechyd gwladol a’n gofal cymdeithasol.

Mae Donna Kinnair, cyfarwyddwr polisi ac ymarfer nyrsio yn y Coleg Nyrsio Brenhinol, wedi dweud:

Mae nyrsys a hyfforddwyd mewn gwledydd eraill wedi cyfrannu at y GIG ers iddo gael ei sefydlu.

Ni fuasai’r gwasanaeth iechyd yn ymdopi heb eu cyfraniad, ac o ystyried y ffaith fod y cyflenwad o nyrsys y dyfodol yn ymddangos yn ansicr, ni fydd y sefyllfa hon yn newid yn fuan.

Gadewch i mi ailadrodd y darn bach hwnnw unwaith eto:

Mae nyrsys a hyfforddwyd mewn gwledydd eraill wedi cyfrannu at y GIG ers iddo gael ei sefydlu.

Nid oes gennyf fi unrhyw fwriad o droi fy nghefn arnynt yn awr.

Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 14:54:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch i chi, Lywydd, ac rwy’n falch o siarad yn y ddadl heddiw a chydnabod cyfraniadau’r Aelodau eraill ar y cyfraniad gwerthfawr y mae gweithlu’r GIG yn ei wneud i iechyd ein cenedl. Mae staff yn ganolog i’n GIG, a’n blaenoriaeth yw sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru y gweithlu cywir sydd ei angen arno ar gyfer y tymor hwy. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai a aned neu a hyfforddwyd mewn mannau eraill, ond yn hytrach, eu croesawu fel yr asedau gwerthfawr y maent bob amser wedi bod i weithlu’r GIG a’r cymunedau ehangach. Rwy’n arbennig o falch o gydnabod y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth a Dawn Bowden ynglŷn â’r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach yn ogystal.

Nawr, rydym wedi clywed sawl gwaith o’r blaen fod niferoedd meddygon ymgynghorol, meddygon teulu, nyrsys a staff yn gyffredinol yn y GIG yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed. Fodd bynnag, rydym yn parhau i wynebu heriau recriwtio, gan gystadlu i ddenu meddygon ar adeg pan fo gwledydd eraill hefyd yn wynebu prinderau mewn arbenigeddau meddygol penodol, ond hefyd ar draws ystod eang o arbenigeddau eraill yn y gwasanaeth iechyd hefyd. Rwy’n credu, fodd bynnag, y dylai’r drafodaeth ynglŷn â gweithlu, hyfforddiant a recriwtio’r GIG ymwneud yn unig â sut y gallwn barhau i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl yn wyneb galw cynyddol a chymhlethdod cynyddol ym maes gofal.

Mae dros £350 miliwn y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gefnogi dros 15,000 o fyfyrwyr, hyfforddeion a staff. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd addysg a hyfforddiant ar gyfer ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ym mis Medi, er enghraifft, gwelwyd y lefel uchaf o leoedd hyfforddi nyrsys yn cael eu comisiynu yng Nghymru ers datganoli—cynnydd o 10 y cant ar nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys a gomisiynwyd y llynedd, sy’n ychwanegol at y cynnydd o 22 y cant yn 2015-16. Nid ydym am weld rheolaethau’n cael eu cyflwyno a fuasai’n niweidio economi Cymru neu wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG. Byddwn yn cymryd rhan adeiladol mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig eraill ar y pwnc hwn, yn ogystal ag ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid a phobl ledled Cymru.

Ar yr un pryd, nid ydym yn ymddiheuro am ddweud unwaith eto na fyddwn yn goddef unrhyw fath o hiliaeth neu senoffobia yn y GIG yng Nghymru, neu mewn bywyd cyhoeddus neu fywyd preifat yn ehangach. Byddwn yn mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad neu sylwadau annerbyniol yn uniongyrchol. Mae’n hanfodol i ni fel Llywodraeth ein bod yn parhau i edrych tuag allan, i feddu ar ymagwedd ryngwladol, yn agored ar gyfer busnes ac yn falch o werthoedd ac ethos ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein hymrwymiad i degwch a chyfle i bawb yn glir ac mor gadarn ag erioed.

Rhan o’r hyn sydd wedi ein clymu yn y pedair gwlad wahanol sy’n ffurfio teulu’r GIG ers 1948 yw cyd-ddealltwriaeth fod y bobl o wahanol rannau o’r byd sy’n gweithio yn y GIG yn gwneud cyfraniad enfawr. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu’n llwyr ag ymagwedd bresennol Llywodraeth Geidwadol y DU, sy’n credu mai tra bo’u hangen yn unig y mae croeso yma i feddygon a staff tramor y GIG. Mae’r ymagwedd hon yn niweidiol i enw da a gweithrediad y GIG yn y pedair gwlad ar adeg dyngedfennol, ac rwy’n hapus i gydnabod y naws a’r agwedd wahanol iawn a welwyd gan Angela Burns yn y Siambr hon o’i chymharu ag ymagwedd Llywodraeth y DU.

Mewn ymateb i bwynt Neil Hamilton am India a Phacistan a’r rheolaethau fisa gwahanol sy’n bodoli, wel, nid yw’r rheolaethau fisa hynny’n helpu’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru nac unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Nid oes gan y rheolaethau hynny unrhyw beth i’w wneud â gofalu am les gorau’r GIG a’r cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu. Mae amddiffyn hawliau dinasyddion gwledydd eraill yr UE a thu hwnt sydd ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn fater hollbwysig, ac rydym wedi gweld cynnydd mewn anoddefgarwch ers y dadlau ar adael yr UE. Ni waeth pa ochr roeddech arni yn y bleidlais ar adael yr UE, ni ddylem anwybyddu na cheisio lleihau’r niwed a’r difrod gwirioneddol sy’n cael ei wneud i ddinasyddion Cymru ers y bleidlais honno. Ni fydd y Llywodraeth hon yn trin aelodau gwerthfawr o’n GIG fel testunau bargeinio yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir ein bod yn parhau’n ymrwymedig i archwilio pob opsiwn i hwyluso recriwtio a chadw gweithlu’r GIG o’r UE a thu hwnt i’r DU, a’r rhai sy’n gadael yr UE. Fodd bynnag, rydym yn cynnig ein gwelliant gan nad oes unrhyw drefniadau penodol ar waith o ran gadael yr UE, ac yn benodol nid yw’r Llywodraeth yn gwybod am unrhyw drefniadau—nid ydynt i’w gweld fel pe baent yn gwybod i ble maent yn mynd—felly rydym yn awyddus i gael trefniant mwy agored yn hytrach na chlymu ein hunain wrth fecanwaith penodol ar gyfer cyflawni ein hamcanion. Wrth gwrs, ni ddylai fod yn syndod ein bod yn gwrthwynebu gwelliannau UKIP. Mae’r Llywodraeth hon yn ymfalchïo yn staff ein GIG a bydd yn parhau i’w gwerthfawrogi, ni waeth o ble y daethant, am y cyfraniad y byddant yn parhau i’w wneud i fywyd o fewn, a thu allan, i’n gwasanaeth iechyd gwladol.

Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma.

Let me get straight into the comments made by the UKIP representative. We all know we are told that there is no problem with people staying who are currently in the UK. It’s the kind of throwaway, meaningless comment that has been such a feature of the European debate. UKIP have made a habit, it seems, of issuing fake guarantees that they have no authority whatsoever to make. In Prime Minister’s questions at Westminster today Alberto Costa, the Conservative MP, asked please that he never be put in a position where he is asked to vote on the possible deportation of his parents, who’ve been in the UK for 50 years. Theresa May turned round and said that yes, of course, she’d like to be able to give that guarantee, but even she can’t make that guarantee now. So, I’ll dismiss the comments made once again by UKIP.

I welcome the comments made by Dawn Bowden. Many of the comments here show that we have a joint venture, most of us in this Chamber, in ensuring that we make the Welsh NHS a welcoming Welsh NHS.

Dawn Bowden said that she feared that Plaid Cymru is risking failing to reach our aim by arguing for more powers, but, as we so often state here, it’s about powers with a purpose. My fear is that, in putting faith in a UK Government that even Angela Burns from the Conservative benches here has said she had little faith in in relation to NHS staffing, and some of the sounds that we’ve been hearing from UK Conservative politicians, we need to make sure that we have the best tools possible in our armoury here in Wales to defend ourselves as we move forward.

We’ve sown the seed, I think, hopefully, today of an idea for which, whilst other parties say they’re not able to sign up to it as yet, we will be able to continue to make the case as a means to give us that workforce guarantee that we will need in future. You have today shown your faith—your trust—in UK Government. I have come to the position where I do not have that faith in UK Government to take the requisite steps in order to protect our NHS workforce in future. Here is an idea that, even if it doesn’t get your support today, we will bring back, because we want Welsh Government to be able to do what it has to do to make sure that we have an NHS fit for the Welsh people in future.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Cynllun Pensiwn y Glowyr

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Yr eitem nesaf yw dadl nesaf Plaid Cymru ar gynllun pensiwn y glowyr, ac rwy’n galw ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6146 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod adroddiadau yn datgan bod Llywodraeth y DU wedi derbyn £8 biliwn gan Gynllun Pensiwn y Glowyr (MPS), yn unol â threfniadau presennol sy'n golygu ei bod yn cael 50 y cant o warged MPS, ac yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi cael £750 miliwn mewn taliadau gwarged yn 2014 yn unig.

2. Yn galw am adolygiad o'r trefniant rhannu gwarged 50/50 rhwng Llywodraeth y DU ac MPS, fel y caiff ei gefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn Lloegr, i sicrhau adolygiad Llywodraeth y DU o'r trefniadau gwarged MPS a cheisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd MPS.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno’r cynnig a gynigiwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae mater gwarged cynllun pensiwn y glowyr yn ffurfio rhan o drindod ddieflig o anghyfiawnderau glowyr, ynghyd â chreulondeb y wladwriaeth yn y gorffennol a dad-ddiwydiannu bwriadol eu cymunedau. Ond rwy’n gobeithio y gall yr holl Aelodau ar bob ochr gytuno nad yw’r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn un dadleuol a’i fod yn syml yn ceisio mynd i’r afael ag anghyfiawnder sy’n digwydd bob dydd o bob wythnos.

Caeodd Cynllun Pensiwn y Glowyr i aelodau newydd ynghanol y 1990au, gyda nifer aelodau’r cynllun yn gostwng o 700,000 yn 1960 i oddeutu 200,000 y llynedd. Mae’n gynllun sy’n cynnwys cronfa fuddsoddiadau sy’n werth dros £1 biliwn a chronfa bonws ychwanegol, ac yn ogystal, disgwylir y bydd cyfanswm y buddion disgwyliedig yn y dyfodol yn werth oddeutu £19 biliwn. O dan gytundeb a gafwyd yn 1994, mae Llywodraeth y DU yn gwarantu solfedd y cynllun, ac eithrio’r bonws ychwanegol, a mynegeio pensiynau gwarantedig yn flynyddol, yn unol â chwyddiant prisiau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Pan gafwyd y cytundeb i rannu gwarged prisiad y gronfa 50/50 rhwng y gronfa a Llywodraeth y DU, nid oedd unrhyw un yn disgwyl i’r gronfa berfformio cystal ag y gwnaeth—nid oedd neb yn rhagweld y buasai Llywodraeth y DU wedi elwa o dros £3.5 biliwn, a lyncwyd yn rhan o wariant cyffredinol y Llywodraeth. Yn wir, ar droad y mileniwm, dywedodd Ymgyrch Cymunedau’r Meysydd Glo:

Cafodd y warant ei rhoi yn ôl cyngor actiwaraidd. Wrth edrych yn ôl, ymddengys bod y cyngor yn rhy ofalus, ond hen hanes yw hynny bellach.

Y pwynt yw bod y cronfeydd mewn sefyllfa ariannol gadarn ac o dan y trefniadau presennol, nid oes gan y Llywodraeth unrhyw rwymedigaeth wirioneddol.

Yn wir, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr wedi amcangyfrif y gall Llywodraeth y DU, dros gyfnod o 25 mlynedd, ddisgwyl cael £8 biliwn mewn taliadau gwarged o’r gronfa. Yn 2014 derbyniodd y Trysorlys £750 miliwn, ynghyd â £95 miliwn pellach y llynedd yn rhan o’r rhaniad gwarged.

Dadleuir bod modd cyfiawnhau cyfran Llywodraeth y DU o’r gwarged am ei bod yn gweithredu fel gwarantydd, ond mewn gwirionedd, Ddirprwy Lywydd, mae clo triphlyg sy’n bodoli eisoes yn sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn cael ei gadael yn agored—sef y taliadau gwarged eu hunain, gwerth y gronfa fuddsoddiadau a’r ffaith nad yw’r Llywodraeth yn gwarantu’r elfen ychwanegiad bonws.

Felly, yn sicr, bydd unrhyw berson teg sy’n ystyried y ffeithiau hyn yn dod i’r casgliad nad yw’r trefniadau presennol mewn perthynas â’r gwarged yn sicrhau cydbwysedd cywir rhwng tegwch i lowyr sydd wedi ymddeol a’r risg bosibl i’r trethdalwr. Mae cynnig Plaid Cymru heddiw yn cynnwys dwy egwyddor sylfaenol: yn gyntaf, ein bod yn cefnogi galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygu gwarged prisiad y pensiwn; yn ail, ein bod yn mandadu Llywodraeth Cymru i gynghreirio gyda gweinyddiaethau datganoledig ac arweinwyr rhanbarthol eraill yn Lloegr er mwyn dwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflwyno adolygiad hir-ddisgwyliedig o warged Cynllun Pensiwn y Glowyr. Nid yw hyn yn ymwneud ag adolygu Cynllun Pensiwn y Glowyr yn gyffredinol neu ailystyried rôl Llywodraeth y DU fel gwarantydd ac am y rheswm hwnnw, ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr â sicrhau cyfiawnder o ran y gwarged.

Ddirprwy Lywydd, cefais fy ngeni yn ystod streic y glowyr 1984-5 a fi yw’r ail genhedlaeth yn fy nheulu nad yw wedi gweithio o dan y ddaear. Rwy’n gwybod bod llawer yma wedi byw drwy’r digwyddiad hwnnw ac yn wir, wedi bod yn rhan ohono ac wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol. Mae etifeddiaeth ein treftadaeth ddiwydiannol yn aros gyda phob un ohonom heddiw, ni waeth beth yw ein hoedran neu ein cefndir, ac yn bendant felly ymysg cyn-lowyr, sy’n bensiynwyr erbyn heddiw. Roedd un slogan enwog o’r streic honno’n dweud na fyddai glowyr unedig byth yn cael eu trechu. Lywydd, pe bai’r Cynulliad hwn yn siarad ag un llais heddiw, pe bai’n unedig, gallai ddarparu mandad i’n Llywodraeth a allai—efallai—arwain at fuddugoliaeth hir-ddisgwyliedig i lowyr a’u teuluoedd. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw. Paul.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn cydnabod bod bodolaeth gwarant wedi galluogi'r ymddiriedolwyr i fuddsoddi mewn ffordd sydd wedi cynhyrchu gwargedion a thaliadau bonws, o ganlyniad, i aelodau.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a chynigiaf welliant 1 a gyflwynwyd yn fy enw.

Wrth gwrs, mae sicrhau a diogelu pensiynau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo yn hytrach na chael eu rhoi o dan anfantais ar ôl i’w gyrfaoedd ddod i ben. Felly, mae’n bwysig fod pensiynau cyn-lowyr yn cael eu diogelu a bod unrhyw drefniadau gyda Llywodraeth y DU yn addas, yn dryloyw ac yn deg. Nawr, mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr wedi dweud y credir bod oddeutu 25,000 o lowyr yn derbyn y pensiwn hwn yng Nghymru, ac felly mae’n iawn ein bod yn trafod y mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr hon i gyd yn cytuno bod hyfywedd y cynllun pensiwn hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y cyn-lowyr hyn yn cael y sicrwydd ariannol y maent yn ei haeddu ac y mae ganddynt hawl iddo. Mae’n hanfodol fod cynllun pensiwn o’r fath yn cael ei warantu gan Lywodraeth y DU a deallaf fod y warant, dros y blynyddoedd, wedi rhoi rhyddid i’r ymddiriedolwyr fuddsoddi mewn ffordd fwy amrywiol, ac o ganlyniad, mae’r cynllun wedi cynhyrchu gwargedion sylweddol ac nid yw Llywodraeth y DU wedi gorfod chwistrellu arian i’r cynllun hyd yn hyn er mwyn sicrhau bod cyn-lowyr yn cael eu pensiwn. Ac wrth gwrs, buaswn yn tybio bod y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi gorfod chwistrellu arian i’r cynllun yn dangos bod y cynllun pensiwn yn llwyddiannus a’i fod wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd. Mae’n amlwg yn gweithredu’n well na’r gorchwyl ariannol a fwriadwyd ar ei gyfer ac mae’n ymddangos i mi fod yr ymddiriedolwyr yn gwneud penderfyniadau da mewn perthynas â buddsoddiadau o fewn y cynllun.

Fodd bynnag, rwy’n cytuno’n llwyr â phwynt 3 y cynnig hwn, sy’n dadlau’n gryf dros sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd y cynllun. Mae’n eithaf amlwg fod bodolaeth y warant yn galluogi’r ymddiriedolwyr i ddilyn strategaeth fuddsoddi fwy amrywiol, ac mae cyfran sylweddol o asedau’r cynllun yn parhau i fod wedi’u buddsoddi mewn ecwiti. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi ein gwelliant i’r ddadl hon, sy’n ceisio cryfhau cynnig heddiw.

Rwy’n deall y galw eang am adolygu’r trefniant presennol gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny’n rhywbeth rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn ei gefnogi er mwyn sicrhau bod cyn-lowyr yn derbyn cyfran briodol o’r cynllun pensiwn a’i fod yn darparu’n briodol ar gyfer anghenion cyn-lowyr, a’i fod yn deg. Felly, rydym yn cefnogi pwynt 3 y cynnig, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig ac arweinwyr lleol a rhanbarthol eraill yn Lloegr i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn adolygu trefniadau gwarged cynllun pensiwn y glowyr. Rwy’n deall, o adroddiadau newyddion, fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, ac rwy’n siŵr y bydd arweinydd y tŷ yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd Llywodraeth Cymru, a’i safbwynt yn wir, wrth ymateb i’r ddadl hon.

Gyda golwg ar bwynt 1 y cynnig hwn, rwy’n deall bod yna wahanol ddehongliadau o swm yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU o dan y trefniadau presennol, ond beth bynnag yw’r ffigurau, mae’n eithaf amlwg fod Llywodraeth y DU wedi derbyn symiau sylweddol o arian, a dyna pam rydym yn credu ei bod yn briodol cynnal adolygiad. Mae’n bwysig fod yr adolygiad hwn yn cynnig cyfle i’r cyhoedd graffu ar y mater hwn, o ystyried y symiau mawr o arian dan sylw, ond mae’r egwyddor fod Llywodraeth y DU yn parhau i weithredu fel gwarantydd yn un bwysig, ac mae’n rhaid i’r rôl honno barhau. Felly, pwrpas ein gwelliant yn syml yw cryfhau’r cynnig a chydnabod pwysigrwydd y warant a rôl hanfodol Llywodraeth y DU yn y cynllun hwn.

Felly, Ddirprwy Lywydd, i gloi, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r galwadau am adolygu trefniadau gwarged y cynllun pensiwn, ac rydym yn hapus i gefnogi unrhyw sylwadau a gyflwynir i Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Anogaf yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant a gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i gyn-lowyr o’u cynllun pensiwn.

Rwy’n dod o gymuned debyg iawn i Steffan Lewis, heb fod mor bell i ffwrdd, ac fel cynrychiolydd hen gymuned lofaol, croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ac i groesawu’r materion a nododd Steffan Lewis. Roeddwn innau hefyd yn siomedig iawn pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai’n bwrw ymlaen ag ymchwiliad cyhoeddus i frwydr Orgreave, ac mae adolygu trefniadau cynllun pensiwn y glowyr yn rhoi cyfle i ni unioni anghyfiawnder arall tuag at y glowyr drwy roi chwarae teg iddynt mewn perthynas â’u pensiwn a gwella eu bywoliaeth.

Bydd llawer ohonom yma heddiw, yn enwedig y rhai ohonom a fagwyd mewn cymunedau glofaol, yn cofio sut roedd ein diwydiant yn siapio ein hardaloedd a sut y mae’n parhau i wneud hynny. Bydd llawer ohonom hefyd yn cofio streic y glowyr—ac rwy’n ei chofio—dros 30 mlynedd yn ôl a’r effaith a gafodd ar y bobl a oedd yn gweithio yn y diwydiant a’u teuluoedd. Byddaf yn 40 y flwyddyn nesaf, ond rwy’n cofio—roedd fy nhad yn gynghorydd dosbarth yng Nghwm Rhymni, ac rwy’n cofio teimlo anghyfiawnder anhygoel ar y pryd ar ran ffrindiau i mi yn yr ysgol a oedd yn cael tocynnau cinio am fod eu rhieni ar streic, a’r anawsterau a’r rhaniadau roedd hyn yn eu hachosi yn yr ysgol lle tyfais i fyny. Roeddwn yn ffodus na ddilynodd fy nhad ei lwybr gyrfa i fod yn beiriannydd mwyngloddio a’i fod wedi mynd i’r byd addysg yn lle hynny, ond gallwn fod wedi bod yn yr un sefyllfa yr un mor hawdd.

Ni allwn newid agwedd y Llywodraeth ar y pryd tuag at y diwydiant glo, ond gallwn wneud ein rhan i ddwyn y Llywodraeth bresennol i gyfrif a sicrhau eu bod yn rhoi chwarae teg i’n glowyr. Talodd llawer o lowyr gweithgar arian i mewn i’w cronfa bensiwn gyda phob ewyllys da, yn y gobaith y byddent yn cael incwm go lew ar ôl ymddeol, ac mae preifateiddio’r diwydiant glo wedi rhoi hyn yn y fantol, gydag Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn cynorthwyo llawer sy’n cael budd-daliadau oherwydd pensiynau isel, ac ni all hynny barhau. Nid oes angen i Lywodraeth y DU barhau i gymryd 50 y cant o warged cronfa pensiwn y glowyr gan fod mwyngloddio dwfn wedi dod i ben yn y DU bellach.

Rwy’n llwyr gefnogi Llywodraeth Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr a Steffan Lewis, yn wir, a’i alwadau am adolygu’r trefniadau pensiwn gan gadw gwarant Llywodraeth y DU. Gweithiodd ein cyn-lowyr yn galed am flynyddoedd lawer mewn amgylchiadau a allai fod yn beryglus. Mae llawer ohonynt wedi datblygu problemau iechyd hirdymor cysylltiedig ac angen cymorth yn eu bywydau. Nid wyf yn teimlo fod gwelliant Paul Davies yn ychwanegu unrhyw beth at sylwedd y cynnig, ac felly cefnogi’r cynnig yn unig y byddaf yn ei wneud heddiw. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw cynorthwyo glowyr i gael mwy o chwarae teg a gallwn ddechrau drwy roi pwysau ar Lywodraeth y DU i adolygu’r trefniadau pensiwn er mwyn sicrhau rhaniad tecach rhwng y Llywodraeth a’r glowyr.

Rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno’r cynnig hwn gerbron y Cynulliad heddiw ac am y ffordd y cyflwynodd Steffan Lewis y ddadl. Mae’n rhaid i mi ddatgan buddiant, am fod fy mam yn bensiynwr o dan y cynllun sy’n gweithredu ar y cyd â hwn, cynllun pensiwn staff Glo Prydain, ac rwy’n gyfarwydd iawn â threfniadau cynllun pensiwn y glowyr ei hun. Rwy’n credu bod yna anghyfiawnderau sydd angen eu cywiro yn y sefyllfa bresennol. Fel y nododd Paul Davies, mae 25,000 o lowyr Cymru yn rhan o’r cynllun ar hyn o bryd, ac mae pob un ohonynt wedi rhoi arian i mewn er mwyn cael y buddion y maent yn eu derbyn—5.5 y cant o’r cyflog. Felly, nid gweithred elusennol yw hon mewn unrhyw ddull na modd, ond budd a gontractiwyd.

Mae gwerth i’r warant a roddodd y Llywodraeth wrth breifateiddio’r diwydiant ac wrth gwrs mae’n iawn y dylid rhannu unrhyw warged â’r Llywodraeth, ond mae’r rhaniad 50/50 yn ymddangos yn bell iawn o fod yn deg erbyn hyn. Ni hawliwyd ar y warant honno erioed mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei bod yn annhebygol iawn yr hawlir arni byth, oherwydd nid yw prisiad actiwaraidd yn wyddor eithriadol o fanwl oherwydd eich bod yn rhagweld y sefyllfa ymhen degawdau lawer, yn aml iawn, ac yn gwneud rhagdybiaethau am gyfraddau llog, ond rydym yn gwybod bod cyfraddau llog ar eu lefelau isaf erioed ar hyn o bryd ac ni allant ostwng llawer mwy mewn gwirionedd. Felly, mae’n debygol y bydd unrhyw gynnydd mewn cyfraddau llog yn y dyfodol yn gostwng y diffyg posibl yn sylweddol ac yn cynyddu unrhyw warged posibl yn y cynllun. Felly, mae hynny’n golygu bod gwerth gwarant y Llywodraeth, yn nhermau arian parod, yn llawer llai nag y gellid bod wedi’i ragweld ar yr adeg pan gafodd ei llunio. Ac yn yr amgylchiadau hynny, mae’n rhaid ei bod yn iawn i’r rhaniad 50/50 presennol rhwng buddiolwyr y cynllun a’r Llywodraeth gael ei ailystyried. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi tynnu bron i £3.4 biliwn o’r gronfa ers 1994. Mae hwnnw’n elw sylweddol iawn yn gyfnewid am warant na hawliwyd arni erioed mewn gwirionedd.

Mae’r £8 biliwn y cyfeiriwyd ato yn y cynnig yn cyfeirio mewn gwirionedd at yr hyn y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i elwa o’r cynllun, yn ôl amcangyfrif Binder Hamlyn am y cyfnod o 25 mlynedd o 2006, felly nid ydym yn gwybod yn iawn a yw’r ffigur hwnnw yn mynd i gael ei wireddu. Ond rwy’n meddwl y gallwn ddychmygu’n eithaf da fod swm sylweddol iawn o arian yn mynd i gael ei gymryd o’r cynllun gan y Llywodraeth. Fel y nododd Hefin David yn ei gyfraniad, mae yna lawer o lowyr ar bensiynau isel iawn ar hyn o bryd, a gellid cynyddu’r pensiynau hynny’n sylweddol pe bai’r rhaniad 50/50 yn cael ei newid, felly mae UKIP yn falch o gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

A gaf fi gymeradwyo Steffan Lewis am ddod â’r ddadl hon i’r tŷ ac am gyflwyno’r cynnig? Rwy’n ei gefnogi, ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru a galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr dros nifer o flynyddoedd am adolygu’r trefniant rhannu gwarged.

Cafodd rhannau o fy etholaeth eu hadeiladu ar y diwydiant glo. Mae llawer iawn o bobl yn dal i hawlio o dan y pensiwn fel buddiolwyr—pobl a fu’n talu am ddegawdau a phobl y mae eu gwaith caled wedi adeiladu’r cymunedau rwy’n eu gwasanaethu yn awr yn y lle hwn. Maent yn bobl sy’n haeddu setliad pensiwn teg.

Rydym yn croesawu’r warant. Yn y cyfnod cythryblus hwn o ran prisiadau pensiwn, yn amlwg, mae bodolaeth y warant yn beth da. Y cwestiwn yw: pa bris a delir am y warant honno? Rydym wedi clywed gan y siaradwyr eisoes heddiw ynglŷn â chyn lleied yw cost hynny, i bob pwrpas, i Lywodraeth y DU. Yr hyn na allwn ei gael, neu’r hyn na ellir ei amddiffyn, yw fformiwla sy’n rhoi arian annisgwyl i Lywodraeth y DU ar gefn cyfraniadau pensiwn glowyr dros ddegawdau. Dylai’r trefniadau fod yn ddigon i dalu am unrhyw gost i’r Llywodraeth, ond dim mwy na hynny.

Felly, mae’n bryd cael adolygiad. Fel y crybwyllodd Hefin David, ni chafwyd diwydiant mwyngloddio dwfn yn y 25 mlynedd diwethaf; mae’n chwarter canrif bron ers y cytunwyd ar y trefniadau. Bu newidiadau mawr hyd yn oed ers hynny yn y diwydiant glo. Ni fydd mwy o alwadau am gymorth a chymhorthdal i’r diwydiant hwnnw. Roedd yna adeg pan oedd Tŷ’r Cyffredin yn dadlau ynghylch cymhorthdal i’r diwydiant glo fel mater o drefn, ac rwy’n nodi’r sylwadau a wnaeth Neil Hamilton, sy’n groes, mewn gwirionedd, i’w safbwynt ar y pryd pan ddisgrifiodd gymorth i’r diwydiant fel y postyn pwll drutaf mewn hanes. Felly, rwy’n falch o glywed fod ei feddyliau wedi symud ymlaen ers hynny.

Yn sicr, nid mater i lowyr yw rhoi cymhorthdal i Lywodraeth y DU, felly mae’n bryd adolygu. A gaf fi ddweud, gan fy mod yn gobeithio y byddwn yn cyrraedd sefyllfa pan fyddwn yn adolygu’r trefniadau hynny, bydd y rheini ohonom sy’n mynychu digwyddiadau lles glowyr a digwyddiadau Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo yn nodi, y dyddiau hyn, mai menywod yw mwyafrif y mynychwyr yn hytrach na’r glowyr eu hunain? Rwy’n credu y byddem yn gwneud cymwynas fawr â hwy pe baem, yn ystod yr adolygiad hwn, yn edrych ar y trefniadau sydd gennym ar waith i gefnogi gweddwon glowyr a roddodd eu bywydau i adeiladu ein cymunedau.

Diolch i Steffan Lewis am godi’r mater pwysig hwn ac am gyflwyno’r cynnig ger ein bron heddiw, ac rwy’n ei gefnogi’n llawn. Rwyf hefyd yn cefnogi’n llawn sylwadau’r mwyafrif o’r cyd-Aelodau sydd wedi siarad eisoes yn y ddadl hon.

Fel y dywedodd Steffan, mae’r mater yn dyddio’n ôl i 1994 pan roddodd Llywodraeth Geidwadol John Major y trefniadau newydd ar waith a fyddai’n tanysgrifennu’r golled yn y dyfodol, ac rydym eisoes wedi siarad am hynny. Yn ogystal â’r ffaith fod Llywodraeth y DU eisoes wedi mynd â’r £8 biliwn amcangyfrifedig allan o’r gronfa ers ei sefydlu, bydd glowyr sy’n bensiynwyr yn ein hatgoffa hefyd fod y Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi cymryd seibiant rhag talu cyfraniadau pensiwn am dair blynedd yn 1987. Cawsant seibiant pellach rhag talu cyfraniadau pensiwn yn 1991 a 1994, a ddarparodd £5 miliwn arall ar ben hynny i’r Llywodraeth.

Yr hyn na allwn ddianc rhagddo yw’r ffaith fod y trefniant hwn yn rhan o gytundeb a ddaeth i ben yn ôl yn 1994. Nid trafod cyfreithlondeb trefniant o’r fath a wnawn, ond a yw’n foesol gywir i’r Llywodraeth barhau i gymryd symiau mor enfawr o’r gronfa bensiwn am fod y gronfa wedi perfformio’n llawer gwell nag y gallai neb fod wedi’i ragweld yn 1994. Yn sicr, felly, mae’n iawn mai’r glowyr ddylai gael budd ohoni yn hytrach na’r Llywodraeth.

Wrth ystyried y mater hwn, fel cyd-Aelodau eraill, rwy’n meddwl am y cyfraniad a wnaeth glowyr a’u teuluoedd—gyda llawer ohonynt yn dod o fy etholaeth—i economi, hanes a threftadaeth Cymru. Rhoesant eu hunain yn llwyr, gyda llawer yn talu’r pris eithaf. Y gwaith caletaf sy’n bod, fel y dywedodd Michael Pollard yn ei lyfr, ‘Life and Death of the British Coal Miner’. Ac i beth? Er mwyn cael eu malu gan Thatcher a’i chanlynwyr yn 1985, ac mae gennyf ofn mai Neil Hamilton oedd un o’r rheini ar y pryd. Mewn fendeta yn erbyn eu hundeb, Undeb Cenedlaethol y Glowyr, neu’r ‘gelyn oddi mewn’ fel roedd hi’n well gan y Llywodraeth Dorïaidd ar y pryd eu galw, gan gynnwys Neil Hamilton.

Fel y dywedodd Hefin David, mae aberth y rhai a oedd yn gweithio yn y diwydiant glo yn parhau i lawer o lowyr y mae eu hiechyd wedi dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i weithio mewn diwydiant a oedd yn asgwrn cefn i lawer o’n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Roedd llawer gormod ohonynt nad ydynt, o ganlyniad i’r anafiadau a ddioddefwyd wrth gloddio ein glo, erioed wedi elwa i unrhyw raddau sylweddol neu hyd yn oed o gwbl o gynllun pensiwn y glowyr. Felly, rwy’n arbennig o falch ein bod bellach yn ystyried hyn yma yn y Cynulliad gan fy mod yn gwybod bod Undeb Cenedlaethol y Glowyr yng Nghymru wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd yn mynd yn ôl i’r dyddiau cyn preifateiddio hyd yn oed, dros gael dosbarthiad tecach o’r gwargedion sy’n codi o’r cynllun. Maent wedi lobïo’n gyson am adolygiad o’r trefniant 50/50, a byddwn yn dweud eu bod yn hynny o beth wedi cael eu cefnogi’n fedrus gan yr ymddiriedolwr a etholwyd gan gynllun pensiwn y glowyr ar gyfer y rhanbarth, Mr Anthony Jones, cyn löwr yng nglofa’r Betws yn etholaeth Hefin, ac sy’n cael cefnogaeth lwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr de Cymru yn y rôl hon.

Ddirprwy Lywydd, defnyddiwyd y ddadl gan Lywodraethau olynol yn San Steffan fod angen y gwarged a gymerant i gynorthwyo ac i roi cymhorthdal i’r diwydiant glo. Rwy’n tybio nad oes angen argyhoeddi neb yma yn y Siambr hon ynglŷn â pha mor anghynaliadwy yw dadl o’r fath heddiw, nawr bod diwydiant glo Prydain bron iawn yn grair hanesyddol o’n gorffennol diwydiannol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn gallu cefnogi’r alwad i wneud y gorau o’r manteision sydd ar gael i’r rhai sy’n dal i allu tynnu pensiwn o’r cynllun ac y bydd yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn yn galw am adolygu’r trefniadau.

Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru heddiw a diolch i Steffan Lewis am gyflwyno’r cynnig hwn y byddwn yn ei gefnogi. A diolch i’r Aelodau hefyd am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon.

Wrth gwrs, mae angen i mi ddatgan ar y cychwyn nad yw pensiynau’n ddatganoledig a’u bod yn faterion i Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am drefniadau priodol, diogel ac wedi’u rheoli’n dda ar gyfer y cynllun pensiwn hwn, yn enwedig yng ngoleuni’r digwyddiadau diweddar yn ymwneud â chynlluniau pensiwn mawr.

Pan edrychwn ar y rhai sy’n cael budd, ar 30 Medi 2015, roedd 162,684 o bensiynwyr a 37,807 o bensiynwyr gohiriedig yn y cynllun pensiwn hwn i lowyr ledled y DU. Ym mis Mehefin eleni, 2016, roedd tua 22,000 o gyn-lowyr a gweithwyr y diwydiant glo yn y cynllun yn dod o Gymru. I gydnabod hyn, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, ar 22 Mehefin, ynglŷn â chynllun pensiwn y glowyr, yn cefnogi safbwynt Undeb Cenedlaethol y Glowyr drwy alw am adolygu’r trefniadau cyllido.

Mae wedi cael ei ddweud yn y ddadl hon, yn dilyn preifateiddio Corfforaeth Glo Prydain ym 1994, fod Llywodraeth y DU wedi darparu gwarant solfedd i gynllun pensiwn y glowyr sy’n sicrhau y bydd hawliau pensiwn sylfaenol bob amser yn codi yn unol â chwyddiant ac na ddylai leihau mewn termau ariannol waeth beth yw perfformiad y cronfeydd.

Mae’r cynnig heddiw yn ceisio mynd i’r afael ag annhegwch ymddangosiadol y trefniadau presennol. Dadl Llywodraeth y DU yw bod y rhaniad presennol o wargedion rhwng yr aelodau a’r Llywodraeth yn ad-daliad teg a rhesymol am fuddsoddiad trethdalwyr yn y cynlluniau yn y gorffennol yn ystod y cyfnod o berchnogaeth gyhoeddus ar y diwydiant ac am y risgiau y maent yn parhau i’w hysgwyddo drwy warant y Llywodraeth, a fydd yn parhau hyd nes y caiff y cynllun ei gau, y disgwylir iddo ddigwydd yn y 2070au. Mae’r trefniadau gwarant a negodwyd ar y pryd gan yr ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth yr holl undebau llafur mwyngloddio, yn rhoi cyfle i aelodau’r cynllun rannu buddion o unrhyw warged cyfnodol yng nghronfeydd y cynllun gyda Llywodraeth y DU. Yn ymarferol, rwy’n deall bod hyn wedi golygu bod aelodau’n mwynhau pensiynau bonws gwerth bron i 30 y cant o’u buddion indecs gyswllt. Dylid nodi nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau buddsoddi; mater i ymddiriedolwyr y cynllun yw hynny. Ond mewn ymateb i lythyr y Prif Weinidog yn gynharach eleni, nododd Llywodraeth y DU, er y byddent yn ystyried unrhyw gynigion, mae’n ymddangos nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i newid y trefniadau presennol ar hyn o bryd. Felly, mae’r ddadl hon heddiw a’r alwad hon am adolygiad yn bwysig ac yn amserol iawn, ac mae gennym neges gref i’w hanfon at Lywodraeth y DU.

Calon y mater yn y cynnig hwn yw cwestiwn y gwargedion mawr sy’n cael eu cynhyrchu, ac mae yna gydnabyddiaeth yn hynny o beth fod angen adolygu’r rhain, fel y mae’r Aelodau wedi nodi mor glir. Mae cynllun pensiwn y glowyr wedi bod yn un hynod lwyddiannus, gan gynhyrchu gwargedion sylweddol. Mae’n amlwg fod taer angen adolygu’r swm o arian sy’n cael ei dynnu allan o’r gronfa gan Lywodraeth y DU. Cafodd y cronfeydd yn y cynllun eu hennill gan y glowyr eu hunain a dylid eu defnyddio er lles y glowyr hynny a chyn-weithwyr y diwydiant glo, a’u teuluoedd wrth gwrs—y glowyr a oedd, am dros ganrif, yn asgwrn cefn diwydiant Prydain, a llawer ohonynt wedi aberthu eu hiechyd ac mewn gormod o achosion, eu bywydau er budd ffyniant diwydiannol Prydain. Mae hi ond yn iawn, fel y mae Hefin David a Jeremy Miles wedi dweud, ein bod am weld y gorau iddynt am y ddyled sydd arnom ni a’r wlad gyfan iddynt.

Tynnodd Dawn Bowden sylw at yr ymgyrch hirsefydlog sy’n dal i fynd rhagddi gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr am adolygiad llawn o’r trefniadau presennol, ac rydym yn cefnogi hynny’n llawn. Wrth gwrs, nid ydynt yn galw am roi terfyn i warant y Llywodraeth—rhaid i ni wneud hynny’n glir; maent yn awyddus i sicrhau bod y ffordd y mae unrhyw wargedion yn cael eu rhannu yn deg ac yn gymesur. Mae gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr achos cyfiawn a gwnaethant achos cryf dros gynnal adolygiad. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi iddynt ein cefnogaeth lawn ac yn cefnogi’r cynnig hwn er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei wneud yn llawn o ran yr hyn y mae’r cynnig yn galw amdano, gan weithio gyda phawb yn y gweinyddiaethau datganoledig a all wneud i hyn ddigwydd. Am yr un rheswm, rydym yn gwrthwynebu’r gwelliant a gynigiwyd gan Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn fynegi fy niolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac i arweinydd y tŷ am ei hymateb. Diolch i Paul Davies am nodi y bydd ei grŵp yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw ac rwy’n ei longyfarch am fabwysiadu agwedd wahanol i Lywodraeth ei blaid yn Llundain.

Siaradodd Hefin David yn huawdl am ei atgofion o streic 1984-1985 a rhannodd gyda ni sut y gallai bywyd fod wedi bod yn wahanol iawn ac yn anodd iddo a’i deulu pe bai ei dad wedi dewis gyrfa wahanol. Ac mae’n hollol gywir, wrth gwrs, i ddweud, 30 a mwy o flynyddoedd ers y streic honno, ei bod hi bellach yn bryd mynd i’r afael â phob anghyfiawnder yn erbyn y glowyr a’u teuluoedd, gan gynnwys mater gwarged pensiwn y glowyr. Roedd Neil Hamilton yn iawn i nodi bod glowyr wedi talu i mewn i’r cynllun hwn, ac nid gweithred o elusen yw iddynt elwa o’r cynllun hwnnw: mae’r arian yn eiddo i lowyr a’u teuluoedd. Gofynnodd Jeremy Miles y cwestiwn allweddol sydd wrth wraidd y ddadl hon yn ei chyfanrwydd: beth sy’n bris teg am gefnogaeth Llywodraeth y DU fel gwarantydd y cynllun hwn? Ac yn sicr mae pob un ohonom yn cytuno nad yw rhaniad 50/50 yn bris teg, nid i’r glowyr a’u teuluoedd o leiaf. Roedd Dawn Bowden yn iawn i nodi nad mater cyfreithiol yw hwn; nid yw hwn yn fater sy’n cael ei ymladd ar sail y gyfraith, ond yn bendant iawn, mae’n un moesol.

Roeddwn yn ddiolchgar i arweinydd y tŷ am rannu gyda ni yr ohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU, ac yn hynod o siomedig o glywed ymateb Llywodraeth y DU i sylwadau’r Prif Weinidog. Rwy’n gobeithio y bydd llais unedig iawn y Cynulliad hwn heddiw yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn eu hymdrechion yn y dyfodol mewn perthynas â’r mater hwn.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddiolch a thalu teyrnged i’r glowyr sydd wedi ymgyrchu i gadw’r ymgyrch hon yn sylw’r cyhoedd, yn enwedig y rhai sydd wedi lansio deisebau a ddenodd dros 8,000 o lofnodion. Hoffwn ddiolch i Aelodau eraill sydd eisoes wedi diolch i Undeb Cenedlaethol y Glowyr a fu’n ymgyrchu ar ran glowyr a’u teuluoedd, nid yn unig ar y mater hwn, ond ar nifer o faterion eraill, ac sy’n parhau i gefnogi glowyr a’u teuluoedd mewn perthynas â’r heriau amrywiol y’ maent yn dal i’w hwynebu heddiw.

Ddirprwy Lywydd, mae cyn-lowyr a’u teuluoedd a’u cymunedau wedi dioddef dad-ddiwydiannu, anghydfod, niwmoconiosis, broncitis cronig, osteoarthritis, dirgryniad bys gwyn a mwy yn sgil eu gwaith. Pan ddygwyd eu swyddi oddi arnynt, gwnaed ymdrech i ddwyn eu hurddas hefyd, ac wrth iddynt wynebu hydref a gaeaf eu hoes, gadewch i ni weithio gyda’n gilydd drostynt, er mwyn sicrhau urddas iddynt yn eu hymddeoliad, a phensiynau cyfiawn. Diolch yn fawr iawn.

Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pobl Hŷn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol.

Symudwn ymlaen at eitem 6, sef Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bobl hŷn, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6140 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.

2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a’r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes a’u cartrefi i gostau gofal.

4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;

(b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau; ac

(c) Sicrhau mai Cymru yw’r genedl gyntaf yn y DU sy’n ystyriol o ddementia.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy’n cynnig y cynnig a gyflwynwyd gan Paul Davies AC, sy’n galw am gydnabod y gwerth aruthrol y mae ein haelodau hŷn yn ein cymunedau yn ei gyfrannu tuag at ein heconomi, ond hefyd i gydnabod yr anghenion y maent yn eu haeddu yn awr i’w cynorthwyo, gobeithio, i fyw bywydau hir a llawn.

Mae pobl yn byw’n hirach—i’w 80au, 90au, a hyd yn oed yn hwy. Maent wedi mynd ymhellach, i greu cyfoeth o dros £1 biliwn i’n heconomi drwy ofal di-dâl, gwaith cymunedol, cynorthwyo teuluoedd a rolau gwirfoddoli. Mae gwarant clo triphlyg Llywodraeth y DU ar bensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn golygu bod pensiynwyr yn awr £1,125 yn well eu byd bob blwyddyn ers i’r Ceidwadwyr ddod i rym yn 2010. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhannu uchelgais Llywodraeth y DU i wella bywydau pobl hŷn yn barhaus yma yng Nghymru, a thrwy ein dadl heddiw, rydym yn gwahodd y Siambr hon i wneud yr un peth.

O 2012 i 2030, rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed neu hŷn yng Nghymru yn cynyddu 292,000. Fy awdurdod lleol yng Nghonwy sydd â’r gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, ac maent yn ffurfio 26 y cant o’r boblogaeth. Oes, mae yna amrywio demograffig ar draws Cymru, ond rydym yma i ymladd dros bawb yr ystyrir eu bod yn bobl hŷn yn ein cymdeithas. Mae arnom angen atebion arloesol ac ymarferol i’r problemau sy’n wynebu ein pobl hŷn ar draws ein cenedl.

Un maes allweddol y mae’n rhaid i ni ei wella yw mynediad at y gwasanaethau hanfodol sy’n ofynnol i ddarparu’r ansawdd bywyd y maent yn ei haeddu. Mae mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd yn allweddol, mae mynediad ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu synhwyrau’n hanfodol, ac mae mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl sydd wedi colli eu cof yn hanfodol. Wrth ddweud ‘mynediad’, yr hyn rwy’n ei olygu yw hawdd gyda chyfeirio da, peidio â gorfod wynebu anhawster wrth lywio eich ffordd o gwmpas gwasanaethau sydd ar gael mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae 33 y cant o bobl hŷn yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd iawn gwneud apwyntiad cyfleus mewn gofal sylfaenol. Rydym yn gwybod bod pobl hŷn yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan iechyd gwael; mae 36 y cant yn dweud bod hyn yn cyfyngu ar eu gweithgarwch o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym yn ffodus iawn yma yng Nghymru i gael comisiynydd pobl hŷn sy’n amlwg mor angerddol ynglŷn â sefyll dros hawliau, anghenion a lles ein cenedlaethau hŷn.

Yn ddiweddar, amlygwyd pwysigrwydd y ffaith fod arwahanrwydd ac unigrwydd yn cael eu gweld yn risg i iechyd y cyhoedd, gyda thros hanner y rhai 75 oed bellach yn byw ar eu pen eu hunain, a 63 y cant o bobl 80 oed a hŷn yn dweud eu bod yn teimlo’n unig drwy’r amser. Rhybuddiodd y comisiynydd hefyd ynghylch honiadau difrifol iawn yn ymwneud â phrofiadau pobl hŷn wrth iddynt gael gofal iechyd a thriniaeth. Y mis hwn, rwyf wedi cymryd rhan mewn dau adroddiad lles y cyhoedd gan yr ombwdsmon sydd wedi tynnu sylw at ofal annigonol, gofal annigonol difrifol, a methiant systematig ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a hefyd o ran darparu triniaeth i gleifion hŷn, gan gynnwys aros 132 wythnos am driniaeth canser.

Polisïau fel yr agenda gofal yn y gymuned: pan ymddangosodd yr agenda, rwy’n credu bod pawb ohonom wedi ei chroesawu, ond rwy’n ofni bod gwelyau wedi cael eu tynnu o’n wardiau ysbyty wrth ragweld yr agenda hon. Ac mae hynny wedi digwydd mewn gwirionedd heb fod y staff a’r seilwaith cymunedol yn weithredol. Bellach mae gennym brinder amlwg o ffisiotherapyddion, nyrsys ardal, gweithwyr cymorth, a therapyddion galwedigaethol. Felly, yn y bôn, maent wedi rhoi’r drol o flaen y ceffyl mewn gwirionedd o ran y gefnogaeth. Yn awr mae gennym fwlch real ac enfawr o ddiffyg gofal.

Mae cartrefi gofal yn cau yn awr ledled Cymru, ac rydym wedi colli rhai yng Nghonwy yn ddiweddar—gwelyau salwch meddwl i’r oedrannus na allwn ddod o hyd i rai eraill yn eu lle—cleifion a theuluoedd yn cael mis yn unig i ddod o hyd i leoliad newydd sy’n aml filltiroedd i ffwrdd bellach o’r cymunedau y maent wedi byw, gweithio, a thyfu i fyny ynddynt, cymunedau y maent yn eu caru; yn aml cânt eu symud filltiroedd i ffwrdd.

Mae blocio gwelyau gan bobl sy’n aros am welyau i henoed bregus eu meddwl mewn cartrefi gofal yn rhemp. Bu’n rhaid i un o fy etholwyr aros am 18 mis mewn gwely ysbyty—[Torri ar draws.] Yn hollol—yn aros am ddarpariaeth i henoed bregus eu meddwl. Yn wir, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 79 y cant o gleifion 65 oed a hŷn wedi profi oedi enfawr wrth drosglwyddo gofal: roedd 54 y cant o’r rhain yn oedi o ganlyniad i ofal yn y gymuned, dewis cartrefi gofal, neu’n aros i gartref gofal ddod ar gael. Erys diffyg integreiddio amlwg rhwng iechyd a gofal cymdeithasol—y dywedir mor aml yma ei fod yn symud ymlaen, ond nid yw’n digwydd ar lawr gwlad.

Mae Cronfa’r Brenin wedi rhybuddio bod arosiadau hirach yn yr ysbyty yn arwain at risg uwch o haint, hwyliau gwael a theimladau o ddiffyg hunan-barch a sefydliadaeth, gyda llawer o’n cleifion oedrannus sydd mewn ysbytai mewn gwirionedd yn colli eu holl synnwyr o amser—pa ddiwrnod yw hi, pa fis yw hi, a hyd yn oed pa flwyddyn yw hi—ac nid yw hynny’n iawn. Mae gofal canolraddol wedi canfod bod oedi yn yr ysbyty o ddau ddiwrnod yn unig yn negyddu budd ychwanegol gofal canolraddol. Tra byddant yn yr ysbyty neu mewn gofal, gall yr henoed fod mewn perygl arbennig o ddadhydradu, sy’n aml yn arwain at ddryswch, briwiau pwyso, cwympiadau, a heintiau wrin. Heddiw, cawsom grŵp trawsbleidiol rhagorol ar sepsis a sut i’w atal, diffyg ymwybyddiaeth ohono a nifer y cleifion a phobl sy’n awr yn gwbl anymwybodol o beryglon sepsis. Ac mae hwnnw’n effeithio ar bobl o bob oedran a phob cenhedlaeth, ond mae’n arbennig o beryglus yn yr henoed.

Cynyddodd ymgyrch beilot ar negeseuon hydradu nifer yr ymwelwyr a ddôi â diodydd i mewn ar gyfer perthnasau o 18 y cant i 63 y cant, ond nid yw’n ddigon. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio’n agos i hyrwyddo ymgyrch Dŵr yn eich Cadw’n Iach GIG Cymru ar draws pob ysbyty yng Nghymru, a chynllun Gwydr Llawn, a dreialwyd yng Ngwent.

Gwelodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, fod cael bwyd maethol ac apelgar yn rhan hanfodol o wella. Rwyf wedi cael profiad uniongyrchol lle y gallaf ddweud wrthych fod maeth a hydradu yr un mor bwysig â meddyginiaeth.

Roedd adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni yn amlygu’r problemau a wynebir o ran sicrhau hydradu a maeth digonol mewn ysbytai y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae angen monitro priodol ac anogaeth gan staff a theuluoedd. Rwyf am nodi pwynt ar hynny: yn eithaf aml dywedir wrthym, ‘Os gofynnwn iddynt a ydynt eisiau diod neu a ydynt am fwyta a’u bod yn dweud "na", nid oes hawl gennym i’w gorfodi’. Rwy’n aml wedi dweud y gallwch annog rhywun; gallwch gymell rhywun. Mae yna wahanol ffyrdd os yw rhywun yn rhoi ei feddwl ar waith ac nid oes digon o ffocws ar hyn mewn gwirionedd.

Mae ein cynnig yn galw ar Gymru i ddod yn genedl sy’n ystyriol o ddementia. Ar hyn o bryd mae mwy na 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia—ac mae disgwyl i hynny godi i fwy na 55,000 erbyn 2021 a thros 100,000 erbyn 2055. Dyma brif achos marwolaeth ym Mhrydain bellach, ar 11.6 y cant o’r holl farwolaethau a gofnodwyd, ac eto gan Gymru y mae’r gyfradd ddiagnosis isaf yn y DU gyfan—43 y cant yn unig o’r rhai sydd â dementia sydd wedi cael diagnosis ffurfiol, o gymharu â 64 y cant yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi buddsoddi £50 miliwn mewn creu amgylcheddau sy’n ystyriol o ddementia, gan hyfforddi dros 500,000 o staff y GIG. Dyna sut y mae ei gydnabod a dyna sut i roi camau ar waith, ac rydym am weld gweithredu o’r fath yma yng Nghymru.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi hyfforddi dros 500 o hyrwyddwyr dementia yn y GIG—gallwn gael rhai felly yn y GIG yng Nghymru—ac 800 o lysgenhadon dementia mewn cymunedau lleol: rhai o’r rheini yma, os gwelwch yn dda. Eto i gyd, yng Nghymru, dim ond 32 o weithwyr cymorth dementia wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru sydd yna ledled y wlad gyfan, ac mae’n arswydus na chafodd un o bob 10 o’r rhai a gafodd ddiagnosis unrhyw gymorth o gwbl yn y flwyddyn gyntaf ar ôl eu diagnosis. Dychmygwch y galar a wynebant; dychmygwch y straen ar eu teuluoedd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r arloesedd a welwyd yng ngwledydd eraill y DU i fynd ati’n rhagweithiol i gynnig un pwynt cyswllt yn syth ar ôl diagnosis a sicrhau bod gan yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol ddigon o wybodaeth am y cyflwr hwn sy’n newid bywydau. Mae’r rhai sy’n gweithio i edrych ar ôl ein pobl hŷn yn y sector gofal iechyd yn aml iawn yn gwneud gwaith rhagorol, gwaith sy’n galw am empathi, tosturi, amynedd a dealltwriaeth eithriadol. Fodd bynnag, maent angen ein cefnogaeth. Mae adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar wedi datgan y bydd angen dyblu’r arian sy’n mynd tuag at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf er mwyn darparu capasiti i ofalu am bobl o bob oed yng Nghymru.

Mae dadl heddiw’n canolbwyntio ar sut y gallwn helpu i gefnogi ein pobl hŷn a gwerthfawr iawn yn ein cymuned, pobl sydd wedi dod drwy’r rhyfel, wedi wynebu newyn a dognau ac wedi sefyll yn falch i amddiffyn y wlad i ganiatáu’r rhyddid—wyddoch chi, i mi allu sefyll yma a mynegi fy hun. Mae yna agweddau eraill ar y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau fy nghyd-Aelodau ac Aelodau eraill ar draws y Siambr hon. Diolch yn fawr.

Diolch. Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o’u hasedau pan fyddant yn symud i ofal preswyl.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y DU o ran diwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal.

Gwelliant 3—Jane Hutt

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru;

b) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r egwyddor o Fil;

c) y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pellach i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Yn ffurfiol.

Yn ffurfiol—diolch i chi. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn ei enw—Rhun.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Dileu is-bwynt 5a) a rhoi yn ei le:

'cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o weithio tuag at ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;'

Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth

Dileu pwynt 5b) a rhoi yn ei le:

'cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus;'

Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'adeiladu rhagor o dai â chymorth er mwyn ehangu dewis ac ategu gofal preswyl a sefydliadol.'

Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'gweithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddau ac awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau, cam-werthu a ffyrdd eraill o ymelwad ariannol.'

Cynigiwyd gwelliannau 4, 5, 6 a 7.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl yma, dadl sydd yn un bwysig, ac i gynnig y gwelliannau yn fy enw i. Rydym ni’n sicr yn croesawu’r ddadl yma heddiw. Rydym ni’n cefnogi llawer o eiriad y cynnig, ond yn sicr y cyfan o’r sentiment y tu ôl iddo fo.

Yn rhy aml, rydw i’n meddwl, pan fo hi’n dod i ddadleuon am sut i ddarparu gofal a gofal cymdeithasol ac ati i boblogaeth hŷn y dyfodol, mae rhywun yn gallu teimlo nad yw cyfraniad pobl hŷn eu hunain yn cael ei gydnabod. Mae’r drafodaeth yn aml yn un am sut ydym ni’n ariannu gofal pobl hŷn, ac mae hynny, rydw i’n meddwl, yn anfwriadol yn gallu creu’r argraff bod pobl hŷn, fwy na dim, yn rhyw dreth ar gyllid cyhoeddus ac yn dreth ar gymdeithas. Felly, mae’n werth, rydw i’n meddwl, imi wneud y canlynol yn glir a diamwys: nid problem ydy pobl hŷn, nid draen economaidd neu ddraen o unrhyw fath arall. Maen nhw’n gwneud cyfraniadau hynod werthfawr i’n cymdeithas ni. Rwy’n gobeithio bod yn un fy hun ryw ddiwrnod.

Mae darparu gofal gweddus, addas sy’n cynnal iechyd ac urddas ein poblogaeth hŷn ni yn rhan o’r contract cymdeithasol a ddylai fyth gael ei ystyried fel opsiwn gan Lywodraeth na neb arall. Mae’n aml yn rhywbeth sy’n cael ei anwybyddu bod pobl dros 65 oed yn gwneud cyfraniad sylweddol yn economaidd o hyd, a chymdeithasol, i Gymru. Maen nhw’n darparu gwerth rhyw £260 miliwn o ofal plant am ddim i wyrion ac wyresau a rhyw £0.5 biliwn mewn gwaith gwirfoddol. Felly, mi allwn i restru yn helaethach y cyfraniadau sy’n cael eu gwneud, ac os oes yna bwynt yn dod lle mae yna gost am edrych ar ôl pobl hŷn, peidied byth ag anghofio’r cyfraniad a wnaed yn gynharach yn ystod bywydau pobl hŷn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mi drof i at y gwelliannau—mae yna nifer ohonyn nhw. Ni fyddwn ni’n cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth. Nid ydym ni’n teimlo bod gosod y cap £50,000 yma’n adlewyrchu tegwch. Mi fyddai’n well gennym ni, yn sicr, weld mwy o gynnydd tuag at roi terfyn go iawn ar y dreth dementia yma sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae gwelliant 2, yn ein tyb ni, yn amherthnasol. Mi allai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r talu am ofal ei hunan, faint bynnag o oedi sydd yna’n digwydd o du Llywodraeth Prydain. Mi fyddai gwelliant 3 yn dileu ein un ni, er nad oes gennym ni ddim gwrthwynebiad i’r egwyddorion sy’n cael eu mynegi ynddo fo.

Gan droi at ein gwelliannau ni, nid ydym ni wedi cael ein hargyhoeddi eto o’r angen am ddarn penodol o ddeddfwriaeth ar hawliau pobl hŷn. Mae angen sicrhau hawliau pawb, wrth reswm—pawb fel ei gilydd. Hefyd, wrth gwrs, mae’r dirwedd hawliau dynol yn newid, ac wrthi’n newid yn sylweddol ar hyn o bryd oherwydd bwriad Llywodraeth Prydain, mae’n ymddangos, i gael gwared ar hawliau pobl ar ôl y bleidlais ar Ewrop. Fe allai unrhyw ddeddfwriaeth, felly, sy’n cael ei phasio yma gael ei disodli. Felly, dyna’r rheswm am welliant 4.

Mae gwelliant 5 yn newid ychydig ar eiriad y cynnig gwreiddiol. Mae’n adlewyrchu, mewn difri, ein hyder ni yn y comisiynydd pobl hŷn i fod yn llais ar ran pobl hŷn Cymru.

Mae gwelliant 6 yn cydnabod bod yna fwlch mewn tai lled-breswyl a thai gofal, ‘supported housing’, felly, ar hyn o bryd, a bod angen llenwi’r ‘gap’ hwnnw. Mae gwelliant 7 yn un yr oeddwn i’n eiddgar i’w ychwanegu, yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio efo comisiynwyr heddlu a throsedd i atal pobl hŷn rhag dioddef sgamiau a thwyll. Rydym ni yn ymwybodol, wrth gwrs, fod hon yn broblem fawr—bod gwerthu ffyrnig a gwerthu drwy dwyll yn amlwg yn niweidio lles ariannol a meddyliol ac iechyd pobl hŷn, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag o.

Felly, mae llawer i’w groesawu yn y cynnig yma. Rydym yn sicr yn gobeithio y gallwn ni wneud cynnydd o ran gwneud Cymru yn genedl lle gall pobl hŷn deimlo eu bod nhw’n gallu mynd yn hen yn ddiogel, sy’n golygu bod yn genedl gyfeillgar i ddementia, ein bod ni’n amddiffyn pobl hŷn rhag sgamiau a thwyll, fel y gwnes i grybwyll, a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus ni yn helpu pobl i fyw yn annibynnol mor hir, ac a bo modd, ac mor hir ag y maen nhw’n dymuno, a hynny efo urddas a pharch.

Diolch i chi, fadam Llywydd. Mae gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio. Daw hyn â nifer o fanteision a chyfleoedd. Mae pobl hŷn yn aml yn ganolog i’w cymunedau. Naill ai drwy wirfoddoli i wneud gwaith elusennol a chymunedol, neu drwy ddarparu gofal plant i’w teuluoedd, mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad aruthrol. Mae’n fuddiol i gymdeithas, felly, i ganiatáu i bobl hŷn fyw bywydau llawn a chynhwysol.

Fodd bynnag, mae poblogaeth sy’n heneiddio hefyd yn creu nifer o heriau. Mae llawer yn methu byw bywydau llawn oherwydd afiechyd. Mae 40 y cant o bobl dros 65 oed yng Nghymru yn dweud bod eu hiechyd yn weddol neu’n wael. Pobl hŷn yw prif ddefnyddwyr gwasanaethau gofal sylfaenol yn y GIG, ac eto, fel y mae Age UK Cymru wedi ei nodi, nid yw gwasanaethau gofal sylfaenol bob amser yn gallu diwallu anghenion pobl hŷn. Roedd traean o’r bobl hŷn a oedd am weld eu meddyg teulu yn ystod y 12 mis diwethaf yn ei chael hi’n anodd gwneud apwyntiad cyfleus iddynt eu hunain.

Mae moderneiddio’r ffordd y mae meddygfeydd yn gweithio, er enghraifft drwy wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau ar-lein, yn bwysig. Ond mae’n rhaid i newidiadau ystyried anghenion pobl hŷn a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl. Rhaid teilwra gofal iechyd i ddiwallu anghenion ein poblogaeth hŷn. Mae dementia wedi goddiweddyd clefyd y galon fel y lladdwr mwyaf ym Mhrydain. Bydd un o bob tri o bobl dros 65 oed yn datblygu dementia a’r prif ffurf ar ddementia yw clefyd Alzheimer. Ar hyn o bryd, fel y nododd Janet, mae mwy na 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Am ffigur syfrdanol. Rhagwelir y bydd y ffigur yn codi bron draean erbyn 2021.

Mae’r sefyllfa ofnadwy hon yn golygu bod teuluoedd yn gwylio eu hanwyliaid yn llithro ymaith hyd nes na fyddant bellach yn eu hadnabod hyd yn oed. Am deimlad ofnadwy i aelodau o’r teulu. Lle y caiff pobl ddiagnosis cynnar a help i gael gafael ar wybodaeth, cymorth a gofal, mae tystiolaeth yn awgrymu eu bod yn aml yn gallu addasu’n dda i fyw gyda dementia.

Mae angen i’n meddygon teulu archwilio’n agosach am arwyddion o ddementia, oherwydd po gynharaf y gwneir diagnosis, yr hawsaf y bydd bywydau’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr. Ar ôl gwneud diagnosis o ddementia, mae’n bwysig fod dioddefwyr yn cael cymorth i’w galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn belled ag y bo modd. Mae’r Gymdeithas Alzheimer yn dweud y bydd mwy nag un o bob 10 o bobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu gorfodi i fynd i gartref gofal yn gynnar oherwydd diffyg cefnogaeth. Ni wnaed digon o gynnydd ar wella gofal dementia yng nghartrefi pobl. Mae angen i ni gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynlluniau cymorth dementia yn y gymuned—estyniad o gynlluniau hyfforddi dementia. Mae’n hanfodol fod gweithwyr gofal yn cael hyfforddiant priodol er mwyn darparu gofal o ansawdd. Mae darparu safon uchel o ofal yn effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd, ac mae’r bobl hyn yn haeddu cael eu trin ag urddas.

Rwy’n credu bod angen Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn. Lywydd, un maes nad yw wedi cael sylw hyd yma yw hwn: dywedwch fod dau o bobl, gŵr a gwraig, a bod y gŵr â dementia, mae’r wraig bron ar goll, gan mai’r gŵr sy’n gwbl gyfrifol am faterion ariannol y teulu a materion eraill—allanol, y tu allan i’r cartref. Mewn rhai cymunedau yn y wlad yn arbennig, bron nad yw menywod yn ymdrin o gwbl â’r materion hynny. Felly, pan fydd gwŷr yn cael problem o’r fath—hynny yw, dementia—mae’r menywod fwy neu lai ar goll. Nid oes neb yno i’w helpu gyda hyfforddiant ariannol, hyfforddiant cymdeithasol a hyfforddiant diwylliannol o gwbl yn ein gwasanaeth iechyd. Mae angen i ni ymwneud â’r agwedd honno, oherwydd mae hynny’n effeithio’n hirdymor, nid yn unig ar y teulu ond ar y plant hefyd.

Mae hyn yn bwysig. Rwy’n siarad am ddementia, oherwydd tri ‘D’ a glywais yn ddiweddar: ‘death, divorce, dementia’. Mae angen i ni weithio’n gadarn—yn dosturiol tu hwnt—i wneud yn siŵr nad yw ein pobl yn dioddef yn y wlad hon. Dylai fod gwellhad yn fuan iawn yn y byd hwn, rwy’n gobeithio, er mwyn i bobl gael bywyd iach. Caiff hyn ei gefnogi gan y comisiynydd pobl hŷn, a alwodd am ddeddfwriaeth, a dyfynnaf, ac mae hyn yn ar ddementia:

i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn... i fwynhau bywydau sy’n rhydd o gamdriniaeth, esgeulustod, rhagfarn oed a gwahaniaethu... i allu cymryd rhan lawn yn eu cymunedau

a ffynnu yn eu henaint. Mae’n gwbl annerbyniol fod hawliau pobl hŷn, yn enwedig pobl sy’n agored i niwed, yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn. Yn olaf, maent yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn.

Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae hawliau a chymorth i bobl sydd â dementia yn bwnc sy’n agos iawn at fy nghalon, ac rwy’n croesawu’r cyfle i ganolbwyntio arno eto heddiw. Ym mis Ionawr eleni, arweiniais ddadl ar yr angen am strategaeth ddementia genedlaethol a chyflwyno’r achos mai dementia yw her iechyd ein cyfnod ni.

Mae bob amser yn werth atgoffa ein hunain o faint y broblem rydym yn ei hwynebu mewn perthynas â dementia. Ar hyn o bryd mae tua 45,000 amcangyfrifedig o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, a bydd y niferoedd hyn yn codi. Erbyn 2055, mae’n debygol y bydd dros 100,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru. Tu ôl i bob un o’r 45,000 o bobl hynny mae yna deulu cyfan yn byw gyda chanlyniad diagnosis o ddementia, ac rwy’n croesawu’n fawr adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, ‘Dementia: Mwy na dim ond colli’r cof ‘, a’r llais y mae’n ei roi i lawer o ddioddefwyr dementia a’u gofalwyr o ran yr effaith enfawr ac eang y mae’r salwch yn ei chael ar y teulu cyfan.

Rwyf hefyd yn croesawu’r camau y mae’r comisiynydd yn eu cymryd i fynd ar drywydd yr adroddiad gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yng Nghymru, ac rwy’n siwr y bydd hi’n mynd ar drywydd y gwelliannau sydd eu hangen gyda’r trylwyredd y mae bob amser wedi ei ddangos yn ei swydd fel comisiynydd.

Ond credaf fod maint yr her ddementia sy’n ein hwynebu yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn wynebu’r her gyda’r un egni, brwdfrydedd ac adnoddau ag sydd gennym i fynd i’r afael ag afiechydon fel canser yng Nghymru. Mae’n werth nodi bod yna sylw eang yr wythnos hon i’r ffaith fod dementia wedi goddiweddyd clefyd y galon fel prif achos marwolaeth yn y DU.

Cafwyd cynnydd gwych yma yng Nghymru ar y gwaith o’n troi’n genedl sy’n ystyriol o ddementia, ac mae dros 20 o gymunedau sy’n ystyriol o ddementia wedi’u sefydlu yng Nghymru. Rwy’n hynod o falch mai fy etholaeth yn Nhorfaen oedd yr ail yng Nghymru i ennill statws ystyriol o ddementia. O Artie Craftie, siop grefftau a swyddfa’r post ym Mlaenafon, i amgueddfa lofaol y Big Pit, marchnad dan do Pont-y-pŵl a hyd yn oed fferm gymunedol—maent i gyd wedi’u hachredu’n ystyriol o ddementia. Y gwasanaeth llyfrgell yn Nhorfaen oedd y cyntaf i ddod yn wasanaeth ystyriol o ddementia, ac mae’r staff i gyd yno yn ffrindiau dementia. O ystafell gymunedol yno sy’n ystyriol o ddementia, mae yna gasgliad i ofalwyr sy’n canolbwyntio ar y ffyrdd gorau o gynorthwyo’r person y maent yn gofalu amdanynt, yn ogystal â llyfrau ar iechyd a llesiant. Mae’r holl fentrau hyn wedi codi o’r fenter ystyriol o ddementia dan arweiniad cyngor Torfaen. Ond fel bob amser, mae mwy i’w wneud. Mae’n hanfodol fod y strategaeth ddementia y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno yn y misoedd nesaf yn uchelgeisiol, fod ganddi adnoddau da, a’i bod yn mynd ati mewn ffordd gynhwysfawr i fapio taith y claf o gael diagnosis, gan alluogi byw’n annibynnol cyhyd ag y bo modd, hyd at ofal lliniarol a marwolaeth urddasol.

Mae dau faes penodol rwy’n arbennig o bryderus yn eu cylch. Y cyntaf yw cyfraddau diagnosis. Fel y gwyddom, y targed yw cyfradd ddiagnosis o 50 y cant ar gyfer pobl â dementia erbyn eleni. Nid wyf yn credu bod hwnnw’n ddigon uchelgeisiol. Ni fyddai’n ddigon da i bobl sydd â chanser mai 50 y cant ohonynt yn unig a fyddai’n cael diagnosis, ac ni ddylai fod yn ddigon da ar gyfer pobl â dementia.

Y prif faes arall sy’n peri pryder yw’r nifer o weithwyr cymorth dementia a gynlluniwyd o dan y strategaeth. Ar hyn o bryd, byddai’n o leiaf un gweithiwr cymorth dementia fesul dau glwstwr meddygon teulu yng Nghymru, sef 32 o weithwyr cymorth ar draws Cymru gyfan. Yn syml iawn, nid yw hyn yn ddigon. O ran cyfraddau diagnosis presennol, byddai angen tua 370 o weithwyr cymorth arnom i ateb yr anghenion rydym wedi clywed amdanynt heddiw. Er fy mod yn croesawu’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud am gadw hyn dan arolwg, rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy gan y Gweinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros y misoedd nesaf ynglŷn â sut y gellir gwella ar y targed hwn.

Yn olaf, i gloi, mae strategaeth ddementia cystal ag unrhyw strategaeth ar bapur. Hoffwn wybod hefyd gan Lywodraeth Cymru beth yw’r cynlluniau i yrru’r strategaeth hon yn ei blaen mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod ein bod yn dda iawn am gynhyrchu polisïau da yn Llywodraeth Cymru, ond nid yw polisïau ond cystal â’u gweithrediad.

Diolch i chi am ildio, Lynne. Cytunaf yn llwyr â chi ar hynny: ar bapur y mae strategaeth. Holl bwynt cymunedau ystyriol o ddementia yw eu bod yn dibynnu’n agos iawn ar y gymuned leol i ddod at ei gilydd a darparu’r cyfleoedd hynny i bobl yn yr ardal sy’n dioddef o ddementia, felly rhaid i hyn gael ei arwain o’r gwaelod i fyny.

Mae’n rhaid iddo gael ei arwain o’r gwaelod i fyny, ond rwyf hefyd yn meddwl os oes gennych systemau ar waith fel yr angen am weithwyr cymorth a thargedau ar gyfer cyfraddau diagnosis, rhaid i’r rheini gael eu gyrru gan y Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at glywed gan Lywodraeth Cymru sut y bydd y strategaeth yn mynd o fod yn ddogfen ar bapur i rywbeth sydd o ddifrif yn trawsnewid bywydau pobl â dementia a’u teuluoedd yng Nghymru.

A gaf fi ddechrau drwy ganmol y gwaith y mae Lynne Neagle wedi ei wneud ym maes dementia? Credaf ei bod wedi rhoi araith angerddol iawn ac mae hi’n herio ei hochr ei hun, yn ogystal, yn briodol, ac rwy’n meddwl mai dyna yw bod yn hyrwyddwr effeithiol go iawn i bobl â dementia.

Rwyf eisiau siarad ychydig am y bobl hŷn sy’n dod yn ofalwyr. Mae yna fwy o ofalwyr ymhlith pobl hŷn yn y boblogaeth ar gyfartaledd. Wrth i bobl heneiddio, yn amlwg, mae’r tueddiad i gael clefydau fel dementia yn cynyddu. Mae hon yn her ddwbl. O ran y cyfrifoldebau gofalu eu hunain, yn aml cânt eu cyflawni gan bobl sydd ychydig yn fregus ac yn agored i salwch eu hunain, ac nid ydynt yn cael eu cefnogi’n ddigonol mewn sawl ffordd. Mae diffyg gofal seibiant addas yn parhau i fod yn her go iawn o ran cefnogi gofalwyr ac mae’n golygu—wyddoch chi, yn enwedig i bobl hŷn, os ydynt mewn sefyllfa lle y maent fel arfer yn gofalu am briod, mae hynny’n cymryd cymaint o’u hamser nes bod eu cylch cymdeithasol ehangach yn dechrau crebachu ac maent yn cael eu hynysu fwyfwy. Ac yn aml, pan fydd eu partner yn marw, maent yn cael eu gadael heb unrhyw syniad ynglŷn â’r ffordd ymlaen, am eu bod yn ymdrin â phrofedigaeth, maent wedi colli’r tasgau beunyddiol hynny a oedd yn aml yn rhoi ffocws iddynt er eu bod yn drwm, ac nid oes ganddynt y cylch cymdeithasol a oedd ganddynt ar un adeg. Felly, rwy’n credu ei bod yn broblem go iawn ac mae’n eu harwain i gyfnod o unigrwydd dwys iawn.

Mae un neu ddau o bobl wedi crybwyll unigrwydd ac mae hynny’n rhywbeth y mae gwir angen i ni ganolbwyntio arno, oherwydd cyn gynted ag y byddwch yn ymddeol, y cyswllt dyddiol sydd gennych yn eich gweithle, yn amlwg daw hwnnw i ben, ac i lawer o bobl, gall llawer iawn o ryngweithio ddod i ben os nad oes ganddynt fynediad at weithgareddau ystyrlon eraill a hamdden cymdeithasol a beth bynnag.

Rwyf hefyd yn credu, pan edrychwn ar bobl hŷn fel rhai sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i gymdeithas, dylem gofio y gallant wneud llawer i’r genhedlaeth iau ac maent eisiau gwneud hynny. Mae llawer o dystiolaeth ar gael fod pobl hŷn sy’n gweithredu fel mentoriaid i bobl, dyweder, sydd heb lawer o sgiliau neu lythrennedd, neu hyd yn oed y rhai sydd wedi bod ar fin mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, ceir llawer o dystiolaeth fod cysylltiad â phobl hŷn a bod mewn rhaglenni lle y maent yn cymryd rhan gyda’i gilydd yn gallu arwain at ganlyniadau da iawn mewn gwirionedd. Ac mae pobl hŷn yn aml yn awyddus iawn i wirfoddoli eu hamser, a hefyd mae’r alwad a deimlant tuag at y genhedlaeth iau yn un ddwys iawn, ac rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth na ddylem ei anghofio.

Yn olaf, a gaf fi wneud y pwynt am yr angen am well—? Mae angen i ni siapio ein mannau trefol, rwy’n meddwl, gyda llawer mwy o uchelgais. Rwy’n gweld llawer o newidiadau yn y blynyddoedd i ddod, wrth i ni weld y system drafnidiaeth yn newid a’r gofynion ar yr amgylchedd ac i wella ansawdd aer a phethau eraill. A bydd hyn, rwy’n meddwl, o fudd mawr i bobl hŷn. Mae ceir diesel, yn ôl pob tebyg, wedi cadw llawer iawn o bobl hŷn rhag mynd allan, yn enwedig ar adegau fel oriau brys neu draffig dwys oherwydd digwyddiadau arbennig, neu beth bynnag. Effeithir yn ddramatig ar iechyd anadlol pobl hŷn gan y llygryddion sy’n cael eu pwmpio allan gan gerbydau diesel yn arbennig, ond hefyd yn gyffredinol gan faint y traffig sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, mae rheoli traffig yn well, gweld ein mannau trefol yn bennaf fel lleoedd ar gyfer pobl a cherddwyr yn hytrach na’r car modur neu fathau eraill o drafnidiaeth fodurol, mae hynny’n bwysig iawn.

Os wyf fi’n siarad am drafnidiaeth hefyd, mae angen i ni dalu mwy o sylw i’r anghenus iawn, sy’n methu symud fawr ddim neu sy’n eiddil, gan na allant gyrraedd y safle bws lleol, yn aml, a hyd yn oed os bydd y bws yn hygyrch oherwydd bod cynllun safleoedd bysiau bellach wedi gwella, oni bai bod ganddynt wasanaethau trafnidiaeth i’r cartref, bysiau cymunedol, cynlluniau ceir neu beth bynnag, sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ar gyfer cludo pobl hŷn, maent yn bell iawn o allu defnyddio gwasanaethau, hyd yn oed os ydynt yn byw mewn ardal drefol. Yn amlwg, mae’n llawer iawn gwaeth os ydynt yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Ac yn olaf, amwynderau eraill fel—beth sydd wedi digwydd i’n meinciau cyhoeddus? Gallaf gofio adeg pan oeddech yn arfer eu gweld nid yn unig mewn parciau, ond ym mhob man. Ac mae hynny’n wirioneddol bwysig. Rhywbeth rwy’n ei ganfod yn awr, wrth i mi fynd yn hŷn, ac efallai y byddaf yn treulio bore yng Nghaerdydd, neu beth bynnag: ble mae’r toiledau cyhoeddus? Cawsom chwyldro siopa ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg am fod toiledau cyhoeddus yn cael eu darparu. Hebddynt, ni allai menywod fod yn bell iawn o’u cartrefi mewn gwirionedd, am nad oedd ganddynt gyfleusterau ar gael. Wel, mae hi’r un fath ar gyfer pobl hŷn ac wrth gwrs, maent yn aml angen cyfleusterau i’r anabl yn ogystal, neu doiledau o faint rhesymol fan lleiaf er mwyn iddynt allu symud ynddynt. Felly’r pethau hyn, mewn gwirionedd: sut rydym yn adeiladu’r amgylchedd trefol. Mae angen i ni fod yn meddwl sut y mae pobl hŷn yn mynd i ffynnu yn y dyfodol a’r gwasanaethau a’r cymorth y bydd ei angen arnynt. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig heddiw. Rwy’n falch o ddweud bod UKIP yn cefnogi’r cynnig fel y’i cyflwynwyd gan y Ceidwadwyr. Efallai fod y problemau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yn ein cymdeithas yn gymhleth, ond un o’r materion mwyaf cyffredin, fel y mae sawl siaradwr eisoes wedi sôn, yw unigrwydd. Gwyddom hyn o’r galwadau a gafwyd gan yr elusen Silver Line, a bydd llawer o’r Aelodau’n gwybod amdani fel rhywbeth sy’n cyfateb i Childline ar gyfer pobl hŷn. Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2013, mae mwy na hanner y rhai sy’n ffonio yn dweud eu bod yn cysylltu â’r elusen yn syml iawn am nad oes ganddynt neb arall i siarad â hwy. Felly, mae’n rhaid i ni geisio dod o hyd i ffyrdd o gael mwy o gysylltiad cymdeithasol i bobl hŷn sy’n unig. Mae sut y mae cyflawni hynny yn bwnc eithaf anodd.

Mae dementia’n tyfu’n broblem fawr, fel y mae’r cynnig heddiw yn cydnabod. Mae llawer o siaradwyr wedi gweld y ffigur o 45,000 o ddioddefwyr yng Nghymru a nododd Lynne y rhagwelir y bydd y ffigur yn mwy na dyblu dros y 40 mlynedd nesaf. Felly, bydd hon yn dod yn broblem gynyddol i ni. Felly, mae angen gweithredu i ddiogelu buddiannau pobl hŷn. Mae comisiynydd pobl hŷn wedi bod yn ddechrau da, gan y gall yr adroddiadau o’i hadran helpu i dynnu sylw at y problemau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, ond mae arnom angen rhai camau statudol hefyd i fynd i’r afael â rhai o’r problemau. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaed, yn arbennig gan Nick Ramsay, na fydd camau statudol ynddynt eu hunain yn ddigon, ond credaf, ar y cyfan, fod angen rhoi camau statudol ar waith a dyna pam rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Diolch.

Mae pobl hŷn yng Nghymru yn arwyr pob dydd, ac yn cyfrannu’n enfawr drwy waith, actifiaeth, gwirfoddoli a gwaith cymunedol, a gofalu am deuluoedd a darparu gofal plant, cyfraniad sy’n aml yn cael ei anwybyddu gan gymdeithas. Maent yn haeddu urddas a pharch, annibyniaeth a rhyddid i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u bywydau eu hunain.

Yn yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ‘Siarad Cenedlaethau’r Dyfodol’, mae dyfyniadau o’i digwyddiadau i randdeiliaid yng ngogledd Cymru yn cynnwys,

‘Mae angen i’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau gerdded ar hyd yr un llwybr â’r bobl ar y lefel sylfaenol.’

Ffurfiwyd Cartrefi Conwy pan bleidleisiodd tenantiaid Conwy o blaid trosglwyddo eu stoc tai cyngor. Fel y nododd Cartrefi Conwy o’r cychwyn, eu her oedd codi safon pob eiddo i safon ansawdd tai Cymru erbyn 2012, a hefyd

i greu cymunedau i fod yn falch ohonynt.

Yr haf hwn ymwelais â’u grŵp ffocws ar ffotograffiaeth gyda’u rheolwr byw’n annibynnol a’u cydlynydd ymgysylltu pobl hŷn i ddysgu o lygad y ffynnon gan aelodau’r grŵp pobl hŷn am y prosiect a sut roedd wedi cyfrannu at eu hannibyniaeth a’u lles. Roeddwn hefyd yn westai, gyda Janet Finch-Saunders, yn Niwrnod Pobl Hŷn Cartrefi Conwy ar 30 Medi eleni, yn dathlu eu tenantiaid hŷn a’r cyfraniadau a wnânt i’r cymunedau lle y maent yn byw, a rhoi cyhoeddusrwydd i’r gwasanaethau sydd ar gael i’w pobl hŷn er mwyn hyrwyddo byw’n annibynnol—gan eu grymuso a’u galluogi i gymryd rheolaeth ar eu bywydau, peidio â gadael i’w hoedran neu unrhyw beth arall i effeithio ar eu hannibyniaeth neu ansawdd eu bywydau.

Os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, rwy’n annog yr awdurdodau lleol sy’n cadw eu stoc dai i fabwysiadu ymagwedd debyg. Nododd ein maniffesto ar gyfer 2016 y byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn gweithredu cap wythnosol o £400 ar ofal preswyl, a diogelu £100,000 o asedau i’r rhai mewn gofal preswyl. Mae methiant Llywodraeth Cymru i wneud yr un peth yn destun gofid. Fel y gofynnodd etholwr i mi, ‘A yw’n deg bod yn rhaid i rai pobl werthu eu cartrefi i bob pwrpas i dalu am eu costau gofal preswyl?’

Gwelodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn yr adroddiad ‘Dementia: mwy na dim ond colli’r cof’ fod yna ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o ddementia o hyd, fod gwasanaethau dementia yn aml heb hyblygrwydd i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn effeithiol, fod diffyg cydweithredu rhwng gwasanaethau yn creu anawsterau a rhwystrau diangen i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a bod amrywiadau sylweddol ar draws Cymru o hyd o ran ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael.

Mae’r Gymdeithas Alzheimer yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau clir yn ei strategaeth arfaethedig ar ddementia ar gyfer cynyddu cyfraddau diagnosis o ddementia, sydd ar hyn o bryd yn is nag unrhyw wlad arall yn y DU, er mwyn sicrhau cefnogaeth gan weithiwr cymorth dementia, i sicrhau bod hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia ym mhob lleoliad clinigol a lleoliad gofal, a llawer mwy. Rwy’n annog pobl i fynychu digwyddiadau ymgynghori gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Tachwedd a 12 Rhagfyr. Mae Age Cymru yn galw am wella gwasanaethau a chymorth dementia ar frys, gan gynnwys lleoliadau cymunedol, ymestyn cynlluniau hyfforddiant dementia, a gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol integredig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y man darparu.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod yna broblem gynyddol wrth i bobl hŷn gael eu targedu’n benodol gan droseddwyr oherwydd y rhagdybiaeth eu bod yn fregus. Er gwaethaf hyn, mae yna fwlch yn y gyfraith o hyd nad yw’n cydnabod bod y troseddau hyn a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoed yn droseddau casineb.

Rwy’n croesawu dyfarniad y Sefydliad Codi Arian na ddylai pobl sy’n codi arian guro ar ddrysau gyda sticeri ‘dim galw diwahoddiad’. Cymeradwyaf gynlluniau parthau gwarchod dim galw diwahoddiad Cymdeithas Gwarchod Ar-lein Sir y Fflint a Wrecsam, sy’n mynd ati i gynorthwyo’r bobl sy’n byw ynddynt i gadw’n ddiogel a gwella ansawdd eu bywydau, yn hytrach na dim ond gosod arwydd stryd a darparu sticeri ffenestri.

Fel y dywed Age Cymru, mae agweddau negyddol tuag at bobl hŷn a heneiddio yn hollbresennol yn ein cymdeithas, yn seiliedig ar stereoteipiau a rhagdybiaethau anghywir am allu a chymhwysedd pobl oherwydd eu hoedran. Maent yn ychwanegu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ymhellach pa rôl y gallai cyflwyno bil o hawliau ar gyfer pobl hŷn ei chwarae wrth lobïo ar lefel y DU ac yn rhyngwladol ac yn fwy cyffredinol am ragor o ddiogelwch cyfreithiol i bobl hŷn.

Felly, cymeradwyaf yr alwad yn ein cynnig y dylid cyflwyno Deddf hawliau pobl hŷn i ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, a gosod dyletswydd ar gyrff sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau ac i lunio a chyflwyno gwasanaethau gyda hwy, yn hytrach na dim ond eu rhoi iddynt. Diolch.

Diolch i chi am y cyfle i siarad yn y ddadl bwysig hon. Na foed i neb yn y Siambr hon neu sy’n gwylio ar y tu allan amau ymrwymiad y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ymatebol o ansawdd da i bobl hŷn yng Nghymru ac i alluogi pobl hŷn ledled Cymru i fyw bywydau mwy annibynnol.

Yn dilyn ymrwymiad maniffesto pwysig Llafur Cymru i alluogi pobl i gadw mwy o’r arian y maent wedi gweithio’n galed amdano pan fyddant mewn gofal preswyl, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn ddiweddar y bydd y terfyn newydd o £50,000 yn cael ei roi ar waith fesul cam, gan ddechrau gyda chynnydd i £30,000 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Dim ond £23,250 yw’r terfyn cyfalaf cyfredol yn Lloegr. Bellach, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi gohirio ei diwygiadau i’r trefniadau talu am ofal tan o leiaf 2020. Yn wir, gallai’r grŵp Ceidwadol yma dreulio eu hamser yn well yn lobïo eu cydweithwyr seneddol Ceidwadol i gael eu tŷ eu hunain mewn trefn. Ac wrth i seneddwyr Ceidwadol y DU ddod o hyd i amser i gael tynnu eu llun gyda’r Prif Weinidog yn barod ar gyfer eu deunydd ymgyrchu, wrth iddynt dynnu’r lluniau hyn, efallai y gallent ofyn i Lywodraeth y DU ddilyn arweiniad Llywodraeth Lafur Cymru.

Ers 2011 yng Nghymru, mae yna derfyn hefyd ar y swm sy’n rhaid i bobl hŷn mewn gofal ei dalu am y gofal sydd ei angen arnynt ac yn ei dro, wrth gwrs, mae yna ddull cyson o godi tâl ar draws Cymru—cynlluniau nad ydynt ar waith yn wir mewn rhannau eraill o’r DU. Felly, gallech ofyn pam y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gyflwyno’r terfyn cyfalaf hwn fesul cam? Yr ateb yw bod y Llywodraeth Lafur hon yn un sy’n gwrando cyn deddfu. Mae awdurdodau lleol a darparwyr cartrefi gofal wedi bwydo’n ôl i’r cynigion hyn ac mae cyflwyno fesul cam yn rhoi digon o amser iddynt addasu i’r newidiadau. Mae hefyd yn ystyried ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru i gael costau cyfredol ar gyfer gweithredu’r newidiadau. O fis Ebrill bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei ddiystyru’n llawn hefyd ym mhob un o asesiadau ariannol awdurdodau lleol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Bydd y newid hwn yn sicrhau na fydd gofyn i’n cyn-filwyr y lluoedd arfog sy’n derbyn y pensiynau pwysig hyn eu defnyddio i dalu am gost eu gofal.

Mae hanes Llywodraeth Llafur Cymru yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi yn un y gallwn ni yng Nghymru fod yn haeddiannol falch ohono. Diolch i arweinyddiaeth Llafur Cymru, Cymru hefyd yw’r wlad gyntaf yn y byd i fabwysiadu datganiad o hawliau pobl hŷn, sy’n nodi hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn glir. Mae’r datganiad hwn yn gam arall ymlaen i Gymru wrth iddi arwain y byd yn yr ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Yn wir, mae fy etholwyr yn yr etholaeth wedi dweud wrthyf yn rheolaidd eu bod yn fodlon â pholisi Llywodraeth Lafur Cymru ar gonsesiynau. [Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. Mae mwy na 72,000 o ddeiliaid tocynnau rhatach yng Nghymru, gan gynnwys personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gywir i barhau â’i chefnogaeth i’r cynllun teithio rhatach poblogaidd hwn ar gyfer pobl hŷn fel rhan o’i chefnogaeth barhaus i fuddion cyffredinol.

Rydym yn gwybod, fel y dywedwyd, y bydd poblogaeth sy’n heneiddio yn her i ni gyd—llunwyr polisi’r Llywodraeth a’r boblogaeth ehangach—ac mae hynny’n briodol. Rydym wedi clywed—gan Aelodau eraill yn y ddadl—fod un o bob pump o bobl dros 80 â dementia ar hyn o bryd, ond yn y pum mlynedd nesaf, mae nifer y bobl yng Nghymru sydd â dementia yn debygol o godi bron draean. Mae Llywodraeth Lafur Cymru mewn sefyllfa dda i ymdrin â’r heriau sydd o’n blaenau ac ni fyddwn yn gadael neb ar ôl. Dyma arwydd o ba mor flaengar rydym fel cenedl neu wlad o ran y ffordd rydym yn trin y rhai sydd wedi rhoi cymaint i’w gwlad drwy gydol eu hoes.

O ran deddfu, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi’r egwyddor o Fil pobl hŷn, fel yr amlinellwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wir, cafwyd trafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o ddeddfwriaeth bellach a deddfwriaeth yn y dyfodol gyda’r comisiynydd pobl hŷn er mwyn archwilio sut y gellir cryfhau hawliau pobl hŷn. Dyna pam y byddaf yn pleidleisio heddiw yn erbyn cynnig y Torïaid ac yn cefnogi pobl hŷn Cymru. Diolch, Lywydd.

Galw ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans.

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae pobl hŷn ledled Cymru wedi ei wneud ac yn parhau i wneud yn ein cymunedau. Rwy’n falch ein bod wedi arwain y ffordd gyda’n strategaeth arloesol ar gyfer pobl hŷn. Fe’i lansiwyd gyntaf yn 2003, ac mae wedi cael ei chydnabod gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus fel yr ymrwymiad mwyaf cydlynol a hirdymor i wella sefyllfa pobl hŷn yn y DU. Fe dorrwyd tir newydd gennym eto yn 2008, pan ddaethom yn wlad gyntaf i benodi comisiynydd pobl hŷn. Mae’r comisiynydd yn gweithredu fel hyrwyddwr annibynnol a llais i bobl hŷn ledled y genedl.

Ar draws y Llywodraeth, rydym yn parhau â’n hymrwymiad hirsefydlog i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru ac amlinellais nifer o’r camau gweithredu hyn yn fy natganiad ysgrifenedig i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ym mis Hydref. Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddwyd datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae’r datganiad yn amlinellu’r hyn y mae disgwyl i wasanaethau cyhoeddus ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt gan sicrhau bod eu hurddas a’u hawliau’n cael eu diogelu.

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill eleni, gyda hawliau pobl hŷn wedi’u hymgorffori ynddi. Mae’r Ddeddf yn rhoi llais a rheolaeth gryfach i bobl ar y gefnogaeth y maent ei hangen. Mae hefyd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal i gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol a chyflawni’r canlyniadau lles sy’n bwysig iddynt. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn cael gofal o ansawdd da ac yn cael eu trin gydag urddas a pharch. Rydym yn rhoi camau ar waith i ymateb i’r adolygiad a gynhaliwyd gan Dr Margaret Flynn ac wedi penodi uwch arbenigwr gwella ansawdd i symud gwaith yn ei flaen, yn enwedig mewn perthynas â briwiau pwyso. Am y rhesymau hyn a mwy, rydym yn croesawu ac yn cefnogi rhannau 1 a 2 o’r cynnig heddiw.

Gan droi at bwynt 3 y cynnig, fodd bynnag, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ohirio ei diwygiadau i’r trefniadau talu am ofal tan o leiaf 2020 wedi cael canlyniadau difrifol i Gymru. Mae’n golygu na fyddwn yn cael cyllid canlyniadol i gefnogi diwygiadau sylweddol i’n trefniadau talu am ofal ni. Serch hynny, nid yw hyn wedi ein rhwystro rhag bwrw ymlaen â diwygio, sydd o fewn ein pwerau presennol a’r adnoddau sydd ar gael i ni. Un o’r ymrwymiadau allweddol yn ein rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen’ yw mwy na dyblu’r terfyn cyfalaf y gall pobl mewn gofal preswyl ei gadw o £24,000 i £50,000, a bydd pobl yn elwa o gam cyntaf y cynnydd i £30,000 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, byddwn yn cadw ein haddewid i ddiystyru’n llawn y pensiwn anabledd rhyfel wrth dalu am ofal.

Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ystyried canfyddiadau adroddiad y comisiynydd pobl hŷn ar ddementia, ac rydym yn cefnogi’r rhan hon o’r cynnig. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein hymrwymiad i roi camau pellach ar waith i wneud Cymru’n genedl sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun strategol cenedlaethol newydd ar ddementia. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dros £8 miliwn o arian ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer datblygu gwasanaethau dementia ledled Cymru.

Mae gan ein partneriaid yn y trydydd sector rôl allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth ddementia newydd i Gymru ac mae’r Gymdeithas Alzheimer wedi bod yn ymwneud yn agos â’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bydd hyn yn llywio’r fersiwn derfynol o’r cynllun strategol. Bydd y cynllun yn adeiladu ar y gwaith da sy’n bodoli eisoes a bydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, gan weithio gyda Chymdeithas Alzheimer ac eraill, er mwyn cynnal momentwm ymgyrchoedd ffrindiau dementia a chymunedau cefnogi pobl â dementia. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar wella cyfraddau diagnosis, darparu cymorth ymarferol ac emosiynol a sefydlu diwylliant sy’n rhoi urddas a diogelwch cleifion yn gyntaf.

Gan droi at bwynt olaf y cynnig, rydym am i Gymru fod yn gymdeithas deg a byddwn yn parhau â’n gwaith gyda’r holl grwpiau a ddiogelir i atal gwahaniaethu. Cyfeiriais yn gynharach at y datganiad o hawliau a gyhoeddwyd gennym ar gyfer pobl hŷn. Ac yn ogystal â’r hawliau a ymgorfforir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, o ran deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol, gallaf gadarnhau bod y Prif Weinidog eisoes wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda’r comisiynydd pobl hŷn mewn perthynas â chryfhau hawliau pobl hŷn, ac mae’n cefnogi’r egwyddor o gael Bil. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau cychwynnol ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â’r comisiynydd eto yn ddiweddarach y mis hwn i drafod ei chynigion deddfwriaethol yn fanylach.

Rwy’n falch o amlinellu ein cefnogaeth i holl welliannau Plaid Cymru i’r cynnig. Sefydlodd Llywodraeth Cymru swydd y comisiynydd pobl hŷn er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed. Rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus y comisiynydd â byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’r ffaith ei bod eisoes wedi cyhoeddi canllawiau a ddylai roi argymhellion defnyddiol ac ymarferol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i’w helpu i sicrhau nad yw anghenion pobl hŷn yn cael eu hesgeuluso wrth baratoi’r cynlluniau llesiant lleol.

Mae gennym raglen uchelgeisiol ar gyfer targed y llywodraeth o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, ac mae hyn yn ganolog i’n hagenda dai gynhwysfawr, gan gefnogi themâu allweddol ar draws portffolios eraill, gan gynnwys gwella llesiant yn ein cymunedau—

Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu nifer o gymunedau sy’n ystyriol o ddementia, sydd wedi gweithio oherwydd bod barn pobl hŷn wedi cael ei hystyried ar y cychwyn cyntaf fel bod y cymorth sy’n cael ei roi iddynt wedi ei deilwra i’r hyn y maent ei angen a’r hyn y dywedant sydd ei angen arnynt. Felly, rwy’n croesawu’r modd rydych yn sôn am roi eu hawliau ar lefel statudol. A wnewch chi ymdrechu i sicrhau mai barn pobl hŷn yw’r ystyriaeth bennaf yn y fframwaith statudol hwnnw ac nad oes modd i bobl sy’n credu eu bod yn gwybod yn well ddiystyru’r farn honno, gan nad ydynt mewn gwirionedd yn gwybod yn well na’r bobl sy’n cael y gofal a’r cymorth?

Wel, rwy’n meddwl ei bod bob amser yn bwysig siarad yn uniongyrchol â phobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau neu gyda nodweddion penodol a ddiogelir eu hunain—felly, siarad yn uniongyrchol â hwy yn ogystal â’r grwpiau a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli. Felly, byddwn yn gobeithio y byddai pobl hŷn yn sicr yn cymryd rhan yn y broses o gynhyrchu’r cynlluniau lleol a thrwy waith byrddau partneriaeth rhanbarthol, gan sbarduno gweithrediad y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yng Nghymru hefyd.

Ond gan ddychwelyd at dai, bydd yr 20,000 o gartrefi yn cwmpasu ystod o ddaliadaethau, yn cynnwys tai cymdeithasol, tai ar rent, a chartrefi i bobl hŷn. Yn ystod tymor diwethaf y Llywodraeth, gwnaed cynnydd da mewn gwaith ar y cyd ar dai ac iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y gwaith a wnaed drwy ein cronfa gofal canolraddol. Rydym wedi darparu dros £180 miliwn mewn cyllid grant tai cymdeithasol i ddarparu cynlluniau gofal ychwanegol ar draws Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r mentrau hyn yn trawsnewid y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu cynorthwyo i fyw bywydau llawn, annibynnol a diogel, ac rwyf am i ni adeiladu ar y llwyddiant hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arian i gefnogi gwaith y comisiynydd pobl hŷn, ac mae un o’r materion y mae’r comisiynydd yn gweithio arnynt yn ymwneud â phobl hŷn yn cael eu targedu drwy sgamiau ariannol. Er bod arfer da yn bodoli ar draws Cymru i fynd i’r afael â sgamiau yn eu holl ffurfiau, cydnabu Llywodraeth Cymru, gyda’r comisiynydd ac eraill, fod angen cydlynu ymdrechion yn well a sicrhau bod yna ymagwedd gydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. O ganlyniad, lansiodd y comisiynydd ac Age Cymru Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau yn ffurfiol ym mis Mawrth eleni, cynllun sy’n gweithio i wneud Cymru yn lle anghyfeillgar i droseddwyr sy’n aml yn targedu pobl hŷn a bregus yn fwriadol. Mae’r bartneriaeth hefyd wedi datblygu siarter gwrth-sgamwyr gyntaf y DU. Mae cam 2 ein rhaglen heneiddio’n dda yng Nghymru hefyd yn mynd i’r afael â’r pryderon sy’n ymwneud â sgamiau.

Felly, yng Nghymru, rydym eisoes wedi gwneud llawer i adnabod a mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i bobl hŷn. Byddwn yn adolygu ein strategaeth pobl hŷn dros y misoedd nesaf a bydd yn canolbwyntio ar rai meysydd blaenoriaeth allweddol i’w cyflawni, ac rwy’n meddwl bod y ddadl heddiw wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran amlygu ac archwilio rhai o’r pryderon allweddol hynny. Rwy’n ymroddedig i sicrhau lles pobl hŷn a’n gwaith gyda’r comisiynydd pobl hŷn a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod Cymru yn lle gwych i dyfu hen a heneiddio’n dda.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Efallai y caf ddiolch hefyd i’r comisiynydd pobl hŷn. Yn bersonol, rwy’n dal i fod ychydig yn ddryslyd ynglŷn â’r syniad fod llunwyr polisi yn fy ystyried i’n berson hŷn, ac rwy’n wynebu’r demtasiwn y dylem ofyn efallai am symud y trothwy ychydig ymhellach i fyny, ond ar y llaw arall, mae’n ein hatgoffa, er ein bod yn byw yn hŷn—neu gan ein bod yn byw yn hŷn, dylwn ddweud—dylem ddechrau meddwl ynglŷn â sut rydym yn cynllunio ar gyfer y dyddiau hynny pan fyddwn, efallai, yn fwy bregus, pan fyddwn, efallai, yn sâl ac efallai y byddwn yn datblygu dementia—dechrau cynllunio yn awr i bob pwrpas i fyw’n dda yn ddiweddarach, fel yr awgrymodd Mohammad Asghar. Mae pob diwylliant teuluol yn wahanol, a bydd ein cynlluniau ein hunain yn wahanol. Fodd bynnag, waeth pa gynlluniau a fabwysiadwn sy’n gweithio yn ein teuluoedd ein hunain, mae angen darparu strategaeth i’w cefnogi, ac roeddwn yn meddwl bod cyfraniad Lynne Neagle ar y pwynt hwn yn bwerus iawn.

Rwy’n meddwl bod y trothwy o 50, bod yn 50, hefyd yn ein hatgoffa os ydym yn mynnu urddas, parch, annibyniaeth a rhyddid i wneud penderfyniadau am ein bywydau yn ein 50au, yna pam y dylai fod yn wahanol pan fyddwn yn llawer hŷn? Rwy’n gobeithio y bydd pawb wedi clywed pwyntiau Mark Isherwood, yn enwedig ar fyw’n annibynnol. Rwy’n falch, felly, nad oes neb wedi ceisio diwygio neu ddileu dau bwynt cyntaf y cynnig.

Gan droi am eiliad at yr hyn y mae’r gwelliannau yn cynnig ei ddileu, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1, sy’n dileu trydydd pwynt ein cynnig. Mae’n ddrwg gennyf, Rhianon Passmore, ond nid oes gennym unrhyw reswm dros gefnogi trothwy sy’n llai hael na’n cynnig datganoledig ein hunain gan y Ceidwadwyr Cymreig. Mae gwelliant 3, sy’n dileu ein pwynt 5, yn llai diniwed nag y mae’n ymddangos. Mae’n wahanol i’n cynnig gwreiddiol mewn un ffordd arbennig, drwy fod Llywodraeth Cymru yn dileu ein hymrwymiad i osod dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Nid wyf yn gweld dim o’i le ar gael y rhwymedigaeth honno. Mae hyn mor bwysig mewn materion cynllunio a thai, fel y soniodd David Melding. Rwyf wedi gofyn am ddyletswydd debyg i roi sylw dyledus i CCUHP ers peth amser bellach, ac unwaith eto, distawrwydd gan Lywodraeth Cymru. Wel, rydym yn anghytuno â chi. Ni fyddwn yn cefnogi eich tawelwch.

Gwelliannau 4 a 5—nid oes gennym unrhyw anhawster gyda’r cynnwys. Nid wyf yn credu bod angen dileu ein pwyntiau 5(a) a 5(b). Os yw Plaid Cymru o ddifrif wrth ddweud ei bod yn cefnogi gwaith y comisiynydd pobl hŷn, yna pam nad ydych yn cefnogi ei hawgrymiadau y dylid cael Bil? Hi yw’r un a feddyliodd am y syniad hwn.

Mae gwelliant 2 yn amherthnasol i’r ddadl hon, sy’n ymwneud â Chymru, ond fe fyddwn yn cefnogi’r ddau welliant olaf os cawn gyfle i wneud hynny.

Gosododd Janet Finch-Saunders y cyd-destun yn dda iawn i ni, rwy’n meddwl, ac esboniodd fod yna gamau, camau go syml weithiau mewn gwirionedd, y gellir eu rhoi ar waith nad ydynt yn costio unrhyw beth o gwbl, Rhun ap Iorwerth, i osgoi’r colli urddas a rheolaeth a brofir gan bobl mewn ysbytai, er enghraifft. Mae hi’n iawn fod pobl hŷn yn treulio gormod o amser mewn ysbytai weithiau, ac rwy’n dymuno’n dda i Lywodraeth Cymru gyda’i hadolygiad seneddol o iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod am fy mhryderon ynglŷn â chynnal statws gofal cymdeithasol ac atal ym mha fodelau bynnag a fydd yn datblygu o hynny, ond bydd unrhyw fodel yn methu os yw’n anwybyddu’r pwyntiau a wnaed gan David Melding ynglŷn â gofalwyr hŷn, ac os yw’n anwybyddu’r pwyntiau a nododd Gareth Bennett ynglŷn â methu adnabod unigrwydd, oherwydd yn amlwg gall effeithiau unigrwydd ar iechyd ar lefel y boblogaeth fod yn wirioneddol arwyddocaol.

Crybwyllodd Rhun ap Iorwerth gyfraniad economaidd pobl hŷn yn fyr, a hefyd eu cyfraniad cymdeithasol. Os yw Cymru yn symud yn nes at gymdeithas gydgynhyrchiol, yna bydd pobl hŷn yn ganolog i’r broses o oresgyn yr heriau, nid yn unig yn eu bywydau eu hunain, ond ym mywydau pobl eraill yn ogystal—pwynt arall a nodwyd gan David Melding, sy’n arbennig o berthnasol mewn teuluoedd—nododd Lynne Neagle hyn—lle y gall fod dementia ar aelod o’r teulu. Bydd pob aelod o’r Siambr hon, ac aelodau o’r Llywodraeth hefyd, yn ystyried cael hyfforddiant ffrind dementia eu hunain. Gadewch iddo ymestyn ymhellach na Thorfaen yn unig. Gadewch i ni gael Llywodraeth sy’n ystyriol o ddementia yng Nghymru, gyda’r arweiniad yn dod o’r lle hwn.

Gellid crynhoi’r hawl i ddiagnosis cynnar a materion eraill a nodwyd gan Mark Isherwood mewn Bil wrth gwrs. Weinidog, rwy’n gwbl sicr fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn dymuno cefnogi pobl hŷn, ac rydym yn cydnabod y camau rydych wedi’u rhoi ar waith, ond mae angen deddfwriaeth weithiau yn sail i fwriadau da, yn cynnwys datganiadau. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Tollau Pontydd Hafren

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 3 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf yw dadl UKIP ar dollau pont Hafren. Rydw i’n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6141 Mark Reckless

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser cael cyflwyno’r cynnig i argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i’r sector cyhoeddus.

Mae tollau’r Hafren yn dal economi Cymru yn ôl, yn cadw twristiaid draw ac yn rhannu Cymru oddi wrth Loegr yn ddiangen. Mae’r tollau’n cymryd £90 miliwn o gost uniongyrchol fan lleiaf bob blwyddyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif ymhellach fod cost tollau i Gymru yn £107 miliwn y flwyddyn fan lleiaf. Credwn fod costau talu’r doll uchaf yn y DU yn debygol o fod yn llawer uwch pan fo’r holl gyfleoedd a gollwyd a’r effeithiau anuniongyrchol yn cael eu hystyried.

Ar 1 Medi 2015, lansiais ymgyrch UKIP ar gyfer Cynulliad Cymru gyda Nigel Farage ym man casglu tollau’r M4 yn galw am ddiddymu’r tollau. Ers hynny, mae’r pleidiau eraill wedi symud i’r un cyfeiriad â ni. Rwy’n gobeithio heddiw y bydd y Cynulliad am y tro cyntaf yn cytuno i ddiddymu’r tollau. Rwy’n credu y byddai hyn yn ddefnyddiol o ran amseru i lywio’r ymchwiliad cyhoeddus ar ffordd liniaru’r M4, gan y gall effeithio ar ba mor drwm yw traffig ar yr M4 yn y dyfodol, ond hefyd i roi gwybod i Weinidogion y DU ynglŷn â safbwynt y ddeddfwrfa hon. Rwy’n pryderu bod y Gweinidog trafnidiaeth sy’n gyfrifol am hyn, Andrew Jones, wedi cynnig cyflwyno technoleg tollau agored mewn tystiolaeth ddiweddar yn San Steffan. Nid wyf yn gwybod—efallai y gwnaiff y Gweinidog ein goleuo yn nes ymlaen—pa drafodaethau, os o gwbl, heb sôn am gytundeb, a gafwyd gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn, ond dywedodd Gweinidog y DU ei fod yn disgwyl y byddai rhwng tair a phedair blynedd rhwng gwneud penderfyniad a bod y drefn godi tollau’n weithredol. Buaswn yn cwestiynu a ddylai Gweinidogion y DU fod yn gwneud penderfyniadau ar y raddfa amser honno, o ystyried y sail ddeddfwriaethol, a sail gyfyngedig drwy hynny, eu pwerau yn y maes hwn.

Hoffwn fynd i’r afael â mater toll cynnal a chadw, sy’n aml yn cael sylw yn y drafodaeth hon. Ar gyfer 2015, cadarnhaodd Gweinidog y DU y byddai’r refeniw cyffredinol o’r doll dros £90 miliwn. Mewn cyd-destunau amrywiol, nodwyd y gallai cost cynnal a chadw fod yn £13 miliwn neu’n £15 miliwn y flwyddyn. Ond mae’r ffigur hwn yn cynnwys holl gostau gweithredol y bont, ac ydy, mae hynny’n cynnwys cynnal a chadw yn ogystal â chostau casglu’r doll mewn gwirionedd. Nid yw’r elfen archwilio a chynnal a chadw o hwnnw, sy’n £13.3 miliwn ar gyfer 2015 rwy’n credu, ond yn £6 miliwn. Felly, fel cyfran o’r £90 miliwn a mwy a ddaw i mewn, mae’n gyfran fach. Os caiff ei gymhwyso fel cymhareb i’r tâl presennol o £6.60 ar gyfer car, byddai’n cyfateb i 44c.

O ystyried maint hynny, nid wyf yn meddwl y dylem ganiatáu i’n dadl gael ei chamystumio gan yr hyn sy’n talu am gynnal a chadw yn y dyfodol, oherwydd y gyfran fach o’r maint cyffredinol. A dweud y gwir, rwy’n meddwl y byddai diddymu’r doll yn cael effaith mor bositif o ran y neges y mae’n ei chyfleu am Gymru ar agor ar gyfer busnes, Cymru sy’n croesawu pobl sy’n dod yma heb gael y dreth sylfaenol honno ar bobl am ddim rheswm heblaw eu bod yn croesi pontydd yr Hafren.

Hoffwn ddweud ychydig am y sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer codi’r tollau ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn credu ei bod yn eithriadol o bwysig sylweddoli bod Deddf Pontydd Hafren 1992—. Rwyf wedi clywed rhai pobl yn dweud y gall y tollau barhau tan 2027, a bod ôl-stop o 35 mlynedd o’r dyddiad cychwyn yn 1992, ond mae’n naill ai hynny neu pan fydd swm penodol o arian wedi cael ei godi. Rwy’n credu ein bod yn gyffredinol yn gyfarwydd â’r gofyniad refeniw ar gyfer y consesiwn preifat—pan fydd yn cyrraedd £1.029 biliwn ar brisiau 1989, bydd yn dychwelyd felly i’r sector cyhoeddus, efallai mor gynnar â mis Hydref y flwyddyn nesaf.

Ond nid oes gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth y DU awdurdod pellach i godi tollau cymaint ag y dymunant yr holl ffordd at y dyddiad hwnnw yn 2027. Mae’n darparu yn adran 7 ar gyfer rhoi diwedd ar godi tollau’n gynnar gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac mae’n dweud yno na ddylid codi tollau ar ôl y diwrnod y cyrhaeddir y gofyniad cyllido. Nawr, mae’r gofyniad cyllido hwnnw’n cynnwys y gofyniad refeniw rydym wedi’i drafod a nifer o gostau eraill a restrir yn Atodlen i Ddeddf 1992, gyda’r mwyaf ohonynt yn £63 miliwn, y dywedir ei fod yn ddyled mewn perthynas â’r bont Hafren gyntaf.

Mae’r Gweinidog wedi rhoi amcangyfrifon pellach o’r £63 miliwn hwnnw, ac mae’r Gweinidog wedi rhoi amcangyfrifon pellach ar lefel y DU sy’n codi cyfanswm y gost i £88 miliwn yn uwch na’r gofyniad refeniw ar gyfer eu dychwelyd i ddwylo’r sector cyhoeddus. Byddem yn dadlau a ddylid talu’r costau hynny neu a ddylai tollau barhau i’w hariannu, nid yn lleiaf am fod y Trysorlys wedi cael arian annisgwyl o £150 miliwn a mwy o gymhwyso treth ar werth, ar ôl addo peidio â gwneud hynny yn y lle cyntaf. Yn ail, edrychwn ar bont Humber, er enghraifft, lle y diystyrodd Llywodraeth y DU £150 miliwn ar sail gyfatebol yn 2011. Pam na fyddent yn gwneud hynny ar gyfer tollau’r Hafren hefyd a chaniatáu felly ar gyfer eu diddymu cyn gynted ag y byddant yn dychwelyd i’r sector cyhoeddus, mor gynnar â hydref y flwyddyn nesaf o bosibl?

Os nad ydynt yn gwneud hynny, fodd bynnag, mae’n bwysig iawn cydnabod nad yw Deddf Pontydd Hafren ond yn rhoi awdurdod cyfyngedig iddynt godi tollau pellach. Hyd yn oed gyda hanner toll, byddwn yn cwestiynu a fyddai’r £88 miliwn yn cyfiawnhau parhau toll am fwy nag oddeutu 18 mis arall, dyweder, ar ôl iddynt ddychwelyd i’r sector cyhoeddus, a fyddai, fan bellaf, ond yn mynd â ni hyd at ganol 2019. Rwy’n cwestiynu sail gyfreithiol Llywodraeth y DU yn parhau i osod toll ar ôl y cyfnod hwnnw, am na fyddai ganddynt unrhyw bŵer, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall ac yn ei ddirnad ohono, o dan Ddeddf Pontydd Hafren 1992.

Mae Deddf Trafnidiaeth 2000, sy’n dweud, yn adran 167, na ellir

gwneud cynllun codi tâl ar gefnffordd ac eithrio—

(a) gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â ffyrdd y mae’n awdurdod traffig ar eu cyfer, neu

(b) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â ffyrdd y mae’n awdurdod traffig ar eu cyfer.

Aiff rhagddi, yn adran 168, i ystyried y posibilrwydd o ddau awdurdod codi tâl yn gweithredu ar y cyd, gan gyfeirio, byddai rhywun yn tybio, at bontydd yr Hafren. Wrth gwrs, dyna oedd hefyd yn sail i gomisiwn Silk, a ddaeth i’r casgliad y dylai’r pwerau dros bontydd yr Hafren barhau i fod yn benderfyniad i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd yn gytûn. Ac yna, unwaith eto, mae gennym yng nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi, y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol hirdymor y croesfannau. Cefnogir y safbwynt hwnnw gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n dweud, o ran pwerau a roddwyd, ym maes 10, priffyrdd a thrafnidiaeth, mater 10.1:

gwneud, gweithredu a gorfodi cynlluniau ar gyfer codi taliadau... ar gefnffyrdd Cymru

a hefyd gosod y taliadau hynny felly. Pan fyddwn yn edrych ar eithriadau wedyn, mae yna eithriad ar gyfer rheoleiddio traffig ar ffyrdd arbennig, ac mae hynny’n cynnwys traffyrdd, ond mae yna eithriad i’r eithriad wedyn, sef:

ar wahân i reoleiddio sy’n ymwneud â mater 10.1.

Felly, mae hynny’n golygu nad yw’r draffordd wedi ei heithrio o’r pwerau a roddwyd. Fe ildiaf.

Diolch i chi am ildio, Mark Reckless. A fyddech yn cytuno â mi mai rhan o’r broblem sydd gennym gyda phont Hafren, wrth gwrs, yw ei bod hi’n ddwy groesfan, nid un. Y costau cynnal a chadw ar gyfer yr hen groesfan yw’r rhan fwyaf o’r costau cynnal a chadw, ac maent yn debygol o gynyddu yn y dyfodol wrth i’r adeiledd heneiddio. Felly, mae angen gwarchod yn erbyn ateb sy’n diogelu dyfodol un bont ond sydd mewn gwirionedd yn rhoi dyfodol y bont wreiddiol yn y fantol yn y dyfodol, am fod y bont honno, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno, yn bwysig iawn i economi Sir Fynwy ac yn bwysig iawn i economi de-ddwyrain Cymru.

Mae hynny’n wir, ac ydw, rwy’n cytuno â’r sylw hwnnw. Mae’r bont, wrth gwrs, i gyd yn Lloegr, yn wahanol i’r bont ddeheuol fwy newydd, gyda’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar ei phwynt canol. Cafodd Deddf Pontydd Hafren 1992 wared ar rai o’r diffygion gweddilliol a allai fod wedi bod yn y bont honno a materion yn ymwneud â hwy o’r consesiwn, a oedd yn golygu nad oedd y consesiynydd yn mynd i ysgwyddo risg hynny, ond fy nealltwriaeth i yw bod gwaith cynnal a chadw da wedi’i wneud ar y bont. Mae pryder ynghylch dŵr yn treiddio i rai o’r ceblau dur, gyda thri arolygiad a gwaith adferol ar hynny, ac rwy’n deall bod hwnnw wedi gweithio’n dda. Yn sicr, o gymharu â phontydd tebyg yn yr Unol Daleithiau, mae hi mewn cyflwr da.

Rwy’n croesawu’r newid agwedd gan y pleidiau eraill tuag at ein safbwynt ar hyn. Yr un mis Medi hwnnw yn 2015, cyfeiriais at UKIP yn lansio ein hymgyrch i gael gwared ar y tollau gydag arweinydd ein plaid ar y pryd. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, pan gafodd ei holi am dollau’r Hafren—ac rwy’n meddwl ein bod wedi cael cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru fod yna dair blynedd rhwng 2011 a 2013 pan na fu unrhyw drafod o gwbl rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a San Steffan ar hyn—ond dywedodd Edwina Hart, pan ofynnwyd iddi:

‘Wel, rwyf yn byw yn y byd yr ydym yn byw ynddo, ac yn y byd hwn, mae gennyf y pwerau sydd gennyf, yr arian sydd gennyf, a’r hyn y gallaf ei gyflawni byddaf yn ceisio ei gyflawni, o ran yr hyn sydd gennym. Byddai’n braf iawn cael set wahanol o amgylchiadau ar rai o’r materion hyn, ond dyma’r sefyllfa yr ydym ynddi, ac mae angen i ni wneud cynnydd o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd. Mewn gwirionedd, nid wyf yn gyfrifol am... unrhyw beth sy’n ymwneud â thollau pont Hafren.’

Ond fel rwyf wedi nodi yn y sail ddeddfwriaethol, mater i’r Ysgrifennydd Gwladol ar lefel y DU yw’r trefniadau codi tollau presennol, ond i bwynt penodol yn unig, sy’n anodd ei ragweld yn mynd y tu hwnt i 2019, ar sail y pwerau hynny. Os ydym yn chwilio am gynllun codi tollau pellach ar sail Deddf Trafnidiaeth 2000, o leiaf gyda’r bont ddeheuol, a gellid dadlau, gyda’r bont ogleddol, mae yna achos y byddai hynny’n galw am gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn.

Safbwynt y Prif Weinidog yn flaenorol, wrth gwrs, oedd y dylai’r tollau uchel barhau ac y gallent o bosibl ariannu ei lwybr du ar gyfer ffordd liniaru’r M4. Rwy’n falch iawn fod y safbwynt hwnnw wedi newid, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn rhoi clod i’r Blaid Lafur yng Nghymru a Llywodraeth Cymru am newid y safbwynt hwnnw. Ac rwy’n arbennig o falch, yn y gwelliannau heddiw gan y grŵp Llafur, eu bod yn derbyn ein cynnig ac yn ychwanegu dau baragraff hynod o synhwyrol ato, ac mae fy ngrŵp yn cytuno â hwy ac yn eu cefnogi.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Gan droi yn awr at y gwelliannau eraill, roeddwn yn teimlo bod cynnig y Ceidwadwyr ychydig yn niwlog a braidd yn llawn o amodau. Roeddwn yn meddwl mai’r ffordd orau o’i ddisgrifio oedd fel safbwynt dros dro a oedd yn aros am gyfarwyddyd o San Steffan, ond o bosibl yn welliant ar ble roeddent o’r blaen. A chynnig Plaid Cymru—rwy’n gweld ei fod yn galw am ddatganoli’r cyfrifoldeb am bontydd Hafren. Roeddwn yn meddwl o’r blaen mai safbwynt Plaid Cymru oedd y dylid datganoli perchnogaeth ar bontydd Hafren, ac roedd hynny i’w weld fel rhyw fath o hawlio pwerau oddi wrth Loegr, ond maent yn awr yn siarad am gyfrifoldeb, ac rwy’n credu bod hynny’n synhwyrol mae’n debyg, gan y byddai datganoli’r bont ogleddol yn rhwymedigaeth sylweddol iawn o bosibl, a’r hyn sy’n bwysig yw cyfrifoldeb dros godi tollau ar y pontydd hynny. Mae’r cytundebau gwleidyddol—Dydd Gŵyl Dewi a Silk—wedi dweud y dylai hynny fod drwy gytundeb, ac o ystyried y safbwynt cyfreithiol a’r ansicrwydd posibl, byddai hynny hefyd yn milwrio o blaid hynny. Ac rwy’n meddwl os yw’r lle hwn heddiw yn datgan safbwynt clir a bod Llywodraeth Cymru yn datgan safbwynt cryf, edrychaf ymlaen at ddiddymu’r tollau hyn, os nad yr hydref nesaf, o leiaf o fewn tymor y Cynulliad hwn. Diolch.

Diolch. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Russell.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU i archwilio pob agwedd ar gyllido ar gyfer y ddwy bont Hafren pan gânt eu dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

2. Yn nodi bod asesiadau blaenorol wedi dangos y byddai cyfanswm y drafnidiaeth yn cynyddu o leiaf 25 y cant pe bai'r tollau'n cael eu diddymu

3. Yn galw am gynnal asesiad traffig gan Traffig Cymru er mwyn llywio'r penderfyniad i ddiddymu tollau ar sail gallu'r system drafnidiaeth o amgylch i ymdopi ag unrhyw gynnydd mewn trafnidiaeth

4. Yn credu y dylai defnydd o'r pontydd heb dollau fod yn flaenoriaeth os y gellir cadarnhau dyfodol hirdymor y ddwy bont drwy gyllidebau presennol heb unrhyw effaith ar brosiectau trafnidiaeth eraill ledled Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn gynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies, a diolch i UKIP am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Rwy’n cydnabod bod uchelgais eang ar draws y Siambr hon i gael gwared ar y tollau ar bont Hafren ac i leihau, wrth gwrs, y baich ar fodurwyr sy’n teithio i mewn i Gymru. Bwriad gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig i’r cynnig hwn yw cydnabod bod yna faterion y mae angen mynd i’r afael â hwy a’u hystyried mewn perthynas â chael gwared ar y tollau. Mae yna oblygiadau i benderfyniad o’r fath ar y pwrs cyhoeddus: maint y traffig a’r effaith ar gynnal a chadw’r pontydd, ac wrth gwrs, sgil-effaith, o bosibl, ar brosiectau trafnidiaeth eraill ledled Cymru yn ogystal. A dylem gofio bod yr asesiadau blaenorol wedi nodi y byddai maint y traffig yn cynyddu o leiaf 25 y cant pe bai’r tollau’n cael eu diddymu ar unwaith. Yn sicr, yn fy marn i, byddai angen asesiad cynhwysfawr—

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ynglŷn â ble rydych yn cael yr asesiadau hyn, oherwydd byddai gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny.

Wel, mae’n asesiad blaenorol a wnaed, ac rwy’n hapus i i siarad â chi y tu allan i’r Siambr ynglŷn â hynny. Ond mae’r asesiad hwnnw wedi ei wneud, lle y cafodd 25 y cant o’r tollau eu diddymu ar unwaith—mae’n ddrwg gennyf, y 25 y cant—. Byddai’r traffig yn cynyddu 25 y cant pe bai’r tollau’n cael eu diddymu ar unwaith. Yn sicr, yn fy marn i, byddai angen cynnal asesiad traffig—asesiad o’r traffig ehangach—i asesu gallu’r system drafnidiaeth o amgylch i ymdopi â chynnydd sylweddol ym maint y traffig. Mae’r M4, wrth gwrs, yn wynebu tagfeydd a chiwiau rheolaidd, fel rydym i gyd yn ymwybodol, yn enwedig pan gynhelir digwyddiadau chwaraeon. Mae hyn, wrth gwrs, nid yn unig yn rhwystredig i fodurwyr, ond wrth gwrs mae problem yma hefyd gyda chefnffyrdd yn llai diogel ar yr adegau hynny. Mae’r M4 o amgylch Casnewydd beth amser i ffwrdd, ac mae’r tagfeydd yn dal i fod yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, felly rwy’n meddwl bod yna faterion ehangach y mae angen i ni eu cadw mewn cof yma hefyd.

Wrth asesu rhinweddau cael gwared ar dollau pont Hafren, mae hefyd yn hanfodol na chaniateir i’r pontydd ddadfeilio. Rwy’n meddwl bod angen darparu ar gyfer costau gweithredu a chynnal a chadw parhaus. Mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â’r oddeutu £63 miliwn o’r pwrs cyhoeddus ar gyfer y diffygion diweddaraf hefyd ar y groesfan y bydd angen rhoi sylw iddynt. Clywais sylwadau a chyfrifiadau Mark Reckless, ac rwy’n ystyried y rheini’n ogystal. Rwy’n hapus i astudio’r rheini fy hun.

Rwyf wedi clywed y disgrifiad yn cael ei ddefnyddio’n aml fod y tollau’n beiriant pres, ond byddwn yn dweud mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei gofio yw bod y tollau hyn—yr arian o’r tollau—wedi cael eu defnyddio ar gyfer gwaith atgyweirio, yn hytrach nag o’r pwrs cyhoeddus ehangach yn ogystal, ond byddai potensial go iawn, rwy’n meddwl, o gael gwared ar y tollau i gefnogi modurwyr, darparu buddsoddiad sylweddol yng Nghymru, gwella ein seilwaith, ac annog twf economaidd hefyd, ac rwy’n cefnogi’r nod o gael gwared ar y baich tollau, ond rwy’n meddwl bod angen i ni ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng cynnal a chadw pontydd, buddsoddi mewn seilwaith a chymorth i fodurwyr. Mae’n hanfodol fod yr holl ffactorau hynny’n cael eu hystyried.

Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Dai.

Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi diddymu tollau sy'n daladwy ar y croesfannau.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rydw i’n symud y gwelliant sydd yn galw ar ddatganoli’r cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ac yn cefnogi diddymu’r tollau sy’n daladwy ar y croesfannau. So, dyna ein safbwynt ni. Rydym ni wedi bod yn erbyn y tollau yma ers blynyddoedd maith, achos rydym ni yn sôn, efo pontydd Hafren, am y brif fynedfa i Gymru. Mae yna arwydd ‘Croeso i Gymru’, a gyda llaw, mae’n rhaid i chi dalu am y pleser o fod yma.

Yn naturiol, rydym yn croesawu rhyw fath o, bod UKIP—. Yn naturiol, maen nhw’n teithio nôl ac ymlaen yn weddol aml ar yr M4 ac yn gorfod mynd heibio’r ‘toll plaza’ nawr. Wedyn, wrth gwrs, mae hyn o fuddiant personol. Yn naturiol, roeddwn i’n bownd o sôn am hynny, a wrth gwrs dyna natur pwysigrwydd y ddadl.

Ond hefyd, mae’n rhaid i chi feddwl am y peth: mae gen i swyddfa newydd nawr ym Maglan, ac mae yna bont newydd—pont Llansawel;‘Briton Ferry bridge’—yn y fan honno sydd hefyd ar stiltiau sydd wedi costio miliynau. Wrth gwrs, nid oes angen talu i fynd dros y bont yna—mae jest yn rhan o’r dreth gyffredinol. Nid wyf yn awgrymu ein bod ni eisiau talu tollau i fynd dros bont Llansawel, ond mae yna anghysondeb a, buaswn i’n dweud, anghyfiawnder yn y ffaith bod y tollau yn dal i fod dros bontydd Hafren. Wrth gwrs, adeiladwyd y bont gyntaf dros hanner can mlynedd yn ôl, ac felly rydym yn dal fel pobl Cymru yn talu am y pleser o fynd drostyn nhw.

Cefndir hyn oll, wrth gwrs, ydy’r impact mae hyn i gyd yn ei gael ar ein economi ni, fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes. Mae yna astudiaethau wedi cael eu gwneud sy’n darogan y buasai yna gynnydd o £107 miliwn y flwyddyn, o leiaf, yn yr economi yma yn ne Cymru pe bai’r tollau yn mynd. Rydym yn sôn am adeg pan mae ein heconomi angen pob hwb sydd yn gallu cael ei roi iddo. Mae yna enghreifftiau o bontydd eraill yn ynysoedd Prydain a oedd yn arfer bod â thollau arnyn nhw, ond nawr sydd heb dollau arnyn nhw achos mae yna gytundebau wedi’u gwneud rhwng y gwahanol Lywodraethau. Rwy’n sôn am bontydd Isle of Skye yn yr Alban ac, wrth gwrs, pont Humber yn Lloegr. So, rydym yn gallu dod i’r fath gytundeb sydd yn diddymu tollau dros bontydd sydd yn allweddol bwysig.

Buaswn i’n awgrymu bod y Llywodraeth yn mynd ati i ddweud, ‘Ie, rydym ni angen y pŵer, rydym ni angen y cyfrifoldeb dros hyn i gyd, ond yn y pen draw rydym eisiau diddymu y tollau.’ Achos gyda’r cefndir diweddar o bleidlais Brexit, mae yna wir angen yn fan hyn i ni fod yn cael ein gweld yn gwneud pethau eithaf radical. Mae pobl wastad yn dweud wrthyf i ar y stryd, ‘Beth ydych chi’n wneud yna yn y Senedd? Rydych chi jest yn eistedd a rhyw fân drafod a gwneud mân newidiadau.’ Mae pobl yn galw yn gynyddol am rywbeth mawr sy’n mynd i newid eu bywydau nhw, ac mae rhai pobl wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd maith i gael gwared o’r tollau yma dros bontydd Hafren. Felly, rwy’n credu ei bod hi yn berthnasol i ni ofyn am gael y cyfrifoldeb dros bontydd Hafren, ac hefyd, yn y pen draw, ein bod ni’n cael gwared o hyn i gyd—cael gwared o’r tollau. Achos mae o’n anghyfiawnder: rydych chi’n talu i fynd i mewn i Gymru, ond nid ydych yn talu i fynd allan o Gymru. Nid wyf yn cytuno efo’r syniad ddaeth wythnos diwethaf y dylem ni dalu’r ddwy ffordd. Na, nid oes eisiau talu yr un ffordd. Lee.

Diolch, Dai. Fe’ch clywais yn galw am weithredu radical. Clywais alwad eich plaid am weithredu radical yn ddiweddar iawn ar newid yn yr hinsawdd. Felly, rwy’n ei chael yn rhyfedd eich bod yn awr yn dadlau o blaid safbwynt a fydd yn cynyddu maint y traffig rhwng 12.5 a 25 y cant, a fydd yn ei gwneud yn anos gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

Rydym ni’n sôn am hwb i’r economi yn fan hyn, a’r arian ychwanegol. Os wyt ti eisiau ariannu’r metro, neu beth bynnag, fe allet ti ei ariannu fo, Lee, allan o’r arian ychwanegol a fydd yn dod i mewn i goffrau’r Cynulliad yma os ydym ni’n cael y cyfrifoldebau wedi eu datganoli fan hyn, a’r arian ychwanegol a fydd yn dod o ddiddymu’r tollau. [Torri ar draws.] O ddiddymu’r tollau.

Felly, cefnogwch y bwriad i gael y cyfrifoldeb dros hyn i gyd yn fan hyn, ac hefyd, yn y pen draw, cefnogwch y bwriad i ddiddymu tollau yn gyfan gwbl ar bontydd Hafren. Diolch yn fawr.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.

Gwelliant 3—Jane Hutt

Ychwanegu pwyntiau 1 a 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

1. Yn nodi’r manteision y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru.

2. Yn credu nad oes achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a busnesau Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Member
Ken Skates 16:49:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Yn ffurfiol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tollau pont Hafren nid yn unig yn dreth ar fusnesau Cymreig sefydledig, ond maent hefyd yn anghymhelliad uniongyrchol i gwmnïau sy’n ystyried ymsefydlu yng Nghymru neu adleoli yma. Er enghraifft, cymerwch gwmni sydd am sefydlu safle dosbarthu yma. Byddai cyfran uchel iawn o gwsmeriaid y rhan fwyaf o gwmnïau yn ne-ddwyrain Lloegr. Byddai tollau yn golygu cost cludiant ychwanegol anferth pe bai’r cwmni hwn yn lleoli ei weithgaredd yma yng Nghymru yn hytrach nag ar draws y sianel ym Mryste. Byddai cwmni sy’n rhedeg 100 o gerbydau y dydd i mewn i Loegr, ar gostau’r doll gyfredol, yn wynebu £2,600 y dydd yn ychwanegol mewn costau gweithredu oherwydd cost ychwanegol tollau pont Hafren.

Ers amser, mae UKIP wedi dadlau o blaid diddymu’r tollau’n llwyr cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Ar hyn o bryd mae gennym fath o gynnig hanner ffordd lle y gellid defnyddio system adnabod rhifau cerbydau i godi tâl ar gerbydau sy’n mynd y ddwy ffordd. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno gyda chost lawer is—soniwyd am ffigur o £1.80 neu £1.90 am bob taith drosodd. Fodd bynnag, rhaid gofyn am ba hyd y byddai’r tâl hwn yn parhau i fod ar y lefel gymharol isel hon. A fyddai unrhyw sicrwydd y byddai unrhyw gynnydd yn y tâl yn y dyfodol wedi’i gysylltu â chwyddiant? Hefyd, nid oes gennym unrhyw fanylion eto ynglŷn ag a fyddai’r tâl hwn ar gyfer pob cerbyd ai peidio. Mae’n dal yn bosibl y gallai cerbydau mwy o faint dalu tâl uwch na’r ffigur a ddyfynnwyd, a fyddai ond yn ymestyn yr anghymhelliad i fusnesau sy’n dymuno ymsefydlu yng Nghymru. O ystyried yr amheuon hyn, mae’n rhaid i ni alw am ddiddymu tollau’n gyfan gwbl ar bontydd yr Hafren. Mae ein treth ffordd gyffredinol yn sicr yn fwy na digon i dalu costau cynnal a chadw pontydd yr Hafren yn y dyfodol.

Yn gyffredinol, mae angen hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, yn hytrach na defnyddio ceir preifat, ac mae’n rhaid i ni ystyried y cynnydd posibl yn y traffig ar y pontydd. Fodd bynnag, er bod hyn yn iawn fel egwyddor gyffredinol, mae’n rhaid i ni gofio’r pwynt a wnaeth Dai Lloyd yn dda iawn. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn argymell cynyddu’r defnydd o dollffyrdd ar hyd a lled y DU, gan gynnwys yn Llansawel hyd yn oed, yna gwahaniaethu yn erbyn Cymru ac economi Cymru yw trin pontydd yr Hafren yn y ffordd hon—hynny yw, ar ôl talu costau adeiladu a chyllido’r pontydd.

Yn UKIP, rydym wedi gwneud diddymu tollau pont Hafren yn nodwedd bwysig o’n hymgyrch yng Nghynulliad Cymru. Calondid yw nodi bod pob un o’r pleidiau yma heddiw—ac rwy’n cadw mewn cof fod Dai wedi tynnu sylw at y ffaith fod Plaid Cymru wedi mabwysiadu’r safbwynt hwn hefyd yn gynharach—serch hynny, gyda’r pleidiau eraill, mae’n galonogol eu bod yn awr i’w gweld yn symud tuag at safbwynt sy’n hyrwyddo diddymu’r tollau yn fras. Rydym yn falch iawn, fel arfer wrth gwrs, o groesawu’r pleidiau eraill i’n gwersyll, er mai dros dro fydd hynny.

Mae’r ymgyrch i ddiddymu’r doll ar ail groesfan yr Hafren a chroesfan gyntaf yr Hafren, wrth gwrs, yn hirsefydlog ac yn faith dros ben, ac yn deillio o adeg ymhell cyn dyddiad yr ymgyrch UKIP y mae Gareth Bennet newydd gyfeirio ati. Yn wir, mae gwleidyddion Llafur a gwleidyddion o bleidiau eraill wedi bod rhan o’r ymgyrch hon ers blynyddoedd lawer, felly rwy’n meddwl y dylem gael hynny’n glir fel man cychwyn yn y ddadl hon.

Yr hyn yr hoffwn ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, yw bod yna lawer iawn o ymdrech ar hyn o bryd yn mynd tuag at gysylltu economïau rhanbarthol, dinas-ranbarthau, pwerdai economaidd a systemau trafnidiaeth, ac mae llawer iawn o ymdrech wedi mynd tuag at wneud hynny i ddinasoedd mawr y gorllewin a phwerdy mawr y gorllewin. Cynhyrchwyd adroddiad ar gyfer Bryste, Casnewydd a Chaerdydd, sy’n edrych ar boblogaeth o tua 1.5 miliwn ar draws yr ardal ac mae’r cyfan yn ymwneud â chysylltu a chael gwared ar rwystrau. Bydd llawer o hynny’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus; bydd yn ymwneud â system MetroWest Bryste, system metro prifddinas-ranbarth Caerdydd, felly bydd elfen fawr o hyn yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn. Ond mae hefyd yn ymwneud â chael gwared ar dollau’r Hafren, yn fy marn i, sy’n symbolaidd, fel rwy’n credu ein bod i gyd yn gwybod, ac fel y mae eraill wedi ei ddweud. Rydym yn anfon neges ofnadwy i bobl sy’n dod i mewn i Gymru, y porth i Gymru, fod yn rhaid gwneud y taliad hwn. Cafwyd cydnabyddiaeth ers tro ei bod yn broblem yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Felly, os ydym i gysylltu’r ardal eang hon ar draws yr Hafren yn fwy effeithiol, rwy’n meddwl mai rhan bwysig o hynny yw dileu’r tollau hyn, a gorau po gyntaf y mae’n digwydd.

Ond mae’n rhan o’r darlun ehangach o gysylltedd mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, y strategaeth ynni, y strategaeth seilwaith gyffredinol a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw a gwaith arall. Wyddoch chi, mae’n ymwneud â’r prifysgolion, mae’n ymwneud â busnesau, mae’n ymwneud â chymdeithas ddinesig—mae’n agenda go bellgyrhaeddol. Ond o fewn hynny, fel y dywedais, rwy’n credu ei bod yn bwysig yn symbolaidd ac yn ymarferol ein bod yn dileu’r tollau hyn ac yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Ac mae’n wych gweld, rwy’n meddwl, y consensws cryf i’r perwyl hwnnw yn y Siambr hon heddiw.

Pan edrychwn ar y materion sy’n codi a’u natur hirdymor, Ddirprwy Lywydd, mae’r rheini ohonom sy’n cynrychioli Casnewydd a’r ardaloedd o gwmpas, yn gwybod am y teimladau cryf yn lleol sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac sy’n dal i fod yn gryf iawn heddiw. Mae pobl leol a busnesau a sefydliadau lleol o ddifrif yn edrych ymlaen at y dydd pan gaiff y tollau eu diddymu o’r diwedd. Mae wedi bod yn ymgyrch hir; mae wedi cynhyrchu llawer iawn o gefnogaeth yn lleol ac fel cynrychiolydd yn Nwyrain Casnewydd, gwn fod llawer o bobl eraill, megis Jayne Bryant sy’n cynrychioli Gorllewin Casnewydd, yn gefnogol iawn i’w diddymu. Felly, rwy’n meddwl y dylem gydnabod hynny. Ni ddylem edrych ar hyn fel rhyw ymgyrch newydd a gynhyrchwyd yn y Cynulliad—mae’n mynd yn llawer pellach yn ôl na hynny. Ac rwy’n credu bod hynny’n gryfder go iawn, gan ei fod yn dangos, dros gyfnod o amser, y materion sydd wedi ysgogi pobl i alw am ddiddymu’r tollau. Fel y dywedais yn gynharach, gorau po gyntaf y bydd yn digwydd.

Mae’n werth pwysleisio nad oes unrhyw gynlluniau i ddatganoli’r pŵer i bennu tollau ar bont Hafren i’r Cynulliad. Felly, mae hon yn ddadl gymharol ddamcaniaethol, wedi’i chynllunio’n bennaf i roi pwysau ar Lywodraeth y DU. Pe bai pwerau’n cael eu datganoli, rwy’n meddwl y byddem yn cael trafodaeth ychydig yn wahanol y prynhawn yma.

Ond gan fod hon yn ddadl athronyddol i raddau helaeth, hoffwn ddefnyddio’r cyfle i awgrymu ymagwedd amgen i’r Cynulliad: un rwy’n meddwl ei bod yn arbennig o bwysig yng ngoleuni’r penderfyniad i adael yr UE. Pe bai’r tollau’n cael eu diddymu, mae’r rhagolygon gorau’n dangos y byddai’r llifddorau’n agor. Byddai traffig yn cynyddu rhwng oddeutu 12.5—ffigurau’r Llywodraeth—a 25 y cant—ffigyrau dirgel Russell George. Ond wrth glywed yr hyn a ddywedodd John Griffiths am yr argraff a roddir i bobl sy’n dod i mewn i Gymru wrth orfod talu tollau, byddem yn lle hynny yn rhoi’r argraff i bobl sy’n dod i Gymru o ffyrdd â thagfeydd traffig gwael. Oherwydd byddai mwy fyth o dagfeydd yn y twneli ym Mrynglas a’r ardal gyfagos yn sgil y llif anhygoel o fawr o draffig a fyddai’n deillio o hynny, neu os ydym yn gwario £1 biliwn yn y pen draw ar ddarn newydd o’r M4, byddai hwnnw’n gyflym iawn yn llenwi â thraffig ac yn creu galw am fwy o gapasiti ffyrdd eto ymhellach i lawr yr M4.

Hoffwn atgoffa’r Cynulliad fod gennym ymrwymiadau; rydym i gyd wedi rhoi ymrwymiadau a ymgorfforwyd mewn cyfraith i leihau allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050, gyda thargedau interim i’w lleihau 40 y cant erbyn 2020. Nid ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau hyn ac ni fydd cynyddu’r defnydd o geir ar yr M4 ond yn gwneud pethau’n waeth. Rwy’n sylweddoli bod hon yn ystyriaeth anghyfleus, ond mae’n un real iawn na allwn ei hysgubo o’r neilltu bob tro rydym yn wynebu penderfyniad sy’n gwrthdaro yn erbyn yr ymrwymiadau rydym wedi eu gwneud. Yn amlwg, mae creu dewis amgen yn lle defnyddio ceir yn rhan allweddol o’r broblem honno. Mae cael system drafnidiaeth gyhoeddus ddeniadol yn hanfodol, ond mae’r penderfyniad i adael yr UE wedi rhoi marc cwestiwn sylweddol yn erbyn maint a siâp metro de Cymru yn y dyfodol.

Amcangyfrifir y bydd ail gam y metro yn costio £734 miliwn dros chwe blynedd. Disgwylid i dalp sylweddol o hwnnw—oddeutu £125 miliwn—ddod o’r UE. Bydd gadael yr UE yn gadael diffyg o oddeutu £21 miliwn y flwyddyn—un rhan o chwech o gyfanswm y pecyn ariannu. Dylai Llywodraeth y DU dalu—[Torri ar draws.] Os caf wneud rhywfaint o gynnydd. Dylai Llywodraeth y DU dalu’r diffyg, ond rwy’n ofni na fyddant yn gwneud hynny ac mae’n anodd gweld sut y gall ein cyllidebau cyfalaf lenwi’r bwlch hwnnw, o gofio ein bod yn neilltuo £1 biliwn ar gyfer yr M4. Rwy’n ofni y byddwn yn ei chael hi’n anodd cyflawni potensial llawn y prosiect metro, a phe bai’r Cynulliad yn cael ei ffordd heddiw, byddem yn ymrwymo ein hunain i strategaeth i gynyddu traffig ceir yn sylweddol ar yr M4, ar yr un pryd â chyfyngu ar yr unig gynllun sydd gennym i leihau pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd, yn ogystal â bod angen lleihau allyriadau carbon 40 y cant o fewn pedair blynedd, pan fo’r holl ddangosyddion yn dangos ein bod yn mynd i’r cyfeiriad arall. Rwy’n meddwl y dylem oedi ac ystyried cyn i ni symud ymlaen. Mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o ariannu’r prosiect metro’n llawn a’i ehangu, ac rwy’n meddwl mai clustnodi arian o’r tollau i dalu am brosiect trafnidiaeth gyhoeddus i dynnu’r pwysau oddi ar yr M4 yw’r opsiwn gorau sydd ar gael i ni. Mae tollau ar y ddwy bont Hafren wedi dod yn rhan dderbyniol o economi de Cymru. Nawr, gallwn drafod sut y gallai lefelau’r tollau gael eu gosod yn fwy creadigol, ac nid oes rheswm pam, er enghraifft—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, Dai, nid oes gennyf lawer o amser; os bydd, dof yn ôl atoch.

Gallwn weld sut y gellid gosod y tollau hynny’n fwy creadigol. Nid oes raid i ni eu gosod ar gyfer faniau neu lorïau, er enghraifft. Gallem eu gosod ar gyfer ceir un defnyddiwr yn lle hynny. Ond os ydym yn cadw’r tollau, rydym yn cadw’r pŵer i ddewis. Mae’r pontydd ar hyn o bryd yn creu rhwng oddeutu £90 miliwn a £109 miliwn y flwyddyn, a chredir mai oddeutu £20 miliwn o hwnnw’n unig sydd ar gyfer cynnal a chadw. Felly, gallai fod rhywle rhwng £70 miliwn a £90 miliwn ar gael i’w fuddsoddi yn y metro, i lenwi bwlch ariannu’r UE neu hyd yn oed i ddenu benthyciadau i ehangu’r prosiect metro yn ôl y weledigaeth lawn yr hoffem ei gweld ac yn wir, i ehangu metros ar draws Cymru. Ond ni allwn wneud hynny os nad ydym yn cadw ein hopsiynau’n agored, a’r bwriad sydd wrth wraidd y cynnig heddiw yw cau’r drws ar opsiynau.

Os ydym am osgoi effaith drychinebus y newid yn yr hinsawdd ar fusnes, ar iechyd, ar seilwaith—mae’n werth nodi y rhagwelir y bydd y pontydd ffyrdd hyn i gyd o dan y dŵr o fewn 50 mlynedd oni bai ein bod yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd—yna mae angen i ni wneud rhywbeth gwahanol. Yn syml iawn, parhau â’r un atebion yw’r fordd anghywir o wneud pethau. Diolch.

I ddilyn ymlaen o hynny, rwy’n meddwl mai’r dull rhagofalus a welwyd gan Lee a Russell George yw’r un sydd angen i ni ei fabwysiadu. Wrth gwrs, mae’n hollol gywir, fel y dywed Dai Lloyd, ei bod yn annheg ein bod yn cael y tollau hyn ar bontydd i Gymru pan nad oedd pont Humber—a adeiladwyd o ganlyniad i isetholiad yn 1966, gyda llaw, pan gafodd y Llywodraeth Lafur fwyafrif o un—yn ddarostyngedig i dollau o’r math rydym yn dal i’w hwynebu yma yng Nghymru. Felly, yn amlwg, mae yna achos cryf dros ddweud bod hyn yn hollol annheg, ond mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, a bod yna oblygiadau amgylcheddol difrifol iawn y mae angen i ni eu harchwilio cyn i ni ruthro i ddiddymu tollau.

Bythefnos yn ôl i heddiw, collodd Llywodraeth y DU achos arwyddocaol iawn yn yr Uchel Lys yn Llundain. Efallai bod rhai ohonoch wedi ei fethu, oherwydd fe ddigwyddodd ddiwrnod cyn y dyfarniad yn y Goruchaf Lys a roddodd oruchafiaeth i’r Senedd yn y penderfyniad ynglŷn â dechrau’r broses yn sgil y penderfyniad i adael yr UE. Ond mae goblygiadau mawr iawn i’r canlyniad hwn yn y tymor hir iawn i Lywodraeth y DU ac yn wir, yn fy marn i, i Lywodraeth Cymru hefyd, oherwydd barnodd Mr Ustus Garnham fod cynllun ansawdd aer Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 wedi methu cydymffurfio â dyfarniad y Goruchaf Lys, na chyfarwyddebau perthnasol yr UE yn wir, a dywedodd fod y Llywodraeth wedi tramgwyddo’r gyfraith drwy osod dyddiadau cydymffurfio ar gyfer mynd i’r afael â’r lefelau anghyfreithlon hyn o lygredd yn seiliedig ar fodelu lefelau llygredd yn orobeithiol. Felly, mae’r ddadl am faint o draffig y gellid ei gynhyrchu drwy gael gwared ar y tollau ar y pontydd ar draws yr Hafren yn arbennig o berthnasol i’r pwynt hwn.

Mae methiant y Llywodraeth i fynd i’r afael â lefelau anghyfreithlon o lygredd aer ar draws y DU yn achosi 50,000 o farwolaethau cynnar a thros £27 biliwn mewn costau bob blwyddyn, a hynny yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth y DU ei hun. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd, a gallai unrhyw beth a wnawn, neu unrhyw beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud sy’n methu mynd i’r afael â hyn arwain atynt hwy neu ninnau’n gorfod ymddangos gerbron y llysoedd.

Un o’r rhesymau pam yr enillodd y corff anllywodraethol cyfreithiol, ClientEarth, eu hachos oedd oherwydd bod cynlluniau Llywodraeth y DU wedi anwybyddu llawer o fesurau a allai sicrhau toriadau yn lefelau nitrogen deuocsid. Mae’r rhain yn cynnwys codi tâl ar geir diesel, sy’n ffynhonnell sylweddol o lygredd aer, am fynd i ddinasoedd a amharwyd gan lygredd aer fel rhan o’r ardaloedd aer glân arfaethedig. Dadleuodd y Trysorlys y byddai’n anodd iawn yn wleidyddol, yn enwedig o ystyried yr effeithiau ar fodurwyr—greal sanctaidd y modurwr. Dywedodd yr Uchel Lys fod rheolaeth y gyfraith yn gorbwyso ystyriaethau gwleidyddol o’r fath, ac rwy’n cytuno â hynny. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i ddyfarniad yr Uchel Lys wrth ystyried cael gwared ar dollau ar bont Hafren oherwydd yr effaith y gallai ei chael ar yr ardaloedd aer glân arfaethedig, sy’n cynnwys Caerdydd. Cynllun Caerdydd oedd un o’r rhai a gafodd ei wrthod am ei fod yn orobeithiol ac afrealistig ynglŷn â’u cynlluniau i gael gwared ar y lefelau anghyfreithlon hyn.

Felly, rwy’n cytuno bod hon yn dreth annheg ar bobl Cymru os na ellir ac os na chaiff ei gwario ar wella ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a mynd i’r afael felly â’r lefelau llygredd aer. Ond hyd yn hyn, rwy’n cytuno, mae’r llysoedd wedi barnu bod cynlluniau Llywodraeth y DU yn ddiffygiol, ac nid yw’n ymddangos eu bod yn dymuno trosglwyddo’r doll hon i ni. Ond mae angen i ni wybod gyda rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru beth fyddai’n cael ei wneud, pe baem yn dileu’r tollau hyn, ynglŷn â chanlyniadau llygredd aer cynyddol. Nodaf fod Bryste eisoes wedi gweithredu lôn flaenoriaeth sy’n cael ei gorfodi’n llym ar gyfer ceir sy’n cymudo i mewn i Fryste sy’n cynnwys mwy nag un teithiwr. A allem fod yn hyderus a disgwyl y byddai trefn o’r fath yn cael ei rhoi mewn grym o amgylch Caerdydd hefyd?

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Member
Ken Skates 17:06:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Fel sydd wedi’i wneud yn glir yn ystod y ddadl hon, mae pontydd yr Hafren yn gyswllt allweddol yn ein seilwaith trafnidiaeth a’n seilwaith economaidd, ac fel rhan o goridor strategol yr M4, y croesfannau yw’r brif fynedfa i Gymru, ac maent yn rhoi mynediad i fusnesau nid yn unig at farchnadoedd yn Lloegr, ond y tu hwnt, ar dir mawr Ewrop.

Mae llawer o unigolion sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain, neu sy’n berchen ar fusnesau yng Nghymru yn pryderu am gost uchel y doll ar groesfannau’r Hafren. Maent yn teimlo ei bod yn rhwystr i weithgarwch busnes ar draws y bont, yn llesteirio twf yng Nghymru ac yn gweithredu fel arf ataliol i fewnfuddsoddi. Yn benodol, maent yn dadlau bod y doll yn effeithio’n andwyol ar fusnesau bach, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â’r sectorau twristiaeth, trafnidiaeth a logisteg, sy’n dibynnu’n helaeth ar gyswllt croesfannau’r Hafren ar gyfer eu busnesau. Ar hyn o bryd Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb am y croesfannau a chodi tollau. Mae’r trefniadau wedi’u nodi yn Neddf Pontydd Hafren 1992, sy’n caniatáu i’r consesiynydd, Severn River Crossings plc, gasglu swm penodol o arian o dollau. Yn unol â’r Ddeddf, mae’r consesiwn ar hyn o bryd wedi ei raglennu i ddod i ben erbyn diwedd 2017, pan fydd y croesfannau’n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Ysgrifennodd y Prif Weinidog at y Canghellor ym mis Chwefror eleni a gwnaeth yn glir y dylai’r tollau gael eu diddymu pan ddaw’r consesiwn i ben. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgynghori erbyn diwedd y flwyddyn hon ar drefniadau ar gyfer dyfodol y croesfannau, gan gynnwys ar ostyngiad arfaethedig yn lefel y tollau. O ystyried eu harwyddocâd strategol i Gymru, rydym wedi bod yn trafod yn rheolaidd â Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod y trefniadau arfaethedig yn sicrhau’r fargen orau i Gymru ac nad yw’n dreth annheg ar ein pobl a’n busnesau. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn glir iawn na fydd yn trosglwyddo perchnogaeth y croesfannau i ni. Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â’r Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, i drafod y tollau ac i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru, ac yn y cyfarfod hwnnw, nodais safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir iawn—y dylid diddymu’r tollau ar y cyfle cyntaf, gan leddfu’r baich ar yr economi a dileu’r bygythiad sylweddol i fasnach yn y byd ar ôl gadael yr UE. Ailbwysleisiais fod yr adroddiad a gomisiynwyd gennym ar effaith y tollau wedi dod i’r casgliad fod,

tollau i bob pwrpas yn cynyddu cost cyflawni busnes yn ne Cymru, a gwneud de Cymru yn lleoliad llai deniadol felly ar gyfer buddsoddi.

Byddai dileu’r tollau yn rhoi hwb o £100 miliwn i gynhyrchiant yng Nghymru.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod bod gan rai pobl bryderon ynglŷn â chael gwared ar y tollau; y gallai eu diddymu arwain at gynnyddu traffig ar y ffyrdd. Rwy’n cymryd y pryderon hyn o ddifrif. Rwy’n ymwybodol, wrth sefydlu ein bod fel Llywodraeth Cymru o blaid cael gwared ar dollau, fod rhaid i ni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y mae hyn yn effeithio ar ein cyfrifoldebau i’r amgylchedd ac i genedlaethau’r dyfodol. Dyna pam rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni fynd ati i gynllunio trafnidiaeth mewn ffordd sy’n sicrhau ein bod yn cydbwyso’r angen am gynaliadwyedd economaidd gyda’r dyletswyddau real a phwysig iawn sydd gennym o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Trwy ein gwaith ar ddatblygu’r metro ac wrth symud Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei blaen, rwy’n credu ein bod yn gwneud hynny. Rwy’n glir: rhaid i’r gwaith o ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fod yn waith parhaus i’r Llywodraeth hon.

Yn yr un modd, mae’n rhaid i ni ystyried nad problem i dde Cymru yn unig yw cysylltiadau trawsffiniol. Mae gwella cysylltedd trafnidiaeth wrth bwyntiau mynediad i ogledd a chanolbarth Cymru hefyd yn hanfodol i economi Cymru. Yn fy nghyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, pwysleisiais hefyd pa mor bwysig yw hi i wella cysylltedd trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru, ac yn arbennig, trafodais y gwelliannau i’r seilwaith rheilffyrdd a gynigiwyd gan dasglu rheilffyrdd gogledd Cymru a Mersi Dyfrdwy. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y gwelliannau hyn, ac rwyf wedi gofyn iddo gefnogi’r pecyn o fesurau fel rhan o gyfnod rheoli 6.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni gwelliannau i’r seilwaith trafnidiaeth ar draws pob rhan o Gymru, sy’n dod â mi yn ôl at ddyfodol y tollau. Er ein bod yn cydnabod y gostyngiad arfaethedig yn y tollau gan Lywodraeth y DU, nid ydym yn credu bod achos dros barhau i godi tollau ar bontydd yr Hafren i ariannu gwaith cynnal a chadw parhaus pan ddaw’r consesiwn i ben. Mae tollau’n dreth annheg, a chredwn mai Llywodraeth y DU a ddylai dalu am eu cynnal, nid pobl a busnesau Cymru.

Byddwn yn parhau i ddadlau dros ddiddymu’r tollau ar unwaith pan gânt eu dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu parhau i godi tollau, ni ddylai lefelau’r tollau fod yn fwy na’r costau gweithredu. Ni ddylai Llywodraeth y DU wneud elw o’r pontydd, ac ni ddylai geisio adennill costau y maent wedi eu talu dros y 50 mlynedd diwethaf yn sefydlu, rheoli a chynnal a chadw’r pontydd—mae’r arian hwnnw wedi ei wario a threthi cyffredinol wedi talu amdano eisoes. Nid yw’n briodol i Lywodraeth y DU geisio adennill £60 miliwn arall ar y sail fod gwariant blaenorol yn gysylltiedig â’r croesfannau. Ni ddylid defnyddio tollau ar gyfer cynhyrchu refeniw cyffredinol ar ran Trysorlys y DU.

Yn ddiweddar cyfrifodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig fod costau gweithredu blynyddol pontydd yr Hafren oddeutu £30 miliwn. Yn ôl maint y traffig ar hyn o bryd, mae hyn yn awgrymu y gallai’r tollau fod oddeutu un rhan o chwech o’u lefelau presennol yn hytrach na hanner, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig.

Rydym hefyd wedi egluro i Lywodraeth y DU, os yw’n penderfynu parhau i godi tollau, dylid cyflwyno technoleg tollau agored ac nad oes raid iddo fod mor gostus ag y maent i’w gweld yn ei feddwl ar hyn o bryd. Ni ddylai fod unrhyw rwystrau ffisegol sy’n atal symudiad rhydd y traffig rhwng Cymru a Lloegr. Nid ydym yn credu bod cymariaethau â thwnnel Dartford yn briodol, gan fod angen i’r dechnoleg yno fod yn llawer mwy soffistigedig gan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer casglu tollau’n unig.

Felly, i gloi, safbwynt y Llywodraeth hon yw y dylai’r tollau gael eu diddymu ar unwaith pan fydd y pontydd yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Os na chânt eu diddymu, rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod bod unrhyw ymgais i gadw tollau sy’n cynhyrchu gwarged i Lywodraeth y DU, a heb gael gwared ar yr holl rwystrau ffisegol, yn cosbi ac yn lleihau buddiannau economaidd Cymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i fy nghyd-Aelod yn fy mhlaid, Gareth Bennett, am ei gyfraniad. Diolch i Lee Waters a Jenny Rathbone am ddod i’r Siambr i ganolbwyntio ar y safbwynt amgylcheddol. Diolch i Russell George am ei gyfraniad cytbwys, ac rwy’n meddwl bod y cyd-Aelodau’n edrych ymlaen at weld ffynhonnell y 25 y cant hwn, ac yn sicr, byddem yn cefnogi astudiaeth bellach o’r materion y mae’n eu crybwyll.

Hoffwn ganmol John Griffiths am ei ymgyrchu ar y mater hwn, ac rwy’n derbyn y bydd wedi bod yn ymgyrch faith. Fodd bynnag, hoffwn nodi bod ei gyd-aelod o’i blaid, Jessica Morden, hyd yn oed yn nhrydydd chwarter 2015, sef pan lansiwyd ein hymgyrch fel UKIP i ddileu’r tollau hyn, ar y pwynt hwnnw yn San Steffan, yn dadlau dros leihau’r tollau. Darllenais y dyfyniad gan Edwina Hart yn peidio â chefnogi diddymu’r tollau, a safbwynt y Prif Weinidog, a wyntyllwyd o leiaf, oedd parhau’r tollau er mwyn ariannu’r llwybr du. Rwy’n credu ei bod yn hollol wych fod hyn wedi newid, ond rwy’n credu mai fy mhlaid a arweiniodd yr ymgyrch ar hynny, o leiaf o ran eu diddymu.

Mewn ymateb i Dai Lloyd a Ken Skates, unwaith eto, rwyf am fod yn hollol glir ar fater pwerau. Mae pobl yn dweud o hyd, ‘O, nid yw hyn wedi’i ddatganoli’, a dywedodd Lee Waters, ‘O, damcaniaethol yw hyn’. Mae tollau pont Hafren yn caniatáu i’r consesiynydd hawlio’r £1.029 biliwn ar brisiau 1989. Pan fydd wedi gwneud hynny, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bŵer i godi tollau pellach hyd nes y bydd wedi codi £88 miliwn pellach, yn ôl ei ffigurau ei hun. Ar sail hanner toll, mae hynny’n debygol o ddigwydd erbyn haf 2019. Felly, ar y pwynt hwnnw, nid yw pwerau Pontydd Hafren 1992 yno bellach.

Mae Deddf Trafnidiaeth 2000 yn darparu pwerau, yn adran 167 ac adran 168, ar gyfer cynlluniau newydd i godi taliadau ffordd, ond i gael system godi tollau effeithiol ar gyfer pontydd Hafren, byddwn yn derbyn bod angen cytundeb Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn. Nid wyf yn gweld ar ba sail y gall Llywodraeth y DU ddefnyddio’r man casglu tollau deheuol, neu osod toll ar bont sydd â’i hanner yng Nghymru heb gytundeb y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Felly, pan fydd Ken Skates yn dweud, os yw Llywodraeth y DU yn penderfynu parhau i godi tollau, y byddem yn gofyn iddynt gyflwyno technoleg tollau agored, pam? Mae Gweinidog y DU wedi dweud y byddai hynny’n cymryd tair neu bedair blynedd. Felly, erbyn y dôi i rym, ni fyddai ganddynt bŵer o dan Ddeddf Pontydd Hafren, ac i wneud hynny byddai angen ein cytundeb ni i godi tollau. Ac os mai eich safbwynt yw y dylem ddiddymu’r tollau cyn gynted ag y bo modd, cyflwynwch yr achos i Lywodraeth y DU nad ydym am fuddsoddi mewn technoleg tollau agored a fydd yn cymryd tair neu bedair blynedd i ddod yn weithredol, am ein bod eisiau diddymu’r tollau. Mae’n edrych yn debyg yn awr fod y Siambr hon yn unedig ar y mater hwnnw. Rwy’n falch o fod wedi cyflwyno’r cynnig hwn heddiw ac os caiff ei dderbyn, hyd yn oed gyda gwelliant, rwy’n credu y bydd yn anfon neges gref iawn ynglŷn â safbwynt y Cynulliad hwn a safbwynt Cymru ar hyn.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, cyfeiriwn yr eitem hon at y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y byddai’r cyfnod pleidleisio’n digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Nid oes neb eisiau i’r gloch gael ei chanu. Iawn, diolch. Symudwn at y cyfnod pleidleisio, felly.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Ar ddadl Plaid Cymru, gweithwyr tramor yn y GIG yng Nghymru, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig, yna byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 8 o blaid y cynnig, roedd 10 yn ymatal a 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig ac fe bleidleisiwn ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 8, Yn erbyn 28, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar NDM6145.

Symudwn at welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.

Iawn, o’r gorau. Un eiliad. [Torri ar draws.]

A ydych wedi’ch etholfreinio eto?

Da iawn. Iawn, felly. Caewn y bleidlais. Roedd 35 o blaid gwelliant 1, roedd 4 yn ymatal, 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 35, Yn erbyn 7, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6145

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant, 4, roedd 10 yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 4, Yn erbyn 32, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6145.

Cynnig NDM6145 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae gweithwyr o dramor wedi'i wneud i ofal a thriniaeth cleifion yn y GIG.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd GIG Cymru yn parhau i fedru recriwtio gweithwyr gofal iechyd cymwys a anwyd ac a hyfforddwyd dramor, os a phan fo angen, ar ôl i’r DU adael yr UE, ac i edrych ar bob opsiwn ar gyfer hwyluso hynny.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Cafwyd 45 o bleidleisiau o blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd, neb yn pleidleisio yn erbyn, a neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd cynnig NDM6145 fel y’i diwygiwyd: O blaid 45, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6145 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn ymlaen at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bobl hŷn, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, yna byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn i bleidlais ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 30, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6140.

Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 25 o blaid gwelliant 1, neb yn ymatal, a 21 yn erbyn. Felly derbyniwyd gwelliant 1.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6140.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 25, roedd 4 yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 17, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6140.

Symudwn i bleidlais ar welliant 3. Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 25, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3 a bydd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 25, Yn erbyn 21, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6140.

Cafodd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM6140 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.

2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.

3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o’u hasedau pan fyddant yn symud i ofal preswyl.

4. Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y DU o ran diwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal.

5. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau.

6. Yn nodi:

a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru;

b) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi'r egwyddor o Fil;

c) y bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pellach i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig fel y’i diwygiwyd 32, roedd 4 yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Derbyniwyd y cynnig NDM6140 fel y’i diwygiwyd: O blaid 32, Yn erbyn 10, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6140 fel y’i diwygiwyd.

Symudwn yn awr at ddadl UKIP ar dollau pont Hafren, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton a Mark Reckless. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 4, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a phleidleisiwn ar y gwelliannau.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 4, Yn erbyn 42, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6141.

Ar welliant 1, os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 10, Yn erbyn 36, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6141.

Symudwn ymlaen at welliant 2, a galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 17 o blaid gwelliant 2, neb yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 17, Yn erbyn 29, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6141.

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 29 o blaid gwelliant 3, 10 yn ymatal, 7 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 29, Yn erbyn 7, Ymatal 10.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 3 i gynnig NDM6141.

Cynnig NDM6141 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r manteision y byddai diddymu tollau ar bontydd Hafren yn eu cynnig i economi Cymru.

2. Yn credu nad oes achos dros barhau i godi tollau ar bontydd Hafren i ariannu gwaith cynnal a chadw ar ôl i’r consesiwn ddod i ben gan eu bod yn dreth annheg ar bobl a busnesau Cymru.

3. Yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i'r sector cyhoeddus.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. 45 o blaid, 1 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Diolch.

Derbyniwyd y cynnig NDM6141 fel y’i diwygiwyd: O blaid 45, Yn erbyn 0, Ymatal 1.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6141 fel y’i diwygiwyd.

Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Os ydych yn mynd i sgwrsio, a wnewch chi fynd allan, os gwelwch yn dda?

9. 9. Dadl Fer: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru

Symudwn yn awr at y ddadl fer, eitem 9, y ddadl fer yn enw Hefin David, ar werth busnesau bach a chanolig i economi Cymru. Galwaf yn awr ar Hefin i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Hefin.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gyflwyno fy nadl fer gyntaf.

Dywedwyd ar ddiwedd y 1970au pe bai pob cwmni bach yn cyflogi un gweithiwr arall y byddai problem diweithdra yn cael ei datrys. Yn wir, gyda 4.2 miliwn o gwmnïau bach yn y DU byddai ein meddyliau’n troi yn fuan at broblem prinder llafur. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Thatcher, yn y 1980au, wedi bod yn lled o ddifrif ynglŷn â’r honiad hurt hwn ac am gyfnod clywsom am yr economi fenter yn dod i’n hachub wrth i ddiwydiant traddodiadol gael ei anghofio’n strategol. Credaf fod gan gwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru y potensial i gyfrannu at dwf a datblygiad ein heconomi er hynny. Fodd bynnag, nid wyf o dan unrhyw gamargraff y byddant yn datrys ein holl broblemau, ac ni fyddant, ar eu pen eu hunain, yn ein hynysu rhag yr ansicrwydd byd-eang sy’n cael ei greu ar hyn o bryd gan wleidyddion yn cynnig atebion i broblemau anodd mewn trydariadau 140 cymeriad.

Rwyf am ddefnyddio’r ddadl hon heddiw i ofyn nifer o gwestiynau am rôl a gwerth busnesau bach a chanolig i economi Cymru, ac rwyf am i’r ddadl fod yn agoriad, o’r meinciau hyn, i ddadl ehangach a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad strategaeth economaidd y Cynulliad hwn yn y dyfodol, ac rwyf am i bob plaid yn ddiwahân chwarae ei rhan. Am y rheswm hwn y sefydlais ac rwy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig eu maint. Gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn darparu’r ysgrifenyddiaeth, bydd yn cynnal ei gyfarfod llawn cyntaf yn y flwyddyn newydd. Rwy’n gobeithio y bydd y grŵp hwn yn clywed gan amrywiaeth o academyddion sydd, yn ôl eu honiad eu hunain, wedi cael eu heithrio o’r broses o lunio polisi yma yng Nghymru, ac felly rwy’n gobeithio y byddant yn derbyn yr her. Rwyf am i fusnesau eu hunain chwarae rhan hefyd, i adrodd eu straeon, ac i’r straeon hynny gael eu clywed gan y rhai sy’n llunio polisi.

Heddiw, byddaf yn nodi cymaint ag y gallaf o fy marn fy hun ynglŷn â’r meysydd y gallwn ganolbwyntio arnynt mewn dadleuon yn y dyfodol. Rwy’n berffaith fodlon i rywun ddweud wrthyf fy mod yn anghywir, neu o leiaf fod angen mireinio fy nealltwriaeth ymhellach. Fy unig fwriad yw darparu sylfaen ar gyfer datblygu syniadau pellach. Yn y cyd-destun hwn, hoffwn ganolbwyntio’n fyr ar ddau faes. Yn gyntaf, beth yw rôl busnesau bach a chanolig yn ein heconomi, ac yn ail, ble mae’r busnesau hyn, ac a ydynt yn y lle iawn? Credaf mai camgymeriad yw gweld ein cwmnïau bach fel peiriannau cyflogaeth a dim mwy na hynny. Mae’r sector busnesau bach a chanolig, er yn fawr, hefyd yn heterogenaidd ac yn dameidiog. Mae rôl busnesau bach a chanolig yn creu swyddi yn destun dadlau ymhlith academyddion beth bynnag. Mae rhai fel Birch wedi honni eu bod yn chwarae rhan fawr yn creu swyddi, ac mae eraill wedi dadlau yn fwy diweddar fod eu diffyg cadernid yn golygu bod cyflogaeth cwmnïau bach yn rhy ansicr i’w hystyried yn opsiwn hirdymor i lawer o bobl sy’n chwilio am waith.

Er yr anghytundeb, mae yna wahaniaeth rhwng awydd y rhai sy’n llunio polisi i greu swyddi mewn cwmnïau bach a difaterwch rheolwyr-berchnogion tuag at ddyheadau o’r fath. Mae rheolwyr-berchnogion busnesau bach a chanolig yn sicr yn gyflogwyr amharod, ac yn wir, gelwais fy thesis PhD yn ‘The Reluctant Employer’. Yn wir, pam y byddai unrhyw reolwr-berchennog synhwyrol yn dewis cyflogi—[Torri ar draws.] Diolch yn fawr i’r aelod dros Lanelli. Pam y byddai unrhyw reolwr-berchennog synhwyrol yn dewis cyflogi pan fo dewisiadau eraill rhatach, mwy hygyrch a dibynadwy ar gael? Mae gan lawer iawn o reolwyr-berchnogion ffynonellau dibynadwy o gymorth ar gael iddynt, o leiaf yn y tymor canolig. Gallant fod ar ffurf cysylltiadau cryf â theulu a ffrindiau a fydd yn helpu i redeg y busnes, ond dros gyfnod o amser, bydd y rheolwr yn ffurfio perthynas gyda chysylltiadau busnes eraill sy’n darparu cymorth sy’n ddibynadwy i’r ddwy ochr ac sy’n mynd ymhell y tu hwnt i berthynas drafod busnes. Mae mynediad at y cyfalaf cymdeithasol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygiad cynnar a thwf y cwmni. Felly yn lle ceisio achubiaeth economaidd gan ein sector cwmnïau bach, efallai y dylem edrych yn hytrach ar yr hyn y mae cwmnïau bach yn ei wneud mewn gwirionedd—pethau sy’n hanfodol i’n bywydau bob dydd. Byddwn yn ychwanegu bod cyswllt anorfod rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a dylem fod yn amheus o unrhyw lunwyr polisi sy’n awgrymu y byddai’n hawdd rywfodd i gwmnïau preifat fanteisio ar y slac yn sgil lleihad mewn gweithgaredd cyhoeddus.

Gydag astudiaethau fel ‘Towards a New Settlement’ gan Dave Adamson a Mark Lang, a ‘What Wales Could Be’ gan Karel Williams, mae academyddion wedi archwilio sut y dylem ailgyfeirio ein heconomi yma yng Nghymru. Maent yn siarad am symud tuag at strwythur lleol a chynaliadwy, a busnesau bach a chanolig yn elwa o bolisi caffael cryf gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad rhagweithiol. Yn wir, mae’r Athro Adamson a Dr Lang ar hyn o bryd yn cynnal microastudiaeth ddofn ym Mharc Lansbury yn fy etholaeth ac rwy’n edrych ymlaen at archwilio’r canlyniadau. Mae gwaith yr Athro Williams yn rhan allweddol o’r hyn a elwir yn economi sylfaenol—y busnesau sy’n darparu ein hanghenion beunyddiol sylfaenol. Ac rwy’n awyddus i archwilio’r syniadau hyn, ond ni ddaw dim ohonynt os na ellir egluro eu gwerth yn gydlynol ac yn gryno i’r rhai sy’n llunio polisi a’r rhai sy’n elwa ohono.

Felly dylem i gyd gefnogi ymdrechion Lee Waters, yr Aelod dros Lanelli, sydd wedi ei gwneud yn genhadaeth i archwilio’r materion hyn gyda pherchnogion busnesau a thrigolion yn Llanelli. Efallai eich bod wedi ei weld ar Twitter. Mae wedi cynnal cyfarfodydd ffocws yn ddiweddar i drafod anghenion busnesau a defnyddwyr busnesau yn ei etholaeth, ac rwy’n gwybod bod yna Aelodau eraill o’r Senedd hon yn rhoi camau tebyg ar waith yn eu hardaloedd eu hunain, ac rwy’n edrych, hefyd, ar feinciau Plaid Cymru. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, pan ddywedodd Lee wrthyf gyntaf ei fod eisiau datblygu strategaeth economaidd ar gyfer Llanelli, roeddwn yn meddwl y gallai fod ganddo ormod ar ei blât, ond bydd unrhyw un sy’n adnabod Lee yn gwybod am ei ddycnwch a’i awydd i wneud i syniadau arloesol weithio ar gyfer y bobl mae’n eu cynrychioli. Nid oes ffordd arall o gael eich ethol yn Llanelli. Rwyf wedi rhoi munud o’r ddadl hon heddiw iddo ef, ac i Steffan Lewis am yr un rheswm, ac os oes amser, hoffwn roi peth amser i Russell George ymateb hefyd—[Torri ar draws]. Wel, roedd yn hwyr yn gofyn i mi.

Er nad ydym yn creu unrhyw beth mor grand â strategaeth economaidd, rwyf fi a fy nhîm wedi cyflawni ein hymchwil ein hunain yn etholaeth Caerffili. Rydym wedi siarad ag ystod o berchnogion busnesau a chwsmeriaid dro ar ôl tro, ac mae’r sgyrsiau wedi troi at y stryd fawr. Mae canol ein trefi wedi dod dan lawer o bwysau yn ystod y degawd diwethaf o ganlyniad i nifer o ffactorau: y cynnydd mewn siopa ar y we, parciau manwerthu ar gyrion trefi, costau rhent masnachol ac ardrethi annomestig. Mae’n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain yn awr, ‘Sut olwg y byddem yn hoffi ei weld ar ganol ein trefi unfed ganrif ar hugain ac a oes gan fusnesau bach a chanolig rôl ystyrlon fel rhan ffyniannus, hygyrch a gweladwy o’n cymunedau?’

Mae llawer o’r dystiolaeth rwyf wedi ei chasglu yn awgrymu bod angen sgyrsiau lleol. Dylai canol trefi gwahanol gael yr hawl i gael eu cymeriad unigryw eu hunain ac mae hyn i’w weld ym mhob un o’n hetholaethau. Neithiwr, trafodais y materion hyn gydag AC o blaid arall. Awgrymodd fod angen i ni wneud defnydd deallus ac arloesol o ofod gwag yng nghanol trefi. Dywedodd na ddylem ofni gwneud yr ardal fusnes ganolog yn llai a defnyddio siopau gwag ar gyfer tai a fflatiau. Dylid neilltuo’r gofod sy’n weddill ar gyfer busnesau sy’n mynd i ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw, ond ni ddylai’r gofod gael ei weld mwyach fel un â gwerth premiwm. Byddai dull gweithredu o’r fath yn gweithio yn ei hetholaeth, dadleuodd, ac os yw’n profi’n amhoblogaidd, nodaf mai AC o blaid arall oedd hi. Efallai na fydd yn gweithio ym mhob man, a dyna pam y mae angen dulliau lleol o fynd ati, ond gyda syniad o’r fath, gallwn weld, yn drawsbleidiol, ffordd newydd o feddwl am gwmnïau bach yn egino.

Yn fy etholaeth i, mae yna ganolfan arloesi ar gyfer busnesau newydd a elwir yn ICE Cymru. Rwyf wedi sôn amdanynt o’r blaen yn y Siambr hon a chawsant eu nodi fel enghraifft o arfer da ym maniffesto Llafur Cymru ym mis Mai. Unwaith eto, cawsant eu crybwyll yn y ‘Western Mail’ y bore yma:

‘Five start-ups are reaping the rewards of being put on ICE’

—o fod yn rhan o ICE Cymru. A’r £1 filiwn o gyllid sy’n dod i ICE Cymru.

Mae llawer o’r cwmnïau hyn sy’n bodoli yno yn fentrau uniongyrchol i gwsmeriaid ac rwy’n meddwl tybed pam y maent wedi’u lleoli ar barc busnes ar gyrion y dref? A oes ffordd o gymell eu datblygiad yn agosach at bethau? O ystyried pwysigrwydd cysylltiadau cymdeithasol, cysylltiadau â chyfalaf cymdeithasol, a oes budd o wneud hynny? Efallai fod hyn yn rhywbeth y dylem ei archwilio. Mae gan Lywodraeth ar bob lefel y pŵer i wneud i’r pethau hyn ddigwydd. Yn wir, gallwn ddefnyddio diwygio sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol a chydweithio yn y dyfodol mewn llywodraeth leol fel cyfle i edrych ar sut i ymgysylltu â busnesau bach a chanolig a chyflawni ein hamcanion yn well.

Mae Jeremy Miles wedi ysgrifennu yr wythnos hon am economi menter gymdeithasol lle y mae’r sector cyhoeddus yn prynu nwyddau a gwasanaethau gan fusnesau cymdeithasol, gan helpu i gynnal cadwyni cyflenwi gwydn, a chyfalaf cymdeithasol yn wir. Mae gan y dulliau hyn y potensial i newid ein heconomi yma yng Nghymru. Efallai y gall fod yn ffordd i ni wneud y gorau o’r ansicrwydd ynghylch gadael yr UE, er nad oes unrhyw Aelodau UKIP yma i wrando ar hynny. Nid yw hyn yn golygu troi cefn ar yr economi fyd-eang y mae Cymru wedi bod yn rhan ohoni ers amser maith. Mae’n golygu lleihau pwyslais polisi Llywodraeth ar fuddsoddiad tramor uniongyrchol—rhywbeth sydd wedi nodweddu ein datblygiad economaidd ers dyddiau’r WDA, ac yn dilyn hynny, rhaglen adnewyddu’r economi. Mae GE, Norgine a Nuaire yn gwmnïau mawr yng Nghaerffili a’r cylch a byddwn yn teimlo’n eithaf gelyniaethus tuag at unrhyw un a fyddai’n cwestiynu eu gwerth. Fodd bynnag, dylem fod yn dadlau dros economi ar sylfaen ehangach sy’n canolbwyntio ar dwf cynaliadwy a chyflogaeth heb ormod o bwyslais ar fewnfuddsoddi. Mae arnom angen economi sy’n canolbwyntio ar sectorau penodol; busnesau bach a chanolig sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau ac sydd â diddordeb mewn twf cynaliadwy, heb ormod o ymgolli mewn cwmnïau uwch-dechnoleg sy’n tyfu’n gyflym.

Gadewch i ni edrych tua’r dyfodol. Nid ein cwmnïau bach yw ein hachubiaeth economaidd ac ni ddylid edrych ar y sector fel peiriant cyflogaeth. Mae ganddynt anghenion penodol iawn. Yn lle hynny, dylem weld ein busnesau bach a chanolig yn rhan o bos mwy o faint. Mae’n amser camu’n ôl ac ystyried sut y gallwn wneud y mwyaf o’u potensial.

Mae’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 3 Rhagfyr, felly roeddwn eisiau amseru’r ddadl hon i arwain at y diwrnod hwn, pan fyddwn yn dangos cefnogaeth i rôl busnesau bach yn ein cymdeithas ac yn ein heconomi, ac yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, un diwrnod yn unig yw Sadwrn y Busnesau Bach. Gallwn ddefnyddio’r ddadl hon a’r diwrnod hwnnw i roi cychwyn ar drafodaeth fwy am y rolau y mae busnesau bach a chanolig yn eu chwarae yn ymgysylltu â’r economi ehangach a sut y gall hyn ein helpu i dyfu busnesau bach a chanolig llwyddiannus sydd o werth mawr i’r cyd-destun Cymreig.

Diolch i Hefin David am ei eiriau caredig ac am gynnal y ddadl fer hon a rhoi peth amser byr iawn i mi yn y ddadl fer honno. Rwy’n gwerthfawrogi hynny.

Yn wir. Wedi’i nodi. Mae yna wyntoedd oer yn chwythu drwy ein heconomi, Ddirprwy Lywydd, a gall y sefyllfa fod yn heriol iawn yn wir yn y blynyddoedd i ddod, yn dibynnu ar delerau masnach gadael yr UE. Mae araith Hefin wedi llwyddo i grynhoi llawer o’r trafodaethau a gawsom eisoes fel aelodau’r meinciau cefn yn ddiweddar wrth geisio ysgogi syniadau newydd a chonsensws ar bolisi economaidd gwydn a all amddiffyn ein cymunedau bregus.

Fel y soniodd, cynhaliais weithdy cyhoeddus yn Llanelli fore Sadwrn fel rhan o drafodaethau ehangach rwy’n eu cael i geisio creu rhywfaint o ddiddordeb a syniadau lleol am yr hyn y gallwn ei wneud. Yr hyn oedd yn drawiadol yw bod pobl yn ei chael yn anodd iawn meddwl y tu hwnt i ganol y dref a thu hwnt i fanwerthu o ran sut y gellir adfywio economïau lleol, gan adlewyrchu, rwy’n credu, cenhedlaeth o dueddiadau economaidd sydd wedi ailffurfio diwydiant yn ein hardaloedd, ond sy’n canolbwyntio yn lle hynny ar economeg defnyddwyr fel ffordd o hybu ein heconomi, a hefyd ar ffyrdd fel modd o gyrraedd siopau a chymudo allan.

Rwy’n meddwl bod angen i ni ail-lunio’r ddadl honno, ac mae’n hollol iawn fod hyn yn rhywbeth y gellid ac y dylid ei wneud ar sail drawsbleidiol. Rwy’n credu bod y syniadau a grybwyllodd ynglŷn â’r economi sylfaenol yn allweddol ac edrychaf ymlaen at drafod y rheini ymhellach gyda’r holl bleidiau.

Hoffwn longyfarch yr Aelod dros Gaerffili am gynnal y ddadl ac am gael ei ethol yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Mae’n ymddangos i mi ein bod wedi bod yn siarad ers amser hir yng Nghymru ynglŷn â chreu ‘Mittelstand’ heb ddatblygu hynny mewn gwirionedd a symud yr agenda honno yn ei blaen. Credaf fod hynny’n mynd i fod yn hanfodol wrth i ni edrych ar brosiectau newydd ar y gorwel, megis prifddinas-ranbarth Caerdydd a dinas-ranbarth Bae Abertawe a’r metro ar gyfer y de-ddwyrain, oherwydd, os mai’r weledigaeth ar gyfer y metro yn syml yw ei gwneud yn haws i symud pobl o drefi pellennig i’r canol, yna byddwn wedi colli cyfle gwych i ddatblygu’r sector busnesau bach a chanolig yn y wlad a gosod seiliau cadarn ar gyfer yr economi.

Beth am y rhannau o’r wlad nad ydynt wedi eu cynnwys yn y dinas-ranbarthau? Mae daearyddiaeth Cymru yn mynnu bod gennym ymagwedd genedlaethol tuag at bolisi rhanbarthol, os mynnwch chi, ac wrth gwrs, o fewn hynny, i greu clystyrau twf yn ein rhanbarth fel nad yw Caerdydd yn dominyddu, yn sicr, ffocws cyfan y prifddinas-ranbarth yn y de-ddwyrain; mae clystyrau twf mewn trefi gwych fel Caerffili, fel Pont-y-pŵl, Merthyr Tudful ac mewn mannau eraill. Felly, os ydym am symud y wlad yn ei blaen gyda ‘Mittelstand’ cryf a sector busnesau bach a chanolig cryf, mae’n rhaid cael ffocws cenedlaethol i bolisi rhanbarthol a datblygu lleol yn ogystal.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ganiatáu munud o’i amser. Dylwn gofnodi fy mod wedi gofyn am funud olaf y dydd a derbyniodd yr Aelod os oedd amser yn caniatáu.

A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â bron bopeth y mae Hefin wedi dweud? Rwy’n ei longyfarch ar gael ei ethol yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fusnesau bach, ac rwy’n aelod o’r grŵp hwnnw hefyd. Y cyfan a ddywedaf yw fy mod yn awyddus iawn i’r Llywodraeth barhau i hyrwyddo pobl ifanc—cael opsiwn cadarnhaol mewn bywyd iddynt fynd i mewn i fusnesau bach eu hunain. Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd yn bendant yn achos o, ‘Beth wyt ti am fod: meddyg, nyrs, athro...?’ A phan ddywedais, ‘Rwyf am fod yn berchen ar fy musnes bach fy hun’, nid oedd hynny’n cael ei dderbyn mewn gwirionedd gan y swyddog gyrfaoedd; nid oedd blwch ticio ar ei gyfer. Rwy’n falch fod yr oes wedi newid bellach. Ond hoffwn yn fawr weld y Llywodraeth yn parhau i gefnogi rhaglenni lle y bydd arweinwyr busnes yn mynd i mewn i ysgolion i hyrwyddo’r syniad o ddechrau eich busnes eich hun fel cyfle cadarnhaol mewn bywyd—gan amlinellu’r risgiau, wrth gwrs, ond gan wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol ei fod yn ddewis rhesymol iddynt ei wneud. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Hefin yn y grŵp trawsbleidiol ar fusnesau bach.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl—Ken.

Member
Ken Skates 17:40:00
The Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau, yn enwedig yr Aelod dros Gaerffili am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw?

Gwyddom fod microfusnesau a busnesau bach a chanolig yn asgwrn cefn i’r economi yma yng Nghymru. Maent yn cynnal mwy na 62 y cant o bobl mewn gwaith ar draws y wlad, a busnesau bach a chanolig yw dros 90 y cant o fentrau ar draws Cymru. Maent yn darparu rôl hanfodol o ran creu swyddi, cynyddu cynhyrchiant ac ysgogi twf ledled Cymru wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn amserol o ystyried mai hon yw Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, gyda miloedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n digwydd ar draws y DU i ddathlu mentergarwch ac i ysbrydoli ein hentrepreneuriaid newydd ac yn y dyfodol. A’r llynedd, o bob un o’r digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws y DU, roedd 18 y cant ohonynt yma yng Nghymru. Roedd hynny’n llwyddiant mawr, ac rwy’n obeithiol, y flwyddyn hon, y bydd yr un faint o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal ar dir Cymru. Fel rhan o’r dathliadau, mynychais frecwast arweinwyr busnes de Cymru Sefydliad y Cyfarwyddwyr y bore yma i ddweud ychydig eiriau am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog a chefnogi entrepreneuriaid. Y bore yma hefyd, mynychais drafodaeth o amgylch y bwrdd gyda grŵp o arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid ifanc, a drefnwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, i glywed eu barn ar rôl busnes ac entrepreneuriaeth. I mi, rôl Llywodraeth Cymru yw cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid. Mae’n glir iawn fod angen i ni i sicrhau’r amgylchedd gorau posibl yng Nghymru fel man ar gyfer dechrau, rhedeg, a thyfu busnes. Mae hynny’n golygu bod angen i ni fod yno i roi’r cymorth cywir ar yr adegau cywir i fusnesau.

Un o’n cynlluniau allweddol ar gyfer cefnogi busnes yw drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Lansiwyd cam diweddaraf y gwasanaeth ym mis Ionawr eleni, gyda’r nod o greu 10,000 o fusnesau newydd a mwy na 28,000 o swyddi newydd erbyn diwedd y degawd hwn. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Busnes Cymru, rhwng mis Ionawr a mis Medi, wedi helpu i greu dros 2,100 o swyddi, mae wedi diogelu 350 o swyddi, wedi cynorthwyo dros 2,200 o bobl a oedd yn chwilio am gyngor, ac wedi darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd i fwy na 5,000 o gwsmeriaid. Mae Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo cyflogwyr llai i archwilio marchnadoedd newydd, a allai fod yn fasnach ryngwladol neu’n gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus ar gyfer y nifer o brosiectau seilwaith sy’n cael eu rhoi ar waith ledled Cymru. Mae enghreifftiau’n cynnwys trydaneiddio’r rheilffyrdd, ffordd osgoi y Drenewydd, ac roeddwn yn falch o dorri tywarchen gyntaf y ffordd honno gyda’r Aelod, Russell George, ddydd Llun, ac wrth gwrs, prosiect £12 biliwn Wylfa Newydd, sef y prosiect seilwaith ynni mwyaf yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf, ac yn fwy na Gemau Olympaidd Llundain 2012. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi busnesau cynhenid ​​ac wedi gweld y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol â’u pencadlys yng Nghymru. Yn wir, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod gan Gymru y nifer uchaf o fusnesau newydd ers dros ddegawd.

Mater allweddol arall i Lywodraeth Cymru yw cynorthwyo busnesau i gael gafael ar gyllid. Mae gwaith yn parhau ar sefydlu banc datblygu ar gyfer Cymru, a fydd yn gwella gallu busnesau bach a chanolig i gael mynediad at gyllid, gan adeiladu ar brofiad ac arbenigedd Cyllid Cymru. Ei amcan fydd darparu lefelau uwch o gyllid i fusnesau bach a chanolig, gan wella’r broses o integreiddio darparu cyngor a chymorth i fusnesau drwy weithio’n agosach gyda Busnes Cymru.

Fel Llywodraeth, nid ydym yn honni bod yr holl atebion gennym, a dyna pam rwyf hefyd wedi bod yn ymgysylltu â busnesau i ofyn am eu safbwyntiau ar y blaenoriaethau economaidd a fydd yn llywio’r gwaith o ddatblygu pedair strategaeth drawsbynciol a fydd yn sail i ‘Symud Cymru Ymlaen’, ein rhaglen lywodraethu. Rwyf wedi gwneud hyn oherwydd fy mod am i’n Llywodraeth fod yn Llywodraeth sydd o blaid busnes ac sy’n ei gwneud yn flaenoriaeth i siarad â busnesau mawr a bach am eu barn ar ddatblygu’r dull cywir o dyfu ffyniant a sicrhau mwy o ddiogelwch ariannol i fusnesau ac unigolion ar draws ein gwlad. Yn fwy nag erioed, mae angen i ni wneud yn siŵr fod yr adnoddau sydd ar gael i ni yn cael eu defnyddio i sicrhau’r effaith fwyaf a’r canlyniadau gorau i Gymru. Ac mae ein ffocws yn parhau ar gyflwyno rhaglenni a sicrhau sefydlogrwydd a hyder i fusnesau bach a mawr.

10. 10. Dadl Fer a Ohiriwyd o 9 Tachwedd: Colli Gwaith Ymchwil y Galon yn Ysgol Feddygol Caerdydd

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef y ddadl fer a ohiriwyd ers 9 Tachwedd gan Julie Morgan. Galwaf yn awr ar Julie i siarad ar y pwnc y mae hi wedi dewis. Julie Morgan.

Diolch yn fawr iawn. Diolch. Rwyf wedi cytuno y dylai Jenny Rathbone gael munud i siarad.

Rwy’n falch iawn o gael cyfle yn y ddadl fer hon i leisio rhai o’r pryderon a’r gofidiau a gafodd eu dwyn i fy sylw am ganlyniadau’r rhaglen MEDIC Forward a gyflwynwyd gan Brifysgol Caerdydd yn yr ysgol feddygol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn dod ataf yn mynegi cryn dipyn o anesmwythyd a phryder.

Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y dadfuddsoddi mewn ymchwil y galon, ymchwil y galon y mae Caerdydd wedi ei golli, yn benodol yr ymchwil a gyflawnwyd yn Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yng Nghymru, a sefydlwyd i raddau helaeth diolch i ewyllys da a haelioni pobl Cymru, a oedd yn teimlo’n angerddol y dylai ysgol feddygol Caerdydd, yr unig un yng Nghymru ar y pryd, fod wrth wraidd y gwaith ymchwil i’r clefyd marwol hwn sy’n dal i gipio cymaint o fywydau.

Mae Cymru yn arbennig o agored i berygl clefyd cardiofasgwlaidd, gyda ffactorau cynhenid ​​a ffordd o fyw ymhlith y prif achosion. Mae clefyd cardiofasgwlaidd, y galon a chylchrediad y gwaed, yn achosi mwy nag un o bob pedwar o’r holl farwolaethau yng Nghymru, neu tua 8,800 o farwolaethau bob blwyddyn. Dyna gyfartaledd o 24 o bobl bob dydd. Yr wythnos hon, daeth yn amlwg mai dementia bellach yw’r llofrudd mwyaf ar draws Cymru a Lloegr, ond mae clefyd y galon yn dal i fod yn brif achos marwolaeth ymhlith dynion. Mae gan Gymru broblem benodol â chlefyd y galon o hyd, a hynny er gwaethaf y camau breision a wnaed i annog ffordd o fyw iachach, yn ogystal â gwelliannau enfawr yn y driniaeth a’r datblygiadau a wnaed drwy ymchwil y galon.

Mae’r sefyllfa yn gwella. Mae cyfanswm nifer y bobl sy’n byw gyda chlefyd coronaidd y galon yn gostwng. Mae nifer y bobl sy’n marw bob blwyddyn yn gostwng. Mae mwy o obaith gan bobl i oroesi trawiad ar y galon bellach nag erioed o’r blaen. Yn y 1960au, roedd mwy na saith o bob 10 trawiad ar y galon yn angheuol. Heddiw, mae o leiaf saith o bob 10 o bobl yn goroesi, ac mae llawer o hynny’n ymwneud ag ymchwil y galon. Felly, mae pethau’n gwella, ond mae clefyd y galon yn dal i fod yn her fawr ac nid yn faes y byddai rhywun wedi meddwl y byddai ysgol feddygol yng Nghaerdydd wedi dewis dadfuddsoddi ynddo wrth ailasesu ei dyfodol strategol.

Mae’r dadfuddsoddi mewn meysydd ymchwil sydd â budd amlwg i bobl Cymru yn arwydd nad yw blaenoriaethau’r ysgol feddygol yn cyd-fynd o gwbl â’r hyn sydd ei angen yn lleol yng Nghymru. A byddwn o ddifrif yn hoffi gwybod faint o ymgynghori ystyrlon a gafwyd gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro am yr effaith ar wasanaethau clinigol y GIG.

Felly, yn 2014 lansiodd y brifysgol y rhaglen adolygu strategol MEDIC Forward i drawsnewid ei hun ar gyfer y dyfodol. Roedd hynny’n golygu edrych ar ei holl waith ymchwil, gan gynnwys ymchwil y galon, gan arwain at y penderfyniad i flaenoriaethu pedwar maes newydd: meddygaeth poblogaeth, heintiau ac imiwnedd, meddygaeth seicolegol a niwrowyddorau clinigol, a chanser a geneteg. Nid oedd ymchwil y galon ymhlith y pedair blaenoriaeth.

Y canlyniad oedd bod 69 aelod o staff wedi cael llythyrau’n dweud bod eu swyddi mewn perygl, ac rwy’n deall bod hynny’n cynnwys yr holl staff yn sefydliad y galon. A daeth yn amlwg nad oedd ymchwil cardiofasgwlaidd yn un o’r meysydd blaenoriaeth newydd, ac ers hynny mae wedi dod yn amlwg fod yr Athro Alan Williams, un o arweinwyr ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon, a’i dîm, yn cael eu symud i Abertawe. Dywed y brifysgol:

‘Y rhaglen hon yw’r ysgogiad y tu ôl i’n huchelgais i fod ymhlith 10 ysgol meddygaeth orau’r DU yn barhaol; bydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran addysgu ac ymchwil arloesol.’

Nid wyf yn herio hynny. Nid wyf yn mynd i honni na fydd unrhyw ymchwil y galon yn digwydd yn yr ysgol feddygol, ond mae ‘ymchwil y galon’ yn derm eang. Fel rhan o ad-drefnu MEDIC Forward, penderfynodd yr ysgol feddygol ganolbwyntio ei holl ymdrechion ymchwil y galon ar atal clefyd coronaidd y galon, sy’n lladdwr mawr iawn fel rydym i gyd yn gwybod. Ac roedd hyn yn cynnwys sefydlu is-adran feddygaeth poblogaeth a fydd yn edrych ar ffyrdd o atal a lleihau achosion o glefyd y galon yn ein cymunedau, ac ni allai neb anghytuno â’r flaenoriaeth honno. Fodd bynnag, deallaf na fydd unrhyw ymchwil labordy yn yr adran meddygaeth poblogaeth newydd. Bydd yr ymchwil yn digwydd yn y gymuned, fel sy’n briodol. Y broblem yw bod Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yng Nghymru wedi cael ei sefydlu mewn ymateb i’r angen i wneud mwy o waith ymchwil y galon yng Nghymru ar gyfer pobl sydd â chyflyrau’r galon eisoes, am fod niferoedd mawr ohonynt yng Nghymru, ac mae cymynroddion yn dal i ddod i mewn i’r elusen yn ei enw at y diben hwn. Yn sicr, dylai’r math hwn o ymchwil gwyddonol ar y galon gydredeg ochr yn ochr â gwaith ataliol.

Cynhaliwyd digwyddiadau codi arian yn y 1990au gan ymgyrchwyr ymroddedig ledled Cymru. Fel y dywedodd un o’r ymchwilwyr wrthyf, haelioni gwych y cyhoedd yng Nghymru a chodi arian diflino’r ymddiriedolwyr yn ystod y 1990au a arweiniodd at agor Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yng Nghymru yn 1999. Ac mae ei deulu wedi dweud wrthyf am y llwyth o ddigwyddiadau bach ledled Cymru wrth i bobl ymateb i’r her hon. Dechreuodd yr ymgyrch ym 1991 ac fe’i hyrwyddwyd gan y seren opera enwocaf a welodd Cymru erioed, Syr Geraint Evans. Cadeirydd yr apêl oedd D.H. Davies, a oedd yn gyn-arweinydd Cyngor Dyfed ac a oedd wedi bod yn glaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd y Tywysog Charles yn ganghellor Prifysgol Caerdydd a rhoddodd ei gefnogaeth, a phan fu farw Syr Geraint Evans yn 1992, cafodd y gwaith ei barhau gan ei weddw, y Fonesig Brenda Evans. Roedd y cardiolegydd yr Athro Andrew Henderson hefyd yn rym ysgogol.

Cyfrannodd Sefydliad Prydeinig y Galon £500,000 a chododd yr apêl y gweddill drwy ddigwyddiadau elusennol ledled Cymru, cyngherddau gala, ymdrechion a chymynroddion unigolion. Dechreuodd yr apêl gyda tharged o £2 filiwn, ond roedd cost derfynol y prosiect yn y pen draw yn £3.5 miliwn. Cododd darllenwyr y ‘South Wales Echo’ £100,000 gyda’u hymgyrch Have a Heart, ac mae gennyf rifyn apêl yr ‘Echo’ o haf 1997, a chalonnau aur Cymreig oedd y symbol o’r addewidion y byddai pobl yn eu gwneud. Cafwyd ymdrechion unigol enfawr gan lawer o fy etholwyr i godi arian ar gyfer yr apêl i ariannu’r gwaith adeiladu: cododd côr meibion yr Eglwys Newydd ​​£1,000, ac i ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain, gofynnodd Albert Gilbert o Riwbeina am roddion i’r apêl, gan godi £425. Roedd hyn yn nodweddiadol o’r haelioni a’r aberthau bach a wnaed ledled Cymru i helpu i wneud adeilad Syr Geraint Evans yn ganolfan ymchwil y galon sy’n arwain y byd.

Yn wir, dyma oedd y sefydliad ymchwil cardiofasgwlaidd cyntaf yn y DU i’w adeiladu’n bwrpasol at y diben hwnnw pan gafodd ei agor yn swyddogol ym mis Chwefror 1999. Gydag ystafelloedd archwilio clinigol pwrpasol ac ystafelloedd ar gyfer cynnal ymchwiliadau ffisiolegol, roedd y sefydliad yn lle delfrydol ar gyfer cynnal gwaith ymchwil sy’n seiliedig ar y claf. Aeth gwyddonwyr ymlaen i astudio achosion a gwell triniaethau ar gyfer trawiad ar y galon, methiant y galon, arrhythmia cardiaidd a llid y rhydwelïau coronaidd. Ac yn 2014 torrwyd tir newydd pan ddarganfu gwyddonwyr beth oedd yn achosi marwolaeth gardiaidd sydyn mewn pobl ifanc.

Felly, mae’n ymddangos yn wirioneddol anhygoel, wrth gynllunio’r newidiadau hyn yn y brifysgol, nad oedd yn ymddangos bod neb wedi ystyried yr ysbryd cyhoeddus neilltuol a oedd i’r gwaith o gyllido Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru. Nid yw’n ymddangos bod unrhyw ymdrech wedi bod i gyfathrebu â’r cyllidwyr, â theulu Syr Geraint Evans ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig. Mae cymaint o bobl a oedd yn rhan o hyn wedi dweud wrthyf sut roedd yr adeilad hwn ac arian ar gyfer y gwaith ymchwil yn rhodd gan bobl Cymru, ac maent yn poeni cymaint ynglŷn â’i ddyfodol, gyda pheth ymchwil y galon eisoes wedi cael ei symud allan ac ymchwilwyr eraill eto i fynd.

Heddiw, cysylltodd Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru â mi i ofyn i mi gofnodi siom a dicter ei haelodau ynglŷn â cholli ymchwil cardiaidd yng Nghaerdydd. Roeddent yn mynegi pryder dwfn ynglŷn â sut y mae’r holl beth wedi’i wneud. Dywedodd Huw Evans, mab Syr Geraint Evans:

Os yw’r hyn a glywsom yn wir, fod ymchwil cardiofasgwlaidd yn Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yng Nghymru yn cael ei wanhau, yna mae’n warthus fod hyn yn cael ei ganiatáu i ddigwydd. Helpodd fy nhad i arwain yr apêl ar gyfer adeiladu’r ganolfan ragoriaeth mewn ymchwil y galon, a roddwyd gan bobl Cymru yn wastadol i’r brifysgol drwy haelioni pobl Cymru. Byddai’n gam mawr yn wir os nad yw dymuniadau pobl sy’n dal i roi arian yn benodol at Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yn cael eu dilyn. Rydym yn hynod o ddig fod yna farc cwestiwn posibl bellach ynglŷn ag ar beth yn union a ble yn union y mae’r arian a roddwyd yn cael ei wario. Nid yw’r teulu wedi clywed gan y brifysgol ynglŷn â hyn, ond os yw rhoddion yn cael eu rhoi drwy ewyllys da i’r sefydliad, dylent aros yno.

Fel rhan o’r gwaith o baratoi ar gyfer y ddadl hon, yn ogystal â siarad â phobl, neu gael pobl yn dod ataf yn ofidus iawn ac yn poeni am y newidiadau hyn, cyfarfûm â’r Dirprwy Is-Ganghellor a phennaeth dros dro yr ysgol feddygol i drafod y pryderon hyn. Eu barn oedd na allant fuddsoddi ym mhopeth, ac i fod yn gystadleuol, ac i helpu Caerdydd i godi i safle uwch ymhlith yr ysgolion meddygol, roedd yn rhaid iddynt ddewis y pedwar arbenigedd y soniais amdanynt uchod, nad yw’n cynnwys gwaith ymchwil ar y galon.

Cytunaf yn llwyr fod gwaith ataliol yn bwysig tu hwnt, ac yn gwbl hanfodol, ond mae clefyd y galon yn amrywiol iawn, ac mae cysylltiad cryf rhwng ymchwil ac atal a thriniaethau newydd. Rwyf wedi cael sicrwydd na fydd yr adeilad yn dod yn ganolfan weinyddol, er fy mod wedi cael gwybod yn breifat fod staff gweinyddol eisoes wedi symud i mewn. Rwyf wedi cael gwybod y bydd yn parhau i fod yn ganolfan ymchwil, ond nid yn ganolfan ymchwil y galon yn benodol, yn anffodus, ac mewn gwirionedd, ni chrybwyllwyd ‘y galon’ o gwbl. Credaf ei bod yn deg dweud na fydd Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yng Nghymru, sy’n cynnwys portread o Syr Geraint yn yr adeilad, yn gweithredu yn y ffordd y’i cynlluniwyd ac y codwyd yr arian ar ei chyfer.

Fy marn i yw y dylai’r adeilad barhau’n ymroddedig i ymchwil sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r galon, ond wrth gwrs, mae’r adeilad eisoes yn gwagio. Rwy’n galw am adfer amcanion y rhai a gododd yr arian yn wreiddiol. Nid oes neb yn amau’r angen am ailasesu blaenoriaethau o bryd i’w gilydd, ac rwy’n credu ei bod yn hollol gywir, yn amlwg, fod yr ysgol feddygol yn gwneud hyn, ac rwy’n derbyn, wrth gwrs, fod pob newid yn achosi gofid. Ond rwyf o’r farn fod y newidiadau hyn wedi cael eu cyflawni mewn modd trahaus, ansensitif a mewnblyg, ac yn achos ymchwil y galon, roeddent yn gyfeiliornus.

Rwy’n cefnogi Prifysgol Caerdydd yn frwd, a’i hysgol feddygol, y gwn ei bod yn cynhyrchu llawer iawn o arian i’r economi yn y lle cyntaf, ac yn dod â £6 i mewn am bob £1 a werir. Fe wneuthum gwrs ôl-raddedig fy hun ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwyf wedi ymweld â’r lle ar sawl achlysur. Rwy’n credu bod y brifysgol yn dod â chymaint i’r ddinas, a byddaf yn parhau i’w hyrwyddo. Fodd bynnag, rwy’n credu bod y newidiadau hyn wedi bod yn niweidiol i enw da’r brifysgol. Hoffwn ei gweld yn unioni hynny, a hoffwn gael sicrwydd y bydd adeilad Sefydliad Syr Geraint Evans dros Ymchwil y Galon yn parhau’n ymroddedig i ymchwil y galon—y diben y cafodd ei sefydlu ar ei gyfer—ac y bydd gwaith ymchwil y galon yn cael ei adfer i’r ysgol feddygol.

Rwy’n credu nad yw’r newidiadau hyn wedi ystyried yr ymdrechion codi arian enfawr a gafodd eu gwneud ar gyfer yr adeilad hwnnw, a bod hyn yn bradychu’r holl bobl a gyfrannodd yr arian hwnnw. Felly, rwy’n gobeithio y bydd rhyw ffordd o unioni’r sefyllfa hon.

Er fy mod yn cydnabod bod yn rhaid i Brifysgol Caerdydd fod yn rhydd i ddewis pa feysydd ymchwil y dylent ganolbwyntio arnynt, rwy’n ofni bod y penderfyniad hwn i ddatgymalu Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru yn drychineb o ran cysylltiadau cyhoeddus. Roedd gan y rhai a ymatebodd i’r ymgyrch Have a Heart bob hawl i gymryd yn ganiataol y byddai eu cyfraniad diymhongar yn cryfhau dealltwriaeth a thriniaeth effeithiol ar gyfer clefyd y galon yn barhaol, clefyd sy’n dal i fod, fel y mae Julie Morgan wedi nodi, yn un o brif achosion marwolaeth gynamserol yn y wlad hon, os nad y prif achos. Mae gennyf lawer o gardiolegwyr blaenllaw ymhlith fy etholwyr, a thalaf deyrnged i’w gwaith yn helpu i achub bywydau pobl sy’n cael eu taro gan glefyd y galon.

Rwy’n ofni efallai fod marwolaeth Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru yn deillio o’r fframwaith rhagoriaeth ymchwil, y broses y bernir holl allbwn ymchwil pob prifysgol yn ei herbyn ar hyn o bryd. Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu papurau ymchwil di-ben-draw, papurau na fydd llawer ohonynt yn cael eu darllen gan neb, ac nad ydynt o unrhyw werth o gwbl o ran yr effaith ar wybodaeth pobl neu ganlyniadau mesuradwy. Mae hyn yn rhywbeth y dylem ei drafod mewn dadl lawer ehangach yn ôl pob tebyg. Nid yw Caerdydd ar ei phen ei hun yn yr ysfa i wella’i safle, ond rwy’n ofni y gallai’r ymarfer MEDIC Foward hwn fod wedi cael yr effaith groes i hynny.

Nodaf fod briff Sefydliad Prydeinig y Galon a gafodd ei baratoi ar gyfer y ddadl hon yn sôn bod y brifysgol wedi disgyn i safle is, wrth i’r hyn sy’n denu myfyrwyr ac academyddion clinigol i Gaerdydd leihau, ac ni ellir derbyn swyddi posibl a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon am fod y brifysgol wedi penderfynu peidio â chefnogi cardioleg. Nid wyf yn gwybod a yw’n bosibl unioni’r camgymeriad hwn, ond mae’n sicr yn rhywbeth y mae angen i arweinyddiaeth Prifysgol Caerdydd ei ystyried.

Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl—Vaughan Gething.

Member
Vaughan Gething 17:59:00
The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i fy nghyd-Aelod am ddod â’r mater hwn i sylw’r Siambr, a hefyd am gyfraniad Jenny Rathbone. Fe wnaethoch eich dwy eich safbwyntiau a’ch pwyntiau yn glir iawn ynglŷn â’r penderfyniad a wnaed gan Brifysgol Caerdydd.

Credaf ei bod yn bwysig dechrau drwy gydnabod effaith clefyd y galon. Rydym wedi clywed yn ddiweddar, ac unwaith eto wedi atgoffa ein hunain yn y Siambr heddiw, fod dementia yn awr yn cael ei gydnabod fel lladdwr mwy, ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd i wella canlyniadau i bobl sydd â chlefyd y galon yn ogystal ag atal pobl rhag dioddef clefyd y galon yn y lle cyntaf. Rwy’n ddiolchgar i Julie Morgan am dynnu sylw at yr effaith bwysig y mae gwaith ymchwil wedi ei chael ar wella canlyniadau i gleifion sydd â chlefyd cardiofasgwlaidd.

Yn yr achos penodol hwn, bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn gwybod na all Llywodraeth Cymru gyfarwyddo’r brifysgol i ddad-wneud y penderfyniad a wnaethant, ond wrth gwrs mae’r cyfle i gael y dadleuon hyn yn golygu llawer mwy na rhoi neges i’r Llywodraeth. Ond rwy’n awyddus i gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed eisoes ac sy’n parhau i gael ei wneud gan Sefydliad Prydeinig y Galon, ac rwy’n falch o weld eu bod yn parhau i fuddsoddi mewn ymchwil yng Nghymru gydag agoriad uned ymchwil newydd ar y ffordd yn ysgol feddygol Prifysgol Abertawe. Gwn y bydd yr uned yn Abertawe yn weithredol yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y brifysgol a’r deon am fanylion yr ymchwil a fydd yn parhau yno. Rwyf am longyfarch Prifysgol Abertawe ar ddatblygu eu gallu eu hunain mewn ymchwil cardiofasgwlaidd, ac edrychaf ymlaen at ddilyn eu llwyddiant yn y maes hwn yn y dyfodol.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon, wrth gwrs, wedi bod, ac yn parhau i fod yn bartner cryf mewn ystod o fentrau traws-ariannol megis y fenter ymchwil atal genedlaethol a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU. Mae’r mentrau hyn wedi buddsoddi’n eithaf sylweddol mewn ymchwil a gyflawnir yng Nghymru. Yn awr, drwy gynnal y partneriaethau hynny, a thrwy ein buddsoddiad a’n darpariaeth ymchwil mewn lleoliadau gwasanaeth iechyd, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gefnogi ymdrechion Sefydliad Prydeinig y Galon a’u partneriaid ymchwil i wella diagnosis, triniaeth a chanlyniadau iechyd i bobl Cymru. Unwaith eto, rwyf am gydnabod bod rhan sylweddol o gyfraniad Julie Morgan wedi cydnabod yr angen i barhau yn y maes hwn.

O safbwynt Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i gefnogi ymchwil y galon mewn nifer o ffyrdd, ac efallai y gallaf egluro rhai o’r pethau rydym yn ei wneud i’r Siambr. Yn ddiweddar, rydym wedi penodi arweinydd arbenigedd Cymru ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd, Dr Zaheer Yousef o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Bydd Dr Yousef yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i hyrwyddo ymchwil cardiofasgwlaidd yn y GIG ac i gynyddu nifer y treialon clefyd y galon sy’n agored i gleifion ar draws Cymru. Dyna nodwedd reolaidd o’r galw gan y cyhoedd ac ystod o bartneriaid a hyrwyddwyr trydydd sector. Fel yr arweinydd arbenigedd ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd, bydd Dr Yousef hefyd yn cael cyllid i gefnogi gweithgaredd y grŵp datblygu ymchwil ac i nodi cwestiynau ymchwil pwysig pellach a dod o hyd i’r arian sydd ei angen i’w hateb. Felly, unwaith eto, mae yna gydnabyddiaeth na fydd yr ymchwil yn dod i ben yn ardal Caerdydd gyda’r penderfyniad y mae’r Aelod yn ei nodi.

Trwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, a gafodd ei chydnabod, unwaith eto, gan Julie Morgan, byddwn hefyd yn cyllido grŵp datblygu ymchwil ar ddata presgripsiynu a gweinyddu sy’n canolbwyntio ar gwestiynau ymchwil cardiofasgwlaidd a’r arennau. Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, byddwn yn parhau i roi cyfleoedd i ymchwilwyr cardiofasgwlaidd drwy ein cynlluniau ariannu cenedlaethol agored a adolygir gan gymheiriaid. Ar hyn o bryd rydym yn ariannu nifer o brosiectau sy’n berthnasol i glefyd y galon gan ganolbwyntio ar ffactorau ffordd o fyw a chanlyniadau iechyd gwell.

Yma, wrth gwrs, fel gwlad, mae gennym hanes cyfoethog o ddefnyddio tystiolaeth ymchwil i wella bywydau pobl, er enghraifft, gwaith a dylanwad Archie Cochrane, a chreu carfan clefyd y galon Caerffili. Carfan Caerffili yw’r astudiaeth hwyaf o’i bath mewn gwirionedd, ac mae wedi ysbrydoli mwy na 400 o bapurau ymchwil ac astudiaethau pellach ledled y byd. Mae’r gwersi rydym wedi eu dysgu gan y grŵp hwnnw o bobl, y grŵp rhyfeddol hwnnw o ddynion sydd wedi rhoi llawer o’u data a’u diddordeb am y ffordd y maent yn byw eu bywydau a’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar eu canlyniadau iechyd, wedi dweud llawer iawn mwy wrthym nag elfen gardiofasgwlaidd y canlyniadau iechyd yn unig—y ffactorau dylanwadol y gallai pob un ohonom eu cael ar ein canlyniadau iechyd tebygol ein hunain yn y dyfodol.

Rwy’n cydnabod yr hanes sydd wedi bod i’r uned benodol hon yng Nghaerdydd, yr arwyddocâd o ran cof y cyhoedd, ac ymlyniad ystod eang o bobl tuag at y ganolfan. Yn arbennig, cyn i mi orffen, rwyf am gydnabod cyfraniad ystod eang o bobl yn cyfrannu at yr allbwn ymchwil y tynnodd Julie Morgan ein sylw ato heddiw. Ond rydym ni, fel Llywodraeth, yn awyddus i adeiladu ar yr hanes hwnnw ac i ailennyn diddordeb y boblogaeth mewn gwaith ymchwil, a dyna pam rydym yn sefydlu Doeth am Iechyd Cymru, sy’n gobeithio cynnwys pawb yng Nghymru yn y gwaith o wella iechyd a lles y boblogaeth. Byddwn yn annog aelodau o’r Siambr hon, yn ogystal—gallwch chi hefyd fod yn gysylltiedig fel rhan o’r cyhoedd ac ymuno â’r fenter ymchwil honno. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud mewn gwirionedd a llawer y gallwn wella arno yng Nghymru hefyd. Bydd clefyd y galon yn parhau i fod yn faes diddordeb a buddsoddiad sylweddol o safbwynt y Llywodraeth, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid yn ein sector prifysgol, o fewn y GIG, a’r trydydd sector hefyd, a pharhau i wella canlyniadau ac allbwn ymchwil ar gyfer pobl ledled Cymru. Unwaith eto, diolch i Julie Morgan am dynnu sylw at y pwnc hwn ac am ei gyflwyno gerbron y Siambr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:05.