Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

11/01/2023

Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol

Committee Members in Attendance

Alun Davies
Carolyn Thomas
Delyth Jewell Cadeirydd y Pwyllgor
Committee Chair
Hefin David
Heledd Fychan
Tom Giffard

Y rhai eraill a oedd yn bresennol

Others in Attendance

Nia Britton ITV Cymru Wales
ITV Cymru Wales
Siân Doyle S4C
S4C
Sian Gwynedd BBC Cymru Wales
BBC Cymru Wales

Swyddogion y Senedd a oedd yn bresennol

Senedd Officials in Attendance

Lleu Williams Clerc
Clerk
Rhun Davies Ymchwilydd
Researcher
Robin Wilkinson Ymchwilydd
Researcher
Sara Moran Ymchwilydd
Researcher
Tanwen Summers Dirprwy Glerc
Deputy Clerk

Cofnodir y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y pwyllgor. Yn ogystal, cynhwysir trawsgrifiad o’r cyfieithu ar y pryd. Lle mae cyfranwyr wedi darparu cywiriadau i’w tystiolaeth, nodir y rheini yn y trawsgrifiad.

The proceedings are reported in the language in which they were spoken in the committee. In addition, a transcription of the simultaneous interpretation is included. Where contributors have supplied corrections to their evidence, these are noted in the transcript.

Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.

Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.

The committee met in the Senedd and by video-conference.

The meeting began at 09:30.

1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1. Introductions, apologies, substitutions and declarations of interest

Bore da. Blwyddyn newydd dda i bawb. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan ar ddechrau'r cyfarfod, plîs? Na, dwi ddim yn gweld bod yna, felly fe wnawn ni symud ymlaen.

Good morning. Happy new year to you all. I'd like to welcome Members to this meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee. Are there any declarations of interest at the start of the meeting? No, I don't see that there are any.

2. Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda darlledwyr cenedlaethol
2. Challenges facing the creative industry workforce: Evidence session with national broadcasters

Eitem 2 y bore yma ydy edrych ar yr heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol. Mae gennym ni sesiwn dystiolaeth gyda darlledwyr cenedlaethol. Gaf i ofyn i'n tystion y bore yma i gyflwyno eu hunain ar gyfer y record? Fe wnaf i fynd o'r chwith i'r dde fel rwyf i'n edrych arnoch chi ar hyn o bryd. Fe wnaf i fynd at Siân Doyle yn gyntaf.

We'll move on, therefore, to item 2 this morning. We're looking at the challenges facing the creative industry workforce. We have an evidence session with national broadcasters. May I ask our witnesses to introduce themselves for the record? I'll go from left to right as I'm looking at you, starting with Siân Doyle.

Bore da. Siân Doyle, prif weithredwr S4C.

Good morning. I'm Siân Doyle. I'm S4C chief executive officer.

Bore da. Sian Gwynedd, pennaeth pobl, diwylliant a phartneriaethau BBC Cymru.

Sian Gwynedd, head of people, culture and partnerships at BBC Cymru Wales.

A Nia Britton, operations manager ITV Cymru.

Nia Britton, operations manager, ITV Cymru Wales.

Mae'n hyfryd i gael y tair ohonoch chi gyda ni y bore yma. Fe wnawn ni fynd yn syth at gwestiynau ac fe wnaf i fynd yn gyntaf at Heledd Fychan.

It's great to have the three of you with us this morning. We'll go straight to questions and I'll go straight to Heledd Fychan.

Diolch, Gadeirydd, a diolch i chi am fod efo ni heddiw a diolch am y dystiolaeth dŷch chi wedi ei darparu ymlaen llaw, hefyd. Efallai fydd y cwestiynau yn gorgyffwrdd efo'ch tystiolaeth chi, ond mae o jest yn gyfle i ni gael y drafodaeth ehangach os ydy hynny'n iawn. Y cwestiwn cyntaf ydy os ydych chi'n gallu amlinellu, os gwelwch yn dda, beth ydych chi'n gweld fel cyflwr presennol gweithlu'r diwydiannau creadigol a sut mae siociau fel y pandemig, Brexit a'r cynnydd mewn costau byw wedi effeithio ar y gweithlu. Ydyn ni eisiau mynd o'r chwith i'r dde?

Thank you, Chair, and thank you for joining us today and thank you for the evidence that you provided beforehand. Perhaps the questions will overlap with your evidence, but it's an opportunity to have a wider discussion, if that's okay. The first question is if you could outline, please, what you feel is the current health of the creative industries workforce and how has this been affected by shocks such as the pandemic, Brexit and increased costs of living. Do you want to go from left to right?

Diolch. Mae'n amser heriol ond hefyd yn amser cyffrous iawn, rwy'n credu, yn y sector greadigol yng Nghymru. Rŷn ni'n gwybod bod Cymru nawr yn hwb prysur iawn i bobl i ddod i mewn, gyda phobl o'r tu fas yn dod i ffilmio yma a chynyrchiadau cyffrous iawn yn digwydd yma ar draws Cymru. Felly, mae'n gyffrous ac, o ran S4C, rŷn ni'n hynod o brysur ac yn comisiynu ar draws Cymru gyda'n partneriaid annibynnol.

Yr heriau ydy edrych ar sgiliau. Gan ei bod hi'n sector mor gyffrous ac sy'n tyfu, mae hwnna'n creu lot o heriau i'n cynhyrchiadau ni i ffeindio golygyddion neu beth bynnag maen nhw angen. Rwy'n credu bod y pandemig wedi stopio rhywfaint o'r datblygiad i ni gael y sgiliau iawn yn tyfu trwy'r sector, felly mae rhai pethau yn fwy prin nag eraill. Ond hefyd, rwy'n credu bod, nawr, costau byw yn dechrau ein bwrw ni hefyd, (1) oherwydd bod yna gyn lleied o'r sgiliau yma. Mae yna gymaint yn mynd ymlaen yng Nghymru ac mae gyda chi'r costau byw yn codi hefyd, so mae e yn amser heriol iawn i'n partneriaid ni ac i S4C, ac rŷn ni'n gweld y costau'n dechrau cynyddu ar draws y sector.

Thank you. It is a very challenging time, but I think it's also an exciting time in the creative industry in Wales. We know that Wales now is a very busy hub for people to come in from outwith Wales, to come in to film in Wales, and there are really exciting productions taking place in Wales. So, it is an exciting time and, from S4C's point of view, we're very busy and we are commissioning the length and breadth of Wales with our independent partners.

The challenges are looking at skills. Because it is such an exciting, growing sector, that does create many challenges for our productions as regards finding editors or whatever they need. I think that the pandemic has arrested some of the development in getting the right skills growing throughout the sector, and so some skills are rarer than others. Also, I think the cost of living is now starting to bite, because there is a lack of these skills. There's so much going on in Wales and the cost of living is increasing as well, so it's a very challenging time for our partners and for S4C, and we're seeing costs starting to increase across the sector.

Fel mae Siân yn dweud, i ddechrau, dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig dweud ein bod ni'n croesawu'r twf dŷn ni'n ei weld yn y sector a pha mor bositif ydy hynny. Fel dŷch chi'n gwybod, dŷn ni wedi gweld twf ers 2016 a nifer o gynyrchiadau mawr iawn yn dod i Gymru. Felly, mi ydyn ni'n croesawu hynny ac yn gweld y darlun yna yn un positif iawn.

Ond, fel mae Siân yn dweud, mae hynny hefyd yn gosod heriau o'n blaenau ni, ac yn enwedig o ran sgiliau a phrinder sgiliau mewn rhai mannau. Dwi'n siŵr y gwnawn ni sôn mwy am hynny mewn ychydig, ond mae hynny yn heriol i ni. Dwi'n meddwl hefyd ein bod ni'n gweld heriau ehangach o safbwynt bod y ffi drwydded wedi'i rhewi am ddwy flynedd o ran y BBC. Mae hynny'n gosod heriau, ac wedyn, pan fyddwch chi'n gosod chwyddiant a gweld effaith chwyddiant wedyn ar gostau cynyrchiadau, mae'r ffaith bod yna brinder sgiliau yn golygu bod cynnydd wedi bod yng nghost sgiliau a chystadleuaeth am hynny. Felly, dwi'n meddwl ar hyn o bryd fod yna bryderon o achos chwyddiant costau, ac mae hynny yn cael effaith ar y diwydiant.

As Siân has said, to start with, I think it's important to say that we welcome the growth that we're seeing in the sector and how positive that is. As you know, we've seen growth since 2016, and a number of major productions have come to Wales. So, we welcome that and see that picture as a very positive one.

But, as Siân has said, that also gives us challenges, in particular in terms of skills and the shortage of skills in some areas. I'm sure we'll talk about that later, but that is challenging for us. I also think that we see wider challenges in terms of the fact that the licence fee has been frozen for two years in terms of the BBC. That is challenging, and when you then look at the impact of inflation on production costs, the fact that there is a shortage of skills means that there's been an increase in the cost of skills and competition for those. So, I think currently there are concerns because of inflation of costs, and that is having an effect on the industry.

O ran ITV, newyddion a materion cyfoes rydyn ni'n gwneud yn ITV, so dyna'r persbectif medraf i siarad amdano fo, fel petai. Buaswn i'n cytuno'n llwyr, rili. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael dwy flynedd lle'r oedd pob dim ar stop, fel petai, a beth dŷn ni wedi ei ffeindio yn fewnol ac wedi colli pobl freelance gan eu bod nhw wedi mynd i swyddi eraill—. Fel esiampl, mi oedd gen i un person yn ITV wnaeth adael ITV jest cyn i'r pandemig ddigwydd i fynd i 'freelance-o' yn y farchnad agored, ac roedd ganddo fo 18 mis o waith ar ei fwrdd o ac mi gollodd o'r cyfan, dwi'n meddwl, o fewn pythefnos. Roedd o wedi ein gadael ni, fe aeth o'n freelance ac mi gollodd o bob dim. So, dwi'n meddwl bod y math yna o beth rŵan—. Mae'r rheini'n benderfyniadau i bobl am beth maen nhw'n gwneud o ran y ffordd maen nhw'n gweithio. Dwi'n meddwl bod hynny'n effeithio ar y bobl sydd yn freelance rŵan hefyd. Ond rydyn ni wedi ffeindio, yn union fel rydych chi'n dweud, rili, mai trio ffeindio pobl freelance rŵan ydy un o'r pethau anoddaf. Mae yna rai sectorau sydd yn enwedig o anodd, a dwi'n meddwl medrwn ni ffocysu i mewn ar y rheini o ran targedu sgiliau, dwi'n meddwl, yn y dyfodol, i ffeindio'r bobl yma.

Ond eto, costau byw—. Beth fuaswn i'n dweud ydy bod pobl rwân, dwi'n meddwl, a fuasai wedi aros efo ni yn y gorffennol, am beth mae ITV yn gallu ei gynnig iddyn nhw fel busnes, pan fydd rhywun fel Amazon a Netflix yn dod atyn nhw ac yn cynnig £10,000 yn fwy am wneud yr un swydd, maen nhw am fynd i symud rŵan, lle, o'r blaen, hwyrach na fuasen nhw wedi gwneud o'r blaen. So, wrth gwrs, y costau byw—mae'n rhaid i bobl feddwl am eu bywydau nhw ac mae hynny definitely yn cael effaith ar y funud. 

In terms of ITV, we're involved in current affairs and news production, so that's the perspective I can speak from. I would agree entirely, really. We've had two years where everything had come to a halt, as it were. What we found internally, and we've lost freelancers who went to other positions—. For example, I had one person in ITV who left ITV just before the pandemic to become a freelancer in the open market, and he had 18 months of work in the pipeline, and he lost all of that within, I think, a fortnight. He left us, he went freelance and he lost all of that pipeline of work. So, I think that that kind of thing now—. These are decisions for people to make in terms of the way that they work. I think that that impacts those people who do work as freelancers now. But we've found, exactly as you said, really, that trying to find freelancers now is one of the major challenges. There are some sectors that are finding that particularly difficult, and we can focus in on those in terms of targeting skills in future, to find those people. 

But, again, the cost of living—. What I would say is that people now, I think, who would have remained with us in the past, because of what ITV can offer them as a business, when someone such as Amazon or Netflix comes to them and offers them £10,000 more for doing the same job, they will move, whereas, in the past, they perhaps wouldn't have done so. So, of course, there's the cost of living—people have to think about their own lives and that's certainly having an impact at the moment. 

09:35

Diolch. Rydych chi'n sôn, ynglŷn â'r sgiliau, fod yna rai bylchau, felly. Oes yna swyddi penodol, felly? Yn eich tystiolaeth, roedd nifer ohonoch wedi cyfeirio at y sgiliau o ran ar-lein rŵan a pheth o'r cynnwys digidol. Mi fyddai jest yn dda inni wybod gyda pha fath o sgiliau a pha fath o swyddi yn benodol, felly, rydych chi'n gweld prinder.

Thank you. You mention that there are some  skills gaps. Are there specific roles, therefore? In your evidence, a number of you referred to skills in terms of online and digital content. It would just be good for us to know in what sort of skills and what sorts of posts particularly you are seeing a shortage. 

Beth fuaswn i'n dweud ydy dyna un o'r pethau mwyaf—. Digital journalists—dyna un o'r pethau mwyaf. Yn enwedig, dwi'n meddwl, efo swydd fel yna, gan fod pobl wedi bod yn gweithio o gartref am y ddwy flynedd diwethaf, beth rydyn ni wedi'i ffeindio'n ddiweddar ydy bod yr hyfforddiant rydyn ni'n ei roi i bobl—. Mae o wedi cael impact ar yr hyfforddiant medrwn ni ei roi i bobl. So, o ran dod â phobl yn ôl i'r swyddfa rŵan, er ein bod ni'n balanso'r ffordd mae pobl yn byw a thrio gadael i bobl weithio o gartref ran o'r wythnos ac ati, mae'n bwysig ein bod ni'n trio dod â phobl yn ôl i mewn hefyd. Dyna un o'r pethau rydyn ni wedi'i ffeindio—i bobl sy'n gweithio o gartref, mae hyfforddiant rhai pobl wedi dirywio, mewn ffordd. Dydyn ni ddim wedi gallu gwneud hynny gystal.

Digital journalists ydy un peth. Craft editors, pobl sydd yn torri'r lluniau—definitely mae yna brinder o'r rheini yng Nghymru, buaswn i'n dweud. Dwi'n gwybod bod cwmni Boom, rydyn ni'n gweithio efo'n agos iawn â nhw, yn ffeindio'r un peth. A'r peth arall ydy pobl sydd yn multi-skilled producers—rhywun sy'n gallu saethu, sy'n gallu torri lluniau eu hunain, rhywun sy'n gallu gwneud pob dim— mae yna brinder o'r rheini, rydyn ni'n ffeindio, yn y busnes, hefyd. 

What I would say is that it's—. Digital journalists—they're one of the major factors here. I think, with a post such as that, because people have been working from home for the past two years, what we've found recently is that the training that we're providing to people—. It's had an impact on the kind of training that we can provide. So, as regards bringing people back to the office now, even though we are trying to strike a balance between how people live and allowing people to work from home part of the time, it is important that we try to bring them back into the office too. One of the things that we've found is that when people work from home, their training opportunities decline, in a way.

So, digital journalists is one post that I would point to. Craft editors, people who edit the images, there is a shortage of those in Wales, definitely. I know that Boom, who we work with very closely, are finding the same issue. Also, multi-skilled producers—somebody who can shoot, people who can edit the images themselves, someone who can do all of that—there is a shortage of those, we're finding, in the business, too.

Dwi'n meddwl, ie, ein bod ni yn gweld prinder. Efallai o ran teledu, lle rydyn ni'n gweld prinder ydy uwchgynhyrchwyr, rheolwyr cynyrchiadau, cynhyrchwyr cyfresi. Felly, mae yna gystadleuaeth fawr am y sgiliau yna. Ac, unwaith eto, mae'n bositif bod yr holl waith yno a bod y diwydiant mor brysur, ond mae yna brinder. Dwi'n meddwl, gyda rhai o'r prosiectau a'r cyrsiau rydyn ni'n eu cynnig, fel Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru rydyn ni'n ei wneud ar y cyd efo Cymru Greadigol, S4C, Channel 4 a'r BBC, rydyn ni'n trio edrych ar beth ydy'r anghenion o ran hyfforddiant. Mae hwnna'n gynllun hyfforddi ar gyfer gweithwyr llawrydd, ond hyn a hyn rydyn ni'n gallu eu hyfforddi ar unrhyw adeg.

Dwi'n meddwl bod y gwaith hefyd mae National Film and Television School yn ei wneud yn werthfawr yn y maes yma. Maen nhw'n trio gweithio efo'r sector ac efo darlledwyr i edrych ar beth ydy'r anghenion, ond, mewn ffordd, mae'r diwydiant yn tyfu mor gyflym a, gyda'r llwyddiant, mae'n anodd iawn diwallu'r angen yn ddigon buan. Dwi'n gwybod bod Cymru Greadigol yn gwneud gwaith ar hyn o ran y cynllun sydd ganddyn nhw, o ran edrych ar yr hyfforddiant sydd ei angen a'r sgiliau, a buaswn i'n croesawu gweld y gwaith yna a gweithio mewn partneriaeth. 

We are seeing a shortage. In television, perhaps, where we're seeing a shortage is senior producers, production managers and series producers. So, there is great competition for those skills. And, once again, it's positive that all the work is there and that the industry is so busy, but there is a shortage. I do think, with some of the projects and courses that we offer, such as the Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru scheme that we're doing jointly with Creative Wales, S4C, Channel 4 and the BBC, we're trying to look at the requirements in terms of training. That is training for freelancers, but it's only a limited number that we can train at any one time. 

Also, I think the work that the National Film and Television School is doing is valuable in this field. They're trying to work with the sector and with broadcasters to look at what the requirements are, but, in a way, the industry is growing so quickly and, being so successful, it's difficult to meet the demand quickly enough. I know that Creative Wales is working on this in terms of the scheme they have, in looking at the skills and training that are needed, and I would welcome seeing that work and working in partnership.

Allaf i jest ychwanegu, achos ein bod ni'n gwneud popeth drwy gyfrwng y Gymraeg, fod ein pwll ni'n llai fyth? Mae gan Gymru nawr enw mor dda o ran dod â a denu pobl i mewn i Gymru oherwydd cymaint o waith sydd yn barhaol yng Nghymru drwy bobl fel S4C. Dwi'n cytuno gyda Sian fod pethau fel golygyddion, EPs, exec producers, pobl sydd wirioneddol â reputation, os ŷch chi'n moyn, mae pobl yn mynd ar eu hôl nhw, ac mae gyda nhw ddewis o le maen nhw'n gweithio. So, mae llawrydd yn anodd. Dŷn ni'n gweld y rhan fwyaf o'n gwaith ni, wrth gwrs, drwy ein partneriaid annibynnol, a dŷn ni'n gwybod bod y sgiliau—. A beth sy'n fy mhoeni i ydy nad ydyn nhw'n dod drwyddo o'r gwaelod ac yn dechrau o'r dechrau, a dwi'n credu bod angen ffocws mawr. Dyna un o'n blaenoriaethau ni yn S4C, gyda Cymru Greadigol, i rili edrych ar sut rŷn ni'n dod mewn â phrentisiaethau a’n bod ni’n cyfuno hynny gyda siarad Cymraeg a’u helpu nhw gyda’u Cymraeg, fel bod gyda ni’r ffrwd yma yn dod trwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gwrs, rŷn ni’n moyn iddyn nhw fynd i weithio eto, ond mae eisiau i ni wneud yn siŵr bod gyda ni’r ffrwd yna'n dod drwyddo. Dwi’n meddwl ein bod ni’n brin iawn o hwnna ar hyn o bryd o ran edrych ymlaen at y dyfodol o lle rydyn ni arno. Ac mae’r her yn anoddach i ni oherwydd ein bod ni eisiau pobl sydd yn siarad Cymraeg, wrth gwrs.

Can I just add that, because we do everything through the medium of Welsh, our pool is even smaller? Wales now has such a good reputation in terms of attracting people into Wales because of the amount of work that is ongoing in Wales through players such as S4C. I agree with Sian that EPs, executive producers, editors, those people who do have that reputation, people go after those individuals and they then have a choice in terms of where they work. So, being a freelancer is difficult. We do most of our work through our independent partners, and, as regards, skills, what concerns me is that they're not coming through from the bottom up and starting from the ground up, and I think there needs to be a major focus there. And that's one of our priorities in S4C, with Creative Wales, to look at how we bring in apprentices and that we combine that with the ability to speak Welsh, and we help those people with their Welsh language skills so we have that flow coming through in the medium of Welsh. And of course, we want them to move on to other positions, but we need to ensure that we have that flow and pipeline coming through. There is a shortage in that regard at the moment. But the challenge is more difficult for us because we want people who speak Welsh, of course.

09:40

Diolch yn fawr iawn. Efallai i ehangu ar hynny, yn amlwg, o ran S4C yn symud i’r Egin ac ati, mae’ch rôl chi hefyd o ran comisiynu yn ddaearyddol, a'r sgiliau yn ddaearyddol. Oes yna heriau rŵan—? Rydych chi’n sôn hefyd, Sian Gwynedd, o ran tystiolaeth y BBC, o ran gostwng niferoedd o staff ledled Cymru ac ati. Oes yna heriau o ran sicrhau bod y diwydiant yn parhau i fod yn opsiwn lle bynnag ydych chi yng Nghymru?

Thank you very much. Perhaps just to expand on that, obviously in terms of S4C and moving to the Egin and so forth, your role in terms of commissioning and skills is geographical. Are there challenges now—? And Sian Gwynedd, you also mentioned in terms of the BBC having to reduce the numbers of staff across Wales. Are there challenges in terms of ensuring that the industry continues to be an option wherever you are in Wales?

Oes, ond mae hwnna ar draws Cymru. Wrth gwrs, mae lot o’n cynyrchiadau ni—30 y cant ohonyn nhw—yn y gogledd. Rŷn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni ar draws Cymru i gyd. Un o’r pethau rŷn ni’n ei wneud yn S4C, i bigo lan ar beth oedd Sian yn ei ddweud, oherwydd y ffi drwydded—. Mae gyda ni'r ddwy flynedd fwyaf heriol, os ŷch chi’n edrych ar chwyddiant, o edrych ar yr OBR. Mae gyda ti eleni a blwyddyn nesaf, ac wedyn rŷn ni’n mynd lawr yn fflat. Mae’n setliad ni’n codi mewn dwy flynedd, felly rŷn ni’n gorfod 'absorb-io' y costau yna am y ddwy flynedd yma. 

Beth rydyn ni’n ei wneud yn S4C, yn union i dy bwynt, Heledd, ydy gwneud yn siŵr ein bod ni’n cydweithio gyda’n partneriaid, ac edrych ar sut rŷn ni’n gallu, efallai—. Rydyn ni’n gwneud roadshows ar hyn o bryd gyda’n partneriaid ni i gyd i siarad gyda nhw am sut rydyn ni’n gallu bod yn fwy hyblyg. Rydyn ni’n dechrau comisiynu’r gwaith dros flwyddyn, efallai, a’n bod ni’n gwybod bod yna peaks and troughs, ond ein bod ni’n helpu trwy gomisiynu i allu creu’r cydweithio yma gyda’n partneriaid ni. Ydyn nhw’n gallu rhannu adnoddau?

Rydyn ni wedi cael sgyrsiau da gyda Teledwyr Annibynnol Cymru yn barod, a rhai o’r cwmnïau mawr fel Rondo, ac un gyda Cwmni Da ddydd Gwener. A byddwn ni’n gwneud hyn gyda phawb—sut rydyn ni’n gallu rhannu rhai o’n sgiliau ni, a rhannu rhai o’n hadnoddau ni. Roedden ni gyda Gelert ddoe, er enghraifft. Maen nhw’n helpu un o’n cwmnïau bychain ni, Carlam, sydd yng Nghaerfyrddin, Heledd. So, rŷn ni’n moyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n helpu i greu’r rhwydwaith o gydweithio ar draws. Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n rhan o’r ateb yn hytrach na chreu’r broblem, ac yn S4C rŷn ni’n moyn bod yn gweithio gyda’n partneriaid ni i wneud hynny.

Mae'n rhaid i ni fod yn hollol glir: mae yna brinder, ond sut ydyn ni’n gallu gweithio gyda’n gilydd? Achos ŷn ni ddim yn moyn—. O ran S4C, rŷn ni’n moyn dal i fod yn uchelgeisiol, rŷn ni eisiau ein blaenoriaethau ni gael eu cyflawni, ond rŷn ni eisiau gwneud hynny drwy gydweithio yn hytrach na'n bod ni’n creu mwy o broblemau yn y sector ar draws Cymru.

Yes, but that’s across Wales. Many of our productions—30 per cent of them—are in north Wales. We ensure that we operate across Wales. One of the things we do in S4C, picking up on what Sian said about the licence fee—. We have the most challenging two years, when you look at inflation and so on, if you look at the OBR. There's next year and the year after that, and then we’ll be going down to a flat rate. Our settlement increases in two years, so we have to absorb those costs for these next two years.

What we’re doing in S4C, exactly to your point, Heledd, is collaborating with our partners, and we’re looking at how we can—. We’re doing roadshows at the moment with all of our partners to speak to them to see how we can be more flexible. We’re starting to commission the work over a year, perhaps, where we know that there are peaks and troughs, and that we then help them with our commissioning to provide that collaboration with our partners. Can they share resources?

We’ve had good conversations with TAC and some of the major corporations such as Rondo; we’re seeing Cwmni Da on Friday. We’re doing this with everyone to see how we can share some of our skills and share some of our resources. I was with Gelert yesterday; they’re helping one of our smaller companies, Carlam in Carmarthen, Heledd. So, we want to ensure that we help to create that network of collaboration across Wales. I think it’s vital that we are part of the solution rather creating the problem, and in S4C we do want to be working with our partners to do that.

We have to be clear: there is a shortage, but how can we work together? Because from S4C we want to be ambitious, we want our priorities to be achieved, but we want to do that through collaboration rather than us creating more problems in the sector.

O safbwynt y BBC, mae’n hollbwysig i ni bod ein cynnwys ni’n adlewyrchu Cymru gyfan o ran cynulleidfaoedd ar draws Cymru. Felly, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn efo cwmnïau ar draws Cymru, yn cynnwys y gogledd, y gorllewin, y canolbarth. Dwi’n gwybod bod y comisiynydd teledu Saesneg wedi gweithio efo tua 35, 36 o gwmnïau annibynnol y llynedd, ac roedd y rheini ar draws Cymru. Mae'r gorsafoedd radio hefyd yn gweithio efo cwmnïau ar draws Cymru. Mae’n werth dweud hefyd bod gennym ni swyddfeydd ar draws Cymru. Mae gennym ni tua 100 o staff ym Mangor, er enghraifft. Felly, mae cael staff a chynnwys a storïau sy’n adlewyrchu Cymru gyfan yn hollbwysig i ni, ac yn rhywbeth y byddwn ni’n gweithio’n galed i barhau, achos rydyn ni yn gweld bod hynny er budd cynulleidfaoedd, ac er budd o safbwynt ein cynnwys ni, hefyd.

From the BBC’s point of view, it’s important for us that our content reflects the whole of Wales in terms of audiences across Wales. So, we’re working very hard with companies across Wales, including north Wales, mid Wales and west Wales. I know the English language tv commissioner worke  with about 35, 36 independent companies last year, and they were across Wales. Radio stations are also working with companies across Wales. It’s worth saying that we’ve also got offices across Wales. We have about 100 members of staff in Bangor, for example. So, having staff and content and stories that reflect the whole of Wales is vital, and it’s something that we will be working very hard to continue with, because we do see that that has a benefit to audiences and is also beneficial to our content as well.

Byddwn i’n dweud, jest o ran Cymru, mai un o’r pethau rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar ydy bod yna reporter newydd yn y gogledd, so mae yna dri reporter ITV Cymru rŵan yn y gogledd, ac un newydd yn y gorllewin, hefyd. Ac eto, fel mae pawb yn ei ddweud, dyna ydy’r pwysigrwydd—y ffaith ein bod ni’n adlewyrchu Cymru i gyd, rili. So, dyna un o’r pethau rydyn ni wedi’i wneud yn ddiweddar—gwneud yn siŵr bod hynny’n digwydd, rili; gwneud mwy o’n resource ni yn y gogledd.

I would just say, in terms of Wales, that one of the things we have been doing is we have a new reporter in north Wales. We have three ITV Wales reporters in north Wales, and a new one in west Wales as well, and that’s the important thing for us—that we reflect the entirety of Wales. So, one of the things we have been doing recently is ensuring that that happens, and we are allocating more of our resource in the north.

Diolch yn fawr iawn. Gaf i—?

Thank you very much. May I—?

Cwestiwn sydyn. Roeddech chi’n sôn am chwyddiant. Ydy hynna’n mynd i fod yn cael effaith, wedyn, o ran faint rydych chi’n gallu comisiynu? Ydych chi’n gweld efallai y bydd yna leihad yn nifer y cynyrchiadau oherwydd costau chwyddiant? Ydy hynna’n risg?

A quick question. You spoke about inflation. Is that going to be having an impact in terms of how much you’re going to be able to commission? Do you think there’ll be a decline in the number of productions as a result of inflationary costs? Is that a risk?

Dwi’n meddwl bod yna risg. Dwi’n meddwl bod heriau ariannol ar hyn o bryd o safbwynt y BBC, o safbwynt y ffi drwydded a’r toriadau rydyn ni’n eu hwynebu. Ac wedyn hefyd, os ydych chi’n edrych ar gostau cynyddol cynyrchiadau, mae’n digwydd ar draws bob dim, ac mae chwyddiant yn effeithio ar bopeth, onid ydy? Felly, dwi'n meddwl bod yna risg.

Yn amlwg, i BBC Cymru, mi rydyn ni wedi llwyddo i wneud arbedion drwy symud i Sgwâr Canolog, defnyddio technoleg newydd, ac edrych ar sut rydyn ni'n gweithio'n fwyaf effeithiol. Mi rydyn ni'n edrych ar weithio mwy o ran partneriaethau, fel mae Siân yn ei ddweud. Mae hynny'n hollbwysig i ni o ran gweithio'n fwy effeithiol gyda phartneriaid. Ac, yn amlwg, beth sy'n bwysig i ni ydy'n bod ni yn darparu'r cynnwys gorau posib i gynulleidfaoedd. Felly mi fyddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i warchod hynny. Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n werth dweud bod yna risg ariannol ar y funud, achos mae'r heriau ariannol, efallai, yn fwy nag maen nhw erioed wedi bod. Ac wrth i chwyddiant ychwanegu at hynny, dwi'n meddwl bod yna heriau sylweddol.

I think it is a risk. I think there are financial challenges at the moment in terms of the BBC and the licence fee currently, and the cuts that we’re facing. And also, if you are looking at increasing costs of productions, it’s happening across everything, and inflation has an impact on everything, doesn’t it? So, I do think there is a risk. 

Clearly, for BBC Cymru Wales, we've managed to make savings by moving to Central Square, using new technology, and looking at how we're working more efficiently. We're looking at working more in partnerships, as Siân said. That's vital to us to work more effectively with partners. And, clearly, what's important for us is that we are providing the best possible content for our audiences, and we'll be doing our best to protect that. But I think it's worth saying there is financial risk at the moment, because the financial challenges, perhaps, are bigger than they've ever been, and as inflation adds to that, I think there are significant challenges. 

09:45

Mae'n flin gyda fi. Bydd rhaid i ni symud ymlaen, yn anffodus. Sori, dwi'n gwybod bod yna lot o bethau i'w dweud, ond oherwydd amser, fe wnawn ni symud at Hefin David. Rwy'n meddwl bod gennym ni broblem, Hefin. Ydych chi'n gallu ein clywed ni nawr? Ocê. Dydyn ni ddim yn gallu eich clywed chi. Gwnawn ni fynd at Carolyn a gwnawn ni ddod nôl atoch chi, Hefin, achos dŷn ni'n methu â'ch clywed chi. Ydy'r bobl sain yn gallu ceisio helpu Hefin, plis? Gwnawn ni fynd at Carolyn.

I'm sorry. We'll have to move on, I'm afraid. I know that there is a great deal to say on this issue, but because of time pressures we'll move to Hefin David. I think we have a problem with Hefin's sound. Can you hear me now? Okay. We can't hear you, Hefin. We'll go to Carolyn and then we'll come back to you, Hefin, because we can't hear you. Can the sound operators help Hefin, please? We'll go to Carolyn for now.

Thanks. I can't actually log—. Oh, it's come back. I was going to ask you a question about equality and diversity within the industry. How thorough and accurate do you think the data is regarding equality, diversity and inclusion in the screen industries in Wales, and how can it be improved? That's the first question. 

From our perspective, we've got quite a lot of work to do from a data perspective. We're just putting in Diamond so that we can measure that. We've made a conscious effort to move towards being inclusive across Wales and representative of all of Wales, but I have to declare we've got work to do; it's one of our biggest priorities to do that. I think it's across all areas, though, from disability as well as equality of socioeconomic, and we're looking at all of that and how we can reflect Wales. One of the biggest things that we've done is put Gogglebocs on tv, which is very reflective of all of Wales and very visible as well. And it's made a difference in terms of perception, and so on, of the channel. It's a real priority for me, very close to my heart, and things that we are looking to do. However, we do work with a lot of people like It's My Shout and ScreenSkills to make sure that our priorities—. And therefore we can see that diversity coming through, not only in front of the camera but also behind, and that comes with its own challenges as well. But I can't tell you that my data is as good as it should be, and hopefully in a year's time when you speak to me, we will be in a much better place as a channel to be able to quote back where we're at in terms of our representation of across Wales. 

In terms of BBC Wales, I think in terms of the data we have for the BBC Wales workforce, that's accurate, and we've seen some really good progress in terms of the workforce, I think especially in terms of gender, women into leadership, and also LGBTQ+. But I do think this is a huge priority area for us, diversity and inclusion, and I think we do have more work to do. And I think especially for us this year, we're looking at disability, so we've got a big year of focus in terms of disability, both in terms of on air and also on terms of workforce. So, we're launching new traineeships, but I think also in terms of staff engagement, confidence and training in this area. There's a lot of nervousness about talking about disability, so we've got a year-long campaign looking at that.

And then also, socioeconomic, as Siân says, is a challenge for us. Again, we're going to be doing a lot of work in terms of how we recruit, doing a lot of outreach, looking at how we get messages to schools and further education colleges that a career in the BBC could be for them. So, we're doing a lot of work to really focus in on those areas where we need to improve. We do have initiatives in place. Every tv commission now—and it has been in place for a few years—has to have 20 per cent of their production staff from a diverse background, and that includes not only BME but also disability and socioeconomic. So, I think we have got different measures in place, and we have seen a good improvement, but I do think there's a lot more that we need to be doing. I can't talk about the data across the sector; I'm not sure how accurate that is. But in terms of BBC Wales, we do have quite a lot.

09:50

Data is something, actually, that's really important to us at ITV, and it's something that actually we have at our fingertips. Because I think having it at your fingertips and having it front and centre shows the work that needs to be done. So, for example, in the newsroom, we have a—for those of you who have been in, you've probably seen it, actually—data diversity board that accurately reflects the people who have appeared on screen on the news the night before, and it's updated daily. So, you can see, front and centre, every day, areas that we need to concentrate our resource on.

But in terms of the workforce as well, holding data, again, we find really, really useful, because two thirds of the executive team at ITV Wales and two thirds of the people managers at ITV Wales are women, 7 per cent of the team are from a black, Asian and minority ethnic background, and 16 per cent of our colleagues are from an LGBT+ background. So, I think having the data helps us make changes and helps to improve and to concentrate on areas where we know we're not doing so well. For example, apprenticeships are a particular area where we've chosen to put part of our funding into. We've chosen to stop spending in certain areas to put money into apprenticeships, to bring people in from backgrounds that they wouldn't see themselves coming into tv from before.

I think the socioeconomic point is a really, really important one. I'm that person, so I believe passionately in that, that somebody from north Wales, from a family where nobody's gone to university—. We need all sorts of people coming into tv. So, having that right mix is really—. And the data is really important to us, which is why there is such a concentration in ITV on gathering that data and then reacting to that data.

You said about creating pathways, then, for people from diverse backgrounds. I was just wondering, how do you create these pathways for people who are going through education to know what jobs are out there? The variety is quite diverse and wide, isn't it, really, in the industry, and young people might not realise. Did you say you do that through Creative Wales, Siân?

We work with ScreenSkills.

I was just wondering how you make those connections with education, with leaving school, once they get to high school, as well as further education. Glyndŵr university have got an area when they're looking at schools, and Theatr Clwyd and Coleg Llandrillo are looking at maybe working together more to create more of a mass in north Wales, as well as learning from each other and sharing skills. So, I was just wondering how these connections are made into your industry and how does it all work. 

We have somebody who goes round education, just talking about the opportunities, because it's not just about, 'You can be a cameraman'; you could be an electrician actually working in the creative sector, but it's just making that—. You know, it's just talking about all of the opportunities across. And I think I mentioned earlier, just bringing that start point and that group of people coming through, I think, is such a priority for us, and then putting them on apprenticeships, which includes learning Welsh as well as part of our purpose.

But I think there are things to think about that are really practical as well, because, for somebody who has to travel and there's no bus, don't just assume that they can actually turn up to work. Do you know what I mean? So, there are real things that we've got to think about and for us to be cognisant of in order to facilitate the skills to come into the sector. We do do apprenticeships—we've got some with ITV, actually, and ITV have been amazing in supporting us on our digital journalists as well—but it's got to be really purposeful and really thinking about how we can facilitate it. It's not just about the learning; it's about how do they get there—you know, real practical things. Sometimes, we assume that they can turn up at 7:30 for a shoot.

Yes. It has been raised with me by the principals—getting them there, and feeding them these days as well.

For sure. And I think there's a responsibility for us, with our sector and with our partnerships, to think about that as well.

09:55

I think it's really important that we do outreach and that we do go to schools and further education colleges, and I do think also going to schools and even primary schools earlier. We're doing a piece of work at the moment with Careers Wales to tie in with the new curriculum, saying about the breadth of roles in the BBC, and then they get a work pack to do, which is about telling stories, just to get their interest early and to give them that aspiration. Last year, we went out to, I think, 40 secondary schools as part of the 100 celebrations of the BBC, but also talked about apprenticeships and the breadth of roles in the BBC, so I do think outreach and the work that we do in schools is important. And just to mention that I think partnerships are really important as well. So, in terms of the pipeline, we work with It's My Shout. We work with Screen Alliance Wales really closely, and Culture Connect Wales, in terms of ethnic communities, and I think working together as partners to go out and to inspire young people to think about media and the creative industries is really important.

Okay, thank you. Do you want to go back to Hefin? Thank you.

Ocê, diolch, Carolyn. Gwawn ni drio eto. Hefin, ydych chi'n gallu clywed ni nawr? Ac ydyn ni'n gallu eich clywed chi?

Okay, thank you, Carolyn. We'll try Hefin again. Hefin, can you hear us now? And can we hear you?

Diolch. Pa rôl sydd gan sefydliadau preifat a chyhoeddus o ran mynd i’r afael â thâl gwael, gwaith ansicr ac amodau gwaith problemus? Ac a yw gweithwyr llawrydd yn wynebu problemau penodol gydag amodau a thâl gwael?

Thank you. What role do private and public organisations have in terms of tackling poor pay, precarious work, and working conditions that are problematic? And are freelancers facing specific problems in terms of poor working conditions?

Diolch, Hefin. Pwy sydd eisiau dechrau gyda hwnna?

Thank you, Hefin. Who wants to start with that?

A allaf i jest ddeall y cwestiwn cyntaf eto, sori? Roedd hi'n anodd clywed y sain.

Can I just understand that first question again, sorry? It was difficult to hear.

Achos roedd y broblem i ddechrau gyda'r sŵn. Jest o ran pa rôl dŷch chi'n meddwl sydd gan sefydliadau preifat a sefydliadau cyhoeddus o ran mynd i'r afael â thâl gwael ac unrhyw waith ansicr ac unrhyw amodau gwaith sydd yn achosi problemau.

Because there was a problem in terms of the sound. Just in terms of what role you think private and public organisations have in tackling poor pay and precarious work and problematic working conditions.

I hope it wasn't my poor Welsh that was causing the problem.

It wasn't that, Hefin, no, no, no—your Welsh was perfect.

No, it's just the sound, sorry. It wasn't—.

Wel, mae'n rhan o'n canllawiau ni pan ŷn ni'n comisiynu i wneud yn siŵr bod yr amodau fel mae S4C eisiau iddyn nhw fod, a bydd hwnna ar draws bob un cynhyrchiad dŷn ni'n ei wneud, a dŷn ni'n cymryd hwnna o ddifrif, ac rwy'n credu bod ein rôl ni'n hynod o bwysig i wneud yn siŵr (1) ein bod ni'n gwneud y peth iawn gyda'r bobl sy'n gweithio i ni, ond hefyd ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n dod â'r bobl gorau i weithio gyda ni. Mae'r cynyrchiadau dŷn ni'n eu gwneud—mae gyda ni brosesau manwl iawn a chanllawiau manwl ynglŷn â sut dŷn ni'n disgwyl i bobl i ddelio â nhw, ac mae ein rôl ni'n bwysig gyda hynny, dwi'n meddwl.

Well, it's part of our guidelines when we commission to make sure that the conditions are as S4C want to see them, and that's across every production that we do, and I think our role is important in ensuring (1) that we're doing the right thing with the people working for us, but also that we're bringing the best people to work with us. The productions that we make—we have very detailed processes and detailed guidance in terms of how we expect people to deal with them, and our role is important with that, I think.

Dwi'n meddwl bod lles gweithwyr yn hollbwysig i ni, ac, fel buasech chi'n disgwyl o ran BBC, mae gennym ni ganllawiau polisïau clir iawn o safbwynt lles y gweithlu, ac mae hynny'n cynnwys gweithwyr llawrydd, sydd yn rhan bwysig iawn, iawn o'n gweithlu ni. Dwi'n meddwl bod tua 6 y cant i 9 y cant, ar gyfartaledd, o weithlu BBC Cymru yn weithwyr llawrydd, ac mae'n sector annibynnol yn ddibynnol iawn arnyn nhw hefyd. Felly, mae gennym ni ganllawiau mewn lle. Mae gennym ni bolisïau. Mae gennym ni wybodaeth iddyn nhw ynglŷn â'u hawliau nhw, er mwyn trio gwneud yn siŵr eu bod nhw nid yn unig yn cael tâl teg, ond hefyd o ran sut maen nhw'n cael eu trin yn y gweithle, ac, os oes ganddyn nhw bryderon neu gwynion, ei bod hi'n glir iawn lle maen nhw'n mynd i godi unrhyw bryderon efo ni. Felly, dŷn ni'n gweithio'n agos efo'r sector annibynnol ac efo pethau fel PACT a'r Film and TV Charity hefyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cydweithio i wneud yn siŵr bod amodau gwaith yn ffafriol.

I think that employee welfare and well-being is vitally important to us, and, as you would expect with BBC, we have very clear guidelines in terms of workforce well-being, and that includes freelancers, who are a very important part of our workforce. I think that between 6 per cent and 9 per cent, on average, of the BBC workforce are freelancers, and the independent sector is very dependent on those freelancers as well. So, we have guidelines in place. We have policies. We have information available to them in terms of their rights, to try to ensure that they not just receive a fair wage, but in terms of how they're treated in the workplace, and, if they have concerns or complaints, it should be clear then for them to raise those concerns with us. So, we work very closely with the independent sector and with the Producers Alliance for Cinema and Television and the Film and TV Charity too, to ensure we collaborate to make sure that working conditions are favourable.

Diolch am hwnna, Sian. Cyn inni ddod atoch chi, Nia, Alun, oeddech chi eisiau dod i mewn ar hyn? Na, ocê, iawn. Nia.

Thank you for that, Sian. Before we come to you, Nia, Alun, did you want to come in on this? No, okay. Nia.

Buaswn i'n dweud yn union yr un peth, rili. Y bobl ydy'r peth pwysicaf sydd gennym ni ein busnesau ni, a gwneud yn siŵr bod y bobl yn hapus, os ydyn ni'n bobl sydd yn staff neu'n bobl sydd yn freelance, ydy un o'r pethau pwysicaf. Dyna sydd yn gwneud i bob dim weithio ar ddiwedd y diwrnod.

ITV ydy un o'r broadcasters cyntaf i ddal y living wage accreditation, so dŷn ni'n meddwl bod hynny'n hollbwysig, y ffaith ein bod ni'n gallu gwneud hynny. Mae hynny ar draws ITV, dim jest yng Nghymru ond ar draws ITV i gyd hefyd. A bod tâl pobl, os ydyn nhw'n staff neu'n contractors neu yn freelance, fod y rate awriol sydd yn cael ei dalu iddyn nhw yn cael ei 'update-io' bob blwyddyn gan y Living Wage Foundation hefyd—dŷn ni'n teimlo bod hynny'n hollbwysig, rili. Ond, eto, beth fuaswn i'n dweud yw, pan yw pobl allanol, sydd yn Amazon neu sydd yn rhywun arall, yn dod i mewn ac yn gallu cynnig mwy o arian i bobl—ac maen nhw yn cynnig mwy o arian i bobl—dyna'r her sydd gennym ni o'n blaenau ni. 

I would say exactly the same. People are the most important element that we have in our business, and making sure that people are happy, if they're staff or freelancers, is one of the most important things we need to do. That's what makes everything work, at the end of the day.

ITV is one of the first broadcasters to have the living wage accreditation, so we think that's vital, the fact that we can do that. That's across ITV, not just in Wales but across the whole of ITV as well. And that the pay of people, whether they're staff or contractors or freelancers, that the hourly rate that's being paid to them is updated every year by the Living Wage Foundation—we feel that that is vital, really. But, again, what I would say is that, when external people, Amazon or other bodies, come in and can offer more money to people—and they do offer more pay to people—that's the challenge we have in front of us. 

10:00

Iawn. Diolch am hwnna, Nia. Hefin, nôl atoch chi. 

Right. Thank you, Nia. We'll go back to Hefin. 

Yn ei weithdy ym Mhrifysgol De Cymru, clywodd y pwyllgor fod bwlio’n gyffredin yn y diwydiant sgrîn a bod gweithwyr yn ei chael yn anodd rhoi gwybod am ymddygiad gwael oherwydd natur glos y sector. A ydych yn cydnabod yr adroddiadau hyn, a sut gellir gwella’r sefyllfa?

At its workshop at the University of South Wales, the committee heard that bullying was common in the screen industry and workers found reporting bad behaviour difficult because of the close-knit nature of the sector. Do panelists recognise these reports, and how can the situation be improved?

Diolch, Hefin. Ie, roedd hwnna rili wedi dod mas o'r sesiwn roedden ni wedi'i chael ym Mhrifysgol De Cymru o ran bwlio, yn enwedig bod hwn yn gallu bod yn broblem pan yw pobl yn dod i mewn i'r sector yn gyntaf. So, pwy bynnag sydd eisiau mynd yn gyntaf ar hwnna. 

Thanks, Hefin. That did emanate from the session that we had in the University of South Wales in terms of bullying, and that this particularly can be an issue when people come into the sector initially. So, whoever wants to go first on that. 

Does gyda ni ddim—. Byddwn i'n cymryd hwn, wrth gwrs, o ddifrif ac yn gwneud y peth iawn o ran ein canllawiau ni. Does dim enghreifftiau penodol gyda ni, ond byddwn i yn dweud ein bod ni'n gweithio gyda TAC o ran hyfforddiant, pethau fel iechyd meddwl. Rŷn ni newydd fod yn ffilmio—. Byddwch chi i gyd yn gweld ffillm yn dod mas gan S4C o'r enw Y Sŵn, sy'n sôn am sefydlu S4C, ac mi oedden ni'n beilotio i hwnna, lle'r oedd gennym ni ferch yn gweithio gyda nhw er mwyn lles y bobl oedd yn gweithio ar y ffilm, fel eu bod nhw'n gallu siarad â rhywun o ran eu lles meddwl nhw a'r awyrgylch roedden ni'n gweithio ynddo. Rydyn ni hefyd wedi seino lan i'r Coalition for Change freelance charter. So, mae yna lot o ymdrech yn mynd ymlaen yn y sector, bob un y byddwn ni'n eu cefnogi, ac mae cymaint rydyn ni'n gallu ei wneud hefyd ar ein cynyrchiadau ni. Ac rydyn ni'n gweld lot fwy o CULT Cymru, 6ft from the Spotlight, y busnes lles yma, sy'n ffantastig ac yn rhywbeth newydd a ddechreuodd rhyw bedair neu bum mis yn ôl, ac rŷn ni'n croesawu hwnna i gyd i drio gwneud yn siŵr ein bod ni'n creu'r awyrgylch iawn yn y gweithle, neu ar y set, mewn lle sydd yn eithaf pressurised beth bynnag. Felly, mae'n bwysig ein bod ni wedyn yn deall sut rydyn ni'n helpu hynny. 

We don't have—. I would take this, of course, seriously and do the right thing in terms of our guidelines. There are no specific examples that we have, but I would say that we are working with TAC in terms of training, in terms of mental health. We've just been filming—. You'll see a film by S4C, which will be out shortly, called Y Sŵn, which talks about the establishment of S4C, and we were piloting for that, where we had a girl working with them in terms of looking after the welfare of the people working on the film so that they could speak to people about their mental health and the circumstances in which they were working. We've also signed up to the Coalition for Change freelance charter. So, there's a lot of effort going on in the sector, each one of which we would be supporting, and there's so much we can do in terms of our productions. And we are seeing more from CULT Cymru, 6ft from the Spotlight, in terms of welfare, which is fantastic and is something new that started about four or five months ago, and we welcome all of that to make sure that we are creating the right atmosphere for the workforce, or on the set, which is quite pressurised anyway. So, it's important that we then understand how we support that. 

Mae gennym ni brosesau mewn lle a chanllawiau, nid yn unig o fewn y BBC ond hefyd efo'n holl gyflenwyr ni, ac mae'r drafodaeth yna'n un rydyn ni'n ei chael efo'n cyflenwyr yn gyson, ac mi ydyn ni'n gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw hefyd ganllawiau mewn lle o ran sut maen nhw'n trin eu gweithwyr nhw a'i bod hi'n glir iawn i bobl sut maen nhw'n codi pryderon neu os ydyn nhw angen cefnogaeth ychwanegol. Fel mae Siân yn dweud, mi fydden ni'n cymryd unrhyw beth fel yna o ddifrif. Mae lles gweithwyr a phobl yn cael eu trin yn barchus yn y gweithle yn hollbwysig i ni, nid yn unig staff ond hefyd o ran gweithwyr llawrydd ac o ran cynyrchiadau—unrhyw un sy'n gweithio i'r BBC. Felly, mi fydden ni'n cymryd hynny o ddifrif. Ond mi ydyn ni'n gweithio efo partneriaid i drio gwneud yn siŵr ei bod hi'n glir iawn sut i godi pryderon a bod yna bethau mewn lle i warchod gweithwyr, ac, fel mae Siân yn dweud, rŷn ni'n gweithio efo nifer o gyrff, yn cynnwys PACT a TAC, ac mae'r BBC yn cyd-gadeirio'r Coalition for Change hefyd, sy'n edrych ar les gweithwyr llawrydd. 

We do have processes and guidelines in place, not just within BBC but also with all of our suppliers, and that's a discussion that we have with our suppliers regularly to ensure that they have guidelines in place in terms of how they treat their workforce and that it's clear to people how they raise concerns or if they need additional support. As Siân said, we would take any of these issues very seriously. Employee welfare and people being treated with respect in the workplace are vitally important to us, not just in terms of staff but in terms of freelancers and any productions—anyone working for the BBC. We would take all of that very seriously. But we work with partners to ensure that it's very clear how to escalate concerns or raise concerns and to ensure that there are programmes in place to safeguard the workforce, and, as Siân said, we're working with a number of bodies, including PACT and TAC, and the BBC is co-chairing the Coalition for Change too, which looks at freelancers' well-being. 

Yn union fel roeddech chi'n dweud, dydy ITV ddim yn 'tolerate-io' bwlio a harassment o gwbl. Dyna un peth buaswn i'n dweud am fod yn swyddfa fach ac yn dîm bach, os oes rhywbeth fel yna'n digwydd, mae rhywun arall yn mynd i'w weld o ac yn mynd i—they'll shout it out. A dwi'n meddwl mai dyna ydy'r fendith o fod yn dîm bach: mae pawb yn gweithio mewn swyddfa agored, does yna dim swyddfeydd, fel petai, does dim byd yn digwydd, gobeithio. Mae rhywun yn gallu gweld os oes yna rywbeth fel yna'n digwydd. 

Mae gennym ni speaking-up policy i bawb, i'r staff i gyd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n dod i fyny'n flynyddol, fel bod pobl yn gwybod am hynny. Mae pawb yn gorfod llenwi syrfei i mewn bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod nhw yn gwybod pa support sydd yna yn ITV iddyn nhw pe bai rhywbeth fel hyn yn digwydd. Mae yna catch-ups rheolaidd efo'r line managers i gyd a'r staff, ac eto fforwm i godi pethau fel yna hefyd. Un peth buaswn i'n dweud sydd yn dda yn ITV hefyd ydy, os oes yna berthynas rhwng aelod o staff a line manager hwyrach dydy'r berthynas yna ddim yn un da, achos mae hynny'n digwydd weithiau, mae yna line managers gwahanol yn ITV. Mae yna culture lle mae pobl yn gallu mynd at bobl eraill hefyd os oes yna rywbeth dŷn nhw ddim yn gyfforddus yn siarad amdano fo efo unigolyn. So, dwi’n meddwl yr atmosphere ydy’r peth pwysig, sut mae'r swyddfa'n teimlo. A dwi wedi gweld pethau'n digwydd lle, os ydy rhywun yn dweud rhywbeth wrth rywun—dydy hyn ddim yn bwlio nac yn harassment—os ydy rhywun yn dweud rhywbeth sydd ddim yn addas wrth aelod staff, dwi wedi gweld rhywun yn eu stopio nhw ac yn dweud, 'Mae'n ddrwg gen i, dydyn ni ddim yn siarad efo’n gilydd fel yna.' A dwi wedi’i weld o, a dwi’n meddwl mai dyna ydy’r ffordd orau o wneud hynny, fod pawb yn gallu gweld, os ydy rhywun yn dweud rhywbeth, fod yna rywun arall yn y swyddfa yn dweud, 'Mae'n ddrwg gen i, dwi ddim yn hapus efo hynna.'

Exactly as you said, ITV doesn't tolerate bullying or harassment at all. That's one thing I would say, in being a small team in a small office, if something like that happens, somebody else is going to see it and is going to shout it out. And I think that's the advantage of being in a small team: everybody works in an open-plan office, there are no smaller offices, nothing is happening, hopefully. One can see if something like that is happening.

We have a speaking-up policy for all members of staff. That is something that comes up every year, so that people know about that. Everybody has to fill in a survey on an annual basis to make sure that they know what support is available to them in ITV if an issue such as this should arise. There are regular catch-ups with line managers and staff, and also a forum to raise those sorts of concerns. One thing I would say that is good in ITV is that, if there is a relationship between a line manager and a member of staff and perhaps that's not a good relationship, which does happen sometimes, there are different line managers available in ITV. There is a culture where people can go to other people as well if there is something that they're not comfortable speaking about with a certain individual. So, I think atmosphere is the most important thing, how the office feels. And I've seen things happening where if somebody says something to somebody—this isn't bullying or harassment—if somebody says something that is inappropriate to a member of staff, I've seen somebody stopping them and saying, 'I'm sorry, we don't speak like that to each other here.' And I've seen that, and I think that's the best way of doing that so that everybody can see it, so that if somebody says something, somebody else in the office can say, 'I'm sorry, I'm not happy with that.'

10:05

Ocê, diolch am hynny. Hefin, dwi'n meddwl efallai fydd yn rhaid inni symud ymlaen nawr, gydag amser, oni bai bod rhywbeth byr oeddech chi eisiau ei ofyn.

Okay, thank you for that. Hefin, I think we'll have to move on now, because of time, unless there was something briefly that you wanted to ask.

Okay.

Ocê, efallai fod amser am un cwestiwn arall. Allaf i ofyn jest os chi'n gallu bod mor gryno â phosib yn yr atebion? Sori, dwi'n gwybod bod hyn yn bwnc rili bwysig.

Perhaps there's time for one more question. But if I can ask you to be as brief as possible in your answers. Sorry, I know this is an important subject. 

Okay, Hefin. Fine.

Hefyd yn y gweithdy ym Mhrifysgol De Cymru, clywodd y pwyllgor fod trafferthion iechyd meddwl yn gyffredin ymysg pobl ifanc sy’n ymuno â’r diwydiannau sgrîn, ac nad oes gan microbusinesses yn y sector ddigon o gapasiti HR i helpu. Sut fyddai modd gwella’r sefyllfa hon? A fyddai rhannu gwasanaethau rhwng cwmnïau yn ddefnyddiol, a phwy
allai eu darparu?

Also at its workshop at the University of South Wales, the committee heard that mental health issues are common amongst young people entering the screen industries, and that microbusinesses in the sector don’t have sufficient HR capacity to help. So, how can this situation be improved? And would sharing services between companies be helpful in this regard, and who could provide them?

Fel rŷn ni wedi dweud o’r blaen, dwi’n credu, mae cymaint o gydweithio ar draws Equity, PACT, TAC. So, mae hwnna’n rhan fawr o sut rŷn ni’n gosod y safon, ond dwi yn meddwl, o ran iechyd meddwl yn benodol, Hefin, mae beth rôn ni jest yn sôn amdano gyda Y Sŵn, sef y CULT Cymru 6ft from the Spotlight, lle mae gyda ni bobl lles ar y set ac yn gweithio gyda’r timau, yn gam enfawr ymlaen pan ŷn ni’n gwybod bod iechyd meddwl yn bryder i bawb, a byddwn ni’n gweld hynny yn fwy a mwy ar ein cynyrchiadau ni dros y misoedd yma nesaf gyda’r esiampl yna.

As has been said before, I think, there is so much collaboration across Equity, PACT, TAC. That is a big part of how we set the standard, but I do think, in terms of mental health specifically, what I was just talking about there with regard to Y Sŵn, which is the CULT Cymru 6ft from the Spotlight, where we have welfare staff on the set and working with the teams, is a great step forward when we know that mental health is a concern to all, and we'll see that more and more in our productions over the next few months with that example.

Ie, buaswn i jest yn ategu hynny, ein bod ni yn gwneud lot o waith yn y maes yma. Dwi’n meddwl ei fod o’n broblem nid yn unig yn ein sector ni ond yn gyffredinol, yn enwedig ar ôl COVID, efallai, lle'r oedd pobl yn ymuno efo gwmnïau ac yn gorfod gweithio adref a dysgu a cyflwyno eu hunain i gwmnïau mewn ffyrdd gwahanol. Felly, mae hynny'n gwneud lot iawn o waith. Mae gennym ni bolisïau clir iawn mewn lle o ran ein staff ni a chefnogaeth iddyn nhw o ran iechyd meddwl, a hefyd pethau fel cyfleon mentora llai ffurfiol efallai er mwyn cefnogi staff, ond dwi’n meddwl cydweithio mewn partneriaethau, ac mae’n bwysig ein bod ni’n siarad am y pwnc yma yn agored, ac yn cydweithio fel diwydiant i wneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod nhw’n gallu codi pryderon hefyd o ran iechyd meddwl.

Yes, I would just echo that, that we do a great deal of work in this field. I think that it is an issue not just in our sector but in general, particularly post COVID, perhaps, where individuals were joining different companies and having to work at home and having to introduce themselves to companies in different ways. So, that's causing a great deal of work. We have policies in place for our staff and support available to them in terms of their mental health, and we also have initiatives such as less formal mentoring opportunities to support staff, but I think it's working in partnerships and it is important that we do talk about this issue openly, and that we collaborate as an industry to ensure that people feel that they can raise their concerns as well in terms of their mental health.

Reit, mi fyddaf i’n sydyn iawn. Buaswn i’n dweud yn union yr un peth: mae iechyd meddwl yn rhywbeth rydym ni’n siarad amdano mewn team meeting yn aml. Mae gennym ni mental health first-aiders yn y tîm; mae yna 10 ohonyn nhw rŵan. Pan ydych chi'n meddwl—rydyn ni'n dîm o 100 yn ITV Cymru, i roi sens i chi o'r proportion a faint mor bwysig rydyn ni'n meddwl ydy hynny. Jest so eto, os ydy rhywun ddim yn gyfforddus yn mynd at un person, mae ganddyn nhw grŵp o bobl y medran nhw fynd atyn nhw. Dydyn nhw ddim yn counsellors, nid dyna ydy’r bwriad, ond maen nhw’n rhywun fedr rhywun mynd atyn nhw'n gyntaf i gael help straight away, fel petai, os oes gan unrhyw un bryderon. Ac mae gan ITV employee assistance programme hefyd i roi help allanol i rywun os ydyn nhw eisiau siarad â rhywun y tu allan i'r tîm yn ITV hefyd.

I'll be very brief and quick. Exactly the same: mental health is something that we talk about in team meetings on a regular basis. We have mental health first-aiders in the team; there are 10 of them now. When you think—we're a team of 100 in ITV Cymru, just to give you a sense of the proportion and how important we feel that is. So, again, if someone is not comfortable going to one person, they have a group of people that they can approach. They're not counsellors, that's not the intention, but they are people that other members of staff can approach to get help straightaway, if anyone has concerns. ITV also has an employee assistance programme. That's external help, if they want to speak to somebody outside of the team at ITV as well.

Diolch i chi i gyd am hynna. Diolch. Mi wnawn ni symud at Alun Davies.

Thank you very much to you all for that. Thank you. We'll move to Alun Davies.

Diolch, a diolch yn fawr iawn am eich amser y bore yma.  Dwi wedi bod yn edrych ar y gronfa, neu'r strategaeth—cynllun, neu beth bynnag y mae’r Llywodraeth wedi  dewis ei alw fe y tro yma—i ddatblygu sgiliau creadigol. Mi wnaethon nhw ei lansio fe yn ôl ym mis Medi, dwi'n meddwl. Beth ydych chi'n meddwl ohono fe?

Thank you, and thank you very much for giving of your time this morning. I've been looking at the strategy—or the scheme or whatever the Government has decided to call it this time—to develop the creative skills. They launched it back in September, I believe. What do you think about that scheme?

Mae rhaid i mi ddweud, dwi'n croesawu'r gwaith rydym ni'n gwneud gyda Cymru Creadigol; mae’n rhywbeth mor bwysig yn strategaeth S4C, ac mae’n wir eu bod nhw wedi bod yn gwrando ar y sector ac wedi bod yn siarad gyda ni.

I have to say that I welcome the work that we're doing with Creative Wales; it's something that's so important in S4C's strategy and it's true that they have been listening to the sector and have been talking to us.

So, dŷch chi wedi bod yn rhan o greu'r cynllun yma.

So, you've been part of creating this scheme.

Dŷn ni wedi rhoi cais i fewn, ydyn, yn bendant.

We have provided input, certainly.

Ydych chi wedi bod yn rhan o greu'r cynllun?

Have you been part of creating the scheme?

10:10

Rŷn ni wedi bod yn rhan o roi'r adborth, yn bendant, i Cymru Greadigol, ydyn. 

We've been part of giving feedback, definitely, to Creative Wales.

Reit. Dyw hynny ddim cweit yr un peth, nag yw e? Dŷch chi ddim wedi ei siapio fe, ond dŷch chi wedi cyfrannu ato fe.

That's not quite the same, is it? You've contributed to it, you haven't shaped it.

O safbwynt BBC Cymru, mae gennym ni femorandwm o gyd-ddealltwriaeth mewn lle ers tro rŵan o ran cydweithio efo nhw, ac mae yna gyfarfodydd rheolaidd yn digwydd. Maen nhw'n trafod cyfleoedd i gydweithio ar gynnwys ar yr ochr greadigol ond hefyd yn trafod sgiliau hyfforddiant a'r diwydiant yn ehanagach. Felly, mae'r cyfarfodydd yna, dwi'n meddwl, yn rhai rheolaidd, maen nhw'n rhai agored iawn, maen nhw'n rhai adeiladol iawn, a dwi'n gwybod o weithio ar gynlluniau fel y cynllun Carlam Ffeithiol a gweithio efo Cymru Greadigol, mi rydyn ni'n trafod sgiliau a hyfforddiant yn aml, ac yn edrych ar yr anghenion.

Dwi wedi edrych drwy'r cynllun, dwi'n meddwl ein bod ni'n croesawu'n fawr iawn fod yna gynllun a bod yna gorff o bobl yn edrych ar ba sgiliau sydd eu hangen. Dwi hefyd yn meddwl ei fod o'n bwysig, fel mae'r cynllun yn ei ddweud, ei fod o'n cael ei adolygu bob chwe mis a bod yna drafodaeth efo'r diwydiant ynglŷn â'r anghenion a pha sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen, achos mae o'n newid yn eithaf aml. Ond buaswn i'n croesawu yn y cynllun y ffocws ar brentisiaid, y ffocws ar amrywiaeth a bod yn gynhwysol, a hefyd mae yna ffocws eithaf penodol, dwi'n meddwl, ar weithio efo ysgolion yn gynt ac ar greu cynllun sgiliau a thalent yn iau o ran y diwydiant yn y dyfodol. Felly, dwi'n meddwl bod lle maen nhw wedi canolbwytio, buaswn i'n croesawu nifer o'r meysydd hynny, a maen nhw'n cydfynd efo'n blaenoriaethau ni.

From the point of view of BBC Cymru Wales, we have had a memorandum of understanding in place for some time in terms of collaboration with them, and there are regular meetings. They discuss opportunities to collaborate on the content on the creative side, but they also discuss training, skills and the industry more widely. So, those meetings, I think, are taking place on a regular basis, they're very open and they're very constructive, and I know from working on schemes such as the Carlam Ffeithiol scheme and working with Creative Wales, we discuss skills and training very often as part of those, and we look at the needs in the industry.

Looking through the action plan, I think that we welcome very much the fact that there is now a plan and a corpus of people looking at what skills are needed. I think it's also important, as the plan states, that it is reviewed every six months and there's a discussion with the industry in terms of their needs and requirements and what skills and training are required, because they change very frequently. But I would welcome the focus on apprentices, the focus on diversity and inclusion, but there's also quite a specific focus too on working with schools earlier on in the process and of creating a skills and talent plan amongst earlier ages for the industry in future. So, I would welcome the areas that have been focused on and they align with our priorities.

Ocê, diolch am hynny. Siân, jest i fynd nôl atoch chi, ydych chi'n dweud eich bod chi wedi rhoi cais i mewn?

Thank you. Siân, just to go back to you, are you saying that you have put an application in?

Rŷn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw ar un cais hefyd, ydyn, a phwrpas y cais yna ydy un o'n blaenoriaethau ni rwyf i wedi ei drafod o'r blaen, sef ein bod ni'n wirioneddol yn edrych ar sut mae pobl yn dod i mewn i'r sector a chroesawu pobl i fod ar brentisiaethau. So, rŷn ni'n ffocysu yn fawr nawr. Mae gennym ni brentisiaethau gyda'r coleg cerdd a drama, ond yn benodol i fi, sut dŷn ni'n dod â mwy o bobl i mewn i'r sector i ddechrau eu hyfforddi nhw, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y Gymraeg yn rhan hanfodol ac yn rhan glir iawn o unrhyw raglen rŷn ni'n ei gwneud o hyfforddi'n prentisiaid. Mae TAC yn ein cefnogi ni gyda hwnna hefyd. So, dwi'n groesawgar iawn i beth dŷn ni'n ei wneud gyda sgiliau nawr ac edrych arno fe, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg, Alun. Mae hwnna'n bwysig inni.

We've been working with them on the application, and the purpose of that application is one of our priorities that I've spoken about before, which is that we're really looking at how people enter the sector and welcoming people to be on apprenticeships. So, we focus very greatly now on—we've got an apprenticeship with the college of music and drama—specifically how we bring more people into the sector to try to train them, particularly through the medium of Welsh and that the Welsh language is an essential part and a clear part of any scheme that we introduce in terms of training and apprenticeships. TAC support us with that as well. So, I welcome very much what we're doing with skills now, with looking at it particularly through the medium of Welsh, Alun. That's important to us.

Roeddwn i ar y panel yn un o'r bobl—

I was on the panel as one of the people—

Reit, ocê. So, ti sy'n gyfrifol. [Chwerthin.]

Okay, so. you're responsible. [Laughter.]

—wnaeth siapio'r plan, a beth fuaswn i'n ei ddweud a wnes i ffeindio wrth fod yn rhan o'r broses yna ydy mai gweithio efo'n gilydd ydy'r peth hollbwysig i weld lle mae'r gaps. Dyna ydy un o'r pethau pwysicaf i gyd. Beth fuaswn i'n ei ddweud ydy er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y mwyaf o hyn, y peth a ffeindiais i—achos mae Cymru Greadigol yn gwneud gwaith ardderchog—ydy mae'n nhw'n dîm bach. Dwi'n meddwl bod rhai o'r pethau dŷn ni'n gofyn amdanyn nhw, dŷn ni'n trio eu gwneud a dŷn ni'n trio eu 'push-o' ymlaen os ydy hynny'n gweithio mwy efo Careers Wales a thrio cael plant i wybod mwy am y busnes yma ydy—maen nhw'n dîm bach; fedran nhw ddim gwneud hyn i gyd eu hunain, mewn ffordd. Dwi'n meddwl mai dyna un peth fuaswn i'n dweud y ffeindiais i. Os dŷn ni eisiau datblygu skills action plan yng Nghymru, gweld lle mae'r gaps, mae hynny'n iawn i wneud y gwaith rŵan. Mae'n rhaid i'r gwaith hwnnw gario ymlaen. Mae'n rhaid inni gael data i wneud yn siŵr os ydy pobl yn dod i mewn i'r busnes, ydyn nhw'n aros yn y busnes. Os ydy pobl yn cael grantiau o rai llefydd, ble mae'r arian yna'n mynd? Ydy'r bobl yna'n aros yn y busnes? Dwi ddim yn meddwl ar y funud fod yna ddigon o resource wedi cael ei ddyrannu i'n galluogi inni ddilyn hynny drwyddo, buaswn i'n dweud yn bersonol, ond—.

—who shaped the plan, and what I would say that I found in being part of that process, is that working together is the vital thing to see where the gaps are. That's one of the most important things of all. What I would say, to ensure that we maximise the benefits from this, what I found—because Creative Wales does excellent work, but they are a small team. Some of the things that we are asking for, that we're trying to do, that we're trying to push forward are working more with Careers Wales and trying to ensure that children know more about this industry, and they are a small team; they can't do all of this work on their own. One of the things that I found is that if we want to develop the skills action plan in Wales, to see where the gaps are, it's fine to do that work now, but that work has to carry on. We have to get the data to ensure that if people come into the business, are they remaining in the business? If people receive grants from some sources, where does that funding go? Do those people stay in the business? I don't think, at present, there is sufficient resource allocated for us to be able to follow that, I would say personally.

Mae hynny'n ddiddorol iawn. So, jest i fi ddeall y broses yma, mi gefaist ti dy benodi gan y Llywodraeth, gan y Gweinidog, dwi'n cymryd, ac mae yna 10 ohonoch chi neu rywbeth felly—

That's very interesting. Just for me to understand this process, you were appointed by the Government, by the Minister, there are 10 of you—

Ie. So, fi oedd y representative of broadcast.

I was the broadcast representative.

Ie. Diolch. Oes modd i chi, Nia, esbonio'r broses a wnaethoch chi ei dilyn wrth greu y cynllun?

Thank you. Nia, could you explain the process that you followed in terms of creating the scheme?

So, mi ddaethon ni i gyd at ein gilydd, a beth oedd Cymru Greadigol eisiau ei wneud rili oedd siarad efo pawb ar draws y busnes yng Nghymru i weld gennym ni lle oedd y gaps yn y sgiliau ac i ddeall yn iawn lle oedd y gaps yn y sgiliau. Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn gwybod yn eithaf broad brush lle mae'r gaps, ond i drio mynd i mewn i, 'Reit, ble dŷn ni'n 'concentrat-o' resource a ble dŷn ni'n trio 'concentrat-o' i gael pobl i mewn i'r busnes?'

Un o'r pethau ffeindiais i o fod yn rhan o'r broses yna, fel esiampl, ydy mai'r gwaith yn yr ysgolion ydy un o'r pethau pwysicaf i gyd, dwi'n meddwl. Dwi'n meddwl bod plentyn mewn ysgol yn gweld gweithio yn y byd teledu—. O'n rhan ni, beth maen nhw'n ei weld, dwi'n meddwl, ydy rhywun sydd ar Ant and Dec. Dydyn nhw ddim yn gweld, dwi'n meddwl, y math o jobsys i gyd sydd yn y byd teledu y dyddiau yma; dydyn nhw ddim yn gweld—dwi'n rhywun sydd y tu ôl i'r camera—dydyn nhw ddim yn gweld y jobsys y tu ôl i'r camera. A dyna un o'r pethau rôn i'n meddwl; dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fynd reit yn ôl. Mae'n iawn i sbio lle mae'r gaps rŵan, ac mae yna waith i'w wneud i roi hyfforddiant lle mae'r gaps rŵan, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fynd â fo nôl reit, reit i'r dechrau, os ydy hynny'r cwricwlwm, os ydy hynny'n Careers Wales a beth maen nhw'n siarad efo plant amdano fo. Dyna a welais i, fel bod yn rhan o'r broses yma, ydy bod yna lot o waith i'w wneud. Dydy o ddim yn quick fix. Dwi'n meddwl mi gymeriff o amser, ac mae hyn yn rhywbeth fydd yn rhaid rholio ymlaen ac ymlaen, buaswn i'n ei ddweud. 

So, we all came together, and what Creative Wales wanted to do, really, was to speak to everyone across the business in Wales to see where there were gaps in the skills available and to understand exactly where those gaps were—I think we all know, broad brush, where the gaps are—but to try to go into detail in terms of where we're going to focus resource and we're going to focus in general to get people in with the skills.

One of the things that I found as being part of the process, as an example, is that work in the schools is one of the most important things of all. A child in school sees working in television—. From our point of view, what they see is somebody who is on Ant and Dec. They don't see the kinds of jobs and roles in the world of television; I'm someone who works behind the camera, they don't see those jobs behind the camera. And that's one of the things that I saw; we have to go right back. It's fine to look at where the gaps are now, and there is work to do to provide training where the gaps currently are, but I think we have to take it right, right back to the beginning in terms of the curriculum, be that with Careers Wales when they speak to children about their options—. That's what I saw, as being part of this process, is that there is a great deal of work to do. It's not a quick fix, it will take time, and it's something that we will have to roll forward.

10:15

Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Ydych chi'n meddwl bod y Llywodraeth yn buddsoddi digon? Mae yna filiwn wedi'i benodi fel cyllideb, ac mae hynny wedi'i dorri yn y gyllideb bresennol, wrth gwrs, so mae yna £800,000 neu £700,000—£800,000, ie—ar hyn o bryd. Ydy hynny'n ddigon? Nia, dŷch chi newydd ddweud bod yna gaps mawr yn y gwaith—

I appreciate that. Do you think the Government is investing enough? A million has been set as the budget, but, of course, that's been cut from the current budget, so there's about £800,000 or £700,000 currently. Is that sufficient? Nia, you were just saying that there are big gaps—

Wel, dwi'n meddwl fy mod i wedi ateb y cwestiwn mewn ffordd yn barod. Dwi'n meddwl mai bwriad y fund yna oedd i bobl fidio am arian i fedru helpu efo hyn, ond ydy o'n ddigon? Nac ydy, dwi ddim yn meddwl ei fod o, i fod yn hollol onest. Mae yna gymaint o waith i'w wneud y buaswn i'n dweud 'na'. Mae o'n rhywbeth back to basics go iawn—lle rydyn ni'n gwario'r arian. Dydy miliwn ddim yn mynd i fynd yn bell iawn o gwbl.

I think I've answered the question in a way. I think the intention of that fund was for people to bid for funding to help with this, but is it sufficient? No, I don't think it is, to be completely honest. I think there's so much work to be done, I would say 'no'. I think it's a real back-to-basics situation—where we spend that money. A million isn't going to go very far.

Dwi'n cymryd eich bod chi'n cytuno gyda hynny.

And I take it that you agree with that.

Ydw, achos bydden i'n dweud bod yna angen nawr gyda'r math o sgiliau dŷn ni eu hangen heddiw, ond mae hefyd eisiau dechrau meddwl ynglŷn â beth â dŷn ni mynd i fod angen yn y ddwy, tair, pedair blynedd nesaf, a hefyd sut mae darlledu'n newid, oherwydd eich bod chi'n mynd yn fwy digidol—y platfformau. Dwi nawr yn cymryd pobl ymlaen sydd yn data scientists ac yn gwybod sut i wneud eWise, ac felly mae eisiau deall wedyn sut mae'r sgiliau yna'n gweithio yn y sector hefyd, a dwi ddim yn meddwl ein bod ni cweit wedi deall hwnna eto mor gyflym, achos rŷn ni wirioneddol nawr yn chwilio am bobl sy'n gallu golygu neu'n gallu cynhyrchu. So, dwi'n meddwl bod yna ddau beth fan hyn: un ydy lle rydyn ni heddiw, ond hefyd mae eisiau dechrau wirioneddol—a dŷn ni'n gorfod gwneud hyn nawr—meddwl beth dŷn ni'i angen mewn tair, pedair blynedd, ac maen nhw'n sgiliau gwahanol.

I would say that there is a need now in terms of the skills that we need today, but we also need to think about what we will need in the two, three, four, five years to come, and how broadcasting is changing, because you're becoming more digital—the different platforms. I now take on people who are data scientists and know how to do eWise, and we have to understand, then, how those skills work in the sector too, and I don't think we've quite understood how that is going to work, because we now are generally looking for people who can edit and produce. So, I think there are two streams now: where we are today, but we have to genuinely think—and we have to start doing this now—what we'll need in three or four years, and they're different skills.

Gaf i ofyn i chi faint ydych chi'n buddsoddi mewn hyfforddiant? Ac os nad ydych chi'n gallu ateb yn syth, dwi'n hapus iawn i dderbyn llythyr gan y tri sefydliad yn esbonio sut rydych chi'n cyfrannu'r adnoddau'r BBC, S4C ac ati, at hyfforddiant. Achos dwi'n tueddi i feddwl bod yna ddim digon yn cael ei fuddsoddi gan y Llywodraeth, ond beth fuasai digon? Dwi ddim yn siŵr fy mod i'n gwybod hynny chwaith. Ond dwi hefyd yn meddwl mai partneriaeth sydd angen, achos mae gyda chi'r buddsoddiadau eich hunain dŷch chi eisiau eu gwneud.

Can I just ask you how much you're investing in training? And if you can't answer that straight away, I'm happy to receive a letter from the three organisations explaining how you're contributing resources, BBC, S4C and so forth, to training. I tend to think that not enough is being invested by the Government, but what would be enough? I'm not quite sure that I know that either. But I also think that partnership is required, because you have your own investments that you want to introduce.

Ar ran BBC Cymru, allaf i ddim rhoi ffigur union faint rydyn ni'n ei wario ar hyfforddiant. Dwi'n meddwl ein bod ni'n gwneud lot ar hyfforddiant, yn enwedig wrth edrych ymlaen. Felly, mae gennym ni gynllun ar gyfer cyfarwyddwyr newydd rydyn ni'n ei wneud; mae gennym ni gynllun efo Ffilm Cymru, Beacons, ar gyfer cyfleon i bobl wneud ffilmiau dogfen hefyd. Felly, dwi'n cytuno, o ran hyfforddiant, mae partneriaethau'n holl, hollbwysig, ac mae'r rhan fwyaf o'r cynlluniau hyfforddiant rydyn ni'n eu gwneud mewn partneriaeth.

Dwi hefyd yn meddwl, o ran hyfforddiant, mi ydyn ni'n gwneud buddsoddiad sylweddol iawn mewn prentisiaethau. Mae gennym ni 26 yn BBC Cymru ar y funud ar draws ystod eang iawn, iawn o adrannau—yr adran dechnoleg, operations, radio, newyddion, chwaraeon ac yn y blaen. Bydd gennym ni 17 arall yn ymuno efo ni fis Medi y flwyddyn yma, ac rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n targedu amrywiaeth, yn targedu ardaloedd ar draws Cymru o ran prentisiaethau. A dwi'n meddwl ei bod hi'n werth dweud, ydy, mae'n fuddsoddiad gan BBC Cymru yn y prentisiaid, ond, yn aml iawn, mae nifer ohonyn nhw'n gweithio i BBC Cymru, mae nifer ohonyn nhw'n gadael ac yn mynd i weithio fel gweithwyr llawrydd ac yn y sector, felly mi rydyn ni'n ei weld o fel buddsoddiad i'r sector yn ehangach. Ond dwi'n meddwl bod cydweithio efo screen alliance, cyrff fel It's My Shout, ein bod ni ddarlledwyr yn cydweithio ar gynlluniau fel y cynllun Carlam Ffeithiol. Mae yna fuddsoddiad o ran hyfforddiant. Dwi’n meddwl, jest i ategu beth oedd Siân yn ei ddweud, mae’n teimlo ar y funud ein bod ni’n ymateb i’r heriau presennol ac yn edrych ar beth ydy’r angen ar hyn o bryd, ac efallai bod angen edrych ymhellach weithiau o ran sgiliau’r dyfodol, a beth ydy'r rheini. Mae hynny’n mynd nôl at y gwaith rydyn ni’n ei wneud efo ysgolion.

In terms of BBC Wales, I can't give you an exact figure in terms of how much we spend on training. I think that we do do a great deal on training, especially in looking forward. So, we have a scheme for new directors; we have a scheme with Ffilm Cymru, Beacons, with opportunities for people to put together documentary films too. So, I agree, in terms of training, partnerships are vitally important, and the majority of the training schemes that we offer are done in partnership.

I also think, in terms of training, we do make a great deal of investment in apprenticeships. We have 26 in BBC Cymru Wales at the moment across a diverse range of departments—technology, operations, radio, news, sport and so on. We'll have another 17 joining us in September of this year, and we're working very hard to ensure that we target diversity, that we target different areas across Wales in terms of those apprenticeships. And it's worth saying, yes, it is an investment by BBC Cymru Wales in apprenticeships, but, very often, a number of them will go on to work for the BBC, but a number of them will go on to work as freelancers and in the wider sector, so we see it as an investment in the wider sector too. But I think that the collaboration with the screen alliance, and with bodies such as It's my Shout, that we as broadcasters collaborate on plans such as the Carlam Ffeithiol scheme. There is investment in terms of that training, and just to echo what Siân said, it feels as the moment that we are responding to the current challenges, and looking at what the need currently is, and perhaps we need to look further ahead in terms of future skills, and what those might be. That goes back to the work that we’re doing with schools.

10:20

Mi fuasai fe’n hwylus os byddech chi’n gallu ysgrifennu atom ni yn trio cwmpasu tipyn bach o beth rydych chi i gyd newydd ddweud, a hefyd sut ydych chi—. Achos yn hanesyddol, chi sydd wedi bod yr injans o dyfiant yn y diwydiant yng Nghymru, a thrwoch chi rydyn ni wedi creu’r diwydiant yng Nghymru. Mae gen i ddiddordeb i ddeall sut—mae yna bartneriaethau rhwng sawl sefydliad gwahanol—sut rydych chi’n cyfrannu at hynny. Sori.

It would be good if you could write to us and try and bring together what you’ve all just said. Because historically you’ve been the engines of growth in the industry in Wales, and it’s through you that we’ve created this industry in Wales. I’m interested in understanding—because there are partnerships between a number of organisations—how you contribute to that. Sorry.

Sori, dwi’n ymddiheuro. Dwi’n meddwl bod e ddim jest am faint o arian rŷn ni’n ei roi, ond dwi’n credu bod y mechanics, y ffordd rŷn ni’n gallu dod â phobl i mewn i’r diwydiant—er enghraifft, rŷn ni wedi arwyddo gydag un cwmni am dair blynedd, sy'n gwneud dramâu i ni, a rhan o’r cytundeb hynny ydy eu bod nhw’n gorfod hyfforddi a bod pobl newydd neu bobl sy’n dysgu yn rhan o’r cynhyrchiad, so, ein bod ni’n rhoi’r experience a’r profiad iddyn nhw yn fyw. Achos dyna, yn wirioneddol, sut maen nhw’n mynd i dyfu. Roeddwn i gyda Gelert ddoe; roedd dau berson gyda nhw yn dechrau o ddim byd ac yn dod â nhw lan i fod yn olygyddion visual ar y ffilm yr oeddem ni’n ei wneud. So, gwnawn ni ddod â’r llythyr, Alun, ond dwi’n credu y bydd e’n fwy na jest arian; dwi’n credu y bydd e hefyd y mechanics rŷn ni’n trio eu defnyddio—

I think that it’s not just about how much money we provide, and funding, but also about the mechanics, and how we can bring people into the industry. For example, we’ve signed with one company that provides drama, and part of that is that they have to provide training, and new people and people who are learning are part of the production, so that we’re providing the experience on a live basis. Because really, that’s how they’re going to grow. I was with Gelert yesterday; they had two people with them who had started from nothing and brought them up to be visual editors on the film that we’re doing. So, we will provide you with the letter, Alun, but I think it’s more than funding and money; it’s also the mechanics that we're trying to use—

Mae arian yn bwysig, wrth gwrs.

Money is important, of course.

Wrth gwrs fod e, achos mae’n costio rhywun i ddod â rhywun mewn i fod yn brentis ar y ffilm. Ond mae’r buddsoddiad yn fwy soft ambell waith na jest y rhaglen hyfforddi, dwi’n meddwl. Allwn ni fynd trwy hwnna i gyd gyda chi.

Money is important, yes, of course it is, because it costs to bring somebody in as an apprentice on a film. But the investment is softer sometimes than just the training programme, and I think we can go through all of that with you.

Dwi’n ddiolchgar am hynny. Jest cwestiwn bach olaf gennyf i: sut ydych chi’n gweithio—? Mae’r tair ohonoch chi, mewn ffyrdd gwahanol, wedi dweud eich bod chi’n edrych ar y dyfodol a sgiliau newydd yn y dyfodol, ac mae hynny’n hollbwysig, wrth gwrs. Dydych chi ddim yn hyfforddi pobl i weithio fel yr oedd pethau'n arfer bod. Ond rydyn ni i gyd yn gwybod un peth amboutu’r dyfodol, wrth gwrs: dŷn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. So, sut ydych chi’n gweithio gyda sefydliadau fel prifysgolion a’r byd academaidd i ddeall sut mae pethau’n newid, sut mae’r byd yn newid, a hefyd sefydliadau fel—pan roeddwn i’n gweithio yn y diwydiant, roedd BT, er enghraifft, yn gwneud cyfraniad mawr ar y pryd, wrth gwrs, roeddem ni’n sôn amboutu sut y mae teledu yn mynd i newid yn y dyfodol pan ein bod ni i gyd yn gallu darlledu o'n ffonau ni, ac roeddwn i erioed wedi clywed o ffôn fel yna ar y pryd. So, sut ydych chi’n gweithio gyda sefydliadau a busnesau gwahanol i ddeall sut mae’r dyfodol yn mynd i newid y ffordd rydych chi’n darlledu ar hyn o bryd?

I’m grateful for that. Just one final question from me: how are you working—? The three of you, in different ways, have said that you are looking to the future and the new skills that will be required in future, and that is vital, of course. You aren’t training people to work as they used to, but we all know one thing about the future, which is that we don’t know exactly what is going to happen. So how are you working with organisations such as universities and the academic sphere to understand how things are changing, how the world is changing, and how organisations and institutions. such as—when I was working in the industry, organisations such as BT, for example, made a major contribution in terms of how television is going to change in future, when we can all broadcast on our phones, and I had never heard of such a phone at the time. How are you working with businesses and organisations to understand how the future will change the way that you broadcast currently?

Mae gyda ni sawl ffordd yn S4C. Mae fy mhrofiad i—dwi wedi bod yn telecoms, roeddwn i’n gweithio gyda nhw, ac mae’r byd yn newid mor gyflym. Rydyn ni’n gweithio ar hyn o bryd—rŷn ni newydd wneud gweithlu i edrych ar le rydyn ni’n meddwl mae’r gynulleidfa’n mynd i fod a beth yw’r user experience, er enghraifft, rŷn ni’n moyn iddyn nhw allu dod i'n platfformau ni ar S4C. So, mae yna waith yn mynd o edrych ar ein strategaeth ni am y ddwy, dair, pedair blynedd nesaf yma fel ein bod ni o flaen, gymaint â gallwn ni, beth sy’n digwydd.

Dŷn ni hefyd yn gweithio gyda Media Cymru, a dwi’n credu bod y gwaith y mae’r tîm yna yn ei wneud yn arbennig. Mae yna brosiect maen nhw’n ei wneud i ni yn edrych ar ddata a beth yw rôl data a phethau fel voice recognition yn y byd darlledu. So, mae yna lot o bethau’n digwydd i ddechrau edrych dwy, dair, pedair blynedd ymlaen, tra ein bod ni hefyd yn delio gyda heddiw. Hefyd, dŷn ni nawr yn edrych ar gymryd pobl ymlaen o brifysgolion i’n helpu ni, yn enwedig gyda phethau fel gwyddonwyr data, os mai dyna’r gair Cymraeg am data scientist—job doeddwn i ddim yn gwybod dim byd amdano fe pan oeddwn i yn yr ysgol. Ac mae’r pethau yma yn newid mor gyflym, yn enwedig gyda’r cyfryngau cymdeithasol. So, mae yna lot o waith—rŷn ni’n delio gyda YouTube yn uniongyrchol i edrych ar beth maen nhw’n ei wneud. So dwi’n credu bod yna sawl ffynhonnell i edrych i weld beth sy’n dod a thrio gweld beth sy’n digwydd, ond y gwir ydy bod pethau yn digwydd yn hynod o gyflym, ac mae’r newid yn digwydd yn gyflym yn y byd darlledu.

We have many ways in S4C. From my experience—I’ve been in telecoms; I was working with them, and the world is changing so quickly. We’re working currently—we have just created a workforce to look at where we think the audience is going to be and what user experience we want them to have to get them to our platforms at S4C. So there’s work in going from the strategy over the next two or three years so that we’re in front of it as much as possible.

We’re also working with Media Cymru, and I think that the work that that team is undertaking is special. The work that they’re doing for us in looking at data and what the role of data is, and things such as voice recognition in the broadcast world. So, there are a lot of things going on to start looking at two, three years forward while also dealing with what’s going on today. And we’re also now looking at taking people on from universities to help us, in particular data scientists, for example, a job that I knew nothing about when I was in school. And these things change so quickly, particularly with social media. So there’s a lot of work—for example, we’re dealing with YouTube directly to see what they’re doing, and I think there are a number of sources to see what’s coming, and to try and see what’s happening. But things are happening so quickly, that’s the reality, and things are changing so quickly in the broadcast world.

Dwi’n meddwl bod y gwaith y mae Media Cymru yn ei wneud yn werthfawr i ni o safbwynt dod â chyrff at ei gilydd yn y diwydiant, a gwahanol rhannau o’r sector, yn cynnwys prifysgolion ac addysg uwch. Ac mae yna ofod ac arian yn fanna i fuddsoddi yn edrych i'r dyfodol, ac i edrych ar ba ddatblygiadau technoleg sydd angen arbrofi efo nhw, neu ddatblygu. Rydyn ni hefyd yn bartneriaid efo Media Cymru, ac mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn werthfawr. 

O ran prifysgolion a cholegau, dwi'n meddwl bod yna berthynas iach o drafodaeth ynglŷn â'r anghenion yn y dyfodol. Er enghraifft, rydyn ni drws nesaf i'r coleg newyddiaduraeth yng Nghaerdydd, ac mae newyddiaduraeth wedi newid yn sylweddol ac yn mynd i newid o ran yr ochr ddigidol a sut mae pobl yn cael eu newyddion. Felly, maen nhw a ni yn cydweithio'n agos ynglŷn ag, ocê, beth ydy'r math o sgiliau rydyn ni'n disgwyl iddyn nhw eu cael, ond hefyd maen nhw efo llwyth o bobl ifanc yno sydd hefyd yn deall beth ydy anghenion cynulleidfa iau o ran newyddion. Felly, mi ydyn ni'n cydweithio efo prifysgolion ac addysg uwch, ond dwi'n meddwl bod partneriaid fel Media Cymru, sy'n dod â phobl at ei gilydd i drafod y datblygiadau yna, yn bwysig.

I think that the work that Media Cymru is doing is very valuable to us in terms of bringing bodies together in the industry, and different parts of the sector, including universities and higher education. And there is a space and funding there to invest looking to the future, and to look at what developments in terms of technology we need to be experimenting with, or developing. We are also partners with Media Cymru, and the work that they're doing is very valuable. 

With regard to universities and colleges, I think that there is a healthy relationship and conversation in terms of future needs. For example, we are next door to the journalism school in Cardiff, and journalism has changed significantly and it will change in terms of digital and how people access news. So, we work together very closely in terms of what kinds of skills we expect them to have as journalists, but also they have a cohort of young people there who understand what the needs of younger audiences are in terms of news. So, we work with universities and higher education, but I think that partners such as Media Cymru, who bring people together to develop those discussions, are very important. 

10:25

Cyn bod ni'n mynd at Nia, sori, rwy'n ymwybodol fod pedwar munud ar ôl gyda ni. A fyddai'r dair ohonoch chi yn gallu aros jest ychydig o funudau ymhellach, achos rwy'n ymwybodol bod Tom wedi bod yn aros yn amyneddgar ar gyfer y cwestiwn olaf? Diolch. Sori, Nia.

Before go to Nia, sorry, I'm aware that we have four minutes left. Would the three of you be able to stay a few more minutes, because I'm aware that Tom has been waiting patiently for the final question? Thank you. Sorry, Nia. 

Mi fuaswn i'n dweud yr un peth rili. Yn fy mhrofiad i, beth rydw i wedi ffeindio ydy mai'r fforwm sydd wedi bod yn ddefnyddiol ofnadwy i ddod â ni at ein gilydd i ni fedru dweud wrth y colegau beth yn union rydyn ni ei angen, a dwi'n meddwl eu bod nhw'n helpu i siapio beth maen nhw'n ei ddysgu wedyn. Y berthynas sydd gennym ni efo CJS a Cardiff and Vale, eto, mae jest cael y cyswllt uniongyrchol yna, dyna ydy'r ffordd ymlaen dwi'n meddwl iddyn nhw ddeall yn union beth rydyn ni ei angen y dyddiau yma.

Un peth fuaswn i'n ei ddweud ydy un peth dwi'n ffeindio weithiau ydy bod rhai pobl sydd yn gweithio yn y forums yma, ac ati, mae angen bod pobl sydd wedi gweithio yn y diwydiant yma yn ddiweddar yn helpu i siapio cyrsiau mewn colegau, ac ati. Mae'r busnes wedi newid gymaint yn yr 20 mlynedd diwethaf, beth fuaswn i'n ei ddweud rŵan ydy bod rhywun oedd yn gweithio yn y busnes 20 mlynedd yn ôl, mae o'n hollol wahanol i beth ydy o rŵan. So, i rywun sydd yn dysgu mewn coleg sydd wedi gadael y busnes 20 mlynedd yn ôl, mae'r busnes yn hollol, hollol wahanol y dyddiau yma, a dwi'n meddwl bod hynny yn rhywbeth jest i ni ac iddyn nhw feddwl amdano fo, fuaswn i'n dweud hefyd. Mae pethau wedi trawsnewid yn hollol, dwi'n siŵr, ers inni i gyd ddod i mewn i'r busnes yma.

I would say the same. From my experience, what I have found is that the forum has been very useful in bringing us together so that we can tell the colleges what exactly we require, and I think they help to shape what they teach then. The relationship that we have with CJS and Cardiff and Vale, again, just having that direct link, that's the way forward, I think, for them to understand exactly what we require these days.

One thing I would say is that what I find sometimes is that people working in these forums, and so on, they need to be people who have worked in this industry recently helping to shape courses in colleges, and so forth. The business has changed so much in the last 20 years, what I would say now is that somebody who was working in the business 20 years ago, it's completely different to what it is now. So, somebody who is teaching in a college who has left the business 20 years ago, the business is completely different these days, and I think that is something that we and they need to be aware of and need to think of as well. Things have transformed completely since all of us came into the industry. 

Diolch am hynna. Wnawn ni fynd at Tom; last but no least, wnawn ni fynd atoch chi. 

Thank you for that. We'll go to Tom; last but not least, we'll go to you, Tom. 

Thank you, Delyth. Just one question from me. I'm just wondering, over and above anything you've already mentioned, do you feel like the workforce needs any further support from public bodies, both in relation to the increased costs of living, and perhaps more broadly? 

Well, the cost of living is going to be a real challenge, Tom, and we've talked about it earlier. I think, like the BBC, our settlement is flat for the next couple of years, so it's a real real-term hit for us and we've got to find very creative ways. I think, as much as we can work with people like Cymru Greadigol and Media Cymru to invest in the sector and continue that in order to make sure that we get through these next couple of years, and the hump that we have—I think that would be great—but also, I think perhaps to my point earlier, I think we need to start looking at what we need in the future in Wales, not just what we need today. I do think that, together, we can start thinking about how we can continue to have a really buoyant creative sector by looking two, three, four, five years forward of what the requirements will be, and I think that would be a really good partnership.

I cannot say anything bad about Creative Wales; our relationship is so good and they are so supportive, and challenging, rightly so, in making sure that we create the right things in Wales. They're supporting us now with things like the film fund that we launched with Dawn before Christmas. Those kinds of things, I think we still need to do that in order for the Welsh language to be great in Wales, but also world wide, because I'm very proud of what we do. We punch way above our weight, as we know, and therefore I want to continue that through the Welsh language and see how we can go out to the world with a creative sector that's so buoyant. So, just carry on the partnerships, I think, would be my piece, and look to the future, and continue to do so. 

Yes, I agree, really. I think in terms of the relationship with Creative Wales, it's working really well, and for that constructive open dialogue to continue. And I also think, as Alun says and Siân said just now, partnerships, I think, are really, really crucial, and that we collaborate and work together. I think, especially in terms of things like apprenticeships and training and skills, that we do come together collectively and work together to try and tackle it. Because financially, it is challenging, so I think by doing that, it can really make a difference.

10:30

I'd very much echo the same thing, really, that Creative Wales have been really, really instrumental in bringing us together and avoiding duplication. I think, definitely from my perspective—. I think it's a complicated question, the cost-of-living question. ITV have made a cost-of-living payment to staff, but there's only so much individual broadcasters can do; it's a bigger question, this one. But I think getting rid of duplication is probably the biggest thing, and partnerships is definitely the way forward there.

Diolch. Tom, is there anything else you wanted to—?

Ocê. Grêt. Wel, diolch i'r tair ohonoch chi am y dystiolaeth; diolch am fod yn hyblyg o ran yr amser hefyd. Mae yna rai pethau efallai byddwn ni eisiau ysgrifennu atoch chi, i ofyn efallai mwy o fanlyder—rhai pethau. Bydd transgript o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud hefyd yn cael ei anfon atoch chi ichi wirio ei fod e'n gofnod teg o beth oedd wedi cael ei ddweud. Ond, diolch ichi eto am y dystiolaeth; mae hi wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr iawn. 

Okay. Great. Thank you to the three of you for the evidence, and thank you for being flexible in terms of time as well. There are some things, perhaps, that we'll need to write to you, to ask for more detail. There will be a transcript of what's been said today sent to you for you to check that it's a fair representation of what you've said. But thank you once more for your evidence; it's been very useful. Thank you very much.

3. Papurau i’w nodi
3. Papers to note

Aelodau, byddwn ni'n symud yn syth at bapurau i'w nodi. Diolch eto i'r tystion. Nawr, mae yna 19 papur i gyd. Wnaf i ddim eu darllen nhw i gyd mas. Gwnaf i ofyn os ydych chi'n fodlon inni eu nodi nhw ar y cyd—3.1 hyd at 3.19. Byddwn i yn gofyn ichi efallai nodi rhai o'r pethau dŷn ni wedi bod yn eu trafod—rhai ohonyn nhw yn gyhoeddus yn y gorffennol.

Dŷn ni wedi cael ymateb gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau am y cymorth sydd yn cael ei roi i Rubicon Dance. Dŷn ni wedi cael ymateb gan y Prif Weinidog am y gwaith craffu ar gysylltiadau rhyngwladol, yn cynnwys cwpan y byd. Mae hwnna'n rhywbeth dŷn ni wedi'i drafod nifer o weithiau yn y gorffennol. Dŷn ni wedi cael atebion gan Gyngor Celfyddydau Cymru a hefyd gan Gyngor Caerdydd am beth roedden ni wedi'i godi gyda nhw am Neuadd Dewi Sant. Mae tôn y llythyrau bach yn wahanol.

Mae yna rai pethau efallai y bydd Aelodau eisiau dweud am unrhyw beth yn un o'r papurau. Ydych chi'n hapus inni eu nodi nhw? Oes unrhyw beth mae unrhyw un eisiau ei ddweud? Mae Heledd eisiau dweud rhywbeth.

Members, we'll move straight to papers to note. Thank you again to the witnesses. There are 19 papers all in all. I won't read all of them out, but I'll ask if you're content to note them jointly—from 3.1 to 3.19. I would ask you perhaps to note some of the issues that we've been discussing—some of them we've discussed in public in the past.

We've had a response from the Deputy Minister for the arts on the support given to Rubicon Dance. We've had a response from the First Minister regarding the scrutiny work on international relations, including the world cup. That's something that we have discussed on a number of occasions in the past. We've had responses from the Arts Council of Wales and also from Cardiff Council regarding what we raised with them on St David's Hall. The tone of the letters are slightly different.

Perhaps there are things that Members will want to raise in some of the papers. Are you happy to note them, or is there anything that somebody wants to say? Heledd wishes to say something.

Ie. Hapus i nodi, ond yn amlwg, mae yna lot fawr o wybodaeth sydd yn bwysig iawn inni yn y llythyrau hyn. Jest yn benodol efallai o ran 3.4, roeddwn i jest eisiau nodi fy mod i'n siomedig bod yna ddim mwy o wybodaeth o ran beth oedd y targedau penodol o ran cwpan y byd. Dŷn ni wedi gofyn nifer o weithiau rŵan a dŷn ni ddim wedi cael dim gwybodaeth bendant. Felly, mae'n mynd i fod yn anodd gwybod sut mae'r gwerthuso yn mynd i ddigwydd heb wybod beth oedd y nodau yn y lle cyntaf. A dwi'n meddwl bod hyn yn rhywbeth o ran y dyfodol, gobeithio y tro nesaf y bydd Cymru yng nghwpan y byd, y byddem ni wedyn yn gallu gwthio o ran hyn.

Gaf i hefyd nodi, os gwelwch yn dda, Gadeirydd, o ran 3.5, fy mod i'n falch iawn o weld yr ymateb hwnnw? Mi oeddwn i hefyd, o ran yr ymateb 3.9 a 3.10, yn nodi y gwahaniaeth, efallai, rhwng yr ymateb cawsoch chi gan Gyngor Caerdydd o ran nodi eu bod nhw heb dderbyn unrhyw gyllid, ond bod yna gyllid cyhoeddus wedi bod. Felly, roeddwn i hefyd yn ategu'ch sylwadau o ran tôn y llythyr. Yn amlwg, mae hwn yn fater i Gyngor Caerdydd, ond mae o'n adnodd cenedlaethol o bwys, fel dŷn ni wedi trafod yn y gorffennol, a byddwn i'n gobeithio bod y tôn, o ran nodi ein bod ni efallai ddim yn bod yn deg iawn o ran ein sylwadau, ei bod hi'n bwysig nodi bod hwn yn lythyr trawsbleidiol gennym ni fel pwyllgor.

Ac yn olaf, os caf i, mi oeddwn i eisiau jest tynnu sylw at lythyr 3.18. Mae hwn yn fater dŷn ni heb ei drafod eto ynglŷn â'r posibilrwydd o gau Amgueddfa Caerdydd. Dwi'n meddwl bod hwn yn rhywbeth efallai bydd yn broblem ehangach ledled Cymru gan fod gwasanaethau amgueddfeydd lleol ddim yn rhai statudol, ac efo'r heriau gwirioneddol sydd ar lywodraeth leol, fod hwn yn rhywbeth efallai inni gadw llygad arno fo, oherwydd dŷn ni'n amlwg wedi gweld bod hwn yn adnodd eithriadol o bwysig i'r gymuned leol, yn gwneud gwaith pwysig, wedi ennill gwobrau, wedi derbyn arian cyhoeddus. Felly, dwi'n meddwl bod hwn yn rhywbeth, o ran gwasanaethau sydd ddim yn statudol ond sy'n bwysig yn ddiwylliannol: beth ydy dyfodol y math yma o sefydliadau? Oherwydd mae'r model sy'n cael ei gynnig efo risg mai nid amgueddfa fydd hi wedyn. Beth ydy dyfodol y casgliadau hynny, a'r ymgysylltu?

Yes. I'm content to note, and there's a great deal of information that is important to us all in these letters. But specifically in terms of 3.4, I just wanted to note that I was very disappointed that there wasn't additional information in terms of what the specific targets were for the world cup. We have asked a number of times now for this information and we haven't received any specific information. So, it's going to be difficult to understand how the evaluation will take place without knowing what the targets were in the first instance. And that, perhaps, will be of assistance in the future, hopefully the next time that Wales takes part in the world cup, so we need to push that, I think.

May I also note, in terms of 3.5, Chair, that I'm very pleased to see that response? I also, in terms of 3.9 and 3.10, noted the difference, perhaps, between the response we received from Cardiff Council to say that they hadn't received additional funding, but that there was public funding that had been allocated. So, I also echo your comment in terms of the tone of that letter. That's clearly an issue for Cardiff Council, but it is a nationally important asset too, as we've previously discussed, and I would hope that the tone, in terms of noting that we perhaps weren't being fair in terms of our comments, that it is important to note that this was a cross-party letter by us as a committee.

And finally, if I may, I wanted to draw attention to letter 3.18. This is an issue that we haven't yet discussed in terms of the proposal to potentially close the Museum of Cardiff. I think this is something that will be a wider problem across Wales, because local museum services aren't on a statutory footing, and with the genuine challenges facing local government, this is perhaps something that we should keep an eye on, because we clearly have seen that this has been a very important resource for the local community, as it's won awards, it's received public funding, and it does important work. So, this is something, in terms of services that aren't on a statutory footing but are culturally important: what is the future for this kind of organisation and provision? Because the model that is proposed poses a risk that it might not then be a museum to all intents and purposes. What does that mean for the future of those collections and for engagement? 

10:35

Diolch, Heledd. Wel, roedd nifer o bwyntiau wedi cael eu codi fanna. Oes unrhyw un eisiau dweud unrhyw beth ar—? Carolyn. Fe wnaf i ddod at Carolyn, ac wedyn fe wnaf i fynd at Hefin. Carolyn.

Thank you, Heledd. A number of points were raised there. Does anybody want to say anything? Carolyn. I'll come to Carolyn and then Hefin. Carolyn.

Just on 3.4, and the letter from the First Minister about Qatar, he has listed the objectives about promoting Wales, projecting values, ensuring the safety of Welsh citizens whilst there, and it goes on as well to mention a few other objectives about the export strategy, skills, training, et cetera. So, it wasn't just about football; there are a few other things outlined.

Regarding the museum within the library in Cardiff, I think, like you say, anything non-statutory is going to be looked at again, isn't it, which will impact on culture but also our sports facilities, leisure facilities as well, which is a real concern. And even transport to those facilities, if they're going to be looking at subsidies paid to provide that transport as well. So, anything non-statutory, it's going to be a big thing. We've got the Local Government and Housing Committee, so we'll be talking about those tomorrow there as well. Maybe there are some links in, aren't there, regarding sustainability? Thank you.

Diolch, Carolyn. That's really helpful.

Diolch am hwnna. Fe wnaf i fynd at Hefin ac wedyn fe wnaf i fynd at Alun. Hefin.

Thank you for that. I'll go to Hefin and then Alun. Hefin.

I just wanted to say that I'm satisfied with the political neutrality of this committee. I don't think that should really be brought into question. I think, with regard to St David's Hall, the statements and the questions, I think the committee has dealt with it quite effectively on a cross-party basis, and I just wanted to say that for the record.

I agree with the points that Heledd has made about objectives and target setting. I think this has been a constant with Government in the sense that we ask them for their objectives and what we have back is 'to promote Wales'. Well, it would be surprising if that wasn't an objective of Welsh Government. So, how do you do it? How do you know you've done it? What are the measurable outcomes that you're seeking to achieve? But, we've been saying this for some years, and I remember making exactly this point to a different Minister, in a different committee, in a different Senedd. It appears to me that we need to think about what we mean by these objectives because we know that Government does have delivery plans within Government that are used to take decisions and to guide the way in which it progresses its work and delivers on these objectives. So, it might be useful for us to actually ask the secretariat to speak, perhaps, with other committee secretariats and to look at a piece of work where we do actually try to look again at what we expect scrutiny to mean from Government and what our expectations are from Government.

'Assistance to develop an export strategy'—

what on earth does that mean? It's just words. It doesn't mean anything in itself. I want to know what people are doing, I want to know when they're doing it, I want to know how much it costs, and then I want to know what their objectives are before they do it, not simply report back on what they've done when they've already done it; that's not scrutiny, and that's not accountability. So, I think we need to look at that, but not simply in terms of this individual letter, but at what it illuminates about the wider aspects of accountability.

Mae lot o bobl wedi bod yn—. Fi byth yn cofio sut i ddweud 'nodding the head' yn Gymraeg. Oes rhywun yn gallu dweud wrthyf fi?

Many people have been—. I never remember how to say 'nodding the head' in Welsh. Can somebody tell me?

Achos fi'n dweud 'nodio pen'.

Because I say 'nodio pen'.

I'm sure there's a better way of saying it.

Cytuno—mae pobl yn edrych i fod yn cytuno. Tom, oedd yna unrhyw beth roeddech chi eisiau ei ddweud? Fine os ddim.

People agree—and they're looking at me. Tom, was there anything that you wanted to say? Fine if not.

I just wanted to make sure that you're hapus

Nothing bespoke to add, but I do agree with the point that Alun has made there. I think it's a fair one.

Ocê. Diolch, Tom. Diolch, bawb, am y nifer o bwyntiau sydd wedi cael eu gwneud yn fanna.

Okay. Thank you, Tom. Thank you, all. A number of points have been raised there. 

4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
4. Motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of this meeting

Cynnig:

bod y pwyllgor yn penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix).

Motion:

that the committee resolves to exclude the public from the remainder of the meeting in accordance with Standing Order 17.42(ix).

Cynigiwyd y cynnig.

Motion moved.

Felly, os ydy pawb yn hapus i ni fynd yn breifat, rwy'n cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Ydy'r Aelodau'n fodlon derbyn y cynnig yna? Rwy'n gweld eich bod chi. Ocê, fe wnawn ni aros i glywed ein bod ni'n breifat.

So, if you're all content for us to go private, I propose in accordance with Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of today's meeting. Are Members content to agree the motion? I see that you are. We'll wait to hear that we are in private.

Derbyniwyd y cynnig.

Daeth rhan gyhoeddus y cyfarfod i ben am 10:39.

Motion agreed.

The public part of the meeting ended at 10:39.